Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

17/03/2020

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni heddiw yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Vikki Howells. 

Recriwtio i'r GIG yng Nghymru

1. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am recriwtio i'r GIG yng Nghymru? OAQ55242

Llywydd, mae sefydliadau'r GIG yn parhau i recriwtio staff o'r DU ac o dramor, gyda'r lefelau uchaf erioed o fuddsoddi mewn addysg a hyfforddiant i weithwyr iechyd proffesiynol. O ganlyniad, mae mwy o feddygon, nyrsys a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill yn gweithio yn y GIG yng Nghymru nawr nag ar unrhyw adeg o'r blaen.

Diolch, Prif Weinidog, am eich ateb. Mae dros 1,000 o swyddi meddygon ymgynghorol damweiniau ac achosion brys gwag ledled Cymru a Lloegr ar hyn o bryd. Nawr, mae hyn yn bryder i bob un ohonom ni, wrth gwrs, ond yn enwedig yn ardal fy mwrdd iechyd lleol i sef Cwm Taf Morgannwg, lle mae'r gallu—neu'r anallu, ddylwn i ddweud—i recriwtio meddygon ymgynghorol i Ysbyty Brenhinol Morgannwg wedi gadael yr adran damweiniau ac achosion brys honno o dan fygythiad o oriau agor mwy cyfyngedig neu hyd yn oed o gau. Mae hynny'n peri cryn bryder i'm hetholwyr i mewn cyfnod normal, ond yn enwedig yn awr yn ystod yr argyfwng coronafeirws.

Pa sicrwydd allwch chi ei roi bod Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i recriwtio meddygon ymgynghorol damweiniau ac achosion brys yn y farchnad swyddi hynod anodd a chystadleuol hon?

Wel, Llywydd, mae'r Aelod yn llygad ei lle wrth ddweud bod recriwtio meddygon ymgynghorol damweiniau ac achosion brys yn gystadleuol ar draws y Deyrnas Unedig, a bod swyddi gwag ym mhob un o'r pedair gwlad gartref. Er hynny, mae nifer y meddygon ymgynghorol damweiniau ac achosion brys sy'n gweithio yn y GIG yng Nghymru wedi mwy na dyblu dros y degawd diwethaf, ac mae hynny'n awgrymu, er gwaethaf yr heriau gwirioneddol iawn, y bu rhywfaint o lwyddiant o ran ymdrechion recriwtio byrddau iechyd unigol, ac o ran yr ymdrechion sy'n cael eu gwneud i dyfu ein llif ein hunain o feddygon sy'n dod drwy'r system a fydd yn feddygon ymgynghorol y dyfodol.

Mae fy nghyd-Weinidog, Vaughan Gething, wedi penderfynu y bydd gan yr ymgyrch 'Hyfforddi. Gweithio. Byw', sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn o ran recriwtio i GIG Cymru, bwyslais penodol ar recriwtio staff meddygaeth frys yn ystod y flwyddyn i ddod, a bydd hynny'n atgyfnerthu'r ymdrechion y mae'r byrddau iechyd eu hunain yn eu gwneud i recriwtio i swyddi gwag.

Hoffwn fod ychydig bach yn hy gyda'r cwestiwn hwn, os caf, Prif Weinidog, a dechrau drwy ddiolch o galon, a diolch dros bob un ohonom ni rwy'n siŵr, i'n staff GIG a gofal cymdeithasol, sy'n gwybod eu bod nhw ar fin wynebu brwydr eu bywydau ar ein rhan , ac maen nhw'n gwneud hynny. Ac rwy'n ddiolchgar iawn am bopeth y maen nhw wedi ei wneud ac y byddan nhw yn ei wneud.

Ac, unwaith eto, rwyf yn bod braidd yn hy gyda'r gair 'recriwtio' oherwydd, wrth gwrs, hoffwn siarad am y staff a'r cymorth sydd eu hangen arnom ni nawr wrth i ni wynebu'r coronafeirws. Ac roeddwn i'n meddwl tybed a allech chi ddweud wrthym ni a yw—. Rydym ni wedi sôn llawer, efallai, am recriwtio neu ail-recriwtio yn ôl i'r gweithlu pobl sydd newydd ein gadael ni, newydd ymddeol, ac roeddwn i'n meddwl tybed a allech chi roi unrhyw ddiweddariad i ni ynghylch pa un a ydych chi wedi cael syniadau am gysylltu â myfyrwyr meddygol blwyddyn olaf, myfyrwyr nyrsio blwyddyn olaf, ac yn amlwg y cyrff sy'n eu cynrychioli, oherwydd bydd y bobl hyn yn gyfarwydd iawn â'r polisi cyfredol a byddan nhw'n sicr yn fedrus dros ben o ran awyryddion, gwaith anadlu a'r gweddill i gyd, a gweld os, efallai, gyda'u hewyllys da, ac yn amlwg, yr amodau cywir, a allem ni eu recriwtio nhw, efallai, i helpu i ategu ein gweithlu presennol.

Diolchaf i Angela Burns am y ddau bwynt y mae hi wedi eu gwneud. Mae hi yn llygad ei lle bod staff yn ein sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yn gwybod eu bod nhw'n wynebu her enfawr yn ystod yr wythnosau i ddod. Un o'r rhesymau pam y  gwnaethom ni gyhoeddi ddydd Gwener yr wythnos diwethaf ein bod ni'n mynd i gael gwared ar rai o'r rhwymedigaethau ar feddygon teulu i gynnal apwyntiadau sgrinio a monitro rheolaidd, i leihau nifer yr apwyntiadau rheolaidd ymhlith cleifion allanol, yn ogystal â rhyddhau capasiti i weld cleifion eraill ag anghenion mwy brys—. Cynlluniwyd y camau hynny hefyd i ryddhau amser y clinigwyr y bydd angen eu hailhyfforddi yn y gweithle i allu ymdrin â'r problemau brys y byddan nhw'n eu hwynebu nawr.

Cyn belled ag y mae myfyrwyr meddygaeth a nyrsio blwyddyn olaf yn y cwestiwn, rydym ni'n ymgysylltu â'n cydweithwyr ar lefel y DU ar yr agenda honno. Mae'n un o'r pethau hynny lle'r wyf i'n credu, os oes modd o gwbl, y dylem ni gymryd camau arno gyda'n gilydd, gan y bydd ystyriaethau coleg brenhinol, bydd ystyriaethau trwyddedu. Ac mae angen i ni wneud yn siŵr bod y pethau gweddol dechnegol ond eithaf pwysig hynny, os ydych chi'n glinigydd sy'n ymarfer, yn bethau yr ydych chi'n eu gwybod er mwyn sicrhau eich bod chi wedi eich diogelu yn y penderfyniadau yr ydych chi'n eu gwneud—ein bod ni'n datrys y problemau hynny ar sail y DU, er mwyn cael y mwyaf, fel y dywedodd Angela Burns, o bobl sydd ar fin cwblhau eu hyfforddiant, ac sydd â sgiliau da iawn, o dan yr amgylchiadau iawn, i gamu i mewn a chynorthwyo.

13:35
Datblygu Economaidd ym Mlaenau'r Cymoedd

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am weledigaeth strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu economaidd ym Mlaenau'r Cymoedd? OAQ55276

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu economaidd ym Mlaenau'r Cymoedd yn canolbwyntio ar fuddsoddi mewn lleoedd, pobl ac mewn seilwaith. Yn y modd hwnnw, rydym ni'n cefnogi swyddi newydd yn niwydiannau'r dyfodol, lle mae gwell cynhyrchiant yn bwydo ffyniant yn y rhan honno o Gymru.

Rwy'n cydnabod, Prif Weinidog, bod gwaith Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar y coronafeirws ar hyn o bryd, a'r effaith y mae hwnnw'n ei chael ar bobl ar draws y wlad i gyd. Ac rwy'n credu bod llawer o bobl yn ddiolchgar i chi am eich arweinyddiaeth wrth fynd i'r afael â'r materion hyn. Ond o ran y materion economaidd ehangach, cefais gyfarfod gwych yr wythnos diwethaf gyda Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, pryd y gwnaethom ni drafod y cyfleoedd sydd yno ar draws Flaenau'r Cymoedd i gyd, a lle y gallwn ni dargedu buddsoddiad i sicrhau bod gennym ni'r seilwaith economaidd i gynnal cyflogaeth a gweithgarwch diwydiannol yn y dyfodol. Yn amlwg, mae meddyliau pob un ohonom ni ar faterion eraill ar hyn o bryd, ond a allech chi, Prif Weinidog, amlinellu eich gweledigaeth ar gyfer sut y gallwn ni sicrhau, pan fyddwn ni'n cael y wlad yn ôl ar ei thraed eto, ar ôl yr argyfwng hwn, y byddwn ni'n parhau i fuddsoddi mewn ardaloedd fel Blaenau'r Cymoedd, ac y bydd y buddsoddiad hwnnw'n parhau ar ôl yr argyfwng yr ydym ni'n ei wynebu ar hyn o bryd?

Llywydd, a gaf i ddiolch i Alun Davies am hynna? Wrth gwrs, mae e'n iawn ein bod ni'n canolbwyntio'n ddiflino ar yr her sy'n ein hwynebu'n uniongyrchol. Ond bydd dyfodol i Gymru, ac i'r Deyrnas Unedig, yr ochr arall i coronafeirws, ac mae'n rhaid i ni barhau i wneud yr hyn a allwn ni i wneud yn siŵr bod y cyfleoedd sydd eu hangen arnom ni ar gyfer y dyfodol yn dal i gael eu hystyried, yn dal i gael eu hyrwyddo, pan ein bod ni'n gallu gwneud hynny. Diolchaf i'r Aelod dros Flaenau Gwent am ddod i'r cyfarfod hwnnw yr wythnos diwethaf, ac am gyfrannu at y gronfa o syniadau y bydd ei hangen arnom ni, i sicrhau bod economi ardal Blaenau'r Cymoedd yng Nghymru mor barod ag y gall fod i fanteisio ar y cyfleoedd a fydd yn dod yn y dyfodol.

Dyna pam, yn y strategaeth yr ydym ni'n ei dilyn, yr ydym ni'n parhau i ddenu cwmnïau technoleg blaengar i'r rhan honno o Gymru, ond hefyd, Llywydd, i ganolbwyntio ar fusnesau lleol presennol, gan eu helpu i ddefnyddio technolegau a phrosesau newydd, i wella cynhyrchiant, i ddatblygu cynhyrchion gwerth uwch, ac i arallgyfeirio eu sylfaen defnyddwyr. Ac mae darn penodol iawn o waith y mae Llywodraeth Cymru eisiau parhau i'w wneud gyda'n partneriaid yn y rhan honno o Gymru, i gynyddu cynhyrchiant yn y busnesau cynhenid hynny. A dyna pam yr ydym ni'n gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Coleg Gwent, a Phrifysgol Caerdydd, i drosglwyddo i'r gweithle y syniadau yr ydym ni'n gwybod sydd yno, ac a all wneud y cwmnïau hynny'n fwy cynhyrchiol, ac felly'n fwy abl i fanteisio ar gyfleoedd economaidd yn y dyfodol. A hyd yn oed yn y dyddiau anodd sydd o'n blaenau, gwn fod pobl ymroddedig iawn yn y rhan honno o Gymru a fydd yn awyddus i barhau â'u hymdrechion i'r cyfeiriad hwnnw.

O dan yr amgylchiadau presennol, mae'n iawn ac yn briodol bod ymdrechion y Llywodraeth yn canolbwyntio'n llwyr ar y coronafeirws, a'r cymorth y gellir ei roi, ym maes iechyd, ond yn yr economi hefyd. O gyfarfod â busnesau yn fy rhanbarth fy hun ddoe, ynghyd â'r Aelod etholaeth dros Fro Morgannwg, mae'n amlwg mai gwybodaeth yw'r llwch aur y mae'r busnesau hynny'n ei grefu. Ac rwy'n croesawu'r cymorth y mae'r Gweinidog wedi ei gyflwyno ynghylch ardrethi busnes heddiw, ond y cafeat yn gysylltiedig â'r cymorth hwnnw oedd y bydd mwy o wybodaeth yn dod, sut y bydd yn cael ei roi i fusnesau. A allwch chi roi llinell amser i ni o ran pryd y gallai'r cymorth hwnnw fod ar gael i fusnesau, a'r dull a fydd yn cael ei ddefnyddio i'w ddarparu? Oherwydd, fel y dywedais, nid yw hon yn feirniadaeth; apêl yw hon o'r cyfarfod a gynhaliwyd gennym ni ddoe mai'r llwch aur sydd ei angen ar fusnesau ar hyn o bryd i wneud dewisiadau cytbwys am statws cyflogaeth gweithwyr a chyfeiriad eu busnesau, yw sut y bydd cymorth hwnnw ar gael a phryd.

13:40

Wel, diolchaf i Andrew R.T. Davies am hynna, a chlywais, yn wir, gan fy nghyd-Weinidog, Jane Hutt, am y cyfarfod yr oedd hi ac yntau yn bresennol ynddo yn y Bont-faen ddoe. Yr hyn y mae cyhoeddiad ddoe yn ei wneud yn eglur, Llywydd, yw y bydd pob ceiniog sydd wedi dod i Gymru trwy Lywodraeth y DU ar gyfer cymorth busnes yn cael ei gwario at y dibenion hynny yma yng Nghymru.

Fe wnaethom benderfyniad pwysig yng nghyswllt rhyddhad ardrethi busnes, ac mae hynny wedi cymryd y rhan fwyaf o'r arian sydd wedi dod i Gymru. Rydym ni'n parhau i drafod gyda'r Trysorlys am y defnydd o fformiwla Barnett, fel y ffordd o ddosbarthu'r adnodd hwnnw ar draws y Deyrnas Unedig, gan fod gennym ni fwy na'r gyfran gyffredin o fusnesau bach yn arbennig yng Nghymru, ac rydym ni'n gwneud y ddadl i'r Trysorlys y dylai'r modd y caiff cyllid ei ddosbarthu adlewyrchu realiti'r angen ar lawr gwlad, yn hytrach na fformiwla, y mae pawb wedi cytuno, sydd wedi mynd ymhell y tu hwnt i'w defnydd effeithiol.

Ychydig dros £100 miliwn yw'r hyn sydd gennym ni'n weddill o'r swm o arian a ddaeth yn y gyllideb, pan ein bod ni wedi gwneud y penderfyniadau ar ryddhad ardrethi busnes. Rydym ni'n gobeithio y bydd y swm hwnnw'n codi o ganlyniad i'n trafodaethau gyda'r Trysorlys, ond rydym ni mewn trafodaethau yr wythnos hon gyda busnesau, ac mae fy nghyd-Weinidog, Ken Skates, yn arbennig, yn cyfarfod â Chydffederasiwn Diwydiant Prydain, y Ffederasiwn Busnesau Bach, Sefydliad y Cyfarwyddwyr, y Siambrau Masnach, y Gymdeithas Cludiant Ffyrdd ac yn y blaen er mwyn cael synnwyr cryf ganddyn nhw o'r ffordd fwyaf effeithiol o ddefnyddio'r £100 miliwn hwnnw.

Os nad oes rhagor o arian ar gael, byddwn yn gwneud penderfyniadau ynghylch defnyddio'r £100 miliwn mor gyflym ag y gallwn. Roeddem ni'n meddwl ei bod hi'n iawn gwneud yn siŵr bod llais busnesau'n cael ei fynegi'n uniongyrchol i ni, felly os oes syniadau gwell na'r rhai sydd gennym ni yn y gymysgfa eisoes, byddwn ni'n dysgu ohonyn nhw, yn gwneud y penderfyniadau ar ôl hynny ac yn mynd â'r arian oddi wrthym ni i ddwylo'r bobl sydd ei angen.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Ar ran arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap iorwerth.  

Diolch yn fawr iawn. A gaf i gofnodi diolchgarwch Plaid Cymru i weithwyr rheng flaen yn y sector iechyd a gofal ac mewn mannau eraill am eu gwaith yn ystod y cyfnod anodd hwn? A gaf i hefyd ddiolch i'r rhai sy'n gweithio yn eu cymunedau, gan sefydlu grwpiau cymunedol a helpu rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein plith? Dylid eu cynorthwyo yn y gwaith hwnnw.

Felly, diolch yn fawr iawn i chi. 

Diolch i bob un ohonoch.

Prif Weinidog, mae Plaid Cymru yn cefnogi'r canllawiau cryfach a gyhoeddwyd ddoe. Roeddem ni wedi galw am fesurau cadarnach; byddwn yn gweithio gyda chi yn y cyfnod digynsail hwn. Ond mae'n bwysig, wrth gwrs, ein bod ni'n parhau i graffu ar ddull gweithredu Llywodraeth Cymru.

Yn yr ysbryd hwnnw, a allwch chi roi arweiniad eglur, yn gyntaf, ar bolisi profi? A wnewch chi ymrwymo i ddilyn canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd ar bwysigrwydd profi mwy er mwyn torri cadwyni haint, y mae'n cyfeirio ato fel 'asgwrn cefn yr ymateb'? Ac a allwch chi roi sicrwydd pendant i gynyddu'r gallu i gynnal profion, a hynny ar fyrder gwirioneddol, i sicrhau bod gweithwyr allweddol, yn enwedig gweithwyr iechyd a gofal, ond hefyd eraill sy'n cynnig gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, yn gallu osgoi gorfod cymryd amser i ffwrdd o'r gwaith yn ddiangen?

Wel, diolchaf i Rhun ap Iorwerth am hynna, a diolch iddo ef ac i Adam Price am gymryd rhan mewn trafodaethau ar hyn ddoe. O ran polisi profi, y cyngor y mae'n rhaid i mi ei ddilyn yw'r cyngor a roddwyd i mi gan Brif Swyddog Meddygol Cymru a'r cynrychiolwyr hynny o Gymru sy'n aelodau o'r grŵp cynghori gwyddonol. Ceir llawer o wahanol safbwyntiau, rwy'n deall hynny. Ceir llawer o wyddonwyr profiadol sydd â safbwyntiau gwahanol ar bolisi profi. Ni allaf ddewis a dethol rhwng gwahanol safbwyntiau sydd yn y gymysgedd o ran y mater hwn. Mae'n rhaid i mi ddibynnu ar y bobl hynny sy'n cael eu cyflogi i roi'r cyngor mwyaf arbenigol y gallan nhw ei ddarparu i Lywodraeth Cymru, ac sydd â dealltwriaeth hynod fanwl o'r amgylchiadau yma yng Nghymru. Eu cyngor ddoe, dyna oedd cyngor prif swyddogion meddygol eraill hefyd, yw nad dyma'r adeg yn hynt y clefyd pan mai defnyddio adnoddau sylweddol ar gyfer profion torfol yw'r ffordd fwyaf effeithiol o roi mesurau diogelwch ar waith. Efallai fod pobl eraill yn anghytuno, rwy'n deall hynny, ond yr hyn yr wyf i'n ei ddweud yw nad oes gen i ddewis ond dilyn cyngor y bobl hynny yr ydym ni'n eu cyflogi i'n cynghori. Os byddaf i'n symud oddi wrth hynny, yna mae'r graig y mae'r cyngor yr wyf i'n ei roi i bobl yng Nghymru ac i'r gwasanaeth iechyd ar ei sail wedi cael ei chicio oddi tanom ni, ac nid wyf i'n mynd i wneud hynny. Mae eu cyngor wrthi'n cael ei ddatblygu—roedd y Grŵp Cynghori Strategol o Arbenigwyr ar Imiwneiddio yn trafod y mater hwn eto heddiw—ac os bydd y cyngor hwnnw'n newid yng ngoleuni tystiolaeth ychwanegol a thrafodaethau pellach yn y gymuned arbenigol, yna, wrth gwrs, byddwn yn dilyn y cyngor newydd hwnnw. Ond, ddoe, roedd y cyngor yn eglur a byddaf yn dilyn y cyngor hwnnw yng Nghymru.

Cyn belled ag y mae gweithwyr allweddol yn y cwestiwn, gwn y bydd yr Aelod yn ymwybodol ein bod ni'n gwneud cyhoeddiad heddiw ar brofi gweithwyr clinigol allweddol er mwyn sicrhau eu bod nhw'n dychwelyd mor gyflym â phosibl i'r gweithle. Byddwn yn nodi'r grwpiau hynny o weithwyr clinigol y gallwn ni wneud hynny â nhw ar unwaith, ac yna bydd cynnydd i gapasiti fel y gallwn ni ddod â mwy o weithwyr allweddol i mewn i'r drefn brofi honno.

13:45

Diolch. Rwy'n cydnabod yn sicr y rhan y mae SAGE yn ei chwarae, ond byddwn yn apelio am gydnabyddiaeth i ffactorau demograffig penodol Cymru pan ddaw'n fater o fesur yr angen yma yng Nghymru.

Felly, efallai, un o'r cwestiynau mawr sydd heb eu hateb nawr. Mae'n edrych yn fwyfwy tebygol bod cau ysgolion yn fater bellach o 'pryd' nid 'os'; i athrawon a rhieni mae'r cwestiwn 'pryd' yn amlwg yn bwysig dros ben. Byddai wedi bod yn dda cael datganiad gan y Gweinidog Addysg heddiw, ond yn niffyg hynny a chyn cwestiynau i'r gweinidog ar addysg yfory, a gaf i ofyn i chi egluro nifer o faterion? Ai'r dybiaeth weithiol nawr yw y bydd ysgolion yn cau rhywbryd cyn gwyliau'r Pasg, neu ar ôl hynny? A allwch chi roi canllawiau statudol er mwyn cynorthwyo'r rhai a allai fod mewn sefyllfa i gadw eu plant adref o'r ysgol yn wirfoddol nawr, neu a allai deimlo rheidrwydd i wneud hynny, na fydd y rhain yn cael eu cofnodi fel absenoldebau? Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim? Ac yn hollbwysig, pan fydd ysgolion yn cau, pa ddarpariaeth fydd yn cael ei gwneud mewn ysgolion neu fannau eraill i alluogi gweithwyr allweddol i barhau i weithio?

Wel, Llywydd, yn bennaf oherwydd y ddwy ystyriaeth olaf hynny, safbwynt pedair Llywodraeth y DU yw y dylai ysgolion aros ar agor. Nid wyf i'n mynd i ragweld pryd y gallai'r cyngor hwnnw newid oherwydd nid wyf i'n meddwl bod hynny o gymorth i neb. Mae'r cyngor hwnnw'n dal i gael ei adolygu ym mhob cyfarfod. Mae'r safbwynt presennol yn eglur: mae ysgolion yn aros ar agor yng Nghymru, yn rhannol i sicrhau bod gweithwyr allweddol y byddai'n rhaid eu dargyfeirio i ofalu am eu plant eu hunain fel arall ar gael i fod mewn lleoliadau clinigol; yn rhannol oherwydd y byddai penderfyniad sydyn i gau ysgolion yn gadael y nifer fawr o ddisgyblion hynny sy'n dibynnu ar frecwast am ddim yn yr ysgol a phrydau ysgol am ddim yn agored i niwed pe byddai ysgolion yn aros ar gau am gyfnod estynedig o amser.

Yr hyn y gallaf roi sicrwydd yn ei gylch i'r Aelod ac Aelodau eraill yw hyn: rydym ni'n defnyddio'r amser sydd gennym ni nawr, tra bod ysgolion yn dal i fod ar agor yn y modd y maen nhw, i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Felly, os byddwn ni'n cyrraedd adeg yn natblygiad y clefyd hwn lle mai'r peth iawn i'w wneud yw cau ysgolion, bydd gennym ni drefniadau ar waith a fydd yn diwallu anghenion y plant hynny sy'n dibynnu ar bryd bwyd yn yr ysgol ar gyfer eu lles cyffredinol, ac y byddwn ni wedi rhoi sylw i anghenion gweithwyr allweddol. Ceir nifer o ystyriaethau pwysig iawn eraill yng nghyswllt ysgolion, ac mae'r rheini'n cael eu hystyried yma yng Nghymru ac mewn mannau eraill. Am nawr, mae ysgolion yn dal ar agor. Dyna'r cyngor eglur i rieni. Oni bai bod gan eich plentyn gyflwr meddygol sylfaenol sy'n golygu y dylai fod gartref, mae'r ysgolion ar agor ac ar gael iddyn nhw.

Yn olaf, yn ogystal â bod yn berygl i iechyd, mae hwn hefyd yn troi'n gyfnod eithriadol o bryderus yn ariannol i unigolion a busnesau. Mae un busnes bach yn fy etholaeth i eisoes wedi cyhoeddi colledion refeniw o £120,000—busnes bach—o ganlyniad uniongyrchol i'r feirws. Mae un arall yn gweld costau a cholledion yn cynyddu i'w fusnes i'r graddau nad yw'n gallu gweld sut y gall fforddio prynu bwyd iddo'i hun am lawer yn hwy. Mae gan yr Alban linell gymorth COVID-19 wedi ei neilltuo i fusnesau. A allwn ni fel mater o frys gael un yng Nghymru? Dylem ni fod yn dilyn esiampl yr Arlywydd Macron, rwy'n credu, sydd wedi addo na fydd unrhyw fusnes yn mynd i'r wal oherwydd COVID-19. Gwn y byddwch chi'n cytuno â mi y dylai Llywodraeth y DU roi sicrwydd tebyg, ond os bydd yn oedi, a wnewch chi geisio gweithredu drwy, er enghraifft, ofyn am bwerau benthyg hirdymor, mynediad at gronfeydd wrth gefn y Trysorlys? Busnesau, pobl hunan-gyflogedig, gweithwyr yn yr economi gìg, y rhai sydd ar gontractau dim oriau—mae llawer o bobl yn teimlo'n agored i niwed neu'n waeth, ac nawr, mwy nag erioed, maen nhw angen gweld camau cadarn a beiddgar yn cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru.

13:50

Diolchaf i Rhun ap Iorwerth am y cwestiynau ychwanegol yna. Mae llinell gymorth benodol ar gael ar gyfer busnesau yma yng Nghymru, sef llinell gymorth Busnes Cymru. Rydym ni'n defnyddio'r llinell gymorth honno gan ei bod hi eisoes yn adnabyddus yn y sector. Nid oes angen dod o hyd i rywbeth ar wahân, newydd a gwahanol: defnyddiwch linell gymorth Busnes Cymru. Mae wedi ei threfnu i ymateb i bobl sydd yn yr amgylchiadau hyn.

O ran y pwyntiau ehangach, wrth gwrs, rwy'n cytuno â'r pwyntiau y mae Rhun ap Iorwerth wedi eu gwneud. Mae effaith coronafeirws ar ein heconomi yn hollol enfawr. Mae'r ymdrechion sydd eu hangen i'w frwydro i wneud yn siŵr bod yr economi yn parhau yn solfent, y bydd busnesau sydd yn hyfyw heddiw yn dal i fod yn hyfyw ar ôl i'r argyfwng ddod i ben, a bod yr unigolion y mae eu hincymau yn cael eu heffeithio yn cael incymau nawr i'w helpu drwy'r argyfwng—mae'r rhain i gyd yn bwyntiau pwysig iawn. Mae pob un ohonyn nhw'n cael eu trafod yn y llythyr a anfonais yn gynharach heddiw at Ganghellor y Trysorlys cyn yr hyn yr addawyd i ni a fydd ei ddatganiad yn ddiweddarach yn y prynhawn. Yn glasurol, dyma'r adeg pan ddefnyddir yr ysgogiadau sydd yn nwylo Llywodraeth y DU—ysgogiadau cyllidol yn ogystal ag ysgogiadau ariannol—ac fe'u defnyddir mewn ffordd sy'n gymesur â maint yr her yr ydym ni'n ei hwynebu. Nid oes neb eisiau busnes sy'n hyfyw heddiw ac a fydd yn hyfyw wedyn i fynd i'r wal yn ystod yr argyfwng. Nid oes neb eisiau i fywoliaeth a theulu sy'n ffynnu heddiw fethu â gallu parhau i ffynnu yr ochr arall i coronafeirws, ac at Lywodraeth y DU y mae'n rhaid i ni edrych i gymryd y camau a fydd yn sicrhau'r dyfodol hwnnw.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae'n hanfodol bwysig ein bod ni i gyd yn rhoi gwleidyddiaeth bleidiol o'r neilltu ac yn gweithio gyda'n gilydd er budd y cyhoedd wrth i fygythiad coronafeirws gynyddu, ac felly a gaf i ddiolch i chi am y sesiynau briffio a'r cyfathrebu parhaus ar y mater hwn, ac a gaf i ei gwneud yn gwbl eglur y bydd fy nghyd-Aelodau a minnau'n gwneud popeth o fewn ein gallu i weithio gyda'r Llywodraeth i fynd i'r afael â lledaeniad coronafeirws yng Nghymru? A gaf i hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i staff rheng flaen y GIG am bopeth y maen nhw'n ei wneud ac y byddan nhw yn ei wneud yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf i fynd i'r afael â'r feirws hwn, ac i gadw pob un ohonom ni'n ddiogel? Hoffwn hefyd ychwanegu fy nghydymdeimlad diffuant â theulu a chyfeillion y claf a fu farw o COVID-19 yng ngogledd Cymru hefyd.

Nawr, fel llawer o Aelodau ar draws y Siambr hon, rwyf i wedi cael galwadau a gohebiaeth gan etholwyr, sefydliadau a busnesau sy'n bryderus ynghylch sut i fynd ati i leihau'r effaith y gallai'r feirws ei chael ar eu teuluoedd a'u bywoliaeth, ac mae rhai pobl, gyda phob cyfiawnhad, yn bryderus ac wir yn ofnus. Rwy'n siŵr eich bod chithau hefyd yn ymwybodol o rai o'r golygfeydd anffodus mewn siopau ac archfarchnadoedd ar hyd a lled y wlad, lle'r oedd silffoedd yn wag a chwsmeriaid yn methu â chael gafael ar eitemau hanfodol. Prif Weinidog, mae'n hanfodol bod Llywodraethau ar bob lefel yn gwneud popeth yn eu gallu i dawelu meddyliau'r cyhoedd yn well, ond a allwch chi ddweud wrthym ni hefyd pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod y bobl hynny sydd bellach yn ynysu eu hunain yn gallu cael yr eitemau hanfodol y mae nhw eu hangen yn rheolaidd?

Diolchaf i Paul Davies am hynna. A gaf innau hefyd, Llywydd, gydymdeimlo â theulu a chyfeillion y person cyntaf i farw o coronafeirws yma yng Nghymru? A gaf i ddiolch iddo ef ac i Angela Burns hefyd am ddod i'r cyfarfod a gawsom ddoe, ond hefyd am y cyfleoedd yr wyf i wedi eu cael dros yr wythnos neu ddwy ddiwethaf i drafod yr argyfwng sy'n datblygu gydag arweinydd yr wrthblaid? Rwy'n ddiolchgar am ei syniadau a'i gyngor yn ystod y galwadau ffôn hynny. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd. Mae hwn yn argyfwng y byddwn ni'n ymdopi ag ef trwy gydweithio ar draws pleidiau ac ar draws gweinyddiaethau, a fy nod yw gwneud yr union beth hwnnw pryd bynnag y byddwn ni'n gallu gwneud hynny.

A gaf i gytuno ag ef? Nid yw prynu panig yn ateb i coronafeirws. Mae'n rhaid i ni bwyso ar ein cyd-ddinasyddion i feddwl am ganlyniadau eu gweithredoedd. Mae unrhyw argyfwng yn dod â phethau da a drwg allan ym mhobl, onid yw? A bu cynnydd aruthrol i haelioni yn gysylltiedig â coronafeirws hefyd, gyda phobl yn gwirfoddoli i ofalu am eraill, yn gofyn beth y gallan nhw ei wneud, yn awyddus i ddod o hyd i ffyrdd o helpu i ofalu am bobl eraill sy'n fwy agored i niwed na nhw eu hunain. Felly, rydym ni'n gweld hynny i gyd, ac eto mae pobl weithiau yn ymddwyn yn y ffordd honno, fel grŵp: maen nhw'n gweld pobl eraill yn gwneud pethau, maen nhw'n meddwl bod yn rhaid iddyn nhw gopïo'r hyn y maen nhw'n gweld pobl eraill yn ei wneud, ac mae gennym ni broblem na fu erioed angen iddi ddigwydd yn y lle cyntaf.  

Nawr, rydym, i raddau, yn barod iawn ar gyfer rhywfaint o hyn oherwydd y gwaith paratoi a wnaed y llynedd yng nghyd-destun Brexit. Pe byddem ni wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb, yna mae'n anochel y byddai effeithiau wedi bod ar y cyflenwad o nwyddau a gwasanaethau ac rydym ni wedi ail-gychwyn y drefn a oedd gennym ni yn y cyd-destunau hynny i wneud yn siŵr ein bod ni bob amser mewn cysylltiad da â'r diwydiant manwerthu a'r diwydiant logisteg, a chyhoeddodd fy nghyd-Weinidog Julie James ddatganiad ar hyn yr wythnos diwethaf. Y neges eglur gan y sector yw nad oes unrhyw brinder bwyd i fynd o gwmpas cyn belled ag y bo pobl yn ymddwyn yn rhesymol.

Yna'r ail gwestiwn a gododd Paul Davies ynglŷn â sut yr ydym ni'n gwneud yn siŵr y gellir rhoi cymorth i'r bobl hynny y bydd angen iddyn nhw gael bwyd a phethau eraill oherwydd y cyfyngiadau ar eu hymddygiad eu hunain. Hoffwn roi gwybod iddo ef a'r Aelodau eraill ein bod ni'n gweithio'n agos â'n cydweithwyr mewn awdurdodau lleol a'n cydweithwyr yn y trydydd sector yma yng Nghymru i wneud yn siŵr ein bod ni'n rhoi dipyn o system o amgylch y cynigion o gymorth yr ydym ni'n gwybod sydd yno yng Nghymru, fel bod pobl yn gwybod ble i fynd er mwyn cael gafael ar y cymorth y gellir ei roi ar gael iddyn nhw. Byddwn yn cyfarfod yfory gyda chynrychiolwyr o'r sectorau hynny a gyda chynghorau cymuned hefyd. Mae cyfres o sefydliadau sydd â rhan i'w chwarae i wneud yn siŵr y gellir rhoi cymorth ar waith ar y lefel unigol honno. Byddwn yn dod â phobl o amgylch y bwrdd, gan wneud yn siŵr ein bod ni'n gallu rhoi cyngor cyson a dibynadwy i bobl yng Nghymru ynglŷn â sut y gallan nhw gael y cymorth hwnnw gydag amgylchiadau cymdeithasol tra byddan nhw'n rhoi sylw i effaith feddygol y coronafeirws.  

13:55

Prif Weinidog, wrth i nifer yr achosion o coronafeirws barhau i gynyddu, felly hefyd y mae'r galw am driniaeth mewn ysbyty, a gwn fod Llywodraeth Cymru wedi cytuno ar fframwaith o gamau gweithredu fel y gall y gwasanaeth iechyd ddechrau cyflymu'r broses o wneud penderfyniadau. Bydd y fframwaith hwnnw, gobeithio, yn caniatáu i wasanaethau a gwelyau gael eu hailddyrannu ac i staff gael eu hadleoli a'u hailhyfforddi mewn meysydd blaenoriaeth penodol.

Fodd bynnag, ar hyn o bryd, Prif Weinidog, a allwch chi gadarnhau'n benodol nifer y gwelyau mewn unedau gofal dwys a gwelyau dibyniaeth uchel sydd ar waith yng Nghymru mewn gwirionedd? A allwch chi ddweud wrthym ni hefyd pa drafodaethau sy'n cael eu cynnal ar unwaith i ystyried dewisiadau eraill i gynyddu nifer y gwelyau pe byddai Cymru yn cael ei llethu gan achosion difrifol? Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio unrhyw gyllid ychwanegol a gaiff ei hidlo i lawr gan Lywodraeth y DU i helpu i gynyddu nifer y gwelyau sydd ar gael i bobl sy'n cael eu heffeithio gan y coronafeirws?

Wel, diolchaf i Paul Davies. Hoffwn roi nifer y gwelyau gofal critigol sydd gennym ni yma yng Nghymru iddo, ond rwyf i eisiau gwneud yn siŵr fy mod yn ei rhoi iddo'n gywir. Yn fy meddwl, 136 yw'r ffigur, ond byddaf yn cadarnhau hynny gydag ef os nad wyf i wedi cofio hynny'n gywir. Mae gan y gwasanaeth iechyd, Llywydd, gapasiti ymchwydd, fel y'i gelwir, eisoes ar gyfer gofal dwys, i ddyblu'r nifer honno o welyau. Mae hynny'n rhan o waith cynllunio arferol y gwasanaeth iechyd, ond rydym ni'n gwybod hyd yn oed os byddwch chi'n dyblu'r nifer sydd gennym ni, na fydd yn bodloni lefel debygol y galw. Felly, wrth gwrs mae trafodaethau'n cael eu cynnal gyda'n cydweithwyr gofal dwys am ffyrdd eraill o wneud gwahanol fathau o benderfyniadau i drin pobl sydd angen y lefel honno o ymyrraeth. Mewn rhannau eraill o'r ysbyty, rhan o'r rheswm am ganslo llawdriniaethau arferol yw bod rhywfaint o'r offer y byddai ei angen arnoch chi yn aml wedi ei leoli mewn theatrau ac y gellir ei ddefnyddio yn y ffordd honno. Ond yn y ffordd yr wyf i'n credu bod Paul Davies yn ei awgrymu, mae'n fater o raeadru, a dweud y gwir. Er mwyn creu mwy o gapasiti ar y pen mwyaf dwys, mae'n rhaid i chi rhyddhau capasiti dryw'r system gyfan.

Rwy'n ddiolchgar iawn i'n cydweithwyr mewn llywodraeth leol yng Nghymru, sy'n gwneud gwaith pwysig iawn i allu rhyddhau capasiti yn y sector cartrefi gofal, fel bod y bobl sydd mewn gwelyau ysbyty yng Nghymru heddiw, sy'n barod i adael—nid oes rheswm meddygol iddyn nhw fod yno—bydd lleoedd i'r bobl hynny fynd, felly rydym ni'n creu capasiti yn y ffordd honno hefyd. Felly, drwy'r system gyfan, mae angen i ni ddod o hyd i ffyrdd o symud pobl i lawr yr hierarchaeth ymyraethau er mwyn creu capasiti yn y fan y gallai fod ei angen fwyaf i'r rhai sydd â'r cyflyrau mwyaf dwys.

14:00

Prif Weinidog, rwyf i wedi sôn o'r blaen am yr effaith y gallai coronafeirws ei chael ar sector gofal cymdeithasol Cymru gyda chi. Wrth i fygythiad y feirws gynyddu, mae'n bwysicach nag erioed bod gan y rhai sy'n darparu gofal i bobl sy'n byw mewn cartrefi gofal fynediad at y canllawiau a'r cyngor diweddaraf sydd ar gael. Dywedasoch yn gwbl briodol bod sector gofal cymdeithasol Cymru yn llawn perchenogion bach un neu ddau o gartrefi gofal preswyl a bod cael negeseuon allan i bobl yn fwy o her pan fydd gennych chi niferoedd mwy o bobl dan sylw a phobl efallai nad ydyn nhw o reidrwydd mor effro i ymdrin â gofynion â chwmnïau mawr, sydd wedi eu trefnu'n dda ac yn barod ar gyfer gwneud hyn.

Ceir y mater o'r rhai sydd angen gofalwyr cartref hefyd, a'r risgiau o drosglwyddo feirysau i ofalwyr a'u defnyddwyr gwasanaeth. Felly, a allwch chi ddweud ychydig yn rhagor wrthym ni efallai am y ddeialog y mae'r Llywodraeth yn ei chael gyda'r sector gofal cymdeithasol, a pha mor effeithiol yr ydych chi'n credu yw'r Llywodraeth o ran cyfleu ei negeseuon. A allech chi hefyd roi rhywfaint yn rhagor o wybodaeth am gam nesaf gwaith cynllunio wrth gefn y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud i ddiogelu'r rhai sy'n byw mewn lleoliadau gofal cymdeithasol yn well rhag coronafeirws, ac a oes capasiti o fewn y system i awdurdodau lleol i reoli i achosion o'r feirws yn effeithiol ar hyn o bryd? Pa adnoddau a chymorth ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn eu darparu i'r sector fel y gall y rhai sy'n byw mewn lleoliadau gofal cymdeithasol fod yn ffyddiog eu bod nhw mor ddiogel â phosibl?

Diolchaf i Paul Davies. Mae'r rheini i gyd yn gwestiynau pwysig iawn. Bydd yn gwybod bod AGGCC—Arolygiaeth Gofal Cymru—wedi cyhoeddi, yn gynharach yr wythnos hon, ei bod yn oedi cyn cynnal arolygiadau rheolaidd ym maes gofal cymdeithasol i wneud yn siŵr bod staff rheng flaen yn gallu canolbwyntio ar y gwaith pwysicaf sydd ganddyn nhw, a'n bod ni'n gallu defnyddio'r arolygiaeth, sydd â chysylltiadau ar draws y sector cyfan, i'n helpu i raeadru negeseuon, fel yr ydym ni'n gallu defnyddio Fforwm Gofal Cymru. Rydym ni'n ddiolchgar iawn i'r fforwm am y gwaith y mae'n ei wneud i wneud yn siŵr bod negeseuon allweddol yn cael eu rhoi ar gael, nid yn unig i ddarparwyr mawr, ond i'r nifer llawer ehangach o ddarparwyr gwasanaethau gofal preswyl bach.

Mae arweinydd yr wrthblaid yn gwneud pwynt pwysig iawn am ofal cartref, ac ni allaf ateb cwestiynau y prynhawn yma, Llywydd, a rhoi sicrwydd pendant y bydd popeth yn iawn ym mhob man, oherwydd nid dyna realiti coronafeirws. Rydym ni eisoes yn gwybod nad yw rhai mesurau eraill—y mesurau iawn y cytunwyd arnyn nhw ar draws y Deyrnas Unedig o ran hunan-ynysu—wedi cael effaith ar y gweithlu ym maes gofal cartref, gyda llai o bobl yn ymddangos i wneud y swyddi pwysig hyn. Ond rydym ni'n sgwrsio'n uniongyrchol iawn gyda'r sector a chydag awdurdodau lleol, ac yn gwybod bod y sector yn gweithio'n galed i flaenoriaethu'r penderfyniadau y mae'n rhaid iddo eu gwneud gyda'r gweithlu sydd ar gael iddo, ac mae hynny'n rhan o'n sgwrs barhaus gydag awdurdodau lleol, ac felly hefyd y cymorth y byddwn ni'n gallu ei ddarparu iddyn nhw.

Nid wyf i wedi sôn y prynhawn yma, hyd yn hyn, Llywydd, am y Bil brys yr ydym ni'n disgwyl iddo gael ei gyhoeddi ddydd Iau yr wythnos hon. Bydd yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru a fydd yn cymryd rhai o'r gofynion rheoleiddio presennol oddi wrth y sector ac yn eu galluogi nhw i ymateb i'r argyfwng mewn ffordd sy'n fwy hyblyg nag a fyddai ar gael iddyn nhw fel arall. Byddwn yn ceisio defnyddio'r pwerau hynny yma yng Nghymru, gan ymgynghori'n agos â'r sector ei hun.

14:05

Diolch, Llywydd. Hoffem ninnau hefyd gofnodi ein diolch i holl staff y GIG a thu hwnt sy'n ymdrechu i weithio drwy'r cyfnod hwn, a hoffwn ddiolch i chithau, Prif Weinidog, am y sesiynau briffio yr ydych chi'n eu darparu. Gallwch fod yn sicr o'n cefnogaeth barhaus. Hefyd, anfonwn ein cydymdeimlad at deulu a chyfeillion y person a fu farw yn sgil y feirws hwn.  

Prif Weinidog, rydym ni'n dechrau gweld yr effaith y mae COVID-19 yn ei chael ar gymdeithas. Mae fy nghyd-Aelod Mark Reckless yn hunan-ynysu oherwydd iddo datblygu symptomau sy'n gyson â'r clefyd. Felly, yn y cyfamser, os gwnewch chi fod yn fodlon gyda mi yn gofyn cwestiynau'r arweinydd, byddwn yn ddiolchgar.

