Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

07/10/2020

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi eisiau nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw, ac mae'r rhain wedi'u nodi ar eich agenda chi. Dwi eisiau atgoffa Aelodau hefyd fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod hwn ac yr un mor berthnasol i Aelodau yn y Siambr ag ydyn nhw i'r Aelodau sy'n ymuno drwy gyswllt fideo.

Cyn inni ddechrau trafodion heddiw, hoffwn gyfeirio at y digwyddiadau yn ystod y ddadl ddoe ar ddileu gwahaniaethu hiliol. Mae sawl un ohonoch wedi mynegi eich rhwystredigaeth a'ch siom ynglŷn â'r ffordd y gwnaeth ymddygiad un Aelod darfu ar y trafodion a dwyn anfri ar ein Senedd. Mae ymddygiad o'r fath gan unrhyw Aelod yn gwbl annerbyniol. Rwyf wedi ysgrifennu at yr Aelod gan ofyn iddo dynnu ei sylwadau difenwol yn ôl ac ymddiheuro i mi yn bersonol am ei weithredoedd. Yn y cyfamser, ni fydd yr Aelod yn cael ei alw i siarad.

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru

Cwestiynau felly nawr, fel yr eitem gyntaf, i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Alun Davies.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. A chredaf eich bod yn cael cefnogaeth yr Aelodau ar draws y Siambr gyfan i'r hyn rydych newydd ei ddweud.

Cysylltiadau Rheilffordd â Blaenau Gwent

1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella cysylltiadau rheilffordd â Blaenau Gwent? OQ55641

Rydym yn parhau i weithio gyda Trafnidiaeth Cymru a Network Rail ar gynllun gwella amlder rheilffordd Glynebwy, a fyddai'n caniatáu i redeg pedwar trên yr awr, ac rydym hefyd yn gweithio gyda Blaenau Gwent ar gynlluniau i ailagor y rheilffordd i Abertyleri.

Weinidog, rwyf bron yn fud. Rwy’n falch iawn eich bod wedi cyfeirio at yr orsaf yn Abertyleri ac at bedwar trên yr awr hefyd. Dyna’r union amcanion y mae pob un ohonom yn dymuno’u gweld. Fe fyddwch yn gwybod, yn well na minnau efallai, sut y mae Llywodraeth San Steffan wedi gwneud tro gwael â phob un ohonom—mae un ar ôl y llall o Lywodraethau’r DU wedi gwrthod buddsoddi yn y seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru. A chredaf fod pob un ohonom yn ddiolchgar fod Llywodraeth Cymru o'r farn fod y seilwaith rheilffyrdd yn rhy bwysig i gael ei adael i wywo ar gangen San Steffan. Felly, a wnewch chi ymrwymo i barhau i fuddsoddi yn y seilwaith sy'n gwasanaethu Blaenau Gwent, ond hefyd y bydd y metro’n parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ac y bydd Llywodraeth Cymru’n parhau i sicrhau bod gennym gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus sy'n golygu o ddifrif fod cysylltedd ar gyfer y gorsafoedd sy'n gwasanaethu Blaenau Gwent yn rhywbeth y gallwn edrych ymlaen at ei weld yn datblygu, a buddsoddiad parhaus ynddo yn y dyfodol?

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn atodol? Mae'n dadlau achos cryf iawn yn rheolaidd dros ddatganoli cyfrifoldeb am y seilwaith rheilffyrdd, a chyllid teg i'w ganlyn. Ac yn ddiweddar, rwyf wedi amlinellu sut y darganfuom, drwy amcangyfrif ceidwadol, fod gwariant ar seilwaith rheilffyrdd yng nghyswllt Cymru, dros gyfnod o 28 mlynedd rhwng 2001 a 2029, £2.4 biliwn yn is na'r hyn y dylai fod wedi bod—£2.4 biliwn. Felly, fel rhan o ddyhead Llywodraeth y DU i godi lefelau'n gyfartal drwy'r DU, gadewch inni eu gweld yn codi lefelau'r buddsoddiad yn y rheilffyrdd. Gallaf roi sicrwydd i’r Aelod y byddwn yn parhau i fuddsoddi yn y meysydd rydym yn gyfrifol amdanynt, a byddwn hefyd yn ceisio cyflymu cynlluniau lle mae angen i Lywodraeth y DU roi arian parod ar y bwrdd. Mae'r metro’n flaenoriaeth bwysig i'r Llywodraeth hon. Ac er y gostyngiad yn nifer y teithwyr yn ystod y pandemig hwn, rydym yn parhau i fod mor ymrwymedig ag erioed i hyrwyddo trafnidiaeth gyhoeddus a buddsoddi mewn seilwaith a gwasanaethau ledled Cymru, gan gynnwys yn etholaeth fy nghyfaill a chyd-Aelod.

13:35

Weinidog, a wnewch chi amlinellu goblygiadau strategaeth ddatgarboneiddio Network Rail, sy'n nodi sut y mae'r diwydiant rheilffyrdd yn anelu at gyflawni sero-net o ran allyriadau carbon erbyn 2050 ar y gwasanaeth rheilffordd hwn?

Wel, dylwn nodi’r ffaith bod Network Rail yn atebol i Lywodraeth y DU; mae’n un o gyrff Llywodraeth y DU. Ond o'n rhan ni, pan wnaethom sicrhau'r contract ar gyfer masnachfraint Cymru a'r gororau, pan amlinellwyd ein dyheadau ar gyfer y metro, gwnaethom fanylu hefyd ar sut y bwriadwn ddarparu llu o wasanaethau ar draws ardal y metro a fyddai'n ddi-garbon. Byddai eu pŵer yn dod o fathau o ynni adnewyddadwy. Mae hynny'n rhywbeth rydym yn falch iawn ohono, wrth inni geisio cyflawni’r targedau ar gyfer datgarboneiddio, ac mae trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru yn cyfrannu at yr ymdrech honno.

Weinidog, y rheswm a roddwyd gan weithredwyr rheilffyrdd dros ddiffyg cyswllt trên o reilffordd Glynebwy i mewn i Gasnewydd yw bod capasiti’r trenau’n llawn oherwydd y gwasanaeth i mewn i Gaerdydd. Weinidog, o ystyried y ffaith bod y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus wedi gostwng yn sylweddol ers dechrau'r pandemig COVID, a roddwyd unrhyw ystyriaeth i dreialu trenau i Gasnewydd, i baratoi ar gyfer gwasanaeth llawn? Er yr oedi mewn perthynas â chaffael cerbydau, ac rydym yn cydnabod bod hynny y tu hwnt i reolaeth Llywodraeth Cymru, does bosibl nad oes digon o gapasiti dros ben bellach i ganiatáu i’r treialon hyn ddigwydd?

Wel, yn anffodus, mae nifer y gwasanaethau ar eu huchaf. Capasiti’r gwasanaethau, nifer y seddi, neu’r capasiti seddi, sydd wedi'i leihau'n sylweddol ar hyn o bryd, ac felly nid oes lle ar y rheilffyrdd hynny i dreialu fel yr awgryma’r Aelod. Ond gallaf roi sicrwydd i’r Aelod, unwaith eto, fod Llywodraeth Cymru’n gwneud popeth yn ei gallu i gyflawni yn erbyn yr uchelgais am bedwar trên yr awr, nid yn unig ar draws ardal sefydledig y metro, ond yr ardal ehangach. Ond er mwyn cyflawni hynny, fel rwy'n dweud o hyd, mae angen buddsoddiad gan Lywodraeth y DU, a gall Llywodraeth y DU ddarparu’r buddsoddiad hwnnw. Rydym wedi gweld llawer o sôn droeon am Fil marchnad fewnol y DU a sut y byddai Llywodraeth y DU yn dymuno gwario arian yng Nghymru, ond maent yn dymuno gwario arian mewn meysydd lle nad oes ganddynt gyfrifoldeb. Rydym am eu gweld yn gwario mwy o arian o lawer yng Nghymru, a gallant ddechrau drwy wario ar y seilwaith rheilffyrdd.

Mewnfuddsoddi yn Rhanbarth Gogledd Cymru

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fewnfuddsoddi yn rhanbarth Gogledd Cymru dros dymor y Senedd hon? OQ55649

Fel y gŵyr yr Aelod, mae gan ogledd Cymru ystod enfawr o gryfderau a chanddynt hanes o ddenu buddsoddwyr o dramor dros dymor y Senedd hon, a byddwn yn parhau i ddefnyddio ysgogiadau economaidd a rhyngwladol i sicrhau bod y cryfderau hynny'n cael eu cydnabod ledled y byd.

Diolch, Weinidog. Rwy'n dilyn hynt diwydiant gweithgynhyrchu'r DU, ac mae yna newyddion gwych i'w glywed am ffatrïoedd newydd a datblygiadau technolegol. Dros y misoedd diwethaf, dim ond un cyhoeddiad a welais am ogledd Cymru, am gwmni rhagorol Village Bakery yn Wrecsam. Beth y mae eich adran yn ei wneud i sicrhau bod Cymru, ac yn enwedig gogledd Cymru, yn cael ei chyfran o'r mewnfuddsoddiad hwnnw?

Wel, bydd yr Aelod hefyd yn ymwybodol o'r gwaith rhyfeddol a wnaed yng Nghanolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch Cymru, a agorwyd gennym yn yr hydref y llynedd. Cynlluniwyd y ganolfan honno i ddarparu cyfleoedd i fusnesau gydweithredu. Fe'i cynlluniwyd i sicrhau ‘adain yfory’ ar gyfer Airbus, fe’i cynlluniwyd i sicrhau mwy o gyllid ymchwil ac arloesi gan Lywodraeth y DU, ond yn ystod y pandemig, mae hefyd wedi cyfrannu at yr ymdrech genedlaethol, gan gynhyrchu offer gwerthfawr ar gyfer y gwasanaeth iechyd gwladol.

Ar draws gogledd Cymru, rydym wedi gweld lefelau buddsoddi uchel iawn ar ffurf buddsoddiad uniongyrchol o dramor. Rydym wedi gweld oddeutu chwarter y prosiectau mewnfuddsoddi diweddar yn digwydd yng ngogledd Cymru. Yn 2019-2020, cafwyd 15 buddsoddiad o dramor, gan greu 348 o swyddi. Rwy'n ymddiheuro os yw'r Aelod wedi methu unrhyw ddatganiadau i'r wasg ynghylch y 15 buddsoddiad sylweddol hynny, ond gallaf roi sicrwydd i’r Aelod ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau cymaint o gyfleoedd â phosibl i'r rhanbarth. Ac mae hynny i’w weld yn y ffigurau cyflogaeth. Mae gennym gyfradd gyflogaeth uwch yng ngogledd Cymru nag sydd gennym ledled Cymru ar gyfartaledd. Ac ar hyn o bryd, mae diweithdra ledled Cymru yn 3.1 y cant, o gymharu â 4.1 y cant ledled y DU. Ac mae hynny'n dangos gwerth datganoli, ac yn arbennig, yr ymdrechion enfawr a wnaed gan Lywodraeth Cymru yn ystod y pandemig, gyda’r gronfa cadernid economaidd i Gymru'n unig yn diogelu mwy na 100,000 o swyddi.

13:40

Hoffwn leisio fy mhryderon ynghylch mewnfuddsoddi yng Nghonwy yn ystod y cyfnod hwn o gyfyngiadau economaidd gorfodol gan eich Llywodraeth. Mae’n rhaid eich bod yn ymwybodol fod y camau hyn yn cael effaith ddinistriol ar fy etholwyr a busnesau yn Aberconwy: deufis yn unig o fasnachu y mae’r sector twristiaeth wedi’i gael i oroesi drwy'r gaeaf; mae brenhines cyrchfannau Cymru bellach yn cael ei galw’n dref ysbrydion; mae perchnogion gwestai a'r sector manwerthu yn ddryslyd ac yn ddig yn sgil bygythiad eich Llywodraeth i’w bywoliaeth. Nawr, nid oes unrhyw un yn gwadu bod diogelwch y cyhoedd yn hollbwysig, ond dylai eich gweithredoedd gael eu hystyried yn gymesur ac yn deg. Mae barn gyffredin, bellach—. Mewn gwirionedd, mae dros 1,000 ar Facebook—maent am ddechrau grŵp ymgyrchu mewn perthynas â’ch gweithredoedd. Nawr, rydych yn llorio'r sector twristiaeth a manwerthu. Ddoe, roedd y Prif Weinidog yn ddigon hy i awgrymu ein bod ni, fel gwleidyddion etholedig, sy’n lleisio'r pryderon dilys hyn ar ran ein busnesau, yn awgrymu y dylai trigolion dorri'r rheolau. Rwy'n siŵr y byddech yn cytuno fod hynny’n hurt ac yn hynod o sarhaus.

Nawr, y gronfa ar gyfer busnesau o dan gyfyngiadau lleol—. Yfory, bydd wythnos wedi bod ers cyhoeddi'r cyfyngiadau hyn—anfon pobl adref o westai, canslo archebion. Yn ôl yr hyn a welais, ceiniogau yw'r gronfa cyfyngiadau symud o gymharu â'r hyn sydd ei angen i sicrhau nad yw’r bobl hyn yn colli eu bywoliaeth. Felly, pa sicrwydd y gallwch ei roi i'r Senedd hon heddiw, Weinidog, y byddwch yn rhoi ymateb teg a chymesur ar waith i ariannu'r busnesau hyn sydd dan bwysau, fel y gallant agor eto y gwanwyn nesaf? Ond hefyd—

A fyddwch yn rhoi pwysau ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a'r Prif Weinidog yn wir, i edrych ar y ffigurau eto a dod â'r cyfyngiadau hyn i ben cyn gynted â phosibl? Diolch.

Wel, yn gyntaf, nifer o bwyntiau a sylwadau ar yr hyn y mae Janet Finch-Saunders newydd ei ddweud yn Siambr y Senedd: rydym yn rhoi bywydau yn gyntaf, rydym yn blaenoriaethu bywydau pobl, ac nid ydym yn ymddiheuro am hynny; roedd y Prif Weinidog yn iawn yn yr hyn a ddywedodd ddoe; ac yn drydydd, roedd y tîm rheoli achos lluosog a gyfarfu yr wythnos diwethaf i benderfynu ar gyfyngiadau yng ngogledd Cymru yn unfrydol. Roedd hwn yn benderfyniad na wnaed—[Torri ar draws.]

Gadewch i'r Gweinidog ymateb, os gwelwch yn dda. Os ewch yn eich blaen, a bydd gennym—. Dim pwynt o drefn. Gadewch i'r Gweinidog ymateb. Parhewch, Ken Skates.

Diolch, Lywydd. Roeddwn yn sôn am y tîm rheoli achos lluosog a gyfarfu yr wythnos diwethaf: ystod o randdeiliaid—arweinwyr awdurdodau lleol, yr heddlu, penaethiaid iechyd—pob un yn cytuno bod yn rhaid rhoi camau ar waith. Y rheswm oedd, yn aml, po hwyraf y byddwch yn gweithredu, hiraf yn y byd y bydd cyfyngiadau ar waith. Edrychwch ar yr hyn sy'n digwydd ym Mharis ar hyn o bryd, edrychwch ar yr hyn sy'n digwydd mewn mannau eraill, pan fyddwch yn methu ymyrryd yn gynnar, ac edrychwch ar yr hyn sy'n digwydd mewn sawl rhan o Gymru lle gwnaethom weithredu’n gynnar—mae'r ffigurau'n gostwng.

Nawr, mae gennyf nifer o bwyntiau eraill yr hoffwn eu gwneud. Dywed yr Aelod mai ceiniogau sydd gan y gronfa cyfyngiadau lleol i'w rhoi. Wel, efallai y gallai egluro beth yw ei barn am y cymorth yn Lloegr, gan fod hwnnw’n llai hael o bell ffordd na'r hyn a gynigiwn yng Nghymru. Yn Lloegr, ni allwch gael cymorth oni bai eich bod yn cau eich busnes; nid yw hynny'n wir yng Nghymru. Carwn wahodd yr Aelod hefyd i edrych ar faint o fusnesau yn ei hetholaeth ei hun sydd wedi elwa o'r pecyn cymorth mwyaf cynhwysfawr a hael yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig. Os edrychwn ar Gonwy, fel ardal sirol, gwyddom fod cyfanswm o 461 o ficrofusnesau a busnesau bach a chanolig eu maint wedi cael cyllid drwy'r gronfa cadernid economaidd. Ni fyddai hynny wedi bod ar gael i'r 461 busnes pe baent wedi'u sefydlu yn Lloegr. Ac yn ychwanegol at hynny, dyfarnwyd 83 o grantiau dechrau busnes i fusnesau newydd yng Nghonwy. Unwaith eto, cyllid na fyddai wedi bod ar gael iddynt pe baent wedi'u lleoli yn Lloegr. Ac yn drydydd, yn Aberconwy, yn etholaeth yr Aelod ei hun, mae cynllun benthyciadau COVID-19 Banc Datblygu Cymru wedi darparu mwy na £3 miliwn i 68 o fusnesau. Unwaith eto, cefnogaeth na fyddai wedi bod ar gael pe baent wedi bod yn Lloegr.

Rydym yn gwneud popeth yn ein gallu—mwy o lawer nag y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud yn Lloegr yn unig—i ddarparu'r pontydd hynny i fusnesau a phobl sy'n gweithio fel y gallant gyrraedd y pwynt lle mae gennym frechlyn neu lle rydym yn rheoli'r feirws yn ddigonol.

Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol iawn mai'r gweithlu yn Alun a Glannau Dyfrdwy yw'r mwyaf medrus yn y Deyrnas Unedig. Rwyf wedi gweithio ochr yn ochr â hwy fel peiriannydd ac wedi gweld hyn â’m llygaid fy hun. Dylai'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ynghylch buddsoddi fod yn ymwybodol o'r ffaith hon hefyd, a dylem ei hyrwyddo’n frwd. Felly, roeddwn yn falch iawn o'ch clywed yn sôn yn gynharach am Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch Cymru. Weinidog, a allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y prosiectau pwysig fel y ganolfan logisteg yn Tata Steel yn Shotton, a Phorth y Gogledd hefyd?

13:45

A gaf fi ddiolch i Jack Sargeant a dweud bod ei gwestiwn yn amserol iawn, gan fy mod newydd fod mewn cyfarfod rhithwir gyda’r bwrdd ardal leol, sy'n goruchwylio'r Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch a chyfleoedd datblygu economaidd ar draws parc diwydiannol Glannau Dyfrdwy a'r ardal fenter? Roeddwn yn falch o dderbyn sesiwn friffio gynhwysfawr gan Bill Duckworth, y rheolwr safle rhagorol yn Tata yn Shotton, a hefyd gan Andy Silcox, sy'n gwneud y gwaith gwych o redeg y Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch ym Mrychdyn. A dysgais heddiw nid yn unig fod gan Tata Shotton botensial i fod yn gartref i ganolfan logisteg Heathrow, ond hefyd i ganolfan logisteg ar gyfer diwydiannau gwynt arnofiol ar y môr, ac o bosibl, ar gyfer tai modiwlar oddi ar y safle—rhaglenni anhygoel o gyffrous.

Hefyd, gwyddom fod Porth y Gogledd yn un o'r safleoedd datblygu mwyaf deniadol yng ngogledd Cymru ar hyn o bryd. Rwy'n optimistaidd ynglŷn â gallu dweud rhywbeth cadarnhaol yn y dyfodol agos ynglŷn â chreu swyddi, ac mae'r hyn a wnawn yno yn ategu'r hyn rydym yn buddsoddi ynddo ar draws gogledd Cymru. A chyhoeddais yn ddiweddar—bydd yr Aelodau’n gwybod—y bydd cwmni datblygu'n cael ei sefydlu ar gyfer Trawsfynydd i edrych ar yr holl gyfleoedd ar gyfer y rhan honno o ogledd Cymru hefyd.

Rydym yn buddsoddi ar draws y rhanbarth, yn creu’r nifer uchaf erioed o swyddi, ac mae gennym bandemig i'w oresgyn, ond rydym yn hyderus, drwy weithio fel partner i awdurdodau lleol, fod gennym y tîm cryfaf yng ngogledd Cymru i oresgyn yr her hon.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Russell George.

Diolch, Lywydd. Weinidog, a oes angen i fusnesau sydd wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru yn ystod y pandemig ddod yn undebol?

Mae'n ddrwg gennyf, Lywydd, ni allaf glywed—ni allaf glywed Russell George.

Iawn. Bydd y cwestiwn yn cael ei ailadrodd. Nid wyf yn siŵr beth oedd y broblem yno. Ailadroddwch y cwestiwn.

Diolch yn fawr, Lywydd. Fy nghwestiwn oedd, Weinidog: a oes angen i fusnesau sydd wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru yn ystod y pandemig ddod yn undebol?

Wel, rwy'n hapus iawn gyda'r ateb hwnnw, Weinidog—nad oes angen i fusnesau ddod yn undebol er mwyn derbyn cymorth gan Lywodraeth Cymru. Gofynnaf y cwestiwn oherwydd llythyr diweddar a anfonwyd at fusnesau sy’n derbyn cyllid o'r gronfa cadernid economaidd. Nawr, wrth i mi ddarllen y llythyr hwn fy hun, ymddengys bod ynddo elfen o geisio gorfodi busnesau i ddod yn undebol.

Nawr, mae'n amlwg fod busnesau’n teimlo’n rhwystredig—. Fel y mae'n digwydd, Weinidog, rwy'n deall y gofyniad gan y Llywodraeth i atodi gofynion ar gyfer gweithio teg i weithwyr yng nghyswllt derbyn cyllid gan y Llywodraeth, ond y gwir amdani yw bod gan filoedd o fusnesau ledled Cymru weithwyr nad ydynt yn gweld gwerth bod yn aelod o undeb, ac mae’r busnesau y maent yn gweithio iddynt yn gweithio yn ôl y safonau gwaith teg a chywir y byddai pob un ohonom yn ei ddisgwyl. Tybed a allwch sôn am yr adborth a gafwyd o ganlyniad i anfon y llythyr hwnnw?

Trof at gwestiwn arall, Weinidog: yn ystod y cyfyngiadau newydd sydd ar waith yng ngogledd Cymru, mae'n amlwg fod busnesau’n pryderu yn yr ardal honno, ac maent yn ofni y bydd cyfyngiadau lleol yn arwain at golli swyddi yn y sector twristiaeth a lletygarwch yn arbennig. Nawr, rwy'n croesawu'r cyllid ychwanegol a gyhoeddwyd gennych yr wythnos diwethaf i gefnogi’r sector twristiaeth a lletygarwch, ond mae’n peri pryder mai dim ond hanner y gronfa cadernid economaidd o’r cyfnod diwethaf a ddosbarthwyd. Weinidog, sut y sicrhewch fod yr arian yn cael ei ddosbarthu'n gyflymach yn y dyfodol i wneud yn siŵr fod busnesau sydd, yn anffodus, ar fin mynd i’r wal yn cael eu gwarchod cyn gynted â phosibl?

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau? Yn gyntaf oll, ar y pwynt ynglŷn â'r llythyr a anfonwyd gennym, nid wyf yn ymddiheuro o gwbl am fy ymrwymiad i weithio gyda chyflogwyr ac undebau llafur i newid bywydau gwaith pobl er gwell. Nid oes unrhyw un yn ceisio gorfodi unrhyw unigolyn nac unrhyw fusnes, ond rydym yn hyrwyddo perthynas 'rhywbeth am rywbeth' rhwng y cyhoedd a phobl a busnesau sy'n derbyn arian trethdalwyr ar ffurf grantiau neu fenthyciadau ffafriol. Ac mae a wnelo â sicrhau ein bod yn cyrraedd sefyllfa lle rydym yn cydweithredu mwy, nid cydfodoli'n unig fel Llywodraeth a busnesau, lle rydym yn gweithio gyda'n gilydd ar gyfleoedd cyflogaeth. Ac mae'n rhaid i mi ddweud bod rôl yr undebau wrth hyrwyddo gwell iechyd yn y gweithle—ac iechyd meddwl gwell yn arbennig—yn hanfodol bwysig. Rydym yn ymwybodol o faint o effaith y mae iechyd meddwl gwael—iechyd gwael yn gyffredinol, lles gwael—yn ei chael ar gyfraddau cynhyrchiant. Mae undebau llafur yn helpu busnesau i oresgyn y problemau hynny, ac edrychaf ar Airbus fel enghraifft berffaith o sut y gallwch gyflawni pethau gwych pan fydd gennych bartneriaeth undebol gref â’r rheolwyr. Ers degawdau, mae partneriaeth undebol gref yno rhwng y rheolwyr a'r undebau, undeb Unite yn bennaf, ac o ganlyniad i hynny, maent wedi ymladd fel un dros brosiectau newydd—adenydd newydd, ymchwil ac arloesi newydd, mwy o fuddsoddiad canolog o Toulouse. Felly, byddwn yn annog yr Aelod i anghofio ei ymagwedd chwerw o'r 1980au tuag at undebau llafur a chydnabod bod gwerth enfawr i bartneriaeth gymdeithasol yn yr unfed ganrif ar hugain.

Nawr, yr hyn a fyddai'n drychineb i fusnesau twristiaeth a lletygarwch fyddai methiant i gadw’r coronafeirws dan reolaeth. A dyna pam ein bod wedi cymryd camau’n gynnar i ostwng y niferoedd yn gyflymach yn y gobaith fod modd llacio neu ddileu’r cyfyngiadau yn gynt. Ac o ran darparu cymorth i fusnesau’n gyflym, credaf fod ein hawdurdodau lleol wedi gwneud gwaith rhyfeddol yn gweinyddu'r grantiau ar gyfer degau o filoedd o fusnesau ledled Cymru, gan godi cywilydd ar lawer o gynghorau dros y ffin o ran pa mor gyflym y gwnaethant eu gweinyddu.

Ac mae'n rhaid imi atgoffa'r Aelodau unwaith eto mai'r hyn rydym yn ei gynnig drwy'r gronfa cadernid economaidd yw'r pecyn cymorth mwyaf hael a chynhwysfawr yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig—hyd yn hyn, mae wedi diogelu mwy na 100,000 o swyddi; mae wedi rhoi cymorth i fwy na 13,000 o fusnesau—na fyddent wedi elwa ohono pe baent wedi'u lleoli yn Lloegr.

13:50

Weinidog, rwy'n cytuno â'r llu o fanteision y nodwch y gallwch eu cael drwy fod yn aelod o undeb, ond y gwir amdani yw y gall cyflogwyr a gweithwyr weithio gyda'i gilydd hefyd heb fod yn aelodau o undeb, sef y pwynt roeddwn yn ei wneud, a dyma’r pryder a gâi ei nodi gan y rheini a oedd yn teimlo’n rhwystredig gyda’r llythyr.

Yn olaf, Weinidog, gan edrych ymlaen at eich uchelgais hirdymor i weld oddeutu 30 y cant o weithwyr Cymru yn gweithio gartref yn dilyn pandemig COVID-19, dywedwch fod gan hyn botensial i hybu adfywiad a gweithgarwch economaidd mewn cymunedau. Fodd bynnag, er y gallai gweithio gartref fod yn addas i rai, mae eraill yn gweld manteision rhyngweithio wyneb yn wyneb, a all ysgogi syniadau, creadigrwydd a chynhyrchiant busnes.

Ymddengys bod y ffigur o 30 y cant yn fympwyol, felly byddai'n ddefnyddiol pe gallech egluro sut y gwnaethoch gyrraedd y ffigur hwnnw. Ond tybed hefyd pa asesiad a wnaethoch o'r modd y bydd y ffigur hwn yn effeithio ar gynllunio canol trefi, y bargeinion twf sy'n ddibynnol ar ofod swyddfa ac wedi cynllunio ar ei gyfer, yn ogystal â chynlluniau trafnidiaeth gyhoeddus a’r llu o feysydd eraill sy'n gysylltiedig â chynllunio y bydd y ffigur rydych wedi'i gyflwyno yn effeithio arnynt, Weinidog. Ond byddai’n braf gallu deall y rhesymeg y tu ôl i’r ffigur o 30 y cant.

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau, a dweud fy mod yn gwerthfawrogi ei sylwadau mwy rhesymol heddiw ynglŷn â'r llythyr at gyflogwyr na’r hyn a fynegwyd gan ei gyd-Aelod yn y datganiad i'r wasg yr wythnos diwethaf, nad oedd yn ddim byd mwy na chodi bwganod, mae arnaf ofn?

O ran gweithio o bell a gweithio gartref—neu, fel rwy’n hoff o’i alw, gweithio aml-leoliad—fe gytunasom ar y targed hwnnw ar sail cyfran y bobl sydd wedi bod yn gweithio gartref ac yn gweithio o bell yn ystod y pandemig, ac yna gwneud asesiad rhesymol o'r hyn a allai barhau yn y tymor canolig a'r tymor hwy.

Mae'r Aelod yn iawn i ofyn cwestiwn ynglŷn â'r bargeinion twf a’r bargeinion dinesig. Mae’n rhaid i'r holl fargeinion presennol fod yn ddiogel rhag COVID, ac mae partneriaid rhanbarthol wedi gwneud gwaith da iawn yn cynnal asesiadau ar unwaith o’r amryw raglenni a phrosiectau sydd wedi'u cynnwys yn eu bargeinion. Ond mae'n rhaid imi ddweud mai nod cynyddu cyfran y bobl sy'n gweithio o bell neu gartref yw sicrhau ein bod yn cael gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, er mwyn sicrhau bod lles a llesiant yn y gwaith yn gwella, er mwyn sicrhau ein bod yn chwistrellu mwy o fywiogrwydd i ganol trefi gyda hybiau gweithio o bell, ac fel y dywedodd yr Aelod—yn gwbl gywir—i hybu arloesi drwy gydleoli gwasanaethau cyhoeddus gyda gwasanaethau'r sector preifat hefyd. Rwy'n hynod gyffrous am y rhagolygon ar gyfer hybiau gweithio o bell mewn llawer o drefi sydd wedi teimlo eu bod wedi’u gadael ar ôl dros y degawdau diwethaf. Yn agos i mi, yn Wrecsam, mae gennym hwb menter canol y dref, sydd wedi bod yn hynod o werthfawr wrth hyrwyddo a chefnogi busnesau newydd a dod â phobl—pobl ifanc yn bennaf—a chanddynt syniadau arloesol ynghyd, cryn dipyn o greadigrwydd, a gweithio gyda'i gilydd. Maent yn cael eu syniadau gan ei gilydd. Maent yn hyrwyddo eu busnesau eu hunain, ond yn hollbwysig, maent hefyd yn cefnogi busnesau ei gilydd.

13:55

Diolch, Lywydd. Gwn fod y Gweinidog yn cytuno â mi fod y diwydiant dur yn gwbl hanfodol i ddyfodol diwydiant Cymru, ac rwy’n siŵr y byddai hefyd yn cytuno, o ran datgarboneiddio’r diwydiant—. Mae'n ddrwg gennyf, a yw'r Gweinidog yn ei chael hi’n anodd fy nghlywed?

Wrth gwrs. Weinidog, rwy'n gwybod y byddwch yn cytuno bod y diwydiant dur yn bwysig iawn nid yn unig i weithgarwch economaidd cyfredol Cymru, ond i'n dyfodol. Ac rwy’n siŵr y byddech hefyd yn cytuno, er mwyn datgarboneiddio ein defnydd o ddur yng Nghymru ac yn y DU, y dylem fod yn datgarboneiddio ein cynhyrchiant ein hunain, yn hytrach na chaniatáu i’n cynhyrchiant ddiflannu a phrynu dur wedyn o wledydd eraill lle nad ydynt o bosibl yn gosod yr un targedau datgarboneiddio â ninnau. Nawr, yn amlwg, mae'r dyfodol hirdymor hwnnw'n dibynnu ar y diwydiant yn goroesi yn awr, a tybed a allwch ddweud wrthym heddiw, Weinidog, pa drafodaethau a gawsoch yn ddiweddar gyda Tata a chyda Llywodraeth y DU ynglŷn â sefyllfa bresennol y diwydiant dur yng Nghymru a'i ddyfodol agos.

A gaf fi ddiolch i Helen Mary Jones am ei chwestiwn? Mae'n rhoi cyfle i mi hyrwyddo'r ymgynghoriad sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd ynghylch cynllun gweithgynhyrchu newydd Llywodraeth Cymru. Rwy’n annog pob Aelod i gyfrannu at yr ymgynghoriad hwnnw, gan ei fod yn cwmpasu pob sector pwysig o fewn sylfaen weithgynhyrchu Cymru, gan gynnwys dur wrth gwrs. Ac rydym yn benderfynol o gynorthwyo'r sector i ddod yn gynaliadwy. Ond mae’r brif rôl—fel y mae'r Aelod wedi nodi, Llywodraeth y DU sydd â'r brif rôl yn cefnogi dyfodol y sector. A gallai'r gronfa trawsnewid ynni diwydiannol fod yn hynod werthfawr, ond rydym wedi nodi’n glir y byddem o leiaf yn disgwyl i fusnesau Cymru gael swm Barnett cyfatebol o'r gronfa trawsnewid ynni diwydiannol. Rydym wedi dweud ein bod yn credu y dylai cyfran sylweddol o'r gronfa honno ddod i fusnesau yng Nghymru, o gofio sut rydym yn ddibynnol ar lawer o fusnesau ynni-ddwys.

Nawr, rydym yn cael trafodaethau rheolaidd iawn gyda Llywodraeth y DU a Tata, ac mewn gwirionedd, rwy'n cael galwadau ffôn wythnosol gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU yn yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae’r trafodaethau masnachol gyfrinachol hynny’n dal i fynd rhagddynt rhwng Tata a Llywodraeth y DU, ac rydym wedi pwysleisio wrth Lywodraeth y DU fod angen sicrhau y ceir cefnogaeth ar gyfer sectorau penodol mewn perthynas â'r pandemig i is-sectorau gweithgynhyrchu pwysig, megis dur, y sector modurol a’r sector awyrofod.

Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am ei ateb, ac rwy'n siŵr y bydd pob un ohonom, ar draws y Siambr, yn falch o glywed bod y trafodaethau a'r negodiadau hynny'n parhau. Bu cynrychiolydd o UK Steel, y corff ambarél, gerbron ein pwyllgor heddiw, a chydnabu’r pwynt a wnaeth y Gweinidog—y bydd angen ymyrraeth ledled y DU, a bod ymyrraeth y tu hwnt i allu Llywodraeth Cymru. Ond dywedodd fod un peth pwysig iawn y teimlai y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud, sef defnyddio caffael i sicrhau, pan fydd Llywodraeth Cymru’n gwario ein harian—arian cyhoeddus Cymru—ar bethau fel y rhaglen adeiladu tai, ar ddatblygiadau seilwaith, fod targedau clir ar gyfer canran y dur Cymreig a ddefnyddir yn y datblygiadau hynny. Rwy'n sylweddoli y gallai fod problemau'n ymwneud â’r targedau hynny’n bod yn rhwymol ar y cam hwn, ond gallech osod y targedau hynny a gallech sicrhau bod perfformiad cwmnïau yn erbyn y targedau hynny’n cael ei gyhoeddi. Yn sicr, barn ein tyst oedd y byddai hynny'n gwneud gwahaniaeth mawr. Awgrymodd hefyd y byddai hwn yn gyfle i Lywodraeth Cymru osod esiampl dda i Lywodraeth y DU y gallai Llywodraeth y DU ystyried ei dilyn wedyn.

A gaf fi ddiolch i Helen Mary Jones am y pwynt pwysig am rôl Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau dur yng Nghymru drwy'r broses gaffael? Wrth inni geisio ailadeiladu'n ôl yn well, rydym yn bwriadu gwneud hynny gan ddefnyddio dur Cymru, a byddwn yn edrych am bob cyfle i wneud hynny. Mae'r Aelod yn ymwybodol mai Llywodraeth Cymru oedd y Llywodraeth gyntaf i ymrwymo i'r siarter dur, ac mae hynny'n dangos ein bod yn benderfynol i ddefnyddio caffael fel ysgogiad i gefnogi'r diwydiant dur yng Nghymru. A hoffwn gofnodi fy niolch, Lywydd, i UK Steel am y cyngor a roesant i fy swyddogion hefyd. Maent yn sefydliad ambarél rhagorol sy’n gwasanaethu busnesau dur Cymru yn hynod o dda.

14:00

Diolch ichi am hynny, Weinidog. Hoffwn droi, yn fy nhrydydd cwestiwn, at ddiwydiant gwahanol iawn, sef y diwydiant trin gwallt a harddwch. Unwaith eto, daeth cynrychiolwyr o'r diwydiant hwnnw ger ein bron—gerbron y pwyllgor—heddiw, ac roeddent yn pwysleisio pwysigrwydd y busnesau hynny fel cyrchfannau ar y stryd fawr. Wyddoch chi, ni allwch gael eich gwallt wedi'i dorri o bell; efallai eich bod yn gallu prynu eich llyfrau o bell, ond nid yw'n bosibl cael torri eich gwallt o bell. Mynegodd bryder nad oedd bob amser yn argyhoeddedig fod Llywodraeth Cymru yn deall pwysigrwydd y diwydiant yn iawn. Tynnodd sylw, wrth gwrs, at bwysigrwydd y diwydiant yn darparu cyfleoedd i fenywod, ac i fenywod sy'n gweithio'n rhan-amser.

Tynnodd sylw hefyd at rai anghysonderau posibl yn y rheoliadau diogelwch. Dywedodd wrthym, er enghraifft, er bod barbwyr, gwryw yn bennaf, yn cael eillio cwsmer gwrywaidd, ni chaniateir i weithwyr harddwch, sy'n fenywod yn bennaf, roi triniaeth wyneb i gwsmer benywaidd. Er mwyn sicrhau hyfywedd y diwydiant wrth symud ymlaen, awgrymodd y byddai'n hoffi inni ailystyried rhai o'r anghysonderau hynny yn y rheoliadau. Hoffwn wahodd y Gweinidog heddiw i ymrwymo i edrych ar yr anghysonderau a hefyd i anfon neges glir o'i ddealltwriaeth ei hun o bwysigrwydd y diwydiant hwn, sydd hefyd, wrth gwrs, yn cael effaith ar les cwsmeriaid.

A gaf fi ddiolch i Helen Mary Jones am ei thrydydd cwestiwn a dweud, pan gyhoeddais drydydd cam y gronfa cadernid economaidd, mai'r cwestiwn cyntaf a gefais oedd gan rywun sy'n berchen ar, ac yn rhedeg salon gwallt a harddwch, yn gofyn a fyddai'r gronfa cyfyngiadau'n gymwys iddynt hwy? Fe fydd. Lle byddai'r grantiau datblygu busnes ar gael iddynt, fe fyddant ar gael, wrth gwrs, cyhyd â'u bod yn cyflogi pobl ac yn bodloni'r meini prawf. Awdurdodau lleol fydd yn gweinyddu'r gronfa gyfyngiadau. Wrth gwrs, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth, yn yr ardaloedd hynny lle ceir cyfyngiadau, lle mae nifer y cwsmeriaid wedi gostwng yn sylweddol a lle mae trosiant wedi gostwng yn is na 40 y cant, y bydd nifer sylweddol iawn o fusnesau yn y sector gwallt a harddwch yn elwa.

Gallaf sicrhau'r Aelod y byddaf yn ymchwilio i'r anghysonderau hynny y mae wedi'u hamlinellu. Byddaf yn helpu'r sector pwysig hwnnw mewn unrhyw ffordd y gallaf, oherwydd, fel y dywed yr Aelod, mae'n cyfrannu at gyfiawnder cymdeithasol, ac yn cyflogi cyfran uchel o fenywod. Felly, mae'n rhaid inni sicrhau ein bod yn cefnogi goroesiad y busnesau hynny gymaint ag y gallwn, oherwydd mae arbenigwyr yn rhagweld mai menywod; pobl ifanc; pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig; pobl anabl a phobl â lefelau isel o sgiliau fydd yn cael eu heffeithio fwyaf os nad ydym yn ymyrryd yn gadarn. Ac rydym yn bwriadu ymyrryd yn gadarn iawn.

Diolch, Lywydd. O gofio mai rhan o'r strategaeth i adfywio economi Cymru ar ôl COVID-19 yw ehangu'r sector peirianneg yng Nghymru, a fyddai'r Gweinidog yn amlinellu lle mae'r ehangu hwn yn fwyaf tebygol o ddigwydd? Wrth hynny, rwy'n golygu'r cwmnïau a'r prosiectau y mae'r Gweinidog yn eu hystyried yn bwyntiau angori newydd neu'n bwyntiau angori presennol ar gyfer yr ehangu hwn.

Wel, hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn ac unwaith eto, carwn bwysleisio pwysigrwydd ein cynllun gweithgynhyrchu a gyhoeddwyd yn ddiweddar; mae'n cwmpasu'r meysydd twf ym maes peirianneg y gofynnodd yr Aelod amdanynt. Mae ganddo tan ganol y mis i fynegi ei farn ar y cynllun gweithgynhyrchu, ond ceir cyfleoedd i dyfu, nid oes amheuaeth am hynny. 

Heddiw, rwyf wedi dysgu am y cyfleoedd enfawr sy'n gysylltiedig â swyddi yn y diwydiant gwynt arnofiol ar y môr, a allai fod o fudd mawr i sawl rhan o Gymru; cyfleoedd sy'n ymwneud â hybiau logisteg a gweithgynhyrchu oddi ar y safle; a hefyd cyfleoedd mewn perthynas ag electroneg uwch. Mae Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen—. Fel enghraifft o'r ffordd rydym yn cefnogi'r cyfleoedd hyn gyda chamau gweithredu, rydym yn bwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer canolfan ymchwil uwch-dechnoleg, a fydd yn canolbwyntio ar electroneg uwch ac yn darparu llawer o gyfleoedd i beirianwyr a busnesau ym maes electroneg uwch.

Rwy'n hyderus, o ganlyniad i ffocws Llywodraeth Cymru ar y sector gweithgynhyrchu—ein hymroddiad i weithgynhyrchu yng Nghymru ac i beirianneg yng Nghymru—y gallwn oroesi'r pandemig hwn mewn sefyllfa o gryfder. Ond mae hefyd yn hanfodol ein bod yn gweithio fel partner i Lywodraeth y DU i adnewyddu strategaeth ddiwydiannol y DU, a'n bod yn cael cyfran fwy o gyllid Ymchwil ac Arloesi'r DU. Mae'n ffaith drychinebus fod gormod o'r cyllid hwnnw—bedair gwaith cymaint y pen o'r boblogaeth yng Nghymru—yn mynd i dde-ddwyrain Lloegr. Ceir triongl aur sydd, ers blynyddoedd lawer, wedi cael y gyfran fwyaf o gyllid ymchwil ac arloesi. Ac fel rhan o ddyheadau Llywodraeth y DU i ailadeiladu'n ôl yn well, i godi'r lefelau'n gyfartal, mae gwariant ar ymchwil a datblygu ac arloesi yn ffactorau hollbwysig.

14:05

Diolch yn fawr iawn am eich ateb. Weinidog, rydym wedi clywed llawer o sôn am y ganolfan rhagoriaeth peirianneg arfaethedig ar gyfer ardal Blaenau'r Cymoedd, yn enwedig o amgylch Glynebwy a rhannau eraill o Flaenau Gwent. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y prosiectau a ragwelir ar gyfer y rhanbarth, yn enwedig y posibilrwydd y gallai TVR adleoli i Lynebwy, a fyddai'n gatalydd i gwmnïau cynhyrchu modurol eraill wrth gwrs?

Rwyf am droi, Weinidog, at rywbeth a godais mewn dadl ychydig amser yn ôl, pan soniais fod cyfle gwych, gyda'r penderfyniad i gau cyfleuster prentisiaeth RAF Sain Tathan, i sefydlu prifysgol technoleg fodern yng Nghymru dan ymbarél Prifysgol Caerdydd. Er nad yw wedi'i gwblhau eto wrth gwrs, mae'r posibilrwydd y bydd Britishvolt yn symud i Sain Tathan yn rhywbeth rwy'n credu y byddai pawb yn y Siambr hon yn ei groesawu. Weinidog, does bosibl na fyddai sefydlu cyfleuster hyfforddi o'r fath yn agos yn helpu'r cwmni i recriwtio'r gweithwyr medrus y bydd yn sicr o fod eu hangen. Gall hefyd fod yn gatalydd i gwmnïau eraill yn y sector hwn i symud i Sain Tathan, yn enwedig o ystyried ei agosrwydd at Faes Awyr Caerdydd. A gaf fi alw ar y Gweinidog i roi ystyriaeth ddifrifol i greu cyfleuster o'r fath?

Wel, rwy'n siŵr y byddai gennyf fi, a fy nghyd-Aelodau ddiddordeb brwd iawn yn y cynnig, yn enwedig Kirsty Williams, y gweinidog addysg. Byddwn yn edrych arno'n ofalus iawn, a gallaf sicrhau'r Aelod fy mod yn cael trafodaethau rheolaidd gyda TVR a Britishvolt. Mae'r rhain yn gyfleoedd sylweddol i economi Cymru, ac mae TVR yn arbennig yn cynnig cyfle enfawr i Flaenau'r Cymoedd hefyd, nid yn unig o ran creu swyddi ond o ran yr enw da y gallai'r brand ei gynnig i'r ardal.

