Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

20/11/2019

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Galw'r Aelodau i drefn. A chyn i unrhyw un arall wneud hynny y prynhawn yma, gaf i longyfarch yn fawr dîm cenedlaethol pêl-droed Cymru ar gyrraedd rowndiau terfynol pencampwriaethau yr Ewros? A dwi'n siŵr ein bod ni i gyd yn edrych ymlaen at haf 2020 yn barod. Felly, llongyfarchiadau mawr i'r tîm.

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Russell George.

Tywydd Garw

1. Pa ddyraniadau ychwanegol fydd ar gael yn ystod y cylch cyllideb presennol i gynorthwyo gwasanaethau cyhoeddus wrth ymdrin â thywydd garw? OAQ54689

Drwy flaengynllunio, ein nod yw atal problemau teithio oherwydd tywydd garw. Eleni, er enghraifft, rydym yn buddsoddi mwy na £51 miliwn mewn amddiffyn rhag llifogydd a rheoli perygl erydu arfordirol.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Heb os, byddwch yn cytuno â mi ein bod yn gweld y newidiadau yn ein hinsawdd yn sgil newid hinsawdd. Ac yn sicr, buaswn yn dweud bod angen darparu cyllid ychwanegol er mwyn carthu ein hafonydd a'n cyrsiau dŵr, a arferai ddigwydd yn amlach rai blynyddoedd yn ôl, a chyllid ychwanegol hefyd i awdurdodau lleol er mwyn glanhau cwlfertau a draeniau. Buaswn yn dweud bod y pwysau a welwn yn cael ei roi ar awdurdodau lleol yn golygu nad oes ganddynt yr adnoddau a fu ganddynt yn flaenorol i wneud rhywfaint o'r gwaith hwn, ynghyd â gwaith ar y rhwydwaith ffyrdd, y mae awdurdodau lleol hefyd yn gyfrifol amdano. A tybed a fyddech yn ymrwymo i roi adnoddau ariannol ychwanegol i’r ddau faes hwn, a fydd, buaswn yn awgrymu, yn helpu i liniaru llifogydd mewn miloedd lawer o eiddo sy'n cael eu rhoi mewn mwy a mwy o berygl o ddioddef llifogydd.

Wel, mae Russell George yn llygad ei le fod y risg o lifogydd yn dod yn fwyfwy cyffredin yn ein cymunedau, a dyna pam rydym yn cymryd camau ataliol, cyn belled ag y gallwn, drwy ymrwymo i fuddsoddi mwy na £350 miliwn mewn amddiffyn rhag llifogydd a rheoli perygl erydu arfordirol dros oes y Llywodraeth hon. A chredaf ei bod yn werth cydnabod ein bod yn dyrannu'r lefelau cyllid uchaf erioed yn y maes hwn, ac mae ein gwariant yma yng Nghymru, fesul y pen, yn parhau i fod yn uwch na'r hyn a fuddsoddir yn Lloegr. Felly, yng Nghymru, rydym yn gwario £17.20 y pen, o'i gymharu â £14.05 y pen yn unig yn Lloegr. Ond rwy’n llwyr sylweddoli’r pwysau ar lywodraeth leol o ran parhau i gyflawni eu rolau lleol, o ran cynnal a chadw’r systemau, a dyna pam rydym wedi ymrwymo i roi’r setliad gorau posibl i lywodraeth leol yn ein cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol i ddod.

Soniodd Russell George hefyd am bwysigrwydd sicrhau bod cefnffyrdd yn cael gofal arbennig o dda yn ystod gaeafau garw. Ac yn y lle cyntaf, bydd y costau ychwanegol hynny yn cael eu rheoli drwy weddill cyllideb y traffyrdd a'r cefnffyrdd, drwy ailflaenoriaethu gwariant hyd ddiwedd y flwyddyn. Mewn rhai achosion, mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i ymyrryd, ac yn amlwg, ni fyddai cyllid yn atal ymateb sy'n gysylltiedig â diogelwch. Ac yn amlwg, ochr yn ochr â'r materion llifogydd, mae problemau mewn perthynas â rhew ar y ffyrdd hefyd. Felly, gallaf gadarnhau, ar gyfer y gaeaf hwn, ein bod wedi rhoi 10 cerbyd graeanu newydd ar waith er mwyn cynyddu cydnerthedd yn ein cymunedau.

Credaf fod yna broblemau difrifol gyda llifogydd. Weinidog, a fyddech yn cytuno nad ydych yn mynd i ddatrys y broblem drwy wario arian a chodi waliau uwch ac uwch yn unig; mae’n rhaid i'r ateb ymwneud â dod o hyd i leoedd i'r dŵr fynd. Ac rwy'n siarad yn aml am yr un ar Afon Tawe, lle mae'r dŵr yn gorlifo i ardal llifogydd, sef dim ond tir. Os ydych yn mynd i wario arian, does bosibl na ddylech wario arian ar ardaloedd y gallwn eu gorlifo, a’u gorlifo'n llwyddiannus, heb wneud unrhyw ddifrod, yn hytrach na chodi waliau uwch ac uwch, hyd nes ein bod yn dal i wario mwy a mwy o'n cyllideb ar godi waliau uwch ac uwch, ond wrth i lefelau'r dŵr godi, yn y pen draw byddwn mewn sefyllfa lle mae dŵr yn dal i ddod dros y waliau.

Mae Mike Hedges yn llygad ei le fod yn rhaid inni fuddsoddi mewn ystod o atebion a mesurau ataliol. Felly, un enghraifft o hynny—enghraifft dda iawn yn fy marn i—yw menter GlawLif yn Llanelli, y gwn fod y Gweinidog â chyfrifoldeb am yr amgylchedd a materion gwledig yn arbennig o frwdfrydig yn ei chylch. Gwn ei bod yn ystyried deddfwriaeth systemau draenio cynaliadwy yn y dyfodol a'r hyn y gallai hynny ei olygu o ran cychwyn y gwaith hwnnw. Ac eto, os ydym yn ystyried adeiladu ystadau tai newydd, er enghraifft, mae angen inni edrych ar ffyrdd o reoli'r dŵr ar yr ystadau hynny. Felly, gwn fod hwn yn fater y mae'r Gweinidog yn ymwybodol iawn ohono, ac nad yw'n ymwneud ag adeiladu'r waliau uchel hynny yn unig, fel yr awgrymodd Mike Hedges, ond dod o hyd i ffyrdd eraill o sicrhau bod dŵr yn draenio'n ddiogel.

13:35
Diwygio Caffael Cyhoeddus

2. Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ran diwygio caffael cyhoeddus er mwyn galluogi mwy o fwyd ffres ar gyfer ysgolion, ysbytai a chartrefi nyrsio i gael eu caffael yn lleol? OAQ54723

Mae 80 y cant o'r cyflenwyr a benodwyd i fframwaith bwyd ffres y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol wedi'u lleoli yng Nghymru. Mae dros 45 o sefydliadau yn defnyddio'r cytundeb, gyda'r gwariant ar gynnyrch ffres yn dod i gyfanswm o dros £6 miliwn y flwyddyn.

Diolch am y wybodaeth ddefnyddiol honno, Weinidog. Roedd y gynhadledd gwir fwyd a ffermio a fynychais yr wythnos diwethaf yn frwdfrydig iawn ynghylch y cyhoeddiad fod bwrdd gwasanaethau cyhoeddus sir Gaerfyrddin wedi derbyn £100,000 gan fenter yr economi sylfaenol, a hynny er mwyn gwella eu cadwyni cyflenwi bwyd fel y gallant gaffael bwyd lleol.

Rwy'n gwbl ymwybodol fod rhywle fel Caerffili wedi bod ar flaen y gad o ran sicrhau bod busnesau lleol yn cael cyfle teg i gynnig am gontractau lleol. Er enghraifft, mae cynhyrchydd llaeth a gychwynnodd drwy ddarparu i ddwy neu dair ysgol yn unig ac sydd bellach yn darparu gwasanaethau i bum awdurdod lleol a bwrdd iechyd. Ac felly, ymddengys i mi fod y rhain yn enghreifftiau gwych o'r hyn y gellir ei wneud ond ein bod yn eithaf pell o lle mae angen inni fod wrth sicrhau bod y bunt gyhoeddus yn cael ei gwario ar fusnesau lleol yn ogystal â sicrhau bod mwy o fwyd ffres yn cael ei weini i'n plant a phobl sydd yn yr ysbyty.

Ie, credaf fod yr enghraifft a roddodd Jenny Rathbone, sef Caerffili, yn enghraifft wych o'r hyn y gellir ei gyflawni os yw pobl yn meddwl yn ddychmygus am y cyfleoedd lleol. Rwy'n falch iawn fod bwrdd gwasanaethau cyhoeddus sir Gaerfyrddin wedi derbyn y £100,000 i wella'r broses o gaffael bwyd lleol yn yr ardal, ac un yn unig yw honno o 52 o fentrau arbrofol ledled Cymru sy'n derbyn cyllid fel rhan o gronfa her yr economi sylfaenol sy’n £4.5 miliwn. Ond mae'n bwysig iawn cydnabod, er bod y rhain yn arbrofol, os ydynt yn gweithio, gwn fod y Gweinidog, Lee Waters, yn hynod awyddus i uwchraddio'r prosiectau wedyn i sicrhau eu bod yn gwneud gwahaniaeth ledled Cymru mewn mannau eraill.

Enghraifft wych arall o dan gronfa her yr economi sylfaenol yw Môn Shellfish, ac mewn partneriaeth â Choleg Llandrillo Menai a Phartneriaeth Ogwen, maent yn derbyn £100,000 i archwilio’r gwaith o greu marchnadoedd lleol ar gyfer pysgod cregyn. Mae tîm arloesi masnachol Llywodraeth Cymru hefyd yn dadansoddi proffil gwariant bwyd y sector cyhoeddus, ac maent wedi nodi sawl cyfle pellach posibl ar gyfer ymyriadau tebyg, ac mae hyfywedd y gweithgaredd hwnnw'n cael ei archwilio ar hyn o bryd gyda phartneriaid yn y sector cyhoeddus. Buaswn yn awyddus iawn i rannu’r gwersi a ddysgir yn sgil hynny gyda Jenny Rathbone.

Mae Gwerth Cymru yn nodi y bydd pob cynnydd o 1 y cant yn y lefelau caffael yng Nghymru yn creu 2,000 o swyddi. Felly, mae'r buddion yn glir. Nawr, o gofio bod yr Alban yn rhoi 75 y cant o gontractau'r Alban i gwmnïau yn yr Alban, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddysgu o'r profiad hwnnw a rhoi hwb tebyg, mawr ei angen i economi Cymru?

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio'n galed iawn i geisio sicrhau bod ein gwaith caffael yn diwallu anghenion ac yn darparu cyfleoedd i fusnesau a chyflenwyr yng Nghymru. Felly, mae 52 y cant o'r gwariant caffael blynyddol o £6.467 biliwn bellach yn mynd i gyflenwyr yng Nghymru. Yn amlwg, rydym yn awyddus i wneud mwy o lawer, ond credaf ei bod yn bwysig cydnabod y gwelliant rydym wedi'i wneud ers y llinell sylfaen o 35 y cant yn 2004.

Credaf y gallwn ystyried GwerthwchiGymru. Maent yn dangos bod nifer o’r contractau a ddyfernir drwy'r wefan honno'n mynd i gyflenwyr o Gymru, ac mewn gwirionedd, mae’r nifer drwy'r wefan honno wedi mwy na threblu ers 2014-15. Felly, mae hynny bellach yn 84 y cant o'i gymharu â'r llinell sylfaen o 25 y cant. Felly, rydym yn gwneud cynnydd gwirioneddol yn y maes hwn, ond nid yw hynny'n golygu ein bod yn hunanfodlon. Rwy'n gweithio gyda fy nghyd-Aelod, Lee Waters, ar yr economi sylfaenol ac yn edrych i weld beth y gallwn ei wneud drwy'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus i sicrhau ein bod yn caffael yn fwy lleol drwy'r byrddau hynny, ac rydym yn gobeithio gallu dweud mwy am hyn cyn bo hir.

13:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau, a llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.

Diolch yn fawr, Llywydd. Weinidog, a allwch chi gadarnhau bod y Llywodraeth yn defnyddio'r cyfnod o oedi sydd gennym ni rŵan o ran proses y gyllideb i ystyried sut i gynyddu cyllid llywodraeth leol, ac o faint?

Diolch yn fawr iawn am godi'r mater hwnnw. Cefais gyfle y bore yma i gyfarfod â’r is-grŵp cyllid awdurdodau lleol, ynghyd â'r Gweinidog llywodraeth leol, i archwilio'r materion sy'n ymwneud â'r gyllideb eleni. Maent yn rhannu ein rhwystredigaeth, fel y gwn sy’n wir am Aelodau yn y Cynulliad, ynghylch yr oedi o ran cyhoeddi'r gyllideb. Yr hyn a ddywedaf yw, yn ystod yr haf ac ers cyhoeddi'r adolygiad o wariant mewn perthynas â'r £593 miliwn ychwanegol i Lywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, rwyf wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda chyd-Aelodau ar draws y Llywodraeth. Rydym wedi datblygu cyllideb dda iawn yn ein barn ni. Mae'n blaenoriaethu iechyd, fel y dywedasom y byddem yn ei wneud, ac mae hefyd yn ceisio rhoi'r setliad gorau posibl i awdurdodau lleol. Cawsom drafodaeth heddiw a oedd yn cydnabod, yn y cyfnod interim rhwng cyhoeddi ein cyllideb ddrafft a'n cyllideb derfynol, y bydd Llywodraeth y DU mwy na thebyg yn cyhoeddi ei chyllideb, a bydd hynny’n amlwg yn arwain at oblygiadau i ni, ond byddwn yn parhau â'r ymdrech i roi'r setliad gorau posibl i awdurdodau lleol.

Mi ddof i at yr arian sy'n debyg o ddod gan Lywodraeth Prydain yn y man. A allaf i ofyn, ydych chi yn cytuno efo'r egwyddor o fuddsoddi i arbed? Mae'n glir iawn bod buddsoddi drwy lywodraeth leol yn gallu gwneud arbedion sylweddol ac yn gallu gwella safon bywydau pobl. Mae buddsoddi mewn tai drwy lywodraeth leol yn gallu gwella iechyd. Mae buddsoddi mewn gofal cymdeithasol yn gallu tynnu'r pwysau oddi ar y gwasanaeth iechyd. Mae buddsoddi mewn adnoddau chwaraeon, ac ati, yn gallu bod yn llwyddiannus iawn fel arf ataliol i atal gordewdra, ac yn y blaen. Os ydych chi'n credu yn yr egwyddorion hynny, pam mae'r Llywodraeth wedi methu â blaenoriaethu llywodraeth leol yn ddigonol mewn cyllidebau diweddar o ystyried rôl llywodraeth leol yn gwbl ganolog yn y broses ataliol honno?

Credaf fod Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol wedi’i chael hi’n anodd iawn dros y blynyddoedd diwethaf yn wyneb cyllidebau sy'n lleihau'n barhaus, felly flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae’n rhaid inni edrych ar feysydd lle gallwn dorri, yn hytrach nag edrych ar feysydd lle gallwn fuddsoddi. Ond serch hynny, credaf fod Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol i geisio canolbwyntio arian ar y meysydd hynny lle gallwn gyflawni'r gwariant ataliol gorau. Felly, mae'r gwaith y bu Vaughan Gething yn ei wneud drwy'r adran iechyd yn cefnogi gwasanaethau cymdeithasol wedi bod yn bwysig iawn fel mesur ataliol, gan edrych i weld sut y gallwn gefnogi pobl drwy'r gronfa gofal canolraddol i osgoi derbyniadau i'r ysbyty lle nad oes angen, ac yna i sicrhau bod pobl yn gadael yr ysbyty cyn gynted â phosibl pan fyddant yn barod i fynd adref. Mae hynny'n enghraifft wych yn fy marn i o atal anghenion pobl rhag gwaethygu a chyrraedd sefyllfa lle maent yn ddrytach, ie, i bwrs y wlad, ond hefyd yn cael effaith niweidiol ar fywydau'r unigolion hynny. O ran buddsoddi i arbed ynddo’i hun, mae gennym gynllun buddsoddi i arbed pwysig. Credaf efallai y cawn gyfle mewn cwestiynau eraill y prynhawn yma i archwilio hynny, ac rwy'n fwy na pharod i ehangu ar hynny os yw’r Aelod yn dymuno.

