Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 30/04/2024 i'w hateb ar 08/05/2024
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio
Beth yw cynllun y Llywodraeth ar gyfer gwneud tomenni glo categori C a D yn ddiogel yn Nwyrain De Cymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am adeiladu tai yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Pa asesiad y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effeithiolrwydd Mesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu i sicrhau bod cartrefi gwag yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru yn cael eu defnyddio eto?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o faint o stoc dai yng Nghymru y mae RAAC yn effeithio arnynt?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd i'r afael â rhagfarn yn erbyn tenantiaid ag anifeiliaid anwes yn y sector rhentu preifat?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad am gynigion i greu parc cenedlaethol newydd yng ngogledd-ddwyrain Cymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am berfformiad Rhentu Doeth Cymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn croesawu dulliau modern o adeiladu tai cymdeithasol?
Beth yw blaenoriaethau adfywio Llywodraeth Cymru ar gyfer Sir Benfro?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddiogelu'r ddarpariaeth llyfrgelloedd cyhoeddus?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud er mwyn dysgu o’r arfer gorau rhyngwladol a pholisi arloesol fel rhan o'i strategaeth ddigartrefedd?
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Pa drafodaethau y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi eu cynnal ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth ynglyn â Mesur Teithio gan Ddysgwr (Cymru) 2008?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo manteision dysgu yn yr awyr agored?
Pa gamau mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cymryd i sicrhau bod absenoldebau dysgwyr mewn ysgolion yn lleihau?
Pa gynlluniau sydd ar waith gan Lywodraeth Cymru i hyfforddi seicolegwyr addysg yn Arfon?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau y gall pob disgybl yng Nghymru gael mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fuddsoddiad cyfalaf mewn ysgolion yng Ngogledd Cymru?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod plant yn dysgu sgiliau bywyd hanfodol?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella diogelu mewn ysgolion?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ddarpariaeth addysg yn Sir Drefaldwyn?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar sut mae'r cwricwlwm i Gymru yn cefnogi'r gwaith o weithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) mewn ysgolion ledled Cymru?
Beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar ddefnyddio ffonau symudol mewn ysgolion?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad am y dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl?