Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

10/03/2020

Cynnwys

Contents

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol)
3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
4. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Diwrnod Rhyngwladol y Menywod
5. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwybodaeth ddiweddaraf am Coronavirus (COVID-2019)
6. & 7. Rheoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 a Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Diwygiadau Amrywiol) 2020 a Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) (Diwygio) 2020
8. Dadl: Setliad yr Heddlu 2020-21
9. Dadl: Maes Awyr Caerdydd
10. Cyfnod Pleidleisio
11. Dadl: Cyfnod 3 y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru)
Grŵp 1: Dyletswydd i sicrhau ansawdd mewn gwasanaethau iechyd—cynllunio’r gweithlu a lefelau staffio priodol (Gwelliannau 21, 22, 23, 24, 25, 26, 27, 28, 29, 30, 31, 32, 33, 34)
Grŵp 2: Dyletswydd i sicrhau ansawdd mewn gwasanaethau iechyd—ystyr ‘ansawdd’ (Gwelliannau 60, 61, 62, 63, 64, 65, 66, 67, 68, 69, 70, 71)
Grŵp 3: Dyletswydd i sicrhau ansawdd mewn gwasanaethau iechyd—pŵer i ddyroddi canllawiau (Gwelliannau 16, 17, 18)
Grŵp 4: Dyletswydd i sicrhau ansawdd mewn gwasanaethau iechyd—diffyg cydymffurfio (Gwelliant 35)
Grŵp 5: Dyletswydd i sicrhau ansawdd mewn gwasanaethau iechyd—data (Gwelliant 38)
Grŵp 6: Dyletswydd i sicrhau ansawdd mewn gwasanaethau iechyd—cofrestr o reolwyr (Gwelliant 72)
Grŵp 7: Dyletswydd i sicrhau ansawdd mewn gwasanaethau iechyd—adolygu datganiad o safonau (Gwelliannau 36, 37)
Grŵp 8: Dyletswydd gonestrwydd—diffyg cydymffurfio (Gwelliannau 39, 73, 74)
Grŵp 9: Corff Llais y Dinesydd—aelodau (Gwelliannau 5, 48, 6, 7, 8, 49, 9, 50, 51, 52, 10, 53, 11, 12, 54, 56, 14)
Grŵp 10: Corff Llais y Dinesydd—sicrwydd indemniad ar gyfer gwirfoddolwyr a staff (Gwelliant 55)
Grŵp 11: Corff Llais y Dinesydd—adnoddau (Gwelliannau 57, 58)
Grŵp 12: Corff Llais y Dinesydd—archwilio (Gwelliant 13)
Grŵp 13: Corff Llais y Dinesydd—strwythurau ac ymgysylltu (Gwelliannau 40, 19, 59, 75, 20)
Grŵp 14: Corff Llais y Dinesydd—sylwadau i gyrff Cyhoeddus (Gwelliannau 41, 76, 1, 42, 77)
Grŵp 15: Cwynion ar y cyd (Gwelliannau 43, 47)
Grŵp 16: Corff Llais y Dinesydd—dyletswydd i gyflenwi gwybodaeth (Gwelliant 2)
Grŵp 17: Corff Llais y Dinesydd—Mynediad i fangre (Gwelliannau 3, 45)
Grŵp 18: Corff Llais y Dinesydd—dyletswydd i gydweithredu (Gwelliannau 4, 46)
Grŵp 19: Corff Llais y Dinesydd—cymorth i wirfoddolwyr a staff (Gwelliant 44)
Grŵp 20: Corff Llais y Dinesydd—cymhwyso safonau’r Gymraeg (Gwelliant 15)
Pwynt o Drefn
Neges gan Ei Mawrhydi Y Frenhines, Pennaeth y Gymanwlad

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:00 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Michelle Brown, ond nid yw Michelle Brown yma, felly cwestiwn 2 fydd y cwestiwn cyntaf—Alun Davies. 

Ni ofynnwyd cwestiwn 1 [OAQ55239].

Gwasanaethau Cyhoeddus

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygiad gwasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol? OAQ55193

Cyni cyllidol yw'r grym sy'n dal i siapio ein gwasanaethau cyhoeddus, yn sbarduno galw ac yn lleihau ein gallu i ymateb. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod wedi ymrwymo i wasanaethau cyhoeddus sy'n cael eu hariannu'n gyhoeddus ac yn cael eu darparu'n gyhoeddus gan staff sy'n cael eu cymell gan synnwyr grymus o wasanaeth cyhoeddus.

Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am hynna. Rwy'n credu bod llawer o Aelodau, fel finnau, yn falch iawn o glywed y Gweinidog cyllid yn gwneud datganiad y mis diwethaf ar sut y bydd Cymru ddigidol yn symud ymlaen. Roedd gen i ddiddordeb arbennig, wrth gwrs, yn ei barn y bydd academi sgiliau digidol yn cael ei lleoli yng Nglynebwy, yn fy etholaeth i, ac y byddwn yn buddsoddi mewn prif swyddogion digidol ar draws pob rhan o wasanaethau cyhoeddus Cymru, gan greu clwstwr o ragoriaeth gwirioneddol iawn lle y gallwn ysgogi newid digidol. Bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol bod Gweinidog yr economi a'r Gweinidog addysg ill dau wedi ymweld â Thales yng Nglynebwy yn ystod yr wythnosau diwethaf i lansio'r presenoldeb seiber-ddiogelwch yno, sy'n rhan o fenter y Cymoedd Technoleg. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu, felly, sut y mae'n gweld y clwstwr yng Nglynebwy, ond yr ymgyrch ehangach i greu gwasanaethau cyhoeddus digidol yng Nghymru, yn symud ymlaen yn ystod y misoedd nesaf, a sut y gallwn ni sicrhau bod y clwstwr hwn o ragoriaeth yr ydym ni'n ei weld yn cael ei ddatblygu yng Nglynebwy yn sail ac yn sylfaen i dwf economaidd pellach a rhagoriaeth mewn gwasanaethau cyhoeddus?

A gaf i ddiolch i Alun Davies am hynna ac am dynnu sylw at y ffaith ein bod ni ar fin recriwtio prif swyddog digidol newydd ar gyfer Llywodraeth Cymru? Y prif swyddog digidol presennol, Llywydd, hoffwn dalu teyrnged i'w chyfnod yn y swydd a dymuno'n dda iddi yn ei hymddeoliad. Byddwn yn cryfhau'r swydd honno sy'n ymwneud â'r Llywodraeth gyfan gyda phrif swyddogion digidol mewn llywodraeth leol ac ym maes iechyd, a bydd hynny i gyd yn cael ei roi ar waith ochr yn ochr â bwrdd digidol trawslywodraethol y gweinidogion sy'n cael ei gadeirio gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd.

Mae digideiddio gwasanaethau cyhoeddus yn un o'r ffyrdd allweddol yr ydym ni'n gwybod y gallwn ni barhau i wireddu ein penderfyniad bod gwasanaethau cyhoeddus ar gael yn briodol i ddinasyddion ledled Cymru gyfan mewn ffordd sy'n cyfateb i'w profiad cyfoes. Y synnwyr hwnnw o fod ar flaen y gad o ran datblygu digideiddio yw'r union beth sy'n digwydd yng Nglynebwy a thrwy ranbarth y Cymoedd Technoleg, gyda gwaith Thales, gyda'r academi sgiliau, gyda'r ganolfan gwasanaethau cyhoeddus digidol, a fydd yn weithredol yng Nglynebwy o fis Ebrill 2020 ymlaen, a chan ddwyn ynghyd yno, Llywydd, y seilwaith sydd ei angen arnom ni i gefnogi'r datblygiadau hynny ond, yn bwysig iawn, creu'r sgiliau sy'n golygu y bydd y gweithlu yn y rhan honno o Gymru mewn sefyllfa dda i fod ar flaen y gad o ran y datblygiadau hyn.

Hoffwn ofyn i'r Prif Weinidog pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wasgaru ffyniant ar draws y wlad trwy ddatblygu gwasanaethau cyhoeddus. Rwy'n credu bod angen i ni wrando ar y rhai sy'n teimlo ein bod ni mewn perygl o efelychu camgymeriad Lloegr o or-ganoli grym a datblygiad economaidd mewn un rhan o'r wlad. Nawr, un o'r syniadau y mae Plaid Cymru wedi ei gyflwyno, ac rwyf i'n siŵr bod y Prif Weinidog yn ymwybodol ohono, yw Deddf adnewyddu rhanbarthol i ddatganoli grym, gan sicrhau bod pob rhan o'r wlad yn cael ei chyfran deg o fuddsoddiad a bod cyrff cyhoeddus yn cael eu sefydlu mewn rhannau o'r wlad sydd wir angen swyddi newydd. Ceir rhannau o'm rhanbarth i yn y de-ddwyrain sydd wedi dioddef diboblogi a dirywiad economaidd ac maen nhw wir angen cymorth Llywodraeth Cymru—ardaloedd fel Tredegar, fel Merthyr ac fel Glynebwy. Mae cysylltiadau trafnidiaeth yn yr ardaloedd hynny mor wael ac mae'r economi sylfaenol yn crefu am fuddsoddiad. Felly, Prif Weinidog, hoffwn ofyn sut yr ydych chi'n meddwl y gall y Llywodraeth helpu i wella gwasanaethau cyhoeddus mewn ardaloedd fel hyn fel y gellir eu codi i fyny unwaith eto a'u gwneud yn ddeniadol i fusnesau gael eu sefydlu yno yn y dyfodol, yn ogystal â denu amwynderau lleol newydd a allai roi hwb i'r cymunedau hynny.

13:05

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae effaith ranbarthol yr economi yn rhywbeth sy'n gwbl flaenllaw yn y modd y mae Gweinidog yr economi yn llunio ei bolisi a'i adran i ddarparu yn y modd rhanbarthol deg hwnnw, er, fel y dangosodd cwestiwn yr Aelod, Llywydd, mae anghydraddoldebau o fewn rhanbarthau yn fwy amlwg nag anghydraddoldebau rhwng rhanbarthau yng Nghymru.

Felly, gan wneud yn siŵr, mewn rhanbarth fel y de-ddwyrain, sydd â rhai rhannau llewyrchus iawn ohono a rhai rhannau sy'n sylfaenol i economi Cymru—sut ydym ni'n gwneud yn siŵr bod ffrwyth y datblygiad hwnnw'n cael ei deimlo ym mhob man? Dyna sydd wrth wraidd yr agenda gwaith teg, mae wrth wraidd y Bil partneriaethau cymdeithasol y byddwn ni'n ei gyflwyno gerbron y Cynulliad hwn ac, i ddychwelyd at bwynt Alun Davies, mae'n rhaid edrych ar wasanaethau digidol drwy'r lens anghydraddoldeb honno hefyd.

Yn y modd hwnnw, rwy'n credu y gellir gwahaniaethu rhwng y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â'r pethau hyn a'r ffordd yr aethpwyd i'r afael â'r materion hyn mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig. Fel y dywed Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, rydym ni eisiau creu Cymru sy'n fwy cyfartal, a bod y Gymru fwy cyfartal honno wedi ei gwreiddio mewn cyfle cyfartal yn yr economi.

Prif Weinidog, roedd eich addewid ym maniffesto 2016, a dyfynnaf, 'Ein nod fydd creu awdurdodau lleol mwy a chryfach', gan fod Llafur Cymru yn cydnabod yn ôl pob golwg y swyddogaeth hanfodol y mae awdurdodau lleol yn ei chwarae ym mywydau pawb—. A allwch chi roi diweddariad, os gwelwch yn dda, ar eich diwygiad o lywodraeth leol, neu a yw'r addewid hwn yn mynd i fynd i'r un bin â ffordd liniaru'r M4?

Wel, Llywydd, mae Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) yn cael ei gyflwyno yn y Cynulliad hwn. Bydd yn dangos y ffordd y byddwn ni'n creu awdurdodau lleol sy'n gadarn ar gyfer y dyfodol, gan gadw'r 22 o bresenoldebau lleol, gyda drws ffrynt y mae pobl wedi dod yn gyfarwydd ag ef erbyn hyn dros bron i 30 mlynedd, ac eto gwneud cydweithredu ar sail ranbarthol yn ofynnol ar gyfer gwasanaethau a gweithgareddau llywodraeth leol craidd. Yn y ffordd honno, rwy'n credu y byddwn ni'n cyfuno'r manteision o gael awdurdodau lleol sy'n ddigon agos i boblogaethau i bobl deimlo eu bod nhw'n berchen arnyn nhw, a synnwyr o atebolrwydd i'r poblogaethau hynny, gyda'r manteision y bydd gweithio rhanbarthol at ddibenion allweddol yn eu cynnig. Bydd y Bil hwnnw gerbron y Cynulliad Cenedlaethol hwn, a bydd yr Aelod yn cael pob cyfle i gyfrannu at ei ddadlau a'i ddatblygu.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae nifer yr achosion o coronafeirws yng Nghymru a gadarnhawyd wedi codi i chwech erbyn hyn a disgwylir i hynny godi eto. Felly, mae'n gwbl hanfodol bod unrhyw ymgyrch gwybodaeth gyhoeddus yn cyrraedd pob rhan o Gymru nawr fel bod y cyhoedd yn gwbl ymwybodol o'r camau y gallan nhw eu cymryd i amddiffyn eu hunain a'u teuluoedd ac i gyfyngu lledaeniad y feirws hwn. Pa gamau eraill all Llywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau bod unrhyw ymgyrchoedd gwybodaeth gyhoeddus yng Nghymru yn cael cymaint o sylw â phosibl? Pa gamau ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod pobl Cymru yn adnabod symptomau'r feirws yn gyflym a'u bod nhw'n cael eu cyfeirio'n gywir at y cyngor a'r driniaeth briodol?

Diolchaf i Paul Davies am y cwestiwn pwysig yna. Mae'n iawn i ddweud bod chwe achos wedi eu cadarnhau yng Nghymru ar hyn o bryd, ond mae'r holl dystiolaeth a'r cyngor arbenigol sydd gennym ni'n dweud y bydd y nifer honno'n codi. Mae hyn yn rhoi cyfle i ni wneud yn siŵr bod y negeseuon cyhoeddus yr ydym ni'n eu cynnig yn eglur, yn gryno ac yn ddealladwy i bobl.

Yng nghyfarfod pwyllgor COBRA ddoe, dan gadeiryddiaeth Prif Weinidog y DU, cytunasom ei bod hi'n bwysig y dylai'r negeseuon hynny gael eu cyfleu ledled y DU. Felly, mae llawer o bobl yng Nghymru, fel y mae arweinydd yr wrthblaid yn gwybod, yn cael y rhan fwyaf o'u newyddion o fannau y tu allan i Gymru. Felly, mae cysondeb negeseuon ar draws y Deyrnas Unedig yn dod yn arbennig o bwysig yn yr achos hwn, rwy'n credu, a byddwn yn gweithio'n agos gyda Llywodraethau eraill y DU i wneud yn siŵr nad oes unrhyw ddryswch o ran negeseuon rhwng gwahanol rannau o'r Deyrnas Unedig. Yma yng Nghymru, mae gwiriwr symptomau effeithiol iawn, yn fy marn i, ar gael drwy wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru eisoes, lle, os bydd unrhyw un yn teimlo ei fod angen gwirio'r hyn y mae'n ei ddioddef yn erbyn symptomau coronafeirws, mae'n ei dywys trwy gyfres o gamau syml iawn ac yn rhoi cyngor iddo ar ddiwedd y broses. Mae'r system 111 bellach yn rhoi cyngor am ddim ar draws Cymru gyfan i bobl ym maes coronafeirws, a byddwn yn parhau i ddefnyddio ffynonellau cyngor dibynadwy drwy'r GIG a thrwy Iechyd Cyhoeddus Cymru i sicrhau, pan fydd negeseuon cyhoeddus yn cael eu darparu, eu bod yn cyrraedd cymaint o bobl a phosibl mor gyflym â phosibl.

13:10

Prif Weinidog, rwy'n deall erbyn hyn bod Llywodraeth y DU wedi sefydlu arweinwyr gweinidogol ar coronafeirws ar draws adrannau'r Llywodraeth, ac efallai y gallech chi ddweud wrthym ni a yw Llywodraeth Cymru yn gwneud hynny hefyd i ymchwilio i'r holl broblemau ac effeithiau y gallai'r feirws eu creu. Er enghraifft, prin iawn yw'r cyfarwyddyd neu wybodaeth am y rhwydwaith cludiant cyhoeddus, yn enwedig o ystyried bod gwaith ymchwil a gyhoeddwyd yn BMC Infectious Diseases wedi canfod bod y rhai sy'n defnyddio cludiant cyhoeddus yn ystod achosion o'r ffliw hyd at chwe gwaith yn fwy tebygol o ddal haint anadlol acíwt. Wrth gwrs, ceir rhai pryderon dilys iawn ynghylch cludiant cyhoeddus gan fod nifer fawr o bobl yn aml yn teithio mewn cerbydau trên gorlawn, gall fod awyru gwael a diffyg cyfleusterau hylendid ar y trên hefyd. Ac eto mae teithio ar y rhwydwaith cludiant cyhoeddus yn dal yn hanfodol i lawer o bobl ledled Cymru. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni pa ymchwil y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud i lefel y bygythiad sy'n cael ei beri drwy ddefnyddio'r rhwydwaith cludiant cyhoeddus yn ei gyflwr presennol? A allwch chi ddweud wrthym ni hefyd pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael gyda chwmnïau cludiant cyhoeddus ledled Cymru ynghylch sut y gallan nhw sicrhau bod teithwyr mor ddiogel â phosibl wrth deithio? A pha adnoddau ychwanegol sy'n cael eu cynnig i gwmnïau cludiant cyhoeddus i sicrhau bod ganddyn nhw'r hyn sydd ei angen arnyn nhw i sicrhau bod eu cerbydau a'u gorsafoedd mor lân a diogel â phosibl?

Diolchaf i arweinydd yr wrthblaid am y cwestiynau yna.

Yn Llywodraeth Cymru, mae'r Cabinet yn trafod materion coronafeirws yn ein holl gyfarfodydd erbyn hyn, ac rydym ni wedi sefydlu grŵp gweinidogol craidd a fydd yn cyfarfod rhwng cyfarfodydd rheolaidd y Cabinet i wneud yn siŵr ein bod ni mewn sefyllfa i ymateb ar frys ac ar unwaith pan fo angen ymateb o'r fath. Mae'r pwyllgor COBRA gweinidogol yn cyfarfod ddwywaith yr wythnos hefyd, ac mae Gweinidogion Cymru wedi eu cynrychioli yn y cyfarfodydd hynny bob amser.

Y cyngor gorau sydd gennym ni ar hyn o bryd gan brif wyddonwyr a chan brif swyddogion meddygol yw y dylai pobl barhau i ddefnyddio cludiant cyhoeddus fel y bydden nhw ar unrhyw adeg arall, ac nad oes unrhyw anawsterau ar hyn o bryd i bobl wneud hynny. Ond mae hwn yn glefyd y mae'r dystiolaeth yn dweud wrthym ni ei fod yn mynd i ddatblygu ymhellach, y gallai ddatblygu'n gyflym fel yr ydym ni wedi ei weld mewn mannau eraill yn y byd, ac i ddychwelyd at y pwynt cyntaf a wnaeth Paul Davies, Llywydd, mae'n bwysig iawn felly bod cyngor sy'n newid ar gael i aelodau'r cyhoedd, oherwydd wrth i'r clefyd ddatblygu, bydd y sefyllfa o ran cyngor ar gludiant cyhoeddus yn datblygu ochr yn ochr â hynny.

Rydym ni'n gweithredu, yn yr unig ffordd y gallwn ni rwy'n credu, ar sail y cyngor gorau y gallwn ni ei gael, ac rydym ni'n gwneud hynny ar sail DU gyfan a rennir gan ddefnyddio'r grŵp cynghori gwyddonol, y prif wyddonydd a'r pedwar prif swyddog meddygol. Mae cyd-aelodau unigol yn y Cabinet yn cymryd camau i gysylltu â'r sectorau y maen nhw'n gyfrifol amdanyn nhw i wneud yn siŵr bod y sectorau hynny'n gwneud paratoadau ar gyfer yr hyn y gallai fod angen ei wynebu wrth i'r clefyd ddatblygu, boed hynny'n golygu gallu darparu gwasanaeth â llai o staff, oherwydd bydd mwy o bobl yn sâl a bydd llai o bobl yn y gwaith, neu'n golygu ymateb i faterion seilwaith ffisegol o'r math y cyfeiriodd Paul Davies atyn nhw yng nghyswllt cludiant cyhoeddus.

Prif Weinidog, wrth gwrs, rwy'n falch bod Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi cydweithio ar ddeddfwriaeth i gryfhau pwerau Llywodraeth Cymru ar faterion fel cwarantinio a chrynoadau torfol, ac fel yr ydych chi eisoes yn gwybod, mae rhai ysgolion yng Nghymru a ledled y DU wedi cau eu drysau i fyfyrwyr sydd mewn perygl o coronafeirws. Wrth gwrs, mae ysgolion yn broblem benodol o ran atal lledaeniad y feirws, ac felly mae'n bwysig bod dulliau ar waith i Lywodraeth Cymru gau ysgolion, os bydd angen iddi wneud hynny.

Gan fod y bygythiad o ledaenu'r feirws yn dal yn uchel, pa baratoadau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu gwneud ar gyfer yr effaith y gallai hyn ei chael ar ysgolion, colegau a phrifysgolion ledled Cymru ar hyn o bryd? Pa drafodaethau sydd wedi eu cynnal gyda Gweinidogion ledled y DU am ddatblygu cynlluniau wrth gefn ar gyfer y sector addysg ac, yn wir, y gwasanaeth iechyd, pe byddai cynnydd sylweddol i nifer y plant a phobl ifanc sy'n cael eu heffeithio? A pha drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael gyda'r sector meithrin a blynyddoedd cynnar, o gofio bod plant o dan bump oed, ac yn enwedig y rhai o dan ddwyflwydd oed, mewn mwy o berygl oherwydd eu bod yn llai gwydn?

13:15

Unwaith eto, diolchaf i'r Aelod am y cwestiynau pwysig yna. Mewn gwirionedd, rydym ni wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar Fil brys sy'n debygol o gael ei gyflwyno yn Nhŷ'r Cyffredin, ac rydym ni'n dod i gytundebau gyda gweinyddiaethau eraill ledled y Deyrnas Unedig ar bwerau y mae angen iddyn nhw ddod i Gymru i ymdrin â gwasanaethau datganoledig, gan gynnwys y sector addysg.

Rydym ni'n ymwybodol iawn, Llywydd, y bydd—yn yr hyn a fydd yn weithdrefn frys—angen i ni weithio gyda'r Comisiwn i wneud yn siŵr bod cyfleoedd i'r Senedd graffu ar y cynigion hynny o ran sut maen nhw'n effeithio ar Gymru, ynghyd ag unrhyw femorandwm o gydsyniad deddfwriaethol y bydd y Llywodraeth yn ei gyflwyno ar lawr y Siambr. Bydd y Bil yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru o ran addysg, a bydd angen i'r pwerau hynny gael eu defnyddio ar yr adeg y maen nhw fwyaf effeithiol.

Ac os caf wneud yr un pwynt hwn, Llywydd: yng nghyfarfod COBRA ddoe, y pwynt yr oedd y prif wyddonwyr a'r prif swyddogion meddygol yn fwyaf awyddus i'w wneud oedd bod angen defnyddio'r pwerau y bydd y Bil brys yn eu darparu ar yr adeg pan fyddan nhw'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf, ac na ddylid eu defnyddio'n rhy gynnar. Oherwydd os byddwch chi'n eu defnyddio'n rhy gynnar ac yna angen eu defnyddio nhw eto, mae lefel cydymffurfiad y cyhoedd â'r mesurau hynny yn debygol o ostwng. Felly, os ydych chi'n mynd i ddefnyddio pwerau sy'n arwyddocaol, mae'n rhaid i chi eu hamseru nhw'n iawn, a byddwn yn gweithredu ar y cyngor gorau a gawn ni gan yr awdurdodau hynny ynglŷn ag amseru.

Yn y cyfamser, mae cynlluniau wrth gefn yn cael eu datblygu, wrth gwrs, ac mae Paul Davies yn iawn i dynnu sylw at sector y blynyddoedd cynnar. Dim ond i roi un enghraifft o'r meddylfryd sy'n mynd ymlaen: ceir rheoliadau, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, bod cymhareb oedolion i blant yn y lleoliad gofal plant, ac mae'r gymhareb honno wedi'i phennu mewn rheoliadau. Nawr, os oes llai o bobl i weithio oherwydd dyfodiad coronafeirws, efallai y bydd angen i ni fod yn fwy hyblyg yn y gymhareb reoleiddiol honno, a dyna yw ein meddylfryd ac mae'r math hwnnw o waith yn cael ei wneud eisoes.

A bydd hefyd, yn olaf, Llywydd, yn ymwybodol bod hwn yn sector sy'n arbennig o agored i niwed yn economaidd oherwydd ei fod yn dibynnu ar y ffioedd y mae'n eu cael gan rieni sy'n talu. Yr hyn nad ydym ni eisiau ei weld—rydym ni wedi bod mewn trafodaethau gyda Llywodraeth y DU heddiw cyn y gyllideb yfory ar y pwynt hwn—yw busnesau hyfyw a phwysig yng Nghymru yn mynd i'r wal oherwydd effaith fyrdymor, er ei bod yn effaith fyrdymor ddifrifol, o'r cyflwr hwn. Byddwn yn disgwyl i Lywodraeth y DU gynorthwyo i wneud yn siŵr y gellir helpu'r busnesau hynny trwy gyfnod anodd, oherwydd byddwn ni eu hangen pan fydd coronafeirws wedi dod i ben.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, rwy'n credu y cadarnhawyd bod pob achos o coronafeirws a gadarnhawyd yng Nghymru wedi dychwelyd yn ddiweddar o'r Eidal. Pa fesurau ydych chi wedi eu cymryd fel Llywodraeth i nodi trigolion Cymru sydd wedi dychwelyd o'r Eidal ers dyfodiad y feirws, a pha ragofalon ychwanegol sydd ar waith i sicrhau bod y clefyd yn cael ei gyfyngu cymaint â phosibl?

A hefyd, roeddwn i'n meddwl tybed a allech chi ymateb i rai o'r sylwadau a wnaed gan Ganghellor yr wrthblaid ddoe pan feirniadodd gyflymder y gweithredu yn yr ymateb gan Lywodraeth y DU a'r arafwch ar ran y Canghellor gan alw ar Lywodraeth y DU i gael gafael ar bethau. I ryw raddau, adleisiwyd y sylwadau hyn gan y cyn-Weinidog Rory Stewart. A ydych chi'n credu bod y sylwadau hyn yn bryderon dilys mewn unrhyw ffordd ar hyn o bryd?

13:20

Llywydd, ar y pwynt cyntaf, nid wyf i’n credu bod dull defnyddiadwy y gall unrhyw Lywodraeth ei ddilyn i olrhain pobl sy'n dychwelyd i'r wlad hon o lawer o rannau o'r byd, nid dim ond gogledd yr Eidal, ac eithrio drwy'r camau y mae Llywodraeth y DU wedi eu rhoi ar waith drwy'r porthladdoedd a'r meysydd awyr. Rydym ni'n parhau i weithio ar lefel Cymru lle mae gennym ni rywfaint o gyfrifoldeb cyffredin yn hynny o beth.

Mae'r cyngor i bobl sydd wedi dychwelyd o rannau eraill o'r byd lle mae coronafeirws yn mynd o gwmpas yn eglur iawn: ni ddylen nhw fynd i feddygfa meddyg teulu nac i wasanaeth damweiniau ac achosion brys, dylen nhw ffonio yn gyntaf, dylen nhw gael cyngor. Mae'r Aelod, rwy'n gwybod, yn ymwybodol ein bod ni yng Nghymru wedi rhoi pwyslais arbennig ar brofi pobl yn eu cartrefi. Rydym ni'n mynd â'r prawf i'r person, fel nad oes perygl iddo ddod i gysylltiad â phobl a allai gael eu heintio ganddo wedyn.

Rydym ni'n credu bod y chwe achos a nodwyd gennym ni yng Nghymru hyd yma yn bobl sydd wedi bod mewn cysylltiad ag eraill o ran arall o'r byd. Nid ydym ni'n credu bod gennym ni, ar hyn o bryd, ledaeniad cymunedol yng Nghymru, ond y cyngor yw mai mater o amser yw hynny. Felly, tra byddwn ni'n dal i fod yn y cyfnod cyfyngu, bydd hynny'n datblygu'n gyfres o gamau oedi ar yr adeg briodol.

Ac mae hynny'n dod â mi at yr ail bwynt a godwyd gan Adam Price, sef y pwynt a wneuthum wrth ateb Paul Davies am gyflymder. Y cyngor yr oeddem ni'n ei gael ddoe, Llywydd, oedd bod amseru camau gweithredu yn bwysig iawn. Os symudwn ni, er enghraifft, heddiw, at drefn lle gofynnwyd i unrhyw un a oedd â'r arwyddion cyntaf o annwyd ymneilltuo, mae bron yn sicr mai annwyd yw'r hyn y bydden nhw'n ymneilltuo ag ef, oherwydd mae annwyd yn mynd o gwmpas, ac nid yw coronafeirws. Felly, bydden nhw'n aros gartref am saith diwrnod, gyda'r holl anghyfleustra y mae hynny'n ei achosi, heb fod unrhyw ddiben mewn gwneud hynny. Pe byddai coronafeirws yn mynd o gwmpas ymhen 10 diwrnod, a ninnau'n gofyn iddyn nhw wneud hynny eto, mae'r modelu ymddygiadol yn dweud wrthym ni y byddai pobl yn fwy cyndyn o wneud hynny eilwaith, ar ôl bod drwy'r cwbl unwaith a chanfod nad oedd yn cyflawni unrhyw ddiben defnyddiol.

Felly, er fy mod i'n credu bod pob hawl i seneddwyr herio'r Llywodraeth, i ofyn y cwestiynau hynny, i fod yn feirniadol pan eu bod nhw'n credu y gellir cyfiawnhau beirniadaeth, byddwn ni'n gweithio ar sail y dystiolaeth orau sydd gennym ni ac, ar hyn o bryd, rydym ni'n credu bod trefn y camau y mae'n debygol y bydd yn rhaid i ni eu gofyn i ddinasyddion Cymru eu dilyn ar y pwynt cywir ar hyn o bryd, ac y byddwn ni'n amseru unrhyw bethau eraill y byddwn ni'n eu gofyn ganddyn nhw fel y bydd y gofynion hynny'n digwydd ar yr adeg y byddai'r camau hynny'n cael yr effaith fwyaf i arafu lledaeniad y feirws.

Yn amlwg, mae coronafeirws yn rhoi pwysau ar y GIG ym mhob un o'r pedair gwlad. Gofynnodd llefarydd iechyd y blaid Lafur, Jon Ashworth, ddoe i'r Ysgrifennydd iechyd yn Lloegr am adnoddau ychwanegol gan fod gwelyau gofal critigol yn Lloegr wedi cyrraedd 81 y cant o'r capasiti yn ystod yr wythnos yr oedd y ffigurau coronafeirws diweddaraf ar gael. Dywedodd grŵp gorchwyl a gorffen Llywodraeth Cymru ei hun:

Mae gan GIG Cymru lai o welyau gofal critigol ar gyfer maint y boblogaeth na gweddill y DU.

Yn amlwg, mae angen i nifer y gwelyau sydd ar gael yn y GIG gynyddu'n sylweddol, o gofio bod ysbytai wedi bod yn gweithredu uwchlaw'r lefel ddiogel o 85 y cant o welyau llawn ers bron i 10 mlynedd. O dan yr amgylchiadau sy'n ein hwynebu ni nawr, a ydych chi eisoes wedi nodi sut y byddech chi'n sicrhau gwelyau gofal critigol ychwanegol? Ac os felly, faint ohonyn nhw?

Llywydd, rydym ni'n disgwyl i Lywodraeth y DU ddarparu adnoddau ychwanegol i gynorthwyo'r GIG ac i gynorthwyo'r economi. Byddwn yn edrych ar y gyllideb yfory i weld bod y sicrwydd a roddwyd gan y Canghellor yn cael ei droi'n ffigurau mwy penodol i ni yfory. Mae mwy o welyau gofal dwys yng Nghymru o ganlyniad i gamau'r Llywodraeth hon. Bydd llawer ohonom ni yn y fan yma yn cofio'r ddadl ynghylch y Bil rhoi organau a'r angen i gynyddu capasiti gofal critigol i sicrhau bod y Ddeddf honno'n llwyddo.

Ond hoffwn geisio dweud wrth yr Aelodau yn y modd mwyaf cymedrol y gallaf, Llywydd, pe byddai sefyllfa waethaf bosibl realistig yn cael ei gwireddu pryd y byddai 80 y cant o'r boblogaeth yn dal coronafeirws a 25 y cant o'r boblogaeth yn ei ddal mewn ffordd sy'n gofyn am ymyrraeth feddygol sylweddol, mae hynny'n mynd i roi straen enfawr ar ein holl wasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys y gwasanaeth iechyd, oherwydd bydd y feirws yn cael yr un effaith ar bobl sy'n gweithio yn y gwasanaeth iechyd. Felly, byddwn yn wynebu sefyllfa lle bydd llawer mwy o alw a straen gwirioneddol ar y bobl sydd ar ôl i'w fodloni.

Felly, rydym ni'n gweithio gyda'r gwasanaeth iechyd, wrth gwrs, i nodi'r cynlluniau y gellir eu rhoi ar waith, yr adnoddau y gellir eu darparu; ond nid dim ond gwelyau fydd yr adnoddau hyn, byddan nhw'n bobl i ddarparu'r gwasanaethau sydd eu hangen. Ac mewn sefyllfa pan fo 25 y cant o'r boblogaeth yn ddifrifol wael, bydd hynny'n effeithio ar y bobl hynny hefyd. Rydym ni'n gwybod y bydd hon yn effaith a fydd yn cael ei theimlo dros lawer o wythnosau, a bydd gwydnwch y bobl yr ydym ni'n dibynnu arnyn nhw i ddod i mewn ac ymateb mewn argyfwng yn anodd ei gynnal wythnos ar ôl wythnos dros y cyfnod estynedig hwnnw.

13:25

Yn amlwg, nid yw sefyllfa sydd ar fin troi'n bandemig byd-eang o bosibl yn amser pan fyddai unrhyw un eisiau ystyried cau cyfleusterau yn y GIG. Bum wythnos yn ôl, pan ofynnwyd a fyddech chi'n ymyrryd i gadw gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, dywedasoch nad ydym ni'n agos o gwbl at y pwynt hwnnw eto. Yn ystod y pythefnos nesaf, bydd y bwrdd iechyd yn gwneud penderfyniad terfynol. A ydym ni wedi cyrraedd y pwynt hwnnw? Ac os felly, a wnewch chi ymyrryd heddiw?

Llywydd, ceir proses sydd wedi'i chyflwyno'n eglur iawn ac sy'n angenrheidiol yn gyfreithiol a ddilynir fel bod penderfyniad yn cyrraedd ar ddesg un o Weinidogion Cymru. Mae honno'n broses lle mai'r sefydliadau hynny sydd â hawl gyfreithiol i gyfeirio mater at ddesg y Gweinidog yw'r bobl sy'n gorfod gwneud hynny, os ydyn nhw'n dewis gwneud hynny. Dydyn ni ddim ar y pwynt hwnnw. Bydd yn rhaid i'r bwrdd iechyd wneud ei benderfyniad, ac yna byddai'n rhaid i sefydliad, fel cyngor iechyd cymuned, a all gyfeirio'r mater hwnnw at Weinidog i'w benderfynu, benderfynu gwneud hynny. Dyna sut mae'r broses yn gweithio. Dyna sut y mae'n rhaid i'r broses weithio i fod yn gyfreithiol anatebadwy. A dydyn ni ddim wedi cyrraedd y pwynt hwnnw. Efallai na fyddwn ni'n cyrraedd y pwynt hwnnw, oherwydd mae'n rhaid i'r penderfyniad gael ei atgyfeirio er mwyn i Weinidog wneud penderfyniad. Ond, os bydd yn digwydd, mae gan Weinidogion gyfrifoldebau cyfreithiol. A dyna pam mae wedi bod mor bwysig, yn hynny i gyd, nad yw Gweinidogion yn rhagfarnu sefyllfa lle byddai unrhyw benderfyniad y maen nhw'n ei wneud wedyn yn agored i her.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, os caf i droi at lifogydd, mae'r gymdeithas diwydiant ar gyfer busnesau coedwigaeth, Confor, yn dweud bod dehongliad Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn atal newidiadau i unrhyw dirwedd lle nad yw'r cynefin neu'r dynodiad ar gyfer coetir. O gofio manteision plannu coed ar ucheldir i liniaru rhag llifogydd, a'r cyfleoedd i ddatgarboneiddio sydd yno hefyd, a ydych chi'n cytuno bod y canllawiau ar gyfer dehongli'r Ddeddf yn rhy hen erbyn hyn?

Yn 2017, edrychodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar rwystrau i blannu coed. Roedd Confor a Tilhill Forestry ymhlith y rhai a roddodd dystiolaeth, a dywedasant fod yr asesiadau o'r effaith amgylcheddol yn rhwystr enfawr i blannu coed. Ers yr adroddiad hwnnw, nid yw'r rheoliadau asesu effaith amgylcheddol wedi newid. A fyddech chi'n cytuno ei bod hi'n bryd i ni wneud mwy i alluogi plannu coed, o ystyried yr argyfwng hinsawdd a ddatganwyd, a'r llifogydd dinistriol yr ydym ni wedi eu gweld yn ddiweddar, ac a ddylai hyn gynnwys diweddaru rheoliadau a chanllawiau Deddf yr amgylchedd i gael gwared ar rwystrau i blannu coed?

Llywydd, gadewch i mi ddechrau drwy gytuno â'r hyn y mae'r Aelod wedi ei ddweud am yr effaith lesol y gall plannu coed ei chael o ran atal llifogydd. Mae cynyddu gorchudd coedwigoedd mewn dalgylchoedd afonydd yn cynyddu anweddiad canopi, yn gwella storfeydd dŵr daear, yn gwella strwythur a gwydnwch y pridd, ac, yn bwysig iawn, yn arafu llif dŵr. Felly, ceir achos cryf y mae'r Aelod wedi cyfeirio ato fod gan blannu coed ychwanegol ran i'w chwarae mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd.

Mae angen taro cydbwysedd rhwng plannu coetiroedd ychwanegol a'r effaith ar fioamrywiaeth. Nawr, gan fod yn rhaid cael y cydbwysedd hwnnw, mae gennym ni drefn yng Nghymru lle, os cynigir plannu coetiroedd dros bum hectar, yna mae'n rhaid cynnal asesiad o'r effaith amgylcheddol i wneud yn siŵr nad yw'r plannu coed ychwanegol, gyda'i fanteision, yn atal amcanion pwysig eraill yn y maes amgylcheddol. Gwn fod y Gweinidog yn ystyried ar hyn o bryd a yw'r trothwy pum hectar hwnnw'n rhy isel, ac a ellid ei godi. Byddai hynny'n fuddiol o ran ei gwneud yn haws plannu coed, ond byddai'n rhaid i ni fod yn ffyddiog na fyddai'n arwain at golled sylweddol o ran bioamrywiaeth, a allai, ar ei ben ei hun, wrthbwyso'r manteision a fyddai'n dod yn sgil plannu coed.

13:30

Croesawaf y ffaith fod y Gweinidog yn ailystyried yn y modd hwnnw. Fodd bynnag, cyfeiriodd Confor hefyd at y mater o ble mae tirwedd wedi'i dynodi mewn rhyw ffordd arall, math o rostir ucheldirol dywedwch, eu bod nhw'n canfod bod rhagdybiaeth yn erbyn plannu coed yn yr ardaloedd hynny. A gallan nhw fod yn ardaloedd llawer rhatach, £1,000 yr hectar dywedwch, yn hytrach na sawl mil, gan wneud y plannu'n llawer mwy economaidd ac yn debygol o fynd rhagddo. Oni ddylem ni edrych hefyd ar y dynodiadau hynny, a chaniatáu mwy o hyblygrwydd ar gyfer plannu coed?

Nawr, mae cyfarwyddeb fframwaith dŵr yr UE yn effeithio ar benderfyniadau ynghylch carthu, ac rydym ni'n gwybod bod y defnydd o garthu wedi lleihau'n sylweddol tua'r adeg y cafodd y gyfarwyddeb honno ei phasio a'i gweithredu. Nawr, rydym ni'n gwybod na fyddai mwy o garthu yn lliniaru'r holl lifogydd, ond efallai y byddai wedi gwneud gwahaniaeth mewn rhai achosion, er enghraifft, afon Conwy, lle y clywsom ni gan Janet Finch-Saunders. Gwnaeth Vikki Howells, o'ch meinciau chi eich hun, bwynt tebyg yr wythnos diwethaf o safbwynt Cymoedd y De. Yn y cyfamser, mae'n ymddangos bod ailddechrau carthu Gwastadeddau Gwlad yr Haf wedi bod o gymorth yn yr ardal honno. O'i gyplysu â rheoliadau sy'n annog plannu coed ar yr ucheldir, oni allai mwy o garthu liniaru perygl llifogydd yn y dyfodol? Gan ein bod ni wedi gadael yr UE erbyn hyn, oni ddylem ni ddatblygu ein harferion a'n fframweithiau cartref ar gyfer carthu ac amddiffyn rhag llifogydd? Ac a ydych chi'n cytuno y dylai'r rhain annog plannu coed ar yr ucheldir a'i gwneud yn haws ymgymryd â gwaith carthu priodol?

Wel, o ran y mater cyntaf o ddynodiad, Llywydd, mae dynodiad yno am reswm; mae ar gyfer mathau eraill o amddiffyniadau. Ond, mewn byd ôl-Brexit, mae'r cynllun y mae fy nghyd-Weinidog, Lesley Griffiths wedi bod yn bwrw ymlaen ag ef fel 'Brexit a'n tir' ac sydd bellach yn 'Ffermio Cynaliadwy a'n Tir', yn tynnu sylw at y ffaith y bydd y cyhoedd, yn y dyfodol, yn fodlon talu ffermwyr i wneud pethau sydd â budd cyhoeddus uniongyrchol, ac mae'n bosibl iawn y gallai plannu coed ychwanegol fod yn rhan o un elfen yn y repertoire o bethau y bydd y cyhoedd yn fodlon talu amdanyn nhw, am y rhesymau y mae'r Aelod yn eu hamlinellu, a gallai hynny arwain at oblygiadau o ran dynodi.

O ran carthu, yn ein gwaith casglu tystiolaeth gan awdurdodau lleol, wrth i ni ddechrau symud, gobeithio, i'r cyfnod adfer ar ôl y llifogydd diweddar, un o'r pethau y byddwn ni'n eu trafod gyda'r awdurdodau lleol hynny yw pa un a fyddai carthu, carthu ychwanegol, wedi cael effaith ar y llifogydd a gafwyd. Felly, mae'n cael ei ystyried yn weithredol yn y ffordd seiliedig ar dystiolaeth honno, ond byddwn eisiau clywed gan bob awdurdod lleol am eu hamgylchiadau penodol. Mewn rhai mannau—mae'n debyg bod fy nisgwyliad yn anghywir—ond o'r hyn yr wyf i wedi ei weld hyd yma, fy nisgwyliad yw y bydd rhai achosion lle y byddai carthu ychwanegol yn gwneud gwahaniaeth, ond efallai na fydd yn ateb a fydd yn cael effaith lesol ym mhobman.

13:35
Prosiectau Cynhyrchu Ynni Lleol a Chymunedol

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i brosiectau cynhyrchu ynni lleol a chymunedol o amgylch Cymru? OAQ55191

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi prosiectau ynni adnewyddadwy lleol a chymunedol yn llwyddiannus ers 2010, ac yn parhau i wneud hynny trwy wasanaeth ynni Llywodraeth Cymru. Rydym ni wedi gosod targedau perchenogaeth leol heriol i sicrhau ein bod ni'n cadw cyfoeth ac yn cynnig budd i gymunedau ledled Cymru.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ateb. Rwy'n credu mai un o'r pethau nad ydym ni ei eisiau yw bod ein hadnoddau naturiol yn cael eu troi'n gyfoeth mewn lle arall yn hytrach na Chymru.

Mae trosglwyddo ynni wedi newid o orsaf bŵer i ddefnyddiwr terfynol, gyda llawer o gynhyrchu lleol yn mynd i'r grid erbyn hyn. Rwy'n cofio'r diagram a oedd yn dangos gorsaf bŵer mewn un lle, llinellau'n mynd yr holl ffordd, ac yn dod i ben mewn ffatrïoedd a thai. Nid dyna sy'n digwydd erbyn hyn, gan y gall cynhyrchu lleol fynd i mewn i'r grid. Ond ceir dwy broblem sy'n bodoli. Un yw: pa gynnydd sy'n cael ei wneud o ran mynediad at y grid? Oherwydd rwy'n deall, mewn rhai ardaloedd, yn enwedig yn y canolbarth, bod anhawster mawr o ran cael mynediad at y grid, a bod gan rai ardaloedd fynediad at y grid gan fod hen orsafoedd pŵer wedi cau, ac felly mae mwy o gapasiti yn y grid. A hefyd, storio a defnyddio'n lleol. Mae pobl wedi fy nghlywed i'n sôn yn aml am fatris, a'r angen i wneud datblygiadau enfawr o ran batris. Oherwydd, yn hytrach na defnyddio'r grid, pe gallai pobl gynhyrchu trydan yn lleol a'i ddefnyddio'n lleol, yna byddai hynny o fudd i bawb.

Diolchaf i'r Aelod am y ddau gwestiwn pwysig yna. Llywydd, rwy'n rhannu rhywfaint o'r rhwystredigaeth yr wyf i'n ei glywed gan gynhyrchwyr lleol, am yr anhawster mewn cael cysylltiadau â'r Grid Cenedlaethol. A siaradais am hyn gyda phrif weithredwr newydd Ofgem, mewn sgwrs gydag ef ddydd Gwener, ac edrychaf ymlaen at ei weld yn dod i Gymru i barhau'r sgwrs honno. Ac mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn cyfarfod â'r Grid Cenedlaethol a gweithredwyr y rhwydwaith dosbarthu heddiw. Oherwydd mae angen buddsoddiad arnom ni ar lefel y DU, mewn arloesi a lleihau costau ar gyfer storio, ac ar gyfer cysylltu â'r grid. Ac mewn rhai rhannau o Gymru, mae ein cyfleoedd i fanteisio ar y nifer fawr o asedau naturiol sydd gan Gymru ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy—boed hynny'n wynt ar y tir neu'n forol—mae'r ddau yn cael eu dal yn ôl gan y diffyg buddsoddiad yn seilwaith y Grid Cenedlaethol yma yng Nghymru. Felly, mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn am hynny, ac am yr angen i'r Grid Cenedlaethol roi sylw priodol i anghenion Cymru.

O ran storio mewn batris, ac arloesi o'r math hwnnw, mae Llywodraeth Cymru eisiau chwarae ein rhan i gynorthwyo diwydiannau sy'n datblygu technolegau newydd yn y maes hwnnw. Mae fy nghyd-Weinidog, Ken Skates, wedi cefnogi datblygiad pwysig yn ardal Castell-nedd Port Talbot sy'n ymwneud â storio mewn batris a'r technolegau a fydd yn caniatáu'r math hwnnw o storio lleol y bydd yr uchelgeisiau sydd gennym ni ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy yma yng Nghymru yn dibynnu arno.

Rwyf i'n mynd yn ôl i'r dyddiau pan oedd y portffolio hwn gan John Griffiths, a geisiodd codi'r union bwynt hwn am gysylltiad â'r grid, a'r ffordd y mae'n dal yn ôl y defnydd o ynni adnewyddadwy yma yng Nghymru. Ac yn wir, pan ddaw i ddefnyddio batris, ceir moratoriwm yn ne Cymru tan 2026, ar unrhyw ddefnydd masnachol o fatris. Felly, mae'r Prif Weinidog yn gwneud pwynt da am swyddogaeth Ofgem. Mae'n ffaith nad oes gennym ni aelod o Gymru ar fwrdd Ofgem, ac, yn aml iawn, pan fyddwch chi'n rhyngweithio ag Ofgem, maen nhw'n cyfeirio at y Llywodraeth fel y Llywodraeth yn San Steffan yn hytrach na'r Llywodraethau datganoledig. Mae llawer o'r cyfrifoldebau ynni yn cael eu cyflawni yma, yn enwedig caniatâd cynllunio, ac ati. Mae'n hanfodol bod gan y cyfnod rheoli y mae Ofgem yn gweithio yn unol ag ef pan fydd yn sybsideiddio datblygiad seilwaith agwedd Gymreig iddo. A ydych chi'n cefnogi Ofgem yn gwneud lle i benodi aelod o'r bwrdd o Gymru, fel y gellir clywed llais Cymru pan fydd y penderfyniadau hyn yn cael eu gwneud?

Diolchaf i Andrew R.T. Davies am hynna. Wrth gwrs, rydym ni eisiau gwella atebolrwydd Ofgem i fuddiannau Cymru, a gallu Ofgem ei hun i ddeall a chydnabod amgylchiadau sy'n benodol i Gymru. Felly a ddylwn i ddweud i mi gael fy nghalonogi gan y ffaith bod y prif weithredwr newydd wedi gofyn am alwad ffôn yn gynnar iawn yn ei gyfnod yn y swydd, i siarad am yr hyn y maen nhw'n bwriadu ei wneud i wella'r gwasanaeth y maen nhw'n ei ddarparu i Gymru? Rwyf wedi fy nghalonogi gan y ffaith ei fod wedi ymrwymo i dalu ymweliad cynnar â Chymru fel y gall gyfarfod ag amrywiaeth ehangach o fuddiannau yng Nghymru. A phe byddai aelod o'r bwrdd o Gymru o gymorth i wneud yn siŵr ein bod ni'n cael gwell gwasanaeth o'r system yn y dyfodol yna, wrth gwrs, byddaf yn hapus iawn i drafod hynny gydag ef.

13:40
Gwasanaethau Iechyd Meddwl

4. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar ddarpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl yng Ngogledd Cymru? OAQ55222

Diolch i Llyr Gruffydd am y cwestiwn. Mae cynnydd yn parhau mewn sawl maes gofal iechyd meddwl yn y gogledd. Hoffwn longyfarch staff yn Ysbyty Gwynedd ac mewn ysbytai cymunedol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am gael eu cydnabod fel rhai sy'n deall dementia. Mae'r bwrdd yn rhoi blaenoriaeth i atal ac ymyrryd yn gynnar wrth roi gofal i gleifion ar draws gwasanaethau iechyd meddwl.

Tra bod yna, wrth gwrs, straeon da, fel rŷch chi wedi cyfeirio atyn nhw, o safbwynt peth o'r gofal, rŷm ni yn ymwybodol, wrth gwrs, mai un o'r rhesymau y rhoddwyd y bwrdd iechyd mewn i fesurau arbennig oedd oherwydd methiannau pan mae'n dod i wasanaethau iechyd meddwl. Nawr, mi roedd hi'n siom darllen adroddiad llynedd, oedd yn adolygiad o therapïau seicolegol yng ngogledd Cymru, oedd yn rhestru llith o fethiannau. Roedd e'n sôn am gleifion yn gorfod aros am gyfnodau annerbyniol o hir; diffyg datblygu gweithlu strategol ac integredig; a diffyg data sylweddol yn arwain at agendor mawr wrth wneud penderfyniadau yn seiliedig ar dystiolaeth. A dim ond yn nadl Plaid Cymru wythnos diwethaf ar y pwnc yma, roeddem ni'n clywed sut mae yna gleifion o Gymru, wrth gwrs, wedi cael eu lleoli mewn sefydliadau yn Lloegr sydd wedi cael eu dangos gan yr awdurdodau fanna i beidio â bod yn cwrdd â'r safonau y byddem ni'n gobeithio y maen nhw.

Nawr, wrth gwrs, mae yna bum mlynedd, bron iawn, ers i'r bwrdd fynd i mewn i fesurau arbennig, ond mae llawer o'r methiannau hynny'n parhau. Felly, y cwestiwn yw, wrth gwrs: pryd ŷch chi, fel Llywodraeth, yn mynd i gymryd cyfrifoldeb am y rhestr yma o faterion sy'n dal yn ddiffygiol? Yn wir, pryd welwn ni Lywodraeth Cymru yn cael ei rhoi i mewn i fesurau arbennig ar y mater yma? 

Wel, Llywydd, wrth gwrs, dwi'n cydnabod roedd y ffaith bod problemau yn y gwasanaethau iechyd meddwl yn rhan o'r penderfyniad i roi bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr i mewn i fesurau arbennig yn y lle cyntaf, ond mae lot o bethau wedi gwella yn y maes iechyd meddwl dros y blynyddoedd ers cael ei roi i mewn i fesurau arbennig.   

O ran therapïau seicolegol, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, adroddiad a gomisiynwyd gan y bwrdd ei hun oedd hwn. Bydd yn mynd i bwyllgor ansawdd a diogelwch y bwrdd ar 17 Mawrth. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu dros £1 filiwn o fuddsoddiad ychwanegol yn uniongyrchol i'r bwrdd i weithredu ar argymhellion yr adroddiad, a gomisiynwyd ganddo ef ei hun. Ac, er bod llawer o faterion y mae'r adroddiad hwnnw'n eu hamlygu y mae angen i'r bwrdd roi sylw iddyn nhw, cyfeiriodd yr adroddiad hwnnw hefyd at lawer o enghreifftiau lle mae camau arloesol, llawn dychymyg ac ymroddgar yn cael eu cymryd gan dimau sy'n darparu therapïau seicolegol yn y gogledd.

A chyn belled ag y mae cleifion sy'n cael eu lleoli y tu allan i Gymru yn y cwestiwn, ceir gostyngiad parhaus i nifer y cleifion sy'n cael eu lleoli yn y modd hwnnw. Yn 2018, lleolwyd 130 o gleifion o bob cwr o Gymru mewn gwasanaethau yn Lloegr, a'r llynedd, yn 2019, roedd hynny wedi gostwng i 96, ac mae hynny o ganlyniad i ymdrechion cyfunol y mae byrddau ledled Cymru yn eu gwneud i ailwladoli gwasanaethau a dod â chleifion yn nes adref, ac rwy'n credu mai dyna'r peth cwbl gywir iddyn nhw ei wneud.

Pan fo'n rhaid lleoli cleifion dros y ffin—a bydd enghreifftiau o angen penodol iawn bob amser—yna mae gennym ni ein tîm sicrwydd ein hunain sy'n ymweld â phobl yn y lleoedd hynny, sy'n sicrhau hyd yn oed os yw'r gwasanaeth, yn ei gyfanrwydd, yn destun craffu, bod y gwasanaeth a ddarperir i'r claf hwnnw o Gymru o safon y byddem ni'n barod i'w chydnabod. Ac os nad yw hynny'n wir—ac ni ddylem ni anghofio, yn yr enghraifft ddiweddar o ysbyty St Andrews, mai oherwydd ymweliad gan arolygydd o Gymru y codwyd pryderon—yna nid ydym yn lleoli cleifion yno mwyach ac rydym ni'n gwneud trefniadau eraill pan fo hynny'n angenrheidiol.

Ar 22 Ionawr, ysgrifennodd cyngor iechyd cymuned gogledd Cymru at eich Gweinidog iechyd, gan dynnu ei sylw at yr adroddiad y cyfeiriwyd ato—yr adolygiad annibynnol o therapïau seicolegol yn y gogledd, a gynhaliwyd yn annibynnol gan yr ymgynghoriaeth gydweithredol TogetherBetter—a thynnu ei sylw at ei ganfyddiadau o ddiffyg gweledigaeth gyffredin, eglurder a goruchwyliaeth strategol ar lefel bwrdd iechyd a lefel is-adrannol, diffyg datblygiad gweithlu strategol ac integredig, a llawer mwy, a dywedodd, ar ôl bron i bum mlynedd yn destun mesurau arbennig, bod llawer ohono'n ymwneud â gwasanaethau iechyd meddwl—bod y canfyddiadau hyn yn hynod siomedig. Dywedasant wrthyf hefyd bod ymateb eithaf di-ddim y Gweinidog yn siomedig hefyd. Sut ydych chi'n ymateb i gynnwys y llythyr yr wyf i wedi ei gael gan athro seiciatreg a adawodd Betsi Cadwaladr ar 31 Ionawr, ac a ddywedodd fod y problemau'n ymwneud â'r newidiadau a gynigiwyd gan reolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ar ôl cymryd cyfrifoldeb am y gwasanaethau yn y gogledd-orllewin—nad oes yr un o'r staff meddygol na'r staff nyrsio yno yn ei gefnogi?

13:45

Nid wyf i wedi gweld y llythyr hwnnw, Llywydd, felly nid wyf i mewn sefyllfa i ymateb iddo. Roeddwn i'n ymwybodol o'r llythyr gan y cyngor iechyd cymuned ar 22 Ionawr. Cyfeiriodd ymateb y Gweinidog ar y pryd at y ffaith bod hwnnw'n adroddiad y disgwyliwyd iddo gael ei ystyried gan y bwrdd, ac mai cyfrifoldeb y bwrdd, fel comisiynydd yr adroddiad hwnnw, oedd rhoi'r ystyriaeth gyntaf iddo. Fel y dywedais yn fy ateb i Llyr Gruffydd, mae'r adroddiad yn mynd i bwyllgor ansawdd a diogelwch y bwrdd ar 17 Mawrth a gwn y bydd y Gweinidog eisiau clywed gan y bwrdd y cynllun y bydd yn ei roi ar waith i ymateb i argymhellion yr adroddiad yr oedd ef ei hun wedi ei gomisiynu.

Adfywio Canol Dinas Casnewydd

5. Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i weithio gyda Chyngor Dinas Casnewydd a phartneriaid eraill i adfywio canol Dinas Casnewydd? OAQ55231

Diolchaf i John Griffiths am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae bron i £23 miliwn o gyllid grant adfywio a benthyciadau wedi ei gymeradwyo ar gyfer prosiectau yn ardal Cyngor Dinas Casnewydd ers 2014. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gydweithio â chyngor y ddinas i sicrhau bod ei brosiectau adfywio yn y presennol a'r dyfodol yn cael eu cyflawni'n llwyddiannus.

Diolch am hynna, Prif Weinidog. Rwy'n credu bod y bartneriaeth gref honno rhwng Llywodraeth Cymru, Cyngor Dinas Casnewydd, busnesau, landlordiaid cymdeithasol ac eraill wedi dwyn ffrwyth sylweddol ac wedi helpu i ymateb i'r heriau o ddod o hyd i ffyrdd eraill o ddefnyddio canol ein dinas. Ac yn fuan bydd enghraifft arall o hynny pan fydd gwesty pedair seren sylweddol yn agor yng nghanol dinas Casnewydd, yn agos at ganolfan siopa Friars Walk, a oedd ei hun, wrth gwrs, yn ganlyniad o'r bartneriaeth honno dim ond ychydig flynyddoedd yn ôl. Ond serch hynny, Prif Weinidog, ceir heriau parhaus, gan fod maes manwerthu yn newid mor gyflym, gyda chymaint o siopa ar-lein ac yn y blaen, felly bydd angen parhau a chryfhau'r bartneriaeth honno, rwy'n credu, ac rwy'n meddwl tybed a wnewch chi fanteisio ar y cyfle heddiw i ymrwymo i adeiladu ar y cynnydd a wnaed hyd yma drwy gryfhau ymhellach y cydweithio hwnnw rhwng Llywodraeth Cymru, Cyngor Dinas Casnewydd, busnesau a landlordiaid cymdeithasol yn y ddinas.

Llywydd, rwy'n falch iawn o wneud yr ymrwymiad hwnnw, oherwydd rwy'n credu bod Cyngor Dinas Casnewydd yn enghraifft wirioneddol o awdurdod lleol sydd ag uchelgais ar gyfer adfywio canol ei ddinas, a pharodrwydd i weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, lle'r ydym ni'n gallu rhoi cymorth iddyn nhw i wneud hynny. Ceir llawer o enghreifftiau o'r hyn y mae John Griffiths wedi cyfeirio atyn nhw, o ganolfan gymunedol Ringland yn ei etholaeth ef ei hun—yr ymwelodd fy nghyd-Weinidog Hannah Blythyn â hi'n ddiweddar—i raglen gwerth £17 miliwn Connecting Commercial Street. Ac fel y dywedais yn fy ateb gwreiddiol, Llywydd, ceir cyfres o fuddsoddiadau pellach posibl yng Nghasnewydd, boed hynny'n fuddsoddiad Cartrefi Tirion ar hen safle gwaith dur Whiteheads—ac rwy'n falch iawn o weld cais gan gyngor y ddinas i gronfa Llywodraeth Cymru o £5 miliwn ar gyfer seilwaith gwyrdd a bioamrywiaeth mewn ardaloedd trefol, ac yn edrych ymlaen yn arbennig at weithio gyda chyngor y ddinas ar y fenter a gyhoeddwyd rai wythnosau yn ôl gan Lywodraeth Cymru, pan oedd rhaid i ni ddarparu pwerau newydd i awdurdodau lleol a chronfa ymladd o £13.6 miliwn i fynd i'r afael â malltod sy'n cael ei achosi gan adeiladau segur mewn trefi a dinasoedd ledled Cymru. A gwn fod cyngor Casnewydd wedi cyflwyno nifer o adeiladau lle maen nhw'n meddwl y bydd defnyddio'r pwerau a'r cyllid yn caniatáu iddyn nhw ailwampio'r adeiladau hynny, i atal y malltod y maen nhw'n ei achosi ar hyn o bryd i'r ardaloedd o'u cwmpas, ac i ddod â nhw yn ôl i ddefnydd gwirioneddol fuddiol.

13:50

Prif Weinidog, mae gwaith ymchwil gan y Local Data Company yn dangos bod gan Gymru y cyfraddau cau siopau uchaf yn y Deyrnas Unedig. Yn hanner cyntaf y flwyddyn ddiwethaf, gostyngodd nifer y siopau yng Nghasnewydd gan 3.5 y cant. Mae Consortiwm Manwerthu Cymru yn nodi bod manwerthu yn gyfrifol am dros chwarter yr ardrethi busnes sy'n cael eu talu yng Nghymru. Er bod rhyddhad ardrethi i fusnesau bach a rhyddhad ardrethi trosiannol yn gydnabyddiaeth i'w chroesawu o'r angen i gadw costau i lawr i gwmnïau, mae tri chwarter y gyflogaeth fanwerthu gyda chwmnïau nad ydyn nhw'n gymwys ar gyfer hyn. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno bod bodolaeth cynlluniau rhyddhad o'r fath yn dangos yr angen dybryd i ddiwygio ardrethi busnes yng Nghymru er mwyn helpu i adfywio canol dinasoedd fel Casnewydd?

Llywydd, rwy'n cytuno bod dadl dros ddiwygio'r system ardrethi busnes. Dyna pam y byddwn ni'n cyflwyno cynigion i ddiwygio'r system apeliadau. Dyna pam yr ydym ni wedi cytuno i gyflwyno'r ymarfer ailsgorio ar gyfer eiddo busnes flwyddyn yn gynharach. Ond os deallais awgrym yr Aelod yn iawn, ni fyddwn yn cytuno mai'r hyn y mae angen i ni ei wneud yw diwygio'r cymorth yr ydym ni'n ei gynnig i fusnesau bach yng Nghymru er mwyn seiffno cymorth oddi wrthyn nhw a'i roi i siopau manwerthu amlwladol mawr.

Mae natur y stryd fawr manwerthu yn newid, ac mae'n sicr yn newid yng Nghasnewydd, ac ni fydd hen ffyrdd o geisio gwneud i'r model blaenorol weithio'n gyflymach yn cynnal manwerthu i'r dyfodol. Rydym ni eisiau gweithio gyda'r sector i fod yn rhan o'r diwygio angenrheidiol. Rydym ni eisiau defnyddio'r miliynau ar filiynau o bunnoedd yr ydym ni'n eu buddsoddi mewn cynlluniau rhyddhad ardrethi i greu busnesau manwerthu cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

Y Llifogydd Diweddar

6. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cymunedau o ran ymdrin â chostau'r llifogydd diweddar? OAQ55190

Llywydd, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi pecyn cymorth ar waith i unigolion, busnesau ac awdurdodau lleol yn ystod y cyfnod ymateb uniongyrchol i'r llifogydd. Byddwn yn ystyried pa gymorth pellach y gallwn ni ei roi wrth i fwy o wybodaeth ddod ar gael, ac wrth i bethau symud i'r cyfnod adfer.

Diolch am eich ymateb, Prif Weinidog, a diolch, yn bwysicach, am y gwaith rhagweithiol yr ydych chi a'ch Llywodraeth wedi ei wneud. Mae maint y difrod a achoswyd i'r seilwaith gan y llifogydd diweddar yn dod yn llawer rhy amlwg, ac, er enghraifft, yn Rhondda Cynon Taf yn unig, mae'n rhaid disodli naw o bontydd, yn ogystal â difrod i ffyrdd, cwlfertau a waliau afonydd, gydag amcangyfrif o gost i'm hawdurdod lleol i o £44 miliwn ac yn cynyddu. Nawr, mae Llywodraeth y DU wedi cydnabod ei chyfrifoldeb, felly onid yw'n bryd i'r Prif Weinidog roi ei arian ar ei air? A wnewch chi godi gyda Llywodraeth y DU yr angen iddyn nhw roi cymorth ariannol digonol i sicrhau y gallwn ni drwsio'r difrod i seilwaith yn iawn?

Llywydd, wrth gwrs, mae'n galonogol clywed Prif Weinidog y DU yn dweud yn Nhŷ'r cyffredin y bydd arian yn sicr yn cael ei basportio i Gymru i helpu yn y cyfnod adfer. Cododd fy nghyd-Weinidog Rebecca Evans hyn yn uniongyrchol gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys yn Llundain yn gynharach heddiw, ac rydym ni'n edrych ymlaen—yn y gyllideb yfory, os yw'n bosibl, ond os nad bryd hynny, cyn gynted ag y gellir ar ôl hynny—i gael mwy na sicrwydd, ond rhywfaint o arian pendant. Oherwydd, fel y dywedodd Vikki Howells, Llywydd, er bod Llywodraeth Cymru wedi gallu dod o hyd i gymorth i unigolion, busnesau a'r awdurdodau lleol, a'i ariannu o'n hadnoddau, i ymdrin ag effaith uniongyrchol y llifogydd, pan ddaw i bontydd sydd wedi cael eu golchi i ffwrdd neu y mae angen eu dymchwel, ffyrdd y bydd angen eu hailadeiladu, ac amddiffynfeydd rhag llifogydd y bydd yn rhaid ailedrych arnyn nhw a'u hail-gryfhau, buddsoddiad cyfalaf ar y raddfa honno yw'r hyn y mae'r Deyrnas Unedig yno i helpu i'w ddarparu. Edrychwn ymlaen at sicrwydd Prif Weinidog y DU yn troi'n gymorth y mae ei angen ar awdurdodau lleol yng Nghymru.

13:55

Prif Weinidog, byddwch yn ymwybodol, wrth gwrs, bod nifer o fusnesau yn Llanrwst wedi dioddef llifogydd ar 9 Chwefror o ganlyniad i storm Ciara, ac eto dim ond ar 4 Mawrth 2020 y cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru gymorth ariannol ar gyfer busnesau yn uniongyrchol. Roedd hynny bron i fis ar ôl y digwyddiad. Mae rhai wedi rhoi'r gorau i fasnachu, mae rhai yn aros am daliadau yswiriant, a bu'n rhaid i rai droi at gynilion i barhau i weithredu mewn mannau eraill. Er ein bod i gyd wedi croesawu'r cymorth o £2.5 miliwn ar y diwrnod y cyhoeddwyd y cyllid, esboniodd eich Llywodraeth Cymru y

'Bydd rhagor o fanylion ynghylch sut i wneud cais am y gronfa ar gael [gan] Busnes Cymru yn y dyddiau nesaf.'

Mae hyn yn annerbyniol, ac felly hefyd y mae'r ffaith bod Busnes Cymru, ddoe ddiwethaf, yn dal i gynghori nad yw'r ffurflenni cais ar gyfer y cyllid ar gael. A wnewch—[Torri ar draws.] A fyddai wahaniaeth gennych chi?

A wnewch chi esbonio, Prif Weinidog, pam yr ydych chi wedi bradychu'r busnesau yn Llanrwst, pam y bu'n rhaid iddyn nhw aros am fis ac nad ydyn nhw byth wedi gweld ceiniog, a pha fesurau fydd yn cael eu cymryd i wella'r mynediad hwn at gyllid y mae angen mawr amdano? Mae'n warth.

Wel, Llywydd, mae'r Aelod yn gadael ei hun i lawr, fel y mae hi yn ei wneud am yr eildro mewn wythnos. Mae hi'n gadael ei hun i lawr pan fydd hi'n defnyddio iaith o'r fath a ddefnyddiodd wrthyf i wrth ofyn y cwestiwn yna. Bydd cymorth i fusnesau yn ei hetholaeth hi gan Lywodraeth Cymru. Dim un geiniog gan ei Llywodraeth hi. Mae hi'n sôn am fis yn ddiweddarach. Ble'r oedd ei Llywodraeth hi? O ble'r oedd yr arian yn dod ganddi hi—? Dim un geiniog. Gadewch i mi ddweud hynny wrthych chi. Myfyriwch ar hynny, efallai, pan fyddwch chi'n gwneud y cyhuddiadau hyn yn y dyfodol.

Mae £2.5 miliwn yr wyf i'n falch iawn yn wir—yn falch iawn yn wir, Llywydd—a fydd ar gael i fusnesau yn etholaeth yr Aelod. Maen nhw'n gwybod beth y mae'n rhaid iddyn nhw ei wneud; mae'n rhaid iddyn nhw gysylltu â Busnes Cymru. Ac arian cyhoeddus yw hwn, Llywydd. Mae'n hollol iawn bod yn rhaid i Busnes Cymru gynnal nifer ofynnol o wiriadau priodol i wneud yn siŵr bod yr arian yn mynd i'r bobl iawn mewn ffordd a fyddai'n gwrthsefyll craffu. Wrth gwrs bod hynny'n iawn. I roi enghraifft i chi, Llywydd, o ba mor gyflym y gellir rhoi cymorth ar gael drwy'r gronfa cymorth dewisol: rydym ni wedi cael cannoedd ar gannoedd o daliadau eisoes erbyn hyn, a channoedd o filoedd o bunnoedd yn nwylo deiliaid tai yr oedd angen y cymorth hwnnw arnyn nhw. Byddwn yn gwneud yr un fath gyda'r cymorth yr ydym ni'n ei roi i fusnesau, a byddan nhw'n gwybod bod y cymorth hwnnw wedi dod iddyn nhw o ganlyniad i'r penderfyniadau a wnaed gan y Llywodraeth hon yng Nghymru, tra nad yw ei Llywodraeth hi wedi gwneud dim byd o gwbl.

Rwy'n siŵr mai'r peth olaf y mae pobl sydd wedi cael eu heffeithio gan lifogydd eisiau ei weld yw gornest weiddi yn y Siambr hon.

Rwy'n croesawu'r £500 ychwanegol y mae'r Llywodraeth wedi ei gyhoeddi i bobl nad oes ganddyn nhw yswiriant cartref ar gyfer difrod llifogydd. Rwyf i hefyd yn ddiolchgar am yr arian ychwanegol a roddwyd yn hael gan bobl i'r gwahanol gronfeydd apêl. Bydd arian a godwyd ym mhob rhan o'r Rhondda gan unigolion a grwpiau yn mynd yn uniongyrchol i'r rhai a gafodd eu heffeithio, ac mae'n wych fy mod i'n gallu dweud wrthych chi y prynhawn yma bod Trade Centre Wales wedi rhoi £50,000 i'r gronfa a sefydlwyd gan Blaid Cymru yn y Rhondda, a fydd yn amlwg yn gallu cyflawni llawer.

Fodd bynnag, mae gwahaniaeth rhwng yr hyn y mae gan bobl yng Nghymru hawl iddo o'i gymharu â'r hyn y gall pobl sydd wedi dioddef llifogydd yn Lloegr ddisgwyl ei gael. Yno, mae ganddyn nhw gynllun cydnerthedd llifogydd eiddo sy'n caniatáu i gartrefi a busnesau sy'n dioddef llifogydd wneud cais am hyd at £5,000 i'w helpu i wrthsefyll llifogydd yn y dyfodol. Byddai hyn mor ddefnyddiol mewn llawer o achosion yr wyf i wedi dod ar eu traws, yn enwedig i rai trigolion yn ardal Britannia y Porth, y mae waliau cefn rhai ohonyn nhw wedi cael eu golchi ymaith. Lle'r oedd ganddyn nhw amddiffyniad rhag yr afon o'r blaen, nawr maen nhw'n agored erbyn hyn, eu gerddi a'u hisloriau, i ruthr Afon Rhondda. Fel y mae pethau ar hyn o bryd, y perchenogion cartrefi hynny sy'n gyfrifol ac nid oes gan breswylwyr hawl, hyd y gwn i, i unrhyw gymorth i gywiro hyn ac i ddiogelu eu hunain. Gan fod y ddau ohonom ni'n cytuno ar yr angen i ddiogelu cymunedau rhag llifogydd o'r math hwn yn y dyfodol, a wnewch chi ystyried rhoi cynllun tebyg ar gael yng Nghymru?

14:00

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna ac, yn wir, am y dôn a ddefnyddiwyd i'w ofyn, am ei chydnabyddiaeth o'r cymorth sydd wedi ei ddarparu. Hoffwn gysylltu fy hun yn llwyr â'r hyn a ddywedodd am yr ymateb cymunedol hael dros ben a fu i bobl mewn trallod.

Bu'r cyllid yr ydym ni wedi ei ddarparu ar hyn o bryd, Llywydd, i ymdrin ag effaith uniongyrchol y llifogydd—pobl y mae eu nwyddau wedi eu dinistrio ac a oedd angen chwistrelliad ariannol ar unwaith i allu ymdrin â'r effaith honno. Wrth i ni symud i'r cyfnod adfer yna wrth gwrs byddwn ni'n edrych i weld pa fathau eraill o gymorth a allai fod ar gael. Rwy'n hapus iawn i astudio'r enghraifft y mae'r Aelod wedi tynnu sylw ati y prynhawn yma i weld a oes modd sefydlu rhywbeth o'r fath yma yng Nghymru.

Prif Weinidog, a gaf i ddiolch i chi yn gyntaf am ba mor gyflym y daethoch chi i Drefforest yn sgil y llifogydd? Nawr, mae Parc Diwydiannol Trefforest yn ardal sydd wedi dioddef yn aruthrol: llawer iawn o fusnesau, degau o filiynau o bunnoedd o ddifrod, ac mae cannoedd lawer o swyddi yn y fantol yn hynny o beth. Y peth cyntaf y byddwn i'n ei ddweud yw bod y credyd ardrethi busnes tri mis y mae busnesau'n mynd i'w gael os ydyn nhw wedi eu heffeithio yn cael ei werthfawrogi'n fawr iawn. Gwn mai Llywodraeth Cymru sy'n ariannu hynny, ond hoffwn wneud y pwynt wrth gwrs y bydd rhai busnesau yn cymryd llawer mwy o amser i allu dod yn weithredol eto a tybed a oes lle i hyblygrwydd lle mae'r rhai sy'n cael anawsterau arbennig o ran dod yn weithredol yn gallu ei gael, estyniadau pellach i hynny, efallai. Tybed a yw hynny'n rhywbeth y gwnewch chi roi rhywfaint o gefnogaeth iddo.

Y pwynt arall y byddwn i'n ei wneud yw hyn: mae cannoedd o swyddi yn y fantol yn llythrennol yn ardal ddiwydiannol Trefforest ac yn enwedig yn yr hinsawdd arbennig o anodd hwn yr ydym ni'n byw ynddo. Pe bydden nhw i gyd wedi'u crynhoi mewn un ffatri, byddai pecynnau cymorth ar gael ar unwaith. Wrth gwrs, gyda llawer o fusnesau bach, mae'n sefyllfa fwy cymhleth o lawer. Tybed a allwch chi neilltuo amser i ymweld â'r ystâd ddiwydiannol yn y fan honno i gyfarfod â rhai o'r busnesau i drafod eu hanghenion penodol, y cymorth a roddwyd, ond hefyd yr hyn y gallai fod angen ei wneud er mwyn sicrhau bod yr ystâd honno'n weithredol ac i ddiogelu'r cannoedd o swyddi hynny?

Llywydd, a gaf i gydnabod yr effaith benodol iawn y mae llifogydd wedi ei chael ar ystâd ddiwydiannol Trefforest? Unwaith eto, roedd y gwyliau tri mis o ardrethi busnes y bydd Llywodraeth Cymru yn eu hariannu yn rhan o'r pecyn ymateb uniongyrchol hwnnw. Byddaf yn cyfarfod ag arweinydd cyngor Rhondda Cynon Taf ddydd Iau yr wythnos hon i drafod y cyfnod adfer gydag ef, gan gynnwys y gwaith adfer sy'n angenrheidiol yn Nhrefforest, a byddaf wrth gwrs yn trafod ag ef pa bynnag syniadau sydd ganddo ac sydd gan bobl eraill i allu ymateb i'r anhawster parhaus y mae busnesau yn y rhan honno o Gymru yn ei wynebu.

Colledion Bioamrywiaeth

7. Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwrthdroi colledion bioamrywiaeth yng Nghymru? OAQ55214

A gaf i ddiolch i'r Aelod am hynna, Llywydd? Mae ein strategaeth ar gyfer gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth yn cwmpasu prosiectau mawr ar raddfa'r dirwedd fel y goedwig genedlaethol, yn ogystal â chymorth i'r pethau llai y gall pob cymuned a sefydliad eu darparu'n lleol, fel y camau a gefnogir gan ein cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, a lansiwyd fis diwethaf.

Diolch am hynna, Prif Weinidog. Rwy'n llwyr glodfori'r cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, ond yn gyntaf oll hoffwn dynnu sylw at waith WWF, yn plannu morwellt ar arfordir sir Benfro, sy'n mynd i gyfateb i ddau faes pêl-droed ac sy'n newyddion hynod o dda i tua 100,000 o bysgod a 1.5 miliwn o infertebratau, oherwydd y modd y mae ganddo gapasiti adferol ar gyfer ein cefnforoedd. Ond rwy'n ofni nad oes gen i unrhyw arfordir yn fy etholaeth i, felly gan edrych ar—[Torri ar draws.] Eto. [Chwerthin.] Felly, gan edrych ar fenter Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, sy'n wirioneddol wych yn fy marn i ac, yn amlwg, byddaf yn awyddus i weithio gyda'm cymuned, er mwyn ceisio troi ardaloedd jyngl concrid ardaloedd mewnol iawn fy ninasoedd yn wyrdd, yn ogystal â chael mwy o goed ffrwythau a ffrwythau a llysiau wedi'u plannu ar draws yr etholaeth, tybed a allwch chi ddweud ychydig mwy am y modd y mae'r cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, a reolir gan Cadwch Gymru'n Daclus, yn mynd i weithredu, oherwydd roeddwn i'n synnu braidd o weld bod y dyddiad terfyn ar gyfer y rownd gyntaf o geisiadau ddydd Gwener diwethaf, a oedd yn sicr yn fy synnu i ac nad yw wir yn rhoi digon o amser i bobl gyffredin lunio cynnig, o gofio mai dim ond ddiwedd y mis diwethaf y cafodd ei gyhoeddi.

14:05

Diolch i Jenny Rathbone am hynna, Llywydd. Fe wnaethom ni dreulio rhan gynharach o gwestiynau heddiw yn sôn am goedwigoedd a choetiroedd, a'r cyfraniad y gall hynny ei wneud i effeithiau newid yn yr hinsawdd, ac mae'r datblygiad morwellt heddiw yn enghraifft dda iawn arall o ymatebion naturiol i'r hyn yr ydym ni'n ei weld yn digwydd o'n cwmpas. Bydd gennyf ddiddordeb mawr mewn gweld sut y bydd hynny'n datblygu o gwmpas sir Benfro.

O ran y cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, hoffwn i dalu teyrnged i Cadwch Gymru'n Daclus am y gwaith y maen nhw'n ei wneud gyda ni ar hyn. Bydd 800 o becynnau cychwynnol ar gael drwy Cadwch Gymru'n Daclus, Llywydd. Byddan nhw'n darparu popeth y gallai fod ei angen ar grŵp cymunedol lleol neu gyngor cymuned—offer, bylbiau, cyngor ac ati—er mwyn caniatáu i gymuned greu eu gerddi gloÿnnod byw, ffrwythau neu fywyd gwyllt ei hunan. Bydd nifer gyfartal o becynnau ar gael ar gyfer y tri pheth hynny.

Ac rwy'n gwybod—gwelais yn ddiweddar fod yr Aelod wedi bod allan ym Mhlasnewydd yn ei hetholaeth hi ei hun yn cynnal archwiliad stryd o'r seilwaith gwyrdd yn y rhan boblog iawn honno yng nghanol dinas Caerdydd. Union fwriad y cynllun lleoedd lleol hwn yw cynorthwyo'r grwpiau hynny sydd eisiau gwneud y pethau bychain hynny sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fioamrywiaeth.

Y rheswm yr aeth Cadwch Gymru'n Daclus am alwad gyntaf gynnar yw oherwydd eu bod nhw a'n bod ninnau yn awyddus iawn i gael yr arian hwn allan yna yn gwneud pethau da. Nid hon fydd yr unig alwad y byddan nhw'n ei gwneud ond roeddem ni eisiau i'r sefydliadau hynny a oedd yn barod i fynd a chanddynt gynlluniau ar waith i gael yr arian mor gyflym ag yr oeddem ni'n gallu ac yna ysbrydoli eraill i wneud mwy fyth.

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol)

Yr eitem nesaf oedd i fod y cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol. Mae'r rheini wedi cael eu gohirio tan yfory.

3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes.

Cyn i mi ofyn i'r Gweinidog, y Trefnydd, ddarparu ei datganiad, dim ond i ddweud bod gennyf i lawer o Aelodau Cynulliad sydd eisiau gofyn cwestiwn. Rwy'n annog pob un ohonoch chi, os ydych chi eisiau gwella cyfle eich cyd-Aelodau i gael eu galw y prynhawn yma, i fod yn gryno yn eich cwestiynau. Roeddwn i'n arbennig o hir yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog y prynhawn yma, felly rwyf i eisiau cadw hyn at ddatganiad 30 munud, os yw hynny'n bosibl, yng ngoleuni'r hyn sydd gennym ni o'n blaenau ni ar gyfer heddiw.

Felly, ar hynny, Mohammad Asghar.

Diolch yn fawr, Llywydd. A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd ynghylch mesurau i fynd i'r afael â diabetes yng Nghymru? Mae diabetes yng Nghymru yn argyfwng iechyd erbyn hyn, gyda nifer y bobl sy'n dioddef o'r clefyd wedi dyblu yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf. Yng Nghymru y mae'r nifer fwyaf o achosion o ddiabetes yn y Deyrnas Unedig, ac mae GIG Cymru yn amcangyfrif y bydd gan 11 y cant o'n poblogaeth sy'n oedolion y cyflwr hwn erbyn 2030. Mae Diabetes UK Cymru wedi croesawu'r mesurau a gafodd eu cyflwyno yn strategaeth gordewdra Llywodraeth Cymru, 'Pwysau Iach: Cymru Iach', ond mae'n dweud bod angen gweithredu parhaus arnom ni os ydym ni eisiau cynorthwyo pobl i fyw bywydau iachach, creu amgylchedd iachach a llunio cenedl iachach. Gweinidog, gan mai Cymru yw'r unig wlad yn y Deyrnas Unedig nad oes ganddi raglen atal diabetes, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog os gwelwch yn dda ynghylch pa gamau y bydd ef yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r argyfwng iechyd hwn yng Nghymru? Diolch.

Cyn i mi ymateb i Mohammad Asghar, mae'n debyg y dylwn i nodi bod nifer o newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae cwestiynau llafar yr wythnos hon—

Mae hynny'n iawn. Bydd cwestiynau llafar yr wythnos hon i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd o ran ei gyfrifoldebau swyddog y gyfraith yn cael eu cynnal yfory. Bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud datganiad yn fuan ar yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch coronafeirws, COVID-19. O ganlyniad, bydd y datganiad ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod yn cael ei gyhoeddi fel datganiad ysgrifenedig. Yn olaf, o ganlyniad i nifer y gwelliannau a gyflwynwyd a'u grwpiau, rwyf i wedi ymestyn yr amser sydd wedi ei neilltuo i drafodion Cyfnod 3 y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru). Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi ei nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.

O ran y cais am ddatganiad a wnaeth Mohammad Asghar, mi wn fod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol newydd wneud datganiad i'r Cynulliad yn ddiweddar ar y rhaglen 'Pwysau Iach: Cymru Iach', a oedd yn crynhoi rhai o'r pryderon y mae Mohammad Asghar wedi eu codi y prynhawn yma. Ond byddwn i'n ei annog i ysgrifennu hefyd at y Gweinidog iechyd gyda'i bryderon penodol am ddiabetes er mwyn iddyn nhw gael sylw drwy ohebiaeth.

14:10

Rwy'n gwybod bod cryn dipyn o amser wedi ei roi yn y Senedd i ddadlau a chraffu ar waith cynllunio a chraffu y Llywodraeth o ran y llifogydd, ond mae gennyf i nifer o faterion nad ydyn nhw wedi cael sylw o fy etholaeth i sydd wedi'u dal yn ôl hyd yn hyn. Mae gennyf i achos o breswylydd yn Nhreorci sydd wedi gweld y llifogydd yn ei gegin chwech, saith, efallai wyth gwaith bellach ers i'r glaw trwm ddechrau ychydig wythnosau  yn ôl. Mae dŵr yn rhuthro i'w ardd a thrwy waliau ei gegin. Mae e'n credu bod draen wedi dymchwel o dan y brif ffordd y tu allan i'w gartref, ac eto mae'r cyngor yn dweud, mai ef sy'n  gyfrifol am hynny, ar ei dir ei hun. Rwy'n meddwl tybed a oes gan y Llywodraeth unrhyw gyfle i ymyrryd mewn achosion fel hyn.

Mae gennyf i achos arall lle nad oes gan breswylydd yswiriant. Cafodd ei do ei chwythu ymaith yn storm Ciara ac yna cafodd ei ddifrodi ymhellach yn ystod storm Dennis. Dywedodd y Llywodraeth o'r blaen ei bod eisiau helpu pobl sydd wedi cael eu heffeithio gan y ddwy storm, ac eto mae'r cyngor wedi penderfynu nad yw'r teulu hwn yn gymwys i gael cyllid gan y cyngor, sydd wedyn yn eu hatal rhag cael arian gan Lywodraeth Cymru a'r gefnogaeth y dylen nhw fod yn gallu eu cael am nad oes ganddyn nhw yswiriant. A wnaiff Llywodraeth Cymru gytuno i ystyried achosion fel hyn sydd wedi eu gwrthod er mwyn sicrhau'r hyblygrwydd mwyaf posibl o fewn y system i ddal achosion fel hyn?

Mae gennyf i lawer o faterion eraill yr hoffwn i eu codi, ond rwy'n ymwybodol o amser, Llywydd. Os caf i godi dim ond un pwynt terfynol, ac mae hynny'n ymwneud â chwlfertau sydd wedi blocio yn gyffredinol. Mae hyn yn broblem enfawr ledled y Rhondda erbyn hyn. Nid yw'n ymddangos bod gan y cyngor y gallu i glirio a thrwsio'r holl gwlfertau a dyfrffyrdd ac, mewn rhai achosion, mae angen ailadeiladu'r systemau draenio hyn. Mae Pentre a Blaenllechau yn ddwy enghraifft dda o'r mannau lle mae difrod yn y draeniau wedi achosi llifogydd yng nghartrefi pobl, ond hefyd mae tŷ yn Llwynypia sydd wedi dioddef llifogydd o gwlfert yn gorlifo, roedd stryd yn Ystrad dan ddŵr neithiwr, ac mae pobl mewn cartrefi yn Ynyshir yn ofnus oherwydd bod y system ddraenio cwlfertau wedi gorlifo yno eto neithiwr. Nawr, os nad oes gan y cyngor y gallu i fynd i'r afael â hyn i gyd, a fyddai modd ystyried dod â llafur a chymorth o rywle arall? Er enghraifft, a fyddai modd gofyn i grwpiau gwirfoddol neu hyd yn oed y fyddin helpu mewn sefyllfaoedd fel hyn? Mae angen cynllun arnom ni ar gyfer ein dyfrffyrdd a'n dŵr sy'n rhedeg oddi ar y mynyddoedd; nid yw'n ymddangos bod gennym ni un ar hyn o bryd sy'n ennyn hyder y trigolion yr wyf i'n siarad â nhw sy'n ei chael hi'n amhosibl ymlacio, bob tro y mae hi'n bwrw glaw.

Diolch i Leanne Wood am godi'r materion penodol yna o waith achos y mae hi wedi ei gael gan bobl yr effeithiwyd arnynt yn uniongyrchol gan y llifogydd, ac yna'r pryder cyffredinol hwnnw ynglŷn â chwlfertau wedi blocio. Fe wnaf i ofyn i swyddogion Llywodraeth Cymru siarad â Chyngor Rhondda Cynon Taf ynghylch y materion hynny yr ydych chi wedi eu codi, oherwydd, yn y lle cyntaf, materion i'r cyngor ydyn nhw, ond byddai'n bwysig iawn i Lywodraeth Cymru ddeall yn fwy manwl y pryderon yr ydych chi wedi'u codi. Felly, byddaf i'n sicrhau bod y sgyrsiau hynny'n digwydd.

Trefnydd, a allwn ni gael datganiad am weithdrefnau cynllunio yng Nghymru? Efallai eich bod chi wedi gweld rhai o luniau dramatig o dŷ fy etholwr Mr Lee Evans yn eistedd yn ansefydlog ar lan yr afon yr wythnos hon. Digwyddodd hynny ar ôl  i lan yr afon erydu rhyw 30 troedfedd yn ystod storm Dennis. Mae ei eiddo ef yn un o ddau yn y sefyllfa hon, y ddau ohonyn nhw yn rhan o ddatblygiad tai Redrow yn Carnegie Court ym Masaleg. Cafodd caniatâd cynllunio ei wrthod gan Gyngor Dinas Casnewydd a chan yr arolygydd cynllunio. Fodd bynnag, cafodd y penderfyniad hwn ei wrthdroi yn y pen draw yn 2007. Er bod gweithdrefnau wedi newid ers hynny, yn dilyn digwyddiadau diweddar, roedd cwestiynau'n amlwg yn cael eu gofyn am ddilysrwydd y broses hon, a byddwn i'n croesawu datganiad yn nodi pam y cafodd y penderfyniad hwn ei wneud ar y pryd, ac, yng ngoleuni'r hyn yr ydym ni'n ei wybod erbyn hyn, a fydd adolygiad i sut y mae penderfyniadau ynghylch adeiladau newydd yn cael eu gwneud o ran peryglon llifogydd posibl?

Yn ail, hoffwn i ofyn am ddatganiad arall. Roeddwn i'n falch o weld Gweinidog yr amgylchedd yn darparu datganiad ysgrifenedig am fridio cŵn yr wythnos diwethaf. Rwyf i a llawer o fy etholwyr yn awyddus i weld diwedd ar y modd gofidus ac echrydus y mae rhai cŵn yn cael eu trin ar ffermydd cŵn bach, ac mae angen gwneud hyn ar frys. A gawn ni ddatganiad ac amserlen ynghylch pryd y gallai'r camau gweithredu hynny fod yn digwydd?

14:15

Diolch i Jayne Bryant am godi pryderon penodol ei hetholwr ynglŷn â'r achos o ganiatâd cynllunio yr ydych chi wedi ei ddisgrifio, a'r materion sy'n effeithio'n benodol ar adeiladau newydd. Roedd y Gweinidog â chyfrifoldeb am gynllunio yma i glywed y pryderon hynny, a byddai'n ddefnyddiol pe gallech chi ysgrifennu at y Gweinidog gyda rhagor o fanylion am yr achos penodol yr ydych chi'n cyfeirio ato er mwyn rhoi mwy o ystyriaeth i'r pryderon yr ydych wedi gallu siarad yn eu cylch y prynhawn yma yn y Siambr.

O ran y ffyrdd ymlaen ar gyfer bridio cŵn, rwy'n gwybod mai bwriad y Gweinidog yw cyflwyno'r newidiadau angenrheidiol cyn gynted â phosibl. Mae hi hefyd wedi nodi y byddai'n ystyried deddfu yn ystod tymor y Cynulliad hwn ar werthu cŵn bach hefyd. Felly, rwy'n credu bod camau pwysig o'n blaenau o ran gwella lles anifeiliaid, ac yn enwedig lles cŵn yng Nghymru, ond byddaf yn gofyn am fwy o eglurder ynghylch yr amserlen honno.

Drwyddoch chi, Trefnydd, a gaf i ofyn i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru am ddatganiad ynghylch y trefniadau sy'n cael eu rhoi ar waith o ran coronafeirws ar gludiant cyhoeddus? Mae cludiant sy'n cael ei ariannu gan y cyhoedd fel y teithiau rhwng Caerdydd ac Ynys Môn, bysiau TrawsCymru a threnau Trafnidiaeth Cymru, wrth gwrs, yn lleoedd lle mae cyfran sylweddol o bobl mewn ardal gaeedig am gyfnodau hir. Er enghraifft, des i i lawr ar y trên gydag Aelod Cynulliad arall ddoe. Fe wnaeth fy mhrofiad o hynny achosi cryn bryder i mi. Yn ystod y pedair awr, fe wnaeth nifer o bobl fynd a dod— rwy'n tueddu i ddefnyddio bwrdd er mwyn i mi allu gweithio ar fy ffordd i lawr—ni chafodd y byrddau eu sychu unwaith, ac nid oedd y trên, mewn gwirionedd, yn lân iawn. Yn nes ymlaen, aeth fy nghyd-Aelod yn y Cynulliad i'r ystafell ymolchi a dywedwyd wrthyf nad oedd dŵr poeth na sebon ar gael ar y trên. Nawr, rydych chi'n ymwybodol, fel yr wyf innau, mai'r negeseuon cryf sy'n dod gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac, yn wir, Llywodraethau ar bob lefel yw'r angen i allu golchi ein dwylo a chynnal lefelau hylendid personol llym. A wnewch chi ofyn i'r Gweinidog am y datganiad hwnnw? Oherwydd, rwyf i'n credu bod ganddo ran i'w chwarae o ran rhoi cyngor da i'n gweithredwyr trafnidiaeth, fel y gallan nhw a'u staff ac, yn wir, y rhai sy'n teithio ar gludiant cyhoeddus yng Nghymru deimlo'n ffyddiog bod y mater hwn wir yn cael ei gymryd o ddifrif.

O, ac mae gennyf i ddatganiad arall—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gen i.

Ewch ymlaen, Trefnydd. Na—rydych chi wedi ildio i'r Trefnydd. Bydd y Trefnydd yn ateb.

Iawn. Felly, mae hwn yn fater pwysig y cafodd arweinydd yr wrthblaid gyfle hefyd i holi'r Prif Weinidog amdano yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog y prynhawn yma, ond byddaf i'n siŵr o gael y drafodaeth hon gyda fy nghyd-Weinidog, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, oherwydd mae'r ymateb i coronafeirws yn sicr yn ymateb trawslywodraethol, ac yn yr un modd, mae'n rhywbeth y mae gan bob unigolyn yng Nghymru ei ran i chwarae ynddo hefyd.

Fel cysgod Weinidog ar faterion rhyngwladol y Blaid, dwi wedi derbyn hanes pêl-droediwr ifanc yma yng Nghymru. A gaf i ofyn a wnaiff y Llywodraeth ddatganiad ar sefyllfa Rolando Bertrand, dyn 21 mlwydd oed a phêl-droediwr i glwb pêl-droed Bellevue yn Wrecsam, a symudodd i Gymru flwyddyn yn ôl gyda'i deulu, ond sydd nawr mewn peryg o gael ei alltudio i Nicaragua? Chwaraeodd e a'i deulu ran mewn protestiadau gwrthlywodraethol, ac o ganlyniad maent o'r farn eu bod wedi cael eu 'blacklist-io' gan Lywodraeth Nicaragua. Felly, drwy fynd yn ôl yno, mae'n debyg y byddai'n rhoi ei fywyd mewn peryg. Felly, a allaf i ddiolch ymlaen llaw i'r Llywodraeth am edrych i mewn i'r sefyllfa ddyrys yma? Diolch yn fawr.

Unwaith eto, diolch i Dai Lloyd am godi'r mater penodol hwn. Byddaf i'n sicr yn ei archwilio fy hun i ddeall y mater yn well. Rwy'n gwybod y byddwch chi hefyd yn cyflwyno'r sylwadau pwysig hynny i'r Swyddfa Gartref o ran eu prosesau allgludo ac yn y blaen, ond byddaf i yn sicr yn casglu rhywfaint o wybodaeth ychwanegol.

Trefnydd, tybed a allwch chi drefnu i gael datganiad gan y Llywodraeth ynghylch y camau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru o ran yswirio eiddo a busnesau mewn ardaloedd sydd wedi dioddef llifogydd. Mae tai a oedd wedi eu hyswirio, rhai nad oedden nhw wedi eu hyswirio, ni fydd rhai yn gallu cael yswiriant nac yn gallu fforddio yswiriant. Mae'r un peth yn wir am fusnesau. Ar hyn o bryd, mae'n bosibl bod rhai ohonyn nhw yn cael anhawster i gael yswiriant neu i allu fforddio yswiriant, a fydd yn amlwg yn effeithio ar hyfywedd busnesau a chadw swyddi. Rwy'n gwerthfawrogi bod llawer o'r maes sy'n ymwneud ag yswiriant yn fater nad yw wedi ei ddatganoli, ond mae'n ymddangos, wrth weithio ledled y DU a gyda Cymdeithas Yswirwyr Prydain a rhai eraill â budd, bod gwir angen adolygu'r trefniadau yswiriant a'r cynlluniau yswiriant sy'n bodoli i ddiogelu busnesau ac eiddo preswyl ar gyfer y dyfodol.

14:20

Fel y nododd y Prif Weinidog yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog yn gynharach, mae ein camau cyntaf ni wedi ymwneud ag ymateb yn gychwynnol ac yn uniongyrchol i'r aelwydydd, busnesau a chymunedau yr effeithiwyd arnyn nhw. Ond, wrth i ni edrych ymlaen a chael y cyfle i fyfyrio ar y llifogydd, bydd y cwestiynau ehangach hyn y bydd angen i ni eu harchwilio. O ran yswiriant, mae cynllun o'r enw Flood Re, sy'n bartneriaeth rhwng Llywodraeth y DU a diwydiant, ar gael i roi y cyfle i aelwydydd sydd wedi dioddef llifogydd yn y gorffennol neu sydd mewn perygl o lifogydd i drefnu yswiriant fforddiadwy. Rwy'n credu bod hwnnw'n gynllun da a allai o bosibl gael ei hyrwyddo'n dda i'r aelwydydd hynny y mae'r llifogydd diweddar wedi effeithio arnyn nhw, a'r busnesau hynny, er mwyn ceisio rhoi rhywfaint o gysur iddyn nhw y bydd cyfle i gael yswiriant yn y dyfodol.

A gaf i alw am ddau ddatganiad? Yn gyntaf, ar raddau delweddu cyseinedd magnetig y prostad cyn biopsi ledled Cymru. Mae Prostate Cancer UK wedi rhannu ei ddata cais rhyddid gwybodaeth diweddaraf sy'n dangos faint o MRI Prostate a gynhelir cyn biopsi ar draws Cymru. Canfu hyn nad yw tri o'r saith Bwrdd Iechyd ledled Cymru hyd yma'n darparu'r sganiau i'r safonau a gafodd eu gosod gan y treial PROMIS ac a argymhellwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal. Mae dau arall yn cynnig MRI deubarametrig, fersiwn symlach o'r sganiau, er eu bod yn dweud bod cynlluniau ar y gweill i gwblhau'r broses o sicrhau bod pob ardal yn darparu mynediad i MRI amlbarametig llawn erbyn 1 Ebrill, dim ond ychydig wythnosau i ffwrdd. Fe wnaethon nhw hefyd ddarganfod bod meini prawf cymhwysedd cyfyngol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, ac nid oedd y cynnydd yng ngallu MRI y prostad yn ystod y 12 mis diwethaf yn hysbys ym myrddau iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Phrifysgol Cwm Taf.

Felly, mae Prostate Cancer UK yn galw am i unedau radioleg gael yr adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw i sicrhau bod pob dyn a allai elwa yn cael mynediad nawr, ac maen nhw wedi datblygu offeryn cynllunio i helpu darparwyr iechyd i gyfrifo'r cynnydd mewn adnoddau y bydd angen iddyn nhw ei gynllunio ar eu cyfer yn eu hardaloedd. Rwy'n galw am ddatganiad yn unol â hynny, nid i feirniadu, ond i geisio ffordd o gau'r gofod, sy'n ofod llai, ond mae angen gweithredu o hyd er hynny.

Yn ail ac yn olaf, a gaf i alw am ddatganiad ar goedwigaeth a bioamrywiaeth? Clywsom sylwadau gan y Prif Weinidog yn gynharach, ond, fel y gwyddoch chi, mae Llywodraeth Cymru eisiau i orchudd coetiroedd yng Nghymru gynyddu gan o leiaf 2,000 hectar y flwyddyn. Pan oedwn i'n bresennol yn uwchgynhadledd y gylfinir yn 10 Stryd Downing fel hyrwyddwr rhywogaethau Cymru ar gyfer y gylfinir fis Gorffennaf diwethaf, clywsom fod plannu coed conwydd ar raddfa eang mewn ucheldiroedd wedi arwain at golli cynefinoedd enfawr, ac nid y tir a gafodd ei blannu yn unig a ddinistriodd yr adar, ond mewn ardal fawr o amgylch y goedwig, peidiodd y tir â bod yn gynefin cynaliadwy i adar sy'n nythu ar y ddaear gan fod y goedwig yn darparu gorchudd delfrydol i ysglyfaethwyr, llwynogod, brain tyddyn a moch daear yn bennaf. Mae angen i ni wybod, felly, yng nghyd-destun y nod clodwiw o gynyddu coedwigaeth a choetiroedd yng Nghymru, sut yr ydym ni'n mynd i sicrhau bod gennym ni'r coed cywir yn y mannau cywir i wir ddiogelu bioamrywiaeth.

Rwy'n ddiolchgar i Mark Isherwood am godi'r materion yna. Y cyntaf oedd mater canser y prostad a'r profion MRI hynny. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog Iechyd yn bwriadu cyflwyno datganiad maes o law ar y strategaeth canser, a bydd cyfle hefyd i godi materion yfory gyda'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod y ddadl ar ganser. Felly, bydd sawl cyfle yn y dyfodol agos i archwilio'r materion hynny.

O ran gorchudd coetiroedd, rwy'n gwybod bod darnau penodol o waith yn mynd ymlaen ledled y Llywodraeth, ond yr un arbennig o ddiddorol a chyffrous, rwy'n credu, yw'r gwaith sy'n mynd ymlaen o ran coedwig cenedlaethol Cymru. Rwy'n gwybod y bydd y Gweinidog yn gwneud datganiad yn fuan iawn—rwy'n credu mai'r bwriad yw lansio yr wythnos hon.

14:25

Dwi'n falch bod y Gweinidog amaeth yn ei sedd hefyd, jest i nodi'r hyn dwi eisiau ei godi. Mae'r Gweinidog wedi datgan y bydd y rheoliadau newydd ar ansawdd dŵr yn cael eu gosod o fewn yr ychydig wythnosau nesaf. Dwi ddim yn gweld yn y datganiad busnes unrhyw gyfeiriad at ddatganiad llafar i gyd-fynd â gosod y rheoliadau hynny yn ystod y tair wythnos nesaf o fusnes. Byddwch chi'n gwybod, wrth gwrs, bod y rheoliadau yma wedi bod yn hynod ddadleuol. Maen nhw wedi bod yn destun codi pwyntiau fan hyn yn y Siambr, ac yn sicr wedi bod yn cynhyrchu llawer iawn o ohebiaeth i fi a nifer o Aelodau eraill yn y Siambr yma. Maen nhw'n cyflwyno newidiadau pellgyrhaeddol, a byddwn i'n teimlo y dylem ni ddisgwyl dim byd llai ond datganiad llafar i gyd-fynd â gosod y rheoliadau newydd yma, er mwyn sicrhau'r tryloywder, y cyfle i graffu, a'r atebolrwydd a ddylai fod yn cyd-fynd â datganiad o'r fath. Felly, gaf i ofyn i chi gadarnhau, os wnewch chi, Trefnydd, y bydd yna ddatganiad llafar yn cyd-fynd ag unrhyw osod rheoliadau newydd ar ansawdd dŵr, pryd bynnag y daw'r rheini ymlaen?

Llywydd, yn amlwg mae'r Gweinidog yma i glywed eich cais y prynhawn yma. Dim ond yr wybodaeth o ran yr hyn sydd wedi'i osod ar y datganiad a chyhoeddiad busnes heddiw sydd gennyf i, ond byddwn ni yn sicr yn gwrando ar y cais yr ydych chi wedi ei wneud y prynhawn yma.

Rwy'n gwerthfawrogi bod amser yn brin, felly byddaf yn gryno. Yn gyntaf oll, mater a gafodd ei godi gan nifer o Aelodau yn y Siambr hon heddiw: sef llifogydd. A gaf i gytuno â'r sylwadau blaenorol hynny o ran cefnogaeth sydd ar gael i fusnesau a chartrefi, yn wir, ledled Cymru? Yn enwedig y cartrefi hynny nad ydyn nhw'n gallu cael yswiriant llifogydd confensiynol. Fe wnes i ymweld ag un cartref yn sir Fynwy, yn nhref Trefynwy ei hun, lle mae problem gyda'r socedi trydan, er enghraifft, ac mae peth cost ynghlwm wrth adleoli'r rheini. Efallai y gallai fod rhyw fath o grant ar gael i'r rhai nad oes ganddyn nhw yswiriant y mae llifogydd yn effeithio arnyn nhw.

Yn ail, mater yr wyf i wedi ei godi droeon: ffyrdd, a ffordd osgoi Cas-gwent. Tybed a allem ni gael yr wybodaeth ddiweddaraf rywbryd yn ystod y cyfnod cyn y Pasg gan y Gweinidog trafnidiaeth ynghylch symud ymlaen â'r ffordd osgoi yng Nghas-gwent, ac unrhyw drafodaethau a allai fod wedi eu cynnal rhwng naill ai ef a'i swyddog cyfatebol yn San Steffan, neu yn wir y swyddogion perthnasol, i geisio datblygu'r prosiect pwysig hwnnw.

Unwaith eto, rwy'n tynnu sylw at botensial pwysig Flood Re fel ffordd bosibl ymlaen i bobl sydd wedi ei chael hi'n anodd cael yswiriant llifogydd oherwydd eu bod naill ai wedi dioddef llifogydd yn y gorffennol ac na fydd yr yswirwyr yn eu derbyn, neu oherwydd eu bod mewn eiddo sy'n cael ei ystyried i fod mewn perygl o lifogydd. Mae'n bartneriaeth rhwng y Llywodraeth a'r diwydiant er mwyn cyflawni hynny, er mwyn sicrhau bod pobl yn gallu cael yswiriant fforddiadwy o dan yr amgylchiadau hynny. Felly, byddwn i'n argymell hynny i'r Aelodau, i'w archwilio ymhellach o ran pa un a yw'n rhywbeth y gallan nhw ei archwilio gyda'u hetholwyr.

Ac wrth gwrs, byddaf i'n siarad â'm cydweithiwr, y Gweinidog trafnidiaeth, ynghylch y cais am yr wybodaeth ddiweddaraf o ran ffordd osgoi Cas-gwent.

Ddeufis yn ôl, gofynnais am ddatganiad gan y Llywodraeth ynghylch cynllunio'r gweithlu ym maes iechyd, oherwydd fy mod i'n pryderu bod nifer o feddygfeydd teulu yn fy rhanbarth i mewn perygl o gau. Cafodd cynghorwyr lleol a gododd y mater hefyd eu cyhuddo o godi bwganod, ond yr wythnos diwethaf cawsom ni gadarnhad y bydd tair meddygfa yn cau yn y Gilfach, Parc Lansbury a Phenyrheol, a reolir gan Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan a phob un ohonyn nhw yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Rwy'n bryderus iawn y bydd y meddygfeydd a fydd yn gorfod cymryd miloedd o gleifion newydd erbyn hyn yn sgil y ffaith bod rhai eraill yn cau yn cael trafferth i ymdopi â'r galw ychwanegol, ac y bydd yn rhaid i rai pobl deithio i leoedd pell iawn os nad oes ganddyn nhw eu cludiant eu hunain. Efallai y byddan nhw'n cael trafferth ailgofrestru a defnyddio'r meddygfeydd newydd. Roeddwn i allan yn siarad â thrigolion Parc Lansbury yr wythnos diwethaf, a dywedodd un etholwraig wrth fy nghyd-Aelod nad oedd ddim ond prin yn gallu cerdded i'r feddygfa rownd y gornel, ond nid oedd yn gwybod sut yr oedd hi'n mynd i allu cyrraedd rhywle a oedd lawer ymhellach i ffwrdd.

Rwyf i wedi sôn o'r blaen fod dadansoddiad map gwres meddygon teulu Cymdeithas Feddygon Prydain yn dangos bod 32 o feddygfeydd mewn perygl o gau yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan. Mae tair o'r rhain bellach wedi cau, neu ar fin cau, sy'n golygu y gallai 29 arall fod mewn perygl o hyd.

Ni wrandawyd ar fy nghais blaenorol am ddatganiad, mae arna i ofn. Felly, hoffwn i ofyn eto am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn nodi pa gymorth fydd ar gael i gleifion, fferyllfeydd a meddygfeydd a fydd yn gorfod ymdopi â sefyllfa newydd y meddygfeydd hyn yn cau? Yn ail, pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd ar unwaith i atal rhagor o feddygfeydd rhag cau yn eu rhanbarth drwy recriwtio'n brydlon? Ac yn olaf, sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwyrdroi'r methiant trychinebus hwn i gynllunio ei weithlu meddygon teulu yn y dyfodol yn wyneb y galw cynyddol? Diolch, Trefnydd.

14:30

Mae'r byrddau iechyd yn gweithio gyda phartneriaid drwy'r clystyrau i fabwysiadu ac addasu'r model gofal sylfaenol i Gymru, gan ganolbwyntio ar gymorth ar gyfer hunanofal a darparu gwasanaeth di-dor 24/7 sy'n rhoi blaenoriaeth i'r bobl waelaf eu hiechyd, gan wneud defnydd effeithiol o'r gweithlu amlbroffesiwn. Ac wrth gwrs, eleni, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £10 miliwn ychwanegol er mwyn i glystyrau benderfynu sut i fuddsoddi i gefnogi'r model gofal sylfaenol i Gymru.

O ran y practisau meddygon teulu penodol yr ydych chi'n cyfeirio atyn nhw, gwn fod y Gweinidog wedi cael rhai trafodaethau gyda'r Aelodau lleol, a bod y bwrdd iechyd yn cynnig pecyn o gymorth erbyn hyn i bob un o'r practisau hynny sy'n debygol o weld cynnydd yn nifer y cleifion. Wrth gwrs, mae gwaith aruthrol yn digwydd, onid oes, i geisio annog pobl i weithio yng Nghymru, ac mewn gwirionedd, mae hwnnw'n llwyddiannus o ran recriwtio meddygon teulu newydd i'r rhaglenni hyfforddiant hefyd. Ond mae'r Gweinidog wedi clywed eich cais chi am ddatganiad. Mae'n anodd iawn cynnwys pob datganiad; rydym yn cael tua 20 o geisiadau bob wythnos, a dim ond nifer fechan o slotiau i ymateb iddyn nhw. Ond gwnawn ein gorau glas i geisio darparu ar gyfer pethau gymaint ag y gallwn ni.

4. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

Mae'r eitem nesaf, sef y datganiad ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, wedi'i gyflwyno fel eitem ysgrifenedig.

5. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwybodaeth ddiweddaraf am Coronavirus (COVID-2019)

Ac, felly'r eitem nesaf yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar yr wybodaeth ddiweddaraf am coronafeirws. Galwaf ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad—Vaughan Gething. 

Diolch, Llywydd. Mae'r sefyllfa yng Nghymru yn parhau i esblygu ac erbyn hyn mae gennym chwe achos pendant. Fe fydd mwy o achosion yn cael eu cadarnhau yma ac mewn mannau eraill yn y DU yn ystod y dyddiau nesaf. Mewn ymateb i'r sefyllfa gyfnewidiol, rydym wedi datblygu cynllun gweithredu ar y cyd â Llywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig cenedlaethol eraill. Mae hyn yn adeiladu ar ein profiad o drin clefydau heintus ac ar ein cynlluniau ni ar gyfer ffliw pandemig.

Mae'r cynllun gweithredu yn ymdrin â'r hyn a wyddom ni am y feirws ar hyn o bryd ac am y clefydau a achosir ganddo; sut rydym ni wedi cynllunio ar gyfer achosion o glefydau heintus fel coronafeirws; y camau a gymerwyd gennym hyd yn hyn wrth ymateb i'r achosion  presennol; yr hyn y bwriadwn ei wneud nesaf, gan ddibynnu ar gyfeiriad yr achosion presennol; ac, wrth gwrs, yr hyn y gall y cyhoedd ei wneud i gefnogi'r ymateb hwn, yn awr ac yn y dyfodol.

Rwyf wedi gofyn i brif weithredwr GIG Cymru sefydlu tîm cynllunio ac ymateb o blith GIG Cymru a'r gwasanaethau cymdeithasol i ddefnyddio'r arbenigedd priodol a bod yn y sefyllfa orau i fynd i'r afael â phroblemau ymateb wrth inni symud drwy gamau'r achosion hyn. Fe fydd y tîm hwn yn rhoi cymorth parhaus, yn cydgysylltu ac yn integreiddio'r ymateb o ran y gwasanaethau iechyd a chymdeithasol. Fe fyddan nhw'n cydgysylltu eu gwaith nhw â chylch gwaith ehangach Canolfan Cydgysylltu Argyfyngau Llywodraeth Cymru. Fe geisiwyd sicrwydd ar unwaith ac fe gafwyd cadarnhad gan bob bwrdd iechyd sydd ag ysbytai acíwt eu bod nhw'n barod i dderbyn cleifion i'w cyfleusterau ynysu.

Y penwythnos hwn, fe roddais i ganiatâd i gyflenwi cyfarpar diogelu personol i bob practis meddyg teulu ledled Cymru. Fe gaiff cyflenwadau o offer amddiffynnol personol i fferyllfeydd cymunedol eu hanfon yn nes ymlaen yr wythnos hon. Rydym yn rhoi ein cyflenwadau pandemig ni ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol ar waith, fel bod y stôr hon yn barod i gael ei dosbarthu yn ôl yr angen.

Rydym yn parhau i gymryd camau i ganfod achosion cynnar, a mynd ar drywydd cysylltiadau agos, ac atal y clefyd rhag ymsefydlu yn y wlad hon am gyhyd ag sy'n bosibl yn ymarferol. Pe byddai'r clefyd yn ymsefydlu yn y DU ac yng Nghymru, fe fyddai angen inni ystyried mesurau pellach i leihau cyfradd a maint ei ledaeniad.

Fe fyddwn ni felly'n ceisio ennill pwerau newydd i Gymru drwy Fil Coronafeirws y DU gyfan sydd i'w gyflwyno yn Nhŷ'r Cyffredin, i helpu systemau a gwasanaethau i weithio'n fwy effeithiol wrth fynd i'r afael â'r achosion. Fe fydd y Bil yn cryfhau pwerau o ran cwarantin a thorfeydd o bobl, ac fe fydd yn caniatáu i ysgolion a cholegau gau, pe byddai angen, i gyfyngu ar ledaeniad coronafeirws. Mae pob un o'r pedair Llywodraeth ledled y DU wedi cytuno mai un darn o ddeddfwriaeth ar gyfer y DU gyfan yw'r dull cywir. Serch hynny, rwy'n awyddus i ailadrodd y pwynt, yn yr un darn hwnnw o ddeddfwriaeth i'r DU gyfan, y bydd disgwyliad clir bod yr holl bwerau hynny sydd wedi eu datganoli ar hyn o bryd yn parhau i fod yn gyfrifoldebau i Weinidogion mewn Llywodraethau cenedlaethol datganoledig.  

Fe fydd yn rhaid i'n GIG ni yma wneud rhai newidiadau i'r ffordd y mae'n gweithredu. Mae hynny'n cynnwys gofal a chyngor dros y ffôn a thechnoleg gwybodaeth. Rwyf wedi penderfynu y bydd system feddalwedd newydd ar gael ledled Cymru i alluogi pobl i ymgynghori â'u meddygon teulu drwy gyfrwng fideo. Rydym eisoes wedi cyflwyno gwiriwr symptomau ar-lein, y gellir ei ddefnyddio ar ein gwefan ni, Galw Iechyd Cymru. Wrth gwrs, mae'r wybodaeth ddiweddaraf bob dydd ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd. Fe ddylai hyn helpu i leihau'r pwysau ar y staff rheng flaen, a chefnogi pobl drwy roi mwy o wybodaeth a chyngor iddynt.

Rydym eisiau gweld cydbwysedd rhwng cadw pobl yn ddiogel a lleihau'r effeithiau cymdeithasol ac economaidd. Fe fydd ein penderfyniadau ni'n adlewyrchu'r dystiolaeth wyddonol, ac yn ystyried y cyfaddawdu sy'n gysylltiedig â hynny. Mae'r camau y byddwn ni'n eu hystyried yn cynnwys annog mwy o bobl i weithio gartref, ymatal rhag defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a mesurau ymddygiadol eraill y gall pobl eu cymryd yn wirfoddol i arafu ymlediad y clefyd. Fe fyddwn ni'n ystyried a ddylai'r rhai sydd â symptomau llai amlwg eu hynysu eu hunain, ond fe gaiff hyn ei lywio gan gyngor arbenigol ar epidemioleg yr achos, ac nid ydym wedi cyrraedd y sefyllfa honno heddiw.

Mae'n werth inni atgoffa ein hunain a'r cyhoedd, er hynny, na ddylai pobl sydd â symptomau tebyg i'r ffliw fynd i'r gwaith, na mynd i weld eu meddyg teulu, na mynd i adrannau damweiniau ac argyfwng. Nid cyngor newydd yw hwnnw—dyna'r cyngor cyfredol ar hyd y flwyddyn.

Mae rhai digwyddiadau cyhoeddus mawr y tu allan i Gymru, fel y gwelsom ni, wedi cael eu canslo neu eu gohirio er mwyn cyfyngu ar y perygl o drosglwyddo coronafeirws. Mae nifer o ysgolion wedi cau mewn gwledydd eraill am resymau tebyg. Mae'r rhain yn ddewisiadau a fydd yn bosibl i ninnau hefyd yn y dyfodol. Eto i gyd, nid ydym yn y sefyllfa honno ar hyn o bryd. Fe ddylai'r ysgolion aros ar agor, ac nid oes sail resymegol i ganslo digwyddiadau chwaraeon mawr ar hyn o bryd.

Ond mae rhai o'r mesurau mwyaf effeithiol yn cynnwys pob un ohonom ni—nid y Llywodraeth neu'r GIG yn unig. Er enghraifft, fe all gweithdrefnau hylendid personol syml gyfyngu'n sylweddol ar ledaeniad y feirws, fel y gall hunan ynysu darbodus i'r rhai sy'n wynebu risg arbennig. Fe all cyflogwyr gefnogi eu staff i gymryd camau o'r fath, ac fe ddylen nhw wneud hynny, heb godi braw yn ormodol. I liniaru'r effaith ar fusnesau, mae Llywodraeth Cymru wedi cofrestru COVID-19 yn glefyd hysbysadwy. Fe fydd hyn yn helpu cwmnïau i geisio iawndal drwy eu polisïau yswiriant os bydd yn rhaid iddyn nhw ganslo unrhyw beth o ganlyniad i ymlediad y feirws.

Rydym yn symud tuag at drefniadau monitro gwell ym maes awyr rhyngwladol Caerdydd. Fe fydd hyn yn golygu y bydd angen i bob awyren sy'n glanio yma o ranbarth a nodir gan ddiffiniad yr achos, ddatgan unrhyw deithwyr sy'n arddangos symptomau gerbron timau iechyd porthladdoedd Iechyd Cyhoeddus Cymru cyn iddyn nhw ddod oddi ar yr awyren.

Y tu allan i'r DU, mae'r risg yn newid yn feunyddiol. Mae'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn diweddaru ei chyngor i deithwyr yn rheolaidd hefyd. Ac fe ddylai pobl sy'n bwriadu teithio dramor edrych ar wefan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad am y cyngor diweddaraf o ran teithio cyn iddyn nhw fynd dramor. Y cyngor diweddaraf i deithwyr sy'n dychwelyd o'r rhannau o'r byd sydd â'r risg uchaf yw aros yn y tŷ, ac osgoi dod i gysylltiad â phobl eraill, a ffonio 111. Mae hynny'n wir hyd yn oed os nad oes symptomau ganddyn nhw. A'r ardaloedd hynny yw: Iran, talaith Hubei yn Tsieina a'r Eidal. I deithwyr sy'n dychwelyd o ardaloedd a ystyrir yn llai o risg, y cyngor yw aros yn y tŷ ac osgoi cysylltiad â phobl eraill os ydych chi'n datblygu symptomau. Bellach, mae hyn yn cynnwys yr Eidal gyfan y tu allan i'r ardaloedd dan glo yr wyf i wedi eu crybwyll nhw eisoes.

Mae rhagor o gyngor ar gael gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl nad ydyn nhw wedi teithio ond sydd, serch hynny, yn bryderus. Fe fydd hwnnw'n newid hefyd wrth i batrwm yr achosion newid ac wrth i'n dealltwriaeth ninnau dyfu. Ond mae dilyn cyngor o'r fath yn well bob amser na gwrando ar sibrydion a dyfalu sy'n aml yn anwybodus. Yn arbennig, fe fyddwn i'n annog pobl i edrych ar y cyngor sydd ar gael cyn mynd i geisio diagnosis, sydd, wrth gwrs, yn achosi'r risg o wastraffu adnoddau cyfyngedig y GIG. Rydym yn parhau i gynnig profion cymunedol i bobl yn eu cartrefi nhw eu hunain. Yn ogystal â hynny, mae 111 ar gael ledled Cymru erbyn hyn i gael cyngor ar y coronafeirws.

Mae'r Prif Weinidog a minnau'n parhau i fynd i gyfarfodydd COBRA. Fe fyddwn ni'n parhau i weithio gyda Gweinidogion y DU, llywodraethau'r Alban a Gogledd Iwerddon, ein prif swyddogion meddygol ni, ac asiantaethau iechyd cyhoeddus, ledled y pedair gwlad.

Ni ddylai unrhyw un fod dan unrhyw gamargraff am y bygythiad y mae'r coronafeirws yn ei ymgorffori. Mae risgiau amlwg a difrifol i iechyd pobl, gan gynnwys, yn enwedig, bobl sydd eisoes yn agored i niwed. Ac mae achosion ehangach hefyd yn achosi'r risg o amharu ar gymdeithas a'r economi ar raddfa fawr.

Ni fydd yr achosion hyn yn diflannu yn gyflym ac fe fydd y sefyllfa'n gwaethygu cyn iddo wella. Ond, ar yr un pryd, rydym wedi hen baratoi ar gyfer achosion fel hyn, ac rydym yn dysgu mwy am y feirws penodol hwn bob dydd. Mae'r wybodaeth honno, ynghyd ag ymroddiad ein gweithwyr iechyd proffesiynol ni ac eraill ar draws y gwasanaethau cyhoeddus a'r sector annibynnol, yn ein galluogi i leihau'r risgiau gymaint ag y gallwn ni. Fe fyddaf i, wrth gwrs, yn parhau i roi'r wybodaeth lawn i'r Aelodau a phobl Cymru am unrhyw gamau y byddwn ni'n eu cymryd yma yn y Llywodraeth.  

14:40

Diolch yn fawr iawn am eich datganiad, Gweinidog, ac am fod mor barod i roi diweddariadau i mi, ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, yn ystod y sefyllfa sydd ohoni. Gan fynd trwy eich datganiad chi, mae gennyf i nifer o gwestiynau. A wnewch chi gadarnhau ar ba lefel y bydd aelodau'r GIG yng Nghymru a thimau cynllunio ac ymateb y gwasanaethau cymdeithasol—mewn geiriau eraill, a oes ganddyn nhw'r awdurdod i sicrhau y bydd pethau'n digwydd yn y GIG? A wnewch chi gadarnhau nifer y gwelyau ynysu a fydd ar gael inni ar hyn o bryd drwy'r GIG yn ei gyfanrwydd? Oherwydd rwy'n tybio bod ynysu yn bur wahanol i ofal dwys, gan mai nhw yw'r rhai sydd o fewn y muriau gwydr, felly roeddwn i eisiau eglurhad ar hynny.

Roeddwn i'n falch iawn o weld y cyfarpar diogelu personol yn cael ei ddosbarthu i feddygfeydd a fferyllfeydd. Tybed pa bryd y gallech chi ystyried eu rhoi nhw i weithwyr gofal cartref a gweithwyr gofal mewn cartrefi preswyl, a pha gyngor a fyddech chi'n ei roi i berchnogion cartrefi preifat o ran pa ragofalon y dylen nhw fod yn eu cymryd.

Roeddech chi'n sôn am y dechnoleg i ategu hyn, ac mae'n rhaid imi ddweud bod y gwiriwr symptomau yn un da iawn, oherwydd fe roddais i gynnig ar ei ddefnyddio, ac rwy'n credu ei fod yn glir iawn ac rwy'n eich cymeradwyo chi ar hynny. Wrth gwrs, ni fydd gan lawer iawn o bobl hŷn o reidrwydd y modd i ddefnyddio technoleg gwybodaeth na'r gallu i'w ddefnyddio, felly tybed beth y gallech chi ei roi ar waith, neu pa gyfarwyddiadau y byddech chi'n eu rhoi i bobl hŷn nad ydyn nhw'n gallu defnyddio'r gwiriwr symptomau a'r hyn y dylen nhw ei wneud. Rwy'n tybio y byddwch chi'n dweud '111' wrthyf i, ac, unwaith eto, hoffwn i gael rhywfaint o eglurhad yn hynny o beth. Fe fues i mewn cyfarfod o staff Ysbyty Wrecsam Maelor yr wythnos diwethaf, a chyfarfod ag un neu ddau o bractisau meddygon teulu hefyd, ac roedden eu neges nhw i mi am effeithlonrwydd 111 yn y Gogledd yn un eithaf amwys. Fe ddywedodd rhai fod y rhif 0845 yn cael ei ddargyfeirio ac nad oedden nhw'n argyhoeddedig bod 111 ar gael yn gyffredinol. Felly, efallai y gallech chi gadarnhau hynny, er mwyn inni allu symud ymlaen gyda'r mater hwnnw.

Ac, unwaith eto, wrth inni sôn am bobl hŷn, rwy'n sylweddoli nad rhywbeth ar gyfer nawr yw hyn, ond yn ystod yr wythnosau nesaf, a wnewch chi siarad gyda sefydliadau fel arweinyddion archfarchnadoedd neu a ydych chi wedi cynnal unrhyw drafodaethau â nhw o bosibl i sefydlu rhyw fath o ffordd i bobl hŷn, sy'n gorfod aros gartref oherwydd bod ganddyn nhw risgiau iechyd difrifol fel clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint, neu oherwydd eu bod nhw'n boblogaeth risg uwch, i allu archebu nwyddau o'r archfarchnad dros y ffôn a'u cael wedi'u hanfon atyn nhw? Oherwydd, unwaith eto, gwn fod nifer sylweddol o bobl hŷn yn fy etholaethau i nad ydyn nhw'n gallu defnyddio offer technoleg gwybodaeth i archebu o un o'n hoff archfarchnadoedd ni.

Mae gen i gwestiwn penodol yr hoffwn ei ofyn ynglŷn â'r gweithlu. Mewn datganiad blaenorol, fe wnaethoch chi ddweud eich bod yn bwriadu defnyddio gwirfoddolwyr a staff sydd wedi gadael y GIG yn ddiweddar. Felly, fe fydd ganddyn nhw wybodaeth sy'n gyfredol. A wnewch chi gadarnhau y bydd meddygon locwm yn cael cynnig contractau a fydd yn eu hamddiffyn nhw a'u teuluoedd pe bai yna salwch difrifol neu hyd yn oed farwolaeth pe byddent yn digwydd marw wrth roi gwasanaeth fel hyn? A fyddwch chi'n rhoi ystyriaeth i hynny wrth symud ymlaen? Un peth yw gofyn i feddyg teulu sydd wedi ymddeol neu ymgynghorydd sydd wedi ymddeol neu nyrs sydd newydd ymddeol ddod yn ôl i mewn i weithio shifft, ac fe fyddem yn gallu cael tystysgrif addasrwydd i ymarfer iddyn nhw'n gyflym—rwy'n deall hynny i gyd ac fe fydd hynny yn digwydd, mae'n siŵr—ond hefyd mae angen inni eu hamddiffyn pe bai'r gwaethaf yn digwydd. Felly, a wnewch chi gadarnhau y byddwch chi efallai'n ystyried y maes hwn?

Rydych chi hefyd wedi siarad am y cyfle i bobl ymgynghori drwy fideo, sy'n gam pwysig iawn ymlaen yn fy marn i. Ond, unwaith eto, a ydych chi'n rhoi rhywfaint o ystyriaeth i ba gynlluniau a allai fod ar waith ar gyfer yr ardaloedd hynny lle nad oes cysylltedd fideo, oherwydd nad yw'r seilwaith ar gael, ac a gaf i roi rhestr i chi o sawl man gwan yn fy etholaeth i lle na fyddai hynny'n bosibl mewn gwirionedd?

Mae llawer o gwestiynau i'w holi ynglŷn â'r coronafeirws, ac nid wyf yn mynd i gymryd llawer mwy o'ch amser chi. Fy nghwestiwn olaf i yw, wrth gwrs, fod De Korea o'r farn fod y gwaethaf drosodd iddyn nhw, a'u bod nhw am weld gostyngiad nawr; maen nhw'n dawel hyderus. Maen nhw wedi bod yn effeithiol iawn yn y ffordd y maen nhw wedi ymdrin â'r sefyllfa. Mae ganddyn nhw strwythur cymdeithasol sy'n wahanol, a diwylliant sy'n wahanol, ond un o'r pethau a wnaethant oedd defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i helpu i olrhain cleifion y nodwyd bod ganddynt y coronafeirws. Yn amlwg, nid wyf yn gwybod—rwy'n cymryd eu bod wedi cael caniatâd—ond roeddent yn olrhain eu hynt nhw, ac yna gallent geisio defnyddio'r math hwnnw o dechnoleg i ganfod pwy arall a allai fod mewn perygl. A wnewch chi ddweud wrthym a oes gennych unrhyw syniadau neu beidio yn yr wythnosau nesaf? Fel y dywedaf i, nid nawr—rwy'n sylweddoli nad yw hyn ar waith ar hyn o bryd—ond rydym i gyd yn cydnabod y bydd y feirws hwn yn ymledu. Fe fydd y sefyllfa'n gwaethygu ac mae'r pethau a grybwyllais i'n bethau y gallem ni eu gwneud efallai i helpu i olrhain neu liniaru, ac roeddwn i'n meddwl tybed a oeddech chi wedi bod yn edrych ar rywle fel De Korea, sy'n credu bod y gwaethaf drosodd iddyn nhw, er mwyn dysgu'r arfer gorau ar gyfer ein helpu ni i reoli'r sefyllfa, neu o leiaf i sefydlogi'r sefyllfa, yn ein gwlad ni.

14:45

Diolch am y gyfres o sylwadau a chwestiynau. Eich pwynt cyntaf chi ynglŷn â'r tîm newydd yr wyf i wedi cyfeirio ato o fewn y Llywodraeth: y ffaith fy mod i wedi cyfarwyddo prif weithredwr GIG Cymru i sefydlu hwn, fe ddylai fod yno ddigon o statws uchel o fewn staff y GIG i wneud yn siŵr bod pobl yn ymateb gyda lefel briodol o awdurdod. Mae'n ymwneud â chydlynu'r gwaith o fewn y Llywodraeth yn ogystal â'r rhyngwyneb â'r gwasanaeth iechyd. Ac ynglŷn â'ch pwynt chi am fesurau ynysu, gan fynd yn ôl at rai o'r pwyntiau a wnaeth y Prif Weinidog mewn cwestiynau hefyd, mae hyn mewn gwirionedd yn ymwneud â sut y dylem ni gynyddu ein capasiti i gwrdd â phobl, ond mae angen inni drin pobl mewn modd gwahanol hefyd. Y bobl a fyddai fel arfer yn dod i mewn i ysbyty i gael eu gofal—efallai y bydd angen inni drin mwy o'r bobl hynny yn eu cartrefi eu hunain mewn modd gwahanol. Felly, mewn gwirionedd, nid wyf i'n credu y dylem fod ag obsesiwn o ran nifer y gwelyau sydd gennym ni ar hyn o bryd ond o ran ein gallu ni ar draws y system gyfan, mewn gwirionedd, i allu trin mwy o bobl, a beth y mae hynny yn ei olygu, a'r dewisiadau amrywiol o ran triniaethau y bydd angen inni eu darparu, a'r hyn y bydd angen inni ei wneud wedyn mewn gwirionedd, er enghraifft, ynghyd â rheoleiddwyr a cholegau brenhinol hefyd.

O ran y cyfarpar diogelwch personol ar gyfer meddygfeydd teulu a fferyllfeydd, a'r hyn y gallai hynny ei olygu i bobl eraill sydd mewn cysylltiad uniongyrchol â grwpiau risg—mae hynny'n rhan o'r sgyrsiau yr ydym yn eu cael, nid yn unig gyda'r staff sy'n gweithio mewn gofal cartref a gofal preswyl, ond hefyd yn un o'ch pwyntiau diweddarach chi am y gwaith gydag archfarchnadoedd. Rwyf wedi cyfarwyddo swyddogion eisoes i gael y sgyrsiau hynny ynglŷn â chael nwyddau i bobl a allai fod yn eu cartrefi eu hunain am gyfnod maith, ond mae'n ymwneud hefyd â'r gwaith y bydd angen i lywodraeth leol yn benodol ei wneud, o ran cynllunio ar gyfer newid yn y ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu, ynglŷn â'r ffordd y maen nhw'n darparu gwasanaethau yng nghartrefi pobl eisoes, naill ai oherwydd eu bod nhw'n darparu'r gofal hwnnw'n uniongyrchol, neu'n comisiynu gofal, a sut y bydd angen iddyn nhw gynllunio ar gyfer dull arall o ddarparu gwasanaethau—unwaith eto, gyda llai o staff o bosib rywdro, ond o bosibl hefyd gyda chynnydd yn y galw a ddaw drwy eu drysau nhw hefyd.

O ran eich pwynt chi ynglŷn â defnyddio TG, mae'r camau a gymerwyd gennym i ddarparu darn o feddalwedd sy'n gyson ledled y system yn gam mawr ymlaen, ond nid yw hynny'n golygu bod pawb yn gallu ei ddefnyddio. Rydych chi'n iawn i nodi bod yna rai pobl sydd naill ai heb offer TG neu nad ydynt yn gallu ei ddefnyddio'n effeithiol am nifer o resymau. Felly, mae pethau hefyd—[Anghlywadwy.]—pobl eraill hefyd. Ac eto, her yw honno sydd nid yn unig yn wynebu'r gwasanaeth iechyd, ond yn wynebu amrywiaeth o wasanaethau cyhoeddus eraill hefyd.

Ac o ran eich pwynt chi ynglŷn â gallu defnyddio'r gwiriwr symptomau, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi darparu amrywiaeth o bosteri eisoes sy'n rhoi cyngor ac yn sôn am y symptomau, felly nid fforwm ar-lein yn unig yw hyn. Rwyf wedi gweld ar fy nhaith ddiweddar i'r gogledd yr hyn y mae hynny'n ei olygu, ac ym Maes Awyr Caerdydd—lle maen nhw'n weladwy; credaf eu bod nhw'n glir iawn—ond mae amrywiaeth o fusnesau wedi defnyddio'r un posteri gwybodaeth hefyd. Ac mae hynny'n mynd yn ôl at y pwyntiau a wnaed yn flaenorol ynglŷn â chyngor clir a chyson wrth ddefnyddio cyngor o ffynhonnell wybodaeth y gellir ymddiried ynddi. Felly rwyf i wedi fy nghalonogi'n fawr gan y ffordd y mae'r cyngor syml a chlir iawn hwnnw'n cael ei ddefnyddio mewn ystod eang o feysydd.

Ac rwy'n hapus i ailadrodd y pwynt ynglŷn ag 111. Gwasanaeth i Gymru gyfan yw hwn—gwasanaeth i Gymru gyfan ar gyfer coronafeirws. Felly, os yw pobl yn gofidio, fe allan nhw ffonio'r rhif hwnnw o unrhyw ran o Gymru i gael cyngor ac arweiniad.

O ran yr adroddiad am indemniad ar gyfer pobl sy'n staff locwm, rwy'n hapus i archwilio'r maes hwnnw ymhellach i weld a oes angen newid unrhyw un o'n trefniadau presennol ni ar gyfer sicrhau bod y niferoedd iawn o staff gennym yn y mannau iawn i ddarparu gofal a thriniaeth a hefyd i roi sicrwydd i bobl.

Ac o ran eich pwynt olaf chi ynglŷn â dysgu oddi wrth wledydd eraill, nid oddi wrth Dde Korea yn unig, ond drwy'r holl fyd—roedd hynny'n rhan o'r drafodaeth yn COBRA yr wythnos hon. Mae'n rhan o'r trafodaethau yr wyf i wedi eu cael yn rheolaidd gyda'r prif swyddog meddygol, gan fod cyngor, a ymddengys yn amrywio ychydig, yn cael ei roi mewn gwahanol rannau o'r byd, ond mae'n golygu dysgu oddi wrth bobl hefyd am wahanol gamau'r achosion. Yn wir, fe fydd gwaith Sefydliad Iechyd y Byd yn bwysig iawn yn hyn o beth. Ond yn sicr rydym am gael ein cysylltu â'r cyngor gorau posib, nid yn unig ledled y DU, ond yn rhyngwladol hefyd, ynglŷn â gwersi y gallwn ni eu dysgu—ac rydym ychydig ar ei hôl hi o'i gymharu â rhannau eraill o'r byd gyda'r achosion hyn—i geisio gwneud yn siŵr ein bod yn gwneud dewisiadau gwell yma, neu y gallwn ni ddeall yn well y dewisiadau y byddwn ni'n anochel yn eu hwynebu. Felly, ydy, mae hyn yn bwysig yn y sefyllfa sydd ohoni nawr. Fe fydd yn bwysig wedi hynny hefyd. Felly, pan fydd yr achosion o'r coronafeirws wedi cyrraedd ei anterth yn y DU ac ar draws y byd, mae angen inni ddysgu o'r hyn sydd wedi digwydd a deall beth fydd angen ei wneud yn well yn y dyfodol.

14:50

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Gaf i ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad a diolch am y briffio sy'n cael ei roi i fi a llefaryddion eraill yn ystod y mater yma?

Gaf i ddweud hanesyn wrthoch chi am feddyg wnaeth gysylltu efo fy swyddfa i i gwyno ynglŷn â llinell 111, oherwydd ei bod hi wedi delio efo claf a oedd wedi gorfod talu £10 i ffonio'r rhif 0845 achos bod 111 ddim yn gweithio, a doedd y claf ddim yn gallu defnyddio ffôn landline ar y pryd? Mi oedd y claf arbennig yma a'i gŵr wedi dod yn ôl o'r Eidal yn ddiweddar, lle'r oedden nhw wedi bod ar wyliau efo cyfeillion. Ar ôl dod adref, mi wnaeth y cyfeillion hynny, a oedd yn byw yn Lloegr, gael eu profi a'u profi'n negyddol am COVID-19. Mi gafodd y cleifion yng Nghymru wedyn annwyd a chur pen a ffonio'r rhif 0845, ond mi ddywedwyd wrthyn nhw nad oedden nhw yn debygol o fod mewn risg ac nad oedd angen iddyn nhw gael eu profi. Ond oherwydd bod y cyfeillion yn Essex wedi cael eu profi, mi deimlon nhw y dylen nhw gymryd camau pellach eu hunain. Mi benderfynon nhw yrru i Ysbyty Gwynedd, siarad efo nyrs yn y fan honno a wnaeth roi triage iddyn nhw ar y ffôn. Mi wnaeth y meddyg wedyn wisgo ffedog a menig a mynd allan i'r car i sicrhau bod profion neu ddiagnosis yn gallu cael ei roi iddyn nhw. A beth rydyn ni wedi'i glywed oedd bod yna ddiffyg dealltwriaeth hyd yn oed ymhlith staff mewn ysbyty, mewn gofal meddygol y tu allan i oriau, er enghraifft, ynglŷn â beth yn union i'w wneud mewn achosion fel hyn. Mae hynny'n fater o bryder, wrth gwrs, os ydy'r staff eu hunain ar y llinell flaen yn teimlo nad ydy'r cyngor ganddyn nhw i'w roi i bobl, na chwaith y dillad addas i'w hamddiffyn eu hunain, er dwi'n nodi, ac yn ddiolchgar, o'r datganiad fod meddygfeydd teulu yn cael dillad addas erbyn rŵan.

Mae yna nifer o gwestiynau yn codi o'r mater yma i fi. Yn gyntaf, os ydy pobl yn methu â ffonio 111 am ryw reswm, ac yn methu â fforddio talu wedyn i ffonio'r rhif 0845, oes yna beryg ein bod ni'n methu rhai achosion? Beth ydy'r camau fydd yn cael eu gwneud er mwyn cryfhau'r ddarpariaeth 111 yna ymhellach?

Os ydy staff mewn ysbytai yn teimlo nad oes ganddyn nhw'r offer angenrheidiol i'w gwarchod eu hunain, oes yna ddisgwyliad y byddan nhw'n cael y dillad yna? Hefyd, pa gamau sydd yn cael eu gwneud i gryfhau'r ddarpariaeth mewn ysbytai ar gyfer y bobl hynny sydd yn mynd yn groes i'r cyngor sy'n cael ei roi iddyn nhw ac yn mynd i'r ysbyty beth bynnag? Oherwydd mae pobl yn mynd i wneud hynny, yn anffodus. Gobeithio mai ychydig iawn fydd yn gwneud, ond mae o'n mynd i ddigwydd. Beth fydd yn cael ei wneud i sicrhau bod ysbytai yn barod am hynny?

Os caf i hefyd wneud apêl am y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â chapasiti gofal mwy dwys. Mae'n allweddol, dwi'n meddwl, ein bod ni ar y pwynt yma mewn amser yn sicrhau bod y capasiti yna ar gyfer gwelyau gofal mwy dwys yn cael eu darparu mewn ysbytai. Dwi'n meddwl ei bod hi'n deg i ddweud bod ein profiad ni o wledydd eraill, o edrych ar yr hyn sy'n digwydd mewn gwledydd eraill, yn dweud wrthym ni fod y math o ofal sy'n cael ei roi i bobl ar y pwynt lle mae eu hafiechyd nhw'n troi'n ddifrifol, p'un ai ydy'r gofal yn briodol iddyn nhw ac yn ddigon da iddyn nhw ar y pryd, yn gallu gwneud y gwahaniaeth pan mae'n dod at ydyn nhw'n mynd i oroesi yr afiechyd yma. Felly, beth sydd yn cael ei wneud rŵan i sicrhau bod y capasiti yna yn cael ei adeiladu ar gyfer yr anghenion allai godi yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf ar gyfer gofal dwys yn yr ysbyty?

14:55

Fe hoffwn i ddiolch i chi am y sylwadau a'r cwestiynau. Rwy'n credu bod eich stori chi am brofiad gwirioneddol yn y gorffennol diweddar yn ystyrlon i bob un ohonom. Ynglŷn â 0845, yr hen rif 0845, mae honno'n gost y mae'r darparwyr ffôn eu hunain yn ei chodi ac nid ydym ni'n rheoli hynny. Mae'n rhwystredig iawn, ond rydym wedi cymryd y cam i gael gwasanaeth 111 ledled Cymru er mwyn iddo fod yn rhif sy'n gyson, fel nad ydym yn gofyn i bobl mewn gwahanol rannau o Gymru orfod gwirio pa rif y dylen nhw fod yn ei ddefnyddio. Rwy'n credu bod y pwyntiau hynny am eglurder a chysondeb yn bwysig iawn yn y neges sydd gennym ni.

Rwy'n hollol glir, os oes angen mwy o adnoddau arnyn nhw, fe fyddwn ni'n dod o hyd i fwy o adnoddau fel bod ganddynt fwy o gapasiti i ymdrin â phobl. Mae yna rywbeth wedyn am ein system GIG gyfan ni yn deall beth i'w wneud, o ran a oes angen iddyn nhw ddefnyddio dillad neu gyfarpar amddiffynnol, ond i sicrhau bod pobl hefyd yn deall eu hunain, yn syml a chlir, sut y dylent ymddwyn gyda'r cyhoedd. Rwy'n credu bod eich pwynt chi ynglŷn â'r ffaith eu bod nhw wedi gorfod gyrru i'r ysbyty pan rydym yn gofyn i bobl beidio â gwneud hynny, a'n her ni wrth bwysleisio y dylai pobl ddilyn y cyngor i'w cadw nhw ac eraill yn ddiogel—mae'n ymwneud â'u cadw nhw'n ddiogel, eu teuluoedd nhw, eu hanwyliaid nhw, ond pobl nad ydyn nhw wedi cyfarfod â nhw erioed hefyd. Mae hon yn sefyllfa ddifrifol iawn.

Mae'n bosib iawn mai'r dewisiadau y byddwn ni'n eu hwynebu fydd dewisiadau sy'n amherffaith, yn yr ystyr ein bod ni efallai'n gwneud dewisiadau ynghylch gohirio gweithgarwch yn y gwasanaeth iechyd er mwyn blaenoriaethu'r gweithgarwch mwyaf difrifol; efallai y byddwn yn gofyn i bobl ddarparu triniaeth mewn ffordd na fyddech yn ei disgwyl nawr oherwydd y capasiti ac oherwydd y galw y byddwn o bosib yn ei weld yn dod drwy ein drysau ni. Fe ddylai'r sefyllfa yn yr Eidal ddweud rhywbeth wrthym am y dewisiadau y gallen ni fod yn eu hwynebu.

Nid gwlad sy'n datblygu yw'r Eidal. Mae ganddi system iechyd dda yn y byd datblygedig, ac eto mae ei system gofal iechyd yn cael ei gorlethu ar hyn o bryd. Mae'r holl gapasiti gofal dwys wedi ei orlethu, gan gynnwys yr uwchraddio a wnaed drwy adleoli staff, ac mae'n gorfod gwneud rhai o'r dewisiadau a ddisgrifiodd y Prif Weinidog hefyd. Maen nhw'n siarad am drin pobl mewn ysbytai, nid yn y math o sefyllfa y bydden nhw wedi dymuno i'r bobl hynny fod ynddi fel arall, mewn gwely gofal dwys, ond efallai nad yw'r gwelyau hynny ar gael oherwydd eu bod nhw'n llawn; maen nhw'n sôn am bobl y gallai fod angen cymorth anadlu arnyn nhw, ac nid ydyn nhw'n cael hynny, maen nhw'n meddwl am ddewisiadau eraill. Fel y dywedais i sawl gwaith, efallai y byddwn ni'n trin pobl yn eu cartrefi eu hunain pan fyddem ni'n dweud heddiw, yn bendant, 'Fe ddylai'r unigolyn hwn fod mewn ysbyty, mewn gwely gyda lefel benodol o gynnydd yn ei driniaeth feddygol.' Nid dewisiadau dibwys yw'r rhain yr ydym yn ystyried gorfod eu gwneud.

Hyd yn oed os byddwn ni'n defnyddio ein holl gapasiti ni, os byddwn ni'n atal meysydd eraill o weithgarwch, os byddwn ni'n adleoli ein holl staff ni, mae'n bosib o hyd, os na fyddwn ni'n cymryd camau, os na fyddwn ni'n cymryd mesurau effeithiol, y gallem gael ein gorlethu. Mae'n bosib hefyd, o wneud popeth o fewn ein gallu dynol, gyda chyflwr newydd nad oes gennym ni frechlyn ar ei gyfer, nad oes gennym ni driniaeth gwrthfeirws effeithiol ar ei gyfer—mae'n bosib pan edrychwch ar y sefyllfa waethaf posib, y gallai amrywiaeth o'n gwasanaethau ni gael eu gorlethu. Dyna'r her sy'n ein hwynebu ni, felly mae difrifoldeb yr holl ddewisiadau a wnawn yn rhai gwirioneddol. Fel y dywedaf, mai graddfa'r hyn sy'n digwydd yn yr Eidal nawr yn atgyfnerthu hynny, nid dim ond y cynnydd yn nifer y marwolaethau, ond yn nifer y bobl sy'n ddifrifol wael hefyd ar hyn o bryd yn yr Eidal heddiw ac maen nhw'n gorfod gofalu amdanynt.

Felly, fe fyddaf yn fodlon ymdrin â'r holl bwyntiau hynny wrth inni ddod atyn nhw a gorfod gwneud dewisiadau, ynghylch y dewisiadau yr ydym ni'n eu gwneud, ynghylch newid yn y ffordd y mae'r gwasanaeth iechyd yn gweithio, ond hefyd ynghylch y dewisiadau yr ydym yn dweud nad oes angen inni eu gwneud. Unwaith eto, rydym yn gofyn i'r cyhoedd ddilyn y cyngor yr ydym yn ei roi a ddaw o ffynonellau y gellir ymddiried ynddyn nhw, sef y Llywodraeth a'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, a gwneud yn siŵr ein bod ni'n dilyn y cyngor hwnnw ac nid y cyngor arall sy'n dod gan sylwebwyr eraill sy'n dweud eu dweud ar y cyfryngau cymdeithasol a'r newyddion a gaiff eu darlledu. Fe welais i gyfweliad â Rory Stewart—cyn-Weinidog yn y Cabinet—ac roedd ef yn awgrymu y dylai'r Llywodraeth anwybyddu'r cyngor gwyddonol a gweithredu'n gynnar, a hynny cyn yr hyn y mae'r wyddoniaeth yn ei ddweud wrthym ni. Nid dyna'r peth iawn i'w wneud. Roeddwn i'n siomedig iawn oherwydd roedd yn anghyfrifol iawn dweud hyn, ac felly fe fydd y Llywodraeth hon yn gwneud dewisiadau hyd yn oed os ydynt yn ymddangos yn groes i'r graen. Rwy'n mynegi'r sicrwydd eto ein bod ni'n bendant, yn bendant yn gwrando ar y pedwar prif swyddog meddygol ledled y DU ac rydym yn bendant yn edrych ar y cyngor gwyddonol gorau sydd gennym i seilio ein penderfyniadau arno.

15:00

Rwy'n credu bod ein meddyliau ni i gyd yn y Siambr hon ac mewn mannau eraill gyda phawb sy'n dioddef ar hyn o bryd oherwydd y feirws hwn a'r rhai sy'n credu y gallen nhw fod ond sy'n aros am ddiagnosis efallai, yn ogystal â theuluoedd y rhai a fu farw eisoes. Rwyf i o'r farn mai hwn yw un o'r bygythiadau mwyaf dychrynllyd inni ei weld i bobl ac i'r gymdeithas, yn sicr yn fy oes i. Ni allaf gofio unrhyw achlysur y bu clefyd fel hwn yn ymledu ar draws y byd ac yn heintio cynifer o bobl ac yn achosi cymaint o ddioddefaint mewn cymdeithasau ledled y byd hwn yn ei gyfanrwydd.

Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru yn gwrando ar arbenigwyr, ac rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru yn dilyn y cyngor y mae ein gwyddonwyr a'n meddygon yn ei roi i ni. Mae'n gwbl hanfodol ein bod ni, wrth ymateb i'r argyfwng hwn, yn dilyn y cyngor a'r dadansoddiad gwyddonol gorau sydd ar gael ar ein cyfer ni. Rwy'n falch iawn hefyd o weld bod Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda'r llywodraethau eraill ledled y Deyrnas Unedig i sicrhau ein bod ni'n cael y math o ymateb holistaidd sydd ei angen arnom ni. Fe fyddwn i'n dweud fy mod i o'r farn mai Llywodraeth Cymru yw'r unig weinyddiaeth, os hoffech chi, yn y wlad hon a all gydlynu'r holl ymatebion sy'n ofynnol ar draws ein holl wasanaethau cyhoeddus ni ac ar draws yr holl wahanol wasanaethau y bydd eu hangen nhw arnom ni fel gwlad i ddod drwy'r feirws hwn. Rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog—ni wnaeth sôn am hyn yn ei ymateb cychwynnol, ond rwy'n hyderu bod y Gweinidog yn gweithio'n agos gyda'i gydweithiwr sy'n eistedd wrth ei ymyl, y Gweinidog, rwy'n credu, sy'n gyfrifol am argyfyngau sifil, ac efallai y byddai ef yn egluro'r strwythurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi ar waith i sicrhau'r ymateb wrth gefn llawn, sifil y bydd ei angen arnom ni.

Ond rwy'n credu y bydd llawer ohonom yn meddwl am y bobl hynny sy'n gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a fydd yn dwyn baich y feirws hwn a chanlyniadau hyn i bobl. Mae llawer ohonom wedi bod yn gweld ac yn clywed ac yn darllen am yr effaith y mae hyn yn ei chael ar y gwasanaeth meddygol a'r gwasanaeth iechyd yn yr Eidal a'r effaith y mae'n ei chael ar y bobl sy'n gweithio yn y gwasanaeth iechyd yn yr Eidal sy'n gorfod gwneud penderfyniadau ar fywyd a marwolaeth, sy'n gweithio oriau hir dan bwysau anghyffredin i ymdrin ag effaith y feirws ar bobl. Yn fy mhrofiad i, un o'r argyfyngau sifil anoddaf yr ydym ni wedi ymdrin ag ef ledled y Deyrnas Unedig oedd hwnnw yn Salisbury, a'r gwenwyno a ddigwyddodd yno rai blynyddoedd yn ôl. Un o'r gwersi a ddysgwyd yno oedd yr effaith ddofn a'r dylanwad a gaiff ymateb i'r argyfyngau hyn ar bobl dros gyfnod estynedig o amser. Yn amlwg, roedd y digwyddiad yng Salisbury yn ddigwyddiad unigol, ynysig; mae hyn yn rhywbeth sy'n mynd i ddigwydd ym mhob cymuned yn y wlad hon am gyfnod estynedig o amser.

Rwy'n gobeithio—. Ac efallai y bydd y Gweinidog yn egluro wrthym y math o fesurau y mae'r Llywodraeth yn eu rhoi ar waith i amddiffyn gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a sicrhau y gallwn ni gefnogi pobl sy'n gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol i wneud yn siŵr eu bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw, ond i edrych hefyd y tu allan i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol i wneud yn siŵr bod y gofal ar gael i bobl sy'n agored i niwed, i bobl a allai fod yn byw ar eu pennau eu hunain, i bobl a allai fod yn byw gyda chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd ar hyn o bryd, ar gyfer sicrhau eu bod nhw'n cael eu cadw'n ddiogel yn eu cartrefi ac yn eu cymunedau, ond cymorth i fusnesau bach hefyd. Mae hyn yn ymestyn y tu hwnt, efallai, i gyfrifoldebau'r Gweinidog hwn, ond mae'n haws i gwmni rhyngwladol wrthsefyll hyn na'r siop gornel, ac mae angen i ni sicrhau bod busnesau bach y wlad hon yn cael eu gwarchod hefyd. Mae hynny'n ein harwain ni at sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw hefyd. Fe fydd Llywodraeth Leol, ymysg eraill, gydag addysg ac mewn mannau eraill, ar y rheng flaen o ran ymdrin â llawer o effaith y feirws hwn, ac mae angen sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus ni'n cael y cymorth a'r cydgysylltu sydd ei angen arnyn nhw hefyd.

Yn olaf, Gweinidog, yn eich datganiad chi, roeddech chi'n amlinellu deddfwriaeth pedair gwlad sy'n mynd i gael ei phasio gan San Steffan i ddarparu'r pwerau i Weinidogion yn y fan hon sydd eu hangen arnoch chi i ymdrin â hyn, ac rwy'n croesawu hynny'n fawr. Ond a wnewch chi ein sicrhau ni y bydd y pwerau y byddwch yn eu cael yn ddarostyngedig i gymalau machlud fel na fydd y pwerau hyn yn aros ar y llyfr statud ar ddiwedd yr argyfwng hwn, fel na fyddwn ni, bron ar hap, yn rhoi pwerau parhaol i'r Llywodraeth i reoli ein bywydau ni wedi i'r argyfwng hwn redeg ei gwrs?  

15:05

Diolch i chi am y gyfres o gwestiynau. Rwy'n credu y byddaf i'n dechrau gyda rhai o'ch pwyntiau cynnar chi—fe fyddaf yn ceisio eu cymryd nhw yn eu trefn. Nid wyf i'n cytuno â Matt Hancock bob amser, ac yn sicr nid wyf i'n cytuno â Boris Johnson bob amser, ond yn ystod ein galwadau COBRA, fe gafwyd ymgais wirioneddol ddifrifol ac aeddfed i ymdrin â'r materion ac i ddod i gytundeb ynghylch canfod y ffordd orau ymlaen. Yn wir, mae'r Prif Weinidog wedi dweud, ac rwy'n cytuno ag ef yn hyn o beth, mai'r perygl mwyaf yw panig ac ymateb amhriodol ac fe gaiff hynny ei ysgogi'n aml gan alwadau gwleidyddol sy'n groes i wyddoniaeth a thystiolaeth. Felly, mae ein hymateb ni'n seiliedig ar yr wyddoniaeth ac ar y dystiolaeth.

O ran y gwaith yr ydym ni'n ei wneud ar draws y Llywodraeth, rwyf wedi cyfarfod eisoes â Julie James ar ddechrau'r cyfarfodydd COBRA sy'n rheolaidd iawn erbyn hyn. Rydym wedi cael sgwrs, ac rwyf wedi cwrdd â'i swyddog arweiniol hi sy'n cydlynu llawer o'r gwaith argyfyngau sifil. Rydym ni, fel y dywedodd y Prif Weinidog, wedi ffurfio grŵp gweinidogol craidd hefyd—os mynnwch chi, grŵp o Weinidogion COBRA Cymru—ac rydym yn cyfarfod bob wythnos. Fi oedd cadeirydd cyfarfod cyntaf y grŵp hwnnw'r wythnos diwethaf. Rydym yn cyfarfod eto yfory, felly fe fydd sgyrsiau rheolaidd yn digwydd rhwng Gweinidogion fel y caiff Gweinidogion eu hysbysu am wahanol ddewisiadau sy'n cael eu gwneud, ond, yn yr un modd, fel y gall Gweinidogion gydgysylltu dewisiadau o fewn meysydd eu portffolios eu hunain, gan fod pob grŵp o'r rhanddeiliaid sy'n gweithio i bob grŵp o Weinidogion yn cael eu heffeithio gan hyn mewn rhyw ffordd, fel yr ydych chi wedi dweud.

Ac nid y dewisiadau hyn yw'r unig beth yr ydym ni'n ei wneud yno, oherwydd mae eich dewisiadau penodol chi ynghylch busnesau bach, rwy'n credu, yn bwysig iawn. Gan fod yna amrywiaeth o fesurau y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd, ond, mewn gwirionedd, gyda llawer mwy o'r rhain, mae camau y bydd angen i Lywodraeth y DU eu cymryd ar sail y DU gyfan. Rwy'n gobeithio y bydd y gyllideb yfory'n nodi rhai o'r rhain. Dyna pam roedd y Gweinidog cyllid yn Llundain ar ddechrau'r dydd i gael y sgwrs honno. Daeth hynny, unwaith eto, yn sgil cyfarfod blaenorol COBRA, lle cafwyd cytundeb y dylid cynnal y cyfarfod hwnnw gyda Gweinidogion cyllid ym mhob un o'r Llywodraethau cenedlaethol datganoledig.

Yna, fe fydd angen inni weld pa fesurau gaiff eu cymryd yfory, ond wrth i'r achosion o'r feirws ddatblygu bydd angen sicrhau bod y Llywodraeth yn ymateb yn y fan a'r lle ledled y DU hefyd. Yn amlwg, mae Gweinidog yr economi wedi gofyn eisoes i'w swyddogion edrych ar y mesurau y gallem ni eu cymryd yma i gefnogi busnesau bach yn benodol. Fe allai hynny, o bosib, fod o ganlyniad i'r cyngor a roddwn ni ar iechyd y cyhoedd. Os gofynnwn i bobl aros gartref—os gofynnwn ni i fwy o bobl aros gartref—fe allai hynny effeithio naill ai ar weithgarwch cyffredinol y busnesau, ond ar y bobl sy'n mynd allan i weithio eu hunain hefyd. Gyda busnes bach sydd â phump o weithwyr, dyweder—wel, os gofynnir i ddau o'r bobl hynny aros gartref, fe all hynny wneud gwahaniaeth mawr iawn i'r ffordd y caiff y busnes hwnnw ei redeg.

Mae eich pwynt chi ynglŷn ag effaith hyn ar bobl, rwy'n credu, yn bwysig iawn hefyd, oherwydd rydym yn trafod gyda'r Colegau Brenhinol a'r rheoleiddwyr am effeithiau posibl gwneud gwahanol ddewisiadau a gwneud pobl yn atebol i safonau ar y pryd. Ond mae yna effaith ar bobl, os yw pobl yn gweld niferoedd mawr o bobl sâl iawn, yn peidio â gwneud dewisiadau y bydden nhw'n eu gwneud fel arall, ac yn teimlo na allan nhw fod mewn rheolaeth, fel y bydden nhw fel arfer yn disgwyl bod yn y gwaith o ddarparu iechyd a gofal. Mae hynny'n rhywbeth y gwnaethom ni ei ganfod yn y fforwm partneriaeth, yn fforwm partneriaeth y GIG, rhwng y Llywodraeth, y cyflogwyr a'r undebau llafur ddydd Iau yn y gogledd, pan oeddwn i yno.

Unwaith eto, rydym yn ceisio gweithio drwy gyngor cyson, felly ni fyddwn ni'n gweld dull sy'n amrywio'n fawr iawn yn cael ei fabwysiadu gan wahanol sefydliadau'r GIG yma yng Nghymru. Mae yna bwynt ehangach ynglŷn â gwasanaethau cyhoeddus hefyd, oherwydd nid dim ond gweithwyr y GIG fydd yn cael eu hunain mewn sefyllfa anodd iawn, fel yr ydych chi'n ei nodi. Mae hwnnw'n fater a drafodais i gyda chydweithwyr gofal cymdeithasol o lywodraeth leol yn y Cabinet ddoe. Felly, ar draws pob plaid, maen nhw'n cydnabod bod angen iddyn nhw ystyried sut maen nhw'n rhedeg eu gwasanaethau nhw, ac, yn amlwg, fe fydd angen i arweinyddion pob sefydliad llywodraeth leol roi ystyriaeth i hynny hefyd.

Rwy'n falch eich bod chi wedi gwneud y pwynt am ynysu cymdeithasol—os ydym yn gofyn i bobl aros gartref, a'r hyn y mae hynny'n ei olygu, beth bynnag fyddo'r proffil oedran. Rydym yn deall bod ynysu cymdeithasol ac unigrwydd yn her wirioneddol i lawer o bobl. Ond os ydym wedyn yn gofyn i'r bobl hynny beidio â chael y rhyngweithio cymdeithasol hwnnw, yna mae dewis eto gan y Llywodraeth, y gwasanaeth iechyd, ond hefyd llywodraeth leol, ynghylch pa fath o ryngweithio cymdeithasol y gall y bobl hynny ei gael i sicrhau eu bod nhw'n dal i gael cysylltiad â phobl ac nid yn cael eu hanwybyddu. Rydym y gofyn i bobl osgoi'r hyn a fyddai fel arall yn gyswllt cymdeithasol arferol sy'n helpu pobl i gadw'n ddedwydd ac yn iach. Felly, nid yw'n fater syml o ddweud, 'Cymerwch un cam ac fe fydd hynny'n cadw pawb yn ddiogel.'

Y pwynt olaf yr wyf yn ei wneud yw rhoi tawelwch meddwl i chi am y Bil pwerau brys. Mae pob Gweinidog yn ymwybodol o'r ffaith, wrth ofyn i'r deddfwrfeydd ledled y DU ymddiried mewn Gweinidogion sydd â phwerau, y dylid cael rhai camau diogelwch, ac mae hynny'n bendant yn cynnwys cymalau machlud i'r pwerau. Felly, gydag unrhyw ddeddfwriaeth, fe fyddech chi'n disgwyl gweld cymalau machlud ynghylch nid yn unig sut y caiff pwerau eu deddfu ond sut y caiff pwerau eu terfynu wedyn hefyd, oherwydd rwy'n cydnabod y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud yn llwyr.  

15:10

Diolch i chi am eich diweddariad diweddaraf, Gweinidog, ac rwy'n croesawu'r camau y mae Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a'n staff GIG rhagorol ni'n eu cymryd i'n hamddiffyn ni rhag lledaeniad firws COV-2 SARS. Fe fydd rhai o'r mesurau, fel y feddalwedd newydd i alluogi pobl i ymgynghori drwy fideo, yn gwella ein gwasanaeth iechyd ni y tu hwnt i'r argyfwng hwn, ac mae'n rhaid inni fanteisio ar y gwasanaeth hwn sydd, yn yr achos hwn, yn disodli'r angen am gyfarfod wyneb yn wyneb ac yn gwbl angenrheidiol ar yr adeg hon.

Ar hyn o bryd, mae'n bwysig pwysleisio i'r cyhoedd fod yn rhaid i bob un ohonom ni geisio bod mor ddigynnwrf ag y bo modd, ac er ei bod yn briodol inni baratoi ar gyfer pob posibilrwydd, nid oes angen i'r cyhoedd newid y ffordd y maen nhw'n mynd o gwmpas eu gweithgareddau o ddydd i ddydd, ar wahân i ochel rhag afiechydon anadlol, gan olchi dwylo'n rheolaidd a pheidio â chyffwrdd eich wyneb â dwylo heb eu golchi. Ond fe ddylai'r canllawiau hyn fod yn arfer cyffredin, ac mae'n rhaid nodi bod y ffliw yn lladd dros 0.5 biliwn o bobl y flwyddyn, felly mae'n bwysig cadw hynny mewn golwg.

Mae'n bwysig hefyd gwirio'r wybodaeth sydd ar gael yn hawdd i'r cyhoedd a sicrhau y caiff ei diweddaru, a sicrhau hefyd y bydd y rhai sydd fwyaf agored i niwed yn y gymdeithas yn gallu cael yr holl wybodaeth hon ac y bydd ein cymunedau anghysbell yn ei chael hi'n haws hefyd, fel y gallan nhw ryngweithio a chael gwybodaeth am y feirws hwn.

Mae chwe unigolyn hyd yn hyn wedi cael eu heintio â SARS COV-2, ac mae hynny'n golygu 0.0001 y cant o boblogaeth Cymru: chwech o bobl allan o 3.2 miliwn. Felly, mae'n galonogol nodi, ledled y DU, mai tua 320 o achosion sydd wedi bod o gyfanswm poblogaeth o 70 miliwn. Mae'n bwysig nodi hefyd ein bod ni'n cadw ein pennau, yn paratoi ond nid yn gorymateb, a'r bygythiad mwyaf gydag unrhyw achos o feirws yw'r panig ymhlith y cyhoedd. Sibrydion yw ein gelyn pennaf ni ar hyn o bryd ac mae'r cyfryngau cymdeithasol yn rhemp gydag achosion ffug a meddyginiaethau ffug, a phopeth o yfed dŵr cannu hyd at sniffian cocên. Mae hyn wedi arwain at brynu ar banig, ac wedi arwain at brinder yn y byrdymor wrth i'r archfarchnadoedd ailstocio, gan ychwanegu ymhellach at y sibrydion.

Felly, Gweinidog, pa drafodaethau a gawsoch chi gyda Llywodraeth y DU a'r cyfryngau cymdeithasol ynghylch y ffordd orau o fynd i'r afael â lledaenu camwybodaeth, a sut i hyrwyddo gwybodaeth o ffynonellau y gellir ymddiried ynddyn nhw megis Iechyd Cyhoeddus Cymru? Hoffwn i ddiolch ichi unwaith eto am y dull gweithredu doeth gan Lywodraeth Cymru wrth baratoi ar gyfer effeithiau achosion o COVID-19.

Mae gen i un neu ddau gwestiwn yn unig am y paratoadau yma yng Nghymru. Gweinidog, y llynedd, fe wnaeth Llywodraeth Cymru baratoadau ar gyfer Brexit 'heb gytundeb' drwy sicrhau lle mewn ystordai a chadw stôr o rai meddyginiaethau. Gweinidog, pa ran, os o gwbl, fydd gan y mesurau hynny wrth baratoi ar gyfer achosion ar raddfa ehangach?

Ac, yn olaf, Gweinidog, fe gafwyd adroddiadau y bydd feirws COV-2 SARS yn effeithio ar y cynhwysion fferyllol a fydd ar gael o India. Mae'r gadwyn gyflenwi hon yn hanfodol i'r fasnach meddyginiaethau generig. Felly pa drafodaethau yr ydych chi wedi'u cael â'r diwydiant fferyllol ynghylch y ffyrdd gorau o liniaru unrhyw fygythiadau a gaiff y feirws hwn ar gyflenwad cynhyrchion fferyllol? Diolch.  

Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. Ynglŷn â'ch cwestiynau chi, mae tîm o'r GIG eisoes yn cymryd—. Fe gafwyd cyhoeddiad—efallai eich bod chi wedi gweld cyhoeddusrwydd ynglŷn â hyn ddoe—o ran rhai o'r pwyntiau am chwilotwyr a pha dermau a ddaw ar frig y canlyniadau a'r chwiliadau hynny i sicrhau eu bod nhw'n tarddu o ffynonellau y gellir ymddiried ynddyn nhw, ond hefyd o ran ceisio gwrthbrofi ar y cyfryngau cymdeithasol rai o'r theorïau cynllwyn mwy cynhyrfus ond yr amrywiaeth o wybodaeth a chamwybodaeth sydd ar gael i'r cyhoedd, ac mae honno'n broblem wirioneddol i ni.

Fe fydd ein paratoadau 'heb gytundeb' ni'n ein rhoi ni mewn sefyllfa gymharol dda, o ran rhanddeiliaid sydd ag ystod o fesurau ganddyn nhw i ymdrin ag ymyriadau yn eu cyflenwad nhw, ond hefyd y stôr yr oeddech chi'n sôn amdani. Fe wnaethom ni brynu hynny mewn gwirionedd, ac felly mae gennym ni rywfaint o gydnerthedd ychwanegol. Ond mae'r her yn dod, fel yr oeddech chi'n dweud yn eich cwestiwn chi, o ran meddyginiaeth generig. Mae angen inni fod yn agored am yr hyn y gallwn ni ei wneud, ond hefyd, os oes camau na allwn ni eu cymryd, mae angen inni fod yn glir hefyd na allwn ni gymryd y camau hynny. Felly, rydym ni'n ceisio gwybodaeth gan y diwydiant fferyllol ei hun, sy'n cynhyrchu ac yn mewnforio'r meddyginiaethau hynny, er mwyn deall a oes unrhyw risgiau i'w cyflenwad ac a oes unrhyw ddewisiadau eraill neu beidio.

Ac rwy'n credu mai'r pwynt olaf y byddwn i'n ei wneud yw, gyda'r ffliw lefel isel sy'n mynd o amgylch yma, gyda'r lefel isel o bobl sydd â'r coronafeirws yng Nghymru heddiw, rydym ni'n disgwyl y bydd mwy o bobl yn cael diagnosis o'r coronafeirws yn ystod y dyddiau nesaf. Felly, ni ddylid cymryd y nifer cymharol isel o achosion heddiw fel arwydd bod dim gennym i boeni amdano ac nad oes angen gwneud unrhyw beth yn ei gylch. Mae hwn yn bryder gwirioneddol. Mae trosglwyddo cymunedol eisoes yn digwydd mewn rhai rhannau o Loegr; fe fydd hynny'n digwydd mewn rhannau eraill o'r wlad.

Felly, mae'n rhaid inni ddeall yn glir y bydd gennym fwy o achosion o'r coronafeirws yng Nghymru; fe fydd pobl yn mynd yn sâl. Yr hyn na allwn ei ragweld yn union yw nifer y bobl hynny a'r effaith  ar ein gwasanaethau ni. Nid yw hwn yn dymor ffliw ysgafn arall sy'n digwydd y tu allan i'r gaeaf. Nid oes gennym frechlyn ar gyfer y coronafeirws, COVID-19; nid oes gennym  driniaeth wrthfeirysol effeithiol iddo. Felly, os aiff hwn ar gerdded yn eang, fe fydd yn cael effaith wirioneddol ar iechyd llawer iawn o bobl sydd eisoes yn agored i niwed. Dyna pam yr ydym ni'n rhoi ystyriaeth mor ddifrifol i hyn; dyna pam rydym ni'n cymryd camau eithriadol; dyna pam y mae cymaint o gydweithredu rhwng pedair Llywodraeth a fyddai, fel arall, â digon o bethau i anghytuno arnynt ar frig eu hagendâu.

15:15

Diolch yn fawr, Gweinidog.

Eitem 6: Rheoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 a Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Diwygiadau Amrywiol) 2020, ac eitem 7: Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) (Diwygio) 2020. Cynigiaf, oni bai bod unrhyw Aelod yn gwrthwynebu, yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, fod y ddau gynnig a ganlyn wedi'u grwpio ar gyfer dadl.

6. & 7. Rheoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 a Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Diwygiadau Amrywiol) 2020 a Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) (Diwygio) 2020

Felly, galwaf ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig y cynigion—Julie Morgan.

Cynnig NDM7292 Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 a Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Diwygiadau Amrywiol) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Chwefror 2020.  

Cynnig NDM7293 Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) (Diwygio) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Chwefror 2020.  

Cynigiwyd y cynigion.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a rhoddaf y cynigion gerbron. Mae'r ddau offeryn statudol sydd ger eich bron heddiw yn diwygio Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, ac mae nifer o reoliadau yn deillio o'r Ddeddf honno. Y bwriad yw bod y rheoliadau diwygiedig hyn yn dod i rym ar 1 Ebrill. Mae'r ddwy set o reoliadau'n gam pwysig tuag at wireddu ein nod o broffesiynoli'r gweithlu gofal cymdeithasol, parhau i wella ansawdd gofal, a sicrhau bod gweithwyr yn cael y cymorth a'r gydnabyddiaeth y maen nhw yn eu haeddu.

Mae'r rheoliadau gwelliannau amrywiol yn cyflawni sawl newid allweddol. Yn gyntaf, maen nhw'n diwygio'r rheoliadau ynghylch cofrestru gwasanaethau sy'n galluogi'r rheoleiddiwr gwasanaeth, Arolygiaeth Gofal Cymru, i ofyn am wybodaeth ychwanegol gan unigolion sy'n ffurfio corff llywodraethu sefydliad sy'n cofrestru i fod yn ddarparwr gwasanaeth. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, yr unigolion ar fwrdd y cyfarwyddwyr neu'r ymddiriedolwyr. Yna gall y rheoleiddiwr gwasanaeth ystyried yr wybodaeth hon wrth asesu addasrwydd y darparwr gwasanaeth.

Yn ail, mae'r rheoliadau hefyd yn darparu eglurder ychwanegol ynglŷn â'r hysbysiadau y mae'n rhaid i ddarparwyr eu gwneud i reoleiddiwr y gwasanaeth. Maen nhw'n ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr roi hysbysiad pan fydd unrhyw newid yn cael ei wneud i benderfynwyr allweddol y sefydliad, waeth beth fo'i endid cyfreithiol.

Yn drydydd, maen nhw hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau cymorth cartref, cartrefi gofal i blant, a gwasanaethau llety diogel gyflogi yr unigolion hynny yn unig sydd wedi'u cofrestru gyda'r rheoleiddiwr gweithlu, Gofal Cymdeithasol Cymru, o fewn chwe mis i ddechrau cyflogaeth. Bydd hyn yn berthnasol hefyd i unrhyw un sydd dan gontract â'r darparwyr gwasanaeth hyn, gan gynnwys gweithwyr asiantaeth.

Mae'r rheoliadau cofrestru gweithwyr gofal cymdeithasol yn galluogi Gofal Cymdeithasol Cymru i agor y gofrestr i unigolion sy'n gweithio mewn cartrefi gofal sy'n gyfan gwbl neu'n bennaf ar gyfer oedolion, ac mewn gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd, a all ymuno â'r gofrestr yn wirfoddol o Ebrill 2020. Mae hyn yn rhoi cyfnod arweiniol o ddwy flynedd i'r gweithwyr hyn, lle gall y rheoleiddiwr gweithlu, gweithwyr gofal a'u cyflogwyr weithio gyda'i gilydd i baratoi ar gyfer cofrestru gorfodol, yr ydym yn bwriadu ei gyflwyno yn 2022.

Mae cofrestru'n cydnabod cyfrifoldeb proffesiynol gweithwyr gofal sy'n darparu gofal a chymorth cwbl hanfodol i bobl ag anghenion cynyddol gymhleth. Bydd yn helpu i sicrhau bod gweithwyr yn meddu ar y cymwysterau a'r hyfforddiant priodol ar gyfer y gwaith a wnânt. Bydd yn rhoi mynediad i'r gweithwyr hynny at gymorth ac adnoddau ychwanegol gan Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae cofrestru hefyd yn darparu mesurau diogelu ychwanegol i'r cyhoedd, felly os bydd damwain yn digwydd, gall y rheoleiddiwr gweithlu ddal gweithwyr i gyfrif. Diolch.

15:20

Diolch. Nid oes gennyf unrhyw siaradwyr. Rhaid inni gymryd y pleidleisiau ar wahân. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 6? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Diolch. Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, derbynnir y cynnig.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Ac, unwaith eto, yn yr un modd, y cynnig yw cytuno ar y cynnig o dan eitem 7. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, unwaith eto, mae'r cynnig o dan eitem 7 wedi'i dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Dadl: Setliad yr Heddlu 2020-21

Symudwn ymlaen yn awr at eitem 8, sef dadl ar setliad yr heddlu ar gyfer 2020-21, a galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i gynnig y cynnig—Julie James.

Cynnig NDM7291 Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2020-21 (Setliad Terfynol—Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu). Gosodwyd copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Ionawr 2020.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Heddiw, rwy'n cyflwyno i'r Senedd ar gyfer ei chymeradwyaeth fanylion cyfraniad Llywodraeth Cymru at y cyllid refeniw craidd ar gyfer y pedwar comisiynydd heddlu a throseddu yng Nghymru ar gyfer 2020-21.

Cyn i mi wneud hynny, Llywydd, yn enwedig o ystyried y digwyddiadau diweddar, hoffwn ddiolch ar goedd i holl wasanaethau brys Cymru am eu dycnwch a'u dewrder, ac rwy'n siŵr bod y Siambr hon a holl drigolion Cymru yn ategu'r sylwadau hyn. Mae'r rhai sy'n gwasanaethu yn ein heddluoedd ledled Cymru nid yn unig yn cadw ein cymunedau'n ddiogel, maen nhw'n cynnal y safonau uchaf o ran dyletswydd, ymroddiad ac, ar brydiau, dewrder. Dangoswyd hyn yn fwyaf diweddar pan oeddent yn gweithio gydag eraill i ddiogelu ac achub rhai o'n cymunedau o'r stormydd diweddar. Rwy'n cydnabod pwysigrwydd heddluoedd Cymru a'u swyddogaeth hanfodol yn gwarchod a gwasanaethu ein cymunedau yma. Mae gwasanaeth yr heddlu yng Nghymru yn enghraifft gadarnhaol o'r modd y gall gwasanaethau sydd wedi'u datganoli a heb eu datganoli gydweithio'n effeithiol â'i gilydd.

Bydd yr Aelodau'n ymwybodol y caiff yr arian craidd ar gyfer yr heddlu yng Nghymru ei ddarparu drwy drefniant tair ffordd sy'n cynnwys y Swyddfa Gartref, Llywodraeth Cymru a'r dreth gyngor. Gan nad yw polisïau plismona a materion gweithredol wedi eu datganoli, y Swyddfa Gartref sy'n pennu ac yn llywio'r darlun ariannu cyffredinol. Bu'r dull sefydledig o bennu a dosbarthu cydran Llywodraeth Cymru, felly, yn seiliedig ar egwyddor o sicrhau cysondeb a thegwch ledled Cymru a Lloegr.

Hoffwn ddiolch hefyd i'r comisiynwyr am eu hamynedd eleni. Oherwydd yr anhrefn a'r ansicrwydd o du San Steffan sydd, yn anffodus, yn beth rheolaidd erbyn hyn, ni chafodd y comisiynwyr setliad dros dro ar gyfer yr heddlu eleni. Gydag oedi ar ôl oedi o ran cyllideb y DU, oherwydd yr etholiad cyffredinol, ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, a Changhellor newydd nawr i ychwanegu at yr ansicrwydd parhaus, bu'n rhaid i'r comisiynwyr roi gwybod i'w panelau heddlu a throseddu am y newid arfaethedig mewn praesept llai na phythefnos ar ôl cael gwybod am eu dyraniadau cyllid. Hyd yn hyn, nid yw Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei chyllideb ar gyfer 2020-21, gan arwain at ansicrwydd parhaus i'n gwasanaethau cyhoeddus, ein busnesau ac unigolion. 

Fel yr amlinellwyd yng nghyhoeddiad terfynol setliad yr heddlu ar 22 Ionawr, mae cyfanswm y cymorth refeniw heb ei neilltuo ar gyfer y gwasanaeth heddlu yng Nghymru ar gyfer 2020-21 yn cyfateb i £384 miliwn. Mae cyfraniad Llywodraeth Cymru i'r swm hwn, drwy grant cynnal refeniw ac ardrethi annomestig wedi'u hailddosbarthu, yn £143.4 miliwn—a'r arian hwn y gofynnir i chi ei gymeradwyo heddiw.

Fel mewn blynyddoedd blaenorol, mae'r Swyddfa Gartref wedi penderfynu cael system waelodol ar gyfer y fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion. Mae hyn yn golygu, ar gyfer 2020-21, y caiff comisiynwyr heddlu a throseddu ledled Cymru a Lloegr i gyd gynnydd o 7.5 y cant mewn cyllid o'i gymharu â 2019-20. Bydd y Swyddfa Gartref yn darparu grant ychwanegol gwerth £14.4 miliwn i sicrhau bod Heddlu Dyfed-Powys a Heddlu Gogledd Cymru yn cyrraedd y lefel gwaelodol.

Mae'r Swyddfa Gartref yn dweud bod y setliad hwn yn cynnwys yr arian i recriwtio 6,000 o heddweision ychwanegol i'w rannu ymysg y 43 o heddluoedd yng Nghymru a Lloegr. Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o gryfhau'r economi a chreu cyfleoedd cyflogaeth ledled y wlad. Rwy'n croesawu'r cyfle i bobl ledled Cymru ystyried gyrfa yn yr heddluoedd. Mae Prif Weinidog y DU wedi ymrwymo i darged o 20,000 o swyddogion newydd dros y tair blynedd nesaf. Fodd bynnag, er mwyn i hyn ddigwydd, pwysaf ar Lywodraeth y DU i addo darparu'r cyllid cysylltiedig i'n comisiynwyr heddlu a throseddu ar gyfer y dyfodol.

Fel yn 2019-20, bydd y Swyddfa Gartref yn parhau i ddarparu grant penodol i gomisiynwyr yr heddlu a throseddu yn 2020-21 i ariannu'r pwysau ychwanegol o ganlyniad i newidiadau gan Lywodraeth y DU i'r cyfraddau cyfraniadau pensiwn. Mae'r Swyddfa Gartref wedi cadw gwerth y grant ar £143 miliwn yn 2020-21, gyda £7.3 miliwn o'r arian hwn yn cael ei ddyrannu i gomisiynwyr yng Nghymru. Mae gan gomisiynwyr yr heddlu a throseddu y gallu hefyd i godi arian ychwanegol drwy eu praesept treth gyngor. Mae Llywodraeth y DU wedi gosod y terfyn praesept uchaf ar gyfer comisiynwyr yn Lloegr i £10 yn 2020-21, gan amcangyfrif y bydd hyn yn codi £250 miliwn yn ychwanegol. Yn wahanol i'r terfynau sy'n berthnasol yn Lloegr, mae gan gomisiynwyr heddlu a throseddu Cymru y rhyddid i wneud eu penderfyniadau eu hunain ynghylch cynnydd yn y dreth gyngor. Mae pennu'r praesept yn rhan allweddol o swyddogaeth y comisiynydd heddlu a throseddu, sy'n dangos atebolrwydd i'r etholwyr lleol.

Rydym yn sylweddoli bod angen gwneud penderfyniadau anodd wrth ddatblygu cynlluniau ar gyfer y blynyddoedd i ddod gyda chyllideb un flwyddyn yn unig. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda'r comisiynwyr a'r prif gwnstabliaid i sicrhau y caiff heriau ariannu eu rheoli mewn ffyrdd sy'n lleihau'r effaith ar ddiogelwch cymunedol yng Nghymru. Yn rhan o hyn, mae Llywodraeth Cymru yn ei chyllideb ar gyfer 2020-21 wedi parhau i ariannu'r 500 o swyddogion cymorth cymunedol a recriwtiwyd o dan raglen flaenorol ymrwymiad y llywodraeth. Mae Llywodraeth Cymru wedi neilltuo'r un maint o gyllid ar gyfer cyflawni'r ymrwymiad hwn ag a wnaeth yn 2019-20, gydag £16.8 miliwn wedi ei gytuno yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf. Un o'r prif gymhellion sy'n sail i'r prosiect hwn oedd gwneud yr heddlu'n fwy gweladwy ar ein strydoedd ar adeg pan fo Llywodraeth y DU yn cwtogi ar gyllid yr heddlu. Bu'r cyflenwad llawn o swyddogion ar waith ers mis Hydref 2013, ac maen nhw'n gwneud cyfraniad cadarnhaol i ddiogelwch y cyhoedd ledled Cymru. Byddant yn parhau i weithio gyda chymunedau lleol a phartneriaid i wella canlyniadau i'r rheini y mae troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn effeithio arnynt.

I ddychwelyd at ddiben dadl heddiw, y cynnig yw cytuno ar yr adroddiad cyllid llywodraeth leol ar gyfer comisiynwyr yr heddlu a throseddu sydd wedi'i gyflwyno gerbron y Cynulliad. Os caiff ei gymeradwyo, bydd hyn yn caniatáu i'r comisiynwyr gadarnhau eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Gofynnaf felly i Aelodau'r Cynulliad gefnogi'r cynnig hwn heddiw. Diolch.

15:25

Yn 2010 roedd datganiad cyllideb y DU, a luniwyd gan y Blaid Lafur, yn lleihau'r rhagolwg twf, yn lleihau benthyca, ac yn dweud fod graddfa'r diffyg yn golygu nad oedd gan y DU ddigon o arian. O ganlyniad, cyhoeddodd hefyd £545 miliwn o doriadau i'r heddlu i'w gwneud erbyn 2014. Ers 2015, mae Llywodraeth y DU wedi cynyddu ei chyfraniad at gyllid cyffredinol yr heddlu yn unol â chwyddiant, gan gynnwys meysydd penodol fel seiber-droseddu, gwrthderfysgaeth, a mynd i'r afael â chamfanteisio'n rhywiol ar blant. Mae Llywodraeth y DU bellach wedi cyhoeddi cynnydd o £1.12 biliwn yn 2020-21, gan fynd â chyfanswm y setliad ar gyfer plismona i £15.2 biliwn. Mae hyn yn cynnwys £700 miliwn ar gyfer 6,000 o swyddogion ychwanegol erbyn diwedd mis Mawrth 2021. Fel y dywedodd y Gweinidog, nod Llywodraeth y DU yw recriwtio 20,000 o swyddogion newydd ledled y DU.

Mae'r rhan fwyaf o'r cyllid ar gyfer comisiynwyr yr heddlu a throseddu yn dod yn uniongyrchol o grantiau'r Llywodraeth ganolog, fel y clywsom ni—o Lundain a Chaerdydd—ac mae tua thraean yn dod o braesept treth gyngor yr heddlu, sy'n cynyddu 6.82 y cant eleni, £273 y flwyddyn, yng Ngwent; 5.9 y cant, £273 y flwyddyn, yn ne Cymru; 4.83 y cant, £261 y flwyddyn, yn Nyfed-Powys; a 4.5 y cant, £291 y flwyddyn, yng ngogledd Cymru. Er i Ffederasiwn Heddlu De Cymru ddatgan yn 2016 fod y bwlch praesept treth gyngor gyda'r heddluoedd eraill yng Nghymru wedi'i gau erbyn hyn, mae'n amlwg, er mai yn y gogledd y mae'r cynnydd canrannol isaf, fod talwyr y dreth gyngor yno yn dal i dalu mwy na rhanbarthau Cymru sy'n wynebu'r cynnydd canrannol mwyaf.

Yn dilyn gostyngiad hirdymor, mae lefelau troseddu wedi aros yn gymharol sefydlog yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Er na fu unrhyw newid yn lefelau cyffredinol troseddu yn y flwyddyn ddiweddaraf, mae hyn yn cuddio'r amrywiadau a welir mewn mathau unigol o droseddau. Ac eithrio twyll, mae'r ffigurau diweddaraf o arolwg troseddu Cymru a Lloegr yn dangos nad oedd unrhyw newid yn y prif fathau o droseddau. Fel y dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol:

Er bod nifer y troseddau sy'n ymwneud â chyllell wedi parhau i gynyddu, ceir darlun cymysg rhwng y gwahanol heddluoedd ac mae lefelau trais cyffredinol yn parhau'n gyson.

Bydd y cynnydd yn y gyllideb yn y gogledd yn ariannu 10 yn rhagor o swyddogion ar gyfer yr uned troseddau mawr, 20 o heddweision cynorthwyol newydd, 16 o swyddogion ymateb ychwanegol, a phump yn rhagor o swyddogion cymorth cymunedol, gan gynnwys tri ar gyfer y tîm troseddau gwledig. Y penwythnos hwn, ymunodd yr Ysgrifennydd Cartref ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru â Heddlu Gogledd Cymru i weld sut maen nhw'n mynd i'r afael â phroblem llinellau cyffuriau yn y rhanbarth. Yn ogystal â chyhoeddi eu cynlluniau i recriwtio swyddogion heddlu newydd, cadarnhaodd y Swyddfa Gartref hefyd y byddant yn darparu bron i £150,000 i Heddlu Gogledd Cymru ei fuddsoddi mewn 167 o ddyfeisiau taser newydd, rhan o £576,000 ar draws pedwar heddlu Cymru. Daw hyn yn rhan o gynnydd ledled y DU a fydd yn gweld £6.5 miliwn wedi'i rannu rhwng 41 o heddluoedd. Wrth siarad yn y gogledd, dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref:

Rwyf wedi ymrwymo i roi i heddluoedd ledled Cymru y grymoedd, yr adnoddau a'r offer sydd eu hangen arnynt i'w cadw eu hunain a'r cyhoedd yn ddiogel.

Dywedodd hefyd ei bod yn ymgynghori ar gyfamod heddlu Llywodraeth y DU, y galwyd amdano gan ffederasiwn yr heddlu, gan gydnabod gwasanaeth ac aberth swyddogion yr heddlu, ac a fyddai'n ymgorffori eu hawliau yn y gyfraith. Tynnwyd sylw at bethau eraill a wnaeth y Swyddfa Gartref yn ddiweddar, gan gynnwys ehangu pwerau stopio a chwilio, a chynlluniau i gynyddu'r ddedfryd uchaf ar gyfer ymosod ar weithwyr gwasanaethau brys.

Ym mis Ionawr, ymwelais â Titan, Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol y Gogledd-orllewin, i gael cyflwyniad defnyddiol ar eu swyddogaeth a'u gallu i atal a diogelu, gan ymdrin â materion fel troseddu difrifol a threfnedig, rheoli cyffuriau, llinellau cyffuriau, troseddau economaidd a seiber-droseddu. Sefydlwyd Titan yn 2009 fel cydweithrediad rhwng y chwe heddlu yng Ngogledd Cymru, Swydd Gaer, Glannau Mersi, Manceinion fwyaf, Swydd Gaerhirfryn a Cumbria, i fynd i'r afael â throseddau cyfundrefnol difrifol sy'n croesi ffiniau siroedd yn y rhanbarth. Dywedwyd wrthyf fod tua 95 y cant neu fwy o droseddu yng ngogledd Cymru yn gweithredu ar sail drawsffiniol, o'r dwyrain i'r gorllewin, a bron dim ar sail Cymru gyfan, a chadarnhaodd cynrychiolydd Heddlu Gogledd Cymru a oedd yn bresennol hefyd fod eu holl waith cynllunio ar gyfer argyfwng yng ngogledd Cymru yn cael ei wneud gyda'u partneriaid yng ngogledd-orllewin Lloegr, ac nad ydyn nhw'n cydweithio'n sylweddol gyda heddluoedd eraill yng Nghymru.

Mae Llafur a Phlaid Cymru, wrth gwrs, yn cynnig datganoli cyfiawnder a phlismona a'u rheoli o Gaerdydd, tra byddai Llywodraeth Geidwadol yng Nghymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddarparu gwasanaethau plismona a rheoli troseddwyr yng Nghymru sy'n adlewyrchu ein cyfrifoldebau datganoledig. Byddem yn cefnogi'r mwyafrif distaw, diwyd sy'n ufudd i'r gyfraith; peidio â rhoi pleidlais i garcharorion a garcharwyd am droseddau rhywiol a hiliol, fel y mae Llafur a Phlaid Cymru yn ei gynnig. Diolch yn fawr.

15:30

Mae'n ymddangos bod Llywodraeth Prydain wedi cydnabod y niwed y maent wedi'i wneud gyda 10 mlynedd o doriadau i blismona. Fodd bynnag, ni fydd un flwyddyn, neu hyd yn oed ddau gynnydd yn y gyllideb, yn ddigon o bell ffordd i wrthdroi'r niwed a wnaed. Felly, mae'n rhaid mai'r cynnydd hwn mewn cyllid yw'r cam cyntaf i fynd i'r afael â'r diffyg cyllid dybryd sy'n dal i fodoli. I fynd i'r afael â'r problemau cronig y mae heddluoedd Cymru'n eu hwynebu, mae'n rhaid diwygio'r fformiwla ariannu, yn ein barn ni.

Mae'r fformiwla bresennol yn gwahaniaethu yn erbyn talwyr y dreth gyngor yng Nghymru. Nid yw'r fformiwla'n addasu i anghenion trefol a gwledig, ac nid yw'r potensial ar gyfer recriwtio o'r ardoll prentisiaethau yn cael ei ddefnyddio. Nid yw'r cynlluniau i ariannu 20,000 o heddweision yn talu am yr hyn a gollwyd ers 2010. Felly, mae Plaid Cymru eisiau gweld fformiwla ariannu ar gyfer heddluoedd Cymru sy'n seiliedig ar boblogaeth ac angen, yn hytrach na fformiwla wallus Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae gan Lywodraeth Cymru ran i'w chwarae hefyd i sicrhau yr ymdrinnir â'r cyllid i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol troseddu. Mae gwasanaethau ieuenctid yng Nghymru wedi cael gostyngiad o 38 y cant yn eu cyllid, sy'n golygu colled o £19 miliwn ers 2010, sy'n anochel yn gwneud gwaith swyddogion yr heddlu yn llawer anoddach. Byddai cyllid priodol a digonol ar gyfer gwasanaethau eraill, megis, er enghraifft, cymorth iechyd meddwl, hefyd yn ddefnyddiol iawn i'r heddlu.

Er gwaethaf yr amrywiol gyfyngiadau, mae comisiynwyr heddlu a throseddu Plaid Cymru wedi lansio cronfa ymyrraeth gynnar tair blynedd gwerth £800,000 i fynd i'r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, fel rhan o ymgais i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol troseddu. Mae Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr wedi defnyddio Gogledd Cymru fel astudiaeth achos ar gyfer mynd i'r afael â throseddau gwledig. Mae Heddlu Dyfed Powys wedi creu cynlluniau fel Gwarchod Ffermydd i ddarparu cyngor ar atal troseddau, ac maent wedi lansio Checkpoint Cymru, sy'n dargyfeirio'r rhai a gyflawnodd droseddau bychain o'r system cyfiawnder troseddol. Gellir defnyddio'r egwyddorion hyn mewn mannau eraill. Dychmygwch yr hyn y gallai'r comisiynwyr heddlu a throseddu hynny ei wneud gyda chyllid sicr nad yw'n gysylltiedig ag agenda San Steffan. Diolch  

Diolch, Dirprwy Lywydd. Pan oedd Mark Isherwood yn gwneud ei araith, roedd yn fy atgoffa ychydig o rai o'r adroddiadau economaidd Sofietaidd y caech chi ar un adeg—roedd y cynllun pum mlynedd diwethaf yn wirioneddol wych, ond nid cystal â'r cynllun pum mlynedd nesaf. Mae arnaf ofn bod perygl gwirioneddol pan ydych chi'n dechrau bod mor ddetholus o ran y ffigurau a ddefnyddiwch chi mewn gwirionedd. Ac rwy'n credu bod angen inni edrych ar y sefyllfa yr ydym ni ynddi. Pan drafodasom hyn y tro diwethaf, y sefyllfa oedd cynnydd o 18 y cant mewn troseddu treisgar, cynnydd o 14 y cant mewn troseddau cyllyll yn y de, cynnydd o 25 y cant yng Nghymru, 84,000 o droseddau heb eu datrys, ac, ers 2010, mae gennym ni bellach—wel, wedyn roedd gennym ni 682 yn llai o heddweision. Nawr, mae'r ffigurau hynny'n mynd law yn llaw. Beth yw'r sefyllfa nawr? Y sefyllfa nawr yw bod gennym ni tua 762 yn llai o heddweision nag a oedd gennym ni yn 2010. Mae troseddau a throseddau treisgar difrifol yn cynyddu. Rydym ni wedi dod yn ddibynnol iawn ar y 500 o swyddogion heddlu a chymorth cymunedol ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn eu hariannu o'n cronfeydd ni ein hunain—nid arian a ddylai gael ei ddyrannu gan Lywodraeth y DU ar gyfer hynny. Ac yn wir, pan edrychwn ni ar y ffigurau o ran swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu ledled y DU, rydym ni wedi colli tua 6,680 o heddweision a swyddogion cymorth cymunedol ledled y DU, gydag, yn amlwg, yr effaith ganlyniadol yng Nghymru, a dyna pam mae'r cyllid o Gymru yn hyn o beth mor gwbl bwysig.

Ac mae Leanne yn hollol iawn i godi mater y meysydd ariannu hynny ar gyfer y gwaith y mae'r heddlu yn ei wneud nad yw'n ymwneud â dal troseddwyr yn unig, ond yn ymwneud â chymdeithas, boed yn iechyd meddwl, yn gyllid yn ymwneud â maes cyffuriau ac alcohol, yn adsefydlu, ac ati—y pethau hynny sy'n bartneriaeth, sy'n effeithio ar blismona ac sy'n cael effaith ar sefydlogrwydd cymdeithasol ein cymdeithas a lles ein cymunedau. A'r gwir amdani yw, gyda'r ffaith ein bod yn cael cynnydd cymedrol mewn termau real eleni, ni allwn osgoi'r ffaith, mewn gwirionedd, dros y pum mlynedd nesaf, mewn gwirionedd mae angen—os ydym yn mynd i ddad-wneud toriadau'r Torïaid ers 2010—i recriwtio 53,000 o heddweision, pan ydych yn ystyried yr ymddeoliadau. Nawr, mae hyn yr un fath—. Mae Mark yn euog o'r un cam-ystumio ffigurau a wnaed pan oeddem yn trafod niferoedd nyrsys, ac ati blaen—pan ydych chi'n ystyried recriwtio, a'r angen am recriwtio parhaus, mae'r darlun a gyflwynir yn wahanol iawn.

Nawr, i unrhyw un sy'n siarad â Ffederasiwn yr Heddlu, â swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu ac â chomisiynwyr yr heddlu a throseddu, daw sawl pwynt pwysig iawn i'r amlwg, ac un ohonyn nhw yw, hyd yn oed gyda recriwtio'r niferoedd hynny ar gyfer yr heddlu—pe baem yn gallu cyflawni hynny—yr hyn yr ydym ni wedi'i golli, a fydd yn cymryd degawd i'w hadfer, yw'r sgiliau a'r ansawdd plismona a gyflawnwyd. Oherwydd y buom yn colli rhai o'r swyddogion heddlu mwyaf cymwys a phrofiadol. A'r pwynt arall a wnânt yw nid yn unig y bydd hi'n cymryd amser hir i unioni'r niwed a wnaeth y Torïaid i blismona, ond ar hyn o bryd, nad oes llawer wedi newid. A dyna'r gorau y gallwch chi ei ddweud am record y Torïaid ar blismona—nad oes llawer wedi newid, mae'r difrod a wnaethant ers 2010 yn dal i fodoli, a bydd yn cymryd degawdau i wella. Mae'r setliad cymedrol sydd gennym yn ddim ond dechrau bach iawn, iawn, sy'n crafu'r wyneb.

15:35

Hoffwn ddechrau drwy adleisio diolch y Gweinidog i swyddogion heddlu ledled y wlad am y gwaith y maent yn ei wneud i'n cadw'n ddiogel yn ein cymunedau. Maen nhw wedi bod o dan bwysau enfawr dros yr ychydig wythnosau a misoedd diwethaf, ac rwy'n credu yr hoffai pob un ohonom ni ymuno â'n gilydd a chydnabod sut maen nhw wedi ymateb i'r pwysau hynny. Ac maen nhw wedi gwneud hynny ar ôl dioddef toriadau o flwyddyn i flwyddyn dros y ddegawd ddiwethaf. Nid yw cyni wedi bod yn garedig i'n heddluoedd. A dweud y gwir, mae Llywodraeth y DU—y Swyddfa Gartref—yn gwario llai mewn termau arian parod eleni nag yr oeddent yn ei wario ddegawd yn ôl. Ac er ein bod yn clywed gan y Torïaid eu bod eisiau rhoi mwy o adnoddau i'r heddlu, yr hyn y byddwn i'n ei ddweud wrthyn nhw yw, 'Pam nad ydych chi'n dechrau lle dechreuoch chi nôl yn 2010, pan ddechreuoch chi ymosod ar yr heddlu?' Ac mae angen i ni sicrhau bod gennym ni yr adnoddau i sicrhau bod ein heddlu yn gallu ein cadw ni'n ddiogel.

Ond nid yn unig y mae'r Torïaid wedi torri'n ôl ar gyfanswm y gwariant sydd ar gael i'r heddlu, maen nhw hefyd wedi trosglwyddo cyllid oddi wrth yr heddlu. Dywedodd Mark Isherwood fod traean y cyllid yn dod o'r dreth gyngor. Yn wir, yn 2010-11, doi 33 y cant—roedd yn gywir, doi 33 y cant—o'r arian o'r dreth gyngor. Heddiw, mae'r ffigur hwnnw'n 47 y cant—mae bron yn cael hanner ei arian drwy'r dreth gyngor. Ac mae cyllid y Swyddfa Gartref, a oedd yn 40 y cant yn 2010-11, yn 32 y cant heddiw. Felly, mae'r cyfrifoldeb am ariannu'r heddlu wedi cael ei drosglwyddo mewn gwirionedd o'r Swyddfa Gartref, o Lywodraeth y Deyrnas Unedig i Gymru, i Lywodraeth Cymru ac i dalwyr y dreth gyngor. Caiff y mwyafrif helaeth o gyllid yr heddlu heddiw ei godi yma yng Nghymru. Mae bron i 70 y cant o holl gyllid yr heddlu yng Nghymru heddiw yn dod o ffynonellau yng Nghymru, ac mae hynny'n golygu bod arnom ni angen y strwythurau sydd ar gael inni, nid dim ond y cyllidebau, ond y strwythurau hefyd.

Mae pobl Blaenau Gwent yn poeni am yr hyn y maen nhw'n ei weld yn rhy aml: ymddygiad gwrthgymdeithasol, p'un a yw'n daflu cerrig at fysiau neu ddefnyddio cyffuriau ar y strydoedd. Maen nhw eisiau teimlo'n ddiogel yn eu cartrefi ac yn ddiogel ar ein strydoedd. Ond maen nhw hefyd yn cydnabod ac yn deall nad yw'r ymateb plismona i'r heriau hyn yn ddim ond rhan o'r cwestiwn, yn ddim ond rhan o'r ateb, gan fod yn rhaid i'r heddlu weithio law yn llaw â llywodraeth leol, y gwasanaethau addysg, iechyd, yn enwedig o ran ymdrin â rhai o'r materion enfawr yn ymwneud ag iechyd meddwl a chyffuriau sy'n ein hwynebu heddiw. Rhaid iddyn nhw weithio gyda'r gwasanaethau cymdeithasol; rhaid iddyn nhw weithio ar draws yr ystod gyfan o wasanaethau er mwyn darparu ymateb cynhwysfawr i'r heriau yr ydym yn eu hwynebu yn ein cymunedau. Mae pobl yn deall hynny. Nid wyf yn deall pam nad yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn deall hynny. 

Gobeithiaf, Gweinidog, wrth ymateb i'r ddadl hon, y gallwch chi gadarnhau y byddwch yn bwrw ymlaen â gwaith comisiwn Thomas ar ddatganoli'r heddlu, fel bod gennym ni, yn y dyfodol, nid yn unig heddlu wedi'i ariannu'n briodol, lle mae gan swyddogion yr heddlu yr adnoddau sydd ar gael iddynt i amddiffyn ein cymunedau, i amddiffyn ein pobl, i'n cadw ni'n ddiogel, fel na fyddant yn cael eu gorymestyn yn barhaus, o dan lawer gormod o bwysau fel swyddogion unigol, ond eu bod hefyd wedi'u lleoli ac yn rhan o deulu gwasanaethau cyhoeddus Cymru, yn gweithio gyda'i gilydd yn ein cymunedau er lles ein cymunedau i gyd. Rwy'n ildio i'r Aelod dros Ben-y-bont ar Ogwr.  

15:40

Rwy'n ddiolchgar i'm cyd-Aelod, Alun Davies. A yw'n rhannu fy anghrediniaeth ynghylch y ddadl, gan fod troseddu'n drawsffiniol rhwng Cymru a Lloegr, fel pe bai hynny'n sefyllfa unigryw, ei bod yn golygu bod yn rhaid i'r wlad fwy, felly, reoli plismona'r wlad lai hefyd? Onid yw hynny'n golygu y dylai Gweriniaeth Iwerddon, yn synhwyrol, fod yn rheoli plismona ar draws holl ynys Iwerddon? Dyna resymeg y ddadl honno. Ac a yw hefyd yn cytuno â mi, er bod troseddu'n drawsffiniol, ei bod yn gwbl bosib i'r heddlu barhau i gydweithio, fel sy'n digwydd rhwng y Weriniaeth a'r Gogledd, rhwng Lloegr a'r Alban, ac nid oes unrhyw reswm pam na all pobl Cymru gael rheolaeth dros eu heddluoedd eu hunain?

Rwyf yn cytuno'n fawr iawn â'r hyn y mae'r Aelod dros Ben-y-bont ar Ogwr wedi ei ddweud. Ac, wrth gwrs, yr hyn y mae'r Ceidwadwyr yn drysu yn eu cylch yw canfod trosedd a datrys y problemau sy'n deillio o droseddu a dod o hyd i atebion i droseddau. Ac rwy'n gwrando ar Weinidogion Ceidwadol sy'n hapus iawn i ddatganoli cyfrifoldebau i rannau o Loegr, i Fanceinion ac i Lundain, wrth gwrs, ond nid yw Cymru'n ddigon da i'r Torïaid. Nid yw'r Torïaid byth yn credu bod gennym ni'r gallu i reoli'r materion hyn ein hunain.

Ac mae'r Aelod dros Ben-y-bont ar Ogwr yn gwneud pwynt pwysig iawn, ac wrth edrych ar faterion ehangach cyfiawnder troseddol, ni allaf gredu y byddai unrhyw Lywodraeth Cymru o unrhyw liw, o gwbl, wedi caniatáu i sefyllfa godi lle nad oes cyfleusterau i fenywod yn ein system cyfiawnder troseddol yn ein gwlad. Mae hynny'n destun cywilydd ac yn warth ac yn rhywbeth y mae'n rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig dderbyn cyfrifoldeb amdano.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu diddordeb a'u cyfraniadau heddiw a diolch unwaith yn rhagor i'r gwasanaeth heddlu ledled Cymru, yn enwedig yng ngoleuni eu hymdrechion yn ystod y llifogydd diweddar.

Nid wyf yn rhy siŵr beth oedd trywydd dadl y cyfrannwr cyntaf, Mark Isherwood, pan ddechreuodd, ond roedd hi'n gwbl amlwg ei fod yn ceisio rhoi'r bai ar eraill am ddewis gwael ei Lywodraeth wrth dorri cyllid i'r heddlu, dewis gwael sy'n dal i atseinio hyd heddiw, fel y cydnabu'r holl gyfranwyr eraill.

Mae diogelwch cymunedol yn un o brif flaenoriaethau'r Llywodraeth hon, ac er bod y setliad hwn yn well nag y mae rhai wedi'i ddisgwyl, nid ydym yn twyllo ein hunain fod un setliad gwell yn gwneud iawn am y 10 mlynedd flaenorol o dan agenda cyni Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Yn wir, mae rhai comisiynwyr heddlu a throseddau wedi mynegi pryder, er bod arian ychwanegol wedi'i ddarparu i rai swyddogion newydd, nad oes digon o arian ar gyfer y cyflenwad presennol. Mae hyn, wrth gwrs, yn fater i'r Swyddfa Gartref ac rydym yn eu hannog i fynd i'r afael ag ef fel blaenoriaeth frys.

Rydym ni wedi ymrwymo i weithio gyda'r comisiynwyr a'r prif gwnstabliaid i sicrhau y caiff yr heriau hyn eu rheoli mewn ffyrdd sy'n cyfyngu ar yr effaith ar ddiogelwch cymunedol a phlismona rheng flaen yng Nghymru. Mae parhau i weithio mewn partneriaeth i ganfod a datblygu cyfleoedd yn bwysig, fel y dangosir gan y defnydd llwyddiannus o'r 500 swyddog cymorth cymunedol.

Rydym ni hefyd, wrth gwrs, yn parhau i bwyso am ddatganoli cyfiawnder troseddol a phlismona yn unol ag argymhelliad comisiwn Thomas. Ni allwn gytuno mwy â sylwadau gwahanol gyfranwyr o amgylch y Siambr: nid yw'n gwneud synnwyr o gwbl nad yw plismona wedi'i ddatganoli pan fo'r holl wasanaethau golau glas eraill wedi eu datganoli, ac mae'n eithaf amlwg y byddai'n well pe baem yn cydlynu'r peth yn gyfan gwbl o safbwynt datganoledig. Rwy'n cymeradwyo'n llawn yr holl gyfraniadau ynglŷn â hyn, ac yn enwedig crynodeb ardderchog Carwyn Jones o ba mor chwerthinllyd yw'r wrth-ddadl mewn gwirionedd.

A minnau wedi cymeradwyo hynny'n drwyadl, Dirprwy Lywydd, cymeradwyaf y setliad hwn i'r Senedd.

15:45

Diolch. Y cynnig yw cytuno ar y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

9. Dadl: Maes Awyr Caerdydd

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Caroline Jones. 

Symudaf yn awr i eitem 9, sef dadl ar Faes Awyr Caerdydd, a galwaf ar Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru i gynnig y cynnig—Ken Skates.

Cynnig NDM7290 Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd economaidd a chymdeithasol Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd i Gymru.

2. Yn croesawu’r ffaith bod Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd bellach yn gyfrifol am weithredu cyfleuster terfynfa Maes Awyr Ynys Môn ac yn cydnabod y cyswllt awyr rhanbarthol pwysig rhwng gogledd a de Cymru.

3. Yn cydnabod bod dros 1700 o bobl yn cael eu cyflogi ym Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd a’r £250m o werth ychwanegol gros y mae’n ei gyfrannu at economi Cymru.

4. Yn cytuno ei bod yn allweddol cefnogi Maes Awyr Caerdydd er budd economi fasnach Cymru ar ôl Brexit, a hynny fel rhan o system trafnidiaeth gyhoeddus carbon isel, integredig ac o’r radd flaenaf yng Nghymru.

5. Yn nodi dull Llywodraeth y DU o ymyrryd er mwyn achub cwmni Flybe ond yn galw ar Lywodraeth y DU i fynd gam ymhellach er mwyn gwella cystadleurwydd, drwy gefnogi cost rheoleiddio ym meysydd awyr llai y DU, fel sy’n digwydd ar draws Ewrop.

6. Yn galw ar Lywodraeth newydd y DU i gytuno o’r diwedd i ddatganoli’n llawn y Doll Teithwyr Awyr i Gymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o'r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i gefnogi Maes Awyr Caerdydd, sy'n rhan hanfodol o seilwaith economaidd a thrafnidiaeth Cymru, a hoffwn ddechrau fy nghyfraniad heddiw drwy wneud un pwynt clir iawn. Yn 2013, byddai'r maes awyr, pe bai wedi parhau o dan y rheolaeth fasnachol ar y pryd, wedi cau. Byddai wedi cau. Byddai swyddi wedi cael eu colli. Byddem wedi colli'r brif ffordd o hedfan i dde Cymru, a byddai busnesau, allforwyr a theithwyr wedi colli'r cyfle i ddefnyddio maes awyr yn nes at eu cartrefi a'u hadeiladau na Bryste a Heathrow, a llawer o feysydd awyr eraill.

Ers i Lywodraeth Cymru gamu i'r adwy i achub y maes awyr, rydym ni wedi buddsoddi ynddo, ac wedi cyflawni gwelliannau i gyfleusterau adeilad y derfynfa a'r rhedfa. Mae'r diwydiant awyrennau wedi cydnabod y buddsoddiad hwnnw ac mae hynny wedi arwain at gyfres o gwmnïau hedfan yn sefydlu llwybrau newydd o Faes Awyr Caerdydd i gyrchfannau ledled y byd.

Mae Maes Awyr Caerdydd bellach yn cefnogi dros 2,000 o swyddi yn uniongyrchol ac yn 2018 cyfrannodd bron i £0.25 biliwn o werth ychwanegol crynswth i'n heconomi. Ond mae effaith gatalytig y maes awyr hyd yn oed yn fwy arwyddocaol, gyda dadansoddiad economaidd yn awgrymu bod Maes Awyr Caerdydd yn werth hyd at £2.4 biliwn i economi'r DU. Mae'n cyfrannu at 5,500 o swyddi yn y gadwyn gyflenwi a chyfanswm o 52,000 o swyddi yn yr economi ehangach. Felly, dyma'r amser, rwy'n credu, beth bynnag yw ein safbwyntiau gwleidyddol, i ddod ynghyd i gefnogi'r ased economaidd hanfodol a'r darn strategol hwn o seilwaith trafnidiaeth.

Nawr, yn oriau mân dydd Mercher diwethaf, cyhoeddwyd y newyddion trychinebus bod Flybe wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr. Mae'n wir y bydd Flybe yn effeithio ar Faes Awyr Caerdydd o ran nifer y teithwyr. Ond rwyf eisiau llongyfarch y tîm maes awyr am fynd ati'n gyflym i sicrhau llwybr o Gaerdydd i Gaeredin gyda Loganair. Ac rwy'n falch o ddweud, Dirprwy Lywydd, bod trafodaethau'n mynd rhagddynt gyda chwmnïau awyrennau eraill, a'r wythnos diwethaf cefais drafodaethau gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Gweinidog hedfan y DU. Rwyf wedi siarad ar sawl achlysur â Phrif Weithredwr a Chadeirydd y maes awyr i drafod sut y gallwn ni gefnogi trafodaethau ar y niferoedd sy'n hedfan ar y gwahanol lwybrau; yn fwyaf diweddar, brynhawn ddoe. Ac er colli Flybe, mae'r effaith ariannol yn ymwneud ag ychydig o dan 6 y cant o drosiant y maes awyr. Mae hyn yn dyst i'r cynllunio a'r rheoli rhagorol yn y maes awyr.

Dirprwy Lywydd, rwy'n croesawu craffu. Mae'n addas a phriodol bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn craffu ar Lywodraeth Cymru. Mae'n addas a phriodol hefyd y creffir arnom ninnau o ran ein stiwardiaeth o arian cyhoeddus a'r amgylchedd. Mae hefyd yn addas a phriodol ein bod yn trafod dyfodol y maes awyr. Fodd bynnag, Dirprwy Lywydd, nid yw'n addas na phriodol bychanu'r maes awyr. A gaf i egluro nad ydym yn gwastraffu miliynau o bunnau o arian trethdalwyr? Rydym ni'n buddsoddi yn nyfodol tymor hir y maes awyr i ddarparu benthyciad masnachol sydd angen ei ad-dalu, gyda llog, i'r trethdalwr. Arferwyd diwydrwydd dyladwy ac mae'r cymorth yn unol â rheolau'r UE ar gymorth gwladwriaethol. Ac rwyf eisiau cydweithio â'r Aelodau i gefnogi Maes Awyr Caerdydd, a hoffwn ofyn i'r Aelodau ystyried y cynnig hwn wrth i'r ddadl hon barhau. Nick Ramsey.

15:50

Diolch, Gweinidog, am dderbyn yr ymyriad. Fel y gwyddoch chi, a minnau'n Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, sydd wedi bod yn ystyried y mater hwn yn ddiweddar, yn sicr nid oes gennym ni fel pwyllgor ddim diddordeb mewn bychanu Cymru na bod yn negyddol er mwyn bod yn negyddol. Byddwch yn gwybod, fodd bynnag, ein bod wedi gofyn i swyddogion, o ran y benthyciadau hynny a'r benthyciadau ad-daladwy hynny—rydym yn derbyn bod angen benthyciadau, ond mae'n bwysig bod eglurder o ran pryd y dechreuir talu'r benthyciadau hynny'n ôl a diwedd y broses honno hefyd. Felly, a ydych chi'n derbyn bod problem yn y fan yma y mae angen mynd i'r afael â hi, ac, ydych, rydych chi'n gwneud yn iawn wrth fuddsoddi yn y maes awyr, ond a ydych chi'n cytuno bod angen i'r cyhoedd fod yn ffyddiog nad yw'r broses honno, mewn gwirionedd, yn siec wag?

Yn sicr, ydw. Yn sicr, ydw, ac fe fyddwn i'n dweud wrth yr Aelod hefyd, rwy'n croesawu diddordeb y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn y maes awyr. Ac o ran pryd y dylai'r benthyciadau hynny ddechrau cael eu had-dalu, mae'n amlwg mai lle'r maes awyr yw barnu beth sydd o fudd ariannol gorau iddo, ac mae'r ateb hwn wedi'i roi, yn sicr, i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau.

Nawr, cyn siarad ymhellach am fanylion Maes Awyr Caerdydd ei hun, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod yn rhoi'r ddadl hon yn y cyd-destun cywir y mae'n ei haeddu. A Dirprwy Lywydd, rydym ni yn wynebu heriau ar raddfa fyd-eang: mae ein hinsawdd yn newid yn gyflym; rydym ni'n gweld yr effaith nawr y mae'r coronafeirws yn ei gael ar yr economi ac ar bobl y byd hwn; mae Brexit yn ail-lunio ein cysylltiadau masnachu ac allanol mewn modd sylfaenol iawn; ac yn ddiweddar rydym ni wedi gweld gwrthod tri darn mawr o waith ehangu ym meysydd awyr Heathrow, Stansted a Bryste—i gyd ar sail amgylcheddol. Felly, mae hyn oll yn creu nid yn unig amodau heriol i'r farchnad ar gyfer hedfan, fel y dangosodd cwymp diweddar Flybe, ond yn codi cwestiynau pwysig am swyddogaeth polisi hedfan yng Nghymru. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig mynd i'r afael â hyn yn uniongyrchol, i ddatblygu ein dealltwriaeth o'r sail dystiolaeth ynghylch allyriadau carbon y maes awyr, i edrych ar sut y gallai Maes Awyr Caerdydd ddod yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer hedfan carbon isel, ac, wrth gwrs, i ddeall swyddogaeth a photensial Maes Awyr Caerdydd yn ein bodolaeth ar ôl Brexit.

Mae uwch gynllun Maes Awyr Caerdydd ar gyfer 2040 yn cynnig cyfle i fynd i'r afael â'r holl heriau hyn, gan gynnwys y potensial ar gyfer creu cyfnewidfa drafnidiaeth gynaliadwy a hefyd ynni cynaliadwy mewn perchnogaeth leol. Mae bod yn berchen ar y maes awyr yn rhoi cyfle unigryw i Lywodraeth Cymru arwain y ffordd o ran datblygu atebion carbon isel a thechnolegol i'r diwydiant. Ac rydym yn cynnal trafodaethau, rwy'n falch o ddweud, gyda phrifysgolion a phartneriaid yn y diwydiant sy'n awyddus i ddefnyddio'r maes awyr yn gyfrwng arbrofi cyffrous.

Mae pwysigrwydd cymdeithasol strategol Maes Awyr Caerdydd i'w weld fwyaf yn y cyswllt sy'n cael ei greu rhwng gogledd a de Cymru. Mae'r cyswllt hwn yn bwysig i'r cysylltiadau cymdeithasol ac economaidd rhwng gogledd a de ein gwlad. Ac mae'r ehediad, rwy'n falch o ddweud, wedi gweld cynnydd yn nifer y teithwyr o dan Eastern Airways, a gafodd y contract yn ddiweddar am bedair blynedd arall. Hefyd, mae Maes Awyr Caerdydd bellach yn gyfrifol am weithredu cyfleuster terfynfa teithwyr Maes Awyr Ynys Môn.

Ond wrth droi'n ôl at Flybe, hoffwn ddweud ein bod yn cydymdeimlo â'r gweithwyr a'r teithwyr sydd wedi dioddef yn sgil ei gwymp. Rydym yn gresynu bod methiant Llywodraeth y DU i ymyrryd yn sefyllfa Flybe wedi arwain at ganlyniadau mor ddinistriol. Credwn fod hyn yn nodweddiadol o'r polisi negyddol sydd ganddi mewn perthynas â meysydd awyr rhanbarthol a chysylltedd rhanbarthol ledled y Deyrnas Unedig. Mae rhyddid gan Lywodraeth y DU i amrywio'i dehongliad o reolau cymorth gwladwriaethol i gyd-fynd â gweddill Ewrop, ac i gael gwared ar y costau rheoleiddio sy'n faich ar feysydd awyr rhanbarthol llai. Felly, unwaith eto, galwaf ar Lywodraeth y DU i ddatganoli toll teithwyr awyr i Gymru, fel y mae wedi gwneud ar gyfer yr Alban ac ar gyfer Gogledd Iwerddon. Mae'r maes awyr yn ased cenedlaethol gwerthfawr, strategol ac yn un y dylem i gyd fod yn eithriadol o falch ohono.

Diolch. Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Russell George i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Russell.

Gwelliant 1—Darren Millar

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r newyddion bod Flybe wedi galw'r gweinyddwyr ac yn mynegi pryder ynghylch yr effaith andwyol bosibl a gaiff hyn ar ddyfodol Maes Awyr Caerdydd.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi strategaeth gynhwysfawr ar gyfer Maes Awyr Caerdydd gyda'r nod o'i dychwelyd i'r sector masnachol ar y cyfle cyntaf ac ar elw i drethdalwyr Cymru, ac y dylai'r strategaeth gynnwys cynlluniau i:

a) buddsoddi yn seilwaith cyfalaf y maes awyr er mwyn galluogi'r maes awyr i arallgyfeirio a chynhyrchu ffynonellau refeniw newydd;

b) cefnogi'r broses o ddatblygu llwybrau, gan flaenoriaethu cyswllt hedfan uniongyrchol ag UDA ac un i Fanceinion o ystyried ei statws fel prif ganolfan yng ngogledd Lloegr sy'n gwasanaethu gogledd Cymru;

c) datblygu strategaeth farchnata newydd ar gyfer y maes awyr;

d) gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddatganoli a dileu'r doll teithwyr awyr;

e) gwella cysylltiadau trafnidiaeth i'r maes awyr er mwyn gwneud y maes awyr yn fwy hygyrch drwy fuddsoddi mewn cysylltiadau gwell o ran ffyrdd, rheilffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i'r Llywodraeth am ddod â'r ddadl hon gerbron heddiw? Rwy'n credu bod hon yn ddadl briodol i'w chael, ac rwyf hefyd yn gwerthfawrogi, pan gyflwynodd y Llywodraeth y ddadl hon, bryd hynny, nad oedd Flybe wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr, sy'n golygu, wrth gwrs, ei bod hi'n bwysicach fyth ein bod yn cael y ddadl hon heddiw. Ac fel y dywedodd y Gweinidog, mae hi hefyd yn briodol talu teyrnged i staff ymroddgar Flybe, a hefyd i'r cwsmeriaid ffyddlon, wrth gwrs. Ac rwy'n gwerthfawrogi bod llawer o bryder a llawer o waith i'w wneud o hyd, ac rwy'n falch bod y Gweinidog wedi amlinellu nifer o gyfarfodydd a gafodd yr wythnos diwethaf o ran y gefnogaeth ar gyfer rhagor o ehediadau i'r maes awyr ac oddi yno. Rwy'n credu bod hynny i'w groesawu.

Rwy'n sicr yn gobeithio y caiff ein gwelliannau ni, y Ceidwadwyr Cymreig, i'r ddadl hon heddiw eu hystyried yn rhai adeiladol. Rwyf yn credu eu bod felly. Dyma ein cynllun ni o'r meinciau hyn o ran yr hyn y credwn y dylai'r maes awyr fod yn ei wneud. Wrth wneud hynny, dylwn hefyd, Dirprwy Lywydd, gynnig ein gwelliannau, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.

Ond rwy'n credu bod llawer y gallwn ni gytuno arno rhwng meinciau'r Llywodraeth a'n meinciau ni, ac mewn gwirionedd rhwng Aelodau eraill hefyd. Rwy'n credu bod gennym ni i gyd yr un dyheadau hirdymor ar gyfer y maes awyr. Dywedodd y Gweinidog yn ei sylwadau agoriadol, beth bynnag yw ein barn benodol, bod arnom ni eisiau cefnogi'r maes awyr, ac rwy'n cytuno â hynny. Mae llawer y gallwn ni gytuno yn ei gylch. Rwy'n credu mai'r hyn yr ydym ni efallai'n anghytuno arno yw sut yr ydym yn cyflawni'r amcanion yr ydym ni ein dau eisiau eu gweld.

Dywedaf ar goedd, wrth gwrs, mai ein barn ni yw y dylid dychwelyd Maes Awyr Caerdydd i berchnogaeth breifat. Wrth ddweud hynny hefyd, byddai'n fuddiol efallai cael rhywfaint o eglurhad o safbwynt y Llywodraeth ynghylch hynny, oherwydd mae'n sicr—a chywirwch fi ar bob cyfrif—

15:55

Mewn munud, gwnaf. Cywirwch fi ar bob cyfrif, ond yn sicr roedd y Prif Weinidog blaenorol, yn ôl yr hyn a ddeallais, yn gweld Maes Awyr Caerdydd yn cael ei ddychwelyd i berchnogaeth breifat, ond nid wyf yn siŵr beth yw safbwynt y Llywodraeth nawr.

Mae dau ymyriad nawr. Ildiaf i Mick yn gyntaf.

Diolch am dderbyn yr ymyriad ynglŷn â'ch barn ideolegol, yn llythrennol, am breifateiddio. Ond a fyddech yn cytuno y bu preifateiddio'r maes awyr yn 1995 yn drychineb llwyr?

Rwy'n hapus i dderbyn ymyriad gan Carwyn Jones hefyd. [Chwerthin.] Fe wnaf i ateb hynny.

Rwy'n ddiolchgar. Dau bwynt byr. Yn gyntaf oll, i'ch atgoffa wrth gwrs fod maer Ceidwadol Dyffryn Tees wedi prynu maes awyr Teeside ac wedi'i frandio fel maes awyr i'r bobl. Tybed sut y mae hynny'n cyd-fynd â'i ddadl. Yn ail, dim ond fel mater o wybodaeth, yr hyn a ddywedais pan oeddwn yn Brif Weinidog gynt—nid wyf nawr—yw mewn amser y byddai'n bosib gwerthu cyfranddaliadau yn y maes awyr ond cadw 50 y cant ac un gyfran yn nwylo'r Llywodraeth er mwyn cadw cyfran reolaethol.

Wel, diolch am yr eglurhad yna. Byddai'n ddefnyddiol cael gwybod gan y Gweinidog, ar ddiwedd y ddadl hon, os mai dyna yw safbwynt y Llywodraeth hefyd.

O ran y maes awyr arall y soniodd Carwyn Jones amdano, wrth gwrs, fe brynwyd hwnnw am bris teg. Nid wyf yn gwybod beth yw manylion y maes awyr penodol hwnnw, ond yr hyn a ddywedaf yw hyn: rydym ni, ar y meinciau hyn yn y fan yma, yn credu y byddai Maes Awyr Caerdydd yn cael ei redeg orau mewn perchenogaeth breifat. Dydym ni ddim yn credu bod Llywodraethau'n dda—. Dydyn nhw ddim yn arbenigwyr ar hedfan a chredwn fod y maes awyr yn cael ei redeg yn well mewn perchnogaeth breifat. Ond rwy'n sylweddoli, fel y dywedodd Mick Antoniw, bod gwahaniaeth athroniaeth o ran ein safbwynt ar hyn. Gallwch barhau i gefnogi maes awyr heb brynu maes awyr, wrth gwrs.

Ond gadewch i ni hefyd gael dadl onest yn y Siambr hon am ble yr ydym ni arni hefyd. Yn y gorffennol mae'r Llywodraeth wedi sôn am y cynnydd yn nifer y teithwyr. Ydy, mae'n wych bod niferoedd y teithwyr yn cynyddu, ond gadewch i ni gofio bod nifer y teithwyr yn 2007 yn 2.1 miliwn ac mae cynlluniau ac amcanestyniadau'r Llywodraeth ei hun yn dweud wrthym y byddwn yn cyrraedd y ffigur hwnnw o 2 filiwn, y dywedir wrthym sy'n ffigur pwysig o ran y trothwy elw, pan fydd y maes awyr yn gwneud elw drachefn, dywedwyd wrthym yn wreiddiol y byddai hynny yn 2021, nawr dywedir wrthym y bydd hynny yn 2025. Felly, mae'n rhaid i ni roi rhai o'r ffigurau hyn mewn cyd-destun. Yn aml mae llawer o ystumio, mae arnaf ofn, ynghylch rhai o'r ystadegau a welwn yn nhermau'r maes awyr.

Gadewch i ni fod yn realistig hefyd am sefyllfa ariannol y maes awyr. Ers iddo fod ym mherchnogaeth y Llywodraeth, bu colledion cyn treth bob blwyddyn tra bu ym mherchnogaeth y Llywodraeth, a £18.5 miliwn o golledion cyn treth y llynedd. Hefyd, wrth gwrs, yn 2014 roedd asedau net y maes awyr yn werth £48 miliwn ac erbyn hyn maen nhw'n werth—yn ôl mantolen y maes awyr—£15.7 miliwn. Rwy'n sylweddoli'r hyn y mae Gweinidog y Llywodraeth yn ei ddweud o ran gwerth y maes awyr o ran manteision economaidd ehangach eraill, ond gadewch inni gofio'r ystadegau hyn hefyd ar yr un pryd.

Rwy'n sylweddoli bod fy amser yn prinhau, ond rwy'n credu fy mod wedi derbyn ymyriad. A yw hi'n iawn imi gael ychydig funudau yn fwy?

Na, na, cewch orffen eich araith mor gyflym ag y gallwch chi a byddaf yn dweud wrthych pan fyddwch wedi mynd dros eich amser. Ewch ymlaen.

Diolch. Dim ond ceisio rhywfaint o arweiniad oeddwn i. Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd.

Ond, yn sicr o ran ein cynllun ar gyfer y maes awyr, mae gennym ni nifer o bwyntiau y byddem yn eu cyflwyno. Yn gyntaf oll, byddem yn buddsoddi yn seilwaith cyfalaf y maes awyr er mwyn galluogi'r maes awyr i arallgyfeirio a chynhyrchu ffynonellau refeniw newydd. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig. Gallai'r maes awyr hwn, wrth gwrs, fod yn symbol o fri mawr ac yn borth i Gymru, a chytunaf yn aml â phwyntiau y mae Carwyn Jones yn eu gwneud o ran y canfyddiad bod gan Gymru faes awyr. Hyd yn oed os nad yw hynny o bosib yn gwasanaethu Cymru gyfan, mae mater o ganfyddiad yn y fan honno, a byddwn yn cytuno'n llwyr â hynny. Ceir hefyd y gefnogaeth y byddai Llywodraeth Geidwadol Cymru, yn sicr, yn ei rhoi o ran blaenoriaethu hediadau uniongyrchol i UDA ac un i Fanceinion. Mae Manceinion yn arbennig o bwysig, o ystyried ei statws fel canolfan yng ngogledd Lloegr, sydd hefyd yn gwasanaethu gogledd Cymru. Byddem hefyd yn datblygu strategaeth farchnata newydd ar gyfer y maes awyr. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig hefyd, ac, i ddweud ar goedd, byddem yn bendant, ni'r Ceidwadwyr Cymreig, yn ceisio cael Llywodraeth y DU i ddatganoli'r doll teithwyr awyr ac, unwaith y caiff ei datganoli, i gael gwared arni hefyd. Felly, rwy'n sylweddoli ein bod ni o farn wahanol, o farn groes, i Lywodraeth y DU, ond dyna ein sefyllfa ni, y Ceidwadwyr Cymreig, yn y fan yma. Rwy'n credu—[Torri ar draws.] Ni allaf—

16:00

—neu buaswn i'n hapus gwneud hynny. Ac, yn olaf, byddem hefyd eisiau gweld gwelliannau o ran cysylltiadau trafnidiaeth i'r maes awyr o ran rheilffyrdd, ffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus hefyd. Ond rydym ni ar y meinciau hyn yn credu y dylid cael enillion teg am arian y trethdalwyr, y buddsoddiad. Talodd pob trethdalwr yng Nghymru £38.50 am y buddsoddiad gwreiddiol hwnnw ym Maes Awyr Caerdydd, a byddem eisiau gweld hynny, wrth gwrs, yn cael ei ddychwelyd i drethdalwyr Cymru.

Gwelliant 2—Caroline Jones

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig;

Yn edrych ar Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd i wneud elw blynyddol o leiaf ar y lefel weithredu, h.y. cyn costau cyllid.

Gwelliant 3—Caroline Jones

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ganfod partner sector preifat i helpu i weithredu Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd a chymryd cyfran leiafrifol ynddo o fewn 5 mlynedd.

Cynigiwyd gwelliannau 2 a 3.

Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i agor drwy ddweud y bydd y Blaid Brexit yn cefnogi cynnig y Llywodraeth? Ni fyddwn yn cefnogi gwelliannau'r Ceidwadwyr, er bod nifer y byddem yn eu cefnogi, wrth inni sylwi ar eironi eu galwad ar i Lywodraeth Cymru fuddsoddi yn seilwaith y maes awyr, o gofio eu gwrthwynebiad mynych i strategaeth fuddsoddi y Llywodraeth yn y gorffennol ar gyfer y maes awyr. Hoffem gyfeirio yn y fan yma at ein record ni o ran cefnogi penderfyniad Llywodraeth Cymru i brynu'r maes awyr, a sicrhaodd ei ddyfodol yn ddi-os. Ar wahân i effaith economaidd y maes awyr ar Gymru yn gyffredinol ac ar greu swyddi yn y rhanbarth, credwn fod Maes Awyr Caerdydd yn chwarae rhan hollbwysig o ran cyflwyno Cymru i'r byd.

Er yr ymddengys fod ein gwelliant cyntaf wedi'i gyflawni, gan fod cadeirydd y maes awyr, Roger Lewis, wedi cadarnhau hyn yn y sesiwn friffio a gynhaliwyd gan swyddogion y maes awyr yr wythnos diwethaf, mae ein hail welliant yn galw ar i Lywodraeth Cymru geisio buddsoddiad preifat o fewn pum mlynedd, ond hoffem ddweud yn y fan yma y dylai hyn fod ar sail leiafrifol, gyda Llywodraeth Cymru yn cadw o leiaf 51 y cant o'r ecwiti. Credwn mai dyma fyddai'r unig ffordd i sicrhau fod y maes awyr yn goroesi yn y tymor hir. Rydym ni hefyd eisiau cydnabod y bydd digwyddiadau diweddar, megis cwymp Thomas Cook ac, yn fwy diweddar, Flybe, yn cael effaith tymor byr i dymor canolig ar gyllid y maes awyr, fel y gallai'r posibilrwydd o effaith drychinebus yn deillio o epidemig y coronafeirws. Ni all neb ond dyfalu, pe bai'r maes awyr wedi aros mewn dwylo preifat, y byddai ei union fodolaeth wedi bod mewn perygl. Dylem hefyd gydnabod y gall fod angen i'r Llywodraeth roi rhagor o gymorth ariannol i'r maes awyr yn y tymor byr pe bai'r sefyllfa o ran y coronafeirws yn un ddifrifol. Fodd bynnag, byddem yn gobeithio y byddai Llywodraeth y DU, yn y fath sefyllfa, yn ymrwymo i gefnogi'r diwydiant awyr yn gyffredinol. 

Rydym ni hefyd yn cefnogi'r galwadau gan y Llywodraeth a'r Ceidwadwyr ar i'r DU ddatganoli'r doll teithwyr awyr. Mae eu safiad presennol yn un nad oes modd ei amddiffyn o gwbl, o gofio bod y dreth hon, ers tro, wedi cael ei datganoli i seneddau'r Alban a Gogledd Iwerddon.

Yn olaf, rydym yn galw am fuddsoddiad arall gan Lywodraeth Cymru i sefydlu mynediad llawer gwell i'r maes awyr, gyda chyswllt uniongyrchol o'r M4, a hyd yn oed y posibilrwydd o gyswllt rheilffordd. Gallai buddsoddiad o'r fath effeithio'n fawr ar lwyddiant y maes awyr.  

A gaf i ddweud bod gennyf ddiddordeb ers tro byd yn y maes awyr, oherwydd, pan oedd yn eiddo cyhoeddus, pan roedd y tair sir yn berchen arno, roeddwn yn aelod o bwyllgor y maes awyr ar y pryd, a minnau'n gynghorydd? Rwy'n cofio'r adroddiadau blynyddol, mewn gwirionedd, am fuddsoddiad cyhoeddus i ddatblygu'r maes awyr ac i ariannu'r rhedfa ryngwladol fawr gyntaf a alluogodd i jymbo-jetiau lanio. Flwyddyn ar ôl blwyddyn, ehangodd y maes awyr hwnnw ac, mewn gwirionedd, roedd niferoedd ei deithwyr bryd hynny yr un faint â Bryste. Felly, mae'n ffaith ryfeddol bod gennych chi faes awyr cyhoeddus a oedd yn rhan o gynllun economaidd integredig, a oedd yn gwasanaethu'r cyhoedd a busnesau yng Nghymru, ac wedyn gwnaed penderfyniad ideolegol rhyfedd gan y Llywodraeth Dorïaidd fod yn rhaid ei werthu.

Rwy'n sylweddoli, pan ddywedais wrth Russell George wrth ymyrryd fod y preifateiddio'n drychineb—. Sylweddolaf ei fod yn ei chael hi'n anodd cyfaddef fod hynny'n wir, ond rydych chi'n gwybod ac rwyf innau'n gwybod y bu yn drychineb llwyr. Mewn gwirionedd—

16:05

Y pwynt yw y gallai'r Llywodraeth—a dweud y gwir, pob Llywodraeth—fod wedi gwneud mwy i gefnogi'r maes awyr yn ystod y cyfnod hwnnw, megis cysylltiadau ffyrdd, cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus, cysylltiadau rheilffyrdd. Gallai pob Llywodraeth o bob lliw fod wedi gwneud mwy i gefnogi'r maes awyr pan oedd mewn perchenogaeth breifat, ac efallai na fyddem ni wedi cyrraedd y sefyllfa yr ydym ni ynddi nawr.

Wel, rwy'n falch o glywed eich cefnogaeth i fuddsoddiad yn ein meysydd awyr, ond dydych chi ddim—[Torri ar draws.] Ond dydych chi ddim wir yn ateb y pwynt bod y preifateiddio'n drychineb, yn union fel y bu preifateiddio'r rhwydwaith rheilffyrdd yn drychineb, yn union fel y bu preifateiddio'r bysiau yn drychineb llwyr.

Yn 2012—y flwyddyn ddiwethaf yr oedd mewn perchenogaeth breifat—dioddefodd golled yn y flwyddyn honno o bron i 17 y cant yn nifer y teithwyr. Mae'n hollol gywir: ni fyddai gennym ni, yng Nghymru nawr, faes awyr rhyngwladol pe bai'r Torïaid wedi bod yn rhedeg y wlad. Byddem hefyd wedi colli 2,500 o swyddi, byddem wedi colli cyfraniad cannoedd o filiynau o bunnoedd i economi Cymru, byddem wedi colli cydran allweddol yn natblygiad diwydiant hedfan sydd mewn gwirionedd yn eithaf pwysig yn fy etholaeth. Felly, roedd y penderfyniad gwirioneddol gan Lywodraeth Cymru—gan Lywodraeth Lafur—i ymyrryd a thrwsio'r difrod hwnnw yn sylfaenol bwysig.

Nawr, pan drosglwyddwyd y maes awyr i berchnogaeth gyhoeddus, beirniadodd yr Aelod Torïaidd o Senedd Ewrop dros y de-orllewin, Ashley Fox, Lywodraeth Cymru am ei achub, oherwydd ei fod yn herio maes awyr Bryste. Felly, mae'r Torïaid yn Lloegr yn cefnogi eu maes awyr rhanbarthol mewn gwirionedd. Ni allwch ond breuddwydio am Blaid Geidwadol Gymreig yn cefnogi maes awyr a diwydiant yng Nghymru? Eu—[Torri ar draws.] Eu gwaseidd-dra llwyr. A dyna wirionedd y sefyllfa—mae maes awyr Bryste wedi ffynnu ar draul preifateiddio Maes Awyr Caerdydd.

Nawr, mae angen inni symud ymlaen, oherwydd bod gennym ni Qatar Airways, sydd wedi cael effaith sylweddol iawn ar y maes awyr, ac, wrth gwrs, dywed prif swyddog gweithredol Qatar Airways yn y bôn y dylai gael ei adael mewn perchenogaeth gyhoeddus, oherwydd byddai ei breifateiddio yn ei roi mewn perygl o fod ar drugaredd cronfeydd rhagfantoli a'r marchnadoedd rhyngwladol.

Does dim dwywaith bod y diwydiant maes awyr yn wynebu cyfnod anodd. Nid oes amheuaeth nad ydym yn dal dan anfantais oherwydd penderfyniadau a wneir gan Lywodraeth y DU, ac rwy'n amau bod dylanwad y Torïaid dros Fryste yn effeithio ar hynny mewn gwirionedd. Ond nid oes amheuaeth, ers i ni ei gymryd i berchnogaeth gyhoeddus, y bu twf o 60 y cant yn nifer y teithwyr yn y maes awyr. Bellach mae ganddo swyddogaeth mewn cynllun economaidd. Mae buddsoddi yn y maes awyr nid yn unig yn angenrheidiol ond yn gymedrol. Mae'r £38 miliwn a fuddsoddwyd ym Maes Awyr Caerdydd, o'i gymharu â'r £500 miliwn o ddyledion sydd gan faes awyr Bryste, yn gymhariaeth dda, rwy'n credu, ac rwy'n credu bod angen i ni fuddsoddi mwy.

Ond y gwir amdani yw bod y buddsoddiad hwnnw neu'r benthyciadau hynny a wneir ar gyfradd fasnachol, oherwydd byddai eu gwneud fel arall yn torri naill ai rheolau'r UE neu'n torri rheolau cymorth gwladwriaethol Sefydliad Masnach y Byd. Felly, Dirprwy Lywydd, mae'r maes awyr wedi dod yn ased economaidd pwysig iawn i ni. Mae hefyd—. Mae'n rhaid dweud: beth fyddai statws Cymru, y wlad hon yr ydym ni'n ei chynrychioli, pe na bai gennym ni faes awyr rhyngwladol, pe na allem ni ddod â phobl flaenllaw yn rhyngwladol—pobl flaenllaw yn y byd chwaraeon, yr economi a gwleidyddiaeth—i'n maes awyr ein hunain, byddai'n rhaid inni ddweud, 'Na, rhaid ichi ddargyfeirio drwy Fryste'?

Dirprwy Lywydd, hanfod y mater yw hyn: bu bron i'r Torïaid ddinistrio ein maes awyr. Rydym ni wedi achub y maes awyr hwnnw. Mae dyfodol i'r maes awyr erbyn hyn. Yn sicr, mae'n gyfnod anodd, ond rwy'n gwybod y bydd yn goroesi, ac mae'n gorfod goroesi, oherwydd bod ganddo Lywodraeth sy'n ei gefnogi ac sy'n ei werthfawrogi.

Mae'n bleser cael cyfrannu at y ddadl hon. Roeddwn braidd yn or-awyddus yn gynharach fel y cyfeiriais un o'm pwyntiau gwreiddiol, a dweud y gwir, at y Gweinidog yn fuan wedi iddo ddechrau siarad. Taniodd fy mrwdfrydedd gymaint fel ei fod yn gwybod beth yw fy safbwynt i ynglŷn â hyn.

Mae'n gwbl amlwg bod maes awyr fel Caerdydd yn ddarn pwysig nid yn unig o seilwaith trafnidiaeth Cymru, ond hefyd o seilwaith trafnidiaeth y DU hefyd, ac yn wir, wrth gwrs, fel cysylltiad i rannau eraill o'r byd ac, yn fwy diweddar, i Qatar drwy'r cysylltiadau a wnaed â'r cwmni awyrennau hwnnw, wrth gwrs, gan ddod yn ganolfan fyd-eang hefyd. Ac nid wyf yn credu bod cyllid yn broblem. Wrth gwrs, mae angen cymorth ar faes awyr fel hwnnw ac, wrth gwrs, fel y dywedodd Mick Antoniw, mae benthyciadau masnachol yn rhan o hynny, oherwydd, wrth gwrs, gyda rheolau cymorth gwladwriaethol, bydd yn rhaid i'r rheini fod o natur fasnachol.

Y mater y mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi edrych yn fanwl arno yw cynaliadwyedd hirdymor y math hwnnw o gyllid, a beth fyddai'n digwydd, yn bwysig iawn, ar adeg yn y dyfodol pryd na fyddai'r benthyciadau hynny ar gael. Os edrychwn ni yn fanwl ar y benthyciadau a roddwyd, mae'r maes awyr bellach wedi defnyddio'r cyfleuster benthyca o £38 miliwn yn llawn. Credaf fod y £21.2 miliwn diweddaraf wedi cael ei gyfuno â'r cyfleuster presennol, er yr hoffai'r Gweinidog efallai gadarnhau hynny, gan fod rhai cwestiynau wedi codi ynghylch hynny yn ystod cyfarfod diweddar y pwyllgor.

Felly, yn bwysig, beth yw'r strategaeth ar gyfer Maes Awyr Caerdydd yn y dyfodol, ac ar ba adeg na fydd y benthyciadau hyn ar gael mwyach? Gwneuthum y pwynt yn gynharach am siec wag, ac mae'n bwysig i'r cyhoedd fod yn ffyddiog y bydd y maes awyr, rywbryd yn y dyfodol, naill ai yn parhau i gael ei ariannu a bod hynny'n rhan o'r strategaeth, ac efallai yr hoffai Llywodraeth Cymru ddweud mai dyna sut y tybiwn y bydd yn goroesi yn y dyfodol, neu bydd yn gallu sefyll ar ei draed ei hun. Mae'n debyg nad dyna'r ymadrodd priodol yn y cyd-destun hwn, ond rwy'n credu mai dyna fydd ystyriaeth y cyhoedd, a dyna beth mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ei ystyried, o ran hyfywedd y darn hwn o seilwaith.

Ar hyn o bryd rydym yn edrych ar fenthyciad arall o £6.8 miliwn rwy'n credu. Felly, mae mwy o arian yn mynd tuag at y maes awyr. Nid ydym ni ond wedi gweld yn ddiweddar, gyda chanlyniadau Flybe, pa bynnag strategaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei datblygu, a sut bynnag yn y dyfodol y mae'n gweld y weledigaeth honno ar gyfer y maes awyr yn datblygu, mae'n rhaid iddi fod yn ddigon cydnerth i ymdopi ag ergydion yn y dyfodol, megis cwymp cwmni hedfan. Gall methiant cwmni hedfan gael effaith gwbl anghymesur ar rediad a hyfywedd ariannol maes awyr, llawer mwy nag mewn unrhyw fath arall o seilwaith trafnidiaeth neu ganolfan drafnidiaeth. Cawsom dystiolaeth gan Roger Lewis a gadarnhaodd hynny—mewn gwirionedd, o ran rhedeg maes awyr, y gallai'r posibilrwydd o drychineb colli un cwmni awyrennau gael effaith fawr.

Cawsom ein calonogi, mae'n rhaid i mi ddweud, nad yw Caerdydd, yn wahanol i rai meysydd awyr eraill, mewn gwirionedd mor ddibynnol—gallaf weld y Gweinidog yn nodio. Nid yw mor ddibynnol ar un cwmni hedfan ag y mae meysydd eraill, ac rwy'n credu bod hynny wedi dangos ymhle y gwnaed cynnydd mewn gwirionedd gyda'r maes awyr hwnnw. Rwy'n gwybod fod Llywodraeth Cymru, yn aml, i bob golwg yn credu bod yr ochr hon i'r Siambr yn rhy negyddol o hyd, yn bychanu Cymru—gallaf weld Mick Antoniw yn nodio; rwy'n mynd i wyrdroi hynny mewn munud—ac nid edrych ar yr ochr ddisglair, ond, mewn gwirionedd, rwy'n barod i dderbyn, a minnau'n Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, y gwnaed rhai newidiadau da, ac, ar rai adegau yn y gorffennol, nid oedd y maes awyr hwnnw yn edrych yn hyfyw, felly mae pethau wedi gwella ac mae strwythurau wedi'u rhoi ar waith. Ond mae'n bwysig yn y dyfodol fod yna weledigaeth ar gyfer y maes awyr hwnnw sy'n cefnogi'r hyn y mae Llywodraeth Cymru eisiau ei wneud ag ef.

A gaf i sôn am y doll teithwyr awyr? Roedd y cyn-Brif Weinidog, a gyfrannodd yn gynharach at y ddadl hon, yn hoffi siarad, pan oedd yn Brif Weinidog, am yr offer yn y blwch offer, ynghyd â'r Gweinidog cyllid blaenorol, ac mae'r doll teithwyr awyr yn amlwg yn ddarn pwysig iawn o offer yn y blwch offer hwnnw. Cytunaf â phobl eraill sydd wedi siarad ar bob ochr i'r Siambr, gan gynnwys yr ochr hon, y dylid datganoli hynny. Mae'n hurt y gall rannau eraill o'r Deyrnas Unedig fanteisio ar y math hwnnw o ddatganoli trethu ond na all y Gweinidog trafnidiaeth yn y fan yma, na'r Gweinidog cyllid. Nid yw hynny'n deg, nid yw hynny'n iawn, ac rydym ni wedi eich cefnogi'n gyson wrth ddweud y dylid datganoli hynny. Rwy'n credu pe bai'r doll teithwyr awyr wedi'i datganoli i Lywodraeth Cymru, yna byddai o leiaf yn cynyddu'r dewisiadau sydd ar gael i chi o ran cefnogi darnau o seilwaith mawr fel Maes Awyr Caerdydd. Ac, er lles pob un ohonom ni, er lles Llywodraeth Cymru, er lles y cyhoedd, er lles pawb ohonom ni sy'n cyfrannu at y dadleuon hyn dros fisoedd lawer, credaf ein bod ni, yn y dyfodol, eisiau cyrraedd sefyllfa lle y bydd y maes awyr hwnnw, ie, yn cael ei ariannu, ond yn dod yn gynaliadwy yn y pen draw fel y gall Cymru gael maes awyr y gall hi ymfalchïo ynddo.

16:15

Codaf ar yr achlysur hwn i gefnogi cynnig y Llywodraeth—ac ni fydd y meinciau hyn yn cefnogi unrhyw rai o welliannau eraill y gwrthbleidiau—yn anarferol i mi. Bydd rhai Aelodau nad ydynt yn fy adnabod i yn ogystal ag eraill yn synnu'n fawr o glywed fy mod wrth fy modd gyda rhywfaint o gonsensws. Mae wedi bod yn dda iawn gweld bod elfen o gonsensws ynglŷn â'r ddadl hon. Rydym ni i gyd yn cytuno bod angen maes awyr hyfyw ar ein cenedl a'r rhan hon o'n cenedl; efallai bod gennym ni wahaniaethau barn o ran sut yr ydym ni eisiau gweld y maes awyr hwnnw'n cael ei redeg yn y tymor hir. Mae wedi bod yn galonogol iawn gweld, Dirprwy Lywydd, fod gennym ni gonsensws ynglŷn â datganoli'r doll teithwyr awyr.

Allwn ni ddim gwneud heb faes awyr. Yn y tymor hwy, gwyddom i gyd fod angen inni leihau nifer y teithiau awyr rydym ni'n eu gwneud, ond mae tystiolaeth academaidd glir a chyson hefyd fod rhanbarthau heb eu maes awyr eu hunain yn dioddef o achos hynny. Dyna'r agwedd ymarferol ar bobl yn mynd a dod, ond dyna'r neges honno hefyd—ac mae eraill wedi sôn am hyn—ac mae angen cyfleu'r neges honno bod Cymru ar agor i fusnes, ein bod ni yma. Ac rwy'n credu bod yn rhaid i ni atgoffa ein hunain o'r hanes yma: does dim amheuaeth o gwbl y byddem ni wedi colli'r maes awyr hwnnw pe na bai Llywodraeth Cymru wedi ymyrryd. Mae hynny'n gwbl glir. A gan fentro chwalu'r consensws hwn, rwy'n cytuno'n llwyr â Mick Antoniw: nid oedd preifateiddio'r maes awyr erioed y peth cywir i'w wneud; byddai wastad yn heriol, pan oedd ganddo gystadleuydd mor agos ym Mryste, i'w wneud yn hyfyw heb elfen o gefnogaeth gyhoeddus.

Nawr, ar y meinciau hyn, rydym yn fodlon iawn fod y darn mawr hwn o seilwaith yn eiddo cyhoeddus, oherwydd ein bod yn ymwybodol iawn, fel y mae eraill, fod hyn yn arferol. Mewn llawer o rannau eraill o'r byd datblygedig, mae'n gwbl arferol i Lywodraethau fod yn berchen ar ddarnau allweddol o seilwaith, gan eu cefnogi a'u rhedeg, er y gwneir hyn o hyd braich, gan fod y llywodraethau hynny'n gwybod na ellir ymddiried yng ngrymoedd y farchnad bob amser i ddarparu ar gyfer y bobl. Weithiau maen nhw'n gwneud hynny, ond yn yr achos hwn, mae'n amlwg na fyddent wedi gwneud hynny, a byddem yn amlwg wedi bod heb faes awyr.

Hoffwn sôn yn fyr am ddatganoli'r doll teithwyr awyr. Fel rwyf wedi'i ddweud, rwy'n falch iawn o glywed meinciau'r Ceidwadwyr yn ei gefnogi'n llwyr. Fel y dywedodd rhywun, mae hi'n anghyfiawn ac nid oes modd amddiffyn y ffaith fod gan bob rhan arall o'r DU yr arf hwn y gallant ei ddefnyddio ym mha bynnag ffordd y gwelant yn dda. Ac mae llawer o ffyrdd y gellid ei ddefnyddio: gellid ei ddefnyddio i ddenu cludwyr newydd; gellid ei ddefnyddio i gosbi pobl sy'n hedfan yn rhy aml neu sy'n hedfan am resymau diangen. Ond mae angen i ni wneud y penderfyniadau hynny yn y fan yma. Nid yw'n briodol.

Nawr, rwy'n tybio fy mod ychydig yn bryderus, o ystyried bod ein cyd-Aelodau Ceidwadol wedi dweud wrthym y buont yn eiriol dros hyn ers tro, yr ymddengys y cânt eu hanwybyddu ar ben arall yr M4, a tybed fod a wnelo hyn ag obsesiwn ymddangosiadol cyn Ysgrifennydd Gwladol Cymru â rhanbarthau economaidd trawsffiniol. Tybed a oedd ganddo ychydig gormod o ddiddordeb efallai yn hyfywedd tymor hir maes awyr Bryste, nid ein bod yn dymuno unrhyw ddrwg i faes awyr Bryste, ond os yw'n fater o naill ai/neu, rwy'n gwybod i ble rwyf i eisiau cyfeirio ein hadnoddau. 

Rwy'n obeithiol, fodd bynnag, o gofio'r hyn a ddywedwyd heddiw, gydag Ysgrifennydd Gwladol newydd, gyda neges glir iawn gan Lywodraeth Cymru, ond heddiw gan y Cynulliad hwn, y gallwn ni anfon y neges honno yn glir iawn at yr Ysgrifennydd Gwladol newydd a gofyn iddo ddadlau dros y sefyllfa hon. Nid yw'r sefyllfa bresennol yn un y gellir ei hamddiffyn. Nid yw'n deg, mewn unrhyw fodd, ac yn y tymor hir ni fydd yn gweithio.

O ran pwyntiau 5 a 6 yn y cynnig, hoffwn ddweud ychydig bach mwy am bwynt 5. Roedd sefyllfa Flybe yn siomedig, ac rwyf eisiau diolch i'r Gweinidog heddiw, oherwydd mae wedi ein hysbysu'n gyson o'r datblygiadau. Pan glywsoch fod chwarter yr hediadau a adawai'r maes awyr yn awyrennau Flybe, roedd hi'n adeg o wir bryder. Fel y mae eraill wedi dweud, rhaid inni feddwl am y bobl hynny sydd mewn perygl o golli eu swyddi, er fy mod yn deall—ac efallai y gall y Gweinidog gadarnhau hyn heddiw—fod rhai o'r swyddi hynny, y rhai ym Maes Awyr Caerdydd, eisoes wedi'u diogelu gan gwmnïau awyrennau eraill; a'r teithwyr y tarfodd hyn yn fawr arnynt—pobl na allent fynd i gyfweliadau am swydd, pobl na allent fynd i achlysuron teuluol. Ond, wrth gwrs, efallai na fyddai'r bobl hynny wedi gallu mynd o gwbl pe na bai gennym ni faes awyr. Ond, rwy'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni.

Mae hyn yn codi'r cwestiwn a gadwodd Llywodraeth San Steffan ei haddewid i gyfranddalwyr Flybe ai peidio, ond credaf ei bod yn deg dweud bod hon yn farchnad heriol iawn. Nid hwn yw'r cwmni rhanbarthol cyntaf i fynd i'r wal. Yr hyn sy'n wirioneddol bwysig yw ein bod yn cadw hyfywedd ein maes awyr. Roeddwn yn falch o glywed gan y Gweinidog nad yw mor ddinistriol ag y meddyliem y gallai fod.

Felly, rydym ni'n hapus heddiw i gefnogi'r Llywodraeth i gefnogi'r maes awyr ac i gefnogi'r cynnig. Mae angen i ni, fel yr wyf wedi dweud, hedfan llai, ond er mwyn i hynny fod yn bosib mae angen i ni gael cysylltedd rhanbarthol mwy effeithiol. Nes bydd gennym ni hynny, os nad oes gennym ni ein maes awyr ein hunain, bydd pobl yn hedfan o fannau eraill, felly mae maes awyr ffyniannus yn hanfodol i bob un ohonom ni. Byddwn yn cefnogi cynnig y Llywodraeth heddiw, a byddwn yn eu cefnogi wrth iddynt barhau i gefnogi'r maes awyr. Bydd y Gweinidog, wrth gwrs, yn disgwyl inni graffu'n drwyadl arno o ran sut y mae'n gwneud hynny.

16:20

Mae'n dda gweld bod undod sylweddol o ran cefnogi ein maes awyr rhyngwladol, ac rwy'n credu ei bod hi'n dda clywed Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn cydnabod rhai o'r newidiadau a wnaed i wneud y maes awyr yn hyfyw. Mae'n gwbl wir, pe na byddai Llywodraeth Cymru wedi cymryd yr awenau ym 2013, y byddai'r maes awyr wedi cau. Diwedd y stori.

Rhaid inni gydnabod bod tua 2,500 o swyddi'n cael eu cynnal yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol yma yn ne Cymru. Yn yr amgylchiadau economaidd anodd yr ydym ni ynddynt ar hyn o bryd, mae hynny'n refeniw pwysig iawn. Gwyddom o'r drafodaeth a gawsom ni gydag uwch reolwyr gweithredol Maes Awyr Caerdydd ddydd Llun yr wythnos diwethaf eu bod eisoes yn ennill mwy o arian nag y mae'n ei gostio i redeg y maes awyr, ac mai dyna fu'r achos dros y tair blynedd diwethaf. Felly, mae hwnnw'n bwynt pwysig iawn, oherwydd pe bai hynny ddim yn wir yna yn amlwg gallai'r sefyllfa fod yn un anodd iawn.

Gwyddom mai'r ffigur allweddol yw oddeutu 1.6/1.7 miliwn o deithwyr y flwyddyn. Felly, yn amlwg, rydym ni mewn sefyllfa beryglus ar hyn o bryd o ganlyniad i'r coronafeirws, sy'n amlwg yn amharu ar bopeth o ran economi'r byd. Ond mewn gwirionedd dim ond £36.2 miliwn, Nick Ramsay, y mae Maes Awyr Caerdydd wedi ei fenthyg o'r £38 miliwn posib—dyna a glywsom ni yn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Mae angen inni roi'r benthyciad masnachol hwnnw o £36.2 miliwn yng nghyd-destun yr hyn y mae meysydd awyr rhanbarthol eraill yn ei wneud o ran dyled. Fe wnaethom ni ddysgu yr wythnos diwethaf fod gan Lerpwl ddyled o £102 miliwn; Newcastle £367 miliwn; Leeds Bradford £125 miliwn; a maes awyr Bryste £590 miliwn o ddyled.

Dim ond o ran eich pwynt blaenorol yn y fan yna, mae'r ystadegyn sydd gennyf o'm blaen yn bendant yn dweud bod Llywodraeth Cymru bellach wedi benthyca'r £38 miliwn hwnnw yn ei gyfanrwydd, ond rwy'n barod i drafod hynny gyda chi'n ddiweddarach. Efallai fy mod wedi camddeall, ond credaf fod yr arian hwnnw wedi ei fenthyca.

O'r gorau. Cytunaf fod £1 miliwn neu £2 filiwn yn llawer o arian, ond credaf mai'r pwynt yw eu bod yn dal o fewn y swm o arian y cytunwyd arno eisoes gyda Llywodraeth Cymru, yn dilyn cwymp Thomas Cook.

Felly, does dim amheuaeth bod cwymp Thomas Cook, ac yn wir Flybe, ac ar ben hynny y coronafeirws, yn gohirio'r amserlen o ran pryd y gall y cwmni ad-dalu'r benthyciad i Lywodraeth Cymru. Ac roedd rheolwyr gweithredol y cwmni'n berffaith onest am hynny, er bod hynny cyn inni wybod am dranc Flybe.

Ond i bob cwmni sy'n methu mewn amgylchiadau masnachol arferol, mae un arall sydd o bosib yn elwa. Felly, rydym ni wedi gweld TUI yn cynyddu nifer y teithiau awyr o Gaerdydd. Rydym ni wedi gweld Loganair yn mabwysiadu rhai o lwybrau Flybe. Bydd yna bob amser gwmnïau masnachol a fydd yn gweld poen rhywun arall fel cyfle busnes, ac mae hynny'n hollol dderbyniol.

Cytunaf â Mick Antoniw y dylai cyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru fod wedi cael ei ddisgrifio'n fwy cywir fel Ysgrifennydd Gwladol Bryste a'r de-orllewin, oherwydd ymddangosai fod ganddo lawer mwy o ddiddordeb yn yr ardal honno. Pam mae Aelod Seneddol Bro Morgannwg yn casáu ei faes awyr lleol gymaint, ef ei hun a ŵyr? Efallai fod yr awyrennau'n hedfan dros ei dŷ. [Chwerthin.]

Ond mae llawer o resymau pam mae Caerdydd yn fwy tebygol o oroesi'r anawsterau presennol i bob cwmni hedfan ym mhob cwr o'r byd na llawer o feysydd awyr rhanbarthol eraill yn y DU; sef oherwydd bod sawl nodwedd o Faes Awyr Caerdydd yn ei gwneud yn safle llawer gwell yn y tymor hir. Un yw'r rhedfa anhygoel o hir sydd gennym ni, sy'n hirach o lawer na'r rhedfa ym Mryste neu Birmingham, sy'n golygu ei bod yn ddelfrydol ar gyfer cwmnïau awyrennau sy'n teithio pellteroedd hir. Beth bynnag fo'r argyfwng newid hinsawdd, mae'n anodd rhagweld y bydd pob un ohonom ni y mae angen iddo deithio i'r Unol Daleithiau yn mynd ar gwch. Mae'r angen i rai pobl fynd ar awyren yn mynd i barhau. Felly, mae'r rhedfa hir hon—sydd wedi'i lleoli'n bennaf dros y môr a thir amaethyddol, sy'n golygu ei bod yn tarfu llawer llai na maes awyr mewn ardal adeiledig—yn golygu ei fod yn ddelfrydol ar gyfer rhedfeydd yn y dyfodol.

Ar ben hynny, mae ganddo'r berthynas â chanolfan gynnal a chadw British Airways, ac mae ganddo'r gallu i fod yn ganolfan arloesi. Er enghraifft, buom yn trafod y podiau teithio awtomatig sy'n gweithredu yn Heathrow, y gellid eu defnyddio i gysylltu gorsaf y Rhws â therfynfa'r maes awyr, a fyddai'n goresgyn un o'r gwendidau sydd gan Faes Awyr Caerdydd ar hyn o bryd. Felly, rwy'n credu bod hwn yn faes awyr gyda dyfodol, a'i fod yn fuddsoddiad da iawn gan Lywodraeth Cymru.

16:25

Diolch, Dirprwy Lywydd. Roedd hi'n galonogol clywed gan y Gweinidog nad yw'r newyddion diweddar a hynod anffodus fod Flybe wedi rhoi'r gorau i fasnachu ar 4 Mawrth yn effeithio ar hyfywedd cyffredinol Maes Awyr Caerdydd; ond yn yr un modd, mae awyrennau'n cael cyfnod anodd iawn, a gwyddom fod Brexit yn chwarae ei rhan yn hyn.

Ond, mae'r codi bwganod ar goedd gan y Blaid Geidwadol gyferbyn ynglŷn â dyfodol hirdymor y maes awyr wedi profi'n ddi-sail, ac nid yw'r maes awyr a'r rhai y mae eu swyddi'n dibynnu arnynt yn ei groesawu. Felly, awgrymaf hefyd nad ydym yn bychanu Cymru. Drannoeth cyhoeddiad Flybe, cadarnhaodd Maes Awyr Caerdydd ei fod wedi sicrhau cytundeb gyda Loganair i gamu i'r adwy a chynnal y gwasanaeth hanfodol hwn o Gaerdydd i Gaeredin gan ddechrau ar 23 Mawrth, felly mae'n drueni nad oedd y blaid gyferbyn yn croesawu hyn. Os ydynt yn cefnogi'r maes awyr ac yn cefnogi seilwaith Cymru, rwy'n credu y dylent ei groesawu.

Mae hi hefyd yn briodol, unwaith eto, rwy'n credu, i bwysleisio yma fod Maes Awyr Caerdydd yn wir yn ddarn pwysig o seilwaith trafnidiaeth strategol. Mae'n ased economaidd allweddol i Gymru, ac fel y cyfryw mae ei helfennau hanfodol yn gryf. Hedfanodd bron i 1.7 miliwn o deithwyr o Faes Awyr Caerdydd yn 2019. Mae hynny'n 7 y cant yn fwy na'r flwyddyn flaenorol, y flwyddyn brysuraf ers 2009, ac i fyny 65 y cant ers i Lywodraeth Cymru ddechrau ymwneud â'r maes awyr. Y llynedd hefyd cafwyd twf o 34 y cant mewn refeniw masnachol yn y maes awyr. Mae'r rhain yn ffeithiau go iawn.

Mae llawer o sôn yn y Siambr hon am Gymru'n dod yn genedl aeddfed yn ei hawl ei hun yn aelod o deulu cenhedloedd y Deyrnas Unedig. Felly, pa genedl gyda'r rhithyn lleiaf o hunan-barch nad oes ganddi, neu nad yw'n dymuno cael, ei maes awyr ei hun yn gwasanaethu ei phrifddinas a'r genedl ehangach, a'r 52,000 o swyddi yn y gadwyn gyflenwi sy'n mynd gyda hynny, gan gynnwys ymchwil a datblygu? Os byddwn yn dewis osgoi ein cyfrifoldebau cenedlaethol tuag at Gymru, byddem yn sefyll o'r neilltu wrth i feysydd awyr dinasoedd rhanbarthol Lloegr fel Bryste a Chaerwysg dyfu. Rydym yn genedl gyda dyheadau ac uchelgais, ac rwy'n gwybod  na fydd Llywodraeth Lafur Cymru yn gyndyn o sefyll dros Gymru. Mae'n hanfodol i economi masnachu Cymru ar ôl Brexit ein bod yn cefnogi Maes Awyr Caerdydd fel rhan o system trafnidiaeth gyhoeddus o ansawdd uchel, integredig a charbon isel.

Mae Llywodraeth Lafur Cymru hefyd wedi galw'n gyson am ddatganoli'r doll teithwyr awyr i Gymru, ac rwy'n falch bod y Torïaid gyferbyn yn gefnogol o hyn bellach. Byddwn yn gofyn iddynt fynd â'r neges honno'n ôl i'w meistri yn y DU. Mae dadansoddiad arbenigol annibynnol yn dangos manteision economaidd amlwg i Gymru pe bai'r doll teithwyr awyr wedi'i datganoli, ac yn amlwg pe bai Gweinidogion Cymru wedyn yn penderfynu lleihau'r doll teithwyr awyr honno. Wrth i'r DU adael yr UE, mae datganoli'r doll teithwyr awyr yn ffordd y gall Llywodraeth Cymru hyrwyddo atyniad economaidd Cymru, a thwf yng Nghymru ar y cyd â pholisïau economaidd presennol Llywodraeth Cymru, ac mae'n atyniad allweddol i'n buddsoddwyr. Felly, rwy'n falch bod cefnogaeth drawsbleidiol nawr ar draws y Cynulliad i Gymru fod â'r grymoedd dros y doll teithwyr awyr.

A byddwn hefyd yn dweud—a'i roi yn syml iawn, felly—os yw Aelodau yn cefnogi Cymru, yna byddant yn cefnogi Llywodraeth Cymru a Maes Awyr Caerdydd. Mae'n bryd i ni i gyd sefyll dros Gymru, ac mae'n bryd inni roi terfyn ar fychanu Cymru.

16:30

A gaf i alw nawr ar Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru i ymateb i'r ddadl? Ken Skates.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n wirioneddol ddiolchgar am gyfraniadau'r holl Aelodau y prynhawn yma, yn enwedig i'r Aelodau hynny sy'n cefnogi ein cynnig, ac i'r Aelodau hynny ar feinciau'r Ceidwadwyr sydd nawr yn cefnogi safbwynt Llywodraeth Cymru yn groes i bolisi Llywodraeth y DU.

Rwyf yn teimlo ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn cydnabod mai ein cyfrifoldeb ar y cyd yw cefnogi a hyrwyddo'r maes awyr—nid ei fychanu ar gyfryngau cymdeithasol na'i ddefnyddio fel pêl-droed wleidyddol. Ni fyddech byth, byth, byth yn clywed gweision cyhoeddus etholedig yn lladd ar faes awyr John F. Kennedy neu faes awyr Charles de Gaulle, neu unrhyw feysydd awyr eraill y byd sydd mewn perchnogaeth gyhoeddus.

Gadewch imi fod yn gwbl glir, ni fyddwn yn caniatáu i Faes Awyr Caerdydd ddod allan o reolaeth gyhoeddus yng Nghymru, ac yn gweithredu ar eu rhan, Llywodraeth Cymru. Mae ein sefyllfa heddiw yn parhau i fod yn gyson â'n sefyllfa yn 2013, yn 2014, yn 2015, hyd heddiw. Rydym ni, wrth gwrs, yn agored i fuddsoddiad gan y sector preifat yn y maes awyr, a'r posibilrwydd i'r sector preifat gymryd cyfran, ond rydym ni, Llywodraeth Cymru, wedi adfer rheolaeth dros y darn holl bwysig hwnnw o seilwaith, a byddwn yn cadw rheolaeth arno ar ran pobl Cymru.

Gofynnwyd cwestiwn i mi gan Russell George—cwestiwn pwysig iawn am yr hyn y mae arbenigwyr hedfan yn ei gredu sydd er pennaf les meysydd awyr y byd: a ddylent fod yn eiddo cyhoeddus neu'n eiddo preifat. Nawr, pan soniwn am arbenigwyr, Donald Trump, Arlywydd yr Unol Daleithiau, mae'n hoffi ystyried ei hun yn arbenigwr mewn llawer iawn o bethau, ond nid ydych yn ei glywed yn rhuthro i geisio dod o hyd i brynwyr yn y sector preifat ar gyfer yr holl feysydd awyr hynny sy'n eiddo cyhoeddus yn yr Unol Daleithiau. Ac fel y dywedodd Helen Mary Jones, mae perchenogaeth gyhoeddus yn norm byd-eang. Yn wir, mae tua 85 y cant o feysydd awyr y byd sy'n cludo teithwyr yn eiddo cyhoeddus.

Nawr, fe glywais David Melding yn cellwair, mi gredaf, nad yw David Rowlands yn gyfalafwr mwyach oherwydd ei fod yn gefnogol i'r maes awyr fod mewn perchnogaeth gyhoeddus, ond ni fyddech yn cyhuddo'r Arlywydd Donald Trump neu gyn-faer Efrog newydd, Rudy Giuliani, neu unrhyw un arall asgell dde sy'n cefnogi perchnogaeth gyhoeddus o feysydd awyr yn yr Unol Daleithiau o beidio â bod yn gyfalafwyr. Ni fyddech yn cyhuddo Nicolas Sarkozy ac ni fyddech wedi cyhuddo Jacques Chirac o fod yn wrth-gyfalafol am eu cefnogaeth o berchnogaeth gyhoeddus Charles de Gaulle a llawer, llawer o feysydd awyr eraill yn Ffrainc.

Nawr, ar ddechrau'r ddadl hon, cynigiais weithio ar y cyd ag Aelodau yn y Siambr hon, a dyna'r sefyllfa o hyd. Ond, os gwelwch yn dda, peidiwch â defnyddio ystadegau wedi eu dethol yn ofalus a'u cyflwyno mewn modd sydd wedi'i gynllunio i ystumio dyfodol y maes awyr. A heddiw, credaf y crybwyllwyd unwaith eto yr ystadegyn hwnnw a ddefnyddir amlaf gan y rhai sy'n dymuno bychanu'r maes awyr, ac mae'n ymwneud â'r benthyciad—y buddsoddiad—sy'n cael ei wneud yn y maes awyr. Ond fel y dywedodd Jenny Rathbone yn gwbl briodol, mae'r buddsoddiad cymharol fach hwnnw yn y maes awyr yng Nghaerdydd yn ddibwys o'i gymharu â rai o'r dyledion sydd gan lawer o feysydd awyr eraill, gan gynnwys maes awyr Bryste sydd â baich dyledion o fwy na £0.5 biliwn.

Nawr, roeddwn yn credu bod Nick Ramsay wedi gwneud sylw hollbwysig—ei bod hi'n hanfodol inni ystyried effaith cwymp unrhyw gwmnïau awyrennau pan fyddwn yn ystyried cefnogi'r maes awyr gyda benthyciadau masnachol. Gallaf ddweud wrth yr Aelodau ein bod ni, yn rhan o'n gwaith diwydrwydd dyladwy, wedi profi cryfder ariannol y maes awyr petai cwmni Flybe yn mynd i'r gwellt. Nawr, nid yw Maes Awyr Caerdydd yn yr un sefyllfa ag y mae llawer o feysydd awyr rhanbarthol bach eraill ynddi heddiw o ganlyniad i gwymp Flybe—meysydd awyr fel Southampton, lle y darparwyd 95 y cant o drafnidiaeth gan Flybe, neu feysydd awyr eraill sydd mewn sefyllfaoedd tebyg, megis Belfast neu Gaerwysg—ac mae hynny oherwydd yr arallgyfeirio sydd wedi digwydd yn y maes awyr yn y ddwy flynedd ddiwethaf. Roedd hi'n ddiddorol yr wythnos diwethaf, Dirprwy Lywydd, fod y BBC wedi ail-redeg stori ar-lein o 2018. Roedd y pennawd rywbeth yn debyg i 'Byddai cwymp Flybe yn drychinebus i Faes Awyr Caerdydd'. Nid yw hynny'n wir heddiw, ond byddai wedi bod yn wir yn 2018. Rwyf yn argyhoeddedig, petai'r Ceidwadwyr wedi ennill yr etholiad yn 2016 ac wedi gwerthu'r maes awyr ar ôl yr etholiad hwnnw, yna heddiw, o ganlyniad i gwymp Flybe, y byddai'r maes awyr wedi mynd i'r wal hefyd.

16:35

Rwy'n ddiolchgar i chi am dderbyn yr ymyriad. Efallai yr hoffech chi fanteisio ar y cyfle hwn i rannu â'r Siambr y newyddion a roesoch chi i mi ynglŷn â'r swyddi Flybe sydd eisoes wedi'u hachub yn y maes awyr. Wrth gwrs, nid yw hynny'n gysur i'r rheini sy'n cael eu cyflogi mewn meysydd awyr eraill nad oeddent mor ffodus, ond rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol i glywed hynny ar goedd ac y byddai efallai'n gysur.

Rwy'n credu ei fod yn bwysig iawn. Mae Helen Mary Jones yn gwneud pwynt pwysig iawn am yr effaith y mae cwymp Flybe wedi ei chael ar bobl, ac mae'n dda gennyf ddweud, o ganlyniad i Loganair yn ymyrryd ac yn rhedeg y gwasanaeth o Gaerdydd i Gaeredin, maen nhw wedi rhoi blaenoriaeth i swyddi staff Flybe ac mae hyn yn cynnwys ym Maes Awyr Caerdydd. Fe'm calonogwyd hefyd gan drafodaethau diweddar iawn y mae'r maes awyr yn eu cael gyda chwmnïau hedfan eraill a allai gamu i'r adwy a chymryd ehediadau hanfodol bwysig o dan eu hadain. 

Hoffwn ddweud fy mod yn wirioneddol ddiolchgar i'r Ceidwadwyr Cymreig am eu cefnogaeth i'n safbwynt ar y doll teithwyr awyr a'u cefnogaeth i'r alwad am sefydlu ehediad rhwng Caerdydd a Manceinion. Mae'n eironig serch hynny oherwydd, wrth gwrs, fe wnaethom ni ofyn i Lywodraeth y DU hyrwyddo rhwymedigaeth gwasanaeth cyhoeddus o Gaerdydd i Fanceinion a gwrthodasant wneud hynny, i'r Comisiwn Ewropeaidd.

Felly, gofynnaf am gefnogaeth yr holl Aelodau wrth alw ar Lywodraeth y DU i ystyried tri mesur hanfodol bwysig yn ei hadolygiad o gysylltedd rhanbarthol. Yn gyntaf, dileu'r baich costau rheoleiddio ar feysydd awyr rhanbarthol, fel y gwneir yn Ewrop. Yn ail, agor ehediadau rhwymedigaeth gwasanaeth cyhoeddus newydd rhwng rhanbarthau'r DU a hefyd i Ewrop. Yn drydydd ac yn olaf, ond yn hanfodol bwysig, y doll teithwyr awyr: datganoli hon i Gymru fel bod gennym ni reolaeth i gyflawni ein hamcanion polisi.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn gwelliant 1. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Iawn. Felly, gohiriwn y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Cyn i ni symud i'r cyfnod pleidleisio a'r ddadl Cyfnod 3 ar y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru), byddaf yn atal y trafodion am 15 munud. Dyna bymtheg munud. Cenir y gloch bum munud cyn inni ailymgynnull, ond a gaf i annog yr Aelodau i ddychwelyd i'r Siambr ar unwaith? Felly, egwyl o 15 munud ac fe genir y gloch bum munud cyn inni ailymgynnull. Felly, mae'r cyfarfod llawn bellach wedi'i ohirio.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 16:38.

Ailymgynullodd y Cynulliad am 16:59, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

16:55
10. Cyfnod Pleidleisio

Dyma ni'n cychwyn ar ein cyfnod pleidleisio, felly. Mae'r unig bleidlais nawr ar y ddadl ar Maes Awyr Caerdydd. Y gwelliant cyntaf fydd y gwelliant cyntaf i'w gymryd—gwelliant 1, felly—a dwi'n galw am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly mae gwelliant 1 wedi ei wrthod. 

NDM7290 - Gwelliant 1: O blaid: 12, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 2 yw'r ail bleidlais, a dwi'n galw am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Caroline Jones. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 37 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 2 wedi ei wrthod.

17:00

NDM7290 - Gwelliant 2: O blaid: 13, Yn erbyn: 37, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 3—rwy'n galw am bleidlais ar welliant 3, yn enw Caroline Jones. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 37 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 3 wedi ei wrthod.

NDM7290 - Gwelliant 3: O blaid: 14, Yn erbyn: 37, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Mae'r bleidlais nesaf, felly, ar y cynnig—y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 39, neb yn ymatal, 12 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.

NDM7290 - Dadl: Maes Awyr Caerdydd: O blaid: 39, Yn erbyn: 12, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

11. Dadl: Cyfnod 3 y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru)

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw'r Cyfnod 3 ar gyfer y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru).

Grŵp 1: Dyletswydd i sicrhau ansawdd mewn gwasanaethau iechyd—cynllunio’r gweithlu a lefelau staffio priodol (Gwelliannau 21, 22, 23, 24, 25, 26, 27, 28, 29, 30, 31, 32, 33, 34)

Mae'r grŵp cyntaf o welliannau yn ymwneud â'r ddyletswydd i sicrhau ansawdd mewn gwasanaethau iechyd—i gynllunio'r gweithlu a lefelau staffio priodol. Gwelliant 21 yw'r prif welliant yn y grŵp. Dwi'n galw ar Angela Burns i gynnig y prif welliant ac i siarad i'r gwelliant a'r grŵp. Angela Burns.

Cynigiwyd gwelliant 21 (Angela Burns, gyda chefnogaeth Caroline Jones).

Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n cyflwyno'r gwelliannau'n ffurfiol yma yn fy enw i. Hoffwn, ar y dechrau, Gweinidog, ddweud bod y rhain yn welliannau treiddgar. Mae gennych y cyfle, drwy eich ymateb, i sicrhau nad oes raid inni dreulio amser yn pleidleisio o 21 i 34.

Ailgyflwynwyd y gwelliannau hyn gennym ni o Gyfnod 2. Fe'u cyflwynwyd yn flaenorol fel cymysgedd gan Helen Mary Jones a mi, ac maen nhw'n cefnogi argymhelliad 4 y Pwyllgor, oherwydd credaf fod angen cofio sylwadau'r Coleg Nyrsio Brenhinol ar y Mesur yng Nghyfnod 1, a oedd yn nodi bod y Mesur hwn yn gyfle delfrydol i Lywodraeth Cymru fwrw ymlaen ag egwyddorion Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 ac ehangu ei chymhwysedd. Mae'n arbennig o berthnasol i adran 25D o'r Ddeddf hon, sy'n ymwneud â sicrhau y gall byrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau'r GIG ymgymryd â'r darpariaethau hyn i'w galluogi i gydymffurfio â'u dyletswyddau o dan y Ddeddf hon.

Nawr, does bosib bod hyn yn cyd-fynd â'r hyn a ddywedodd y Gweinidog yng Nghyfnod 1 hefyd, sef bod y ddyletswydd ansawdd yn fwy na newid diwylliannol, ac rwy'n cytuno ag ef. I gael newid diwylliannol, dylai pob grŵp o staff clinigol fod yn rhan o gynllunio'r gweithlu'n ddigonol. Mae gwelliant 33 yn amlinellu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd camau rhesymol i sicrhau bod nifer digonol o staff gofal iechyd penodol, gan gynnwys nyrsys, bydwragedd ac ymarferwyr meddygol. Fel y nodais yng Nghyfnod 2, roedd yn dorcalonnus o eglur yn achos Cwm Taf fod nifer o ffactorau, gan gynnwys lefel annigonol o fydwragedd, wedi achosi'r methiant trychinebus yn y ddarpariaeth o ofal diogel a welsom yno.

Felly, credwn mai dyletswydd Llywodraeth Cymru yw sicrhau na fydd hyn yn digwydd eto, ac rydym yn credu bod y Bil hwn yn gyfrwng da iawn i wneud hynny. Ni cheir adroddiadau rheolaidd am swyddi gwag ar gyfer bydwragedd, ac ni fydd adolygiad cenedlaethol Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru o wasanaethau mamolaeth yng Nghymru yn cael ei gyhoeddi tan yn ddiweddarach yn yr haf. Felly, heb y data allweddol hyn ar sail barhaus, yn hytrach nag adolygiad untro, ni wyddom a oes digon o staff mamolaeth ym mhob Bwrdd Iechyd yng Nghymru.

Bwriad rhan gyntaf gwelliant 34, sef y ddyletswydd i sicrhau lefelau staffio priodol, yw mynnu bod Llywodraeth Cymru yn cadw at yr un safonau a disgwyliadau â chorff y GIG. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i'r Gweinidog ddangos pa gamau a gymerwyd i gyflawni hyn. Nawr, gadewch imi fod yn glir, gyda'r achosion a welwn bellach o COVID-19 yn ymddangos yng Nghymru, a chan nodi'r pwysau posibl ar staffio os bydd yr haint yn lledu, dyma'r amser i fonitro pwysau o fewn y system iechyd, fel ein bod yn gwybod a all ein byrddau iechyd lleol ddarparu'r lefelau gofal diogel hynny.

Bydd ail ran ein gwelliant ni, y ddyletswydd i gael asesiad staffio amser real ar waith, yn sicrhau y caiff lefelau staffio eu monitro'n rheolaidd fel bod cyrff y GIG a'r Gweinidogion yn ymateb i faterion wrth iddyn nhw ddigwydd ar y pryd, yn hytrach na dim ond ymateb i weithdrefnau y cytunwyd arnyn nhw fisoedd neu flynyddoedd ynghynt. Fel y nodais yng Nghyfnod 2, mae materion eisoes yn codi o ran lefelau diogel nyrsio, gan fod y Coleg Nyrsio Brenhinol yn dal i bryderu nad yw Llywodraeth Cymru na GIG Cymru yn cyhoeddi ffigurau cenedlaethol ar gyfer swyddi nyrsio gwag gan ddefnyddio diffiniad y cytunwyd arno o'r hyn yw swydd wag. Ac nid yw data blynyddol a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru ar lefelau nyrsio yn adlewyrchu'n ddigonol anghenion cleifion na'r broses o ddatblygu gwasanaethau, gan gynnwys cydafiacheddau a phoblogaeth sy'n heneiddio.  

Bydd trydedd ran a rhan olaf y gwelliant, y ddyletswydd i roi proses uwchgyfeirio risg ar waith, yn rhoi i bob aelod staff fecanwaith clir ar gyfer codi pryderon os ydynt yn gweithio mewn lleoliadau lle teimlant nad yw'r lefelau staffio sydd ar gael yn ddiogel. 

Yng Nghyfnod 2, nododd y Gweinidog na fyddai'n cefnogi'r gwelliannau hyn—felly, rwy'n deall ar hyn o bryd—oherwydd nid y Mesur fyddai'r dull priodol o wneud newid o'r maint hwn, a byddai cymhwyso unrhyw egwyddorion o ddeddf lefelau staff nyrsio i bob grŵp staffio clinigol arall yng Nghymru, heb fod yr un faint o ystyriaeth a chraffu, yn amhriodol ac anghyson. Eto, fel yr ydym wedi dweud mor aml o'r blaen am ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru, mae darpariaethau'r Bil ar ddyletswydd ansawdd yn rhy eang. Felly mae perygl iddo fod yn nod yn hytrach na dyletswydd, heb fecanweithiau penodol i fyrddau iechyd ymgymryd â'r camau angenrheidiol i sicrhau y caiff ei gynnal a'i fonitro fel mater o drefn.  

Rwyf hefyd, Gweinidog, yn amau eich pryderon ynghylch yr ystyriaethau ariannol. Bydd cael lefelau staffio priodol ar waith yn costio llai o arian i gyrff y GIG a Llywodraeth Cymru yn y tymor hir oherwydd salwch ac afiechydon sy'n ymwneud â straen, yn ogystal â gwell iechyd meddwl i'r holl staff. Mae'r gwelliannau hefyd yn cydnabod nad yw'r pwyslais ar gyrff y GIG yn unig, a bod gan Lywodraeth Cymru ran i'w chwarae yn nyfodol hirdymor lefelau staffio cyrff y GIG.

Rwy'n nodi'r pwyntiau a godwyd gennych yng Nghyfnod 2 yn eich llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar 26 Chwefror. Dywedasoch fod Atodlen 3 i'r Mesur yn diwygio is-adran 47 Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 i'w gwneud yn ofynnol i gyrff y GIG ystyried y safonau gofal iechyd. Fodd bynnag, fel yr amlinellir yn fy ngwelliannau yng ngrŵp 7, nid yw'r safonau hyn wedi'u diweddaru ers 2015. Ers hynny rydym wedi cael poblogaeth sy'n heneiddio'n gyflym, yn ogystal â datblygiadau mewn technoleg sy'n golygu eu bod bellach ar eu hôl hi. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog amlinellu amserlen ar gyfer y safonau diwygiedig, yn ogystal â rhoi ar glawr ei ymrwymiad i fecanwaith clir i adolygu'r safonau hyn yn rheolaidd.

Gweinidog, pe baech yn barod i ateb y cwestiynau hyn am y safonau iechyd a gofal, yn ogystal ag ymrwymo i gefnogi gwelliannau 36 a 37, byddwn yn fodlon tynnu'r gwelliannau hyn yn ôl.

17:05

Mi fyddwn ni ar feinciau Plaid Cymru yn cefnogi'r gwelliannau yma, ond mi fyddwn i'n dymuno jest cymryd eiliad bach i egluro sut y byddwn ni yn ymwneud â'r Bil yma yn gyffredinol ar y dechrau fel hyn hefyd. 

Mae yna nifer o resymau pam yr ydym ni'n credu nad allwn ni gefnogi y Bil fel y mae o, a'i bod hi'n annhebygol y byddwn ni'n gallu cefnogi'r Bil ar ôl inni fynd drwy y broses rydyn ni'n mynd drwyddi heddiw. Mae nifer o resymau, a'r pennaf o'r rheini, am wn i, ydy y byddai'r Bil yma yn gwanhau llais y claf drwy gael gwared ar y cynghorau iechyd cymuned hynny sydd wedi bod yn lleisiau cryf dros y cleifion, ac yn sicr mae hynny'n wir yn y rhan o Gymru dwi yn byw ynddi hi yn y gogledd. Ac mae methiant y Bil i gynnig yn lle'r hyn sydd gennym ni rŵan fodel fyddai'n cynnig yr un annibyniaeth, yr un ddealltwriaeth o realiti ac anghenion gwasanaethau iechyd a gofal mewn gwahanol rannau o Gymru. 

Ond mae yna rannau eraill o'r Bil rydyn ni hefyd yn teimlo sy'n annigonol. Beth sydd gennym ni yma ydy Bil sydd, mae'n ymddangos, yn rhoi safon a safonau wrth galon cynllunio gwasanaethau, ond sy'n methu wedyn â diffinio yn ddigon eglur ac yn ddigon cadarn beth ydy'r safonau disgwyliedig hynny, yn cyfeirio'n hytrach at safonau iechyd a gofal, ac mae'r ddogfen ddiweddaraf sydd yn diffinio'r rheini wedi dyddio—2015, dwi'n credu. Felly, mae yna wendidau yma rydyn ni'n gresynu ein bod ni wedi methu â mynd i’r afael â nhw mewn ffordd briodol yn ystod taith y Bil drwy'r Senedd. Ac yn fan hyn, dwi’n talu teyrnged i Helen Mary Jones am y gwaith y gwnaeth hi pan oedd hi’n llefarydd iechyd Plaid Cymru yng nghyfnod cynharach y daith drwy'r Senedd.

Gan droi at y gwelliannau penodol, mae'n siŵr y bydd y Gweinidog, mi wn, yn dweud heddiw fod y safonau iechyd a gofal eisoes yn ystyried yr angen am gynllunio'r gweithlu. Mae safon 7.1 yn dweud: 

'Dylai gwasanaethau iechyd sicrhau bod digon o staff â’r wybodaeth a sgiliau cywir ar gael ar yr amser cywir i ddiwallu’r angen.'

A yw hynny'n ddigon ynddo'i hun? Mae yna hefyd ystod o feini prawf sy'n cael eu defnyddio i egluro beth mae hynny'n ei olygu. Mae hynny'n cynnwys materion fel mynd i raglenni hyfforddi, bod y gweithlu'n gallu mynegi pryderon, bod gan fyrddau iechyd gynlluniau gweithlu effeithiol. Dyna'r hyn sy'n cael ei ddweud wrthym ar hyn o bryd. Ond fe ofynnaf i chi, fel Aelodau: a ydym yn credu o ddifrif fod y meini prawf hyn yn cael eu dilyn ar hyn o bryd? Mae'r dystiolaeth a welaf yn dangos nad ydynt, ac mae gennym gyfle yn y Mesur hwn i gryfhau hynny. Mae arnom angen rhywbeth mwy cadarn. Byddwn yn awgrymu cyfeiriad uniongyrchol at y gweithlu ar wyneb y Bil.

Felly, byddwn yn cefnogi'r gwelliannau hyn ar y gweithlu gan na allwch gael GIG heb weithlu, ac rwy'n gobeithio'n ddidwyll y bydd y gwelliannau hyn yn cael eu pasio.

17:10

Meddyliais yn hir ac yn galed ynghylch a ddylwn gyflwyno fy ngwelliannau fy hun i'r Bil hwn, ac yn y diwedd, rwyf wedi dewis cefnogi gwelliannau a gyflwynwyd gan fy nghyd-Aelodau. Holl ddiben diwygio deddfwriaeth yw ei gwella, er mwyn sicrhau y bydd y Ddeddf ganlyniadol o fudd i'r bobl a'n dewisodd ni i'w cynrychioli. Yn hytrach na chael pob un ohonom yn mynd ein ffordd ein hunain gyda gwelliannau yn cystadlu yn erbyn ei gilydd, roedd yn well rhoi gwahaniaethau pleidiol o'r neilltu, ac ar ddiwedd y dydd, nid yw'n bwysig i bobl Cymru un a gyflwynwyd gwelliannau gan Lywodraeth Cymru, y Ceidwadwyr Cymreig, Plaid Cymru neu gan barti Brexit. Y cyfan sy'n bwysig yw bod y ddeddfwriaeth hon yn cyflawni ei nod datganedig o wella ansawdd ac ymgysylltu ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Dewisais gefnogi gwelliannau Angela yn y grŵp hwn oherwydd, fel hithau, nid wyf yn credu bod Llywodraeth Cymru wedi mynd yn ddigon pell o ran ei dyletswydd i sicrhau ansawdd mewn gwasanaethau iechyd. Oherwydd diffyg cynllunio strategol ar gyfer y gweithlu, mae prinder staff yn y GIG, sydd, yn ei dro, wedi cael effaith sylweddol ar wasanaethau yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Os ydym eisiau gwella ansawdd iechyd a gofal cymdeithasol, rhaid inni sicrhau bod gan ein staff rhagorol yr amser i ofalu. Gan fod Llywodraethau o bob lliw wedi methu â chynllunio'r gweithlu'n ddigonol, mae gennym brinder staff yn gyffredinol. Mae llawer o adrannau ysbytai ond yn gweithredu oherwydd lefelau arwrol o ysbryd penderfynol ymhlith y staff. Yn anffodus, mae'r achosion o orweithio a diffygio yn real iawn. Gallwn ond sicrhau ansawdd os oes gan ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ddigon o unigolion cymwysedig, cymwys a medrus, ac anogaf yr Aelodau i gefnogi'r gwelliannau yn y grŵp hwn.

Ysgrifennodd un o'm hetholwyr ataf y mis diwethaf ar ôl cyhoeddi'r adroddiad ar archwiliad o wasanaethau fasgwlaidd ysbytai a adawodd bobl yn bryderus yng Ngogledd Cymru. Cafodd hwn ei ysgrifennu gan Gyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru, y corff gwarchod cyhoeddus sy'n dwyn Bwrdd Iechyd Betsi i gyfrif, ac y mae Llywodraeth Cymru yn ystyried ei ddiddymu—ebychnod. Fel y dywedodd y sector wrthyf, dim ond cyrff annibynnol sy'n rhoi gwir her.

Diddymwyd cynghorau iechyd cymuned yn Lloegr yn 2003. Cymerodd dair blynedd i'w diddymu a chafwyd llawer o wrthwynebiad. Roedd tynged cynghorau iechyd cymuned Lloegr wedi'i selio pan darodd Llywodraeth y DU ar y pryd fargen â gweinyddiaethau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ar y pryd, gan ganiatáu iddynt gadw eu cynghorau iechyd cymuned eu hunain pe baent yn cefnogi diddymu cynghorau iechyd cymuned Lloegr.

Canfu adroddiad Francis fod cynghorau iechyd cymuned yn Lloegr

bron yn ddieithriad yn cymharu'n ffafriol yn y dystiolaeth â'r strwythurau a ddaeth ar eu hôl. Mae'n eithaf clir erbyn hyn, 

dywedodd yr adroddiad,

bod yr hyn a wnaeth eu disodli, dwy ymgais i ad-drefnu mewn 10 mlynedd, wedi methu arwain at lais gwell i gleifion a'r cyhoedd, ond wedi cyflawni'r gwrthwyneb.

Ac roedd Andy Burnham, a oedd yn AS ar y pryd, yn amau, wrth edrych yn ôl, ddoethineb diddymu cynghorau iechyd cymuned. Dywedodd nad honno oedd awr orau Llywodraeth y DU ar y pryd:

Mae'n ymddangos ein bod wedi methu cyflwyno rhywbeth i gymryd lle'r cynghorau iechyd cymuned a wnaeth y gwaith yn dda.

Wel, profiad ymarferol y rhai a oedd yn gweithio yn y sefydliadau a ddilynodd cynghorau iechyd cymuned yn Lloegr oedd bod gwaith monitro a chraffu effeithiol wedi'i golli am gyfnod sylweddol bob tro yr oedd ad-drefnu'n digwydd.

Fel y dywedais yma dair blynedd yn ôl, o ran staffio, flwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi diystyru'r rhybuddion ein bod yn wynebu argyfwng meddygon teulu yn y gogledd, a roddwyd gan gyrff proffesiynol, gan gynnwys BMA Cymru Wales, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol Cymru, a gennyf fi a chydweithwyr yng Nghabinet yr wrthblaid ar ran staff GIG Cymru a chleifion sydd wedi codi eu pryderon gyda ni.

