NDM9278 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 24/06/2026 | I'w drafod ar 01/07/2026

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiddymu'r cynllun Cenedl Noddfa.

Gwelliannau

NDM9278 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 26/06/2026

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) bod cenedl noddfa yn ddull o gefnogi pobl sy'n ceisio lloches, gan gynnwys ffoaduriaid o Wcrain sy’n ffoi rhag rhyfel ymosodol anghyfreithlon Putin;

b) bod polisi mewnfudo, gan gynnwys lloches a phenderfyniadau ynghylch lleoli pobl a nifer y bobl a leolir yng Nghymru, wedi’i gadw yn ôl i Lywodraeth y DU; ac

c) bod gan Gymru hanes hir o groesawu pobl sy'n ffoi rhag trais neu erledigaeth gyda pharch a thosturi.

2. Yn gresynu at y drafodaeth a'r rhethreg sy'n ceisio troi mewnfudo a lloches yn fater sy’n rhannu pobl a chymunedau.

3. Yn penderfynu cynnal egwyddor undod rhyngwladol a chefnogi cymunedau diogel, unedig trwy weithio gyda phartneriaid i gefnogi pobl sy'n ceisio noddfa i integreiddio a chyfrannu'n gadarnhaol i'n cenedl.