Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

04/11/2020

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd drwy gynhadledd fideo am 13:29 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi eisiau nodi ychydig o bwyntiau ar gyfer yr Aelodau. Mae'r Cyfarfod Llawn heddiw, a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw ac mae'r rheini wedi'u nodi ar eich agenda chi. A dwi eisiau atgoffa'r Aelodau fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod yma.

13:30
1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

A'r eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Dai Lloyd.

Amseroedd Aros

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am amseroedd aros ar gyfer apwyntiadau a thriniaethau cleifion allanol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe? OQ55772

Gwnaf. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda'r holl fyrddau iechyd i sicrhau, pan ellir darparu gwasanaethau, mai'r cleifion sydd â'r anghenion brys mwyaf difrifol sy'n cael eu gweld gyntaf. Yn ystod y pandemig, mae'r capasiti sydd ar gael wedi'i leihau i alluogi pobl i gadw pellter cymdeithasol priodol a rhoi gwell mesurau atal a rheoli heintiau ar waith.

Yn amlwg, mae pandemig COVID wedi cael effaith sylweddol iawn ar amseroedd aros, ar gyfer apwyntiadau cleifion allanol a thriniaethau wedi'u cynllunio. Roedd nifer y cleifion a oedd yn aros dros 36 wythnos am driniaeth yn ardal bwrdd iechyd bae Abertawe yn 22,453 ddiwedd mis Awst eleni, o gymharu â 3,263 ar yr un adeg y llynedd. Nawr, gwyddom fod y bwrdd iechyd wedi gwneud rhywfaint o ddefnydd o gapasiti theatr a chleifion allanol yn Ysbyty Sancta Maria yn Abertawe, ond nid yw hwn yn opsiwn cynaliadwy yn y tymor hir. Felly, a gaf fi ofyn pa gamau ychwanegol rydych yn eu cymryd, Weinidog, i fynd i'r afael â'r mater hwn? Ac a ydych yn cytuno bod angen ichi wneud mwy o ran datblygu nid yn unig llwybrau sy'n rhydd o COVID ond ysbytai sy'n rhydd o COVID neu unedau annibynnol yn ardal bwrdd iechyd bae Abertawe er mwyn cynyddu'r capasiti’n sylweddol i fynd i'r afael â'r ôl-groniad hwn?

Credaf fod un neu ddau o bwyntiau i'w gwneud. Mae'r Aelod yn llygad ei le yn tynnu sylw at y gwahaniaeth sylweddol yn nifer y bobl sy'n aros am amser hir, ac mae hwnnw’n un math o niwed rydym yn ei gydnabod yn benodol mewn perthynas â’r angen i gydbwyso’r holl gamau rydym yn eu cymryd yn ystod y pandemig. Mae nifer o bethau rydym wedi'u gwneud i alluogi apwyntiadau i barhau, mewn gofal sylfaenol, a bydd yr Aelod yn gwybod rhywbeth am hynny, yn y ffordd y caiff ymgynghoriadau fideo eu cynnal, ond mae adegau hefyd pan fydd angen cyswllt personol ar bobl er mwyn trafod eu hopsiynau am driniaeth effeithiol.

O ran yr hyn rydym yn ei wneud, mae gweithgarwch yn mynd rhagddo, ond gwyddom y bydd gennym ôl-groniad sylweddol ar ddiwedd y pandemig. Felly, yn ogystal â fframweithiau gweithredu chwarter 3 a chwarter 4 y mae'r gwasanaeth iechyd yn eu dilyn, rydym eisoes yn gorfod rhagweld ac edrych ymlaen at yr adferiad sylweddol sydd ei angen arnom. Oherwydd mae’r Aelod yn llygad ei le nad yw Sancta Maria yn ateb cynaliadwy, hirdymor i hynny. Wrth gael, os mynnwch, mannau sy'n rhydd o COVID, sef yr hyn y mae'r gwasanaeth yn cynllunio ar ei gyfer ac felly ein bod yn cyflawni llawer mwy o weithgarwch nad yw’n gysylltiedig â COVID gan fod ein GIG wedi trefnu ei hun mewn ffordd i geisio gwneud hynny, yr her fawr yw, gyda throsglwyddiad cymunedol fel y mae, fod cadw’r coronafeirws allan o safle, hyd yn oed pe baem yn ei ddynodi'n safle di-COVID, yn wirioneddol heriol ac anodd. A'r ffordd y mae ein safleoedd ysbytai wedi’u trefnu, nid ydynt wedi’u trefnu ar hyn o bryd, os mynnwch, yn safleoedd 'poeth' ac 'oer', lle mae gennych ofal wedi’i gynllunio i gyd ar un safle ysbyty a gofal heb ei drefnu ar un arall.

Felly, mae hwn yn ddiwygiad mwy o lawer nag y credaf y bydd modd inni ei gyflawni o fewn y dyddiau a'r wythnosau nesaf. Ond mae gennym barthau dynodedig, a dyna pam fod mesurau rheoli ac atal heintiau mor bwysig, ond dyna hefyd pam fod y negeseuon i'r cyhoedd mor bwysig—os yw trosglwyddiad cymunedol yn parhau fel y mae, rydym yn annhebygol o allu cadw’r coronafeirws allan o'n holl ysbytai, ni waeth pa ddynodiad a rown iddynt.

Weinidog, byddwn yn ddiolchgar pe gallech ddefnyddio peth o’ch dylanwad i ailagor yr uned mân anafiadau yn Ysbyty Singleton yn Abertawe. Mae wedi bod ar gau ers peth amser bellach. Ond yn y cyfamser, tybed a allech ddweud wrthym pa weithgarwch cleifion allanol sy'n digwydd yn y gymuned ers mis Mawrth. Mae ceisio dod â rhywfaint o weithgarwch cleifion allanol priodol yn ôl allan o ysbytai cyffredinol wedi bod yn rhan o bolisi Llywodraeth Cymru ers peth amser. Ac a allech ddweud hefyd a yw'r gweithgarwch hwnnw wedi lleihau ers inni ddechrau gweld marwolaethau COVID yn rhai o'n hysbytai cymunedol yn hytrach na'n hysbytai cyffredinol? Credaf efallai fod yr Aelodau’n ymwybodol o'r marwolaethau yn Ysbyty Cymunedol Maesteg, sy'n amlwg mewn rhan wahanol o fy rhanbarth.

Iawn. Felly, gallaf ddweud, o ran y cynnydd mewn gweithgarwch cleifion allanol, o fis Ebrill, pan wnaethom y dewis wrth gws—sef y dewis cywir yn fy marn i—i ddod â llawer o weithgarwch yn ein system gofal iechyd i ben, a gofal dewisol a chleifion allanol yn enwedig, cafodd llawer o'r rheini eu gohirio i roi amser inni baratoi ar gyfer y don roeddem yn gwybod ei bod ar ddod, ac yna cawsom—. Dewisodd llawer o aelodau o'r cyhoedd beidio â chael triniaethau hefyd, hyd yn oed mewn gwasanaethau hanfodol. Felly, mae gennym ôl-groniad mawr a gostyngiad sylweddol iawn mewn gweithgarwch. Rhwng mis Ebrill a mis Medi, mae gweithgarwch dewisol ym mae Abertawe wedi cynyddu 147 y cant, a bu cynnydd o 60 y cant mewn cleifion allanol dros yr un cyfnod. Rydym bellach yn gweld gostyngiad mewn peth o'r gweithgarwch hwnnw, oherwydd y don ychwanegol o gleifion COVID sy’n dod i mewn i'n hysbytai.

Ac mae hynny, unwaith eto, yn rhan o'r pwynt roeddwn yn ceisio'i wneud wrth ateb y cwestiwn cyntaf gan Dr Lloyd, sef y ffaith, wrth inni weld mwy o’r coronafeirws yn ein cymunedau, wrth inni weld mwy o welyau yn cael eu llenwi â chleifion COVID, y bydd hynny’n effeithio ar y gweithgarwch arall y gallwn ei gyflawni, a dyna pam fod y neges i’r cyhoedd mor bwysig, wrth inni edrych tuag at ddiwedd y cyfnod atal byr, i beidio â cholli’r hyn rydym wedi’i ennill drwy ein gwaith caled. Oherwydd hyd yn oed pe baem yn mynd drwy'r gaeaf hwn heb fod angen cyfnod atal byr arall arnom, gwyddom y bydd her fawr yn ein hwynebu yn y dyfodol o ran mynd i’r afael â'r ôl-groniad. Felly, oes, mae'n rhaid inni wneud dewisiadau ynglŷn â dod â rhai mathau o weithgarwch dewisol a chleifion allanol i ben er mwyn ymdrin â’n cleifion COVID. Yr hyn nad ydym am ei wneud yw gweld hynny'n diflannu'n gyfan gwbl, gan y byddai hynny ynddo'i hun yn peri niwed gwirioneddol i bobl rydych chi a minnau'n eu cynrychioli, ac eraill, ledled ein gwlad.

13:35

Weinidog, gyda Bae Abertawe yn dal i orfod rhoi mesurau rheoli heintiau ar waith yn Ysbyty Treforys, bydd nifer y bobl sy'n aros am driniaeth yn parhau i gynyddu, gan waethygu sefyllfa sydd eisoes yn enbyd yng nghyswllt amseroedd aros gormodol am driniaeth. Cyn y pandemig, roedd bron i 6,500 o bobl eisoes yn aros dros 36 wythnos am driniaeth. Felly, gyda thriniaethau cyffredin yn cael eu gohirio yn ystod y pandemig, mae'r nifer honno wedi cynyddu’n sylweddol. Weinidog, a fyddwch yn recriwtio meddygon, nyrsys a staff ychwanegol er mwyn mynd i'r afael â'r ôl-groniad?

Wel, roedd Dr Lloyd yn llygad ei le yn nodi’r her o ran y cynnydd yn nifer y bobl sy'n aros, ac rydym yn cydnabod bod hynny o ganlyniad uniongyrchol i'r camau rydym wedi gorfod eu cymryd i gadw pobl yn fyw yn ystod y pandemig. Ac mae'r cydbwysedd anodd hwnnw o ran y dewisiadau a wnawn a'r mathau gwahanol o niwed sy'n cael ei achosi yn cael cryn dipyn o ystyriaeth gennyf fi a chyd-Weinidogion eraill ym mhob un o'r dewisiadau a wnawn. Rwyf hefyd wedi dweud o'r blaen y bydd angen inni ofalu am ein staff, nid yn unig drwy gydol gweddill y pandemig hwn, ond yn y dyfodol, gan fod hyn yn cael effaith real iawn ar ein staff o ran iechyd meddwl, oherwydd y driniaeth y maent wedi gorfod ei darparu a'r amgylchiadau y maent wedi gorfod gwneud hynny ynddynt er mwyn cadw ein pobl yn fyw ac yn iach. Felly, yn y dyfodol, credaf y byddwn yn gweld cwymp yn niferoedd staff wrth inni orfod mynd i’r afael â rhai o'r heriau mwy hirdymor a fydd yn codi yn sgil hynny, a dyna pam fod y dewisiadau buddsoddi rydym eisoes wedi'u gwneud mor bwysig, yn ein niferoedd hyfforddi ac yn y cynnydd rydym wedi'i wneud, er enghraifft, wrth recriwtio mwy o bobl i ymarfer meddygol a gofal eilaidd.

Felly, byddwn yn ceisio sicrhau cymaint o gyfleoedd a phosibl i recriwtio ac i gadw mwy o staff, ond ni ddylem anghofio bod niferoedd sylweddol o weithlu'r dyfodol yma yn barod. Mae'r holl bobl a fydd yn gwasanaethu ein cymunedau yn y gwasanaeth iechyd gwladol am y pum mlynedd nesaf yma yn barod fwy neu lai. Felly, byddwn yn gofalu am ein staff ar gyfer y dyfodol, pan fyddant yn ymuno â'r gwasanaeth iechyd gwladol, ac yn hollbwysig, byddwn yn gofalu am ein holl staff mewn gofal sylfaenol a gofal eilaidd sydd yma eisoes yn gwasanaethu pob un ohonom.

Weinidog, rydych wedi tynnu sylw, yn gwbl gywir, at yr heriau sy’n wynebu’r bwrdd iechyd, a byddwn wrth fy modd yn gweld ysbyty COVID-ysgafn, ond ni allwn warantu y byddai unrhyw safle byth yn rhydd o COVID, gan fod hynny’n un o’r heriau sy’n ein hwynebu. Mae llawer o etholwyr wedi cysylltu â mi gan ddweud eu bod wedi cael eu hatgyfeirio fel claf brys, cyn y pandemig, ac er ichi nodi yn eich ateb cyntaf i Dai Lloyd eu bod yn dweud wrthych y byddai achosion yn cael eu blaenoriaethu, mae’n amlwg fod rhywbeth yn mynd o'i le gyda'r system pan fydd cleifion sy'n ceisio gofal brys ac sydd wedi eu hatgyfeirio fel cleifion brys yn dal i aros. Nawr, rwyf wedi bod mewn cysylltiad â'r bwrdd iechyd mewn perthynas ag achosion penodol, ond a wnewch chi edrych ar hyn a gofyn i'ch swyddogion siarad â'r byrddau iechyd i sicrhau bod achosion yn cael eu blaenoriaethu ar sail angen clinigol, yn hytrach na bod rhai pobl ddim yn cael eu gadael drwy'r system am nad ydynt yn gweiddi’n ddigon uchel?

Wel, yn sicr, angen clinigol yw’r hyn a ddylai bennu sut y caiff pobl eu blaenoriaethu bob amser, yn enwedig felly ar hyn o bryd, gan y gwyddom y bydd rhai pobl wedi aros am fwy o amser gan fod gwasanaethau wedi'u gohirio, a bydd eraill wedi optio allan o'r gwasanaeth. Ond mewn gwirionedd, i rai o'r bobl hynny, bydd eu hanghenion hyd yn oed yn fwy erbyn hyn. Felly, ydy, mae honno'n neges glir iawn gan y Llywodraeth a chan brif weithredwr GIG Cymru i'n system gyfan. Os oes gan yr Aelod achosion penodol, lle mae'n poeni efallai nad yw'r blaenoriaethu clinigol hwnnw wedi digwydd, yn amlwg, gwn y bydd yn codi hynny gyda'r bwrdd iechyd yn gyntaf, ond mae croeso iddo ysgrifennu ataf os yw’n awyddus i faterion gael eu hymchwilio ymhellach hefyd. Ond mae’r neges yn glir iawn: blaenoriaethu clinigol i bawb sy'n aros yw’r union beth y dylai pob rhan o'n gwasanaeth iechyd fod yn ei wneud.

13:40
Y Gwasanaeth Iechyd yn Sir Benfro

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau uniongyrchol Llywodraeth Cymru ar gyfer y gwasanaeth iechyd yn sir Benfro? OQ55779

Gwnaf. Y flaenoriaeth i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw eu hymateb i bandemig COVID-19 sy'n dal i fynd rhagddo. Mae'r bwrdd iechyd yn cynllunio er mwyn parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol ac allweddol ochr yn ochr â gofalu am gleifion yr effeithiwyd arnynt gan COVID-19, ac i weithio tuag at ddarparu gwasanaethau mwy rheolaidd lle mae'n ddiogel gwneud hynny.

Diolch am eich ymateb, Weinidog. Wrth gwrs, mae parhau i gael mynediad at driniaethau a gwasanaethau cyn gynted â phosibl yn flaenoriaeth hollbwysig i bobl sy'n byw yn Sir Benfro. Mae Coleg Brenhinol y Llawfeddygon wedi ailadrodd yr alwad honno, gan ddweud bod cleifion sydd wir angen eu llawdriniaethau yn ganolog i hyn i gyd. Mae llawer ohonynt mewn poen difrifol, gyda'u cyflyrau'n dirywio wrth iddynt aros, ac felly mae'n hanfodol bwysig fod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei hamseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth. Weinidog, a ydych yn cytuno â Choleg Brenhinol y Llawfeddygon, ac os felly, pryd y bydd Llywodraeth Cymru yn dechrau cyhoeddi’r amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth diweddaraf, fel y gall byrddau iechyd, fel Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ddefnyddio'r wybodaeth honno i gynllunio yn unol â hynny?

Ie, rwyf eisoes wedi nodi'n gyhoeddus y byddwn yn cyhoeddi'r data ehangach hwnnw ar ystadegau'r GIG, gan gynnwys amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, y mis hwn. Felly, ar y diwrnod ystadegau arferol y byddem fel arfer yn cyhoeddi pethau ym mis Tachwedd, byddwn yn gwneud hynny ar draws yr ystod eang o feysydd, o ofal heb ei drefnu i wasanaethau canser, i amseroedd aros arferol rhwng atgyfeirio a thriniaeth. Felly, gallwch ddisgwyl gweld hynny yn unol â'r ymrwymiad rwyf wedi'i wneud eisoes.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarywr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf—Andrew R.T. Davies. 

Diolch, Lywydd. Weinidog, yn ôl Macmillan, gallai bron i 3,000 o bobl yng Nghymru fod yn byw gyda chanser na wnaed diagnosis ohono o ganlyniad i’r pandemig. Beth yw eich cynllun i fynd i'r afael â'r storm ddieflig hon sydd ar y ffordd i'r GIG yng Nghymru?

Rydym yn gweithio gyda'n clinigwyr a'n gwasanaethau i ailgychwyn ystod o wasanaethau canser. Fe fyddwch yn ymwybodol ein bod wedi ailgychwyn gwasanaethau sgrinio. Fe fyddwch yn ymwybodol fod atgyfeiriadau canser yn ôl i fyny at y lefelau arferol. Yr heriau i ni yw ein bod bellach yn gweld mwy o bobl yn mynd at feddyg hyd yn oed yn hwyrach nag o'r blaen, a chyn y pandemig, rhan o’n pryder oedd bod pobl, yn enwedig yn ein cymunedau tlotach, yn fwy tebygol o fynd at feddyg gyda symptomau canser yn hwyrach, ac o fod angen opsiynau triniaeth mwy radical, ac yn llai tebygol o gael canlyniadau cadarnhaol.

Pan fyddwn yn cyhoeddi'r wybodaeth rwyf wedi nodi y byddwn yn ei chyhoeddi, byddwn yn parhau i gyhoeddi, er enghraifft, y llwybr canser sengl rydym yn ei gyflwyno, sef yr unig fesur y byddwn yn ei ddefnyddio yn y flwyddyn newydd, yn hytrach na'r mesurau hŷn a llai cywir sydd gennym ar hyn o bryd. A bydd hynny'n rhoi arfarniad gonest i bobl o’n sefyllfa ar hyn o bryd, ac yn wir, gan fod angen i ni gynllunio ar gyfer ailgychwyn gwasanaethau ar ôl y pandemig. A’r hyn a fydd yn allweddol i'r hyn rydym yn ei ddweud yma heddiw, a bob dydd wrth i ni ddod yn ôl at hyn, yw’r angen i ystyried sut mae pob un ohonom yn ymddwyn er mwyn lleihau niwed o ganlyniad i’r coronafeirws a chydnabod, os bydd y coronafeirws yn mynd allan o reolaeth unwaith eto, y byddwn yn gweld effaith uniongyrchol ar ofal nad yw'n gysylltiedig â COVID, a bydd hynny'n amlwg yn effeithio ar wasanaethau canser, yn union fel sy’n digwydd dros y ffin hefyd, mae arnaf ofn.

Weinidog, ers dechrau'r pandemig yng Nghymru mae marwolaethau yn y cartref o achos dementia a chlefyd Alzheimer ymhlith menywod wedi cynyddu 92 y cant yn erbyn y cyfartaledd pum mlynedd. Mae marwolaethau yn y cartref o achos clefyd y galon ymhlith dynion yng Nghymru wedi cynyddu 22 y cant uwchlaw'r cyfartaledd pum mlynedd. Roedd y rhan fwyaf o farwolaethau ychwanegol yn y cartref yn farwolaethau nad oeddent yn gysylltiedig â COVID-19. Beth yw eich cynllun i fynd i'r afael â'r marwolaethau ychwanegol hyn?

Wel, fel y gŵyr yr Aelod, cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol eu hadroddiad wythnosol diweddaraf yr wythnos diwethaf, ac mae'n nodi bod y marwolaethau ychwanegol ym mhob gwlad yn y DU, ond yn sicr y manylion am Gymru a Lloegr, yn cyfateb yn eithaf taclus i nifer y marwolaethau a welwn sy'n gysylltiedig â COVID. Ac felly, mae'n dangos yr effaith sylweddol y mae COVID yn ei chael ar bob maes. Felly, mae ymdrin â'r pandemig COVID yn hynod bwysig ar gyfer rheoli marwolaethau ychwanegol ym mhob maes.

Unwaith eto, fel y gŵyr yr Aelod, mae gennym sylfaen gofal critigol o 152 o welyau. Cleifion coronafeirws yw oddeutu un rhan o dair o'n capasiti presennol, ac rydym dros hwnnw eisoes. Nawr, golyga hynny ein bod eisoes yn gweld nifer uchel o bobl ag achosion nad ydynt yn gysylltiedig â COVID. Rydym yn awyddus i gynnal y gweithgarwch hwnnw drwy'r gaeaf, er mwyn sicrhau bod y dewisiadau angenrheidiol sy'n rhaid inni eu gwneud i gadw rheolaeth ar y pandemig yn peri cyn lleied o niwed â phosibl. Ac unwaith eto, rwyf am apelio ar bawb ym mhob rhan o Gymru i barhau i feddwl am yr hyn y dylem ei wneud i leihau niwed yn sgil COVID, yn niwed uniongyrchol yn ogystal â'r niwed anuniongyrchol y bydd COVID yn ei achosi.

13:45

Weinidog, yn 2019 cyflawnodd GIG Cymru 35,700 o lawdriniaethau orthopedig. Mae data hyd at ddiwedd mis Awst yn dangos mai ychydig dros 8,000 o lawdriniaethau yn unig a gyflawnwyd yng Nghymru. Ar yr un pryd y llynedd, roedd y GIG yng Nghymru wedi cwblhau 24,000 o lawdriniaethau. Beth yw eich cynllun i fynd i'r afael â'r bom iechyd cyhoeddus hwn a fydd yn dod i chwalu’r GIG?

Fel rwyf wedi nodi, mae'n rhaid inni fynd i’r afael â phandemig y coronafeirws, gan y bydd peidio â mynd i’r afael ag ef, peidio â chymryd camau effeithiol, yn tanseilio ein gallu i drin pobl â chyflyrau iechyd nad ydynt yn gysylltiedig â COVID yn effeithiol. Y cynllun yw sicrhau bod gennym fframwaith gweithredu sy'n ein galluogi i barhau i drin cleifion nad ydynt yn gleifion COVID. Nid wyf am weld ein gwasanaeth iechyd gwladol yn cael ei droi’n wasanaeth COVID a dim byd arall o ran gweithgarwch ysbytai. Byddai hynny'n dangos bod ein system ar fin cael ei gorlethu, a gwyddom y byddai hynny'n arwain at niwed gwirioneddol i bobl ym mhob un o'r cymunedau y mae'n fraint gennym eu cynrychioli yn Senedd Cymru.

Mae'r dyfodol yn ymwneud â chynllun adferiad y dyfodol, felly mae'n ddull deuol o weithredu: rheoli'r sefyllfa nawr, cynnal gweithgarwch nad yw'n gysylltiedig â COVID, fel y mae ein fframwaith gweithredu yn nodi, a bod yn awyddus i barhau i gynyddu lefel y gweithgarwch nad yw'n gysylltiedig â COVID, os oes modd, ond yn sicr, ceisio amddiffyn y gweithgarwch rydym wedi'i ailgychwyn. Ac yna, pan fydd y pandemig ar ben, bydd angen inni allu cwblhau'r cynllun y mae gwaith yn mynd rhagddo arno eisoes i wella o'r sefyllfa rydym ynddi ym mhob maes gweithgarwch sydd wedi bod o dan bwysau eithriadol yn y cyfnod eithriadol hwn rydym yn byw drwyddo.

Diolch yn fawr iawn. Yn y datganiad ysgrifenedig heddiw, Weinidog, dywedwch y bydd profion i staff cartrefi gofal asymptomatig bellach yn cael eu cynnal drwy borth sefydliadau’r DU a’r labordai goleudy, yn hytrach na chaniatáu profion drwy labordai Iechyd Cyhoeddus Cymru. O ystyried y problemau gyda'r labordai goleudy, bydd hwnnw’n benderfyniad siomedig a braidd yn rhyfedd i lawer o bobl. Nid ydych hyd yn oed yn dweud bod y problemau gyda’r labordai goleudy wedi'u datrys eto. Dywed eich datganiad fod y materion yn cael sylw. A ydych yn cydnabod eich bod mewn perygl o danseilio hyder yn y system brofi i sector y gŵyr pob un ohonom ei bod yn dal i fod yn fregus tu hwnt?

Rwyf wedi rhoi ystyriaeth ddifrifol i'r dystiolaeth o'r sector cyfan—gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, fel darparwyr a chomisiynwyr, yn ogystal â’r darparwyr eu hunain. Rydym wedi ymgysylltu â chynrychiolwyr undebau llafur hefyd. Felly, mae hwn yn safbwynt y daethpwyd iddo ar ôl gweithio gyda'r sector.

Rydym yn agosáu at sefyllfa lle mae labordai goleudy, o ran eu gwaith mewn perthynas â chartrefi gofal, yn cyflymu’r broses. Mae heriau mwy yn bodoli o hyd mewn perthynas â chynnal profion personol. Rydym wedi gweld rhywfaint o welliant; rydym am weld hynny’n gwella ymhellach. Ac mae hyn yn darparu cysondeb o ran y ddarpariaeth, gan fy mod yn llwyr ddisgwyl y bydd partneriaid lleol, wrth inni weld cyfraddau uchel ar hyn o bryd, yn awyddus i newid i’r profion wythnosol mwy rheolaidd yn hytrach na’r profion bob pythefnos roeddem yn gallu symud atynt pan oedd gennym gyfraddau achosion a throsglwyddo isel yn yr haf. Golyga hynny wedyn y gellir defnyddio capasiti Iechyd Cyhoeddus Cymru i gefnogi achosion o drosglwyddiad cymunedol, gan y gwyddom eu bod wedi cynyddu a gwyddom ein bod yn debygol o orfod ymdrin â hwy wrth inni fynd drwy'r gaeaf.

Hoffwn atgoffa pob Aelod ein bod mewn sefyllfa lle mae gennym raglen ar y cyd gyda phrofion Iechyd Cyhoeddus Cymru a seilwaith sylweddol wedi'i greu drwy raglen y telir amdani ac a arweinir gan y DU. Nid ydym mewn sefyllfa i optio allan o'r rhaglen honno a darparu capasiti yn lle’r holl gapasiti hwnnw ein hunain. Mae'n ymwneud ag arian, mae'n ymwneud ag offer, mae'n ymwneud â phobl, mae'n ymwneud â’n gallu i ddarparu system a fydd yn gweithio mor dda â phosibl i bawb ohonom. Felly, nid wyf yn hunanfodlon ynghylch heriau yn rhaglen y labordai goleudy, ond rwy'n cydnabod ac yn credu mai dyma'r dewis iawn i'w wneud er mwyn darparu rhywfaint o sicrwydd. Ac yn wir, daw hyn yn sgil darlun sy'n gwella o ran y ffordd y mae’r labordai goleudy yn ymdrin â phrofion mewn cartrefi gofal.

Rydych yn sôn am wella, ac am symud at sefyllfa lle gallant ddarparu gwasanaeth addas, ond byddai'n well gennyf aros hyd nes y gallant brofi y gallant ddarparu'r gwasanaeth sydd ei angen arnom. Ac nid wyf yn dweud na ddylid defnyddio’r labordai goleudy o gwbl—credaf y gall y labordai goleudy fod yn hynod bwysig ac y byddant yn hynod bwysig—ond does bosibl na ddylai fod gennym yr un faint o reolaeth dros yr hyn sydd, o bosibl, o dan reolaeth Llywodraeth Cymru.

Gwyddom o atebion i gwestiynau ysgrifenedig a gyflwynais yn ystod yr wythnosau diwethaf mai eich polisi yw gadael pethau i Lywodraeth y DU i raddau helaeth o ran brechu hefyd. Ceir optimistiaeth gynyddol ynghylch y gobaith y bydd brechiad coronafeirws mawr ei angen ar gael yn y dyfodol agos. A allwch ddweud wrthyf beth yw eich syniadau diweddaraf ynglŷn â hyn, a beth fydd rôl Llywodraeth Cymru wrth gaffael a chynnal rhaglen frechu yng Nghymru?

13:50

Credaf fod dweud ein bod yn gadael pethau i Lywodraeth y DU yn gamarweiniol braidd o ran y ffordd y mae'r system yn gweithio. Mae un neu ddau o bethau i sôn amdanynt o ran eglurder. Felly, y cyntaf yw bod Llywodraeth y DU, fel y mae’n ei wneud gydag ystod o raglenni eraill, gan gynnwys y ffliw tymhorol er enghraifft, yn caffael y brechlyn ar ran y DU gyfan. Yna, rydym yn cymryd ein cyfran o hynny yn ôl poblogaeth. Felly, byddwn yn cael y brechlynnau sydd ar gael pan fyddant ar gael, ar yr un pryd ac ar yr un gyfradd briodol, os mynnwch, â phob rhan arall o'r DU.

O ran y cyngor a gawn ynglŷn â sut i gyflenwi'r brechlyn, mae gennym fecanwaith ledled y DU a fydd yn rhoi cyngor ar frechiadau, ar gymeradwyaeth, ac yn benodol, y pwynt ynghylch blaenoriaethu pobl. Oherwydd pryd bynnag y bydd brechlyn ar gael, fel y dywedodd y Prif Weinidog ddoe, bydd angen i ni ystyried sut rydym yn ei ddarparu i'r boblogaeth fwyaf agored i niwed yn gyntaf—y bobl a fyddai'n cael y budd mwyaf. Serch hynny, bydd hynny’n amodol ar y cafeat pwysig fod angen inni ddeall priodoleddau'r brechlyn hwnnw. Efallai y bydd rhai brechlynnau’n fwy neu'n llai effeithiol i bobl â gwahanol gyflyrau iechyd, ystodau oedran, ac mae angen inni sicrhau bod y brechlyn yn effeithiol i’r grŵp o bobl rydym yn bwriadu ei gynnig iddynt.

Rydym eisoes yn cynllunio ein rhaglen ein hunain ar gyfer sut y byddem yn cyflwyno rhaglen frechu yma yng Nghymru, a phe bai gennym frechlyn cynnar ar gael cyn diwedd y flwyddyn galendr, mae ein cynlluniau mewn sefyllfa i allu rhoi hynny ar waith ar gyfer y grŵp cyfyngedig o bobl y credwn y gallai’r brechlyn fod ar gael ar eu cyfer. Felly mae hyn yn ymwneud â chynllunio, gallu ymdopi â brechlyn cynnar, os cawn un, yn ogystal ag ymdopi â'r posibilrwydd mwy realistig y bydd nifer fwy o frechlynnau ar gael i bob gwlad yn y DU ar yr un pryd ar ryw adeg yn y flwyddyn newydd. Ond ni allaf roi'r math o sicrwydd i bobl yr hoffent hwy a minnau ei gael ynghylch pryd y bydd y brechlynnau hynny ar gael.

Rwy’n edmygu eich ymddiriedaeth yn Llywodraeth y DU. Fy ofn i, fel gyda phrofi a gwahanol elfennau eraill o'r hyn rydym wedi’i weld dros y saith neu wyth mis diwethaf, gan gynnwys cyfarpar diogelu personol ac ati, yw eich bod yn ofni cymryd cymaint o reolaeth ag y gallech. Rwyf wedi eich canmol yn y gorffennol, a byddaf yn gwneud hynny eto, gan ddweud bod Llywodraeth Cymru, mewn sawl ffordd, wedi bod ar ei gorau pan mae hi wedi penderfynu, 'Gwrandewch, ar gyfer hyn, mae angen inni wneud pethau'n iawn drwy wneud pethau ein hunain', gyda'r elfennau priodol a'r lefelau priodol o gydweithredu a rhannu syniadau, ac ati. Nawr, drwy beidio â bwrw iddi hyd eithaf eich gallu, mae perygl y gallai Cymru fod mewn sefyllfa lle na allech fwrw ymlaen â rhaglen mor gyflym â rhannau eraill o'r DU. Roedd yn dda darllen ddoe yn y cylchgrawn meddygon teulu, Pulse, er enghraifft, am gynlluniau ar gyfer ei gyflwyno yn Lloegr cyn y Nadolig, a byddai hynny’n wych. A chan fod ymddiriedaeth—a dof i ben gyda hyn—mor hanfodol i annog pobl i gael y brechlyn, gyda phobl yn ymddiried i raddau mwy yn Llywodraeth Cymru nag yn Llywodraeth y DU yn y mater hwn—gallech ddadlau nad yw hynny'n dweud llawer—oni fydd strategaeth a chyfathrebu clir ac eglur iawn gan Lywodraeth Cymru yn arf gwerthfawr wrth hybu ymddiriedaeth ac annog pobl i gael y brechlyn, fel y bydd angen inni ei wneud dros y misoedd nesaf?

Mae dau beth y byddwn yn eu dweud mewn ymateb i hynny. Y cyntaf yw ein bod yn defnyddio'r un dull â phob gwlad yn y DU o ran caffael a chyflenwi brechlyn. Nid oes unrhyw beth yn anarferol yn hynny. Ac a dweud y gwir, er y gallaf ac y byddaf yn parhau, heb os, i fod yn feirniadol o Lywodraeth y DU lle rwy'n anghytuno â hwy, ar fater caffael a chyflenwi brechlynnau, ni chredaf fod sail i awgrymu y byddai Llywodraeth y DU rywsut yn ffafrio un rhan o'r DU dros ran arall. Dyma pam nad Llywodraeth Lafur Cymru yn unig sy’n rhan o raglen gaffael ar gyfer y DU gyfan; dyna pam fod Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, dan arweiniad cyfuniad o unoliaethwyr a gweriniaethwyr, a Llywodraeth genedlaetholgar yr Alban hefyd yn rhan o'r un trefniadau ar gyfer caffael a chyflenwi brechlyn.

Lle pob un o'r pedair gwlad yw rhoi’r trefniadau ar waith ar gyfer darparu’r brechlyn hwnnw. Ac fel y dywedais, mae gennym gynlluniau'n cael eu datblygu a’u llunio yma eisoes ar gyfer dosbarthu brechlyn, a byddai hynny'n cynnwys cyflwyno rhaglen frechu yn ystod y flwyddyn galendr hon, o bosibl, os bydd brechlyn ar gael. Ac os ydym am wneud hynny, ac os bydd gennym frechlyn ar gael i'n galluogi i wneud hynny, yn sicr, gallwch ddisgwyl y bydd y Llywodraeth a’n gwasanaeth iechyd gwladol yn cyfathrebu’n uniongyrchol ac yn glir ynghylch yr hyn rydym yn ei wneud a pham, pa grwpiau o'r cyhoedd rydym yn disgwyl iddynt gael budd o hynny, a sut rydym yn bwriadu cyflawni hynny mewn termau ymarferol. Mewn sawl ffordd, mae’r gwaith o gynnal ymgyrch y ffliw tymhorol yn rhagflaenydd defnyddiol i wneud hynny, ac rwy'n falch iawn o ddweud bod mwy o bobl wedi cael y brechlyn ffliw eleni nag ar yr adeg hon y llynedd, a dylai hynny ddarparu amddiffyniad i'r boblogaeth. Rwy'n mawr obeithio bod hyn yn un o effeithiau mwy hirdymor y pandemig hwn—y bydd mwy o bobl yn mynd ati i amddiffyn eu hunain rhag y ffliw tymhorol yn y dyfodol.

13:55
Brechlyn ar gyfer COVID-19

3. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog yn eu cael gyda swyddogion, gan gynnwys y rhai yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, ynghylch y cynnydd tuag at frechlyn ar gyfer COVID-19? OQ55789

Fel rwy'n siŵr y bydd wedi clywed, mae Llywodraeth y DU yn arwain y gwaith ar ariannu a chaffael brechlynnau ar gyfer pob gwlad yn y DU. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid allweddol, megis Iechyd Cyhoeddus Cymru, byrddau iechyd, ymddiriedolaethau ac awdurdodau lleol ar gynlluniau i ddosbarthu brechlyn pan fydd un ar gael.

Diolch, Weinidog iechyd. Adroddodd nifer o bapurau newydd yn ddiweddar y gallai staff y GIG ddechrau cael brechlyn ymhen ychydig wythnosau yn unig. Mae datblygu brechlyn yn amlwg yn allweddol i fynd i’r afael â'r pandemig dros y tymor canolig a'r tymor hwy, fel rydych wedi egluro o'r blaen. Yn amlwg, bydd cryn dipyn o alw am y brechlyn hwn pan fydd ar gael. A yw Llywodraeth Cymru wedi sefydlu rhestr o'r rheini a fydd yn cael y brechlyn yn gyntaf, fel meddygon, nyrsys ac athrawon? Credaf ei bod yn bwysig gwneud cynlluniau. Hefyd, os ydym am achub y blaen a sicrhau bod y brechlyn yn cyrraedd y rhai mwyaf agored i niwed cyn gynted â phosibl, pa gynlluniau rydych yn eu rhoi ar waith i gefnogi hynny, ac a yw eich swyddogion wedi trafod logisteg darparu'r brechlyn gydag ymarferwyr iechyd?

Felly, 'do' i'r pwynt olaf—do, wrth gwrs, cynhaliwyd sgyrsiau dan arweiniad adran y prif swyddog meddygol, fel y byddech yn ei ddisgwyl, gyda'r gwahanol rannau o'n gwasanaethau gofal iechyd ynglŷn â sut y byddai rhaglen frechu yn cael ei chyflwyno. O ran eich pwynt ynglŷn â blaenoriaethau, unwaith eto byddwn yn cael cyngor ar gyfer y DU gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ynghylch sut i flaenoriaethu grwpiau agored i niwed. Felly, ni fydd gennym grwpiau proffesiynol yn dadlau yn erbyn ei gilydd pam y dylent fod ar frig y rhestr o gymharu ag eraill; mae'n ymwneud â pha grwpiau agored i niwed yn ein cymdeithas sy'n debygol o gael y budd mwyaf, gan ystyried priodoleddau unrhyw frechlyn sy'n cael ei gymeradwyo ac ar gael i'w ddefnyddio yn y pen draw. Mae hynny'n bwysig iawn, oherwydd fel arall, yn fy marn i bydd unrhyw syniad mai’r llais uchaf a fydd yn cael ei glywed yn hytrach na'r tegwch a'r budd y bydd brechlyn yn ei ddarparu yn tanseilio'r ymddiriedaeth sy'n hanfodol ar gyfer ein staff a fydd yn cyflwyno'r rhaglen yn ogystal â’r cyhoedd y byddwn yn gofyn iddynt ddod i gael y brechlyn. Felly, credaf y gallwch fod yn hyderus, os a phan fydd brechlyn ar gael, y bydd gennym gynllun ar waith i’w ddarparu yma yng Nghymru, a byddwn yn glir, fel y dywedais wrth ateb Rhun ap Iorwerth yn gynharach, ynghylch y cyfathrebu ynglŷn â’r hyn rydym yn ei wneud a pham, a pha grwpiau rydym yn arbennig o awyddus i'w brechu yn gyntaf er mwyn rhoi'r gobaith gorau iddynt allu osgoi rhagor o niwed gan glefyd angheuol a heintus iawn.

COVID-19 mewn Ysbytai

4. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o nifer y bobl â COVID-19 mewn ysbytai yng Nghymru? OQ55796

Mae nifer y cleifion COVID-19 mewn ysbytai yn parhau i gynyddu yma yng Nghymru. Ar 3 Tachwedd, nifer y cleifion ag achosion sy'n gysylltiedig â COVID mewn gwelyau ysbyty oedd 1,344. Mae hynny 21 y cant yn uwch na'r un diwrnod yr wythnos diwethaf. Dyma'r nifer uchaf o gleifion ag achosion sy'n gysylltiedig â COVID mewn gwelyau ers 25 Ebrill, ac rydym yn agosáu at uchafbwynt mis Ebrill o ran defnydd gwelyau.

Diolch, Weinidog. Ddoe, rhoddodd Andrew Goodall rybudd llwm fod disgwyl i’r galw am welyau gofal critigol i bobl â'r coronafeirws gynyddu dros y dyddiau a’r wythnosau nesaf. Sut mae Llywodraeth Cymru yn paratoi ar gyfer y sefyllfa hon, ac yn hollbwysig, pa effaith ganlyniadol y gallai hyn ei chael ar feysydd gwasanaeth eraill yn ein hysbytai yng Nghymru?

Credaf fod hwnnw'n gwestiwn pwysig iawn, unwaith eto, i’n hatgoffa ni yn y Senedd, ond hefyd y cyhoedd rydym yn eu gwasanaethu, nad yw'r effaith yn ymwneud â niwed yn sgil COVID yn unig. Y rheswm pam y gwnaethom gyflwyno'r cyfnod atal byr oedd i atal y cynnydd mewn derbyniadau a'r cynnydd mewn niwed rydym yn ei weld ar hyn o bryd, a’r hyn roeddem yn meddwl y byddem yn ei weld pan wnaethom gyflwyno'r cyfnod atal byr. Ac mae hynny oherwydd, pan welwch y cyfraddau heintio’n cynyddu, mae bwlch rhwng yr heintiau hynny a phobl yn mynd i ysbytai. Dyma pam rwy’n bwriadu cyhoeddi'r data ar gyfraddau heintio ymhlith pobl dros 60 oed hefyd—mae hwnnw'n ddangosydd hyd yn oed yn fwy dibynadwy o’r niwed rydym yn debygol o'i weld mewn ysbytai, a'r niwed y byddwn yn ei weld yn y pen draw yn y ffigurau marwolaethau hefyd mae arnaf ofn.

Y capasiti gofal critigol—mae oddeutu un rhan o dair o'n gwelyau gofal critigol bellach yn cael eu defnyddio i drin cleifion COVID. Ac mae cleifion COVID yn treulio cyfnod hirach o amser yn y gwelyau gofal critigol hynny, felly nid rhif yn unig mohono, mae'n ffaith eu bod yn debygol o fod yno am fwy o amser, ac mae hynny'n effeithio ar ein gallu i ymgymryd â meysydd gwasanaeth eraill, oherwydd ar yr adeg hon o'r flwyddyn, rydym yn dod i arfer â'r ffaith y byddai gofal critigol fel arfer yn eithaf llawn oherwydd ein bod yn gweld mwy o bobl sy'n ddifrifol wael ar yr adeg hon o'r flwyddyn. Ac fel y dywedais yn gynharach, bydd yn amharu ar ein gallu i drin cleifion nad ydynt yn dioddef o COVID.

Er ein bod yn agor ein hysbytai maes ar hyn o bryd, y newyddion cadarnhaol fodd bynnag yw ein bod yn gweld pobl yn llifo i mewn ac allan ohonynt. Ar hyn o bryd, mae oddeutu tri dwsin o bobl yn ysbyty maes Cwm Taf, Ysbyty’r Seren. Mae pobl yn mynd a dod o’r fan honno, a hoffwn dalu teyrnged i'r holl bobl sy'n trin pobl yn ein hysbytai prif ffrwd ac yn ein hysbytai maes. Mae'r siwrnai adfer ac adsefydlu yn aml yn dibynnu ar staff nyrsio a gweithio ar y cyd â therapyddion. Ac efallai ei bod yn briodol cydnabod ar y pwynt hwn ei bod yn Wythnos Therapi Galwedigaethol, er mwyn inni gydnabod y gwaith y maent yn ei wneud i'n cadw'n fyw ac yn iach, ac yn arbennig ar y daith i adfer ac adsefydlu.

14:00

Weinidog, gwrandewais ar eich ateb i Vikki Howells gyda diddordeb. Byddwch yn gwybod fy mod wedi mynegi fy mhryderon ynghylch cywirdeb a dibynadwyedd casglu data ar dderbyniadau i ysbytai oherwydd COVID sawl gwaith yn barod eleni, gan ei bod yn hanfodol i'n dealltwriaeth o'r clefyd ein bod yn deall pwy sydd â COVID ac yna’n marw o COVID wedi hynny, a phwy, yn anffodus, sy’n marw pan nad yw COVID yn brif achos marwolaeth.

Tybed a ydych yn gwneud—. Fe siaradoch â Vikki Howells yn gynharach ynglŷn â gwneud dadansoddiad ynghylch y mathau o bobl a allai gael COVID, ond a ydych yn dadansoddi pobl sydd wedi cael eu derbyn i'r ysbyty ac a yw hynny'n digwydd oherwydd COVID, neu a oedd yn digwydd bod arnynt pan ddaethant i mewn oherwydd eu bod wedi torri eu coes er enghraifft, neu am eu bod yn cael triniaeth canser? Ac wedi hynny, pan fydd rhywun yn marw, a ydych wedi meddwl ymhellach am alwadau Coleg Brenhinol y Patholegwyr am gynnal mwy o archwiliadau post-mortem fel y gallwn wirio'r ffigurau rhwng y rheini sy'n marw o COVID a'r rheini sy'n marw gyda COVID, gan fod hynny'n ystumio’r data yn aruthrol?

Mae'r rheini'n bryderon teg, ac a bod yn deg, mae'r Aelod wedi gofyn cwestiynau droeon yn y cyswllt hwn. Felly, pan fyddwn yn sôn am gleifion ag achosion sy'n gysylltiedig â COVID, rydym yn sôn am yr holl bobl y cadarnhawyd bod ganddynt COVID yn ogystal ag achosion lle ceir amheuaeth bod ganddynt COVID. Y rheswm am hynny yw ei fod yn newid y ffordd y mae angen i'r gwasanaeth iechyd drin y bobl hynny pan fyddant yn gwybod eu bod yn achos posibl. Mae hynny'n cael effaith ar nifer y staff ac ar yr offer y mae pobl yn ei ddefnyddio neu beidio.

Rydym yn trin pawb sy'n cael eu derbyn—rydym yn profi pawb sy'n cael eu derbyn, yn hytrach, ac rydym yn darganfod bod lefelau'r achosion positif ymhlith pobl sy'n cael eu derbyn yn cyd-fynd yn daclus iawn â chyfraddau canlyniadau positif mewn trosglwyddiad cymunedol. Felly, rydym yn gweld rhai pobl a chanddynt symptomau yn dod i mewn ac yn cael eu derbyn gan ein bod yn meddwl y gallai fod ganddynt COVID, ac rydym hefyd yn gweld pobl eraill yn profi'n bositif drwy’r rhaglen brofi honno pan fyddant yn cael eu derbyn.

Rydym hefyd yn gwneud peth gwaith—ac unwaith eto, mae gwaith y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn ddefnyddiol yn hyn o beth—ar ddeall nifer y bobl lle bo COVID yn brif achos, a'r rheini lle mae COVID yn achos isorweddol neu'n achos posibl. Rwy’n cydnabod yr awgrym gan Goleg Brenhinol y Patholegwyr a byddaf yn ymgynghori â'r prif swyddog meddygol yn ei gylch, nid o ran deall a yw'n rhywbeth defnyddiol i'w wneud, ond er mwyn deall gwir effaith hynny yn y ffordd y byddai ein staff yn mynd ati i ymgymryd â rhagor o weithgarwch o bosibl gan fod yn rhaid cydbwyso'r holl bethau hyn yn eu tro. Mae gennym syniad gwell o lawer bellach, diolch i raglen brofi fwy o lawer, o lefelau achosion yn y gymuned, y gallu i ddeall pwy sy'n dod i'n hysbytai a'n gallu i gynllunio a darparu gofal nad yw'n gysylltiedig â COVID hefyd. Yr hyn nad wyf yn dymuno’i wneud yw tanseilio ein dull o allu ymdrin â'r materion hynny drwy ymgymryd â maes gweithgarwch ychwanegol na fyddai'n sicrhau'r budd ehangach hwnnw, ac unwaith eto, mae'n enghraifft daclus arall o gydbwyso holl fuddion posibl unrhyw gamau gweithredu gyda'r niwed posibl.

Weinidog, ar ôl clywed yr hyn rydych wedi'i ddweud wrth eraill am ba mor anodd yw creu mannau sy'n rhydd o COVID neu ysbytai sy'n rhydd o COVID, rwyf wedi cael gohebiaeth yr wythnos hon gan etholwyr a oedd yn poeni am fynd i Ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli i gael triniaethau nad ydynt yn gysylltiedig â COVID gan eu bod yn poeni am y posibilrwydd o ddal COVID yno. Pa sicrwydd pellach y gallwch ei roi i'r cleifion hynny, gan weithio gyda'r bwrdd iechyd lleol, eu bod yn gallu cael y triniaethau hynny nad ydynt yn gysylltiedig â COVID mewn ffordd ddiogel? Oherwydd rwy’n cytuno’n gryf â'r hyn rydych wedi'i ddweud am ba mor bwysig yw hi fod pobl yn parhau i gael triniaethau nad ydynt yn gysylltiedig â COVID ar hyn o bryd.

14:05

Credaf fod dau bwynt i'w gwneud. Y cyntaf yw bod ein gwasanaeth iechyd bellach mewn sefyllfa wahanol i lle'r oedd ym mis Mawrth a mis Ebrill. Bellach gallwn brofi pawb sy'n dod i mewn, ni waeth beth yw'r rheswm, a gwneir hynny'n gyson ar draws y gwasanaeth, felly gall pobl fod yn dawel eu meddwl fod y gwiriad ychwanegol hwnnw'n cael ei wneud, a bod hyn oll yn ymwneud â lleihau'r risgiau, y ffordd y mae'r ddarpariaeth o gyfarpar diogelu personol yn gweithio bellach. Mae'r holl bethau gwahanol hyn a'r ffordd rydym wedi trefnu ein gwasanaeth i gael parthau sy'n rhydd o COVID, yn ogystal â mannau COVID positif a mannau lle ceir amheuaeth o COVID, i geisio cael y rhaniad hwnnw rhwng cleifion, ac yn wir, y ffordd rydym yn gobeithio cael rhaniad yn y ffordd y mae grwpiau o staff yn gweithio hefyd—. Felly, mae'r holl fesurau hynny'n cael eu rhoi ar waith i geisio lleihau'r risg o niwed i unrhyw un a ddaw i mewn i un o ysbytai’r GIG, neu'n wir i ofal sylfaenol; mae gofal sylfaenol wedi parhau i fod yn hynod o brysur drwy gydol y pandemig hefyd.

Yr ail bwynt hollbwysig y byddwn yn ei wneud—ac mae'n mynd yn ôl at sylwadau a wnaed yn gynharach yn y cwestiynau hyn—yw y byddai naill ai roi stop ar neu beidio ag ymgymryd â gweithgarwch nad yw'n gysylltiedig â COVID yn peri niwed gwirioneddol. Yn hanner cyntaf y pandemig, gwelsom gwymp sylweddol yn nifer y derbyniadau brys i'n hadrannau brys, a hefyd, yn weladwy iawn i mi, yn ogystal â'r effaith ar ofal canser, gyda phobl yn optio allan o hynny, gwelsom ostyngiad sylweddol yn nifer y derbyniadau brys ar gyfer achosion o strôc. Nawr, nid oherwydd bod y cyhoedd wedi dod yn llawer iachach dros nos y digwyddodd hynny; deilliai o'r ffaith bod pobl yn poeni cymaint am fynd i mewn i un o ysbytai’r GIG fel eu bod yn optio allan, a byddai hynny wedi golygu canlyniadau gwaeth i'r bobl hynny, gan gynnwys marwolaethau y gellid bod wedi eu hosgoi o bosibl. Felly, mae'n bwysig iawn fod pobl yn deall bod y GIG yn agored i fusnes. Mae yno i'ch gwasanaethu a'ch amddiffyn, ac rydym yn cymryd pob cam rhesymol i leihau'r risg—mor isel â phosibl—i amddiffyn pobl rhag niwed yn sgil COVID.

Iechyd y Cyhoedd

5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella iechyd y cyhoedd yng Nghanol De Cymru yn dilyn y pandemig COVID-19? OQ55781

Ceir ystod eang o raglenni iechyd cyhoeddus sydd wedi'u hen sefydlu. Mae hwn yn gyfnod digynsail, ac yn anffodus mae COVID-19 yn cael effaith anghymesur ar bobl hŷn, y rhai â chyflyrau iechyd sy’n bodoli eisoes, ac yn wir, ar bobl o gefndiroedd du ac Asiaidd. Mae diogelu ac amddiffyn y cyhoedd yn flaenoriaeth allweddol, ac wrth gwrs, cawn ein harwain gan gyngor meddygol a’r dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf.

Diolch am eich ymateb, Weinidog. A gaf fi wneud apêl ar sail iechyd ar ran campfeydd ar y cam hwn o'r argyfwng? Mae campfeydd yn hanfodol i iechyd corfforol a lles meddyliol llawer o bobl, felly mae achos cryf dros ddynodi campfeydd fel llefydd ar gyfer defnydd hanfodol, a byddwn yn annog eich Llywodraeth i gymryd y camau hynny. Yn ystod rhai cyfnodau o’r argyfwng diweddar, mae campfeydd wedi cael aros ar agor yng ngweddill y DU, ond yma yng Nghymru, fe’u gorfodwyd i gau, er eu bod yn cadw at reolau cadw pellter cymdeithasol. Gwn nad yw hynny'n wir ar hyn o bryd, ond mae'r dyfodol yn dal i fod yn ansicr iawn i'r rhan fwyaf o'n campfeydd yng Nghymru. Weinidog, os ceir cyfnod arall o gyfyngiadau symud yng Nghymru yn y dyfodol, a allech roi rhywfaint o ystyriaeth i'r syniad y dylid dynodi campfeydd yn llefydd ar gyfer defnydd hanfodol ar sail iechyd ac y dylid caniatáu iddynt aros ar agor?

Credaf fod un neu ddau o bwyntiau i'w gwneud mewn ymateb. Y cyntaf yw hwn: gyda'r cyfnod atal byr rydym yn mynd drwyddo, dylem atgoffa ein hunain (a) fod cynnydd yn yr achosion o'r coronafeirws wedi golygu bod angen cyfnod atal byr arnom er mwyn rhoi lle inni sicrhau nad ydym yn gorlethu ein GIG ac yn achosi niwed a marwolaethau diangen. Gwnaethom ddewis blaenoriaethu lles plant a phobl ifanc gan ein bod yn ymwybodol o’r effaith y mae cau ysgolion am gyfnod sylweddol yn ei chael ar iechyd meddwl plant a phobl ifanc yn y cyfnod hwn. Gwyddom hefyd fod hyn yn cael effaith sylweddol ar eu rhagolygon ar gyfer y dyfodol, ac mae’r effaith yn anghyson, gyda phlant o'n cefndiroedd lleiaf breintiedig yn wynebu’r effaith fwyaf yn sgil cau ysgolion. Ar ôl inni benderfynu cadw pob ysgol gynradd ar agor a sicrhau dysgu wyneb yn wyneb ar gyfer blynyddoedd 7 ac 8, roedd hynny'n golygu bod rhaid inni fod yn llawer llymach mewn perthynas â chau sefydliadau eraill i sicrhau bod y neges i aros gartref ac effaith y cyfnod atal byr mor effeithiol â phosibl. Dyna pam fod y cau wedi effeithio ar fanwerthu nad yw'n hanfodol, lletygarwch a champfeydd.

O ran symud ymlaen, gallwch weld bod Lloegr hefyd yn cau pob campfa gyda'u cyfyngiadau symud pedair wythnos hefyd, ond ar gyfer y dyfodol, yr hyn na allaf ei ddweud yw y byddwn yn bendant yn rhoi un math o fesur ar waith ai peidio. Rydym yn gobeithio cael set gyson o reolau cenedlaethol hyd at ddiwedd y flwyddyn, ac yna mae angen inni geisio ailgychwyn a deall y sefyllfa rydym ynddi. Ni fydd unrhyw gamau y bydd y Llywodraeth yn eu cymryd yn y dyfodol yn cael eu pennu ar sail dadleuon presennol, byddant yn ymwneud â'r dystiolaeth ar y pryd a dealltwriaeth o'r hyn y mae angen i bob un ohonom ei wneud. Felly, bydd y dystiolaeth yn parhau i lywio dull y Gweinidogion o weithredu, bydd y cynghorwyr yn ein cynghori, ac yn y pen draw, bydd yn rhaid i Weinidogion benderfynu a bod yn atebol i'r cyhoedd am y dewisiadau rydym yn eu gwneud i gadw pawb ohonom yn ddiogel ac i achub bywydau a bywoliaeth pobl.

14:10

Weinidog, pobl dros 50 oed yw'r grŵp sy'n wynebu'r perygl mwyaf, ac mae pwysigrwydd ymarfer corff i'r grŵp hwn o ran iechyd cyffredinol a chadw lefelau uchel o symudedd, sy'n aml yn dirywio gydag oedran, yn bwysig iawn i'ch system imiwnedd ac i'ch gallu i gael fitamin D. Fodd bynnag, credaf fod llawer o bobl weithiau'n eithaf ofnus ynglŷn â mynd allan, a phan gawn y neges hon i 'aros gartref', mae'n bwysig fod honno’n cael ei chydbwyso gyda’r angen i ymarfer corff yn rheolaidd a'r ymarfer corff gorau i bobl dros 50 oed yw cerdded yn rheolaidd. Ond o’r hyn a welaf y tu allan, rwy'n ofni mai dyna’r grŵp oedran sydd i'w weld leiaf y tu allan, ac rwy'n aelod o'r grŵp hwnnw bellach.

Diolch i'r Aelod. Mae hwnnw'n bwynt pwysig iawn. Mae effeithiolrwydd ein neges 'aros gartref' yn bwysig iawn, ond rydym wedi cydbwyso hynny drwy ddweud ein bod yn awyddus iawn i bobl allu ymarfer corff ac ymarfer corff yn ddiogel. Ac rydym wedi gweld ei bod yn bosibl mynd am dro, mynd ar eich beic a gwneud hynny gydag aelodau’ch cartref eich hun ar hyn o bryd. Ac rydym am weld hynny'n parhau, gan eich bod yn gwneud pwynt teg: gyda phob degawd rydym yn ei ychwanegu at ein bywydau, rydym yn dod yn fwy agored i niwed y coronafeirws. Ac felly, mae cadw'n iach a bod mor iach â phosibl yn gorfforol yn bwysig o ran yr ymateb posibl i'r feirws, ond hefyd mae'n hynod o bwysig ar gyfer iechyd meddwl a lles. Ac yn fwy cyffredinol, rydym yn dal i wneud gwaith ar ein rhaglen Pwysau Iach: Cymru Iach, ailddarganfod ac ailfeddwl am ein hopsiynau diweddaraf gyda deiet, ond gydag ymarfer corff hefyd, a sut rydym yn ei wneud yn beth normal sy'n hawdd i bobl ei wneud gyda gweithgarwch arferol, fel ein bod yn ei adeiladu yn ôl i mewn i'n bywydau. Ac mae hwnnw’n waith y bydd fy nau gyd-Weinidog, Dafydd Elis-Thomas ac Eluned Morgan yn ei arwain nawr, a chredaf y bydd realiti'r pandemig COVID wedi tynnu mwy o sylw at bwysigrwydd y gwaith hwnnw, yn hytrach na’i leihau. Ond ymyrraeth ddefnyddiol a phwysig iawn yn fy marn i gan David Melding yn ein hatgoffa am fanteision ymarfer corff.

Rhaglen Frechu COVID-19

6. Pa gynllunio y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gyflwyno rhaglen frechu COVID-19 ar draws Islwyn? OQ55806

Mae Llywodraeth Cymru’n gweithio ar sail Cymru gyfan gyda rhanddeiliaid allweddol, megis Iechyd Cyhoeddus Cymru, byrddau iechyd, gan gynnwys, wrth gwrs, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan sy'n gwasanaethu Islwyn, ymddiriedolaethau ac awdurdodau lleol ar gynlluniau i ddosbarthu brechlyn pan fydd un ar gael.

Diolch. Weinidog, gwyddom nad oes brechlyn ar gyfer COVID-19 ar hyn o bryd, ond ceir awgrymiadau cyson y gallem weld un neu fwy o frechlynnau COVID-19 cenhedlaeth gyntaf yn 2021. Mae Albert Bourla, prif weithredwr Pfizer, wedi dweud bod brechlyn yr Almaen ar y filltir olaf, a bod y cwmni fferyllol yn disgwyl canlyniadau o fewn ychydig wythnosau, a gwyddom fod cwmnïau fferyllol a chyffuriau yn dweud hyn. Nodir hefyd fod Llywodraeth y DU wedi prynu digon o ddosau ar gyfer 20 miliwn o bobl, wrth i frechlyn Rhydychen symud tuag at gamau olaf y treialon. Ond gwyddom hefyd na fydd brechlynnau cynnar yn ateb i bob dim. O gofio bod Llywodraeth y DU bellach wedi camu'n ôl o rai o brosesau profi cyffuriau arferol yr UE, sut mae Llywodraeth Cymru'n cymharu â gwledydd eraill y Deyrnas Unedig o ran sicrhau bod gan bobl Cymru hyder i gael brechlyn newydd a bod digon o weithwyr proffesiynol cymwys ar gael i'w weinyddu ac mewn digon o leoliadau?

Diolch. Credaf ei bod yn bwysig iawn atgoffa ein hunain na fydd brechlyn ynddo'i hun yn ateb i bob dim. Mae'n bwysig iawn nodi nad yw effeithiolrwydd ac effaith brechlyn yng ngham cyntaf y broses o’i gyflwyno yn rhywbeth y byddwn yn ei ddeall yn iawn hyd nes ei fod yn cael ei ddarparu ar sail poblogaeth ehangach. Dyna pam fod y treialon diogelwch ar gyfer brechlyn cyn ei gyflwyno mor bwysig, a cheir llawer o frechlynnau sy'n edrych yn addawol cyn cyrraedd y cam olaf, a ddim yn mynd ymlaen i gael eu defnyddio gan y boblogaeth yn y pen draw. Felly, mae'n galonogol ar y cyfan. Ceir llawer o frechlynnau mewn treialon sy'n addawol, ond ni ddylem ddisgwyl i bob un ohonynt gael eu darparu a bod yn llwyddiannus. Ni ddylem ddisgwyl i bob un ohonynt gael eu darparu a bod yn llwyddiannus yn y dyfodol agos iawn. Ond pan ddaw un ar gael, credaf y gall yr Aelod gael cysur o'r ffaith ein bod eisoes yn cynllunio sut i’w ddarparu, pa grwpiau o staff a fyddai’n ei ddarparu, sut byddem yn gwneud hynny mewn gwahanol leoliadau, gyda gwahanol grwpiau proffesiynol yn gweithio gyda'i gilydd. Ac mae hynny wedyn yn dod yn ôl at y pwynt ynglŷn â’r hyn rydym yn dewis ei wneud, gan ei bod yn annhebygol y bydd brechlyn yn cael ei ddarparu a fydd yn sicrhau amddiffyniad am oes. Mae gennym frechlyn ffliw tymhorol y gofynnir i bobl ei gymryd bob blwyddyn. Efallai y cawn rywbeth tebyg i hynny, neu gallai fod yn rhywbeth sy'n effeithiol am gyfnod byrrach hyd yn oed. Bydd angen inni ddeall hynny i gyd wrth inni gynllunio darpariaeth unrhyw raglen frechu.

Felly, bydd y negeseuon hanfodol am ein hymddygiad ac am y dewisiadau a wnawn yn dal i fod yn wahanol i'r ffordd roeddem yn byw ein bywydau cyn y pandemig am beth amser i ddod. Bydd y coronafeirws yn dal i fod gyda ni am gryn dipyn o amser, hyd yn oed gyda brechlyn cam cyntaf llwyddiannus. Felly, unwaith eto, bydd y dewisiadau o ran yr hyn y dylai pob un ohonom ei wneud yn bwysig iawn, nid yn unig ar hyn o bryd a dros y misoedd nesaf, ond am gyfnod hirach o amser hefyd.

14:15
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am dryloywder o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? OQ55791

Rwy’n disgwyl i bob bwrdd iechyd yng Nghymru ymddwyn mewn ffordd agored a thryloyw gan gydbwyso eu rhwymedigaethau mewn perthynas â diogelu hawliau unigolion i breifatrwydd.

Diolch yn fawr iawn. Mae'r bwrdd ar hyn o bryd, fel y mae'r Gweinidog yn gwybod, yn apelio yn erbyn dyfarniad y Comisiynydd Gwybodaeth y dylid rhyddhau ar unwaith adroddiad Holden i broblemau yn ward Hergest yn Ysbyty Gwynedd. Dwi'n meddwl bod hynny yn adlewyrchu'n wael iawn ar y bwrdd, ac nid mater hanesyddol ydy hyn. Mae adroddiadau eraill wedi awgrymu bod problemau yn parhau—adolygiad o therapïau seicolegol y llynedd, er enghraifft, yn nodi problemau strwythurol systemig a diwylliannol dwfn, a, lle mae bywydau wedi cael eu colli, mae methiant i fod yn agored yn gwbl, gwbl annerbyniol.

Mewn ymateb i gais rhyddid gwybodaeth ryw bedair blynedd yn ôl, mi ddywedodd y bwrdd nad oedd yr un farwolaeth wedi digwydd yn Hergest rhwng 2011 a 2016, ond mae adroddiadau'r crwner yn awgrymu fel arall, efo sawl marwolaeth naill ai ar yr uned neu o ganlyniad i bobl yn methu â chael triniaeth. Rwy'n gwybod am, beth bynnag, dri yn Ynys Môn.

Dwi'n ymwybodol, wrth gwrs, fod yna Weinidog iechyd meddwl erbyn hyn, ond cwestiwn am dryloywder ydy hyn; mae'n mynd y tu hwnt i iechyd meddwl. Dwi wedi codi consern tebyg am y ffordd y mae ymchwiliad allanol i therapi iaith a lleferydd wedi cael ei handlo gan y bwrdd—adroddiad yn 2017, a hwnnw'n adroddiad sy'n cael ei gelu hefyd. A wnaiff y Gweinidog rŵan fynnu bod yr adroddiadau yna yn cael eu cyhoeddi a mynnu tryloywder llawn yn Betsi Cadwaladr, oherwydd mae cleifion a staff y gorffennol a'r presennol yn haeddu hynny?

Credaf ei bod yn bwysig deall bod proses barhaus yn mynd rhagddi. Mae'r bwrdd iechyd wedi apelio yn erbyn y penderfyniad i ryddhau'r adroddiad yn llawn, yn hytrach na'r crynodeb sydd eisoes wedi'i ddarparu ganddynt, gan gynnwys yr argymhellion sydd eisoes wedi'u cyhoeddi. Mae hynny ar y sail fod y bwrdd iechyd yn dymuno diogelu staff sydd wedi mynegi pryderon ac wedi cyfrannu at yr adroddiad.

Os caf gymryd cam yn ôl oddi wrth yr unigolion a meddwl yn fwy cyffredinol am fy mywyd blaenorol, pan oeddwn, fel cyfreithiwr cyflogaeth, yn edrych ar amrywiaeth o faterion ac yn meddwl am fuddiannau ein hundebau llafur a'r staff y maent yn eu cynrychioli, mae pob un ohonom yn dymuno cael proses lle mae pobl yn gwrando ar chwythwyr chwiban, lle caiff eu safbwyntiau eu parchu a lle caiff camau eu cymryd o ddifrif i ymchwilio i bryderon a godir ganddynt. Er mwyn rhoi hyder i bobl y gallent ac y dylent godi pryderon, mae diwylliant unrhyw sefydliad, gan gynnwys y gweithle neu'r gweithleoedd penodol y mae pobl yn gweithio ynddynt, yn rhan hynod bwysig o hynny.

Gwyddom fod rhai pobl yn ofni y bydd eu cwynion yn arwain at gymryd camau yn eu herbyn, ond mae'n ymwneud â’r ffordd y caiff enwau pobl eu datgelu ar sail ehangach hefyd. Mae'n bwysig fod chwythwyr chwiban sy’n dymuno codi cwynion neu bryderon yn anhysbys—y rheini sydd am gyfrannu at adroddiadau ond nad ydynt yn disgwyl i'w henwau ddod yn gyhoeddus—yn cael cyfle i wneud hynny fel ein bod yn dysgu oddi wrthynt go iawn ac yn deall beth mae pobl yn ei wneud yn eu gweithleoedd a'r pryderon sydd ganddynt.

Mater o daro cydbwysedd yw hyn. Ni chredaf fod yna ateb syml a chyflym—mai dim ond un ateb cywir neu anghywir sydd i’w gael, oherwydd ni fyddwn am fynnu cael llwybr gweithredu a allai atal pobl rhag chwythu'r chwiban yn y dyfodol.

COVID Hir

8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu gwasanaethau i bobl yng Nghymru sy'n dioddef effeithiau COVID hir? OQ55801

14:20

Da iawn. Cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig am COVID hir ar 23 Hydref. Mae ein dull o weithredu wedi canolbwyntio ar ymchwil ac adsefydlu. Gall ein gwasanaethau iechyd a gofal sylfaenol a chymunedol amlbroffesiwn asesu a diwallu’r rhan fwyaf o anghenion unigol pobl yn agos at eu cartref, gydag adsefydlu arbenigol i gleifion mewnol lle bo angen yn unig.

Diolch. Mae dau etholwr yn benodol wedi cysylltu â mi ynghylch effeithiau COVID hir. Dangosodd un ohonynt symptomau ym mis Chwefror—[Anghlywadwy.]—ym mis Mawrth ac yna fe waethygodd, gan beri cryn dipyn o bryder iddo, gan nad oedd y feddygfa yn gallu ei helpu gyda symptomau feirws y mae gwyddoniaeth feddygol yn dal i ddysgu amdano. Fodd bynnag, mae wedi cael diagnosis o flinder ôl-feirysol. Mae etholwr arall wedi ysgrifennu ataf am fod COVID hir yn ei brofiad ef wedi ei atal rhag dychwelyd i'r gwaith. Mae'n hunangyflogedig. Mae bellach yn wynebu canlyniadau ariannol yn sgil hyn, ac mae naill ai'n talu tâl salwch iddo'i hun, heb incwm i wneud hynny, neu'n mentro—[Anghlywadwy.]—niwed posibl oherwydd effeithiau COVID hir ar ddychwelyd i'r gwaith yn rhy gynnar. Pa fesurau y gall Llywodraeth Cymru eu rhoi ar waith, drwy ddarpariaeth y gwasanaeth iechyd yn ogystal â chymorth ariannol, i sicrhau nad yw pobl â COVID hir yn cael eu hanghofio?

Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Yn sicr, nid ydym wedi anghofio’r nifer o bobl sy'n nodi eu bod wedi cael eu heffeithio gan COVID hir, ac mae hyn yn cynnwys pobl sydd wedi cael triniaeth ysbyty, ond hefyd nifer fawr o bobl nad ydynt wedi bod mewn ysbyty ond sy'n dioddef effeithiau mwy hirdymor, a gwn fod hwnnw'n brofiad trallodus iawn i'r bobl hynny, ac mae'n cael effaith ar eu lles yn ogystal ag effaith economaidd, yn enwedig os na allant ddychwelyd i'r gwaith. Dyna pam ein bod wedi edrych i weld pa driniaeth y gallwn ei darparu i bobl yn ogystal ag elfen wirioneddol bwysig ymchwil a’r dysgu, gan eich bod yn iawn i nodi bod hwn yn gyflwr nad ydym yn deall ei effeithiau mwy hirdymor. Rydym yn dal i ddysgu mwy nid yn unig am ei drosglwyddiad ond am yr effaith ar bobl hefyd.

Rydym yn cymryd rhan mewn ystod o fentrau ymchwil ledled y DU, a chredaf fod hynny'n bwysig iawn, oherwydd ar hyn o bryd, ni allem ddweud bod gennym drefn bendant o ran triniaeth ac adsefydlu. Yr hyn sydd gennym, serch hynny, yw'r ddarpariaeth y dylai ein gwybodaeth a'n dealltwriaeth gyfredol gael eu cynnig mor agos i'r cartref â phosibl, a chredaf fod hynny'n bwysig iawn. Mae perygl y gallem ddweud bod gennym un neu ddau o glinigau cenedlaethol, ac mewn gwirionedd, ni fyddai hynny'n darparu mynediad i'r rhan fwyaf o bobl allu cael eu trin yn briodol, ac mewn gwirionedd, mae hwn yn gyflwr sy'n waith prif ffrwd i'n gwasanaeth iechyd. Dyna pam fod y gwaith sy'n cael ei arwain gan y prif gynghorydd therapïau mor bwysig wrth sicrhau bod ein gwasanaethau ym mhob rhan o'r wlad yn deall yr hyn y gallent ac y dylent ei wneud i helpu i gefnogi pobl â COVID hir, ac nid wyf am i bobl fynd i'r ysbyty oni bai fod hynny’n hollol angenrheidiol.

