Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

12/02/2020

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw cwestiynau i'r Gweinidog Addysg, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Joyce Watson. 

Gwasanaethau Cwnsela Mewn Ysgolion

1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y ddarpariaeth gwasanaethau cwnsela mewn ysgolion? OAQ55082

Mae ein datganiad ystadegol diweddaraf, ar gyfer y cyfnod 2017-18, yn dangos bod bron i 11,500 o blant wedi cael gwasanaeth cwnsela, sy'n debyg i'r niferoedd yn y blynyddoedd blaenorol. Yn y flwyddyn gyfredol, darparwyd £626,000 yn ychwanegol gennym—na; ie, £626,000—i awdurdodau lleol i gefnogi gwelliannau i'r gwasanaeth fel rhan o'n gwaith ar ddatblygu dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl a lles.

Diolch am eich ateb, ac mae'n fuddsoddiad da iawn yn lles pobl ifanc. Ond cafwyd adroddiad gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn 2018 a oedd yn adolygu cwnsela yn yr ysgol, a chanfu fod y gwasanaeth yn wir yn gwneud cyfraniad sylweddol tuag at feithrin poblogaeth o bobl ifanc wydn yn emosiynol. Ond nodwyd un maes pryder gan y plant, sef yr ymdeimlad o gael eich difrïo am ddefnyddio’r gwasanaeth gan fod yn rhaid gadael gwersi ysgol er mwyn gwneud hynny. Felly, fy nghwestiwn, mewn gwirionedd, yw: yng ngoleuni hynny, Weinidog, pa gamau a gymerwyd ers yr adroddiad hwnnw i leihau’r stigma ynghylch cwnsela yn yr ysgol fel bod plant a phobl ifanc yn parhau i gael mynediad at y gwasanaeth hwn y maent ei angen yn fawr?

Diolch, Joyce. Wel, ers cyhoeddi'r adroddiad hwnnw, mae llawer iawn o waith wedi'i wneud ac yn parhau i fynd rhagddo. Er enghraifft, drwy sicrhau bod pawb yn ymwybodol o argaeledd gwasanaethau cwnsela a ddarperir mewn ysgolion, mewn lleoliadau cymunedol, ac yn wir, ar-lein, mewn byd rhithwir, credaf y bydd ein pecyn cymorth cwnsela diwygiedig, a fydd yn cael ei gyhoeddi y mis nesaf, yn helpu i leihau stigma a normaleiddio'r defnydd o wasanaethau cwnsela. Mae ein canllawiau fframwaith ysgol gyfan drafft, a fydd yn destun ymgynghori ffurfiol yn ystod yr wythnosau nesaf, hefyd yn tynnu sylw at yr angen i ysgolion sicrhau y dylid osgoi labelu lleoedd a ddarperir ar gyfer cwnsela yn yr ysgol, a gwaith llesiant arall, fel y gallwn osgoi stigma o'r fath.

Wrth gwrs, wrth i ni symud tuag at gyflwyno ein cwricwlwm newydd, bydd ein meysydd dysgu a phrofiad iechyd a lles yn annog plant i ofalu am eu hiechyd corfforol a meddyliol, ac yn annog ymddygiad sy'n ceisio cymorth fel ymateb derbyniol pan fydd plant yn teimlo'n boenus neu’n ofidus.

Diolch yn fawr, Lywydd. Mae rhai o'r ysgolion yn fy rhanbarth, yn gwbl briodol, yn defnyddio rhan o'u grant datblygu disgyblion i helpu i gefnogi gwasanaethau cwnsela ysgolion ar y safle i ddisgyblion. Pa adborth a gawsoch gan ysgolion nad ydynt yn cael lefelau uchel o grant datblygu disgyblion, ac sydd wedi cael toriadau i'w cyllid craidd, ynghylch yr anawsterau y gallant eu hwynebu wrth gynnig cwnsela ar y safle?

Wel, Suzy, fel rwyf newydd ddweud yn fy ateb i Joyce Watson, rydym yn sicrhau bod dros £600,000 yn ychwanegol ar gael yn y flwyddyn ariannol hon i gefnogi gwasanaethau cwnsela, ac yn y flwyddyn ariannol newydd, bydd adnoddau ychwanegol ar gael hefyd i geisio cynyddu gwasanaethau cymorth i blant—cwnsela traddodiadol, ond efallai dulliau grŵp ar gyfer plant iau, i gynyddu faint o gymorth sydd ar gael i bob ysgol.

Weinidog, yn fy etholaeth i—mae’n debyg fy mod yn datgan buddiant, yn gyntaf oll, fel un o ymddiriedolwyr Eye to Eye, sy'n darparu peth o'r gwasanaeth cwnsela ieuenctid yn fy etholaeth—mae’r gwaith a wneir yn ymateb i'r ffaith bod cymaint o faterion yn codi ymhlith pobl ifanc. A chredaf fod y gwasanaeth cwnsela a'r gwaith a wneir yn ailbwysleisio i bob un ohonom pa mor bwysig yw'r gwaith hwnnw. Ond tybed: ledled Cymru, pa waith sy'n mynd rhagddo i goladu'r ystadegau cyffredinol ar gyfer Cymru gyfan i gael darlun o'r hyn sy'n digwydd ledled Cymru mewn perthynas â'r gwasanaeth hynod bwysig hwn?

Rydych yn llygad eich lle, Mick; mae angen inni sicrhau bod angen i unrhyw fuddsoddiad ac ymateb polisi gan y Llywodraeth i hyrwyddo iechyd meddwl a lles da ymhlith plant fod yn seiliedig ar dystiolaeth. Ac mae nifer o ffyrdd rydym yn gwneud hynny. Mae gennym yr ystadegau ffurfiol sy'n cael eu coladu fel rhan o'r gwasanaeth cwnsela ffurfiol. Yn fwyaf diweddar, wrth adrodd yn ôl i grŵp rhanddeiliaid 'Cadernid Meddwl', canfasiodd cynrychiolwyr Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru bob awdurdod lleol i ofyn am fanylion gwasanaethau roedd awdurdodau lleol ac ysgolion yn eu defnyddio ledled Cymru. Ac wrth gwrs, rydym hefyd yn clywed gan bobl ifanc eu hunain, drwy ein cefnogaeth i'r holiadur ysgolion iach a roddir i bobl ifanc, lle maent yn cael cyfle i fynegi sut y maent yn teimlo am eu hiechyd meddwl a'u lles eu hunain. Felly, rydym yn defnyddio amrywiaeth o ffynonellau a phwyntiau casglu data i sefydlu sylfaen dystiolaeth gadarn ar gyfer buddsoddi yn y maes pwysig hwn.

13:35
Addysg ôl-16

2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu addysg ôl-16 i ddysgwyr ym Merthyr Tudful a Rhymni? OAQ55084

Mae darpariaeth ôl-16 yng Nghymru yn cefnogi mynediad at ystod o raglenni sy'n cefnogi dysgu gydol oes. Boed yn uwchsgilio i gael mynediad at gyflogaeth, y cam cyntaf i’r byd ôl-16, neu ddychwelyd at ddysgu, mae darpariaeth yn gwella ffyniant economaidd ac yn sicrhau bod pobl ym mhob maes wedi'u harfogi ar gyfer eu dyfodol.

Diolch, Weinidog. Ac rwy'n siŵr y byddwch yn awyddus i ymuno â mi i longyfarch Coleg Merthyr Tudful ar gael eu henwebu ar gyfer gwobr coleg addysg bellach y flwyddyn y Times Educational Supplement 2020. Mae'r enwebiad yn cydnabod cyflawniadau rhagorol, canlyniadau dysgwyr sy'n gwella'n barhaus, a'u cyfraniad cyffredinol at hyfforddiant i ddysgwyr. Ac fel y dywedodd ein Prif Weinidog wrth ymweld â'r coleg yn yr hydref y llynedd, mae'n un o’r enghreifftiau gwych o lwyddiant datganoli. Fodd bynnag, er gwaethaf llwyddiant o'r fath, mae dyfodol eu trefniadau cyllido yn parhau i beri pryder, yn enwedig mewn perthynas â’n hymadawiad â'r Undeb Ewropeaidd. Nawr, credaf fod cyllid o'r fath wedi cael effaith enfawr ar ansawdd y profiad dysgu, gan fod y coleg wedi gallu sicrhau gwell cyfraddau cadw dysgwyr, cyfraddau cwblhau, ac wedi cyfrannu at gynnydd o flwyddyn i flwyddyn o ran cyfraddau llwyddiant cyffredinol. Felly, a allwch roi unrhyw sicrwydd eto y bydd arian yr UE sy'n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd i gynorthwyo dysgwyr sydd mewn perygl o adael coleg—er enghraifft, y cynllun Ysbrydoli i Gyflawni—yn cael ei ystyried fel rhan o'r buddsoddiad rhanbarthol yng Nghymru, ac a yw dysgu mor werthfawr yn ddiogel wrth i ni adael yr UE?

Wel, Lywydd, rwy'n hynod falch o lwyddiant a chyflawniadau'r sector addysg bellach yng Nghymru. Mae'r ffaith bod chwe choleg i gyd o Gymru wedi’u henwebu yng ngwobrau'r Times Educational Supplement 2020 yn dyst i'r gwaith da sy'n mynd rhagddo ar draws y sector. A hoffwn ddymuno’n dda i Goleg Merthyr Tudful, ac yn wir, i’r colegau eraill sydd wedi’u henwebu, pan gynhelir y gwobrau hynny ar 20 Mawrth. Mae'r Aelod yn iawn i dynnu sylw at ddefnydd llwyddiannus o gyllid yr UE gan y sector addysg bellach. Hoffwn pe gallwn roi rhywfaint o sicrwydd i'r Aelod ynghylch parhad y ffrydiau cyllido hynny. Wrth gwrs, bydd hynny'n ddibynnol ar Lywodraeth y DU yn ateb ein galwadau fel Llywodraeth am gyllid newydd. Yn y cyfamser, rydym yn parhau i weithio'n agos ac yn gynhyrchiol gyda'n rhanddeiliaid ledled Cymru, i roi trefniadau olyniaeth ar waith ar gyfer Cymru. A rhan bwysig o hynny yw grŵp llywio buddsoddi rhanbarthol Cymru, dan gadeiryddiaeth Huw Irranca-Davies, y mae colegau addysg bellach yn rhan ohono. Ac mae hynny'n rhan bwysig o'r gwaith hwnnw, wrth inni edrych tua'r dyfodol yn awr, i amddiffyn y ffrydiau cyllido penodol hynny, a'r rhaglenni llwyddiannus hynny.

Unwaith eto, gyda Dawn Bowden, hoffwn ddweud yr un peth—mae Coleg Merthyr Tudful yn un o'r colegau addysg bellach sy'n perfformio orau yng Nghymru. Ac a wnewch chi ymuno â mi, Weinidog, i groesawu’r newyddion fod Coleg Merthyr Tudful ar restr fer gwobr coleg addysg bellach y flwyddyn y Times Educational Supplement 2020, sy’n ceisio cydnabod a gwobrwyo cyflawniad y colegau addysg bellach gorau yn y Deyrnas Unedig? Yn yr un modd, mae’n rhaid llongyfarch yr athrawon a'r myfyrwyr sydd wedi gweithio'n galed iawn i sicrhau bod y math hwn o addysgu a hyfforddi yn cael ei ddarparu yn ein hysgolion eraill yn y rhanbarth. Diolch.

Lywydd, rhag ofn i’r Aelod fethu hyn y tro cyntaf, rwy'n hynod falch fod Coleg Merthyr Tudful yn destun enwebiadau o'r fath. Ac fel y dywedais yn fy ateb blaenorol, rwy'n dymuno'n dda iddynt—yn ogystal â Choleg Gŵyr, Coleg Penybont, Coleg Caerdydd a Fro, a thîm adeiladu a pheirianneg Dolgellau o Grŵp Menai Llandrillo—yn y gwobrau hynny.

A yw'r Gweinidog yn credu bod manteision cydgrynhoi addysg ôl-16 yng Ngholeg Merthyr Tudful yn bwysicach nag unrhyw leihad yn y dewis neu gynnydd yn yr amseroedd teithio ar gyfer y myfyrwyr hynny sydd, yn y gorffennol, wedi mynychu'r chweched dosbarth mewn ysgolion?

13:40

Mae trefniadaeth addysg ôl-16 yn fater i ardaloedd lleol. Rwy'n credu mewn economi gymysg. Credaf fod ein chweched dosbarth a'n colegau addysg bellach yn darparu cyfleoedd pwysig iawn i'n pobl ifanc. Wrth gwrs, mae gwell cydgysylltedd ar draws y sector ôl-16 a'r gallu i'r sector hwnnw ddiwallu holl anghenion addysg a hyfforddiant ein poblogaeth leol yn sylfaen i’n cynigion addysg a hyfforddiant ôl-orfodol a fy mhenderfyniad i sefydlu comisiwn ar gyfer ymchwil ac addysg drydyddol.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian. 

Diolch yn fawr, Llywydd. Rydym ni'n ymwybodol bod recriwtio a chadw athrawon yn her yng Nghymru, ac mewn gwledydd eraill hefyd, yn wir, a bod yna nifer o resymau am hyn, a bod angen taclo'r broblem mewn sawl ffordd. Mae ystadegau Llywodraeth Cymru'n dangos bod 40 y cant yn llai na'r targed sydd wedi ei osod ar gyfer hyfforddeion ar gyfer y sector uwchradd, er enghraifft, ac mae adroddiadau diweddaraf y Cyngor Gweithlu Addysg yn dangos bod yna fwy o gymorthyddion nag o athrawon yn ein hysgolion ni erbyn hyn. Rŵan, dwi'n gwybod eich bod chi'n ymwybodol iawn o'r broblem yma, sydd wedi cael ei gwyntyllu dros y blynyddoedd, yn wir, yn y Siambr yma. Pa mor ffyddiog ydych chi y gwelwn ni'r sefyllfa yma yn gwella dros y blynyddoedd nesaf? 

Wel, Siân, rydych yn llygad eich lle. Mae hwn yn fater sy'n gyffredin i systemau addysg ledled y byd mewn gwirionedd, a bu’n destun cryn ddadlau pan gynaliasom gynhadledd yr Atlantic Rim Collaboratory yma yng Nghaerdydd yn ôl yn yr hydref. Nid oes unrhyw beth unigol y gallwn ei wneud i fynd i’r afael â’r materion hyn, ond i amlinellu rhai o’r camau y mae’r Llywodraeth hon yn eu cymryd ar hyn o bryd, rydym wedi cytuno ar ddull newydd o hyrwyddo addysgu fel gyrfa gyda Chyngor y Gweithlu Addysg a gobeithio—cyn bo hir—y bydd yr Aelodau'n gallu gweld hysbysebion ar amrywiaeth o blatfformau a fydd yn tynnu sylw at addysgu fel gyrfa bwysig a gwerth chweil.

Rydym yn edrych ar ffyrdd newydd y gallwn gefnogi cymwysterau i athrawon. Felly, bydd yr Aelod yn ymwybodol o achrediad diweddar cynllun y Brifysgol Agored i hyfforddi athrawon. Rydym yn edrych yn benodol yno ar ddenu pobl sy'n newid gyrfa—y bobl nad yw cymhwyso mewn ffordd draddodiadol yn briodol iddynt, efallai, ond sydd ag awydd a dyhead i addysgu. Bydd yr Aelod hefyd yn ymwybodol o'n cynllun diweddar, er enghraifft, i ganiatáu i athrawon cyfrwng Cymraeg yn y sector cynradd nad ydynt efallai wedi gallu dod o hyd i waith yn y sector penodol hwnnw, i newid er mwyn gallu defnyddio eu sgiliau a’u hangerdd yn y sector uwchradd.

Felly, mae nifer o gamau y mae'r Llywodraeth hon yn eu cymryd i fynd i'r afael â recriwtio athrawon. Ond wrth gwrs, ar ôl iddynt gael eu recriwtio i'r proffesiwn, mae'n rhaid inni hefyd weithio'n galetach i'w cadw yn y proffesiwn ac rydym yn rhoi camau ar waith yn hynny o beth hefyd.

Diolch yn fawr, a dwi'n edrych ymlaen at weld ffrwyth y gwaith yna, achos yr athrawon ydy'r adnodd mwyaf gwerthfawr sydd gennym ni yn ein hysgolion, wrth gwrs. 

O gofio'r strategaeth miliwn o siaradwyr, a phwysigrwydd addysg cyfrwng Cymraeg i lwyddiant y nod hwnnw, mae recriwtio athrawon sy'n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn bryder penodol, onid ydy? Mae ystadegau'r bwletin ystadegol yn dangos mai dim ond 17.5 y cant o'r myfyrwyr ym mlwyddyn gyntaf addysg gychwynnol athrawon yn 2017-18 oedd yn hyfforddi i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, efo'r niferoedd yn weddol gyfartal rhwng y sectorau cynradd ac uwchradd, yn digwydd bod.

Felly, dwi'n croesawu'n fawr yr hyn roeddwn yn ei ddarllen yn y wasg yr wythnos diwethaf, sef ei bod hi'n fwriad gennych chi a gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod partneriaid yn gweithio tuag at sicrhau y dylai 30 y cant o'r rhai sy'n cael eu recriwtio i bob rhaglen hyfforddiant cychwynnol athrawon fod yn athrawon fydd yn gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Felly, prynhawn yma, hoffwn i jest gael ychydig bach mwy o wybodaeth am y polisi yma. Wnewch chi ymhelaethu ar eich rhesymau chi dros osod y targed, a pham ydych chi'n ystyried bod gosod y targed yma'n ffordd effeithiol o gynyddu sgiliau Cymraeg o fewn y gweithlu addysg?

13:45

Wel, Siân, rydych yn llygad eich lle: mae recriwtio mwy o athrawon cyfrwng Cymraeg yn rhan hanfodol o'n nod i gyrraedd 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae'r gofyniad i ddarparwyr hyfforddiant athrawon weithio tuag at hyfforddi 30 y cant o athrawon i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn gyfarwyddyd pwysig iddynt, a Chyngor y Gweithlu Addysg, o ran ein bwriad i allu sicrhau bod gennym y staff iawn i ymateb i'r targed hwnnw, ond hefyd i ymateb i rieni Cymru, sy'n fwyfwy awyddus i ddewis addysg Gymraeg i'w plant, ac i ymateb yn gadarnhaol i hynny. Nid hon yw'r unig fenter, fel y nodais, ond rwy'n ddiolchgar am gefnogaeth yr Aelod iddi, ac yn wir, yr amrywiol sylwadau cefnogol gan Gymdeithas yr Iaith, er enghraifft, fel arwydd pwysig o fwriad y Llywodraeth hon yn hyn o beth.

Yn sicr, mi ydyn ni'n falch o weld y targedau yma'n cael eu gosod. Mae'n rhywbeth rydym ni wedi bod yn galw amdano fo ers tro, wrth gwrs, ac rydym ni'n ei weld o fel cam positif dros ben. Hoffwn i sicrwydd gennych chi y bydd monitro cyflawniad yn erbyn y targed yn digwydd. Efallai y medrwch chi gadarnhau heddiw yma y bydd gennych chi system i fonitro cynnydd fel bod y targed yn un gwirioneddol ystyrlon. Rydych chi wedi gosod y targed yma rŵan ar gyfer un maes penodol, sef darpar athrawon, ac mae'n glir fod Comisiynydd y Gymraeg, ac eraill, yn wir, yn credu fod hwn—beth rydych chi wedi'i wneud efo darpar athrawon—yn gynsail da ar gyfer meysydd eraill. Ydych chi'n gallu sôn y prynhawn yma ynglŷn â lledaenu'r arfer o osod targedau er mwyn cynyddu sgiliau dwyieithog? Ydych chi o blaid, er enghraifft, lledaenu'r arfer yma o osod targedau ar gyfer gweithlu'r dyfodol mewn meysydd fel iechyd a gofal, ac eraill o fewn eich portffolio chi o ran addysg bellach ac uwch?

Wel, Lywydd, nid fi sy'n gyfrifol am iechyd a gofal, ond credaf mai'r hyn sy'n bwysig i mi yw, os ydym am ymateb, fel y dywedais, yn rhagweithiol i'r galw am addysg cyfrwng Cymraeg, os ydym am gyrraedd y targed hwnnw, yr elfen bwysig gyntaf yw ein gweithlu addysgu. Ymunodd yr Aelod â mi ac Aelodau eraill yn ddiweddar yn y digwyddiad a drefnwyd gan ein coleg cenedlaethol. Rydym yn gweithio ar y cyd â hwy a'n partneriaid addysg bellach i gynyddu argaeledd hyfforddiant addysg bellach cyfrwng Cymraeg, gan adeiladu ar y llwyddiant real iawn y mae'r coleg wedi'i gael yn ehangu hyfforddiant cyfrwng Cymraeg yn y sector addysg uwch.

Mae'n egwyddor hollol bwysig i mi ein bod yn rhoi continwwm iaith Gymraeg i blant a phobl ifanc yng Nghymru, o'n cynnig gofal plant hyd at fynediad at ein hysgolion meithrin drwy'r mudiad, i addysg cyfrwng Cymraeg, ac yna iddynt allu parhau i ddatblygu a defnyddio eu sgiliau iaith mewn lleoliadau addysg bellach ac addysg uwch lle bynnag y bo modd.

Byddwn yn parhau i geisio sicrhau, mewn agweddau eraill ar y gweithlu addysg, ein bod yn mynd i'r afael ag anghenion ieithyddol staff, boed hynny'n golygu, er enghraifft, ein cynorthwywyr addysgu, ein cynorthwywyr meithrin yn y mudiad, neu weithwyr proffesiynol eraill sy'n gweithio gyda'n plant a'n pobl ifanc. Mae'n bwysig iawn o safbwynt tegwch ein bod yn parhau i weithio mor galed ag y gallwn i fynd i'r afael â sgiliau ieithyddol gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio ochr yn ochr â'n plant a'n pobl ifanc.

Diolch, Lywydd. Y mis diwethaf, bu penaethiaid yng Nghymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu ei chynigion cyllidebol drafft ar gyfer addysg. Dywedodd Cymdeithas Genedlaethol Prifathrawon Cymru nad yw'r gwariant arfaethedig ar addysg a nodwyd hyd yma yn dod yn agos at unioni'r niwed a wnaed gan flynyddoedd o danariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae ysgolion mewn diffyg ariannol, yn ei chael hi'n anodd cadw staff cymorth ac athrawon da, a gallent wynebu anawsterau wrth gyflwyno'r cwricwlwm newydd. Weinidog, pam eich bod wedi gwrthod ymrwymo i wario mwy o arian yn uniongyrchol ar ysgolion, ac a wnewch chi gytuno i glustnodi'r cyllid canlyniadol sy'n deillio o gyhoeddiad Llywodraeth y DU ynglŷn â gwariant ychwanegol ar ysgolion cynradd yn Lloegr ar gyfer addysg yng Nghymru?

13:50

Yn fy holl ymwneud ag undebau penaethiaid ac undebau athrawon, Oscar, mae'n rhaid imi ddweud mai eu pryder cyntaf yw anallu eich Llywodraeth yn San Steffan i roi lefel briodol o wariant cyhoeddus i'r Llywodraeth hon. Un enghraifft real iawn, Lywydd: ni chawsom unrhyw gyllid canlyniadol eleni i dalu am godiad cyflog athrawon. Ni chawsom ddigon o arian eto eleni i dalu am bensiynau athrawon, nad yw'n fater datganoledig. Bu'n rhaid i'r Gweinidog cyllid, gan weithio ar draws y Llywodraeth hon, ariannu'r diffyg, ac roedd hwnnw'n arian y gellid bod wedi'i wario ar agwedd arall ar addysg, ond rydym wedi gorfod dod o hyd i'r arian hwnnw i fynd i'r afael â'r diffyg ym maes pensiynau athrawon nad yw wedi'i ddatganoli.

Gadewch i mi ddweud yn gwbl glir wrth yr Aelod, rydym wedi gweithio'n galed i roi'r setliad gorau posibl i lywodraeth leol Cymru, sef prif gyllidwyr ein system addysg, yn ogystal â chynyddu'n sylweddol faint o adnoddau sydd ym mhrif grŵp gwariant addysg. Gallwn wneud cymaint yn rhagor pe bai ei Lywodraeth yn rhoi bargen decach i Gymru.

Diolch am eich ateb. [Chwerthin.] Roedd Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon yn eich beio chi, nid ni.

Weinidog, yn ddiweddar, fe gyhoeddoch chi adroddiad cynnydd ar y grant o £36 miliwn a ddarparwyd i leihau maint dosbarthiadau babanod yng Nghymru. O dan y cynllun, darperir cyllid ar gyfer staff ysgol newydd neu ystafelloedd ysgol ychwanegol ar gyfer disgyblion rhwng pedair a saith oed. Fodd bynnag, dywed y rhan fwyaf o ysgolion a benododd athrawon i dorri maint dosbarthiadau babanod na fyddant yn gallu eu cadw pan ddaw'r grant hwn i ben. O ystyried bod lleihau maint dosbarthiadau, yn eich geiriau chi,

'yn elfen allweddol o genhadaeth ein cenedl i godi safonau a chreu cyfleoedd i’n holl bobl ifanc',

sut rydych yn bwriadu lleihau maint dosbarthiadau yng Nghymru ymhellach yn awr?

Yn gyntaf oll, Lywydd, nid oes arnaf eisiau diolch gan yr Aelod am ateb ei gwestiwn; yr hyn a fyddai’n fwy defnyddiol i mi yw pe bai’n gwneud rhywbeth yn ei gylch ac yn cael sgwrs gyda’i gymheiriaid yn San Steffan.

O ran y gronfa lleihau maint dosbarthiadau rydym wedi'i darparu i ysgolion, rwy'n falch fod yr Aelod yn cydnabod y gall maint dosbarthiadau bach, yn gyntaf oll, fod o fudd mawr i athrawon a phlant. Mae'n llygad ei le: yn yr adroddiad, mae athrawon wedi mynegi eu pryder ynghylch yr hyn a fydd yn digwydd pan ddaw'r grant hwnnw i ben. Mae'r grant yn ddiogel tan ddiwedd sesiwn y Senedd hon. Mater i'r Senedd newydd fydd edrych ar y dystiolaeth a gwrando ar athrawon a rhieni am bwysigrwydd y grant hwnnw, a buaswn yn gobeithio'i weld yn parhau.

Mae'n ofynnol i ysgolion amddiffyn disgyblion rhag radicaleiddio ac eithafiaeth fel rhan o'u dyletswyddau diogelu. Dywedodd adroddiad Estyn yn ddiweddar fod gan y mwyafrif o ysgolion ddealltwriaeth o’u rôl a’u cyfrifoldebau yn hyn o beth; fodd bynnag, mewn lleiafrif o ysgolion, nid yw arweinwyr o'r farn fod radicaleiddio ac eithafiaeth yn berthnasol i'w hysgolion neu'r ardaloedd cyfagos. Aethant yn eu blaenau i ddweud y gallai staff yn yr ysgolion hyn golli cyfle i nodi a mynd i'r afael â phryderon cynnar am ddisgybl. Weinidog, pa gamau a gymerwch, yng ngoleuni canfyddiad Estyn, i sicrhau bod pob ysgol yng Nghymru yn cyflawni eu rhwymedigaethau i amddiffyn disgyblion rhag radicaleiddio ac eithafiaeth yng Nghymru?

Rwy'n croesawu adroddiad thematig Estyn yn fawr a thynnaf sylw’r Aelod at yr ymarfer da mewn ysgolion sydd eisoes yn cyflawni camau cadarnhaol iawn, er fy mod hefyd yn derbyn yr argymhellion mewn meysydd sydd angen eu gwella ymhellach. Er enghraifft, rydym yn ariannu Uned Eithafiaeth a Gwrthderfysgaeth Cymru, gan weithio mewn partneriaeth â rhaglen graidd cyswllt ysgolion Cymru gyfan, i gynhyrchu fideos ac adnoddau ar atal radicaleiddio ac eithafiaeth i gael eu defnyddio gan ein swyddogion rhawd ysgolion. Ar hyn o bryd, rydym yn adolygu ein canllawiau 'Cadw dysgwyr yn ddiogel' i sicrhau bod unrhyw ddatblygiadau yn agenda Prevent yn cael eu hadlewyrchu'n llawn. Mae'r neges fod Prevent yn dod o dan ymbarél diogelu wedi'i mynegi'n glir yn y diweddariad i'r canllawiau y byddwn yn eu cyhoeddi yn nes ymlaen eleni.

13:55
Siarad am Hunanladdiad a Hunan-niweidio

3. Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau bod pob awdurdod lleol ac ysgol yn defnyddio'r canllawiau newydd ar siarad am hunanladdiad a hunan-niweidio mewn ysgolion? OAQ55100

Lynne, ers i chi a minnau lansio'r canllawiau hynny ym mis Medi, mae copïau caled wedi'u dosbarthu i ysgolion, ac maent hefyd ar gael ar-lein ar blatfform Hwb ac ar wefan Llywodraeth Cymru. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid i godi ymwybyddiaeth o'r mater hwn fel rhan o'n dull ysgol gyfan o ymdrin â lles emosiynol.

Diolch, Weinidog. Ac wrth gwrs, rwy'n croesawu'r canllawiau rhagorol sydd wedi’u cyhoeddi. Rwyf hefyd yn falch iawn eich bod wedi ymrwymo i gynnwys y canllawiau yn y fframwaith newydd sy'n cael ei gyhoeddi ar ddull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl. Ond yn y cyfamser, beth arall y gallwn ei wneud i sicrhau bod pob ysgol a phob awdurdod lleol yn ymwybodol o'r canllawiau ac yn mynd ati i'w hyrwyddo?

Lynne, yn ôl ym mis Medi, cafodd y canllawiau gyhoeddusrwydd yn ein cylchlythyr wythnosol, Dysg, i bob ysgol. Rydym wedi defnyddio amrywiaeth o blatfformau Llywodraeth Cymru i dynnu sylw, nid yn unig ysgolion, ond y gymuned ehangach, at argaeledd y canllawiau. Rwy'n falch iawn o ddweud ein bod wedi cael traffig sylweddol, o ran cliciau, ar y canllawiau penodol hynny ar ein gwefan Hwb, ac rydym wedi cael nifer o geisiadau am gopïau ychwanegol o'r canllawiau gan ysgolion unigol. Ddiwedd mis Mawrth, byddwn yn cynnal cynhadledd gyda phenaethiaid yr holl ysgolion uwchradd ac rwyf wedi gofyn i'r digwyddiad gael ei ddefnyddio i hyrwyddo argaeledd y canllawiau ymhellach ac i ystyried eu defnyddioldeb a'u defnydd gan yr ysgolion hynny.

Yn gyntaf oll, Weinidog, hoffwn ddiolch i chi a Lynne Neagle am yr holl waith rydych yn ei wneud yn y maes hwn, gan ei fod yn hanfodol bwysig. Cyfeiriodd Lynne at gwestiwn roeddwn am ei ofyn, ynglŷn â sut rydym yn sicrhau ei fod yn cyrraedd ysgolion uwchradd ac ysgolion cynradd, oherwydd wrth gwrs, un o'r materion mawr y mae gennyf bryderon yn eu cylch yw'r defnydd o gyfryngau cymdeithasol a'r ffordd y mae cyfryngau cymdeithasol yn gyrru plant sy'n agored i niwed—yn enwedig ar oedran pan fo cymaint yn digwydd yn eu bywydau. Hoffwn weld hynny'n digwydd mewn ysgolion cynradd, y math hwnnw o addysg ar gyfryngau cymdeithasol.

Felly, mewn gwirionedd, mae gennyf ddau gwestiwn. Y cyntaf yw ailbwysleisio'r pwynt a wnaeth Lynne ynglŷn â sut rydych yn trosglwyddo hyn i'n holl awdurdodau lleol. Heddiw, cawsom adroddiad siomedig iawn ar ysgolion Cyngor Sir Penfro. Felly, os ydynt yn ei chael hi'n anodd gwneud safonau addysgol, sut y maent yn ei chael hi'n anodd gwneud y safonau llesiant? Yn ail, yn benodol ar y cyfryngau cymdeithasol, gan y credaf eu bod yn achosi llawer o bryder, a oes unrhyw beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud?

Lywydd, cytunaf yn llwyr ag Angela Burns ynghylch pwysigrwydd addysgu ein plant ar niwed posibl a defnydd diogel o'r rhyngrwyd a sianeli cyfryngau cymdeithasol. Ddoe oedd Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel, fel y gŵyr yr Aelod, rwy'n siŵr, ac roeddwn yn falch iawn o ymuno â'r rheini a gyrhaeddodd y rownd derfynol yng nghystadleuaeth Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel Llywodraeth Cymru, lle roedd ysgolion cynradd ac uwchradd wedi bod yn cynhyrchu ffilmiau i dynnu sylw at beryglon defnydd amhriodol o'r rhyngrwyd a'r cyfryngau cymdeithasol ymhlith eu cyfoedion. Rwy’n siŵr y byddai’r Llywydd wrth ei bodd mai Ysgol Bro Pedr a enillodd gystadleuaeth yr ysgolion cynradd, ac roeddwn yn falch iawn o gyfarfod â hwy a gwylio eu ffilm ddoe. Felly, mae ysgolion yn fyw ac yn effro iawn i hyn. Maent yn cymryd camau rhagweithiol iawn i weithio gyda'u plant a'u myfyrwyr yn hyn o beth. Ac wrth gwrs, mae ein fframwaith cymhwysedd digidol, sef rhan gyntaf ein cwricwlwm i gael ei diwygio, yn canolbwyntio'n fawr ar sicrhau bod plant yn gwybod sut i ddefnyddio sgiliau digidol a'r cyfryngau cymdeithasol a'r rhyngrwyd mewn ffordd ddiogel, a beth i'w wneud os ydynt yn anhapus neu'n ansicr ynghylch unrhyw beth y maent yn ei weld, neu'n gweld pobl eraill yn ei wneud, gan ddefnyddio'r platfformau hynny. Ond rydych yn llygad eich lle: mae cydberthynas agos rhwng trallod a salwch meddwl a rhywfaint o'r pethau y mae ein plant a'n pobl ifanc yn cael mynediad atynt ar-lein.

Cyllid ar gyfer Darparwyr Addysg

4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllid ar gyfer darparwyr addysg yng ngogledd-ddwyrain Cymru? OAQ55078

Mae'r gyllideb ddrafft ar gyfer 2020-21 yn amlinellu fy mlaenoriaethau ar gyfer cyllid addysg fel y'u nodir yn 'Cenhadaeth ein cenedl', sy'n cynnwys cyllid ar gyfer darparwyr addysg yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Mae'r gyllideb hon yn parhau i fod yn ymrwymedig i lwyddiant a lles pob dysgwr, ni waeth beth fo'u cefndir neu eu hamgylchiadau personol, nac ym mha ran o Gymru y maent yn astudio ac yn dysgu.

14:00

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Gyda'r farchnad lafur yn newid yn gyson, mae oedolion yn aml angen ailhyfforddi ac uwchsgilio. Mae hyn yn arbennig o wir gyda'r angen i lawer gaffael sgiliau digidol a thechnegol newydd. Mae'r angen am gyllideb bwrpasol ranbarthol ar gyfer sgiliau oedolion yn glir. Nawr, bydd hyn yn ein galluogi i ymateb yn iawn i'r sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr yng ngogledd-ddwyrain Cymru a bydd hefyd yn helpu i ddenu cyflogwyr newydd i'r ardal, gan roi hwb i'r economi leol. Pa ystyriaeth rydych wedi'i rhoi i ariannu cyllideb o'r fath ar gyfer oedolion dros 19 oed sydd eisiau hyfforddi'n llawnamser?

Wel, Jack, yn ddiweddar cyhoeddais fy nghefnogaeth barhaus i'r gronfa datblygu sgiliau. Mae'n gronfa o £10 miliwn a ddyrennir ar sail ranbarthol i ymateb yn benodol i flaenoriaethau a nodwyd gan y bartneriaeth sgiliau ranbarthol i sicrhau bod cysondeb rhwng y cwricwlwm a'r sgiliau sydd eu hangen yn y farchnad lafur mewn ardal benodol. Mae'r gronfa datblygu sgiliau wedi'i hanelu at ddysgwyr sydd angen uwchsgilio i wella eu rhagolygon cyflogaeth ac felly, os nodir sgiliau digidol fel blaenoriaeth ranbarthol allweddol, gellir defnyddio'r cyllid hwn yn unol â hynny drwy ddarparwyr hyfforddiant yn yr ardal honno.

Fe fyddwch hefyd yn ymwybodol, rwy'n siŵr, ein bod yn treialu cyfrifon dysgu unigol ar hyn o bryd. Mae'r cyfrifon dysgu unigol wedi'u cynllunio ar gyfer pobl sydd mewn gwaith ar hyn o bryd ond sydd ar incwm cymharol isel. Mae'r cyllid hwnnw ar gael iddynt i’w ddefnyddio eto i uwchsgilio, ac mae'r darpariaethau hynny hefyd yn cyd-fynd â'r anghenion sgiliau rhanbarthol fel y’u nodwyd gan y bartneriaeth sgiliau ranbarthol. Felly, er enghraifft, er nad yw yn eich ardal chi, yn ardal Gwent mae sgiliau digidol wedi cael eu cydnabod fel maes y mae angen inni ganolbwyntio arno, ac mae'r cyfrifon dysgu unigol yno i alluogi pobl i gael mynediad at y cymwysterau digidol newydd hynny er mwyn caniatáu iddynt wella eu rhagolygon a’u cyfleoedd gyrfa.

Wel, mae bellach yn 17 mlynedd ers i benaethiaid uwchradd yn sir y Fflint fynegi pryder eu bod yn cael un o'r setliadau cyllideb ysgolion isaf yng Nghymru, a dywedasant wrthyf am y pwysau cyson y maent yn ei wynebu yn rheoli hyn wrth ymdrechu am ragoriaeth addysgol. Maent wedi parhau i dderbyn gan Lywodraeth Cymru bob blwyddyn ers un o'r setliadau isaf—y flwyddyn gyfredol hon, 2019-20, roeddent yn safle 19 o'r 22 awdurdod lleol o ran gwariant cyllideb ysgolion cyffredinol y disgybl, a safle 18 o'r 22 awdurdod lleol o ran cyllidebau dirprwyedig y disgybl ysgol uwchradd. Pa gamau rydych wedi'u cymryd felly, os o gwbl, ers cyhoeddi adroddiad fis Medi diwethaf a oedd yn dangos bod nifer o 11 ysgol uwchradd y sir yn y coch gyda diffyg cyffredinol o bron i £1.5 miliwn, a gyhoeddwyd yn fuan ar ôl i archwiliad gan y corff gwarchod addysg, Estyn, ganfod bod Cyngor Sir y Fflint wedi caniatáu i nifer fach o ysgolion fod mewn diffyg am gyfnod rhy hir?  

Wel, Mark, fel rydych yn ei nodi, yn anffodus, mater i Gyngor Sir y Fflint yn bennaf yw cyllido ysgolion uwchradd yn sir y Fflint. Mae sir y Fflint yn derbyn cynnydd canrannol yn eu cyllideb o dros 3.5 y cant, a mater iddynt hwy yn awr yw penderfynu ar y ffordd orau i ddefnyddio'r adnoddau hynny.

Diogelu Plant sy'n mynychu Ysgolion Preifat

Diolch, Llywydd. Mae'n werth aros amdano fe hefyd, os caf i ddweud—[Chwerthin.]

5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddiogelu plant sy'n mynychu ysgolion preifat yng Nghymru? OAQ55064

Diolch yn fawr, Llyr. Mae amddiffyn plant ym mhob lleoliad addysg o'r pwys mwyaf. Mae’n rhaid i ysgolion annibynnol arfer eu swyddogaethau mewn ffordd sy'n diogelu ac yn hyrwyddo lles eu disgyblion, ac mae’n rhaid iddynt gydymffurfio â chanllawiau 'Cadw dysgwyr yn ddiogel' i fodloni safonau rheoleiddio.

Diolch am eich ateb. Gwn eich bod yn ymwybodol iawn o'r sefyllfa a gododd yn Ysgol Rhuthun yn fy rhanbarth. A chyn dweud mwy, rwy'n credu y dylem ddiolch i Kelly Williams, newyddiadurwr y Daily Post a wnaeth gymaint i ddatgelu'r sefyllfa yno ac i dynnu sylw'r cyhoedd ehangach ati, a hefyd i helpu i ddod â phethau i ben. A chan fod rhai o'r pennau oedd angen eu torri bellach wedi'u torri, mae angen inni edrych ymlaen, wrth gwrs, a gweithio gyda'r ysgol, ond mae angen i ni hefyd ddysgu gwersi ehangach o'r bennod ofnadwy hon a welsom yn Rhuthun.

A daeth yn amlwg, wrth gwrs, nad yw ysgolion annibynnol yn ddarostyngedig i'r un rheolau ag ysgolion awdurdodau lleol, ac mae hynny'n destun pryder enfawr, yn enwedig pan fydd pethau'n mynd o chwith. Nawr, mae rhai o'r pethau yr awgrymwyd i mi fod angen mynd i'r afael â hwy yn cynnwys sicrhau y dylai'r rhai sy'n dysgu mewn ysgolion annibynnol fod wedi cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg. Mae angen inni edrych ar ffyrdd o sicrhau gofynion mwy cadarn i gynghorau rheoli, neu gyrff llywodraethu fel y byddai'r rhan fwyaf ohonom yn eu disgrifio. Mae gwir angen cynrychiolwyr sydd wedi’u penodi gan awdurdodau lleol arnom. Mae angen inni sicrhau bod cynrychiolwyr athrawon a rhieni a disgyblion ar y cyrff hynny. Mae angen inni ymestyn pwerau Estyn fel y gallant ddiswyddo llywodraethwyr ac uwch arweinwyr pan fydd problemau’n codi sy’n ymwneud â phryderon proffesiynol.

Nawr, nid yw hyn i gyd wedi'i ddatganoli ac rwy'n derbyn na fyddech yn gallu mynd i'r afael â'r holl faterion hynny o bosibl, ond rwyf eisiau deall beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn awr i fynd i'r afael â rhai o'r diffygion sy'n amlwg yn y system fel y gallwn sicrhau nad yw'r profiad yn Ysgol Rhuthun yn un a all ddigwydd yn unman arall yn y dyfodol.

14:05

A gaf fi ddiolch i Llyr am godi'r materion hyn heddiw a diolch iddo hefyd—? Rydym wedi bod yn cadw mewn cysylltiad agos yn ystod y misoedd diwethaf, a gwn eich bod wedi bod yn edrych ar hyn o ddifrif yn eich rhanbarth, ac rwy'n ddiolchgar am eich diddordeb a'ch diwydrwydd yn parhau i fynd ar drywydd y materion hyn, Llyr. 

Rydych chi'n iawn, mae'r sefyllfa yn Rhuthun yn codi rhai pwyntiau sylfaenol ynglŷn â rheoleiddio'r sector ysgolion annibynnol. Gobeithio y byddwch yn falch, Llyr, pan ddywedaf wrthych ein bod yn edrych ar nifer o faterion ar hyn o bryd ac yn gobeithio gwneud cynnydd arnynt. 

Yn gyntaf, rydym eisoes yn ymgynghori ar newid y rheoliadau a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i ysgol annibynnol hysbysu ei hawdurdod lleol ynglŷn â'r disgyblion sydd ar y gofrestr yn yr ysgol honno fel ein bod yn gwybod yn union pwy sy'n mynychu'r ysgol. Rydym hefyd wrthi'n edrych ar y gofyniad i staff mewn ysgolion annibynnol gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg, wrth symud ymlaen, yn ogystal â gwella pwerau Cyngor y Gweithlu Addysg i atal pobl ar y gofrestr dros dro os oes ganddynt bryderon yn eu cylch. Mae'r gwaith hwnnw ar y gweill ac yn cael eu datblygu ar hyn o bryd ac rwy’n credu y byddant yn mynd â ni gam ymlaen yn y broses o ddarparu'r mesurau diogelwch y byddai pawb ar draws y Siambr am eu gweld ym mhob un o'n hysgolion rwy'n siŵr, ond ysgolion annibynnol yn yr achos hwn.  

Fel Llyr Huws Gruffydd, roeddwn hefyd yn bryderus iawn am y sefyllfa yn Ysgol Rhuthun, Weinidog, ac roeddwn yn ddiolchgar iawn am eich neges gadarn iawn mewn perthynas â’r dymuniad i newid yr arweinyddiaeth yn yr ysgol honno er mwyn iddi allu parhau i weithredu. Rwy'n credu iddo wneud gwahaniaeth a chredaf mai dyna oedd ei diwedd hi o ran cael gwared ar bennaeth yr ysgol honno. Ond wrth gwrs, fel y crybwyllwyd eisoes, yn anffodus, oherwydd y rheoliadau, gallai'r pennaeth hwnnw ymddangos yn hawdd mewn ysgol annibynnol arall yn rhywle arall yng Nghymru, oni bai bod newid i'r gofyniad i gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg. Wrth gwrs, mae'n ymwneud â mwy nag athrawon yn unig; gallai fod yn uwch-reolwr, neu unrhyw un, yn wir, ar y safleoedd hynny.  

Un o'r materion eraill a amlygwyd gan y digwyddiad hwn, wrth gwrs, oedd cyfyngiadau deddfwriaeth cam-drin domestig hefyd, oherwydd roedd awgrymiadau y gallai fod elfen o reolaeth orfodol yn rhai o'r negeseuon a gyfnewidiwyd rhwng y pennaeth ac o leiaf un disgybl yn yr ysgol honno. A gaf fi ofyn a fyddwch yn ystyried hyn yn ehangach fel Llywodraeth Cymru? Ac os nad yw eisoes ar eich radar, o ran gallu edrych ar y gyfraith mewn perthynas â cham-drin domestig yn benodol efallai, rwy'n credu bod angen i hyn newid. Mae ysgol annibynnol gyda disgyblion preswyl yn gweithredu in loco parentis i bob pwrpas, pan fo'r plant hynny dan ei gofal, ac eto nid yw'n ymddangos bod y ddeddfwriaeth cam-drin domestig yn berthnasol i ysgol fel rhiant corfforaethol, sy'n amhriodol yn fy marn i. Felly mae'n amlwg bod angen edrych ar hynny. A yw hyn yn rhywbeth y byddwch yn edrych arno gyda'ch cyd-Aelodau Cabinet i weld a ellir mynd i'r afael ag ef hefyd, yn ychwanegol at y gwaith da sydd eisoes yn mynd rhagddo mewn perthynas â chofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg? 

Rwy’n fwy na pharod i edrych ar y pwynt penodol hwnnw, o ran perthnasedd deddfwriaeth cam-drin domestig mewn perthynas ag ysgolion, ond gadewch imi fod yn hollol glir ac ailadrodd unwaith eto: mae gennym eisoes ganllawiau 'Cadw dysgwyr yn ddiogel' cynhwysfawr iawn. Mae’n rhaid i bob ysgol gydymffurfio â hwy, boed yn ysgolion annibynnol neu’n ysgolion a gynhelir. Os na all ysgol annibynnol fy modloni o ran hynny, yn y pen draw, gallwn ddiddymu cofrestriad yr ysgol honno, ond rwy'n fwy na pharod i edrych ar y pwynt y mae'r Aelod yn ei godi. 

14:10
Addysgu Perthynas

7. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am addysgu perthynas mewn ysgolion? OAQ55087

Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod pob person ifanc yn cael addysg cydberthynas a rhywioldeb o ansawdd uchel. Dyna pam y bydd addysg cydberthynas a rhywioldeb yn rhan orfodol o'n cwricwlwm newydd.

Mae'r Gweinidog yn frwd ei chefnogaeth i’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, ac mae erthygl 2 o brotocol 1 yn dweud, os yw'r wladwriaeth yn arfer unrhyw swyddogaethau mewn perthynas ag addysg ac addysgu, y bydd yn

'parchu hawl rhieni i sicrhau addysg ac addysgu o'r fath yn unol â'u hargyhoeddiadau crefyddol ac athronyddol eu hunain.'

Mae'r hyn y mae newydd ei ddweud, wrth gwrs, yn chwalu’r protocol hwnnw. Mae hyn yn rhan o duedd Llywodraeth Cymru o anwybyddu hawliau rhieni a phobl gyffredin. Gwelsom hyn mewn perthynas â'r gwaharddiad ar smacio hefyd; roedd canlyniadau arolygon barn ac ymgynghori yn llethol yn erbyn cyfyngu ar rôl rhieni wrth fagu eu plant eu hunain. Felly, a yw'r Gweinidog yn dweud wrthyf mai un o fanteision mawr datganoli yw y gellir anwybyddu barn pobl yn fwy lleol yng Nghaerdydd, yn hytrach nag yn Llundain?

Lywydd, mae'r Aelod yn iawn: mae hwn yn fater sy’n ymwneud â hawliau. Mae'n ymwneud â hawliau plant, ac mae gan bob plentyn hawl i gael addysg a fydd yn eu cadw'n ddiogel rhag niwed, a fydd yn eu hamddiffyn ac yn darparu'r wybodaeth a’r sgiliau y maent eu hangen i ddod yn unigolion iach, hyderus. Ac mae'r agwedd honno at hawliau plant yn ganolog i fy mhenderfyniad.

Rydym newydd glywed gan Aelod arall am bwysigrwydd rheolaeth orfodol a sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc yn gwybod beth ydyw, a beth i'w wneud os yw'n digwydd iddynt hwy. Enghreifftiau fel hynny sy'n golygu bod rhaid inni sicrhau bod gan bob plentyn hawl i gael y gwersi hyn wrth symud ymlaen. 

Weinidog, heblaw am yr ystodau oedran statudol a nodir mewn perthynas â phump i 16 oed a'r gwahanol oedrannau y bydd plant yn cael addysg rhyw, addysg cydberthynas, rwy'n credu eich bod wedi eich cofnodi'n dweud o'r blaen y rhoddir rhywfaint o sylw i bwynt datblygiadol plant o fewn y cylch hwnnw. Felly, efallai fod yna ffordd, neu gyfaddawd yma hefyd, lle rydych chi ar y naill law yn darparu'r addysg y credwch chi fod ganddynt hawl iddi i blant, ond ar yr un pryd, fod barn rhieni a phwynt datblygiadol plentyn unigol hefyd yn cael eu hystyried i sicrhau nad yw plant yn cael addysg sy'n amhriodol iddynt, ar adeg benodol.

Rwyf eisiau sicrhau'r Aelod ein bod yn rhoi llawer o sylw i ba mor addas i oedran plant yw gwersi yn y rhan hon o'r cwricwlwm. Mae'n gwbl hanfodol fod y gwersi hyn yn cael eu cyflwyno mewn ffordd sy’n briodol i oedran a datblygiad plant. Rwy'n cydnabod y gallai fod rhywfaint o nerfusrwydd, pryderon a sensitifrwydd yn hyn o beth. Dyna pam, wrth inni symud tuag at weithredu'r cwricwlwm newydd, rwyf wedi sefydlu grŵp cynnwys sydd â chynrychiolwyr rhieni yn aelodau ohono. Cyfarfu’r grŵp hwnnw am y tro cyntaf yr wythnos diwethaf a bydd yn gyfrwng gwerthfawr iawn inni allu parhau i weithio gyda rhai sydd â diddordeb wrth inni ddatblygu arweiniad a chynnwys yn y maes hwn, i dawelu meddwl rhieni fod y pethau rydym yn argymell y dylai plant ddysgu amdanynt yn briodol i'w hoedran ac yn cael ei wneud mewn ffordd sy'n sensitif ac sy'n parchu’r ffaith bod plant yn cyrraedd lefelau aeddfedrwydd ar wahanol adegau.  

Dyslecsia

8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am argaeledd prawf i wneud diagnosis o ddyslecsia ar gyfer plant sy'n siarad Cymraeg? OAQ55072

Diolch, Andrew. Rwyf wedi ymrwymo i gefnogi dysgwyr ag anghenion addysgol arbennig, fel dyslecsia, mewn addysg cyfrwng Cymraeg. Nod ein diwygiadau anghenion dysgu ychwanegol yw creu system o gefnogaeth ddwyieithog i ddysgwyr. Mae argaeledd adnoddau cyfrwng Cymraeg dan ystyriaeth fel rhan o'n rhaglen drawsnewid ADY.  

Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae'n ffaith y bydd gan dri phlentyn ddyslecsia o ryw fath yn y rhan fwyaf o ddosbarthiadau. Mae'n eithaf brawychus, mae'n rhaid i mi ddweud, er bod prawf sgrinio, nad oes prawf diagnostig ar gyfer plant sy'n defnyddio'r Gymraeg. Rwy'n clywed bod eich adran yn rhoi rhai camau ar waith i ddeall beth yw'r anghenion, ond a allwch chi gynnig unrhyw gysur inni y gallai fod rhywfaint o gymorth yn y maes penodol hwn cyn diddymu'r Cynulliad y flwyddyn nesaf? Oherwydd ar hyn o bryd, mae carfan enfawr o blant ar hyd a lled Cymru, yn enwedig wrth i addysg cyfrwng Cymraeg gynyddu, dan anfantais a bydd yr anfantais honno’n parhau drwy gydol eu hoes oni bai eu bod yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt drwy'r system addysg.

14:15

Wel, Andrew, fel mam i ddau o blant dyslecsig sydd wedi cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg, mae hwn yn fater sy'n wirioneddol bwysig i mi yn bersonol. Rydych yn gywir i ddweud bod prawf sgrinio dyslecsia ar gyfer dysgwyr rhwng chwe mlwydd a chwe mis oed ac 11 mlwydd a phum mis oed ar gael yn Gymraeg gan Dyslecsia Cymru, ac mae'r prawf sgrinio hwnnw'n darparu proffil o gryfderau a gwendidau dysgwyr y gellir ei ddefnyddio i lywio datblygiad a chymorth i ddysgwyr wrth symud ymlaen.

Mae prawf sgrinio dyslecsia ar gyfer dysgwyr rhwng pedair mlwydd a chwe mis oed a chwe mlwydd a phum mis oed wedi'i gyfieithu i'r Gymraeg, ond unwaith eto, mae rhai cyfyngiadau ac anfanteision i'r dull hwnnw. Gallaf roi ymrwymiad i chi fod fy swyddogion yn gweithio gyda'r sector i allu nodi gwahanol ffyrdd a ffyrdd gwell a dulliau gwell o sicrhau tegwch a rhagoriaeth yn hyn o beth.

Presenoldeb mewn Ysgolion

9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyfraddau presenoldeb mewn ysgolion yn Abertawe? OAQ55080

Diolch, Dai. Mae'r ystadegau diweddaraf ar absenoldeb disgyblion oedran ysgol gorfodol ym mhob ysgol gynradd ac ysgol arbennig a gynhelir yng Nghymru a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr, yn dangos bod cyfradd presenoldeb cyffredinol Abertawe yn 94.4 y cant, sydd ychydig yn uwch na'r cyfartaledd o'i gymharu â gweddill Cymru, sef 94.3 y cant.

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Yn amlwg, mae presenoldeb ysgol yn hanfodol os yw disgyblion am gyflawni eu potensial, ond wrth edrych ar y data lleol yn Abertawe yn fwy manwl, yr hyn sy'n hollol amlwg yw, er gwaethaf ymdrechion Llywodraeth Cymru a'r awdurdod lleol, mae cyferbyniad llwyr o hyd yng nghyfraddau presenoldeb ysgolion rhwng ardaloedd cymharol gefnog fel Llandeilo Ferwallt a Phennard, gyda phresenoldeb o dros 96 y cant, ac ardaloedd llai cefnog fel Townhill a Mayhill, lle mae'r cyfraddau presenoldeb oddeutu 91 y cant.

Mae Estyn wedi gwneud argymhellion yn gyson i'r perwyl fod angen i awdurdodau lleol greu cysylltiadau cryf rhwng ysgolion a gwasanaethau cynnal, gan gynnwys grwpiau cymunedol, gwasanaethau cymdeithasol a'r gwasanaeth lles addysg, a all yn amlwg gynorthwyo i gefnogi ac ymgysylltu â theuluoedd sy'n agored i niwed. Fodd bynnag, nid yw presenoldeb wedi cyrraedd y lefel y byddem yn ei hoffi mewn rhai ysgolion o hyd. A ydych yn derbyn bod hwn yn faes sydd angen sylw ychwanegol ac adnoddau ychwanegol, a pha gamau rydych yn eu cymryd i sicrhau nad yw plant yn rhannau tlotaf Abertawe yn parhau i ddioddef yn hyn o beth?

Rydych yn llygad eich lle, Dai, i dynnu sylw at duedd nid yn unig yn Abertawe ond ledled Cymru, fod mwy o dueddiad tuag at absenoldeb mewn ysgolion sy'n gweithio gyda'n cymunedau mwyaf difreintiedig. Mae deall anghenion dysgwyr unigol a darparu'r gefnogaeth gywir ar yr adeg gywir i sicrhau eu bod yn mynychu'r ysgol yn gallu gwneud byd o wahaniaeth. Fel yr amlinellwch yn hollol gywir, bydd presenoldeb rheolaidd yn yr ysgol yn cael effaith ddramatig ar allu'r plentyn i gael y gorau o addysg a chyflawni ei botensial.

Un ffordd rydym yn edrych arni i gefnogi hyn yw drwy elfen fwyaf newydd ein grant datblygu disgyblion, yr elfen fynediad, sydd wedi'i chyflwyno i gynorthwyo rhieni a gofalwyr yn uniongyrchol gyda rhai o gostau'r diwrnod ysgol, a allai fod yn rheswm pam fod plant yn teimlo na allant fynd i’r ysgol weithiau, boed hynny oherwydd nad oes ganddynt wisg ysgol gywir neu oherwydd nad oes ganddynt y cit cywir, yr offer ysgol cywir, a gallai hynny fod yn rhwystr go iawn iddynt rhag mynychu’r ysgol.

Rydym wedi gweithio gyda Plant yng Nghymru hefyd i gynhyrchu canllawiau i ysgolion ynglŷn â gwybod sut y gall penderfyniadau y gall ysgol eu gwneud ddylanwadu ar blentyn sy'n dod i'r ysgol. Felly, er enghraifft, er bod llawer o gyfleoedd i'w cael o ddathlu Diwrnod y Llyfr, gall y pwysau ar riant i ddarparu gwisg ar gyfer eu plentyn olygu na fydd y plentyn yn mynd i’r ysgol y diwrnod hwnnw. Felly, gall bod yn ymwybodol o rai o'r penderfyniadau hyn a sut y mae'r ysgol yn trefnu ei hun wneud gwahaniaeth sylweddol. Nid yw hynny'n golygu na all ysgolion fod yn greadigol. Yn ddiweddar, ymwelais ag ysgol yn etholaeth Ogwr sy'n chwarae rhan lawn yn Niwrnod y Llyfr—mae ganddynt gwpwrdd dillad yn llawn o wisgoedd y gall plant ddod i'r ysgol a dewis o'u plith fel nad ydynt yn teimlo bod angen iddynt gael eu heithrio o'r gweithgareddau hynny. Felly, mae angen i ysgolion, awdurdodau lleol, yn ogystal â Llywodraeth Cymru, fod yn ymwybodol o'r rhwystrau a chydweithio i'w chwalu.

14:20
2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Mae'r cwestiynau nesaf, felly, i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Jayne Bryant. 

Y Defnydd o'r Celfyddydau i Wella Iechyd a Lles

1. A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r defnydd o'r celfyddydau i wella iechyd a lles mewn lleoliadau gofal cymdeithasol? OAQ55095

Gall mentrau'n seiliedig ar y celfyddydau chwarae rhan bwysig yn gwella canlyniadau iechyd a llesiant pobl mewn lleoliadau gofal. Dyna pam ein bod yn cefnogi prosiectau sy'n seiliedig ar y celfyddydau, gan gynnwys drwy'r gronfa gofal integredig a rhaglen heneiddio'n iach Age Cymru.

Diolch, Ddirprwy Weinidog. Mae'r grŵp trawsbleidiol ar gelfyddydau ac iechyd a gadeirir gennyf wedi bod yn edrych ar feysydd ymarfer da o amgylch Cymru. Yn ein cyfarfodydd, rydym wedi gweld enghreifftiau arloesol o sut y mae gweithgareddau celfyddydol yn cael eu darparu mewn lleoliadau gofal cymdeithasol ledled Cymru i wella llesiant corfforol a meddyliol pobl. Un enghraifft o'r fath oedd rhaglen chwe blynedd Age Cymru, cARTrefu. Ei nod yw gwella mynediad at brofiadau celfyddydol o ansawdd i bobl hŷn mewn gofal preswyl. Mae artistiaid yn cyflwyno sesiynau creadigol wythnosol gyda phreswylwyr, staff ac aelodau o'r teulu dros wyth i 12 wythnos, gan ysbrydoli ac ailgynnau angerdd am greadigrwydd. Ers 2015, mae bron i 2,000 o sesiynau dwy awr wedi cael eu darparu mewn dros 25 y cant o'r cartrefi gofal ledled Cymru, sy’n golygu mai hwnnw yw’r prosiect mwyaf o'i fath ar draws Ewrop.

Wrth i'r galw ar wasanaethau gofal cymdeithasol ledled Cymru barhau i gynyddu, a chyda dealltwriaeth gynyddol o bwysigrwydd y celfyddydau i iechyd a llesiant, mae cefnogi ac ehangu prosiectau fel cARTrefu yn bwysig. A wnaiff y Dirprwy Weinidog edrych ar yr ymarfer da sy'n digwydd a sut y gellir ymgorffori'r gwaith hwn yn briodol yn ein lleoliadau gofal? Hoffwn estyn gwahoddiad i'r Dirprwy Weinidog fynychu un o'n grwpiau trawsbleidiol i glywed am beth o'r gwaith cydweithredol rhagorol sy'n digwydd.

Hoffwn ddiolch i Jayne Bryant am ei chwestiwn ac am ei gwaith yn y grŵp trawsbleidiol ar y celfyddydau ac iechyd. Roeddwn yn aelod o'r grŵp hwnnw ac rwy'n gwybod am y gwaith pwysig y mae'n ei wneud a pha mor bwysig yw'r celfyddydau i iechyd, a buaswn yn falch iawn o ddod i un o'r cyfarfodydd.

Yn amlwg, un o'r heriau i alluogi'r celfyddydau i ddigwydd mewn lleoliadau gofal cymdeithasol yw cost, ac rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi rhaglen heneiddio'n iach Age Cymru. Ddoe, cyhoeddais y strategaeth unigrwydd ac arwahanrwydd, sy’n ymrwymo Llywodraeth Cymru i weithio gyda Chyngor Celfyddydau Cymru i barhau i godi ymwybyddiaeth o’r manteision iechyd a llesiant sy’n deillio o gymryd rhan yn y celfyddydau, ac mae hyn yn amlwg mor bwysig mewn lleoliadau gofal cymdeithasol. Ac ar ben hynny, bydd Cyngor Celfyddydau Cymru'n archwilio'r rôl y gall celfyddydau ar bresgripsiwn ei chwarae, yn enwedig wrth atal unigrwydd ac arwahanrwydd.

A hoffwn gloi, a dweud y gwir, drwy ddweud fy mod yn ymwybodol o'r rôl y mae Jayne Bryant yn ei chwarae wrth gefnogi'r celfyddydau yn y gymuned o fy ymweliad ag adeiladau Derwen Pobl, a chyfarfod â'r Reality Theatre ddoe.

Ddirprwy Weinidog, mae cymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol yn grymuso pobl sy'n byw gyda dementia ac yn cyfoethogi bywyd iddynt hwy a'r rhai sydd o'u cwmpas. Mae'r elusen, Arts 4 Dementia, yn helpu i ddatblygu gweithgareddau mewn lleoliadau celf i fywiogi ac ysbrydoli pobl yng nghamau cynnar dementia a'u gofalwyr fel bod y rhai sydd ei angen yn gallu dod o hyd i ysgogiad artistig ar ffurf celf o'u dewis yn agos at ble maent yn byw. Ddirprwy Weinidog, pa gefnogaeth ac anogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn eu darparu i sefydliadau fel Arts 4 Dementia i alluogi pobl sy'n byw gyda dementia yng Nghymru i fyw bywydau mwy cyflawn ac egnïol am gyfnod hwy yn eu cartref ac yn y gymuned y maent yn byw ynddi?

Diolch i Mohammad Asghar am y cwestiwn hwnnw, a chredaf ei fod yn gwneud pwynt pwysig iawn—pa mor bwysig yw hi i bobl â dementia fyw mor agos at eu cartrefi â phosibl a chael cyfle i elwa o'r celfyddydau. Fe fydd yn ymwybodol o gynllun gweithredu Cymru ar gyfer dementia rhwng 2018 a 2022, sy'n nodi ein gweledigaeth i Gymru fod yn genedl sy'n deall dementia ac sy'n cydnabod hawl pobl â dementia i fyw mor annibynnol â phosibl. Drwy roi'r cynllun ar waith, rydym yn ceisio datblygu dulliau cymunedol a fydd yn darparu mwy o gyfleoedd i bobl yr effeithir arnynt gan ddementia i gymryd rhan mewn gweithgareddau, gan gynnwys cyfranogi mewn diwylliant a'r celfyddydau. Rwyf bob amser yn cofio, wrth feddwl am faes dementia a'r celfyddydau, am waith gwych y corau Forget-me-Not, y gallai'r aelod fod wedi eu mynychu, lle mae rhywun â dementia a'u gofalwr ill dau'n cymryd rhan yn y canu ac mae'r person sy'n dioddef o ddementia yn cofio geiriau'r hen ganeuon er nad yw, o bosibl, yn gallu cyfathrebu mewn unrhyw ffordd arall. Felly, rwy'n credu bod grym enfawr yn y celfyddydau i helpu pobl â dementia.

14:25
Gwasanaethau Mân Anafiadau

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau mân anafiadau yng ngogledd-ddwyrain Cymru? OAQ55077

Gwnaf. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi sefydlu grŵp ar draws y bwrdd iechyd i asesu cwmpas gwasanaethau mân anafiadau ledled gogledd Cymru er mwyn sicrhau bod safoni'n digwydd a lleihau'r pwysau ar adrannau achosion brys prysur yng ngogledd Cymru.

Diolch yn fawr, Weinidog. Mae ymgyrch Dewis Doeth Llywodraeth Cymru yn annog pobl yn briodol i ddefnyddio adrannau damweiniau ac achosion brys yn ôl yr angen yn unig. Mae hefyd yn eu helpu i ddewis ac yn eu cynghori i ddewis gwasanaethau gofal iechyd eraill lle bo hynny'n briodol, megis y rhai a ddarperir gan fferyllfeydd cymunedol, meddygfeydd meddygon teulu neu wasanaethau mân anafiadau. Lywydd, byddai uned mân anafiadau yn ysbyty Glannau Dyfrdwy yn fy etholaeth i yn helpu fy nhrigolion i i ddewis yn ddoeth, yn yr un ffordd ag y byddai sicrhau bod meddygfeydd yn cael eu staffio'n llawn ac ar agor yn ystod oriau hygyrch ar draws fy etholaeth. Felly, Weinidog, a wnewch chi bopeth yn eich gallu i sicrhau bod y bwrdd iechyd yn ystyried y cais hwn am uned mân anafiadau yng Nglannau Dyfrdwy yn briodol, ac yn edrych hefyd ar wella darpariaeth meddygon teulu ar draws Alun a Glannau Dyfrdwy?

Ie, rwy'n ymwybodol. A dweud y gwir, mae'r Aelod wedi manteisio ar y cyfle i godi'r mater hwn gyda mi yn y gorffennol ac mae'n gwneud hynny eto, fel y dylai. Mae gwaith eisoes yn mynd rhagddo yng ngogledd Cymru i adolygu'r ddarpariaeth mân anafiadau, fel y dywedais. O fewn y ddwy flynedd ddiwethaf, cafwyd tua 20,000 o achosion o fân anafiadau yn adran achosion brys Ysbyty Maelor Wrecsam—nifer sylweddol o bobl yn mynd yno. Mewn gwirionedd, maent wedi rhoi cymorth ychwanegol, mewn ymarfer cyffredinol yn ogystal â chymorth uwch-ymarferwyr nyrsio yn Wrecsam o ddechrau mis Tachwedd y llynedd. Rwy'n credu bod rhan o'r daith hon yn ymwneud â deall beth y mae hynny'n ei olygu o ran lleddfu pwysau, yn ogystal â chadw meddwl agored am y problemau y mae'r Aelod yn eu codi, boed yng Nglannau Dyfrdwy neu mewn ardal arall sy'n berthnasol, ac mae hynny'n cael ei ystyried fel rhan o'r adolygiad. Felly, rwy'n glir iawn mai'r adolygiad yw'r peth iawn i'w wneud, a bod angen ymgysylltu â chynrychiolwyr lleol hefyd, fel yr Aelod, i gael sgwrs agored ynglŷn â'r data a'r wybodaeth sydd ganddynt ac unrhyw ddewisiadau posibl a wnânt i sicrhau bod hwn yn wasanaeth llawer mwy hygyrch i bobl ar draws gogledd-ddwyrain Cymru.

Yn ôl gwefan Betsi Cadwaladr, credaf fod pum uned mân anafiadau wedi'u nodi, ar wahân i unedau damweiniau ac achosion brys, ar draws rhanbarth gogledd Cymru. Yn ffodus i mi, mae un ohonynt yn yr Wyddgrug, ond nid yw'r rhan fwyaf o bobl mor lwcus. Wrth gwrs, yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru, caeodd Betsi Cadwaladr bump arall yn 2013—Bae Colwyn, Rhuthun, Llangollen, y Fflint a'r Waun—er gwaethaf ymgyrchoedd lleol i'w cadw ac er gwaethaf sawl rhybudd y byddai hynny'n rhoi pwysau ychwanegol ar ein hadrannau damweiniau ac achosion brys a'n meddygfeydd meddygon teulu. Wrth gwrs, dyna'n union a ddigwyddodd. Felly, o ystyried eich sylwadau ychydig funudau yn ôl, pa ystyriaeth rydych yn ei rhoi i adfer unedau mân anafiadau o bosibl i'r cymunedau a'u collodd neu i gymunedau eraill gerllaw?

Wel, rwy'n credu fy mod wedi trafod y pwynt hwnnw i bob pwrpas wrth ymateb i gwestiwn Jack Sargeant. Yn yr adolygiad sy'n cael ei gynnal i ystyried lleoliadau eraill, mae'r her yn ymwneud â mwy na faint o leoliadau y gallai pobl fod eisiau eu cael, mae'n ymwneud mewn gwirionedd â lle mae'r angen, yn gymharol, ond hefyd y gallu i staffio'r rheini'n briodol, oherwydd os ydych am gael gwasanaeth mân anafiadau digonol ar ei ben ei hun, rydych angen y nifer gywir o nyrsys yn arbennig, ac ymarferwyr nyrsio brys ynghyd â'r gallu i fuddsoddi yn y gweithlu uwch-ymarferwyr nyrsio hefyd. Felly, mae'n golygu mwy na rhoi pin mewn map a dweud, 'Dyna'r lleoliad.' Mae'n ymwneud â chael cynllun priodol i gyrraedd y pwynt hwnnw, gyda strategaeth ar gyfer y gweithlu i allu ei gyrraedd, ac i fodloni'r galw a'r angen rydym yn ei gydnabod yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Fel y dywedais, dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gwelwyd 20,000 o achosion o fân anafiadau yn Wrecsam ym mhob un o'r ddwy flynedd galendr ddiwethaf.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch, Lywydd. Weinidog, anhwylder metabolig genetig prin iawn yw ffenylcetonwria, a alwn yn PKU oherwydd ei fod yn llawer haws, sy'n effeithio ar oddeutu un o bob 10,000 o bobl yn y DU. Nid yw cleifion sy'n byw gyda PKU yn gallu metaboleiddio ffenylalanin, sef asid amino a welir yn y proteinau yn eich ymennydd. Ac rydych yn cael eich geni gyda'r cyflwr, a chyn gynted ag y cewch eich geni, os na fyddwch yn dechrau rheoli lefelau'r protein, gall arwain at niwed difrifol i'r ymennydd, gan effeithio ar weddill eich bywyd. Un o'r ffyrdd y gellir trin yr anhwylder hwn yw drwy fwyta deiet cyfyngedig iawn. Nawr, mae'r gymdeithas genedlaethol ar gyfer dioddefwyr ffenylcetonwria wedi cyflwyno nifer o argymhellion i helpu i wella bywydau dioddefwyr PKU, ac un ohonynt yw y dylai pawb sydd â PKU gael eu monitro mewn gwasanaeth metabolig, integredig, arbenigol dan arweiniad meddyg a deietegydd profiadol. Felly, Weinidog, tybed a fyddech yn rhoi rhywfaint o ystyriaeth i fabwysiadu'r argymhelliad hwn, oherwydd, er bod y niferoedd yn fach, mae'n effeithio ar grŵp sylweddol o bobl yng Nghymru, a gall effeithio'n hirdymor ac yn ddifäol iawn ar eu bywydau os nad ydynt yn cael cydbwysedd y deiet yn gywir.

14:30

Diolch am gwestiwn yr Aelod, ac rwy'n credu ei bod yn gadarnhaol ein bod yn sôn am rai o'r cyflyrau prinnach sy'n bodoli. Mae nifer o Aelodau ar draws y Siambr wedi dangos diddordeb yn hyn. Gwn fod fy nghyd-Aelod ar y chwith, y Trefnydd, yn ystod ei hamser ar y meinciau cefn, wedi dangos diddordeb arbennig mewn clefydau a chyflyrau prin, ac mewn gwirionedd, ar y mater penodol hwn, gwn fod David Rees, yr Aelod dros Aberafan, a'r Cwnsler Cyffredinol yn ei rôl fel yr Aelod dros Gastell-nedd, wedi cael etholwyr yn mynegi pryderon ynghylch y gallu i ddarparu rhywbeth digonol i'w helpu i wneud dewisiadau.

Ac mae'r pwynt am ddeiet yn un da. Felly, mae her ynglŷn â'r hyn y gallwn, y gallem ac y dylem ei ddarparu, ynghyd â'r gweithlu i wneud hynny, a buddsoddi i sicrhau'r nifer iawn o ddeietegwyr, oherwydd mae'r drefn sy'n rhaid i bobl ei dilyn i ganiatáu iddynt wneud dewisiadau eraill yn eu bywydau yn un eithaf llym. Felly, rwy'n fwy na bodlon i fy swyddogion a'r Llywodraeth, a'r gwasanaeth iechyd yn wir, ymgysylltu â chymdeithas y PKU i siarad am yr hyn sy'n bosibl, ac yn yr un modd, lle mae'n bosibl darparu hynny, ac mae'n ddigon posibl y bydd yn golygu bod angen inni wneud dewisiadau gwahanol ynghylch buddsoddi mewn hyfforddiant ar gyfer ein gweithlu yn y dyfodol.FootnoteLink

Wel, diolch am hynny, oherwydd mae'n ateb eithaf cadarnhaol mewn gwirionedd. Fi yw cadeirydd presennol y grŵp trawsbleidiol ar glefydau prin ac amddifad yma, a chefais sioc mewn gwirionedd pan gyfarfûm â grŵp cyfan o bobl gyda PKU, oherwydd nid dim ond—. Credaf ichi ei galw'n 'drefn eithaf llym'. Dychmygwch dreulio eich bywyd cyfan yn byw ar gawl a diodydd, gyda'r anfantais ychwanegol eu bod, mae'n debyg, yn blasu'n ffiaidd. Cefais gynnig sampl; fe wrthodais mewn gwirionedd, oherwydd gallwn ei arogli cyn i mi fynd yn agos ato. Ac nid yn unig hynny. Roedd y bobl hyn yn dangos i mi, pobl â'r cyflwr, os ydynt yn bwyta darn o gaws—yn llythrennol, unwaith yr wythnos, gallant gael darn o gaws, sydd tua centimedr wrth gentimedr wrth gentimedr. Ac wrth gwrs, mae'n cael effaith enfawr ar eu hiechyd a'u llesiant meddyliol hefyd wrth iddynt dyfu'n hŷn, yn enwedig pobl yn eu harddegau, oedolion ifanc yn mynd allan, yn cael bywyd cymdeithasol, yn dymuno bod yn rhan o gymdeithas normal ac yn methu ymuno â'r peint yn y dafarn, y pizza yn y tecawê lleol, neu beth bynnag y bo.  

A'r peth brawychus arall a welais oedd bod yn rhaid i'r babanod gael llaeth arbenigol ar ôl cael eu geni, ac yn aml nid yw'r llaeth hwnnw ar gael gan y GIG, mae'n hynod o ddrud ac yn waeth na dim, mae'n anodd iawn ei gael. Nawr, Weinidog, os yw hwn yn rhywbeth angenrheidiol i fywyd a llesiant hirdymor rhywun—. A wnewch chi ofyn i'ch swyddogion edrych ar y sefyllfa o ran y cyflenwad? Oherwydd mae gwrthod y bwyd cywir i faban o'r foment y mae'n cael ei eni, lle mae rhieni'n ei chael hi'n anodd naill ai i fforddio'r llaeth cywir, y llaeth synthetig hwn sy'n cael ei greu, neu'n methu cael gafael arno hyd yn oed—oherwydd ni allwch ei archebu ar Amazon neu beth bynnag—yn wirioneddol frawychus, oherwydd bydd y plentyn ifanc hwnnw'n datblygu lefelau uchel o asidau amino, ac wrth gwrs, yn fwy hirdymor, bydd angen mwy a mwy o gymorth gan y wladwriaeth. Felly, mae angen inni eu cadw mor iach â phosibl. Ac mae yna rywbeth mor annheg hefyd ynglŷn â chael babi bach hollol hyfryd a methu cael y bwyd sydd ei angen arno i gael bywyd cystal ag y gall ei gael.  

Rwy'n fwy na pharod i gael y sgwrs rwyf wedi'i chynnig gyda swyddogion yn y gwasanaeth iechyd i gynnwys y mater penodol hwn ynghylch cyflenwad llaeth cynnar hefyd. Ac rwy'n credu bod yna rywbeth am—. Croeso i'r Aelod ddewis a hoffai ysgrifennu ataf yn rhinwedd ei swydd fel llefarydd ei phlaid, neu yn rhinwedd ei rôl fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol. Rwy'n hapus i ymgysylltu y naill ffordd neu'r llall, ond buaswn eisiau gallu rhannu gwybodaeth, oherwydd gwn fod gan Aelodau eraill yn y lle hwn, ar draws y pleidiau, ddiddordeb yn y mater hefyd.

Iawn. Felly, hoffwn i chi gyflawni un wyrth arall, ac mae'n ymwneud â chyffur o'r enw Kuvan. Nawr, mae Kuvan, i bobl gyda PKU fel Orkambi i bobl â chyflyrau eraill. Nawr, rydym wedi bod yn aros ers 12 mlynedd i'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal fynd i'r afael o ddifrif â Kuvan. Yn gynharach y mis hwn, galwodd Jeremy Hunt, y cyn Ysgrifennydd iechyd, ar Matt Hancock, deilydd presennol y swydd, i ddefnyddio'r un swyn i sicrhau mynediad at Kuvan ag y defnyddiodd i roi sêl bendith i Orkambi ar gyfer ffeibrosis systig. Ac mae dioddefwr PKU yn Lloegr ar hyn o bryd wedi cyflwyno her gyfreithiol yn erbyn y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal. Mae'n gostus, ond byddai'n gwneud gwahaniaeth dramatig i fywydau'r dyrnaid bach o bobl sydd â'r cyflwr ofnadwy hwn. Weinidog, rydych bob amser yn dweud eich bod eisiau i'r GIG yng Nghymru ddilyn llwybr gwahanol, rydych yn ymdrechu i geisio bod yn llawer mwy cynhwysol, ac yn eich barn chi, yn decach. A wnewch chi wneud ymdrech go iawn ar hyn, ac a fyddech yn ystyried ceisio ei symud fel y gellir rhoi'r cyffur hwn, sydd ar gael yn holl wledydd yr Undeb Ewropeaidd heblaw am Wlad Pwyl—rwyf am ddiystyru Gwlad Pwyl—a'r DU, ar bresgripsiwn i gleifion yma yng Nghymru? Niferoedd bach—ond ni allwn anwybyddu'r cyflyrau a'r clefydau prin ac amddifad oherwydd nad oes llu o bobl sydd eu hangen. Ac rydych wedi'i brofi gydag Orkambi; gadewch i ni wneud yr un peth gyda Kuvan, os gwelwch yn dda.

14:35

Wel, rwy'n gwybod am Kuvan yn fras—mae'n fater rwyf wedi'i weld mewn rhywfaint o'r ohebiaeth rwyf wedi'i chael—ond nid wyf yn credu y gallwn ymrwymo i benderfynu ar ganlyniad. Fodd bynnag, os yw'r gweithgynhyrchwyr eisiau cyflwyno arfarniad drwy ein proses arfarnu ein hunain—Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru—maent yn rhydd i wneud hynny. Rwy'n credu bod yr her sy'n ymwneud â Jeremy Hunt yn galw ar Matt Hancock i wneud rhywbeth yn dweud rhywbeth wrthoch chi am y perygl o gael cyn Weinidogion ar feinciau cefn. Ond llwyddwyd i gael Orkambi, nid drwy swyn, ond drwy sgwrs galed, fasnachol, oherwydd nid oedd gweithgynhyrchwyr y cyffur hwnnw'n barod i symud cyn yr ymgyrch hir, niweidiol ac annymunol iawn a gafwyd—ymgyrch a niweidiodd nifer o deuluoedd yn y broses yn fy marn i—i newid y cynnig roeddent yn barod i'w wneud i'r gwasanaeth iechyd gwladol mewn gwirionedd.

Ac nid mewn perthynas ag un math penodol o feddyginiaeth yn unig y mae hon yn broblem. Mae'n eithaf cyffredin, nid yn unig ar gyfer triniaethau newydd at gyflyrau mwy cyffredin, os mynnwch, ond yn sicr at gyflyrau mwy anghyffredin hefyd. Ac mewn gwirionedd, yn y gronfa triniaethau newydd, lle rydym yn dathlu tair blynedd o wneud gwahaniaeth go iawn, mae llawer o'r triniaethau a gyflwynir yn rhai ar gyfer cyflyrau prin—cyflyrau prin sydd bellach yn cael eu cefnogi oherwydd bod arfarniad gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal. Ac yn aml, mae'n ymwneud â'r gost gychwynnol honno i fyrddau iechyd, lle ceir her y mae'r gronfa triniaethau newydd yn helpu gyda hi i sicrhau bod y driniaeth ar gael yn fwy eang o fewn y gwasanaeth. A byddwn yn wynebu'r her hon yn y dyfodol gyda therapïau uwch hefyd. Felly, rwy'n fwy na hapus os yw'r Aelod eisiau ysgrifennu ataf, a byddaf yn onest ynglŷn â lle rydym arni yn y broses arfarnu a'r pethau y gallwn eu gwneud ac rydym yn barod i'w gwneud yma yng Nghymru. Ac rwy'n fwy na bodlon cynnal y lefel honno o onestrwydd gyda hi, o fewn y Siambr a thu hwnt.

Ai polisi Llywodraeth Cymru o hyd yw y dylai fod gan Gymru lai o adrannau damweiniau ac achosion brys, fel y gellir canolbwyntio staff ar lai o safleoedd—ie neu na?

Mae'n bolisi gan Lywodraeth Cymru y dylid darparu gofal mor agos i gartref â phosibl. Ac mae cydnabyddiaeth y bydd hynny, yn achos rhai gwasanaethau, yn golygu llai o ganolfannau arbenigol. Ond o ran unrhyw bwynt penodol ynglŷn â faint o adrannau achosion brys a allai neu a ddylai fod, nid oes gan Lywodraeth Cymru ffigur hud mewn golwg ynglŷn â nifer yr adrannau a allai neu a ddylai fod. Mae'r rhain yn gwestiynau anodd, sy'n dibynnu ar angen y boblogaeth, yn ogystal ag ar ein gallu i recriwtio'r niferoedd cywir o staff i ddarparu'r gwasanaeth cywir y mae pobl yn ei ddisgwyl, a hynny'n briodol.

A ydych yn cytuno â'r hyn a ddywedodd y Prif Weinidog ddoe, sef mai meddygon a ddylai wneud y penderfyniad ynghylch dyfodol yr adran ddamweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg?

Wel, mae'r penderfyniad a wnaed am ddyfodol Ysbyty Brenhinol Morgannwg, y byddwn yn ei drafod yn nes ymlaen heddiw, yn un lle mae gan y bwrdd iechyd gyfrifoldeb i wneud dewis. Mae angen iddynt wrando ar eu gweithlu meddygol ac ymgysylltu â hwy i ddeall yr hyn y mae meddygon yn ei ddweud am ddiogelwch y gwasanaeth hwnnw. Mae honno'n her yn y tymor byr ac yn y tymor hwy. Ond mae ganddynt gyfrifoldeb hefyd wrth gwrs i wrando ar y cyhoedd. Ac nid yw hynny'n ymwneud yn unig â niferoedd y bobl sy'n gysylltiedig â hyn ac sy'n wirioneddol bryderus am ddyfodol gwasanaethau. Mae'n rhaid iddynt allu gwrando ar y pryderon hynny, yr ofnau hynny—oherwydd, mewn gwirionedd, efallai na fydd y bwrdd iechyd eu hunain yn gwybod popeth am yr effaith uniongyrchol ar y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, yr heriau ynghylch mynediad, ynghylch tegwch—a gallu gwrando ar yr hyn y mae'r cyhoedd yn ei ddweud ac ymateb i hynny wrth ddarparu unrhyw ateb ar gyfer y dyfodol. Ac wrth gwrs, rwy'n disgwyl i aelodau'r cyhoedd, a'u cynrychiolwyr etholedig hefyd, ofyn y cwestiynau hynny. Ac rwy'n disgwyl i'r cwestiynau hynny gael eu hateb, mewn ffordd sy'n wirioneddol agored a thryloyw, am unrhyw ddewis y mae'r bwrdd iechyd yn ei wneud o ran darparu'r math o wasanaeth diogel o ansawdd uchel y mae gan bobl ym mhob rhan o Gymru hawl i'w ddisgwyl.

Rwy'n cytuno â chi y dylid gwrando ar y cyhoedd. Mae'n drueni mawr na wrandawyd ar y 60,000 o ymatebion i'r ymgynghoriad a gynhaliwyd ar raglen de Cymru yn ôl yn 2014.

Weinidog, gallaf ddatgelu, y prynhawn yma, fod y mwyafrif llethol o'r meddygon ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, wedi cytuno yn ystod y ddwy awr ddiwethaf, mewn cyfarfod, y dylid parhau i ddarparu gwasanaeth damweiniau ac achosion brys 24 awr llawn yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Nawr, rydych chi a'r Prif Weinidog wedi dweud bod angen i'r penderfyniad hwn gael ei arwain gan feddygon. Yng ngoleuni barn y meddygon hynny, a wnewch chi ymrwymo yn awr i adfer yr adran ddamweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg a gwarantu ei dyfodol hirdymor?

14:40

Wel, mewn gwirionedd, mae'r bwrdd iechyd ei hun wedi egluro yn y datganiad a wnaethant ddoe nad oes ganddynt ateb terfynol i'r hyn a ddylai ddigwydd. Fodd bynnag, mae ganddynt her anochel ynghylch diogelwch y gwasanaeth hwnnw yn y dyfodol, a hynny am fod y meddyg ymgynghorol parhaol olaf yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn gadael ar ddiwedd mis Mawrth. Nawr, ni allwch anwybyddu realiti'r hyn y mae hynny'n ei olygu i ddiogelwch y gwasanaeth yn y dyfodol. Ac i'r holl bobl sydd, yn ddealladwy—yn y Siambr hon a thu allan—eisiau gweld adran ddamweiniau ac achosion brys 24 awr dan arweiniad meddyg ymgynghorol yn parhau yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, rhaid gosod hynny yn erbyn realiti eu gallu neu eu hanallu i recriwtio staff i ddarparu'r gwasanaeth hwnnw'n ddiogel ac yn effeithiol—

A'r broblem—y broblem sy'n ein hwynebu ni i gyd yw, os na allwn recriwtio'r nifer iawn o feddygon ymgynghorol parhaol i ddarparu'r gwasanaeth hwnnw, ni fyddwn yn gallu gwneud hynny. Ac nid yw'n fater o ddweud yn syml mai rhaglen de Cymru sydd ar fai. Nid yw hynny'n datrys y broblem. Ni fyddai ond yn osgoi'r broblem rydym yn ei hwynebu, ac mewn gwirionedd, rydym i gyd yn gwybod, os ydych yn anwybyddu pryderon diogelwch mewn perthynas â staff, mewn perthynas â'r bobl sy'n darparu'r gofal hwnnw—os ydych yn methu mynd i'r afael â'r her honno—fe fyddwch yn darparu gwasanaeth anniogel yn y pen draw, bydd niwed yn cael ei achosi, a bydd pobl yn dweud, a hynny'n gwbl briodol, 'Pam na wnaethoch chi rywbeth yn ei gylch? Pam na wnaeth y bwrdd iechyd rywbeth yn ei gylch?'

Ac nid yw'n gwestiwn o faint o ymdrech a wneir i recriwtio. Mae meddygaeth frys yn faes ymarfer sy'n brin o staff. Mae yna heriau ar draws y Deyrnas Unedig. Nid yw hon yn sefyllfa sy'n unigryw i un rhan o Gymru. Ac rwy'n deall pam fod gan bobl deimladau cryf, ac nid wyf yn gofyn i bobl roi eu teimladau o'r neilltu nac osgoi'r heriau sy'n bodoli. Ond rwyf eisiau inni gael dadl onest am yr heriau gwirioneddol rydym yn eu hwynebu a pheidio â cheisio esgus i ni'n hunain nac i neb arall fod yna ateb hawdd—sef na fyddai'r holl heriau'n bodoli pe bai pobl ond yn ymdrechu'n galetach.

Diolch, Lywydd. Weinidog, ychydig ddyddiau'n ôl, roeddem yn nodi Diwrnod Amser i Siarad yma yng Nghymru, gyda'r nod o sicrhau ein bod, fel cenedl, yn siarad am ein hiechyd meddwl, ond yn bwysicach, yn helpu i newid agweddau a chael gwared ar y stigma sy'n dal i fodoli ynghylch iechyd meddwl, ac er ein bod wedi gwneud rhywfaint o gynnydd, yn anffodus nid yw'n ddigon.

Mae'r arolwg blynyddol o'r boblogaeth yn rhestru Cymru y tu ôl i holl wledydd eraill y DU mewn perthynas â mesurau llesiant meddyliol. Bydd un o bob pedwar ohonom yn dioddef salwch meddwl, ond eto mae 90 y cant o bobl wedi cael eu trin yn negyddol oherwydd bod ganddynt broblemau iechyd meddwl. Weinidog, beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i annog agweddau mwy cadarnhaol tuag at faterion iechyd meddwl er mwyn cael mwy ohonom i siarad am ein problemau iechyd meddwl ein hunain er mwyn chwalu rhwystrau?

