Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 03/10/2024 i'w hateb ar 08/10/2024
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei blaenoriaeth i gyflymu penderfyniadau cynllunio i helpu i dyfu economi Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda byrddau iechyd i sicrhau bod staff y GIG yn cael cefnogaeth fugeiliol ddigonol?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella diogelwch ar y ffyrdd yn Sir Benfro?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu strategaeth bresennol Llywodraeth Cymru ar gyfer lleihau nifer y plant mewn tlodi cymharol?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynigion Llywodraeth Cymru i gynyddu treth incwm?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith toriadau Llywodraeth y DU i'r lwfans tanwydd gaeaf ar bensiynwyr yn Nwyrain De Cymru?
Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â fepio ymhlith pobl ifanc fel rhan o'r addewid 'iechyd da'?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi teuluoedd gyda plant sy’n cael triniaeth canser gyda chostau teithio i fynychu apwyntiadau?
Sut mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi teuluoedd sy'n cael eu heffeithio gan ganser yng Nghymru?
Sut mae'r Prif Weinidog yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu mynd i'r afael a'r argyfwng tai?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisi Llywodraeth Cymru ar ddewis cleifion yn y GIG?