NDM8212 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 22/02/2023 | I'w drafod ar 01/03/2023

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi Cymraeg 2050: Rhaglen Waith 2021 i 2026.

2. Yn mynegi pryder am y ffaith bod Cyfrifiad 2021 wedi datgelu y bu gostyniad o dros 20,000 yn nifer y bobl sy'n dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg.

3. Yn credu bod y Gymraeg yn ased diwylliannol sy'n dod â llawer o fanteision i Gymru.

4. Yn cydnabod yr amrywiaeth mewn hyder ymhlith siaradwyr Cymraeg.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych i mewn i gyfleoedd i ehangu a hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg o ddydd i ddydd.

Cymraeg 2050: Rhaglen Waith 2021 i 2026

 

Gwelliannau

NDM8212 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 24/02/2023

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod bod ffynonellau data eraill yn dangos bod nifer cynyddol o bobl yn gallu siarad rhywfaint o Gymraeg a bod niferoedd cynyddol o blant yn mynychu addysg cyfrwng Cymraeg.

Yn croesawu:

(a) bod pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi cyhoeddi Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg newydd i gynyddu mynediad at gyfleoedd dysgu Cymraeg ar draws ysgolion o bob categori iaith; 

(b) gwaith y Comisiwn Cymunedau Cymraeg i gryfhau'r Gymraeg ar lefel gymunedol; a

(c) gwaith ein sefydliadau partner megis Mudiad Meithrin, y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, yr Urdd, yr Eisteddfod Genedlaethol, y Mentrau Iaith, ac eraill, i ddarparu cyfleoedd i ddefnyddio'r iaith.