NDM7725 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 22/06/2021 | I'w drafod ar 30/06/2021

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi datganiad y Senedd o argyfwng hinsawdd yn 2019.

2. Yn nodi y bydd 15fed cyfarfod Cynhadledd y Partïon (COP15) i'r Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol (CBD) yn cyfarfod yr hydref hwn i gytuno ar fframwaith bioamrywiaeth byd-eang.

3. Yn credu y dylid sicrhau cydraddoldeb rhwng y camau a gymerir gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a'r rhai a gymerir i fynd i'r afael â cholli bioamrywiaeth.

4. Yn cydnabod yr angen i gau'r bwlch llywodraethu amgylcheddol a grëwyd drwy adael yr UE.

5. Yn datgan argyfwng natur.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cyflwyno gofyniad sy'n rhwymo mewn cyfraith i wrthdroi colli bioamrywiaeth drwy dargedau statudol;

b) deddfu i sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol annibynnol i Gymru.

Cyflwynwyd gan

Gwelliannau

NDM7725 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 24/06/2021

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod y cyfle i Gymru fod yn arweinydd byd-eang ar lywodraethu amgylcheddol ers i'r Deyrnas Unedig ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.

NDM7725 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 24/06/2021

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 6:

'gweithio'n agosach gyda Llywodraeth y DU ar yr ymateb i'r argyfwng hinsawdd ac adfer natur.'