NDM9362 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 11/11/2026 | I'w drafod ar 18/11/2026Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi penderfyniad Llywodraeth Cymru i rewi trothwyon ad-dalu benthyciadau myfyrwyr Cynllun 2 tan 2029-30.
2. Yn nodi y bydd y penderfyniad hwn yn cael effaith niweidiol ar bob myfyriwr sy’n hanu o Gymru ac sydd â benthyciad Cynllun 2.
3. Yn credu y bydd rhewi’r trothwyon yn effeithio fwyaf ar raddedigion ar incwm is drwy gynyddu ad-daliadau mewn termau real.
4. Yn nodi bod Llywodraeth Lafur flaenorol Cymru wedi gwrthod rhewi’r trothwyon ac wedi ymrwymo i fynd ar drywydd system ad-dalu benodol i Gymru a fyddai’n diogelu graddedigion o aelwydydd ar incwm is yn well.
5. Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi dewis peidio â sefyll dros fyfyrwyr Cymru.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno mesurau i amddiffyn graddedigion Cymru rhag y baich o gynnydd mewn ad-daliadau.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i leihau nifer y benthyciadau myfyrwyr a roddir, drwy dorri cyllid ar gyfer benthyciadau i raddau sydd â chanlyniadau economaidd isel i raddedigion, gan ail-fuddsoddi arbedion mewn hyfforddiant ar gyfer gweithlu'r GIG a phrentisiaethau.
Cyflwynwyd gan
Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:
3. Yn gresynu at benderfyniad Llywodraeth y DU i fynd ar drywydd rhewi trothwyon ad-dalu Cynllun 2, a fydd yn cynyddu’r baich ad-dalu sy’n wynebu pob un sydd â benthyciad Cynllun 2.
4. Yn gresynu bod Llywodraeth Lafur flaenorol Cymru wedi methu achub cam benthycwyr Cymru yn effeithiol a sicrhau trefniadau ar wahân a fyddai wedi eu hamddiffyn rhag penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth y DU.
5. Yn cydnabod, gan fod ad-daliadau benthyciadau myfyrwyr yn gweithredu drwy system gyffredin ar draws y DU, bod penderfyniad Llywodraeth y DU wedi golygu nad oedd fawr o ddewis gan Lywodraeth bresennol Cymru ond cynnal trefniadau ad-dalu cyfatebol ar gyfer benthycwyr Cynllun 2.
6. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru, drwy Adolygiad o Addysg Uwch, i fynd ar drywydd ymagwedd strategol, wedi’i gwneud yng Nghymru, ar gyfer cyllid myfyrwyr sy’n adlewyrchiad gwell o anghenion ac amgylchiadau myfyrwyr a graddedigion Cymru.