Rydym yn parhau i edrych ar y gefnogaeth economaidd y gallwn ac na allwn ei darparu i bobl, yma gan Lywodraeth Cymru ac yn wir gan Lywodraeth y DU, i’r bobl sy'n dioddef effeithiau uniongyrchol y clefyd llechwraidd a pharhaus hwn. Rwyf wedi cyhoeddi un datganiad ysgrifenedig, ac rwy'n disgwyl cyhoeddi rhagor yn y dyfodol wrth i'n gwybodaeth ddatblygu ac wrth i'n dealltwriaeth ddatblygu eto yn y dyfodol ynglŷn â sut y gallwn helpu pobl yn iawn.

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Gareth Bennett.

COVID-19 a Thwristiaeth

1. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith pandemig COVID-19 ar dwristiaeth i Gymru? OQ55783

Diolch yn fawr. Mae'n ddrwg gen i am hynna.

Diolch am eich cwestiwn, Gareth. Rydym yn gwneud gwaith ymchwil helaeth a rheolaidd i dwristiaeth ac mae hynny, yn amlwg, yng nghyfnod y pandemig, wedi cynnwys rhaglenni ymchwil ar effaith y pandemig ar ddiwydiannau twristiaeth. Rhan ganolog o fy ngweithgarwch yw cyfarfod wythnosol rheolaidd gyda chynrychiolwyr y diwydiant twristiaeth ledled Cymru a llywodraeth leol a busnesau Cymru fel y gallwn sicrhau bod gennym y dadansoddiad diweddaraf o'r sefyllfa. Byddwn yn cynnal yr un nesaf o'r rheini ddydd Gwener nesaf.

Diolch, Weinidog. Mae twristiaeth wedi cael ergyd fawr yn yr ychydig fisoedd diwethaf, am resymau amlwg. Er ei bod yn anochel y byddai’r pandemig yn tarfu'n ddrwg ar y sector, rwy'n poeni am yr effeithiau hirdymor. Yn draddodiadol, mae twristiaeth wedi bod yn rhan fawr o economi Cymru, ac rydym am iddi wella ar ôl y sioc a gafodd eleni, ond bydd yn anodd denu twristiaid i Gymru, yn enwedig o Loegr, os yw pobl o dan yr argraff nad oes croeso iddynt yma, ac os yw pobl o dan yr argraff fod ffin galed wedi ymddangos rhwng Cymru a Lloegr. Ac yn sicr, ffurfiwyd canfyddiad o'r fath, i raddau, yn 2020. Felly, sut gallwn ddileu'r canfyddiad hwn pan fydd y pandemig wedi llacio'i afael a phan fyddwn eisiau gweld y bunt dwristaidd o Loegr unwaith eto?

14:25

Rydych yn llygad eich lle, wrth gwrs, yn pwysleisio pwysigrwydd ymwelwyr i'r sector twristiaeth, boed yn ymwelwyr dydd neu’n ymwelwyr sy'n dod i aros am dair noson neu fwy, gan wneud cyfraniad sylweddol mewn cyfnod o weithgarwch economaidd. Rydych yn gwbl iawn i bwysleisio'r berthynas agos rhwng prif ganolfannau poblogaeth y gogledd-orllewin a'r de-orllewin, ac yn wir, canolbarth a de-ddwyrain Lloegr ar y diwydiant twristiaeth.

Rydym bellach yn agosáu at sefyllfa lle ceir gwell dealltwriaeth, gobeithio, rhwng y gweinyddiaethau datganoledig a'u Llywodraethau a Llywodraeth y DU, fel Llywodraeth ddatganoledig Lloegr yn y cyd-destun hwn, ynghylch y mesurau sydd angen eu rhoi ar waith. Ac wrth inni wneud cynlluniau, o fewn cyfyngiadau'r pandemig echrydus hwn, ar gyfer adfer yr economi ymwelwyr i rywbeth tebyg i'w chyflwr blaenorol, mae'n amlwg fod angen inni wneud hyn ar sail y DU yn ogystal ag ar sail Cymru. Ac i'r perwyl hwnnw, rwy'n rhannu cyfarfodydd a thrafodaethau rheolaidd â fy nghymheiriaid twristiaeth yn yr Alban, Gogledd Iwerddon, ac wrth gwrs, yn yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn Lloegr.

Yn gyntaf oll, Ddirprwy Weinidog, a gaf fi ddiolch i chi am eich parodrwydd i fynychu’r grŵp trawsbleidiol ar dwristiaeth yn rheolaidd, lle byddwch wedi clywed bod twristiaeth a lletygarwch, yn fwy nag unrhyw sector arall efallai, wedi'u nodi fel mater o bryder gan Aelodau?

Rwy'n poeni braidd y gallai sefyllfa atyniadau gael ei cholli yn y ffocws ehangach hwn ar dafarndai, bwytai a llety. Ac er eu bod yn amlwg yn rhesymau pam fod pobl yn ymweld ag ardal, maent hefyd yn cyfrannu at les pobl sy'n byw gerllaw a fyddai, yn fwy nag erioed ar hyn o bryd efallai, yn gwerthfawrogi ychydig o lawenydd yn eu bywydau. Gallai neges y Prif Weinidog ynglŷn â gofyn beth y dylech ei wneud, yn hytrach na'r hyn y gallwch ei wneud, danseilio’r neges arall y gallai ymweld ag atyniadau lleol, gan gadw at yr holl reolau, fod yn dda i'ch iechyd, yn enwedig os yw hynny'n golygu treulio amser yn yr awyr agored. Tybed a allech ddweud wrthym sut rydych yn gweithio gyda chyd-Aelodau o’r Cabinet ar y negeseuon mewn perthynas â hyn, gan fy mod yn siŵr y byddai'n well gan atyniadau aros ar agor a masnachu'n ddiogel ac yn broffidiol yn hytrach na gofyn am gymorth incwm.

Mae atyniadau a digwyddiadau’n elfennau unigol pwysig o’r economi twristiaeth, a dylid eu hystyried felly. Fel mae'n digwydd, bûm yn sgwrsio, fel y gwnaf y rhan fwyaf o wythnosau, â chymydog i mi nad wyf yn ei weld wyneb yn wyneb mwyach, oherwydd yn amlwg nid wyf yn gallu teithio—Sean Taylor, o Zip World a datblygiadau eraill—a buom yn trafod yr union fater hwn. Yn ein trafodaethau gyda'r gweithredwyr twristiaeth, cyn gynted ag y bo modd i atyniadau aros ar agor neu ailagor o fewn fframwaith iechyd y cyhoedd, rydym yn awyddus iawn i sicrhau y gellir marchnata potensial yr atyniadau hyn yn uniongyrchol yng Nghymru, i’r graddau y byddai modd gwneud hynny bellach, o fewn ein cymunedau. Yn sicr, mae'n bwysig ein bod yn gwneud hynny yn gyntaf oll yng nghyd-destun iechyd y cyhoedd, ond y tu hwnt i hynny, o'r holl arolygon rwyf wedi’u gweld a'r trafodaethau preifat rwyf wedi’u cael, nid yw apêl Cymru wedi lleihau yn ystod yr argyfwng. Fel y dywedoch chi yn gwbl gywir, mewn gwirionedd mae dealltwriaeth pobl o ba mor bwysig yw’r economi twristiaeth i Gymru ac apêl tirwedd Cymru a'n hatyniadau penodol i ymwelwyr wedi cynyddu yn sgil anallu pobl i fanteisio arnynt.

14:30

Weinidog, ychydig i'r gogledd o'r M4, ychydig i'r gogledd o Ben-y-bont ar Ogwr, mae yna drysor sy'n cael ei anghofio yn aml, sef cymoedd Ogwr, sy'n gyrchfan go iawn i ymwelwyr dydd a thwristiaid ar gyfer twristiaeth antur, gyda pharc Afan Argoed ac yn y blaen, a'r bryniau ar hyd llwybr y porthmyn, wrth gerdded at fynydd Bwlch, ond mae gennym hefyd gymunedau bach o iwrtau, mae gennym safleoedd carafanau a gwersylla, mae gennym gynigion gwely a brecwast ac yn y blaen. Rwy'n meddwl tybed, wrth i'r cyfnod atal byr ddod i ben, ac wrth i'r cyfyngiadau teithio gael eu codi yng Nghymru, sut rydym yn rhoi neges glir i bobl am yr hyn y dylent fod yn ei wneud—nid yn unig beth y gallant ei wneud, ond beth y dylent fod yn ei wneud? A pha neges y dylem fod yn ei rhoi, nid yn unig i ymwelwyr dydd a thwristiaid yng Nghymru, o Gymru, ond hefyd i ddarparwyr twristiaeth hefyd? Oherwydd mae angen inni ymdrin â hyn yn gyfrifol oherwydd ein sefyllfa gyda'r feirws, ond credaf eu bod yn edrych ymlaen at y diwrnod pan allwn weld rhywfaint o oleuni ym mhen draw'r twnnel, fel y dywedoch chi Weinidog.

Wel, rwy'n falch o ddweud fy mod wedi gallu cerdded yn yr ardal y mae Huw yn ei disgrifio, ac mae'n ddeniadol dros ben yn wir. Mae cwm Garw yn hudolus i mi, oherwydd ei fod mor wahanol, ac eto mae ganddo dirwedd rwy'n gyfarwydd â hi yng nghanolbarth a gogledd Cymru.

Credaf mai'r peth allweddol yma yw'r cydweithrediad rhwng cymunedau, rhwng awdurdodau lleol a'u swyddogion twristiaeth a'r gymuned leol. Ar ddechrau'r pandemig hwn, trafodasom gyda llawer o gymunedau bwysigrwydd sicrhau, pan oedd hi'n bosibl dychwelyd at botensial mwy cytbwys i'r economi ymwelwyr, fod yn rhaid cael cydsyniad cymunedol, a bod pobl eisiau i bobl eraill ymweld â'u cymunedau. Oherwydd yn y ffordd draddodiadol o ddisgrifio twristiaeth, mae yna gymuned sy'n cynnig llety, mae yna gymuned ymwelwyr, ac ni allwch gael un heb y llall. Felly rwy'n awyddus iawn, gobeithio, i'n gweld yn gallu dychwelyd at y ffordd honno o feddwl am y diwydiant, oherwydd mae mor hanfodol yn economaidd i'n cymunedau, ond mae hefyd mor bwysig er mwyn pwysleisio partneriaeth y gwledydd o fewn y Deyrnas Unedig ac ar dir mawr Ewrop.

Weinidog, gwyddom fod y cyfyngiadau symud yn cael effaith ddinistriol ar ddiwydiant twristiaeth Cymru—ni fydd miloedd lawer o fusnesau'n goroesi'r cyfnod hwn o gyfyngiadau symud hyn. Ac i adleisio sylwadau Gareth Bennett, mae'r sefyllfa'n cael ei gwaethygu gan y ffaith ein bod yn mynd ati'n weithredol i annog Saeson, yn arbennig, rhag dod i Gymru. Onid yw'r Gweinidog yn derbyn y bydd hyn yn cael effaith andwyol enfawr ar ein gallu i ddenu'r twristiaid hyn a estroneiddiwyd yn ôl i Gymru yn y blynyddoedd i ddod?

Wel rwy'n gresynu eich bod yn dewis ceisio troi'r drafodaeth resymol hon am dwristiaeth yn drafodaeth ar y berthynas rhwng y Saeson a'r Cymry oherwydd nid dyna'r mater dan sylw. Nid yw'n ymwneud â'r cenhedloedd o fewn y Deyrnas Unedig; mae'n ymwneud ag iechyd y cyhoedd, ac mae'n rhaid inni ganolbwyntio ar hynny. Rwyf wedi treulio llawer o amser ac egni yn ystod y pandemig hwn yn ceisio sicrhau nad yw pobl yn troi hwn yn safbwynt gwrth-Seisnig, nac yn wir yn safbwynt gwrth-Gymreig. Ac ar un ystyr, gyda'r mesurau newydd yn Lloegr yn ogystal â'r mesurau newydd yng Nghymru, gobeithio y gallwn ddeall nawr ein bod i gyd yn yr un cwch, fel petai—neu o leiaf mewn dau gwch sy'n symud i'r un cyfeiriad.

Iechyd Meddwl a Llesiant

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith y cyfyngiadau symud cenedlaethol ar iechyd meddwl a lles pobl yng nghanolbarth Cymru? OQ55773

14:35

Rydym yn monitro effaith y pandemig ar iechyd meddwl a llesiant drwy amrywiaeth o arolygon a thystiolaeth arall. Ar 9 Hydref, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig manwl yn nodi'r camau rydym yn eu cymryd i ymateb i effeithiau'r pandemig sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl.

Diolch ichi am eich ateb, Weinidog. Nodais hefyd y cyllid a gyhoeddwyd gennych y bore yma. Darllenais ddatganiad i'r wasg gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â £3 miliwn o gyllid ychwanegol. Byddwn yn hoffi meddwl efallai bod fy nghwestiwn, a gyflwynwyd yr wythnos ddiwethaf, ac a ofynnwyd heddiw, wedi helpu i ysgogi'r cyhoeddiad hwnnw am gyllid. A gaf fi ofyn, Weinidog, sut y cyrhaeddoch chi'r ffigur hwnnw o £3 miliwn? A ydych yn credu—? A oes gennych dystiolaeth y gallwch ei darparu i sicrhau bod hwn yn swm digonol ar gyfer y galw cynyddol am wasanaethau iechyd meddwl, i'r rheini yr effeithir arnynt yn uniongyrchol, ac yn anuniongyrchol yn wir, gan y pandemig? Rwy'n pryderu'n arbennig am bobl sy'n byw yn y rhannau mwyaf gwledig o Gymru, ac rwy'n meddwl tybed sut y gallwch sicrhau bod unrhyw gymorth ychwanegol a chyllid grant yn cyrraedd y rheini sy'n byw yn y rhannau mwyaf anghysbell o Gymru, gan gynnwys y sefydliadau trydydd sector ac elusennol sy'n gwneud gwaith rhagorol yn darparu cymorth iechyd meddwl yn yr ardaloedd hyn.

Diolch, Russell. Hoffwn ddweud yn glir fod unrhyw gyllid rydym yn ei gyhoeddi yn awr yn ychwanegol at y swm blynyddol o £700 miliwn rydym yn ei wario. Mae'n rhaid inni beidio â cholli golwg ar hynny. Rydym yn gwario mwy o arian ar iechyd meddwl nag ar unrhyw elfen arall yn y GIG, ac felly mae'r cyllid hwn yn ychwanegol at yr hyn a oedd eisoes yn ei le. Ac mae'r cyllid rwyf wedi'i gyhoeddi heddiw yn ychwanegol at y cyllid rydym eisoes wedi'i gyhoeddi yn ystod y pandemig hwn. Fe fyddwch yn ymwybodol ein bod eisoes wedi awgrymu y byddwn yn gwario mwy o arian ar gymorth haen 0 a haen 1, oherwydd mai'r rheini yw'r ymyriadau lefel isel sy'n arbed yr arian i chi yn nes ymlaen. Ac felly dyna yw'r arian ychwanegol rydym wedi'i gyhoeddi heddiw—dyna yw rhywfaint ohono. Yn wir, caiff y rhan fwyaf ohono ei wario ar yr ymyrraeth lefel isel honno. Rydych yn llygad eich lle: bydd hwnnw ar gael i sefydliadau ym Mhowys ac mewn mannau eraill. Fe fyddwch yn ymwybodol mai'r person sy'n arwain ar hyn yw prif weithredwr y bwrdd iechyd ym Mhowys y cefais gyfarfod â hi yr wythnos diwethaf, am mai hi yw'r arweinydd ar iechyd meddwl ar gyfer Cymru gyfan, a gallwch fod yn dawel eich meddwl fod pryderon cymunedau gwledig yn sicr yn flaenoriaeth iddi.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Trown yn awr at gwestiynau'r llefarwyr, a'r cyntaf eto y prynhawn yma yw llefarydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, llongyfarchiadau ar eich penodiad i'r Cabinet yn y rôl bwysig hon. Mae gennym oddeutu pum/chwe mis nawr cyn yr etholiadau seneddol nesaf ar gyfer Senedd Cymru. Rwy'n derbyn bod yr amserlen yn dynn iawn, ond yn eich asesiad cychwynnol o'r hyn y gallwch ei gyflawni yn y pump i chwe mis hwnnw, pa nodau rydych chi wedi'u gosod i chi'ch hun, fel y byddwch, pan fyddwch yn edrych yn ôl ym mis Mawrth, a phan fyddwn ni, fel deddfwyr, yn craffu ar yr hyn rydych wedi'i gyflawni yn y cyfnod hwnnw, yn teimlo eu bod yn nodau cyraeddadwy o fewn yr adran?

Diolch yn fawr iawn, Mr Davies. A hoffwn egluro bod cyfres o flaenoriaethau eisoes wedi'u nodi yn y cynllun 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl'. Ni fydd y blaenoriaethau hynny'n cael eu newid, ond credaf y gallech weld newid yn y pwyslais, a'r hyn rwy'n ei obeithio yw y bydd fy mhenodiad yn helpu i gyflymu'r system—y gallaf roi rhywfaint o ffocws ar rai meysydd penodol.

Fe fyddwch yn ymwybodol ein bod eisoes yn canolbwyntio'n fawr ar faterion sy'n ymwneud ag iechyd meddwl ymhlith pobl ifanc a'n bod yn awyddus iawn i sicrhau bod therapïau seicolegol hefyd ar gael i bobl, ymhlith pethau eraill. Rwy'n arbennig o awyddus i sicrhau ein bod yn cadw'r ffocws hwnnw a'n sicrhau'r ymyrraeth gynnar honno ac yn gwneud yn siŵr fod darpariaeth yno ar gyfer cymorth haen 1 a haen 0. Rwyf wedi dadlau'n hir dros bresgripsiynu cymdeithasol ac rwy'n awyddus iawn i weld sut mae'r cynlluniau peilot rydym eisoes wedi'u rhoi ar waith yn gweithio.

Rwyf hefyd yn awyddus iawn i wneud yn siŵr ein bod yn monitro'r modd y mae'r sefyllfa hon yn newid, oherwydd rydym yn dal i fod ynghanol hyn. Bydd yna bobl a fydd yn colli eu swyddi yn ystod y misoedd nesaf, a bydd angen i ni sicrhau bod cymorth yn ei le ar eu cyfer. Bydd dyled yn dod yn broblem fawr ac mae angen inni sicrhau ein bod yn deall y berthynas rhwng dyled ac iechyd meddwl, ac yn rhoi mesurau cymorth allweddol iawn ar waith i gefnogi hynny.

A'r peth arall, wrth gwrs, yw y bydd y pandemig hwn yn effeithio mwy ar rai nag ar eraill. Gwyddom fod cymunedau duon a lleiafrifoedd ethnig, er enghraifft, yn fwy tebygol o gael eu heffeithio, a'u bod yn llai tebygol o ofyn am gymorth. Ac felly, mae angen inni sicrhau ein bod yn rhoi mynediad iddynt at wasanaethau mewn ffordd y maent yn teimlo'n gyfforddus â hi. A'r peth arall, wrth gwrs, yw cadw llygad ar bobl sydd eisoes, a oedd eisoes, yn dioddef problemau iechyd meddwl cyn y pandemig oherwydd mae'n bosibl eu bod yn ei chael hi'n anos wynebu hyn na llawer o bobl eraill.

14:40

Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog. A gaf fi dynnu eich sylw at achos trasig Dr Deborah Lamont a gafodd sylw heddiw? Yn drist iawn, fe gyflawnodd hunanladdiad y llynedd, ac mae'r canfyddiadau wedi'u cyhoeddi ynghylch y ddeddfwriaeth iechyd meddwl sy'n llywodraethu ystafelloedd gwesty, ac asesiadau a gorfodi yn arbennig. Mae'n ymddangos bod anghysondeb yn y modd y caiff ystafelloedd gwesty eu categoreiddio oherwydd gellir eu dynodi'n dŷ i chi, er mai dim ond am un noson y gallech fod yn aros yn y man penodol hwnnw. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae yna ymgyrch sy'n cael ei chefnogi gan yr heddlu i geisio diwygio'r ddeddfwriaeth hon fel ei bod yn cynnig mwy o amddiffyniad i bobl, ar ochr gorfodi'r gyfraith a'r timau iechyd meddwl, ond hefyd pobl sydd mewn sefyllfaoedd agored i niwed eu hunain.

Os nad ydych yn gyfarwydd â'r achos penodol, rwy'n deall yn iawn, ond a gaf fi ofyn am ymrwymiad ar eich rhan heddiw i adolygu hyn, ac os teimlwch fod hynny'n addas, a gobeithio y byddwch yn teimlo bod hynny'n addas, a gaf fi ofyn i chi gefnogi'r ymgyrch i ddiwygio'r ddeddfwriaeth, sydd, yn ôl yr hyn a ddeallaf, yn un o ddeddfwriaethau San Steffan, er mwyn darparu'r amddiffyniad nad oedd ar gael i Dr Deborah Lamont, gwaetha'r modd, yn yr achos hwn?

A gaf fi gydymdeimlo â'r teulu yn gyntaf oll? Mae pob achos o hunanladdiad yn un yn ormod ac mae'n rhaid i ni sicrhau bod gwasanaethau ar gael i unrhyw un sydd eisiau mynediad at gymorth iechyd meddwl. Gwyddom nad yw tua 25 y cant o bobl sy'n cyflawni hunanladdiad yn hysbys i wasanaethau cymdeithasol a gweithwyr gofal iechyd eraill. Felly, mae lle inni wneud mwy yma. Fe fyddwch yn ymwybodol fod gennym strategaeth glir iawn, 'Beth am siarad â fi 2', sy'n ymwneud â gostwng lefelau hunanladdiad a hunan-niweidio. Ond rwy'n gwneud ymrwymiad i chi y byddaf yn ymchwilio i'r mater penodol hwnnw, i weld a oes anghysondeb yn wir, ac a oes unrhyw beth y gallwn ei wneud, yn benodol yng Nghymru, i fynd i'r afael â'r mater hwnnw. Ond fel y nodoch chi, efallai mai deddfwriaeth y DU yw hon, ac os felly, os oes problem, gallwn ystyried a ydym am fynd ar drywydd hynny gyda Llywodraeth y DU.

Rwy'n ddiolchgar i chi am yr ymrwymiad rydych wedi'i roi. Rwy'n siŵr y bydd teulu Dr Lamont hefyd yn ddiolchgar iawn am y sicrwydd hwnnw rydych wedi'i roi y prynhawn yma.

Maes arall a oedd yn peri pryder yn yr achos penodol hwn oedd gallu'r tîm brysbennu i gael mynediad at y cofnodion. Pe baent wedi cael gafael arnynt ar y noson roedd yr heddlu'n ceisio cyngor ganddynt, byddai wedi dangos bod Dr Lamont eisoes wedi ceisio cyflawni hunanladdiad yn y gorffennol. Yn anffodus, nid oedd modd gweld ei chofnodion ar y noson honno, yn ôl yr hyn a ddeallaf. Ers yr adolygiad achos, mae Caerdydd a'r Fro wedi dweud eu bod wedi rhoi mesurau ar waith i geisio sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto, ac y byddai timau brysbennu iechyd meddwl yn eu hardal yn gallu cael gafael ar gofnodion cleifion, fel y gellir datblygu darlun cyflawn o'r person y mae gofyn iddynt roi cyngor arno. A allwch chi hefyd ymrwymo i edrych ar y porth penodol hwn y mae Caerdydd a'r Fro wedi'i sefydlu ar gyfer y timau brysbennu, a sicrhau, os oes angen, ei fod yn cael ei gyflwyno ledled Cymru, oherwydd rwy'n siŵr nad yw hwn yn ddigwyddiad ynysig a byddai'n ofnadwy pe baem yn canfod bod arfer da wedi'i ddatblygu o'r trychineb hwn mewn un rhan o Gymru ac nad oedd wedi cael ei rannu â rhannau eraill o Gymru drwy ymarfer gwersi a ddysgwyd?

Diolch yn fawr. Gwn fod llawer o waith yn cael ei wneud mewn perthynas â gofal mewn argyfwng, ac mae grŵp sicrwydd wedi'i sefydlu, yn cynnwys yr heddlu, ac roeddwn yn ddigon ffodus i allu trafod y materion sy'n ymwneud â gofal mewn argyfwng gyda hwy dros yr ychydig wythnosau diwethaf.

Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig yw ein bod yn sicrhau bod y concordat sydd wedi'i gynnig yn cael ei ystyried yn fanwl nawr, ac rwy'n siŵr fod rhai o'r materion rydych wedi'u nodi, sy'n ymwneud â sicrhau bod y gwahanol wasanaethau'n siarad â'i gilydd, yn ymwybodol o'r hyn y mae'r gwasanaethau eraill yn ei wneud ac yn gallu cael gafael ar y wybodaeth honno a allai fod o ddefnydd o dan amgylchiadau o'r fath. Felly, byddaf yn edrych i weld a oes cyfeiriad at y mater rydych wedi'i amlinellu yn y concordat a gynhyrchwyd yn ddiweddar gan y grŵp gofal mewn argyfwng hwnnw.

14:45

Diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi eisoes wedi cael cyfle yn y pwyllgor iechyd y bore yma i longyfarch y Gweinidog ar ei phenodiad. Mae'r rôl yna o fewn y Cabinet rŵan yn sicr yn gyfle i gynyddu proffil iechyd meddwl o fewn y Llywodraeth.

Os caf i ddechrau efo stigma iechyd meddwl, mi ddylai taclo hynny fod yn flaenoriaeth ym mhob man. Yn Lloegr, serch hynny, rydym ni'n clywed bod yr ymgyrch Amser i Newid, neu Time to Change, yn colli ei chyllid o'r flwyddyn nesaf. Mae'r ymgyrch yma yng Nghymru yn dweud eu bod nhw'n mynd ar ôl ffynonellau cyllid eu hunain. Ydy'r Gweinidog mewn sefyllfa i ddweud a ydy hi'n bwriadu parhau i gyllido Amser i Newid neu ymgyrch debyg yng Nghymru?

Wel, roeddwn i wedi fy synnu o weld bod Llywodraeth Prydain, yng nghanol pandemig, yn stopio'r cyllid ar gyfer y cynllun pwysig yma—cynllun sy'n stopio stigma rhag codi o ran iechyd meddwl, ac mae'n dal i fod gwaith i'w wneud gyda ni yna. Mae'n drueni mawr achos dwi'n gwybod bod pobl sy'n gweithio ar y cynllun yma yng Nghymru wedi bod yn gweithio gyda'r rheini sydd dros y ffin ac, wrth gwrs, fydd hynny ddim yn bosibl yn y dyfodol. Ond dwi'n gobeithio, yn sicr, y byddwn ni yn gallu parhau gydag Amser i Newid yma yng Nghymru, achos dwi yn meddwl ei bod hi'n rhaglen bwysig ac mae'n dal i fod gwaith i’w wneud gyda ni yn y maes yma.

Dwi'n croesawu hynny a dwi'n edrych ymlaen am gadarnhad o hynny maes o law. Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dweud bod achosion o iselder wedi dyblu yn ystod y pandemig yma, a'r haf yma, mi ddywedwyd hyn yng nghylchgrawn The Lancet:

Wrth i ganlyniadau economaidd y cyfyngiadau symud ddatblygu, pan fydd ffyrlo yn troi'n ddiswyddiadau, pan fydd gwyliau morgais yn dod i ben, a phan fydd dirwasgiad yn digwydd, credwn ei bod yn rhesymol disgwyl trallod parhaus a dirywiad clinigol sylweddol yn iechyd meddwl rhai pobl, ond mae hefyd yn rhesymol disgwyl y bydd y dirwasgiad economaidd yn cael effeithiau hirdymor wedi'u disgrifio'n dda ar iechyd meddwl.

A wnaiff y Gweinidog ymrwymo i gael strategaeth adfer benodol iawn ar gyfer iechyd meddwl er mwyn trio atal y senario yma wrth inni ddod allan o gyfnod y pandemig?

Wel, y peth cyntaf i'w wneud yw sicrhau bod y wybodaeth gyda ni. Rŷn ni wedi edrych ar beth y mae'r World Health Organization yn ei ddweud ynglŷn â'r sefyllfa ac, wrth gwrs, beth mae'n rhaid inni ei wneud yw rhoi pethau mewn lle fel nad ydym ni'n gweld y cynnydd aruthrol yma, sydd yn sicr o ddigwydd, yn cynyddu i rywbeth sydd yn fwy anodd i ni ddelio ag e. Felly, mae ymyrraeth gyflym yn hollbwysig a dyna pam dŷn ni ddim yn aros i wneud asesiad newydd ac i ailwampio'r holl strategaeth sydd gyda ni—rŷn ni eisoes yn gwneud y newidiadau yna, eisoes yn ymyrryd, ac eisoes yn sicrhau bod mwy o ofal ar gael ar lefel isel. Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n gweithio gyda'r sector gwirfoddol yn hyn o beth achos, yn aml, dyw pobl ddim eisiau mynd trwy eu GP nhw i gyrraedd yr help sydd ei angen. Efallai ein bod ni'n gallu ffeindio ffyrdd eraill i gynnal yr help yna ac i roi hynny i'r bobl sy'n dioddef.

Felly, wrth gwrs mi fyddwn ni'n cadw llygad agos ar y datblygiadau hynny, ac, wrth gwrs, os oes angen i ni ailedrych ar y cynllun sydd gyda ni—rŷn ni eisoes wedi'i ddiwygio ym mis Hydref, jest cyn i mi gael fy mhenodi—ac os oes raid inni ei ddiwygio eto, mi wnawn ni.

Diolch yn fawr iawn, a dwi'n sylweddol, a hithau'n newydd i'r rôl, ei bod hi'n annheg, o bosib, disgwyl cynlluniau concrit gan y Gweinidog, ond mae hi'n amlwg bod delio efo sgil-effeithiau'r pandemig yn mynd i fod angen ymdrech enfawr a hefyd, dwi'n meddwl, newid radical yn y ffordd yr ydym yn mynd i’r afael â phroblemau iechyd meddwl.

Mae nifer o adroddiadau pwyllgor, ac ati, dros y blynyddoedd wedi awgrymu mai un o’r prif broblemau efo gwasanaethau iechyd meddwl ydy bod pobl yn aml yn cael eu troi i ffwrdd am nad ydyn nhw’n cael eu hystyried eto i fod yn ddigon sâl a wedyn mae problemau yn cael cyfle i fynd yn waeth. Ydy'r Gweinidog yn cydnabod y broblem honno, a sut mae hi'n bwriadu newid y ffordd o ddelio efo hynny a sicrhau ymyrraeth gynharach?

14:50

Wel, dwi'n meddwl mai'r peth cyntaf i ddweud yw bod yn rhaid inni fod yn ofalus nad ydym ni'n gweld problemau iechyd meddwl fel jest rhywbeth sydd yn ymwneud ag iechyd; mae'n ymwneud â phethau fel diweithdra, gyda phroblemau priodasol, gyda phroblemau dyled. Mae yna bob math o bethau sydd yn gallu effeithio ar hyn, a dyna pam allwch chi ddim jest ei rhoi hi mewn i un slot sy'n ymwneud ag iechyd. A dyna pam mae'r ymyrraeth yn gorfod bod yn ymyrraeth sydd ar draws y Llywodraeth, a dwi'n gwybod eich bod chi, Rhun, yn cydnabod hynny.

Dwi yn poeni os yw pobl yn cael eu troi i ffwrdd o help os ydyn nhw'n gofyn am help o ran iechyd meddwl. Beth mae'n rhaid inni fod yn ofalus ohono yw nad ydyn ni'n gwthio pobl mewn i sefyllfa lle rŷn ni'n 'medical-eiddio' eu problem nhw. Mae'n rhaid inni sicrhau ein bod ni'n cynnig y gofal yna ar y lefel isaf yn gyntaf ac, os oes angen help pellach, ein bod ni yn cynyddu'r gofal yna wrth inni fynd ymlaen. Felly, mae'n rhaid inni sicrhau bod, er enghraifft, GPs â'r adnoddau ac â'r posibilrwydd o sicrhau bod pobl yn cael eu harallgyfeirio i help sydd ddim o reidrwydd yn help meddygol bob tro.

Blaenoriaethau ar gyfer Iechyd Meddwl

3. A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag iechyd meddwl ar gyfer gweddill tymor presennol y Senedd? OQ55804

Diolch yn fawr, Angela. Nodir ein blaenoriaethau yng nghynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' 2019-22, sydd wedi'i gryfhau i adlewyrchu effaith y pandemig. Nawr, mae fy ffocws yn y tymor byrrach ar ysgogi'r gwaith trawslywodraethol ac amlasiantaethol sy'n angenrheidiol i gyflawni'r blaenoriaethau hyn y cytunwyd arnynt ac y ceir tystiolaeth gref i'w cefnogi.

Diolch i chi am hynny, ac yn gyntaf oll, a gaf fi ddweud croeso i'r rôl? Rwy'n credu ei bod yn wych fod yna ffocws penodol ar iechyd meddwl, yn enwedig ar hyn o bryd. Roeddwn yn falch eich bod wedi sôn yn eich ateb am y gwaith rhynglywodraethol a thrawsadrannol oherwydd credaf fod cynnydd da wedi'i wneud gyda chymorth iechyd meddwl i fyfyrwyr coleg a phrifysgolion, y darperir ar eu cyfer gan bartneriaethau rhwng Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, sefydliadau addysgol ac undebau myfyrwyr. Fodd bynnag, rwy'n pryderu nad oes strategaeth swyddogol drosfwaol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer iechyd meddwl myfyrwyr o hyd na methodoleg gref ar waith ar gyfer monitro effeithiolrwydd y cynlluniau sydd ar y gweill ar hyn o bryd, a chredaf fod hyn hyd yn oed yn fwy allweddol yn awr, o gofio bod ein myfyrwyr o dan bwysau eithriadol nas gwelwyd erioed o'r blaen oherwydd COVID. A gwn y gallwn ddweud bod hynny'n wir am gymdeithas yn gyffredinol, ond mae COVID yn tarfu arnynt mewn ffordd a fydd yn aros gyda'u cenhedlaeth hwy am flynyddoedd lawer i ddod. Felly, Weinidog, a gaf fi ofyn a wnewch chi ymrwymo i weithio gyda'ch cyd-Weinidog, y Gweinidog Addysg, i gyflawni a gweithredu strategaeth iechyd meddwl myfyrwyr cyn gynted â phosibl i sicrhau bod anghenion iechyd meddwl ein myfyrwyr yn cael eu diogelu, a hefyd bod cynlluniau a gomisiynir ar hyn o bryd yn cyflawni eu nodau yn llawn—fod y rhai sy'n gweithio'n dda yn cael eu hyrwyddo ledled Cymru, a bod y rhai nad ydynt yn gweithio yn cael eu dirwyn i ben fel y gellir defnyddio'r arian hwnnw mewn mannau eraill i gyflawni ar gyfer iechyd meddwl?

Wel, diolch yn fawr iawn, Angela. Fel rhywun y mae ei phlentyn wedi mynd i'r brifysgol eleni, rwy'n un o'r bobl hyn sy'n ymwybodol iawn o'r math o bwysau sydd ar lawer o fyfyrwyr sydd i ffwrdd oddi cartref am y tro cyntaf.

Hoffwn ei gwneud yn glir fod pob prifysgol wedi ymrwymo yn 2019 i newid sylweddol mewn perthynas ag iechyd meddwl, a chyflwynwyd cynigion lle'r oedd yn ofynnol i bob prifysgol gyflwyno strategaethau iechyd a llesiant. Felly, mae pob un o'r rheini wedi dod i law, ac felly dylent fod yn dilyn rhaglen eisoes. Nawr, yr hyn nad ydym wedi'i wneud, fel yr awgrymwch, yw nodi methodoleg a phethau ar hyn o bryd. Fe fyddwch yn ymwybodol ein bod newydd ddarparu £10 miliwn ychwanegol i'r maes hwn. Nawr, gallem fod wedi eistedd o gwmpas a dweud, 'Gadewch i ni nodi methodoleg'; roeddem yn credu ei bod yn bwysicach sicrhau'r cyllid er mwyn gwneud yn siŵr—. Rydym mewn cyfnod o argyfwng; mae'n rhaid inni gael yr arian i'r rheng flaen cyn gynted ag sy'n bosibl. Rydym wedi gwneud yr un peth mewn perthynas â chymorth i weithwyr iechyd. Mae gennym yr arian yno, heb y dystiolaeth weithiau fod yna broblem enfawr. Dim ond dyfalu y bydd yna broblem fawr rydym ni, ac rydych yn llygad eich lle ei bod hi'n debygol fod angen i ni gael methodoleg yn sail iddo nawr, fel y gallwn ystyried a ydym yn gwneud y peth iawn. Ond nid ydym yn dechrau o'r dechrau yma, gan fod CCAUC wedi gwneud cryn dipyn o waith yn y maes hwn, ond mae'n debyg mai'r hyn y gallem ei wneud yw dysgu ychydig mwy o arferion gorau i weld beth sy'n gweithio mewn un brifysgol ac a allwn gyflwyno hynny yn y prifysgolion eraill. Felly, diolch ichi am y cwestiwn hwnnw.

