Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 24/04/2024 i'w hateb ar 01/05/2024
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg
Pa drafodaethau mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi cynnal gyda Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynglŷn â chynnydd darpariaeth addysg Gymraeg yn y cymoedd?
Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o ddibynadwyedd data Arolwg Llafurlu'r SYG mewn perthynas â Chymru?
Pa gynlluniau sydd gan yr Ysgrifennydd Cabinet i gefnogi twf y sector ynni adnewyddadwy yng Ngogledd Cymru?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r economi yng ngorllewin Cymru?
Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o faint ac effaith economaidd sectorau diwylliannol, celfyddydol a threftadaeth ein cenedl?
Sut mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn gweithio gyda Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i sicrhau bod trefniadau hyfforddiant deintyddiaeth yng Nghymru yn cynhyrchu gweithlu sy’n diwallu anghenion ieithyddol plant ac oedolion yn Arfon?
Beth yw disgwyliadau'r Ysgrifennydd Cabinet o gwmnïau o ran darparu buddion cymunedol diriaethol mewn perthynas â phrosiectau cynhyrchu ynni?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Llywodraeth Cymru wrth weithredu argymhellion y Comisiwn Gwaith Teg?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella cadwyn gyflenwi'r sector ynni yng Ngorllewin De Cymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet amlinellu sut mae'r toriadau i gyllideb y rhaglen brentisiaethau yn cydymffurfio â dyletswydd economaidd-gymdeithasol Llywodraeth Cymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod cyllid busnes yn cael ei ddyrannu mewn modd cyfrifol?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ei flaenoriaethau ar gyfer yr economi yng Ngogledd Cymru?
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar yr ymdrechion i amrywiaethu'r gweithlu deintyddol?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i atal clefydau drwy hyrwyddo byw'n iach?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am gynnydd Llywodraeth Cymru wrth fynd i'r afael â rhestrau aros y GIG?
Pa waith cynllunio gweithlu, hyfforddiant, a datblygu y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ar gyfer deintyddiaeth yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella'r ddarpariaeth gofal iechyd yng Ngorllewin De Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod pobl ag anableddau dysgu'n cael gofal priodol yn y gymuned?
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i gynyddu cymorth iechyd meddwl ar-lein i bobl Islwyn?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i ddatblygu canolfan gofal iechyd amlddisgyblaethol newydd yng Nghaergybi?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ynglŷn a’r adolygiad diogelu unedig sengl a’r prosesau cysylltiedig?
Pa ystyriaeth y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i rhoi i gyflwyno strategaeth genedlaethol ar gyfer tiwmorau'r ymennydd?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl ledled Cymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau sydd i'w cymryd dros weddill tymor y Senedd hon fel rhan o'r cynllun iechyd menywod?