Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 30/10/2019 i'w hateb ar 06/11/2019

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

1
OAQ54632 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/10/2019

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu swyddi gweithwyr dur Cymru?

 
2
OAQ54622 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/10/2019

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fesurau i wella cefnffordd yr A4042 yn Llanelen?

 
3
OAQ54618 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/10/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am seilwaith cysylltedd digidol ar gyfer cymoedd de Cymru?

 
4
OAQ54626 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/10/2019

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi datblygu economaidd yng Ngogledd Cymru?

 
5
OAQ54613 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/10/2019

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am barodrwydd cefnffyrdd cyn tywydd gwael posibl?

 
6
OAQ54625 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/10/2019

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella cysylltiadau trafnidiaeth yng Ngorllewin De Cymru?

 
7
OAQ54636 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/10/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am seilwaith trafnidiaeth yng ngogledd Cymru?

 
8
OAQ54629 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/10/2019

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Trafnidiaeth Cymru i gynyddu capasiti teithwyr ar gyfer defnyddwyr rheilffyrdd yn Islwyn?

 
9
OAQ54620 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/10/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am economi ardal Bae Abertawe?

 
10
OAQ54633 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/10/2019

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am wasanaeth TrawsCymru?

 
11
OAQ54617 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/10/2019

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am effeithiolrwydd Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008?

 
12
OAQ54641 (w) Wedi’i gyflwyno ar 30/10/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am raglenni Ewropeaidd ar gyfer sgiliau a chyflogaeth yn Ynys Mon?

Y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit

1
OAQ54630 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/10/2019

Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effeithiolrwydd y berthynas rhwng llywodraeth y DU a llywodraeth Cymru ar Brexit?

 
2
OAQ54619 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/10/2019

Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith Brexit ar buro dŵr yfed?

 
3
OAQ54631 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/10/2019

Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda diwydiant yng ngogledd Cymru yn dilyn cyhoeddi estyniad i Brexit tan 31 Ionawr 2020?

 
4
OAQ54642 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/10/2019

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am yr effaith y bydd oedi pellach i gytundeb Brexit yn ei chael ar Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?

 
5
OAQ54639 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/10/2019

Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'r Gweinidog Addysg ynghylch cyfranogiad parhaus myfyrwyr o Gymru yn y rhaglen Erasmus Plus ar ôl Brexit?

 
6
OAQ54637 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/10/2019

Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda chymheiriaid yn Llywodraeth y DU ynghylch tracio troseddau trawsffiniol ar ôl Brexit?

 
7
OAQ54635 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/10/2019

Pa fesurau y mae'r Cwnsler Cyffredinol yn eu cymryd cyn Brexit i ddiogelu economi Cymru?

 
8
OAQ54615 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/10/2019

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith y cytundeb ymadael diweddaraf ar hawliau gweithwyr yng Nghymru?