Dylwn gofnodi fy niolch heddiw i'r Ganolfan Ecsbloetio Ddigidol Genedlaethol sydd wedi profi'n hynod werthfawr yn ystod y pandemig, gan gynnig cymorth am ddim o safle Glynebwy, a gallaf sicrhau'r Aelod heddiw ein bod wedi ymrwymo'n llwyr i gyflawni menter y Cymoedd Technoleg.

Diolch yn fawr, Lywydd. Gobeithio nad yw'r Gweinidog wedi cael llond bol arnaf erbyn hyn.

Cymorth Ychwanegol i Fusnesau

3. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynghylch cymorth ychwanegol i fusnesau mewn ardaloedd lle mae cyfyngiadau COVID-19 newydd, fel Llanelli? OQ55636

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn a dweud bod trydydd cam y gronfa cadernid economaidd yn cynnwys £60 miliwn i gefnogi busnesau mewn ardaloedd dan gyfyngiadau lleol? Byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i gymryd camau mwy beiddgar i sicrhau ein hadferiad economaidd a chefnogi ffyniant busnesau a phobl ledled y DU yn y dyfodol, gan gynnwys yng Nghymru.

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ateb. Rwy'n siŵr ei fod yn deall bod llawer o fusnesau, yn enwedig busnesau llai o faint, mewn llawer o gymunedau ledled Cymru, ac mae Llanelli yn un ohonynt, eisoes wedi dioddef yn eithaf difrifol drwy argyfwng COVID, yn enwedig mewn meysydd fel lletygarwch. Maent yn gweithio ar elw bach iawn. Ni fydd ganddynt adnoddau i'w galluogi i fuddsoddi mewn adferiad.

O ran y cymorth brys i'r busnesau y mae cyfyngiadau lleol yn effeithio arnynt, a all ddweud wrthym pa lefelau o niwed y mae angen i'r busnes allu dangos ei fod wedi'i ddioddef er mwyn gallu cael y cymorth, ac a all ddweud ychydig mwy wrthym ynglŷn â sut y ceir mynediad at y cymorth hwnnw? Er y gallai fod gan gwmnïau mwy o faint staff arbenigol sy'n gallu estyn allan at Busnes Cymru a llenwi'r ffurflenni priodol, rwy'n siŵr y bydd yn deall y bydd rhai o'r busnesau lleol llai o faint yn gweld hynny i gyd braidd yn frawychus, a tybed a oes rôl i lywodraeth leol ei chwarae mewn perthynas â'r cymorth brys hwn.

Mae Helen Mary Jones yn llygad ei lle: mae rôl allweddol i awdurdodau lleol ei chwarae. Siaradais â llefarydd CLlLC ddoe ynghylch datblygu economaidd ac mae trafodaethau wedi mynd rhagddynt yn dda iawn ar lefel swyddogol hefyd, oherwydd bydd llywodraeth leol yn hollbwysig wrth weinyddu'r cronfeydd cyfyngiadau lleol i fusnesau.

Gallaf sicrhau'r Aelod heddiw, yn wahanol i Loegr, nad oes rhaid i fusnes gau i gael y cymorth brys hwnnw. Mae'r maen prawf yn gymharol syml: mae'n rhaid i fusnes allu dangos ei fod wedi gweld gostyngiad o 40 y cant fan lleiaf yn y trosiant o'i gymharu â'r cyfnod cyn cyflwyno cyfyngiadau. Rwy'n hyderus y bydd y cymorth hwn yn cynnig y pontydd hynny i fusnesau drwy gyfnodau o gyfyngiadau symud.

Gwneir pob un o'r taliadau ar sail tonnau tair wythnos o gyfyngiadau—tair wythnos yw'r cyfnod y byddem yn gobeithio gweld niferoedd yn gostwng yn ddigonol er mwyn llacio'r cyfyngiadau. Rydym wedi modelu yn erbyn yr hyn sy'n bosibl yr hydref a'r gaeaf hwn, ac rydym yn hyderus y gallwn gynnig dwy don o gymorth i fusnesau ledled Cymru lle ceir cyfyngiadau.

14:10

Weinidog, diolch i chi am yr ateb i Helen Mary Jones, oherwydd mae llawer o fusnesau yng nghwm Afan sydd wedi bod yn dibynnu ar y fasnach ymwelwyr ar gyfer beicio mynydd a'r llwybrau rhagorol i fyny yno. Felly, bydd yr ateb hwnnw'n eu helpu'n fawr oherwydd byddant yn gweld eu niferoedd yn gostwng, oherwydd maent yn fusnes o'r tu allan i'r fwrdeistref sirol, nid o reidrwydd o'r tu mewn, oherwydd gwyddom y gallwch deithio yno'n eithaf hawdd.

Ond sector arall yr effeithiwyd arno yw'r gyrwyr tacsi ledled Cymru ynghanol y cyfyngiadau lleol hyn. Cawsant anhawster yn ystod y cyfyngiadau symud, ond rydym bellach yn wynebu mwy o heriau wrth i gyfyngiadau lleol ddod i rym, oherwydd mae llai o bobl yn dod i mewn i'r dref ac nid ydynt o reidrwydd yn gallu cludo pobl y tu hwnt i'r bwrdeistrefi sirol. A ydych chi'n edrych ar y sefydliadau tacsis? Oherwydd mae bysiau wedi cael cymorth, mae trenau wedi cael cymorth, ond nid yw gyrwyr tacsi wedi cael cymorth eto yn hyn o beth ac maent yn ei chael yn anodd gweld eu hyfywedd hirdymor.

Wel, os gallant fodloni meini prawf y grantiau datblygu busnes neu'r grantiau cyfyngiadau lleol, gallaf sicrhau'r Aelod y byddant yn gallu cael y cyllid. Ond mae hefyd yn werth tynnu sylw at y ffaith bod gan Lywodraeth y DU rôl bwysig i'w chwarae yn y maes hwn, oherwydd Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am y cynllun cymorth incwm i'r hunangyflogedig. A bydd yr Aelod yn ymwybodol fod y Canghellor wedi cyhoeddi estyniad ac y bydd dau grant pellach ar gael. Mae hynny'n rhywbeth rydym yn ei groesawu'n fawr, oherwydd mae'r cynllun cymorth incwm i'r hunangyflogedig wedi bod yn hanfodol bwysig i lawer o unigolion yng Nghymru.

Cyfrifir y grantiau cyntaf ar 20 y cant o elw masnachu tri mis, hyd at o leiaf £1,875, a byddwn yn annog unrhyw un a allai fod yn gymwys i'r gronfa benodol honno wneud cais cyn gynted ag y gallant oherwydd, yn anffodus, mae'n dal i fod yn wir nad yw llawer o bobl hunangyflogedig yng Nghymru yn ymwybodol eu bod yn gallu gwneud cais am gymorth neu maent wedi methu gwneud hynny hyd yma.

Yr Economi Ymwelwyr yng Ngogledd Cymru

4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr economi ymwelwyr yng ngogledd Cymru? OQ55647

Yn sicr. Mae'r economi ymwelwyr yn eithriadol o bwysig i economi Cymru, yn enwedig yng ngogledd Cymru. Rydym wedi rhyfeddu at ysbryd a dyfalbarhad y sector yn ystod yr argyfwng. Rydym wedi cydnabod hyn nid yn unig drwy roi cymorth i'r diwydiant twristiaeth drwy ddau gam cyntaf y gronfa cadernid economaidd a thrwy'r grantiau ardrethi annomestig, ond hefyd drwy glustnodi £20 miliwn, yn benodol, o gam diweddaraf y gronfa cadernid economaidd, ar gyfer y sectorau pwysig hynny.

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Oherwydd eich diddordebau etholaethol eich hun fe fyddwch yn ymwybodol fod gan Gonwy a Sir Ddinbych economi dwristiaeth fywiog iawn. Roedd llawer o'r gweithredwyr twristiaeth a'r swyddi sy'n dibynnu ar y busnesau hynny ar eu colled dros dymor y Pasg oherwydd y cyfyngiadau symud yn gynharach eleni. Dechreuodd tymor yr haf yn hwyrach nag mewn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig oherwydd bod Llywodraeth Cymru yn parhau i orfodi'r busnesau hynny i aros ar gau, ac wrth gwrs, maent bellach yn wynebu'r posibilrwydd, oherwydd y cyfyngiadau coronafeirws lleol, na fydd modd iddynt dderbyn unrhyw bobl sy'n teithio i Gonwy a Sir Ddinbych oherwydd y cyfyngiadau teithio a roddwyd ar waith.

Mae nifer o fusnesau wedi cysylltu â mi dros y dyddiau diwethaf ers y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf. Maent yn bryderus iawn ynglŷn â hyfywedd eu busnesau. Dywedant y bydd pobl bron yn sicr o golli eu bywoliaeth o ganlyniad i'r cyfyngiadau hynny, ac nid ydynt yn teimlo bod digon o dystiolaeth wedi'i chyhoeddi i ddangos eu bod yn gymesur. Pa waith rydych chi'n ei wneud fel Gweinidog yr economi a Gweinidog gogledd Cymru i sicrhau bod eich cyd-Weinidogion yn y Cabinet yn cynhyrchu'r holl wybodaeth angenrheidiol fel y gall perchnogion busnesau twristiaeth a'r rhai a gyflogir ganddynt brofi'n briodol a yw'r mesurau hyn yn gymesur mewn gwirionedd?

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn a sicrhau'r Aelod bod y mesurau'n gymesur? Fel rwyf eisoes wedi dweud, maent wedi'u cynllunio i sicrhau bod cyfnod gweithredu'r cyfyngiadau cyn fyrred ag y bo modd, a gweithredu'n gynnar, gan gyfyngu ar faint o amser sydd gennym i roi'r cyfyngiadau hynny ar waith. Ddydd Llun, cyfarfûm ag aelodau o gyngor busnes gogledd Cymru, gan gynnwys cynrychiolwyr allweddol y sectorau twristiaeth a lletygarwch, ac amlinellais y rhesymau pam fod angen cyfyngiadau mewn rhannau o ogledd Cymru.

Rhaid i mi nodi, unwaith eto—ac ymdrechais yn galed i wneud hyn—pan gyfarfu'r tîm rheoli achosion lluosog yr wythnos diwethaf, ei fod wedi gwneud hynny mewn partneriaeth ac fe gytunodd fod yn rhaid cyflwyno'r cyfyngiadau. Partneriaeth rhwng arweinwyr llywodraeth leol, arbenigwyr iechyd a'r heddlu yw honno. Gallaf sicrhau'r Aelod ein bod yn bryderus iawn ynghylch hyfywedd busnesau yn y sector twristiaeth a lletygarwch, sydd mor bwysig i ogledd Cymru, a dyna pam ein bod wedi darparu pecyn cymorth mwy hael a chynhwysfawr i fusnesau yn y sectorau hynny nag unrhyw wlad yn y Deyrnas Unedig. O ganlyniad i'r cymorth hwnnw, mae dros 1,200 o ficrofusnesau a busnesau bach a chanolig yn y sectorau twristiaeth a lletygarwch, yng ngogledd Cymru'n unig, wedi cael cyllid drwy'r gronfa cadernid economaidd, a daw hwnnw'n ychwanegol at y nifer o fusnesau sydd wedi sicrhau cyllid drwy'r banc datblygu.

Mae'n werth nodi heddiw hefyd, os caf fi ddweud, Lywydd, fod y banc datblygu wedi bod yn rhyfeddol am weinyddu ei gymorth i fusnesau yng Nghymru. Gallaf ddweud wrth yr Aelodau heddiw ei fod wedi gweinyddu 1,335 o fenthyciadau busnes yn gysylltiedig â COVID; mae hynny'n cymharu â phob un banc ar y stryd fawr—pob un banc ar y stryd fawr—sydd wedi gweinyddu 1,391 yn unig ar ran Llywodraeth y DU. Felly, mae ein banc datblygu yng Nghymru wedi gweinyddu a rhoi cymorth i bron cymaint o fusnesau ag y mae pob un banc ar y stryd fawr wedi'i wneud, drwy raglen y cynllun benthyciadau tarfu ar fusnes yn sgil y coronafeirws. Mae hwnnw'n gyflawniad aruthrol. Dylem fod yn falch iawn o Fanc Datblygu Cymru.

14:15
Ymbellhau Cymdeithasol ar Drafnidiaeth Gyhoeddus

5. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau gyda Thrafnidiaeth Cymru ynghylch ymbellhau cymdeithasol ar drafnidiaeth gyhoeddus? OQ55645

Gwnaf, yn sicr. Diogelwch cwsmeriaid a staff yw prif flaenoriaeth Trafnidiaeth Cymru o hyd. Rwy'n parhau i drafod cadw pellter cymdeithasol gyda Trafnidiaeth Cymru ac yn wir gyda phartneriaid eraill yn y diwydiant wrth inni gydweithio i sicrhau bod diogelwch teithwyr ar drafnidiaeth gyhoeddus yn parhau.

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Fe fyddwch yn ymwybodol, rwy'n siŵr, o ofidiau a phryder parhaus ynghylch trefniadau Trafnidiaeth Cymru ar gyfer myfyrwyr sy'n teithio o Dorfaen a Sir Fynwy i ac o Henffordd; mae'n fater a godais gyda'r Trefnydd ddoe, a dywedodd y byddai yn ei godi gyda chi. Er bod pob plentyn wedi talu am ei docyn tymor ymlaen llaw, mae myfyrwyr yn cael eu gwahanu oddi wrth deithwyr eraill a'u cludo ar fysiau, taith sy'n cymryd dwywaith cymaint o amser â'r trên. Dywedir wrthyf fod y bysiau'n annigonol ac nad oes mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith o gwbl. Tybed a allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am unrhyw drafodaethau a gawsoch gyda Trafnidiaeth Cymru am hyn a'i gwneud yn glir i Trafnidiaeth Cymru fod y sefyllfa hon yn gwbl annerbyniol ac y dylid trin pobl ifanc â'r un parch ac urddas â theithwyr eraill sy'n talu'r ffioedd.

A gaf fi ddiolch i Nick Ramsay am ei gwestiwn? Rwy'n credu yr ysgrifennaf at yr Aelod gyda manylion cynhwysfawr am y rhesymeg sy'n sail i'r mesurau a gymerwyd gan Trafnidiaeth Cymru. Ond hoffwn dynnu sylw at y ffaith bod Trafnidiaeth Cymru ar hyn o bryd yn gweithredu 70 o fysiau, yn ogystal â'r holl drenau, i gefnogi trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru, a gall myfyrwyr o'r un sefydliadau addysgol deithio gyda'i gilydd ar fysiau penodedig o dan ein canllawiau diogelwch. Y rheswm pam fod angen cadw mwy o bellter cymdeithasol ar wasanaethau trên yw oherwydd eu bod yn cario aelodau o'r cyhoedd yn ogystal â myfyrwyr. Nawr, mae Trafnidiaeth Cymru wedi ceisio annog myfyrwyr i deithio ar wasanaethau penodol er mwyn cynnal swigod ar gyfer sefydliadau penodol, lle bynnag y bo modd, ac mae hynny eto'n unol â gofynion y Llywodraeth. Ond siaradais â Trafnidiaeth Cymru ddoe ynglŷn â'r mater hwn, ac fel rwyf eisoes wedi dweud, gallaf sicrhau'r Aelod y byddaf yn anfon manylion cynhwysfawr ato.FootnoteLink

Mae hi'n bwysig iawn, wrth gwrs, bod staff a theithwyr yn cael eu gwarchod wrth i gamau priodol gael eu cymryd, ond mae gen i bryder bod y gwasanaethau trên yn Ynys Môn yn cael eu taro'n rhy galed gan y mesurau sydd mewn lle ar hyn o bryd. Dwi'n cyfeirio'n benodol at y ffaith bod trenau, ers misoedd bellach, ddim yn stopio yn y Fali na Llanfairpwll, a hynny achos bod y platfform yn rhy fyr i allu agor dau ddrws. A wnaiff y Gweinidog ofyn i Trafnidiaeth Cymru adolygu hyn ar frys a chwilio am ffordd arall i liniaru yn erbyn lledaeniad y feirws, ffordd sydd ddim yn golygu bod y gwasanaeth lleol hanfodol yma yn cael ei golli yn gyfan gwbl? Dwi'n siŵr bod yna ffordd arall i weithredu.

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn a dweud fy mod yn cydymdeimlo'n fawr â'r pwynt y mae'n ei wneud? Mae heriau platfformau byr yn broblem mewn mannau eraill yng Nghymru hefyd, ac rwy'n gwybod bod Trafnidiaeth Cymru yn adolygu'n rheolaidd nid yn unig y ffigurau sy'n ymwneud â throsglwyddiad COVID, ond hefyd sut y gallent gynhyrchu ateb newydd i'r her a wynebir gan orsafoedd sy'n rhy fyr i ganiatáu i ddau ddrws agor. Rydym yn ei adolygu'n rheolaidd, byddwn yn parhau i wneud hynny, a chyn gynted ag y gallwn ganiatáu i wasanaethau aros yn y gorsafoedd hynny, byddwn yn gwneud hynny.

14:20

Weinidog, os oes gan ein heconomi unrhyw obaith o oroesi'r pandemig hwn, mae'n rhaid inni ddysgu byw gyda COVID-19. Mae byw gyda'r clefyd yn golygu bod yn rhaid inni gadw ar wahân i bobl nad ydynt yn ein teulu agos a gwisgo masgiau mewn mannau caeedig. Diolch byth, mae masgiau bellach yn orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus, ond mae cadw ar wahân yn anos. Mae'n rhaid inni sicrhau nid yn unig y gellir cadw pellter cymdeithasol ar drafnidiaeth gyhoeddus ond bod digon o gapasiti i'r rhai sydd ei angen. Weinidog, pa drafodaethau a gawsoch gyda Trafnidiaeth Cymru a gweithredwyr bysiau ynghylch cynyddu amlder neu gapasiti gwasanaethau yn ystod y pandemig hwn? Diolch.

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn a'r pwyntiau pwysig a wnaeth am y cyfrifoldeb sydd gan bob un ohonom fel dinasyddion i geisio goresgyn yr her hon? Rwy'n falch o ddweud, Lywydd, yn seiliedig ar arolygon, yn seiliedig ar waith maes, ein bod yn gweld cyfartaledd o 95 y cant o deithwyr yn cydymffurfio â'r galw i wisgo gorchuddion wyneb ar drenau a bysiau. Mae hwnnw'n ffigur eithaf trawiadol, ac mae wedi bod yn cynyddu hefyd. Felly, yn amlwg, mae dinasyddion yn dangos eu bod yn gyfrifol at ei gilydd.

Gallaf sicrhau'r Aelod hefyd fod holl drenau Trafnidiaeth Cymru yn cael eu defnyddio ar draws rhwydwaith Cymru a'r gororau ar hyn o bryd a'n bod yn gweithio'n galed i ddarparu cysylltiadau teithio hanfodol i alluogi pobl i symud o gwmpas. Yn ogystal â hyn, mae bysiau ychwanegol—70 bws, fel y dywedais eisoes—yn cael eu defnyddio i ddarparu cludiant o'r cartref i'r ysgol. Rydym yn cynyddu nifer y cerbydau sydd ar gael i gefnogi pobl, ond oherwydd yr angen i gadw pellter cymdeithasol, yn amlwg, mae capasiti—nifer y seddi, nifer y lleoedd sydd ar gael—wedi gostwng yn sylweddol. Ond byddwn yn parhau i wneud beth bynnag a allwn i alluogi pobl i barhau i symud, i alluogi pobl i gymudo, er mwyn sicrhau y gall pobl a busnesau oroesi'r pandemig hwn.

Busnesau Lletygarwch

6. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i fusnesau lletygarwch yn ystod pandemig y coronafeirws? OQ55629

Gallaf ddweud wrth yr Aelod heddiw fod 672 o ficrofusnesau a busnesau bach a chanolig yn y sector lletygarwch yng ngogledd Cymru yn unig wedi cael cyllid drwy'r gronfa cadernid economaidd, ac mae hynny'n gyfanswm o fwy na £12 miliwn. Bydd trydydd cam y gronfa cadernid economaidd yn cynnwys £20 miliwn a glustnodwyd ar gyfer busnesau ym maes twristiaeth a lletygarwch.

Diolch. Sut rydych yn ymateb i gynrychiolwyr y sector lletygarwch yng ngogledd Cymru sydd wedi gofyn i mi ddadlau'n gryf iawn ar ran gwestai a drwyddedwyd yn llawn sydd eisiau gallu gweini alcohol i breswylwyr gwestai ar ôl y cyrffyw am 10 p.m. gan bwysleisio y dylid ystyried y gwahaniaeth sylfaenol yn yr ystyr mai'r gwesty yw preswylfa swyddogol y gwesteion yn ystod eu harhosiad, eu cartref i bob pwrpas, a bod gan westy bob cymhelliad i gadw at y cyrffyw yn achos pobl nad ydynt yn aros yno er mwyn diogelu eu trwydded, ac er bod y canllawiau presennol yn dweud y gellir gweini alcohol drwy wasanaeth ystafell, mae hyn yn creu problemau gweithredol gyda staffio a bydd yn llesteirio neu'n dinistrio'r awyrgylch cyffredinol y mae gwestywyr yn ceisio'i greu, ac y bydd yr eglurhad cynnil hwn yn helpu i gadw gwestai'n hyfyw yn ystod y pandemig a'r gaeaf llwm y mae'r sector lletygarwch yn ei wynebu, ac y gallai hyn hefyd roi mantais gystadleuol fach i westai Cymru?

Rwy'n ymwybodol iawn o'r her y mae'r sector lletygarwch yn ei hwynebu ar hyn o bryd, ond mae'n rhaid i mi ddweud y gallai eithriadau bach ar eu pen eu hunain fod yn un peth, ond pan fyddwch yn creu eithriad o un grŵp o bobl ar gyfer un maes gweithgarwch penodol, caiff y drws ei chwythu ar agor wedyn i eraill fynnu eithriadau hefyd. Gyda'i gilydd, gall hynny effeithio'n fawr ar ein gallu i leihau ffigurau trosglwyddiad. Wrth gwrs, byddwn yn gwrando ar unrhyw alwadau am eithriadau, ond mae'n rhaid cael rheswm eithriadol o rymus dros ganiatáu eithriadau yn ystod y cyfnod anodd hwn, oherwydd os na chawn reolaeth ar gyfraddau trosglwyddo, yn enwedig yn yr ardaloedd lle ceir cyfyngiadau, yn anffodus byddwn yn gweld y cyfyngiadau hynny'n para'n hwy. Mae rôl i bob un ohonom, fel y mae Caroline Jones wedi amlinellu y prynhawn yma, nid yn unig i ystyried yr hyn y gallwn ac na allwn ei wneud yn ôl y gyfraith, ond hefyd yr hyn y dylem ac na ddylem ei wneud fel unigolion sy'n gyfrifol am ein gilydd. Mae hynny'n golygu gweithredu'n gyfrifol, mae'n golygu cymryd cyfrifoldeb nid yn unig am eich bywyd a'ch ymddygiad eich hun ond hefyd eich teuluoedd a'r gymuned rydym yn byw ynddi. Mae'n rhaid i ni ddod trwy hyn fel tîm, fel cymdeithas, ac felly er fy mod wedi gwrando ar alwadau am eithriadau fel yr un y mae'r Aelod wedi'i amlinellu, fel y dywedaf, byddai angen dadl rymus iawn i'w cefnogi.

14:25

A gaf fi ofyn i chi, Weinidog, pa drafodaethau rydych yn eu cael gyda'r sector bragdai yn ei holl amrywiaeth yng Nghymru, o ficrofragdai i'r nifer gynyddol o fragwyr annibynnol, cynhenid sy'n ychwanegu at frand Cymru fel lle ar gyfer bwyd a diod lleol o'r radd orau, fel Brecon Brewing yn Aberhonddu ac—arhoswch am hyn—yn Ogwr, i sicrhau bod popeth yn cael ei wneud i sicrhau dyfodol y busnesau lleol hyn sy'n creu swyddi wrth inni fynd i'r afael â heriau COVID? A pha drafodaethau a gawsoch gyda Llywodraeth y DU i sicrhau eu bod yn chwarae eu rhan ac yn cefnogi'r busnesau a'r swyddi hyn hefyd?

A gaf fi ddiolch i Huw Irranca-Davies am ei gwestiwn? Mae'n gwneud pwynt pwysig iawn—fod bragwyr annibynnol yn bwysig i'n diwylliant a'n hunaniaeth yn ogystal â'r sector bwyd a diod mewn gwirionedd. Rwyf wedi ymweld â llawer o fragwyr annibynnol ledled Cymru, ac mae eu cyfraniad i'r economi yn rhyfeddol. Maent yn greadigol, maent yn dangos llawer o benderfyniad hefyd, pan fyddant yn cystadlu yn erbyn bragwyr rhyngwladol mawr, ac felly rydym wedi gwrando'n ofalus iawn arnynt o ran pa gymorth y maent ei angen i'w cynorthwyo drwy'r pandemig hwn. Yn wir, mae Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, a'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, wedi sefydlu grŵp rhanddeiliaid lletygarwch y maent yn ei fynychu'n rheolaidd i ystyried effeithiau'r pandemig ar y sector. Mae safbwyntiau'r grŵp hwnnw'n cyfrannu at y gwaith rwy'n ei ddatblygu yn fy adran, ac rwy'n falch o allu dweud bod safbwyntiau'r sector bragdai annibynnol wedi cyfrannu at y penderfyniad i sicrhau'r gronfa honno o £20 miliwn i fusnesau twristiaeth a lletygarwch yn benodol. Ac wrth gwrs, bydd bragwyr annibynnol yn gallu gwneud cais am grantiau datblygu busnes, a allai fod yn hynod ddefnyddiol wrth bontio i'r realiti ôl-COVID. Ond yn yr un modd, rydych yn iawn i ddweud bod gan Lywodraeth y DU rôl bwysig yn hyn, ac rydym wedi galw'n gyson ar y Canghellor i gynyddu lefel y cymorth i sectorau sydd dan gyfyngiadau'r Llywodraeth, gan gynnwys lletygarwch.

Economi Sir Benfro

8. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi economi sir Benfro dros y 12 mis nesaf? OQ55633

Popeth sy'n bosibl. Rydym eisoes wedi dyfarnu £9.5 miliwn drwy ddau gam cyntaf y gronfa cadernid economaidd, a £5.4 miliwn arall drwy Fanc Datblygu Cymru. Mae hwnnw wedi cael ei ddarparu i fwy na 700 o fusnesau yn Sir Benfro.

Diolch am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Nawr, yn ddiweddar, ymwelais â Nolton Stables, darparwr llety a chyfleuster marchogaeth cefn gwlad yn fy etholaeth, sy'n un o nifer o fusnesau twristiaeth bach sydd mewn sefyllfa ariannol heriol iawn oherwydd pandemig COVID-19. Mewn ymateb i'r pandemig, mae'r perchnogion wedi arallgyfeirio eu busnes i gynnwys sinema gyrru i mewn fel ffordd o helpu i gynnal y busnes yn ystod y cyfnod anodd hwn. Weinidog, a wnewch chi ddweud wrthym beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn benodol i helpu busnesau i arallgyfeirio a pharhau i fod yn gystadleuol yn sgil pandemig COVID-19?

Mae'r cynllun y mae'r busnes hwnnw wedi'i ddatblygu yn swnio'n wirioneddol arloesol. Gwn fod sinemâu ledled y DU yn ei chael hi'n anodd, ond rwy'n gobeithio y bydd y busnes y mae'r Aelod wedi'i nodi yn llwyddiannus iawn. Holl ddiben trydydd cam y gronfa cadernid economaidd yw darparu cymorth drwy gyfnodau byr o gyfyngiadau—ond hefyd drwy'r grant datblygu busnes i helpu busnesau i addasu i'r coronafeirws ac i Brexit. Felly, bydd y grantiau datblygu busnes hynny'n cael eu dyfarnu i fusnesau sydd â chynlluniau ar gyfer goroesi ac sydd hefyd yn bwriadu ffynnu ar ôl y coronafeirws, ac addasu. Gallai'r grantiau fod yn sylweddol iawn yn wir: £10,000 i fusnesau bach a microfusnesau, grantiau o hyd at £150,000 i fusnesau canolig eu maint, a £200,000 i gyflogwyr mwy o faint—pob un wedi'i gynllunio i gynorthwyo busnesau i addasu i'r coronafeirws ac i'r realiti newydd a wynebwn yn awr.

14:30
2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd)

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd, mewn perthynas â'i gyfrifoldebau pontio Ewropeaidd. Ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Leanne Neagle.

Y Sector Modurol

1. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael am effaith Brexit ar y sector modurol yng Nghymru? OQ55659

Mae Llywodraeth Cymru’n cael trafodaethau rheolaidd gyda'r sector modurol ynglŷn ag effaith bosibl gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae perygl y bydd ymagwedd Llywodraeth y DU tuag at y negodiadau’n cyflwyno rhwystrau newydd sylweddol i fasnach. Rwyf wedi dadlau’r achos dro ar ôl tro i Lywodraeth y DU fod yn rhaid iddynt flaenoriaethu cytundeb sy’n diogelu sectorau gweithgynhyrchu rheoleiddiedig iawn yng Nghymru, gan gynnwys y sector modurol.

Diolch, Weinidog. Mae'r llythyr diweddar gan yr Arglwydd Frost at wneuthurwyr ceir, sy'n diystyru unrhyw gyfuniadau â thrydedd gwlad fel rhan o'r cytundeb masnach, yn ddatblygiad sy’n peri cryn bryder. Mae'r sector eisoes wedi rhybuddio ynghylch effaith ddinistriol canlyniad 'dim cytundeb' posibl, ac erbyn hyn, ymddengys eu bod yn wynebu cael eu torri allan o unrhyw gytundeb a allai fod yn bosibl, wrth i Lywodraeth y DU geisio cyflawni amcanion eraill. Yn amlwg, mae gwneuthurwyr ceir yn cael eu cynnig yn aberth gan Lywodraeth y DU, wrth iddi straffaglu i sicrhau cytundeb munud olaf sy'n wleidyddol dderbyniol i'w chefnogwyr craidd. A wnewch chi ddadlau’r achos cryfaf posibl i Weinidogion y DU dros roi'r diwydiant hwn yn ôl ar y rhestr flaenoriaethol ar unwaith mewn negodiadau, lle dylai fod wedi bod erioed?

Gadewch imi ddweud fy mod yn rhannu pryderon yr Aelod yn llwyr fel y’u hamlinellwyd ganddi. A phan ddarllenais am y llythyr, a oedd yn cadarnhau i bob pwrpas na fyddai Llywodraeth y DU yn mynnu bod y rheolau tarddiad yn cael eu cynnwys, roeddwn mewn penbleth. Ymddengys bod Llywodraeth y DU yn fwy na pharod i fynnu ei ffordd mewn perthynas ag agweddau eraill ar ei safbwynt negodi, gan gynnwys, er enghraifft, ildio’r posibilrwydd o gytundeb masnach hael er mwyn amddiffyn y sector pysgodfeydd, sydd, er nad ydym am weld unrhyw sector yn dioddef, yn cyfrannu llai o lawer at les economaidd yng Nghymru a ledled y DU na'r sector modurol, sy’n cyflogi oddeutu 10,000 o bobl yng Nghymru yn unig. Fel y dywed, mae trefniadau cyfuno uchelgeisiol yn gwbl hanfodol. A hyd yn oed pe bai Llywodraeth y DU yn llwyddo i sicrhau cytundeb di-dariff, di-gwota gyda'r UE, os nad yw’n cynnwys y trefniadau cyfuno hynny, bydd nwyddau Cymru'n dal i dalu tariffau sylweddol oherwydd rhwystrau rheolau tarddiad. Rwyf wedi dadlau’r achos i Lywodraeth y DU sawl tro mewn perthynas â'r cwestiwn hwn, ac rwyf wedi codi'r pwynt ynghylch rheolau tarddiad a chyfuno yn benodol dro ar ôl tro gyda Llywodraeth y DU. Ysgrifennais ar 29 Mehefin, pan oedd Llywodraeth y DU ar yr adeg honno yn disgrifio ei hamcanion mewn perthynas â rheolau tarddiad yn eithaf uchelgeisiol, a byddem yn cefnogi hynny. Ond nid oes diben disgrifio uchelgais os nad ydych yn barod i'w chyflawni wrth negodi.

Gadael yr Undeb Ewropeaidd

2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd yn ddiweddar i baratoi ar gyfer y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd? OQ55655

Bydd effaith diwedd y cyfnod pontio yn sylweddol, ac mae gwaith wedi bod ar y gweill ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru ar baratoi ar gyfer yr ystod o senarios y gallem eu hwynebu ddiwedd mis Rhagfyr. Mae hyn yn cynnwys datblygu ein hymyriadau pwrpasol ein hunain ynghyd â gweithio gyda Llywodraeth y DU ar brosiectau parodrwydd.

Credaf ei bod yn bwysig iawn i Gymru fod dinasyddion yr UE sy'n byw yma yn parhau i wneud hynny, ac yn parhau i gyfrannu at fywyd yng Nghymru, gan ddod â'u sgiliau i'n gweithlu a'n heconomi, cyfoethogi ein diwylliant a'n cymunedau, a chymryd rhan lawn ym mhob agwedd ar fywyd yng Nghymru. Felly, Gwnsler Cyffredinol, a allech roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni ar y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau y ceir ymwybyddiaeth o'r cynllun preswylio’n sefydlog, fel ein bod yn cael lefel dda o geisiadau gan ddinasyddion yr UE yng Nghymru, gan obeithio y bydd y rhan fwyaf ohonynt yn parhau i fyw yma yng Nghymru a chyfoethogi ein cymdeithas fel y maent yn ei wneud?

Wel, yn gyntaf, gadewch i mi gytuno â sylw'r Aelod yn ei gwestiwn ynglŷn â'r cyfraniad a wneir gan ddinasyddion yr UE sydd wedi dewis gwneud eu cartref yng Nghymru. Rydym am iddynt barhau i deimlo'r croeso rydym bob amser wedi'i roi, a chydnabod y cyfraniad gwerthfawr a wnânt, a dyna pam fod hwn yn gwestiwn mor bwysig.

Mae ein pryder sylfaenol yn ddiweddar yn ymwneud â grwpiau mwy agored i niwed, neu grwpiau sydd wedi'u hallgáu, nad ydynt o bosibl yn gallu cael mynediad at y cynllun yn hawdd. Rydym wedi ceisio gwneud yr hyn a allwn o ran cyfathrebu ac ymgyrchoedd ar y cyfryngau cymdeithasol, ac rydym wedi dyrannu cyllid drwy'r gronfa bontio Ewropeaidd, fel y bydd yn cofio, i sefydliadau fel Cyngor ar Bopeth—[Anghlywadwy.]—awdurdodau lleol a gwasanaeth arbenigol drwy gwmni cyfreithiol yma yng Nghymru sy'n arbenigo ar faterion mewnfudo.

Yr hyn sydd wedi digwydd, yn anffodus, dros yr ychydig fisoedd diwethaf, o ganlyniad i COVID, yw ei bod yn amlwg nad yw nifer o'r grwpiau hynny sydd wedi bod yn gweithio wyneb yn wyneb â dinasyddion yr UE wedi gallu gwneud hynny, o gofio’r cyfyngiadau yn sgil COVID wrth gwrs. Ac mae nifer o wasanaethau cymorth y Swyddfa Gartref, er enghraifft, wedi bod ar gau dros dro. Yn ddiweddar, ysgrifennais at yr Ysgrifennydd Cartref i roi pwysau arni i ystyried ymestyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yng ngoleuni hynny, fel bod pobl a allai fod yn ei chael hi’n anodd cael mynediad at y cynllun yn enwedig yn cael cyfle i wneud hynny. Mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod ymestyn y dyddiad cau, ac er eu bod yn honni, os oes gan rywun sail resymol dros ei fethu y rhoddir cyfle pellach iddynt, yn amlwg mae angen sicrwydd ar bobl ynglŷn â'r hyn sydd o'u blaenau. Felly, rydym yn parhau i ddadlau’r achos hwnnw.

Gwyddom y gallai fod angen i oddeutu 70,000 o bobl yng Nghymru wneud cais. Credwn fod ychydig dros 60,000 o geisiadau wedi’u gwneud hyd yn hyn, ond wrth gwrs, dim ond mwyafrif bach o'r rheini a fydd wedi cael statws preswylwyr sefydlog; statws preswylwyr cyn-sefydlog sydd gan gyfran sylweddol iawn ohonynt o hyd. Ond rydym yn ceisio annog dinasyddion yr UE ledled Cymru i wneud cais i'r cynllun cyn gynted â phosibl.

14:35

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar sut y bydd ei raglen economaidd yn cefnogi ardaloedd fel Blaenau Gwent?

Mae'n ddrwg gennyf, Weinidog—dyma'ch cwestiwn atodol, Alun Davies, i gwestiwn 2.

Naddo, fe wnaethoch chi ofyn cwestiwn 3 ar y papur trefn. Gwnaethoch gais am gwestiwn atodol i gwestiwn 2.

Mae'n ddrwg gennyf. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y dogfennau a gyhoeddwyd ddoe a oedd yn dangos bod Llywodraeth y DU wedi ceisio cadw gwybodaeth oddi wrth y gweinyddiaethau datganoledig yn fwriadol mewn perthynas â’u cynlluniau ar gyfer Brexit, a’u cynlluniau ar gyfer y Bil marchnad fewnol?

Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Mae ymddygiad fel cadw gwybodaeth oddi wrth y gweinyddiaethau datganoledig, mewn perthynas â pharodrwydd ar gwestiwn mor bwysig â hwn, yn niweidiol dros ben i'r berthynas o ymddiriedaeth rhwng Llywodraethau’r DU. Yr hyn rydym wedi gallu ei ddweud yw, ym maes parodrwydd, fod gweithio ar y cyd wedi bod yn bosibl, ac mae wedi bod yn effeithiol, hyd yn oed os nad yw wedi bod yn ddigonol ar brydiau. Ond lle caiff gwybodaeth ei chadw oddi wrthym, mae hynny'n peri i Lywodraeth Cymru orfod ailystyried ein lefel o sicrwydd ynghylch y trefniadau sydd wedi'u rhoi ar waith. Ac roeddwn yn siomedig iawn, yn enwedig a minnau wedi cael cyfarfod â Gweinidogion Llywodraeth y DU ddoe i drafod y cyflenwad bwyd, ac roedd gweld bod y wybodaeth wedi'i gwneud yn gyhoeddus ychydig oriau ar ôl hynny yn arbennig o siomedig.

Rwyf wedi gofyn am gyfarfod brys gyda Michael Gove, er mwyn i mi allu deall beth sydd wedi digwydd yma, a pha wybodaeth arall nad ydym yn cael mynediad ati o bosibl. Lle ceir gwahaniaeth polisi neu wahaniaeth gwleidyddol rhwng llywodraethau'r DU, awgryma hyn na allwn ddibynnu arnynt i ddarparu’r holl wybodaeth. A chredaf fod y cyfeiriad yn y darn a welsom ddoe at y Bil marchnad fewnol yn dweud wrthym pa mor wenwynig yw'r Bil hwnnw o ran ei effaith ar y berthynas rhwng y Llywodraethau ledled y DU.

14:40

Weinidog, yn amlwg, bu’r Gymdeithas Cludo Nwyddau gerbron y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yr wythnos diwethaf, ac roedd un o’u pryderon yn ymwneud, nid â’u hunain—dywedasant y byddent yn cael trefn ar bethau yn ystod deufis cyntaf y flwyddyn nesaf—ond pryderon cleientiaid, a'r gwaith papur yn sgil materion tollau mewn perthynas â Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi a rheoli ffiniau. Maent yn bryderus iawn nad oes digon o baratoi yn digwydd i sicrhau bod y cleientiaid mewn sefyllfa i wneud hynny mewn pryd, gan iddynt ddweud yn glir na fyddai lorïau'n gadael oni bai fod y ddogfennaeth yn barod ganddynt. Pa drafodaethau rydych yn eu cael gyda Llywodraeth y DU, ac yn enwedig gyda CThEM, i sicrhau bod y systemau ar waith i sicrhau bod busnesau yng Nghymru yn gallu cyflawni'r gweithdrefnau priodol a gwneud y gwaith papur, fel y gall eu holl nwyddau deithio i Ewrop heb unrhyw oedi o gwbl?

Wel, yn amodol ar y pryderon a amlinellais yn fwy cyffredinol, nid yw lefel yr ymgysylltu mewn perthynas â pharodrwydd cwmnïau cludo nwyddau a pharodrwydd busnes yn fwy cyffredinol yn ddigonol. Mae set ymarferol iawn o ymyriadau yn mynd i gael effaith real iawn ar lwybrau i'n porthladdoedd, os na all gweithredwyr cludo nwyddau gyrraedd yno gyda'r lefel o barodrwydd sy'n ofynnol. Mae posibilrwydd y bydd hynny’n cael sgil effaith logistaidd sylweddol. Ac fel y dywedwch, fel y dywed yr Aelod, mae sgil effaith fwy o lawer o ran parodrwydd cyflenwyr a busnesau ledled y DU, ac mae'n dal yn wir nad oes gennym lawer iawn o hyder fod y lefel honno o baratoi’n digwydd ymhlith busnesau. Nid beirniadaeth o'r busnesau mo hynny. Mae llawer ohonynt yn wynebu pwysau aruthrol o ganlyniad i'r ymateb i COVID, ac a dweud y gwir, er ein bod am godi ymwybyddiaeth fod angen paratoi, ni all unrhyw un, ar hyn o bryd, fynegi beth yn union sy'n ofynnol er mwyn bodloni'r trefniadau newydd hynny. Ac felly, dyna'n union pam fod angen eglurhad ynghylch y gofynion hynny ar frys a mwy o ymgysylltu, gyda chwmnïau cludo nwyddau, ond gan alluogi busnesau hefyd i wneud y paratoadau hynny mewn ffordd synhwyrol a phragmatig, fel yr awgryma’r Aelod.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch yn fawr, Lywydd. Weinidog, mae Llywodraeth Cymru, yn gwbl deg, wedi beirniadu'r Bil marchnad fewnol fel enghraifft amlwg o gipio grym, a dywedwch y byddwch yn gwrthwynebu hynny bob cam o'r ffordd. Fe fyddwch yn ymwybodol fod ASau Plaid Cymru wedi cynnig gwelliant i’r Bil yn San Steffan a fyddai wedi diogelu'r setliad datganoli drwy atal y Bil rhag dod i rym oni bai fod y deddfwrfeydd datganoledig yn rhoi eu cydsyniad. Nawr, er gwaethaf cefnogaeth drawsbleidiol yr SNP, y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Blaid Werdd, penderfynodd ASau Llafur ymatal. Nawr, a ydych yn cytuno bod ASau Llafur wedi gwneud anghymwynas fawr â Chymru drwy fethu cefnogi gwelliant a oedd yn gwbl gyson â pholisi Llywodraeth Lafur Cymru? A ydych hefyd yn cytuno eu bod wedi colli cyfle i wneud safiad trawsbleidiol cryf i amddiffyn datganoli? Ac a allwch egluro sut y mae hyn yn cyd-fynd â safbwynt datganedig y Blaid Lafur y byddent yn gwrthwynebu'r Bil bob cam o'r ffordd?

Yn sicr, Lywydd, ceir enghreifftiau o welliannau a gyflwynwyd gan y Blaid Lafur i amddiffyn datganoli nad yw Plaid Cymru wedi eu cefnogi yn Senedd y DU. Byddwn yn annog yr Aelod y dylem fod yn chwilio am ffyrdd o weithio gyda'n gilydd ar y pwynt hwn. Mae gennym berthynas gynhyrchiol iawn â Phlaid Genedlaethol yr Alban. Mae'n berthynas aeddfed a chydweithredol sy'n cydnabod y gall Llywodraethau o wahanol liwiau gwleidyddol weithio gyda'i gilydd pan fo ganddynt ddiddordeb cyffredin. Rwy'n gobeithio, ar ryw bwynt, y gallwn berswadio Plaid Cymru i gael yr un math o berthynas gyda ni yng Nghymru.

Wrth gwrs, mae'r Bil yn cynyddu'r tebygolrwydd o Brexit heb gytundeb. Yr wythnos hon, mae arweinwyr busnes yn rhybuddio eto am beryglon 'dim cytundeb' i fusnesau sydd eisoes yn fregus ac yn dioddef effeithiau'r pandemig ar hyn o bryd. Felly, pa asesiadau a wnaethoch o’r bygythiadau niferus sy'n wynebu busnesau yng Nghymru pe baem yn cael Brexit heb gytundeb? Ac onid ydych yn cytuno y dylid dod â'r dadansoddiad hwnnw i'r Siambr hon ar fyrder?

