Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 27/10/2021 i'w hateb ar 03/11/2021

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Gweinidog yr Economi

1
OQ57091 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/10/2021

Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ran datblygu polisïau i greu swyddi cynaliadwy â chyflogau da mewn diwydiannau technoleg yn ne-ddwyrain Cymru?

 
2
OQ57096 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/10/2021

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo cyfleoedd cyflogaeth i bobl ifanc yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?

 
3
OQ57116 (w) Wedi’i gyflwyno ar 27/10/2021

Pa asesiad y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o gyfraniad llwythi a gludir gan drenau i economi Cymru?

 
4
OQ57085 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/10/2021

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ddatblygu economi Gorllewin De Cymru?

 
5
OQ57089 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/10/2021

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi economi canolbarth Cymru i adfer yn dilyn y pandemig?

 
6
OQ57088 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/10/2021

Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i gefnogi'r economi werdd yn Nwyrain De Cymru?

 
7
OQ57118 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/10/2021

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y bydd cyllideb Llywodraeth y DU yn ei chael ar ei rhaglen economaidd ym Mlaenau Gwent?

 
8
OQ57095 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/10/2021

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r diwydiant adeiladu am y sgiliau y bydd eu hangen ar gyfer ei weithlu yn y dyfodol?

 
9
OQ57117 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 27/10/2021

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r sector hamdden egnïol yng Ngogledd Cymru?

 
10
OQ57109 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/10/2021

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y bydd cyllideb ddiweddar Llywodraeth y DU yn ei chael ar economi Cymru?

 
11
OQ57123 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/10/2021

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith cyllideb Llywodraeth y DU ar economi Cymru?

 
12
OQ57102 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/10/2021

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella lefelau cyflogaeth?

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

1
OQ57110 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/10/2021

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o gyfraddau COVID-19 yn Nwyrain De Cymru?

 
2
OQ57087 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/10/2021

Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella pa mor gyflym y caiff cleifion eu rhyddfau o'r ysbyty yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg?

 
3
OQ57115 (w) Wedi’i gyflwyno ar 27/10/2021

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o gyfraddau COVID-19?

 
4
OQ57098 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/10/2021

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl sydd â chlefydau awto-imiwn?

 
5
OQ57108 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/10/2021

A wnaiff Llywodraeth Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i sicrhau bod gweithwyr gofal cymdeithasol yn cael y cyflog byw go iawn?

 
6
OQ57114 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/10/2021

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad at ddeintyddion y GIG yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?

 
7
OQ57099 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/10/2021

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o argaeledd gofal iechyd yn Nwyrain De Cymru?

 
8
OQ57097 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/10/2021

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sgrinio am ganser y coluddyn yng Nghymru?

 
9
OQ57122 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/10/2021

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cyfleu'r canllawiau COVID-19 diweddaraf i gartrefi gofal?

 
10
OQ57105 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/10/2021

Sut y bydd y £42 miliwn o gyllid ychwanegol a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru yn helpu lleoliadau gofal cymdeithasol yn Ne Clwyd?

 
11
OQ57121 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/10/2021

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am frechu pobl ifanc 12 i 15 oed yn erbyn COVID-19?

 
12
OQ57104 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/10/2021

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno presgripsiynu cymdeithasol yng Nghymru?