Wel, fel y gwyddoch, rydym yn parhau i ariannu ymgyrch Amser i Newid Cymru yn rhannol. Mae'r ymgyrch honno wedi gwneud gwahaniaeth mewn gwirionedd o ran perswadio pobl i siarad yn fwy agored ac i ddeall heriau iechyd meddwl yn well, oherwydd mae bron bob un ohonom, os nad ydym wedi wynebu her iechyd meddwl ein hunain, yn adnabod rhywun sydd wedi gwneud hynny. Nid yw hon yn her nac yn broblem anghyffredin. Felly, mae'n ymwneud â mwy nag ariannu'r ymgyrch; mae'n ymwneud â'r ffordd rydym yn gwneud dewisiadau a'r ffordd rydym yn ymddwyn.

Ac yn wir, yn ystod tymor diwethaf y Cynulliad, siaradodd Aelodau o bob plaid yn y Siambr, ar yr adeg honno, am eu heriau eu hunain. Ac rwy'n credu bod honno'n foment wirioneddol bwysig i'r lle hwn, y ffaith bod cynrychiolwyr etholedig wedi siarad yn agored am yr her sy'n eu hwynebu, a'u bod wedi mynd ymlaen i gyflawni er gwaethaf hynny. Ac mae yna her yma ynglŷn â chydnabod nad yw cael cyflwr iechyd meddwl yn golygu bod angen i weddill eich bywyd ddod i stop. Nid ydym yn dweud hynny pan fydd pobl yn wynebu heriau iechyd corfforol chwaith, ac mae'n ymwneud â sgwrs lawer mwy agored a chydymdeimladol. Ond newid diwylliannol yw hwn. Mae'r Llywodraeth yn rhan o arwain y newid hwnnw, ond yn sicr nid yw'r atebion i gyd yn ein dwylo ni.

Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Pan ddaw'n fater o newid agweddau at broblemau iechyd meddwl, mae'n rhaid inni arwain drwy esiampl, ac rydym yn sicr wedi gosod esiampl yma yn y Cynulliad, gydag Aelodau'n siarad yn rhydd ac yn agored am eu problemau iechyd eu hunain. Yn anffodus, nid yw'r enghraifft gadarnhaol rydym wedi'i gosod yn treiddio i'r sector cyhoeddus yn ei gyfanrwydd. Yn ddiweddar, bu'n rhaid i mi gynrychioli etholwr oedrannus a oedd yn wynebu cael ei droi allan gan ei gymdeithas dai oherwydd problemau glanweithdra yn ei gartref. Roedd yn rhaid i fy staff nodi bod gan y gŵr bonheddig hwn broblemau iechyd meddwl difrifol, ynghyd â phroblemau iechyd corfforol eraill, ac nad oedd yn cael unrhyw gymorth. Yn yr achos hwn, diolch byth, ni chafodd y tenant ei droi allan ac mae bellach yn cael y cymorth roedd ei angen. Fodd bynnag, pe na baem wedi ymyrryd, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y byddai'r gŵr oedrannus hwn yn cysgu ar y stryd, yn ddigartref. Gwyddom fod problemau iechyd meddwl yn gyffredin ymhlith ein poblogaeth ddigartref. Weinidog, pa ganllawiau y gall Llywodraeth Cymru eu rhoi i lywodraeth leol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig er mwyn codi ymwybyddiaeth o broblemau iechyd meddwl a sicrhau bod pobl â phroblemau iechyd meddwl yn cael y cymorth y maent ei angen, a bod staff yn cael yr hyfforddiant y maent hwythau hefyd ei angen? Diolch.

14:45

Nid un ateb sydd i hyn, oherwydd mewn gwirionedd rydym yn gwybod, ar draws awdurdodau lleol a phartneriaid cymdeithasau tai, fod yna lefel gynyddol o ymwybyddiaeth am heriau iechyd meddwl a straen y mae pobl yn eu hwynebu am amryw o resymau. Mae'n ymwneud â mwy na'r heriau y mae llawer o bobl yn eu hwynebu, er enghraifft, am newidiadau yn y system budd-daliadau; pryder gwirioneddol. Mae pryderon ariannol yn aml yn arwain at heriau iechyd meddwl. Mae'n ymwneud â mwy na'r boblogaeth ddigartref yn unig; mae pobl sy'n byw mewn cartrefi ac sydd â swyddi hefyd yn wynebu rhai o'r un heriau.

Felly, nid oes un ffordd berffaith o edrych ar y sefyllfa, ond rwy'n credu y byddwch yn gweld bod gan gymdeithasau tai yn arbennig ymgyrch genedlaethol sydd wedi'i strwythuro'n dda lle maent yn ceisio codi ymwybyddiaeth ymysg eu haelodau eu hunain a'r sector landlordiaid yn ehangach am yr heriau y mae pobl yn eu hwynebu. Mae'n sgwrs genedlaethol, mae'n digwydd yma yn y Cynulliad, mewn gwasanaethau cyhoeddus, ond hefyd mewn gweithleoedd. Oherwydd rwy'n credu bod angen inni dderbyn, er cymaint rydym eisiau ei gyflawni, fod angen inni sefyll ochr yn ochr â'r cyhoedd i wneud y math o wahaniaeth y mae'r Aelod yn cyfeirio ato.

Therapïau Seicolegol

3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am therapïau seicolegol yng ngogledd Cymru? OAQ55073

Yn ddiweddar, comisiynodd y bwrdd iechyd adolygiad annibynnol o'i ddarpariaeth o therapïau seicolegol fel rhan o'i raglen ei hun ar gyfer gwella. Tynnodd canfyddiadau'r adolygiad sylw at enghreifftiau o arferion cadarnhaol ond gwnaeth nifer o argymhellion ar gyfer gwelliant brys hefyd, ac rwy'n disgwyl i'r rhain gael eu rhoi ar waith fel mater o flaenoriaeth.

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Fel y gwyddoch, rwyf wedi bod yn bryderus iawn o ddarllen casgliadau'r adroddiad hwnnw, ac rwyf wedi'i ddarllen o glawr i glawr. Mae'n sôn am amrywiadau difrifol a di-alw-amdanynt yn y ddarpariaeth, mynediad, arferion a diwylliant ymhlith y rhai sy'n darparu therapïau seicolegol yng ngogledd Cymru. Amseroedd aros annerbyniol o hir mewn rhai ardaloedd; llwybrau nad ydynt yn cael digon o adnoddau ac nad ydynt yn addas i'r diben; diffyg data enfawr; ac ymhlith staff, ymdeimlad o anobaith a diymadferthedd ynglŷn â sut y gallai'r sefydliad wella ei hun.

Mae hynny, i mi, yn gwneud deunydd darllen pur ofnadwy i therapïau seicolegol sefydliad, pan ystyriwn fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi bod yn destun mesurau arbennig ers bron i bum mlynedd. Dywedwyd wrthym pan gafodd ei wneud yn destun mesurau arbennig y byddai ymdeimlad o frys o ran gwella gwasanaethau iechyd meddwl i gleifion yng ngogledd Cymru, a gwn fod hwnnw'n uchelgais rydych chi a minnau'n ei rannu. Mae'r adroddiadau hunanwerthuso a gynhyrchir gan y bwrdd iechyd, ac a adroddir wedyn drwy ei brosesau llywodraethu, gan gynnwys i Lywodraeth Cymru, yn gwbl groes i ganfyddiadau'r adolygiad o therapïau seicolegol.

Hoffwn wybod pa gamau y byddwch yn eu cymryd yn awr fel Gweinidog i sicrhau bod systemau llywodraethu'r bwrdd iechyd yn addas i'r diben; pan fydd adroddiadau fel hyn yn cael eu comisiynu, eu bod yn cael eu rhannu'n brydlon gyda Llywodraeth Cymru, gydag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, a Swyddfa Archwilio Cymru o ystyried y cyngor y maent yn ei roi i chi am fesurau arbennig; ac rwyf eisiau gwybod pa sicrwydd y gallwch ei roi i bobl gogledd Cymru y bydd y materion hyn yn cael eu hunioni'n gyflym iawn, ac na fyddwn yma ymhen pum mlynedd arall yn edrych ar adroddiad tebyg eto.

Rwy'n hapus i gadarnhau rhyw fath o amserlen a all roi rhywfaint o sicrwydd a gwybodaeth i bobl sy'n pryderu. Felly, dechreuodd y bwrdd iechyd gynnal yr adolygiad o fis Ionawr y llynedd. Derbyniwyd yr adroddiad ym mis Medi/Hydref. Roedd i fod i fynd at y bwrdd partneriaeth iechyd meddwl ym mis Medi/Hydref, ond gohiriwyd hynny wedyn yn sgil ymddiheuriadau pan nad oedd pobl yn gallu mynychu'r cyfarfod. Yna, aeth gerbron cyfarfod o'r bwrdd partneriaeth ym mis Tachwedd y llynedd. Ac ar ôl i ddiweddariad llafar gael ei ddarparu yng nghyfarfod ansawdd a diogelwch y bwrdd, roedd yn destun trafodaeth ffurfiol yn y cyfarfod ar ddiwedd mis Ionawr, lle gwnaeth aelodau annibynnol sylwadau ar yr adroddiad a rhoi ystod o fesurau ar waith i weithredu argymhellion.

Bydd y trosolwg a'r cylch gorchwyl ar gyfer y grŵp gorchwyl a gorffen a fydd yn edrych ar hynny'n cael eu trafod a'u cymeradwyo'n agored a'u hadrodd yn ôl i'r pwyllgor ansawdd a diogelwch eu goruchwylio. Felly, mae'n mynd drwy broses y bwrdd. Yn wir, bydd yr adroddiad a'r ymateb i'r argymhellion yn mynd drwy fecanweithiau adrodd terfynol y bwrdd ym mis Mawrth eleni, yn ôl yr hyn a ddeallaf. Felly, mae'n cael ei drafod yn agored. Nid oes unrhyw her i rwystro pobl rhag gweld yr adroddiad a'i rannu, ac ymateb y bwrdd iechyd hefyd wrth gwrs.

Ac o ran y cwestiynau llywodraethu y mae'r Aelod yn eu codi, rydym yn gwybod bod Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, a Swyddfa Archwilio Cymru yn wir, yn adrodd yn rheolaidd ar eu barn ar strwythurau llywodraethu o fewn y bwrdd iechyd ac a ydynt yn gweithio'n effeithiol. Nid wyf yn credu bod yr her arbennig hon—ac mae'n her y mae'r bwrdd iechyd ei hun wedi'i datgelu, o ran gofyn am yr adolygiad ac ymdrin ag ef—yn ffordd deg o geisio disgrifio'r darlun cyfan ar wasanaethau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru. Darperir y darlun cyflawn hwnnw gan ystod o dystiolaeth, a byddaf yn cael y cyngor a dderbyniaf fel arfer gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru, a fy swyddogion yn wir, yn y ffordd arferol, ac edrychaf ymlaen at adrodd yn ôl ar hynny yn y Siambr ar nifer o achlysuron yn y dyfodol.

14:50
Lefelau Staffio

4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefelau staffio mewn lleoliadau gofal iechyd cymunedol? OAQ55071

Dylai nifer a sgiliau timau iechyd a gofal cymunedol amlbroffesiynol gael eu pennu yn ôl angen y boblogaeth leol. Rydym yn disgwyl i fyrddau iechyd, awdurdodau lleol a darparwyr gwasanaethau eraill gynllunio timau amlbroffesiynol wedi'u trefnu o amgylch cymunedau lleol a darparu gofal a chymorth cydgysylltiedig.

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Yn ddiweddar, dywedodd Phil Banfield o Gymdeithas Feddygol Prydain ei bod yn amlwg fod y datblygiadau diweddaraf yn gwaethygu, ac nid yn gwella. Gorffennodd ei sylwadau drwy ddweud, os na roddir sylw difrifol i'r mater, fod 

perygl gwirioneddol y bydd bywydau'n cael eu colli'n ddiangen.

Rhwng y ddau ddatganiad, dywedodd mai'r hyn sy'n bwysig yw bod gwelyau ychwanegol yn cael eu darparu mewn ysbytai, fod mwy o staff yn cael eu rhoi ar y rheng flaen yn y gymuned i leddfu'r pwysau, ac yn ogystal, fod arian ychwanegol yn cael ei ddarparu i'r gwasanaeth iechyd drwy broses y gyllideb.

Nawr, gwyddom fod arian ychwanegol wedi'i ddarparu i'r gwasanaeth iechyd drwy broses y gyllideb. Pa ymrwymiad y gallwch ei roi yng ngoleuni'r sylwadau hyn gan Gymdeithas Feddygol Prydain am staff ychwanegol ac yn bwysig, am welyau ychwanegol yn ein hysbytai, fel nad yw 'bywydau'n cael eu colli'n ddiangen', fel y dywedodd?

Wel, rwy'n credu bod her ynglŷn â lle mae gofod a chapasiti'n cael eu creu yn ein system. Nid yw hynny o reidrwydd yn golygu bod yn rhaid i'r gwelyau fod mewn ysbyty. Os edrychwch chi, er enghraifft, ar gapasiti'r gaeaf, mae wedi cael ei gynyddu; mae gwelyau cyfatebol mewn gofal cymdeithasol. Gwyddom fod rhan fawr o'r pwysau sydd wrth ddrws blaen adrannau damweiniau ac achosion brys ein hysbytai dosbarth cyffredinol yn deillio o'r anallu i gael pobl allan o'r ysbyty ac i'w cartref eu hunain, neu i wely gofal mwy dwys/llai dwys gwahanol.

Rydym wedi colli capasiti mewn gofal cartref, sy'n helpu pobl i ddychwelyd i'w cartrefi eu hunain. Rydym hefyd yn wynebu her go iawn gyda'r sector annibynnol, sy'n darparu'r rhan fwyaf o'n gofal preswyl hefyd. Felly, mewn gwirionedd, bydd cael mwy o sefydlogrwydd yn y rhan honno o'n system gofal yn gwneud gwahaniaeth go iawn i'r gwasanaeth iechyd.

Ond rydym eisoes yn gweithredu ystod o fesurau mewn perthynas â chyfleusterau cymunedol: y buddsoddiad ychwanegol rydym yn ei wneud ym maes nyrsys ardal, bu cynnydd canrannol sylweddol a pharhaus dros y chwe blynedd diwethaf; yr arian ychwanegol rydym yn ei roi tuag at hyfforddiant ymarfer cyffredinol; a'r arian ychwanegol rydym yn ei roi tuag at hyfforddiant fferyllol hefyd.

Rwy'n derbyn nad oeddech yn gallu bod yn bresennol, ond roedd Dr Lloyd, sydd bellach wedi gadael yr ystafell, yn cynnal cyfarfod heddiw ar gyfer lansio achlysur ar weithio amlddisgyblaethol mewn lleoliadau ymarfer cyffredinol, a gynhaliwyd gan y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, ac adroddiad a gymeradwywyd gan Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi, Coleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol a'r Coleg Nyrsio Brenhinol.

Felly, gallwch weld rhai o'r dulliau rydym yn eu mabwysiadu eisoes mewn gwahanol rannau o'r wlad. Fe fyddwch yn parhau i weld y buddsoddiad hwnnw'n cael ei wneud mewn adnoddau staff yn y dyfodol, fel bod mwy o bobl yn gallu derbyn gofal yn nes at adref, ac yn yr un modd, fel ein bod yn cael mwy o bobl allan o'r ysbyty pan nad yw'n lleoliad priodol i'r gofal ddigwydd mwyach, a'u bod yn cael eu cefnogi'n briodol yn eu cartref eu hunain mewn gwely, boed hynny mewn gofal preswyl neu yn eu cartref eu hunain mewn tref neu bentref yng ngweddill y wlad.

Cyfraddau Sgrinio Ceg y Groth

5. Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i wella cyfraddau sgrinio ceg y groth yng Nghymru? OAQ55070

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio i wella cyfraddau sgrinio ceg y groth, yn enwedig ymhlith menywod rhwng 25 a 30 oed, sef y demograffig lle ceir y nifer isaf o fenywod yn manteisio ar y prawf. Rwy'n falch o ddweud bod y cyfraddau wedi cynyddu gyda dros 30,000 yn fwy o fenywod wedi'u sgrinio gan y rhaglen yng Nghymru yn 2018-19 o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Mae ffigurau a ddarparwyd gan Ymddiriedolaeth Canser Ceg y Groth Jo yn dangos bod y lefelau sy'n manteisio ar brawf sgrinio ceg y groth yng Nghymru ychydig dros 73 y cant. Mae hyn ymhell o dan y targed o 80 y cant a osodwyd gan eich Llywodraeth. Fodd bynnag, mae eu hymchwil yn dangos bod 63 y cant o fenywod sydd ag anableddau corfforol wedi methu mynychu profion ceg y groth. Pa gamau rydych yn eu cymryd, Weinidog, i fynd i'r afael â'r anghydraddoldeb hwn ym maes sgrinio ceg y groth i sicrhau bod menywod ag anableddau yn gallu manteisio ar y prawf hwn a allai achub bywydau yng Nghymru?

14:55

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru eisoes yn adolygu mynediad at ystod o'u rhaglenni sgrinio er mwyn ceisio deall y grwpiau sy'n manteisio leiaf ar brofion a deall yr hyn y gallant ei wneud ynglŷn â'r ffordd y darperir y rhaglen, ond mae ganddynt ddiddordeb mawr hefyd yn y treialon hunan-sgrinio sy'n cael eu cynnal yng ngogledd a dwyrain Llundain. Bydd yn arbennig o ddiddorol gweld a yw hynny'n gwneud gwahaniaeth i'r bobl a wahoddir i gymryd rhan neu sydd o leiaf chwe mis yn hwyr yn cael prawf. Felly, mae amryw o gamau'n cael eu cymryd, nid yn unig yng Nghymru ond ledled y DU. Ond yng Nghymru, mae gennym stori dda i'w hadrodd am effeithiolrwydd ein rhaglen sgrinio, ac yn benodol, ni yw'r unig wlad yn y DU o hyd i gyflwyno profion feirws papiloma sylfaenol risg uchel fel dull sgrinio sylfaenol. Mae'n brawf mwy cywir a mwy sensitif a fydd yn atal mwy o ganserau. Felly, rydym yn edrych, ac rydym yn parhau i edrych, am feysydd ar gyfer gwella yn hytrach na dim ond gwneud yr hyn rydym wedi'i wneud yn y gorffennol.

Y llynedd, gwahoddwyd 260,247 o unigolion rhwng 25 a 64 oed i gael eu sgrinio, ac fe gafodd 173,547 o unigolion eu sgrinio yn 2018-19. Weinidog, gwahoddwyd y mwyafrif o fenywod Cymru gan y rhaglen sgrinio i wneud apwyntiad sgrinio, ac mae'r ffigurau hyn yn dangos bod gwasanaeth iechyd gwladol Cymru yn datblygu mewn maes hanfodol ar gyfer iechyd menywod. Ond pa gamau pellach y gellir eu cymryd i gynyddu ymhellach y ganran hanfodol sy'n cael eu sgrinio ac i gynyddu nifer y menywod yng Nghymru sy'n manteisio ar wahoddiadau sgrinio, sydd, fel y gwyddom, yn achub bywydau?

Ie, rydych yn iawn, mae'r pwynt olaf hwnnw'n un pwysig: mae'r rhaglen sgrinio hon yn achub bywydau. Rydym wedi gwrando ar y dystiolaeth ynglŷn â phwy i'w dargedu o fewn y rhaglen, yn ogystal â'r realiti mai canser ceg y groth yw'r math mwyaf cyffredin o ganser mewn menywod o dan 35 oed. Felly, mae'n ymwneud â'r Llywodraeth, Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r ymgyrch y maent yn ei chynnal, mae hefyd yn ymwneud ag ymgyrchoedd y mae grwpiau eraill yn eu cynnal. Nod ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol, #LoveYourCervix, a lansiwyd ym mis Mawrth, yw annog pobl i fanteisio ar y cynllun a lleihau'r embaras a all fod yn rhwystr i rai pobl rhag cael eu sgrinio, ac i atgoffa y gall prawf syml olygu'r gwahaniaeth rhwng bod ag ymwybyddiaeth gynnar o her neu'r realiti y gall peidio â sgrinio arwain at golli bywydau hefyd.

Recriwtio a Hyfforddi Deintyddion

6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am recriwtio a hyfforddi deintyddion yng ngogledd Cymru? OAQ55079

Erbyn hyn, mae mwy o ddeintyddion yn darparu gofal y GIG yng ngogledd Cymru ac rydym wedi sicrhau cynnydd o 41 y cant yn y nifer sy'n hyfforddi i ddod yn hylenwyr a therapyddion deintyddol. Gan adeiladu ar y cynnydd hwn, mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn adolygu'r ddarpariaeth hyfforddiant ac yn ystyried modelau gwasanaeth gwahanol a allai wella llwyth gwaith deintyddion a gwneud practisau'n fwy cynaliadwy.

Diolch am yr ymateb yna. Y gwir amdani ydy mai diffyg deintyddion ydy'r broblem fwyaf rydym ni'n ei wynebu, dwi'n meddwl, yn hytrach na diffyg arian, yn y cyd-destun yma, o ran darparu gwasanaethau deintyddol yn y gogledd. Dydyn ni ddim wedi bod yn hyfforddi digon o ddeintyddion yng Nghymru, ac mae rhy ychydig o'r deintyddion sydd yn cael eu hyfforddi yn dod o Gymru ac yn bwriadu aros yma.

Mae'r rhain yn swnio'n ddadleuon cyfarwydd iawn, wrth gwrs, achos dyma'r union ddadleuon roeddem ni'n eu cyflwyno dros gyfnod llawer rhy hir o ran yr angen i gael hyfforddi meddygon yn y gogledd. Mi gymerodd yn rhy hir. Rŵan bod yr hyfforddi meddygon yna yn digwydd, mae pobl yn gweld y posibiliadau ac yn sôn yn barod am sefydlu ysgol feddygol lawn, a hefyd yn edrych ymlaen at gael uned hyfforddi deintyddion ym Mangor hefyd i gyd-fynd â'r ysgol feddygol.

Mae hyn yn rhywbeth dwi'n ei groesawu'n fawr. Gofyn ydw i am ymrwymiad gennych chi fel Llywodraeth i sicrhau na fydd yna unrhyw rwystrau o flaen sicrhau bod yr uned yma'n gallu digwydd, a digwydd yn fuan, er mwyn gwneud yn siŵr bod y broblem yma o weithlu deintyddol yn gallu cael pob siawns o gael ei datrys. 

Wel, o edrych ar y gweithlu deintyddiaeth ehangach, ar fy ymweliad diwethaf â gogledd Cymru, llwyddais i ymweld â Deintyddfa Fali ar fy ffordd i ddathlu agoriad cyfadran Cymru ar gyfer hyfforddiant deintyddol proffesiynol ym Mhrifysgol Bangor. Felly, rydym yn buddsoddi yng ngogledd Cymru a honno, fel y dywedais, yw'r gyfadran ar gyfer Cymru gyfan, sy'n darparu hyfforddiant ac arweiniad i'r grŵp ehangach o weithwyr gofal deintyddol proffesiynol. Mewn gwirionedd, mae deintyddfa Fali yn enghraifft dda o'r modd y mae diwygio contractau yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, o recriwtio deintydd sydd wedyn yn gweithio gydag ystod ehangach o weithwyr proffesiynol, mae hynny bellach yn golygu bod 3,000 yn fwy o gleifion y GIG ar restrau yn yr ardal honno o gymharu â dwy flynedd yn ôl. A hynny oherwydd y defnydd bwriadol o gymysgedd sgiliau a'r anghenion datblygiad proffesiynol sydd ganddynt. Pan gyfarfûm â phobl yn y gyfadran ym Mangor, roeddent yn sôn am y cymorth y maent wedi gallu ei roi i amrywiaeth o ddeintyddfeydd ar sut i redeg eu deintyddfa a beth y mae hynny'n ei olygu o ran defnydd gorau o amser y deintyddion eu hunain, ac mae hefyd yn ei wneud yn gynnig mwy deniadol i bobl ddod i'r ardal.

Mae gennyf feddwl agored wrth gwrs am ddyfodol hyfforddiant deintyddol. Nid oes gennyf syniad pendant ynglŷn â sut i gynyddu niferoedd nac, yn wir, lle mae'r bobl hynny'n hyfforddi. Mae'n ymwneud â chael achos â thystiolaeth briodol yn sail iddo a deall beth y mae hynny'n ei olygu o ran buddsoddi a'r cyfleoedd i wneud hynny. Fel rydym wedi'i wneud gyda hyfforddiant ymarfer cyffredinol, rydym wedi dangos lefel o uchelgais y gallasom ei chyrraedd a'i chynyddu'n gyson dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf. Mae gennyf feddwl cwbl agored am y dystiolaeth a gawn o'r buddsoddiadau rydym eisoes yn eu gwneud mewn perthynas â'r hyn y gallai hynny ei olygu, nid yn unig i ogledd Cymru, ond i weddill y wlad hefyd.

15:00
Gwasanaethau Iechyd yng Ngorllewin Cymru

7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau iechyd yng ngorllewin Cymru dros y 12 mis nesaf? OAQ55067

Ein blaenoriaeth yw darparu gwasanaethau iechyd i bobl Cymru sy'n sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i gleifion, gan gynnwys y gwasanaethau yng ngorllewin Cymru. Byddwn yn cael ein harwain gan y dystiolaeth a'r cyngor clinigol gorau a mwyaf diweddar i ddarparu'r gofal o ansawdd uchel y mae pobl gorllewin Cymru yn ei haeddu.

Weinidog, rwy'n siŵr y bydd un o'ch blaenoriaethau ar gyfer gwasanaeth iechyd gorllewin Cymru yn ymateb i'r data diweddaraf ar fesurau gofal llygaid, sy'n dangos mai 60.6 y cant yn unig o gleifion sy'n cael eu gweld o fewn y dyddiad targed ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae'r ffigur hwn wedi gostwng bron i 7 y cant ers mis Ebrill y llynedd, pan gafodd 67.5 y cant o gleifion eu gweld o fewn yr amser targed, felly mae'n amlwg fod angen ymyrraeth bellach i sicrhau nad yw'r ffigurau hyn yn parhau i gwympo. A allwch chi ddweud wrthym felly pa gamau uniongyrchol y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i’r afael â’r mater hwn, ac a allwch ddweud wrthym hefyd sut y bydd Llywodraeth Cymru yn diogelu gwasanaethau offthalmig ar gyfer y dyfodol fel bod digon o staff offthalmig ar gael i atal rhestrau aros hir a niwed na ellir ei wrthdroi yn y dyfodol?

Mae'n ymwneud â buddsoddi ar draws y system gyfan mewn gwirionedd, fel y gŵyr yr Aelod, rwy'n siŵr. Nid oes a wnelo hyn â phen ymgynghorol y gwasanaeth yn unig, mae'n ymwneud â sicrhau bod y bobl iawn yn mynd i wahanol rannau'r gwasanaeth. Dyna pam fod ein rhaglen ddiwygio ar y pen gofal sylfaenol yn bwysig iawn. Yn ddiweddar, bûm yn trafod y materion hyn gyda'r prif gynghorydd optometrig, ac mae'r rhain yn faterion rwy'n bwriadu eu codi gyda chadeiryddion ac is-gadeiryddion byrddau iechyd yn fy rownd nesaf o gyfarfodydd, oherwydd ar ôl penderfynu cyflwyno'r mesurau gofal llygaid newydd gan eu bod yn fesurau mwy cywir a defnyddiol, hoffwn weld cyflawniad yn eu herbyn.

Mewn gwirionedd, heb ddiwygio'r ffordd y mae'r system yn gweithio yn iawn, ni fyddwn yn gweld y math o welliannau y byddech chi a phob Aelod arall yn y lle hwn yn dymuno'u gweld. Felly, mae hynny'n ymwneud â sicrhau bod gwahanol wasanaethau ar gael mewn optometreg ar y stryd fawr fel nad oes angen i'r bobl hynny fod ar restr meddyg ymgynghorol. Gallwch ddisgwyl gweld y llwybrau hynny'n cael eu rhoi ar waith yn gyson eleni ym mhob rhan o Gymru—dyna'r disgwyliad rwyf wedi'i nodi. Dylai hynny, felly, wneud gwell defnydd o'r capasiti sy'n bodoli mewn gofal eilaidd, ac mewn gwirionedd, byddai'n gwneud ein gwasanaethau'n fwy deniadol, gan fod yr offthalmolegwyr ymgynghorol eu hunain yn bobl sy'n gallu dewis o hyd ble maent yn dymuno gweithio. Mae angen inni fynd i'r afael â'r gweithlu cyfan i gyflawni'r math o ganlyniadau rydych chi a minnau am eu gweld.

Gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys

8. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i osgoi presenoldeb diangen y gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yng Nghymru? OAQ55088

Gwyddom fod pwysau ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol gyfan yn cyfrannu at heriau yn ein hadrannau brys. Rydym yn parhau i weithio gyda GIG Cymru a phartneriaid i reoli'r galw ar draws y system mewn gwahanol ffyrdd. Mae hyn yn cynnwys darparu ystod ehangach o ofal yn llawer agosach at adref.

Diolch am eich ymateb, a chlywais eich ymatebion cynharach i Jack Sargeant ar y cwestiwn hwnnw. Mae'r ymgyrch Dewis Doeth, wrth gwrs, yn amlwg iawn ar hyn o bryd, ond yn realistig, weithiau mae'n rhaid i bobl ddewis rhwng Galw Iechyd Cymru a'r adran damweiniau ac achosion brys—mae'n brofiad rwyf wedi'i gael fy hun. Nodaf yr adolygiad o unedau mân anafiadau y sonioch chi amdano, ond pa gynnydd a welsoch yn nifer y meddygfeydd sydd ar agor ar y penwythnosau ac sy'n cynnig gwasanaethau uned mân anafiadau a nifer y fferyllfeydd sydd ar agor y tu allan i oriau?

Ni allaf roi'r union ffigurau i chi ar y ddau faes penodol hwnnw, ond gwn ein bod, gyda'n buddsoddiad bwriadol mewn fferylliaeth gymunedol, yn gweld mwy o wasanaethau'n cael eu darparu'n gyson ym maes fferylliaeth gymunedol. Enghreifftiau da, wrth gwrs, yw'r gwasanaeth mân anhwylderau a'r gwasanaeth profi dolur gwddf sydd ar gael. A dweud y gwir, i ddangos llwyddiant y mesur hwnnw, bu un o'r Aelodau Seneddol Ceidwadol newydd yng ngogledd Cymru yn dathlu llwyddiant y gwasanaeth profi dolur gwddf y mae'r Llywodraeth hon wedi'i gyflwyno, felly mae'n dangos ein bod yn ymdrin â galw gwirioneddol mewn ffordd sy'n gwneud gwahaniaeth.

Mae a wnelo hyn hefyd felly â'n gallu i staffio rhai o'r gwasanaethau y tu allan i oriau yn iawn, felly mae'r rhaglen gyflwyno 111 yn bwysig iawn fel rhan o hynny. Ac mae'n buddsoddi ar draws ein system gyfan. Dyna pam y mae'r staff ychwanegol a gafwyd yng ngwasanaeth y ddesg glinigol yng ngwasanaeth ambiwlans Cymru yn bwysig iawn, gan y gellir trin a rhyddhau mwy o bobl dros y ffôn, yn ogystal â gallu gweld a rhyddhau pobl heb fod angen iddynt fynd i'r ysbyty hefyd. Felly, mae ystod o gynnydd eisoes yn digwydd ar draws y system, ac edrychaf ymlaen at allu adrodd mwy ar y llwyddiant hwnnw dros y misoedd i ddod.

15:05
3. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Adrannau Brys y GIG

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Rebecca Evans, gwelliant 2 yn enw Siân Gwenllian, gwelliant 3 yn enw Neil McEvoy, a gwelliant 4 yn enwau Mick Antoniw, Dawn Bowden, Huw Irranca-Davies a Vikki Howells. 

Yr eitem nesaf felly yw dadl y Ceidawdwyr Cymreig ar adrannau brys y gwasanaeth iechyd. Dwi'n galw ar Angela Burns i wneud y cynnig—Angela Burns. 

Cynnig NDM7266 Darren Millar

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r pryderon a fynegwyd gan gleifion a chlinigwyr ledled Cymru ynghylch perfformiad a dyfodol adrannau achosion brys y GIG.

2. Yn gwrthod cynigion gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a allai arwain at roi terfyn ar wasanaethau 24 awr a gaiff eu harwain gan feddygon ymgynghorol yn adran achosion brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd er mwyn atal unrhyw achos o israddio neu gau adrannau achosion brys yng Nghymru yn ystod y Cynulliad hwn.

Cynigiwyd y cynnig.

Lywydd, diolch. Rwy'n cynnig yn ffurfiol y cynnig ger ein bron a gyflwynwyd heddiw yn enw Ceidwadwyr Cymru gan Darren Millar.

Fe welwch ein bod yn gofyn i Gynulliad Cymru

‘Nodi'r pryderon a fynegwyd gan gleifion a chlinigwyr ledled Cymru ynghylch perfformiad a dyfodol adrannau achosion brys y GIG.’

i ‘wrthod cynigion gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a allai arwain at roi terfyn ar wasanaethau 24 awr a gaiff eu harwain gan feddygon ymgynghorol yn adran achosion brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg.’

ac rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i

'ymyrryd er mwyn atal unrhyw achos o israddio neu gau adrannau achosion brys yng Nghymru yn ystod y Cynulliad hwn.’

Nawr, cyn i mi ddechrau, hoffwn ddweud yn glir fod y wybodaeth rifiadol yn fy nghyfraniad wedi'i chymryd yn uniongyrchol gan StatsCymru, Ymddiriedolaeth Nuffield, Llywodraeth Cymru ei hun neu'r Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys. Ac mae hwn yn bwynt pwysig i'w wneud, gan fod yn rhaid i ni beidio â chaniatáu i Lywodraeth Cymru wadu’r sefyllfa rydym yn ei gweld ac y mae staff a chleifion yn ei hwynebu ar draws adrannau brys Cymru. Ni allwn ychwaith ganiatáu i Lafur a Llywodraeth Cymru barhau i feio cyni neu gyllid, y Ceidwadwyr i lawr coridor yr M4, neu bwysau di-baid, anhysbys ac anesboniadwy, neu'n wir, yr ystadegau nad ydynt yn eu hoffi, gan fod y pryderon a fynegir gan gleifion a chlinigwyr yn uwch nag erioed.

Ddoe, clywais y Prif Weinidog yn ailadrodd y mantra fod arolwg boddhad y GIG wedi nodi cyfradd boddhad o 93 y cant, ond fe wyddoch chi, Weinidog, a gwn innau mai'r defnydd o ystadegau meintiol ar ei waethaf yw hyn, gan nad yw'n rhoi unrhyw sylw i’r dadansoddi dyfnach sy'n ofynnol. Mae pobl yn ddiolchgar am y gwasanaeth sydd ganddynt, ond pan ofynnwch iddynt sut y perfformiodd y gwasanaeth, byddant yn dweud wrthych am yr amseroedd aros, byddant yn dweud wrthych am y cofnodion coll a'r symud o gwmpas yr ysbytai. A gadewch i mi ddyfynnu’n uniongyrchol o rai o’r ymatebion i arolwg mawr y GIG y mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn ei gynnal ar blatfformau’r cyfryngau cymdeithasol ar hyn o bryd. Dyma un:

Ar y cyfan, rwy’n eithaf hapus gyda fy nhriniaeth ac eithrio'r adran damweiniau ac achosion brys lle maent yn gweithio'n ofnadwy o galed er nad oes ganddynt ddigon o adnoddau, a hynny oherwydd prinder staff, oherwydd bod gormod o arian yn cael ei wario ar reolwyr nad ymddengys eu bod yn deall beth y mae ysbyty i fod i'w wneud.

Neu un arall:

Ffoniais am ambiwlans ar gyfer fy mherthynas 87 oed, a oedd yn anymwybodol. Cymerodd dros awr a hanner i gyrraedd. Fe aethant â hi i ysbyty Wrecsam. Ar ôl wyth awr, nid oeddent wedi gwneud dim. Mae’r staff gwych yn gweithio'n ddibynadwy. Nid yw amseroedd aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yn ddigon da. Ni fyddai fy mherthynas yma heddiw oni bai am y meddygon a'r nyrsys, ond roedd y system yn warthus.

Felly, wrth gwrs, maent 93 y cant yn fodlon fod eu perthynas yn dal i fod yma, ond roedd y profiad yn erchyll. A dywed clinigwyr wrthym fod gaeaf 2019-20 wedi bod yn anodd, gyda’r ganran isaf o gleifion yn cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn pedair awr ers dechrau cadw cofnodion—a gadewch i mi ailadrodd hynny—ers dechrau cadw cofnodion. Ym mis Rhagfyr 2019, 66.4 y cant yn unig o gleifion a welwyd o fewn pedair awr—swnio'n dda? Wel, gadewch i ni droi hynny ar ei ben. Dyna 33.6 y cant o gleifion na chawsant eu gweld o fewn pedair awr. Gadewch i mi ailadrodd hynny: arhosodd traean o'r cleifion fwy na phedair awr i gael eu gweld mewn adran damweiniau ac achosion brys yng Nghymru.

Ond Aelodau, nid yw nifer y cleifion ym mis Rhagfyr 2019 yn syndod. Mae cyfartaledd o 55,560 o gleifion wedi dod i'n hadrannau brys bob mis hyd yn hyn y gaeaf hwn, o gymharu â 67,490 y gaeaf diwethaf, a 65,629 y gaeaf cyn hynny. Felly, gadewch i mi ailadrodd hynny: mae llai o gleifion yn dod i’n hadrannau damweiniau ac achosion brys y gaeaf hwn na'r llynedd a'r flwyddyn flaenorol, ond mae'r perfformiad wedi gwaethygu. Ac o ystyried na welwyd traean o'r cleifion o fewn pedair awr, mae'n gwneud synnwyr fod nifer y cleifion sy'n aros mwy nag wyth a 12 awr yn cynyddu bob gaeaf—StatsCymru, eich gwybodaeth chi.

15:10

Mewn eiliad, Jenny. Mewn gwirionedd, gaeaf 2019-20 a welodd y nifer uchaf o gleifion a'r canlyniad yw bod diogelwch cleifion yn cael ei beryglu, mae morâl staff ar ei lefel isaf erioed. Er bod arian ar gyfer pwysau'r gaeaf i'w groesawu, Weinidog, ateb dros dro yn unig yw chwistrelliadau ad hoc o arian. Yr hyn sydd ei angen ar y GIG yw cynnydd sylweddol yn ei adnoddau, y dylid eu defnyddio i sicrhau cynnydd mesuradwy yn y staff sydd ar gael a gwelyau acíwt.

Diolch byth, mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi ymrwymo i roi hwb o £1.9 biliwn i gyllid GIG Cymru dros y tair blynedd nesaf. Mae hwn yn swm sylweddol y gellid ac y dylid ei ddefnyddio i wella ein GIG. Cyn i Aelodau Llafur ar y meinciau cefn godi ar eu traed, hoffwn wneud y pwynt nad oes yr un o Brif Weinidogion Ceidwadol y DU erioed wedi torri cyllideb y GIG. Felly, cywilydd ar Mark Drakeford a'ch Cabinet Llafur Cymru am dorri'ch un chi. Rhwng 2010-11 a 2015-16—[Torri ar draws.] Yn sicr, fe wnaf i chi, Brif Weinidog.

Diolch. O ystyried eich bod wedi penderfynu y byddech yn fy enwi—

—rhowch y flwyddyn pan oeddwn yn y Llywodraeth lle torrwyd cyllideb y GIG yn y Cynulliad hwn. O ystyried eich bod wedi fy enwi'n benodol, rhowch y flwyddyn i mi.

Rydych wedi'i thorri flwyddyn ar ôl blwyddyn a gallwn roi'r ystadegau i chi, Brif Weinidog.

Ni allwch ateb y cwestiwn gan nad yw'r hyn rydych wedi'i ddweud yn wir.

Brif Weinidog, chi oedd cynghorydd arbennig y—. Rydych yn y Llywodraeth ar hyn o bryd, chi oedd y Gweinidog iechyd, chi oedd y Gweinidog cyllid, a bellach, chi yw'r Prif Weinidog.

Efallai y dylwn eich galw’n Brif Weinidog Pontiws Peilat.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn cydnabod nad yw pwysau'r gaeaf bellach yn gyfyngedig i fisoedd y gaeaf. Mae perfformiad gwael bellach yn realiti drwy gydol y flwyddyn ac er bod problemau penodol yn y gaeaf, mae perfformiad cyffredinol yn parhau i waethygu, ac mae’n rhaid bod hynny ynddo'i hun yn peri lefel aruthrol o straen a blinder i'r staff ar y rheng flaen sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau. Ac rwy’n diolch o galon iddynt. Nid pwrpas y ddadl hon yw ceisio lladd arnynt, ond rhoi'r gefnogaeth a'r adnoddau sydd eu hangen arnynt i'w codi fel y gallant wneud y gwaith y maent yn ei garu; gallant gael yr hyfforddiant a'r yrfa roeddent am ei chael; a'r cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith sydd ei angen ar bob un ohonom ar gyfer ein hiechyd a'n lles meddyliol.

Rwy'n herio'r syniad yn gyfan gwbl mai pwysau di-baid, anhysbys ac anesboniadwy sydd ar fai am y sefyllfa ar draws ein hadrannau brys. Mae'n ffaith nad yw'r nifer sy'n mynychu adrannau achosion brys ond wedi cynyddu 7.4 y cant yn unig, ond yn yr un cyfnod, mae'r nifer sy'n aros am wyth awr wedi cynyddu 254 y cant. Ac mae data Llywodraeth Cymru wedi datgelu'r gwir gan y gwyddom, ers 2013, pan ddechreuodd y gwaith o gasglu data ar gyfer perfformiad 12 awr, fod nifer y bobl sy'n aros am 12 awr neu fwy wedi cynyddu 318 y cant, sy’n ffigur syfrdanol. Gwyddom fod amseroedd aros hirach mewn adrannau brys bron bob amser yn gysylltiedig â llif cleifion gwael drwy ysbytai, tagfeydd mewn wardiau ysbytai a darpariaeth gofal cymdeithasol annigonol yn y gymuned. Mae hyn yn sicr yn wir pan ystyriwn nifer y gwelyau ysbyty sydd ar gael.

Credaf efallai mai Andrew a soniodd am welyau ysbyty yn gynharach—gwnaeth rhywun—a chyfraddau defnydd gwelyau. Mae data gan y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys yn dangos bod y gydberthynas rhwng cyfraddau defnydd gwelyau a'r gallu i gyflawni'r targed pedair awr yn gryf. Yn gryno, gyd-Aelodau'r Cynulliad, mae'n syml: byddai capasiti gwelyau ychwanegol yn golygu gwelliant sylweddol yn amseroedd aros cleifion. Mae'r Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys yn credu'n gryf fod angen 226 o welyau arnom. Byddai'r gwelyau ychwanegol hynny'n sicrhau cyfradd defnydd gwelyau ddiogel o 85 y cant. Felly, gellid lliniaru'r pwysau a welwn ar ein hadrannau damweiniau ac achosion brys drwy gael ychydig llai na 250 o welyau ychwanegol.

Bydd y broblem system gyfan rydym yn ei gweld yma yn cael ei gwaethygu gan awydd Llywodraeth Cymru i dorri a chanoli eu darpariaeth o wasanaethau gofal brys. Peidiwch ag ailadrodd y mantra diweddar ei fod yn benderfyniad i’r clinigwyr. Rwy'n credu, Leanne Wood, eich bod chi wedi dadlau eich achos yn glir iawn yn gynharach: mae clinigwyr yn dweud, 'Cadwch ein gwasanaethau brys', a’r byrddau iechyd, Llywodraethau, rhaglen de Cymru, ac adroddiad Marcus Longley sy'n siarad am ddim ond canoli, canoli, canoli.

Rwyf am droi at y gwelliannau yn gyflym gan y gallaf weld bod fy amser yn dod i ben. Rwy'n anobeithio wrth weld bod Llywodraeth Cymru wedi 'dileu popeth' unwaith eto i fygu dadl. Rwy'n cydnabod bod Aelodau meinciau cefn Llafur a Phlaid Cymru wedi llofnodi datganiad yn ymwneud ag Ysbyty Brenhinol Morgannwg, ond pwynt 2 o welliant y Llywodraeth yw'r addewidion ffuantus arferol y bydd byrddau iechyd yn gofyn i chi am eich barn ac yna'n gwneud yr hyn y maent wedi cynllunio i'w wneud beth bynnag. Daw hyn ar ôl blynyddoedd o ansicrwydd i wasanaethau damweiniau ac achosion brys yr ysbyty ers cyhoeddi dogfen ymgynghori rhaglen de Cymru yn 2013.

Mae staffio yn yr ysbytai yn cyrraedd lefelau peryglus o isel. Nid yn unig fod pob uned damweiniau ac achosion brys fawr yng Nghwm Taf wedi'i staffio ymhell islaw safonau'r DU gyfan, ond ar Ddydd Nadolig a Gŵyl San Steffan 2019, bu'n rhaid dargyfeirio ambiwlansys o'r ysbyty i Ysbyty'r Tywysog Siarl oherwydd prinder meddygon. Mae'r cynigion gan y bwrdd iechyd wedi wynebu gwrthwynebiad sylweddol gan y cymunedau cyfagos. Mae pryderon yn ymwneud â diogelwch cleifion y bydd yn rhaid iddynt deithio ymhellach yn awr i gael gofal brys yn ogystal â chynyddu'r pwysau ar adrannau damweiniau ac achosion brys eraill ar adeg pan na chyrhaeddodd yr ysbytai eraill sy'n gwasanaethu Cwm Taf amser aros cyfartalog Cymru o bedair awr hyd yn oed ym mis Rhagfyr 2019.

