Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

01/07/2020

Cyfarfu'r Senedd drwy gynhadledd fideo am 11:00 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi eisiau nodi ychydig bwyntiau. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw, ac mae'r rhain wedi'u nodi ar eich agenda. Dwi eisiau atgoffa Aelodau fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn gymwys i'r cyfarfod hwn, a'r cyfyngiadau amser o ran hyd cwestiynau a gaiff eu cymhwyso i'r cyfarfod yma.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Felly, yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y bore yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Caroline Jones.

Caroline, os gallwch chi aros i'ch meicroffon gael ei ddad-dawelu. Mae angen i chi ddad-dawelu eich meicroffon, Caroline.

Ymdrin â Phandemig yn y Dyfodol

1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod gan Gymru'r adnoddau i ymdrin â phandemig yn y dyfodol? OQ55394

Diolch, Llywydd. Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae Llywodraeth Cymru yn arwain cyfres o drefniadau cydnerthedd lleol ac yn cymryd rhan mewn rhwydweithiau DU gyfan sydd, gyda'i gilydd, yn canolbwyntio ar ddiogelu'r cyhoedd a bod yn barod ar gyfer pandemig.

Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno ein bod ni wedi ein tanbaratoi'n druenus ar gyfer COVID-19. Er gwaethaf SARS a MERS, roedd ein cynllunio ar gyfer pandemig yn dal i fod yn seiliedig ar achosion o'r ffliw. Fodd bynnag, fe wnaeth ein gwaith cynllunio barhau i fethu â blaenoriaethu capasiti profi. Mae'r pandemig presennol hwn wedi dangos bod y gwledydd hynny a oedd â chapasiti profi yn gynnar wedi llwyddo i fynd drwy'r argyfwng cychwynnol yn gymharol ddiogel.

Mae firolegwyr blaenllaw wedi rhybuddio y gallai feirysau anhysbys eraill ein bygwth ni yn y dyfodol wrth i'r newid yn yr hinsawdd a thwf y boblogaeth orfodi pobl i gysylltiad agosach â bywyd gwyllt. Yn yr un modd â'r coronafeirws hwn, mae'n rhaid i ni brofi ac ynysu'r rhai sydd wedi'u heintio, ac allwn ni ddim fforddio i roi pawb dan gwarantin. Prif Weinidog, pa gynlluniau sydd gan eich Llywodraeth i sicrhau bod gan Gymru ddigon o gapasiti labordy i gynnal degau o filoedd o brofion gwrthdro o ran adwaith cadwynol polymerasau yn feunyddiol? Diolch.

Llywydd, hoffwn ddiolch i Caroline Jones am y cwestiwn yna, ac rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd am natur newidiol y bygythiadau yr ydym ni'n eu gweld ar raddfa fyd-eang a'r angen i ni fod yn effro iddyn nhw. Dyna pam mae gennym ni ein cynllun ymateb ein hunain ar gyfer Cymru. Dyna pam yr ydym ni'n gweithio drwy ein fforymau lleol Cymru Gydnerth, ac yna ein bod ni'n gysylltiedig â strwythurau'r DU hefyd. Cyfarfodydd prif swyddogion meddygol y pedair gwlad, mae'r ffaith bod arweinyddion cynllunio ar gyfer argyfwng yn cyfarfod fel grŵp ar draws y pedair gwlad: mae'r holl bethau hynny'n golygu ein bod ni'n chwarae ein rhan yn yr ymdrechion sydd eu hangen ar draws y Deyrnas Unedig i fod yn gwbl barod ar gyfer y dyfodol ac i roi'r pethau hynny ar waith a fydd yn ein gwneud ni'n gryf ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau o'r math hwn yn y dyfodol y gallai fod angen i ni eu hwynebu.

Bore da, Llywydd. Bore da, Prif Weinidog. Gan ddilyn pwynt Caroline, wrth gwrs, nid oedd yr un ohonom ni'n barod ar gyfer y pandemig hwn, ac rwy'n credu ein bod ni, fel byd, wedi dysgu rhai gwersi arwyddocaol iawn am yr hyn sy'n digwydd pan fyddwch chi'n gwrthdaro â natur a sut y gallwn ni i gyd ymateb. Ac, wrth gwrs, mae'r pwynt y mae Caroline wedi'i godi am y capasiti profi yn hanfodol bwysig, a gwn eich bod chi'n cydnabod hynny. Ond er ein bod ni wedi ein dal ar gamfa o ran y pandemig cyffredinol, rydym ni wedi cael misoedd bellach i ddechrau cael ein trefn brofi wedi'i sefydlu ac yn gweithio. Ac eto, mae ffigurau a gyhoeddwyd ddoe yn dangos mai ychydig dros un rhan o bump o'r capasiti profi dyddiol yng Nghymru sydd wedi cael ei ddefnyddio, a bod y profion ar gyfer gweithwyr gofal iechyd wedi arafu am y seithfed wythnos yn olynol. Hefyd, rydym ni'n dal i aros 48 awr, 72 awr weithiau, i brofion ddod yn ôl. A'r pwynt a wnaed eisoes, yr wyf i'n credu y byddem ni i gyd yn cytuno ag ef, yw bod angen i ni gael pobl yn ôl i'r gweithle, yn ôl i'w bywydau go iawn, cyn gynted a phosibl os ydyn nhw'n hunanynysu oherwydd bod ganddyn nhw neu bobl o'u cwmpas symptomau.

Felly, Prif Weinidog, beth ydych chi'n mynd i allu ei wneud i sicrhau bod gennym ni drefn brofi gynhwysfawr ac ymatebol a all symud ymlaen, a all gyflawni dros Gymru? Sut gwnewch chi newid pethau i wella hynny? Sut gwnewch chi sicrhau bod y drefn brofi hon yn addas i unrhyw ddiben a allai gael ei daflu atom ni o ran unrhyw bandemig arall a allai ddod i'n rhan?

11:05

Llywydd, diolchaf i Angela Burns am hynna. Wel, mae gennym ni drefn brofi gynhwysfawr ar waith yng Nghymru. Mae gennym ni fwy o brofion ar gael heddiw nag ar unrhyw adeg o'r blaen, gydag ychydig yn llai na 15,000 o brofion ar gael yng Nghymru bob dydd. Yn syml, mae'r ffaith bod llai o bobl yn cael eu profi weithiau yn golygu bod angen prawf ar lai o bobl. Nid profi pobl nad oes angen eu profi yw ein huchelgais. Ceir llai o weithwyr gofal iechyd y mae angen eu profi weithiau—dyna pam mae'r niferoedd wedi gostwng. Mae llai o bobl yn cael eu profi mewn cartrefi gofal, ond mae hynny oherwydd bod gennym ni drefn o brofi pawb bob wythnos sy'n gweithio mewn cartrefi gofal.

O ran y ffordd y caiff profion eu cyflawni, mae angen i ni wella cyfran y profion sy'n cael eu cwblhau o fewn 24 awr, ond mae nifer y profion sy'n cael eu cyflawni o fewn 24 awr yn uwch nag y bu ar unrhyw adeg yn ystod y pandemig. Mae hynny oherwydd bod mwy o brofion yn cael eu cynnal. Felly, pan roedd cyfran y profion a gwblhawyd o fewn 24 awr ar ei huchaf, roeddem ni'n cwblhau rhwng 200 a 300 y dydd o fewn 24 awr. Nawr, pan fo'r gyfran yn is, rydym ni'n cynnal 1,700 y dydd o fewn 24 awr gan fod llawer mwy o brofion yn cael eu cynnal. Ac yn y gogledd, yn y ddau bandemig, rydym ni wedi bod yn cyflawni'r mwyafrif enfawr o brofion o fewn 24 awr.

Rwy'n credu bod ein system profi, olrhain a diogelu wedi dangos ei bod wedi gallu paratoi a darparu'r gwasanaeth sydd ei angen yn y cyd-destunau hynny, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y dylem ni fod yn falch ohono. Rwy'n credu y dylem ni roi rhywfaint o glod i'r bobl hynny a weithiodd mor galed i wneud yn siŵr bod y trefniadau hynny wedi'u sefydlu ac yn gweithio'n effeithiol.

Prif Weinidog, mae'n cael ei adrodd heddiw bod Llywodraeth yr Unol Daleithiau wedi sicrhau bron holl stociau un o'r ddau gyffur y dangosir eu bod o gymorth i gleifion COVID-19 ar hyn o bryd. Dywedodd y Tŷ Gwyn ei fod wedi prynu mwy na 500,000 cwrs o remdesivir, cyffur gwrthfeirysol y mae treialon yn awgrymu sy'n helpu rhai cleifion i dreulio llai o amser yn yr ysbyty. Mae hyn yn cynnwys yr holl gyflenwadau a fydd yn cael eu gweithgynhyrchu y mis hwn, yn ogystal â 90 y cant o'r rhai a ddisgwylir ym mis Awst a mis Medi. Mae gan gytundebau unochrog o'r fath oblygiadau amlwg i gleifion yn Islwyn a ledled Cymru, felly pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o gyflenwad effeithiol o feddyginiaethau yn y pandemig byd-eang hwn?

Diolchaf i Rhianon Passmore am y cwestiwn pwysig yna. Mae hi'n iawn i dynnu sylw at yr heriau sy'n bodoli o ran sicrhau cyflenwadau effeithiol o feddyginiaethau. Mae mwy o alw am feddyginiaethau ledled y byd, ond bu llai o gapasiti cynhyrchu gan y bu'n rhaid i India a Tsieina, lle mae llawer o feddyginiaethau yn cael eu cynhyrchu, gamu yn ôl o'u cynhyrchu oherwydd effaith coronafeirws yn eu gwledydd eu hunain. Mae parhad cyflenwad meddyginiaethau yn fater a gadwyd yn ôl, nid yw'n fater sydd wedi'i ddatganoli i Gymru, ond rydym ni wedi bod yn gweithio'n galed gyda'r pedair gwlad arall i wneud yn siŵr bod cynlluniau ar waith i ddeall y galw, i ddyrannu'r stoc sydd ar gael, i gynyddu'r cyflenwad pan fo angen.

Rydym ni'n wynebu, fel y gwn y bydd Rhianon Passmore yn gwybod, yr anhawster ychwanegol o adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb priodol. Mae naw deg y cant o'r meddyginiaethau hyn yn dod i'r Deyrnas Unedig ar draws y culfor byr rhwng Calais a Dover. Pe byddai tarfu ar y cyflenwadau hynny, roedd Llywodraeth y DU yn bwriadu yn flaenorol dibynnu ar gludo nwyddau awyr, ond nid yw cludo nwyddau awyr yn symud yn ystod argyfwng COVID. Felly, mae problemau gwirioneddol yn codi o'r coronafeirws yr ydym ni i gyd yn mynd i'r afael â nhw, ond ceir anawsterau y gellir eu hosgoi sy'n dod ar y gorwel hefyd. Ac fel y corff sy'n gyfrifol am barhad cyflenwad meddyginiaethau, mae'n ddyletswydd wirioneddol ar Lywodraeth y DU i beidio ag ychwanegu at yr anawsterau yr ydym ni eisoes yn eu hwynebu a'r heriau y mae coronafeirws ei hun wedi'u creu.

11:10
Cefnogi'r Sector Hedfan

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r sector hedfan yng Nghymru? OQ55393

Wel, Llywydd, yn dilyn y newyddion dros nos am Airbus, roeddwn i eisiau bod yn gwbl eglur y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gynorthwyo'r cwmni a'i weithlu yn y cyfnod anodd iawn hwn. Ond mae natur fyd-eang yr argyfwng presennol yn y diwydiant hedfan yn golygu na fydd atebion lleol yn ddigon ynddynt eu hunain i sicrhau dyfodol y diwydiant strategol pwysig hwn. Ac rydym ni'n parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i bwyso arnyn nhw i ddarparu cymorth wedi'i dargedu ar gyfer y sector hedfan.

Diolch am hynna, Prif Weinidog, ac rwy'n gwerthfawrogi cymorth parhaus Llywodraeth Cymru. Ond mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i'n gwbl gandryll ac, a bod yn onest, wedi fy siomi. Ers misoedd bellach, rwyf i wedi bod yn dweud wrth Lywodraeth y DU bod yn rhaid iddyn nhw ymyrryd i gefnogi swyddi yn y sector hedfan ac awyrofod, ac, yn onest, nid wyf i wedi clywed dim byd yn ôl.

Mae hwn yn ddiwydiant a oedd â llyfrau archebion llawn. Nid bai'r cwmni na'i weithlu yw hyn. Pan roedd angen peiriannau anadlu ar y Llywodraethau ychydig fisoedd yn ôl, camodd y gweithlu hwn ymlaen a chynhyrchu 10,000 o beiriannau anadlu. Mae gan Lywodraeth y DU—[Anghlywadwy.] Prif Weinidog, a wnewch chi siarad yn uniongyrchol â Boris Johnson a dweud wrtho bod yn rhaid iddo weithredu nawr?

Llywydd, diolchaf i Jack Sargeant am hynna ac am ei ymrwymiad hirsefydlog i Airbus ac i'w weithlu. Pan ymwelais yno ddiwethaf ar 30 Ionawr, yng nghwmni Jack oedd hynny, ac roeddem ni yno i ddathlu wythnos prentisiaethau. Cyfarfuom â grŵp gwych o bobl ifanc hynod ddawnus, hynod beniog a hynod ymroddgar, a oedd yn edrych ar ddyfodol llwyddiannus mewn diwydiant a oedd â dyfodol llwyddiannus iawn o'i flaen bryd hynny.

Yr hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud, gan weithio gyda Llywodraeth y DU, yw dod o hyd i ffordd o helpu'r diwydiant hwn i bontio rhwng yr anawsterau y mae'n eu hwynebu heddiw a'r dyfodol llwyddiannus sy'n dal yno iddo, ar yr amod y gallwn ni ei helpu drwy'r blynyddoedd anodd sydd i ddod. Ac mae llawer o gamau y gellir eu cymryd—pethau y byddwn ni'n eu gwneud i barhau i gefnogi prentisiaethau, i ddatblygu sgiliau'r gweithlu, i fuddsoddi mewn ymchwil a datblygu, ac yna mae'r rhan sydd gan Lywodraeth y DU i'w chwarae.

Siaradodd ein cydweithiwr Ken Skates ddoe â Gweinidogion yn yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol. Roedd yn siarad â'r Ysgrifennydd Gwladol yn yr Adran ddydd Gwener. Yr wythnos hon, wrth gwrs, byddaf yn siarad ag unrhyw Weinidog yn Llywodraeth y DU i ddadlau'r achos dros y math o gymorth penodol i'r sector sydd ei angen nawr, fel y mae Llywodraeth Ffrainc wedi'i wneud, fel y mae Llywodraeth yr Almaen wedi'i wneud, i ddangos bod y sector hedfan blaenllaw yn y byd sydd gennym ni yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig yn parhau i gael ei gefnogi gan Lywodraethau yma ar bob lefel.

Rwyf i wedi dad-dawelu. Diolch. Cefais fy mriffio, ynghyd ag ASau Ceidwadwyr Cymru yn y gogledd-ddwyrain, gan Airbus neithiwr. Rydym ni'n nodi yfory, pan fydd y cyhoeddiadau yn debygol o gael manylion wedi'u hychwanegu atyn nhw—rydym ni'n gobeithio y bydd y mater yn cael ei drin heb ddiswyddiadau gorfodol. Ond rwy'n gobeithio sôn am hynny yn nes ymlaen mewn cwestiwn amserol.

Cyhoeddodd Airbus ar 9 Ebrill ei fod yn torri cynhyrchiant oherwydd rheolau newydd ar gadw pellter a dywedodd ei fod yn lleihau cynhyrchiant dros dro ac yn cefnogi llafur wedi'i gyflenwi gan Guidant Global. Ar 28 Ebrill, rhoddodd Guidant Global ei weithlu o bron i 500 yn Airbus ar ffyrlo gan gyflwyno hysbysiad perygl diswyddiad iddyn nhw. A ddoe cyhoeddodd Airbus bod y colledion swyddi yn ychwanegol at ostyngiadau o fwy na 700 o weithwyr dros dro ac isgontractwyr mewn safleoedd masnachol yn y DU. Ond yn ogystal â'r gwaith y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn uniongyrchol, a chyda Llywodraeth y DU, ar gyfer Airbus, pa gymorth ydych chi wedi bod yn ei ddarparu, neu beth fyddwch chi'n ei ddarparu, i'r gweithwyr Guidant Global hynny?

Wel, Llywydd, mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig bod yr anawsterau yn y sector hedfan yn mynd y tu hwnt i Airbus, yn mynd y tu hwnt i gyflogeion uniongyrchol Airbus, ond yn mynd i mewn i'r gadwyn gyflenwi hefyd—150 o gwmnïau, rydym ni'n credu, gyda 1,500 o swyddi ychwanegol sy'n dibynnu ar Airbus yn rhan o'u dyfodol busnes. Felly, bydd yr ymateb y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud, gan gynnwys dod â'r holl chwaraewyr lleol hynny ynghyd mewn cyflwyniad, a chwaraewyr cenedlaethol yng Nghymru sydd â rhan i'w chwarae wrth ymateb i'r anawsterau y mae Airbus ei hun yn eu hwynebu a'r sgil-effeithiau y mae hynny'n eu cael i eraill yn y gadwyn gyflenwi yn fwy cyffredinol, yn ffordd y byddwn ni'n ystyried llunio gyda'n gilydd y math o ymateb sy'n cefnogi'r sector hwn, oherwydd mae ganddo ddyfodol llwyddiannus. Mae angen i ni ei helpu drwy'r ddwy flynedd nesaf, ac mae angen i ni wneud hynny heb golli pobl brofiadol a medrus iawn y bydd y cwmni hwn eu hangen eto pan fydd llyfrau archebion yn ail-lenwi a'r economi fyd-eang yn gwella. Bydd ein hymdrechion eu cael eu cyfeirio'n bendant at yr effaith gyffredinol honno y byddwn ni'n ei gweld ar draws economi'r gogledd-ddwyrain.

11:15

Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei atebion, ac rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn meddwl am yr aelodau staff a'u teuluoedd sy'n byw drwy'r cyfnod ansicr iawn hwn. Rwy'n deall yn iawn, wrth gwrs, y pwyntiau y mae'r Prif Weinidog yn eu gwneud am swyddogaeth hanfodol Llywodraeth y DU, ond efallai y byddwn ni'n canfod ein hunain mewn sefyllfa lle bydd rhai swyddi Airbus yn cael eu colli, ac, yn amlwg, mae'n rhaid mai ein blaenoriaeth yw sicrhau bod nifer y swyddi sy'n cael eu colli yma yng Nghymru cyn lleied a phosibl. Felly, i ryw raddau, ceir elfen o gystadleuaeth yn y fan yna.

Tybed—. Mae'r Prif Weinidog yn sôn am yr uwchgynhadledd, ac mae honno i'w chroesawu'n fawr, yn amlwg. Tybed pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael neu y byddan nhw'n eu cael gydag Airbus ynghylch y camau y gallem ni eu cymryd i roi'r fantais orau bosibl i weithlu Cymru. A oes, er enghraifft, pethau y mae angen eu gwneud ym maes seilwaith, boed hynny'n seilwaith digidol, yn seilwaith ymarferol, y gellid ei gynnig nid fel ateb ar unwaith, ond fel ateb byrdymor i'w gwneud yn fwy deniadol i Airbus aros yma a chadw'r gwaith yma os oes rhywfaint o golled anochel—nid y byddem ni'n dymuno, wrth gwrs, i unrhyw weithwyr golli eu swyddi yn unman?

Wel, diolchaf i Helen Mary Jones am hynna. Mae yn llygad ei lle: mae'n rhaid i'n meddyliau ni heddiw ganolbwyntio ar y bobl hynny y mae eu dyfodol mor ansicr erbyn hyn. Cefais gyfarfod am 10 o'r gloch y bore yma gydag undeb Unite, sy'n cynrychioli'r rhan fwyaf o'r gweithwyr ym Mrychdyn. Roedd aelodau o staff Brychdyn yn rhan o'r alwad honno, ac mae'r awyrgylch yn ddifrifol a syfrdan iawn yn y gwaith y bore yma.

Mae Helen Mary Jones yn iawn, hefyd, y bu'n rhaid i'r gwaith ym Mrychdyn gystadlu erioed â safleoedd Airbus eraill mewn rhannau eraill o Ewrop. Oherwydd y cydweithio gyda'r undeb llafur y bydd y rheolwyr yno yn dweud wrthych chi ei fod ar flaen y gad o ran cynhyrchu, effeithlonrwydd, iechyd a diogelwch—yr holl bethau y mae'r cwmni yn eu gwerthfawrogi, mae Brychdyn wedi bod ar flaen y gad. Mae hynny'n rhannol oherwydd y cymorth y maen nhw wedi ei gael gan Lywodraeth Cymru ac eraill. Cynlluniwyd ein buddsoddiad yn y ganolfan ymchwil gweithgynhyrchu uwch yn llwyr i roi mantais i Frychdyn o ran denu adain yr ymchwil yn y dyfodol i ogledd Cymru, a byddwn yn parhau i wneud hynny. Os oes pethau y gallwn ni eu gwneud a fydd yn helpu Brychdyn i berswadio Airbus yn fyd-eang i ddod â mwy o waith i ogledd Cymru, lle mae ganddyn nhw'r gweithlu ymroddgar, medrus ac ymroddedig iawn hwn, yna, wrth gwrs, byddwn yn gwneud hynny, fel yr ydym ni wedi ei wneud yn y gorffennol, a byddwn yn dwysáu pa ymdrechion bynnag y gallwn i'w cynorthwyo yn y modd hwnnw.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, yr wythnos hon, rydym ni wedi gweld rhywfaint o newyddion calonogol o'r Alban, wrth i nifer y marwolaethau COVID-19 a gadarnhawyd yno ostwng i gyfanswm o dri dros y pum diwrnod diwethaf, a'r athro Devi Sridhar yn rhagweld y gallai'r Alban fod fwy neu lai'n rhydd o COVID o ran achosion nad ydynt yn cael eu mewnforio erbyn diwedd yr haf. Yn Lloegr, mewn cyferbyniad, adroddwyd bod y prif swyddog meddygol yno yn disgwyl gweld lefel yr heintiau dyddiol newydd yn aros ar y lefel bresennol o tua 3,000 y dydd am y dyfodol rhagweladwy. Prif Weinidog, a ydych chi'n credu bod Cymru rhydd o COVID, yn y termau a ddisgrifiwyd, yn ddyhead realistig yn y tymor agos, ac sydd â'r nod o sero, mewn ffordd, yw'r ffordd fwyaf sicr o osgoi ail gyfres o achosion?

11:20

Wel, rwy'n falch o ddweud mewn ymateb i Adam Price bod llawer o'r dangosyddion allweddol yng Nghymru yn parhau i fod ar y trywydd iawn hefyd, gyda niferoedd y marwolaethau yn gostwng, derbyniadau i ysbytai yn gostwng, nifer y cleifion mewn gofal critigol yn gostwng eto yn ystod yr wythnos ddiwethaf y mae gennym ni ffigurau cyflawn ar ei chyfer. Mewn un ystyr, y nod o Gymru rhydd o COVID yw'r hyn y byddem ni eisiau ei wneud wrth gwrs, ond rwyf i eisiau bod yn realistig gyda phobl hefyd: mae gennym ni ffin hir ac agored; ei bod hi'n anodd ystyried Cymru fel ynys at y dibenion hyn, a bod ein gallu i sicrhau bod Cymru yn rhydd o COVID yn dibynnu i raddau helaeth ar yr ymdrechion sy'n cael eu gwneud ledled y Deyrnas Unedig i'r un cyfeiriad.

Rydym ni wedi clywed—gwn ei fod ef wedi clywed—rhybuddion difrifol gan y prif swyddog meddygol y bydd yr amodau y gallai COVID ffynnu ynddyn nhw gyda ni eto yn yr hydref, pan fydd yr oerfel a'r lleithder yn dychwelyd. Felly, er mai ein nod yw cael COVID ar y lefel isaf bosibl y gallwn ni yng Nghymru, ni ddylem feddwl bod hynny'n golygu ein bod ni heibio'r gwaethaf ac nad oes peryglon eraill o'n blaenau ni yn ystod gweddill y flwyddyn galendr hon.

Mae llawer o wledydd wedi llwyddo i atal y feirws i nifer agos at sero o achosion newydd. Ystyrir Seland Newydd yn arweinydd byd-eang, ond nid yw ar ei phen ei hun. Mae Gwlad Groeg, Slofenia, Awstria, Norwy hefyd wedi atal y feirws i'r graddau bod y cyfyngiadau yno yn gyfyngedig erbyn hyn ac achosion newydd yn brin, ac, fel Cymru, nid yw'r gwledydd hynny yn ynysoedd ychwaith.

Rwy'n derbyn pwynt y Prif Weinidog, ond a hoffai ef weld strategaeth ddileu yn cael ei mabwysiadu ar draws y DU gyfan, ac a wnaiff ef ofyn i'r gell cynghori technegol edrych yn benodol ar brofiad y gwledydd hynny sydd wedi mabwysiadu strategaeth ddileu i weld a ellid mabwysiadu hynny'n llawn neu'n rhannol yng Nghymru?

Rwy'n hapus iawn i ofyn i'r grŵp cynghori technegol am eu barn ar hynny. Rydym ni eisoes yn cael cyngor ganddyn nhw sy'n manteisio ar brofiad mewn mannau eraill yn y byd. Pan oeddwn i'n gallu gwneud cyhoeddiad ddydd Llun ar aelwydydd estynedig yma yng Nghymru, fe wnaeth profiad Seland Newydd a'r pethau yr ydym ni wedi eu dysgu ganddyn nhw yn sicr gyfrannu at hynny. Rwy'n credu bod Adam Price yn cyfeirio at rai enghreifftiau diddorol iawn pan ei fod yn cyfeirio, er enghraifft, at Norwy a Gwlad Groeg fel lleoedd sydd â ffiniau â gwledydd eraill lle bu'r profiad yn wahanol, ac, yn yr ystyr hwnnw, os oes pethau y gallwn ni eu dysgu ganddyn nhw a fydd yn ein helpu ar y siwrnai i gyfyngu'r coronafeirws i'r graddau mwyaf posibl, byddwn yn awyddus iawn ein bod ni'n dysgu'r gwersi hynny yma yng Nghymru ac rwy'n hapus iawn ein bod ni'n defnyddio'r cymorth yr ydym ni'n ei gael drwy'r grŵp cynghori technegol i roi pa wersi bynnag i ni y maen nhw'n credu y gellir eu dysgu o brofiadau yn y lleoedd hynny, ac yna eu defnyddio i fod o gymorth i ni yma yng Nghymru.

Hyd yn oed yn y gwledydd hynny sydd wedi llwyddo i atal y clefyd, wrth gwrs y pris am ryddid o'r feirws, os mynnwch chi, yw gwyliadwriaeth dragwyddol, yn enwedig o ran achosion newydd, ac rydym ni'n gweld yng Nghaerlŷr hefyd o bosibl, onid ydym ni, y perygl o beidio â throi gwybodaeth leol yn weithredu lleol yn ddigon cyflym. Felly, gan fanteisio ar brofiad diweddar yng Nghymru hefyd, a yw'r Prif Weinidog yn barod i wneud nifer o ymrwymiadau i sicrhau trefn gyflym rhwng profion a chanlyniadau, yn enwedig o ran achosion lleol, ac i gyhoeddi dangosfyrddau lleol o ddangosyddion i nodi cynnydd mewn achosion lleol? Ac, yn olaf, a allwch chi nodi'r amgylchiadau a'r modd ymarferol y byddai cyfyngiadau symud lleol, pe byddai eu hangen, yn cael eu gweithredu yng Nghymru?

Wel, unwaith eto, hoffwn ddiolch i Adam Price am y cwestiynau yna. Felly, o ran sut y byddem ni'n barnu a fyddai angen cyfyngiadau symud lleol, yna yn y ddwy enghraifft, yr enghreifftiau byw, yn y gogledd-ddwyrain a'r gogledd-orllewin, yna, yn y ddau achos hynny, y prawf allweddol fydd pa un a oes trosglwyddiad cymunedol ehangach o leoliadau caeedig y ddwy ffatri lle cafwyd yr achosion. Mae'r dystiolaeth ddiweddaraf yn galonogol, ond nid wyf i eisiau ei gorbwysleisio, oherwydd mae'r wythnos hon yn wythnos bwysig iawn i gadw golwg agos ar unrhyw dystiolaeth bod trosglwyddiad wedi symud o leoliad y ffatri, a'r rhai â'r cysylltiad agosaf â hi, ac i'r gymuned ehangach. Os oes gennym ni dystiolaeth o ledaeniad cymunedol cryf, yna dyna fyddai'r dangosydd i ni o'r angen am fesurau lleol pellach.  

Nawr, gallech chi ddadlau—ac rwyf i wedi gweld pobl yn dadlau—bod gennym ni yn Ynys Môn, er enghraifft, ryw fath o gyfyngiadau symud lleol eisoes. Mae cannoedd o bobl yn hunanynysu oherwydd yr achosion yn 2 Sisters, a gwnaeth yr awdurdod lleol y penderfyniad yn eithaf cynnar i beidio ag ailagor ysgolion yn Ynys Môn ochr yn ochr â gweddill Cymru ddydd Llun. Felly, mae gennym ni rai ymyraethau polisi gwahaniaethol yn digwydd eisoes oherwydd yr achos lleol hwnnw.  

Rydym ni'n gwbl eglur—. Yn wahanol i Gaerlŷr, lle'r oedd yn ymddangos bod cryn dipyn o ddryswch ynghylch pa un a oedd y pwerau cyfreithiol yn bodoli ac i bwy yr oedden nhw'n perthyn, rydym ni'n eglur iawn, yng Nghymru, bod gan Weinidogion Cymru y pwerau drwy ein rheoliadau i gymryd camau lleol i leihau, pe byddai'n rhaid i ni, rai o'r rhyddfreintiau yr ydym ni wedi gallu eu hailgyflwyno er mwyn ymdrin ag achosion lleol. A byddem ni'n sicr yn barod i wneud hynny pe byddai'r angen yno.  

O ran pwynt yr Aelod ynglŷn â dangosfyrddau lleol, rwy'n hapus iawn eto i gael rhywfaint o gyngor ar hynny i weld a yw'r math hwnnw o wybodaeth yn bodoli mewn ffordd a fydd yn ystyrlon ac yn ddibynadwy ar lefel leol. Ac, os ydyw, yna polisi Llywodraeth Cymru drwy gydol yr argyfwng coronafeirws fu rhoi cymaint o wybodaeth â phosibl i'r cyhoedd, fel y gall pobl ddeall eu cyd-destun lleol ac yna gweithredu yn y ffordd a ddywedodd Adam Price, oherwydd nid Llywodraethau sy'n cymryd y camau pendant yn yr ardaloedd hyn—gweithredoedd dinasyddion yn bod yn wyliadwrus yn y ffordd y disgrifiodd Adam Price, yn y pen draw, sy'n rhoi'r amddiffyniad gorau i ni.

11:25

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae'r newyddion ddoe bod Airbus yn bwriadu torri 1,700 o swyddi ledled y DU, wrth iddo gael trafferthion gydag effeithiau'r argyfwng coronafeirws, yn ergyd drom i weithwyr ym Mrychdyn ac, yn wir, yn y gogledd-ddwyrain, ac ymatebodd Llywodraeth Cymru yn briodol i ddweud y byddai'n defnyddio'r holl arfau sydd ar gael iddi i gefnogi gweithwyr drwy gydol y cyfnod anodd hwn. Fel y dywedasoch yn gynharach, mae'n hollbwysig nawr bod gwaith rhynglywodraethol yn cael ei wneud ar unwaith, ac rwy'n gobeithio bod Llywodraethau yn gweithio gyda'i gilydd ar bob lefel i roi'r cymorth gorau i'r gweithwyr ym Mrychdyn ar yr adeg hon.

Prif Weinidog, rydych chi eisoes wedi disgrifio pa fesurau yr ydych chi'n bwriadu eu cymryd i gynorthwyo'r cwmni a'i weithwyr yn Airbus, ond nid oes amheuaeth, fel y dywedodd Mark Isherwood yn gynharach, y bydd y newyddion hwn yn cael effaith ar y gadwyn gyflenwi ehangach, a fydd yn cynnwys nifer o fusnesau lleol. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni pa fesurau a chynlluniau penodol y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried ar hyn o bryd i sicrhau bod y gadwyn gyflenwi yn cael ei chefnogi cymaint ag y gellir gwneud hynny?

Wel, rwy'n credu y byddwn i'n dweud wrth yr Aelod, mor anodd ag y mae'r newyddion hynny wedi bod dros nos, y gallwn ni gyfeirio at y ffordd yr oeddem ni'n gallu ymateb, gyda Llywodraeth y DU a chyda'r awdurdod lleol, i benderfyniad Ford i adael Pen-y-bont ar Ogwr, gyda 1,300 o swyddi yn cael eu colli yno'n uniongyrchol, ond y ffordd yr oedd y timau a ffurfiwyd gennym ni, a'r strwythurau a gyflwynwyd gennym ni, yn canolbwyntio yn bedant ar y cadwyni cyflenwi yn y diwydiant modurol hefyd. Felly, mae gennym mi rywfaint o brofiad diweddar ac ymarferol iawn o ymateb i anawsterau o'r math hwn.

Y gwahaniaeth allweddol rhwng Ford ac Airbus yw mai penderfyniad i adael Cymru yn gyfan gwbl oedd penderfyniad Ford, tra bod gan Airbus ddyfodol llwyddiannus o'i flaen, cyn belled â bod ni'n gallu ei helpu drwy'r misoedd anodd nesaf sydd o'n blaenau, a bydd hynny'n golygu gweithio gyda chadwyni cyflenwi. Mae'r uwchgynhadledd y soniais amdani yn fy ateb cynharach yn un a fydd yn cynnwys economi ehangach y gogledd-ddwyrain ac, yn wir, Cynghrair Mersi a Dyfrdwy, gan fod llawer o bobl sy'n gweithio ym Mrychdyn yn byw yng Nghaer ac ar draws ein ffin yno, a bydd yr effaith ar gadwyni cyflenwi yn cael ei theimlo ar draws yr economi gogledd-ddwyrain Cymru, gogledd-orllewin Lloegr honno.

Felly byddwn yn gweithio gyda'r holl chwaraewyr lleol hynny, a chyda Llywodraeth y DU, i wneud yn siŵr bod gennym ni ddarlun cynhwysfawr o'r anghenion, a chyd-gynllunio gyda phobl ar lawr gwlad y math o gymorth a fydd fwyaf defnyddiol iddyn nhw. Mae gennym ni rai pethau a baratowyd ymlaen llaw yr ydym ni'n eu gwneud. Mae gennym ni ffyrdd profedig o ysgogi cymorth, ond rydym ni eisiau gwneud mwy na hynny. Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr mai'r cymorth yr ydym ni'n ei gynnig yw'r cymorth y mae pobl leol yn ei ddweud wrthym fydd fwyaf defnyddiol iddyn nhw. A bydd gweithio gyda nhw, a chael uwchgynhadledd, yn ffordd o dynnu hynny i gyd at ei gilydd, i wneud yn siŵr bod y cymorth yr ydym ni'n gallu ei gynnig yn cael ei raddoli i ddiwallu anghenion ac amgylchiadau penodol yr economi honno yn y gogledd-ddwyrain.

11:30

Rwy'n cytuno'n llwyr â chi: mae'n hanfodol bod Llywodraethau a phleidiau yn gweithio gyda'i gilydd, lle bo modd, i gefnogi gweithwyr ar yr adeg hon, a byddaf yn gwneud beth bynnag a allaf i weithio'n adeiladol gyda chi, a chydweithwyr yn San Steffan, i sicrhau y bydd popeth y gellir ei wneud yn cael ei wneud i gefnogi'r rhai sy'n cael eu heffeithio gan y newyddion hyn.

Nawr, yn anffodus, nid dyma'r unig gyhoeddiad ynglŷn â cholli swyddi yng Nghymru yn ddiweddar, ac o gofio bod diweithdra yng Nghymru wedi dyblu ym mis Ebrill, mae'n hollbwysig bod cymorth ar gael i'r rhai sydd wedi colli eu swyddi o ganlyniad i bandemig y coronafeirws. Nawr yw'r amser i Lywodraeth Cymru gynnal trafodaethau, wrth gwrs, gydag arweinyddion busnes a darparwyr sgiliau ynglŷn â datblygu pecynnau i helpu i gefnogi pobl ledled Cymru efallai na fyddan nhw'n gallu cadw eu cyflogaeth ar ddiwedd y cynllun ffyrlo oherwydd pandemig COVID-19. Ceir teuluoedd ledled Cymru sydd mewn sefyllfa hynod o fregus, ac o gofio y bydd rhywfaint o ansicrwydd yn y farchnad swyddi am gryn amser eto, mae'n bwysig bod teuluoedd ledled Cymru yn teimlo bod cymorth a chyngor ar gael. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o effaith COVID-19 ar gyflogaeth ledled Cymru, a pha drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael gydag arweinyddion busnes, a darparwyr sgiliau, ynghylch y ffordd orau o liniaru unrhyw ergydion economaidd o ganlyniad i COVID-19?

Diolchaf i arweinydd yr wrthblaid am yr hyn a ddywedodd am chwarae rhan adeiladol yn yr ymateb i'r sefyllfa a wynebir yn Airbus ac economi ehangach y gogledd-ddwyrain.

Y dadansoddiad sydd gennym ni o economi Cymru, yng nghyd-destun COVID, yw ei bod yn eithaf cymhleth. Bydd ef wedi clywed, rwy'n siŵr, heddiw, yr adroddiadau gan Andy Haldane, dirprwy lywodraethwr Banc Lloegr, eu bod nhw'n credu mai'r arwyddion cynnar yw bod adferiad siâp v i lawer o rannau o'r economi ar y gweill—dirywiad sydyn, ac adferiad sydyn. Ac rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod cymaint â phosibl o economi Cymru yn gallu gwella cyn gynted â phosibl yn y ffordd honno. Ond bydd agweddau ar economi Cymru lle bydd hynny'n fwy anodd—cwmnïau a diwydiannau nad ydyn nhw'n gallu ailddechrau gweithgarwch cyn gynted ag eraill. Ac yn hynny o beth, rydym ni'n siarad â Llywodraeth y DU yn arbennig am y trefniadau hirdymor o'r cynllun cadw swyddi, yr wyf i wedi ei groesawu o'r cychwyn yng Nghymru. Rwyf i wedi gwerthfawrogi o'r cychwyn yr hyn y mae Llywodraeth y DU wedi ei wneud, ac yn deall, wrth i ddiwydiannau ddychwelyd i'r gwaith, na allwch chi barhau i gynnig cynllun ffyrlo i leoedd lle mae pobl yn ôl yn gweithio yn llawn amser. Ond mewn rhai sectorau o economi Cymru, mae angen cynllun ffyrlo mwy penodol, penodol i'r sector arnom ni, a fydd yn mynd y tu hwnt i ddiwedd mis Hydref. A bydd hynny'n cynnig cysur i'r diwydiannau hynny y byddan nhw'n dal i allu cynnal eu hunain drwy ddyddiau anodd y flwyddyn galendr hon, a bod yno i ailddechrau gweithgarwch y flwyddyn nesaf, pan, fel y mae pob un ohonom ni'n ei obeithio, y bydd pethau'n well.

Felly, byddwn yn gweithredu'r camau sydd gennym ni, mewn ymgynghoriad ag arweinyddion busnes. Roeddwn i gyda phennaeth Cydffederasiwn Diwydiant Prydain yng Nghymru yr wythnos diwethaf a chyda phennaeth y Ffederasiwn Busnesau Bach yng Nghymru yr wythnos diwethaf. Cafwyd awgrymiadau defnyddiol iawn gan y Cydffederasiwn ynghylch sut y gallem ni gydweithio i liniaru rhai o'r effeithiau ar economi Cymru, ac yna bydd angen cymorth arnom ni o fannau eraill i allu gwneud y gwaith y mae angen i bob un ohonom ni ei wneud, gan ganolbwyntio ar swyddi, yn ddi-baid ar swyddi, yn ein heconomi, yn ystod ail hanner y flwyddyn ariannol hon.

Wel, Prif Weinidog, fel y gwyddoch, mae fy mhlaid innau hefyd wedi cyflwyno cynigion i sefydlu cronfa adfer COVID ar gyfer y meysydd hynny yr effeithiwyd arnynt fwyaf yn economaidd, ac rwy'n gobeithio y gwnewch chi edrych yn adeiladol ar ein cynigion, a allai wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl sy'n cael eu heffeithio gan y cau a'r colledion swyddi yn Airbus, a Laura Ashley yn wir.

Nawr, mewn ymateb i ystadegau marchnad lafur Cymru diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol, roedd Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru yn iawn i ddweud mai'r darlun sy'n dechrau dod i'r amlwg nawr yw bod yr ardaloedd hynny a aeth i mewn i'r argyfwng â'r lefelau uchaf o ddiweithdra wedi dioddef rhai o'r codiadau mwyaf yn ystod y ddeufis diwethaf. Mae hyn wir yn dangos bod cymunedau ledled Cymru a oedd eisoes yn cael trafferth gyda lefelau amddifadedd cyn pandemig COVID-19, ac felly mae angen pecyn cydnerthedd, sy'n cynnwys buddsoddiad, cymorth a chyfleoedd, yn fwy nag erioed.

Prif Weinidog, o gofio bod nifer y bobl sy'n hawlio budd-daliadau wedi dyblu bron, ac ar y lefel uchaf ers Awst 1994 erbyn hyn, a allwch chi ddweud wrthym ni pa syniadau newydd y mae Llywodraeth Cymru yn eu mabwysiadu i ddechrau—[Anghlywadwy.]—y darlun a ddisgrifiwyd gan Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru? A allech chi hefyd ddweud wrthym ni pa waith monitro rhaglenni a chyllid sy'n cael ei wneud i sicrhau bod cyllid economaidd yn cyrraedd y cymunedau hynny sydd â'r angen mwyaf ac i nodi unrhyw fylchau mewn pecynnau cymorth? A beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu i feithrin cydnerthedd mewn cymunedau ledled Cymru, yn enwedig y rhai a oedd eisoes mewn trafferthion cyn pandemig COVID-19?

11:35

Wel, Llywydd, mae'r gronfa cadernid economaidd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i thynnu ynghyd, hyd yma, wedi bod yn canolbwyntio yn syml ar gynorthwyo cwmnïau ac unigolion i ymdopi ag effaith coronafeirws. Ond rydym ni eisoes wedi nodi y bydd cam pellach o'r gronfa, y tu hwnt i gamau 1 a 2, yr ydym ni'n eu gweithredu ar hyn o bryd, a bydd cam 3 yn gam adfer. A bydd miliynau lawer o bunnoedd yn dal yn y gronfa y byddwn ni'n gallu eu defnyddio i adfer, a lle ceir syniadau da ynglŷn â sut y gellid defnyddio'r arian hwnnw yn fwyaf effeithiol, yna, wrth gwrs, byddwn yn falch iawn o fanteisio ar y syniadau hynny, o ba le bynnag y byddan nhw'n dod. Bydd y ffaith bod gennym ni gam adfer yn ein heconomi yn cael ei lunio gan y gwaith y mae Jeremy Miles wedi bod yn ei arwain i lunio cynllun adfer i ni yng Nghymru, gan fanteisio ar y bobl orau y gallwn ni eu tynnu ynghyd oddi mewn i Gymru, ond cael pobl o'r tu allan i Gymru, i sicrhau nad ydym ni'n colli syniadau y mae pobl yn eu datblygu mewn mannau eraill, ac i'n herio ni ar ein meddylfryd ein hunain a gwneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud yr ymdrech orau bosibl i ddylunio'r cam adfer hwnnw.

Rydym ni'n monitro'r hyn yr ydym ni'n ei wneud. Os ydych chi eisiau dim ond un enghraifft o hynny mewn ffigurau a gynhyrchwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yr wythnos diwethaf, rwy'n credu bod dros 30 y cant o gwmnïau yng Nghymru wedi elwa ar gymorth a ddarparwyd, naill ai gan Lywodraeth y DU neu gan Lywodraeth Cymru, er mwyn eu helpu nhw drwy'r pandemig. 21 y cant o gwmnïau yw'r ffigur yn yr Alban; 14 y cant o gwmnïau yw'r ffigur yn Lloegr. A ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yw'r rheini, sy'n dangos, rwy'n credu, bod effaith y cymorth yr ydym ni wedi gallu ei roi ar waith yng Nghymru wedi cael ei theimlo yn gryf yn ein heconomi, ac rydym ni bellach eisiau i'r un dull gael ei fabwysiadu, gyda'r un lefel o lwyddiant, i helpu economi Cymru i'r cam adfer.

A gaf i longyfarch yr holl blant sydd yn ôl yn yr ysgol yng Nghymru yr wythnos hon, hyd yn oed os yw'n rhan-amser, a phawb sydd wedi gweithio mor galed i'w cael nhw yn ôl, nid lleiaf eich Ysgrifennydd addysg, Kirsty Williams? Byddwn wedi hoffi gweld mwy o blant yn dychwelyd yn gynharach, ond nid wyf i eisiau beirniadu Llywodraeth Cymru, pigo bai ar yr hyn sy'n digwydd yn erbyn yr hyn a addawyd, na gwneud cymariaethau â Lloegr heddiw.

Prif Weinidog, beth bynnag fo ein safbwyntiau neu ein buddiannau penodol ein hunain, oni ddylai pob un ohonom ni barchu mai chi, eich Cabinet a Kirsty Williams sy'n gyfrifol ac sydd â'r mandad democrataidd i benderfynu pryd a sut y dylai ysgolion ddychwelyd? A allwch chi gadarnhau, yn wahanol i'r undebau athrawon, bod yn rhaid i chi ystyried nid yn unig buddiannau eu haelodau, gan gynnwys diogelwch athrawon ac unrhyw risg is o lawer erbyn hyn o haint, ond hefyd angen taer llawer o rieni i fynd yn ôl i'r gwaith, ac, yn fwy fyth, pwrpas ysgolion yw addysgu ein plant, sydd eisoes wedi colli gormod o'r hawl hwnnw?

Wel, diolchaf i'r Aelod am yr hyn a ddywedodd am yr ymdrechion sydd wedi eu gwneud, ac maen nhw wedi eu gwneud yn y ffordd yr ydym ni'n ceisio gwneud pethau yng Nghymru, yn y ffordd partneriaeth gymdeithasol honno, trwy ddod ag undebau athrawon, undebau'r rhai nad ydyn nhw'n athrawon, yr awdurdodau addysg lleol a Llywodraeth Cymru at ei gilydd o amgylch y bwrdd i lunio ffordd ymlaen. Rwyf i wedi teimlo weithiau, yn y ffordd y mae rhai o'r dadleuon hyn wedi cael eu cynnal yn gyhoeddus, nad yw'r gair 'plant' wedi cael yr amlygrwydd yr oedd ei angen ac yn ei haeddu. Yn y pen draw, y rheswm pam yr ydym ni wedi ymrwymo i ddod â phobl ifanc yn ôl i'r ysgol dros yr wythnosau hyn yw oherwydd ein pryderon bod y bobl ifanc hynny yn cael newid i gyfarfod â'u hathrawon unwaith eto, i weld eu cyd-ddisgyblion, i allu paratoi ar gyfer yr haf, a'u buddiannau nhw yn y pen draw—ynghyd â'r holl rai eraill y maen rhaid i ni eu cadw mewn cof—sydd angen bod ar frig ein hagenda, ac rwy'n credu eu bod nhw.

11:40

Mae'r Prif Weinidog yn sôn am bartneriaeth gymdeithasol, ond yr argraff y mae llawer o rieni wedi ei chael yn ystod y mis neu ddau diwethaf, gyda phwerau wedi'u rhannu rhwng Llywodraeth Cymru, cynghorau ac ysgolion eu hunain, yw ei bod hi'n bosibl bod yr undebau athrawon wedi bod yn agwedd rhy flaenllaw ar y bartneriaeth honno. Pan wnaethoch chi, Prif Weinidog, sôn am hyd yn oed rhoi ystyriaeth i ysgolion ddod yn ôl ar ôl yr hanner tymor, rhoddwyd pwysau arnoch yn gyflym i egluro nad oedd hynny'n mynd i ddigwydd. Dywedwyd bod hynny yn dilyn pwysau gan yr undebau. Yna gwelsom y prif swyddog meddygol yn dweud mai ysgolion yn dychwelyd yn ystod ail wythnos mis Awst fyddai orau, o leiaf o ran peryglon y feirws, ond dywedwyd wrthym wedyn nad oedd hynny'n digwydd gan nad oedd yn ddewis deniadol i'r undebau. Yna gwelsom eich Ysgrifennydd addysg yn cyhoeddi y byddai ysgolion yn dod yn ôl yr wythnos hon am bedair wythnos, ac eto bron ym mhobman, nid yw hynny'n digwydd, a tair wythnos fydd hynny. Unwaith eto, dywedir wrthym ei fod oherwydd mai dyna yw safbwynt yr undebau. A ydych chi'n rhannu'r pryder hwnnw bod yr undebau efallai wedi cael gormod o ddylanwad ar yr amseriad ac ar y penderfyniadau, a'r hyn y gellid ei wneud am hynny?

Wel, Llywydd, rwy'n llongyfarch athrawon yng Nghymru am bopeth y maen nhw wedi ei wneud yn ystod y pandemig hwn. Bu gennym ni 450 o ysgolion ar agor fel ysgolion hyb trwy gydol y profiad, gydag athrawon yn mynd i mewn, ar y rheng flaen, yn anterth y pandemig, ac yn gwneud hynny bob un dydd, yn gweithio drwy eu hanner tymor cyfan ddiwedd mis Mai. Felly, y darlun mawr i mi fu'r ymdrechion aruthrol y mae athrawon, gyda chymorth eu hundebau, wedi eu gwneud yma yng Nghymru.

Mae hawliau cytundebol sydd gan bobl, ac mae undebau yno i siarad ar ran eu haelodau lle mae eu contractau yn y cwestiwn. Nid yw partneriaeth gymdeithasol byth yn golygu sgyrsiau cysurus. Nid yw byth yn golygu pobl yn osgoi materion anodd. Rydym ni wedi eistedd o amgylch y bwrdd gyda'n partneriaid yn yr awdurdodau addysg lleol a'r bobl sy'n cynrychioli'r gweithlu. Rydym ni wedi creu ffordd gyda'n gilydd, sy'n golygu, yn unigryw yn y Deyrnas Unedig, bod plant yng Nghymru yn ôl yn yr ysgol heddiw, ac rwy'n credu bod hwnnw'n gyflawniad sylweddol iawn, ac rwy'n falch iawn ein bod ni wedi gallu gweithio gyda chydweithwyr i'w wireddu.

Economi Cymru

3. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith argyfwng y coronafeirws ar economi Cymru? OQ55357

Diolchaf i'r Aelod, Llywydd. Mae prif economegydd Llywodraeth Cymru yn rhoi cyngor rheolaidd ar effaith argyfwng coronafeirws ar economi Cymru. Mae'r cyngor hwnnw'n cael ei adrodd yn fisol i grŵp craidd COVID o Weinidogion ac eraill, sy'n cyfarfod bob dydd Mercher.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Ar ôl 20 mlynedd o ddatganoli, mae 22 y cant o bobl Cymru o oedran gweithio yn byw mewn tlodi, ac mae'r incwm gwario cyfartalog yng Nghymru dri chwarter yn unig o gyfartaledd y Deyrnas Unedig. Mae'r rhai sydd mewn tlodi yn fwy tebygol o gael eu taro gan effeithiau economaidd COVID nag unrhyw un arall. Mae Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru wedi dweud yn ddiweddar bod Cymru yn fwy agored na llawer o rannau eraill o'r DU i effaith economaidd y cyfyngiadau symud, ac mae gennym ni'r gyfran uchaf, sef 18 y cant, o weithwyr a gyflogir mewn diwydiannau sydd wedi eu heffeithio fwyaf gan gyfyngiadau symud. Felly, os bydd diweithdra yn cynyddu ymhlith y grwpiau hynny, rydym ni'n mynd i fod mewn sefyllfa economaidd ddifrifol iawn yng Nghymru.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi dangos mewn papur a gyhoeddwyd yr wythnos hon bod enillwyr isaf Cymru 10 gwaith yn fwy tebygol o fod wedi cael eu heffeithio gan gyfyngiadau symud COVID-19 na'r rhai ar y cyflogau uchaf. Felly, onid yw'n wir, Prif Weinidog, bod cyfyngiadau symud llymach a chyfyngiadau symud hwy yn golygu y bydd Cymru'n mynd tuag yn ôl, ac mai'r rhai ar y lefelau incwm isaf mewn cymdeithas fydd y rhai sy'n dioddef fwyaf? Felly, o ystyried y bydd effeithiau economaidd y cyfyngiadau symud yn taro'r tlotaf galetaf, sut ydych chi'n cyfiawnhau cadw Cymru yn destun cyfyngiadau symud tra bod gweddill y Deyrnas Unedig yn agor?

11:45

Wel, Llywydd, er nad wyf i'n anghytuno â rhywfaint o ddiagnosis yr Aelod, rwy'n anghytuno'n llwyr â'i ddisgrifiad o'r rysáit. Mae'n iawn i ddweud bod coronafeirws yn cael effaith anghymesur ar rai aelodau o'n cymdeithas, a'r rhai sydd dan yr anfantais fwyaf i ddechrau sy'n teimlo effaith y clefyd hwn yn fwyaf sylweddol. Y ffordd orau o'u helpu nhw yw gwneud yn siŵr bod economi Cymru yn cael adferiad didrafferth a dibynadwy o'r coronafeirws—nad oes gennym ni adferiad lle'r ydym ni'n agor gormod yn rhy fuan ac yna'n gweld angen cyfyngiadau symud unwaith eto fel bod yr economi yn mynd tuag at yn ôl unwaith eto.

Felly, mae'n cynnig rhyw fath o ddull Texas o ymdrin â coronafeirws, lle'r ydych chi'n codi'r cyfyngiadau symud yn gyflym, rydych chi'n gadael i bob math o bethau ailddechrau unwaith eto gan eich bod chi'n credu bod hynny'n iawn i'r economi, ac, er mawr syndod, mae'r feirws yn dechrau cylchredeg ym mhobman unwaith eto ac mae'n rhaid i chi gyflwyno cyfyngiadau symud unwaith eto. Dyna'r ydym ni'n ei osgoi yma yng Nghymru yn y ffordd yr ydym ni'n gwneud pethau. Rydym ni'n ailagor ein heconomi, rydym ni'n gwneud hynny gam wrth gam, rydym ni'n ei fonitro wrth i ni symud ymlaen, rydym ni'n gwneud ein gorau i wneud yn siŵr y gallwn ni fod yn hyderus yn ein heconomi ac na fyddwn ni'n ein canfod ein hunain mewn sefyllfa o orfod gwrthdroi hynny i gyd, oherwydd ni allai dim fod yn waeth i'r economi nac i'r bobl hynny sy'n dibynnu arni.

Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf, cyflwynodd Llywodraeth y DU y Bil Busnes a Chynllunio yn Senedd y DU, a oedd yn cynnwys cyfres o fesurau brys i helpu busnesau i addasu i ffyrdd newydd o weithio i ymateb i'r pandemig presennol. Mae'r diwydiant lletygarwch yng Nghymru wedi dweud bod angen map ffordd eglur arno ar gyfer ailagor a chymorth gan y Llywodraeth i'w gael yn ôl ar ei draed. Felly, rwy'n meddwl y bydd yn sicr yn bwysig, yn y tymor byr, i unrhyw rwystrau gael eu dileu a allai fod yn y ffordd, gan gynnwys lleddfu cyfyngiadau yn y system gynllunio a thrwyddedu yn arbennig. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, ceir cymysgedd o fesurau yn y Bil cynllunio, yn feysydd sydd wedi eu cadw yn ôl ac wedi eu datganoli. Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i ymateb i'r meysydd datganoledig a sut mae unrhyw ddeddfwriaeth yn benodol yn mynd i gefnogi'r sector lletygarwch?

Wel, Llywydd, rydym ni wedi bod mewn trafodaethau uniongyrchol gyda'r sector lletygarwch dros yr wythnos a hanner diwethaf, gan chwilio am ffyrdd y gallem ni ailagor lletygarwch awyr agored yma yng Nghymru gyda'r mesurau lliniaru angenrheidiol, ac rwy'n ddiolchgar i'r sector am yr holl syniadau y maen nhw wedi eu cyfrannu, am y gwaith y maen nhw'n ei wneud gyda ni i lunio canllawiau ar gyfer y sector, yn y gobaith y byddwn ni'n gallu gwneud hynny ochr yn ochr â nhw. Mae'n rhaid gwneud hyn mewn ffordd sy'n rhoi iechyd y cyhoedd yn gyntaf, a dyna'r ydym ni'n gweithio arno, ac yn cael cyngor gan ein prif swyddog meddygol, wrth gwrs, yn y broses.

Fel y dywedodd Russell George, mae'r ddeddfwriaeth yn Nhŷ'r cyffredin yn gymysgedd o ddeddfwriaeth ddatganoledig a deddfwriaeth nad yw wedi ei datganoli. O ran y rhai nad ydyn nhw wedi'u datganoli, bydd yn pasbortio trwyddedau sydd gan dafarndai, er enghraifft, i weini alcohol dan do, yn pasbortio'r rheini i'w caniatáu i'w weini yn yr awyr agored. Bydd agweddau eraill yn rhan o dddeddfwriaeth sydd yn nwylo'r Senedd a byddwn yn meddwl yn ofalus am yr hyn y mae angen i ni ei wneud yn hynny o beth.  

Felly, er enghraifft, i roi syniad i'r Aelod o'r cymhlethdod, yr wyf i'n siŵr ei fod yn effro iddo beth bynnag, mae'n bosibl y bydd llawer o gaffis a bwytai eisiau gallu gweithredu y tu allan ar y palmant o flaen eu safleoedd. Mae'n rhaid i ni gydbwyso hynny â hawliau defnyddwyr eraill: pobl anabl, defnyddwyr cadeiriau olwyn, pobl sy'n rhannol ddall—pobl sy'n dibynnu ar allu defnyddio palmentydd mewn modd dirwystr ac nad yw'n achosi anawsterau iddyn nhw. Felly, mae mwy nag un buddiant i feddwl amdano, a'r ffordd y byddwn ni'n gwneud hyn yng Nghymru yw gweithio gyda'r sector i gael cydbwysedd priodol rhwng y pethau hynny fel y gallwn ni wneud y pethau sy'n angenrheidiol i ganiatáu i'r sector hwnnw agor unwaith eto, ond nid ydym ni'n gwneud hynny ar draul hawliau sydd gan bobl eraill i fyw eu bywydau mewn ffyrdd sy'n caniatáu iddyn nhw gyflawni eu gweithredoedd cyfreithlon yn ddirwystr.

11:50

Prif Weinidog, mae Jack Sargeant eisoes wedi tynnu sylw at yr argyfwng yn y sector hedfan, sy'n sector mawr yn economi Cymru, a sector arall yn economi Cymru yw'r diwydiant dur, sydd hefyd yn wynebu heriau difrifol iawn. Yr wythnos diwethaf, roedd yn ymddangos bod Llywodraeth y DU wedi briffio'r Financial Times y byddai cais am gyllid gan Tata yn cael ei gymeradwyo, ond nid yw Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi unrhyw gymeradwyaeth o'r fath hyd yn hyn, ac, o'r herwydd, nid yw'r diwydiant yn gwybod ble mae'n sefyll. Mae gweithwyr dur a'u teuluoedd yn haeddu gwell; maen nhw'n haeddu sicrwydd. A wnewch chi barhau i roi pwysau ar Lywodraeth y DU i gymeradwyo'r cais hwn am gyllid, gan fod cwsmeriaid dur fwy neu lai wedi diflannu oherwydd y coronafeirws? Rydym ni angen i'r diwydiant barhau i weithredu. Mae'n hollbwysig i economi Cymru ac rydym ni angen y gefnogaeth honno gan Lywodraeth y DU.

