NDM8563 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 24/04/2024 | I'w drafod ar 01/05/2024

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi'r adolygiad Cass a gomisiynwyd gan GIG Lloegr i wneud argymhellion ar sut i wella gwasanaethau hunaniaeth rhywedd y GIG, a dynnodd sylw at y ffaith y dylid bod yn ofalus iawn wrth ragnodi meddyginiaethau atal y glasoed a hormonau i bobl ifanc o dan 18 oed oherwydd diffyg ymchwil o ansawdd uchel i'w heffeithiau tymor hir.

2. Yn croesawu'r ffaith, oherwydd bod GIG Lloegr yn atal meddyginiaethau atal y glasoed, fod hyn wedi golygu nad oes llwybr i bobl ifanc o dan 18 oed yng Nghymru gael meddyginiaethau atal y glasoed.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) mabwysiadu argymhellion adolygiad Cass; a

b) sicrhau bod plant a'u rhieni yn cael eu cefnogi gyda chanllawiau synnwyr cyffredin, sy'n seiliedig ar ffeithiau.

Adolygiad Cass – Adolygiad annibynnol o wasanaethau hunaniaeth rhywedd i blant a phobl ifanc (Saesneg yn unig)

Gwelliannau

NDM8563 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 26/04/2024

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at absenoldeb gwasanaethau hunaniaeth rhywedd arbenigol cynhwysfawr yng Nghymru.

Yn credu bod pob unigolyn, beth bynnag fo'u hunaniaeth rhywedd, yn haeddu parch, dealltwriaeth a mynediad at wasanaethau cymorth a gofal iechyd priodol.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu gwasanaeth hunaniaeth rhywedd i bobl ifanc yng Nghymru.

NDM8563 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 26/04/2024

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cyhoeddi adolygiad Cass.

2. Yn nodi bod y GIG yng Nghymru yn comisiynu gwasanaethau hunaniaeth rhywedd i blant a phobl ifanc 17 oed ac iau gan y GIG yn Lloegr.

3. Yn nodi bod y GIG yn Lloegr wedi dod i'r casgliad nad oes digon o dystiolaeth i gefnogi diogelwch nac effeithiolrwydd clinigol hormonau atal y glasoed ar gyfer trin dysfforia rhywedd mewn plant a phobl ifanc ar hyn o bryd.

4. Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddatblygu'r canllawiau trawsrywedd ar gyfer ysgolion, gan ystyried adolygiad Cass a barn rhanddeiliaid.