Rydych yn dweud y pethau iawn o ran mynegi pwysigrwydd yr agenda ataliol. Y pwynt rwy'n ei wneud yw nad yw hynny wedi'i adlewyrchu yng ngweithredoedd y Llywodraeth drwy gyllidebau, ac wrth wneud penderfyniadau i beidio â blaenoriaethu llywodraeth leol mewn ffordd y credwn y gallech fod wedi'i wneud. Nawr, nid oes unrhyw un yn synnu gweld yr arweinwyr Llafur a Cheidwadol yn addo gwariant enfawr ar ôl yr etholiad—mae’r goeden arian hud honno'n tueddu i ymddangos tua'r adeg hon yn y cylch etholiadol—ond bydd sut rydych yn gwario'r arian hwnnw, os bydd arian ychwanegol yn dod i Gymru, yn hanfodol bwysig. Ac oni allwch ddeall bod pobl yn brin o ffydd yng ngallu a pharodrwydd Llywodraeth Cymru i weithredu mewn modd rhagweithiol, ataliol, o edrych ar y dystiolaeth o ran sut rydych wedi cyllidebu dros y blynyddoedd diwethaf? Ie, dweud pethau da am yr agenda ataliol, ond peidio â dilyn hynny gyda buddsoddiad go iawn drwy lywodraeth leol mewn ffyrdd a all wneud arbedion sylweddol a gwella bywydau pobl yn y dyfodol.

Wel, buaswn yn anghytuno â'r ffordd y mae ein cyllidebau diweddar wedi cael eu portreadu yn y ffordd honno. Gwn fod Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru wedi bod yn wirioneddol awyddus i roi'r her fwyaf i Lywodraeth Cymru o ran atal, ac mae wedi gofyn i bob un o Weinidogion Llywodraeth Cymru ddangos yr hyn y mae pob un ohonynt yn ei wneud ym maes atal yn eu portffolios eu hunain.

O ran tai ac adfywio er enghraifft, mae gennym y buddsoddiad yn safon ansawdd tai Cymru. Mae 93 y cant o dai cymdeithasol bellach wedi cyflawni ac wedi cyrraedd y safon honno, a gwn pa mor bwysig yw hynny o ran gwariant ataliol er mwyn sicrhau bod pobl yn byw mewn cartref diogel, cynnes. Y gwaith a wnawn o ran byw'n annibynnol, cymhorthion ac addasiadau; y gwaith sy'n mynd rhagddo ar y rhaglen tai arloesol, sy'n cefnogi datgarboneiddio i sicrhau ein bod yn adeiladu'r tai iawn ar gyfer y dyfodol, na fyddant yn gartrefi oer, ond yn gartrefi y bydd pobl yn gallu eu fforddio; y gwaith a wnawn ar ddulliau adeiladu modern; rhaglen gyfalaf y gronfa gofal integredig, sy'n sicrhau bod gennym atebion sy'n seiliedig ar dai i faterion gofal cymdeithasol; y grŵp gweithredu ar ddigartrefedd, sydd, unwaith eto, yn gwneud llawer o waith ataliol gwych yn y cyd-destun hwnnw; a'n strategaeth adfywio, sy'n ceisio sicrhau bod gennym gymunedau sy'n wydn. Ychydig enghreifftiau yn unig yw'r rheini mewn un rhan fach o un portffolio sy'n dangos faint rydym yn canolbwyntio ar atal.

13:45

Diolch, Lywydd. Weinidog, a allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am yr arian sy'n cael ei ddarparu ar gyfer y portffolio materion gwledig ar gyfer y rhaglen datblygu gwledig?

Mae'r rhaglen datblygu gwledig yn darparu buddsoddiad mawr ei angen yn ein hamgylchedd, ein cymunedau ffermio a'n cymunedau gwledig, ac mae'r buddsoddiad hwn yn ymwneud i raddau helaeth â gwneud y mwyaf o'r ffordd rydym yn rheoli ein hecosystemau, gan sicrhau ein bod yn defnyddio ynni'n effeithlon a'n bod yn lleihau ein nwyon tŷ gwydr yng Nghymru. Felly gallaf gadarnhau bod Cymru, hyd yn hyn, wedi defnyddio 45 y cant o'n cyllid gan yr UE ar gyfer y rhaglen datblygu gwledig, a bod hynny'n debyg i aelod-wladwriaethau eraill yr UE. Ar ddiwedd 2018, roedd aelod-wladwriaethau’r UE wedi defnyddio oddeutu 42 y cant o’u cyllid ar gyfartaledd, felly rydym ychydig ar y blaen a gallaf gadarnhau nad oes gennym unrhyw gynlluniau i anfon unrhyw arian nas defnyddiwyd yn ôl i’r UE.

Rydym yn gwneud cynnydd da, felly, ar lefel prosiectau, mae cyfanswm o £664.9 miliwn wedi'i ymrwymo, sydd oddeutu 80 y cant o gronfeydd y rhaglen, ac mae cynlluniau ar waith i gyflawni ymrwymiad llawn y rhaglen erbyn diwedd 2020 a gwariant llawn erbyn diwedd y cyfnod n+3.

Diolch, Weinidog. Rwy'n falch o glywed nad ydych yn bwriadu anfon dim o'r arian hwnnw yn ôl. Gofynnais y cwestiwn i chi heddiw gan eich bod, yn eich tro wedi bod yn gwisgo het y Gweinidog materion gwledig, ac yn amlwg hefyd yn awr, y Gweinidog cyllid. Fel y gwyddoch, ac fel rydych newydd ddweud, mae'r rhaglen ariannu datblygu gwledig wedi bod yn darparu cefnogaeth ar draws ystod eang o feysydd ers amser hir, yn enwedig i ffermwyr, ond hefyd i fentrau twristiaeth a busnesau gwledig canolig eu maint, ac fe sonioch chi am ynni hefyd.

Ar y cychwyn, nod y rhaglen datblygu gwledig oedd sicrhau newid trawsffurfiol ym maes ffermio—dyna'r term a ddefnyddiwyd gan Lywodraeth Cymru—ond bu nifer o bryderon, yn enwedig yn ddiweddar, nad yw wedi cyflawni hyn. Deallaf mai 41 y cant yn unig o gronfeydd y rhaglen datblygu gwledig ar gyfer cyfnod y rhaglen sydd wedi'i wario hyd at ddiwedd Awst 2019. Efallai y gallwch gadarnhau hynny, neu fel arall. A allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am unrhyw drafodaethau rydych wedi'u cael gyda'r Gweinidog materion gwledig ynglŷn â sut y daethom i'r sefyllfa hon a sut y gellir gwella'r sefyllfa wario yn y dyfodol?

Fel y soniais, hyd yn hyn, mae Cymru wedi defnyddio 45 y cant o'n cyllid gan yr UE ar gyfer y rhaglen datblygu gwledig, ac mae hynny'n cymharu â chyfartaledd o 42 y cant ymhlith yr aelod-wladwriaethau eraill. Mewn gwirionedd, mae hynny'n fwy o nodwedd o'r ffordd y mae cyllid Ewropeaidd yn gweithio o ran proffilio’r prosiectau hynny dros nifer o flynyddoedd, ac mae’n rhaid sicrhau’r gwariant llawn dair blynedd ar ôl cau’r rhaglen. Felly 2023 fyddai'r cyfnod presennol, ac erbyn hynny, byddai'n rhaid ein bod wedi gwario'r holl arian a gawsom. Felly nid yw'r ffigur o 42 y cant, neu 45 y cant fel y mae ar hyn o bryd, yn awgrymu mai ychydig o arian sydd wedi'i wario; mae'n adlewyrchu proffil gwario'r rhaglen benodol.

Fe wneuthum danamcangyfrif y ffigur wrth ddweud 41 y cant, felly rwy'n siŵr fod 45 y cant yn fwy cywir. Ond gan roi'r rhesymau i'r naill ochr, ac fe fanyloch chi ar rai ohonynt o ran sut y mae'r cyllid Ewropeaidd yn gweithio, 45 y cant yn unig yw'r ffigur o hyd, a gwn nad fi yw'r unig un sy'n pryderu am hyn; gwn fod aelodau o'r gymuned ffermio hefyd wedi mynegi pryderon. Gyda Brexit ar y gweill, mae llawer o ffermwyr wedi bod yn ymatal rhag gwneud penderfyniadau buddsoddi, felly mae cyllid fel y rhaglen datblygu gwledig wedi chwarae rhan bwysig yn sicrhau bod ffermio'n parhau i fod yn gynaliadwy.

Mae llawer o ffermwyr, Weinidog, a llawer o bobl yn ein cymunedau gwledig yn teimlo bod cyfle wedi'i golli yma. Rwy'n derbyn y gallai fod wedi'i golli mewn rhannau eraill o'r byd hefyd, ond maent yn sicr yn teimlo bod y cyfle wedi'i golli a bod y ffocws wedi'i dynnu oddi ar y rhan honno o'r agenda sy'n ymwneud â newid trawsffurfiol, a oedd yno ar y cychwyn. Yn sicr, ymddengys ei fod wedi'i lastwreiddio gan addasiadau i'r cynllun a newidiadau i'r rhwymedigaeth gydgyllido a oedd yno ar y cychwyn. Os edrychwch ar grantiau cynhyrchu cynaliadwy, ymddengys eu bod wedi eu gorgyflenwi, a gwelwyd diffyg cyfleoedd i ymgeisio am y grant cynhyrchu cynaliadwy.

O ystyried mai ffermio yw asgwrn cefn economi Cymru a rhan enfawr o'n hunaniaeth ddiwylliannol yma yng Nghymru, a'i fod mor bwysig i'r rhan fawr o Gymru sydd yn ein hardaloedd gwledig mawr, a ydych yn cytuno bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru achub ar y cyfle yn awr i ddychwelyd at y neges honno o sicrhau newid trawsffurfiol i’n diwydiant ffermio, gwneud hyn ar frys, fel y gall ffermwyr Cymru a’r bobl yn ein cymunedau gwledig fod yn hyderus o gynaliadwyedd eu diwydiant yn y dyfodol?

13:50

Credaf fod y sylwadau a wnaed gan Nick Ramsay y prynhawn yma yn cydnabod pa mor hanfodol yw cyllid Ewropeaidd i'n cymunedau ffermio, ac nid ydym ond wedi bod yn siarad am y rhaglen datblygu gwledig hyd yma, ond wrth gwrs, os edrychwch ar gynllun y taliad sylfaenol a faint o arian y mae hwnnw'n ei roi i fentrau gwledig a busnesau ffermio, credaf y gallwn gydnabod y rôl bwysig y mae'n ei chwarae a sut y dylem boeni am yr hyn a ddaw nesaf, gan ein bod wedi dweud yn glir iawn y byddem yn disgwyl i Lywodraeth y DU sicrhau nad yw Cymru geiniog yn waeth ei byd—gwn fod hyn yn rhywbeth a rennir ar draws y Siambr—o ganlyniad i adael yr UE, ac y dylem gael hyblygrwydd llawn i reoli'r cronfeydd hynny yma yng Nghymru.

Ond credaf ei bod yn bwysig iawn cydnabod na fyddai gwarant Llywodraeth y DU na chytundeb ymadael yn darparu'r cyllid hirdymor yn lle cyllid yr UE. Byddent yn darparu'n sylweddol ar gyfer ein holl raglenni presennol yn y tymor byr, mae hynny'n wir, ond o ran y tymor hwy, oni bai y ceir cynnydd ar sicrhau cyllid newydd, ni fyddwn mewn sefyllfa i reoli unrhyw wariant newydd o fis Rhagfyr 2020 ymlaen ar gyfer colofn 1 y polisi amaethyddol cyffredin, ac o fis Ionawr 2021 ymlaen ar gyfer cronfeydd eraill. Felly, credaf ei bod yn wirioneddol bwysig fod pwy bynnag sydd yn y Llywodraeth yn y DU wedi'r etholiad cyffredinol yn darparu'r eglurder a'r sicrwydd llwyr hwnnw inni o ran y ffordd ymlaen, er mwyn sicrhau y gallwn gefnogi ein heconomi wledig a'n busnesau ffermio yn y ffordd a nodwyd gan Nick Ramsay y prynhawn yma.

A wnaiff y Gweinidog cyllid wneud datganiad ar berthynas Llywodraeth Cymru â Gavin Woodhouse, Afan Valley Limited a Northern Powerhouse Developments Limited?

Yn ôl yr hyn a ddeallaf, nid ydym wedi darparu unrhyw gyllid i'r unigolyn na'r cwmni y cyfeiria Mark Reckless atynt.

Ymwelodd Gweinidog yr economi â phrosiect Gavin Woodhouse yng nghwm Afan, ac fe serennodd mewn fideo hyrwyddo ar ei gyfer. Mae'r prosiect bellach yn segur ar ôl penodi gweinyddwyr. Ers i Dai Lloyd eich holi ynglŷn â hyn ym mis Gorffennaf, mae'r gweinyddwyr wedi nodi bod yna arwyddion mai cynllun Ponzi oedd prosiectau gwestai Gavin Woodhouse.

Rwy'n siŵr fod pob un ohonom yn falch o glywed na ryddhawyd unrhyw arian gan Lywodraeth Cymru i brosiectau Woodhouse, er gwaethaf adroddiadau blaenorol fod grant o £0.5 miliwn wedi'i gynnig. Fodd bynnag, un ffordd y mae cynlluniau Ponzi yn gweithio yw drwy feithrin enw da i berswadio buddsoddwyr i roi eu harian. A ydych yn derbyn bod cefnogaeth gyhoeddus Llywodraeth Cymru i Mr Woodhouse wedi chwarae rhan yn meithrin ei enw da? Ac a yw Llywodraeth Cymru yn teimlo unrhyw ymdeimlad o gyfrifoldeb tuag at y rhai sydd wedi colli arian drwy fuddsoddi mewn prosiectau yng Nghymru sy'n gysylltiedig â Gavin Woodhouse?

Na, nid wyf yn cydnabod y darlun y mae'r Aelod yn ceisio'i ddisgrifio y prynhawn yma. Rwyf wedi dweud yn glir iawn, fel y dywedais wrth ymateb i Dai Lloyd sawl mis yn ôl, na ddarparodd Llywodraeth Cymru unrhyw gyllid ar gyfer unrhyw un o'r cynlluniau sy'n gysylltiedig â Mr Woodhouse.

Blaenoriaethau Gwariant

3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru yng nghymoedd de Cymru? OAQ54712

Er gwaethaf toriadau i’n cyllideb, rydym yn parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus, busnesau a chymunedau yng Nghymoedd de Cymru. Ym Merthyr Tudful, rydym yn buddsoddi £225 miliwn mewn gwelliannau i Ysbyty'r Tywysog Charles, a byddwn yn buddsoddi bron i £750 miliwn er mwyn bwrw ymlaen â cham nesaf prosiect metro de Cymru.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Yn ddiweddar, ymwelais ag Elite Paper Solutions ym Merthyr Tudful, sy'n creu swyddi gwerthfawr, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Mynychais ddigwyddiad hefyd yn Ysgol Idris Davies ym Merthyr Tudful; mae'n ysgol yr unfed ganrif ar hugain wych yng nghwm Rhymni uchaf. Ac euthum gyda'r Prif Weinidog i ymweld â swyddfeydd Cartrefi Cymoedd Merthyr, a chlywed am y miliynau o bunnoedd o arian Llywodraeth Cymru y maent wedi'i fuddsoddi mewn tai yn fy etholaeth.

Gwn fod gan gymunedau ledled Cymoedd de Cymru straeon tebyg i'w hadrodd o ganlyniad i fuddsoddi gan Lywodraeth Cymru—mae'r buddsoddiad uchaf erioed wedi'i gyflawni er gwaethaf degawd o doriadau Torïaidd. Felly, wrth i Lywodraeth Cymru baratoi ei chyllideb ar gyfer 2021, a chydnabod y blaenoriaethau rydych eisoes wedi'u nodi, a allwch roi sicrwydd i mi y bydd anghenion ein cymunedau yn y Cymoedd yn parhau i fod yn allweddol o fewn y blaenoriaethau hynny?

13:55

Diolch i Dawn Bowden am godi'r mater hwn ac am dynnu sylw at rai o'r mentrau rhagorol a'r buddsoddiadau rhagorol y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud yn y gymuned y mae'n ei chynrychioli. Rwy'n falch iawn o weld ei bod wedi cael cyfle i ymweld â chymaint ohonynt. Er enghraifft, credaf fod Elite Paper Solutions yn gyffrous iawn o ran yr hyn sy'n bosibl drwy ein Swyddi Gwell yn Nes at Adref, ac rwyf am weld llawer mwy o'r math hwnnw o waith yn mynd rhagddo i gefnogi ein caffael ledled Cymru gymaint ag unrhyw beth arall.

