NDM8783 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 08/01/2025 | I'w drafod ar 15/01/2025

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod Llywodraeth Lafur y DU wedi bod mewn grym am chwe mis yn Ionawr 2025.

2. Yn gresynu bod Llywodraeth Lafur y DU wedi:

a) taro ffermwyr Cymru gyda threth etifeddiaeth newydd;

b) tynnu'r lwfans tanwydd gaeaf i ffwrdd o hanner miliwn o bensiynwyr yng Nghymru; 

c) cynyddu costau yswiriant gwladol cyflogwyr yng Nghymru.

3. Yn gresynu ymhellach fod Llywodraeth Cymru wedi methu ag amddiffyn Cymru yn ystod y cyfnod hwn.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud y canlynol:

a) gwneud sylwadau brys i Lywodraeth y DU i'w hannog i wrthdroi eu polisïau i gyflwyno treth etifeddiaeth, cael gwared ar y lwfans tanwydd gaeaf, a chynyddu costau yswiriant gwladol cyflogwyr;

b) cyflwyno lwfans tanwydd gaeaf Cymreig os yw'r toriad i'r lwfans tanwydd gaeaf yn parhau i fod ar waith.

Gwelliannau

NDM8783 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 10/01/2025

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn nodi y bu’n rhaid i Lywodraeth y DU wneud penderfyniadau anodd er mwyn dechrau adfer twf yn ein heconomi, sicrhau bod cyllid cyhoeddus yn fwy sefydlog ac ail-fuddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus.

Yn croesawu’r cyllid ychwanegol i Gymru gan Lywodraeth y DU yng Nghyllideb yr Hydref Llywodraeth y DU.

Yn nodi’r ffaith bod y penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth Lafur y DU yn ei chwe mis cyntaf yn golygu bod Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru yn cynnwys gwerth £1.5 biliwn o gyllid refeniw ychwanegol a gwerth £3 biliwn o gyllid cyfalaf, gan alluogi Cymru i anelu at dwf.

Yn credu y dylai cyllideb Cymru ganolbwyntio i ddechrau ar gyfrifoldebau datganoledig.