14:55

Weinidog, y mis diwethaf, cyhoeddodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ein dilyniant i'n hadroddiad pwysig 'Cadernid Meddwl' ac rydym yn aros yn eiddgar am eich ymateb i'n hargymhellion a ddiweddarwyd. Credaf fod yr adroddiad yn nodi trywydd clir ar gyfer y newidiadau y gwyddom fod eu hangen ar frys i gefnogi iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Er y bu rhywfaint o gynnydd sydd i'w groesawu'n fawr ar y dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl, mae cryn dipyn o waith i'w wneud i sicrhau diwygiadau iechyd a gofal cymdeithasol sydd mor hanfodol ar draws y system. A fyddech yn cytuno â mi, Weinidog, fod y pandemig COVID yn golygu bod angen cyflawni'r argymhellion hyn ar fwy, nid llai, o frys, ac a fyddech yn cytuno ein bod yn gwybod beth sydd angen digwydd ac mai'r flaenoriaeth ar gyfer gweddill y tymor Cynulliad hwn yw ffocws di-baid ar gyflawni?

Byddwn yn cytuno â chi. Rwy'n credu ei fod yn bwysig iawn. Rwy'n ymwybodol iawn o'r straen sydd ar bobl ifanc. Rwy'n falch iawn y bu cynnydd sylweddol o ran y dull ysgol gyfan. Rwy'n credu bod mwy o waith i'w wneud ar y dull system gyfan, ond rwy'n credu ein bod yn mynd i'r cyfeiriad cywir. Rwy'n credu bod y rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc, yn cyflawni camau sylweddol yn hyn o beth. Fe fyddwch yn ymwybodol ein bod wedi rhoi £5 miliwn yn ychwanegol i'r maes hwn. Un o'r pethau rwy'n awyddus iawn i'w wneud yw sicrhau ein bod yn datblygu'r strwythurau hyn ac yn sicrhau eglurder i'r defnyddiwr, drwy wneud yn siŵr nad ydym yn canolbwyntio ar y gwaith plymio'n unig—a chredaf fod gwaith i'w wneud ar y gwaith plymio—ond ein bod yn edrych ar y system gyfan o safbwynt y defnyddiwr. Mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr fod hynny'n rhywbeth rydym yn ei ystyried. Rwy'n gobeithio y byddaf yn gallu adrodd yn ôl o fewn yr amserlen a bennwyd fel y gallwn ganolbwyntio'n iawn ar y meysydd lle nad yw'r cynnydd wedi digwydd mor gyflym ag yr oeddech chi a gweddill y pwyllgor yn awyddus i'w weld o bosibl.

Weinidog, roeddwn yn falch iawn o glywed yr hyn a ddywedoch chi wrth Rhun ap Iorwerth am ymgyrch Amser Newid. Roeddwn hefyd yn falch o glywed yr hyn a ddywedoch chi am beidio â gwneud trallod yn fater meddygol heb fod angen. Yn y rhanbarth y mae'r ddwy ohonom yn ei gynrychioli, yn Llanelli a Sir Gaerfyrddin, mae prosiect arloesol iawn ar y gweill gan y mudiad gwirfoddol, Cymdeithas Ieuenctid a Phlant Sir Gaerfyrddin, lle mae meddygon teulu'n presgripsiynu cymorth gan yr elusen honno i blant a theuluoedd, ac ystod eang o gymorth na allaf fanylu arnynt yma. Hoffwn eich gwahodd, Weinidog—. Nid wyf yn credu y gallwn ymweld ar hyn o bryd gan na fyddai'n briodol, ond tybed a fyddech yn cytuno i gyfarfod â Tracy Pike, y prif weithredwr, sydd wedi datblygu'r model gwirioneddol arloesol hwn lle mae'r meddygon teulu'n presgripsiynu nid yn unig sesiynau cwnsela ond ystod eang o gymorth cymdeithasol i deulu. Mae'r canlyniadau cychwynnol wedi bod yn galonogol tu hwnt, a hoffwn feddwl bod hwnnw'n fodel posibl y gellid ei ddatblygu a'i ddarparu mewn mannau eraill—partneriaeth ddefnyddiol iawn rhwng arian sector cyhoeddus drwy'r bwrdd iechyd lleol, drwy'r meddygon teulu ac arloesedd trydydd sector. Felly, os ysgrifennaf atoch ynglŷn â'r mater hwnnw, Weinidog, a fyddech yn ystyried cyfarfod gyda Tracy a'i thîm i weld a oes gwersi y gellid eu dysgu o'r gwaith arloesol hwn i gymunedau mewn rhannau eraill o Gymru?

Mae hynny'n swnio'n dda i mi, rhaid imi ddweud. Rwy'n barod iawn i weld sut y gallwn gael meddygon teulu i bresgripsiynu pethau nad ydynt o reidrwydd yn feddygol bob amser. Meddyg teulu yw fy ngŵr, a gwn ei fod wedi bod yn presgripsiynu chwaraeon ers sawl blwyddyn, er enghraifft, ac ymarfer corff, ac mae hynny'n rhywbeth sydd wedi bod yn digwydd ers amser maith. Rwy'n awyddus i weld hynny'n cael ei ehangu i feysydd eraill—pethau fel y celfyddydau a chyfleusterau eraill. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn clywed mwy am hynny. Mae rhywfaint o hyn yn ymwneud â systemau a rhwydweithiau cymorth, a rhoi cymorth ychwanegol i bobl. Yn fwyaf arbennig, roedd rhai pobl yn cael trafferth ar eu pen eu hunain mewn teuluoedd, o dan bwysau aruthrol, ac mae rhannu'r baich hwnnw'n gallu bod yn ddigon weithiau i roi pobl mewn lle gwell.

15:00
Iechyd Meddwl a'r Cyfyngiadau Symud

4. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gymorth i bobl yng Nghymru y mae'r cyfyngiadau symud yn effeithio ar eu hiechyd meddwl? OQ55802

Diolch yn fawr, Hefin, a diolch am ofyn dau gwestiwn trwy gyfrwng y Gymraeg heddiw. Mae'r pandemig a'r cyfyngiadau wedi effeithio arnom ni i gyd mewn rhyw ffordd neu gilydd, ond rŷn ni'n cydnabod yr effaith ychwanegol sydd wedi bod ar iechyd meddwl a lles. O ganlyniad i hyn, rŷn ni wedi buddsoddi dros £9 miliwn ychwanegol i gefnogi cymorth i iechyd meddwl, ac i ymateb i'r newidiadau yn y maes yma.

Diolch, Weinidog. Rwy'n cymeradwyo'r cyhoeddiad a wnaed heddiw hefyd—y buddsoddiad mewn iechyd meddwl a gyhoeddwyd gennych y prynhawn yma. Rwy'n bryderus am etholwyr sydd wedi cysylltu â mi ac sydd wedi cael eu heffeithio gan COVID, nad ydynt erioed wedi cael problemau iechyd meddwl o'r blaen ac sy'n cael eu heffeithio'n uniongyrchol gan yr argyfwng COVID hwn. A gaf fi ofyn i chi a ellir rhoi mwy o arian i linell gymorth CALL i gefnogi'r bobl hynny? Beth arall rydych yn ei wneud i helpu pobl nad ydynt, o bosibl, eisiau mynd at eu meddyg teulu gyda'u problem iechyd meddwl oherwydd nad ydynt erioed wedi gorfod gwneud hynny o'r blaen? Pa gamau sy'n cael eu cymryd yn y meysydd hynny, os gwelwch yn dda?

Diolch, Hefin. Rwy'n credu bod rhaid i ni gydnabod bod rhai pobl yn dal i deimlo ychydig o embaras ynglŷn â'r ffaith y gallai fod angen cymorth iechyd meddwl arnynt, ac felly, rhaid i ni sicrhau bod mecanweithiau ar waith iddynt gael rhywfaint o help. Weithiau efallai na fyddant eisiau mynd drwy eu meddyg teulu, a dyna pam rydym eisoes wedi ehangu llinell gymorth CALL, felly diolch am holi ynglŷn â honno. Mae'r cyfleuster hwnnw eisoes wedi'i ehangu. Rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y galwadau i'r llinell gymorth honno. Roeddwn yn ddigon ffodus i siarad â'r pennaeth yn Wrecsam am y gwasanaethau y gallant eu darparu, a gallant hefyd fod yn wasanaeth cyfeirio lle gall pobl fynd i gael cymorth ychwanegol.

Rwyf hefyd yn falch iawn ein bod wedi cyflwyno cynllun cymorth therapi gwybyddol ymddygiadol newydd ar-lein. SilverCloud yw enw'r cynllun. Cafodd ei lansio ym mis Medi, ac mae tua 2,000 o bobl eisoes wedi'i ddefnyddio. Fe'i cefnogir gan arbenigwyr ac rwy'n gobeithio y bydd hwn yn fecanwaith y gallai pobl nad ydynt o bosibl wedi gorfod ymdrin â'r mater hwn o'r blaen fod yn barod i'w ddefnyddio i weld a allant ymdrin â rhai o'u problemau drwy'r cyfleuster cymorth ar-lein hwn. Felly, byddwn yn ddiolchgar iawn pe bai'r Aelodau o'r Senedd yn helpu i hysbysebu hynny i'w hetholwyr.

Weinidog, rwyf wedi bod mewn cysylltiad â ColegauCymru, sy'n pryderu'n fawr am y cymorth y mae dysgwyr addysg bellach a'r sector yn ei gael. Mae addysg uwch wedi cael £10 miliwn arall ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl ac er bod rhywfaint o hwnnw ar gyfer myfyrwyr sydd wedi gorfod ynysu yn eu llety myfyrwyr, credaf fod rhywfaint ohono ar gyfer ymwybyddiaeth o hunanladdiad ac ymdrin â materion iechyd meddwl. A gaf fi ofyn i chi—gwn fod hyn yn cynnwys addysg hefyd—a wnewch chi drafod gyda'r Gweinidog Addysg i weld a ellid ymestyn y math hwn o gymorth i gynnwys addysg bellach hefyd? Credaf fod angen buddsoddiad pellach, mwy o fuddsoddiad, mewn materion iechyd meddwl, cwnsela ac ymwybyddiaeth o hunanladdiad, yn enwedig yn y sector addysg bellach.

Diolch yn fawr am hynny, Nick. Yn sicr, credaf ein bod wedi rhoi cryn gefnogaeth i ysgolion ac i addysg uwch. Byddaf yn edrych i weld a oes angen inni roi cymorth ychwanegol i addysg bellach. Mae'n debyg y byddant yn gallu cael gafael ar gronfeydd cyllid eraill, ond nid wyf yn ymwybodol bod yna bot penodol ar gyfer addysg bellach hyd yma, felly byddaf yn edrych ar hynny, Nick. Ychydig wythnosau'n unig y bûm yn y swydd—fe edrychaf ar hynny.

Diolch. Croeso i'ch rôl newydd, Weinidog. Nid mater i'r gwasanaeth iechyd yn unig yw ein hiechyd meddwl, mae'n fater i bob unigolyn, bob teulu a phob cymuned. Rwy'n pryderu'n fawr ynglŷn â chau campfeydd, sydd, yn ogystal â darparu manteision iechyd meddwl ymarfer corff, yn gymunedau bach ynddynt eu hunain, a hefyd mannau addoli ar gyfer gweddïo cymunedol. Mae'r ddau fath o sefydliad yn rhoi ymdeimlad o bwrpas a chymuned ac rydym angen y pethau hynny yn awr yn fwy nag erioed. Weinidog, a wnewch chi gydnabod pwysigrwydd campfeydd a mannau addoli—ac rydych newydd sôn am ymarfer corff hefyd—i'n hymdeimlad o lesiant, ac a allwch chi wneud popeth yn eich gallu i sicrhau eu bod yn aros ar agor ar ôl i'r cyfnod atal byr hwn ddod i ben yng Nghymru, os gwelwch yn dda? Diolch.

15:05

Diolch, Mandy. Bu'n rhaid i'r Llywodraeth wneud rhai penderfyniadau anodd iawn. Penderfynasom y byddai'n well cael cyfyngiadau symud eithaf llym dros gyfnod byrrach, yn hytrach na gadael rhai pethau ar agor. Ac roedd llawer o achosion lle gallem fod wedi dweud, 'Wel, dim ond hwn', neu, 'Dim ond hwn', a byddai hynny wedi cyfrannu at effaith lai yn gyffredinol o ran ceisio atal y feirws rhag lledaenu. A dyna'r rheswm pam y cafodd campfeydd eu cau. Rydym yn deall yn iawn. Mae cysylltiad cydnabyddedig rhwng gweithgarwch corfforol ac iechyd meddwl gwell. Felly rydym yn gwybod nad yw cau campfeydd yn benderfyniad a wnaethom yn ysgafn a dyna pam y byddwn yn eu hailagor.

Ac yn sicr mannau addoli—gwyddom pa mor bwysig yw'r rheini i iechyd meddwl a llesiant pobl. Ceir tystiolaeth eto i awgrymu bod yr agwedd ysbrydol ar fywydau pobl yn rhywbeth a all wella eu hiechyd meddwl. Ac yn sicr, fel menyw gyda gŵr sy'n offeiriad, gwn ei fod yn fater pwysig i lawer o bobl ac, unwaith eto, byddwn yn falch iawn o fod yn agor y mannau addoli hynny wythnos i ddydd Sul.

Gofal Iechyd Meddwl yn y Gogledd

5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ofal iechyd meddwl yn y Gogledd? OQ55787

Rydyn ni’n disgwyl i’r holl fyrddau iechyd gynnal gwasanaethau iechyd meddwl hanfodol a monitro newidiadau o ran anghenion iechyd meddwl yn sgil effaith y pandemig. Ac, wrth gwrs, mae'n bwysig eu bod nhw'n ymateb wedyn i’r newidiadau hynny. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi nodi cynlluniau i wneud hyn yn ei adroddiadau fframwaith gweithredol ar gyfer chwarter 3 a 4. 

Wel, dwi'n gobeithio eich bod chi eisoes yn dod i weld gymaint mae pobl yng ngogledd Cymru yn poeni am wasanaethau iechyd meddwl, ac nid dim ond oherwydd, wrth gwrs, yr argyfwng rydyn ni'n ei wynebu ar hyn o bryd ond am resymau hanesyddol hefyd. Byddwch chi'n gwybod mai diffygion yn y gwasanaethau iechyd meddwl oedd un o'r rhesymau y rhoddwyd y bwrdd i mewn i fesurau arbennig, ac mae nifer o bobl yn teimlo nad yw rheolaeth uniongyrchol Llywodraeth Cymru wedi gwella'r sefyllfa dros y pum mlynedd ddiweddaf. Ac un rheswm am hynny, wrth gwrs, yw'r dryswch sydd a'r methiant sydd wedi bod i rannu adroddiad pwysig iawn am ofal mewn un uned iechyd meddwl yn y gogledd, sef adroddiad Holden.

Mae'r bwrdd iechyd wedi methu â chyhoeddi hwn, maen nhw wedi methu â rhoi atebion gonest i deuluoedd sy'n galaru, ac, wrth gwrs, maen nhw wedi cuddio'r gwirionedd bod eu staff nhw eu hunain yn poeni'n fawr fod y gofal oedd yn cael ei roi yn uned Hergest yn ddiffygiol. Pe bai'r bwrdd wedi gweithredu ar hyn, yma mae'n ddigon posib na fyddai sgandalau eraill fel Tawel Fan wedi gallu digwydd. Felly, a wnewch chi ymrwymo i sicrhau fod adroddiad Holden, sy'n wyth mlwydd oed erbyn hyn, yn cael ei ryddhau er mwyn inni sicrhau ein bod ni'n cael trafodaeth agored ac hefyd ein bod ni'n cael ymchwiliad o dan arweiniad rhywun annibynnol, efallai fel Donna Ockenden, er mwyn cael at y gwir ac er mwyn sicrhau na fydd hyn byth yn gallu digwydd eto?

Wel, Llyr, dwi'n gobeithio y gwnewch chi roi amser i fi edrych ar yr adroddiad yna a gweld ychydig yn fwy o'r cefndir. Ond dwi'n siwr y byddwch chi'n falch i glywed bod £12 miliwn ychwanegol wedi cael ei gyhoeddi ddoe gan y Gweinidog iechyd, sydd yn mynd i fynd at helpu yn uniongyrchol iechyd meddwl yng ngogledd Cymru. Mae strategaeth iechyd meddwl eu hunain gyda nhw yn Betsi Cadwaladr ac, wrth gwrs, trwy gydol y pandemig, mae'r gwasanaethau ar gyfer iechyd meddwl wedi bod yn wasanaethau angenrheidiol, ac felly mi roedden nhw ar agor drwy'r amser, er, dwi'n gwybod roedd yna gyfnod pan roedd yna ryw sôn yn Betsi Cadwaladr nad oedden nhw ar agor. Wrth gwrs, mi wnaethon ni gywiro hynny ar unwaith a sicrhau bod pobl yn ymwybodol bod y gwasanaethau yna ar agor. Hefyd, jest i ddweud bod yna lwyddiant, dwi'n meddwl, o ran sicrhau bod gwell trawstoriad a thrawsweithredu gyda mudiadau gwahanol sy'n ymdrin ag iechyd meddwl yn y gogledd. Ac, wrth gwrs, mae yna ddatblygiadau eraill gyda'r I CAN mental health urgent care centres, a'r syniad yn y fan yna yw bod yna rhywbeth arall yn lle ein bod ni jest yn gorfod mynd i'r ysbyty i ddelio gyda rhai o'r issues yma. Ond mi wna i edrych ar adroddiad Holden a gweld yn union beth yw'r sefyllfa yn fan hyn.

15:10

Weinidog, hyd yn oed cyn y pandemig COVID-19 presennol, roedd unigrwydd yn effeithio ar gynifer ag un o bob pump o bobl ledled y DU. Yn wir, fel y gwyddom yn dda, dros y misoedd diwethaf mae ein bywydau a'n hymwneud dyddiol â ffrindiau ac anwyliaid wedi newid yn sylweddol. Nawr, yn ôl ystadegau a ddarparwyd gan y Groes Goch drwy gydol y pandemig, mae cydberthynas gref rhwng cymryd rhan mewn sgyrsiau ystyrlon a hyder pobl yn eu gallu i ymdopi â'r argyfwng iechyd presennol. Cytunodd 51 y cant o'r rhai a oedd wedi cael sgwrs ystyrlon dros fis yn ôl eu bod yn hyderus y gallant ymdopi, ond cynyddodd y ffigur hwn i 81 y cant ymhlith y rhai a oedd wedi cael sgwrs ystyrlon o fewn yr wythnos ddiwethaf. Gyda'r wybodaeth hon mewn golwg, a wnewch chi geisio adolygu'r rheoliadau mewn perthynas â rhwydweithiau cymorth, yn enwedig er mwyn caniatáu i ofalwyr oedrannus, di-dâl enwebu un ffrind i fynd i'w heiddo drwy gydol unrhyw gyfyngiadau symud yn y dyfodol? Mae nifer o bobl wedi cysylltu â mi lle maent yn gofalu am berson oedrannus neu rywun gyda dementia, efallai, ac maent hwy eu hunain angen rhywun y gallant siarad â hwy a chael sgwrs, oherwydd gall fod yn anodd iawn. Felly, a wnewch chi ystyried hynny, er mwyn darparu cefnogaeth, fel y gall hynny wedyn fod o gymorth i ofalwyr ofalu am eu hanwyliaid?

Diolch yn fawr. Credaf fod unigrwydd yn rhan o bortffolio Julie Morgan, ond yn sicr, credaf fod cydnabyddiaeth mai'r hyn sydd angen inni ei wneud yw sicrhau bod cyfleoedd i bobl allu goresgyn y sefyllfaoedd hyn. Un o'r pethau sydd wedi bod yn eithaf diddorol am y pandemig yw bod rhai datblygiadau arloesol wedi digwydd. Felly, edrychwch arnom i gyd—rydym yn defnyddio technoleg nawr na fyddem wedi'i defnyddio o'r blaen o bosibl yn y ffordd rydym yn ei defnyddio nawr. Mae hynny wedi bod o gymorth mawr i rai pobl a oedd yn ymdopi ag unigrwydd. Ond rwy'n credu bod rhaid i ni gydnabod bod grŵp cyfan o bobl na fyddant yn gallu defnyddio technoleg yn yr un ffordd â ni. Felly, yn sicr, bydd rhywfaint o'r cyllid rydym wedi'i gyhoeddi heddiw yn mynd tuag at sicrhau bod cyfleoedd ar gael i bobl ddefnyddio gwasanaethau digidol er mwyn eu helpu gyda'u hiechyd meddwl.

Parhad Gofal i Bobl Ifanc

6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am barhad gofal i bobl ifanc sy'n symud o wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed i wasanaethau iechyd meddwl oedolion? OQ55780

Rydw i’n llawn gydnabod pwysigrwydd pontio didrafferth a pharhad gofal i bobl ifanc sy’n symud o’r gwasanaeth CAMHS i wasanaethau ar gyfer oedolion. Mae’r camau rydyn ni’n eu cymryd i wella’r broses o bontio wedi’u nodi yn y ddogfen 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl: Cynllun Cyflawni 2019-22', a gafodd ei diweddaru yn ddiweddar.

Rwy'n ddiolchgar, Weinidog. Rydym i gyd yn ymwybodol iawn o'r anawsterau sy'n wynebu pobl ifanc, ac mewn sawl ffordd, nid yw'r misoedd diwethaf ond wedi pwysleisio hyn. Dros y blynyddoedd, ym Mlaenau Gwent, rwyf wedi gorfod cefnogi nifer o deuluoedd sydd wedi'i chael yn anodd iawn cael cymorth iechyd meddwl i bobl ifanc yn eu harddegau sy'n symud rhwng y ddau wasanaeth. Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, rydym wedi bod yn ceisio cefnogi teulu sydd wedi dioddef profiad gwirioneddol dorcalonnus, lle'r oedd y gwasanaethau roeddent yn eu cael gan y tîm iechyd meddwl plant yn dda iawn, ond wrth gwrs, mae'r rhan fwyaf o wasanaethau'n dod i ben pan fydd yr unigolyn yn troi'n 18 oed, ac nid oedd y person ifanc dan sylw yn gallu cael y cymorth roeddent ei angen wrth iddynt symud at ofal iechyd meddwl oedolion. Mae'n gwbl annerbyniol na allwn ddarparu gofal di-dor i'n pobl ifanc fel hyn. Rwy'n gobeithio, Weinidog, yn yr amser sydd ar gael i chi—a gwn eich bod, mewn ymateb i gwestiwn cynharach gan Andrew R.T. Davies, yn glir iawn fod sefyllfa pobl ifanc yn flaenoriaeth i chi—y gallwch edrych nid yn unig ar y gwasanaethau eu hunain ond ar y pontio rhwng gwasanaethau a'r cysylltiad rhwng gwahanol wasanaethau i sicrhau bod pobl ifanc yn cael y cymorth y maent ei angen yn ddi-dor wrth iddynt dyfu i fyny, ac yn ddi-dor rhwng gwahanol ddarparwyr gwasanaethau.

15:15

Diolch, Alun. Credaf fod yr adroddiad 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' yn cydnabod bod angen gwneud rhywfaint o waith ar hyn mewn gwirionedd, ac rydym yn sicr yn ymwybodol fod angen inni wneud yn well yn y maes hwn. Hoffwn ei gwneud yn glir fod holl wasanaethau CAMHS, yn ystod cam cyntaf y pandemig, wedi oedi'r pontio hwnnw i bobl ifanc at wasanaethau oedolion, a chredaf mai dyna oedd y peth iawn i'w wneud. Mae'n rhaid inni dderbyn nad yw troi'n 18 oed yn gwneud popeth yn well; nid yw'n newid popeth ac nid yw'n eich gwneud yn oedolyn dros nos. Felly, mae angen inni sicrhau ein bod yn fwy sensitif o bosibl i anghenion y bobl sy'n pontio. Wrth gwrs, mae canllawiau clir iawn wedi'u nodi gyda'r rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc, a dylai pobl fod yn dilyn y canllawiau hynny i sicrhau nad ydym yn wynebu rhai o'r anawsterau y gwn fod rhai pobl wedi'u hwynebu.

Wrth gwrs, ar ben hynny, ceir y pasbort pobl ifanc a'r syniad yma yw ein bod yn grymuso'r unigolyn i gymryd ychydig mwy o berchnogaeth ar y broses, ac adolygwyd hynny, wrth gwrs, yn 2019. Felly, gwyddom fod mwy o waith i'w wneud yma, gwyddom beth sydd angen i ni ei wneud, ond rydym yn gwybod bod yna gamau y mae angen i ni eu cymryd o hyd ac mae hynny, wrth gwrs, yn rhan o'n cynllun gweithredu dros y flwyddyn neu ddwy nesaf.

Weinidog, byddwn yn dweud bod hwn yn faes allweddol, nid yn unig ar gyfer y broses bontio ei hun, sydd yn aml wedi achosi anawsterau a bylchau, ond ceir nifer o gyflyrau iechyd meddwl difrifol sy'n tueddu i ymddangos am y tro cyntaf yn y glasoed hwyr ac mewn oedolion ifanc, ac felly mae rheoli'r cyflyrau hyn, yn enwedig pan fyddant yn ymddangos am y tro cyntaf, yn allweddol iawn i adferiad hirdymor claf. Credaf fod angen rhoi llawer o sylw i'r ffaith bod y cyfnod hyd at 25 yn llawer tebycach i'r cyfnod ychydig cyn 18 oed, ac nid yw hyn wedi bod yn wir bob amser. Gwn fod gwasanaethau ar gael sydd wedi'u cynllunio'n dda, ond mae angen inni eu hymgorffori'n llawer mwy cyffredinol.

Rwy'n credu bod hynny'n iawn, David, a chredaf fod rhai sefydliadau eisoes yn cynnig y gwasanaeth hwnnw, y gall pobl aros yn y system nes eu bod yn 25 oed, a chredaf mai'r hyn sy'n rhaid inni ei wneud yw gweithio tuag at system lle mae hynny'n cael ei gynnig yn gyffredinol efallai, ond y dylem roi'r dewis i bobl o ran pryd y maent eisiau pontio o'r naill i'r llall. Dyna lle hoffwn gyrraedd, ond rwy'n credu bod gennym waith i'w wneud yn y maes hwnnw. Mae rhai byrddau iechyd yn well nag eraill yn hynny o beth ac mae angen i ni roi'r pwysau ar yr ardaloedd nad oes ganddynt system gystal ag eraill o bosibl.

3. Cwestiynau Amserol

Eitem 3 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r cwestiynau amserol. Mae un cwestiwn amserol i'w ateb gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru. Helen Mary Jones.

Y Gronfa Cadernid Economaidd

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y penderfyniad i gau'r gronfa cadernid economaidd yn gynnar i geisiadau sy'n ymwneud â'r cyfnod atal byr? TQ499

Gwnaf, wrth gwrs. Mae trydydd cam y gronfa cadernid economaidd yn cynnwys dwy ran, yn gyntaf, y gronfa i fusnesau dan gyfyngiadau symud gwerth £200 miliwn, sydd wedi'i chynllunio i dargedu costau gweithredu i fusnesau drwy'r cyfnod atal byr, ac sy'n parhau i fod ar agor i geisiadau drwy Busnes Cymru a hefyd drwy wefannau awdurdodau lleol. Mae'r ail ran, y gronfa ar gyfer grantiau datblygu busnes fwy hirdymor sy'n werth £100 miliwn, wedi derbyn bron i 6,000 o geisiadau ac felly mae wedi'i rhewi i ymgeiswyr newydd. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu arian i ymgeiswyr llwyddiannus cyn gynted ag y gallwn.

15:20

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ateb. Rwy'n siŵr y bydd yn cydnabod, oherwydd bod gormod wedi gwneud cais am grant o'r gronfa hon, fod llawer o fusnesau'n siomedig a rhai perchnogion busnes yn eithaf gofidus am na allent wneud y ceisiadau roeddent yn disgwyl gallu eu gwneud. Ac rwy'n dweud hyn er fy mod yn llawn ddeall y pwysau ar gyllidebau'r Gweinidog a'r ffaith na fydd byth yn gallu helpu pob busnes unigol, a bod yna gyfrifoldebau i'r DU yma hefyd.

A gaf fi ofyn i'r Gweinidog, mewn perthynas â gweinyddu'r cynllun, a yw'n hyderus bod digon o gapasiti yn Busnes Cymru i ymdrin â'r lefel hon o bwysau gwaith? O gofio'n arbennig nad yw hwn yn ddigwyddiad untro, fel y gallem fod wedi disgwyl iddo fod efallai, neu fel y gallem fod wedi gobeithio y gallai fod ar ddechrau'r argyfwng hwn, ond mae hwn yn bwysau a fydd ar Busnes Cymru am beth amser i ddod, yn anffodus.

Ac a gaf fi ofyn iddo hefyd, o gofio bod adnoddau'n gyfyngedig ac na all Llywodraeth Cymru wneud popeth, a yw'n bryd i Lywodraeth Cymru fabwysiadu dull sydd wedi'i dargedu'n well at y busnesau rydych yn parhau i'w cefnogi, gan flaenoriaethu'r busnesau sydd â'r angen mwyaf nawr, efallai, yn y tymor byr, ond hefyd y busnesau a oedd yn gwbl hyfyw cyn y cyfyngiadau symud na allant fasnachu o gwbl yn ystod y pandemig, ond a fydd yn hyfyw wedyn? A oes arnom angen cynllun 'gaeafgysgu' penodol ar gyfer busnesau fel y rheini, ac a ddylech fod yn targedu cymorth, Weinidog, at fusnesau fel busnesau lletygarwch penodol, rhai busnesau twristiaeth, busnesau diwylliannol nad ydynt yn gallu agor o gwbl o bosibl, nes inni gyrraedd pwynt lle mae gennym frechlyn? Byddwn yn dweud wrth y Gweinidog, Ddirprwy Lywydd, os na all wneud popeth—ac rwy'n deall efallai na all wneud hynny—a yw'n bryd gwneud y pethau sydd fwyaf o angen eu gwneud nawr o safbwynt cymorth busnes?

A gaf fi ddiolch i Helen Mary Jones am ei chwestiynau a diolch iddi hefyd am y rhan adeiladol iawn y mae wedi'i chwarae, ac yn wir y mae Aelodau eraill yn y Siambr wedi'i chwarae, yn ffurfio'r gronfa cadernid economaidd yn ystod gwahanol gamau'r gefnogaeth hon?

Hoffwn wneud nifer o bwyntiau i ddechrau. Yn gyntaf oll, fel y gŵyr yr Aelodau, Llywodraeth Cymru sy'n cynnig y pecyn cymorth mwyaf hael a chynhwysfawr i fusnesau yn y Deyrnas Unedig, ond fel y mae Helen Mary Jones wedi'i nodi'n gywir, ni fyddai'n bosibl i unrhyw Lywodraeth gefnogi pob busnes gydag arian brys ar gyfer costau gweithredu a chyda chymorth ar gyfer datblygu busnes, ac felly mae'n rhaid inni ymdrin â hyn mewn ffordd sydd wedi'i thargedu, fel y nododd Helen Mary Jones, a dof yn ôl at y pwynt hwnnw.

Yr ail fater pwysig i'w godi gyda chanfyddiadau ynglŷn â thrydydd cam y gronfa cadernid economaidd yw bod dwy ran iddo, ac mae'r rhan fwyaf yn parhau i fod ar agor, a byddwn yn annog busnesau i wneud cais—os ydynt yn chwilio am arian brys ar gyfer eu busnesau—i'r gronfa i fusnesau dan gyfyngiadau symud gwerth £200 miliwn. Roedd y grant datblygu busnes gwerth £100 miliwn ar gyfer prosiectau datblygu, a dof yn ôl at y rheswm pam eu bod yn wahanol. Ond y trydydd pwynt i'w wneud ynglŷn â'r pecyn cymorth cyffredinol yw y bu rhywfaint o gamddealltwriaeth ynglŷn â dibenion y grantiau datblygu, ac mae'n ymddangos bod nifer o fusnesau wedi bod yn ceisio cael cymorth brys naill ai drwy system ar-lein y grant datblygu yn bennaf, neu drwy'r grantiau ardrethi annomestig a'r grantiau datblygu. O ganlyniad i hyn, rydym eisoes wedi gallu didoli nifer sylweddol o geisiadau ac rydym wedi canfod y bydd cyfradd y ceisiadau a wrthodir yn eithaf uchel oherwydd bod nifer sylweddol o fusnesau a gyflwynodd geisiadau ar y dydd Gwener hwnnw wedi gwneud hynny heb dystiolaeth ategol, neu wedi gwneud hynny heb gynllun cryf ar gyfer datblygu eu busnes, neu oherwydd nad oeddent wedi darparu unrhyw ddata llif arian, a'u bod eisiau cymorth ar gyfer llif arian, neu oherwydd bod eu prosiectau'n anghymwys, er enghraifft oherwydd bod nifer o ymgeiswyr yn gwneud cais am flaendaliadau ar dai gwyliau i'w gosod.

Gwnaethom sicrhau ei fod yn ddull wedi'i dargedu, ac roedd yr holl ganllawiau'n tynnu sylw busnesau at y ffaith ei fod wedi'i dargedu, ei fod at ddiben datblygu eu busnesau, gan greu swyddi neu ddiogelu swyddi. Roedd rhaid iddynt gydymffurfio â'n hegwyddorion gwerth am arian, roedd rhaid iddynt fod o ansawdd uchel, ac roedd rhaid iddynt wella'r rhagolygon busnes ar gyfer y tymor canolig a'r tymor hir. Nawr, gallaf ddweud wrth yr Aelodau fod yna £300 miliwn arall y mae'r Gweinidog cyllid wedi'i glustnodi mewn egwyddor ar gyfer cymorth busnes yn chwarter cyntaf 2021. Yn ogystal, mae cyllideb heb ei defnyddio yn weddill o gylch gwreiddiol y grantiau COVID-19 sy'n gysylltiedig ag ardrethi annomestig, ac mae swyddogion yn gweithio'n agos iawn ar hyn o bryd gyda thrysoryddion awdurdodau lleol i gadarnhau faint o'r arian hwn sydd heb ei ddefnyddio o hyd ar draws y 22 awdurdod lleol a pha opsiynau a allai fod ar gael i'w addasu at ddibenion gwahanol o bosibl. Gallaf ddweud wrth Aelodau hefyd, o ran y gronfa gwerth £100 miliwn ar gyfer grantiau datblygu busnes, y byddwn yn blaenoriaethu'r gwaith o arfarnu'r holl geisiadau a ddaeth i law. Ar hyn o bryd rwy'n cael cyngor pellach ar y camau nesaf mewn perthynas â'r hyn a wnawn gyda'r gronfa ar gyfer grantiau datblygu busnes, ac rwy'n gobeithio gwneud datganiad pellach yn y dyfodol agos iawn.

Ond i ateb rhai o'r pwyntiau eraill a gododd Helen Mary Jones—capasiti yn Busnes Cymru. Rydym yn adolygu capasiti yn Busnes Cymru yn gyson. Rydym yn cynyddu ac yn lleihau capasiti yn ôl yr angen. Nid wyf yn poeni cymaint am gapasiti adnoddau dynol ag yr wyf am y ffordd y mae'r bobl sydd ar y llinell gymorth yn cael eu trin gan rai—lleiafrif bach iawn. Ond rwyf wedi clywed bod rhai o staff llinell gymorth Busnes Cymru wedi dioddef cam-drin geiriol, ac rwy'n siŵr na fyddai neb yn y Siambr hon yn esgusodi ymddygiad o'r fath. Gwn fod hwn yn gyfnod hynod o anodd a phryderus i berchnogion busnesau, ond mae'n bwysig ein bod hefyd yn parchu'r bobl sy'n ceisio ein helpu, ac felly byddwn yn annog pawb sy'n ffonio llinell gymorth Busnes Cymru i fod yn gwrtais ac i barchu staff Bus Cymru.