Credaf ei bod yn bwysig cydnabod nad yw'r rownd wario ddiweddar yn dod â chyni i ben, fel y mae Llywodraeth y DU wedi awgrymu. Bydd ein cyllideb ar gyfer 2021 2 y cant yn is, neu £300 miliwn yn llai, nag mewn termau real yn 2010-11. Ond nid yw hynny'n golygu am eiliad nad ydym yn uchelgeisiol ar gyfer Cymru ac yn uchelgeisiol ar gyfer y Cymoedd o ran yr hyn y gellir ei gyflawni. Felly, pan fyddwn yn gallu cyhoeddi'r gyllideb ddrafft yn dilyn yr etholiad, rwy'n gobeithio y bydd cyfle i gydnabod y buddsoddiad pellach y byddwn yn ei wneud yn y gymuned y mae Dawn Bowden yn ei chynrychioli.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd cyngor Caerffili fod sesiynau nofio am ddim i bobl dros 60 oed wedi’u torri ar ôl i’ch Llywodraeth wneud toriad o 50 y cant i'r cyllid ar gyfer y fenter nofio am ddim. Weinidog, a ydych yn derbyn bod eich setliad cyllid llywodraeth leol annigonol mewn cynghorau fel Caerffili yn peryglu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, fel y 'Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn yng Nghymru'?

Gwnaed y newidiadau i'r cynllun nofio am ddim ledled Cymru o ganlyniad i'r gwaith y gofynnodd Llywodraeth Cymru i Chwaraeon Cymru ei gyflawni o ran comisiynu adolygiad annibynnol i edrych ar ba mor dda roedd y cynllun nofio am ddim yn cyflawni ei amcanion, yn enwedig o ran cynnig cyfleoedd i bobl hŷn nofio, ond hefyd o ran sicrhau bod pobl ifanc, yn enwedig mewn cymunedau mwy difreintiedig, yn gallu manteisio ar gyfleoedd i nofio hefyd. Yr hyn a ganfu’r adolygiad oedd mai 6 y cant yn unig o bobl hŷn a oedd yn manteisio ar yr opsiwn i nofio am ddim, ond canfu hefyd nad oedd pobl ifanc mewn cymunedau tlotach yn manteisio ar y cyfleoedd, sy'n achos pryder. Felly, mae'r adolygiad ei hun yn ceisio newid hynny o ran sicrhau bod mwy o bobl ifanc yn cael y cyfle, ac ar yr un pryd, sicrhau bod pob cymuned yn cael cyfle i—neu fod pob awdurdod lleol yn darparu rhywfaint o nofio am ddim, o leiaf, i bobl dros 60 oed. Os dymuna Mohammad Asghar ysgrifennu ataf gyda'r enghreifftiau sydd ganddo o ran sut y mae'r newid wedi effeithio ar unigolion yn y gymuned y mae'n ei chynrychioli, yn sicr, rwy'n fwy na pharod i'w harchwilio gyda'r Dirprwy Weinidog.

O ystyried eich bod am greu swyddi gwell yn nes at adref, ac mae'r rhan fwyaf o bobl yn fy etholaeth yn cytuno bod taer angen darparu swyddi â chyflogau da yn y Rhondda, mae'n un o'r pethau sy'n codi amlaf yn fy nghymorthfeydd stryd, ond nid yw pobl yn argyhoeddedig eich bod yn mynd i gyflawni hynny. Felly, o gofio hynny, a allwch ddweud wrthym beth yw'r gyllideb ar gyfer tasglu'r Cymoedd, a faint o'r gyllideb hon, os oes un, sy'n cael ei dyrannu ar gyfer ysgogi gweithgarwch economaidd yn Rhondda Cynon Taf—yn benodol yn y Rhondda?

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ar draws Llywodraeth Cymru i gyflawni nodau tasglu'r Cymoedd, felly fe welwch gamau gweithredu yng nghynllun y tasglu hwnnw sy'n ymwneud â thai, fe welwch gamau sy'n ymwneud â thrafnidiaeth, ac eitemau eraill hefyd. Ond yr hyn y gallaf ei ddweud o ran manylion y cynllun yw bod Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi archwilio'r cynllun cyflawni a bydd yn gwneud datganiad i'r Cynulliad yr wythnos nesaf, yn ôl yr hyn a ddeallaf. Ond mae rhan o'r gwaith hwnnw'n cynnwys adolygiad o gyllideb £25 miliwn y canolbwyntiau strategol, er enghraifft, ac mae'n trafod enghreifftiau o arferion gorau gyda rhanddeiliaid tasglu'r Cymoedd yno.

Ceir nifer o enghreifftiau eraill ar draws gwahanol bortffolios o'r modd rydym yn buddsoddi yn y Rhondda, ond nid yw'n wir y byddem yn cyflwyno ein gwybodaeth ar sail etholaethol ynglŷn â sut y gwneir y buddsoddiadau hynny. Ond enghreifftiau ym maes trafnidiaeth—gan y credaf fod hwnnw'n un maes a oedd yn cael ei ystyried gan yr Aelod—rydym yn datblygu uwchgynlluniau trafnidiaeth integredig, gan weithio gydag awdurdodau lleol ym Merthyr Tudful, Caerffili a'r Rhondda, ac rydym wedi dyrannu dros £600,000 o gyllid i gomisiynu'r astudiaethau dichonoldeb a chynllunio hynny, gan ein bod yn ymwybodol o bwysigrwydd cysylltiadau trafnidiaeth da i gynorthwyo pobl i gyrraedd swyddi da.

14:00

Weinidog, y rhwystr mwyaf i wella ffyniant economaidd Cwm Tawe a Chwm Nedd yw diffyg seilwaith. Er gwaethaf dau ddegawd o gronfeydd strwythurol yr UE, nid oes trafnidiaeth ddibynadwy gan bobl yn fy rhanbarth o hyd. Beth fydd eich Llywodraeth yn ei wneud yn ystod y 12 mis nesaf i wella cysylltiadau ffyrdd a rheilffyrdd yn fy rhanbarth fel y gall fy etholwyr gyrraedd eu gwaith ar amser? A fydd eich cyllideb yn rhoi blaenoriaeth i seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus? [Torri ar draws.] Anwybodus. [Torri ar draws.] Ydych, wir.

Nid ydym am glywed enllibion personol yn cael eu gweiddi ar draws y Siambr. Felly, os cawn roi'r gorau i wneud hynny, os gwelwch yn dda. [Torri ar draws.] Nid yw galw Aelod Cynulliad arall yn 'anwybodus' yn dderbyniol, Alun Davies. Ac rwyf am ofyn i'r Gweinidog ymateb. Rhowch y gorau iddi, os gwelwch yn dda.

Mae Llywodraeth Cymru yn wirioneddol awyddus i gefnogi’r syniad o fetro bae Abertawe, sy'n rhywbeth y credaf fod gan yr Aelod ddiddordeb arbennig ynddo, o ran sut y gall ddarparu ymateb mwy integredig i anghenion trafnidiaeth pobl sy’n byw ym mae Abertawe ac ardaloedd ehangach. Felly, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu arian i gynnal ymarfer cwmpasu i weld beth fyddai'n bosibl. Yn amlwg, dyna weledigaeth fwy hirdymor ar gyfer yr ardal, felly mae angen inni edrych i weld beth y gallem ei wneud yn y tymor mwy uniongyrchol i gefnogi ein gwasanaethau bysiau, er enghraifft. Felly, gwn fod Ken Skates yn awyddus i ddatblygu gwaith eithaf cyffrous mewn perthynas â gwella pwerau awdurdodau lleol dros wasanaethau bysiau, er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau yn yr ardaloedd hynny'n gallu ymateb yn well i anghenion pobl leol. Ond rydym yn ymwybodol iawn o bwysigrwydd trafnidiaeth gyhoeddus, yn anad dim oherwydd y digwyddiadau llygredd a welwn yn ein rhan arbennig ni o'r byd hefyd.

Nid yw Rhianon Passmore yma i ofyn cwestiwn 4 [OAQ54716], felly cwestiwn 5, Lynne Neagle. 

Gwariant Ataliol

5. Pa gamau y mae'r Gweinidog yn bwriadu eu cymryd i sicrhau bod cyllideb arfaethedig Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu gwariant ataliol? OAQ54726

Rydym yn llwyr gydnabod pwysigrwydd gwariant ataliol, ac mae pob Gweinidog wedi'i ystyried wrth gynllunio ar gyfer y gyllideb a bydd yn cael ei adlewyrchu yn ein cyllideb ar gyfer 2020-21. Y llynedd, gwnaethom fuddsoddi £15 miliwn mewn gwasanaethau iechyd meddwl, er enghraifft, gan gynnwys y dull ysgol gyfan newydd o ymdrin â lles ac iechyd meddwl.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Fe fyddwch yn ymwybodol fod yr angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy o ran gwariant ataliol wedi bod yn thema gyson yng ngwaith y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg o graffu ar y gyllideb, ac yn wir, yng ngwaith craffu'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon. Ac mae'r ffigurau y cyfeirioch chi atynt—a chlywais eich ateb i Llyr Gruffydd hefyd—yn niferoedd bach o'u cymharu â'r gyllideb gyfan rydych yn ei gosod. A fyddech yn cytuno â mi fod llawer mwy y gallem ei wneud i flaenoriaethu gwariant ataliol, ac a ydych hefyd yn cytuno â mi mai'r gwariant ataliol pwysicaf y gall unrhyw Lywodraeth ei wneud yw gwario ar addysg ein plant a'n pobl ifanc?

Ydw, rwy’n cydnabod y pwyntiau a wnaed gan Lynne Neagle, a dyna un o’r rhesymau pam fod Llywodraeth Cymru mor hapus i gydnabod a derbyn yr holl argymhellion yn yr adroddiad diweddar a fu'n edrych ar gyllid ysgolion ac rydym eisoes yn dechrau bwrw ymlaen â pheth o'r gwaith hwnnw o ran y gwaith y mae'r economegydd addysg blaenllaw Luke Sibieta yn ei wneud ar ddadansoddi cyfanswm y gwariant mewn ysgolion i sicrhau ein bod yn dyrannu ein gwariant ar addysg yn y ffordd sy'n sicrhau'r canlyniadau gorau i'r plant a'r bobl ifanc hynny.

Mae'r prif grŵp gwariant addysg ar hyn o bryd yn £1.7 biliwn ar gyfer 2019-20, ac yna byddem yn amlwg yn cydnabod bod mwyafrif helaeth y cyllid i ysgolion, wrth gwrs, yn mynd drwy'r grantiau rhanbarthol yn syth i awdurdodau lleol. Ond credaf fod pethau pwysig y gallwn eu gwneud i gefnogi plant a phobl ifanc ochr yn ochr â hynny hefyd—y gwaith a wnawn i ehangu'r rhaglen bwyd a hwyl drwy gydol yr haf, er mwyn sicrhau nad yw plant a phobl ifanc ar ei hôl hi, o'u cymharu â'u cyfoedion, mewn rhai cymunedau yn ystod yr haf, yn ogystal â dyblu'r buddsoddiad yng nghronfa mynediad y grant datblygu disgyblion i £5.1 miliwn. Credaf fod hynny'n bwysig iawn, unwaith eto, i gefnogi teuluoedd a cheisio rhoi mwy o arian ym mhocedi'r teuluoedd unigol hynny. Ac ynghyd â'r grant datblygu disgyblion, golyga hynny ein bod yn buddsoddi dros £98 miliwn yn 2019-20 i gefnogi rhai o'n dysgwyr mwyaf difreintiedig. Mae hynny'n bwysig am yr union resymau a nodwyd gan Lynne Neagle, gan mai buddsoddi yn y plant ieuengaf yw'r gwariant ataliol pwysicaf y gallwch ei wneud, am mai sicrhau bod plant ar y llwybr cywir a sicrhau eu bod yn cael cyfleoedd i gyflawni eu potensial llawn yw'r ffordd orau o sicrhau bod ganddynt fywydau da o'u blaenau.

14:05

Gwrandewais ar y ffigurau a nodoch chi i Lynne Neagle. Maent yn swnio'n fawr ac yn swnio'n wych, maent yn swnio fel pe bai llawer iawn o arian ar gael, ond y gwir amdani yw: a yw'n ddigon o arian i ateb y galw? Un o'r pryderon sydd gennyf yw sut rydym yn targedu ein gwariant ataliol yn y sector iechyd.

Gofynnais gwestiwn ynglŷn â hyn yr wythnos diwethaf i'r Prif Weinidog. Fe'i gofynnais eto ddoe, pan oedd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ateb cwestiynau i'r Prif Weinidog. Nid wyf yn gweld, ac nid oes gennyf ymdeimlad, fod newid sylweddol ar waith yn y cynlluniau ar gyfer y gyllideb iechyd—y dylai'r gwariant ar iechyd ddechrau, os mynnwch, fynd ar drywydd gwahanol a mynd tuag at ofal sylfaenol, gwasanaethau gofal cymunedol a gwariant ataliol. Pan fyddwch yn cyfarfod â grwpiau a grwpiau trawsbleidiol lle rydych yn clywed nad yw presgripsiynu cymdeithasol yn digwydd gan nad yw'r cyfleusterau ar agor—. Ymddengys nad oes unrhyw feddwl cydgysylltiedig lle mae iechyd yn dweud wrth y gwasanaethau cymdeithasol ac wrth awdurdodau lleol, 'Gadewch inni gadw'r pwll nofio hwn ar agor—mae hwnnw'n fan da ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol. Gadewch inni gadw'r parciau chwarae hyn ar agor, a gadewch inni wneud y peth hwn a gadewch i ni wneud y peth arall.' Rydych yn siarad digon, ond prin yw'r dystiolaeth fod y cyllid yn gwneud digon.

Beth y gallwch ei wneud neu ei ddweud i roi sicrwydd i ni, yn hytrach na dweud yn unig—? Rwy'n derbyn bod gennych y potiau hyn o arian, ond nid ydynt yn tyfu mewn termau real. Mae a wnelo â'r egwyddor ddiwylliannol hanfodol sy'n dweud mai'r hyn sydd angen inni ei wneud yw gwario ein harian ar atal pobl rhag bod yn sâl a'u helpu fel nad ydynt, yn y pen draw, yn mynd i ysbytai, gofal hirdymor, gyda chyflyrau cronig.

Credaf fod cydbwysedd pwysig i'w daro bob amser rhwng yr agenda ataliol a mynd ati wedyn i ymdrin â'r materion iechyd sy'n wynebu'r gwasanaeth iechyd heddiw. Gwn fod Angela Burns yn cydnabod bod yr agenda ataliol, mewn gwirionedd, yn fath o agenda sy'n llawer mwy hirdymor, ac mae'n cymryd cryn dipyn o amser i newid y sefyllfa sydd gennym ar hyn o bryd.

Credaf fod y gwaith a wnawn ar draws y Llywodraeth—felly, mae'r buddsoddiad ychwanegol a wnawn mewn teithio llesol yn bwysig iawn. Eleni yn unig, byddwn yn cynyddu'r gyllideb ar gyfer teithio llesol i £34.5 miliwn, ac yna £30 miliwn ymhellach eto yn 2020-1, gan ein bod yn ymwybodol o'r rôl bwysig y gall ymarfer corff a bod allan yn yr awyr iach ei chyflawni o ran eich lles corfforol a'ch lles meddyliol.

Felly, mae'n bwysig ein bod yn gweithio yn y ffordd gydgysylltiedig honno ar draws y Llywodraeth, a dyna un o'r rhesymau pam ein bod wedi edrych ar ein cyllideb eleni drwy lens yr wyth maes blaenoriaeth hynny. Felly, mae iechyd meddwl yno, mae'r blynyddoedd cynnar yno, mae tai yno—mae gan bob un ohonynt ffocws ataliol eithriadol o gryf. Pan fydd yr Aelodau'n gweld y naratif sy'n rhedeg ochr yn ochr â'n cyllideb a gyhoeddir gennym ar 16 Rhagfyr, rwy'n gobeithio y cânt syniad clir iawn o'r gwaith ataliol sy'n mynd rhagddo ar draws y Llywodraeth.

Y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol

6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am rôl y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol? OAQ54711

Mae'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn hyrwyddo caffael cydweithredol yn sector cyhoeddus Cymru i ddarparu bargen dda i Gymru. Mae'n arbed amser ac arian, yn cefnogi economi Cymru ac yn cydnabod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Diolch am hynny. Weinidog, mae dogfen ganllawiau Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar gaffael cyhoeddus a'r Undeb Ewropeaidd yn ddiddorol iawn. Mae'n nodi bod yr UE yn gosod y deddfau ar gyfer dyfarnu contractau caffael cyhoeddus. Mae'r deddfau wedi'u cynllunio i agor marchnad yr UE i gystadleuaeth, i hybu rhyddid i symud nwyddau a gwasanaethau ac i atal polisïau rhwng dwy wlad. A yw Llywodraeth Cymru bellach yn croesawu’r cyfleoedd newydd y bydd Brexit yn eu cynnig i fusnesau Cymru?

Wel, os oes cyfleoedd newydd i fusnesau Cymru mewn perthynas â Brexit, rwy'n siŵr fod yr anfanteision a ddaw yn sgil Brexit i fusnesau Cymru yn eu bwrw i'r cysgod. Ond byddwn yn manteisio ar unrhyw gyfle i sicrhau, os oes cyfleoedd newydd yn agor i ni, byddwn yn sicr o fanteisio arnynt. Ond yn gyffredinol, credaf ei bod yn deg dweud, fel y byddai'r rhan fwyaf o sylwebyddion a'r rhan fwyaf o bobl sydd wedi dadansoddi hyn yn dweud, na fydd yr effaith gyffredinol a throsfwaol ar fusnes yn gadarnhaol.

