Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 02/10/2025 i'w hateb ar 07/10/2025

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OQ63191 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/10/2025

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar argaeledd tai yn Abertawe?

 
2
OQ63232 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/10/2025

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Rhwydwaith Gogledd Cymru a gyhoeddwyd yn gynharach eleni?

 
3
OQ63230 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/10/2025

Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn ag atal arian o dramor rhag ymyrryd yng ngwleidyddiaeth Cymru?

 
4
OQ63201 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/10/2025

Beth mae'r Prif Weinidog yn ei wneud i gynyddu gweithgarwch economaidd yng Nghymru?

 
5
OQ63197 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/10/2025

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r diwydiant twristiaeth ym Mhreseli Sir Benfro?

 
6
OQ63205 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/10/2025

Pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud i Lywodraeth y DU ynghylch effaith y seiberymosodiad ar Jaguar Land Rover ar economi Cymru?

 
7
OQ63231 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/10/2025

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ddyfodol cynllun cenedl noddfa y Llywodraeth?

 
8
OQ63228 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/10/2025

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod gofal plant yn fforddiadwy ac yn hygyrch i rieni sy'n gweithio?

 
9
OQ63227 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/10/2025

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar fynediad at ofal deintyddol y GIG i breswylwyr yng Ngogledd Cymru?

 
10
OQ63194 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/10/2025

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar y ddarpariaeth gofal endometriosis?

 
11
OQ63209 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/10/2025

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar y cyllid a ddyrannwyd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r broses o ddatgarboneiddio diwydiant?

 
12
OQ63216 (w) Wedi’i gyflwyno ar 02/10/2025

Pa gamau mae Lywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r argyfwng yn y sectorau diwyllianol a chelfyddydol?

Y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni

1
OQ63199 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/09/2025

Pa gyngor cyfreithiol mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynglŷn â'i phwerau i liniaru effaith penderfyniad Llywodraeth y DU i beidio â chodi'r cap budd-dal dau blentyn?

 
2
OQ63193 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/09/2025

Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o oblygiadau'r cynnydd yn neddfwriaeth y DU sy'n cael ei phasio mewn meysydd polisi datganoledig heb gydsyniad y Senedd?

 
3
OQ63196 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/09/2025

Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r set gyntaf o ddata cyfiawnder Cymru i lywio ei pholisi a'i deddfwriaeth?