Byddaf yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru, sy’n tynnu sylw at bwysigrwydd cynllunio’r gweithlu ledled y wlad, nid yn unig yn yr ardaloedd hawsaf i’w staffio yn draddodiadol, megis de-ddwyrain Cymru, gan ei bod ond yn deg na ddylid defnyddio prinder staff i gyfiawnhau cau a newid i wasanaethau.

Rwy'n cytuno â gwelliant clir iawn Neil McEvoy hefyd a’r gwelliant gan feinciau cefn Llafur, gan fod yn rhaid i Lywodraeth Lafur Cymru wrthod cynigion gan fwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg i ddod â gwasanaethau damweiniau ac achosion brys 24 awr dan arweiniad meddygon ymgynghorol i ben yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. A buaswn yn mynd gam ymhellach a dweud bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru adolygu adroddiad yr achos dros newid gan Marcus Longley yn 2012 a rhaglen de Cymru, gan nad yw'r ddau ohonynt yn gyfredol mwyach, a’r ddau ohonynt yn nodi cyfeiriad teithio nad yw'n addas i Gymru mwyach, ac a dweud y gwir, ymddengys bod y ddau ohonynt yn hyrwyddo gwasanaethau sydd ymhellach byth oddi wrth y cyhoedd y mae'r byrddau iechyd, y Gweinidog a'r GIG yno i'w gwasanaethu.

Rwy’n hyderus y bydd meinciau cefn Llafur yn cefnogi ein cynnig ac y gallwn, drwy ddangos undod ar draws yr holl bleidiau gwleidyddol, anfon neges glir i’r byrddau iechyd ledled Cymru. Gwrandewch ar y bobl: peidiwch â chau, torri nac israddio ein hadrannau brys. Rwy'n cymeradwyo'r cynnig hwn i'r Siambr.

15:15

Rwyf wedi dethol y pedwar gwelliant i'r cynnig, a dwi'n galw ar y Gweinidog iechyd i gynnig yn ffurfiol welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. 

Gwelliant 1—Rebecca Evans

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn cydnabod y datganiad trawsbleidiol ar Ddyfodol Gofal Brys Diogel yng Nghwm Taf Morgannwg.

2. Yn cydnabod yr angen i’r bwrdd iechyd fod yn agored ac yn dryloyw wrth ymgysylltu â’r cyhoedd, clinigwyr, y cyngor iechyd cymuned, cynrychiolwyr etholedig, staff a’u hundebau, i lywio eu penderfyniad ynghylch darparu pob math o ofal heb ei drefnu yn y dyfodol, gan gynnwys gwasanaethau brys.

3. Yn cydnabod bod yn rhaid i unrhyw ddarpariaeth gofal heb ei drefnu fod yn gadarn, yn ddiogel ac yn gynaliadwy.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Galwaf nawr ar Leanne Wood i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Leanne Wood. 

Gwelliant 2—Siân Gwenllian

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu cynllun cynhwysfawr ar gyfer cynyddu'r gweithlu clinigol, gyda ffocws penodol ar arbenigeddau ac ardaloedd daearyddol y mae'n anodd recriwtio iddynt, megis mewn adrannau achosion brys, fel na ellir byth ddefnyddio prinder staff i gyfiawnhau cau a newid gwasanaethau.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch, Lywydd. Mae llawer o Aelodau yn y Siambr hon wedi cyfeirio at y ddeddf gofal gwrthgyfartal, sef, yn y bôn, mai’r rhan o'r boblogaeth sydd fwyaf o angen gwasanaethau gofal sy'n wynebu'r rhwystrau mwyaf rhag cael mynediad atynt. Rydym hefyd wedi nodi ar sawl achlysur mai pobl yn yr ardaloedd tlotaf hefyd sy'n wynebu’r baich mwyaf o afiechyd. Canlyniad yw hyn i gyfuniad o'r etifeddiaeth ddiwydiannol a’r ffaith bod y bobl yn y cymunedau hynny wedi cael eu hesgeuluso pan gawsant eu dad-ddiwydiannu.

Rydym hefyd wedi nodi mai agwedd ddiystyriol uwch reolwyr yn y GIG wrth ymdrin â chwynion a arweiniodd at sgandal y gwasanaethau mamolaeth yng Nghwm Taf, ac wedi nodi na fyddai hynny wedi digwydd yn ôl pob tebyg i bobl mewn ardal fwy cyfoethog. Ond unwaith eto, nid yw'r gwersi’n cael eu dysgu, gan fod y Llywodraeth Lafur hon yn llywyddu dros bolisi o gau adrannau damweiniau ac achosion brys yn un o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Mae hyn er gwaethaf yr astudiaeth gan Brifysgol Sheffield yn 2007 a ganfu fod cynnydd o 10 km mewn pellter yn gysylltiedig â chynnydd absoliwt o oddeutu un y cant mewn marwolaethau, a bod y berthynas honno'n fwy i gleifion â chyflyrau anadlol. Ac mae hyn wedi'i gadarnhau gan o leiaf ddwy astudiaeth arall o gleifion ag asthma.

Nawr, mae'r bwrdd yn nodi mai prinder staff yw’r rheswm am hyn, ac wrth gwrs, mae’n wir dweud, yn arwynebol, fod uned heb feddygon yn mynd i fod yn beryglus. Ond mae'n rhaid inni ofyn pam. Sut y cyraeddasom y sefyllfa hon?

Mae'r ffigurau a ddyfynnais ddoe i'r Prif Weinidog yn dangos bod nifer y meddygon ymgynghorol wedi cynyddu'n sylweddol yn yr ardaloedd sydd ag unedau damweiniau ac achosion brys nad ydynt dan fygythiad. Ni ddigwyddodd hynny yn yr ardaloedd lle cytunwyd ar gynigion ad-drefnu. Mae'n broffwydoliaeth hunangyflawnol. Nid oes unrhyw un yn dewis gweithio mewn lle sydd dan fygythiad, pan fydd rheolwyr yn dibynnu ar staff asiantaeth yn lle hysbysebu swyddi hirdymor. Clywodd fy swyddfa gan nifer o feddygon sy’n awyddus i gael swyddi amser llawn yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg a byddent yn eu derbyn pe byddent yn cael cynnig rhywfaint o hyblygrwydd o ran oriau.

Felly, beth yw'r camau tymor byr uniongyrchol sy'n rhaid eu cymryd yn awr? Yn gyntaf oll, gwnewch ymrwymiad cyhoeddus i ddyfodol hirdymor yr adran damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Hyn yn unig a fydd yn helpu i recriwtio a chadw staff. Cynigiwch waith amser llawn i’r staff asiantaeth presennol, gan addasu eu horiau os oes angen. Gwyddom fod llawer o bobl a fyddai'n derbyn y cynnig hwn. Hysbysebwch rai swyddi, gan ddefnyddio cymhellion ariannol, fel y mae Caerdydd wedi'i wneud yn ddiweddar, os yw hynny'n angenrheidiol ar gyfer y swyddi sy’n anodd eu recriwtio. Ac yn bwysig, gwnewch y disgwyliadau’n glir i’r rheolwyr—maent wedi bod yn gweithredu gyda disgwyliadau i’r gwrthwyneb, a chred y dylai'r uned gau ers i raglen de Cymru gael ei chytuno.

Yn y tymor hwy, mae gan Blaid Cymru bolisïau sydd wedi’u hystyried a’u costio’n drylwyr ar gyfer hyfforddi a recriwtio 1,000 o feddygon ychwanegol, ac mae hynny'n cynnwys buddsoddi mewn targedu recriwtiaid lleol a chynyddu nifer y lleoedd hyfforddi ar gyfer meddygon. Fe ellid ac fe ddylid rhoi’r polisïau hyn ar waith er budd holl wasanaethau'r GIG yng Nghymru nawr.

Hoffwn droi’n gyflym at chwalu rhai mythau. Yn gyntaf oll, mae angen i'r Torïaid ystyried y ffaith bod y broses hon wedi digwydd yn Lloegr. Dywedodd Jeremy Hunt yn glir ei fod yn dymuno canoli, a rhoddodd sêl bendith i hyn ddigwydd yn ôl pan oedd yn Ysgrifennydd iechyd. Drwy gyd-ddigwyddiad, hwn oedd y dyddiad y dechreuodd perfformiad GIG Lloegr ddirywio, ac mae'r dirywiad hwnnw'n parhau hyd heddiw. Felly, nid oes gan y Torïaid hanes da o ddarparu model gwahanol o drefnu’r gwasanaeth.

Yn ail, i'r rheini sydd am ddiddymu'r Cynulliad, mae angen iddynt ystyried beth fyddai'n digwydd pe na bai gan uwch reolwyr y GIG unrhyw oruchwyliaeth wleidyddol o gwbl. Mae rhai uwch reolwyr wedi cael eu clywed yn dweud yn breifat eu bod am i ganoli fynd yn llawer pellach. Pe byddent yn cael eu ffordd, gallem fod ag unedau damweiniau ac achosion brys yng Nghaerdydd ac Abertawe yn unig yn y pen draw, ac efallai un neu ddau arall. Dim ond y ffaith bod Llafur yn gwybod na fyddent yn cael rhwydd hynt i gytuno i hynny sy'n atal y broses hon rhag gwaethygu. Ond mae hynny hefyd yn amlygu gwirionedd arall na ellir ei osgoi: y gallai'r Gweinidog iechyd atal y cynigion hyn yr eiliad hon, ond mae'n dewis peidio.

Rwyf am gloi gyda hyn: byddwn ni ym Mhlaid Cymru yn gwneud popeth a allwn i'w hatal rhag cau neu leihau'r oriau yn ein hadran damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, ac rydym yn bwriadu ennill y frwydr hon. Os gwnawn, mae Llywodraeth Plaid Cymru yn y dyfodol yn addo cadw ein hadrannau damweiniau ac achosion brys yn hirdymor. Ond os na wnawn ennill, byddwn yn addo eu hadfer. Diolch.

15:20

Gwelliant 3—Neil McEvoy

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cefnogi adran damweiniau ac achosion brys barhaol gydag adnoddau llawn yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

Cynigiwyd gwelliant 3.

Diolch, Llywydd. Fel arweinydd Plaid Genedlaethol Cymru, dwi'n dweud bod yn rhai inni achub adran achosion brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

Rwy'n sefyll yma fel arweinydd Plaid Genedlaethol Cymru, gan ddweud bod angen i ni achub yr adran damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Mae neges y cyhoedd i ni yn glir iawn. Mynychais gyfarfod cyhoeddus, gwrandewais yn ofalus y tu allan. Maent yn awyddus i ni weithio gyda'n gilydd.

Rwy’n cefnogi’r cynnig. Ni allaf gefnogi gwelliant 1, oherwydd yn y bôn mae gwelliant 1 yn dinistrio’r cynnig. Rwy'n cefnogi gwelliant 2. Rwy'n cefnogi gwelliant 4. Mae fy ngwelliant i'n syml iawn—mae’r neges yn syml. Dywed fod y Cynulliad hwn—ni yma, pob Aelod Cynulliad—yn cefnogi adran damweiniau ac achosion brys barhaol—a dyna'r gair allweddol yma; nid oes unrhyw welliant arall nac unrhyw gynnig arall yn ei gynnwys—adran damweiniau ac achosion brys barhaol sydd ag adnoddau llawn yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Gall pob un ohonom gefnogi hynny, a gall pob un ohonom gefnogi gwelliannau ein gilydd fel y gallwn wrando ar y cyhoedd heddiw a chlywed yr hyn a ddywedasant wrthym y tu allan, a chefnogi'r cynnig a chefnogi gwelliannau ein gilydd, ac eithrio gwelliant 1.

Mae iechyd y GIG yng Nghymru mewn argyfwng. Mae'r staff yn haeddu gwell. Mae'r cyhoedd yn haeddu gwell. Clywsom y tu allan, Weinidog—a gobeithio eich bod yn gwrando—fod y meddygon yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod gyferbyn â mi, am i'r adran aros ar agor, dan arweiniad meddygon ymgynghorol, 24 awr y dydd. Ganed fy merch yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, ac roeddent yn gwneud gwaith aruthrol yn ôl yn y dyddiau hynny. Mae staff gwych y GIG yn ysbyty’r Mynydd Bychan yn gofalu am fy nhad ar hyn o bryd, ond roeddwn yn yr adran damweiniau ac achosion brys nos Wener, a chefais fy mrawychu gan yr hyn a welais. Dywedodd staff wrthyf ei bod yn noson dawel, ac ar nosweithiau eraill, y noson gynt, roedd pobl yn eistedd ar y llawr. Rydym wedi datgan, neu mae'r Llywodraeth wedi datgan, argyfwng hinsawdd. Rwy'n teimlo bod angen inni ddatgan argyfwng iechyd. Gadewch inni bleidleisio dros y gwahanol welliannau hyn, gadewch inni wrando ar y cyhoedd, gadewch inni wrando ar y meddygon a gadewch inni gyfleu’r neges fod y Cynulliad hwn am achub yr adran damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ar sail barhaol—y gair allweddol—yn barhaol. Diolch yn fawr.

15:25

Gwelliant 4—Mick Antoniw, Dawn Bowden, Huw Irranca-Davies, Vikki Howells

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gwrthod cynigion gan Fwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg i ddod â gwasanaethau damweiniau ac achosion brys 24 awr o dan arweiniad meddygon ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg i ben ac yn galw ar y Bwrdd Iechyd i:

a) diystyru cau'r gwasanaeth damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg neu sefydlu uned mân anafiadau 24 awr yn lle'r gwasanaeth damweiniau ac achosion brys presennol;

b) adfer yr opsiwn o gynnal gwasanaeth damweiniau ac achosion brys llawn o dan arweiniad meddygon ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Ysbyty'r  Tywysog Siarl ac Ysbyty Tywysoges Cymru;

c) cyflwyno cynigion eraill ar gyfer gwasanaethau iechyd cymunedol, gan gynnwys gwelliannau i'r gwasanaeth meddygon teulu y tu allan i oriau ac ymestyn oriau agor yr uned mân anafiadau yn Ysbyty Cwm Rhondda ac Ysbyty Cwm Cynon, a allai leddfu'r pwysau ar bob un o'r tair adran damweiniau ac achosion brys.

Cynigiwyd gwelliant 4.

Diolch yn fawr, Lywydd. Cynigiaf y gwelliant hwn gyda chefnogaeth fy nghyd-Aelodau Dawn Bowden, AC Merthyr Tudful a Rhymni, Vikki Howells, AC Cwm Cynon, a Huw Irranca-Davies, Aelod Cynulliad Ogwr. Rwy'n falch o gael cefnogaeth undebau llafur Ysbyty Brenhinol Morgannwg, sydd y tu ôl i'r gwelliant hwn.

Lywydd, dywedodd Aneurin Bevan fod

Cymdeithas yn dod yn fwy iachus, yn fwy tangnefeddus, ac yn iachach yn ysbrydol, os yw'n gwybod bod ei dinasyddion yn ymwybodol nid yn unig y gallant hwy, ond y gall eu holl gymheiriaid, fanteisio ar y gorau y gall sgiliau meddygol ei ddarparu pan fyddant yn sâl.

Dyna hanfod y gwelliant hwn. Mae sefydlu'r GIG yn un o lwyddiannau mwyaf Llafur. Yn wir, mae'n un o lwyddiannau mwyaf y Cymoedd, gan fod ei egwyddorion sylfaenol yn seiliedig ar werthoedd ein cymunedau yn y Cymoedd. Yng Nghymru, rydym yn amddiffyn y GIG, ei egwyddorion, ei bobl a'i gyllid, rhag grymoedd preifateiddio a chyni. Ond nid yw hynny'n ddigon. Cryfder mawr y GIG yw ei fod yn eiddo i bobl Cymru, a gwarcheidwaid gwaddol Nye Bevan a'r GIG yn unig ydym ni. I'r graddau hynny, rydym yn atebol i'r bobl sydd wedi ein hethol i Senedd Cymru.

Mae gwasanaeth damweiniau ac achosion brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn wasanaeth hanfodol a hollbwysig i bobl etholaeth Pontypridd rwy’n eu cynrychioli, ac i'r rheini yng nghymoedd y Rhondda, Cwm Cynon, Merthyr Tudful ac Ogwr. Mae'n wasanaeth bywyd neu farwolaeth ac mae'n wasanaeth nad oes yr un ohonom yn dymuno’i ddefnyddio ond un y cawn gysur o wybod ei fod yno i ni pan fydd ei angen arnom.

Mae'n amlwg i ni fod cleddyf Damocles wedi bygwth yr adran damweiniau ac achosion brys ers chwe blynedd ac wedi tanseilio gallu Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg fwyfwy i recriwtio'r meddygon ymgynghorol angenrheidiol. Yr wythnos diwethaf, roedd un o fy nghymheiriaid yn San Steffan, Alex Davies-Jones, a minnau'n annerch cyfarfod cyhoeddus llawn dop yn Llantrisant. Roedd miloedd yn rhagor yn gwylio ar-lein, ac roedd yn amlwg o gyfraniad y bwrdd iechyd mai recriwtio sydd wrth wraidd yr argyfwng hwn. Yn wir, roedd llawer yn pendroni a fyddai angen adolygiad pe bai strategaeth recriwtio’r bwrdd iechyd wedi bod yn fwy effeithiol. Felly, er ei bod yn iawn fod y bwrdd iechyd yn wynebu'r argyfwng cynyddol hwn, mae’n rhaid i'w fan cychwyn ymwneud â sut y gellir sicrhau gwasanaeth damweiniau ac achosion brys llawn dan arweiniad meddygon ymgynghorol yn awr ac yn y dyfodol, yn hytrach na beth yw'r ffordd leiaf poenus o gau'r adran.

Mae pum ffaith allweddol yn dod i'r amlwg. Mae rhaglen de Cymru wedi dyddio’n aruthrol ac yn fwyfwy amherthnasol i anghenion pobl Rhondda Cynon Taf. Nid oes gan Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful nac Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr gapasiti i amsugno'r ddarpariaeth damweiniau ac achosion brys a ddarperir ar hyn o bryd yn Llantrisant yn ddiogel. Ceir cynnydd enfawr yn  nifer y tai a phoblogaeth yn ardal Taf Elái na chafodd ei ystyried, ac a fydd yn gwaethygu'r sefyllfa hon yn y dyfodol. Nid yw cau'r adran ac agor uned mân anafiadau yn ei lle yn ymarferol. Ac argyfwng recriwtio’r bwrdd iechyd yw’r mater sylfaenol, nid lleoliad yr ysbyty, na’i staff, na’i gyllid.

Yr unig opsiynau hyfyw, yn fy marn i, yw diystyru'r opsiwn o gau adran damweiniau ac achosion brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg; fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn adfer yr opsiwn o gadw uned damweiniau ac achosion brys 24 awr wedi’i staffio’n llawn yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg; cyflwyno cynigion ychwanegol ar gyfer ehangu gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau ac ymestyn oriau agor unedau mân anafiadau yn Ysbyty Cwm Rhondda ac Ysbyty Cwm Cynon i leddfu'r pwysau ar y tair adran achosion brys; a rhoi ymgyrch recriwtio drylwyr, gynhwysfawr ar waith ar draws y tri ysbyty.

Dywedodd Nye Bevan y geiriau enwog hefyd:

Bydd y GIG yn para cyhyd â bod pobl ar ôl gyda'r ffydd i ymladd drosto.

A chredaf, wrth gynnig y gwelliant hwn, y gallaf roi sicrwydd i’r Aelodau fod gan bobl Cymoedd de Cymru, a gyfrannodd gymaint at sefydlu’r GIG, y ffydd i ymladd dros y GIG a chadw gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Diolch, Lywydd.

15:30

Yn ôl ym mis Medi, dywedwyd wrthyf, ar ymweliad, fod llawer o'r swyddi yn Ysbyty Tywysoges Cymru yn rhai dros dro ac yn destun cytundebau lefel gwasanaeth sy'n dod i ben yn ddiweddarach eleni. Nid oes gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg reolaeth lawn eto dros rai agweddau ar y ddarpariaeth iechyd yn Ysbyty Tywysoges Cymru, ac yn ychwanegol at hynny, mae'r sgandal famolaeth a cholli'r prif weithredwr wedi gohirio rhai penderfyniadau. Bwrdd iechyd yw hwn, bwrdd iechyd newydd, nad yw'n hollol ar wahân nac yn hollol sefydlog—yn sicr, nid yw’n barod i fod yn gwneud y math hwn o newid strategol enfawr yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

Mae'r Aelodau—ac mae Mick newydd wneud hyn yn dda iawn—wedi sôn am y galw yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Os bydd yn colli ei feddygon ymgynghorol arweiniol, bydd argyfyngau mwy difrifol yn cael eu dargyfeirio i Ben-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful, a hyd yn oed ymhellach. Felly, gadewch inni ystyried y croeso y bydd cleifion yn ei gael ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Y peth cyntaf i'w ddweud yw y byddant yn cyfarfod â staff twymgalon a gofalgar sy'n gweithio’n ofnadwy o galed, fel y dywedodd Angela Burns, yn darparu gofal meddygol a nyrsio o'r radd flaenaf. Nid oes unrhyw amheuaeth ynglŷn â hynny. Ond efallai y bydd yn rhaid iddynt aros am 16 awr cyn y gall y criw ambiwlans eu rhyddhau i ddwylo'r tîm damweiniau ac achosion brys. Ac efallai y bydd yn rhaid iddynt aros am 72 awr hefyd i wely ddod ar gael iddynt ar ward. Defnyddir pob modfedd o le yn yr adran. Pan fydd yr holl faeau’n llawn, a'r trolïau neu'r cadeiriau o flaen desg y dderbynfa ac o flaen y cypyrddau ac yn y gofod ar gyfer y goeden Nadolig i gyd yn llawn, a'r coridorau'n llawn cleifion yng ngofal y criw ambiwlans, gofynnir i gleifion sy'n ddigon iach fynd i eistedd yn y caffi. Weithiau, bydd pobl a ddylai fod wedi’u trosglwyddo i wardiau yn cael eu triniaeth i gyd yn yr adran damweiniau ac achosion brys, gan iddynt fod yno cyhyd.

Ac mae hyn i gyd ar ôl y brysbennu cychwynnol, pan fydd rhai cleifion eisoes wedi cael eu hanfon i'r is-adran mân anafiadau, sydd wedi'i chydleoli gyda'r adran damweiniau ac achosion brys, neu'n ôl allan o'r ysbyty at eu meddyg teulu neu i'r uned mân anafiadau ym Maglan. Gall fod 70 o bobl ar y safle damweiniau ac achosion brys hwnnw, sy'n fach iawn mewn gwirionedd, ar unrhyw un adeg. Ac nid diffyg meddygon ymgynghorol neu staff o'r radd flaenaf yw'r rheswm am hyn. Y rheswm am hyn yw’r anallu i symud cleifion drwy'r ysbyty oherwydd oedi wrth drosglwyddo gofal. Ac o ganlyniad, nid oes modfedd o le ar gyfer galw newydd a ddaw o Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

Nawr, eich cyfrifoldeb chi yw hyn, Weinidog. Ni waeth pwy a ddechreuodd y sgwrs, mae'r bwrdd iechyd hwn yn ceisio gwasgu chwart i bot peint, a'r rheswm mai pot peint yw hwn yw nad ydych chi wedi dangos arweiniad ar flocio gwelyau. Chi yw'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Rhyngoch chi, rydych chi a'r Prif Weinidog bellach wedi bod yn gyfrifol am chwe blynedd, ond mae'n rhaid i fy etholwyr sydd ag anghenion brys eistedd mewn cadair lle mae'r goeden Nadolig fel arfer yn mynd gan nad oes lle iddynt mewn man arall yn yr ysbyty.

Hoffwn symud ymlaen i ddau bwynt sy’n ymwneud yn benodol â rhaglen de Cymru, a'r cyntaf yw hwn: euthum i Ysbyty Tywysoges Cymru i geisio darganfod pam fod eu hamseroedd trosglwyddo o ambiwlansys mor hir, ond yn Ysbyty'r Tywysog Siarl, gallai fod cyn lleied â 15 munud. A'r ateb oedd: gwahaniaeth barn—gwahaniaeth barn feddygol am yr hyn sy'n fwy diogel i gleifion.

Weinidog, fe ddywedoch chi a'ch rhagflaenydd dro ar ôl tro yn 2014—ac rydych wedi'i ddweud eto heddiw—eich bod yn dibynnu ar farn feddygol ynglŷn â beth sy'n wasanaeth diogel. Bydd mwy nag un farn feddygol bob amser—ac rydym wedi clywed heddiw gan Leanne Wood fod barn feddygol eisoes wedi newid. Eich gwaith ar y pryd oedd herio a chraffu, defnyddio'ch holl ystrywiau twrneiaidd i ddod o hyd i'r gwendidau mewn dadleuon a gyflwynwyd i chi, ynghyd â'u cryfderau. Yr hyn nad yw wedi newid yw barn fy etholwyr.

Ni chredaf i chi wneud y gwaith craffu hwnnw, Weinidog, a dyna sydd wedi arwain at farn yr ymgynghorwyr a glywsom yn gynharach, ac felly fy ail bwynt. Os oeddech yn derbyn yn 2014, ar ôl ymchwil o'r fath, mai dim ond mewn dau safle y gellid darparu gwasanaeth damweiniau ac achosion brys diogel yn yr hyn sydd bellach yn ôl troed Bwrdd Iechyd Cwm Taf, pam fod adran damweiniau ac achosion brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn dal ar agor? Eich bai chi yw ei fod bellach, fel y dywed y ddadl, yn anniogel. Chi sydd wedi caniatáu i'r adran fodoli—o dan y cleddyf Damocles hwnnw, Mick. Ni allai fod yn anniogel yn 2014, neu byddech wedi mynnu ei gau. Ond yn lle gwrthod rhaglen de Cymru, fel y dylech fod wedi’i wneud yn 2014, a chaniatáu i Gwm Taf geisio cael y meddygon ymgynghorol hynny, i gystadlu amdanynt ar gau chwarae gwastad, rydych wedi caniatáu i’r cae chwarae ogwyddo mwy a mwy drwy beidio â herio'r bwrdd, hyd nes ein bod yn y sefyllfa rydym ynddi yn awr.

Weinidog, rwyf wedi cael llond bol ar eich clywed yn dweud beth rydych yn disgwyl i fyrddau iechyd ei wneud. Nid Gweinidog disgwyliadau ydych chi—chi yw'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Felly, gadewch inni eich gweld yn arwain fel Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ac yn atal y cynigion hyn yn awr.

15:35

Diolch i’r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl bwysig hon. Nid yw adrannau brys ein GIG yn gallu ymdopi, ac maent newydd wynebu’r perfformiad gwaethaf erioed o ran amseroedd aros. Yn fy rhanbarth i, arhosodd 40 y cant o gleifion fwy na phedair awr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, a bron i 5,000 o gleifion yng Nghwm Taf Morgannwg, a dyna pam fod cynlluniau i gau’r adran achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn llwyr neu’n rhannol mor wrthnysig.

Er nad yw Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn fy rhanbarth i, bydd y cynlluniau hyn yn cael effaith sylweddol a pharhaol ar fy etholwyr. Daeth trigolion bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr o dan fwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg fis Ebrill diwethaf, fel y gwnaeth Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Credaf y bydd cynlluniau Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg naill ai i gau'r adran damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn gyfan gwbl, neu i’w gweithredu yn ystod oriau'r dydd yn unig, yn cael effaith ddifrifol ar Ysbyty Tywysoges Cymru. Gwelodd adran achosion brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg bron i 5,500 o gleifion ym mis Rhagfyr. Pe bai’r adran yn cael ei chau, byddai'n rhaid i'r cleifion hyn fynd i ysbytai cyfagos, ac Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr yw’r agosaf.

Mae Ysbyty Tywysoges Cymru hefyd yn cael trafferth gyda'r galw. Gwelsant hwythau bron i 5,000 o gleifion ym mis Rhagfyr, ac oddeutu 60 y cant yn unig o'r rheini a welwyd o fewn y targed pedair awr. Gallai'r galw cynyddol yn sgil cau adran frys Ysbyty Brenhinol Morgannwg orlethu'r adran yn Ysbyty Tywysoges Cymru yn llwyr. Ac mae Cwm Taf yn dweud eu bod yn bwrw ymlaen â'r cynlluniau hyn ar sail diogelwch. Fodd bynnag, mae'r cynigion hyn yn gwneud y gwasanaeth yn llai diogel, nid yn fwy diogel. Mae fy etholwyr yn talu'r pris am fethiant llwyr Llywodraeth Cymru a'r byrddau iechyd lleol i gynllunio'n iawn ar gyfer y galw yn y dyfodol.

Er y bydd y cynigion hyn yn effeithio'n bennaf ar gleifion Cwm Taf, bydd eu heffaith i'w theimlo ledled Cymru. Ac os caniateir i fyrddau iechyd lleol ganolbwyntio gwasanaethau o amgylch llond llaw o ysbytai, bydd angen fflyd lawer mwy o ambiwlansys arnom. A yw Llywodraeth Cymru yn recriwtio mwy o barafeddygon, yn hyfforddi mwy o staff ambiwlans? Nac ydynt—yn yr un ffordd nad oedd ganddynt unrhyw gynlluniau integredig ar gyfer y gweithlu, sydd wedi ein harwain at brinder meddygon a nyrsys mewn adrannau damweiniau ac achosion brys.

Ac awgrymwyd hefyd na ddylai gwleidyddion ymyrryd mewn penderfyniadau am Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Ond gan ei fod yn peryglu bywydau pobl, rwy'n falch o sefyll ochr yn ochr â'n hetholwyr dros rywbeth a fyddai, pe deuai'n weithredol, yn arwain at ganlyniadau trychinebus i staff a chleifion fel ei gilydd. Mae'n braf fod Aelodau o bob plaid wedi siarad yn erbyn y cynlluniau i gau, ac rwy'n cefnogi gwelliant Mick Antoniw yn frwd, ac rwy’n annog pobl eraill i wneud hynny. Ac mae cefnogi'r cynnig hwn a gwelliannau 2, 3 a 4 yn anfon neges glir fod gan bob plaid Aelodau sy'n gwrthwynebu israddio gwasanaethau damweiniau ac achosion brys.

Ac rwy’n ailadrodd, fel y dywedodd Mick Antoniw, fod Nye Bevan wedi dweud y bydd y GIG yn para cyhyd â bod pobl yn barod i ymladd drosto, ac fe wnawn ni ymladd.

15:40

Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl bwysig hon heddiw. Credaf mai un pwynt pwysig i'w wneud ar ddechrau'r ddadl hon yw nad oes unrhyw un—yn sicr neb yn y Siambr hon—yn gwadu bod angen i'r GIG newid a newid mewn ffordd drawsnewidiol sy'n sicrhau ei fod yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, nid yr ugeinfed ganrif yn unig, fel y cafodd ei gynllunio ar ei chyfer yn wreiddiol. Y math o newid sydd dan sylw, wrth gwrs. A yw'r newid hwnnw'n flaengar? Ac yn bwysicaf oll, a yw'n mynd â’r cyhoedd gydag ef? Yn rhy aml, gwelwn nad ydyw.

Mae pwynt 1 yn ein cynnig yn tynnu sylw at bryderon cleifion a chlinigwyr ynghylch perfformiad a dyfodol adrannau brys y GIG. Mae'r dadleuon yn erbyn israddio gwasanaethau yng nghefn gwlad Cymru yn gyfarwydd. Trafodir Ysbyty Llwynhelyg yn Sir Benfro yn aml yn y Siambr hon; heddiw, cawn drafodaeth ynglŷn ag Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Mae colli gwasanaethau hanfodol, gan gynnwys pediatreg a damweiniau ac achosion brys, yn golygu bod yn rhaid i gleifion deithio pellteroedd llawer mwy i gael eu triniaeth.

Nawr, rwy'n gwybod o'r ddadl hon a chwestiynau yn gynharach, ac yn wir, o ddadleuon blaenorol y mae'r Gweinidog iechyd wedi cymryd rhan ynddynt, y bydd yn dadlau mai ansawdd y gofal iechyd a gynigir sy'n bwysig, a'i gynaliadwyedd yn y tymor hir, ei ddiogelwch, nid y pellter a deithiwyd i'w gael. Ond y pwynt yw ei bod hi'n amlwg nad yw'r cyhoedd wedi eu darbwyllo ynglŷn â hyn ac nad ydynt wedi'u perswadio gan y ddadl yn y ffordd y dylent. Felly, mae rhywbeth yn amlwg yn mynd o'i le gyda'r cynigion sydd ger ein bron a ffordd y Llywodraeth o ymgynghori.

Nawr, a bod yn deg â Llywodraeth Cymru, nid yw'n ddarlun tywyll ym mhob man yng Nghymru. Mae ad-drefnu gwasanaethau yn fy ardal i, yn ne-ddwyrain Cymru, o ganlyniad, yn bennaf, i'r rhaglen Dyfodol Clinigol Gwent, y gwn fod Lynne Neagle, yr Aelod dros Dorfaen, wedi bod yn rhan ohoni gyda mi dros y blynyddoedd hefyd, ar y cyfan, wedi cael cefnogaeth y bobl leol. Fodd bynnag, cafwyd pryderon yn ddiweddar ynghylch symud gwasanaethau, yn enwedig yr adran damweiniau ac achosion brys o Ysbyty Nevill Hall i ysbyty athrofaol newydd y Grange yng Nghwmbrân. Mae moeswers i’w chael yma—fod pobl yn cefnogi newid, ond fesul tipyn yn unig, ac mae'n rhaid ei werthu iddynt, mae'n rhaid iddynt fod yn rhan o'r newid hwnnw, ymwneud ag ef, mynegi barn arno a'i weithredu.

Mae adrannau damweiniau ac achosion brys yn fater sensitif iawn, un o'r elfennau mwyaf sensitif yn y gwasanaeth iechyd o bosibl. Mae cleifion allanol yn dymuno cael sicrwydd y bydd y gwasanaethau hynny ar gael lle a phan fo'u hangen arnynt. Y term 'uned mân anafiadau'—a chredaf mai Mick Antoniw yn ei araith ragorol a soniodd am unedau mân anafiadau—er ei fod yn gweithio'n dda ar bapur o bosibl, pan fydd pobl yn cynllunio trefn a rhaniad gwasanaethau newydd, y peth trist yw, pan fyddwch chi allan ar lawr gwlad yn siarad â phobl, nid yw'r term 'uned mân anafiadau' yn gwneud y tro. Nid yw'n gwneud y tro gyda'r cleifion ac nid yw'n gwneud y tro gyda'r clinigwyr. Nid yw'n cymryd lle uned damweiniau ac achosion brys, yn sicr nid yn yr un modd â'r hyn rydym wedi arfer ag ef yn flaenorol.

Fel y dywedaf, mae'r ad-drefnu yng Ngwent wedi'i chefnogi a'i derbyn i raddau helaeth, ond yn sicr, nid yw hynny'n wir mewn rhannau eraill o Gymru—nid yn Hywel Dda yn sicr. Mae'r cynigion i ddod â gwasanaethau 24 awr dan arweiniad meddygon ymgynghorol yn adran achosion brys Ysbyty Morgannwg Brenhinol i ben, wrth gwrs, wedi achosi cryn bryder ac mae'r rheini wedi'u nodi yn y ddadl hon. Mae dewisiadau i'w cael yma. Oes, mae angen adnoddau enfawr ar y GIG. Mae triniaethau modern yn costio arian. Mae arian wedi bod yn brin. Mae'r adnoddau'n brin. Ond fel y mae'r Aelodau wedi’i ddweud eisoes, gall Llywodraeth Cymru lywio pethau. Gall ymyrryd, os yw hynny’n briodol, a gall sefyll dros bobl leol a gwasanaethau lleol os yw am wneud hynny, os yw'n credu mai'r blaenoriaethau hynny yw blaenoriaethau'r Llywodraeth a'r bobl, a gadewch inni wynebu hynny, dyma y mae’r rhan fwyaf o bobl ei eisiau.

Credaf fod angen inni gydnabod nad oes atebion hawdd yma. Mae problemau strwythurol wedi cronni dros flynyddoedd lawer yn y GIG—cyn datganoli, mewn gwirionedd—a phroblemau nad yw’n hawdd eu datrys. Nid yw dweud 'Byddwn yn israddio gwasanaethau mewn un ardal ac yn eu cynyddu mewn ardal arall’—os ydych yn lwcus—yn ddigon da yn y byd sydd ohoni. I gyd-fynd â newid trawsnewidiol, mae angen gweledigaeth, gweledigaeth sy'n cynnwys y cyhoedd a chlinigwyr, sy'n gwneud yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn dweud yn aml mewn dadleuon yn y Siambr ei bod am ei wneud: rhoi'r claf ynghanol y broses. Pa mor aml y siaradwn am gydgynhyrchu, rhoi'r claf ynghanol y broses, rhoi'r sawl sy'n derbyn y gwasanaeth yn y canol? Ydy, mae'n syniad gwych ar bapur, ond nid yw wedi digwydd hyd yn hyn mewn dadleuon fel hon, a dyna ddylai ddigwydd.

Yn absenoldeb y weledigaeth honno, fel yr Aelodau eraill, rwy'n credu y dylid gohirio’r broses o israddio gwasanaethau fan lleiaf, y dylid eu hailystyried fan lleiaf, ac y dylid ailasesu ailstrwythuro ledled Cymru lle mae'n gwbl amlwg nad oes cefnogaeth i ailstrwythuro. A dylid sicrhau bod y claf ynghanol y broses.

15:45

Mae'r ddadl heddiw yn gyfle i anfon neges gref o gefnogaeth o blaid cadw’r adran damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg; i ddangos faint yn union o bobl a fydd yn cael eu heffeithio gan y cynigion hyn gan y bwrdd iechyd; i ddangos pa mor bwysig yw hi fod y bwrdd iechyd yn ailfeddwl ac yn cynnig atebion cryf, diogel a chynaliadwy yn lle hynny.

Rwyf wedi cyd-gyflwyno gwelliant 4 i gofnodi fy ngwrthwynebiad i gau'r uned damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. I fy etholwyr sy'n byw yng Nghilfynydd, Glyn-coch ac Ynys-y-bŵl, mae llif cleifion yn mynd tuag at Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Byddai cau ei adran damweiniau ac achosion brys yn cael effaith glir a diymwad ar eu gallu i gael mynediad at ofal iechyd brys.

O'r nifer o bobl sy'n anfon e-byst, yn ymuno â grwpiau cyfryngau cymdeithasol, yn arwyddo'r datganiad o gefnogaeth i adran damweiniau ac achosion brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg a gyhoeddwyd ar y cyd gan wleidyddion Llafur a Phlaid Cymru ac ystod o undebau llafur, pobl sy'n mynychu cyfarfodydd cyhoeddus ar draws ôl troed y bwrdd iechyd, yn ymgynnull y tu allan i'r Senedd yn gynharach heddiw, gallwn weld yn glir yr ymlyniad angerddol sydd gan aelodau o'r gymuned leol i gadw'r gwasanaeth, i sicrhau bod y bobl sydd angen defnyddio'r gwasanaeth hwnnw yn gallu cael mynediad at wasanaeth damweiniau ac achosion brys dan arweiniad meddyg ymgynghorol yn eu cymuned leol eu hunain.

Hefyd, nid yw cau yn gwneud synnwyr. Er enghraifft, yn 2019, mynychodd bron i 64,000 o bobl y gwasanaeth damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Mae hynny dros 2,000 yn fwy nag Ysbyty'r Tywysog Siarl, a 4,500 yn fwy nag Ysbyty Tywysoges Cymru. Er y byddai'n annheg cymharu un ysbyty â’r llall, mae'n deg cydnabod mai adran damweiniau ac achosion brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg yw'r brysuraf yng Nghwm Taf Morgannwg, ac mae hefyd yn perfformio'n dda iawn. Gan ddefnyddio dangosyddion pedair, wyth a 12 awr, cofnodir yn gyson mai yn adran damweiniau ac achosion brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg y mae'r ganran uchaf o gleifion sy'n cael eu gweld o fewn llai na'r amseroedd aros targed. Mae ei ffigurau hefyd yn uwch na chyfartaledd Cymru gyfan ar gyfer trin cleifion. Yn ogystal â hynny, byddai cau gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yno'n cynyddu'r pwysau ar adrannau damweiniau ac achosion brys eraill, nid yn unig yng Nghwm Taf Morgannwg, ond ymhellach i ffwrdd o bosibl. Soniais fod yr adran damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg wedi gweld 64,000 o bobl yn 2019. Wel, gadewch i ni ddadansoddi hynny. Dyna dros 5,000 o bobl y mis, neu 166 o bobl y dydd.

Mae'r bwrdd iechyd yn cynnig y dylid gweld y bobl hyn yn ei ysbytai cyffredinol dosbarth eraill, ond a oes ganddynt gapasiti i weld y cynnydd sydyn hwn yn nifer y cleifion, yn enwedig pan ystyriwn y bydd y gwaith o adeiladu tai ychwanegol yn yr ardal yn y dyfodol yn ychwanegu oddeutu 20,000 eiddo ychwanegol yng nghyffiniau Ysbyty Brenhinol Morgannwg ei hun? Nid yw'r bwrdd iechyd wedi darparu unrhyw ffigurau sy’n awgrymu y gall naill ai Ysbyty Tywysoges Cymru neu Ysbyty'r Tywysog Siarl ymdopi â llif ychwanegol o'r fath.

Mae cynlluniau o'r fath hefyd yn anwybyddu'r ddaearyddiaeth sy'n gwneud Cymoedd de Cymru’n lleoedd mor wych i fyw ynddynt. Mae pellteroedd ac amseroedd teithio i ddefnyddio'r dewisiadau amgen arfaethedig yn bellach ac yn hirach. Mae hynny'n golygu mwy o risg o golli'r awr euraidd hollbwysig ar gyfer triniaeth. A phan fyddwn yn ystyried proffil oedran yr ardaloedd dan sylw, a lefelau uchel y cyflyrau iechyd gwaelodol, mae hyn yn fwy difrifol o lawer. Yn wir, daw’r dystiolaeth fwyaf pwerus o blaid cadw’r adran damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg gan aelodau o deuluoedd sy'n cadarnhau sut y gwnaeth mynediad at y gwasanaeth achub bywydau eu hanwyliaid.

Gobeithio y bydd y ddadl heddiw a’r gefnogaeth unedig gan drigolion a chynrychiolwyr yn annog y bwrdd iechyd i ailfeddwl. Mae eisoes yn bosibl gweld ymdrech ychwanegol yn cael ei gwneud o'r diwedd i recriwtio meddygon ymgynghorol mawr eu hangen. Felly, rwyf am gofnodi fy niolch i'r bwrdd iechyd am hynny. Ond mae hefyd yn gyfle inni ailystyried sut y gwnawn y ddarpariaeth gyfredol hyd yn oed yn well er mwyn lleddfu peth o'r pwysau ar wasanaethau damweiniau ac achosion brys y rheng flaen. Gadewch i ni ailedrych ar rôl unedau mân anafiadau mewn ysbytai cymunedol; gallant leddfu pwysau ar unedau damweiniau ac achosion brys a gwneud cymaint yn fwy nag y mae eu henw yn ei awgrymu—trin esgyrn sydd wedi torri, er enghraifft. Credaf ei bod yn warthus, a dweud y gwir, nad yw'r uned mân anafiadau yn Ysbyty Cwm Cynon yn glinig galw i mewn ond yn hytrach yn wasanaeth apwyntiad yn unig. Mae angen edrych ar y pethau hyn eto, ac rwy'n gobeithio y gall hynny fod yn rhan o gynigion y bwrdd iechyd.

Mae cryfder y teimlad y mae hyn wedi’i ennyn yn glir, felly hoffwn annog fy nghyd-Aelodau i anfon neges gref heddiw a chefnogi gwelliant 4.

15:50

Codaf i siarad am y cynnig heddiw oherwydd yr undod yr hoffwn ei ddangos gyda'r bobl hynny sy'n ymgyrchu dros eu gwasanaethau ysbyty yn ne Cymru ar hyn o bryd, yn enwedig mewn perthynas â’r adran achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Rwyf wedi bod yno, wedi gwneud hynny, mae gennyf y crys-T, ac mae gennyf y creithiau i ddangos hynny: yr ymgyrch, a oedd yn ymgyrch drawsbleidiol, y bu’n rhaid i ni ei chael er mwyn achub ein gwasanaethau mamolaeth yng ngogledd Cymru.

Hyd a lled y wers a ddysgais yn yr ymgyrch honno oedd mai dim ond pan fydd Gweinidogion yn ymyrryd y byddwch yn cael y canlyniad cywir mewn gwirionedd, gan mai dyna oedd y sefyllfa i ni. Dywedwyd wrthym fod gwasanaethau'n anniogel ac yn ansefydlog; fe'u gwnaed yn anniogel ac yn ansefydlog oherwydd yr ansicrwydd ynghylch dyfodol y gwasanaethau hynny, sy'n union yr un peth â'r sefyllfa yn adran achosion brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg ar hyn o bryd. Roedd y sefyllfa mor ansefydlog, dywedwyd wrthym y byddai'n rhaid i'r gwasanaeth gau, ac roedd cynlluniau wedyn, wrth gwrs, i newid y gwasanaethau hynny a chael gwared ar y gwasanaethau mamolaeth dan arweiniad meddygon ymgynghorol o Ysbyty Glan Clwyd, fel oedd hi ar y pryd.

