Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 03/07/2020 i'w hateb ar 08/07/2020
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am leihau'r risg o heintiadau Covid-19 mewn ffatrïoedd a lleoliadau caeedig eraill?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i adolygu ei chanllawiau ar y defnydd o orchuddion wyneb gan aelodau o'r cyhoedd?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith Covid-19 ar yr economi yng Nghanol De Cymru?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag anghenion gofal iechyd pe bai ail don o Covid-19 yn digwydd dros gyfnod y gaeaf?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ailagor y sector dwristiaeth yng ngogledd Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ein diweddaru am drafodaethau’r Llywodraeth ynglyn a’r 94 swydd sydd dan fygythiad yn ffactri Northwood Hygiene Products ym Mhenygroes yn etholaeth Arfon?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y grant bloc diweddaraf gan Lywodraeth y DU?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cymryd i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau iechyd gwaelodol sydd wedi gwneud rhai dinasyddion yn fwy agored nag eraill i Covid-19?
Pa asesiad mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r cyswllt rhwng Covid-19 a gordewdra?
Pa gamau y mae'r Prif Weinidog yn eu cymryd i sicrhau diogelwch gweithleoedd yn ystod y pandemig?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau mamolaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymorth ar gyfer cartrefi gofal yng ngoleuni Covid-19?
Y Gweinidog Addysg
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r cynnydd a fu yng ngweithgareddau ysgolion yr wythnos diwethaf?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaeth addysg i blant gweithwyr allweddol?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch cynlluniau Llywodraeth Cymru i ehangu’r ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn ardal Merthyr Tudful?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer ailddechrau addysg amser llawn ym mis Medi?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am faint dosbarthiadau mewn ysgolion yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddefnyddio cyfarpar diogelu personol mewn ysgolion?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth addysgol i blant nad ydynt wedi dychwelyd i'r ysgol?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i drawsnewid y broses o ddarparu addysg mewn meysydd chwarae ysgolion a lleoliadau awyr agored eraill yng ngoleuni'r pandemig Covid-19?
Sut mae'r bil cwricwlwm yn bwriadu cynyddu'r nifer fydd yn dysgu Cymraeg er mwyn cyflawni’r nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad mewn ymateb i alwadau gan Barnardo's Cymru ac Action for Children Cymru am gymorth iechyd meddwl a chymorth emosiynol ychwanegol i blant sy'n agored i niwed wrth iddynt ddychwelyd i'r ysgol?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer dysgwyr yn Sir Benfro dros y 12 mis nesaf?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau sy'n cael eu cymryd i sicrhau bod cynnwys cwricwlwm arfaethedig Cymru yn wleidyddol niwtral?
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Pryd y bydd GIG Cymru yn gweithredu fel yr oedd cyn y pandemig Covid-19?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith Covid-19 ar wasanaethau iechyd yng Ngogledd Cymru nad ydynt yn gysylltiedig â Covid-19?
Pa ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u rhoi i fyrddau iechyd i ailddechrau triniaethau nad ydynt yn gysylltiedig â Covid-19 a thriniaethau nad ydynt yn peryglu bywyd?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effeithlonrwydd y drefn tracio ac amddiffyn yn y gogledd?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am brofion coronafeirws yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynllun taliadau arbennig y gweithlu gofal cymdeithasol?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau iechyd yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y ddarpariaeth gofal plant am ddim, yng ngoleuni'r ffaith bod y cyfyngaidau symud yn sgil Covid-19 yn parhau i gael eu llacio yng Nghymru?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ynghylch datblygu Ysbyty Cymunedol Maesteg yn y dyfodol yn dilyn yr adroddiad i'r bwrdd iechyd ynghylch gofal brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg?
A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ymchwil i Covid-19?
Beth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i gefnogi pobl hŷn sy'n byw ar eu pen eu hunain yn ystod y pandemig?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad at wasanaethau'r GIG yng ngogledd Cymru?