NDM8969 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 09/09/2025 | I'w drafod ar 16/09/2025

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Pleidleisio Absennol (Etholiadau yng Nghymru a'r Alban) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Troednodyn:

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno 25 Mehefin 2025 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Gellir gweld copi o’r Bil ar wefan Senedd y DU:

Bil Pleidleisio Absennol (Etholiadau yng Nghymru a’r Alban) (Saesneg yn unig)