Prif Weinidog, mae gennym ni gyfnod bach iawn o gyfle i reoli trywydd y clefyd hwn sy'n creu hafoc ledled y byd. Y peth gorau y gallwn ni ei wneud yw dilyn cyngor arbenigwyr meddygol, ac rwyf i'n un yn cael fy nghysuro gan y ffaith fod pedair gwlad y DU yn gweithio gyda'i gilydd ar ein strategaeth, gan ddilyn cyngor epidemiolegwyr. Nod y cyngor i aros gartref am 14 diwrnod os oes gan unrhyw un yn eich cartref symptomau yw atal lledaeniad y clefyd hwn, y mae modelu yn rhagweld y gallai effeithio ar gymaint ag 80 y cant o'n poblogaeth. Er fy mod i'n derbyn nad yw'r adnoddau gennym ni i brofi pawb, ac y byddai profion eang yn dargyfeirio adnoddau hanfodol i ffwrdd oddi wrth cynorthwyo'r rhai sy'n wynebu'r perygl mwyaf, mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod ni'n cynnal profion ar gyfer gweithwyr allweddol hanfodol. Prif Weinidog, ni allwn fforddio cael cannoedd, efallai miloedd, o staff allweddol yn hunan-ynysu. A wnewch chi ymrwymo felly i sicrhau bod profion blaenoriaeth yn cael eu cynnal ar aelodau teulu a staff sy'n gweithio yn ein hysbytai, ein cartrefi gofal a'n hysgolion? Ein carchardai hefyd, yr heddlu, y gwasanaethau tân ac ambiwlans. Mae'r bobl hyn yn hanfodol i weithrediad ein cymdeithas, ac ni allwn fforddio eu colli nhw oni bai y cadarnhawyd eu bod wedi cael eu hamlygu i SARS-CoV-2.  

Diolchaf i Caroline Jones am y cwestiynau yna, a diolchaf iddi hi hefyd am ddod i'r cyfarfod a gynhaliwyd gennym ni ddoe. Llywydd, hoffwn, ar ran Aelodau eraill rwy'n siŵr, ddymuno'n dda i'n cyd-Aelodau ym mhob plaid sy'n eu canfod eu hunain wedi eu dal gan y cyngor a roddwyd ddoe, ac nad ydyn nhw'n gallu bod gyda ni yn y Siambr y prynhawn yma. O ran profi, fel y dywedais yn gynharach, bydd cyngor heddiw a fydd yn ymestyn profion i weithwyr allweddol mewn swyddi clinigol. Wrth i gapasiti ddatblygu, y bwriad fydd gweld pa un a oes grwpiau eraill y gellir eu hychwanegu at y drefn brofi honno, ond y rheswm am ddechrau gyda phobl mewn swyddi clinigol allweddol yw'r pwynt a wnaeth Caroline Jones—ein bod ni angen i'r bobl hynny fod yn y gwaith yn gwneud y pethau hanfodol mai nhw yn unig sy'n gallu eu gwneud, ac os bydd profi yn cyflymu eu dychweliad i'r gweithle yn y ffordd honno, yna dyna pam y bydd y drefn honno yn cael ei rhoi ar waith.

Diolch, Prif Weinidog. Hoffwn barhau gyda'r syniad o'r mater o brofi, os caf i. Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi dweud bod angen profi, profi, profi, ac rwy'n derbyn y rhesymeg am beidio â phrofi pob achos ar hyn o bryd. Ond a oes gennych chi strategaeth ar gyfer cynyddu cyfleusterau profi yn ystod y misoedd nesaf? Mae hwn yn feirws cwbl newydd nad ydym ni'n gwybod fawr ddim amdano, a'r mwyaf o ddata y gallwn ni ei gasglu a'i grynhoi, y mwyaf parod y byddwn ni i ymdrin ag ef. Yn anffodus, nid yw'r feirws hwn yn mynd i ddiflannu'n fuan iawn o gwbl. Rydym ni'n dal i ymdrin â SARS bron 20 mlynedd ar ôl iddo ymddangos gyntaf. Byddai brechlyn ar gyfer COVID-19 yn 18 mis neu ddwy flynedd arall i ffwrdd, felly yn niffyg brechlyn, mae angen i ni ddeall cylch bywyd y feirws hwn yn well, ac ar gyfer hynny mae'n rhaid i ni gael data cywir ar y niferoedd sydd wedi eu heintio mewn gwirionedd, y niferoedd sydd wedi eu heintio nad oedd ganddyn nhw symptomau, a chyfradd marwolaethau'r clefyd yn anffodus. Mae ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn dibynnu ar brofi cywir. Prif Weinidog, a yw eich Llywodraeth yn bwriadu cynnal profion serolegol ar raddfa eang ar ôl i ni fynd heibio uchafbwynt yr argyfwng hwn, a phan fydd y prawf sy'n cael ei ddatblygu gan Public Health England ar gael? Diolch.

Unwaith eto, diolchaf i Caroline Jones. Gwnaeth bwynt pwysig iawn, Llywydd, ynglŷn â'r ffaith bod ein dealltwriaeth o'r clefyd hwn yn datblygu drwy'r amser, gan ddysgu o brofiad yn y byd yn ogystal â phrofiad yn ddomestig. A dyna pam yr wyf i'n ailadrodd—ac rwy'n ei ddweud eto y prynhawn yma, Llywydd—mai'r dull yr ydym ni'n ei fabwysiadu fel Llywodraethau ledled y Deyrnas Unedig yw ceisio gwneud y penderfyniad iawn ar yr adeg iawn, oherwydd mae amseriad yr ymyraethau yn bwysig iawn yma, a bydd strategaethau'n newid ar wahanol adegau yn ystod datblygiad y clefyd. Ein strategaeth yw'r un a nodwyd gan Caroline Jones ar ddechrau ei chwestiynau atodol, a fydd yn cael ei harwain gan gyngor ein prif swyddogion meddygol a'r grŵp gwyddonol sy'n ymdrin ag argyfyngau o'r math hwn. Eu cyngor presennol nhw yw'r cyngor yr ydym ni'n ei ddilyn heddiw yng Nghymru. Os, wrth i ragor o wybodaeth ddatblygu, wrth i ni ddysgu mwy, mai eu cyngor yw bod angen gwahanol benderfyniad ar adeg wahanol, byddwn ni'n dilyn y cyngor hwnnw, wrth gwrs. Allaf i ddim ei ragweld, wn i ddim beth fydd y cyngor hwnnw ar wahanol adegau, ond rwyf i eisiau i bobl Cymru wybod mai'r hyn y byddwn ni'n ei wneud fydd dilyn y cyngor gorau sydd ar gael i ni, ac yna ei roi ar waith yma.

14:10
Coronafeirws

4. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y coronafeirws yng Nghymru? OAQ55255

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Wrth i bandemig byd-eang y coronafeirws ddatblygu, ein blaenoriaeth ni yw cadw pobl yn ddiogel gan leihau effaith gymdeithasol ac economaidd y clefyd, yn seiliedig ar y dystiolaeth wyddonol. Mae'r Gweinidog iechyd wedi gwneud datganiadau ysgrifenedig a llafar rheolaidd ar coronafeirws, a bydd yn gwneud datganiad pellach i'r Siambr y prynhawn yma.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Roedd y datganiad y bore yma gan Lywodraeth Cymru i'w groesawu'n fawr cyn belled ag yr oedd busnes yn y cwestiwn. Pe bawn i'n fusnes, Prif Weinidog, i ble fyddwn i'n mynd i chwilio? Gyda phwy fyddwn i'n siarad, er mwyn cael gafael ar y pecyn cymorth a gyhoeddwyd y bore yma?

Diolchaf i Carwyn Jones am hynna, gan ei fod yn caniatáu i mi wneud y pwynt pwysig iawn hwnnw bod gennym ni un pwynt mynediad ar gyfer y cyngor hwnnw yma yng Nghymru, sef defnyddio gwasanaeth Busnes Cymru. Dyna'r rhif i'w ddefnyddio, dyna'r lle i fynd. Y tu ôl i'r rhif hwnnw, wrth gwrs, ceir llu o wahanol gyngor a gwahanol fesurau y gellir eu cymryd i helpu busnesau yma yng Nghymru.

Yn ogystal â'r holl gyfarfodydd y mae fy nghyd-Weinidog Ken Skates yn eu cynnal gyda chyrff cynrychioliadol yr wythnos hon, gwn ei fod wedi bod yn gweithio gyda Banc Datblygu Cymru i wneud yn siŵr eu bod nhw'n ymateb yn hyblyg i bobl sy'n dibynnu ar fenthyciadau a chredyd ganddyn nhw. Rydym ni'n gwybod y bydd gan fusnesau yng Nghymru fynediad at wasanaethau Banc Busnes Prydain a'r posibiliadau newydd a amlinellwyd yn hynny o beth gan Ganghellor y Trysorlys.

Rydym ni'n edrych i raddau helaeth iawn, Llywydd, at Lywodraeth y DU a'r datganiad yr ydym ni'n ei ddisgwyl yn ddiweddarach heddiw am gymorth pellach i fusnesau i ganiatáu iddyn nhw oroesi drwy'r wythnosau a'r misoedd anodd sydd i ddod, fel y byddan nhw, a'r bobl hynny sy'n dibynnu arnyn nhw am incwm, yn dod allan yr ochr arall i coronafeirws ac yn gallu parhau â'u bywydau unwaith eto, a bwrw ati i wneud llwyddiant ohonyn nhw.

Prif Weinidog, un o'r diwydiannau sy'n debygol o gael ei daro'n sylweddol o ganlyniad i ostyngiad i nifer yr ymwelwyr yw ein diwydiant twristiaeth. Mae'n chwarae rhan enfawr yn yr economi, yn enwedig yn y gogledd, y canolbarth a'r gorllewin. Ac, wrth gwrs, mae'n gwbl hanfodol ein bod ni'n gwneud yr hyn a allwn i ddiogelu'r busnesau hynny a allai gael eu heffeithio'n andwyol, ac yn wir y swyddi niferus yn y busnesau hynny, y mae cymaint o fywoliaethau teuluoedd yn dibynnu arnyn nhw.

Efallai y bydd rhai o'r busnesau yn y diwydiant twristiaeth ychydig yn fwy na rhai o'r eithriadau a gyhoeddwyd eisoes yn y drefn ardrethi busnes. Er enghraifft, ceir busnesau unigryw fel pierau, lle na fydd y cymorth ardrethi busnes a gyhoeddwyd hyd yn hyn yn gymwys iddyn nhw, er bod llawer o fusnesau llai sydd, efallai, wedi eu lleoli ar y pierau hynny. Tybed a fyddwch chi'n gallu cynnwys trefniadau sydd weithiau'n anarferol yn y diwydiant twristiaeth, o gofio ei bwysigrwydd i economi Cymru, fel y gellir darparu cymorth ychwanegol efallai i fusnesau sydd â'r mathau hynny o drefniadau anarferol.

Diolchaf i'r Aelod am y pwyntiau pwysig yna. Mae yn llygad ei le: mae'r diwydiant twristiaeth yn arbennig o bwysig yng Nghymru, fel rhan o'n heconomi ac fel sector sy'n cyflogi cynifer o bobl. Yn fy llythyr at y Canghellor yn gynharach heddiw, fe'i hanogais i fabwysiadu dull o gynorthwyo busnesau ledled y Deyrnas Unedig sy'n cydnabod y crynodiad o sectorau penodol mewn mannau penodol. O ran y pwynt y mae'n ei wneud am fusnesau nad ydyn nhw'n cyd-fynd, o reidrwydd, â phroffil arferol y sector, darparwyd arian ychwanegol gennym ni i awdurdodau lleol y llynedd y gallan nhw ei ddefnyddio at ddibenion rhyddhad ardrethi dewisol, oherwydd weithiau yr awdurdod lleol sydd agosaf at y busnesau anarferol hynny sy'n gallu gwneud y penderfyniadau hynny. Byddwn yn cadw hynny mewn cof a'r pwyntiau y mae ef wedi eu gwneud y prynhawn yma pan fyddwn ni'n dod i wneud penderfyniadau ynghylch defnyddio'r £100 miliwn nad ydym ni wedi penderfynu sut i'w ddefnyddio eto o'r symiau a ddaeth i Gymru o'r gyllideb yr wythnos diwethaf.

14:15

O ran coronafeirws, mae demograffeg iechyd yn wahanol iawn yma yng Nghymru, o'i chymharu â, wel, hyd yn oed Lloegr, o ran canran uwch o lawer o boblogaeth oedrannus yma yng Nghymru, o ran y ganran uwch o lawer o bobl â chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint a chlefydau cronig eraill yma yng Nghymru o'i gymharu â Lloegr, ac o ran llawer llai o welyau uned gofal dwys fesul pen o'r boblogaeth yma, hyd yn oed o'i gymharu â Lloegr. Mae hefyd yn dioddef yn andwyol o'i chymharu â gwledydd eraill Ewrop, ac o ran llawer llai o feddygon gofal dwys fesul pen o'r boblogaeth yma, llawer llai na Lloegr a llawer llai na'r Eidal, sy'n mynd trwy armagedon llwyr ar hyn o bryd o 400 o farwolaethau y dydd, a llawer llai o awyryddion a diffyg dillad diogelu a masgiau mewn ymarfer cyffredinol fel mewn mannau eraill. Felly, y gwir amdani yw ein bod ni mewn sefyllfa o ryfel nawr. Mae Cymru'n wynebu her enfawr, gyda llai o adnoddau na Lloegr hyd yn oed. Rydym ni angen wardiau ynysu penodol nawr. Ni allaf feddwl ond am un ward yn unig yng Nghymru ar hyn o bryd y gallwn ni ei defnyddio fel ward ynysu COVID. Rwy'n gweld staff meddygol a nyrsio sydd wedi ymladd y bydd gofyn iddyn nhw bellach wneud penderfyniadau erchyll yn fuan iawn ynglŷn â phwy sy'n cael eu hawyru a phwy nad ydyn nhw'n cael eu hawyru gan nad yw'r awyryddion gennym ni.

Felly, rydym ni dair wythnos y tu ôl i'r Eidal. A gaf i ofyn sut y mae'r Prif Weinidog yn arwain yr ymgyrch yma i arfogi ein GIG a'n staff rheng flaen yn benodol i ymateb i'r her fwyaf hon yn ystod cyfnod o heddwch sy'n wynebu Cymru?

Wel, rwy'n cytuno â Dr Lloyd am y niwed dynol y bydd coronafeirws yn ei wneud a'r pwysau sydd eisoes yn wynebu pobl sy'n gweithio yn y sector, ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n dweud wrthyn nhw, ac wrth bobl a fydd yn pryderu am yr hyn a ddaw yn ystod yr wythnosau nesaf, bod yr ymdrechion sy'n cael eu gwneud ledled y Deyrnas Unedig wedi eu cynllunio i effeithio ar gynnydd y clefyd, fel bod y galw ar y gwasanaeth iechyd yn cael ei leddfu cymaint ag y gallwn ni i wneud y galw ar ein gwasanaethau iechyd, offer ffisegol ond hefyd adnoddau dynol y gwasanaeth iechyd—i allu gwneud hynny mor hylaw ag y gall fod. Mae gennym ni agweddau cadarnhaol iawn yma yng Nghymru, yn ogystal â heriau, o ran ymroddiad a phenderfyniad ein staff, o ran parodrwydd ein poblogaeth i gymryd y camau cyfunol hynny a fydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf. Felly, yn y dyddiau anodd sydd o'n blaenau, mae'n rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd o wneud y mwyaf o'r asedau sydd gennym ni, i wneud y penderfyniadau iawn y gallwn ni i gyd eu gwneud yn unigol yn ogystal â chyda'n gilydd, oherwydd yn y modd hwnnw, gyda'n gilydd, y byddwn ni'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf ac yn sicrhau bod y gallu i reoli effaith y clefyd hwn cystal â phosibl.

Cyflyrau Niwro-amrywiol

5. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth i bobl â chyflyrau niwro-amrywiol yng Nghymru? OAQ55245

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae cymorth i bobl sydd â chyflyrau niwroamrywiol yn parhau i ddatblygu drwy, er enghraifft, y gwasanaeth awtistiaeth integredig. Mae adolygiad galw a chapasiti o wasanaethau niwroddatblygiadol ar y gweill. Bydd cod ymarfer statudol ar y ddarpariaeth o wasanaethau awtistiaeth yn cael ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad ym mis Ebrill.

14:20

Diolch. O ystyried yr amgylchiadau, hoffwn ohirio'r cwestiwn yr oeddwn i'n mynd i'w ofyn ac, yn hytrach, gofyn cwestiwn i chi yr wyf i wedi ei gael gan y cynghorydd amrywiaeth annibynnol, sef cydgysylltydd yr heddlu ar gyfer Cymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol yr Heddlu yn y gogledd, ac sy'n gweithio gyda Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Gogledd Cymru yn datblygu a darparu hyfforddiant, ac sydd hefyd yn ymgyrchydd annibynnol dros hawliau awtistiaeth, a dywedodd, yn rhan o'i waith cynghori gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ei fod wedi awgrymu yr hyn y mae'n ei ystyried yn syniad syml i helpu gyda coronafeirws COVID-19, sef cynhyrchu taflen A4 y gellir ei hargraffu i bobl ei rhoi yn eu ffenestr neu ar eu giât i roi gwybod i eraill eu bod nhw'n ynysu i ganiatáu i bobl eraill, fel pobl sy'n danfon pethau, wybod bod angen iddyn nhw fod yn fwy gwyliadwrus, a hefyd i roi gwybod i rai eraill sy'n galw y dylen nhw ddod o hyd i ffordd arall o gysylltu â'r person. Rwy'n meddwl tybed sut y byddech chi'n ymateb i'r cwestiwn hwnnw, yr awgrymwyd iddo y dylai ei gyfeirio at Aelod Cynulliad i'w godi yn y fan yma.

Wel, rwy'n ddiolchgar i Mark Isherwood a'r person sydd wedi cysylltu ag ef. Rwy'n credu bod croeso i bob syniad, ac mae angen eu hystyried ar sail eu rhinweddau. Rwy'n siŵr y byddem ni eisiau cael cyngor ar y syniad penodol hwnnw, er enghraifft gan wasanaethau'r heddlu, o ran pa un a fydden nhw'n ei ystyried yn beth doeth cael arwydd yn eich ffenestr sy'n dweud, 'Hen, agored i niwed ac ar ben fy hun'.

Rwy'n gwybod nad dyna fwriad yr hysbysiad o gwbl, ond gallwch weld sut y gallai gael ei ddarllen gan bobl eraill â bwriadau llai diniwed na'r sawl a wnaeth yr awgrym. Felly, rwy'n ddiolchgar iawn am yr awgrym. Rwy'n credu ei bod hi'n wych bod pobl yn defnyddio eu profiad a'u harbenigedd i roi syniadau i ni. Byddai angen i ni eu profi nhw gydag eraill i wneud yn siŵr na fyddai unrhyw anfanteision anfwriadol i'r syniadau a allai eu gwneud yn llai doeth nag yr oedden nhw'n ymddangos i fod yn y lle cyntaf.

Cwestiwn 6 [OAQ55243], 7 [OAQ55274], 8 [OAQ55251] a 9 [OAQ55266] wedi eu tynnu yn ôl. Yn olaf, cwestiwn 10—Jack Sargeant.

Cymunedau Caredicach

10. Sut y mae'r Prif Weinidog yn sicrhau bod gwasanaethau a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn hyrwyddo cymunedau caredicach? OAQ55275

A gaf i ddiolch i Jack Sargeant am hynna? Llywydd, ymhlith y mesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd fu cyhoeddi ein strategaeth unigrwydd ac ynysu cymdeithasol gyntaf, 'Cysylltu Cymunedau'. Cefnogir hon gan £1.4 miliwn dros dair blynedd, yn dechrau yn y flwyddyn ariannol nesaf. Mae'n amlygu pwysigrwydd caredigrwydd wrth leihau'r teimladau o unigrwydd ac ynysu cymdeithasol.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Fel y gwyddoch, mae hwn yn bwnc yr ydym ni wedi ei drafod o'r blaen, ond nid cysyniad amwys yw caredigrwydd, mae'n allweddol mewn gwirionedd i'r ffordd y caiff gwasanaethau iechyd eu darparu. Mae'n ymwneud â sicrhau bod amgylchiadau unigol yn cael eu cymryd i ystyriaeth wrth iddyn nhw ryngweithio â'r wladwriaeth, a hoffwn innau hefyd gofnodi fy niolch i'r holl weithwyr gwasanaethau cyhoeddus hynny sy'n ein helpu drwy'r cyfnod anodd hwn.

Prif Weinidog, mae'n rhaid i ni sicrhau bod gan bobl sy'n darparu gwasanaethau y rhyddid i adnabod a chynorthwyo'n briodol. Mae hyn yn arbennig o wir wrth ryngweithio â thrigolion sydd wedi dioddef profiadau niweidiol yn ystod plentyndod; rydym ni'n gwybod y gallen nhw gael anhawster gwirioneddol wrth ryngweithio ag awdurdod. Felly, Prif Weinidog, mae hwn yn gyfnod eithriadol: mae pobl wedi colli eu cartrefi oherwydd y llifogydd a nawr rydym ni'n wynebu ansicrwydd anhygoel coronafeirws. Sut gallwn ni sicrhau nad ydyn nhw'n dioddef gwrthdaro pan fydd aelodau o'r cyhoedd yn rhyngweithio â gwasanaethau cyhoeddus, ac nad ydyn nhw'n teimlo eu bod nhw wedi cael eu gadael ar ôl a bod arweinyddion gwasanaethau cyhoeddus yn sicrhau bod empathi yn allweddol i'r ddarpariaeth o wasanaethau?

A gaf i ddiolch i Jack Sargeant am hynna a diolch iddo am y ffyrdd rheolaidd y mae'n manteisio ar y cyfle i wneud y pwyntiau hyn i'r Senedd? A siawns ei fod yn iawn, Llywydd, os oedd angen caredigrwydd erioed, bydd ei angen arnom ni i gyd yn ystod yr wythnosau anodd sydd i ddod. A bydd hynny'n her, gan fod pobl sy'n darparu ein gwasanaethau cyhoeddus gymaint o dan bwysau â phobl sy'n eu defnyddio nhw ac, yn ein gwahanol ffyrdd, rydym ni i gyd yn ddarparwyr gwasanaethau ar y naill law ac yn ddefnyddwyr gwasanaethau ein hunain ar y llall.

Ac rwy'n meddwl mai'r neges syml—ac mae'n un y clywais Jack yn ei defnyddio ei hun o'r blaen—yw bod angen i ni feddwl bob amser am ein hunain o'r ddwy ochr. Os ydym ni'n defnyddio gwasanaeth, mae angen i ni feddwl am sut y byddem ni'n dymuno i rywun sy'n defnyddio ein gwasanaethau ni ymddwyn, ac, os ydym ni'n darparu gwasanaeth, mae angen i ni feddwl am sut y byddai'r unigolyn sy'n defnyddio ein gwasanaeth ei hun yn dymuno i'r gwasanaeth hwnnw gael ei ddarparu. Os byddwn ni'n ei wneud yn y modd hwnnw gyda'r empathi y soniodd Jack amdano ar ddiwedd ei gwestiwn, yna mae cyfle yn hynny o beth i ni i gyd geisio seilio'r camau y mae pob un ohonom ni'n eu cymryd ar yr ystyr honno o fod eisiau ymateb i rinweddau unigryw'r person sydd o'n blaenau, ac i wneud caredigrwydd yn ganolog i'r rhyngweithio hwnnw.

14:25
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf felly yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw—Rebecca Evans. 

Diolch, Llywydd. Mae nifer o newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, a'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i gyd yn gwneud datganiadau ar y coronafeirws COVID-19. O ganlyniad, mae'r datganiadau sydd wedi eu cynllunio ar y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru), adroddiad y grŵp gweithredu ar ddigartrefedd a fframwaith i wella ansawdd a pherfformiad ym maes gofal brys ac mewn argyfwng wedi eu tynnu'n ôl. Mae trafodion Cyfnod 3 ar gyfer y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) wedi eu gohirio. Yn olaf, mae'r Pwyllgor Busnes wedi penderfynu y bydd agenda yfory yn cynnwys cwestiynau llafar a chwestiynau amserol gan y Cynulliad yn unig. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi ei nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfodydd sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Arweinydd y tŷ, rwy'n sylwi bod nifer o ddatganiadau newydd yn ymddangos ar y papur trefn y prynhawn yma, ac rwy'n deall yn iawn bod pwysau ar amser. Rwyf wedi codi'r mater yng nghwestiynau'r llefarwyr gyda'r Gweinidog materion gwledig, ac rwy'n gwerthfawrogi bod rhywbeth wedi ei nodi ar gyfer datganiad yr wythnos nesaf, ond byddwn i'n gwerthfawrogi rhyw fath o ddatganiad ysgrifenedig yr wythnos hon os yw'n bosibl, o gofio'r cyfyngiadau amser y mae llawer o ffermwyr yn ei hwynebu o ran mater profion TB, er enghraifft. Does dim ond angen i chi edrych o gwmpas y Siambr hon ar faint o absenoldebau sydd yma heddiw, ac os nad yw milfeddygon ar gael, a chynorthwywyr eraill sy'n ymwneud â'r mathau hynny o brofion, yna'n amlwg mae hynny'n peryglu statws gyrroedd anifeiliaid o ran iechyd. Mae'r rhain yn ddigwyddiadau enfawr yr ydym ni'n ymdrin â hwy ar hyn o bryd. A hefyd darpariaeth porthiant yn ogystal â'r cais ar gyfer y cyfnod taliad sengl, sydd ar agor nawr ac yn dod i ben ganol fis Mai, ac archwiliadau fferm. Nid beirniadaeth yw hon yr wyf i'n ei gwneud—sylw ydyw a fyddai'n cael croeso mawr yn fy marn i pe byddai modd cael eglurhad ynghylch beth yn union sydd i'w ddisgwyl gan ffermwyr a cheidwaid anifeiliaid yma yng Nghymru, o ystyried yr amgylchiadau eithriadol yr ydym ni'n canfod ein hunain ynddynt a'r natur na ellir ei ddarogan. Fel y mae pethau ar hyn o bryd, nid yw'r gyfraith yn caniatáu unrhyw oddefgarwch—mae dull gweithredu dim goddefgarwch o ran profion TB buchol, er enghraifft—a byddai rhywfaint o eglurder, yn sicr yr wythnos hon, i'w groesawu. Pe byddai modd i ni gael hynny ar ffurf datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog, rwy'n credu y byddai hynny'n cael ei werthfawrogi'n fawr.

Diolch i Andrew R.T. Davies am godi'r mater hwn, a bydd yn gweld bod gan y Gweinidog eitem ar yr agenda ar gyfer Cyfarfod Llawn yr wythnos nesaf i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch coronafeirws. Yn amlwg, bydd hi'n rhoi rhywfaint o ystyriaeth i sut i ymateb i'r mater penodol hwnnw, ac rwy'n gwybod y bydd hi'n trafod gyda'i swyddogion ac yn ystyried barn undebau'r ffermwyr ac eraill yn hyn o beth.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Mae'n amser hynod o bryderus i bawb, wrth gwrs, ond yn cynnwys rhieni, athrawon, disgyblion a gweithwyr yn ein hysgolion ni. Dwi yn ceisio rhoi fy hun yn eu hesgidiau nhw. Rydym ni'n gwybod y bydd angen i ysgolion gau ar gyfer y rhan fwyaf o ddisgyblion cyn hir, a bod hynny'n anochel er mwyn atal lledaeniad y feirws. Mae unrhyw un sy'n dweud yn wahanol—mae'n ddrwg gen i, maen nhw'n claddu eu pennau yn y tywod. Mae yna nifer o gwestiynau yn codi o hynny ond, yn anffodus, does yna ddim datganiad gan y Gweinidog addysg y prynhawn yma, sydd yn rhyfeddol i fi. Mae yna ddatganiad iechyd, datganiad economi, datganiad llywodraeth leol, ond dim byd ynglŷn ag addysg ac ysgolion. Mae'n rhaid inni gael eglurder am beth ydy'r cynllun efo ysgolion, beth ydy'r amserlen ar gyfer cau i'r mwyafrif, ond hefyd pa ddarpariaeth fydd ar gael ar gyfer plant gweithwyr allweddol. Rydym ni'n gwybod bod yn rhaid i'r plant yna ddal i gael darpariaethau er mwyn i bobl fedru mynd i'w gwaith yn y gwasanaeth iechyd ac mewn sefyllfaoedd eraill. 

Mae angen eglurder ynglŷn ag ysgolion arbennig. Beth fydd y trefniadau ar gyfer plant sy'n cael cinio am ddim? Sut maen nhw'n mynd i gael bwyd? Rhaid hefyd annog y rhieni sy'n gallu i gadw eu plant adref yn wirfoddol. Does bosib y medrwn ni annog hynny ond eu bod nhw'n cael gwneud hynny heb gael eu cosbi. Beth fydd yn digwydd efo arholiadau? Mae yna nifer fawr o gwestiynau yn codi, ac yn y cyfamser mae yna gwestiynau yn dechrau cael eu gofyn rŵan ynglŷn â threfniadau hylendid yn yr ysgolion uwchradd—lot o gwestiynau. Gobeithio bod modd, ar ryw bwynt, i gael trafodaeth adeiladol ar y materion yma.

14:30

Oes, bydd cyfle ar gael ar gyfer hynny ar sawl cyfrif. Yfory, wrth gwrs, mae gan y Gweinidog gwestiynau llafar yn y Siambr, ac rwy'n gwybod bod, ar y papur trefn, sawl cwestiwn yn ymwneud â coronafeirws. Rwy'n gwybod ei bod hi hefyd yn trafod gyda'r pwyllgor o ran y posibilrwydd o gael sesiwn bwrpasol ar y coronafeirws ac addysg gyda'r pwyllgor hwnnw, ac rwy'n deall ei bod hynny wedi ei gytuno erbyn hyn ar gyfer dydd Iau. Ac, wrth gwrs, byddwch yn gweld ar y papur trefn y bydd y Gweinidog addysg yn gwneud datganiad pellach i'r Cynulliad ddydd Mawrth nesaf.

Bydd yr Aelodau wedi gweld llythyr heddiw gan y Prif Weinidog at Ganghellor y Trysorlys, ac rydym ni'n gwybod fod y Canghellor yn gwneud datganiad heno am gymorth ariannol i fusnesau a'r economi yn ystod y cyfnod hwn. Ond a fyddai'n bosibl i ni gael datganiad neu ddadl ar y materion hyn? Rwy'n credu bod llawer ohonom ni wedi bod yn pryderu ers blynyddoedd lawer bod y strwythurau ariannol sy'n dal y Deyrnas Unedig ynghyd wedi eu torri ac nad ydyn nhw'n sicrhau cydraddoldeb a thegwch i bob rhan o'r DU yn gyfartal. Rydym ni wedi gweld arweinyddiaeth wirioneddol drawiadol mewn gwahanol rannau o'r byd, yn sicr gan Macron neithiwr yn Ffrainc, gan roi pecyn cynhwysfawr iawn at ei gilydd, a gobeithio y bydd Llywodraeth y DU wedi cymryd sylw o hynny.

Ond rydym ni hefyd yn ymwybodol o'r hyn y mae'r argyfwng hwn wedi ei grisialu i ni yn arbennig, a'i fod wedi dangos yn glir nad yw Barnett bellach yn addas i'w diben, ac os yw Llywodraeth y DU yn parhau i ddefnyddio Barnett er mwyn dosbarthu cyllid ar draws y Deyrnas Unedig, yna byddwn ni'n dioddef yn anghymesur o ganlyniad i hynny. Rydym ni hefyd wedi gweld y Trysorlys yn gwneud cyhoeddiadau gwahaniaethol ar gyfer Lloegr, ac yna mae cryn amser cyn i'r cyhoeddiadau hynny ynghylch ariannu gael eu gwneud ar gyfer Cymru. Mae angen i'r Deyrnas Unedig gydweithio yn well nag erioed o'r blaen, ac rwy'n pryderu'n fawr bod strwythurau ariannol y Deyrnas Unedig mewn rhai ffyrdd yn llesteirio'r cydweithio hwn yn hytrach na'i hyrwyddo.

Felly, a fyddai modd i ni gael datganiad neu ddadl, yn dilyn y newyddion gan Ganghellor y Trysorlys, i'n galluogi ni i ddeall yr hyn mae hynny'n ei olygu i Gymru, ymateb Llywodraeth Cymru, ond hefyd, rwy'n meddwl, yn bwysicach, sut ydym ni am fynd i'r afael â'r strwythurau ariannol sydd wedi torri ac nad ydyn nhw bellach yn gwasanaethu'r Deyrnas Unedig gyfan yn gyfartal?

Bydd, byddaf i'n archwilio'r ffordd orau o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'm cydweithwyr yn dilyn datganiad y Canghellor o ran yr hyn y gallai unrhyw gyhoeddiadau ei olygu i Gymru. Mae'r pwynt ynglŷn â fformiwla Barnett ddim yn addas i'w diben mwyach, yn un da, yn enwedig pan ein bod ni'n ystyried yr arian ychwanegol a gafodd ei ddarparu drwy'r pecyn coronafeirws diweddar yn y gyllideb, nad yw'n ystyried ein heconomi wahanol yma yng Nghymru. Felly, mae gennym ni gyfran fwy o fusnesau bach yma yng Nghymru, er enghraifft, ac rydym ni'n dibynnu'n drwm iawn ar rai sectorau penodol. Felly, bydd y rhain i gyd yn bethau y mae angen i ni fynd ar eu trywydd, ac rydym ni yn eu dilyn gyda'r Trysorlys.

Rydym ni hefyd, mewn cyd-destun ehangach, yn edrych ar y datganiad polisi ariannu a sut y bydd hwnnw yn cael ei gymhwyso yn y dyfodol, gyda golwg ar wneud rhai gwelliannau i hynny, a sicrhau ein bod ni'n cael ein hariannu mewn ffordd decach. Mae hwnnw'n waith sy'n parhau, ond, fel y dywedais i, cyn gynted ag y bydd gennym ni ragor o wybodaeth, byddaf yn ceisio rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'm cyd-Aelodau.

Trefnydd, fel yr ydym ni wedi ei glywed gan lawer o gyfraniadau heddiw yn y Siambr hon, mae'r rhain yn amseroedd sy'n peri pryder, cyfnod tywyll, heb fawr o oleuni ym mhen draw'r twnnel; ni wyddom ble mae pen draw y twnnel hwnnw. Fel sydd bob amser yn wir yng Nghymru, pan fo argyfwng mawr yn digwydd, mae ein cymunedau yn ymateb i'r her, ac mae nifer o unigolion yn dod ymlaen i gynorthwyo'r rhai mwyaf anghenus, fel y mae'r lliaws o grwpiau sydd wedi codi ar y cyfryngau cymdeithasol, yn enwedig ar Facebook yn ei brofi. Rwyf i newydd ymuno â grŵp cymorth COVID-19 Rhaglan, gyda'r nod o ddatblygu cronfa o wirfoddolwyr yn gweithredu o fewn canllawiau diogelwch i gefnogi'r rhai sy'n teimlo'n fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Rwy'n siŵr bod Llywodraeth Cymru yn fwy ymwybodol o'r grwpiau hyn na mi.

Felly, tybed a allwn ni gael datganiad, ar lafar neu yn ysgrifenedig, neu gyfathrebiad gan y Llywodraeth ynghylch sut y bydd y grwpiau hyn, sy'n dal i fod yn newydd iawn, yn cael eu cefnogi yn ystod yr wythnosau a'r misoedd i ddod oherwydd, fel sy'n digwydd yn aml gyda'n GIG a'n gwirfoddolwyr yn helpu yn y maes, mae'r grwpiau hyn yn aml yn gyfrifol am dynnu llawer o'r baich oddi ar wasanaethau statudol, ac rwy'n siŵr na fydd hyn yn wahanol.

14:35

Bydd cyfarfod yfory, fel y nododd y Prif Weinidog yn gynharach, sy'n tynnu ynghyd y trydydd sector ac eraill a fydd yn gwbl hanfodol o ran ein hymateb i'r coronafeirws. Byddaf i'n sicrhau bod cyd-Aelodau yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn y cyfarfod hwnnw o ran y camau gweithredu a fydd yn deillio ohono.

Rwy'n aros yn eiddgar am y datganiad gan y Gweinidog sy'n gyfrifol am fusnes a'r economi yn ddiweddarach, a byddaf yn gofyn rhai cwestiynau am hynny. Rwy'n edrych ymlaen hefyd at ddatganiad y Canghellor. Nawr, rwyf i, fel y mae llawer o Aelodau eraill, rwy'n siŵr, wedi cael ugeiniau o negeseuon—os nad cannoedd—gan bobl sy'n poeni am effaith economaidd coronafeirws. Cynyddodd hyn ar ôl cyhoeddiad Prif Weinidog y DU neithiwr, gan y dywedwyd wrth bobl am beidio â mynd i dafarndai a chlybiau a bwytai, ond ni ddywedwyd wrth dafarndai a chlybiau a bwytai i gau, sydd yn amlwg â goblygiadau o safbwynt yswiriant. Rwy'n credu bod y cyngor hunan-ynysu diweddaraf yn dda—braidd yn hwyr, ond da—ond heb gymorth mae cynifer o'r busnesau bach hynny yn mynd i fynd i'r wal, o ganlyniad i'r cyngor diweddaraf hwnnw.

Felly, sut bydd cymorth yn cael ei ddarparu i'r busnesau bach hynny? Sut caiff cymorth ei ddarparu i'r bobl hynny a gaiff eu gorfodi i gymryd amser i ffwrdd o'u gwaith, ond nad oes ganddyn nhw ffynhonnell arall o incwm? Bydd angen cymorth ar fusnesau i dalu aelodau staff, a thalu gorbenion, tra nad oes ganddyn nhw gwsmeriaid. Nid yw'r cyhoeddiad ynghylch ardrethi busnes yn cynnwys llawer o fusnesau yn y Rhondda, oherwydd nad ydyn nhw'n eu talu beth bynnag, er bod croeso i hynny, ar gyfer y rhai y mae'n effeithio arnyn nhw.

Yn Iwerddon, bu taliad brys o €203 yr wythnos i'r holl weithwyr a phobl hunangyflogedig sydd wedi colli swydd neu fusnes o ganlyniad i COVID-19. Nawr, mae hyn wedi cael ei groesawu ledled y wlad honno, ac mae angen ei ystyried yma fel mater o frys. Cafodd y banciau eu hachub yn 2008. Mae busnesau, pobl hunangyflogedig, a'r rhai sydd ar gontractau dim oriau angen eu hachub yn awr, ar raddfa a maint tebyg. Biliynau yr wyf i'n sôn amdanyn nhw yn y fan yma ac nid miliynau. Nawr, rwy'n cydnabod bod hwn yn fater y tu hwnt i gyllidebau Cymru, ond a fyddai'r Llywodraeth yn cefnogi incwm sylfaenol ar y llinellau hynny? Ac, os gwnewch chi, a allwn ni gael datganiad yn amlinellu pa drafodaethau y gallwch chi eu cael â San Steffan i gefnogi cyflwyno cynnig o'r fath? Hoffwn i wybod hefyd beth, yn y cyfamser o ran gwarantau, y gellir ei gynnig i fusnesau i'w hamddiffyn rhag mynd i'r wal. Rwy'n siŵr y daw llawer mwy o hyn yn eglur ar ôl datganiad y Canghellor.

Fel llawer o gymunedau, yn y Rhondda, rydym ni wedi sefydlu rhwydwaith cymunedol. Y syniad yw bod gennym ni o leiaf un person ym mhob stryd i gadw llygad ar bawb sydd efallai'n gorfod aros gartref, ac mae 400 o bobl wedi cofrestru hyd yn hyn. Nawr, bydd ein gwirfoddolwyr angen cyngor ar arfer gorau ymarferol er mwyn cadw'n ddiogel a'u hatal rhag trosglwyddo unrhyw feirws i'r bobl y maen nhw i fod i ofalu amdanyn nhw. Bydd angen iddyn nhw hefyd gael blaenoriaeth o ran cael eitemau sylfaenol yn y siopau. Mewn brwydr pan mai'r rhai mwyaf ffit sy'n goroesi nid yw pobl hŷn a sâl yn ennill, felly bydd angen i ni hefyd amddiffyn pobl rhag y rhai diegwyddor. A bydd angen i ni ddarparu rhestr o nifer ddefnyddiol o weithwyr proffesiynol allweddol i wirfoddolwyr, rhag ofn bod y sefyllfa mewn cartrefi yn dirywio iddyn nhw a bod angen cymorth proffesiynol. 

Felly, beth all y Llywodraeth ei wneud i helpu rhwydweithiau cymunedol a gwirfoddolwyr o ran y cwestiynau hyn yr wyf i wedi eu codi gyda chi y prynhawn yma? A wnewch chi gydnabod nad oes gan bob ardal gynghorau cymuned? Nid oes gennym ni unrhyw gynghorau cymuned yn y Rhondda. A allwn ni gael datganiad penodol ynghylch gweithredu cymunedol, gwirfoddoli, a chadw pawb yn ddiogel? Ac i unrhyw un sydd eisiau cymryd rhan yn rhwydwaith cymunedol y Rhondda, ewch i 'Coronafeirws—Rhwydwaith Cymunedol y Rhondda' ar Facebook, a chael gwybod sut i gofrestru yn wirfoddolwr cymunedol ar gyfer eu stryd nhw yno. Diolch yn fawr.

Diolch i Leanne Wood am godi'r materion gwirioneddol bwysig yna, ac wrth gwrs, wrth gydnabod y swyddogaeth a fydd gan wirfoddolwyr o ran yr ymateb i coronafeirws. Felly, wrth gwrs, cyfeiriodd y Prif Weinidog at gyfarfod a fydd yn cael ei gynnal yfory, gan ddwyn ynghyd y trydydd sector ac eraill sy'n gallu ysgogi'r math hwnnw o ymateb yr ydych chi wedi ei ddisgrifio. Ac rwy'n gwybod y bydd cyfle wedyn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'm cyd-Aelodau am y camau a fydd yn cael eu cymryd o ganlyniad i'r cyfarfod hwnnw. Ac, unwaith eto, mae'r pwynt hwnnw am amddiffyn pobl rhag pobl ddiegwyddor mor bwysig. Fe ddechreuasom ni drwy sôn am ba mor bwysig yw cydnabod gwerth gwirfoddolwyr a'r gwaith gwych y maen nhw'n yn ei wneud; ond ar y llaw arall bydd yna bobl sy'n ceisio cam-fanteisio ar bobl agored i niwed yn y sefyllfa hon. Felly, mae angen i ni warchod rhag hynny a gweithio gyda'n gilydd yn y meysydd hynny hefyd.

Mae gan fy nghyd-Aelod Ken Skates ddatganiad yn fuan y prynhawn yma, a fydd yn gyfle i archwilio rhai o'r cwestiynau penodol hynny yr ydych chi wedi eu codi o ran yr economi a'n hymateb economaidd, ond hefyd o ran ein cais wedyn gan Lywodraeth y DU am yr hyn yr hoffem ni weld Llywodraeth y DU yn ei gyflawni. Edrychwn ymlaen yn fawr iawn at y datganiad y bydd y Canghellor yn ei wneud yn ddiweddarach y prynhawn yma. Byddaf i, wrth gwrs, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i gydweithwyr am ein dull gweithredu yn dilyn hynny.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

14:40

Cyn imi alw am y datganiad sydd ar yr agenda gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, mae yna resymau i ohirio'r datganiad hwnnw ar hyn o bryd. Fe fyddwn i'n gofyn, os nad oes yna wrthwynebiad, ein bod ni'n aildrefnu'r agenda i gymryd y datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru ar y Coronafeirws yn gyntaf, os nad oes yna wrthwynebiad. Fe fyddaf i'n sicrhau y bydd y rheolwyr busnes yn ymwybodol o'r rhesymau dros y newid i'r eitem ar yr agenda. Ond, credwch neu beidio, nid rheswm technolegol mohono, fel arall fe fyddwn i wedi dweud hynny. Pe byddwn i wedi gallu rhoi'r bai ar y dechnoleg yn y cyswllt hwn, fe fyddwn i wedi gwneud hynny.

4. Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Coronafeirws (COVID-19)

Felly, pawb yn barod i symud ymlaen at y datganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ynglŷn â'r wybodaeth ddiweddaraf am y coronafeirws. Ken Skates fydd yn gwneud y datganiad hwnnw.

Diolch, Llywydd. Nid oes unrhyw amheuaeth o gwbl fod yna bwysau digynsail ar ein heconomi ni o ganlyniad i'r achosion o coronafeirws. Fe fydd llawer o gwmnïau yng Nghymru, rhai bach a mawr, yn ymdrin â chanlyniadau'r feirws hwn. O ganslo contractau hyd at gyfraddau cynyddol o salwch staff, o darfu mawr ar y gadwyn gyflenwi hyd at heriau sylweddol y llif arian, fe fydd yr argyfwng hwn yn cael effaith sylweddol ar y ffordd y mae ein heconomi ni'n gweithio dros y dyddiau, yr wythnosau a'r misoedd i ddod.

Mae'n bosib na fydd cyfran sylweddol o'r boblogaeth sy'n gweithio yn gallu gweithio ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod hwn. Gan fod Cymru yn dibynnu'n arbennig ar fusnesau bach a chanolig, fe fydd yr effaith ar ein heconomi ni yn un sylweddol. Bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi busnesau i ymdrin ag effeithiau coronafeirws.

