Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 28/10/2021 i'w hateb ar 02/11/2021
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynllun lleoedd lleol ar gyfer natur?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau Cymru sero net?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn annog adferiad trefi gwledig yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddefnyddio ynni adnewyddadwy?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r cyfraniad y bydd angen i drafnidiaeth ei wneud i sicrhau Cymru carbon niwtral?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion gwrth-hiliaeth y Llywodraeth yng Ngorllewin De Cymru?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o bwysigrwydd diogelu iechyd meddwl a llesiant pobl ifanc?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i dyfu economi Gorllewin De Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynllun gweithredu strategaeth gwefru cerbydau trydan ar gyfer Cymru?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i addysgu pobl ifanc am beryglon cyfryngau cymdeithasol?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r rôl y gall ffermwyr ei chwarae wrth fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gryfhau a datblygu chwaraeon ar lawr gwlad?