Wrth siarad yma ym mis Ionawr, sylwais fod y Coleg Nyrsio Brenhinol, ar ddiwedd 2019, wedi lansio ei adroddiad 'Cynnydd a Her' ar weithredu Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016, a ddywedodd:

Mae'r gweithlu nyrsio yng Nghymru yn wynebu argyfwng cenedlaethol. Mae’r niferoedd uchel o swyddi gwag...o leiaf rhyw 1600 yn ôl yr amcangyfrif'—

dyfynnaf—

wedi’u hategu gan brinder mawr yn y sector cartrefi gofal a’r colledion sylweddol posibl o ganlyniad i ymddeoliad yn y...10 mlynedd nesaf.

Maent yn gofyn cwestiynau i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys:

Sut y mae’r trefniadau 'mesurau arbennig'—

ar gyfer Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr—

yn monitro ac yn cefnogi’r Bwrdd i gydymffurfio â’r Ddeddf?

A fyddwch yn cynyddu nifer y myfyrwyr nyrsio yn unol â chais Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr?

A fyddwch yn cefnogi lleoliad myfyrwyr nyrsio heb eu comisiynu—

o Brifysgol Glyndŵr—

yn unol â chais Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr?

Wel, mae BMA Cymru Wales bellach yn galw am ymgorffori staffio diogel mewn deddfwriaeth Gymreig, gyda chefnogaeth Coleg Brenhinol y Nyrsys Cymru, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol Cymru, Academi Colegau Meddygol Brenhinol Cymru, Coleg Brenhinol y Ffisigwyr Cymru, Coleg Brenhinol y Llawfeddygon Caeredin a Choleg Brenhinol y Bydwragedd Cymru. Dywedant fod diogelwch cleifion yn dibynnu ar feddygon a staff gofal iechyd yn gweithio mewn system ddiogel, ond, oherwydd yr argyfwng parhaus o ran trin a chadw gweithwyr yn y GIG, nid yw meddygon bellach yn teimlo bod hyn yn wir, ac maen nhw'n ofni y bydd iechyd eu cleifion mewn perygl. Maen nhw'n dweud bod Cymru wedi cydnabod pwysigrwydd deddfu ar gyfer lefelau diogel staff nyrsio gyda'r Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru). Maen nhw'n dweud bod yr Alban wedi cymryd camau i ddeddfu ar staffio diogel gyda Deddf Iechyd a Gofal (Staffio) (yr Alban) 2019, a basiwyd gyda chefnogaeth drawsbleidiol. Dywedant fod meddygon yn wynebu mwy o bwysau, bod staff meddygol yn cael eu gwthio i'r pen, a bod nifer y swyddi gwag yn dal i ddringo. Dywedant nad oes digon o feddygon i lenwi bylchau yn y rota, ac mai'r sgil-effaith anochel yw gostyngiad mewn safonau gofal i gleifion.

Ar y cyd, roeddent yn croesawu argymhelliad 4 gan adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, y cyfeiriodd Angela Burns ato, yn argymell

'bod y Gweinidog yn diwygio’r Bil i wneud darpariaeth benodol ynghylch cynllunio’r gweithlu/lefelau staffio priodol, a hynny fel rhan o’r ddyletswydd ansawdd.'

Dywedasant hefyd eu bod yn credu bod yn 'rhaid i'r canllawiau gael eu cynnwys yn rhan 2 o'r Bil fel y gall Llywodraeth Cymru, o leiaf, gyflwyno canllawiau i gyrff y GIG sy'n rhoi gwybod iddynt sut y gallant gyflawni'r ddyletswydd ansawdd. Dylai'r canllawiau hyn fynd i'r afael â'r angen am gynllunio gweithlu effeithiol.' Mae proses ganllaw debyg wedi'i nodi yn yr adran ar ddyletswydd gonestrwydd.

Rwyf felly'n annog y Cynulliad hwn i gefnogi gwelliannau Angela Burns. Croesawaf y gefnogaeth o bob rhan o'r Siambr, ond nodaf, os gall y Gweinidog gyflwyno ei gynigion ei hun i fynd i'r afael â'r pryderon hyn, y byddai Angela yn tynnu ei gwelliannau'n ôl. Rydym yn aros i glywed beth fydd ganddo i'w ddweud. Diolch.

17:15

Diolch ichi, Llywydd. Rwyf am ddiolch, ar y dechrau, i'r bobl sydd wedi gweithio ar y Bil hwn hyd yma, y gwaith craffu yr ydym wedi'i wneud drwy broses y pwyllgor, yn ogystal â swyddogion a phawb a fu'n ymwneud â chyfnodau'r Papur Gwyn ac ymgynghori ehangach. Bydd gennym amrywiol bwyntiau o anghytundeb, a rhai pwyntiau o gytundeb, yn ystod hynt y noson hon. Fydda i ddim yn ymateb i rai o'r sylwadau ehangach am y trefniadau yn y dyfodol i ddisodli'r cynghorau iechyd cymuned; byddwn yn dod at y grŵp hwnnw yn nes ymlaen yn y Bil.

O ran staffio, wrth gwrs, mae'r Llywodraeth hon yn cefnogi'r egwyddor o gael digon o staff yn ein gwasanaeth iechyd: cael y staff iawn yn y lle iawn gyda'r sgiliau iawn.

Rwyf eisiau ymdrin â'r gwelliannau yn y grŵp hwn mewn dwy ran: yn gyntaf, a ddylai'r diffiniad o ansawdd gynnwys lefelau staffio ei hun yn benodol, ac, yn ail, diwygio'r Bil i gynnwys dyletswydd staffio.

Rwyf eisiau bod yn glir: mae'r ddyletswydd ansawdd, fel y'i drafftiwyd, yn fwriadol eang. Mae'n crisialu pob agwedd ar y gwasanaeth iechyd ac mae'n ymwneud â phopeth y mae'r gwasanaeth iechyd yn gyfrifol amdano. Mae ystyriaethau'r gweithlu yn amlwg yn alluogydd allweddol i gyflawni'r ddyletswydd ansawdd. Ni all yr un corff sicrhau ei fod yn darparu gwasanaethau sydd, er enghraifft, yn ddiogel ac yn effeithiol ac sy'n rhoi profiad da oni bai ei fod wedi ystyried y mathau a'r niferoedd o staff sydd eu hangen i gyflawni hynny.

Ac rydym yn fwriadol yn defnyddio'r diffiniad o ansawdd a gydnabyddir yn rhyngwladol a gyflwynwyd gan y cyn Sefydliad Meddygaeth yn yr Unol Daleithiau, a'r gŵr a aeth yn ei flaen i arwain y sefydliad hwnnw oedd Don Berwick, a gymerodd ran fel un o'n harbenigwyr rhyngwladol yn yr adolygiad Seneddol wedi'i gymeradwyo ar draws y pleidiau. Fel y dywedais, mae cael y staff iawn yn y lle iawn gyda'r sgiliau iawn, i bob pwrpas, yn adnodd sydd ei angen i sicrhau gwelliannau mewn ansawdd. Nid yw staffio ynddo'i hun yn golygu ansawdd. Mae'r gweithlu yn alluogwr allweddol a'r mwyaf arwyddocaol o ran gallu sicrhau gwelliannau mewn ansawdd.

Nawr, fel y dywedwyd, mae Atodlen 3 y Bil yn cysylltu'r ddyletswydd ansawdd â'r safonau iechyd a gofal, sydd â thema gyfan, gyda manylion ar staff ac adnoddau. Felly, bydd angen i gyrff y GIG ddangos eu bod wedi rhoi ystyriaeth lawn i faterion y gweithlu wrth gyflawni'r ddyletswydd ansawdd.

Fel y nodais o'r blaen, ac yn enwedig yn y trafodaethau defnyddiol ac adeiladol a gawsom ar ôl cyfnod 2 gyda phleidiau eraill, mae'r safonau'n cael eu hadolygu'n rheolaidd, ac, mewn gwirionedd, mae adolygiad ar fin digwydd o fewn y flwyddyn hon. Yn amlwg, bydd hynt y Bil hwn neu fel arall yn helpu i lywio'r adolygiad o'r safonau hynny a'r fframwaith yr ydym yn disgwyl i bobl ymateb iddo.

Bydd y canllawiau statudol yn ymdrin â'r modd y cymhwysir y ddyletswydd ar draws holl swyddogaethau'r gwasanaeth iechyd, a bydd yn ddiamau yn tynnu sylw at bwysigrwydd cynllunio'r gweithlu, ynghyd â'r gofyniad i ystyried sicrhau gwelliannau drwy feysydd fel atal, gwella iechyd, a chymryd camau i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb mewn canlyniadau.

Rwy'n falch o gadarnhau bod y Coleg Nyrsio Brenhinol a Chymdeithas Feddygol Prydain wedi cynnig cydweithio â ni i ddatblygu'r canllawiau, ac wrth gwrs rwy'n croesawu'r cynnig hwnnw'n fawr. Felly, yn fy marn i, nid oes angen y gwelliannau ar lefelau staffio sy'n cael eu cynnwys yn y diffiniad o ansawdd.

Gan droi at y gwelliannau sy'n ceisio ymestyn y ddyletswydd staffio i Weinidogion Cymru, rhaid imi ddweud ar y dechrau fy mod yn gadarn o'r farn nad yw newid o'r maint hwn drwy wneud gwelliannau i Fil yn ffordd briodol o fynd ati. Roedd Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 yn elwa ar waith cynllunio sylweddol ac ystyriaethau o ran y goblygiadau ariannol, a bu'n destun craffu llawn y byddem i gyd yn ei ddisgwyl ar gyfer darn o ddeddfwriaeth mor nodedig. Ac roedd yn bwysig sicrhau ei fod yn cael ei wneud yn y ffordd gywir. Byddai'n gwbl amhriodol cymhwyso unrhyw un o egwyddorion y Ddeddf honno i bob grŵp arall o staff clinigol yng Nghymru a hynny heb yr un gofal, ymgynghori, ystyried a chraffu.

Cydnabu'r Coleg Nyrsio Brenhinol yn ei dystiolaeth ei hun i'r Pwyllgor Iechyd nad yw newid o'r maint hwn yn rhywbeth y mae'n ei gredu sy'n addas i'w gyflawni drwy welliant. O ystyried nid yn unig y prif fesurau, ond hefyd y mesurau proses fel y'u nodir yn y gwelliannau manwl iawn ar gyfer dulliau adrodd, byddai'n rhaid ichi wneud cryn dipyn o waith ariannol ar y goblygiadau i'r gweithlu yn ogystal â nodi faint o staff sydd ar gael a bod ganddynt yr offer i gyfrifo staff—y lefelau priodol o staff—mewn gwahanol leoliadau.

Yn achos mewnosod adran 25AA, fel y nodir yn y gwelliant a gyflwynwyd gan Angela Burns, byddai'n amhriodol ac yn anymarferol pennu dyletswydd o'r fath ar Weinidogion Cymru pan mai ein byrddau iechyd a'n ymddiriedolaethau sydd â'r cyfrifoldeb gweithredol hwnnw dros ystyriaethau staffio. Yn ei hanfod, mae'r gwelliant arfaethedig yn estyniad i adran 25A o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 i'r holl staff clinigol, ac mae'n amlwg iawn yn ddyletswydd ar fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau.

Mae'n bwysig cydnabod bod gan gyrff y GIG drefniadau ar waith eisoes i sicrhau bod rheolwyr ac uwch benderfynwyr yn cael gwybod am brinder staff pan fydd hyn yn debygol o beri risg i ddiogelwch cleifion. Mae'r trefniadau hyn yn cynnwys penderfyniadau i'w gwneud 'yn ystod oriau gwaith' a 'thu allan i oriau gwaith arferol', ac mae hynny'n cynnwys trefniadau i hysbysu Aelodau'r Bwrdd Gweithredol lle bo hynny'n briodol, er mwyn iddynt wneud dewisiadau.

Felly, ni allaf gefnogi'r gwelliannau a gyflwynwyd yn y maes hwn, a gofynnaf i'r Aelodau eu gwrthwynebu.

17:20

Diolch, Llywydd. Tybiaf nad yw eich ateb yn syndod mawr, Gweinidog, i unrhyw un ohonom sy'n credu'n angerddol bod angen ichi gael y staff iawn yn y lle iawn ar yr adeg iawn er mwyn cael dyletswydd ansawdd. Ac rwy'n credu i'r rheini ohonom sydd wedi gweld dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf dro ar ôl tro yr achosion lle nad oedd digon o staff ac nad oeddent yn y lle iawn ar yr adeg iawn ac mae wedi arwain at rai sefyllfaoedd trist a digalon iawn o fewn y GIG—.

Roedd y ddeddfwriaeth gychwynnol honno, pan ddaeth i rym gyntaf, fel y'i cyflwynwyd gan eich cyd-Aelod yn y Cabinet, Kirsty Williams, yn torri tir newydd. Ond nid ydym wedi gwneud dim i adeiladu arno, ac nid ydym wedi gwneud dim i'w ddatblygu o ddifrif. Nawr mae hyn yn cefnogi argymhelliad yn y pwyllgor iechyd. Roedd hwn yn argymhelliad lle gwnaethom gymryd llawer iawn o dystiolaeth gan dystion. Dyma y mae'r arbenigwyr yn ei ddweud. Nid mater o Angela Burns, y Ceidwadwyr Cymreig, neu Rhun ap Iorwerth, Plaid Cymru, neu Caroline Jones neu Blaid Brexit yn ceisio bod yn anodd ac yn dyfeisio rhywbeth yw hyn. Mae hyn mewn gwirionedd yn ganlyniad i dystiolaeth a ystyriwyd yn wirioneddol gan yr arbenigwyr. Ac os byddwch byth yn ei ddweud unwaith pan fyddwch yn sefyll yn y Siambr hon, rydych chi'n ei ddweud sawl gwaith: 'rhaid inni wrando ar y clinigwyr. Rhaid inni wrando ar y gweithwyr proffesiynol.' Fe wnaethom ni. Gwnaethom hynny, a dyna'r rheswm dros y gwelliannau hyn.

Nid wyf erioed wedi bod yn un sy'n hoffi deddfwriaeth ysgafn, os ydych yn gwneud deddfwriaeth, mae'n rhaid ichi ei gwneud yn dda iawn, fel bod ganddi ran wirioneddol effeithiol. A holl ddiben y Bil hwn yw ansawdd a gonestrwydd a chynrychioli cleifion. Ac ni allaf ddeall sut yr ydych yn gobeithio darparu'r lefel honno o ansawdd os oes siawns nad oes gennych y staff iawn, beth bynnag ydynt, yn y lle iawn ar yr adeg iawn.

Ac ychwanegaf un peth olaf. Rydych yn gwneud y sylw bod y byrddau iechyd eisoes i fod yn gwneud hyn. Wel, rydym yn gwybod nad ydyn nhw, felly hoffwn gynnig y gwelliannau hyn a gyflwynwyd yn fy enw i.

17:25

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 21? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Rydym ni'n symud, felly, i bleidlais ar welliant 21. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 28 yn erbyn, ac felly gwrthodwyd gwelliant 21.

Gwelliant 21: O blaid: 23, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 22 (Angela Burns, gyda chefnogaeth Caroline Jones).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 22? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, rydym ni'n symud i bleidlais ar welliant 22, a gynigiwyd yn enw Angela Burns. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 22.

Gwelliant 22: O blaid: 23, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 2: Dyletswydd i sicrhau ansawdd mewn gwasanaethau iechyd—ystyr ‘ansawdd’ (Gwelliannau 60, 61, 62, 63, 64, 65, 66, 67, 68, 69, 70, 71)

Y grŵp nesaf o welliannau yw'r grŵp sydd yn ymwneud â'r ddyletswydd i sicrhau ansawdd mewn gwasanaethau iechyd ac ystyr ansawdd. Gwelliant 60 yw'r prif welliant, a dwi'n galw ar Rhun ap Iorwerth i gynnig y gwelliant ac i siarad i'r grŵp. Rhun ap Iorwerth.

Cynigiwyd gwelliant 60 (Rhun ap Iorwerth).

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Byddwn i'n tybio bod y gwelliannau yma'n eithaf canolog at yr hyn rydym ni'n ei drafod heddiw. Mae hwn yn Fil sy'n ymwneud ag ansawdd o fewn iechyd a gofal, a gwelliannau ydy'r rhain ynglŷn â beth yn union rydym ni'n ei olygu wrth ansawdd, neu beth rydym ni'n ei olygu wrth y safon a safonau rydym ni'n eu disgwyl o fewn ein gwasanaethau ni yng Nghymru. Mae yna welliannau yma sy'n ymwneud ag atal afiechyd, mae yna welliannau yn ymwneud â chael gwared ar anghydraddoldebau iechyd, a hefyd gwelliannau ynglŷn ag anghenion i ddarparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg, achos rydym ni'n credu, yn y tri maes yna, bod angen ansawdd go iawn, bod angen safonau uchel yn yr hyn y dylem ni allu ei ddisgwyl. Dwi'n disgwyl i'r Gweinidog ymateb i'r ddadl yma drwy ddweud bod y safonau iechyd a gofal eisoes yn ystyried y materion hyn. Felly, gadewch inni edrych ar rai ohonyn nhw.

Mae safon 1.1, yn gyntaf, yn cyfeirio at ymddwyn yn ataliol ac yn ymwneud ag anghydraddoldebau iechyd. Mae o'n dweud:

'Mae pobl wedi’u grymuso ac yn cael eu helpu i gymryd cyfrifoldeb am eu hiechyd a’u lles eu hunain ac mae gofalwyr am unigolion sy’n methu rheoli eu hiechyd a’u lles eu hunain yn cael cymorth. Mae gwasanaethau iechyd yn gweithio mewn partneriaeth gydag eraill i ddiogelu a gwella iechyd a lles pobl a lleihau anghydraddoldebau iechyd.'

Dwi ddim yn teimlo bod hwnnw, ynddo'i hun, yn cael ei gyrraedd bob amser. Mae'n bosib bod angen mynd ymhellach na hynny.

Pan mae'n dod at yr iaith Gymraeg, does yna ddim rhan benodol ynglŷn â'r Gymraeg yn y safonau. Beth sydd yna ydy crybwyll y Gymraeg mewn rhannau eraill o'r safonau. Safon 2.7, er enghraifft, sy'n ymwneud â diogelu plant a diogelu oedolion sy'n wynebu risg, mae'n dweud hyn:

'Rhoddir blaenoriaeth i ddarparu gwasanaethau sy'n galluogi plant ac oedolion agored i niwed i fynegi eu hunain a chael gofal trwy gyfrwng y Gymraeg am fod eu gofal a'u triniaeth yn gallu dioddef pan nad ydynt yn cael eu trin yn eu hiaith eu hunain.'

Mae yna hefyd gyfeiriad at yr iaith Gymraeg yn y safonau fel ffordd o greu mynediad cyfartal i bawb i wasanaethau, yn dweud y dylai pobl weld bod parch yn cael ei ddangos tuag at eu hunaniaeth ddiwylliannol nhw, ac y dylen nhw allu cael mynediad at wasanaethau Cymraeg eu hiaith heb unrhyw rwystrau o'u blaenau nhw, er na fyddai pawb sy'n gyfrifol am roi y gofal iddyn nhw yn gallu siarad Cymraeg.

Ond safonau ydy'r rhain sydd yn eu lle ers 2015 a, wir, dwi ddim yn credu y buasai unrhyw un yn gallu dadlau bod pob sefydliad NHS yng Nghymru yn cyrraedd y mathau yna o safonau. Dwi'n meddwl bod y diffyg rhan benodol ynglŷn â'r iaith Gymraeg yn awgrymu nad ydy o wir yn cael ei ystyried yn bwysig iawn o ran yr ansawdd, o ran y safonau y dylid cael eu disgwyl gan bobl. Mae'n teimlo fel rhywbeth sydd wedi cael ei ychwanegu yna ar y diwedd.

Felly, rydym yn gwrthod y syniad bod y safonau presennol yn ddigonol a byddem yn ystyried pob un o'r tri chategori hynny yr wyf wedi sôn amdanynt—atal, lleihau anghydraddoldebau, a'r iaith Gymraeg—i fod yn ddigon pwysig i'w rhoi ar wyneb y Bil. Mae'r Gweinidog eisoes wedi cyfaddef y dylai diogelwch, effeithiolrwydd a'r profiad fod ar wyneb y Bil fel rhan o'r hyn y mae ansawdd yn ei olygu, er gwaethaf y ffaith bod safonau iechyd a gofal hefyd yn cyfeirio at y rheini. Mae wedi diffinio rhai pethau newydd y mae eisiau eu pwysleisio drwy ddod â nhw i wyneb y Bil. Pam ddim atal, lleihau anghydraddoldebau, a'r iaith Gymraeg? Ni welwn unrhyw reswm pam na ddylai ffactorau pwysig eraill o ran ansawdd y gwasanaeth fod ar wyneb y Bil hefyd. Mae'n rhoi arwydd cliriach o'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ystyried yn bwysig.

Y cwestiwn arall i'w ofyn yw, os yw'r holl ddangosyddion ansawdd pwysig hyn eisoes yn rhan o'r safonau iechyd a gofal, pam y mae angen y ddeddfwriaeth hon o gwbl? Onid yw ansawdd eisoes yn rhan o'r ddeddfwriaeth sy'n sail i'r GIG? Os yr ateb i hynny yw bod y safonau'n annigonol i'r Gweinidog eu gorfodi ar fyrddau iechyd, yna yr hyn sydd ei angen yw naill ai cryfhau'r canllawiau presennol ar safonau, neu sicrhau bod safonau a ystyrir yn bwysig ac na chânt eu bodloni ar hyn o bryd yn cael eu rhoi ar wyneb y Bil. Felly, naill ai mae'r safonau'n ddigonol, ac felly nid oes angen y Bil, neu mae'r safonau'n annigonol, ac mae angen y Bil hwn arnom. Os nad ydyn nhw ddigonol, yna mae angen i'r Bil hwn gael adran gryfach o lawer ar ddiffinio beth yw ansawdd. Felly, gofynnaf ichi gefnogi'r gwelliannau hyn. Diolch yn fawr iawn.

17:30

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi pob un o'r gwelliannau hyn, a chymerodd Rhun ap Iorwerth fy ngeiriau i, sef: os nad oes gennym ddiffiniad o beth yw ansawdd ar y Bil ym mhob un o'r meysydd, yna beth yw diben y ddeddfwriaeth? Os yw'r byrddau iechyd eisoes yn gwneud hynny, yna nid oes angen y ddeddfwriaeth arnom.

Gyda'r set flaenorol o welliannau a gyflwynais ychydig yn gynharach, dyna'r holl bwynt: dylai byrddau iechyd fod yn gwneud hyn. Os nad ydynt yn gwneud hyn—. Dylem ni fod yn cyrraedd y lefel hon o ansawdd yn ein GIG; nid ydym yn cyflawni'r lefel hon o ansawdd yn ein GIG yn yr holl feysydd hyn yr ydych yn eu codi—tri maes pwysig iawn: yr iaith Gymraeg, atal anghydraddoldebau, a'r gwaith atal—ac mae'n gwbl allweddol ein bod yn gwneud hynny. Felly, cefnogwn eich gwelliannau a diolch ichi am eu cyflwyno.

17:35

Nid yw'r elfennau o ansawdd a nodir yn y Bil yn gynhwysfawr ac maen nhw'n fwriadol eang, fel y dywedais yn y ddadl ar y grŵp cyntaf. Y bwriad yw y bydd ansawdd yn cyd-fynd â'r diffiniad o ansawdd a gydnabyddir yn rhyngwladol. Ac, unwaith eto, mae hynny'n fwriadol, o ystyried swyddogaethau eang cyrff y GIG, ac nid wyf am fentro gwanhau'r dull gweithredu hwnnw na'i wneud i dynnu'n groes. Ac mae'n werth cofio bod tegwch yn un o'r chwe maes a gydnabyddir yn y diffiniad o ansawdd a dderbynnir yn rhyngwladol, ac felly mae angen iddo fod yn gydran bwysig o unrhyw benderfyniadau a wneir i sicrhau gwelliant. Felly, ni fyddaf yn cefnogi'r gwelliannau sydd wedi'u cyflwyno yn y grŵp hwn.

Yn bwysig iawn, fel y gŵyr yr Aelodau, mae'r Bil eisoes yn gwneud gwelliant pwysig, ac yn y cyd-destun hwn, yn un perthnasol iawn, i adran 47 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003. Mae hynny'n golygu bod yn rhaid i gyrff y GIG ystyried safonau iechyd a gofal wrth gyflawni eu dyletswydd i wella ansawdd, ac fel y dywedais eisoes, mae'r safonau hynny'n cael eu diweddaru.

Mae'r safonau iechyd a gofal yn gynhwysfawr ac yn golygu y bydd yn rhaid i gyrff y GIG ystyried materion sy'n ymwneud â'r gweithlu, gwella iechyd y boblogaeth, tegwch, a'r Gymraeg wrth gyflawni eu dyletswydd, gan fod y rhain i gyd yn cael sylw yn ein safonau, a byddant yn cael eu cynnwys yn y rhai diwygiedig. Caiff y rhain eu hatgyfnerthu a'u nodi yn y canllawiau statudol yr wyf eisoes wedi cyfeirio atynt.

Felly, er fy mod yn deall y teimladau y tu ôl i'r gwelliannau, nid wyf yn credu bod eu hangen gan y bydd y Bil, oherwydd yr aliniad â'r safonau, yn sicrhau bod y gofynion hynny'n cael eu cwmpasu mewn modd sy'n rhoi grym statudol iddynt, ond hefyd mewn modd y gellir eu hadolygu, fel yn wir yr ydym wedi gwneud bob pum mlynedd ers tro. Yn fy marn i, nid oes angen y gwelliannau i ehangu elfennau ansawdd, gan fod eisoes ddarpariaeth ar gyfer hynny.

I grynhoi, yn fy marn i, darperir ar gyfer pob un o'r tri maes a amlygir yn y safonau iechyd a gofal sy'n sail i'r ddyletswydd ansawdd, a gall y canllawiau atgyfnerthu hyn ymhellach. Bydd ystyriaethau pwysig hefyd i Weinidogion Cymru wrth iddynt wneud penderfyniadau gyda'r bwriad o sicrhau gwelliant yn ansawdd y gwasanaethau. Gofynnaf felly i'r Aelodau wrthod y gwelliannau yn y grŵp hwn.  

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Rwy'n ddiolchgar am yr arwydd o gefnogaeth gan Angela Burns a'r grŵp gyferbyn; yn siomedig, ond heb synnu, o beidio â chael cefnogaeth Aelodau Llywodraeth Cymru a Llafur. I mi, mae'n ddigon clir nad yw'r canllawiau statudol sydd gennym yn awr yn sicrhau'r ansawdd yr ydym eisiau ei gael mor gryf ag y gallent wneud. Yn fy marn i, os nad ydym yn ceisio gwella ansawdd gwasanaethau yn wirioneddol drwy fesur ansawdd iechyd, wel, beth ar y ddaear yw diben cael Bil ansawdd? Byddai sinig yn awgrymu mai Bil yw hwn sydd i fod i gyflawni rhywbeth arall, sef cael gwared ar y cynghorau iechyd cymuned a'u gallu i fod yn ddraenen yn ystlys Llywodraeth Cymru, a bod angen ei stwffio'n llawn o bethau eraill. Ond fe adawaf bethau yn y fan yna.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 60? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, rydyn ni'n symud i bleidlais ar welliant 60, yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 21, un yn ymatal, 29 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 60. 

Gwelliant 60: O blaid: 21, Yn erbyn: 29, Ymatal: 1

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 61 (Rhun ap Iorwerth).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 61? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, symudwn i bleidlais ar welliant 61, yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 21, un yn ymatal, 29 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 61 wedi'i wrthod. 

Gwelliant 61: O blaid: 21, Yn erbyn: 29, Ymatal: 1

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 62 (Rhun ap Iorwerth).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 62? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais, felly, ar welliant 62. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 21, un yn ymatal, 28 yn erbyn. Ac felly, gwrthodwyd gwelliant 62.

Gwelliant 62: O blaid: 21, Yn erbyn: 28, Ymatal: 1

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 23 yn enw Angela Burns yw'r gwelliant nesaf. Ydy'r gwelliant yn cael ei symud? 

Cynigiwyd gwelliant 23 (Angela Burns, gyda chefnogaeth Caroline Jones).

Ydy, yn ffurfiol. A oes unrhyw wynebiad i welliant 23? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i'r bleidlais, felly, ar welliant 23, yn enw Angela Burns. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Ac felly, gwrthodwyd y gwelliant.

17:40

Gwelliant 23: O blaid: 23, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 24 (Angela Burns, gyda chefnogaeth Caroline Jones).

Y cwestiwn yw: a ddylid dderbyn gwelliant 24? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, rydyn ni'n symud i bleidlais ar welliant 24. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 22, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 24 wedi'i wrthod.

Gwelliant 24: O blaid: 22, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 25 (Angela Burns, gyda chefnogaeth Caroline Jones).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 25? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, symudwn ni i bleidlais ar welliant 25. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 25 wedi'i wrthod.

Gwelliant 25: O blaid: 23, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 63 (Rhun ap Iorwerth).

Y cwestiwn yw: a ddylid dderbyn gwelliant 63? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Rydyn ni'n symud i'r bleidlais, felly, ar welliant 63. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 21, neb yn ymatal, 30 yn erbyn. Ac felly, gwrthodwyd y gwelliant yna.

Gwelliant 63: O blaid: 21, Yn erbyn: 30, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 64 (Rhun ap Iorwerth).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 64? Unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Rydyn ni'n symud i bleidlais, felly, ar welliant 64. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 21, neb yn ymatal, 29 yn erbyn. Ac felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gwelliant 64: O blaid: 21, Yn erbyn: 29, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 65 (Rhun ap Iorwerth).

A ddylid derbyn gwelliant 65? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Rydyn ni'n symud i bleidlais, felly, ar welliant 65. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 21, neb yn ymatal, 29 yn erbyn. Gwrthodwyd y gwelliant yna.

Gwelliant 65: O blaid: 21, Yn erbyn: 29, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 26 (Angela Burns, gyda chefnogaeth Caroline Jones).

Y cwestiwn yw: a ddylid dderbyn gwelliant 26? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, rydyn ni'n symud i bleidlais ar welliant 26, yn enw Angela Burns. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Ac felly, mae'r gwelliant yna wedi ei wrthod.

Gwelliant 26: O blaid: 23, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 3: Dyletswydd i sicrhau ansawdd mewn gwasanaethau iechyd—pŵer i ddyroddi canllawiau (Gwelliannau 16, 17, 18)

Y grŵp nesaf o welliannau yw'r trydydd grŵp, ac mae'r grŵp hynny'n ymwneud â'r ddyletswydd i sicrhau ansawdd mewn gwasanaethau iechyd a'r pŵer i ddyroddi canllawiau. Gwelliant 16 yw'r prif welliant yn y grŵp. Felly, dwi'n galw ar Angela Burns i gynnig y gwelliant yna, ac i siarad i'r gwelliannau—Angela Burns.

Cynigiwyd gwelliant 16 (Angela Burns, gyda chefnogaeth Caroline Jones).

Diolch. Cynigiaf yn ffurfiol y gwelliannau a gyflwynwyd yn fy enw i. Diben y gwelliannau hyn yw rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i sicrhau ansawdd mewn gwasanaethau iechyd drwy'r egwyddor canllawiau. Maen nhw'n ceisio cefnogi argymhelliad 2 y pwyllgor, sy'n gofyn bod y Gweinidog yn cyhoeddi canllawiau statudol. Yn nhystiolaeth Cyfnod 1, tynnodd rhanddeiliaid sylw at y ffaith nad oedd y Bil yn ddigon cryf wrth nodi beth yw'r ddyletswydd ansawdd honno a sut y byddai'n cael ei mesur.  

Mae'r gwelliannau hyn wedi cael eu drafftio gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a'r Gweinidog, ac rydym yn ddiolchgar i'r Gweinidog am hyn. Yn y bôn, maen nhw'n dweud bod yn rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau i gyrff y GIG. Er ein bod wedi cyflwyno hyn, byddwn yn ddiolchgar hefyd pe bai'r Gweinidog yn cadarnhau y bydd y canllawiau arfaethedig yn cynnwys sut y caiff dyletswyddau byrddau iechyd lleol, ymddiriedolaethau'r GIG ac awdurdodau iechyd arbennig eu hasesu, yn ogystal â dangos canlyniadau gwell a sut y gellir rhoi arloesi a gwelliannau ar waith ledled Cymru. Mae'n ymwneud â thyfu'r blagur bychain, onid yw?

Yng Nghyfnod 2, soniais hefyd fod asesiadau'n elfennau allweddol o'r ddyletswydd ansawdd. Maen nhw'n galluogi'r awdurdodau iechyd perthnasol i ddarparu gwybodaeth unffurf inni am eu dangosyddion ansawdd, a dyma hefyd sut y maen nhw'n symud o'r hyn a feirniadwyd fel dyletswydd uchelgeisiol gan Gadeirydd bwrdd rheoli Conffederasiwn GIG Cymru i ddyletswydd real a gorfodadwy.

Yng Nghyfnod 2, nododd y Gweinidog ei fod yn cytuno â phwysigrwydd nodi sut y gall cyrff y GIG ddangos canlyniad gwell o ganlyniad i gymryd camau i gydymffurfio â'r ddyletswydd, ac roedd yn rhannu'r awydd i weld sut y gallai arloesi a gwelliannau a gynlluniwyd mewn un ardal gael eu lledaenu a'u hehangu ar draws Cymru. Fel y dywedais bryd hynny, credwn ei bod yn hanfodol cael y canllawiau'n iawn cyn i'r ddyletswydd ansawdd ddod i rym. Nid ydym yn hollol glir eto sut y bydd y canllawiau hynny yn helpu awdurdodau iechyd i gyrraedd y lefelau penodol o welliant disgwyliedig. Felly unwaith eto byddwn yn ddiolchgar pe bai'r Gweinidog yn amlinellu ychydig mwy o fanylion am y canllawiau hynny, yn enwedig o gofio ei fod yn disgwyl i'r canllawiau ar y ddyletswydd ansawdd gynnwys yr angen i ystyried sut mae corff yn gweithio mewn partneriaeth wrth ddarparu gwasanaethau mewn ffordd integredig i sicrhau gwelliannau. Fel y gwyddom i gyd, mae partneriaeth, cyd-gynhyrchu a chydweithio yn rhan bwysig iawn o godi lefel ansawdd a lefel gonestrwydd o fewn ein byrddau iechyd. Diolch.

17:45

Rwyf i hefyd yn cefnogi'r gwelliannau yn y grŵp hwn. Os ydym am gael unrhyw obaith o gyflawni'r ddyletswydd ansawdd, rhaid inni gael canllawiau statudol ar waith sy'n rhoi cyfarwyddyd i ddarparwyr iechyd a gofal cymdeithasol ynghylch sut y gallant fynd ati i weithredu'r ddyletswydd ansawdd. Heb ganllawiau statudol, byddwn yn ei adael yn agored i'w ddehongli gan y byrddau iechyd lleol a'r awdurdodau lleol. Nid yw'r ddyletswydd ansawdd yn wahanol o ranbarth i ranbarth; mae'n gofyn am gysondeb ac, felly, mae angen canllawiau cenedlaethol arnom. Bydd y gwelliannau hyn yn sicrhau un dull gweithredu cenedlaethol.

Diolch ichi, Llywydd. Yn dilyn ystyriaethau yng Nghyfnod 2, rwyf wedi cael trafodaethau adeiladol gydag aelodau'r gwrthbleidiau ac rwy'n falch ein bod wedi gallu cyrraedd sefyllfa gyffredin gydag Angela Burns ar hyn. Drwy bennu yn y canllawiau statudol y dystiolaeth sydd i'w defnyddio a'r ffordd y mae tystiolaeth o'r fath wedi cael ei hasesu, bydd hynny'n ei gwneud yn ofynnol i gyrff y GIG adrodd yn agored ac yn dryloyw ar y camau y maen nhw'n eu cymryd i sicrhau gwelliannau mewn canlyniadau ansawdd. Yn bwysig iawn, wrth gynnal yr asesiad hwnnw, bydd yn ofynnol hefyd i gyrff y GIG ddangos tystiolaeth o sut y maen nhw'n ystyried y safonau iechyd a gofal a drafodwyd gennym yn y ddau grŵp cyntaf wrth gyflawni eu dyletswydd ansawdd. Mae hynny'n golygu y bydd yn rhaid i gyrff y GIG ystyried yr holl faterion a nodir yn y safonau iechyd a gofal, sy'n cynnwys materion sy'n ymwneud â'r gweithlu, gwella iechyd y boblogaeth a thegwch. Caiff hynny ei egluro yn y canllawiau statudol. Mae yna bwynt yma ynghylch y canllawiau statudol yr ydym yn ymrwymo i'w cynhyrchu ar bob un o ardaloedd y Bil: rydym eisiau gweld hynny'n cael ei gyd-gynhyrchu yn y ffordd yr ydym yn ei gyflawni, yn hytrach na chael ei gyflawni gan y Llywodraeth yn unig. Rwyf felly'n fodlon cefnogi'r holl welliannau yn y grŵp hwn yn enw Angela Burns.

Diolch yn fawr iawn. Mae'n ddigon i ddweud bod dau air yn dod â llawenydd i'm calon. Caroline, fe wnaethoch grybwyll 'cysondeb', dyna beth sydd ei angen arnom; Gweinidog, 'tystiolaeth', dyna beth sydd ei angen arnom. Diolch yn fawr iawn am gefnogi'r gwelliannau.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 16? A oes unrhyw wrthwynebiad? Felly, derbynnir gwelliant 16.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 27 (Angela Burns, gyda chefnogaeth Caroline Jones).

Mae'n ddrwg gennyf. Rwy'n ei gynnig. Nid yw fy Nghymraeg gwrando cystal ag yr oeddwn yn credu ei bod. [Chwerthin.]

Wedi ei gynnig felly.

Gwelliant 27. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 27? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Rydyn ni'n symud felly i bleidlais ar welliant 27. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 22, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 27.

Gwelliant 27: O blaid: 22, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 28 (Angela Burns, gyda chefnogaeth Caroline Jones).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 28? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, rydyn ni'n symud i bleidlais ar welliant 28. Agor y blediais. Cau'r bleidlais. O blaid 22, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 28.

Gwelliant 28: O blaid: 22, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 66 (Rhun ap Iorwerth).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 66? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Rydyn ni'n symud i bleidlais ar welliant 66. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 21, neb yn ymatal, 29 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 66 wedi'i wrthod.

Gwelliant 66: O blaid: 21, Yn erbyn: 29, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

17:50

Cynigiwyd gwelliant 67 (Rhun ap Iorwerth).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 67? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Rŷn ni'n symud i bleidlais, felly, ar welliant 67. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 21, neb yn ymatal, 29 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 67.

Gwelliant 67: O blaid: 21, Yn erbyn: 29, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 68 (Rhun ap Iorwerth).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 68? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, rŷn ni'n symud i bleidlais ar welliant 68. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 21, neb yn ymatal, 29 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gwelliant 68: O blaid: 21, Yn erbyn: 29, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 29 yw'r gwelliant nesaf, yn enw Angela Burns.

A yw'r gwelliant yn cael ei gynnig?

Cynigiwyd gwelliant 29 (Angela Burns, gyda chefnogaeth Caroline Jones).

Felly, mae' r bleidlais nesaf ar welliant 29, yn enw Angela Burns. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y gwelliant? [Gwrthwynebiad.] Felly, rŷn ni'n symud i bleidlais ar welliant 29. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 22, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Ac felly mae'r gwelliant wedi'i wrthod.

Gwelliant 29: O blaid: 22, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 17 (Angela Burns, gyda chefnogaeth Caroline Jones).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 17? A oes unrhyw wrthwynebiad? Mae gwelliant 17 wedi'i dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 30 (Angela Burns, gyda chefnogaeth Caroline Jones).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 30? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, rŷn ni'n symud i bleidlais ar welliant 30. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 22, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gwelliant 30: O blaid: 22, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 31 (Angela Burns, gyda chefnogaeth Caroline Jones).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 31? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, rŷn ni'n symud i bleidlais ar welliant 31. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 22, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi'i wrthod.

Gwelliant 31: O blaid: 22, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 69 (Rhun ap Iorwerth).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 69? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Rŷn ni'n symud i bleidlais, felly, ar welliant 69. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 20, neb yn ymatal, 29 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 69 wedi'i wrthod. 

Gwelliant 69: O blaid: 20, Yn erbyn: 29, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 70 (Rhun ap Iorwerth).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 70? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais ar welliant 70. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 21, neb yn ymatal, 29 yn erbyn. Ac felly, gwrthodwyd y gwelliant yna. 

Gwelliant 70: O blaid: 21, Yn erbyn: 29, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 71 (Rhun ap Iorwerth).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 71? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Rŷn ni'n cynnal pleidlais, felly, ar welliant 71. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 21, neb yn ymatal, 29 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y gwelliant yna. 

Gwelliant 71: O blaid: 21, Yn erbyn: 29, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 32 (Angela Burns, gyda chefnogaeth Caroline Jones).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 32? Unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais ar welliant 32. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 21, un yn ymatal, 28 yn erbyn. Ac felly, gwrthodwyd y gwelliant yna. 

Gwelliant 32: O blaid: 21, Yn erbyn: 28, Ymatal: 1

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 18 (Angela Burns, gyda chefnogaeth Caroline Jones).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 18? Unrhyw wrthwynebiad? Felly, derbynnir gwelliant 18. 

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 33 (Angela Burns, gyda chefnogaeth Caroline Jones).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 33? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Rŷn ni'n symud i bleidlais, felly, ar welliant 33. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 21, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y gwelliant yna. 

Gwelliant 33: O blaid: 21, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 34 (Angela Burns, gyda chefnogaeth Caroline Jones).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 34? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Rŷn ni'n symud i bleidlais felly ar welliant 34. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 22, neb yn ymatal, 28 yn erbyn, ac felly gwrthodwyd y gwelliant.

17:55

Gwelliant 34: O blaid: 22, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 4: Dyletswydd i sicrhau ansawdd mewn gwasanaethau iechyd—diffyg cydymffurfio (Gwelliant 35)

Y grŵp nesaf yw grŵp 4 ac mae'r grŵp yma'n ymwneud â diffyg cydymffurfio o ran dyletswydd i sicrhau ansawdd mewn gwasanaethau iechyd. Gwelliant 35 yw'r unig welliant yn y grŵp a dwi'n galw ar Angela Burns i gynnig y gwelliant.

Cynigiwyd gwelliant 35 (Angela Burns, gyda chefnogaeth Caroline Jones).

Diolch yn fawr, Llywydd. Cynigiaf welliant 35, a gyflwynwyd yn fy enw i, yn ffurfiol. Aelodau, rwyf eisiau dannedd, nid i mi ond i'r GIG, ac mae gwelliant 35 wedi'i gyflwyno i gefnogi argymhelliad 6 gan y Pwyllgor, sy'n gofyn i'r Gweinidog wneud darpariaeth benodol ar gyfer goblygiadau peidio â chydymffurfio â'r ddyletswydd ansawdd. Rwyf wedi ail-gyflwyno hwn o Gyfnod 2 oherwydd, mewn gwirionedd, credaf ei bod yn hanfodol bwysig, os oes gennym ddeddfwriaeth, bod yn rhaid iddi gael rhwystrau a gwrthbwysau yn rhan ohoni a holl bwynt hyn yw rhoi'r dannedd hynny sy'n bwysig iawn i'r Llywodraeth, i'r holl system.

Nid yw'n fwriad iddo gael effaith andwyol ar sefyllfa ariannol byrddau iechyd, ymddiriedolaethau neu awdurdodau arbennig, ond gellid ymdrin ag ef drwy drefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd y GIG gan y Gweinidog iechyd. Yn ystod y sesiynau tystiolaeth ac ymgynghoriad y pwyllgor, roedd yn amlwg bod llawer o randdeiliaid eisiau cyflwyno goblygiadau ar gyfer diffyg cydymffurfio mewn cysylltiad â'r dyletswyddau ansawdd a gonestrwydd. Nododd Cymdeithas Feddygol Prydain fod angen mynd i'r afael â hyn, gan nodi:

Oni bai bod rhyw fath o sancsiwn neu gamau cywiro'n cael eu sbarduno, credwn y byddai perygl i'r ddyletswydd arfaethedig ddiffygio o ran effeithiolrwydd, ac y byddai ar ei gwaethaf yn troi'n ymarfer ticio blychau yn unig.

Nododd y Coleg Nyrsio Brenhinol fod yn rhaid

bod goblygiadau o'i wneud neu o beidio â'i wneud, neu fel arall nid oes cymhelliad i'w wneud, ar ryw ystyr, ar y lefel fwyaf sylfaenol.

Gweinidog, ni wnaeth eich ymateb yng Nghyfnod 2 roi unrhyw sicrwydd imi o gwbl. Fe wnaethoch ddweud, unwaith eto, yn eich sylwadau o Gyfnod 1, fod dulliau ar gael eisoes, gan gynnwys mesurau uwchgyfeirio, a fyddai'n tanategu'r methiant i lynu at y ddyletswydd ansawdd honno. Hefyd, aethoch ymlaen i ddweud bod y trefniadau hyn yn rhan o lywodraethu ac atebolrwydd ehangach o fewn y GIG, a'ch bod yn credu eu bod yn cynnig cyfleoedd ar gyfer craffu a gweithredu a dysgu priodol ac amserol.

Wel, mae'n ddrwg gennyf, Gweinidog, nid wyf yn credu ein bod yn defnyddio'r dulliau hyn ac nid wyf yn credu eu bod wedi darparu cyfleoedd ar gyfer gweithredu a dysgu amserol. Nid wyf yn gweld byrddau iechyd yn gweithredu'n gyflym iawn nac yn dysgu eu gwersi. Felly, er enghraifft, rydym ni'n dal i ymdrin â chanlyniadau rhai o'n sefyllfaoedd gwaethaf: Tawel Fan, lle mae Betsi Cadwaladr yn dal i fod mewn mesurau arbennig bedair blynedd a hanner yn ddiweddarach, sy'n golygu nad yw mesurau arbennig ac ymyrraeth uniongyrchol gan y Llywodraeth wedi cael llawer o effaith ar drefniadau llywodraethu'r bwrdd. Mewn adolygiad annibynnol o'i wasanaethau therapi seicolegol—hynny yw, gwasanaethau iechyd meddwl—tynnwyd sylw at y ffaith ei fod yn dal i fethu mewn nifer o feysydd. Felly, byddech wedi disgwyl, ar ôl Tawel Fan, y bydden nhw wedi edrych ar yr ansawdd hwnnw yn yr elfen honno o'r gwasanaethau iechyd.

Nid wyf eisiau rhoi gormod o bwys ar wasanaethau mamolaeth Cwm Taf Morgannwg, ond mae'n rhaid inni ei ddweud yma. Dyma'r gwir: er gwaethaf adroddiadau niferus rhwng 2010 a 2018 yn datgan bod gwasanaethau mamolaeth y bwrdd yn Ysbyty'r Tywysog Siarl ac Ysbyty Brenhinol Morgannwg mewn trafferthion, gan gynnwys adroddiad mewnol damniol gan fydwraig ymgynghorol, a ddywedodd fod methiannau systemig, fe'u hanwybyddwyd gan yr uwch reolwyr. Felly, ble mae'r ddyletswydd honno i sicrhau ansawdd mewn gwasanaethau iechyd? Mae hyn yn adlewyrchu'n union yr hyn a welsom yn Betsi.

Felly, Gweinidog, Aelodau'r blaid lywodraethol, rwyf eisiau ichi feddwl am hyn. Gallai hwn fod yn ddarn defnyddiol iawn o ddeddfwriaeth i sbarduno ansawdd, i sbarduno gonestrwydd drwy'r GIG, ond mae'n rhaid iddo gael rhywfaint o ddannedd, ac mae'r gwelliant cyfan hwn yn ymwneud â rhoi'r dannedd hynny i'r Ddeddf gyfan er mwyn sicrhau ein bod yn cael y gydymffurfiaeth wirioneddol honno. Ni allwn fforddio i'n GIG ni barhau mewn modd fel na allwn ddwyn pobl i gyfrif a gwneud yn siŵr bod yna welliannau mewn gwirionedd. Dyletswydd i sicrhau ansawdd, diffyg cydymffurfio, rhowch ddannedd inni.

Yn fyr iawn, dim ond i ategu hynny. Mae'n rhaid cael grym y tu ôl i unrhyw ddeddfwriaeth a sicrhau bod yna ddannedd, fel mae Angela Burns wedi'i ddweud, y tu ôl i'r ddeddfwriaeth yma. Mi fyddwn ni'n cefnogi'r gwelliant yma; mi fyddwn ni'n dadlau ei bod hi yn ddibwys pasio deddfwriaeth oni bai bod yna oblygiadau pan fo rhywun yn mynd yn groes i ofynion y ddeddfwriaeth yna.

18:00

Byddaf yn amlwg yn disgwyl i holl gyrff y GIG ddangos sut y maen nhw'n cydymffurfio â'r ddyletswydd ansawdd newydd mewn modd agored a thryloyw. Bydd yr adroddiad blynyddol newydd yn gyfrwng allweddol i ddangos tystiolaeth o hyn. Bydd y gwelliannau yr ydym newydd eu pasio, 16, 17 a 18, yn gosod y gofyniad hwnnw'n glir iawn. Mae hyn, ynghyd â dulliau eraill, megis cynlluniau tymor canolig integredig, yn darparu'r ystod o gyfleoedd i asesu sut mae'r ddyletswydd yn cael ei chyflawni.

Dylai ein trefniadau presennol ar gyfer uwchgyfeirio ac ymyrryd yn y GIG gael eu gweld o fewn fframwaith llywodraethu ac atebolrwydd ehangach o fewn y GIG ar lefel corff unigol a lefel system drwy'r pwyllgorau ansawdd a diogelwch, y cyfarfodydd ansawdd a chyflawni, a chyfarfodydd gweithredol ar y cyd rhwng prif weithredwr GIG Cymru a phrif weithredwyr byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd a'u huwch dimau. Mae'r rhain i gyd yn darparu cyfleoedd ar gyfer craffu a gweithredu a dysgu amserol priodol.

Rwyf hefyd yn disgwyl i AGIC gymryd diddordeb manwl yn y modd y mae sefydliad yn cyflawni ei ddyletswydd fel rhan o'i waith arolygu ac adolygu. Rwyf eisoes wedi datgan, ac rwy'n falch o ddatgan eto ar gyfer y cofnod, bod amrywiaeth o ddulliau y gellir eu defnyddio lle nad yw corff yn arfer ei swyddogaethau'n briodol ac mae'r rhain yn cynnwys y trefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd.

Mae'r gwelliant yn darparu y gall Gweinidogion Cymru gyflwyno gorchymyn ymyrryd os yw corff y GIG wedi methu ag arfer ei swyddogaethau yn unol â dyletswydd ansawdd. Mae'r amgylchiadau pan gaiff Gweinidogion Cymru gyflwyno gorchymyn ymyrryd eisoes wedi'u nodi o fewn Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006. Mae hyn yn cynnwys pan nad yw corff y GIG yn cyflawni un neu ragor o'i swyddogaethau yn ddigonol. Felly, nid oes angen ychwanegu'r darpariaethau yn y gwelliannau hyn at wyneb y Bil, a gofynnaf i'r Aelodau eu gwrthwynebu.

Diolch ichi, Llywydd. Methu â chydymffurfio â'r ddyletswydd i sicrhau ansawdd yn y gwasanaethau iechyd—rydych chi'n hollol gywir; mae'n dweud:

adrannau 12A, 20A a 24A, cânt wneud gorchymyn ymyrryd mewn cysylltiad â'r corff.

Fodd bynnag, rydych wedi gwneud gorchmynion uwchgyfeirio ar draws ein byrddau iechyd oherwydd methiannau yn ansawdd y gofal: Tawel Fan, Cwm Taf, i enwi dim ond dau; mae achosion eraill—rhai llai diolch byth. Mae holl bwynt hyn yn ymwneud â sbarduno, mae'n ymwneud â rhoi'r pwyslais arno, mae'n ymwneud â sicrhau, pan fydd pobl dan bwysau, eu bod yn wirioneddol sylweddoli, gydag eglurder llwyr, beth—

Rwy'n ddiolchgar iawn ichi. A ydych yn cytuno â mi, os ydym yn parhau i basio deddfau yn y fan hon lle nad oes goblygiadau amlwg ar wyneb y gyfraith i'r bobl sy'n torri'r gyfraith, y byddwn mewn perygl o ddwyn anfri ar yr holl sefydliad democrataidd? Rwyf i wedi cael llond bol ar bobl yn gofyn imi bleidleisio dros ddeddfwriaeth pan nad oes dim yn digwydd i rywun sy'n torri'r deddfau hynny.

Nid wyf yn credu bod angen imi ddweud rhagor, Llywydd, oherwydd credaf fod Helen Mary wedi crynhoi fy nheimladau'n llwyr, a dyna pam y gwnaethom ni gyflwyno'r gwelliant hwn. Mae'n rhaid inni wneud mwy o ymdrech. Holl ddiben y ddeddfwriaeth hon yw ein bod yn codi ein safonau, ac yn sicrhau bod y rhai sy'n rhedeg ein byrddau iechyd, y timau rheoli, yn gwneud yn siŵr bod darparu gofal o ansawdd i'n dinasyddion yn y GIG, y bobl sy'n defnyddio ein GIG, yn un o'u prif swyddogaethau mewn gwirionedd, nid yn ôl-ystyriaeth yn unig. Aelodau, gofynnaf o ddifrif ichi feddwl am hyn yn ddwys a chefnogi ein gwelliant.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 35? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, rydym ni'n symud i bleidlais ar welliant 35. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 28 yn erbyn, ac felly gwrthodwyd y gwelliant.

Gwelliant 35: O blaid: 23, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 5: Dyletswydd i sicrhau ansawdd mewn gwasanaethau iechyd—data (Gwelliant 38)

Y grŵp nesaf yw grŵp 5. Mae'r grŵp yma o welliannau yn ymwneud â'r dyletswydd i sicrhau ansawdd mewn gwasanaethau iechyd a data. Gwelliant 38 yw'r unig gwelliant yn y grŵp. Galwaf ar Angela Burns i gynnig gwelliant 38. Angela Burns.

Cynigiwyd gwelliant 38 (Angela Burns, gyda chefnogaeth Caroline Jones).

Diolch yn fawr, Llywydd. Rwyf wedi bod yn Aelod Cynulliad ers tua 10 mlynedd bellach, ac rwyf wedi eistedd ar amrywiaeth eang o bwyllgorau—cyllid, iechyd, addysg, plant a phobl ifanc, fel yr oedd—a thrwy'r amser rydym yn sôn am 'Sut ydym yn gwybod?' Sut ydym yn gwybod ein bod ni'n perfformio'n dda? Sut ydym yn gwybod ein bod ni'n cyrraedd ein targedau? Sut ydym yn gwybod ein bod ni'n cyflawni'r canlyniadau am yr arian yr ydym yn ei wario? Mae'r gwelliant hwn, gwelliant 38, yr wyf yn ei gynnig yn ffurfiol, yn ymwneud â chael y data fel bod gennym yr wybodaeth er mwyn inni allu gwneud y cynllunio.

Mae'n welliant a oedd yn seiliedig ar awgrym gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon yn eu tystiolaeth ysgrifenedig i'r pwyllgor, ond mewn gwirionedd mae'n wir o ran holl amcan y Bil hwn. Rydym eisiau gwybod pa mor dda yw ein data canlyniadau llawfeddygol ar lefel uned. Unwaith eto, hoffwn atgoffa'r Aelodau o ffaith gyffrous arall: sawl gwaith y mae unrhyw un ohonoch chi—ac efallai nid chi, ond rwy'n siŵr Aelodau o Blaid Cymru ac rwy'n siŵr Aelodau o Blaid Brexit, rwy'n adnabod aelodau o'm plaid i ac rwy'n siŵr y bydd rhai o'r Aelodau annibynnol wedi rhoi ceisiadau rhyddid gwybodaeth i geisio tyllu'n ddwfn i gael yr wybodaeth honno i ddarganfod beth ddigwyddodd: ble; pryd; sut? Faint o bethau sydd wedi'u cyflawni; faint o lawdriniaethau sydd wedi digwydd; pa fath o lawdriniaethau; beth yw'r rhwystrau? Oherwydd drwy wybod beth sy'n digwydd, drwy gael y data hynny, gallwch ddechrau llywodraethu'n dda. Gallwch chi fynd yn ôl, gallwch herio a gallwch graffu. Mae a wnelo'r gwelliant hwn â chael data da.

Gwrandewais, Gweinidog, ar eich ymateb yng Nghyfnod 2. Roeddech yn pryderu'n fawr am restr ragnodol o wybodaeth, ac roeddwn yn derbyn hynny. O ganlyniad, mae'r gwelliant yma yng Nghyfnod 3 yn ehangach ac mae hefyd yn cynnwys yr angen i rannu'r data gyda Gweinidogion ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i helpu i lywio eich gwaith a'ch cynlluniau yn y dyfodol. Mae hyn yn ymwneud â'ch helpu chi a helpu eich timau GIG i berfformio'n well, i wella'r gwaith, i wybod beth sy'n digwydd.

Cefais fy siomi'n fawr gan eich ymateb i Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon. Nid yw'n ddigon da rhestru'r dangosyddion cyfredol y mae'n rhaid i fyrddau iechyd eu cyflawni i fesur eu perfformiad. Rwy'n nodi'r gwaith sy'n gysylltiedig â'r System Rheoli Pryderon Unwaith i Gymru o ran cofnodi digwyddiadau, cwynion a chanlyniadau andwyol ym maes gofal iechyd, yn ogystal â'r nod o ddatblygu un fframwaith ar gyfer mesur a meincnodi data sy'n gysylltiedig ag ansawdd dan y cynllun ansawdd a diogelwch pum mlynedd, ond nid wyf yn credu bod y rhain yn ddigonol eto i ddadansoddi canlyniadau cleifion yn briodol. Rwy'n credu y byddai'n gam rhagweledol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru fonitro cynnydd y rhaglenni hynny'n fanwl o ystyried y problemau a fu gennym yn y gorffennol o ran casglu data. Hoffwn atgoffa'r Aelodau mai dim ond yn ddiweddar y gwelsom fod rhywfaint o'r data yng Nghwm Taf Morgannwg yn gwbl anghywir. Roeddent wedi camosod, rwy'n credu, 2,700 o lawdriniaethau, apwyntiadau a chanlyniadau. Mae arnom angen data da ac effeithlon. Mae'r Bil hwn yn gyfle inni wneud hynny. Os gwelwch yn dda, Aelodau, ystyriwch hynny a phasio'r gwelliant hwn.  

18:05

Diolch am y cyfle i ddweud gair neu ddau eto. Mae hwn, eto, yn faes le, os ydyn ni am gael Bil sydd werth ei gael, mae'n rhaid inni chwilio am ffyrdd i gael impact drwyddo fo, ac rydym ni'n gwybod o brofiad bod diffyg data yn ein dal ni yn ôl o ran ein gallu ni i godi ansawdd o fewn ein gwasanaethau iechyd a gofal. Rydym ni'n cefnogi'r gwelliant yma. Rydym ni'n gwybod bod data a phrinder data yn broblem o fewn yr NHS, ac mae hi'n bwysig i fi i feddwl y dylem ni fod yn cael byrddau iechyd lleol i brofi eu bod nhw'n cydymffurfio efo deddfwriaeth, achos fel arall, y cwbl a gawn ni ydy rhyw sicrwydd amwys bod popeth yn iawn tan rydym ni'n diweddu efo sefyllfa yn debyg i Gwm Taf eto, lle rydym ni'n canfod nad ydy pethau ddim yn iawn. Dyma gyfle i ymateb i'r sefyllfa honno. 

Diolch ichi, Llywydd. Mae llawer o systemau ar waith eisoes i gasglu, dadansoddi a chyhoeddi data ar draws ein gwasanaeth iechyd gwladol. Mae llawer o hyn yn cael ei gofnodi ar sail Cymru a Lloegr, os nad ar sail y DU gyfan, fel yr ystod o archwiliadau clinigol cenedlaethol. Yr hyn sy'n cael ei wneud gyda'r data hynny sydd, wrth gwrs, yn allweddol. Roedd gwelliannau 16, 17 a 18 yn ymdrin â'r gofyniad i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau statudol mewn cysylltiad â'r ddyletswydd ansawdd ac i'r canllawiau hynny gynnwys y dystiolaeth ynglŷn â sut y gwnaed asesiad er mwyn sicrhau pwyslais cryfach ar ddefnyddio data a bod y data hynny yn ddibynadwy o ran galluogi corff i wneud penderfyniadau a fydd yn sicrhau gwelliannau mewn canlyniadau ansawdd.

Ac, fel y gŵyr Angela Burns, mae gwaith sylweddol eisoes ar y gweill i symleiddio a gwella ein data a sicrhau bod pethau pwysig yn cael eu mesur yn rheolaidd mewn ffordd gyson a mwy clinigol berthnasol. Oherwydd ni fydd un ateb o anghenraid yn addas i bawb. Mae'n rhaid inni gadw rhywfaint o hyblygrwydd i bennu ac adolygu pa ddata a gesglir yn y ffyrdd gorau a mwyaf effeithiol, er mwyn aros cyfuwch â thechnoleg a gofynion eraill sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Er enghraifft, mae'r newidiadau yn y model clinigol a fabwysiadwyd yn eang yn Lloegr a'r Alban gan y gwasanaeth ambiwlans wedi golygu bod angen newidiadau i gasglu data a'r ffordd yr ydym yn dwyn y system i gyfrif o ran eu perfformiad.

Bydd y gwaith sy'n mynd rhagddo i weithredu'r llwybr canser hefyd yn golygu bod angen newid y math o ddata a gasglwn i weld a ydym yn sicrhau gwelliannau i ansawdd a darpariaeth y gwasanaeth. Ein bwriad yw datblygu data a gwybodaeth am ganser er mwyn cefnogi'r broses o gynllunio a darparu systemau'n well. Bydd hynny'n golygu casglu, defnyddio a chyhoeddi set fwy cynhwysfawr o ddata gweithgarwch.

Ac, fel y cyfeiriwyd ato gan Angela Burns, rydym yn gweithio gyda'r gwasanaeth i gwblhau cynllun ansawdd a diogelwch pum mlynedd sy'n disgrifio ystod o argymhellion strategol lefel uchel, gan gynnwys gweithred benodol yn ymwneud â mynd i'r afael â mesurau, data a dadansoddeg. Bydd rhaglen waith gydweithredol yn cael ei sefydlu i fwrw ymlaen â'r cynllun hwnnw, ac un o'r amcanion yw datblygu dull cenedlaethol o fesur a meincnodi data sy'n gysylltiedig ag ansawdd. Disgwyliaf i'r cynllun hwnnw gael ei gyhoeddi cyn toriad yr haf o fewn y flwyddyn galendr hon.

Mae GIG Cymru hefyd yn y broses o weithredu system newydd, fel y cyfeiriwyd ati: System Rheoli Pryderon Unwaith i Gymru ar gyfer sut y mae byrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau'r GIG yn cofnodi, yn adrodd, yn monitro, yn olrhain, yn dysgu ac yn gwneud gwelliannau o ddigwyddiadau, cwynion, hawliadau a chanlyniadau anffafriol eraill. Nod hyn yw sicrhau cysondeb o ran rheoli data a chynllunio llif gwaith yn y meysydd hyn, ledled Cymru. Bwriedir i'r system newydd gael ei rhoi ar waith yn ystod y flwyddyn nesaf.

Rwy'n deall beth sydd y tu ôl i'r gwelliant hwn ac rwy'n cytuno â'r Aelod ynglŷn â phwysigrwydd data cyson, syml a chydlynol. Fel yr eglurais, mae gwaith yn mynd rhagddo mewn sawl ffordd i gyflawni hynny'n union. Fel y tystia rhywfaint o'r gwaith yn y maes hwn a ddisgrifiais, nid wyf yn cytuno bod angen rhagor o ddeddfwriaeth i gyflawni hyn. Byddai deddfwriaeth yn sicr yn ychwanegu at fiwrocratiaeth ac yn dileu hyblygrwydd ac mae ganddi'r potensial gwirioneddol i arafu a hyd yn oed fygu gwaith arloesol yn y maes hwn. Felly, ni allaf gefnogi'r gwelliant.

18:10

Diolch am hynny. Rhai o'r geiriau sydd fwyaf llithrig i mi yw geiriau fel 'bwriadu' a 'disgwyl', oherwydd dydyn nhw ddim yn dweud wrthych chi pryd yr ydych chi'n mynd i wneud rhywbeth a sut yr ydych chi'n mynd i'w wneud.

Felly, gadewch imi atgoffa'r Aelodau: ym mis Gorffennaf 2013—rydym nawr yn 2020—felly, saith mlynedd yn ôl, dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'n gweithio i gyhoeddi—yn wir, nid yn unig y gwnaethoch chi ddweud hynny, ond fe wnaethoch chi gyhoeddi y byddech yn gweithio i gyhoeddi data canlyniadau llawfeddygol yng Nghymru ar lefel uned, gydag addewid i ystyried data canlyniadau unigol yn ddiweddarach. Ni fu cynnydd; ni chyflawnwyd hyn. Bwriad y gwelliant hwn yw sbarduno addewidion Llywodraeth Cymru ac atgoffa'r Gweinidog ein bod eisoes wedi gofyn i hyn gael blaenoriaeth frys, fel sydd wedi digwydd eisoes yn y GIG yn Lloegr.

Pam mae hynny'n bwysig? Oherwydd petaech yn gwybod beth oedd yn digwydd, er enghraifft, gyda llawdriniaethau, faint ohonyn nhw sy'n cael eu canslo ac a yw'r canslo am reswm clinigol neu anghlinigol, gan y Bwrdd Iechyd a chan y claf—. Mae gennym ychydig o'r data hynny, ond dim digon i ddeall ble mae'r pwysau na beth sy'n cyfrannu at amseroedd aros hir, beth sy'n cyfrannu at y tagfeydd, a sut y gallwn eu datrys. Saith mlynedd—heb ei gyflawni o hyd. Dydw i ddim yn dal fy ngwynt. Os nad yw hwn yn cael ei basio, dydw i ddim yn dal fy ngwynt y byddwn yn gweld y data'n cael eu cyflwyno mewn modd amserol iawn, lle mae'n ddefnyddiol i'n helpu ni i fframio neu ail-fframio'r ffordd yr ydym yn gweithio yn ein GIG ni.

Y cwestiwn yw y dylid derbyn gwelliant 38. A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, symudwn ni i bleidlais ar welliant 38. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Ac felly gwrthodwyd y gwelliant. 

18:15

Gwelliant 38: O blaid: 23, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 6: Dyletswydd i sicrhau ansawdd mewn gwasanaethau iechyd—cofrestr o reolwyr (Gwelliant 72)

Y grŵp nesaf o welliannau yw grŵp 6. Mae'r grŵp yma yn ymwneud â'r ddyletswydd i sicrhau ansawdd mewn gwasanaethau iechyd a chofrestr o reolwyr. Gwelliant 72 yw'r unig welliant yn y grŵp, a dwi'n galw ar Rhun ap Iorwerth i gyflwyno'r gwelliant hynny. 

Cynigiwyd gwelliant 72 (Rhun ap Iorwerth, gyda chefnogaeth Caroline Jones).

Diolch yn fawr. Dwi'n apelio yn gryf arnoch chi i gefnogi'r gwelliant yma. A ddylem ni fod yn gallu disgwyl neu obeithio cael y staff clinigol, meddygon, nyrsys ac yn y blaen, orau posib, o fewn yr NHS? Dwi'n credu y dylem ni, ac mae yna systemau mewn lle i sicrhau bod safonau yn cael eu cynnal. A ddylem ni fod yn gallu disgwyl cael, a gobeithio cael, y rheolwyr gorau yn yr NHS? Dylem, mi fyddwn i'n dadlau y dylem ni, ond does gennym ni ddim yr un systemau sy'n ceisio cynnal y safonau yna.

Beth mae'r gwelliant yma yn ei wneud ydy creu cofrestr o reolwyr NHS a chorff i oruchwylio'r gofrestr honno. Rydyn ni wedi gwneud newidiadau ers Cyfnod 2 i sicrhau bod gan y corff goruchwylio hwnnw y gallu i osod cymwyseddau ag i osod sancsiynau ar reolwyr sydd yn methu â chyrraedd safonau. 

Yn achos nyrsys, meddygon, bydwragedd a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill, mae yna gyrff rheoleiddio sydd yn mynnu safonau uchel, sydd â'r gallu i'w disgyblu nhw os ydyn nhw'n methu â chyrraedd y safonau hynny, i gywiro lle mae safonau'n methu â chyrraedd y safon, lle mae yna esgeulustod, ac yna mae'n bosib erlyn yn unol â'r safonau rheoleiddio hynny. Ond ymhlith rheolwyr, does gennym ni ddim y trefniadau hynny mewn lle sy'n sicrhau nad ydyn ni'n fodlon pan mae pethau yn disgyn yn is na'r ansawdd rydyn ni'n credu ein bod ni ei angen. Mae gennym ni reolwyr rhagorol o fewn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, ar bob lefel. Mae eisiau rhoi bri i'r proffesiwn hwnnw o fod yn rheolwyr o fewn yr NHS. Mae eisiau dathlu rheolaeth dda. Ond ar yr un llaw, os ydyn ni'n gwneud hynny, ar y llaw arall mae'n rhaid i ni sicrhau bod gennym ni'r arfau hynny a'r systemau hynny sydd yn gosod llinyn mesur, lle rydyn ni'n gallu dweud dyma'r hyn rydyn ni yn chwilio amdano fo. 

Mae gennym ni, fel rydyn ni'n gwybod, ormod o brofiadau o fewn yr NHS yng Nghymru dros y blynyddoedd lle mae yna reolwyr wedi disgyn ymhell o dan y safonau y dylem ni fod yn disgwyl ohonyn nhw. Mae yna oblygiadau difrifol wedi bod lle mae camgymeriadau rheoli wedi digwydd. Ac yn aml iawn, mi welwn ni reolwr neu reolwraig yn cael ei symud ymlaen, ac yn cymryd swydd arall mewn bwrdd iechyd, heb fod yna brosesau wedi cael eu dilyn un ai i gywiro neu gosbi neu i ddod â sancsiynau mewn, ond yn bennaf i wthio safonau ar i fyny. 

Dwi'n deall bod yna gryn waith paratoi wedi cael ei wneud ar y fath o system rydyn ni yn ei argymell yn fan hyn, a bod hwn yn rhywbeth mae'r Llywodraeth yn sylweddoli y dylid mynd i'r afael ag o, ond, am ryw reswm, fod yna amharodrwydd wedi bod i ddweud, 'Na, dyna ddigon ar fod yn ffwrdd â hi ynglŷn â'r safonau rydyn ni'n eu disgwyl ymhlith reolwyr—gadewch inni wneud rhywbeth am y peth.'

Dwi ddim yn credu bod modd gyrru safonau i fyny, gwneud mwy efo llai, defnyddio adnoddau yn llawer gwell, heb sicrhau bod gennym ni fecanwaith ar gyfer gwella rheolaeth. Er mai gwrthod y gwelliant yma fydd y Llywodraeth, dwi'n ofni, dwi wirioneddol yn credu bod hwn yn faes y dylai’r Llywodraeth fod â ffocws arno fo, ac y dylai hwn fod wedi bod yn rhan greiddiol o Fil, os mai pwrpas y Bil hwnnw oedd codi safonau o fewn iechyd a gofal.

18:20

Diolch yn fawr i Blaid Cymru am gyflwyno hyn. Mae'r elfen hon o'r Bil yn bwysig iawn. Mae gennyf safbwynt ar hyn o bryd i ymatal, a'r rheswm dros hyn yw bod arnaf eisiau clywed yr hyn y mae'r Gweinidog yn mynd i'w ddweud wrth ymateb ichi. Rwy'n cytuno, mae'n hanfodol bwysig creu cofrestr o reolwyr. Mae'n hanfodol bwysig cael sancsiynau a pha mor fesuradwy ydyw i wneud yn siŵr eu bod yn gwneud y gwaith y maen nhw'n cael eu cyflogi i'w wneud yn iawn.

Ac, wrth gwrs, y peth mawr arall sy'n gallu digwydd drwy gael cofrestr o'r fath yw, os byddwch chi'n symud rheolwr gwael i mewn neu allan, y bydd y sefydliad nesaf yn cael yr unigolyn hwnnw a chaiff ei hyfforddi'n briodol a'i annog i ddatblygu ac yna ddod yn ôl i mewn ar y lefel gywir. Pwysig iawn—mae'n ymwneud â pheidio â bod yn gosbol ond nodi lle mae rhywun yn gwneud gwaith sydd o bosib yn ormod iddo, a'i fod yn cael yr hyfforddiant iawn, y cymorth iawn, a'i fod yn symud ymlaen.

Rwy'n credu bod y diffiniad o reolwr ychydig yn aneglur i mi. Nawr, rwyf wedi bod yn rheolwr dros gyfnod hir o'm bywyd, ac rwyf wedi cofrestru fel rheolwr, fel cyfarwyddwr gyda Sefydliad y Cyfarwyddwyr, gyda'r sefydliad marchnata, y Sefydliad Rheoli Gwerthiannau, y sefydliad rheolaeth gyffredinol mewn busnes, felly mae ychydig yn aneglur i mi, a hoffwn gael rhywfaint o eglurder. Oherwydd os edrychwch chi, yn gryno iawn, mae gennych bawb, o reolwyr cyllid i reolwyr ysbytai, rheolwyr ystadau, iechyd a diogelwch, rheolwyr wardiau. Felly, dyna pam rwy'n teimlo fel ymatal ar hyn o bryd. Rwyf eisiau clywed yr hyn sydd gan y Gweinidog i'w ddweud, ond os hoffech egluro hynny, byddai'n wirioneddol ddefnyddiol, oherwydd credaf ei fod yn bwynt mor bwysig.

Yn sicr, egluraf fel hyn: rwy'n cydnabod bod y GIG yn beiriant cymhleth â llawer o haenau rheoli ynddo. Y trueni, mewn ffordd, yw ein bod yma yng Nghyfnod 3, ar ôl cynnig hwn yng Nghyfnod 2, ac wedi rhoi hwn ar y bwrdd ar adeg pryd y dylai ac y gallai Llywodraeth Cymru fod wedi ymgysylltu ag ef mewn ffordd, gan ddefnyddio nerth peiriant y Llywodraeth o bosib, y byddent wedi gallu nodi'n glir sut i weithredu'r math hwn o newid. Ond dydw i ddim yn credu bod hynny'n tynnu oddi wrth yr hyn yr ydym ni'n ceisio'i gyflawni yma.

Rwy'n cefnogi'r gwelliant yn y grŵp hwn, ac rwy'n cytuno â Phlaid Cymru bod yn rhaid cael cofrestr ar gyfer rheolwyr y GIG. Rwyf wedi dweud sawl gwaith yn y Siambr hon bod yn rhaid inni sicrhau bod rheolwyr y gwasanaeth iechyd yn cadw at yr un rhwymedigaethau â staff clinigol. Mae clinigwyr yn cael eu cynnwys yn y dyletswyddau gofal a roddir iddynt gan eu colegau brenhinol a'r cyrff proffesiynol amrywiol. Mae rheolwyr yn rhan hanfodol o'n GIG modern, a gallant yn aml chwarae rhan mewn sicrhau ansawdd y gofal a ddarperir i gleifion.

