NDM7803 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 06/10/2021 | I'w drafod ar 13/10/2021

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) datganiad y Senedd o argyfwng hinsawdd yn 2019, ac argyfwng natur yn 2021;

b) y bydd 26ain Cynhadledd Partïon y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd (COP26) yn cyfarfod yr Hydref hwn i gytuno ar gamau gweithredu cydgysylltiedig i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd;

c) y bydd 15fed cyfarfod Cynhadledd y Partïon (COP15) i'r Confensiwn ar Amrywiaeth Biolegol (CBD) yn cyfarfod y gwanwyn nesaf i gytuno ar fframwaith bioamrywiaeth byd-eang;

d) targed Llywodraeth Cymru i gyrraedd allyriadau carbon sero-net erbyn 2050;

e) cred y Senedd y dylid sicrhau cydraddoldeb rhwng y camau a gymerir i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a'r rhai a gymerir i fynd i'r afael â'r argyfwng natur (NDM7725);

f) bod y Senedd wedi pasio NDM7725 yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno gofyniad sy'n rhwymo mewn cyfraith i wrthdroi colli bioamrywiaeth drwy dargedau statudol.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) geisio datganoli rheolaeth Ystad y Goron a'i hasedau yng Nghymru yn llawn i Lywodraeth Cymru;

b) ceisio datganoli pwerau ynni yn llawn;

c) gwneud y mwyaf o botensial Cymru ar gyfer datblygu ynni adnewyddadwy drwy sefydlu cwmni datblygu ynni a gefnogir gan y wladwriaeth;

d) datblygu gweithlu sero-net yng Nghymru drwy hwyluso ymdrechion traws-sector i uwchsgilio gweithwyr yn y sector ynni;

e) hwyluso'r gwaith o ehangu'r pŵer adnewyddadwy sy'n angenrheidiol i gwrdd â sero-net drwy fuddsoddi'n helaeth mewn uwchraddio grid trydan Cymru;

f) datblygu a gweithredu strategaeth ar gyfer porthladdoedd Cymru, a cheisio cyllid pellach gan Lywodraeth y DU ar gyfer seilwaith porthladdoedd yng Nghymru i gefnogi'r sector gwynt ar y môr sy'n datblygu;

g) datblygu a gweithredu cynllun datblygu morol i roi sicrwydd i ddatblygwyr ynni drwy arwain y gwaith o nodi datblygiadau adnewyddadwy i ffwrdd o'r ardaloedd mwyaf sensitif o safbwynt ecolegol.

NDM7725 - Dadl gan Wrthblaid ar 30 Mehefin 2021

Cyflwynwyd gan

Gwelliannau

NDM7803 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 07/10/2021

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) weithio gyda Llywodraeth y DU i gyflawni prosiectau ynni mawr i Gymru;

b) croesawu'r ffaith bod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo £90 miliwn i brosiectau sero-net arloesol yng Nghymru;

c) adeiladu ar y ffaith bod diwydiant a Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i fuddsoddi dros £40 miliwn i gefnogi'r clwstwr o ddiwydiannau yn ne Cymru i bontio i sero net;

d) cydnabod bod Llywodraeth y DU wedi darparu £4.8 miliwn, yn amodol ar achos busnes a chymeradwyaethau eraill, i gefnogi datblygiad hwb hydrogen Caergybi;

e) yn croesawu Cronfa Bwyd Môr y DU, sydd werth £100 miliwn, a gynlluniwyd i lefelu cymunedau arfordirol ledled y DU, a gweithio i weithredu yn hytrach nag oedi cyn creu porthladd rhydd yng Nghymru;

f) gwneud y mwyaf o'r potensial ar gyfer datblygu ynni adnewyddadwy drwy sefydlu pecyn o gymorth ar gyfer buddsoddiad preifat mewn cynlluniau ynni adnewyddadwy;

g) hwyluso goruchafiaeth gynyddol ynni adnewyddadwy drwy roi mwy o frys ar sicrhau y gall seilwaith ddarparu ar gyfer galw;

h) datblygu a gweithredu cynllun datblygu morol;

i) creu 15,000 o swyddi glas/gwyrdd newydd.

NDM7803 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 08/10/2021

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn cadarnhau ei hymrwymiad i'r egwyddorion sydd wedi'u hymgorffori yn Natganiad Silesia i gefnogi gweithwyr drwy drosglwyddo teg i net sero.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) chwarae ei rhan i alluogi trawsnewid ein system ynni i gadw manteision economaidd a chymdeithasol o gynhyrchu ynni adnewyddadwy yng nghymunedau Cymru.

b) cynyddu capasiti cynhyrchu ynni sy'n eiddo i gyrff cyhoeddus a grwpiau cymunedol.

c) cefnogi porthladdoedd Cymru i sicrhau eu bod yn gallu buddsoddi i sicrhau'r manteision lleol mwyaf posibl o ddatblygu cynhyrchu ynni morol.
d) diogelu bioamrywiaeth morol tra'n hwyluso'r defnydd o dechnoleg ynni morol, gan gynnwys drwy ddarparu canllawiau ar gyfer deall y lleoliadau mwyaf addas.

Yn galw ar arweinwyr byd-eang i ddefnyddio 26ain Cynhadledd Partïon y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd i ymrwymo i roi terfyn ar y defnydd o lo wrth gynhyrchu ynni. 

Datganiad Silesia (Saesneg yn unig)