Cynigion i’w trafod ar 09/07/2025

NDM8948 - Dadl Fer

Wedi’i gyflwyno ar 02/07/2025 | I'w drafod ar 09/07/2025

A ddylai Llywodraeth Cymru wahardd treillrwydo ar waelod y môr yng Nghymru?

 

NDM8949 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor

Wedi’i gyflwyno ar 02/07/2025 | I'w drafod ar 09/07/2025

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad— Yr Unfed Adroddiad ar Hugain i'r Chweched Senedd a osodwyd gerbron y Senedd ar 2 Gorffennaf 2025, yn unol â Rheol Sefydlog 22.9.

2. Yn cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad.

Cyflwynwyd gan

 

NDM8950 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor

Wedi’i gyflwyno ar 02/07/2025 | I'w drafod ar 09/07/2025
 

NDM8951 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor

Wedi’i gyflwyno ar 02/07/2025 | I'w drafod ar 09/07/2025

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar yr Economi Sylfaenol, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Ebrill 2025, ac y gosodwyd ymateb iddo gan Lywodraeth Cymru ar 2 Gorffennaf 2025.

 

NDM8952 - Dadl y Senedd

Wedi’i gyflwyno ar 02/07/2025 | I'w drafod ar 09/07/2025

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi'r Adroddiad Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer y cyfnod 2024-25, yn unol â pharagraff 8(8) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a osodwyd gerbron y Senedd ar 2 Gorffennaf 2025.

 

NDM8953 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 02/07/2025 | I'w drafod ar 09/07/2025

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu bod Llywodraeth Lafur y DU wedi gadael i lawr y rhai a'i rhoddodd mewn grym yn etholiad cyffredinol 2024, ac wedi methu cadw at yr addewidion a wnaed i bobl Cymru.

Gwelliannau

NDM8953 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 04/07/2025

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

Yn cydnabod bod Llywodraeth y DU, yn ystod y flwyddyn ers yr Etholiad Cyffredinol, wedi dechrau dadwneud y difrod a achoswyd gan 14 mlynedd o gyni drwy ddarparu rhagor o gyllid a sicrwydd ariannol tymor hwy i Gymru i’w galluogi i gynllunio ac i gefnogi ei phobl.