14:10
Portffolio'r Economi a Thrafnidiaeth

7. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynghylch dyraniadau cyllid i'r portffolio economi a thrafnidiaeth? OAQ54694

Drwy gydol y flwyddyn, rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â chyd-Weinidogion i drafod ystod o faterion ariannol, gan gynnwys Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth mewn perthynas â blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi yn ei bortffolio. Yn ddiweddar, cyhoeddais £87 miliwn ychwanegol ar gyfer portffolio'r economi a thrafnidiaeth fel rhan o'n buddsoddiad cyfalaf.

Diolch yn fawr iawn am eich ateb, Weinidog, ond dechreuodd y gwaith ar ledu ffordd Blaenau'r Cymoedd rhwng Gilwern a Brynmawr yn 2014, ac roedd i fod i ddod i ben y mis nesaf. Ym mis Ebrill, cyhoeddwyd bod y dyddiad cwblhau wedi'i newid i 2020 ac y byddai'n costio £54 miliwn yn ychwanegol. Nawr, rydym yn gwybod ac yn clywed na fydd y prosiect hwn wedi'i gwblhau tan ddiwedd y flwyddyn nesaf. Ond honnir na fydd hyn yn cael effaith ar gost gyffredinol y cynllun.

Weinidog, a ydych wedi trafod y mater hwn gyda Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth? Ac a allwch gadarnhau na fydd yr oedi hwn yn cynyddu'r cyllid sydd ei angen i gyflawni'r cynllun hwn, uwchlaw'r £324 miliwn y mae disgwyl iddo gostio eisoes?

Gallaf ddweud bod Llywodraeth Cymru a Costain yn adolygu'r prosiect, gyda'r bwriad bellach o gwblhau'r prosiect erbyn diwedd 2020. A gwnaeth Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth y datganiad hwnnw ym mis Ebrill i'r Cynulliad, ac mae'r sefyllfa a amlinellodd ym mis Ebrill yn parhau yr un fath heddiw.

Dywedodd yn y datganiad hwnnw y byddai bellach yn 2020 cyn i'r gwaith o ddeuoli'r rhan o'r ffordd gael ei gwblhau, ac mae rhan 2 yn cynnwys lledu 8 km o'r ffordd bresennol yng ngheunant Clydach, sydd ag ochrau serth ac sy'n amgylcheddol sensitif. Ond ar ôl i'r gwaith gael ei gwblhau, bydd yn darparu ffordd ddeuol rhwng canolbarth Lloegr a Blaenau'r Cymoedd, gan gynnwys ardal fenter Glyn Ebwy. Ac mae'n brosiect uchelgeisiol, ac rydym yn ddiolchgar i'r bobl sy'n byw ac yn gweithio yn yr ardal am eu hamynedd wrth i'r gwaith fynd rhagddo. Ond o ran diweddariad, yr un yw'r sefyllfa heddiw â'r hyn a ddisgrifiwyd yn y datganiad a wnaeth y Gweinidog ym mis Ebrill.

Y Model Buddsoddi Cydfuddiannol

8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y model buddsoddi cydfuddiannol? OAQ54690

Mae dau gynllun model buddsoddi cydfuddiannol yn cael eu caffael ar hyn o bryd: deuoli'r A465, a chaffael partner cyflenwi ar gyfer rhaglen ysgolion a cholegau'r unfed ganrif ar hugain. Rwy'n disgwyl i'r ddwy broses gaffael ddod i ben yn 2020. Mae trydydd cynllun model buddsoddi cydfuddiannol—ailddatblygu Canolfan Ganser Felindre—yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd.

Diolch i'r Gweinidog am ei hymateb. Mae'r model buddsoddi cydfuddiannol yn costio mwy na benthyca gan y Llywodraeth. Pe na bai hynny'n wir, dyna fyddai'r dull o fenthyca a ffafrir. Menter cyllid preifat ydyw i bob pwrpas heb reolaeth cyfleusterau.

Ar brosiect risg isel, gyda chost ychwanegol amcangyfrifedig o 3 y cant ar gyfer benthyca, 5 y cant ar gyfer elw, a 2 y cant ar gyfer rhan budd cymunedol y cynllun, mae'n ychwanegu £1 miliwn yn ychwanegol am bob £10 miliwn o gost. A oes gan y Gweinidog ffigurau gwahanol? Ac a fydd yn rhaid i gynlluniau model buddsoddi cydfuddiannol, oherwydd y gost ychwanegol, brofi eu budd yn erbyn meini prawf llymach?

Fel rheol, mae disgwyl i gynlluniau model buddsoddi cydfuddiannol fod yn ddrytach na buddsoddiad cyfalaf traddodiadol. Fodd bynnag, bydd gwir gost y cynllun model buddsoddi cydfuddiannol yn ffactor yn y prosiect penodol hwnnw a'r ymarfer caffael a gynhelir cyn hynny. A bydd llawer o ffactorau yn chwarae rhan. Felly, mae costau benthyca, costau cyfalaf, costau gweithredu, a'r trosglwyddiad risg yn rhai o'r ffactorau penodol hynny.

Mae'n bwysig cydnabod y byddwn yn cynhyrchu buddsoddiad ychwanegol o dros £1 biliwn drwy'r model buddsoddi cydfuddiannol. Nawr, rydym yn defnyddio'r model hwn gan fod hwnnw'n fuddsoddiad o £1 biliwn na fyddem yn gallu ei wneud fel arall, ac mae'n ffordd greadigol o ddenu buddsoddiad. Ond fel y dywedaf, oherwydd maint y prosiectau hyn, maent yn brosiectau na fyddent yn cael eu cyflwyno fel arall.

Rwyf eisoes wedi crybwyll, a gwn fod Mike Hedges yn gyfarwydd iawn â’r ffordd rydym yn defnyddio cyfalaf confensiynol yn gyntaf i ariannu prosiectau seilwaith cyhoeddus, ac yna'n mynd drwy’r cronfeydd Ewropeaidd hynny, ac yna'n defnyddio’r pwerau benthyca, ac yna, os nad oes gennym y cyllid angenrheidiol o hyd ar gyfer ein huchelgeisiau seilwaith, byddwn yn ystyried y model buddsoddi cydfuddiannol, neu fodelau eraill fel y grant cyllid tai, y rhaglen ariannu arfordirol sydd gennym ar waith ac ati. Felly, credaf ei bod yn bwysig meddwl yn greadigol, a chydnabod hefyd ein bod wedi ceisio sicrhau nad yw anfanteision cynlluniau mentrau cyllid preifat traddodiadol yn rhan o raglen y model buddsoddi cydfuddiannol, ond gan gydnabod bod hwn yn fuddsoddiad a fyddai'n anfforddiadwy fel arall.

14:15
Ail Becyn Buddsoddi Cyfalaf

9. A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru wrth ddyrannu cyllid fel rhan o'r Ail Becyn Buddsoddi Cyfalaf? OAQ54702

Bydd ail gyfran y pecyn buddsoddi cyfalaf, sy'n werth £130 miliwn, yn rhoi hyder pellach yng Nghymru ac yn cefnogi busnesau yn wyneb Brexit. Rydym hefyd yn buddsoddi yn y dyfodol drwy fesurau cychwynnol i ymateb i'r argyfwng hinsawdd ac i warchod amgylchedd Cymru.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Roeddwn yn arbennig o falch o weld, fel rhan o hynny, y buddsoddiad o £7 miliwn i gefnogi a gwarchod ein hamgylchedd. Mae ei ymgorffori yn ein gwariant cyfalaf yn rhan bwysig o fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd y bu Llywodraeth Cymru mor gywir i'w ddatgan. A allwch ddarparu unrhyw fanylion pellach inni heddiw ynglŷn â sut y byddwch yn gweithio gyda chyd-Aelodau ar draws y Llywodraeth i gyflawni hyn?

Gallaf. Mae datgarboneiddio yn un o'r meysydd rydym yn wirioneddol awyddus i wneud cynnydd go iawn arnynt yn awr, mewn perthynas â'r gyllideb y byddwn yn ei gosod cyn bo hir. Ond credaf fod y pethau y bu modd i ni eu cyhoeddi yn ystod y pecyn buddsoddi cyfalaf yn ddiweddar wedi rhoi cyfle i ni gymryd y cam cyntaf yn hynny o beth. Felly, fel y dywed Vikki Howells, roedd £7 miliwn i gefnogi'r amgylchedd. Roedd hynny'n cynnwys £4 miliwn ar gyfer y parciau cenedlaethol, £1.7 miliwn ar gyfer Amlrywogaeth Cymru ac £1.3 miliwn ar gyfer y Gwasanaeth Ynni Lleol. Ond y tu hwnt i hynny, mae rhai o'r pethau eraill sy'n bwysig i'r amgylchedd yn y pecyn diweddar yn cynnwys £14.5 miliwn ychwanegol ar gyfer cynlluniau'r gronfa trafnidiaeth leol a theithio llesol, a byddant yn ariannu ystod o brosiectau sy'n darparu seilwaith cerdded a beicio hollbwysig, gan annog newid ymddygiad yng Nghymru; £10 miliwn ychwanegol i gynyddu nifer y cartrefi newydd a gynhyrchir gyda dull modiwlar, a bydd hynny, wrth gwrs, yn mynd â ni ymhellach ar y daith i wneud cartrefi newydd yn garbon isel neu'n ddi-garbon; a buddsoddiad o £1.3 miliwn i gefnogi cynlluniau ynni adnewyddadwy newydd lleol, gan ein cynorthwyo i bontio, unwaith eto, i'r economi carbon isel honno. Felly, credaf fod y rhaglen hon wedi bod yn bwysig iawn, ond yn sicr, rwy'n ei hystyried yn fan cychwyn ar gyfer cynlluniau llawer mwy uchelgeisiol yn y dyfodol.

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Dai Lloyd.

Safonau'r Gymraeg

1. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o ymdrechion awdurdodau lleol yn ne orllewin Cymru i gwrdd â safonau'r Gymraeg? OAQ54697

Mae arnaf i ofn nad mater i mi yw cynnal asesiad o'r fath. Comisiynydd y Gymraeg sydd yn gyfrifol am weithredu trefn safonau'r Gymraeg, gan gynnwys gosod safonau ar awdurdodau lleol. Mae e'n gorfod monitro a gorfodi safonau, a rhoi cyngor i awdurdodau lleol ar sut i gydymffurfio â safonau. 

Mae unedau cyfieithu yn allweddol wrth i gynghorau lleol drio cwrdd â safonau'r Gymraeg, ond, yn anffodus, mae yna broblemau'n wynebu uned gyfieithu cyngor Abertawe. Mae yna bryderon ynghylch niferoedd staff, diffyg arweiniad, diffyg buddsoddiad ac ansicrwydd am ddyfodol y gwasanaeth. Mae hyn i gyd yn cael effaith negyddol ar y gwasanaeth a'r staff. Mae'r uned yn cynorthwyo gwaith cynghorau Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, ond dyw hi ddim yn ymddangos bod y naill gyngor na'r llall yn malio o gwbl am sefyllfa'r cyfieithwyr presennol. Mae Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru wedi cynnig cymorth i'r cyngor i oroesi'r argyfwng presennol, ond, hyd yn hyn, does dim ymateb ffurfiol wedi dod i'r cynnig yma. Mae Comisiynydd y Gymraeg eisoes yn ymwybodol o'r sefyllfa, ond a wnewch chi, fel Llywodraeth, edrych i mewn i'r sefyllfa argyfyngus yma yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot?

Diolch. Wel, dwi'n barod iawn i gael sgwrs gyda'r comisiynydd ynglŷn â'r sefyllfa. Dwi'n meddwl mai un o'r pethau mae'n rhaid inni ei wneud yn y dyfodol yw edrych ar sut rŷm ni'n gallu defnyddio meddalwedd i wneud lot o'r gwaith sydd yn cael ei wneud ar hyn o bryd gan gyfieithwyr. Maen nhw'n ymwybodol bod angen inni symud ymlaen gyda'r dechnoleg yma; dydyn nhw ddim yn ei weld fel unrhyw rwystr arnyn nhw. Ond, wrth gwrs, mae'n rhaid inni sicrhau bod y gefnogaeth yn ei lle fel bod rheini'n ymwybodol o sut i ddefnyddio hyn, ac, wrth gwrs, dwi'n fodlon siarad gyda'r comisiynydd ynglŷn â'r sefyllfa yna yn Abertawe.

Cymunedau Amrywiol

2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gryfhau'r berthynas rhwng Cymru a gwledydd sydd â chysylltiadau cryf â'n cymunedau mwyaf amrywiol? OAQ54724

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod ac yn dathlu gwerth a chyfraniad ein cymunedau amrywiol i Gymru gyfan. Rydym yn gwneud pob ymdrech i feithrin a chryfhau'r cysylltiadau hynny, gan gynnwys ymweliadau gweinidogol dramor a chynnal digwyddiadau i ddathlu gwyliau gyda'r gymuned alltud ryngwladol yng Nghymru.

14:20

Diolch am eich ymateb, Weinidog. Yn Nwyrain Casnewydd, rydym yn ffodus iawn o gael cymunedau amrywiol, gan gynnwys cymunedau Pacistanaidd a Bangladeshaidd cryf, ac wrth gwrs, mae ganddynt lawer o gysylltiadau â Phacistan a Bangladesh. Tybed i ba raddau y mae Llywodraeth Cymru yn manteisio ar y dreftadaeth honno a'r cysylltiadau hynny wrth feithrin ei chysylltiadau a'r fasnach a'r gweithgaredd cyffredinol sy'n digwydd rhwng Cymru a'r gwledydd hynny.

Diolch. Wel, yr hyn a fu'n amlwg iawn i mi wrth ddatblygu'r strategaeth ryngwladol yw na allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain—mae'n rhaid inni ddefnyddio'r holl rwydweithiau sydd ar gael i ni, ac mae gennym rwydweithiau a chymunedau cryf iawn, fel y dywedwch, yn enwedig y gymuned Fangladeshaidd a'r rheini o Bacistan. Felly, rydym yn ceisio datblygu mecanwaith yn awr i sicrhau eu bod yn gwybod beth yw ein negeseuon er mwyn gwneud yn siŵr y gallwn gyfathrebu â hwy, a gobeithio y gallant gyfathrebu yn ôl adref â rhai o'r gwledydd y mae eu teuluoedd yn dod ohonynt.

Ond credaf ei bod yn bwysig ein bod yn dathlu'r cyfraniad y mae'r bobl hyn yn ei wneud i'n gwlad. Rwy'n siŵr eich bod yn gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi ymestyn ein rhaglen gydlyniant cymunedol am ddwy flynedd arall, gan gyfrannu £1.52 miliwn ychwanegol at y rhaglen honno. Ond credaf hefyd ei bod yn bwysig dathlu'r hyn maent yn ei roi i ni fel cymdeithas, felly, yn ddiweddar, rwyf wedi dathlu Diwali, er enghraifft, gyda llawer o'r Aelodau yma, ond credaf hefyd y gallem wneud mwy i ddathlu rhai o'r dyddiau cenedlaethol. Daeth Bangladesh, er enghraifft, ac roedd llawer o gynrychiolwyr o Gasnewydd pan ddaeth y tîm criced o Bangladesh yn ystod cwpan y byd. Felly, credaf fod cyfleoedd i'w cael, a gwn, er enghraifft, y bydd Bangladesh yn dathlu 50 mlynedd o annibyniaeth, ac rwy'n gobeithio y bydd hynny'n rhoi cyfle i ni yn 2021 i ddathlu gyda hwy ar yr achlysur hwnnw.

Rwy'n credu y gallwch ddyfalu beth rwyf am ei ofyn i chi, Weinidog, cyn i mi ddweud y geiriau. Mae John Griffiths a minnau wedi gwneud cryn dipyn o waith dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf gydag elusen Love Zimbabwe, sydd wedi'i lleoli yn y Fenni. Mae'r elusen, fel y gŵyr y Gweinidog, wedi gwneud llawer o waith i adeiladu cysylltiadau rhwng y Fenni—a Chymru, yn wir—a Zimbabwe. A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei chyfarfod yn ddiweddar gyda mi a David a Martha Holman o'r elusen? Fel y gwyddoch, mae nifer o brosiectau cyffrous ar y gweill. A allwch ddweud sut rydych yn gweithio gyda threfi, a phentrefi eraill yn wir, ledled Cymru i geisio datblygu'r cysylltiadau hynny rhwng Cymru ac Affrica? Rydym wedi clywed am y cysylltiadau â Phacistan a chymunedau yn Asia. Mae llawer i'w wneud—ac mae'r Cynulliad hwn wedi gwneud llawer yn y gorffennol—i ddatblygu cysylltiadau rhwng Cymru ac Affrica, a chredaf fod llawer i'w ennill, fel y gwyddoch, o'r cysylltiadau hynny. Gwn fod y bobl ar y ddwy ochr, yn Affrica ac yma yng Nghymru, yn elwa'n fawr ohonynt.