Yna, yn olaf, mewn perthynas â'r pwynt a wnaeth Helen Mary Jones—unwaith eto, pwynt hynod werthfawr—am bwysigrwydd ystyried sut rydym yn helpu busnesau nad ydynt o bosibl yn gallu gweithredu drwy'r gaeaf, ond y gwyddom eu bod yn fusnesau hyfyw, i 'aeafgysgu' tan y flwyddyn nesaf. Gellir gwneud hynny, wrth gwrs, drwy ymestyn y cynllun cadw swyddi ac wrth gwrs, gydag unrhyw gymorth gan Lywodraeth Cymru a fyddai'n ceisio llenwi unrhyw fylchau neu ddarparu rhwyd ddiogelwch ychwanegol i ategu'r cynllun cadw swyddi. Ond wrth gwrs, mae hynny'n ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth y DU gytuno i ymestyn y cynllun cadw swyddi ymhellach, ac o ran hynny, ymestyn y cynllun cymorth incwm i’r hunangyflogedig ymhellach hyd nes y gall rhannau o'r economi ailagor yn wirioneddol ddiogel, boed hynny gydag amrywiaeth o frechlynnau neu addasiadau pellach a thrwy atal y feirws i lefel lle gallwn wneud hynny. Ond mae'n gwbl hanfodol fod Llywodraeth y DU yn ystyried estyniad pellach i'r cynllun cadw swyddi a'r cynllun cymorth incwm i’r hunangyflogedig.

15:25

A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei ateb nawr? Roedd yn gynhwysfawr iawn ac rwy'n credu mai dyna rwyf fi a llawer o'r Aelodau eraill ei angen er mwyn gallu ateb ymholiadau gan etholwyr. Ac a gaf fi ddiolch i Helen Mary Jones am gyflwyno'r cwestiwn? Rwy'n credu hefyd ei bod yn siomedig iawn fod pobl yn cam-drin staff Busnes Cymru yn eiriol. Rwy'n deall rhwystredigaethau pobl, ond ni ddylid rhoi'r bai, wrth gwrs, ar y bobl sy'n ceisio eu helpu. 

O'm rhan i, mae cryn dipyn o ddryswch wedi bod, Weinidog, ymhlith busnesau ac awdurdodau lleol. Ac rwy'n ymwybodol, mewn rhai achosion, fod awdurdodau lleol wedi cael canllawiau amrywiol—weithiau ar yr un diwrnod, ar yr un mater—felly credaf fod rhai gwersi i'w dysgu ar gyfer y camau nesaf. Ac rwy'n ymwybodol fod rhai awdurdodau lleol wedi gweithredu gwahanol brosesau ymgeisio mewn ffyrdd gwahanol iawn, felly rwy'n credu bod gwersi go iawn i'w dysgu yn hynny o beth wrth symud ymlaen. 

Weinidog, sylwais fod Prifysgol Caerdydd wedi amcangyfrif bod gan Lywodraeth Cymru £1 biliwn ar ôl i'w ddyrannu o gronfeydd i ymladd COVID-19, ac maent wedi edrych ar y £4.4 biliwn gan Lywodraeth y DU, a'r swm a ail-ddyrannwyd o gyllidebau presennol Llywodraeth Cymru. A allwch chi gadarnhau bod hynny'n wir hyd y gwyddoch, neu a ydych yn credu bod Prifysgol Caerdydd yn anghywir ynglŷn â hyn? Ac os ydyw, pam nad yw Llywodraeth Cymru'n ymrwymo'r arian hwn i gefnogi busnesau nawr, efallai, yn hytrach na'i gadw at rywbryd eto? Mae Llywodraeth y DU hefyd, wrth gwrs, wedi rhoi sicrwydd drwy warantu o leiaf £1.1 biliwn drwy symiau canlyniadol cyn diwedd eleni. Os nad yw hynny'n ddigon, a gwn fod y gyllideb atodol ar y ffordd, beth arall y gellir ei ailddyrannu o gyllidebau presennol i sicrhau bod busnesau'n cael y cymorth sydd ei angen arnynt yn awr, cyn y gaeaf, yn hytrach na'i roi iddynt pan fydd yn rhy hwyr? Ac yn fyr ac yn olaf, o gofio bod cyllid wedi'i neilltuo ar gyfer busnesau twristiaeth a lletygarwch, mae pryderon yn codi, os yw busnes yn cael y grant ardrethi annomestig, eu bod wedi'u hatal rhag gwneud cais am y grant dewisol. Felly, os na wnaethoch roi sylw i hynny yn y cwestiwn cynharach—roeddwn yn brysur yn gwneud nodiadau—a wnewch chi roi sylw i'r pwynt hwnnw hefyd o bosibl?

15:30

Ie. Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i Russell George am ei gwestiynau, a dweud ei bod yn ddrwg gennyf am unrhyw gamddealltwriaeth ynglŷn â diben cronfa'r grant datblygu? Ymdrechwyd i'w gwneud mor glir ag y gallem ar wefan Busnes Cymru beth yw diben y gronfa honno a'r meini prawf cymhwysedd a'r hyn oedd ei angen er mwyn gwneud cais. Er hynny, yn anffodus mae'n ymddangos bod nifer sylweddol o fusnesau, oherwydd eu bod mewn sefyllfa ddybryd efallai, wedi gwneud ceisiadau nad oeddent yn bodloni'r meini prawf, a heb unrhyw dystiolaeth ddogfennol foddhaol o'r angen am ddatblygiadau i fynd gyda'u cais. Ac felly, o ganlyniad, gwnaed mwy o geisiadau i'r gronfa nag y gallai ddarparu ar eu cyfer a chafodd ei rhewi. Ond byddwn yn craffu ar bob cais ac yn ceisio sicrhau ein bod, drwy ddull ansoddol, yn cefnogi'r busnesau hynny sydd â'r syniadau gorau a'r argymhellion gorau. Ac fel rwyf eisoes wedi dweud wrth Helen Mary Jones, rwy'n gobeithio gwneud datganiad pellach yn y dyfodol agos iawn ynghylch arfarniadau o'r ceisiadau presennol a'r camau nesaf.

Rwy'n credu bod y £1 biliwn y cyfeiriodd Russell George ato yn fater at sylw'r Gweinidog cyllid. Ond yr hyn y gallaf ei ddweud wrth yr Aelodau yw bod y Gweinidog cyllid wedi cytuno'n garedig i neilltuo £300 miliwn ychwanegol er mwyn paratoi ar gyfer chwarter cyntaf 2021. Ac wrth gwrs rydym yn aros am eglurhad ar unrhyw symiau canlyniadol pellach gan Lywodraeth y DU o ganlyniad i gyhoeddiadau diweddar. Ac fel y mae'r Prif Weinidog eisoes wedi dweud droeon, bydd unrhyw symiau canlyniadol sy'n ymwneud yn uniongyrchol â chymorth busnes yn cael eu darparu fel cymorth busnes pan ddônt drwodd i Gymru. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig eto i'r Aelodau gofio ein bod yn gweithredu mewn argyfwng, ac eto, yn ystod yr argyfwng hwn, drwy gydol yr argyfwng hwn, rydym wedi gallu cefnogi busnesau gyda'r pecyn cymorth mwyaf hael yn unman yn y DU, gan ddefnyddio'r gronfa cadernid economaidd fel cronfa a system i lenwi tyllau a darparu rhwydi diogelwch na fyddent yn bodoli fel arall.

Ac ar y pwynt pwysig a godwyd gan Russell George ar y diwedd, mae'r busnesau na lwyddodd i gael grantiau dewisol am eu bod wedi cael grantiau'n ymwneud ag ardrethi annomestig, wel, mae'r grantiau dewisol a ddarparwyd gennym drwy lywodraeth leol wedi'u cynllunio i gefnogi busnesau nad ydynt yn meddiannu eiddo—busnesau sy'n gweithredu o eiddo a rennir ac yn y blaen. A diben hynny yw sicrhau ein bod yn cynnwys cynifer o fusnesau ag y gallwn, yn enwedig microfusnesau.

Diolch, Weinidog. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Helen Mary Jones am roi cyfle arall i'r Senedd hon, yn sgil yr hyn a gafwyd ddoe, i fynegi wrth y Llywodraeth pa mor bwysig yw ailagor cam 3 y gronfa cadernid economaidd—ochr y grant datblygu busnes ohoni, fel rydych wedi disgrifio, sy'n wahanol i'r llall—a'i hailagor yn gyflym, Weinidog. Oherwydd roedd busnesau ar draws de-ddwyrain Cymru a'n gwlad yn dibynnu ar y gronfa hon. Treuliodd busnesau o bob maint wythnosau'n paratoi ar gyfer y gronfa hon, fel y dywedasom ddoe, ac roeddent yn dibynnu arni, er iddynt gael canllawiau newydd ar gyfer y gronfa ar y bore y cafodd ei hagor, felly mae'n amlwg fod hynny wedi cymryd amser. Ac yna, o fewn 24 awr, roedd y gronfa wedi cau. Mae hyn yn dangos i mi fod diffyg goruchwyliaeth difrifol o ran yr angen am y gronfa hon a'r galw a oedd yn mynd i ddigwydd. A chan dynnu allan yr hyn rydych newydd ei ddweud am y bobl a wnaeth gais iddi am y rhesymau anghywir, nid yn unig y dywedwyd wrthynt ei bod wedi'i chau o fewn 24 awr, ond yn hytrach na'r £150,000 roeddent yn ceisio gwneud cais amdano, dywedwyd wrthynt y byddent yn cael eu cyfeirio wedyn i geisio gwneud cais am £2,000, ac mae'n amlwg nad yw hynny'n ddigon da. Roeddwn wrth fy modd yn gweld y gefnogaeth o bob rhan o'r Siambr ddoe ar ôl i mi godi'r mater ar gyfer y datganiad brys hwn—hyd yn oed yn eich plaid eich hun, mae pobl yn cydnabod ei bod yn bwysig ailagor y gronfa hon yn enwedig. Rwy'n croesawu'r hyn a ddywedodd y Prif Weinidog wrth ymateb, gan ddweud y byddai'r Llywodraeth yn ystyried ei hailagor ac fel rydych wedi dweud, mae arian ar gael pe baech yn penderfynu gwneud hynny. Felly, rwy'n croesawu hynny hefyd, Weinidog.

Ac oherwydd y cymorth, a ydw i'n iawn yn awr i dybio nad mater o 'os' bydd y gronfa'n cael ei hailagor ydyw bellach, ond yn hytrach, 'pryd'? A phryd y byddwch yn gwneud y datganiad am y grant datblygu busnes? Oherwydd mae cymaint o bobl ddryslyd allan yno sydd dan bwysau a heb gael ateb i'w negeseuon e-bost gan Busnes Cymru hyd yn oed. Felly, hoffwn i chi edrych ar hynny, a rhoi gwell cyngor yn y dyfodol i'r busnesau a gafodd eu gwrthod. Ond diolch i chi am eich eglurhad ychwanegol y prynhawn yma, Weinidog. Diolch.

15:35

A gaf fi ddiolch i Laura Anne Jones am ei chwestiynau? Ac fel y dywedais eisoes, daeth nifer enfawr o geisiadau i law. Yn anffodus, gwnaeth llawer o fusnesau gais am gymorth nid am eu bod yn ceisio cymorth ar gyfer datblygiad, fel y cyfryw, a fyddai'n sicrhau swyddi, a fyddai'n gwella rhagolygon busnes, ond yn hytrach am eu bod yn chwilio am arian brys. Nawr, nid dyna ddiben y gronfa hon, ac nid wyf yn credu ei bod yn deg cymharu'r uchafswm o £150,000 o grant sydd ar gael ar gyfer datblygu busnes â'r cymorth brys, er bod hwnnw'n llai, oherwydd mae'r ddwy gronfa, neu ddwy ran y gronfa, yn gweithredu am wahanol resymau. Nod un rhan—y rhan arian brys—yw cefnogi busnesau drwy'r cyfnod atal byr; nod y llall—y grantiau datblygu busnes—yw cefnogi datblygiad busnes ar gyfer y tymor hwy, ac mae hynny'n hanfodol bwysig. Mae'n hanfodol bwysig gwahaniaethu rhwng diben y ddwy ran o'r gronfa. 

Nawr, o ran y camau nesaf, rwyf eisoes wedi dweud wrth yr Aelodau y byddaf yn gwneud cyhoeddiad yn y dyfodol agos iawn, ar ôl i ni arfarnu cronfa'r grant datblygu busnes. Rwy'n ceisio cyngor pellach gan swyddogion ynglŷn â'r camau nesaf, ond rwy'n credu ei bod yn gwbl gywir a phriodol ein bod yn craffu ar y ceisiadau a ddaeth i mewn hyd yma, ein bod yn dysgu oddi wrthynt, a'n bod yn teilwra cymorth at y diben y'i cynlluniwyd ar ei gyfer. A nod cynllun grant datblygu busnes y gronfa cadernid economaidd yw sicrhau bod gan fusnesau ddyfodol mwy hirdymor, eu bod yn gallu ffynnu yn y dyfodol yn ogystal â goroesi'r cyfnod atal byr. A gallaf dynnu sylw at nifer o geisiadau rhagorol a ddaeth i law sy'n dangos sut y gwnaeth rhai busnesau fynd ati yn y ffordd fwyaf cyfrifol gyda cheisiadau rhagorol, a'r busnesau na chafodd arian, byddwn yn dweud 'Daliwch eich gafael ar eich dogfennau; mae £300 miliwn yn mynd i fod ar gael.'

Mae Laura Anne Jones yn holi pryd y byddwn yn agor cronfa yn y dyfodol. Wel, bwriadwn allu cefnogi busnesau yn chwarter cyntaf y flwyddyn nesaf. Ond rydym am sicrhau bod busnesau'n gallu datblygu'r cynigion gorau posibl i'w cyflwyno i Lywodraeth Cymru. Ac mae un cynnig o'r fath—ni allaf enwi'r busnes, mae arnaf ofn; mae wedi'i leoli yn Ninbych—sydd wedi bod yn llwyddiannus eisoes drwy gronfa'r grant datblygu wedi cyflwyno cais rhagorol a oedd yn ymdrin â thir eu heiddo a fyddai'n eu galluogi i gynnal mwy o briodasau ac roeddem yn gallu eu cefnogi gyda chynnig grant ar gyfradd ymyrraeth o 72 y cant. Rwy'n credu ei bod yn bwysig fy mod yn sôn am y gyfradd ymyrraeth, oherwydd yn anffodus, ceir cred hefyd fod busnesau'n gallu sicrhau uchafswm y grant bob tro, ond yn lle hynny rydym yn edrych ar gyfraddau ymyrraeth sy'n gysylltiedig â gwerth am arian i'r trethdalwr. 

4. Datganiadau 90 eiliad

Eitem 4 ar yr agenda yw'r datganiadau 90 eiliad, a'r wythnos hon mae gennym un gan Llyr Gruffydd.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Fel y gwyddom i gyd, yr wythnos hon yw Wythnos Hinsawdd, ac mae'n gyfle i fyfyrio ar ein cydymdrechion a'n cydymrwymiad i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur presennol a pharhaus. Ers i'r Senedd ddatgan argyfwng hinsawdd yn 2019, efallai nad ydym wedi gweld y newid agwedd pendant y byddai llawer ohonom wedi gobeithio amdano, ac wedi'i ddisgwyl yn wir, a gwn fod llawer ohonom hefyd yn rhwystredig nad oes gan Gymru'r pwerau sydd eu hangen arnom i wneud y gwahaniaeth mwyaf posibl. Ond lle bu camau cadarnhaol tuag at fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a'r bygythiadau cysylltiedig i'n hecosystemau, ein heconomi, ein hiechyd a lles cenedlaethau'r dyfodol, mae'n amlwg fod y rheini wedi cael croeso mawr.

Felly, yr wythnos hon dylem ystyried yr hyn sydd wedi'i wneud, beth sy'n cael ei wneud, a beth arall y gall pawb ohonom ei wneud i fynd i'r afael â'r argyfwng byd-eang hwn. Rydym i gyd yn deall arwyddocâd yr her hon ac wrth gwrs, ni fydd pwysau'r argyfwng COVID-19 presennol a'n hymadawiad â'r Undeb Ewropeaidd ond yn ychwanegu at yr ymdrech enfawr hon. Rwy'n siŵr y gallwn i gyd gytuno bod angen gwneud mwy i sicrhau bod Cymru'n chwarae ei rhan yn mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a gwrthdroi colledion bioamrywiaeth. O leihau'r galw am ynni drwy gynyddu effeithlonrwydd ynni, i dyfu ynni adnewyddadwy, defnyddio potensial adnoddau naturiol Cymru, datgarboneiddio trafnidiaeth, diwygio defnydd tir a hyrwyddo mwy o atebion yn seiliedig ar fyd natur a seilwaith gwyrdd, rhaid i bawb ohonom ymrwymo i fynd ymhellach, yn gyflymach. Ac mae Wythnos Hinsawdd yr wythnos hon yn rhoi cyfle i ni fyfyrio, bwrw iddi o'r newydd a hybu ein hymrwymiad personol a chyfunol i greu llwybr at yfory mwy gwyrdd.

15:40
5. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Atal trafodion cyn pleidleisiau electronig o bell

Eitem 5 ar yr agenda yw cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog ar atal trafodion cyn pleidleisiau electronig o bell. Galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol—Siân Gwenllian.

Cynnig NDM7448 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Atal trafodion cyn pleidleisiau electronig o bell’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Hydref 2020.

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 34.14D, fel y nodir yn Atodiad A adroddiad y Pwyllgor Busnes.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Ni welaf unrhyw wrthwynebiad. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Cynnig i ethol Aelod i Bwyllgor

Eitem 6 yw'r cynnig i ethol Aelod i bwyllgor. A'r cynnig yw ethol Caroline Jones, y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio, yn aelod o'r Pwyllgor Busnes, a galwaf eto ar Siân Gwenllian i wneud y cynnig yn ffurfiol.

Cynnig NDM7453 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Caroline Jones (Y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio) yn aelod o’r Pwyllgor Busnes.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Cynnig i ethol Aelod i Bwyllgor

Eitem 7 yw cynnig i ethol Aelod i bwyllgor, a'r tro hwn cynnig i ethol Mark Reckless, Aelod Annibynnol, yn aelod o'r Pwyllgor Cyllid. A galwaf eto ar Siân Gwenllian i wneud y cynnig yn ffurfiol.

Cynnig NDM7454 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Mark Reckless (Annibynnol) yn aelod o’r Pwyllgor Cyllid.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Ni welaf unrhyw wrthwynebiad. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Cynnig i nodi'r adroddiad blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer 2019-20

Eitem 8 yw cynnig i nodi'r adroddiad blynyddol ar gynllun ieithoedd swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer 2019-20. A galwaf ar y comisiynydd sy'n gyfrifol am ieithoedd swyddogol i wneud y cynnig—Rhun ap Iorwerth. Rhun.

Cynnig NDM7447 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â pharagraff 8 (8) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006:

Yn nodi'r Adroddiad Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd, a osodwyd gerbron y Senedd ar 18 Mehefin 2020.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser gen i gyflwyno'r adroddiad yma ar ein cynllun ieithoedd swyddogol ni ar gyfer y flwyddyn Ebrill 2019 i Mawrth 2020. Yn unol â’r drefn arferol, mae’r adroddiad wedi’i gwblhau ers mis Mehefin eleni, ond, wrth gwrs, mae amgylchiadau wedi ein hatal rhag cynnal y ddadl tan rŵan. Mae’r adroddiad yn edrych yn ôl ar ein gwaith ni fel Comisiwn dros y flwyddyn, yn dathlu llwyddiannau, ond hefyd, yn bwysig iawn, iawn, wrth gwrs, yn nodi’r adegau hynny lle nad ydym ni wedi llwyddo i gyrraedd y safonau uchel sydd wedi’u pennu yn y cynllun.

Mi wnaethom ni gyflawni llawer yn ystod y flwyddyn. Efallai mai un o’r prif uchafbwyntiau oedd cynnal arolwg o sgiliau iaith Gymraeg staff Comisiwn y Senedd. Mi allwch weld y manylion yn yr adroddiad ei hun, ond mi oedd hi'n galonogol iawn gweld dros 80 y cant o’r rheini wnaeth ymateb i’r arolwg yn nodi bod rhywfaint o sgiliau iaith Gymraeg ganddyn nhw—y sgiliau hynny yn amrywio o lefel Cymraeg cwrteisi i siaradwyr Cymraeg rhugl, ac mae o'n brawf, dwi'n meddwl, bod ein system recriwtio, sydd yn seiliedig ar y matrics sgiliau iaith, yn gweithio. Heb os, mae hyn, dwi'n meddwl, yn adlewyrchiad llawer mwy cywir o’r continwwm ieithyddol sy’n bodoli yng Nghymru rŵan na’r hen ddull deuaidd o ddisgrifio unigolion un ai fel siaradwyr Cymraeg neu yn ddi-Gymraeg. Ac mae’n brawf hefyd, dwi'n meddwl, o lwyddiant ein darpariaeth hyfforddiant sgiliau iaith Gymraeg, efo’r niferoedd sy’n derbyn cymorth i ddysgu, neu i wella eu sgiliau, yn cynyddu yn flynyddol. Mi fydd yr wybodaeth sydd wedi dod i law drwy'r arolwg yn cryfhau ein gwaith parhaus ni ar gynllunio capasiti a sicrhau bod y sgiliau cywir yn y mannau cywir ar draws y sefydliad.

Datblygiad nodedig arall yn ystod y flwyddyn oedd llofnodi memorandwm cyd-ddealltwriaeth rhwng Comisiwn y Senedd a Chomisiynydd y Gymraeg. Wrth gwrs, mae’r ffaith bod gennym ni ein Deddf ein hunain yn golygu nad ydym ni'n atebol i Gomisiynydd y Gymraeg, ond yn hytrach yn atebol i’r 60 Aelod etholedig o’r Senedd hon trwy gynnal dadl flynyddol yn y Cyfarfod Llawn, a thrwy adborth barhaus gennych chi am ein gwasanaethau. Ond, dwi'n meddwl, mae sefydlu’r memorandwm wedi golygu ein bod ni yn gallu cynnal perthynas efo'r comisiynydd, ac, yn bwysicach, yn golygu ein bod ni’n cryfhau ein gallu i ddysgu am y datblygiadau diweddaraf ym maes cynllunio ieithyddol a darparu gwasanaethau dwyieithog yng Nghymru, ac yn rhannu'n harferion da ninnau efo eraill hefyd.

Mi fyddai'n od iawn taswn i ddim yn cyfeirio at y sefyllfa o ran pandemig y coronafeirws yn yr ychydig eiriau yma hefyd. Mi gafodd y cyfnod clo gwreiddiol ei gyflwyno tua diwedd y cyfnod adrodd. Mae'r ffaith ein bod ni yma yn cymryd rhan mewn dadl arall drwy gyfrwng rhithiol yn dystiolaeth o'r arloesedd gafodd ei gyflwyno yn y Senedd o ganlyniad i'r cyfyngiadau, ac yn rhan ganolog o'r arloesedd hwnnw, wrth gwrs, oedd yr angen i sicrhau ein bod ni'n gallu cario ymlaen i weithredu yn ddwyieithog yn y byd rhithiol, neu'n ddiweddarach y byd hybrid newydd yma.

Wrth i’r adroddiad gael ei ddrafftio, roeddem ni eisoes ymysg y deddfwrfeydd cyntaf i gynnal Cyfarfodydd Llawn yn rhithwir a hynny yn gwbl ddwyieithog. Rydym hefyd wedi cynghori nifer helaeth o sefydliadau ar draws Cymru ar ddefnyddio technoleg i ddarparu gwasanaethau dwyieithog. Mae wedi bod yn braf cael siarad efo balchder am ein profiadau mewn digwyddiadau rhyngwladol hefyd, fel cadeirydd cangen Cymru o Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad, a dwi'n gwybod bod staff y Comisiwn wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau rhyngwladol hefyd. Mi fyddwn ni'n sicr yn dysgu o’r profiadau rydym ni wedi byw drwyddyn nhw ac yn chwilio am gyfleoedd newydd hefyd i ddefnyddio technoleg i wella ein gwasanaethau dwyieithog. Ac mi gawn ni sôn mwy am hynny, dwi'n siŵr, yn ein hadroddiad blynyddol nesaf.

Un o'r pethau dwi yn eiddgar i'w wneud wrth symud ymlaen ydy dysgu mwy am beth sy'n ysgogi dewis o iaith gan Aelodau a'u staff yng ngwaith y Senedd. Mae'r adroddiad yn nodi rhywfaint o leihad yn nefnydd y Gymraeg. Dwi'n falch bob amser yn gweld Aelodau yn rhoi tro ar ddefnyddio'r Gymraeg yng ngwaith y Senedd, ond dwi'n meddwl bod angen gweithio ar bob lefel i sicrhau bod unrhyw rwystrau i ddefnydd y Gymraeg, p'un ai'n fater o hyder, yn fater o ddefnydd technoleg, yn fater o ddefnydd o gyfraniadau'r Senedd, ar y cyfryngau ac yn y blaen, yn cael eu goresgyn. Mae yna le pwysig, ac mae eisiau inni gydnabod hynny, i'r Senedd yma fel model rôl ieithyddol i Gymru, yn parchu dewis iaith pobl, ond yn annog pobl wrth gwrs i wneud yn fawr o'r ffaith ein bod ni'n sefydliad sydd yn gweithredu yn ddwyieithog.

I edrych tua’r dyfodol, felly, i gloi, rydym ni'n tynnu at ddiwedd y pumed Senedd ac mi fydd yr amser sy'n weddill yn gyfle i ganolbwyntio ar sicrhau ein bod ni wedi cyflawni ein holl amcanion ac ar gynllunio ar gyfer y chweched Senedd, wrth gwrs. Rydym ni eisoes wedi dechrau adolygu’r cynllun presennol i ddeall beth sy’n gweithio’n dda ac ym mha feysydd mae angen gwella. Mi hoffwn i annog Aelodau i gyfrannu at y gwaith hwnnw pan fydd y Comisiwn yn ymgynghori.

15:45

Diolch, Rhun, ac i'r holl swyddogion, wrth gwrs, sydd wedi bod yn gweithio ar y cynllun yma ers rhai blynyddoedd bellach, erbyn hyn. Rwy'n gwybod bydd rhywfaint o siom o ddarganfod nad yw rhai ohonom ni wedi bod yn defnyddio cymaint o Gymraeg yn y Siambr ag yr oeddem yn y gorffennol, ac rydw i'n un ohonyn nhw—rwy'n cyfaddef. Ac efallai y byddai'n sylw teg na chawsom ni flwyddyn eithaf normal chwaith a hefyd rwy'n teimlo ein bod ni wedi cael llai o ddadleuon, cwestiynau neu ddatganiadau gan y Llywodraeth ar y Gymraeg yn ystod y cyfnod yma hefyd. Wedi dweud hynny, wrth gwrs, does dim byd yn ein hatal rhag gofyn a chyfrannu yn Gymraeg ar unrhyw eitem o fusnes, ac felly mae'r adroddiad hwn yn ein hatgoffa—yn sicr i mi—y dylem fod yn edrych ymlaen at dwf yn y Gymraeg, nid gostyngiad.

Mae'n debyg bod y sefyllfa'n edrych yn well ymhlith staff y Comisiwn a staff Aelodau, ac rwy'n credu ei bod yn bwynt pwysig ein bod yn arsylwi ysbryd safonau'r iaith Gymraeg heb fod yn ddarostyngedig iddynt. Mae'r gostyngiad yn nifer y dogfennau Saesneg yn unig yn rhywbeth i'w groesawu ac mae'r ffaith mai dim ond llond llaw o doriadau eraill a gafwyd yn gyflawniad sylweddol hefyd.

Ond, i mi, llwyddiant eleni yw'r dealltwriaeth o brofiad y dysgwr. Dywedwyd bod mwy o staff y Comisiwn yn rhugl yn y ddwy iaith o gymharu â lefelau eraill ar wahan. Mae'n beth da, ond a ydy'n ysgogi cwestiwn, efallai, o ran a ydym ni'n wirioneddol yn estyn i bob rhan o Gymru ar gyfer ein recriwtio? Ond, mae cydnabyddiaeth o werth sgiliau lefel is a sgiliau sy'n datblygu wedi bod mor bwysig. Gall bod yn ddysgwr, wedi ei amgylchynu gan siaradwyr rhugl, fod yn frawychus weithiau, pa bynnag mor garedig yw'r bobl hynny. Os na allwn ni gael Cymraeg yn y gweithle mewn modd llwyddiannus i'n dysgwyr, wel, mae'n rhaid i ni ofyn pa mor realistig yw'r targed o 1 miliwn o siaradwyr. Os na allwn ni ddangos bod amgylchedd gwaith dwyieithog cynhwysol yn bosibl, sut y bydd ein poblogaeth gyffredinol yn dechrau meddwl amdano fe fel rhywbeth normal? Os na all ein staff gydag ychydig neu ddim gair o Gymraeg adael bob nos gan ddweud, 'Does dim angen bod yn ofnus', a bod neb yn cael ei eithrio neu ei farnu, sut allwn ni berswadio cyflogwyr eraill fod hyn yn bosibl ac yn werth chweil?

Jyst un pwynt i ddod i ben yma, Rhun: gallaf weld bod swyddogion wedi bod yn rhannu eu meddyliau a'u profiadau â sefydliadau eraill ynglŷn â sut mae meithrin gallu dwyieithog yn llwyddo. A fyddai'n bosibl cynnwys arweinwyr ysgolion a cholegau ar ryw adeg? Bydd yna lawer yn pendroni sut i gyflawni disgwyliadau'r cwricwlwm er mwyn gwneud dwyieithrwydd yn real i'n disgyblion. Rhan o hynny yw creu'r amgylchedd a'r diwylliant cywir. Mae'n swnio fel pe bai gennym ni newyddion defnyddiol i'w rhannu â nhw. Diolch.

15:50

Diolch yn fawr am yr adroddiad. Hoffwn innau, hefyd, ddiolch i staff y Comisiwn am ymateb yn hollol gadarnhaol i'r her o barhau efo gwasanaethau dwyieithog o'r ansawdd flaenaf yn ystod yr argyfwng yma. Mae'r Comisiwn wedi manteisio i'r eithaf ar dechnoleg er mwyn bod ar flaen y gad yn ein gwaith, a dwi'n credu y dylwn ni gyd, yn y Senedd yma, fod yn falch iawn o hynny.

Fel rydych chi'n nodi, mae angen defnyddio'r profiadau rŵan er mwyn dysgu sut i ymgorffori technoleg ymhellach i'n darpariaeth ni o wasanaethau dwyieithog. Mae cyfieithu ar y pryd drwy Zoom yn y Cyfarfodydd Llawn a'r pwyllgorau wedi gweithio yn effeithiol iawn, dwi'n credu—yn fwy effeithiol, bron, na'r gwasanaeth mewn pwyllgor neu Gyfarfod Llawn arferol, yn sicr o safbwynt y rhai ohonom ni sydd yn defnyddio'r Gymraeg.

Dydy'r profiadau efo cyfarfodydd ar blatfformau eraill ddim mor gadarnhaol, ac mae'n dal angen pwyso ynglŷn â hyn. Mae yna bryder mai Teams sy'n cael ei ffafrio a'i hyrwyddo ar gyfer gweithio rhithiol yn fewnol, yn hytrach na Zoom, er nad ydy Teams ddim yn cefnogi cyfleuster cyfieithu ar y pryd eto. Mae'n rhaid i grwpiau gwleidyddol ariannu cost Zoom o'u costau swyddfa eu hunain er mwyn cynnal cyfarfodydd efo chyfieithu ar y pryd. Felly, dwi yn credu, a dwi'n gwybod eich bod chi'n cytuno â hyn, fod angen parhau i ganfod datrysiad, o safbwynt Teams, ond, yn y cyfamser, i barhau i hyrwyddo Zoom er mwyn ei gwneud hi mor hawdd i Aelodau a staff y Comisiwn, a staff Aelodau, yn wir, ei ddefnyddio fo er mwyn parhau i gynnal cyfarfodydd mewnol yn y Gymraeg efo cyfieithu lle bo angen.

Mi rydych chi wedi sôn prynhawn yma, ac mae Suzy Davies wedi sôn prynhawn yma, ynglŷn â'r defnydd o'r Gymraeg gan Aelodau o'r Senedd—y rhai ohonom ni sydd yn gallu'r Cymraeg—yn ein Cyfarfodydd Llawn ac ati, ac mae hyn wedi cael sylw yn y wasg hefyd, onid ydy? Un rhwystr, dwi'n credu, ydy agwedd y darlledwyr tuag at hyn. Maen nhw'n gyndyn iawn i ddefnyddio clip sydd yn y Gymraeg mewn rhaglen Saesneg. Mae hyn yn rhoi Aelodau fel fi, sydd yn defnyddio llawer ar y Gymraeg—mae hyn yn ein rhoi ni dan anfantais, mewn gwirionedd.

Dwi yn gobeithio y bydd hwn yn bwnc y medrwch chi barhau i'w drafod yn fanwl efo'r darlledwyr dros y flwyddyn nesaf. Mae'n bwnc sydd wedi cael ei godi droeon. Mae'n bwysig cofio bod gan y Comisiwn reolaeth dros ein ffrydiau sain a darlledu sy'n cael eu rhannu efo'n darlledwyr ni. Mae hynny, efallai, yn cynnig ffordd i ni osod mwy o bwysau arnyn nhw i osod a defnyddio mwy o egwyddorion a gosod mwy o ddisgwyliadau yn gyfnewid am gael mynediad at y ffrydiau rheini.

Mi oeddwn i'n falch o weld bod y Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi wedi dechrau cyflwyno sgiliau is-deitlo i'r staff ac yn gallu gwneud clipiau fideo byr o ansawdd uchel a hynny yn sydyn iawn. Efallai y gall y BBC ac eraill ddilyn yr esiampl dda mae'r Comisiwn yn ei chynnig, ac mi fyddai gweld y darlledwyr yn gwneud hyn, yn defnyddio clipiau efo is-deitlau, yn normaleiddio'r Gymraeg fel rhan bwysig o fywyd pob person yng Nghymru.

Gaf i jest droi, wrth gloi, at ychydig sylwadau ynglŷn â'r Senedd nesaf? Wrth i ni baratoi at y Senedd honno a nesáu at ddegawd ers cyflwyno deddfwriaeth ieithoedd swyddogol yn y lle yma, mae angen ystyried, dwi'n credu, a ydy'r gyfundrefn ieithoedd swyddogol yn ffit i bwrpas yng ngholeuni'r strategaeth 1 miliwn o siaradwyr a'r gefnogaeth drawsbleidiol sydd yna i'r nod o hyrwyddo'r Gymraeg. Dwi am fod y cyntaf i roi'r cwestiwn allan yna: a ddylid dod â'r Comisiwn o dan safonau'r Gymraeg, gan hefyd gryfhau annibyniaeth Comisiynydd y Gymraeg oddi wrth y Llywodraeth er mwyn i'r gwiriadau ddigwydd mewn sefyllfa felly? I fi, mi fyddai fo'n gwneud synnwyr ac yn arwydd o'r gefnogaeth drawsbleidiol i'r strategaeth 1 miliwn o siaradwyr.

Jest un neu ddau o bethau bach sydyn arall, os caf i, Ddirprwy Lywydd, cyn i mi gloi. Dwi'n meddwl bod angen adeiladu ar y gwaith sgiliau iaith a wnaed yn ystod dechrau'r Senedd yma. Mae yna fwy o waith yn fanna. A wedyn, cronfa cyfieithu i Aelodau; dwi'n credu ei bod hi'n bryd i adolygu'r trefniadau sydd ar waith i gyfieithu rhai defnyddiau ar gyfer gwaith etholaeth. Pam cyfyngu'r gefnogaeth i Aelodau i wneud mwy yn ddwyieithog i un agwedd o'n gwaith ni yn unig, sef ein gwaith ni yn y Senedd? Felly, rhai sylwadau adeiladol, a dwi'n gobeithio y gwnewch chi eu cymryd nhw yn yr ysbryd yna. Diolch yn fawr.

15:55

Diolch, Dirpwy Lywydd, a diolch i'r Comisiwn am yr adroddiad.

Nid siarad ychydig o Gymraeg er mwyn yr effaith yn unig oeddwn i'n ei wneud.

Dwi'n ddysgwr Cymraeg.

