NDM9253 - Dadl Aelodau

Wedi’i gyflwyno ar 11/06/2026 | I'w drafod ar 01/07/2026

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod effaith ddwfn a pharhaol trawma ar unigolion drwy gydol eu bywydau, a'r ffordd y mae'n siapio profiadau ar draws pob agwedd ar fywyd.

2. Yn cydnabod bod tua hanner yr oedolion yng Nghymru wedi profi o leiaf un profiad niweidiol yn ystod plentyndod, sy'n gysylltiedig â risg uwch o ganlyniadau iechyd corfforol ac iechyd meddwl gwael, camddefnyddio sylweddau, a datblygu cyflyrau cronig yn ddiweddarach mewn bywyd.

3. Yn nodi bod camau i fynd i'r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod eisoes wedi'u hymgorffori ar draws ystod o feysydd polisi Llywodraeth Cymru.

4. Yn croesawu cyhoeddi Pecyn Cymorth Cyfathrebu Partner Hyb Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod  Cymru 2026, ac yn cydnabod y cyfle y mae'n ei gyflwyno i gefnogi a chryfhau dulliau sy'n ystyriol o drawma ar draws sefydliadau'r sector cyhoeddus.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau ag ymdrechion i integreiddio gwaith i atal ac ymateb i brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod ar draws gwasanaethau cyhoeddus, a chryfhau’r ymdrechion hynny.

6. Yn galw ar Gomisiwn y Senedd i ystyried:

a) datblygu cynlluniau i fabwysiadu dulliau sy'n ystyriol o drawma ar draws holl weithgareddau a gwasanaethau'r Senedd, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) cymorth i Aelodau a'u staff, yn ogystal ag ymgysylltu â'r cyhoedd ac allgymorth;

b) cynyddu ymwybyddiaeth o effaith trawma ymhlith Aelodau, staff y Comisiwn, a'r rhai sy'n ymgysylltu â'r Senedd, gan gynnwys drwy hyfforddiant a chanllawiau; ac

c) hyrwyddo dulliau sy'n rhoi unigolion wrth wraidd gwasanaethau, gan sicrhau bod prosesau, cyfathrebu ac amgylcheddau yn hygyrch, sensitif, ac nad ydynt yn ail-drawmateiddio unigolion yn anfwriadol.