NDM8210 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 22/02/2023 | I'w drafod ar 01/03/2023

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn mynegi undod â gweithwyr y sector cyhoeddus ledled Cymru sy'n gweithredu'n ddiwydiannol mewn ymateb i flynyddoedd o doriadau tymor real i'w cyflog.

2. Yn credu bod gallu gweithwyr i fynd ar streic i wella eu cyflog ac amodau yn hawl ddemocrataidd sylfaenol.

3. Yn credu bod Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) Llywodraeth y DU yn ymosodiad uniongyrchol ar bobl sy'n gweithio a'r undebau llafur y maent yn trefnu o fewn iddynt.

4. Yn gresynu at y ffaith y byddai'r Bil yn rhoi pŵer gorfodol sylweddol i Lywodraeth y DU gwtogi ar allu undebau llafur a gweithwyr i gymryd rhan mewn gweithredu diwydiannol cyfreithlon.

5. Yn gresynu at y ffaith bod y Bil hefyd yn gwrthdaro ag amcanion y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus, yn enwedig ymrwymiad gwneud Cymru'n genedl gwaith teg.

6. Yn cefnogi pob undeb llafur ac holl weithwyr y sector cyhoeddus yn eu hymdrechion i wrthsefyll y Bil.

7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i agor trafodaethau ynghylch datganoli cyfraith cyflogaeth er mwyn sicrhau hawliau cyfunol a phwerau bargeinio gweithwyr yng Nghymru.

Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) Llywodraeth y DU (Saesneg yn unig)

Cyflwynwyd gan

Gwelliannau

NDM8210 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 23/02/2023

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Yn croesawu'r camau y mae Llywodraeth y DU yn eu cymryd i ddiwygio'r fframwaith cyfreithiol sy'n llywodraethu gweithredu diwydiannol i sicrhau bod lefelau gwasanaeth gofynnol yn cael eu gosod mewn sectorau allweddol yn ystod cyfnodau o streic.

NDM8210 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 24/02/2023

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod ac yn parchu cryfder y teimladau a ddangoswyd gan aelodau'r undebau llafur drwy bleidleisiau ar streicio a chynnal gweithredu diwydiannol. 

2. Yn credu bod Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ymosodiad ar undebau llafur a hawl sylfaenol gweithwyr i streicio.

3. Yn gresynu at y diffyg ymgysylltu llwyr gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar y ddeddfwriaeth hon cyn ei chyflwyno ac yn nodi safbwynt Llywodraeth Cymru fel y nodir yn ei Datganiad Ysgrifenedig a'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol.

4. Yn cefnogi Llywodraeth Cymru, a’r holl undebau llafur a gweithwyr y sector cyhoeddus yn eu hymdrechion i wrthsefyll y Bil.

Datganiad Ysgrifenedig: Safbwynt Llywodraeth Cymru ar y Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol)

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Lleiaf)