Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 26/11/2020 i'w hateb ar 01/12/2020
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y gost a amcangyfrifir ar gyfer deuoli'r A465 rhwng Dowlais a Hirwaun?
Pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith tlodi sy'n gysylltiedig â'r coronafeirws yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyfleusterau iechyd cymunedol yng nghanolbarth Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl sydd â phrofiadau niweidiol lluosog yn ystod plentyndod?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y trefniadau ym mhorthladd Caergybi ar ôl i'r cyfnod pontio ddod i ben?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am welliannau i'r GIG yng ngogledd Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella diogelwch ar y ffyrdd yn Sir Fynwy?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â thlodi yn y Rhondda?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am nifer y bobl sydd wedi marw ar ôl cael y coronafeirws yn ysbytai Cymru?
Sut mae polisi rhyngwladol Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â datgoedwigo byd-eang?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y trefniadau ar gyfer etholiadau sydd i ddod yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygiad economaidd trefi?