Bu’n rhaid i filoedd o bobl orymdeithio ar y strydoedd—degau o filoedd; bu’n rhaid i ddegau o filoedd o bobl lofnodi llythyrau a llofnodi deisebau er mwyn sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed; a bu’n rhaid i wleidyddion roi gwleidyddiaeth bleidiol o’r neilltu, a chroesawu ei gilydd a sefyll ochr yn ochr er mwyn ymgyrchu dros gadw’r gwasanaethau hynny. Oherwydd gweithredu o'r fath, gweithredu cydunol ar sail drawsbleidiol, penderfynodd y Prif Weinidog ar y pryd ymyrryd. Ac edrychwn tuag atoch chi heddiw fel Gweinidog iechyd yma yng Nghymru, Vaughan Gething, ac rydym yn erfyn arnoch i fod yn ddigon dewr i herio'r wybodaeth a gyflwynwyd i chi ac i wrando ar y corws o leisiau a fu’n siantio y tu allan i'r Senedd yn gynharach y prynhawn yma, yn galw am eich ymyrraeth i ddatrys y broblem, gan na chredaf y caiff ei datrys fel arall.

Hoffwn siarad am ychydig eiliadau'n unig am ba mor fregus yw adrannau brys, nid yn unig yn ne Cymru yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, ond mewn rhannau eraill o'r wlad, wrth gwrs. Gwyddom fod gennym darged o 95 y cant i bobl fod i mewn ac allan o adrannau brys o fewn pedair awr. Yn anffodus, nid yw’r targed hwnnw wedi’i gyrraedd erioed. Mewn gwirionedd, yn anffodus, mae'r sefyllfa o ran y perfformiad gwaethaf yn erbyn y targed hwnnw yng ngogledd Cymru. Yr ysbyty sy'n perfformio waethaf yng ngogledd Cymru ar hyn o bryd yw Ysbyty Maelor Wrecsam, sydd wedi bod yn gwneud yn waeth nag unrhyw le arall ar draws y GIG cyfan, ledled y DU. Mae eich gobaith o adael yr adran achosion brys o fewn y targed pedair awr ar hyn o bryd yn Ysbyty Maelor Wrecsam yn 50 y cant, ac nid yw fawr gwell yng Nglan Clwyd, ond yn dal i fod tua 50 y cant. Bydd dau o bob 10 o bobl yn Ysbyty Glan Clwyd yn aros mwy na 12 awr—dau o bob 10. Ni fydd un o bob pump o bobl sy'n dod drwy'r drws mewn argyfwng yn cael eu rhyddhau am o leiaf 12 awr.

Nawr, gwyddom fod cyfuniad o bethau'n arwain at yr ystadegau perfformiad echrydus hyn. Un ohonynt, fel y nodwyd eisoes, yw nifer y gwelyau mewn ysbyty. Dros y degawd diwethaf, yn sicr yng ngogledd Cymru, rydym wedi gweld bod un o bob pedwar gwely wedi cael eu golli o'n hysbytai. Mae hynny'n sicr o arwain at bwysau wrth ddrws blaen yr ysbyty, sef yr adran achosion brys, oherwydd os na allwch ryddhau unigolyn o'r adran achosion brys i wely ysbyty pan fydd angen un arnynt, yna yn anffodus, maent yn mynd i achosi tagfeydd ar ben blaen yr ysbyty.

Wrth gwrs, mae hynny'n arwain at broblemau wedyn gyda'n gwasanaethau ambiwlans, gan fod ambiwlansys yn cyrraedd, maent am ryddhau cleifion i'r adran achosion brys fel y gallant ymateb i'r alwad nesaf, ac ni allant wneud hynny. O ganlyniad i hynny, yn anffodus, rydym wedi gweld cleifion yn marw wrth aros am ambiwlansys, ac weithiau'n wynebu’r sarhad o farw mewn meysydd parcio mewn ambiwlansys y tu allan i ddrysau blaen ein hysbytai, pan fydd y cymorth sydd ei angen arnynt ychydig lathenni i ffwrdd. Mae'n hollol frawychus.

Felly, mae arnom angen adnoddau ychwanegol yn ein gwasanaeth iechyd gwladol, mwy o welyau yn ein hysbytai, ac mae angen i chi, Weinidog, ymyrryd yn y sefyllfa hon yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg a sefyll ochr yn ochr â'ch cyd-Aelodau ar y meinciau cefn—a chodaf fy het i bob un ohonynt heddiw am herio'ch Llywodraeth ar hyn. Byddwn yn parhau i ymgyrchu gyda’r bobl a fu’n gorymdeithio y tu allan i’r Senedd heddiw hyd nes y gwyddom fod dyfodol y gwasanaethau hyn yn ddiogel.

15:55

Mae Ysbyty Brenhinol Morgannwg angen ei adran achosion brys.

Mae angen ei adran damweiniau ac achosion brys ar Ysbyty Brenhinol Morgannwg, ac mae angen iddi gael ei harwain gan feddygon ymgynghorol i allu ymdrin bob awr o bob dydd ag argyfyngau meddygol acíwt a thrawma sylweddol. Wrth gwrs, mae trawma sylweddol—llosgiadau ac ati—yn cael eu trin yn well mewn canolfannau arbenigol, ond byddai bywydau'n cael eu colli a byddai pwysau'n dod yn llethol ar unedau damweiniau ac achosion brys eraill yn y bwrdd iechyd a thu hwnt pe bai'r adran yn cael ei hisraddio neu ei chau. Rwy'n siŵr fod y Gweinidogion yn ymwybodol, yn ogystal â bod y meddygon ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn dweud heddiw eu bod am gadw eu hadran damweiniau ac achosion brys, fod meddygon yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd yn sgrechian, 'Peidiwch â chau'r adran damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, gan y byddwn yn cael ein gorlethu.' Mae canoli a’r peryglon posibl yn sgil hynny wedi bod yn thema yng ngwleidyddiaeth Cymru ers degawd. Mae'n digwydd ar hyn o bryd, gyda’r trychineb o gael gwared ar wasanaethau fasgwlaidd o Ysbyty Gwynedd. Rydym yn ei weld eto yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg gyda'r adran damweiniau ac achosion brys.

Mae gennym ddigon o astudiaethau sy'n awgrymu nad dyma'r peth iawn i'w wneud. Cynhaliwyd astudiaeth gan Brifysgol Sheffield yn 2007 a ddadansoddodd dros 10,000 o alwadau brys, a chanfu berthynas rhwng pellter i'r ysbyty a marwolaethau. Canfu fod cynnydd o 10 km mewn pellter yn gysylltiedig â chynnydd absoliwt o oddeutu 1 y cant mewn marwolaethau. Ceir astudiaethau eraill hefyd: astudiaeth a ganfu fod cynnydd o 10 munud yn yr amser teithio yn arwain at gynnydd o 7 y cant yn y risg gymharol o farwolaeth. Yn yr achos hwn—gyda’r ysbyty hwn, y ddaearyddiaeth honno, y tywydd fel y gall fod, a'r traffig fel y gall fod—nid yw 10 munud yn agos at yr amser ychwanegol y byddai'n rhaid i bobl deithio pe bai'r adran damweiniau ac achosion brys hon yn cau. Felly, ar ôl pwyso a mesur, ar wahân i'r materion trawma mawr hynny ac ati y soniais amdanynt, rydym yn argyhoeddedig yma fod angen inni gadw'r adran damweiniau ac achosion brys hon er diogelwch y cleifion.

O ran recriwtio, mae meddygon ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn hyderus y gellir recriwtio’r meddygon cywir, yn anad dim drwy gael gwared ar y bygythiad o gau’r adran neu ei hisraddio. Cofiaf y cynllun i gael gwared ar wasanaethau mamolaeth dan arweiniad meddygon ymgynghorol o Ysbyty Gwynedd. Buom ni, y gymuned, yn protestio a chafodd y penderfyniad ei wrthdroi. Ac a wyddoch chi beth? Yn sydyn, nid oedd recriwtio’n broblem a chodwyd lefelau staffio i'r lefel angenrheidiol o ran diogelwch cleifion. Felly, gadewch inni adeiladu dyfodol i'r adran damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg wrth i ni geisio adeiladu GIG Cymru sy'n gynaliadwy ac sy'n canolbwyntio ar yr ardaloedd lleol, a gadewch inni wneud hynny er lles y cymunedau a'r bobl y mae'n eu gwasanaethu.

Diolch yn fawr, Lywydd. Cyn i mi sôn am y materion ehangach a godwyd gan Aelodau yn y ddadl heddiw, hoffwn ddechrau drwy ddiolch i’n staff, gan fod ansawdd a thosturi ein staff bob amser yn cael ei ganmol pan fydd pobl yn cysylltu â mi. Mae hynny'n helpu i egluro pam ein bod yn parhau i weld lefelau mor eithriadol o uchel o foddhad ymhlith y cyhoedd ar draws GIG Cymru, er gwaethaf y pwysau parhaus y mae ein GIG yn ei wynebu. Fel y gwnaeth y Prif Weinidog atgoffa’r Aelodau ddoe, pan ofynnir i’r cyhoedd, mae 93 y cant o bobl yn fodlon â’u profiad eu hunain o ofal lleol neu mewn ysbyty. Mae pwysigrwydd ein GIG a'r ymlyniad cyhoeddus wrtho wedi'i adlewyrchu ar risiau'r Senedd ac yn y ddadl heddiw, fel sydd wedi digwydd ar gymaint o achlysuron o'r blaen. Mae gan gynifer ohonom, gan fy nghynnwys i, reswm da i fod yn ddiolchgar am ein gwasanaeth iechyd gwladol. Mae diogelwch ein GIG yn awr ac yn y dyfodol o'r pwys mwyaf.

Mae llawer o'r cwestiynau rwyf wedi'u hwynebu yn y Siambr hon fel y Gweinidog iechyd dros y flwyddyn ddiwethaf wedi canolbwyntio ar achosion lle nad oedd diogelwch a thryloywder y gwasanaeth yn flaenoriaeth gyntaf a phwysicaf. Ni wnaf ymyrryd, ac rwy'n siŵr nad yw'r Aelodau ar draws y Siambr yn disgwyl o ddifrif i mi ymyrryd drwy gyfarwyddo neu geisio cyfarwyddo unrhyw fwrdd iechyd neu ymddiriedolaeth i geisio gweithredu gwasanaeth anniogel cyhyd â'i fod yn lleol. Mae'r farn broffesiynol ar ddiogelwch uniongyrchol y gwasanaeth damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg wedi'i rhoi, fel y dylai, gan y cyfarwyddwr meddygol, yr uwch feddyg yn y bwrdd iechyd.

16:00

Ond yn amlwg nid dyna ddiwedd y mater. Wrth ystyried unrhyw newid posibl o'r math hwn, mae’n rhaid i’r bwrdd iechyd fod yn agored ac yn dryloyw ynghylch y materion canlynol fan lleiaf—

Rwy'n mynd i ymdrin â hyn oherwydd mae gennyf lawer i’w drafod. 

Y rhesymau uniongyrchol a mwy hirdymor am unrhyw newid posibl i’r gwasanaeth; yr opsiynau y mae'n eu hystyried; ac effaith unrhyw rai o'r opsiynau hynny, gan gynnwys effeithiau gwneud dim. Ac wrth gwrs, dylai effeithiau opsiynau ar gyfer newid gynnwys yr effaith ar ansawdd, diogelwch a mynediad o ran amser a daearyddiaeth. A dylid rhannu'r wybodaeth am y galw a'r angen am wasanaethau presennol ac yn y dyfodol yn agored gyda'r cyhoedd. Dylai'r bwrdd iechyd nodi sut y bydd yn gwrando ar y cyhoedd a'i staff ac yn ymgysylltu â hwy. 

Dylai'r holl faterion hyn gael eu rhannu â chynrychiolwyr etholedig, a’r cyngor iechyd cymuned lleol wrth gwrs. Ac mae ymgysylltiad staff ac undebau llafur yn hanfodol i'r ddarpariaeth bresennol ac unrhyw ddarpariaeth yn y dyfodol. Rwy'n deall yn iawn fod gan bobl bryderon ac ofnau gwirioneddol am y gwasanaeth yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn y dyfodol a'r hyn y bydd yn ei olygu i'w teuluoedd a'u cymunedau. Rwy’n disgwyl i gynrychiolwyr etholedig gyflwyno pryderon eu hetholwyr a phwyso am ddewisiadau amgen, ac mae hynny'n cynnwys effaith unrhyw gynigion ynghylch gwasanaethau cymunedol ar Ysbyty Cwm Cynon a dyfodol Ysbyty Cwm Rhondda, yn ogystal ag Ysbyty’r Tywysog Siarl, Ysbyty Tywysoges Cymru a Chaerdydd. 

Efallai y byddai'n ddefnyddiol ymateb i'r pryderon y mae rhai o’r Aelodau wedi'u mynegi heddiw yn y Siambr a'r tu allan ynglŷn â gwasanaethau eraill. Mae'r bwrdd iechyd wedi nodi ddoe na fyddant yn cau gwasanaethau eraill—ni fydd unrhyw theatrau'n cau, nac unedau therapi dwys, ac ni fydd swyddi'n cael eu colli os bydd y newid i wasanaethau'n mynd rhagddo. 

Mae gwelliant y Llywodraeth yn nodi’r datganiad trawsbleidiol ar y cyd am ddyfodol gwasanaethau brys yng Nghwm Taf Morgannwg. Yn y datganiad hwnnw, gofynnir am ystod o wybodaeth gan y bwrdd iechyd am y dystiolaeth sy'n sail i gynigion ar gyfer newid a'u heffaith. Rwy'n disgwyl i'r wybodaeth honno gael ei rhyddhau i'r cyhoedd neu esboniad pam na wneir hynny. 

Ac rwy'n clywed yr hyn y mae'r Aelodau wedi'i ddweud heddiw a chyn hynny am raglen de Cymru. Nawr, ni phenderfynwyd ar hyn yn ganolog gan Lywodraeth Cymru; deilliodd o ymgysylltu â dros 500 o glinigwyr rheng flaen sy'n byw, yn gweithio ac yn gwasanaethu mewn cymunedau ledled de Cymru. Y safbwynt terfynol y cytunwyd arno ynghylch rhaglen de Cymru chwe blynedd yn ôl oedd cael uned mân anafiadau 24 awr yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Eisoes, mae wedi datblygu ac mae wedi bod ar flaen y gad ledled Cymru yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg o ran gofal meddygol acíwt a fyddai wedi mynd yn flaenorol i adrannau damweiniau ac achosion brys. Wrth gwrs, mae eisoes yn datblygu’r hyb diagnostig gwerth £6 miliwn y clywsom gymaint o sôn amdano mewn perthynas â'i effaith ar wasanaethau canser.

Fodd bynnag, rwy’n cydnabod bod y bwrdd iechyd eisoes yn ailystyried y cynllun uned mân anafiadau 24 awr, ac maent wedi nodi opsiynau posibl er mwyn i ofal dan arweiniad meddyg ymgynghorol barhau ar y safle. Wrth ystyried ffordd ymlaen, deallaf fod y bwrdd iechyd yn ystyried canlyniadau rhaglen de Cymru, y newidiadau a wnaed ers hynny i'r ddarpariaeth gofal iechyd ac anghenion gofal iechyd y boblogaeth bresennol a’r boblogaeth yn y dyfodol yn yr ardal ac wrth gwrs, y realiti na ellir ei osgoi o ran recriwtio staff. Fel y gŵyr yr Aelodau ar draws y Siambr, nid yw galw’n unig am ddod â rhaglen de Cymru i ben yn ateb y broblem; mae'n osgoi'r broblem. 

Rwyf wedi trafod yn helaeth ac ar sawl achlysur yr heriau o ddenu a chadw meddygon ymgynghorol meddygaeth frys mewn proffesiwn lle ceir prinder ledled y DU, ac yn wir mewn maes recriwtio sy’n gystadleuol iawn yn rhyngwladol. Y rheswm dros natur ddisyfyd y sefyllfa bresennol yng Nghwm Taf Morgannwg yw prinder staff uniongyrchol a welir ddiwedd mis Mawrth. Ni fyddai'n onest nac yn realistig i unrhyw Lywodraeth gytuno â geiriad gwelliant Plaid Cymru. Nid yw gwneud dim mwy na chyfarwyddo staff o Ferthyr Tudful neu Ben-y-bont ar Ogwr i weithio nosweithiau mewn ysbyty gwahanol yn gynllun credadwy, ac mae pawb ohonom yn gwybod o'n profiad ein hunain fod prinder staff wedi arwain at newid gwasanaethau oherwydd fel arall ni fyddai'r gwasanaeth yn ddiogel.

Ond nid ydym yn sefyll naill ochr a gwneud dim. Rydym eisoes yn datblygu strategaeth gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd. Disgwylir i bedwar meddyg sy'n hyfforddi gwblhau eu tystysgrif cwblhau hyfforddiant mewn meddygaeth frys yn ystod yr haf eleni ac i gael swyddi fel meddygon ymgynghorol ledled Cymru. Rhwng 2021 a 2025, disgwylir i 62 yn rhagor o feddygon gwblhau eu tystysgrif cwblhau hyfforddiant ar gyfer meddygaeth frys hefyd. Mae'r bwrdd cenedlaethol ar ofal heb ei drefnu wedi'i sefydlu ac mae wedi adolygu gofynion y gweithlu ar gyfer meddygaeth frys ac ehangu'r gweithlu meddygon ymgynghorol ymhellach, camau a gefnogir gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Fodd bynnag, nid yw hynny ynddo'i hun yn ateb i holl bryderon yr Aelodau a'r cyhoedd. Y gwir amdani yw nad oes atebion cyflym na hawdd.

Bydd y Llywodraeth yn pleidleisio yn erbyn y cynnig i sicrhau ein bod yn cyrraedd gwelliant y Llywodraeth sy'n cydbwyso ein disgwyliadau ynglŷn â sut y mae'r bwrdd iechyd yn gwneud penderfyniad gyda chyfrifoldeb cyfreithiol Gweinidogion. Fel y gŵyr Aelodau ar draws y Siambr, gallai Gweinidogion, a minnau'n benodol, orfod gwneud penderfyniad terfynol ar wasanaeth. Felly, bydd y Llywodraeth yn ymatal ar welliannau 3 a 4.

Gwn fod pobl yn poeni'n fawr am ddyfodol ein GIG. Rwy'n poeni hefyd. Rwy'n disgwyl i'n holl wneuthurwyr penderfyniadau yn ein gwasanaeth iechyd gwladol wrando ar yr hyn sydd gan y cyhoedd a'u cynrychiolwyr etholedig i'w ddweud, ac i fod yn agored, yn onest ac yn dryloyw gyda'r cyhoedd a'u staff. Rwy'n disgwyl i'n GIG wneud dewisiadau sy'n darparu gwasanaeth cadarn a diogel. Dyna rwy'n ei ddisgwyl ar gyfer fy nheulu ac nid wyf yn disgwyl dim sy'n llai na hynny ar gyfer y wlad.

16:05

Diolch yn fawr, Lywydd. Yn yr amser a roddir i mi, fe wnaf fy ngorau i grynhoi, sef tua dau funud a 40 eiliad.

Rhaid imi ddweud, ar y perfformiad hwnnw, Weinidog, gallaf ddeall yn llwyr sut y dechreuodd Jo Coburn ei chyfweliad â chi ar Daily Politics rai misoedd yn ôl drwy ddweud, 'Sut beth yw hi i fod yn Weinidog iechyd gwaethaf y Deyrnas Unedig?' Ni wnaethoch ymateb o gwbl i unrhyw bwynt a wnaeth yr amrywiol Aelodau yn y sefydliad hwn, o feinciau'r Llywodraeth, o feinciau'r gwrthbleidiau, ac fe fethoch chi dderbyn unrhyw ymyriad. Mae hynny'n dangos pa mor simsan yw'r tir rydych chi'n sefyll arno, Weinidog.

Hefyd, rhan olaf y datganiad a wnaethoch, lle dywedoch chi y gallai fod yn rhaid ichi wneud penderfyniad yn y pen draw ar rai o'r newidiadau hyn i wasanaethau, sy'n dangos mai chi sy'n gyfrifol, a Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol, am gyfeiriad strategol y gwasanaeth iechyd. Mae angen penderfyniad gennych chi i'r bwrdd iechyd i wneud yn siŵr fod y ddarpariaeth ddamweiniau ac achosion brys yn cael ei chadw yn ei lle. Os nad ydych chi'n barod i wneud hynny, o leiaf gwnewch yn siŵr fod yr etholwyr yn cael cyfle i wneud hynny gan fod yn rhaid cyflwyno'r cynnig hwn gerbron yn etholiad nesaf y Cynulliad.

Rwy'n erfyn ar gyd-Aelodau ar draws y Siambr i gefnogi'r cynnig hwn heb ei ddiwygio oherwydd, yn y pen draw, mae'n ateb i'r holl bryderon a godwyd, o bwynt Vikki Howells fod adran ddamweiniau ac achosion brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn trin 64,000 o gleifion yn flynyddol. Ni wnaeth mainc eich Llywodraeth eich hun ymateb i hynny hyd yn oed, ynglŷn â sut y byddai'r ddarpariaeth honno'n cael ei rhoi yn y ddau ysbyty arall. Os nad ydynt yn barod i ymgysylltu â chi, dylech gefnogi'r cynnig hwn a phleidleisio o blaid y cynnig heb ei ddiwygio heddiw oherwydd, yn y pen draw, bydd yn dangos bod y Cynulliad yn siarad ag un llais ac yn galw ar y Llywodraeth, yr unig sefydliad a all wneud yn siŵr fod y cynnig hwn yn cael ei dynnu'n ôl.

O feinciau Plaid Cymru, gwnaethpwyd pwynt da a nodai, os ydych yn llafurio dan raglen de Cymru, a oes ryfedd nad oes unrhyw feddygon neu nad os ond ychydig iawn o feddygon wedi edrych ar hyn fel cyfle gyrfaol, pan wyddant fod yr adran yn mynd i gau'n fuan?  

Crybwyllodd Mick Antoniw, yr Aelod dros Bontypridd, y pwynt am ddatblygu, a chrybwyllodd Aelodau eraill y pwynt am ddatblygu ar draws yr ardal. Mae 20,000 o dai newydd yn mynd i gael eu codi yn yr ardal hon. Dyma ysbyty cyffredinol dosbarth sy'n gwasanaethu poblogaeth sy'n tyfu ac mewn gwirionedd, mae ymdrin â chynigion a gyflwynwyd gyntaf tua chwe blynedd yn ôl yn gwbl anghydnaws â'r hyn sydd ei angen ar yr ardal benodol hon, ardal rwy'n ei hadnabod yn eithriadol o dda, oherwydd rwyf wedi byw yno ers blynyddoedd lawer, ac rwy'n adnabod y bobl sy'n dibynnu ar y gwasanaeth hwnnw.

A gallaf eich gweld yn ysgwyd eich pen. Dewch, heriwch fi felly, Weinidog. Os ydych am ymyrryd, gwnewch hynny, oherwydd fe dderbyniaf eich ymyriad. Fe allwch ymyrryd yma a newid cyfeiriad y cynigion hyn, a diolch i bob un o'r protestwyr a ddaeth i'r Senedd heddiw i ddangos eu rhwystredigaeth a'u dicter. Rwy'n deall bod llawer o'r wynebau hynny wedi cymryd diwrnod i ffwrdd o'r gwaith am eu bod mor bryderus am y cynigion hyn ac wedi dod i gartref democratiaeth yng Nghymru. Cyflwynwyd y cynnig hwn heddiw i ymateb i'r pryderon hynny, a gall y Senedd siarad ag un llais—un llais clir, fel y dywedodd Darren Millar yn ei gyfraniad. Pan fydd ffigurau uwch y Llywodraeth yn ymyrryd mewn gwirionedd, mae pethau'n dechrau digwydd, fel yn y gwasanaethau mamolaeth yng ngogledd Cymru. Felly, galwaf ar y Senedd i gefnogi'r cynnig sydd gerbron y Siambr. Yn hytrach na dim ond y geiriau, dechreuwch weithredu: gwasgwch y botwm gwyrdd a chefnogwch y cynnig hwn heb ei ddiwygio heddiw.

16:10

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Dwi'n gohirio'r bleidlais, felly, tan y cyfnod pledleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

4. Cwestiynau Amserol
5. Datganiadau 90 Eiliad

Diolch, Lywydd. Mis Chwefror yw mis hanes pobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol+. Mae'n gyfle i goffáu gorffennol y gymuned LGBT+, i ddathlu ei hamrywiaeth a'i chyflawniadau ac i gynnig gobaith i'r dyfodol, gan ein hatgoffa hefyd o'r frwydr dros hawliau cyfartal i bawb. Cafodd ei ddathlu am y tro cyntaf yn y DU yn 2005. Sefydlwyd y grŵp gan Sue Sanders a'r diweddar Paul Patrick, a chanolbwyntiai ar addysgu pobl ifanc am y problemau y mae aelodau o'r gymuned LGBT+ yn eu hwynebu a gwneud yn siŵr fod ysgolion yn teimlo'n gynhwysol i bawb. Ers hynny, mae'r achlysur wedi mynd o nerth i nerth.

Eleni, mae'n 16 o flynyddoedd ers y mis hanes LGBT+ cyntaf, a'r thema yw barddoniaeth, rhyddiaith a dramâu. Yn ystod y mis, gallwn gofio traddodiad cyfoethog beirdd, awduron a dramodwyr LGBT+. Gallwn hefyd gofio'r camau a gymerwyd tuag at gydraddoldeb yn y Senedd hon a thu hwnt. Hoffwn longyfarch Cynulliad Cenedlaethol Cymru unwaith eto am fod yn weithle Rhif 1 yng Nghymru ar gyfer gweithwyr LGBTQ+. Ond mae yna heriau o hyd, yn enwedig pan fydd dawns rhwng pobl o'r un rhyw ar deledu oriau brig yn arwain at gannoedd o gwynion i Ofcom.

Hoffwn gynnig gair o ddiolch i grwpiau lleol, fel y Prosiect Undod yn fy etholaeth, sy'n gwneud gwaith mor bwysig ar fynd i'r afael â gwahaniaethu a chynnig cymorth a chyngor, ac i ddweud, fel cyfaill LGBT+ balch, fy mod yn sefyll gyda chi yn ystod mis hanes LGBT+ a thrwy gydol y flwyddyn.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Gwasanaethau Cyhoeddus Ar-lein ac All-lein

Eitem 6 ar ein hagenda y prynhawn yma yw'r ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): gwasanaethau cyhoeddus ar-lein ac all-lein, a galwaf ar Rhun ap Iorwerth i gyflwyno'r cynnig. Rhun.

Cynnig NDM7263 Rhun ap Iorwerth, Angela Burns, Janet Finch-Saunders, Llyr Gruffydd, Siân Gwenllian, Neil Hamilton, Mike Hedges, Vikki Howells, Mark Isherwood, Delyth Jewell, Helen Mary Jones, Dai Lloyd

Cefnogwyd gan Suzy Davies, Huw Irranca-Davies

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod mwy a mwy o wasanaethau ar gael ar-lein yn unig.

2. Yn cydnabod nad oes gan bawb fynediad i'r rhyngrwyd.

3. Yn cydnabod nad yw pawb yn teimlo'n gyfforddus yn defnyddio'r rhyngrwyd.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) sicrhau bod dewisiadau all-lein ar gael o ran gwasanaethau cyhoeddus ar-lein, megis gyda'r system adnewyddu tocynnau bws; a

b) trafod gyda banciau, busnesau a sefydliadau eraill i sicrhau nad yw cwsmeriaid yn cael eu hynysu os mai dim ond gwasanaethau ar-lein a gynigir.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Pwyllgor Busnes am ganiatáu i fi gael cyflwyno'r ddadl yma heddiw yma. Diolch hefyd i'r 13 o Aelodau eraill a oedd yn barod i'w chyd-gyflwyno efo fi neu ei chefnogi. Rydw i'n meddwl bod y nifer yna'n dangos bod hwn yn fater sydd wedi taro deuddeg efo aelodaeth y Senedd yma'n gyffredinol.

Nodi ydym ni yn y ddadl yma y nifer cynyddol o wasanaethau sydd ar gael ar-lein yn unig, tra bod llawer o bobl yn dal unai heb fynediad at y rhyngrwyd—neu heb fynediad hawdd, yn sicr—neu sydd ddim yn gyfforddus yn defnyddio'r we am ba bynnag reswm. Ac rydym ni'n gofyn i Lywodraeth Cymru gamu i mewn i helpu. Nid rhyw agwedd hen ffasiwn ydy hyn. Nid ymwrthod â thechnoleg newydd ydw i; dwi'n gyfforddus iawn, fy hun, yn defnyddio gwasanaethau ar-lein, a fel cymaint o bobl, mae technoleg o'r math yma wedi gwneud fy mywyd i, yn sicr, yn haws mewn llawer ffordd. Ond, fel mae mwy a mwy o wasanaethau yn mynd ar-lein, o wasanaethau bancio, post, adnewyddu tocyn bws, llysoedd, hyd yn oed, mae mwy a mwy o bobl mewn peryg o golli allan, a dwi'n gweld o waith achos yn fy swyddfa i bod hyn yn gallu bod yn boen meddwl go iawn i rai, yn enwedig pobl hŷn.

Mae diffyg mynediad at y rhyngrwyd yn broblem i rai, fel y dywedais i, nid yn unig drwy broblemau band llydan—rydych chi wedi fy nghlywed i'n sôn amdanyn nhw droeon, rydw i'n siŵr, ynghyd â nifer o Aelodau eraill—ond hefyd y ffaith bod yna lawer o bobl, eto pobl hŷn yn bennaf, heb gyfrifiaduron na ffonau clyfar. Mae swyddfa'r comisiynydd pobl hŷn yn dweud wrthyf fi fod gan bron i 30 y cant o bobl rhwng 50 a 64 oed a 65 i 74 ddim mynediad i'r rhyngrwyd. Mae hynny'n mynd i fyny bron i dros 50 y cant ymhlith pobl dros 75 oed.

Ond nid dim ond mynediad at y rhyngrwyd sydd yn rhwystro pobl, ond y ffaith bod nifer o bobl hŷn ddim yn teimlo'n gyfforddus yn defnyddio'r rhyngrwyd, hyd yn oed y rhai sydd efallai'n teimlo'n gyfforddus efo e-bost neu Facebook. Efallai eu bod nhw'n dal i fod yn nerfus pan mae'n dod i wneud cais am rywbeth swyddogol fel tocyn bws neu ymdrin â gwasanaethau ariannol ar y we.

Oes, mae yna waith wedi cael ei wneud i gynyddu cynhwysiant digidol, hybu sgiliau pobl yn eu cymunedau ac ati, ond mae yna lawer o bobl hŷn yn enwedig yn mynd ati i ddewis peidio â mynd ar-lein, a dylen nhw ddim colli allan ar gyngor neu wasanaethau hanfodol o'r herwydd. Mae pobl sydd ddim ar-lein hefyd yn aml yn colli allan ar well fargeinion pan fydd hi'n dod i siopa neu wasanaethau fel newid darparwr trydan neu nwy. 

Felly, beth all y Llywodraeth ei wneud? Dwi'n galw ar y Llywodraeth i wneud dau beth, mewn difri, i gynorthwyo pobl rhag teimlo'n ynysig a rhag colli allan. Y cyntaf ydy edrych ar y gwasanaethau cyhoeddus y maen nhw eu hunain yn eu cynnig. Yr enghraifft ddiweddaraf, yr amlycaf, ydy penderfyniad Llywodraeth Cymru i wneud y system gais am docynnau bws am ddim yn un ar-lein yn unig, yn enwedig o ystyried pwy oedd y gynulleidfa darged, mi oedd hwn yn ddewis annoeth iawn, dwi'n credu. Mi ddaeth hi'n amlwg iawn yn fuan iawn drwy sgwrsio efo etholwyr fod pobl yn poeni'n fawr am orfod gwneud hyn ar-lein, a llawer ddim yn gwybod lle i ddechrau.

Mi wnaeth fy swyddfa i felly gynnig y byddem ni'n helpu pobl i wneud ceisiadau tocyn bws ar-lein, gan hysbysebu hynny drwy boster yn y ffenest, poster yn y swyddfa bost ac, wrth gwrs, lledaenu'r gair ar lafar. Ers mis Medi, mae fy swyddfa i wedi delio efo dros 300 o geisiadau am gerdyn bws newydd drwy wefan Trafnidiaeth Cymru. Tri chant o bobl oedd un ai ddim yn teimlo'n gyfforddus yn gwneud y cais eu hunain, neu heb fynediad at ryngrwyd i wneud hynny heblaw drwy ddod at ein swyddfa ni.

Buon ni'n clywed straeon am bobl yn colli cwsg yn poeni sut oedden nhw'n mynd i adnewyddu eu tocyn am eu bod nhw mor ddibynnol ar fysus. Rydyn ni dal rŵan yn cael pobl yn dod atom ni i ddweud eu bod nhw wedi trio gwneud cais ar bapur ond bod yna oedi mawr wedi bod efo hynny, a rhyw deimlad bod y ceisiadau papur wedi mynd i gefn y ciw, a hynny pan oedd y system ar-lein yn 'crash-o' drwy'r amser hyd yn oed ar y dechrau. 

Mi oedd etholwyr yn dweud wrthym ni hefyd eu bod nhw'n cael trafferth dod o hyd i gymorth wyneb yn wyneb mewn llefydd eraill er mwyn gwneud ceisiadau. Mi gafodd nifer eu cyfeirio atom ni gan lyfrgelloedd yn Ynys Môn, gan y cyngor ac ati. Mi oedden ni'n hapus iawn i helpu etholwyr, ond mae'n rhaid cwestiynu a oedd y ddarpariaeth yna gan Trafnidiaeth Cymru yn briodol ac a oedd y cymorth roedden nhw'n dweud oedd ar gael i gynorthwyo pobl yn ddigonol.

Mae'n amlwg bod Llywodraeth Cymru yn rhoi gwerth ar y tocyn bws i bobl hŷn neu bydden nhw ddim yn cynnig y gwasanaeth am ddim iddyn nhw, ac rydyn ni'n cefnogi hynny, wrth gwrs. Mae o'n bwysig iawn, iawn. Felly doedd o ddim yn gwneud synnwyr wedyn i fi eu bod nhw wedi rhoi'r rhwystr yma i'r broses hollbwysig o adnewyddu tocynnau.

I roi enghraifft arall ichi yn fy etholaeth i sy'n ymwneud â thrafnidiaeth: mi oedd etholwr yn mynd i orsaf rheilffordd ym mis Rhagfyr i ofyn am gopi papur o'r amserlen drenau newydd. Ond yr unig beth oedd ar gael i deithwyr oedd taflen yn cynghori bod yr amserlen yn newid ac i fynd ar y we. Dydy hynny ddim yn dderbyniol.

Felly, mi fuaswn i'n licio ymrwymiad gan y Llywodraeth eu bod nhw'n edrych ar sicrhau bod dewisiadau traddodiadol, dewisiadau all-lein, os liciwch chi, ar gael lle mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu cynnig ar-lein, ac yn enwedig—does prin angen imi ddweud hyn—pan fydd y gwasanaethau hynny wedi eu targedu at grwpiau fel pobl hŷn neu rai sydd efo anawsterau dysgu sy'n wynebu problemau tebyg.

Yr ail beth dwi'n galw amdano fo ydy i'r Llywodraeth roi pwysau ar drydydd partïon, ar y sector breifat, er enghraifft, i sicrhau nad ydy cwsmeriaid yn cael eu hynysu, ac nad ydy cwsmeriaid yn dod dan anfantais os mai dim ond gwasanaethau ar-lein sy'n cael eu cynnig. Yr enghreifftiau mwyaf amlwg, am wn i, ydy gwasanaethau bancio; dwi'n siŵr bod yna ddim un etholaeth—cywirwch fi os dwi'n anghywir—sydd ddim wedi cael ei heffeithio gan ganghennau banc yn cau. Mae 63 y cant o ganghennau yn Ynys Môn wedi cau ers Ionawr 2015, a dim ond chwe changen ar ôl ar draws yr ynys i gyd. Mi glywch chi fanc yn dweud wrth gau, 'Peidiwch â phoeni—mi all pobl ddefnyddio'r gangen yn y dref nesaf', ond yn cau honno yn ddiweddarach hefyd. Ar ben hynny, mae gennych chi sefyllfa fel gwelsom ni gan Barclays yn dweud, 'Wel, chaiff ein cwsmeriaid ni ddim tynnu arian allan yn y post, chwaith.' Roeddwn yn falch iawn ein bod ni wedi llwyddo i roi pwysau arnyn nhw i sgrapio'r syniad hwnnw.

Ond mae o'n dangos, onid ydy, ddiffyg ymrwymiad y banciau mawr i feddwl am eu cwsmeriaid, yn enwedig y rhai hŷn, ac yn benodol, byddwn i'n dweud, mewn ardaloedd gwledig? Ydw, dwi yn bancio ar-lein, ac, ydw, dwi yn sylweddoli bod hynny'n cryfhau achos y banciau dros gau. Dydw i ddim yn ddall i newid diwylliant, newid arferion y boblogaeth, a beth ydy sgileffeithiau hynny. Ond mae yna bobl sydd ddim eisiau bancio ar-lein. Dydyn nhw ddim yn ymddiried mewn bancio ar-lein, achos ei fod o'n ormod o newid diwylliant o'r hyn y maen nhw wedi arfer efo fo. Wnawn nhw ddim newid, ac maen nhw'n colli allan.

Dwi'n cofio pan es i i ymweld â chymdeithas adeiladu Yorkshire yn Llangefni pan gyhoeddwyd bod honno yn cau, ac roedd y staff yn eu dagrau yn llythrennol yn disgrifio wrthyf i'r cwsmeriaid hynny a oedd yn dod i mewn i nôl eu harian, ac yn derbyn nid un taliad mewn un amlen, ond 'Dyma chi eich arian rhent, Mrs Jones. Dyma chi eich arian ar gyfer bwyd.' Mae hwnna'n wasanaeth personol y bydd byth yn cael ei ddyblygu ar-lein, ac eithrio digidol, digital exclusion, ydy colli'r math yna o beth. Twf gwasanaethau digidol yn lleihau gwasanaethau traddodiadol a phobl sydd heb fynediad atyn nhw yn cael eu heithrio.

Enghraifft arall yn fy etholaeth yn ddiweddar oedd efo'r gwasanaeth nwy: etholwraig 92 oed yn derbyn llythyr gan British Gas yn gofyn iddi drefnu boiler maintenance check, a'i chynghori i drefnu apwyntiad ar-lein drwy'r ap. Rŵan, mi oedd hi'n poeni'n arw ar y pwynt yma, yn poeni bod yna broblem efo'i boeler hi—ac mae problem efo boeler yn gallu lladd pobl—ac yn poeni bod yna broblem efo'i boeler a hithau'n methu gwneud apwyntiad. Felly, mi ddaeth hi at fy swyddfa i, ac mi wnaethon ni gysylltu efo British Gas i wneud apwyntiad iddi hi. Eu hymateb nhw i ni oedd:

Nid yw ein llythyrau'n darparu rhifau ffôn mwyach ac maent yn cyfeirio cwsmeriaid yn uniongyrchol at ein system archebu ar-lein. Fodd bynnag, mae'r rhifau ffôn i gwsmeriaid gysylltu â ni bob amser yn cael eu darparu ar ein telerau a'n hamodau ni, a adolygir bob tua 18 mis a'u hanfon at bob cwsmer.

Ond mae'n teimlo yn annigonol iawn, rywsut, i fi, i ddisgwyl bod pobl yn cadw gafael ar y terms and conditions pan mai mater bach ydy parhau i roi'r rhifau cyswllt ar yr holl lythyrau. Achos mae'r gwasanaeth hwn yn bodoli.

Felly, dwi'n galw ar y Llywodraeth i drafod efo banciau, busnesau, gwasanaethau a sefydliadau eraill i sicrhau nad ydy pobl yn teimlo eu bod nhw'n cael eu gadael allan ohoni os mai dim ond gwasanaethau ar-lein sy'n cael eu cynnig. Fel dywedais i, dwi'n ddiolchgar iawn fod yna gymaint wedi cefnogi'r cynnig yma ymlaen llaw, ac mae'n brawf, dwi'n meddwl, fod hwn yn fater o bwys. Dwi'n edrych ymlaen i glywed eich cyfraniadau, nifer ohonoch chi, ac wrth gwrs ymateb y Llywodraeth hefyd.

16:20

Rwy'n falch iawn o gefnogi'r ddadl hon, a diolch i Rhun ap Iorwerth am ei chyflwyno. Mae'n fater sy'n bwysig iawn i lawer o fy etholwyr, gan gynnwys pobl rwy'n cymdeithasu â hwy. Mae llawer o bobl nad ydynt ar eu—. Fel fy ngwraig yn fy nghyhuddo o fod ar fy ffôn clyfar drwy'r amser—yn wir, mae yna lawer o bobl nad oes ganddynt ffôn clyfar.

O edrych arno o safbwynt sefydliad, beth sydd o'i le ar ddarparu gwasanaethau ar-lein? Mae'n arbed amser prosesu, mae'n arbed staff, mae'n arbed arian, mae'n gwirio bod pob rhan o'r ffurflen wedi'i llenwi, oherwydd os nad ydych yn llenwi rhan o'r ffurflen mae'n rhoi dot bach coch i chi ac ni fydd yn gadael i chi barhau i'r rhan nesaf. Rwy'n siŵr fod pobl eraill wedi cael y broblem honno, sydd i'w gweld yn fy wynebu gyda'r rhan fwyaf o'r ffurflenni ar-lein rwy'n eu llenwi. Mae'n gwirio bod pob rhan o'r ffurflen wedi'i chwblhau, ond mae hefyd yn sicrhau bod popeth yn ddilys. Felly, rydych yn rhoi eich dyddiad yn y fformat cywir a gallwch groesgyfeirio meysydd allweddol. Mae'n darparu ymateb cyflymach i'r unigolyn. Beth sydd ddim i'w hoffi?

Ond rwy'n credu bod hon yn enghraifft o'r pellter rhwng pobl a llywodraethau a sefydliadau mawr. Ac a gaf fi ddweud rhywbeth a allai godi arswyd ar nifer fawr o bobl sy'n rhedeg sefydliadau mawr ac uwch reolwyr mewn llawer o'r sector cyhoeddus? Mae yna lawer o bobl nad ydynt yn berchen ar ffôn clyfar, iPad na chyfrifiadur. Mae llawer o rai eraill, am lawer o resymau—rhai'n ymwneud ag iechyd—nad ydynt yn hapus i ddefnyddio offer TGCh, hyd yn oed pan fydd wedi'i addasu ar gyfer anabledd. Ac rwy'n gwybod y gallwch gael cyffyrddell i'w roi ar ei ben, ac fe ddywedaf wrthych chi beth—pob lwc os ydych chi'n chwilio am un. Ond nid ydynt yn hapus ac maent yn hoffi—. Mae yna grŵp arall o bobl sy'n hoffi siarad â phobl. Maent yn hoffi mynd ar ffôn a siarad â phobl. Dyna'r ffordd ail orau o gysylltu â rhywun. Y ffordd orau o gysylltu â rhywun mewn gwirionedd yw siarad â hwy wyneb yn wyneb, a arferai fod yn ffordd o ymdrin â sefydliadau sydd ar gael yn fwyfwy anfynych ar hyn o bryd, mae'n ymddangos.

A soniodd Rhun ap Iorwerth am fanciau. Arferai pobl fynd i mewn i'r banc i gael pob math o drafodaethau, ac roedd yn rhan o'u bywydau cymdeithasol hefyd, ac mae hynny'n rhywbeth—. Unwaith eto, soniasom am ynysu ddoe—rhan o broblem ynysu yw nad yw pobl yn cael y cyfarfodydd cymunedol hyn mewn swyddfeydd post, banciau a lleoedd eraill.

Gadewch i ni edrych ar y cais i adnewyddu pàs bws. Mae staff fy swyddfa a staff llyfrgelloedd lleol wedi treulio llawer iawn o amser yn helpu pobl i wneud cais ar-lein. Rwyf wedi siarad â llawer o bobl hefyd sydd wedi gorfod gofyn i blant, wyrion neu wyresau neu berthnasau eraill i'w helpu neu i'w wneud ar eu rhan.

A gaf fi roi rhywfaint o glod i Lywodraeth Cymru? Mae gan Trafnidiaeth Cymru ffurflen bapur hefyd, ac roedd honno ar gael ar gyfer gwneud cais am y pàs bws newydd. Nid ar-lein yn unig y gellid dod o hyd iddi. Ac a gaf fi ddweud, mae llawer iawn o bethau rwy'n ymdrin â hwy sydd ond i'w cael ar-lein yn unig, neu nid yn unig ar-lein yn unig—'Defnyddiwch yr ap.' Mewn ffordd, mae hynny'n dweud ei fod gan bawb ar eu ffôn. Mae'r system fudd-daliadau bron yn gyfan gwbl ar-lein. Mae'n gyfan gwbl ar-lein—darperir y wybodaeth ar-lein neu mae'n rhaid i geisiadau fod ar-lein. Fan lleiaf, dylai fersiwn bapur o bob ffurflen Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan fod ar gael i bobl os ydynt am ei chael, ac mae llawer o bobl yn teimlo'n llawer hapusach yn llenwi ffurflenni papur.

