NDM8475 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 30/01/2024 | I'w drafod ar 06/02/2024

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru)

Gosodwyd y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Senedd ar 2 Hydref 2023;

Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) gerbron y Senedd ar 26 Ionawr 2024.