Fy nghyngor i bob busnes yw defnyddio'r cymorth a'r cyngor sydd ar gael. Fe ddylai unrhyw fusnes yr effeithir arno gysylltu â llinell gymorth ffôn Busnes Cymru ar 03000 60 3000. Fe allan nhw helpu gyda chyngor ymarferol, o staffio hyd at gynllunio ariannol yn ogystal â chefnogaeth i'r gadwyn gyflenwi. Nawr, mae Banc Datblygu Cymru ar gael hefyd i helpu. Mae ganddo ecwiti ac arian ar gael i'w fenthyca ar unwaith i helpu busnesau drwy'r heriau llif arian a'r heriau eraill y gallan nhw fod yn eu hwynebu yn ystod yr wythnosau a'r misoedd i ddod.

Ddydd Llun, fe gyhoeddais y bydd Banc Datblygu Cymru yn rhoi seibiant o dri mis rhag gorfod ad-dalu cyfalaf i'r busnesau y maent yn eu cefnogi. Mae'r Banc yn cynnal tua 1,000 o fusnesau ar hyn o bryd ac fe fydd hyn yn eu helpu nhw—rhai o'n BBaCh lleiaf ni, sy'n amrywio o fanwerthwyr bwyd bychain i'r diwydiannau creadigol—i gael y cymorth hanfodol sydd ei angen arnynt. Heddiw, fe siaradais i â chadeirydd y Banc Datblygu i drafod mesurau pellach potensial y gallai fod angen inni eu cymryd yn ystod yr wythnosau nesaf. Ac yna ddydd Iau, fe fyddaf i'n cael trafodaethau pellach gyda banciau'r stryd fawr a Banc Busnes Prydain. Fe fyddaf i hefyd ddydd Iau yn cael cyfarfod cyngor brys ar ddatblygiad economaidd i ddarparu fforwm ar gyfer rhannu gwybodaeth fusnes a thrafod atebion ymarferol i'r heriau sy'n ein hwynebu ni.

Rwyf wedi bod yn cynnal cyfres o drafodaethau â sefydliadau busnes a phartneriaid cymdeithasol, a thrwy ein tair swyddfa ranbarthol, rydym ni'n casglu gwybodaeth fusnes i lywio ein camau lliniaru ni a'r camau nesaf. Fe wnes i gyfarfod â'm huwch dîm arweinyddiaeth yn adran yr Economi a Thrafnidiaeth ddoe ac fe gafwyd cadarnhad y bydd timau'r tasglu ymateb rhanbarthol a sefydlwyd yn ystod ein paratoadau ni ar gyfer Brexit bellach yn mynd ati i gefnogi'r anghenion o ran diswyddiadau a sgiliau wrth iddyn nhw ymddangos. Mae ein cyngor ni ar gael drwy ReAct a Gyrfa Cymru, ac rwyf wrthi'n archwilio ffyrdd o wella'r dulliau hyn yn ystod yr wythnosau nesaf.

Mae ein trafodaethau ni â grwpiau busnes a'r wybodaeth a gafwyd ganddynt wedi ein helpu ni i lywio'r pecyn cymorth gwerth £200 miliwn a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Cyllid. Yn rhan o'r pecyn hwnnw, fe fydd busnesau adwerthu, hamdden a lletygarwch sydd â gwerth ardrethol o £51,000 neu lai yn cael 100 y cant o ryddhad ardrethi, ac fe fydd tafarnau â gwerth ardrethol rhwng £51,000 a £100,000 yn cael gostyngiad o £5,000 yn eu bil. Fe fydd £100 miliwn arall ar gael ar gyfer cynllun grant newydd i fusnesau bach. Pa bynnag gyllid canlyniadol pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn ei dderbyn gan Lywodraeth y DU o ganlyniad i gymorth i fusnesau, fe fyddwn ni'n ei glustnodi ar gyfer cymorth i fusnesau yma yng Nghymru drwy wella  ein pecyn cymorth ni.

Nawr, fe allai hyn effeithio yn arbennig ar economi Cymru oherwydd y nifer uchel sydd gennym o swyddi gweithgynhyrchu ac amlygrwydd y sectorau modurol, hedfan a thwristiaeth. Yn ogystal â hyn, fe fydd y sefyllfa'n effeithio ar y gweithwyr mewn sawl ffordd, gan amrywio o salwch gweithwyr ac ynysu hyd at ofalu am blant nad ydyn nhw'n gallu mynd i'r ysgol efallai. Fe fydd rhai meysydd yn yr economi, lle nad oes modd i bobl weithio o gartref, yn wynebu her sylweddol.

Rydym yn croesawu'r camau a gymerwyd gan Fanc Lloegr. Er hynny, prin yw'r cyfle i gael ysgogiadau polisi ariannol i helpu, yn arbennig felly gan fod y cyfraddau llog ar lefel isel iawn eisoes. Mae maint yr her hon bellach mor fawr ac yn fater o gymaint o  frys fel mai dim ond ymyriad polisi cyllidol enfawr gan Lywodraeth y DU all helpu busnesau ac unigolion i ysgwyddo baich yr hyn sydd i ddod. At hynny, mae ymateb sydd wedi'i chydlynu ag economïau mawr eraill yn fater o frys bellach ac yn debygol o fod yn llawer mwy effeithiol i leihau ansicrwydd a chynnal hyder defnyddwyr a busnes na chael gwledydd yn gweithredu ar eu pennau eu hunain.

Y brif flaenoriaeth economaidd i Lywodraeth y DU yw osgoi dirwasgiad mawr a difrod strwythurol hirdymor i'n heconomi ni. Mae hynny'n gofyn am ddull diffuant, gan y pedair gwlad, o gefnogi'r economi, ac mae'r diffyg gwybodaeth o du Lywodraeth y DU yn llesteirio'r ymdrech hon ar hyn o bryd. Fel Llywodraethau datganoledig, fe fyddwn ni'n gwneud ein rhan i helpu i ddefnyddio'r ysgogiad cyllid sylweddol hwnnw yn y ffordd fwyaf effeithiol. Gyda'n gilydd, mae angen inni ddod o hyd i ffordd o roi seibiant i fusnesau hyfyw yr effeithir arnyn nhw gan yr argyfwng hwn; ac amddiffyn cadwyni cymorth hanfodol a chadwyni cyflenwi a rhoi'r cymorth ariannol sydd ei angen ar yr unigolion y mae'r achosion hyn yn effeithio arnynt er mwyn  eu galluogi i ddod trwyddi. Dyna'n union a ofynnais i Lywodraeth y DU yn ystod fy nhrafodaeth i â'r Ysgrifennydd Gwladol Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol y bore yma ac yn y llythyr a anfonodd y Prif Weinidog at Lywodraeth y DU yn gynharach heddiw.

Mae angen i Lywodraeth y DU weithio gyda Banc Lloegr i sicrhau bod y swm gofynnol o arian yn cael ei roi i'r system fancio, a'r lefel o hyblygrwydd sydd ei hangen i sicrhau bod busnesau hyfyw sy'n wynebu problemau llif arian yn goroesi. Fe fyddaf i'n pwysleisio yn fy nghyfarfod i â'r banciau yma yng Nghymru yr angen i sicrhau bod yr hylifedd ariannol ar gael.

O ran tâl salwch statudol, mae Llywodraeth y DU yn cyflwyno deddfwriaeth i alluogi busnesau bach a chanolig a chyflogwyr i adfachu tâl salwch statudol a dalwyd am absenoldeb oherwydd salwch o ganlyniad i COVID-19. Fe fydd hwn ar gael i fusnesau yng Nghymru ac fe fyddwn ni'n gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod cyflogwyr yn sefydlu'r mecanweithiau ad-dalu cywir dros y misoedd nesaf a hynny cyn gynted ag y bo modd. Nawr, rwy'n annog Llywodraeth y DU yn gryf i ddefnyddio'r system hon i gefnogi'r unigolion mwyaf bregus a diamddiffyn yn economaidd.

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU gynllun dros dro, sef cynllun benthyciadau ymyrraeth busnes i'w gyflenwi gan Fanc Busnes Prydain. Fe fydd hwn ar gael i fusnesau yng Nghymru drwy gyfrwng Banc Busnes Prydain. Cafodd cynllun Amser i Dalu ei gyhoeddi hefyd sy'n golygu y gall pob busnes a phobl hunangyflogedig sydd mewn trafferthion ariannol a chyda rhwymedigaethau treth dyledus fod yn gymwys i dderbyn cymorth gyda'u materion treth drwy wasanaeth Amser i Dalu Cyllid a Thollau ei Mawrhydi. Mae hwn ar gael i fusnesau yng Nghymru hefyd.

Mae ein darparwyr trafnidiaeth yn wynebu heriau hynod anodd hefyd. Rwyf wedi bod yn cynnal sgyrsiau brys gyda phenaethiaid yn y diwydiant gan fod llai o deithio'n rhoi pwysau sylweddol ar gyllid ein gwasanaethau rheilffordd, bws a meysydd awyr mawr. Rwyf wedi siarad sawl gwaith â phrif weithredwr Trafnidiaeth Cymru. Erbyn hyn, ledled y DU, gan gynnwys Cymru, mae nifer y teithwyr rheilffordd wedi gostwng hyd at 18 y cant ar rai llinellau eisoes. Mewn mannau eraill, mae Network Rail wedi lansio arolwg o'i gyflenwyr oherwydd pryderon ynglŷn â phrinder defnyddiau oherwydd y coronafeirws. Er gwaethaf yr effaith economaidd, mae ein gweithredwyr ni i gyd yn parhau i ddilyn y canllawiau diweddaraf gan yr awdurdodau iechyd cyhoeddus a chyrff y diwydiant. Fe gafodd cynlluniau wrth gefn eu sefydlu ac mae Trafnidiaeth Cymru yn archwilio trefniadau lliniaru ar gyfer y dyfodol fel staffio a stocio, yn ogystal â dosbarthu offer diheintio ac offer ychwanegol i ddiogelu personél, ac adolygu gweithdrefnau glanhau.

Nawr, fe roddir cyngor i deithwyr yn rheolaidd, gan gynnwys yr ymgyrch 'Daliwch e, biniwch e, lladdwch e', drwy arddangos posteri mewn prif orsafoedd ac anfon negeseuon drwy Trydar a sianelau eraill o'r cyfryngau cymdeithasol. Mae tîm gweithredu traws-ddiwydiant wedi ei sefydlu i gyfathrebu'n ddyddiol i sicrhau eu bod yn barod i ymateb pe byddai'r sefyllfa'n newid, gan gynnwys cynllunio ar gyfer ystod o wahanol senarios.

Fe ellir dweud yr un peth am y diwydiant bysiau, gyda mwy o lanhau ar fysiau a chyhoeddiadau rheolaidd i atgoffa staff am arferion da o ran hylendid i atgoffa'r staff a deunyddiau glanhau ychwanegol, pethau fel potel o hylif i lanhau dwylo, ar gyfer gweithwyr rheng flaen, depos ac ardaloedd gweithio. Mae swyddogion wedi cyfarfod â grŵp y diwydiant bysiau, ac fe siaradais i ag aelodau uwch y diwydiant ddoe.

O ran maes awyr Caerdydd, fe siaradais i â'r Prif Swyddog Gweithredol a'i thîm dros y penwythnos, ac mae fy swyddogion i'n parhau i fod mewn cysylltiad agos drwy gydol yr wythnos hon. Fe adawodd methiant Flybe fwlch o 5.6 y cant yn ei refeniw, ac fe fydd yr argyfwng hwn yn rhoi prawf ar gynaliadwyedd pob maes awyr ledled y byd mewn ffordd sylweddol wrth i niferoedd y rhai sy'n hedfan ostwng yn enfawr. Yn ddiweddar, serch hynny, mae maes awyr Caerdydd wedi arallgyfeirio sail ei fusnes ac fe ddaw i gwrdd â'r argyfwng hwn â llai o ddyled na llawer o'i gymdogion yn y DU.

Fodd bynnag, fel mewn sectorau eraill, ni ddylem fod dan unrhyw gamargraff o ran maint yr her sydd o'n blaenau ni. Mae Tui wedi dweud y bydd yn ymatal â'r rhan fwyaf o'i weithrediadau, ac efallai y bydd yna weithredwyr eraill yn cymryd yr un camau yn yr wythnosau nesaf. Yn amlwg, rwy'n meddwl am y gweithwyr a'r teithwyr hynny yr amharwyd ar eu trefniadau teithio. Fe fyddaf i'n dal i fod mewn cysylltiad cyson â maes awyr Caerdydd a'r adran drafnidiaeth ynglŷn â materion hedfan a materion eraill sy'n ymwneud ag ymwelwyr.

Rwy'n gobeithio y bydd y datganiad hwn yn rhoi sicrwydd i Aelodau'r Senedd ein bod ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu economi Cymru a chyfyngu ar yr effaith ar unigolion a busnesau ledled Cymru. Pan ddaw'r gwaethaf o'r argyfwng hwn i ben, fe fydd yn rhaid inni edrych i'r dyfodol yn fuan—i'r economi decach, fwy tosturiol a mwy cyfartal sydd angen ei hadeiladu. Fel Llywodraeth Cymru, fe fyddwn yn chwarae rhan lawn yn y gwaith hwnnw.

14:50

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw, yn gyntaf, ac a gaf i ddweud, o'm rhan i fy hunan a'r meinciau hyn, ein bod ni'n awyddus i fod yn gefnogol i'r Llywodraeth a'i dull hi o weithredu? Yn amlwg, mae cydbwysedd, rwy'n credu, rhwng craffu ar y Llywodraeth, ond hefyd bod mor gefnogol i'r Llywodraeth ag y gallwn ar yr achlysur arbennig hwn. Mae'n ymwneud â chael y cydbwysedd yn iawn. Rwy'n gobeithio y byddaf yn cael y cydbwysedd iawn heddiw yn fy nghwestiynau i chi.

Gweinidog, rydym ni'n ymwybodol, wrth gwrs, o'r cyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU, sef £250 miliwn i helpu busnesau a £225 miliwn ar ben hynny yn y gyllideb yr wythnos diwethaf, ac rwy'n croesawu ymrwymiad y Trefnydd yn fawr—ymrwymiad y Gweinidog Cyllid—a'ch ymrwymiad chithau hefyd y bydd unrhyw gyllid a ddaw fel swm canlyniadol yn cael ei neilltuo i fusnes. Mae hynny i'w groesawu'n fawr iawn, ac rwy'n credu y bydd busnesau yn ddiolchgar am yr ymrwymiad hwnnw. 

Roeddech chi'n sôn am yr un man—rwy'n credu bod y Prif Weinidog wedi cyfeirio at hyn yn ei atebion ef hefyd i gwestiynau heddiw, am yr un man ar gyfer cael pob math o gymorth i fusnesau. A gaf i ofyn: a yw honno mewn gwirionedd yn siop un stop gyflawn? Pe byddai busnes yng Nghymru yn ffonio Busnes Cymru, a fyddai'n cael cyngor am feysydd hefyd nad ydyn nhw wedi cael eu datganoli i Lywodraeth Cymru? A fyddai'n cael ei gyfeirio'n gywir? A yw'n siop gwbl un stop? Rwyf i o'r farn mai felly y dylai fod, ac rwy'n gobeithio y gallwch chi ateb yn gadarnhaol ar y mater hwnnw.

Y mater arall, wrth gwrs, yw gallu Busnes Cymru i ymdrin â hyn, oherwydd, yn arbennig felly pan ddaw cyhoeddiadau pellach gerbron, efallai oddi wrth Lywodraeth y DU heno, fe fydd problem o ran capasiti Busnes Cymru i ymdrin â hynny. Felly, efallai y gallech chi siarad am y ffordd y byddwch chi'n trosglwyddo swyddogion o adrannau eraill i helpu ar linell Busnes Cymru ac yn sicrhau bod pobl yn cael ymateb amserol i'w ymholiadau. Os oes yna siop un stop, efallai y gallech chi ymhelaethu, hefyd, beth yn union sy'n cael ei gynnwys ar linell Busnes Cymru.

O ran y banc datblygu, rwy'n falch eich bod wedi cael cyfarfodydd ac rwy'n credu ichi sôn heddiw eich bod wedi siarad â'i gadeirydd. A gaf i ofyn, efallai, am ychydig mwy o fanylion am y capasiti i gael cymorth benthyciad ychwanegol gan y banc datblygu ei hun? Rwy'n sylweddoli bod yna gyhoeddiadau eraill i ddod yn ddiweddarach heddiw ac fe wn i y gallai'r wythnosau nesaf hyn newid y sefyllfa honno, ond fel y mae hi ar hyn o bryd, faint o gapasiti sydd yna i gynnig benthyciadau ychwanegol. Ac efallai y gallech roi rhagor o wybodaeth hefyd i fusnesau sydd â benthyciadau gyda Busnes Cymru ar hyn o bryd o ran cael saib oddi wrth dalu'r benthyciadau hynny'n ôl am gyfnod, ond cymorth hefyd i rai nad ydyn nhw'n gwsmeriaid i'r banc datblygu, ac a allai fod yn gwsmeriaid eto i'r banc datblygu o bosib.

O ran rhyddhad ardrethi busnes, rwy'n llwyr groesawu'r mesurau a amlinellodd y Gweinidog yn gynharach heddiw, y Gweinidog Gyllid. Rwy'n pryderu bod rhai busnesau, wrth gwrs, nad ydyn nhw'n talu ardrethi busnes, a sut y gellir eu cefnogi nhw, busnesau bach yn enwedig. Yn aml iawn, busnesau ydyn nhw sy'n unig fasnachwyr ac sy'n methu â chael tâl salwch hefyd—sut y gellid eu cefnogi nhw o bosib. Ond mae yna rai busnesau hefyd sydd â gwerth ardrethol o dros £50,000. Roeddwn i'n siarad ag un busnes dros y penwythnos, sydd â gwerth ardrethol o ychydig dros £50,000 fel mae'n digwydd, sydd wedi colli gwerth tua £80,000 o fusnes dros y misoedd nesaf, ac nid yw'n gallu gweld ffordd drwy hynny. Mae eisiau cael system sy'n cynnig rhyddhad yn raddol i'r mathau hynny o fusnesau hefyd. Mae'n ymddangos, oherwydd eu bod nhw ychydig dros y trothwy, y gallen nhw fod dan anfantais sylweddol, felly efallai y gallwn gael rhywfaint mwy o wybodaeth am hynny.

Rhowch eiliad imi, Llywydd, cefais fy ngalw ychydig yn gynt na'r disgwyl.  

14:55

Diolch. I'r dyfodol, mae'n bosib y gellir gofyn sut y gallai strwythur Busnes Cymru newid a datblygu yn ôl y galw, hefyd. Rwy'n credu bod gwir angen helpu gweithgynhyrchwyr a'r diwydiant twristiaeth—dau ddiwydiant pwysig iawn i ni yng Nghymru—felly, unrhyw gyngor y gallwch ei gael yn hynny o beth. Yn ogystal â hynny, mae mater amseru'r cyhoeddiadau hefyd. Er fy mod i'n dymuno bod mor adeiladol ag y bo modd, rwy'n sylweddoli o ran ardrethi busnes fod Llywodraeth y DU ar gyfer Lloegr a Llywodraeth yr Alban ar gyfer yr Alban wedi cyflwyno cynlluniau yn llawer cynharach ar gyfer rhyddhad ardrethi busnes. Rwy'n sylweddoli bod yn rhaid ichi gael y cydbwysedd rhwng siarad â busnesau a gwneud y cyhoeddiadau, ond os caiff y cyhoeddiadau eu gohirio am ychydig ddyddiau'n unig, yna mae'n amlwg bydd blychau llythyrau Aelodau'r Senedd yn orlawn gan negeseuon oddi wrth fusnesau sy'n bryderus sut fydd y rhyddhad hwnnw'n digwydd yn raddol ledled Cymru. Mae'n ymwneud â sut rydych chi'n cydbwyso'r ddau; rwy'n sylweddoli eich bod chi'n gorfod jyglo rhwng y ddau, ond mae angen cyhoeddi'r wybodaeth honno cyn gynted â phosib.

O ran trafnidiaeth gyhoeddus, Gweinidog, pe gallech chi, efallai, roi ychydig yn rhagor o wybodaeth inni am gynnal y gwasanaethau cyhoeddus a Thrafnidiaeth Cymru o ran sut y gallai'r problemau amrywio yno—rwy'n sylweddoli ei bod yn debygol na fydd yna broblem gyda threnau gorlawn, ond fe fydd yna broblem o ran rhai gwasanaethau, efallai, yn gorfod cael eu gohirio a'u haildrefnu. Hefyd, ceir rhywfaint o broblem ynghylch cludiant ysgolion y mae angen ei hystyried hefyd. Gwn, yn aml, efallai mewn rhannau gwledig o Gymru yn benodol, fod bysiau mini yn rhedeg yn llawn i'r ymylon, gyda phlant mewn lle cyfyng iawn. Ac fe wnaeth un etholwr fy hysbysu ei fod ef yn yrrwr bws mini ac yn 71 oed, ac mae hyn yn eithaf cyffredin yng nghefn gwlad Cymru—i yrwyr fod yn hŷn, neu o grŵp oedran hŷn. Felly mae'n amlwg bod angen rhoi ystyriaeth i hynny hefyd. Diolch ichi, Gweinidog.  

A gaf i ddiolch i Russell George nid yn unig am ei gwestiynau, ond am ei gyfraniad hynod adeiladol y prynhawn yma? Mae Russell George yn llygad ei le fod yn rhaid inni gydweithio i drechu'r heriau sy'n ein hwynebu ni. Gan fyfyrio ar rywbeth a ddywedodd Dr Dai Lloyd ychydig yn gynharach, rwy'n credu mai dyma fygythiad mwyaf ein hoes ni. Rydym mewn rhyfel i bob pwrpas, ac mae'n rhaid inni ddefnyddio ein holl allu ar y cyd i ymladd yn erbyn y coronafeirws. Mae hynny'n golygu cydweithio â Llywodraeth y DU, â llywodraeth leol, â'r gymuned fusnes a'r gymdeithas gyfan i ymdrin â'r her hon yn y byrdymor, a sicrhau y daw adferiad yn gyflym.

Llywydd, fe gododd Russell George nifer o bwyntiau pwysig. Yn gyntaf oll, fe hoffwn i grybwyll y gwaith a fydd gan Busnes Cymru yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Dyma'r siop un stop ar gyfer pob cyngor a chymorth i fusnesau, ac fe fydd yn cyfeirio busnesau at gyrff eraill nad ydyn nhw'n cael eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys, er enghraifft, Banc Busnes Prydain.

Rwy'n falch o ddweud, o ganlyniad i'r gwaith helaeth a wnaed o fewn y Llywodraeth i gynllunio ar gyfer Brexit 'heb gytundeb', ein bod wedi gallu modelu senarios amrywiol o ran gallu rhoi pobl i wasanaethu ar y rheng flaen, ac mae Russell George yn hollol iawn ynghylch yr angen i adlewyrchu'r galw, yn Busnes Cymru, a ddaw yn yr wythnosau sydd i ddod, ac felly, fe fydd yn rhaid cynyddu eu capasiti nhw i ymdrin â'r galwadau.

Mae gennym ni brofiad da o weithio mewn gwahanol dasgluoedd hefyd wrth inni ymyrryd ledled Cymru, ac mae honno eto'n sylfaen dda i ni, o ran gallu ymaflyd â busnesau yn gyflym a chynnig toreth o gymorth a chyngor i'w tywys nhw drwy'r cyfnod anodd hwn. Rydym wedi bod yn edrych yn fewnol hefyd ar sut y gallwn ni, dros dro, ailddyrannu adnoddau dynol mewn ffordd sy'n cefnogi busnesau, o fewn fy adran i.

Nawr, o ran y gwaith sydd gan y banc datblygu wrth oresgyn yr her hon, fe fyddaf i'n cwrdd â'r banc datblygu eto ddydd Iau, ac fe fydd gennyf i hefyd—yn yr un ystafell, neu ar alwad cynhadledd ffôn—fanciau'r stryd fawr. Mae'n gwbl hanfodol bod ymyriadau a chynigion y banc datblygu yn plethu'n daclus gyda'r hyn y mae banciau'r stryd fawr yn ei gynnig hefyd. Ac fe fydd yna, rwy'n gobeithio, o ganlyniad i gyhoeddiad gan y Canghellor yn ddiweddarach y prynhawn yma, gyfalaf ychwanegol ar gael o fewn y banc datblygu yn yr wythnosau nesaf.

O ran ardrethi busnes, rwy'n derbyn y pwynt a wnaeth yr Aelod yn llwyr. Mae'r cyhoeddiad a wnaeth Rebecca Evans neithiwr ynglŷn â'r cymorth ardrethi busnes yr ydym ni'n ei gynnig yn berthnasol i ddegau o filoedd o fusnesau yng Nghymru. Eto i gyd, megis dechrau yw hyn, ac mae taer angen y cynnig enfawr hwnnw o gyllid gan Lywodraeth y DU y mae Aelodau, gan gynnwys Alun Davies, wedi sôn amdano eisoes y prynhawn yma. Mae'r £300 biliwn yna a gyhoeddodd Arlywydd Macron neithiwr yn dangos pam mae'r £12 biliwn a gyhoeddodd Llywodraeth y DU yr wythnos diwethaf yn gwbl annigonol, ac rwy'n obeithiol y bydd y Canghellor yn cyhoeddi pecyn enfawr o gefnogaeth y prynhawn yma.

Os gallwn ni sicrhau rhagor o adnoddau, fe fyddwn ni'n gallu eu defnyddio mewn ffordd sydd o fudd i fusnesau o bob math a maint, ac rwyf wedi gofyn i swyddogion fodelu amryw o fesurau, gan gynnwys, fel enghraifft, foratoriwm dros dro ar bob trethiant ar fusnes am dri mis, ond fe fyddai hynny'n gofyn am adnodd ariannol sylweddol. A dyna pam rwy'n obeithiol y bydd y Canghellor yn hael y prynhawn yma gyda'r gefnogaeth angenrheidiol.

Rwy'n cytuno â Russell George hefyd fod rhai sectorau'n cael eu taro'n arbennig o galed. O ran swyddogaeth Llywodraeth Cymru wrth gefnogi busnesau, ein cred ni yw y bydd yna ddau gam i'r her hon: yn gyntaf oll, y cyfnod o oroesi, ac yna'r cyfnod o adferiad. O ran y cyfnod o oroesi, fe fydd ton ar don lle bydd angen cefnogaeth ddwys ar rai sectorau. Ar hyn o bryd, rydym yn gweld hynny yn yr economi gymdeithasol a'r sector gofal cymdeithasol a'r hunangyflogedig, a dyna pam rwy'n awyddus i fodelu'r £100 miliwn o gefnogaeth a gyhoeddwyd gan Rebecca Evans ar gyfer y rhannau penodol hynny o economi Cymru. O ran yr 'economi gymdeithasol', yr hyn yr wyf yn ei olygu yw twristiaeth, gwestai, bwytai, digwyddiadau, caffis a thafarndai, yn ogystal â rhai rhannau o'r sector manwerthu a rhai meysydd allweddol eraill yn economi Cymru, wrth gwrs. Rwy'n benderfynol y gallwn ni ddefnyddio Busnes Cymru ac awdurdodau lleol ar gyfer dosbarthu arian hanfodol bwysig yn y busnesau hynny sydd ei angen.

O ran gwasanaethau trên, mae Russell George yn llygad ei le, os gwelwn ni nifer sylweddol o bobl yn absennol o'r gwaith oherwydd salwch neu hunan ynysu, yna fe fydd angen inni wneud penderfyniadau anodd iawn o ran gwasanaethau rheilffyrdd, ac yn yr un modd, fe fyddai hynny'n berthnasol i wasanaethau bysiau hefyd. Mae gan Trafnidiaeth Cymru grŵp strategaeth. Maen nhw'n modelu senarios amrywiol, ac maen nhw'n cyfarfod yn ddyddiol i benderfynu pa gamau allai fod yn angenrheidiol. Ond fe fyddaf i'n ceisio rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am unrhyw benderfyniadau a wneir gan Drafnidiaeth Cymru. Maen nhw'n cyflogi miloedd o bobl, Gwasanaethau Rheilffordd Trafnidiaeth Cymru, ledled y wlad, ac nid oes amheuaeth gennym ni y bydd nifer sylweddol yn hunan ynysu neu'n dioddef o'r coronafeirws. Wrth gwrs, mae rhai o'r unigolion hynny a gyflogir â swyddi hanfodol ganddyn nhw, y gyrwyr trenau a'r gwarchodwyr yn benodol, ac os bydd yna ostyngiad sylweddol yn nifer y gweithwyr proffesiynol penodol hynny sy'n gallu gweithio, yna fe fydd hynny'n sicr o effeithio ar wasanaethau'r rheilffyrdd. Ond fe fyddaf i'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau yn rheolaidd iawn am effaith y coronafeirws ar ein rhwydwaith trafnidiaeth ni.

Yn olaf, fe siaradais i â Chydffederasiwn Cludiant Teithwyr y DU ddoe ynglŷn â'r rhwydwaith bysiau, ac mae'r pwynt a wnaeth Russell George am y gweithlu, proffil oedran y gweithlu, yn rhywbeth sy'n peri pryder i ni. Rydym yn gweithio gyda'r sector i nodi'r posibilrwydd o gael cefnogaeth i gael gyrwyr eraill pe bai llawer o yrwyr yn mynd yn sâl neu'n hunan ynysu. Mae hynny'n arbennig o wir, rwy'n credu ei bod yn deg dweud, yng nghefn gwlad Cymru, lle mae gennym nifer fawr o fusnesau bach a chanolig yn gweithredu, ac felly rydym yn canolbwyntio ein sylw ar yr ardaloedd gwledig hynny yn benodol ar hyn o bryd sydd eisoes yn wynebu mathau eraill o ynysu.

15:05

Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw ac am ei atebion i Russell George. Rydym ni, fel y dywedodd ef, yn wynebu sefyllfa gwbl ddigynsail, ac roeddwn i'n falch iawn o'i glywed ef a'r Prif Weinidog yn cytuno â'r farn ar y meinciau hyn ac, yn fy marn i, ar draws y Siambr fod angen ymateb anferth i'r sefyllfa hon ledled y Deyrnas Unedig gyfan. Nid ydym ni, yn llythrennol, y rhan fwyaf ohonom ni, wedi wynebu unrhyw beth fel hyn erioed. Mae pobl yn siarad am yr ail ryfel byd, ond ni all unrhyw un ohonom ni gofio sut beth oedd hynny mewn gwirionedd, ac rwy'n credu, yn wir, y bydd angen rhywfaint o'r raddfa honno o uchelgais ac ymateb arnom. Mae'r Gweinidog yn llygad ei lle wrth ddweud bod yn rhaid i hynny gael ei arwain gan Lywodraeth y DU.

Rwy'n awyddus i ganolbwyntio fy nghwestiynau i, Llywydd, ar y materion hynny sydd o fewn cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru, ond mae'n bosib y bydd rhai o'r cwestiynau hynny'n cyfeirio at ei drafodaethau ef a'i gydweithwyr gyda Gweinidogion y DU. Yn gyntaf, fe hoffwn i ddweud ein bod ni, yn amlwg, yn croesawu'r cyhoeddiad ar ryddhad ardrethi busnes, ond fel y mae eraill wedi ei ddweud eisoes, ni fydd hynny'n helpu llawer o fusnesau oherwydd nad ydyn nhw'n talu ardrethi busnes ar hyn o bryd. A wnaiff ef ddweud ychydig mwy wrthym am y cynigion ar gyfer y cynllun grant? Efallai na all roi manylion inni, ond rwy'n credu y byddai'r gymuned fusnes yn ddiolchgar iawn o glywed pryd y bydd yn gallu rhoi manylion inni, oherwydd mater yw hwn o fusnesau yn mynd i'r wal wrth ein bod yn siarad nawr, yn enwedig y rhai sy'n gweithio ar lwfansau cynnil iawn. Felly mae'n gwbl hanfodol, os na all ef ddweud unrhyw beth mwy wrthym gyda llawer mwy o fanylder heddiw—ac rwy'n gwerthfawrogi'r hyn a ddywedodd ynglŷn ag ymgynghori â'r sector busnes, oherwydd, wrth gwrs, mae hynny'n briodol— pe gallem gael rhyw syniad o'r hyn y gallai'r amserlen fod ar gyfer hynny.

Fe hoffwn i awgrymu i'r Gweinidog y gellid gwneud mwy i hysbysu busnesau am y ffaith mai'r llinell gymorth arferol yw'r man cywir i fynd. Rwy'n credu ei fod ef, mae'n debyg, yn cytuno â mi nad ydym bob amser mor llwyddiannus ag yr hoffem fod wrth gyfathrebu â busnesau bach iawn. Mae'n bosib y bydd yna bethau, wrth gwrs, y gall pob un ohonom ni eu gwneud, yn Aelodau yn ein hetholaethau a'n rhanbarthau ni ein hunain, i helpu busnesau sy'n cysylltu â ni i fod yn ymwybodol o'r llinell gymorth. Ond rwy'n credu bod yna fwy o waith i'w wneud ynglŷn â hyn er mwyn i bobl ddeall nad dim ond llinell ar gyfer busnes fel arfer yw honno, ond ei bod hi hefyd yn llinell y gellir ei defnyddio mewn argyfyngau.

Fe soniodd y Gweinidog yn ei ymateb i Russell George am rywfaint o'r argyfwng llwyr y gall rhai busnesau lletygarwch a theatrau, sinemâu ac yn y blaen fod ynddo. Rydym ni, wrth gwrs, mewn sefyllfa lle y cynghorir pobl i beidio â defnyddio'r busnesau hyn ond, ar y llaw arall, nid yw'n orfodol i gau'r busnesau hynny. Felly, ni all y busnesau hynny a allai gael yswiriant pe byddent yn cael eu cau'n ffurfiol allu gwneud hynny ar hyn o bryd. Fy nealltwriaeth i yw y gallai hynny fod yn fater i Lywodraeth y DU. Ond tybed a gaf i ofyn i'r Gweinidog, gyda'i gydweithwyr a chyda'r Cwnsler Cyffredinol yn benodol, edrych ar bwerau Llywodraeth Cymru o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1994, sy'n rhoi pwerau i Lywodraeth Cymru wahardd digwyddiadau a chyfarfodydd, a gweld a oes modd, wrth inni aros—ac wrth gwrs, efallai y cawn ni ragor o gyhoeddiadau yn nes ymlaen heddiw—i Lywodraeth y DU weithredu, a oes modd rhoi gorchymyn o'r fath ar fusnesau fel y gallan nhw hawlio efallai, y rhai ohonyn nhw sydd ag yswiriant ymyrraeth busnes, er enghraifft. Rwy'n gofyn hefyd i'r Gweinidog pa asesiad y mae ef wedi ei wneud neu y gall ef ei wneud o faint o'r busnesau hynny yr effeithiwyd arnynt sy'n meddu ar yswiriant o'r fath. Wrth gwrs, ni fydd gan lawer o'r busnesau llai yr yswiriant hwnnw, neu ni fydd ganddynt warchodaeth yn y sefyllfa benodol hon. Fe fyddwn i'n dweud wrth y Gweinidog y bydd angen cymorth grant ar rai o'r busnesau hyn yn y byrdymor i'w cadw nhw i fynd. Unwaith eto, roeddwn i'n falch iawn o glywed y Prif Weinidog yn dweud na ddylai unrhyw fusnes a oedd yn fusnes hyfyw 10 diwrnod yn ôl beidio â bod felly ar ddiwedd yr argyfwng hwn ac rwy'n credu bod angen mwy o ystyriaeth gydlynol i wneud yn siŵr y bydd hynny'n digwydd.

Ynglŷn â mater arall, fe ddywedwyd wrthyf i y gallai rhai busnesau sy'n cael eu gorfodi i gau ddefnyddio'r amser hwn i ailddatblygu o bosib, yn benodol eu hadeiladau. Rwy'n gofyn i'r Gweinidog a all ef ystyried, o ran rhai o gynlluniau presennol y Llywodraeth ar gyfer rhoi grantiau—rwy'n credu mai busnesau twristiaeth gododd hyn gyda mi, ond efallai fod yna eraill—a ellid cyflymu'r broses honno? Oherwydd os oes gennych chi fusnes gwely a brecwast ac nad oes dewis ond ei gau oherwydd nad oes neb yno a'u bod yn gwybod, yn y tymor canolig, bod angen iddyn nhw wneud datblygiadau, a allai rhywfaint o'r adnoddau fod ar gael iddyn nhw yma, fel y gallan nhw fanteisio ar hynny, gan eu bod ar gau.

Gan droi at drafnidiaeth gyhoeddus am foment, mae'r Gweinidog yn cyfeirio at y cyngor a roddir i ddefnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus. Tybed a wnaiff ystyried eto, gyda'r Gweinidog Iechyd, a oes angen inni ddweud mwy wrth ddefnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus i'w helpu nhw i gadw'n ddiogel. I lawer o bobl, fel y gŵyr y Gweinidog, nid oes ganddynt ddewis. Fe ddywedodd ef ei hun: mae rhai ohonom yn lwcus ac efallai y gallwn ni weithio o gartref, ond mae yna bobl na allan nhw wneud hynny. Ac a wnaiff ef hefyd roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am unrhyw faterion o ran mesurau y gellid eu cymryd i leihau gorlenwi.

Yn ogystal â hynny, o ran trafnidiaeth gyhoeddus, fe fydd yn gwybod bod llawer o gwmnïau bysiau llai yn arbennig a fydd wedi colli llawer o fusnes. Fe fyddan nhw wedi colli eu busnes twristiaeth: mae hynny'n digwydd eisoes. Fe godwyd gyda mi y gallai hon fod yn broblem i'r cwmnïau hynny os byddwn yn mynd i lawr y llwybr o gau ysgolion, oherwydd dyna eu hunig waith hirdymor cynaliadwy—. Mae darparu cludiant ysgol yn ffordd gynaliadwy iddyn nhw o gadw busnesau yn hyfyw yn yr hirdymor. Tybed a fyddai modd iddo gael trafodaethau pellach gyda'r Gweinidogion priodol i weld a allwn ni gefnogi Llywodraeth Leol i barhau i dalu am y contractau hynny, hyd yn oed os nad ydyn nhw'n cael eu defnyddio. Fe fyddai'n ddealladwy iawn, rwy'n siŵr y byddai ef yn cytuno, i bobl sy'n gwneud penderfyniadau ar lefel leol ddweud, 'Wel, os nad yw'r plant yn mynd i'r ysgol, 'dydyn ni ddim yn mynd i dalu am y bysiau.' Ond y gwir amdani yw, yn sicr yn Sir Gaerfyrddin, ac fe wn i ledled y Canolbarth a'r Gorllewin, os na thelir am y gwasanaethau hynny, ni fydd y cwmnïau bysiau hynny'n goroesi erbyn inni ddod allan o'r argyfwng, felly mae'n rhaid inni feddwl sut y gallwn ni gadw'r rhain yn gynaliadwy.

Mae e'n sôn yn ei ddatganiad am dâl salwch statudol, ac wrth gwrs, fe fydd hwnnw o gymorth i'r bobl hynny sydd allan o waith am eu bod nhw'n sal, neu am eu bod nhw'n ynysu eu hunain. Ond rwy'n siŵr y bydd yn cytuno â mi y bydd llawer iawn o bobl a allai eu cael eu hunain allan o waith dros dro neu'n barhaol oherwydd hyn. Tybed a oes modd iddo gael trafodaethau pellach gyda Llywodraeth y DU ynglyn â sut y gallen nhw, er enghraifft, gyflymu'r broses geisiadau am gredyd cynhwysol, ac fe fyddem ni'n dadlau ar y meinciau hyn, am fwy o amser yn y tymor byr efallai i fod yn fwy uchelgeisiol ac edrych ar incwm sylfaenol i bawb. Ond o fewn pwerau Llywodraeth Cymru ei hun, wrth gwrs, mae gennym ni'r taliadau cymorth brys, a tybed a fydd ef yn cynnal trafodaethau priodol gyda'r Gweinidogion priodol ynglŷn â'r cynllun hwnnw, ac ystyried a allwn ni roi mwy o arian i mewn i hwnnw, fel y gallai teuluoedd sydd mewn argyfwng am eu bod nhw'n hunan ynysu, er enghraifft, ac nad oes ganddyn nhw incwm o bosib, geisio cael rhywfaint o gymorth o'r gronfa honno. Ac fe fyddai angen newid y meini prawf cymhwysedd ar gyfer honno, wrth gwrs.

Yn olaf, rwy'n falch iawn o glywed y Gweinidog yn dweud ei fod yn cynnal trafodaethau gyda'r banciau masnachol. Rwyf i o'r farn y byddai llawer ohonom yn credu bod arnyn nhw ddyled i ni: cafodd y banciau eu hachub mewn argyfwng a achoswyd ganddyn nhw. Fe ddywedodd etholwr wrthyf i heddiw, er enghraifft, fod yr HSBC eisoes yn gwrthod cynyddu cyfleusterau gorddrafft ar gyfer rhai busnesau gwledig, oherwydd gallai eu benthyciadau nhw fod yn eithaf mawr yn barod gan eu bod ar ddiwedd tymor y gaeaf a dim ond nawr y mae'n amser iddyn nhw allu gwneud eu harian. Fe hoffwn i ofyn iddo am godi'r mater hwnnw'n benodol oherwydd bod y busnesau bach gwledig hynny, unwaith eto, yn fychan iawn, ac maen nhw'n gwybod eu bod nhw'n cael amser caled yn y gaeaf. Fe ddylai eu banciau nhw wybod eu bod nhw'n cael amser caled yn y gaeaf, ac ni ddylai hynny eu hatal nhw rhag cael eu cefnogi i gael benthyg, ac mae'n hollol annerbyniol os yw'r banciau mawr hyn yn gwneud hynny, a gwn fod yr HSBC yn gwneud hynny mewn un achos.

Ac fe hoffwn i orffen fy nghyfraniad i, Llywydd, drwy ddiolch unwaith eto i'r Gweinidog am ei ddatganiad, a gofyn iddo ef—fel rwy'n siŵr y gwnaiff—roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni oll. Wrth gwrs, fe fydd ef yn disgwyl cael ei graffu'n drwyadl o'r meinciau hyn, ond fe fyddwn ninnau hefyd yn cynnig ein cefnogaeth iddo ef wrth ymdrin â sefyllfa sy'n gwbl ddigynsail, fel yr ydym ni i gyd yn cytuno.

15:10

A gaf i ddiolch i Helen Mary Jones am y cwestiynau a godwyd ganddi hi'r prynhawn yma ac am gyfraniad adeiladol arall i'r drafodaeth hon a'r ddadl hon? Tynnodd Helen Mary Jones gymariaethau â'r ymdrech yn y rhyfel, ac rwy'n credu ei bod hi'n hollol gywir: mae hyn yn gofyn am ymdrech gydunol drwy'r gymdeithas, ac yn union fel y gwnaethom ni ailadeiladu'r wlad wedi'r ail ryfel byd, fe fydd yna gyfle i ni, yn y cyfnod o adferiad, sicrhau ein bod ni'n datblygu economi newydd sy'n decach, un sy'n fwy addas i'r diben. Yn rhan o'r adferiad, efallai y bydd angen bargen newydd sylweddol iawn arnom ni—pecyn ysgogi enfawr dan arweiniad Llywodraeth y DU i sicrhau bod yr adferiad yn gallu digwydd mor gyflym â phosib.

O ran yr amserlen ar gyfer dosbarthu'r £100 miliwn i fusnesau, fe allaf i sicrhau pob Aelod ein bod ni'n ceisio gwneud hyn mor gyflym ag y gallwn ni. Fe fydd y cyfarfod ddydd Iau gyda'r cyngor datblygu economaidd yn hanfodol bwysig. Rwy'n dymuno cael cymeradwyaeth y cyngor, ein partneriaid cymdeithasol ni, at ddiben y £100 miliwn a'r meini prawf a fydd yn cael eu gosod i sicrhau bod y busnesau iawn yn cael eu cynorthwyo.

Rwy'n credu ei bod hi'n werth dweud, Llywydd, y bydd busnesau yn wynebu dewis anodd iawn. A oes angen cymryd cyfnod o seibiant hir i oroesi? A fydd y cyfnod o seibiant yn para trwy'r argyfwng presennol hwn, neu a fyddan nhw'n mynd ati i geisio ennill incwm drwy'r argyfwng? A fyddan nhw'n goroesi drwy barhau i weithio? Nawr, mae gan Lywodraeth y DU ran yn y ddwy senario. Yn gyntaf oll, mae'r Prif Weinidog wedi gofyn i Lywodraeth y DU warantu cyflogau i sicrhau bod busnesau'n gallu cynnal cyflogaeth unigolion, hyd yn oed os nad ydyn nhw yn y gweithle, ac mae hynny'n hollol iawn. Mae'r Prif Weinidog wedi codi'r cwestiwn hefyd ynghylch swyddogaeth i incwm cyffredinol. Unwaith eto, fe allai hyn fod yn hanfodol bwysig er mwyn sicrhau nad y rhai sy'n fwyaf agored i gael eu heintio â'r coronafeirws o ran eu lles a'u gwaith sy'n cael eu taro galetaf.