Llywydd, rwy'n cytuno'n llwyr â David Rees. Darllenais yr erthygl estynedig honno yn y Financial Times. Roedd yn amlwg wedi'i briffio gan ffynonellau Whitehall, ac roedd yn awgrymu yn uniongyrchol iawn ein bod ni ar fin cael cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU o gefnogaeth benodol i'r diwydiant dur, diwydiant y bydd ei angen ar y wlad hon pan fydd coronafeirws drosodd, ac mae maint y cymorth sydd ei angen ar gyfer y diwydiant hwnnw yn golygu bod yn rhaid iddo ddod gan Lywodraeth y DU. Rydym ni'n parhau i chwarae ein rhan gyda Tata yn uniongyrchol trwy gefnogi sgiliau a phrentisiaethau a chyda rhywfaint o fuddsoddiad amgylcheddol lleol i gynorthwyo'r cwmni, ond mae'n rhaid i gymorth o'r maint sydd ei angen ar y diwydiant mewn argyfwng byd-eang ddod gan Lywodraeth y DU. Ar ôl nodi bod y cymorth hwnnw ar ei ffordd, mae'n siomedig iawn nad yw wedi dod i'r amlwg bellach ers sawl diwrnod. Bydd y Canghellor yn gwneud ei gyhoeddiad ar gymorth i'r economi yr wythnos nesaf. Byddwn yn pwyso ar Lywodraeth y DU yr holl ffordd drwodd i sicrhau bod cymorth i'r diwydiant dur—diwydiant sy'n bwysig yn strategol i'r Deyrnas Unedig gyfan—yn flaenllaw yn ei feddyliau wrth iddo ddod â'r pecyn hwnnw at ei gilydd.

Prosiectau Seilwaith

4. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio prosiectau seilwaith i adfywio economi Cymru yn sgil COVID-19? OQ55369

Diolchaf i John Griffiths am hynna, Llywydd. Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio pob cyfle, o brosiectau seilwaith bach a lleol i fuddsoddiadau cenedlaethol mawr, i greu swyddi ac ailadeiladu ein heconomi drwy fynd ar drywydd cyfiawnder economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol.

Prif Weinidog, rydym ni'n gwybod bod y pandemig wedi effeithio'n anghymesur ar y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, gan atgyfnerthu'r anghydraddoldebau presennol o ran dosbarth, ethnigrwydd, anabledd a rhywedd. Rydym ni bellach yn wynebu argyfwng economaidd a'r posibilrwydd o anghydraddoldeb a niwed pellach i'r rhai sy'n lleiaf abl i'w wrthsefyll. Bydd prosiectau seilwaith yn rhan bwysig o adfywio ein heconomi a gallen nhw hefyd fod yn rhan o roi sylw i'r anghyfiawnder cymdeithasol hwn. Felly, a fydd contractau yn cynnwys cymalau, gofynion a darpariaeth gwaith teg i sicrhau bod y prosiectau cyfalaf hyn yn cynnig cyfleoedd, hyfforddiant a swyddi i'r rhai sydd â'r angen mwyaf, ac yn helpu i adeiladu yn ôl yn well i bawb yng Nghymru?

Diolchaf i John Griffiths am y gyfres bwysig yna o sylwadau ac am ei gwestiwn, Llywydd. Mae e'n iawn, wrth gwrs, i gyfeirio at y ffordd y mae'r argyfwng COVID wedi cael effeithiau anghymesur ar wahanol sectorau o'n cymdeithas. Roeddwn i'n falch iawn yr wythnos diwethaf o gael yr adroddiad gan yr Athro Emmanuel Ogbonna ar gyd-destun economaidd-gymdeithasol effaith yr argyfwng ar bobl o gefndiroedd du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Pan fyddwn ni'n gosod contractau ar gyfer ein gwaith seilwaith, byddwn, wrth gwrs, yn defnyddio egwyddorion ein contract economaidd, lle mae'r buddsoddiad y mae'r cyhoedd yng Nghymru yn ei wneud yn dod â budd i'r cyhoedd yng Nghymru y tu hwnt i ddim ond y swyddi sy'n cael eu creu. Felly, lefelau cyflogaeth, hyfforddiant, prentisiaethau, manteision ehangach i'r gymuned, bydd hynny i gyd yn ganolog i'r ffordd yr ydym ni'n llunio'r contractau hynny—yn rhan bwysig iawn o'r contract yr ydym ni wedi'i gytuno ar gyfer cwblhau ffordd Blaenau'r Cymoedd; prosiect seilwaith mawr yr oeddem ni'n gallu bwrw ymlaen ag ef yr wythnos diwethaf. Ond bydd yr egwyddorion hynny yn cael eu defnyddio yn fwy cyffredinol er mwyn gwneud yn siŵr bod y bobl hynny sydd wedi cael eu heffeithio'n fwyaf niweidiol gan effaith coronafeirws yn cael budd anghymesur mwy o ailadeiladu ein heconomi.

11:55

Prif Weinidog, diolch am yr ymateb i John Griffiths yn y fan yna. Yn amlwg, mae'n cynrychioli etholaeth yng Nghasnewydd, lle gallai ffordd liniaru'r M4 fod wedi bod yn ddarn o seilwaith mor fawr. Rwy'n credu y bydd y dewisiadau eraill yn hytrach na ffordd liniaru'r M4 yn cael eu cyflwyno i chi yn fuan, a dychmygaf eich bod chi eisoes wedi cael syniad bras o gost y dewisiadau amgen hynny. Beth yw ystod y costau bras hynny, a beth ydych chi wedi ei wneud i sicrhau unrhyw gymorth angenrheidiol gan y Trysorlys, ar ôl gwrthod y cymorth hwnnw pan wnaethoch chi gefnu, wrth gwrs, ar y cynllun ar gyfer ffordd liniaru'r M4?

Wel, mae rhan olaf y cwestiwn hwnnw'n lol llwyr, Llywydd. Beth mae'r Aelod yn ei olygu? Nid oedd unrhyw gynnig o gymorth a gafodd ei wrthod, ac rwyf i wir yn credu bod hynny'n hurt, ac nid oes gen i unrhyw syniad o ble y'i cafwyd gan yr Aelod. Nid oes gen i unrhyw gostau bras gan eu comisiwn, gan fy mod i'n aros am eu hadroddiad. Dechreuodd y gwaith ar y gyfres gyntaf o argymhellion a wnaed gan y comisiwn yn gynharach yr wythnos hon, ac maen nhw'n cael eu hariannu yn llawn gan Lywodraeth Cymru. Rwyf i wedi dweud erioed, Llywydd, y costiwyd y cynllun gwreiddiol ar gyfer ffordd liniaru'r M4 fel biliwn o bunnau, ac mai'r comisiwn sydd â'r alwad gyntaf ar hynny o ran cyflwyno cynigion amgen fel y gallwn ni ymdrin â'r problemau gwirioneddol iawn a fu o amgylch Casnewydd, ond ei wneud mewn ffordd nad yw'n dod â'r anfanteision amgylcheddol enfawr gydag ef y byddai'r ffordd liniaru wedi'u creu.

Cefnogaeth i Fusnesau

5. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i fusnesau y mae COVID-19 wedi effeithio arnynt? OQ55386

Diolchaf i'r Aelod am hynna. Mae ein pecyn cymorth gwerth £1.7 miliwn yn golygu bod busnesau yng Nghymru yn gallu cael gafael ar y cymorth mwyaf hael yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig. Mae dros 2,700 o gwmnïau yng Nghaerffili yn unig wedi elwa ar ryddhad ardrethi busnes. Agorodd ail gam y gronfa cadernid economaidd ddydd Llun yr wythnos hon.

Diolch, Prif Weinidog. A gaf i ddweud, yn gyntaf oll, ei bod hi'n gymaint o ryddhad mai dyma'r wythnos olaf y bydd gennym ni'r ffordd gwbl anfoddhaol hon o gyflawni busnes, a bydd yn braf bod yn ôl mewn model hybrid yr wythnos nesaf, a diolchaf i'r Llywydd am helpu gyda'r penderfyniad hwnnw?

Mae llawer o fusnesau a sefydliadau elusennol yng Nghaerffili wedi cael eu cynorthwyo gan Lywodraeth Cymru ar ffurf grantiau a rhyddhad ardrethi, ac mae wedi helpu i lenwi'r bwlch a adawyd gan gymorth Llywodraeth y DU. Rwy'n croesawu'r cyhoeddiad yr wythnos diwethaf o gymorth y Llywodraeth i'r cwmnïau newydd hynny a ddechreuodd fasnachu dim ond yn 2019, sy'n golygu nad oedden nhw'n gymwys ar gyfer cynllun cymorth incwm hunangyflogaeth Llywodraeth y DU. Ond rwy'n ymwybodol o rai busnesau bach yn arbennig sy'n parhau i golli allan. Cysylltodd etholwr â mi sy'n rhedeg siop trin gwallt ym Margoed. Nid yw ei busnes hi'n gallu cael unrhyw gymorth gan ei bod hi'n unig fasnachwr ac nid oes rhaid iddi fod wedi ei ch ar gyfer TAW, ac nid yw wedi gwneud hynny. Mae hyn yn annheg gan nad oes yn rhaid i fusnesau tebyg sy'n gwmnïau cyfyngedig fod wedi'u cofrestru at ddibenion TAW, ac ni all hi hawlio unrhyw fath o ryddhad ardrethi ychwaith gan mai dim ond tenant yw hi yn ei hadeilad. O ganlyniad, ni all fforddio talu ei staff na'i gorbenion mwyach. Beth arall all y Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru ei wneud i'w chynorthwyo hi a busnesau bach eraill fel ei busnes hi sydd â'u gwreiddiau yn ein cymunedau yn y Cymoedd?

Wel, Llywydd, diolchaf i Hefin David am yr hyn a ddywedodd am y grant newydd o £5 miliwn sy'n cynorthwyo busnesau newydd. Rydym ni'n rhagweld y bydd yn cynorthwyo hyd at 2,000 o fusnesau yng Nghymru, ac mae'n enghraifft o lenwi bwlch yn y cynlluniau a luniwyd gan Lywodraeth y DU. Rwyf i bob amser yn manteisio ar y cyfle hwn i gydnabod y cymorth y mae Llywodraeth y DU wedi ei roi, a dweud ei bod hi'n anochel, mewn cynlluniau mawr iawn, sy'n cael eu llunio yn gyflym iawn, y bydd rhai ymylon aflem a bylchau a fydd yn dod i'r amlwg, a bwriadwyd o'r cychwyn i'n cronfa cadernid economaidd o £500 miliwn ddod o hyd i'r bylchau yn y cynlluniau y mae Llywodraeth y DU wedi eu rhoi ar waith ac yna ceisio eu llenwi nhw yma yng Nghymru. Nid ydym ni'n gallu llenwi pob bwlch; nid yw'n bosibl o fewn cwmpas yr hyn sydd gennym ni. Ond, rydym ni'n parhau i adolygu'r gronfa cadernid economaidd i weld a allwn ni wneud mwy drwyddi. Lle ceir enghreifftiau lle mae strwythur y cymorth sydd ar gael yn creu bylchau y mae cwmnïau yn disgyn drwyddyn nhw, yna rydym ni bob amser yn agored i glywed am hynny ac i weld a oes ffyrdd eraill y gallwn ni gynorthwyo.

12:00

Iawn. Mae'n ddrwg gen i, roeddwn i'n meddwl fy mod i wedi gwneud. Hoffwn ofyn am gefnogaeth i'r celfyddydau. Mae'r celfyddydau yn hanfodol bwysig i'n diwylliant, i'n hiaith, ac o bosibl i dwristiaeth hefyd. Gweithwyr llawrydd neu weithwyr yn yr economi gìg yw llawer o bobl sy'n gweithio yn y celfyddydau, sydd efallai—neu mae'n debygol nad ydyn nhw wedi cael unrhyw gymorth gan y Llywodraeth hyd yma. Mae'n annhebygol y bydd digwyddiadau â chynulleidfaoedd mawr yn ddiogel i bobl yn yr hen ffordd yn fuan, ac felly, beth sy'n digwydd i'r cwmni o weithredwyr system annerch y cyhoedd—y mae pedwar ohonyn nhw'n gweithio yn fy etholaeth i—nad ydyn nhw'n gallu cael unrhyw waith ar hyn o bryd?

A fyddech yn barod i ystyried syniad a gynigiwyd i Lywodraeth yr Alban ar gyfer llu celfyddydau cenedlaethol, a fyddai'n golygu bod y celfyddydau yn rhan o les ac adferiad, lle gall cerddorion ac artistiaid fynd i ysgolion, ysbytai a chartrefi gofal, a hyd yn oed ddarparu cyrsiau ar-lein? Dychmygwch y cwmni annerch y cyhoedd yn gallu addysgu sgiliau peirianneg sain i bobl ifanc yn y Rhondda trwy wyliau'r haf. A fyddech chi'n barod i edrych ar yr argymhelliad hwnnw a wnaed i Lywodraeth yr Alban ac ystyried cynllun tebyg i'w weithredu yng Nghymru? Allwn ni ddim dibynnu ar Lywodraeth San Steffan i lenwi'r bwlch hwn; mae'n rhywbeth y mae angen i Lywodraeth Cymru ei wneud, ac mae angen iddi ei wneud ar frys.

Llywydd, hoffwn ddiolch i Leanne Wood am hynna. Bydd yn gwybod bod fy nghyd-Weinidog, Dafydd Elis-Thomas, wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig hirfaith yr wythnos hon ar gefnogaeth i'r celfyddydau yma yng Nghymru. Rwy'n hapus iawn i edrych ar y syniad a nodwyd gan Leanne Wood. Mae'n swnio'n debyg iawn i Franklin Delano Roosevelt yn hynny o beth, ac yn llawer mwy argyhoeddiadol nag eraill sydd wedi gwneud hawliadau ar y fantell honno, os caf ddweud hynny. Felly, byddwn yn yn sicr yn edrych arno.

Mae hon yn enghraifft arall, a dweud y gwir, Llywydd, lle mae Llywodraeth y DU wedi awgrymu yn gyson ei bod ar fin cyhoeddi pecyn cymorth ar gyfer sector, yn union fel y gwnaeth ar gyfer dur yr wythnos diwethaf. Felly, ers wythnosau lawer, mae wedi awgrymu bod cyhoeddiad ar fin cael ei wneud o becyn cymorth i'r celfyddydau. Mae angen i'r pecyn cymorth hwnnw gael ei gyflwyno, a phe byddai hynny yn digwydd, byddai'n cryfhau yn ymarferol ein gallu i weithredu'r math o gynllun y mae Leanne Wood wedi sôn amdano y bore yma.

Cyrhaeddiad Addysgol

6. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith y cyfyngiadau symud ar gyrhaeddiad addysgol yng Ngogledd Cymru? OQ55364

Llywydd, nid oes unrhyw ymchwil yr wyf i'n ymwybodol ohono yn awgrymu bod effaith cyfyngiadau symud ar gyrhaeddiad addysgol wedi amrywio yn ôl daearyddiaeth. Rydym ni wedi canolbwyntio ar ddysgwyr sy'n agored i niwed neu sydd o dan anfantais, pa le bynnag y maen nhw'n byw yng Nghymru.

Diolch. Prif Weinidog, mae astudiaeth fawr o addysgu gartref yn ystod y cyfyngiadau symud gan Sefydliad Addysg Coleg Prifysgol Llundain wedi tynnu sylw at rai canfyddiadau sy'n peri gofid ynglŷn â sut y gallai addysg plant yng Nghymru fod yn dioddef. Maen nhw'n awgrymu, o dan eich goruchwyliaeth chi, bod plant yng Nghymru yn gwneud llai o waith ysgol ac yn cael llai o addysg ar-lein na'u cyfoedion ar draws gweddill y DU tra bod ysgolion wedi bod ar gau. A wnaiff eich Llywodraeth gomisiynu ymchwiliad i ystyried pam a sut y mae'n ymddangos bod plant yng Nghymru wedi cael eu siomi mor enbyd gan y rhai sydd yn gofalu am eu haddysg?

Wel, Llywydd, yn sicr, ni fyddwn i'n barod i wneud hynny ar sail un astudiaeth nad wyf i wedi cael unrhyw gyfle i edrych arni fy hun. Rwy'n credu y bu rhai enghreifftiau rhagorol mewn ysgolion ledled Cymru o'r ffordd y mae athrawon wedi gallu ymateb i heriau coronafeirws a darparu addysg yn y cyd-destun y mae wedi ei greu. Yr hyn yr ydym ni'n benderfynol o'i wneud nawr yw creu cyfres o ddisgwyliadau cenedlaethol sy'n golygu bod pob ysgol yng Nghymru yn yr hydref yn gallu manteisio ar brofiad y rhai gorau un i wneud yn siŵr bod safonau presenoldeb gofynnol yn yr ysgol, bod safonau ar gyfer amlder cyswllt pan nad ydyn nhw yn yr ysgol a bod safonau asesu ansawdd gwaith, marcio ac adborth yn gyffredin ar draws Cymru gyfan.

Byddwn yn defnyddio arolygwyr Estyn o fis Medi ymlaen i wneud yn siŵr bod arferion da yn cael eu rhannu ar draws y system addysg yng Nghymru, i wneud yn siŵr bod y gorau un, sydd wedi bod yn rhagorol, yn fy marn ni, lle mae wedi cael ei gynnig, ar gael yn fwy eang i bob plentyn yng Nghymru.

12:05
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hynny—Rebecca Evans.

Diolch, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i agenda heddiw. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos eistedd nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfodydd sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.

Trefnydd, byddwn i'n ddiolchgar os gallech chi ymchwilio i'r mater cwestiynau llafar ysgrifenedig sydd heb eu hateb, yn dyddio'n ôl, yn fy achos i, cyn belled â 2016, gan Weinidogion Llywodraeth Cymru. Gwn fod hwn yn fater a godwyd nifer o weithiau yn y Siambr hon, ond teimlaf nawr fod angen inni ddarganfod pam nad yw cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu hateb gan Weinidogion Llywodraeth Cymru. A allwch chi ymchwilio i hyn os gwelwch yn dda? Yn ôl y Swyddfa Gyflwyno, nid yw rhai o fy nghwestiynau i, yn dyddio'n ôl mor bell â 2016, wedi cael eu hateb. Byddwn i'n ddiolchgar os gallech ymchwilio i hyn, rheolwr busnes, gyda'r Swyddfa Gyflwyno a rhoi datganiad i Aelodau'r Senedd hon gydag esboniad o'r rheswm dros hyn.

Yn sicr, byddaf yn ymchwilio i'r rheswm pam nad yw'r ymatebion hynny wedi cyrraedd, gan fynd yn ôl yn sicr i'r dyddiad hwnnw. Os allwch adael imi gael y niferoedd, byddai hynny'n ddefnyddiol, neu fel arall gallaf gysylltu'n uniongyrchol â'r Swyddfa Gyflwyno i gael yr wybodaeth honno ar eich cyfer.FootnoteLink

Tybed a fyddai'n bosibl cael dadl amser y Llywodraeth ar y system gynllunio yng Nghymru, ac yn enwedig o ran swyddogaeth yr Arolygiaeth Gynllunio. Mae'n dod yn fwyfwy eglur i mi ac i lawer o Aelodau eraill y Senedd fod amheuon gwirioneddol ynghylch pa mor addas i'r diben yw'r Arolygiaeth Gynllunio ac a ddylem bellach fod yn symud tuag at system lle y dylai penderfyniadau lleol gan gynghorau ar faterion cynllunio gael eu blaenoriaethu'n fwy, yn hytrach na'r ffordd y mae'n digwydd ar hyn o bryd gyda'r Arolygiaeth Gynllunio yn ymddangos fel petai'n diystyru buddiannau lleol. Mae'n ymddangos i mi ei bod yn ddadl bwysig a hir-ddisgwyliedig, a tybed a all y Llywodraeth wneud amser ar gyfer dadl o'r fath.

Diolch i Mick Antoniw am yr awgrym hwnnw. Yn ystod yr haf, byddaf yn cael rhai trafodaethau â chyd-Aelodau am y dadleuon y byddent yn dymuno eu cyflwyno, a gwn y byddant yn ystyried y ceisiadau sydd wedi'u cyflwyno gan gyd-Aelodau heddiw, ac a wnaethant yn ddiweddar hefyd, o ran gosod yr agenda honno o fusnes y Llywodraeth ar gyfer y tymor nesaf. Gobeithio y bydd hynny, i raddau, yn caniatáu inni ddychwelyd at y mathau mwy arferol a mwy normal o gyflwyno busnes. Ond, yn amlwg, cawn weld ble'r ydym arni yn nhymor yr Hydref.

Trefnydd, a wnewch chi ofyn i Weinidog yr economi gyflwyno datganiad i gadarnhau pwy yn union sydd â'r hawl i gael pecyn cymorth busnes gan y gronfa adfer economaidd yn ystod y pandemig? Mae llawer o ddryswch yn parhau ynglŷn â phwy sy'n gymwys. Er enghraifft, yn achos un o fy etholwyr i sydd â thri busnes, ac sy'n talu treth dair gwaith, oherwydd eu bod yn cael eu rhedeg o'r un cyfeiriad, mae ond wedi cael cymorth ar gyfer un busnes, gan ddweud nad yw'n gymwys. Felly, cyn i'w ddau fusnes arall, sy'n cyflogi nifer o bobl, fynd y tu hwnt i achubiaeth, pa sicrwydd ariannol y gellid ei roi i fy etholwr?

12:10

Diolch i Caroline Jones am godi hyn. Rwy'n credu bod y meini prawf ar gyfer y grantiau sy'n ymwneud ag ardrethi annomestig yn eithaf clir, yn yr ystyr eu bod wedi'u nodi ar wefan Busnes Cymru. Mae'r sefyllfa yr ydych chi'n ei disgrifio yn sicr yn swnio fel pe bai dim ond un busnes fyddai'n gymwys i gael y grant ardrethi busnes, oherwydd bod y grantiau hynny'n gysylltiedig yn uniongyrchol â'r busnesau hynny sy'n talu ardrethi annomestig.

Wedi dweud hynny, gofynnir i fusnesau fynd at y gronfa cydnerthedd economaidd, a agorodd ar gyfer cam 2 yn gynharach yr wythnos hon, i geisio cymorth i fusnesau nad ydyn nhw'n gymwys i gael grantiau sy'n gysylltiedig â rhyddhad ardrethi annomestig. Felly, rydym wedi ceisio rhoi cefnogaeth, fel y dywedodd y Prif Weinidog, er mwyn llenwi'r bylchau hynny cyn belled ag y bo modd.

Arweinydd y Tŷ, a gaf i ddau ddatganiad, os oes modd? Rwy'n sylweddoli y byddan nhw'n cael eu gwneud ar ffurf ysgrifenedig. Un o ran y Llywodraeth yn methu ei therfyn amser ar gyfer taliadau fferm ddoe—30 Mehefin yw'r dyddiad cau ar gyfer gwneud pob taliad fferm, ar wahân i daliadau cymhleth. Rwy'n deall bod y Llywodraeth wedi methu'r dyddiad cau hwnnw ac y bydd yn agored i ddirwyon yr UE am fethu'r dyddiad cau. Mae angen inni ddeall yn awr beth fydd y llinell amser newydd i fusnesau fferm gael yr arian hwn, yn enwedig gyda'r argyfwng COVID sy'n effeithio ar lawer o fusnesau fferm, a'r llif arian i'r busnesau hynny.

Ac yn ail, soniodd adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ddoe am fater perthnasol iawn sydd wedi bod yn bla ar y cynllun datblygu gwledig a'r ffordd y cafodd ei gyflawni yn ystod ei oes ers 2014. Cyflawnodd yr Archwilydd Cyffredinol adroddiad yn 2018 a oedd yn amlygu'r un problemau a amlygwyd gan yr adroddiad ddoe. Ac, yn anffodus, mae'n ymddangos fel petai llawer o'r arian hwn yn mynd i gwmnïau ac unigolion a ffefrir, neu i asiantaethau'r Llywodraeth eu hunain, fel y mae'r archwilydd cyffredinol yn ei amlygu. Mae'n hanfodol bwysig bod y Gweinidog yn ymateb i'r adroddiad hwn mewn modd amserol a bod yr Aelodau'n gweld yr ymateb hwnnw fel y gallwn ni, gyda'r amser sy'n weddill ar gyfer y cynllun datblygu gwledig, fod yn hyderus na fydd yr arian sydd ar ôl yn cael ei wastraffu ac y caiff ei ddefnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol.

Yn sicr, byddaf yn sicrhau bod y Gweinidog yn ymwybodol o'ch cais am ddatganiad ac eglurder ynghylch taliadau fferm, yn enwedig o ran amseriad y taliadau hynny o fewn y flwyddyn ariannol hon.

O ran yr ail fater a godwch am adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, yn amlwg, rydym yn ddiolchgar am y gwaith a wnaed yno, a byddwn yn sicrhau bod swyddogion yn ymateb iddyn nhw maes o law. Gwn y bydd angen i'r swyddogion ddarparu tystiolaeth i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ynglŷn â'r dull a gafodd ei ddefnyddio i asesu gwerth am arian drwy'r cynllun datblygu gwledig, ac rwy'n credu bod hwnnw'n fforwm priodol i'r materion hynny gael eu trafod a'u harchwilio.

Fel rhan o'n hadolygiad parhaus o'r broses o ddarparu'r cynllun datblygu gwledig, roedd swyddogion eisoes wedi nodi'r materion yr oedd Archwilio Cymru wedi'u disgrifio ac wedi cymryd camau i'w hunioni. Mae casgliadau'r adroddiad yn rhoi tipyn o arweiniad defnyddiol i sicrhau bod yr holl gamau angenrheidiol wedi'u cymryd. A gallaf ychwanegu bod swyddogion wedi adolygu'r prosiectau dan sylw i sicrhau eu bod, yn ymarferol, yn sicrhau gwerth am arian a'u bod, lle bo hynny'n briodol, wedi cymryd camau i sicrhau ein bod ni'n cyflawni gwerth am arian, gan gynnwys ail-dendro rhai o'r prosiectau hynny. Felly, rwy'n gobeithio y bydd hynny o gymorth fel diweddariad dros dro cyn i swyddogion roi tystiolaeth i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

Diolch, Llywydd. Trefnydd, a gaf i alw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ynghylch pryd y bydd gwersi gyrru, profion theori a phrofion ymarferol yn gallu ailddechrau yng Nghymru? Mae llawer o bobl ledled y wlad, yn enwedig pobl ifanc, a oedd ar ganol cymryd eu gwersi gyrru ac wedi methu cwblhau eu cyrsiau. Yn ychwanegol at hynny, mae yna rai sydd wedi pasio eu profion theori, a dilysrwydd y rheini yn dod i ben cyn y gallan nhw sefyll y prawf gyrru ymarferol gwirioneddol, oherwydd cyfyngiadau coronafeirws. Ac, wrth gwrs, mae llawer o ysgolion gyrru gyda hyfforddwyr ar ochr Lloegr i'r ffin sy'n colli busnes i ysgolion gyrru ar ochr arall ffin Cymru, dim ond oherwydd y sefyllfa bresennol.

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd yn ailddechrau'r pethau hyn ar 4 Gorffennaf, ac rwy'n credu y byddai'n wych o beth pe byddai modd i ni gyrraedd sefyllfa yng Nghymru lle gallem gyhoeddi'r un peth cyn gynted â phosibl.

Wel, mae amrywiaeth eang iawn o amgylchiadau'n cael eu hystyried drwy gydol ein hadolygiad treigl tair wythnos o'r rheoliadau, ac rydym yn ystyried llawer o wahanol fathau o gyflogaeth ac amgylchiadau cyflogaeth. Felly, yn amlwg, mae yna amgylchiadau ledled Cymru—rwyf wedi cael athrawon gitâr sy'n addysgu gartref, er enghraifft, eisiau gwybod yr hyn y mae'r rheolau yn ei olygu iddyn nhw. Felly, rwy'n gwybod bod angen inni ddarparu cymaint o eglurder ag y gallwn ni, ac rydym ni'n ceisio gwneud hynny drwy ein hadolygiadau tair wythnos, ond gwnaf yn siŵr fy mod yn mynegi'ch pryderon, yn enwedig o ran hyfforddwyr gyrru a phobl sy'n cael gwersi gyrru, gyda golwg ar sefyll profion, yn y trafodaethau hynny y byddwn ni'n parhau i'w cael yr wythnos hon.

12:15
3. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeiadd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol')

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y swyddog cyfreithiol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Helen Mary Jones.

Effaith COVID-19 ar Hawliau Dynol

1. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ar effaith yr argyfwng Covid-19 ar hawliau dynol yng Nghymru? OQ55380

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynnal hawliau dynol, cyfrifoldeb y mae'n ei gymryd o ddifrif. Nid yw argyfwng COVID wedi lleihau'r ymrwymiad hwnnw. Mae'r hawliau hynny mor bwysig nawr ag y buon nhw ar unrhyw adeg yn y gorffennol. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i sicrhau bod yr hawliau hynny'n cael eu diogelu drwy gydol y broses o reoli argyfwng COVID-19.

Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ymateb ac am y sicrwydd hwnnw. Fe fydd ef, wrth gwrs, fel yr ydym ni i gyd, rwy'n siŵr, yn ymwybodol bod yr argyfwng hwn wedi effeithio'n fwy difrifol ar rai carfannau o'r boblogaeth nag ar eraill. Rydym ni'n gwybod, er enghraifft, am yr effaith economaidd ar fenywod ac effaith tymor hwy gorfod gwneud mwy o ddyletswyddau domestig ar yr un pryd â gweithio gartref ac, wrth gwrs, effaith y feirws ar bobl ddu a phobl o liw.

A yw'r Cwnsler Cyffredinol yn hyderus bod y cyngor y mae ef wedi gallu ei ddarparu wedi sicrhau bod Llywodraeth Cymru wedi arfer ei dyletswydd cydraddoldeb sector cyhoeddus yn y ffordd yr ymatebodd? Yn anecdotaidd, fy argraff i yw y gwnaed ymdrechion i wneud hynny, yn sicr. Ond mae'n bwysig iawn, rwy'n siŵr y byddai'n cytuno â mi, wrth inni symud allan o'r argyfwng, ein bod yn sicrhau bod yr effeithiau anghymesur hyn ar rannau o'n cymuned sydd eisoes yn agored i niwed yn cael eu cynnwys yn ein cynlluniau i ailadeiladu ac i ddatblygu'r economi.

Wel, rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod yn ei phwynt yn cydnabod effaith anghymesur COVID ar rai grwpiau yn ein cymuned. Nododd nifer o gymunedau yr effeithiwyd arnyn nhw'n andwyol iawn. Ac rwyf eisiau cysylltu fy hun â'r pwynt a wnaeth y Prif Weinidog mewn atebion i'w gwestiynau'n gynharach, sef dweud ein bod ni'n canolbwyntio'n fawr ar sicrhau bod grwpiau sydd wedi cael eu heffeithio'n anffafriol yn anghymesur yn cael cymorth ychwanegol yn y broses o ymadfer rhag COVID.

O ran y pwynt sy'n ymwneud yn benodol â dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus, mae'r asesiadau hynny wedi'u gwneud. Efallai y bydd hi wedi nodi, ac os na fydd hi wedi gwneud hynny, rwy'n ei chyfeirio at y ddogfen a gyhoeddwyd gennym ddydd Llun yr wythnos hon, sy'n disgrifio'r asesiadau effaith sydd wedi'u cyflawni'n gyffredinol o ran gwahanol ddyfarniadau y bu'n rhaid inni eu gwneud fel Llywodraeth ynghylch COVID-19. Fe fydd hi'n deall, ac rwyf yn gobeithio y bydd yr Aelodau yn gyffredinol yn deall, fod yr amgylchiadau ar ddechrau'r broses lle'r oedd penderfyniadau'n cael eu gwneud ar frys mawr wedi golygu bod yn rhaid inni ymdrin ychydig yn wahanol â'r dyfarniadau uniongyrchol ar y dechrau. Ond rwy'n ei chyfeirio hi ac aelodau eraill at y ddogfen honno, ac rwy'n gobeithio bod y ddogfen yn rhoi esboniad clir o'r dull gweithredu yr ydym ni wedi'i ddilyn drwy gydol y broses o asesu effaith, gan gofio, fel y dywedodd y Prif Weinidog ei hun, fod lens cydraddoldeb yn hanfodol i'r camau yr ydym ni'n eu cymryd, yn arbennig ar hyn o bryd, wrth ddod allan o'r cyfyngiadau symud.

Cwnsler Cyffredinol, rydych hi'n ymwybodol mai plant yw un o'r grwpiau yr effeithiwyd arnynt fwyaf gan y cyfyngiadau symud, ac yng ngoleuni Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, erthyglau 28 a 29, tybed pa gyngor yr ydych chi'n ei roi ar sut rydym ni'n mynd i sicrhau bod pob plentyn yn mynd i allu cael addysg wrth symud ymlaen ym mis Medi.

Diolch i Jenny Rathbone am y cwestiwn hwnnw. Cafodd y penderfyniad i gynyddu gweithrediadau mewn ysgolion o 29 Mehefin ei lywio, mewn gwirionedd, gan ddull a oedd yn seiliedig ar gyfle cyfartal i fanteisio ar addysg. Mae gan bob dysgwr yr hawl i addysg ac i gael ei gefnogi yn y dysgu hwnnw, fel sy'n glir o'r cwestiwn a ofynnodd imi, a nod y dull graddol yw lliniaru'r effaith andwyol ar ddysgwyr a achosir gan COVID-19. Fel Llywodraeth, rydym ni'n parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i amddiffyn hawliau plant fel y nodir yn y confensiwn y mae hi'n cyfeirio ato, ac rydym yn amlwg yn ystyriol o'n rhwymedigaethau mewn cysylltiad â phlant o dan Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 hefyd. Felly, rwyf eisiau sicrhau'r Aelod bod yr ystyriaethau hynny yn parhau i fod ar flaen ein meddwl o ran dychwelyd gweithrediadau i'r ysgol ac yn fwy cyffredinol, a hefyd hoffwn ei hatgoffa hi ac eraill am y gwaith a wnaed gennym i ymgynghori â phlant a phobl ifanc mewn cysylltiad ar effaith coronafeirws ar eu bywydau, a oedd ynddo'i hun yn adlewyrchiad o'r rhwymedigaethau arnom ni o dan Erthygl 12, rwy'n credu, o'r confensiwn, sy'n rhoi'r hawl i lais, fel petai, i blant a phobl ifanc.

12:20

Mae Jenny Rathbone yn gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn â hawl plant i gael addysg, sydd wedi'i hymgorffori nid yn unig yn CCUHP, ond yn ein Mesur hawliau plant ni ein hunain. Rwy'n gwybod, Gweinidog, eich bod chi wedi cwrdd â grŵp monitro CCUHP yn ystod y pandemig, ac un o'r pryderon yr wyf i wedi'i gael yw, pan wyf wedi cyflwyno cwestiynau yn gofyn sut mae hawliau plant yn cael eu hystyried yn y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud yn ystod y cyfnod cyfyngu symudiadau, mai prin iawn yw'r dystiolaeth o allu Llywodraeth i ddangos eu cyfrifiadau yn y maes hwn. Pa sicrwydd y gallwch chi ei roi y byddwch chi, wrth symud ymlaen, yn sicrhau bod yr asesiad priodol o'r effaith ar hawliau plant ac ystyriaethau eraill sy'n ymwneud â hawliau plant yn cael eu blaenoriaethu mewn gwirionedd, fel y gallwn ni roi plant sydd wedi dioddef cymaint yn y pandemig hwn wrth wraidd ein penderfyniadau? Diolch.

Diolch i Lynne Neagle am y cwestiwn hwnnw. Gallaf roi'r sicrwydd iddi fod y blaenoriaethau a'r egwyddorion hynny'n dal i fod yn sylfaenol i'n dull ni o weithredu. Gwn fod Julie Morgan wedi ysgrifennu at Lynne Neagle yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn gynharach y mis diwethaf, a disgrifiodd y gwaith o ran lleoliadau addysg a gofal plant ynghylch asesiadau effaith er mwyn deall yn llawn yr effaith ar blant yn sgil y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud yn yr ardal honno. Gobeithio y bydd hi hefyd wedi gallu gweld y ddogfen a gyhoeddwyd ddydd Llun, sy'n rhoi ychydig mwy o wybodaeth am rai o'r ystyriaethau hynny. Ond rwyf yn awyddus iawn i roi sicrwydd iddi hi fod yr ystyriaethau hynny'n sylfaenol i'r penderfyniadau a wnawn ac, unwaith eto, yn un o'r materion allweddol sy'n ymwneud â rhoi blaenoriaeth i blant allu dechrau dychwelyd i'r ysgol ddechrau'r wythnos hon.

Cymorth Iechyd Meddwl

2. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â gwella mynediad plant at gymorth iechyd meddwl yng Nghymru? OQ55373

Mae gwella mynediad plant at gymorth iechyd meddwl yn flaenoriaeth allweddol yng nghynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' y Llywodraeth, ac yn arbennig felly yn ystod COVID-19. Yn ogystal â gwasanaethau iechyd meddwl plant a oedd eisoes yn bodoli, mewn ymateb i COVID, rydym ni wedi rhoi arian ychwanegol ar gyfer pecynnau cymorth iechyd meddwl ar-lein drwy Hwb a gwasanaethau llinell gyngor i blant.

Diolch. Dylai gwella mynediad plant at gymorth ar gyfer materion iechyd meddwl fod yn broses syml a didrafferth. Fodd bynnag, canfuwyd mai dim ond 43 y cant o blant a phobl ifanc yng Nghymru fyddai'n hyderus wrth geisio cymorth gan dîm iechyd meddwl, a 39 y cant gan gwnsela mewn ysgolion. Wrth gwrs, mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i fyrddau partneriaeth rhanbarthol flaenoriaethu'r broses o integreiddio gwasanaethau ar gyfer plant ag anghenion cymhleth. Fodd bynnag, gwyddom erbyn hyn fod dau fwrdd iechyd wedi herio'r cyfrifoldeb o ran anghenion iechyd person ifanc yn ddiweddar, a bod plentyn wedi cael ei gadw mewn cyfleuster iechyd meddwl am wythnosau, er nad oedd ganddo unrhyw ddiagnosis iechyd meddwl. A wnewch chi ymchwilio i weld a yw byrddau partneriaeth rhanbarthol wedi bod yn blaenoriaethu gwasanaethau ar gyfer plant, ac os oes unrhyw fethiant o'r fath wedi digwydd, a yw hyn wedi torri Erthygl 24, sef yr hawl i'r gofal iechyd gorau posibl i blant?

Diolch i Janet Finch-Saunders am y cwestiwn atodol hwnnw. Mae peth ohono'n yn mynd â mi i feysydd y mae'r Gweinidog Iechyd yn gyfrifol amdanyn nhw, yn bennaf, felly byddaf yn gwneud yn siŵr ei fod yn ymwybodol o'r cwestiwn a ofynnwyd ganddi. O ran y cwestiwn ar hawliau'r confensiwn, wrth gwrs, mae hwnnw'n gwestiwn sydd ar flaen ein hystyriaethau ni 'n barhaus yn Llywodraeth. Ond, fel y dywedais, o ran y pwyntiau polisi a gododd yn ei chwestiwn, byddaf yn gwneud yn siŵr bod y Gweinidog Iechyd wedi clywed ei chwestiwn.

12:25
Strwythurau Rhynglywodraethol

3. Pa sylwadau cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u gwneud ar ran Llywodraeth Cymru ynghylch strwythurau rhynglywodraethol o fewn y DU? OQ55360

Rwy'n cyflwyno sylwadau'n aml ar ran Llywodraeth Cymru ar gysylltiadau rhynglywodraethol a'r strwythurau sydd eu hangen i gefnogi cydweithio a chydgysylltu ymhlith Llywodraethau'r DU. Nid yw gweithio rhynglywodraethol effeithiol erioed wedi bod mor bwysig wrth inni ymdrin â'r pandemig COVID-19 ac wrth inni agosáu, ar yr un pryd, at ddiwedd y cyfnod pontio Ewropeaidd.

Diolch, Gweinidog. Yn eich swydd chi, wrth gwrs, byddwch hefyd yn cadw golwg ar seilwaith simsan y strwythurau rhynglywodraethol ledled y Deyrnas Unedig. Roedd hwnnw yn cael ei brofi cyn COVID-19, roedd yn cael ei brofi cyn y broses o adael yr UE ac, yn wir, roedd yn cael ei brofi flwyddyn ar ôl blwyddyn wrth i bobl Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, a dinasoedd metropolitan mawr Lloegr dyfu'n fwy cyhyrog a chael mwy o bwerau ac awdurdod fel bod penderfyniadau'n cael eu gwneud ar y lefel gywir ac mor agos i'r bobl â phosibl. Felly, Cwnsler Cyffredinol, pa obaith sydd gennych chi y gall cyfarpar cyfansoddiadol rhynglywodraethol simsan y DU, sy'n seiliedig ar strwythurau ganrifoedd oed sydd wedi straffaglu i ymdopi â chyflymder cynyddol datganoli ac egwyddorion sybsidiaredd, gael eu haddasu i adlewyrchu pwerau a chryfderau llywodraethau datganoledig, y Senedd hon a phobl Cymru?

Diolch i Huw Irranca-Davies am y cwestiwn hwnnw. Boed hynny ym maes 'Brexit a Datganoli' neu'n ddiweddarach ym maes  'Diwygio ein Hundeb', rydym ni fel Llywodraeth yn gyson wedi ceisio bod yn eiriolwyr adeiladol dros gyfres o ddiwygiadau ar gyfer undeb sy'n gweithio'n well, sy'n rhoi llais llawn i gyfreithlondeb democrataidd y Senedd a Llywodraeth Cymru yma yng Nghymru, ac sy'n sefydlu cysylltiadau rhynglywodraethol ar sail cydraddoldeb cyfranogiad a pharch cydradd. Mae'r trefniadau sydd gennym ni ar hyn o bryd yn bell o gyflawni'r profion hynny, sef y profion cywir i Gymru, yn ein barn ni.

Fel y dywedwch chi, Huw, o ran y broses o ymgysylltu ar draws y DU ar adael Ewrop, mae enghreifftiau niferus wedi codi o'r diffygion yn y berthynas honno a'r strwythurau hynny. Rwy'n credu, yn fwyaf diweddar—fe wnaethoch ofyn am wybodaeth ynghylch sylwadau—fe ysgrifennais i at Michael Gove yn gofyn, i bob pwrpas, am ailgychwyn yr ymgysylltu mewn cysylltiad â gadael yr UE. Rydym yn dal i obeithio am gynnydd o ran yr adolygiad rhynglywodraethol, sef yr adolygiad sylfaenol o gysylltiadau'r Llywodraeth drwyddi draw. Roeddwn wedi gobeithio y byddem wedi gwneud mwy o gynnydd yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf ers Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau'r UE) ym mis Mai nag yr ydym ni wedi gallu'i wneud. Mae adolygiad Dunlop yn dal heb ei gyhoeddi, ar ran Llywodraeth y DU, ac rwy'n siŵr y byddem ni oll yn rhannu'r dymuniad i hwnnw gael ei gyhoeddi. 

Rwy'n credu, yn fwyaf diweddar, bod y gwaith rhynglywodraethol o ran COVID wedi bod yn addysgiadol yn yr ystyr hwn. Ar ddechrau'r broses, yn amlwg, COBRA oedd y fforwm ar gyfer gwneud penderfyniadau, ond nid oedd neb ar unrhyw adeg wedi estyn am strwythurau Cyd-bwyllgor y Gweinidogion fel ffordd o ymgysylltu ar sail barhaus. Ac rwy'n credu y bydd hynny'n rhoi gwybod inni sut, mewn gwirionedd, y mae pob Llywodraeth ym mhob rhan o'r DU yn ystyried nad yw'r strwythurau hynny'n addas at y diben a bod angen eu diwygio'n eithaf sylfaenol.  

Ar gefn beth rydych chi newydd ddweud, Weinidog, mae nifer o esiamplau dros yr wythnosau diwethaf o Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn anwybyddu safbwyntiau rydych chi fel Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd ac wedi gosod mewn llythyrau—er enghraifft dros ehangu'r cyfnod pontio a nifer o fesurau eraill rydych chi newydd eu crybwyll. Felly, a fyddech chi'n cytuno bod eich safbwynt chi o fod yn hapus tu mewn i'r undeb Brydeinig a pharhau i gael eich anwybyddu—a fyddech chi'n cytuno nad ydy hynny ddim yn ateb blaenoriaethau Cymru?

Wel, nid dyna'r ddau ddewis, gyda phob parch. Y dewis yw ein bod ni'n cael ffurf o undeb lle mae llais Cymru, Llywodraeth Cymru a phobl Cymru, drwy'r Senedd, yn cael eu hadlewyrchu'n addas yn y berthynas a'r system rynglywodraethol. Dŷn ni ddim yn dweud bod dim modd gwella ar y sefyllfa bresennol. Wrth gwrs, i'r gwrthwyneb. Nid amddiffyn y sefyllfa bresennol ydyn ni, ond cyflwyno ymgais adeiladol i gael system amgen ar draws undeb y Deyrnas Gyfunol.

Mae'r amser wedi hen basio lle bo hyn yn argyfyngus, a dweud y gwir, ac mae Llywodraeth Cymru ar bob achlysur wedi cymryd safbwynt adeiladol a chydweithredol, a disgrifio'r system y buasem ni'n disgrifio o ran Cymru a'n buddiannau ni. Mae galw nawr, rwy'n credu—yn sgil ein profiad ni yn benodol yn y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd, a hefyd o ran y system rynglywodraethol yng nghyd-destun COVID, mae angen i hynny ddigwydd nawr ar frys. 

12:30
Rheoliadau COVID-19

4. Pa gyngor cyfreithiol mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ei ddarparu ar effaith y rheoliadau Covid-19 ar allu Llywodraeth Cymru i gylfawni ei pholisiau? OQ55383

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud amryw o reoliadau fel ymateb i’r pandemig o dan Deddf y Coronafeirws 2020 a Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984. Mae pob rhan o'r ddeddfwriaeth yma wedi cael ei wneud ar ôl cysidro gofalus ar yr elfennau polisi, cyfreithiol, ac ar gyngor addas gwyddonol ac iechyd cyhoeddus i'n galluogi ni i ymateb i'r sefyllfa unigryw hon yng Nghymru.  

Mi ydym ni'n gwybod y bydd rhyw ffurf ar gyfyngiadau'r cyfnod clo yn parhau mewn grym am sbel eto, efallai tan y flwyddyn nesaf. Sut mae'r Llywodraeth felly'n bwriadu lliniaru effaith y rheoliadau ar y diwydiannau creadigol a'r celfyddydau? A pa ran fydd y sector yma yn ei chwarae yn eich fframwaith adfer ôl COVID? Wedi'r cyfan, mae'r celfyddydau'n allweddol, fel maen nhw bob tro mewn argyfwng, wrth i ni geisio deall, dirnad a mynegi yr hyn rydym ni'n mynd drwyddo fo. Fydd eich Llywodraeth chi yn dilyn esiampl gwledydd fel yr Alban a Seland Newydd ac yn buddsoddi yn y sector fel rhan o'ch gwaith adferol chi? Ac a wnewch chi symud ymlaen, heb ddisgwyl am unrhyw arian ychwanegol allai ddod neu beidio â dod o San Steffan, i gyhoeddi bod y celfyddydau yn rhan allweddol o'ch cynllun ôl COVID chi? 

Diolch i Siân Gwenllian am y cwestiwn hwnnw, a rŷch chi, yn y cwestiwn, yn amlygu un o'r elfennau pwysig iawn yn y cyd-destun COVID—hynny yw, mae effaith economaidd, mae effaith iechyd, wrth gwrs, ac iechyd cymdeithasol ehangach, ond mae gan y celfyddydau, fel rŷch chi'n disgrifio, rôl bwysig iawn yn ein llywio ni trwy'r cyfnod yma. Mae'r sector wedi dioddef effaith andwyol sylweddol yn yr wythnosau diwethaf, ac, fel rŷch chi'n ei ddweud yn y cwestiwn, mae'n debyg gwnaiff hynny barhau am gyfnod eto. 

Fe wnaf i ategu beth a wnaeth y Prif Weinidog ddweud yn ei gwestiynau cynharach mewn ymateb i Leanne Wood am ein hymgais ni i wneud yr hyn y gallwn ni i gefnogi'r sector yma, ac mae'r hyn mae Dafydd Elis-Thomas wedi ddatgan yn ddiweddar yn rhan allweddol o hynny. Fe fuaswn ni'n hoffi bod mewn byd lle nad ydym ni'n gorfod edrych ar yr hyn sydd yn dod o San Steffan o ran arian, ond, yn anffodus, mae hynny, wrth gwrs, yn elfen greiddiol i'r penderfyniadau, o ran adnoddau sydd o'n blaenau ni. Ond fel gwnaeth y Prif Weinidog ddweud yn ei gwestiynau yn gynharach, bydden ni am weld rôl y sector yn cael ei sicrhau yn y dyfodol fel ymateb i COVID. 

Deddfwriaeth Hawliau Dynol

5. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch a yw ei hymateb i Covid-19 yn unol â deddfwriaeth hawliau dynol? OQ55372

Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd ei rhwymedigaethau o dan ddeddfwriaeth hawliau dynol o ddifrif. Mae'n amlwg bod rhwymedigaethau cadarnhaol i weithredu, yn ogystal â rhwymedigaeth i beidio ag ymyrryd â hawliau dynol heb gyfiawnhad clir. Mae goblygiadau'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn parhau i ffurfio rhan o ystyriaethau'r Llywodraeth yng nghyd-destun ein hymateb i COVID-19.

Diolch. Nawr, er gwaethaf yr hawl i barch at fywyd preifat a theuluol, mae llawer o unigolion, ffrindiau a theuluoedd yn cael eu cadw ar wahân yma yng Nghymru gan y rheol 5 milltir. Er yr hawl i ryddid meddwl, cydwybod a chrefydd, cafodd addoldai eu cau hyd yn oed ar gyfer gweddi breifat. Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi mynegi pryderon na chafodd hawliau pobl hŷn eu diogelu'n ddigonol o bosibl, ac mae Comisiynydd Plant Cymru wedi ysgrifennu ynghylch sut mae plant a phobl ifanc wedi gweld newidiadau i'w gallu i fanteisio ar hawliau dynol. A ydych chi'n cytuno â mi y dylai ymchwiliad annibynnol gael ei sefydlu ar frys, er mwyn dechrau ystyried effaith penderfyniadau Llywodraeth Cymru ar gydymffurfio â deddfwriaeth hawliau dynol yng Nghymru yn ystod y pandemig hwn o COVID-19? Diolch.

12:35

Diolch i Janet Finch-Saunders am y cwestiwn atodol hwnnw. Y pwynt cyntaf, eithaf amlwg, i'w wneud yw nad rheol yw'r Rheol 5-milltir, yn y ffordd y mae hi'n ei disgrifio. Hoffwn egluro ei bod yn fater o synnwyr cyffredin a chanllaw; rwyf wedi colli golwg ar sawl gwaith y mae'r pwynt hwnnw wedi'i wneud yn y Siambr, ond yn hapus i'w wneud eto ar gyfer y cofnod, rhag ofn bod unrhyw gamddealltwriaeth.

O ran ei phwynt ehangach ynghylch hawliau dynol, rwy'n credu ei bod yn bwysig inni ystyried y cwestiynau hyn yn glir iawn. Mae pob un o'r penderfyniadau sydd wedi'u cymryd, wedi'u gwerthuso yn erbyn, yn gyntaf, ein rhwymedigaethau yn y maes hwn, ond hefyd ein hymrwymiad fel Llywodraeth yn y maes hwn. Mae'n rhaid i bob penderfyniad sy'n cael ei wneud basio cyfres o brofion, ei fod yn angenrheidiol, ei fod yn gymesur, ac yn cael ei adolygu'n gyson. Y dasg dan sylw yw torri ac ymyrryd â hawliau pobl yn unol â'r gyfres honno o brofion yn unig, a phwyso a mesur yr hawliau hynny yn erbyn y risgiau, sy'n amlwg, i iechyd y cyhoedd. Rwy'n hyderus mai dyna'r broses y mae'r Llywodraeth wedi'i dilyn yn gyffredinol o ran un o'r penderfyniadau hynny, ac rwy'n cydnabod yn llwyr y pwynt y mae wedi'i wneud o ran y materion y mae'r comisiynwyr wedi tynnu sylw atynt. Mae'n bwysig bod y materion hynny yn cael eu codi a'u bod yn rhan o'r ddadl hon ac yn rhan o'r drafodaeth hon, oherwydd mae'r ymrwymiad sylfaenol sydd gennym ni fel Llywodraeth i hawliau dynol, fel y dywedais i'n gynharach, yn ddiysgog.

Ac felly rydym ni'n croesawu'r cyfle i drafod y materion hynny a chael ein holi ynglŷn â'r materion hynny. A byddwn i'n fodlon cyflwyno nodyn yn Llyfrgell y Senedd, Llywydd, sy'n disgrifio'r broses o wneud penderfyniadau mewn cysylltiad â rhai o'r cyfyngiadau sydd wedi cynnwys y profion cyfreithiol y siaradais amdanynt, fel y gall yr Aelodau ddeall yn gliriach, efallai, rai o'r penderfyniadau sydd yn cael eu gwneud ar hyd y ffordd.

Menywod yn Erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn

6. Pa drafodaethau mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael yn ddiweddar gyda swyddogion eraill y gyfraith ynghylch y camau cyfreithiol sy'n cael eu cymryd gan y menywod yn erbyn anghydraddoldeb pensiwn y wladwriaeth yn erbyn y newidiadau a wnaed i'w hawliau pensiwn gan Lywodraeth y DU? OQ55379

Mae Llywodraeth Cymru wedi mynegi pryderon dro ar ôl tro wrth Lywodraeth y DU ynghylch y cynnydd yn oedran pensiwn y wladwriaeth i fenywod, a hynny heb hysbysiad effeithiol na digon o rybudd. Bydd y mater yn cael ei ystyried gan y llys apêl ym mis Gorffennaf, a byddaf yn ystyried dyfarniad y llys apêl yn ofalus pan gaiff ei drosglwyddo.

Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb, a hefyd am agwedd gyson ac adeiladol Llywodraeth Cymru at y mater pwysig iawn hwn. Mae'n cyfeirio at y camau cyfreithiol parhaus. A yw ef yn cytuno â mi y dylai Llywodraeth y DU fynd i'r afael â'r anghyfiawnder hwn yn awr a chyflwyno cynllun iawndal priodol cyn cymryd camau cyfreithiol pellach? Maen nhw wedi dangos eu bod yn barod i wneud buddsoddiadau sylweddol iawn i ddiogelu ein heconomi, ac mae hynny i'w groesawu'n fawr iawn. Yng nghyd-destun y gallu a'r parodrwydd hwnnw i wneud y buddsoddiad anhygoel hwnnw, a yw ef yn cytuno â mi ei bod yn bryd iddyn nhw wneud buddsoddiad tebyg i fynd i'r afael â'r anghyfiawnder a wynebwyd gan fenywod a anwyd yn y 1950au? Ac a yw ef hefyd yn cytuno â mi y byddai budd ychwanegol, wrth gwrs, i wneud hynny, gan y byddai'n galluogi rhai o'r menywod hynny i ymddeol fel yr oedden nhw wedi bwriadu ei wneud, gan ryddhau swyddi yn y gweithlu o bosibl ar gyfer gweithwyr nad ydyn nhw eto'n barod i ymddeol?

Wel, hoffwn i ddiolch i Helen Mary Jones am y cwestiwn pellach hwnnw, ac, os caf ddweud, am y ffordd adeiladol y mae hi wedi ymgysylltu ar y cwestiwn hwn bob amser, fel y gwnaeth Aelodau eraill hefyd, wrth gwrs. Mae'r achos y mae hi'n fy ngwahodd i i'w wneud yn achos yr ydym wedi bod yn ei wneud fel Llywodraeth i Weinidogion Llywodraeth y DU. Rwy'n credu fy mod i'n iawn i ddweud na chafwyd ateb i'r llythyr olaf a ysgrifennwyd gennym yn argymell y safbwynt hwn, ond ni fydd ei gynnwys wedi bod yn newydd i Lywodraeth y DU; rydym wedi dadlau'n gyson dros ymyrryd ar sail tegwch yn y cwestiwn hwn.

Mae hi'n cysylltu, mewn ffordd bwysig iawn yn fy marn i, brofiad y menywod yr effeithiwyd arnynt â phrofiad y misoedd diwethaf ac effaith y coronafeirws, sydd wedi bod yn anghymesur ar nifer o'r menywod hynny. Mae menywod yn fwy amlwg na'r cyffredin mewn sectorau sydd wedi bod yn destun cyfyngiadau symud er enghraifft, ac fe fydd menywod nad ydyn nhw'n gallu gweithio, ac nad ydyn nhw ychwaith yn cael mynediad i'w pensiynau, yn teimlo baich ariannol arbennig o ganlyniad i gyfuniad o'r ddau beth hynny. Ac rwy'n credu bod hynny'n gosod rhwymedigaeth arbennig ar Lywodraeth y DU i weithredu o dan yr amgylchiadau penodol hyn, ac, rwyf i, fel hi, yn gobeithio'n fawr y byddan nhw'n gwneud hynny.

12:40
Comisiwn Thomas

7. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am weithredu argymhellion Comisiwn Thomas ar Gyfiawnder yng Nghymru? OQ55377

Wel, mae ymateb i'r pandemig coronafeirws, rwy'n ofni, wedi effeithio'n anochel ar gyflymder y gwaith i weithredu argymhellion Comisiwn Thomas. Er hynny, rydym yn parhau i wneud cynnydd, gan ddilyn yr argymhellion hynny o fewn meysydd ein cyfrifoldeb ni ac yn parhau i gyflwyno'r achos dros newid i Lywodraeth y DU, sydd wedi ymrwymo i drafodaethau ar lefelau gweinidogol a swyddogol fel ei gilydd.

Llywydd, rwy'n falch iawn o glywed hynny gan y Cwnsler Cyffredinol, a chlywed bod Llywodraeth Cymru o leiaf yn ceisio gwneud cynnydd ar y mater hwn, dan yr amgylchiadau mwyaf dyrys. Ond, wrth gwrs, yr amgylchiadau mwyaf dyrys hyn sy'n amlygu'r angen i symud yn gyflym ar yr agenda hon. Rydym wedi gweld sut yr effeithiwyd ar boblogaeth carchardai Cymru gan COVID-19 yn fwy nag yn unman arall ledled yr ynysoedd hyn, a bod y strwythurau presennol—er y gall rhai pobl dybio mai trafodaeth academaidd yw hon—yn effeithio yn wirioneddol ar bobl, a bod pobl yn dioddef heddiw, o fewn poblogaeth carchardai ar hyn o bryd, ac yn y boblogaeth ehangach sydd wedi bod drwy'r system cyfiawnder troseddol hefyd, oherwydd ffaeleddau'r system. Mae Comisiwn Thomas wedi dangos yn eglur iawn fod eisiau newid ar frys i'r system hon er mwyn ei gwneud yn addas i'r diben, sef gwarchod buddiannau pobl ledled y wlad hon  Gobeithio y gall y Gweinidog barhau i ddadlau'r achos hwn, a gobeithio y bydd ef a Gweinidogion eraill hefyd yn gallu amlygu effaith methiant Llywodraeth y DU i gydnabod y materion hyn yng nghanol argyfwng y pandemig hwn.

Rwy'n diolch i Alun Davies am y cwestiwn. Mae rhai agweddau ar gynnydd wedi digwydd; rwy'n awyddus i'w sicrhau o hynny. Felly, mae Pwyllgor Rheolau'r Weithdrefn Sifil wedi cytuno yn ddiweddar i'w gwneud yn orfodol, er enghraifft, i achosion yn erbyn cyrff cyhoeddus Cymru gael gwrandawiad yng Nghymru, lle cafwyd her i gyfreithlondeb eu penderfyniadau. Ac roeddwn i'n falch iawn hefyd o weld bod yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr wedi ymrwymo erbyn hyn i sicrhau bod y cymhwyster arholiad i gymhwyso cyfreithwyr ar gael yn y Gymraeg. Roedd y ddau argymhelliad hyn yng Nghomisiwn Thomas. Er eu bod nhw'n bwysig, nid wyf yn awgrymu mai'r rhain yw'r argymhellion canolog, dim ond i ddangos ein bod wedi mynd ar drywydd hynny gyda'n partneriaid, lle mae cynnydd wedi bod yn bosibl.

O ran y pwynt ehangach a wna mewn cysylltiad â'r hyn a ddysgwyd gennym o bosibl yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf, yn benodol am effaith natur ein setliad datganoli ynglŷn â chyfiawnder o ran canlyniadau, sef yr achos pwysicaf un i'w wneud yn y bôn, rwy'n credu ei fod yn dangos diffygion y trefniadau presennol. Ac er bod cyrff cyhoeddus yng Nghymru wedi gwneud eu gorau glas a phopeth o fewn eu gallu, yn fy marn i, i weithio gyda'i gilydd mewn amgylchiadau eithriadol o anodd, rwy'n credu bod y rhain, i ryw raddau, wedi cael eu llesteirio yn y fan hon oherwydd natur ein setliad datganoli. Fe wnes i'r pwynt hwnnw i'r Arglwydd Ganghellor mewn trafodaeth ddiweddar gydag ef; rwy'n gwybod ei fod yntau hefyd yn canolbwyntio ar ganlyniadau. Ac roedd rhai o'r pwyntiau ymarferol hynny am boblogaeth y carchardai yn benodol—y drafodaeth honno a gefais i gydag ef, ynghyd â'r Prif Weinidog a'r Prif Chwip, hefyd yn ystyried sefydlu'r ganolfan breswyl gyntaf i fenywod yng Nghymru, er enghraifft, gan felly wneud cynnydd ymarferol yn rhai o'r meysydd hynny. Ond fe fyddwn i'n sicr yn ategu'r pwynt mwy eang a wna am yr hyn yr ydym wedi ei ddysgu am y setliad datganoli yn ystod yr wythnosau a'r misoedd diwethaf.

4. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Caroline Jones.

Effaith COVID-19 ar Bolisi Trethu Lleol

1. Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith Covid-19 ar ei pholisi trethu lleol? OQ55374

Rydym yn cydweithio'n agos iawn ag awdurdodau lleol i fonitro effaith COVID-19 ar yr incwm a ddaw o drethiant lleol. Mae ein pecyn rhyddhad ardrethi'n rhoi £580 miliwn o gymorth i dalwyr ardrethi yn ystod 2020-21, ac mae ein cynllun ni o ostyngiadau yn y dreth gyngor yn estyn cymorth gwarantedig i aelwydydd ar incwm isel.

12:45

Diolch, Gweinidog. Roedd awdurdodau lleol eisoes yn cael trafferthion ariannol cyn y pandemig. Roedd gwasanaethau'n cael eu torri, ac eto roedd ein hetholwyr ni'n gweld eu biliau treth gyngor yn cynyddu ar raddfa eithriadol. Mae'r coronafeirws wedi rhoi straen enfawr ar awdurdodau lleol gan mai y nhw sydd ar y rheng flaen o ran amddiffyn y cyhoedd rhag y pandemig. Mae cynghorau ledled Cymru wedi sefyll yn y bwlch o ran cyflenwi bwyd i'r rhai sy'n cysgodi, o ran cartrefu'r digartref ac olrhain y bobl sy'n sâl. Fe fydd gwasanaethau cyngor yn costio mwy nag yr oedden nhw cyn y pandemig, gan fod yn rhaid rhoi ystyriaeth i gost y mesurau lliniaru. Gweinidog, a wnewch chi roi sicrwydd i bobl Cymru y bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu'r gost ychwanegol, na fydd y dreth gyngor yn codi o ganlyniad i hyn, ac na fydd yn rhaid i'm hetholwyr i—y mae llawer ohonyn nhw'n cael trafferthion ariannol eisoes—dalu'r bil? Diolch.

Rwy'n diolch i Caroline Jones am godi'r mater hwn. Mae cyllid Llywodraeth Leol yn arbennig o bwysig yn ystod argyfwng COVID-19, gan mai Llywodraeth Leol, ochr yn ochr â'u cydweithwyr ym maes iechyd, sydd ar y rheng flaen o ran cefnogi ein pobl a'n cymunedau ni. A dyna un o'r rhesymau pam rwyf wedi gallu cydnabod y pwysau hwnnw drwy roi dros £180 miliwn hyd yn hyn i gronfa caledi llywodraeth leol. Mae'r gronfa honno'n caniatáu i awdurdodau lleol ledled Cymru ddefnyddio cyllid i'w cefnogi nhw, er enghraifft, wrth dalu'r costau ychwanegol wrth ddarparu gofal cymdeithasol, wrth ddarparu llety ychwanegol i helpu pobl sy'n cysgu ar y stryd, ac i'w helpu hefyd yn eu dyhead i gefnogi teuluoedd ar incwm isel sydd bellach yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.

Yn ogystal â hynny, rydym yn cydnabod bod awdurdodau lleol wedi gweld colli cryn dipyn o incwm hefyd. Mewn amseroedd cyffredin, fe fyddai awdurdodau lleol yn cael incwm o'r canolfannau hamdden, y gwasanaethau arlwyo y maen nhw'n ei ddarparu ac o barcio ac ati. Felly, mae swm sylweddol o'r £180 miliwn hwnnw yno hefyd i gefnogi awdurdodau lleol gyda'r incwm y maen nhw wedi ei golli eleni. Rwy'n falch ein bod ni wedi gallu sicrhau nad yw awdurdodau lleol wedi gweld 10 mlynedd tebyg i'r rhai a welodd awdurdodau lleol dros y ffin yn Lloegr, sy'n golygu eu bod nhw mewn sefyllfa well i wynebu'r argyfwng hwn, ond rwy'n cydnabod yn llwyr fod angen iddyn nhw wneud hynny gyda Llywodraeth Cymru yn bartneriaid iddyn nhw.

Mae Caroline Jones wedi canolbwyntio ar y dreth gyngor o ran y mater o drethiant lleol. Os caf i ganolbwyntio ar ochr ardrethi busnes, mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ers tro byd am edrych ar strwythur ardrethi busnes yng Nghymru a chymorth ardrethi busnes yn ei gyfanrwydd, gyda'r posibilrwydd o ryddhau busnesau sydd â gwerth ardrethol o lai na £15,000 yn gyfan gwbl rhag gorfod ei dalu.

Gweinidog, rwy'n sylweddoli bod angen ichi gadw'r cydbwysedd yn ofalus iawn ar hyn o bryd, rhwng sicrhau bod gan awdurdodau lleol y gyfradd gywir o drethiant a bod busnesau yn cael eu cefnogi. A gaf i ofyn, wrth inni ddod allan o'r pandemig a'r cyfyngiadau symud, eich bod chi'n edrych eto ar y ffordd y mae ardrethi busnes yn gweithio yng Nghymru, fel y bydd y busnesau hynny sydd ag angen cymaint o arian ag sy'n bosibl ar hyn o bryd i fuddsoddi yn y dyfodol a chyflogi pobl yn gallu gwneud hynny? Ac rwy'n credu bod edrych ar y drefn ardrethi busnes yn ei chyfanrwydd ac ysgafnu'r baich ar fusnesau yn un ffordd o wneud hynny.

Rwy'n awyddus iawn i archwilio beth arall y gallem ni ei wneud neu ei wneud yn wahanol, mewn gwirionedd, ym maes cyllid llywodraeth leol, ac yn benodol wrth gwrs ardrethi annomestig, ond hefyd y dreth gyngor, oherwydd dyna'r ddau biler sy'n cynnal llywodraeth leol. Dyna un o'r rhesymau i mi gomisiynu amrywiaeth o waith ymchwil a fydd yn ein helpu ni i ddeall beth yw'r dewisiadau i'r dyfodol. Felly, mae gennym ni Brifysgol Bangor yn edrych ar botensial treth gwerth tir lleol ac fe wnaethom ni gyhoeddi'r adroddiad hwnnw ym mis Mawrth eleni. Mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi gwneud rhyw gymaint o ymchwil i ailbrisio a diwygio'r dreth gyngor, ac fe gyhoeddwyd hwnnw ym mis Ebrill eleni. Ac yna mae Polisi ar Waith wedi bod yn gweithio, gan edrych ar gynllun gostyngiadau yn y dreth gyngor. Cyhoeddwyd adroddiad interim ym mis Ionawr ac rydym ni'n disgwyl i'r adroddiad terfynol gael ei gyhoeddi yn fuan iawn. Ac yna mae darn arall o waith yr ydym ni'n ei ddisgwyl ym mis Medi sy'n ystyried trethi lleol yn seiliedig ar incwm, felly fe fyddai hwnnw'n ddull radical iawn yn hynny o beth.

Rwy'n awyddus iawn i'r holl ddarnau hyn o ymchwil fod ar gael i'r cyhoedd—yno er mwyn i bob plaid a phawb sydd â diddordeb fod yn eu hystyried nhw cyn yr etholiadau nesaf i'r Senedd, fel y gallwn ystyried y ffordd ymlaen. Nid oes gennyf i ddiddordeb mewn newid o ran newid, ond rwy'n cydnabod bod yna welliannau sylweddol y gallwn ni barhau i'w gwneud i drethi annomestig a'r dreth gyngor.

12:50
Cronfa Caledi Llywodraeth Leol

2. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn dosbarthu'r £78 miliwn a glustnodwyd fel rhan o'r Gronfa Caledi Llywodraeth Leol o fewn y gyllideb er mwyn helpu awdurdodau lleol i reoli incwm a gollwyd o ganlyniad i Covid-19? OQ55361

Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn gweithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar hyn o bryd i benderfynu ar y sail fwyaf addas ar gyfer cymorth. Ond fe fydd hyn yn digwydd drwy broses o wneud ceisiadau.

Wel, diolch yn fawr i chi am yr ateb hwnnw, oherwydd rwy'n credu fy mod i'n iawn i ddweud, a siarad yn gyffredinol, bod cynghorau'n adhawlio eu gwariant sy'n gysylltiedig â COVID oddi wrthych chi'n fisol fel ôl-daliad. A wnewch chi ddweud a ydych chi wedi gwrthod talu am unrhyw wariant a gyflwynwyd ger eich bron, hyd yn oed gyda'r dystiolaeth? Ac a oes gennych unrhyw awgrym eto ynghylch pa fath o dystiolaeth y byddwch chi'n awyddus i'w chael gan gynghorau i gefnogi ceisiadau am incwm a gollwyd, gan fy mod yn cymryd nad rhagdybiaethau o flynyddoedd blaenorol fyddai hynny?

Rwy'n deall bod proses drwyadl iawn ar waith, fel y byddech chi'n ei ddisgwyl, o ran edrych ar yr hawliadau sy'n dod trwyddo o lywodraeth leol. Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a'i swyddogion yn arwain ar hynny, er fy mod i'n deall bod rhai hawliadau yn cael eu gwrthod ar y sail nad ydyn nhw o bosibl yn ymwneud â phwysau COVID yn uniongyrchol, neu eu bod nhw'n incwm coll o bosibl ar hyn o bryd, ond yn incwm y gellid ei adennill yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Felly, mae'n rhaid i ni brofi'r holl bethau hyn mewn ffordd gadarn iawn, gan mai dim ond swm cyfyngedig iawn o arian sydd gennym i fynd i'r afael ag argyfwng COVID ac mae'n bwysig iawn ein bod yn gallu gwneud hynny mewn ffordd sy'n wirioneddol gadarn a chyflwyno tystiolaeth o'n penderfyniadau hefyd. Oherwydd rwyf bob amser yn ymwybodol iawn, er ein bod ni'n gwneud penderfyniadau'n gyflym iawn ar hyn o bryd, y bydd angen rhoi cyfrif, ymhen amser, am yr holl benderfyniadau hynny, o ran cael y gwerth gorau i bwrs y wlad.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth. 

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Nawr, mae David Phillips, yn y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, wedi dadlau y bydd hanes yr ymateb cyllidol gan Lywodraethau datganoledig yn ystod y pandemig hwn yn un o Lywodraethau sy'n cael eu llesteirio gan gronfeydd cyfyngedig, pwerau cyfyngedig i fenthyca, yn ogystal â'r cyllid sy'n dod iddynt o Lywodraeth y DU. Nawr, mae'r Gweinidog wedi nodi ei bod hi wedi cynnal trafodaethau â Thrysorlys y DU am lacio pwerau cyllidol. A wnaiff hi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni o ran pryd y gall Llywodraeth Cymru ddisgwyl gweld cyflwyno rhywfaint o'r hyblygrwydd hwnnw?

Fe fyddwn i'n hapus i wneud hynny. Y tro diwethaf imi drafod y materion arbennig hyn gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys oedd dydd Gwener diwethaf. Ac fe ddywedodd ef y bydd datganiad economaidd yr haf yn cael ei gyhoeddi yn fuan, ac fe gawn ni drafodaeth bellach ar ôl hynny o ran yr hyblygrwydd cyllidol yr ydym ni wedi gofyn amdano. Ac i grynhoi, ar gyfer pobl nad ydynt yn gyfarwydd â'r hyblygrwydd hwnnw, rydym yn chwilio am y gallu i dynnu mwy o arian o gronfa wrth gefn Cymru, i fenthyca mwy, i dynnu'r terfyn ar fenthyca, a hefyd i allu newid cyfalaf yn refeniw Fe fydd rhywfaint o hyn, a pha mor bell yr ydym ni'n dymuno mynd â phethau, yn dibynnu, i raddau helaeth, ar y datganiad a wna'r Canghellor yr wythnos nesaf, ac fe fydd gennym ddealltwriaeth well o'r arian y gallwn ni ei ddisgwyl i'n cadw ni am weddill y flwyddyn ariannol hon.

Iawn. Diolch i chi am yr ateb. I lawer o ffanffer ddoe, wrth gwrs, fe gyhoeddodd Prif Weinidog y DU ei gynllun ef i ailadeiladu yn well, sef cyflwyno buddsoddiad o £5 biliwn. Ar wahân i'r swm hwnnw sy'n ymddangos bron yn chwerthinllyd o bitw, o ystyried maint yr her a wynebwn, nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y DU, mae'n ymddangos na ellir nodi y daw'r un geiniog o'r buddsoddiad hwnnw i Gymru. Nawr, yn ogystal â chodi ein llais torfol ni, fel cenedl, i fynnu bod hynny'n cael ei newid, rwy'n credu bod yn rhaid inni fod yn barod hefyd i ddweud, 'Os na wnân nhw hyn er ein mwyn ni, fe wnawn ni'r hyn a allwn ni er ein mwyn ni ein hunain.' Ac mae angen inni ailfeddwl, rwy'n credu, ar sawl lefel: am faint y buddsoddiad sydd ei angen arnom ni yng Nghymru a sut i'w gyflwyno a sut i'w flaenoriaethu; am yr hyblygrwydd cyllidol sydd ei angen arnom ni; am ddiwygio trethiant hyd yn oed. Felly, a yw'r Llywodraeth yn barod i ddechrau neu ymuno â ni yn y drafodaeth honno i ddiwygio nawr, oherwydd po gyflymaf yn y byd y dechreuwn ni ddod o hyd i'r ffyrdd arloesol hynny o fynd yn ein blaenau, cyflymaf yn y byd y byddwn yn fwy tebygol o'u canfod nhw?

Mae Rhun ap Iorwerth yn hollol gywir o ran llwyr ddiffyg sylwedd y cyhoeddiad gan y Prif Weinidog ddoe, yn yr ystyr nad oes yr un geiniog ychwanegol i ddod i Gymru o ganlyniad i'r datganiad ddoe, yn bendant nid eleni, a'r cwbl sydd am ddigwydd yw bod cyllid yn cael ei ailbroffilio ar gyfer prosiectau i'r dyfodol. Felly, nid oedd unrhyw beth o ddiddordeb nac o unrhyw arwyddocâd i ni yma yng Nghymru. Wedi dweud hynny, rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw gwariant cyfalaf yn yr adferiad, a dyna pam rydym yn dwyn ynghyd y rhaglenni a fydd, yn ein tyb ni, yn barod i'w cyflwyno, ac yn wirioneddol ystwyth o ran gallu eu gweithredu cyn gynted ag y bo modd nawr, wrth inni symud i'r cyfnod hwnnw o adferiad.

Mae Llywodraeth Leol yn gweithio'n galed iawn hefyd i nodi prosiectau sy'n barod i'w gweithredu ledled Cymru, fel y gallwn  sicrhau'r lledaeniad daearyddol hwnnw o ran buddsoddi, gan gofio y bydd rhai cymunedau yn cael eu taro'n arbennig o galed hefyd gan ganlyniadau economaidd coronafeirws. Ac, wrth gwrs, mae gennym ein cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru, sy'n cynnwys biliynau o bunnoedd o fuddsoddiad posibl hefyd, ac  fe fydd hwnnw'n bwysig iawn.

Yn olaf, fe ddylwn i grybwyll, wrth gwrs, fod ein cynlluniau ni'n parhau ar gyfer ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Fe fyddai ein cynlluniau ni yng Nghymru yn gwario £2 biliwn dros y pum mlynedd nesaf, ac rwyf i o'r farn fod y lefel honno o uchelgais yn anferthol o'i chymharu â'r hyn a gyhoeddodd y Prif Weinidog ddoe i Loegr.

12:55

Unwaith eto, diolch i chi am yr ateb hwnnw. Un peth y byddwn i'n ei ddweud: gyda'r cynlluniau blaenorol i ddatblygu seilwaith a oedd ar waith, mae angen eu bwrw nhw i ebargofiant, o gofio maint ein dealltwriaeth ni nawr o'r her sydd o'n blaenau, sydd ar lefel wahanol i'r hyn a welsom ni o'r blaen. Mae angen adeiladu o'r newydd.

Yn olaf, fe hoffwn i roi ystyriaeth i'r ffaith, wrth i fusnesau ailagor yn raddol, nad yw pob un ohonyn nhw'n gallu symud ar yr un cyflymder ag eraill. Un pecyn cymorth a fu'n achubiaeth, wrth gwrs, oedd y grantiau ardrethi annomestig. A fydd yna gylch arall o grantiau ardrethi annomestig ar gael i'r busnesau hynny nad ydyn nhw'n gallu ailagor? A hefyd, o ran twristiaeth a lletygarwch yn benodol—sy'n wynebu blwyddyn gyfan o elw bach iawn, hyd yn oed os yw rhai ohonyn nhw'n gallu agor nawr—pa drafodaethau a gawsoch chi gyda Gweinidog yr Economi i sicrhau bod pecyn cymorth ariannol ar gael i'r sectorau hyn ac ar gyfer y tymor hwy, a hynny ar fyrder?

Rwy'n mynd i fod yn hollol onest. Fe fydd y lefel o arian y gallwn ni ei roi yn syth ym mhocedi busnesau yma yng Nghymru yn dibynnu, rwy'n credu, i raddau helaeth, ar sut olwg fydd ar ein pecyn ariannol ni yng Nghymru am weddill y flwyddyn. Felly, ddydd Mercher nesaf, fe fyddwn ni'n cael datganiad gan y Canghellor. Fe fydd hwnnw'n nodi'r hyn y gallwn ei ddisgwyl oddi wrth Lywodraeth y DU o ran refeniw ar gyfer gweddill y flwyddyn, ac rwy'n credu y bydd angen inni edrych ar hynny, o ran yr adferiad, ond hefyd ar y pwysau parhaus y gwyddom ni sydd arnom o ran ymdrin ag argyfwng coronafeirws, nad yw wedi dod i ben eto, er gwaethaf llacio'r cyfyngiadau symud. Felly, ni allaf roi unrhyw ymrwymiad i grantiau pellach heddiw.

Fodd bynnag, yr hyn y gallaf i ei ddweud yw ein bod yn cydnabod pa mor bwysig y mae'r cynllun cadw swyddi coronafeirws wedi bod ar gyfer sectorau penodol. Fe ysgrifennodd Ken Skates a minnau ar y cyd at y Canghellor ynglŷn â'r pwynt penodol hwn, gan bwysleisio'r angen am gefnogaeth barhaus i sectorau penodol—gan roi twristiaeth yn enghraifft—a hefyd i'r busnesau hynny sy'n parhau i fod yn methu ag agor o ganlyniad i'r cloi neu'r cyfyngiadau sy'n aros ar fathau penodol o fusnesau, ac fe fyddwn ni'n parhau i gyflwyno'r dadleuon hynny.

Diolch, Llywydd. Gweinidog, mae'r newyddion diweddar am golli swyddi yn Airbus wedi dangos yr angen am gymorth i fusnesau Cymru yn ystod y cyfnod anodd hwn, ac mae hynny'n cynnwys cynllun ffyrlo Llywodraeth y DU ac, wrth gwrs, gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Nawr, o'r addewid o £500 miliwn i'r gronfa cydnerthedd economaidd, mae'n ymddangos mai llai na hanner hynny a ddefnyddiwyd hyd yn hyn. A wnewch chi ddweud ychydig mwy wrthym ni am y modd y mae'r dyraniadau hyn yn gweithio, faint yn union o'r arian hwnnw a gafodd ei wario, a sut ydych chi, fel Gweinidog Cyllid, yn sicrhau bod y dyraniadau yn magu cydnerthedd effeithiol yn y cymunedau yr effeithir arnynt oherwydd cau i lawr a diswyddiadau?

Rwyf i o'r farn fod yr enghraifft a roddodd Nick Ramsey o ran y diwydiant awyrofod yn amlygu'r modd y mae'n rhaid i'n cefnogaeth ni i'r economi yng Nghymru fod yn ymdrech ar y cyd rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Mae rhai o'r sectorau hyn a rhai o'r diwydiannau a'r busnesau hyn mor anferthol ac mor strategol bwysig fel ei bod yn bwysig i Lywodraeth y DU ddod i'r adwy hefyd. Fe fuom ni'n siarad am Tata, wrth gwrs, yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog heddiw. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig inni weithio gyda'n gilydd i gefnogi busnesau, ac i bob un ohonom wneud ein rhan yn hynny o beth.

O ran y gronfa cydnerthedd economaidd, dim ond rhan ohoni a ddyrannwyd hyd yn hyn, ac mae hynny'n bwysig gan ein bod ni'n awyddus i ddal rhywfaint ohoni yn ei hôl i helpu gyda'r adferiad. Felly, rydym wedi bod yn canolbwyntio yn y tymor byr ar atgyfnerthu busnesau, gan eu helpu nhw i ddod drwy'r argyfwng dybryd, ond mae'n amlwg y bydd yn rhaid i'r pwyslais symud tuag at adferiad a chefnogi busnesau i ffynnu a chefnogi busnesau i ddatblygu.

Rydym hefyd wedi bod yn canolbwyntio llawer ar lenwi'r bylchau hyn, gan felly, unwaith eto, weithio i sicrhau nad yw popeth a wnawn yn atgynhyrchu'r hyn sydd ar gael mewn mannau eraill ond yn ei ehangu. A chredaf fod y ffigur a roddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol, sy'n dangos bod mwy na 30 y cant o fusnesau Cymru wedi cael cymorth gan Lywodraeth Cymru erbyn hyn, o'i gymharu â 21 y cant yn yr Alban ac 14 y cant yn Lloegr, yn dangos pa mor bwysig yw hi fod Llywodraeth Cymru yn ceisio ategu'r hyn y mae Llywodraeth y DU yn gallu ei wneud. Felly, fe fydd swyddogaeth bwysig iawn ganddyn nhw o ran Airbus a chyflogwyr mawr eraill.

13:00

Diolch yn fawr, Gweinidog. Rwy'n credu eich bod chi yn llygad eich lle wrth ddweud mai dull deublyg yw hwn. Mae'n bwysig ein bod ni, ynghyd ag ymdrechion Llywodraeth y DU, yn gweld y gefnogaeth honno gan Lywodraeth Cymru, fel o'r gronfa cydnerthedd economaidd. Felly, pe byddech chi'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y dyraniadau hynny, fe fyddai hynny o gymorth mawr.

Roeddech chi'n sôn, wrth inni symud oddi wrth y cyfnod clo tuag at ailadeiladu'r economi, na fydd hynny'n ymwneud â gwarchod swyddi sy'n bodoli eisoes yn eu cyfanrwydd—rhaid inni gydnabod na fydd hynny'n bosibl—nac yn ymwneud â dychwelyd yn syml i'r hen ddulliau o weithio. Fe fydd yn cynnwys dyraniadau cyllid hefyd ar gyfer uwchsgilio ein gweithlu fel y bydd yn gwbl barod i ymateb i'r heriau byd-eang sydd o'n blaenau. Yn ôl adroddiad gan y Brifysgol Agored a gyhoeddwyd fis Tachwedd diwethaf, mae cost prinder sgiliau yn £350 miliwn y flwyddyn i fusnesau Cymru, gyda llawer wedi eu dal mewn maglau sgiliau isel, ac fe fyddwn i'n tybio bod y ffigurau hynny'n waeth byth erbyn hyn gyda'r pandemig wedi para fel y mae. Sut ydych chi'n sicrhau y bydd y dyraniadau a wnaeth y gyllideb atodol ddiweddar yn canolbwyntio'n gywir ar ailadeiladu'r economi, economi fwy gwyrdd a mwy modern yn arbennig felly, fel nad ydym ond yn ymgeisio'n unig am atebion i heriau'r gorffennol ond yn sicrhau y bydd Cymru ar flaen y gad o ran ymateb i'r heriau sydd o'n blaenau ni?

Ymateb uniongyrchol i argyfwng y pandemig oedd y gyllideb atodol yn anad dim. Felly roedd yn ymateb i'r problemau difrifol yr oeddem yn eu hwynebu, ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn arbennig ac yn yr awdurdodau lleol, ond ar yr ochr fusnes i bethau hefyd. Felly, rwy'n credu, wrth symud ymlaen, fel y dywed Nick Ramsay, fe fydd y pwyslais ar gyflogadwyedd a sgiliau i raddau helaeth. Mae darn o waith wedi ei wneud ledled Llywodraeth Cymru i archwilio'r hyn y gall gwahanol adrannau ei gynnig o ran agwedd newydd a gweithredol tuag at sgiliau a chyflogadwyedd—felly, o addysg hyd at iechyd, ac yn amlwg mae gennyf innau swyddogaeth ym maes cyllid yn hyn o beth.

Ond yr hyn yr ydym yn awyddus i'w weld yr wythnos nesaf gan y Canghellor yw dull Llywodraeth y DU o ymdrin â sgiliau, oherwydd, unwaith eto, rydym yn dymuno ategu'r hyn a fydd yn digwydd. Felly, os bydd Llywodraeth y DU yn mynd ati i gefnogi sgiliau a chyflogadwyedd drwy'r agenda sgiliau, drwy BEIS, yna fe fyddwn ni'n cael swm canlyniadol o hynny a gallwn wneud rhai o'n pethau ni ein hunain yma. Ond pe byddai Llywodraeth y DU yn penderfynu ei bod yn well gwneud y gwaith hwn drwy'r Adran Gwaith a Phensiynau, ni fyddem ni'n cael unrhyw swm canlyniadol wedyn. Felly, rydym yn dal yn ôl o ran ein cynllun sgiliau a chyflogadwyedd ac yn ymatal rhag dweud mwy am hwnnw nes y byddwn ni'n gwybod a fydd yr arian ar gael inni wneud y penderfyniadau hyn neu beidio, neu a fydd angen inni weithio gyda'r hyn y mae Llywodraeth y DU yn penderfynu ei wneud drwy'r Adran Gwaith a Phensiynau. Ond rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y datganiad economaidd ddydd Mercher nesaf yn rhoi digon o eglurder i ni.

Diolch. Mae'n amlwg y bydd gennyf i lawer mwy o gwestiynau i chi ar ôl y datganiad economaidd ddydd Mercher nesaf—mae hynny'n amlwg iawn. Gweinidog, yn olaf gennyf i heddiw, a chyda fy het arall am fy mhen sef un Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, fe fyddech chi'n disgwyl imi ofyn am adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol, sef bod grantiau gwerth £53 miliwn ar gyfer hybu'r economi wledig wedi eu rhoi gan Lywodraeth Cymru heb fod swyddogion wneud sicrhau gwiriadau digonol i sicrhau gwerth am arian. Nawr, mae hyn yn amlwg yn rhywbeth y bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ei ystyried yn ei amser ei hun, ond rwy'n credu bod yr arwyddion cychwynnol na allai Llywodraeth Cymru ddangos ei bod wedi ystyried a gafwyd canlyniad llwyddiannus i wariant £25 miliwn o grantiau yn peri pryder neilltuol. Sut y gall y cyhoedd fod yn hyderus a sut y gallwch chi sicrhau'r cyhoedd unwaith eto fod y rhaglenni y crybwyllais i ac yr ydym ni wedi eu trafod heddiw, fel y gronfa cydnerthedd economaidd, prosiectau i roi'r economi ar y trywydd iawn eto, yn golygu gwerthuso a monitro arian cyhoeddus yn effeithiol? A sut, fel ar hyn o bryd, pan fo arian yn brin, y gallwn ni weld y canlyniad gorau o bob punt a gaiff ei gwario yng Nghymru ac y bydd y trethdalwr yn gweld gwerth am arian o ran datblygu'r economi newydd hon sy'n fwy gwyrdd, ac sy'n ymateb i'r heriau hynny sydd mor bwysig i ysgogi economi Cymru?

13:05

Felly, rydym yn ddiolchgar i Archwilio Cymru am yr adroddiad yr ydych chi'n cyfeirio ato, ac fe wn i y bydd swyddogion yn dod i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus oherwydd yr adroddiad hwnnw a'r asesiad sydd ynddo o werth am arian drwy'r Cynllun Datblygu Gwledig, ac rwy'n credu mai dyna'r lle gorau i gael y trafodaethau manwl a fforensig hynny. Ond mae'n bwysig cydnabod, yn rhan o'n hadolygiad parhaus ni o'r broses o gyflawni'r Cynllun Datblygu Gwledig, fod swyddogion eisoes wedi nodi'r materion a ddisgrifiwyd yn adroddiad Archwilio Cymru a'u bod wedi cymryd camau i'w cywiro. Ac, fel yr eglura'r adroddiad, ni chafodd y mater o werth am arian ei brofi wrth arfarnu'r prosiectau hynny. Ac felly fe adolygwyd y prosiectau hyn dan sylw i sicrhau eu bod nhw'n profi eu gwerth am arian a, lle'r oedd hynny'n briodol, fe gymerwyd camau i sicrhau eu bod yn profi eu gwerth am arian, gan gynnwys ail-dendro rhai o'r prosiectau hynny. Ond wrth gwrs, ers hynny, fel y dywedais, rydym wedi nodi'r materion hynny; rydym wedi dysgu ein gwersi.

Fe gyhoeddwyd canllawiau newydd i'r sawl sy'n llunio polisi, sef 'Gwerth am Arian mewn Cyfnod Heriol: Egwyddorion Economaidd Allweddol'. Maent yn nodi'r egwyddorion economaidd allweddol hynny a all, o'u dilyn, sicrhau gwerth mawr am arian. Yn ogystal â hynny, cyhoeddwyd hysbysiad cyllid diwygiedig, 'Gwneud yn Fawr o Gronfeydd Llywodraeth Cymru', ac mae hwnnw'n rhoi'r cyngor sydd ei angen ar gydweithwyr polisi i sicrhau bod llawer mwy o bwyslais ar werth am arian. Ac mae gwaith yn mynd rhagddo hefyd ar ddatblygu modiwl gwerth am arian i'r hyfforddiant cyllid craidd gorfodol ar gyfer uwch weision sifil Llywodraeth Cymru ac, i'r dyfodol, i gyflwyno hyfforddiant cyfatebol ar gyfer staff ar fandiau gweithredol. Felly, rydym yn gwneud yn siŵr bod y gwasanaeth sifil yn deall ystyr cael gwerth am arian yn iawn ac yn ymarfer hynny'n briodol.

A wnaiff y Gweinidog cyllid ddatganiad ar ei hasesiad diweddaraf o'r swm o refeniw treth y byddwn ni'n ei golli oherwydd ymestyn a chaethiwo'r cyfnod clo i raddau mwy helaeth yng Nghymru nag a wnaeth Llywodraeth y DU yn Lloegr, ac a wnaiff hi egluro pa gyfradd o warchodaeth drosiannol sydd gennym dros refeniw i Drysorlys Cymru o'r dreth trafodiadau tir a chyfraddau Cymru o dreth incwm? Ac a wnaiff hi roi cyngor hefyd ynghylch a oes yna unrhyw risg y gallem gael ein dal gan y rheol 'dim niwed' o ran refeniw'r DU o dreth incwm a godir yng Nghymru os bydd penderfyniadau ei Llywodraeth hi i gadw at y cyfnod clo yn effeithio'n sylweddol ar hyn?

Rwy'n diolch i Mark Reckless am y cwestiynau yna. Rwy'n credu y gellir dweud dau beth. Y cyntaf yw y bydd trethi Cymru yn cael eu heffeithio gan y coronafeirws, ond mae'n amhosibl dweud ar hyn o bryd i ba raddau y bydd hynny ac i ba raddau y bydd hyn yn wahanol i'r hyn sy'n digwydd dros y ffin yn Lloegr. Rwy'n credu ei bod yn werth inni ystyried y ffaith nad yw'r hyn a wnawn ni mor wahanol ag yr awgrymir i'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr. Dim ond ychydig wythnosau o amrywiaeth sydd mewn rhai agweddau i'r hyn sy'n digwydd dros y ffin, ac rydym yn gweld rhai rhannau o Loegr yn cael cyfnodau clo sy'n lleol. Felly, fe fydd yna bob math o wahanol ystyriaethau ar waith yn y cyfnod sydd o'n blaenau ni a fydd yn effeithio ar drethiant. Ond, yn gyffredinol, fel y gŵyr Mark Reckless, rydym yn cael ein diogelu rhag ergydion economaidd ledled y DU drwy addasiadau i'r grant bloc, ac felly nid wyf i o'r farn y bydd yr effaith ar dreth trafodiadau tir, er enghraifft, neu'r dreth gwarediadau tirlenwi yn sylweddol.

Rydym ni i gyd yn gefnogol i'r cynllun ffyrlo a chadw swyddi, o leiaf fel y mae wedi gweithredu hyd yma. A gaf i ofyn i'r Gweinidog Cyllid egluro safbwynt Llywodraeth Cymru ar unrhyw barhad posibl? Fe gafodd y cynllun ei gyflwyno am ychydig o fisoedd i ddechrau ar gyfer sicrhau nad oedd pobl yn colli eu swyddi, a'u bod yn parhau mewn cysylltiad â'u cyflogwr yn y berthynas gontractiol honno, fel y gallai'r economi ailgychwyn yn gyflym, gyda'r gobaith o adferiad siâp v. Roedd y Prif Weinidog yn gynharach, serch hynny, yng nghyd-destun Airbus ym Mrychdyn, rwy'n credu—. Rwy'n gweld y cafodd Ryanair ei hysbysu na ddylai hedfan o Gaerdydd heddiw, er fy mod i'n credu, gan eu bod yn defnyddio awyrennau Boeing yn unig, efallai nad yw hynny'n broblem. Ond, os yw'r diwydiant awyr yn mynd i gymryd blynyddoedd lawer i adfer a bod y galw yn mynd i fod yn llawer is nid am fisoedd, ond am flynyddoedd, onid yw'n anochel y bydd cynhyrchiant awyrennau yn gostwng yn sydyn ac yn aros yn is am gyfnod hir? Ac yn yr amgylchiadau hynny, a oes angen inni edrych ar ddiben arall ar gyfer y cynllun ffyrlo, ac os oes unrhyw estyniad, a ydych chi'n awgrymu y dylai hynny fod ar gyfer cadw pobl yn y diwydiannau yr effeithir arnyn nhw fwyaf ar ffyrlo am gyfnod o flynyddoedd? Neu a ydych chi'n cydnabod, ar gyfer y bobl sydd mewn diwydiannau yr effeithir arnyn nhw'n ddybryd am gyfnod hir, neu i rai o'r bobl hynny, o leiaf, y gallai fod yn well iddynt ailhyfforddi a manteisio ar gyfleoedd a cheisio datblygu gyrfaoedd mewn gweithleoedd eraill os yw'r effaith yn mynd i fod mor ddifrifol ac mor hirdymor?

13:10

Credaf mai'r hyn yr ydym ni'n awyddus i'w osgoi yw pobl ar ymyl y dibyn. Felly, mae'n siŵr eich bod wedi gweld y datganiad a gyflwynodd Ken Skates o ran awyrennau a'r diwydiant awyrofod yma yng Nghymru a pha mor bwysig yw hynny, ac wedi clywed yr hyn a ddywedais i wrth Nick Ramsay ynglŷn â pha mor bwysig ydyw fod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU weithio gyda'i gilydd. Felly, o ran y cynllun cadw swyddi, rwy'n credu fod yna achos i ddiwydiannau a gafodd eu taro'n arbennig o galed allu cael cymorth am gyfnod hwy, ac mewn gwirionedd roedd hedfan yn un o'r sectorau hynny, ac fe soniodd Ken Skates a minnau am hyn, ynghyd â thwristiaeth, yn ein llythyr ni at y Canghellor. Mae angen i ddau beth ddigwydd ar yr un pryd: mae angen cynnal pobl gyda'r cymorth sydd ei angen arnyn nhw, ond mae angen creu swyddi newydd hefyd ac mae angen dod o hyd i gyfleoedd newydd i bobl oherwydd, hyd yn oed mewn amgylchiadau arferol, mewn wythnos arferol, rydym yn colli 2,000 o swyddi yma yng Nghymru ond fe fydd 2,000 arall yn cael eu creu. Felly, mae angen sicrhau bod y llif o swyddi newydd yn dod yn gyson, ac rwy'n ymwybodol iawn, yn enwedig gydag Airbus, er enghraifft, fod yr unigolion yn y fan honno â sgiliau uchel iawn. Ac rwy'n credu bod angen sicrhau bod y math o gyflogaeth yr ydym ni'n gallu ei gynnig yn y dyfodol yn parhau i fod mewn swyddi sgiliau uchel sy'n talu'n dda.

Iechyd Meddwl

3. Sut y bydd y Gweinidog yn sicrhau bod goblygiadau iechyd meddwl y pandemig COVID-19 yn cael eu cydnabod yn nyraniadau cyllideb Llywodraeth Cymru? OQ55385

Mae ymchwil yn dweud wrthym y bydd y pandemig yn effeithio ar les meddyliol ac emosiynol llawer o bobl. Dyna pam rydym wedi cyhoeddi nifer o fesurau penodol a gaiff eu hanelu at gefnogi iechyd meddwl, gan gynnwys £5 miliwn ar gyfer iechyd meddwl mewn ysgolion a £3.5 miliwn i alluogi byrddau iechyd i ymateb i gynnydd yn y galw.

Diolch yn fawr, Gweinidog. Rwy'n croesawu unrhyw gyllid ar gyfer goblygiadau'r pandemig o ran iechyd meddwl. Ond credaf ei bod yn hanfodol i'r rhain fod yn ddyraniadau ychwanegol, ac roeddwn i'n bryderus iawn o weld bod £7 miliwn wedi cael ei dynnu o'r gronfa gwella gwasanaethau iechyd meddwl yn y gyllideb atodol. Nawr, rwy'n siŵr bod pob aelod yn cydnabod bod ffordd bell iawn i'w throedio yng Nghymru o ran sicrhau cydraddoldeb rhwng iechyd meddwl a chorfforol. Fe gyflwynwyd dau adroddiad pwysig yn y Senedd hon, sef adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl ifanc ac Addysg, 'Cadernid Meddwl' ynghylch iechyd meddwl plant, ac adroddiad 'Busnes Pawb' y Pwyllgor Iechyd ar atal hunanladdiad. Mae marwolaethau oherwydd hunanladdiad yn parhau i fod yn argyfwng iechyd cyhoeddus mawr. Pa sicrwydd a wnewch chi ei roi, Gweinidog, y byddwch chi'n parhau i flaenoriaethu nid yn unig yr ymateb i'r pandemig, ond y trawsnewid pwysig iawn o ran gwasanaethau yr ydym yn eiddgar i'w weld ym maes iechyd meddwl ar gyfer oedolion a phlant yng Nghymru? Diolch.

Rwy'n ddiolchgar i Lynne Neagle am godi hyn, ac rwy'n cytuno'n llwyr â phopeth a ddywedodd am bwysigrwydd sicrhau bod trawsnewid yn digwydd i'r gwasanaethau yn ogystal â'n hymateb cychwynnol ac uniongyrchol ni i argyfwng COVID-19. Rwy'n dymuno rhoi sicrwydd bod y £7 miliwn a dynnwyd o'r llinell benodol honno o arian yn y gyllideb wedi digwydd ar y ddealltwriaeth na allai'r gwaith hwnnw ddigwydd oherwydd argyfwng COVID-19, neu ei fod wedi ei arafu, a dyna a wnaeth rhyddhau'r cyllid hwnnw yn bosibl yn y lle cyntaf. Ond, yn amlwg, mae darparu gwasanaethau iechyd meddwl yn mynd i fod yn bwysicach nag erioed o ystyried y pwysau sydd ar bobl o ganlyniad i'r argyfwng. Felly, rwyf eisiau eich sicrhau chi ac fe roddaf fy ngair i chi y byddaf i'n parhau i roi gwerth mawr iawn ar iechyd meddwl yn fy nhrafodaethau i â chydweithwyr.

13:15

Gweinidog, mae Mind Cymru wedi cyhoeddi adroddiad yn ddiweddar ar y modd y mae'r pandemig coronafeirws wedi effeithio ar ein hiechyd meddwl ni, sy'n dangos nad yw llawer o bobl yn teimlo bod ganddynt yr hawl i geisio cymorth a'u bod yn ei chael hi'n anodd cael gafael ar gymorth pan fyddan nhw'n ceisio hynny. Nawr, fe ddangosodd yr adroddiad nad oedd un o bob tri o oedolion a mwy nag un o bob pedwar o bobl ifanc yn cael cymorth yn ystod y cyfnod cloi gan nad oedden nhw'n credu eu bod nhw'n teilyngu'r gefnogaeth honno.

Felly, a wnewch chi ddweud wrthym faint o arian a roddodd Llywodraeth Cymru yn benodol yn ystod y pandemig i gyfathrebu â phobl ledled Cymru am bwysigrwydd iechyd meddwl, a'u hannog nhw i geisio cymorth os ydyn nhw mewn trafferthion? A pha drafodaethau a gawsoch chi gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn â'r mater hwn i wneud yn siŵr bod pobl y mae angen cymorth ariannol arnyn nhw yn cael y cymorth angenrheidiol mewn gwirionedd?

Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn cydnabod y bydd yna bobl sy'n dioddef salwch meddwl o ganlyniad i'r argyfwng coronafeirws nad ydyn nhw erioed wedi dioddef salwch meddwl o'r blaen ac nad ydyn nhw'n gwybod o reidrwydd am y gwasanaethau na'r cymorth sydd ar gael iddyn nhw, ac nad ydyn nhw o bosibl yn teimlo'n ddigon cyffyrddus i siarad am eu salwch meddwl yn y lle cyntaf. Felly, mae'r gwaith sydd eisoes wedi bod yn mynd rhagddo gydag amrywiaeth eang o sefydliadau, mae'n rhaid imi ddweud, yn parhau ac mae hwnnw'n bwysig iawn. Fe wn i fod y Gweinidog Iechyd wedi bod yn awyddus i archwilio o fewn ei gyllideb faint yn fwy y gall ef ei roi o ran cymorth ar gyfer cynlluniau penodol. Ond, roeddech chi'n holi am bwysigrwydd tynnu sylw arbennig at y math o gymorth sydd ar gael a faint o arian a roddwyd ar gyfer hynny. Felly, rhoddwyd £50,000 ychwanegol ar gyfer iechyd meddwl gofalwyr di-dâl, fel enghraifft, ac roedd hynny'n cyd-daro ag wythnos genedlaethol y gofalwyr i sicrhau bod gofalwyr yn ymwybodol o'r cymorth penodol a oedd ar gael iddynt ac a oedd wedi ei dargedu iddynt.

Mae buddsoddiad arall wedi ymwneud â chynyddu maint cyfleusterau i gleifion mewnol ym maes iechyd meddwl, gan gydnabod yr heriau a geir yn ystod y cyfnod hwn, ac wrth gwrs cafwyd ehangu yn y cynllun cymorth iechyd meddwl i feddygon, sydd wedi ei ymestyn erbyn hyn i 60,000 o weithwyr gofal iechyd ledled Cymru. Maent wedi cael eu hysbysu am hyn i sicrhau eu bod yn ymwybodol bod y gwasanaeth hwn ar gael iddyn nhw nawr, o gofio'r pwysau y mae pobl yn eu hwynebu yn y sector gofal iechyd yn benodol.

Y Strategaeth Profi, Olrhain a Diogelu

4. Pa ddyraniadau ychwanegol fydd ar gael yn ystod y cylch cyllideb presennol i gefnogi y darn olrhain o’r strategaeth profi olrhain diogelu? OQ55375

Yn y gyllideb atodol gyntaf a basiwyd gan y Senedd yr wythnos diwethaf, dyrannwyd mwy na £400 miliwn ychwanegol i'r GIG, gan gynnwys £57 miliwn i gefnogi strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer profi, olrhain a diogelu.

Diolch yn fawr iawn i chi am yr ymateb yna. Dwi'n fwy pryderus efo'r cwestiwn yma o ran yr arian y buaswn i'n licio gweld yn cael ei glustnodi ar gyfer llywodraeth leol yn benodol. Dŷn ni'n lwcus iawn yn Ynys Môn: mi oedd y sir yn rhan o'r gwaith datblygu cynnar ar y gwaith olrhain, ac yn rhan o'r peilot cenedlaethol ddiwedd mis Mai.

Ond, timau gwirfoddol sydd yna o fewn y cyngor yn gwneud y gwaith olrhain—gweithwyr sydd wedi cael eu tynnu o adrannau eraill i mewn i'r tîm olrhain. Yn amlwg, dydy hynny ddim yn gynaliadwy; bydd o ddim yn gynaliadwy wrth i'r cyngor fod eisiau dychwelyd i waith arferol. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad buan ynglŷn ag arian all gael ei glustnodi, a'i wneud yn glir i awdurdodau lleol, a fydd yn ychwanegol er mwyn iddyn nhw allu proffesiynoli hyn a chyflogi pobl yn benodol i wneud y gwaith yma? Achos, gwell inni fod yn onest, mi fyddwn ni angen y timau olrhain proffesiynol yma mewn cynghorau ledled Cymru am fisoedd lawer i ddod.

Rwy'n credu mai un o gryfderau gwirioneddol ein dull ni o weithredu yma yng Nghymru yw'r timau lleol iawn hynny o bobl sy'n gwneud y gwaith olrhain. Gallaf ddweud fy mod i wedi cael nifer o drafodaethau gyda'r Gweinidog Iechyd a chyda swyddogion dros yr wythnos ddiwethaf, gan edrych ar y cyllid y bydd ei angen i gynyddu maint y gweithlu hwnnw, a thrafod beth ddylai'r maint craidd fod, a sut y gallwn ni sicrhau bod capasiti ymchwydd i'r gweithlu hwnnw hefyd, ac fe fydd arian ychwanegol yn rhan o hynny. Byddaf yn hapus i roi'r datganiad hwnnw cyn gynted ag y caiff y manylion eu cadarnhau.

13:20
Cyllid Ychwanegol

5. A wnaiff y Gweinidog nodi'r cyllid ychwanegol a ddisgwylir o ganlyniad i wariant gan Lywodraeth y DU yn Lloegr mewn meysydd a ddatganolwyd i Gymru? OQ55346

Disgwylir i fesurau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU ers y gyllideb arwain at symiau canlyniadol i Gymru o tua £2.3 biliwn, y mae rhai ohonyn nhw'n ddangosol hyd yma. Er bod hynny'n dderbyniol iawn, mae'n llai na'r hyn yr oedd ei angen arnom i ddiwallu'r anghenion uniongyrchol a achoswyd gan argyfwng COVID.

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am yr ymateb yna? Mae rhai ohonom yn amheus o'r dull y mae'r Trysorlys yn San Steffan yn dosbarthu cyllid canlyniadol i Gymru, ac mae'r hyn y maen nhw'n ei gynnwys yn cael effaith sylweddol ar gyllideb Cymru. A wnaiff y Gweinidog gyhoeddi faint o arian sydd i'w ddarparu, a chyfrifiad y Trysorlys a gynhyrchodd y cyfanswm ar gyfer yr arian canlyniadol a roddwyd i Gymru—yr hyn yr oeddem yn arfer ei alw'n 'ddangos eich cyfrifiadau'?

Iawn, rwy'n hapus iawn i wneud hynny. Felly, hyd yma, rydym wedi cyhoeddi manylion yr arian ychwanegol yn y gyllideb atodol gyntaf, ond rydym yn disgwyl i'r Trysorlys gyhoeddi ei dablau tryloywder grant bloc yn fuan iawn, gan ddangos manylion dyraniadau ledled y tair gwlad ddatganoledig. Rwy'n credu bod y tablau tryloywder hynny'n bwysig o ran deall y cyfrifiadau, fel y mae Mike Hedges yn ei ddweud. Efallai y bydd symiau canlyniadol pellach i'w cael eleni, ac rwy'n gobeithio cael newyddion am hynny yn natganiad economaidd mis Gorffennaf yr wythnos nesaf. Yna, yn dilyn hynny, wrth gwrs, fe fyddem ni'n disgwyl tabl tryloywder grant bloc arall eto yn amlinellu unrhyw ddyraniadau ychwanegol o ganlyniad i hynny.

Cefnogi'r Sector Gofal Cymdeithasol

6. Pa ddyraniadau ychwanegol fydd ar gael gan Lywodraeth Cymru yn ystod y cylch cyllideb presennol i gefnogi'r sector gofal cymdeithasol? OQ55370

Mae gofal cymdeithasol yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru. Mae'r gwaith hwn yn bwysicach nag erioed. Rydym wedi dyrannu £40 miliwn i gefnogi costau ychwanegol gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion ac rydym yn rhoi taliadau o £500 i staff rheng flaen gofal cymdeithasol Cymru.

Diolch. Nid wyf yn credu ei fod yn beth doeth dal ati i sôn am y £500, oherwydd mae hynny'n warthus—sut mae'r ffigur hwnnw wedi dod i'r golwg mewn gwirionedd.

Nawr, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bod yr elfen gofal cymdeithasol i oedolion yng nghronfa galedi awdurdodau lleol wedi cael ei hymestyn i gynnwys mis Mehefin ar ei hyd. A wnewch chi ganiatáu estyniad ar gyfer Gorffennaf ac Awst i roi sicrwydd i'n hawdurdodau lleol ni? Bydd angen sicrwydd yn y tymor hwy hefyd. Mae cartref i henoed sydd â gwendid meddwl ym Mhowys yn cael ffi wythnosol o £559, tra bo'r ffigur yng Nghaerdydd yn £793.48. Mae hynny'n £12,192.96 yn fwy i bob preswylydd nag ym Mhowys dros gwrs y flwyddyn. Mae'r amrywiad hwn ledled Cymru yn warthus. Felly, a wnewch chi ystyried cefnogi ymchwiliad i'r amrywiaeth hon o ran ffioedd, ac a wnewch chi weithio gyda chyd-Weinidogion i weld cyllid teg i gartrefi ledled Cymru? Diolch.

Diolch yn fawr iawn ichi am godi'r pwynt hwnnw. Rydych chi'n siŵr o fod yn gwybod y cafwyd grŵp rhyng-weinidogol i drafod talu am ofal cymdeithasol sydd wedi bod yn cwrdd dros nifer o flynyddoedd erbyn hyn i ystyried y ffyrdd ymlaen. Rydym yn ymwybodol iawn o'r gwahaniaethau hynny yn y taliadau a geir mewn ardaloedd gwahanol. Mae rhywfaint o hyn yn anodd iawn ei esbonio, yn fy marn i. Mae'r gwaith hwnnw'n parhau er gwaethaf yr argyfwng, gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd casglu'r holl dystiolaeth sydd ei hangen fel y gellir gwneud penderfyniadau ynglŷn â'r ffordd gymwys o dalu am ofal yn y dyfodol.

Ond, o ran yr ymateb uniongyrchol i'r argyfwng, unwaith eto, rwyf wedi clustnodi cyllid ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol oherwydd y pwysau ychwanegol sy'n wynebu awdurdodau lleol, ac rydym yn dechrau gweld y ffigurau hynny ar gyfer yr ceisiadau sydd wedi dod i law hyd yn hyn. Felly, fe fyddaf yn gallu deall beth allai'r pwysau fod dros y mis hwn a'r misoedd nesaf er mwyn cael gwell syniad o'r hyn sydd ei angen.

Cyllidebau Cymru yn y Dyfodol

7. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith Covid-19 ar gyllidebau Cymru yn y dyfodol? OQ55355

Mae'r pandemig yn rhoi pwysau mawr ar ein hadnoddau ni eleni, ac fe geir ansicrwydd mawr ynglŷn ag ariannu yn y blynyddoedd sydd i ddod. Dyna pam, yn ystod cyfarfod pedairochrog y Gweinidogion cyllid yr wythnos diwethaf, y rhoddais bwysau ar y Prif Ysgrifennydd i gyhoeddi sut a phryd y bydd yn pennu cynlluniau gwariant ar gyfer y flwyddyn nesaf a thu hwnt i hynny.

Diolch, Gweinidog. Fel y gwyddoch, fe ddaeth symiau o arian i dynnu dŵr o'r llygaid gan Lywodraeth y DU i helpu economi Cymru yn ystod y cyfnod cloi, yn ogystal â'ch Llywodraeth chi'n ail-greu ac yn ail-gynllunio cyllidebau a chronfeydd sy'n bodoli eisoes. Fe all unrhyw un sy'n rheoli cyllideb aelwyd weld y bydd effaith ganlyniadol ar gyllidebau Cymru yn y dyfodol a'r gwasanaethau y maen nhw'n eu cefnogi. Pa mor ddwfn y bydd yn rhaid i'r cyhoedd yng Nghymru fynd i'w pocedi o ran cyfradd uwch o dreth incwm yn nhymor nesaf y Senedd? Diolch.

13:25

Wel, rydym wedi dweud yn eglur iawn na fyddem yn cynyddu cyfraddau treth incwm Cymru yn ystod y tymor Seneddol ar ei hyd, ac rydym wedi cadw at hynny. Ond rwy'n credu mai gwaith i bob plaid, mewn gwirionedd, yw nodi ei bwriadau ar gyfer cyfraddau treth incwm Cymru cyn yr etholiadau nesaf i'r Senedd er mwyn i'r cyhoedd allu barnu'r hyn sy'n gymwys yn eu golwg nhw.

Grantiau Rhyddhad Ardrethi Busnes

8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu grantiau rhyddhad ardrethi busnes ar gyfer y sector di-elw yn ystod pandemig Covid-19? OQ55353

Gwnaf. Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi £1.7 biliwn i helpu busnesau a sefydliadau dielw yng Nghymru yn ystod yr achosion o'r coronafeirws. Mae hyn yn cynnwys dros £875 miliwn ar gyfer grantiau sy'n gysylltiedig ag ardrethi annomestig. Fe fydd pob sefydliad dielw sy'n bodloni'r meini prawf cymhwyster yn cael grant o naill ai £10,000 neu £25,000.

Diolch am eich ateb, Gweinidog. Os caf i, efallai, roi enghraifft ichi o ddarparwr gofal plant dielw ym Machynlleth yn fy etholaeth i, gyda gwerth ardrethol o £12,000. Maen nhw wedi cysylltu â mi i ddweud bod y mwyafrif helaeth o'u hincwm yn deillio o godi ffioedd am blant sy'n derbyn gofal yn hytrach na rhoddion. Maen nhw'n dweud nad ydyn nhw'n gymwys am y grant rhyddhad ardrethi busnes—ar y gyfradd £10,000 nac ar £25,000—gan eu bod nhw wedi cael rhyddhad ardrethi o 100 y cant fel elusen.

Mae'n ymddangos bod Busnes Cymru'n awgrymu y dylai sefydliadau dielw a darparwyr gofal plant sy'n gymwys i gael rhyddhad ardrethi busnesau bach o 100 y cant gael y grant £10,000. Felly, mae rhywfaint o ddryswch, yn fy marn i, o ran pam mae'r busnes arbennig hwn wedi cael ei eithrio. A wnewch chi roi rhywfaint o eglurhad heddiw ynglŷn â sut y dylai'r cynllun grant rhyddhad ardrethi busnes weithio i'r sector elusennol a dielw?

Fel y dywedais, maen nhw wedi eu cynnwys yn ein cynllun grantiau ynglŷn ag ardrethi annomestig. Felly, efallai yr hoffech  ysgrifennu ataf am yr achos penodol hwnnw, a gallaf innau edrych ar y mater i wneud yn siŵr ein bod ni'n rhoi'r cyngor cywir.

Diolch i'r Gweinidog.

Mae hynny'n dod â'n sesiwn foreol ni i ben. Fe ddown ni at ein gilydd eto am 14:15, ac a gaf i atgoffa'r Aelodau fod yn rhaid iddyn nhw fod yn bresennol yn y sesiwn er mwyn i mi allu galw arnyn nhw i ofyn eu cwestiynau. Felly, gwnewch yn siŵr bod eich camerâu chi heb eu diffodd os ydych chi yn y sesiwn, oherwydd fel arall ni allaf weld eich bod chi yno i alw arnoch chi.

Felly, gwnaf i weld chi i gyd am chwarter wedi dau.

Fe'ch gwelaf chi am 14:15.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 13:28.

Ailymgynullodd y Senedd am 14:15, gyda'r Dirprwy Lywydd (Ann Jones) yn y Gadair.

14:15
5. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol

Prynhawn da, bawb. Croeso yn ôl ar ôl ein toriad, a dychwelwn at ein hagenda gydag eitem 5, sef cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol. Mae cwestiwn 1 y prynhawn yma i'w ateb gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth. Cwestiwn 1—Mike Hedges.

Cyhoeddiadau Cymraeg

1. A wnaiff y Gweinidog ddarparu diweddariad ar gefnogaeth Llywodraeth Cymru i gyhoeddiadau Cymraeg lleol yn ystod y pandemig? OQ55349

Gweinidog, mae angen ichi ddad-dawelu eich ffôn. Ni allaf eich clywed chi. Sori, mae angen i chi droi eich meicroffon ymlaen. Na, rhowch gynnig arall arni. Na, sori, nid ydym ni'n clywed y Gweinidog.

Diolch yn fawr iawn, Mike, am y cwestiwn yn Gymraeg, ac mi atebaf i yn yr un modd. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd cyhoeddiadau Cymraeg lleol wrth sicrhau bod pobl ym mhob rhan o Gymru yn gallu cael gafael ar wybodaeth a newyddion hanfodol yn ystod yr argyfwng iechyd cyhoeddus presennol. Rydyn ni’n gweithio'n agos gyda Chyngor Llyfrau Cymru a rhanddeiliaid eraill i gefnogi cyhoeddiadau yn ystod y cyfnod hwn.

Diolch, Gweinidog. Pwysigrwydd cyhoeddiadau cyfrwng Cymraeg lleol—mae Julie James, Rebecca Evans a minnau'n hysbysebu'n effeithiol yn ein cyhoeddiad Cymraeg misol Wilia. Beth mae'r Gweinidog yn ei wneud i sicrhau parhad cyhoeddiadau o'r fath?

Wel, mae Wilia yn un o rwydwaith, os ydw i'n cofio'n iawn, o 52 o bapurau bro trwy Gymru sydd yn chwarae rhan allweddol i gysylltu cymunedau, yn enwedig mewn sefyllfa fel hon o argyfwng iechyd cyhoeddus. Rydyn ni'n eu cefnogi nhw drwy Mentrau Iaith Cymru, ac fel y dywedais i ar y dechrau, mae 52 o bapurau bro ac mae yna grant o £97,000 wedi cael ei gyllido i dargedu papurau bro yn y flwyddyn ariannol 2020-1.

Ddirprwy Weinidog, mae Hwb wedi bod yn elfen sylfaenol o addysg gartref yn ystod y tri mis diwethaf. Rwyf hyd yn oed yn dal i gael gohebiaeth gan rieni sydd ddim yn siarad Cymraeg ac sydd ddim yn teimlo eu bod nhw wedi bod mewn sefyllfa i helpu eu plant sy'n mynd i ysgolion cyfrwng Cymraeg. Fydd e'n bosib i chi siarad â'r Gweinidog Addysg am sut y gallai copïau o bapurau bro gael eu lanlwytho, efallai, fel adnoddau addysg ar gyfer rhieni a'u plant? Mae yna esiamplau da o sut mae geiriau ysgrifenedig a llafar yn swnio yn y fro ac, wrth gwrs, maen nhw'n mynd i fod yn adnoddau defnyddiol iawn i bob ysgol pan fyddant yn ystyried y cwricwlwm lleol newydd.

Wel, mae'r papurau bro bellach—o leiaf eu hanner nhw, rydw i'n credu—yn cael eu cyhoeddi yn ddigidol, ac felly maen nhw ar gael ar-lein fel cyfrwng y gall pobl ei ddefnyddio. Fe fuaswn i'n annog y papurau bro i fanteisio ar gefnogaeth y cyngor llyfrau—ac felly trwy'r cyngor llyfrau, Llywodraeth Cymru—er mwyn galluogi mwy o bobl i allu manteisio ar ddeunydd digidol Cymraeg lleol. Diolch.

14:20

Diolch. Mae cwestiwn 2 i'w ateb eto gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth. Cwestiwn 2—Russell George.

Canolbarth Cymru fel Cyrchfan i Dwristiaid

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hyrwyddo canolbarth Cymru fel cyrchfan i dwristiaid? OQ55352

Rwy'n falch iawn o wneud datganiad am y canolbarth oherwydd, fel y gwyddoch chi mae'n siŵr, Russell, roeddwn yn arfer byw yno am 20 mlynedd, ac yn y dyddiau hynny, wrth gwrs, roedd llawer o ddiddordeb mewn hyrwyddo hunaniaeth y canolbarth. Pan gefais ran i'w chwarae yn y diwydiant twristiaeth, roeddwn yn awyddus iawn inni gadw'r canolbarth fel rhanbarth.