Diolch yn fawr, ac roedd yn bleser cyfarfod â Martha ac eraill o grŵp Love Zimbabwe, ac mae'r math o egni sydd ganddynt yn anhygoel ac maent wir wedi galfaneiddio'r gymuned. Credaf yr hoffem weld mwy o hynny mewn gwirionedd. Mae'n rhaid inni harneisio'r egni hwnnw, a dyna rai o'r pethau a wnawn gyda rhaglen Cymru o Blaid Affrica. Mae cyfle i bobl wneud cynigion i'r rhaglen. Mae miloedd o bobl yn ymwneud â channoedd o sefydliadau ledled Cymru gyfan, ac mae cyfle iddynt wneud cynigion fel y gallant ddatblygu rhai o'u rhaglenni. Rwy'n falch iawn o weld bod Love Zimbabwe wedi elwa o hynny yn y gorffennol.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian.

Diolch yn fawr. Y llynedd, fe lansiwyd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd, datblygiad arwyddocaol o ran y Gymraeg ym maes addysg uwch. Cefais i gyfarfod ddoe efo dau o arweinwyr yr undeb, Wil Rees a Jacob Morris. Yr hydref y llynedd, fe gafwyd cefnogaeth eang gan fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn eu cyfarfod blynyddol i’r cam nesaf, sef creu swyddog etholedig, cyflogedig a llawn amser dros y Gymraeg, fyddai hefyd yn llywydd ar yr undeb newydd yma. Ym mis Rhagfyr, fe gadarnhaodd bwrdd ymddiriedolwyr undeb myfyrwyr y brifysgol y byddai’r swydd yn ei lle erbyn gwanwyn 2020. Ond, yn anffodus, ar drothwy eu cyfarfod blynyddol eleni, mae hi wedi dod i’r amlwg fod yna dro pedol ynglŷn â chreu'r swydd hon, y swydd gyflogedig ar gyfer y myfyrwyr Cymraeg. Mae yna swydd debyg, fel y gwyddoch chi, ym Mangor, Aberystwyth ac Abertawe. Ac mae bwrdd yr undeb yn peryglu creu gelyniaeth tuag at y Gymraeg drwy fynnu bod yn rhaid dileu darpariaeth i grwpiau eraill er mwyn sicrhau darpariaeth briodol i’r Gymraeg. Fedrwch chi, Gweinidog, gadarnhau eich bod chi'n ymwybodol o’r sefyllfa yma a'ch bod chi'n rhannu fy mhryder i ynglŷn â’r datblygiadau diweddaraf? Ac, os felly, fedrwch chi ymrwymo i ohebu ar frys efo awdurdodau’r coleg a'r undeb cyn eu cyfarfod blynyddol, sy'n digwydd nos yfory?

14:25

Diolch yn fawr i chi. Roeddwn i hefyd yn falch o weld sefydlu Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd yn 2017, a dwi yn meddwl ei bod hi'n hollol bwysig inni. Rydym ni'n gwybod bod yna gwymp ar ôl i bobl ddod allan o'r ysgol a dŷn nhw ddim yn cael cyfle i ddefnyddio'r Gymraeg. Dwi yn meddwl bod myfyrwyr—mae'n rili bwysig eu bod nhw'n cael cyfle i ddefnyddio'r Gymraeg yn gymdeithasol, a dyna'r union beth mae undeb y myfyrwyr yma yn ei wneud.

Roeddwn i'n ymwybodol hefyd fod bwrdd yr ymddiriedolwyr yn y gorffennol wedi ymrwymo i benodi swyddog rhan amser yng Nghaerdydd, a dwi yn siomedig, wrth gwrs, eu bod nhw wedi camu yn ôl o hynny. Wrth gwrs, mae'n fater i'r undeb myfyrwyr ei hunan wneud penderfyniad ar hyn, ond dwi yn meddwl ei bod hi'n werth nodi bod Bangor ar y blaen, bod Aberystwyth ar y blaen, a bod Abertawe ar y blaen yn y maes yma. Hefyd, mae'n werth nodi bod mwy o siaradwyr Cymraeg yn mynd i Brifysgol Caerdydd nag sydd i'r holl brifysgolion eraill. Felly, dwi yn meddwl ei bod hi'n bwysig eu bod nhw yn ystyried o ddifrif yr hyn sy'n digwydd. Gwnes i dderbyn gohebiaeth ar y mater yma ddydd Llun, a nawr rydych chi wedi dweud bod yna frys, mi edrychaf i arni.

Gwych. Diolch yn fawr iawn. Dwi'n falch bod yna gonsensws ar y mater yma a dwi wir yn gobeithio y bydd y mater yn cael ei ddatrys yn gadarnhaol. Dwi yn dymuno'n dda i'r myfyrwyr, y rheini sydd yn ceisio gwthio'r maen i'r wal efo hyn.

Dwi am droi at faes arall rŵan. Nos Lun, fe gyhoeddodd Comisiynydd y Gymraeg adroddiad yn dyfarnu bod gweithwyr mewn ffatri yn Rhydaman wedi'u hatal rhag siarad Cymraeg yn y gwaith. Mae'n peri loes calon imi glywed am weithwyr yn eu dagrau wrth iddyn nhw gael eu rhwystro rhag siarad eu mamiaith, pa bynnag iaith fo honno. Yng ngeiriau Aled Roberts:

'Mae'n siomedig na all cwmni rhyngwladol yn yr unfed ganrif ar hugain weld rhinweddau gweithlu amrywiol ei iaith lle caiff yr iaith Gymraeg ei defnyddio yn gwbl naturiol.'

Yn ôl adroddiad blynyddol diweddaraf y comisiynydd, mae'r achos hwn yn rhan o duedd ehangach o gynnydd yn nifer yr achosion am honiadau o ymyrraeth â rhyddid unigolion yng Nghymru i gyfathrebu â’i gilydd yn y Gymraeg. Pa gamau penodol fyddwch chi'n eu cymryd i ymateb i'r cynnydd cwbl annerbyniol yma mewn achosion tebyg i'r un sydd wedi codi yn Rhydaman?

Wrth gwrs, roeddwn i'n siomedig iawn i weld beth sydd wedi bod yn digwydd yn y ffatri yma yn Rhydaman. Dwi'n meddwl nad yw hi jest yn ymwneud â'r iaith Gymraeg; mae'n ymwneud â'r iaith Bwyleg hefyd. Ond dwi yn meddwl y dylem ni fod yn parchu hawliau pobl i siarad iaith, yn arbennig pan mai honno yw'r iaith frodorol yn ein gwlad. Wrth gwrs, mae angen inni sicrhau bod pobl yn ymwybodol bod hawliau gan bobl yn y wlad yma. Ddylem ni ddim bod yn ymyrryd â hawl pobl i siarad yn y gweithle, ac wrth gwrs byddaf i'n cael trafodion ymhellach gyda'r comisiynydd ynglŷn â beth ymhellach y gall ei wneud i godi ymwybyddiaeth, yn arbennig ym maes busnesau preifat, lle mae peth o'r problemau yma'n digwydd.

Mae'n amlwg imi—a dwi'n gwybod eich bod chi'n anghytuno â hyn—bod achosion fel hyn yn golygu bod yn rhaid inni edrych eto ar ddeddfwriaeth yn ymwneud â'r Gymraeg yn y sector breifat.

Un maes lle mae'r ddeddfwriaeth bresennol yn caniatáu ichi weithredu heddiw i hybu gweithluoedd lle gall y staff weithio yn Gymraeg ac i warchod eu hawliau i ddefnyddio'r Gymraeg yn ddirwystr ydy yn y gweithle cymdeithasau tai. Mi fyddwch chi'n ymwybodol fy mod i wedi codi sefyllfa Cartrefi Cymunedol Gwynedd efo chi droeon o'r blaen. Mae gan y corff yma gynllun iaith ac mae wedi ymrwymo i gynnal gweinyddiaeth fewnol Gymraeg ac addo hefyd y bydd unrhyw aelod o staff yn gallu cyfathrebu yn y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cefnogi'r polisi sydd yn y cynllun. Ond eto, mae Adra—Cartrefi Cymunedol Gwynedd gynt—unwaith eto yn recriwtio ar gyfer swydd reoli heb bod sgiliau Cymraeg yn hanfodol. Y gwir amdani ydy nad oes yna ddim oll y gellir ei wneud i ddal y corff yma’n atebol oherwydd nad oes yna safonau wedi’u gosod ym maes cymdeithasau tai. Mae’r rheoliadau drafft yn hel llwch yn eich drôr chi. Pryd fyddwch chi’n cyflwyno'r safonau ar gyfer cymdeithasau tai?

14:30

Wel, does dim amcanion gyda ni i ddod â deddfwriaeth ymlaen ynglŷn â'r sector preifat. Ond mae yna gynlluniau gyda ni i ddod ymlaen â rheolau ar gyfer y sector dŵr, a byddwn ni'n gwneud hynny yn y flwyddyn newydd, yn ogystal â'r rheini ar gyfer rhai o'r cyrff sy'n ymwneud ag iechyd. O ran y cymdeithasau tai, dwi'n meddwl, ar hyn o bryd, ei bod hi i fyny iddyn nhw benderfynu beth yw eu blaenoriaethau nhw. Mae sgiliau gwahanol yn hanfodol ar gyfer y gwaith yma, a dwi yn meddwl efallai ei bod hi'n bwysig eu bod nhw yn ystyried beth yw'r sgiliau hanfodol sydd yn fwyaf pwysig iddyn nhw. Efallai fod yna sgiliau technegol sydd yn angenrheidiol a bod y rheini yn cyfrif yn fwy pwysig iddyn nhw. Felly, dwi yn meddwl ei bod hi'n ofynnol iddyn nhw wneud penderfyniad ar beth yw eu blaenoriaethau nhw yn y maes yma.

Diolch, Lywydd. Weinidog, a wnewch chi roi'r newyddion diweddaraf i ni am yr amserlen ar gyfer cyhoeddi strategaeth ryngwladol Llywodraeth Cymru, os gwelwch yn dda?

Gwnaf. Yng ngoleuni'r etholiad cyffredinol, a'r ffaith ein bod wedi cael rhywfaint o gyfarwyddyd gan y gwasanaeth sifil y byddai hyn yn cael effaith oherwydd y cysylltiad â'r Swyddfa Dramor, fe wnaethant awgrymu y dylem ohirio cyhoeddi'r strategaeth ryngwladol. Ond gobeithiwn y bydd yn dod allan yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

Credaf fod hwnnw'n ateb anhygoel o siomedig, os caf ddweud, Weinidog. Rydych wedi bod yn Weinidog cysylltiadau rhyngwladol ers bron i 12 mis bellach. Cymerodd fwy na saith mis i chi gynhyrchu strategaeth ddrafft ar gyfer ymgynghori, ac rydych yn dweud wrthym yn awr eich bod am ohirio cyhoeddi'r strategaeth derfynol tan y flwyddyn newydd. Rydych yn dweud mai'r etholiad cyffredinol yw'r rheswm am hynny, ac eto rydym wedi gweld cyhoeddiadau gan aelodau eraill o Lywodraeth Cymru ar faterion sydd, a dweud y gwir, heb eu datganoli o gwbl, fel band eang yr wythnos diwethaf, ac eto rydych yn dweud na allwch gyhoeddi eich strategaeth ryngwladol eich hun ac felly na allwn eich dwyn i gyfrif am eich cyflawniad yn erbyn y blaenoriaethau a nodwyd gennych. Nawr, os na allwch rannu'r strategaeth gyda ni ar hyn o bryd, efallai y gallwch ddweud wrthym beth yw eich syniadau cyfredol fel Llywodraeth Cymru ynglŷn â'r ymgysylltiad y bwriadwch ei gael yn y dyfodol gyda gwledydd sy'n datblygu ar draws y byd.

Diolch. Wel, nid yw ein gwaith ar y strategaeth a'r hyn a wnawn yn yr arena ryngwladol wedi dod i ben. Rydym yn weithgar iawn mewn llawer o wahanol feysydd. Ac os edrychwch ar yr hyn a gyflawnwyd gennym yn Japan yn unig, credaf y bydd hynny'n rhoi enghraifft i chi o sut rydym yn estyn allan y tu hwnt i Gymru ac yn sicrhau ein bod yn manteisio ar sefyllfaoedd. Rydym yn falch iawn y bydd Cymru'n mynd i bencampwriaeth Ewrop yn awr, a bydd hynny'n rhoi cyfle arall inni godi ein proffil yn rhyngwladol hefyd.

Y peth allweddol sydd bwysicaf i mi yw nad mater sy'n ymwneud yn unig â chynllun cysylltiadau rhyngwladol y Llywodraeth yw hwn; mae'n rhaid iddo ymwneud â phawb yn ymrwymo gymaint â phosibl i hyn fel y gallwn godi ein llais yn uchel dramor. Ac er mwyn gwneud hynny, yr hyn sy'n hanfodol yw sicrhau ein bod yn ymgysylltu'n iawn wrth ddatblygu'r strategaeth. Rydym wedi cael dros 110 o ymatebion mewn perthynas â'n strategaeth ddrafft ac rydym wedi eu prosesu bellach. Erbyn yfory, neu ddiwedd yr wythnos hon, byddwn yn cyhoeddi beth yw'r ymatebion hynny. Ond mae'r ymgysylltiad hwnnw'n gwbl hanfodol, ac mae ymgysylltu â gwledydd sy'n datblygu yn enwedig yn rhywbeth rydym eisoes wedi'i wneud mewn perthynas â phrosiect Cymru o Blaid Affrica. Ond hefyd, mae llawer iawn o waith arall y credwn y gallem fod yn ei wneud. Ond mae defnyddio ein poblogaeth alltud, fel yr awgrymodd John yn gynharach, yn gyfle inni gysylltu â rhai o'r gwledydd lle rydym yn awyddus i wneud cysylltiadau pellach.

Diolch am eich ymateb. Nid oedd yn canolbwyntio llawer iawn ar yr ymgysylltiad â gwledydd sy'n datblygu, ond o leiaf fe ddywedodd wrthym eich bod yn ceisio mynd i'r afael â phethau, er bod gennych strategaeth i weithio gyda hi. Dywedodd un o'r cyfeiriadau yn eich dogfen ddrafft, ac rwy'n dyfynnu: byddwn,

'yn dangos cyfrifoldeb ar lefel fyd-eang drwy ailfrandio rhaglen lwyddiannus Cymru o blaid Affrica yn rhaglen Cymru ac Affrica gan hoelio sylw ar gynaliadwyedd',

ac nid yw hynny'n swnio'n uchelgeisiol iawn i mi—ailfrandio'r rhaglen honno yn unig. Rydych eisoes wedi clywed Aelodau'r Cynulliad ar bob ochr i'r Siambr hon o bob plaid wleidyddol yn canmol ei llwyddiant y prynhawn yma. Ac rwyf innau hefyd am longyfarch Llywodraeth Cymru ar lwyddiant y rhaglen honno. Credaf ei bod yn rhaglen werthfawr ac ardderchog iawn sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau pobl yn Affrica is-Sahara. Ond mae calon pobl Cymru yn mynd y tu hwnt i Affrica is-Sahara yn unig. Mae llawer o sefydliadau'n ymgysylltu â gwledydd yn y dwyrain pell, yn ne America, yn y dwyrain canol a phob math o leoedd eraill ar draws y byd lle credaf y gallwn, gydag ychydig o gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, chwyddo'r effaith y mae Cymru yn ei chael yn y gwledydd hynny a gwneud gwahaniaeth go iawn.

Ddoe ddiwethaf, mynychais gyflwyniad gan y Pwyllgor Argyfyngau, a ddangosodd yn glir pa mor angerddol yw pobl yng Nghymru a faint y maent yn poeni am y rhannau eraill hyn o'r byd. Roeddent yn sôn wrthym am yr adegau y lansiodd y Pwyllgor Argyfyngau apeliadau yn y gorffennol a chawsom ffigurau ganddynt o ran cyfraniad Cymru i'r rhoddion cyffredinol. Gydag apêl daeargryn Nepal yn ôl ym mis Ebrill 2015, roeddent yn dweud wrthym fod dros £2.5 miliwn wedi'i godi yma yng Nghymru. Mewn ymateb i apêl am yr argyfwng yn Yemen ym mis Rhagfyr 2016, dywedwyd bod dros £1 filiwn wedi'i godi. Roeddent yn dweud bod apêl Myanmar yn 2017 wedi codi dros £842,000, a bod apêl tswnami Indonesia yn 2018 wedi codi dros £871,000. Mae'r rhain yn symiau enfawr o arian, ac mae pob un ohonynt yn llawer mwy—pob un o'r apeliadau hynny, mewn gwirionedd—na chyfanswm cyllideb rhaglen Cymru o Blaid Affrica.

