Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 01/02/2024 i'w hateb ar 06/02/2024
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi banciau bwyd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Pa fesurau y bydd y Prif Weinidog yn eu cymryd i roi mwy o ddylanwad i bobl Cymru dros wasanaethau bysiau?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau cyflenwad digonol o dai i ddiwallu anghenion poblogaeth y dyfodol?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â lefelau cynyddol o ddigartrefedd ledled Cymru?
Pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i gryfhau'r economi yn Nwyrain De Cymru?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o ansawdd gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghonwy a Sir Ddinbych?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am rôl y Llywodraeth yng ngwaith Ambiwlans Awyr Cymru?
Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ar gynnal perthnasoedd â Chymry sy'n byw dramor?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fynediad at wasanaethau gofal sylfaenol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau anghydraddoldebau iechyd yng Nghwm Cynon?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno'r polisi 20mya diofyn?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella iechyd a lles pobl?