NDM8496 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 21/02/2024 | I'w drafod ar 28/02/2024

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn gresynu y bydd cynllun ffermio cynaliadwy arfaethedig Llywodraeth Cymru yn arwain at amcangyfrif o:

a) 122,200 o ostyngiad yn nifer y da byw yng Nghymru;

b) 5,500 o swyddi yn cael eu colli ar ffermydd Cymru; ac

c) colled o £199 miliwn i'r economi wledig.

2. Yn cydnabod cryfder y teimladau yn y gymuned amaethyddol yn erbyn y cynllun ffermio cynaliadwy.

3. Yn nodi'r arolwg a gomisiynwyd gan y Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad yng Nghymru sydd wedi canfod mai dim ond 3 y cant o ffermwyr yng Nghymru sy'n ymddiried yn Llywodraeth Cymru.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) dileu'r gofyniad i bob fferm gael 10 y cant o orchudd coed; a

b) dileu cynigion presennol y cynllun ffermio cynaliadwy ac ail-ymgysylltu â'r sector ffermio i ddatblygu cynllun newydd y mae'r gymuned ffermio yn ei gefnogi.

Gwelliannau

NDM8496 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 23/02/2024

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod cyfraniad allweddol ffermio ac amaethyddiaeth at dirlun cymdeithasol, economaidd a diwylliannol Cymru.

2. Yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i gynnal lefelau cynllun y taliad sylfaenol yn 2024 er mwyn hwyluso’r broses o drosglwyddo i’r cynllun ffermio cynaliadwy.

3. Yn croesawu’r ymgysylltu gyda ffermwyr a rhanddeiliaid sydd wedi arwain at newidiadau cadarnhaol i’r gwaith o lunio’r cynllun ffermio cynaliadwy ers cyhoeddi’r cynllun amlinellol yn 2022.

4. Yn cefnogi diwygiadau pellach i’r cynllun ffermio cynaliadwy mewn ymateb i adborth oddi wrth ffermwyr yn ystod yr ymgynghoriad diweddar.

5. Yn nodi mai’r bygythiad mwyaf i sector ffermio cynaliadwy a diogelwch bwyd yng Nghymru yw effaith y newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth.

6. Yn cymeradwyo bwriad y cynllun ffermio cynaliadwy i wobrwyo ffermwyr Cymru sy’n cymryd camau i ymateb i’r her honno.

7. Yn gresynu at bolisi Llywodraeth y DU o waredu sicrwydd o ran cyllid i ffermydd a lleihau cyllidebau, gan wneud y broses bontio yn fwy heriol ymhob un o wledydd y DU, gan greu ansicrwydd i ffermwyr.