Weinidog, a ydych yn cytuno â mi ei bod yn hen bryd inni gael rhaglen Cymru o blaid y byd, lle gallwn ehangu'r hyn a wnawn, gallwn fod yn fwy cyfrifol yn fyd-eang, a gallwn chwyddo presenoldeb Cymru yn y gwledydd sy'n datblygu a dangos rhywfaint o arweiniad, ie, ar newid hinsawdd, ond hefyd ar drechu tlodi ac ymateb i'r mathau hyn o sefyllfaoedd y mae pobl Cymru yn amlwg iawn yn teimlo'n angerddol yn eu cylch?

14:35

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Mae'n hollol wir, rwy'n credu, fod pobl yng Nghymru'n hael iawn ac yn deall yr angen i gefnogi cymunedau tlotach ledled y byd. Rwy'n siŵr y byddwch yn falch iawn o glywed bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r broses o gydgysylltu gwaith y Pwyllgor Argyfyngau mewn gwirionedd, ac rydym wedi bod yn talu am y gwaith cydgysylltu hwnnw drwy helpu i dalu am weinyddwr. Gwyddom fod y gwaith o gydgysylltu gwahanol elusennau—. Ceir oddeutu 14 o elusennau sy'n dod at ei gilydd, a'r nod yw sicrhau bod cymaint o arian yn dod i mewn cyn gynted â phosibl. Credaf fod hwnnw'n waith gwerthfawr iawn, ac fe fyddwch yn ymwybodol fod y Prif Weinidog bob amser yn gwneud fideo i helpu i'w hyrwyddo hefyd.

Felly, nid oes amheuaeth ynghylch haelioni pobl Cymru, ond y cwestiwn i ni yw: gyda'r gyllideb fach sydd gennym, sut rydym yn gwneud i honno weithio orau? Nawr, gallwn ei gwasgaru i bob rhan o'r byd neu gallwn roi ffocws iddi, a chredaf fod achos i'w wneud dros roi ffocws i'r cyllid hwnnw, a dyna rydym yn cynnig ei wneud. Rydym yn ei ganolbwyntio ar themâu amrywiol—er enghraifft, ar gynaliadwyedd—ond ei ganolbwyntio hefyd ar wledydd lle mae gennym berthynas arbennig o gryf â hwy, yn benodol Lesotho ac Uganda, lle byddwch wedi clywed, yn ddiweddar, ein bod wedi plannu'r deng miliynfed coeden. Felly, credaf fod cyfle inni weithio yno, ond po ehangaf yr awn, y lleiaf o effaith rydym yn debygol o'i chael.

Mae'n ddrwg gennyf, credaf eich bod. Credaf eich bod wedi cael tri. Mae'n dweud yma gennyf eich bod wedi cael tri chwestiwn.

Mae'n ddrwg gennyf, ydych, do. Dyna pam y gadewais i chi fynd yn eich blaen at eich trydydd cwestiwn, gan fy mod yn gwybod nad oeddech yn dod yn ôl. Mae'n ddrwg gennyf.

Cwestiwn 3, Alun Davies.

Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru

3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith strategaeth ryngwladol Llywodraeth Cymru ar Flaenau Gwent? OAQ54725

Diolch. Mae'r strategaeth ryngwladol yn nodi fy mlaenoriaethau i gyflawni uchelgeisiau rhyngwladol Cymru, gan gynnwys tyfu economi Cymru drwy allforion a mewnfuddsoddi a chodi proffil rhyngwladol Cymru. Mae'r ddau uchelgais yn effeithio'n uniongyrchol ar Flaenau Gwent.

14:40

Efallai y gallaf helpu Darren Millar yma drwy barhau â'r ddadl ar y strategaeth ryngwladol—nid wyf yn gwybod. Ond yn sicr, rhaid i ddiben unrhyw strategaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi ar waith gael effaith ar leoedd fel Blaenau Gwent, p'un a yw'n digwydd bod yn strategaeth ryngwladol neu fel arall. A chredaf ei bod yn bwysig fod gan Lywodraeth Cymru weledigaeth, syniad clir iawn, ynglŷn â sut y mae'r strategaeth honno'n mynd i effeithio ar y bobl rwy'n eu cynrychioli. Ac felly, pan fydd y Llywodraeth yn cyhoeddi'r strategaeth hon maes o law, rwy'n gobeithio y bydd ganddi amcanion clir iawn, targedau clir iawn, sy'n ein galluogi i'ch dwyn i gyfrif, Weinidog, ac esboniad hefyd o sut y bydd y gwaith hwn yn cael effaith ar rai cymunedau fel Blaenau Gwent a'r bobl rwy'n eu cynrychioli.

Wel, nid wyf yn siŵr a fyddwn yn manylu i'r graddau hynny ar sut y bydd y strategaeth ryngwladol yn effeithio ar bob cymuned yng Nghymru, ond yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych yw ein bod, yn benodol, wedi clustnodi ac yn mynd i dynnu sylw at rai diwydiannau penodol. Un o'r diwydiannau hynny yw seiberddiogelwch, ac fe fyddwch yn ymwybodol fod y Ganolfan Ecsbloetio Ddigidol Genedlaethol yng Nglynebwy yn rhan allweddol o'r jig-so hwnnw. Rwy'n credu bod cyfleoedd gwirioneddol inni weiddi'n uchel iawn am yr arbenigedd sydd gennym yma yng Nghymru yn barod. Y peth allweddol wedyn yw sicrhau bod y bobl ym Mlaenau Gwent yn gallu elwa o hynny, a dyna pam fod y berthynas hon, yn fy marn i, â'r ganolfan addysg ddigidol mor hanfodol, er mwyn sicrhau bod pobl leol yn gallu manteisio pan welwn yr ehangu hwnnw. Ond ceir pethau eraill hefyd y mae'n rhaid inni fod yn ymwybodol ohonynt. Mae Blaenau Gwent yn un o'n mannau pwysicaf o ran allforio. Mae'n anhygoel faint o gwmnïau o Flaenau Gwent sy'n allforio dramor, ac wrth gwrs, drws nesaf i chi, mae gennych safle treftadaeth y byd UNESCO, a chredaf fod hwnnw'n gyfle arall inni annog pobl i ddod i Gymoedd de Cymru i weld yr hyn sydd gennym i'w gynnig o ran twristiaeth.

Weinidog, un o nodau'r strategaeth ryngwladol yw codi proffil rhyngwladol Cymru. Gwyddoch fod Gemau'r Gymanwlad yn dod yn 2022, a bydd mwy na 250 o ddigwyddiadau a mwy na 18 o wahanol chwaraeon, gyda mwy na 5,000 o athletwyr yn dod o 71 gwlad ledled y byd. Bydd hyn yn rhoi hwb mawr i Birmingham, sy'n agos iawn at ogledd Cymru, ond mae rhai digwyddiadau chwaraeon ar gyfer de-ddwyrain Cymru, yn enwedig Blaenau Gwent, fel rhwyfo, beicio, saethu, saethyddiaeth a hoci—gellir trefnu'r rhain, ambell gêm, a byddant yn dod â'r gymuned ryngwladol i Gymru i hybu ein heconomi a'n proffil. Felly, a gaf fi ofyn pa drafodaethau diweddar a gynhaliwyd rhyngoch chi a swyddogion o'r ochr arall i'r ffin ynghylch Gemau'r Gymanwlad—a bydd yn bendant yn codi ein proffil ac yn rhoi hwb—ac a allwch ddweud wrth y Cynulliad hwn faint o chwaraeon rydych yn ceisio eu denu i Gymru i hybu ein heconomi, yn enwedig yn ne-ddwyrain Cymru? Diolch.

Diolch. Wel, rwyf wedi cyfarfod â threfnwyr Gemau'r Gymanwlad, a chredaf fod pawb yn dechrau teimlo cyffro erbyn hyn fod rhywbeth arwyddocaol iawn yn digwydd cyn bo hir. Yr hyn y buom yn ei drafod oedd i ba raddau y gallwn ni yng Nghymru fanteisio ar y cyfleoedd hynny. Un o'r pethau rydym yn eu trafod, er enghraifft, yw a allwn sicrhau bod rhai o'r timau sy'n dod i gystadlu yn cael eu lleoli yma yng Nghymru. Felly, mae honno'n drafodaeth lle rydym yn archwilio sut y gallwn ei symud yn ei blaen. Y peth arall i'w nodi yw bod yr Urdd bellach wedi eu partneru'n swyddogol fel y grŵp o Gymru a fydd yn sefyll gyda thîm Cymru—Mr Urdd fydd eu logo swyddogol, i hyrwyddo tîm Cymru. Felly, credaf fod llawer iawn o waith yn mynd rhagddo eisoes, rwy'n falch o ddweud, mewn perthynas â Gemau'r Gymanwlad.

Fe gyfeirioch chi at yr Urdd yn y fan yna. Mi fyddwch chi'n ymwybodol iawn o'r gwaith rhagorol mae'r Urdd yn ei wneud, a'r uchelgais sydd gan yr Urdd i ehangu ei waith yn rhyngwladol, a fyddai'n rhoi platfform i blant Blaenau Gwent a gweddill Cymru yn rhyngwladol, ac i rannu gwerthoedd Cymru rownd y byd, er enghraifft drwy y neges ewyllys da. Mi fûm i'n trafod rhai o'r syniadau yma efo cynrychiolwyr yr Urdd y bore yma. Ond a wnewch chi roi ystyriaeth i sut i gefnogi'r cynlluniau yma fel rhan o'ch strategaeth chi, yn cynnwys y posibilrwydd o roi cyllid yn benodol i weithio ar y strategaethau rhyngwladol yma o waith yr Urdd?

14:45

Dwi yn meddwl bod yr Urdd yn fudiad sydd wedi gwneud gwaith arbennig dros y blynyddoedd yn rhyngwladol, yn arbennig y neges heddwch yna. Dwi yn meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n gwneud mwy o hynny. Mae'r ffaith bod yr Urdd wedi bod yn ddiweddar i Alabama i ddweud y neges a rhoi'r neges ynglŷn â sut roedd Cymru wedi sefyll gyda'r bobl yna yn ystod y problemau yna o ran sut roedd pobl yn delio â materion oedd yn mynd ymlaen yn y 1960au a'r 1970au yn yr ardal yna. Wrth gwrs, rŷn ni'n cael trafodaethau gyda'r Urdd ynglŷn â sut rŷn ni'n gallu eu helpu nhw yn y dyfodol i gryfhau eu neges ac i roi'r neges drosom ni. Dwi yn gwybod ei fod e'n rhan o'u strategaeth nhw i wneud lot mwy yn rhyngwladol, ac mae'n amlwg y dylem ni fod yn bartneriaid cryf gyda nhw. Mi wnawn ni edrych ar fanylion sut bydd hynny'n digwydd yn ariannol yn nes ymlaen.

Archif Genedlaethol Cymru

4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygu Archif Genedlaethol Cymru? OAQ54693

Diolch yn fawr iawn, Janet. Mae bob amser yn bleser ateb cwestiynau gan fy Aelod Cynulliad.

Cynhaliwyd astudiaeth ddichonoldeb sy'n archwilio nifer o fodelau posibl ar gyfer archif genedlaethol i Gymru. Bydd yr astudiaeth hon a'r camau nesaf yn cael eu cyhoeddi ar ôl cyfnod etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig.

Diolch, Weinidog. Wrth gwrs, mae cofnodion archifol cyrff cofnodion cyhoeddus dynodedig yng Nghymru naill ai'n cael eu trosglwyddo i'r Archifau Gwladol i'w cadw neu'n cael eu cadw yng Nghymru mewn mannau adneuo lleol cymeradwy. Mae nifer o gofnodion Llywodraeth Cymru yn cael eu cadw yn Kew, megis cofnodion bwrdd a phapurau Awdurdod Datblygu Cymru, Bwrdd Croeso Cymru ac Awdurdod Tir Cymru. Nawr, gan fod y rhain yn ymwneud yn uniongyrchol â materion datganoli, mae rhai pobl yn ei hystyried yn drueni mawr nad yw dogfennau o'r fath yn cael eu cadw yma yng Nghymru.

Mae'n gyfreithiol bosibl creu swyddfa gofnodion cyhoeddus genedlaethol yng Nghymru, ac rwy'n derbyn yn llwyr y bydd goblygiadau o ran adnoddau. Fe sonioch chi wrthyf ym mis Medi fod astudiaeth gychwynnol i archwilio dichonoldeb creu archif genedlaethol i Gymru yn cael ei chwblhau ar hyn o bryd. Hoffwn ddatgan ar goedd fy nghefnogaeth i'r fenter hon wrth symud ymlaen, ac rwy'n deall y sefyllfa rydych ynddi o ran yr etholiad. Fodd bynnag, tybed a gafwyd unrhyw syniadau ynghylch lleoedd penodol yng Nghymru sy'n cael eu hystyried ar gyfer rhoi'r archif genedlaethol hon ar waith, a lle gallai'r lleoedd hynny fod.

Mae'n ddrwg gennyf eich siomi, ond nid oes gennyf uchelgais bersonol i greu mwy o sefydliadau cenedlaethol yn ystod y cyfnod sy'n weddill gennyf fel Gweinidog, ond yn wir, fe arhosaf am yr adroddiad sydd ar ei ffordd o law'r ymgynghorwyr. Comisiynwyd yr astudiaeth ddichonoldeb gan Elizabeth Oxborrow-Cowan Associates, sy'n fedrus ac yn wybodus iawn yn y maes hwn. Mae'r gwaith wedi cynnwys arfarnu opsiynau i ystyried y model gwasanaeth mwyaf priodol, gan y credaf ei bod yn bwysig iawn, wrth inni edrych ar wasanaethau cenedlaethol i Gymru, na ddylent ddyblygu'r hyn sy'n digwydd mewn gwledydd eraill o reidrwydd, ond y dylid eu teilwra i'r hyn sy'n addas i'r wlad. Cafwyd adolygiad cynhwysfawr o ddeddfwriaeth a systemau cofnodion cyhoeddus cyfredol, dadansoddiad o fodelau archifau cenedlaethol, gwaith proffilio'r ddarpariaeth archifol gyfredol a thrafodaethau difrifol. Fel rydych yn ei ddweud yn gwbl gywir, roedd Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn darparu'r fframwaith cyfreithiol, ond fel y dywedaf, fy mwriad yw aros i'r adroddiad gael ei gyhoeddi, ond ni allaf nodi pryd y gallai hynny ddigwydd. Ond fel y dywedaf, nid yw'n un o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd, er ei bod yn ddiddorol nodi ei bod, yn ôl pob golwg, yn un o flaenoriaethau'r wrthblaid swyddogol. Felly, cawn weld a ellir dod i gytundeb ar hyn o beth.

Niferoedd Twristiaid

5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu nifer y twristiaid sy'n ymweld â Chymoedd De Cymru? OAQ54701

Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn. Un o fy mlaenoriaethau wrth gefnogi twristiaeth—. Nid wyf byth yn siŵr pa ffordd i edrych. [Chwerthin.] Rwyf i fod i annerch y Dirprwy Lywydd, os gwnewch chi oddef fy nghefn am funud.

Un o fy mlaenoriaethau yw cefnogi twristiaeth ledled Cymru drwy farchnata, cyllid datblygu cyfalaf ar gyfer busnesau twristiaeth newydd a phresennol a chyllid refeniw ar gyfer prosiectau rhanbarthol. Ers 2014, mae buddsoddiad twristiaeth wedi darparu wyth pecyn cyllid yng Nghymoedd de Cymru, sef cyfanswm o £3.7 miliwn, gan arwain at fuddsoddiad o £11.3 miliwn.

14:50

Diolch am eich ateb manwl, Ddirprwy Weinidog. Y mis diwethaf, cafwyd cyhoeddiad calonogol iawn eich bod chi, ynghyd â'ch cyd-Weinidogion, wedi cytuno gyda'ch gilydd i ariannu Sustrans i arwain cais partneriaeth ar gyfer casglu cyllid allanol ynghyd ar gyfer ailagor a gweithredu twneli Aber-nant a'r Rhondda. Fel rwyf wedi'i ddweud o'r blaen, credaf y gallai ailagor y twneli hynny roi hwb sylweddol i dreftadaeth a thwristiaeth feicio yn enwedig. Buaswn yn croesawu eich barn ar hyn a'ch syniadau ynglŷn â pha gamau y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau cymaint o botensial twristiaeth â phosibl pe bai'r twneli hynny'n ailagor.

Wel, fel mae'n digwydd, mae'r ddau adroddiad perthnasol gennyf yma: yr un ar astudiaeth de-ddwyrain Cymru o dwnnel y Rhondda, ac wrth gwrs, yr un sy'n cyfeirio at yr astudiaeth gwmpasu ar gyfer y rhwydwaith beicio cenedlaethol gan ddefnyddio twneli rheilffordd. Byddai twnnel Aber-nant yn darparu cyswllt rhwng cymoedd Aberdâr a Merthyr Tudful; twnnel y Rhondda rhwng Cwm Afan a Chwm Rhondda; twnnel Pennar rhwng Pontllan-fraith a Threcelyn; ac mae posibiliadau gyda thwnnel Brynbuga, sef llwybr hen reilffordd a fyddai'n osgoi ffordd brysur.