Wel, bydd yr Aelod yn ymwybodol ein bod wedi modelu effaith yr ystod o senarios y gallem eu hwynebu ar economi Cymru a busnesau Cymru yn gyson, ac mae cryn dipyn o ddadansoddiadau’n seiliedig ar dystiolaeth wedi’u cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru. Ar hyn o bryd, fel y bydd wedi fy nghlywed yn dweud wrth David Rees yn gynharach, rydym yn awyddus i sicrhau bod busnesau yng Nghymru yn ymwybodol, ymhlith yr ystod o bwysau eraill y maent yn eu hwynebu ar hyn o bryd, o'r angen i baratoi ar gyfer diwedd y cyfnod pontio. Rydym yn parhau i ddiweddaru'r porth Brexit. Rydym yn parhau i sicrhau bod cyllid ar gael i gefnogi busnesau. Mae iteriad diweddaraf y gronfa cadernid economaidd yn cadw llygad ar COVID yn ogystal â pharodrwydd ar gyfer Brexit, gan fod angen ystyried pob agwedd ar y pethau hyn, fel y gwn fod yr Aelod yn cytuno. Y dasg ar hyn o bryd yw ceisio tywys busnesau tuag at hynny, ac wrth i'r darlun ddod yn gliriach—a gwn y byddwch yn rhannu fy siom na allwn ddarparu darlun cliriach ar hyn o bryd—bydd gan fusnesau well gobaith, fel petai, o allu gwneud y paratoadau hynny, ond ni ddylai unrhyw un ohonom danbrisio maint yr her honno a maint y baich y mae’n ei roi ar fusnesau ledled Cymru.

14:45

Gallai'r—[Anghlywadwy.]—gael effaith drychinebus ar y GIG—[Anghlywadwy.]

Dai Lloyd, a allwch ailddechrau'r cwestiwn, os gwelwch yn dda? Mae'n ddrwg gennyf, nid oeddem yn gallu eich clywed drwy eich cysylltiad Zoom. Felly, rhowch gynnig arni eto a chawn weld lle rydym yn cyrraedd.

Ymddiheuriadau, Lywydd. Rwy'n siarad yn dawel yn naturiol, yn amlwg. [Chwerthin.]

Yr wythnos hon, mae Cymdeithas Feddygol Prydain wedi rhybuddio y gallai Brexit heb gytundeb effeithio'n drychinebus ar y GIG, gyda phryderon amlwg ynghylch y cyflenwad o gynhyrchion fferyllol, dyfeisiau meddygol a chyfarpar diogelu. Gwyddom fod Llywodraeth Cymru wedi adeiladu warws Brexit o gyflenwadau meddygol, a bod y cyflenwadau hyn wedi cael eu defnyddio fel rhan o’r ymateb i COVID. Nawr, yn gynharach eleni, rhybuddiodd y diwydiant fferyllol fod rhai cyflenwadau wedi'u defnyddio i gyd. Pa sicrwydd y gallwch ei roi, felly, ynghylch lefelau argaeledd meddyginiaethau yn warws Brexit, o gofio y gallem wynebu Brexit heb gytundeb ymhen ychydig fisoedd?

Diolch i Dai Lloyd am godi'r cwestiwn pwysig hwn yn y Siambr heddiw. Mae hyn yn amlwg yn flaenoriaeth allweddol i ni fel Llywodraeth. Ac fel gyda chamau paratoi blaenorol, mae rhai o'r atebion yn berthnasol i’r DU gyfan ac mae rhai ohonynt ar gyfer Cymru'n benodol. Felly, mewn perthynas â meddyginiaethau yn gyntaf, fel y cyfeiria atynt yn ei gwestiwn, mae pob un o bedair Llywodraeth y DU mewn trafodaethau ynghylch parhad cyflenwadau. Mae rhywfaint o hynny’n ymwneud â gwasanaethau cludo nwyddau’n gyflym, ac mae rhywfaint yn ymwneud ag ymateb i darfu ar gyflenwadau. Ond rydym yn cymryd camau ychwanegol yng Nghymru i roi sicrwydd ychwanegol i ni'n hunain mewn perthynas â hynny, ac mae rhywfaint o hynny, fel yr awgryma ei gwestiwn, yn ymwneud â dysgu o brofiad COVID-19.

Mewn perthynas â chyflenwadau meddygol, boed yn ddyfeisiau meddygol neu ddefnyddiau traul clinigol, er enghraifft—ac mae hyn, gyda llaw, yn ymwneud â'r GIG yn ogystal â rhannau o'r sector gofal cymdeithasol, am resymau y bydd yn eu deall—rydym yn adolygu ac yn ailgyflenwi cyflenwadau Cymru o ddyfeisiau meddygol a defnyddiau traul clinigol. Rydym yn profi ac yn mireinio'r cynlluniau a oedd gennym ar waith ddiwedd y llynedd rhag ofn y byddem yn gadael heb unrhyw fath o gytundeb. Ac fel yr awgryma ei gwestiwn, rydym yn dal i elwa'n sylweddol iawn o fuddsoddiad yn y cyfleuster warws storio ac IP5 ger Casnewydd, sy'n parhau i allu rhoi cymorth i ni gyda’n gwaith paratoi.

Diolch, Lywydd. Rwyf am ofyn rhai cwestiynau mewn perthynas â chyfrifoldeb y Gweinidog dros yr adferiad wedi COVID. Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i bobl hŷn fel rhan o brosiect Llywodraeth Cymru i ailadeiladu'n ôl yn well?

Rydym yn cydnabod bod effaith COVID ar grwpiau amrywiol yng Nghymru wedi bod yn anghyfartal. Mae pobl hŷn ymhlith y rheini a byddwn yn fframio ein hymateb yng ngoleuni hynny er mwyn gallu sicrhau bod pobl hŷn ledled Cymru yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt yn ein hymateb.

Diolch am eich ateb, Weinidog, ond prin yw’r dystiolaeth hyd yma eich bod yn cymryd effaith y coronafeirws ar bobl hŷn o ddifrif. Cefais fy synnu’n fawr pan welais y ddogfen a gyhoeddwyd ddoe ar yr heriau a’r blaenoriaethau wrth ailadeiladu ar ôl y coronafeirws, nad oedd yn cynnwys unrhyw gyfeiriad at bobl hŷn. Rwy'n deall eich bod wedi cynnal nifer o gyfarfodydd bord gron, gan gynnwys un o’r enw, ac rwy'n dyfynnu, 'Cynllunio ar gyfer adferiad Economaidd a Chymdeithasol ar ôl y pandemig Coronafeirws: Atodiad 2: Grwpiau Agored i Niwed’. Ac eto, nid oedd hyd yn oed y cyfarfod bord gron penodol hwnnw'n cynnwys unrhyw un o swyddfa'r comisiynydd pobl hŷn. Mewn gwirionedd, deallaf na chafodd y comisiynydd pobl hŷn wahoddiad i gyfarfod â chi, ac mewn gwirionedd, bu’n rhaid i’w swyddfa wneud cais i gyfarfod â chi, a dim ond bryd hynny y gwnaethoch gyfarfod â hi i drafod ei phryderon ynglŷn â’r effaith ar bobl hŷn. Felly, a gaf fi ofyn i chi: pam fod gennych chi fel Llywodraeth Cymru fan dall mewn perthynas â phobl hŷn pan ddaw'n fater o'u cynnwys yn eich ymdrechion i ailadeiladu ar ôl COVID?

14:50

Wel, yn sicr, nid wyf yn derbyn rhagosodiad cwestiwn yr Aelod. Boed mewn perthynas â heriau ynysu, y gefnogaeth sydd ei hangen i bobl a warchodir, efallai, y gefnogaeth sydd ei hangen gan sefydliadau'r trydydd sector, y set benodol o ymyriadau sydd ei hangen gan wasanaethau cyhoeddus i gydnabod profiad pobl hŷn yn y pandemig hwn, boed yn gydnabod y cyfraniad penodol y mae gwirfoddolwyr hŷn wedi gallu ei wneud mewn ffordd bositif iawn i gefnogi pobl eraill yn eu cymunedau yn ystod y cyfnod hwn, boed yn gydnabyddiaeth benodol o anghenion pobl hŷn a allai fod mewn perygl o golli eu swyddi a chefnogaeth arbennig y gallai fod ei hangen arnynt wedi'i theilwra ar gyfer pobl sy’n agosáu at ddiwedd eu bywyd gwaith—mae pob un o'r rheini'n gwbl hanfodol i'r ymyriadau rydym wedi'u gwneud hyd yma a'n trafodaethau parhaus.

Rwyf wedi cyfarfod â’r comisiynydd pobl hŷn. Ni allaf roi sicrwydd iddo mewn perthynas â pha swyddfa a gysylltodd â pha unigolyn mewn perthynas ag unrhyw un o'r nifer fawr iawn o gyfarfodydd rydym wedi'u cynnal gyda rhanddeiliaid mewn perthynas â hyn, ond yn sicr, teimlwn fod y drafodaeth gyda’r comisiynydd pobl hŷn a gafwyd yn gymharol gynnar, rwy'n credu, yn gynhyrchiol iawn, a dangosai ein bod yn meddwl ar hyd yr un llinellau mewn ffordd dda a chadarnhaol iawn.

Mae'n braf iawn clywed eich geiriau caredig am bobl hŷn yn awr; mae'n drueni na chafodd yr un ohonynt eu cynnwys yn unrhyw un o'r dogfennau a gyhoeddwyd gan eich swyddfa ddoe. Ac wrth gwrs, ni chyfeirioch chi at bobl hŷn ychwaith yn eich datganiad i’r Senedd hon. Ac efallai, a bod yn onest, pe baech wedi rhoi mwy o gefnogaeth i fy Mil hawliau pobl hŷn pan gafodd ei gyflwyno gerbron y Senedd hon, efallai y byddem mewn sefyllfa ychydig yn wahanol. Gallaf roi sicrwydd i chi fod swyddfa'r comisiynydd wedi dweud yn glir wrthyf y bu’n rhaid iddi wneud cais i'ch swyddfa am gyfarfod, a chawsoch un yn y pen draw, ac nid y ffordd arall.

Edrychwch, gŵyr pob un ohonom fod pobl hŷn wedi wynebu canlyniadau difrifol o ganlyniad i'r pandemig, ac mewn gwirionedd, ei fod wedi cael effaith anghymesur arnynt. Gwyddom eu bod yn fwy tebygol o farw, yn fwy tebygol o ddioddef salwch difrifol, yn fwy tebygol o orfod hunanynysu, yn fwy tebygol o ddioddef effaith unigrwydd o ganlyniad i'r pandemig. Ac wrth gwrs, maent yn fwy tebygol o ddioddef yn sgil yr oedi hirach byth a fydd yn ein hwynebu rhag cael mynediad at brofion a thriniaethau'r GIG o ganlyniad i'r ôl-groniad yn ein gwasanaeth iechyd yn sgil y pandemig. Nawr, nid yw'r cynllun adfer a gyhoeddwyd gennych ddoe, er eich holl eiriau cynnes heddiw, yn mynd i'r afael ag unrhyw un o'r heriau hynny. Felly, gofynnaf i chi: a wnewch chi gytuno â mi yn awr fod angen cyfarfod bord gron pellach sy'n canolbwyntio'n benodol ar anghenion pobl hŷn, gan ddod ag arbenigwyr ynghyd, yn cynnwys y comisiynydd pobl hŷn a rhanddeiliaid pwysig eraill o’r trydydd sector a'r sector cyhoeddus, fel y gallwn sicrhau ein bod yn gwneud hyn yn iawn ac y gall pobl hŷn fod yn hyderus fod Llywodraeth Cymru’n gwrando ar eu pryderon ac yn mynd i’r afael â hwy, nid eu hanwybyddu, fel rydych wedi bod yn ei wneud hyd yma, a bod yn onest?

Wel, mae ystod barhaus o ymgysylltu’n mynd rhagddo â rhanddeiliaid mewn perthynas â'r ddogfen hon. Fel y dywedais ddoe yn fy natganiad, dyma ddechrau sgwrs genedlaethol, ac mae'r sgwrs rydym wedi'i chael wedi bod yn gyfoethog, mae wedi cynnwys ystod o leisiau, weithiau'n ganmoliaethus, weithiau'n fwy heriol, fel y mae’r pethau hyn, ac rydym yn croesawu hynny oll, a byddwn yn parhau ar yr un sail i ymgysylltu â phawb y mae COVID yn effeithio arnynt yng Nghymru ac i wrando ar eu lleisiau, ac i adlewyrchu eu lleisiau’n ffyddlon yn ein hystyriaethau.

Rwy'n gwahodd yr Aelod i edrych ar dudalen 22 yn y ddogfen, lle bydd yn gweld blaenoriaeth 8, sy’n sôn am gynorthwyo’r GIG i adennill tir a gollwyd o ran trin cyflyrau nad ydynt yn gysylltiedig â’r coronafeirws, ac sy’n nodi nifer o ymyriadau ar waelod y dudalen honno y bydd y Llywodraeth yn ymgymryd â hwy. Nid wyf yn gwybod a gyrhaeddodd mor bell â hynny yn y ddogfen, ond mae'n cyfeirio'n benodol at ailgyflwyno gwasanaethau rheolaidd, ac rydym yn cydnabod hynny’n llwyr, fel pob Aelod rwy'n siŵr. Mae pobl sydd wedi bod yn aros yn hirach o ganlyniad wedi gwneud eu cyfraniad penodol eu hunain yn yr ymateb i COVID, ac mae'r Llywodraeth hon yn cydnabod hynny'n llwyr. Fel y soniais yn fy ymateb i’w gwestiwn ddoe, bydd y Gweinidog iechyd, wrth gwrs, yn gwneud datganiadau pellach mewn perthynas â hyn yn ychwanegol at y datganiad a wnaed yn ddiweddar am y cynllun diogelu ar gyfer y gaeaf.

14:55
Y Rhaglen i Adfer ar Ôl y Coronafeirws ym Mlaenau Gwent

3. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am sut y bydd rhaglen Llywodraeth Cymru i adfer ar ôl y coronafeirws o fudd i Flaenau Gwent? OQ55642

Fel y nodwyd yn y cyhoeddiad ddoe, rydym wedi ymrwymo i waith adfer sy'n gweithio i bobl Cymru, gan gynnwys Blaenau Gwent, drwy fynd i'r afael â'r materion sydd bwysicaf i ni: diweithdra, anghydraddoldebau hirsefydlog, tai fforddiadwy, adfywio canol trefi, a chefnogaeth i'r economi sylfaenol.

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ymateb. Rwy'n ddiolchgar hefyd i'r Gweinidog am ei ddatganiad ddoe. Mae Blaenau Gwent yn rhan o'r wlad, wrth gwrs, a fydd fwy ar ei cholled yn ariannol nag unrhyw fwrdeistref sirol arall, bron â bod. Mae Blaenau Gwent wedi dibynnu ar gyllid gan yr Undeb Ewropeaidd o ran cysylltedd, mewn perthynas â buddsoddiad yn y rheilffyrdd a deuoli’r A465. Mae pobl Blaenau Gwent wedi elwa o gyllid Ewropeaidd ar gyfer hyfforddiant a phrentisiaethau hefyd. Felly, mae ein lle a'n pobl wedi elwa yn y gorffennol. Gwn fod y Gweinidog wedi gweithio'n galed dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf i sicrhau y bydd y ffrydiau cyllido hyn yn cael eu cynnal, a gwn fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwneud tro gwael ag ef ac wedi gwneud tro gwael â ninnau, ac wedi torri'r addewidion a wnaethant. Felly, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn camu i'r adwy ar ôl i’r Torïaid dorri’r addewidion hynny, ac yn sicrhau bod gennym y gyllideb, fod arian ar gael gennym ar gyfer rhaglen hirdymor i gynnal a chefnogi pobl ym Mlaenau Gwent a'n cymunedau ym Mlaenau Gwent?

Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn pwysig ar ran ei etholwyr, ac mae'n codi materion sy'n effeithio ar fywydau bob dydd ei etholwyr fel y maent yn effeithio ar fy mywyd innau a bywydau eraill yn y Siambr. Mae'n llygad ei le wrth ddweud y bydd ei etholaeth, ac yn wir, fy etholaeth i ac etholaethau eraill, wedi elwa'n sylweddol o rai o'r rhaglenni hynny, ac mae'n iawn i fynegi ei siom ynghylch methiant Llywodraeth y DU i gyflawni ei haddewidion i sicrhau bod Cymru'n parhau i gael y cyllid hwnnw, a bod pobl yng Nghymru yn cael gwneud y penderfyniadau dros Gymru, sef egwyddor arweiniol datganoli ac addewid y dylai Llywodraeth y DU fod yn cadw ato.

Gwyddom o'u camau diweddar yn Senedd y DU eu bod yn ceisio tanseilio hynny, wrth iddynt edrych am bwerau i wario arian yng Nghymru lle gallai Llywodraeth Cymru wario’r arian hwnnw'n well ar ran pobl Cymru. Bydd ei etholwyr ar eu colled yn rhinwedd y ffaith bod Llywodraeth y DU wedi methu cyflawni ei chyfrifoldebau ariannol presennol, boed mewn perthynas â rhwydwaith y rheilffyrdd, boed yn ymwneud â'r system ynni neu gysylltedd digidol—mae pob un o'r rheini’n bethau sy’n cael eu tanariannu'n aruthrol, ac maent yn gyfrifoldebau i Lywodraeth y DU.

Yr hyn rydym yn ceisio’i wneud yw dadlau’r achos y dylai Llywodraeth y DU gadw ei haddewidion mewn perthynas â hyn fel y gallwn barhau i gefnogi cymunedau fel Blaenau Gwent gyda rhaglenni yn y dyfodol, ond hefyd, fel y bydd wedi’i weld yn y ddogfen a gyhoeddwyd ddoe, i geisio ysgogi’r economi er budd pob rhan o Gymru, gan gynnwys Blaenau Gwent, o fuddsoddi mewn ysgolion, yn y gwaith o gynnal a chadw ffyrdd, yn y seilwaith iechyd, y seilwaith gofal, mewn tai ac mewn gwaith uwchraddio ynni. Mae pob un o’r rheini wedi’u cynllunio i ysgogi’r economi, i helpu pobl i gadw swyddi ac i ddod o hyd i swyddi newydd, ac mae hynny'n ganolog i'r her y bydd y Llywodraeth yn ceisio mynd i’r afael â hi dros y misoedd nesaf.

Bil Marchnad Fewnol y DU

4. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig ar borthladd Caergybi? OQ55632

Fel y mae hi, mae Bil marchnad fewnol y Deyrnas Gyfunol arfaethedig yn ymosodiad ar ddatganoli ac fe fydd yn andwyol i Gymru gyfan. Mae elfennau yn y mesur sy'n creu risg penodol i’n porthladdoedd, yn cynnwys Caergybi, ac fe wnawn y gorau gallwn ni i sicrhau nad yw hynny'n digwydd.  

Diolch yn fawr iawn. Mae yna bryder mawr y gallai'r Bil arwain at symud masnach o Gaergybi i borthladdoedd yn Lloegr a'r Alban sy'n mynd yn syth i Ogledd Iwerddon, ac, efo traean o draffig Caergybi-Dulyn yn mynd i neu o Ogledd Iwerddon, mae'r bygythiad yna'n amlwg, ac mae hynny ar ben y perygl o fwy o groesiadau yn mynd yn syth o Iwerddon i gyfandir Ewrop. Ond ar ben hynny, dwi wir yn bryderus am effaith y checks ychwanegol fydd eu hangen ar lorïau. Dwi wedi rhybuddio ers y dechrau does yna ddim lle yn y porthladd. Dydy Llywodraeth Prydain prin wedi talu unrhyw sylw i Gaergybi o'i gymharu â Dover, er enghraifft. Rŵan, efo wythnosau i fynd, maen nhw'n tyrchu o gwmpas am le ac yn cynnig lleoliadau cwbl amhriodol, fel cyffiniau Sioe Môn, fyddai'n golygu traffig trwm drwy gymunedau gwledig Môn 24 awr y dydd. Rŵan, dwi'n gwybod bod Llywodraeth Cymru mewn trafodaethau efo'r cyngor sir am hyn, ond allwch chi roi sicrwydd i ni eich bod chi, fel fi a'r cyngor a'm cyd-Aelodau Plaid Cymru yn San Steffan, yn pwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn y ffordd gryfaf posib i wneud yn siŵr bod popeth yn cael ei wneud i ddiogelu llif masnach drwy Gaergybi ac i sicrhau dyfodol porthladd sydd mor bwysig i Ynys Môn ac i Gymru gyfan?

15:00

Wel, mae'r Aelod yn llygad ei le yn codi'r testun yma yn y ffordd y mae e'n ei godi fe. Rwy'n cytuno â'i ddadansoddiad e. Mae risg sylweddol ynglŷn â hyn. Rŷn ni wedi colli cyfnod sylweddol ar ddechrau eleni lle gallen ni fod wedi bod yn gwneud y trefnu a'r gwaith a sicrhau bod hyn yn digwydd mewn ffordd synhwyrol sy'n cael ei chynllunio, nid yn y ffordd mae'n cael ei wneud nawr.

O ran cyfathrebu gyda Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol ar hyn, roeddwn i mewn cyfarfod ddoe yn gwneud yr union bwyntiau y mae'r Aelod wedi eu hargymell nawr i sicrhau bod gwaith yn mynd rhagddo ar frys i edrych ar leoliad addas, i sicrhau bod hynny'n digwydd mewn partneriaeth gyda ni fel Llywodraeth a gyda llywodraeth leol, a gyda'r cwmnïau, gyda llaw, sy'n defnyddio'r porthladd a'r porthladd eu hun, a hefyd y cwestiwn yma o ba checks sy'n digwydd. Rwy'n mynd i ysgrifennu at y Llywodraeth yn San Steffan i gael sicrwydd bod yr un math o checks yn digwydd yn Lloegr ac yn yr Alban yn lle ein bod ni'n cael sefyllfa lle bod incentive i lorïau fynd ar hyd llwybrau gwahanol, ac rwy'n gwybod bod hynny ar flaen meddwl yr Aelod hefyd. Felly, rŷn ni yn pwyso ar hyn. Rŷn ni hefyd yn dal yn aros am wybodaeth oddi wrth y Llywodraeth yn San Steffan am effaith trafnidiaeth yn gorfod oedi yn y porthladd, y tu allan i'r porthladd, a fydd yn hollol greiddiol i'r trefniadau rŷn ni'n eu gwneud ar lawr gwlad yno. Felly, gallaf i roi'r sicrwydd iddo fe ein bod ni yn codi'r pethau yma yn rheolaidd. Mae gyda ni gyfarfod gweinidogol y prynhawn yma i drafod hyn, oherwydd ei fod e mor bwysig.

Cyflenwadau Bwyd Ffres

5. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r risg o darfu ar gyflenwadau bwyd ffres os bydd Llywodraeth y DU yn methu â sicrhau cytundeb masnach â'r UE cyn diwedd y cyfnod pontio? OQ55628

Wel, heb gytundeb, bydd perygl difrifol o oedi cyn mewnforio cynnyrch ffres i'r DU yn ogystal â phrisiau uwch o ganlyniad i dariffau. Mae dull cydgysylltiedig yn y DU yn hanfodol er mwyn lleihau'r effeithiau posibl ar gyflenwad bwyd, a bydd gwybodaeth a ddaeth ar gael i'r cyhoedd ddoe yn peri inni ail-werthuso ein lefel sicrwydd mewn perthynas â'r trefniadau hyn.

Rwy'n ddiolchgar iawn i Guido Fawkes am ddatgelu mai rhagdybiaethau cynllunio cyfnod pontio Llywodraeth y DU—a fydd yn cadarnhau fy ofnau gwaethaf y bûm yn eu lleisio dros y misoedd diwethaf—yw y byddai methu cael cytundeb masnach â'r Undeb Ewropeaidd yn arwain at gyfyngu ar y cyflenwad, cynnydd yn y galw am gynhyrchion bwyd-amaeth, ac mae'n debyg mai effaith yr aflonyddwch hwn, rwy'n dyfynnu,

fyddai llai o gyflenwad, yn enwedig rhai cynhyrchion ffres.

Credaf efallai mai'r peth mwyaf annymunol am y wybodaeth a godwyd yn gynharach gan fy nghyd-Aelod, Alun Davies, yw bod y gwas sifil yn nodi yn y ddogfen hon eu bod wedi cael cyfarwyddyd i beidio â rhannu'r rhagdybiaeth ag awdurdodau datganoledig, ond roeddent yn cydnabod y bydd yn effeithio ar awdurdodau datganoledig a'u cynlluniau. Nawr, nid ydym yn sôn am hedfan cafiar i mewn o'r Môr Du—rydym yn sôn am lysiau a ffrwythau bob dydd y daethom i ddibynnu arnynt o ganlyniad i fod mewn marchnad sengl am 40 mlynedd. Felly, mae hyn yn ddifrifol dros ben. Felly, yn ogystal â cheisio cael cyfarfod ar unwaith gyda Michael Gove ynglŷn â pham y caiff gwybodaeth ei chadw'n ôl rhag y gweinyddiaethau datganoledig, beth y gallwn ei wneud yn awr i geisio osgoi'r trychineb posibl hwn i bobl gyffredin a'u bwyd dyddiol?

15:05

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol pwysig hwnnw. Gadewch imi fod yn glir iawn ar y dechrau: mae agweddau ar y cyflenwad bwyd wedi'u datganoli, ond mae'n amlwg bod y cwestiwn ynglŷn â bwyd yn croesi'r ffin i'r DU yn allweddol i'r cyflenwad, a chyfrifoldeb Llywodraeth y DU yn llwyr yw hynny, a bydd unrhyw gyfyngiadau ar y cyflenwad yn ganlyniad i ddewisiadau a wneir gan Lywodraeth y DU.

Nawr, rwy'n rhannu ei phryder ynglŷn â'r hyn a ddarllenwn yn nodiadau'r cyfarfod ddoe. Cefais gyfarfod ddoe gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â'r cyflenwad bwyd a phwysleisio wrthynt yr angen am gydweithio yn y maes hwn. Felly, roedd y cyd-destun lle roedd y deunydd ar gael i'r cyhoedd yn peri pryder mawr i ni. Yng Nghymru rydym yn sicrhau ein bod yn siarad â'r archfarchnadoedd i sicrhau ein bod yn deall eu trefniadau logistaidd, er mwyn deall y bydd dosbarthiad cyfartal yng nghyswllt cynnyrch bwyd yn dod i mewn i'r DU. Gwneuthum y pwynt yn gadarn iawn—ac mae Gweinidog yr amgylchedd, gyda llaw, yn gwneud y pwyntiau hyn hefyd—fod risg ynghlwm wrth  brisiau bwyd yn codi y flwyddyn nesaf, a hynny ar adeg pan fo pobl yn dioddef, o ran eu bywoliaeth, yn sgil COVID a'r dewisiadau a wnaed gan Lywodraeth y DU i roi'r gorau i'r cynnydd yn y credyd cynhwysol.

Felly, gallai'r rhain fod yn heriau sylweddol iawn i'r bobl fwyaf agored i niwed. Hyd yn oed os nad effeithir ar y cyflenwad bwyd cyffredinol, gallai ei gost i bobl yn y grwpiau incwm hynny gael ei heffeithio—gallai effaith hynny fod yn sylweddol iawn. Byddwn yn parhau i wneud popeth yn ein gallu i sicrhau ein bod yn cael sicrwydd ynglŷn â dosbarthiad cyfartal, ond mae'r cwestiwn ynghylch y cyflenwad i'r DU o reidrwydd yn un y mae angen inni weithio gyda Llywodraeth y DU arno.

Weinidog, mae'n iawn cydnabod y gallai—ac rwy'n pwysleisio y gallai—fod peth tarfu ar gyflenwadau bwyd sy'n dod o'r cyfandir ar ôl Brexit, ond oni chytunwch y gallai hyn roi cyfle enfawr i'r DU a Chymru ddod yn llawer mwy hunangynhaliol yn ein ffordd o gynhyrchu bwyd? Mae ffermwyr Prydain ymhlith y mwyaf effeithlon ac arloesol yn y byd ac mae safonau hwsmonaeth ymhlith yr uchaf. Rwy'n siŵr y byddai'n llawer gwell gan y cyhoedd ym Mhrydain brynu cynnyrch cartref, yn enwedig o gofio bod arferion ffermio yn Sbaen, er enghraifft, lle daw llawer o'r ffrwythau a'r llysiau a fewnforiwn ohono, ymhell o fod yn ddymunol. Dangosir bod llafur mewnfudwyr yn cael ei ecsbloetio'n gywilyddus, gyda chyflogau isel, oriau hir a llety byw ansafonol iawn. O ystyried arferion o'r fath, onid yw'r Twrnai Cyffredinol yn cytuno ei bod yn llawer gwell inni gynhyrchu bwydydd o'r fath gartref, lle nad oes ecsbloetio o'r fath yn digwydd, neu lle mae'n llawer llai cyffredin o leiaf?

Wel, nid oes gennyf syniad beth yw barn y Twrnai Cyffredinol ar hyn, ond byddwn yn dweud bod dwy—. Mae cwestiwn yr Aelod yn seiliedig ar ddwy ragdybiaeth sylfaenol anghywir: yn gyntaf, y dylem fod yn barod i oddef cyfyngiadau ar y cyflenwad bwyd, os mai dyna sy'n digwydd, a chostau uwch, os mai dyna sy'n digwydd, oherwydd budd hirdymor yn y dyfodol. Rwy'n anghytuno'n llwyr ag ef fod honno'n ffordd dderbyniol o fwrw ymlaen. A'r ail gamgymeriad y mae'n ei wneud yn y rhagdybiaethau yw bod ein trefniadau presennol mewn rhyw ffordd yn atal datblygiad y math hwnnw o sector yn y DU. Rwy'n cytuno'n llwyr ag ef: rydym am weld sector amaethyddol a garddwriaethol cynyddol fywiog yng Nghymru a ledled y DU. Nid wyf yn derbyn am eiliad fod y trefniadau presennol yn rhwystr i hynny.

Ymgynghoriad 'Cymru Ein Dyfodol'

6. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymgynghoriad Cymru Ein Dyfodol ar gefnogaeth ar gyfer adfer ac ailgodi ar ôl COVID-19 yn y dyfodol? OQ55638

Ers ei lansio ym mis Mai, mae ymgynghoriad 'Cymru Ein Dyfodol' wedi bod yn llwyddiannus iawn. Cawsom ychydig dros 2,000 o gyflwyniadau gan randdeiliaid ac aelodau o'r cyhoedd, yn dweud wrthym beth sy'n bwysig iddynt hwy. Mae'r cyflwyniadau hynny wedi llywio'r blaenoriaethau ar gyfer adfer ac ailadeiladu a gyhoeddwyd gennym ddoe.

Weinidog, a gaf fi ddiolch i chi am ymuno â mi'n ddiweddar mewn digwyddiad ar-lein lle roeddech yn bwrw iddi'n feddylgar iawn i ateb dwsinau o gwestiynau gan y cyhoedd ar adfer ac ailadeiladu ar ôl COVID? Felly, gan gydnabod yr heriau aruthrol cyn y pandemig a senarios 'cytundeb' neu 'dim cytundeb' yr UE, a heb fod yn Johnsonaidd a pharablu optimistiaeth ffantasïol am fod yn 'orau yn y byd', neu 'allan o'r byd hwn', a gyrru JCBs drwy waliau polystyren tila, a oes unrhyw nodyn gwirioneddol optimistaidd y gall ei roi i bobl Cymru—yn enwedig i bobl ifanc—ynglŷn â sut y down drwy hyn yn dda, a'i wneud mewn ffordd sy'n well ac yn decach i'n swyddi a'n heconomi, yn well i'n hamgylchedd, ac yn well ac yn decach i gymdeithas yn ei chyfanrwydd?

15:10

Rwy'n credu bod y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud yn bwysig iawn, oherwydd er bod effaith gyffredinol COVID ar ein bywydau yn amlwg yn niweidiol iawn, rydym wedi dysgu gwneud pethau'n wahanol mewn rhai ffyrdd yn ystod y misoedd diwethaf, a byddwn am ddal ein gafael ar y ffyrdd hynny lle maent yn ffyrdd gwell o fwrw ymlaen.

Felly, yn yr economi, er enghraifft, er gwaethaf yr effaith lethol ar fusnesau yng Nghymru, rydym wedi gweld bod cyfleoedd wedi bod i rai busnesau edrych ar wahanol linellau cynnyrch mewn perthynas â chyfarpar diogelu personol ac yn y blaen a chyflenwadau i'r GIG. A gwelwyd lefel o arloesi a fu'n gadarnhaol i'r busnesau hynny, ac yn amlwg, rydym am allu annog hynny. O ran y ffordd rydym wedi mynd ati i gael gwasanaethau cyhoeddus i gydweithio, gan ddarparu mwy a mwy o'u gwasanaethau ar-lein—rydym wedi gweld hynny yn y gwasanaeth iechyd; rydym wedi gweld hynny mewn llywodraeth leol—ni fydd hynny'n gweithio i bawb ond bydd yn gweithio i lawer o bobl a bydd yn caniatáu inni ad-drefnu rhai o'r gwasanaethau er mwyn darparu gwasanaethau gwell byth i bobl Cymru.

Rwy'n credu ein bod hefyd wedi gweld—ac mae'n cydnabod hyn yn ei gwestiwn—brwdfrydedd o'r newydd ymhlith y cyhoedd tuag at sicrhau bod hwn yn ymateb gwyrdd i COVID. Gwn y bydd yn croesawu'r buddsoddiad sydd eisoes wedi'i wneud mewn perthynas â theithio llesol ac ynni adnewyddadwy ac ymyriadau tebyg, ac rwy'n credu bod y ddogfen a gyhoeddwyd gennym ddoe yn disgrifio ffordd optimistaidd o fwrw ymlaen â'r agenda honno mewn perthynas â datgarboneiddio ein heconomi, cefnogi bioamrywiaeth, gwella ansawdd aer, a hefyd, ar yr un pryd, mae llawer o'r ymyriadau hynny hefyd yn helpu i ysgogi'r economi, yn creu cyfleoedd sgiliau ac yn darparu nifer o fanteision eraill.

Felly, rhan o'r neges roeddwn am ei chyfleu ddoe oedd bod rhai o'r ymatebion sydd gan y Llywodraeth o reidrwydd yn lliniaru'r niwed y bydd COVID wedi'i achosi yn y tymor hir, ond bydd rhywfaint o'r gwaith yn nodi'r pwyntiau cadarnhaol y mae'n eu hawgrymu a cheisio adeiladu ar y rheini.

Cymorth Cyfreithiol

7. Pa gyflwyniadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud i ymchwiliad Tŷ'r Cyffredin i gymorth cyfreithiol, o ystyried pryderon ynghylch anawsterau o ran cael gafael ar gymorth cyfreithiol yn ystod pandemig COVID-19? OQ55653

Cyflwyniad y Llywodraeth i'r ymchwiliad fydd tynnu sylw Pwyllgor Cyfiawnder Tŷ'r Cyffredin at adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru. Disgrifiodd y comisiwn sefyllfa enbyd, ac rydym yn debygol o ddarganfod y bydd wedi dirywio ymhellach yn ystod pandemig COVID-19.

Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol. Adroddwyd yn eang ein bod, yn ystod cyfyngiadau symud COVID-19, wedi gweld cynnydd yn nifer yr achosion o gam-drin domestig. Mae cymorth cyfreithiol ar gael o hyd ar gyfer achosion ysgariad lle digwyddodd cam-drin domestig, oherwydd mae Llywodraeth y DU yn cydnabod, yn aml, er mwyn sicrhau bod y cysylltiad rhyngddynt a'u camdrinwyr yn cael ei dorri'n ddiogel ac yn llwyr, y bydd yn rhaid i unigolyn fynd i'r llys i gael ysgariad, setliad ariannol, neu'n bwysicaf oll, i wneud trefniadau priodol ar gyfer gweld eu plant.

Pan gafodd budd-daliadau plant eu capio ar ddau blentyn, gwnaeth Llafur lawer o'r ffaith y gallai fod yn rhaid i fenywod â thrydydd plentyn a anwyd yn sgil trais rhywiol brofi eu bod wedi cael eu treisio neu ateb cwestiynau personol iawn pe bai angen eu heithrio o'r cap ar fudd-daliadau. Teimlai Llafur y gallai'r broses atal menywod rhag hawlio, ac i'r rhai a wnaeth hynny, gallai'r cwestiynau beri gofid iddynt. Fodd bynnag, gallai'r un peth fod yn berthnasol i bobl sydd wedi cael eu cam-drin ac angen cymorth cyfreithiol i gael ysgariad mawr ei angen. Efallai eu bod yn teimlo embaras diangen ynglŷn â dioddef camdriniaeth. Efallai y byddant yn teimlo bod yn rhaid iddynt brofi ei fod wedi digwydd. Efallai nad ydynt wedi rhoi gwybod i'r heddlu, a byddant yn pryderu y gallai crybwyll honiadau o'r fath waethygu'r sefyllfa eto, rhywbeth y maent yn byw mewn ofn yn ei gylch.

Nawr rwy'n sylweddoli nad yw cymorth cyfreithiol wedi'i ddatganoli, ond yr hyn sydd wedi'i ddatganoli yw gallu eich Llywodraeth i helpu pawb sydd wedi goroesi cam-drin domestig, yn enwedig y rhai sy'n teimlo gormod o ofn i ddweud beth sydd wedi digwydd iddynt. Am y rheswm hwnnw, a wnewch chi ystyried ceisio dod o hyd i'r gyllideb i ariannu eiriolaeth mewn achosion ysgariad? Byddai gosod prawf modd ar unrhyw gymorth yn ddealladwy, ond peidiwch â gorfodi pobl sy'n cael eu cam-drin i dynnu sylw at eu statws, oherwydd mae yna lawer ohonynt na fyddant yn gwneud hynny, a byddant hwy a'u plant yn parhau i ddioddef o ganlyniad.

15:15

Wel, mae'r Aelod yn gwneud cyfres o bwyntiau pwysig iawn, ac rwy'n gwerthfawrogi'r ffordd y mae'n codi'r mater hynod sensitif hwn. Byddai cynllun cymorth cyfreithiol wedi'i gynllunio'n dda yn mynd i'r afael â'r heriau y mae'r Aelod yn eu codi yn ei chwestiwn. Rydym ymhell iawn o allu gwneud hynny yn sgil toriadau yn y gyllideb dros y blynyddoedd diwethaf ar lefel Llywodraeth y DU. Byddem am fod mewn sefyllfa yng Nghymru lle byddai'r materion hynny yn ein dwylo ni, fel y gallem gynllunio system i fynd i'r afael â'r union fathau o heriau y mae Michelle Brown yn eu crybwyll yn ei chwestiwn. Lle rydym wedi gallu ymyrryd a darparu gwasanaethau cynghori a chymorth ar gyfer trais domestig, fe fydd hi'n gwybod ein bod wedi gallu gwneud hynny. Ond mae angen ymyrraeth sylweddol iawn ar y mathau o ymyriadau y mae'n eu disgrifio, ac yn sicr dyna pam, os yw Llywodraeth y DU yn dymuno, fel petai, parhau â chadw'r pwerau hyn yn ôl, mae'n ddyletswydd arnynt i ddarparu'r cyllid ar gyfer y lefelau o ddiogelwch sydd eu hangen ar unigolion yn yr amgylchiadau hynny. Ond hoffwn ei chyfeirio at y ddogfen a gyhoeddwyd gennym ddoe, sy'n cydnabod bod nifer yr achosion o drais domestig wedi cynyddu yn ystod y misoedd diwethaf, a byddwn yn ceisio cefnogi gwasanaethau trais domestig ymhellach o fewn yr adnoddau sydd gennym, fel y nodwyd yn y ddogfen ddoe.

Y Diwydiant Gweithgynhyrchu yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru

8. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael ynghylch effaith Brexit heb gytundeb ar y diwydiant gweithgynhyrchu yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ55637

Mae ymagwedd Llywodraeth y DU tuag at y trafodaethau yn golygu y bydd y sector gweithgynhyrchu yn wynebu rhwystrau newydd sylweddol i fasnach beth bynnag, a bydd y rhain yn waeth os na cheir cytundeb. Rhaid i Lywodraeth y DU roi blaenoriaeth i negodi cytundeb sy'n diogelu'r economi, gan gynnwys sectorau gweithgynhyrchu a reoleiddir yn drylwyr yng Nghymru.

Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb. Cawsom gynrychiolwyr o'r diwydiant dur gerbron pwyllgor yr economi, ac roeddent yn tynnu sylw at beryglon Brexit 'dim cytundeb' fel rhywbeth a allai fod yn ddifrifol iawn ar gyfer eu dyfodol. Yn amlwg, gallai hyn effeithio'n fawr ar ar waith dur Trostre yn Llanelli. Pa sylwadau pellach y gall Llywodraeth Cymru eu cyflwyno i Lywodraeth y DU ynglŷn â phwysigrwydd cadw'r diwydiant dur yma yng Nghymru, a'r rhannau ohono sydd yn ardal y canolbarth a'r gorllewin?

Wel, rwy'n ategu pryder yr Aelod. Mae ein cyfeillion yn y sector dur yn dadlau'n barhaus, ac rydym ninnau'n derbyn eu dadl ac yn cytuno, y byddai'r math o senario y mae'n ei rhagweld yn niweidiol iawn i gynhyrchu dur yng Nghymru ac yn y DU. Gallaf ei sicrhau bod Gweinidog yr economi'n cael deialog barhaus â chynhyrchwyr dur yng Nghymru, ac ar draws yr economi mewn gwirionedd, mewn perthynas â sectorau eraill hefyd y gallai Brexit effeithio'n andwyol arnynt, a chanlyniadau gadael y cyfnod pontio Ewropeaidd heb gytundeb arwyddocaol sy'n canolbwyntio ar gefnogi bywoliaeth, yn canolbwyntio ar gefnogi'r sectorau sylfaenol hynny yn ein heconomi. Mae'r risgiau o wneud hynny'n sylweddol iawn ac mae'n parhau i drafod y materion hyn yn rheolaidd gyda chynhyrchwyr dur, a Llywodraeth y DU hefyd.

3. Cwestiynau Amserol

Yr eitem nesaf yw'r cwestiynau amserol, ac mae dau wedi eu dewis heddiw. Ac mae'r cyntaf i'w ateb gan y Gweinidog economi ac i'w ofyn gan Russell George. 

Stadco

1. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i Stadco yn dilyn newyddion ei fod yn bwriadu cau ei ffatri yn Llanfyllin, gan effeithio ar 129 o weithwyr? TQ486

Wel, a gaf fi fynegi fy nghydymdeimlad â phawb sy'n gweithio ar y safle? Mae hyn, yn ddealladwy, yn newyddion dinistriol, ac mae fy swyddogion mewn cysylltiad uniongyrchol â'r cwmni, ac maent yn archwilio'r holl opsiynau posibl a'r cymorth sydd ar gael.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Hwn, wrth gwrs, yw'r cyflogwr mwyaf yn ardal Llanfyllin, ac mae'n ergyd ddifrifol i Lanfyllin ac i'r holl deuluoedd yr effeithir arnynt yn y ffatri. Yn ôl yr hyn a ddeallaf o siarad â'r cynghorydd sir lleol, Peter Lewis, mae'r cwmni, sy'n eiddo i Magna International, yn bwriadu ailstrwythuro ei weithgarwch yn y DU, a bydd hyn yn effeithio ar 129 o bobl a fydd yn colli eu swyddi.

Yr hyn sy'n arbennig o drist yw mai dim ond yn ddiweddar y gwnaeth y cwmni fuddsoddiad o £2 filiwn yn y ffatri—gwnaeth hynny y llynedd—ac roedd wedi bwriadu gwneud buddsoddiad pellach o £2 filiwn y flwyddyn nesaf. Nawr, gwyddom i gyd, wrth gwrs, fod y pandemig yn effeithio'n sylweddol ar y diwydiant gweithgynhyrchu ceir, ac mae hyn, wrth gwrs, yn cael effaith ganlyniadol ar gwmnïau fel Stadco, ond gwn y cytunwch â mi pan ddywedaf y dylai'r hyn a oedd yn fusnes llwyddiannus a hyfyw yn 2019 fod yn fusnes llwyddiannus yn 2021. Mae Stadco yn gwmni rhy bwysig yng ngogledd Powys i ni ganiatáu iddo gau heb wneud pob ymdrech i ddod o hyd i ateb ymarferol.

Mor aml, clywn am ddiswyddiadau'n digwydd ar unwaith. Yn yr achos hwn, ni fydd y diswyddiadau'n dod yn weithredol tan ddiwedd 2021. Felly, rwy'n falch o glywed bod eich swyddogion eisoes wedi siarad â'r cwmni, ond tybed a allech chi amlinellu hefyd beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud, o'ch sgyrsiau â'ch swyddogion, beth arall y gallant ei wneud yn ystod y cyfnod ymgynghori hwn i geisio yn y pen draw—ceisio—diogelu'r swyddi yn y ffatri hon.

15:20

A gaf fi ddiolch i Russell George am ei gwestiynau ac am y pwyntiau y mae'n eu gwneud, a hynny'n briodol, am bwysigrwydd y safle hwn i'r gymuned y mae'n ei gwasanaethu a'r gymuned sy'n dibynnu arno am swyddi sy'n talu'n dda? Mae ein tîm rhanbarthol eisoes yn gweithio i edrych ar sut y gallwn gefnogi'r gymuned. Mae gennym berthynas dda gyda'r cwmni. Rydym wedi cynnig cyfarfod ar y cyd gyda hwy a Fforwm Modurol Cymru, a diben y cyfarfod hwnnw yw archwilio pob opsiwn posibl ar gyfer cadw'r ffatri a nodi unrhyw ffrydiau gwaith amgen.