Yn ogystal â hynny, fe all Llywodraeth y DU fod â swyddogaeth bwysig o ran gostwng trethi a chael saib o dalu trethi, ac rydym wedi gofyn hyn iddyn nhw heddiw. Mae Llywodraeth Cymru yn gallu defnyddio rhyddhad ardrethi busnes, ac fe allwn ystyried cefnogi busnesau hefyd o ran llif arian a chostau sefydlog ar wahân i'r rhain a gymhwysir i filiau cyflogau, os yw Llywodraeth y DU yn fodlon ac yn barod i gamu i mewn fel yr amlinellais i eisoes. Ac rydym ni'n ystyried defnyddio'r £100 miliwn hwnnw at y diben hwnnw.

Rwy'n cydnabod ar hyn o bryd fod rhai sectorau, fel y dywedais i wrth Russell George, mewn gwewyr ofnadwy. Mae'r sectorau hynny'n cynnwys lletygarwch, maen nhw'n cynnwys y sector twristiaeth yn ei gyfanrwydd, rhannau o'r sector manwerthu hefyd. Mae yna alwadau hefyd gan y gwasanaethau gofal cymdeithasol i sicrhau bod darparwyr gofal cymdeithasol yn gallu talu am gostau cyflog cyflogeion y mae angen i rywun weithio yn eu lle nhw, a chostau staff asiantaeth felly, o bosib. A hefyd, wrth gwrs, mae pobl hunan-gyflogedig yn wynebu penderfyniadau anodd iawn, iawn ar hyn o bryd o ran sut maen nhw am ddod drwy'r coronafeirws. Ond mae'r Aelod yn llygad ei le bod angen inni sicrhau bod gan unrhyw fusnes hyfyw heddiw obaith hyfyw o oroesi a ffynnu ar ddiwedd yr argyfwng coronafeirws.

Roeddwn i o'r farn fod y datganiad a wnaeth Arlywydd Marcon neithiwr yn rymus pan ddywedodd na fydd yna unrhyw fusnes, mawr neu fach, waeth pa mor fawr ydyw, yn cael ei orfodi i gau o ganlyniad i'r coronafeirws. Ac mae hon yn neges y gwnes i ei hailadrodd i Lywodraeth y DU. Mae angen i Lywodraeth y DU weithredu i sicrhau mai'r un fydd y sefyllfa yn y DU. Fe fydd gan y banciau masnachol, fel y dywedodd yr Aelod, swyddogaeth bwysig dros ben, ac fel y dywedodd llawer o'r Aelodau eisoes heddiw, yn 2008 fe wnaeth y cyhoedd achub croen y banciau, a nawr yn 2020 mae'n gwbl briodol fod y banciau yn gwneud eu rhan nhw drwy achub croen llawer o fusnesau sy'n hyfyw, sydd â dyfodol cryf, ond sy'n wynebu her ofnadwy ar hyn o bryd.

Fe fyddwn ni'n cyfarfod â'r banciau masnachol ddydd Iau. Mae gennyf amryw o gwestiynau i'w codi gyda nhw, gan gynnwys i ba raddau y gallan nhw wneud penderfyniadau dewisol. Yn aml, fe wneir penderfyniadau mewn pencadlys. Nid yw'r penderfyniadau hynny o reidrwydd yn adlewyrchu'r wahanol fath o economi sydd gennym ni yma yng Nghymru, yn enwedig felly mewn ardaloedd gwledig. Felly, fe hoffwn i ganfod i ba raddau y gall y banciau wneud penderfyniadau dewisol. Mae yna amryw o gwestiynau eraill y byddaf i'n eu codi gyda'r banciau. Fe fyddaf i'n ysgrifennu at yr Aelodau ar ôl y cyfarfod hwnnw i roi rhagor o wybodaeth, fel y gall yr holl Aelodau, yn eu tro, roi gwybod i'r busnesau yn eu hetholaethau neu yn eu hardaloedd nhw. Rwy'n credu ei bod yn werth dweud hefyd, Llywydd, wrth inni fynd trwy'r cyfnod adfer, y bydd galw sylweddol am gyfalaf gweithio, ac mae hyn yn rhywbeth y byddaf i'n ei godi gyda'r banc datblygu a banciau'r stryd fawr ddydd Iau.

Fy nghyngor i i'r cyhoedd sy'n teithio ac yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yw na ddylen nhw ddefnyddio cludiant cyhoeddus oni bai ei bod hi'n gwbl hanfodol os credant y gallai fod ganddyn nhw symptomau. Os oes ganddyn nhw symptomau, fe ddylen ddim ond—ddim ond—defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus os yw'n gwbl hanfodol ar gyfer cael y cymorth meddygol sydd ei angen. Mae'n hanfodol bwysig bod pob teithiwr yn dilyn y canllawiau a ddosbarthwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a'u bod nhw'n gallu cadw eu pellter wrth ddefnyddio cludiant neu pan fyddan nhw mewn gorsafoedd.

Rwy'n falch o ddweud bod y sector bysiau eisoes wedi rhoi'r ffigurau ynghylch cost cynnal gwasanaethau yn ystod y cyfnod anodd hwn i mi. Fe fyddwn ni'n ystyried y lefel honno o gefnogaeth y gofynnwyd amdani, gan gydnabod, wrth gwrs, bod y rhwydwaith bysiau ledled Cymru yn hanfodol bwysig a bod yn rhaid ei gynnal i'r dyfodol.

15:20

A gaf i ddiolch i chi, Gweinidog, am y datganiadau a wnaethoch chi ynglŷn â chefnogaeth Llywodraeth Cymru i fusnes? Mae manylion y cyhoeddiadau hyn, rwy'n siŵr, wedi bod o gysur mawr i'r busnesau yn fy etholaeth i sydd wedi cysylltu â mi i fynegi eu pryderon nhw, ac felly rwy'n diolch ichi hefyd am yr wybodaeth ychwanegol a nodwyd gennych chi heddiw.

Fodd bynnag, mae'n debyg na fyddwch chi'n synnu o glywed mai busnesau unigol, hunangyflogedig yw'r rhan fwyaf o fusnesau sydd wedi cysylltu â mi ynghylch eu pryderon, a dyna yw cnewyllyn fy nghwestiwn i mewn gwirionedd, gan fy mod i'n gwybod bod meysydd eraill wedi cael eu trafod gyda pheth manylder. Felly, os caf i roi enghraifft ichi: roedd yn o fy etholwyr yn gerddor proffesiynol ac yn athro cerdd. Mae ef wedi cysylltu â mi i ddweud, yn ystod y 24 awr ddiwethaf, ei fod  wedi colli'r rhan fwyaf o'r gwaith dysgu sydd i ddod iddo oherwydd cyngor cyfredol y Llywodraeth, ac mewn gwirionedd ni allwn ni ond gweld y cyngor hwnnw'n gosod cyfyngiadau pellach yn ystod yr wythnosau nesaf. Ac rwy'n dyfalu y bydd  amgylchiadau tebyg yn siŵr o godi ar gyfer nifer o unigolion hunangyflogedig, ac rwy'n sôn am bobl fel siopau trin gwallt symudol, er enghraifft—y mathau hynny o fusnesau, fel y gwyddom, nad yw ardrethi busnes yn fater iddyn nhw ac mae'n debyg nad yw benthyciadau banc yn fater iddyn nhw. Felly, ni fyddai unrhyw gyhoeddiadau ynghylch y meysydd hynny o unrhyw gymorth penodol iddyn nhw. O ystyried hynny, fel y nodwyd yn gywir gennych chi eisoes, nid yw Llywodraeth y DU wedi gwneud unrhyw gyhoeddiad fel y gwnaeth Macron o €300 biliwn o gefnogaeth i warantu na fydd unrhyw fusnesau yn mynd i'r wal, felly pa fath o sicrwydd y gallwch chi ei roi i bobl yn yr un sefyllfa a'm hetholwr i o ran y cymorth y gallan nhw ddisgwyl ei gael dros y misoedd nesaf, o gofio bod eu ffynonellau nhw o incwm yn y bôn wedi diflannu dros nos bron?

Wel, mae'r Aelod yn gwneud rhai pwyntiau pwerus iawn am yr angen i gefnogi'r unigolion hynny sy'n hunangyflogedig. Fel y dywedais i wrth ymateb i Helen Mary Jones, rydym yn edrych yn benodol ar y £100 miliwn a gyhoeddwyd a sut y gellir ei ddefnyddio i gefnogi unigolion hunangyflogedig ar hyn o bryd. Fe amlinellais hefyd i Helen Mary Jones sut yr ydym ni'n edrych yn benodol ar gostau sefydlog a materion o ran llif arian. Fe allaf i sicrhau'r aelod fod y mesurau hynny a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yn berthnasol i Gymru: y mesurau tâl salwch statudol; y cynllun benthyciadau ymyrraeth busnes; y cynllun Amser i Dalu. Maen nhw i gyd yn berthnasol i fusnesau Cymru, ac os bydd Llywodraeth y DU yn cyhoeddi'r pecyn cymorth ariannol sylweddol iawn hwnnw y prynhawn yma, yna fe fyddwn ni'n sicrhau bod cymorth i bobl hunangyflogedig yn  flaenoriaeth.

Rydym ni bellach yn agos at 45 munud i mewn i'r datganiad hwn ac rydym wedi cael un cyfraniad gan bob grŵp plaid. Felly, os gall Aelodau'r Senedd fod yn weddol gryno gyda'ch cwestiynau a'r atebion a roddir gan y Gweinidog—mae yna nifer o faterion wedi eu trafod eisoes. Felly, os cawn ni fod yn gryno, yna fe fyddaf i'n ceisio galw cymaint o Aelodau ag y bo modd. Y chi sydd gyntaf, Angela Burns.

Diolch. Rwy'n addo'n llwyr ichi mai un maes sydd gennyf yr wyf i'n awyddus iawn i siarad â chi amdano, sef yswiriant ymyrraeth busnes. Mae nifer sylweddol o fusnesau wedi cysylltu â mi sy'n ei chael hi'n anodd iawn cael yswirwyr i wneud dau beth: (1) deall bod COVID-19 yn glefyd hysbysadwy. Nawr, rydych chi a minnau yn gwybod o dan Reoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysu) (Cymru) (Diwygio) 2020, fod hwn wedi cael ei wneud yn glefyd hysbysadwy ar y pumed o Fawrth, ac fe ddilynodd pob un o wledydd eraill y DU ar y pumed neu'r chweched o Fawrth, ac eto i gyd mae'n anodd iawn (1) i'r busnesau ddod o hyd i unman ar unrhyw wefan—eich un chi, un Llywodraeth y DU, unrhyw un—sy'n dweud ei fod yn glefyd hysbysadwy, a (2) i gael y cwmnïau yswiriant i gydnabod ei fod yn glefyd hysbysadwy. Dyna fy nghwestiwn cyntaf i o ran yswiriant, ac rwy'n gwybod eich bod chi'n cwrdd â'r banciau, ac rwy'n meddwl tybed a ydych chi'n cwrdd â'r yswirwyr efallai.

Mae fy ail gwestiwn o ran yswiriant, sydd, unwaith eto, yn debyg iawn i'r cyntaf, yn ymwneud ag yswiriant ymyrraeth busnes. Unwaith eto, mae busnesau'n dweud wrthyf i, er enghraifft, os bydd rhywun yn mynd i westy ac yn cael diagnosis o COVID-19, fe fydd y gwesty'n cael ei dalu, ond os bydd rhywun yn canslo'r ystafell westy honno, nid yw yswiriant ymyrraeth busnes yn berthnasol. Unwaith eto, mae'r yswirwyr yn chwarae gêm galed iawn. Gweinidog, tybed beth allech chi, ar y cyd â gwledydd eraill y DU, ei wneud gyda'r cwmnïau yswiriant, fel y gall yswiriant ymyrraeth busnes fod yn berthnasol yn y maes hwn.

15:25

A gaf i ddiolch i Angela Burns am y cwestiwn ynglŷn ag yswiriant ymyrraeth busnes? Mae'n ddefnyddiol mewn gwirionedd bod yr Aelod yn awgrymu ein bod yn gwneud hyn ar sail pedair gwlad, oherwydd dyma'r union bwynt yr oeddwn i'n bwriadu ei godi, ymhlith llawer o bwyntiau eraill, gyda fy Ngweinidog cyfatebol i yn Llywodraeth yr Alban pan fyddaf i'n siarad â hi y prynhawn yma. Mae hefyd yn rhywbeth yr ydym wedi bod yn ei godi gyda'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol. Rydym ni eisoes yn siarad â'r sector a chorff y cynrychiolwyr ar ran y sector, gan bwyso arnyn nhw i weithredu'n gyfrifol, a byddwn yn sicrhau eu bod yn gweld, mewn du a gwyn, y cyhoeddiad ei fod yn glefyd hysbysadwy, er mwyn sicrhau nad oes rheswm ganddyn nhw i osgoi gwneud taliadau.

Ni fyddaf i'n ymhelaethu ar lefel y gefnogaeth, y mae fy nghyd-Aelod Helen Mary Jones, eisoes wedi mynd ar ei hôl, heblaw am ddweud bod yn rhaid inni sicrhau'r lefel honno o gefnogaeth ddigyffelyb a sicrhau ei bod yn cael effaith ar lawr gwlad cyn gynted â phosib.

Hoffwn amlinellu rhai o'r elfennau sydd wedi dwyn fy sylw a chanolbwyntio ar yr hyn yr ydym ni'n ymdrin ag ef: cwmni bach sydd â £120,000 o golled mewn refeniw; gweithredwr teithiau arfordir—colledion o £30,000 eisoes; yr atyniad twristaidd—newyddion torcalonnus iddyn nhw, gyda cholli busnes. Ar yr un pryd, mae'r perchennog yn gwella ar ôl canser, mae dau o'r plant yn sefyll eu harholiadau TGAU yr haf hwn, mae gan aelodau eraill o'r teulu afiechydon difrifol. Cwmni gweithgynhyrchu diodydd y mae ei archebion yn darfod. Tafarndai'n cael ergyd ofnadwy gan fod cwsmeriaid wedi cael rhybudd i gadw draw, ond neb wedi rhoi gwybod iddyn nhw, fel yr ydym ni newydd glywed nawr, bod yn rhaid iddyn nhw gau. Gweithredwyr bysiau yn poeni y bydd eu busnesau'n methu, ac effeithiau hirdymor hynny, gan fod angen cludo plant i'r ysgol ar ôl i hyn ddod i ben, ac yn y blaen.

Rwyf i'n apelio, yn fwy na dim nawr, ar wahân i lefel y gefnogaeth, am gael mwy o gyfathrebu cadarn a chlir rhwng y Llywodraeth â busnesau. Dyna'r un peth y mae pobl yn gofyn amdano mewn gwirionedd. Rwy'n falch ein bod wedi cael y sicrwydd bod llinell gymorth Busnes Cymru, i bob pwrpas, yn llinell gymorth COVID-19 nawr. Byddwn i'n eich cynghori i gael golwg ar y wefan honno i weld a oes modd ei chryfhau. Nid wyf yn siŵr a yw'r neges yno mai dyna'r lle i fynd, er fy mod i bellach yn cynghori fy etholwyr i ffonio'r rhif hwnnw, 03000 603000. Rwyf hefyd yn gofyn iddyn nhw roi adborth imi ynghylch pa fath o wasanaeth sydd ganddynt, oherwydd mae'n mynd i fod dan bwysau difrifol. Ac fel un cwestiwn, byddwn i'n gofyn i chi: pa adnoddau ychwanegol sydd wedi cael eu rhoi i Fusnes Cymru er mwyn ateb y galw hwnnw sy'n siŵr o fod yno nawr ein bod yn gwybod mai dyna'r lle i fynd?

A gaf i ddiolch i Rhun ap Iorwerth am ei gwestiynau? Mae'n llygad ei le, mae yna fusnesau yng Nghymru sydd wedi dangos cadernid rhyfeddol wrth ymdrin â nid yn unig yr her hon, ond hefyd, yn ddiweddar iawn, â llifogydd mewn sawl rhan o Gymru ac, wrth gwrs, yr ansicrwydd a achoswyd gan Brexit.

O ran Busnes Cymru, roedd Busnes Cymru yn cynnig cyngor fel y prif bwynt cyswllt o ran Brexit. Mae llawer o fusnesau felly'n gyfarwydd â'r gwasanaethau y mae'n eu cynnig. Rwy'n ysgrifennu at fusnesau'n uniongyrchol heddiw drwy Busnes Cymru, a gallaf sicrhau'r Aelodau y bydd unrhyw adnoddau sydd eu hangen o fewn Busnes Cymru i fynd i'r afael â'r galw sydd i ddod yn cael eu darparu. Fel y dywedais mewn ymateb i Russell George, roeddem yn gallu cynllunio, fel rhan o'n parodrwydd ar gyfer Brexit, i ddefnyddio adnoddau dynol rheng flaen ychwanegol, a bydd hynny'n digwydd o ran ateb y galw o ran coronafeirws hefyd.

Yn anffodus, mae datganiad y Prif Weinidog ddoe wedi achosi cryn bryder i lawer o fusnesau, yn enwedig y rheini yn y sector lletygarwch nad ydyn nhw'n gwybod sut y gallan nhw barhau i weithredu mewn llawer o achosion. Yr hyn sydd ei angen, rwy'n credu, yw cynllun Marshall i fusnesau bach. Yn yr un modd—fel y soniodd pobl eraill y prynhawn yma—fe wnaethom ni achub y banciau gyda'n gilydd fel cymdeithas ddegawd yn ôl, mae angen inni sicrhau nawr fod busnesau bach sydd yn anadl einioes i'n heconomi a'n cymunedau yn cael cefnogaeth y Llywodraeth ar bob lefel i sicrhau eu bod yn goroesi'r cyfnod nesaf. Rwy'n credu bod pobl ledled y wlad yn croesawu'r datganiad a wnaethoch chi ar ryddhad ardrethi. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth a fydd yn cael ei groesawu. Ond mae angen inni fynd ymhellach o lawer na hynny.

Byddwn i'n ddiolchgar, Gweinidog, os gallwch chi godi rhai o'r materion hyn gyda Changhellor y Trysorlys yn Llywodraeth y DU i sicrhau bod busnesau'n cael y cymorth incwm sydd ei angen arnyn nhw i'w cynnal drwy'r cyfnod hwn, ond hefyd i'r bobl hynny sy'n hunangyflogedig. Siaradais i'r bore yma â gyrwyr tacsi yng Nglynebwy ac yn Nhredegar sy'n pryderu am fywiogrwydd a hyfywedd eu busnesau, sut y gallan nhw gynnal eu teuluoedd a'u busnesau yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Siaradais â rhywun sy'n rhedeg bar a chaffi yn Nhredegar, sy'n pryderu am y bobl a fydd yn colli gwaith, o bosib, yn ystod yr wythnosau nesaf. Sut y byddan nhw'n goroesi? Bydd canlyniadau economaidd hyn yn effeithio ar rai o'r teuluoedd ar yr incwm isaf yn y wlad. Mae hwn yn rhywbeth y mae angen i lywodraethau ar bob lefel weithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael ag ef. Rwy'n gobeithio y byddwch yn gallu arwain y gwaith o sefydlu tasglu busnes yn y DU i sicrhau bod holl Lywodraethau'r Deyrnas Unedig yn gweithio gyda'i gilydd—lle bo gennych chi bwerau, bod y pwerau hynny'n cael eu defnyddio.  

Fe wnaethom ni siarad yn gynharach am y strwythurau ariannol o fewn y Deyrnas Unedig. Mae angen i Lywodraeth y DU wneud newidiadau brys i'r ffordd y mae cyllid yn cael ei ddarparu i lywodraethau'r DU i fynd i'r afael â'r materion hyn, ac mae angen gwneud hynny'n gyflym iawn. Rwy'n gobeithio hefyd—yr oeddech chi wedi sôn am linell gymorth Busnes Cymru—fod yr wybodaeth honno ar gael i'r Aelodau hefyd i'n galluogi ni i ymateb i'n hetholwyr, a'n bod yn sicrhau bod digon o adnoddau ar gael i Busnes Cymru i ddarparu'r gwasanaeth hwnnw i bobl sydd weithiau wedi cyrraedd pen eu tennyn. Bydd yr ychydig fisoedd nesaf yn penderfynu sut y bydd bywiogrwydd ein cymunedau a'n heconomi yn gallu adfer ar ôl o'r argyfwng hwn. Ac rwy'n gobeithio y byddwn ni'n gallu adleisio'r hyn a ddywedodd Macron wrth bobl Ffrainc neithiwr: na fydd swydd yn cael ei cholli, ac na fydd busnes yn cael ei golli oherwydd yr argyfwng hwn.  

15:30

A gaf fi ddiolch i Alun Davies am ei gyfraniad ac am ei gwestiynau? Ac mae e'n hollol iawn i ddweud y bydd angen dull pedair gwlad, nid yn unig o ran sicrhau bod cynifer o fusnesau â phosib yn gallu parhau, ond hefyd i gynllunio ar gyfer y cyfnod wedi hynny, er mwyn cynllunio ar gyfer adfer yr economi. Ac rwyf eisoes yn ystyried sut y gallwn ni ffurfio math o dasglu, fel y mae'r Aelod yn ei ddweud, i sicrhau ein bod ni'n buddsoddi ar y cyd yn y math priodol o fusnesau ledled y wlad er mwyn sbarduno twf cynhwysol, teg a phwrpasol yn y dyfodol.

Byddaf yn ysgrifennu at bob Aelod yn rhoi gwybodaeth ynghylch gwasanaethau Busnes Cymru. Mae tudalennau penodol ar y wefan honno sy'n ymwneud â COVID-19, ond, yn amlwg, o ystyried maint y broblem sy'n ein hwynebu ni, mae'n gwbl glir y bydd cyfraniad Busnes Cymru yn ystod y misoedd nesaf yn cael ei lyncu bron yn gyfan gwbl gan achosion coronafeirws. Ac felly bydd yn rhaid iddo hefyd sicrhau, yn fewnol, ei fod wedi'i strwythuro mewn modd sy'n ailgyfeirio cymaint o adnoddau dynol â phosib i'r her benodol hon.

Rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud pwynt pwysig hefyd am rai sectorau lle nad oes modd gweithio o gartref, gan gynnwys, fel y dywedodd ef, lletygarwch. Ac, i'r busnesau hynny, yr unig opsiwn ymarferol fyddai cael cyfnod o seibiant. A dyma pam ei bod yn hanfodol bwysig bod Llywodraeth y DU yn cytuno i alwadau'r Prif Weinidog am gymorth o ran gwarantu cyflogau i sicrhau na chaiff unigolion eu diswyddo ac nad yw cwmnïau'n mynd yn ansolfent, ac i sicrhau bod Llywodraeth y DU yn camu i mewn o ran gwyliau a rhyddhad trethi.

Diolch yn fawr, Llywydd. Fel rhywun yn y Siambr hon y bu ei fusnes ei hun drwy sefyllfaoedd tebyg i'r rhai y mae busnesau'n canfod eu hunain ynddyn nhw, yn ôl ar 20 Mawrth 1996, pan darodd yr argyfwng cig eidion ac i bob pwrpas, caeodd marchnadoedd yn gyfan gwbl dros nos, gallaf ddeall yn llwyr gwir effaith yr hyn yr ydym ni ar fin ei weld yn datblygu o flaen llawer o bobl. A bydd yn cymryd sawl blwyddyn cyn i hyn gael ei gydbwyso, fel petai—ni fyddwn i'n dweud 'unioni' oherwydd rwy'n credu bod y difrod economaidd, hyd yn oed yn ystod y pum diwrnod diwethaf, wedi bod mor sylweddol fel y bydd yn anodd ennill y tir hwnnw yn ôl. Ond fe fydd yna ddyfodol yn deillio o hyn, a rhaid inni fod yn barod ar gyfer y dyfodol hwnnw, ei ffurfio a'i greu.

Hoffwn i holi'r Gweinidog am ddau bwynt, os caf i. Rwy'n synnu nad yw'r Gweinidog wedi sôn am y £100 miliwn y rhoddodd y Canghellor ar y bwrdd ddydd Mercher diwethaf yn ei gyllideb, sef cymorth benthyca drwy'r banciau a thanysgrifennu 80 y cant o'r sicrwydd cyfochrog pe bai'r benthyciad yn mynd yn ddrwg. Rwy'n credu bod hynny ar goll o'r datganiad y prynhawn yma. Fel y dywedais, rwy'n synnu'n fawr ei fod ar goll o'r datganiad, oherwydd mae'n hanfodol bod pobl yn gallu cael gafael ar gredyd. Ac, ar adeg y cyhoeddiad hwnnw, hyd y gwn i, dyna oedd yr ysgogiad ariannol mwyaf yn Ewrop—ar yr adeg y cafodd ei gyhoeddi ddydd Mercher; bydd y Canghellor yn cyhoeddi rhagor o ysgogiadau y prynhawn yma. Ond mae'n hanfodol deall sut y bydd y Gweinidog yn ymgysylltu â'r banciau. Clywais i'r hyn a ddywedodd am gyfarfod ddydd Iau, od mae llawer o'r penderfyniadau hynny'n cael eu gwneud y tu allan i Gymru. Ni all fod yn iawn y bydd busnesau yng Nghymru, o bosib, yn cael eu peryglu o ran eu ceisiadau oni bai bod y llais hwnnw'n cael ei glywed yn uchel a chlir a bod penderfyniadau'n cael eu gwneud yn seiliedig ar y ffordd y mae economi Cymru wedi'i strwythuro, sy'n canolbwyntio'n sylweddol ar fusnesau bach, yn hytrach na rhai o'r endidau mwy o faint yr ydych chi yn eu gweld mewn mannau eraill. A byddwn i'n falch iawn o ddeall beth fydd eich prif geisiadau yn y cyfarfod hwnnw a gynhelir ddydd Iau.

Yr ail bwynt yr hoffwn ei wneud i'r Gweinidog yw'r cyflenwad gwybodaeth hwnnw. Mae'n hanfodol bwysig. Fel y canfu'r Aelod etholaethol dros Fro Morgannwg a minnau ddoe, mae busnesau ar hyn o bryd yn teimlo eu bod yn gweithio mewn gwagle o wybodaeth. Mae rhywfaint o'r wybodaeth honno wedi'i darparu yn ystod y 24 awr ddiwethaf. Ond, bore ddoe, roedd y rhan fwyaf o'r busnesau yr oeddem ni'n siarad â nhw—a bydd yr Aelod etholaethol dros Fro Morgannwg yn cefnogi hyn—yn deall yr hyn oedd yn cael ei gynnig gan Lywodraeth y DU, ond nid oedden nhw'n deall yr hyn oedd ar gael gan Lywodraeth Cymru. Rwy'n clywed yr hyn sydd gennych i'w ddweud, sef mai Busnes Cymru yw'r prif bwynt cyswllt, ond a allwch chi roi sicrwydd i mi eu bod nhw wedi'u hariannu'n ddigonol? Oherwydd mae'r hyn sy'n datblygu o flaen ein llygaid yn effeithio ar bob un busnes yng Nghymru. Ac nid wyf yn golygu hyn fel beirniadaeth, oherwydd mae maint hyn mor enfawr, ond mae'n anodd credu y bydd yr un pwynt hwnnw'n cael digon o adnoddau i fod yn siop un stop i ddarparu'r holl wybodaeth sy'n ofynnol o safbwynt Llywodraeth y DU, yn ogystal â safbwynt Llywodraeth Cymru. Ac nid wyf yn golygu hynny fel beirniadaeth— rwy'n golygu hynny fel graddfa'r hyn yr ydym ni'n ei wynebu yn y dyddiau a'r wythnosau nesaf sydd o'n blaenau.

15:35

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau? Ac wrth gwrs, byddwn i'n fwy na pharod i dderbyn unrhyw gyngor sy'n adlewyrchu ei brofiad personol o oresgyn yr argyfwng cig eidion, ac yn arbennig o ran y modd yr oedd ef a'r sector y mae'n rhan ohono wedi sicrhau bod dyfodol hyfyw ar gael yn rhai o'r cyfnodau tywyllaf yr oedd y sector wedi'i wynebu yn ôl yn y 1990au. O ran y £100 biliwn y mae'r Aelod yn cyfeirio ato, nid yw busnesau o anghenraid yn galw am hynny ar hyn o bryd—mae eisiau grantiau arnyn nhw, mae angen cyllid grant arnyn nhw, er mwyn goresgyn problemau gyda llif arian, gyda biliau cyflog, ac yn y blaen. Ac, o ran fy nghyfarfod â'r banciau ddydd Iau, byddaf i'n codi cwestiynau ynghylch goddefgarwch, byddaf i'n codi cwestiynau ynghylch—fel y dywedais i wrth Helen Mary Jones—gallu'r banciau i weithredu yn ôl disgresiwn yma yng Nghymru. A byddwn i hefyd yn trafod sut rydym yn sicrhau bod mesurau Llywodraeth y DU, mesurau Llywodraeth Cymru, a gweithredoedd y banciau'n unigol, yn cydweddu yn y ffordd fwyaf effeithiol. Rwyf i'n derbyn y pwynt y mae'r Aelod wedi'i wneud, ac y mae'r Aelodau eraill wedi'i wneud, o ran y capasiti o fewn Busnes Cymru. Ond, fel y dywedais, byddwn i'n gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod cymaint â phosib o'r galw hwnnw ar Busnes Cymru yn cael ei gyflawni o fewn y sefydliad hwnnw.

Gweinidog, mae fy etholaeth i, sef Pontypridd—a llawer o Rondda Cynon Taf, wrth gwrs— wedi cael ei distrywio gan y llifogydd. Ym mharc adwerthu Trefforest yn unig—£150 miliwn o ddifrod yw'r amcangyfrif. Y peth cyntaf y mae arnaf i ei angen yw sicrwydd na fydd y cyllid sydd ar gael i ymadfer ar ôl y difrod llifogydd yn cael ei effeithio mewn unrhyw ffordd, oherwydd mae llawer o'r busnesau hynny ar hyn o bryd hefyd yn cael eu heffeithio gan bandemig y coronafeirws, ac mae hynny wedi creu bron ddwywaith yr ergyd— ergyd ddwbl i'r busnesau penodol hynny. Yn union wrth iddyn nhw ddechrau ymadfer, dod yn ôl ar eu traed, maen nhw wedi cael eu taro hefyd, felly bydd angen help penodol iawn arnyn nhw. O ran trafnidiaeth, wrth gwrs mae yna gwmni trafnidiaeth mawr iawn. Rydym wedi sôn am fusnesau bach a busnesau canolig, ond mae gennyf i gwmni trafnidiaeth—fel y gwyddoch chi'n iawn—yn fy etholaeth i sy'n cyflogi tua 800 o bobl. Mae trafnidiaeth yn cael ei heffeithio'n ddirfawr. Mae wedi'i chysylltu â'r fasnach dwristiaeth, mae wedi'i chysylltu â gwyliau, a chredaf nad yr hyn sydd ei angen yw ymateb adweithiol gan fusnesau, ond mewn gwirionedd ymateb rhagweithiol gan Lywodraeth Cymru i fynd at y busnesau hynny ac ymgysylltu â nhw am yr hyn sydd angen ei wneud yn benodol yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf, oherwydd mae rhai'n mynd i golli gwaith, a bydd diswyddiadau, ledled y wlad. Rwy'n gweld mai'r amcangyfrif yw bod un rhan o bump o holl weithlu'r DU yn debygol o fod i ffwrdd o'r gwaith ar ryw adeg o ganlyniad i'r coronafeirws.  

A gaf i hefyd ofyn a oes modd ichi ddweud ychydig mwy am y llythyr gan y Prif Weinidog, yr wyf yn credu iddo fynd at y Llywodraeth, ynghylch y mater o incwm cyffredinol? Oherwydd rwy'n gweld yr holl gamau a mesurau sydd wedi'u cymryd ynghylch tâl salwch ac yn y blaen, ond, a bod yn onest, rhywun sy'n mynd o swydd ar gyflog llawn i dâl salwch o £94.25 yr wythnos—nid yw'n mynd i allu byw ar hynny, mae'n mynd i'w wthio i dlodi, a'r un broblem yn union o ran credyd cynhwysol.

Nawr, efallai ei bod yn warthus bod y lefelau budd-daliadau hynny mor isel o'u cymharu â'n partneriaid Ewropeaidd, ac efallai mai nawr yw'r amser i wthio'r cyfle i roi gwarant isafswm incwm i bob un gweithiwr neu berson sy'n colli ei swydd neu ei gyflogaeth yn dod i ben o ganlyniad i'r coronafeirws. Wrth gwrs, nid yw hwn yn rhywbeth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud, ond dylem fod yn ei wthio. Oherwydd mae'n ymddangos i mi mai dyma'r ffordd symlaf a mwyaf amlwg o sicrhau bod yr hyn a ddigwyddodd yn ystod y cyfnod o gyni, pan wnaeth y bobl sy'n gweithio a'r rhai sydd fwyaf agored i niwed ddioddef am 10 mlynedd—a gwyddom yr ymddengys mai'r bobl sy'n gweithio a'r bobl sy'n agored i niwed sydd ar eu colled mewn trychinebau—nad yw hynny'n digwydd eto o ganlyniad i coronafeirws.  

Wrth gwrs, rydym yn amddiffyn ein busnesau, oherwydd rydym eisiau cadw swyddi. Rydym eisiau i'r swyddi hynny fod yno yn yr amgylchedd ôl-bandemig. Ond, yn yr un modd, mae'n rhaid inni wneud yn siŵr nad y bobl sy'n gweithio sy'n dioddef canlyniadau'r trychineb hwn ac—os ydym ni'n gymdeithas unedig, yn Deyrnas Unedig, yn Gymru unedig ac yn rhan o strwythur byd-eang, yna mae'n rhaid inni sicrhau nad yw pobl sy'n gweithio yn cael eu gwthio i dlodi o ganlyniad i'r hyn sy'n digwydd, a bod eu hincwm a'u lles cymdeithasol yr un mor bwysig â phob agwedd arall ar y feirws hwn yr ydym ni'n ceisio ymdrin ag ef.    

15:40

A gaf fi ddiolch i Mick Antoniw am y pwyntiau hynod o arwyddocaol y mae'n eu gwneud ynghylch y posibilrwydd o warant isafswm incwm ar hyn o bryd ac yn yr wythnosau a'r misoedd i ddod? Byddai hefyd yn galluogi adferiad cyflymach, oherwydd byddech chi'n darparu arian i'r unigolion hynny a fyddai'n fwyaf tebygol o'i ddefnyddio, gan gefnogi ein strydoedd mawr ni, cefnogi'r economi sylfaenol, sicrhau bod twf yn digwydd yn gynt, yn hytrach na fyddai'n digwydd fel arall os nad oes gennym ni unrhyw fath o warant isafswm incwm.

Byddaf yn sicrhau bod y llythyr gan y Prif Weinidog yn cael ei gyhoeddi, os nad yw wedi ei gyhoeddi eisoes, er mwyn i'r Aelodau allu bwrw golwg dros fanylion yr hyn y mae'r Prif Weinidog wedi'i ddweud. Un o'r galwadau a wnaed gennym, fel y dywedais wrth nifer o'r Aelodau nawr, yw i Lywodraeth y DU warantu cyflogau cyflogwyr y mae'r feirws hwn yn effeithio arnyn nhw.

Mae'r Aelod yn gwneud y pwynt pwysig bod nifer o fusnesau yn ei etholaeth ef a ledled Cymru wedi dioddef cyfres o anawsterau sylweddol yn ddiweddar ac, yn benodol, mae'r her o lifogydd a wynebwyd gan fusnesau yn ei etholaeth ef eisoes wedi cael ei adlewyrchu yn y Siambr yn fy ateb i Rhun ap Iorwerth. Mae'r cyllid sy'n cael ei ddarparu at y diben hwnnw, at y diben hwnnw'n unig—i gynorthwyo busnesau y mae'r llifogydd a ddigwyddodd o ganlyniad i storm Ciara a storm Dennis wedi effeithio arnyn nhw, a dylai'r arian hwnnw, ac fe gaiff yr arian hwnnw ei ddefnyddio at y diben hwnnw'n unig. Bydd unrhyw gymorth ychwanegol o ran y coronafeirws, fel  dywedais, yn ychwanegol.  

Ac o ran y cwmni trafnidiaeth—. Rwy'n gwybod bod yr Aelod wedi codi achos penodol gyda mi eisoes yn ei etholaeth, ac rwyf  wedi gofyn i swyddogion fwrw golwg yn rhagweithiol ar sut y gallem gynorthwyo'r cwmni hwnnw. Ond, eto, fel y dywedais wrth nifer o'r Aelodau, mae'n ddigon posib y bydd rhai cwmnïau'n dewis cymryd cyfnod o seibiant fel y ffordd orau o weithredu, yn hytrach na brwydro ymlaen. Fy marn i yw na ddylem gael diswyddiadau yn ystod y cyfnod anodd hwn ac, os bydd Llywodraeth y DU yn dilyn arweiniad Arlywydd Macron, byddai modd osgoi diswyddiadau. Wedi dweud hynny, mae'n mynd i fod yn gyfnod hynod bryderus i'r wlad gyfan.  

15:45

Mae'r amser a neilltuwyd gan y Llywodraeth i'r datganiad hwn wedi dod i ben, ond byddaf yn cymryd tri siaradwr arall—un o bob plaid wleidyddol. Mark Isherwood. Cwestiynau cyflym, os gwelwch yn dda.

Diolch, Llywydd. Sut ydych chi'n ymgysylltu â sefydliadau ambarél busnes ledled Cymru? Fe fyddwch yn ymwybodol, er enghraifft, bod Twristiaeth Gogledd Cymru wedi cael llif o alwadau gan aelodau yn gofyn am gymorth ac arweiniad. Felly, sut ydych chi'n manteisio i'r eithaf ar y cyfle o ddefnyddio pwyntiau mynediad eraill i gasglu gwybodaeth ond hefyd i rannu gwybodaeth?

Rydych chi wedi cyhoeddi'r rhyddhad o 100 y cant mewn gwerth ardrethol ar gyfer eiddo hyd at £ 51,000—rhyddhad ardrethi. Ddoe, ymwelais â  gwesty a lleoliad cynnal priodas yn Sir y Fflint gyda gwerth ardrethol o £79,000, ac fe wnaethon nhw ddweud bod eu holl gwsmeriaid yn canslo, bod eu staff i gyd yn cael eu hanfon adref. Maen nhw'n cyflogi 40 o bobl, ond fyddan nhw ddim yn goroesi heb gymorth. Felly, beth alla i ei ddweud wrth y gwesty hwnnw, lle mae'r gwerth ardrethol yn uwch na'r ffigur hwnnw o £51,000, ac maen nhw eisoes yn bwrw'r wal mewn argyfwng?

Mae lleoliad priodas arall yn Sir Ddinbych wedi cysylltu â mi. Mae'n debyg bod cofrestrwyr Cyngor Sir Ddinbych wedi dweud nad ydyn nhw bellach yn fodlon cynnal priodasau mewn gwestai na swyddfeydd cofrestri. Maen nhw'n holi pwy wnaeth y penderfyniad, pam na chawsant wybod, a pham maen nhw'n mynd yn syth at gwsmeriaid sydd mewn panig erbyn hyn. Felly, rwy'n cwestiynu tybed a ydych chi wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i, neu a allech chi roi rhywfaint o sylw i gyhoeddiadau gan gofrestryddion, o leiaf yn Sir Ddinbych ac yn ehangach o bosib, o ystyried pwysigrwydd lleoliadau priodas i lawer o fusnesau ledled Cymru ?

Mae cyfeiriadau wedi'u gwneud at—

Dyna oedd eich trydydd cwestiwn nawr, pan ofynnais am gwestiwn cyflym. Felly, rwy'n siŵr bod tri chwestiwn yn ddigon i'r Gweinidog fwrw ymlaen â nhw. Gweinidog.

A gaf i ddiolch i Mark Isherwood am ei dri chwestiwn? Os oes ganddo ragor o gwestiynau, mae croeso iddo ysgrifennu ataf i. Yn wir, os oes gennych chi unrhyw awgrymiadau, unrhyw syniadau, unrhyw sylwadau, unrhyw wybodaeth, a wnewch chi eu rhoi i mi.

O ran ein hymgysylltiad â'r sefydliadau ambarél, rwyf wedi siarad yn eithaf helaeth â nifer o sefydliadau, gan gynnwys Conffederasiwn Diwydiant Prydain, y Ffederasiwn Busnesau Bach, y siambrau masnach ac yn y blaen. Byddwn i'n cyfarfod eto yn ddiweddarach yr wythnos hon. Siaradais â swyddogion yn adran fy nghydweithiwr, Dafydd Elis-Thomas, ddoe ynglŷn â'r ymgysylltiad sydd ganddyn nhw â'r sector twristiaeth. Cefais sicrwydd bod cysylltiad agos wedi'i sefydlu â'r sector twristiaeth.

Rwyf bellach wedi cael nifer o lythyrau a mathau eraill o ohebiaeth gan fusnesau yn y sector lletygarwch, o fewn sectorau allweddol eraill yr economi y mae Dafydd Elis-Thomas yn gyfrifol amdanynt. Rydym yn rhoi ystyriaeth i'r galwadau hynny a wnaed o fewn yr ohebiaeth, o ran sut yr ydym yn defnyddio'r £100 miliwn ac unrhyw adnodd ariannol ychwanegol y gallwn ei ddarparu o ganlyniad i'r hyn a fydd, gobeithio, yn gyhoeddiad arwyddocaol iawn yn ddiweddarach heddiw gan Lywodraeth y DU.

Llywydd, bydd yn rhaid imi ystyried y pwynt a gafodd ei wneud o ran y penderfyniad gan gofrestryddion, os caf i, a mynd yn ôl at yr Aelod gyda rhagor o fanylion ynghylch hynny. Rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth penodol i rai ardaloedd o Gymru ar hyn o bryd, ond bydd angen imi gadarnhau hynny a byddaf yn ysgrifennu yn ôl at yr Aelod cyn gynted ag y gallaf.

Rwy'n croesawu'r cyhoeddiad ynghylch ardrethi busnes, ond ni fydd hyn yn helpu'r rhan fwyaf o fusnesau bach a phobl hunangyflogedig yn y Rhondda gan nad ydyn nhw'n gymwys i dalu ardrethi busnes. Rwyf wedi cael fy llethu gan negeseuon gan bobl bryderus y mae eu hincwm wedi dod i ben yn ddisymwth yn y dyddiau diwethaf, ac nid oes gan lawer o bobl gynilion oherwydd eu bod wedi buddsoddi popeth yn eu busnesau. Mae pobl sy'n ceisio cyngor ar beth i'w wneud ar hyn o bryd wedi cael gwybod gan yr awdurdodau am fynd ar lwfans ceisio gwaith. Wrth gwrs, nid yw hynny'n mynd i dalu costau gorbenion, morgeisi a biliau eraill. Ni allwn anghofio'r effaith ar y busnesau bach hyn, a rhaid inni wneud yr hyn a allwn i'w helpu i oroesi, ac mae hynny'n cynnwys cymorth gyda thaliadau morgais a rhent fel nad yw pobl yn colli eu cartrefi a'u hadeiladau o ganlyniad i hyn.

Dim ond y bore yma, daeth busnes a oedd yn dechrau codi'n ôl ar ei draed ar ôl cwymp mewn gwerthiannau y llynedd i'm gweld i. Ar ddechrau'r flwyddyn, gofynnais i Lywodraeth Cymru weithredu'n gyflym i gynorthwyo'r cyflogwr sylweddol hwn yn y Rhondda, ac rwy'n falch o ddweud eich bod wedi ateb y galw hwnnw'n dda, Gweinidog, a chafodd cynllun a model busnes eu datblygu a oedd, ynghyd â chynnydd mewn gwerthiannau, wedi rhoi'r cwmni hwnnw ar sylfaen gadarn ar gyfer y dyfodol. Erbyn hyn mae'r cynlluniau hynny'n debygol o fod yn gwbl anghynaladwy. Un peth a allai fod o gymorth i'r cwmni arbennig hwn a nifer o rai eraill yn yr un cwch fyddai cyflwyno'r cynlluniau ProAct a ReAct a ddaeth o adran yr economi o dan Ieuan Wyn Jones o Blaid Cymru yn 2008. Daeth cwmnïau ac undebau llafur at ei gilydd ar ôl y cwymp yn y banciau a gyda'i gilydd gwnaethant gynigion lle'r oedd modd i'r gweithwyr gadw eu swyddi nes bod y storm ariannol wedi symud yn ei blaen. Fe wnaethoch chi sôn am ReAct yn eich datganiad, Gweinidog, ond gwnaeth yr uwchgynadleddau hyn yn 2008 fwy o lawer na hynny.  