Felly rwy'n gwneud ychydig o ymdrech gyda'r iaith, a hoffwn dynnu sylw at y ffaith bod gennyf gymhwyster lefel O yn y Gymraeg o fy nyddiau ysgol. Byddai'n well gennyf ddweud mai TGAU ydoedd, oherwydd mae lefel O yn dangos fy oed braidd, ond mae arnaf ofn mai lefel O ydoedd. Felly, a gaf fi ddweud bod ymdrechion i hybu'r defnydd o'r Gymraeg i'w croesawu at ei gilydd, er mai fel iaith fyw y gwneir y defnydd gorau o'r Gymraeg, ac yn gyffredinol mae'n debyg ei bod hi'n well cyfeirio adnoddau tuag at gadw'r Gymraeg fel iaith fyw lle caiff ei defnyddio felly, yn hytrach na cheisio cyrraedd targedau a allai fod yn rhai ffug neu'n dargedau nad ydynt yn ddim mwy nag ymarfer ticio blychau yn y pen draw?

Nawr, rwy'n derbyn yr hyn y mae Rhun wedi'i ddweud heddiw am siarad Cymraeg fel continwwm yn hytrach na mater 'ie' neu 'na' pegynol, ac mae'r adroddiad y mae Rhun, fel y Comisiynydd, yn ei gyflwyno heddiw yn ymwneud â defnyddio'r Gymraeg o fewn y Senedd, nid yng Nghymru yn ei chyfanrwydd. I ryw raddau, credaf fod achos dros weld y Senedd yn ceisio efelychu Cymru gyfan, a'r hyn a olygaf yw demograffeg gyffredinol Cymru. Mae perygl y bydd rhai grwpiau heb eu cynrychioli'n ddigonol o ran eu cyflogaeth yn y Senedd, ond mae perygl hefyd y bydd rhai grwpiau'n cael eu cynrychioli'n ormodol. Y broblem gyda chreu polisi dwyieithrwydd ar draws ystâd y Senedd yw bod rhywun mewn perygl o roi gormod o gynrychiolaeth i siaradwyr Cymraeg ar y staff yma, a'r hyn sy'n dilyn hynny'n rhesymegol, os yw rhywun yn gor-gynrychioli siaradwyr Cymraeg, yw bod rhywun yn gwahaniaethu yn erbyn pobl nad ydynt yn siarad Cymraeg, sef tua 70 y cant o boblogaeth Cymru mewn gwirionedd. Nawr, mae'r darlun yn gymhleth wrth gwrs, oherwydd mae rhai pobl wedi manteisio ar y cyrsiau Cymraeg sydd ar gael yma yn y Senedd i geisio cynyddu eu gallu yn y Gymraeg, fel y gwneuthum innau, ac mae hynny i'w argymell. Byddwn yn annog pawb sydd â diddordeb mewn gwella eu Cymraeg i fanteisio ar yr hyfforddiant Cymraeg da iawn sydd gennym yma yn y Senedd.

Ond a gaf fi gynnig ychydig eiriau o rybudd am beryglon dilyn polisi recriwtio sy'n ceisio rhoi cynrychiolaeth ormodol i bob pwrpas i siaradwyr Cymraeg ar y staff? Oherwydd gallaf weld o'r adroddiad fod angen o leiaf ryw lefel o Gymraeg ar 100 y cant o'r holl swyddi a hysbysebwyd yma y llynedd, yn amrywio o Gymraeg rhugl i'r hyn a elwir bellach yn Gymraeg 'lefel cwrteisi'. A phan fydd gennych boblogaeth yng Nghymru lle nad yw tua 70 y cant o'r bobl, yn ôl y ffigurau diwethaf sydd ar gael, yn siarad unrhyw Gymraeg o gwbl, mae'n amlwg eich bod i bob pwrpas yn gwahaniaethu yn erbyn mwyafrif helaeth pobl Cymru o ran cael swyddi yma yn y Senedd. Does bosibl na fyddai rhywun am i'r Senedd gynrychioli holl bobl Cymru, a pheidio â throi'r staff yn swigen fach Gymraeg ei hiaith. Nid yw'n cynrychioli poblogaeth Cymru o gwbl. Mae arnaf ofn mai dyma'r perygl o ddilyn polisi sydd â gormod o obsesiwn â dwyieithrwydd, a bydd canfyddiad ymhlith llawer o'r cyhoedd nad yw'r Senedd yno i'w cynrychioli mewn gwirionedd; mae yno er budd grŵp bach, elitaidd o siaradwyr Cymraeg. Felly, roeddwn am ychwanegu'r nodyn hwnnw o rybudd. 

Diolch yn fawr iawn a diolch eto am yr adroddiad.

16:00

Diolch. Nid oes neb wedi manteisio ar y cyfle i ymyrryd yn y ddadl hon, felly galwaf ar Rhun ap Iorwerth i ymateb. Rhun.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, a diolch i'r tri a wnaeth gyfrannu at y drafodaeth yma. Mi wnaf i gadw fy sylwadau i gloi yn eithaf byr. 

Suzy Davies yn gyntaf. Diolch am y sylwadau hynny. Mi ddywedodd Suzy ei bod hi'n siomedig o weld y nifer sy'n defnyddio'r Gymraeg yn mynd lawr a phwyntio'r bys ati hi ei hun. Does dim eisiau i unrhyw unigolyn bwyntio'r bys atyn nhw ei hunain o gwbl, wrth gwrs; annogaeth sydd ei angen ar bobl i ystyried opsiynau ar y pryd i ddefnyddio'r Gymraeg. Ond, mae e'n rhywbeth i ni fod yn ymwybodol ohono fo, ac yn hynny o beth, dwi'n cyd-fynd yn llwyr efo'r hyn a ddywedodd Suzy. A hefyd i gofio bod angen yr arweiniad gan y Llywodraeth hefyd, yn ogystal â gan Aelodau meinciau cefn. 

Mae yna heriau, wrth gwrs—rydyn ni'n trio'u goresgyn nhw o hyd. Ac o ystyried y pwynt a wnaeth Suzy Davies ynglŷn ag ymestyn allan at ysgolion a cholegau, mae'r heriau ieithyddol yna'n digwydd ar draws Cymru, a dwi'n cyd-fynd y gallwn ni fod yn chwilio am ffyrdd i rannu arfer da efo'r sectorau hynny hefyd. Mi chwiliwn ni am ffordd o wneud hynny, achos mae o'n fater o'r Senedd yn cymryd ei rôl genedlaethol o ddifrif, onid ydy, ac yn ymestyn at bobl ac yn dysgu o'n profiadau ni orau y gallwn ni. 

O ran y defnydd o'r Gymraeg—eto, yn ôl at hynny—fedrwch chi ddweud ei bod hi wedi bod yn flwyddyn anarferol, a tybed oedd hynny i gyfrif am y ffaith bod yna lai o ddefnydd o'r Gymraeg. Yn rhyfedd iawn, dwi wedi'i ffeindio hi'n haws troi i'r Gymraeg mewn cyfarfodydd pwyllgor, er enghraifft, ac yma yn y Cyfarfod Llawn; does yna ddim oedi, bellach, i bobl orfod ymestyn am bâr o glustffonau, ac ati, mae'r peth yn digwydd yn fwy llyfn. Felly, mae yna fanteision sy'n gallu deillio o weithredu'n rhithwir yn y ffordd yna. Diolch am y sylwadau hynny.

Siân Gwenllian—nifer o bwyntiau yn fy mhrocio i fel Comisiynydd. Dwi ddim yn anghytuno efo'r angen i edrych eto ar beth ydy'n statws ni ac a ddylai'r Senedd ddod o dan safonau'r iaith Gymraeg ac ati. Beth fyddwn i'n dweud ydy mai'r hyn sy'n bwysig ydy beth ydyn ni'n ei wneud fel sefydliad, nid cymaint beth ydy'r cymhelliad sydd arnom ni, neu'r disgwyliadau cyfreithiol sydd arnom ni. Mae'n hollol gymwys i'r ddadl honno barhau i fod yn un byw.

Technoleg—mi wnaeth Siân bwyntiau da iawn ynglŷn â thechnoleg. Mi oedd Zoom, onid oedd, yn rhywbeth gwyrthiol a oedd wedi digwydd yn y cyfnod cyn y pandemig yma. Des i ar draws Zoom am y tro cyntaf, dwi'n meddwl, ym mis Rhagfyr y llynedd; yn sydyn reit, mae gennym ni'r platfform yma rydyn ni'n gallu gweithredu'n gwbl ddwyieithog arno fo. Ac oes, mae yna waith dal i'w wneud ar blatfformau eraill, yn cynnwys Teams. Mae Teams ei hunan, wrth gwrs, yn rhyngwladol wedi gorfod datblygu o fod yn blatfform ar gyfer, dwi'n meddwl, pedwar o bobl yn unig, nôl ym mis Mawrth; erbyn hyn, mae o'n blatfform llawer mwy. Ond mae angen defnyddio’r berthynas, wrth gwrs, sydd gan y Senedd efo cwmni fel Microsoft er mwyn gwneud yn siŵr bod y gallu yna i weithredu yn ddwyieithog ar bob platfform yn cael ei wneud yn realiti.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

16:05

O ran darlledwyr, dwi’n cyd-fynd yn gryf iawn â'r sylwadau a glywsom ni gan Siân Gwenllian yn y fan honno. Mi fues i’n cynnal trafodaethau efo un o brif ddarlledwyr Cymru yn ddiweddar yn gwneud yr union bwyntiau clywsom ni’n cael eu gwneud gan Siân Gwenllian yn y fan yna. Mae yna rwystrau technegol weithiau, mae eisiau cydnabod y rheini, ond hefyd, os mai rhwystrau o ran polisïau neu agwedd neu ddiwylliant mewn darlledu sydd ar waith, wel, mae’n bwysig iawn ein bod ni drwy’r amser yn trio gwthio am newidiadau yn yr agweddau yna gan ddarlledwyr. Achos dwi’n cyd-fynd; mae yn rhoi Aelod sydd yn dewis siarad Cymraeg dan anfantais os mai’r norm ydy peidio â defnyddio’r deunydd yna yn Gymraeg ar raglenni Saesneg. Mae yna gymaint wedi newid mewn blynyddoedd diweddar. Hynny ydy, fyddwn ni ddim wedi cael rhaglenni fel Hinterland, lle mae’r ddwy iaith yn cael eu clywed ochr yn ochr â’i gilydd, rai blynyddoedd yn ôl. Mae o’n dod yn norm ac mae eisiau i hynny ddigwydd hefyd mewn perthynas â sut mae’r Senedd yma’n cael ei darlledu.

At Gareth Bennet i gloi. Nid obsesiwn efo dwyieithrwydd sydd gen i, dwi’n addo i chi. Dwi yn ddwyieithog, rydyn ni i gyd yn berchen ar ddwy iaith, pa un ai ydym ni'n eu siarad nhw bob dydd ai peidio. A hefyd, mae’n bwysig cofio mai’r hyn mae’r polisïau sydd gan y Senedd yn eu gwneud ydy rhoi cyfle i bawb sydd yn dod i weithio yn y sefydliad yma i allu datblygu eu hunain ar hyd y continwwm ieithyddol yna. Mae Cymraeg cwrteisi yn Gymraeg sylfaenol iawn, iawn, iawn, ond beth sy’n amlwg ydy bod y gallu i feddu ar y sgiliau sylfaenol yna hyd yn oed nid yn unig yn bwysig i’r sefydliad fel corff cenedlaethol ond yn rhywbeth sy’n dod yn bwysig i’r unigolion. Ond, wrth gwrs, mae wastad yn bwysig gwneud yn siŵr ein bod ni’n ymestyn i bob cymuned yng Nghymru i roi yr un cyfleoedd iddyn nhw.

Mi wnaf i gloi yn y fan yna. Diolch eto am y cyfraniadau. Dwi am gloi efo ychydig o ddiolchiadau: i Siân Gwenllian am y gwaith a wnaeth hi fel Comisiynydd o fy mlaen i, yn gwneud gwaith rhagorol yn arwain, mewn difrif, at greu yr adroddiad yma; a diolch hefyd, wrth gwrs, i’r staff sydd yn gweithio mor ddygn i nid yn unig weithredu ein polisi iaith ni, ein cynllun iaith ni, ond sydd, wrth gwrs, wedi bod mor allweddol mewn paratoi’r adroddiad sydd o’n blaenau ni heddiw.

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r adroddiad? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi'n gweld gwrthwynebiad. Ac felly, fe fyddwn ni'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. Dadl ar ddeisebau: Addysgu hanes mewn ysgolion

Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar ddeisebau am addysgu hanes mewn ysgolion, a dwi'n galw ar Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau i gyflwyno'r cynnig—Janet Finch-Saunders.

Cynnig NDM7450 Janet Finch-Saunders

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r deisebau canlynol ynglŷn â dysgu hanes mewn ysgolion:

a) Deiseb ‘P-05-992 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu corff cyffredin o wybodaeth am Hanes Cymru fydd pob disgybl yn ei ddysgu’ a gasglodd 7,927 o lofnodion; a

b).Deiseb ‘P-05-1000 Ei gwneud yn orfodol i hanesion pobl dduon a POC y DU gael eu haddysgu yng nghwricwlwm addysg Cymru’ a gasglodd 34,736 o lofnodion.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Y ddadl hon yw'r gyntaf o'i bath i'r Pwyllgor Deisebau gan ei bod mewn gwirionedd yn ymdrin â dwy ddeiseb, gyda'r ddwy ohonynt yn ymwneud ag addysgu hanes yn ein hysgolion. Rydym yn croesawu'r cyfle i drafod y deisebau hyn gyda'i gilydd a chredwn fod hon yn ddadl amserol, o gofio bod y cwricwlwm newydd i Gymru yn destun craffu ar hyn o bryd a'i fod i gael ei addysgu o 2022 ymlaen. Mae'r deisebau rydym yn eu trafod heddiw yn ymwneud â'r hyn y mae myfyrwyr yn ei ddysgu am hanes Cymru a'i phobl. Mae'r ddwy wedi cael cefnogaeth gref gan y cyhoedd.

Rwyf am ddechrau drwy ddisgrifio'r ddwy ddeiseb a'u cyd-destun cyn symud at y tebygrwydd rhyngddynt. Mae'r rhain i'w gweld mewn sawl cwestiwn ynglŷn â sut y caiff ysgolion ac athrawon eu harwain a'u cefnogi i ddarparu'r wybodaeth a argymhellir gan y deisebau i'n pobl ifanc. Mae'r ddeiseb gyntaf a ddaeth i law, deiseb 992, yn ymwneud ag addysgu hanes Cymru. Fe'i cyflwynwyd gan Elfed Wyn Jones, a chasglwyd 7,927 o lofnodion arni. Mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i greu corff cyffredin o wybodaeth am hanes Cymru, i'w addysgu i bob disgybl yng Nghymru. Mae'n dadlau bod yr hanes a'r dreftadaeth hon yn hanfodol i ddealltwriaeth o'r Gymru fodern ac y dylid addysgu digwyddiadau a phynciau allweddol yn hanes y genedl i bawb.

Mae'r ddeiseb yn cyfeirio at argymhelliad tebyg a wnaed gan y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu fel rhan o'i ymchwiliad i addysgu hanes Cymru. Nododd y pwyllgor hwnnw y byddai mabwysiadu'r dull hwn o weithredu'n caniatáu i bob disgybl ddeall sut y mae digwyddiadau lleol a chenedlaethol wedi ffurfio eu gwlad yng nghyd-destun hanesion Cymreig, Prydeinig a rhyngwladol. Gwrthodwyd yr argymhelliad hwnnw gan Lywodraeth Cymru ar y sail bod y cwricwlwm newydd wedi'i arwain gan ddibenion a'i fod yn symud yn fwriadol oddi wrth nodi rhestrau o bynciau a chynnwys i'w haddysgu. Yn hytrach, fel y mae'r Gweinidog wedi amlinellu ar adegau eraill, mae'r cwricwlwm newydd yn ceisio rhoi rhyddid i athrawon ac ysgolion wneud eu penderfyniadau eu hunain ynglŷn â'r hyn a addysgir o fewn fframwaith cenedlaethol eang.

Nawr, os caf grwydro ychydig, mae'r tensiwn rhwng y weledigaeth ar gyfer y cwricwlwm newydd a galwadau am addysgu pynciau a materion penodol fel rhan ohono wedi bod yn nodwedd reolaidd o gyfarfodydd y Pwyllgor Deisebau dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'n densiwn gwirioneddol, ac mae'n amlygu pwysigrwydd hanfodol cael y canllawiau a'r adnoddau a fydd yn cyd-fynd â'r cwricwlwm yn iawn. Dyna sydd wrth wraidd y ddwy ddeiseb.

I amlinellu'r ddadl a wnaed gan y ddeiseb hon ymhellach, mae'r deisebydd yn gofyn sut y gallwn ddeall y gymdeithas rydym yn byw ynddi os na allwn ddeall beth sydd wedi digwydd yn ein gorffennol. Mae'n dadlau bod y graddau y caiff disgyblion eu haddysgu am adegau allweddol yn yr hanes hwn yn amrywio ac mae am i'r cwricwlwm newydd fynd i'r afael â hyn. Yn ganolog i'r ddeiseb ceir galw am sefydlu cynnwys hanesyddol craidd ac i adnoddau gael eu datblygu i gynorthwyo ysgolion ac athrawon i ddarparu addysg gyson, pwynt y byddaf yn dychwelyd ato yn nes ymlaen.

Gadawaf i'r Gweinidog amlinellu'r ffordd y mae wedi ymateb i'r dadleuon hyn. Fodd bynnag, rwyf am grybwyll bod y Pwyllgor Deisebau wedi ystyried tystiolaeth ysgrifenedig gan Estyn, sydd ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad o addysgu hanes Cymru mewn ysgolion. Mae'n chwilio am enghreifftiau o arferion gorau ac efallai y bydd yn gwneud ei awgrymiadau ei hun yn y pen draw. Mae'r pandemig wedi effeithio'n ddrwg ar y gwaith, wrth gwrs, ac erbyn hyn nid yw'n debygol o adrodd tan haf 2021.

Fe symudaf ymlaen yn awr at y ddeiseb arall yn y ddadl hon, sef y milfed deiseb i'w hystyried gan y Pwyllgor Deisebau, sy'n sicr yn garreg filltir bwysig i'n prosesau. Mae hefyd yn un o'r deisebau mwyaf a gawsom, ar ôl casglu—ac fe ddywedais un o'r deisebau mwyaf a gawsom—34,736 o lofnodion ar ôl iddi gael ei chyflwyno gan Angharad Owen ym mis Mehefin eleni. Cyflwynwyd y ddeiseb yn dilyn lladd George Floyd gan un o swyddogion yr heddlu yn UDA a'r protestiadau a ddilynodd ledled y byd, gyda llawer ohonynt, wrth gwrs, yn gysylltiedig â mudiad Black Lives Matter. Hon yw un o'r deisebau a dyfodd gyflymaf i'r Senedd, sy'n adlewyrchu pwysigrwydd y materion y mae'n eu codi a'r angen dybryd inni wneud mwy i fynd i'r afael â hiliaeth yn ein cymdeithas.

Ym Mhrydain, canolbwyntiodd llawer o'r protestiadau a ddilynodd farwolaeth George Floyd ar etifeddiaeth trefedigaethedd a chaethwasiaeth. Mae'r ddeiseb hon yn galw am i'r hanes hwnnw, ac yn benodol y rhan a chwaraeodd Cymru ynddo, gael ei gynrychioli yn y cwricwlwm. Mae'r ddeiseb yn dadlau bod yr ymerodraeth Brydeinig weithiau wedi cael ei glamoreiddio, tra bod effaith fyd-eang trefedigaethedd wedi'i bychanu, gydag effaith uniongyrchol ar fywydau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru heddiw.

Mae'r ddeiseb hon yn canolbwyntio ar sicrhau bod digon o sylw'n cael ei roi i addysgu am etifeddiaeth yr agweddau hyn ar ein hanes yn ein hysgolion, gan gynnwys y rôl a chwaraeodd Cymru a'r effaith ar bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru. Mae'r deisebydd wedi cydnabod y gall addysgu'r materion hyn fod yn anodd i athrawon. Gall fod yn bwnc emosiynol gyda pherthnasedd personol uniongyrchol i brofiadau a safbwyntiau unigolion yn ogystal â digwyddiadau yn y byd heddiw. Felly, mae'r ddeiseb yn dadlau bod angen adnoddau a chymorth ychwanegol i roi gwybodaeth a hyder i athrawon allu mynd i'r afael â'r pynciau hyn yn briodol gyda'u myfyrwyr.

Wrth ymateb i'r ddeiseb, mae'r Gweinidog wedi cyfeirio at weithgor a sefydlwyd i ystyried hanes pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig fel rhan o stori Cymru dan gadeiryddiaeth yr Athro Charlotte Williams. Gadawaf i'r Gweinidog egluro mwy am y gwaith hwn, sydd â photensial i arwain at rywfaint o'r newid y mae'r ddeiseb hon yn gofyn amdano, ond hoffwn nodi ein cefnogaeth iddo ar y dechrau.

Wrth gloi fy sylwadau agoriadol, mae'n bwysig cydnabod bod yr hanesion a nodwyd gan y ddwy ddeiseb yn chwarae rhan gyfartal yn stori Cymru a'i phobl. Rhaid i addysgu ein hanes yn llawn, y da a'r drwg, a'r hyn y mae'n ei olygu i Gymru heddiw, ymdrechu i siarad â phawb, a datblygu cipolwg cyflawn a manwl i'n pobl ifanc ar yr hyn a fu. Nid her fach yw honno. Ond mae'n adeg amserol i gynnal y drafodaeth hon, oherwydd digwyddiadau'r byd a datblygu'r cwricwlwm newydd a'r adnoddau i'w gefnogi. Mae'r Pwyllgor Deisebau'n cydnabod y dull hyblyg sydd wrth wraidd y broses o gynllunio'r cwricwlwm hwnnw. Yr her, wrth gwrs, i'r Gweinidog a phawb sy'n ymwneud â'i ddatblygiad, yw sicrhau y gall pobl fod yn hyderus y bydd disgyblion yn cael gwybodaeth allweddol am y grymoedd sydd wedi llunio Cymru heddiw, ac y bydd ein hathrawon a'n myfyrwyr yn cael adnoddau a hyfforddiant i'w cefnogi yn hyn o beth. Edrychaf ymlaen yn fawr at glywed cyfraniadau'r Aelodau eraill dros weddill y ddadl hon. Diolch yn fawr. 

16:15

A gaf fi ddweud 'da iawn' wrth yr holl bobl a lofnododd y ddwy ddeiseb? Bydd fy ngrŵp nid yn unig yn nodi'r rhain heddiw ond yn cefnogi'r hyn y mae'r deisebwyr yn gofyn amdano. Mae deisebau eu hunain yn rhan o'n hanes, ac anogwyd eu defnydd yn arbennig gan ffefryn mawr Plaid Cymru, Edward I. Roedd brenhinoedd a Llywodraethau ers degawdau wedi bod yn diystyru apeliadau am gymorth neu gyfiawnder gan rai a dramgwyddwyd, ac Edward a'u hanogodd i gyflwyno eu busnes yn uniongyrchol i'r Senedd i ddylanwadu ar y Llywodraeth a'r Brenin. Pa un a oedd hynny'n ymwneud â bod yn frenin da i'w bobl neu'n ddim ond stynt cysylltiadau cyhoeddus i wella ei enw da, pwy a ŵyr? Ond roedd y penderfyniad yn ddechrau ar esblygiad y cysyniad o Senedd fel man lle caiff llais pobl, pawb, ei glywed a'i barchu.

Hoffwn dynnu sylw at faterion sy'n codi yn y ddwy ddeiseb, a daw'r cyntaf o'r ddeiseb gyntaf. Beth sydd i mewn a beth sydd allan? Beth sy'n mynd i mewn i hyn? Pwy sy'n dal i boeni am Edward I, er enghraifft, a pham? Mae dros 700 mlynedd ers iddo fod yn rhan o'n stori, ac mae'n amser hir i ddal dig, felly pam sôn amdano hyd yn oed? Ac os yw gwneud addysgu hanes Cymru'n orfodol yn golygu mai'r cyfan y bydd ein plant yn ei glywed amdano yw ei fod yn ddyn drwg a drechodd Gymru a sicrhau bod plentyn cyfnewid yn dod i rôl Tywysog Cymru, ni fyddant yn cael y darlun llawn beth bynnag. Ond os caiff ei gyflwyno i ddisgyblion Cymru fel astudiaeth achos go iawn o'r hyn sy'n cymell ffigurau pwerus mewn hanes a sgil-effeithiau eu penderfyniadau, mae'n enghraifft ddiddorol iawn. Ai dim ond unigolyn narsisaidd treisgar ydoedd? Ai creadur hyperymwybodol o'i ddyletswydd ddwyfol ydoedd? A gafodd ei drochi mewn disgwyliadau cyfoes ynglŷn ag arweinyddiaeth? Wrth farnu pwy ydoedd a beth a wnaeth, beth a ddysgwn drwy ei gymharu â Stalin neu Mao Tse-tung, er enghraifft, drwy ddefnyddio moesau modern? Beth oedd ei effaith ar fywydau bob dydd pobl bob dydd a sut mae hynny'n cymharu â'n perthynas â phobl mewn grym y dyddiau hyn? Dyna dymor ysgol o wersi hanes, a bydd pob rhan ohono'n cyfrif fel hanes Cymru.

Mae hanes Cymru'n ymwneud â mwy na'r hyn a ddigwyddodd yng Nghymru yn unig, mae'n ymwneud hefyd â sut yr effeithiodd digwyddiadau a phenderfyniadau mewn mannau eraill ar Gymru. Beth pe bai perchnogion mwynfeydd a masnachwyr De America 300 mlynedd yn ôl wedi penderfynu cael eu copr wedi'i fwyndoddi ar aberoedd afonydd de-orllewin Lloegr? Pwy fyddai'n byw yn Abertawe heddiw? Felly ble ar y ddaear rydych chi'n dechrau os ydych chi'n arweinydd ysgol sydd wedi ymrwymo i roi profiad da o ddysgu am hanes Cymru i'ch disgyblion pan all y dernyn bach hwn sbarduno'r fath gadwyn o drafodaeth? Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig nodi bod y ddeiseb hon yn galw am ddysgu corff cyffredin o hanes Cymru ym mhob ysgol, ond nid yw'n gofyn am ddylanwadu ar sut mae'n cael ei addysgu. Serch hynny, mae'n awgrymu awydd dwfn y dylai ein plant i gyd dyfu i fyny'n gwybod mwy ynglŷn â sut y daeth y genedl y maent yn cael eu magu ynddi i fod fel y mae. Ac efallai fod hon yn foment dda i gyflwyno'r dystiolaeth a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gan yr union blant hyn. Maent wedi dweud wrthym eu bod eisiau dysgu'r un pethau â'u cyfoedion, ac nid hanes yn unig yw hynny. Ac felly nid wyf yn meddwl bod hyn yn tanseilio rhyddid y cwricwlwm newydd. Mae cynllun y cwricwlwm, yn rhannol, i gael ei lywio gan yr hyn y mae disgyblion eisiau ei ddysgu, felly dyma gyfarwyddyd clir eu bod eisiau cael o leiaf rywfaint o dir cyffredin drwy Gymru.

Mae fy ail bwynt yn ymwneud â'r cwricwlwm lleol ac mae hyn yn berthnasol i'r ail ddeiseb. Efallai y bydd rhai cymunedau yng Nghymru'n meddwl na fydd lleiafrifoedd du ac ethnig fawr mwy perthnasol i'w cwricwlwm lleol nag Edward I. Nawr, mae hwnnw'n gasgliad anghywir, fel y mae'r ddeiseb ei hun yn datgelu. Ac mae hanes yn debyg i'r bydysawd—ni allwn weld mwy nag oddeutu 4 y cant ohono, ond nid yw'r 96 y cant arall yn llai real nac yn llai o ran o'r esboniad ynglŷn â pham ein bod yn bodoli, pwy ydym ni a ble rydym. Ac er y bydd cyfranwyr eraill i hanes Cymru'n cael eu hesgeuluso, y peth lleiaf y gallant ei wneud yw dechrau edrych, a dechrau edrych ar leiafrifoedd du ac ethnig sydd wedi bod yma ers canrifoedd, yn union fel yr edrychwn ar sut mae digwyddiadau a phenderfyniadau a wneir am bobl liw mewn rhannau eraill o'r byd wedi effeithio ar ein stori ni yma yng Nghymru. 

Mae'n debyg y bydd stori'r Siartwyr yn cael ei chynnwys mewn unrhyw faes llafur cyffredin. Hwy, wrth gwrs, yw rhai o'n deisebwyr mwyaf enwog yn hanes y DU, heb sôn am Gymru. Ni ddigwyddodd pethau yn union fel roeddent yn ei ddisgwyl, ond ychydig a wyddent y gallai Edward I hawlio ychydig bach iawn o'u stori, neu straeon MI5 yn wir. Yn 2010, roedd mwy o raddedigion hanes canoloesol yn eu rhengoedd na graddedigion mewn unrhyw bwnc arall. Mae gwerth i'w sgiliau yn gweithio gydag ond ychydig o wybodaeth annibynadwy, sy'n dangos bod hanes bob amser yn ddefnyddiol, ac mae honno'n sgil-effaith eithriadol iawn. Diolch.

16:20

Yn gyntaf, hoffwn i ddiolch i'r Pwyllgor Deisebau am ddod â'r ddwy ddeiseb yma i sylw'r Senedd, a diolch am eu gosod nhw efo'i gilydd, sef y peth iawn a'r peth priodol i'w wneud. A diolch i drefnwyr y ddwy ddeiseb, Elfed Wyn Jones ac Angharad Owen, am fwrw ati mor ddygn i gasglu cymaint o enwau. Dwi'n gwybod yr oedd Elfed Wyn Jones wedi bwriadu cerdded o'r fferm lle mae o'n byw ym Meirionnydd i'r Senedd yng Nghaerdydd er mwyn cyflwyno'r ddeiseb, a bod yn bresennol yn y ddadl, ond, wrth gwrs, oherwydd y cyfyngiadau, doedd hynny ddim yn bosib. Ond mae o wedi bod yn cerdded yr un pellter ar y fferm, yn ôl yn Nhrawsfynydd, ac wedi cael sylw i'r pwnc y mae o yn teimlo'n angerddol yn ei gylch yn sgil hynny. 

Yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, rydyn ni wedi bod yn trafod y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru), wrth gwrs, gan dderbyn tystiolaeth o sawl cyfeiriad. A dwi wedi bod yn trio gwneud y pwynt yn gyson yn ystod y sesiynau trafod fod angen meddwl nid yn unig am gynnwys y Bil fel y mae o ar hyn o bryd, ond bod angen meddwl hefyd am unrhyw beth sydd ddim yn y Bil—unrhyw beth sydd angen bod ar wyneb y Bil ond sydd ddim yno ar hyn o bryd. A dwi yn credu bod y ddau fater sydd dan sylw heddiw ac sydd yn gweu i'w gilydd—maen nhw angen bod ar wyneb y Bil, ac mae Plaid Cymru wedi bod yn dweud hyn yn gyson. 

Mae angen sicrhau bod pobl Cymru yn gwybod am ein gorffennol fel pobl, am ein gorffennol fel gwlad, a hynny yn ei holl amrywiaeth cyfoethog. Mae'r cyfnod clo wedi tanlinellu pwysigrwydd ein hunaniaeth genedlaethol, ac mae o hefyd wedi tanlinellu'r angen i roi sylw arbennig a brys i ddileu anghydraddoldeb ar sail hil.

Mae angen newid strwythurol mawr, ac yn union fel y mae angen dysgu perthnasoedd iach fel thema drawsgwricwlaidd er mwyn creu newid o fewn ein cymdeithas ni, ac er mwyn creu y newid hynny yn y berthynas rhwng menywod a dynion, mae angen hefyd i ddyrchafu hunaniaeth ac amrywiaeth Cymru i fod yn thema addysgol drawsgwricwlaidd sy'n haeddu'r un statws a chysondeb â pherthnasoedd iach ac addysg ryw. A'r unig ffordd i sicrhau hynny ydy dyrchafu'r maes, dyrchafu hunaniaeth ac amrywiaeth Cymru, i fod ar wyneb y Bil, a'i gynnwys o fel elfen fandadol ymhob ysgol er mwyn sicrhau cysondeb i bob disgybl.

Wedi dweud hynny, dwi yn ymwybodol iawn, iawn fod yna nifer o heriau sylweddol ynghlwm â hyn, a dwi ddim yn mynd i osgoi'r heriau yna, a dwi'n meddwl ei bod hi yn bwysig inni eu gwyntyllu nhw a'u trafod nhw. Mae deiseb Elfed Wyn Jones yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu corff cyffredin o wybodaeth am hanes Cymru. Rŵan, dwi am herio Elfed ychydig yn y fan hyn. Pwy sy'n mynd i benderfynu beth fydd cynnwys y corff cyffredin o wybodaeth yma? Dwi yn cytuno bod angen cael corff cyffredin, ond mae angen cydnabod hefyd fod eisiau gwaith trwyadl gan ein harbenigwyr hanesyddol ni a chryn drafod er mwyn cyrraedd y nod yma.

Mae'r ddeiseb arall yn galw am ei gwneud hi'n orfodol i hanesion pobl ddu a phobl o liw gael eu haddysgu yng nghwricwlwm addysg Cymru. Dwi'n cytuno'n llwyr, ond dwi hefyd yn mynd i herio Angharad. Onid un agwedd yn unig ar hanes pobl ddu a phobl o liw ydy caethwasiaeth a gwladychiaeth, ac o ganolbwyntio ar yr agweddau hyn, ydyn ni ddim mewn peryg o anghofio cyfraniad cyfoethog cymunedau du Cymru a lleiafrifoedd ethnig Cymru i hanes Cymru yn ei holl amrywiaeth?

Dwi am dynnu'ch sylw chi at adroddiad pwysig gafodd ei wneud saith mlynedd yn ôl bellach gan banel dan gadeiryddiaeth yr hanesydd Dr Elin Jones. Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig inni atgoffa ein hunain am beth ddywedwyd yn yr adroddiad yna, a oedd o dan y teitl, 'Y Cwricwlwm Cymreig, hanes a stori Cymru'. Dyma eiriau'r panel:

'Mae llawer o'r drafodaeth ar y math o hanes a ddysgir mewn ysgolion yn tueddu i bwysleisio cynnwys ffeithiol y cwricwlwm. Ond mae llawer mwy i ddisgyblaeth hanes na chronoleg a gwybodaeth ffeithiol yn unig. Tra bod cronoleg a gwybodaeth ffeithiol yn cynnig fframwaith er deall y gorffennol a pherthnasedd gwahanol gyfnodau, datblygiadau a gweithredoedd unigolion',

mae hanes yn rhoi cyfleoedd eraill hefyd. Ac yng ngeiriau'r adroddiad eto:

'Un o'r agweddau pwysicaf ar ddisgyblaeth hanes yw'r cyfle a rydd i ddod i ddeall bod pob naratif neu ddadl hanesyddol yn agored i feirniadaeth, ac mai barn amodol yw pob barn hanesyddol. Nid oes un hanes yn unig: mai gan bob unigolyn ei brofiad ei hun a'i berspectif unigryw ar y gorffennol…Mae derbyn hynny yn fodd i dderbyn a pharchu gwahanol fersiynau o hanes, a'u gwerthuso yn ôl meini prawf mwy gwrthrychol na'n gwybodaeth bersonol o'r gorffennol neu fersiwn cyfarwydd ohono.

'Mae dysgu hanes yn effeithiol yn fodd i ddatblygu dinasyddion gweithredol y dyfodol. Gall gynorthwyo dysgwyr i ddeall eu hanes eu hun, a'r ffordd y mae'r gorffennol wedi ffurfio'r presennol, ond yn bwysicach na hynny, gall eu cynorthwyo i ymholi i'r hanes hwnnw, a phwyso a mesur gwahanol fersiynau o hanes. Gall roi arf yn erbyn propaganda o bob math yn nwylo pob dinesydd.'

Mae hwn yn ddatganiad pwysig—ac rydw i yn dod i derfyn—ond dwi yn meddwl ei bod hi'n bwysig inni gofio'r cyd-destun yma yr oedd Dr Elin Jones yn ei roi i ni. Mae dysgu hanes yn effeithiol yn mireinio'n sgiliau ni i ddadansoddi, i gwestiynu, i beidio â derbyn bob dim rydym ni'n ei weld ar yr olwg gyntaf, ac i adnabod propaganda a newyddion ffug, sydd yn beth pwysig iawn yn y byd sydd ohoni.