Ein dealltwriaeth ni yw mai'r rhesymeg y tu ôl i'r penderfyniad yw y bu dirywiad cyffredinol yn y diwydiant modurol—bod gormod o gapasiti a bod hyn wedi'i waethygu gan y coronafeirws. Ond mae'r Aelod yn llygad ei le eu bod wedi buddsoddi yn y safle yn ddiweddar. Wrth gwrs, ddwy flynedd yn ôl, gwnaed ymdrech debyg i gyfuno gan y busnes pan gaeodd eu safle yn Amwythig. Fe wnaethant barhau â'r gwaith yma yng Nghymru, yn Telford ac yn Castle Bromwich, ond yn ôl yr hyn a ddeallaf, yn ogystal â chynnig cau'r safle ym Mhowys, maent yn ystyried torri niferoedd staff yn y ddau safle arall hefyd.

Mae fy swyddogion eisoes wedi cyfarfod ag uwch reolwyr adnoddau dynol ac rydym wedi'u cyfeirio at gymorth perthnasol, gan gynnwys, wrth gwrs, cyllid ReAct a rhaglenni cyflogadwyedd ehangach Llywodraeth Cymru. Ond gallaf sicrhau Russell George, fod ein ffocws ar gadw'r ffatri a diogelu'r swyddi. Mae gennym gyfnod ymgynghori o 45 diwrnod a byddwn yn archwilio pob cyfle a allai fodoli ar gyfer y busnes hwn.

Dylwn ddweud fy mod wedi cael cyfarfod â Fforwm Modurol Cymru bythefnos yn ôl hefyd, lle buom yn trafod cyflwr y diwydiant. Yn amlwg, gyda heriau niferus, mae'r sector yn profi ansicrwydd a phryder mawr, ond croesawyd y cynllun gweithgynhyrchu a gyhoeddwyd gennym yn eang; dylai allu cefnogi'r sector.

Ond os collir y swyddi yn y pen draw, byddwn yn gweithredu cymorth ReAct, a bydd hynny'n cynnwys cynnig grantiau i gaffael sgiliau newydd; bydd yn cynnig ad-dalu costau teithio a chostau gofal plant tra byddant yn hyfforddi; ac wrth gwrs, bydd cymorth recriwtio i gyflogwyr ar gael, gyda chynnig o hyd at £3,000 i gyflogwyr sy'n recriwtio pobl yr effeithiwyd arnynt. Ond yn y pen draw, rydym am helpu'r safle i aros ar agor a byddwn yn archwilio pob opsiwn ar gyfer gwneud hynny.

A gaf fi ddiolch i Russell George am gyflwyno'r cwestiwn pwysig hwn i'r Gweinidog heddiw? Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am bob dim a ddywedodd ynglŷn â'r hyn a wnaed hyd yma. A gaf fi ofyn iddo fod yn gwbl glir y bydd ef a'i swyddogion mor hyblyg â phosibl ynglŷn ag unrhyw gymorth busnes posibl i alluogi'r swyddi hyn i gael eu cadw?

Mae 129 o swyddi mewn cymuned o faint Llanfyllin yn cyfateb i rai cannoedd, miloedd hyd yn oed, mewn cymuned fwy o faint. Er fy mod yn deall yr hyn a ddywed am ReAct, nid oes llawer o gyfleoedd i bobl gael gwaith arall yn ddigon agos at eu cartrefi ar hyn o bryd. Felly, a all roi sicrwydd i ni heddiw y bydd ef a'i swyddogion mor hyblyg â phosibl, os oes unrhyw bosibilrwydd y byddai buddsoddiad ychwanegol gan y Llywodraeth yn galluogi'r cwmni i aros?

Yn bendant, gallaf gynnig y sicrwydd hwnnw i Helen Mary Jones. Yn ddiweddar iawn, cefais beth llwyddiant yn cadw rhai cyfleoedd gwaith yn ffatri Laura Ashley, eto ym Mhowys, lle credaf ein bod wedi gallu edrych ar nifer o gyfleoedd a gallu cefnogi'r cyfle sydd wedi arwain yn y pen draw at gadw nifer o bobl. A byddwn yn gwneud yn union yr un fath gyda'r safle hwn. Mae'n hanfodol oherwydd, fel y dywedodd Helen Mary Jones, mae 129 o swyddi mewn cymuned mor fach â Llanfyllin fel 1,000 o swyddi mewn cymuned o faint dinas fach neu dref fawr. Felly, mae'n hanfodol bwysig ein bod yn gwneud yr hyn a allwn i gadw'r swyddi, os gellir cyflawni hynny.

15:25

Diolch, Lywydd, a diolch i chi am dderbyn y cwestiwn hwn heddiw, oherwydd gofynnais am ddatganiad ddoe. Ond yr hyn sy'n bwysig yma, rwy'n meddwl, yw nodi dwy ffaith. A'r gyntaf, mae'n ymddangos i mi, yw mai'r 129 o bobl a gyflogir yma oedd yr olaf i wybod, ac ni ddylai hynny byth ddigwydd. Felly, i symud ymlaen o hynny, Weinidog, clywais yr hyn a ddywedoch chi, rydych yn gweithio gyda gwahanol bobl, ond mae'n amlwg fod rôl i'r undebau llafur yma yn ogystal â'r sector preifat.

Rydych yn dweud bod cyfnod ymgynghori o 45 diwrnod a grantiau ReAct i gaffael sgiliau newydd, ond un peth sy'n fy nharo yn yr ardal yw bod gallu enfawr ym Mhowys i arloesi, yn enwedig gyda sgiliau newydd. Gallem gysylltu'r arloesi hwnnw â'r ardal benodol hon gyda'r sgiliau penodol hyn drwy'r rhaglen ReAct ar gyfer y dyfodol, er mwyn atal diboblogi pellach yn yr ardal. Oherwydd mae'n ardal sy'n profi diboblogi cynyddol, ac mae'r holl dystiolaeth yno i gefnogi hynny. Felly, byddai'n waeth na 129 o swyddi pe bai'n rhaid i'r teuluoedd sy'n gysylltiedig â'r rheini symud allan o'r ardal i ddod o hyd i waith. Felly, mae'n debyg mai fy nghwestiwn yw hwn: defnyddio'r arloesi sy'n bodoli yn ardal Powys i hyrwyddo'r newid rydym wedi'i weld yn digwydd yn weddol gyflym, y newid y sonioch chi amdano yn eich adroddiad ddoe, a defnyddio'r cyfleuster i gadw'r bobl yno, ond yn fwy na hynny, i dyfu swyddi er mwyn atal y diboblogi rhag gwaethygu.

Mae Joyce Watson yn gwneud nifer o bwyntiau pwysig, ac wrth gwrs gall rôl yr economïau sylfaenol fod yn hollbwysig yn y gymuned. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth fod yna fusnesau bach sy'n gallu nodi sut y bu'r cwmni yn eu cefnogi, p'un a ydynt yn y gadwyn gyflenwi fodurol yn uniongyrchol neu'n siop bapur, cigydd neu bobydd lleol. Bydd hyn yn cael effaith, pe bai'r cyfleuster yn cau a swyddi'n cael eu colli, ar nifer o fusnesau llai yn yr ardal. Dyna pam rwy'n credu ei bod yn bwysig inni edrych ar yr her yn ei chyfanrwydd a defnyddio'r tîm rhanbarthol i archwilio'r effaith ehangach ar y gymuned a busnesau bach yn yr ardal.

Mae Joyce Watson yn llygad ei lle: gallai'r bartneriaeth gymdeithasol a chyfranogiad yr undebau fod yn hollbwysig o ran sicrhau bod gweithwyr yn cael y gefnogaeth gywir, nid cyfeirio'n unig at gyfleoedd a chymorth o fathau eraill i gael mynediad at gyllid ReAct a chyfleoedd sgiliau, ond cymorth emosiynol hefyd yn awr, oherwydd bydd hwn yn gyfnod eithriadol o anodd i bobl. Mae'r cyhoeddiad wedi dod wrth inni edrych tuag at y Nadolig; mae wedi dod ar adeg pan fo'n debygol y collir cryn dipyn o swyddi yn sgil y coronafeirws, felly bydd mwy o gystadleuaeth am gyfleoedd.

Ond un peth y byddwn yn ei ddweud sy'n eithaf cadarnhaol yw bod y rhai yr effeithir arnynt—pe baent yn colli eu swyddi, pe baent yn colli'r gwaith y maent wedi gallu ei fwynhau ers cryn dipyn o amser, byddant yn gallu cael cymorth fel rhan o'r ymyrraeth cyflogadwyedd a sgiliau gwerth £40 miliwn a gyhoeddais yn ddiweddar, ac mae hynny'n cynnwys gwasanaeth paru swyddi. Yn amlwg, bydd llai o gyfleoedd yn y rhan wledig honno o Gymru nag a allai fod mewn ardal fwy trefol, ond byddwn yn ymdrechu i baru cynifer o bobl ag sy'n bosibl—os byddant yn colli eu swyddi ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori—â chyfleoedd eraill i gael gwaith medrus sy'n talu'n dda. 

15:30

Diolch i'r Gweinidog. Mae'r cwestiwn nesaf i'w ateb gan y Gweinidog iechyd, ac i'w ofyn gan Andrew R.T. Davies.

Capasiti Profi yn GIG Cymru

2. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o drafferthion yn y gadwyn gyflenwi sy'n effeithio ar Roche Pharmaceuticals, a goblygiadau hyn o ran capasiti profi yn GIG Cymru? TQ492

Diolch i chi am y cwestiwn. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cadarnhau nad yw'r mater hwn yn effeithio ar eu capasiti ar gyfer profion antigenau COVID-19, gan nad yw swabiau Roche yn cael eu defnyddio, ac ni fydd ychwaith yn effeithio ar brofion eraill Iechyd Cyhoeddus Cymru. O ran gwasanaethau profi ehangach a ddarperir gan y bwrdd iechyd, rwyf wedi gofyn i fy swyddogion adolygu'r mater ac adrodd yn ôl ar frys.

Diolch am yr ymateb hwnnw, Weinidog, ac rwy'n croesawu'r sicrwydd, yn amlwg, nad yw'r newyddion hwn heddiw yn effeithio ar brofion COVID. Ond yn bwysig, yn amlwg, mae'r warws hwn yn cyflenwi cynhyrchion profi eraill i'r GIG ledled y Deyrnas Unedig, ym maes canser, cardioleg, profion thyroid, a phrofion electrolyt hefyd—mewn gwirionedd, mae'n arweinydd marchnad mewn electrolytau. Mae rhannau eraill o'r GIG yn y DU wedi cyhoeddi cyfyngiadau ar brofion gwaed—ar gyfer gwasanaethau hanfodol yn unig. A allwch roi sicrwydd heddiw, neu'n sicr yn y tymor byr, na fydd hyn yn tarfu ar brofion gwaed, yn enwedig yn y GIG yng Nghymru, ac os na allwch roi'r sicrwydd hwnnw heddiw, a allwch chi sicrhau y byddwch yn rhannu'r wybodaeth honno â'r Aelodau cyn gynted ag sy'n bosibl?

Trafodais yr union bwynt hwn gyda fy swyddogion y prynhawn yma, Lywydd, a dyna pam rwy'n ceisio sicrwydd brys gan ein swyddogion. O ran y profion y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn eu cynnal, gan gynnwys, er enghraifft, profion iechyd rhywiol a phatholeg celloedd, dyma'r pethau rwy'n pryderu fwyaf yn eu cylch. Mae gennym rywfaint o stoc ar ôl o fewn Iechyd Cyhoeddus Cymru a byrddau iechyd eraill, ond rwyf eisiau sicrwydd ynglŷn â sut y mae hynny'n effeithio ar bob bwrdd iechyd. Rwy'n hapus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar ffurf datganiad ysgrifenedig ar ôl i mi gael y sicrwydd hwnnw. Dywedodd Roche eu hunain eu bod yn credu y bydd y problemau gyda'r cyflenwad yn cymryd pythefnos i'w datrys. Yn amlwg, rydym eisiau gweld hynny'n digwydd cyn gynted ag y bo modd. Ond fel y dywedais, byddaf yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau a'r cyhoedd am y sefyllfa yma yng Nghymru.

Ar ôl colli capasiti profi Roche yn gynnar yn y pandemig, rwy'n falch o glywed nad ydych yn disgwyl effaith ar brofion COVID yng Nghymru. Nawr, a gaf fi ofyn un cwestiwn? Yn syml, os bydd problemau Roche yn taro gwasanaethau eraill ar draws y DU, gan gynnwys Cymru, pa sicrwydd a gawsoch na fydd Cymru'n cael ei thorri yn gyntaf neu ei tharo'n anghymesur?

Nid oes unrhyw awgrym o hynny ar hyn o bryd. Ond fel y dywedais, dyna pam rwy'n gofyn am sicrwydd, nid yn unig gan fy swyddogion, ond gan fyrddau iechyd yn uniongyrchol, am y sefyllfa y maent ynddi gyda'r ymyrraeth annisgwyl hon yn y gadwyn gyflenwi. A dyna y byddaf yn ei drafod yn y datganiad ysgrifenedig. Yn amlwg, ni fyddai'n dderbyniol pe bai Cymru'n cael ei tharo'n anghymesur, neu mewn ffordd wahanol, a bod rhannau eraill o'r DU yn cael eu ffafrio; rwy'n disgwyl i bob rhan o'r DU gael ei thrin mewn modd sy'n deg i bawb. Ond oherwydd y ffordd rydym yn darparu ein gwasanaeth profi yma yng Nghymru, mae'n newydd da na fydd y mater hwn yn effeithio ar y profion COVID.

4. Datganiadau 90 eiliad

Yr eitem nesaf yw'r datganiadau 90 eiliad. Mae un o'r rheini yr wythnos yma, ac mae hwnnw i'w gyflwyno gan Caroline Jones.

Diolch, Lywydd. Mis Hydref yw Mis Ymwybyddiaeth o Ganser y Fron, ac ar wahân i wisgo pinc, hoffwn ei nodi mewn ffordd arall, fwy personol—drwy siarad am fy nhaith i gyda chanser y fron, a nodi'r ffaith y gallwch oroesi'r clefyd ofnadwy hwn, ac annog menywod ledled Cymru i fod o ddifrif ynghylch y bygythiad, ac i archwilio'n rheolaidd.

Mae 13 mlynedd wedi bod ers i mi ddod o hyd i dolc amheus yn fy mron, tolc a oedd yn dangos fod tiwmor canseraidd oddi tano. A diolch i'r ffaith fy mod wedi dod o hyd iddo'n gynnar, a meddygon a nyrsys anhygoel, rwy'n dal yma. Cymerodd bum llawdriniaeth a chemotherapi llethol, ond rwyf yma i adrodd yr hanes ynglŷn â sut y goroesais un o'r clefydau sy'n lladd fwyaf o fenywod yng Nghymru. Ac ni allaf feddwl am ffordd well o dalu teyrnged, a diolch, na thrwy helpu i godi ymwybyddiaeth drwy nodi Mis Ymwybyddiaeth o Ganser y Fron. Rwy'n annog pob menyw yng Nghymru i archwilio eu bronnau'n rheolaidd am lympiau a thwmpau a tholciau, ac os dônt o hyd i unrhyw beth amheus, i fynd i gael archwiliad.

Yn ystod fy amser hamdden, byddaf yn aml yn siarad â phobl ar sail un-i-un fel cyfaill canser y fron, ac mae pobl yn dweud wrthyf ei fod yn help mawr. Er gwaethaf y coronafeirws, mae'r GIG yn dal i fod ar agor. Peidiwch â gadael iddo. Ewch i gael archwiliad. Rwy'n brawf byw y gallwch oroesi canser y fron os cysylltwch â phobl yn ddigon cynnar, ac anfonaf fy nghariad a fy nghefnogaeth at bawb sy'n cael profion a thriniaeth ar gyfer canser y fron. Diolch yn fawr.

15:35

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:35.

15:40

Ailymgynullodd y Senedd am 15:42, gyda David Melding yn y Gadair.

5. Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad—Adroddiad 01-20

Symudwn at eitem 5, adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, a galwaf ar Andrew R.T. Davies i gyflwyno'r cynnig.

Cynnig NDM7420 Andrew Davies

Cynnig bod Senedd:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Adroddiad 01 -20 a osodwyd gerbron y Senedd ar 30 Medi 2020 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9.

2. Yn cymeradwyo’r argymhelliadau yn yr adroddiad.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd dros dro. Fel Cadeirydd dros dro y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, rwy'n cyflwyno'r cynnig yn ffurfiol.

Ystyriodd y pwyllgor yr adroddiad gan y comisiynydd safonau dros dro mewn perthynas â chŵyn a wnaed yn erbyn yr Aelod o'r Senedd, Vikki Howells, ynglŷn â defnydd amhriodol o ystâd y Senedd. Hoffwn egluro nad oedd yn ddefnydd personol ar ran Vikki; roedd yn rhinwedd ei swydd fel cadeirydd y grŵp Llafur. Rhoddodd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ystyriaeth ofalus i adroddiad y comisiynydd, ac mae ein hadroddiad yn nodi barn y pwyllgor ynglŷn â'r sancsiwn sy'n briodol yn yr achos hwn.

Mae'r ffeithiau sy'n ymwneud â'r gŵyn, a rhesymau'r pwyllgor dros ei argymhelliad, wedi'u nodi yn adroddiad llawn y pwyllgor. Ers cytuno ar yr adroddiad hwn ym mis Mawrth 2020, mae'r prif weithredwr a'r clerc, yn ei rôl fel swyddog cyfrifyddu, wedi cyhoeddi diweddariad: 'Rheolau a Chanllawiau ar Ddefnyddio Adnoddau'r Senedd'. Dosbarthwyd y rhain i'r Aelodau ar 4 Medi, a daethant i rym ar ddechrau'r tymor hwn. Mae'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn croesawu'r diweddariad o'r rheolau ac yn credu y byddant yn helpu'n sylweddol i ddarparu eglurder ar ddefnyddio adnoddau'r Senedd.

Mae'r cynnig a gyflwynwyd heddiw yn gwahodd y Senedd i gymeradwyo argymhelliad y pwyllgor.

Rwy'n derbyn adroddiad y pwyllgor a'i argymhellion. Nid oeddwn erioed yn bwriadu torri'r canllawiau sydd ar waith. Rwy'n falch bod y Pwyllgor Safonau Ymddygiad wrthi'n adolygu amryw o faterion, gan gynnwys y canllawiau a ddarperir i Aelodau. Rwy'n gobeithio y bydd hyn yn sicrhau bod y rheolau'n glir, yn rhesymol ac yn ddealladwy yn y dyfodol, fel nad oes Aelodau eraill yn canfod eu hunain yn y sefyllfa hon yn anfwriadol.

Dwi'n siarad yn fy rôl fel trefnydd busnes a phrif chwip Plaid Cymru. Rydym ni'n derbyn cynnwys yr adroddiad yma ac mi fyddwn ni'n pleidleisio o'i blaid. Er hynny, dwi'n credu bod yna faterion ehangach yn codi o'r achos yma, fel mae'r comisiynydd ei hun yn ei gydnabod, sy'n codi cwestiynau pwysig ynghylch aeddfedrwydd ein democratiaeth a'n gallu i gydnabod yr ymwneud cwbl briodol rhwng ein gwaith pleidiol fel Aelodau a'n gwaith seneddol, ond ein bod, wrth gwrs, yn glir bod yna ffin a bod honno i'w pharchu. 

Felly, mae'n debyg mai'r cwestiwn cyntaf ydy: ble mae'r ffin? Ac a ydy'r rheolau a'r canllawiau sydd mewn lle yn dal hynny yn briodol ac yn cynnig digon o arweiniad i Aelodau a'n staff? Fel mae'r comisiynydd yn ei ddweud yn achos y mater yma, mae'n

'anodd credu na fyddai unrhyw blaid wleidyddol sy’n cyfarfod yn ystod cyfnod etholiad yn trafod rhywfaint ar yr etholiad arfaethedig.'

Mae'n hanfodol i rediad llyfn y Senedd ac i sicrhau democratiaeth fywiog fod gofod diogel i grwpiau gwleidyddol gael trefnu a thrafod eu gwaith mewn ffordd sy'n cydnabod y cyd-destun pleidiol. Mae hefyd yn hanfodol bod yna ffordd briodol i'r gwrthbleidiau allu, o fewn fframwaith penodol, ddefnyddio eu hadnoddau i ddatblygu rhaglen bolisi amgen.

Mae'r comisiynydd o'r farn yn ei adroddiad fod angen rhoi rhagor o eglurder yn y rheolau, yn enwedig o gwmpas cyfnod etholiadol. A dwi'n croesawu'r gwaith sydd wedi'i wneud eisoes i gyhoeddi fersiwn newydd o'r canllawiau ar ddefnydd adnoddau ac ystâd y Senedd.

Dwi'n croesawu hefyd, serch hynny, yr ymrwymiad gan y Comisiwn y bydd modd cadw'r canllawiau newydd yma dan adolygiad ac y bydd modd eu mireinio ymhellach ochr yma i'r etholiad i sicrhau eu bod yn dal yr ymwneud priodol yna rhwng gwaith pleidiol a seneddol yn iawn a heb unrhyw ganlyniadau anfwriadol. 

Does dim gweithredu pellach yn cael ei argymell yn erbyn Vikki Howells a dwi'n credu bod hynny yn gymesur. Er hynny, mae'r achos yma wedi mynd â llawer o amser pawb fuodd ynghlwm â'r broses. Mae'n bwysig felly fod yna warchodaeth i adnodd a gallu'r system gwynion i gyflawni eu swyddogaeth briodol. Ac mae'n amlwg bod angen rhoi sylw, wrth symud ymlaen, i sicrhau bod cwynion sy'n cyrraedd llawr y Cyfarfod Llawn, a'r holl gamau sy'n arwain at hynny, yn teilyngu ymateb o'r fath. Diolch yn fawr.

15:45

Diolch, Lywydd dros dro. Rwy'n ddiolchgar i'r ddau Aelod a gyfrannodd at y ddadl ac i Vikki Howells am gydnabod a chefnogi canfyddiadau'r adroddiad. Rwyf wedi gwrando ar sylwadau Siân Gwenllian ac rwy'n siŵr y cânt eu bwydo i mewn i'r adolygiad y mae'r pwyllgor yn ei gynnal i'r cod, a byddwn yn croesawu cyfraniad unrhyw Aelod arall i'r adolygiad y mae'r pwyllgor yn ei gyflawni ar hyn o bryd. Rwyf hefyd yn croesawu cymeradwyaeth Siân Gwenllian i ganfyddiadau'r pwyllgor a'r adroddiad. Rwy'n cynnig yr adroddiad yn ffurfiol.

Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Ni welaf unrhyw Aelod yn gwrthwynebu. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Cynnig i ddirprwyo awdurdod ar gyfer gwneud y trefniadau i recriwtio Comisiynydd Safonau newydd i'r Prif Weithredwr a'r Clerc

Eitem 6 yw dadl y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: recriwtio'r comisiynydd safonau. A galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor, Jayne Bryant, i gyflwyno'r cynnig.

Cynnig NDM7419 Jayne Bryant

Cynnig bod y Senedd, yn unol ag adran 3 o Fesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009, a pharagraffau 1 a 2 o’r Atodlen i’r Mesur hwnnw yn dirprwyo’r gwaith o wneud trefniadau ar gyfer recriwtio’r Comisiynydd Safonau (ond nid ar gyfer penodi’r person a nodir) i Glerc y Senedd.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd dros dro. A gaf fi—a yw'n bosibl egluro rhywbeth yn gyntaf, Lywydd dros dro?

Mae'n ddrwg gennyf—y pwynt cyntaf yw cyflwyno'r cynnig i ddirprwyo'r awdurdod ar gyfer gwneud y trefniadau i recriwtio comisiynydd safonau newydd.

Diolch. Rwy'n gwneud y cynnig yn ffurfiol i ddirprwyo awdurdod ar gyfer gwneud y trefniadau i recriwtio comisiynydd safonau newydd i Glerc y Senedd.

Mae Mesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009 yn nodi y dylid dirprwyo'r trefniadau ar gyfer recriwtio comisiynydd newydd naill ai'n gyfan gwbl neu'n rhannol i'r Comisiwn, i'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad neu i staff y Senedd.

Mae'r cynnig hwn yn galw am ddirprwyo'r awdurdod hwnnw i Glerc y Senedd, gan gydnabod y byddai'r penderfyniad terfynol ynghylch y penodiad yn parhau gyda'r Senedd fel y nodir yn y Mesur.

Lywydd dros dro, nod y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yw sicrhau y caiff comisiynydd ei recriwtio i allu helpu i gynnal y safonau ymddygiad uchel sydd eu hangen ar Senedd, ac felly, os caiff y cynnig hwn ei dderbyn heddiw, ein bwriad yw gweithio gyda'r Clerc yn ystod y broses recriwtio i sicrhau bod y person gorau posibl yn cael ei recriwtio i'r rôl bwysig hon.

Nid oes unrhyw siaradwyr wedi dweud eu bod yn dymuno cael eu galw yn y ddadl hon, ac felly rwy'n tybio nad ydych eisiau siarad am y mater eto, Jayne. Fe ddywedaf felly mai'r cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Ni welaf unrhyw Aelod yn gwrthwynebu, ac felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

15:50

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad—Tâl y Comisiynydd Safonau Dros Dro

Symudwn yn awr at eitem 7—dadl y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar dâl y comisiynydd safonau dros dro. A galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor, Jayne Bryant, i gyflwyno'r cynnig.

Cynnig NDM7418 Jayne Bryant

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod Douglas Bain CBE TD wedi’i benodi yn Gomisiynydd dros dro yn unol ag Adran 4(1) o Fesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009 ('y Mesur') ar 13 Tachwedd 2019.

2. Yn ystyried yr adroddiad gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: 'Tâl y Comisiynydd Safonau Dros Dro' ('yr adroddiad') yn ymwneud â’r cynnig i addasu telerau penodiad Mr Bain.

3. Yn addasu telerau penodiad y Comisiynydd dros dro, yn unol ag adran 4(4)(d) o’r Mesur, fel y nodir yn Atodiad A o’r adroddiad.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd dros dro. Cyflwynaf y cynnig i gymeradwyo'r adroddiad a'r argymhelliad. Mae adroddiad y pwyllgor yn nodi cynnig i ddiwygio cyflog y comisiynydd dros dro. Gan fod hyd penodiad y comisiynydd dros dro wedi dod yn gliriach erbyn hyn, roedd y pwyllgor o'r farn ei bod yn briodol talu cyflog sy'n gyson â chyflog y cyn-gomisiynydd i'r comisiynydd dros dro.

Mae'r adroddiad hwn yn nodi'r dull o gyflawni hyn, ac yn ei gwneud yn glir y rhoddir ystyriaeth i'r strwythur cyflogau ar gyfer unrhyw gomisiynydd safonau yn y dyfodol.

Unwaith eto, nid oes gennyf siaradwyr eraill, felly y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Ni welaf unrhyw Aelod yn gwrthwynebu, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd—'Diwygio'r Senedd: Y camau nesaf'

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23(iii), ni ddewiswyd gwelliannau 1 a 2 a gyflwynwyd i’r cynnig hwn.

Eitem 8 yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd, 'Diwygio'r Senedd: Y camau nesaf'. A galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Dawn Bowden.

Cynnig NDM7417 Dawn Bowden

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd, ‘Diwygio’r Senedd: Y camau nesaf’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Medi 2020.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd dros dro. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Pwyllgor Busnes am drefnu'r ddadl hon heddiw, oherwydd yng nghyd-destun y pandemig COVID, wrth gwrs, mae'r rhan fwyaf o fusnes y Senedd, yn briodol, yn canolbwyntio ar sut y gallwn gynorthwyo ein pobl, ein cymunedau a'n heconomi yn yr amserau digynsail hyn. Serch hynny, mae'r materion cyfansoddiadol rydym yn mynd i'r afael â hwy yn ein hadroddiad yn ganolog i ddemocratiaeth yng Nghymru, a'n gallu, fel Aelodau o'r Senedd, i gyflawni ein rolau cynrychioliadol, deddfwriaethol a chraffu. Felly, rwy'n croesawu'r cyfle i drafod y materion hyn gyda'r Aelodau.

Ym mis Gorffennaf y llynedd, cawsom ddadl ar faint o Aelodau ddylai fod yn y ddeddfwrfa hon a sut y dylid eu hethol. Penderfynodd y Senedd, gyda mwyafrif clir, fod angen mwy o Aelodau, ond cytunwyd bod angen gwneud rhagor o waith i ystyried sut y gellid cyflawni hynny. Sefydlwyd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd wedyn ym mis Medi 2019. Gofynnodd y Senedd i ni archwilio'r argymhellion a wnaed gan y panel arbenigol ar ddiwygio etholiadol y Cynulliad.

Yn ystod ein gwaith, clywsom dystiolaeth glir a grymus fod y Senedd yn rhy fach ar hyn o bryd, y dylai ei haelodaeth fod yn fwy amrywiol, fod y system etholiadol bresennol yn cyfyngu ar ddewis pleidleiswyr ac atebolrwydd Aelodau a'i bod yn amhriodol nad oes mecanwaith ar gyfer adolygu ffiniau'r Senedd. Nid oes amser heddiw i mi amlinellu'r holl argymhellion, sy'n cynnwys, er enghraifft, y dylid ethol rhwng 80 a 90 o Aelodau o'r Senedd drwy'r bleidlais sengl drosglwyddadwy, y dylid rhoi trefniadau ar waith i adolygu ffiniau'r Senedd yn barhaus, y dylid rhoi ymyriadau gwirfoddol a deddfwriaethol ar waith i oresgyn yr anghydraddoldebau strwythurol a'r rhwystrau cymdeithasol sy'n rhwystr rhag cael Senedd fwy amrywiol, a bod angen inni wneud mwy i gynyddu lefelau ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y cyhoedd o'r hyn y mae'r Senedd yn ei wneud a sut y mae ei gwaith yn gwneud gwahaniaeth i'r materion sydd o bwys i bobl.

Mae cost ynghlwm wrth fuddsoddi yn ein democratiaeth a byddai'n rhaid craffu'n ofalus ar y costau hynny wrth i'r Senedd ystyried unrhyw Fil diwygio. Ond ar sail yr amcangyfrifon y mae'r Llywydd wedi'u paratoi ar ein cyfer a'r dystiolaeth rydym wedi'i chael, credwn fod y gost ychwanegol nid yn unig yn bris sy'n werth ei dalu, ond mae'n fuddsoddiad angenrheidiol yn ein prosesau a'n sefydliadau democrataidd. Ar sail y dystiolaeth a glywsom, credwn y byddai Senedd fwy o faint yn gosteffeithiol. Byddai'n gwella safon llywodraethiant yng Nghymru, yn gwella trosolwg a chraffu ar Lywodraeth Cymru ac yn arwain at bolisi mwy effeithiol, gwariant mwy effeithlon a gwell deddfwriaeth.

Gallai hyd yn oed gwelliannau ymylol i wariant neu werth wrthbwyso cost deddfwrfa fwy o faint. Ond ni fyddwn yn gweld y gwelliannau hyn, ac ni fydd gan y Senedd a etholir yn 2026 nifer priodol o Aelodau i gyflawni ei chyfrifoldebau pwysig oni bai bod pleidiau gwleidyddol yn gallu dod i gonsensws ar gynigion i ddiwygio a chytuno i roi camau deddfwriaethol ar waith yn gynnar yn y chweched Senedd.

Yn 2017, cydnabu'r panel arbenigol nad oedd yna amser perffaith ar gyfer gwneud newidiadau cyfansoddiadol ac etholiadol, ond gofynnai'r cwestiwn: os nad nawr, pryd? Heriodd y Senedd i fod yn feiddgar ac i fanteisio ar y cyfle hwn i ddiwygio'r sefydliad, i fywiogi democratiaeth Cymru ac i ennyn brwdfrydedd ac ysgogi pleidleiswyr fel bod etholiad 2021 yn darparu deddfwrfa sydd â'r gallu i gynrychioli'r bobl a'r cymunedau y mae'n eu gwasanaethu ac yn dod yn Senedd Cymru sy'n gweithio go iawn ar ran pobl Cymru.

Mae'r pwerau i ddiwygio ein Senedd wedi bod yn ein dwylo ers 2018. Mae'r camau cyntaf yn y broses ddiwygio eisoes wedi'u cymryd, ac o ganlyniad bydd pobl ifanc 16 a 17 oed yn gallu pleidleisio am y tro cyntaf yn etholiad y flwyddyn nesaf. Fodd bynnag, mae gennym ragor i'w wneud cyn y gallwn ddweud ein bod wedi grymuso ein Senedd yn llawn i ddiwallu anghenion y rhai y mae'n eu cynrychioli—pobl Cymru. Credwn fod ein hadroddiad yn cynnig cynllun i arwain y chweched Senedd wrth iddi gymryd y camau nesaf yn y broses ddiwygio honno. Fodd bynnag, rydym yn realistig; gwyddom fod mwy i'w wneud i ennyn diddordeb y cyhoedd yn y materion hyn, a gwyddom fod gan Aelodau a phleidiau ar draws y Siambr safbwyntiau gwahanol. A gwyddom fod y rhain yn faterion gwleidyddol sensitif y mae'n anodd dod i gonsensws arnynt.

Fodd bynnag, fel deddfwyr ac Aelodau etholedig, mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i gydweithio i fuddsoddi yn ein democratiaeth yng Nghymru a'i chryfhau. Mae'r dystiolaeth yn glir: oni bai fod deddfwriaeth yn cael ei chyflwyno yn gynnar yn y chweched Senedd, rydym mewn perygl o fethu sicrhau y gall ein deddfwrfa barhau i gyflawni'n effeithiol ar gyfer pobl Cymru. Mae perygl y byddwn yn colli'r cyfle i sicrhau bod y gwaith o graffu ar bolisi, deddfwriaeth, gwariant a threthiant yn cael ei lywio gan safbwyntiau pobl o amrywiaeth eang o gefndiroedd. Ac mae perygl y byddwn yn colli'r cyfle i rymuso ac ennyn diddordeb pleidleiswyr drwy gyflwyno system etholiadol sy'n rhoi cymaint o ddewis â phosibl i'r pleidleiswyr, yn egluro atebolrwydd Aelodau ac yn sicrhau canlyniadau tecach a mwy cyfrannol.

Wrth gyhoeddi ein hadroddiad, rwy'n annog pob Aelod a phob plaid wleidyddol i fyfyrio ar y dystiolaeth ac i ystyried ein casgliadau a'n hargymhellion yn llawn. Credaf y gall y chweched Senedd gydweithio i ddod i gytundeb ar y camau nesaf ar gyfer diwygio'r Senedd ac i sicrhau bod ein Senedd yn parhau i fod wrth wraidd democratiaeth ffyniannus yng Nghymru. Diolch yn fawr.

15:55

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23, nid yw'r Llywydd wedi dethol gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Gareth Bennett, na gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Neil Hamilton, er fy mod yn bwriadu galw ar y ddau Aelod i siarad yn y ddadl. Siân Gwenllian.

Diolch yn fawr. Mae hwn yn adroddiad cynhwysfawr, heb os, ac mae yna waith manwl wedi cael ei wneud gan Aelodau a staff y pwyllgor yma. Mae o'n siomedig, er hynny, ein bod ni erbyn hyn wedi colli'r cyfle yn y Senedd hon i weithredu ar dystiolaeth gweithgor manwl iawn arall a gafwyd tua dechrau'r bumed Senedd, sef yr un dan gadeiryddiaeth Laura McAllister. Ychwanegu at y dystiolaeth o'r angen am gryfhau'r Senedd yma a chreu democratiaeth sy'n gynrychioladol o'r holl leisiau yng Nghymru—dyna mai'r adroddiad yn ei wneud mewn gwirionedd, yn hytrach na'n symud ni ymlaen yn gyflym.

Dwi'n credu bod yr achos busnes yn amlwg ac yn glir i ni gyd erbyn hyn a bod yr amser wedi dod ar gyfer gweithredu. Fel rydych chi'n gwybod, mi oedd Plaid Cymru eisiau inni weithredu ar unwaith yn ystod y Senedd hon, mewn ymateb i adroddiad Laura McAllister, ac fe wnaethon ni roi'r cyfle, drwy gyfrwng cynnig ar lawr y Senedd ym mis Gorffennaf y llynedd, i'r perwyl hwnnw. Ar y pryd, fe wnaeth Llafur, am y tro cyntaf, gytuno mewn egwyddor fod angen cynyddu nifer yr Aelodau, ond doedden nhw ddim yn barod i ymrwymo i roi hynny ar waith ar y pryd. A'r Llywodraeth bresennol fydd yn rhaid ateb ynghylch pam y bu rhaid inni dreulio pum mlynedd ychwanegol gyda system fethedig. Mi fyddaf yn gwrando'n astud er mwyn clywed y bydd y Llywodraeth yn cefnogi yn ddiamwys y ddeddfwriaeth sydd ei hangen yn y Senedd nesaf.

Ers ei sefydlu, mae Senedd Cymru wedi bod yn flaengar fel deddfwrfa lle'r oedd cydraddoldeb wedi'i ysgrifennu mewn i'r DNA o'r cychwyn cyntaf, ond, yn amlwg, mae yna lawer iawn mwy o waith i'w wneud, ac am hynny, mae'r cyfrifoldeb ar ein Senedd fodern ni i arwain y ffordd unwaith yn rhagor i sicrhau bod y Senedd yn cynrychioli Cymru yn ei holl amrywiaeth. Os ydym ni'n barod i arddel yr enw 'Senedd', mae'n rhaid i ninnau fel ein cenedl fodern ac amrywiol fod yn Senedd i bawb yng Nghymru ac yn Senedd i Gymru gyfan. All yr holl gyfrifoldeb yma ddim syrthio ar bleidiau gwleidyddol yn unig. Mae'n amlwg bod angen elfen o weithredu cadarnhaol i wireddu'r nod. Mae yna rai camau bychain ond rhai digon clodwiw yn cael eu hargymell yn yr adroddiad: system o gasglu data ar amrywiaeth rhestr ymgeiswyr pob plaid wleidyddol, cronfa i gefnogi pobl ag anableddau, er enghraifft, i gefnogi ethol rhai o'r grwpiau hyn sydd wedi eu tangynrychioli i swydd gyhoeddus. Ond mae angen mynd ymhellach.

Rhannu swyddi—rydych chi wedi fy nghlywed i'n trafod hyn o'r blaen. Dwi ddim yn meddwl bod ishio gweithgor arall i edrych ar hyn. Dylai'r ffocws o'r cychwyn yn y Senedd nesaf fod ar weithredu hyn i mewn i gyfraith. Mae'r dystiolaeth eisoes yn bodoli. Ac mi fyddwn i'n awyddus i weld cynnwys cwotâu statudol i sicrhau cynrychiolaeth briodol i ferched a phobl o liw yn y ddeddfwriaeth newydd.

Does dim rhaid inni aros tan y Senedd nesaf cyn cychwyn gweithredu. Mae ffenest a chyfle hyd yn oed yn yr amserlen ddeddfwriaethol sy'n weddill o'r Senedd hon inni gymryd camau tuag at wneud democratiaeth Cymru yn fwy cynhwysol ac yn fwy cydradd, a hynny ar lefel llywodraeth leol. Mae Delyth Jewell wedi cyflwyno gwelliannau i'r ddeddfwriaeth sy'n cael ei thrafod ar hyn o bryd ynglŷn â llywodraeth leol, ac mi fyddai pasio'r gwelliannau yn golygu cyflwyno STV i bob cyngor yn ddieithriad ynghyd â mesurau eraill i warchod hawliau mamolaeth cynghorwyr a sicrhau nad oes posib cael cabinet o ddynion yn unig. Dwi'n mawr obeithio y bydd y camau bychain hynny yn cael cefnogaeth y Llywodraeth ac y byddwn ni'n gallu symud hyd yn oed rŵan yn y Senedd yma ychydig bach o'r ffordd tuag at fod yn Senedd wir gynhwysol, wir gydradd.

16:00

Wel, mae gan Gymru lawer o broblemau ar hyn o bryd, ond nid wyf yn credu y gwelem lawer o bobl yn y byd y tu allan sy'n credu mai'r ateb i unrhyw un ohonynt yw mwy o wleidyddion, mwy o Aelodau o'r lle hwn. Y gwir amdani yw nad oes galw o gwbl ymhlith y bobl sydd wedi ein hethol i'r lle hwn am gynyddu maint y Senedd, a gwyddom hyn drwy edrych ar yr ystadegau etholiadol am yr 20 mlynedd diwethaf. Nid oes un etholiad lle rydym wedi llwyddo i gael y ganran sy'n pleidleisio i ethol Aelodau'r Senedd i 50 y cant. Mae arolygon barn diweddar wedi dangos dadrithiad cynyddol gyda'r lle hwn a galw cynyddol i gael gwared arno—tua 22 y cant yn yr arolwg barn diwethaf a welais. Mae'r syniad, fel y dywedwyd eiliad yn ôl, y byddai cynyddu maint y Senedd yn bywiogi democratiaeth yn eithaf chwerthinllyd ac mewn gwirionedd mae'n gondemniad o'r hyn ydym ni ar hyn o bryd—[Anghlywadwy.]

Ymddengys bod gennym anawsterau technegol. A wnaiff y gweithredwr sain weld a allwn ailsefydlu cyswllt â Neil Hamilton?

Do, mae'n ddrwg gennyf, Neil, roedd hi'n anodd eich clywed. Nid oedd y sain yn gweithio. Felly, rydym wedi'ch clywed hyd at funud a 34 eiliad, felly, yn amlwg, fe wnaf ganiatáu i chi gael yr amser angenrheidiol ar gyfer eich dadl.

Diolch yn fawr am hynny. Fe wneuthum gynnig mewn gwelliant—ac rwy'n deall, wrth gwrs, na chafodd ei ddewis—y dylem alluogi'r cyhoedd i roi ystyriaeth wirioneddol i hyn ar ffurf refferendwm. Dywedodd Angela Burns mewn dadl gynharach fod y Ceidwadwyr Cymreig yn dweud 'na' wrth refferenda oherwydd yn y pen draw dylem gael pŵer i fwrw ymlaen neu beidio drwy ddefnyddio ein barn wleidyddol gyfunol yma, yn unol â'n mandadau. Wel, wrth gwrs, barn gyfunol gwleidyddion yw y dylid cael mwy o wleidyddion. Nid wyf yn credu bod honno'n ddadl argyhoeddiadol iawn i'r etholwyr. Gwyddom i gyd beth ddigwyddodd ar Brexit, lle roedd 85 y cant o Aelodau'r lle hwn am aros yn yr UE, ond roedd 53 y cant o boblogaeth Cymru am adael. Yn wir, roedd llawer o'r rhai a gynigiodd y ddadl hon dros gynyddu maint y Senedd am gael ail refferendwm ar refferendwm Brexit cyn gweithredu canlyniad y cyntaf hyd yn oed.

Dadl y Comisiwn yw y gall llais y bobl gael ei gynrychioli'n ddigonol gan yr hyn y maent yn ei alw'n gynulliad dinasyddion, ond wrth gwrs, nid llais y bobl fyddai hwnnw, dim ond llais sefydliad Bae Caerdydd. Byddai'n darian arall yn erbyn barn y cyhoedd, ac yn fy marn i, byddai'n union fel y seneddau ffug a welwn mewn gwledydd unbenaethol fel Gogledd Korea, lle maent yn stampiau rwber yn y bôn i gynhyrchu'r hyn y mae'r sefydliad am ei gael. Byddai'r sefydliadau hyn yn llawn o bobl yn ysu am gael bod yn wleidyddion, neu gynffonwyr Bae Caerdydd, neu bobl sy'n ariannu buddiolwyr sefydliadau Llywodraeth Cymru ac yn y blaen. Mae'r trydydd sector yn deilwng iawn rwy'n siŵr, ond maent i gyd yn lled-wleidyddion hefyd, ac maent i gyd yn sugno ar deth y trethdalwr, felly wrth gwrs fod ganddynt ddiddordeb personol mewn parhau â'r trefniant presennol. Mae llawer o'r sefydliadau hyn yn cael eu hariannu naill ai'n uniongyrchol gan gontractau neu grantiau Llywodraeth Cymru, felly nid wyf yn credu y dylem ystyried bod yr un ohonynt yn annibynnol, a chânt eu rhedeg gan gyfeillion gwleidyddol Llywodraeth Cymru. Nid democratiaeth yw Cymru, ond ffrindocratiaeth, fel y datgelwyd yn gynhwysfawr ym mlog Jac o' the North, i unrhyw un ohonoch sy'n ei ddarllen.

Ac yn ymarferol, a ydym yn gorweithio fel Aelodau o'r Senedd ar hyn o bryd? Rwy'n dweud nad ydym. Mae Aelodau o'r Senedd yn fy mhrofiad i yn gydwybodol iawn ac rwy'n talu teyrnged iddynt, ond rwy'n credu y gallant ymdopi â'r llwyth gwaith presennol. Am gyfnod roeddwn yn arweinydd grŵp plaid ac ar bedwar o bwyllgorau'r Cynulliad, ac ynghyd ag eraill, rwy'n cynrychioli'r Canolbarth a Gorllewin Cymru, sef y rhanbarth mwyaf amrywiol yng Nghymru yn ddaearyddol. Ac eto, gallwn ymdopi, ac roeddwn yn ei fwynhau, ac nid ydym ond yn eistedd yng Nghaerdydd ar dri diwrnod yr wythnos—deuddydd yn y Cyfarfod Llawn ac un diwrnod, fel arfer, ar bwyllgor. O'n cymharu â gwledydd eraill, nid ydym yn gorweithio. Yn yr Unol Daleithiau maent ar fin cael etholiad i Dŷ'r Cynrychiolwyr; mae 330 miliwn o etholwyr yn yr Unol Daleithiau, a bydd 450 o Aelodau o Dŷ'r Cynrychiolwyr yn eu cynrychioli. Mae'r Eidal newydd gael refferendwm yn gofyn a ddylid lleihau maint eu Senedd. Pleidleisiodd 70 y cant o'r bobl yn y refferendwm o blaid lleihau maint dau dŷ Senedd yr Eidal o 900 i 600.

