NDM8570 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 30/04/2024 | I'w drafod ar 08/05/2024Cynnig bod y Senedd hon:
1. Yn nodi:
a) bod Cymru’n gartref i 40 y cant o’r holl domenni glo sy’n weddill yn y DU, a hynny o ganlyniad i ymelwa ar adnoddau naturiol Cymru;
b) bod gan fwy o law a thywydd eithafol y potensial i ansefydlogi'r tomenni hyn ymhellach; ac
c) y pryder a achosir i breswylwyr sy'n byw ger tomenni segur, pyllau glo brig a safleoedd ôl-ddiwydiannol eraill.
2. Yn gresynu bod Llywodraeth y DU yn gwrthod darparu cyllid i gefnogi'r gwaith o adfer ac ail-bwrpasu tomenni segur, pyllau glo brig a safleoedd ôl-ddiwydiannol eraill yn y tymor hir.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth ar frys i sefydlu corff newydd i ddarparu rhaglen adfer addas i'r diben ar gyfer tomenni segur, pyllau glo brig a safleoedd ôl-ddiwydiannol eraill.
4) Yn galw ar Lywodraeth y DU i ddarparu ar frys yr arian ychwanegol angenrheidiol ar gyfer y gyfundrefn archwilio a chynnal a chadw, yn ogystal ag ysgwyddo’r cyfrifoldeb ariannol hirdymor am ddiogelu tomenni segur, pyllau glo brig a safleoedd ôl-ddiwydiannol eraill drwy waith adfer priodol.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Yn is-bwynt 1 (a), dileu 'ymelwa ar adnoddau naturiol Cymru' a rhoi 'dreftadaeth ddiwydiannol Cymru' yn ei le.
Cyflwynwyd gan
Ym mhwynt 2, dileu 'yn gresynu bod Llywodraeth y DU yn gwrthod darparu' a rhoi 'yn credu y dylai Llywodraeth y DU barhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu' yn ei le.
Cyflwynwyd gan
Dileu pwynt 4.
Cyflwynwyd gan
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi darparu dros £44 miliwn i awdurdodau lleol er mwyn cynnal a gwella diogelwch tomenni glo ers 2022, wedi cyflwyno system o fonitro’n rheolaidd domenni categori C a D a bydd yn cyflwyno deddfwriaeth newydd fodern ar gyfer tomenni nas defnyddir yn yr Hydref.