NNDM8480 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 02/02/2024

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu bod dyfodol addawol i waith creu dur mewn ffwrneisiau chwyth yng Nghymru fel rhan o bontio teg sy’n cefnogi economi Gymreig gryfach ac sydd hefyd yn diogelu ased sy’n perthyn i’r DU.

2. Yn cefnogi’r achos dros drafodaethau pellach a fydd yn galluogi proses bontio hirach i ddiogelu swyddi er mwyn creu dyfodol uchelgeisiol a gwyrddach ar draws cyfleusterau Tata yng Nghymru.

Gwelliannau

NNDM8480 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 05/02/2024

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu'r £500 miliwn gan Lywodraeth y DU i sicrhau dyfodol y gwaith cynhyrchu dur ym Mhort Talbot.

NNDM8480 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 05/02/2024

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi'r gronfa bontio gwerth £100 miliwn gydag £80 miliwn gan Lywodraeth y DU ac £20 miliwn gan Tata Steel Ltd.

NNDM8480 - 3 | Wedi’i gyflwyno ar 05/02/2024

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailflaenoriaethu cyllid ar unwaith i gefnogi gweithwyr dur.