Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 28/09/2022 i'w hateb ar 05/10/2022

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

1
OQ58494 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/09/2022

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidogion y DU sydd newydd eu penodi ynghylch gallu Llywodraeth Cymru i gyflawni ei blaenoriaethau cyfiawnder cymdeithasol?

 
2
OQ58491 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/09/2022

Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i fynd i'r afael â thlodi?

 
3
OQ58470 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/09/2022

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau tlodi plant yn Sir Drefaldwyn?

 
4
OQ58469 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/09/2022

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r sector wirfoddol?

 
5
OQ58477 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/09/2022

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y bydd datganiad cyllidol Llywodraeth y DU yn ei gael ar allu pobl i dalu am filiau ynni?

 
6
OQ58474 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/09/2022

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru?

 
7
OQ58499 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/09/2022

Sut mae Llywodraeth Cymru'n gweithio gyda Chomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru i leihau troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ar draws Gogledd Cymru?

 
8
OQ58481 (w) Wedi’i gyflwyno ar 28/09/2022

A wnaiff y Gweinidog datganiad ynglŷn â chynnydd gyda'r cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol?

 
9
OQ58467 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/09/2022

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi'r rhai sy'n defnyddio iaith arwyddion Prydain fel eu prif fodd o gyfathrebu?

 
10
OQ58485 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/09/2022

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith ymateb Llywodraeth y DU i argymhellion y Comisiwn ar Hil ac Anghyfartaledd Ethnig ar wella cysylltiadau hiliol yng Nghymru?

 
11
OQ58484 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/09/2022

Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi, yr Adran Gwaith a Phensiynau ac awdurdodau lleol i sicrhau nad yw cynlluniau cymorth ariannol sydd wedi'u cynllunio i gynorthwyo pobl i ddelio â chostau byw cynyddol yn effeithio ar unrhyw fuddion sy'n dibynnu ar brawf modd?

 
12
OQ58487 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/09/2022

Pa gynnydd mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ran dod o hyd i lety addas ar gyfer ffoaduriaid o Wcráin yn Aberconwy?

Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

1
OQ58479 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/09/2022

Pa sgyrsiau diweddar y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion eraill y gyfraith ynglŷn â datganoli cyfiawnder?

 
2
OQ58476 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/09/2022

Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn dilyn ymddiswyddiad Comisiynydd Dioddefwyr Lloegr a Chymru?

 
3
OQ58486 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/09/2022

Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r effaith ar Gymru a gaiff Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) a gyflwynwyd yn ddiweddar?

 
4
OQ58493 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/09/2022

Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o oblygiadau i Gymru o'r Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)?

 
5
OQ58497 (w) Wedi’i gyflwyno ar 28/09/2022

Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Weinidogion Cymru ynghylch eu gallu i warchod hawliau undebau llafur?

 
6
OQ58495 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/09/2022

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymdrechion Llywodraeth Cymru i leihau gwahaniaethu ar sail hil o fewn y system gyfiawnder?

 
7
OQ58498 (w) Wedi’i gyflwyno ar 28/09/2022

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad ar rôl y Goruchaf Lys wrth weinyddu cyfiawnder yng Nghymru?

 
8
OQ58478 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/09/2022

Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion eraill y gyfraith ynghylch yr hawl i brotestio?

 
9
OQ58472 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/09/2022

Beth oedd y costau i Lywodraeth Cymru a oedd yn deillio o'r her gyfreithiol i Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020?

 
10
OQ58475 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/09/2022

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd a'r amserlen a ragwelir ar gyfer dadansoddiad anghenion arfaethedig Llywodraeth Cymru ar gyfer prentisiaethau yn y sector cyfreithiol yng Nghymru?

 
11
OQ58473 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/09/2022

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol nodi cost lawn y 36 Aelod ychwanegol arfaethgedig o'r Senedd?

 
12
OQ58492 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/09/2022

Sut y bydd y Cwnsler Cyffredinol yn ymgysylltu â Gweinidogion cyfatebol o fewn Llywodraeth y DU sydd newydd eu penodi i sicrhau bod blaenoriaethau Llywodraeth Cymru o fewn ei bortffolio yn cael eu cyflawni?

Comisiwn y Senedd

1
OQ58482 (w) Wedi’i gyflwyno ar 28/09/2022

Pa ddigwyddiadau a fydd yn cael eu cynnal ar ystad y Senedd i gyd-fynd â chwpan pêl-droed y byd?