Mae'r adroddiad hwn wedi anwybyddu dadl y rhai sy'n gwrthwynebu cynyddu maint y sefydliad, ac wrth gwrs ymddiswyddodd David Rowlands o'r pwyllgor, a chawsom—UKIP, hynny yw—un linell o sylw yn yr adroddiad. Felly, y cyfan y mae'r adroddiad hwn yn ei wneud yn fy marn i yw cadarnhau bod y Senedd yn siambr atsain i wleidyddion Bae Caerdydd, ac nid llais y bobl mewn gwirionedd. Felly, edrychaf ymlaen at drafod hyn yn yr etholiad fis Mai nesaf, ac mae'n beth da iawn nad yw'n cael ei benderfynu, fel y dymunai Siân Gwenllian a'i chyd-Aelodau, yn ystod y Cynulliad hwn. Oherwydd credaf y bydd hwn yn fater hynod ddefnyddiol i'r rheini ohonom sy'n credu bod datganoli wedi bod yn fethiant yn ymarferol, ac edrychaf ymlaen yn fawr at ymuno â'r frwydr yn yr hustyngau.

16:05

A gaf fi ddweud 'da iawn' wrth Dawn Bowden am gadeirio pwyllgor ar fater dadleuol sydd o bwys arbennig i weithrediad y Senedd hon, Senedd Cymru, yn awr ac yn y dyfodol? Gwnaeth hynny'n fedrus tu hwnt, a chyda chymorth tîm bach rhagorol o glercod, er gwaethaf y tarfu annisgwyl yn sgil y pandemig a rhai heriau gwleidyddol lleol. Cadwaf fy sylwadau ar hynny at rywdro eto, ond nodaf yn syml fy mod yn teimlo ei bod yn ddyletswydd ar bob plaid wleidyddol yn y lle hwn i ymgysylltu â'r dadleuon a'r dystiolaeth ni waeth pa mor anodd yw hynny'n wleidyddol. A'n rôl fel seneddwyr weithiau yw bod yn arwyddbyst i'r dyfodol, nid dim ond ceiliogod y gwynt yn y gwyntoedd poblyddol sy'n chwythu. 

Rwyf am gyffwrdd yn fyr â rhai o ganfyddiadau ac argymhellion allweddol ein hadroddiad, cyn troi at yr heriau sylweddol i wneud i hyn ddigwydd. Ac wrth wneud hynny, ni all yr un ohonom o fewn cyfyngiadau'r ddadl hon wneud cyfiawnder â'r manylion a'r dystiolaeth eang yn yr adroddiad. Hoffwn ddweud yn syml: ewch i'w ddarllen a'i dreulio. 

Roedd y dystiolaeth a glywsom am faint y Senedd yn rymus ac yn glir ac yn hynod o gyson—fod y Senedd yn rhy fach ar hyn o bryd ac y dylai gynyddu i rhwng 80 a 90 o Aelodau i wella ein trefniadau llywodraethu a'n cynrychiolaeth, gwella ein gwaith craffu a'n trosolwg ar Lywodraeth Cymru, a chyflawni polisi mwy effeithiol, gwariant mwy effeithlon a gwell deddfwriaeth.

Ar ddiwygio etholiadol, ac yn wyneb tystiolaeth hynod o gyson unwaith eto, down i'r casgliad y dylid cyflwyno system etholiadol y bleidlais sengl drosglwyddadwy i roi mwy o ddewis i bleidleiswyr gan barhau i gynnal y cysylltiadau clir rhwng Aelodau ac etholaethau, a chynhyrchu canlyniadau etholiadol mwy cyfrannol ac yn hollbwysig, gwneud i bob pleidlais gyfrif—gan ei gwneud yn werth pleidleisio mewn seddi nad ydynt erioed wedi cynhyrchu dim heblaw cynrychiolydd Llafur neu Geidwadol, er enghraifft; gwneud i bob Aelod weithio am bob pleidlais ym mhob etholaeth.

Ac ar amrywiaeth yr ymgeiswyr a'r Aelodau o'r Senedd, roedd y dystiolaeth yn glir fod cael Senedd fwy cynrychioliadol gydag ymgeiswyr a chynrychiolwyr mwy amrywiol yn mynd law yn llaw â diwygio'r system etholiadol a chynyddu nifer y cynrychiolwyr. Ond yr un mor glir roedd yr angen dirfawr i weld camau cadarnhaol i helpu i oresgyn yr anghydraddoldebau a'r rhwystrau strwythurol sy'n gwneud hyn mor anodd. Felly, dylai pleidiau gwleidyddol fwrw ymlaen â chyhoeddi gwybodaeth am amrywiaeth eu hymgeiswyr etholiadol a nodi eu cynlluniau ar gyfer cynyddu amrywiaeth a chynhwysiant yn y ffordd y maent yn gweithio. Ac mae angen mwy o waith trawsbleidiol ar sut y gallai rhannu swyddi Aelodau o'r Senedd a chwotâu amrywiaeth ar gyfer nodweddion gwarchodedig heblaw rhyw weithio'n ymarferol hefyd. Ac mae angen cymorth ariannol i bobl ag anableddau sydd am sefyll mewn etholiad—[Anghlywadwy.]

16:10

Ie, rydych chi wedi cael toriad o tua 20 eiliad. Roeddech yn trafod y pwynt am amrywiaeth ymgeiswyr. Os gallwch ailddechrau o'r fan honno.

Diolch, Lywydd dros dro. Y pwynt roeddwn yn ei wneud yw bod angen mwy o waith trawsbleidiol ar sut y gallai rhannu swyddi i Aelodau o'r Senedd a chwotâu amrywiaeth ar gyfer nodweddion gwarchodedig ar wahân i ryw weithio'n ymarferol. Ac mae angen cymorth ariannol i bobl ag anableddau sydd am sefyll mewn etholiad, gan newid y rheolau fel nad yw gwariant o ganlyniad i anabledd neu ofal plant neu gyfrifoldebau gofalu eraill yn cyfrif tuag at derfynau gwariant ymgyrch etholiadol. A lle gall pleidiau fwrw ymlaen a gwneud y pethau hyn, dylent wneud hynny'n wirfoddol, ond lle mae angen deddfwriaeth ac o fewn ein pwerau, yn amodol ar eglurhad gyda Llywodraeth y DU, dylem weithio tuag at hyn hefyd.

Ond tan 2026, byddwn yn byw gyda chweched Senedd 60 Aelod, doed a ddelo. Felly, bydd angen mesurau dros dro ar frys i helpu'r 60 Aelod sydd eisoes dan bwysau i gyflawni eu rolau cynrychioliadol, craffu a deddfwriaethol yn effeithiol. Mae'r adroddiad yn dweud yn glir ein bod eisoes wedi gwneud llawer o addasiadau ar gyfer y llwyth gwaith cynyddol yn ystod Senedd heb bwerau digonol ac wrth symud ymlaen i'r chweched Senedd, gallai hyn fod â goblygiadau anodd i batrymau gwaith y Senedd a rhai canlyniadau anfwriadol, nid yn unig o ran ansawdd ein gwaith ond o ran y cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith y mae'r Cynulliad hwn yn falch o anelu tuag at ei gyflawni. Ond efallai y bydd modd dysgu gwersi o ffyrdd newydd o weithio a ddefnyddiwyd yn ystod y pandemig COVID i roi cynnig ar opsiynau eraill rhwng nawr a diwedd y pumed Senedd. Nawr, mae llawer mwy i'w drafod nag y gellir ei drafod mewn pum munud, felly cyfeiriaf at fy sylw cynharach: darllenwch yr adroddiad yn fanwl; mae'n rymus.

Ond yn fy sylwadau olaf, hoffwn drafod i ble yr awn o'r fan hon, ac mae hyn i gyd yn dibynnu ar ewyllys y lle hwn ar hyn o bryd, ond hefyd ar ddechrau'r chweched Senedd. Mae'r pwyllgor wedi ceisio bod o wasanaeth i'r Senedd drwy fapio'n glir iawn yr amserlenni tynn ar gyfer gweithredu'r diwygiadau mawr hyn mewn pryd ar gyfer yr etholiadau i'r seithfed Senedd. Maent yn heriol, gyda cherrig milltir allweddol i'w cyflawni a phenderfyniadau i'w gwneud yn ystod y misoedd cyntaf, heb sôn am ddwy flynedd gyntaf y Senedd nesaf. A bydd angen mwyafrif o ddwy ran o dair i gyflawni'r diwygiadau mawr hyn. Mae'r rhain yn fynyddoedd uchel i'w dringo, ond hyd yn oed cyn inni gyrraedd y mynyddoedd uchel hynny mae cadwyn gyfan arall i'w goresgyn, ac mae hynny'n galw ar arweinyddiaeth y prif bleidiau gwleidyddol—pob un ohonynt—i fod yn barod i fynd â'r materion hyn yn ôl at eu pleidiau eu hunain, eu trafod a dod i gasgliad. I Blaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol, rwy'n tybio y bydd y mynyddoedd hynny'n edrych yn gymharol fach. I fy mhlaid fy hun, byddwn yn gweld rhai uchelfannau'n codi o'n blaenau. Credaf y gallai'r Blaid Geidwadol fod wedi penderfynu eisoes i beidio â thrafferthu o dan yr arweinyddiaeth bresennol—nid wyf yn gwybod—ac mae eraill amrywiol eisoes wedi cefnu ar yr her, neu hyd yn oed ar Gymru neu'r Senedd yn barod.

Ond yn y pen draw, Lywydd dros dro, mae ein pwyllgor wedi gwneud yr hyn y gofynnwyd i ni ei wneud. Gwnaethom y penderfyniad yn gynnar fel pwyllgor, gyda llaw, ac rwy'n cymeradwyo hynny, i gyfyngu ar ein gweithgareddau wrth gydnabod bod ymateb i'r feirws o'r pwys mwyaf. Ond ar ôl cwblhau ein gwaith gystal ag y gallwn o dan yr amgylchiadau anodd hyn, ac ar ôl dod i gasgliadau clir, rydym yn awr yn dychwelyd at y gwirionedd sylfaenol roeddem i gyd yn ei gydnabod yn y dechrau: yn y pen draw, mater i bleidiau gwleidyddol ei ddatrys yw hwn, mater i arweinyddiaeth wleidyddol y pleidiau hynny ac ar gyfer arweinyddiaeth y Prif Weinidog nesaf a'r Llywydd yn y Senedd hon. Mae mynyddoedd i'w dringo, ond rydym yn wlad fynyddig ac yn arfer eu dringo. Ugain mlynedd ar ôl datganoli, ar ôl o leiaf bum newid sylweddol i lywodraethiant Cymru, ac eto heb unrhyw ddiwygio etholiadol yn gysylltiedig â hynny—

16:15

Rhaid i chi ddod i ben. Mae hyn yn dechrau teimlo fel Everest heb ocsigen. Nawr gorffennwch os gwelwch yn dda.

Fe ddof i ben yn wir, Lywydd dros dro. Mae'r adroddiad hwn yn nodi'r llwybr i'w ddilyn ar gyfer camau nesaf y diwygio. Y cwestiwn yw a ydym yn fodlon cymryd y camau ar hyd y llwybr i sicrhau bod gennym y ddemocratiaeth a'r ddeddfwrfa rydym eu hangen ac yn eu haeddu yng Nghymru. Diolch.

Diolch i'r pwyllgor am gyflwyno'r ddadl heddiw, a hefyd am yr adroddiad mawr a llawn gwybodaeth a gynhyrchwyd ganddynt. Nawr, roedd Huw'n sôn am y ffyrdd newydd o weithio a chredaf fod pob un ohonom yn dysgu ar y foment sut i weithredu o dan y normal newydd fel y'i gelwir. Mae'n anffodus fod argyfwng enfawr COVID-19 wedi digwydd pan wnaeth, pan oedd y pwyllgor ar ddiwygio etholiadol eisoes wedi gorffen y rhan fwyaf o'i waith, oherwydd bydd COVID yn cael effaith fawr ar sut y gweithiwn yn y dyfodol, ac nid yw'r effaith honno wedi llywio canfyddiadau'r adroddiad hwn mewn unrhyw ffordd. Nid bai'r pwyllgor yw hynny, wrth gwrs; amseru anffodus yn unig ydyw.

Fel y dywedais, mae hwn yn adroddiad swmpus sydd wedi archwilio nifer o faterion a oedd o ddiddordeb i'r pwyllgor yn drylwyr. Y broblem yw nad oedd atebion eraill, fel cynllunio'n fanwl sut i barhau i weithredu gyda 60 o Aelodau, o fawr ddim diddordeb iddo. Felly, prin fod yr adroddiad yn cyffwrdd â hyn. Fel y soniodd Huw, mae'n sôn ychydig am hynny, ond y rhagdybiaeth sylfaenol yw y bydd yn rhaid inni yn y pen draw gael bron i 90 o Aelodau yma. Felly, mae arnaf ofn fod yn rhaid i mi anghytuno'n llwyr â'r rhagdybiaeth hon.

Yr obsesiwn â chael Aelodau ychwanegol oedd man cychwyn yr adroddiad hwn, felly mae'n debyg i'r hen jôc pan fydd rhywun ar wyliau moduro dramor ac maent yn gofyn i rywun lleol, 'A allwch chi ddweud wrtha i pa ffordd yw'r gyflymaf i ganol y ddinas?', ac mae'r unigolyn lleol yn dweud, 'Wel, fyddwn i ddim yn dechrau o'r fan hon.' Dyna fy mhroblem gyda'r adroddiad hwn: ni fyddwn wedi dechrau o'r fan hon. Ni fyddwn wedi dechrau o'r rhagdybiaeth na all y lle hwn weithredu'n iawn heb 25 i 30 Aelod arall. Rydym yn eistedd yma am ddeuddydd yn y Cyfarfod Llawn bob wythnos. Yn Nhŷ'r Cyffredin, maent yn eistedd am bedwar diwrnod yr wythnos. Cawn ein talu bron gymaint ag Aelodau Seneddol; yn sicr, telir cyflog amser llawn inni. Felly, os ydym yn orlwythog â gwaith, pam nad ydym yn cael Cyfarfod Llawn am fwy na deuddydd yr wythnos?

Un broblem fawr yw busnes pwyllgorau. Mae hwn yn fater o bwys. Ond pan drafodwyd hyn gennym yn 2017, awgrymais y gellid edrych ar nifer y pwyllgorau, nifer y cyfarfodydd pwyllgor a nifer yr Aelodau Cynulliad y byddai'n rhaid iddynt eistedd ar bwyllgorau. Cafodd fy sylwadau eu trin braidd yn ddeifiol. Ac wele, ychydig fisoedd yn ddiweddarach cawsom ad-drefnu a phenderfynodd y Pwyllgor Busnes nad oedd angen wyth Aelod ar bwyllgorau wedi'r cyfan; gallem gael chwech.

Felly, o gofio hynny, a gawn ni edrych yn awr hefyd ar nifer y pwyllgorau sydd gennym neu'n fwy defnyddiol efallai, faint o waith sy'n cael ei wneud? Gallem geisio lleihau nifer y cyfarfodydd pan fyddwn yn gwneud y blaenraglen waith oherwydd fel y gwyddom, mae gwaith yn ehangu i lenwi'r amser sydd ar gael. Dyfynnwyd tyst yn dweud hynny yn yr adroddiad hwn. Pan fydd pwyllgorau wedi'u sefydlu, maent yn hoffi teimlo'n bwysig, ac maent yn hoffi cael rhaglen waith lawn, ond gadewch inni fod yn onest: nid ydym yn trafod deddfwriaeth drwy'r amser ar bwyllgorau, ydym ni?

Hyd yn oed os ydym yn dadlau am ddeddfwriaeth, pa les fyddai Aelodau ychwanegol yn ei wneud? Rydym yn gweithredu yma mewn system wleidyddol bleidiol gyda chwipiaid pleidiau. Caiff Aelodau eu chwipio o ran sut i bleidleisio ar ddeddfwriaeth. Nid dim ond eistedd yno a gwrando ar y dystiolaeth a phenderfynu drostynt eu hunain wedyn sut y bwriadant bleidleisio a wnânt —dywedir wrthynt sut i bleidleisio gan chwipiaid y pleidiau. Pe bai gennych 20 Aelod Llafur arall yma, pa les fyddai hynny'n ei wneud? Ni fyddent yn darparu lefel uwch o graffu gan y byddai'r Aelodau ychwanegol hynny'n dal i gael gwybod sut i bleidleisio gan chwipiaid eu plaid. Byddai'r system yr un fath pe bai gennym 60 o Aelodau, 90 Aelod neu 100 o Aelodau, a byddem yn dal i weld gwelliannau da gan y gwrthbleidiau'n cael eu gwrthod gan y Llywodraeth. Dyna realiti gwleidyddiaeth plaid, ac mae'r realiti hwnnw'n cael ei anwybyddu'n llwyr yn yr adroddiad hwn.

Mae hwn yn gyfnod o ansicrwydd ym maes cyllid cyhoeddus. Mae pobl yn y byd go iawn yn colli eu swyddi a'u bywoliaeth. Dyma'r adeg waethaf un i geisio argyhoeddi'r cyhoedd o'r angen am 30 yn fwy o Aelodau i'r Siambr hon, ar gost o filiynau o bunnoedd y flwyddyn. Am y rheswm hwnnw, er fy mod yn gwerthfawrogi'r gwaith sydd wedi'i wneud yn yr adroddiad hwn, rhaid imi wrthwynebu ei ganfyddiadau'n llwyr. Mae llawer o aelodau o'r cyhoedd yn dod i'r casgliad nad oes arnom angen 90 o Aelodau o'r Senedd. Nid oes angen 60 arnom hyd yn oed. Nid oes angen unrhyw Aelodau o'r Senedd, gan nad ydym angen y lle hwn. Ond peidiwch ag ymddiried yn fy marn i; gofynnwch i'r cyhoedd eu hunain yn uniongyrchol mewn refferendwm os ydynt am gael 30 Aelod arall, neu a fyddai'n well ganddynt ddiddymu'r Cynulliad yn gyfan gwbl. Gwn pa ffordd y byddwn i'n pleidleisio. Diolch yn fawr iawn.

16:20

Allaf i ddiolch i'r Cadeirydd am ei chyflwyniad arbennig ar y cychwyn ac i glercod ac ymchwilwyr y pwyllgor am eu gwaith dygn a chaled dros fisoedd lawer? Nawr, ffurfiwyd y pwyllgor yma wedi penderfyniad gan y Senedd yma. Dwi'n gresynu, felly, nad oedd pob plaid wedi cymryd rhan yng ngweithgareddau'r pwyllgor, er taw penderfyniad y Senedd oedd o. Dylid parchu penderfyniadau y Senedd hon.

Roedd mwyafrif llethol y dystiolaeth fanwl a dderbyniasom dros fisoedd yn darogan bod angen mwy o Aelodau ar y Senedd yma a bod angen eu hethol gan system o gynrychiolaeth gyfrannol STV. Hyn i gyd i wella craffu. Mae gwell craffu yn creu gwell deddfwriaeth a hefyd yn arbed arian. Dyna beth ddywedodd adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru yn ddiweddar ar y mater hefyd. Yn wir, arbed digon o arian i ariannu'r Aelodau ychwanegol.

Ond, wrth gwrs, mae yna bobl sydd yn gwrthwynebu hyn i gyd. Rydym ni wedi eu clywed nhw. Gwrthwynebu holl fodolaeth y Senedd yma er canlyniad dau refferendwm, gyda refferendwm 2011 yn dangos bod 64 y cant o boblogaeth Cymru o blaid mwy o bwerau i'r Senedd yma. Er hynny, mae yna bobl yn dal i wrthwynebu cydnabod Cymru fel endid gwleidyddol o gwbl, yn enwedig wedi Brexit. Maent eisiau cael gwared â'n Senedd, cael gwared â'n gwlad, a'n sgubo ni i ffwrdd o wyneb daear a mynd â ni'n ôl i ryw oes aur dyddiau'r ymerodraeth Brydeinig lle nad oedd yr haul yn machlud ar y coch ar y map yn yr ysgol.

Ond mae Cymru wedi goroesi er yr holl ormes, a byddwn yn dal i oroesi. Ond mae angen cryfhau ein strwythurau gwleidyddol. Mae angen cryfhau ein Senedd. Ie, drwy gael mwy o Aelodau o wahanol gefndiroedd gyda mwy o bwerau. Mae 60 o Aelodau yn fan hyn, yn llai na nifer o'n cynghorau sir. Mae 72 o gynghorwyr sir yn siambr cyngor dinas Abertawe er mwyn Duw; 90 o Aelodau o'r Cynulliad Deddfwriaethol yng Ngogledd Iwerddon; a 797 o Arglwyddi yn Nhŷ'r Arglwyddi, yn cynyddu'n wastadol, heb etholiad, yn ddyddiol, a gwario £5 biliwn i drwsio San Steffan a neb yn grwgnach dim. Na, yr ydym wedi gwrthsefyll cael ein dileu fel Cymry o wyneb daear ers wyth canrif bellach. Cryfhau ein Senedd ydy'r cam nesaf ac annibyniaeth yn y pen draw: dyna ydy'r unig ateb i'r holl rymoedd hynny sy'n ceisio cael gwared â'n Senedd a'n gwlad. Diolch yn fawr.

16:25

Diolch, Gadeirydd. Hoffwn ddiolch i'r pwyllgor ac i Gadeirydd y pwyllgor am gyflwyno'r adroddiad pwysig yma, sydd wedi helpu i gynnal momentwm y drafodaeth ynghylch gwaith y Senedd i'r dyfodol. Fel mae'r Aelodau'n gwybod, trafododd cylch gwaith y pwyllgor amrywiaeth o bynciau a nodwyd yn adroddiad y panel arbenigol ar ddiwygio etholiadol a sefydlais i ym mis Chwefror 2017.

Fel yr Aelod oedd yn gyfrifol am Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020, rwy'n falch o'r cynnydd rydym wedi'i wneud hyd yma o ran estyn yr etholfraint, ond ar adeg cydsyniad y Ddeddf honno, mynegais i fy siom bersonol i ynglŷn â'r diffyg consensws o blaid deddfu ar faint y Senedd a'r system bleidleisio a ddefnyddir i'w hethol. Felly, rydw i'n croesawu heddiw gasgliad y pwyllgor ac rydw i'n dyfynnu, fod,

'tystiolaeth glir a chryf bod y Senedd yn rhy fach ar hyn o bryd'.

Mae'r Senedd ei hun hefyd wedi mynegi'r farn hon fwy nag unwaith gyda phleidleisiau o blaid cynyddu nifer yr Aelodau.

Mae nifer wedi cyfeirio eisoes at argyfwng COVID-19, ac mae'n wir i ddweud bod hwn wedi newid y ffordd rŷm ni'n gweithio yma. Mae wedi ein dysgu pa mor anodd yw rhagweld pa heriau y byddwn ni'n eu hwynebu yn y dyfodol ac wedi ein hatgoffa o'r angen am Senedd sy'n fwy hyblyg ac yn fwy cadarn, hyd yn oed. Mae'r pandemig hefyd wedi gwneud y ddadl o ran cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith hyd yn oed yn gliriach i ni, ac yma yn y Senedd, fel yn y gymdeithas yn ehangach, rydym yn gofyn i'r Aelodau wneud mwy mewn llai o amser. Ac yn fy marn i, mae mwy o gyfrifoldeb heb fwy o gapasiti'n ein gadael ni'n agored i ddirywiad o ran ansawdd gwaith craffu, sef ein prif swyddogaeth fel Senedd. Oherwydd hyn, rwy'n croesawu'r argymhelliad y dylid cyflwyno deddfwriaeth yn gynnar yn nhymor nesaf y Senedd i ethol rhwng 20 a 30 yn fwy o Aelodau i'r Senedd yn 2026.

Rwyf hefyd yn croesawu'r argymhelliad y dylid gweithredu mesurau i leddfu'r pwysau capasiti yn y chweched Senedd, ac mae nifer wedi cyfeirio at yr angen i wneud hynny hefyd wrth i ni gychwyn gwaith y chweched Senedd. Yn fy marn i, dylem barhau i ystyried pob mesur posib er mwyn lleddfu'r pwysau sy'n wynebu'r 60 Aelod; y rhai ohonom ni yma yn y presennol a'r rhai fydd yma yn y dyfodol yn dilyn yr etholiad nesaf.

Yn fy rolau fel Cadeirydd y Pwyllgor Busnes a Chomisiwn y Senedd, byddaf yn ceisio sicrhau bod adolygiad o'r mesurau a gymerir yn y Senedd hon i fynd i'r afael â phwysau capasiti yn rhan o'r gwaith etifeddiaeth ac yn barod ar gyfer ei weithredu yn y chweched Senedd. Byddai hyn yn cynnwys ystyried sylwadau eraill y pwyllgor ar y ffyrdd o weithio, fel y rhai a amlinellwyd mewn gohebiaeth ddiweddar gan Gadeirydd y Pwyllgor, Dawn Bowden, ataf i, ac rydw i'n ddiolchgar iddi am y sylwadau a'r argymhellion hynny.

Gan droi at yr argymhellion eraill a wnaed i Gomisiwn y Senedd, fel corff, byddwn yn rhoi ystyriaeth ofalus i sut rydym yn monitro effaith ymgyrchoedd gwybodaeth ac addysg gyhoeddus a'r posibilrwydd o ddatblygu dull systematig a rhagweithiol o asesu effaith gwaith craffu a goruchwylio'r Senedd. O'm rhan i, byddaf yn sicrhau bod y Comisiwn yn cyflawni ei rôl yn hyn o beth fel y gallwn ddarparu Senedd sy'n craffu ar y Llywodraeth ac yn gwasanaethu pobl Cymru hyd eithaf ei gallu.

Diolch, Ddirprwy Lywydd dros dro. Hoffwn innau hefyd ddechrau drwy ddiolch i'r pwyllgor am eu gwaith caled iawn. Mae hon wedi bod yn flwyddyn eithriadol o anodd, ac fel y mae pawb wedi dweud, mae COVID-19 wedi amharu'n llwyr ar ein prosesau ac wedi cael blaenoriaeth ym mhob un o'n llwythi gwaith. Ond mewn cyfnod o ansicrwydd digynsail lle mae pob un ohonom dan straen, mae'r pwyllgor wedi cynhyrchu adroddiad cynhwysfawr iawn a hoffwn dalu teyrnged arbennig i Gadeirydd y pwyllgor, Dawn Bowden, am ei hymrwymiad a'i gwaith caled yn hyn o beth.

Mae'r diwygiadau y soniwn amdanynt eisoes ar y gweill wrth gwrs. Bydd etholiadau'r Senedd yn 2021, am y tro cyntaf yng Nghymru, yn rhai lle bydd pobl ifanc 16 a 17 oed yn ogystal â dinasyddion tramor cymwys yn gallu chwarae rhan lawn yn ein democratiaeth. Mae'r pwyllgor wedi amlinellu nifer o argymhellion i helpu'r Senedd i fod yn fwy amrywiol ac i gynrychioli'r bobl y mae'n eu gwasanaethu'n well. Mae llawer o'r argymhellion hynny i'r Senedd nesaf eu hystyried, ond mae'r pwyllgor hefyd wedi nodi ychydig o faterion mwy uniongyrchol, a heddiw, Lywydd dros dro, oherwydd diffyg amser, cyfyngaf fy sylwadau i'r rheini.

Rwy'n croesawu'n arbennig argymhellion y pwyllgor ar alluogi pobl anabl i sefyll mewn etholiad. Rydym wedi bod yn gweithio ar ein hagenda amrywiaeth a democratiaeth ers 2018. Rydym yn gweithredu ar hyn mewn dwy ffordd. Yn gyntaf, rydym yn cyflwyno deddfwriaeth yr hydref hwn i eithrio gwariant sy'n gysylltiedig ag anabledd o derfynau gwariant ymgyrch etholiadol. Ac yn ail, rydym yn sefydlu cronfa beilot 'mynediad at swyddi etholedig'. Bydd yn rhoi cymorth ariannol i helpu pobl anabl i sefyll mewn etholiad, a bydd ar agor ar gyfer etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf yn ogystal ag ar gyfer etholiadau llywodraeth leol yn 2022. Drwy ddileu rhwystrau fel hyn, ein nod yw helpu i greu Senedd lawer mwy amrywiol a chynrychioliadol.

Gwnaeth y pwyllgor nifer o argymhellion cysylltiedig eraill y credaf eu bod yn eithriadol o bwysig. Rydym eisoes wedi derbyn yr argymhelliad ynghylch cychwyn adran 106 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, pan gafodd ei wneud gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, ac rydym yn rhoi ystyriaeth ofalus i'r argymhellion ynghylch eithriadau gwariant ehangach a chymorth ariannol i helpu grwpiau eraill heb gynrychiolaeth ddigonol a'r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu.

Nid yw'r syniad o Senedd fwy o faint yn un newydd, ac fel y mae pawb wedi nodi, cafodd ei argymell gan gomisiwn Richard yn 2004 a'r panel arbenigol annibynnol yn 2017. Rhoddodd y refferendwm yn 2011 hwb ysgubol i'r sefydliad hwn, ac nid wyf yn credu bod angen i ni ei ailystyried, fel y mae nifer o bobl sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon wedi ceisio'i wneud.

Rwy'n bwriadu cyhoeddi ymateb ffurfiol Llywodraeth Cymru i argymhellion y pwyllgor yn ystod yr wythnosau nesaf. Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu ystyriaeth y pwyllgor ac unwaith eto hoffai ddiolch iddynt am lunio eu hadroddiad er gwaethaf yr amgylchiadau heriol iawn.

Wrth gwrs, Ddirprwy Lywydd dros dro, ar adegau o argyfwng y byddwn yn gweld yn fwyaf amlwg yr angen am Senedd gref a chynrychioliadol i'n cenedl. Mae gwaith y pwyllgor yn cyfrannu'n sylweddol at hynny, ac rwy'n talu teyrnged iddynt. Diolch yn fawr.

16:30

A gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl y prynhawn yma am y sylwadau cefnogol at ei gilydd a gafodd eu gwneud? Mae Siân, Huw, Dai, y Llywydd a'r Gweinidog i gyd wedi nodi rhai o elfennau allweddol yr adroddiad ar gydraddoldeb ac amrywiaeth, consensws gwleidyddol, ffyrdd newydd o weithio, craffu, gwell deddfwriaeth, a'r angen am Senedd gryfach. Dyna y mae'r adroddiad hwn yn anelu at ei wneud.

O ran cyfraniadau Neil Hamilton a Gareth Bennett, roeddent yn gwbl rhagweladwy. Mae Neil Hamilton yn sôn na chymerwyd tystiolaeth ar y dewisiadau eraill, ond wrth gwrs cymerwyd tystiolaeth gan ystod eang iawn o randdeiliaid. Cafodd pawb gyfle i gyflwyno eu tystiolaeth a chyflwyno eu safbwyntiau, a mater iddynt hwy oedd a oeddent yn dewis gwneud hynny. O ran refferenda, unwaith eto, rydym eisoes wedi clywed nad oes gofyniad yn y gyfraith am refferendwm. Rydym wedi cael dau refferendwm ar sefydlu'r lle hwn ac ar bwerau, ac ni fyddai angen trydydd refferendwm oni bai bod yr Aelod a fyddai'n gyfrifol am fynd â'r ddeddfwriaeth drwy'r chweched Senedd yn nodi mai dyna fyddai'n ei ddymuno i fod yn rhan o'r broses ddeddfwriaethol.

Lywydd, er bod gwneud hyn oll yn fater o fwy o Aelodau, ceisio denu'r penawdau yn y ffordd honno a gwyro oddi wrth unrhyw beth arall yn gweddu i agenda wleidyddol boblyddol rhai o'r bobl yma, rwy'n credu bod yn rhaid inni gydnabod bod honno'n elfen ganolog o'r diwygiadau arfaethedig wrth gwrs. Pe baem wedi cael proses ymgynghori gynrychioliadol ac ystyriol gyda'r cyhoedd fel roeddem wedi bwriadu ei wneud—ac roedd sylwadau Neil Hamilton am gynulliad dinasyddion yn dangos i mi ei bod hi'n amlwg nad yw'n deall beth yw cynulliad dinasyddion a sut y mae'n gweithio, oherwydd mae'n broses ymgynghori gydgynghorol iawn. Gall uno ystod eang o bobl. Roeddem wedi bwriadu gwneud hynny nes i'r pandemig ein taro, ond mae angen o hyd i ni argyhoeddi pobl o'r angen am yr hyn y bwriadwn ei wneud.

Felly, mae llawer mwy i'w wneud o hyd mewn perthynas ag argymhellion yr adroddiad hwn. Mae'n ymwneud â sut y mae'r Senedd hon yn cynrychioli pobl Cymru drwy gynwysoldeb ac amrywiaeth, a sut y gall pobl Cymru ddarparu cynrychiolwyr sydd o ddifrif yn adlewyrchu eu barn gyda system etholiadol sy'n sicrhau bod pawb yn y lle hwn yn uniongyrchol atebol i etholaeth sy'n eu hethol. Ac unwaith eto, mae'n rhaid i mi ddweud wrth Neil Hamilton, nid wyf yn gwybod beth mae'n ei wneud yn ystod ei amser fel Aelod o'r Senedd, ond i'r rhan fwyaf ohonom, mae hon yn swydd 24/7, ac nid tri diwrnod yr wythnos yn eistedd yn Nhŷ Hywel neu yn y Senedd. Mae'n ymwneud â'r gwaith a wnawn yn ein hetholaethau, gyda'n cymunedau yn ogystal â'r gwaith a wnawn yn y lle hwn. 

Lywydd, cyn belled yn ôl â 2004, sefydlwyd comisiwn gennym i edrych ar y materion niferus yn ymwneud â phwerau a threfniadau etholiadol ar gyfer y Senedd hon. Argymhellodd y comisiwn hwnnw y dylid cael mwy o bwerau a mwy o Aelodau. Cawsom y cyntaf, ond nid yw'r ail wedi dilyn eto. Er gwaethaf y comisiwn ac adolygiad McAllister, pleidleisiau yn y Senedd ac adroddiad y pwyllgor hwn, rydym yn dal i drafod y materion sylfaenol hyn. Ond faint yn rhagor o gomisiynau, adolygiadau ac adroddiadau sydd eu hangen arnom i ddweud wrthym beth rydym eisoes yn ei wybod? Mae'n ymwneud yn awr â bod yn ddigon dewr i fwrw ymlaen â hyn, oherwydd byddai'r pecyn cyfan o fesurau'n sicrhau deddfwrfa fwy atebol, mwy ymatebol i anghenion pobl Cymru, a mwy abl i sicrhau llywodraethiant da a llywodraeth dda. Rwy'n gobeithio y bydd y Senedd hon yn cymeradwyo'r adroddiad hwn, ac y gallwn greu consensws gwleidyddol a chyhoeddus a fydd o'r diwedd yn cyflawni'r newidiadau arfaethedig.

16:35

Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwelaf Aelodau'n gwrthwynebu, ac felly gohiriaf y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau—'Amlygu'r materion: anghydraddoldeb a'r pandemig'

Eitem 9 yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 'Amlygu'r materion: anghydraddoldeb a'r pandemig'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—John Griffiths.

Cynnig NDM7406 John Griffiths

Cynnig bod Senedd Cymru:

1. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 'Amlygu’r materion: anghydraddoldeb a’r pandemig', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Awst 2020.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr. Rwy'n falch o agor y ddadl heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar anghydraddoldeb a'r pandemig COVID. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r holl sefydliadau ac unigolion a roddodd o'u hamser i rannu eu safbwyntiau a'u profiadau er gwaethaf y pwysau a roddwyd arnynt gan y pandemig. Roedd ein hadroddiad a'n 44 argymhelliad wedi'u gwreiddio'n fawr yn y dystiolaeth hon.

Wrth gwrs, nid oes yr un rhan o gymdeithas wedi osgoi effaith y pandemig, ond y realiti amlwg iawn yw mai'r unigolion, yr aelwydydd neu'r cymunedau sy'n berchen ar leiaf sydd wedi ysgwyddo'r baich mwyaf—boed yn gyfraddau marwolaeth, incwm is neu effaith ar iechyd meddwl a llesiant. Mae'r pandemig wedi effeithio ar bawb, ond i lawer ohonom, gellir rheoli'r anawsterau, a bydd rhai o ymylon miniog yr anghysur yn cael eu llyfnhau. Nid yw hyn yn wir i'r rheini sydd eisoes yn fwy tlawd a difreintiedig na'r gweddill ohonom. Mae'r pandemig wedi datgelu'r anghydraddoldebau sydd wedi bod yn bresennol yn ein cymdeithas ers llawer gormod o amser. Felly, rwy'n credu ei bod yn addas iawn ein bod ni, yn ein hadroddiad, wedi dyfynnu geiriau Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, a ddywedodd, er ein bod i gyd ar yr un môr,

mae'n amlwg bod rhai mewn cychod pleser tra bod eraill yn crafangu am y rwbel sy'n arnofio ar wyneb y dŵr.

Fel y dywedais, gwnaethom 44 o argymhellion, ac rwy'n falch iawn fod y mwyafrif llethol wedi'u derbyn—derbyniwyd 34 o'r 44 yn llawn, cafodd saith eu derbyn mewn egwyddor, cafodd un ei dderbyn yn rhannol—a dim ond dau a wrthodwyd. Mae'r argymhellion yn cwmpasu ystod eang o feysydd o ddatblygu polisi, data, ymgysylltu â dinasyddion i addysg, budd-daliadau, gwaith teg, hygyrchedd ac iechyd a gofal cymdeithasol. Ni allaf geisio gwneud cyfiawnder â phob un o'r rheini yn yr amser sydd ar gael i mi, felly rwy'n mynd i ganolbwyntio fy sylwadau heddiw yn bennaf ar dlodi.

Mae'n werth nodi inni gyhoeddi ein hadroddiad yn yr hyn sydd bellach yn teimlo fel cam gwahanol iawn yn y pandemig, yn y seibiant llawer rhy fyr wrth i'r cyfyngiadau symud cychwynnol gael eu llacio, ond cyn yr ail ymchwydd o'r feirws sydd wedi arwain at roi bron hanner pobl Cymru yn ôl dan ryw fath o gyfyngiadau lleol. Yn yr adroddiad dywedasom ein bod yn gobeithio y gallai ein canfyddiadau helpu'r ymateb i unrhyw donnau pellach o haint yn ogystal â helpu i lywio'r cynllun adfer, fel na fyddai'r un camgymeriadau'n cael eu hailadrodd.

Fel pwyllgor, rydym wedi bod yn galw am strategaeth trechu tlodi ar draws y Llywodraeth gyfan wedi'i hategu gan dargedau a data clir ers 2017. Yr adroddiad hwn oedd y trydydd tro i ni wneud yr argymhelliad hwn; yn gyntaf, yn ein hadroddiad Cymunedau yn Gyntaf, lle cafodd ei wrthod, ac yna yn ein hadroddiad ar wneud i'r economi weithio i bobl ar incwm isel, pan gafodd ei wrthod eto. Felly, rwy'n falch o nodi rhywfaint o gynnydd yn awr, yn yr ystyr ei fod wedi'i dderbyn mewn egwyddor y tro hwn, ond rwy'n credu y gallai'r sylwebaeth a ddaw gyda'r derbyniad mewn egwyddor fod wedi bod yn llawnach ac yn fwy argyhoeddiadol, o ran ei chynnwys a'i manylder.

Gwyddom na wnaiff strategaethau ar eu pen eu hunain ddatrys problem tlodi hirsefydlog yng Nghymru, a dull clir a strategol, gyda chamau gweithredu wedi'u targedu yn canolbwyntio ar y rhai sydd naill ai'n byw mewn tlodi neu'n wynebu'r perygl mwyaf o fynd yn dlawd, yw'r unig ffordd y gallwn fod yn sicr o wybod bod y camau cywir yn cael eu cymryd ar yr adeg iawn ac yn y mannau cywir.

Gwyddom nad yw Llywodraeth Cymru yn meddu ar yr holl ysgogiadau sy'n angenrheidiol i ddileu tlodi yng Nghymru, ac ychydig wythnosau yn ôl siaradais am yr angen i ddatganoli budd-daliadau ymhellach, ond dyma pam ei bod mor bwysig i Lywodraeth Cymru ddefnyddio'r holl arfau sydd ar gael iddi. Rhaid iddi sicrhau bod pob gweithred yn cael yr effaith fwyaf sy'n bosibl; mae angen iddi gael y data a'r dystiolaeth i'w galluogi i werthuso a monitro llwyddiant a lle bo angen, i newid cyfeiriad.

Nid ein pwyllgor ni yn unig sy'n galw am y strategaeth hon; mae eraill, gan gynnwys Oxfam, yn cytuno â ni. Yn ei hymateb, mae Llywodraeth Cymru yn dyfynnu'r adolygiad o'r rhaglenni trechu tlodi, ond nid yw'n rhoi unrhyw fanylion am y camau y mae'r Llywodraeth wedi cytuno i'w cymryd, felly gofynnaf i'r Gweinidog ddweud wrthym pa gamau a gymerir i gynyddu incwm teuluoedd, ac unigolion hefyd.

Un o'r ffyrdd y mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth yw drwy'r gronfa cymorth dewisol. Fel y dywedodd pennaeth Oxfam Cymru wrthym,

Pe bawn mewn argyfwng ariannol heddiw, ni fyddwn yn rhoi'r ymadrodd "cronfa cymorth dewisol" i mewn i Google.

Ychwanegodd nad oedd digon o bobl yn ymwybodol ohoni. Mae hwn yn fater hirsefydlog, fel y nodwyd gennym yn ein hadroddiad, felly mae'n syndod gweld y Llywodraeth yn ei ddisgrifio fel brand cyfarwydd. Er ein bod yn croesawu'r cymorth ychwanegol sy'n cael ei ddarparu drwy'r pandemig drwy gyfrwng y gronfa cymorth dewisol, a yw Llywodraeth Cymru o ddifrif yn hyderus fod pawb sydd angen y cymorth a gynigir ganddi yn ei gael?

Dylai'r pandemig fod yn gatalydd inni fynd i'r afael o'r diwedd â'r anghydraddoldebau sy'n llawer rhy gyffredin yng Nghymru, nid yn unig i helpu adferiad ar ôl y pandemig, ond i adeiladu gwlad decach a mwy cyfartal ar gyfer y dyfodol. Edrychaf ymlaen yn awr at glywed cyfraniadau o bob rhan o'r Senedd ac at ymateb y Dirprwy Weinidog. Diolch yn fawr.

16:40

Er bod ein hadroddiad yn nodi, ers mis Mawrth

'mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd nifer o fesurau i fynd i'r afael â'r effeithiau penodol neu anghyfartal ar grwpiau arbennig o bobl',

mae hefyd yn nodi bod llawer o ymatebwyr i'n hymchwiliad wedi pwysleisio'r angen am weithredu ar unwaith yn hytrach na chynhyrchu mwy o strategaethau, ac:

'Wrth lunio polisïau a chamau gweithredu sy'n mynd i'r afael â'r materion hyn, rhaid ymgysylltu mewn ffordd wirioneddol ac ystyrlon â'r rheini y mae hyn yn effeithio arnynt fwyaf.'

Mae ymateb Llywodraeth Cymru i argymhelliad cyntaf ein hadroddiad yn datgan y byddant yn

'ceisio dysgu gwersi o'r misoedd diwethaf er mwyn sicrhau bod ystyried effaith yn parhau i fod yn rhan hanfodol o'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn gwneud penderfyniadau.'

Fodd bynnag, fel y mae ein hadroddiad yn dangos, mae hyn yn fwy o fater o ddod, yn hytrach na pharhau i fod, yn rhan annatod o'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn gwneud penderfyniadau. Fel y noda ein hadroddiad hefyd, mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill yn ymgysylltu mewn ffordd ystyrlon 

'fel bod profiad byw yn cael cymaint o ddylanwad â phosibl ar benderfyniadau, a hynny i sicrhau bod gwaith yn digwydd i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb presennol yn hytrach na’i gadarnhau.'

Wrth ymateb i'n hargymhelliad 4, dywed Llywodraeth Cymru, pan fydd adnoddau ar gael, y bydd gwaith adolygu dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn cael ei ailgychwyn. Fodd bynnag, mae naw mlynedd a hanner bellach ers i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus ddod i rym yng Nghymru, wedi'i hategu gan ddyletswyddau penodol gan gynnwys ymgysylltu â phobl, eu cynnwys ac ymgynghori â hwy ac asesu effaith polisïau. Er bod y ddyletswydd hon yn berthnasol i bob awdurdod cyhoeddus rhestredig yng Nghymru, mae fy ngwaith achos cyn ac ar ôl COVID yn llawn o enghreifftiau o awdurdodau cyhoeddus yn creu rhwystrau pellach er anfantais wirioneddol i bobl â nodweddion gwarchodedig, yn enwedig anabledd. Bydd methu ariannu a blaenoriaethu hyn yn awr yn gwaethygu anghydraddoldeb yn ystod y pandemig hwn ac yn rhoi mwy o bwysau ar adnoddau cyhoeddus ar bob lefel.