Soniais i hefyd am yr incwm sylfaenol cyffredinol yn gynharach, ac rwyf eisiau eich gweld yn ymrwymo i hynny o hyd. A allai Llywodraeth Cymru lunio pecyn o fesurau ar fyrder a fyddai'n cynorthwyo'r economi ac yn cadw pobl mewn gwaith ac allan o dlodi? Mae angen mynd i'r afael â hyn ar frys nawr.

Ac i orffen, hoffwn i ofyn pryd y bydd y grantiau hyn ar gael i fusnesau bach. Mae pobl yn y Rhondda yn dal i aros am gymorth Llywodraeth Cymru a gafodd ei gyhoeddi ar gyfer y llifogydd bron fis yn ôl. Nid yw pobl yn gallu fforddio aros cyn cael y cymorth hwn. Mae busnesau'n dadfeilio erbyn hyn. Mae angen y cymorth hwn arnyn nhw ar unwaith.

15:50

Diolch i Leanne Wood am ei chwestiynau. Rwy'n cydnabod yn llwyr y brys sydd ei angen o ran ymateb i anghenion busnesau. Dyna pam mae'r Prif Weinidog a minnau wedi bod mor glir wrth alw ar Lywodraeth y DU i ddarparu pecyn sylweddol o gymorth i'r economi, llawer yn fwy na'r hyn a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, ac yn unol â'r math o becyn a gyhoeddodd yr Arlywydd Macron neithiwr. Rwy'n credu mai'r ffordd orau o helpu unigolion yn ystod yr argyfwng hwn os ydyn nhw'n gweithio, os ydyn nhw'n hunangyflogedig, yw sicrhau bod yna incwm cyffredinol gwarantedig wedi ei ddarparu gan Lywodraeth y DU, ac wrth gwrs, gellid diwallu'r gost enfawr sydd ynghlwm â chyflwyno incwm gwarantedig drwy'r ffaith ein bod ni'n rhan o'r Deyrnas Unedig. Mae'n weithred sylweddol iawn, iawn, a dim ond Llywodraeth y DU a all ei chyflawni.

O ran helpu busnesau, y ffordd orau o helpu busnesau ar hyn o bryd yw cynorthwyo o ran llif arian, eu costau sefydlog, a'u rhwymedigaethau treth. Unwaith eto, dyna ein gofyn i Lywodraeth y DU. Gallaf sicrhau'r Aelod fod ReAct yn gweithredu ar hyn o bryd. Caiff ei ddefnyddio, rwy'n sicr, yn yr wythnosau a'r misoedd i ddod. Ac rydym ni'n edrych ar sut y gallwn ni ddwysáu'r gwasanaethau sydd eisoes yn cael eu cynnig i fusnesau a sut y gallwn ni, o bosib, ddatblygu ac ail-lunio rhai o'r ymyraethau hynny y mae'r Aelod wedi eu hamlinellu, a ddatblygwyd ar gyfer argyfwng ariannol 2008.

Rwy'n cynrychioli canol dinas ein prifddinas, ac mae'n amlwg bod nifer enfawr o siopau, bwytai, bariau a lleoliadau adloniant y mae hyn yn debygol o effeithio arnyn nhw. Mae canol y ddinas yn dechrau teimlo fel tref anghyfannedd, felly rwy'n ddiolchgar iawn am y rhyddhad ardrethi yr ydych chi wedi ei gyhoeddi, yn ogystal â'r amser i dalu yr ydych chi wedi ei drafod gyda chyllid y wlad. Ond yn amlwg, mae mesurau eraill y bydd eu hangen arnom ni i fynd â ni drwy hyn os nad ydym ni eisiau rhywbeth tebyg i'r blitz yn digwydd i ganol ein dinasoedd, sydd fel arfer yn fannau bywiog.

Roeddwn yn meddwl tybed a allwn i eich holi ynghylch sefyllfa athrawon cyflenwi, gan ychwanegu at yr hyn y mae Dawn Bowden ac Alun Davies wedi ei ddweud, oherwydd os ydych chi'n athro cyflogedig a bod angen i chi hunanynysu cewch eich talu beth bynnag, os ydych chi'n athro cyflenwi sydd angen ynysu eich hun chewch chi ddim eich talu. Yn yr un modd, petai angen i ysgolion gau yn y dyfodol, byddai athrawon cyflenwi heb incwm. Felly, hoffwn ailadrodd y pwyntiau a wnaethpwyd gan Mick Antoniw ac eraill, bod gwir angen eglurder arnom ni y bydd tâl salwch yn statudol i bawb, beth bynnag fo'u statws cyflogaeth, ac mae angen sefydlu naill ai tâl salwch statudol i bawb neu isafswm incwm gwarantedig fel mater o frys i sicrhau bod pobl yn ynysu eu hunain yn hytrach na mentro.

A gaf i ddiolch i Jenny Rathbone am ei chwestiwn? Mae'n tynnu sylw at un maes penodol o weithlu Cymru sy'n dioddef pryder eithriadol ar hyn o bryd o ganlyniad i'r posibilrwydd o golli gwaith. Amcangyfrifwn na fyddai oddeutu 8 y cant o unigolion yng Nghymru yn gymwys i gael tâl salwch statudol. Mae hynny'n gyfran sylweddol iawn, ac felly mae angen i Lywodraeth y DU roi sylw llawn iddo, fel y mae'n cael sylw llawn Llywodraeth Cymru.

3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwybodaeth ddiweddaraf am Coronavirus (COVID-2019)

Eitem 3 fydd yr eitem nesaf. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y wybodaeth ddiweddaraf am coronavirus, COVID-19, yw'r datganid hynny. Mae'r Gweinidog iechyd yn hunan-ynysu ar hyn o bryd oherwydd salwch yn ei deulu, ac mae'n parhau â'i gyfrifoldeb gweinidogol ac yn atebol i'r Senedd yma. Os bydd y dechnoleg yn methu, yna mi fydd y Prif Weinidog yn cwblhau'r eitem yma. Os bydd Aelodau angen i'r sain gael ei chwyddo yn ystod yr eitem dylent ddefnyddio'r clustffonau. Dwi'n galw felly ar y Gweinidog iechyd i gyflwyno ei ddatganiad—Vaughan Gething.

A wnewch chi ddweud rhywbeth? Dydy e ddim yn gallu ein clywed ni. Iawn. Hoffwn ddiolch ar goedd i'r Gweinidog am geisio cyflwyno ei ddatganiad ac ateb cwestiynau'r Aelodau drwy Skype. Dymunaf yn dda i chi wrth i chi hunan-ynysu, Gweinidog, ac wrth i chi barhau â'ch gwaith fel y Gweinidog iechyd—ond nid am y 45 munud nesaf, mae'n ymddangos. Felly, galwaf ar y Prif Weinidog i roi'r datganiad ynghylch y coronafeirws.

15:55

Diolch yn fawr, Llywydd. Byddai'r Gweinidog Iechyd wedi dechrau ar ei ddatganiad y prynhawn yma drwy atgoffa'r holl Aelodau o faint sydd wedi newid yn ystod yr wythnos ers iddo gyflwyno ei adroddiad diwethaf i'r Senedd. Yn y cyfnod hwnnw, mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi datgan bod y coronafeirws yn bandemig. Mae'r ymateb yng Nghymru a gwledydd eraill y DU wedi newid o gyfyngu'r haint i oedi ei ledaeniad. Yn anffodus, rydym ni hefyd wedi cael ein marwolaethau cyntaf o achos y coronafeirws yma yng Nghymru. Gwn fy mod i, ar ran y Senedd gyfan, yn estyn ein tristwch a'n cydymdeimlad i'r teuluoedd sydd wedi colli anwyliaid. Cyn dristed ag yw dweud hyn, mae'n rhaid i ni ddisgwyl y bydd mwy o ddigwyddiadau o'r fath yn yr wythnosau i ddod.

Felly, amcanion Llywodraethau ledled y Deyrnas Unedig yng nghyfnod oedi y cynllun i fynd i'r afael â'r coronafeirws yw arafu lledaeniad y feirws ac i leihau effaith penllanw'r haint, ac felly i'w wthio o ddiwedd tymor y gaeaf presennol, sef y cyfnod yr ydym ni ynddo ar hyn o bryd. Bydd y ddau amcan hyn yn helpu'r GIG i ymdopi â'r heriau y bydd yn eu hwynebu wrth ofalu am niferoedd mwy o bobl sâl iawn. Mae gwneud hyn yn rhoi'r cyfle gorau i ni gyd na chaiff ein GIG ei lethu. Mae hynny yn ei dro yn golygu y gallwn ni achub mwy o fywydau yn y misoedd i ddod.

Llywydd, mae'n anochel y bydd llawer mwy o bobl yn dal y feirws nawr. Bydd y mwyafrif helaeth o bobl yn teimlo'n sâl am gyfnod byr cyn gwella'n llwyr gartref. Ni fydd angen ymyrraeth feddygol arnyn nhw. Yn hytrach, mae angen i ni dargedu ein hadnoddau at y ganran fach o'n cyd-ddinasyddion y bydd angen y cymorth ychwanegol hwnnw arnynt. Y cyngor gorau sydd gennym ni fel Llywodraeth yn ystod y cyfnod hwn o'r haint yw, nad ceisio adnabod, monitro a chyfyngu ar bob achos, waeth pa mor ysgafn bynnag, yw'r defnydd gorau o'r adnoddau sydd gennym ni.

Bydd Aelodau yn y fan yma yn gwybod bod Llywodraeth Cymru, yn y cyfarfod COBRA ddydd Llun yr wythnos hon, wedi cytuno â'r tair Llywodraeth genedlaethol arall ledled y DU i gynghori'r cyhoedd i gymryd camau eithriadol pellach. Mae ein cyngor i bobl sy'n credu efallai fod y coronafeirws arnyn nhw wedi cryfhau. Dylai unrhyw un sy'n datblygu tymheredd uchel neu beswch parhaus newydd aros gartref am saith diwrnod. Ni ddylen nhw fynd at eu meddyg teulu nac i fferyllfa nac i ysbyty, ac ni ddylen nhw fel rheol gysylltu â'r GIG ar 111. Ni ddylai pobl ofyn am gymorth oni bai eu bod yn methu ag ymdopi â'u symptomau gartref, bod eu cyflwr yn gwaethygu'n sylweddol neu os nad ydyn nhw'n gwella o fewn saith diwrnod.

Fel y gŵyr yr Aelodau yn y fan yma, yn dilyn y cyfarfod COBRA ddydd Llun, y cyngor i bobl nawr yw, os ydych chi'n byw gyda rhywun ar aelwyd lle mae rhywun yn datblygu tymheredd uchel neu beswch parhaus newydd, yna dylai'r aelwyd gyfan aros gartref am 14 diwrnod. Erbyn hyn, mae cyngor pellach ar hunan-ynysu yn y cartref ar gael gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Cynghorir pobl hefyd i ddefnyddio'r gwiriwr symptomau COVID-19 ar-lein ar wefan Galw Iechyd Cymru os ydych chi'n pryderu am eich symptomau.  

Llywydd, rydym ni hefyd wedi gofyn i bobl o bob rhan o'r boblogaeth ehangach i leihau cyswllt cymdeithasol. Mae hynny'n cynnwys gweithio o gartref os gallwch chi a pheidio â mynd o ddewis i ardaloedd gorlawn fel tafarndai neu fwytai. Dylai pawb sy'n 70 oed a hŷn, pobl o dan 70 â chyflyrau iechyd sylweddol a menywod beichiog fynd ati'n awr i ynysu eu hunain yn gymdeithasol. Mae hynny oherwydd y caiff y grwpiau hyn eu dynodi fel rhai y mae mwy o berygl iddyn nhw fod yn ddifrifol wael ac felly mae angen iddyn nhw gyfyngu ar eu rhyngweithio cymdeithasol i leihau'r perygl o drosglwyddo. I'r rhai sydd o dan 70 sydd â chyflyrau iechyd sylfaenol, yr egwyddor greiddiol yw, os yw eich cyflwr iechyd yn rhoi'r hawl i chi gael pigiad ffliw'r GIG am ddim, yna mae'r cyngor hwnnw'n berthnasol i chi. Yn ystod yr wythnos nesaf, bydd y GIG yn cysylltu'n uniongyrchol ag amrywiaeth o bobl agored i niwed gyda chyngor penodol iddyn nhw ynglŷn â'r peryglon y gallan nhw fod yn eu hwynebu. Mae hynny'n debygol o gynnwys mesurau mwy sylweddol fyth i'r rhai y mae eu systemau imiwnedd wedi eu peryglu'n sylweddol.

Mae'r safbwynt a fabwysiadwyd mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig ynglŷn â chynulliadau mawr o bobl i'w dilyn bellach ar draws y Deyrnas Unedig gyfan. Ni fydd ein gwasanaethau brys yn mynychu nac yn cynllunio ar gyfer digwyddiadau cyhoeddus mawr. Byddant hwythau hefyd, fel gweddill gwasanaethau'r GIG, yn canolbwyntio eu hamser ar ymdrin â'r ymateb i'r coronafeirws wrth iddo ddatblygu ymhellach.

Llywydd, fel y gŵyr yr Aelodau o adeg gynharach y prynhawn yma, cafwyd cwestiynau ynglŷn â sut yr ydym ni'n mynd ati i brofi ar hyn o bryd. Ar yr adeg hon o gynnydd y clefyd, mae ein pwyslais wedi newid o gynnal profion cymunedol, oherwydd dyna'r cyngor gorau sydd gennym ni. Profir bellach drwy ganolbwyntio ar bobl sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty, yn unol â chanllawiau cenedlaethol ac yn seiliedig ar symptomau a difrifoldeb. Mae tystiolaeth gref o bob cwr o'r byd y gallan nhw ac y byddan nhw yn gwella. Mae a wnelo hyn â sicrhau ein bod ni'n defnyddio ein gallu i brofi drwy ganolbwyntio ar y mannau lle mae'r angen mwyaf. Yn ogystal â'r rhai sydd mewn ysbytai, bydd profion ar gael nawr i bobl sy'n gweithio yn swyddogaethau clinigol allweddol y GIG er mwyn sicrhau na chânt eu tynnu o'r gweithle yn hirach nag sy'n angenrheidiol. Bydd nifer y swyddogaethau hyn fydd yn gymwys yn ymestyn wrth i'n gallu i brofi ddatblygu. Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau â'i waith arolygu i ddeall y darlun cyffredinol yng Nghymru.  

Llywydd, ddydd Gwener yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd ein cyd-Aelod, Vaughan Gething, fesurau pellgyrhaeddol dros dro i ryddhau gallu'r GIG i ymdrin â'r achosion. Bydd darparwyr iechyd a  gwasanaethau cymdeithasol yn atal apwyntiadau cleifion allanol a llawdriniaethau nad ydynt yn rhai brys ac fe gaiff y drefn fonitro a rheoleiddio ei llacio ar draws y system iechyd a gofal.

Gwyddom y bydd yr haint hwn yn cynyddu'n sylweddol y galwadau a wneir ar ysbytai, cartrefi gofal a gweithwyr gofal sylfaenol, ac yn benodol, ar y staff yn y sefydliadau hyn. Bydd y newidiadau a gyhoeddwyd ddydd Gwener diwethaf yn caniatáu i'n system iechyd a gofal cymdeithasol gadw pobl o'r ysbyty os nad oes angen iddyn nhw fod yno, ac mae'n bwysicach nag erioed o'r blaen bod pobl sydd â'r angen mwyaf am ofal ysbyty yn cael eu trin yn ddi-oed. Bydd penderfyniadau dydd Gwener yn caniatáu i fyrddau iechyd ac eraill wneud y defnydd gorau o'r gallu sydd ar gael mewn meysydd blaenoriaethol, i adleoli ac ailhyfforddi staff ar gyfer swyddogaethau gwahanol er mwyn ymateb i effaith y coronafeirws a chynnal gwasanaethau ar gyfer triniaethau hanfodol eraill, fel gwasanaethau canser.

Heddiw, mae'r Gweinidog Iechyd wedi cymeradwyo'r gyfres nesaf o gamau gweithredu cenedlaethol i gefnogi'r maes iechyd a gofal cymdeithasol i fod yn barod ar gyfer yr hyn sydd ar y gorwel. Mae'r rhain yn cynnwys: darparu canllawiau ynglŷn â phrofi gweithwyr gofal iechyd symptomatig mewn lleoliadau ynysig; mwy o frys o ran cyflwyno ymgynghoriadau fideo mewn gofal sylfaenol; cyhoeddi canllawiau arfaethedig ynglŷn â darparu gwasanaethau deintyddol fel nad oes rhaid i gleifion a staff ymwneud â'i gilydd yn ddiangen; a gwaith pellach ar fyrder i gynyddu gwelyau, staffio ac offer gofal critigol.

Llywydd, ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru, mae fy nghyd-Weinidogion yn parhau i weithio'n agos gyda gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru i sicrhau eu bod yn barod. Yr wythnos diwethaf, cynhaliwyd cyfarfodydd gydag arweinwyr awdurdodau lleol ac maen nhw wedi parhau i'r wythnos hon. Caiff ein hawdurdodau lleol yr holl gymorth a'r gefnogaeth y gallwn ni eu darparu i gadw gwasanaethau cyhoeddus hanfodol i barhau. Mae ganddynt hwythau hefyd swyddogaeth arweiniol hynod bwysig, ac mae hynny'n arbennig o arwyddocaol o ran y ffordd y byddan nhw'n gweithio gyda phartneriaid yn y trydydd sector i gydgysylltu cefnogaeth i'r nifer fawr o bobl a fydd yn ynysu eu hunain nawr.

Mae hon yn sefyllfa ddynamig sy'n datblygu'n gyflym, a bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithredu ymhellach fel y bo angen ac yn unol â thystiolaeth. Mae'r Gweinidog iechyd yn bwriadu cyhoeddi gwybodaeth ynglŷn â pha benderfyniadau a wnaed—y dystiolaeth—cyn cyfarfod y pwyllgor iechyd ar 18 Mawrth, a gwn ei fod yn dal i obeithio gallu ateb cwestiynau'r Aelodau gyda'r prif swyddog meddygol gerbron y pwyllgor hwnnw.

Yn y cyfamser, mae angen i ni barhau i'n hatgoffa ein hunain a'n holl gyd-ddinasyddion o'r pethau syml hynny y gallwn ni i gyd eu gwneud ac y byddan nhw, gyda'i gilydd, yn gwneud gwahaniaeth; y camau syml hynny i helpu i reoli a chyfyngu ar effaith y feirws. Bydd parhau i olchi dwylo yn rheolaidd a hunan-ynysu pan fo angen yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a chadarnhaol, yn ogystal â helpu'r teulu, ffrindiau a chymdogion pan fydd yn rhaid iddyn nhw hunan-ynysu.

Llywydd, rydym ni'n gofyn i bobl wneud dewisiadau eithriadol fel sy'n gweddu i'r cyfnodau anghyffredin yr ydym yn eu hwynebu. Rydym yn gofyn i bobl wneud hyn, i helpu eu ffrindiau a'u teuluoedd; gofynnwn i bobl wneud hyn i helpu ffrindiau a theuluoedd na fydden nhw yn eu cyfarfod fel arall o bosib. Wrth gwrs, bydd y Gweinidog Iechyd, minnau a'm cyd-Weinidogion, Llywydd, yn parhau i hysbysu Aelodau a phobl Cymru yn llawn ac yn rheolaidd, wrth i'r clefyd barhau i fynd ar led. 

16:05

Prif Weinidog, hoffwn ddiolch i chi am eich datganiad heddiw, ac fe hoffwn innau hefyd estyn fy nghydymdeimlad dwysaf i'r ddau deulu sydd wedi colli pobl yn y dyddiau diweddar hyn. Ac rwyf hefyd yn credu, bob tro y byddaf i'n codi, y byddaf yn dweud diolch yn fawr iawn wrth y gwasanaethau iechyd—allwn ni ddim dweud hynny ddigon wrth y staff rheng flaen a'r staff gofal cymdeithasol, ond hefyd diolch i'r arwyr di-glod yn y cefndir—yr ymchwilwyr sy'n ceisio canfod iachâd o'r COVID-19 ofnadwy hwn, ac i bawb sy'n cefnogi'r holl bobl hyn yn yr ymdrech hon.

Nawr, gwrandewais  arnoch yn astud iawn yn amlwg yn ystod y cwestiynau i'r Prif Weinidog. Roeddwn i eisiau dweud yn gyntaf oll fy mod i'n llwyr gefnogi popeth yr ydych chi wedi ei wneud yn y fan yma gyda hyn mewn golwg, o awgrymu bod yn rhaid i bobl 70 oed aros gartref i hunan-ynysu; yr hyn y mae angen i ni ei wneud i gadw'n hunain yn ddiogel; a sut yr ydym ni'n gofalu am bobl sydd â systemau imiwnedd gwan ac sy'n gwella o glefydau anodd iawn. Rydym ni'n eich cefnogi yn hynny o beth, a chredaf fod hynny'n ardderchog.

Ond, rwyf eisiau gofyn ychydig o gwestiynau eraill i chi am yr holl fater o sut yr ydym ni'n mynd ati i fynd i'r afael â COVID-19. Alla i ddim peidio â gofyn i chi eto am y drefn brofi. Clywais yn glir iawn, ac mewn gwirionedd, atseiniodd yn gryf iawn gyda fi, eich sylw am 'Ein tystiolaeth wyddonol, ein Prif Ymgynghorwyr Gwyddonol a'n Prif Swyddogion Meddygol yn rhoi i ni'r dystiolaeth sef y graig y mae'n rhaid i ni seilio ein holl benderfyniadau arni, ac os ydym ni'n symud y graig honno o gwmpas, yna rydym ni mewn sefyllfa anodd iawn, iawn'. Felly, nid wyf yn gofyn i chi wneud hynny, ond yr hyn yr wyf yn gofyn i chi ei wneud efallai yw dweud wrthym ni sut yr ydych chi ar hyn o bryd yn gwerthuso, yn gyson, y penderfyniad presennol i beidio â phrofi niferoedd mwy o'r boblogaeth. Rwy'n credu bod hyn oherwydd bod gen i ddiddordeb mawr mewn enghreifftiau o leoedd fel De Korea sydd wedi llwyddo i leihau eu hachosion o bron i 1,000 y dydd i lai na 100 y dydd. Eu hethos craidd nhw yw bod profi yn ganolog wedi arwain at ganfod yr haint yn gynnar, y cyfyngwyd ar y lledaeniad ac y triniwyd y rheini oedd â'r feirws arnyn nhw yn gyflym. Felly, rwy'n sylweddoli bod pob un o'r llywodraethau cartref yn gytûn mai dyma'r ffordd yr ydym ni'n mynd ati, ond hoffwn wybod sut yr ydych chi'n edrych ar hynny a sut yr ydych chi'n gwerthuso'r perfformiad hwnnw.

Mae gennyf i ddiddordeb mawr hefyd yn yr agwedd o brofi, oherwydd roeddwn i'n meddwl tybed a oes gennych chi unrhyw wybodaeth o gwbl am ymarferoldeb pecynnau profi yn y cartref. Y rheswm, unwaith eto, rwy'n gofyn hynny, yw oherwydd os ydym ni'n profi ein gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, mae'n rhaid i ni eu hailbrofi, eu hailbrofi a'u hailbrofi, gan y gallen nhw fod yn dda ar ddydd Llun, ond os ydyn nhw yn byw gyda rhywun sydd wedi cael COVID-19, efallai na fyddan nhw yn dda ar y dydd Mercher neu'r dydd Gwener.

Yn ail, mae gennym ni boblogaeth oedrannus iawn. Mae gennym ni lawer o bobl y mae angen cymorth ychwanegol arnyn nhw gartref. Mae gennym ni lawer o bobl ynysig a fydd yn ei chael hi'n anodd iawn mynd allan os yw bysiau'n teithio yn llai aml ac os bydd llai o drafnidiaeth, a phe gallem ni ddefnyddio'r holl grwpiau gwirfoddol gwych hyn sy'n ymffurfio—pobl fel ni—i fynd allan a helpu, byddai mor ddefnyddiol pe gallem ni gael ein profi, oherwydd wedyn gallem ni, mewn gwirionedd—hyd yn oed os na allwn ni wneud y pethau ymarferol o newid rhwymyn yng nghartref rhywun, mewn gwirionedd, yr hyn y gallwn ni ei wneud yw gweld pobl hŷn a siarad â nhw am hanner awr i drechu'r unigrwydd a'r arwahanrwydd hwnnw a fydd, ar ôl 14 wythnos, o bosib iawn wedi eu meddiannu. Felly, pe gallech chi roi unrhyw wybodaeth i ni ynghylch hynny fel y gallwn ni ystyried sut y gallem ni helpu, byddai'n dda iawn pe gallem ni fod yn ffyddiog bod y rhai sy'n mynd i gartrefi pobl—yn helpu'r henoed, yn helpu'r rhai sy'n feichiog ac yn helpu'r rhai sydd â chyflyrau eraill arnyn nhw—yn ddiogel iawn.

Roeddwn i eisiau cyfeirio at allu cael gafael ar feddyginiaethau mewn nifer o ffyrdd gwahanol, un yw cael gafael ar feddyginiaethau o wledydd tramor. Deallaf fod rhai meysydd lle mae meddyginiaethau'n cael eu cadw'n ôl neu lle bu addasu o ran sut y cânt eu cynhyrchu, ac roeddwn i'n meddwl tybed a allech chi roi unrhyw drosolwg i ni o'r hyn y mae gwledydd y Deyrnas Unedig yn ei wneud i sicrhau y gallwn ni gael meddyginiaethau. Ond, roeddwn i hefyd eisiau siarad yn fyr iawn, Prif Weinidog, am yr hyn y gallech chi ei wneud i sicrhau y bydd meddygfeydd meddygon teulu, a fyddai fel arfer yn rhoi gwerth pythefnos o feddyginiaeth i rywun ar y tro, yn adolygu eu polisi presgripsiynu mewn gwirionedd fel y gall bobl gael digon o feddyginiaeth i'w helpu os ydyn nhw wedi bod yn hunan-ynysu, neu i atal pobl rhag gorfod mynd allan i gael y presgripsiynau rheolaidd hyn. Rwy'n clywed cryn dipyn o bobl yn dweud, 'ni allaf gael mwy na phythefnos ar unrhyw un adeg o unrhyw gyffur penodol'.

Tybed a allech chi roi amlinelliad i ni o ba gefnogaeth y gallech chi ei rhoi hefyd i'r maes iechyd meddwl. Pa gynlluniau sydd gennych chi i sicrhau bod gofal iechyd meddwl mewn argyfwng yn dal i allu darparu cymorth ychwanegol, yn enwedig i'r rhai y mae ei angen arnyn nhw, yn amlwg, nawr? Oherwydd gallai'r cymorth gwirioneddol hwnnw—a'r cymorth angenrheidiol hwnnw—fod yn fwy, mewn gwirionedd, o ystyried yr ofn a'r pryderon y mae pobl yn eu hwynebu.

Mae hyn yn gwestiwn gwbl anarferol, ond teimlaf hyn yn eithaf cryf mewn gwirionedd. Mae pobl yn ofnus. Dydy pobl ddim yn siŵr beth sy'n digwydd. Gwyddom ein bod yn siarad am hyn ac yn cyhoeddi gwybodaeth, ac roeddwn i'n meddwl tybed a fyddech chi neu un o'ch Gweinidogion yn ystyried siarad ag ITV, BBC ac S4C ynghylch gwneud datganiad byr ar y newyddion chwech o'r gloch bob nos sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i bobl am yr hyn sy'n digwydd. Oherwydd rwy'n credu pan eich bod chi'n darllen y negeseuon e-bost sy'n cyrraedd, pan eich bod chi'n gweld y cyfryngau cymdeithasol, y newyddion ffug a'r ymdeimlad cyffredinol o banig, rwy'n meddwl tybed a fyddai cael sefydlogrwydd yn y cyfryngau Cymreig ac ar y cyfryngau cymdeithasol yn fuddiol mewn gwirionedd. Does dim rhaid i chi ddweud rhywbeth newydd bob tro; mae yn ymwneud ag ailadrodd yr un negeseuon a dweud wrth bobl ei bod hi'n iawn, nad oes angen iddyn nhw fynd i brynu tunelli o fwyd, na fyddan nhw'n llwgu i farwolaeth, byddan nhw'n cael y meddyginiaethau y mae eu hangen arnyn nhw, byddan nhw'n cael y gefnogaeth gan yr holl Lywodraethau, byddan nhw'n iawn. Rwy'n credu bod angen i bobl glywed hynny yn feunyddiol, yn feunyddiol ac yn feunyddiol.

Rwyf wedi gadael y rhan olaf o'm sylwebaeth, Llywydd, i'r fferyllfeydd. Maen nhw dan gryn dipyn o bwysau. Mae gennym ni fferyllwyr sy'n dal heb fod ganddyn nhw ddim o'r offer amddiffynnol yr addawyd iddyn nhw. Nid yw'r offer diogelu o ansawdd da iawn ac mae meddygon teulu yn pryderu yn ei gylch eisoes, heb sôn am y fferyllwyr. Mae fferyllwyr o dan bwysau gwirioneddol, oherwydd yr hyn sy'n digwydd yw bod pobl yn ffonio eu meddygon teulu, mae meddygon teulu'n dweud, 'peidiwch â dod atom ni, rydym yn cau ein drysau, byddwn yn siarad â chi dros y ffôn, byddwn yn dweud wrthych chi beth sydd ei eisiau arnoch chi.' Wel, dyfalwch i ble maen nhw'n mynd? At y fferyllydd. Mae fferyllwyr yn teimlo dan bwysau aruthrol a'r pwynt y maen nhw'n ei wneud, wrth iddyn nhw ddiffygio'n raddol gyda'r salwch hwn a gorfod hunan-ynysu, gorfod cau am ychydig ddyddiau i lanhau eu fferyllfeydd yn drwyadl, yw: beth sy'n digwydd wedyn? Rydym ni eisoes wedi gweld fferyllydd yn Arberth sydd wedi gorfod cau ac un yn Hwlffordd sydd wedi gorfod cau. Mae hyn yn rhoi pwysau aruthrol ar fferyllwyr. Maen nhw'n credu mai nhw yw'r rhai sy'n gorfod, ac sy'n fodlon—ddim 'yn gorfod'—rhoi meddyginiaeth ar gyfer pethau megis diabetes, meddyginiaeth ar gyfer y galon ac yn y blaen. Dydyn nhw ddim yn credu bod y byrddau iechyd yn eu cefnogi. Maen nhw'n credu eu bod wedi eu gadael yn ddiymgeledd; maen nhw mor brysur yn canolbwyntio ar y rheng flaen mewn ysbytai a meddygfeydd meddygon teulu fel nad oes neb yn meddwl am y bobl sydd wrth eu sodlau yn rhoi sylw i nifer fawr iawn o bobl—nhw yw'r bobl yr eir atyn nhw gyntaf os oes gan bobl broblem. Felly, tybed a allwch chi fynd i'r afael â'r mater hwn efallai gan eu bod yn dweud nad ydyn nhw wedi cael unrhyw gymorth, dim cyngor gan y byrddau iechyd eu hunain.

Ac yn olaf, ac mae hyn braidd yn ddigywilydd, ond wrth gwrs roedd gennych chi warws bach braf yn llawn pethau yn barod ar gyfer Brexit, ac roeddwn i'n meddwl tybed a allech chi ddweud wrthym ni a ydych chi'n dal i fod â'r pethau hynny yno, pa fath o bethau ac a ellid defnyddio'r pethau hynny yn yr argyfwng presennol hwn. Diolch yn fawr iawn, Prif Weinidog.  

16:15

Diolch, Llywydd. Diolch i Angela Burns, Llywydd, y prynhawn yma, ac fe wnaf  fy ngorau i ateb cwestiynau lle mae'r wybodaeth gennyf wrth law. Rwy'n gwybod y bydd yr Aelodau yn deall y bydd rhai o'r cwestiynau manylach, yn golygu, gan nad oeddwn i'n disgwyl bod yn ateb cwestiynau ar y datganiad hwn, y bydd angen i mi roi ymateb mwy gwybodus i'r Aelodau.

Fel y dywedodd Angela Burns, tra ein bod ni wedi bod yn eistedd yn y fan yma y prynhawn yma cyhoeddwyd marwolaeth ail glaf yng Nghymru ac, wrth gwrs, mae ein meddyliau gyda phawb sy'n gysylltiedig â'r person hwnnw. A gaf i hefyd adleisio'r hyn a ddywedodd Angela wrth ddiolch nid yn unig i'r staff rheng flaen yr ydym ni wedi pwysleisio eu cyfrifoldebau yn y fan yma y prynhawn yma, ond wrth bawb sy'n eu cefnogi ac sy'n golygu y gallan nhw wneud y swyddi y mae arnom ni angen iddyn nhw eu gwneud?

O ran y gyfundrefn brofi, gallaf roi sicrwydd llwyr i'r Aelod bod y dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg o bob cwr o'r byd yn parhau i gael ei hadolygu drwy'r amser yn y pwyllgor cynghori gwyddonol. Yn wir, gwn fod y cynrychiolydd o Gymru yn mynd i'r pwyllgor hwnnw heddiw gyda chwestiynau penodol iawn i'w holi ynglŷn â phrofion, a chyngor ar brofi. Felly, caiff y cyngor a gawn gan ein prif swyddogion meddygol a'n prif swyddogion gwyddonol ei brofi bob dydd—ei brofi'n fewnol ganddyn nhw eu hunain, ei brofi yn unol â'r dystiolaeth ryngwladol sy'n dod i'r amlwg—ac, fel y dywedais wrth ateb cwestiynau yn gynharach, os bydd y cyngor yn newid, yna byddwn yn dilyn y cyngor hwnnw sy'n dod i'r amlwg oherwydd bydd y cyngor hwnnw'n dilyn y dystiolaeth i'r graddau y gall wneud hynny.

O ran sefyllfa ehangu'r profion i ystod ehangach o bobl na staff clinigol rheng flaen, bydd hynny'n rhywbeth y byddwn ni'n meddwl amdano, wrth gwrs. Bydd angen ei ystyried yng ngoleuni dau beth: y gallu sydd gennym ni i gynnal profion, yr ydym ni eisiau ei gynyddu, ac i ba raddau y mae dargyfeirio pobl i wneud y gwaith hwnnw yn cael blaenoriaeth dros bethau eraill y gallen nhw eu gwneud, ond mae'n dal yn fater dan ystyriaeth yr ydym ni yn ei adolygu drwy'r amser.

Diolch am y sylw a wnaed am bresgripsiynau rheolaidd, y gwnaf yn siŵr y rhoddwn sylw iddo drwy'r trefniadau arferol. O ran iechyd meddwl, bydd yr Aelodau yn y fan yma yn gwybod bod gennym ni gyfres o linellau cymorth yr ydym ni wedi eu sefydlu ar wahanol adegau at wahanol ddibenion. Rydym ni wedi eu defnyddio yn arbennig ar adegau o straen mewn cymunedau gwledig yng Nghymru, a bwriadwn ddefnyddio'r ganolfan alwadau a'r staff arbenigol iawn sy'n gweithio yno yn Wrecsam i sicrhau, pan fydd angen cymorth ar unwaith ar bobl oherwydd bod ganddyn nhw broblem iechyd meddwl, bod angen cymorth arnyn nhw i gyfeirio pobl i gael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw, y bydd y llinell gymorth honno yn barod i ymateb yng nghyd-destun presennol y coronafeirws.

O ran ymddangos ar y newyddion, credaf i mi ddweud yn gynharach y prynhawn yma y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi datganiad dyddiol i'r wasg yng Nghymru. Mae'n debyg y byddwn ni'n gwneud hyn am 9:30 bob bore er mwyn gwneud yn siŵr bod pobl yn cael sicrwydd a gwybodaeth yn feunyddiol. Fel arfer, bydd y canolfannau newyddion yn penderfynu wedyn sut i ddefnyddio'r wybodaeth honno, ond rydym ni, yn y ffordd yr awgrymodd Angela Burns, yn awyddus iawn i sicrhau y ceir y llif gwybodaeth mwyaf rheolaidd posibl i'r cyhoedd yng Nghymru.

Rwyf i eisiau cydnabod yn bendant iawn yr hyn a ddywedodd am bwysigrwydd fferyllfeydd cymunedol. Rydym ni bob amser wedi bod yn ffodus iawn yng Nghymru gyda'n rhwydwaith o dros 700 o fferyllfeydd cymunedol. Byddant hwythau hefyd yn teimlo'r straen a byddan nhw'n rhan bwysig iawn o'n gallu ni i ddarparu gwasanaeth cydnerth i bobl ledled Cymru. Rwy'n gwybod bod ymdrech yn cael ei gwneud i sicrhau y cânt yr offer sydd ei angen arnyn nhw ac fe wnaf i ystyried y sylw a wnaeth yr Aelod ynglŷn â'r angen i fyrddau iechyd eu hystyried yn rhan o'u hymateb rheng flaen yng nghyd-destun y coronafeirws.

Yn olaf, y warws Brexit, mae hynny'n golygu bod gennym ni stoc o gyflenwadau meddygol y gallwn ni ddal ati i'w defnyddio, ac mae hynny'n rhan o'r ateb i'r sylw a wnaeth Angela Burns am i feddyginiaethau fod ar gael. Oherwydd y buom yn paratoi am y posibilrwydd o ymadael heb gytundeb, mae peth stoc yn dal ar gael i'w ddefnyddio. Nid oedd yr wybodaeth ddiweddaraf a welais yn frawychus o ran y meddyginiaethau sydd ar gael yn y dyfodol agos. Efallai y bydd adeg yn ddiweddarach yn y flwyddyn pan na fydd gweithgynhyrchwyr Tsieineaidd, er enghraifft, wedi bod yn gweithio yn y ffordd y maen nhw fel arfer yn ei wneud, pryd y bydd problemau y bydd angen i ni eu hwynebu, ond nid ydyn nhw yn broblemau ar hyn o bryd cyn belled ag y mae'r coronafeirws yn y cwestiwn.  

16:20

Dwi eisiau holi am dri maes: dau'n ymwneud efo iechyd, ond, os wnewch chi faddau i mi, mae un yn ymwneud efo addysg oherwydd bod yna ddim cyfle i drafod addysg yma y prynhawn yma, a hefyd oherwydd mae yna ddatblygiad wedi ein cyrraedd ni yn ystod yr hanner awr diwethaf yma. Rydym ni wedi dod yn ymwybodol bod yna ysgol wedi cau ei drysau'n barod i ddisgyblion.

Mae Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun, wedi canfod bod yna 23 aelod o staff yn y categori agored i niwed, efo pump o staff ychwanegol efo partneriaid sydd yn disgyn i'r categori penodol yna. So, dyna ichi 28 o'u staff nhw, ac rydw i'n credu mai 60 o staff sydd yn Ysgol Brynhyfryd. Mae yna lythyr wedi mynd allan i'r rhieni yn dweud bod yr ysgol yn cau o yfory ymlaen ar gyfer yr holl ddisgyblion. Felly, mae'r sefyllfa yn newid wrth inni fod yn y Siambr yma heddiw yma. Mae'r llythyr yn mynd ymlaen i ddweud y bydd y dysgu yn parhau ar-lein, ac mae hynny, wrth gwrs, yn newyddion da i'r disgyblion hynny a fydd angen cario ymlaen efo'u hastudiaethau. Yn amlwg, maen nhw wedi dechrau rhoi pethau ar waith. Ond mae hwn yn codi cwestiynau mawr rŵan, onid ydy, ynglŷn ag ysgolion yn penderfynu, oherwydd y sefyllfa, eu bod nhw'n cau beth bynnag.

Felly, beth yn union ydy canllawiau y Llywodraeth i ysgolion sydd yn mynd i fod yn canfod eu hunain yn y sefyllfa yma lle mae yna ganran fawr o'r staff, bron i hanner o'r staff yn fan hyn, yn ffeindio eu hunain mewn categori agored i niwed? Beth mae'r Llywodraeth yn ei ddweud wrth yr ysgolion pan fyddan nhw'n ffeindio eu hunain yn y sefyllfa yma? Beth ydy'r canllawiau ar gyfer lefelau staffio diogel? Plant, yfory, a fuasai'n arfer cael cinio am ddim yn yr ysgol, beth sydd yn mynd i ddigwydd i'r rheini rŵan?

Rydw i'n gwybod y gwnaethoch chi ddweud yn gynharach eich bod chi'n trafod posibiliadau ynglŷn â beth i'w wneud, ac rydw i'n siŵr yn Rhuthun y bydd ganddyn nhw eu paratoadau nhw. Ond mae'r broblem yn fyw rŵan, onid ydy, ac rydych chi'n deall rŵan pam oeddem ni'n gofyn y cwestiynau yma yn ystod amser busnes a pham bod angen inni gael gwybodaeth ac eglurder am y sefyllfa.

Beth ydy'r canllawiau i rieni sydd yn gweithio yn yr NHS, a'u plant nhw rŵan yn mynd i fod adref? Beth mae'r gweithwyr yna i fod i wneud? Ydyn nhw i fod i gario ymlaen i fynd i'r gwaith ynteu ydyn nhw'n mynd i orfod gwneud rhyw drefniadau byrfyfyr rŵan yn sydyn fel bod y plant yn gallu cael eu gwarchod, achos rydyn ni eu hangen nhw yn eu gwaith? Felly, nifer fawr o gwestiynau. Roeddwn i'n bwriadu eu gofyn nhw yfory i'r Gweinidog addysg. Rydw i'n eu gofyn nhw rŵan i chi, achos mai chi ydy'r Prif Weinidog, os gallwn ni gael eglurder am hynny.

I droi at y cwestiynau eraill. Mi oedd Rhun ap Iorwerth yn mynd i wneud y sesiwn yma ac roedd o'n mynd i ofyn ichi am y ventilators. Mae'n ofnadwy o bwysig—dyna'r neges rydw i'n ei chael gan Ysbyty Gwynedd yn fy ardal i. Mae angen digonedd o ventilators yn ein hysbytai ni, ac mae, wrth gwrs, angen y staff hefyd sydd yn deall sut mae'r ventilators yn gweithio. Beth ydy eich trefniadau chi? Pa gamau ymarferol ydych chi'n gweithio arnyn nhw rŵan er mwyn sicrhau bod yna ddigon o ventilators yn mynd i fod ar gyfer y wardiau fydd eu hangen nhw? Rydyn ni'n ymwybodol bod yna un busnes yng Nghymru sydd yn dechrau cynhyrchu ventilators, neu o leiaf mae ganddyn nhw ddull o gynhyrchu ventilators yn sydyn, a buaswn i'n hapus iawn i basio manylion hynna ymlaen ichi. Mae'r fath yna o beth i'w groesawu, wrth gwrs.

Mae'r cwestiwn olaf ynglŷn â'r profi. Dwi yn dod yn ôl at hwn, at y profi yma. Mae o'n bwysig. Rydw i'n gwybod efallai fod yna deimlad na ddylai'r staff rheng flaen o'r ysbytai fod allan yn y canolfannau profi yma, ac y dylen nhw fod yn yr ysbytai yn paratoi. Rydw i'n deall hynna ac mai mater prinder staff sydd yn gyrru hyn siŵr o fod, ar ddiwedd y dydd, sydd yn gwestiwn arall. Ond heb gael y wybodaeth yma ynglŷn â faint sydd yn cael eu heffeithio gan y feirws, sut ydyn ni'n mynd i gael gwybod sut mae'r twf yma yn amlygu ei hun?

Rydw i'n deall yng Ngwynedd, er enghraifft, mi oedd Ysbyty Bryn y Neuadd ar agor ar gyfer gwneud y profion yma reit ar ddechrau hyn—wel, wythnos diwethaf, a bod yn onest. Ond y wybodaeth rŵan ydy bod hwnna ddim yn cael ei defnyddio ddim mwy—Ysbyty Alltwen yr un peth.

Felly, mae'n gwestiwn gen i oes yna unrhyw un yn fy ardal i yn cael ei brofi ar hyn o bryd. Mae'r mapiau yn dangos Gwynedd fel ardal lle does yna ddim coronafeirws ar hyn o bryd, os nad ydy o wedi newid yn yr oriau diwethaf yma. Mae o'n dangos nad oes yna ddim pobl yn cael eu heffeithio. Wel, does bosib. Does bosib bod pobl ddim yn cael eu heffeithio. A beth mae o'n golygu ydy fod pobl o ardaloedd dinesig yn edrych ar y map ac yn meddwl, 'O, mae Gwynedd yn lân. Does yna ddim byd yng Ngwynedd. Awn ni draw i'r fan honno.' Mae yna hanesion anecdotaidd fod hynny yn digwydd, ond, wrth gwrs, i fynd yn ôl at y profi, os nad ydyn ni'n gwybod beth ydy lefel y broblem, nid ydyn ni'n gwybod a ydy hyn yn cyfrannu at y broblem—ydy hyn yn rhywbeth yr ydyn ni angen bod yn meddwl amdano fo? Bydd yn broblem, mae'n debyg, a fydd yn digwydd mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig hefyd, dim jest yng Nghymru, ac mae angen edrych ar hwnna.

