Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 26/09/2024 i'w hateb ar 01/10/2024

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OQ61592 (e) Wedi’i gyflwyno ar 26/09/2024

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar flaenoriaethau gofal iechyd Llywodraeth Cymru ar gyfer Sir Gaerfyrddin?

 
2
OQ61613 (e) Wedi’i gyflwyno ar 26/09/2024

Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ynghylch mynediad at ofal iechyd yn Llanelli?

 
3
OQ61625 (e) Wedi’i gyflwyno ar 26/09/2024

Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith y gwaharddiad ar ysmygu ar dir ysbytai?

 
4
OQ61616 (w) Wedi’i gyflwyno ar 26/09/2024

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amseroedd aros ar gyfer rhyddhau cleifion y mae eu cyflyrau wedi’u hoptimeiddio’n feddygol o ysbytai yn rhanbarth Canol De Cymru?

 
5
OQ61626 (e) Wedi’i gyflwyno ar 26/09/2024

Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella'r rhwydwaith priffyrdd presennol?

 
6
OQ61629 (e) Wedi’i gyflwyno ar 26/09/2024

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Chyngor Dinas Casnewydd i hyrwyddo diwylliant a threftadaeth y ddinas?

 
7
OQ61627 (e) Wedi’i gyflwyno ar 26/09/2024

A wnaiff y Prif Weinidog roi rhagor o fanylion am addewid 'cyfle i bob teulu' Llywodraeth Cymru?

 
8
OQ61624 (e) Wedi’i gyflwyno ar 26/09/2024

Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i leoliadau diwylliannol yn Nwyrain De Cymru?

 
9
OQ61607 (e) Wedi’i gyflwyno ar 26/09/2024

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau iechyd ym Mhowys?

 
10
OQ61591 (e) Wedi’i gyflwyno ar 26/09/2024

Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith y gostyngiad treth gyngor person sengl ar gyllidebau aelwydydd yng Nghymru?

 
11
OQ61628 (e) Wedi’i gyflwyno ar 26/09/2024

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am nifer y plant sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru?

 
12
OQ61599 (e) Wedi’i gyflwyno ar 26/09/2024

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cleifion canser?

Y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni

1
OQ61602 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/09/2024

Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion y gyfraith y DU ynglŷn ag adroddiad Cymdeithas y Cyfreithwyr; From Caernarfon to Caerdydd: Reimagining Justice in Wales 2030?

 
2
OQ61596 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/09/2024

Sut y bydd y Cwnsler Cyffredinol yn sicrhau bod yr Ysgrifenyddion Cabinet yn cyflawni blaenoriaethau'r Llywodraeth?

 
3
OQ61589 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/09/2024

Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip, a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn dilyn cynllun peilot y Llys Teulu Cyffuriau ac Alcohol yng Nghaerdydd?

 
4
OQ61598 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/09/2024

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am gynnal cwestau i farwolaethau cynenedigol?

 
5
OQ61601 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/09/2024

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad ar yr amserlen ar gyfer cyflenwi deddfwriaeth diogelwch tomenni glo o fewn rhaglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth?

 
6
OQ61590 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/09/2024

Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ynglŷn â gwneud canolfannau cyswllt plant yng Nghymru yn ddi-dâl ar adeg eu defnyddio i rieni ac aelodau eraill o'r teulu?