NDM8049 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 05/07/2022 | I'w drafod ar 12/07/2022

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 11.21(ii):

Yn nodi:

a) adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru 2021-2022;

b) y cynnydd mewn perthynas â’r rhaglen ddeddfwriaethol.

Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru 2022

Y Rhaglen Ddeddfwriaethol

Gwelliannau

NDM8049 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 06/07/2022

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod yr adroddiad blynyddol yn tynnu sylw at fethiannau mawr o ran cyflawni ar gyfer pobl Cymru gan Lywodraeth Cymru.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r pwysau cyson sydd ar y systemau iechyd ac addysg.

Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r bwlch mewn cyflogau mynd adref rhwng pobl Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig.

Yn gresynu at y ffaith na fydd y rhaglen ddeddfwriaethol yn cyflawni'r newid sydd ei angen ar Gymru.

NDM8049 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 07/07/2022

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu'r ffaith bod y Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod nifer o bolisïau trawsnewidiol yn cael eu cynnwys yn y Rhaglen Lywodraethu.

Cyflwynwyd gan

NDM8049 - 3 | Wedi’i gyflwyno ar 07/07/2022

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod yr adroddiad blynyddol a'r rhaglen ddeddfwriaethol yn dangos nad oes gan Lywodraeth Cymru yr holl ddulliau angenrheidiol i sicrhau gwelliannau ystyrlon a chynaliadwy i fywydau pobl Cymru ac mai annibyniaeth yw'r ffordd fwyaf ymarferol o sicrhau dyfodol gwirioneddol gryfach, gwyrddach a thecach i bobl Cymru.

Cyflwynwyd gan