Diolch yn fawr, Gweinidog. Rwy'n croesawu'r ateb yna'n fawr. Credaf fod busnesau twristiaeth yn troi at Lywodraeth Cymru am ryw fath o amserlen uchelgeisiol ynghylch pryd y gallan nhw ailagor eu drysau eto—gan weithredu, wrth gwrs, yn ôl canllawiau cadw pellter cymdeithasol. Er mwyn osgoi niwed annileadwy i economi'r canolbarth—ac rwy'n gwybod eich bod yn poeni am economi'r canolbarth fel finnau—beth ydych chi a Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud i hyrwyddo'r canolbarth fel cyrchfan i dwristiaid ar ôl cyfnod y COVID? A allwch chi ymrwymo i roi pecyn cymorth ariannol hirdymor ar waith ar gyfer y sector, sydd, wrth gwrs, yn parhau i ddioddef effeithiau andwyol, rhywbeth sy'n debygol o barhau am gryn amser eto?

Wel, rwy'n falch o ddweud fy mod yn edrych ymlaen at drafod hyn gyda Steve Hewson, sy'n cynrychioli'r canolbarth ar ein cynhadledd dwristiaeth, sy'n ddigwyddiad rheolaidd yr ydym yn ei gynnal bob pythefnos, ac weithiau'n wythnosol. Yn y trafodaethau yr wyf wedi'u cael gydag ef, mae holl gwestiwn y canolbarth fel ardal greiddiol ar gyfer digwyddiadau cenedlaethol—ac yn amlwg mae Steve ei hun yn Brif Weithredwr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru—mae'r ardal greiddiol honno, er nad yw'n mynd i gynnal digwyddiad eleni yn amlwg, yn parhau i fod yn ganolbwynt allweddol i dwristiaeth. Rhaid inni gofio nad yw llawer o dwristiaeth mewn gwirionedd yn dwristiaeth hamdden yn unig—mae'n dwristiaeth busnes, pobl yn ymweld â rhanbarthau eraill er mwyn rhannu profiadau. Rwy'n sicr, yn yr achos hwn, fod y canolbarth mewn sefyllfa gref iawn oherwydd y canolfannau digwyddiadau unigryw sydd gennym ni yno.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch. Trown yn awr at lefarwyr y pleidiau i holi'r Gweinidog. Y cyntaf y prynhawn yma yw llefarydd y Ceidwadwyr, Suzy Davies.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Os gallwch chi jest roi eiliad i fi—diolch.

Prynhawn da, Weinidog. Byddwn ni'n trafod agweddau mwy dadleuol ar y Gymraeg, siŵr o fod, yn y cwricwlwm newydd yn y cwestiynau yn ddiweddarach yn y ddadl y prynhawn yma, ac felly gadawaf hynny am y tro. Ond dwi am ofyn ichi am gyflwr eich gweledigaeth ar gyfer cyrraedd targed 2050, ac effaith y pandemig ar ddysgwyr y Gymraeg. Mae'r pandemig presennol wedi symud ffocws pobl o flaenoriaethau eraill. Fodd bynnag, nid yw'r gyllideb atodol wedi taro eich adran yn rhy galed, o bosib gan nad yw un y Gymraeg yn fawr yn y lle cyntaf, i fod yn deg. Felly, beth ydych chi wedi gorfod ei dorri, ac a yw'n effeithio fwyaf ar ddatblygu defnydd newydd o'r Gymraeg mewn lleoliadau addysg, busnes neu'r gymuned? Yn benodol, gyda mwy o deuluoedd yn gorfod goruchwylio dysgu eu plant gartref, sut mae toriadau'r gyllideb wedi effeithio ar y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, y Mudiad Meithrin, y canolfannau trochi iaith yng Ngwynedd, lle cyrhaeddwyd toriadau o £100,000 y flwyddyn yn barod, a chefnogaeth benodol i deuluoedd nad ydynt yn siarad Cymraeg ond sydd â phlant mewn addysg gyfrwng Cymraeg?

Diolch yn fawr, Suzy. Mae hwn yn rhywbeth rŷn ni'n ymwybodol iawn ohono—bod yna beryglon na fydd pobl yn cael y cyfle i ymarfer eu Cymraeg nhw, yn arbennig os oes plant gyda nhw mewn ysgolion Cymraeg, ac maen nhw wedi cael tri mis nawr heb gyfle i siarad. Wrth gwrs, mae e'n grêt i weld bod plant wedi mynd nôl yr wythnos yma, ac wrth gwrs rŷn ni wedi bod yn glir bod yna lot o adnoddau ar gael ar Hwb i alluogi rhieni i helpu eu plant nhw. Yn ogystal â hynny, rŷn ni wedi sicrhau bod yna feddalwedd ar gael—meddalwedd yn rhad ac am ddim—sy'n helpu pobl i sillafu'n gywir, yn helpu gyda gramadeg ac ati. Felly, rŷn ni'n gobeithio y bydd hwnna hefyd yn helpu pobl.

O ran cyllid, rŷn ni, wrth gwrs, fel pob adran arall, wedi gorfod gwneud toriadau yn ein cyllid ni. Un o'r llefydd lle rŷn ni wedi gorfod gwneud y toriadau hynny ydy yn y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Wrth gwrs, doedd hi ddim yn bosibl i'r ganolfan roi gwersi yn y modd arferol. Hynny yw, roedd hi'n amhosib i bobl fynd i ddosbarthiadau. Ond beth rŷn ni wedi gweld yw bod pobl yn ymgymryd â'r gwersi yna ar-lein. Ac, a dweud y gwir, mae mwy ohonyn nhw'n debygol o droi i fyny am eu dosbarthiadau nhw ar-lein nag oedden nhw i droi lan i'r dosbarthiadau. Felly, mae'n ddiddorol gweld a fydd yna newid. Ac, wrth gwrs, wrth bod yn rhaid ichi ddatblygu adnoddau ar gyfer gwneud pethau ar-lein, mae yna gyfle hefyd inni ailfeddwl y ffordd rŷn ni'n rhoi'r adnoddau hynny.

Gwnaethoch chi ofyn am y Mudiad Meithrin. Wrth gwrs, rŷn ni'n cadw llygaid arnyn nhw'n aml. Mae hynny'n fater, wrth gwrs, ar gyfer y Gweinidog Addysg. Ac mae'r canolfannau trochi—wrth gwrs, mae'n drueni eu bod nhw wedi bod mewn sefyllfa lle nad oedd y trochi yna'n gallu digwydd. Ond, wrth gwrs, gobeithiwn nawr, wrth inni symud ymlaen at fis Medi, y byddwn ni'n gallu ailystyried hynny a rhoi mesurau mewn lle i sicrhau bod yna gyfle i ailafael, yn arbennig i'r rheini sydd mewn sefyllfa lle maen nhw'n awyddus i gael addysg Gymraeg ond bod angen yr help ychwanegol arnyn nhw. 

14:25

Diolch am yr ymateb yna. Roeddwn i'n falch hefyd i glywed bod rhai pobl yn defnyddio'r broses lockdown fel cyfle i drosi bwriad annelwig yn weithred wirioneddol. Rwy'n gobeithio hynny, ond—wel, mae'n bosib colli arferion yn haws na'u creu nhw, a dyna pam yr hoffwn i wybod beth fydd y cynlluniau nawr ar gyfer creu cyfleoedd mwy dilys i ddysgwyr ddefnyddio'u sgiliau newydd mewn ffordd ystyrlon? Mae'r safonau yn gwneud rhywfaint o'r gwaith hwnnw ichi, rwy'n gwybod hynny, ond a fydd eich cyllideb bresennol, ac yn y tymor hir, yn caniatáu ichi flaenoriaethu'r bobl a all ddechrau defnyddio'r sgiliau newydd yn y gweithle?

Gan fod hwn yn gyfrifoldeb trawslywodraethol, beth ydych chi wedi bod yn ei ddweud wrth eich cydweithwyr yn yr adrannau addysg a'r economi am dri pheth yn benodol, sef cefnogaeth newydd—a allwch chi gynnig lleoliadau gofal plant sy'n cynnig darpariaeth Cymraeg neu ddwyieithog i gyflogi staff sydd wedi bod yn dysgu Cymraeg, gan dderbyn, wrth gwrs, yr angen i allu cynnig profiad o safon i'r plant; cefnogaeth am gynllun gweithredu addysg bellach a phrentisiaethau cyfrwng Cymraeg gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol; a sut i sicrhau bod cyrsiau hyfforddiant addysg athrawon cychwynnol yn datblygu sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer pob darpar athro neu athrawes, achos mae hyn yn her ddifrifol, yn enwedig—

Wrth gwrs. A sut i wneud hynny heb atal neb rhag dod i mewn i'r proffesiwn.

Roedd yna lot o gwestiynau yn fanna, Suzy, a dwi ddim yn meddwl y caf i gyfle i'w hateb nhw i gyd. Ond jest i godi rhai ohonyn nhw—wrth gwrs bydd angen inni ailystyried y ffordd rŷn ni'n rhoi cefnogaeth, a bydd yn rhaid inni ystyried sut ydyn ni'n gallu ailfeddwl rhoi cyfle i bobl siarad Cymraeg. Mae yna ffyrdd o wneud hynny ar-lein, a dwi'n gwybod bod yna lot o bethau arloesol yn cael eu gwneud gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. 

O ran sgiliau a phwysigrwydd sgiliau Cymraeg—a dwi yn meddwl ei bod hi'n bwysig tanlinellu bod siarad Cymraeg yn sgìl ac mae hynny'n sicr yn rhywbeth sy'n cael ei gydnabod gan Lywodraeth Cymru, ac y bydd yn dod yn bwynt pwysig yn y dyfodol o ran staffio yn Llywodraeth Cymru. Ac rŷn ni'n gobeithio y bydd hynny'n arwain y ffordd i fudiadau eraill ar draws Cymru, lle bydd yna gydnabyddiaeth bod siarad Cymraeg fel sgìl yn rhywbeth sydd yn dod â rhywbeth ychwanegol i swydd. 

O ran gofal plant, dwi'n gwybod bod yna bobl yn gweithio ar hyn o bryd ar y broses o geisio cael gweithgareddau dros yr haf drwy gyfrwng y Gymraeg. Felly, mae gwaith yn cael ei wneud ar hynny ar hyn o bryd. Ac, wrth gwrs, o ran cyrsiau hyfforddiant, fe fyddwch chi'n ymwybodol nawr, Suzy, ei fod yn anghenraid nawr i bobl gael rhywfaint o ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, rhywfaint o wersi, os ydyn nhw eisiau bod yn athro. Felly, mae hwnna nawr yn rhan o'r cwricwlwm yna, os ydych chi eisiau hyfforddi i fod yn athro yng Nghymru. 

14:30

Prynhawn da. Mae effaith economaidd y pandemig ar y diwydiant creadigol cyfrwng Cymraeg wedi bod yn anferthol, efo nifer o'r diwydiannau creadigol yn dibynnu ar ddod â pobl at ei gilydd. Rhain oedd y sectorau cyntaf i gau lawr, ac mae'n debyg maen nhw fydd ymhlith y rhai olaf i allu dychwelyd i lefel o weithgaredd sy'n fasnachol hyfyw. Mae o'n sector sylweddol iawn yma yn y gogledd, efo 14,000 o bobl yn gweithio i'r sector—sector cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg, wrth gwrs—ond ar hyn o bryd does yna ddim arwydd bod yna gymorth pellach yn dod o San Steffan. Felly, pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael efo'r Dirprwy Weinidog dros ddiwylliant am gymorth i'r sector creadigol cyfrwng Cymraeg, o gofio bod y Dirprwy Weinidog wedi dweud yr wythnos diwethaf ei fod o yn fodlon meddwl am ail-asesu'r cymorth sydd ar gael i'r celfyddydau? 

Dwi'n meddwl os ydych chi'n edrych ar beth mae cyngor y celfyddydau wedi ei wneud o ran eu cyllid nhw, maen nhw wedi ailstrwythuro'r cyllid, wedi deall bod yna greisis o ran y diwydiant, ac wedi sicrhau bod yna fodd i bobl ymgeisio ar gyfer arian trwy'r broses maen nhw wedi setio i fyny, a dwi'n ddiolchgar iawn bod Dafydd Elis-Thomas wedi arwain yn y gwaith yna. Ac, wrth gwrs, mae yna gyfle tu fewn i hynny i bobl sydd yn gweithio'n greadigol trwy gyfrwng y Gymraeg i gael access i'r arian yna. Dyw hynna ddim yn ddigon. Rŷn ni'n ymwybodol iawn bod yna greisis ymysg y celfyddydau ar hyn o bryd.

Ein gobaith, wrth gwrs, yw y bydd Llywodraeth San Steffan yn dod lan â phecyn newydd o arian, ac, os bydd hynny'n digwydd, fe fyddem ni'n obeithiol iawn y byddem ni'n gallu rhoi siâr sydd yn briodol i Gymru i geisio rhoi rhywbeth o'r newydd fydd yn sicrhau bod yna rywfaint o gymorth i'r sector. Mae'r sector yma wedi tyfu yn aruthrol dros y 10 mlynedd diwethaf yma. Mae tua 50,000 o bobl nawr ar draws Cymru yn gweithio yn y sector yma, ac felly fe fyddai hi'n druenus os byddem ni'n colli'r cyfle yma i adeiladu ar yr hyn oedd eisoes mewn lle. Ond, wrth gwrs, mae hi'n ergyd ar hyn o bryd, ac mae lot o swyddi yn y maes yma yn swyddi sydd ddim yn llawn amser; dŷn nhw ddim yn rhai lle mae pobl yn gallu dibynnu ar gyflog yn aml. Felly, wrth gwrs, rŷm ni'n ymwybodol iawn o hyn, ond yn gobeithio ac yn gwthio Llywodraeth Prydain i sicrhau y byddan nhw yn derbyn y sefyllfa yna, ac wedyn efallai yn rhoi arian i ni. 

Wel, dwi'n falch iawn eich bod chi'n cydnabod ei bod hi yn argyfwng gwirioneddol ar y sector penodol yma a bod y sector cyfrwng Cymraeg yn rhan annatod ohono fo hefyd, ac y byddwch chi'n ymdrechu yn ddi-flino i wneud yn siŵr bod y sector yma yn cael cefnogaeth, boed yr arian yn dod o San Steffan ai peidio. Dwi'n credu bod angen buddsoddi yn y sector yma yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru os nad yw'r Torïaid yn San Steffan yn gweld y sector yn ddigon pwysig iddyn nhw fod yn ei gefnogi'n ariannol. 

Mae darlledu cyhoeddus wedi bod yn bwysig iawn yn ystod y cyfnod cloi yma, onid ydy, efo niferoedd mawr yn troi at S4C ar gyfer cael arlwy drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae ganddo fo rôl arbennig ar gyfer cefnogi a chyfleu'r iaith Gymraeg i blant, wrth gwrs, â chanran fawr o blant mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn dod o gartrefi lle dydy'r Gymraeg ddim yn cael ei siarad, ac yn troi yn eu miloedd at Cyw ac Ysgol Cyw ar S4C, ac, ers y cloi, mae gwylwyr teledu plant S4C wedi codi 182 y cant.

Mae yna le i ddatblygu ymhellach, ac yn enwedig i ddatblygu'r dimensiwn digidol addysgol, a chyfle i wneud hynny drwy gryfhau'r bartneriaeth rhwng Hwb ac S4C Clic. Felly, wnewch chi ymrwymo i symud y gwaith yma yn ei flaen cyn gynted â phosib—y gwaith partneriaeth yma rhwng Hwb ac S4C Clic?

14:35

Diolch. Wel, yn sicr, dwi'n meddwl bod S4C wedi bod yn help aruthrol, yn arbennig i'r rheini sy'n dod o gartrefi di-Gymraeg, gan roi cyfle iddyn nhw wrando ar y Gymraeg, yn arbennig y plant ifanc hynny sydd yn cael cymaint o foddhad o wylio Cyw. Ac yn sicr, fel rhiant, dwi'n gwybod roedd hwnna yn ffordd i fi gael saib bach o bryd i'w gilydd pan oeddwn i'n gofalu am blant. 

Ond jest i ddweud, o ran y dimensiwn digidol, rŷn ni'n ymwybodol iawn o bwysigrwydd Hwb, ac yn ceisio gweld sut y gallwn ni gysylltu yr hyn sy'n digwydd ar Hwb â'r adnodd digidol sydd ar gael trwy S4C. Rŷn ni eisoes wedi siarad gyda S4C ynglŷn â'r cwricwlwm newydd i weld pa adnoddau sydd ar gael iddyn nhw. Wrth gwrs, mae archif hir a hen gyda nhw efallai fyddai'n gallu cael ei addasu ar gyfer y cwricwlwm newydd. Felly, mae'r trafodaethau yna wedi bod yn mynd ymlaen eisoes, ac, yn sicr, bydd y rheini yn datblygu yn y dyfodol. 

Dwi'n siŵr y bydd rhieni di-Gymraeg yn benodol yn gwerthfawrogi gweld y datblygiadau yna. Rydym ni'n gwybod bod yna bryder, onid oes, nad ydyn nhw yn gallu cefnogi'u plant yn llawn yn ystod y cyfnod yma. Felly, i fynd â'r drafodaeth yna yn bellach, pa sgyrsiau ydych chi wedi'u cael efo'r Gweinidog Addysg ynglŷn â hyn, ynglŷn â'r pryderon penodol sydd yna ynghylch y sector cyfrwng Cymraeg, ac ydych chi'n teimlo bod angen strategaeth benodol ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg, efo canllawiau a hyfforddiant pwrpasol ar gyfer y gweithlu ar fedru defnyddio platfformau rhithiol yn llawn? Mae'n hanfodol, onid ydy, o ran caffael a defnydd iaith, i gael rhyngweithio uniongyrchol rhwng athro a disgybl—hyd yn oed yn bwysicach, efallai, pan ydym ni'n sôn am ddysgu iaith. A hefyd dwi'n credu bod angen i rieni wybod pa adnoddau sydd ar gael iddyn nhw a lle i fynd i chwilio amdanyn nhw. Felly, a fedrwch chi ymrwymo i hyrwyddo yr adnoddau hynny a'r gefnogaeth sydd ar gael ar gyfer y rhieni rheini sydd am gefnogi eu disgyblion, eu plant nhw, yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf?

Wrth gwrs, dwi yn cwrdd â'r Gweinidog Addysg yn aml i drafod materion sy'n ymwneud ag addysg a'r Gymraeg, a dwi'n gwybod ei bod hi'n ymwybodol iawn o bwysigrwydd sicrhau bod yna gyfle gan blant i ymarfer eu Cymraeg nhw yn ystod y cyfnod anodd yma. Ond jest i ddweud bod canllawiau eisoes wedi mynd—nid yn unig o'r Llywodraeth, ond rŷn ni wedi gofyn i brifathrawon i ddosbarthu yr adnoddau hynny i'r plant tu fewn yr ysgolion yna. Dwi yn gwybod, er enghraifft, fy mod i fel rhiant wedi cael gwybodaeth trwy'r ysgol ynglŷn â pha adnoddau sydd ar gael, felly mae'n dda i wybod bod y system yna yn gweithio, ac felly bod y cyfarwyddyd rŷn ni'n ei roi wedi cyrraedd y rhieni, ac felly dwi yn obeithiol y bydd hynny yn datblygu. Ond jest i ddweud, wrth gwrs, dwi'n meddwl y bydd angen i'r athrawon i gyd ailystyried sut maen nhw yn dysgu yn rhithiol, ac i weld pa adnoddau sydd ar gael iddyn nhw. Ac, wrth gwrs, mae'n rhaid inni ystyried hwnna yn Gymraeg ac yn Saesneg hefyd. 

Diolch. Trown at y cwestiynau ar y papur trefn, a bydd cwestiynau 3, 4 a 5 i gyd yn cael eu hateb gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth. Felly, cwestiwn 3—Mark Isherwood.

14:40
Twristiaeth yng Ngogledd Cymru

3. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi twristiaeth yng Ngogledd Cymru? OQ55351

Diolch am y cwestiwn yna Mark. Ein pecyn cymorth i'r economi ymwelwyr a'r diwydiant twristiaeth yw'r mwyaf hael yn y Deyrnas Unedig. Ac, ar 5 Mehefin, roedd dros £10 miliwn wedi'i ddyfarnu i fentrau twristiaeth drwy ein cronfa cadernid economaidd. Amcangyfrifwn fod hyn wedi diogelu dros 4,500 o weithwyr yn y sector. Ac rydym ni bellach yng ngham 2 y Gronfa, sy'n agored, a fydd yn cynorthwyo busnesau twristiaeth ychwanegol sy'n defnyddio'r cyllid.

Wel, er bod busnesau gwely a brecwast bach yn un o brif gynheiliaid economïau twristiaeth lleol ar draws y gogledd, nid ydynt yn gymwys ar gyfer grant busnes £10,000 Llywodraeth Cymru. Pan godais y mater hwn gyda Gweinidog yr economi, cyfeiriodd at y gwiriwr cymhwysedd ar gyfer ail gam y gronfa cadernid economaidd. Pan agorodd, roeddent yn anghymwys. Pan holais ef am hyn, dywedodd y byddai'n rhaid iddo ddeall pam. Felly, ysgrifennais ato gyda'u tystiolaeth. Yn ei ateb, fel chithau, dywedodd mai'r pecyn cymorth yng Nghymru yw'r mwyaf cynhwysfawr a hael yn y DU, ond mae grantiau ar gael i weithredwyr gwely a brecwast yn Lloegr a'r Alban nad ydynt yn gymwys i gael mathau eraill o gymorth grant COVID-19, ond gwrthodwyd grantiau cyfatebol i weithredwyr yng Nghymru. Felly, beth yw eich neges i weithredwyr busnesau gwely a brecwast dilys sydd wedi dweud wrthyf fod eu harian wedi dod i ben erbyn hyn ac na allant barhau mwyach? Gobeithio ei fod yn un o obaith.

Rwy'n hapus i adolygu'r sefyllfa, a byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn gweld enghreifftiau o'r busnesau sydd wedi cysylltu â chi, er mwyn i'n swyddogion allu siarad â nhw am y modd y gallwn ni ddiwallu eu hanghenion yn fwy effeithiol.

Darlledu yng Nghymru

4. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effeithiolrwydd darlledu yng Nghymru yn ystod pandemig Covid-19? OQ55367

Diolch yn fawr am y cwestiwn. Ac fe gaf i o hyd i'r ateb mewn dau funud. Dyma ni. Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n agos gyda darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus a gydag Ofcom yng Nghymru yn ystod yr argyfwng iechyd cyhoeddus ar faterion darlledu sy'n effeithio ar Gymru, er gwaethaf y ffaith nad yw darlledu, wrth gwrs, wedi'i ddatganoli.

Gweinidog, yn ystod y pandemig cyfredol hwn, mae cywirdeb darlledu yn gyson wedi ein siomi ni yma yng Nghymru. Mae pobl yn credu nad yw'r sefyllfa efo rheolau gwahanol Cymru yn cael digon o amlygrwydd gan ddarlledwyr gwasanaethau cyhoeddus Prydeinig, felly. Rydym ni yma yng Nghymru yn cael ein bwydo yn aml efo gwallau beunyddiol neu wybodaeth anghyflawn ynglŷn â'r gwahanol reolau COVID yng Nghymru o'u cymharu â Lloegr, er enghraifft. Nawr, fel rydych chi wedi ei ddweud, ar hyn o bryd mae'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn cynnal ymchwiliad i ddatganoli darlledu i'r Senedd yma. Ond, yn y tymor byr, Dirprwy Weinidog, gyda'r pandemig yma yn dal ar waith, pa drafodaethau ydych chi'n eu cael gyda'r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus Prydeinig, y cyfryngau ehangach, ac, yn wir, Llywodraeth San Steffan, i sicrhau bod y negeseuon i bobl Cymru yn glir ac yn gywir?

Mae hwn yn fater i Ofcom, yn bendant, fel y corff rheoleiddio. Ac eto, gaf i ofyn am enghreifftiau? Bob tro rydym ni'n dod ar draws enghreifftiau fel Gweinidogion, neu fel swyddogion o'r Llywodraeth, rydym ni'n eu codi nhw'n uniongyrchol. Ond nid yng Nghymru y mae'r broblem. Mae'r broblem yn yr annealltwriaeth, mae gen i ofn, o gyfansoddiad y Deyrnas Unedig, yr annealltwriaeth o ystyr ac effaith datganoli gan ddarlledwyr sydd yn darlledu i Gymru o Loegr.

Dirprwy Weinidog, yn ogystal â darlledwyr mawr y sector cyhoeddus, mae llu o orsafoedd radio cymunedol a lleol a rhanbarthol ledled Cymru, ac rydym ni wedi gweld yn ystod y pandemig y rhan hanfodol y maen nhw'n ei chwarae, o ran codi calon pobl yn lleol, a hefyd fel ffynhonnell newyddion. A ydych chi'n credu ei bod yn bryd i ni gydnabod eu cyfraniad, efallai drwy gaffael a hysbysebu a chyhoeddiadau gwasanaeth cyhoeddus hefyd, a gwybodaeth, fel ffordd allweddol o gefnogi'r eiriolwyr cymunedol gwirioneddol bwysig hyn?

14:45

Mae'r cwestiwn yna yn cynhesu fy nghalon, oherwydd yn y gorffennol pell, roeddwn yn gyfarwyddwr un o'r gorsafoedd cymunedol hyn, o'r enw Champion FM, yn y gogledd, ac roedd yn orsaf radio lwyddiannus iawn, sy'n dal i weithredu. Rwyf wedi dilyn, gyda pheth pryder, yr hyn sydd wedi digwydd o ran perchenogaeth a rheolaeth rhai o'n gorsafoedd llai. A gallaf weld bod dadl gref iawn o blaid sicrhau bod cefnogaeth wastad ar gael gennym ni, y gellir ei chyfeirio ar hyd braich at y diwydiant radio cymunedol. Ac rwy'n hapus iawn i edrych eto ar hyn i weld a oes cymorth mwy uniongyrchol y gallwn ei roi. Ond mae'n rhaid iddo fod ar hyd braich, yn fy marn i. Ni ddylai Llywodraeth Cymru fuddsoddi mewn gorsafoedd radio, hyd yn oed pe bai gennym yr arian i wneud hynny.

Diolch, Dirprwy Weinidog, rwyf wedi gwrando gyda diddordeb ar y cwestiynau a'r atebion gan bobl eraill ar y pwnc hwn, a'r rheswm yr oeddwn i eisiau ymuno oedd i ddweud bod nifer o etholwyr wedi cysylltu â mi a oedd yn ddig iawn eu bod wedi clywed y negeseuon anghywir ar y rhaglen This Morning ar deledu'r DU ac roeddent yn awyddus iawn i ffonio neu anfon neges destun i'w cywiro ynglŷn â beth oedd y sefyllfa yma yng Nghymru. Nid wyf yn credu bod gwell tystiolaeth bod neges Llywodraeth Cymru yn cael ei datgan yn glir yng Nghymru na chlywed am etholwyr yn ffonio This Morning i ddweud wrthyn nhw bod eu neges yn anghywir mewn gwirionedd. Felly, a fyddech yn cytuno â mi, Dirprwy Weinidog, fod hynny'n dangos bod neges Llywodraeth Cymru yn glir iawn yma yng Nghymru, hyd yn oed os oes anawsterau wrth gyfleu'r neges gywir i gyfryngau'r DU?

Diolch yn fawr iawn Vikki am roi'r enghraifft yna inni. Ni welais y rhaglen benodol honno, ond yn sicr, byddaf yn sicrhau bod y bobl yn y maes cyfathrebu sy'n gweithio'n galed iawn i sicrhau bod neges Llywodraeth Cymru yn cael ei throsglwyddo'n briodol i bobl Cymru yn gallu sicrhau y caiff y neges honno hefyd ei throsglwyddo'n briodol i orsafoedd a dderbynnir yng Nghymru o'r tu allan, lle nad oes gan y newyddiadurwyr na'r cyflwynwyr ddealltwriaeth yn aml o gymhlethdod diddorol cyfansoddiad y Deyrnas Unedig.

Chwaraeon Awyr Agored

5. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ailgyflwyno chwaraeon awyr agored ar gyfer plant a phobl ifanc yn dilyn Covid-19? OQ55366

Gwnaf, rwy'n hapus iawn i roi rhagor o wybodaeth am chwaraeon awyr agored ac, yn wir, y datblygiadau yr ydym ni wedi'u gweld dros yr wythnosau diwethaf, lle mae'r cyfleoedd ar gyfer chwaraeon awyr agored wedi cael eu pwysleisio wrth i nifer o weithgareddau chwaraeon agor. Ac mae gennyf restr yma, os gallaf ddod o hyd iddi, o'r rheini: maen nhw'n cynnwys, yn gynyddol, y chwaraeon ar wahanol gyrtiau, gan gynnwys tennis yn amlwg, bowliau a gweithgareddau allanol eraill o'r math yna. Ac mae gennym ni ddiddordeb arbennig mewn sicrhau bod pobl ifanc yn gallu ymgymryd â gweithgarwch corfforol oherwydd y mae'n rhan o'n cyfrifoldeb fel Llywodraeth i hyrwyddo gweithgarwch corfforol ledled Cymru gyfan.

Mae preswylydd wedi cysylltu â mi sy'n hyfforddi pêl-droed dan wyth oed, sy'n gamp ddigyswllt, ond ystyrir pêl-droed yn fwy cyffredinol yn gamp cyswllt, felly mae eu hyfforddwr yn teimlo y byddai cael ailafael mewn ymarfer, gyda mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith, o fudd mawr i'r plant sy'n cymryd rhan. Felly, a ellir ystyried ailddechrau pêl-droed awyr agored pan fydd yn cynnwys plant a phan fydd yn gêm ddigyswllt?

Rwy'n fodlon ailedrych ar hyn ac, wrth gwrs, byddaf yn ei drafod â Chwaraeon Cymru, sef ein prif gyfrwng ar gyfer ein perthynas â'r gwahanol gyrff llywodraethu. A gallaf ddweud ein bod eisoes wedi cefnogi ailagor—soniais am lawntiau tenis a bowlio—cyrtiau pêl-fasged, meysydd ymarfer golff, felodromau beicio, traciau athletau a rhwydi criced. Mae'r rhain i gyd bellach yn weithgareddau sydd wedi eu hailagor, ond byddaf yn sicr yn gofyn y cwestiwn a oes modd disgrifio mathau penodol o chwaraeon eraill, megis pêl-droed, fel rhai nad ydynt yn chwaraeon cyswllt. Rwy'n gallu gweld rhywfaint o anhawster, o wybod sut y mae fy ŵyr ifanc yn chwarae ei bêl-droed yn y Fro, ond rwy'n hapus iawn i edrych ar hynny. Diolch.

14:50

Diolch am eich ateb i Hefin David, Gweinidog. Rwy'n arbennig o awyddus i eiriol mewn gwirionedd dros chwaraeon menywod ifanc. Ofnaf y bydd mwy o heriau o ran ail-ddechrau chwaraeon menywod ar ôl COVID-19. Cyflwynodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol adroddiad da iawn ar chwaraeon corfforol ac fe wnaethant nodi'n glir iawn yr heriau, yn enwedig i ferched a menywod ifanc. Nid yw llawer o'r chwaraeon yr ydych chi newydd sôn amdanyn nhw—gwych o beth eu bod wedi ailgychwyn, chwaraeon awyr agored ydyn nhw—nid yw llawer ohonyn nhw'n apelio at fenywod ifanc, a tybed a fyddech chi'n barod i droi sylw eich gweision sifil tuag at yr hyn y gallem ni ei wneud i sicrhau bod cgweithgareddau difyr, awyr agored ar gael yn arbennig i'r bobl ifanc hynny sydd angen mynd allan, mae angen iddyn nhw adennill eu ffitrwydd, mae angen iddyn nhw mewn gwirionedd gael cyswllt cymdeithasol ac ychydig o hwyl ar ôl tri neu bedwar mis anodd iawn, iawn i bobl ifanc. Rwy'n poeni y cânt eu hesgeuluso wrth inni fwrw ymlaen.

Wel, mae gennym ni flaenoriaeth i gynyddu cyfranogiad  menywod ifanc yn enwedig mewn chwaraeon amrywiol. Rydym ni wedi cefnogi pêl-rwyd, rydym ni wedi cefnogi rygbi menywod, rydym ni wedi cefnogi pêl-droed menywod a byddaf yn sicr yn ystyried hynny yn genhadaeth yn ystod yr argyfwng iechyd cyhoeddus hwn. Diolch.

Cysylltiadau Masnach yn y Dyfodol

6. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda busnesau Cymru ynghylch cysylltiadau masnach y DU yn y dyfodol? OQ55381

Wel, rwy'n ymwybodol iawn o'r sefyllfa hynod heriol y mae llawer o fusnesau yng Nghymru yn ei hwynebu, yn enwedig o ganlyniad i COVID a Brexit, felly rwyf wedi ffurfio grŵp cynghori ar bolisi masnach i'm helpu i ddarganfod yr heriau masnach allweddol sy'n wynebu Cymru. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda nifer o gyrff cynrychiadol a chynnal cyfarfodydd sector gyda busnesau.

Diolch yn fawr, Gweinidog. Gyda'r ansicrwydd ynghylch masnach y DU, mae'n hanfodol bod gan fusnesau yng Nghymru leisiau cryf yn eu hyrwyddo. Mae cwmnïau fel bragdy Tiny Rebel, yn fy etholaeth i, wedi gwneud gwaith gwych yn ehangu brand Cymru yn fyd-eang, ac mae cwrw fel Cwtch a Clwb Tropica yn cael eu gwerthu ledled y byd. Gyda'r ansicrwydd economaidd ychwanegol oherwydd COVID-19, ni allwn ni fforddio i fusnesau Cymru wynebu pwysau ychwanegol tariffau uwch. Drwy gydol y cyfnod hwn, mae busnesau'n addasu i amgylchiadau. Pa gefnogaeth all Llywodraeth Cymru ei rhoi i'r busnesau hynny yr oedd ganddynt rwydweithiau masnach gyda gwledydd eraill? A sut y gallwch chi gefnogi ac annog busnesau sy'n gobeithio allforio cynnyrch am y tro cyntaf, i sicrhau bod cwmnïau o Gymru yn parhau i ffynnu yn y cyfnod hynod o anodd hwn?

Diolch yn fawr iawn. Ac rydych chi'n llygad eich lle: mae Tiny Rebel wedi bod yn enghraifft wych o gwmni yng Nghymru sydd wedi ymestyn dramor ac sydd wir yn chwifio'r faner dros ein gwlad ni dramor. Wrth gwrs, effeithiwyd yn aruthrol ar lawer o'r allforion masnach gan y coronafeirws. Un o'r pethau yr ydym ni'n ei wneud nawr i fynd i'r afael â'r mater hwn yw adnewyddu ein strategaeth allforio yn llwyr. Felly, gobeithio y caiff honno ei chyhoeddi ddechrau mis Medi. Rydym yn ymgynghori â sectorau busnes ar hyn o bryd er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn profi ein syniadau yn y maes hwnnw. Yn sicr, mae gennym ni dîm o gynghorwyr masnach yn Llywodraeth Cymru sydd yno i roi help llaw i bobl sydd eisoes yn allforio neu'r rheini a hoffai allforio. Ac, wrth gwrs, rydym ni'n ceisio gweithio hefyd gyda Llywodraeth y DU i ddefnyddio'r rhwydweithiau sydd ganddyn nhw ar waith hefyd. Felly, rydym yn ffyddiog ein bod yn dechrau rhoi'r pethau cywir ar waith ar gyfer yr adeg pryd y byddwn mewn sefyllfa fwy sefydlog, ond yn amlwg mae hwn yn gyfnod anodd iawn i allforwyr.

14:55

Roeddwn yn falch iawn o glywed eich ymateb o ran y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n gadarnhaol ac yn adeiladol gyda Llywodraeth y DU er mwyn sicrhau'r manteision y gall cytundebau masnach eu rhoi i economi Cymru. Yn amlwg, mae gwaith yn mynd ymlaen yn gyflym gyda'r UE, yr Unol Daleithiau, y Japaneaid a llawer o Lywodraethau eraill ledled y byd, a tybed i ba raddau y mae gan Lywodraeth Cymru y gallu i gyfrannu at yr holl drafodaethau hynny ar hyn o bryd. Rwy'n sylweddoli ein bod mewn amgylchiadau anarferol a bod yn rhaid i bobl flaenoriaethu cyllidebau, ond rwy'n awyddus i sicrhau bod gan Gymru'r llais cryfaf posib yn y trafodaethau hynny. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni, o ran capasiti eich adran, ydych chi'n ffyddiog bod hynny'n ddigon i allu cyfrannu'n ystyrlon at y trafodaethau ehangach hynny?

Wel, oherwydd bod hwn yn faes hollol newydd—nid dim ond i Lywodraeth Cymru wrth gwrs, ond i Lywodraeth y DU hefyd—rydym ni wedi cynyddu'n aruthrol, fel y mae Llywodraeth y DU wedi gwneud, nifer y bobl sy'n ymwneud â'r maes hwn o ran masnach, er mwyn sicrhau, fel yr awgrymwch chi, fod ein llais yn cael ei glywed yn glir iawn. Nid yn gymaint o ran trafodaethau'r UE, lle mae'r dull o weithredu a'r trafodaethau wedi bod yn eithaf mympwyol o ran sut yr ydym yn gallu cyfrannu, ond mae'n rhaid i mi ddweud, pan fyddwn yn sôn am weddill y byd, bod y trafodaethau hynny a'r trafodaethau hynny gyda Llywodraeth y DU a'n cyfle i gyfrannu at y trafodaethau wedi bod yn berthynas adeiladol iawn. Nid yn unig yr ydym ni wedi cyfrannu, ond rydym ni wedi gweld canlyniadau'r ffaith ein bod ni'n cyfrannu, felly rwy'n credu bod yn rhaid i ni dalu teyrnged i Lywodraeth y DU yn y maes hwn, ac rwy'n falch iawn o weld bod hynny'n digwydd. Gobeithiwn, wrth gwrs, barhau yn yr ysbryd hwnnw. Rydym yn aros o hyd, wrth gwrs, i'r concordat gael ei lofnodi er mwyn i ni gael hynny'n ffurfiol, ond er mwyn bod yn deg â Llywodraeth y DU, maen nhw'n gweithredu ar hyn o bryd fel petai'r concordat ar waith. Mae hwnnw'n strwythur ffurfiol ar gyfer negodi. Ac maen nhw hefyd yn adnewyddu eu strategaeth allforio, felly rydym yn cadw llygad ar hynny i sicrhau bod beth bynnag a wnawn yn cydweddu â'r hyn y maen nhw'n ei wneud hefyd.

Gweinidog, rwy'n gwerthfawrogi'r sylwadau yr ydych yn eu gwneud ynglŷn â bod y concordat mewn grym i bob pwrpas oherwydd sefyllfaoedd unigolion, ond onid yw hi'n bwysig inni fod y concordat hwnnw'n cael ei lofnodi.

Mae gennyf bryderon mawr ynghylch rhai o'r cytundebau hyn. Er enghraifft, yn y trafodaethau rhwng Japan a'r DU, mae'r Japaneaid eisoes wedi dweud eu bod eisiau dyddiad cwblhau o chwe wythnos. Mae hynny'n rhoi llawer o bwysau ar y broses, a sut allwn ni fod yn sicr bod llais Cymru a buddiannau dinasyddion Cymru, mewn cyn lleied o amser, yn cael eu cyflawni? Ac a ydych chi, felly, yn yr ystafell yn ystod trafodaethau? A ydynt yn adrodd yn ôl i chi? Sut allwn ni gael y sicrwydd hwnnw, a sut allwn ni graffu ar y cytundeb hwnnw?

Wel, i fod yn glir, nid dim ond dechrau'r trafodaethau yma yr ydym ni. Rydym ni wedi bod yn trafod gyda Llywodraeth y DU ers mis Chwefror a mis Mawrth, gan gyfrannu at yr hyn y credwn y dylai ffurf y mandadau negodi hynny fod, ac rwy'n falch o ddweud ein bod ni wedi cael dylanwad yn hynny o beth mewn gwirionedd. Felly, mae'r testun wedi cael ei ddiwygio, er enghraifft, mewn cysylltiad â'r testun Japaneaidd, i sicrhau bod yna gadarnhad o'r ymrwymiadau hynny i gonfensiwn fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar newid yn yr hinsawdd a chytundeb Paris. Nid oedd hynny yno o'r blaen; mae yno nawr oherwydd inni wthio hynny. Felly, rydym ni eisoes wedi cael effaith, rwy'n credu, o ran y mandad negodi.

Rydym yn hynod ymwybodol o'r amserlen fer iawn yr ydym yn gweithio iddi. Mae ar Senedd Japan—y Diet Cenedlaethol—angen i hwnnw fod yn ei le erbyn diwedd mis Medi. Felly, maen nhw wedi ei gwneud hi'n glir eu bod eisiau cytundeb, mewn gwirionedd, erbyn diwedd mis Gorffennaf. Felly, mae'r trafodaethau hynny'n digwydd yn gyflym. Rydym ni'n cael sesiwn friffio cyn i'r trafodaethau ddechrau, ac mewn gwirionedd rydym ni'n cael sesiwn friffio gyda Greg Hands, y Gweinidog, yfory, ac rydym ni'n cael diweddariad ar ôl i'r trafodaethau ddigwydd. Felly, mae hynny'n drefniant yr ydym yn gyfforddus iawn ag ef.

Bil y Cwricwlwm Arfaethiedig ar yr Iaith Gymraeg

7. Pa asesiad mae’r Gweinidog wedi ei wneud o effaith Bil y cwricwlwm arfaethiedig ar y Gymraeg? OQ55382

Mae asesiad effaith integredig wedi ei gwblhau ar y Bil cwricwlwm ac asesu. Mae hwn yn cynnwys asesiad o’i effaith ar yr iaith Gymraeg, ac fe gyhoeddwyd yr asesiad effaith integredig gyda’r Papur Gwyn ar y Bil ym mis Ionawr 2019.

Dwi'n gwybod mai'r peth olaf yr ydych chi eisiau ei weld ydy fod y cwricwlwm newydd yn cael effaith andwyol o ran uchelgais eich Llywodraeth chi i gyrraedd 1 miliwn o siaradwyr, neu, yn wir, yn tanseilio eich ymdrechion chi mewn unrhyw ffordd. Yn wir, byddai unrhyw Weinidog y Gymraeg am edrych am gyfleon i gryfhau'r Gymraeg drwy'r ddeddfwriaeth newydd yma. Ond os profir i chi y bydd gan y Bil yma ganlyniadau anfwriadol—unintended consequences—fydd yn niweidiol i'r Gymraeg, a fyddwch chi wedyn yn fodlon cefnogi ymdrechion i newid yr hyn fydd ar wyneb y Bil? Hynny yw, os daw hi'n glir yn ystod taith y Bil drwy'r Senedd y byddai'r Ddeddf yn niweidio eich uchelgais 1 miliwn o siaradwyr chi, a wnewch chi bwyso am newid?

15:00

Wel, fe fyddwn i jest yn dweud mod i yn cael trafodaethau eithaf dwys gyda'r Gweinidog Addysg ar y mater yma. Wrth gwrs, byddwn i'n gofidio'n enbyd pe byddai yna unrhyw achos lle byddai hynny'n cael effaith andwyol ar yr iaith Gymraeg. Felly, mae'n bwysig sicrhau ei bod hi'n bosibl parhau i drochi plant trwy gyfrwng y Gymraeg ac nad oes dim anawsterau yn y maes yna, a hefyd ein bod ni'n edrych ar y ffaith, erbyn 2050, ein bod ni eisiau gweld 40 y cant o'n plant ni'n cael addysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Felly, mae'r materion yma'n cael eu codi ac, wrth gwrs, dwi'n gobeithio, pan fydd y Bil yn cael ei gyhoeddi mewn ffordd ffurfiol yn ystod yr wythnosau nesaf, y bydd pethau mewn lle lle y byddaf i'n gyfforddus gyda nhw ac, wrth gwrs, y bydd pobl sydd yn poeni am yr iaith Gymraeg yn gyfforddus gyda nhw hefyd. 

6. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd

Eitem 6 ar ein hagenda y prynhawn yma yw cwestiynau i Gomisiwn y Senedd. Bydd y Llywydd yn ateb pob cwestiwn y prynhawn yma. Cwestiwn 1, Helen Mary Jones.

Ymestyn Masnachfraint Etholiadau'r Senedd

1. Pa baratoadau y mae'r Comisiwn wedi eu rhoi ar waith o ran ymestyn masnachfraint etholiadau'r Senedd, er gwaethaf y pandemig coronafeirws? OQ55359

Ers 1 Mehefin, mae pobl ifanc a fydd yn 16 neu'n 17 oed pan gynhelir etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf wedi cael cofrestru i bleidleisio. Mae'r Comisiwn wedi creu adnoddau addysg i helpu pobl ifanc i ddeall sut mae ein democratiaeth yn gweithio. Roedd y rhain ar gael ar Hwb—llwyfan dysgu ac addysgu digidol Llywodraeth Cymru—cyn dechrau'r cyfnod cofrestru ar 1 Mehefin, a bydd adnoddau ychwanegol sy'n briodol i'w defnyddio mewn nifer o leoliadau, gan gynnwys ar gyfer addysg gartref, yn cael eu hychwanegu'n fuan. Mae'r Comisiwn wedi ysgrifennu at ysgolion i gynnig y sesiynau allgymorth arferol ar-lein, gan sicrhau bod y tîm addysg ac ymgysylltu â phobl ifanc yn parhau i gynnig ymgysylltiad uniongyrchol yn ystod y cyfnod pandemig yma.

Diolch yn fawr, Llywydd. Diolch yn fawr iawn. Mae'n braf iawn gweld bod cymaint o gynnydd wedi'i wneud ar y gwaith hwn ar adeg mor anodd, pan fo staff y Comisiwn wedi bod o dan gymaint o bwysau. Mae hefyd, wrth gwrs, wedi bod yn braf iawn gweld y Senedd Ieuenctid yn parhau â'i gwaith. A ydych chi wedi gallu gwneud neu a fyddwch yn gallu gwneud unrhyw asesiad ynghylch y gyfradd gofrestru ar gyfer y grŵp hwnnw o bobl ifanc? A gawn ni wybod, erbyn yr hydref efallai, ble mae pobl yn cofrestru a ble nad ydynt yn cofrestru, ac a allai hynny fod yn achos i'r Comisiwn dargedu ei adnoddau ymhellach os byddwn yn canfod, gyda grwpiau penodol o bobl ifanc neu mewn ardaloedd daearyddol arbennig, nad oes cymaint yn cofrestru ag y byddem i gyd yn dymuno ei weld?

Wel, mae hwnna'n bwynt ardderchog, ac, wrth gwrs, mi fyddwn ni eisiau cadw golwg ar lefel y cofrestru gan bobl ifanc. Mae hyn yn gyfnod heriol i bawb i wneud y gwaith hyn, ac yn enwedig i awdurdodau lleol, wrth gwrs, sy'n gyfrifol am y gwaith cofrestru yma'n ymarferol. Felly, rydym ni'n ceisio rhoi cymaint o hyblygrwydd i lywodraeth leol ag sy'n bosib yn yr amser sydd gyda ni ar hyn o bryd, ond, wrth i'r hydref agosáu a'r gaeaf, fe fydd yn rhaid i ni edrych ar y niferoedd sydd eisoes wedi cofrestru a gweld sut mae'r patrymau hynna'n datblygu. Lle mae angen gwneud gwaith pellach, mi fyddwn ni'n gweithio gyda Llywodraeth Cymru, y Comisiwn Etholiadol a llywodraeth leol i sicrhau bod y gwaith pellach yna'n cael ei wneud fel bod pob person ifanc yng Nghymru yn ymwybodol o'r hawl newydd fydd gyda nhw'r flwyddyn nesaf i bleidleisio yn etholiadau Senedd Cymru.

15:05
Arferion Gwaith yn y Dyfodol

2. Pa asesiad y mae'r Comisiwn wedi'i wneud o effaith y gwaharddiadau symud ar arferion gwaith yn y dyfodol ar gyfer Aelodau'r Senedd a staff y Comisiwn? OQ55356

Mae Comisiwn y Senedd wedi bod yn rhoi blaenoriaeth i'r gwaith o sicrhau bod busnes y Senedd yn parhau a'i bod yn ddiogel i ddychwelyd i'r ystad wrth i gyfyngiadau gael eu llacio. Yng nghyfarfod diwethaf y Comisiwn, cafodd y Comisiynwyr eu diweddaru am y trefniadau oedd ar waith oherwydd pandemig COVID-19 ac am y paratoadau oedd ar y gweill i sicrhau y byddai'n ddiogel i ddychwelyd i'r ystad maes o law. Mae asesiad y Comisiwn o'r paratoadau hyn yn sail i benderfyniadau'r Pwyllgor Busnes am waith y Senedd.

Diolch am yr ateb yna. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i dalu teyrnged i'r holl staff, y Comisiwn a'r staff cymorth. Maen nhw’n parhau i ddarparu'r lefelau rhagorol o wasanaeth yr ydym wedi dod i'w disgwyl, hyd yn oed yn y cyfnod anodd hwn. Mae'n amlwg bod staff ac Aelodau'r Senedd yn gallu gweithio'n effeithiol ac o bell, o'u cartrefi neu fannau eraill, gyda'r holl fanteision o beidio gorfod brwydro drwy dagfeydd traffig, llai o bethau'n tynnu sylw oddi ar y gwaith, a'r gallu i wneud mwy mewn llai o amser. A fydd y Comisiwn yn awr yn ceisio ymgorffori rhai o'r gwersi a ddysgwyd o'r cyfyngiadau symud i ffyrdd pawb o weithio, fel y gall y Senedd gynnig dulliau gweithio hyblyg, meddylgar ac ystyriol o deuluoedd ar gyfer y rhai sydd eu heisiau a'u hangen mewn gwirionedd? Diolch.

Diolch am y cwestiwn, Mandy Jones, a diolch hefyd am ddiolch am ymdrechion sylweddol staff y Comisiwn i wneud yn siŵr bod ein swyddogaeth fel Senedd wrth graffu ar waith y Llywodraeth a phasio deddfwriaeth wedi cael ei wneud yn effeithiol dros yr wythnosau diwethaf. Rwyf wedi cael fy syfrdanu gan yr ymdrechion; mae cymaint o'n staff wedi gallu cyflawni cymaint mewn amgylchiadau gweithio anodd—gweithio o gartref, fel y buom ni yn ei wneud—sicrhau bod gwaith ein Senedd yn parhau. Felly, rwy'n diolch yn bersonol iddyn nhw i gyd hefyd, ac rwy'n siŵr fy mod yn siarad ar ran pawb ohonom ni wrth rannu eich diolch, Mandy Jones, am hynny.

A do, buom yn gweithio gyda'r rhwystredigaethau o weithio o bell, ond rydym hefyd wedi gweld llawer o'r manteision o weithio o bell, o ran busnes y Senedd a hefyd yn y gwaith y mae ein staff yn gallu ei wneud o bell. Byddwn yn dysgu'r gwersi o hyn ac nid oes amheuaeth gennyf, fel llawer agwedd arall ar fywyd, bydd ein Senedd a'r Comisiwn yn gweithio mewn ffyrdd gwahanol yn y blynyddoedd i ddod oherwydd profiadau'r cyfnod hwn o bandemig. A daw daioni o hyn o ran cynllunio ein bywydau gwaith yn y dyfodol.

Busnes y Senedd

3. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am y trefniadau i gefnogi busnes y Senedd wrth i'r cyfyngiadau symud gael eu llacio? OQ55376

Fel y gwyddoch, gyda chytundeb y Pwyllgor Busnes, bydd y Senedd yn treialu Cyfarfodydd Llawn hybrid ar 8 a 15 Gorffennaf. O dan y model yma, gall hyd at 20 o Aelodau gymryd rhan yn y Siambr, tra bydd gweddill yr Aelodau yn cymryd rhan o bell. Yn ogystal â datblygu technoleg a gweithdrefnau i ganiatáu i ni gynnal cyfarfodydd rhithwir a hybrid, mae staff Comisiwn y Senedd wedi datblygu system electronig o bleidleisio o bell, a bydd hyn yn caniatáu i'r Aelodau bleidleisio'n unigol o bell. Caiff hyn ei ddefnyddio am y tro cyntaf yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos nesaf.

Diolch yn fawr am hynny, a dwi'n gwerthfawrogi yr ymdrechion dŷch chi a'r Comisiwn a'i staff wedi eu gwneud i'n galluogi ni i weithio fel yr ydym ni. Mae'n fy nharo i, Llywydd, fel dwi'n edrych arnoch chi ar y sgrin, ac edrych ar Aelodau eraill o fy mlaen i, fod gennym ni gyfle fan hyn i ystyried nid jest sut dŷn ni'n trefnu ein busnes, ond sut rydym ni'n ystyried y busnes ei hun, a liciwn i pe baech chi, fel Llywydd, yn gallu defnyddio'r cyfle dŷn ni wedi'i gael yn ystod y cyfnod yma i arwain trafodaeth ymhlith Aelodau ac eraill amboutu sut dŷn ni'n trefnu busnes a'r math o fusnes dŷn ni'n ei drafod yn ein sesiynau Plenary ac mewn pwyllgorau, ac edrych, cyn bod y Senedd yma'n dod i ben, i brofi ffyrdd gwahanol o weithio, ffyrdd gwahanol o drefnu busnes, so, pan fydd hi'n dod i ddiwedd y Senedd yma, fe fyddwn ni wedi cael y cyfle i ystyried ffyrdd gwahanol o weithio cyn yr etholiadau nesaf.

15:10

Well, diolch am y sylwadau hynny a'r cwestiwn. Dwi'n cytuno gyda chi ein bod ni'n gorfod gweithio mewn ffyrdd gwahanol ar hyn o bryd, a dwi'n edrych arnoch chi i gyd ar y sgrin o'm mlaen i mewn gwahanol fannau yng Nghymru, ac rŷm ni'n llwyddo i wneud y gwaith dydd i ddydd yr ydym ni'n cael ein hethol i'w wneud. Ond, mae'r pwynt rŷch chi'n ei wneud ynghylch nid yn unig sut rŷn ni'n cynnal y gwaith yma drwy dechnoleg gwybodaeth yn enwedig a chwrdd yn rhithwir, ond beth yw cynnwys y gwaith rŷn ni'n ei wneud, beth yw'n hagenda ni a sut mae'r busnes hynny'n cael ei gyflawni, a'r ffurfiau hynny. A dwi'n credu bod hyn yn rhoi cyfle i ni, ar ôl inni ddal ein gwynt o fod yn ymateb i'r pandemig ar hyn o bryd, edrych yn greadigol ar nid yn unig sut rŷm ni'n gwneud ein busnes, ond beth yw'n busnes ni, ac felly ein bod ni yn rhoi rhywfaint o ystyriaeth i hynny i gyd. Felly, dwi'n hapus i gymryd yr argymhelliad yna ac i ofyn nid yn unig i'r Pwyllgor Busnes ond i'r Comisiwn hefyd i edrych ar y gwersi pwysig sydd yn deillio allan o'r cyfnod yma, a sut gallwn ni feddwl am ein hagenda ni i'r dyfodol mewn ffordd sy'n adlewyrchu rhyw gymaint ar y profiadau rŷm ni wedi'u cael dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf yma.

Swyddfeydd Etholaethol

4. A wnaiff y Comisiwn roi arweiniad i Aelodau ar ailagor swyddfeydd etholaethol yn ddiogel? OQ55371

Mae dyletswydd ar yr Aelodau unigol i gadw staff ac ymwelwyr yn ddiogel yn eu swyddfeydd etholaethol a rhanbarthol, a nhw sy'n gyfrifol am benderfynu a ydynt wedi cymryd y camau priodol. Mae'r Comisiwn yn paratoi y dogfennau i ategu cyngor Llywodraeth Cymru mewn ffordd sydd wedi'i chynllunio i gynorthwyo'r Aelodau i gyflawni eu dyletswyddau fel cyflogwyr ac fel rheolwyr safle.

Diolch, Llywydd. Nid fi fydd yr unig un sy'n teimlo bod ein hetholwyr nawr eisiau gweld ein swyddfeydd yn agor, fel y gall cymorthfeydd cynghori ddigwydd wyneb yn wyneb. Nawr, mae canllawiau 'Diogelu Cymru yn y gwaith' a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, yn nodi:

'Dylai pob risg gael ei hasesu, gan gynnal trafodaethau ystyrlon â staff'.

Hyd yn hyn, fodd bynnag, gofynnwyd imi gwblhau holiadur syml ac aneglur iawn gan y Comisiwn a dyna'r cwbl. Felly, a yw'r Comisiwn yn bwriadu cynnal asesiad risg, a rhoi canllawiau a chyngor i ni fel Aelodau ar gyfer dychwelyd yn ddiogel, ac a fydd hyn yn fuan? O ba gyllideb y bydd cost rhagofalon diogelwch a mesurau cadw pellter cymdeithasol yn cael eu talu? A pham y mae'n cymryd cymaint o amser i unrhyw ganllawiau clir gael eu cyhoeddi gan y Comisiwn, yn enwedig gan fod Llywodraeth Cymru wedi gofyn i bob cyflogwr a phob busnes arall gyfathrebu ag eglurder a chysondeb? Credaf fod angen y cyfarwyddyd hwnnw arnom ni, fel Aelodau. O ran yr ystâd, yn enwedig ym Mae Caerdydd, mae'n ymddangos eich bod yn cymryd pob mesur priodol yno, ond eto, yn ein swyddfeydd etholaethol, mae'n teimlo fel ein bod ar ein pennau ein hunain yn hyn o beth, ac nid wyf yn gweld hynny'n dderbyniol fel Aelod. Rwyf eisiau bod yn ofalus iawn o'm staff yn y lle cyntaf, a'm hetholwyr hefyd. Diolch.

Fel y dywedais, yr Aelod etholedig sy'n gyfrifol am swyddfeydd etholaethol a swyddfeydd rhanbarthol, ac mae'r Aelodau etholedig, wrth gwrs, yn gyfrifol am faterion staff eu hunain hefyd. Byddwn yn darparu'r canllawiau sy'n ofynnol ac y gofynnir amdanynt, ond mater i Aelodau unigol yw penderfynu pryd y mae'n briodol ac yn ddiogel i wneud unrhyw waith y maen nhw'n dymuno'i wneud o'u swyddfeydd. Rydym ni i gyd, wrth gwrs, yn dilyn canllawiau cyffredinol gweithio o gartref os yw'n bosibl gwneud hynny, ac mae'r mwyafrif helaeth iawn o'n holl staff, fel Aelodau unigol ac fel staff y Comisiwn, wedi gallu gweithio'n effeithiol o gartref hyd yma. Ond os yw'r Aelodau'n teimlo bod angen mwy o arweiniad i'r Aelodau ynghylch ailagor, hyd yn oed os ydynt yn credu bod angen i hynny fod ar gael i'r Aelodau fesul sefyllfa unigol, yna, os gwelwch yn dda, Aelodau, cysylltwch â'r Comisiwn a byddwn yn darparu'r arweiniad hwnnw ar gyfer sefyllfaoedd unigol. Ond, dywedaf eto mai mater i Aelodau unigol yw rheolaeth a gweithle'r Swyddfa ranbarthol ac etholaethol. Hefyd, o ran yr ateb ar gostau, wrth gwrs, bydd rhai elfennau'n dod o dan y Comisiwn a'i gyllideb, ond bydd llawer iawn o agweddau ar y costau hyn y bydd unrhyw Aelod yn dymuno eu hawlio yn rhan o gyfrifoldeb y bwrdd taliadau.

15:15
Ailagor Ystâd Senedd Cymru

5. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am ei allu i ailagor ystâd Senedd Cymru? OQ55378

Wrth gynllunio i ailagor yr ystâd, yn unol â'r camau i lacio rheolau'r cyfyngiadau symud, mae'r Comisiwn wedi cynnal asesiad risg cynhwysfawr, ac mae'n dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru i gyflogwyr er mwyn rhoi trefniadau diogelwch ar waith. Ar 29 Mehefin, cytunodd y Pwyllgor Busnes y bydd y Senedd yn treialu Cyfarfodydd Llawn hybrid ar 8 a 15 Gorffennaf. O dan y model hwn, sy'n cadw at y rheolau ar gyfer cadw pellter cymdeithasol o 2 fetr, gall hyd at 20 o Aelodau gymryd rhan o'r Siambr, tra bod gweddill yr Aelodau yn cymryd rhan o bell.