Felly, mae yna ddadl gref dros gynnwys hunaniaeth ac amrywiaeth Cymru, gan gynnwys hanes Cymru a hanes pobl ddu a phobl o liw, fel rhan fandadol o'r cwricwlwm, ond peidiwn ag anghofio bod yna lawer iawn mwy i ddysgu hanes a gwerth aruthrol iddo yn ein huchelgais ni o greu pobl ifanc wybodus i'r dyfodol. Diolch, Llywydd, a diolch am ganiatáu i mi ymhelaethu.

16:30

Roeddech chi'n trafod Dr Elin Jones, yna roeddwn i'n mynd i ganiatáu hynny. Mick Antoniw. 

Mae angen agor eich meic. Arhoswch un eiliad. Rhowch gynnig arall arni. Ddim cweit. Dof yn ôl atoch, Mick. Jenny Rathbone. Dof yn ôl atoch, Mick. Jenny Rathbone.

Diolch yn fawr am fy ngalw. Mae hwn yn bwnc pwysig iawn ac mae'r defnydd o eiriau'n dra arwyddocaol. Yn yr iaith Saesneg, rydym yn sôn am 'history' fel pe bai'n ymwneud â dynion yn bennaf. Yn amlwg, mae 'herstory' yr un mor bwysig, boed ein bod yn sôn am hanes y bleidlais i fenywod yng Nghymru a'r ymdrech y bu'n rhaid inni ei gwneud i'w chael neu'n sôn am faterion llawer ehangach.

Yng nghyd-destun y ddeiseb benodol hon, credaf ei bod yn thema gyfoes ac mae'n sobreiddiol iawn deall bod gan y methiant i gael unrhyw fath o gymod ar ôl rhyfel cartref America oblygiadau enfawr o hyd i ddigwyddiadau yn yr Unol Daleithiau heddiw, sy'n caniatáu i rai dinasyddion anwybyddu'n llwyr neu beidio â phoeni dim am ddioddefaint dinasyddion eraill, rhywbeth rydym ni yn y wlad hon yn ei ystyried yn rhyfedd iawn.

Ond rwy'n credu na allwn feirniadu eraill heb edrych ar ein hanes ein hunain a'n methiant i edrych ar hanes yr ymerodraeth Brydeinig, sydd, yn fy marn i, yn tanio llawer o'r drwgdeimlad a deimlir, yn gwbl briodol, gan ddinasyddion du ein gwlad. Fe'i sefydlwyd ar gaethwasiaeth, ac eto rydym yn parhau i ramantu ynglŷn â'r ymerodraeth Brydeinig, a'i glamoreiddio. Rydym yn dal i roi medalau i bobl sydd wedi perfformio gwasanaethau eithriadol, gwasanaethau cyhoeddus, medalau sy'n cynnwys y geiriau 'aelod o'r ymerodraeth Brydeinig', 'cadlywydd yr ymerodraeth Brydeinig', 'medal yr ymerodraeth Brydeinig', sy'n anacroniaeth lwyr i gymdeithas heddiw ac yn amlwg yn rhywbeth y mae'n rhaid inni fynd i'r afael ag ef.

Mae'r un mor amhriodol ein bod, ar Sul y Cofio, yn canu, 'Send her victorious, happy and glorious' am ein brenhines yn anthem genedlaethol y DU, yn enwedig ar Sul y Cofio, pan fyddwn yn coffáu erchyllterau rhyfel. Ond credaf hefyd fod rhaid inni edrych yn fanwl iawn ar faterion mwy cyfoes, er enghraifft sgandal Windrush, nad yw wedi'i unioni eto. Mae pobl y gwrthodwyd gwaith a budd-daliadau iddynt, ac a alltudiwyd o'r wlad hon yn yr achosion gwaethaf, yn dal heb gael iawndal, ac mae llawer ohonynt bellach yn marw. Mae hynny mor warthus. 

Mae gwir angen inni ailwerthuso ein hanes yng ngoleuni problemau cyfoes, ac mae hynny'n fwy amlwg nag erioed yn ystod yr wythnos hon o bob wythnos yng nghyswllt newid yn yr hinsawdd. Mae'r hyn a wnawn yn y wlad hon yn cael effaith ar bobl sy'n byw ar yr ochr arall i'r byd, ac mae'n bwysig iawn ein bod o ddifrif am y cyfrifoldebau hyn ac yn newid ein hymddygiad i gefnogi pobl nad ydym erioed wedi cyfarfod â hwy a byth yn debygol o wneud, ond sy'n dioddef oherwydd yr hyn a wnawn a'r ffordd rydym yn llosgi adnoddau'r byd. Felly, credaf fod y rhain yn ddeisebau rhagorol ac edrychaf ymlaen at weld eu canlyniad yn y ffordd rydym yn trin hanes yn y cwricwlwm newydd.

16:35

Mae addysgu ein hanes yn ysgolion Cymru yn bwysig. Mae'r gorffennol yn llywio'r dyfodol; byddai colli'r gorffennol yn golygu ein bod yn byw yn yr oes fwyaf ddi-hid. Mae hanes yn ein dysgu bod 'Cymreig' yn golygu Prydeinig. Enwyd 'England' a 'Scotland' ar ôl eu goresgynwyr. Fodd bynnag, fe wnaeth y Prydeinwyr, neu'r Brythoniaid, barhau. Enwyd 'Wales' ar ôl y term a ddefnyddiwyd gan y goresgynwyr—term a olygai 'estronwr' yn eu hiaith hwy—i ddisgrifio'r Brythoniaid ar draws ein hynysoedd, a gyfeirient at ei gilydd fel cyd-wladwyr, 'y Cymry'. Clywn am y cylch haearn o gestyll a adeiladwyd yng ngogledd Cymru ar ôl y goncwest Eingl-Normanaidd, ond ni chlywn fawr ddim am y 100,000 o gyd-Frythoniaid a fu farw yn ymdrech y Normaniaid i gyflawni hil-laddiad yng ngogledd Lloegr—anrheithio'r gogledd—ddwy ganrif cyn hynny.

Mae'r ddeiseb gyntaf rydym yn ei thrafod yn cyfeirio at wrthryfel Glyndŵr. Clywn am ei freuddwyd o gael Senedd Cymru, dwy brifysgol yng Nghymru ac eglwys rydd Gymreig. Fodd bynnag, mae hanes hefyd yn ein dysgu ei fod wedi gwasanaethu'r brenin Plantagenet olaf ac wedi ymuno â'r fyddin a arweiniodd y brenin hwnnw i mewn i'r Alban, cyn gwrthryfela yn erbyn y brenin cyntaf ers y goncwest Normanaidd nad oedd Ffrangeg yn famiaith iddo, mewn cynllwyn gyda Mortimer a Percy i hollti'r deyrnas yn dair rhan.

Mae'r ddeiseb gyntaf hefyd yn cyfeirio at foddi Capel Celyn, sy'n perthyn i bob cymuned yng Nghymru. Fodd bynnag, mae hanes yn ein dysgu bod hyn hefyd yn rhan o brofiad Prydeinig ehangach, lle cafodd cymunedau eu boddi pan adeiladwyd cronfeydd dŵr Rivington i gyflenwi dŵr i Lerpwl ganrif ynghynt.

Mae mythau'n adrodd straeon am hanes cynnar pobl. Mae yna rai sy'n credu bod tynged y Brydain chwedlonol—Albion neu'r Ynys Wen—yn aros i gael ei deffro fel arweinydd ysbrydol y byd. Yn ôl Hanes Brenhinoedd Prydain gan Sieffre o Fynwy yn y ddeuddegfed ganrif, dywedodd y dduwies Diana wrth Brutus o Gaerdroea a oedd wedi'i alltudio,

Brutus! y tu hwnt i'r ffiniau Galaidd,
mae ynys gyda'r môr gorllewinol yn ei hamgylchynu,
ac o blith y cewri a feddai arni unwaith, nid oes llawer ohonynt ar ôl mwyach
i dy wahardd rhag mynd iddi, neu rwystro dy deyrnasiad.
Anela dy hwyliau i gyrraedd y lan hapus
lle mae ffawd yn gorchymyn codi ail Gaerdroea
a sefydlu ymerodraeth i dy linach frenhinol,
na fydd amser byth yn ei dinistrio nac yn cyfyngu arni. 

Er nad oes fawr o goel arno bellach, ystyriwyd bod gwaith Sieffre o Fynwy yn ffaith tan ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg, ac mae'r stori'n ymddangos yn yr hanesion cynharaf am Brydain. Mae addysgu hanesion du a phobl liw y DU yn ysgolion Cymru yn bwysig. O un o'r bobl dduon gyntaf i fod wedi byw yng Nghymru, dyn o'r enw John Ystumllyn a gludwyd i Gymru yn y ddeunawfed ganrif ac y credir ei fod wedi priodi dynes leol, i Shirley Bassey, Colin Jackson, maer presennol Caerdydd, a chyn faer Bae Colwyn, Dr Sibani Roy, mae poblogaeth ddu ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig Cymru wedi gwneud cyfraniad sylweddol.

Mae'r rhan fwyaf o gymdeithasau wedi manteisio ar lafur caethweision ar ryw adeg yn eu hanes. Mae hyn hefyd yn wir am Gymru. Mae cadwyn caethweision a ddarganfuwyd ar Ynys Môn, cadwyn a luniwyd i ffitio pump o bobl, yn dyddio o Oes yr Haearn, tua 2,300 o flynyddoedd yn ôl. Pan ymosododd y Rhufeiniaid, daethant â'u caethweision eu hunain gyda hwy, caethweision o wledydd ar draws yr Ymerodraeth Rufeinig yn Ewrop, Gogledd Affrica a'r dwyrain canol. Ar ôl i'r Rhufeiniaid adael, gwnaeth y llwythi Brythonig gaethweision o'r rhai a drechwyd ganddynt mewn brwydr. Ffynnai'r gaethfasnach drawsatlantig rhwng dechrau'r unfed ganrif ar bymtheg a 1807, pan basiodd Senedd Prydain Ddeddf i ddileu caethfasnachu yn yr Ymerodraeth Brydeinig. Cafodd ymgyrchoedd i atal caethwasiaeth eu cychwyn gan bobl ddu a phobl wyn dros 30 mlynedd cyn i'r Ddeddf gael ei phasio o'r diwedd. Dechreuodd mudiad dileu caethwasiaeth Prydain o ddifrif yn 1787, pan sefydlodd Thomas Clarkson bwyllgor i ymladd caethfasnachu. Roedd un aelod, William Dillwyn, yn Grynwr Americanaidd a hanai o Gymru. Roedd ymgyrchwyr wedi bod yn gosod y sylfeini drwy gyhoeddi dogfennau am greulondeb caethwasiaeth. Un o'r rhain oedd William Williams, Pantycelyn, a ysgrifennodd yr emyn 'Arglwydd arwain trwy'r anialwch'. Yn y 1770au, cyhoeddodd nifer o gyn-gaethweision hanes eu bywydau, a Williams oedd y cyntaf i gyfieithu un o'r rhain i'r Gymraeg. Er mai Prydain oedd y wlad a oedd yn caethfasnachu fwyaf yn ystod y ddeunawfed ganrif, a bod caethfasnach anghyfreithlon wedi parhau ym Mhrydain am flynyddoedd lawer ar ôl pasio Deddf 1807, mae rôl y Llynges Frenhinol yn atal caethfasnach ar draws y cefnforoedd yn bennod ryfeddol o weithgarwch dyngarol cyson. Fodd bynnag, mae caethwasiaeth anghyfreithlon yn dal i barhau mewn sawl rhan o'r byd heddiw, hyd yn oed yng Nghymru. Fel y dywedodd Martin Luther King:

Mae gen i freuddwyd... boed i ryddid atseinio. 

16:40

Rwy'n hoffi geiriad y ddeiseb gyntaf rŷn ni'n ei thrafod y prynhawn yma'n arbennig. Mae'r pwynt wedi cael ei wneud bod yr iaith yma yn gyfoethog ac yn bwysig. Mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i greu corff cyffredin o wybodaeth am hanes Cymru y bydd pob disgybl yn ei ddysgu, ac, wrth gwrs, mae'r ail ddeiseb yn gysylltiedig, gan ei bod yn gofyn i hanesion pobl dduon a phobl o liw gael eu haddysgu yng nghwricwlwm addysg Cymru.

Mae'r syniad o greu corff cyffredin yn hollbwysig. Mae'r ddeiseb, wrth gwrs, yn siarad yn llythrennol yma; mae'n sôn am yr angen i rai penawdau pwysig o hanes Cymru gael eu dysgu ym mhob cwr o'r wlad. Ond mae yna hefyd yma ystyr ddwysach: corff cyffredin, corpws, yn cael ei greu. Ie, casgliad o ffynonellau, o ddigwyddiadau, ond pethau sydd wedi llunio a ffurfio corpws y wlad, ffurfio'r bobl—corff cyffredin, ymwybyddiaeth, hunaniaeth y bobl. Oherwydd dydy'r naill ddeiseb na'r llall ddim yn sôn am yr angen i ddysgu plant am hanesion pobl eraill—na, dysgu am y Cymry, pobl sydd wedi byw a threulio bywyd yma, Cymry o ddiwylliannau gwahanol sydd eto yn rhan o'r corff cyffredin, hunaniaeth gyda haenau amryw, lle mae pob un haen yn rhan o'r un. Mae'r geiriad yn ein hatgoffa bod hanes yn ein cysylltu ni gyda'n gilydd, wrth gwrs, ond hefyd gyda'n gorffennol. Hanes sydd wedi ein ffurfio ni, er da ac er drwg. Hanes sydd yn cynnig gwreiddiau i ni. Mae'n dysgu gwersi, mae'n ein cyfoethogi ni bob un, ond dim ond os rydyn ni'n clywed ac yn dysgu am yr hanesion hynny.

Cyn y toriad dros yr haf, gwnaethom ni, fel Plaid Cymru, gynnal dadl ar y pwnc hwn, yn gosod mas pam ei bod hi mor bwysig i bobl ifanc ddysgu am hanesion eu cenedl. A dwi'n dweud 'hanesion' yn y lluosog, fel sydd wedi cael ei ddweud yn barod yn y ddadl yma, achos does dim un llinyn o hanes sy'n bwysicach na'r lleill. Yn wir, mae angen i blant Cymru ddysgu mwy am hanesion y bobl wnaeth ddim ysgrifennu'r llyfrau hanes. Fel y dywedais i yn ein dadl cyn yr haf, os nad yw pob plentyn yng Nghymru yn dysgu am benawdau hynod bwysig hanes ein cenedl, gall hyn amddifadu cenedlaethau cyfan o synnwyr o'u hunaniaeth—fyddan nhw ddim yn gweld eu hunain yn y corpws. Ac mae hynny yr un mor wir am foddi Capel Celyn, hanes Glyndŵr a'r arwisgo, a pherthynas y Cymry gyda chaethwasiaeth, a hanes diwydiannol a diwylliannol ardaloedd fel Tiger Bay.

Ers yr haf bu datblygiadau sydd i'w croesawu ac sydd wedi cael eu trafod. Roedden ni'n trafod rhai o'r datblygiadau yma gyda Dr Elin Jones, sydd wedi cael ei chrybwyll yn barod, wnaeth gadeirio'r tasglu ar 'Y Cwricwlwm Cymreig, hanes a stori Cymru' yn 2013. Rwy'n cytuno gyda hi bod lle i groesawu penodiad yr Athro Charlotte Williams i arwain adolygiad o'r adnoddau sydd ar gael i gefnogi athrawon i'w helpu nhw wrth iddyn nhw gynllunio gwersi am hanesion pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig. Gall y penodiad hwn arwain at wireddu argymhellion yr adroddiad hwnnw am ddatblygu ymwybyddiaeth disgyblion o'r Cymry aml-ethnig, amlddiwylliannol, a, thrwy hynny, gwarantu na fydd plant Cymru yn cael eu hamddifadu o wybodaeth o'u hanes eu hunain. Ac mae hyn yn bwysig, Llywydd, ar gyfer safiad ein cenedl yn genedlaethol. Os nad ydy hanesion Cymru yn cael eu dysgu yn ein hysgolion, bydd myfyrwyr ddim yn dysgu am y penodau hynny yn y brifysgol ychwaith, a gall hyn arwain at fwy o ddirywiad yn niferoedd y canolfannau hanes Cymru ac astudiaethau Celtaidd yn ein prifysgolion. Bydd hynny yn cael effaith anorfod ar wybodaeth genedlaethol a'r ffordd y mae'r wlad yn ei phortreadu ei hun ar lwyfan y byd.

Ar ôl diddymiad galarus Prifysgol Cymru, mae'n hollbwysig gwarchod y ganolfan astudiaethau uwch a Cheltaidd, Gwasg Prifysgol Cymru a chanolfan astudiaethau uwch Gregynog. Mae hyn oll yn gysylltiedig. Os does dim brwdfrydedd nac arbenigedd am hanes Cymru—yr hanesion Cymreig yna i gyd dŷn ni'n trafod—bydd yn gwanhau'r cysyniad o Gymru a'i chryfder academaidd. Mae angen gwarantu parhad ein cenedl a'n canolfannau arbenigol, a chreu canolfannau o ragoriaeth newydd ac adrannau astudiaethau Celtaidd, nid dim ond yng Nghymru ond dros y byd. Dyma beth dŷn ni'n ei drafod heno a dyma ydy dechrau'r broses yna: creu corff cyffredin a gwarantu ymwybyddiaeth ein pobl ifanc o'u hunaniaeth. Rwy'n gobeithio'n wir y bydd ein corff deddfwriaethol yma, y Senedd, yn cytuno â phwysigrwydd hynny. Diolch.

16:45

Mick Antoniw. Rwy'n credu ein bod yn dal i'w chael hi'n anodd eich clywed, Mick. Efallai y bydd angen i chi ddefnyddio'r rheolydd sain ar eich clustffonau eich hun.

Dyna ni. Wel, diolch, Lywydd. Roeddwn yn mynd i ddweud, pan ddechreuais gynnau, y byddem yn cael cyfraniadau rhagorol. Gwnaeth cyfraniad Siân Gwenllian argraff arbennig arnaf gan y credaf iddi nodi nid yn unig yr athroniaeth sy'n sail i addysgu hanes, ond hefyd yr heriau sylweddol sy'n bodoli.

Cadeiriais y pwyllgor a edrychodd ar y ddeddfwriaeth i roi pleidlais i rai 16 oed. Wrth gwrs, edrychasom yn fanwl ar addysg ddinesig, a chredaf fod addysgu hanes yn y cwricwlwm ac addysg ddinesig yn mynd law yn llaw mewn gwirionedd gan mai gwleidyddiaeth bur yw hanes yn y bôn—gwleidyddiaeth gydag 'g' fach—a dealltwriaeth o'r hyn sydd wedi digwydd yn ein cymdeithas a'r ymgysylltiad â hynny.

Nawr, un o'r pryderon sydd gennyf mewn gwirionedd yw'r prinder deunydd ar lawer o'r digwyddiadau hanesyddol a'r unigolion yn ein cymunedau ar lefel leol. I mi, nid yw hanes yn ymwneud ag addysgu am frenhinoedd a breninesau fel y cyfryw—hyd yn oed tywysogion Cymru. Mae'n ymwneud â chymunedau mewn gwirionedd; mae hefyd yn ymwneud â hanes gweithwyr a chymunedau gweithwyr.

Felly, yn yr amser sydd gennyf, rwy'n mynd i fynd drwy rai o'r bobl sy'n haeddu fwyaf o sylw yn ein cwricwlwm hanes yn fy marn i, yn sicr yn y cymunedau rwy'n eu cynrychioli, lle dylid cael deunyddiau a dylid eu hymgorffori. Pan af o gwmpas ysgolion, ychydig iawn o wybodaeth a gaf am unrhyw un o'r bobl hyn, er iddynt fod yn ffigurau mor amlwg yng Nghymru.

Dr William Price o Lantrisant, Siartydd a oedd yn ymwneud ag iechyd galwedigaethol ac a wnaeth yr amlosgiad modern cyntaf, rhywun sydd o bwys gwleidyddol arwyddocaol iawn. Arthur Horner, llywydd Ffederasiwn Glowyr De Cymru; yn 1946, llywydd Undeb Cenedlaethol y Glowyr a ffigwr pwysig yn hanes gwladoli'r diwydiant glo a oedd mor arwyddocaol. A.J. Cook, y ceir plac iddo ychydig y tu allan i fy etholaeth yng nglofa Tŷ Mawr Lewis Merthyr; ef oedd ysgrifennydd cyffredinol Ffederasiwn Glowyr Prydain ond ychydig iawn a addysgir am y ffigwr arwyddocaol hwn.

Beth am hanes datganoli yn mynd yn ôl i'r 1920au, hyd yn oed yn gynharach efallai, ond Kilbrandon ac yn y blaen hefyd? Hanes ffederasiwn y glowyr: sut y gallwch siarad am hanes modern de Cymru heb sôn am ddatblygiad Ffederasiwn Glowyr De Cymru? Pwysigrwydd dyfarniad Cwm Taf a goblygiadau hynny i hawliau democrataidd i undebau llafur. Cymru a'r gaethfasnach. Gareth Jones, y newyddiadurwr o Gymru y siaradais amdano droeon, ac sydd â stryd wedi'i henwi ar ei ôl bellach ym mhrifddinas Ukrain, Kyiv. Hughesovka—sefydlodd John Hughes un o'r ardaloedd cynhyrchu dur mwyaf yn y byd. Streic gyffredinol 1926, sut nad ydym yn sôn am effaith hynny ar gymunedau de Cymru. Cofiwn y gerdd gan Idris Davies, 1926, a sut y byddem yn cofio'r flwyddyn honno hyd oni sycho'n gwaed. Wel, rwy'n credu bod llawer o'n hysgolion a'n cwricwlwm hanes wedi anghofio amdani. Robert Owen, sylfaenydd y mudiad cydweithredol ac undebau llafur mewn sawl rhan o Gymru ac ym Mhrydain; streic glowyr 1984-85 a gafodd y fath effaith; ac Evan James, a ysgrifennodd anthem genedlaethol Cymru, a oedd yn dod o Bontypridd.

Dim ond rhai o'r bobl yw'r rhain. Dylid cael deunyddiau; dylent fod yn rhan o gorff ehangach o'r hanes sydd wedi ffurfio, ac wedi effeithio ar y cymunedau rydym yn eu cynrychioli. I mi, dyna'r rhan bwysig: hanes gweithwyr a chymunedau dosbarth gweithiol. Diolch. 

16:50

Mae'n bleser mawr cael cymryd rhan yn y ddadl hon, dan gadeiryddiaeth hanesydd nodedig ei hun. I mi, mae hanes yn beth byw. Mae'r continwwm rydym yn byw ynddo yn rhan hanfodol bwysig o fy nychymyg, ac rwy'n myfyrio'n gyson ar ddigwyddiadau heddiw yn eu cyd-destun hanesyddol. Felly, mae addysgu hanes yn hanfodol bwysig. Fel y dywedodd Mick Antoniw funud yn ôl, gwleidyddiaeth farw yw hanes, ond mewn gwirionedd, mae hanes yn rhywbeth byw ac mae gwleidyddiaeth cenedlaethau blaenorol yn rhywbeth byw heddiw hefyd. Gwelwn hyn yn y ddadl sydd wedi codi o ganlyniad i brotestiadau Black Lives Matter a'r hyn a ddywedwyd am gaethwasiaeth a rôl yr ymerodraeth Brydeinig a hynny i gyd. Felly, mae'n hanfodol bwysig, pan addysgir hanes, ei fod yn cael ei addysgu mewn ffordd wrthrychol, neu mor wrthrychol ag sy'n bosibl.

Rwy'n cefnogi'n gryf y ddeiseb ar gorff cyffredin o wybodaeth am hanes Cymru. Astudiais hanes Cymru yn yr ysgol, a châi hanes ei addysgu mewn ffordd ychydig yn wahanol bryd hynny o bosibl i'r ffordd y caiff ei addysgu nawr, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn i bobl ddysgu am eu lle yn hanes eu cenedl. Nid wyf yn credu y gallwch ddeall digwyddiadau heddiw heb ddeall yn iawn sut y daethom yma. Fel y dywedodd yr athronydd Ffrengig Alexis de Tocqueville,

pan fo'r gorffennol yn peidio â thaflu ei oleuni ar y dyfodol, bydd meddwl dyn yn crwydro yn y tywyllwch.

A chredaf fod hwnnw'n wirionedd sylfaenol. Ond mae addysgu hanes ei hun, mewn rhai ffyrdd, yn weithred wleidyddol, neu gallai fod yn weithred wleidyddol, a rhaid inni fod yn ofalus, felly, i beidio â chaniatáu i hanes gael ei ddefnyddio fel arf propaganda gwleidyddol, er y gallai hynny fod yn isymwybodol. Credaf fod yr ail ddeiseb ar yr ymerodraeth Brydeinig yn dangos diffyg dealltwriaeth yn ei hystyr lawnaf o'r rôl a chwaraeodd yr ymerodraeth Brydeinig. Mae'n hanfodol bwysig, felly, ein bod yn addysgu'r ddwy ochr i ddadleuon hanesyddol. Mae hanes fel bwrdd draffts; mae arno sgwariau du a gwyn. Er mwyn cael dealltwriaeth lawn o'r hyn a ddigwyddodd yn y gorffennol, rhaid inni adfywio'r dadleuon ynghylch y digwyddiadau a'r mudiadau yr addysgwn amdanynt.

Roedd yr ymerodraeth Brydeinig, mewn sawl ffordd, yn rym er daioni, ac mae'r rôl a chwaraeodd Prydain, fel y dywedodd Mark Isherwood, yn atal caethfasnach yn rhan hanfodol bwysig o hanes y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Credaf fod yr hyn a ddywed y ddeiseb, fod Prydain, gan gynnwys Cymru, wedi elwa o drefedigaethedd a chaethwasiaeth am ganrifoedd, yn gorbwysleisio pwysigrwydd economaidd caethwasiaeth. Mewn gwirionedd effaith ymylol oedd iddi yn natblygiad economaidd y Deyrnas Unedig, ac wrth gwrs, ni welodd y rhan fwyaf o'r ymerodraeth Brydeinig erioed gaethwasiaeth o gwbl: Canada, Awstralia, Seland Newydd, India—rhannau mawr o'r byd. Masnach drawsatlantig oedd caethfasnach yn y bôn, ac mae caethwasiaeth, wrth gwrs, wedi bod yn endemig ym mhob gwareiddiad hyd at yr oes fodern, a hynny ym mhob rhan o'r byd. Felly, mae'r syniad fod yr ymerodraeth Brydeinig wedi dod i mewn a chaethiwo pobl a oedd fel arall yn byw mewn gwledydd rhydd, democrataidd, yn hurt wrth gwrs.

Felly, rhaid inni weld digwyddiadau'r gorffennol yng nghyd-destun eu hamser eu hunain, a rhaid inni ddeall meddyliau'r bobl a oedd yn gwneud hanes ar y pryd yng nghyd-destun y dyddiau hynny. Felly, mae llawer o unigolion yr ystyriwyd eu bod yn ddynion mawr yn eu dydd bellach yn cael eu hystyried yn ddiffygiol ar lawer ystyr, ond mae angen inni addysgu'r da gyda'r drwg a'r drwg gyda'r da, felly mae hynny'n hanfodol bwysig hefyd.

Drwy ei ymerodraeth, a oedd wrth gwrs yn cwmpasu chwarter y byd ar ei hanterth yn y 1920au, cyflwynodd Prydain reolaeth y gyfraith, gweinyddiaeth nad oedd yn llwgr, i'r gwledydd hynny. Rhoddodd yr iaith Saesneg i'r gwledydd hyn. Cafodd India ei huno o ganlyniad i'w hymgorffori yn yr ymerodraeth. Byddai'r India Fodern yn edrych yn wahanol iawn, mewn termau geowleidyddol, i'r hyn ydyw heddiw, oni bai am yr ymerodraeth Brydeinig. Fel y dywedais eiliad yn ôl, fe wnaethom atal caethwasiaeth a rhoesom ddemocratiaeth yn rhodd ddiwylliannol i'r gwledydd hyn yn sgil yr ymerodraeth Brydeinig. A hefyd, gwnaethom hyrwyddo datblygiad economaidd rhannau helaeth o'r byd, sy'n cyflenwi'r cyfoeth y mae'r poblogaethau yn ei fwynhau heddiw. Felly, fe wnaeth Prydain lawer o bethau da. Roedd caethwasiaeth yn amlwg yn fefl, ond fe wnaethom chwarae rhan anrhydeddus yn ei ddileu.

Mae hanes pobl dduon yn bwysig, ond credaf fod rhaid inni ei gadw yn ei gyd-destun ac yn gymesur hefyd, oherwydd ffenomen ddiweddar iawn yw mewnfudo torfol i'r wlad hon, wrth gwrs. A hyd yn oed heddiw, mae cyfrifiad 2011 yn dweud wrthym fod 96 y cant o boblogaeth Cymru yn wyn, 2.3 y cant o darddiad Asiaidd a 0.6 y cant yn ddu. Felly, wrth gwrs, mae pawb, o ba hil neu gyfansoddiad ethnig bynnag, am wybod hanes eu pobl eu hunain, eu hynafiaid eu hunain, a chredaf fod honno'n rhan bwysig ac angenrheidiol o unrhyw gwricwlwm hanes, ond nid wyf yn credu y dylai ddominyddu pob dim.

Mae angen inni ddysgu hanes Cymru, mae angen inni ddysgu hanes Prydain, ac mae angen inni ddysgu lle Cymru a Phrydain yn y byd. Ac os gwnawn hynny mewn ffordd adeiladol, wrthrychol, ac annog pobl i ddeall nad yw hanes yn ffaith, oherwydd yn y pen draw, myth yw pob hanes ar un ystyr; rydym yn ail-lunio digwyddiadau'r gorffennol yn barhaus. Yr hyn sydd angen inni ei ddysgu i bobl yw bod hanes ei hun yn broblem heb ateb hawdd a chyflym iddo, mae'n debyg. Mae'n eich dysgu sut i ddadansoddi digwyddiadau a chymhellion ac i ddeall mai hanes yw'r hyn a ysgrifennir gan haneswyr mewn gwirionedd, ac nid yr hyn a ddigwyddodd ar y pryd o reidrwydd.

16:55

Cyn i mi alw ar Mike Hedges, a gaf fi ddweud ar gyfer y cofnod nad fi yw'r Elin Jones y cyfeiriwyd ati sawl gwaith yn ystod y ddadl y prynhawn yma? Mae Dr Elin Jones yn hanesydd blaenllaw yng Nghymru ac nid wyf fi'n ddoctor o gwbl. Mike Hedges.

Yn fyr iawn, os ydym am ddysgu hanes Cymru, rwy'n credu bod angen inni ddysgu hanes teyrnasoedd yr hen Gymru. Maent yn golygu rhywbeth i lawer ohonom.

Ymddengys ein bod wedi mynd tuag yn ôl. Pan oeddwn yn gwneud hanes lefel O, roeddem yn gwneud hanes cymdeithasol ac economaidd. Nawr, yn eu TGAU, maent yn astudio America, De Affrica a'r Almaen. Rwy'n credu bod angen i ni fynd tuag yn ôl.

Yn olaf, mae angen i bobl ddeall eu hardal eu hunain, sut y digwyddodd a beth yw perthnasedd gwahanol leoedd. Os ydym yn mynd i lunio cwricwlwm, neu roi syniadau at ei gilydd, mae angen cynnwys y rheini i gyd. Diolch.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd.

Mae nifer y llofnodion a dderbyniwyd ar y ddwy ddeiseb yn arwydd clir o gryfder y teimlad ynghylch addysgu hanes yng Nghymru. Rydym wedi mwynhau llawer o ddadleuon yn y Senedd ar y pwnc hwn ac nid yw heddiw wedi bod yn eithriad, gydag areithiau a chyfraniadau meddylgar iawn. Ac wrth gwrs, mae'r ddadl hon heddiw'n cael ei chynnal ar ddyddiad pwysig iawn yn ein hanes pan welsom wrthryfel Casnewydd ar 4 Tachwedd 1839, o dan arweiniad John Frost. Felly, nid wyf yn gwybod a yw'n gyd-ddigwyddiad fod y Pwyllgor Deisebau wedi gallu sicrhau'r slot heddiw, ond dyma ddiwrnod perthnasol iawn i fod yn trafod y pwnc hwn, unwaith eto.

Ac rwy'n hapus iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y sefyllfa bresennol o ran datblygu'r cwricwlwm. Fel y dywedais droeon o'r blaen, mae astudio hanes a hanesion Cymru yn elfen bwysig yn y gwaith o gyflawni pedwar diben ein cwricwlwm newydd. Mae fframwaith newydd y cwricwlwm yn adlewyrchu Cymru: ein treftadaeth ddiwylliannol a'n hamrywiaeth; ein hieithoedd a'n gwerthoedd; a hanesion a thraddodiadau pob un o'n cymunedau a'n holl bobl.

Lywydd, rwy'n hapus i nodi y bydd y cwricwlwm newydd yn cynnwys elfennau gorfodol, gan gynnwys datganiadau o'r hyn sy'n bwysig i bob maes dysgu a phrofiad. Felly, bydd yn ofynnol drwy statud i gwricwlwm pob ysgol gynnwys dysgu ym mhob un o'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig. Ac ym maes y dyniaethau, rhaid i hyn gynnwys meithrin ymdeimlad o 'gynefin'—lle ac ymdeimlad o berthyn—gwerthfawrogiad o hunaniaeth a threftadaeth; cysylltiad cyson â stori eu hardal a stori Cymru; datblygu dealltwriaeth o natur gymhleth, luosog ac amrywiol cymdeithasau, yn y gorffennol a'r presennol; ac ymgysylltu â heriau a chyfleoedd yn y gorffennol, y presennol a'r dyfodol sy'n eu hwynebu hwy fel dinasyddion, a'u cymunedau a'u cenedl. Bydd y rhain yn elfennau gorfodol yng nghwricwlwm pob ysgol, ar gyfer pob dysgwr ar bob cam. Ni fydd yn bosibl anwybyddu rôl ganolog ac allweddol ein holl hanesion, ein straeon lleol a chenedlaethol, gan gynnwys hanes pobl dduon, yng nghwricwlwm ysgol.

Nawr, rydym i gyd wedi cytuno bod yn rhaid i ddysgu fod yn gynhwysol a manteisio ar brofiadau, safbwyntiau a threftadaeth ddiwylliannol y Gymru gyfoes. Mae hyder yn eu hunaniaeth yn helpu dysgwyr i werthfawrogi'r cyfraniad y gallant hwy ac eraill ei wneud yn eu gwahanol gymunedau, ac i ddatblygu ac archwilio eu hymateb i faterion lleol, cenedlaethol a byd-eang. Bydd hyn hefyd yn helpu dysgwyr i archwilio, gwneud cysylltiadau a datblygu dealltwriaeth mewn cymdeithas amrywiol. Mae'r cwricwlwm yn cydnabod nad endid unffurf yw ein cymdeithas ond ei bod hi'n cwmpasu amrywiaeth o werthoedd, safbwyntiau, diwylliannau a hanesion sy'n cynnwys pawb sy'n byw yng Nghymru. A gadewch i mi fod yn glir: nid lleol yn unig yw 'cynefin', mae'n darparu sylfaen ar gyfer dinasyddiaeth genedlaethol a rhyngwladol. Fel rhan o'r datganiadau gorfodol o'r hyn sy'n bwysig yn y dyniaethau, bydd rhaid i bob ysgol gynnwys dysgu gwerthfawrogi natur amrywiol cymdeithasau, yn ogystal â deall amrywiaeth ei hun.

Yn yr haf, penodais yr Athro Charlotte Williams i arwain gweithgor a fydd yn rhoi cyngor ac argymhellion ynghylch addysgu themâu sy'n ymwneud â chymunedau a phrofiadau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, ac rwy'n falch fod Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau wedi croesawu'r gwaith hwnnw. Nawr, mae'n hanfodol dweud nad yw hyn wedi'i gyfyngu i hanes; mae'n cwmpasu pob rhan o'r cwricwlwm ysgol, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr, yn ddiweddarach y mis hwn, at gael yr adroddiad interim a fydd yn canolbwyntio ar adnoddau dysgu. Mae'r grŵp wedi datblygu'r gwaith yng nghyd-destun y fframwaith cwricwlwm newydd, sy'n osgoi rhagnodi rhestr lawn o bynciau neu weithgareddau penodol. Mae'r canllawiau'n nodi'r cysyniadau a ddylai fod yn sail i ystod o wahanol bynciau, gweithgareddau dysgu a chaffael gwybodaeth, a bydd dysgwyr o bob oed yn dysgu am ystod o gyfnodau hanesyddol ar lefel leol a chenedlaethol. Byddant yn ystyried sut mae hanes lleol, hanes Cymru a hanes byd-eang yn cysylltu â'i gilydd, ac yn cael eu ffurfio a'u deall, drwy ddigwyddiadau fel gwrthryfel Glyndŵr, rhyfel sifil Sbaen, a rhyfeloedd byd yr ugeinfed ganrif. Mae hyn eisoes wedi'i nodi yn y canllawiau a gyhoeddwyd gennym yn gynharach eleni.