Dechreuodd Rhun ap Iorwerth siarad amdano—a gaf innau droi hefyd at y sector preifat? Mae budd ariannol i ni os byddwn yn ymdrin â chwmnïau cyfleustodau ar-lein. Maent yn tynnu rhywfaint o arian oddi ar ein biliau am eu cael ar-lein a thalu drwy ddebyd uniongyrchol a'r holl bethau hynny. Wrth gwrs, cawn y budd, ond mae'r gwrthwyneb yn wir—mae cosb ariannol am beidio ag ymdrin â hwy ar-lein. Dyna un arall o'r ffyrdd niferus lle mae'n ddrutach i fod yn dlawd, gan fod y bobl nad ydynt yn ymdrin â chwmnïau ar-lein yn fwy tebygol o fod yn dlawd na phobl sydd â biliau tanwydd dwbl debyd uniongyrchol ar-lein, sef y rhan fwyaf ohonom yma, rwy'n siŵr, ond mae llawer iawn o fy etholwyr heb y pethau hynny ac maent yn talu pris am hynny.

Yn olaf, rwy'n meddwl y dylai fod dewis i gael ffurflen bapur ar gyfer pob proses ar-lein. Bydd rhai pobl am ei wneud ar-lein—mae'n well gennyf fi wneud pethau ar-lein—ond byddai llawer o bobl yn hoffi defnyddio beiro a phapur. Yn wir, byddai unrhyw un sydd wedi gweld fy llawysgrifen yn sylweddoli'n union pam ei bod hi'n well gennyf ei wneud ar-lein, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig i bobl gael y dewis a gadewch inni sicrhau y gall pawb gael dull papur o'i wneud a pheidio â thalu cosb ariannol am wneud hynny.

16:25

Wel, rwy'n cytuno'n llwyr â chi, Mike, a chydag apiau yn arbennig—os nad oes gennyf bâr o'r rhain gyda mi, waeth i mi beidio â bod ag ap o gwbl.

Mae'n rhaid i mi ddweud, mae bron i chwe blynedd mewn gwirionedd ers i mi gyflwyno dadl fer ar fater tebyg iawn, ac ar ddiwedd hyn, hoffwn glywed gan y Dirprwy Weinidog beth sydd wedi newid yn ei barn hi, yn enwedig ar gwestiwn cyntaf Rhun ap Iorwerth ynglŷn â'r hyn y gall ein Llywodraeth ei wneud o fewn ei phwerau i liniaru penderfyniadau gan rai sefydliadau mawr i roi'r gorau i gyfathrebu â chwsmeriaid drwy'r post, neu godi tâl ar gwsmeriaid, fel y soniodd Mike, am y fraint o dderbyn eu post.

Mae cael eich biliau, eich datganiadau a gwybodaeth angenrheidiol yn y bôn, drwy'r post, gan ganiatáu ceisiadau papur ar gyfer gwahanol wasanaethau yn hytrach na defnyddio'r we—. Wrth gwrs, gallai fod hyn yn fater syml o ddewis i rai pobl, ond i nifer ryfeddol o fawr o bobl nid yw'n ddewis o gwbl, ac ni ddylid eu cosbi am hynny. Dyna yw safbwynt yr ymgyrch 'Keep Me Posted'—mae'n ymgyrch ledled y DU—sydd wedi bod yn gweithio i dynnu sylw at y gwahaniaethu hwn ers mis Awst 2013. A hoffwn gofnodi fy niolch iddynt am ddal ati i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i mi am y mater.

Ers 2013, mae nifer yr oedolion yn y DU sydd heb fynediad at y rhyngrwyd wedi gostwng o 9 miliwn o bobl i ychydig dros 5 miliwn o bobl ac yng Nghymru, mae'n debyg, mae bron i 90 y cant o oedolion bellach yn dweud eu bod wedi defnyddio'r rhyngrwyd yn ystod y flwyddyn. Wrth gwrs, nid yw hynny'n golygu bod ganddynt eu cyfrifiadur eu hunain, ond mae'n edrych fel ymchwydd, onid yw? Yn sydyn mae'n edrych yn debyg ein bod ni'n genedl sy'n gyfarwydd iawn â defnyddio'r cyfrifiadur. Rwy'n meddwl tybed faint o'r arolwg hwnnw a wnaethpwyd ar y rhyngrwyd, oherwydd mae nifer yr oedolion yn y DU sy'n cyfaddef nad oes ganddynt ddigon o wybodaeth am y rhyngrwyd i'w ddefnyddio'n hyderus—cwestiwn gwahanol—yn dal i fod yn ystyfnig o uchel ar 16 miliwn. Felly, er bod mwy o bobl yn mynd ar y rhyngrwyd, nid yw'n golygu eu bod yn teimlo'n ddiogel iawn yn ei ddefnyddio. Mae'r ffaith nad yw'r ffigur hwnnw wedi newid mewn chwe blynedd yn siarad cyfrolau, rwy'n credu.

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dweud bod mwy o bobl hŷn yn defnyddio'r rhyngrwyd. Efallai mai'r rheswm am hynny yw bod nifer ohonom wedi symud o un categori oedran ystadegol i'r llall, gan fynd â'n sgiliau ifanc gyda ni. Eto i gyd, nid yw nifer y bobl dros 75 oed sy'n defnyddio'r rhyngrwyd wedi newid fawr ddim o gwbl, ac os yw fy mhrofiad teuluol fy hun yn brawf o unrhyw beth, gall dementia eich amddifadu o unrhyw sgiliau TG a arferai fod gennych, hyd yn oed yn ei gamau cynnar.

Yr wythnos hon, siaradais â chynrychiolwyr Lloyds Bank, sy'n cau eu cangen yn y Mwmbwls ym mis Mai—ie, un o'r llu, Rhun. Mae 60 y cant o'u cwsmeriaid dros 55 oed. Mae'n nifer eithaf uchel. Bydd llawer ohonynt yn gymwys i gael pàs bws am ddim i gyrraedd y gangen yng nghanol y ddinas, ac wrth gwrs mae'n rhaid iddynt fynd ar-lein i gael y pasys bws hynny. Felly, mae rhai ohonynt, do, wedi ildio ac wedi troi at fancio ar y rhyngrwyd, ond mae 22 y cant—sef bron chwarter—o holl gwsmeriaid y gangen honno dros 75 oed. Felly, dyma'r bobl sy'n cael eu targedu gan sgamwyr. Ac wrth gwrs, nid yw banciau'n tueddu i ddefnyddio e-bost ar gyfer eu cwsmeriaid, ond ceisiwch chi ddweud hynny wrth rywun llawer hŷn sydd naill ai'n newydd i fancio ar-lein neu'n colli eu gallu cyfrifiadurol. Mae dau y cant o'r holl dwyll yn y wlad hon yn digwydd drwy'r post; mae 70 y cant ohono'n digwydd ar-lein. Felly, nid sôn yn unig am wasanaeth i'r rhai sydd heb unrhyw ddewis ond defnyddio papur ydym ni, ond am y rhai sy'n ddiogel ac yn hyderus i ddefnyddio gwasanaethau ar-lein. Rwy'n credu'n ddiffuant, i rai pobl, fod ymddiried yn y postmon yn dal i fod yn llawer gwell nag ymddiried yn eich cyfrinair.

Hyd yn oed pan fydd gan bobl fynediad at y rhyngrwyd, efallai y bydd yn well ganddynt bapur—rwy'n un ohonynt mewn gwirionedd. Mae rhwng 39 y cant a 42 y cant o bobl yn cyfaddef eu bod yn aml yn anghofio gwirio eu datganiadau ar-lein, yn ei chael hi'n haws cadw golwg ar eu sefyllfa ariannol os oes ganddynt bethau wedi'u hargraffu, ac yn ofni colli taliadau os ydynt yn dibynnu ar wybodaeth ar-lein yn unig. Felly, mae gan bobl lefelau uwch o ddyled os ydynt yn cyflawni eu materion ariannol ar-lein yn unig.

Mae rheolau diwydrwydd dyladwy yn golygu bod pobl yn cael anawsterau wrth geisio profi pwy ydynt. Mae rhai sefydliadau ariannol a hyd yn oed adrannau'r Llywodraeth yn mynnu cael datganiadau gwreiddiol. Wel, weithiau ni fydd gennych ddatganiad gwreiddiol. Byddwn hefyd yn cael problemau gyda diffyg llwybr papur os ydych yn arfer atwrneiaeth neu'n nodi'r asedau yn ystâd rhywun ymadawedig—ac mae gennyf brofiad personol o hyn. Dim cyfrinair? Dim mynediad. Efallai nad ydych yn gwybod bod y cyfrifon hyn yn bodoli hyd yn oed.

Un ystyriaeth derfynol, ac mae hyn ar gyfer busnesau bach: hyd yn oed os oes ganddynt fand eang da—ac fe sonioch chi am hyn mewn gwirionedd Mike—os ydynt yn cyflawni eu materion ariannol ar-lein, efallai y byddant yn dal i gyflogi pobl ag anghenion cymorth, ac weithiau, nid yw'r pecyn hwnnw'n golygu bod pobl yn teimlo'n hyderus yn defnyddio'r rhyngrwyd.

Yng Nghanada, i orffen, rhaid i gwmnïau telathrebu eithrio rhai dros 65 oed, pobl anabl a rhai sydd heb gysylltiad band eang yn y cartref rhag cael eu hamddifadu o gyfathrebiadau drwy'r post. Gall y Ffrancwyr fynnu biliau papur am ddim. Yn Sbaen, gallant gael eu holl filiau drwy'r post am ddim, oni bai eu bod wedi cael cais penodol drwy e-bost, ac ni chodir tâl ar y rhai sydd eisoes yn derbyn neu'n newid i filiau papur.

Rwy'n sylweddoli nad yw'r holl ddulliau yn ein dwylo ni yma, ond mae'r Cynulliad—rwyf am orffen gyda hyn, Ddirprwy Lywydd—yn falch o'i ddeddfau seiliedig ar hawliau ac mae'r Llywodraeth wedi cyflwyno'i chontract economaidd gyda diben cymdeithasol yn ganolog iddo. Felly, beth am sicrhau bod dewis papur yn rhan o'r contract hwnnw? Diolch.

16:30

Efallai y dylwn ddechrau drwy gydnabod y gwaith aruthrol y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i sicrhau bod bron pob un ohonom yng Nghymru yn gallu cael mynediad at gyfleusterau rhyngrwyd ac i sicrhau'r Gweinidog nad yw hyn mewn unrhyw fodd yn gondemniad o'ch ymdrechion yn y maes.

I bob un ohonom, mae'r newid ym myd cyfathrebu wedi newid ein ffordd o fyw am byth. I'r rhan fwyaf ohonom, mae wedi bod yn newid real a chadarnhaol. Gallwn gyfathrebu'n gyflym, boed drwy lais, testun neu gyfryngau cymdeithasol, a'r norm bellach yw cerdded i mewn i ystafell a gweld pawb yn syllu ar sgrin ddigidol.

Mae byd masnach wedi mynd ati'n gyflym i ymelwa ar y datblygiadau arloesol hyn, a hynny'n aml ar draul pob un ohonom. Mae pethau fel cau banciau'r stryd fawr a oedd unwaith mor gyfarwydd, a thwf enfawr siopa ar-lein, gan arwain at golli siopau ar y stryd fawr, i gyd yn cyfrannu at newid cywair a phanorama ein strydoedd mawr. Ond i rai, yn aml y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, mae'r twf cynyddol hwn mewn gwasanaethau ar-lein yn effeithio llawer mwy ar eu bywydau. Yn bell o gynnig mwy o fynediad, mae'n aml yn golygu mynediad cyfyngedig neu ddim mynediad o gwbl hyd yn oed.

Mae effaith y diffyg mynediad hwn i'w theimlo fwyaf yn yr angen i gysylltu ag awdurdodau neu fusnesau perthnasol. Gallai'r rheidrwydd i gael mynediad fod ar gyfer pethau mor hanfodol â budd-daliadau, ymholiadau treth, cyfleustodau ynni—hyd yn oed mynediad at feddygfeydd a cheisiadau am swyddi. Gwneir defnydd cynyddol o gyfathrebu digidol ar gyfer hysbysiadau awdurdodau lleol ac ysgolion. Mae ysgolion hefyd yn defnyddio'r rhyngrwyd i hwyluso gwaith cartref, ac ati. Mae hyn yn effeithio ar blant o deuluoedd tlotach, lle mae'n bosibl y bydd rhaid rhannu dyfeisiau digidol neu'n waeth byth, nad ydynt ar gael o gwbl.

Felly, ynysu digidol yw pan fydd pobl mewn sefyllfa lle na allant gael mynediad at y rhyngrwyd neu gyfryngau digidol a dyfeisiau mor hawdd â phobl eraill, neu ddim o gwbl hyd yn oed. Ceir llawer o ffactorau a all effeithio ar yr anallu hwn i gysylltu. Efallai na allant fforddio'r dyfeisiau angenrheidiol, megis cyfrifiaduron, gliniaduron, ffonau clyfar hyd yn oed, ac yn hollbwysig, gall hefyd fod yn ddiffyg dealltwriaeth ynglŷn â sut i ddefnyddio dyfeisiau o'r fath.

Nid yw dros draean o'r bobl yng Nghymru sy'n 50 oed neu'n hŷn yn defnyddio gwasanaethau ar-lein o gwbl. Fel y crybwyllwyd gan Mike Hedges, mae pobl nad ydynt yn defnyddio technoleg ddigidol, yn enwedig yr henoed, yn colli cyfle yn gynyddol i gael budd-daliadau ac arbedion ariannol o ganlyniad i'r ffaith eu bod yn parhau i ddefnyddio dulliau traddodiadol o fancio a masnachu. Mae ymchwil yn awgrymu bod pobl hŷn yn talu pris uchel am beidio â defnyddio gwasanaethau digidol. Cyfrifwyd bod aelwydydd all-lein yn colli hyd at £560 y flwyddyn o arbedion drwy beidio â siopa a thalu biliau ar-lein.

Gwelwn yn awr fod nifer o gwmnïau'n cael gwared yn raddol ar lythyrau, rhifau ffôn a hyd yn oed yn rhoi'r gorau i bresenoldeb mewn adeiladau ffisegol, gan symud yn gyfan gwbl at wasanaethau a rhyngweithio â chwsmeriaid yn ddigidol yn unig. Mae'r mathau hyn o ddatblygiadau yn ynysu'r rhai yr ystyriwn eu bod yn agored i niwed, yn enwedig yr henoed, sy'n gyfarwydd â chyfathrebu wyneb yn wyneb, ac sy'n well ganddynt gyfathrebu felly, lle mae empathi a dealltwriaeth yn fwy tebygol o fod yn amlwg.

Mae ynysu digidol o'r fath yn broblem y mae elusennau digartrefedd yn ei gweld yn dod yn fwy cyffredin wrth i fwy a mwy o wasanaethau hanfodol symud ar-lein. Mae'n wir fod awdurdodau'n ymdrechu i fynd i'r afael â rhywfaint o'r ynysu. Mae gan rai hosteli llety dros dro ystafelloedd TGCh ynddynt, ond gyda llawer o'r rhai sy'n defnyddio'r hosteli hyn heb ddigon o ddealltwriaeth sut i ddefnyddio'r offer, mae'n dal i'w gadael wedi'u hynysu'n ddigidol. Yn amlwg, ceir problem hyfforddi sy'n galw am sylw, nid yn unig mewn hosteli o bosibl ond yn y boblogaeth agored i niwed yn gyffredinol. Nid yw cau llawer o'n llyfrgelloedd, a fu gynt yn bileri i'n haddysg a'n dysg, yn helpu i unioni'r diffyg hyfforddiant digidol hwn.

A gaf fi orffen drwy ddweud bod y ddadl hon heddiw yn un eithriadol o bwysig, gan ei bod yn mynd i'r afael â phroblem gynyddol ac un sy'n effeithio ar gyfran sylweddol o boblogaeth Cymru? A gaf fi ddiolch i Blaid Cymru am ddod â'r ddadl hon gerbron y Siambr heddiw? Mae'n un rwyf i a fy nghyd-Aelodau'n hapus i'w chefnogi.    

16:35

Fel y nododd y comisiynydd pobl hŷn yn ei hadroddiad 'Cyflwr y Genedl':

'Mae’r defnydd cynyddol a wneir o dechnoleg ddigidol yn golygu bod y ffordd yr ydym yn manteisio ar wasanaethau a gwybodaeth, a’r ffordd yr ydym yn cyfathrebu, wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf.'

Fodd bynnag, nid oes gan bawb fynediad at y rhyngrwyd. Mae argaeledd band eang cyflym iawn yn 77 y cant mewn ardaloedd gwledig. Mae gan tua 87 y cant o fusnesau yng Nghymru fynediad at fand eang cyflym iawn, ac eto dim ond 93 y cant o'r holl safleoedd yng Nghymru sy'n gallu cael mynediad at fand eang cyflym iawn o'i gymharu â chyfartaledd y DU o 95 y cant. Mae Ofcom yn amcangyfrif mai tua 156,000 yw nifer y safleoedd sydd heb fynediad at fand eang cyflym iawn yng Nghymru ar hyn o bryd. O gofio'r ffigur hwnnw a'r ffaith nad yw BT Openreach ond yn bwriadu darparu mynediad at fand eang cyflym a dibynadwy i 26,000 o adeiladau erbyn mis Mawrth 2021, mae'n amlwg y bydd llawer, gan gynnwys fy etholwyr yng nghwm Crafnant, yn dal i gael eu llethu gan ddiffyg mynediad at ryngrwyd dibynadwy. Yr un mor broblemus yw'r ffaith bod y defnydd o'r rhyngrwyd yn parhau i fod yn isel iawn ymysg ein cenedlaethau hŷn. Nid yw traean o bobl hŷn yn gwneud defnydd personol o'r rhyngrwyd. Mae'r ffigur hyd yn oed yn uwch ar gyfer pobl dros 75 oed—sef 60 y cant.  

Rwy'n cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi camau ar waith i geisio mynd i'r afael â phroblem cynhwysiant digidol. Er enghraifft, pennwyd nod yn y fframwaith strategol a'r cynllun cyflenwi ar gyfer cynhwysiant digidol ym mis Mawrth 2016 i leihau allgáu digidol ymysg oedolion 16 oed a hŷn, er mwyn i fwy o bobl elwa o fod ar-lein a defnyddio technolegau digidol. Fodd bynnag, yn ôl yr adroddiad cynnydd a rhagolwg 2018 ar gynhwysiant digidol, dim ond 77 y cant o breswylwyr tai cymdeithasol sydd â mynediad at y rhyngrwyd, dim ond 51 y cant o aelwydydd pensiynwyr sengl sy'n debygol o fod â mynediad at y rhyngrwyd, ac mae 25 y cant o bobl anabl wedi'u hallgáu'n ddigidol.

Rwy'n falch fod yr adroddiad yn tynnu sylw at yr angen i weithio gyda phob sector i fynd i'r afael ag allgáu digidol. Mae'n cydnabod bod cwmnïau telathrebu megis EE, Three, O2, BT a Virgin, a chwmnïau cyfleustodau megis Nwy Prydain, Dŵr Cymru, ac E.ON, gwasanaethau ariannol fel NatWest, Lloyds, Principality, Santander a Barclays, a chwmnïau yswiriant megis Aviva, Admiral ac Endsleigh—i mi gael eu henwi—yn gynyddol yn ceisio cael eu cwsmeriaid i reoli eu cyfrifon ar-lein. Gwnaethpwyd addewid, fodd bynnag, i annog y sector preifat i geisio arwain drwy esiampl ac i ystyried eu cwsmeriaid sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol. Felly, buaswn yn gwerthfawrogi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â pha gynnydd a wnaethpwyd drwy ymyriadau Gweinidogion a Dirprwy Weinidogion ar y mater hyd yma.

Credaf y dylid diwygio'r nod er mwyn cynnwys y gofyniad i drafod gyda banciau, busnesau a sefydliadau eraill yr angen i sicrhau bod dewisiadau amgen yn lle gwasanaethau ar-lein yn cael eu cynnig. Yn wir, gellid cefnogi hyn drwy ei ychwanegu fel seithfed adduned i'r siarter cynhwysiant digidol. Ni all yr un ohonom anwybyddu'r ffaith bod angen dewisiadau amgen yn lle gwasanaethau ar-lein. Canfu'r comisiynydd pobl hŷn fod cartrefi all-lein yn colli arbedion o hyd at £560 y flwyddyn drwy siopa a thalu biliau ar-lein. Felly, mae bod all-lein yn costio ffortiwn i'n hetholwyr. Yn ôl arolwg cenedlaethol Cymru, dim ond 79 y cant o bobl sy'n prynu nwyddau neu wasanaethau ar-lein. Mae'n rhaid i ni weithredu i sicrhau bod gwasanaethau'n parhau i fod mor fforddiadwy a hygyrch all-lein hefyd.

Mae ein cyd-Aelod, Rhun ap Iorwerth, wedi tynnu sylw at enghraifft y system adnewyddu pasys bws. Hoffwn ychwanegu at y rhestr drwy gynnwys ffurflenni cais am y bathodyn glas. Rwyf wedi cael llawer o etholwyr na allant hyd yn oed ddod o hyd i'r rhain heb fynd ar-lein neu ddefnyddio cyfrifiadur, ac maent yn dod i fy swyddfa er mwyn inni helpu, ond dylent allu cael y bathodyn glas heb orfod mynd i'r eithafion hynny.  

Yn ddiamau, mae angen inni helpu mwy o bobl i fynd ar-lein a gwneud mwy i hybu argaeledd band eang cyflym iawn. Ond rydym am gael Cymru deg hefyd, felly rwy'n cefnogi'r cynnig hwn yn gryf heddiw a hoffwn ddiolch i Rhun am roi cychwyn arno yn y lle cyntaf. Ac erfyniaf ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau fel yr awgrymwyd yma heddiw i sicrhau, wrth inni ddal i fyny ag oes ddigidol technoleg, y byddwn bob amser yn sicrhau bod ffyrdd traddodiadol o gael gafael ar wybodaeth, cyngor, cymorth a gwasanaethau yn parhau ar waith. Diolch.  

16:40

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan?

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n croesawu'r cyfle yn y ddadl bwysig hon heddiw i dynnu sylw at sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ar draws adrannau i geisio sicrhau y gall pawb gael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt, p'un a ydynt yn defnyddio'r rhyngrwyd ai peidio. Cydnabyddwn fod mwy o wasanaethau, fel y dywedodd Rhun wrth gyflwyno'r ddadl, gan gynnwys gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, yn symud ar-lein a bod pobl sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol mewn perygl o gael eu gadael ar ôl mewn cymdeithas. Fel y dywedodd Mike Hedges, nid oes gan bawb ffôn clyfar ac wrth gwrs, fel y dywedwyd hefyd, mae rhai pobl yn hoffi siarad â phobl. Gall pobl nad ydynt yn defnyddio technoleg ddigidol fethu cael gwasanaethau hanfodol, cyfleoedd swyddi a gwelliannau i'w hiechyd. Er mwyn bod yn Gymru deg, fel y dywedodd Janet Finch-Saunders yn ei haraith, rhaid inni sicrhau mynediad cyfartal at wasanaethau cyhoeddus i bawb.  

Pobl hŷn yw'r ddemograffeg fwyaf o bobl nad ydynt ar-lein. Fodd bynnag, mae grwpiau eraill mewn cymdeithas wedi cael eu crybwyll yma heddiw hefyd: soniwyd am bobl anabl; soniodd David Rowlands am bobl ddigartref. Ond yn sicr, pobl hŷn yw'r grŵp mwyaf. Mae 22 y cant o'r rhai dros 50 oed a—ffigur sydd eisoes wedi'i ddefnyddio—51 y cant o'r rhai sydd dros 75 oed wedi'u hallgáu'n ddigidol.

Yn dilyn cytundeb y Cabinet yr wythnos diwethaf, byddwn yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar ein strategaeth ar gyfer cymdeithas sy'n heneiddio ddechrau'r gwanwyn. Rwy'n meddwl y gallai'r strategaeth honno ar gyfer cymdeithas sy'n heneiddio ddatblygu llawer o'r materion a llawer o'r argymhellion sydd wedi codi yn y ddadl hon heddiw. Y strategaeth hon yw ymateb Llywodraeth Cymru i oblygiadau ehangach newid demograffig i genedlaethau'r dyfodol yng Nghymru, ond hefyd i'r bobl hynaf heddiw. Bydd llwyddiant y strategaeth hon yn dibynnu ar weithredu trawslywodraethol ar ystod o faterion pwysig, a fydd yn cynnwys cynhwysiant digidol wrth gwrs.

Ein gweledigaeth yw Cymru sy'n ystyriol o oedran ac sy'n helpu pobl o bob oed i fyw a heneiddio'n dda; Cymru lle gall unigolion fod yn gyfrifol am eu hiechyd a'u lles eu hunain, gan deimlo'n hyderus ar yr un pryd y bydd cymorth ar gael ac yn hawdd dod o hyd iddo os oes angen. Rydym eisoes yn rhoi camau ar waith i gyflawni'r weledigaeth hon. Er enghraifft, mae Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau £8 miliwn o gyllid grant i'r gronfa gynghori sengl eleni. Bydd gwasanaethau a ariennir yn estyn yn ddwfn i mewn i gymunedau i ymgysylltu ag aelwydydd sy'n tueddu i beidio â defnyddio gwasanaethau cynghori traddodiadol. Darperir y gwasanaethau hefyd o leoliadau sy'n ganolog i gymunedau lleol, megis meddygfeydd, fel y gall pobl gael cyngor wyneb yn wyneb drwy'r arian hwnnw ar gyfer gwasanaethau cynghori.

Rwy'n falch iawn fod y cynnig heddiw yn sôn am waith Trafnidiaeth Cymru i gynnig dewisiadau amgen yn lle gwasanaethau ar-lein i bobl sy'n adnewyddu eu pasys bws. Er bod y rhai sy'n gwneud cais yn cael eu hannog i ddefnyddio'r porth ar-lein am ei fod yn haws ac yn gyflymach, fel y mae llawer o bobl wedi dweud yma heddiw, mae'n bosibl gwneud ceisiadau ar bapur hefyd, fel y dywedodd Mike Hedges, rwy'n credu, ac mae cymorth wyneb yn wyneb ar gael. Adroddwyd bod dros 25,000 o geisiadau papur wedi dod i law. Fodd bynnag, rwy'n ymwybodol fod llawer o bobl wedi meddwl bod yn rhaid iddynt ei wneud ar-lein yn unig, ac yn sicr daeth llawer o bobl i fy nghymorthfeydd cyngor lle gwnaethom ni, yn ogystal â llawer o rai eraill yn yr ystafell hon, eu helpu i lenwi'r ceisiadau ar-lein. [Torri ar draws.]

16:45

Diolch i chi am dderbyn yr ymyriad. Diolch yn fawr iawn. Onid yw'r ffaith eich bod yn ein hatgoffa eto fod ei wneud ar bapur yn arafach ac yn fwy problemus eto yn arwydd o'r neges sy'n mynd allan at bobl? Yn hytrach na dweud wrth bobl, 'Gwrandewch, rydym yn credu bod ar-lein yn gweithio'n dda iawn, ond mae croeso i chi ddefnyddio papur os ydych chi'n teimlo'n fwy cyfforddus yn gwneud hynny.'

Ie, rwy'n credu mai dyna'r neges a ddylai fynd, ac sy'n mynd allan mewn gwirionedd: fod modd gwneud ceisiadau ar bapur.

Y peth arall gyda hyn i gyd wrth gwrs—rwy'n credu ein bod wedi trafod cryn dipyn ar y pàs bws—yw ei fod wedi dangos pa mor boblogaidd yw'r pàs bws a pha mor bwysig ydyw i bobl hŷn. Gwn fod ceisiadau'r pàs bws wedi achosi pryder, ac yn sicr nid ydym am i hynny ddigwydd. Y llynedd, dyrannwyd £20,000 o arian ychwanegol i'r comisiynydd pobl hŷn i gefnogi ei gwaith i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar gredydau pensiwn. Gwnaed hyn drwy gyfrwng papur mewn gwirionedd. Cynhyrchodd y comisiynydd daflen a anfonwyd at bobl hŷn mewn llythyrau yn eu hatgoffa i adnewyddu eu pàs bws. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn achub ar gyfleoedd fel hynny.

Hoffwn rannu enghraifft arall o sut rydym wedi cyrraedd pobl nad ydynt yn defnyddio'r rhyngrwyd. Yn ddiweddar, lansiodd Llywodraeth Cymru ymgyrch ymwybyddiaeth genedlaethol i gynyddu'r defnydd o wybodaeth a chymorth hanfodol am hawliau mewn perthynas â'r dreth gyngor. Rydym yn gweithio ar y cyd ag awdurdodau lleol, y trydydd sector, a MoneySavingExpert.com, gwefan defnyddwyr fwyaf y DU, i ddatblygu cyngor syml a chyson. Gosodwyd posteri mewn lleoliadau perthnasol, dosbarthwyd taflenni copi caled i awdurdodau lleol, a chafodd slipiau printiedig eu cynnwys gyda chyngor ar ddyledion yn llythyrau atgoffa'r dreth gyngor, hysbysiadau terfynol a gwysion. Mae'r modelau hyn wedi llwyddo i gyrraedd pobl nad ydynt yn defnyddio'r rhyngrwyd, ac wrth symud ymlaen byddwn yn dysgu o'r llwyddiannau hyn.

Fodd bynnag, mae'n bwysig iawn nodi—ac rwy'n credu bod y pwyntiau wedi cael eu gwneud yn dda yma heddiw—fod llawer o rwystrau i ddefnyddio gwasanaethau ar-lein, yn enwedig i'r rheini ar incwm isel, pobl hŷn a phobl anabl. Gall rhwystrau gynnwys diffyg sgiliau, hyder, mynediad a symudedd. Rwyf hefyd wedi siarad â phobl hŷn sy'n poeni y byddant yn cael eu targedu gan sgamwyr ar-lein, ac rwy'n gwybod bod Suzy wedi sôn yn ei chyfraniad am dwyll ar-lein, a bod pobl yn ymddiried yn y postmon yn fwy na'r cyfrinair, ac rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt pwysig iawn. Soniodd hefyd am yr hyn y maent yn ei wneud yng Nghanada a Ffrainc, a chredaf y byddai'n fuddiol iawn inni edrych yn drylwyr ar yr hyn sy'n digwydd mewn gwledydd eraill ar y mater hwn. Felly, credaf fod hynny eto'n rhywbeth y gallai'r strategaeth ar gyfer cymdeithas sy'n heneiddio ei ystyried.  

Ond er ein bod yn cydnabod nad yw pawb yn gyfforddus gyda'r rhyngrwyd, rydym eisiau cefnogi pobl i wneud dewisiadau gwybodus ynglŷn â sut i gymryd rhan yn ddiogel mewn byd sy'n gynyddol ddigidol. Felly, rydym am annog pobl i ddefnyddio'r rhyngrwyd, oherwydd gwyddom fod manteision i wneud hynny, ond rhaid inni ddarparu ar gyfer pobl nad ydynt am ddefnyddio'r rhyngrwyd neu nad ydynt yn gallu defnyddio'r rhyngrwyd. Felly, rydym yn gwneud ymdrechion i annog defnydd o'r rhyngrwyd: mae menter arwyr digidol Cymunedau Digidol Cymru wedi hyfforddi dros 5,000 o wirfoddolwyr ifanc i helpu pobl hŷn mewn ysbytai a chartrefi gofal i fynd ar-lein, a phrosiect arloesol arall yw cynllun benthyca tabled y Fro, sy'n caniatáu i drigolion ar draws Bro Morgannwg fenthyg iPads sy'n rhoi mynediad diogel at y rhyngrwyd o lyfrgelloedd lleol bron yr un mor hawdd ag y byddent yn benthyca llyfr.

I rai, nid dewis yw allgáu digidol ond canlyniad signal band eang gwael, sydd hefyd wedi'i grybwyll yma heddiw. Rydym eisiau gwneud yn siŵr fod pawb sy'n dymuno gwneud hynny yn gallu defnyddio'r rhyngrwyd. Hyd yma, mae Cyflymu Cymru wedi darparu mynediad band eang ffeibr cyflym i fwy na 733,000 o safleoedd ledled Cymru. Rydym hefyd wedi buddsoddi mwy na £200 miliwn i gamu i mewn am fod y farchnad wedi methu cysylltu 95 y cant o'r eiddo yng Nghymru, gan gynnwys nifer mewn ardaloedd gwledig.

Credaf mai egwyddor allweddol hyn oll yw y dylem gynllunio gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer anghenion y defnyddiwr terfynol, ac fel arfer bydd hyn yn golygu gwasanaeth sy'n gweithio'n ddigidol ond sydd hefyd yn diwallu anghenion defnyddwyr terfynol sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol, a dyna beth y mae Llywodraeth Cymru am ei wneud.

Hoffwn orffen drwy roi sylw i'r cynnig y dylai Llywodraeth Cymru siarad â banciau, busnesau a sefydliadau eraill i wneud yn siŵr nad yw cwsmeriaid yn cael eu hynysu os mai dim ond gwasanaethau ar-lein a gynigir. Hoffwn dynnu sylw at ein cymorth i undebau credyd, sy'n galluogi rhai dinasyddion yng Nghymru i allu cael benthyciadau fforddiadwy ac arbedion, er bod banciau mawr yn gadael strydoedd mawr Cymru. Mae undebau credyd yn sicrhau bod pobl yn gallu trafod eu gofynion wyneb yn wyneb a chael mynediad at y cynhyrchion mwyaf addas i'w hanghenion.

Mae hefyd yn braf nodi—gallaf weld bod fy amser yn dod i ben—y llynedd, cynyddodd nifer y swyddfeydd post gwledig yng Nghymru o 619 i 636. Wrth gwrs, ni all swyddfeydd post lleol gymryd lle banciau, ond gallant gynnig gwasanaethau bancio sylfaenol wyneb yn wyneb i'w cwsmeriaid. Diolch, Ddirprwy Lywydd.  

16:50

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Weinidog. Diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl yma'r prynhawn yma. Mae yna gytundeb, onid oes, bod yna fater yn fan hyn sydd wirioneddol yn rhywbeth sydd angen ei gymryd o ddifrif? 

Rwy'n hoffi'r pwynt a wnaeth Mike Hedges: mae rhai pobl yn hoffi siarad â rhywun. Ac mae'n wir. Roeddem yn y Siambr hon ddoe yn sôn am unigrwydd ac arwahanrwydd. Mae cael cysylltiad â phobl yn bwysig tu hwnt. Hefyd, dywedais fy mod yn gyfforddus iawn gyda bancio ar-lein. Er hynny, nid wyf yn meddwl y buaswn yn trefnu morgais ar-lein. I mi, mae hynny'n mynd ychydig bach yn rhy bell; hoffwn allu edrych i lygaid rhywun wrth drefnu morgais. Felly, mae yna adegau pan fyddwch o ddifrif eisiau cael cyswllt wyneb yn wyneb.

Gwnaeth Suzy Davies bwynt da iawn fod niferoedd y bobl hŷn sy'n defnyddio gwasanaethau ar-lein yn cynyddu, ac awgrymodd efallai mai'r rheswm am hynny yw bod pobl sydd wedi bod yn defnyddio gwasanaethau ar-lein ers amser hir yn cyrraedd y grŵp oedran hwnnw. Mae'n wir. Ond mae pwynt difrifol yn hynny—fe ddaw amser pan fydd pawb, neu'r mwyafrif llethol o bobl, yn gymharol gyfforddus â defnyddio gwasanaethau ar-lein, gan mai dyna y maent wedi'i wneud erioed—bydd rhywbeth arall erbyn hynny. A fyddaf fi, pan fyddaf yn 80 oed, yn gyfforddus yn defnyddio gwasanaethau hologram neu beth bynnag a fydd ar gael bryd hynny? Gallai'r dechnoleg a'r cyd-destun newid, ond bydd y broblem a'r pwynt yn aros yr un fath, yn yr ystyr fod yn rhaid i chi ystyried anghenion gwahanol pobl a'r cyfraddau amrywiol lle mae pobl yn barod ac yn gallu symud ymlaen â newid technolegol.

Roedd disgrifiad David Rowlands o gerdded i mewn i ystafell a gweld pawb yn syllu ar sgrin ddigidol—. Roeddwn yn meddwl eich bod yn disgrifio Siambr y Senedd am eiliad, David [Chwerthin.] Ond eto, mae yna gymhariaeth yno, onid oes? Mae hon yn Siambr fodern, Siambr ifanc, lle gwnaethom roi technoleg ddigidol i mewn, ond rhaid inni wneud yn siŵr fod—. Mae yna bobl eraill sy'n meddwl efallai ein bod wedi mynd yn rhy bell o ran gallu bod ar-lein yma.

Diolch hefyd i Janet Finch-Saunders am ei chyfraniad. Ac i'r Dirprwy Weinidog, nid wyf yn amau o gwbl fod Llywodraeth Cymru yn ddiffuant ac yn cytuno â'r egwyddorion a gyflwynwn yma heddiw. A yw'r Llywodraeth yn mynd yn ddigon pell yn ei gweithredoedd yw'r cwestiwn.

Diolch am dderbyn yr ymyriad ar basys bws am ddim Trafnidiaeth Cymru. Rwy'n anghytuno â'ch honiad fod digon o gymorth wyneb yn wyneb wedi'i gynnig. Y rheswm pam y daeth pobl yn eu cannoedd drwy ddrws fy swyddfa oedd oherwydd eu bod yn teimlo nad oedd digon o gymorth wyneb yn wyneb na chymorth arall yn hytrach na mynd ar-lein wedi'i roi. Unwaith eto, mae diffyg cydraddoldeb ar y gorau, neu bu diffyg cydraddoldeb rhwng gallu pobl i wneud cais am y pàs bws hwnnw ar-lein a'i wneud ar bapur.

Mae'n debyg na cheir ymarfer mor fawr â hwnnw a fydd yn profi'r system yn yr un ffordd, ond yn sicr rwy'n gobeithio bod y pwynt wedi cael ei wneud heddiw, o ran rhoi pwysau ar drydydd partïon neu weithredu eich hunain, mae'n rhaid i'r Llywodraeth ddangos—. A byddwn yn dwyn y Llywodraeth i gyfrif os byddwch yn baglu eto neu os credwn nad yw pethau'n symud yn eu blaenau'n ddigon cyflym. Ond rwy'n hyderus fod y pwynt wedi'i wneud yn gadarn heddiw gan bawb a gymerodd ran, ac unwaith eto, diolch i'r rhai a gefnogodd hyn heddiw.

Mae technoleg yn rhuthro yn ei blaen. Yn amlwg, daw llawer iawn o les yn sgil technoleg sy'n newid ac yn datblygu, ond mae rhai risgiau hefyd. Un o'r risgiau yw bod pobl, o bryd i'w gilydd, yn cael eu gadael ar ôl. Ni allwn adael i hynny ddigwydd. Felly, fel y dywedais, hyderaf fod ein neges wedi'i chlywed yma heddiw, a byddwn yn cadw llygad barcud ar gamau gweithredu mwy cadarn gan y Llywodraeth yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd nesaf. Diolch yn fawr.

16:55

Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Iawn, diolch. Gohiriwn y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Gwaith dilynol ar gysgu ar y stryd—Gwasanaethau iechyd meddwl a gwasanaethau camddefnyddio sylweddau

Eitem 7 ar yr agenda yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 'Gwaith dilynol ar gysgu ar y stryd: Gwasanaethau iechyd meddwl a gwasanaethau camddefnyddio sylweddau.' Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i gyflwyno'r cynnig—John Griffiths.

Cynnig NDM7267 John Griffiths

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 'Gwaith dilynol ar gysgu ar y stryd—Gwasanaethau iechyd meddwl a gwasanaethau camddefnyddio sylweddau', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Rhagfyr 2019.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o agor y ddadl heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar lefel y gefnogaeth i rai sy'n cysgu allan sydd â phroblemau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau, neu anhwylderau sy'n cyd-ddigwydd fel y cyfeirir atynt yn fynych.

Fel pwyllgor, buom yn edrych ar gysgu allan ers gaeaf 2017. Ers inni ddechrau ar y gwaith hwn, rwy'n credu ei bod yn deg dweud ein bod wedi gweld newid gwirioneddol yn yr ymdeimlad o gyflymder a brys gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r materion hollbwysig hyn. Mae hyn yn fwyaf amlwg yn y gwaith o sefydlu'r grŵp gweithredu ar ddigartrefedd, a'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn y set gyntaf o argymhellion gan y grŵp. Edrychodd y rhain ar y camau tymor byr iawn y gellid eu cymryd i leddfu lefelau o gysgu allan dros y gaeaf. Edrychwn ymlaen at y set olaf o argymhellion gan y grŵp, ac ymateb y Llywodraeth.

Rydym yn obeithiol y bydd rhai o'r camau gweithredu tymor byr, yn enwedig mewn perthynas ag allgymorth grymusol, wedi dechrau helpu i gael rhai pobl oddi ar y strydoedd. Mae hyn yn fwy pwysig byth pan ystyriwn y cyfrif blynyddol o nifer y rhai sy'n cysgu allan a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Fel y nodwyd yn ein hadroddiad gwreiddiol, dim ond ciplun y gall y cyfrif ei roi, ac ni ellir ei ystyried yn ffigur pendant. Fodd bynnag, mae'n rhoi syniad inni o'r niferoedd sy'n cysgu allan. Mae'n destun pryder felly fod y cyfrif ar gyfer 2019 yn dangos cynnydd o 17 y cant yn y niferoedd o'i gymharu â 2018.

Gan symud ymlaen at y gwaith penodol hwn gan y pwyllgor, mae'n deillio o'r ffaith bod y pwyllgor yn cael ei arwain i raddau helaeth gan brofiad bywyd y rhai sy'n cysgu allan. Fel rhan o'n gwaith dilynol ar ein hadroddiad gwreiddiol, buom yn siarad â rhai sy'n cysgu allan ar draws pob ardal yng Nghymru a'r rheini sy'n rhoi cymorth iddynt. Dro ar ôl tro, clywsom am y rhwystrau sy'n wynebu pobl ag anhwylderau sy'n cyd-ddigwydd. Clywsom nad yw'r gefnogaeth gywir ar gael i bobl gael y cymorth sydd ei angen arnynt pan fyddant ei angen. Rydym yn hynod ddiolchgar i bawb a oedd yn barod ac yn abl i rannu eu hatgofion a'u profiadau digon anodd yn aml.

Bu cynnydd gofidus yn nifer y bobl ddigartref sy'n marw ar y strydoedd. O'r marwolaethau hyn, achosir dau o bob pump gan wenwyn cyffuriau. Mae hyn yn annerbyniol, a rhoddodd ysgogiad pellach i edrych yn fanylach ar y mater.

Hoffwn ddiolch i'r rhanddeiliaid a roddodd dystiolaeth i ni. Roeddent yn agored ac yn onest yn eu hasesiad o ble roedd y system yn mynd o'i le. Roedd ganddynt hefyd lawer o syniadau am yr hyn y gellid ei wneud yn well. Hoffwn dynnu sylw at ddau o'r pethau a ddywedwyd wrthym. Un ohonynt oedd bod hwn yn fater lle mae'r atebion yn hysbys, a bod angen inni fwrw ati i'w gweithredu. Yn ail, dywedwyd wrthym y gallai fod goblygiadau yn sgil bod yn agored ac yn onest â ni. Nid dyma'r tro cyntaf inni glywed pryderon o'r fath wrth inni ystyried y materion hyn. Felly, buaswn yn falch pe bai'r Gweinidog yn gwneud datganiad clir o gefnogaeth heddiw y dylai sefydliadau allu lleisio pryderon am wasanaethau neu gymorth heb risg o beryglu eu cyllid eu hunain.

Fel yr amlygwn yn ein hadroddiad, ceir llawer o bolisïau, dogfennau strategol a chynlluniau gweithredu ar gyfer y maes hwn. Mae hyn i'w ddisgwyl pan fydd yn torri ar draws cynifer o feysydd polisi gwahanol. Fodd bynnag, mae'n golygu y gall anhwylderau sy'n cyd-ddigwydd ddisgyn rhwng y bylchau, gan nad oes un unigolyn na sefydliad i sicrhau bod y cyfan yn cael ei dynnu at ei gilydd. Ond rydym yn gweld newid cadarnhaol yn hyn o beth, gyda chamau gweithredu yn y cynllun cyflawni ar gamddefnyddio sylweddau a'r cynllun cyflawni ar gyfer iechyd meddwl sy'n ceisio mynd i'r afael â rhai o'r rhwystrau i gael y cymorth cywir i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed.

Yn ymateb Llywodraeth Cymru, maent yn datgan y bydd y prosiect at wraidd y mater ar anhwylderau sy'n cyd-ddigwydd yn edrych ar sut y gellid dadflocio problemau i sicrhau y gweithredir fframwaith y gwasanaeth yn llawn ar gyfer anhwylderau sy'n cyd-ddigwydd. Felly, byddai'n ddefnyddiol pe gallai'r Gweinidog amlinellu beth yw rhai o'r materion penodol hyn ac a ydynt yn cyd-fynd â chanfyddiadau'r pwyllgor, yn enwedig ar gomisiynu, diwylliant ac arweinyddiaeth.