Ac rwy'n gresynu bod cynigion Helen Mary ar gyfer Bil rheoli'r GIG wedi cael eu gwrthod gan y Llywodraeth. Rwy'n croesawu'r ffaith bod y gwelliant hwn yn ceisio mynd i'r afael â'r materion a amlygwyd gan ddeddfwriaeth arfaethedig Helen Mary. Bydd rheolwyr yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau dyletswydd ansawdd a gonestrwydd, a rhaid i ni sicrhau eu bod yn cael eu dal i'r un safonau uchel â staff clinigol. Credaf mai cofrestru yw'r ffordd ymlaen ac felly cefnogaf welliannau 72, a gyflwynwyd gan Rhun, a bydd cyd-Aelodau, gobeithio, yn dilyn fy esiampl i. Diolch yn fawr.

Fel yr awgrymodd Rhun ap Iorwerth, nid wyf yn cefnogi'r gwelliant sydd bellach yn ymddangos yn ei enw ef. Ond rwy'n cefnogi'r nod o sicrhau bod rheolwyr y gwasanaeth iechyd yn gymwys ac yn alluog ac nad yw'r rhai sy'n methu yn gallu symud ymlaen i swydd arall yn rhywle arall yn y system.

Nid wyf yn cytuno mai diwygio'r Bil hwn i greu corff corfforaethol newydd a system gofrestru gymhleth a biwrocrataidd yw'r ffordd gywir o wneud hynny. Wrth gwrs, nid fy marn i yn unig yw hynny. Yn ei adroddiad Cyfnod 1 ar y Bil, argymhellodd y pwyllgor iechyd y dylai'r Llywodraeth gyflwyno cynigion yn y dyfodol i fynd i'r afael â'r anghydbwysedd rheoleiddiol rhwng staff clinigol a rheolwyr anghlinigol, ond cydnabuwyd nad yw hyn yn fater i'r Bil hwn.

Yn union fel na fyddai ymestyn y dyletswyddau staffio a drafodwyd yn gynharach ar bob lefel yn briodol, dyna'n union yr un pwynt yma. Efallai y bydd yr Aelodau eisiau ystyried union eiriad y gwelliant y gofynnir iddynt ei basio. Mae'n dechrau drwy ddweud bod:

Rhaid i reoliadau ddarparu ar gyfer creu cofrestr o reolwyr clinigol ac anghlinigol.

Mae'r is-adran nesaf yn cyfeirio at bob person:

Rhaid i bob person sy'n cyflawni swyddogaethau rheoli o fewn neu ar ran bwrdd iechyd lleol, Ymddiriedolaeth GIG neu awdurdod iechyd arbennig gael ei gofrestru ar y gofrestr rheolwyr.

A dylai'r Aelodau ystyried graddfa'r hyn y gofynnir i chi gytuno iddo. Felly, pwy sy'n rheolwr? Wel, nyrs band 6, dirprwy reolwr ward—mae'r cliw yn y teitl. I ddweud wedyn beth yw graddfa'r gweithgarwch ar fand 6 i fyny ar draws ein gwasanaeth, fel bod yr holl glinigwyr yn eu galw'n hynny, sydd â'u gofynion proffesiynol eu hunain hefyd, a'r holl reolwyr anghlinigol—mae'n rhaid inni ymgymryd â rhywbeth enfawr. A chodais y pwynt hwn yn nadl pwyllgor Cyfnod 2, y byddai creu darpar gyfundrefn reoleiddio ac un benodol yn gofyn am ystyried gwaith ariannol a pholisi manwl er mwyn adlewyrchu natur amrywiol y gweithlu a'u swyddogaethau. Byddai angen inni fynd i'r afael â'r materion sy'n ymwneud â chydbwysedd cyfrifoldebau rhwng y cyflogwr a'r rheoleiddiwr, sut y mae unrhyw ofynion yn berthnasol i unigolion neu weithwyr proffesiynol gofal iechyd a rheolwyr, a symudedd y gweithlu, sy'n ystyriaeth allweddol i ni mewn sawl rhan o'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru. Yn syml, nid yw'r gofal a'r ystyriaeth sydd eu hangen ar gael inni ac nid yw'n ffordd gywir o geisio diwygio'r Bil hwn, i gyflwyno ymgymeriad mor enfawr.

Hefyd, o ran y mesurau gwerth am arian, ni allwn, wrth gwrs, gael unrhyw syniad o beth yw hynny nawr, ond rydym yn deall rhywfaint am gymhlethdod y lefel o fiwrocratiaeth a'r galw. Pan sefydlwyd Gwella Addysg Iechyd Cymru, y gost oedd tua £2.8 miliwn. Ni allwn i ddweud wrthych chi heddiw beth yw cost gweithredu a chytuno ar y cynnig hwn ar gyfer y cyfnod cyflawni, heb sôn am y cyfnod gweithredu. Nid yw'n ymwneud â'r gost yn unig, wrth gwrs. Rwyf eisoes wedi cyfeirio at yr her sydd gennym ynglŷn â'r ffaith bod rheolwyr a staff yn symud ar draws ffiniau yn rheolaidd.

Nawr, rwyf eisiau clywed canfyddiadau'r gweithgor a sefydlwyd gan GIG Lloegr i ystyried argymhellion adolygiad Kark, adolygiad annibynnol o ba mor effeithiol yw'r system yn Lloegr o ran atal staff anaddas rhag cael eu hadleoli. Roedd hwnnw'n galw am gronfa ddata ganolog o holl gyfarwyddwyr y GIG, ond hyd yn oed o fewn Lloegr, roeddent yn cydnabod ei fod yn gymhleth, ac yn rhywbeth na allant ei gyflawni o bosib ar sail un genedl. Nawr, roeddent yn cydnabod cymhlethdod y materion ac maen nhw eu hunain eisiau cael sgwrs ar sail pedair gwlad. Rwy'n fwy na pharod i gymryd rhan mewn sgwrs pedair cenedl am y mathau o wasanaethau y credaf sy'n werth eu dilyn, nid dim ond i'r Aelodau yn yr ystafell hon ond i'r cyhoedd yn gyffredinol. Ond o ran y gwelliant sydd ger ein bron heddiw, nid priodoldeb ymwneud ag ef yw hyn, ond credaf fod y ffordd y mae wedi cael ei ddrafftio yn ei wneud yn ddiffygiol ac nid yw'n rhywbeth y dylai unrhyw Aelod ei gefnogi.  

18:25

Diolch yn fawr iawn. Wel, mae'r Gweinidog yn esbonio'n frwd iawn pam na fydd yn cefnogi'r gwelliant hwn sydd â'r nod o gynyddu neu wella safonau o fewn y GIG yng Nghymru mewn ffordd eithaf sylfaenol. Credaf fod y Llywodraeth wedi awgrymu y byddent yn cyflwyno eu model eu hunain o reoleiddio rheolwyr o fewn y GIG. Nid wyf yn gwybod a yw'r Gweinidog am gadarnhau hynny, os mai dyna oedd eich bwriad, Gweinidog, wrth gyfeirio at yr hyn a ddywedwyd yng Nghyfnod 1 taith y Bil drwy'r Cynulliad; efallai ddim. Wel, dyna sut ydw i'n ei ddehongli ac rwy'n edrych ymlaen at weld y Llywodraeth yn mynd i'r afael â hyn yn y dyfodol.

Clywsom y Gweinidog yn dweud bod honno'n dasg enfawr. Ydy, mae'n dasg enfawr. Mae hon yn dasg sy'n werth ei gwneud. Weithiau, mae'n werth torchi llewys a gwneud tasg fawr oherwydd bod gwaith i'w wneud. Mae'n cyfeirio at symudedd y gweithlu a phobl sy'n gweithio ar draws ffiniau. Ni ddylem dderbyn staff o safon is o Loegr yng Nghymru, ddylen ni? Wel, dydyn ni ddim eisiau cymryd staff o safon is o unman arall, felly siawns na ddylem ni fod yn gosod ein paramedrau ein hunain y byddwn yn eu defnyddio i gyflogi ein staff er mwyn cyrraedd y safonau yr ydym eisiau eu cyrraedd o fewn y GIG. Dyma'r gwaith sydd angen ei wneud. Fe wnes i glywed awgrym gan y Gweinidog ei fod yn rhywbeth y bydd y Llywodraeth yn edrych arno yn y dyfodol. Rwy'n gobeithio bod hynny'n wir, ond am y tro rydym ni'n dal i fod yn mynd i gefnogi ein gwelliant ein hunain, a gofynnaf i chi wneud hefyd.

18:30

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 72? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symud i bleidlais felly ar welliant 72 yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 22, neb yn ymatal, 28 yn erbyn, ac felly mae'r gwelliant wedi'i golli. 

Gwelliant 72: O blaid: 22, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 7: Dyletswydd i sicrhau ansawdd mewn gwasanaethau iechyd—adolygu datganiad o safonau (Gwelliannau 36, 37)

Y grŵp nesaf o welliannau yw grŵp 7, ac mae'r grŵp yma yn ymwneud â'r dyletswydd i sicrhau ansawdd mewn gwasanaethau iechyd ac adolygu datganiad o safonau. Gwelliant 36 yw'r prif welliant yn y grŵp. Dwi'n galw ar Angela Burns i gynnig y gwelliant hwnnw, ac i siarad i welliannau eraill yn y grŵp. Angela Burns. 

Cynigiwyd gwelliant 36 (Angela Burns).

Diolch, Llywydd. Cynigiaf yn ffurfiol y gwelliannau a gyflwynwyd yn fy enw i. Mae'r gwelliannau hyn yn ystyried pryderon y Gweinidog yng Nghyfnod 2 am oblygiadau ymestyn lefelau staffio diogel i'r holl staff clinigol. Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon wedi datgan, ym marn y pwyllgor,

'mae’n amhosibl gwahanu materion sy’n ymwneud ag ansawdd oddi wrth ddarparu lefelau staffio priodol—mae cysylltiad annatod rhyngddynt.'

Ac rydym yn dal i gredu'n gryf bod hyn yn wir. Yn hytrach, mae'r Gweinidog wedi dibynnu ar y safonau iechyd a gofal ar lefelau'r gweithlu ac, yng Nghyfnod 3, addawodd y Gweinidog eu diweddaru nhw. I'r perwyl hwnnw, bwriedir i welliannau 36 a 37 roi'r addewid hwnnw ar wyneb y Bil.  

Mae gwelliant 36 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gynnal adolygiad manwl o'r safonau o leiaf unwaith bob tymor, sy'n golygu y cawn gyfle, yn gyntaf, i ddadansoddi pa mor effeithiol yw'r safonau o ran sicrhau lefelau staffio diogel. Ni allaf bwysleisio digon i'r Gweinidog pa mor bwysig yw bod gennym yr ymrwymiad hwn ar draws yr holl staff clinigol ers canfyddiadau adroddiad Canolbarth Swydd Stafford. Yn wir, dywedodd Coleg Brenhinol Ffisigwyr y DU fod mwy nag un o bob pump o ymatebwyr eu cyfrifiad wedi dweud, yn 2018, bod bylchau mewn rotâu hyfforddeion yn digwydd mor aml fel eu bod yn achosi problemau sylweddol o ran diogelwch cleifion. Felly, mae'n hanfodol bod gwaith cynllunio'r gweithlu yn cael ei wneud yn gyffredinol. Fel y cyfryw, mae angen i fyrddau iechyd sicrhau bod lefelau'r gweithlu yn cael eu cynllunio a'u cyfrif, ac nad ydynt yn dibynnu'n unig ar staffio diogel ar gyfer nyrsys. Yn ail, mae angen inni fod yn gwbl ymwybodol o newidiadau sy'n esblygu i bwysau'r GIG o ran oedran y boblogaeth, a fydd yn cynyddu achosion o gydafiachedd a chyflyrau cymhleth. Ac mae'n rhaid inni hefyd gydnabod y datblygiadau technolegol, a allai gael effaith bellach ar lefelau staffio. Felly ni ellir gadael pum mlynedd rhwng diweddariadau ac adolygiadau i'r ddogfen bwysig hon.  

Mae gwelliant 37 yn sicrhau bod yn rhaid i Weinidogion roi sylw i farn rhanddeiliaid wrth ddiweddaru ac adolygu'r safonau hyn. Rwy'n nodi, Gweinidog, ac rydych eisoes wedi sôn amdano heno, eich bod wedi gwahodd Cymdeithas Feddygol Prydain Cymru a Choleg Nyrsio Brenhinol Cymru i adolygu a diweddaru'r safonau gofal iechyd yn y lle cyntaf. Fodd bynnag, credwn y dylai hyn fod yn ddyletswydd barhaus, fel bod gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn cael eu hystyried o ddifrif drwy gydol y broses adolygu.

Mae'n galondid mawr, Llywydd, gweld ystod mor eang o gyrff sy'n cynrychioli gofal iechyd yng Nghymru, gan gynnwys Cymdeithas Feddygol Prydain Cymru, Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru, Coleg Meddygon Teulu Brenhinol Cymru, Cymdeithas Elusennau Ymchwil Feddygol Cymru, Coleg Ffisigwyr Brenhinol Cymru, Coleg Llawfeddygon Brenhinol Caeredin, Coleg Llawfeddygon Brenhinol, a Choleg Bydwragedd Brenhinol Cymru, yn galw ar y Cynulliad Cenedlaethol i gefnogi gwelliannau sy'n sicrhau bod dyletswydd ansawdd yn y Mesur wedi'i seilio ar ganllawiau sy'n cynnwys cyfeiriad at gynllunio'r gweithlu, a bod safonau iechyd a gofal yn cael eu hadolygu'n briodol ac yn rheolaidd, a bod rhoi gwybod i gyrff y GIG am y camau a gymerir i gydymffurfio â'r ddyletswydd ansawdd yn cynnwys cynllunio'r gweithlu. Rwyf felly'n annog pob Aelod i gefnogi'r gwelliannau hyn.  

Mewn difrif, mi fyddwn ni'n cefnogi'r gwelliannau yma. Dyma'n polisi yswiriant ni ar ôl methu â chael ein gwelliannau ni wedi eu pasio yn grŵp 2, mewn difrif. Mi wnes i atgoffa yn gynharach fy mod i'n bryderus bod yna nifer o safonau buaswn i'n licio eu gweld ar wyneb y Bil sydd ddim yma, a bod hynny yng nghyd-destun canllawiau sydd yn bum mlwydd oed erbyn hyn. Os ydy'r canllawiau hynny am fod yn rhai gwerthfawr, wel mae'n rhaid sicrhau eu bod nhw yn gyfoes. Ac, o fethu â chael y cryfhau yna ar wyneb y Bil, wel, yn sicr, byddwn i am weld yr ymrwymiad yna i gael safonau sydd yn gyfredol ac yn ymateb i ofynion sydd yn newid trwy'r amser o fewn ein gwasanaethau gofal ac iechyd ni. 

18:35

Nid wyf yn cefnogi'r gwelliannau, gan nad ydw i'n credu bod eu hangen nhw. Mae'r ddeddfwriaeth bresennol yn ei gwneud yn ofynnol i'r safonau gael eu hadolygu. Mae hynny'n golygu eu bod eisoes yn destun adolygiad rheolaidd, a bod safonau wedi'u diweddaru yn cael eu cyhoeddi. Mae tystiolaeth glir i ddangos bod hynny wedi digwydd. Cyhoeddwyd y set gyntaf o safonau, o dan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003, yn 2005. Fe'u diweddarwyd yn 2010 a 2015, ac wrth gwrs mae adolygiad o'r fframwaith presennol eisoes ar y gweill yn 2020. Felly, fel y gwelwch, mae'r safonau eisoes yn cael eu hadolygu a'u diweddaru bob pum mlynedd. Nid yw'r GIG yn sefyll yn ei unfan, felly mae'n sefyll i reswm bod rhaid adolygu'r safonau'n gyson a'u diweddaru yn ôl yr angen.

O ran gwelliant 37, mae dyletswydd eisoes i ymgynghori cyn cyhoeddi neu ddiwygio'r safonau. Felly mae ymgysylltu ac ymgynghori eang â rhanddeiliaid wedi bod, a bydd yn parhau i fod, yn rhan sylfaenol o adolygiadau o'r safonau yn y dyfodol, fel sy'n ofynnol gan y Ddeddf. Rhan o'r ymgynghori yw ystyried barn yr ymgyngoreion. Ni all ymgynghoriad fod yn effeithiol heb wneud hynny. Nid yw'r newid arfaethedig yn ychwanegu unrhyw beth at yr hyn sydd eisoes yn ofynnol gan ddeddfwriaeth a phroses sydd wedi hen ennill ei phlwyf, a gofynnaf i'r Aelodau beidio â chefnogi'r gwelliannau.

Diolch, Llywydd. Y cyfan a ddywedaf yw fy mod i'n anghytuno'n llwyr â'r Gweinidog. Fel yr amlinellais, mae cymaint sy'n digwydd yn y GIG, mae cymaint o ddatblygiadau, mae cymaint o newidiadau ym mhroffil y claf, mae angen i'n safonau gael eu gweithredu ar sail reolaidd iawn. Ac, unwaith eto, byddaf yn atgoffa pawb ein bod bob amser yn sôn am wrando ar y clinigwyr, gwneud yr hyn sydd orau yn eu barn nhw, derbyn eu cyngor. A darllenais ar ddiwedd fy nghyfraniad cyntaf restr o sefydliadau sy'n cefnogi'r gwelliant hwn, ac awgrymaf y dylai pob Aelod wrando arnyn nhw.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 36? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Rydym ni'n symud i bleidlais, felly, ar welliant 36. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 22, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gwelliant 36: O blaid: 22, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 37 (Angela Burns, gyda chefnogaeth Caroline Jones).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 37? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, rydym ni'n symud i'r bleidlais ar welliant 37. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 22, neb yn ymatal, 28 yn erbyn, ac felly mae'r gwelliant wedi ei wrthod.

Gwelliant 37: O blaid: 22, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 8: Dyletswydd gonestrwydd—diffyg cydymffurfio (Gwelliannau 39, 73, 74)

Grŵp 8 yw'r grŵp nesaf, ac mae'r grŵp yma yn ymwneud â diffyg cydymffurfio o ran dyletswydd gonestrwydd. Gwelliant 39 yw'r prif welliant yn y grŵp yma. Rwy'n galw ar Angela Burns i gyflwyno'r gwelliant a'r grŵp. Angela Burns.

Cynigiwyd gwelliant 39 (Angela Burns, gyda chefnogaeth Caroline Jones).

Diolch, Llywydd. Hoffwn gynnig gwelliant 39, a gyflwynwyd yn fy enw i, yn ffurfiol. Mae'r gwelliant hwn, 39, yn unol ag argymhelliad 9 y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yng Nghyfnod 1, a argymhellodd fod y Gweinidog yn gwneud darpariaeth benodol ar gyfer goblygiadau diffyg cydymffurfio â dyletswydd gonestrwydd—gyda'r ddyletswydd didwylledd, uniondeb, gwirionedd. Cyflwynwyd hyn gan lefarydd blaenorol Plaid Cymru yng Nghyfnod 2, ac fe wnaethom ni gefnogi bwriadau'r gwelliant bryd hynny. Roedd rhanddeiliaid yn glir iawn na fydd deddfwriaeth ar ei phen ei hun yn newid diwylliant y GIG. Dyma holl bwrpas y Bil hwn—newid y diwylliant hwnnw, ei danategu, a'i yrru yn ei flaen. Felly, mae'n hanfodol bod yna fecanwaith o fewn y ddeddfwriaeth i newid hynny ar frig sefydliadau'r GIG.

I fynd yn ôl at y diffygion a welsom yng ngwasanaethau mamolaeth Cwm Taf, roedd diwylliant o gyfrinachedd, gydag adroddiadau erchyll am fethiannau'n cael eu hanwybyddu gan uwch reolwyr. Newid yn y diwylliant sydd ei angen, o'r brig, sef yr hyn y mae'r Gweinidog yn anelu ato, ac rwyf yn ei gefnogi'n llwyr yn yr ymgyrch honno. Ond dyna pam y mae'n rhaid i'r ddyletswydd gonestrwydd gael dannedd. Rhaid i bobl wybod, os na allan nhw drafferthu, os ydyn nhw'n dewis dweud celwydd, neu os ydyn nhw'n dewis bod yn ochelgar, neu os ydyn nhw'n dewis gwadu'n llwyr, neu os ydyn nhw'n dewis peidio â gweithredu ar rywbeth, y cânt eu dal, a bydd yn rhaid iddyn nhw ateb am hynny: diwedd y sgwrs. Dychwelaf at y dystiolaeth a gyflwynwyd gan Fwrdd y Cynghorau Iechyd Cymunedol, a ddywedodd fod yn rhaid i'r ddyletswydd gydnabod y swyddogaeth allweddol sydd gan arweinwyr sefydliad wrth osod y cywair cywir a gweithredu'n gyflym ac yn bendant pan fydd pethau'n mynd o chwith. A bydd angen i Lywodraeth Cymru roi digon o sylw i ddatblygu arweinyddiaeth a chyfrifoldeb ac atebolrwydd uwch reolwyr yn y GIG.

Cydffederasiwn y GIG—dyma'r corff sy'n cynrychioli'r byrddau iechyd hyn, ond dywedon nhw fod absenoldeb unrhyw gosbau'n awgrymu na fydd y ddyletswydd gonestrwydd newydd yn cyflawni llawer mwy na'r dyletswyddau y mae sefydliadau GIG Cymru a gweithwyr proffesiynol gofal iechyd yn ddarostyngedig iddyn nhw eisoes. Gadewch imi ddweud hynny eto: Cydffederasiwn y GIG ddywedodd hynny. Felly, mae'n rhyw fath o botsiwr a drodd yn giper, neu'r ffordd arall—rwy'n credu, os ydynt yn dweud hynny, dylem wrando.

Anghytunaf â phrotestiadau'r Gweinidog yng Nghyfnod 2 pan ddywedodd bod

defnyddio cosb i newid ymddygiad a diwylliant, pan fo angen bod yn fwy agored a thryloyw, yn annhebygol o gyflawni'r canlyniadau yr hoffem eu gweld.

Ac, mewn gwirionedd, rwy'n credu mai'r rheswm dros hyn yw nad yw wedi bod yn glir ynghylch pwy sy'n gyfrifol am fethiannau, a bod yn blwmp ac yn blaen, ac mae pasio'r baich wedi dod yn gwbl arferol yn y GIG yng Nghymru, ac ni ddylai anwybodaeth fod yn amddiffyniad.

Byddem yn cefnogi gwelliannau 73 a 74 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth, oherwydd gallaf weld y cyfaddawd yn cael ei daro yma, a chytunaf â'r ymdeimlad y tu ôl i adrodd am doriadau difrifol i Weinidogion ac i'r Cynulliad. Rydyn ni'n dod at hyn o ongl ychydig yn wahanol, ond mae Plaid Cymru a Cheidwadwyr Cymru eisiau cyflawni'r un nod yma. Byddwn yn ddiolchgar, fodd bynnag, pe bai'r Aelod yn manylu ar yr hyn sy'n gyfystyr â thoriad difrifol o dan y gwelliannau, dim ond yn y drafodaeth. Felly, a yw hynny'n ganlyniad anffafriol i gleifion, neu'n fethiant systemig fel y gwelsom yng Nghwm Taf?

18:40

Yn y grŵp hwn, gwelliannau 73, 74 a'n gwelliannau ni—maen nhw'n nodi y dylid rhoi gwybod i Weinidogion Cymru am doriadau i'r ddyletswydd gonestrwydd, a fyddai, yn eu tro, yn ei gwneud yn ofynnol iddyn nhw adrodd am y toriadau hyn i'r Cynulliad Cenedlaethol, naill ai drwy adroddiad blynyddol, neu, pan mae'r Gweinidog yn barnu eu bod nhw'n ddifrifol, ar unwaith. Byddwn i'n dweud y byddai'r lefel honno o ddifrifoldeb yn cael ei diffinio drwy ganllawiau.

Unwaith eto, rwy'n credu bod y rheswm dros y gwelliannau hyn—ein rhai ni a'r Ceidwadwyr—yn ymwneud â sicrhau ein bod yn dechrau pasio deddfwriaeth ystyrlon yn y lle hwn. Ystyrlon yn yr ystyr bod goblygiadau i dorri'r gyfraith—rhywbeth yr ydym eisoes wedi ei grybwyll yn gynharach heno. Y dadleuon a wnaed yn erbyn y gwelliannau hyn yng Nghyfnod 2 oedd nad oedd y Gweinidog am annog diwylliant o gosbi, gan ei fod yn ofni y byddai'n atal pobl rhag adrodd yn ôl. Ond, wrth gwrs, mae'n bwysig tynnu sylw at y ffaith nad yw camgymeriadau adrodd yn torri'r ddyletswydd gonestrwydd—dyna yw'r ddyletswydd. Torri dyletswydd gonestrwydd yw methu rhoi gwybod am gamgymeriadau. Felly, mae darganfod tor-amod eisoes yn darganfod achos o anonestrwydd, ac felly eisoes yn sicr yn ddigon difrifol i gyfiawnhau ei adrodd i Lywodraeth Cymru. Dydyn ni ddim eisiau bod yn rhy gyfarwyddol a dweud y bydd yn bendant yn arwain at gosbi, ond rydym yn teimlo bod torri'r ddyletswydd hon yn ddigon difrifol fel bod angen inni wybod amdano. Mae hynny'n hanfodol, yn ein barn ni, er mwyn meithrin y math o ymddiriedaeth yr ydym am ei chael o fewn iechyd a gofal yng Nghymru.

Felly, byddai'r gwelliannau hyn yn gosod gofyniad i adrodd am y toriadau hyn i'r Cynulliad Cenedlaethol, naill ai drwy adroddiad blynyddol neu, fel y dywedais, os yw'r Gweinidog yn eu hystyried yn ddifrifol, yna ar unwaith. Ond mae'n ymwneud, fel y clywsom eisoes, â rhoi dannedd i'r darn hwn o ddeddfwriaeth a sicrhau ei fod mewn gwirionedd yn gweithredu mewn ffordd sy'n golygu ein bod yn gweld newid a gwelliant i'r sefyllfa bresennol.

Diolch, Llywydd. Rwyf wedi gwrando ar y rhesymeg dros osod y gwelliannau a gyflwynwyd yn y grŵp hwn, yng Nghyfnod 2 ac eto heddiw. O ran gwelliant 39, nad ydw i, am resymau y byddaf yn eu hegluro eto, yn cytuno ag ef, mae'r diben a'r effaith yn ddigon clir: mae unrhyw fethiant gan un o gyrff y GIG i gydymffurfio â rheoliadau dyletswydd gonestrwydd, neu â'r darpariaethau yn adrannau 5 i 10 yn y Bil, yn gorfod cael eu trin o dan drefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd GIG Cymru. Yn awr, cydnabyddir bod y trefniadau hynny eisoes ar waith. Ond mae pwynt technegol, fodd bynnag, ynglŷn â'r ffaith bod y trefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd a'r defnydd a wneir ohonyn nhw mewn deddfwriaeth sylfaenol yn golygu bod cymysgedd o fesurau deddfwriaethol ac anneddfwriaethol ar gael i Weinidogion Cymru.

Fodd bynnag, mae'r rheini, fel y dywedaf, yn gweithio o fewn fframwaith llywodraethu ac atebolrwydd ehangach o fewn y GIG ar lefel corff a system unigol, drwy bwyllgorau ansawdd a diogelwch, ar fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd, cyfarfodydd ansawdd a chyflawni, a chyd-gyfarfodydd gweithredol. Mae'r rheini i gyd yn gyfleoedd ar gyfer craffu a gweithredu a dysgu priodol ac amserol.

Pe bai pryderon difrifol yn deillio o'r mecanweithiau hynny, bydden nhw, lle bo angen, yn llywio unrhyw drafodaethau a chamau gweithredu posib o dan ein trefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd presennol. Fodd bynnag, rwy'n disgwyl y dylid manteisio ar bob cyfle i fynd i'r afael â phryderon wrth iddyn nhw godi ac y dylai corff gymryd camau unioni ar unwaith. Dydw i ddim yn credu bod angen cynnwys darpariaeth ar wyneb y Bil sydd yn ei hanfod yn dweud bod yn rhaid ymdrin â methiannau gan gorff y GIG i gydymffurfio â'r ddyletswydd o dan y mesurau sydd eisoes yn bodoli.

Rwyf wedi gwrando eto ar bwrpas ac effaith arfaethedig gwelliannau 73 a 74 a'u gofyniad i Weinidogion Cymru nodi'r weithdrefn y mae'n rhaid i gyrff y GIG ei dilyn mewn rheoliadau os ydyn nhw'n methu â dilyn y weithdrefn dyletswydd gonestrwydd neu gydymffurfio â'r adroddiad a threfniadau eraill a nodir yn adrannau 5 i 10 o'r Bil. Felly, mae hynny'n golygu y byddai gweithdrefn ar gyfer methiant i gydymffurfio â'r weithdrefn, a dyletswydd i wneud datganiadau a chyhoeddi adroddiad lle mae'r GIG wedi methu â chydymffurfio â'u gofynion adrodd. Nawr, mae hynny'n swnio'n eithaf biwrocrataidd i mi ac mae'n ychwanegu haenau diangen o gymhlethdod at y gwaith o weithredu'r ddyletswydd, ac nid yw hynny'n ddymunol. Mae gennyf bryderon gwirioneddol hefyd ynghylch sut y byddai hyn yn gweithio, neu'n hytrach na fyddai'n gweithio, yn ymarferol.

Gallai'r gofyniad yn is-adran (4) o welliant 73 i Weinidogion Cymru wneud datganiad ar achosion difrifol o dorri'r weithdrefn dyletswydd gonestrwydd arwain at ddatgelu gwybodaeth a fyddai'n gallu adnabod cleifion. Nid yw'r diffiniad o doriad difrifol yn glir, ac yn sicr nid yw wedi'i ddiffinio yn y gwelliant. Unwaith eto, nid oes angen ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyflwyno adroddiad ar nifer yr achosion o dorri'r ddyletswydd gonestrwydd a gafodd eu hadrodd iddyn nhw. O ran monitro'r gwaith o gydymffurfio â'r ddyletswydd, disgwyliaf i ddiweddariadau rheolaidd gael eu darparu yng nghyfarfodydd y pwyllgor ansawdd a diogelwch cyhoeddus fel y gall aelodau annibynnol, yn y lle cyntaf, ofyn am sicrwydd bod y ddyletswydd yn cael ei chyflawni a bod dysgu'n cael ei ddatblygu.

Nawr, caiff hynny ei drafod mewn cyfarfodydd o'r grŵp ansawdd a chyflawni rhwng Llywodraeth Cymru, cyrff unigol, cyfarfodydd tîm gweithredol ar y cyd, ac wrth gwrs rhwng prif weithredwr GIG Cymru a phrif weithredwyr byrddau ac ymddiriedolaethau, yn ogystal â'm harfarniadau gyda chadeiryddion ac is-gadeiryddion. Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn monitro cynnwys yr adroddiadau hynny ynghyd â ffynonellau eraill o wybodaeth i'n helpu ni i geisio cymhwyso'r ddyletswydd, er enghraifft, i ystyried adroddiadau difrifol am ddigwyddiadau. Bydd Arolygiaeth Iechyd Cymru hefyd yn ystyried yr adroddiadau fel rhan o'u hadolygiadau ehangach o wasanaethau. Pan ddaw pryderon i'r amlwg drwy'r mecanweithiau hyn, bydden nhw yn sicr yn llywio'r trafodaethau tairochrog ac unrhyw gyngor dilynol i Weinidogion ar uwchgyfeirio ac ymyrryd.

Ond mae angen imi ddychwelyd at bwynt a wnaed yng Nghyfnod 2 ac yn y ddau gyfraniad blaenorol: prif fwriad y ddyletswydd yw hyrwyddo ethos o ddysgu a gwella a hyrwyddo diwylliant agored a gonest i fod yn eiddo i'r sefydliad ar lefel sefydliadol. Pan wneir sylwadau ynghylch sut mae gweithred o anonestrwydd neu ddweud celwydd eisoes wedi digwydd os yw'r ddyletswydd yn cael ei thorri, nid wyf yn credu bod hynny'n gosod y cywair cywir o gwbl. Byddai modd i amryfusedd neu gamgymeriad arwain at dorri'r ddyletswydd, nid gweithred o anonestrwydd bwriadol, o reidrwydd. Ac mae hynny'n mynd yn gwbl groes i'n nod ni o feithrin y diwylliant agored hwnnw, lle gall pobl godi eu llaw pan aiff rhywbeth o'i le, yn hytrach na cheisio dweud, 'Sut y galla i esbonio hyn neu osgoi cyfrifoldeb?'

Yn fy marn i, mae'r dull sy'n cael ei annog yn y gwelliannau hyn yn un hollol anghywir. A sut bynnag, mae'r pwerau i ymyrryd eisoes yn bodoli. Dydw i ddim yn credu y byddai'r gwelliannau gor-fiwrocrataidd hyn yn hwyluso creu'r ethos agored a gonest yr ydym ni'n anelu at ei greu. Yr hyn sy'n peri mwy o bryder, er hynny, yw y gallen nhw mewn gwirionedd arwain at ddiwylliant llawer mwy cosbol ac ofn adrodd. Gofynnaf i'r Aelodau wrthod y gwelliannau yn y grŵp hwn.

18:45

Nid wyf yn credu y gallwn anghytuno â chi'n fwy, mewn gwirionedd, Gweinidog. Flynyddoedd lawer yn ôl, gweithiais i arweinydd busnes doeth iawn a ddywedodd na fyddai byth yn fy niswyddo am wneud camgymeriad, ond byddai'n fy niswyddo am fethu â chymryd cyfrifoldeb am y camgymeriad; a dyma sydd gennym yma. Gadewch imi eich atgoffa am y sefyllfa ar hyn o bryd, oherwydd dyma'r gwelliannau olaf i'r Bil hwn sy'n ymwneud â'r ddyletswydd ansawdd a'r ddyletswydd gonestrwydd. Nawr, mae holl gynsail y Bil cyfan hwn yn ymwneud â gwella'r safonau ansawdd a gwneud ein GIG yn fwy agored a thryloyw. Mae gennym fwy o welliannau i ddod, ond maen nhw i gyd yn ymwneud â chorff llais y dinesydd a rhai pethau technegol, yn y bôn. Felly, dyma'r ddau brif faes: rydym am gael diwylliant gonest ac agored, diwylliant a fyddai, pan fydd nyrs staff neu fydwraig yn gwneud adroddiad sy'n dweud bod diffygion difrifol mewn gwasanaethau mamolaeth, yn gwneud iddyn nhw deimlo bod ganddyn nhw'r grym i allu tynnu sylw at hynny gan ei fod yn ddyletswydd gonestrwydd, ac mae'n cynrychioli dyletswydd ansawdd.  

Felly, yr hyn sydd ar fin cael ei basio—oherwydd rwy'n siŵr y byddwch chi'n pleidleision yn erbyn y gwelliant hwn gan eich bod wedi cael eich chwipio—yw Bil sy'n mynd i ddweud rhywbeth tebyg i, 'Byddwch yn ddidwyll, ond os nad ydych chi'n ddidwyll, os byddwch yn fwriadol yn penderfynu peidio â bod, yna does dim ots.' A dyna beth rydym ni'n ceisio ei wneud yma. Efallai nad ydym wedi gwneud hynny yn y ffordd orau. Fe wnaethoch chi ddefnyddio'r gair 'cosb', ac rydych wedi ei ddefnyddio cwpl o weithiau heno. Nid yw hyn yn ymwneud â chosbi, ond mae'n dweud, 'Byddwch yn onest. Os ydych chi'n onest: iawn. Os ydych yn cymryd cyfrifoldeb: iawn.' Dyna beth mae'r claf ei eisiau, 'Sori' bob nawr ac yn y man. Dyna'r hyn yr ydym am ei glywed, 'Gwnaethom gamgymeriad, mae angen inni ei wneud yn wahanol', nid ei guddio. Mae gennym ormod o achosion lle mae'n fwriadol yn cael ei guddio neu fod aneglurder bwriadol, ac nid yw'n cael ei newid. Felly, da iawn, Bil gwych, darn da o ddeddfwriaeth, ond nid yw'n mynd i wneud fawr ddim i yrru'r newid diwylliant hwnnw mewn gwirionedd.  

Rydym i gyd wedi siarad am y peth, dro ar ôl tro, am fod y gorau, am Gymru yn cael y GIG gorau, y gofal cymdeithasol gorau, y gorau o bopeth, bod y cyntaf i gael deddfwriaeth newydd ac arloesol. Gyda hyn, y cyfan rydyn ni'n ei ddweud yw, rhowch ddannedd iddo. Felly os ydych chi'n uwch reolwr ac yn gweld rhywbeth ac yn dewis ei gadw yn eich drôr gwaelod a dweud dim amdano, fe fyddwch chi'n gwybod, yn y pendraw, y bydd goblygiadau pan fyddwch chi'n cael eich dal. Pleidleisiwch dros y gwelliannau hyn os gwelwch yn dda.

18:50

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 39? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais, felly, ar welliant 39. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 22, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gwelliant 39: O blaid: 22, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 73 (Rhun ap Iorwerth, gyda chefnogaeth Caroline Jones).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 73? Unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais, felly, ar welliant 73. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 22, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y gwelliant. 

Gwelliant 73: O blaid: 22, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 74 (Rhun ap Iorwerth, gyda chefnogaeth Caroline Jones).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 74? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais, felly, ar welliant 74. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 22, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gwelliant 74: O blaid: 22, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 9: Corff Llais y Dinesydd—aelodau (Gwelliannau 5, 48, 6, 7, 8, 49, 9, 50, 51, 52, 10, 53, 11, 12, 54, 56, 14)

Grŵp 9 yw'r grŵp nesaf o welliannau, ac mae'r grŵp yma'n ymwneud ag aelodau o gorff llais y dinesydd. Gwelliant 5 yw'r prif welliant. Galwaf ar y Gweinidog i gynnig y prif welliant, ac i siarad i'r grŵp. Vaughan Gething. 

Cynigiwyd gwelliant 5 (Vaughan Gething).

Diolch. Byddaf yn siarad yn gyntaf am welliannau'r Llywodraeth yr wyf yn eu cynnig, ac yna'n troi i ystyried y gwelliannau eraill sydd wedi'u rhestru yn y grŵp hwn.  

Nid oedd y Bil fel y'i cyflwynwyd yn cynnwys darpariaethau i brif weithredwr corff llais y dinesydd fod yn aelod o'r bwrdd. Cwestiynwyd hynny yn ystod y broses graffu gan fwrdd y Cynghorau Iechyd Cymuned, ac rwy'n ddiolchgar iddyn nhw am godi'r mater. Gan mai prif weithredwr y corff fydd ei swyddog cyfrifyddu, mae'n briodol y dylai'r prif weithredwr fod yn aelod o'r bwrdd. Felly, rwy'n falch o gynnig y grŵp hwn o welliannau sy'n gwneud y prif weithredwr yn aelod o'r bwrdd ac yn gwneud newidiadau ôl-ddilynol i adlewyrchu'r ffaith y bydd gan y bwrdd bellach gyfuniad o un prif weithredwr a chwech i wyth aelod anweithredol, ynghyd â chadeirydd a dirprwy gadeirydd.

Mae gwelliannau'r Llywodraeth hefyd yn gwneud darpariaeth i aelodau anweithredol y corff wahodd unrhyw undebau y mae wedi'u cydnabod i enwebu ymgeisydd cymwys i'w benodi'n aelod cyswllt undeb llafur y corff. Mae ymgeisydd yn gymwys i'w benodi os yw: yn aelod o staff corff llais y dinesydd ac yn aelod o undeb llafur a gydnabyddir gan y corff. Ei swyddogaeth fydd rhoi cyngor i'r bwrdd i sicrhau bod profiad y gweithlu yn llywio gweithgaredd, gweithredu a thrafodaeth y bwrdd. Y nod yw cryfhau cysylltiad y bwrdd â staff a gwella trefniadau llywodraethu a darparu gwasanaethau'r corff. Bydd gan yr aelod undeb llafur swyddogaeth gynghori, yn hytrach na swyddogaeth bleidleisio. Mae'r rhain yn welliannau a fydd yn cryfhau arweinyddiaeth a llywodraethu'r bwrdd a gofynnaf i'r Aelodau eu derbyn.

Byddaf nawr yn ymdrin â gwelliannau nad ydyn nhw yn rhai'r Llywodraeth. Mae'r gwelliannau yn cadw'r strwythur aelodaeth gwreiddiol a nodir yn y Bil, ond yn rhoi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru y swyddogaeth o benodi bwrdd y corff a chyflawni swyddogaethau megis cymeradwyo telerau ac amodau staff y corff. Rwyf wedi gwneud fy safbwynt ar benodiad gan y Cynulliad yn glir yn ystod camau 1 a 2. Bydd penodiad Gweinidogion Cymru o aelodau'r bwrdd yn ddarostyngedig i reolau'r Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus. Mae hynny'n gwarantu cystadleuaeth deg ac agored i'r swyddi. Rwyf eisoes wedi dweud fy mod yn fwy na pharod i gynnwys cam rhanddeiliaid yn y broses benodi. Yn ogystal â hyn, fel y dylai'r Aelodau fod yn ymwybodol ohono, mae Pwyllgor pwnc perthnasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn craffu ar benodiadau cadeiryddion penodol cyn eu penodi. Rwyf eisoes wedi cytuno y bydd penodi cadeirydd corff llais y dinesydd yn agored i'r lefel ychwanegol honno o graffu gan Aelodau yn y fan hon.

Dywedodd y cynghorau iechyd cymuned eu hunain yn eu tystiolaeth fod y trefniant newydd yn llawer mwy annibynnol na'u model presennol, ac ni ddylem golli golwg ar hyn. Yn y sylwadau agoriadol a wnaed, dywedwyd bod hyn yn ymwneud â chael gwared ag annibyniaeth y cynghorau iechyd cymuned. Mae hyn ymhell o'r gwirionedd: mae'n cryfhau eu hannibyniaeth yn sylweddol. Fel y gŵyr yr Aelodau o bosib, ceir nifer o enghreifftiau o gyrff y penodir eu byrddau gan Weinidogion Cymru, er enghraifft Gofal Cymdeithasol Cymru a Chymwysterau Cymru. Fel y gŵyr pawb, nid yw'r ffaith bod Gweinidogion Cymru yn penodi pobl i fyrddau cyrff cyhoeddus yn atal y cyrff hynny rhag cwestiynu neu feirniadu'r Llywodraeth pan gredant ei bod yn iawn gwneud hynny. Mae'r profiad yn dangos nad yw penodiadau gweinidogol yn mygu llais y corff mewn unrhyw ffordd nac yn cyfyngu ar ei weithredoedd.

Mae'r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i'r corff osod copi o'i adroddiad blynyddol gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a fydd, wrth gwrs, yn cael ei adnabod yn fuan dan enw gwahanol. Cafodd hyn ei gynnwys yn fanwl fel y byddai'r adroddiad blynyddol yn cael ei ddwyn i sylw Aelodau'r Cynulliad. Felly, bydd gan y Cynulliad bob cyfle i graffu ar waith y corff, a disgwyliaf yn llawn i'r Cynulliad drafod cynnwys yr adroddiad. Felly, ni fyddaf yn cefnogi'r gwelliannau nad ydyn nhw yn rhai'r Llywodraeth yn y grŵp hwn.

18:55

Diolch yn fawr, Llywydd. Am syndod. A bod yn onest, rydym bellach wedi dod at wraidd y darn hwn o ddeddfwriaeth o ran corff llais y dinesydd. Mae ein cynghorau iechyd cymuned presennol yn sefydliadau eithriadol. Mae rhai ohonynt yn hollol ragorol yn y gwaith a wnânt. Mae rhai ohonynt wedi mynd allan yno ac wedi datgelu problemau gwirioneddol, wedi tynnu sylw atynt, wedi mynd i'r afael â nhw, ac wedi'u datrys.

Felly, y llwyth nesaf o welliannau sy'n rhedeg—ble'r ydym ni? Rwy'n credu ein bod ni ar grŵp 9—hyd at bron 20 i gyd yn ymwneud â chorff llais y dinesydd: sut mae'n mynd i weithredu; sut mae'n mynd i gael ei weld gan y cyhoedd. A hoffwn eich atgoffa, cyn inni fanylu ar y gwelliannau hyn, fod corff llais y dinesydd ar gyfer y bobl. Ac yn yr adolygiad seneddol—y mae'r Gweinidog yn hoffi ein hatgoffa yn aml ein bod ni i gyd wedi dweud fel grŵp y byddem yn ei ystyried ac yn cytuno arno—roedd yn gwbl glir y byddai ein gwasanaeth iechyd, wrth symud ymlaen, yn cynnwys pobl wrth ddarparu'r gwasanaeth iechyd. Byddai pobl yn ei siapio; bydden nhw yn helpu i benderfynu ar gyfeiriad y daith;  byddai ganddyn nhw fewnbwn; a byddai eu lleisiau, wrth symud ymlaen, yn cael eu clywed.

Felly, sut ydych chi'n clywed eu llais? A ydych yn clywed eu llais drwy brif weithredwr bwrdd iechyd? Dydw i ddim yn meddwl hynny, nid mewn gwirionedd. A glywch eu llais drwy Aelodau'r Cynulliad sy'n dod yma ac yn codi achosion unigol? Ydym, rydym i gyd yn ei wneud. Rydym i gyd yn gwneud hynny ar ran ein holl etholwyr, lle bynnag yr ydym. A ydych yn clywed eu llais drwy unrhyw sefydliadau eraill? Dim llawer. O bryd i'w gilydd, bydd rhai o'r colegau proffesiynol yn ymwneud â mater penodol. Byddwch yn ei glywed yn bennaf drwy gorff llais y dinesydd, neu'r hyn a ddaw'n gorff llais y dinesydd.

Felly, rydym wedi cyflwyno'r gwelliannau hyn—gwelliannau 48, 54 a 56—yn ôl ger eich bron eto; fe'u cyflwynwyd gennym yng Nghyfnod 2. Nid realiti annibyniaeth yn unig y mae angen inni ei weld yma, ond mae'n rhaid inni gadarnhau canfyddiad y cyhoedd o annibyniaeth. Dywedais hyn yng Nghyfnod 2, ac rwyf yn mynd i'w ddweud eto ac atgoffa'r Gweinidog, ac roedd yn sylw a wnaed gan yr ombwdsmon yr wyf i, mewn gwirionedd, yn ei barchu'n fawr am y gwaith a wna dros bobl Cymru yn y swydd honno fel ombwdsmon, fe ddywedodd ef,

heb annibyniaeth, y byddai gan rai'r canfyddiad ei fod o bosib yn debyg i bwdl; ni fyddai ganddyn nhw'r dannedd.

Ac ni allwn gytuno mwy. Rwy'n siomedig, Gweinidog, eich bod wedi ail-gyflwyno eich gwelliannau ar gyfer cyfnod 2—sydd wedi'u rhifo'n 5, 12 a 14 erbyn hyn. Nodwyd yng Nghyfnod 2 nad oes llawer i awgrymu y byddai'r broses penodiadau cyhoeddus yn fwy addas ar gyfer annibyniaeth y corff. Yn hytrach, defnyddir y Cynulliad fel ffordd o warantu aelodau annibynnol a fyddai'n gallu herio'r Gweinidog a'r byrddau iechyd heb ofn cael eu cyhuddo neu golli eu swydd.

Gofynnais nifer o gwestiynau i'r Gweinidog ar annibyniaeth yng Nghyfnod 2, nad wyf yn credu iddynt gael eu hateb yn ddigonol gan y broses benodiadau cyhoeddus, ac yn enwedig o ystyried bod gennym ni, yma yng Nghymru, gronfa fach iawn o bobl i ddewis ohonynt; pobl sy'n aml iawn yn gysylltiedig â swyddi anllywodraethol eraill, y trydydd sector neu gyrff llywodraethol. Wyddoch chi, nid rhywbeth i deimlo cywilydd yn ei gylch yw hyn; mae'n un o ffeithiau bywyd, mae'n rhaid ei wynebu a gwneud yn siŵr ein bod yn rhoi'r prosesau cywir ar waith i sicrhau bod gan gorff llais y dinesydd berson cwbl annibynnol yn gadeirydd.

Felly, Gweinidog, sylwaf eich bod yn honni bod eich dull chi o weithredu yn cynnig camau diogelwch, ond nid wyf yn credu hynny, a byddwn yn gofyn i'r Aelodau feddwl o ddifrif am hyn. Dyma lais y dinesydd. Hwn yw'r unig le y gallant ein dal ni, y byrddau iechyd, y Gweinidog, y GIG cyfan, i gyfrif. Rhaid inni adael iddyn nhw fod yn annibynnol. Felly a fyddech cystal â phasio gwelliannau 48, 54 a 56.

19:00

Gwelliannau pwysig iawn yn fan hyn. Mi fyddem ni’n pleidleisio yn erbyn gwelliannau’r Llywodraeth, oherwydd mae hynny’n angenrheidiol er mwyn inni allu cael pleidlais ar welliannau 48 i 54 a 56. Mae ein barn ni ar hwn wedi bod yn gyson drwy gydol y drafodaeth ar y ddeddfwriaeth yma. Rydym ni’n credu, yn syml iawn, y dylai bwrdd llais y dinesydd gael ei benodi gan y Cynulliad Cenedlaethol ac nid gan Weinidogion Cymru. Mae’r bwrdd, mewn difrif, yn cymryd lle'r cynghorau iechyd cymuned, ac yn hynny o beth, felly, yn mynd i fod yn chwarae rôl allweddol yn sgrwtineiddio'r NHS a llais y cleifion ydy o i fod.

Pa ffordd bynnag yr ydych chi eisiau ei ddehongli, fe fydd tybiaeth o hyd o wrthdaro buddiannau pan gaiff y corff y mae ei angen fwyaf i sefyll o blaid y cleifion—mewn geiriau eraill, i fod yn feirniadol, pan fo angen, o'r ffordd y caiff y gwasanaeth ei redeg—ei benodi'n uniongyrchol gan y Gweinidog. Dyma un o'r rhesymau allweddol eraill pam na allwn ni gefnogi'r Bil hwn. Gwyddom, mewn rhannau o Gymru o leiaf, fod y cyngor iechyd cymuned wedi bod yn barod i sefyll o blaid cleifion a bod yn feirniadol o'r gwasanaeth. Edrychwch ar y gwaith sy'n cael ei wneud gan y cyngor yn y gogledd ar hyn o bryd o ran penderfyniadau a wneir ar faterion fasgwlaidd. Rydym yn parhau'n bryderus iawn mai canlyniad y Bil hwn fydd dileu haen hanfodol bwysig o graffu o fewn ein system iechyd a gofal.

Er na allaf gefnogi'r prif welliant yn y grŵp hwn, mae gennyf rywfaint o gydymdeimlad â'r hyn y mae'r Gweinidog yn ceisio'i wneud. Fodd bynnag, credaf mai'r lle hwn, nid Gweinidogion Cymru, sydd yn y sefyllfa orau i benodi aelodau i gorff llais y dinesydd. Felly, rwyf yn dewis cefnogi gwelliannau Angela.

Corff llais y dinesydd yw un o rannau pwysicaf y ddeddfwriaeth hon. Nid oeddwn erioed yn cefnogi disodli'r cynghorau iechyd cymuned, ond rydym yn y sefyllfa sydd ohoni. Mae'n hanfodol, yn sgil y ddeddfwriaeth hon y ceir corff sy'n wirioneddol gefnogi cleifion mewn iechyd a gofal cymdeithasol. Ni chredaf fod rhoi'r gallu i Weinidogion benodi a diswyddo yn cyd-fynd â'r ffaith y bydd angen i gorff llais y dinesydd herio penderfyniadau Gweinidogion gymaint â rhai y cyrff iechyd a gofal cymdeithasol, ac felly rwy'n dod i'r casgliad fod hwn yn enghraifft o wrthdaro buddiannau. Mae angen i gorff annibynnol sy'n llais i gleifion fod yn rhydd o unrhyw ymyrraeth dybiedig neu wirioneddol gan y Llywodraeth. Mae hynny'n cynnwys penodi a diswyddo, ac rwyf felly'n gwrthod gwelliannau 5, 7, 8, 9 a 10. Fodd bynnag, byddwn yn cefnogi'r rhan fwyaf o'r gwelliannau eraill yn y grŵp hwn. Diolch yn fawr.

19:05

Diolch i'r Aelodau am eu sylwadau ac rwy'n cydnabod y gallwn ni ailadrodd nifer o bwyntiau yn y grwpiau nesaf o welliannau.

Rwyf eisiau dychwelyd yn uniongyrchol at y pwyntiau a wnaed am annibyniaeth neu ddiffyg annibyniaeth corff llais y dinesydd, yn hytrach na'r cynghorau iechyd cymuned presennol. Wrth glywed yr ymadrodd, 'pa ffordd bynnag yr ydych yn ei ddehongli, ni allwch gael sefyllfa lle caiff annibyniaeth corff ei amau', wel, mewn gwirionedd, os edrychwn ni ar y grŵp presennol o gynghorau iechyd cymuned sy'n cael eu canmol i'r cymylau gan Aelodau yn y Siambr hon am eu hannibyniaeth, mae'n werth inni fyfyrio ar y ffaith mai corff a gynhelir gan fwrdd iechyd Powys ydyw. Caiff staff cynghorau iechyd cymuned eu cyflogi gan fwrdd iechyd Powys. Rydym yn creu corff ar wahân lle penodir yr arweinyddiaeth drwy broses o benodiadau cyhoeddus a oruchwylir gan y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus. Mae hynny'n llawer mwy annibynnol na'r broses bresennol. Nawr, efallai bod pobl yn anghytuno â hynny, ond nid yw ceisio awgrymu bod hyn rywsut yn cyflwyno elfen ychwanegol o reolaeth gan y Llywodraeth yn dal dŵr o safbwynt rhesymegol, ac os ydych chi'n meddwl am ein proses bresennol o benodiadau cyhoeddus, meddyliwch am ein comisiynwyr, a benodir gan y Llywodraeth. Wel, nid wyf erioed wedi credu bod unrhyw un o'r comisiynwyr sydd gennym ni, boed y comisiynydd plant, y comisiynydd pobl hŷn na chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, wedi teimlo eu bod yn cael eu ffrwyno erioed o ran y sylwadau yr oeddent eisiau eu gwneud am y Llywodraeth yn gyhoeddus neu'n breifat, a gallaf ddweud hynny wrthych o brofiad gweddol hir o ymdrin â phobl sydd wedi bod ym mhob un o'r swyddi hynny. Rwy'n hapus i dderbyn ymyriad ar ôl cwblhau—

Hoffwn wneud y pwynt fod y Ceidwadwyr Cymreig wedi dadlau ers amser maith y dylai pob un o'n comisiynwyr gael eu penodi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Rydym ni'n sôn yma am yr hyn sy'n digwydd pan fydd pobl yn dadlau ynghylch y broses benodi ar y dechrau, ac yna realiti'r peth. Nid yw unrhyw un o'r bobl hynny sydd wedi bod yn y swyddi comisiynydd hynny wedi teimlo y cawsant eu cyfyngu o ran eu hannibyniaeth.

Mae modd dadlau, ac rydych chi'n gwneud hynny yn gryf, ond mae comisiynwyr a sefydliadau fel y corff newydd llais y dinesydd yn destun craffu ac atebolrwydd—yn naturiol, o ran yr ochr ddeddfwriaethol, oherwydd dyna ein swyddogaeth ni yn ogystal â deddfu, i ddwyn y weithrediaeth i gyfrif. Yr hyn yr ydych yn ei wneud drwy gael y penodiadau hyn, mewn enw, yw eu gwneud yn benodiadau gweithredol pendant, o leiaf yn eu trefn ffurfiol, hyd yn oed os nad felly y byddant yn gweithio, ac nid yw hynny'n weddus o gwbl. Dylem barchu sut mae pwerau wedi eu rhannu a chael gwell strwythur na'r un yr ydych chi'n ei gynnig.

Mae anghytundeb eithaf syml ynghylch pa un ai'r Cynulliad ynteu, yn wir, y Llywodraeth a ddylai fod yn penodi'r bobl hyn yn y pen draw, ond nid wyf yn derbyn bod y ffordd yr ydym wedi penodi pobl i swyddogaethau cyhoeddus drwy Gymru yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf, neu yn wir i ystod o swyddi, yn dal dŵr o ran y ddadl y byddai hyn rywsut yn tanseilio annibyniaeth y bobl yn y swyddi hynny. Byddaf yn derbyn ymyriad ac yna byddaf yn dod i ben.

Er mwyn eich atgoffa o'r geiriau a ddefnyddiais yn fy nghyfraniad—sut bynnag y mae'r cyrff neu'r unigolion neu'r comisiynwyr hyn yn gweithredu, dywedais fod canfyddiad clir o wrthdaro buddiannau, a bod hynny, hefyd, yn bwysig iawn pan rydym yn ceisio meithrin ymddiriedaeth yr etholwyr.

Rwy'n credu bod hwn yn bwynt anhygoel. Rydych yn dweud bod gwrthdaro buddiannau ar gyfer trefniadau newydd a chorff cwbl ar wahân, ond rydych chi'n barod i frwydro dros y sefyllfa bresennol lle mae'r bobl hynny'n cael eu cyflogi gan y gwasanaeth iechyd gwladol. Nid yw hynny, i mi, yn safbwynt sydd ag unrhyw fath o ddadl resymegol drosto o gwbl. Rwy'n cydnabod nad ydym yn cytuno o ran y Llywodraeth a gwrthbleidiau. Gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r Llywodraeth yn y broses newydd a gyflwynwyd gennym ac i nodi'r ffaith bod mudiad presennol y cynghorau iechyd cymuned eu hunain yn cydnabod bod llawer mwy o annibyniaeth a rhyddid gweithredu yn y Bil, fel y darparwyd yn y gwelliannau ger eich bron y gofynnaf ichi eu cefnogi heddiw.

19:10

Rŷn ni'n pleidleisio felly ar welliant 5. Os derbynnir gwelliant 5, bydd gwelliant 48 yn methu. Os gwrthodir gwelliant 5, bydd gwelliant 14 yn methu. Y cwestiwn yw y dylid derbyn gwelliant 5. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Rŷn ni'n symud felly i bleidlais ar welliant 5. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, neb yn ymatal, 22 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 5 ac mae gwelliant 48 yn methu.

Gwelliant 5: O blaid: 28, Yn erbyn: 22, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Methodd gwelliant 48.

Gwelliant 6 yw'r gwelliant nesaf. Ydy o'n cael ei symud gan y Gweinidog? 

Yn cael ei gynnig yn ffurfiol?

Cynigiwyd gwelliant 6 (Vaughan Gething).

Ydy, mae o. 

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 6? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Rŷn ni'n symud i bleidlais ar welliant 6. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 38, neb yn ymatal, 12 yn erbyn. Ac felly, derbyniwyd gwelliant 6. 

Gwelliant 6: O blaid: 38, Yn erbyn: 12, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 7 (Vaughan Gething).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 7? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, rŷm ni'n symud i bleidlais ar welliant 7. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 34, pump yn ymatal, 11 yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 7 wedi ei dderbyn. 

Gwelliant 7: O blaid: 34, Yn erbyn: 11, Ymatal: 5

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 8 (Vaughan Gething).

Os derbynnir gwelliant 8, bydd gwelliant 49 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 8? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, rŷn ni'n symud i bleidlais ar welliant 8. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, neb yn ymatal, 22 yn erbyn. Ac felly, derbyniwyd gwelliant 8. Mae gwelliant 49, felly, yn methu. 

Gwelliant 8: O blaid: 28, Yn erbyn: 22, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Methodd gwelliant 49.

Cynigiwyd gwelliant 9 (Vaughan Gething).

Os derbynnir gwelliant 9, bydd gwelliannau 50, 51 a 52 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 9? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, rŷn ni'n symud i'r bleidlais ar welliant 9. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, neb yn ymatal, 22 yn erbyn. Derbyniwyd gwelliant 9, ac felly mae gwelliannau 50, 51 a 52 wedi methu. 

Gwelliant 9: O blaid: 28, Yn erbyn: 22, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Methodd gwelliannau 50, 51 a 52.

Cynigiwyd gwelliant 10 (Vaughan Gething).

Os derbynnir gwelliant 10, bydd gwelliant 53 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 10? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, agor pleidlais ar welliant 10. Cau'r bleidlais. O blaid 27, neb yn ymatal, 21 yn erbyn. Ac felly, derbyniwyd gwelliant 10. Mae gwelliant 53 yn methu. 

Gwelliant 10: O blaid: 27, Yn erbyn: 21, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Methodd gwelliant 53.

Cynigiwyd gwelliant 11 (Vaughan Gething).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 11? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Rŷn ni'n symud felly i bleidlais ar welliant 11. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 38, un yn ymatal, 11 yn erbyn. Ac felly, derbyniwyd gwelliant 11. 

Gwelliant 11: O blaid: 38, Yn erbyn: 11, Ymatal: 1

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 12 (Vaughan Gething).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 12? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Rŷn ni'n symud i bleidlais felly ar welliant 12. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 38, un yn ymatal, 11 yn erbyn. Ac felly, derbyniwyd gwelliant 12. 

Gwelliant 12: O blaid: 38, Yn erbyn: 11, Ymatal: 1

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 54 (Angela Burns, gyda chefnogaeth Caroline Jones).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 54? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Rŷn ni'n symud felly i bleidlais ar welliant 54 yn enw Angela Burns. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 22, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Ac, felly, mae'r gwelliant wedi ei wrthod.

19:15

Gwelliant 54: O blaid: 22, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 56 (Angela Burns, gyda chefnogaeth Caroline Jones).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 56? Unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Rŷn ni'n symud i bleidlais felly ar welliant 56 yn enw Angela Burns. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 21, neb yn ymatal, 29 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y gwelliant. 

Gwelliant 56: O blaid: 21, Yn erbyn: 29, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 10: Corff Llais y Dinesydd—sicrwydd indemniad ar gyfer gwirfoddolwyr a staff (Gwelliant 55)

Grŵp 10 yw'r grŵp nesaf o welliannau sydd yn ymwneud â sicrwydd indemniad ar gyfer gwirfoddolwyr a staff corff llais y dinesydd. Gwelliant 55 yw'r unig welliant yn y grŵp, a dwi'n galw ar Angela Burns i gynnig y gwelliant. Angela Burns. 

Cynigiwyd gwelliant 55 (Angela Burns, gyda chefnogaeth Caroline Jones).

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Hoffwn gynnig gwelliant 55 yn ffurfiol ynghylch yswiriant indemniad.

Mae'n uchelgais llwyr, y mae'n briodol imi ei chefnogi, y dylai Llywodraeth Cymru gynyddu nifer y gwirfoddolwyr sy'n cofrestru i gefnogi a rhedeg ac i fod yn rhan o gorff llais y dinesydd. Fodd bynnag, rhaid inni hefyd fod yn barod i'w hamddiffyn. Byddai bod yn rhan o achosion llys yn ddiangen yn cael effaith ddinistriol ar nifer y gwirfoddolwyr y gallem eu denu, ac mae'n cymryd llawer iawn o amser, ac nid ydym eisiau gweld unrhyw beth yn tynnu sylw corff llais y dinesydd oddi ar ei brif amcan. Sylwais yng Nghyfnod 2 fod gan gynghorau iechyd cymuned, ar hyn o bryd, indemniad ar gyfer eu haelodau, gyda'r cod ymddygiad yn datgan:

'Ni fydd yn rhaid i aelodau Cynghorau Iechyd Cymuned sydd wedi gweithredu’n onest ac yn ddidwyll ddiwallu o’u hadnoddau eu hunain unrhyw rwymedigaeth sifil sy’n codi wrth iddynt arfer swyddogaethau’r Cyngor, ac eithrio pan fyddant wedi ymddwyn yn fyrbwyll.'

Nawr, dywedodd prif weithredwr y Cyngor Iechyd Cymuned wrthyf ei bod yn hanfodol bod trefniadau adnabod priodol ar gyfer aelodau gwirfoddol sy'n gweithredu ar ran corff llais y dinesydd, ac os mai cyfrifoldeb y corff newydd fydd gwneud ei drefniadau ei hun i ddarparu gwasanaeth o'r fath drwy'r yswiriant indemniad hwnnw, yna byddai angen i'r corff dderbyn cyllid digonol i dalu cost yr yswiriant hwn. Ac rydym yn deall nad yw'n debygol y bydd angen indemniad o'r fath ar gyfer staff, gan y byddai'r corff fel arfer yn atebol am unrhyw beth a wneir gan staff wrth gyflawni eu dyletswydd.

Nawr, rwy'n credu bod hwn yn welliant gwirioneddol bwysig oherwydd, o fy mhrofiad personol i yn Hywel Dda, cefais sefyllfa lle'r oedd cyngor iechyd cymuned Hywel Dda yn cael ei erlyn gan y sefydliad a oedd wedi llunio ymgynghoriad ar—mae'n ddrwg gennyf, rwyf wedi anghofio pa un, ond bu nifer o newidiadau gwahanol ac ymgynghoriadau gwahanol i newid cyfeiriad a ffurfiant gwasanaethau ym mwrdd iechyd Hywel Dda. Ond yr hyn a oedd gennym oedd y cyngor iechyd cymuned yn cynrychioli ei ddinasyddion ac yn dweud na chynhaliwyd yr ymgynghoriad hwn yn deg; na hysbyswyd holl ranbarth Hywel Dda amdano mewn modd priodol deg a chytbwys, ac roeddent dan fygythiad o gael eu herlyn gan y sefydliad a roddodd yr ymgynghoriad at ei gilydd. A gallaf ddweud wrthych chi, roedd aelodau'r cynghorau iechyd cymuned yn dod i'm gweld, pobl onest dda, halen y ddaear, pobl oedd yn cymryd rhan, oherwydd rydym ni wastad yn dweud, 'Beth am gael gwirfoddolwyr i gymryd rhan', ac yna'n dweud 'O mam bach, beth sy'n mynd i ddigwydd? A ydw i'n mynd i golli popeth? Sut alla i fod yn atebol yn bersonol? Dydw i ddim yn deall; Rwy'n gwneud hyn ar ran y cyngor iechyd cymuned.' Dyma pam mae angen i ni sicrhau bod gennym ni yswiriant indemniad ar gyfer gwirfoddolwyr yn ogystal â staff.

Yng Nghyfnod 2, ymateb y Gweinidog oedd esbonio y bydd yn rhaid i fwrdd corff llais y dinesydd, o dan 'Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru', brynu polisi yswiriant indemniad, neu ddefnyddio ei adnoddau ei hun i indemnio gwirfoddolwyr. Ac yn ei lythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar 26 Chwefror, amlinellodd y Gweinidog mai gwaith prif weithredwr y corff newydd fyddai penderfynu a ddylid darparu indemniad drwy ysgwyddo'r risg, neu drwy brynu yswiriant masnachol, a dylid gwneud penderfyniad o'r fath ar ôl dadansoddiad cost a budd bob amser, er mwyn sicrhau gwerth am arian o dan reolau 'Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru'.

Nawr, rwyf yn derbyn haeriad y Gweinidog y pennir y dulliau priodol ar gyfer darparu indemniad yn ystod y cyfnod gweithredu ar gyfer corff llais y dinesydd. Ond fel y dywedais yng Nghyfnod 2, er bod y cynghorau iechyd cymuned wedi rhoi gweithdrefnau ar waith i unioni'r materion a wynebwyd ganddynt yn 2013, nid yw'n glir a fydd gan gorff llais y dinesydd weithdrefnau tebyg. Ac mae gennyf bryderon o hyd ynghylch y canlyniadau posibl pe na bai gweithdrefn indemniad yn cael ei phennu. A heb yr indemniad hwnnw ar gyfer corff llais y dinesydd, gallai hyn achosi nifer fawr o bobl i droi eu cefnau ar wirfoddoli ar gyfer sefydliad teilwng iawn, iawn. Mae angen inni fod yn ymwybodol y bydd amddiffyn rhag indemniad yn anochel yn effeithio ar gyllideb corff llais y dinesydd, ac felly mae angen i'r Gweinidog ein sicrhau y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu digon o adnoddau er mwyn gallu prynu'r indemniad hwnnw ar gyfer gwirfoddolwyr a staff.

19:20

Dim ond mewn brawddeg, i ddweud y byddwn ni'n cefnogi'r gwelliant yma. Dwi'n meddwl ei bod hi'n allweddol, os ydym ni am dynnu pobl i mewn i roi eu hamser i weithio mewn meysydd fel hyn, er budd y cyhoedd, eu bod nhw'n cael y gefnogaeth i wneud hynny. Ac mae hi'n glir i ni ei bod hi'n bwysig y dylai staff a gwirfoddolwyr fel ei gilydd gael y cover cyfreithiol priodol ar gyfer ymwneud â'u gweithgareddau.

Mae'r gwelliant yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau i'w gwneud yn ofynnol i gorff llais y dinesydd feddu ar yswiriant indemniad er budd staff a gwirfoddolwyr. Rwy'n cytuno mai corff llais y dinesydd ddylai benderfynu a chynllunio sut i drefnu ei yswiriant, fel y dylai unrhyw gorff cyhoeddus. Fodd bynnag, nid yw darpariaeth o'r math a awgrymir yn briodol, yn fy marn i, ac felly ni allaf ei chefnogi.

Dywedais yn ystod trafodion Cyfnod 2 y pwyllgor mai'r corff llais y dinesydd fydd yn penderfynu ar y ffordd orau o indemnio staff a gwirfoddolwyr. Ac fe gyfeiriais at ganllawiau 'Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru', sy'n glir nad yw sefydliadau'r sector cyhoeddus, fel rheol, yn prynu yswiriant masnachol, oni bai bod rhwymedigaeth gyfreithiol i wneud hynny. Fodd bynnag, mae hefyd yn galluogi swyddogion cyfrifo, yn rhan o strategaeth rheoli risg, i ddewis prynu yswiriant masnachol mewn rhai amgylchiadau. Ac mae'n wir y bydd y corff llais y dinesydd, yn union fel yn achos cynghorau iechyd cymuned presennol, yn dibynnu ar wirfoddolwyr mewn ffordd wahanol iawn i gyrff cyhoeddus eraill. Dylai penderfyniadau o'r fath ar strategaeth rheoli risg gael eu gwneud ar ôl dadansoddiad cost a budd bob amser, er mwyn sicrhau gwerth am arian. Felly, prif weithredwr y corff newydd fydd yn penderfynu a ddylid darparu indemniad drwy ysgwyddo'r risg neu drwy brynu yswiriant masnachol. Ac rwyf wedi cyflwyno asesiad effaith rheoleiddiol diwygiedig sy'n nodi hynny. Rwyf wedi rhoi sicrwydd ysgrifenedig i'r pwyllgor y pennir y dull priodol o ddarparu indemniad yn ystod cam gweithredu corff llais y dinesydd, gan gynnwys cynnal dadansoddiad cost a budd. Felly, ni fyddai ei gwneud yn ofynnol mewn rheoliadau i'r corff  sicrhau yswiriant indemniad yn briodol, ac ni fyddai'n adlewyrchu egwyddorion 'Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru.'

Mae'r ffaith eich bod yn gwrthod y gwelliant hwn, Gweinidog yn broblem fawr imi. Yr hyn yr ydym yn ei ofyn yw, rydym yn gofyn i wirfoddolwyr, pobl sydd â rhywfaint o brofiad o ymdrin â sefydliadau mawr, ddod i wirfoddoli ar gyfer corff llais y dinesydd, a siarad ar ran y dinasyddion y maen nhw'n eu cynrychioli. Yn y bôn, ffordd arall o ddweud hyn yw eu bod yn dweud y gwirionedd wrth y rhai mewn grym. Mae angen eu diogelu. Ac rwy'n gofyn mewn gwirionedd, Gweinidog, ichi newid eich meddwl. Mae dweud y gwirionedd wrth y rhai mewn grym yn eich rhoi mewn sefyllfa beryglus. Rydym yn gofyn iddyn nhw ddweud y gwirionedd wrth y rhai mewn grym. Dydyn nhw ddim mor fawr, dydyn nhw ddim mor gadarn, dydyn nhw ddim o reidrwydd mor brofiadol â'r bobl y maen nhw'n siarad â nhw. Mae dweud y gwirionedd wrth y rhai mewn grym yn rhywbeth y dylem ei ddiogelu ar bob cost. Pleidleisiwch dros y gwelliant hwn os gwelwch yn dda.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 55? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Agor y bleidlais, felly, ar welliant 55. Cau'r bleidlais. O blaid 21, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 55 wedi ei wrthod.

Gwelliant 55: O blaid: 21, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

19:25

Fe gymrwn ni doriad nawr, o tua 20 munud, ac fe fyddaf i'n canu'r gloch bum munud cyn i ni ailgychwyn.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 19:25.

19:45

Ailymgynullodd y Cynulliad am 19:49, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

Grŵp 11: Corff Llais y Dinesydd—adnoddau (Gwelliannau 57, 58)

Felly, rydym ni'n ailgychwyn. Grŵp 11 yw'r grŵp sy'n cael ei drafod nesaf. Mae'r grŵp yma'n ymwneud ag adnoddau ar gyfer corff llais y dinesydd. Gwelliant 57 yw'r prif welliant yn y grŵp, a dwi'n galw ar Angela Burns i gynnig y prif welliant ac i siarad i'r gwelliannau. Angela Burns.

19:50

Cynigiwyd gwelliant 57 (Angela Burns, gyda chefnogaeth Caroline Jones).

Diolch, Llywydd. Cynigiaf welliannau 57 a 58 yn ffurfiol, a gyflwynwyd yn fy enw i. Mae hyn yn ymwneud â'r ddyletswydd i sicrhau adnoddau digonol, ac mae'r gwelliannau'n gofyn i Weinidogion Cymru sicrhau y darperir yr adnoddau digonol hynny ar gyfer y corff llais y dinesydd.

Mae'r gwelliannau hyn wedi'u dwyn ymlaen o Gyfnod 2, gan fod y Gweinidog wedi dweud eu bod yn neilltuo adnoddau sylweddol ar gyfer y corff llais y dinesydd, mae hyn er mwyn sicrhau nad yw ei swyddogaethau a'i bwysigrwydd i ddinasyddion Cymru yn cael eu colli na'u rhoi o'r neilltu yn y dyfodol, ac mae'r asesiad effaith rheoleiddiol yn dangos dim ond £600,000 ychwanegol yn y costau cynnal o'i gymharu â'r cynghorau iechyd cymuned.

Rwy'n derbyn pwynt y Gweinidog bod yn rhaid gwneud penderfyniadau ariannol yn ofalus, ac rwyf hefyd yn credu mai Llywodraeth Cymru sydd i ysgwyddo'r cyfrifoldeb pan fyddant yn gwneud y penderfyniadau hyn ym mhob blwyddyn ariannol, ond nid yw hyn yn ymwneud â dewis cyllidebol yn unig; mae anghenion penodol, gan gynnwys indemniad, ymgysylltiad cyhoeddus, addysg a hyfforddiant. Mae'r rhain yn anghenion clir y mae'n rhaid eu diwallu os yw'r corff llais y dinesydd yn mynd i barhau i gael ei redeg yn dda. Mae'n hanfodol bwysig y gall y corff llais y dinesydd gyflawni rhai swyddogaethau er mwyn gallu craffu'n effeithiol ar y GIG yng Nghymru, a heb ddynodydd clir i barhau â'r dewis hwn, nid oes gennym sicrwydd ni y bydd hyn yn digwydd ymhell i'r dyfodol.

