NDM8376 - Dadl y Llywodraeth
Wedi’i gyflwyno ar 10/10/2023 | I'w drafod ar 17/10/2023Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2022-23.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
NDM8376 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar
11/10/2023
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod traean o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi rhwng 2019 a 2022, ond yn gresynu bod yr ystadegyn hwn yn dod o gyfnod cyn yr argyfwng costau byw presennol, sy'n golygu bod y gwir ffigur tlodi plant yn debygol o fod yn llawer uwch.
Yn cefnogi galwad y Comisiynydd Plant ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi strategaeth fanwl ar gyfer tlodi plant sy'n cynnwys camau gweithredu, targedau a cherrig milltir penodol ar gyfer cyflawni.