Diolch, Llywydd, am yr ateb yna. Hoffwn innau hefyd ddiolch ar goedd i staff y Comisiwn a phawb sydd yn amlwg wedi ein helpu ni, fel Aelodau, yn ystod y 12 wythnos diwethaf neu fwy. Ond, rwy'n credu ei bod yn fater o frys nawr bod ystâd Seneddol y Cynulliad yn cael ei hailagor—mewn amodau diogel byddwn yn ychwanegu—ac roeddwn yn falch o glywed bod y gwaith modelu wedi mynd rhagddo i'r perwyl hwnnw.

A allwch chi gadarnhau pryd y bydd y Comisiwn yn symud o'i gynllunio presennol, lle mai dim ond 10 y cant o'r staff neu'r Aelodau sy'n dychwelyd i'r ystâd, i ffigur mwy arferol—fel sydd gennym ni yn y system addysg—sef 30 y cant, gan fy mod yn credu mai dyna ffigur y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud y gellir ei ddefnyddio fel meincnod ar gyfer dychwelyd i'r gwaith? Ac, os yw'n profi'n amhosibl i addasu rhywfaint o'r ystâd Seneddol, a yw'r Comisiwn yn ystyried, fel y mae Senedd Dulyn wedi gwneud i raddau, troi at gyfleusterau eraill lle mae modd i Aelodau gyfarfod yn y cnawd?

Wel, fel y dywedais yn fy ateb blaenorol i Janet Finch-Sanders, y canllawiau cyffredinol yw y dylai pobl weithio o gartref lle gallant wneud hynny. Mae mwyafrif helaeth staff y Comisiwn a staff yr aelodau etholedig wedi gallu gweithio gartref yn effeithiol ac maen nhw'n parhau i wneud hynny. Rydym yn gweithio fel Comisiwn un unol â chanllawiau cyffredinol Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd. Felly, gan fod y canllawiau hynny yn dal ar gael, yna bydd y mwyafrif llethol o'n staff yn dal i weithio gartref nes gwneir hynny.

Ond, fel y dywedais, rydym yn cynllunio ar gyfer dychweliad staff at ddibenion cyfarfod llawn hybrid yr wythnos nesaf. Wedyn, gallwn gynnig lle i hyd at 10 y cant o'r staff a'r Aelodau er mwyn rhoi hynny ar waith. Cafodd y penderfyniad hwnnw o 10 y cant ei wneud gan y Comisiwn yn ei gyfarfod diwethaf. Fel yr ydym ni wedi gwneud ar hyd yr amser, byddwn yn adolygu'r profiadau a gawn o wythnos i wythnos, ac yn addasu wrth inni fynd yn ein blaenau.

O ran y mater sy'n ein rhwymo ar hyn o bryd o ganlyniad i'r ddeddfwriaeth ymbellhau 2m yng Nghymru ac felly yn ein Siambr, ni allwn ni ddarparu ar gyfer mwy na thraean o'n haelodau—hyd at 20 o aelodau—yn y Siambr ar unrhyw un adeg. Byddwn yn dysgu o brofiadau'r wythnosau nesaf ynghylch sut y mae'r cyfarfodydd Siambr a Zoom hybrid yn gweithio, ac yna byddwn yn myfyrio ar y rheini i weld sut y byddwn yn datblygu ein gwaith ar gyfer tymor yr hydref.

Fel y daw'n amlwg i bob un ohonom ni, mae'n ddigon posibl y byddwn yn rhwym wrth reoliadau COVID dros y tymor canolig. Felly, yn ogystal â'r addasiadau tymor byr yr ydym wedi'u gwneud dros yr wythnosau diwethaf, fel Pwyllgor Busnes ac fel Comisiwn, mae'n rhaid inni gynllunio ar gyfer ateb tymor canolig, a byddwn yn edrych ar bob ffordd o weithio yn y dyfodol i sicrhau ein bod yn gweithio mor effeithiol ag y gallwn ni ar ran pobl Cymru.

15:20

Cwestiwn 6 yw Huw Irranca-Davies, ond rwy'n ymwybodol ei fod yn cael problemau technegol. Tybed a yw y criw Technoleg Gwybodaeth wedi llwyddo i ddatrys hynny iddo. Na, nid yw'n edrych felly, felly—

Dirprwy Lywydd, mae'n dangos i ni fod cyfarfodydd Zoom yn gallu bod yn effeithiol iawn, iawn, ond pan fydd y dechnoleg yn ein siomi yna mae'n ein siomi ni i gyd.

Ydy, rwy'n credu hynny. Felly, credaf y gallwn ni drosglwyddo hynny, efallai, i gael ateb ysgrifenedig i Huw Irranca-Davies. Ni allaf weld ei fod wedi llwyddo i ymuno eto. Na, iawn, felly fe symudwn ni ymlaen. Diolch yn fawr iawn.

7. Cwestiynau Amserol

Eitem 7 yw'r cwestiwn amserol, a Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru sydd i'w ateb. Jack Sargeant.

Colledion Swyddi yn Airbus

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y trafodaethau a gafwyd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn dilyn y cyhoeddiad am golli swyddi yn Airbus? TQ465

Diolch. Gweinidog. A yw'r Gweinidog yna? Nid yw'n ymddangos bod y Gweinidog yn clywed hyn—. Felly, mae'n ymddangos ein bod yn cael cryn dipyn o broblemau gyda'r dechnoleg y prynhawn yma. Tybed a allem ni ohirio hyn a byddwn yn datrys pam nad yw'r Gweinidog yn gallu cyfathrebu â ni. Felly, pe gallem ni felly fynd ymlaen at yr eitem nesaf ar ein hagenda, sydd, unwaith eto, fel y gwelaf—. Tybed a oes nam. A gawn ni seibiant technegol pum munud dim ond er mwyn inni ddatrys hyn? Felly, fe gymerwn ni bum munud a byddwn yn ailymgynnull ymhen pum munud. A oes modd i chi aros fel y gall y tîm darlledu ddiffodd pawb ac yna fe wnawn ni ailymgynnull?

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:22.

Ailymgynullodd y Senedd am 15:23, gyda'r Dirprwy Lywydd yn y Gadair.

Mae'n ymddangos nawr ein bod ni'n ôl yn darlledu. Felly, gofynnwyd cwestiwn amserol Jack Sargeant, Gweinidog, ac rydych chi'n ymwybodol ohono, felly allech chi ei ateb ac wedyn dychwelwn at Jack am ei gwestiwn atodol?

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae newyddion neithiwr yn amlwg yn drychinebus i'r holl weithwyr yn Airbus ym Mrychdyn, eu teuluoedd, a'r cymunedau lleol sy'n amgylchynu'r gwaith. Drwy gydol y pandemig, rydym ni wedi galw ar Lywodraeth y DU i weithio gyda ni ar becyn cymorth ac i ddarparu trywydd clir i adferiad ar gyfer y sector awyrofod.

Diolch ichi am yr ateb yna, Gweinidog. Siaradais yn gynharach am yr angen i Lywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig gynnig achubiaeth i'r sector awyrofod. Mae hynny, yn anffodus, yn eu dwylo nhw, a rhaid iddyn nhw benderfynu a ydyn nhw yn gweithredu ac yn cefnogi ein cymunedau ynteu'n ein siomi unwaith eto. Mae yna fesurau, fodd bynnag, y gall y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru eu cymryd i barhau i gefnogi'r diwydiant.

Gweinidog, byddwch yn ymwybodol y bydd gweithwyr Airbus a'u teuluoedd yn bryderus iawn ac yn meddwl tybed ble i droi. Mae arnom ni angen Llywodraeth Cymru sy'n eu cefnogi nhw ac yn gweithio gyda nhw a'u hundebau ar unwaith. Gweinidog, a gaf i ofyn ichi beth yw eich cynlluniau ar gyfer Airbus, ar gyfer y gadwyn gyflenwi, ac ar gyfer yr economi leol yn ehangach, a hefyd yr hyn y mae'n rhaid i Lywodraeth y DU ei wneud i gefnogi ein cymunedau yn y gogledd-ddwyrain?

15:25

A gaf i ddiolch i Jack Sargeant am ei gwestiwn atodol a dweud ein bod yn benderfynol o weithio gyda llywodraethau yn San Steffan ac yn Sir y Fflint, ac ar draws y rhanbarth, i sicrhau ein bod yn cael y rhagolygon gorau posib i'r bobl hynny y bydd cyhoeddiad heddiw yn effeithio arnyn nhw? Wrth gwrs, byddem yn dymuno lleihau'r niferoedd sydd wedi cael eu cyhoeddi, a byddwn yn ceisio cefnogaeth gan Lywodraeth y DU wrth ymdrechu i gyflawni hynny.

Fel y gwyddoch chi, Jack, rydym ni wedi buddsoddi miliynau ar filiynau o bunnau yn y Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni rhaglen Adain Yfory, a dyna yw ein nod strategol hirdymor o hyd i sicrhau dyfodol y broses o wneud adenydd ym Mrychdyn.

Yn y tymor byr iawn, er mwyn creu pont i'r cyfnod lle mae gan Airbus ym Mrychdyn y dyfodol cadarn hwnnw—[Anhyglyw.]—yn gorfod cael ei roi gan Lywodraeth y DU i gefnogi'r gweithwyr hynny gyda chynllun ffyrlo hirfaith er mwyn gallu gweithredu, os yw hi'n bosib o gwbl, wythnos waith fyrrach ar y safle.

Nawr, yn ogystal â hyn, gan gydnabod bod hedfan yn fater a gadwyd yn ôl, dylai Llywodraeth y DU edrych yn agos iawn ar argymhellion a wnaed gan Fforwm Awyrofod Cymru ac Airbus, ac eraill, gan gynnwys y posibilrwydd ar gyfer cynllun sgrapio awyrennau, a allai ysgogi gweithgarwch o fewn y sector awyrofod. A hefyd, yr angen i gydnabod y ffaith bod angen cyllid ychwanegol ar gyfer ymchwil a datblygu ar gyfer y sector.

Nawr, rydym ni'n cynnig cyfle unigryw, gyda'r ganolfan ymchwil a thechnoleg uwch sydd ar y gweill ar gyfer ardal Glannau Dyfrdwy. Mae hynny'n rhoi cyfle i Lywodraeth y DU, drwy'r Weinyddiaeth Amddiffyn, fuddsoddi yn y safle, yn y cyfleuster penodol hwnnw, a sicrhau y gallwn ni ddenu a chadw'r bobl sydd â'r sgiliau gorau, o bosib, yn y sector.

Fe wna i droi fy meicroffon ymlaen. Diolch. Ydy, mae hyn yn newyddion hollol ofnadwy i'r gogledd-ddwyrain a'r rhanbarth a'r economi ehangach. Bûm mewn sesiwn friffio neithiwr gydag Airbus, ynghyd ag Aelodau Seneddol Ceidwadol y gogledd-ddwyrain, a eglurodd eu bod yn wynebu'r argyfwng byd-eang mwyaf difrifol yn hanes ein diwydiant ac y bydd cyhoeddiadau mwy ffurfiol yfory ynghylch ble collir y swyddi. Gobeithio y byddwch yn dweud wrthym ni pa gynlluniau sydd gennych ar waith—rwy'n siŵr bod gennych chi rai—ar gyfer yfory i fod yn barod i ymateb, unwaith y bydd y bylchau wedi'u cwblhau, ac, yn amlwg, adeiladu ar y sicrwydd y bydd hyn yn canolbwyntio ar ddiswyddiadau gwirfoddol yn hytrach na diswyddiadau gorfodol.

Clywsom gan Airbus eu bod yn siarad â'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, ac y buont yn gwneud hynny ers cryn amser, ac â chithau hefyd, yn gofyn yn benodol am gefnogaeth i wythnos waith fyrrach. Byddwn yn croesawu eich dealltwriaeth o'r sefyllfa yn hynny o beth, ar hyn o bryd, a beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru.

Mae Simon Hart, yr Ysgrifennydd Gwladol, wedi dweud bod y DU wedi buddsoddi gwerth £10 biliwn hyd yn hyn yn y diwydiant hedfan ac y byddan nhw'n parhau i wneud hynny oherwydd eu bod nhw eisiau iddo oroesi. Unwaith eto, byddai o ddiddordeb imi gael gwybod pa drafodaethau yr ydych chi'n eu cael, neu yr ydych chi wedi eu cael, gyda'ch cydweithwyr yn y Yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol ynghylch y sylwadau hynny.

Ac yn olaf, pe gallech chi sôn am y cynllun prentisiaeth. Rwy'n gwybod fod Airbus wedi cydnabod yn gadarnhaol y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei darparu ar gyfer y cynllun prentisiaeth ac y bydd yn cyflwyno dyddiadau dechrau cyfnodol ac yn lleihau maint dosbarthiadau. Ond, beth allai Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi cynlluniau estynedig yn y dyfodol i alluogi newydd-ddyfodiaid i fod yno, gobeithio, ar gyfer adferiad yn y dyfodol?

A gaf i ddiolch i Mark Isherwood am nifer o gwestiynau adeiladol? Ac a gaf i ei sicrhau, yn gyntaf oll, y bûm yn trafod yn rheolaidd iawn gyda Gweinidogion Yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol a Swyddfa Cymru? Yn wir, rydym ni wedi bod yn trafod yn wythnosol yn ystod y pandemig. Gobeithio y byddant yn parhau unwaith y byddwn drwy hyn hefyd.

Nid ydym wedi cael yr un graddau o ymgysylltu â Thrysorlys y DU, ac, wrth gwrs, y Trysorlys fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol ynghylch a ddylid cefnogi gweithwyr Airbus gyda'r cymorth ariannol sydd ei angen i gyflwyno wythnos waith fyrrach. Mae'n rhywbeth yr wyf wedi ei drafod gyda Gweinidogion Yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol a Swyddfa Cymru, a chredaf fod gennym ni gefnogaeth unfrydol ar draws Llywodraeth Cymru a'r adrannau hynny yn Llywodraeth y DU am ymyriad o'r fath. Ond bydd yn rhaid i benderfyniadau Trysorlys y DU gael eu gwneud mewn ffordd gadarnhaol, ac rwy'n deall eu bod yn ystyried y cynnig hwn ar hyn o bryd.

Hefyd, bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu yn y dyfodol agos ac yn y tymor byr, y tymor hwy ac, yn wir, y tymor canolig, gan gynnwys creu tîm ymateb cyflym rhanbarthol. Mae hynny ar waith nawr. Bydd yn gweithredu ar draws y ffin hefyd. Byddwn yn cysylltu â rhanddeiliaid ledled gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr, gan gydnabod bod problem enfawr o ran gweithgynhyrchu ar ddwy ochr y ffin, nid yn unig o ran awyrofod, ond sectorau allweddol eraill.

Byddwn hefyd yn cynnal uwchgynhadledd, a fydd yn rhoi cyfle i lawer o'r busnesau yn y gadwyn gyflenwi weld pa ragolygon eraill sydd yna gyda gweithgynhyrchwyr offer gwreiddiol eraill o fewn y diwydiant awyrofod. Ac, wrth gwrs, rydym yn barod i gefnogi cwmnïau cadwyni cyflenwi drwy'r gronfa cadernid economaidd.

Bydd ymgynghori ar y nifer penodol o swyddi a fydd yn cael eu cyhoeddi ym Mrychdyn yn cymryd peth amser, fel yr ydych yn cydnabod, rwy'n siŵr, a byddwn yn gweithio drwy gydol y cyfnod hwnnw gyda'r cwmni i wneud yn siŵr bod unrhyw un sy'n cael ei ddiswyddo yn dilyn yr ymgynghoriad yn cael cymorth drwy Cymru'n Gweithio i gael hyfforddiant neu gyfleoedd cyflogaeth pellach. Fel yr wyf wedi'i ddweud eisoes, bydd y posibiliadau ar gyfer canolfan technoleg ac ymchwil uwch yn denu buddsoddiad pellach i ardal Glannau Dyfrdwy, ac mae hwnnw'n gyfleuster hanfodol bwysig.

Nawr, o ran y ddarpariaeth brentisiaethau yn Airbus, rydym yn falch o fod wedi cefnogi miloedd ar filoedd o brentisiaid yn Airbus. Maen nhw ymysg y prentisiaid gorau mewn unrhyw le yn y DU. Mae'n gynllun o'r radd flaenaf, ac rydym yn falch iawn ohono, ac rydym yn hapus ein bod yn gallu cyllido, ar hyn o bryd, yn y cyfnod anodd hwn, y rheini sydd yn eu trydedd flwyddyn i gwblhau eu prentisiaethau, ac rydym yn dod o hyd i fodel i roi cefnogaeth ariannol i'r rhai sy'n cychwyn o'r newydd. Mark Isherwood, rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol o'n targed parhaus o greu 100,000 o brentisiaethau o ansawdd uchel i bob oed. Bydd hynny'n parhau, er gwaethaf y coronafeirws. Rydym yn disgwyl cyrraedd y targed hwnnw, a gwnawn bopeth a allwn ni i sicrhau y gellir darparu'r nifer mwyaf posib drwy Airbus.

15:30

Diolch, Gweinidog, am eich atebion hyd yn hyn. Mae'n sicr yn newyddion torcalonus, ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r sylwadau a wnaethoch chi ynghylch edrych ar yr wythnos bedwar diwrnod ac ymestyn y cynllun ffyrlo, ac, yn sicr, pwysigrwydd y ddarpariaeth brentisiaethau yn Airbus. Mae'n enwog ac yn nodedig iawn ar draws y gogledd, ac mae gwir angen i ni wneud popeth o fewn ein gallu i geisio cadw cymaint o'r cyfleoedd hynny â phosib.

Allwch chi ddweud ychydig bach mwy wrthym ni am y gwaith yr ydych yn edrych arno o ran datblygu gwaith arall ar y safle? Yn amlwg, mae cyfeiriad yn eich datganiad a gyhoeddwyd yn gynharach ynglŷn â gwaith cynnal a chadw, atgyweirio ac archwilio a allai gael ei leoli ar y safle. Fe wnaethoch chi gyfeirio at ymchwil ac arloesi; rwy'n arbennig o awyddus i weld, efallai, arloesi o ran posibiliadau ac agweddau mwy ecogyfeillgar yn y math hwnnw o dechnoleg a diwydiant. Mae'n sicr yn faes lle mae angen i ni fod yn gwthio'r sector iddo. Felly, hoffwn glywed beth yw eich cynigion o ran ceisio dechrau mynd ar drywydd rhai o'r meysydd hynny efallai.

Hefyd, wrth gwrs, mae'n rhaid inni gofio—ac rwy'n gwybod eich bod yn ymwybodol o hyn, ac rydych chi eisoes wedi cydnabod hyn—fod cadwyn gyflenwi fawr iawn a llu o fusnesau lleol sy'n ddibynnol iawn ar y safle ym Mrychdyn. Felly, a allech chi ddweud ychydig yn rhagor wrthym ni ynghylch sut yr ydych yn bwriadu ymgysylltu â'r gadwyn gyflenwi ehangach y bydd y diswyddiadau arfaethedig hyn yn effeithio arni a'i chefnogi?

A byddwch yn ymwybodol, rwy'n siŵr, fod Plaid Cymru wedi cyhoeddi yr wythnos diwethaf ein cynigion ar gyfer cynllun adnewyddu economaidd, sy'n cynnwys cynigion megis pecyn ailsgilio Cymru, cynllun gwarant cyflogaeth i bobl ifanc, sy'n amlwg yn rhan o agwedd ehangach at y datblygiadau yr hoffem eu gweld ar ôl COVID. Tybed a fyddech chi'n fodlon edrych ar, ac ystyried rhai o'r rhain fel ymyriadau posib gan y Llywodraeth.

Yn olaf, rydym yn sôn, yn bennaf, am effeithiau economaidd a'r effaith ar fusnesau a chyflogaeth, ond yn amlwg bydd effaith emosiynol a lles, ac effaith ar iechyd meddwl pobl, pobl sydd eisoes wedi bod ar ffyrlo ers misoedd lawer bellach yn wynebu'r posibilrwydd, wrth gwrs, na fydd swydd o bosib i ddychwelyd iddi. Felly, a allwch chi ein sicrhau nid yn unig y bydd cefnogaeth o ran cyngor busnes a chymorth i ddod o hyd i swyddi ac ailsgilio, ond hefyd y rhoddir y gefnogaeth y gallai fod ei hangen ar bobl o ran eu hiechyd a'u lles emosiynol a meddyliol?

A gaf i ddiolch i Llyr Gruffydd am ei gwestiynau ac efallai ateb yr un olaf yna yn gyntaf? Oherwydd rwy'n credu ei bod hi'n gwbl hanfodol ein bod yn cydnabod y niwed meddyliol ac emosiynol y gallai hyn ei achosi i lawer o bobl. Mae'n gwbl hanfodol, felly, nad yw'r gefnogaeth a gynigiwn ni yn ymwneud â materion cyflogaeth a chyfleoedd sgiliau yn unig, ond hefyd â chymorth ar gyfer iechyd meddyliol ac emosiynol. Rhaid imi ddweud bod y cwmni ei hun wedi dangos cyfrifoldeb rhyfeddol dros flynyddoedd lawer o ran darparu cymorth a chyngor i weithwyr sy'n wynebu problemau iechyd meddwl, a byddwn yn sicrhau, drwy'r rhaglen Cymru'n Gweithio, ein bod yn gofalu am unigolion sy'n wynebu straen emosiynol penodol ar hyn o bryd. Sefydlwyd Cymru'n Gweithio gyda'r nod o sicrhau ei bod yn adnabod yr holl heriau, yr holl rwystrau sy'n wynebu unigolion pan fyddant yn ddi-waith, a'n bod yn rhoi canllawiau, cyngor a chymorth iddyn nhw i oresgyn pob rhwystr, gan gynnwys iechyd meddwl.

Llyr, fe wnaethoch chi grybwyll nifer o gwestiynau am ddewisiadau eraill, ac mae'n hanfodol bwysig ein bod yn chwilio am bob posibilrwydd i fuddsoddi mewn swyddi a busnesau yn yr ardal ddaearyddol honno, gan gydnabod y bydd hi'n gryn amser cyn i'r sector awyrofod adfer yn llwyr. Bydd y Sefydliad Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch yn cynnig cyfle unigryw ar gyfer cydweithio a chyd-leoli gyda nifer o gwmnïau blaenllaw sydd â diddordeb mewn ymchwil a datblygu yn ymwneud yn arbennig ag electroneg a gwaith atgyweirio electroneg. Bydd hynny'n ategu'r presenoldeb awyrofod ym Mrychdyn yn fawr.

Rydym ni hefyd yn ystyried a oes yna weithgarwch ategol mewn sector arall y gellid ei gyflwyno yn ardal Glannau Dyfrdwy, ac wrth gwrs byddwch yn ymwybodol o botensial canolfan logisteg Heathrow ar gyfer safle Tata Steel. Gallai hynny fod yn hanfodol bwysig wrth ddarparu gwaith arall i'r unigolion medrus iawn hyn. Credwn fod tua 150 o fusnesau o fewn cadwyn gyflenwi Airbus y gallai'r cyhoeddiad gael effaith arnynt dros nos. Rydym ni eisoes wedi bod yn trafod gyda nhw, ac rydym ni wedi gofyn i fforwm awyrofod Cymru gynnal archwiliad o effaith debygol cyhoeddiad Airbus dros nos. Fel y dywedais wrth Mark Isherwood, rydym yn edrych ar gyfleoedd drwy'r uwchgynhadledd sydd i ddod i gyflwyno nifer o fusnesau o fewn y gadwyn gyflenwi i weithgynhyrchwyr mawr eraill y gallent gyflenwi nwyddau neu wasanaethau iddynt.

15:35

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cytuno ag eraill sydd wedi gwneud sylwadau. Rwy'n credu ei fod yn newyddion siomedig ac yn ergyd drom i'r sector awyrennau yng Nghymru, ac rwy'n credu ein bod yn meddwl am yr holl staff hynny yr effeithiwyd arnynt. Gofynnwyd rhai o'r cwestiynau allweddol, ond rwy'n credu ei bod hi yn peri pryder bod Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu at Ryanair i ofyn i'r cwmni hedfan ohirio taith a drefnwyd ar gyfer y dydd Gwener hwn o Faes Awyr Caerdydd. Os na fydd Llywodraeth Cymru yn caniatáu hediadau, a ddim yn credu y dylai awyrennau hedfan, yna bydd effaith ganlyniadol amlwg ar y diwydiant awyrennau. Felly, byddai'n ddefnyddiol pe gallai'r Llywodraeth nodi yn y cyd-destun hwn yr hyn y gellir ei wneud o ran newid y rheolau iechyd cyhoeddus, fel sydd wedi digwydd mewn rhannau eraill o'r wlad, y DU, i drosglwyddo neges ein bod ni'n agored i fusnes yma yng Nghymru.

A gaf i ddiolch i Russell George am ei gwestiwn a dweud yr hyn a ddywedais yn y gynhadledd i'r wasg y bore yma—ein bod yn edrych ymlaen at sicrhau bod maes awyr rhyngwladol Caerdydd yn cryfhau ei berthynas â Ryanair, yn ailddechrau hediadau cyn gynted â phosib, cyn gynted ag y bydd hi'n ddiogel gwneud hynny? Ond mae'n rhaid i ni hefyd gydnabod bod Cyngor Llywodraeth y DU yn parhau mewn grym ynglŷn â theithio tramor, ac mai dim ond teithio hanfodol y dylid ei wneud, a bod mesurau cwarantin Llywodraeth y DU yn parhau mewn grym. Felly, byddwn yn annog yr holl unigolion hynny sydd wedi prynu tocynnau—ac rwy'n cydnabod i lawer eu prynu sawl mis yn ôl—i feddwl yn hynod o ofalus cyn hedfan ddydd Gwener, ac os yn bosib, peidio â gwneud hynny, oherwydd mae'r feirws ofnadwy hwn gennym ni o hyd y mae'n rhaid inni ymdrin ag ef. Os gellir creu pontydd awyr, a phan fydd y Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn newid ei chyngor, yna byddwn yn dathlu'r ffaith y byddwn yn gallu darparu mwy o hediadau i mewn ac allan o Faes Awyr Caerdydd. Ond byddem yn hoffi gweld gohirio'r ddau ehediad yna am y tro. Fodd bynnag, rydym ni'n gefnogol iawn i ymdrechion Maes Awyr Caerdydd i ddenu mwy o gwmnïau hedfan ac i ddatblygu mwy o deithiau yn y tymor hir.

8. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Yr Argyfwng Hinsawdd

Eitem 8 ar ein hagenda y prynhawn yma yw'r datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig am yr argyfwng hinsawdd, a galwaf ar y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Drwy gydol pandemig y coronafeirws, rydym ni wedi cynnal momentwm yn ein hymateb i'r argyfwng hinsawdd. Mae hyn yn cynnwys buddsoddiadau newydd, gwerth sawl miliwn o bunnau mewn rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol, gallu ymateb i argyfyngau, cynlluniau teithio llesol, cerbydau allyriadau isel, band eang cyflym iawn mewn ardaloedd gwledig, plannu coed a rownd arall o'r gronfa economi gylchol.

Ym mis Ebrill, gwnes ymrwymiad i ddarparu datganiad pellach i amlinellu sut y byddwn yn gwneud mwy ac yn gweithredu ynghynt i sicrhau Cymru ddi-garbon er mwyn darparu ffyniant a chydraddoldeb, yn ogystal ag aer, dŵr a thir glân. Byddwn yn cyflawni hyn drwy gryfhau cydnerthedd ein hamgylcheddau naturiol ac adeiledig i wrthsefyll effaith hinsawdd sy'n newid a thrwy alluogi trawsnewidiad economaidd a fydd yn disodli ein dibyniaeth ar danwyddau ffosil, gan greu diwydiannau a swyddi'r dyfodol.

Rydym ni wedi dechrau gweithio i greu coedwig genedlaethol i Gymru, gan lansio ein cronfa coetiroedd cymunedol, sy'n gynnydd pedwarplyg yn y gyllideb ar gyfer creu coetiroedd. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â sector ffermio Cymru er mwyn deall sut y gallwn ni weithio gyda nhw i ehangu eu swyddogaeth o ran cynnal a chynyddu storfeydd carbon Cymru.

Rydym ni ar y trywydd cywir o hyd i gyflawni ein nod o fuddsoddi £350 miliwn i ymdrin â pherygl llifogydd ac erydu arfordirol. Ym mis Ebrill cyhoeddwyd rhaglen fuddsoddi £60 miliwn ar gyfer 2020-1, yn ogystal â £14 miliwn o arian i atgyweirio amddiffynfeydd llifogydd a'r seilwaith trafnidiaeth a ddifrodwyd yn ystod y stormydd dwys a effeithiodd ar filoedd o bobl ledled Cymru yn gynharach eleni. Yn ystod y pandemig, rydym ni hefyd wedi sefydlu rhaglen newydd i fynd i'r afael â'r perygl y mae tomennydd glo yn eu peri i'n cymunedau.

Mae'r modd yr ydym ni wedi gweithredu ynglŷn â thlodi tanwydd wedi helpu miloedd o gartrefi i wella eu hiechyd a chynnig amddiffyniad rhag costau ynni uwch drwy fuddsoddi mwy na £300 miliwn. Er bod pandemig COVID-19 wedi amharu ar y gwaith o osod mesurau effeithlonrwydd ynni yng nghartrefi pobl, rwy'n bwriadu darparu datganiad pellach ym mis Medi i gyhoeddi cynlluniau a dulliau cyflawni newydd i wireddu hyd yn oed mwy o fuddion ar gyfer cydraddoldeb, ar gyfer allyriadau, ar gyfer cadwyni cyflenwi a swyddi lleol.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn buddsoddi'n uniongyrchol drwy'r rhaglen tai arloesol, a gynlluniwyd i brofi dulliau newydd o adeiladu tai cymdeithasol a fforddiadwy sy'n bodloni'r safonau amgylcheddol uchaf. Mae'r 1,400 o gartrefi sy'n cael eu darparu yn nhair blynedd gyntaf y rhaglen yn cynnwys 76 yn Rhuthun, a'r gobaith yw mai hwn fydd y datblygiad cyntaf yn y DU i fod â gwerth net di-garbon ar hyd ei oes, ac fe gaiff y tai eu hadeiladu gan ddefnyddio coed o Gymru. Caiff mwy na 600 o gartrefi addas at y dyfodol eu hadeiladu yn y flwyddyn i ddod.

Yn ystod y pandemig, rydym ni wedi gweld cynnydd sylweddol mewn cerdded a beicio, a chynnydd sylweddol iawn mewn gweithio o gartref, sydd wedi lleihau allyriadau'n sylweddol. Er mwyn cefnogi cymunedau i barhau ag arferion teithio cadarnhaol, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £15 miliwn o arian ychwanegol i awdurdodau lleol ledled Cymru er mwyn iddynt aildrefnu ffyrdd, gan adeiladu ar y buddsoddiad mwyaf erioed mewn teithio llesol y llynedd.

Bu Cymru ar flaen y gad yn y DU ac yn fyd-eang yn y newid i economi gylchol. Eleni rydym ni wedi ymgynghori ar ein strategaeth i sicrhau dyfodol diwastraff ac rydym ni wedi ehangu'r gronfa economi gylchol ar gyfer busnesau. Yn ystod y gyfres gyntaf o grantiau, gwelwyd buddsoddiad mewn busnesau yng Nghymru i ddargyfeirio 6,000 o dunelli o wastraff o safleoedd tirlenwi, gan arbed mwy na 4,000 o dunelli o garbon deuocsid.

Mae Cymru'n gartref i ymchwil sy'n arwain y byd o ran mynd i'r afael â'r allyriadau o ddiwydiannau carbon-ddwys, gan gynnwys dur ac awyrennau. Gan weithio gyda'n partneriaethau sgiliau rhanbarthol, rydym yn gweithio i sicrhau bod gan bob rhanbarth yng Nghymru y sgiliau sydd eu hangen i fabwysiadu ac ehangu technoleg carbon isel sy'n dod i'r amlwg.

Mewn ymateb i'r pandemig, mae Cymru wedi darparu'r pecyn cymorth mwyaf hael i fusnesau yn unrhyw le yn y DU. Fodd bynnag, rydym ni wedi gwneud y cymorth hwn yn amodol ar gwmnïau yn ymuno â chontract economaidd Llywodraeth Cymru, gan gynnwys ymrwymiad i ddatgarboneiddio.

Mae arweinyddiaeth y sector cyhoeddus yn y maes hwn yn hanfodol. Byddaf yn cyhoeddi canllaw adrodd di-garbon net ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru i'n helpu i ddeall ôl-troed allyriadau cyrff cyhoeddus Cymru, nodi ffynonellau allyriadau sy'n cael blaenoriaeth a monitro cynnydd tuag at gyrraedd ein nod o gael sector cyhoeddus sy'n niwtral o ran carbon erbyn 2030. Mae gwasanaeth ynni Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mwy na £96 miliwn mewn prosiectau ynni adnewyddadwy yn y sector cyhoeddus, a fydd, dros eu hoes, yn sicrhau miliwn o dunelli o arbedion carbon a thros £280 miliwn o arbedion ariannol. Mae cyhoeddi adroddiad blynyddol gwasanaeth ynni Llywodraeth Cymru heddiw yn dangos ein cynnydd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Yn gynharach eleni, fe wnaethom ni gyhoeddi ein polisi i'w gwneud hi'n ofynnol i bob gosodiad ynni newydd gynnwys elfen o berchnogaeth leol i rannu manteision ein trawsnewidiad ynni yn ehangach. Yn 2018, llwyddasom i gyrraedd capasiti o 780 MW o ynni adnewyddadwy cymunedol a lleol, ac rydym yn dal ar y trywydd iawn i gyflawni 1 GW erbyn 2030.

Ynghyd â'n cefnogaeth ar gyfer ynni adnewyddadwy, amcan polisi Llywodraeth Cymru yw osgoi parhau i gloddio tanwydd ffosil yn ei holl ffurfiau. Heddiw, rwy'n lansio ymgynghoriad ar ein polisi glo drafft i gefnogi trawsnewid cyfrifol. Wrth inni roi terfyn ar ein dibyniaeth ar lo, yr adeiladwyd economi fodern Cymru arno, rydym yn edrych ar y cyfraniad y gall Cymru ei wneud i'r chwyldro ynni morol. Rydym ni wedi buddsoddi mewn 10 o brosiectau ynni'r môr, sydd wedi sicrhau mwy na £100 miliwn o fuddsoddiad Ewropeaidd, yn y gogledd a'r de.

Rwyf wedi disgrifio rhywfaint o'r cynnydd pwysig sy'n cael ei wneud yng Nghymru, ac yn ystod yr wythnosau nesaf byddwn yn cyhoeddi cynllun ymgysylltu Llywodraeth Cymru, sy'n amlinellu sut y byddwn yn ymgysylltu â phob cymuned a diwydiant yng Nghymru i gryfhau ein hymdrechion ar y cyd. Bydd hyn yn cynnwys ein cynlluniau ar gyfer wythnos hinsawdd ddigidol i Gymru ym mis Tachwedd er mwyn cefnogi'r gwaith o ddatblygu ein cynllun carbon isel nesaf ar gyfer Cymru gyfan ar gyfer 2021 i 2026.

Rwy'n gobeithio y bydd holl Aelodau'r Senedd yn annog pob corff cyhoeddus, busnes a phob cymuned yng Nghymru i fod yn rhan o greu cynllun Cymru gyfan i oresgyn yr argyfwng hinsawdd, gan gefnogi ein heconomi i ymadfer ar ôl effaith COVID-19, gan greu diwydiannau a swyddi newydd, er mwyn creu Cymru lewyrchus, iachach a mwy cyfartal. Diolch.

15:45

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad y prynhawn yma ar y pwnc pwysig iawn hwn, sy'n amlwg yn adeiladu ar y cyhoeddiad a wnaethoch chi fel Llywodraeth y llynedd, a gefnogwyd, mi gredaf, gan bob plaid yn y Cynulliad ar y pryd. Hoffwn grybwyll, yn gyntaf oll, eich sylw yn eich datganiad ynghylch cydnerthedd, ac, yn amlwg, gyda'r argyfwng COVID, rydych chi wedi gorfod gwneud peth ailddyrannu o fewn eich cyllideb. Y corff rheoleiddio sydd, yn amlwg, yn goruchwylio llawer o'r gwaith hwn yw Cyfoeth Naturiol Cymru. Maen nhw wedi gweld cwtogi eu cyllideb o ryw £7.5 miliwn. Pa mor ffyddiog ydych chi fod y rheoleiddiwr—? Ac rwyf wedi bod yr un mor feirniadol o Cyfoeth Naturiol Cymru â neb, ond, os nad oes ganddynt yr offer i wneud y gwaith, mae'n mynd i fod yn heriol iawn iddyn nhw gwblhau gwaith atal llifogydd neu waith mewn meysydd eraill o'r amgylchedd mewn modd cydnerth. Felly, pa mor ffyddiog ydych chi, gyda'r toriad hwnnw yn y gyllideb, y byddant yn gallu bodloni'r disgwyliadau yr ydych yn eu gosod arnyn nhw i wneud gwelliannau yn y maes hwn ac i fodloni eich disgwyliadau?

Hoffwn hefyd dynnu sylw at ddarpariaeth y Llywodraeth, o ran plannu coed, sy'n rhan arall o'ch datganiad a grybwyllwyd droeon, y llynedd, dim ond 80 o hectarau o goed ffres a blannwyd yng Nghymru, o'i gymharu â tharged o 2,000 o hectarau. Mae eich datganiad, yn amlwg, yn frith o ymrwymiadau amrywiol, nodau amrywiol, amcanion amrywiol—ynglŷn â rhywbeth sydd mor syml â phlannu coed, a fu'n ymrwymiad mor hir gan y Llywodraeth hon ers y 10 mlynedd diwethaf a mwy, bob blwyddyn, mae wedi bod yn gwaethygu ac yn gwaethygu o ran plannu coed yng Nghymru. Felly, pa mor ffyddiog y gallwn ni fod fel Aelodau Cynulliad—ac, yn wir, pobl Cymru pan fyddant yn darllen eich datganiad—y byddwch yn gallu cyflawni'r ymrwymiadau hynny pan fethwyd yn drychinebus i gyflawni rhywbeth mor glir â'r targed hwn y mae'r Llywodraeth ei hun wedi'i osod iddo ei hun? Rwy'n credu bod angen i ni fod yn ffyddiog iawn y gallwch chi gyflawni yn hynny o beth.  

Diolch. [Torri ar draws.] Na. Na, mae'n ddrwg gennyf—rydych chi wedi cael mwy na dwy funud, a chaniateir munud i bob cyfraniad. Felly, diolch, ac mae ambell gwestiwn yn y fan yna. Felly, Lesley Griffiths.

Diolch, Andrew R.T. Davies, am eich cwestiynau. Yn amlwg, rydym ni mewn sefyllfa nad ydym ni eisiau bod ynddi o ran gorfod ail-greu ac ailosod ein cyllideb yng ngoleuni pandemig COVID-19, ac rwy'n deall yn llwyr bryderon pobl ynghylch cyllideb Cyfoeth Naturiol Cymru. Credaf y byddwch wedi fy nghlywed yn dweud yn fy sesiwn gwestiynau llafar yn y Cynulliad yr wythnos diwethaf ein bod yn parhau i weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru; fe wnes i gyfarfod â'r Cadeirydd a'r Prif Weithredwr yr wythnos diwethaf i edrych ar ba hyblygrwydd y gallwn ei gynnig iddyn nhw i wneud yn siŵr y gallant gyflawni eu holl ddyletswyddau statudol ac, fel y dywedwch chi, y pethau y maen nhw yn gyfrifol amdanynt ar ein rhan. Rydym yn gwneud yn siŵr bod ganddyn nhw yr hyblygrwydd hwnnw. Mae trafodaethau'n parhau rhwng swyddogion a Cyfoeth Naturiol Cymru, yn ogystal â fi a'r Cadeirydd a'r Prif Weithredwr, ac rwy'n gobeithio, wrth inni fynd drwy'r flwyddyn, y byddaf yn gallu rhoi'r sicrwydd hwnnw i'r Aelodau.

O ran coedwigaeth, rydych chi yn llygad eich lle, nid ydym ni wedi bod, ac nid ydym ni eto, mewn sefyllfa yr ydym ni eisiau bod ynddi o ran nifer y coed ffres yr ydym yn eu plannu. Byddwch yn ymwybodol o'r strategaeth yr ydym yn ei gosod o ran cynyddu coetiroedd gan o leiaf 2,000 o hectarau y flwyddyn o 2020 hyd 2030, ac rydym ni yn gweithio i gyrraedd hynny. Fel y dywedwch chi, roedd y llynedd yn siomedig. Roedd llawer o hynny oherwydd amseriad cyllid y cynllun datblygu gwledig, a bydd yr arian a oedd ar gael gennym ni y llynedd yn cefnogi plannu coed yn y tymor plannu sydd i ddod y gaeaf hwn sydd ar ein gwarthaf nawr. Y llynedd, fe wnaethom ni ariannu ailblannu 1,500 o hectarau o goed i ailstocio coetiroedd presennol.

Rydym ni wedi cymryd camau sylweddol i gynyddu faint o goetiroedd sydd gennym ni drwy lansio ffenest newydd o greu coetiroedd drwy Glastir. Mae hynny wedi bod yn gynnydd pedwarplyg eleni yn y gyllideb i £8 miliwn, felly gobeithio bod hynny'n dangos yr ymrwymiad, ac rwy'n gobeithio bod hynny'n rhoi hyder i chi fod yr arian hwnnw ar gael. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn gweithio gyda'n partneriaid i sicrhau ein bod yn cyflawni ein targedau. Byddwch yn ymwybodol ein bod hefyd wedi dechrau sefydlu coedwig genedlaethol i Gymru, a oedd yn un o ymrwymiadau maniffesto y Prif Weinidog, ac, yr wythnos diwethaf, lansiwyd cynllun newydd i greu coetiroedd newydd ger cymunedau lleol.

Felly, ni all y Llywodraeth wneud hynny ar ei phen ei hun, ac rwy'n gobeithio y byddwn i gyd yn annog pobl i edrych ar y cynlluniau coetir newydd hynny yr ydym ni wedi'u gweithredu. Mae gennym ni nifer o brosiectau arddangos eleni, ac mae hynny'n cynnwys cynllun coetir cymunedol £2.1 miliwn a lansiwyd, fel y crybwyllais, yr wythnos diwethaf.

15:50

Wel, nid oedd plannu coed yn siomedig, Gweinidog—mae'n eithaf cywilyddus, a bod yn onest. Ond dyna ni. Ac mae llawer o waith dal i fyny i'w wneud, ac nid wyf yn argyhoeddedig y bydd y llwybr presennol yr ydych chi'n ei gynnig yn ddigon. Ond doeddwn i ddim wedi sylweddoli ein bod ni'n gyfyngedig i'r fath raddau ar amser, felly bydd yn rhaid i mi symud ymlaen.

Rydych chi'n siarad yn huawdl yn aml iawn, ac rydych chi wedi bod yn gwneud hynny ynghylch yr economi gylchol ers sawl blwyddyn bellach. Gallai'r Llywodraeth hon fod wedi cyflwyno cynllun dychwelyd blaendal flynyddoedd yn ôl pe bai wedi dymuno gwneud hynny, ond nid ydych chi wedi gwneud hynny. Rydym ni'n dal i aros am benderfyniadau ar wahardd plastig untro. Rydym ni'n dal i aros i benderfyniadau gael eu gwneud ynghylch cyflwyno mwy o gyfrifoldeb i gynhyrchwyr. Felly, rhowch ddyddiad inni, Gweinidog. Dywedwch wrthym ni pryd y byddwn yn gweld y rhain yn cael eu gweithredu yn hytrach na chael eu trafod, fel yr ydych chi wedi bod yn ei wneud dros y 10 mlynedd diwethaf.

Croesawaf y cyfeiriad at 76 o dai, wrth gwrs—y cartrefi di-garbon net—sy'n cael eu hadeiladu yn Rhuthun, fel y gallwch ddychmygu. Ond, wrth gwrs, rydym ni ymhell ar ei hôl hi yn rhyngwladol yn hynny o beth. Felly, beth sy'n digwydd i wneud y technegau hyn o godi tai a'r mathau hyn o dai yn agweddau creiddiol o'r datblygiadau sydd ar y gweill, yn hytrach na chyfeirio atyn nhw o hyd fel y prosiectau newydd hyn y gallwch chi eu crybwyll mewn datganiadau llafar nawr ac yn y man? 

A allwch chi ddweud wrthym ni pa swyddogaeth fydd gan Lywodraeth Cymru wrth gefnogi'r morlyn llanw arfaethedig a gyhoeddwyd heddiw ym Mostyn? Hoffwn ddeall swyddogaeth y Llywodraeth o ran gwireddu hynny, yn enwedig yn dilyn y newyddion drwg mewn cysylltiad â morlyn llanw Bae Abertawe. Mae angen inni edrych nawr ar Fostyn i geisio rhyddhau rhywfaint o'r potensial hwnnw yr ydym ni'n gwybod sydd gennym ni o amgylch arfordir Cymru.

Ac, yn olaf, gwasanaeth ynni Llywodraeth Cymru. Wel, mae'n ymwneud â graddfa a chyflymder, onid yw, ac rwyf wedi codi hyn gyda chi o'r blaen. Pa gynlluniau sydd gennych chi i gynyddu rhywfaint o'r gwaith hwn, oherwydd, ers ei sefydlu yn 2018, wrth gwrs, mae'r Senedd hon wedi datgan argyfwng hinsawdd? Felly, yn y cyfamser, a yw ei waith wedi dwysáu? Oherwydd rydym ni'n gwybod y bydd angen targedu 870,000 o aelwydydd, ar gost o £5 biliwn, er mwyn sicrhau arbediad effeithlonrwydd o 20 y cant ar draws stoc tai domestig Cymru. Felly, a ydym yn dal i fynd i lusgo'n traed, ynteu a ydym o ddifrif ynghylch y newid trosiannol y mae angen inni ei weld?

Diolch, Llyr, am y cwestiynau yna. Mewn ymateb i'r cynllun blaendal a phlastig untro, mae'r ddau ohonynt yn rhan o bortffolio Hannah Blythyn. Rwy'n sicr yn ymwybodol bod y cynllun blaendal—roedd y mater yn ymwneud â sicrhau nad oedd canlyniadau annisgwyl yn bwysig iawn, ac yn un o'r rhesymau nad oeddem ni wedi bwrw ymlaen â hynny. Ond rwy'n siŵr y gall y Dirprwy Weinidog roi dyddiad i chi, fel yr ydych chi'n gofyn amdano, maes o law.

Ynghylch y—. Mae'r economi gylchol yn bwysig iawn, a byddwch yn ymwybodol o'r gronfa £6.5 miliwn a lansiwyd yn gynharach eleni i ddangos y dull gweithredu yr ydym yn ei ddatblygu yng nghyd-destun y strategaeth, gan ei bod yn amlwg wedi'i chynllunio i gefnogi'r defnydd ehangach o ddeunydd wedi'i ailgylchu. Ac rwy'n gwybod bod Rhaglen Weithredu'r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau wedi dyfarnu'r grantiau cyfalaf cyntaf o dan y gronfa £6.5 miliwn y cyfeiriais ati i weithgynhyrchwyr Cymru. Ond fel yr wyf yn ei ddweud, mae hynny'n rhan o bortffolio Hannah Blythyn.

Roeddwn yn credu ei bod hi'n gyffrous iawn clywed am y morlyn llanw ym Mostyn. Rwyf bob amser wedi credu bod hynny'n rhywbeth y gellid ei ddatblygu, ac mae ganddo lawer o fuddion eraill ar wahân i ynni; byddwch yn ymwybodol o'r effaith y gallai ei chael ar lifogydd, er enghraifft. Felly, bydd fy swyddogion yn parhau i weithio'n agos iawn gyda golwg ar hynny. Yfory, byddaf i a Ken Skates, rwy'n credu, hefyd yn mynd i uwchgynhadledd ynni'r môr. A'r bore yma, cyfarfûm ag Innogy energy, sydd, fel y gwyddoch chi, yn ehangu'r fferm wynt oddi ar arfordir y gogledd. A buom yn siarad y bore yma, yn dilyn y newydd trychinebus, fel y cyfeiriasoch chi ato, ddoe yng nghyswllt Airbus, ynghylch edrych i weld a oes gan weithwyr Airbus y sgiliau trosglwyddadwy hynny y gallai fod eu hangen. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn edrych ar hynny. Fel y gwyddoch chi, ynghylch gwasanaeth ynni Cymru, cyflwynais adroddiad heddiw, a fydd yn rhoi'r diweddaraf ichi am yr holl faterion yr ydych chi'n cyfeirio atyn nhw. 

15:55

Er ein bod yn cydnabod ac yn croesawu'r holl brosiectau gwyrdd yr ydych chi wedi'u hamlinellu yn eich adroddiad, Gweinidog, mae'n rhaid i mi ddychwelyd at y pwnc y soniodd R.T. Davies amdano'n gynharach, sef plannu coed. Ni wnaf fanylu yn ei gylch; mae gennyf i'r manylion o'm blaen nawr. Rydych chi wedi rhoi ateb eithaf cynhwysfawr i gwestiwn R.T., ond rhaid imi ddweud na allwn gael unrhyw drafodaeth ystyrlon ar liniaru newid yn yr hinsawdd heb fynd i'r afael â'n record ar blannu coed yng Nghymru. Ac mae'n rhaid inni edrych ar agweddau eraill plannu coed—eu heffaith ar arafu llifogydd, sy'n cael effaith ddinistriol ar lawer o gymunedau yng Nghymru, a amlinellir yn aml wrth gyfrannau at ddadleuon yn y cyfarfod llawn, ac, unwaith eto, y dywedir eu bod yn amlygiad arall o gynhesu byd-eang, er nad oes unrhyw dystiolaeth wyddonol mai ffenomen o waith dyn yw hon.

Ond mae'n rhaid i ni ddweud bod Gweinidog yr economi a seilwaith a sgiliau wedi pwysleisio mai'r modd o adfer o bandemig COVID-19 yng Nghymru yw drwy ganolbwyntio ar yr economi werdd. Nawr, yn sicr, rhaid i goed, a'r holl gynnyrch ecogyfeillgar y gellir eu cynhyrchu o'r pren y maent yn ei gynhyrchu, chwarae rhan bwysig yn yr economi werdd, newydd honno. Mae coetiroedd yn darparu llawer o'r pethau yr ydym eu hangen ac yn eu defnyddio—deunyddiau adeiladu, mwydion papur a naddion pren, pecynnu a phaledi, yn ogystal â thanwydd coed ar gyfer gweithfeydd pŵer. Mae coed a chynnyrch pren hefyd yn cynnig dewis cost-effeithiol a gwerthfawr yn lle deunyddiau llawn tanwydd ffosil, megis dur a choncrid. Ac mae yna, wrth gwrs, holl sgil-gynhyrchion y goedwig: cynhyrchion nad ydynt yn goed, megis helgig, mêl, aeron, ffyngau—mae'r rhestr yn eithaf hirfaith. Gellid dweud bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn mynnu eich bod yn creu'r coedwigoedd yr ydych chi eisoes wedi dweud y byddech yn eu creu.

Ni fyddwn byth yn dweud ein bod yn plannu digon o goed, ac mae'n anhygoel o siomedig cael ffigurau'r llynedd. Ond rwy'n gobeithio bod y polisïau yr ydym ni yn eu cyflwyno, y cyllid y cyfeiriais ato yn fy ateb i Andrew—ein bod wedi ei gynyddu bedair gwaith drosodd—yn dangos yr ymrwymiad i wneud hynny. Hefyd, byddwch yn ymwybodol o'n cynllun amaethyddol y byddwn yn ei gyflwyno; dyna 'Ffermio Cynaliadwy a'n Tir'—sy'n canolbwyntio'n benodol ar blannu mwy o goed. Felly, mae'n wirioneddol bwysig ein bod yn parhau i gael y trafodaethau hynny gyda'n ffermwyr i wneud yn siŵr bod unrhyw rwystrau—. Ac rwyf bob amser wedi canfod, wrth siarad am blannu coed gyda ffermwyr, eu bod yn awyddus iawn i ddod o hyd i gyfleoedd i allu ein helpu ni gyda'n targedau plannu coed, ond weithiau crëwyd rhwystrau—gyda'r polisi amaethyddol cyffredin, er enghraifft. Felly, mae gennym ni—. Mae cyfle, ar ôl gadael yr UE, i wneud yn siŵr bod ein cynllun amaethyddol newydd yn ein cefnogi.

Cytunaf â chi ynghylch—. Rydym ni wedi ei gwneud hi'n glir iawn y dylai ein hadferiad o COVID-19 fod yn adferiad gwyrdd. Ac rwy'n credu bod defnyddio coed o Gymru ar gyfer tai yn faes y mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol bob amser yn siarad â mi amdano—mae hi eisiau gweld mwy o goed Cymru'n cael eu defnyddio. Fe wnaethoch chi sôn am yr holl fanteision o gynhyrchu mwy o goed, felly mae hwnnw'n faes yr ydym ni, unwaith eto, yn gweithio arno. Rwyf hefyd yn credu, o ran yr adferiad gwyrdd, fod angen inni sicrhau fod arferion da pobl yn parhau. Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud o'r blaen yn ystod y pandemig ein bod wedi gweld mwy o bobl yn beicio ac yn cerdded, a mwy o bobl yn gweithio o gartref, ac mae hynny wedi ein helpu i leihau ein hallyriadau carbon ac mae angen i ni sicrhau fod yr arferion hynny yn parhau. Felly, amlinellais gynlluniau amrywiol yr ydym yn eu cyflwyno a chyllid sylweddol i alluogi hynny i ddigwydd.  

16:00

A gaf i hefyd ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad? A gaf i ddechrau drwy ddweud bod gennyf bryderon difrifol am y ffordd y mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar y tywydd? Bydd unrhyw un a aeth i'r ysgol yn y 1970au yn cofio glaw mân parhaus bron. Nawr, pan fydd hi'n bwrw glaw, bydd hi'n tywallt y glaw ac rydym ni'n gweld llifogydd. Bu mwy o lifogydd ym Mhrydain eleni nag yn hanner can mlynedd cyntaf y ganrif ddiwethaf, i'w roi mewn rhyw fath o gyd-destun. Mae carbon yn llosgi ac yn ffurfio carbon deuocsid, sy'n dal gwres. Gwyddom am nwyon tŷ gwydr; rydym yn gwybod bod y blaned Gwener yn boethach na'r blaned Mercher er ei bod yn llawer, llawer pellach i ffwrdd. A gaf i ofyn i bobl astudio'r wyddoniaeth yn unig, ac nid dyfeisio pethau?

A yw'r Gweinidog yn cytuno bod arnom ni angen mwy o ardaloedd coed i amsugno dŵr ac i ehangu'r afonydd a'r nentydd a rhoi troeon ynddynt i leihau'r perygl o lifogydd? O ran coed, rwy'n credu ei fod yn eithaf syml: rydym yn gosod targedau ardal ac yn gwneud rhywun yn gyfrifol ym mhob ardal am gyflawni'r targedau hynny. Nid yw gosod targed i Gymru byth yn mynd i gael ei gyflawni, oherwydd ei fod yn gyfrifoldeb i bawb a neb.

Mae angen inni gynllunio i ymdrin â'r newidiadau yn y tywydd a'i effaith ar lawer o gymunedau, gan gynnwys fy un i. Mae angen hefyd inni leihau'r nwyon tŷ gwydr sy'n cael eu rhyddhau oherwydd mae hynny'n mynd i'w wneud yn waeth. Mae'n effeithio ar ein cymunedau i gyd; mae'n effeithio ar bob un ohonom ni, ac mae'n rhywbeth y mae disgwyl i ni wneud rhywbeth yn ei gylch.

Diolch, Mike Hedges. Rwy'n credu eich bod yn llygad eich lle ynghylch y tywydd. Mae'n anodd credu mai dim ond yn ystod toriad mis Chwefror y bu'r Prif Weinidog a minnau'n ymweld ag ardaloedd, yn enwedig o amgylch y Rhondda, a gafodd eu distrywio gan storm Dennis. Yr wythnos flaenorol, bûm yn ymweld â Llanrwst yn y gogledd a welodd ddifrod yn sgil storm Ciara. Ac yna, os oedd angen ein hatgoffa nad yn y gaeaf yn unig y mae hyn yn digwydd, rwy'n credu mai pythefnos yn ôl i heddiw oedd hi, o amgylch Pentre eto, lle cawsom ni, mewn chwarter awr, yr hyn oedd yn cyfateb i fis o law. Felly, mae'n amlwg ein bod yn gweld patrwm.

Es i i'r ysgol yn y 1970au ac rwy'n sicr yn cofio llawer o bobl yn cyfeirio at law mân, ond ni welwn ni hynny nawr, rydych chi'n iawn: rydym ni'n gweld y stormydd glaw anhygoel hyn, yn anffodus. Felly, mae angen inni edrych ar ein hamddiffynfeydd rhag llifogydd. Rydym ni wedi buddsoddi cyllid sylweddol mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd, ond nid ydym ni eisiau gweld concrid yn unig; rydym ni eisiau gweld yr atebion naturiol hynny hefyd, ac yn amlwg mae coed yn rhan o hynny. Ac rydych chi'n gywir: mae'n gyfrifoldeb ar bawb. Ni all y Llywodraeth wneud hynny ar ei phen ei hun ac mae angen i bob un ohonom ni edrych ar sut y gallwn ni blannu mwy o goed. A dyna pam yr wyf i'n gyffrous ynghylch y cyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, oherwydd rwy'n credu y gallai dim ond £10,000 gael effaith sylweddol iawn ar ardal leol. Felly, mae angen inni wneud popeth a allwn ni i annog hynny.

Rydych chi yn llygad eich lle, unwaith eto, ynghylch unigolion. Felly, gobeithio y bydd Aelodau wedi sylwi ar ein harwyr carbon isel, a'n bod, wrth inni edrych tuag at bandemig COVID-19, eisiau clywed gan bobl ynglŷn â sut y gwnaethon nhw newid eu ffordd o fyw yn ystod y pandemig COVID i weld sut y gallwn ni gyflawni'r sector cyhoeddus niwtral hwnnw o ran carbon, er enghraifft, yr ydym ni i gyd eisiau ei weld. A chyfeiriais at fwy o bobl yn cerdded, mwy o bobl yn beicio, mwy o bobl yn gweithio o gartref. Un o'r straeon a glywais yr wythnos hon gan rywun, yw nad ydyn nhw wedi prynu unrhyw ddillad neu ddodrefn newydd; maen nhw wedi bod yn uwchgylchu ac yn ailgylchu mewn ffordd nad ydyn nhw wedi ei wneud o'r blaen. Rydym ni'n gweld mwy o bobl yn tyfu eu llysiau eu hunain. Felly, rwy'n credu y byddai'n beth da iawn crisialu'r holl straeon hynny ac yna, gobeithio, gwneud i bobl sylweddoli ei fod yn ymwneud â phob un ohonom ni yn newid ein hymddygiad. Ac rydym ni'n mynd i ofyn llawer iawn gan bobl, ond er mwyn gwneud gwahaniaeth, bydd yn rhaid inni newid ein ffordd o fyw.

Gweinidog, sylwaf fod Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru wedi neilltuo llawer o'i hadroddiad yn ddiweddar i sôn am dai, gan grybwyll bod llai na hanner y cartrefi newydd y mae angen inni eu hadeiladu bob blwyddyn yn cael eu codi ar hyn o bryd, a bod allyriadau'r sector tai, er bod gostyngiad o bron i draean ers 1990, wedi arafu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Felly, mae'n ymddangos i mi fod angen i ni osod targed sy'n llawer mwy uchelgeisiol ar gyfer adeiladu tai newydd ac mae angen i ni adeiladu'n well. Felly, a wnewch chi edrych ar hyn nawr a gweithio gyda'ch cyd-Aelod, Julie James, i sicrhau bod hyn yn cael y polisi a'r flaenoriaeth ariannol sydd eu hangen er mwyn sicrhau bod tai yn addas ar gyfer amgylchedd glanach?

16:05

Diolch yn fawr, David Melding. Ac ydw, rwy'n sicr yn fodlon iawn siarad â'm cyd-Weinidog, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Thai. Fel y dywedais, rydym yn siarad cryn dipyn am dai, ac mae hi'n awyddus iawn i ddefnyddio mwy o goed. Soniais am hyn, a chyfeiriais at y rhaglen tai arloesol. Yn amlwg rydym hefyd wedi ymgynghori ar Ran L a Rhan F o'r rheoliadau adeiladu a'r hyn yr ydym ni eisiau ei osgoi yw gwaith ôl-osod drud yn y dyfodol. Gwyddom, er mwyn gwneud gwaith ôl-osod yn y stoc dai bresennol—. Gwyddom fod gennym ni rywfaint o'r stoc dai hynaf yng Nghymru a bod angen mesurau effeithlonrwydd ynni ar gyfer hynny. Mae angen inni osgoi hynny ar bob cyfrif. Mae angen i ni wneud yn siŵr nad oes gan y tai yr ydym ni'n eu hadeiladu nawr y mathau hynny o broblemau. Mae'r rhain yn drafodaethau yr wyf yn eu cael yn barhaus gyda'r Gweinidog tai.