Mae'r ffaith bod Llywodraeth Cymru ond yn derbyn mewn egwyddor yn unig ein hargymhelliad y dylai gyhoeddi strategaeth lleihau tlodi ar gyfer y Llywodraeth gyfan, gyda thargedau a dangosyddion perfformiad, yn annerbyniol a dweud y gwir. A byddai eu datganiad eu bod yn parhau'n ymrwymedig i ddatblygu eu dull o ymdrin â pholisïau a rhaglenni gwrthdlodi yn y dyfodol yn chwerthinllyd pe na bai hyn mor bwysig. 

Fel y dywed ein hadroddiad, rydym wedi dadlau dro ar ôl tro fod angen strategaeth drawsbynciol, gynhwysfawr i fynd i'r afael â thlodi, gyda thargedau, cyflawniadau a cherrig milltir clir y gellir asesu cynnydd yn eu herbyn, fel y pwysleisiodd ein Cadeirydd o'r blaen. Mae Sefydliad Bevan wedi datgan bod angen strategaeth gwrthdlodi sy'n gosod yn glir y camau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cymryd i leihau nifer y bobl sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru.

Wrth dderbyn ein hargymhelliad 17, dywed Llywodraeth Cymru ei bod am ei gwneud mor hawdd â phosibl i bobl hawlio budd-daliadau datganoledig, megis prydau ysgol am ddim a gostyngiadau yn y dreth gyngor, gan ychwanegu eu bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid allweddol eraill i nodi atebion posibl. Fodd bynnag, mae bron i ddwy flynedd bellach ers i Cartrefi Cymunedol Cymru alw ar Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i weithio gyda'r Ganolfan Byd Gwaith yng Nghymru i gydleoli gwasanaethau a galluogi ceisiadau am fudd-daliadau awdurdodau lleol i gael eu gwneud ar yr un pryd â'r credyd cynhwysol. Unwaith eto, mae Sefydliad Bevan wedi galw ar Lywodraeth Cymru i annog awdurdodau lleol i sefydlu un pwynt mynediad ar gyfer prydau ysgol am ddim, mynediad at y grant datblygu disgyblion a chynllun gostyngiadau'r dreth gyngor. 

Wrth dderbyn argymhelliad 37, mae Llywodraeth Cymru yn datgan ei bod wedi sefydlu grŵp cyfathrebu hygyrch, gan gynnwys sefydliadau sydd wedi tystio i'r anawsterau y profodd rhai sy'n fyddar neu'n drwm eu clyw, yn ddall neu â nam ar eu golwg, sydd ag anawsterau dysgu neu'n awtistig wrth geisio cael gafael ar wybodaeth glir a chryno yn ystod y pandemig coronafeirws. Fodd bynnag, dywedodd un o'r sefydliadau a'i mynychodd wrthyf: 'Roedd y cyfarfod ymhell o fod yn hygyrch i'r rhai a oedd yno. O ddifrif, roedd fel comedi sefyllfa ar sut i beidio â chynnal cyfarfod gyda phobl anabl a phobl fyddar a byddai wedi bod yn ddoniol mewn unrhyw amgylchiadau eraill.'

Yn olaf, wrth dderbyn ein hargymhelliad 38, dywed Llywodraeth Cymru ei bod yn parhau i ystyried cyfleoedd i wella cymorth i'r rheini na allant gael arian cyhoeddus. Fodd bynnag, mae gwasanaethau arbenigol bellach yn galw am eglurder ynglŷn â sut y bydd cymorth digartrefedd i oroeswyr nad oes ganddynt hawl i arian cyhoeddus yn parhau. Er mwyn cefnogi pob goroeswr nad oes ganddynt hawl i arian cyhoeddus yn effeithiol, rhaid i Lywodraeth Cymru ddweud wrthym felly a fydd yn cytuno ar fodel ariannu cynaliadwy gyda gwasanaethau arbenigol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ac awdurdodau lleol yn ystod tymor y Senedd hon i sicrhau eu bod yn cael llety saff a diogel. Diolch yn fawr.

16:45

Hoffwn ddiolch i Gadeirydd ein pwyllgor, yr Aelodau a'r tîm clercio am y gwaith y maent wedi'i wneud ar gyfer yr ymchwiliad a'r adroddiad hwn. Dylem i gyd fod yn ddig am y ffordd y mae COVID-19 wedi effeithio mwy ar rai pobl yn ein cymdeithas nag eraill. Ni ddylai'r dicter hwnnw bylu. Dylem ddefnyddio'r dicter i'n gorfodi i sicrhau ein bod yn newid y ffordd y mae ein cymdeithas yn gweithredu, oherwydd nid yw COVID-19 wedi gosod pawb ar yr un lefel. Mae pobl yn y cymunedau tlotaf nid yn unig wedi gweld cyfraddau marwolaeth uwch, fel y clywsom, maent hefyd wedi bod yn fwy tebygol o golli incwm, o gael llai o waith ac o wynebu cyfnodau o gyfyngiadau symud mewn gofod llai. Ceir cydnabyddiaeth fod tai nid yn unig yn cyflawni swyddogaeth ymarferol, ond hefyd eu bod yn darparu diogelwch a chysur, ac mae pobl heb y diogelwch a'r cysur hwnnw wedi bod yn agored i risg ddiangen a digydwybod.

Mae'r cyfyngiadau symud cenedlaethol a'r cyfyngiadau lleol nawr hefyd yn cael effaith anghymesur ar bobl yn y cymunedau tlotaf. Fel y mae ein hadroddiad yn nodi'n glir, bydd plant sydd â'r cyrhaeddiad addysgol isaf cyn y pandemig wedi disgyn ymhellach ar ôl eu cyfoedion. Mae pobl anabl yn fwy tebygol o wynebu anawsterau oherwydd yr heriau i'r amgylchedd a achosir gan gadw pellter cymdeithasol. Ac wrth gwrs, mae'r rheini sydd â chyfrifoldebau gofalu yn fwy tebygol o fod yn fenywod—er nad bob amser—ac yn fwy tebygol o wynebu anawsterau mewn cyflogaeth, gyda llai o gyfleusterau fel gofal plant, addysg a gofal cymdeithasol arferol ar gael.

Nawr, nid wyf yn dadlau na ddylem gael cyfyngiadau, ond dylem eu targedu'n well ar gadw'r feirws allan o'n cymunedau'n gyfan gwbl, a dylem gael cynlluniau lliniaru ar gyfer ymdrin ag effaith y cyfyngiadau. Ond nid tlodi yw'r unig anghydraddoldeb y dylem ei ystyried. Aeth pobl ifanc 17 a 18 oed drwy'r llanast Safon Uwch ac maent bellach naill ai yn y brifysgol mewn amgylchiadau anodd iawn neu'n wynebu lefelau diweithdra nas gwelwyd ers y 1980au. Mae pobl ifanc a phlant wedi methu gweld ffrindiau a chymdeithasu, sy'n bwysig i'w datblygiad, a hefyd i'w iechyd meddwl a'u llawenydd. Ni ddylid diystyru pwysigrwydd llawenydd ym mywyd neb ohonom. Rhaid inni ddod o hyd i ffyrdd o roi gobaith i bobl ifanc unwaith eto. 

Lywydd dros dro, grŵp arall sydd wedi wynebu straen a phryder digynsail dros y misoedd diwethaf yw pobl hŷn. Nodwyd ddoe nad yw adroddiad y Llywodraeth sy'n edrych ar adferiad ar ôl COVID-19 yn sôn llawer am bobl hŷn, sy'n amryfusedd y mae'n rhaid ei gywiro. Oherwydd mae pobl hŷn, preswylwyr cartrefi gofal yn arbennig, wedi'u hymyleiddio; maent wedi cael eu gwneud i deimlo nad yw eu bywydau'n cyfrif cymaint. Rhyddhawyd dros 1,000 o breswylwyr cartrefi gofal o ysbytai heb brofion, ac mae ymchwiliad ar y gweill gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a'r comisiynydd pobl hŷn i weld a dorrwyd hawliau dynol pobl hŷn.

Mae dyletswydd ar bob un ohonom i sicrhau nad yw naratif ymyleiddio yn magu gwraidd. Mae 94 y cant o bawb a fu farw o COVID-19 wedi bod dros 60 oed. Mae niwed wedi'i wneud ac mae perygl pellach na fydd pobl hŷn a'r cam mawr a wnaed â hwy yn rhan o'r stori y mae'r Llywodraeth hon am ei hadrodd. Rhaid iddynt fod yn ganolog, oherwydd os na ddysgwn y gwersi am y llu o anghydraddoldebau a amlygwyd gan y feirws hwn, bydd yr un patrwm yn cael ei ailadrodd.

Gadewch inni edrych ar yr ymateb cynnar i'r pandemig, yn enwedig agwedd hunanfodlon Llywodraeth y DU, a'i gymharu â thrychinebau eraill sydd wedi dod i ran ein cymunedau tlotaf. Gwelwn batrymau sy'n peri pryder. Yn Grenfell, ni chymerwyd sylw o arwyddion rhybudd am flynyddoedd am nad oedd neb yn gwrando ar y bobl a oedd yn codi llais. Mae'r sefydliad Prydeinig wedi treulio'r blynyddoedd diwethaf yn benderfynol o beidio â dysgu gwersi, peidio â chydnabod cyfrifoldeb a chyfaddef bod tlodi'n amddifadu pobl yn y wladwriaeth hon o gyfoeth, a hefyd o lais. Ni ellir caniatáu i hynny barhau.

Yn yr un modd â COVID-19, golygodd degawd neu fwy o gyni nad oedd digon o stociau o gyfarpar diogelu personol ar gael, tra bod ein system nawdd cymdeithasol ddiffygiol wedi golygu bod llawer o bobl wedi methu hunanynysu pan oedd angen. Dylid adeiladu ein cymdeithas o amgylch anghenion ein dinasyddion mwyaf agored i niwed. Ni all anghydraddoldeb fod yn gatalydd ar gyfer clefydau. Ni ddylai ein dicter leihau. Dylai hon fod yn alwad i'r gad, yn gyfle i bethau newid, nid dim ond adroddiad a nodwyd. Diolch.

16:50

Rwy'n ddiolchgar i chi, Lywydd dros dro. Rhaid imi ddweud bod yr adroddiad hwn yn ddarn rhagorol o waith a chredaf y dylai pob un ohonom fod yn ddiolchgar iawn i John Griffiths fel Cadeirydd, ac i'r holl Aelodau ar bob ochr i'r Siambr a gyfrannodd at yr adroddiad hwn, ac wrth gwrs, y staff a fu'n gweithio arno hefyd. Credaf ei fod yn adlewyrchu'n wael ar rai o'r Aelodau a oedd yma i gyfrannu yn y ddadl flaenorol, ond sydd wedi diflannu'n ôl i ddyfnder eu plastai ar gyfer y ddadl hon, pan fo'r ddadl hon yn dangos pŵer y lle hwn, pŵer y system bwyllgorau a phŵer democratiaeth i ddwyn Llywodraeth i gyfrif. Roeddwn yn falch iawn o fod yn Aelod o'r Senedd hon pan ddarllenais yr adroddiad, oherwydd roeddwn yn falch iawn o'r trylwyredd a'r gwaith a wnaed ar fanylion yr adroddiad hwn. Credaf y bydd pob un ohonom yn falch o weld a chael cyfle i archwilio'r modd y bydd yr adroddiad yn llywio ac yn dylanwadu ar bolisi Llywodraeth yn y dyfodol.

Mae'r canfyddiadau, Lywydd dros dro, mor llwm ag y byddai unrhyw un ohonom yn ei ddisgwyl a'i ragweld ac y byddai unrhyw un ohonom wedi gweld yn ein cymunedau ein hunain dros y misoedd diwethaf—yr effaith y mae'r feirws, y pandemig, wedi'i chael ar bobl sy'n byw mewn tlodi, ar bobl hŷn, ar ethnigrwydd ym mhob rhan o Gymru. Rydym wedi gweld sut nad yw'n feirws sydd wedi taro pobl yn gyfartal, ond sut y mae wedi cael effaith anghymesur ar y bobl sydd, mewn rhai ffyrdd, yn wannach ac yn fwy agored i niwed na neb arall yn ein cymdeithas, ond hefyd y bobl sydd angen cefnogaeth cymuned a Llywodraeth a ddylai fod ar eu hochr hwy. A chredaf fod yr adroddiad yn nodi hynny'n glir, ac mae angen i bob un ohonom gymryd sylw ohono.

Bydd gennyf ddiddordeb mewn clywed sut y mae'r Gweinidog yn ymateb i'r ddadl hon, ond rwy'n ddiolchgar i Weinidogion—ac rwy'n dweud 'Gweinidogion'—dros y misoedd diwethaf am y ffordd y maent wedi rhoi pobl yn gyntaf. Mae'n anodd iawn ymateb i bandemig pan fydd y wyddoniaeth yn newid, pan fydd ein profiad yn tyfu a phan fydd ein gwybodaeth yn tyfu dros amser, oherwydd bydd pobl yn cyfeirio at benderfyniad a wnaed ym mis Mawrth ac yna'n gofyn pam y gwnaed penderfyniad gwahanol ym mis Mai neu fis Mehefin. Bydd pobl yn ceisio sicrwydd mewn gwyddoniaeth nad yw'n bodoli ac felly mae angen i Weinidogion a swyddogion a gwyddonwyr wneud penderfyniadau. Ac mae'r penderfyniadau hynny'n seiliedig, yn amlwg ac yn glir, ar ein gwybodaeth a'n profiad, ond maent hefyd yn seiliedig ar ein gwerthoedd—yr hyn sy'n bwysig. Yr hyn a welsom yng Nghymru yw Llywodraeth sydd wedi'i gwreiddio yng ngwerthoedd rhoi iechyd pobl a lles pobl yn gyntaf, a chredaf fod hynny'n rhywbeth sydd wedi uno pobl ar draws y wlad. A gobeithio y bydd y gwrthbleidiau hefyd yn cydnabod hynny, nid yn unig yn y ddadl hon ond yn y misoedd i ddod.

Hoffwn wneud dau bwynt, Lywydd dros dro. Yn yr un modd ag y mae'r feirws wedi targedu, os mynnwch, y rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, rhaid i gymorth Llywodraeth wneud hynny hefyd. Mae angen i'r Llywodraeth edrych yn galed ar sicrhau, pan fyddwn yn gosod rheoliadau—a chredaf fod y Llywodraeth wedi gweithredu mewn ffordd gwbl gymesur wrth ymdrin â'r materion hyn—fod y mesurau sydd wedi'u rhoi ar waith i ymdrin â'r pandemig yn gymesur â bygythiad y pandemig, ond maent hefyd, wrth gwrs, yn anghymesur o ran eu heffaith ar bobl benodol yn ein cymunedau. Gwyddom fod y rheoliadau wedi effeithio'n anghymesur ar bobl dlawd, menywod, pobl hŷn a phlant, a gwyddom pam mae hynny'n digwydd, a deallwn pam mae hynny'n digwydd, ond mae'n golygu bod angen targedu cymorth y Llywodraeth at y bobl hynny hefyd.

Ac os caf ddweud gair yn arbennig, Lywydd dros dro, am y sefyllfa sy'n wynebu plant ag anghenion dysgu ychwanegol a phlant sy'n dod o gefndiroedd difreintiedig. Gwyddom mai'r plant hyn yw'r bobl sy'n fwyaf tebygol o wynebu bygythiad yn sgil tarfu ar wasanaethau ac ar y cymorth y maent ei angen o ddydd i ddydd, o wythnos i wythnos. A gobeithio, drwy ein holl weithredoedd, y byddwn bob amser yn sicrhau bod cymorth ar gael i blant sy'n dod o gefndiroedd difreintiedig ac sydd ag anghenion dysgu ychwanegol sy'n golygu bod yn rhaid iddynt gael cymorth, oherwydd ni allant ddal i fyny'n gyflym ymhen chwe mis na dal i fyny ymhen mis neu ddau, neu gael y math o gymorth preifat a ddarperir mewn rhai mannau.

Yn yr un modd ag y mae'n rhaid i'r mesurau sy'n mynd i'r afael â'r pandemig gael eu hategu gan fesurau sy'n cefnogi'r bobl, rhaid i'r adferiad wneud yr un peth. Rhaid targedu'r adferiad at y rhai sydd fwyaf ar eu colled, ac roeddwn yn meddwl bod yr adroddiad yn argyhoeddiadol iawn ar y mater hwn. Mae angen inni sicrhau ein bod yn gallu darparu cyllid a darparu adnoddau i sicrhau bod rhwyd ddiogelwch, os mynnwch, gan y cymunedau yr effeithir arnynt fwyaf gan y rheoliadau sydd ar waith, ond hefyd gan yr aflonyddwch economaidd a grëwyd gan y pandemig, ond bod buddsoddi'n digwydd hefyd yn y bobl hynny ac yn y lleoedd hynny yn y pen draw. Rwy'n edrych ar fy sgrin yn awr a gallaf weld fy nghyd-Aelod Dawn Bowden, sy'n cynrychioli'r etholaeth drws nesaf. Mae hi'n gwybod ac rwyf innau'n gwybod sut mae Merthyr Tudful a Rhymni a Thredegar wedi'u cysylltu'n agos, a bydd y cymunedau dros y bryn o'r fan lle rwyf ar hyn o bryd yn Rhymni wedi'u heffeithio lawn cymaint â fy nghymuned i yma yn Nhredegar, ac mae angen inni sicrhau bod gennym gymorth yn ei le.

Lywydd dros dro, ni wnaf—

17:00

Alun, mae eich amser wedi hen orffen. Rwyf wedi bod yn hael iawn, yn enwedig pan oeddech yn rhoi'r geiriau canmoliaethus hynny i'ch cymydog, ond bydd yn rhaid i ni ei gadael yno. Caroline Jones.

Diolch, Lywydd dros dro. Hoffwn ddiolch i Gadeirydd ein pwyllgor a chlercod y pwyllgor am eu gwaith anhygoel drwy gydol yr ymchwiliad hwn. Yn sicr, fe olygodd COVID-19 na fu hwn yn ymchwiliad cyffredin. Roedd gweithio o bell yn gwneud cynnal ymchwiliad o'r fath hyd yn oed yn fwy heriol. Fodd bynnag, mae'r heriau a wynebir gan aelodau'r pwyllgor yn pylu'n ddim o'u cymharu â'r heriau a wynebir gan y gymuned ehangach.

Mae COVID-19 wedi achosi marwolaeth dros 1 filiwn o bobl ledled y byd, a thros 1,600 o bobl yng Nghymru. Yn anffodus, gall hyd yn oed y rheini sy'n gwella o'r clefyd ofnadwy hwn wynebu cyflyrau hirdymor sy'n cyfyngu ar fywyd. Cefais etholwyr yn dweud wrthyf eu bod yn dal i'w chael hi'n anodd anadlu fisoedd ar ôl gwella o COVID-19. Nid yw effeithiau COVID hirdymor ond yn dechrau cael eu deall, ond rhaid i Lywodraethau helpu'r rhai yr effeithir arnynt a sicrhau eu bod yn cael yr holl gymorth angenrheidiol. Mae'r effaith y mae COVID-19 wedi'i chael yn parhau i gynyddu wrth i nifer yr heintiau barhau i ledaenu, ac er mwyn ceisio atal cynnydd esbonyddol yn y gyfradd sy'n marw, caeodd Llywodraethau rannau helaeth o'r economi, gan achosi un o'r cwympiadau economaidd mwyaf mewn hanes.

Fel y darganfu ein pwyllgor, mae'r dirywiad wedi taro ac wedi effeithio'n anghymesur ar y rhai mwyaf difreintiedig yn ein cymdeithas, ac wedi cyfyngu ar gyfleoedd bywyd cenedlaethau iau. Mae mesurau a gynlluniwyd i gyfyngu ar y lledaeniad hefyd wedi cael effaith anghymesur ar iechyd meddwl a lles pobl hŷn a phobl ag anableddau. Er ein bod yn cymryd camau i atal y coronafeirws rhag lledaenu, rhaid inni liniaru'r effaith a gaiff ar fywydau pobl, a'r ffordd orau y gallwn gyfyngu ar yr effaith COVID ar fywydau pobl yw symud oddi wrth y cyfyngiadau symud. Yn anffodus, ni allwn wneud hynny heb i bawb ufuddhau i fesurau cadw pellter cymdeithasol, gwisgo masg mewn mannau cyhoeddus ac arfer hylendid dwylo da, oherwydd mae gweithredoedd hunanol rhai pobl wedi arwain at gynnydd yn nifer yr achosion a chamau anochel i osod cyfyngiadau llymach ar fywydau pobl, cyfyngiadau sy'n effeithio ar iechyd meddwl a lles economaidd pobl, cyfyngiadau sydd wedi cael effaith anghymesur ar genedlaethau iau. Amharwyd ar addysg pobl ifanc, cafodd eu harholiadau eu canslo a newidiodd bywyd prifysgol yn ddramatig.

Fel y darganfu'r pwyllgor, y gweithwyr ieuengaf sydd wedi'u taro galetaf gan y mesurau cau, gyda chyflogeion o dan 25 oed bron deirgwaith yn fwy tebygol o fod yn gweithio mewn sectorau a gaewyd. Yr un gweithwyr ifanc hynny fydd yn gorfod talu'r bil am y biliynau o bunnoedd a wariwyd ac a fydd yn parhau i gael eu gwario i ymdrin ag effeithiau'r pandemig hwn—yr un genhedlaeth ag a adewir i frwydro yn erbyn effeithiau dinistriol newid yn yr hinsawdd a thrychineb ecolegol. Er mai pobl ifanc yw'r lleiaf tebygol o ddioddef effeithiau difrifol yn sgil feirws SARS-CoV-2, anghydraddoldeb mwyaf y pandemig hwn yw mai hwy sy'n fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan fesurau sy'n ceisio cyfyngu ar ei ledaeniad. Rwy'n annog Llywodraeth Cymru i wneud popeth yn ei gallu i liniaru'r effeithiau, i wneud popeth yn ei gallu i sicrhau na fydd unrhyw gyfyngiadau pellach ac i ddarparu cymorth ychwanegol i wella cyfleoedd bywyd pobl dan 25 oed. Diolch yn fawr.

Lywydd dros dro, diolch—fe geisiaf ddringo Everest unwaith eto.

Diolch i fy nghyd-aelodau ar y pwyllgor, a'n Cadeirydd a'n clercod, ac yn enwedig y rhai a roddodd dystiolaeth am ein helpu i gyflwyno argymhellion eang eu cwmpas mewn perthynas ag adroddiad ein pwyllgor ar anghydraddoldeb yn ystod pandemig COVID-19.

Mae un peth yn gwbl glir: mae'r anghydraddoldebau cymdeithasol ac economaidd llym sydd wedi bod yn bresennol erioed wedi miniogi o ganlyniad i'r pandemig. O'r herwydd, mae'r pwyllgor yr un mor glir fod yn rhaid i'r ymatebion i'r pandemig ganolbwyntio ar y rhai sydd wedi bod yn fwyaf agored i niwed yn sgil y feirws hwn ac sy'n wynebu'r perygl mwyaf o weld yr anghydraddoldeb hwnnw'n dyfnhau ac yn magu gwraidd: rhai sydd mewn tlodi eisoes, mewn gwaith ansicr ar incwm isel; rhai sydd â chyrhaeddiad addysgol a lefel sgiliau is, yn y tai gwaethaf, a thai rhent preifat gorlawn ac ansafonol; rhieni sengl, gyda'r mwyafrif helaeth ohonynt yn fenywod; rhai sy'n ennill cyflogau is o grwpiau ethnig sy'n gweithio mewn cyflogaeth ansicr am gyflogau isel, yn agored i'r arafu economaidd a'r anghydraddoldebau iechyd sy'n effeithio ar ddynion a phobl hŷn, ond gyda feirws niweidiol yn targedu pobl o grwpiau penodol o bobl dduon, pobl Asiaidd a phobl o leiafrifoedd ethnig; y menywod sydd, gan mwyaf, wedi ymgymryd â rolau gofalu di-dâl ychwanegol am blant a pherthnasau hŷn yn sgil COVID-19; plant â chyrhaeddiad addysgol isel, a fydd wedi syrthio ymhellach ar ei hôl hi; plant ag anghenion addysgol arbennig neu anghenion dysgu ychwanegol, y bydd diffyg cymorth addysgol a chymorth ehangach hefyd yn effeithio arnynt yn ystod y pandemig; pobl anabl sydd wedi gweld eu byd yn crebachu oherwydd mesurau COVID angenrheidiol; gofalwyr a phobl hŷn sy'n derbyn gofal gartref, neu mewn lleoliad preswyl, sydd hefyd wedi gweld byd COVID yn cau o'u cwmpas; ac ymfudwyr, sy'n fwyaf tebygol o fod yn gweithio yn y sectorau sydd wedi cau, ac sydd hyd yn oed yn fwy agored i niwed drwy eu mynediad cyfyngedig at fudd-daliadau a chronfeydd cyhoeddus eraill.

Dyma'r un bobl, ar y cyd ac fel unigolion—oherwydd y tu ôl i hyn mae miloedd ar filoedd o straeon dynol unigol—a oedd eisoes yn agored i dlodi ac anghydraddoldeb o'r blaen, ond mae gwyntoedd llym coronafeirws wedi chwalu'n rhacs yr amddiffynfeydd a oedd ar waith yn flaenorol. Felly, rwy'n falch fod y Llywodraeth wedi derbyn, neu wedi derbyn i raddau helaeth neu mewn egwyddor, y mwyafrif helaeth o'n hargymhellion—felly, er enghraifft, ar asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb, i gydymffurfio â'n rhwymedigaethau hawliau dynol a'n dyletswyddau cydraddoldeb y sector cyhoeddus; ar iechyd a gofal a chasglu data sy'n gysylltiedig â'r coronafeirws; ar effaith Deddf Coronafeirws 2020 ar fesurau sy'n effeithio ar ddyletswyddau gofal cymdeithasol ac iechyd meddwl; ar strategaethau lleihau tlodi a thargedau a dangosyddion perfformiad; ar brydau ysgol a gwyliau'r haf; ar fesurau gwaith teg i adferiad a arweinir gan werthoedd, a gweithredu argymhellion y Comisiwn Gwaith Teg; ar gyllid ychwanegol i wasanaethau cynghori ar fudd-daliadau a chyflogaeth a gwahaniaethu, yn enwedig ar gyfer cyflogeion BAME ac anabl; ar ymgyrch i annog pobl i hawlio budd-daliadau; ar archwilio hawl awtomatig i fudd-daliadau datganoledig; ar adolygu a chyflwyno offeryn asesu grŵp cynghorol BAME; ar hyrwyddo gwaith teg a hyblyg i bob cyflogwr sy'n cael cymorth gan Lywodraeth Cymru; cynyddu incwm gofalwyr di-dâl drwy ostyngiadau yn y dreth gyngor; ar adolygu hygyrchedd ac argaeledd gwasanaethau iechyd meddwl, yn enwedig i ddynion o grwpiau economaidd-gymdeithasol is; ar ddarparu model ariannu cynaliadwy ar gyfer y sector trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol cyn diwedd y Senedd hon; ar gasglu data ar gyfer dioddefwyr hŷn sydd wedi dioddef camdriniaeth; ar ddiweddaru ac adolygu cydlyniant cymunedol a chynlluniau a fframweithiau troseddau casineb; a rhaid i mi ddweud, ar lobïo Llywodraeth y DU am godi cyfyngiadau i'r rheini 'nad oes ganddynt hawl i arian cyhoeddus'; ar hyfforddiant ymwybyddiaeth ymfudwyr i staff cyhoeddus ar y rheng flaen; ac ar dargedu cymorth cyflogaeth at y rhai sydd bellaf o'r farchnad lafur, ac yn y blaen.

Nawr, mae'r Llywodraeth wedi gwrthod un neu ddau o'n hargymhellion gyda rhesymau, a dim ond mewn egwyddor y maent wedi derbyn rhai ohonynt, fel y dywedais. Ond rwy'n croesawu'r ffaith bod gennym Lywodraeth sydd wedi ymateb yn gadarnhaol i'r mwyafrif llethol o'r argymhellion, ac yn wir nid yw wedi oedi cyn gweithredu ar lawer ohonynt yn barod. Mae'n amlwg wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau sydd wedi'u hamlygu i'r fath raddau gan y pandemig hwn. Os daw unrhyw beth cadarnhaol o gwbl allan o drasiedi bersonol a dynol COVID-19, lle mae llawer wedi colli eu bywydau a'u hanwyliaid, does bosibl nad ailgadarnhau ein hymdrechion i leihau'r anghydraddoldebau mewn bywyd sy'n deillio ar hap o amgylchiadau geni a daearyddiaeth pobl fydd hynny. Gadewch i ni estyn ein dwylo ymhellach i helpu pobl i godi ar eu traed pan fydd y byd i'w weld bob amser yn eu llorio. Diolch.

17:10

Diolch, Lywydd dros dro. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i John Griffiths a'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau am gyflwyno'r ddadl hon heddiw, am y gwaith y mae'r pwyllgor wedi'i wneud i gynhyrchu adroddiad cynhwysfawr iawn, 'Amlygu'r materion: anghydraddoldeb a'r pandemig'. Rhaid imi ddweud bod hwn yn adroddiad sy'n sylfaenol bwysig i Lywodraeth Cymru o ran ein hymatebion ac o ran cwmpas eang y materion a'r argymhellion a gyflwynwyd gennych. Wrth gwrs, rydym wedi ymateb i'r pwyllgor ar bob argymhelliad, gan fynd i'r afael â'r polisïau a'r ymatebion i'r pandemig o bob rhan o Lywodraeth Cymru, a chredaf fod hwnnw'n bwynt hollbwysig i'w wneud. Cymerodd ymchwiliad y pwyllgor dystiolaeth o bob rhan o sbectrwm cyfrifoldebau Llywodraeth Cymru, ac mae llawer o Weinidogion yn ymgysylltu ac yn ymateb, gan alw am ymateb ar draws y Llywodraeth i asesu effaith y pandemig a'r anghydraddoldebau y mae wedi'u hamlygu, mater y gwnaethoch siarad mor rymus amdano yn y ddadl hon. Ac rwy'n cytuno â'r Cadeirydd, John Griffiths, fod angen inni ddefnyddio'r holl arfau sydd ar gael i ni i fynd i'r afael â thlodi ac anghydraddoldeb, ac mae eich adroddiad a'r ymatebion a roesom yn dangos sut y gallwn fynd i'r afael â hyn ac yn arbennig, ar draws yr holl argymhellion mewn gwirionedd, mae'n ymwneud â'ch argymhelliad 7.

Credaf fod y ffocws ar gydraddoldeb a hawliau dynol yn sylfaenol. Mae'n allweddol i themâu ac argymhellion yr adroddiad. Mae'n cyd-fynd â'n hymrwymiad i benderfyniadau cadarnhaol iawn o ran yr effaith ar gydraddoldeb a nodir yn ein 'Arwain Cymru allan o'r pandemig coronafeirws: fframwaith ar gyfer adferiad', a hefyd 'Llacio'r cyfyngiadau ar ein cymdeithas a'n heconomi', ac yn wir yr adroddiad ar ailadeiladu Cymru a gyflwynwyd gan y Cwnsler Cyffredinol brynhawn ddoe. Ond yr hyn sy'n glir o'r adroddiad, a'r hyn rydym yn ei wybod wrth i ni fyw ein bywydau bob dydd, ac fel rydych chi i gyd wedi rhoi tystiolaeth mor glir ohono, yw bod y pandemig hwn wedi cyffwrdd â phob agwedd ar gymdeithas. A gwyddom nad yw effaith y pandemig wedi'i deimlo'n gyfartal, gydag effeithiau anghymesur ar ein dinasyddion duon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, ein pobl hŷn, pobl anabl, pobl dlawd, ar blant, pobl â chydafiacheddau—rydych wedi siarad am bob un o'r rhain sydd dan fwyaf o anfantais—y rhai sy'n dioddef problemau iechyd meddwl a'r rhai sy'n ddigartref, ymhlith eraill; yn fyr, aelodau mwyaf difreintiedig ein cymdeithas. Ac mae'r effeithiau anghymesur hyn ar flaen ein gwaith, ac rwy'n ddiolchgar i'r nifer o bobl a sefydliadau sydd nid yn unig wedi rhoi tystiolaeth i chi ond wedi ymuno â ni yn Llywodraeth Cymru i'n helpu i gynllunio camau gweithredu priodol. Wrth inni ymateb i'r argyfwng iechyd hwn, ein nod oedd diogelu'r rhai mwyaf difreintiedig, gan geisio nodi a mynd i'r afael â'r effeithiau anghymesur wrth iddynt ddod yn amlwg. 

Siaradais yn helaeth ddoe yn y ddadl ar hil—y ddadl yn erbyn hiliaeth ac anghydraddoldebau ar sail hil—am y gwaith rydym eisoes wedi'i wneud, gwaith rydych chi'n ei gydnabod yn yr adroddiad: grŵp cynghorol iechyd BAME Cymru ar COVID-19, dan arweinyddiaeth y Barnwr Ray Singh, sy'n ein cynghori ar gamau gweithredu i fynd i'r afael â'r gwahaniaeth arswydus yn nifer y marwolaethau o COVID-19 ymhlith pobl BAME; yr offeryn asesu risg a grybwyllwyd yn y ddadl, ac a ddatblygwyd gan yr Athro Keshav Singhal, sy'n cael ei ddefnyddio yn awr i ddiogelu bywydau pobl yn y gwasanaeth iechyd, gofal cymdeithasol a thu hwnt; ac wrth gwrs, argymhellion yr Athro Ogbonna i'r grŵp economaidd-gymdeithasol, sy'n cael eu gweithredu. 

Mae ystyriaethau cydraddoldeb a hawliau dynol wedi bod yn sylfaenol i bob penderfyniad ynglŷn â sut i ymateb i'r argyfwng iechyd a gweithio tuag at adferiad, ac mae'n rhaid i ni ystyried rhai o'r camau rydym wedi'u cymryd ac unwaith eto, mae'n bwysig—mae'r craffu hwn drwy eich adroddiad yn ein helpu gyda'r ystyriaethau hynny. Ac un pwynt yr hoffwn ei wneud o ran argymhellion yw ein bod yn deall yn iawn yr anesmwythyd y mae'r pwyllgor ac eraill wedi'i fynegi ynglŷn â Deddf Coronafeirws 2020, adran 12, sy'n ymwneud â gofal cymdeithasol—anesmwythyd a rennir ymysg llawer o'n partneriaid allweddol a'n rhanddeiliaid yr effeithir arnynt. Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi gofyn i'w swyddogion gynnal ymarfer ymgysylltu cyflym i ofyn am safbwyntiau rhanddeiliaid, a bydd yn defnyddio'r canlyniadau i lywio penderfyniadau ynglŷn ag atal neu gadw'r darpariaethau hyn. Dechreuodd yr ymgynghoriad hwn ar 2 Hydref, a daw i ben ar 2 Tachwedd, gyda phenderfyniadau'n cael eu gwneud yn fuan wedyn. Os mai'r canlyniad yw dileu'r darpariaethau, rhagwelwn y gallai'r is-ddeddfwriaeth angenrheidiol, o'i gwneud ym mis Tachwedd neu ddechrau mis Rhagfyr, ddod i rym yn gyflym iawn, yn amodol ar ystyriaeth y Senedd. Felly, rydym eisoes yn ymateb i'r argymhellion hynny.

Gan droi at yr argymhellion y dylem adeiladu ar weithredu'r cysylltiadau iechyd cyhoeddus sydd wedi'u hargymell yng ngrŵp cynghorol BAME, rwy'n derbyn yr argymhelliad hwnnw'n llwyr, fel y dywedais ddoe, ac rydym yn parhau i sicrhau ein bod yn ei gael yn iawn o ran sut rydym yn cyfleu'r neges a sut rydym yn gweithio gyda grwpiau difreintiedig, a'n bod yn cael y cyfathrebu'n iawn. Dyna pam y mae ein fforwm cydraddoldeb i bobl anabl mor bwysig, a gall y grŵp cyfathrebu hygyrch ddysgu oddi wrth y rhai sydd â phrofiad byw, pobl anabl, sy'n ymuno â ni i ddweud wrthym sut y dylem gael hyn yn iawn.

Rydym wedi gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i sicrhau bod eu tudalennau gwybodaeth ar y coronafeirws yn cael eu cyfieithu i dros 100 o ieithoedd, a'u dosbarthu drwy ein rhwydweithiau. A hefyd, mae ein gwefan cenedl noddfa yn darparu gwybodaeth wedi'i chyfieithu ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Soniais ddoe am ein cyllid ar gyfer gweithwyr allgymorth llinell gymorth BAME ym mhob bwrdd iechyd ar gyfer gweithio gyda dinasyddion BAME, a chydnabod hefyd fod hyn yn ymwneud ag adeiladu ymddiriedaeth a phawb yn gallu cael cymorth a chyngor perthnasol.

Felly, mae eich adroddiad yn ymdrin â chynifer o feysydd polisi ond mae addysg yn allweddol, ac fe'i crybwyllwyd yn y ddadl. Mae'n amlwg nad yw llawer o ddysgwyr wedi datblygu cymaint ag y gallent a bod rhai wedi cael eu heffeithio'n fwy difrifol nag eraill. Er mwyn mynd i'r afael â hyn, fel y gwyddoch—rydych wedi dweud yn yr adroddiad—cyhoeddodd y Gweinidog addysg fuddsoddiad o £29 miliwn i recriwtio, adfer a chodi safonau er mwyn sicrhau bod ysgolion a disgyblion yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.

Rwy'n derbyn yn llwyr yr angen am well data ar gydraddoldebau. Rydym wedi cymryd camau i wella ansawdd data ar ethnigrwydd a marwolaethau coronafeirws drwy weithredu'r e-ffurflen, gan gynnwys ar gyfer gweithwyr iechyd. A byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid yn y GIG a gofal cymdeithasol i annog camau i gofnodi data cydraddoldeb yn well mewn cofnodion staff a chofnodion iechyd ehangach, a goresgyn amharodrwydd rhai dinasyddion i ddarparu gwybodaeth. Ac rydym wrthi'n gweithio gydag asiantaethau fel y Swyddfa Ystadegau Gwladol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i roi cipolwg newydd ar y data sydd gennym. Yn y bôn—ac unwaith eto, crybwyllwyd hyn ddoe—bydd ein cynlluniau sy'n datblygu ar gyfer uned gwahaniaethau ar sail hil yn cryfhau ein capasiti a'n gallu i weithredu ar yr hyn y mae'r data'n ei ddweud wrthym.

Yn ddealladwy, ataliwyd yr adolygiad o ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yng Nghymru dros dro yn ystod y pandemig, ond mewn ffordd debyg, wrth gwrs, ataliwyd rhwymedigaethau adrodd dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus am chwe mis gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Ond rydym yn ailgychwyn y gwaith hwnnw, gan adeiladu ar y gwaith sydd eisoes ar y gweill i wella'r canfyddiadau a chyhoeddi data ar gyflogaeth a chydraddoldebau eraill. A bydd canfyddiadau'r gwaith ymchwil ar gryfhau cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru yn ffynhonnell bwysig o dystiolaeth ar gyfer gwaith adolygu dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus. 

Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i'r blaenoriaethau a'r uchelgeisiau ar gyfer cenedl gwaith teg a nodir yn 'Gwaith Teg Cymru', ac yn derbyn argymhellion y pwyllgor ein bod yn sicrhau adferiad a arweinir gan werthoedd drwy fabwysiadu mesurau gwaith teg ychwanegol. Rwyf am sôn am wasanaethau cynghori, yr un gronfa gyngor sy'n helpu i ateb y galw cynyddol am fynediad at wasanaethau cynghori, sy'n hollbwysig ar gyfer trechu tlodi; dyfarnwyd £8.2 miliwn o arian grant i ddarparwyr, gan gynnwys gwasanaethau arbenigol ar gyfer budd-daliadau lles, cyflogaeth a gwahaniaethu. 

Ychydig o bwyntiau terfynol cyn i mi orffen. Rwy'n credu bod y pwynt am y gronfa cymorth dewisol a'ch argymhellion yn ei chylch yn bwysig, oherwydd ers 2013 rydym wedi gwneud dros 370,000 o ddyfarniadau, gyda mwy na £66.4 miliwn yn cael ei wario mewn cyllid grant i gefnogi'r bobl fwyaf agored i niwed. Credaf fod yr hyblygrwydd i ddefnyddio'r gronfa cymorth dewisol yn ystod y pandemig wedi bod yn allweddol, a gwn eich bod yn ei groesawu; mae wedi ymateb i anghenion pobl. Ar hyn o bryd, mae 66 y cant o'r gronfa'n ymwneud â thaliadau brys. Ac rydym wrthi'n sefydlu grŵp comisiynydd trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a fydd yn cefnogi dulliau mwy strategol a chynaliadwy o gomisiynu gwasanaethau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, gan gynnwys gwasanaethau plant a phobl ifanc ledled Cymru.

Mae Aelodau wedi sôn am argymhelliad 38. Rwy'n croesawu'r ffaith eich bod yn gofyn i ni lobïo Llywodraeth y DU i godi'r cyfyngiadau i'r rheini nad oes ganddynt hawl i arian cyhoeddus a'ch bod yn ymuno â Llywodraeth Cymru, oherwydd rydym yn dadlau dros newidiadau i'r system fewnfudo ac rydym yn croesawu eich cefnogaeth. Ond nid ydym wedi cael ymateb i lythyr y Cwnsler Cyffredinol, fel y dywedwn mewn ymateb i'r argymhelliad, yn annog yr Ysgrifennydd Cartref i godi'r cyfyngiadau yn ystod argyfwng COVID-19. Ond Llywodraeth Cymru sydd wedi ymateb i wella'r gefnogaeth i'r rheini nad oes ganddynt hawl i arian cyhoeddus. Ond gall y pwyllgor ein helpu i lobïo Llywodraeth y DU, ac yn wir gall ein Ceidwadwyr Cymreig wneud hynny.

Mae'r pandemig wedi amlygu'r anghydraddoldebau yn ein cymdeithas, ac nid yw ymrwymiad Llywodraeth Cymru i leihau'r anghydraddoldebau hyn ac i ddileu tlodi plant wedi llacio, ac rydym yn parhau i weithio i gyflawni ein nodau. A'r wythnos nesaf edrychaf ymlaen at wneud fy natganiad ar y fframwaith troseddau casineb rydym yn ei ddatblygu—yn wir, fe fydd yn Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb. Gwn y bydd pob Gweinidog yn Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â'r materion a gyflwynwyd gennych yn eich adroddiad. Diolch i chi a'ch pwyllgor, Gadeirydd, am gynhyrchu'r adroddiad pwysig hwn i ni yn y Senedd yn y cyfnod heriol hwn. Diolch yn fawr.

17:20

Diolch yn fawr. Wel, hoffwn ddiolch i bawb, yn amlwg, am eu cyfraniadau, a oedd yn eang iawn eu cwmpas, fel yr adroddiad, ond hefyd, rwy'n meddwl eu bod yn dangos angerdd gwirioneddol dros y pryderon sydd gennym i gyd, a grym gwirioneddol y dadleuon a'r pwyntiau a wnaed i ddod o hyd i ffyrdd gwell o fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau a'r gwendidau sydd gennym yng Nghymru, a gafodd eu hamlygu'n eglur iawn, fel y dywedodd cynifer o'r Aelodau, ac fel y nodwn yn nheitl yr adroddiad, gan y pandemig.

Oes, mae'n rhaid targedu'r adferiad at y rhai sydd wedi colli fwyaf, a phan soniwn am adeiladu'n ôl yn well, rhaid iddo ymwneud ag unioni'r anghydraddoldebau sydd eisoes yn bodoli. Felly, roedd yn dda iawn clywed gan y Gweinidog, Jane Hutt, pa mor ymrwymedig yw Llywodraeth Cymru drwyddi draw i'r materion hyn ac i sicrhau bod yr ymateb i'r heriau yn bopeth y mae angen iddo fod. Credaf fod yr ymrwymiad hwnnw, ac unwaith eto, yr angerdd hwnnw, wedi dod drwodd yn glir iawn.

Ydy, mae'n eang ei gwmpas o ran y materion sy'n codi, ac mae'n heriol iawn, ond gwyddom fod rhai pethau eisoes wedi'u gwneud, oherwydd, yn amlwg, mae'n ymwneud â'r tymor byr yn ystod y pandemig yn ogystal â'r tymor canolig a'r tymor hwy. Credaf mai un enghraifft o weithredu ar ran Llywodraeth Cymru, enghraifft a oedd i'w chroesawu'n fawr, oedd y ffordd yr ymdriniwyd â materion yn ymwneud â phobl sy'n cysgu ar y stryd, gyda chyllid ychwanegol, ond hefyd meddwl clir a phartneriaethau cryf a olygai fod y cyllid hwnnw wedi'i ddefnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol. A'i ddilyn wedyn â chyllid pellach fel nad ydym yn llithro'n ôl o'r cynnydd a wnaed, sef yn union yr hyn roedd pawb a oedd yn darparu'r gwasanaethau i bobl sy'n cysgu ar y stryd a phobl ddigartref yn galw amdano a'i eisiau. Felly, dyna un enghraifft dda, rwy'n meddwl, lle gallwn ni yng Nghymru, er mor anodd yw'r heriau, gymryd camau effeithiol a gwneud y cynnydd angenrheidiol, ac mae'n dda cael yr enghreifftiau hynny i'w hadrodd.

