NDM8300 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 14/06/2023 | I'w drafod ar 21/06/2023

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi, dros chwarter canrif ers datganoli, fod Cymru yn parhau i fod yr unig wlad ddatganoledig heb ei system gyfreithiol a'i phwerau dros ei lluoedd heddlu, er nad oes sail resymol dros hyn.

2. Yn credu:

a) y dylid datganoli pwerau dros gyfiawnder a phlismona yn llawn i Gymru; a

b) y gall sefydlu system gyfreithiol benodol yng Nghymru a gwneud heddluoedd Cymru yn gwbl atebol i'r Senedd fod yn gamau hanfodol ar hyd y ffordd i annibyniaeth.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ofyn yn ffurfiol am bwerau dros gyfiawnder a phlismona.

Cyflwynwyd gan

Gwelliannau

NDM8300 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 16/06/2023

Dileu popeth ar ôl îs-bwynt 2 (a) a rhoi yn ei le:

y gall sefydlu system gyfreithiol benodol yng Nghymru a gwneud heddluoedd Cymru yn gwbl atebol i'r Senedd fod yn gamau hanfodol i sicrhau bod modd darparu cyfiawnder a phlismona yn well er budd pobl Cymru; a

bod y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru wedi nodi'n glir pam y dylid datganoli pwerau dros gyfiawnder yn llawn a sefydlu awdurdodaeth gyfreithiol yng Nghymru.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i fynd ar drywydd yr achos dros ddatganoli plismona a chyfiawnder ac i baratoi ar ei gyfer.