Clywsom am bocedi o ymarfer da sy'n cynnig cymorth sy'n newid bywydau pobl, ond rydym yn pryderu nad oes gallu i efelychu'r ymarfer da hwnnw ledled Cymru. Clywsom gan y tystion fod natur gystadleuol comisiynu yn aml yn golygu nad yw hyn yn digwydd. Ni all sefydliadau ddysgu gan eraill felly beth sy'n gweithio'n dda neu beidio. Rwy'n falch felly fod y Llywodraeth wedi derbyn argymhelliad 2. Buaswn yn croesawu rhagor o fanylion heddiw am y gwaith ymchwil a gwerthuso a wneir gan y Llywodraeth i gefnogi'r broses o ledaenu ymarfer gorau.

Mae cysylltiad agos rhwng rhannu ymarfer da a diwylliant ac arweinyddiaeth. Dywedodd Dr Sankey o'r Gydweithfa Gofal Cymunedol wrthym am y seilos y mae wedi ceisio eu chwalu i ddod â'r holl wasanaethau cymorth o dan yr un to. Ond mae hyn wedi bod yn heriol ac yn anodd. Eto i gyd, mae gwaith Dr Sankey a'r modelau Tai yn Gyntaf yn dangos i ni y gall gwasanaethau weithio gyda'i gilydd i ddarparu cefnogaeth integredig a chydlynol. A dyma'r math o gefnogaeth sy'n helpu i ddarparu'r cymorth sy'n newid bywydau'n barhaol, yn dod â phobl oddi ar y strydoedd ac yn eu galluogi i reoli eu camddefnydd o sylweddau a'u cyflyrau iechyd meddwl.

Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein hargymhelliad 4 mewn egwyddor, argymhelliad a oedd yn galw arnynt i arwain y gwaith o gyflwyno'r newid diwylliant sy'n angenrheidiol. Yn eu hymateb, maent yn pwysleisio pa mor bwysig yw hi i awdurdodau lleol gamu ymlaen i ddarparu'r arweinyddiaeth strategol hon. Rydym braidd yn bryderus y gallai hyn olygu bod darpariaeth dameidiog yn parhau, gydag integreiddio'n amrywio o un awdurdod lleol i'r llall. Felly, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ymdrechu i sicrhau nad yw hyn yn digwydd?

Rydym hefyd yn nodi'r pwyslais y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar y grant cymorth tai yn eu hymateb, a byddwn yn parhau i alw am gynyddu'r cyllid pwysig hwn yng nghyllideb 2020-21.

Ddirprwy Lywydd, wrth gloi, gobeithiwn y byddwn yn dechrau gweld y newidiadau angenrheidiol sy'n golygu ein bod yn gweld llawer llai o bobl ar ein strydoedd, a bod y rhai sydd yno'n cael cymorth yn gyflym ac yn amserol. Edrychaf ymlaen yn fawr at glywed barn Aelodau eraill, ac at ymateb y Gweinidog wrth gwrs. Diolch yn fawr.

17:05

Wel, fel y dywed ein hadroddiad:

'Mater a oedd yn cael ei godi dro ar ôl tro oedd yr anhawster i bobl sy’n cysgu ar y stryd gael mynediad at wasanaethau camddefnyddio sylweddau ac iechyd meddwl integredig'

ac

'mae gennym bryderon ynghylch lefel y gefnogaeth integredig i bobl sy’n cysgu ar y stryd ac sydd ag anhwylderau sy’n cyd-ddigwydd.'

Er i ni nodi:

'Efallai y bydd rhai pocedi bach o wasanaethau integredig fel gwaith y Gydweithfa Gofal Cymunedol yn Wrecsam',

y cyfeiriwyd ato gan y Cadeirydd,

'ymddengys mai eithriad yw’r rhain ac nid y norm.'

Wrth ein briffio ar ei hymchwil i angen blaenoriaethol a chysgu allan, dywedodd Dr Helen Taylor o Brifysgol Metropolitan Caerdydd wrthym na fyddai gwneud rhywun yn flaenoriaeth ynddo'i hun yn mynd i'r afael â'r problemau yr oeddent yn eu dioddef. Dywedodd na fyddai'n datrys y problemau—rhoi rhywle iddynt fyw a rhoi cymorth iddynt; mae'n rhaid iddynt fod eisiau ei wneud. Rhaid ichi roi'r cyfle hwnnw iddynt. Dywedodd Dr Taylor wrthym hefyd fod llawer yn sôn am eu profiad mewn ysgolion, nad oeddent yn gwybod sut i ymdrin â'u cyflyrau a'u hymddygiad.

Wrth dderbyn ein hargymhelliad cyntaf, dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi

'sefydlu ymchwiliad at wraidd Camddefnyddio Sylweddau/Iechyd Meddwl i ystyried cynnydd o ran datblygu gwasanaethau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau sy'n cyd-ddigwydd, a'r heriau sy'n parhau.' 

Efallai y gallai ddweud wrthym mewn iaith glir beth y mae hynny'n ei olygu, sut a phryd y bydd hwn yn adrodd, pa bryd y gwneir pethau'n wahanol, a sut y caiff perfformiad ei fonitro.  

Mewn egwyddor yn unig y mae Llywodraeth Cymru yn derbyn ein hargymhelliad 4 sy'n galw arni i fabwysiadu

'rôl arweiniol wrth weithio gyda sefydliadau ar draws sectorau i fwrw ymlaen â’r newid diwylliannol angenrheidiol',

ac mae'n osgoi ein datganiad y dylai

'ddiweddaru’r Pwyllgor ar y camau y mae wedi’u cymryd a’r amserlenni ar gyfer camau yn y dyfodol i gyflawni’r argymhelliad hwn ar ôl chwech, naw a deuddeg mis.'

Ac fe fuom yn meddwl yn hir ac yn galed am hynny, ac roedd hwnnw'n argymhelliad pwysig inni. Mae'n dweud, yn lle hynny:

'Rhoi'r Grant Cymorth Tai ar waith fydd y prif fecanwaith a fydd yn ein helpu i gyflawni'r amcan hwn.'

Er gwaethaf hyn, fel y clywsom, fe fu Llywodraeth Cymru yn anghyfrifol gyda'r grant hwn yn ei chyllideb ddrafft drwy roi setliad arian gwastad iddo—toriad mewn termau real—gyda Cymorth Cymru, Cartrefi Cymunedol Cymru a Cymorth i Fenywod Cymru yn rhybuddio bod gwasanaethau sy'n atal digartrefedd a chefnogi byw'n annibynnol bellach wedi cyrraedd pwynt tyngedfennol. Fel y dywedodd darparwr gwasanaeth byw â chymorth yng ngogledd Cymru wrthyf, ac fe'i dywedaf eto, y canlyniadau fydd mwy o bwysau ar y GIG, adrannau damweiniau ac achosion brys a golau glas, gan ychwanegu y bydd hyn, ynghyd â bwriad Llywodraeth Cymru i ailddosbarthu grant cymorth tai, yn 'ddinistriol i ogledd Cymru'.

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn ein hargymhelliad 7, ac yn dweud ei bod yn gwneud gwaith pellach ar hyn o bryd i ddeall y rhwystrau a wynebir gan rai sy'n cysgu allan ag anhwylderau sy'n cyd-ddigwydd a chyflyrau niwroamrywiol, ac y bydd hyn,

'yn rhan o ddatblygu gwasanaethau at y dyfodol, a rheiny’n wasanaethau sy'n diwallu anghenion unigolion sy'n agored i niwed yn well.'

Cyfeiriodd sawl tyst â phrofiad o gysgu allan at eu syndrom Asperger neu eu hawtistiaeth eu hunain neu rywun annwyl. Beth y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei wneud yr holl flynyddoedd hyn, er iddi glywed dro ar ôl tro fod pobl awtistig yn rhy aml yn cael eu trin fel problem gan swyddogion y sector cyhoeddus ar lefelau uwch sydd wedi methu sefydlu a diwallu eu hanghenion cyfathrebu a phrosesu synhwyraidd?

Wrth dderbyn ein hargymhelliad 9, mae Llywodraeth Cymru yn datgan ei bod yn parhau'n ymrwymedig i sicrhau bod gwasanaethau adsefydlu preswyl a dadwenwyno ar gyfer cleifion mewnol ar gael a'i bod yn dyrannu £1 filiwn o gyllid blynyddol wedi'i glustnodi i fyrddau cynllunio ardal ar gyfer darparu'r gwasanaethau haen 4 hyn a'i bod ar hyn o bryd yn tendro am gontract ar gyfer fframwaith adsefydlu preswyl ar gyfer camddefnyddio sylweddau i Gymru gyfan, a fydd yn darparu rhestr o ddarparwyr gwasanaethau adsefydlu preswyl a dadwenyno cymeradwy. Yr hyn nad ydynt yn ei ddweud yw ei bod yn aneglur o hyd a yw'r £1 filiwn wedi'i glustnodi; fod eu fframwaith blaenorol, a arweiniodd at atgyfeiriadau at unedau nad oeddent yn rhai fframwaith y tu allan i Gymru, wedi dod i ben; fod Llywodraeth Cymru flaenorol wedi datgan, yn dilyn adroddiadau damniol, ei bod yn bwrw ymlaen â gwaith ar dair uned yng Nghymru, ond bod dwy o'r rhain wedi cau ers hynny; neu fod ffigurau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod Cymru wedi gweld cynnydd o 84 y cant yn nifer y marwolaethau cysylltiedig â chyffuriau dros y degawd diwethaf ac ar draws Cymru a Lloegr, gogledd-ddwyrain Lloegr yn unig sydd â chyfradd farwolaethau uwch o farwolaethau cysylltiedig â chyffuriau.

Fel y dywedodd prif weithredwr Wallich wrthym,

yn bendant mae angen inni wella mynediad at haen 4, ond ar hyn o bryd, ni all fy ngwasanaethau gael pobl drwy'r asesiad.

Fel y dywedodd prif weithredwr Kaleidoscope wrthym, mae haen 4 wedi'i danariannu'n eithafol ac ychydig iawn o gyllid sydd ar gael i unrhyw un sydd â phroblem gyffuriau allu cael gwasanaeth haen 4.

17:10

Nid oeddwn yn aelod o'r pwyllgor yn ystod yr ymchwiliad hwn, ond ar ôl darllen yr adroddiad wedi hynny, hoffwn ddiolch i fy nghydweithwyr newydd am y gwaith cynhwysfawr a manwl hwn. Felly hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r pwyllgor am wneud gwaith rhagorol a dweud fy mod yn edrych ymlaen at chwarae rhan weithredol mewn ymchwiliadau yn y dyfodol.  

Hoffwn ddiolch hefyd i'r holl sefydliadau ac unigolion a roddodd dystiolaeth yn ystod yr ymchwiliad hwn. Gwn fod staff ymroddedig yn tywallt eu bywydau a'u heneidiau i mewn i geisio helpu pobl sydd ag anghenion cymhleth iawn; gall fod yn waith anodd iawn, a hoffwn dalu teyrnged i'r holl weithwyr a gwirfoddolwyr am eu hymdrechion. 

Mae maint yr her sy'n wynebu pobl agored i niwed sydd mewn perygl o fod yn ddigartref neu sydd eisoes yn ddigartref yn wirioneddol frawychus. Mae digartrefedd yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn. Mae Cymru'n wynebu argyfwng cysgu allan yn ôl y grŵp gweithredu ar ddigartrefedd. Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn amcangyfrif bod 34 o bobl wedi marw yng Nghymru yn 2018 o ganlyniad i ddigartrefedd. Gadewch i ni oedi am eiliad ar y pwynt hwnnw: bu farw 34 o bobl oherwydd digartrefedd yng Nghymru, ein cymdeithas wâr, yn 2018. Pwy all anghytuno â haeriad y pwyllgor fod y rhain yn ystadegau brawychus, ac annerbyniol yn un o economïau cyfoethocaf y byd? Gadewch inni gofio nad yw digartrefedd yn anochel, mae'n ddewis gwleidyddol, o ystyried bod gan lywodraethau bŵer i'w atal. Felly beth sy'n mynd o'i le yng Nghymru, o gofio bod cymaint â chwe rhaglen wahanol gan Lywodraeth Cymru i geisio lleihau'r broblem hon?

Gadewch imi ddyfynnu o'r adroddiad: mae pobl sy'n cysgu ar y stryd yn cael anhawster i gael gafael ar wasanaethau camddefnyddio sylweddau a gwasanaethau iechyd meddwl ac   

'ar hyn o bryd... cyfyngedig, os o gwbl, yw’r gwasanaethau integredig sydd ar gael ar gyfer pobl sy’n cysgu ar y stryd ac sydd ag anhwylderau sy’n cyd-ddigwydd.'

Mae'r adroddiad yn mynd rhagddo i dynnu sylw at broblemau systemig penodol ac yn cynnig atebion.  

Ei argymhelliad cyntaf yw bod Llywodraeth Cymru yn darparu adroddiad ar weithredu'r cynllun gweithredu ar gysgu ar y stryd fel y gellir unioni diffygion o fewn y ddarpariaeth. Ymateb Llywodraeth Cymru: nid oes angen hyn.  

Dysgwn fod diffyg rhannu ymarfer da lle mae gennym bocedi o lwyddiant—rhoddir y Gydweithfa Gofal Cymunedol yn Wrecsam a rhaglenni Tai yn Gyntaf yng Ngwent fel enghreifftiau o ymarfer rhagorol y dylid ei efelychu mewn mannau eraill.  

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn argymhelliad y pwyllgor y dylid gwella ymarfer a rennir a dileu'r rhwystrau sy'n bodoli mewn systemau comisiynu a all atal pobl rhag gallu bod yn onest am fentrau nad ydynt wedi gweithio. Eto i gyd, beth y maent yn mynd i'w newid mewn gwirionedd? Dim. Mae yna gonsensws cyffredinol fod gan sefydlu ystafelloedd cymryd cyffuriau botensial i amddiffyn pobl sy'n agored i niwed rhag sefyllfaoedd peryglus. Mae comisiynydd heddlu a throsedd gogledd Cymru, Arfon Jones, wedi bod yn ymgyrchu dros gael cynllun peilot ar gyfer ystafell gymryd cyffuriau i weld a ellir ailadrodd canlyniadau cadarnhaol a welwyd mewn gwledydd eraill yng Nghymru. Dyma enghraifft o gynrychiolydd etholedig sy'n ceisio gwella bywydau pobl yn rhagweithiol, ond gwrthodwyd hawl iddo wneud hynny gan Lywodraeth y DU sy'n gwrthwynebu hyn yn ideolegol.

Mae adroddiad y pwyllgor yn annog Llywodraeth Cymru i ystyried egluro a yw'r setliad datganoli yn ei gwneud hi'n bosibl sefydlu ystafelloedd chwistrellu cyffuriau diogel yng Nghymru, ac os nad ydyw, i fynnu bod y pŵer yn cael ei ddatganoli. Eu hymateb oedd 'na'.

Y thema gyson arall yw diffyg amser ac adnoddau i staff allu ymdrin yn ddigonol â'r problemau y maent yn eu hwynebu bob dydd, felly gadewch inni weld cynnydd yn y grant cymorth tai, fel y dywedwyd eisoes. Nid oes gennyf amheuaeth nad oes gan y Gweinidog awydd gwirioneddol i ddatrys y problemau hyn, ac y byddai wrth ei bodd yn gallu dweud wrth y Senedd hon ymhen blwyddyn fod cynnydd gwirioneddol wedi'i wneud, ond mae arnaf ofn fy mod yn amau y gall gwneud hynny. Fel y dywedodd un tyst wrth yr ymchwiliad:

Rwy'n gobeithio'n fawr na fyddwn ni'n eistedd yma eto ymhen tair blynedd yn cael yr un sgwrs, oherwydd rwy'n tybio y byddwn.

Felly, byddwn yn ei hannog i drin yr adroddiad hwn gyda'r difrifoldeb mwyaf—rwy'n siŵr ei bod—ac yn ailfeddwl ynglŷn â defnyddio'r grym sylweddol sydd gan y Llywodraeth i sbarduno newid gydag angerdd ac egni, yn hytrach na pharhau i roi ffydd yn yr hyn a ddisgrifiwyd gan dystion i'r pwyllgor fel system doredig. Weinidog, mae gennych bŵer i weithredu newid: defnyddiwch ef os gwelwch yn dda.

17:15

A gaf fi ddechrau fy nghyfraniad drwy ddiolch i aelodau'r pwyllgor, a'n haelod newydd yn ogystal, am eu cyfraniadau heddiw, ond hefyd i John a'i gadeiryddiaeth am fynd â ni'n ôl i edrych ar y mater hwn y mae rhagflaenwyr ar y pwyllgor hwn, o dan ei stiwardiaeth, wedi edrych arno—y materion hyn a materion ehangach yn ymwneud ag ef yn ogystal? Rwy'n credu ei fod yn werth ei wneud, oherwydd mae'n debyg mai un o'r profiadau mwyaf boddhaus a gefais fel aelod o'r pwyllgor yn fy amser oedd eistedd gyda phobl a oedd â phrofiad o gysgu ar y stryd, o ddigartrefedd, a'u cael i siarad drwy'r profiad gyda ni. Roedd yn anodd iawn, yn heriol iawn—iddynt hwy ond hefyd i ni wrth i ni wrando ar yr hyn roeddent yn ei ddweud wrthym yn onest, lle roeddent wedi bod drwy'r felin dro ar ôl tro. Mae fel gêm nadroedd ac ysgolion, ond lle mae'r nadroedd yn hirach o lawer a'r cwymp yn llawer dyfnach na'r ysgolion—y camu i fyny araf, fesul tipyn.

Clywsom am ymarfer da, ond mewn pocedi, a'r anhawster nid yn unig o ran arweiniad lleol ar lawr gwlad mewn sefydliadau unigol, mewn ardaloedd unigol, ond hefyd o ran sut i ledaenu hynny'n ehangach, gan mai un o'r themâu a glywsom yn gyson yw ein bod yn gallu gweld beth sy'n gweithio. Pan fydd pob un o'r gwasanaethau wedi'u cydlynu'n iawn gennych, ac fel y dywedwyd wrthym, dylid cael ymagwedd sy'n pennu nad oes un drws anghywir—os oes gennych broblem sy'n gysylltiedig â chysgu allan neu ddigartrefedd, dylai'r gwasanaethau yno ddod i wybod amdanoch a dod atoch i'ch helpu mewn rhyw ffordd neu'i gilydd.

Wrth gwrs, un o'r enghreifftiau o hyn y clywsom ei bod yn llwyddiant oedd yr un yn Wrecsam ac mewn mannau eraill, sef y dull Tai yn Gyntaf yno wrth gwrs, ond dywedwyd wrthym gan lawer o bobl hefyd, gan gynnwys y rhai sy'n cynrychioli sefydliadau sy'n ymwneud yn uniongyrchol â darparu'r dull Tai yn Gyntaf, nad yw'n ateb i bob dim. Mae'n ddull da iawn, ac yn glod i'r rhai sy'n ei ddatblygu a Llywodraeth Cymru am ei gefnogi, ond nid yw'n fodel sy'n un ateb i bawb.

Ond mae'n werth ystyried nid yn unig rhai o'r heriau ond y ffordd ymlaen, oherwydd dywedodd pobl wrthym—tystion a ddaeth ger ein bron—fod gennym fframwaith cywir a ddylai allu datrys hyn yng Nghymru, fel y gallwn gyrraedd pwynt lle mae'r ymarfer gorau a welwn yn normal. Cawsom wybod hyn gan bobl a ddaeth ger ein bron, a'r rhwystredigaeth, fel y mae Delyth newydd ei ddweud, o glywed pobl yn dweud wrthym, 'Nid ydym am fod yn ôl yma ymhen tair blynedd dan stiwardiaeth John neu rywun arall yn dweud, "Gadewch inni edrych ar hyn eto" a nodi'r un pethau, a sut rydym yn dal i fethu o ran diwylliant, arweinyddiaeth, rhannu ymarfer gorau a dull gweithredu sy'n pennu nad oes un drws anghywir.'

Felly, gadewch imi sôn am ychydig o bethau a ddaeth yn uniongyrchol o'r adroddiad y mae Gweinidogion wedi'u hystyried. Dywedodd llawer o dystion wrthym mai un broblem oedd y broses gomisiynu. Dywedwyd wrthym, ac mae yn yr adroddiad, fel y dywedodd un tyst wrthym—. Os oes gennych chi sector sy'n cael ei yrru gan gystadleuaeth, a gwnaethom nodi hynny'n aml—er bod llawer o sefydliadau yn ceisio gwneud y peth iawn, roedd llawer ohonynt yn teimlo braidd yn ochelgar hefyd, am eu bod yn teimlo eu bod yn cystadlu â sefydliadau eraill sy'n gorgyffwrdd ond heb fod â'r un amcanion yn union, sy'n eithaf diddorol.

Felly, dywedwyd wrthym os oes gennych chi sector sy'n cael ei yrru gan gystadleuaeth, mae'n golygu, yn gyntaf oll, na all neb fod yn agored i niwed, ni all neb ddweud, 'Dyma'r gwersi a ddysgasom, edrychwch ar y llanast a wnaethom draw yma, mae angen inni ei newid.' Ni all neb fod yn agored i niwed, rhaid i bawb fod yn wych drwy'r amser, yn enwedig er mwyn i Weinidogion weld eu bod yn wych iddynt allu cadw eu contractau, i barhau i wneud eu gwaith. Wel, os na allwch chi gael system sy'n fregus, ni fydd gennych ddiwylliannau sy'n dysgu sy'n gyflym ac yn ystwyth ac yn gallu addasu, oni bai eich bod chi'n camu tu allan i'r system yn llwyr ac yn barod i wneud rhywbeth arall. Yn wir, gwnaethom siarad â phobl a oedd wedi camu y tu allan i'r system yn gyfan gwbl, ac wedi dewis gwneud pethau y tu allan i'r system heb gymorth. Ac er clod iddynt, roeddent yn cyflawni pethau rhyfeddol ond ni allent ei ffitio i'r bocsys y dywedwyd wrthynt am ei wneud.

A chlywsom hefyd am y cyfyng-gyngor mawr lle roedd pobl yn dewis peidio â defnyddio gwasanaethau weithiau oherwydd eu bod yn teimlo ei bod yn well iddynt fod ar y strydoedd. Roedd hynny'n eithaf rhyfeddol. Byddai aelodau o'r cyhoedd allan yno, byddai fy etholwyr yn dweud, 'Does bosibl fod hynny'n iawn', ond clywsom am hyn. Clywsom gan un tyst, 'Y peth go iawn sy'n atal pobl rhag dod i mewn yw bod y cynnig sydd gennym o ran gwasanaethau yn llai na'r hyn y mae'r strydoedd yn ei gynnig.' Os ydych yn gaeth i sylwedd, mae gennych yr holl broblemau iechyd meddwl cymhleth hyn a phethau eraill—gallwch ddiffodd y boen yn eithaf hawdd â chyffur 'spice' neu heroin. Ni allwn gynnig hynny. Gallwch fod yn neb mewn fflat neu gallwch fod yn rhywun ar y strydoedd. Mae goblygiadau diwylliannol hefyd i bobl sydd wedi bod allan yno ers amser maith.

Mae hyn yn mynd y tu hwnt i benawdau'r papurau tabloid gyda'r pethau hyn—cymhlethdod hyn oll. Roeddwn yn hynod o falch o fod yn rhan o hyn. Rwy'n credu y bydd y grŵp gweithredu ar ddigartrefedd yn ymdrin â rhai o safbwyntiau derbyn mewn egwyddor y Gweinidog, ac yn cyflwyno rhai o'r atebion, rwy'n meddwl, oherwydd mae'n dal i fod yn waith ar y gweill. Mae llawer o waith da'n digwydd, Weinidog, ond rwy'n credu y bydd mynd i'r afael â hyn yn galw am waith ddydd ar ôl dydd, wythnos ar ôl wythnos, fis ar ôl mis, nes na fydd yn rhaid inni ddod yn ôl ymhen tair blynedd a dweud, 'Edrychwch eto ar yr hyn a nodwn.'

17:20

Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn ein hymchwiliad ac i'n clercod pwyllgor rhagorol am hwyluso'r ymchwiliad dilynol hwn i gysgu ar y stryd, heb sôn am angerdd ein Cadeirydd, John Griffiths, a aeth â ni i gyfarfod â phobl sydd â phrofiad o gysgu allan, sy'n gwneud i rywun deimlo'n ostyngedig iawn.

Gŵyr pawb ohonom fod gennym argyfwng digartrefedd a bod y ffigurau swyddogol yn tanamcangyfrif yn fawr nifer y bobl a orfodir i gysgu ar y stryd. Dylem deimlo cywilydd fod hyd yn oed un person yn gorfod cysgu allan ar ein strydoedd. Mae'n bechod moesol yn yr unfed ganrif ar hugain. Wrth gwrs, mae'r rhesymau dros ddigartrefedd yn amrywiol ac yn gymhleth, ac yn aml yn llawer mwy cymhleth nag y gallwn ei ddychmygu. Peidio â chael to dros eich pen, a chanolbwyntiodd ein gwaith dilynol ar bobl sy'n cysgu ar y stryd ac sydd â phroblemau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau sy'n cyd-ddigwydd. Rhaid inni sicrhau bod pobl ddigartref yn cael eu trin â'r parch a'r ddealltwriaeth y maent yn eu haeddu pan fyddant yn mynd i ofyn am gymorth, fel nad ydynt yn cael y teimlad o 'ni a nhw'. Felly, pan fydd pobl ddigartref yn mynd at wasanaethau i ofyn am help, rhaid i'r diwylliant tuag atynt newid.

Mae'n ystadegyn brawychus fod dwy ran o dair o farwolaethau ymysg y digartref yn deillio o wenwyn cyffuriau. Pan fyddwn yn edrych ar yr amser sydd gan weithiwr allgymorth i siarad â rhywun er mwyn meithrin perthynas ac ennill eu hymddiriedaeth, mae'n cyfateb i 2.5 munud, sy'n gwbl annigonol. Dyna pam y synnais na wnaeth Llywodraeth Cymru dderbyn ein holl argymhellion yn ddiamod, yn enwedig argymhelliad 3. Ac er fy mod yn ddiolchgar fod y Gweinidog wedi derbyn egwyddor yr argymhelliad, rhaid i Lywodraeth Cymru wneud mwy i weithio gyda Llywodraeth y DU i liniaru niwed camddefnyddio sylweddau.

Rwyf hefyd yn siomedig fod Llywodraeth Cymru yn barod i gamu'n ôl ac estyn yr awenau i lywodraeth leol mewn perthynas â gyrru newid diwylliannol. Gwnaethpwyd ein pedwerydd argymhelliad am fod tystiolaeth wedi'i rhoi i'r pwyllgor mai'r prif rwystr i ddarparu gwasanaethau gwirioneddol integredig oedd diffyg arweiniad a dull seilo o weithredu. Er bod y Gweinidog wedi dweud ei bod yn derbyn egwyddor ein hargymhelliad y dylai Llywodraeth Cymru fabwysiadu rôl arweiniol wrth hybu newid diwylliannol, yn yr un gwynt maent yn awgrymu y dylai awdurdodau lleol yng Nghymru gamu i'r gofod lle roedd Llywodraeth Cymru'n darparu cyfeiriad yn y gorffennol. Nid arweinyddiaeth yw hyn, ond ymwrthod â chyfrifoldeb. Y peth diwethaf sydd ei angen arnom yw 22 dull gwahanol o ddarparu gwasanaethau integredig. Rhan o'r rheswm pam fod gennym y fath argyfwng cysgu allan yw oherwydd bod gwahanol gyrff yn mabwysiadu dulliau gwahanol o weithredu. Anwybyddir iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau sy'n cyd-ddigwydd yn yr ymdrech i fynd i'r afael â'r angen am dai. Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru wrth y pwyllgor fod rhwystrau'n bodoli o fewn yr adrannau iechyd hefyd. Felly, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn darparu'r arweiniad, y cyfeiriad a'r cyllid er mwyn mynd i'r afael â'r problemau cymhleth sydd ynghlwm wrth gysgu allan.

Oni cheir cyfeiriad clir o'r brig, nid ydym yn mynd i gyrraedd unman a bydd olynydd ein pwyllgor yn trafod y broblem eto ymhen ychydig flynyddoedd. Mae Llywodraeth Cymru yn dda iawn am gyflwyno cynlluniau, ond y ddarpariaeth sy'n bwysig. Rwy'n gobeithio'n fawr fod y tro hwn yn wahanol gan fod rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas yn dibynnu arnom mewn gwirionedd. Diolch.

17:25

Rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl hon ac rwy'n cymeradwyo gwaith y pwyllgor o dan arweinyddiaeth John. I mi, o ddarllen hyn, ac mae'n rhaid i mi ddweud, mae Caroline newydd eistedd a'n rhybuddio, os na fyddwn yn gweithredu, ymhen 20 mlynedd byddwn yn mynd o gwmpas yr un cae ras, wel, teimlaf ein bod yn trafod llawer o'r problemau hyn 20 mlynedd yn ôl, efallai heb ganolbwyntio ar ddigartrefedd a chysgu allan yn benodol, ond holl fater yr hyn y mae'r adroddiad hwn yn ymdrin ag ef, sef apêl am arweinyddiaeth a gwasanaethau mwy integredig, dychmygus, yn enwedig ar gyfer y rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas. Felly, rwy'n gobeithio y gallwn symud ymlaen yn gyflym iawn.

Fel y gwelwch yn yr adroddiad ar hyn o bryd, mae rhanddeiliaid allweddol yn teimlo bod rhwystrau rhag gallu integreiddio, a phan fyddwch yn mynd i'r afael â chysgu ar y stryd, un peth sydd ei angen arnoch yw dull integredig iawn oherwydd cymhlethdod y broblem. Roedd un tyst wedi mynd mor bell â honni nad oedd croeso i arloesi mewn llawer o'r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ac rwy'n ystyried hynny'n ofidus. Dywedodd tyst arall o Iechyd Cyhoeddus Cymru wrth y pwyllgor, ac rwy'n dyfynnu:

mae diwylliant gwahanol o fewn gwasanaethau camddefnyddio sylweddau ac o fewn gwasanaethau iechyd meddwl ffurfiol... ceir prinder arweinyddiaeth gydgysylltiedig ar y lefel uchaf.

Dyna'n union y mae'n rhaid inni ei weld yn dod i ben a rhaid inni symud tuag at agor ein gwasanaethau i'r syniadau a fydd yn arwain at y canlyniadau gorau un. Yn fy marn i, yr hyn sydd wrth wraidd y rhwystredigaeth yw'r broses gomisiynu sy'n eithaf gwan weithiau, ac arferion gwael, diffyg hyfforddiant, ac yn arbennig, rwy'n croesawu galwad y pwyllgor am adolygiad ar frys o gomisiynu gan Lywodraeth Cymru. Credaf fod llawer o rinweddau i hynny.

Mae'n debyg mai un ffordd o symud ymlaen ar hyn o bryd yw drwy ofyn i ni ein hunain, 'Sut beth fyddai comisiynu effeithiol ar gyfer gwasanaethau i fynd i'r afael â chysgu ar y stryd?' Wel, fel yr awgrymais yn gynharach, byddai'n debyg i gomisiynu effeithiol mewn meysydd eraill, ond efallai nad yw mor gyffredin ag y disgwyliwn; cyllidebau cyfun rhwng gwahanol wasanaethau; comisiynu hirdymor fel ein bod yn gwybod bod gennym y gwasanaeth sydd ei angen arnom gyda'r sicrwydd y bydd yno'n hirdymor ac y gellir cyfeirio pobl ato wedyn; gwasanaethau integredig; ac annog arloesedd. Mae angen i'r pethau hyn fod yn ganolog i broses gomisiynu effeithiol.

Mae hyn yn her wrth gwrs. Mae'n haws ei wneud fesul tipyn ac edrych ar ôl eich maes penodol chi'n unig, ond i fynd i'r afael â digartrefedd, mae ymagwedd eang yn gwbl hanfodol. Mae'n gofyn am ddulliau dewr a beiddgar, er enghraifft—ac rwy'n croesawu'r ffaith bod yr adroddiad yn trafod rhai o'r pynciau hyn, sy'n sensitif iawn, ac yn mynd benben â hwy ac yn siarad amdanynt—gwasanaethau dadwenwyno cydgysylltiedig, sy'n ymdrin â chamddefnyddio alcohol a chyffuriau, ac yn gysylltiedig â gwasanaethau iechyd meddwl; ystyried ystafelloedd diogel ar gyfer defnyddio cyffuriau; allgymorth grymusol, ac mae hynny'n golygu, wyddoch chi, pan fydd ein gweithwyr allgymorth yno'n cysylltu â phobl sy'n cysgu allan, fod yna wir ddealltwriaeth ac ymdeimlad o bwrpas ynglŷn â lle mae angen iddynt symud y bobl hyn sy'n agored i niwed i sicrhau ffordd o fyw fwy strwythuredig a sut i gael hynny i ddigwydd.  

Modelau Tai yn Gyntaf: unwaith eto, y cysyniad hwn fod angen ichi fod mewn cartref yn gyntaf cyn y gallwch gael mwy o sefydlogrwydd, ac yn sylfaenol, na fyddwn byth yn troi pobl agored i niwed allan. Efallai y byddwn yn eu symud yn eu blaenau neu'n rhoi mwy o gymorth iddynt, ond ni fyddwn yn eu troi allan. Cynlluniau gweithredu digartrefedd integredig: buom yn siarad ychydig am hyn yn y datganiad ddoe ar y grant cymorth tai, ac rwy'n croesawu hyn. Rwy'n credu mai Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr hyn y mae angen ei gydgysylltu ar lefel leol a rhanbarthol yw hyn, ond mae'n rhaid inni ei weld yn cael ei weithredu, a'i weld yn gyflym iawn. Yna opsiynau tai addas y gellir cyfeirio'r bobl hyn sydd fwyaf agored i niwed atynt, a bydd amrywiaeth o fodelau angenrheidiol yno, gyda rhai ohonynt efallai'n darparu ar gyfer anghenion penodol iawn, megis cyn-filwyr neu bobl sydd wedi gadael y gwasanaethau arfog yn ddiweddar ac wedi'i chael hi'n anodd iawn addasu'n ôl i fywyd sifil.  

Felly, rwy'n falch ein bod ni'n trafod hyn y prynhawn yma. Rwy'n credu ei fod yn waith da iawn, ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen ag ef ac yn ymateb i'r argymhellion rhagorol gyda grym ac ymrwymiad gwirioneddol. Diolch, Ddirprwy Lywydd.  

17:30

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i'r pwyllgor am yr holl waith caled ac am roi cyfle i mi ymateb i'r ddadl bwysig hon yn y Siambr heddiw. Hoffwn innau hefyd gofnodi fy niolch, a diolch y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, i bawb a gyfrannodd at waith y pwyllgor, ond yn enwedig y rhai â phrofiad bywyd a roddodd o'u hamser i ymgysylltu â'r pwyllgor a'r rhai sy'n cynorthwyo pobl sy'n cysgu allan yn ddyddiol am rannu eu barn a'u profiadau gyda'r pwyllgor. Mae wedi bod mor werthfawr wrth lunio'r argymhellion pwysig iawn a wnaeth y pwyllgor.

Fel rydym wedi trafod droeon, yn y Siambr hon ac mewn sesiynau pwyllgor, mae cysgu ar y stryd yn parhau i fod yn broblem endemig ledled Cymru. Mae'r Aelodau, wrth gwrs, yn ymwybodol fod y cyfrif cenedlaethol o'r nifer sy'n cysgu ar y stryd ar gyfer 2019 wedi ei gyhoeddi yr wythnos diwethaf a bod llawer o awdurdodau lleol wedi cofnodi cynnydd dros gyfnod o bythefnos yn ogystal â chynnydd ar noson y cyfrif. Fel y dywedais yn fy natganiad ysgrifenedig yr wythnos diwethaf, mae hyn yn hynod o siomedig, ond nid yw'n syndod, gwaetha'r modd.

Er mai dim ond darlun cyffredinol iawn y gall y data a gofnodwyd ei ddarparu, gallwn weld drosom ein hunain ar lawer gormod o strydoedd mewn ardaloedd gwledig a threfol ledled Cymru fod cysgu ar y stryd yn parhau i fod yn broblem barhaus a chynyddol. Cyflwynais i'r Siambr hon ym mis Hydref y llynedd fy nghydnabyddiaeth o'r angen i edrych o'r newydd ar sut i gyrraedd y nod o roi terfyn ar ddigartrefedd yn ei holl ffurfiau, gan gynnwys rhoi terfyn ar unrhyw angen i unrhyw un gysgu ar y strydoedd. Dyma'n union pam y gwnaethom gyhoeddi strategaeth newydd ar gyfer atal a rhoi diwedd ar ddigartrefedd y llynedd a sefydlu'r grŵp gweithredu arbenigol ar ddigartrefedd i weithio'n gyflym i roi cyngor ar y ffordd orau o gyflawni'r nod hwn. Dyna'n union pam ein bod wedi diogelu cyllidebau digartrefedd, gan gynnwys y £126 miliwn hanfodol sy'n mynd i mewn i'r grant cymorth tai. Ddirprwy Lywydd, ddoe ddiwethaf yn y Siambr, cyflwynais y canllawiau newydd ar y grant cymorth tai, sy'n mynd i'r afael â llawer o'r blaenoriaethau comisiynu y mae Aelodau wedi'u nodi heddiw ynghylch y ffordd y comisiynir gwasanaethau, ac rwy'n gobeithio'n fawr y byddant yn ateb rhai o'r pryderon y mae pobl wedi'u mynegi yn y Siambr heddiw.  

Rwyf am ddweud un peth am gomisiynu hirdymor er hynny: rwy'n cytuno'n llwyr â hynny—credaf fod David a Mark Isherwood wedi sôn amdano—ond gallent wneud ffafr fawr â ni drwy ein cynorthwyo i gael Llywodraeth y DU i roi mwy na chyllideb un flwyddyn inni, oherwydd yn amlwg mae'n anodd iawn inni gomisiynu dros gyfnod hwy na blwyddyn pan fydd ein cyllideb ein hunain ar sail flynyddol. Felly, rwy'n credu y byddem yn gwerthfawrogi rhywfaint o waith trawsbleidiol yn perswadio Llywodraeth y DU i'n helpu gyda hynny, gan ein bod yn derbyn yn llwyr y byddai comisiynu mwy hirdymor yn fuddiol yn hyn o beth ac mewn llawer o sectorau eraill.

Mae gwaith y pwyllgor yn archwilio cysgu allan a'r berthynas gymhleth rhwng camddefnyddio sylweddau, iechyd meddwl ac anghenion tai yn darparu sylfaen dystiolaeth ddefnyddiol i fwrw ymlaen â'r gwaith hwn. Cysgu allan, fel y gwyddom i gyd, yw'r math mwyaf difrifol o ddigartrefedd, ac yn ogystal â chefnogi'r rhai sy'n wynebu'r argyfwng i ddod oddi ar y strydoedd ac i lety addas, rydym hefyd yn cydnabod pwysigrwydd buddsoddi mewn ymyrraeth gynnar ac atal i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol digartrefedd. Mae hyn yn cynnwys parhau i fuddsoddi a gwella gwasanaethau iechyd. Er enghraifft, gwyddom fod gwella iechyd meddwl a lles pobl ifanc yn effeithio'n uniongyrchol ar nifer y bobl ifanc sy'n mynd yn ddigartref. Mae'n werth nodi bod Llywodraeth Cymru yn parhau i wario mwy ar wasanaethau iechyd meddwl nag unrhyw ran arall o'r GIG. Mae ein cyhoeddiad diweddar yn y gyllideb ddrafft i ymrwymo £20 miliwn pellach i wasanaethau iechyd meddwl, gan godi'r arian a glustnodwyd ar gyfer iechyd meddwl i £712 miliwn, yn dangos ein hymrwymiad parhaus i wella'r gwasanaethau hyn.  

Mewn ymateb i'r rhai a oedd yn sôn am broblemau camddefnyddio sylweddau haen 4 a phroblemau eraill—nodaf ein bod yn tendro ar hyn o bryd am gontract ar gyfer fframwaith adsefydlu preswyl camddefnyddio sylweddau i Gymru gyfan a fydd yn darparu rhestr newydd o ddarparwyr gwasanaethau preswyl ar gyfer adsefydlu a dadwenwyno. Yn ogystal, rydym wedi ysgrifennu at yr holl gyfarwyddwyr gwasanaethau cymdeithasol i'w hatgoffa am eu cyfrifoldebau mewn perthynas ag asesiadau gofal cymdeithasol a chyllid ar gyfer adsefydlu preswyl cyn cyflwyno'r fframwaith newydd, ac i sicrhau y darperir digon o arian nid yn unig o wasanaethau camddefnyddio sylweddau wedi'u comisiynu ond o ffynonellau ehangach ar draws y gwasanaeth cyhoeddus.  

Cydnabyddir yn eang y cysylltiadau rhwng camddefnyddio sylweddau, iechyd meddwl a phroblemau gyda llety, ac mae'r naill a'r llall yn cael eu cydnabod fel achos a chanlyniad posibl i'w gilydd. Rhaid i'n hymateb ganolbwyntio ar anghenion yr unigolyn, a chytunaf yn llwyr â'r pwyllgor ynghylch yr angen am wasanaeth integredig a dull amlasiantaethol i gynorthwyo pobl yn y modd mwyaf effeithiol. Rydym wedi bod yn gweithio ar draws y Llywodraeth ers cryn amser i fwrw ymlaen â'r gwaith hwn ar y cyd. Mae gan y cynllun cyflawni ar gamddefnyddio sylweddau a gyhoeddwyd ar gyfer 2019-22 a'r cynllun cyflawni ar gyfer iechyd meddwl 2019-22 gamau penodol i fynd i'r afael â llawer o'r argymhellion a wnaed gan y pwyllgor ynghylch cysgu allan a mynediad at wasanaethau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau. Mae cydweithio agos yn digwydd ar draws adrannau i sicrhau bod y camau yn y cynlluniau hyn yn cefnogi'r strategaeth ar gyfer atal a rhoi diwedd ar ddigartrefedd.  

Mae iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau sy'n cyd-ddigwydd yn flaenoriaeth yn y ddau gynllun cyflawni, ac fel y soniodd Mark Isherwood, rwy'n credu ein bod wedi sefydlu'r grŵp at wraidd y mater i archwilio'r rhwystrau rhag gallu ymateb yn fwy effeithiol i broblemau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau sy'n cyd-ddigwydd, am fy mod yn ymwybodol iawn fod llawer o heriau o hyd. Mae'r grŵp yn cynnwys amrywiaeth o arbenigwyr, gan gynnwys arbenigwyr polisi, comisiynwyr ac ymarferwyr, yn cynnwys iechyd a thai, i gefnogi'r gwaith. Rwy'n hapus iawn i adrodd yn ôl i'r pwyllgor pan fyddwn wedi cael y gwaith hwnnw gan y grŵp.  

Ac yn ogystal, mae gwaith yn mynd rhagddo fel rhan o'r cytundeb partneriaeth ar gyfer iechyd yn y carchardai, sy'n cynnwys ffocws penodol ar gamddefnyddio sylweddau ac iechyd meddwl, a gwella'r broses o drosglwyddo gofal ar ôl rhyddhau o'r carchar. Cefnogir y cytundeb partneriaeth drwy fod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £1 filiwn ychwanegol mewn gwasanaethau iechyd sylfaenol yn y carchardai. Fel y nodwyd yn y cynllun cyflawni ar gyfer iechyd meddwl a'r cynllun cyflawni ar gamddefnyddio sylweddau, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi buddsoddi £1.3 miliwn mewn gwasanaethau newydd i bobl ag anghenion tai ac anghenion cymhleth, gan ganolbwyntio ar gefnogi Tai yn Gyntaf. Mae'r cyllid hwn wedi'i anelu'n benodol at ddatblygu gwasanaethau integredig, gan weithio gyda'r rhai anoddaf eu cyrraedd a gwella mynediad at gymorth a thriniaeth iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau.  

Tynnodd y pwyllgor sylw'n briodol at botensial Tai yn Gyntaf, nid yn unig o ran helpu pobl i gael llety, ond hefyd o ran darparu'r sefydlogrwydd a all ei gwneud yn llawer haws i rywun fynd i'r afael â phroblemau eraill, fel camddefnyddio sylweddau neu salwch meddwl. Nodais yn flaenorol fod angen i Tai yn Gyntaf fod yn rhan o ddull ehangach o ailgartrefu'n gyflym, fel y bwriadwyd iddo fod ar gyfer y rhai sydd â'r anghenion mwyaf cymhleth—yr union unigolion y mae'r adroddiad pwyllgor hwn yn canolbwyntio fwyaf arnynt. Mae wedi gweithio ledled y byd ac mae'n gweithio yma yng Nghymru. Mae'r ddau gyntaf a aeth i mewn i brosiect Byddin yr Iachawdwriaeth yng Nghaerdydd yn dal mewn llety ddwy flynedd ar ôl ymuno â'r prosiect ar ddiwedd 2017. Roedd gan y ddau unigolyn hanes o gysgu ar y stryd dros nifer o flynyddoedd cyn iddynt ymuno â'r prosiect hwnnw.  

Mae ein holl dystiolaeth yn dangos bod Tai yn Gyntaf yn cymryd amser. Mae angen amser ar weithwyr cymorth i feithrin perthynas â phobl sy'n aml wedi cael eu siomi gan y system ac sydd wedi ymddieithrio o gymdeithas, i feithrin digon o ymddiriedaeth ynddynt i gytuno i ymuno â'r prosiect hyd yn oed. Mae angen amser arnynt i sicrhau bod y penderfyniadau cywir yn cael eu gwneud, megis y math o ddeiliadaeth, math o eiddo a'i leoliad, i weithio gyda chymdeithasau tai a landlordiaid preifat i ddod o hyd i'r eiddo hwnnw. Ac yn hollbwysig, mae angen i'r gweithiwr cymorth fuddsoddi amser ar ôl i rywun fynd i'r llety i'w helpu i wynebu heriau bywyd a sicrhau eu bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i ffynnu mewn unrhyw lety.

