NDM8639 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 09/07/2024 | I'w drafod ar 16/07/2024

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 11.21(ii):

1. Yn nodi:

a) Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru 2023/24;

b) y cynnydd mewn perthynas â’r rhaglen ddeddfwriaethol.

Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru 2023/24

Y Rhaglen Ddeddfwriaethol

Gwelliannau

NDM8639 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 10/07/2024

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at ddiffyg targedau clir ac adrodd mesuradwy ar ganlyniadau.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu:

a) rhagor o wybodaeth am sut y mae'n mesur cynnydd ar ei rhaglen ddeddfwriaethol; ac

b) asesiad o sut mae'n gwneud cynnydd yn erbyn y mesurau hyn.

NDM8639 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 10/07/2024

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu:

a) y diffyg cynnydd digonol o ran lleihau amseroedd aros y GIG a gwella perfformiad adrannau brys;

b) y canlyniadau addysg PISA diweddar sy'n dangos dirywiad mewn canlyniadau addysgol yng Nghymru; ac

c) bod gweithwyr yng Nghymru yn cael eu talu llai na gweithwyr mewn rhannau eraill o'r DU.

Yn datgan nad yw'n credu bod Rhaglen Ddeddfwriaethol nac Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru yn rhoi digon o sylw i'r heriau allweddol hyn.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun gweithredu clir i:

a) gwella perfformiad y GIG;

b) gwella canlyniadau addysgol; ac

c) gwella incwm yng Nghymru.