NDM8562 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 24/04/2024 | I'w drafod ar 01/05/2024

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod pryder y cyhoedd ynghylch y posibilrwydd bod cod gweinidogol Llywodraeth Cymru wedi'i dorri mewn perthynas â rhoddion a dderbyniwyd gan y Prif Weinidog.

2. Yn nodi bod y Prif Weinidog wedi derbyn rhodd o £200,000 tuag at ei ymgyrch arweinyddiaeth Llafur Cymru gan y Dauson Environmental Group Limited yn dilyn benthyciad o £400,000 i'r cwmni gan Fanc Datblygu Cymru, a throseddau yn ymwneud â'r amgylchedd.

3. Yn galw ar y Prif Weinidog i benodi cynghorydd annibynnol i'r cod gweinidogol i ymchwilio i unrhyw wrthdaro buddiannau a allai fodoli mewn perthynas â'r rhodd, gan gyfeirio'n benodol at bwyntiau i a ii o baragraff 1.3 o'r cod gweinidogol.

Gwelliannau

NDM8562 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 26/04/2024

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru yn cymryd Cod y Gweinidogion, a'r cyfrifoldebau y mae'n eu gosod ar Weinidogion Cymru, o ddifrif.

2. Yn nodi bod y penderfyniadau a wneir gan Fanc Datblygu Cymru ynghylch benthyca a buddsoddi yn cael eu gwneud yn gwbl annibynnol ar Lywodraeth Cymru.

NDM8562 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 26/04/2024

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu:

a) nad yw'r Prif Weinidog wedi dychwelyd y rhodd i Dauson Environmental; a

b) nad yw'r Blaid Lafur wedi ymrwymo i ddychwelyd unrhyw rodd sydd yn weddill gan Dauson Environmental.