Roedd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn glir ynghylch hyn yng Nghyfnod 1, gan ddweud ei fod wedi rhannu pryderon tystion am faint o adnoddau a ddyrannwyd i'r corff llais y dinesydd, gyda chostau'n gysylltiedig â'i sefydlu, gwaith ar draws y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol, a rhoi strwythurau rhanbarthol ar waith. Yn bwysicaf oll, dywedodd y pwyllgor: 

'Teimlwn fod cryn bwysau ar y Corff newydd, yn enwedig ac ystyried ei rôl estynedig i gynrychioli buddiannau’r cyhoedd ar drwy’r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol. Nid ydym yn credu bod yr adnoddau sydd i’w dyrannu yn ddigonol i’w alluogi i gyflawni’r disgwyliadau hyn.'

Fel y dywedais, mae'r asesiad effaith rheoleiddiol yn amlinellu rhai o'r costau hyn. Rhaid aros i weld serch hynny a yw'r rhain yn ddigonol, ac rwyf eisiau atgoffa'r aelodau o'r gwerth y mae rhanddeiliaid yn ei roi ar sicrhau fod yr adnoddau priodol gan y corff a pham ei bod hi mor bwysig cofnodi'r ymrwymiad hwnnw.

Dywedodd Gofal Cymdeithasol Cymru bod

hyrwyddo'r corff newydd a sicrhau bod y cyhoedd yn deall ei swyddogaeth

yn flaenoriaeth allweddol. Fe ddywedon nhw ei bod hi'n hanfodol bod gwirfoddolwyr yn y corff yn cael digon o hyfforddiant a chymorth o'r cychwyn, yn ogystal â chymorth parhaus. Yn eu tystiolaeth, fe ddywedon nhw eu bod yn cydnabod bod deall y goblygiadau o ran adnoddau i gorff llais y dinesydd sy'n wirioneddol ymgysylltu â phobl yn un sy'n bwysig i'w wneud, ac aeth eu cynrychiolydd ymlaen i ddweud eu bod yn

amau, os cyflawnir yr uchelgeisiau hyn, y bydd y corff mewn gwirionedd yn gweld cynnydd mewn gweithgarwch,

a gobeithio y bydd angen mwy o arian ar gyfer hynny, wrth gwrs.

Dywedodd y comisiynydd pobl hŷn yn glir iawn, gan fod y sector gofal cymdeithasol yn eang dros ben, ei bod yn teimlo ei bod hi'n hanfodol bod

gan y corff llais y dinesydd ddigon o adnoddau i ddatblygu ei swyddogaethau a gweithredu'n ddidrafferth ar draws y ddau sector

a'i bod hi'n bwysig bod ei swyddogaeth

wedi'i disgrifio a'i chyfleu yn eglur i'r cyhoedd.

Dywedodd Cyngor Cymuned Gelligaer

y dylai'r corff newydd gael digon o adnoddau fel y gall gynnal presenoldeb mewn cymunedau ac fel y gall yr eiriolwyr cwynion glywed gan bobl na allant adael eu lleoliad gofal.

Ac mae hynny'n sylw pwysig iawn.

Dywedodd Coleg Brenhinol y Ffisigwyr:

dylai'r corff newydd hwn dderbyn yr addysg, yr hyfforddiant a'r buddsoddiad sydd eu hangen arno i sicrhau ei fod yn darparu cyngor a chefnogaeth i gleifion, eu ffrindiau a'u teulu, a'r cyhoedd yn gyffredinol ynghylch y gofal y maent yn ei dderbyn.

Rydym i gyd yn dweud ein bod eisiau cefnogi'r corff llais y dinesydd newydd hwn fel y gall gynrychioli llais dinasyddion Cymru yn briodol. Er mwyn gwneud hynny, er mwyn ymgymryd â'r hyfforddiant hwnnw, yr ymgysylltu cyhoeddus hwnnw, a darparu'r addysg honno a'r indemniad hwnnw i wirfoddolwyr, mae angen iddo gael adnoddau ariannol digonol. Diben y gwelliannau hyn, 57 a 58, yw sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn darparu'r adnoddau digonol hynny.

Fel dwi wedi'i nodi'n barod, mae gennym ni ein pryderon ynglŷn â natur corff llais y dinesydd y mae'r Llywodraeth yn argymell ei sefydlu. Ond os ydy o i gael ei sefydlu, mae eisiau gwneud yn siŵr bod ganddo fo y gallu i weithredu mewn ffordd sydd â grym y tu cefn iddo fo. Ac, wrth gwrs, mae cael y lefel briodol o adnoddau yn allweddol yn hynny o beth.

Unwaith eto, dwi'n meddwl fy mod i'n disgwyl i'r Llywodraeth ddadlau nad oes angen yr hyn mae'r gwelliannau yma'n galw amdano fo, oherwydd nad oes gan y Gweinidog unrhyw fwriad o beidio â rhoi'r adnoddau sydd eu hangen ar y corff newydd. Ond, wrth gwrs, nid dim ond ymwneud â Llywodraeth heddiw mae'r ddeddfwriaeth yma sydd o'n blaenau ni, ond mae'r ddeddfwriaeth yma yn mynd i fod yn ymrwymo Llywodraethau'r dyfodol, ac mae angen sicrwydd ar gyfer y dyfodol. Does gennym ni ddim sicrwydd ynglŷn â beth fydd Gweinidogion iechyd y dyfodol yn ei wneud, ac, wrth gwrs, mi fydd y Gweinidog hefyd yn ymwybodol iawn fod cyrff sydd yn feirniadol o Lywodraeth yn rai sydd wastad yn cario'r risg o golli eu cyllid. Felly, mae angen y sicrwydd sy'n cael ei gynnig gan y gwelliannau yma.

19:55

Diolch, Llywydd. Yn anffodus, nid wyf yn cefnogi'r gwelliant yn enw Angela Burns. Rwyf wedi bod yn glir ynglŷn â'r pwys a roddaf ar sefydlu corff llais y dinesydd sy'n cynrychioli buddiannau pobl ar draws y maes iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Un o amcanion sylfaenol y Bil yw sefydlu corff cenedlaethol newydd i gynrychioli llais y dinesydd, gyda statws a dylanwad newydd, ac mae honno'n egwyddor yr ydym yn gwbl ymrwymedig iddi. Ac er mwyn ei gyflawni, bydd angen i ni, wrth gwrs, ddarparu adnoddau mewn modd digonol. Mae geiriad y Bil:

'Caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau i Gorff Llais y Dinesydd',

yr un geiriad a gafodd ei ddefnyddio pan gafodd cyrff eraill a noddwyd gan Lywodraeth Cymru eu sefydlu, a rhoddais enghreifftiau yng Nghyfnod 2. Ac fel yr eglurais yn nhrafodion Cyfnod 2, rydym ni wedi nodi yn yr asesiad effaith rheoleiddiol y buddsoddiad ychwanegol i'w wneud yn y corff newydd ar y cychwyn. Mae'r rhain yn dangos bod yr arian y pen yr ydym ni'n bwriadu ei wario ar y corff bron deirgwaith y swm y mae Ysgrifennydd Gwladol y DU yn ei wario ar Healthwatch yn Lloegr. Hefyd, mae'n werth nodi, ac adroddais yn y pwyllgor yng Nghyfnod 2, ein bod eisoes yn gwario mwy ar ein cynghorau iechyd cymuned presennol nac a wneir ar gyrff cyfatebol yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Ar sail y pen, bydd y cynnydd yn y corff newydd yn cyrraedd £1.32 y pen o'r boblogaeth. Mae hynny'n cymharu â chyrff cyfatebol yn Lloegr sy'n gwario 54c y pen, 48c y pen yn yr Alban ac 84c y pen yng Ngogledd Iwerddon. Mae hwn yn gorff sy'n cael ei ariannu'n dda o'i gymharu â'i gymheiriaid ledled y Deyrnas Unedig.

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i wneud taliadau i'r corff llais y dinesydd i'w alluogi i gyflawni ei swyddogaethau. O ganlyniad, mae mwy na digon o dystiolaeth, mi gredaf, i ddangos y byddwn yn rhoi i'r corff y cyllid y mae arno ei angen i gyflawni ei swyddogaethau. Bydd y corff yn gorff a noddir gan Lywodraeth Cymru. Mae Gweinidogion Cymru yn darparu cyllid i'r corff hwnnw sy'n ddigonol iddo wneud ei waith a chyflawni ei swyddogaethau. Bydd pennu faint yw arian digonol yn seiliedig ar drafodaeth rhwng y corff a Gweinidogion Cymru, fel y gwnawn gyda phob corff a noddir gan y Llywodraeth. Bydd modd wrth gwrs i'r corff gyflwyno ei achos i Weinidogion Cymru os yw o'r farn bod angen arian ychwanegol arno i gyflawni ei swyddogaethau'n briodol. Nawr, rwy'n credu ein bod wedi cyflwyno achos sy'n trin y corff hwn fel y trinnir y cyrff eraill a noddir gan y Llywodraeth, yn y ffordd y maen nhw'n cyflawni eu swyddogaethau, a gofynnaf felly i Aelodau beidio â chefnogi'r gwelliant yn y grŵp hwn.

O diar, o diar, Llywydd, ni wnaeth imi heb a dweud mwy, rwy'n credu. Gwnaeth Rhun ap Iorwerth bwynt da iawn am y ffaith mai'r mathau hyn o gyrff yn aml yw'r rhai cyntaf i golli eu cyllid pan fydd pethau'n gwasgu, ac, yn y bôn, rheswm y Gweinidog dros beidio â dymuno sicrhau hynny—. Na, dywedodd Rhun ap Iorwerth hynny. Prif achos y Gweinidog dros beidio â gwneud yn siŵr bod digon o gyllid ar gael yw'r ffaith bod ganddynt ddigonedd eisoes, mae ganddynt lawer mwy na Lloegr, mae ganddynt lawer mwy na'r Alban, llawer mwy na Gogledd Iwerddon. Does dim ots gennyf i. Rwyf eisiau corff llais y dinesydd sy'n gwneud y gwaith o ddiogelu dinasyddion Cymru a bod yn llais i ddinasyddion Cymru. Mae'n rhaid i'r arian sydd ganddynt ar hyn o bryd gynnwys creu corff newydd sbon i sicrhau y caiff ei reoli'n dda ar draws y dirwedd eang iawn sydd gennym ni yng Nghymru. [Torri ar draws.] Ie wrth gwrs.

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n ddiolchgar i chi am dderbyn yr ymyriad. A ydych chi hefyd yn cytuno â mi, wrth gwrs, y gofynnir i'r corff hwn ystyried gofal cymdeithasol yn ei gyfanrwydd yn ogystal ag iechyd, ac os yw'n mynd i allu gwneud hynny'n ddigonol, yna, yn sicr, mae faint o adnoddau y bydd arno ei angen yn llawer mwy na'r hyn y mae'r cynghorau iechyd cymuned yn ei ddefnyddio a'i angen ar hyn o bryd?

20:00

Pwynt ardderchog, Helen Mary, ac wedi ei fynegi'n dda. Mae angen i ni sicrhau y gall y corff hwn wneud yr hyn y mae i fod i'w wneud. Nid ydym ni eisiau iddo gael ei lesteirio gan ddiffyg cyllid. Nid ydym ni eisiau iddo, yn y blynyddoedd i ddod, ddioddef marwolaeth araf yn sgil mil o doriadau. Mae e yma i gynrychioli'r dinesydd. Dyma eu hunig gwir lais sy'n perthyn iddyn nhw. Mae angen i chi ei ariannu, Gweinidog, ac mae angen i chi sicrhau bod hynny wedi ei ymgorffori yn y gyfraith fel nad yw'r unigolyn nesaf a ddaw ar eich ôl, nad yw mor hael ei galon, o bosibl, yn cymryd ei gyllid ac yn ei ddefnyddio ar gyfer rhywbeth arall.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 57? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, rŷn ni'n bleidlais ar welliant 57. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 21, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 57.

Gwelliant 57: O blaid: 21, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 58 (Angela Burns, gyda chefnogaeth Caroline Jones).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 58? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais ar welliant 58. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 20, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 58.

Gwelliant 58: O blaid: 20, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 12: Corff Llais y Dinesydd—archwilio (Gwelliant 13)

Y grŵp nesaf o welliannau yw'r grŵp sydd yn ymwneud â threfniadau archwilio ar gyfer corff llais y dinesydd—grŵp 12. Gwelliant 13 yw'r unig welliant yn y grŵp. Galwaf ar y Gweinidog i gynnig y gwelliant. Vaughan Gething. 

Cynigiwyd gwelliant 13 (Vaughan Gething).

Diolch, Llywydd. Rwy'n hapus i gynnig yr unig welliant yn y grŵp hwn.

Bydd yr Aelodau'n ymwybodol nad oedd y Bil, fel y'i cyflwynwyd, yn ei gwneud hi'n ofynnol i Archwilydd Cyffredinol Cymru ffurfio barn ar reoleidd-dra cyfrifon y corff llais y dinesydd. Mae gwelliant 13 yn ei gwneud yn ofynnol i'r archwilydd cyffredinol ffurfio'r farn honno ynghylch pa un a yw'r gwariant y mae'r cyfrifon yn ymwneud ag ef wedi ei ysgwyddo'n gyfreithlon ac yn unol â'r awdurdod sy'n ei lywodraethu. Mae hyn yn ychwanegu mwy o atebolrwydd a grym.

Rwy'n credu ei bod yn werth nodi bod fy swyddogion i wedi cynnal trafodaethau gyda swyddfa'r archwilydd cyffredinol ynghylch y gwelliant hwn, ac maen nhw yn ei gefnogi. Yn ystod y trafodaethau hyn, cytunwyd y bydd y broses arfaethedig newydd yn cryfhau'n sylweddol y gofynion archwilio ar gyfer y corff llais y dinesydd. Gofynnaf i'r Aelodau dderbyn y gwelliant hwn.

Mi fyddwn ni hefyd yn cefnogi'r gwelliant yma. Rydyn ni'n ystyried y byddai hwn yn ychwanegu at effeithiolrwydd corff llais y dinesydd newydd. 

Ydy'r Gweinidog eisiau ymateb? Na. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 13? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly, derbynnir gwelliant 13.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 14 yw'r gwelliant nesaf i bleidleisio arno. A ydy e'n cael ei gynnig gan y Gweinidog? 

Cynigiwyd gwelliant 14 (Vaughan Gething).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 14? A oes unrhyw un yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Symudwn ni felly i bleidlais ar welliant 14. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 37, neb yn ymatal, 11 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y gwelliant yna. 

Gwelliant 14: O blaid: 37, Yn erbyn: 11, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Grŵp 13: Corff Llais y Dinesydd—strwythurau ac ymgysylltu (Gwelliannau 40, 19, 59, 75, 20)

Grŵp 13 yw'r grŵp nesaf o welliannau, ac mae'r grŵp yma'n ymwneud â strwythurau corff llais y dinesydd ac ymgysylltu â'r corff. Gwelliant 40 yw'r prif welliant, a dwi'n galw ar Angela Burns i gynnig y gwelliant ac i siarad i'r gwelliannau. Angela Burns. 

Cynigiwyd gwelliant 40 (Angela Burns, gyda chefnogaeth Caroline Jones).

Diolch, Llywydd. Hoffwn i gynnig gwelliannau 40, 19 ac 20 yn ffurfiol.

Daw hyn i hanfod, i galon, y corff llais y dinesydd. Os siaradwch chi â dinasyddion, maen nhw eisiau corff llais, maen nhw eisiau bod â chorff cynrychioliadol sy'n lleol iddyn nhw, sy'n deall eu materion lleol, sy'n deall eu bwrdd iechyd lleol, rhywun y gallan nhw fynd ato'n rhwydd—ac, wrth gwrs, nid byrddau iechyd yn unig bellach, ond bydd y cartref preswyl lleol, preifat neu gyhoeddus, bydd yn ofal cartref, bydd ar draws pob math o leoliadau. Ceir ofn gan rannau sylweddol o Gymru y cawn ni ein torri allan o hyn, a bod popeth yn cael ei ganoli yma yn y de-ddwyrain. Mae gan y gogledd, yn arbennig, ymdeimlad cryf iawn o'r datgysylltiad hwnnw; mae gan y gorllewin ymdeimlad cryf iawn o'r datgysylltiad hwnnw, a dydyn ni ddim eisiau i hynny ddigwydd. Felly, dyma pam yr ydym ni wedi cyflwyno'r gwelliannau hyn, er mwyn ceisio sicrhau, ar wyneb y Bil, nad dim ond addewid yw hyn, ond ei fod mewn gwirionedd yn ysgrifenedig, y bydd y corff llais hwn yn cynrychioli pobl ar sail mor agos iddyn nhw â phosibl.

Nawr, dydw i ddim, fel y gŵyr pob un ohonoch, yn berson cwbl afresymol, ac rwyf i wedi trafod y mater hwn gyda'r Gweinidog yn helaeth ac wedi gwrando arno ar wahanol gyfnodau, yn siarad am hyn. Felly, rwyf i wedi cymedroli o ddweud fy mod i eisiau gweld union gopi o'r cynghorau iechyd cymuned—un ar gyfer sir Benfro, un ar gyfer sir Gaerfyrddin, un ar gyfer Ceredigion—ac rwy'n barod i ddilyn y model rhanbarthol, a dyna pam y mae gwelliant 40, sy'n ymdrin â'r strwythur hwnnw o gorff rhanbarthol yn bwysig iawn, iawn. Mae'n debyg i welliant 59, a gyflwynwyd gan y Gweinidog, a gwelliant 75, a gyflwynwyd gan Rhun ap Iorwerth. Ond rydym ni'n credu, ar ôl siarad â'r Gweinidog, ac ar ôl siarad â gwahanol bobl, pe gallem ni ei ddatblygu ar sail ranbarthol, gan efallai adlewyrchu ein byrddau partneriaeth rhanbarthol—sydd yno, sydd wedi eu hymgorffori, a dywedwyd wrthym fod cymaint o'n cyfeiriad teithio dros y pump neu'r 10 mlynedd nesaf yn mynd i ddibynnu ar y byrddau partneriaeth rhanbarthol hynny—roedd yn ymddangos yn amlwg iawn i'w gwneud nhw yn ôl troed ar gyfer corff llais rhanbarthol.

Rwy'n drist iawn bod y Gweinidog, er gwaethaf ein sgyrsiau, wedi parhau i fod yn ddi-ildio ar y pwynt hwn. Mae arno eisiau hyblygrwydd, ac rwy'n deall yr awydd hwnnw. Ond byddwn i'n eich rhybuddio, Gweinidog, bod eich ymdrech i sicrhau hyblygrwydd yn y fan yma, fel sydd wedi digwydd yn y Bil drwyddo draw, yn creu risg wirioneddol o adael gormod oddi ar y llyfrau—gormod i benderfyniadau dilynol, canllawiau dilynol, addewidion dilynol a bwriad dilynol. Ac yn anad dim, yr hyn nad ydym ni eisiau ei weld yw rhyw gorff sydd wedi ei ganoli mewn man lle, os yw'r dinesydd eisiau cael gafael arno, y mae'n rhaid iddo ffonio y lle hwnnw, ac efallai y daw rhywun—efallai y daw rhywun o Gaerdydd i sir Benfro, efallai y daw rhywun o Gaerdydd i Arfon i wrando ar rywun, clywed eu problemau a cheisio eu datrys. Nid dyna yr ydym ni ei eisiau. Felly, rydym ni'n awyddus iawn i weld ein gwelliant ni, sy'n cynnwys yr ardal leol, yn cael ei roi ar wyneb y Bil, mewn gwirionedd. A phe byddai ein gwelliant ni yn methu, yna byddwn i'n cefnogi gwelliant Plaid. Er, fy unig sylw yw y gallai'r strwythurau yr ydych chi'n awgrymu y gallai fod wedi ei seilio arnyn nhw gael eu newid yn y fformat newydd, os ydyn nhw'n newid llywodraeth leol, os oes, wyddoch chi—. Felly, dyna pam aethom ni am y byrddau partneriaeth rhanbarthol, oherwydd ein bod ni'n credu, beth bynnag sy'n digwydd, ei bod yn debygol mai'r rhain fydd y creigiau na fydd byth, byth yn symud.

A, Gweinidog, meddyliais yn hir ac yn drylwyr am hyn, oherwydd roeddwn i'n credu, 'Wel, os bydd ein gwelliant ni yn methu ac wedyn un Plaid Cymru yn methu, y peth gorau wedyn efallai fyddai mabwysiadu eich gwelliant chi, sy'n addo ymgynghori wyneb yn wyneb pryd bynnag y bo modd, sut bynnag y bo modd', ond po fwyaf yr oeddwn i'n ystyried y peth, po fwyaf yr oeddwn i'n meddwl, 'Na, dydy hynny wir ddim yn iawn.' Corff yw hwn i gynrychioli llais y dinesydd, lle bynnag y bo, nid lle bynnag y byddwch chi neu'r corff—gwahaniaeth mawr.

20:05

Mae yna bump o welliannau yn y grŵp yma. Mi fyddwn ni'n cefnogi'r tri sydd wedi cael eu disgrifio gan y Ceidwadwyr.

Mae 59 yn welliant gan y Llywodraeth, sydd yn gam ymlaen o beth oedd gennym ni ynghynt—yn sôn am yr angen i lais y dinesydd gynrychioli pawb ymhob rhan o Gymru. Ond, ydych chi'n gwybod beth? Geiriau ydy'r rheini, a beth rydyn ni wedi trio ei wneud drwy lunio gwelliannau ar gyfer Cyfnod 3 yn fan hyn oedd trio rhoi rhyw fath o gnawd ar yr esgyrn hynny, er mwyn perswadio pobl ein bod ni go iawn yn ceisio creu corff newydd a fydd yn teimlo yn agos atyn nhw, achos mae hynny yn bwysig iddyn nhw. Achos nid dim ond llais y cleifion ydy'r cynghorau iechyd cymunedol ar hyn o bryd, ond maen nhw hefyd yn llais i'r cymunedau y mae'r cleifion hynny yn byw ynddyn nhw. Ac mae perthynas uniongyrchol, dwi'n meddwl, rhwng llais y claf neu lais y gymuned a'r cymunedau hynny y maen nhw'n eiriolwyr drostyn nhw yn rhywbeth sy'n wirioneddol bwysig iawn i fi. Ac mae ofn colli hynny yn un arall o'r rhesymau, un o'r prif resymau, pam na allwn ni gefnogi'r Bil yma fel y mae o, oherwydd mae'n cymryd corff lleol cryf efo presenoldeb lleol cryf, dwi'n meddwl, ac yn bwriadu dileu hwnnw a rhoi yn ei le fo gorff sydd â strwythur nad ydym ni ddim yn gwybod beth fydd hwnnw a phresenoldeb ar lefel leol neu ranbarthol nad oes gennym ni ddim syniad sut byddai fo yn edrych.

A gadewch i mi ddweud wrthych chi sut mae'r Bil yma yn edrych o'r gogledd, er enghraifft. O'r gogledd, mae'n edrych fel bod yna Fil yn y fan hyn sydd yn ceisio cael gwared ar gyngor iechyd cymuned effeithiol iawn yn y gogledd oherwydd ei fod e wedi bod yn effeithiol iawn yn ei sgrwtini o record y Llywodraeth yn rhedeg Betsi Cadwaladr. Dyna sut mae'n edrych o'r gogledd. Does yna ddim amheuaeth am hynny. Dwi wedi cyfeirio unwaith yn barod at y gwaith rhagorol mae'r cyngor iechyd cymuned yn y gogledd wedi bod yn ei wneud dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf yn ymgysylltu â'r cyhoedd ar draws y gogledd orllewin ynglŷn â'r newidiadau trychinebus, fel dwi'n eu gweld nhw, i drefniadau fasgwlar, a dwi wedi eu llongyfarch nhw ar y gwaith maen nhw yn ei wneud.

Ac oes yna unrhyw un wirioneddol yn gweld y byddai corff llais y dinesydd cenedlaethol, canolog, ei naws a'i natur yn gallu darparu yr un math o sgrwtini lleol? Dydw i ddim yn teimlo y byddai'r sgrwtini hwnnw yno. Mi fyddai rhai pobl yn dweud, 'Mi fyddai'r sylw i gyd ar y de'. Wel, dwi ddim yn un sy'n licio rhannu de a gogledd. Eisiau un wlad unedig ydw i, ac mi wnaf y gwahoddiad fan hyn: os ydych chi'n cael eich ffordd fel Llywodraeth, dewch â'r corff llais y dinesydd a sefydlwch o â'i bencadlys yn y gogledd. Mi fyddai hynny yn dda o beth ac, o bosib, yn ateb yr hyn dwi wedi ei beintio fel senario funud yn ôl. Ond, wrth gwrs, dydy hynny ddim yn ateb y broblem wedyn mewn rhannau eraill o Gymru fyddai'n edrych arno fo fel llais sydd â gormod o sylw ar y gogledd. Ond dyna fo, dwi wedi gwneud y gwahoddiad hwnnw rŵan. 

Felly, beth mae'n gwelliant ni a'r Ceidwadwyr yn ei wneud ydy trio lliniaru hyn, trio ymateb i'r canfyddiad yna sydd yna o beth sy'n digwydd yn fan hyn drwy dynnu'r llais lleol i ffwrdd a beth rydym ni wedi ei wneud ydy trio diffinio—. Rydym ni wedi bod mewn trafodaethau, wrth gwrs, efo'r Llywodraeth yn trio eu perswadio nhw i gynnig diffiniad o sut allwn ni weithio yn rhanbarthol—wedi methu, ac felly wedi cynnig hwn. A dwi'n gwybod bydd y Llywodraeth yn gwrthod ein gwelliant ni, yn dadlau, dwi'n siŵr, ei bod hi'n anodd iawn yn gyfreithiol i ddiffinio beth ydy 'rhanbarthol'. Ond, wrth gwrs, mae yna lawer o gyrff sydd yn gweithio ar lefelau rhanbarthol, ac, i ymateb i'r pwynt wnaethpwyd gan y Ceidwadwyr yn gynharach, dydyn ni ddim yn bod yn prescriptive ynglŷn â pha ranbarth i'w ddilyn yn fan hyn, ond mae gennym ni lot o gyrff rhanbarthol—y gwasanaeth tân i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus ac yn y blaen—a'r cwbl fyddai'r Llywodraeth angen ei wneud yn ei datganiad polisi fyddai egluro beth fyddai'r footprint rhanbarthol hwnnw.

Mi allai fo hyd yn oed newid dros amser, ac yn sicr y bwriad hefo'r gwelliant yma ydy rhoi'r hyblygrwydd yna i'r Llywodraeth gynnig y cyswllt lleol cryf yna tra yn parhau, o hyn ymlaen, i chwilio am y model gorau i ddarparu hynny. Rydym ni wedi trio'n gorau i gyfarfod y Llywodraeth hanner ffordd, ond dydyn ni ddim yn disgwyl i'r Llywodraeth deithio ar y ffordd honno tuag atom ni, felly gwrthod y Bil fyddwn ni o ganlyniad, dwi'n meddwl. 

20:10

Un o'r beirniadaethau mwyaf o gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddisodli'r Cynghorau Iechyd Cymuned oedd colli'r llais lleol, rhanbarthol. Rydym ni wedi rhoi ein cefnogaeth i welliannau Angela oherwydd, yn ein barn ni, byddan nhw'n helpu i adfer y cysylltiadau lleol a fyddai'n cael eu colli drwy gael gwared ar y Cynghorau Iechyd Cymuned a'u disodli gan gorff cenedlaethol bach gyda swyddfa yng Nghaerdydd, er enghraifft. Os yw'r corff newydd i fod yn wir lais y dinasyddion, mae'n rhaid iddo fod â chynrychiolaeth ym mhob rhan o Gymru a bod ar gael i bawb, ble bynnag y maen nhw'n byw yng Nghymru.

Mae'r pleidleisiau ar y Bil hwn hyd yn hyn, rwy'n ofni, wedi gwanhau llais y dinesydd yng Nghymru ymhellach, wedi lleihau atebolrwydd gweision cyhoeddus ymhellach, ac wedi tynnu mwy o bŵer oddi wrth bobl a lleoedd i gyrff cyhoeddus. Ond mae'r gwelliannau hyn yn rhoi cyfle i wrthdroi'r duedd honno, pan mai lleisiau lleol annibynnol yn unig sy'n rhoi her wirioneddol yn lleol. Mae hyn yn hollbwysig, fel y clywsom, yn enwedig yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, lle y bu'r cyngor iechyd cymuned yn arbennig o effeithiol wrth roi llais i'r dinesydd, a hynny weithiau, efallai, er diflastod pobl mewn cyrff cyhoeddus a phobl yn y Llywodraeth, ond mae angen i ni eu canmol am wneud eu gwaith, gan gydnabod, fel y dywedodd Angela yn gynharach, fod perchnogi problem, gweithredu ar broblem, amlygu problem, mynd i'r afael â phroblem, yn creu canlyniadau cadarnhaol, yn creu budd o ran enw da, yn creu gweithwyr hapus ac yn creu dinasyddion hapus. Mae'r diwylliant cyferbyniol yn creu'r gwrthwyneb i'r holl bethau hynny.

Fel y dywedodd y bwrdd cynghorau iechyd cymuned a'r cynghorau iechyd cymuned yng Nghymru, dylid nodi'n glir yn y Bil y bwriad bod gan y corff llais y dinesydd bresenoldeb lleol sy'n cwmpasu pob rhan o Gymru. Maen nhw'n dweud y dylai'r Bil adlewyrchu'n glir y bwriad bod gan y corff llais y dinesydd bresenoldeb lleol sy'n cwmpasu pob rhan o Gymru. Maen nhw'n dweud ei bod yn ofynnol i'r corff ddangos ei fod yn hygyrch i bobl ym mhob rhan o Gymru ar sail wyneb yn wyneb a fyddai'n helpu i sicrhau bod pawb, gan gynnwys y rhai hynny nad ydyn nhw'n gallu teithio'n hwylus o bosibl neu ddefnyddio gwasanaethau ar-lein, yn gallu rhannu eu barn a'u profiadau yn hyderus gyda'r corff llais y dinesydd. Mae'n rhaid i'r corff fod ag adnoddau a chyllid priodol i gefnogi a datblygu ei staff a'i aelodau gwirfoddol trwy ddysgu a datblygu priodol, maen nhw'n dweud. Maen nhw'n dweud bod pobl ledled Cymru yn glir bod angen i gorff llais y dinesydd newydd fod â grym os yw i fod yn wirioneddol gryf, yn wirioneddol annibynnol, yn llais gwirioneddol i adlewyrchu eu barn ac i gynrychioli eu buddiannau ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ar lefel genedlaethol a lleol. Oherwydd ni fydd pobl yn ffyddiog bod gan y corff newydd y grym hwn a'i fod yn gallu diwallu eu hanghenion ymhell i'r dyfodol os nad yw hyn wedi ei nodi'n glir o fewn y fframwaith statudol sy'n cael ei sefydlu ar gyfer y corff.

Profwch fy mod i'n anghywir os gwelwch yn dda: dangoswch fod fy sylwadau cychwynnol yn gwbl annilys a'ch bod yn gwrando ar yr hyn sy'n gwneud i bethau weithio'n iawn, a'ch bod yn credu bod yn rhaid i ni gael cydbwysedd effeithiol rhwng y Llywodraeth a'r bobl fel bod llais y bobl bob amser yn cael ei barchu, bob amser yn cael ei glywed ac y gweithredir arno bob amser. Oherwydd, ar hyn o bryd, mae'n ymddangos bod pethau'n mynd yn wael i'r cyfeiriad anghywir.

20:15

Dim ond i ategu yn sydyn iawn rhai o'r sylwadau roedd Rhun yn eu gwneud. Fe gyfeiriodd Rhun at y gwaith godidog mae'r cyngor iechyd cymunedol yn y gogledd wedi'i wneud ar y gwasanaethau fasgwlar yn benodol, ond un o nifer helaeth o achosion yw hwnnw. Mi ddywedaf wrthych chi fod y cyngor iechyd cymunedol wedi chware rôl allweddol yn y gwaith o gwmpas yr unedau gofal dwys i fabanod newydd-anedig. Ydych chi'n cofio'r ymgyrch fawr honno, yr ymgyrch a enillwyd yn y pen draw? Mi oedd y cyngor iechyd ynghanol yr ymgyrch honno.

Maen nhw wedi bod yn lladmerydd ardderchog i deuluoedd a'r rheini a gafodd eu heffeithio gan y sefyllfa yn Nhawel Fan. Mae honno wedi bod yn achos flaenllaw iawn ar draws y gogledd, a'r cyngor iechyd cymunedol ynghanol y gwaith yn y fan yna. Fasgwlar, rydyn ni wedi clywed amdano fe. Yr holl agenda o gwmpas y mesurau arbennig. Unwaith eto, y cyngor iechyd cymunedol yw llais y bobl, sydd wedi bod yno bob tro, ym mhob amgylchiadau, yn ymladd ac yn sefyll wrth gefn y cleifion a'r trigolion, yn gwneud yn union beth mae'n dweud ar y tin. 

Ddylai neb yn y fan hyn fod o dan unrhyw gamddealltwriaeth: mae hwn yn cael ei weld fel Llywodraeth Cymru yn cau i lawr llais cryf ac effeithiol a lladmerydd dros bobl gogledd Cymru. Nawr, dwi'n gwybod y bydd y Gweinidog yn dadlau yn wahanol, ac, wrth gwrs, mae hawl gyda fe i'w wneud, ond dyna yw'r canfyddiad. 

Nawr, dwi ddim yn gwybod a yw rhai o'r cynghorau iechyd eraill yn llai effeithiol, ac efallai ein bod ni'n gweld colli'r cyngor iechyd yn y gogledd oherwydd methiannau eraill. Dwi ddim yn gwybod. Dim ond y cyngor iechyd yn y gogledd dwi'n gwybod amdano fe. Dwi'n dweud wrthych chi nawr: y canfyddiad yw ei fod e'n cael ei weld fel ffordd i osgoi y sgrwtini, a'r atebolrwydd a'r craffu mae'r bwrdd iechyd a'r Llywodraeth wedi'i wynebu dros y blynyddoedd. 

Nawr, mi allech chi wneud un peth i anfon neges glir i bobl gogledd Cymru. Mi allech chi wneud penderfyniad cydwybodol y bydd y corff yma'n cael ei leoli, fel yr oedd Rhun yn ei ddweud, yng ngogledd Cymru. Dwi'n meddwl byddai hynny'n mynd peth o'r ffordd i daweli feddyliau pobl y gogledd. Ond, yn anffodus, does dim amheuaeth—mae colli'r cyngor iechyd yn mynd i fod yn golled ac mae gan y Llywodraeth lawer iawn o waith i'w wneud i ddarbwyllo pobl nad oes yna agenda arall yn cael ei chwarae allan fan hyn.

20:20

Diolch, Llywydd. Rwyf i wedi gwrando eto ar y ddadl ar y gwelliannau hyn, oherwydd, yn wir, mae hyn wedi bod yn rhan sylweddol o hynt y Papur Gwyn ac, yn wir, drwy Gyfnodau 1 a 2. Nawr, rwyf yn cydnabod, er hyn, ein bod yn yr un man cychwyn yn fras, sef sut yr ydym ni'n sicrhau bod y corff llais y dinesydd yn cynrychioli buddiannau pobl ledled Cymru a'i fod yn hygyrch i bobl ym mhob rhan o Gymru.

Nodais yn ystod gwaith craffu Cyfnod 2 y byddwn i'n cyfarfod â llefarwyr iechyd y gwrthbleidiau i wrando ar eu pryderon a cheisio canfod ffordd gyffredin ymlaen. Roedd y cyfarfod yn adeiladol ac fe wnaethom ni gynnydd o ran cytuno ar sut y gellid gwella'r Bil. Mae'n anffodus na fu'n bosibl i bob un ohonom ni ddod i gytundeb ar safbwynt cyffredin, ond mae'n gam cadarnhaol y bu rhywfaint o gydnabyddiaeth bod gwelliant y Llywodraeth yn gam ymlaen. Fodd bynnag, rwy'n falch o ddweud y bydd y Llywodraeth yn cefnogi gwelliannau 19 ac 20. Rwy'n cytuno y bydd y gwelliannau hynny, os cânt eu pasio, yn cryfhau'r Bil. Rwyf bob amser wedi bod yn glir trwy gydol y broses graffu na all y corff newydd, er mwyn cyflawni ei ymyraethau yn effeithiol, fod yn bell oddi wrth y bobl y mae angen iddo gynrychioli eu lleisiau. Mae ei gwneud yn ofynnol i'r corff roi sylw i bwysigrwydd ymgysylltu wyneb yn wyneb wrth geisio barn a darparu cymorth gyda chwynion, fel sy'n ofynnol gan welliannau 19 ac 20, yn fy marn i, yn cymryd cam sylweddol arall ymlaen yn hynny o beth.

Mae gwelliannau 19 a 20 yn ategu gwelliant 59 y Llywodraeth, sy'n ychwanegu cryfder pellach yn y maes hwn, ac rwyf, wrth gwrs, yn hapus i'w cefnogi. Mae gwelliant 59 y Llywodraeth yn ei gwneud yn ofynnol i'r corff nodi yn ei ddatganiad polisi sut y mae'n bwriadu sicrhau ei fod yn gallu cynrychioli buddiannau pobl ym mhob rhan o Gymru, ei fod yn hygyrch i bobl ledled Cymru, a hefyd sut y mae'n bwriadu sicrhau bod ei staff ac eraill sy'n gweithredu ar ei ran, er enghraifft gwirfoddolwyr, yn gallu ymgysylltu'n effeithiol â phobl ledled Cymru. Mae hynny'n gosod dyletswyddau clir ar y corff llais y dinesydd ynghylch ei ymgysylltiad â phobl ledled Cymru. Nid Bil ar gyfer y gogledd, y de, y dwyrain, y gorllewin neu'r canolbarth yn unig yw hwn; mae'n Fil ar gyfer y wlad i gyd, yn gorff llais y dinesydd ar gyfer y wlad i gyd. A bydd yn rhaid iddo gyhoeddi datganiad yn esbonio ei bolisi yn y cyswllt hwn. Felly, rwy'n gofyn i'r Aelodau gefnogi gwelliant 59 y Llywodraeth a'r ddau welliant yr wyf wedi sôn amdanyn nhw eisoes, 19 ac 20.

Fodd bynnag, nid wyf i'n cefnogi gwelliannau 40 a 75. Fe wnaf ymdrin â gwelliant 75 yn gyntaf, oherwydd, nid wyf i'n credu ei fod yn cyflawni'r hyn y mae'r cynigydd yn ei ddymuno mewn gwirionedd. Pan edrychwch chi ar y geiriad, nid yw'n glir beth yw lefel ranbarthol, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod yn glir ynghylch beth sy'n cael ei gynnig. Yn yr un modd, nid yw'n glir yng ngwelliant 75 beth yw ystyr 'presenoldeb parhaol effeithiol'. Gallai olygu presenoldeb amser llawn gweithredol, neu gallai olygu rhywbeth sy'n bodoli am byth. Nawr, rwy'n parhau i fod o'r farn fod nid yn unig heriau technegol yn y fan yna, ond hefyd, o ran gwelliant 40, mae ei gwneud yn ofynnol i gorff llais y dinesydd sefydlu cyrff rhanbarthol ar ôl troed y byrddau partneriaeth rhanbarthol o leiaf yn cynnig rhywfaint o sicrwydd yn ein trefniadau presennol.

Fodd bynnag, rwy'n dal i gredu, ac fe wnaf ddychwelyd at y pwynt hwn am annibyniaeth, i gorff annibynnol—a bydd y corff llais y dinesydd newydd yn llawer mwy annibynnol na'r trefniadau presennol ar gyfer corff a gynhelir o fewn bwrdd iechyd Powys—na ddylid cyfyngu ar ei allu, y corff llais y dinesydd, i benderfynu beth ddylai ei strwythur lleol fod. Y corff ei hun fydd yn y sefyllfa orau i farnu hyn, ar sail yr hyn a fydd, rwy'n siŵr, yn anghenion lleol a fydd yn newid dros y blynyddoedd nesaf, a bydd ganddo'r wybodaeth i wybod sut i weithredu yn y modd mwyaf effeithiol. Nid yw gosod cyfyngiadau, yn fy marn i, er budd gorau'r corff na'r cyhoedd y bydd yn eu gwasanaethu yn y pen draw. Fe dderbyniaf ymyriad ac yna fe ddof i ben.

Diolch i chi am dderbyn yr ymyriad. Rydych chi wedi cyfeirio unwaith neu ddwy nawr at Bowys. Siaradwch yn uniongyrchol â'm hetholwyr i a phobl y gogledd—ac eglurais sut yr wyf i'n credu bod hyn yn cael ei weld ganddyn nhw—sut yr ydych chi'n egluro wrthyn nhw y bydd y corff llais y dinesydd yr ydych chi'n ei gynnig yn fwy annibynnol, y bydd yn eich dwyn chi yn gadarnach i gyfrif, na'r cyngor iechyd cymuned a'r gwaith rhagorol y mae wedi bod yn ei wneud yn y gogledd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf?

20:25

Mae corff corfforaethol hyd braich, sy'n gallu ymgymryd â'i gontractau ei hun, ei drefniadau ei hun, ei brydlesi ei hun, yn llawer mwy annibynnol na chorff a gynhelir gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys. Mae holl staff y cynghorau iechyd cymuned ar hyn o bryd yn cael eu cyflogi gan y gwasanaeth iechyd gwladol trwy Fwrdd Iechyd Powys. Nawr, mae symud y bobl hynny i gorff corfforaethol hyd braich, annibynnol, sy'n gallu pennu eu materion eu hunain, yn ddiau yn ffordd fwy annibynnol o weithredu na'u trefniadau presennol. Dyna yw ffeithiau yr hyn sy'n cael ei gynnig. Yr her yn y fan yma yw pa un a yw'r Aelodau yn gallu ac yn barod i ddisgrifio'n onest y gwahaniaeth rhwng y trefniadau hynny a'r rhai sy'n bodoli ar hyn o bryd.

Mae'r Bil presennol yn rhoi'r pŵer i gorff llais y dinesydd sefydlu pwyllgorau, i'w alluogi i sefydlu pwyllgorau lleol neu ranbarthol sy'n canolbwyntio ar anghenion lleol neu ranbarthol fel y maen nhw, nid y Llywodraeth, yn eu gweld. Fe all, fel y soniais, i gontractau neu brydlesi ar gyfer safleoedd. Felly, gall bennu lle y dylid lleoli ei swyddfeydd. Ni fydd wedi ei glymu i leoliad a bennir gan y Gweinidogion yng Nghaerdydd, fel y tybir yn aml sy'n wir. Mater i'r corff llais y dinesydd fydd penderfynu ym mhle y bydd wedi ei leoli, nid dim ond ei brif swyddfa, ond pob un o'i leoliadau rhanbarthol eraill hefyd.

Nid yw'r awydd i beidio â rhagnodi'r strwythur yn gysylltiedig ag arian. Mae'r asesiad o effaith rheoleiddiol yn amlwg yn cynnwys costau ar gyfer nifer o swyddfeydd. Mae'r costau yn yr asesiad effaith yn seiliedig ar y llety cynghorau iechyd cymuned presennol, sydd â staff wedi eu gwasgaru ar draws 12 lleoliad yng Nghymru. Wrth ddatblygu a pharatoi ei ddatganiad o bolisi, byddwn yn disgwyl i'r corff ymgysylltu â rhanddeiliaid a'u cynnwys er mwyn sicrhau bod ei drefniadau'n cael eu cefnogi'n frwd gan bobl ledled Cymru. Rwy'n credu bod hynny'n taro'r cydbwysedd cywir rhwng caniatáu i'r corff bennu ei strwythur lleol ei hun, yn seiliedig ar ei asesiad ei hun, a'i gwneud yn ofynnol i'r corff sicrhau ei fod yn hygyrch i bawb ledled Cymru ac yn gallu eu cynrychioli. Felly, rwy'n dal i fod wedi ymrwymo i sefydliad sydd â gwreiddiau lleol, ond lle mae'r corff ei hun yn pennu lle y mae wedi'i leoli a sut y caiff ei drefnu, a gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r dull hwnnw.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Gadewch i mi ymdrin â hyn drwy ddewis ychydig o ddarnau bychain ohono. Mae arnaf eisiau dileu'r ddadl 'cynhelir gan Bowys', oherwydd rwy'n credu, a dweud y gwir, fod hynny'n anonest; taflu llwch i'r llygaid, os mynnwch chi. Nid oes gan Bowys unrhyw ysbytai—[Torri ar draws.] Nid wyf wedi gorffen fy mrawddeg, Kirsty Williams, rwy'n gwybod eich bod yn hoffi amddiffyn Powys bob amser, roeddwn i ar fin gorffen fy mrawddeg—sy'n amlwg iawn. Diolch. Maen nhw wedi gweithredu'n dda iawn o dan ymbarél Powys. Mewn gwirionedd, dydw i ddim yn credu bod, 'Maen nhw'n mynd i fod yn fwy annibynnol ac, felly, byddan nhw'n well', yn ddigon da, oherwydd maen nhw eisoes wedi dangos y gallan nhw fod yn well, eu bod nhw'n gallu bod yn annibynnol. Gwnaeth Llyr Huws Gruffydd achos cwbl anhygoel dros gyngor iechyd cymuned y gogledd a'r gwaith rhagorol y maen nhw wedi ei wneud dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, yn enwedig wrth alw—

Os caf i roi enghraifft benodol—diolch am dderbyn yr ymyriad—o'r heriau y mae'r trefniadau presennol yn eu darparu: pan, gyda phrif Weithredwr blaenorol y mudiad cynghorau iechyd cymuned, yr oedd her ynghylch ei ymddygiad, ni allai'r cynghorau iechyd cymuned eu hunain gymryd camau oherwydd ei fod yn gyflogai i'r gwasanaeth iechyd gwladol. Roedd yn rhaid i Bowys gytuno ar amrywiaeth o gamau i'w cymryd. Dyna fy mhwynt i: nid oedden nhw'n gallu ymgymryd ag amrywiaeth o fesurau. Ni allan nhw sefydlu eu prydlesi eu hunain, ni allan nhw wneud eu materion cyflogaeth eu hunain, ar eu ffurf bresennol. Bydd y ffordd newydd hon o weithredu yr ydym ni'n ei chynnig yn caniatáu iddyn nhw wneud hynny ac yn rhoi iddyn nhw y pellter a'r grym i reoli eu tynged eu hunain.

Ni ddywedais i, ar unrhyw adeg yn ystod fy nghyfraniadau, na ddylen nhw fod yn annibynnol ar Bowys. Nid wyf yn credu ei fod yn rheswm sylfaenol dros wneud y newidiadau hyn i'r corff llais y dinesydd. Fy marn bersonol i yw y gellid dehongli llawer o'r newidiadau i'r corff llais y dinesydd—yn wir, rwyf i yn eu dehongli—fel ymgais i'w ffrwyno: gadewch i ni geisio cael eu cefnogaeth. Rwyf i'n dymuno gwneud yn siŵr bod y corff llais y dinesydd—. Nid corff fy llais i yw hwn, corff llais fy etholwyr ydyw, eich etholwyr chi, a'ch etholwyr chithau, ac rwyf i'n dymuno gwneud yn siŵr eu bod nhw'n credu mai eu corff llais y dinesydd nhw yw hwn.

Dydw i ddim yn credu eu bod yn poeni ar hyn o bryd ym mha le y mae'n cael ei gynnal a chan bwy, ond rwy'n derbyn eich pwynt y dylai fod yn gorff annibynnol, ac rwy'n hapus iawn i hynny ddigwydd. Yr hyn nad wyf i'n hapus yn ei gylch yw: nid yw'n dweud yn unman yn y Bil hwn, 'Pan fyddwch yn ailgyfansoddi eich hun, ac yn ailgasglu eich holl gyfarwyddwyr, ac yn ailgasglu eich staff a'ch prif weithredwr a'ch cadeirydd, y byddwch chi, ac mae'n rhaid i chi, sicrhau bod gennych chi freichiau a choesau, bod gennych chi filwyr ar strydoedd Cymru ym mhob twll a chornel o Gymru.' Nid yw'n dweud hynny.

Ac rwy'n siomedig iawn yn eich gwelliant 59. Er fy mod wrth fy modd eich bod wedi derbyn 19 ac 20, y gwnaethoch chi a'ch swyddogion weithio arnyn nhw gyda mi, rwy'n siomedig yn 59 oherwydd bod ein gwelliant 40 yn seiliedig ar eich sylwadau yn y cyfarfod a gawsom y gallai byrddau iechyd rhanbarthol fod y graig gadarn i'w hadeiladu arni. Felly, roeddwn i'n barod i ddod ymlaen—do, fe wnaethoch chi. Deuthum ymlaen a dweud, 'Iawn, fe wnaf droi oddi wrth cael un yn Hywel Dda ac un yn y fan hon ac un yn y fan acw, byddaf yn ei adeiladu ar ôl troed ychydig yn fwy.' Ystyriwyd mai byrddau rhanbarthol, ystyriwyd mai byrddau partneriaeth oedd y ffordd allweddol o wneud hynny. Felly, dyna pam yr wyf i'n siomedig iawn yn eich gwelliant 59 a dyna pham na fyddaf i'n ei gefnogi.

Oherwydd, rwy'n poeni'n ofnadwy, ein bod, nid yn unig yn mynd i fod â Bil nad oes ganddo'r dull priodol o allu dweud, 'Os ydych chi'n methu o ran eich dyletswydd ansawdd, dyma'r canlyniadau yr ydym ni'n eu disgwyl; os nad ydych chi'n ei wneud, dyma a fydd yn digwydd—ac am eich dyletswydd o onestrwydd', ac nid oes unrhyw fesur na grym gwirioneddol yn yr holl beth, ond rydym ni yn awr yn mynd i fod â chorff llais y dinesydd lle—ac rwy'n eich clywed yn dweud na fydd yn digwydd—mewn egwyddor, gallai'r tîm newydd ddweud, 'Rydym ni'n mynd i fod ag un corff yn unig a'r hyn y byddwn ni'n ei wneud fydd dim ond bod â chynrychiolwyr draw fan yna a fydd yn wirfoddolwyr i gyd ac ni fyddan nhw'n staff.'

Gadewch i mi ddweud wrth y gogledd, fel rhywun sy'n byw yn y gorllewin, fy mod i'n gwbl fodlon i'r corff llais y dinesydd fod wedi ei leoli yn y gogledd, oherwydd yr hyn yr wyf i eisiau iddo ei wneud yw fy mod i eisiau iddo fod wedi ei leoli mewn man lle yr ydych chi'n teimlo eich bod ar gyrion pethau, lle yr ydych chi'n teimlo'n ynysig, lle yr ydych chi'n teimlo eich bod wedi eich gadael y tu allan mewn ffordd. Felly, rwy'n gwbl fodlon iddo fod wedi ei leoli yno, oherwydd rwy'n gwybod, os yw wedi ei leoli mewn lle fel y gogledd, y bydd gan y bobl sy'n ei gynnal ddealltwriaeth glir iawn o'r rheswm pam y mae mor bwysig i bob cornel o Gymru, holl ymylon Cymru, gael eu dwyn i mewn a'u cynrychioli ac y rhoddir llais iddyn nhw. Felly, nid oes gennyf i unrhyw broblem â'r awgrym hwnnw, a hoffwn i bawb, os gwelwch yn dda, gefnogi gwelliannau 40, 19 ac 20.

20:30

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 40? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, rydyn ni'n symud i bleidlais ar welliant 40. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 21, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi ei wrthod.

Gwelliant 40: O blaid: 21, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 19 (Angela Burns).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 19? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nag oes. Felly, derbynnir gwelliant 19.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 59 (Vaughan Gething).

Os derbynnir gwelliant 59, bydd gwelliant 75 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 59? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, symudwn i bleidlais ar welliant 59. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, tri yn ymatal, 17 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 59. Gwelliant 75, felly, yn methu.

Gwelliant 59: O blaid: 28, Yn erbyn: 17, Ymatal: 3

Derbyniwyd y gwelliant

Methodd gwelliant 75.

Grŵp 14: Corff Llais y Dinesydd—sylwadau i gyrff Cyhoeddus (Gwelliannau 41, 76, 1, 42, 77)

Sy'n dod â ni i grŵp 14. Grŵp 14 o welliannau yw'r rhai sydd yn ymwneud â sylwadau i gyrff cyhoeddus gan gorff llais y dinesydd. Gwelliant 41 yw'r prif welliant yn y grŵp, ac rwy'n galw ar Angela Burns i gynnig y gwelliant ac i siarad i'r gwelliannau. Angela Burns.

Cynigiwyd gwelliant 41 (Angela Burns, gyda chefnogaeth Caroline Jones).

Diolch, Llywydd. Hoffwn gynnig gwelliannau 41 a 42 yn ffurfiol, a gyflwynwyd yn fy enw i. Codwyd y mater hwn yn gyntaf, neu codwyd gwelliant 42 yn gyntaf, yng Nghyfnod 2 gan lefarydd Plaid Cymru, Helen Mary Jones, gyda'm cefnogaeth lawn. Mae'n unol ag argymhelliad 13 y pwyllgor yng Nghyfnod 1. Yn ystod ein sesiynau tystiolaeth, daeth yn amlwg iawn y dylai'r corff allu cyflwyno sylwadau i Weinidogion Cymru gan y byddai hyn yn galluogi'r corff i gyfrannu'n weithredol at ddyluniad systemau iechyd a gofal yn y dyfodol yn benodol, ac i ddylanwadu ar hynny.

Nododd fwrdd y cynghorau iechyd cymuned os mai nod 'Cymru iachach' yw rhoi llais y dinesydd wrth wraidd gofal iechyd, er mwyn hybu datblygiad a darpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol, dylai fod gan y corff newydd yr hawl i gyflwyno sylwadau ar lefel genedlaethol. Yn benodol, nodwyd ei fod yn fwy na chyflwyno sylwadau ysgrifenedig a chael atebion ysgrifenedig. Mae'n ymwneud â bod yn yr ystafell pan fydd y sgwrs yn digwydd. Mae'n ymwneud â bod o gwmpas y bwrdd. Mae'n ymwneud ag ysgogi'r agenda honno gyda llunwyr polisi a chynllunwyr.

Roedd y Coleg Nyrsio Brenhinol o'r farn ei bod yn bwysig y dylai'r corff llais y dinesydd allu dylanwadu ar ddarpariaeth gwasanaethau iechyd. Ac mae'n siomedig iawn bod y Gweinidog wedi gwrthod yn barhaus yr argymhelliad hwn ar raddfa eang, ar y sail nad yw Gweinidogion Cymru yn comisiynu nac yn darparu gwasanaethau. Ond wrth gwrs, Gweinidog, yr hyn yr ydych chi'n ei wneud yw pennu'r cyfeiriad teithio. Dyna oedd pwrpas yr adolygiad seneddol. Dyna beth yw bwriad 'Cymru Iachach', a'r holl fersiynau a fydd yn ei ddilyn dros y blynyddoedd. Rydym ni'n sôn llawer, onid ydym ni, am wrando ar lais y dinesydd, am ymgysylltu â staff, am yr holl bethau meddal, niwlog hyn, ond mae'n rhaid i ni ddechrau ei gyflawni, ac mae'n rhaid i ni ddechrau ymgysylltu â phobl.

Cyflwynais i welliant 42 ar ôl ymgynghori ymhellach â bwrdd y cynghorau iechyd cymuned yng Nghyfnod 2, gan fod y gwelliant fel y'i drafftiwyd yn gosod dyletswydd i ymateb i'r sylwadau, yn ogystal â dyletswydd i gydymffurfio â chanllawiau a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru sy'n ymwneud â'r sylwadau a wnaed.

Byddem ni'n gwrthod gwelliant 1, eto ar y sail ei fod yn rhy wan i allu ymateb i gryfder y pryderon a gawsom yn ystod Cyfnod 1. Nid yw canllawiau yn unig yn ddigon o dan yr amgylchiadau hyn. Yng Nghyfnod 2, roedd y Gweinidog yn awyddus i wrthod yr hawl ar y sail y byddai'n rhaid i'r sylwadau hyn gael eu gwneud yn gyhoeddus, ac efallai na fyddai ymateb i sylwadau yn rhywbeth y dylid ei ddarparu yn ysgrifenedig. Byddwn yn dadlau bod y gwelliant hwn hefyd yn datgan yn glir y byddai canllawiau'n cael eu cyhoeddi ynghylch sut y byddai personau rhestredig yn ymateb. Gallwn hefyd weld lle mae'r canllawiau'n berthnasol, ond rydym ni'n bendant y dylai'r ddyletswydd i ymateb aros ar wyneb y Bil.

Mae gwelliant 41 yn diwygio adran 15 ar gynrychiolaeth y corff llais y dinesydd i gyrff cyhoeddus, gan ei ymestyn i Weinidogion Cymru ac unrhyw berson arall sy'n gwneud penderfyniadau ar ran awdurdod lleol neu gorff GIG, ac rydym yn credu bod hyn yn darparu dull ehangach ar gyfer sylwadau a wneir.

Rydym yn gwrthwynebu gwelliant 76, ar y sail bod gwelliant 41 yn ehangu'r rhestr o gyrff y gall y corff llais y dinesydd gyflwyno sylwadau iddynt. Unwaith eto, dyma'r un ddadl â'r un a wneuthum yng Nghyfnod 2; yn wir, tynnwyd gwelliant tebyg a oedd yn gyfyngedig i Weinidogion Cymru yn ôl yng Nghyfnod 2 o blaid y gwelliant hwn.

20:35

Mae ein gwelliannau ni yn y fan yma yn nodi nid yn unig y dylai Gweinidogion Cymru allu derbyn sylwadau gan y corff llais y dinesydd, fel y cynigir gan y Ceidwadwyr, ond os ydyn nhw'n derbyn sylwadau, ei bod yn ofynnol wedyn i'r Llywodraeth roi ymateb. Felly, rwyf yn gofyn i'r Ceidwadwyr edrych, o bosibl, ar ein gwelliant ni fel pe byddai'n welliant ar eu gwelliant nhw—neu o leiaf, os bydd eich gwelliannau chi'n methu, eich bod yn ystyried cefnogi ein gwelliant ni fel cael cyfle i roi cynnig arall arni. Rwy'n apelio arnoch i gefnogi o bob rhan o'r Senedd.

Rwy'n dechrau meddwl ein bod ni'n sôn am Fil deintyddol yn y fan yma, achos rwy'n mynd i sôn am ddannedd unwaith eto. [Chwerthin.] Dyma un arall o'r elfennau hynny lle'r ydym ni'n galw ar i'r Bil hwn fod â dannedd gwirioneddol; yn hytrach na sôn am godi safonau mewn termau amwys, bod yna gamau gwirioneddol yn cael eu cefnogi drwy ddeddfwriaeth i wneud yn siŵr bod gwelliannau'n digwydd a, phan godir pryderon, y gweithredir arnyn nhw. Dyna'n union y bwriedir i'n gwelliannau ni ei wneud.

Mae hyn yn hanfodol bwysig, yn fy marn i, i sicrhau bod gan y corff llais y dinesydd ddannedd a'i fod yn gallu dwyn y Gweinidog i gyfrif. Rwy'n gwybod nad yw'n hoffi cael ei atgoffa o'r ffaith yn rhy aml, ond fe sy'n gyfrifol am weithredu'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, ac rwy'n credu ei bod hi'n eithaf perthnasol, felly, i roi'r pŵer i'r corff llais y dinesydd gyflwyno sylwadau iddo ef ac i'w olynwyr. Ac, wrth gwrs, mae hefyd yn bwysig bod unrhyw gorff sy'n derbyn sylwadau yn darparu ymateb ysgrifenedig, neu fel arall ni fydd y corff llais y dinesydd yn ddim byd ond rhestr o sefydliadau sydd efallai yn teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu. Felly, rydym ni'n credu bod hyn yn hynod o bwysig. Byddai methu â chefnogi'r gwelliannau hyn heddiw yn gwneud dim ond ychwanegu rhagor o dystiolaeth at ein barn bod y ddeddfwriaeth hon yn ymwneud mewn gwirionedd â dileu corff craffu effeithiol, gan roi corff heb ddannedd yn ei le, ac, unwaith eto, rheswm arall pam na allwn ni gefnogi'r Bil.  

20:40

Diolch, Llywydd. I fod yn hyrwyddwr effeithiol, mae'n rhaid i'r corff llais y dinesydd gael ei glywed. Mae'r cynghorau iechyd cymuned wedi bod yn hyrwyddwr effeithiol i gleifion Cymru, yn rhannol, oherwydd eu hawl i gael eu clywed. Mae'n rhaid i gyrff cyhoeddus gymryd sylw o sylwadau sy'n cael eu gwneud gan Gynghorau Iechyd Cymuned. Mae'r gwelliannau a gyflwynwyd gan Angela a Rhun yn ymestyn y ddyletswydd hon i'r corff llais y dinesydd. Os yw'r corff newydd hwn yn mynd i fod yn llais i ni, dylai fod yn rhaid i gyrff cyhoeddus wrando ar yr hyn sydd ganddyn nhw i'w ddweud. Nid ydym ni'n byw mewn oes pan oedd gofal iechyd yn cael ei orchymyn i ni mwyach; mae gan gleifion hawl i fod yn rhan o'u hiechyd a'u gofal eu hunain. Mae'n hanfodol felly bod llais y dinesydd yn cael ei glywed pan ddaw'n fater o gynllunio a darparu gwasanaethau a newidiadau i'r gwasanaethau hynny. Heb welliannau 41 a 42, mae'r corff newydd yn gorff i'r dinesydd, ond heb lais.

Diolch, Llywydd. Mae'r holl welliannau yn y grŵp hwn yn ymwneud â sylwadau sy'n cael eu gwneud gan gorff llais y dinesydd a'r ymateb y dylid ei roi iddyn nhw, ond, wrth gwrs, mae gwahanol bosibiliadau'n deillio ohonyn nhw. A hoffwn ei gwneud yn eglur unwaith eto, er gwaethaf yr iaith sy'n cael ei defnyddio, nid yw gwrthod cytuno i welliannau 42 na 77 yn enghreifftiau na'n dystiolaeth o anonestrwydd, nac yn ddymuniad bwriadol ar ran y Llywodraeth i ddirymu'r mudiad Cynghorau Iechyd Cymuned presennol a'u disodli nhw gyda chorff heb ddannedd. Ceir lle i anghytuno'n onest, fel yr wyf i'n cydnabod o fewn fy mhlaid fy hun, ac ar draws y Siambr hon hefyd. Ac rydym ni wedi drafftio'r Bil i alluogi'r corff llais y dinesydd i wneud sylwadau i gyrff y GIG ac i awdurdodau lleol, fel sefydliadau sy'n darparu neu'n comisiynu'r mwyafrif llethol o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Fel y cyfryw, nhw sydd yn y sefyllfa orau i gymryd trosolwg o'r gwasanaethau yn eu hardaloedd, a bod yn fwyaf effeithiol o ran gwneud newidiadau grymus ar lawr gwlad, ac ymateb i'r materion sy'n gysylltiedig â'u sylwadau.  

Mae'r ddau welliant yn y grŵp hwn yn ceisio ychwanegu Gweinidogion Cymru at y rhestr o gyrff y caiff y corff llais y dinesydd wneud sylwadau iddyn nhw. Rwyf i wedi bod yn eglur nad oes dim i atal y corff llais y dinesydd rhag gohebu â Gweinidogion Cymru, ac, fel gydag unrhyw randdeiliaid allweddol, nid ydym ni'n ystyried barn y corff hwnnw yn unig wrth arfer ein swyddogaethau perthnasol, gan gynnwys polisi a deddfwriaeth, ond rydym ni eisoes yn sicrhau ein bod ni'n ymateb i bobl sy'n ysgrifennu at Weinidogion Cymru. Mae unrhyw a phob corff a noddir gan Lywodraeth Cymru sy'n ysgrifennu at Weinidogion yn cael ymateb, a byddai hynny'n union yr un fath o ran y ddeialog barhaus arferol gyda Gweinidogion Cymru a'r corff llais y dinesydd newydd.

Mae gwelliant 41 hefyd yn cyfeirio at sylwadau i'w gwneud i unrhyw berson neu gorff arall sy'n gwneud penderfyniadau neu'n arfer swyddogaethau ar ran awdurdod lleol neu gorff GIG. Ac nid argymhelliad gan y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon oedd hwnnw, wrth gwrs. Er hynny, mae'n anhygoel o eang. Gallai fod yn arbennig o feichus i ddarparwyr gwasanaethau cymdeithasol llai o faint, yn enwedig o ystyried y gofyniad yng ngwelliant 42 i ddarparwyr gyhoeddi eu hymateb ar eu gwefan—nid oes gan bob darparwr wefannau mewn gwirionedd. Ond rwy'n pryderu'n wirioneddol am y gofyniad i gyhoeddi'r holl ymatebion.

Mae gallu'r corff i wneud sylwadau yn eang iawn yn fwriadol. Fodd bynnag, mae hyn yn golygu efallai na fydd yn briodol mewn rhai achosion i gyhoeddi ymatebion. Efallai na fydd y person neu'r bobl y mae'r corff llais y dinesydd yn gwneud sylwadau ar eu rhan eisiau i sylwadau gael eu cyhoeddi. Fodd bynnag, nid yw'r gwelliant y gofynnir i Aelodau bleidleisio drosto yn rhoi dim hyblygrwydd o gwbl o ran gwelliannau 42 a 77, ac mae'r ffordd y mae'r gwelliannau wedi eu drafftio yn wirioneddol bwysig. Nid yw'n dweud 'y cânt' gyhoeddi, neu 'y dylent ystyried' cyhoeddi; mae'r gwelliannau'n ei gwneud yn eglur iawn, yn y naill fersiwn neu'r llall, bod yn 'rhaid' iddyn nhw gyhoeddi eu hymateb ar eu gwefan. Ac ni allwch chi ddiwygio'r gofyniad statudol eglur a diamwys hwnnw mewn canllawiau.  

Mae neilltuo'r dyletswyddau hyn i ddarparwyr gwasanaeth yn mynd yn groes i'r dull a ddilynir o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 y mae'r lle hwn eisoes wedi ei phasio—i osod dyletswyddau cymesur ar ddarparwyr gwasanaeth, gan eu grymuso i ddod o hyd i'r ffyrdd gorau o fodloni gofynion rheoliadol. Mae'n briodol bod sylwadau'n cael eu gwneud i'r cyrff sydd â chyfrifoldeb statudol i'r cyhoedd am ddarparu gofal iechyd a chymdeithasol—awdurdodau lleol a'n GIG. A dyna mae'r Bil yn darparu ar ei gyfer. Nid wyf i'n cytuno bod angen darpariaeth bellach ar hyn—bydd gan y corff llais y dinesydd ddigon o gyfle i lunio polisi cenedlaethol a thynnu sylw at arfer gorau, fel y mae'r corff yn cael ei gynllunio i'w wneud.

O ran y gofyniad am ymateb i sylwadau sy'n nodi i ba raddau y mae'r derbynnydd yn derbyn y sylw, ac unrhyw gamau y mae'r derbynnydd yn bwriadu eu cymryd, mae hwnnw'n fformiwläig ac o bosibl yn annog dull gwrthwynebol yn hytrach na chydweithredol. Ac nid yw'n cymryd i ystyriaeth y ffaith y gallai fod yn fwy priodol—yng nghyd-destun amgylchiadau penodol y math o sylwadau sy'n cael eu gwneud—i ymdrin â materion yn rhan o drafodaeth sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau, yn hytrach na gohebiaeth ysgrifenedig ffurfiol, trwy broses ragnodedig, fel y byddai gwelliannau 42 a 77 yn ei gwneud yn ofynnol.

Mae gwelliant y Llywodraeth yn y grŵp hwn yn ceisio datrys yr hyn a ddeallwn yw'r prif bryder a'r dymuniad: i gyrff y GIG ac awdurdodau lleol gael system eglur ar gyfer ymdrin â sylwadau a dderbynnir gan y corff llais y dinesydd sy'n gymesur â'r materion a godir yn y sylwadau; i'r corff llais y dinesydd gael gwybod am hynt y gwaith o ymdrin â'i sylwadau; ac, yn hollbwysig, i wneud yn siŵr ei fod yn cael ei hysbysu am ganlyniad eu sylwadau. Bydd gwelliant y Llywodraeth yn sicrhau—trwy ganllawiau statudol—bod gan gyrff y GIG ac awdurdodau lleol y weithdrefn gymesur a gweithredol honno ar waith ar gyfer ystyried sylwadau ac ymateb iddyn nhw. Ac rwy'n credu y bydd hynny'n ffafriol i berthynas waith barhaus rhwng y partïon, ac yn golygu bod y corff yn cael ei hysbysu am ganlyniad terfynol gwneud unrhyw sylwadau. A gofynnaf i'r Aelodau gefnogi gwelliant y Llywodraeth yn y grŵp hwn.

20:45

Diolch yn fawr iawn. Mae dipyn o broblem yn y fan yma, mewn gwirionedd, onid oes? Wnes i ddim ryw eistedd i lawr a llunio'r gwelliannau hyn yn y tywyllwch un noson; roedd gen i dîm o gyfreithwyr a weithiodd arnyn nhw. Felly pan eich bod chi'n sefyll yn y fan yna ac yn dweud, fel rydych chi wedi ei wneud unwaith neu ddwy drwy gydol hyn, 'Nid yw hwn wedi ei ysgrifennu'n dda iawn, nid dyma'r derminoleg gywir, mae hyn yn dweud hyn, hyn neu hynna', rwyf i eisiau ei gwneud yn eglur iawn fy mod innau hefyd—nid eich cyfreithwyr chi yn unig sydd yn yr ystafell, mae ein cyfreithwyr ni yn yr ystafell. Ac maen nhw'n eglur iawn bod y gwelliannau hyn yn caniatáu'r elfen honno o ddisgresiwn. Maen nhw'n eglur iawn y gellid cyhoeddi'r canllawiau ynghylch sut y byddai unigolion rhestredig yn ymateb. Felly nid oes rhaid i chi roi'r union hyn sy'n cael ei ddweud yn y parth cyhoeddus.

A gaf i gyfeirio at welliant 42(6)?

Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, mae'n rhaid i dderbynnydd y sylwadau gyhoeddi'r ymateb a baratowyd o dan is-adran (4) ar ei wefan.

Nid yw hynny'n gadael unrhyw le ar gyfer unrhyw ddisgresiwn o gwbl; mae'r gair 'rhaid' yn y drafft hwn yn eglur iawn ac yn ddiamwys.

Ie, ond nid oes yn rhaid i chi roi eu henw, eu cyfeiriad, eu swydd a'u rhif cyfresol. Felly, rwy'n credu eich bod chi'n bod braidd yn annidwyll yn y fan yma. A dyna y gall y canllawiau ei gyflwyno. Ac mae hyn o gymryd cyngor cyfreithiol; mae'r holl wrthbleidiau yn gweithio gyda thimau o gyfreithwyr—nid y Llywodraeth yn unig sydd â'r bobl hyn sy'n gwybod am beth y maen nhw'n sôn. Felly dyna fy sylw cyntaf ar hyn.

Fy ail sylw ar hyn yw ei fod yn fwy na dim ond ysgrifennu i mewn a'ch cael chi i ysgrifennu yn ôl. Mae hyn yn ymwneud â'r corff llais y dinesydd yn gallu wir ymgysylltu â Gweinidogion Cymru, a dechrau helpu i bennu'r cyfeiriad teithio ar gyfer darparu gwasanaethau iechyd yng Nghymru, sut y mae'n adlewyrchu yn eu hardaloedd lleol. A dyna pam yr ydym ni wedi cyflwyno'r gwelliannau hyn, a dyna pam yr ydym ni'n gofyn i'r Aelodau eu cefnogi nhw.

Os derbynnir gwelliant 41, bydd gwelliant 76 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 41? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, symudwn i bleidlais ar welliant 41. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 33 yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 41 wedi ei wrthod.

Gwelliant 41: O blaid: 15, Yn erbyn: 33, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 76 (Rhun ap Iorwerth).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 76? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symud i bleidlais ar welliant 76, yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 21, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 76.

Gwelliant 76: O blaid: 21, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

20:50

Cynigiwyd gwelliant 1 (Vaughan Gething).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Rŷn ni'n symud i bleidlais ar welliant 1, felly, yn enw Vaughan Gething. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 37, neb yn ymatal, 11 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 1. 

Gwelliant 1: O blaid: 37, Yn erbyn: 11, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 42 (Angela Burns, gyda chefnogaeth Caroline Jones).  

Os derbynnir gwelliant 42, bydd gwelliant 77 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 42? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, rŷn ni'n symud i bleidlais ar welliant 42. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 33 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 42 wedi ei wrthod. 

Gwelliant 42: O blaid: 15, Yn erbyn: 33, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 77 (Rhun ap Iorwerth).  

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 77? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais ar welliant 77, yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 21, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Ac felly, gwrthodwyd y gwelliant. 

Gwelliant 77: O blaid: 21, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 20 (Angela Burns, gyda chefnogaeth Caroline Jones).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 20? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbynnir gwelliant 20, felly. 

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 15: Cwynion ar y cyd (Gwelliannau 43, 47)

Grŵp 15 yw'r grŵp nesaf o welliannau ac mae'r rhain yn ymwneud â chwynion ar y cyd. Gwelliant 43 yw'r prif welliant, a dwi'n galw ar Angela Burns i gynnig y gwelliant. 

Cynigiwyd gwelliant 43 (Angela Burns, gyda chefnogaeth Caroline Jones). 

Diolch, Llywydd. Hoffwn gynnig gwelliannau 43 a 47 yn ffurfiol, a gyflwynwyd yn fy enw i. Mae gwelliant 43, Gweinidog, yn welliant treiddgar ac mae'n ymwneud â'i gwneud yn ofynnol i gyrff y GIG ac awdurdodau lleol gydweithio pan fydd cwyn yn cael ei gwneud, sy'n berthnasol i'r ddau ohonyn nhw, ac mae gwelliant 47 yn ganlyniadol i welliant 43.  

Nawr, mae'r gwelliannau hyn yn seiliedig ar dystiolaeth a gyflwynwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i'r pwyllgor yn ystod Cyfnod 1 a thrafodaethau pellach a gawsom ni yng Nghyfnodau 2 a 3. Mewn tystiolaeth ysgrifenedig, nododd yr ombwdsmon ei siom na wnaeth Llywodraeth Cymru fwrw ymlaen â'i chynigion ar ymchwiliadau ar y cyd a chysoni gweithdrefnau cwynion gwasanaethau cymdeithasol y GIG yn ei Phapur Gwyn. A gwn fod hyn wedi codi pryderon ymhlith nifer o Aelodau, oherwydd yn amlach, nawr, mae pobl yn cael cymorth gan y GIG a chan wasanaethau cymdeithasol. Ac os oes problem, weithiau mae'n anodd iawn dweud a yw'r broblem yn ymwneud â'r rhan iechyd neu'r rhan gwasanaethau cymdeithasol, neu gallai fod yn broblem sy'n gysylltiedig â'r ddau. Mae gofyn i'r dinesydd wedyn ddechrau dwy broses gwyno ar wahân neu fynegi ei bryderon trwy ddwy broses ar wahân ar gyfer yr un mater yn ofyn mawr, a holl ddiben hyn yw gwneud bywyd y dinesydd yn fwy uniongyrchol, yn haws ei reoli ac yn llai gwrthdrawiadol. Dyna pam yr wyf i wedi cyflwyno'r gwelliannau hyn, gan mai'r hyn yr ydym ni eisiau ei weld yw system ar y cyd dim ond yn yr achosion pan fo'r cwynion sy'n cael eu gwneud yn ymwneud â rhywbeth sy'n effeithio ar y GIG a gwasanaethau cymdeithasol.