Rwy'n cydnabod bod angen inni barhau i gefnogi athrawon gyda'u dysgu proffesiynol i'w helpu i symud ymlaen i nodi adnoddau, pynciau a chysylltiadau. Er mwyn caniatáu amser a lle i addysgwyr gydweithio ar draws ysgolion i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd, rydym wedi buddsoddi'n helaeth mewn dysgu proffesiynol, gydag oddeutu £31 miliwn eisoes wedi ei ddyfarnu'n uniongyrchol i ysgolion, a byddwn yn parhau i adeiladu ar y sylfeini dysgu proffesiynol cryf hyn wrth inni symud yn nes at weithredu'r cwricwlwm yn 2022. Felly, rwy'n hyderus y bydd yr adnoddau, y cymorth a'r arweiniad sy'n cael eu datblygu yn grymuso ysgolion i ddarparu addysg ystyrlon am hanesion Cymru a'i chymunedau amrywiol ym mhob maes dysgu a phrofiad ar draws y cwricwlwm.

Bydd ysgolion yn cael cymorth i ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol ym maes treftadaeth, amgueddfeydd ac orielau, yn ogystal ag arweinwyr cymunedol a diwylliannol wrth gynllunio eu cwricwlwm er mwyn cyfoethogi dysgu a phrofiadau pob disgybl. Felly, o fewn y paramedrau a nodir yn y canllawiau, bydd gan athrawon hyblygrwydd i deilwra cynnwys gwersi i alluogi dysgwyr i archwilio eu 'cynefin'. Credwn mai dyna'r ffordd orau ymlaen iddynt ddeall sut mae eu hunaniaeth leol, eu tirweddau a'u hanesion yn cysylltu â'r rheini ar lwyfan cenedlaethol a rhyngwladol.

Bydd rhyddid i athrawon addysgu hanesion niferus ac amrywiol Cymru a'r byd ehangach, ac fel y dywedais o'r blaen, ni ddylid cyfyngu archwilio straeon pobl a chymunedau Cymru i wersi hanes yn unig. Mae holl ddiben a chynllun y cwricwlwm i Gymru yn annog dysgwyr i archwilio themâu ar draws y cwricwlwm. Gellir addysgu hanesion amrywiol pobl Cymru nid yn unig ym meysydd y dyniaethau, ond hefyd mewn ieithoedd, llenyddiaeth a chyfathrebu, ac mewn gwyddoniaeth a thechnoleg. Byddwn yn creu adnoddau pellach a fydd yn cyfeirio at ddigwyddiadau a phynciau allweddol yn hanesion Cymru a'r byd wrth inni symud ymlaen at weithredu, a bydd yr adnoddau hyn yno i alluogi athrawon i ddatblygu eu cwricwla eu hunain.

Fel y soniais yn gynharach, mae'r gweithgor dan gadeiryddiaeth yr Athro Williams wedi adolygu'r adnoddau presennol i gefnogi addysgu themâu sy'n ymwneud â phrofiad a chyfraniadau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ar draws ein cwricwlwm, ac fel y nodwyd, bydd Estyn hefyd yn adrodd ar eu hadolygiad o addysgu hanes Cymru ac amrywiaeth mewn ysgolion y flwyddyn nesaf. Bydd ei ganfyddiadau yn ein helpu ymhellach i gomisiynu adnoddau i sicrhau bod athrawon yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i gyflwyno'r cwricwlwm yn llwyddiannus.

Fodd bynnag, rydym yn cydnabod na fydd mynediad at adnoddau dysgu o ansawdd da yn ddigon ar ei ben ei hun o reidrwydd ac y bydd angen i athrawon gael y dysgu a'r datblygiad proffesiynol perthnasol. Yn gynnar y flwyddyn nesaf, rwy'n disgwyl cael ail adroddiad gan weithgor yr Athro Williams, a fydd yn ystyried anghenion dysgu a datblygiad proffesiynol staff yn ein hysgolion yn ystod y misoedd nesaf. Bydd y grŵp yn darparu argymhellion ar sut i sicrhau y gall athrawon ar draws y cwricwlwm fynd ati'n gymwys i gyflwyno dysgu sy'n gysylltiedig â chymunedau a phrofiadau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. A maddeuwch i mi, Lywydd, ni allaf gofio pa un o fy nghyd-Aelodau a wnaeth y pwynt, ond mae'r Athro Williams yn glir iawn fod yn rhaid i addysgu am hanes pobl dduon fynd y tu hwnt i ddysgu am gysyniadau ynglŷn â chaethwasiaeth. Mae llawer iawn mwy i sôn amdano, a'r Aelod a siaradodd am gyfraniad cadarnhaol cymunedau duon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig i Gymru—gwnaed y pwynt hwnnw'n dda iawn.

Felly, i grynhoi, fel rhan o'r datganiadau gorfodol o'r hyn sy'n bwysig yn y dyniaethau, bydd yn rhaid i bob ysgol gynnwys dysgu am natur amrywiol cymdeithasau a dealltwriaeth ohonynt,yn ogystal â deall y cysyniad o amrywiaeth ei hun, a'u 'cynefin'. Rydym yn parhau i weithio ar gynnwys y cwricwlwm i sicrhau ei fod yn cwmpasu profiadau a hanesion sy'n cynrychioli natur amrywiol cymdeithasau sydd gennym yma yng Nghymru ac ar draws y byd. Ond diolch i'r Aelodau unwaith eto. Rwyf bob amser yn ystyried bod y dadleuon hyn ymhlith y goreuon a gawn yn y Siambr, ac ni fu heddiw'n eithriad, fel y dywedais. Diolch yn fawr.

17:05

Weinidog, diolch am eich cyfraniad wrth ymateb i'r ddadl hon, a diolch o ddifrif i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd rhan heddiw. Y cyfan rwyf am ei wneud mewn gwirionedd yw adleisio bod cyfraniadau gwirioneddol feddylgar a gwirioneddol dda wedi'u gwneud yma heddiw. Felly, wrth gloi, hoffwn ddiolch i'r deisebwyr a phawb a gefnogodd y deisebau hynny er mwyn eu cael i'r pwynt hwn. Hoffwn ddiolch i fy nghyd-aelodau o'r Pwyllgor Deisebau a thîm clercio'r pwyllgor. Credaf fod y ffaith y gall deisebau arwain at drafod y materion hyn yn Senedd Cymru, er yn rhithwir yn yr achos hwn, yn profi ac yn dangos gwerth y broses ddeisebu. Mae'r ddadl hon wedi ei gwneud hi'n bosibl codi materion pwysig iawn, a bydd y ddwy ddeiseb hon yn arbennig yn cael eu hystyried ymhellach gan ein pwyllgor. Wrth fwrw ymlaen â'r deisebau, wrth gwrs, fe fyddwn yn ystyried y craffu a wneir ar y cwricwlwm mewn mannau eraill a'r bobl ifanc y bydd unrhyw ganlyniadau i'r deisebau hyn yn effeithio'n fawr arnynt. Mae'r gwaith sydd ar y gweill gan y gweithgor ac Estyn a'r Athro Charlotte Williams hefyd wedi'i grybwyll yma heddiw, ac rwy'n credu iddi fod yn ddadl wych, ac rwy'n siŵr y bydd y sawl a ddechreuodd neu a lofnododd y deisebau os ydynt yn gwylio wedi cael eu calonogi'n fawr gan y diddordeb a ddangoswyd yn y deisebau hyn heddiw. Diolch, Lywydd. 

17:10

Y cynnig, felly, yw i nodi'r deisebau. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi'n gweld un gwrthwynebiad, ac felly byddaf yn gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Cyn i ni gyrraedd y cyfnod pleidleisio, fe fyddwn ni'n cymryd egwyl o bum munud yn unol â Rheol Sefydlog 34.14D. Pan fyddwn ni'n ailymgynnull, byddwn ni'n cynnal y cyfnod pleidleisio.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:10.

17:15

Ailymgynullodd y Senedd am 17:18, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

10. Cyfnod Pleidleisio

Dyma ni, felly, yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar y cynnig i nodi'r adroddiad blynyddol ar gynllun ieithoedd swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer 2019-20, a dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn fy enw i. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 52, tri yn ymatal, neb yn erbyn. Ac felly mae'r cynnig wedi ei gymeradwyo. 

Cynnig i nodi'r Adroddiad Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer 2019-20: O blaid: 52, Yn erbyn: 0, Ymatal: 3

Derbyniwyd y cynnig

Mae'r bleidlais nesaf ar y ddadl ar ddeisebau: addysgu hanes mewn ysgolion. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Janet Finch-Saunders. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 51, pedwar yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna hefyd wedi'i gymeradwyo.

Dadl ar ddeisebau: Addysgu hanes mewn ysgolion: O blaid: 51, Yn erbyn: 0, Ymatal: 4

Derbyniwyd y cynnig

17:20
11. Dadl Fer: Cymesuredd cyfyngiadau symud Llywodraeth Cymru

Yr eitem nesaf fydd y ddadl fer, ac mae'r ddadl fer heddiw i'w chyflwyno gan David Rowlands. David Rowlands. 

Bydd rhaid i chi aros eiliad tra byddwn yn rhoi trefn ar eich meicroffon. Iawn, rhowch gynnig arni nawr.

Iawn, diolch yn fawr iawn. Diolch, Lywydd. A gaf fi roi rhagarweiniad i'r ddadl hon drwy ddweud nad yw wedi'i chynllunio i annog pobl i dorri amodau'r cyfyngiadau symud? I'r gwrthwyneb, rwy'n annog pobl i ufuddhau i'r cyfyngiadau, ar gyfer y cyfnod atal byr a'r cyfyngiadau a fydd ar waith ar ôl dydd Llun nesaf. Amcan cyffredinol y ddadl hon yw cwestiynu a yw'r strategaethau a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru, ac yn wir gan Lywodraeth y DU, yn gymesur â'r bygythiad a achosir gan COVID-19. Dylwn nodi yma fod dwylo Llywodraeth Cymru, i raddau helaeth iawn, wedi'u clymu gan ymyriadau Llywodraeth y DU, er y gwahanol drefniadau a weithredwyd gan bob Llywodraeth dros y misoedd diwethaf. Byddai gofyn bod wedi cael Llywodraeth ddewr iawn yng Nghymru i fod wedi ymateb i argyfwng COVID fel y gwnaeth Llywodraeth Sweden.

Nod fy sylwadau agoriadol yn y ddadl hon yw tynnu sylw at y ffaith bod COVID-19 wedi'i ail-gategoreiddio bellach fel clefyd nad yw'n glefyd heintus â chanlyniadau pellgyrhaeddol, neu HCID, gan grŵp HCID iechyd cyhoeddus y pedair gwlad. Yn ogystal, mae'r Pwyllgor Cynghori ar Bathogenau Peryglus hefyd o'r farn na ddylid dosbarthu COVID-19 mwyach fel clefyd heintus â chanlyniadau pellgyrhaeddol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio droeon eu bod yn ymateb i gyngor a roddir iddynt gan arbenigwyr, a bod cyngor yr arbenigwyr yn seiliedig ar ystadegau a modelau rhagamcanol mewn perthynas â'r pandemig COVID. Efallai y dylem atgoffa ein hunain fod 'pandemig' yma yn gamddefnydd o'r gair, oherwydd mae Sefydliad Iechyd y Byd bellach wedi ailddiffinio'r argyfwng COVID fel 'bygythiad difrifol i iechyd', ac mae wedi datgan yn glir nad yw'n bandemig, ac mae'r sefydliad hwnnw bellach yn dadlau na ddylid defnyddio cyfyngiadau symud i fynd i'r afael â COVID-19. Os yw'r Llywodraeth a'u cynghorwyr, felly, yn dibynnu ar ystadegau COVID, mae'n hanfodol fod yr ystadegau hyn yn adlewyrchiad teg a chywir o sut mae COVID-19 yn effeithio ar y boblogaeth, ac nid yw'n adleisio'r ffigurau hurt a roddwyd gan arbenigwyr fel y'u gelwir y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau.

Yn gyntaf ymhlith yr ystadegau hyn y mae'r cynnydd yn y nifer sydd wedi'u heintio a'r cynnydd a ragwelir yn y nifer a fydd yn cael eu heintio. Fodd bynnag, mae'r ystadegau hyn yn gwbl ddibynnol ar nifer y profion a gyflawnir. O ystyried bod nifer y profion a gyflawnir, hyd yn oed gan ganiatáu ar gyfer diffygion y trefniadau profi, wedi codi ac yn dal i godi'n ddramatig, mae'n anochel y bydd y gydberthynas rhwng y nifer a heintiwyd a'r nifer sy'n cael prawf yn dangos cynnydd sylweddol yn y niferoedd y canfuwyd eu bod wedi cael y coronafeirws yn ogystal â'r rhai sydd â'r coronafeirws, ac yn hyn o beth, mae gwall sylweddol yn y bygythiad tybiedig a achosir gan COVID-19. Nid yw'r rheini sydd wedi cael y feirws, heb fawr ddim symptomau os o gwbl, yn fygythiad i'r rheini y dônt i gysylltiad â hwy—dywedir eu bod yn asymptomatig—ac eto maent wedi'u cynnwys yn y ffigurau ar gyfer heintiau newydd. O gofio bod nifer y rhai a heintiwyd yn y ffordd hon yn sylweddol yn ôl y sôn, a ddylid eu cynnwys yn ystadegau'r profion o gwbl, gan y gellid dweud bod eu heintiau'n rhai hanesyddol ac nad ydynt yn fygythiad i eraill? Dylwn nodi yma hefyd fod llawer o astudiaethau wedi dangos bod y trefniadau profi'n ddiffygiol iawn, gyda nifer fawr o bersonél gwyddonol amlwg mewn sefydliadau'n dweud ei bod yn system brofi gwbl annigonol, gyda chyfradd go fawr o groeshalogi a chanlyniadau hollol anghywir, ac eto yr ystadegau a roddir gan y cyfundrefnau profi presennol yw'r union rai y mae Llywodraeth Cymru a'i chynghorwyr yn dibynnu arnynt.

17:25

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

A gawn ni droi yn awr at yr ystadegyn arall sy'n arwain ymyriadau Llywodraeth Cymru, sef marwolaethau o haint COVID-19? Yma, rwy'n teimlo ei bod yn hanfodol gwahaniaethu rhwng y rhai y dywedir eu bod wedi marw o ganlyniad uniongyrchol i COVID-19 a'r rhai y dywedir eu bod wedi marw gyda COVID-19. Gadewch imi ddyfynnu'n awr o'r cyngor meddygol a roddir i feddygon ynglŷn â chofnodi marwolaethau lle mae COVID yn bresennol neu'n wir, lle credir ei fod yn bresennol:

Gofynnir i ymarferwyr meddygol ardystio achosion marwolaeth 'hyd eithaf eu gwybodaeth a'u cred'. Heb brawf diagnostig, os yw'n briodol ac er mwyn osgoi oedi, gall ymarferwyr meddygol gylchu '2'

ar y dystysgrif feddygol o achos marwolaeth,

('gall gwybodaeth o bost-mortem fod ar gael yn nes ymlaen') neu dicio Blwch B ar gefn y dystysgrif ar gyfer archwiliadau cyn marwolaeth. Er enghraifft, pe bai gan y claf symptomau cyn marwolaeth sy'n nodweddiadol o haint COVID-19, ond nad yw canlyniad y prawf wedi dod i law, byddai'n foddhaol rhoi 'Covid-19' fel achos marwolaeth.

Mae hyn yn golygu, wrth gwrs, y gellir cofnodi marwolaethau fel rhai sy'n gysylltiedig â COVID hyd yn oed os na wnaed prawf ar gyfer COVID. Bob dydd clywn am farwolaethau o COVID yn cael eu rhoi fel ystadegyn moel—dim sôn am ba mor hen oedd yr ymadawedig na ph'un a oedd ganddynt afiechydon isorweddol hirdymor, megis canser, problemau fasgwlaidd, diabetes, neu un o'r nifer o afiechydon eraill sy'n bygwth bywyd y mae pobl yn marw ohonynt bob dydd. Dywed codau meddygol nad yw'n dderbyniol mwyach i ddatgan bod marwolaeth wedi digwydd o achosion naturiol, neu henaint mewn geiriau eraill. Fodd bynnag, mae ystadegau'n dangos bod y mwyafrif helaeth o farwolaethau'n digwydd mewn pobl dros 80 oed ac ychydig iawn, os o gwbl, mewn pobl o dan 50 oed.

Felly, beth yw'r canlyniadau trychinebus a achosir gan y cyfyngiadau symud cenedlaethol? Wel, maent yn niferus ac yn amrywiol, ond mae pob un yn ei ffordd yn newid bywydau'r cannoedd o filoedd, miliynau yn wir, yr effeithir arnynt yn negyddol gan yr ymyriadau hyn. Yn gyntaf, wrth gwrs, ceir eu heffaith economaidd drychinebus ar gymdeithas yn ei chyfanrwydd ac ar unigolion yn gyffredinol. Mae miloedd lawer o fusnesau wedi chwalu neu ar fin chwalu, gan arwain at golli miloedd di-ben-draw o swyddi. Mae effaith ganlyniadol enfawr ar y rhai a ddiswyddwyd lle caiff arian ei dorri'n llym, gan arwain yn aml at gynnydd mawr mewn dyledion personol a chaledi ariannol cyffredinol. Mae cydberthynas uniongyrchol rhwng colli incwm a hunan-barch yn y ffordd hon sy'n aml yn arwain at broblemau iechyd meddwl a hyd yn oed at hunanladdiad. Yn wir, mae tystiolaeth ystadegol yn dangos cynnydd enfawr yn nifer yr hunanladdiadau ers dechrau'r cyfyngiadau symud. 

Gadewch inni droi yn awr at farwolaethau yn ystod yr argyfwng coronafeirws. Wrth gwrs, diogelu bywydau pobl sydd wedi rhoi'r prif reswm inni dros ymyriadau Llywodraethau mewn perthynas â COVID, ond gwyddom bellach, o ganlyniad uniongyrchol i gyfyngiadau COVID, fod nifer fawr iawn o farwolaethau'n digwydd oherwydd nad yw pobl yn troi at glinigwyr neu am na allant wneud hynny. Bu cynnydd enfawr yn nifer y marwolaethau o ganser, clefyd y galon, strôc a diabetes, a llu o glefydau o ganlyniad i'r ffaith nad yw ymyriadau clinigol arferol yn digwydd. Arwydd o'r marwolaethau hyn yw'r cynnydd sydyn yn nifer y marwolaethau sy'n digwydd yn y cartref yn hytrach na'r ysbyty. Mae llawer o'r farn fod yna gronfa gynyddol o bobl nad ydynt yn cael cymorth meddygol amserol ar gyfer y clefydau hyn sy'n lladd, ac ni fydd effaith hynny i'w deimlo am beth amser i ddod.

Ar hyn o bryd, rydym dan gyfyngiadau symud am 14 diwrnod, ac ar ôl hynny, beth nesaf? Gall unrhyw un ragweld, cyn gynted ag y daw'r cyfyngiadau i ben, y bydd nifer yr achosion o COVID yn cynyddu eto. Felly, a ydym yn wynebu cyfnod arall o gyfyngiadau, wedi'i ddilyn gan un arall ac un arall yn ddiddiwedd? Neu a ydym yn aros am frechlyn i roi diwedd ar y malltod ofnadwy hwn ar economi a lles y wlad? Gwyddom i gyd y bydd pwy bynnag sy'n cynhyrchu brechlyn o'r fath yn gwneud biliynau o bunnoedd am amser hir i ddod, gan y bydd yn rhaid ailadrodd y brechiadau ar gyfnodau addas, oherwydd dywedir bod y feirws hwn yn mwtadu. Nawr, fel mae'n digwydd, ni chredir ei fod yn mwtadu ar yr un gyfradd â'r feirws ffliw cyffredin. Rwyf am gloi drwy ofyn y cwestiwn hwn: a allwn gyfiawnhau chwalu'r economi, gyda'r holl ganlyniadau a amlinellir uchod, i achub cyn lleied o fywydau, yn enwedig os ystyriwn y gellid gwneud hyn gydag ymyriadau wedi'u targedu'n llawer gwell? Mae'n amhosibl gorbwysleisio canlyniadau trychinebus cyfyngiadau cenedlaethol, yn enwedig i'r tlawd yn ein cymdeithas. Gadewch i mi ddyfynnu Dr David Nabarro o Sefydliad Iechyd y Byd:

Mae i gyfyngiadau symud un canlyniad na ddylech byth ei fychanu, sef eu bod yn gwneud pobl dlawd gymaint yn dlotach.

Ac mae pobl dlawd yn debygol o farw 10 mlynedd yn gynt na'r rhai sydd dros 80 oed a'r rhai sy'n marw o COVID heddiw. Felly, i orffen, daw adeg pan fo'r gwellhad yn dod yn waeth na'r salwch, ac rwyf fi a llawer o rai eraill yn credu ein bod wedi cyrraedd yr amser hwnnw.

17:30

Diolch. Galwaf yn awr ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl. Vaughan Gething.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Gwrandewais ar y cyfraniad a wnaeth yr Aelod, a rhaid imi ddweud fy mod yn anghytuno nid yn unig â byrdwn ei ddadl, ond â llawer iawn o'r manylion a gynhwysai, a chredaf ei bod yn enghraifft o hyrwyddo barn ymylol mewn ffordd sy'n beryglus, ac a all arwain mewn gwirionedd at gamarwain y cyhoedd ar adeg pan fo arnom angen mwy o wybodaeth, mwy o eglurder a mwy o ymddiriedaeth.

Ddoe, cytunodd y Senedd, ar ôl dadl, ar y rheoliadau sy'n darparu bod y cyfyngiadau presennol yn parhau nes i'r cyfnod atal byr ddod i ben fel y bwriadwyd ar 9 Tachwedd. Rydym yn dal i wynebu bygythiad cyhoeddus gwirioneddol a chynyddol y coronafeirws yma yng Nghymru, ac rwy'n atgoffa'r Aelodau o rywfaint o'r hyn a ddywedais ddoe: yn yr wythnosau'n arwain at y cyfnod atal byr, roedd y feirws yn lledaenu'n gyflym ym mhob rhan o Gymru. Rydym newydd fynd drwy'r wythnos fwyaf marwol yn y pandemig er pan oedd ar ei anterth ym mis Ebrill. Yn gynharach heddiw, cyhoeddodd fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog iechyd meddwl a lles, fod 44 o bobl eraill wedi colli eu bywydau i'r clefyd ofnadwy hwn gwaetha'r modd. Ac roeddwn yn bryderus iawn pan gyfeiriodd yr Aelod yn ei sylwadau tua'r diwedd at gyn lleied o farwolaethau a fu o'r clefyd hwn. Nid wyf yn credu bod hynny'n briodol o gwbl. Rwy'n cydymdeimlo â holl deuluoedd ac anwyliaid y bobl sydd wedi colli eu bywydau. Ar ffigurau Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae 1,939 o bobl—a gwyddom fod y ffigur gwirioneddol yn fwy—wedi colli eu bywydau'n drasig ers dechrau'r pandemig hwn.

Rwy'n falch fod y Llywodraeth hon yng Nghymru wedi gwrando ar gyngor clir y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (SAGE) a'n harbenigwyr gwyddonol ein hunain yn y gell cyngor technegol ac wedi pwyso a mesur y cyngor hwnnw'n ofalus cyn penderfynu gweithredu'r cyfyngiadau eithriadol hyn. Ac mae dewisiadau i bob un ohonom: cyfeiriodd yr Aelod at yr arbenigwyr 'fel y'u gelwir' yn SAGE. Maent yn arbenigwyr go iawn yn eu meysydd, a chredaf fod ceisio cyfeirio atynt i fychanu'r arbenigedd a'r wybodaeth y maent yn eu darparu i bob un ohonom allu gwneud dewisiadau anodd yn eu cylch yn gwbl anghywir.

Wrth gwrs, gall aelodau'r cyhoedd benderfynu pwy i'w gredu. Gallant gredu arbenigwyr gwyddonol SAGE, nad oes gwahaniaeth ganddynt pwy yw Llywodraeth y dydd, ond sy'n herio ac yn darparu gwybodaeth i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau; gallant gredu pob un o brif swyddogion meddygol y Deyrnas Unedig sy'n dweud bod hwn yn fygythiad clir a phresennol i ddyfodol y wlad, i fywydau a bywoliaeth pobl; neu gallant gredu'r Aelod. Byddwn yn annog yr Aelodau i ddarllen eto y dystiolaeth wyddonol a wnaeth yr achos dros y cyfnod atal byr ac a gyhoeddwyd gennym o'n cell cyngor technegol ein hunain. Ac mae hyn yn ychwanegol at fesurau eraill a gymerwyd, oherwydd, ers mis Medi, roeddem wedi gweithredu cyfres o ardaloedd diogelu iechyd lleol. Gwnaethant wahaniaeth i helpu i leihau trosglwyddiad, a hoffwn ddiolch i bobl am yr ymdrechion a wnaethant i gefnogi'r holl gyfyngiadau hynny, ond ar eu pen eu hunain, nid oeddent yn ddigon.

Yn gynharach heddiw cyfarfûm â Sefydliad Iechyd y Byd—cyfarfûm â chyfarwyddwr y rhanbarth Ewropeaidd, Dr Hans Kluge. Ac roedd yn amlwg mai'r dewis olaf yw cyfyngiadau symud, ond y sefyllfa roeddem ynddi oedd nad oedd mesurau eraill wedi bod yn llwyddiannus. Byddai'r llanw cynyddol roeddem yn ei weld—y llif cynyddol o niwed—wedi arwain at lawer mwy o niwed, nid yn unig niwed COVID, ond mae'r effaith y mae coronafeirws yn ei chael yn ein hysbytai heddiw yn effeithio'n uniongyrchol ar ofal nad yw'n ofal COVID a marwolaethau nad ydynt yn rhai COVID, a pheth ffôl iawn yw gwadu'r realiti hwnnw. Nid yw Sefydliad Iechyd y Byd yn dweud bod y cyfnod atal byr rydym wedi'i gyflwyno yng Nghymru yn amhriodol, nid ydynt yn dweud mai dyna'r peth anghywir i'w wneud, maent yn dweud y dylem ystyried pob mesur arall yn gyntaf, fel rydym wedi'i wneud. Dyna pam ein bod yn y sefyllfa rydym ynddi, oherwydd nid oedd mesurau llwyddiannus eraill inni eu gweithredu. Aeth y gyfradd achosion dros saith diwrnod yng Nghymru o 130 o achosion ym mhob 100,000 i fyny i 260 o achosion erbyn hyn—mae wedi dyblu, er gwaethaf y cyfnod atal byr. Gwyddom fod ein GIG yn wynebu risg wirioneddol o gael ei orlethu. Mae nifer y bobl a gludir i'r ysbyty gyda'r coronafeirws yn parhau i dyfu bob dydd—mae wedi cynyddu 20 y cant ers yr adeg hon yr wythnos diwethaf. Erbyn hyn mae traean ein gwelyau gofal critigol yn trin cleifion COVID. Nid clefyd ysgafn yw coronafeirws, mae'n heintus iawn, mae'n gwneud pobl yn ddifrifol wael, ac mae'n lladd. Mae'n glefyd angheuol.

Rwy'n falch ein bod wedi gwneud y penderfyniad anodd ond angenrheidiol i weithredu'n gynharach yng Nghymru nag y gwnaeth ein cymheiriaid dros y ffin. Rwy'n dweud hynny er fy mod yn cydnabod pa mor anodd yw'r dewis hwnnw. Nid yw'n ddewis rwyf fi nac unrhyw Weinidog arall wedi mwynhau ei wneud, oherwydd gwyddom fod gosod cyfyngiadau symud yn achosi niwed gwirioneddol. Ond rydym yn gwneud hyn er mwyn osgoi llawer mwy o niwed yn sgil gorlethu'r GIG a mwy o bobl yn marw o'r coronafeirws a chyflyrau eraill. Ac felly rwy'n croesawu'r cyfyngiadau y mae Lloegr bellach wedi dewis eu gosod; maent yn pwysleisio difrifoldeb y bygythiad a wynebwn ym mhob gwlad yn y Deyrnas Unedig, a sylwaf fod Senedd y DU heddiw wedi cymeradwyo'r cyfyngiadau am bedair wythnos yn Lloegr.

Mae gan bob un ohonom rôl i'w chwarae o hyd yn yr ymdrech genedlaethol rydym yn dal i fynd drwyddi yma yng Nghymru i sicrhau bod y cyfnod atal byr yn llwyddiannus. Mae'n parhau'n hanfodol ein bod yn dal i gydymffurfio â mesurau cadw pellter cymdeithasol, golchi dwylo'n rheolaidd, a gwisgo masg wyneb pan fo gofyn gwneud hynny, oherwydd po fwyaf o bobl rydym yn cyfarfod â hwy, y mwyaf o berygl sydd yna o ddal coronafeirws. A gofynnwn i bobl feddwl nid yn unig am yr hyn a ganiateir ac sydd o fewn y rheolau, ond yr hyn y dylem ei wneud, ac arfer cyfrifoldeb personol ac ymwybyddiaeth o sut y gallwn leihau'r risg i ni ein hunain, i'n ffrindiau, ein teulu a'n hanwyliaid. Felly, mae'n dal i fod yn ofynnol i bawb yng Nghymru aros gartref a gweithio gartref lle bynnag y bo modd, oherwydd gwyddom fod y feirws hwn yn ffynnu ar gyswllt dynol. Er mwyn lleihau faint o ryngweithio sy'n digwydd, rhaid i bobl beidio â chyfarfod ag eraill nad ydynt yn byw gyda hwy, naill ai dan do neu yn yr awyr agored, tan ddiwedd y cyfnod atal byr, ac eithrio'n unig oedolion sy'n byw ar eu pen eu hunain neu rieni sengl, sy'n dal i allu cyfarfod ag un aelwyd arall.

Rwy'n atgoffa pobl hefyd ein bod wedi dewis blaenoriaethu lles plant a phobl ifanc. Gwyddom am y niwed a fyddai wedi'i achosi i'w hiechyd meddwl a'u lles, fel y gwelsom drwy'r haf pan oedd yr ysgolion ar gau. Golygai hynny fod yn rhaid inni wneud dewisiadau eraill, gan gynnwys y dewisiadau ar gau'n ehangach. Dyna pam fod pob busnes manwerthu nwyddau nad ydynt yn hanfodol, hamdden, lletygarwch a thwristiaeth wedi cau. Nodaf fod yna adroddiadau bellach y bydd manwerthu nad yw'n hanfodol yn Lloegr yn cael ei gyfyngu mewn archfarchnadoedd yn debyg i'r ffordd y'i gwnaethom yma yng Nghymru. Mae cau hefyd wedi effeithio ar ganolfannau cymunedol, llyfrgelloedd a chanolfannau ailgylchu, a hyd yn oed mannau addoli. Mae'r rhain yn ddewisiadau anodd a phellgyrhaeddol y bu'n rhaid inni eu gwneud er mwyn cadw pobl yn ddiogel.

Ond hefyd, rydym wedi darparu cymorth i fusnesau—pwynt y soniodd yr Aelod amdano yn ei gyfraniad—oherwydd rwy'n cydnabod bod hon yn risg economaidd yn ogystal ag un iechyd cyhoeddus. Dyna pam fod gennym £300 miliwn o gymorth ariannol drwy'r cyfnod heriol hwn, a hefyd taliad untro o £5,000 i fusnesau bach y bu'n rhaid iddynt gau. Mae hynny'n ychwanegol at y cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth y DU, gan gynnwys wrth gwrs, yn dilyn y dirywiad yn ne Lloegr, ailgyflwyno'r cynllun ffyrlo llawer mwy hael a chymorth i'r hunangyflogedig ledled y DU. Fel y dywedodd Prif Weinidog Cymru, rydym yn croesawu'r hyn a ddywedodd Prif Weinidog y DU ddoe yn Nhŷ'r Cyffredin mewn ymateb i arweinydd Ceidwadwyr yr Alban, y byddai'r cynllun ffyrlo hwnnw ar gael pryd bynnag a lle bynnag y mae ei angen yn y DU. Disgwyliwn i'r Prif Weinidog gadw ei air, a roddwyd yn Nhŷ'r Cyffredin i arweinydd Ceidwadwyr yr Alban, a byddem yn disgwyl iddo gyfarwyddo unrhyw Ganghellor mewn Llywodraeth o dan arweiniad ef i wneud yr un peth.

Mae'r cyfnod atal byr yn sioc fer a sydyn er mwyn troi'r cloc yn ôl, arafu'r feirws a phrynu mwy o amser i'n helpu i achub bywydau. Rydym yn cryfhau paratoadau'r gaeaf, gan gynnwys adeiladu ar ein system brofi, olrhain, diogelu lwyddiannus. Ac rwy'n ddiolchgar iawn am y ffordd y mae pobl wedi ymddwyn ledled Cymru drwy gefnogi'r cyfnod atal byr. Ond dywedasom na fyddai llwyddiant y cyfnod atal byr i'w weld, o ran ei effaith ar gyfraddau heintio, am o leiaf bythefnos i dair wythnos ar ôl i'r cyfnod atal byr ddod i ben. Mae hynny'n golygu, o ran heintiau newydd heddiw, ein bod yn gweld effaith yr hyn oedd yn digwydd ddwy i dair wythnos yn ôl yn y gorffennol. Ond bydd yr aberth rydym i gyd yn ei gwneud yn ystod y pythefnos hwn yn diogelu'r GIG ac yn achub bywydau wrth symud ymlaen, wrth inni gyflwyno cyfres o reolau cenedlaethol symlach i ddod i rym ar 9 Tachwedd, rheolau a amlinellwyd gan y Prif Weinidog ddoe.

Dylai pawb ystyried yn ofalus sut rydym yn dilyn y rheolau a hefyd sut rydym yn ystyried yr angen i feddwl am yr hyn y dylem ei wneud. Mae hyn i gyd yn ymwneud â rhoi'r cyfle gorau inni adfer rheolaeth a chyda diwedd y flwyddyn yn agosáu, er mwyn osgoi cyfnod o gyfyngiadau symud cenedlaethol llawer hirach a mwy niweidiol yr ydym yn awyddus i'w osgoi.

Nid wyf yn dilyn nac yn cytuno â dadl yr Aelod fod coronafeirws rywsut yn yn llai pwysig nac yn llai niweidiol. Mae'n glefyd heintus iawn. Mae'n glefyd angheuol. Mae'n fwyaf tebygol o achosi niwed i'n cymunedau tlotaf. Nid yw coronafeirws yn taro pawb yr un fath. Y bobl sydd â'r lleiaf o fanteision mewn bywyd yw'r rhai mwyaf tebygol o ddioddef niwed a marwolaeth o'r coronafeirws. Mae'n atgyfnerthu'r angen i weithredu er mwyn adfer rhywfaint o reolaeth, er mwyn achub bywydau ein cymunedau mwyaf difreintiedig.

Fe roddaf syniad o'r hyn y mae hynny wedi'i olygu yng Nghymru, gyda'r clefyd angheuol hwn. Rhwng 29 Chwefror a 23 Hydref, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos y bu cynnydd o 12 y cant yn nifer y marwolaethau ychwanegol yng Nghymru. Mae hyd yn oed yn fwy sylweddol yn Lloegr, gyda chynnydd o 19 y cant yn nifer y marwolaethau ychwanegol. Yng Nghymru, mae'r 12 y cant y cyfeiriodd yr Aelod ato fel cyn lleied o farwolaethau yn golygu bod 2,418 o fywydau ychwanegol wedi'u colli—2,418 o deuluoedd ychwanegol yn galaru. Dyna pam ein bod wedi gweithredu: er mwyn atal rhag colli rhagor o fywydau a bywoliaeth pobl. A dyna pam mae angen i bob un ohonom chwarae ein rhan, gweithredu i gadw ffrindiau, teulu ac anwyliaid yn ddiogel, gweithredu i gadw pobl na fyddwn byth yn cyfarfod â hwy'n ddiogel.

Nid yw'r dewisiadau'n hawdd i'r un ohonom, ond gall pob un ohonom wneud gwahaniaeth. Gall pob un ohonom helpu i gadw Cymru'n ddiogel. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

17:40

Daeth y cyfarfod i ben am 17:44.