Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 01/12/2021 i'w hateb ar 08/12/2021

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Y Gweinidog Newid Hinsawdd

1
OQ57333 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/12/2021

Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella ansawdd dŵr mewndirol yng Nghymru?

 
2
OQ57313 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/12/2021

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ardaloedd a aseswyd ymlaen llaw ar gyfer tyrbinau gwynt yng Nghymru?

 
3
OQ57318 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/12/2021

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cymunedau i fynd i'r afael â chanlyniadau erydiad a achosir gan lifogydd?

 
4
OQ57335 (w) Wedi’i gyflwyno ar 01/12/2021

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi trawsnewidiad canol trefi yng Nghanol De Cymru?

 
5
OQ57338 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/12/2021

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o ansawdd gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru?

 
6
OQ57321 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/12/2021

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer adfywio canol trefi?

 
7
OQ57320 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/12/2021

Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i wella mannau gwyrdd?

 
8
OQ57310 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/12/2021

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi ynghylch cefnogi busnesau i ddod yn amgylcheddol gynaliadwy?

 
9
OQ57327 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/12/2021

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau bod adeiladwyr yn cwblhau ystadau tai i safon foddhaol?

 
10
OQ57326 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/12/2021

Pa ystyriaeth y mae'r Llywodraeth wedi'i rhoi i gyflwyno mecanweithiau rheoli i reoleiddio'r tir yng Nghymru y gellir ei ddefnyddio ar gyfer gwrthbwyso carbon?

 
11
OQ57322 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/12/2021

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygu canllawiau i gefnogi awdurdodau lleol i asesu ceisiadau cynllunio ar gyfer unedau dofednod dwys?

 
12
OQ57325 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/12/2021

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y rôl y mae tai yn ei chwarae wrth fynd i'r afael ag anghenion iechyd a gofal?

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

1
OQ57329 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/12/2021

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau'r amser ysgol a gaiff ei golli yn ystod pandemig COVID-19 yng Ngogledd Cymru?

 
2
OQ57323 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/12/2021

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu ysgolion i gynyddu cyfraddau presenoldeb ymhlith y disgyblion mwyaf difreintiedig yn dilyn cyhoeddi adroddiad diweddaraf Estyn?

 
3
OQ57312 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/12/2021

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y targedau carbon sero net ar gyfer adeiladau ysgolion a cholegau newydd yng Nghymru?

 
4
OQ57324 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/12/2021

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y canllawiau COVID-19 diweddaraf ar gyfer ysgolion?

 
5
OQ57319 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/12/2021

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae ysgolion ym Mhowys yn elwa o raglen ysgolion yr 21ain ganrif?

 
6
OQ57328 (w) Wedi’i gyflwyno ar 01/12/2021

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r ddarpariaeth addysg Gymraeg?

 
7
OQ57307 (w) Wedi’i gyflwyno ar 01/12/2021

Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i'r Mudiad Meithrin i ddarparu gwasanaethau Ti a Fi?

 
8
OQ57317 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/12/2021

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ariannu ysgolion gwledig?

 
9
OQ57316 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/12/2021

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygu'r cwricwlwm newydd yng Nghymru?

 
10
OQ57311 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/12/2021

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y dewisiadau sydd ar gael i rieni o ran lleoliadau ar gyfer addysg eu plant?

 
11
OQ57306 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/12/2021

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau'r bwlch cyrhaeddiad yng Nghymru?

 
12
OQ57334 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/12/2021

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyflog ac amodau pobl sy'n gweithio mewn addysg uwch?