Nawr, fe wnes i wrando'n astud iawn ar y Gweinidog, a dyna pam mae hwn yn welliant treiddgar, gan eich bod chi wedi dweud eich bod chi eisiau cael proses gwynion unedig. Ac rwyf i hefyd wedi eich clywed chi'n dweud y bydd yn cymryd amser i'w rhoi ar waith, ond mae'n gymhleth iawn mewn gwirionedd gan fod y ffordd y caiff cwyn yn y GIG ei phrosesu yn wahanol iawn i'r ffordd y caiff cwyn am wasanaethau cymdeithasol ei phrosesu ac, yn aml iawn, bydd y gŵyn am y GIG, gan ei bod yn tueddu i fod yn llawer mwy clinigol, yn aml yn cymryd llawer mwy o amser gan fod llawer mwy o bobl y mae'n rhaid eu cynnwys ac y mae'n rhaid i chi wrando ar y meddygon ymgynghorol a phawb sy'n ymwneud ag ef. Tra, yn aml iawn, gallai achos gwasanaethau cymdeithasol fod yn llawer mwy uniongyrchol a haws ymdrin ag ef, a gall cyfuno'r ddau wahanol fath o broses gwynion fod yn anodd iawn. Felly, rwy'n deall hynny ac rwy'n cytuno â chi. Ond yr hyn yr wyf i'n pryderu yn ei gylch yw pa mor hir y gallai ei gymryd.

Clywsom eisoes yn y gwelliant blaenorol ein bod ni saith mlynedd yn ddiweddarach ac nid yw pethau a oedd yn hanfodol ac a addawyd wedi digwydd byth. Pan drafodwyd hyn gennym ni, fe wnaethom ni siarad am welliant rhagweledol, a diben gwelliant rhagweledol yw cael, o fewn y Bil hwn, y gallu i Weinidog Cymru ddweud, 'Ar adeg yn y dyfodol, wyddoch chi beth, iechyd a gofal cymdeithasol, rwyf i wedi rhoi'r holl amser yma i chi gael trefn ar bethau, i drefnu eich prosesau cwynion, i helpu'r dinesydd'—a holl ddiben hyn yw helpu'r dinesydd—'rydych chi'n dal i fod heb ei wneud, felly nawr rwy'n mynd i ddeddfu'r rhan hon o'r Bil a fydd yn eich gorfodi i fwrw ymlaen a'i wneud.' Dyma ddiben gwelliannau 43 a 47.  

Rwy'n poeni y cefnwyd ar ein trafodaethau ynghylch gwelliant rhagweledol. Rwy'n derbyn nad ydych chi wedi cefnu ar yr uchelgais i gael proses gwynion fwy unedig. Rwy'n croesawu eich addewid y bydd swyddogion yn ceisio trefnu trafodaeth bwrdd crwn cyn toriad yr haf, gyda'r adrannau perthnasol. Rwy'n credu bod perygl o hyd y bydd hyn yn cael ei fwrw o'r neilltu eto, heb ymrwymiad statudol.  

Dyna pam yr wyf i wedi cyflwyno'r gwelliannau hyn. Byddai gen i ddiddordeb mewn clywed, Gweinidog, beth sydd gennych chi i'w ddweud. Mae'r gwelliannau hyn yn caniatáu i chi ddod â'r holl randdeiliaid y mae angen ymgynghori â nhw ynghyd. Maen nhw'n caniatáu i chi sbarduno proses gwynion ar y cyd yn y dyfodol yn ei blaen drwy fframwaith rheoleiddio. Mewn ymgynghoriad ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, rydym ni'n credu y gellir dod i gytundeb o fewn chwe mis ar ôl i'r adran hon ddod i rym, ac rwyf yn annog yr Aelodau i gefnogi'r gwelliannau hyn.  

20:55

Mi allaf gadarnhau y byddaf i a'r grŵp yn cefnogi'r gwelliannau yma. Y rheswm am hynny ydy dwi'n meddwl bod yna fodd yn fan hyn i annog gwell gweithio ar y cyd, a hynny yn enwedig lle mae cwynion yn ymwneud â'r gofod yna lle mae'r rhyngweithio'n digwydd go iawn rhwng y gofal cymdeithasol a gofal iechyd.

Mae'n ddrwg gen i orfod siomi Angela Burns unwaith eto, ond fel y bydd yr Aelodau'n gwybod, cyflwynwyd gwelliannau yn union yr un fath ar gwynion ar y cyd yng Nghyfnod 2, fel y mae Angela Burns wedi ei nodi. Nid wyf i'n credu o hyd y byddai'r Bil yn gyfrwng addas i gyflwyno'r newidiadau hyn. Mae ymatebion i'r ymgynghoriad ar y Papur Gwyn ac ystyriaeth ddilynol wedi dangos bod angen ymgysylltu ymhellach yn y maes gydag amrywiaeth o randdeiliaid i helpu i ddatblygu'r polisi yn y maes.

O ran yr hyn y mae'r gwelliant arfaethedig yn ei wneud, fy mhryder i yw y gallai fod yn rhy gyfyngol. Er enghraifft, mae'n ei gwneud hi'n ofynnol i gyrff y GIG ac awdurdodau lleol gynnal ymchwiliad ar y cyd i bryderon a godir o dan weithdrefn gwynion y GIG ac o dan reoliadau gweithdrefn gwynion y gwasanaethau cymdeithasol. Nid yw hynny'n cynnwys y nifer fawr o gwynion am wasanaethau cymdeithasol sy'n cael eu gwneud gan blant o dan Reoliadau Gweithdrefn Sylwadau (Cymru) 2014, ac nid yw'n cymryd i ystyriaeth ychwaith cwynion a wneir yn uniongyrchol i ddarparwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol a reoleiddir, fel cartrefi gofal a darparwyr gofal cartref. Mae'r llwybr hwn yn arbennig o berthnasol i'r rhai nad yw eu gofal a'u cymorth yn cael eu rheoli neu eu trefnu gan awdurdod lleol.

Roedd y Pwyllgor ei hun yn cydnabod nad yw ystyried y dull gorau ar gyfer cwynion ar y cyd,

yn ddarn syml o waith,  

ac anogodd y Llywodraeth i barhau i weithio gyda rhanddeiliaid i ddod o hyd i ffyrdd o symleiddio'r broses. Fel y dywedodd Angela Burns, rwyf i wedi ymrwymo i gynnull trafodaeth bwrdd crwn gyda'r amrywiaeth eang honno o randdeiliaid i ystyried sut y gallai'r broses fod yn berthnasol i gwynion am y GIG, cwynion am awdurdodau lleol yn ogystal â chwynion yn erbyn darparwyr gofal cymdeithasol a reoleiddir.

Ceir nifer o randdeiliaid allweddol y mae angen eu cynnwys yn y gwaith o gyflawni'r uchelgais hwn a gwaith i'w wneud i sicrhau ein bod ni'n darparu trefniadau cwynion ar y cyd effeithiol. Mae swyddogion eisoes yn gweithio i drefnu'r drafodaeth bwrdd crwn honno cyn toriad yr haf. Ond rwy'n credu y byddai'r cyfnod amser o chwe mis y mae Angela Burns yn cyfeirio ato yn y gwelliant yn amserlen rhy optimistaidd i allu cwblhau hyn i gyd mewn da bryd, hyd yn oed pe byddem ni mewn cyfnod arferol, ac, wrth gwrs, dydyn ni ddim, o ran yr heriau penodol yr ydym ni'n gwybod ein bod ni'n mynd i'w hwynebu.

Ond rydym ni'n mabwysiadu'r dull hwn yn y maes hwn o gwynion ar y cyd er mwyn dod a nifer o wahanol linynnau yr ydym ni'n gwybod bod yn rhaid iddyn nhw fod yn yr un lle ar yr un pryd ynghyd. Fel yr amlinellais yn ystod Cyfnod 2, mae'r ffaith y bydd gan y corff y gallu i gynorthwyo rhywun sy'n gwneud cwyn am iechyd a gofal cymdeithasol yn dangos ein hymrwymiad i wneud pethau'n haws i bobl sydd â chwynion sy'n cwmpasu'r ddau faes hyn.

I ailadrodd, ein dull o hyd yw parhau i weithio gyda sefydliadau GIG Cymru, llywodraeth leol a chyrff eraill i drafod ffyrdd o wneud y broses yn symlach i bobl sydd â'r cwynion hynny ar draws meysydd iechyd a gofal cymdeithasol. Rwy'n gobeithio bod yr Aelodau yn cydnabod penderfyniad diffuant ac eglur y Llywodraeth i gyrraedd y nod hwnnw yn rhan o system iechyd a gofal cymdeithasol fwy integredig sy'n canolbwyntio’n wirioneddol ar bobl, ac sy'n cael ei datblygu mewn partneriaeth â rhanddeiliaid allweddol. Byddwn yn adolygu ac yn diweddaru ein rheoliadau gwneud pethau'n iawn a'r canllawiau cysylltiedig i sicrhau eu bod nhw'n gweithredu'n briodol y newidiadau yr ydym ni'n eu gwneud drwy'r Bil hwn i gyflwyno dyletswydd o ddidwylledd.

Rwyf i wedi gwrando ar y pwyntiau y mae Angela Burns wedi eu codi ac er fy mod i'n credu ein bod ni'n cytuno ar y canlyniad yn y pen draw, mae gen i ofn na allaf i gefnogi'r gwelliant y mae hi'n ei gynnig heddiw.

21:00

Rydych chi wedi fy siomi, oherwydd fe wnaethom ni siarad am welliannau rhagweledol, ac oherwydd fy mod i'n poeni y bydd yn cael ei anghofio, neu y bydd yn cael ei ganiatáu i lusgo ymlaen ac ymlaen. Rwyf i wedi bod yn Aelod Cynulliad am 10 mlynedd ac un o'r achosion cyntaf y bu'n rhaid i mi ddelio ag ef oedd dyn ifanc a oedd wedi ei fwrw drosodd gan gar ac a gafodd ei barlysu o'i wddf i'w droed, a rhoddwyd gofal iechyd iddo 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, ond cafodd ei faethu hefyd—pan rwy'n dweud ei fod yn ddyn ifanc, roedd e'n blentyn, yn fachgen—cafodd ei faethu ac felly cafodd ymyriad gan y gwasanaethau cymdeithasol. Cafodd y bachgen ifanc hwnnw ei arteithio gan y tîm iechyd. Roedden nhw'n arfer chwarae jôcs arno, fel tynnu ei bad anymataliaeth a'i ddal i fyny wrth ei drwyn, a chwerthin. Roedd ganddo dracheotomy, a byddai'n rhaid iddyn nhw newid tiwbiau amrywiol a phan fyddai ef—drwy rwystredigaeth—yn arfer gweiddi a sgrechian, bydden nhw'n ei dynnu allan a dawnsio o gwmpas gydag un newydd cyn ei roi yn ôl i mewn eto, i ddysgu gwers iddo. Dyma blentyn sydd wedi ei barlysu'n llwyr o'i wddf i lawr: nid wyf i erioed wedi ei anghofio; yr oedd yn un o fy achosion cyntaf. Gweithiais ar ei achos am ddwy flynedd; y mae wedi ei serio yn fy enaid.

Yr hyn sydd wedi ei serio yn fy enaid mewn gwirionedd ar ben yr hyn a ddigwyddodd iddo, yw'r ffordd y gwnaeth yr holl wasanaethau hynny osgoi bai. Nid oedd ar y GIG; nid oedd ar y gwasanaethau cymdeithasol. Fe wnes i hel achos a chael pawb yn rhan ohono: AGGCC; roedd gen i arolygwyr iechyd; y cyfan, ac roedd yn anhygoel cymaint o le i osgoi bai a oedd yn y broses gwyno honno. Roedd yn rhyfeddol sut y llwyddodd pobl i osgoi bod yn gyfrifol, ac fe wnes i dyngu llw bryd hynny ni waeth beth arall y byddwn i'n ceisio ei wneud, y byddwn i'n ceisio dod â'r cyfan at ei gilydd, er mwyn i'w ofalwyr maeth, y gweithwyr iechyd proffesiynol a wnaeth ofalu amdano, y doctor, y meddyg teulu, allu mynd ar ôl y bobl iawn a dweud, 'Hei. Chi sydd ar fai, ewch chi ati i'w ddatrys. Ewch chi ati i geryddu'r bobl hynny. Ewch chi ati i ailhyfforddi'r bobl hynny. Ewch chi ati i ddiswyddo'r person hwnnw, ac ewch chi ati i wneud bywyd y plentyn hwnnw'n well eto.'

Ond ni wnaeth hynny ddigwydd, oherwydd bu'n rhaid i ni fynd i bob man gyda'n proses gwyno. Ac mae wedi bod yn hunllef, a dyna pam—. Nid wyf i'n gofyn i chi ei ailysgrifennu, a dyma beth rwy'n poeni amdano, mai ar y ford gron yr ydych chi'n sôn am wneud y cyfan. Nid wyf i'n gofyn i chi ailysgrifennu proses gwyno'r GIG. Nid wyf i'n gofyn i chi ailysgrifennu proses gwyno gofal cymdeithasol. Rwy'n gofyn i chi ddatblygu system newydd sbon lle, ar yr adegau pan fo'n fater ar y cyd, lle ceir cyfrifoldeb ar y cyd, yna ceir proses lle mai dim ond un alwad ffôn y mae'n rhaid i'r dinesydd druan sydd wedi cael cam ei gwneud, un person y mae'n rhaid siarad ag ef i ddatrys y mater cyfan. Gallwch chi wneud hynny mewn chwe mis. Mae gennych chi ddigon o awdurdod, rydych chi'n unigolyn hynod ddeallus, a gallwch chi ysgogi'r tîm hwnnw pan fyddwch chi'n dymuno gwneud hynny, ac nid wyf i'n credu bod y gwelliant hwn yn afresymol, gan ei fod yn ymwneud â diogelu'r dinesydd, ac rwy'n gofyn i'r Aelodau gefnogi gwelliannau 43 a 47.

Os gwrthodir gwelliant 43, bydd gwelliant 47 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 43? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Dŷn ni'n symud i bleidlais, felly, ar welliant 43. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 20, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 43 wedi ei wrthod.

Gwelliant 43: O blaid: 20, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Methodd gwelliant 47.

Grŵp 16: Corff Llais y Dinesydd—dyletswydd i gyflenwi gwybodaeth (Gwelliant 2)

Grŵp 16 yw'r grŵp nesaf, sy'n ymwneud â dyletswydd i gyflenwi gwybodaeth i gorff llais y dinesydd. Gwelliant 2 yw'r unig welliant yn y grŵp. Dwi'n galw ar y Gweinidog i gynnig gwelliant 2.

Cynigiwyd gwelliant 2 (Vaughan Gething).

Diolch, Llywydd. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod adran 18 o'r Bil yn gosod dyletswydd ar gyrff y GIG ac awdurdodau lleol i roi unrhyw wybodaeth i gorff llais y dinesydd y mae'n gofyn amdani yn rhesymol at ddibenion cyflawni ei swyddogaethau. Diben y gwelliant hwn yw rhoi dyletswydd ar gyrff y GIG ac awdurdodau lleol i roi ymateb ysgrifenedig i gorff llais y dinesydd sy'n amlinellu'r rhesymau pam y mae wedi gwrthod darparu'r wybodaeth y gofynnwyd amdani. Byddai'r ddyletswydd yn berthnasol i unrhyw wrthodiad a wnaed gan gorff y GIG neu awdurdod lleol.

Rwy'n credu y gall yr Aelodau ddeall y byddai'n bosibl gwrthod ceisiadau am wybodaeth ar amrywiaeth o resymau, er enghraifft, efallai na fydd y cais yn rhesymol a dylai'r ymateb nodi'r hyn sy'n afresymol yn ei gylch; efallai na fydd y cais yn gysylltiedig ag arfer swyddogaethau corff llais y dinesydd; neu fe allai fod yn anghyfreithlon datgelu'r wybodaeth y gofynnwyd amdani. Rwy'n credu ei bod yn bwysig bod gofyniad i ddarparu'r rhesymau hyn yn ysgrifenedig. Fe wnes i gyflwyno'r gwelliant hwn mewn ymateb i sylwadau'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad bellach, a wnaed ar ôl proses Cyfnod 1.

Bydd y gwelliant hwn yn ychwanegu cryfder at adran 18 o'r Bil drwy osod y ddyletswydd hon ar gyrff y GIG ac awdurdodau lleol i helpu i sicrhau tryloywder, a dangos atebolrwydd wrth wneud y penderfyniadau hynny. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau yn cefnogi'r gwelliant.

21:05

Gan fod hyn yn cryfhau'r Bil, byddwn ni yn ei gefnogi yn anfoddog, ond fe hoffem ni wneud y pwynt nad ydym ni, mewn gwirionedd, yn dymuno i gyrff y GIG neu awdurdodau lleol wrthod darparu gwybodaeth yn y lle cyntaf. Hoffem ni yn fawr iawn weld mwy na gofyniad i ddarparu rhesymau ysgrifenedig dros wrthod gwybodaeth, ond yr oedd yn rhaid i gorff llais y dinesydd, mae'n debyg, fod â'r gallu i herio rhesymau o'r fath.

Y Gweinidog i ymateb. Na? Felly, y cwestiwn yw; a ddylid derbyn gwelliant 2? A oes gwrthwynebiad? Nag oes, felly derbynnir gwelliant 2. 

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 17: Corff Llais y Dinesydd—Mynediad i fangre (Gwelliannau 3, 45)

Grŵp 17 yw'r grŵp nesaf, sydd yn ymwneud â chael mynediad i fangre gan gorff llais y dinesydd. Gwelliant 3 yw'r prif welliant yn y grŵp yma. Dwi'n galw ar y Gweinidog i gynnig y prif welliant. Vaughan Gething. 

Cynigiwyd gwelliant 3 (Vaughan Gething).

Diolch, Llywydd. Yn dilyn y ddadl Cyfnod 2, fe wnes i gyfarfod â llefarwyr iechyd y gwrthbleidiau i drafod nifer o faterion, ac un ohonyn nhw, wrth gwrs, oedd y cwestiwn ynghylch mynediad at eiddo, a chawsom ni drafodaeth adeiladol. Mae swyddogion wedi siarad â rhanddeiliaid sy'n cynrychioli darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol, cyfarwyddwyr nyrsio byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a chynrychiolydd o Fforwm Gofal Cymru, ac roedd pob un ohonyn nhw yn cefnogi dull y cod ymarfer.

Rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn cydnabod y bydd adborth pobl a gaiff ei gasglu mewn amser real gan gorff annibynnol y gellir ymddiried ynddo yn darparu dirnadaeth bwysig ac adnodd gwerthfawr ar gyfer gwella gwasanaethau. Rwyf i hefyd wedi ysgrifennu at y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i roi sicrwydd ar nifer o faterion, gan gynnwys y cod. Fel y byddwch wedi nodi, rydym ni wedi ail-gyflwyno, gyda gwelliant technegol bach, ein gwelliant yng Nghyfnod 2. Mae'n gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i baratoi a chyhoeddi cod ymarfer ynghylch mynediad at eiddo lle y darperir gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Mae'r gwelliant hwn yn ymateb i argymhelliad 12 yn adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, a alwodd am hawl mynediad amodol.

Fe wnaethom ni ystyried, yn helaeth, nifer o opsiynau o ran mynediad cyn penderfynu ar y cod ymarfer a oedd yn darparu'r dull cywir yn gysylltiedig â swyddogaethau corff llais y dinesydd. Byddaf yn rhoi sylwadau ymhen tipyn ynghylch gwelliant y Ceidwadwyr Cymreig, ond cyn gwneud hynny hoffwn i roi ar gofnod fy mod i'n credu o ddifrif fod pawb yn ceisio cyflawni'r canlyniad cywir, hyd yn oed os na fyddwn yn cytuno yn y pen draw.

Rwy'n cydnabod bod hyn yn rhan allweddol o'r Bil ac mae'n hanfodol ein bod yn ei gael yn iawn. Ein bwriad yw creu fframwaith sy'n hwyluso mynediad at gorff llais y dinesydd i bobl sy'n derbyn gofal. Mae gwelliannau eraill y gwnaethom eu cyflwyno yng Nghyfnod 3, fel y ddyletswydd i gydweithredu sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyrff y GIG ac awdurdodau lleol wneud trefniadau gyda chorff llais y dinesydd i gydweithredu, i'w cynorthwyo i geisio barn y cyhoedd, hefyd yn hwyluso cydweithredu mewn cysylltiad â mynediad at eiddo. Yr amcan allweddol yw sicrhau y gall y corff arfer ei swyddogaethau mewn ffordd sy'n cydnabod anghenion ac amgylchiadau unigol pobl sy'n derbyn gofal a chymorth mewn lleoliadau gwahanol iawn. Mae cod ymarfer yn caniatáu i ni fyfyrio ar y ffordd orau o sicrhau mynediad i bobl mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd a lleoliadau, o ysbytai i fyw gyda chymorth.

Mae'r gwelliant yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori ar y cod, ac mae'n bwysig ein bod yn cael ein harwain gan bobl sydd â phrofiad o dderbyn gofal yn y gwahanol leoliadau hyn. O ystyried y gofyniad i ymgynghori, nid wyf i'n dymuno achub y blaen ar ei gynnwys, ond rwyf i yn dymuno ailadrodd yr haeriad a wnes i yn ystod Cyfnod 2 y dylai'r rhagdybiaeth gychwynnol fod y bydd mynediad yn cael ei gytuno. Fodd bynnag, gall y cod, er enghraifft, argymell y ffactorau y dylai'r corff eu hystyried wrth geisio mynediad at eiddo; er enghraifft, i sicrhau'r cyfleoedd gorau i siarad â thrigolion, teulu ac ymwelwyr. Gall hefyd wneud argymhellion ynghylch yr angen i'r rhai hynny sy'n cynnal ymweliadau gael hyfforddiant priodol ac archwiliadau.

Bydd y cod yn cael ei ategu gan ddarpariaethau sy'n bodoli eisoes sy'n rhoi cryn bwys iddo. Er enghraifft, o ran y gwasanaethau cymdeithasol, mae cod ymarfer rhan 2, a gyhoeddwyd o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, yn datgan bod yn rhaid i awdurdodau lleol:

'Sicrhau bod darparwyr y maent yn comisiynu neu’n caffael gwasanaethau ganddynt yn annog a galluogi cyfraniad pawb at gynllunio’r gwasanaethau a sut y byddant yn gweithredu i gyflawni canlyniadau personol, a bod darparwyr yn cynnwys pobl yn y gwerthusiad a’r adolygiad.'

Mae dyletswydd felly ar awdurdodau lleol i sicrhau bod gwasanaethau a gomisiynir yn galluogi defnyddwyr gwasanaethau i fod yn rhan o'r broses o lunio'r gwasanaethau. Nawr, er ei fod yn bwysig, dim ond un ffordd y gall y corff geisio barn yw cael mynediad at eiddo. Bydd angen i'r corff hefyd ymgysylltu nid yn unig â defnyddwyr gwasanaeth cyfredol ond hefyd â defnyddwyr blaenorol, darpar ddefnyddwyr a'u teuluoedd. Felly, mae cael mynediad at eiddo i geisio barn yn un rhan o'r darlun ehangach.

Bydd y cod yn dwyn y pwys angenrheidiol i sicrhau bod pob parti—cyrff y GIG, awdurdodau lleol a chorff llais y dinesydd—yn cyflawni eu cyfrifoldebau perthnasol. Yn ein hasesiad a'n hymgysylltiad â rhanddeiliaid, nid ydym wedi gweld nac wedi clywed tystiolaeth na fydden nhw'n cyflawni eu cyfrifoldebau perthnasol yn briodol.

Nawr, dangosodd ymchwil gan Brifysgol Caint a gan LSE, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2018, fod 99.7 y cant o dros 1,000 o gartrefi gofal i oedolion yn Lloegr yn dweud y gallai ymweliadau ddigwydd ar unrhyw adeg. Nid oes dim tystiolaeth wedi ei chyflwyno i mi, nac i ni, i ddangos y byddai'r sefyllfa yn wahanol yma yng Nghymru. Rwy'n gofyn i'r Aelodau gefnogi'r gwelliant, sy'n darparu dull clir a chynhwysfawr o sicrhau eglurder a sicrwydd ar draws iechyd a gofal cymdeithasol.

Rwy'n gwybod y bydd yr Aelod yn siarad am ei gwelliant hi, ond hoffwn i nodi fy marn i. Rwyf i wedi ystyried y gwelliant sydd wedi ei gyflwyno. Rwy'n gwerthfawrogi'r cyfeiriad at y cod ymarfer ac yn deall o hynny bod yr Aelod yn gwerthfawrogi'r manteision y gallai cod eu cyflwyno i'r rhan hon o'r Bil. Yn anffodus, er nad oes gen i unrhyw amheuaeth ynghylch y bwriad y tu ôl i'r gwelliant, nid wyf i'n gallu ei gefnogi. Mae effaith y gwelliant, yn anffodus, yn aneglur. Rwy'n credu mai'r bwriad yw rhoi pŵer i gorff llais y dinesydd gael mynediad at eiddo, mynd i mewn iddo a'i weld at ddibenion unrhyw un o'i swyddogaethau. Mae'n ymddangos mai'r bwriad yw bod amod yn cael ei briodoli i'r hawl mynediad hwn drwy god ymarfer wedi ei baratoi gan Weinidogion Cymru, er nad yw hynny'n gwbl glir.

Mae problemau gwirioneddol yn yr hyn y mae darpariaethau'r cod yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ei wneud. Er enghraifft, mae'n amhosibl nodi rhestr gynhwysfawr o'r amgylchiadau pan gaiff y corff fynd i mewn i eiddo ac edrych arno. Nid yw hyn yn gweithredu er mantais i'r corff nac, yn wir, i ddefnyddwyr iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Bydd amgylchiadau annisgwyl o hyd a allai godi, ac felly gallai'r gwelliant fod yn gyfyngol.

Mae'r gwelliant hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r cod nodi rhestr gynhwysfawr o'r amgylchiadau pan gaiff corff llais y dinesydd fynd i mewn i eiddo domestig neu ystafelloedd preifat mewn cartrefi gofal ar gais unigolyn. Unwaith eto, ni all hynny fod yn iawn. Nid lle Gweinidogion Cymru mewn cod ymarfer yw nodi rhestr gynhwysfawr o'r amgylchiadau pan gaiff unigolyn wahodd corff llais y dinesydd i mewn i'w gartref. Siawns mai mater i'r unigolyn ei hun benderfynu arno yw hynny.

Gofynnaf felly i'r Aelodau gefnogi gwelliant y Llywodraeth a gwrthod y gwelliant yn enw Angela Burns.

21:10

Fel y dywedodd y Gweinidog, mae fy ngwelliant 45 yn ymwneud â'r hawl mynediad i eiddo drwy gorff llais y dinesydd, ac, unwaith eto, y mae wedi ei seilio ar argymhelliad 12 y pwyllgor yng Nghyfnod 1. Mae hefyd yn cyd-fynd â barn bwrdd presennol y cynghorau iechyd cymuned, nad ydyn nhw'n dymuno i fynediad at eiddo gael ei draddodi i god ymarfer.

Byddem ni'n gwrthod gwelliant 3 y Gweinidog gan nad yw dyletswydd i roi sylw i god ymarfer yn mynd yn agos at fynd i'r afael â chryfder teimladau llawer o randdeiliaid y dylai corff llais y dinesydd gadw'r hawl i fynediad, ac nid yw mor gryf ychwaith â hawl sydd wedi ei nodi ar wyneb y Bil. Mae'n rhaid i chi gofio ein bod ni'n awgrymu y dylem ni ddiddymu'r cynghorau iechyd cymuned a sefydlu cyrff llais y dinesydd yn eu lle, a'r gofynion allweddol ar gyfer hynny yw y dylai fod yn lleol—dylai gael ei redeg gan bobl leol ac ar eu cyfer—ac y dylen nhw gael yr hawl i fynediad, oherwydd bod cael yr hawl honno i fynediad yn rhoi cyfle iddyn nhw sylwi ar bethau a gaiff eu methu weithiau. Mae'n caniatáu iddyn nhw fod yn gyfaill beirniadol; mae hefyd yn caniatáu iddyn nhw fynd at rai sefyllfaoedd a chymryd camau dilynol gwirioneddol pan fo pobl wedi dechrau codi pryderon ac yna maen nhw'n canfod bod nifer o bryderon. Ac mae'n debyg y gallwn ni i gyd gyfeirio at gynghorau iechyd cymuned sydd wedi gwneud yr union beth hwnnw ac wedi darparu gwasanaeth gwych i'w cymunedau lleol.

Mae angen i ni gofio hefyd, er enghraifft, fod Gofal Cymdeithasol Cymru wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru ailedrych ar ei phenderfyniad, gan esbonio bod y pŵer mynediad yn llenwi'r bylchau yn y broses o gofnodi darparwr a chofnodi sefyllfa, h.y. ei fod o blaid y darparwr. A dyma'r hyn a geir yn ystod pwerau arolygu. Dywedodd y comisiynydd pobl hŷn y gallai'r swyddogaeth hon fod yn hyblyg, yn ymatebol a gweithredu fel system rhybudd cynnar lle gall pryderon gael eu nodi cyn arolygiad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.

Tynnodd Leonard Cheshire sylw at bwysigrwydd pŵer oherwydd ei natur ragweithiol a chaniatáu i safonau gael eu mesur cyn i ddyletswydd didwylledd gael ei sbarduno. Roedd Cyngor Cymuned Gelligaer, a oedd o gymorth mawr yn eu hymatebion, ac a oedd yn siarad ar ran llawer o gynghorau cymuned, yn teimlo'n gryf y dylai fod gan y corff newydd yr hawl i fynediad at sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol. Ac fe wnaethon nhw nodi bod gan gyngor iechyd cymuned Aneurin Bevan hanes da iawn o ymateb yn gyflym i adroddiadau, a thrwy eu perthynas â'r bwrdd iechyd, trwy eu perthynas gadarnhaol â'r bwrdd iechyd, eu bod yn sicrhau newidiadau.

Ac mae yn destun siom i mi, Gweinidog, eich bod yn ceisio gwadu swyddogaeth mor bwysig ei phwys llawn. Yn eich ymatebion i'r pwyllgor, fe wnaethoch chi honni bod cyrff arolygiaeth eisoes yn cyflawni'r swyddogaeth hon ar sail safonau rheoleiddio. Ond er gwaethaf yr holl dystiolaeth, mae hynny mewn gwirionedd yn gwrthddweud yr honiad hwnnw. Roedd hefyd yn destun siom mawr yng Nghyfnod 2 eich bod yn credu bod dau welliant yr wrthblaid wedi eu drafftio mewn ffordd y byddai modd eu dehongli fel swyddogaethau arolygu oherwydd yn sicr nid dyna'r hyn yr oeddem ni yn ceisio ei wneud.

Ac fe wnes i wrando arnoch chi pan wnaethom ni gyfarfod i drafod hyn cyn Cyfnod 3, ac fe wnes i wrando'n glir iawn ar eich pryderon ynghylch yr ystyriaethau hawliau dynol, a dyna pam yr wyf wedi cyflwyno gwelliant wedi ei ailddrafftio i geisio rhoi sylw i rai o'r pryderon hynny. Ac fe wnes i'ch clywed, yng Nghyfnod 2, yn dweud eich bod wedi cael sgyrsiau adeiladol â'r cynghorau iechyd cymuned ynghylch yr hawl mynediad hwn, ond maen nhw'n benderfynol y dylid ei gadw ar wyneb y Bil.

Mae'r cyngor a gefais i mewn cysylltiad â'r elfennau hawliau dynol yn tynnu sylw at y ffaith bod yn rhaid i unrhyw ddarpariaeth mewn Bil beidio â mynd yn groes i Siarter Hawliau Dynol Ewrop er mwyn bod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol. Yn yr achos hwn, erthygl 8 ar yr hawl i fywyd preifat. Rwyf i wedi cael gwybod hefyd nad yw'r ffaith y bydd cod ymarfer yn pennu amodau a ddylai sicrhau nad yw erthygl 8 yn cael ei dorri yn ddigon i sicrhau nad yw darpariaeth yn torri Erthygl 8 ac felly o fewn cymhwysedd. Felly, yn hyn o beth, po fwyaf o amodau a roddir ar yr hawl mynediad ar wyneb y Bil, y lleiaf tebygol yw hi y bydd erthygl 8 yn cael ei thorri. Mae fy ngwelliant i, felly, yn fy marn i, yn cyflawni'r gofyniad hwn.

A hoffwn eich atgoffa ein bod yn arbennig o ymwybodol bod bwrdd y cynghorau iechyd cymuned, yn ei dystiolaeth, wedi ein sicrhau na fyddai'r pwerau yn ymestyn i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol nad oedden nhw'n cael eu darparu yn uniongyrchol o leoliadau sy'n eiddo i gyrff iechyd a gofal, ac yn cael eu rheoli neu eu prydlesu ganddynt. Ar ben hynny, mae cyngor cyfreithiol y bwrdd yn nodi na fyddai ystyriaethau'r Ddeddf hawliau dynol yn cael eu hysgogi yn yr achosion hyn gan eu bod yn ceisio hawl mynediad i ardaloedd cyffredin, nid ystafelloedd preifat. Felly, mae'r gwelliant, fel y'i drafftiwyd, yn ceisio ystyried y ffaith na ddylai'r Bil fynd yn groes i'r Confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol. Felly, rydym ni wedi sicrhau nad yw erthygl 8 ar yr hawl i fywyd preifat yn cael ei thorri. Felly, mewn geiriau eraill, os ydych yn dymuno mynd i mewn a chynnal arolygiad ar gartref gofal naill ai oherwydd ei bod yn rhan o'ch trefn arferol neu oherwydd eich bod wedi clywed bod gan rywun bryderon, gallwch ofyn am gael mynd i mewn, gallwch fynd i mewn, gallwch fynd i'r ardaloedd preifat, ond os bydd preswylydd neu ddau breswylydd yn y cartref gofal hwnnw hefyd yn dweud wrthych, 'Dewch i mewn i fy ystafell breifat, rwyf i eisiau siarad am hyn, rwy'n codi pryderon', yna bydden nhw'n mynd i mewn drwy wahoddiad. Felly, nid yw'n ymwneud â brasgamu i ystafell breifat, cartref preifat; mae'n ymwneud â mynd i mewn gyda gwahoddiad ond mynd i mewn i'r mannau cymunedol. Ac rydym ni'n credu y byddai'r gwelliant hwn yn rhoi sylw i hynny yn llwyr ac yn ei gadw. A byddwn i'n ddiolchgar pe baech yn ystyried eich safbwynt ynghylch yr hawl i fynediad ac yn cefnogi'r gwelliant hwn, oherwydd bod hyn yn mynd at wraidd corff llais y dinesydd, y ffaith bod ganddyn nhw'r hawl i fynd allan ac edrych ar sefyllfaoedd sy'n datblygu ar ran y dinesydd.

21:20

Yn fyr iawn, rydym ni wedi bod o'r farn ei bod yn hanfodol rhoi'r pŵer i'r corff llais y dinesydd newydd fynd i mewn i eiddo lle y darperir gofal yn y cartref, ac er nad yw'r un o'r gwelliannau hyn, mewn gwirionedd, yn adlewyrchu'r cryfder yr hoffem i'r pŵer hwn fod ag ef, byddwn yn cefnogi'r ddau welliant yn y gobaith y bydd y Gweinidog yn parhau i roi'r sicrwydd i ni fod angen cod ymarfer arnom a fydd yn caniatáu i hynny ddigwydd.

Yn ein barn ni, gwelliant 45 yw un o'r gwelliannau pwysicaf yr ydym yn eu trafod heddiw. Mae'r gallu i gynnal ymweliadau dirybudd â chyfleusterau'r GIG wedi galluogi'r cynghorau iechyd cymuned i amlygu methiannau sydd wedi effeithio ar ofal cleifion. Roedd y ffaith bod gweledigaeth y Gweinidog i ddisodli'r cynghorau iechyd cymuned wedi cael gwared ar yr ymweliadau hyn yn peri pryder enfawr i'r rhan fwyaf o wleidyddion y gwrthbleidiau, grwpiau eiriolaeth cleifion a rhannau mawr o'r gymdeithas ddinesig.

Mae cynghorau iechyd cymuned wedi chwarae rhan hollbwysig o ran sicrhau diogelwch cleifion, fel y gwelwyd yn ddiweddar yn fy rhanbarth i gyda sgandal mamolaeth Cwm Taf. Ni allaf i bwysleisio yn ddigon cryf pa mor bwysig yw ymweliadau dirybudd. Mae'n rhaid i'r Aelodau gefnogi gwelliant 45, fel arall byddwn ni'n lleihau llais y dinesydd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Diolch.

Pan ddywedodd bwrdd y cynghorau iechyd cymuned a'r cynghorau iechyd cymuned yng Nghymru, llais y claf yng Nghymru, eu bod nhw'n cefnogi pasio'r Bil hwn yng Nghyfnod 2 yn y broses ddeddfu, fe wnaethon nhw ddweud eu bod yn falch o weld y cynigion y dylai'r Bil gael ei gryfhau mewn meysydd, gan gynnwys ymweliadau a hawliau mynediad. Fe wnaethon nhw ddweud y dylai hawliau mynediad y corff newydd i leoliadau iechyd a gofal gael eu nodi'n glir yn y Bil, trwy gyflwyno gwelliant a oedd yn dweud y bydd gan gorff llais y dinesydd yr hawl i fynd i mewn i'r safle at ddiben arfer ei swyddogaethau. Caiff hawliau o'r fath eu harfer a'u gorfodi yn unol ag is-adran 2.

Fe wnaethon nhw ddweud bod yn rhaid i Weinidogion Cymru baratoi a chyhoeddi cod ymarfer ynghylch yr amgylchiadau pan gaiff y corff fynediad i eiddo i geisio barn unigolion ar iechyd neu wasanaethau cymdeithasol, a'r amgylchiadau pan gaiff y corff fynd i mewn i eiddo wedi ei eithrio pan fydd aelodau o'r cyhoedd yn ei wahodd at ddiben ceisio barn yr unigolion hynny mewn cysylltiad ag iechyd neu wasanaethau cymdeithasol, a phan ganiateir mynediad at yr eiddo hwnnw neu'r eiddo wedi ei eithrio hwnnw, neu y cytunwyd ar hynny, ymgysylltu ag unigolion fel bod yr eiddo hwnnw yn eiddo wedi ei gynnwys at y diben hwnnw. Mae hyn yn mynd i'r afael, er enghraifft, â'r pryderon a godwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn eu neges e-bost at yr Aelodau heddiw.

Cyn y ddadl Cyfnod 3 hon ar y Bil, dywedon nhw, llais y claf yng Nghymru, fod eu cefnogaeth tuag at y newidiadau yn parhau i ddibynnu ar sefydlu corff newydd sydd wedi ei baratoi yn briodol i gyflawni ei swyddogaeth newydd ar ran pobl sy'n byw ym mhob rhan o Gymru. Fe wnaethon nhw ddweud y dylai corff llais y dinesydd allu cael mynediad at leoliadau iechyd a gofal er mwyn iddo gael clywed gan bobl ynghylch gwasanaethau iechyd a gofal ac y dylai wneud hynny mewn modd cyfrifol. Fe wnaethon nhw ddweud bod yn rhaid i'r fframwaith statudol sy'n llywodraethu ymweliadau a hawliau mynediad i'r corff newydd sefydlu fframwaith gweithredu sydd wedi ei seilio ar y rhagdybiaeth y gall y corff gael mynediad at leoliadau iechyd a gofal pan fydd o'r farn bod angen gwneud hynny, oni bai bod amgylchiadau pan fyddai'n afresymol gwneud hynny. Fe wnaethon nhw ddweud mai dyma sut y mae'r cynghorau iechyd cymuned yn gweithredu ar hyn o bryd a'i fod yn gweithio'n dda yn y GIG. Fe wnaethon nhw ddweud nad oedd unrhyw reswm pam na fyddai'r un dull gweithredu yn gweithio gyda'r corff newydd. Fe wnaethon nhw ddweud y dylai awdurdodau lleol a chyrff y GIG sicrhau, trwy eu trefniadau comisiynu, y gall y corff gael mynediad at leoliadau iechyd a gofal a weithredir gan ddarparwyr trydydd parti fel cartrefi gofal preifat, yn ogystal â chyrff y GIG, gan ddarparu gwasanaethau ar draws y ffin yn Lloegr. Fe wnaethon nhw ddweud y dylai'r cod nodi gofynion clir ar gyfer hyn.

Os yw'r Aelodau yn dymuno rhoi llais i'w hetholwyr yn wirioneddol, os ydyn nhw wir eisiau rhoi cynnwys y gymdeithas o flaen ei ffurf, yna mae'n rhaid iddyn nhw gefnogi'r gwelliant wedi ei ailddrafftio gan Angela Burns.

Diolch. Rwyf i yn cydnabod bod hwn yn faes lle ceir gwahaniaethau barn, ond rydym yn wirioneddol yn ceisio bodloni pobl o bob ochr wrth gydnabod rhai o'r cymhlethdodau sy'n bodoli.

Ac rwy'n cydnabod bod Angela Burns wedi ailddrafftio'r gwelliant a gyflwynwyd ganddi yng Nghyfnod 2 oherwydd y pryderon ynghylch mynediad at gartrefi pobl, ond rwy'n dal i ddod yn ôl at y drafftio sydd yma o hyd ynghylch rhestr hollgynhwysfawr o amgylchiadau, ac nid yw'n bosibl drafftio yn y ffordd honno. Mae bob amser yn beryglus pan fyddwch yn dechrau cael rhestr o'r hyn y cewch ei wneud neu beidio â'i wneud. Bydd bob amser amgylchiadau nad ydyn nhw wedi eu cynnwys ar y rhestr, hyd yn oed gyda holl feddyliau gorau y blaned yn yr un lle ar yr un pryd. Rwy'n dweud hyn ar sail fy mywyd blaenorol, pan oeddwn i'n gyfreithiwr—bydd llawer o'r un cyfreithwyr yn cytuno, a bydd llawer o'r un cyfreithwyr yn anghytuno, ynghylch union yr un pwynt ac union yr un geiriad. Felly, nid yw ceisio cyrraedd y pwynt lle mae gennym ni restr hollgynhwysfawr ym mhob un o'r meysydd hynny, yn fy marn i, yn rhywbeth y dylem ni ddweud y gallem ni ei ddrafftio yn ddiogel nac yn briodol, a'i ystyried a'i ddarparu i bobl; rwy'n credu y byddai'n rhoi lefel ffug o sicrwydd. Y pwynt ynglŷn â'r cod yw y byddwn yn ei ddatblygu gyda'n gilydd, gyda chorff llais y dinesydd, gydag eraill, gan gynnwys pobl ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, o ran yr hyn y mae'r amgylchiadau ymarferol yn ei olygu.

Byddaf yn cymryd yr ymyriad ac yna byddaf yn gorffen; rwy'n gallu gweld yr amser ac rwy'n awyddus i orffen, ac mae Aelodau eraill yn awyddus hefyd.

21:25

Diolch i'r Gweinidog am dderbyn yr ymyriad. Nid wyf i'n dymuno ymestyn y trafodion, ond hwn oedd y mater yr oeddwn i'n poeni mwyaf yn ei gylch, yn dilyn trafodaethau gyda Chyngor Iechyd Cymuned Aneurin Bevan. Mae'n rhaid i mi ddweud, yn dilyn y trafodaethau gyda'r Llywodraeth am yr union faterion y mae ef newydd sôn amdanyn nhw, a gyda'r cyngor iechyd cymuned, rwy'n hapus, yn dilyn y trafodaethau hynny, yn enwedig gyda Chyngor Iechyd Cymuned Aneurin Bevan heddiw, i ddilyn cyngor pleidleisio y Llywodraeth ar y mater hwn.

Rwy'n credu bod hynny'n gadarnhaol iawn, oherwydd ei fod yn dangos ein bod ni'n siarad yn wirioneddol â phobl ar bob ochr o'r Siambr a'r tu allan ac yn gwrando arnyn nhw i geisio cael hyn yn iawn, ac i gael cyfres o enghreifftiau dilys o sut y dylai'r cod gael ei gymhwyso. Ac, unwaith eto, i ailadrodd fy mhwynt, bydd y cod yn dechrau gyda'r rhagdybiaeth y bydd mynediad yn cael ei gytuno. Nid yw hyn yn ymwneud â cheisio'n afresymol i rwystro gallu'r corff llais y dinesydd newydd i ymgymryd â'i swyddogaethau, a byddwn i'n gofyn i'r Aelodau gefnogi gwelliant y Llywodraeth yn y grŵp hwn.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 3? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Rydym ni'n symud, felly, i bleidlais ar welliant 3. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 37, neb yn ymatal, 11 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 3 wedi'i dderbyn.

Gwelliant 3: O blaid: 37, Yn erbyn: 11, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Grŵp 18: Corff Llais y Dinesydd—dyletswydd i gydweithredu (Gwelliannau 4, 46)

Grŵp 18 yw'r grŵp nesaf o welliannau, yn ymwneud â chyd-weithrediad rhwng corff llais y dinesydd, awdrurdodau lleol a chyrff y gwasanaeth iechyd. Gwelliant 4 yw'r prif welliant ac dwi'n galw ar y Gweinidog i gynnig y gwelliant hwnnw a'r grŵp.

Cynigiwyd gwelliant 4 (Vaughan Gething).

Diolch, Llywydd. Rwy'n cytuno â bwrdd y cynghorau iechyd cymuned yn ei farn y gallai cyrff y GIG ac awdurdodau lleol wneud llawer i gefnogi'r corff llais y dinesydd newydd i gyrraedd cynifer o bobl ag y bo modd fel y gallant rannu eu barn a'u profiad o'r gofal a'r cymorth y maen nhw'n eu derbyn. Rwyf i wedi ystyried safbwyntiau'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon a rhanddeiliaid ehangach ar y pwynt hwn, ac rwy'n falch o gynnig y gwelliant hwn gan y Llywodraeth, sydd yn fy marn i yn ategu yn hytrach na thorri ar draws darpariaethau presennol yn y Bil. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i gyrff y GIG, awdurdodau lleol a chorff llais y dinesydd wneud trefniadau i gydweithio i gefnogi ei gilydd i hyrwyddo gweithgareddau corff llais y dinesydd. Mae'n ei gwneud yn ofynnol hefyd i gyrff y GIG ac awdurdodau lleol wneud trefniadau i gydweithredu â chorff llais y dinesydd i'w gefnogi wrth geisio barn y cyhoedd ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.

Ei ddiben felly yw hwyluso cydweithredu er mwyn sicrhau bod gan gorff llais y dinesydd y cymorth sydd ei angen arno gan awdurdodau lleol a'r GIG i gyrraedd y cyhoedd, a gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r gwelliant.

Hoffwn i gynnig gwelliant 46, a gyflwynwyd yn fy enw i, a byddaf yn gwrthwynebu gwelliant 4 y Llywodraeth er mwyn cael fy ngwelliant i, oherwydd ei fod yn welliant sydd â'r bwriad o sicrhau bod dyletswydd i gydweithredu rhwng cyrff y GIG, awdurdodau lleol a chorff llais y dinesydd o dan argymhelliad 17 o adroddiad Cyfnod 1 y pwyllgor. Mae hyn wedi ei ddwyn ymlaen o Gyfnod 2, gan ein bod ni'n cytuno â'r ethos sy'n sail i'r gwelliant.

Er fy mod i'n gwerthfawrogi bod eich gwelliant 4 yn debyg iawn, nid wyf i'n credu ei fod yn taro'r cydbwysedd sydd ei angen ar gyfer y ddyletswydd. Rwy'n dadlau yn erbyn dadl y Gweinidog yng Nghyfnod 2 bod darpariaethau o dan adrannau 17 a 18 eisoes yn rhoi'r pwerau a amlinellir yn y gwelliant hwn, gan nad yw codi ymwybyddiaeth gyda'n gilydd yn union yr un peth â chael a dadansoddi adborth gan y rhai sy'n derbyn gofal gan gyrff cyhoeddus; yn hytrach, mae'n ddarlun eithaf cul mewn gwirionedd. Yn yr un modd, er bod gwelliant 4 yn amlwg yn cytuno â'r rheidrwydd am ddyletswydd i gydweithredu, unwaith eto, mae'n canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth yn hytrach na chasglu adborth.

21:30

Rydym yn gyfforddus â'r ddau welliant hyn, oherwydd maen nhw'n gosod dyletswyddau ar y GIG ac awdurdodau lleol i gydweithredu gyda'r corff llais y dinesydd newydd ac maen nhw'n angenrheidiol i roi i'r corff hwnnw y pwerau byddai eu hangen arno. Byddem mewn gwirionedd yn awgrymu taw gwelliant y Ceidwadwyr yw'r cryfaf o'r ddau, gan ei bod hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r GIG ac awdurdodau lleol gynorthwyo'r corff llais y dinesydd i gasglu adborth annibynnol gan bobl sy'n derbyn neu a allai dderbyn gwasanaethau iechyd neu wasanaethau cymdeithasol. Y naill ffordd neu'r llall, byddwn yn cefnogi'r ddau.

Credwn fod y ddau welliant yn y grŵp hwn yn hanfodol er mwyn i'r corff llais y dinesydd weithredu'n effeithiol. Heb ddyletswydd gyfreithiol ar gyrff y GIG ac awdurdodau lleol i gydweithredu, mae perygl na fydd llais y dinesydd yn cael ei glywed.

Iawn. Diolch i'r Aelodau am eu cefnogaeth gyffredinol, ar draws ystod o bobl, i welliant y Llywodraeth. Rwy'n credu ei bod werth nodi mai'r rheswm yr ydym ni'n credu bod gwelliant cyfredol y Llywodraeth yn ategu yw ei fod yn mynd at y dyletswyddau eraill sy'n bodoli eisoes, er enghraifft adran 18, y ddyletswydd ar gyrff y GIG ac awdurdodau lleol i ddarparu gwybodaeth y mae'n gwneud ceisiadau rhesymol amdanyn nhw; y ddyletswydd yn adran 17 i gyrff y GIG ac awdurdodau lleol hyrwyddo ymwybyddiaeth o weithgareddau corff llais y dinesydd; ac, wrth gwrs, y cod ymarfer ar geisiadau am fynediad yr ydym newydd ei drafod.

O'u cymryd gyda'i gilydd, mae'r darpariaethau hyn yn darparu fframwaith cryf a chydlynol ar gyfer cydweithredu. Mewn cyferbyniad, mae gwelliant 46 yn ddyletswydd eang ac amhendant ar gyrff y GIG ac awdurdodau lleol, ac nid yw'n glir sut y byddai hynny'n gweithio. Er enghraifft, o ran newidiadau mewn gwasanaethau, efallai y byddai gwahaniaeth barn ynghylch sut y byddai'r ddyletswydd honno i gydweithredu yn cael ei chyflawni, yn hytrach na'r ddyletswydd gliriach i ddarparu gwybodaeth ac i ymateb i geisiadau rhesymol am wybodaeth. Gofynnaf, felly, i bobl gefnogi gwelliant y Llywodraeth a gofynnaf i'r Aelodau beidio â chefnogi gwelliant 46.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 4? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Rydym ni'n symud i bleidlais, felly, ar welliant 4, yn enw Vaughan Gething. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 37, un yn ymatal, 10 yn erbyn, ac felly derbyniwyd gwelliant 4. 

Gwelliant 4: O blaid: 37, Yn erbyn: 10, Ymatal: 1

Derbyniwyd y gwelliant

Grŵp 19: Corff Llais y Dinesydd—cymorth i wirfoddolwyr a staff (Gwelliant 44)

Grŵp 19 yw'r grŵp nesaf o welliannau, sy'n ymwneud â chymorth i wirfoddolwyr a staff corff llais y dinesydd. Gwelliant 44 yw'r prif welliant, yr unig welliant. Rwy'n galw ar Angela Burns i gynnig y gwelliant ac i siarad. Angela Burns. 

Cynigiwyd gwelliant 44 (Angela Burns, gyda chefnogaeth Caroline Jones).

Diolch. Gwelliant 44, y ddyletswydd i ddarparu gwybodaeth, cyngor a hyfforddiant i wirfoddolwyr, yw fy unig welliant yn y grŵp hwn. Oherwydd, yn ystod ein sesiwn dystiolaeth gyda chynghorau iechyd cymuned, roedd yn gwbl amlwg bod cynghorau iechyd cymuned ar hyn o bryd yn ymgymryd â hyfforddiant gyda'u haelodau, fel y mae'r rhai cyfatebol yn Lloegr, sef Healthwatch, ac rydym eisiau i hyn barhau. Efallai eich bod yn meddwl, 'O, wel, pam mae angen gwelliant arnoch ar gyfer hynny? Pam mae angen i chi ei roi yn y Bil?' Fel yr amlinellais yng Nghyfnod 2, gyda gwelliant 45, ar yr hawl i gael mynediad i fangreoedd, mae dyletswydd i ddarparu gwybodaeth, cyngor a hyfforddiant i wirfoddolwyr a staff yn hanfodol. Dywedodd cadeirydd Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru, Geoff Ryall-Harvey, fod

mudiadau iechyd lleol yn derbyn llawer o gefnogaeth a hyfforddiant gan Healthwatch England, a byddai angen i aelodau gwirfoddol Healthwatch fynd ar gwrs hyfforddi

cyn iddyn nhw ddechrau ymweld ag ysbytai.  

Felly, i ni, rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod hyn ar wyneb y Bil er mwyn sicrhau nad parhad yn unig sydd yna, ond atgyfnerthiad a thanategu pwysigrwydd cynghori a hyfforddi ein gwirfoddolwyr a'n staff. Bu llawer o drafod yn ystod y Bil hwn ein bod eisiau cael mwy o wirfoddolwyr i gymryd rhan a'n bod eisiau eu galluogi i fynd allan a gweithredu ar draws y gwasanaethau iechyd ac, wrth gwrs, yn awr y gwasanaethau gofal cymdeithasol, a wir hyrwyddo a sicrhau bod yr hyn y maen nhw'n ei wneud yn hollol gywir.

Ond mae hyn yn fwy na hyfforddi gwirfoddolwyr. Mewn gwirionedd, mae'n ymwneud ag annibyniaeth y corff llais y dinesydd newydd. Mae'n ymwneud â natur agored cael gwahanol fathau o wirfoddolwyr—gwirfoddolwyr nad ydyn nhw o reidrwydd yn gysylltiedig â chyrff cyhoeddus yng Nghymru. Os ydym ni eisiau denu, agor cyfleoedd ac annog llawer o wahanol fathau o bobl o wahanol gefndiroedd i ddod i weithredu yn eu cymuned, i ddod i weithredu ar ran eu corff llais y dinesydd lleol, yna mae'n gwbl hanfodol i ni wneud y corff llais y dinesydd edrych tuag allan gymaint â phosibl, ac mae hynny'n cynnwys hyfforddiant. Mae'r Cynghorau Iechyd Cymuned presennol wedi amlinellu droeon rai o'r heriau presennol y mae Cynghorau Iechyd Cymuned wedi'u canfod sy'n ymwneud â gofynion recriwtio, ac maen nhw'n credu'n gadarn iawn y bydd yn rhaid i'r corff newydd hwn, ym mha bynnag ffurf y bydd yn ei gymryd, ddatblygu ei drefniadau mewn ffordd sy'n hybu'r mynediad hynny ac sy'n galluogi pobl o bob cefndir.  

Rwy'n gwerthfawrogi, yng Nghyfnod 2, Gweinidog, eich bod wedi ceisio fy sicrhau bod adnoddau wedi'u neilltuo ar gyfer hyfforddiant yn asesiad effaith rheoleiddiol y Bil, a dyna pam y tynnais hwnnw'n ôl. Ond, er bod £92,500 wedi'u neilltuo bob blwyddyn ar gyfer hyfforddiant, nid wyf wedi cael ymrwymiad llwyr gennych i ymrwymo i gynnwys hyfforddiant yn y canllawiau statudol ac, unwaith eto, rwyf eisiau clywed y bydd hyfforddiant go iawn yn cael ei gynnal a bydd cymorth ar gyfer gwirfoddolwyr a staff yn rhan allweddol o symud y corff llais y dinesydd newydd yn ei flaen. Hoffwn eich atgoffa eich bod wedi cyfaddef yn eich asesiad effaith rheoleiddiol ei bod yn anodd amcangyfrif faint o aelodau gwirfoddol y bydd y corff eu hangen oherwydd bydd yn dibynnu ar nifer o ffactorau, fel lleoliad, set sgiliau gwirfoddolwyr a'r ymrwymiad amser a gynigir. Ac, er eich bod chi'n gweithio ar sail y 276 o wirfoddolwyr sydd yn y cynghorau iechyd cymuned ar hyn o bryd, y nifer hwn a all fod yn enfawr o wirfoddolwyr, mae'r asesiad effaith rheoleiddiol yn darparu ar gyfer un swyddog sy'n cyfateb i amser gweithio ar secondiad i ddatblygu'r holl adnoddau hyfforddiant sefydlu ar gyfer staff a gwirfoddolwyr yn ystod y cyfnod pontio. Mae gen i dosturi dros y person druan hwnnw; dydw i ddim yn gweld sut y gallan nhw wneud hynny.

Felly, fe wnai orffen fy nghyfraniad ar y gwelliant hwn gyda rhywbeth a nodwyd gan fwrdd y cynghorau iechyd cymuned. Dywedon nhw fod hyn yn llawer mwy na meddu ar wybodaeth am y GIG a'r sectorau cymdeithasol—mae'n rhaid i hyn ymwneud â datblygu a sicrhau

cymhwysedd a dealltwriaeth o'r egwyddorion a'r arferion o ymgysylltu a chynrychioli effeithiol.

Byddem yn cytuno'n llwyr â'r arddeliad hwn, Gweinidog, ac felly rydym ni'n annog yr Aelodau i gefnogi'r gwelliant hwn.

21:35

Mi fyddwn ni yn cefnogi'r gwelliant yma. Mae'r gwelliant yma yn synnwyr cyffredin ynddo'i hun, ond mae o hefyd yn gyfle i fi ddiolch i'r rheini sydd wedi bod yn gwirfoddoli dros y blynyddoedd o fewn y cynghorau iechyd cymuned. Dwi wedi cael y pleser a'r fraint o gyfarfod a thrin a thrafod efo nifer ohonyn nhw dros y blynyddoedd diwethaf, ac wedi gallu tystio fy hun i'r ymroddiad sydd yna i sicrhau eu bod nhw fel aelodau unigol o fewn y corff sy'n cynrychioli'r cleifion yn wirioneddol wneud popeth y gallan nhw i sicrhau bod llais y rhai mwyaf bregus yn cael ei glywed. Felly, dwi'n falch o allu rhoi hynny ar y cofnod yma heno yma a byddwn, mi fyddwn ni yn cefnogi'r gwelliant yma. Er mwyn i'r gwirfoddolwyr hynny wedyn sydd wedi penderfynu rhoi eu hamser allu cyfrannu hyd at eithaf eu gallu nhw, mae angen sicrhau eu bod nhw'n cael y gefnogaeth a'r hyfforddiant ac ati, ac mae hynny wastad yn golygu'r angen am adnoddau. 

Er mwyn sicrhau bod y corff llais y dinesydd yn sefydliad effeithiol i ddisodli'r cynghorau iechyd cymuned, mae'n rhaid i ni sicrhau bod ganddo staff sydd wedi'u hyfforddi'n effeithiol. Gan eich bod ond cystal â'ch hyfforddiant, mae'n hanfodol bwysig ein bod yn rhoi dyletswydd ar y corff newydd i arfogi a hyfforddi ei holl staff a gwirfoddolwyr yn llawn i'w paratoi nhw ar gyfer cyflawni eu dyletswyddau. I gael eiriolwyr cryf, mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod yn rhoi'r sgiliau angenrheidiol iddyn nhw wneud eu swyddi, i gynrychioli'r mwyaf agored i niwed, yn aml, mewn cymdeithas.

Rwy'n deall y teimlad y tu ôl i'r gwelliant, ond nid wyf yn credu ei fod yn angenrheidiol ac felly ni fyddaf yn ei gefnogi. Yn sicr, nid wyf yn anghytuno y byddai unrhyw gorff cyhoeddus nac, yn wir, unrhyw gyflogwr cyfrifol, yn darparu gwybodaeth, cyngor a hyfforddiant i'w staff ac unrhyw wirfoddolwyr sy'n cyflawni swyddogaethau ar ei ran. Mae hynny'n rhan gynhenid o allu cyflawni ei swyddogaethau'n effeithiol. Rwyf wedi egluro drwy gydol y broses graffu ein hymrwymiad i gefnogi'r corff llais y dinesydd i ddarparu gwybodaeth, cyngor a hyfforddiant i'w staff a'i wirfoddolwyr, a dangosir hynny drwy gynnwys yn yr asesiad effaith rheoleiddiol gostau rhagamcanol ar gyfer hyfforddi'r staff a gwirfoddolwyr.

Fodd bynnag, rwyf o'r farn nad oes angen cynnwys darpariaeth fel hon ar wyneb y Bil. Rwy'n credu ei bod yn anarferol i dybio na fydd corff cyhoeddus yn cefnogi ei staff a'i wirfoddolwyr yn briodol pan fyddan nhw mor hanfodol i'w genhadaeth. Yn wir, yr hyn a welwn wedi'i ddrafftio yn y gwelliant yw'r hyn y gallech ddisgwyl ei weld fel arfer mewn llawlyfr staff neu wirfoddolwr, yn hytrach nag wedi'i ysgrifennu mewn deddfwriaeth.

Mae'r pecyn cymorth yr ydym wedi'i amlinellu yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn dangos y bydd gan y corff llais y dinesydd yr adnoddau sydd eu hangen arno i ddarparu hyfforddiant, cyngor a gwybodaeth i'w staff a'i aelodau, a gall ddewis symud yr adnodd hwnnw o gwmpas yn ôl ei farn ar ei anghenion. Mae hyn yn cydnabod y pwysigrwydd yr ydym ni yn ei roi ar swyddogaeth staff a gwirfoddolwyr i wireddu'r uchelgais sydd gennym ar gyfer y corff llais y dinesydd newydd.

21:40

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mewn gwirionedd, Gweinidog, rydych chi'n gywir mewn rhai ffyrdd: byddech chi'n disgwyl na fyddai'n rhaid i chi roi amddiffyniad ar gyfer hyfforddiant ar y Bil. Ond yn anffodus, rydym ni wedi gwneud hynny oherwydd yn ystod ein trafodaethau, yn ystod Cyfnodau 1 a 2, a'n holl gyfarfodydd eraill, yr ydych chi wedi eu cynnal yn onest ac yn agored gyda llefarwyr yr wrthblaid, rydych chi wedi gwanhau swyddogaeth y corff llais y dinesydd gymaint o'r lle yr oedd ac rydych wedi newid hanfod y cynghorau iechyd cymuned mewn ffyrdd y mae'r bobl sy'n gweithio yn y cynghorau iechyd cymuned a'r cyhoedd y mae'r cynghorau iechyd cymuned yn eu cynrychioli wir yn eu gweld a'u teimlo.

Mae pryder gwirioneddol bod gennym bellach gyngor iechyd cymuned a allai fod wedi'i leoli yn unrhyw le ac yn unlle, ac yn bendant nid yn eich ardal chi; bod gennym gyngor iechyd cymuned nad oes ganddo, o reidrwydd, yr hawl i fynd i leoedd penodol i gael gwybod beth mae'r dinesydd eisiau ei gael, i weld problemau, i wneud newidiadau; ein bod allan yn ceisio recriwtio llwyth o wirfoddolwyr nad ydyn nhw o reidrwydd yn cael eu hamddiffyn rhag partïon ymgyfreithgar eraill a allai ei wrthwynebu; ein bod yn mynd i gael corff nad yw o bosibl yn meddu ar y cryfder i ddweud y gwir am y GIG pwerus a'r sefydliadau gwasanaethau cymdeithasol pwerus.

A dyna pam y rhoddwyd rhywbeth mor syml ac mor ddinod â hyfforddiant ar wyneb y Bil, oherwydd mae llawer iawn ohonom yn y Siambr hon a fu'n ceisio ymladd yn erbyn y camau i geisio cadw rhywfaint o'r uniondeb hwnnw, yr annibyniaeth honno a'r cryfder hwnnw i'r cynghorau iechyd cymuned, i'r corff llais y dinesydd newydd. Oherwydd beth bynnag yw ein barn am y corff llais y dinesydd, a pha bynnag amcanion gwleidyddol a all fod yn ei gylch, dyna yw llais y dinesydd yn y pen draw. Rwy'n credu, o ran yr agwedd benodol hon ar y Bil, ar ddiwedd y gwelliant olaf hwn, yr wyf yn gofyn i'r Siambr ei gefnogi, Llywydd, eich bod chi a'ch Llywodraeth a'ch meincwyr cefn wedi gwanhau llais y dinesydd.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 44? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Rydyn ni'n symud i bleidlais ar welliant 44. Agos y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 20, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y gwelliant. 

Gwelliant 44: O blaid: 20, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 45 (Angela Burns, gyda chefnogaeth Caroline Jones).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 45? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Rydyn ni'n symud i bleidlais, felly, ar welliant 45. Agos y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 20, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y gwelliant. 

Gwelliant 45: O blaid: 20, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 46 (Angela Burns, gyda chefnogaeth Caroline Jones).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 46? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Rydyn ni'n symud i bleidlais ar welliant 46, yn enw Angela Burns. Agos y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 19, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y gwelliant. 

Gwelliant 46: O blaid: 19, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 20: Corff Llais y Dinesydd—cymhwyso safonau’r Gymraeg (Gwelliant 15)

Grŵp 20 yw'r grŵp nesaf, a'r grŵp olaf o welliannau, sy'n ymwneud â chymhwyso safonau'r Gymraeg mewn perthynas â chorff llais y dinesydd. Gwelliant 15 yw'r unig welliant, a dwi'n galw ar y Gweinidog i gynnig y gwelliant hynny.

21:45

Cynigiwyd gwelliant 15 (Vaughan Gething).

Diolch, Llywydd. Diben y gwelliant hwn yw diwygio Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 7) 2018 i gyfeirio at 'gorff llais y dinesydd' yn hytrach na 'chynghorau iechyd cymuned' a 'bwrdd y cynghorau iechyd cymuned'. Bydd hyn yn sicrhau y bydd y corff newydd yn dod o dan y rheoliadau ar sefydlu a bod Comisiynydd y Gymraeg yn gallu cyhoeddi hysbysiad cydymffurfio drafft ar unwaith.

Cododd y comisiynydd ei farn am yr angen am y gwelliant hwn gyda mi, y Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, a'r pwyllgor yn ystod trafodion Cyfnod 2. Rwyf wedi ystyried barn y pwyllgor ac rwyf wedi cytuno i ddiwygio rheoliadau Rhif 7 yn uniongyrchol drwy'r Bil, sy'n anarferol ond dyma'r ffordd orau o sicrhau y bydd y corff llais y dinesydd yn ddarostyngedig i'r safonau cyn gynted â phosibl. Dylai sicrhau trosglwyddiad esmwyth o'r cynghorau iechyd cymunedol i'r corff llais y dinesydd newydd a helpu cynllunio yn ystod y cyfnod gweithredu o ran gofynion y Gymraeg.

Bydd yn sicrhau na fydd defnyddwyr yn colli eu hawliau i gael gafael ar wasanaethau Cymraeg am gyfnod hwy na'r hyn sy'n lleiafswm o amser y mae'n ei gymryd i orfodi'r safonau hynny ar y corff newydd. Byddai'r gwelliant hwn yn gadael allan sôn am 'gynghorau iechyd cymuned' a 'y bwrdd', sydd ar hyn o bryd wedi'u rhestru yn rheoliadau Rhif 7, ac yn hytrach yn cynnwys 'corff llais y dinesydd' ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae hyn yn fantais sylweddol o ran parhad a chynllunio dull gweithredu o ran materion sy'n ymwneud â'r iaith Gymraeg ar gyfer y corff llais y dinesydd. Gobeithiaf fod yr Aelodau'n cydnabod effaith y gwelliant hwn, a byddwn yn annog pob aelod i gefnogi'r gwelliant hwn.

Ac yn olaf, yn y foment olaf, hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu hamynedd a stamina pawb sy'n aros tan y diwedd.

Fe wnaethom ni gefnogi'r gwelliant hwn pan y'i cyflwynwyd yn wreiddiol gan Helen Mary Jones yng Nghyfnod 2, ac rydym yn parhau i'w gefnogi.

Dwi'n falch iawn o fod yn cefnogi'r gwelliant yma gan Lywodraeth Cymru, sydd wedi cael ei gyflwyno wedi cydweithrediad rhwng y Llywodraeth a ninnau. Y canlyniad ydy dod â'r corff llais y dinesydd newydd o dan sgôp rheoliadau, a sicrhau bod Comisiynydd y Gymraeg yn gallu rhoi rhybuddion cydymffurfiaeth. Felly, dwi'n falch bod y Llywodraeth wedi symud ar hwn achos, hebddo fo, mi fyddai'n golygu y byddai'r corff llais y dinesydd newydd yn cychwyn ar bwynt gwannach o ran sut mae'n delio â'r iaith Gymraeg na'r cyrff y mae o'n cymryd eu lle nhw. Ond dwi'n gwneud y pwynt nad ydy o ddim yn ymwneud â'r angen i gryfhau'r ddarpariaeth o ofal drwy gyfrwng y Gymraeg o fewn iechyd a gofal cymdeithasol, sy'n fater gwahanol iawn.

Ydy'r Gweinidog eisiau ymateb? Na. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 15? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae gwelliant 15 wedi'i dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Rydym wedi cyrraedd diwedd ein hystyriaeth o Gyfnod 3 o'r Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru), a dwi'n datgan y bernir fod pob adran o'r Bil a phob Atodlen iddo wedi'u derbyn.

Barnwyd y cytunwyd ar bob adran o’r Bil.

Pwynt o Drefn

Pwynt o drefn yn sydyn.

Bydd Aelodau wedi cael gwybod, yn ystod y ddadl hon ar Gyfnod 3 heno, bod cadarnhad o gynnydd sylweddol yn yr achosion o COVID-19 yng Nghymru: canfuwyd saith heintiad newydd ar ôl olrhain cyswllt parthed y dyn o Gastell-nedd Port Talbot a brofodd yn bositif dros y penwythnos; dau o drigolion sir Gaerfyrddin a ddychwelodd o'r Eidal. Nawr, o dan Reol Sefydlog 12.16 sy'n ymwneud â busnes y gellir ei amserlennu heb rybudd, a gaf i ofyn i'r Gweinidog Iechyd wneud datganiad, efallai ar ddechrau'r cyfarfod llawn yfory? Rwy'n credu bod hwn yn ddatblygiad arwyddocaol, ac mae angen i ni drefnu lle iddo ar yr agenda cyn gynted â phosibl—o gofio nad yw'r Gweinidog, am resymau amlwg, wedi gallu paratoi yn ystod yr oriau diwethaf i roi datganiad heno.

Mae'n werth myfyrio efallai ar y ffaith bod cwestiynau i mi fy hun wedi'u symud i eitem gyntaf busnes y Cynulliad brynhawn yfory. Mae hynny er mwyn sicrhau y gallaf ateb cwestiynau i Aelodau, ond hefyd, y bydd gennyf amser i fynd i'r alwad COBRA sy'n digwydd brynhawn yfory gyda llywodraethau eraill ledled y Deyrnas Unedig. Rwy'n siŵr y bydd gennym ddigon o gyfle i ateb cwestiynau ar coronafeirws—mae yng nghwestiwn 2 ar y papur trefn—yn ogystal â'r hyn y gallai'r llefarwyr ddymuno ei ofyn yn ystod eu cwestiynau eu hunain.

Diolch. Mae hynny'n egluro y byddwn yn dychwelyd at y mater hwn yn gyntaf yn ein hagenda yfory.

Felly, diolch i bawb a nos da.

Daeth y cyfarfod i ben am 21:49.

Neges gan Ei Mawrhydi Y Frenhines, Pennaeth y Gymanwlad

Pan gwyd achlysur sy’n ymwneud â’r Gymanwlad, mae cael ein hatgoffa ynghylch amrywiaeth y bobl a’r gwledydd sy’n ffurfio ein teulu ledled y byd yn ennyn ysbrydoliaeth bob tro. Cawn ein gwneud yn ymwybodol o'r nifer o gymdeithasau a dylanwadau sy'n clymu ynghyd trwy eu cysylltiad â'r Gymanwlad, gan ein helpu i ddychmygu dyfodol cyffredin, a chyflawni hynny.

Mae hyn yn arbennig o drawiadol pan welwn bobl o genhedloedd mawr a bach yn dod ynghyd ar gyfer Gemau'r Gymanwlad, ar gyfer cyfarfodydd llywodraethau'r Gymanwlad, ac ar Ddiwrnod y Gymanwlad. Mae cyfuniad o draddodiadau o’r fath yn ein cryfhau—yn unigol ac ar y cyd—trwy gyflenwi’r cynhwysion sy’n angenrheidiol at ddibenion gwytnwch cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd.

Rwyf wedi cael y cyfle trwy fy mywyd i weld a chlywed sut mae aelodaeth o deulu’r Gymanwlad yn golygu cymaint i’r rheini sy’n byw ym mhob cwr o’r byd, yn aml mewn lleoedd sy’n eithaf anghysbell. Mae datblygiadau ym maes technoleg a'r cyfryngau modern wedi galluogi llawer mwy o bobl erbyn hyn i weld a mwynhau (yn hynod o ddi-oed) y profiad hwn o gysylltu â'r Gymanwlad, mewn meysydd fel addysg, meddygaeth a chadwraeth.

Wrth edrych tua’r dyfodol, mae'r cysylltedd hwn yn golygu ein bod hefyd yn ymwybodol, efallai’n fwy nag erioed o’r blaen, fod yr hyn a ddewiswn a’r camau a gymerwn yn effeithio ar lesiant pobl a chymunedau sy'n byw gryn bellter i ffwrdd, ac mewn amgylchiadau tra gwahanol. I lawer, mae'r ymwybyddiaeth hon yn tanio awydd i drin adnoddau naturiol ein planed â mwy o ofal, ac mae'n galonogol gweld sut mae gwledydd y Gymanwlad yn parhau i ddyfeisio ffyrdd newydd o gydweithio i sicrhau ffyniant, wrth amddiffyn ein planed ar yr un pryd.

Fel aelodau o'r gymuned arbennig iawn hon, heddiw, ar Ddiwrnod y Gymanwlad, fy ngobaith yw y bydd pobl a gwledydd y Gymanwlad yn cael eu hysbrydoli gan bopeth a rannwn, ac yn camu tua’r dyfodol ag agwedd benderfynol o’r newydd, er mwyn gwella dylanwad y Gymanwlad i ddylanwadu er daioni yn ein byd.