Jest y pwynt olaf, o ran y profi, rydych chi wedi dweud eich bod chi'n mynd i wneud rhyw fath o byramid o flaenoriaethu. Dwi'n edrych ymlaen at weld hynny yn digwydd. Gweithwyr iechyd, rydych chi'n dweud, ond mae eu teuluoedd yna hefyd. Os oes yna blentyn yn arddangos y symptomau, ac rydych chi'n gweithio yn y sector iechyd, rydych chi angen gwybod, os ydy'r plentyn yn sâl, a ydych chi'n gallu parhau i fynd i'r gwaith. Felly, dwi'n deall pam eich bod chi yn cyfyngu ar y nifer yr ydych chi'n mynd i'w profi, ond dwi yn gofyn am well esboniad ynglŷn â sut ydych chi'n mynd i fod yn mesur y twf sydd yn mynd i ddigwydd, yn anffodus. Diolch yn fawr. 

16:30

Diolch i Siân Gwenllian am y cwestiynau yna. Dwi'n clywed am Ysgol Brynhyfryd am y tro cyntaf ar fy nhraed yn fan hyn. Beth sy'n fy nharo i yw bod ysgolion yn yr un lle â meddygon teulu a'r fferyllfeydd dŷn ni wedi clywed amdanyn nhw y prynhawn yma. Os oes nifer o staff yn y cyd-destun yna—os nad oes digon o staff i redeg y fferyllfa, neu'r feddygfa teulu, wel, bydd yn rhaid iddyn nhw gau'r drws am dymor i gael staff nôl ac i agor unwaith eto.

Yn y tymor byr, y canllawiau yw yr un canllawiau y mae'r ysgolion yn eu defnyddio pan mae pethau eraill, fel eira, yn bodoli—jest i wneud pethau fel mae'r ysgolion wedi gwneud dros y blynyddoedd i ymdopi â rhywbeth sydd yn digwydd fel hyn. Wrth gwrs, bydd mwy o ganllawiau yn dod mas pan fydd pethau yn bwrw ymlaen, ond yn y tymor byr, dwi'n siŵr y bydd pobl yn yr ysgol ac yn yr awdurdodau lleol yn gallu rhoi pethau yn eu lle i ymdopi â'r hyn sydd wedi digwydd yn yr un ysgol. Dwi'n cydnabod, wrth gwrs, beth roedd Siân Gwenllian yn dweud am ganllawiau cyffredinol pan fydd pethau yn datblygu, a bydd y Gweinidog Addysg yn gallu ymateb cwestiynau am bethau fel yna yfory ac ar ddydd Iau hefyd.

Dwi'n cytuno yn llwyr gyda'r hyn roedd Siân Gwenllian yn dweud am ventilators. Rŷn ni'n gweithio dros y Deyrnas Unedig i gyd gyda'n gilydd, gyda'r Alban, gyda phobl yng Ngogledd Iwerddon ac yn Lloegr hefyd i wneud un ymdrech gyda'n gilydd. Byddai'n grêt i gael manylion am unrhyw gwmni sy'n gallu helpu, ac rŷn ni'n edrych am bobl eraill sy'n gallu ailaddasu beth maen nhw'n gwneud nawr i greu mwy o ventilators. Wrth gwrs, rŷn ni'n siarad am bethau eraill hefyd—non-invasive ventilators, fel dwi'n cofio, a phethau eraill mae'r meddygon yn gallu eu defnyddio. Ac fel roedd Siân Gwenllian yn dweud, rŷn ni eisiau cynyddu nifer y ventilators sydd gyda ni, ond hefyd mae'n rhaid inni hyfforddi pobl sydd wedi bod yn gwneud pethau hollol wahanol yn yr ysbytai i'w defnyddio nhw yn y ffordd gywir hefyd.

Ar brofi, wel, dwi wedi dweud beth roeddwn i'n mynd i'w ddweud am pam rŷn ni'n gwneud beth rŷn ni'n ei wneud.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau i wneud ei waith o gadw golwg ar y clefyd ledled Cymru. Credaf fod Merthyr yn rhan arall o Gymru lle mai ychydig iawn o achosion sydd ar yr adeg hon yn yr ymdrech arolygu. Mae ffyrdd soffistigedig iawn, Llywydd—ymhell y tu hwnt i'm gallu i i esbonio—lle gall modelwyr ddweud wrthych chi pa mor gyffredin yw'r clefyd mewn cymuned o nifer y bobl sydd angen gofal dwys. Bydd cymarebau y gallan nhw eu casglu o'r dystiolaeth sydd ganddyn nhw eisoes. Byddan nhw'n dweud, 'Mae'r nifer yma o bobl yn cael gofal dwys. Mae hynny'n golygu mai dyma pa mor gyffredin yw'r haint yn y gymuned ar lefel gymunedol.' Ac mae hynny i gyd yn digwydd. Nid yw'r newid yn y drefn brofi yn golygu nad oes unrhyw wybodaeth am yr hyn sy'n digwydd yn gymunedol. Ond fel yr wyf i'n ei ddweud, ceir trafodaeth ddyddiol ynghylch pa un a oes angen gwneud hynny'n wahanol neu ei gryfhau mewn ffyrdd eraill.

Ac rwy'n deall yn llwyr y sylwadau a wnaeth Siân Gwenllian ar y diwedd am y cyd-destun teuluol y mae gweithwyr clinigol yn gweithredu oddi mewn iddo, ac am i hynny gael ei gynnwys yn y drefn brofi. Bydd cylchlythyr—rwyf yn gobeithio y bydd ar gael heddiw—a anfonir at y GIG drwy swyddfa'r Prif Swyddog Meddygol yn manylu ynghylch sut y caiff y gyfundrefn honno ei chynnal.

16:35

Diolch i chi am gyflwyno'r datganiad, Prif Weinidog, ac a gawn ni ddymuno'r gorau i'r Gweinidog Iechyd a'i deulu yn ystod y cyfnod hwn o brysur bwyso? Diolchwn i chi hefyd am yr ymdrech yr ydych yn mynd iddi i'n diweddaru ni a'r cyhoedd yng Nghymru yn ystod y pandemig hwn.

Diolch eto i bawb sy'n helpu—o staff y GIG i'r llu o wirfoddolwyr yr ydym ni'n dibynnu cymaint arnyn nhw. Hefyd, hoffwn estyn unwaith eto fy nghydymdeimlad i deulu'r claf a gollodd ei fywyd, gwaetha'r modd, i'r clefyd hwn.

Gweinidog, mae'n hanfodol ein bod ni'n sefyll yn gadarn ac yn unedig yn erbyn y clefyd hwn. Gall y mesurau sy'n cael eu rhoi ar waith i atal lledaeniad y clefyd hwn fod yn anodd eu derbyn ond maen nhw yn angenrheidiol iawn. Mae'n rhaid i ni sicrhau bod y clefyd hwn, sy'n heintus iawn, yn cael ei gyfyngu i'r fath raddau ag sy'n ddynol bosib, oherwydd bob dydd mae'r sefyllfa o ran y coronafeirws yn newid. Wrth i bobl orfod aros yn eu hunfan i wahanol raddau mewn gwledydd drwy'r byd, mae'n rhaid i ni fynd ati mewn ffordd gall, cyfyngu ar ein cysylltiad â phobl sydd mewn mwy o berygl o ddatblygu cymhlethdodau o achos y feirws, ac arfer hylendid dwylo rheolaidd.

Bydd fy mhlaid i yn cefnogi eich ymdrechion i gyfyngu ar ein hamlygiad i COVID-19. Mae ein hymdrechion ar y cyd yn hanfodol i atal lledaeniad y clefyd hwn a'i gadw a sicrhau cyn lleied o effaith â phosib. Ac os ydym ni eisiau cadw'r gyfradd i lawr, mae hyn yn angenrheidiol. Bydd yr hyn a wnawn ni, a'r hyn a wnaiff y cyhoedd yn gyffredinol, yn helpu i arafu lledaeniad y clefyd hwn ac yn y pen draw yn helpu i achub bywydau.

Mae cyfnod anodd o'n blaenau ac mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn dod at ein gilydd fel cymuned. Mae'n bosibl bod y camau gweithredu a amlinellwyd gan Brif Weinidog Prydain, ein Gweinidog Iechyd a'n Prif Weinidog ni yma yng Nghymru yn amhoblogaidd ond maen nhw'n hanfodol bwysig.

Gweinidog, mae hylendid dwylo cyn bwysiced ag erioed, ond rwyf wedi clywed adroddiadau nad oes sebon ar ôl mewn rhai ysgolion ac na allan nhw fforddio cael mwy ohono. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gan wasanaethau cyhoeddus gyflenwadau digonol o offer hylendid a, phan fo hynny'n gwbl angenrheidiol, offer diogelu personol?

Drwy gydol y cyfnod hwn o brysur bwyso, mae'n rhaid i ni fod mor dryloyw â phosibl gyda'r cyhoedd ynglŷn â pham yr ydym ni'n gweithredu yn y modd yr ydym ni. Gweinidog, pa ystyriaeth ydych chi wedi ei rhoi i gynnal cynadleddau rheolaidd i'r wasg gyda swyddogion iechyd y cyhoedd a'r Prif Swyddog Meddygol i roi gwybodaeth a sicrwydd i'r cyhoedd am y camau sy'n cael eu cymryd i frwydro yn erbyn COVID-19, a thawelu meddyliau pobl ynglŷn â'r camau hynny?

Mae'r angen i ddatblygu triniaethau therapiwtig o'r pwys mwyaf. Gweinidog, a allwch chi amlinellu'r hyn y mae ein cydweithwyr ym maes iechyd y cyhoedd ledled y DU, ein sector addysg uwch a'r diwydiant fferyllol yn ei wneud i ddatblygu triniaethau wrth i ni ddisgwyl canlyniad yr arbrofion o ran creu brechlyn?

Yn olaf, Gweinidog, dylid canmol ymdrechion arwrol ein gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol. Heb iddyn nhw roi eu hunain mewn perygl byddai ein sefyllfa'n waeth o lawer. Wrth i'r argyfwng hwn ddwysáu, pa ystyriaeth ydych chi wedi ei rhoi hefyd i ddefnyddio gwirfoddolwyr yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol i wneud gorchwylion symlach sy'n rhoi amser i staff clinigol ganolbwyntio ar ofal critigol?

Diolch eto am eich ymdrechion a byddaf yn parhau i weithio gyda chi drwy gydol yr argyfwng hwn.  

16:40

Llywydd, a gaf i ddiolch i Caroline Jones am yr holl bethau a ddywedodd wrth gyflwyno ei chwestiynau? Cytunaf yn fawr iawn â'r sylwadau a wnaeth am yr ymdrechion ar y cyd y bydd angen i ni eu gwneud ledled y Siambr hon ac yn llawer ehangach wrth wynebu'r argyfwng sydd ar ein gwarthaf.

O ran ei chwestiynau penodol ar yr offer hylendid sydd ar gael mewn ysgolion, trafodais hyn y bore yma gyda'r Gweinidog Addysg ac mae cynlluniau yn yr arfaeth i symud adnoddau o rannau eraill o'r sector cyhoeddus i helpu lle mae hynny'n broblem.

O ran cynadleddau rheolaidd i'r wasg, rwy'n cytuno ei bod hi'n bwysig iawn i'r rheini gael eu cyflwyno gan gyfuniad o wleidyddion sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau, ond hefyd y rhai sy'n darparu'r cyngor y seilir y penderfyniadau hynny arno. Hoffwn ddiolch ar goedd i Brif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton, sydd wedi bod wrth ei ddesg heb egwyl nawr ers wythnosau lawer, gan wneud yn siŵr ein bod i gyd yn cael yr holl gyngor sydd ei angen arnom.

Mae datblygu triniaethau ar gyfer y coronafeirws yn ymdrech ryngwladol, Llywydd, lle mae'r DU yn gwneud ei rhan, oherwydd mae arnom ni angen holl ymdrechion gwyddonwyr ac arbenigwyr eraill, nid yn unig yn y wlad hon ond mewn mannau eraill, i wneud y datblygiadau angenrheidiol mor gyflym â phosib.

Yn olaf, o ran ymdrechion eraill , gadewais y Siambr ychydig yn gynharach yn y trafodion, Llywydd, i fynd i gwrdd â phennaeth newydd y lluoedd arfog yma yng Nghymru. Cefais sicrwydd ganddo ynghylch parodrwydd y lluoedd arfog yng Nghymru i ymgymryd â swyddogaethau lle y gallai fod angen eu cymorth dros yr wythnosau i ddod. Bydd y Bil brys, y caiff yr Aelodau yn y fan yma y cyfle i'w drafod yr wythnos nesaf, yn cynnwys, rwy'n rhagweld, pwerau newydd y gall Gweinidogion Cymru eu defnyddio i allu cyflymu'r broses o ehangu swyddogaethau cymorth i bobl na chânt eu cyflogi yn y ffyrdd hynny ar hyn o bryd. 

Diolch, Prif Weinidog, am eich datganiad. A gaf i ddiolch ar goedd i bawb yng Nghymru sy'n ceisio cadw ein gwasanaethau cyhoeddus i fynd yn wyneb y salwch hwn? Atebwyd llawer o'm cwestiynau, ond roedd arnaf eisiau holi ynghylch y mater o awyryddion hefyd. Yn amlwg, clywais eich ateb i Siân Gwenllian. Rwy'n siŵr nad fi fydd yr unig un a oedd yn arswydo ei bod hi'n ymddangos ein bod yn crefu am gymorth y sector gweithgynhyrchu i'n helpu gyda'r sefyllfa o ran awyryddion. Tybed a allech chi fod ychydig yn fwy penodol ynghylch y niferoedd yn hyn o beth a pha fath o asesiad yr ydych chi wedi ei wneud o faint o ddiffyg sydd gennym ni mewn gwirionedd yn y maes hwnnw. 

Rwy'n croesawu'n fawr yr hyn a ddywedwyd am ddechrau profi pob gweithiwr gofal iechyd. Credaf fod hynny'n hollbwysig. Rwy'n credu ei bod hi'n hanfodol ein bod ni'n cael eglurder, cyn gynted â phosibl, ar y mater ynghylch plant a phobl eraill sy'n ddibynnol ar weithwyr iechyd. Byddai'n ddefnyddiol iawn pe gellid rhannu'r cylchlythyr y cyfeiriasoch chi ato sy'n cael ei gyflwyno heddiw gydag aelodau'r Cynulliad, gan fy mod i'n sicr wedi cael nifer o ymholiadau gan weithwyr gofal iechyd yn fy etholaeth i.  

Roeddwn eisiau gofyn am welyau gofal critigol. Byddwn i gyd wedi gwylio'r sefyllfa yn yr Eidal gyda gofid, ond, yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae gan yr Eidal 12.5 o welyau gofal critigol i bob 100,000 o'r boblogaeth, o'i gymharu â 6.6 fesul 100,000 yn Lloegr, ac nid wyf yn siŵr beth yw'r ffigur yng Nghymru. Felly, hoffwn ofyn pa asesiad ydych chi wedi ei wneud o'r diffyg a pha gynlluniau penodol sydd ar waith i geisio rhoi hwb gwirioneddol i'r gallu hwnnw nawr, pan fydd gwir angen hynny arnom ni. Cyfeiriodd Angela Burns at iechyd meddwl: credaf fod hynny'n hollbwysig, nid yn unig o ran sicrhau bod pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl—sydd wedi cael diagnosis o afiechyd meddwl—yn cael cymorth, ond hefyd, rwy'n credu, yn rhagweithiol, o ran cydnabod y bydd hyn yn her iechyd meddwl fawr i'r wlad i gyd, mewn gwirionedd. Rwy'n gwybod bod llawer o bobl ifanc yn teimlo'n hynod o bryderus a bod pobl o bob oed yn teimlo'n bryderus iawn ac a fyddai'n elwa ar glywed neges iechyd y cyhoedd gref o ran sut yr ydym ni i gyd yn gofalu am ein hiechyd meddwl mewn cysylltiad â'r argyfwng hwn. Diolch.

16:45

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Diolch i Lynne Neagle am y cwestiynau yna. Llywydd, wnaf i ddim ceisio rhoi rhif, y rhifau penodol y gofynnodd Lynne amdanyn nhwt o ran awyryddion. Mae'n ddigon posibl bod y Gweinidog Iechyd wedi eu cael; does gennyf i ddim atgof ohonyn nhw. Ond gallwn ofyn i Vaughan roi'r manylion hynny. Af ati'n sicr i wneud yn siŵr, pan gyhoeddir y cylchlythyr, yr hysbysir Aelodau yn ei gylch ac y cynhwysir dolen fel ei fod ar gael i bawb.

O ran gofal critigol, nid wyf ar unrhyw gyfrif eisiau tanbwysleisio y pwysau real iawn, iawn a fydd yna i allu gofal critigol yn y wlad hon i ymdopi. Credaf fod cymariaethau â gwledydd eraill yn aml yn anodd, gan fod diffiniadau'n wahanol a bod y modd y cyfrifir gwelyau yn wahanol, ond, o roi hynny i gyd o'r neilltu, nid oes amheuaeth o gwbl y bydd y pwysau y byddwn yn ei wynebu yn real iawn. Y peth cyntaf y byddwn yn ei wneud fydd gweithredu'r cynlluniau sydd gan y byrddau iechyd eisoes, sy'n eu galluogi i ddyblu nifer y gwelyau gofal critigol presennol. Pan gyhoeddodd ein cyd-Aelod, Vaughan Gething, £15 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol yng ngallu gofal critigol y llynedd, roedd pwyslais arbennig ar allu allgymorth gofal critigol. Gan fod cleifion yn aml yn aros ar ward gyffredin lle mae amwysedd o ran pa un a ellir gofalu amdanyn nhw yn briodol yno—a oes angen gofal critigol ac allgymorth gofal critigol arnyn nhw? Roedd caniatáu i'r bobl hynny barhau i gael gofal yn y ward y maen nhw ynddi yn rhan bwysig o gynllun y llynedd, a bydd yn rhan o waith cynllunio'r gwasanaeth iechyd, ac mae mwy yn cael ei wneud i gynllunio ar gyfer y galw yr ydym yn gwybod y bydd yn bodoli.

O ran iechyd meddwl, cytunaf yn llwyr â'r sylwadau a wnaeth Lynne Neagle. Mae'n un o'r rhesymau pam yr ydym ni wedi bod yn awyddus i beidio â phenderfynu'n fyrbwyll i gau ysgolion, oherwydd gwyddom fod miloedd o bobl ifanc yn ein hysgolion sy'n dibynnu ar y gwasanaethau iechyd yr ydym ni wedi eu datblygu yn eithaf diweddar yn ein hymagwedd ysgol gyfan. Ac os ydym ni'n cyrraedd adeg lle nad yw ysgolion bellach yn gallu agor yn y modd y maen nhw'n ei wneud ar hyn o bryd, yna yn ogystal â meddwl am sut y gallwn ni ymateb i anghenion pobl y mae angen prydau ysgol am ddim arnyn nhw, a sut y byddwn ni'n ymdrin â phlant pobl sy'n weithwyr rheng flaen ac y mae angen iddyn nhw fod yn eu gwaith, mae angen hefyd i ni gynllunio ar gyfer diwallu anghenion iechyd meddwl y bobl ifanc hynny y darperir ar eu cyfer ar hyn o bryd mewn ysgolion ac na ellir darparu ar eu cyfer yn y modd hwnnw os bydd yn rhaid cau ysgolion.

Nid wyf wedi clywed neb yn y Siambr yn dadlau dros weithredu ar fyrder i gau ysgolion, ac mae'r mater yn un priodol iawn i'w ystyried, ond rhan o'r rheswm dros fod yn awyddus i ysgolion barhau ar agor cystal ag y gallan nhw am gyhyd ag y gallan nhw yw rhoi cyfle i bob un ohonom ni gynllunio ar gyfer y nifer fawr o anghenion y mae ysgolion yn eu diwallu heddiw ac y bydd yn rhaid eu diwallu mewn ffyrdd gwahanol os nad yw'r system bresennol yn parhau fel y mae hi ar hyn o bryd.

Diolch. Rydym ni wedi cael siaradwyr o bob plaid nawr, felly a gaf i ofyn i'r bobl sy'n dal i fod ar ôl y byddwn yn galw arnyn nhw yn y datganiad hwn i ddim ond gofyn eu cwestiynau, os gwelwch yn dda? Janet Finch-Saunders.

Diolch, Dirprwy Lywydd, rwy'n ceisio gweld pa gwestiynau nad ydyn nhw wedi eu gofyn eisoes; mae un neu ddau. Fel y gwyddoch chi, gyda'm cylch gwaith—. Ac unwaith eto diolch i chi am ddangos arweiniad, a hefyd i Vaughan Gething, ac rwy'n gobeithio y daw yntau a'i deulu drwy hyn yn iawn.

Mae'r mater—gyda'm het portffolio ar fy mhen nawr— rwyf wedi cael llawer o bobl yn cysylltu sy'n dal i bryderu'n fawr am y sector gofal cartref a pha fath o gymorth y maen nhw'n mynd i'w gael o ran yr offer diogelu y mae angen iddyn nhw eu gwisgo. Nawr, fe soniais i am hyn yr wythnos diwethaf, ac fe grybwyllwyd y mater ynghylch y grŵp cynllunio ac ymateb gofal cymdeithasol. Mae darparwyr gofal cartref wedi cael eu cynghori i adolygu eu rhestr o gleientiaid a sicrhau ei bod yn gyfredol, gan gynnwys faint o gymorth anffurfiol sydd ar gael i unigolion. Felly, pa ystyriaeth sydd wedi ei rhoi i rannu gwybodaeth am unigolion sy'n cael gofal yn y cartref â phartneriaid lleol, megis arweinwyr grwpiau cefnogi gwirfoddol sy'n ymateb i COVID-19?

Byddwch yn ymwybodol, mae'n debyg, Prif Weinidog, y gall y cyfryngau cymdeithasol fod yn arf cymorth mewn argyfwng o'r fath, ac mae llawer iawn o bobl yn cynnig eu hunain, rhai gyda hyfforddiant, rhai hebddo. Maen nhw yn wirioneddol ceisio cael arweiniad gennyf i, fel Aelod Cynulliad, o ran sut y gallan nhw ddod â phopeth ynghyd a sicrhau y caiff y math hwn o gymorth ei ddefnyddio i'r eithaf. Felly, pe gallech chi roi neges o gefnogaeth yn hynny o beth—.

Mae yna hefyd bobl sy'n weithwyr gofal cymdeithasol sydd wedi ymddeol, sydd wedi cysylltu i ddweud, 'Rwy'n hapus i ail-gydio ynddi a helpu lle bo angen'. Unwaith eto, mae hynny'n adnodd na fanteisiwyd arno, a byddai'n ddoeth, yn fy marn i, i ni beidio â'i anwybyddu. Mae ein comisiynydd pobl hŷn wedi dweud bod angen i Gymru fod yn greadigol iawn er mwyn sicrhau bod pob person hŷn yn gwybod bod ganddyn nhw bobl sy'n gofalu amdanyn nhw ac sydd mewn cysylltiad. Mae hi wedi cyfarfod â Llywodraeth Cymru, Age Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, felly a allech chi egluro beth yr ydych chi'n ei wneud i helpu sefydliadau i ganfod pa gymorth sydd ei angen ar bobl hŷn, ac i'w ddarparu?

Mae canolfannau dydd, cylchoedd chwarae a meithrinfeydd wedi cysylltu â mi hefyd ynglŷn â chyngor ac arweiniad, am eu bod yn credu nad ydyn nhw wedi cael dim o ran, unwaith eto, offer amddiffynnol a chyngor ynghylch yr hyn y dylen nhw ei wneud. Maen nhw i gyd yn byw, ar hyn o bryd, fel yr ydym ninnau i gyd, o un awr i'r llall, o un diwrnod i'r llall, ac maen nhw eisiau rhyw fath o gyngor.

Hefyd, cwestiwn sydd gennyf i chi, Prif Weinidog: o ran profi, a fydd unrhyw gynlluniau, yn y dyfodol, i gyflwyno pecynnau hunan-brofi yn y cartref?

Yn olaf, mae Cadeirydd Cymdeithas Lletygarwch Llandudno a gwestywyr eraill, sydd—mae'r rhain yn fyddin o wirfoddolwyr sydd yn gwbl gyfarwydd â'r safonau hylendid bwyd, sydd wedi hen arfer—. Maen nhw'n dweud y gallen nhw helpu, lle bo angen, fel gwirfoddolwyr, drwy newid gwelyau, paratoi bwyd. Felly, mewn cyfnod mor anghyffredin, a wnewch chi edrych ar bob ffordd o ymgysylltu â'r gymuned fusnes yr effeithir arni mor wael ar hyn o bryd? Ond, er eu bod yn poeni a all eu busnes barhau, maen nhw'n barod i dorchi llewys a bod o ryw wasanaeth yn eu cymunedau. Felly, unwaith eto, pe gallech chi ymateb i'r rheini—. Diolch.

16:50

Diolch yn fawr iawn am y cwestiynau yna. Credaf fod Janet Finch-Saunders yn iawn i boeni am y sector gofal cartref. Rwyf innau'n poeni cryn dipyn amdano, oherwydd rydym ni'n dibynnu cymaint arno, ac eto bydd pobl sy'n gweithio yn y maes hwn yr un mor agored i gael y feirws, a'r sylwadau a wnaeth Janet ynglŷn â gofyn i ddarparwyr adolygu eu rhestrau a bod yn sicr y gallan nhw flaenoriaethu ymweliadau i le mae wirioneddol eu hangen yn sicr yn rhan o'r gwaith paratoi hwn.

Gwnaed sylw pwysig am rannu gwybodaeth. Rydym ni i gyd yn gyfarwydd â'r rheolau llawer llymach yn ddiweddar—rheolau cyffredinol rheoliadau diogelu data—sy'n gwneud awdurdodau cyhoeddus yn nerfus ynghylch rhannu gwybodaeth rhag ofn eu bod yn torri rhyw reoliad neu'i gilydd. Felly, bwriadwn grybwyll hyn drwy'r trafodaethau ar lefel y DU fel y gallwn ni roi rhywfaint o sicrwydd i awdurdodau cyhoeddus na fydd rhoi gwybodaeth i helpu rhywun arall i wneud y peth iawn yn yr amgylchiadau hyn yn arwain at oblygiadau wedyn, ac mae hwnnw'n sylw pwysig a wnaed.

Drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, rhagwelwn yn fuan iawn y bydd pob awdurdod lleol yn dod yn ganolbwynt i bobl leol a fu'n weithwyr gofal yn y gorffennol, neu wedi ymddeol yn ddiweddar neu sydd wedi symud i ryw swydd arall, sydd yn fodlon dychwelyd i'r gweithlu hwnnw. Yr awdurdod lleol—eu hawdurdod lleol nhw—fydd y pwynt cyswllt cyntaf, fel bod rhyw fath o system yn seiliedig ar barodrwydd pobl i ymateb yn y ffordd honno.

Fel y dywedais wrth ateb cwestiynau yn gynharach, Dirprwy Lywydd, mae cyfarfod yn cael ei drefnu yfory gyda Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, gyda chymdeithasau gwirfoddol sirol ac eraill i geisio harneisio'r holl ymdrech honno y gwyddom y mae pobl yn barod i'w gwneud yn lleol. Nid oeddwn wedi meddwl am westywyr yn y ffordd y disgrifiodd Janet, ond mae hi'n iawn, wrth gwrs, eu bod nhw'n bobl sydd â sgiliau penodol o ran gofalu am bobl yn y cyd-destun hwnnw, ac efallai eu bod nhw mewn sefyllfa i addasu'r sgiliau hynny a helpu mewn sefyllfaoedd eraill. Felly, unwaith eto, diolch i chi am wneud y pwynt hwnnw a byddaf yn sicrhau y caiff ei drosglwyddo.

Meithrinfeydd—credaf fod cyngor ar gael i feithrinfeydd. Mae'n sector gwasgaredig; efallai nad yw pawb yn gwybod ble i chwilio am y cyngor sydd ar gael iddyn nhw. Ond, unwaith eto, ledled y Deyrnas Unedig, mae meithrinfeydd yn un o'r sectorau hynny lle bydd angen gweithredu i sicrhau bod darparwyr da sy'n gwneud gwaith gwirioneddol bwysig—ac rydym ni wedi gweld twf mewn darparwyr yng Nghymru drwy'r cynnig gofal plant ac yn y blaen—yn dal i fod yno ar ôl y coronafeirws, pan fydd angen eu gwasanaethau eto, tra yn y cyfnod byr efallai y byddan nhw'n cael trafferth oherwydd eu bod yn dibynnu ar rieni sy'n talu ffioedd ac nad yw eu plant efallai'n mynychu. Felly, mae gwaith yn mynd rhagddo i geisio sicrhau bod Trysorlys y DU yn deall ymyrraeth tymor byr i gadw'r busnesau hynny'n fyw, oherwydd maen nhw yn fusnesau da ac yn fusnesau hyfyw ac mae angen iddyn nhw fod yn hyfyw pan fydd hyn i gyd wedi dod i ben.  

16:55

Prif Weinidog, clywais eich ateb i gwestiynau blaenorol am brofi, ond hoffwn, os yw'n bosib, bwyso arnoch chi ychydig ymhellach ar hyn. Mae llawer o aelodau'r cyhoedd yn ddryslyd iawn pan eu bod yn eich gweld chi yn rhoi un gosodiad ac yna mae Sefydliad Iechyd y Byd yn darparu dadansoddiad gwahanol iawn. Rwyf wedi gweld y prynhawn yma, dros y ffin yn Lloegr, y cynhaliwyd 7,000 o brofion yn ystod y 24 awr diwethaf. Felly, mae gennym ni drefn wahanol iawn rhwng nid yn unig y Llywodraeth yn y fan yma a llywodraethau eraill yn y Deyrnas Unedig, ond trefn wahanol yn y fan yma i'r hyn sy'n cael ei argymell gan Sefydliad Iechyd y Byd.

Felly, byddai'n ddefnyddiol, yn fy marn i, i ni ddeall pam mae hynny'n digwydd. Pam mae gennym ni gyngor sy'n wahanol i'r hyn a dybiwn sy'n cael ei dderbyn gan Weinidogion yr Alban a Lloegr? A ydym ni'n siarad â Sefydliad Iechyd y Byd i ddeall pam maen nhw'n darparu'r cyngor hwnnw i lywodraethau ledled y byd sy'n ymwneud â hyn? Ac a allwn ni sicrhau ein bod ni yn y fan yma yn cael y cyngor gorau posibl sydd ar gael i ni ac y profir hynny wedyn yn erbyn y cyngor a roddir i Weinidogion eraill mewn Llywodraethau eraill, nid yma yn y Deyrnas Unedig yn unig, ond ledled Ewrop a gweddill y byd?

Rwy'n credu bod llawer ohonom ni wedi drysu braidd pam nad ydym ni fel pe byddem yn rhoi mwy o bwyslais ar brofi, ac wedyn sicrhau, pan gynhelir profion, os ydym ni'n edrych ar bersonél rheng flaen allweddol, y caiff gwasanaethau cymdeithasol a gofalwyr eu cynnwys mewn gwirionedd hefyd.

Diolch i'r Aelod am y y cwestiynau yna, Llywydd. Rwy'n credu fy mod i wedi dweud ambell waith y prynhawn yma y byddwn ni'n ystyried ehangu, lle gallwn ni, y profion ar weithwyr allweddol i gynnwys grwpiau eraill. Rwyf yr un mor ofidus ag Alun Davies ynghylch y dryswch anochel ym meddyliau'r cyhoedd pan eu bod yn clywed gwahanol grwpiau a gwahanol ffynonellau o arbenigedd yn dweud gwahanol bethau. Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn darparu cyngor ar gyfer ymhell dros 100 o wledydd, ac ni fydd y defnydd o'r cyngor hwnnw byth yn union yr un fath mewn unrhyw le, oherwydd bod yn rhaid i'r cyngor hwnnw gael ei raddnodi yn ôl amgylchiadau unrhyw un o'r gwledydd hynny sy'n aelodau o'r cyngor.

Gallaf ddweud yn bendant bod y cyfarfodydd a gynhelir rhwng y pedwar prif swyddog meddygol a'r cynghorwyr gwyddonol yn cael gwybodaeth gan Sefydliad Iechyd y Byd, eu bod yn clywed ganddyn nhw yn uniongyrchol, nad ydyn nhw byth yn cynghori mewn anwybodaeth o'r ffynonellau hynny o gyngor. Rwyf eisiau i Lywodraeth Cymru fod yn glir ac yn ddiamwys yn y modd hwn, oherwydd credaf mai dyma'r peth gorau y gallaf ei wneud—sef ceisio gwrthsefyll y dryswch yr wyf yn cytuno sy'n destun gofid—a dyma yw hynny: mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar y cyngor a gawn ni gan y bobl a gyflogir i'w roi i ni, sy'n deall Cymru orau, sy'n deall y wyddoniaeth orau, ac sydd felly yn y sefyllfa orau i gynghori'r Llywodraeth. Pa bynnag ffynonellau eraill o gyngor sydd ar gael, eu lle nhw yw hidlo hynny, eu lle nhw yw distyllu hynny, eu lle nhw yw dweud wrth Lywodraeth beth sy'n briodol i'w wneud, ac yna mae'n rhaid i Lywodraeth weithredu ar y cyngor hwnnw.

17:00

Prif Weinidog, Diolch am eich datganiad y prynhawn yma. A gaf i ategu'r sylwadau gan gydweithwyr sydd wedi crybwyll yr agwedd iechyd meddwl ar hyn? Rydym yn llythrennol yn gweld bywydau pob dydd pobl, ym mha faes bynnag y maent yn byw, yn cael eu darnio gan hyn, ac mae unffurfiaeth a rheoleidd-dra yn un o'r ffactorau sefydlogi ym mywydau'r rhan fwyaf o bobl. Er fy mod yn gwerthfawrogi holl ymdrechion y GIG i ddarparu gofal critigol ar hyn o bryd a darparu gwelyau, bydd galw enfawr ar y gwasanaethau darpariaeth iechyd meddwl sydd yn y wlad hon. Mae hi'n gysur gennyf eich clywed yn cyfeirio at gymunedau gwledig a'r gefnogaeth a fu ar gael i gymunedau gwledig drwy rai o'r helyntion iddynt eu hwynebu dros yr 20 mlynedd diwethaf. 

Dau beth yr hoffwn eu gofyn i chi, os yn bosib, os gwelwch yn dda, Prif Weinidog. Mae'r un cyntaf yn adeiladu ar y pwynt a godwyd gan Janet Finch-Saunders am bobl a allai fod o gymorth yn y sector gofal. Rwyf wedi cael amryw o gartrefi gofal dros y 48 awr ddiwethaf yn cysylltu ac yn cyfeirio at y ffaith bod eu niferoedd staffio yn prinhau yn feunyddiol ac, yn amlwg, yn ôl y rheolau, mae'n rhaid i staff fod yn gofrestredig—ac yn briodol iawn mae'n rhaid iddyn nhw fod yn gofrestredig—er mwyn i'r amgylchedd fod yn un diogel. Ond mae modd, buaswn yn awgrymu, o'r ddadl a gyflwynwyd i mi, o ystyried cofrestriadau newydd a gweithio gyda'r arolygiaeth i sicrhau bod yr amgylchiadau'n briodol fel y gall darparwyr cartrefi gofal weithio mewn amgylchedd newydd i brysuro cofrestriadau ac ymdrin â'r amgylchiadau y maent yn eu hwynebu ar hyn o bryd ac yn yr wythnosau sydd i ddod, sy'n amgylchiadau unigryw. Byddwn yn ddiolchgar deall a wnaed unrhyw gynnydd yn hynny o beth.

Yr ail beth—ac rwy'n sylweddoli na allwch chi efallai roi ateb i mi ar hyn o bryd, ac yn rhan o'r hyn yr ydych yn ymdrin ag ef ar hyn o bryd mae bron yn ymddangos yn amherthnasol, ond o gofio bod llawdriniaethau wedi'u canslo, bod llawdriniaethau arferol, llawdriniaethau beunyddiol wedi eu canslo, nid yw'n afresymol y bu pobl yn dod ataf fi a llawer o Aelodau Cynulliad eraill i geisio deall pryd y gellid ailgyflwyno trefn o lawdriniaethau y byddem yn ei hystyried yn arferol i'r GIG. Wrth inni sefyll yma heddiw, mae'n ymddangos bod hynny'n bosibilrwydd sydd ymhell iawn ar y gorwel. Gwelaf fod Lloegr newydd ymuno â'r un drefn ag a gyhoeddodd Cymru ddydd Gwener. Ond nid yw'n gais afresymol i etholwyr sy'n cysylltu ag Aelodau'r Cynulliad i geisio deall pryd y gallai'r llawdriniaeth hirddisgwyliedig honno y buont yn aros amdani i roi terfyn ar eu poen a'u rhoi ar lwybr adferiad—efallai—gael ei hystyried yn y GIG yn y dyfodol. Gallai fod yn chwe mis; gallai fod yn dri mis; gallai hyd yn oed fod yn 12 mis, ond gwerthfawrogir rhyw syniad pryd y gallem ni roi gwybod i etholwyr am y normaleiddio hwnnw.

Diolch i Andrew R.T. Davies am yr holl gwestiynau hynny ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd am iechyd meddwl. Nid fod bywydau wedi cael eu troi wyneb i waered, ond maen nhw wedi cael eu troi wyneb i waered mewn ffordd gwbl anrhagweladwy ac ar gyflymder na allai neb fod wedi'i ragweld. Felly, mae pobl a oedd â bywydau hollol sefydlog a llwyddiannus ddim ond ychydig wythnosau'n ôl yn syllu ar anawsterau gwirioneddol. Credaf y bydd y ddau beth hynny—y ffaith na allech chi gynllunio ar ei gyfer, ac iddo eich taro mor gyflym—yn golygu y bydd effaith wirioneddol ar les pobl. Mae yna bethau y gallwn ni eu dysgu ac y mae arnom ni eisiau eu dysgu o brofiadau hyd yn oed mor bell ag 20 mlynedd yn ôl yn yr argyfwng clwy'r traed a'r genau. Rwyf wedi bod yn siarad â'r cyn-Brif Weinidog heddiw am rai o'i brofiadau bryd hynny a'r hyn y gallem ei wneud o hyd o ran helpu pobl i gael rhwyfaint o reoleidd-dra i'w bywydau drachefn.

Bydd y Bil brys a gyhoeddir yn ddiweddarach yr wythnos hon yn darparu ffyrdd y gallwn ni fod ag agwedd fwy hyblyg at gofrestru a rheoleiddio fel y gallwn ni gael pobl yn ôl i'r gweithle ynghynt lle mai dyna'r peth iawn i'w wneud. Mae'n rhaid cadw mewn cof, hyd yn oed mewn argyfwng, mae'n rhaid i ni gofio bod pobl agored iawn i niwed yn y lleoliadau hyn ac nad yw diogelu yn rhywbeth y gallwch chi ei ddiystyrru'n llwyr. Felly, bydd yn rhaid cael rhai ffyrdd o hyd i wneud yn siŵr bod pobl sy'n cynnig helpu yn fath o bobl y byddech yn hapus eu gweld yn y swydd honno. Ond bydd y system, rwy'n credu, yn llai o lawer ac wedi'i chynllunio i geisio cael pobl i wneud y swyddi y mae arnyn nhw eisiau eu gwneud.

Rwy'n llwyr ddeall, wrth gwrs, y bydd ar bobl eisiau gwybod pryd y bydd y byd yn dechrau dychwelyd i'w drefn arfer, gan gynnwys sut mae'r gwasanaeth iechyd yn gweithredu. Rwy'n ofni na allaf gynnig yr arlliw lleiaf o ddyddiad neu hyd yn oed amserlen y prynhawn yma a fyddai o gymorth i bobl. Hyd yn hyn, fy mhrofiad i yw bod pobl yn deall yn iawn yr angen i bobl sydd ag anghenion mwy taer gael blaenoriaeth. Yr hyn y gallaf ei ddweud yw, cyn gynted ag y gwelwn ni'r penllanw hwn yr ydym yn ei ddisgwyl ac yna achosion yn lleihau, ac y gallwn ni roi argoelion dibynadwy i bobl o sut y gallai'r system ddychwelyd i'r man lle'r oedd hi o'r blaen, yna wrth gwrs byddwn yn awyddus iawn i wneud hynny.  

17:05

Rwy'n credu bod y rhan fwyaf o'r cwestiynau yr oeddwn i eisiau eu gofyn wedi'u hateb erbyn hyn, heblaw am un: ynghylch profi, unwaith eto, Prif Weinidog. Ond gobeithio, bydd hwn yn un nad ydych chi eisoes wedi ymdrin ag ef. Mae'n ymwneud â lleoliadau preswyl a chartrefi gofal. Gofynnwyd i mi godi'r mater hwn yn benodol: a fu penderfyniad penodol i beidio â phrofi mewn lleoliadau gofal a phreswyl yn rhan o'r drefn arferol. Oherwydd, mae bron pob un o'r bobl sydd ynddynt yn y categori risg uchel ac agored i niwed ac mae'r gallu i hunanynysu os bydd unrhyw un yn cael eu heintio gan y feirws yn y lleoliadau hynny yn brin iawn, iawn. Felly, byddai angen i ni gynllunio'n eithaf cynnar ar gyfer unrhyw un yn un o'r lleoliadau hynny â'r feirws a rheoli'r cyflwr hwnnw. A oes unrhyw gynlluniau i ystyried profion rheolaidd yn y lleoliadau hynny? Ac os nad, pam ddim? Oherwydd mae angen i ni wybod sut yr ydym ni'n mynd i reoli'r sefyllfa pe byddai'n codi.

Diolch i Dawn Bowden am y cwestiwn yna. Rwy'n llwyr gydnabod bod gan lawer ohonom ni yn y fan yma, yn sicr y mae gen i, berthnasau sy'n agos iawn atom ni yn byw yn y lleoliadau hynny. Felly, rwy'n deall y pwynt yn llwyr. Dirprwy Lywydd, rwy'n gobeithio fy mod wedi gallu ateb, yn rhannol o leiaf, y rhan fwyaf o'r cwestiynau y mae'r Aelodau wedi'u codi. Nid oes gennyf ateb ar unwaith o'm blaen o ran y drefn brofi mewn cartrefi gofal preswyl. Mae'n ddigon posib y byddai Vaughan yn gwybod, ond fe gaf i ateb, a gwneud yn siŵr fod yr Aelod yn ei gael, ac yna ei gylchredeg yn ehangach, oherwydd rwy'n credu y bydd o ddiddordeb i fwy na dim ond ychydig ohonom ni yma.

Mae gennyf dri Aelod arall. Fe wnaf i ymestyn y ddadl hon, ond nid wyf yn awyddus i'w ymestyn yn rhy hir. Felly, unwaith eto, rwy'n gofyn ichi fod yn gryno. Mark Isherwood.

Diolch, Llywydd. Dirprwy Lywydd, nid Llywydd. Mae'n ddrwg gen i. [Chwerthin.] Iawn.

Yn gyntaf, ar ran rhai rhieni sy'n hunanynysu oherwydd bod gan eu plant gyflyrau sylfaenol, maen nhw wedi dweud, 'Er bod y prif swyddog meddygol wedi dweud wrthym ni y caiff plant eu harbed o gymharu ag oedolion, pa gyngor y byddech chi'n ei roi i rieni plant sydd â chyflyrau iechyd sylfaenol o dan yr amgylchiadau presennol?'

Yr ail fater, ar ran menywod beichiog—yn amlwg, dywedwyd wrthyn nhw i aros gartref. Mae hynny'n cynnwys fy merched, tri ohonyn nhw, sy'n feichiog ar hyn o bryd. Pa ddarpariaeth sy'n cael ei gwneud ar gyfer yr adeg pan fydd yr enedigaeth yn dechrau? Mae gennym ni un sydd i ddod mewn 10 diwrnod. Pa sicrwydd sydd gan fy merched i a'r miloedd o fenywod eraill sydd yn yr un sefyllfa, pan fyddan nhw'n esgor, y byddan nhw'n ddiogel pan fyddan nhw'n mynd i'r ysbyty?

Cysylltodd etholwyr â mi yn Sir y Fflint, pobl dros eu 70, 'Nid yw fy ngwraig a minnau'n gallu cofrestru gyda'r fferyllfa i sicrhau y caiff ein presgripsiynau amlroddadwy eu danfon yn ddidrafferth gan ein meddyg teulu i fferyllfa fel sy'n digwydd yn Lloegr o dan y gwasanaeth presgripsiynau electronig, oherwydd nid yw hynny ar gael yng Nghymru.' Mae angen gwneud rhywbeth am hyn yn gyflym, oherwydd mae'n debyg y bydd angen i bobl sydd dros 70 oed hunanynysu.