Yr hyn rwyf wedi'i wneud yw gofyn i Sustrans arwain gwaith partneriaeth, a ariannwyd gennym yn rhannol, i archwilio'r potensial i ddod â thwneli allweddol yn ôl i ddefnydd. Rwy'n llawn cyffro ynghylch yr hyn sydd wedi digwydd yng Nghaerfaddon a'r cynllun dau dwnnel, sydd hefyd yn yr achos hwnnw'n cynnwys traphont ddŵr. Bydd yr astudiaeth yn adeiladu ar y gwaith a wnaed gan Lywodraeth Cymru yn 2015 a’r gwaith y mae awdurdodau lleol wedi’i wneud ar y rhwydwaith teithio llesol. Bydd astudiaeth Sustrans yn gwahodd rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys Cymdeithas Twnnel y Rhondda, i fod yn rhan o'r bartneriaeth i fwrw ymlaen â hyn.

Credaf y dylai agor twneli at ddefnydd cyhoeddus pellach, yn enwedig ar gyfer beicio, heicio, cerdded a gweithgareddau eraill—er nad i drafnidiaeth fodurol yn amlwg, ac nid er mwyn dod â threnau yn ôl, neu ddim eto, o leiaf—fod yn rhan o swyddogaeth yr adran dwristiaeth.

Weinidog, gan droi at yr awyr, gwyddom na fydd weiren wib yn cael ei gosod ar draws Bae Caerdydd, ond mae Zip World—gwn eich bod yn gwerthfawrogi eu gwasanaethau, maent yn gwneud cymaint yn eich rhan chi o Gymru—wedi edrych ar safle glofa'r Tŵr yn Hirwaun. Ceir safleoedd gwych eraill yn y Cymoedd uwch hefyd lle gellir gosod weiren wib. Oni fyddai’n wych pe gallem agor un a gwahodd brenin y weiren wib, Boris Johnson, i ddod i’w hagor? [Chwerthin.]

Ni allaf ateb cwestiynau a fyddai’n fy arwain i gyfeirio at etholiad cyfredol San Steffan. Rwy'n teimlo'n arbennig o analluog i wneud hyn, wrth gwrs, gan mai un o arglwyddi'r deyrnas wyf fi ac ni chaf bleidleisio yn yr etholiad. Ond dylwn ddatgan buddiant personol hefyd, neu fuddiant cymdogaethol, er nad yw'n fuddiant ariannol, yn Zip World ac yn y buddsoddiadau a wnaed gan fy ffrind a fy nghymydog dros y bryn yn Nant-y-Rhiw yn nyffryn Conwy, Sean Taylor.

Yn wir, rwyf wedi clywed gan yr awdurdod lleol, Rhondda Cynon Taf, a chanddo ef, ei fod wedi ymweld â'r ardal a bod ganddo gryn ddiddordeb mewn buddsoddi mewn weiren wib yn y Cymoedd. Edrychaf ymlaen at weld y prosiect hwnnw'n cael ei gyflwyno. Ni chredaf y gallaf wneud sylwadau pellach ar ei rinweddau. Yn y gorffennol, nid yw wedi gofyn am arian gan fy adran ar gyfer ei fuddsoddiad, o leiaf nid ar raddfa fawr, ond ni allaf wneud sylwadau pellach ar hyn, oherwydd yn amlwg, mae materion cynllunio ynghlwm wrtho.

Ond mae cyflawniad Zip World yn y gogledd wedi trawsnewid yr economi ymwelwyr ac wedi pwysleisio pa mor ddeniadol yw Cymru a'i thirwedd. A gallaf ddweud fy mod wedi anfon fy nghyfarwyddwr cyffredinol yn yr adran dwristiaeth, y cyfryngau a chwaraeon i brofi'r weiren wib ar fy rhan, ac os caf ei enwi yn y Siambr hon, fe wnaeth Mr Jason Thomas hynny gydag urddas.

14:55

Mae gan y Rhondda botensial anhygoel o safbwynt twristiaeth, yn enwedig mewn perthynas â beicio. Mae gennym rai o'r dringfeydd gorau a mwyaf prydferth yn y DU. Er enghraifft, mae enillydd y Tour de France, Geraint Thomas, a'i gyd-aelod o'i dîm, Luke Rowe, yn defnyddio dolen Bwlch-Rhigos yn aml i hyfforddi. Cynhyrchais y ddogfen hon yn gynharach eleni, ar y cyd â Sustrans, ac mae'n archwilio'r ffyrdd y gallem gymell beicio yn y Rhondda, nid yn unig i dwristiaid, ond i bobl leol sydd am deithio ar ddwy olwyn am ba reswm bynnag.

Mae seilwaith beicio gwael yn rhwystr mawr. Mewn rhai lleoedd yn y Rhondda, nid yw'n ddiogel teithio i fyny ac i lawr y Rhondda, ac mae'n rhaid gwella hyn, yn enwedig os ydym am wireddu prosiect twnnel y Rhondda, sydd â photensial anhygoel i ddenu twristiaid i'r ardal. Croesawaf yr hyn a ddywedoch chi am dwnnel y Rhondda, ond a allwch ddweud wrthym pa gyllideb a fydd ar gael, a phryd y bydd ar gael, i wella’r llwybrau sy’n arwain at dwnnel y Rhondda, gan fod angen y buddsoddiad hwnnw arnom er mwyn gwneud prosiect twnnel y Rhondda yn hyfyw?

Ni allaf roi ffigurau i chi ar hynny o'r briff sydd gennyf o fy mlaen heddiw, ond fe edrychaf ar hynny. Ond rwyf am ddweud hefyd fod angen i unrhyw waith cysylltiedig fod yn rhan o astudiaeth ddichonoldeb mewn perthynas â datblygu'r twnnel, gan nad yw'n gwneud synnwyr agor twnnel a pheidio â sicrhau bod y mynediad iddo ar y ddwy ochr yn golygu ei fod yn rhan o'r rhwydwaith beicio cenedlaethol.

Castell Rhiw'r Perrai

6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i adfer Castell Rhiw'r Perrai ger Draethen? OAQ54699

Credaf ein bod yn mynd yno'r wythnos hon, onid ydym, neu'r wythnos nesaf? [Torri ar draws.] Rwy'n credu.

Dwi wedi darparu'r ateb yna yn Gymraeg. Dwi'n gwybod dy fod di'n ddysgwr.

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwaith cadwraeth ar safleoedd hanesyddol sy’n bwysig i Gymru, fel castell Rhiw’r Perrai. 

A yw hynny'n iawn? Ruperra—Rhiw'r Perrai. Wel, dyna mae fy nghynghorwyr ysgolheigaidd yn ei ddweud.

Mae Cadw wedi darparu cymorth hirdymor i’r castell dros gyfnod o flynyddoedd drwy grantiau ariannol a chyngor proffesiynol.

Roedd hynny'n brawf ar fy Nghymraeg. Os ydych am ateb yn Gymraeg yn awr, rwyf am wisgo fy nghlustffonau.

Roeddwn yn deall eich bod yn ymweld yr wythnos hon, ond yr wythnos nesaf y byddwch yn ymweld â chastell Rhiw'r Perrai. Yn eu cyflwyniad i'r ymgynghoriad cyhoeddus ar y fframwaith datblygu cenedlaethol drafft, cefnogodd Ymddiriedolaeth Gadwraeth Castell Rhiw'r Perrai, y cyfarfûm â hwy yr wythnos diwethaf, y syniad o sefydlu llain las ar gyfer de-ddwyrain Cymru, ac awgrymasant y dylai gynnwys mynydd Caerffili, Afon Taf tua'r dwyrain hyd at Goed Craig Rhiw'r Perrai ac i'r de hyd at Gas-bach hefyd, ac nid yw hynny'n wir ar hyn o bryd. Oni bai fod yr holl dir hwn yn cael ei ychwanegu at y llain las bresennol, maent yn pryderu, rhwng Caerdydd a Chasnewydd, os na cheir unrhyw amddiffyniad, fod perygl gwirioneddol y bydd datblygwyr yn cymryd yr ardal honno ac yn adeiladu arni, a bydd hynny'n difetha unrhyw obaith o warchod castell Rhiw'r Perrai a'r tir o'i gwmpas.

Mae'r ymddiriedolaeth a'i chwaer sefydliad, Ymddiriedolaeth Gadwraeth Rhiw'r Perrai, hefyd wedi gwrthwynebu cynlluniau i gyflawni gwaith atgyweirio tameidiog i wahanol rannau o'r ystâd heb fantais uwchgynllun ehangach. Ac rwyf wedi mynegi fy ngwrthwynebiad wrth Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar y ddwy sail ac wedi cyfrannu at yr ymgynghoriad ar y fframwaith datblygu cenedlaethol. Gyda hynny mewn golwg, a wnaiff y Gweinidog ystyried y pryderon hyn wrth ymweld â chastell Rhiw'r Perrai, ac a wnaiff adrodd yn ôl wedyn ar sut aeth y drafodaeth yn ystod yr ymweliad? Ac a all amlinellu'r hyn y mae'n bwriadu ei gyflawni ar yr ymweliad hwnnw, a sut y bydd yn cyfleu'r neges ynghylch y materion a nodais o bob rhan o'r Llywodraeth i'r bobl y mae'n eu cyfarfod yn Rhiw'r Perrai ar adeg y cyfarfod?

Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn manwl. Byddaf yn sicr yn ymrwymo i ystyried y castell yn ei gyd-destun ac fel rhan o'r dirwedd, neu'r treflun, gan nad yw adeiladau hanesyddol yn bodoli ar eu pen eu hunain. Maent bob amser yn bodoli mewn perthynas â'r amgylchedd naturiol neu'r amgylchedd adeiledig o'u cwmpas, ac felly mae cyfrifoldeb gan Cadw, ac rydym bob amser yn dweud, 'Rydym yn statudol.' Ni ddylwn ddweud 'rydym', a dweud y gwir, gan mai fi yw'r Gweinidog ar gyfer Cadw, ond mae'n un o fy hoff sefydliadau yn y byd ac roedd hynny'n wir cyn i mi gael y swydd hon hefyd. [Chwerthin.] Felly, mae Cadw yn ymateb i unrhyw ymgynghoriad statudol, a byddant yn nodi'r amddiffyniad i'r heneb os caiff ei heffeithio'n andwyol gan ddatblygiad allanol.

Ni allaf wneud sylwadau ar y materion cynllunio ehangach, sy'n fater i'r Gweinidog cynllunio, wrth gwrs, ond wrth ystyried materion cynllunio, mae'n rhaid i ni yn y Llywodraeth fabwysiadu ymagwedd integredig ac rydym yn mabwysiadu ymagwedd integredig iawn, fel bod yr holl ffactorau sy'n codi o ddatblygiad arfaethedig, a sut y maent yn effeithio ar yr adeiladau sy'n bodoli'n barod, yn rhywbeth a fyddai’n cael ei ystyried. Wrth gwrs, buaswn yn disgwyl y byddai unrhyw ddatblygiad mawr mewn ardal o'r fath yn debygol o fod yn destun proses gynllunio a allai alw am ymchwiliad cyhoeddus, ac o bosibl, adroddiad gan arolygydd, ond ni allaf ddyfalu ynglŷn â hynny, a byddai hynny'n rhoi cyfle i'r cyhoedd a chithau, wrth gwrs, fel eu cynrychiolydd, wneud sylwadau grymus am y datblygiad.

15:00
Trafodaethau Masnach

7. Pa gynnydd sy'n cael ei wneud o ran cynhyrchu concordat rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch trafodaethau masnach yn y dyfodol? OAQ54722

Rwy'n ofni bod cynnydd ar goncordat ar gyfer masnach, a pheiriannau rhynglywodraethol cysylltiedig, wedi cael ei ohirio oherwydd yr etholiad cyffredinol.

Mae honno'n sefyllfa siomedig iawn, Weinidog, oherwydd, yn amlwg, rydym yn deall yn iawn fod Llywodraeth y DU fel pe bai'n credu bod negodiadau masnach yn fater a gedwir yn ôl, ac na fydd y cenhedloedd datganoledig yn cymryd rhan yn y negodiadau hynny. Nid yw'n ymwneud â'r negodiadau o reidrwydd, ond bydd gosod yr agenda ar gyfer y negodiadau hynny'n hollbwysig. Rwy'n credu ei bod yn bwysig fod Llywodraeth Cymru yn cael mewnbwn ar ryw bwynt ar y cam hwnnw, oherwydd gwyddom y bydd gweithredu negodiadau masnach—bydd y cymwyseddau datganoledig yma.

Mae pawb yn sôn am y gwasanaeth iechyd gwladol a goblygiadau cytundeb masnach rhwng y DU ac UDA mewn perthynas â'r gwasanaeth iechyd gwladol, ond mae llawer o negodiadau masnach eraill yn mynd rhagddynt. O ran yr un gyda Corea, mae'n bosibl y byddwn eisiau siarad am y sefyllfaoedd hawliau dynol mewn gwledydd rydym eisiau cael cytundeb masnach â hwy, ac a yw hynny'n briodol yn dibynnu ar eu statws hawliau dynol a'u profiad.

Felly, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, mewn gwirionedd, i ddylanwadu ar unrhyw negodiadau masnach yn y dyfodol ac i fod wedi'i chynnwys ar y camau cynnar i osod y mandadau ar gyfer y negodiadau er mwyn i Gymru elwa ar fanteision y negodiadau, ac i sicrhau bod buddiannau Llywodraeth Cymru yn cael eu cynnwys mewn unrhyw gytundeb masnach hefyd?

Rydym wedi dweud yn glir iawn wrth Lywodraeth y DU ei bod yn hanfodol ein bod yn rhan o unrhyw negodiadau masnach. Mae'r Ysgrifennydd Gwladol wedi cytuno i sefydlu fforwm cyd-weinidogol ar fasnach. Y broblem yw, bob tro rydym yn dechrau ar hyn yma, mae yna newid, ac mae'r personél yn newid. Felly, rydym yn datblygu perthynas gyda'r Gweinidog perthnasol, rydym yn gwneud llawer o waith, yna rydym wedi cael Prif Weinidog newydd ac yn awr mae gennym etholiad cyffredinol, felly mae'n rhaid i ni ddechrau o'r dechrau eto. Mae'n sefyllfa wirioneddol rwystredig.

Yn y gorffennol, rydym wedi cael rhywfaint o sicrwydd y byddwn yn rhan o'r broses o ddatblygu safbwyntiau negodi. Mae yna gydnabyddiaeth, rwy'n credu, fod yn rhaid i ni gymryd rhan mewn meysydd lle mae gennym gyfrifoldeb datganoledig, neu fel arall, byddant yn llofnodi cytundebau masnach, o bosibl, a byddwn yn gyfrifol am weithredu cytundebau masnach nad ydym yn cytuno â hwy. Yn sicr, mewn perthynas â'r GIG, er enghraifft, rydym yn gwbl glir nad ydym eisiau i gwmnïau fferyllol o America gael mynediad at ein marchnadoedd.

Felly, yn syth ar ôl yr etholiad cyffredinol, rwy'n credu ei bod yn hanfodol inni bwyso am gynnydd pellach. Rydym wedi mynd mor bell ag y gallwn, rwy'n credu, o ran creu perthynas ddwyochrog, ond mae angen sefydlu'r peirianwaith yn awr fel y gallwn symud ymlaen a bod yn barod ar gyfer y negodiadau masnach hynny cyn iddynt ddechrau siarad â gwledydd eraill.

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad

Eitem 3 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad. Bydd yr holl gwestiynau y prynhawn yma'n cael eu hateb gan y Llywydd. Cwestiwn 1—Neil McEvoy.

Chwiliadau Diogelwch

1. A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y chwiliadau diogelwch ar ystâd y Cynulliad? OAQ54721

Wedi i'r Comisiwn ddod yn ymwybodol bod sgyrsiau preifat a chyfrinachol wedi'u recordio ar ystâd y Cynulliad, cynhaliwyd chwiliadau diogelwch ar draws yr ystâd i sicrhau nad oes unrhyw ddyfeisiadau recordio cudd o'r fath yn dal i fod yn bresennol. Bu'n rhaid inni gymryd y cam hwn i roi sicrwydd i Aelodau’r Cynulliad a'u staff, staff Comisiwn y Cynulliad, staff Llywodraeth Cymru, defnyddwyr eraill yr ystâd ac aelodau’r cyhoedd y gallent fod yn hyderus eu bod yn sgwrsio mewn amgylchedd diogel, heb fod angen ofni bod rhywun yn clustfeinio ar eu gwaith.

15:05

Dylech fod yn ymwybodol fod Heddlu De Cymru yn cynnal ymchwiliad i'r comisiynydd safonau blaenorol a'i staff am gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus. Byddaf yn rhoi popeth sydd gennyf i Heddlu De Cymru, gan gynnwys tystiolaeth newydd.

