Cynigion i’w trafod ar 21/06/2023
NDM8291 - Dadl Fer
Wedi’i gyflwyno ar 07/06/2023 | I'w drafod ar 21/06/2023Ail-bwrpasu cyffuriau i drin clefydau prin
Cyflwynwyd gan
NDM8299 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor
Wedi’i gyflwyno ar 14/06/2023 | I'w drafod ar 21/06/2023Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ‘Deintyddiaeth’ a osodwyd ar 15 Chwefror 2023.
Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Mehefin 2023.
Cyflwynwyd gan
NDM8300 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 14/06/2023 | I'w drafod ar 21/06/2023Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi, dros chwarter canrif ers datganoli, fod Cymru yn parhau i fod yr unig wlad ddatganoledig heb ei system gyfreithiol a'i phwerau dros ei lluoedd heddlu, er nad oes sail resymol dros hyn.
2. Yn credu:
a) y dylid datganoli pwerau dros gyfiawnder a phlismona yn llawn i Gymru; a
b) y gall sefydlu system gyfreithiol benodol yng Nghymru a gwneud heddluoedd Cymru yn gwbl atebol i'r Senedd fod yn gamau hanfodol ar hyd y ffordd i annibyniaeth.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ofyn yn ffurfiol am bwerau dros gyfiawnder a phlismona.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Dileu popeth ar ôl îs-bwynt 2 (a) a rhoi yn ei le:
y gall sefydlu system gyfreithiol benodol yng Nghymru a gwneud heddluoedd Cymru yn gwbl atebol i'r Senedd fod yn gamau hanfodol i sicrhau bod modd darparu cyfiawnder a phlismona yn well er budd pobl Cymru; a
bod y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru wedi nodi'n glir pam y dylid datganoli pwerau dros gyfiawnder yn llawn a sefydlu awdurdodaeth gyfreithiol yng Nghymru.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i fynd ar drywydd yr achos dros ddatganoli plismona a chyfiawnder ac i baratoi ar ei gyfer.