Rwy'n gobeithio, pan oeddwn yn Weinidog tai, inni wneud rhai camau breision, a gwn fod y Gweinidog yn siarad â datblygwyr ynghylch sut y gallwn ni wneud hynny yn y dyfodol, ond mae'r rheini'n drafodaethau sy'n parhau. Mae'n rhaid i ddatgarboneiddio'r stoc dai fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac mae'n fater i mi ac i Julie James. A gwn ei bod wedi ei gwneud hi'n glir iawn, yn ei hymateb i'r adolygiad o dai fforddiadwy, mai'r disgwyl yw y bydd darparwyr tai cymdeithasol yn arwain y ffordd o ran adeiladu'r genhedlaeth nesaf o gartrefi i Gymru a'u bod wedi'u hadeiladu i safonau sy'n agos at fod yn ddi-garbon.

Gan aros gyda thai felly, am y tro, mae hynny'n hollol gywir, ac mae'r tai cymdeithasol sy'n cael eu hadeiladu o safon llawer gwell na'r rhan fwyaf o'r tai sector preifat sydd ar gael. A dyna pam, y mae'n ymddangos i mi, ar ôl ymgynghori ar Ran L, y byddwn yn annog y Llywodraeth i fwrw ymlaen i weithredu safon llawer uwch o Ran L fel mai dim ond cartrefi wedi'u hadeiladu i safonau di-garbon sydd gennym ni yn y dyfodol. Oherwydd fel arall byddwn yn gorfod gwneud gwaith ôl-osod mewn tai sy'n cael eu hadeiladu heddiw, fel y dywedodd John Gummer yn ei rwystredigaeth yr wythnos diwethaf ynglŷn â'r ffaith nad yw Prif Weinidog y DU yn cymryd yr argyfwng hinsawdd hwn o ddifrif yn ôl pob golwg.

Rwy'n cytuno'n llwyr fod yn rhaid inni gael adferiad gwyrdd, ac nid dychwelyd i'n hen ffyrdd. Felly, nid yn unig y mae angen inni ddatgarboneiddio ein stoc dai, ond mae angen inni ddatgarboneiddio ein trafnidiaeth, ac mae aildrefnu ffyrdd ar gyfer teithio llesol i'w groesawu'n fawr—y £15 miliwn a grybwyllwyd gennych chi yn eich datganiad. Ond hoffwn hefyd ofyn i chi sut ydym ni'n mynd i ddatgarboneiddio ein system fwyd, oherwydd, ar hyn o bryd, mae ein system fwyd wedi'i threfnu er budd yr archfarchnadoedd mawr. Er enghraifft, ar hyn o bryd mae wyau a gaiff eu dodwy yn y gogledd yn gorfod teithio'r holl ffordd i Norwich i gael eu pecynnu gan archfarchnad fawr, yn eu bocsys, ac yna maent yn mynd yn ôl i'r gogledd i gael eu gwerthu fel wyau o Gymru. Mae hyn yn amlwg iawn, yn ffynhonnell ddrud iawn o allyriadau carbon, ac mae arnom ni angen—

—system fwyd sy'n llawer mwy lleol, fel bod pobl yn gallu prynu bwyd lleol gan gynhyrchwyr lleol a bod llawer llai o filltiroedd bwyd. Felly, tybed a allech chi ddweud wrthym ni sut yr ydym ni'n mynd i wneud hynny. Diolch.

Diolch, Jenny. Felly, o ran yr ymgynghoriad Rhan L, fel y dywedais, mae'r ymgynghoriad presennol yn amlinellu ein cynigion i wella effeithlonrwydd ynni anheddau newydd yng Nghymru o 2020 hyd 2025. Soniais yn fy ateb blaenorol ein bod ni eisiau sicrhau nad ydym yn adeiladu tai y mae angen ôl-osod cyfarpar ynddyn nhw 25 mlynedd neu 50 mlynedd yn ddiweddarach. Eleni, byddwn yn gwneud newid sylweddol ac angenrheidiol yn ein perfformiad o ran ynni a charbon mewn tai newydd. Y dewis a ffefrir gennym ni yw arbediad o 37 y cant ar allyriadau carbon presennol, ac mae'r cynigion hynny'n cynnwys perfformiad o ran adeiladwaith, yn ogystal â swyddogaeth gynyddol i systemau gwresogi adnewyddadwy a/neu wres carbon isel.

Crybwyllais yn fy natganiad ein bod yn cynnig diddymu'n raddol y defnydd o danwyddau ffosil carbon uchel, ac rydym ni eisiau newid i ffordd lanach o wresogi ein cartrefi drwy gyflwyno system wresogi carbon isel, ac, wrth gwrs, mae cynhyrchu ynni adnewyddadwy yn bwysig iawn. Pan oeddwn yn siarad ag Inergy y bore yma—. Mae'r manteision cymunedol hynny yn bwysig iawn i mi a byddwch yn ymwybodol o'r targedau y gwnaethom ni eu gosod.

Mae milltiroedd bwyd, unwaith eto, yn faes lle yr wyf yn credu ein bod ni wedi gwneud gwelliannau gwirioneddol yn ystod pandemig COVID-19. Mae pobl wedi gwerthfawrogi'n fawr ein cynhyrchwyr bwyd a diod lleol o Gymru mewn ffordd nad oedden nhw, efallai, wedi gwneud o'r blaen, a'r hyn yr ydym ni eisiau ei wneud yw sicrhau fod yr arferion hynny yn parhau. Felly, mae gennym ni amrywiaeth o gynlluniau yr ydym yn eu hyrwyddo ac yn eu cefnogi i sicrhau ein bod yn parhau i wneud hynny.

Rwy'n gwybod bod gennych chi ddiddordeb mawr mewn garddwriaeth, ac unwaith eto, mae hwnnw'n faes—. Dim ond 1 y cant o'r sector amaethyddol ydyw, a byddai'n dda pe gallem ni gynhyrchu mwy o'n ffrwythau a'n llysiau yng Nghymru, ac rwy'n edrych ar ffyrdd y gallwn ni wneud hynny. Rwy'n gwybod eich bod chi a minnau wedi cael llawer o drafodaethau am hynny, ond rwy'n gobeithio gallu gwneud ambell gyhoeddiad yn y Senedd yn ddiweddarach eleni.

16:10
9. Dadl: Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol ar Reoliadau Deddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020 (Diwygiadau Canlyniadol) 2020

Eitem 9 ar ein hagenda yw'r ddadl ar y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol ar Reoliadau Deddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020 (Diwygiadau Canlyniadol) 2020, a galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i gynnig y cynnig hwnnw. Lesley Griffiths.

Cynnig NDM7340 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd yn cytuno, yn unol ag Rheol Sefydlog 30A.10, i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud Rheoliadau Deddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020 (Diwygiadau Canlyniadol) 2020, yn unol â'r drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno 4 Mai 2020.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae Rheoliadau Deddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020 (Diwygiadau Canlyniadol) 2020 (y rheoliadau) yn gwneud diwygiadau canlyniadol sy'n ofynnol oherwydd y cafodd cyfraith yr UE sy'n llywodraethu cynllun taliadau uniongyrchol 2020 i ffermwyr, a sefydlwyd o dan y polisi amaethyddol cyffredin, eu hymgorffori yng nghyfraith y DU ar y diwrnod ymadael, yn hytrach nag ar ddiwedd y cyfnod gweithredu.

Mae Rheoliadau 2, 3 a 4 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Ddeddf Dehongli 1978, Deddf Offerynnau Statudol 1946, a Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 i sicrhau bod Deddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020 a deddfwriaeth yr UE a ymgorfforir mewn cyfraith ddomestig o dan y Ddeddf honno yn cael eu trin yn yr un modd ag y mae deddfwriaeth yr UE a ymgorfforir mewn cyfraith ddomestig o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018. 

Dylid nodi bod rhychwant a chymwysiad tiriogaethol y Rheoliadau yn rhai'r DU gyfan, a bod gan ddarpariaethau wahanol gymhwysiad yn dibynnu ar y ddeddfwriaeth sy'n cael ei diwygio. Er enghraifft, mae'r newidiadau a wnaed gan y rheoliadau i Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 yn ymestyn i Gymru a Lloegr ac yn berthnasol i Gymru. Mae cwmpas Deddf Dehongli 1978 yn un i'r DU gyfan. Mae Deddf Offerynnau Statudol 1946 yn berthnasol i Gymru, Lloegr a'r Alban, gydag elfennau sy'n berthnasol i Ogledd Iwerddon.

Rwy'n credu ei bod yn briodol ac yn gymesur ymdrin â'r diwygiadau yn y rheoliadau hyn oherwydd rhychwant tiriogaethol y deddfiadau sy'n cael eu diwygio. At hynny, mae gwneud y diwygiadau canlyniadol angenrheidiol mewn un offeryn yn helpu i hyrwyddo hygyrchedd y gyfraith yn ystod y cyfnod hwn o newid. Rwy'n sylwi bod y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad wedi ystyried y rheoliadau ar 18 Mai ac wedi dod i'r casgliad. Diolch.

Diolch. A gaf i alw ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad, Mick Antoniw?

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwyf i am gadw fy sylwadau yn fyr y prynhawn yma, ond hoffwn i groesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cynnig ar gyfer dadl ar y memorandwm cydsyniad offeryn statudol hwn. Y rhesymau am hyn yw ei bod yn bwynt pwysig o egwyddor bod y Senedd yn gwneud penderfyniad ynghylch a ddylid caniatáu i Weinidogion y DU ddiwygio deddfwriaeth sylfaenol mewn meysydd sydd wedi'u datganoli.

Fel pwyllgor, fe wnaethom ni ystyried y memorandwm yn ein cyfarfod ar 18 Mai 2020, ac fe wnaethom ni gyflwyno ein hadroddiad ar 2 Mehefin. Nawr, fel y dywedodd y Gweinidog, mae'r rheoliadau sy'n destun y memorandwm yn sicrhau bod y Ddeddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020 a deddfwriaeth yr UE sydd wedi ei hymgorffori mewn cyfraith ddomestig o dan y Ddeddf honno yn cael eu trin yn yr un modd â deddfwriaeth yr UE sydd wedi ei hymgorffori mewn cyfraith ddomestig o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018. Felly, fel y nodwyd yn ein hadroddiad, rydym yn fodlon â'r memorandwm.

Diolch. Felly, y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf yn gweld unrhyw wrthwynebiadau, felly mae'r cynnig wedi'i dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

10. Dadl y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau ar effeithiau COVID-19 ar Economi, Seilwaith a Sgiliau Cymru

Eitem 10 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar effeithiau COVID-19 ar economi, seilwaith a sgiliau Cymru, a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i gynnig y cynnig. Russell George.

Cynnig NDM7341 Russell George

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiadau Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: 'Effaith COVID-19: Crynodeb o'r canfyddiadau cychwynnol', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mehefin 2020, ac 'Effaith COVID-19: Sgiliau— canfyddiadau cynnar', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Mehefin 2020.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a chynigiaf y cynnig yn fy enw i. Hoffwn i ddiolch i'r Llywydd am ganiatáu'r ddadl hon yn gynharach nag a fyddai wedi digwydd o dan y rhan fwyaf o amgylchiadau.

Diolch, Dirprwy Lywydd, i waith caled ein staff yn y GIG ac oherwydd bod dinasyddion Cymru wedi chwarae eu rhan ac wedi aros gartref, rydym ni, gobeithio, wedi pasio'r marc dŵr uchel. Fodd bynnag, wrth i'r llanw gilio, wrth gwrs, mae'n datgelu argyfwng economaidd, a dyna pam y gofynnais am y ddadl gynharach hon. Mae cyhoeddiad Airbus ddoe yn rhan o'r argyfwng hwnnw sy'n datblygu. Rwy'n gwybod y bydd pawb yn y Siambr hon yn awyddus i feddwl am y bobl y mae hyn yn effeithio arnyn nhw ac yn dymuno sicrwydd bod Llywodraethau Cymru a'r DU yn tynnu ar bob maes i warchod ein diwydiannau allweddol a'r swyddi y maen nhw'n eu darparu. Rwyf i hefyd yn meddwl am y rhai yr effeithiwyd arnyn nhw yn sgil cau Laura Ashley yn fy etholaeth i fy hun. Mae Airbus, wrth gwrs, yn chwaraewr mawr yn y sector sgiliau yn y gogledd-ddwyrain, ac felly, yn ogystal â cholli swyddi, byddwn yn colli cyfleoedd hyfforddi gwerthfawr, a bydd y pandemig a'r argyfwng economaidd yn cael effaith barhaus ar sector sgiliau a rhwydwaith trafnidiaeth Cymru gyfan, felly mae'n bwysig bod y ddadl hon yn canolbwyntio ar y meysydd hyn hefyd.

Dirprwy Lywydd, cymerodd y pwyllgor dystiolaeth gan amrywiaeth o randdeiliaid, gan gynnwys arweinwyr busnes, undebau, darparwyr hyfforddiant a thrafnidiaeth ynghylch effeithiau'r pandemig ar economi, seilwaith a sgiliau Cymru, ac rydym wedi rhyddhau dau adroddiad ac wedi dosbarthu nifer o lythyrau yn amlinellu nifer o faterion sydd angen sylw brys, yn ein barn ni. Fodd bynnag, yn fwy cadarnhaol, mae ein gwaith wedi datgelu cyfleoedd yr ydym ni fel pwyllgor o'r farn y mae angen manteisio arnyn nhw er mwyn ailadeiladu ein heconomi. Fis diwethaf, fe wnaethom ni weld y gostyngiad mwyaf erioed yng nghynnyrch domestig gros y DU, ac mae'r gostyngiad hwn, wrth gwrs, yn ganlyniad naturiol o ofyn i bobl aros gartref. Byddwn yn adennill tir wrth i'r cyfyngiadau symud gael eu llacio—wrth gwrs, dyna yr ydym yn ei obeithio. Fodd bynnag, hyd yn oed wrth i bethau wella, rydym yn anffodus yn wynebu dirwasgiad digynsail. Dyna'r tebygolrwydd trist, ac, o ystyried y dirwasgiad hwn sydd ar ddod, mae'n hanfodol bod y Llywodraeth yn gweithredu'n gyflym i achub busnesau a swyddi. Cawsom ein rhybuddio gan arweinwyr busnes am feysydd o'r economi y bydd angen cymorth mwy penodol arnyn nhw nag eraill o ran dull sector a sicrhau bod cymorth yn cael ei dargedu'n gywir. Mae cylch newydd o gymorth busnes yn gyfle da i lenwi'r bylchau yn y cymorth COVID gwreiddiol. Er bod y cynnig gwreiddiol wedi ei groesawu'n fawr, roedd bylchau, wrth gwrs, a oedd yn arbennig o amlwg i fusnesau llai a microfusnesau wrth iddyn nhw ddisgyn drwy rai o'r bylchau hynny. Wrth i'r Llywodraeth ddatblygu ei hymateb i'r dirwasgiad, ni fydd y busnesau hyn, rydym yn gobeithio, fel pwyllgor, yn cael eu hesgeuluso eto.

Roedd y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf am gyllid i fusnesau newydd, wrth gwrs, yn gam i'r cyfeiriad iawn i fusnesau llai. Pan ofynnwyd am yr economi, dywedodd y Gweinidog wrthym ei fod yn dymuno 'ei ailadeiladu yn well'. Mae hwn yn ddyhead mawr, ac er bod yr economi mewn perygl dybryd, gellir targedu cymorth i helpu i ailgydbwyso a thyfu sectorau targed. Er mwyn sicrhau bod y Llywodraeth yn bachu ar y cyfle hwn, hoffwn i'r Gweinidog nodi beth y mae 'ei ailadeiladu yn well' yn ei olygu iddo fe a'r hyn y bydd y Llywodraeth yn ei wneud i gyrraedd y nod hwn.

Wrth i Gymru ddatgloi, bydd ailagor yr economi mewn ffordd ddiogel hefyd yn allweddol. Dywedodd cynrychiolwyr undebau wrth y pwyllgor eu bod yn cefnogi'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cynnwys y rheol 2m mewn rheoliadau, ond eu bod yn poeni am ei gorfodi, a bod angen i'r Llywodraeth, rwy'n credu, egluro sut y bydd diogelwch yn cael ei sicrhau, yn enwedig yn rhinwedd yr achosion diweddar yr ydym wedi eu gweld mewn rhai gweithfeydd bwyd ledled y wlad.  

Gan fod yr economi a'r sector sgiliau yn cydblethu, mae newyddion drwg i'r economi, yn anffodus, yn newyddion drwg i sgiliau. Wrth i mi sôn am sgiliau, rwy'n credu yr hoffwn i'n gyntaf gydnabod y rhan allweddol y mae'r prentisiaid iechyd a gofal cymdeithasol wedi'i chwarae mewn ymdrech i gyfyngu'r pandemig ac ymateb iddo. Roedd y tystion yn awyddus i ddweud wrthym sut yr oedd prentisiaid wedi ymateb i'r her dros yr ychydig fisoedd diwethaf a faint o ymdrech yr oedden nhw wedi bod yn ei rhoi i'r ymateb cenedlaethol, ac rwy'n siŵr y byddai'r Aelodau yn dymuno ymuno â mi i gymeradwyo'r ymdrechion hyn. Fodd bynnag, bydd y llwyth gwaith ychwanegol hwn yn effeithio ar iechyd a lles y prentisiaid, ac mae'n rhaid i'r Llywodraeth gefnogi pob un o'n prentisiaid drwy'r amseroedd hyn, a chlywodd y pwyllgor fod llawer o brentisiaid wedi eu rhoi ar ffyrlo a bod rhai prentisiaid wedi eu diswyddo. Bydd bod ar ffyrlo ac, wrth gwrs, cael eu diswyddo yn effeithio ar eu lles eu hunain.

Gan edrych i'r dyfodol, rwy'n pryderu, ac fel pwyllgor rydym ni'n pryderu, ynghylch y cynydd sydyn sy'n dod i'r amlwg mewn diweithdra ymhlith pobl ifanc. Clywodd y pwyllgor dystiolaeth y bydd cyflogwyr yn chwilio am brofiad, felly bydd pobl sy'n gadael addysg yr haf hwn dan anfantais mewn marchnad lafur sydd eisoes yn isel. Felly, gan fod cyfnod o ddiweithdra yn debygol o adael craith ar ddyfodol person ifanc, mae'n rhaid i'r Llywodraeth, yn fy marn i, ymyrryd drwy ddatblygu cymorth sgiliau i roi'r profiad i bobl ifanc sydd ei angen arnyn nhw i gystadlu. Fodd bynnag, mae cyfle yma hefyd. Gellir defnyddio'r sector sgiliau i helpu i ysgogi twf economaidd a hyfforddi pobl ar gyfer swyddi sgiliau uchel â gwerth ychwanegol uchel.

Wrth i Gymru lacio'r cyfyngiadau symud, bydd cynnal diogelwch a rheoli gyda llawer llai o refeniw tocynnau yn her enfawr i'r gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus. Yn anffodus, mae data'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ynghylch marwolaethau coronafeirws yn dangos bod gyrwyr trafnidiaeth gyhoeddus yn arbennig o agored i'r risg o'r pandemig. Ac mae hyder y cyhoedd mewn diogelwch, wrth gwrs, yn bwysig hefyd. Mae ymchwil Transport Focus yn dangos na fydd tua thraean o deithwyr yn dychwelyd i drafnidiaeth gyhoeddus nes eu bod yn teimlo'n ddiogel, ac, er mwyn cynnal trefniadau cadw pellter cymdeithasol diogel, bydd bysiau a threnau yn cael eu cyfyngu i ryw 10 y cant i 20 y cant o'u capasiti arferol. Yn wir, dywedodd gweithredwyr bysiau wrthym fod hynny'n golygu y bydd bws deulawr sydd fel arfer yn cludo 70 o deithwyr dim ond yn gallu cludo 20. Nid yw tacsis na cherbydau hurio preifat yn addas ar gyfer cadw pellter cymdeithasol am resymau amlwg, ac roedd cynrychiolwyr undebau o'r farn y dylid rhoi sgriniau ar ddull cabiau du i'r gyrwyr i'w hamddiffyn eu hunain ac i hybu hyder teithwyr. Er y bydd trafnidiaeth gyhoeddus leol yn gweithredu ar lai o gapasiti, bydd eu gorbenion yn aros yr un fath i raddau helaeth, gan achosi pwysau ariannol i weithredwyr. Dywedodd gweithredwyr bysiau wrthym fod angen eglurder ar frys ynghylch dyfodol y cyllid ar gyfer darparwyr trafnidiaeth gyhoeddus. Dywedodd gwasanaeth pleidleisio Transport Focus fod bron i hanner y defnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus yn bwriadu defnyddio eu ceir yn fwy, felly rwy'n credu bod hwn yn fater o bwys i'r pwyllgor. Bydd hyder y cyhoedd mewn gwasanaethau a chapasiti trafnidiaeth gyhoeddus yn allweddol i osgoi mwy o dagfeydd ac allyriadau carbon deuocsid ac ansawdd aer is, a byddai newid tymor byr i deithio mewn ceir yn datblygu i fod yn ymddygiad rheolaidd. Fodd bynnag, yn yr un modd â'r economi a'r sector sgiliau, mae cyfleoedd ar gael yma hefyd. Mae pobl yn agored i'r syniad o deithio llesol. Rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi gweld llawer mwy o bobl yn cerdded ac yn rhedeg a beicio yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud. Mae siopau beiciau yn gwerthu eu holl stoc ledled y DU ac Ewrop, felly mae angen i'r Llywodraeth weithredu i gynnal y momentwm hwnnw a chefnogi'r newid moddol i sicrhau bod cynifer o bobl ag sy'n bosibl yn dewis teithio llesol yn lle eu ceir.

I grynhoi fy sylwadau agoriadol, Dirprwy Lywydd, er bod yr argyfwng iechyd, gobeithio, wedi ei reoli, fe'i disodlwyd gan argyfwng economaidd ac mae'n rhaid i'r Llywodraeth wario cymaint o ymdrech i fynd i'r afael â hynny ag â'r feirws. Er fy mod i'n cefnogi dyhead y Gweinidog i ailadeiladu'n well, mae gwir angen i ni weld manylion yr hyn y mae hynny'n ei olygu mewn gwirionedd. Mae hwn yn gyfnod gwirioneddol digynsail ac mae her enfawr wedi ei chyflwyno i ni. Fodd bynnag, gyda'r her honno daw cyfres unigryw o gyfleoedd i ailgynllunio ein heconomi, ein rhwydwaith trafnidiaeth a'n sector sgiliau er gwell, ac mae'n rhaid i'r Llywodraeth wrth gwrs fanteisio ar y cyfleoedd hyn. Edrychaf ymlaen at gyfraniad yr Aelodau y prynhawn yma.

16:25

Diolch i'r pwyllgor am eu hadroddiadau, gan eu bod wedi darparu darlun defnyddiol o'r ymateb economaidd i argyfwng COVID gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, a hefyd o sut y mae partneriaid, fel llywodraeth leol a Busnes Cymru, wedi camu i'r adwy yn wirioneddol i helpu busnesau a chyflogwyr a gweithwyr yn ystod y cyfnod anodd a digynsail hwn. Dylid nodi, wrth gwrs, fod ein Llywodraeth yng Nghymru wedi camu i'r adwy yn wirioneddol, gan ddarparu'r pecyn cymorth mwyaf hael ledled y DU a cheisio llenwi rhai o'r bylchau a ddaeth i'r amlwg o ran cefnogaeth Llywodraeth y DU. Mae hyn wedi dangos yn wirioneddol y gwahaniaeth cadarnhaol y gall datganoli ei wneud, er bod gennym ni fylchau o hyd. O ran cefnogaeth Llywodraeth y DU ac o roi'r bylchau o'r neilltu, mae'n rhaid i ni gydnabod maint y buddsoddiad, yn enwedig yn y cynllun ffyrlo, ond byddwn i'n annog Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn gryf i ymuno â galwadau Llywodraethau datganoledig eraill ac, yn wir, mainc flaen Llafur y DU i ymestyn y ffyrlo a'r cymorth i sectorau penodol, gan gynnwys, gyda llaw, y diwydiant hedfan, ond hefyd rhannau o'n sectorau twristiaeth a lletygarwch, a'n sectorau celfyddydau a diwylliant hefyd.

Nawr, dyma'r adeg pan fo angen i Brif Weinidog y DU ddangos ei fod yn wirioneddol yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig gyfan, nid dim ond yn Brif Weinidog Lloegr. Mae'r rhaglen 'adeiladu, adeiladu, adeiladu' a gyhoeddwyd yr wythnos hon yn fach, bach, bach ac, yn wir, ar hyn o bryd yn Lloegr, Lloegr, Lloegr yn unig. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Prif Weinidog yn manteisio ar y cyfle i weithio gyda Llywodraeth Cymru i nodi blaenoriaethau Cymru ar gyfer buddsoddiad y DU yng Nghymru ar hyn o bryd, gan gynnwys cymorth i'r diwydiant hedfan, a dylai hynny gynnwys, yn ogystal, fuddsoddiad mawr hir ei aros gan y DU mewn dur, mewn ynni adnewyddadwy morol a llanw yng Nghymru, ac mewn cynhyrchu awtomataidd cenhedlaeth newydd, a mwy. Dylai hyn wneud yn iawn am y tanfuddsoddiad dros ddegawd gan y DU yn y seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru, a chefnogi Llywodraeth Cymru i roi hwb i'r cynlluniau sgiliau a phrentisiaethau a swyddi ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru a llawer mwy. Mae yna gyfle gwirioneddol i Lywodraeth y DU.

Mae hwn yn amser am benderfyniadau beiddgar ar raddfa'r Llywodraeth Lafur Attlee ar ôl y rhyfel a gyda phob Llywodraeth ledled y DU yn gweithio gyda'i gilydd. Yn wir, rhowch y gyllideb frys honno i ni ar gyfer ymateb i argyfwng y DU cyn toriad yr haf, a all ymateb i raddfa'r argyfwng a rhoi cyfle gwirioneddol hefyd i'r Prif Weinidog ddangos nad yw Cymru ryw ôl-ystyriaeth o ddesg yn San Steffan.

Nawr, gan ddychwelyd at y cymorth presennol ar gyfer busnesau a swyddi, mae'r pwyllgor wedi gwneud gwaith rhagorol i nodi'r bylchau, ac rwy'n cydnabod y rhain o achosion yn fy etholaeth i fy hun, gan gynnwys achos Chris, sy'n rhedeg campfa. Cymerodd hen glwb adfeiliedig, a'i droi yn gartref nid yn unig i'r gampfa, ond ar gyfer grŵp llewyrchus o deuluoedd â phlant ag anghenion arbennig, ac fel canolfan ar gyfer clwb pêl-droed lleol a mwy. Ond mae wedi colli allan ar yr holl gymorth, gan gynnwys y newidiadau a groesawyd yn ddiweddar sy'n gostwng y trothwy TAW i £50,000. Fe'i gadawodd ef ychydig o filoedd o bunnau o dan y trothwy ar gyfer cymhwyso. Felly, tybed, Gweinidog, a oes modd cael rhywfaint o hyblygrwydd i Busnes Cymru weithio gyda busnesau bach y mae'n ymwybodol ohonyn nhw, er mwyn osgoi'r achosion torcalonnus hyn o fethu â chyrraedd y trothwy ond o ryw ychydig?

Wrth roi tystiolaeth i'r pwyllgor, roedd rhai o'r bylchau eglur a ddaeth i'r amlwg yn cynnwys y bobl hunan-gyflogedig nad oedd ganddyn nhw gyfrifon diweddar, busnesau nad ydyn nhw'n gweithredu o safle fel y cyfryw a chwmnïau nad ydyn nhw wedi eu cofrestru ar gyfer TAW. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi parhau i fireinio ac addasu'r cymorth i ymateb i rai o'r bylchau hyn, a byddwn i'n ddiolchgar pe gallai Gweinidogion barhau i wrando, parhau i fod yn hyblyg, i ymateb i'r pryderon parhaus hyn, ond hefyd i barhau i ymgysylltu â Thrysorlys y DU i ymateb i'r bylchau hyn a'u llenwi ledled y DU gyfan. Mae gan Drysorlys y DU bocedi anhygoel o ddwfn, ac, yn wir, yn ddiweddar maen nhw wedi darganfod lleoliad y goeden arian hud cudd, yr oedd Canghellor y Ceidwadwyr yn dadlau dros ddegawd o galedi nad oedd yn bodoli. Rwy'n falch eu bod nhw wedi dod o hyd iddi.

Rydym ni newydd brofi'r dirywiad economaidd meinaf ers trydydd chwarter 1979. Mae economegydd Banc Lloegr Andy Haldane yn awgrymu y gallem ni fod ar y trywydd iawn ar gyfer adferiad ar ffurf v, gydag adfywiad cyflymach na'r disgwyl, er ei fod yn amgylchynu ei ragamcaniad â llawer iawn o rybuddion iechyd economaidd. Gallai fod yn wahanol iawn yn wir.

Yn sicr, rydym ni eisoes yn gwybod erbyn hyn mai lleoedd sydd wedi wynebu heriau strwythurol hirdymor—anfantais gymdeithasol ac economaidd ddwfn—fydd y rhai mwyaf agored i niwed. Felly, mae angen y buddsoddiad arnom ni yma i gynyddu ein pwyslais ar yr ardaloedd hynny, gan gynnwys y lleoedd a'r bobl hynny yn fy etholaeth i yn Ogwr, lle bydd y manteision ar eu huchaf i'r buddsoddiad tlotaf, lle byddwn yn gallu codi pobl fwyaf, a lle rydym ni'n cyrraedd lefel uwch drwy ymyrraeth gan Lywodraeth weithredol, yn hytrach na bod diafol y farchnad rydd yn cymryd yr hyn sy'n weddill. Felly, gadewch i ni sicrhau bod yr ymateb economaidd hwn i COVID yn un sy'n cyrraedd lefel uwch ledled y DU, sy'n cyrraedd lefel uwch yng Nghymru ac yn cyrraedd lefel uwch yn Ogwr, gyda Llywodraethau ar bob lefel yn chwarae eu rhan. Diolch i'r pwyllgor am eu hadroddiadau, gan eu bod yn ddefnyddiol o ran cyfeirio rhai o'r ymdrechion hynny. Diolch, Dirprwy Lywydd.

16:30

Dywedodd Cynghrair Twristiaeth Cymru, Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru a CBI Cymru wrth y pwyllgor y byddai effaith anghymesur ar y diwydiannau twristiaeth a lletygarwch. Cyflwynais i gwestiwn ysgrifenedig brys i'r Prif Weinidog ar 30 Ebrill, yn gofyn iddo ymateb i alwadau am gynllun penodol i gefnogi busnesau twristiaeth yng Nghymru ac i ystyried modelau rhyngwladol o arfer gorau a fyddai'n helpu ein busnesau twristiaeth gwledig ac arfordirol i oroesi. Ar wahân i ymateb dros dro, nid wyf wedi cael ateb hyd yn hyn.

Er y bu'r cymorth a ddarparwyd gan y Llywodraeth ar bob lefel yn eithaf hael, dywedodd Cynghrair Twristiaeth Cymru wrth y pwyllgor fod rhai busnesau wedi llithro drwy'r rhwyd, yn enwedig lleoliadau priodas, llety gwely a brecwast a llety gwesteion. Mae lleoedd gwely a brecwast bach yn asgwrn cefn i lawer o economïau lleol ledled y gogledd—busnesau gwirioneddol sy'n darparu incwm hanfodol i'w perchnogion. Fodd bynnag, nid ydyn nhw wedi gallu derbyn grant busnes Llywodraeth Cymru gwerth £10,000, oherwydd bod y meini prawf yn datgan bod yn rhaid iddyn nhw fod yn gymwys i dderbyn rhyddhad ardrethi i fusnesau bach, ond mae'r rheolau yn dweud na ellir gwneud hynny oni bai eu bod yn darparu llety i fwy na chwe pherson.

Pan holais Gweinidog yr economi ynglŷn â hyn, dywedodd y byddai'r gwiriwr meini prawf cymhwysedd ar gyfer ail gam y gronfa cadernid economaidd, ar gyfer ceisiadau newydd, yn agor ganol mis Mehefin. Ar ôl codi eu gobeithion, pan agorodd, dywedodd busnesau gwely a brecwast wrthyf i, yn ôl y gwiriwr, nad oedden nhw'n gymwys o hyd. Pan holais Gweinidog yr economi ynglŷn â hyn eto, dywedodd y byddai'n rhaid iddo ddeall pam nad oedden nhw'n gymwys. Felly ysgrifennais ato gyda thystiolaeth gan fusnesau gwely a brecwast dilys yn y gogledd, yn nodi eu bod yn anghymwys ar gyfer y cynllun hwn ac unrhyw gynllun arall. Yn ei ateb yr wythnos diwethaf, honnodd mai'r pecyn cymorth yng Nghymru yw'r mwyaf cynhwysfawr a hael yn y DU. Mewn gwirionedd, mae grantiau ar gael i fusnesau gwely a brecwast yn Lloegr a'r Alban nad oedden nhw'n gymwys ar gyfer unrhyw gynlluniau cymorth grant COVID-19 eraill, ond mae cwmnïau yng Nghymru wedi eu hamddifadu o'r cyfle i gael grant cyfatebol. Fel y dywedodd un wrthyf i:

Mae dyled o £7,400 gennym ni eisoes yn y tri mis diwethaf, ac rydym ni wedi colli gwerth tua £28,000 o werthiannau yn ystod y cyfnod hwn. Mae hyn yn argyfwng llwyr ac mae angen cymorth grant.

Dywedodd Cynghrair Twristiaeth Cymru wrth y pwyllgor fod gofynion newydd Llywodraeth Cymru er mwyn i eiddo hunanddarpar fod yn gymwys ar gyfer grantiau busnes yn cael eu defnyddio i gosbi busnesau dilys. Er y dywedodd y Gweinidog llywodraeth leol wrth yr Aelodau, os gall busnes hunanddarpar brofi ei fod yn fusnes dilys, fod gan yr awdurdod ddisgresiwn i dalu'r grant, dywedodd Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru fod rhai awdurdodau lleol wedi bod yn anfon negeseuon e-bost, gan ddweud, 'Nid yw hyn yn ddewisol. Mae  Llywodraeth Cymru wedi ein cyfarwyddo i wneud hyn.'

Cysylltodd llawer o fusnesau llety gwyliau dilys â mi a oedd mewn caledi gwirioneddol yn sgil hyn. Fe wnaethon nhw ysgrifennu bod y canllawiau gan Lywodraeth Cymru yn gwahaniaethu'n glir yn erbyn busnesau llety gwyliau, ac na fu unrhyw ymgynghori â'r diwydiant. Ers hynny rwyf i wedi cynrychioli'n llwyddiannus lawer o'r busnesau hyn yn y gogledd-orllewin, er i hyn alw am ymyriadau dros wythnosau lawer cyn i gynghorau adolygu eu ceisiadau a defnyddio eu disgresiwn i ddyfarnu grantiau busnes iddyn nhw.

Yna bythefnos yn ôl, fe wnaeth busnes llety gwyliau dilys yn Sir y Fflint gysylltu â mi ar ôl iddo gael gwybod bod ei gais am grant wedi bod yn aflwyddiannus oherwydd bod yn rhaid bodloni holl feini prawf cymhwyso ychwanegol Llywodraeth Cymru. Mae'n rhaid i chi anobeithio.

Mae argymhelliad y pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru ailystyried y newidiadau a wnaed i'r canllawiau ar gyfer rhyddhad ardrethi busnesau annomestig a sicrhau nad ydyn nhw'n cosbi busnesau dilys nac yn cynyddu llwyth gwaith yr awdurdodau lleol yn hollbwysig felly.

Ar 15 Mai, cyflwynodd y Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr gynnig i Lywodraeth Cymru a fyddai'n galluogi gweithredwyr i gynyddu'r gwasanaethau bysiau gyda chostau llawn i holl weithredwyr bysiau Cymru. Fodd bynnag, mewn gohebiaeth yr wythnos diwethaf, dywed y diwydiant nad ydyn nhw wedi cael ymateb swyddogol ystyriol hyd yn hyn, ac erbyn hyn mai Cymru yw'r unig wlad yn y Deyrnas Unedig nad yw wedi cytuno ar gyllid i weithredwyr trafnidiaeth i ddechrau cynyddu gwasanaethau i dalu am gostau gwasanaethau ychwanegol.

Mae argymhelliad y pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru hysbysu'r pwyllgor am ei hasesiad o'r gwasanaethau bysiau a threnau sydd ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd ac a yw hyn yn ddigonol i sicrhau bod modd darparu gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus effeithiol sy'n cadw pellter cymdeithasol, a rhoi manylion am unrhyw gamau sy'n cael eu cymryd i sicrhau bod digon o gapasiti ar gael, yn hollbwysig hefyd felly.

16:35

Rwy'n ddiolchgar iawn o fod wedi cael y cyfle i gymryd rhan yn y sesiynau tystiolaeth sydd wedi arwain at yr adroddiad hwn, ac, fel Aelodau eraill, rwy'n ddiolchgar iawn am y dystiolaeth yr ydym ni wedi'i chael. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni fod yn deg a dweud—. Ar ddechrau fy nghyfraniad, hoffwn i ddweud bod ymateb brys Llywodraeth Cymru wedi ei groesawu ar y cyfan gan y rhan fwyaf o'n tystion. Wrth gwrs, nid yw pethau'n berffaith; cafwyd cydnabyddiaeth fod diffygion, ac rwy'n credu bod y Gweinidog yn deall hynny ei hun. Ond roedd yna ymdeimlad y cafwyd rhywfaint o gydweithredu â'r sector ac â phartneriaid cymdeithasol ac y bu hyn yn rhywfaint o—i ddefnyddio ystrydeb—yn ymdrech tîm Cymru. Ond, gwn fod y Gweinidog yn deall bod llawer mwy i'w wneud, ac mae ein tystiolaeth yn profi hynny.

Hoffwn i heddiw, Dirprwy Lywydd, wneud rhai sylwadau cyffredinol mewn ymateb i'r tri adroddiad ac wedyn tynnu sylw at rai pethau penodol ym meysydd sgiliau. Rydym ni'n gwybod—roedd y dystiolaeth yn eglur iawn i ni—y bydd angen cymorth tymor hirach ar rai busnesau. Gallai'r busnesau hynny gynnwys rhai darparwyr trafnidiaeth, byddan nhw yn sicr yn cynnwys rhai busnesau lletygarwch, na fyddan nhw o bosibl yn gallu agor yn rhannol neu efallai na fyddan nhw yn gallu agor yn broffidiol. Byddan nhw yn sicr yn cynnwys busnesau yn y sector diwylliant, pethau fel sinemâu a theatrau lle, unwaith eto, hyd yn oed os bydd cadw pellter cymdeithasol yn caniatáu iddyn nhw agor, ni fyddan nhw'n gallu agor a gwneud unrhyw arian, a bydd hynny'n berthnasol i rai atyniadau twristaidd eraill hefyd.

Mae'n wirioneddol bwysig i'r busnesau hyn—maen nhw'n cydnabod eu bod nhw, llawer ohonyn nhw, wedi cael cymorth tymor byr—wybod yn awr beth yw'r cynlluniau tymor hirach er mwyn iddyn nhw allu cynllunio. Ac rwy'n siŵr na fyddai neb ohonom ni yn y Senedd hon yn dymuno colli rhai o'r rhannau hollbwysig hynny o'n seilwaith twristiaeth a lletygarwch a fydd mor bwysig i'n heconomi wrth i ni adfer.

Rydym yn cydnabod, wrth gwrs, y dylai rhywfaint o'r cymorth hwnnw ddod oddi wrth Lywodraeth y DU, a hoffwn i ofyn i'r Gweinidog unwaith eto heddiw am ba gynnydd y mae wedi ei wneud wrth ofyn am gymorth ffyrlo mwy hyblyg i rai o'r busnesau hynny na fyddan nhw'n goroesi o bosibl fel arall, na allant agor, ac yn benodol a oes modd iddo godi unwaith eto fater y bobl hynny a oedd yn newid swyddi ar y pryd. Os bydd newidiadau i'r cynllun ffyrlo, bryd hynny fyddai'r adeg i roi rhyw fath o ad-daliad i'r dinasyddion sydd ar ffyrlo mewn swyddi newydd a oedd mor anffodus i fod yn newid swyddi ar y pryd.

Gan edrych yn fanylach ar fusnesau lletygarwch, rydym ni, wrth gwrs, wedi cefnogi dull gofalus Llywodraeth Cymru o godi'r cyfyngiadau symud. Rydym ni o'r farn mai dyna'r peth priodol i'w wneud. O safbwynt busnesau, byddai, wrth gwrs, wedi bod yn drychinebus codi'r cyfyngiadau symud yn rhy gyflym ac yna gweld pig arall gan arwain at gyfyngiadau symud eto. Ond rwy'n gobeithio bod y Gweinidog yn deall ei bod yn anodd iawn i rai o'r perchnogion busnes sydd wedi bod yn siarad â mi yn ystod y dyddiau diwethaf gweld bod McDonald's ar agor a bod pobl yn bwyta eu prydau ym maes parcio McDonald's ac weithiau yn gadael llanast erchyll wedyn, ond nid yw busnesau lletygarwch safonol lleol Cymru wedi gallu manteisio hyd yn hyn ar y cyfleoedd hynny y gall rhai sydd ar agor y tu allan eu darparu.

Rwy'n gwybod bod y Gweinidog yn ymwybodol bod awdurdodau lleol yn edrych ar sut y gallen nhw hwyluso hyn drwy gau ffyrdd ac ymestyn palmentydd. Rwyf i wedi bod yn siarad â Chyngor Ceredigion er enghraifft. Mae yna, wrth gwrs, batrwm cymhleth o ran trwyddedu ac o ran cynllunio, a hoffwn i ofyn i'r Gweinidog heddiw ymrwymo i weithio'n agos gydag awdurdodau lleol er mwyn i ni allu agor rhai o'r lleoedd hynny, gan gydnabod, wrth gwrs, y pwyntiau a wnaeth y Prif Weinidog yn gynharach—fod yn rhaid gwneud hynny mewn modd nad yw, er enghraifft, yn cael effaith negyddol ar bobl sy'n ddall ac yn rhannol ddall.

Os caf i droi yn fyr, felly, Dirprwy Lywydd, at rai o'r pwyntiau yn yr adroddiad sgiliau yn benodol. Mae Russell George wedi cyfeirio eisoes at ein hargymhelliad ynghylch prentisiaid iechyd a gofal. Mae'r hyn y mae'r bobl hynny, llawer ohonyn nhw yn bobl ifanc, wedi ei wneud yn ystod y misoedd diwethaf yn anhygoel a dweud y lleiaf, ac mae arnom ni eisiau gofyn i Lywodraeth Cymru fod yn ymwybodol o'r angen i warchod eu lles a sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw i ymdopi â'r hyn a allai, i rai ohonyn nhw, fod yn brofiad cymhleth a thrawmatig.

Mae argymhellion 3 a 4 yr adroddiad sgiliau sy'n canolbwyntio ar brofiad gwaith a diweithdra ymhlith pobl ifanc yn hynod o bwysig. Bydd y rhai hynny ohonom ni sy'n ddigon hen i gofio'r hyn a ddigwyddodd i economi Cymru yn y 1980au yn cofio bod cenhedlaeth gyfan a esgeuluswyd mewn llawer o'n cymunedau, nad oedden nhw, ar ôl cael blwyddyn neu 18 mis o fod yn ddiwaith, byth yn adfer mewn gwirionedd, byth yn cau y bwlch economaidd hwnnw. Rhaid i ni beidio â gadael i hynny ddigwydd i'r unigolion hynny, ond ni allwn ni ychwaith fforddio gwastraffu'r doniau hynny, fel cenedl. Felly, dyna pam ei bod hi'n hynod o bwysig bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynlluniau gwirioneddol bellgyrhaeddol i fynd i'r afael â'r materion hynny.

Mae argymhelliad 8 o'n heiddo yn gofyn i Lywodraeth Cymru gysylltu'r agenda sgiliau â datblygu economaidd, cymorth i fusnesau, a gwella busnesau, ac, wrth gwrs, yn hollbwysig, â'r agenda gwaith teg. Dyma'r hyn y mae angen ei newid nawr. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud, yn fy marn i, ar y cyfan, waith eithaf da o ran ymateb brys, ond nawr mae'n rhaid i ni, fel y mae'r Gweinidog yn ei ddweud yn aml, ailadeiladu yn well, ac mae hynny'n golygu datblygu mewn ffordd gydgysylltiedig.

Byddwn i'n dweud, Dirprwy Lywydd, fod yr argyfwng hwn wedi dangos i ni pwy sydd ei angen arnom ni mewn gwirionedd o ran ein gweithlu. Mae angen gofalwyr arnom ni, bu angen gweithwyr siopau arnom ni, bu angen gyrwyr cludo nwyddau arnom ni, bu angen staff gofal iechyd arnom ni. Mae tuedd i lawer o'r gwaith hwn, wrth gwrs, gael ei wneud gan fenywod. Nawr, mae tuedd, yn y gorffennol, wedi bod i gyfeirio at y bobl hynny yn rhai 'â sgiliau isel', ac nid wyf yn gwybod a oes unrhyw un arall yn y Siambr hon wedi cael cyfle i ofalu am berthynas sâl neu anabl eu hunain, ond gallaf i ddweud wrthych yn sicr fod y bobl—menywod ar y cyfan—sy'n gwneud y gwaith hwnnw yn unrhyw beth ond â sgiliau isel, ar ôl ceisio ei wneud fy hun i gefnogi aelodau o'r teulu. Mae angen i ni newid—

16:40

Mae angen i ni sicrhau ein bod yn newid ein meddylfryd yn hynny o beth, ac wrth i ni sôn am ailadeiladu yn well, rydym ni wedi siarad yn helaeth am brosiectau seilwaith mawr, ond mae angen i ni hefyd feddwl am y gwaith hwnnw, y gwaith hwnnw y mae menywod yn ei wneud—y gwaith gofalu, y gwaith siop, hynny i gyd. Mae angen i ni werthfawrogi'r gwaith hwnnw, mae angen i ni wella sgiliau y gweithwyr hynny, ac mae angen i ni dalu cyflog byw gweddus iddyn nhw.

Bydd y Gweinidog wedi clywed y dystiolaeth a roddwyd gan Chwarae Teg ac eraill i'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ddoe, ac rwy'n gobeithio y bydd yn ymrwymo heddiw i adeiladu cymdeithas fwy cyfartal i fenywod ac y bydd economi fwy cyfartal i fenywod yn ganolog i'w gynlluniau ailadeiladu.

Mae gen i bethau eraill i'w dweud, ond mae amynedd y Dirprwy Lywydd wedi darfod, a hynny'n gwbl briodol. Felly, fe wnaf i ddirwyn fy sylwadau i ben drwy ddweud unwaith eto pa mor falch wyf i o fod wedi cymryd rhan yn y broses hon a chymeradwyo'r adroddiadau hyn i'r Senedd.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Darllenais â braw a chytundeb fod gan y pwyllgor bryderon sylweddol ynghylch yr hyn y mae'n ei ystyried yn un o'r heriau tymor hirach sy'n diffinio'r pandemig marwol hwn: cynnydd sydyn sylweddol tebygol mewn diweithdra ymhlith pobl ifanc, cynnydd sydyn sydd, heb weithredu gan Lywodraeth Cymru, yn bygwth creithio ac atal rhagolygon cyflogaeth cenhedlaeth o bobl ifainc a llesteirio'r adferiad cenedlaethol.

Yn anffodus, nid yw hyn yn newydd i ni. Fel yr Aelod dros Islwyn, rwy'n gwybod y bydd ysbryd diweithdra torfol ymhlith pobl ifanc yn codi—[Anhyglyw.]—drwy'r cymunedau yr wyf i'n eu cynrychioli. Dechreuais i fod yn wleidyddol yn fy arddegau yn sgil y dinistr a ddaeth i ni drwy bolisïau economaidd Torïaidd dideimlad Llywodraeth Thatcher. Cefais fy anfon i'r Senedd hon gan bobl Islwyn, yn dilyn y dinistr parhaus a ddaeth i gymoedd Islwyn drwy barhad polisïau Thatcheraidd o dan gochl cynni, ac ideoleg dadfuddsoddi creulon a dideimlad Llywodraeth gwrth-sector cyhoeddus Cameron, a feirniadwyd yn briodol gan y Cenhedloedd Unedig.

Felly, heddiw, mae Islwyn yn wynebu posibilrwydd o fwy o galedi economaidd yn y dyfodol yn sgil pandemig dideimlad C-19 a cholledion masnachol ymadael â'r UE. Felly, mae'n hollbwysig nad yw Llywodraeth y DU yn torri ac yn difa gwasanaethau cyhoeddus a'i chyllid i ymdrin â'r diffyg ar ôl C-19.

Dirprwy Lywydd, rwy'n cefnogi trydydd argymhelliad y Pwyllgor, sef bod:

Rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd camau i sicrhau bod cyfleoedd profiad gwaith strwythuredig o ansawdd uchel, yn enwedig i bobl o gefndiroedd difreintiedig, yn rhan o gynllun adfer Cymru.

Fel y dywedodd yr Athro Ewart Keep o'r adran addysg yn Rhydychen wrth rybuddio'r pwyllgor, mae'r 'broblem enfawr sydd ar y gorwel' o ddiweithdra ymhlith pobl ifanc wrth i ddegau ar filoedd o fyfyrwyr coleg a phrifysgol raddio yr haf hwn yn llwm. Mae'r bobl ifanc hyn yn wynebu marchnad lafur sydd wedi gweld cwymp yn y galw, gyda thraean o weithlu Cymru ar ffyrlo neu'n manteisio ar gynllun cymorth hunan-gyflogaeth y Llywodraeth.

Dirprwy Lywydd, er efallai fod consensws yn y Senedd ar rai materion allweddol, mae'r angen hanfodol a sylfaenol am ddull systemig rhyng-lywodraethol effeithiol yn parhau ar gyfer y gwledydd datganoledig. Ni fu erioed fwy o angen am y seilwaith coll hwn. Heb fod gweithio effeithiol rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, a bod y DU wedyn yn buddsoddi i ddiwallu anghenion gwirioneddol pobl Cymru, byddwn unwaith eto yn gweld cenhedlaeth anghofiedig o fenywod a dynion ifanc. Mae'n briodol bod Llywodraeth Cymru yn gofyn yn gadarn i Drysorlys y DU ddiwallu anghenion Cymru, yn awr yn ystod y pandemig hwn, ond hefyd gyda dulliau ar gyfer y dyfodol, sy'n gynaliadwy ar gyfer achosion o bandemig, argyfyngau ac adegau o her genedlaethol yn y dyfodol. Ac yn gyfochrog â lluosogrwydd ymyriadau cyfredol Llywodraeth Cymru a phecynnau cymorth i Gymru yn unig yn ystod COVID, mae'n amlwg bod gan Brif Weinidog Cymru a Gweinidog yr economi gyfeiriad, ysgogiad a phenderfyniad clir i ddiogelu ac amddiffyn anghenion iechyd ac economaidd ein pobl er mwyn sicrhau bod Cymru yn fan lle nad oes neb yn cael ei adael ar ôl, a phan fydd storm COVID yn ein gadael, bydd Cymru ddisgleiriach, iachach a gwyrddach yn cael ei hailadeiladu, ei datgelu a'i hailddarganfod. Diolch.

16:45

A gaf i yn gyntaf longyfarch y Cadeirydd ac aelodau Pwyllgor yr Economi Seilwaith a Sgiliau am eu gwaith yn nodi'r camau angenrheidiol a all fod yn angenrheidiol i ailgychwyn ac ailfywiogi'r economi ar ôl COVID-19, sydd wedi eu cynnwys yn eu 34 o argymhellion? Cyn i mi sôn am yr adroddiad, hoffwn i wneud y pwynt nad ydym ni'n ymwybodol o hyd o'r sefyllfa o ran y gronfa ffyniant gyffredin. Yn ôl pob sôn, bydd y gronfa honno yn disodli cronfa strwythurol yr UE. Gan y bydd y gronfa hon yn chwarae rhan bwysig yn y ffordd y bydd Cymru yn ymadfer ar ôl yr argyfwng COVID, mae'n rhaid i bob un ohonom ni yn y Siambr hon gefnogi'r Gweinidog yn ei ymdrechion i sicrhau ymrwymiad gan Lywodraeth y DU ynghylch sut a phryd y caiff yr arian hwn ei ddyrannu.

Mae'r adroddiad yn cydnabod y cafwyd cefnogaeth eang i'r camau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru mewn ymateb i bandemig COVID-19. Yn benodol, fe wnaethon nhw dynnu sylw at yr hyn a ddywedodd Josh Miles o Ffederasiwn y Busnesau Bach, sef bod gennym ni, diolch byth, Banc Datblygu Cymru a Busnes Cymru, a oedd yn gallu ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i'r argyfwng.

Ni ddylai fod unrhyw amheuaeth ei bod yn bosib y bydd COVID-19 yn newid y ffordd yr ydym yn byw ac yn gweithio am byth, ond ar hyn o bryd nid ydym yn gwybod faint yn union. Mae'n rhaid i ni sylweddoli, gyda chynifer o bethau na allwn ragdybio, ei bod yn anodd i unrhyw Lywodraeth gynllunio strategaethau economaidd ar gyfer y dyfodol. Mae Gweinidog yr economi wedi dweud nad yw'r nodau strategol mawr o waith teg, datgarboneiddio, lleihau anghydraddoldeb economaidd rhanbarthol, wedi newid, ond rydym yn gwybod y bydd yn rhaid i rai pethau newid, ac mae'n bwysig bod y rhain yn cael eu nodi a'u trafod ac y gweithredir arnyn nhw cyn gynted â phosibl.

Yng Nghymru y mae'r gyfran uchaf o fusnesau sy'n gwneud cais am y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws a'r gyfran uchaf o bobl sy'n gwneud ceisiadau i gynlluniau Llywodraeth y DU. Yn anffodus, bydd Cymru a'i phobl unwaith eto yn un o'r rhanbarthau a all ddioddef rhai o'r colledion swyddi mwyaf yn sgil y pandemig.

Fodd bynnag, mae un maes lle yr wyf i'n credu y gallai Llywodraeth Cymru ystyried rhoi strategaethau adfer ar waith ar hyn o bryd. Dywedir mai gwella sgiliau yw un o'r ffyrdd cyflymaf o sicrhau na fydd y rhai sydd wedi colli eu swyddi yn aros yn ddiwaith am gyfnodau hir. Rydym ni'n credu y dylai Llywodraeth Cymru, ar fyrder, ystyried sefydlu canolfannau hyfforddi ar raddfa fawr. Byddwn i'n gofyn i'r Llywodraeth ystyried cyfleusterau yn Sain Tathan, lle mae adeiladau addas a hyd yn oed llety ar gael wrth i'r Weinyddiaeth Amddiffyn leihau ei gweithrediadau ar y safle. Gallai Llywodraeth Cymru ystyried sefydlu canolfan sgiliau genedlaethol i Gymru, gan adeiladu ar y cyfleusterau hynny sy'n bodoli eisoes, nid eu disodli. Gallai hyn roi Cymru ar flaen y gad o ran y chwyldro i ddarparu gwaith parod i bobl fedrus yn y sector sgiliau uwch. Byddai cyfleuster mor amlwg yn helpu i ddenu buddsoddwyr yn y diwydiannau uwch-dechnoleg, gan ategu, wrth gwrs, sefydliad cyfleuster Aston Martin yn Sain Tathan.

Felly, a gaf i ychwanegu fy argymhelliad fy hun i'r 34 a amlinellwyd eisoes gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau? Adeiladu canolfan uwch-dechnoleg ar gyfer sgiliau galwedigaethol, os nad yn Sain Tathan, yna rywle arall yng Nghymru.

16:50

Rwy'n ddiolchgar i chi, Dirprwy Lywydd, ac rwy'n ddiolchgar i'r pwyllgor hefyd am y gwaith y mae wedi bod yn ei wneud ar hyn. Rwy'n credu bod pob un ohonom ni wedi mwynhau'r cyfle i ddarllen trwy adroddiadau'r pwyllgor ac rydym yn ddiolchgar iddyn nhw a'r staff a'r tystion am y cyfraniadau y maen nhw wedi eu gwneud.

Mae angen i ni edrych yn fanwl ar sut yr ydym yn mynd i sicrhau nad yw'r ysgytwad economaidd yr ydym yn ei weld ar hyn o bryd yn ddim ond ysgytwad economaidd unwaith eto i'r bobl dlotaf yn y wlad hon. Rydym ni wedi gweld o ddirwasgiadau blaenorol mai'r bobl dlotaf, y cymunedau tlotaf, sy'n dioddef effaith waethaf y dirwasgiadau hyn, ac rydym ni wedi gweld ysgytwadau economaidd yn y gorffennol yn cael effaith ddramatig nid yn unig ar y bobl sy'n byw yn y cymunedau hyn heddiw, ond ar eu plant a'u hwyrion hefyd. Mae cenedlaethau, fel sydd wedi ei ddisgrifio eisoes, rwy'n credu, yn dal i deimlo effaith rhyfel Thatcher yn erbyn Cymoedd y de. Mae angen i ni allu edrych yn fanwl ar sut yr ydym yn gwneud hynny. Ar hyn o bryd, rydym yn gweld yn y penawdau rai colledion swyddi gwirioneddol ofnadwy, ac rydym ni wedi bod yn trafod Airbus yn barod heddiw. Ond rydym ni hefyd yn gweld swyddi yn cael eu colli yn ddyddiol—mae'r nifer yn llai, ond mae'n cael effaith ar nifer enfawr o bobl a theuluoedd a chymunedau. Rwyf i wedi gweld yn fy etholaeth fy hun lawer o bobl sydd eisoes yn cael eu bygwth â diswyddiadau. Nid fydd effaith COVID i'w gweld yn yr hydref—mae'n cael ei gweld yn barod heddiw.

Rwy'n cytuno yn llwyr â'r pwyntiau a wnaeth Huw Irranca-Davies ynghylch yr angen i Lywodraeth y DU ymestyn y cynllun ffyrlo i'r hydref. Ac rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi cytuno, yn ystod y ddeufis diwethaf, fod effaith economaidd cynlluniau Llywodraeth y DU yn rhywbeth yr ydym ni wedi ei gwerthfawrogi, ac mae wedi bod yn dda gweld Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn gweithio gyda'i gilydd dros y misoedd blaenorol. Yn y cyd-destun hwnnw, roedd araith Prif Weinidog y DU ddoe yn peri hyd yn oed mwy o siom. Roedd yn ymddangos bod Llywodraeth y DU yn troi cefn ar bobl y wlad hon, yn methu ac yn amharod i ddarparu'r cymorth sydd ei angen ar fusnes a diwydiant. Dim arian yng Nghymru, dim buddsoddiad i Gymru, dim gofal am Gymru—troi cefn ar ein diwydiannau allweddol, ein cyflogwyr allweddol a'n pobl ar adeg pan oedd angen y cymorth hwnnw arnyn nhw.

Felly, rwy'n awyddus i weld Llywodraeth Cymru yn camu i'r adwy. Fe wnaethom ni hynny ar ôl dirwasgiad 2008, wrth gwrs, ac achub degau ar filoedd o swyddi, ac mae angen bargen newydd wirioneddol arnom ni, nid y fargen newydd ffug yr oedd Llywodraeth y DU yn sôn amdani ddoe, ond bargen sydd â'r uchelgais a'r weledigaeth a fydd yn buddsoddi mewn pobl a lleoedd. Mae angen i ni weld, yn fy marn i, ar gyfer Blaenau'r Cymoedd, er enghraifft, gynllun swyddi, strategaeth ddiwydiannol ar gyfer Blaenau'r Cymoedd, sy'n gwireddu rhai o'r sgyrsiau yr ydym ni wedi eu cael eisoes, Gweinidog, trwy'r cynllun Cymoedd Technoleg, ac yn buddsoddi yn y safleoedd strategol, boed yn Rhyd y Blew neu Rasa neu unrhyw un o'r ystadau diwydiannol eraill ar hyd coridor yr A465—cynllun swyddi sy'n dwyn ynghyd y sgiliau a'r hyfforddiant â buddsoddiad mewn cysylltedd. Mae'n bryd i'r seilwaith rheilffyrdd gael ei ddatganoli o'r diwedd. Fe wnaethom ni weld ddoe nad yw Llywodraeth y DU yn mynd i fuddsoddi yn ein rheilffyrdd o gwbl. Mae angen i ni wneud hynny ein hunain ac mae angen i ni sicrhau bod y seilwaith rheilffyrdd yn cael ei ddatganoli er mwyn i ni allu gwneud hynny.

