Cynigion i’w trafod ar 16/09/2025
NDM8967 - Dadl y Llywodraeth
Wedi’i gyflwyno ar 09/09/2025 | I'w drafod ar 16/09/2025Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru).
Gosodwyd y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Senedd ar 31 Mawrth 2025.
Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ar y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) gerbron y Senedd ar 24 Gorffennaf 2025.
Cyflwynwyd gan
NDM8968 - Dadl y Llywodraeth
Wedi’i gyflwyno ar 09/09/2025 | I'w drafod ar 16/09/2025Cynnig bod Senedd Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.
Cyflwynwyd gan
NDM8969 - Dadl y Llywodraeth
Wedi’i gyflwyno ar 09/09/2025 | I'w drafod ar 16/09/2025Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Pleidleisio Absennol (Etholiadau yng Nghymru a'r Alban) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Troednodyn:
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno 25 Mehefin 2025 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Gellir gweld copi o’r Bil ar wefan Senedd y DU:
Bil Pleidleisio Absennol (Etholiadau yng Nghymru a’r Alban) (Saesneg yn unig)
Cyflwynwyd gan
NDM8970 - Dadl y Llywodraeth
Wedi’i gyflwyno ar 09/09/2025 | I'w drafod ar 16/09/2025Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Lles Anifeiliaid (Mewnforio Cŵn, Cathod a Ffuredau) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Troednodyn:
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Mai 2025 a 07 Awst 2025, yn y drefn honno, yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Gellir gweld copi o’r Bil ar wefan Senedd y DU:
Animal Welfare (Import of Dogs, Cats and Ferrets) Bill (Saesneg yn unig)