Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 03/02/2022 i'w hateb ar 08/02/2022
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r cyllid y bydd Cymru'n ei gael gan Lywodraeth y DU i gymryd lle cyllid yr Undeb Ewropeaidd?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch yr argyfwng costau byw?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth ryngwladol Llywodraeth Cymru?
Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer darpariaeth gofal iechyd yng ngorllewin Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi trigolion a landlordiaid mewn adeiladau sydd â diffygion diogelwch tân posibl yn sgil datganiadau diweddar gan Lywodraeth y DU?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol Cymru?
Pa sgyrsiau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda'r sector manwerthu ynghylch gwella effeithlonrwydd ynni tuag at garbon sero?
Pa asesiad y mae’r Prif Weinidog wedi’i wneud o nifer staff Llywodraeth Cymru sydd wedi’u lleoli yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Sut mae'r Llywodraeth yn mynd i'r afael â'r argyfwng costau byw yn Nwyrain De Cymru?
Pa gamau mae’r Llywodraeth yn eu cymryd i helpu rhieni gyda chost y diwrnod ysgol?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r broses o gyflwyno'r cwricwlwm newydd yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y defnydd o faglau yng Nghymru?