Ond gadewch i mi ddweud hyn, Gweinidog: rwy'n cytuno yn llwyr â'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddweud am 'ailadeiladu yn well', ond mae angen i rywbeth fod yn weddill i ni allu ailadeiladu arno, ac mae angen i ni allu bod â blaenoriaeth glir—swyddi, swyddi, swyddi. Mae angen i ni ddiogelu cyflogaeth bresennol. Mae angen i ni ddiogelu ein sylfaen ddiwydiannol bresennol. Mae angen i ni allu diogelu canol trefi ac ystadau diwydiannol gyda'i gilydd. Dyma'r her fwyaf i ni ei hwynebu fel Senedd, fel democratiaeth seneddol, mewn 20 mlynedd, yr her fwyaf y mae Llywodraeth Cymru wedi ei hwynebu ers dau ddegawd, ac mae angen yr uchelgais, y weledigaeth a'r ystwythder arnom ni i ateb yr her honno. Rwy'n awyddus i weld Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r holl offer a dulliau ariannol sydd ar gael iddi, ynghyd â'r ymrwymiad sefydledig hwnnw i'n cymunedau. Rwyf i wedi gweld y Gweinidog yn cerdded ac yn crwydro trwy gymunedau yn ei etholaeth ei hun yn y gogledd a fy etholaeth i yng Nghymoedd y de. Rwy'n gwybod am ei ymrwymiad i'r lleoedd hynny, ac rwy'n gwybod am ei ymrwymiad i'n pobl. Dyma'r her nawr, i wneud yr ymrwymiad hwnnw yn wirionedd.

16:55

Y peth cyntaf yr wyf i eisiau ei ddweud fel aelod o'r pwyllgor oedd ein bod wedi clywed cefnogaeth aruthrol gan Ffederasiwn y Busnesau Bach, Cyngres yr Undebau Llafur a Chydffederasiwn Diwydiant Prydain o ran eu boddhad â lefel yr ymgysylltu â Llywodraeth Cymru a swyddogion Cymru—rwy'n credu ei bod hi'n werth dweud hynny o'r dechrau—a'r holl waith a oedd y tu ôl i hynny, wrth sicrhau bod yr holl gynlluniau niferus a roddwyd ar waith ar unwaith, mewn cyfnod byr iawn o amser, wedi eu cyflwyno drwy ddulliau y gallai pobl wneud cais iddynt a chael yr arian o hynny.

Dydw i ddim yn mynd i ailadrodd yr holl fylchau yr ydym ni wedi clywed amdanyn nhw; mae pobl eraill eisoes wedi gwneud hynny. Ond gwrandewais yn astud ddoe ar y cyhoeddiad 'adeiladu, adeiladu, adeiladu' hwn gan Lywodraeth y DU ac, ar unwaith, yr un peth a'm trawodd i, ar wahân i'r hyn a oedd yn amlwg iawn, sef nad oes unrhyw symiau canlyniadol felly nid oes arian newydd, felly nid oes unrhyw ofal am Gymru, oedd y syniad hen ffasiwn hwn unwaith eto y gallwch chi ddod â swyddi allan o argyfwng nad ydyn nhw ond yn edrych, mewn gwirionedd, ar un sector o'r economi, ac felly rydych yn colli niferoedd mawr o bobl y mae angen cymorth arnyn nhw o'r cynlluniau hynny ar unwaith. Ac mae'n weddol amlwg, os edrychwch chi ar yr ystadegau ar adeiladu, bod hynny'n golygu y bydd menywod yn cael eu gadael ar ôl, oherwydd nad ydyn nhw'n rhan o'r economi honno beth bynnag. Y ffigur uchaf y byddwch yn ei weld yw 11 y cant ac, ar y safle, dim ond 1 y cant ydyw. Felly, nid yw hynny mewn gwirionedd yn mynd i adeiladu llawer o ran cyflogaeth ar gyfer y bobl hynny y tu allan i hynny.

Wedi dweud hynny i gyd, rydym ni wedi gweld, yn y gorffennol diweddar iawn, ystwythder cwmnïau yng Nghymru i gamu ymlaen a rhoi prosesau a systemau ar waith ar unwaith i gyflawni'r pethau hynny yr oedd eu hangen arnom, o awyryddion i fygydau, neu hylif golchi dwylo. Felly, maen nhw wedi bod yn arloesol ac maen nhw wedi bod yn gyflym i arloesi, ac rwy'n credu y cyfeirir ato yma yn yr argymhellion hyn. Dyna, rwy'n credu, y gallem ni ei wneud i ysgogi'r economi yn ei blaen wrth i ni ddod allan o hyn.

Y sector arall, wrth gwrs, a fu'n gyflym—ac nid buddsoddiad cyfalaf sydd ei angen—yw'r sector gofal, a chyfeiriodd Helen Mary yn gwbl briodol at hynny. Mae tystiolaeth eisoes yn dod i'r amlwg am effaith y coronafeirws ar rai unigolion, a'r anghenion gofal parhaus a fydd gan yr unigolion hynny. Ac, mewn gwirionedd, yn y don gyntaf yn unig y mae hynny. Dydw i ddim eisiau ail don; does neb eisiau hynny. Ond os gwelwn ni ail don, yn anffodus rydym ni hefyd yn mynd i weld mwy o anghenion yn y sector gofal. Felly, mae angen rhywfaint o fuddsoddiad refeniw arnom ni yn ogystal â buddsoddiad cyfalaf i fynd â ni allan a'n symud ni yn ein blaenau. Ac mae wedi ei nodi—wedi ei nodi'n gwbl briodol—mai'r rhai hynny yw'r bobl y mae eu hangen arnom i fynd â chymdeithas yn eu blaen yn y pen draw mewn cyfnod o angen eithafol. Mae'n wir eu bod wedi'u tanbrisio yn y gorffennol, nid yn unig o ran y modd y mae cymdeithas yn meddwl am bobl yn y sector gofal ond hefyd o ran y tâl y maen nhw wedi'i gael am wneud y swyddi hynny. Felly, mae'n debyg mai fy mhle i chi heddiw, wrth symud ymlaen, yw edrych ar ôl yr unigolion hynny o ran eu hyfforddiant, eu statws, a gadewch i ni beidio â—. Pan fyddwn ni'n sôn am adeiladu'n ôl yn well, beth am i ni o leiaf ddeall bod y bobl hynny sydd angen i ni adeiladu'n ôl yn well ar eu cyfer nhw yn eu cyflogaeth yn cael y gydnabyddiaeth honno ym mhob agwedd.  

Ac, wrth gwrs, y maes arall a fyddai wedi cael sylw nawr, ond nad yw, oherwydd ein bod ni yn y cyfnod penodol hwn, yw'r gwasanaethau bws yng Nghymru. Byddai Bil wedi bod yn mynd ar ei hynt drwy Senedd Cymru ar hyn o bryd, a byddai llawer mwy o bobl wedi bod yn mynd ar daith, yn enwedig drwy fy ardal i yng Nghymru ar fysus. Yn anffodus, nid yw hynny'n wir ar hyn o bryd, ac, er fy mod yn wirioneddol bryderus nad ydym yn gadael pobl ar ôl, rwyf yr un mor bryderus nad ydym yn llythrennol yn eu gadael ar ôl, yn gaeth yng Nghymru wledig heb unrhyw fath o drafnidiaeth, oherwydd bod cynifer o bobl—yn enwedig pobl heb arian a phobl ifanc, pobl anabl, trigolion oedrannus a phobl sydd â thocyn bws am ddim—yn dibynnu ar y math hwnnw o drafnidiaeth.

17:00

Felly, rwy'n gofyn am ddiweddariad, mewn gwirionedd, Gweinidog, ar eich syniadau, os na allwch chi gyflawni'r Bil hwnnw, ar yr hyn yr ydych chi'n mynd i'w wneud ynghylch gwasanaethau bysiau neu gludiant cyhoeddus yn y canolbarth a'r gorllewin.

Diolch, Dirprwy Lywydd, ac a gaf i ddechrau drwy ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor, Russell George, a'i aelodau am ei waith i gynhyrchu y ddau adroddiad hynod werthfawr? A hoffwn i hefyd ddiolch i'r rhai y bu'n bosibl iddyn nhw roi tystiolaeth drwy gyswllt fideo yn yr hyn sydd, wrth gwrs, wedi dod yn norm newydd ar gyfer cynnal cyfarfodydd ar hyn o bryd. Wrth gwrs, fel arfer, byddai Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn ffurfiol i adroddiadau'r pwyllgor cyn y dadleuon, ond rwy'n cydnabod bod yr ewyllys i drafod yr adroddiadau pwysig hyn cyn y toriad yn golygu na fydd y Llywodraeth yn gallu ymateb yn ffurfiol tan fis nesaf, yn unol â'r cais.

Ceir cyfanswm o 42 o argymhellion rhwng y ddau adroddiad, felly, yn anffodus, ni fyddaf yn gallu ymdrin â phob un ohonyn nhw, ond, Dirprwy Lywydd, yr hyn y byddwn i yn ei ddweud yw fy mod i'n credu ei bod yn werthfawr darllen y ddau adroddiad ochr yn ochr â'r hyn a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Bwyllgor Trysorlys y DU am gymorth Llywodraeth y DU ar gyfer busnesau a'r economi, oherwydd mae rhai pryderon cyffelyb yn y tri adroddiad.

Dirprwy Lywydd, ac aelodau'r pwyllgor, yr hyn y gallaf i ei ddweud ynglŷn â'r ddau adroddiad sydd wedi'u llunio gan bwyllgor yr economi, seilwaith a sgiliau yw ein bod wedi gweithredu'n gyflym ac yn bendant i helpu i amddiffyn busnesau Cymru rhag effaith y coronafeirws. Mae ein pecyn cymorth i fusnesau gwerth £1.7 miliwn—mae'n cyfateb i 2.6 y cant o'n gwerth ychwanegol crynswth—yn ategu cynlluniau eraill yn y DU, ac mae'n golygu bod cwmnïau yng Nghymru yn gallu cael at y cynnig mwyaf hael o gymorth yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig, fel y nododd Huw Irranca-Davies.

Aethom ati yn fwriadol i gynllunio ein cronfa cadernid economaidd gwerth £500 miliwn ar gyfer Cymru yn unig i lenwi'r bylchau a adawyd gan becyn cymorth busnes Llywodraeth y DU, ac mae hyn oherwydd ein bod yn dymuno cefnogi cynifer o fusnesau, cynifer o swyddi, ag y gallwn yn ystod y cyfnod hynod heriol hwn.

Gwyddom hefyd fod ein dull yn gweithio. Mae data o arolwg diweddar gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos, o holl wledydd y DU, mai yng Nghymru o bell ffordd—o bell ffordd—y mae'r ganran uchaf o fusnesau sydd wedi gwneud cais am grantiau busnes sy'n gysylltiedig â'r coronafeirws, a'u cael. Canfu'r arolwg mai'r ffigur ar gyfer busnesau sy'n cael cymorth yng Nghymru yw 32 y cant o'r 260,000 o fusnesau sydd gennym ni. Mae hynny'n cyferbynnu â dim ond 14 y cant o fusnesau sy'n cael cymorth uniongyrchol gan y Llywodraeth yn Lloegr, 21 y cant yn yr Alban a 24 y cant yng Ngogledd Iwerddon.

Felly, o ganlyniad i'r gronfa cadernid economaidd gwerth £0.5 biliwn, gan gynnwys, wrth gwrs, cymorth gan Fanc Datblygu Cymru, rydym wedi gallu helpu yn agos i 8,000 o fusnesau gyda mwy na £200 miliwn o gymorth na fyddai wedi bod ar gael yn un man arall, ac mae hynny wedi arwain at arbed degau o filoedd o swyddi. Nawr, ddydd Llun, fe wnaethom ailagor cam nesaf y gronfa cadernid economaidd, gan roi mwy o gyfleoedd i ficrofusnesau, busnesau bach a chanolig ac i fusnesau mawr wneud cais am arian. Byddwn hefyd yn ymestyn ein cymorth i gwmnïau a busnesau nad ydynt wedi'u cofrestru ar gyfer TAW a ddechreuodd ar ôl mis Mawrth 2019.  

17:05

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Nawr, o ran cwestiwn Mark Isherwood ynghylch cymorth i'r sector twristiaeth, gallaf gadarnhau bod mwy na £11 miliwn o gymorth wedi'i ddarparu i fusnesau twristiaeth a lletygarwch drwy gam cyntaf y gronfa cadernid economaidd. Mae wedi arbed mwy na 4,000 o swyddi, ac ni fyddai'r cymorth hwnnw wedi bod ar gael mewn mannau eraill yn y DU. Ac rydym hefyd yn darparu £5 miliwn yn benodol i gefnogi cwmnïau sy'n cychwyn, nad ydyn nhw hyd yn hyn wedi cael cymorth gan gynllun cymorth hunan-gyflogaeth Llywodraeth y DU. Nawr, bydd ein cynllun grant, a lansiwyd yr wythnos diwethaf, yn cefnogi 2,000 o fusnesau newydd gyda grantiau o £2,500 yr un, ac, wrth gwrs, mae hyn yn dod cyn i Lywodraeth y DU ymateb yn ffurfiol i argymhellion Pwyllgor Trysorlys y DU ar gyfer llenwi'r bylchau hynny a nodwyd gan aelodau pwyllgor yr economi, seilwaith a sgiliau. Ac rwy'n credu bod hwn yn bwynt pwysig iawn, gan fod llawer o fylchau yn dal i fodoli ledled y DU ac sy'n gofyn am sylw Llywodraeth y DU, gan gynnwys, er enghraifft, yr angen i ymestyn y cynllun cadw swyddi ar gyfer sectorau penodol—ar gyfer twristiaeth, diwylliant ac awyrofod—ac amlygwyd y bylchau hynny gan nifer o Aelodau, gan gynnwys Helen Mary Jones a Mark Isherwood.

Nawr, mae'r cynllun cadw swyddi, wedi bod yn achubiaeth i lawer o fusnesau, ond mae'n rhaid i Lywodraeth y DU—yn gyfan gwbl—osgoi ymyl clogwyn pan ddaw'n fater o roi terfyn ar gynlluniau ffyrlo a hunan-gyflogaeth. Ac rwy'n credu y byddem ni i gyd yn derbyn na fydd effaith lawn y coronafeirws ar yr economi yn cael ei datgelu tan yr hydref, pan fo'r rhain wedi'u hamserlennu i gael eu dirwyn i ben. Nawr, ddoe, clywsom hefyd, fel y mae Aelodau wedi'i nodi, y Prif Weinidog yn ailgyhoeddi gwahanol brosiectau seilwaith, ac yn mabwysiadu'r addewid yr ydym ni wedi bod yn ei wneud ers rhai misoedd i adeiladu'n ôl yn well. Nawr, i ni yn Llywodraeth Cymru, mae hynny'n golygu buddsoddi mewn twf gwyrdd a theg. Mae'n golygu buddsoddi mewn busnesau sy'n ymrwymo i'r contract economaidd sydd gennym erbyn hyn gyda miloedd ar filoedd o fentrau yng Nghymru. Mae'n golygu gwneud yr union beth y mae Alun Davies wedi'i fynegi, sef buddsoddi mewn lleoedd y mae angen hwb arnyn nhw, buddsoddi mewn pobl nad ydyn nhw wedi mwynhau canlyniadau twf yn ystod y cyfnod o ddad-ddiwydiannu. Mae'n golygu creu, yn fy marn i, economi wleidyddol niwtral o ran rhyw sy'n llai gwyn ac yn llai ffafriol i bobl a lleoedd sydd eisoes yn gefnog ac yn bwerus. Ac mae adeiladu yn ôl yn well hefyd yn golygu adeiladu dyfodol gyda'n gilydd. Ac rwyf wedi bod yn hynod ddiolchgar am y syniadau a'r cyngor gan Aelodau ar draws y Siambr.

Nawr, fel y dywedodd Rhianon Passmore, ni all yr adferiad weld mesurau cyni yn dychwelyd. I'r gwrthwyneb, dylai'r adferiad weld manteision lluosog yn deillio o adferiad economaidd gwyrdd, un sy'n creu swyddi lleol, yn cyfrannu at ddatgarboneiddio, yn adeiladu economi sylfaenol, yn darparu sgiliau, yn mynd i'r afael â thlodi tanwydd, ac yn darparu cartrefi gwell, gwyrddach. Fodd bynnag, mae'n rhaid i ni gydnabod hefyd fod angen hanfodol am adferiad ar sail pobl yn wyneb y diweithdra, tangyflogaeth ac anweithgarwch economaidd sylweddol a ddisgwylir yng Nghymru a ledled y DU dros y 12 mis nesaf. Ac, fel y soniais ychydig wythnosau yn ôl, rydym ni'n datblygu pecyn cymorth cynhwysfawr a fydd yn caniatáu i bobl uwchsgilio a dod o hyd i swyddi newydd, er mwyn i ni allu gwarchod cenhedlaeth rhag effeithiau diweithdra sy'n creu craith. Ac rydym ni'n barod i ddefnyddio £40 miliwn o gyllid cadernid economaidd i wneud yr union beth hwnnw.

Rwy'n credu y bydd angen i ni hefyd ailwampio ac ailflaenoriaethu cynigion y rhaglen brentisiaethau, addysg bellach a phrifysgolion, ac mae'r pwyllgor yn nodi'r camau a gymerwyd i sicrhau sefydlogrwydd ariannol y rhwydwaith prentisiaethau, ac rwy'n croesawu hyn yn fawr. Mae wedi galluogi darparwyr hyfforddiant i ymateb yn gadarnhaol i'r argyfwng COVID, gan gyflwyno strategaethau dysgu ar-lein a chadw mewn cysylltiad. Mae galluogi recriwtio ar gyfer prentisiaethau yn rhan annatod o'r broses adfer, fel ystyried cyfres gynhwysfawr o gymorth i bobl sy'n wynebu colli eu swyddi, y rhai a ddiswyddwyd, a gweithwyr y mae angen iddyn nhw uwchsgilio. Mae hyn yn cynnwys cynnig mynediad at wasanaethau gweithio'n dda ar gyfer unigolion, rhoi cyngor ac arweiniad iddyn nhw ar ystod o gyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw, a'u helpu i oresgyn pa bynnag heriau a rhwystrau personol y maen nhw'n eu hwynebu wrth ddod o hyd i waith chael swydd.

Byddwn yn cynyddu mynediad at gyfrifon dysgu personol a chymorth drwy ein rhaglenni ReAct a sgiliau cyflogadwyedd, yn ogystal â'n rhaglen Twf Swyddi Cymru, sy'n darparu cyfleoedd gwaith gwerthfawr i bobl ifanc nad oes ganddyn nhw brofiad gwaith perthnasol o bosibl. Ac, fel y mae nifer o Aelodau wedi nodi y prynhawn yma, mae pobl ifanc wedi'u nodi fel y rhai sy'n wynebu'r risg fwyaf o ddiweithdra hirdymor o ganlyniad i'r coronafeirws. Felly, yn naturiol bydd ein buddsoddiad yn cael ei flaenoriaethu ar gyfer rhai dan 25 oed. Byddwn hefyd yn blaenoriaethu cymorth i'r rhai hynny sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur, gan gynnwys pobl anabl, y rhai â sgiliau isel, ac unigolion o gefndir pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Nawr, hyd yma, mae ein rhaglenni cyflogadwyedd cymunedol wedi cefnogi 48,000 o bobl, 18,000 ohonyn nhw wedi symud i mewn i gyflogaeth, ac, mewn ymateb i'r coronafeirws, mae'r ddarpariaeth wedi'i haddasu i helpu 400 o bobl i gael gwaith ers mis Ebrill eleni.

Mae ein partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn parhau i roi darlun rhanbarthol strategol i ni o'r blaenoriaethau ar gyfer sgiliau, yn seiliedig ar wybodaeth am y farchnad lafur ac wedi'u llywio gan angen y cyflogwyr. Ac rydym wedi comisiynu'r partneriaethau hyn i gynhyrchu adroddiadau bob dau fis i gasglu gwybodaeth a arweinir gan gyflogwyr ar draws rhanbarthau Cymru er mwyn darparu gwybodaeth ar effaith y coronafeirws ar draws sectorau a chlystyrau diwydiant.

Ac, yn fyr, uchelgais Llywodraeth Cymru o hyd yw creu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig, cynaliadwy, gan gynnwys trafnidiaeth gymunedol, fel y nododd Joyce Watson, ar draws Cymru gyfan. Rydym ni eisoes wedi gwario £29 miliwn ar gronfa caledi ar gyfer y sector bysiau, gan helpu gweithredwyr i gynnal gwasanaethau craidd. Ac mae'r cyhoeddiad diweddar gan fy nghyd-Aelod, y Dirprwy Weinidog, yn cadarnhau cyllid cychwynnol o £15.4 miliwn i awdurdodau lleol i gyflwyno mesurau i wella diogelwch ac amodau ar gyfer mathau cynaliadwy a llesol o deithio mewn ymateb i argyfwng y coronafeirws, yn dangos ein bwriad prydlon.

Llywydd, fel y crybwyllwyd yn gynharach, edrychaf ymlaen at ymateb yn ffurfiol ac yn llawn fis nesaf, ond, yn y cyfamser, hoffwn ddiolch eto i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau.

17:10

Diolch. Russell George, Cadeirydd y pwyllgor, i ymateb i'r ddadl. Russell George.

Diolch, Llywydd, ac a gaf i ddiolch i'r holl Aelodau a gymerodd ran yn y ddadl hon heddiw? Mae'n arbennig o dda bod Aelodau nad ydyn nhw'n rhan o'n pwyllgor wedi cymryd rhan yn y ddadl hon, ac roeddwn i'n meddwl bod hynny'n dangos pa mor bwysig yr oedd hi ein bod wedi cael y ddadl hon efallai yn gynharach nag y byddem wedi'i ddisgwyl efallai yn y gorffennol.

Roeddwn i'n meddwl bod sylwadau Huw Irranca-Davies yn arbennig, yn gywir ynghylch datganoli. Mae datganoli yn rhoi cyfle i ni ymateb i anghenion sy'n benodol i Gymru—dyna'r hyn y bwriedir i ddatganoli ei wneud. Ac, fel y dywedodd Huw Irranca, meddyliais am sut y mae Cymru yn economi busnesau bach, a sut y mae angen i ni gynorthwyo busnesau bach, mewn ffordd sy'n wahanol iawn efallai i sut y gall busnesau gael eu cynorthwyo mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig.

A gaf i hefyd ddiolch i eraill a gymerodd ran yn y ddadl, wrth i mi edrych drwy fy nodiadau? Tynnodd Mark Isherwood sylw yn briodol at yr angen am gyflymder, o ran cymorth gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol—rhywbeth a amlygwyd, mewn tystiolaeth i'n pwyllgor ni, gan nifer o dystion. Ac roedd y sector gwyliau gosod hefyd yn rhywbeth a godwyd yn eithaf helaeth gyda'n pwyllgor, ac rydym wedi cynnwys hyn yn ein hadroddiad. Tynnodd Mark Isherwood sylw hefyd at y ffaith fod cymorth i'r diwydiant bysiau yn hanfodol, ac rydym yn dal i aros am gadarnhad gan Lywodraeth Cymru o ran manylion am lefel y cymorth tuag at y diwydiant bysiau. Ac, ers i'r adroddiad hwn gael ei gyhoeddi, rydym wedi codi'r mater hwn gyda'r Gweinidog ar wahân ers hynny.

Mae Helen Mary Jones, wrth gwrs, yn tynnu sylw ar y ffaith bod y cynllun hirdymor yn bwysig yn gyffredinol, ac yn nodi'n gywir y materion ynglŷn â'r broblem bosibl o ddiweithdra ymhlith pobl ifanc sydd, yn anffodus, ar y gorwel. Rhoddwyd tystiolaeth i ni gan yr Athro Keep, a rhoddodd y rhybudd moel i ni fod problemau enfawr ar y gorwel. Ac rwy'n credu bod y broblem o ran diweithdra ymhlith pobl ifanc yn rhywbeth a fydd yn arbennig o bwysig i waith ein pwyllgor ni wrth symud ymlaen.

David Rowlands—diolch i chi am eich cyfraniad. Fe wnaethoch chi dynnu sylw yn briodol at faterion yn ymwneud â'r angen am fwy o eglurder ynghylch y cronfeydd ffyniant cyffredin—mae hynny'n hollol iawn. Ac fe wnaethoch chi hefyd, David, gydnabod gwaith da Banc Datblygu Cymru a Busnes Cymru, ac rwy'n credu ein bod ni wedi cydnabod hynny yn ein hadroddiad. Mae hefyd yn iawn i ddweud ac i gofnodi diolch i'r holl staff sy'n gweithio yn y ddau sefydliad hynny, sydd, heb os, wedi bod o dan bwysau sylweddol yn y cyfnod diweddar.

Mae Alun Davies yn nodi'n gywir, wrth gwrs, mai'r bobl dlotaf yn aml sy'n cael eu taro yn ystod y pandemig arbennig hwn, ac mae'n sôn yn gywir am faint yr her. Rwy'n credu i chi gyfeirio at yr her fwyaf efallai ers datganoli hyd yn oed. Ond yr hyn a'm trawodd i oedd yr hyn a ddywedasoch chi, Alun, o ran adeiladu yn ôl yn well: i wneud hynny, mae angen i chi fod â rhywbeth i adeiladu arno.

A diolch i Joyce Watson am ei chyfraniad. Rwy'n credu bod Helen Mary Jones hefyd wedi tynnu sylw at y materion hyn o ran bod yn deg o ran ble mae cymorth yn cael ei dargedu. Rydym ni'n gwybod bod y diwydiant adeiladu a phrosiectau seilwaith yn aml yn canolbwyntio ar ddynion, ac mae gwaith gofal yn canolbwyntio ar fenywod, ac mae'n rhaid i ni fod yn deg ynghylch sut y caiff cymorth y Llywodraeth ei wastatáu.

Wrth edrych drwy fy nodiadau, rwy'n credu y dylwn i hefyd ddweud fy mod i'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am sicrhau bod ei ddyddiadur yn rhydd er mwyn iddo ddod i'r pwyllgor pan ein bod wedi gofyn iddo wneud hynny. Felly, diolch i'r Gweinidog am hynny. Roedd yn adroddiad eithaf cynhwysfawr. David Rowlands ddywedodd, rwy'n credu, bod gennym ni gyfanswm o 34 o argymhellion. Ond hoffwn ddiolch i'r holl dystion a roddodd dystiolaeth, ar lafar ac yn ysgrifenedig, i ni, a hoffwn nodi hefyd ein diolch am y gefnogaeth ardderchog gan dîm y pwyllgor a'r staff ymchwil, yn ogystal â'r gefnogaeth gan y timau TG a darlledu a'u cefnogaeth ehangach nhw hefyd, a roddodd gefnogaeth ardderchog i ni. Felly, a gaf i ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein dadl y prynhawn yma? Diolch yn fawr iawn. Diolch yn fawr.

17:15

Y cynnig yw i nodi yr adroddiad. Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Dwi ddim yn gweld nac yn clywed gwrthwynebiad, ac felly, mae’r cynnig wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

11. Dadl Plaid Cymru: Cwricwlwm Newydd Arfaethedig

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 3, 4 ac 8 yn enw Darren Millar, gwelliant 2 yn enw Rebecca Evans, a gwelliannau 5, 6 a 7 yn enw Neil McEvoy. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliannau 3 a 4 ei ddad-ddethol. 

Yr eitem nesaf o fusnes yw dadl Plaid Cymru ar y cwricwlwm newydd arfaethedig. Dwi'n galw ar Siân Gwenllian i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7342 Siân Gwenllian

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn datgan cefnogaeth gyffredinol i bwrpas y cwricwlwm newydd arfaethedig, sef galluogi dysgwyr i ddatblygu fel:

a) dysgwyr uchelgeisiol, galluog, sy'n barod i ddysgu gydol eu bywydau;

b) cyfranwyr mentrus, creadigol sy'n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith;

c) dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a'r byd; ac

d) unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

2. Yn cytuno bod cyflwyno’r cwricwlwm newydd yn cynnig cyfle hanesyddol i unioni sawl anghyfiawnder strwythurol yng Nghymru.

3. Yn croesawu cydnabyddiaeth Llywodraeth Cymru bod cyfrifoldeb ar lywodraeth gwlad i gymryd camau penodol i sicrhau bod y cwricwlwm yn gwarantu gwaelodlin o ddarpariaeth i bobl ifanc ar draws Cymru fel mater o hawliau dynol sylfaenol ac yn croesawu y bydd rhai elfennau o’r cwricwlwm newydd yn orfodol o ganlyniad.

4. Yn cytuno y dylai’r elfennau gorfodol o’r cwricwlwm gynnwys:

a) hanes pobl ddu a phobl o liw; a 

b) hanes Cymru.

5. Yn cytuno y dylai’r cwricwlwm newydd gefnogi pob dysgwr i fod yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg, ond nad oes angen i’r Saesneg gael ei chynnwys yn y rhestr o elfennau gorfodol er mwyn cyflawni’r nod hwn.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae’r misoedd diwethaf wedi gorfodi bob un ohonom ni i gymryd golwg o’r newydd ar yr hyn sydd bwysicaf i ni. Mae hefyd, yn anffodus, wedi amlygu’r anghyfiawnder a’r anghyfartaledd sydd wrth wraidd ein cymdeithas ni o hyd.

Cyn hir, mi fyddwn ni, fel deddfwrfa, yn ymgymryd â’r gwaith pwysig o graffu ar un o’r darnau pwysicaf o ddeddfwriaeth i ddod gerbron y Senedd yma yn ei hanes—deddfwriaeth fydd yn rhoi’r cyfle i ni fynd ati efo llechen lân am y tro cyntaf i ddeddfu i greu cwricwlwm addysg ysgolion pwrpasol i Gymru.

At ei gilydd, mae’r weledigaeth gyffredinol sy’n sail i gyflwyno’r cwricwlwm newydd yn un yr ydym ni ym Mhlaid Cymru yn cyd-fynd â hi. Mae’n cynnig cyfle i wireddu sawl uchelgais ac i gyflawni sawl nod clodwiw. Ar drothwy cyhoeddi’r Bil cwricwlwm ac asesu wythnos nesaf, mi oeddem ni’n teimlo y byddai hi'n amserol manteisio ar y cyfle heddiw i gael trafodaeth benodol ar y cyfleoedd fydd y ddeddfwriaeth yn ei chynnig i unioni anghyfiawnder ac i greu Cymru sy’n fwy cynhwysol i bawb.

Prynhawn yma, dwi am ganolbwyntio ar y tri pheth y mae angen i'r cwricwlwm newydd ei wneud. Mae yna fwy na thri pheth wrth gwrs, ac yn ystod taith y Bil drwy'r Senedd, bydd cyfle inni wyntyllu elfennau pwysig eraill, megis iechyd meddyliol a lles emosiynol. Ond dwi am roi ffocws heddiw ar dair elfen.

Yn gyntaf, rhaid i'r cwricwlwm newydd sicrhau bod y genhedlaeth nesaf o blant a phobl ifanc yng Nghymru yn dysgu am hanes pobl ddu a phobl o liw, er mwyn atal hiliaeth a hyrwyddo amrywiaeth ddiwylliannol. Yn ail, rhaid iddo fo warantu bod pob disgybl yn dysgu am hanes Cymru, er mwyn cael y cyfle i allu gweld y byd drwy ffenestr y wlad y maen nhw'n astudio ac yn byw ynddi hi. Ac yn drydydd, rhaid iddo fo ein symud ni at sefyllfa lle mae bod yn rhugl yn ein dwy iaith genedlaethol yn dod yn norm, nid yn eithriad, drwy sicrhau bod y cwricwlwm yn prysuro ac yn hwyluso twf addysg cyfrwng Cymraeg.

Mae'r Llywodraeth eisoes wedi derbyn bod yn rhaid gwneud rhai elfennau o'r cwricwlwm yn statudol mewn deddfwriaeth er mwyn gwarantu bod materion yn cael sylw haeddiannol ac yn cael eu cyflwyno i bob disgybl yn ddiwahân. Mae'n sefyll i reswm mai cyfrifoldeb llywodraeth gwlad ydy rhoi trefniadau cadarn ar waith mewn deddfwriaeth i ddiogelu plant. Ac mae'r Gweinidog i'w llongyfarch felly am ei phenderfyniad i sicrhau y bydd addysg rhyw a pherthnasau iach yn cael ei hystyried yn fater o hawliau dynol sylfaenol yng Nghymru yn y dyfodol.

Ond lle mae'r rhesymeg dros ddilyn trywydd cwbl wahanol gydag addysgu hanes pobl ddu a phobl o liw? Ble mae'r rhesymeg mewn peidio cymhwyso'r un ystyriaethau a'r un meini prawf i'r materion hyn hefyd? Fe glywais i'r barnwr Ray Singh yn dweud yn ddiweddar nad ydy'r drefn wirfoddol o ddysgu am y materion yma wedi gweithio ac, o ganlyniad, fod hanes pobl ddu a phobl o liw, yn ôl ei asesiad o, yn absennol o wersi ysgol i bob pwrpas. Rŵan, dwi yn prysuro i ddweud mai problem systematig ydy hon, ac nid bai ysgolion nac athrawon unigol, fel y cyfryw, ydy hyn.

Ond mae nifer o arbenigwyr yn y maes, gan gynnwys Cyngor Hil Cymru, wedi dadlau bod yn rhaid gwneud hanes BAME yn orfodol, fel rhan o hanes Cymru, yn ein hysgolion ni. A'r wythnos diwethaf, mi gawson ni'r dystiolaeth ddiweddaraf eto, mewn rhes o adroddiadau, o'r angen hwn. Ac yn yr adolygiad, a gomisiynwyd gan y Prif Weinidog, i ddeall effaith anghymesur COVID-19 ar bobl BAME yng Nghymru, fe gafwyd argymhellion pendant yn galw am weithredu, yn ddi-oed, i gynnwys hanes ac addysg BAME a'r Gymanwlad yng nghwricwlwm cenedlaethol Cymru 2022 ar gyfer disgyblion cynradd ac uwchradd.

Mae'r neges yn glir: mae'n rhaid i Lywodraeth fod wrth y llyw, yn gwneud popeth yn ei gallu i waredu hiliaeth o'n cymdeithas. Does bosib nag ydym ni yn mynd i ddirprwyo rhywbeth sydd mor allweddol i'n hymdrechion i waredu hiliaeth o'n cymdeithas i bob corff llywodraethol unigol, neu i weithgor dan oruchwyliaeth Estyn. Does bosib nad dyna'r ffordd fwyaf effeithiol o fynd o'i chwmpas hi. Mi fyddaf i, felly, yn erfyn ar yr Aelodau hynny sydd o'r un farn â mi i wrthod gwelliant y Llywodraeth yn enw Rebecca Evans. Gyda llaw, mi fyddwn ni yn gwrthod y gwelliannau eraill hefyd am eu bod nhw, yn ein barn ni, yn tynnu oddi ar brif neges ein cynnig ni. 

Mi ydwyf i, fel sawl un arall ar draws y Siambr, wedi sôn droeon am yr achos cryf sydd dros gynnwys hanes Cymru fel rhan neilltuol a statudol o'r cwricwlwm, yn ei holl ffurf ac yn ei holl amrywiaeth, wrth reswm. Felly, ni wnaf amlhau geiriau ynglŷn â hynny, dim ond i ddweud bod y drefn bresennol wedi methu â rhoi ffocws priodol ar hanes Cymru ac wedi gwadu cenedlaethau o blant rhag cael dealltwriaeth gyflawn am hanes ein gwlad ein hunain. Hawl pob person ifanc yng Nghymru ydy cael cyfle i allu dirnad a gwerthfawrogi'r byd o'n cwmpas drwy lens y genedl. A'n dyletswydd ni, fel Aelodau o brif gorff democrataidd Cymru, yw ei warantu. 

Ac i gloi, dwi am droi at y drydedd elfen gwnes i sôn amdani hi. Bydd y bwriad i wneud y Saesneg yn statudol ymhob cyfnod dysgu yn golygu bod pob disgybl hyd at saith oed yn derbyn addysg Saesneg yn awtomatig, oni bai fod llywodraethwyr yr ysgol yn optio allan fesul un. Bydd hefyd felly yn rhoi mwy o gyfrifoldeb i lywodraethwyr ysgolion dros bolisi iaith ysgolion unigol ac yn tanseilio rôl strategol awdurdodau lleol wrth gynllunio addysg Gymraeg, gan gynnwys yn y gorllewin, sydd wedi arwain y ffordd efo polisïau trochi iaith.

Byddai deddfu i wneud y Saesneg yn orfodol yn groes i'r gydnabyddiaeth sydd wedi datblygu a'i meithrin yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf yma, sef y gydnabyddiaeth yna nad maes chwarae gwastad ydy hi rhwng y Gymraeg a'r Saesneg. Er bod y ddwy ohonyn nhw, wrth gwrs, yn ieithoedd cenedlaethol, mae'r gefnogaeth a'r gynhaliaeth sydd eu hangen arnyn nhw yn dra gwahanol. Dwi'n croesawu'r gydnabyddiaeth honno yng ngwelliant y Ceidwadwyr, ond yn gresynu bod Llywodraeth Cymru yn methu'r pwynt efo hyn.

Fe ddylai'r cwricwlwm newydd fod o gymorth i siroedd Gwynedd, Môn, Ceredigion a sir Gâr, lle sefydlwyd y Gymraeg yn norm yn y cyfnod sylfaen, a chefnogi lledaenu'r arfer orau hwnnw yn ehangach ar draws y wlad. Ond yn hytrach, mae o'n peryglu hynny ac, efallai yn anfwriadol, mae yna berygl iddo fo gael ei danseilio.

I grynhoi, felly, Llywydd, mi ddylem ni, fel gwladwriaeth fod yn ymyrryd lle mae cryfhau cydraddoldeb a hawliau sylfaenol ein dinasyddion ni yn y cwestiwn. Fe ddylem ni ymyrryd lle mae'r status quo yn methu, ac mi ddylem ni ymyrryd lle mae'r dystiolaeth mor gryf y byddai'n esgeulus i ni beidio â gwneud hynny. Mae'n rhaid gweithredu ar lefel genedlaethol lle mae gwneud hynny yn greiddiol i greu newid yng Nghymru. Dwi'n edrych ymlaen i glywed y ddadl a chyfraniadau fy nghyd-seneddwyr ar y pwnc pwysig yma.

17:25

Dwi wedi dewis yr wyth gwelliant i'r cynnig. Os caiff gwelliant 2 ei gymeradwyo, yna bydd gwelliannau 3 a 4 yn cael eu dad-ddethol. Dwi'n galw ar Suzy Davies, felly, nawr i gynnig gwelliannau 1, 3, 4 ac 8 yn enw Darren Millar. Suzy Davies.

Gwelliant 1—Darren Millar

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn cytuno y gall y cwricwlwm newydd, os yw'n llwyddo yn ei amcanion, helpu i ddatblygu dinasyddion hyderus, sy'n gyd-gyfrifol, a fydd yn rhagweithiol wrth fynd i'r afael ag anghyfiawnder o bob ffynhonnell.

Gwelliant 3—Darren Millar

Ym mhwynt 4, dileu is-bwyntiau 4(a) a 4(b) a rhoi yn eu lle:

hanes Cymru; hanesion y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon; a hanesion rhannau eraill o'r byd, a bod:

(i) pob un o'r uchod i gynnwys hanes pobl dduon a phobl o liw; a

(ii) pob un o'r uchod yn cael eu rhoi mewn cyd-destun;

addysgu sgiliau achub bywyd, fel y nodwyd yn flaenoriaeth gan y Senedd Ieuenctid.

Gwelliant 4—Darren Millar

Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:

Yn cytuno y dylai'r cwricwlwm newydd gefnogi pob dysgwr i fod yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg, gan sicrhau bod cymorth ar gyfer dysgu Cymraeg yn ystyried yr effaith fanteisiol a geir eisoes yn sgil y ffaith bod dysgwyr o dan ddylanwad amgylcheddol amlycach i’r Saesneg.

Gwelliant 8—Darren Millar

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i ailystyried y dyddiad cychwyn ar gyfer gweithredu'r cwricwlwm newydd i ddarparu ar gyfer oedi wrth ei baratoi oherwydd Covid-19.

Cynigiwyd gwelliannau 1, 3, 4 ac 8.

Diolch, Llywydd, ac ydw, rwy'n cynnig y gwelliannau. A gaf i ddiolch i Blaid Cymru am ddod â'r ddadl hon gerbron? Mae'n bwnc mawr ac rwy'n gwerthfawrogi eu bod eisiau canolbwyntio ar un neu ddau o agweddau heddiw. Felly, rhestr gyflym fydd hon o rai o'r materion a godwyd gan y cynnig a'r gwelliannau. Ond rwy'n credu y gallwn ni nodi'r pethau sylfaenol wrth gefnogi pwyntiau 1 a 3, ac rwy'n gobeithio y caiff hynny ei dderbyn. 

Y cyfan y mae ein gwelliant cyntaf yn ei wneud mewn gwirionedd yw gofyn i'r Aelodau ystyried terfynau yr hyn y gallai 'anghyfiawnderau strwythurol' ei olygu. Cyfeiriodd Delyth Jewell at hyn mewn erthygl dros y penwythnos, ac efallai y byddwn yn canfod ein bod yn rhannu ei dadansoddiad—wn i ddim eto. Ond hoffwn i ni, hyd yn oed nawr, ddechrau meddwl am siarad y tu hwnt i'n perthynas â'r wladwriaeth, os mynnwch chi: gwrthsefyll y bwli; rhoi eich hun yn esgidiau pobl eraill; a dod yn fwy llythrennog yn emosiynol ac yn empathetig. Mae'r rhain o bwys mewn ffyrdd bach iawn—y pethau bychain—mewn rhyngweithio dynol bob dydd, yn rhan o'r glud cymdeithasol sy'n araf ddadlynu mewn cyfres gynyddol ddigidol o gydberthnasoedd yn ein bywydau, ac amgylchedd lle mae pobl yn ofni canlyniadau mynegi safbwyntiau gwahanol. Mae'r rhain yn fy nharo fel ysgogiadau cymdeithasol newydd, felly nid wyf yn siŵr a yw 'strwythurol' yn cyfleu hynny i gyd, oherwydd, fel chithau, rwyf innau eisiau gweld cenedlaethau o bobl ifanc yn meddwl am hyn ac yn ystyried ac efallai yn derbyn cyfrifoldeb i fod yn rhagweithiol ynghylch tegwch mewn gwahanol ffyrdd mewn bywyd bob dydd, ac nid dim ond y prif faterion neu drwy rym gwleidyddol.

Fe wnaethom gyflwyno ein gwelliant 4 fel y mae'r pwynt 4 gwreiddiol yn nodi fel pe byddai'r ddau hanes hyn—hanes Cymru a hanes pobl dduon a phobl o liw—yn annibynnol ar ei gilydd, a gwn nad dyna oedd y bwriad. Mae Plaid Cymru yn gwybod ein bod yn cytuno â'r ddau bwynt hyn. Ond mae'r cais hwn i roi cyd-destun yn fater pwysig iawn. Hynny yw, pa mor wirion yw hi y gallaf gael fy holi, yn gwbl ddifrifol, gan gyfaill ifanc, wrth weld bws deulawr yn Abertawe am y tro cyntaf, 'Ai dyna ble'r oedd y bobl dduon yn arfer eistedd?' Mae hyn yn Abertawe. Mae'r cwricwlwm hwn i fod i helpu i fagu ein plant fel meddylwyr beirniadol, datryswyr problemau, ac i ddeall nad oes byth un safbwynt ar unrhyw beth. Fel y trydarodd David Melding—gan sianelu ei 1066 and All That—:

Roedd Syr Thomas Picton yn ddyn drwg ac yn gadfridog penigamp.

Mae cymaint i'w ddeall yn yr un frawddeg honno, ond mae angen i chi archwilio cyd-destun i hyd yn oed ddechrau gwneud hynny, a dyna pam na ellir dysgu hanes Cymru ar wahân i hanes yr ynysoedd hyn yn arbennig, ond y byd yn fwy eang, na heb ddeall bod yr hyn a welwn ni neu'r hyn yr ydym ni'n credu a welwn ni yn ein straeon yn digwydd oherwydd yr hyn a ddigwyddodd o'r blaen neu'r hyn sy'n digwydd mewn mannau eraill.

Nawr, rwyf wedi cynnwys addysgu sgiliau achub bywyd yn y fan yma yn rhan orfodol o'r cwricwlwm, yn rhannol oherwydd bod y syniad wedi cael cefnogaeth drawsbleidiol yn y Cynulliad diwethaf, gan gynnwys gan y Gweinidog pan oedd hi yn yr wrthblaid, ac ar gyfer fy nghynigion deddfwriaethol, a gafodd gefnogaeth drawsbleidiol yn y Senedd/Cynulliad hwn, ond yn bennaf oherwydd bod sgiliau achub bywyd wedi cyrraedd brig arolwg ein Senedd Ieuenctid ni ein hunain o sgiliau bywyd, a rheoli straen yn ail. Felly, hwn yw eu blaenoriaeth o ran sgiliau bywyd.

O ran gwelliant 5, rydym ni'n troedio'n ofalus yn y fan yma gan nad ydym ni wedi gweld y Bil hyd yn hyn ac nid ydym ni'n gwybod beth fydd yn ei ddweud am y pwynt a wnaeth Plaid Cymru. Ond mae Siân yn iawn—mae'n amlwg iawn y bydd ein plant yn agored i fwy o ddylanwadwyr o Loegr ac, os ydym ni o ddifrif am ddwyieithrwydd, mae'n rhaid i'r modd y caiff y Gymraeg ei haddysgu gydnabod a darparu ar gyfer hynny, ond mae ein hieithoedd yn gydradd o dan y gyfraith ac mae'r Bil yn ddarn o gyfraith.

Rydym ni'n cefnogi gwelliant 5 a gwelliant 6, sy'n cyd-fynd mor dda â'n polisi tairieithog hirsefydlog ein hunain ar gyfer Cymru.

Mae'n anodd anghytuno â gwelliant 7 ond mae'n anodd ei gyflawni pan fo recriwtio athrawon yn destun pryder mawr.

Felly, yn olaf, at welliant 8, gwahoddodd y Ceidwadwyr Cymreig farn pob ysgol yng Nghymru ynghylch effaith y cyfyngiadau symud ar baratoadau ar gyfer y cwricwlwm, ac mae'r prif ganfyddiadau'n eithaf llwm: dywedodd ychydig o dan hanner yr ysgolion nad oedden nhw'n gwneud unrhyw waith datblygu o gwbl, ac roedd y gweddill yn gwneud dim ond ychydig. Dywedodd saith deg chwech y cant o athrawon wrthym fod y cyfnod hwn yn cael effaith negyddol ar eu paratoi, a'r holl waith a gynlluniwyd ar gyfer yr haf wedi'i ganslo, a, phan ofynnwyd y cwestiwn agored iddyn nhw, 'Pa gefnogaeth y gallai Llywodraeth Cymru ei chynnig ar hyn o bryd i gefnogi eich gwaith datblygu cwricwlwm?', ymateb y mwyafrif, o bell ffordd, oedd, 'Gohirio ei weithredu'—nid ei gyflwyno ond ei weithredu. Mae cynlluniau arweinyddion i dreialu'r cwricwlwm hwn dros gyfnod o flwyddyn wedi'u chwalu ac maen nhw wedi mynd oherwydd COVID, ac mae athrawon eisiau'r cwricwlwm ac maen nhw eisiau ei wneud yn dda. Felly, maen nhw eisiau gwneud cyfiawnder â'ch polisi, yn y bôn, Gweinidog, ac felly, wrth wrando ar y ddadl hon heddiw, rwy'n gobeithio y byddwch chi'n clywed yr alwad hon ac yn rhoi arwydd heddiw eich bod yn gwrando. Diolch.

17:30

Galwaf ar y Gweinidog Addysg i gynnig gwelliant 2 yn ffurfiol, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans.

Gwelliant 2—Rebecca Evans

Dileu pwyntiau 4 a 5 a rhoi yn eu lle:

Yn cydnabod bod canllawiau Dyniaethau y Cwricwlwm Newydd i Gymru yn 'hyrwyddo dealltwriaeth o’r amrywiaeth ethnig a diwylliannol yng Nghymru' ac yn 'galluogi dysgwyr i ymroi i weithredu cymdeithasol fel dinasyddion cyfranogol, gofalgar o’u cymunedau lleol, cenedlaethol a byd-eang.'

Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i:

a) gweithio gydag Estyn er mwyn sicrhau bod eu hadolygiad o hanes Cymru yn rhoi ystyriaeth lawn i hanes, hunaniaeth a diwylliant pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig Cymru a thu hwnt, a

b) sefydlu gweithgor i oruchwylio’r gwaith o ddatblygu adnoddau dysgu, ac adnabod bylchau yn yr adnoddau neu’r hyfforddiant presennol yn ymwneud â chymunedau, cyfraniadau a phrofiadau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.

Yn cytuno y dylai’r cwricwlwm newydd gefnogi pob dysgwr i ddysgu Cymraeg a Saesneg.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch. Galwaf ar Neil McEvoy i gynnig gwelliannau 5, 6 a 7, a gyflwynwyd ganddo fe.

Gwelliant 5—Neil McEvoy

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y cwricwlwm yn darparu ar gyfer dysgu Cymraeg a bod hyn yn cael ei ategu gan fuddsoddiad i sicrhau bod cyrsiau trochi dwys yn y Gymraeg ar gael yn rhwydd i athrawon a disgyblion fel ei gilydd.  

Gwelliant 6—Neil McEvoy

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar y cwricwlwm newydd i sicrhau bod pob disgybl yn dysgu iaith dramor fodern o flwyddyn 1 yn yr ysgol.

Gwelliant 7—Neil McEvoy

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu mai'r ffordd orau o roi'r cwricwlwm newydd ar waith yn llwyddiannus yw drwy leihau maint dosbarthiadau i lai na 20 o ddisgyblion.

Cynigiwyd gwelliannau 5, 6 a 7.

Diolch, Llywydd. Miliwn o siaradwyr erbyn 2050: felly, sut ydym ni am wneud hynny? Yr unig ffordd yw trwy fuddsoddi yn radical ac yn drawsnewidiol yn yr iaith Gymraeg.

Y Gymraeg ydy'r pedwerydd iaith i mi ei dysgu, a'r unig ffordd i ddysgu iaith yw trochi.

Felly, Cymraeg yw'r bedwaredd iaith yr wyf i wedi'i dysgu, a'r unig ffordd o wneud hynny yw drwy drochi, mewn gwirionedd. Dylai cyrsiau trochi fod ar gael yn rhad ac am ddim i bawb: i ddisgyblion, i athrawon, er mwyn i athrawon allu gwella eu sgiliau. Fel arall, dydw i ddim wir yn ein gweld ni'n cyrraedd y targed. Mae angen i ni ddatblygu sylfeini sgiliau. Os edrychwn ni, efallai, ar ffoaduriaid, maen nhw'n dod i Gymru ac mae nhw'n cael gwersi Saesneg am ddim. Wel, fe ddylen nhw gael eu dysgu i siarad Cymraeg hefyd am ein bod ni'n byw yng Nghymru.

Mae'r gwelliant nesaf, gwelliant 6, yn sôn am ieithoedd tramor modern a dylem ni, mewn gwirionedd, fod yn addysgu ieithoedd o flwyddyn 1 ymlaen. Nid oes unrhyw esgus. Unwaith eto, mae angen i ni wella sgiliau staff er mwyn gallu gwneud hynny. Yn yr Iseldiroedd ac ym mhob cwr o'r byd—llawer o leoedd—mae'n gyffredin iawn i bobl fod yn amlieithog drwy eu systemau addysg. Rwy'n cofio mynd i Sbaen a gwylio plant saith oed yn gwneud daearyddiaeth trwy gyfrwng y Saesneg. Roedd yn ddiddorol iawn.

O ran maint dosbarthiadau, crybwyllodd y siaradwr diwethaf hyn, ond yr hyn yr wyf i eisiau ei wneud a'r hyn y mae'r Welsh National Party eisiau ei wneud yw rhoi dosbarthiadau llai yn ôl ar yr agenda. Fel cyn-athro, rwy'n gwybod am yr effaith enfawr a'r gwahaniaeth anferth, yn fwy diwylliannol yn yr ystafell ddosbarth, mewn gwirionedd, ac yn enwedig gyda gwell cydberthnasoedd, pan eich bod yn addysgu dosbarthiadau o lai nag 20, ac rwy'n credu y dylem ni fod â'r nod hwnnw.

Rwy'n clicio ar y sgrin nawr i'r cynnig ei hun, ac rwy'n difaru na wnes i wella hwn, mewn gwirionedd, oherwydd os edrychwch chi ar bwynt 4, mae gennych chi

'a) hanes pobl dduon a phobl o liw; a

b) hanes Cymru'

a'r trafferthion—. Mae siaradwyr wedi sôn am y gymuned BAME. Wel, du, brown, mae pobl o liw yn rhan o hanes Cymru. Ni yw Hanes Cymru. Rydym ni'n helpu i'w wneud, ac rwy'n credu bod yna ganlyniadau anfwriadol difrifol, neu gallai fod canlyniadau anfwriadol difrifol, gyda geiriad y cynnig. Efallai y dylwn i fod wedi ychwanegu 'yn rhan o', ond wnes i ddim, ond byddai'n dda gennyf pe bawn i wedi gwneud hynny nawr. Rwy'n cofio bod mewn cyfarfod unwaith gyda Betty Campbell, a chafodd hi ei labelu yn 'BME', ac fe ddywedodd Betty, 'I ain't no BME. I'm Welsh.' Ac rwy'n credu na ddylem ni byth, byth anghofio hynny. Rwyf i'n uniaethu fel Cymro a, digwydd bod, mae gen i groen brown, a'r hyn yr wyf i eisiau ei weld yw hanes cwbl gynhwysol o Gymru, lle byddwn yn dysgu yn awtomatig am bob cymuned sydd yn ffurfio ein gwlad, a, phan fydd fy mab yn tyfu i fyny, rwyf eisiau iddo ddysgu am Llywelyn Ein Llyw Olaf, rwyf eisiau iddo ddysgu am Sycharth a llys Owain Glyndŵr, rwyf eisiau iddo ddysgu am y cestyll, a Dolbadarn, er enghraifft, ac am Dŷ Morgan, ac nid dim ond Brwydr Hastings, y Magna Carta, a Harri'r VIII.

Gadewch i ni fynd yn ôl eto at y mater o hil, oherwydd rwy'n credu os ydym ni'n mynd i fynd i'r afael o ddifrif â'r mater o hil, yna mae angen i ni fynd i'r afael â'r mater yn sefydliadol. Edrychwch ar y BBC, a gofynnwch i unrhyw un allan yna sawl newyddiadurwr o liw y maen nhw'n ei weld yng Nghymru? Sawl newyddiadurwr o liw y maen nhw'n eu derbyn ar eu rhaglenni hyfforddi? Faint o fenywod, o ran hynny? Faint o bobl anabl? Wel, mae'r BBC yn teimlo cymaint o gywilydd, dydyn nhw ddim hyd yn oed yn fodlon dweud, oherwydd rwyf wedi gofyn, ond wnawn nhw ddim rhyddhau’r ffigurau, mae'n debyg oherwydd eu bod nhw mor gywilyddus.

Os edrychwn ni ar y Senedd ei hun, yn ystod y cyfyngiadau symud, os oeddech chi yn AS o liw, roeddech chi hanner mor debygol o gael eich dewis i ofyn cwestiwn i'r Prif Weinidog o'i gymharu ag Aelod gwyn. Nawr, mae'r rhain yn faterion sefydliadol o wahaniaethu y mae'n rhaid i'r sefydliad fynd i'r afael â nhw, oherwydd nid ydyn nhw'n cael sylw. Rwy'n credu mai'r hyn y mae angen i ni siarad amdano, mewn gwirionedd, hefyd, yw'r rhwystrau sy'n dal i fod yno, yn atal pobl o liw rhag bod yn rhan o hanes Cymru.

Dim ond i ailadrodd, ni fydd gennym ni byth, erbyn 2050, wlad sydd â miliwn o siaradwyr Cymraeg, lle gall pobl sgwrsio yn Gymraeg neu yn Saesneg, nes bod y cyrsiau trochi hynny gennym. Mae'n beth gwirioneddol sylfaenol. Os bydd unrhyw un yn pleidleisio yn ei erbyn, mae'n sefyllfa frawychus, mewn gwirionedd, oherwydd nid wyf yn gweld sut y gall unrhyw un bleidleisio'n ddifrifol yn erbyn dosbarthiadau cyn-trochi yn y Gymraeg i bobl sy'n byw yng Nghymru. Dyma ein hawl ni, a dylai fod yno'n barod.

Mae angen i ni wella sgiliau pobl. Byddai'r economi yn llawer mwy ystwyth, yn llawer mwy abl i lwyddo pe byddai gennym ni sgiliau iaith gwell. Ac, wrth gwrs, y pwynt olaf yn y fan yna ar faint dosbarthiadau: mae angen i ni ddechrau trafod lleihau maint dosbarthiadau hyd nes y cawn ni'r ffigwr o dan 20. Felly, dyna fy ngwelliannau i, a diolch yn fawr.

17:35

Does dim amheuaeth bod dysgu ein hanes ni i gyd yn gymaint gwell heddiw nag y bu yn y gorffennol, ac mae arferion addysgu gwych yn digwydd ar hyd a lled y wlad. Y broblem i ni yw nad yw'n gyson. Gallwn ni sicrhau bod yr arfer gorau hwnnw yn gallu bod o fudd i bob plentyn, ble bynnag y mae'n byw. Gyda datblygiad y cwricwlwm newydd, mae gennym ni gyfle i ymuno â'r rhai hynny sydd ar y blaen ym maes addysg flaengar ac addysgu ystod ehangach o hanes i bob disgybl, gan gynnwys hanes Cymru, a ddylai gynnwys hanes pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru ac o Gymru, oherwydd, yn syml iawn, yr hanes hwnnw yw hanes Cymru. Ac rwyf eisiau gweld hanes yn cael ei addysgu o safbwynt menywod a'r dosbarth gweithiol, hefyd. Pan ddaw i hanes, mae'n rhaid i ni gynnwys y cyfan i gyd—y da, y drwg a'r hyll. Mae angen i ni siarad am ymerodraeth, mae angen i ni siarad am gysylltiadau Castell Penrhyn â phlanhigfeydd yn Jamaica, y gwaith copr yn Nyffryn Maesglas yn Nhreffynnon a gynhyrchodd freichledau a ddefnyddiwyd i brynu caethweision, neu deulu Grenfell Abertawe, a fu'n ymwneud yn ddwfn â'r fasnach gaethweision yn El Cobre, Ciwba. Mae angen i ni siarad am gyfraniad cadarnhaol ein cymunedau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Mae gwyngalchu etifeddiaeth ddiwydiannol Cymru drwy hepgor cyfraniad cymuned unigryw Tiger Bay yn golygu bod yr anwybodaeth yn parhau. Mae'r morwyr a'r gweithwyr o dros 50 o wledydd a ymsefydlodd yn y gymuned o ganlyniad i'r dociau prysur yn ganolog i ddatblygiad de diwydiannol Cymru. Ond er cymaint y mae hwn yn fater o gynrychiolaeth, mae hefyd yn fater o amddiffyn grwpiau lleiafrifol yng Nghymru. Yn yr un modd â phenderfyniad y Gweinidog i wneud addysg rhyw a pherthnasoedd yn statudol, mae hyn hefyd yn ymwneud â diogelu pobl a deall lleiafrifoedd. Bydd yn cynnig cyfleoedd i herio hiliaeth a senoffobia, ac, fel y dengys gwaith diweddar yr ymgyrch Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth, mae hynny'n hanfodol.

Wrth i hiliaeth a gwahaniaethu ar sail crefydd dyfu mewn ysgolion, gallwn hefyd weld yr effeithiau yn ein system cyfiawnder troseddol. Oni fyddai mwy o ddealltwriaeth yn gwneud gwahaniaeth i achosion drwg-enwog fel un Tri Caerdydd: tri dyn du a gafwyd yn euog yn anghyfiawn o lofruddiaeth yn 1987, yn union ar garreg drws y Senedd? Fe'i hadnabyddir fel un o'r achosion gwaethaf o anghyfiawnder yn hanes system cyfiawnder troseddol Prydain, ac eto nid yw'r gynrychiolaeth anghymesur o bobl dduon ym mhoblogaeth ein carchardai, y tangynrychiolaeth o bobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig mewn swyddi o awdurdod, a thriniaeth wael pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig gan yr heddlu mewn gormod o achosion wedi'u cyfyngu i hanes. Mae'r ystadegau'n dangos faint o broblem yw hyn o hyd heddiw. Gallai ymwreiddio gwrth-hiliaeth yn y cwricwlwm fod yn un cam bach ond arwyddocaol i'w gymryd i ddileu gwahaniaethu systemig a strwythurol yng Nghymru. Mae'n ddyletswydd ar ein deddfwrfa a'n Llywodraeth i sicrhau y caiff ei ymgorffori yn y gyfraith.