Soniodd pobl yn briodol am y materion sy'n ymwneud â'n cymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig ac unwaith eto, credaf fod gennym enghreifftiau yma lle gweithredodd Llywodraeth Cymru yn gyflym i sefydlu'r gweithgor gyda'r Athro Ogbonna. Cynhyrchodd y grŵp hwnnw ffyrdd ymarferol ymlaen, gan gynnwys y pecyn cymorth i asesu risg, ac i weithredu ar y risg asesedig honno, gan ddangos unwaith eto ei bod yn berffaith bosibl, gyda'r math iawn o ymrwymiad a threfniadaeth, i weithredu'n gyflym ac yn ystyrlon. Felly, er mor frawychus yw'r heriau, mae'n enghraifft arall o sut y gellir mynd i'r afael â hwy'n effeithiol ac ymdrin â hwy. Mae angen yr enghreifftiau hynny arnom oherwydd credaf fod angen inni ymgalonogi a sicrhau bod pawb sydd allan yno'n darparu'r gwasanaethau yn deall ei bod yn berffaith bosibl ymdopi â maint yr her drwy gydweithio.

Soniodd llawer o'r Aelodau a'r Gweinidog am yr angen i ymgysylltu'n ystyrlon ac yn effeithiol, a gwn fod Mark Isherwood wedi sôn am hyn, ac mae'n aml iawn yn gwneud hynny, yn briodol ddigon: rhaid inni ddod o hyd i ffyrdd newydd o sicrhau ein bod yn estyn allan at ein cymunedau mewn gwirionedd, at y rhai sy'n fwyaf agored i niwed ac yn yr anhawster mwyaf ac at y rhai sy'n darparu'r gwasanaethau iddynt, er mwyn deall eu sefyllfaoedd yn iawn a sicrhau ein bod yn symud ymlaen gyda'n gilydd mewn ysbryd cydgynhyrchiol, y gwn fod Mark Isherwood, yn briodol iawn unwaith eto, hefyd yn frwd iawn yn ei gylch.

Felly, mae'n amlwg, onid yw, na cheir un ateb sy'n addas i bawb a bod yn rhaid targedu a theilwra polisïau, ymyriadau, cyllid a deddfwriaeth ar gyfer gwahanol anghenion a phrofiadau. Yr unig ffordd y gallwn wneud hynny yw drwy lefel a dyfnder ac ehangder yr ymgysylltu. Rwy'n hyderus o'r hyn a glywsom y bydd Llywodraeth Cymru yn symud ymlaen yn yr ysbryd hwnnw ac yn y ffordd honno. Credaf fod yr argymhellion yn yr adroddiad yn ymarferol a'u bod yn gamau gweithredu yn y tymor byr i'r tymor canolig yn bennaf, ond byddant yn helpu i gynhyrchu gwlad decach, sef yr hyn y mae pawb ohonom am ei gael.

Roedd yn dda iawn clywed Aelodau ac yn enwedig, rwy'n credu, Alun Davies, nad yw'n aelod o'r pwyllgor, yn talu teyrnged i waith staff y pwyllgor yn ogystal ag aelodau'r pwyllgor a phawb a roddodd dystiolaeth. Oherwydd rwy'n credu bod ein pwyllgorau yma yn y Cynulliad yn cyflawni rôl bwysig iawn, ac mae'r staff sy'n eu cefnogi yn gwneud gwaith anhygoel. Yn rhy aml, er ein bod, rwy'n credu, yn gwneud y pwyntiau hynny'n gyson, yng Nghymru gyfan, efallai, yn rhy aml, nid ydym yn canu clodydd yr hyn y mae ein pwyllgorau'n ei wneud a phwysigrwydd y gwaith a'r effaith ymarferol y mae'n ei chael mewn partneriaeth â'r Llywodraeth.

Felly, soniodd Delyth Jewell am dai, a chredaf fod hynny'n rhywbeth y mae'r pwyllgor wedi canolbwyntio cryn dipyn arno dros gyfnod o amser, a hynny'n gwbl briodol, am fod ansicrwydd ym maes tai, gorlenwi tai, tai o ansawdd gwael, ansicrwydd deiliadaeth ac yn y blaen wedi'i fynegi'n gryf o ran yr effaith a gânt ar fywydau pobl yn gyffredinol, ond hefyd ar eu hiechyd. Ac yn y pandemig roedd yn rhan bwysig o natur agored i niwed rhai rhannau o'n cymdeithas, sef y bobl â nodweddion gwarchodedig, ac yn aml iawn ceir y croestorri hwnnw rhyngddynt sy'n eu rhoi mewn sefyllfaoedd anodd iawn, ac mae tai yn aml iawn yn sylfaenol i hynny.

Mae'n rhaid inni ymdrin â'r problemau data eto, fel y dywedodd y Gweinidog, oherwydd mae mor amlwg, onid yw, oni bai ein bod mewn sefyllfa i wybod ble rydym ac a ydym yn symud ymlaen yn effeithiol drwy ddata ystyrlon, nid ydym byth yn mynd i wybod a yw ein polisïau'n cael yr effaith rydym angen iddynt ei chael. Rhaid inni weithio ar hyn i gynhyrchu data mwy ystyrlon, neu fel arall ni chawn byth mo'r sylfaen dystiolaeth sydd ei hangen arnom, a phan soniwn am bolisi sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ni fyddwn yn gallu cefnogi hynny'n iawn â'r data sydd gennym.

Rwy'n gwybod fy mod yn mynd yn beryglus o agos at yr amser sydd ar gael i mi, felly gadewch i mi orffen drwy ddweud, o ran y strategaeth trechu tlodi y buom yn galw amdani'n gyson fel pwyllgor, mae'n rhywbeth y byddwn yn mynd ar ei drywydd ymhellach gyda'r gwaith a wnawn dros weddill tymor y Cynulliad hwn, ond byddai'n dda iawn gweld Llywodraeth Cymru yn nodi rhywfaint o fanylion ac amserlen ar gyfer y camau y bydd yn eu cymryd i gynhyrchu'r strategaeth trechu tlodi hanfodol honno ar gyfer y Llywodraeth gyfan. Rydym wedi galw amdani'n gyson dros gyfnod hir oherwydd y dystiolaeth a gawsom ac oherwydd y gefnogaeth gan sefydliadau allweddol yng Nghymru sy'n gweithio i ddeall a threchu tlodi. Felly, credaf fod grym gwirioneddol i'r argymhelliad hwnnw. Rwy'n falch ei fod bellach yn cael ei dderbyn mewn egwyddor, ond mae angen i ni weld y manylion a'r amserlen y tu ôl i'r derbyniad mewn egwyddor wrth inni symud ymlaen. Diolch yn fawr.

17:30

Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Ni welaf unrhyw Aelod yn gwrthwynebu, ac felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Fe wnawn atal y trafodion yn awr er mwyn caniatáu ar gyfer newid personél yn y Siambr.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:30.

17:35

Ailymgynullodd y Senedd am 17:37, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

10. Dadl Plaid Cymru: Yr heriau sy'n wynebu sectorau'r Celfyddydau, Diwylliant a Threftadaeth

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 2, 3 a 9 yn enw Darren Millar, a gwelliannu 4, 5 ac 8 yn enw Rebecca Evans. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23(iii), ni ddewiswyd gwelliannau 1, 6, 7, 10, 11, 12 a 13 a gyflwynwyd i’r cynnig hwn. Os derbynnir gwelliant 3, bydd gwelliant 4 yn cael ei ddad-ddethol.

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw dadl Plaid Cymru ar yr heriau sy'n wynebu sectorau celfyddydau, diwylliant a threftadaeth, a dwi'n galw ar Siân Gwenllian i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7421 Sian Gwenllian

Cynnig bod y Senedd: 

1. Yn cydnabod pwysigrwydd sectorau celfyddydau, diwylliant a threftadaeth Cymru a’r heriau y mae’r sectorau hyn yn eu wynebu yn sgil COVID-19.

2. Yn croesawu’r archwilio o’r newydd sydd wedi bod ar dreftadaeth amrywiol Cymru yn ystod misoedd y pandemig yng ngoleuni mudiad Mae Bywydau Duon o Bwys ac ymgyrchoedd eraill. 

3. Yn cefnogi galwadau i sicrhau y caiff ein treftadaeth ei hyrwyddo a’i chyflwyno mewn modd sensitif a chynhwysol o’i holl amrywiaeth gyfoethog yn y dyfodol. 

4. Yn gresynu at y ffaith bod cynllun cefnogi swyddi Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn annhebygol o achub llawer o leoliadau celfyddydol a cherddoriaeth byw ac atyniadau diwylliannol rhag cael eu cau, nac achub gyrfaoedd gweithwyr y celfyddydau (llawrydd a chyflogedig) er gwaetha’r ffaith yr oeddent yn hyfyw cyn COVID-19.

5. Yn gwrthwynebu cynigion i ddatblygu un neu ragor o amgueddfeydd milwrol ym Mae Caerdydd. 

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: 

a) gweithio gyda Cyngor y Celfyddydau, Tasglu Llawrydd Cymru, a grwpiau a sefydliadau eraill ym maes y celfyddydau a diwylliant i weithredu argymhellion yr adroddiad: ‘Ailfantoli ac Ailddychmygu: Strategaethau i Gefnogi Gweithwyr Llawrydd ym Maes y Celfyddydau a Pherfformio';

b) defnyddio’r gyfundrefn gynllunio i gyfyngu ar a rheoli’r gallu i adeiladau a ddefnyddid at ddibenion celfyddydol, diwylliannol a threftadaeth cyn i Ddeddf Coronafeirws 2020 ddod i rym gael caniatâd cynllunio newid defnydd tra bo’r pandemig yn parhau i effeithio ar y gallu i ddefnyddio’r lleoliadau hynny at eu prif ddiben; 

c) archwilio creu amgueddfa genedlaethol hanes a threftadaeth pobl ddu a phobl o liw i’w lleoli yn Tiger Bay fel cynnig amgen posibl i’r cynnig ar gyfer un neu ragor o amgueddfeydd milwrol; 

d) sicrhau mwy o gyfranogiad pobl ddu a phobl o liw yn y celfyddydau a chyrff diwylliannol, fel y gelwir amdano yn y Maniffesto ar gyfer Cymru Gwrth-hiliaeth gan Gynghrair Hil Cymru; 

e) sicrhau bod y Gymraeg yn cael lle canolog yng ngweithlu ac allbwn sector y celfyddydau yn ei chyfanrwydd wrth symud ymlaen;

f) cyflwyno gwarchodaeth statudol i atal colli enwau lleoedd Cymraeg o’r amgylchedd naturiol a’r amgylchedd adeiledig; a

g) sicrhau bod pob adran o’r llywodraeth yn gweithredu yn strategol tuag at gyflawni chweched nod llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, sef Cymru â ddiwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu, ac i ymgysylltu'n drylwyr ac yn ystyrlon gyda sectorau’r celfyddydau, diwylliant a threftadaeth wrth wneud hynny.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Mae'n ddrwg gen i am yr oedi. Mae'r celfyddydau yng Nghymru yn cyffwrdd pob un ohonom a phob cymuned. Mae Cymru yn un pair o dalent. Rydyn ni'n genedl lle mae diwylliant yn greiddiol i'n ffordd ni o fyw. Sut fyddai'r misoedd diwethaf wedi bod oni bai am y celfyddydau? Heb yr adloniant, y cyfle i adlewyrchu a'r cyfle i ddod at ein gilydd tra'n aros ar wahân. Mi ddylai Llywodraeth ein gwlad uchafu pwysigrwydd y celfyddydau i'r economi, i gymdeithas, ei rôl ataliol a'i rôl ysbrydol, eneidiol. Ond, nid felly mae hi. Ddoe, cyhoeddwyd 'Ail-greu ar ôl COVID-19: yr heriau a'r blaenoriaethau' gan y Cwnsel Cyffredinol Jeremy Miles, ond prin ydy'r sôn am ddiwylliant; dydy diwylliant ddim yn cael ei ystyried fel mater o flaenoriaeth. Cymdeithas, yr economi, yr amgylchedd, iechyd, gofal cymdeithasol a llesiant, ymgysylltu gwleidyddol a thechnegol ddigidol—dyna ydy'r chwe ardal benodol o flaenoriaeth. Mae un flaenoriaeth fawr ar goll, sef diwylliant a'r celfyddydau. Dyma faes sy'n greiddiol i adferiad y genedl ar ôl COVID. Mae'r ffaith nad ydy o'n cael ei restru yn hynod siomedig, ac yn dweud y cwbl: dydy Llywodraeth Cymru ddim yn gweld ein celfyddydau a'n diwylliant fel blaenoriaeth. Ac yn nogfen Jeremy Miles, does fawr o sôn am unrhyw beth fyddai'n helpu amddiffyn y sector, ei adeiladu nôl yn well na'i ddefnyddio fel arf bwysig yn yr adferiad.

Yn Iwerddon, mae deialog cyson, cadarnhaol rhwng y sector a'r Llywodraeth a gwerthfawrogiad llawn o bwysigrwydd y celfyddydau yn y cynlluniau adfer. Yn Seland Newydd, mae'r sector yn ganolog i'w hadferiad; fe roddwyd gwaith i gannoedd o artistiaid yn ysgolion y wlad fel rhan o'u cynlluniau adferiad. Mae nifer fawr o wahanol gynlluniau a chronfeydd o gefnogaeth, a rhaglen benodol adferiad celfyddydau a diwylliant sy'n cynnwys pob rhan o'r sector. O, am gael gweledigaeth ddychmygus o'r math yma yng Nghymru.

Yng Nghymru, mae'r celfyddydau a'r sector creadigol mewn cors ar hyn o bryd, neu fel llong fawr, hardd heb gapten wrth y llyw. Wrth siarad â rhanddeiliaid ar draws Cymru, yr un ydy'r neges: does gan y Llywodraeth ddim gweledigaeth glir; mae yna ddiffyg arweiniad a diffyg cyfathrebu efo'r sector drwyddi draw, gan gynnwys efo'r undebau creadigol, gyda llaw. 

Mae yna ambell i ddatblygiad positif, oes, fel y gweithgareddau yn Theatr Clwyd i enwi ond un, ond, ar y cyfan, mae'r cyfnod clo wedi tanlinellu'r gwendidau mawr oedd yno yn barod. Model o'r top i lawr sydd gennym ni yng Nghymru, efo cyngor y celfyddydau yn cael arian i weinyddu, a hwnnw yn 'trickle-o' lawr. Ond, nid dyna weledigaeth Plaid Cymru. Yn hytrach, rydyn ni'n rhoi'r pwyslais ar ddiwylliant llawr gwlad yn bwydo i fyny ac yn porthi'r sefydliadau.

Un ecoleg fawr gron ydy'r celfyddydau yng Nghymru, gyda'r gwahanol elfennau yn atgyfnerthu ei gilydd. Ond, i'r olwyn ecolegol gelfyddydol weithio'n iawn, rhaid parchu pob rhan ohoni hi a chefnogi pob rhan. Heb weithwyr llawrydd, byddai'r system yn dymchwel; heb y sefydliadau, fyddai yna ddim prosiectau na seilwaith i gefnogi ymarferwyr artistig unigol.

Ond, ble mae pwyslais Llywodraeth Cymru? Ar ddenu cwmnïau ffilm o'r tu allan a'u canoli yng Nghaerdydd, yn hytrach na meithrin ein creadigrwydd cynhenid ein hunain o'r gwaelod i fyny. Daeth yna gyhoeddiad dros y penwythnos fod Llywodraeth Cymru wedi taro bargen efo cwmni Great Point, sy'n dod i Seren Stiwdios—enw newydd Pinewood. Pam na all Llywodraeth Cymru ffocysu ar helpu'r sector a chwmnïau Cymreig ar lawr gwlad, yn hytrach na chwmnïau mawr rhyngwladol?

Mae'r sector cyfrwng Cymraeg dan fygythiad penodol. Mae tystiolaeth gan Gomisiynydd y Gymraeg i'r pwyllgor diwylliant a'r Gymraeg yn nodi bod angen i'r sector Cymraeg ei iaith dderbyn cefnogaeth benodol oherwydd y cyfleoedd y mae'n eu cynnig i siaradwyr Cymraeg gymdeithasu yn y Gymraeg, ac mae angen sicrwydd yn y tymor hir fod y Gymraeg yn cael lle canolog yng ngweithlu ac allbwn sector y celfyddydau yn ei gyfanrwydd wrth symud ymlaen.

Dwi'n troi at ein sefydliadau diwylliannol cenedlaethol allweddol, a dwi am sôn am dri yn unig. Mae'r llyfrgell genedlaethol wedi dioddef o ganlyniad i dangyllido systematig gan Lywodraeth Cymru dros nifer o flynyddoedd, ac mae'r adolygiad teilwredig sydd newydd ei gyhoeddi yn mynegi pryder mawr ynghylch dyfodol y llyfrgell genedlaethol, gan nodi'r glir iawn nad ydy'r sefyllfa bresennol yn gynaliadwy. 

Mae sefyllfa'r amgueddfa genedlaethol yn fregus hefyd, ac yn sicr mae tanfuddsoddi wedi bod, yn arbennig o ran isadeiledd a chynnal a chadw'r safleoedd. Yr Urdd: mae Urdd Gobaith Cymru yn wynebu'r hyn a ddisgrifiwyd gan ei brif weithredwr fel cyfnod mwyaf heriol ei 98 mlynedd o hanes o ganlyniad i'r sefyllfa COVID-19. Mae'r mudiad yn wynebu gostyngiad incwm o £14 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf.

Mae'n rhaid i ni wrthwynebu'r amarch sy'n cael ei ddangos tuag at ein sefydliadau cenedlaethol; at y celfyddydau drwyddi draw ac at y gweithwyr yn y diwydiant. Fe welwyd enghraifft berffaith o'r amarch yma ddoe gan Rishi Sunak. Fe aeth ati i gynddeiriogi cerddorion efo'i sylwadau amharchus.

Mi roedd Llywodraeth San Steffan yn gyndyn iawn o roi cymorth ariannol i'r celfyddydau pan oedd y pandemig ar ei anterth, a phan ddaeth cyfran o'r arian hwnnw i Gymru, yn llawer rhy hwyr yn y dydd, roedd £6 miliwn ohono fo ar goll. A dim ond wythnos diwethaf y cyhoeddwyd cronfa gwerth £7 miliwn ar gyfer gweithwyr llawrydd—yr arian coll yn ffeindio'i ffordd i'r artistiaid o'r diwedd bellach? Ond yn rhy hwyr i lawer sydd wedi hen roi'r gorau i geisio cynnal bywoliaeth yn y celfyddydau, ac mae'n gwlad ni ar ei cholled o'r herwydd. 

Mae'r cyfnod clo wedi tynnu sylw at bwysigrwydd y celfyddydau, yn ymgais y ddynoliaeth i wneud synnwyr o'r byd o'n cwmpas, ond mae o hefyd wedi tynnu sylw at ba mor fregus ydy'r sector yng Nghymru a bod yna lawer iawn o waith i'w wneud cyn gwireddu gweledigaeth Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, sydd am weld diwylliant a'r celfyddydau yn rhan gwbl ganolog o bopeth yr ydyn ni yn ei wneud yng Nghymru. 

Mae angen gwreiddio gweithgarwch diwylliannol yn y gymdeithas a'r economi a chreu cydberthynas fywiol, ryngweithiol rhwng y celfyddydau a phob agwedd ar fywyd y genedl. Nid dyna le'r ydyn ni ar hyn o bryd, ond dyna le'r ydyn ni'n mynd pan fydd Plaid Cymru mewn grym yn y lle hwn.

17:45

Rwyf wedi dethol chwech o'r 13 gwelliant a gyflwynwyd i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 3, caiff gwelliant 4 ei ddad-ddethol. Ac yn unol â Rheol Sefydlog 12.23, nid wyf wedi dethol gwelliannau 1, 10, 11, 12 ac 13 a gyflwynwyd yn enw Neil Hamilton, na gwelliannau 6 a 7 a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Dwi'n galw nawr ar Laura Anne Jones i gynnig gwelliannau 2, 3 a 9 a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Laura Anne Jones.

Gwelliant 2—Darren Millar

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

Yn croesawu pecyn achub y celfyddydau gwerth £1.57 biliwn gan Lywodraeth Ei Mawrhydi a'r swm canlyniadol o £59 miliwn sy'n deillio ohono i Gymru. 

Gwelliant 3—Darren Millar

Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:

Yn croesawu cynlluniau ar gyfer amgueddfa meddygaeth filwrol ym Mae Caerdydd ac yn cydnabod pwysigrwydd lleoliadau ledled Cymru sy'n dathlu treftadaeth filwrol gyfoethog Cymru.

Gwelliant 9—Darren Millar

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 6:

yn nodi canlyniad yr adolygiad annibynnol o ariannu Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac yn galw am gynnydd o £1.445 miliwn mewn cyllid sylfaenol yn y flwyddyn ariannol nesaf i roi cyllid y sefydliad ar sail gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. 

Cynigiwyd gwelliannau 2, 3 a 9.

Diolch, Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliannau yn enw Darren Millar. Rydym i gyd yn cydnabod gwerth y celfyddydau a diwylliant yn ein cymdeithas. Yn ogystal â chyfoethogi ein bywydau, mae'r celfyddydau a diwylliant yn cael effaith ehangach sy'n haws ei mesur ar ein heconomi, ein hiechyd a'n lles, ein cymdeithas a'n haddysg. Mae'r pandemig presennol yn parhau i gael effaith ddinistriol ar ein diwydiannau celfyddydol a chreadigol. Mae theatrau, orielau, lleoliadau cerddoriaeth, safleoedd treftadaeth, amgueddfeydd, llyfrgelloedd, archifdai, gwyliau a sinemâu oll mewn perygl.

Mae Llywodraeth Geidwadol y DU yn deall bod heriau difrifol yn wynebu'r celfyddydau a'r angen i'w cadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Dyna pam y cyhoeddasant becyn achub enfawr o dros £1.5 biliwn ym mis Gorffennaf i helpu i oroesi effaith y coronafeirws. Gall miloedd o sefydliadau ar draws ystod o sectorau gael gafael ar y grantiau a'r benthyciadau brys. Dyma'r buddsoddiad untro mwyaf erioed yn niwylliant y DU, gan ddarparu achubiaeth hanfodol i sefydliadau diwylliannol a threftadaeth ym mhob cwr o'r wlad. O ganlyniad i'r cyllid newydd hwn, mae Cymru'n cael £59 miliwn o arian canlyniadol ychwanegol, fel yr amlinellwyd yn gynharach, ac rydym yn croesawu hynny yng ngwelliant 2. 

Fodd bynnag, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog yn ei gronfa adferiad diwylliannol na fyddai'n cynnwys swm llawn y cyllid a ddarperir. Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, David Melding, ar y pryd, mae Gweinidogion Cymru wedi gwneud cam â'r celfyddydau. Carwn ofyn i'r Dirprwy Weinidog: i ble mae'r cyllid ychwanegol wedi mynd, pam nad yw'n cael ei ddefnyddio i ddiogelu bywoliaeth pobl yn ein diwydiannau creadigol a pham nad yw'r arian hwnnw'n helpu i sicrhau dyfodol lleoliadau hamdden a threftadaeth a sefydliadau eraill sy'n cyfrannu at dapestri cyfoethog bywyd Cymru?

Nid yw holl broblemau'r sector diwylliant wedi deillio o'r coronafeirws. Daeth yr adolygiad diweddar o Lyfrgell Genedlaethol Cymru ar ôl 10 mlynedd o broblemau ariannol, gydag incwm yn gostwng yn raddol o flwyddyn i flwyddyn a gostyngiad o 23 y cant yn nifer y staff rhwng 2008 a 2019. Daeth yr adolygwyr i'r casgliad nad oedd y llyfrgell genedlaethol wedi bod mor effeithiol nac mor gyson ag y gallai fod wrth ysgogi newid, ac roeddent yn parhau i bryderu am y diffyg cynllun strategol ar gyfer y tymor canolig i'r tymor hir.  Mae ein gwelliant 9 yn nodi canlyniad yr adolygiad annibynnol ac yn galw am gynyddu cyllid llinell sylfaen yn y flwyddyn ariannol nesaf i roi cyllid y sefydliad ar sail fwy cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

Mae ein gwelliant 3 yn ceisio dileu gwrthwynebiad Plaid Cymru i'r cynlluniau ar gyfer amgueddfeydd milwrol ym Mae Caerdydd. Yr amgueddfa gyntaf y cyfeirir ati yw'r amgueddfa meddygaeth filwrol. Byddai'n adrodd hanes pedwar corfflu Gwasanaethau Meddygol y Fyddin: Corfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin, Corfflu Milfeddygol Brenhinol y Fyddin, Corfflu Deintyddol Brenhinol y Fyddin a Chorffluoedd Nyrsio Brenhinol y Frenhines Alexandra. Byddai archifau'r amgueddfa, sy'n mynd yn ôl i'r rhyfeloedd Napoleonig, yn cael eu defnyddio gan ymchwilwyr ym maes meddygaeth a hanes meddygol. Yr ail amgueddfa arfaethedig yw amgueddfa cerddoriaeth y fyddin. Rwyf mor siomedig o weld bod Plaid Cymru yn gwrthod y cynigion hyn. Ni ellir honni mewn unrhyw ffordd fod amgueddfeydd meddygaeth a cherddoriaeth filwrol rywsut yn gogoneddu rhyfel. Drwy adael i'w heddychiaeth gynhenid gymylu eu barn, mae Plaid Cymru wedi amlygu ei dirmyg tuag at y rhai sy'n gwasanaethu ac wedi gwasanaethu yn y canghennau hyn o'n lluoedd arfog, ac unwaith eto mae'n ceisio porthi'r diwylliant canslo a fyddai'n gwyngalchu hanes cenedl falch. Mae cofio rhyfel a choffáu aberth yn sicrhau nad yw'r ddynoliaeth yn ailadrodd yr un camgymeriadau.

Lywydd, mae hwn yn gyfnod heriol i'r sector celfyddydau a diwylliant. Credaf fod cyllid diweddar a ddarparwyd gan Lywodraeth Geidwadol y DU yn dangos ei dealltwriaeth o bwysigrwydd ein hasedau a'n gweithgareddau diwylliannol. Os gweithredwn yn awr, gallwn sicrhau y gall ein sector celfyddydau a diwylliant dyfu a ffynnu pan ddaw'r argyfwng hwn i ben.

17:50

Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth i gynnig yn ffurfiol gwelliannau 4, 5 ac 8 a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans.

Gwelliant 4—Rebecca Evans

Dileu pwynt 5 ac ailrifo yn unol â hynny.

Gwelliant 5—Rebecca Evans

Ym mhwynt 6, dileu is-bwyntiau b) a c) a rhoi yn eu lle:

b) yn cydnabod y pwyslais y mae Polisi Cynllunio Cymru yn ei roi ar les diwylliannol drwy greu cynlluniau a phenderfyniadau cynllunio, sy’n cefnogi’r gwaith o barhau i ddarparu defnyddiau diwylliannol ar gyfer cymunedau drwy ei ddull o greu lleoedd.

c) yn gweithio i sicrhau bod hanes Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn cael ei gynnwys a’i adlewyrchu ar draws rhwydwaith amgueddfeydd Cymru a thrafod ag arweinwyr cymunedau opsiynau i’r dyfodol er mwyn sicrhau sylw cyfiawn i’r hanes yma.

Gwelliant 8—Rebecca Evans

Ym mhwynt 6, dileu is-bwyntiau e) a f) a rhoi yn eu lle:

e) yn gweithio i sicrhau bod y Gymraeg wrth wraidd gweithlu ac allbwn sector y celfyddydau;

f) yn cydnabod pwysigrwydd enwau lleoedd Cymraeg ac yn parhau i ystyried opsiynau er mwyn sicrhau na fyddant yn cael eu colli o’r amgylcheddau adeiledig a naturiol.

Cynigiwyd gwelliannau 4, 5 ac 8.

Yn ffurfiol. Diolch yn fawr i'r Dirprwy Weinidog. Ac felly dwi'n galw nesaf ar Leanne Wood.

Ar y penwythnos, cefais fy nhagio mewn trydariad o ffotograff a dynnwyd yn 1965 yn gofyn i mi a allwn adnabod y lleoliad o'r cefndir. Teitl y ffotograff oedd 'Brass band, Wales', ac fe'i tynnwyd gan Evelyn Hofer. Roedd yn ddarlun o Fand Canol Rhondda, sy'n dal i fynd er gwaethaf yr heriau y mae pob diddanwr yn eu hwynebu oherwydd COVID. Pan rannais y ffotograff ar fy nhudalen Facebook leol, daeth yn amlwg yn gyflym fod cenedlaethau o'r un teuluoedd wedi chwarae yn y band hwnnw, ac roedd disgynyddion ac aelodau o deuluoedd y dynion yn y ffotograff yn ymddangos ar fy nhudalen, a gwelsom aelodau o deuluoedd yn cyfarfod am y tro cyntaf hyd yn oed o ganlyniad i rannu'r llun hwnnw.

Felly, mae llun a dynnwyd ar safle hen lofa yn 1965 yn ardal fy nghartref, Penygraig, yn dweud cymaint am ein diwylliant, ein hanes a phwysigrwydd cerddoriaeth ynddo. Ac wrth gwrs, yn awr, mae'r holl fandiau hyn yn ei chael hi'n anodd. Maent wedi bod yn chwarae gyda'i gilydd ac yn gwneud cerddoriaeth ers degawdau. Maent wedi bod drwy bob math o bethau gyda'i gilydd ac erbyn hyn mae'n bosibl fod COVID yn bygwth eu dyfodol. Mae ein corau yr un fath; ni allant ymarfer ac ni allant ein diddanu. Wrth gwrs, rydym i gyd yn deall y rhesymeg ac mai'r flaenoriaeth o reidrwydd yw atal lledaeniad COVID, ond rhaid inni hefyd beidio â cholli golwg ar faint o fudd y mae pobl yn ei gael o wneud cerddoriaeth a'r hyn sy'n digwydd i ni pan nad oes modd gwneud hynny. Rhaid inni ddod o hyd i ffyrdd, lle gallwn, o alluogi cerddoriaeth i ddigwydd. Mae mor bwysig i gynifer o bobl.

Gan ddychwelyd at y ffotograff hwnnw, fe'm hatgoffodd o eiriau un o'm ffefrynnau, y beirniad diwylliannol Marcsaidd Cymreig, Raymond Williams, pan ddywedodd, 'Mae diwylliant yn gyffredin'. I mi, mae'r datganiad byr a syml hwnnw mor bwysig. Mae cymaint o agweddau ar ein diwylliant bob dydd wedi cael eu newid neu eu dwyn oddi wrthym. Soniais am effaith cerddoriaeth, ond mae'r un peth yn wir am y celfyddydau perfformio, comedi a phob math arall o adloniant byw. Mae pobl yn gweithio'n galed, yn ennill arian, ac ar benwythnosau efallai yr hoffem ddianc gyda chymorth y celfyddydau neu drwy fynd i lawr i'r dafarn neu'r clwb neu hyd yn oed i'r neuadd bingo leol. Mae diwylliant yn gyffredin, ac felly mae diwylliant clybiau gweithwyr yr un mor arwyddocaol a'r un mor deilwng o gael ei warchod ag agweddau mwy traddodiadol ar ein diwylliant. Ac mae hynny'n wir am leoliadau sy'n bwysig i bobl liw, fel caffi Paddle Steamer, neu'r amgueddfa hanes pobl ddu yn Butetown a fyddai'n gwasanaethu llawer mwy o bobl nag amgueddfeydd milwrol sy'n edrych ar gerddoriaeth neu feddygaeth. Sut y mae hyn yn digwydd dan reolaeth Llafur?

Mae cynifer o gymunedau wedi colli eu llyfrgell leol, ac efallai fod tafarndai a siopau wedi cau, yn ogystal â chanolfannau cymunedol. Efallai mai'r dafarn neu'r clwb gweithwyr yw'r unig leoliad sydd ar ôl. Os yw'r rheini'n mynd, dyna ni, bydd cysylltiadau diwylliannol yn cael eu colli. Mae hefyd yn wir am y lleoliadau sy'n bwysig i'n pobl ifanc neu bobl hoyw, fel clybiau nos a lleoliadau cerddoriaeth hwyr y nos sy'n aml wedi'u lleoli yn y mannau gorau yng nghanol trefi neu ganol dinasoedd. Mae angen amddiffyn diogelu'r lleoliadau hyn fel y gall diwylliant clybiau barhau ar ôl COVID, oherwydd mewn clybiau nos, gall pobl bartïa mewn amgylchedd diogel yn hytrach na chael eu denu o bosibl i ddigwyddiadau eraill fel rêfs anghyfreithlon.

Rwy'n gwneud y pwyntiau hyn i sicrhau bod y ddadl hon yn cynnwys pob math o ddiwylliant. Ni ellir ac ni ddylid cael hierarchaeth; mae gan wahanol grwpiau wahanol ffyrdd o fynegi eu hunain yn ddiwylliannol ac mae pob un ohonynt yn ddilys ac mae angen eu diogelu i gyd.

17:55

Wel, dyma'r wythnos y mae Cineworld wedi cyhoeddi eu bod yn cau ei holl sinemâu ledled y DU, gan effeithio ar 5,500 o swyddi. Bydd staff yn cael eu diswyddo dros dro. Ceir dau safle yng ngogledd Cymru, yn Llandudno a Brychdyn. Mae fy nghalon yn gwaedu dros unrhyw un y mae'r penderfyniad yn effeithio arnynt. Dilynwyd y cyhoeddiad ar unwaith gan Odeon yn cyhoeddi'r un peth. Cefais fy siomi'n arbennig gan y datblygiad hwn, gan mai'r sinema oedd fy mhrofiad cyntaf un o fynd allan i gael fy niddanu pan oeddwn yn blentyn. Roedd gweld rhywbeth newydd a chyffrous yn achlysur gwirioneddol. Credaf mai gweld ffilm ar sgrin fawr yw profiad cyntaf llawer o bobl o'r celfyddydau, ac i blant mae'r lluniau a'r pantomeim blynyddol, os ydych yn lwcus, yn llawn o ryfeddod, dihangfa a mwynhad. Ac mewn amrantiad, mae wedi mynd. Ac mae lleoliadau ar hyd a lled y wlad, theatrau bach, lleoliadau cerddoriaeth fyw, clybiau comedi—efallai fod rhai wedi ceisio agor i drefnu digwyddiadau, dim ond i gael eu rhwystro gan gyfyngiadau lleol. Mae'n un cam ymlaen ac yn gamau lawer yn ôl.

Pan welais deitl y ddadl, roeddwn yn meddwl ei fod yn ymyriad amserol a sensitif gan Blaid Cymru, ond roeddwn yn anghywir unwaith eto wrth i mi ddarllen mwy. Fel rwyf wedi datgan o'r blaen, rwy'n hynod wrthwynebus i hongian unrhyw fath o het ar fachyn Black Lives Matter. Er bod y rhain yn deimladau gwych, mae gennyf bryderon mawr ynglŷn â nodau craidd y mudiad ei hun, er y gall Plaid gyflwyno ei hachos ei hun dros gefnogi mudiad sydd am ddatgymalu'r wladwriaeth.

Fel arfer, rydym yn eistedd ym Mae Caerdydd. Arferai fod yn Tiger Bay, ac mae treftadaeth yr ardal wedi'i thrwytho mewn cynwysoldeb a gwahanol gymunedau'n dod at ei gilydd a chartref cysurus i'w threftadaeth forol. Mae'n drueni bod addysg yng Nghymru cyn datganoli yn brin iawn o hanes Cymru; rwy'n credu ac yn gobeithio bod hyn wedi newid erbyn hyn. Rwy'n gwybod bod fy mhlant wedi cynnal eisteddfodau blynyddol ac wedi mynd i'r ysgol wedi gwisgo i fyny ar 1 Mawrth bob blwyddyn, ond er bod y gwyliau hyn yn ein DNA, nid wyf wedi fy argyhoeddi ein bod wedi cael clywed nac yn cofio eu harwyddocâd hanesyddol neu ddiwylliannol. Felly, credaf y gellir gwneud mwy i feithrin ymdeimlad gwirioneddol o ble y maent wedi dod yn ein plant a sut y mae hyn yn cymryd ei le yn y DU a'r byd ehangach. Ond rwy'n cwestiynu ble roedd Plaid Cymru pan oeddent mewn Llywodraeth rhwng 2007 a 2011, neu a fyddent yn defnyddio'r esgus mai partner iau yn unig oeddent? A ble mae Llywodraeth Cymru? Maent wedi bod mewn grym ers 1999.

Ond rwy'n anghysurus braidd ynglŷn â ffocws y cynnig ar artistiaid yn unig. Rwy'n pryderu'n fawr am y glanhawyr, staff y drws a'r bobl sy'n hongian gweithiau celf ar waliau. Ceir cadwyn gyflenwi gyfan ar gyfer y diwydiant adloniant a fydd yn poeni ynglŷn â thalu eu biliau hwythau hefyd. Rhaid i mi gyfaddef eich bod wedi fy ngholli ar bwynt 5 eich cynnig.

Fe ailadroddaf yr hyn a ddywedodd Laura Jones yn gynharach: fy nealltwriaeth i yw mai cynnig ar gyfer amgueddfa meddygaeth filwrol ym Mae Caerdydd ydyw. Felly, fel mam i fab sy'n gwneud gwasanaeth milwrol, rwy'n falch iawn o'i wasanaeth milwrol, yn falch iawn o unrhyw gyn-filwr ac yn falch iawn o'r ffiniau meddygol a wthiwyd yn ystod llawdriniaethau meddygol mewn rhyfeloedd. Mae Plaid Cymru yn sgorio gôl yn ei rhwyd ei hun yma, oherwydd un o nodau datganedig yr amgueddfa hon yw casglu straeon am filwyr o Gymru sy'n gwasanaethu mewn catrodau Cymreig. Felly, da iawn chi, Blaid Cymru—neu ddim.

Credaf fod y pecyn cymorth ariannol a luniwyd gan Lywodraeth y DU wedi bod yn eithaf cynhwysfawr, er fy mod yn gwybod bod llawer o bobl, yn enwedig pobl hunangyflogedig, ar eu colled a phrin yn gallu ymdopi. Ceir llawer o swyddi a oedd yn hyfyw cyn COVID a llawer na fyddant yn goroesi'r cyfyngiadau. Mae'n siŵr y bydd llawer o gyhoeddiadau eraill yn dilyn y cyhoeddiad yr wythnos hon. Efallai eich bod wedi dyfalu nad wyf yn dadlau—[Anghlywadwy.]—mesurau, ac nid yw fy ngrŵp erioed wedi pleidleisio dros y cyfyngiadau, oherwydd pethau fel hyn. Dyma yw'r canlyniad a gewch yn sgil y rheini. Felly, i'r rhai a bleidleisiodd dros y cyfyngiadau ac sy'n parhau i wneud hynny: cyfaddefwch mai dyma yw'r canlyniad.

18:00

Rhaid i mi ddweud nad wyf byth yn mwynhau cyfraniadau gan Aelodau nad oes ganddynt unrhyw beth adeiladol i'w ddweud o gwbl. Mae rhai pobl wrth eu bodd yn rhwygo cynigion pobl eraill ac nid oes ganddynt unrhyw beth cadarnhaol i'w ddweud, felly da iawn, Mandy Jones—neu ddim.

Gaf i ffocysu yn fy sylwadau i ar y system gynllunio a sut mae angen i'r gyfundrefn honno newid er mwyn gwneud ei rhan i helpu amddiffyn y celfyddydau, diwylliant a'n treftadaeth ni? Efallai nad oes yna gysylltiad amlwg rhwng y ddau beth, ond dŷn ni'n gwybod bod yna nifer o leoliadau sydd wedi eu defnyddio at y dibenion yma bellach dan fygythiad oherwydd y pandemig. Mae nifer wedi eu gorfodi i gau oherwydd amgylchiadau ac, o ganlyniad i hynny, wedi colli incwm, ac mae rhywun yn poeni y byddwn ni yn colli rhai o'r safleoedd yma gan y byddan nhw efallai'n gorfod cau'n barhaol. Bydd eraill, efallai, yn mynd i drafferthion ariannol, a bydd hynny i gyd yn creu pwysau wedyn pan fydd hi'n dod i'r asedau maen nhw'n berchen, yr adeiladau, neu, wrth gwrs, os ydyn nhw'n eu rhentu, efallai'n gorfod symud. Mae llawer o'r cyrff  a'r endidau yma yn bodoli mewn lleoliadau sy'n hynod o ddymunol mewn ardaloedd trefol, mewn adeiladau trawiadol, adeiladau cyfnod yn aml iawn, a dŷn ni'n gallu gweld yn barod, dwi'n meddwl, sut y byddai datblygwyr, hapfasnachwyr yn eu gweld nhw yn prospect atyniadol iawn o safbwynt gwneud ambell i geiniog, ac mae rhywun yn poeni y byddwn ni'n gweld fflatiau ac apartments a phob mathau o bethau yn cael eu datblygu yn y safleoedd yma.

Felly, heb gefnogaeth ddigonol gan Lywodraethau Cymru a'r Deyrnas Unedig, mae yna risg y byddwn ni'n colli nifer o'r safleoedd a'r lleoliadau pwysig yma yn y dyfodol. Ond mae yna ffordd effeithiol a di-gost i'r Llywodraeth fynd ati i amddiffyn y mannau yma, trwy wneud mwy o fewn y drefn cynllunio i reoli newid defnydd yr adeiladau yma—nid gwahardd newid defnydd yn llwyr, ond fel mae'r cynnig yn ei ddweud, 

'defnyddio’r gyfundrefn gynllunio i gyfyngu ar a rheoli’r gallu'

i newid eu defnydd tra bo'r pandemig yn parhau i effeithio ar y gallu i ddefnyddio'r lleoliadau hynny at eu prif ddiben. Hynny yw, defnyddio'r system gynllunio i greu rhyw fath o firewall dros dro o gwmpas y lleoliadau celfyddydol pwysig yma a diwylliannol arwyddocaol iawn tan i'r sector gael yn ôl ar ei thraed. Oherwydd os collwn ni'r lleoliadau yma yn y cyfnod hwn, ddown nhw ddim yn ôl. Unwaith y byddan nhw wedi eu gwerthu a'u datblygu, mi fydd yr adnoddau celfyddydol, diwylliannol, cymunedol bwysig, cymdeithasol bwysig yma sydd wedi bod yn nodwedd mor bwysig o dreftadaeth cymaint o gymunedau ar draws Cymru wedi cael eu colli am byth.

Rŷn ni'n cofio sut y gwnaeth y system gynllunio fethu amddiffyn lleoliadau cerddoriaeth yn y gorffennol—nifer wedi cau am ei bod hi'n fwy proffidiol i ddatblygwyr wneud rhywbeth â nhw yn hytrach nag iddyn nhw barhau fel lleoliadau cerddoriaeth. Rŷn ni'n cofio ymgyrch arbed Stryd Womanby yng Nghaerdydd a dynnodd sylw at ba mor hurt oedd hi fod lleoliadau cerddoriaeth oedd wedi eu sefydlu dros flynyddoedd maith yn gorfod mynd i gost sylweddol i wrthseinio neu 'soundproof-io' eu hadeiladau, am fod adeiladau cyfagos wedi eu trosi at ddefnydd preswyl. Mi gollwyd lleoliadau fel Barfly a'r Point yng Nghaerdydd i'r anghyfiawnder yna flynyddoedd cyn bod lleoliadau Stryd Womanby dan fygythiad, a dydyn ni ddim eisiau gweld yr un fath o sefyllfaoedd yn codi eto yn y cyd-destun yma oherwydd y pandemig.

Dwi ishie sôn hefyd am y ffaith ein bod ni yn parhau i wynebu sefyllfa lle nad oes gan enwau lleoedd hanesyddol Cymru unrhyw fath o amddiffyniad rhag cael eu newid a'u colli. Mae'r diffyg amddiffyniad statudol yma yn warthus yn fy marn i, yn enwedig wrth ystyried pwysigrwydd yr enwau yma yng nghyd-destun treftadaeth a hanes ein gwlad. Mae yna dair blynedd bellach ers i Dai Lloyd gynnig Bil yn y Senedd yma, nôl yn 2017 a fyddai wedi rhoi'r amddiffyniad hwnnw i enwau llefydd hanesyddol Cymru, ond, wrth gwrs, rydym ni i gyd yn cofio sut y gwnaeth y Llywodraeth yma wrthwynebu'r bwriad hwnnw. Mae enwau tai, ffermydd, caeau a nodweddion naturiol yn aml yn gofnod pwysig o arferion amaethyddol, diwydiannau lleol, sut mae'r dirwedd wedi newid, ond doedd y Llywodraeth, wrth gwrs, ddim am weithredu. Yr enwau yma sy'n dweud wrthym ni pwy ŷn ni, ac o ble rŷn ni wedi dod. Maen nhw'n cael eu colli, ac mi fyddan nhw'n cael eu colli yn gynt yn y blynyddoedd nesaf yma oherwydd, wrth gwrs, ein bod ni'n gweld mwy a mwy o bobl yn symud i mewn ein cymunedau, a diau fydd enwau pellach yn cael eu colli.

