Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 22/02/2023 i'w hateb ar 01/03/2023
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i helpu teuluoedd yn Nwyrain De Cymru sydd wedi mynd i ddyled?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r effaith y bydd canlyniadau'r adolygiad ffyrdd yn ei chael ar hybu ffyniant a mynd i'r afael â thlodi yng Ngogledd Cymru?
Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael â'r prinder safleoedd i Sipsiwn a Theithwyr ledled Cymru?
Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi gwneud ynglŷn ag effeithiolrwydd polisïau Llywodraeth Cymru i sicrhau diogelwch cymunedol yng Nghaerdydd?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar yr adroddiad am gasineb at fenywod a chamymddygiad rhywiol yn Heddlu Gogledd Cymru a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o sut y caiff arian loteri ei ddosbarthu yn Islwyn o'i gymharu â gweddill Cymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi trigolion Canol De Cymru sy'n wynebu tlodi tanwydd?
Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i ddarparu cefnogaeth ddigonol i ffoaduriaid o Wcráin?
Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chynnig i elusennau sy'n helpu pobl hŷn i reoli eu harian?
Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi'u cael gydag Ofgem ynglŷn â'i adolygiad o orfodi gosod mesuryddion rhagdalu?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi ei wneud o'r effaith y mae prinder tai yn ei gael ar allu Cymru i ddod yn genedl noddfa?
Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol am sut y mae'n gwario arian trethdalwyr sydd wedi'i neilltuo iddo gan Lywodraeth Cymru?
Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynglŷn â'r camau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i gynorthwyo menywod a anwyd yn y 1950au y gwrthodwyd eu pensiynau iddynt?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i'r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a'r Trefnydd ynghylch Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Diwygio a Swyddogaethau Deddfwriaethol) ac Iechyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022?
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r costau sy'n gysylltiedig â datganoli cyfrifoldeb dros lysoedd a dedfrydu i Gymru?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y broses dendro ar gyfer y rhaglen prentisiaeth gyfreithiol lefel 7?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ei roi i'r Gweinidog Newid Hinsawdd cyn y penderfyniad i roi terfyn ar sawl prosiect ffordd mawr yng Ngogledd Cymru?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynglŷn â'i pholisi ynglŷn â hunanadnabod rhywedd yn dilyn penderfyniad Llywodraeth y DU i atal y Bil Diwygio Cydnabod Rhywedd (yr Alban)?
Pa drafodaethau mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion y gyfraith Llywodraeth y DU ynglŷn â sicrhau bod gan Gymru'r pwerau dros wneud dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl gyhoeddus?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â datganoli pwerau dros fandiau treth incwm i Gymru?
Comisiwn y Senedd
Beth mae'r Comisiwn yn ei wneud i sicrhau bod ystâd y Senedd yn gwbl hygyrch i bobl anabl?
Pa gynnydd mae'r Comisiwn wedi ei wneud o ran cyflawni argymhellion adroddiad y tasglu newyddion a gwybodaeth ddigidol?
A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch i ba raddau mae'n cwrdd a'i ddangosyddion perfformiad allweddol ar gyfer y Chweched Senedd?