NDM8229 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 14/03/2023 | I'w drafod ar 22/03/2023

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod tystiolaeth ysgrifenedig y Llywodraeth i bwyllgorau craffu'r Senedd ar y dyraniadau o fewn pob prif grŵp gwariant wedi dweud y byddai'r £28 miliwn a roddwyd i’r cynllun brys ar gyfer y sector bysiau yn 2022-23 yn cael cyllid cyfatebol yn 2023-24, ond bod gweithredwyr bysiau wedyn wedi cael gwybod nad oedd sicrwydd o unrhyw gyllid o 1 Ebrill 2023 ar gyfer y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau.

2. Yn nodi nad yw'r estyniad 3 mis i'r cynllun brys ar gyfer y sector bysiau yn cynnig llawer o sicrwydd i weithredwyr bysiau i gynnal gwasanaethau a llwybrau allweddol yn eu hardal yn y tymor hir.

3. Yn mynegi pryder y byddai peidio ag ymestyn cyllid y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau yn arwain at ganslo gwasanaethau ar raddfa eang, a fydd yn gadael cymunedau ledled Cymru - cymunedau gwledig yn bennaf - wedi’u hynysu.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymestyn cyllid y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau am o leiaf 18 mis i ddarparu sicrwydd ariannol mwy hirdymor i weithredwyr bysiau ledled Cymru. 

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno opsiynau cyllid diogel mwy hirdymor er mwyn cynnal gwasanaethau bysiau, yn hytrach na chynlluniau cyllido brys.

Tystiolaeth ysgrifenedig y Gweinidogion i bwyllgorau craffu'r Senedd ar y dyraniadau o fewn pob Prif Grwp Gwariant

Cyflwynwyd gan

Gwelliannau

NDM8229 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 16/03/2023

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi darparu gwerth dros £150m o gyllid ychwanegol i’r diwydiant bysiau gydol y pandemig a’i bod wedi cefnogi’r diwydiant i adfer ar ei ôl.

2. Yn nodi nad yw nifer y teithwyr ar fysiau wedi dychwelyd i’r lefelau cyn y pandemig a bod patrymau o ran defnydd wedi newid.

3. Yn nodi bod yr estyniad cychwynnol o 3 mis i’r cynllun brys ar gyfer y sector bysiau yn cynnig sicrwydd yn y tymor byr i weithredwyr bysiau er mwyn cefnogi datblygiad rhwydwaith bysiau sylfaenol.

4. Yn cefnogi cynlluniau mwy hirdymor Llywodraeth Cymru i ddiwygio’r diwydiant bysiau drwy reoleiddio.

5. Yn cefnogi bwriad Llywodraeth Cymru i roi’r gorau i ddyrannu cyllid brys cyn gynted â phosibl gan yn hytrach gyflwyno pecyn cyllid sy’n cefnogi’r trosglwyddiad i fasnachfreinio.