Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 03/07/2025 i'w hateb ar 08/07/2025
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Sut mae Llywodraeth Cymru yn amddiffyn yr hawl ddemocrataidd i brotestio yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am weithrediad y perthnasau rhynglywodraethol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod ei blaenoriaethau yn adlewyrchu blaenoriaethau pobl Cymru?
Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod manteision cysylltedd Metro De Cymru ar gyfer etholaeth Caerffili yn cael eu gwireddu'n llawn?
A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod trefniadau cofrestru awtomatig ar gyfer pleidleiswyr ar waith erbyn etholiad nesaf y Senedd?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn lleihau tlodi plant yn Rhondda?
A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar fargen twf y gogledd?
Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Chyngor Caerdydd ynghylch eu bwriad i werthu'r Plasty?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut mae cysylltiadau rhynglywodraethol Llywodraeth Cymru o fewn y DU yn gweithio?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am rôl unedau deintyddol symudol wrth wella mynediad at ofal deintyddol yng ngogledd Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar y defnydd o dechnoleg yn y gwasanaeth iechyd?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella gwasanaethau canser?