O ran presgripsiynau dramor, mae gan un arall o'm merched i gyflwr sylfaenol. Ar hyn o bryd mae hi dan gyfyngiadau symud yn Sbaen, ond mae hi'n un o filoedd o bobl eraill. Pa ddarpariaeth sy'n cael ei gwneud i sicrhau y gall y bobl hynny, fel hi, sydd angen presgripsiynau amlroddadwy, gael gafael arnyn nhw?

Ambell gwestiwn arall a ofynnwyd i mi gan etholwyr heddiw: 'Sut mae Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu profion ar gyfer staff y GIG, nid dim ond gweithwyr gofal iechyd â symptomau sy'n ynysu, fel y gallan nhw wybod a allan nhw fynd i weithio â chydwybod glir?' Rhiant oedd hwnnw i ddau weithiwr gofal iechyd sydd â pheswch ac sydd gartref, ond nid ydyn nhw'n gwybod a ydyn nhw mewn gwirionedd yn gallu mynd i'w gwaith a helpu. Cysylltodd cynghorydd lleol â mi heddiw, 'Rwyf wedi cael gwybod o ffynhonnell ddibynadwy nad yw staff y gwasanaethau brys yn cael yr offer diogelu personol cywir i ymdrin â'r feirws.' Unwaith eto, tybed a wnewch chi roi ymateb i'r cynghorydd lleol hwnnw? Diolch.  

17:10

Edrychwch, rwy'n gyndyn o ddarparu atebion nad ydyn nhw o bosib yn gywir ac yn ddibynadwy. Yn ôl yr hyn yr wyf i'n ei ddeall, mae'r cyngor ar gyfer disgyblion sydd â chyflyrau iechyd sylfaenol yn eithaf clir: dylen nhw aros gartref. Gwasanaethau i fenywod beichiog: yn ôl yr hyn yr wyf i'n ei ddeall, y cyngor iddyn nhw yw y dylen nhw hunanynysu, ond pan fo ganddyn nhw apwyntiadau gyda'r gwasanaeth iechyd, dylen nhw eu cadw. Ni ddylen nhw beidio â pharhau â'r gofal y bydden nhw fel arfer yn disgwyl ei gael yn ystod beichiogrwydd. Dylen nhw fynd i'r apwyntiadau hynny, dylen nhw wneud yn siŵr eu bod wedi'u paratoi cystal ar gyfer y digwyddiadau hynny ag y gallan nhw fod, ond y tu hwnt i hynny dylen nhw  ymbellhau'n gymdeithasol i gymaint graddau a phosib.

O ran fferyllfeydd, rwy'n ofni nad oes gennyf i'r atebion i'r naill bwynt na'r llall, ond fe geisiaf gael ateb, yn enwedig ar y mater tramor. Rwy'n credu y caiff y mater ynghylch profi ei amlinellu yn y cylchlythyr y cyfeiriais ato y prynhawn yma. Yr wybodaeth sydd gennyf i yw, er bod rhai anawsterau lleol anorfod wrth ddosbarthu cyfarpar diogelu personol, fod y system yn gweithio, mae yn digwydd, a lle mae yna rai anawsterau, maen nhw'n wirioneddol leol eu natur.

Yn fyr iawn, mae yna newidiadau mawr ym maint y boblogaeth mewn ardaloedd o Gymru, yn cynnwys fy etholaeth i, o un flwyddyn i'r llall, a hynny yn rhannol oherwydd nifer y bobl sy'n aros mewn ail gartrefi ar rai adegau o'r flwyddyn. O ystyried y nifer cyfyngedig o welâu gofal dwys ac adnoddau gofal dwys sydd yna mewn rhannau o Gymru, yn cynnwys Ysbyty Gwynedd, er enghraifft, ac o ystyried y cyfyngiadau sydd yna ar deithio di-angen ar yr adeg hon, pa ganllawiau mae'r Llywodraeth yn bwriadau eu rhoi er mwyn ceisio osgoi sefyllfa lle fydd pobl yn heidio i ddefnyddio eu hail gartrefi? Mae yna bwysau, wrth gwrs, yn mynd i fod ar ein gwasanaeth ni beth bynnag. 

Dwi wedi clywed y pwynt yna o'r blaen, ond mae nifer o bobl sy'n byw yng Nghymru nawr yn symud i aros gyda'u teulu nhw yn Lloegr ar hyn o bryd. So, mae pobl yn symud i mewn i Gymru a thu fas i Gymru hefyd. Dwi ddim wedi clywed dim byd eto oddi wrth y byrddau iechyd sy'n dweud y bydd y broblem yna yn mynd i gael effaith ar y gwasanaethau y maen nhw'n darparu, ond os bydd pethau yn codi, bydd y system tu fewn i Lywodraeth Cymru yn gallu ymateb i'r pwyntiau yna.

Dim ond dau gennyf i. Diolch i chi am gadarnhau y dylai plant sydd â chyflyrau sylfaenol aros gartref os yw hynny'n bosib. Nid wyf i eisiau eich holi chi am ysgolion yn gyffredinol, wrth gwrs, ond i rai ysgolion arbennig dyna'r unig fath o blant sydd ganddyn nhw, felly a oes unrhyw gyngor penodol i ysgolion arbennig lle mai dim ond plant ag anableddau dysgu neu gyflyrau sylfaenol sy'n mynychu?

Ac yna yn ail, a oes unrhyw wybodaeth ar gael ar hyn o bryd a fydd yn ein helpu i ailasesu'r posibiliadau o gael eich ail-heintio â COVID-19? Beth sy'n digwydd yn yr amgylchiadau hynny lle mae rhywun wedi hunanynysu, heb gael ei brofi, yn teimlo'n ddigon da i fynd yn ôl i'r gwaith, ond wedyn nad yw eto wedi cael ei brofi ? Gan nad ydym yn gwybod a yw hyn—. Wel, bydd y ddau gynnydd yna y gwnaethoch chi gyfeirio atyn nhw yn y cwestiynau yn gynharach heddiw. Beth ydym ni'n ei wneud os nad ydym ni'n profi'r boblogaeth i sicrhau nad yw ail-heintio yn bryder gwirioneddol?

Diolch, Suzy Davies, am y ddau bwynt yna. Bûm i'n trafod ysgolion arbennig hefyd yn gynharach y bore yma. Pan fo disgyblion mewn ysgolion arbennig, ac yn sicr bydd mwy o fyfyrwyr yno sydd â chyflyrau iechyd sylfaenol, ni ddylai'r myfyrwyr hynny fod yn yr ysgol. Ond mae yna lawer o ddisgyblion eraill sy'n mynychu ysgolion arbennig sydd heb y cyflyrau hynny, ac mae'n bwysig iawn bod y teuluoedd hynny'n parhau i gael y cymorth y mae ysgolion arbennig yn ei roi iddyn nhw. Felly, ein hymagwedd gyffredinol yw bod yn rhaid i'r penderfyniad gael ei wneud ar sail y plentyn ac nid y lleoliad. Yn sicr, nid oes gennym ni gyngor o unrhyw natur gyffredinol i ysgolion arbennig yng Nghymru y dylen nhw fod yn cau oherwydd y coronafeirws.

O ran ail-heintio, rydym ni'n dysgu am hyn o bob cwr o'r byd, o ran cyfraddau ail-heintio a pha mor agored yw pobl sydd wedi cael yr haint unwaith i'w gael eto. Sut beth fydd y feirws hwn? Nid yw'n feirws yr ydym ni'n gwybod amdano. A fydd yn ymddwyn fel mathau eraill o feirysau yr ydym ni'n datblygu imiwnedd iddyn nhw, neu a fydd yn ymddwyn mewn unrhyw wahanol ffyrdd? Felly, mae'n bwynt pwysig y mae Suzy Davies yn ei wneud ac, ar hyn o bryd, yn ôl yr hyn yr wyf i'n ei ddeall, rydym ni'n elwa ar wybodaeth a chyngor yr ydym ni yn eu cael o rannau eraill o'r byd sydd â mwy o brofiad o ymdrin â'r coronafeirws na ni, ac yna'n paratoi ar gyfer yr hyn y gallem ni ei wynebu yn y fan yma, ac nid oes unrhyw sicrwydd, yn fy marn i, Dirprwy Lywydd, y caiff y profiad mewn un rhan o'r byd eu hailadrodd yr un fath mewn mannau eraill.

17:15
5. Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Coronafeirws (COVID-19)

Mae eitem 5 ar yr agenda y prynhawn yma yn ddatganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar COVID-19, a galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol—Julie James.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Gyda thristwch mawr rydym yn clywed am y marwolaethau cyntaf a gadarnhawyd yng Nghymru o COVID-19. Fe hoffwn innau hefyd gydymdeimlo'n ddiffuant â theuluoedd a chyfeillion y rhai a fu farw, ac â phawb yr effeithiwyd ar eu bywydau mor ddifrifol ac mor drasig gan yr argyfwng parhaus hwn sy'n newid yn gyflym.

Fel yr ydych chi wedi clywed, mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau pellgyrhaeddol, trawslywodraethol i frwydro yn erbyn COVID-19 a'i effeithiau ehangach. Rydym ni'n gweithio'n agos gyda gweinyddiaethau eraill ledled y DU a sefydliadau partner yng Nghymru, gan gynnwys ein holl awdurdodau lleol.

Mae'r Prif Weinidog, sy'n siarad ar ran y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, eisoes wedi nodi, yn gynharach, yr hyn y mae eu hadrannau nhw yn ei wneud. Yn ogystal â'r camau gweithredu hynny, rydym ni wedi defnyddio mesurau newydd i lacio oriau dosbarthu archfarchnadoedd er mwyn helpu i gynnal y cyflenwad bwyd a nwyddau eraill, gan gynnwys y nwyddau hynny y mae galw mawr amdanyn nhw ar hyn o bryd.

Mae Canolfan Cydgysylltu Argyfyngau (Cymru) ar waith er mwyn ein helpu i ymateb mewn modd cydgysylltiedig ac effeithiol, gan weithio'n agos gyda'n cymheiriaid yn Llywodraeth y DU, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae gennym ni drefniadau sefydledig—sydd wedi eu profi a'u hymarfer dros lawer o flynyddoedd—ac mae'r rhain bellach ar waith.

Mae Cabinet Llywodraeth Cymru hefyd erbyn hyn yn cyfarfod o leiaf unwaith yr wythnos i drafod COVID-19 a'n hymateb iddo, a bydd y Prif Weinidog a/neu'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol—ac rwy'n dychmygu, nawr, ag yntau'n hunanynysu, Gweinidogion eraill—yn parhau i fynychu cyfarfodydd COBRA fel bod gennym ni yr wybodaeth ddiweddaraf bob amser.

Mae gan ein hawdurdodau lleol swyddogaeth allweddol o ran cadw gwasanaethau allweddol yn gweithredu, ac rydym ni'n gweithio'n agos gyda nhw a'n pedwar fforwm cydnerthedd lleol i sicrhau bod ganddyn nhw y cymorth sydd ei angen arnyn nhw. Y bore yma, cynhaliais gynhadledd i'r wasg ar y cyd ag arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y Cynghorydd Andrew Morgan, lle y gwnaethom ni amlinellu'r hyn yr ydym ni'n ei wneud ar y cyd.

Yn amlwg, bydd COVID-19 yn effeithio ar wasanaethau cyhoeddus. Bydd llai o bobl ar gael am gyfnod amhenodol i ddarparu gwasanaethau na fydd braidd byth wedi bod mwy o alw amdanyn nhw, os o gwbl, ac mae hyn yn amlwg yn her fawr. Fodd bynnag, rydym ni wedi bod yn gweithio gyda'n cydweithwyr mewn llywodraeth leol i gynllunio a pharatoi ar gyfer COVID-19, a bydd y Llywodraeth hon yn sicrhau bod gan ein hawdurdodau lleol yr adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw i barhau i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus y mae eu hangen yn fawr dros yr wythnosau a'r misoedd sydd i ddod o'r argyfwng hwn. Yn ogystal â hynny, cyn hir byddwn ni'n gallu defnyddio pwerau ychwanegol cyfyngedig o ran amser, i'w darparu drwy Fil pedair gwlad. Bydd y pwerau hyn yn ein helpu i ymateb yn fwy effeithiol i COVID-19.

Yn y gynhadledd i'r wasg gyda'r Cynghorydd Morgan y bore yma—ac rwyf eisiau ailadrodd hyn yn y fan yma y prynhawn yma yn y Siambr, Dirprwy Lywydd—diolchais i swyddogion llywodraeth leol am eu cyfraniad sylweddol, am ddarparu'r gwasanaethau beunyddiol y mae pobl Cymru mor ddibynol arnyn nhw, ond hefyd am eu hymateb anhygoel i'r llifogydd diweddar mewn rhannau o Gymru. Ac wrth gwrs, nid yw'r gwaith sy'n mynd rhagddo ar draws llywodraeth leol i fynd i'r afael â chanlyniadau'r llifogydd wedi'i gwblhau eto, ac erbyn hyn mae gwaith pwysig arall wedi dechrau ar COVID-19 hefyd.

Mae yna, wrth gwrs, rai grwpiau penodol y mae'r feirws hwn yn gyfrwng peryglon a heriau penodol iddynt. Rwy'n canolbwyntio'n fawr ar ddod o hyd i ffyrdd ymarferol o gefnogi'r grwpiau hyn a'r rhai sy'n gweithio gyda nhw. Yn benodol, mae angen ein cefnogaeth yn fwy nag erioed ar y rheini sy'n ddigartref, yn enwedig ar ben mwyaf difrifol y sbectrwm digartrefedd—y rhai sy'n cysgu ar y stryd. Mae fy swyddogion yn gweithio gyda'r sector i gyflwyno cynigion i gefnogi'r gwaith hanfodol sydd eisoes yn digwydd yn y sector hwn ac i ymestyn y posibiliadau sydd ar gael i helpu pobl oddi ar y stryd, rhoi'r gallu iddyn nhw ddefnyddio gwasanaethau glanweithdra a chymorth, a galluogi ynysu pan fo hynny'n angenrheidiol. Bydd hyn yn cynnwys sicrhau bod gan awdurdodau lleol y gallu i gael yr arian sydd ei angen i hwyluso hyn. Rwyf hefyd yn ymwybodol o'r angen i gefnogi ac amddiffyn y rhai hynny sy'n gweithio i'r grŵp agored i niwed hwn, ac i sicrhau ein bod yn gweithio'n effeithiol gyda'n partneriaid trydydd sector i gynnal darpariaeth gwasanaethau craidd drwy weithio ar y cyd. Byddaf yn rhoi rhagor o fanylion am hyn yn ddiweddarach yr wythnos hon.

Mae gwaith yn mynd rhagddo hefyd gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'r trydydd sector i sicrhau y caiff gwirfoddolwyr eu defnyddio yn strategol. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n ddiflino gydag eraill i arafu lledaeniad COVID-19 yng Nghymru ac i amddiffyn ein pobl fwyaf agored i niwed. Mae'n bwysig cydnabod bod gan bob un ohonom ni, pob unigolyn yng Nghymru, ran i'w chwarae wrth helpu i gyflawni hyn. Mae cyngor ar beth i'w wneud a pheidio â'i wneud wedi'i gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Caiff y cyngor hwn ei adolygu'n gyson a'i ddiweddaru yn ôl yr angen.

Mae'n gwbl amlwg y bydd yr argyfwng COVID-19 gyda ni am wythnosau lawer, os nad misoedd, a bydd yn effeithio'n ddifrifol ac yn hirdymor mewn amryfal ffyrdd ar unigolion, ar deuluoedd, ar yr economi a thu hwnt. Byddwn yn parhau i drafod â llywodraeth leol a phob plaid yng Nghymru i gynllunio a gweithredu mesurau a fydd yn sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus yn gweithredu'n effeithiol ar yr adeg hollbwysig hon. Diolch.  

17:20

Diolch yn fawr iawn am eich datganiad. Yn dilyn eich cynhadledd i'r wasg gydag arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru y bore yma, adroddwyd y dywedodd yntau y gellid cwtogi ar gasgliadau biniau a gwasanaethau eraill y cyngor yn ystod yr argyfwng ac fe'ch dyfynnwyd yn dweud na fyddai cwtogi yn syth ond bod yn hynny dan ystyriaeth ar gyfer yr wythnosau a'r misoedd sydd i ddod. Tybed a allech chi ymhelaethu ychydig ar hynny a rhoi rhyw awgrym o amserlen inni, er gwaethaf y ffaith nad oes gan yr un ohonom ni belen grisial i wybod beth fydd yn digwydd yn y dyfodol, a sut y byddwch chi'n ystyried, o bosib, er enghraifft, unrhyw risgiau iechyd a allai fod yn berthnasol i sbwriel heb ei gasglu a allai fod wedi dod o aelwyd sydd ag aelodau wedi'u heintio yn byw ynddo.

Fel llawer o bobl, mae pobl anhygoel wedi dod ataf yn gwirfoddoli i helpu. Mae gen i un achos y fan yma o wraig 63 oed yn Nhreffynnon. Hoffai hi gynnig ei chefnogaeth mewn unrhyw fodd sydd ei angen. Os yw'r rhai dros 70 oed yn mynd i gael eu hynysu, mae hi eisiau gwneud beth bynnag y gall i helpu yn y rheng flaen—glanhau lloriau mewn ysbytai, neu beth bynnag. Mae hi'n cynnig ei gwasanaethau, ac rydym ni'n gwybod, bob un ohonom ni, bod byddin o bobl anhygoel allan yn y fan yna yn cynnig cymorth tebyg. Rwy'n gwybod bod Swyddfa Cymru ddoe wedi dweud eu bod yn darparu mwy o wybodaeth yn ganolog am wirfoddoli erbyn heddiw fel y gallan nhw gyfeirio darpar wirfoddolwyr at y mannau lle mae eu hangen. A ydych chi'n gweithio gyda Llywodraeth y DU ar hynny ac, os ydych chi ai peidio, pa mor ddatblygedig yw'r sefyllfa nawr gydag awdurdodau lleol a'u partneriaid o ran galluogi gwirfoddolwyr lleol i gyfrannu trwy gynlluniau dilys sydd wedi'u gwirio'n gywir?  

Yn eich ymateb i'r materion a godwyd gydag awdurdodau lleol yn eich uwchgynhadledd gyda llywodraeth leol ar y deuddegfed o'r mis—ni af drwy'r holl faterion, oherwydd fel y gwyddoch chi, mae llawer ohonyn nhw, ond mae ambell un ohonyn nhw—o ran yr angen i hysbysu cyfarwyddwyr iechyd cyhoeddus ac arweinwyr awdurdodau lleol am unrhyw achosion, fe wnaethoch chi ddweud  eich bod yn cydgysylltu ag Iechyd Cyhoeddus Cymru ynghylch y mater hwn. Tybed a allwch chi roi unrhyw ddiweddariadau ar hynny. O ran cyflwyno trefniadau staff hyblyg, fe wnaethoch chi gyfeirio at gydberthnasau sefydledig drwy Gyngor Partneriaeth y Gweithlu ac yn rhan o'r cyngor partneriaeth cymdeithasol cysgodol newydd. Bydd hyn yn galluogi partneriaid cymdeithasol o bob rhan o Lywodraeth Cymru, cyrff cyhoeddus ac undebau llafur i ddatblygu trafodaethau cyflym ac effeithiol ar faterion gweithlu strategol sy'n gysylltiedig â COVID-19. Ond fe wnaethoch chi ddweud hefyd, yng ngoleuni'r amgylchiadau presennol, eich bod yn gweithredu rhwydwaith rhithwir, gan ategu strwythurau partneriaeth cymdeithasol allweddol ar draws gwasanaethau cyhoeddus ehangach. Felly, y cwestiwn yw: ble ydych chi wedi cyrraedd o ran ysgogi'r rhwydwaith rhithwir hwnnw? A yw hynny ar waith, neu pryd y gallwn ni ragweld y bydd hynny'n digwydd?

O ran y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, i sicrhau bod ymgeiswyr, p'un a ydyn nhw yn gyflogedig neu'n wirfoddolwyr, yn briodol ar gyfer plant ac oedolion sy'n agored i niwed yn arbennig, fe wnaethoch chi ddweud eich bod ar hyn o bryd yn ystyried beth y gellir ei wneud i sicrhau dull cyson o fynd ati heb beryglu diogelwch pobl, er mwyn sicrhau ein bod yn cael staff wedi'u clirio ac a fydd yna lacio dros dro ai peidio. Unwaith eto, tybed a wnewch chi gadarnhau a oes unrhyw ddatblygiadau wedi bod yn y pum niwrnod ers hynny i hwyluso ateb yn y maes hwnnw.

Un neu ddau arall o'ch papur: roedd pryderon ynghylch cydnerthedd timau iechyd yr amgylchedd i reoli disgwyliadau bob awr o'r dydd a'r nos. A oedd Llywodraeth Cymru yn ystyried cymryd yr un pwerau â Gweinidogion yn Lloegr i gyfyngu ar symudiadau unigol, yn hytrach na dibynnu ar Orchmynion Rhan 2A? Rydych chi'n dweud bod Gorchmynion Rhan 2A ond yn berthnasol yn Lloegr, ond mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n gyflym i gyflwyno rheoliadau cyfatebol yng Nghymru. Unwaith eto, tybed a wnewch chi ddweud wrthym ni lle'r ydych chi arni gyda hynny. Efallai fy mod wedi colli rhywbeth a'ch bod eisoes wedi cyhoeddi'r rheoliadau hyn—os nad ydych chi, beth yw'r sefyllfa?

Fe wnaethoch chi ddweud, o ran cofrestru marwolaethau, fod pryderon ynglŷn â'r pwysau cynyddol ar wasanaethau cofrestryddion. A oes unrhyw fesurau arbennig ar y gweill i ymdopi â'r cynnydd disgwyliedig yn nifer y marwolaethau? Rwy'n gwybod, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar angladdau a phrofedigaeth, fod trefnwyr angladdau yn gweithio'n agos gyda Llywodraethau a chyrff eraill ar gynllunio brys.

Fe wnaethoch chi ddweud bod cyfarfod o'r grŵp cynllunio ar gyfer marwolaethau torfol yng Nghymru wedi'i amserlennu ar gyfer yr wythnos hon, lle y bydd fforymau cydnerthedd lleol ac arweinwyr grwpiau marwolaethau torfol yn trafod y goblygiadau ar bob agwedd ar y broses rheoli marwolaeth, gan gynnwys cofrestru marwolaethau. Tybed a wnewch chi ddweud wrthym ni a yw'r cyfarfod hwnnw wedi ei gynnal, neu, os nad ydyw, a fydd yn digwydd o hyd? Pa drefniadau, heb fynd i ormod o fanylder, sy'n cael eu rhoi ar waith?

Fy nghwestiwn olaf un: canllawiau ar ymdrin ag unrhyw faterion neu achosion mewn porthladdoedd megis Caergybi a Phenfro, yr holodd yr awdurdodau lleol yn eu cylch. Fe wnaethoch chi ddweud eich bod yn gofyn i Lywodraeth y DU a Llu'r Ffiniau egluro a fyddan nhw'n datblygu canllawiau mwy cynhwysfawr ar gyfer y sector morol ledled y DU, fel y nodwyd eisoes ganddyn nhw. Felly, fy nghwestiwn olaf yw, ac, unwaith eto, mae ychydig o ddyddiau wedi mynd heibio, felly, yn ôl pob tebyg, rydych chi wedi gofyn iddyn nhw erbyn hyn: pa ymateb a gawsoch chi? Diolch.

17:25

Diolch i chi am y gyfres honno o gwestiynau. Byddaf yn gwneud fy ngorau i ateb pob un ohonyn nhw. O ran casgliadau gwastraff, er enghraifft, a roddwyd fel enghraifft gan y Cynghorydd Andrew Morgan i gwestiwn gan newyddiadurwr a oedd yn bresennol yn y cyfarfod briffio i'r wasg y bore yma, pan ddywedodd y gallai rhai gwasanaethau gael eu cwtogi, yn dibynnu ar brinder staff a materion eraill sy'n codi yn yr wythnosau a'r misoedd i ddod. Yr hyn yr oedd yn ceisio'i ddangos oedd, wrth i'r feirws effeithio'n fwy ar bobl ac wrth i fwy o bobl fod yn absennol o'r gwaith, efallai y bydd angen symud pobl o gwmpas yn yr awdurdod lleol i gynnal gwasanaethau hanfodol. Felly, fe'i rhoddwyd yn enghraifft yn unig.

Ond, yr enghraifft a roddodd o safbwynt RhCT yn unig—rwyf i yn pwysleisio hynny; enghraifft yn unig yw hi—oedd y gallen nhw newid i gasgliadau misol ar gyfer peth gwastraff. Roedd yn gyflym iawn, fodd bynnag, i bwysleisio y bydden nhw'n casglu gwastraff bwyd a gwastraff cewynnau, er enghraifft, yn ôl yr arfer—yn wythnosol—er mwyn gwrthbwyso'r risgiau i iechyd.

Mae hynny, Dirprwy Lywydd, yn amser perffaith i mi ddweud wrth bobl bod cyngor ar gael ar wefannau amryw o awdurdodau lleol, a byddaf yn darllen rhai ohonyn nhw i chi. Felly, er enghraifft, o safbwynt iechyd, mae Cyngor Abertawe yn pwysleisio y gellir storio gwastraff personol, fel hancesi papur sydd wedi eu defnyddio a chadachau glanhau un tro, yn ddiogel mewn bagiau sbwriel un tro. Dylid rhoi'r bagiau mewn bag arall, wedi ei glymu'n ddiogel a'i gadw ar wahân i wastraff arall, a dylid neilltuo hwn am 72 awr cyn ei roi yn y gwastraff bag DU arferol er mwyn gwneud yn siŵr bod y feirws wedi marw.

Felly, rwy'n ailadrodd—mai dim ond un o'r enghreifftiau o arfer iechyd da o ran casglu gwastraff yw hynny, ac mae hynny, yn amlwg, i ddiogelu iechyd y gweithwyr sy'n gweithio ym mhen arall y cylch casglu gwastraff a gwaredu gwastraff. Felly, dim ond un enghraifft dda yw honno o bethau y gallai fod angen eu pwysleisio, a phethau eraill y gallai fod angen eu newid. Ni allaf bwysleisio digon nad ydym yn dweud bod hynny'n digwydd nawr. Mae'n enghraifft o un o'r pethau a fyddai'n cael ei ystyried yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf.

O ran gwirfoddolwyr, mae'r Prif Weinidog eisoes wedi crybwyll ein bod yn cyfarfod yfory â phartneriaid CGGC ac eraill—cyfres gyfan o sefydliadau trydydd sector a sefydliadau ar draws sectorau—i drafod yr holl fater yn ymwneud â chynnwys y trydydd sector a chydlynu gwirfoddolwyr. Rydym ni hefyd wedi cael cyfarfodydd defnyddiol â CLlLC ynghylch cydlynu gwirfoddolwyr ar gyfer pob ardal awdurdod lleol, ac rydym ni wedi bod yn dweud heddiw bod pobl sy'n dymuno dychwelyd i'r gweithlu gyda chymwysterau perthnasol, neu, yn wir, pobl sydd â chymhwyster cyfwerth, fel y gwestywyr y gwnaethom ni sôn amdanyn nhw yn gynharach, er enghraifft, gysylltu â'u hawdurdodau lleol unigol, a fydd yn gwybod ym mhle y mae'r angen mwyaf am eu sgiliau.

Ni fydd angen pawb ar unwaith—dyna'r peth arall. Mae pobl yn awyddus iawn i gynnig eu gwasanaeth nawr, ond yr hyn yr ydym ni'n dymuno ei wneud yw sicrhau bod gennym ni gyflenwad cyson o wirfoddolwyr, wrth symud ymlaen, drwy'r hyn a allai fod yn fisoedd lawer i ddod. Felly, rwy'n annog pobl i sicrhau—. Nid dim ond am y deuddydd nesaf—mae hwn yn rhywbeth a fydd yn parhau ac y bydd angen i ni ei gydlynu. Bydd angen i ni wneud yn siŵr nad yw staff yn blino'n llwyr ac nad yw gwirfoddolwyr yn blino'n llwyr, a'n bod ni'n gallu cylchdroi pobl o ran yr hyn y bydd angen ei wneud. Felly, mae llawer o gynllunio o ran y ffordd orau o gydlynu hynny a'r lle gorau i ddefnyddio pobl, a sut i fwrw ymlaen â hynny, ond, fel yr wyf wedi ei ddweud, mae cyfarfod yfory, ac rydym wedi cael sawl sgwrs â CLlLC ynghylch cydlynu hynny yn barod.

O ran yr achosion gwybyddus, rwy'n credu, mewn gwirionedd, ein bod ni'n mynd heibio'r cam hwnnw erbyn hyn. Roedd y sgwrs honno ddydd Iau diwethaf, ac mae hon yn sefyllfa mor gyfnewidiol, ar yr adeg honno roeddem ni'n dal i adrodd am bob achos. Rwy'n credu ein bod ni'n cefnu ar hynny yn gyflym iawn, ond byddaf yn parhau i wneud yn siŵr bod arweinwyr awdurdodau lleol yn gwybod lle mae materion eithafol yn digwydd yn eu hardal benodol nhw, ac rydym ni wedi gwneud yn siŵr bod y cyswllt yno ag Iechyd Cyhoeddus Cymru.

O ran y gweithlu, mae cyfarfodydd cyngor partneriaeth y gweithlu yn cael eu cynnal yr wythnos nesaf. Fy Nirprwy Weinidog, Hannah Blythyn, sy'n cadeirio'r cyfarfodydd. Byddan nhw'n gyfarfodydd rhithwir yn bennaf. Byddwn yn sicrhau y gall pobl ymuno yn yr un ffordd ag a wnaethom ni ar gyfer y cyfarfod gydag arweinwyr llywodraeth leol ddydd Iau diwethaf, er enghraifft. Bydd rhai pobl yn bresennol, ond bydd y rhan fwyaf ohono yn rhithwir, a'i bwrpas fydd trafod sut y byddwn yn mynd â'r rhwydwaith hwnnw yn ei flaen yn y dyfodol.

O ran rheoleiddio gwirfoddolwyr a gweithio fel y bo'n briodol, mae gan y Bil brys gyfres o ddarpariaethau arfaethedig ynddo ynghylch cofrestru'n gyflymach a llacio rhai o'r rheolau. Un o'r enghreifftiau rwyf i wedi ei gweld yn cael ei defnyddio yw, pan nad yw rhywun yn gofrestredig eto, nad yw wedi cael gwiriadau'r gwasanaeth datgelu a gwahardd eto a fyddai'n angenrheidiol, efallai y bydden nhw'n cael gweithio gyda gwirfoddolwr sydd wedi ei wirio i sicrhau ei fod yn cael ei oruchwylio ond pan fyddai pâr arall o ddwylo yn ddefnyddiol. Gallai'r math hwnnw o drefniant goruchwylio, na fyddai'n dderbyniol fel arfer, fod yn dderbyniol yn yr amgylchiadau difrifol iawn hyn. Felly, mae hynny, unwaith eto, yn un enghraifft o hynny.

O ran timau iechyd yr amgylchedd ac, mewn gwirionedd, amrywiaeth o dimau eraill mewn awdurdod lleol, rydym yn cynnal trafodaethau parhaus gyda CLlLC ac amrywiaeth o awdurdodau lleol ynghylch sut i fynd i'r afael â rhai o'r materion hynny. Mae arnaf i ofn nad wyf yn gwybod a yw'r cyfarfod wedi ei gynnal, Mark, felly byddaf yn gwneud yn siŵr y cewch chi'r wybodaeth honno cyn gynted â phosib.

17:30

Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Mae gen i nifer o gwestiynau yr hoffwn i eu gofyn i helpu i dawelu meddyliau pobl. Nawr, tynnwyd sylw at y ffaith y gall sefyllfaoedd argyfyngus ddatgelu'r gorau mewn dynoliaeth, ac un o'r pethau mwyaf ysbrydoledig yr ydym ni i gyd wedi eu gweld ledled Cymru yw'r ymdrechion gwych gan y gymuned i helpu pobl sy'n gorfod hunanynysu. A gaf i ofyn i chi a allwch chi gyhoeddi cymorth ariannol i wasanaethau gwirfoddol lleol neu i'r grwpiau cymunedol hyn i brynu offer, offer ymarferol, ond hefyd offer neu gymorth i helpu i fynd i'r afael ag unigrwydd ymhlith y bobl sy'n hunanynysu, a hefyd a fydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi cynlluniau i ddarparu talebau i grwpiau fynd allan i brynu bwyd a chyflenwadau hanfodol i'r bobl sy'n hunanynysu?

Soniodd y Prif Weinidog yn gynharach y bydd profion ar gael i staff clinigol rheng flaen. Wrth gwrs, mae gweithwyr gofal cymdeithasol ar y rheng flaen, ac yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf, byddant yn cyflawni swyddogaeth hanfodol bwysig. Mae'n rhaid bod rhwymedigaeth ar Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i gyfrif staff gofal cymdeithasol yn weithwyr rheng flaen allweddol yn hyn o beth. Felly, a gaf i ofyn a fydd blaenoriaeth iddyn nhw ar gyfer profion, yn ogystal â pha adnoddau ychwanegol a fydd ar gael iddyn nhw? Byddai hynny, yn amlwg, yn cyfrif o ran gweithwyr gofal sy'n mynd i gartrefi pobl, ond hefyd pobl yn y sector gofal preswyl, hefyd; a gaiff eu cynnal gan yr awdurdodau lleol mewn llawer o'r achosion.

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU fod gan y GIG, i bob pwrpas, siec wag i fynd i'r afael â'r argyfwng hwn. A fyddech yn cytuno â mi, Gweinidog, bod angen siec wag ar y gwasanaeth gofal cymdeithasol hefyd er mwyn parhau i ofalu am bobl? O ran cyllid llywodraeth leol, fe wnaethoch chi sôn yn eich datganiad y bydd llai o weithwyr a fydd yn gorfod ymdopi â chynnydd yn y llwyth gwaith. Felly, a wnewch chi amlinellu unrhyw lacio ar reolaethau ariannol llywodraeth leol y gallem ni eu disgwyl, gan nad ydym ni eisiau i lywodraeth leol orfod canslo neu beidio â darparu gwasanaethau hanfodol yn yr amser pryderus iawn hwn oherwydd rhesymau ariannol?

Ac yna, fe wnaethoch chi sôn yn eich datganiad am nifer o ddarpariaethau sy'n ymwneud â digartrefedd, ac mae gen i rai cwestiynau yn ymwneud â thai, os caf i. Bydd yr wythnosau nesaf yn anodd i bawb y mae angen iddyn nhw hunanynysu, ond rwy'n siŵr na allwn ni ddychmygu pa mor anodd y bydd hynny i bobl nad ydyn nhw'n teimlo'n ddiogel yn eu cartref eu hunain. Rydym ni wedi sôn am lifogydd ychydig o wythnosau yn ôl. Cafodd cartrefi llawer o fy etholwyr i, ac etholwyr pobl eraill, eu dinistrio gan ddŵr brwnt. A fydd y Llywodraeth yn prysuro i wneud gwaith atgyweirio brys yn gynt er mwyn helpu i wneud y cartrefi hyn yn bosibl i fyw ynddyn nhw eto, yn enwedig gan y bydd yn rhaid i bobl dreulio llawer mwy o amser gartref? Yn amlwg, mae'r argyfwng presennol o ran y feirws yn flaenllaw ar feddyliau pobl, ond ni ellir anghofio'r bobl y mae'r llifogydd wedi effeithio arnyn nhw chwaith—nid wyf yn awgrymu am eiliad y byddir yn gwneud hynny. 

O ran tai yn fwy cyffredinol, a gaf i ofyn a fydd Llywodraeth Cymru yn ei gwneud hi'n orfodol i gynghorau roi rhyddhad treth gyngor a rhent i unrhyw un sy'n hunanynysu ac sy'n methu â mynd i'r gwaith? Hefyd, er mwyn helpu unrhyw un sy'n wynebu braw y feirws hwn ar ben braw digartrefedd posib, a fyddwch chi'n cyflwyno deddfwriaeth i atal y defnydd o adran 21 o Ddeddf Tai 1996, fel na all pobl wynebu cael eu troi allan yn ystod y cyfnod hwn oherwydd eu bod yn cael eu heintio gan y feirws hwn? Byddwn i'n gofyn am unrhyw wybodaeth arall y byddech yn ei darparu, ond rwy'n clywed ac yn croesawu'r hyn y gwnaethoch ei ddweud am y cymorth sy'n cael ei ddarparu i bobl sy'n ddigartref eisoes a hefyd y gweithwyr yn y trydydd sector sy'n helpu pobl ddigartref. Os daw unrhyw wybodaeth arall i'r fei yn yr wythnosau nesaf, neu'r dyddiau nesaf hyd yn oed, byddwn yn ddiolchgar o gael ei gweld.

Nawr, wrth edrych ar grŵp arall a allai wynebu tlodi dybryd o ganlyniad i'r feirws, rydym ni wedi bod yn siarad yn y Siambr eisoes am yr ansicrwydd ynghylch os a phryd y bydd ysgolion yn cau. A allwch chi ddweud wrthym ni pa ddarpariaeth yn union a fydd ar gael i blant, os bydd ysgolion yn cau, a fyddai fel arall wedi bod yn ddibynnol ar brydau ysgol am ddim? Mae'n ymddangos i mi fod hynny'n rhywbeth y gallai awdurdodau lleol fod yn helpu ag ef, i'w gydlynu, ac mae'n rhywbeth rwy'n gwybod bod llawer o rieni ac athrawon wedi ysgrifennu ataf i yn ei gylch, gan fynegi pryder gwirioneddol am hynny.

Unwaith eto, rwy'n gwybod y bydd yr wythnosau nesaf yn peri pryder i bawb yn y gymdeithas, ond efallai mai rhai o'r bobl sydd mewn mwyaf o berygl ac nad ydym yn meddwl amdanyn nhw ar unwaith yw pobl sy'n dioddef cam-drin domestig, pa un a ydyn nhw'n byw mewn llochesau neu yn byw gyda'r un sy'n eu cam-drin mewn perthynas gymhellol a rheolaethol, a'u bod yn mynd i wynebu hunanynysu gyda'r un sy'n eu cam-drin a gallai'r cam-drin waethygu. Rwy'n sylweddoli nad yw hyn yn rhywbeth sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'ch swyddogaeth chi, ond a oes unrhyw beth y gallai awdurdodau lleol fod yn ei wneud o ran llinell gymorth neu ryw fath o ddarpariaeth ychwanegol, mewn modd ategol i'r hyn yr oeddwn i'n holi yn ei gylch o ran cefnogaeth neu sicrwydd i bobl sy'n teimlo unigrwydd? A allai rhywbeth mwy penodol fod ar gael i bobl sy'n dioddef cam-drin domestig?

Yn olaf, Gweinidog, mae nifer o isetholiadau i fod i gael eu cynnal yn ystod yr wythnosau nesaf. Rwy'n gwybod bod un yng Ngorllewin Abertawe, ac roedd un i fod i'w gynnal yng Nghaerffili. A wnewch chi gadarnhau, os gwelwch yn dda, y caiff yr isetholiadau hyn yn bendant eu gohirio nes bod y gwaethaf o'r argyfwng hwn wedi mynd heibio?

17:35

Diolch i chi am y gyfres honno o gwestiynau pwysig. O ran yr is-etholiadau, rydym ni eisoes wedi cysylltu ag awdurdodau lleol sydd ag is-etholiadau ar fin digwydd i ddweud y bydd y Bil brys yn cynnwys darpariaethau i'w gohirio, ac y dylai awdurdodau wneud y peth iawn a'u gohirio ymlaen llaw. Felly, o ran yr un yn Abertawe, rwy'n credu bod y swyddog cofrestru etholiadol eisoes wedi ysgrifennu i ddweud eu bod yn atal yr holl waith ar yr etholiadau.

Mae ychydig yn fwy cymhleth ar gyfer etholiadau a oedd yn cael eu cynnal yn y dyfodol agos. Felly, rwy'n credu bod un wedi ei drefnu ddydd Iau yng Nghaerdydd, felly rydym yn trafod gyda Chyngor Caerdydd ynghylch y peth gorau i'w wneud yn y fan yna, ac, yn amlwg, ni fydd y Bil mewn grym erbyn hynny, ond, serch hynny, rydym yn gofyn i bobl wneud y peth iawn o ran yr is-etholiadau. Mae hynny'n eithaf syml.

Mae'r holl fater sy'n ymwneud â phrydau ysgol am ddim a'r broblem o ran beth arall y mae plant yn ei gael mewn ysgolion ar wahân i addysg yn fater anodd iawn, ac un o'r rhesymau pam yr ydym yn annog ysgolion i aros ar agor, o leiaf tan wyliau'r Pasg. Yr hyn sydd ei angen arnom yw cynllun y mis, felly y pythefnos o'r tymor ysgol sy'n weddill a'r pythefnos o wyliau'r Pasg, i roi'r cynlluniau ar waith i sicrhau bod plant sy'n cael prydau ysgol am ddim yn parhau i allu eu derbyn drwy ba drefniadau bynnag y gallwn eu rhoi ar waith. Byddwn yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol ac, yn amlwg, cydweithwyr ym maes addysg i roi'r darpariaethau hynny ar waith, ac mae hynny'n berthnasol i lawer iawn o ddisgyblion. Mae gan rai ysgolion yn fy etholaeth i nifer sylweddol iawn o ddisgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim a fyddai, yn amlwg, dan anfantais fawr.

Ond mae yna grwpiau eraill o blant. Mae yna grwpiau o blant sydd yng ngofal eu rhieni, ond dim ond oherwydd eu bod yn cael eu goruchwylio yn yr ysgol. Felly, bydd yn rhaid i ni sicrhau bod trefniadau diogelu ar gyfer y plant hynny. Mae nifer o rai eraill. Mae yna restr hir, hir o bethau y mae angen i ni eu gwneud y mae ysgolion yn eu gwneud fel arfer y bydd angen i ni eu rhoi ar waith. Er fy mod i'n derbyn popeth y mae'r Aelodau wedi ei ddweud o bob rhan o'r Siambr, Dirprwy Lywydd, ynghylch yr anawsterau o ran ysgolion ac yn y blaen—mae'r Gweinidog addysg wedi bod mewn cyfarfod ar ôl cyfarfod ag amryw o bobl yn ei gylch, ac rwy'n gwybod y bydd yn ateb cwestiynau ac yn cyfarfod â'r pwyllgor yfory—yn amlwg, mae nifer o bethau y mae angen i ni eu rhoi ar waith yn gyflym er mwyn sicrhau y gallwn ni gwmpasu cynifer o'r pethau hynny ag y bo modd a bod gan bob ardal awdurdod lleol nifer o ganolfannau a all gamu i'r adwy yn hynny o beth. Felly, mae gennym ni lawer o waith i'w wneud i gyrraedd y sefyllfa honno. Rydym yn dal ar y cam o geisio prynu rhywfaint o amser, os mynnwch chi, i sicrhau bod y trefniadau hynny ar waith mewn modd cydlynol a rheoledig, a bod yr wybodaeth briodol ar gael i bobl, yn hytrach na'i fod dim ond ar gael yn ôl y galw, sef y perygl fel arall.

I ddioddefwyr cam-drin domestig, yn sicr, rydym ni mewn gwirionedd eisoes wedi bod yn ystyried nid yn unig ar gyfer dioddefwyr cam-drin domestig presennol, ac nid wyf yn golygu hyn mewn unrhyw ffordd ystrydebol, ond gall cael eich cyfyngu mewn lleoliad agos gyda'ch anwyliaid fod yn straen mawr, hyd yn oed i bobl sydd mewn perthynas hollol resymol. Felly bydd angen i ni agor llinellau cymorth, agor llinellau therapi siarad, a bydd y math hwnnw o beth, a hefyd y llinell gymorth Byw Heb Ofn—sy'n anodd iawn ei ddweud—yn dal i fod ar gael, a byddwn yn sicrhau ei bod ar gael drwy'r holl sefyllfa hon. Ond, bydd, fe fydd yn rhaid i ni roi nifer o drefniadau ar waith.

O ran tai a digartrefedd, fel y dywedais yn fyr yn fy natganiad, rydym ni eisoes yn ystyried trefniadau i sicrhau bod pobl yn y rheng flaen o ran digartrefedd ac yn cael y cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw. Rwyf i ar ddeall bod y Gweinidog yn Lloegr wedi cyhoeddi £3.2 miliwn cychwynnol yn gynharach heddiw ar gyfer ei chymorth ar gyfer digartrefedd. Nid wyf i'n gwybod ar hyn o bryd a oes unrhyw beth yn hynny ar gyfer Cymru, ond yn amlwg, rydym ni eisoes yn ystyried mesurau i weithredu ar hynny.

