NDM8378 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 10/10/2023 | I'w drafod ar 17/10/2023

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Medi 2022, Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Diwygiedig ar 25 Tachwedd 2022, Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar 30 Tachwedd 2022, 27 Ebrill 2023, 16 Awst 20235 Hydref 2023 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Gellir gweld copi o’r Bil ar wefan Senedd y DU:

https://bills.parliament.uk/bills/3155