Mae'r gwelliant gan y Llywodraeth i newid y cymal yma yn y cynnig yn dweud y cyfan, yn fy marn i: 'parhau i ystyried opsiynau' yw bwriad y Llywodraeth er mwyn sicrhau na fydd yr enwau yma yn cael eu colli. Ble ŷch chi wedi bod ers tair blynedd? Beth ŷch chi wedi bod yn ei wneud ers i Blaid Cymru ddod â'r Bil arfaethedig ymlaen yn 2017? Faint o amser i ystyried sydd ei angen ar y Llywodraeth yma? Mae gwledydd eraill fel Seland Newydd wedi gweithredu; maen nhw wedi creu Deddf. Mae yna enghreifftiau allan yna y gallem ni eu hefelychu pe byddem ni'n dymuno gwneud. Mae yna 18,000 o bobl wedi arwyddo deiseb dros yr haf yn galw ar y Senedd i ddeddfu i atal newid enwau Cymraeg cartrefi. Mae'r tân yn llosgi, Dirprwy Weinidog. Rŷch chi wedi cael hen ddigon o amser i ystyried opsiynau. Does bosib, nawr, fod yr amser wedi dod i weithredu.

18:05

Diolch yn fawr iawn i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon. Rwy'n credu ei bod wedi rhoi cyfle inni drafod rhai o'r heriau mwy cynnil yn y gwaith o guro'r pandemig hwn.

Mae'n ymddangos i mi fod ein celfyddydau a'n diwylliant mor gyfoethog yng Nghymru oherwydd bod cynifer ohonom yn poeni cymaint am ein hanes, ein straeon a'n cerddoriaeth. Ond hoffwn ddechrau drwy ddiolch i David Stacey, sydd wedi cadeirio bwrdd Theatr y Sherman ers 35 mlynedd, ac a orffennodd yn y swydd yr wythnos diwethaf. Mae wedi cefnogi gwaith arloesol, heriol ac arobryn Theatr y Sherman yn ddiflino. Mae angerdd eu wasanaeth i'r sefydliad ers ei sefydlu yn rhagorol. Er ei fod yn camu o'r rôl honno, rwy'n gwbl hyderus y bydd yn parhau i ddwyn pobl i gyfrif am addewidion a wnaed sydd wedi'u gohirio ar hyn o bryd oherwydd y pandemig.

Mae gwaith arloesol y Sherman drwy'r Sherman 5 yn estyn allan at gymunedau nad ydynt fel arfer yn mynd i'r theatr—pobl anabl, aelwydydd incwm isel, cymunedau lleiafrifoedd ethnig—yn cael ei gydnabod yn dda gan Gyngor Celfyddydau Cymru a chan Lywodraeth Cymru rwy'n siŵr. Mae hyn wedi rhoi ystwythder a dychymyg i'r Sherman allu addasu ei rôl yn adrodd straeon creadigol, gan barhau o dan y cyfyngiadau sydd eu hangen i gyfyngu ar y pandemig COVID. Mae'r 'Tydful Tales' yn enghraifft wych o'u ffordd o weithio. Cyn y pandemig, ymwelodd myfyrwyr o Goleg Merthyr â chartref gofal lleol i gyfweld preswylwyr am eu bywydau fel sail ar gyfer drama newydd. Pan olygodd COVID nad oedd modd cynnal perfformiadau byw, aethant ati i addasu eu dramateiddiadau o'r straeon a gasglwyd ganddynt mewn fformat sain, fel bod preswylwyr cartrefi gofal wedi gallu rhannu'r 'Tydful Tales' gyda'i gilydd. Yn y dyfodol, rwy'n gobeithio y bydd pawb ohonom yn gallu clywed y 'Tydful Tales', a'u gweld yn wir. Mae'n nodweddiadol o'r modd y gall ac y dylai sefydliadau addasu i'r cyfyngiadau presennol neu wynebu'r risg o fynd yn fud am byth.

Sefydliad anhygoel arall yn fy etholaeth i yw Rubicon Dance, nad yw ei gymysgedd eclectig o gyfleoedd dawns i bobl o bob oed a gallu wedi dod i ben yn ystod y cyfyngiadau a osodwyd yn sgil COVID. Bydd llawer ohonoch wedi gweld ansawdd eu gwaith yn y Senedd ar adegau gwell. Felly, fe wnaethant ddechrau drwy sicrhau eu bod yn cysylltu â phobl ar yr adeg pan fyddent fel arfer yn mynychu dosbarthiadau er mwyn estyn allan a chyfeillio â phobl yn ystod y cyfyngiadau, ac yn awr, fel Mr Motivator neu Joe Wicks, mae eu dosbarthiadau dawns ar-lein yn parhau i gynnig ymarfer corff a mynegiant creadigol i'w myfyrwyr, ac wedi cael derbyniad arbennig o frwdfrydig gan y myfyrwyr mwyaf swil nad ydynt bellach yn teimlo'n rhy ddihyder i roi mynegiant llawn i'w teimladau drwy ddawns.

Nid yw hyn yn golygu nad yw'r sefydliadau hyn yn wynebu heriau. Mae'r to'n dal i ollwng yn y Sherman, ac nid ydynt yn cael arian o werthu tocynnau a derbyniadau caffi i dalu am hynny mwyach. Maent wedi dibynnu ar grant cronfa sefydlogi cyngor y celfyddydau i fuddsoddi yn y seilwaith TG sydd ei angen i gynnal eu tîm creadigol, a llwyddasant i roi 70 y cant o'u staff ar ffyrlo drwy'r cynllun cadw swyddi drwy gyfnod y coronafeirws, sydd, er hynny, yn dod i ben ddiwedd y mis. Ni allant ymestyn eu perfformiadau ar-lein heb uwchraddio eu gwefan, ac maent bellach wedi gwneud cais ar gyfer gwneud hynny i gronfa adferiad diwylliannol Llywodraeth Cymru.

Bu'n rhaid i Rubicon hefyd atal eu gwaith ar adnewyddu adeilad llyfrgell y Rhath ar Heol Casnewydd, a oedd yn drosglwyddiad ased cymunedol oddi wrth Gyngor Caerdydd. Mae'r to'n gollwng yno hefyd, ac mae'r boeler wedi torri ac nid yw'n gweithio o gwbl, felly mae'n amhosibl ei ailagor ar hyn o bryd, ond mae ffyrdd arferol o godi arian yn amhosibl ar hyn o bryd ac felly nid ydynt ond wedi llwyddo i gadw'r lefel bresennol o weithgarwch oherwydd ymroddiad eu pobl greadigol a haelioni ymddiriedolaethau elusennol. Mae am ba hyd y gallant barhau heb gyllid ychwanegol yn rhywbeth y mae angen i bob un ohonom boeni yn ei gylch.

Y bobl rwy'n poeni fwyaf amdanynt yw'r cerddorion yn ein cymunedau, oherwydd, iddynt hwy, mae'r cyfyngiadau coronafeirws wedi bod yn arbennig o feichus. Gwn fod Clwb Ifor Bach wedi ceisio ailagor yn ystod yr haf, pan gafodd y cyfyngiadau eu codi, a'i fod yn gwneud busnes rhesymol fel dim ond bar yng nghanol y ddinas, ar Stryd Womanby, ond pan ddaeth y cyfyngiadau 10 o'r gloch, teimlent fod yn rhaid iddynt gau oherwydd eu bod yn gwneud 70 y cant o'u harian ar ôl 10 o'r gloch y nos. Felly, nawr mae'n anodd gwybod beth y mae sefydliadau fel Clwb Ifor Bach yn ei wynebu, sefydliadau sydd wedi bod mor bwysig yn sicrhau bod gennym ddiwydiant cerddoriaeth bywiog yng Nghaerdydd ac yn datblygu galluoedd cerddorol a llwyddiant cynifer o'n bandiau. Felly, mae arnaf ofn sut ddyfodol y mae rhai o'r sefydliadau hyn yn ei wynebu, yn enwedig ein cerddorion, a hyd yma, nid yw'r cymorth sydd wedi bod ar gael, yn enwedig i weithwyr llawrydd, yn ddigon i gadw'r bobl hyn yn y diwydiannau y maent mor addas ar eu cyfer. Felly, mae gennym heriau amrywiol iawn a heriau sylweddol iawn o'n blaenau, ac nid ydym yn agos at ddod allan o hyn.

18:10

Wel, mae llawer yn y cynnig hwn y gallaf gytuno ag ef, yn enwedig pwysigrwydd y celfyddydau. Ar ôl bod yn berfformiwr fy hun ac ymddangos mewn sioeau yn Theatr y Grand yn Abertawe a'r Theatr Newydd yng Nghaerdydd, yn ogystal â phedair sioe, rwy'n credu, pan werthwyd pob tocyn yng ngŵyl Caeredin, nid oes angen i neb ddweud wrthyf pa mor bwysig yw cymorth i'r celfyddydau yn y wlad hon, ac mae'r hyn sy'n digwydd iddynt yn awr yn drasiedi. Ond mae'n rhaid inni gydnabod hefyd mai canlyniad COVID-19 yw hyn yn y pen draw wrth gwrs, ond yn fwy uniongyrchol, mae'n ganlyniad i'r dewisiadau polisi a wnaed gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â COVID-19.

Nid oes angen iddi fod fel hyn. Gallai problemau'r celfyddydau fod wedi bod yn llawer haws eu datrys oni bai am y polisïau ar gyfyngiadau a orfodwyd ar bawb ohonom. Pethau fel uchafswm o 50 o bobl mewn awditoriwm ar adeg gynharach, ac yn y blaen—na, mae'n ddrwg gennyf, mae hyn yn rhywbeth nas gwelwyd mewn gwledydd eraill, fel Sweden, er enghraifft, lle cafodd rheol uchafswm o 50 o bobl mewn theatr ei gorfodi, ond serch hynny mae eu diwydiannau wedi goroesi. Mae cadwyn sinema Sweden, Svenska Bio, wedi parhau'n weithredol ac o ganlyniad, mae wedi dod yn weithredwr mwyaf Ewrop yn ôl refeniw tocynnau. A'r ffigurau diweddaraf ar gyfer Sweden yw bod nifer y bobl sy'n dioddef yn ddifrifol o COVID yn yr ysbyty wedi codi o 15 i 20 yn y wlad gyfan, tra bod ein ffigurau ni wedi bod yn codi'n gyflym iawn am mai'r hyn a wnaethom o ganlyniad i'r cyfyngiadau symud oedd gohirio lledaeniad y feirws, nid ei atal. A'r canlyniad yw niwed economaidd enfawr yn ogystal â niwed artistig eang ledled y wlad. 

Wrth gwrs, rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd Leanne Wood—nid yw'n digwydd yn aml iawn, ond nid oedd unrhyw beth yn ei haraith y gallwn anghytuno ag ef. Mae angen coffáu hanes cymdeithasol Cymru yn ei holl amrywiaeth ac yn sicr, rwy'n credu bod rôl lleiafrifoedd ethnig yn rhan o'n hanes y mae angen inni ei chydnabod a dysgu amdani, oherwydd mae'n rhan o hanes Cymru, ond nid wyf yn credu y dylem weld popeth drwy brism rhyw fath o weledigaeth Black Lives Matter. Mae Black Lives Matter, fel y dywedais ddoe ac fel y mae Mandy Jones wedi ailadrodd, yn grŵp treisgar mewn gwirionedd, ac yn amlwg yn wrth-Brydeinig ac yn wrth-Gymreig. Mae eu hymgyrchwyr wedi difrodi cofebau rhyfel, cofebau pobl sydd wedi rhoi eu bywydau i ymladd yn erbyn hiliaeth a ffasgaeth, ac maent am ddymchwel cerfluniau fel un Syr Thomas Picton neu'r obelisg yng Nghaerfyrddin. Roedd Picton, fel y mae David Melding wedi nodi, yn ddyn amherffaith ond yn ddyn ei amser, ond serch hynny, roedd ei gyflawniadau milwrol yn gwbl allweddol i fuddugoliaeth yn y rhyfeloedd Napoleonig, a chadw'r wlad hon yn rhydd o afael unben megalomanaidd a oedd am ddod ag Ewrop gyfan o dan ei reolaeth ac ailddyrchafu caethwasiaeth yn India'r Gorllewin Ffrengig.

Felly, ydy, mae hanes fel bwrdd gwyddbwyll gyda sgwariau du a gwyn arno, a dylem eu cydnabod i gyd. Marcsiaeth agored yw polisïau Black Lives Matter a chyfeiriodd Leanne Wood at athronydd Marcsaidd yn ei haraith, ond ni wn faint o bobl sy'n pleidleisio dros Blaid Cymru sy'n credu yn y math o ddelfrydau Marcsaidd y mae Black Lives Matter yn sefyll drostynt mewn gwirionedd—dadariannu'r heddlu, cael gwared ar y fyddin, agor y carchardai ac yn y blaen, datgymalu cyfalafiaeth, ac ati. Nid oes neb yng Nghymru y tu hwnt i ambell ynfytyn am gael hynny.

Rwy'n credu bod y cynnig wedi ei ddifetha gan y mathau hyn o gyfeiriadau, oherwydd fel arall mae llawer ar lefel ymarferol yn hyn y gallwn bleidleisio drosto: er enghraifft, cydnabod rôl gweithwyr llawrydd a'u cefnogi'n briodol; defnyddio'r system gynllunio'n ddychmygus i alluogi sefydliadau celfyddydol i oroesi; cyflwyno amddiffyniadau statudol i osgoi colli enwau lleoedd Cymraeg—gallaf gytuno â hynny, a gallaf gytuno ar bwysigrwydd cadw a datblygu a gwella'r Gymraeg. Ond mae'n rhaid inni gydnabod yn y pen draw y bydd y celfyddydau'n cael eu niweidio'n barhaol gan y cynllun deddfwriaethol cyffredinol y mae'r holl bobl sy'n mynd i bleidleisio dros y cynnig hwn heddiw wedi ei basio drwy'r Senedd hon. Gwn fod y rhain yn ddewisiadau polisi anodd i'w gwneud ond yn y bôn, mae'r gorymateb i COVID a gosod cyfyngiadau llawdrwm ar bawb yn hytrach na chanolbwyntio ar ddiogelu pobl sy'n agored i niwed wedi gwneud niwed enfawr i'n heconomi, niwed enfawr i'n bywyd cymdeithasol ac yn y pen draw, i les meddyliol pobl Cymru.

18:15

Ddoe gofynnwyd i Ganghellor Torïaidd y DU, Rishi Sunak, beth oedd ei neges i gerddorion, actorion a gweithwyr llawrydd yn y celfyddydau, a dywedodd y Canghellor yn y diwedd wrth ITN fod pawb yn gorfod addasu. A bod yn onest, nid yw hynny'n ddigon da. Lywydd, mae cerddorion, actorion a gweithwyr llawrydd yn y celfyddydau yn rhan annatod o enaid diwylliannol ac economaidd ein cenedl wych. Mae'n hanfodol fod y Senedd hon, y Senedd hon yng Nghymru, yn gwrthod gadael i Lywodraeth y DU wneud dim i atal ein tirwedd ddiwylliannol rhag cael ei haberthu yn ystod y pandemig hwn.

Ers fy ethol i'r lle hwn, rwyf wedi ymdrechu i sefydlu digwyddiadau cerddorol ac mae'n fraint cael cadeirio'r grŵp trawsbleidiol ar gerddoriaeth. Drwy'r grŵp hwn, rydym wedi ceisio dod â rhanddeiliaid allweddol o bob rhan o'r sector cerddoriaeth yng Nghymru at ei gilydd, o addysgwyr cerddoriaeth i gerddorfeydd o'r radd flaenaf, corau cymunedol, bandiau pres ac artistiaid rhyngwladol. Wrth gyfarfod â'r grŵp allweddol hwn, roedd yn amlwg iawn pa mor ddinistriol yw effaith COVID-19 wedi bod i'r sector cerddoriaeth cyfan yng Nghymru. 

O'r cyfarfod hwn, daeth tair thema allweddol i'r amlwg o'r heriau sy'n wynebu cerddorion: canllawiau ar gynnal gweithgareddau; cymorth ariannol i weithwyr proffesiynol yn y sector cerddoriaeth; strategaeth ar gyfer eu cynaliadwyedd. Rhannwyd yr heriau hyn â Gweinidogion allweddol yn Llywodraeth Cymru, ac yn sgil fy ngohebiaeth roeddwn yn ddiolchgar i'r Dirprwy Weinidog diwylliant am gyfarfod â mi ar frys i drafod y materion a godwyd gan y grŵp trawsbleidiol. Fel y dywedwyd eisoes, gwn y byddwn i gyd am weld ymarfer a pherfformio cerddoriaeth yn ailddechrau'n ddiogel cyn gynted ag y bo modd ac wrth gwrs, rhaid iddo gael ei arwain gan wyddoniaeth.

Fodd bynnag, mae angen mwy o eglurder yng nghanllawiau presennol Llywodraeth Cymru ynghylch cerddoriaeth, ac mae angen pennu hyn ar frys yn awr. Er enghraifft, mae angen eglurder ar athrawon cerddoriaeth sy'n gweithio'n breifat ac yng nghartrefi pobl ynglŷn â sut y gallant barhau â'u gwaith mor ddiogel â phosibl, gan gydymffurfio â'r rheolau. Mae bandiau a chorau cymunedol am gael eglurhad ynglŷn â sut y gallant ddychwelyd yn ddiogel i ymarfer gan gadw pellter cymdeithasol. Mae angen darparu canllawiau penodol hefyd ar gyfer addysg perfformio offerynnau cerddorol mewn ysgolion. Mae addysg gerddorol, fel y gŵyr y Gweinidog, yn allweddol i sgiliau, lles, llwybrau gyrfa a chyrhaeddiad. 

Fodd bynnag, mae'r angen am ragor o gyllid diwylliannol gan Drysorlys y DU i Gymru yn golygu bod y mesurau hyn yn addasu'n barhaus, ond carwn fynegi'n gryf yn y ddadl hon y dylid rhoi sicrwydd ynglŷn â'r materion a godwyd gyda'r Gweinidog i'r Senedd fel mater o frys, ac y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canllawiau penodol pellach, fel y mae'r sector yn galw amdanynt.

Yr ail fater pwysig a godwyd oedd nifer y cerddorion sydd wedi disgyn i'r bylchau, er gwaethaf ymdrechion Llywodraeth Cymru a'r cyllid a ddarparwyd gan gynlluniau ffyrlo a chynlluniau eraill. Felly, roeddwn yn falch iawn yr wythnos diwethaf o weld Llywodraeth Cymru yn lansio'r grant llawrydd o £2,500. Ond rwy'n clywed heddiw, ddyddiau'n unig yn ddiweddarach, fel gyda chynlluniau olynol, fod gormod o geisiadau wedi'u gwneud iddo, a bod y cyfnod cyntaf eisoes wedi cau. Felly, mae hyn yn sicr yn dangos lefel a maint budd cerddoriaeth i economi Cymru, ac mae'n dangos bod amcangyfrif rhy isel wedi'i wneud o'r angen am y gronfa hon i Gymru'n unig. Ond mae angen mwy o gyllid gan y DU. Felly, sut y caiff hyn ei fynegi gan y Gweinidog i Lywodraeth y DU fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am gerddoriaeth yng Nghymru?

Yn olaf, Lywydd, amlinellai'r llythyr gan y grŵp trawsbleidiol alwad barhaus a mwyfwy dwys y sector am strategaeth gerddoriaeth genedlaethol i Gymru, a chynllun addysg gerddorol sylfaenol a gweithredu astudiaeth ddichonoldeb Llywodraeth Cymru ar ddyfodol gwasanaethau cymorth cerddoriaeth ledled Cymru. Does bosibl y dylid seilio rhwydwaith Gymreig o fynediad hygyrch a theg i ddisgyblion at wasanaeth cymorth cerddoriaeth a hyfforddiant offerynnol yng Nghymru ar god post, ar fympwy penaethiaid ac yn gyffredinol, ar ddyfnder poced rhiant.

Rhaid inni greu llwybrau cyflogaeth wedi'u gwneud yng Nghymru a rhyngweithio proffesiynol â'r cwricwlwm newydd mewn meysydd dysgu creadigol. Yn aml, nid oes gan addysgwyr dosbarth fawr ddim profiad, os o gwbl. Rhaid i Gymru arwain y ffordd yma, a galwaf eto am ddatrys hyn a rhoi terfyn ar erydu addysgu offerynnol ledled Cymru. Mae diwylliant, yn hanesyddol, bob amser wedi teimlo fel perthynas dlawd mewn gwariant cyhoeddus, ond gwn hefyd fod y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas, yn gweld gwerth hyn yn fawr ac yn deall nad yw'n ymwneud yn unig â'r economi, diwylliant na bywoliaeth yn unig—mae hefyd yn ymwneud â'r math o Gymru y mae'r Llywodraeth hon yn ei weld ar gyfer y dyfodol ac yn ei werthu i'r byd ehangach, a gwn ei fod yn teimlo'n angerddol ynglŷn ag enaid diwylliannol Cymru a'r angen i'w achub. Felly, Weinidog, nawr yw'r adeg, ac fe gewch fy nghefnogaeth lawn a diamwys i wneud hynny. Rwy'n cefnogi'r cynnig.

18:20

Dwi'n galw nawr ar y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth i gyfrannu—Dafydd Elis-Thomas. Bydd angen i chi—

Diolch, dwi'n ei wneud o nawr. Ydy hynny'n iawn?

Dyna ni. Diolch yn fawr iawn ichi. Diolch i Blaid Cymru am ddod â'r cynnig gerbron, sydd wedi golygu ein bod ni wedi cael dadl mor amrywiol a gwerthfawr. Dwi'n meddwl mai dyma'r ddadl fwyaf cynhwysol ar y celfyddydau ac ar ddiwylliant rydym ni wedi ei chael yn ystod fy nghyfnod i yn y swydd yma. Fe geisiaf i ateb rhai o'r pwyntiau a wnaed gan bob un a siaradodd os bydd yr amser yn ddigon. Mae gen i ryw wyth munud, oes, Llywydd, gobeithio? Rhywbeth fel yna, ie?

Fe soniodd Siân Gwenllian nad oeddwn i neu nad oedd y Llywodraeth yn uchafu pwysigrwydd y celfyddydau. Wel, gyda phob parch, rydym ni wedi gosod Cymru Greadigol yn ganolog yn ein polisïau ac rydym ni yn datblygu yn arbennig erbyn hyn y gweithgaredd drwy Cymru Greadigol ac yn buddsoddi ynddo fo. Fe feirniadwyd y buddsoddiad yn Seren Stiwdios, ond, wrth gwrs, mae datblygu ffilm ryngwladol ochr yn ochr yn ein polisi ni gyda datblygu y diwydiant yng Nghymru, a drwy i bobl gael profiad o weithio'n rhyngwladol mae safonau yn gallu codi.

Trafododd Laura Anne Jones botensial amgueddfa feddygaeth milwrol yng Nghymru yn y dyfodol. Wrth gwrs, mae gennym eisoes amgueddfa filwrol fach, y Firing Line, amgueddfa roeddwn yn gysylltiedig â hi flynyddoedd yn ôl, a chredaf ei bod yn bwysig inni sylweddoli y bydd y datblygiadau hyn yn ddatblygiadau preifat—nid ydynt yn rhan o'n system amgueddfeydd genedlaethol—ac felly rwy'n amau'n fawr a fydd galw arnom i'w hariannu neu eu cefnogi.

Aeth Leanne Wood â ni'n ôl i fyd gwych y bandiau pres—unwaith eto traddodiad y gwn ei bod yn ei werthfawrogi a chyda theulu'n dod o Flaenau Ffestiniog fel sydd gennyf i, rwyf innau hefyd yn ei werthfawrogi, ac mae hyn yn rhan ganolog o'n traddodiad cerddorol ac yn un y mae'n rhaid inni ymdrechu i'w chynnal, hyd yn oed drwy gydol y cyfnod anodd hwn. Ac wrth gwrs, fe enillodd fy ffafr unwaith eto drwy ddyfynnu fy mentor mawr, Raymond Williams. 'Mae diwylliant yn gyffredin' yw arwyddair yr adran ddiwylliant hon, a dyna fydd bob amser.

Cyfeiriodd at ddatblygu amgueddfa hanes pobl ddu. Mae hyn yn rhywbeth nad ydym wedi'i drafod yn fanwl mewn gwirionedd. Y cwestiwn y mae'n rhaid inni ei wynebu yw a ddylai hon fod yn amgueddfa benodol arall neu a ddylem gydnabod bod yn rhaid—rhaid—rhoi statws priodol a llawn, yn enwedig yn y rhan hon o dde-ddwyrain Cymru, i'r cymunedau du a lleiafrifoedd eraill a'r cenhedloedd amrywiol sy'n rhan o'n hanes. Felly, mae'n fater o sut rydym yn datblygu hynny.

Pwysleisiodd Mandy Jones bwysigrwydd y sinema, ac unwaith eto rwy'n cydymdeimlo â hynny oherwydd yn y gorffennol pell roeddwn yn aelod o Sefydliad Ffilm Prydain. Credaf fod profiad sinema a mwynhad y cyhoedd o ffilmiau yn rhywbeth anodd iawn i'w adfer, ond gobeithio y bydd hynny'n datblygu'n fuan.

Diolch yn fawr, Llyr, am y drafodaeth ar y gyfundrefn gynllunio. Mi ydym ni'n awyddus iawn fel Llywodraeth i weld sut y gallwn ni ddefnyddio'r gyfundrefn gynllunio er mwyn diogelu adeiladau hanesyddol ac mae 'Polisi Cynllunio Cymru' yn barod yn nodi sut y gall lleoliadau cerddoriaeth neu gelfyddydau gael eu cynnal fel rhan o adfywio, a hefyd rydym ni'n ymwybodol ei bod hi'n bwysig bod y gorchymyn dosbarthiadau defnydd yn caniatáu rhai newidiadau i ddefnydd heb fod angen cais cynllunio, ond mae hyn yn gyfyngedig ar gyfer defnyddiau celfyddydol, diwylliannol a threftadaeth, ac dwi'n awyddus i sicrhau ein bod ni'n gallu cadw hynny.

Diolch, Jenny Rathbone, am eich cyfeiriadau at David Stacey a gwaddol mawr Theatr y Sherman a hefyd am eich cefnogaeth i Rubicon Dance, y mae gennyf gysylltiadau cryf â hwy. Roeddwn yn falch o allu ymweld ag adeilad llyfrgell y Rhath ac rwy'n gobeithio bod yr adeilad canolog yng nghanol Caerdydd, ac sydd o werth pensaernïol mawr—rwy'n mawr obeithio y gellir cael cyllid, cyfuniad o gyllid preifat a chyhoeddus, i adfywio'r lle hwn ar gyfer Rubicon Dance.

Clwb Ifor Bach: roeddwn yn un o'r cyfranwyr gwreiddiol i sefydlu'r clwb hwnnw, ac unwaith eto, rydych chi'n llygad eich lle, rhaid inni geisio sicrhau y gallwn ddod o hyd i ffordd o wneud yn siŵr fod y lleoliadau cerddoriaeth hyn—sydd wedi cael arian gennym, gyda llaw; rydym eisoes wedi rhoi cyllid cyfyngedig i leoliadau cerddoriaeth. Dyna un o'r pethau cyntaf a wnaethom fel Llywodraeth wrth i'r argyfwng hwn ddatblygu.

Soniodd Neil Hamilton wrthym am ei berfformiad yng ngŵyl Caeredin; byddai'n dda gennyf fod wedi'i weld. Ond pwysleisiodd hefyd bwysigrwydd effaith cyfyngiadau ar iechyd y cyhoedd a gwnaeth rai cymariaethau â Sweden. Wel, yn anffodus, nid Sweden yw Cymru, ac nid yw'r math o ddiwylliant cymdeithasol a gwleidyddol sy'n bodoli yno i'w weld yn yr un ffordd yng Nghymru. Ond dywedodd rai pethau cefnogol am sefyllfa lleiafrifoedd ethnig hefyd, ond nid wyf yn credu ei fod mor frwd ynghylch Black Lives Matter. Rwy'n credu bod Black Lives Matter yn bwysig iawn am ei fod yn fudiad rhyngwladol i'r gymuned ddu a chaiff ei adlewyrchu'n gryf iawn yn y cymunedau du yng ngogledd a de Cymru, a chredaf mai ein dyletswydd ni fel Llywodraeth yw nodi hynny lle gallwn gefnogi gweithgareddau yn y gymuned mewn perthynas â'r gymuned ddu.

Mae Rhianon Passmore bob amser yn gryf iawn ei chefnogaeth i gerddoriaeth a gofynnodd am fwy o eglurder ynglŷn â chanllawiau, yn enwedig canllawiau i athrawon cerddoriaeth preifat, ac yn sicr, fe edrychaf eto ar hyn yn dilyn ein trafodaeth. 

Rwy'n credu fy mod wedi cyfeirio at y rhan fwyaf o'r bobl sydd wedi siarad, felly unwaith eto, rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle hwn i ymateb, a byddaf yn astudio unrhyw beth arall a ddywedwyd yn y ddadl nad wyf wedi cyfeirio ato'n benodol.

Dwi ddim wedi gallu cyfeirio at bopeth, ond fe wnawn ni edrych ar y ddadl yma yn ôl, ac fe fyddaf i'n cysylltu ag unrhyw Aelodau nad ydw ddim wedi gallu cyfeirio atyn nhw. Diolch yn fawr am gael cyfle i ddathlu goleuni celfyddyd ynghanol y tywyllwch rydyn ni ynddo fo ar hyn o bryd oherwydd y pla presennol. Diolch yn fawr.

18:30

Diolch, Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon? Rwy'n credu bod nifer y bobl sydd wedi cyfrannu—ac yn wir nifer y gwelliannau a gyflwynwyd—yn dangos inni pa mor bwysig yw ein dyletswyddau tuag at sector y celfyddydau i'r pleidiau ar draws y Senedd. Dylwn fod yn glir ar y pwynt hwn fy mod yn siarad ar ran fy mhlaid yma, nid fel Cadeirydd y pwyllgor diwylliant, ond mae llawer o'r dystiolaeth a gymerodd y pwyllgor diwylliant wedi dylanwadu ar ein cynnig heddiw.

Rhoddodd Siân Gwenllian ddarlun llwm iawn o sefyllfa'r sector ar hyn o bryd; mae'n sôn am y rhyng-gysylltedd a'r angen allweddol i gefnogi'r sector cyfrwng Cymraeg, ac i gefnogi ein sefydliadau.

Roedd cyfraniad Laura Anne Jones ychydig yn ddryslyd i mi. Rwy'n croesawu'r hyn a oedd ganddi i'w ddweud am welliant 9; rydym yn derbyn hynny, teimlwn fod hynny'n bwysig iawn. Gwn fod fy nghyd-Aelodau Elin Jones, y Llywydd, a Ben Lake wedi ysgrifennu at y Llywodraeth gyda'u pryderon ynglŷn â'n llyfrgell genedlaethol, fel y gwnes innau. Mae'n sefydliad allweddol, wrth gwrs.

Mewn perthynas â gwelliant 2, hynny yw, nid oes neb yn mynd i ddweud 'na' wrth arian, ond mae siaradwyr eraill yn y ddadl hon wedi cyfeirio at yr hyn a ddywedodd Rishi Sunak ddoe, a chredaf fod hynny'n dangos diffyg parch, a dweud y gwir.

Ar welliant 3, mae angen inni fod yn glir yma: nid wyf yn heddychwr, ac o ran diffyg parch tuag at y fyddin, gwnaeth fy nhad wasanaeth milwrol gweithredol yr holl ffordd drwy'r ail ryfel byd, felly nid oes diffyg parch i'r fyddin ar yr ochr hon i'r tŷ. Ond cwestiynau ynglŷn â blaenoriaethau yw'r rhain. Mae ein hamgueddfeydd presennol yn llawn o hanes milwrol mewn sawl ffordd wahanol. Pan edrychwch ar ein—[Torri ar draws.] Byddai'n dda gennyf pe bawn i'n cael derbyn ymyriad, ond nid yw'r rheolau presennol yn caniatáu hynny, Darren Millar, fel y gwyddoch. Mae'n ymwneud â blaenoriaethau. Mae ein hamgueddfeydd yn llawn o femorabilia milwrol; gallent yn aml, rwy'n siŵr, gael eu portreadu'n well a dweud y stori'n well, ond credwn fod amgueddfa i adlewyrchu'r gymuned hon rydym wedi ein lleoli ynddi, amgueddfa ar gyfer pobl dduon a phobl liw, yn flaenoriaeth uwch, ac roeddwn yn falch o glywed y Gweinidog yn dweud, er gwaethaf eu gwelliant, nad ydynt yn cau'r drws ar hyn. Rwy'n synnu'n fawr, o ystyried yr hyn a oedd yn gyfraniad rhagorol gan Laura Anne Jones i'r ddadl wrth-hiliaeth ddoe, nad yw'n cytuno â mi fod hyn yn bwysig.

Roedd cyfraniad Leanne Wood yn ymwneud â pha mor ddwfn y mae'r celfyddydau a cherddoriaeth wedi'u gwreiddio yn ein hanes a'n diwylliant. Rwyf wrth fy modd â'r ymadrodd—fel y Gweinidog yn wir—fod diwylliant yn gyffredin; mae'n gyffredin ac yn anghyffredin ar yr un pryd, ac mae pob math o ddiwylliant yn bwysig.

Rwy'n credu bod Llyr Gruffydd wedi dweud popeth sydd angen ei ddweud, mae'n debyg, mewn ymateb i Mandy Jones. Mae Llyr, wrth gwrs, yn siarad yn gryf iawn am bwysigrwydd diogelu ein lleoliadau a'r canlyniadau hirdymor os na chânt eu diogelu. Mae'n amlwg nad yw'r system gynllunio bresennol yn caniatáu hynny: gwnaed hynny'n glir iawn yn y dystiolaeth a gymerodd y pwyllgor, a'r un yw'r sefyllfa gyda'n henwau lleoedd hynafol. Rydym yn colli enwau lleoedd hynafol bob dydd mewn llawer o'r cymunedau rwy'n eu cynrychioli, ac ni allwn aros tra bod mwy o opsiynau'n cael eu hystyried.

Teimlwn fod cyfraniadau Jenny Rathbone am bwysigrwydd y celfyddydau yn ei hetholaeth yn hynod werthfawr ac i'w groesawu, fel roedd cyfraniad Rhianon Passmore. Mae ei brwdfrydedd dros gerddoriaeth yn enwog a gwnaeth gyfraniadau cadarnhaol a chryf iawn yma.

Rwy'n ddiolchgar i'r Dirprwy Weinidog am ei ymateb cadarnhaol i'r ddadl, ac mae'n debyg y dylwn fod yn ddiolchgar iddo hefyd fod y Llywodraeth wedi talu mwy o barch i'n cynnig na gwneud y 'dileu popeth a a rhoi yn ei le' sy'n digwydd yn rhy aml, ond ni allwn dderbyn eu gwelliannau. Nid oes gennyf amser i fynd drwy'r holl resymau pam, ond yn y bôn yr hyn y mae gwelliannau'r Llywodraeth yn ei wneud yw glastwreiddio ein cynnig. Mae ychydig bach fel mynd yn ôl i ddweud wrthym fod popeth yn iawn. Wel, mae pobl sy'n gweithio yn y sector yn dweud wrthym, mae pobl sydd angen y sector ar gyfer eu lles emosiynol yn dweud wrthym nad yw popeth yn iawn. Lywydd, nid ydym yn dadlau, wrth gwrs, nad yw'r Llywodraeth wedi gwneud, ac nad yw'n gwneud dim, ond nid ydynt wedi gwneud digon.

I gloi, gwyddom fod sector y celfyddydau a diwylliant yn ddiwydiant allweddol yng Nghymru. Pe baem yn cyfrif yr holl swyddi sydd mewn perygl, byddent yn gymaint o fygythiad i'n heconomi â llawer o'n sefydliadau mawr fel Airbus, fel y diwydiant dur. Ond oherwydd eu bod yn cynnwys cymaint o unigolion, gweithwyr llawrydd, sefydliadau bach, efallai nad ydym yn gweld y pwysigrwydd economaidd hwnnw fel y dylem, a rhaid inni weld gwerth y cyfraniad economaidd hanfodol hwnnw.

Ond fel y mae siaradwyr eraill wedi dweud yn y ddadl hon, mae'r celfyddydau a diwylliant yn ymwneud â llawer mwy na hynny. Mae'r celfyddydau'n ymwneud â phwy ydym ni, ynglŷn â sut y mynegwn ein hunain, sut yr esboniwn ein hunain i'n gilydd, sut y deallwn ein gorffennol a'n presennol a sut y cynlluniwn ein dyfodol. Credaf fod hyn yn wir yn fyd-eang, ond yma yng Nghymru mae ein hanes yn dweud wrthym pa mor bwysig yw'r celfyddydau wedi bod erioed, o'r canol oesoedd ymlaen. Rhaid inni eu diogelu drwy'r cyfnod anodd hwn neu ni fydd cenedlaethau'r dyfodol byth yn maddau i ni. Nid yw ymateb Llywodraeth Cymru yn ddigon, ac rwy'n cymeradwyo ein cynnig fel y mae, fel y'i diwygiwyd gan welliant 9, i'r Senedd.

18:35

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Dwi wedi derbyn gwrthwynebiadau. Felly, dwi'n gohirio'r bleidlais ar yr eitem tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Cynnig Gweithdrefnol

Cyn cyrraedd y cyfnod pleidleisio, rwyf wedi cytuno y gall Alun Davies wneud cynnig gweithdrefnol yn unol â Rheol Sefydlog 12.32 i ohirio ei ddadl fer i Gyfarfod Llawn dydd Mercher nesaf. Dwi'n galw arno i wneud ei gynnig—Alun Davies. Yn ffurfiol, Alun Davies.

Cynnig

Cynnig bod Senedd Cymru, o dan Reol Sefydlog 12.32, yn gohirio’r ddadl fer a gyflwynwyd yn enw Alun Davies nes Cyfarfod Llawn 14 Hydref.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Dwi ddim wedi derbyn unrhyw geisiadau i siarad ar y cynnig yna. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Dwi ddim yn gweld unrhyw wrthwynebiad. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Sy'n dod a ni at y cyfnod pleidleisio. Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14D, bydd egwyl o bum munud nawr cyn cynnal y cyfnod pleidleisio.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 18:37.

18:40

Ailymgynullodd y Senedd am 18:42, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

11. Cyfnod Pleidleisio

Mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar y ddadl ar adroddiad y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd, 'Diwygio’r Senedd: y camau nesaf', a dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Dawn Bowden. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 38, neb yn ymatal, 14 yn erbyn. Ac felly, mae'r cynnig wedi ei gymeradwyo.

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd - 'Diwygio'r Senedd: y camau nesaf': O blaid: 38, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Mae'r bleidlais nesaf ar ddadl Plaid Cymru ar yr heriau sy'n wynebu sectorau'r celfyddydau, diwylliant a threftadaeth. Dwi'n galw am bleidlais yn gyntaf ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 10, neb yn ymatal, 42 yn erbyn. Ac felly, mae'r cynnig wedi'i wrthod.

Dadl Plaid Cymru - Yr heriau sy'n wynebu sectorau'r Celfyddydau, Diwylliant a Threftadaeth, cynnig heb ei ddiwygio - cyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian: O blaid: 10, Yn erbyn: 42, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Mae'r bleidlais nesaf felly ar welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, un yn ymatal, 37 yn erbyn. Ac felly, mae'r gwelliant wedi'i wrthod.

18:45

Dadl Plaid Cymru - Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 14, Yn erbyn: 37, Ymatal: 1

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 3 yw'r gwelliant nesaf. Os derbynnir gwelliant 3, bydd gwelliant 4 yn cael ei ddad-ddethol. Pleidlais, felly, ar welliant 3 yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatabl, 37 yn erbyn. Ac felly, mae'r gwelliant wedi'i wrthod.

Dadl Plaid Cymru - Gwelliant 3, cyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 15, Yn erbyn: 37, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 4, felly, yn enw Rebecca Evans yw'r gwelliant nesaf. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 37, tri yn ymatal, 12 yn erbyn. Ac felly, mae'r gweliiant wedi'i gymeradwyo.

Dadl Plaid Cymru - Gwelliant 4, cyflwynwyd yn enw Rebecca Evans: O blaid: 37, Yn erbyn: 12, Ymatal: 3

Derbyniwyd y gwelliant

Gwelliant 5 yw'r gwelliant nesaf, yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 32, pedwar yn ymatal, 16 yn erbyn. Ac felly, mae'r gweliiant wedi'i dderbyn.

Dadl Plaid Cymru - Gwelliant 5, cyflwynwyd yn enw Rebecca Evans: O blaid: 32, Yn erbyn: 16, Ymatal: 4

Derbyniwyd y gwelliant

Gwelliant 9 yw'r gwelliant nesaf. Gwelliant 9, yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gen i, gwelliant 8 yw'r gwelliant nesaf, ac mae'r gwelliant hynny yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 36, tri yn ymatal, 13 yn erbyn. Ac felly, mae'r gweliiant wedi'i dderbyn.

Dadl Plaid Cymru - Gwelliant 8, cyflwynwyd yn enw Rebecca Evans: O blaid: 36, Yn erbyn: 13, Ymatal: 3

Derbyniwyd y gwelliant

Gwelliant 9 yw'r gwelliant nesaf nawr, ac mae'r gwelliant hynny yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Ac felly, mae'r gweliiant wedi'i wrthod.

Dadl Plaid Cymru - Gwelliant 9, cyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 24, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynnig NDM7421 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd: 

1. Yn cydnabod pwysigrwydd sectorau celfyddydau, diwylliant a threftadaeth Cymru a’r heriau y mae’r sectorau hyn yn eu wynebu yn sgil COVID-19.

2.Yn croesawu’r archwilio o’r newydd sydd wedi bod ar dreftadaeth amrywiol Cymru yn ystod misoedd y pandemig yng ngoleuni mudiad Mae Bywydau Duon o Bwys ac ymgyrchoedd eraill. 

3. Yn cefnogi galwadau i sicrhau y caiff ein treftadaeth ei hyrwyddo a’i chyflwyno mewn modd sensitif a chynhwysol o’i holl amrywiaeth gyfoethog yn y dyfodol. 

4. Yn gresynu at y ffaith bod cynllun cefnogi swyddi Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn annhebygol o achub llawer o leoliadau celfyddydol a cherddoriaeth byw ac atyniadau diwylliannol rhag cael eu cau, nac achub gyrfaoedd gweithwyr y celfyddydau (llawrydd a chyflogedig) er gwaetha’r ffaith yr oeddent yn hyfyw cyn COVID-19.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: 

a) gweithio gyda Cyngor y Celfyddydau, Tasglu Llawrydd Cymru, a grwpiau a sefydliadau eraill ym maes y celfyddydau a diwylliant i weithredu argymhellion yr adroddiad: ‘Ailfantoli ac Ailddychmygu: Strategaethau i Gefnogi Gweithwyr Llawrydd ym Maes y Celfyddydau a Pherfformio';

b) yn cydnabod y pwyslais y mae Polisi Cynllunio Cymru yn ei roi ar les diwylliannol drwy greu cynlluniau a phenderfyniadau cynllunio, sy’n cefnogi’r gwaith o barhau i ddarparu defnyddiau diwylliannol ar gyfer cymunedau drwy ei ddull o greu lleoedd.

c) yn gweithio i sicrhau bod hanes Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn cael ei gynnwys a’i adlewyrchu ar draws rhwydwaith amgueddfeydd Cymru a thrafod ag arweinwyr cymunedau opsiynau i’r dyfodol er mwyn sicrhau sylw cyfiawn i’r hanes yma.

d) sicrhau mwy o gyfranogiad pobl ddu a phobl o liw yn y celfyddydau a chyrff diwylliannol, fel y gelwir amdano yn y Maniffesto ar gyfer Cymru Gwrth-hiliaeth gan Gynghrair Hil Cymru; 

e) yn gweithio i sicrhau bod y Gymraeg wrth wraidd gweithlu ac allbwn sector y celfyddydau;

f) yn cydnabod pwysigrwydd enwau lleoedd Cymraeg ac yn parhau i ystyried opsiynau er mwyn sicrhau na fyddant yn cael eu colli o’r amgylcheddau adeiledig a naturiol; a

g) sicrhau bod pob adran o’r llywodraeth yn gweithredu yn strategol tuag at gyflawni chweched nod llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, sef Cymru â ddiwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu, ac i ymgysylltu'n drylwyr ac yn ystyrlon gyda sectorau’r celfyddydau, diwylliant a threftadaeth wrth wneud hynny.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, un yn ymatal, 23 yn erbyn. Ac felly, mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi ei gymeradwo.

Dadl Plaid Cymru - Yr heriau sy'n wynebu sectorau'r Celfyddydau, Diwylliant a Threftadaeth, cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 28, Yn erbyn: 23, Ymatal: 1

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

18:50

Daeth y cyfarfod i ben am 18:50.