Mae materion eraill yn ymwneud â thai. Rydym ni wedi bod yn annog landlordiaid preswyl sydd â morgeisi prynu i osod, lle mae eu benthyciwr yn cael eu hannog i roi ysbaid o dalu eu morgais iddyn nhw, i drosglwyddo hynny i'w rhentwyr, yn amlwg. Felly rydym ni'n annog Rhentu Doeth Cymru i wneud hynny, ac i fod yn deg, mae'r Gymdeithas Landlordiaid Preswyl wedi bod yn gofyn i'w landlordiaid sicrhau eu bod yn gwneud hynny. Byddwn yn ysgrifennu at landlordiaid cymdeithasol ynghylch yr hyn a ddylai ddigwydd ynghylch rhent mewn tai cymdeithasol—landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a chynghorau yn y dyddiau nesaf—a byddaf yn rhoi diweddariad arall i Aelodau'r Cynulliad, Dirprwy Lywydd, trwy ddatganiad ysgrifenedig mae'n debyg, yn ddiweddarach yr wythnos hon, ynghylch rhai o'r darpariaethau yr ydym ni'n eu hystyried. Mae hynny'n cynnwys y rhai a ddioddefodd yn y llifogydd diweddar, y mae llawer ohonynt mewn llety dros dro, a'r hyn y byddwn yn ceisio ei wneud i sicrhau ein bod yn cael y bobl hynny i lety mwy addas. Yn amlwg, os mai eu cartref eu hunain yw hynny, yna mae hynny'n llawer mwy delfrydol, ond i rai ohonyn nhw, nid yw hynny'n mynd i fod yn bosib yn y tymor byr. Felly, rydym ni'n ystyried hynny hefyd.

Nid wyf i'n gwybod beth mae siec wag y GIG yn ei olygu. Rydym ni'n gobeithio ei fod yn golygu y bydd digon o arian yn dod atom ni, ac yn amlwg rydym ni'n ariannu iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd. Yn amlwg, bydd angen i ni gynnwys gofal cymdeithasol yn hynny. Gwireb lwyr yw hynny. Mae llond gwlad o bethau y mae'r Prif Weinidog wedi sôn amdanyn nhw wrth ateb cwestiynau ynghylch iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ac yng nghwestiynau'r Prif Weinidog gynnau a gaiff eu hystyried yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf, gan gynnwys rhyddhau pobl sy'n addas i'w rhyddhau o'r ysbyty ond nad ydyn nhw wedi gallu cael eu rhyddhau yn gyflymach. Bydd yn rhaid gwneud penderfyniadau anodd iawn ynglŷn â faint o ddewis sydd gan bobl, ac yn y blaen, er mwyn ymdopi â'r argyfwng, ond byddwn yn edrych ar bob un o'r agweddau hynny. 

Heddiw, cyflwynodd Andrew Morgan a minnau apêl yn ystod y gynhadledd i'r wasg i unrhyw un sydd â phrofiad ym maes gofal cymdeithasol, neu unrhyw un sydd o'r farn y gallen nhw helpu, i gynnig eu gwasanaethau i'w hawdurdod lleol i weld a allan nhw fod o gymorth yn ystod y dyddiau a'r misoedd nesaf. Rwy'n ailadrodd yr apêl honno yn awr: dylai pobl gysylltu â'u hawdurdod lleol ac egluro yr hoffen nhw gael eu hystyried. Yn rhan o'r ddeddfwriaeth frys, rydym yn ystyried darpariaethau sy'n effeithio ar bobl sydd â phensiwn. Felly, ar hyn o bryd, mae yna ddarpariaethau adfachu ar gyfer pobl sy'n gweithio mwy nag oriau penodol ac yn y blaen, felly rydym ni'n ystyried eu llacio yn rhan o'r ddeddfwriaeth frys sy'n cael ei chyflwyno i ymateb i'r argyfwng hwn.

Mae llawer iawn o bethau eraill yn ymwneud â chynorthwyo gwahanol sefydliadau'r trydydd sector â phob math o bethau—offer ac yn y blaen—ond mewn gwirionedd, ag adnoddau staffio ac ati, a gaiff eu hystyried yn y cyfarfod yfory. Rwy'n siŵr y byddwn yn diweddaru'r Aelodau'r Cynulliad yn unol â hynny.

17:40

Rwy'n credu y bydd croeso i'ch datganiad, Gweinidog, ledled y wlad, ac yn sicr mae'r ymrwymiad i gydweithio ac arwain yr ymateb gan awdurdodau lleol yn rhywbeth a fydd yn cael ei werthfawrogi yn fawr gan bobl ledled Cymru. Byddwn i'n ddiolchgar pe gallech chi amlinellu a ydych yn ystyried darparu cymorth ychwanegol i awdurdodau lleol o ran yr adnoddau sydd ar gael iddyn nhw. Rwy'n credu y bydd llawer o bobl yn disgwyl i'r cyngor lleol ddarparu cymorth i'w cymunedau yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Rydym yn gwybod y bydd awdurdodau lleol eu hunain o dan bwysau aruthrol, o ran gwasanaethau cymdeithasol ac o ran materion eu gweithluoedd, a fydd hefyd yn dioddef yn sgil y feirws hwn. Ond byddai gen i ddiddordeb mewn deall sut rydych chi'n bwriadu ymdrin â'r mater hwnnw.

Ond hefyd cymorth i fentrau cymdeithasol. Rwyf i wedi cael fy holi yn ystod y diwrnod diwethaf gan Sefydliad Sofrydd, Sefydliad Llanhiledd a Kidz R Us yn Nhredegar, pob un yn fenter gymdeithasol sy'n wynebu problemau gwirioneddol o ran eu gallu i gynnal gwasanaethau yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Mae yna rai pobl sydd wedi dychryn yn fawr mewn cymunedau ledled y wlad, ac mae'n bwysig, felly, bod y math o gefnogaeth yr ydym yn ei chynnig i gefnogi busnesau hefyd ar waith i gefnogi mentrau cymdeithasol fel na chollir seilwaith cymdeithasol ein cymunedau o ganlyniad i hyn.

Ar yr un pryd, wrth gwrs, mae'n wych gweld y ffordd y mae pobl yn ymateb i'r argyfwng hwn, o ran y gefnogaeth trwy'r cyfryngau cymdeithasol a thrwy ddulliau eraill y mae pobl yn ceisio ei rhoi i helpu'r rhai sy'n agored i niwed mewn gwahanol gymunedau. Byddai'n ddefnyddiol iawn i'r Llywodraeth hon weld sut y gall hi helpu a chefnogi hynny, rhannu'r arferion gorau, darparu adnoddau, os oes modd, i wahanol grwpiau cymunedol a fydd yn cefnogi ac yn cynnal pobl agored i niwed yn ystod y cyfnod hwn.

Yn olaf, mae llawer o bobl wedi awgrymu wrthyf y byddai'n ddefnyddiol iawn pe gellid sefydlu llinell gymorth lle gallai pobl, pobl oedrannus yn arbennig a fydd gartref am gyfnodau hir yn ystod y misoedd nesaf, ffonio un rhif ledled Cymru, wedi ei ateb yn lleol, am gymorth neu gefnogaeth. Fe wnaethom ni siarad yn gynharach ynghylch materion yn ymwneud ag iechyd meddwl yn gysylltiedig â'r mater hwn, ond pobl sy'n teimlo'n unig, pobl sy'n teimlo ofn, pobl na allan nhw gael y cymorth a'r gefnogaeth a allai fod gan eraill—pwynt cyswllt lle gallan nhw cysylltu â rhywun a gofyn am y cymorth a'r gefnogaeth honno. Diolch.

17:45

Diolch yn fawr iawn, Alun Davies, am hynny. O ran yr un olaf yna, mae gen i ddiddordeb mawr, ac nid ydym ni wedi gwneud hynny eto, ond mae'r awgrym wedi ei wneud i mi ac rydych chithau wedi ei wneud yn fedrus iawn y prynhawn yma, i ddechrau siarad â darparwyr ynghylch yr hyn y gellir ei ddarparu drwy BT ac ati—mae darparwyr eraill ar gael—ar gyfer y cyfleuster cynadledda hwnnw. Byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol i weld beth y gallwn ei sefydlu er mwyn i grwpiau gwirfoddol allu defnyddio eu ffôn eu hunain gartref a bod ar gael i siarad â rhywun yn lleol ac i sefydlu'r grwpiau ymgysylltu cymdeithasol. Mae yna bob math o bethau yn digwydd ar y cyfryngau cymdeithasol, felly mae a wnelo hynny â rhoi adnoddau i'r awdurdodau lleol allu cynorthwyo i gydgysylltu hynny a sicrhau ei fod yn ymledu i ardaloedd lle nad yw, efallai, wedi dechrau'n ddigymell.

Yr hyn yr ydym yn ei ddweud ar hyn o bryd yw y byddwn yn sicrhau bod pob awdurdod lleol yng Nghymru yn cael y cymorth a'r adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw i ymateb i'r argyfwng. Nid wyf i'n gwybod sut y bydd hynny'n edrych ar hyn o bryd, ond rydym ni wedi rhoi sicrwydd iddyn nhw, sut bynnag y bydd yn edrych, y byddwn ni'n gallu camu i'r adwy iddyn nhw ac, yn amlwg, rydym ni'n lobïo Llywodraeth y DU o awr i awr am gymorth i ni ein hunain hefyd. Mae'n amlwg yn gwbl hanfodol bod gennym ni bobl yn gwneud y peth iawn am y rhesymau iawn ar yr adeg iawn ac nad ydyn nhw'n poeni ynghylch a ydyn nhw'n galllu ei fforddio ar hyn o bryd ai peidio. Felly, rydym ni wedi gwneud hynny yn glir iawn a byddwn yn parhau i wneud hynny. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn. Yn y cyfarfod yfory â'r trydydd sector, mentrau cymdeithasol, byddwn yn trafod cymorth busnes ar gyfer mentrau cymdeithasol. Fe wnes i gyfarfod ddoe, rwy'n credu, â Chanolfan Cydweithredol Cymru, a byddwn yn rhoi'r math hwnnw o gymorth, felly rwy'n cytuno'n llwyr: mae mentrau cymdeithasol ledled y wlad yn rhan annatod o wead lle yr ydym ni.

Mae fy nghyd-Aelod y Dirprwy Weinidog, Hannah Blythyn, yn edrych ar ganolfannau cyngor ar bopeth a'r hyn y gallwn ei wneud yn y fan honno a gyda'r undebau credyd hefyd i weld sut y gallwn ni gydlynu rhai o'r dulliau gweithredu. Felly, bydd cefnogi'r undebau credyd, er enghraifft, i allu cynorthwyo pobl nad oes ganddyn nhw ddim cynilion ac ati heb fod unrhyw fai arnyn nhw, oherwydd yr economi gìg, yn rhan hanfodol o'r hyn yr ydym yn ei wneud hefyd.

A gaf i groesawu eich datganiad, yn enwedig yr addewid i gyflwyno rhagor o fanylion am sut y caiff y rhai sy'n cysgu allan eu helpu? Mae'n rhaid mai nhw yw'r grŵp mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas ac mae hyn yn ychwanegu ofn a diflastod mawr, o bosib, at eu sefyllfa ac mae'n briodol ein bod ni'n sicrhau y gallwn ni ddarparu cymaint o adnoddau â phosib i'r grŵp hwnnw o bobl.

Dim ond un cwestiwn sydd gen i—rydych chi wedi ateb cynifer o gwestiynau yn y datganiad hwn, oherwydd ei fod yn faes mor bwysig. Mae llawer o bobl sydd yn agos iawn at fod yn cysgu allan yn gwerthu The Big Issue, a bydd eu gwerthiant yn debygol o ostwng yn sylweddol. Tybed a oes unrhyw bosibiliadau, un ai drwy gymorth uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru neu annog Llywodraeth y DU i ystyried sut y gellid cefnogi'r ffrwd incwm honno, oherwydd gallem ni yn y pen draw fod â mwy o bobl ar y stryd, yn sicr pobl sy'n agored i niwed, beth bynnag, mewn sefyllfa lawer mwy bregus yn ystod y tri neu bedwar mis nesaf pan nad oes ganddyn nhw yr incwm hwnnw.

Mae hynny'n bwynt arbennig o wych. Nid wyf i wedi cysylltu â The Big Issue hyd yn hyn, ond rwy'n credu bod hynny ar restr y swyddogion o bethau i'w gwneud, felly byddwn ni yn awyddus i gael gwybod sut y gallwn ni eu cefnogi. Rwy'n poeni'n fawr am y syrffwyr soffa, fel y gelwir nhw, neu bobl sydd yn agos iawn at fod yn cysgu ar y stryd, yn llithro i'r sefyllfa honno, oherwydd, yn amlwg, wrth i deuluoedd hunanynysu gartref, maen nhw'n annhebygol o fod mor awyddus i dderbyn pobl yn cysgu ar eu soffa, neu beth bynnag, fel y byddan nhw fel arfer. Felly, rydym ni yn ymwybodol iawn o'r syniad y gallai fod ymchwydd sydyn o bobl sy'n cael eu hunain yn ddigartref yn gyflym, neu yn gynt nag y bydden nhw yn ei wneud fel arall. Byddwch yn gwybod y buom ni, mewn cyfnodau arferol, yn cynnal ymgyrch fawr yn ddiweddar i annog pobl i gydnabod eu bod yn ddigartref, a byddwn yn parhau i wneud hynny gymaint â phosib hefyd. Ond rydym ni yn pryderu yn fawr y bydd hynny yn wir yn digwydd.

O ran y rhai sy'n cysgu ar y stryd, byddaf i'n cyhoeddi datganiad yn ddiweddarach yr wythnos hon, ond yn y bôn yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud, yn amlwg, yw gwneud yn siŵr y gall pobl gael eu derbyn yn y mannau lle y gallan nhw gael eu derbyn, bod gennym ni wasanaethau carfan. Felly, i bob pwrpas, os ydych chi wedi eich heintio bydd gennych chi gasgliad o wasanaethau—neu os yw'n bosibl eich bod wedi eich heintio. Os nad ydych chi wedi eich heintio, bydd gennych chi gasgliad gwahanol o wasanaethau. Mae yna lawer o garfannau gwahanol yn y frawdoliaeth gysgu ar y stryd hefyd—pobl â materion eraill y bydd yn rhaid i ni wneud yn siŵr eu bod mewn carfannau ac nid wedi eu dosbarthu ar hap. Fe fydd problemau mawr ynghylch a allwn ni sicrhau llety mewn gwestai neu lety gwely a brecwast. Mewn gwirionedd, yn eironig, wrth gwrs, oherwydd y feirws, mae'r math hwnnw o lety gael iddyn nhw yn fwy nag y byddai fel arfer, felly byddwn ni yn defnyddio hynny.

A bydd carfan o bobl nad ydym ni'n gallu eu rhoi mewn llety, am bob math o resymau. Rydym ni'n gwybod bod gan rai sy'n cysgu allan broblemau gwirioneddol gyda hynny. Felly, byddwn yn ceisio sefydlu, yn enwedig yn y pedair dinas sydd â'r broblem fwyaf yng Nghymru, ardaloedd diogel ar gyfer pebyll a lle y gallwn ni osod darpariaeth iechyd a glanweithdra ac yn y blaen ar gyfer pobl pan nad ydym yn gallu eu rhoi mewn llety. Yn hollol, heb unrhyw amheuaeth, fe fydd rhai pobl yn y garfan honno. Felly, byddwn yn gwneud hynny a byddaf yn cyflwyno datganiad yn ddiweddarach yn yr wythnos pan fyddwn yn fwy sicr o'r hyn y byddwn yn ei wneud, ond byddwn yn ymateb i hynny.

Roeddwn i wrth fy modd o weld bod Gweinyddiaeth y DU newydd gyhoeddi'r cyllid cychwynnol hwn, fel y'i gelwir, o £3.2 miliwn. Byddwn yn awyddus iawn i weld faint o hynny a ddaw i ni a'r hyn y gallwn ei wneud â'r arian ychwanegol hwnnw. Felly, mae'r cyfan rwyf i wedi ei ddweud yn bethau yr ydym ni eisoes yn eu gwneud gyda'n pethau ein hunain, felly byddwn yn ystyried unrhyw beth y gallwn ni ei wneud yn ychwanegol at hynny.

Rwy'n credu bod The Big Issue yn un diddorol iawn; byddwn yn sicr yn mynd ar drywydd hynny. Fel y mae'r Prif Weinidog wedi ei ddweud dro ar ôl tro y prynhawn yma, nid ydym yn honni bod gennym ni fonopoli ar syniadau da, felly byddwn yn falch iawn o glywed unrhyw beth arall y gallwch chi feddwl amdano a allai fod yn ddefnyddiol.

17:50

Gwnaf i ddim cymryd llawer o amser. Syniad sydd gen i sydd wedi cael ei basio i fi yng nghyd-destun yr angen acíwt a allai godi yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf ar gyfer cartrefi dros dro ar gyfer gweithwyr iechyd a gweithwyr allweddol eraill. Mae'n codi o senario lle mae yna ddyn sydd yn hŷn ac yn gorfod hunan-ynysu ar hyn o bryd. Mae ei fab o yn heddwas sydd yn weithiwr allweddol ddim eisiau ynysu ei hun, ond does ganddo fo nunlle i fynd i fyw. Felly, mi fyddem ni o bosibl yn gallu cael budd o ddod o hyd i leoedd i'r gweithwyr allweddol yma ymgartrefu dros dro.

A oes yna fudd ydych chi'n meddwl yn y Llywodraeth yn edrych ar y posibilrwydd o estyn allan at bobl sydd â thai gwag, ail gartrefi, Airbnbs ac yn y blaen, i weld a oes modd gallu defnyddio yr eiddo gwag hynny yn ystod y cyfnod yma er mwyn cartrefu gweithwyr allweddol?

Oes, rwy'n credu bod hwnnw'n syniad gwych. Nid yw'n un yr oeddwn wedi'i ystyried, felly rwy'n falch iawn bod y syniad wedi'i godi. Byddwn yn sicr yn ystyried hynny. Mae hynny'n gwbl hanfodol, onid yw e', os ydych chi'n byw gydag aelod o'r teulu sydd â hynny a'ch bod yn gallu cael eich gwahanu oddi wrtho, yna mae hynny'n amlwg yn syniad gwych? Gwyddom fod gwestai ledled Cymru â chyfraddau llenwi isel iawn, er enghraifft, o ganlyniad i'r feirws, felly mae'n sicr yn werth ei ystyried, ac fe wnawn ni wneud hynny, a byddwn yn adrodd yn ôl ar hynny ar unwaith.

6. Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru)

Mae Eitem 6, datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru ar y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) wedi'i ohirio.

7. Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Adroddiad y Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd

Caiff eitem 7, sef y datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar adroddiad y grŵp gweithredu ar ddigartrefedd, ei gyhoeddi fel datganiad ysgrifenedig.

8. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Fframwaith i wella ansawdd a pherfformiad mewn gofal brys ac argyfwng

Hefyd i'w gyhoeddi fel datganiad ysgrifenedig yw'r datganiad y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: fframwaith i wella ansawdd a pherfformiad mewn gofal argyfwng brys.

9. Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020

Ac felly symudwn ymlaen at eitem 9, sef Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020, a galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Pontio Ewropeaidd i gynnig y cynnig. Jeremy.

Cynnig NDM7298 Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 yn cael ei lLunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Chwefror 2020.  

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n symud y cynnig. 

Mae'r offeryn statudol sydd ger eich bron heddiw yn diwygio Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005, sef y prif reoliadau. Mae nifer o ddiwygiadau cysylltiedig eisoes wedi'u gwneud i'r prif reoliadau gan Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio) 2020, a osodwyd gerbron y Senedd ar 20 Chwefror 2020. Bydd y rhain yn dod i rym ar 1 Ebrill eleni.

Mae'r diwygiad a wneir gan y set hon o reoliadau yn nodi'r gofyniad ar asiantaethau mabwysiadu, wrth asesu addasrwydd cwpl i fabwysiadu plentyn, i roi sylw priodol i'r angen am sefydlogrwydd a pharhauster yn y berthynas. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol y gall pobl sengl hefyd fabwysiadu, ond mae'r cam hwn yn gymwys pan fydd cwpl yn cael eu hystyried. Bydd y diwygiad yn tynnu sylw asiantaethau at y ffaith y gall perthynas unrhyw gwpl, p'un ai yw pobl yn briod ai peidio, a p'un a ydyn nhw mewn perthynas heterorywiol neu o'r un rhyw, ddod o dan bwysau pan fydd plentyn sydd wedi'i fabwysiadu yn ymuno â'r teulu. Mae'r gofyniad rheoliadol felly wedi'i gynllunio i ddiogelu lles plant, ac i sicrhau bod darpar fabwysiadwyr yn barod i ddelio ag anghenion y plant y maen nhw'n gobeithio eu mabwysiadu.

Gwyddom o ymchwil fod llawer o blant sydd wedi'u mabwysiadu wedi dioddef llawer o drallod yn gynnar yn eu bywydau, ac y bydd angen cefnogaeth arnyn nhw gan deulu mabwysiedig i oresgyn y profiadau hynny, i ymdopi â'r heriau y byddan nhw'n eu hwynebu yn y dyfodol, ac i ffynnu. Mae angen asesiad gofalus o gryfder perthynas y cwpl er mwyn sicrhau y bydd y ddwy ochr yn cefnogi ei gilydd i roi i'r plentyn y rhianta ychwanegol a all fod yn ofynnol.

Nid yw'r ddarpariaeth hon yn ddarpariaeth newydd, ond mae eisoes ar waith. Mae'r diwygiadau i reoliadau 2005 yn cynnwys rhai darpariaethau newydd a wnaed eisoes gan y weithdrefn negyddol a pharhad y darpariaethau presennol, a gyflwynwyd yn y rheoliadau hyn gan eu bod yn defnyddio gweithdrefn gadarnhaol y Cynulliad. Diolch yn fawr.  

17:55

Diolch. Nid oes siaradwyr gennyf, felly y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

10. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Gemau'r Gymanwlad Birmingham

Symudwn ymlaen yn awr at eitem 10, sef y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fil Gemau'r Gymanwlad Birmingham, a galwaf ar Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol i gynnig y cynnig. Eluned Morgan.

Cynnig NDM7300 Dafydd Elis-Thomas

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Gemau'r Gymanwlad Birmingham i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Bydd rhai yn cofio inni drafod Bil Gemau Cymanwlad Birmingham mewn Cyfarfod Llawn ar 8 Hydref y flwyddyn ddiwethaf, ac inni basio'r cynnig yma yn y Senedd. Ond roedd rhaid inni ailgyflwyno'r Bil i Senedd San Steffan ar 7 Ionawr am na wnaeth orffen ei daith seneddol cyn i'r Senedd honno gael ei diddymu ar 6 Tachwedd, a hynny er mwyn cynnal yr etholiad cyffredinol. Dwi felly wedi cytuno i hyrwyddo cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil yn y Cyfarfod Llawn eto heddiw ar ran y Dirprwy Weinidog. 

Mae'r Bil sy'n cael ei gyflwyno heddiw yn union fel yr oedd ef, er bod rhai newidiadau technegol neu ddrafftio wedi'u cynnwys. Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a Phwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau am eu gwaith yn ystyried memorandwm cydsyniad deddfwriaethol y Bil, a chydnabod eu bod wedi penderfynu peidio â chyflwyno adroddiadau ychwanegol ar y Bil fel y cafodd ei ailgyflwyno.

Fel y gwyddoch chi, cafodd Birmingham yr hawl i gynnal Gemau'r Gymanwlad yn 2022 ar 21 Rhagfyr 2017. Er mwyn eu cynnal yn llwyddiannus, mae'n rhaid i Senedd San Steffan basio Bil Gemau Cymanwlad Birmingham, sy'n ymdrin â'r gemau a dibenion cysylltiedig, ac maent am wneud trosedd dros dro am dowtio tocynnau i'r gemau. Barn Llywodraeth y Deyrnas Unedig yw bod y ddarpariaeth yn y Bil am docynnau i ddod o dan gymhwysedd deddfwriaethol Llywodraeth Cymru. Diben yr elfen hon yw, yn gyntaf, i ddiogelu brand ac enw da y gemau; yn ail, i sicrhau bod tocynnau'n fforddiadwy ac ar gael i bawb; ac, yn drydydd, i atal troseddau fel gwyngalchu arian. 

Mae angen cydsyniad Senedd Cymru ar gyfer y rhannau hynny yn y Bil, gan eu bod nhw'n ymwneud â hyrwyddo twristiaeth ac economi Cymru, materion sydd gyda ni gymhwysedd deddfwriaethol drostyn nhw. Er bod diogelu'r cwsmer yn fater cadw o dan Atodlen 7A Deddf Llywodraeth Cymru 2006, pwrpas y darpariaethau hyn yw diogelu brand ac enw da meysydd chwaraeon yng Nghymru, sydd, yn ei dro, yn helpu i hyrwyddo twristiaeth ac economi Cymru—dau bwnc sydd yn ddatganoledig. Hefyd, gallai'r darpariaethau hyn yn y Bil ddod o dan gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, gan eu bod yn ymwneud â swyddogaethau is-ddeddfau awdurdodau lleol. Gallai atal rhwystr neu niwsans sy'n cael eu hachosi gan dowtwyr tocynnau ddod o dan bwerau rheoli a llywodraethau da adran 235 Deddf Llywodraeth Leol 1972. Gallai'r Senedd ddeddfu ar y materion hyn, fel y gallai, o bosib, ddeddfu ar bwerau awdurdodau lleol i greu is-ddeddfau i atal towtio tocynnau sy'n achosi niwsans yn eu hardal.

Felly, barn y Llywodraeth yw ei bod yn briodol delio â'r darpariaethau hyn ym Mil y Deyrnas Unedig. Dyna'r cyfrwng deddfwriaethol mwyaf ymarferol a chymesur i roi'r darpariaethau ar waith yng Nghymru. Mae'n ymarferol hefyd o ran amser a chydlyniant, yn arbennig o dan yr amgylchiadau rŷn ni'n gweithio gyda coronafeirws yn digwydd. Felly, byddai delio â throsedd towtio tocynnau ym Mil y Deyrnas Unedig yn golygu y caiff ddod i rym yng Nghymru yr un pryd ag yn Lloegr. Ac felly, dwi'n cyflwyno'r cynnig ac yn gofyn i'r Cynulliad ei gefnogi.

18:00

Diolch. Unwaith eto, nid oes siaradwyr gennyf, felly y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

11. Dadl: Cyfnod 4 y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru)

Eitem 11 ar ein hagenda y prynhawn yma yw'r ddadl ar Gyfnod 4 Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru), ac rwy'n galw ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd i gynnig y cynnig. Jeremy Miles.

Cynnig NDM7306 Vaughan Gething

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

Yn cymeradwyo'r Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru).

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n symud y cynnig.

Rwy'n falch o agor y ddadl y prynhawn yma ar Fil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru). Mae'r Bil yn deillio o nifer fawr o gyfraniadau, o ystod eang o ffynonellau. Mae'r Bil wedi'i lywio gan dros 330 o ymatebion i'n hymgynghoriad yn 2017, a oedd yn sylfaen gadarn ar gyfer cyflwyno'r ddeddfwriaeth. Ac rwy'n ddiolchgar i bawb a gyfrannodd trwy gydol y broses honno, ac wrth graffu ar y Bil ei hun, i gefnogi'r gwaith o ddatblygu'r meddylfryd a'r dull gweithredu. Fel bob amser, mae'r broses graffu wedi darparu golwg fanwl i ni, ac wedi miniogi ein cynigion cychwynnol. A hoffwn dalu teyrnged i waith aelodau a swyddogion y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon wrth arwain y gwaith hwn. Mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad a'r Pwyllgor Cyllid hefyd wedi archwilio'r darpariaethau'n drylwyr, ac rwy'n ddiolchgar am eu gwaith nhw yn y maes hwn hefyd.

Hoffwn gydnabod ymdrechion grwpiau rhanddeiliaid, yn enwedig bwrdd y cynghorau iechyd cymuned, Cymdeithas Feddygol Prydain, Coleg Nyrsio Brenhinol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Rydym yn ymrwymedig i barhau â'r gwaith hwn gyda'n gilydd, gan ymgysylltu â phartneriaid allweddol eraill, gan gynnwys dinasyddion a chynrychiolwyr proffesiynol, wrth i ni symud i'r cam gweithredu, yn amodol ar y Bil yn cael ei basio heddiw, ac wrth gwrs ar Gydsyniad Brenhinol yn cael ei roi. Os caiff ei basio heddiw, ac yn amodol ar Gydsyniad Brenhinol, bwriad y Llywodraeth yw y bydd y Bil yn cael ei weithredu o fewn dwy flynedd. Mae'r darpariaethau yn y Bil hwn yn gam sylweddol ymlaen o ran sbarduno ansawdd a gwelliant mewn iechyd a gofal cymdeithasol, ac rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r Bil heddiw.

Hoffwn atgoffa pawb fod y Bil hwn wedi symud yn gyflym, a hoffwn gofnodi fy niolch i holl glercod y pwyllgorau, i'r swyddogion ar ochr Llywodraeth Cymru. A hoffwn dalu teyrnged arbennig i'n pennaeth ymchwil, Georgina Webb, am yr holl waith a wnaeth hi ar y Bil hwn.

Ac am Fil. Dechreuodd â llawer o addewid: i ysgogi dyletswydd a didwylledd drwy ein gwasanaethau gofal iechyd. Roedd yn Fil llawn cyfle, lle y gallem ni mewn gwirionedd edrych ar ein gwasanaethau gofal iechyd a dweud, 'Dyma'r amser i chi wir ddeall bod ansawdd yn sbardun allweddol yn y GIG, bod didwylledd yn hawl allweddol yn y GIG'. Ac, wrth gwrs, roedd yn gyfle i warchod a diogelu llais pobl Cymru, eu cyfle i gyflwyno eu barn er mwyn llunio a llywio'r cyfeiriad teithio.

Ond, i fod yn blwmp ac yn blaen, mae'n gyfle sydd wedi cael ei wastraffu. Ac ni fydd y Ceidwadwyr Cymreig yn noddi—neu, mae'n ddrwg gen i, yn cefnogi—y Bil hwn. Pam? Oherwydd ei fod yn Fil nad yw mewn gwirionedd wedi gwneud yr hyn y dywedodd y byddai'n ei wneud. Cwnsler Cyffredinol, pan rwy'n edrych ar y ddyletswydd ansawdd, rwy'n credu bod rhan o'r Bil hwn yn dal i fod yn hynod wan o ran manylder. Fel y dywedais yr wythnos diwethaf yn ystod proses Cyfnod 3, rwyf yn dal i bryderu bod darpariaethau'r Bil ar ddyletswydd ansawdd yn rhy fras—mae perygl y bydd yn dod yn nod yn hytrach nag yn ddyletswydd. Heb ddulliau penodol i fyrddau iechyd gymryd y camau angenrheidiol i sicrhau ei fod yn cael ei fonitro a'i gynnal, beth mae dyletswydd ansawdd yn ei olygu mewn gwirionedd? Sut ydym ni'n mynd i'w fesur? Ac, os byddwch chi'n methu yn eich dyletswydd ansawdd, beth ydym ni'n mynd i'w wneud am y peth? Nid yw'r Bil yn sôn am hynny—mae'n ysgafn iawn ar hynny.

Ac nid dim ond fi sy'n meddwl hyn. Mae hyn ar draws nifer o wahanol fforymau, ac rwyf i ond eisiau sôn am ddau. Mae'r cyntaf gan Gymdeithas Feddygol Prydain, sy'n dweud,

heblaw bod rhyw fath o gosb neu gamau cywirol, bydd risg na fydd y ddyletswydd arfaethedig yn effeithiol,

a gallai ddod yn ymarfer ticio bocsys yn unig. Ac, wrth gwrs, y Coleg Nyrsio Brenhinol—dyma'r timau proffesiynol sy'n sicrhau bod y gwasanaeth iechyd yn gweithredu fel y mae. Mae'n rhaid bod canlyniad i wneud hynny neu i beidio a gwneud hynny, neu fel arall nid oes cymhelliad i wneud hynny ar y lefelau mwyaf sylfaenol.

Ac yna trown ni at y ddyletswydd didwylledd. Nawr mae hwn yn faes sy'n fy mhryderu'n fawr. Mae gen i amheuon cryf ynghylch pa mor effeithiol fydd y Bil hwn wrth gyflawni'r nod hwn, ac rwy'n glynu wrth y sylwadau a wnes i yng Nghyfnod 3—mai'r rheswm am hyn yw na fu unrhyw eglurder o ran pwy sy'n gyfrifol am fethiannau. Mae pasio'r baich wedi dod yn gwbl arferol, ac ni ddylai anwybodaeth fod yn amddiffyniad. I'r adran hon o'r Bil weithio'n effeithiol, mae angen i onestrwydd, bod yn agored a thryloywder fod yn bwyslais ac, yn wir, yn ganolbwynt i'r gwasanaeth iechyd cyfan a'r Llywodraeth, ac rwy'n dal i gredu, heb newid sylweddol yn y diwylliant sydd wedi dod i'r amlwg ar draws rhai o ddulliau rheoli y gwasanaeth iechyd, nid yw'n cael ei gyflawni o hyd.

Rwy'n deall na fyddai'r Bil hwn, ynddo'i hun, o reidrwydd wedi atal rhai o'r sgandalau a welsom ni mewn lleoedd fel Cwm Taf a Betsi Cadwaladr, ond, byddai, gyda mwy o rym, wedi ein galluogi i ymgeisio am GIG â diwylliant gonest ac agored—diwylliant lle, pan fo nyrs staff neu fydwraig yn gwneud adroddiad sy'n dweud bod diffygion difrifol mewn gwasanaethau mamolaeth, y byddai ef neu hi o'r farn bod ganddi neu ganddo'r grym i allu tynnu sylw at hynny, oherwydd dyna'r ddyletswydd didwylledd. Nid oes dim yn y Bil presennol sy'n dweud rhywbeth a fydd yn dweud gallwch chi wneud hynny. A dweud y gwir, yn hytrach mae'n dweud 'Byddwch yn onest os gwelwch yn dda' ac 'O, peidiwch â phoeni, os nad ydych chi wedi bod—. Does dim llawer yr ydym ni'n mynd i'w wneud am y peth'.  

Ac yna yn olaf, rydw i am droi at y corff llais y dinesydd. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth sydd wedi ysgogi calonnau a meddyliau'r cyhoedd a'r holl gynghorau iechyd cymuned lleol. Nawr, rwy'n gwerthfawrogi'n llwyr fod y Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned wedi dweud yn briodol, dyna'r sefyllfa yr ydym ni ynddi. Mae'n debyg y bydd y niferoedd yn dangos y bydd y Bil hwn yn pasio ac y byddwn ni'n gweithio gyda'r Llywodraeth. Ac maen nhw'n hapus eich bod chi wedi cytuno i ymgysylltu ac ymgynghori. Ond fe ddywedaf i wrthych chi, os nad yw hyn yn rhyw fath o daflu llwch gwleidyddol i'r llygaid, mae'n rhaid i chi ymgysylltu â nhw yn onest, yn ddwfn ac yn ddidwyll a chael eu cefnogaeth wirioneddol. Oherwydd rwyf wedi ei ddweud o'r blaen ac rwy'n mynd i'w ddweud eto: rydym ni'n parhau i siarad am lais y dinesydd. Mae'r gwasanaeth iechyd ar gyfer y bobl, mae'n ymwneud â'r bobl, caiff ei staffio gan y bobl a dyma galon ein gwlad ac mae'n rhaid i ni roi llais i'r bobl. Ac nid yw'r Bil hwn, fel y mae ar hyn o bryd, yn ymgorffori'r llais hwnnw. Ac rwyf—

18:05

O, mae'n ddrwg gennyf—rwy'n ymddiheuro. Gwnaf, ond hoffwn i ddweud hyn: mae'r Bil, Dirprwy Lywydd, fel y mae ar hyn o bryd yn Fil hawliau ac nid atebion; mae'n Fil sy'n gobeithio am ansawdd a didwylledd, ond, yn fy marn i, nid yw'n dangos gwir arweiniad ar sut i'w gyflawni ac mae'n Fil lle y gellir colli llais y claf mor hawdd. Ac am yr union resymau hyn, nid yw'r Ceidwadwyr Cymreig yn gallu cefnogi'r Bil hwn.

Wrth gwrs, mae digwyddiadau ehangach yn maes iechyd wedi gosod y Bil hwn mewn rhyw fath o gyd-destun, ond rydym ni, fel plaid, wastad wedi bod yn amheus am y Bil yma am ein bod ni'n credu ei fod o'r ateb anghywir i'r broblem anghywir mewn difrif. Allwn ni ddim cefnogi diddymu rhai o'r lleisiau mwyaf effeithiol ar gyfer craffu ar fyrddau iechyd, er enghraifft—y cynghorau iechyd cymunedol—hyd yn oed os nad oes rhai ohonyn nhw cweit mor effeithiol â'r un sydd gennym ni yn y gogledd. Allwn ni ddim gweld sut mae bwrw ymlaen efo'r math yma o newid strwythurol yn mynd i fod werth yr ymdrech fydd yn mynd i mewn i hynny. 

Ac ydych chi'n gwybod beth? Yn dilyn cyhoeddiad adroddiad Williams sawl blwyddyn yn ôl erbyn hyn, dwi ddim yn meddwl byddai unrhyw un wedi dyfalu mai'r cynghorau iechyd cymunedol byddai'r set gyntaf o sefydliadau i wynebu uno gorfodol, ac mae yna fwy nag awgrym o amheuaeth yma mai oherwydd eu heffeithlonrwydd nhw wrth graffu ar y byrddau iechyd, ac felly y Llywodraeth, maen nhw'n cael eu diddymu. Ac os caf i ddweud hyn: nid eisiau gwarchod y cynghorau iechyd cymuned am byth ydym ni, nid y cyrff hynny—nid eu gweld nhw fel rhywbeth sanctaidd ydym ni—ond swyddogaeth y cyrff hynny a'r hyn maen nhw'n ei wneud, eu hannibyniaeth nhw, ac mae pryder gennym ni ynglŷn â beth sy'n digwydd i'r annibyniaeth yna a'u gallu nhw i wirioneddol fod yn llais dros y cymunedau maen nhw yn eu cynrychioli.

18:10

Ydych chi'n cytuno efo fi fod gwaith cyngor iechyd y gogledd yn esiampl glodwiw o pam bod angen y craffu yma i fod yn digwydd a pharhau i ddigwydd? A'r pryder ydy, drwy greu un corff cenedlaethol, na fydd y craffu lefel leol yna ddim yn gallu digwydd.

Dwi'n cyd-fynd â hynny'n llwyr, ac mae hynny wedi cael ei ddangos, onid ydy, yn y gwaith ymchwil rhagorol sydd wedi cael ei wneud o gwmpas y gwasanaethau fasgwlar ar hyn o bryd. Felly, mi ydym ni'n bryderus am golli'r swyddogaeth a'r cryfder yna sydd o fewn y cynghorau iechyd cymuned—

Diolch am hynny, Rhun. Fe wnaethoch chi sôn am bwysigrwydd annibyniaeth y cynghorau iechyd cymuned. Ond nid mater o annibyniaeth yn unig yw hynny, nage? Mae hefyd yn gwestiwn o'u hystwythder, oherwydd maen nhw'n gallu mynd i'r sefydliadau iechyd hynny heb fawr o rybudd, bod yn ffrind ac yn llais diffuant i'r bobl sydd yno, ac ysbrydoli'r math yna o hyder. Felly, mae'n rhaid amddiffyn y gallu hwnnw i fynd ble bynnag y maen nhw eisiau hefyd, ar fyr rybudd.

A'u gwybodaeth leol fanwl hefyd, sy'n rhywbeth sy'n bwysig iawn i'w nodi, ac fe wnaethom ni geisio cyflwyno gwelliannau i'r Bil a fyddai'n ceisio gorfodi elfen o weithio rhanbarthol er mwyn cadw'r arbenigedd lleol hwnnw. Yn anffodus, ni wnaeth y Llywodraeth gytuno gyda ni ar hynny.

Ond mae yna fwy na sefyllfa'r cynghorau iechyd cymuned sy'n bryder i ni. Mae hwn yn Fil sy'n honni ei fod yn rhoi ansawdd wrth galon gwneud penderfyniadau, ond sy'n methu â sôn yn benodol am ansawdd gweithlu, atal afiechyd, lleihau anghydraddoldebau iechyd, yr angen i sicrhau dyw siaradwyr Cymraeg ddim yn cael eu trin fel dinasyddion eilradd—yn methu â gosod y safonau hynny yn glir ar wyneb y Bil. Ac er ein bod ni'n croesawu'r sicrwydd gan y Gweinidog fod y pethau yna ddim yn cael eu hanghofio, rydym ni yn teimlo bod methu â rhoi hynny ar wyneb y ddeddfwriaeth yn gam yn ôl. Mi oeddem ni i gyd yn derbyn yr angen i lefelau gweithlu gael eu hymgorffori mewn deddfwriaeth pan wnaethom ni gefnogi Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 yn y cynlluniau blaenorol er enghraifft, ac mae'r BMA a'r RCN ymhlith y cyrff sydd wedi pwysleisio pwysigrwydd hyn. Mae o'n rhywbeth y byddwn ni'n sicr yn dymuno dod yn ôl ato fo.

Yn troi at y ddyletswydd gonestrwydd—the duty of candour—yn syml, dydym ni ddim yn teimlo bod hyn yn ddigon cryf i fodloni dyheadau adroddiad Francis a'r holl adroddiadau eraill sydd wedi argymell hyn. Mae'n welliant ar y status quo—rydym ni'n cydnabod hynny—ond mi allai fod wedi mynd llawer pellach. Felly, mae'n rhaid i fi gwestiynu a fydd y Bil yma wir yn gwella'r NHS a'n gwasanaethau gofal ni. Dyna'r ffordd anghywir ymlaen i ni. Yr hyn y byddem ni wir wedi hoffi ei weld ydy darn o ddeddfwriaeth oedd â dyletswydd gonestrwydd yn llawer cryfach ynddo fo, wedi sefydlu corff rheoleiddio proffesiynol ar gyfer rheolwyr—rhywbeth rydym ni wedi galw'n gyson amdano fo drwy'r trafodaethau—wedi ymgorffori cynllunio gweithlu mewn deddfwriaeth, ac wedi gwirioneddol warchod ac amddiffyn llais ein cleifion ni ymhob cwr o Gymru. Felly, am y rhesymau hynny, dydym ni am allu cefnogi'r Bil yma. Mae o'n gofyn i'n swyddogion ni ganolbwyntio ar weithredu'r math anghywir o newid, a hynny heb ddigon o fudd.    

A gaf i alw ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd i ymateb i'r ddadl? Jeremy Miles.

Dirprwy Lywydd, rwy'n credu ei bod yn amlwg o'n dadleuon—yn y pwyllgor ac yn y Cyfarfod Llawn—fod llawer iawn o ymdrech wedi'i wneud i ystyried sut y gellid gwella'r Bil, fel y'i cyflwynwyd, ac, yn wir, mae wedi'i wella. Mae'r ddadl yng Nghyfnod 3, a'r cyfraniadau heddiw gan feinciau'r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru, yn dangos nad ydym ni bob amser wedi gallu cytuno, a byddwn yn adleisio rhai o'r dadleuon a wnaeth y Gweinidog iechyd yn y ddadl yng Nghyfnod 3 wrth ymateb i rai o'r pwyntiau o sylwedd sydd wedi'u codi heddiw. Ond, er gwaethaf y ffaith nad oes cytundeb ar yr holl feysydd hynny, mae gennym ni bwrpas cyffredin, rwy'n credu, i gryfhau'r ddyletswydd ansawdd, y ddyletswydd didwylledd, y trefniadau llywodraethu a llais y cyhoedd, ac mae Llywodraeth Cymru yn fodlon bod y Bil yn cyflawni'r pethau hyn.

Os caiff y Bil ei basio heddiw, fel yr wyf yn annog yr Aelodau i'w wneud, rwyf eisiau eich sicrhau y bydd yr ystyriaeth fanwl a roddwyd i'r Bil hwn a'r cyngor pwysig a gafwyd gan randdeiliaid hefyd yn cael ei ystyried pan symudwn ni i'r cam gweithredu. Gobeithio y bydd yr Aelodau'n cefnogi'r Bil.

18:15

Diolch. Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50C, mae'n rhaid cymryd pleidlais wedi'i chofnodi ar gynigion Cyfnod 4. Felly, fe ohiriaf y bleidlais ar y cynnig hwn tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

12. Cyfnod Pleidleisio

Rwy'n dod i'r cyfnod pleidleisio. Heblaw bod dau Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, awn ymlaen i bleidleisio. Iawn, felly rydym yn pleidleisio ar Gyfnod 4 Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru), a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Vaughan Gething. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 22, un yn ymatal, 16 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn.

NDM7306 - Cyfnod 4 y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru): O blaid: 22, Yn erbyn: 16, Ymatal: 1

Derbyniwyd y cynnig

13. Dadl: Cyfnod 3 y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru)

Mae eitem 13 ar ein hagenda, sef trafodion Cyfnod 3 Fil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) wedi'i gohirio.

Felly, daw hynny â thrafodion heddiw i ben.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:16.