Ni allwn ddiystyru elfennau anghyfforddus ein hanes nac, yn wir, ein presennol, dim ond oherwydd y gallen nhw wneud i ni deimlo'n lletchwith. Bydd bod yn onest, yn agored ac yn barod i wrando, herio a chymryd camau i newid sefyllfa pobl sy'n wynebu gwahaniaethu yn ein gwneud ni, fel cenedl, yn fwy ymwybodol o elfennau o ragfarn ac anghydraddoldeb yn ein cymdeithas a'n cymunedau, y mae angen eu hunioni. Mae Plaid Cymru yn credu bod y cwricwlwm newydd hwn yn cynnig cyfle i ni unioni llawer o anghyfiawnderau strwythurol yng Nghymru, ac rwy'n gobeithio na chaiff y cyfle ei golli.  

17:40

Rwy'n cefnogi gwelliant 2, fel y'i cyflwynwyd gan Rebecca Evans, ac yn arbennig fel yr Aelod o'r Senedd dros Islwyn, rwy'n cefnogi ei dymuniad i fewnosod,

'yn cytuno y dylai'r cwricwlwm newydd gefnogi pob dysgwr i ddysgu Cymraeg a Saesneg.'

Mae Cymru yn wlad sy'n falch o fod yn amlieithog yn hanesyddol gan gynnwys nifer o ieithoedd o bob cwr o'r Gymanwlad a thu hwnt. Yn ôl y gyfraith, rydym ni'n wlad ddwyieithog, gyda'r Gymraeg a'r Saesneg yn mwynhau statws cyfartal, ond mae llawer o'n plant ysgol yn siarad llawer mwy o ieithoedd, ac yn fy hyfforddiant athrawon i ac addysgu ehangach bu'n fraint fawr i mi gael ysgolion profiadol gyda thros 34 o ieithoedd yn cael eu siarad a'r tapestri cyfoethog o fudd diwylliannol sydd wedi plethu o fewn yr ysgolion. O ran cymunedau Islwyn, ein hymagwedd gynhwysol ni sydd o fudd i bob un o'n cymunedau ac sy'n ein gwneud yn genedl y Cymry fel yr ydym ni. Mae'r mwyafrif o'm hetholwyr yn Islwyn yn ddinasyddion Cymru balch sy'n siarad Saesneg yn rhugl, gyda sylfaen Gymraeg fywiog sy'n tyfu ac yn cael ei chefnogi gan ein Llywodraeth Lafur yng Nghymru. Y tapestri hwn o ddewisiadau yr ydym yn ei werthfawrogi er mwyn cynnal y cydraddoldeb yr ydym yn ei goleddu mewn addysg.  

Felly, mae'n wirioneddol siomedig i mi weld Plaid Cymru yn ôl pob golwg yn creu rhaniad gyda'r haeriad pryfoclyd nad oes angen cynnwys y Saesneg yn y rhestr o elfennau gorfodol er mwyn cyrraedd y nod bod pob dysgwr yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg. Yn hytrach, mae hyn yn teimlo fel agwedd braidd yn unllygeidiog ac yn un sy'n peri rhwyg ac rwyf hefyd yn cytuno'n llwyr â gwelliant 2 lle mae'n datgan:

'Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i:

'a) weithio gydag Estyn i sicrhau bod ei adolygiad o hanes Cymru yn rhoi ystyriaeth lawn i... hanes, hunaniaeth a diwylliant pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig; a

'b) sefydlu gweithgor i oruchwylio'r gwaith o ddatblygu adnoddau dysgu, a nodi bylchau mewn adnoddau neu hyfforddiant presennol sy'n gysylltiedig â chymunedau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, eu cyfraniadau a'u profiadau.'

Mae'r ymgyrch Mae Bywydau Du o Bwys wedi bod yn ddatblygiad trasig yn ogystal ag yn ddatblygiad y mae ei angen o hyd yn anffodus, i barhau i godi ymwybyddiaeth ledled ein byd ac wedi'i ail-bwysleisio yn ddychrynllyd, yn anhygoel yr wythnos diwethaf, gan farwolaeth wrthun, arswydus dwy chwaer ddu, yr honnir nad yw wedi'i flaenoriaethu a thynnwyd hunluniau ohonynt yn farw gan swyddogion yr Heddlu Metropolitan.

Yng Nghymru, rydym ni ein hunain yn gwybod, er gwaethaf ein hethos cryf a'n his-adran polisi yn seiliedig ar gydraddoldeb, fod llawer i'w wneud o hyd ar draws cymdeithas. Ni fyddwn yn rhoi'r gorau iddi, fel Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth ac eraill, gymryd camau breision i ddileu hiliaeth a rhagfarn, oherwydd mae'n rhan o'n DNA. Yn wir, yn neuadd prifddinas Cymru, cafwyd dadl gyhoeddus sydd wedi bod yn amlwg iawn am briodoldeb un o'r cerfluniau yn ei neuadd farmor—neuadd sydd wedi'i haddurno â cherfluniau o arwyr Cymru y pleidleisiwyd drostynt gan y cyhoedd yng Nghymru yn yr ugeinfed ganrif. Mae cerflun Syr Thomas Picton o Hwlffordd, a fu farw yn Waterloo, bellach yn cael ei gondemnio am greulondeb: perchennog caethweision a llywodraethwr trefedigaethol yn Trinidad. Mae'r un cerflun hwnnw, sy'n eistedd mewn neuadd farmor yn cynnwys arwyr gwrywaidd Cymru, yn ymgorffori ac yn wirioneddol ymgnawdoli sut mae pethau yn newid dros amser—agweddau ag arlliw penodol, sy'n aml yn anodd o'n hanes ar y cyd i'w wynebu, o gam-drin hiliol a rhagfarn, y mae dyletswydd arnom ni, fel cenedl o Gymry gyda'n gilydd, i addysgu cenedlaethau'r dyfodol amdanyn nhw.

Rwy'n gwbl ffyddiog y bydd y cwricwlwm newydd arfaethedig i Gymru, ôl-COVID, a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru, yn dapestri cyfoethog, bywiog, gwerthfawr, wedi'i blethu'n hyderus, er mwyn sicrhau ein bod yn datblygu ein hadnodd mwyaf gwerthfawr—dinasyddion hunanhyderus, medrus, meddylgar a deallus yn emosiynol ar gyfer Cymru a'n byd. Diolch.

17:45

Ers datganoli, mae ystadegau wedi dangos bod system addysg Cymru, a oedd unwaith yn destun eiddigedd i lawer, wedi dod yn—ac nid wyf yn gwneud unrhyw esgus dros ddefnyddio'r ymadrodd ystrydebol hwn—ras i'r gwaelod. Gallwn felly ddeall awydd y Gweinidog addysg presennol i wella'n sylweddol safon yr addysg sy'n cael ei gyflawni ar hyn o bryd yn ysgolion Cymru, ac mae'n wir i ddweud na ellir gwadu'r dycnwch na'r ymrwymiad llwyr y mae hi'n eu harddangos yn ei swydd. Ond mae'n rhaid i rywun ofyn: ai'r cwricwlwm newydd—yn wir, a yw'n gwricwlwm newydd arall neu a ddylem ni ei alw'n modus operandi—yw'r ateb? Mae hyn yn arbennig o wir os yw'n seiliedig mewn unrhyw ffordd ar egwyddorion Donaldson.

Teimlaf fod cyfiawnhad i ni ofyn y cwestiwn hwn, o gofio bod yr un egwyddorion wedi'u cymhwyso i addysg yr Alban a'u bod wedi difetha yr hyn a oedd unwaith yn yn fodel addysgol mawr ei glod. Ceir barn eang fod safonau addysgol yn yr Alban wedi dirywio'n aruthrol dros y degawd diwethaf. Mae un o arbenigwyr addysg mwyaf blaenllaw yr Alban, yr Athro Lindsay Paterson o Brifysgol Caeredin, yn eithaf deifiol o'r hyn a elwir y cwricwlwm ar gyfer rhagoriaeth, a gyflwynwyd yn yr Alban yn 2010. Dywed ei fod wedi bod yn drychineb i gyrhaeddiad addysgol oherwydd ei fod yn ddiffygiol o ran manylrwydd academaidd a'i fod yn gorsymleiddio'r cwricwlwm yn gyffredinol. Yr hyn sy'n peri'r pryder mwyaf yw ei fod hefyd yn tynnu sylw at y ffaith ei fod wedi arwain at fwy o anghydraddoldeb addysgol.

Yng Nghymru, mae rhoi'r gorau i'r TASau a thablau cynghrair ysgolion, yn fy marn i, wedi gorsymleiddio addysg. Sut gallwn ni fod yn sicr bod ein disgyblion yn cael eu haddysgu'n dda ac yn cyrraedd y lefelau a ddisgwylir os nad oes gennym brofion rheolaidd? Roedd yna adeg pan oedd profion llawn ym mhob pwnc ar ddiwedd pob tymor ysgol. Oedden, roedden nhw'n cael eu gosod a'u marcio'n fewnol, ond roedden nhw'n ffordd effeithiol iawn o fesur cyflawniadau plentyn.

Ers datganoli, rydym ni wedi gweld Gweinidog ar ôl Gweinidog, a chyda phob newid mae cyfres newydd o bolisïau wedi eu cyflwyno. Beth fu canlyniad y newidiadau hyn? Mwy o ysgolion yn destun mesurau arbennig nag erioed o'r blaen ac, ar wahân i rai eithriadau, cyflawniad academaidd is flwyddyn ar ôl blwyddyn. Yn wir, yn Nhorfaen, mae hyd yn oed yr adran addysgol ei hun wedi bod yn destun mesurau arbennig. Credaf fod pawb yn y Siambr hon yn cytuno bod yn rhaid i bethau newid. Ond, o gofio y gallai gymryd dros ddegawd i ganlyniadau gwirioneddol y cwricwlwm newydd hwn ddod i rym, mentro ar hap ydym ni mewn gwirionedd gyda chenedlaethau'r dyfodol. Gadewch i ni obeithio na fydd yn ailadrodd y polisi trychinebus hwnnw a gyflwynwyd gan gyn-Brif Weinidog anwybodus, a fynnodd mai'r hyn yr oedd y wlad ei angen oedd 50 y cant o'i phoblogaeth i gael addysg prifysgol; polisi a arweiniodd at ddau ddegawd o gefnu mwy neu lai ar addysg alwedigaethol, lle'r oedd cyn-golegau technegol, a oedd, gan fwyaf, wedi darparu cyfleuster hyfforddi rhagorol ar gyfer sgiliau galwedigaethol, yn cael eu troi'n brifysgolion ar gyfer unrhyw beth heblaw am addysg alwedigaethol.

Gweinidog, rwyf yn gobeithio'n ddiffuant y bydd y mesurau yr ydych yn eu rhoi ar waith yn achubiaeth i'r system addysg yng Nghymru, oherwydd ni allwn fforddio siomi cenedlaethau'r dyfodol am ddau ddegawd arall. Bydd dyfodol economi Cymru yn dibynnu ar y sgiliau y bydd pobl ifanc yn eu meithrin. Credaf fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud ymrwymiad gwirioneddol i wella ansawdd addysg bellach ac addysg uwch, yn enwedig o ran mynd i'r afael â phrentisiaethau galwedigaethol. Gobeithiaf y bydd sylfaen y sefydliadau addysg hyn, rhaglen addysgol yr ysgolion, yn arfogi ein pobl ifanc yn ddigonol ar gyfer y ddau sefydliad hyn.

17:50

'Education is...the soul of a society as it passes from one generation to another.'

Geiriau G.K. Chesterton yw'r rhain, ac maen nhw'n wir: dylai'r gwersi yr ydym yn eu dysgu i'n plant a'n pobl ifanc adlewyrchu gwerthoedd ein cymdeithas, a dylen nhw fod wedi'u gwreiddio yn straeon ein gorffennol—y da a'r drwg.

Er bod llawer y mae Plaid Cymru yn ei groesawu yn y cwricwlwm newydd, rydym ni'n teimlo'n angerddol y dylai'r ffordd y caiff hanes ei addysgu gynnwys elfen orfodol sy'n ystyried adegau allweddol yn hanes ein cenedl. Os nad yw pob plentyn yng Nghymru yn dysgu am yr adegau hyn, gallem amddifadu cenedlaethau o bobl ifanc a'u hatal rhag cael synnwyr o'u hunaniaeth eu hunain. Mae hynny mor wir am ddigwyddiadau fel boddi Capel Celyn a Therfysg Merthyr ag y mae am hanes Tiger Bay a therfysgoedd hil 1919.

Mae'r cynlluniau presennol yn seiliedig ar addysgu plant am eu hanes lleol. Rwyf yn croesawu hynny. Ond mae angen i ni gofio hefyd nad oes y fath beth â hanes lleol yn unig; hanes heb unrhyw gysylltiad â'r cyd-destun cenedlaethol neu ryngwladol ehangach. Yn ogystal â dysgu am ein hanes brodorol, dylai'r cwricwlwm newydd gwmpasu'r rhan y mae Cymru wedi'i chwarae yn hanes y byd. Defnyddiwyd y glo a gollodd waed cymaint o lowyr yn Senghennydd ac Abertyleri i bweru peiriannau'r ymerodraeth, ac fe dreiddiodd caethwasiaeth i ewynnau cymdeithas Cymru hefyd. Fe wyddom, er enghraifft, bod teulu Pennant, perchnogion ystâd Penrhyn, hefyd yn berchenogion ar un o'r ystadau mwyaf yn Jamaica, ac mae peth o'r elw a ddeilliodd yn uniongyrchol o gaethwasiaeth wedi ei fuddsoddi yn seilwaith Cymru.

Mae cysgodion mwy diweddar hefyd yn achos pryder. Yr wythnos hon, cafodd y murlun 'Cofiwch Dryweryn' ger Aberystwyth ei fandaleiddio gyda swastika a symbol  pŵer gwyn. Fe baentiwyd drostynt yn gyflym, gan roi neges brydlon nad oes croeso i hiliaeth na chasineb yn ein cymunedau, ond ni allwn ychwaith anwybyddu'r ffaith fod y symbolau atgas hynny wedi eu paentio yno yn y lle cyntaf. Mae angen i ni ddysgu plant am agweddau mwy hyll ein hanes er mwyn sicrhau nad yw pethau o'r fath yn digwydd. 

Ond, ceir hefyd gymaint o straeon o ddewrder ac amrywiaeth gydnerth wedi'u canoli ar gymunedau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig Cymru. Nid straeon am ormes yn unig yw'r rhain. Dylai ein plant ddysgu am bobl cymunedau fyrdd sy'n ffurfio Cymru ac sydd wedi chwarae rhannau allweddol ym mhenodau ein hanes cyffredin. Oherwydd caiff pwy ydym ni ei ffurfio gan bwy oeddem ni a'u lunio gan y gwersi yr ydym ni wedi eu dysgu a rhai o'r gwersi yr ydym eto i'w dysgu.

Mae cymaint i blant Cymru ymfalchïo ynddo, cymaint i lefain drosto, cymaint i deimlo edifeirwch amdano. Ond, eu straeon nhw ydy'r rhain i gyd, ac er mwyn dysgu o'n hanesion ni fel cenedl mae'n rhaid i blant Cymru ddeall haenau yr hanesion hynny. Wedi'r cwbl, mae'r gair 'Cymru' yn golygu plethiant, cymysgedd, pobl yn byw gyda'i gilydd. Palimpsest o straeon amryw, amryliw ydyn ni oll. Ac os ydyn ni, fel deddfwriaethwyr, am ddysgu gwers arall o hanes ein gwlad, pwysigrwydd a bregusrwydd tynged yr iaith ydy'r wers honno.

Gwnes i ddechrau'r araith fer hon gyda geiriau G.K. Chesterton oedd yn dweud mai enaid cenedl yw ei addysg. Wel, os taw addysg yw ein henaid, ein calon ydy ein hiaith. Fel mae’r hen ddihareb yn dweud,  'cenedl heb iaith, cenedl heb galon'. Dyna'n hetifeddiaeth. Os ydyn ni am weld twf yn y Gymraeg ac nid llithro nôl, mae angen inni ddiogelu statws yr iaith yn ein cwricwlwm. Mae gosod addysg cyfrwng Saesneg fel yr opsiwn rhagosodedig i blant hyd at 7 mlwydd oed yn gam niweidiol sy’n groes i bolisi'r Llywodraeth o hybu'r iaith. Ac os bydd gan fyrddau llywodraethwyr unigol y pŵer i wneud penderfyniadau ar y cwricwlwm, gall hyn arwain at amddifadu rhai disgyblion rhag cael y cyfle i ddysgu'r iaith.

Mae angen arweiniad cenedlaethol ar addysg genedlaethol. Os bydd yr iaith yn cael ei cholli, bydd colled i bob un ohonom ni, nage dim ond y rhai sy'n siarad Cymraeg, ac ni ddaw hi nôl. Felly, rwyf yn erfyn ar y Llywodraeth: byddwch yn wyliadwrus; cefnogwch ein cynnig; cefnogwch blant Cymru; a chefnogwch ein hiaith.

17:55

Mae'n rhaid i mi ddweud bod iaith Siân Gwenllian wedi fy anesmwytho braidd wrth iddi gyflwyno'r ddadl hon, oherwydd roedd hi'n ymddangos i mi ei bod hi'n gweld dysgu hanes nid fel rhywbeth ag arlliw penodol, cymhleth, sy'n gofyn am ddehongliad ac nad yw'n ddu a gwyn, ond fel dim ond cyfle i greu propaganda ar gyfer y ffordd benodol y mae hi'n gweld y byd o ran mater o gymhlethdod cyfoes sy'n gofyn am ymdriniaeth gynnil a sensitif iawn. Ac mae'n ddrwg gen i ddweud bod yr agwedd a arddangoswyd ganddi yn ei haraith yn cael ei dilyn mewn gwirionedd, ar hyn o bryd, yn ein hysgolion yng Nghymru.

Anfonwyd ataf yn ddiweddar, gan riant pryderus o dde Cymru, gwaith cartref a oedd wedi'i osod ar gyfer plentyn saith mlwydd oed, ac roedd y rhiant hwn yn bryderus iawn yn ei gylch. Oherwydd roedd wedi codi o ganlyniad i achos George Floyd ac yn seiliedig ar ddeunydd a gyhoeddwyd gan Mae Bywydau Du o Bwys. Roedd yn cynnwys ffotograff o blentyn bach yn dal poster Mae Bywydau Du o Bwys, a gofynnwyd amryw o gwestiynau i'w hateb. Ac yna, roedd y sylw gan yr athro ar y diwedd yn rhywbeth fel hyn, ac rwy'n dyfynnu yn y fan yma, gan y gofynnwyd i'r plentyn wneud fideo:

Felly, rhowch eich holl egni i hyn a gwneud i'ch araith gyfrif. Mae hwn yn bwnc mor bwysig, ac nid yw'n digwydd ddim ond ymhell i ffwrdd yn America, ond mae'n wir i'n ffrindiau ninnau hefyd.

Wel, nawr, nid addysg yw hyn, ond gweithredaeth, oherwydd os edrychwch chi ar achos George Floyd, ac os oes tystiolaeth yn y fan yma o hiliaeth yn yr heddlu yn America, fe welwch fod y darlun yn llawer mwy cymhleth nag yr hoffai'r penawdau i ni ei gredu. Mae ystadegau'r FBI ar gyfer 2016 yn dangos bod 2,870 o bobl dduon wedi eu llofruddio yn y flwyddyn honno, ond roedd 2,570 o'r bobl a oedd wedi eu llofruddio hefyd yn ddu. Cafodd tair mil, pedwar cant, naw deg a naw o bobl wyn eu llofruddio, ond roedd 2,854 o'r llofruddion hynny yn wyn. Felly, mae mwyafrif llethol y llofruddiaethau yn cael eu cyflawni mewn gwirionedd gan bobl o'r un ethnigrwydd â'i gilydd yn yr Unol Daleithiau. Ac os cymerwch chi'r ffigurau rhwng 2015 a 2019, roedd pobl dduon yn cyfrif am 26.4 y cant o bob un o'r rheini a laddwyd gan heddlu UDA. Wel, roedd bron dwbl y ffigur hwnnw—50.3 y cant—yn wyn. Ond, yn yr un modd, er mai dim ond 12 y cant o boblogaeth America sy'n ddu, maen nhw'n gyfrifol am 52.5 y cant o'r holl lofruddiaethau, gyda mwyafrif helaeth o'r dioddefwyr yn ddu. Felly, os ydym ni'n mynd i geisio cymryd o achos George Floyd—[Anghlywadwy]—ar gyfer hiliaeth yn y gymdeithas orllewinol gyfan, rwy'n credu ein bod yn gwneud anghymwynas sylweddol.

Wrth gwrs, os ydym yn cysylltu hyn yn ôl i'r hyn sydd wedi digwydd mewn hanes o'r blaen, gallai'r un math o ogwyddo ac ystumio ddigwydd. Mae'n rhaid i hanes gael ei weld, os yw am gael ei addysgu'n iawn, yng nghyd-destun ei gyfnod, ac, fel y dywedodd David Melding, Syr Thomas Picton, wrth gwrs, roedd yn greadur ei gyfnod. Caethwasiaeth: nid oes unrhyw un yn cefnogi caethwasiaeth heddiw, ac roedd Prydain yn gwbl allweddol o ran dileu caethwasiaeth yn y byd gorllewinol.

Roedd Syr Thomas More, ffigwr hanesyddol blaenllaw, a gafodd ei ganoneiddio yn ystod fy oes i, yn credu mewn llosgi camgredwyr. A ddylem ni gael gwared ar yr holl ddelweddau o Syr Thomas More oherwydd ei fod yn credu mewn dienyddio barbaraidd? Ceir mudiad i gael gwared ar y cerflun o Gystennin Fawr o flaen Cadeirlan Caerefrog. Cystennin Fawr oedd y dyn a wnaeth droi'r ymerodraeth Rufeinig yn Gristnogol, ond, wrth gwrs, roedd yr ymerodraeth Rufeinig wedi'i seilio ar gaethwasiaeth, ac roedd Cystennin Fawr ei hun yn berchen ar lawer o gaethweision.

Mae'n rhaid i ni gael synnwyr o bersbectif. Dyna beth yw hanes, does bosib. Ni ddylid dysgu hanes fel modd o bropaganda mewn ysgolion. Dylai addysgu hanes mewn ysgolion fod yn gynhwysol, wrth gwrs, ac mae lleiafrifoedd du ac ethnig yn chwarae rhan, fel y mae Neil McEvoy wedi ei ddweud yn argyhoeddiadol iawn yn ei araith, yn ein hanes, a dylid ymdrin â hynny'n briodol. Ond dylid addysgu holl hanes y Deyrnas Unedig, Cymru a'r byd ehangach, gan gynnwys unigolion a wnaeth hanes, beth bynnag oedd eu cefndir ethnig a beth bynnag yr ydym ni'n ei feddwl, gan ddarllen wrth edrych yn ôl, am eu hymddygiad gyda safbwynt yr unfed ganrif ar hugain ohono.

Mae caethwasiaeth ei hun yn bwnc cymhleth i'w addysgu, oherwydd, ydym, rydym ni'n gwybod popeth am ryfel cartref America ac am erchyllterau caethwasiaeth yn y de, ond mae'n fwy na mater o bobl wyn yn caethiwo pobl dduon. Roedd 171 o berchenogion duon ar gaethweision yn Ne Carolina yng nghyfrifiad 1860, a'r mwyaf ohonyn nhw oedd William Ellison Jr, a oedd ei hun yn gyn-gaethwas, a oedd wedi dod yn ddyn busnes llwyddiannus, ac roedd ef ei hun yn berchen ar 63 o gaethweision duon. Felly, ydy, mae hanes yn gymhleth, a dylid addysgu hyn i bobl ifanc, a'r hyn y dylid ei addysgu yn fwyaf oll yw cwestiynu'r hyn a ddywedir wrthynt a sut i wahaniaethu rhwng propaganda a ffeithiau. Mae beth sy'n ffaith ynddo'i hun yn anodd iawn ei bennu mewn hanes—

18:00

Mae eich amser wedi dod i ben, Neil Hamilton. A allwch chi ddod â'ch sylwadau i ddiweddglo?

Byddaf yn cefnogi gwelliant 2, oherwydd credaf ei fod yn cyfleu'r dasg sydd o'n blaenau yn fwy huawdl: gwneud ein system addysg yn fwy perthnasol i bobl ifanc heddiw a'r heriau y bydd yn rhaid iddyn nhw fynd i'r afael â hwy yn y byd cythryblus y byddan nhw'n ei etifeddu gennym ni. Rwy'n ddiolchgar i Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth, nid yn unig am y gwaith y maen nhw wedi bod yn ei wneud gydag ysgolion dros y degawd diwethaf, ond hefyd am eu harolwg diweddaraf ar hiliaeth yng Nghymru. Mae'n ddefnyddiol i'n hatgoffa o faint yr heriau sydd o'n blaenau. Ni fydd y rhain yn cael eu datrys drwy sloganau gor-syml na eiriau calonogol, na fyddant yn datrys y canrifoedd o hiliaeth sydd wedi'u gwreiddio yn ein hanes.

O'r arolwg hwn o hiliaeth yng Nghymru, gwyddom fod o leiaf dwy ran o dair o'r ymatebwyr wedi bod yn dyst i ryw fath o hiliaeth neu wedi ei ddioddef. Felly, bydd mynd i'r afael a'n hanes trefedigol, yr erchyllterau a gyflawnwyd yn ein henw ni, yn daith boenus i bob un ohonom ni.

Mae heddiw yn nodi blwyddyn ers marwolaeth Christopher Kapessa, bachgen 13 oed a foddodd yn yr Afon Cynon. Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn dweud nad oes unrhyw fudd cyhoeddus i ddwyn cyhuddiad o ddynladdiad yn erbyn pa bynnag ddisgybl a'i gwthiodd i'r afon, ond rwy'n credu bod popeth yr ydym wedi ei glywed am George Floyd a llawer o gamweddau cyfiawnder eraill yn ategu pwysigrwydd sicrhau ein bod yn ymdrin â phob trosedd yn deg a bod yn rhaid i ni fynd i'r afael â'r gwahaniaethu anymwybodol sy'n wir am y rhan fwyaf ohonom ni.

Rwy'n credu bod cymhlethdodau yr her hon wedi cael sylw gofalus iawn mewn cyfres ddiweddar ar Channel 4 o'r enw The School That Tried to End Racism, ac roedd wir yn dangos pa mor anodd oedd hi i'r disgyblion 11 a 12 mlwydd oed gwyn a'r rhai nad oedden nhw'n wyn, ond yn enwedig y disgyblion gwyn. Nid yw'n ymwneud â lliw croen yn unig. Mae gwahaniaethu ar sail cenedligrwydd a chrefydd hefyd yn cael sylw yn yr arolwg Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth fel achosion arwyddocaol o hiliaeth, yn enwedig yn ein hysgolion uwchradd. Felly, am y rheswm hwnnw'n unig, mae'n bwysig iawn bod pob disgybl yn ymwneud â'r cwricwlwm crefydd, gwerthoedd a moeseg, oherwydd mae angen i bob disgybl gofleidio'r gwerthoedd hynny a'r foeseg honno yn ogystal â dealltwriaeth o grefyddau ei gilydd, neu ddim crefydd.

Yn y grŵp trawsbleidiol ar ffydd y bûm ynddo ddoe, roedd rhai cynrychiolwyr ysgolion ffydd yn bryderus ynghylch yr hyn y mae'r cwricwlwm newydd yn ei olygu i'w cenhadaeth. Byddwn i'n dweud wrthyn nhw mai taith yw crefydd, nid digwyddiad, ac mae'n adlewyrchu gwerthoedd ac arferion ein cymdeithasau. Pan ymwelodd Pope Francis â Pharaguay yn 2015, fe wnaeth gydbwyso'r ymddiheuriad a wnaeth am droseddau'r Eglwys Gatholig yn erbyn y bobl frodorol yn ystod concwest trefedigaethol cyfandiroedd America gyda chanmoliaeth uchel o'r cenadaethau Jeswit a ffynnodd yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg a'r ail ganrif ar bymtheg yno. Rwyf wedi cael y fraint o ymweld â'r hyn sydd ar ôl o'r cenadaethau gwych hynny yn Paraguay, a hoffwn i holl bobl Cymru ddysgu am y gymdeithas sydd bron yn wtopaidd lle'r oedd celfyddyd, cerddoriaeth a ffyniant economaidd yn ffynnu, wedi'i hysbrydoli gan werthoedd a moeseg y Jeswitiaid.

Rydym ni angen cwricwlwm newydd sy'n paratoi disgyblion yn briodol ar gyfer tapestri cymhleth a chyfoethog ein treftadaeth, a'r rhan y mae'n rhaid i Gymru ei chwarae wrth lywio ein byd i ffwrdd oddi wrth rhyfel a hunan-ddinistr. Rydym ni angen system addysg sy'n eu galluogi i chwarae eu rhan yn ein pentref byd-eang, lle'r ydym ni'n byw ac yn marw o'r un pandemig a'r un argyfwng hinsawdd. Byddai peidio â newid yn golygu na fyddem yn cydymffurfio ag erthygl 29 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn i baratoi'r plentyn ar gyfer bywyd cyfrifol mewn cymdeithas rydd mewn ysbryd o ddealltwriaeth, heddwch, goddefgarwch, cydraddoldeb rhwng y rhywiau a chyfeillgarwch ymhlith grwpiau ethnig, cenedlaethol a chrefyddol pawb.

18:05

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Siân Gwenllian a Phlaid Cymru am y cyfle i drafod y cwricwlwm newydd arfaethedig. Fel y bydd yr Aelodau yn gwybod, disgwylir i'r Bil cwricwlwm ac asesu, yn amodol ar benderfyniad y Llywydd, gael ei gyflwyno cyn toriad yr haf. Mae Plaid Cymru yn gywir i gydnabod y cwricwlwm newydd fel cyfle hanesyddol, ac mae'n hanesyddol oherwydd y bydd yn rhoi cyfle i ni sefydlu dull o weithredu cwricwlwm sydd, am y tro cyntaf, wedi ei greu gan athrawon, ymarferwyr, arbenigwyr addysg ac academyddion yng Nghymru ar gyfer dysgwyr Cymru. Caiff egwyddorion a chredoau'r cwricwlwm newydd eu cydnabod yn rhyngwladol, ac mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn gefnogol iawn o'n hymagwedd, gan ddisgrifio Cymru fel bod, ac rwy'n dyfynnu:

ar y llwybr i drawsnewid y ffordd y mae plant yn dysgu.

Mae'r Bil yn ceisio sefydlu fframwaith cwricwlwm i Gymru, y sail ddeddfwriaethol i ddarparu lefel o gysondeb a thegwch i ddysgwyr wrth roi hyblygrwydd i ysgolion a lleoliadau ddarparu cyfleoedd dysgu ymgysylltiol a phenodol. Mae'n pwysleisio, o fewn fframwaith cenedlaethol, mai ysgolion ac ymarferwyr sydd yn y sefyllfa orau i wneud penderfyniadau am anghenion eu dysgwyr penodol a'r cyfleoedd ar eu cyfer, gan gynnwys dewis pynciau a gweithgareddau a fydd yn cefnogi eu dysgu orau. Nid yw rhestru cynnwys ar lefel genedlaethol yn gwarantu dysgu ystyrlon mewn unrhyw ffordd, dim ond bod pynciau penodol yn cael eu cynnwys i raddau amrywiol. Yn hytrach, mae canllawiau cwricwlwm Cymru yn mynegi pa gysyniadau a hanfodion dysgu ddylai fod yn sail i amrywiaeth o wahanol bynciau a gweithgareddau.

Mae angen i addysg ymwneud â chymaint mwy na rhestr. Mae angen arloesedd a dawn greadigol ymarferwyr i ddod â dysgu yn fyw i blant, a thrwy'r Bil hwn bydd Cymru yn rhoi anghenion ei dysgwyr yn gyntaf, ac yn ganolog, ac yn ysgogi ac yn ennyn diddordeb ymarferwyr ac athrawon i'w cefnogi.

Mae canllawiau cwricwlwm Cymru, a gyhoeddwyd gennyf ym mis Ionawr, yn nodi hanfodion dysgu. Ni fydd y Bil na'i ddogfennau cysylltiedig yn pennu rhestr lawn o bynciau na gweithgareddau penodol. Fodd bynnag, bydd angen i ni barhau i weithio gyda phartneriaid i helpu i ddarparu adnoddau dysgu i gefnogi ysgolion yn yr ymdrech heriol ond hollbwysig hon.

Gan droi'n gyntaf at faes lle'r wyf i'n teimlo'n gryf fod angen i ni wella yn ogystal â datblygu ein dealltwriaeth, ac i wella'r ffordd yr ydym yn cefnogi dysgu, mae'r digwyddiadau diweddar yn America, ar draws y byd yn wir, wedi ein hatgoffa i gyd o bwysigrwydd pob agwedd ar ein hanes. Cyhoeddodd y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf y byddwn wir yn gweithio gydag Estyn i sicrhau bod eu hadolygiad o hanes Cymru yn rhoi ystyriaeth lawn i hanes, hunaniaeth a diwylliant pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.

Rydym ni wedi cyhoeddi ein bod ni hefyd yn sefydlu gweithgor i oruchwylio'r gwaith o ddatblygu adnoddau dysgu ac i nodi bylchau presennol mewn adnoddau a hyfforddiant. Rwy'n credu ei bod yn bwysig, yn y gwaith hwnnw, fod hynny yn edrych yn ehangach o lawer na dim ond y pwnc hanes. Yn hytrach, rwyf i'n awyddus i hynny fod yn ymdrech wirioneddol drawsgwricwlaidd, gan gynnwys esiamplau da cadarnhaol a dysgu trwy ein hamgylchedd diwylliannol ehangach, gan gynnwys cyfraniadau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru i lenyddiaeth, y cyfryngau, chwaraeon, yr economi. Mae'n rhaid iddo ymwneud â chymaint mwy na'r pwnc hanes yn unig. Ond, wrth gwrs, fe fydd yn adeiladu ar Fis Hanes Pobl Dduon a'r trafodaethau a'r ymgynghori parhaus â rhanddeiliaid a chyngor hil Cymru, ar feysydd lle bydd eu gwybodaeth a'u harbenigedd yn helpu i lywio cyfeiriad a darparu atebion i faterion penodol.

Nawr, o fewn y cwricwlwm i Gymru, byddwn yn deddfu ar ei ddibenion, ac un o'r pedwar diben yw y dylai dysgwyr ddatblygu yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a'r byd sy'n gwybod am eu diwylliant, eu cymuned a'u cymdeithas a'r byd, yn awr ac yn y gorffennol, ac yn parchu anghenion a hawliau pobl eraill fel aelodau o gymdeithas amrywiol.

Mae tangynrychiolaeth cymunedau duon Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn y gweithlu addysg hefyd yn fater yr hoffwn i fynd ati i geisio'i gywiro. Rydym ni wedi sefydlu prosiect i edrych yn benodol ar y materion sy'n ymwneud â recriwtio i raglenni addysg gychwynnol athrawon ac i'r gweithlu yn fwy cyffredinol. Rydym ni wedi comisiynu Cyngor y Gweithlu Addysg i gynnal adolygiad o'r data sydd ar gael i gefnogi datblygiad ein polisïau newydd yn y maes hwn, ac rydym ni hefyd yn ymgysylltu â'r rhanddeiliaid perthnasol, megis y fforwm hil a ffydd a Thîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru. Bydd ein hymgysylltiad â rhanddeiliaid eraill yn cynyddu wrth i'r prosiect fynd rhagddo, a byddwn yn defnyddio'r data a'r wybodaeth a ddarperir gan randdeiliaid i ddatblygu polisïau i fynd i'r afael yn strategol â'r prinder cronig o gynrychiolwyr duon Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn y gweithlu addysg. Rwyf i'n dymuno i'n plant weld eu cymunedau yn cael eu hadlewyrchu yn y rhai hynny sy'n sefyll o'u blaen eu dosbarthiadau.

Fel sydd wedi ei grybwyll, mae'r canllawiau ar gyfer y cwricwlwm newydd yn tynnu sylw at bwysigrwydd defnyddio cyd-destunau lleol a chenedlaethol ym mhob rhan o ddysgu. Yn benodol, mae'n nodi y dylai ymarferwyr gefnogi dysgwyr i ddatblygu ymdeimlad dilys o gynefin, gan ddatblygu gwybodaeth o wahanol ddiwylliannau a hanesion, eu galluogi i ddatblygu ymdeimlad cryf o hunaniaeth unigol a deall sut y mae hynny wedi ei gysylltu a'i ffurfio gan ddylanwadau ehangach y byd. Mae canllawiau ar gyfer maes dysgu a phrofiad y dyniaethau yn cyfeirio at yr angen am amlygiad cyson i straeon ardal y dysgwyr a stori Cymru, yn ogystal â stori'r byd ehangach, er mwyn galluogi dysgwyr i ddatblygu dealltwriaeth o natur gymhleth, amlblwyfol ac amrywiol ein cenedl a chymdeithasau eraill.

Bydd maes dysgu a phrofiad y dyniaethau hefyd yn rhoi cyfleoedd i ddysgwyr ddysgu am eu treftadaeth a'u hymdeimlad o le drwy astudiaeth o Gymru a'u cynefin. Yn hollbwysig, fel sydd wedi ei grybwyll sawl gwaith y prynhawn yma, bydd yn caniatáu i ddysgwyr ddatblygu meddwl sy'n holi ac yn cwestiynu, a bydd yn archwilio ac yn ymchwilio i'r byd—yn y gorffennol, y presennol a'r dyfodol—eu hunain. Bydd ystyried gwahanol safbwyntiau, gan gynnwys rhai pobl dduon acc Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng nghyd-destun diwylliannau Cymru, yn helpu i hyrwyddo dealltwriaeth o'r amrywiaeth ethnig a diwylliannol sydd yng Nghymru. At ei gilydd, bydd y profiadau hyn yn helpu dysgwyr i werthfawrogi faint y maen nhw'n rhan o gymuned ryngwladol ehangach, gan feithrin ymdeimlad o berthyn a all eu hannog i gyfrannu'n gadarnhaol at eu cymunedau, gan gynnwys recordio fideos ynglŷn â pham mae bywydau pobl dduon yn bwysig. Rwy'n hyderus y bydd hyn yn arwain at ddysgu a gwybodaeth well na rhagnodi hyn yn ddim mwy na thopig y mae'n rhaid ei gynnwys yn y cwricwlwm mewn pwnc unigol.

Rwyf i am droi yn awr at y mater arall a godwyd gan Plaid, a hoffwn i ddechrau trwy ail-ddatgan fy nghefnogaeth i addysg cyfrwng Cymraeg a chydnabod hefyd y gwaith pwysig sy'n cael ei wneud yn ein hysgolion a'n lleoliadau sy'n darparu rhaglenni trochi yn y Gymraeg. Nid yw fy nyheadau ar gyfer y Gymraeg wedi newid, ac fel y dywedais i wrth lansio'r ymgynghoriad ar y Papur Gwyn, bydd y Bil hwn yn galluogi rhaglenni trochi Cymraeg i barhau, gan roi sylfaen gyfreithiol gadarn iddo a chryfhau ei sefyllfa fel elfen allweddol o gyrraedd ein dyheadau, fel dull gweithredu addysgeg sydd wedi ei brofi—dull y mae fy mhlant i fy hun wedi elwa arno.

Rwyf i wedi siarad â Siân yn unigol ynghylch y mater trochi yn y gorffennol, ac rwy'n cydnabod bod ganddi bryderon ynghylch yr agwedd benodol hon ar y Bil. Rwy'n credu, yn wir, ac rwy'n gobeithio, y byddai Siân yn derbyn ein bod ni i gyd yn dod i hyn o'r un lle, sef cefnogi addysg drochi yn y Gymraeg. A gallaf i sicrhau pawb—cyd-Aelodau o'r Senedd ac, yn wir, rhanddeiliaid—y byddaf i'n ceisio parhau i drafod ac ymgysylltu ar y materion hyn yn ystod hynt y Bil trwy'r Senedd, er mwyn i ni allu sicrhau ein bod ni i gyd yn gallu bod yn hyderus bod y dyhead o fod yn wlad ddwyieithog yn cael ei wireddu.

Felly, i gloi, Llywydd, hoffwn i ddiolch unwaith eto i fy nghyd-Aelodau am eu cyfraniad at y ddadl hon, ac rwy'n edrych ymlaen, gyda'ch caniatâd, at gyflwyno'r Bil yn ffurfiol cyn bo hir.

18:15

Rwyf i wedi cael gwybod am un cais am ymyriad. Darren Millar. Darren, mae angen i chi ddad-dawelu eich meicroffon.

Ymddiheuriadau. Diolch, Llywydd. Roeddwn i eisiau myfyrio ar rai o'r sylwadau y mae Aelodau wedi eu gwneud, os caf i. Rwy'n falch iawn o weld bod consensws bod angen i ni newid pethau o ran y cwricwlwm a chynnwys ein gwersi hanes yma yng Nghymru ac, wrth gwrs, yr angen i wella mynediad i adnoddau er mwyn ein galluogi i gyflawni'r uchelgais hwn i ddatblygu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Rwy'n credu bod y rhain yn amcanion gwych, ac mae'n rhaid i'n system addysg fod yn barod i'w cyflawni.

Cyfeiriodd Jenny Rathbone yn gynharach at gyfarfod diweddar y grŵp trawsbleidiol ar ffydd, ac fe wnaeth y grŵp trawsbleidiol hwnnw drafod yn helaeth newidiadau i'r cwricwlwm addysg grefyddol, sydd, wrth gwrs, yn mynd i gael ei ailenwi a'i ail-frandio yn 'crefydd, moeseg a gwerthoedd'. Ac er bod llawer iawn o optimistiaeth bod hynny'n cynnig cyfle gwych yn y dyfodol, mae yna rai pryderon ynghylch gallu'r sector, os mynnwch chi—y sector ffydd—i allu ymateb i'r ymgynghoriad parhaus sy'n digwydd ar hyn o bryd. Gan fod pawb wedi bod dan gyfyngiadau symud, nid yw llawer o sefydliadau a grwpiau wedi gallu cyfarfod, gan gynnwys cynghorau ymgynghorol sefydlog lleol ar addysg grefyddol.

Felly, rwyf i'n gobeithio bod y Gweinidog yn gallu myfyrio ar hynny a darparu estyniad byr efallai i alluogi pobl i ystyried cynigion Llywodraeth Cymru yn llawn ac ymateb yn llawnach iddyn nhw er mwyn i chi allu ymdrin ag unrhyw faterion a godir, gan fy mod i yn credu bod pryder, os bydd pethau yn parhau ar garlam, yna mae'n bosibl y bydd problemau o ran gweithredu newid sylweddol mewn gwirionedd yn y dyfodol.

Diolch yn fawr iawn, a diolch i bawb am eu cyfraniadau y prynhawn yma. Dwi yn meddwl ei bod hi yn amserol iawn inni gael y drafodaeth yma cyn i'r Bil ddechrau ar ei daith drwy'r Senedd. Ac, yn sicr, mi fydd gennym ni faterion eraill y byddem ni hefyd eisiau edrych arnyn nhw wrth i'r cwricwlwm fynd yn ei flaen, gan gynnwys y materion roedd Darren Millar yn eu codi ynglŷn ag addysg yn ymwneud efo gwahanol grefyddau, a'r materion roedd Suzy yn sôn amdanyn nhw o ran sgiliau bywyd ac, yn sicr, materion yn ymwneud efo llesiant ac iechyd meddyliol ac emosiynol ein plant a pobl ifanc ni—i gyd yn feysydd pwysig iawn inni fod yn craffu arnyn nhw wrth inni symud yn ein blaenau. 

Ond y prynhawn yma, wrth gwrs, roeddem ni yn canolbwyntio ar rai agweddau penodol. Wrth gwrs, mae'n rhaid gwneud y pwynt wrth gwrs fod hanes pobl ddu a phobl o liw yn rhan o hanes Cymru. Dwi'n eistedd fan hyn rŵan yn y Felinheli. Lawr y lôn, mae castell Penrhyn, ac mi oedd Leanne Wood a Delyth Jewell yn sôn am hyn—castell Penrhyn a gafodd ei adeiladu gan y teulu Pennant, a oedd wedi gwneud eu harian, wrth gwrs, allan o'r diwydiant siwgr, a oedd yn dibynnu ar gaethwasiaeth. Doeddwn i ddim yn gwybod yr hanes yna pan oeddwn i'n tyfu i fyny yn y Felinheli yn y 1950au a'r 1960au. Doedd yna neb yn siarad am hynny, am y cefndir hwnnw, ac roedd hynny yn ein hamddifadu ni i gyd, onid oedd, fel plant, o ddealltwriaeth o'r hanes o'n cwmpas ni, ond hefyd dealltwriaeth o hanes am rannau eraill o'r byd, lle roedd yna orthrwm wedi bod yn digwydd. A dim ond yn ddiweddar iawn mae'r ardal yma wedi dechrau siarad am hynny i gyd.

A pheidiwn â gadael i'r math yna o sefyllfa ddigwydd eto. Roeddwn i yn gwybod mwy am wragedd Harri'r VIII nag oeddwn i am hanes beth oedd yn digwydd efo'r teulu Pennant. Ac wrth gwrs mae yna arfer dda. Mae yna esiamplau gwych o athrawon sydd wedi bod yn cyflwyno y math o hanes y byddwn i wedi eisiau i mi ei gael, ac mae pethau wedi gwella ers y cyfnod pan oeddwn i yn yr ysgol. Ond does yna ddim cysondeb yn aml iawn, a dylen ni ddim gorfod dibynnu ar bocedi o esiampl dda.

Ac mae'n awduron ni a'n artistiaid ni hefyd wedi bod yn ein goleuo ni i'r hyn sydd wedi bod yn digwydd yn ein hanes ni, a ninnau efallai ddim yn ymwybodol ohonyn nhw. A buaswn i'n eich cyfeirio chi gyd at waith Manon Steffan Ros am sefyllfa y teulu Pennant yng nghastell Penrhyn, a'r ddealltwriaeth ddofn mae hi wedi llwyddo i greu—ond dim ond yn 2018 roedd hi'n creu'r gwaith yna. Mae hwnna yn rhan bwysig iawn o'n dealltwriaeth ni wrth inni symud ymlaen. 

Felly, jest yn sydyn ynglŷn ag ochr y Gymraeg a'r trochi, dwi yn derbyn bod y Gweinidog yn cytuno'n llwyr efo pwysigrwydd trochi ieithyddol, ac efallai mai canlyniadau cwbl anfwriadol sydd yn digwydd yn fan hyn efo'r ddeddfwriaeth. Dwi'n ddiolchgar iawn am eich cynnig chi inni fedru trafod ac i geisio ffurf o eiriad gobeithio fydd yn cyflawni'r hyn mae'r ddwy ohonon ni eisiau ei weld yn digwydd, sef gweld ein dinasyddion ni yn tyfu i fyny yn bobl ddwyieithog, a chyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr. Wedyn, diolch yn fawr iawn i chi am hynny. 

Felly, mae'r Bil yn cychwyn ar ei daith yn go fuan. Mi gawn ni i gyd gyfrannu i'r gwaith pwysig yna rŵan o graffu. Mi gawn ni i gyd geisio gwneud yn siŵr bod y ddeddfwriaeth yma yn mynd i greu y newidiadau strwythurol sydd eu hangen. Dwi yn credu bod angen i rai materion fod yn orfodol ar wyneb y Bil, er mwyn creu y newidiadau strwythurol, er mwyn gwaredu hiliaeth, er enghraifft, o'n cymdeithas ni. Dwi'n credu ei fod o yn rhy benagored fel mae o ar hyn o bryd, ond mi gawn ni'r drafodaeth yna wrth symud ymlaen. Ac mae yna rai pethau yn barod mae'r Gweinidog yn ei weld yn ddigon pwysig i fod ar flaen y Bil, yn ymwneud efo addysg rhyw ac addysg perthnasoedd iach, a dwi'n cyd-fynd yn llwyr efo hynny. Fy nadl i ydy mae angen i faterion eraill o bwysigrwydd mawr gael eu gosod mewn statud hefyd, er mwyn cael cysondeb ar draws Cymru. 

18:20

Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei wella? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, mae yna wrthwynebiad, a dwi'n gohirio'r eitem yma tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

12. Cyfnod Pleidleisio

A dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. 

Ac, fel y nodir ar yr agenda, cynhelir y pleidleisiau heddiw yn unol â Rheol Sefydlog 34.11. Caiff pob grŵp gwleidyddol enwebu un aelod o'r grŵp i gario'r un nifer o bleidleisiau ag sydd o aelodau o'r grŵp, ac yn achos grŵp gwleidyddol sydd â swydd Weithredol, bydd gan yr enwebai yr un nifer o bleidleisiau ag sydd o aelodau o'r grŵp hwnnw, yn ogystal ag unrhyw aelodau eraill o'r Llywodraeth. Bydd Aelodau nad ydyn nhw'n perthyn i grŵp neu grwpiad yn pleidleisio drostyn nhw eu hunain. Byddaf i'n cynnal y bleidlais drwy alw'r gofrestr.

Ac, felly, mae'r bleidlais gyntaf ar ddadl Plaid Cymru ar y cwricwlwm newydd arfaethedig, a dwi'n galw am bleidlais yn gyntaf ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Ar ran y grŵp Llafur, felly, a'r Llywodraeth, Carwyn Jones, sut ydych chi'n bwrw'r 30 pleidlais?

Ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar, sut ydych chi'n bwrw'ch 10 pleidlais?

18:25

Canlyniad y bleidlais, felly, yw bod naw o blaid y cynnig, un yn ymatal, 46 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi ei wrthod.

Cynhaliwyd y bleidlais ar NDM7342 yn unol â Rheol Sefydlog 34.11.

Carwyn Jones ar ran Grŵp Llafur a’r Llywodraeth: Yn erbyn (30)

Darren Millar ar ran Grŵp y Ceidwadwyr: Yn erbyn (10)

Siân Gwenllian ar ran Grŵp Plaid Cymru: O blaid (9)

Mark Reckless ar ran Grŵp Plaid Brexit: Yn erbyn (4)

Gareth Bennett – Annibynnol: Yn erbyn

Neil Hamilton – Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Yn erbyn

Neil McEvoy – Annibynnol: Ymatal

Gwrthodwyd y cynnig.

Mae'r bleidlais nesaf ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Ar ran y grŵp Llafur a'r Llywodraeth, Carwyn Jones, sut ydych chi'n bwrw'r 30 pleidlais?

Canlyniad y bleidlias, felly, yw bod 10 o blaid, pedwar yn ymatal, 42 yn erbyn, ac felly mae'r gwelliant wedi ei wrthod.

Cynhaliwyd y bleidlais ar welliant 1 i NDM7342 yn unol â Rheol Sefydlog 34.11.

Carwyn Jones ar ran Grŵp Llafur a’r Llywodraeth: Yn erbyn (30)

Darren Millar ar ran Grŵp y Ceidwadwyr: O blaid (10)

Siân Gwenllian ar ran Grŵp Plaid Cymru: Yn erbyn (9)

Mark Reckless ar ran Grŵp Plaid Brexit: Ymatal (4)

Gareth Bennett – Annibynnol: Yn erbyn

Neil Hamilton – Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Yn erbyn

Neil McEvoy – Annibynnol: Yn erbyn

Gwrthodwyd y gwelliant.

Y bleidlais nesaf, ar welliant 2—gwelliant 2 wedi ei gyflwyno yn enw Rebecca Evans. Ac, os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliannau 3 a 4 yn cael eu dad-ddethol. Felly, gwelliant 2 Rebecca Evans. Ar ran y grŵp Llafur a'r Llywodraeth, Carwyn Jones, sut ydych chi'n bwrw'r 30 pleidlais?

Canlyniad y bleidlais yna yw bod 30 o blaid, pedwar yn ymatal, 22 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 2 wedi ei dderbyn. Mae gwelliannau 3 a 4 yn cael eu dad-ddethol.

Cynhaliwyd y bleidlais ar welliant 2 i NDM7342 yn unol â Rheol Sefydlog 34.11.

Carwyn Jones ar ran Grŵp Llafur a’r Llywodraeth: O blaid (30)

Darren Millar ar ran Grŵp y Ceidwadwyr: Yn erbyn (10)

Siân Gwenllian ar ran Grŵp Plaid Cymru: Yn erbyn (9)

Mark Reckless ar ran Grŵp Plaid Brexit: Ymatal (4)

Gareth Bennett – Annibynnol: Yn erbyn

Neil Hamilton – Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Yn erbyn

Neil McEvoy – Annibynnol: Yn erbyn

Derbyniwyd y gwelliant.

Cafodd gwelliannau 3 a 4 eu dad-ddethol.

Gwelliant 5 yw'r gwelliant nesaf i gael ei bleidleisio arno. Gwelliant 5 wedi ei gyflwyno yn enw Neil McEvoy. Ac felly ar ran y blaid Lafur a'r Llywodraeth, Carwyn Jones, sut ydych chi'n bwrw'r 30 pleidlais?

Canlyniad y bleidlais yw bod 15 o blaid, neb yn ymatal, 41 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 5 wedi ei wrthod.

Cynhaliwyd y bleidlais ar welliant 5 i NDM7342 yn unol â Rheol Sefydlog 34.11.

Carwyn Jones ar ran Grŵp Llafur a’r Llywodraeth: Yn erbyn (30)

Darren Millar ar ran Grŵp y Ceidwadwyr: O blaid (10)

Siân Gwenllian ar ran Grŵp Plaid Cymru: Yn erbyn (9)

Mark Reckless ar ran Grŵp Plaid Brexit: O blaid (4)

Gareth Bennett – Annibynnol: Yn erbyn

Neil Hamilton – Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Yn erbyn

Neil McEvoy – Annibynnol: O blaid

Gwrthodwyd y gwelliant.

Mae'r bleidlais nesaf ar welliant 6, yn enw Neil McEvoy. Ar ran y grŵp Llafur a'r Llywodraeth, Carwyn Jones, sut ydych chi'n bwrw'r 30 pleidlais?

O blaid gwelliant 6, felly, mae 16, neb yn ymatal, mae 40 yn erbyn, ac felly mae'r gwelliant wedi ei wrthod.

Cynhaliwyd y bleidlais ar welliant 6 i NDM7342 yn unol â Rheol Sefydlog 34.11.

Carwyn Jones ar ran Grŵp Llafur a’r Llywodraeth: Yn erbyn (30)

Darren Millar ar ran Grŵp y Ceidwadwyr: O blaid (10)

Siân Gwenllian ar ran Grŵp Plaid Cymru: Yn erbyn (9)

Mark Reckless ar ran Grŵp Plaid Brexit: O blaid (4)

Gareth Bennett – Annibynnol: Yn erbyn

Neil Hamilton – Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: O blaid

Neil McEvoy – Annibynnol: O blaid

Gwrthodwyd y gwelliant.

Y bleidlais nesaf yw gwelliant 7, yn enw Neil McEvoy. Y grŵp Llafur a'r Llywodraeth, Carwyn Jones, sut ydych chi'n bwrw'r 30 pleidlais?

18:30

Canlyniad y bleidlais yw bod un o blaid, fod 14 yn ymatal a bod 41 yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 7 wedi ei wrthod. 

Cynhaliwyd y bleidlais ar welliant 7 i NDM7342 yn unol â Rheol Sefydlog 34.11.

Carwyn Jones ar ran Grŵp Llafur a’r Llywodraeth: Yn erbyn (30)

Darren Millar ar ran Grŵp y Ceidwadwyr: Ymatal (10)

Siân Gwenllian ar ran Grŵp Plaid Cymru: Yn erbyn (9)

Mark Reckless ar ran Grŵp Plaid Brexit: Ymatal (4)

Gareth Bennett – Annibynnol: Yn erbyn 

Neil Hamilton – Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Yn erbyn 

Neil McEvoy – Annibynnol: O blaid 

Gwrthodwyd y gwelliant.

Y bleidlais nesaf yw pleidlais ar welliant 8, a gwelliant 8 wedi'i gyflwyno yn enw Darren Millar. Grŵp Llafur a'r Llywodraeth, Carwyn Jones, sut ydych yn bwrw'r 30 o bleidleisiau?

Canlyniad y bleidlais, felly, yw bod 15 o blaid, fod neb yn ymatal a bod 41 yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 8 wedi ei wrthod.

Cynhaliwyd y bleidlais ar welliant 8 i NDM7342 yn unol â Rheol Sefydlog 34.11.

Carwyn Jones ar ran Grŵp Llafur a’r Llywodraeth: Yn erbyn (30)

Darren Millar ar ran Grŵp y Ceidwadwyr: O blaid (10)

Siân Gwenllian ar ran Grŵp Plaid Cymru: Yn erbyn (9)

Mark Reckless ar ran Grŵp Plaid Brexit: O blaid (4)

Gareth Bennett – Annibynnol: Yn erbyn 

Neil Hamilton – Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Yn erbyn

Neil McEvoy – Annibynnol: O blaid

Gwrthodwyd y gwelliant.

Cynnig NDM7342 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn datgan cefnogaeth gyffredinol i bwrpas y cwricwlwm newydd arfaethedig, sef galluogi dysgwyr i ddatblygu fel:

a) dysgwyr uchelgeisiol, galluog, sy'n barod i ddysgu gydol eu bywydau;

b) cyfranwyr mentrus, creadigol sy'n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith;

c) dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a'r byd; ac

d) unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

2. Yn cytuno bod cyflwyno’r cwricwlwm newydd yn cynnig cyfle hanesyddol i unioni sawl anghyfiawnder strwythurol yng Nghymru.

3. Yn croesawu cydnabyddiaeth Llywodraeth Cymru bod cyfrifoldeb ar lywodraeth gwlad i gymryd camau penodol i sicrhau bod y cwricwlwm yn gwarantu gwaelodlin o ddarpariaeth i bobl ifanc ar draws Cymru fel mater o hawliau dynol sylfaenol ac yn croesawu y bydd rhai elfennau o’r cwricwlwm newydd yn orfodol o ganlyniad.

4. Yn cydnabod bod canllawiau’r Cwricwlwm Newydd i Gymru o ran y Dyniaethau yn “hyrwyddo dealltwriaeth o’r amrywiaeth ethnig a diwylliannol yng Nghymru” ac yn “galluogi dysgwyr i ymroi i weithredu cymdeithasol fel dinasyddion cyfranogol, gofalgar o’u cymunedau lleol, cenedlaethol a byd-eang.”

5. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i:

a) gweithio gydag Estyn er mwyn sicrhau bod eu hadolygiad o hanes Cymru yn rhoi ystyriaeth lawn i hanes, hunaniaeth a diwylliant pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig Cymru a thu hwnt; a

b) sefydlu gweithgor i oruchwylio’r gwaith o ddatblygu adnoddau dysgu, ac adnabod bylchau yn yr adnoddau neu’r hyfforddiant presennol yn ymwneud â chymunedau, cyfraniadau a phrofiadau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.

6. Yn cytuno y dylai’r cwricwlwm newydd gefnogi pob dysgwr i ddysgu Cymraeg a Saesneg.

Ac felly, ar ran y grŵp Llafur a'r Llywodraeth, Carwyn Jones, sut ydych yn bwrw 30 o bleidleisiau?

Canlyniad y bleidlais, felly, yw bod 30 o blaid, fod 14 yn ymatal a bod 12 yn erbyn. Ac felly, mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn.

Cynhaliwyd y bleidlais ar gynnig NDM7342 fel y'i diwygiwyd yn unol â Rheol Sefydlog 34.11.

Carwyn Jones ar ran Grŵp Llafur a’r Llywodraeth: O blaid (30)

Darren Millar ar ran Grŵp y Ceidwadwyr: Ymatal (10)

Siân Gwenllian ar ran Grŵp Plaid Cymru: Yn erbyn (9)

Mark Reckless ar ran Grŵp Plaid Brexit: Ymatal (4)

Gareth Bennett – Annibynnol: Yn erbyn

Neil Hamilton – Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Yn erbyn 

Neil McEvoy – Annibynnol: Yn erbyn 

Derbyniwyd y cynnig wedi'i ddiwygio.

A dyna ni yn cyrraedd diwedd ein trafodion ni am y dydd heddiw. Diolch yn fawr i bawb.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:32.