NDM8293 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod
Wedi’i gyflwyno ar 07/06/2023 | I'w drafod ar 28/06/2023Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar gyflwyno dyletswydd ddinesig i bleidleisio.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a) ceisio efelychu llwyddiant democratiaethau eraill sydd wedi cyflwyno dyletswydd ddinesig i bleidleisio o ran cynyddu'r nifer sy'n pleidleisio mewn etholiadau a thrwy hynny wella lefel yr ymgysylltiad a'r cynrychioldeb ar draws pob oedran, dosbarth a chymuned;
b) cyflwyno dyletswydd ddinesig ar bawb sy'n gymwys i bleidleisio i gymryd rhan yn etholiadau'r Senedd ac etholiadau cyngor sir;
c) caniatáu i'r rhai sy'n dymuno nodi eu hanfodlonrwydd gydag ymgeisydd, plaid neu wleidyddiaeth yn ehangach i wneud hynny drwy opsiwn o ymatal yn gadarnhaol ar y papur pleidleisio;
d) caniatáu cyflwyno cosb briodol am beidio â chydymffurfio â'r rhwymedigaeth ddinesig i bleidleisio neu ymatal yn gadarnhaol, gydag eithriadau cyfreithlon; ac
e) darparu ar gyfer cyflwyno cyfnod peilot ar gyfer cyflwyno'r ddyletswydd ar sail oedran benodol.