Mae'r prosiectau rydym yn buddsoddi ynddynt yn llwyddo ac rydym yn cydnabod bod gwasanaethau iechyd yn elfen gwbl hanfodol o sicrhau eu llwyddiant. Erbyn diwedd mis Rhagfyr, roedd 40 o bobl yn dal i fod mewn llety yn un o'r saith prosiect Tai yn Gyntaf a ariannwn yn uniongyrchol. Roedd 21 arall mewn llety dros dro yn aros i ddod o hyd i eiddo addas, sy'n 61 o bobl, ac roedd gan bob un ohonynt hanes o gysgu ar y stryd a phroblemau iechyd meddwl neu gamddefnyddio sylweddau—neu'r ddau'n cyd-ddigwydd yn amlach na pheidio—pobl a fyddai fel arall yn debygol o fod yn cysgu allan heno.  

Fel Llywodraeth, Ddirprwy Lywydd, byddwn yn parhau i ddatblygu'r ymateb cyflawn gan y gwasanaethau cyhoeddus sydd ei angen i gyflawni'r nod o ddod â digartrefedd i ben ac i gydnabod rolau allweddol y maes iechyd a'r maes tai yn arwain y gwaith pwysig hwn. Diolch.  

17:35

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i bawb a gymerodd ran? Mae'n amlwg fod cryn gonsensws ar draws y Siambr, rwy'n credu, o ran pwysigrwydd y materion hyn a'r angen i geisio gwneud digon o gynnydd fel na chawn yr un ddadl fwy neu lai yn yr un amgylchiadau yn y blynyddoedd a ddaw, fel y dywedodd nifer o'r Aelodau. Mae angen inni symud ymlaen a gwneud cynnydd sylweddol.

Cytunaf yn llwyr â'r pwynt a wnaeth Delyth Jewell hefyd—os mai'r DU yw'r pumed, y chweched, neu ba bynnag economi fwyaf yn y byd, mae'n hollol anfoesol peidio â chael dull llawer gwell o drefnu ein hunain fel cymdeithas er mwyn osgoi'r problemau eithriadol o ddifrifol hyn sy'n peri cymaint o syndod i gymaint o'r cyhoedd. Mae cynifer o bobl wedi dweud wrthyf na allant ddeall pam nad yw'n bosibl trefnu gwasanaethau a threfnu cymdeithas mewn ffordd sy'n osgoi'r holl gysgu allan a welwn yn ein trefi a'n dinasoedd ar hyn o bryd—ac fel y nododd y Gweinidog, yn amlwg, mae problemau'n codi mewn ardaloedd gwledig hefyd; nid problem drefol yn unig yw hon, er mai dyna lle mae'r broblem ar ei gwaethaf. Felly, mae gwir angen inni ddod o hyd i ffyrdd gwell o symud ymlaen.

Credaf fod yr hyn a ddywedodd Mark Isherwood am yr angen i roi cyfle i bobl fod eisiau gwneud y newid angenrheidiol yn bwysig iawn, a dyna pam y mae allgymorth grymusol yn arwyddocaol iawn, oherwydd mae dygnu arni yn y fath fodd yn bwysig iawn yn fy marn i. Mae angen i wasanaethau a'r rhai sy'n darparu'r gwasanaethau ddygnu arni gyda'r rhai sy'n cysgu allan er mwyn iddynt fod yno pan ddaw'r cyfle hwnnw; pan fydd y person hwnnw'n barod i wneud y newid angenrheidiol, mae rhywun yno i'w harwain ac i wneud yn siŵr eu bod yn manteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael ar y pryd. Yn amlwg, os nad yw pobl yno gyda hwy tua'r adeg honno, mae'n bosibl y collir y cyfle hwnnw, ac efallai na fydd pobl byth yn gwneud y newid. Fel y clywsom yn gynharach, mae'n gwbl warthus meddwl bod 34 o bobl wedi marw yn cysgu ar y stryd yng Nghymru yn 2018. Mae pob bywyd a achubir yn amlwg yn gwbl amhrisiadwy, felly mae gwir angen inni wneud allgymorth grymusol yn rhan bwysicach eto o'r gwasanaeth a ddarparwn.

Mae'n fater eang iawn ei gwmpas a chymhleth iawn o ran y problemau sy'n gysylltiedig ag ef, fel y dywedodd yr Aelodau. Soniodd Mark Isherwood am ysgolion yn nodi problemau wrth i bobl ifanc fynd drwy'r system. Ceir llawer o gyflyrau, megis syndrom Asperger ac awtistiaeth, sy'n gysylltiedig. Mae angen i bobl ifanc â phroblemau iechyd meddwl gael y problemau hynny wedi'u cydnabod a'u trin ar y cyfle cyntaf posibl.

Credaf fod llawer o'r hyn a ddywedodd y Gweinidog yn ymwneud â'r dull ataliol sydd ei angen arnom yn amlach yn ein gwasanaethau. Soniodd cynifer o aelodau'r pwyllgor am bŵer profiad bywyd a chlywed yn uniongyrchol gan bobl sy'n cysgu allan, yn ogystal â'r rhai sy'n darparu'r gwasanaethau iddynt, beth yw eu profiadau a beth fydd yn gwneud gwahaniaeth yn eu tyb hwy. Fel y dywedodd Huw Irranca-Davies, ni all fod drws anghywir. Lle bynnag y bydd pobl sy'n cysgu ar y stryd yn cysylltu â gwasanaethau, rhaid eu cysylltu â pha wasanaethau bynnag sydd eu hangen arnynt i fynd i'r afael â'u problemau. Rhaid gwneud mwy na dim ond eu hatgyfeirio at asiantaeth arall, at berson arall.

Rwy'n credu bod y problemau cyffuriau'n sylweddol, a'r agweddau sydd heb eu datganoli. Hoffwn annog Llywodraeth Cymru i weithio'n agos iawn gyda'r DU i sefydlu i ba raddau y gallem gael ystafelloedd diogel ar gyfer chwistrellu cyffuriau, a yw hynny'n bosibl o fewn y pwerau datganoledig sydd gennym, neu a oes angen datganoli pellach arnom, dealltwriaeth bellach, er mwyn sicrhau bod hynny'n digwydd. Rwy'n credu ei bod yn eithaf dadlennol fod gan yr heddluoedd yng Nghymru ddiddordeb mawr mewn gwneud y newid hwnnw ac maent yn gweld y byddai manteision gwirioneddol yn deillio o hynny pe bai'n digwydd.

Credaf fod David Melding—ac mae bob amser yn dda cael pobl nad ydynt ar y pwyllgor ar hyn o bryd yn cyfrannu ar adroddiadau pwyllgorau—wedi gwneud pwyntiau diddorol iawn ynghylch comisiynu. I ba raddau y mae'n bosibl bod yn arloesol, i integreiddio gwasanaethau go iawn, i gael cyllidebau cyfunol, i symud ymlaen at ddull gweithredu hirdymor o fewn y trefniadau comisiynu presennol? Mae'n ymddangos yn wan ar hyn o bryd, ac oes, mae angen adolygiad ar frys arnom. Clywais yr hyn a ddywedodd y Gweinidog am Tai yn Gyntaf a'r cynnydd pwysig a wnaethpwyd yno, a hefyd y grant cymorth tai a sut y gallai hwnnw ysgogi rhai agweddau ar newid angenrheidiol, ond credaf o ddifrif fod angen inni gael adolygiad llawn o'r holl faterion hynny.

Soniodd y Gweinidog hefyd am wasanaethau carchardai, ac mae hynny'n rhan bwysig o adeiladu partneriaethau a sicrhau nad oes unrhyw agwedd ar ddarparu gwasanaethau sydd wedi'u datganoli neu heb eu datganoli yn cael ei hesgeuluso mewn unrhyw ffordd. Mae'r grŵp gweithredu yn ddatblygiad arwyddocaol iawn, fel y crybwyllais yn fy araith agoriadol, ac rydym yn falch iawn fel pwyllgor ynglŷn â hynny. Byddai diddordeb mawr gennym mewn gweld sut y mae'r Gweinidog yn ymateb i'r argymhelliad ac yn bwrw ymlaen â'r gwaith a awgrymir.

Felly, rwy'n meddwl bod hon yn set hynod bwysig o ffactorau, Ddirprwy Lywydd, a dyna'n union pam y mae ein pwyllgor wedi neilltuo cryn dipyn o amser a gwaith i'r materion hyn, ac wedi dychwelyd atynt yn ogystal. Credaf mai ein hymrwymiad i'r sector ac i'r rhai sy'n cysgu allan yw nad ydym, fel pwyllgor, yn mynd i gefnu ar y problemau hyn; rydym am ddangos y gallu i ddygnu arni rydym yn annog eraill i'w arfer. Byddwn yn dychwelyd at y materion hyn, a byddwn yn parhau i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.

17:45

Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Cyfnod Pleidleisio

Symudwn yn awr at y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, rwy'n bwriadu galw'r bleidlais gyntaf. Na. Iawn. O'r gorau. Y bleidlais gyntaf y prynhawn yma, felly. Rydym yn pleidleisio ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar adrannau brys y GIG. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 17, neb yn ymatal, 34 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig, a phleidleisiwn ar y gwelliannau.

NDM7266 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 17, Yn erbyn: 34, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid gwelliant 28, neb yn ymatal, 23 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 1.

NDM7266 - Gwelliant 1: O blaid: 28, Yn erbyn: 23, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais ar welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 23, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 2.

NDM7266 - Gwelliant 2: O blaid: 23, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais ar welliant 3 a gyflwynwyd yn enw Neil McEvoy. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 23, 14 yn ymatal, 14 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y gwelliant.

NDM7266 - Gwelliant 3: O blaid: 23, Yn erbyn: 14, Ymatal: 14

Derbyniwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais ar welliant 4 a gyflwynwyd yn enw Mick Antoniw. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 33, roedd 18 yn ymatal. Felly, derbyniwyd gwelliant 4.

NDM7266 - Gwelliant 4: O blaid: 33, Yn erbyn: 0, Ymatal: 18

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM7266 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 

1. Yn cydnabod y datganiad trawsbleidiol ar Ddyfodol Gofal Brys Diogel yng Nghwm Taf Morgannwg.

2. Yn cydnabod yr angen i’r bwrdd iechyd fod yn agored ac yn dryloyw wrth ymgysylltu â’r cyhoedd, clinigwyr, y cyngor iechyd cymuned, cynrychiolwyr etholedig, staff a’u hundebau, i lywio eu penderfyniad ynghylch darparu pob math o ofal heb ei drefnu yn y dyfodol, gan gynnwys gwasanaethau brys.

3. Yn cydnabod bod yn rhaid i unrhyw ddarpariaeth gofal heb ei drefnu fod yn gadarn, yn ddiogel ac yn gynaliadwy.

4. Yn cefnogi adran damweiniau ac achosion brys barhaol gydag adnoddau llawn yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

5. Yn gwrthod cynigion gan Fwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg i ddod â gwasanaethau damweiniau ac achosion brys 24 awr o dan arweiniad meddygon ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg i ben ac yn galw ar y Bwrdd Iechyd i:

a) diystyru cau'r gwasanaeth damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg neu sefydlu uned mân anafiadau 24 awr yn lle'r gwasanaeth damweiniau ac achosion brys presennol;

b) adfer yr opsiwn o gynnal gwasanaeth damweiniau ac achosion brys llawn o dan arweiniad meddygon ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Ysbyty'r  Tywysog Siarl ac Ysbyty Tywysoges Cymru;

c) cyflwyno cynigion eraill ar gyfer gwasanaethau iechyd cymunedol, gan gynnwys gwelliannau i'r gwasanaeth meddygon teulu y tu allan i oriau ac ymestyn oriau agor yr uned mân anafiadau yn Ysbyty Cwm Rhondda ac Ysbyty Cwm Cynon, a allai leddfu'r pwysau ar bob un o'r tair adran damweiniau ac achosion brys.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig fel y'i diwygiwyd 32, roedd 18 yn ymatal, un yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd.

NDM7266 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 32, Yn erbyn: 1, Ymatal: 18

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Symudwn yn awr at y bleidlais ar ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21, gwasanaethau cyhoeddus ar-lein ac all-lein, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 36, roedd 15 yn ymatal. Felly, derbyniwyd y cynnig.

NDM7263 - Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Gwasanaethau Cyhoeddus Ar-lein ac All-lein: O blaid: 36, Yn erbyn: 0, Ymatal: 15

Derbyniwyd y cynnig

17:50

Symudwn yn awr at y ddadl fer, felly os oes Aelodau'n mynd i adael y Siambr, a allant wneud hynny'n gyflym ac yn dawel os gwelwch yn dda? Os ydych chi'n gadael y Siambr, a allwch chi wneud hynny? Yn gyflym. Yn dawel.

9. Dadl Fer: Cymoedd technoleg, yr A465 a strategaeth ddiwydiannol ar gyfer cyflogaeth gynaliadwy ym Mlaenau'r Cymoedd

Felly, symudwn yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Alun Davies, sy'n fwy na pharod i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddo. [Chwerthin.] Mr Davies.

Rwyf wedi bod yn dawel iawn y prynhawn yma, Ddirprwy Lywydd. Gobeithio na fyddaf yn profi eich amynedd yn ystod y munudau nesa. Rwyf wedi rhoi munud i Mark Reckless, sydd wedi gofyn am gael siarad yn y ddadl hon.  

Ddirprwy Lywydd, fe gofiwch, ychydig wythnosau yn ôl, teimlwn ein bod wedi cael sgwrs dda iawn mewn dadl fer a drafodai uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol Blaenau'r Cymoedd, ochr yn ochr â rhai o syniadau a gweledigaeth Sefydliad Bevan ar gyfer y rhanbarth. Gobeithio y gallwn barhau â'r sgwrs honno heddiw, a gwneud hynny yng nghyd-destun cynlluniau'r Llywodraeth ar gyfer menter y Cymoedd Technoleg a sut y gall honno weithredu fel catalydd ar gyfer holl ranbarth Blaenau'r Cymoedd, a sut y gallwn ddefnyddio cwblhau'r A465 fel cyfle i greu strategaeth ddiwydiannol ar gyfer rhanbarth Blaenau'r Cymoedd.

Cofiaf yn dda y ddadl a'r drafodaeth ynglŷn â chyhoeddiad y Cymoedd Technoleg. Roedd yn rhywbeth a drafodais ac y dadleuwyd yn ei gylch gyda'r Prif Weinidog ar y pryd, Carwyn Jones, ac Ysgrifennydd yr economi a thrafnidiaeth, Ken Skates. Deilliodd o benderfyniadau ynglŷn â Cylchffordd Cymru. Bydd Aelodau yn y Siambr yn cofio'r broses hir a phoenus o drafod a dadlau ynghylch y prosiect hwnnw. Ym mis Mehefin 2017, daeth y Llywodraeth i'r casgliad, yn dilyn diwydrwydd dyladwy, na allai'r prosiect hwnnw fwrw ymlaen gyda'r cymorth cyhoeddus yr oedd yn ei geisio. Ac roeddwn yn cytuno â'r penderfyniad hwnnw. Rwy'n credu mai dyna oedd y penderfyniad cywir ar y cyfan. Ar ôl darllen y diwydrwydd dyladwy a mynd drwy'r broses honno gyda'r datblygwyr a swyddogion, roeddwn yn meddwl mai dyna oedd y penderfyniad cywir at ei gilydd.

Ond mae dweud nad ydych chi'n mynd i fuddsoddi mewn rhywbeth yn wahanol i ddweud eich bod chi'n mynd i fuddsoddi mewn rhywbeth. Roedd y sgyrsiau a gefais gyda'r Llywodraeth—ar y pryd, roeddwn yn aelod o'r Llywodraeth honno wrth gwrs—gyda Gweinidogion ar y pryd, yn ymwneud â rhanbarth Blaenau'r Cymoedd a sut y byddem yn defnyddio pwerau, cryfder, capasiti ac adnoddau'r Llywodraeth i fuddsoddi mewn datblygu economaidd a gweithgarwch economaidd yn y rhanbarth hwnnw. Yn amlwg, roedd y ffocws ar Lynebwy ac roedd y ffocws ar Flaenau Gwent, ond nid wyf erioed wedi ystyried rhaniadau gwleidyddol y ffiniau sirol sy'n croesi Blaenau'r Cymoedd fel rhaniadau yn yr hyn y dylem fod yn ei wneud.

Rwy'n credu bod angen inni edrych ar Flaenau'r Cymoedd fel rhanbarth, o ben Hirwaun draw yn y gorllewin, i fy etholaeth i hyd at Fryn-mawr, hyd at Farewell Rock yn y dwyrain. Os gwnawn ni hynny, rwy'n credu y gallem ystyried gwneud llawer mwy na phe byddem yn edrych yn unig ar fuddsoddiadau unigol, dyweder, ym Merthyr, Rhymni neu Dredegar neu Lynebwy neu Aberdâr. Felly, wrth fwrw ymlaen â'r trafodaethau a gawsom ar y pryd, rwy'n gobeithio y cawn yr olwg a'r weledigaeth eang honno o'r hyn rydym am ei wneud.  

Cyhoeddwyd menter y Cymoedd Technoleg gyntaf ar 27 Mehefin 2017. Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith ddatganiad ysgrifenedig ar benderfyniad y Cabinet ynglŷn â Cylchffordd Cymru, a dyma oedd y cyhoeddiad cyntaf ar yr hyn a elwid bryd hynny yn barc modurol Glynebwy. Meddai Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy'n dyfynnu:

'Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i adeiladu parc busnes technoleg modurol newydd yng Nglyn Ebwy, gyda chyllid o £100 miliwn dros 10 mlynedd, gyda'r potensial i gefnogi 1,500 o swyddi llawn amser newydd.... Byddwn yn dechrau’r prosiect annibynnol hwn drwy gyflwyno 40,000 troedfedd sgwâr ar gyfer gweithgynhyrchu ar dir sydd ar hyn o bryd yn eiddo cyhoeddus.'

Ac roedd yn glir, ac rwy'n dyfynnu eto, fod hwn yn brosiect 'annibynnol' i'w ddarparu gan Lywodraeth Cymru ynghyd â phartneriaid lleol. Ar 20 Gorffennaf, tua mis yn ddiweddarach, cadeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet ar y pryd gyfarfod i ddatblygu cynigion manylach ar gyfer parc modurol Glynebwy, ac roeddwn yn aelod o'r cyfarfod hwnnw. Ychydig fisoedd yn ddiweddarach, yn yr hydref, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet ar y pryd gyllid ar gyfer cynllunio ac adeiladu gofod diwydiannol 50,000 troedfedd sgwâr yn Rhyd-y-blew, i roi hwb cychwynnol, fel y dywedodd, i'r cynlluniau ar gyfer y parc technoleg fodurol. Ym mis Rhagfyr yr un flwyddyn, sef 2017, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet faterion yn codi ynghylch bwriad TVR i symud i Lynebwy.

Y flwyddyn ganlynol, ym mis Mai 2018, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad i'r wasg a gyhoeddodd y byddai Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £25 miliwn pellach yn ei rhaglen Cymoedd Technoleg, a ailenwyd yn barc modurol, rhwng 2018 a 2021, gan fynd â chyfanswm y buddsoddiad dros y cyfnod hwn i dros £30 miliwn erbyn 2021. Ym mis Medi'r flwyddyn honno, 2018, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet y byddai grŵp cynghori strategol y Cymoedd Technoleg yn cael ei sefydlu i roi cyngor ar sut y dylid buddsoddi'r £100 miliwn. Cyfarfu am y tro cyntaf a chyhoeddwyd ei gylch gorchwyl a'i aelodaeth. Ym mis Ionawr y llynedd, cyflwynodd y Prif Weinidog presennol ymateb i gwestiwn ar y Cymoedd Technoleg, gan Adam Price rwy'n credu, yn ystod y sesiwn gwestiynau i'r Prif Weinidog. Meddai:

'dywedodd y buddsoddiad gwreiddiol o gwmpas rhaglen Tech Valleys erioed y byddai'n rhaglen 10 mlynedd ac y byddai gennym ni £100 miliwn yn cael ei fuddsoddi dros y 10 mlynedd hynny. Ac, mewn gwirionedd, mae cyfanswm y buddsoddiad yn rhan gynnar hon y rhaglen yn fwy nag y byddai rhan pro rata o'r swm hwnnw yn arwain ato. Mae'n anochel, yn ystod y cyfnod agoriadol, bod y pwyslais wedi bod ar fuddsoddi mewn seilwaith yn llwyr, gan fynd i'r afael â'r materion tir ac eiddo i wneud yn siŵr ein bod ni mewn sefyllfa i greu'r swyddi hynny yr ydym ni'n gwybod sydd yno i'w creu ar gyfer Glynebwy yn y dyfodol...ac y dylai roi ffydd i bobl yn lleol nad yw'r cynllun yn aros i ddigwydd—mae'n digwydd eisoes.'

Yn ystod yr un mis, mis Ionawr 2019, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth y byddai'n ymrwymo £10 miliwn i'r ganolfan ecsbloetio ddigidol genedlaethol, sef canolfan ymchwil a datblygu seiber i'w datblygu gan Thales a Phrifysgol De Cymru. Bydd y ganolfan yn galluogi busnesau bach a chanolig eu maint a microfusnesau i brofi a datblygu eu cysyniadau digidol, ynghyd â darparu labordy ymchwil lle gall cwmnïau amlwladol mawr ddatblygu datblygiadau technolegol a phrofi rhai o'u syniadau. Dywedodd y Gweinidog fod y prosiect yn ganolog i brosiect y Cymoedd Technoleg. Ym mis Mawrth y llynedd, dywedodd Gweinidog yr economi: 

'rydym eisoes wedi cymeradwyo datblygiad safle Rhyd-y-Blew...busnes ychwanegol ac unedau diwydiannol ysgafn yn The Works yng Nglynebwy. Bydd gwaith ailosod Techboard yn dechrau eleni. Ac rwy'n falch o allu dweud heddiw ein bod ar y blaen i'r proffil gwariant ar gyfer menter y Cymoedd Technoleg gwerth £100 miliwn, yn bennaf oherwydd y buddsoddiad yn y ganolfan ecsbloetio ddigidol genedlaethol, a allai fod wedi mynd i unrhyw le yn y byd—i Singapôr, i'r Almaen—ond yn lle hynny, dewisodd Thales ddod i Gymru.'

—ac mae wedi dewis Glynebwy.

Ac rwy'n ddiolchgar iawn i Weinidogion olynol am wneud y datganiadau hynny, ac am wneud eu hymrwymiad i fenter y Cymoedd Technoleg yn glir, ac am sicrhau ein bod yn cael y buddsoddiad nid yn unig yng Nglynebwy, ond ym Mlaenau'r Cymoedd fel sydd arnom ei angen. Ac fel y dywedais yn fy sylwadau agoriadol, rwy'n glir iawn ynglŷn â diben hynny.

I mi, y diben yw ein bod ni fel Llywodraeth ac fel cyrff cyhoeddus yn buddsoddi mewn mannau lle ceir methiant yn y farchnad, ac yn buddsoddi mewn ffordd hyblyg, chwim i sicrhau ein bod yn gallu cefnogi busnesau a chefnogi camau i greu cyfleoedd gwaith a mentergarwch lle bo hynny'n bosibl. Rwyf am inni allu defnyddio pŵer y Llywodraeth i fynd i'r afael â'r tlodi sy'n bodoli ym Mlaenau'r Cymoedd, fel sail i weithgaredd economaidd, nad yw'n digwydd ym Mlaenau'r Cymoedd yn yr un modd ag y mae'n digwydd ym Mae Caerdydd, a gwneud hynny mewn ffordd gynaliadwy.

Rwy'n cofio—mae'n un o fanteision, neu efallai, Ddirprwy Weinidog, un o anfanteision bod yn y lle hwn ers dros 13 mlynedd bellach—nifer o Weinidogion yn dod i wneud y datganiadau hyn; roeddwn yn un ohonynt fy hun. Cofiaf Leighton Andrews yn siarad yn argyhoeddiadol tu hwnt am yr angen i fuddsoddiadau ym Mlaenau'r Cymoedd fod yn gynaliadwy, i fod yn gynaliadwy o ran yr argyfwng hinsawdd yn gyffredinol, ond i fod yn gynaliadwy yn ariannol, yn gynaliadwy o ran yr economi, ac yn gynaliadwy o ran darparu swyddi nad ydynt yn swyddi 'yma heddiw, wedi diflannu yfory', yn gwbl ddibynnol ar grantiau, fel roeddent yn y 1980au.

Ond mae angen inni fynd y tu hwnt i hynny, ac un o'r ffyrdd y gobeithiaf y bydd y Llywodraeth yn gallu gweithredu—. A dyma ddiben y ddadl y prynhawn yma: ceisio cadarnhad gan y Llywodraeth fod prosiect y Cymoedd Technoleg yn mynd i wireddu'r uchelgeisiau y mae Gweinidogion olynol a'r Prif Weinidog presennol wedi'u hamlinellu ar ei gyfer—ac fe'i hamlinellwyd yn natganiadau'r Llywodraeth, datganiadau i'r wasg a dogfennau polisi—ond ei fod yn fwy na buddsoddiad mewn portffolio eiddo unigol yn unig, ei fod yn rhan o strategaeth ddiwydiannol a all arwain at unrhyw adfywiad ar draws Blaenau'r Cymoedd.  

Pan gefais fy newis gyntaf i ymladd am sedd Blaenau Gwent yn 2009, un o'r rhesymau pam yr ymgyrchasom yn galed dros y ddwy flynedd rhwng 2009 a 2011 i sicrhau bod y gwaith deuoli ar yr A465 yn mynd rhagddo fel roeddem wedi bwriadu, oedd er mwyn sicrhau bod datblygu economaidd yn digwydd ym Mlaenau'r Cymoedd. Nid gofyn yn syml am i'r prosiect deuoli fynd rhagddo am unrhyw reswm arall yr oeddem, ond oherwydd y manteision economaidd y gallai eu dwyn i Flaenau'r Cymoedd. Fe wyddom, ac fe wyddem fod diogelwch ar y ffordd honno'n eithriadol o wael—roedd diogelwch ar y ffordd honno'n erchyll—ac roeddem yn sicr am iddi gael ei deuoli er mwyn achub bywydau pobl.  

Gwyddem nad darn sylweddol o seilwaith oedd ei angen i ddiwallu ein hanghenion yn y dyfodol. Ond roeddem hefyd yn gwybod pe byddem yn gallu perswadio'r Llywodraeth—ac rwy'n falch o ddweud ein bod wedi gallu perswadio'r Llywodraeth—y byddai'r buddsoddiad hwnnw'n digwydd, byddai bob amser yn cael ei weld fel rhan o strategaeth ddiwydiannol i ddarparu'r cysylltedd sydd ei angen arnom ym Mlaenau'r Cymoedd, i'n cysylltu â marchnadoedd ac i'n cysylltu er mwyn sicrhau ein bod yn gallu darparu'r math o economi a gweithgarwch economaidd sydd eu hangen arnom. Ac roedd y cysylltedd hwn, wrth gwrs, hefyd yn gysylltiedig â'r buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud mewn band eang cyflym iawn yn ogystal.

Ond mae angen inni sicrhau ein bod yn manteisio i'r eithaf ar botensial hyn, ac rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth, a'r Gweinidog wrth ymateb i'r ddadl hon, yn gallu cadarnhau mai menter y Cymoedd Technoleg yw'r fenter y cytunasom arni, er y bydd yn amlwg yn esblygu ac yn newid, a bydd y pwyslais yn newid dros amser—rwy'n cydnabod hynny; rwy'n cydnabod yr hyn y mae'r pethau hyn yn ei wneud dros amser. Ond yn y bôn, mae angen inni allu meddu ar yr wybodaeth a'r sicrwydd o wybod y bydd yr uchelgeisiau a'r amcanion a osodasom i ni'n hunain yn 2017 yn sicrhau'r twf a'r sgiliau a'r buddsoddiadau ar raddfa fawr, a bod y sylfeini ar gyfer y gweithgaredd rydym am eu gweld yn cael eu gosod drwy hyn. Ac rwy'n gobeithio hefyd y byddwn yn gallu cael amserlen ar gyfer hyn, oherwydd mae gennym nifer o uchelgeisiau gwahanol wedi'u gosod allan i ni, o ran amserlenni, ond rwy'n credu bod angen inni ddeall yn fanylach sut y mae hynny'n mynd i ddigwydd.  

Rwy'n gobeithio, ac rwyf am orffen gyda'r sylwadau hyn, y gallwn ymateb i'r her a osododd Victoria Winckler i mi fel Gweinidog yn ôl yn 2018, pan ddywedodd fod angen mwy o ffocws ar Flaenau'r Cymoedd. Rwy'n cytuno â hi, ac roeddwn yn meddwl bod ei beirniadaeth a'i chyfraniadau ar y pryd, yn gyfraniadau teg a rhesymol, a phe na bawn yn eistedd ar y fainc flaen, efallai y byddwn wedi'u gwneud fy hun. Rwy'n credu ei bod yn feirniadaeth deg a rhesymol.

Ond ni all, ac ni ddylai'r ffocws ar Flaenau'r Cymoedd fynd a dod gyda Gweinidogion unigol. Mae angen iddo fod yn rhan barhaol o waddol y Llywodraeth ac yn rhan barhaol o raglen y Llywodraeth. Rwy'n gobeithio y gall y Gweinidog, wrth ymateb i'r ddadl, gadarnhau bod uchelgeisiau rhaglen y Cymoedd Technoleg yn dal i fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth. Gobeithio y gall gadarnhau bod y terfynau amser a'r uchelgeisiau yno i'w cyflawni ac rwy'n gobeithio, wrth wneud hynny, y gallwn greu adfywiad diwydiannol, cymdeithasol a diwylliannol gyda'n gilydd ym Mlaenau'r Cymoedd. Diolch.  

18:00

Rwy'n llongyfarch yr Aelod am gael y ddadl ac yn diolch iddo am roi munud o'i amser i mi, a dymunaf ben-blwydd hapus iddo hefyd. Mae'r pwyslais, hyd y gwelaf, wedi esblygu a chlywsom ei fod yn barc modurol, ac yn fenter y Cymoedd Technoleg ac yn ddiweddar, rwy'n credu bod mwy o bwyslais ar seiberddiogelwch. A chytunaf ag Alun Davies fod angen i'r Llywodraeth hon fod yn chwim a bod angen i'r pethau hyn ddatblygu, ond hoffwn glywed gan y Gweinidog sut y mae bellach yn disgrifio'r pwyslais. Hoffwn ddeall hefyd beth y dylai'r cysylltiad fod rhwng hyn a'r ffocws ar led-ddargludyddion cyfansawdd, gan roi mwy o flaenoriaeth efallai i Gasnewydd fel canolfan ar gyfer hynny, ond beth yw'r cysylltiadau a sut y bydd y mentrau hyn yn cynnal ei gilydd?

Rydym i gyd wedi cael ein siomi gan yr oedi a chostau ychwanegol yr A465, ond tybed a allai'r Gweinidog, pan fydd yn gwybod pryd y caiff y gwaith ei gwblhau, o ystyried yr oedi, o ystyried y cyfle enfawr y mae'r ffordd hon yn ei ddarparu i'r rhanbarthau—ac rwy'n cefnogi'r hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud o ran cydgysylltu menter ranbarthol Blaenau'r Cymoedd, yn hytrach na chanolbwyntio ar gwm penodol yn unig—? A allem ddefnyddio'r A465, pan fydd wedi'i hagor, i farchnata ac i hyrwyddo'r rhanbarth ac fel cyfle gwirioneddol i annog mewnfuddsoddi?

18:05

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi adleisio dymuniadau pen-blwydd Mark Reckless i Alun Davies? Mae hefyd yn ben-blwydd arnaf fi heddiw ac mae hefyd yn ben-blwydd ar Jenny Rathbone heddiw. Am drindod o Aelodau Cynulliad. Roeddwn yn ceisio meddwl beth oedd yn gyffredin rhwng y tri ohonom, gan ein bod ein tri'n cael ein pen-blwyddi fel Dyfryddion ar 12 Chwefror, a'r unig beth y gallwn ei feddwl, oherwydd ein bod yn griw amrywiol, mae'n deg dweud, yw mai ein hangerdd penderfynol wrth fynd ar drywydd ein diddordebau sy'n ein huno, ac yn sicr, rwy'n credu bod hynny'n nodweddu Alun Davies wrth iddo fynd ar drywydd yr agenda hon ar ran ei etholwyr. Mae wedi ymdrechu'n ddiflino i wneud hynny, a hynny'n briodol, ac mae'n parhau i wneud hynny.  

Fe ddywedodd, a dywedodd Mark Reckless hefyd, y bydd y ffordd y caiff y weledigaeth hon, nad yw wedi newid, yn cael ei chymhwyso yn esblygu ac yn newid o ran ei phwyslais dros amser, a chredaf fod hynny'n iawn. Yn sicr, fy mhrofiad i dros y 12 mis diwethaf, oherwydd y newid yn yr economi fyd-eang ac yn arbennig y newid yn y sector modurol, yw bod y weledigaeth sylfaenol yn ei gylch wedi newid o ganlyniad i'r ffaith bod—a nododd Alun Davies hanes hyn yn deg—iteriad nesaf Cylchffordd Cymru wedi canolbwyntio'n bennaf ar y sector modurol, ac mae hynny wedi'i adlewyrchu mewn strategaethau a ddiweddarwyd, ac mae hynny'n parhau i fod yn wir. Mae TVR yn dal yn y cymysgedd fel prosiect y gobeithiwn ei weld yn dwyn ffrwyth, ac rydym wedi gwneud cyfres o ymrwymiadau i'r cwmni, a chyhyd ag y gallant ddarparu tystiolaeth fod ganddynt yr arian, byddwn yn dilyn gyda'r buddsoddiad rydym eisoes wedi'i ddarparu a'r gyfran a gawsom yn y cwmni. Mae'r sgyrsiau hynny'n parhau, a chredaf ei bod yn rhwystredig iddynt hwy ac i ninnau nad ydynt wedi gallu dechrau cynhyrchu eto, ond mae'r rheini'n sgyrsiau sy'n mynd rhagddynt.  

Rwy'n meddwl mai fy marn i ar y Cymoedd Technoleg, fel y dywedodd Alun Davies, yw bod rhaid iddo fod yn fwy na phortffolio o eiddo diwydiannol yn unig, er bod hynny'n elfen bwysig ohono, ac mae'r pethau hynny ar y gweill. Unwaith eto, rydym wedi cael ein plagio gan drafferthion, gyda rhai ohonynt yn dechnegol, rhai ohonynt yn ymwneud â chaffael a rhai'n ymwneud â chapasiti o fewn yr awdurdod lleol, y gwn ei fod yn fater y mae Alun Davies wedi tynnu sylw ato dro ar ôl tro—yr heriau i lywodraeth leol heb arian i gyflawni datblygu economaidd—ac rydym yn sicr wedi teimlo hynny yn y bartneriaeth hon. Ond mae ymrwymiad sylweddol o hyd i wario ar ddatblygu eiddo o safon ac ychwanegu at y portffolio diwydiannol ym Mlaenau Gwent, sy'n rhywbeth y mae wedi pwysleisio'i bwysigrwydd dro ar ôl tro. Felly mae hynny ar waith, mae hynny'n digwydd, mae'n digwydd yn arafach nag yr hoffem, ond mae'n mynd yn ei flaen.  

Mae sgyrsiau ar y gweill hefyd gyda chwmnïau i ddenu mewnfuddsoddiad i'r ardal, ac rydym wedi gweld ffrwyth hynny yn sgil dyfodiad Thales, gyda buddsoddiad enfawr o £10 miliwn gan Lywodraeth Cymru, ac arian cyfatebol gan y cwmni, i ddod â sgiliau seiberddiogelwch a sgiliau digidol yn fwy cyffredinol i Lynebwy, ac rwy'n cynnal trafodaethau gyda'r coleg a chydag eraill i ychwanegu at hynny fel y gallwn gael cynnig sector cyhoeddus ochr yn ochr â'r ganolfan seiberddiogelwch. Felly, rydym yn bendant yn gweld Glynebwy a Blaenau Gwent fel cyfleuster cynhyrchu ar gyfer hyfforddi'r bobl ifanc i roi iddynt y sgiliau y mae arnynt eu hangen ar gyfer swyddi yfory, a gwneud hynny ym Mlaenau Gwent. Rwy'n credu bod honno'n weledigaeth gyffrous ac yn un y gobeithiaf y bydd yr Aelodau'n ei rhannu. Mae'r rheini, unwaith eto, yn sgyrsiau sydd ar y gweill. Felly mae'r elfen dechnolegol yn dal i fod yno.

Mae'n debyg y dylwn sôn hefyd am y buddsoddiad a gawsom yng Nghanolfan Deunyddiau Uwch Dennison, gan greu cyfleuster hyfforddi peirianyddol o'r radd flaenaf ym mharthau dysgu Blaenau Gwent, sydd bellach yn un o ddim ond llond dwrn o golegau addysg bellach yn y DU a all ddarparu hyfforddiant cyfansawdd uwch fel rhan o'i gyrsiau peirianneg awyrenegol a chwaraeon modur, ac mae 60 o fyfyrwyr eisoes wedi dechrau yno; mae 30 y cant o'r rheini'n fenywod. Felly, rwy'n credu bod yna bethau y gallwn bwyntio atynt sy'n cyd-fynd yn llwyr â'r weledigaeth a'r dechnoleg sefydlol honno.

Ond y darn y bûm yn meddwl amdano ers ymgymryd â'r portffolio, yn ogystal â denu busnesau i Flaenau Gwent, yw beth y gallwn ei wneud i gefnogi'r busnesau sydd eisoes ym Mlaenau Gwent? Oherwydd dyma un o'r cymunedau sy'n wynebu'r her fwyaf yn ein gwlad, ac mae arnom ddyled foesol iddi yn fy marn i, i fynd i'r afael â'r heriau hynny a chefnogi'r cymunedau, nid dim ond denu'r disglair a'r newydd, ond edrych ar y cwmnïau gwydn sydd wedi wedi bod yn brwydro dan amodau anodd iawn am genedlaethau neu fwy, ac mae rhai ohonynt yn edrych yn flinedig pan edrychwch ar rai o'r adeiladau sydd ganddynt. Ac oherwydd eu rhan yn y gadwyn gyflenwi, maent yn eithaf agored i lawer o'r newidiadau a welwn bellach, o'r newid yn y sector modurol ond hefyd o'r effaith y mae Brexit yn mynd i'w chael ar greu gwrthdaro yn ein cysylltiadau masnachol.  

Felly, beth y gallwn ei wneud i helpu'r busnesau sy'n bodoli'n barod a beth y gallwn ei wneud i helpu'r busnesau hynny i ddod yn fwy deallus yn dechnolegol ac yn fwy gwydn yn yr aflonyddwch digidol y gwyddom ei fod yn dod tuag atom? Dyna y bûm yn canolbwyntio arno, ac mae cwpl o bethau y gallaf eu dweud wrth yr Aelodau am yr hyn a wnaethom yn y cyswllt hwnnw. Y cyntaf yw'r ymrwymiad i raglen gwella cynhyrchiant a fydd yn dwyn timau rhanbarthol Llywodraeth Cymru at ei gilydd; y rhaglen arloesi deallus, sef rhaglen arloesi uchel ei pharch Llywodraeth Cymru; prosiect y cyngor datblygu economaidd lleol a phrosiect Upskilling@Work, dan arweiniad Coleg Gwent, mewn partneriaeth â rhaglen ASTUTE 2020 Prifysgol Abertawe, sy'n mynd â chyfleusterau ymchwil a datblygu i fusnesau bach a chanolig eu maint nad oes ganddynt eu cyfleusterau ymchwil a datblygu mewnol a sicrhau bod hynny ar gael ar draws Cymru, drwy arian Ewropeaidd. Ac rydym yn ceisio gweld a allwn ganolbwyntio'n benodol ar y rhaglen honno ym Mlaenau Gwent, ond hefyd ar draws ardal yr A465.  

Rwy'n cytuno â phwynt Alun Davies fod angen inni sicrhau bod y buddsoddiad enfawr a wnawn ar ffordd Blaenau'r Cymoedd, sy'n fwy na'r buddsoddiad roeddem wedi bwriadu ei wneud ar yr M4 pan gafodd hwnnw ei addo'n wreiddiol—dros £1 biliwn ar y ffordd hon—mae angen inni wneud yn siŵr ein bod yn cael y gwerth mwyaf am ein harian a gwneud y gorau o'r buddsoddiad hwnnw. Bellach, mae gan dasglu'r Cymoedd is-grŵp sy'n canolbwyntio'n benodol ar yr A465, gan fwrw ymlaen â'r gwaith a wnaeth Alun Davies fel Gweinidog i geisio creu strategaeth economaidd ar gyfer y ffordd honno. Mae hynny'n sicr yn cael ei wneud, ac rydym yn ystyried sut y gallwn ddod â'r ffocws ymchwil a datblygu hwn i ffordd Blaenau'r Cymoedd.

Y peth arall rydym yn ei wneud ar ben hynny yw rhaglen 5G y mae Simon Gibson, drwy'r gwaith a ddechreuodd gyda'r bwrdd arloesi, yn ei barhau gyda Llywodraeth Cymru drwy grŵp gorchwyl a gorffen, ac rydym newydd gael arian a gyhoeddwyd gan yr Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon ar gyfer man prawf 5G yn ardal Sir Fynwy/Blaenau Gwent, sydd â photensial sylweddol. Bydd hwnnw'n canolbwyntio ar yr ardal honno i weithio ochr yn ochr â phrifddinas-ranbarth Caerdydd.

Felly, unwaith eto, prosiect arall sy'n gysylltiedig â thechnoleg, ond gan edrych ar y busnesau yno. Felly, ceir y rhaglen gwella cynhyrchiant, sy'n ymwneud â gwella'r sgiliau a'r cyflogau sydd gennym yno. Ar ben hynny, rwyf wedi gofyn i Tegid Roberts, a wnaeth y gwaith ar ddod â gweithgynhyrchu Raspberry Pi yn ôl i Ben-y-bont ar Ogwr, edrych yn benodol ar yr hyn sy'n bodoli ym Mlaenau Gwent a sut y gall ef, ynghyd â'n timau mewnol, weithio gyda llond llaw o gwmnïau i weld sut y gellir eu helpu i dyfu, a pha fuddsoddiad y gallem ei ddarparu ar ben hynny. Felly, rwy'n credu bod adeiladu'r hyn sydd gennym yno yr un mor bwysig, os nad yn bwysicach, na gwario'r £100 miliwn ar ddenu busnesau newydd. Felly, rwy'n credu bod honno'n elfen bwysig iawn yn ein gwaith.

Fel y crybwyllwyd, gofynnodd Mark Reckless gwestiwn am y ffordd, fel y gwnaeth Alun Davies, ac rydym yn gwneud ein gorau i oresgyn yr anawsterau presennol gyda'r contractiwr a chymhlethdodau peirianyddol ceunant Clydach, ac rydym yn dal i weithio'n galed i gwblhau'r rhan rhwng Gilwern a Bryn-mawr fan lleiaf cyn gynted ag y bo modd cyn mynd ati i gwblhau'r gweddill. Ond fel y dywedais, mae gwneud yn siŵr ein bod yn gwneud y gorau o'r ffordd sydd yno wedyn yr un mor bwysig ag adeiladu'r ffordd.  

Rwy'n gobeithio fy mod wedi rhoi sylw i'r rhan fwyaf o'r pwyntiau roedd yr Aelodau am eu trafod. Os nad wyf wedi gwneud hynny, mae gennym funud ar ôl ac fe wnaf fy ngorau i gywiro hynny. I gloi, Ddirprwy Lywydd, os nad oes unrhyw sylwadau pellach, credaf fod angen inni gydnabod pa mor heriol yw hyn fel cyfle datblygu economaidd. Holl bwrpas ei greu yn y lle cyntaf yw ei fod yn anodd ei wneud ac nad oedd wedi cael ei wneud yn llwyddiannus hyd yn hyn. Y ffocws technegol yw'r un cywir. Credaf fod y diffiniad o sut olwg sydd ar dechnoleg o anghenraid yn addasu ac yn newid fel y mynn yr economi fyd-eang. Rydym yn canolbwyntio'n benodol ar sgiliau. Credaf fod hynny'n iawn. Fel y dywedais, mae arnaf eisiau ychwanegu'r elfen cwmnïau gwreiddiedig, ond rwy'n credu bod clymu hynny wrth waith tasglu'r Cymoedd, gwaith prifddinas-ranbarth Caerdydd, yn hanfodol bwysig, felly, fel y dywedodd Alun Davies yn gywir, nid datblygu economaidd ysbeidiol sydd gennym, ond rydym yn bwrw drwyddi â'r uchelgeisiau a nododd fel Gweinidog, yr uchelgeisiau y mae'r holl gyd-Aelodau sy'n cynrychioli cymunedau yn y Cymoedd yn parhau'n ymrwymedig iddynt, ac rwyf fi fel Gweinidog yn sicr yn bwriadu gwneud yr hyn a allaf yn yr amser sydd gennyf i wireddu gweledigaeth yr uchelgais hwnnw.

18:15

Diolch yn fawr iawn. Un peth sydd ar ôl gennyf i'w ddweud, sef 'Pen-blwydd hapus, Lee, Alun a Jenny.' A daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:16.