Mae'n ddrwg gennyf. Mae hyn yn ymwneud â'r chwiliadau diogelwch ar ystâd y Cynulliad. Ni allwch sôn am bethau sydd eisoes yn cael eu hymchwilio. Felly, byddem yn ddiolchgar os gallwch gadw at y chwiliadau diogelwch ar ystâd y Cynulliad.

Honnir eich bod chi fel Llywydd wedi taro pennau at ei gilydd ac mae'n debyg— [Anghlywadwy.]

Na, na. Mae'n ddrwg gennyf. Na, mae'n ddrwg gennyf, nid yw hynny'n dderbyniol. A allwch chi lynu at eich cwestiwn, sy'n ymwneud â'r chwiliadau diogelwch ar ystâd y Cynulliad? Nid yw'n ymwneud â—

Na. [Anghlywadwy.] Mae'n ddrwg gennyf. Diolch. Mae eich cwestiwn ar y chwiliadau diogelwch ar ystâd y Cynulliad. Mae'r Llywydd yn ateb y cwestiwn hwnnw fel Cadeirydd y Comisiwn. Nid yw ar gyfer unrhyw beth arall ac eithrio'r chwiliadau diogelwch ar ystâd y Cynulliad.

Hoffwn nodi, felly, nad wyf yn cael cyfle i ofyn y cwestiwn rwyf eisiau ei ofyn. Felly, ar fy nhraed yma, fe ofynnaf gwestiwn gwahanol. [Torri ar draws.] Nid wyf yn cael cyfle i wneud cynnydd, gyda phob parch, Ddirprwy Lywydd.

Roeddech yn ddigon parod i gychwyn chwiliadau ar yr ystâd pan oeddech yn ymwybodol iawn mai fy ffôn symudol i'n unig a wnaeth y recordio. Pa gamau eraill a gymerwyd i sicrhau bod o leiaf ychydig bach o onestrwydd yn perthyn i'r broses gwyno? Oherwydd—

Mae'n ddrwg gennyf, Mr McEvoy. Rydych wedi crwydro eto. A wnewch chi gadw at hanfodion y chwiliadau diogelwch ar ystâd y Cynulliad a—? Roeddech yn gwneud yn dda hyd nes i chi symud ymlaen i'r ail ran. Felly, meddyliwch am yr hyn rydych am ei ddweud nesaf.

Lywydd, neu Ddirprwy Lywydd, credaf fod fy nghwestiwn yn un cywir ac y dylid ei ateb. Yr hyn sydd gennym yma, unwaith eto, yw Dirprwy Lywydd yn amddiffyn—[Anghlywadwy.]

Nid wyf am dderbyn hynny. Iawn. Mae eich microffon wedi'i ddiffodd. Ac oherwydd eich bod eisiau cwestiynu hynny, nid wyf am ganiatáu i'r Llywydd—. [Torri ar draws.] Nid oes dim i'r Llywydd ei ateb.

Cwynion Ynghylch Safonau

2. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am y cysylltiad a fu rhwng y Llywydd a’r Prif Weithredwr a Syr Roderick Evans o ran y cwynion ynghylch safonau? OAQ54706

Fel Llywydd, ni chefais unrhyw drafodaethau â Syr Roderick Evans mewn perthynas â chwynion safonau. Cefais ddau gyfarfod gyda Syr Roderick Evans—un yn 2016, y cyfnod trosglwyddo yn fuan cyn iddo ymgymryd â rôl comisiynydd, a'r llall yn 2017 i drafod yr agenda urddas a pharch.

Mae adran 9 o Fesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009 yn gosod dyletswydd ar Brif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad i gyfeirio materion penodol at y comisiynydd safonau pan fônt yn ymwneud ag ymddygiad Aelodau'r Cynulliad. Mae adran 10 o'r Mesur yn ei gwneud yn ofynnol i'r comisiynydd roi gwybod i'r Clerc am rai materion sy'n berthnasol i'w swyddogaethau fel swyddog cyfrifyddu.

Felly, mewn un gŵyn, y dyfarnodd y comisiynydd safonau nad oedd hi'n un deilwng, pam y cyfeiriodd at e-bost yn awgrymu y byddech chi fel Llywydd yn ymdrin â'r mater drwy daro pennau at ei gilydd? Pam oedd—[Anghlywadwy.]

Mae'n ddrwg gennyf, Mr Reckless. [Torri ar draws.] Na, nid yw o fewn y cwmpas, a hoffwn ofyn i chi beidio â dyfynnu o recordiau anawdurdodedig neu sgyrsiau cyfrinachol sydd wedi digwydd, sy'n rhan o ymchwiliad, fel y mae Mr McEvoy eisoes wedi nodi.

15:10

Wel, a gaf fi ofyn yn benodol i'r Llywydd: pam fod angen sicrhau eich bod yn cytuno, gan fod y gŵyn yn ymwneud â menyw Lafur a dyn Brexit? Ac a oedd hwn yn ymddygiad priodol gan y comisiynydd safonau?

Ni allaf ond cadarnhau'r hyn rwy'n ei wybod, ac rwyf wedi dweud yr hyn rwy'n ei wybod wrthych, sef fy mod wedi cael dau gyfarfod gyda'r comisiynydd safonau blaenorol—un pan gafodd ei gyflwyno i'r swydd ac un yn 2017 i drafod polisi urddas a pharch y Cynulliad Cenedlaethol.

Strategaeth Gyfathrebu

3. A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf am effeithiolrwydd strategaeth gyfathrebu Cynulliad Cenedlaethol Cymru? OAQ54713

Mae cysylltu â phobl Cymru yn flaenoriaeth strategol i'r Comisiwn. Dros y misoedd diwethaf, rydym wedi cynnal gŵyl GWLAD ledled Cymru, y cynulliad dinasyddion cyntaf, rydym wedi cael sylw proffeil uchel yn y cyfryngau yn sgil gwaith pwysig ein pwyllgorau ni, a dadleuon yn y Cyfarfod Llawn yma, ac ymateb i ddigwyddiadau. Yn ddiweddar, gwnaethom benodi cyfarwyddwr cyfathrebu ac ymgysylltu newydd i adeiladu ar waith sydd eisoes ar y gweill i adolygu a gwella'r ffordd yr ydym yn cysylltu â phobl Cymru ynghylch yr hyn yr ydym yn ei wneud ar eu cyfer.

Diolch ichi am yr ateb hwnnw. Rydym bellach mewn cyfnod etholiad ac unwaith eto, mae'n amlwg ar garreg y drws fod pleidleiswyr yng Nghymru wedi drysu ynglŷn â'r hyn sydd wedi'i ddatganoli a'r hyn nad yw wedi'i ddatganoli. Mae hyn ar ôl 20 mlynedd o ddatganoli. Beth sy'n mynd o'i le a beth y mae'r Comisiwn yn bwriadu ei wneud ynglŷn â hyn?

Wel, nid yw'n fater sydd wedi cael ei ddwyn i fy sylw i ar garreg y drws, fel y mae'n digwydd. Ond rwy'n cytuno bod mwy y gallwn ei wneud. Rwy'n ddiolchgar, fel bob amser, am unrhyw syniadau sydd gan yr Aelodau yn y lle hwn ynglŷn â sut y gallwn wella'r modd rydym yn cyfathrebu gwaith ein pwyllgorau a gwaith y Cynulliad hwn yn ei gyfanrwydd hefyd, fel ein bod yn ymgysylltu'n llawn ac yn briodol â phobl Cymru, ym mhob rhan o Gymru.

Fel y gwyddoch, rwyf wedi awgrymu i bob plaid wleidyddol yn y lle hwn ein bod yn mynd â'r lle hwn allan o'r lle hwn, i'r gogledd, er mwyn sicrhau bod pobl yn teimlo bod y Cynulliad yn perthyn i bob rhan o Gymru a'u bod yn gallu rhyngweithio â ni a dylanwadu ar yr holl faterion sydd wedi'u datganoli, a gwella'r ddealltwriaeth sydd ganddynt, gobeithio, o ran sicrhau eu bod yn gallu dylanwadu ar bolisi a phenderfyniadau a wneir yma ar eu rhan gan eu haelodau etholedig.

Ymestyn yr Etholfraint

4. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am baratoadau ar gyfer ymestyn yr etholfraint cyn etholiad nesaf y Cynulliad ym mis Mai 2021? OAQ54729

Mae Comisiwn y Cynulliad yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid, gan gynnwys y Comisiwn Etholiadol, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru, i sicrhau bod ein hymgyrchoedd addysg a chodi ymwybyddiaeth yn cael eu cydgysylltu, gan wneud y defnydd gorau o adnoddau a defnyddio arbenigedd pob sefydliad i ymgysylltu â phobl ifanc.

Rwy'n ddiolchgar i'r Llywydd am ei hateb. Rwy'n siŵr y byddai'r Llywydd yn cytuno â mi ei bod yn arbennig o bwysig ein bod yn cynnwys pobl ifanc yn y broses hon. Mynegwyd pryderon yn ystod y ddadl ynglŷn â sicrhau ein bod yn hybu cyfranogiad pobl ifanc rhwng 16 a 17 oed mewn etholiadau. A gaf fi awgrymu, Lywydd, os yw'n briodol, y gellid trafod hyn gyda'r Senedd Ieuenctid a'r cyrff sy'n cefnogi pobl ifanc i gymryd rhan yn y Senedd yn enwedig, oherwydd gallai fod gan y bobl ifanc eu hunain awgrymiadau ynglŷn â'r ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau bod ganddynt yr wybodaeth sydd ei hangen a'r ffordd fwyaf effeithiol hefyd o'u galluogi'n ymarferol i fynd ati i bleidleisio?

Ydy, mae'n bwysig iawn, dwi'n meddwl, ein bod ni'n cynnwys y bobl ifanc diddorol a hynod egnïol yna sydd gyda ni yn cynrychioli pobl ifanc Cymru yn Senedd Ieuenctid Cymru erbyn hyn, gyda'u syniadau nhw ynglŷn â sut y gellid ymgysylltu â phobl ifanc yng Nghymru i gyflwyno'r ffaith, o bosib, y bydd y bleidlais ganddyn nhw ar gyfer y Cynulliad yma, y rhai 16 ac 17 oed, erbyn 2021. Mae gyda nhw arbenigedd yn hyn; does gyda ni ddim fel oedolion tipyn yn hŷn, erbyn hyn.

Yr ydym ni eisoes yn gweithio gyda rhai o'r Senedd Ieuenctid, ac, ar y pwynt rŷch chi'n ei wneud, mae eisiau inni hefyd weithio gyda'r grwpiau hynny sy'n cefnogi rhai o'r seneddwyr ifanc i sicrhau bod sut rŷn ni'n mynd ati i gysylltu â phobl ifanc yn gyfredol ac yn ddiddorol, a'u bod nhw'n gallu rhoi'r cyngor yna i ni ynglŷn â'r ffyrdd gorau yn y cyfnod yma i fod yn cysylltu â phobl ifanc. Felly, gwnaf i'n siŵr ein bod ni yn parhau ac yn cynyddu gyda'r gwaith yna a gyda defnyddio brwdfrydedd y bobl ifanc yna sydd yn Aelodau o'n Senedd Ieuenctid ni i roi cymorth inni ar y gwaith yma.

15:15
4. Cwestiynau Amserol

Eitem 4 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r cwestiynau amserol, a bydd y cwestiwn amserol a ddewiswyd y prynhawn yma yn cael ei ateb gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. David Melding.

Diogelwch Llety Myfyrwyr

1. A wnaiff Llywodraeth Cymru ddatganiad ynghylch diogelwch tân mewn llety myfyrwyr yng Nghymru yn dilyn tân yr wythnos diwethaf ym Mhrifysgol Bolton? 365

Rydym yn parhau i weithio gyda phob perchennog ac asiant rheoli adeiladau preswyl uchel iawn, a'n partneriaid yn y gwasanaethau tân ac achub ac awdurdodau lleol, i sicrhau bod archwiliadau adeiladau angenrheidiol yn cael eu cynnal. Mae'r tân yn Bolton yn tynnu sylw at bwysigrwydd gweithio ar y cyd a chynnal asesiadau risg cadarn o bob adeilad.

Weinidog, dywedwyd bod y tân wedi lledu'n gyflym i fyny'r paneli laminedig pwysedd uchel ar y tu allan i'r adeilad, ac rwy'n credu y byddai unrhyw un a welodd luniau wedi'u brawychu'n fawr iawn gan y ffordd y llyncodd y tân yr adeilad a pha mor gyflym y digwyddodd hynny. Rwy'n ddiolchgar i Brifysgol Caerdydd, gyda llaw, am anfon e-bost atom ar gyflwr eu hadeiladu ar ôl cael rhybudd ynglŷn â'r cwestiwn hwn. Rwy'n credu bod hynny i'w groesawu. Ond rwy'n poeni'n arbennig am fyfyrwyr sy'n byw mewn llety preifat i fyfyrwyr a adeiladwyd yn bwrpasol, darpariaeth sydd wedi ehangu'n gyflym dros y blynyddoedd diwethaf. Yr wythnos diwethaf, sylwaf hefyd fod Undeb y Brigadau Tân wedi rhybuddio bod cladin laminedig pwysedd uchel yn cael ei ddefnyddio'n fwy eang na'r deunydd a ganfuwyd yn Nhŵr Grenfell. Hefyd, ym mis Gorffennaf, nododd y Weinyddiaeth Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol y dylid tynnu cladin laminedig pwysedd uchel oddi ar flociau risg uchel os yw wedi'i gyfuno â deunydd inswleiddio llosgadwy. Felly, tybed a ydym wedi mabwysiadu polisi tebyg yng Nghymru, ac os nad ydym, a yw'n fwriad gennych wneud hynny.

Rydym wedi ysgrifennu at yr holl sefydliadau addysg uwch yng Nghymru. Rwyf wedi ysgrifennu at bob awdurdod lleol, ac mae Kirsty Williams wedi ysgrifennu at bob sefydliad addysg uwch. Roeddwn yn falch o weld ymateb Caerdydd, ond rydym wedi gofyn i bob is-ganghellor ledled Cymru ddarparu gwybodaeth debyg i ni. Fe fyddwch yn falch o wybod ein bod wedi gwneud cryn dipyn o waith cyn tân Bolton, a buom mewn cysylltiad â phawb y llwyddasom i gysylltu â hwy. Ni allaf ddweud bod hynny'n golygu pawb yn bendant, oherwydd nid ydym o reidrwydd yn sicr ein bod wedi bod mewn cysylltiad â phawb. Ond rydym wedi ysgrifennu at bob asiant rheoli a pherchennog adeilad uchel iawn, lle mae'r manylion cyswllt gennym, i dynnu sylw at y canfyddiadau perthnasol o adroddiad ymchwil cam 1 Grenfell a gofyn iddynt sicrhau bod eu trigolion yn glir ynghylch yr hyn y dylent ei wneud pe bai tân yn digwydd.

Mae digwyddiadau anffodus y penwythnos diwethaf yn Bolton yn ein hatgoffa'n amserol o'r angen i sicrhau bod y lefelau uchaf o sylw'n cael eu rhoi i ddiogelwch tân mewn eiddo preswyl, yn enwedig mewn adeiladau uchel iawn gyda nifer o feddianwyr. Bydd David Melding yn gwybod bod yr ymchwiliad yn mynd rhagddo ynglŷn â beth yn union a ddigwyddodd yn y Cube, ond yr hyn sydd eisoes yn amlwg yw bod rheoli risg posibl yn ddeinamig yn allweddol i sicrhau diogelwch preswylwyr os oes tân yn digwydd. Er bod y tân hwnnw'n ddinistriol ac yn edrych—roedd y lluniau ohono'n cropian i fyny ochr allan yr adeilad yn ofnadwy, o ystyried yr hyn a wyddom bellach am Grenfell, ond mae'n dangos bod pobl wedi gallu gadael yr adeilad yn ddiogel. Nid yw'n diystyru'r golled ddinistriol o eiddo personol ac yn y blaen, ond bu modd iddynt adael yr adeilad, ac mae'n dangos bod y system bresennol, er ei bod yn ddiffygiol, yn gweithio.

Mynegodd Gwasanaeth Tân ac Achub Manceinion Fwyaf bryderon am yr adeilad wrth yr asiantau rheoli, a rhoddodd y rheini gamau priodol ar waith i adolygu eu strategaeth wacáu cyn gwneud gwaith unioni. Felly, mewn gwirionedd, fe wnaethant y peth iawn, ac yn ffodus, llwyddodd y preswylwyr i adael yr adeilad yn ddiogel iawn y noson honno, er nad yw hynny'n diystyru dinistr unrhyw dân, fel y dywedaf.

Ar noson y tân hwnnw, ymatebodd y gwasanaeth tân yn gyflym, gan ddiffodd y tân yn gyflym ac yn effeithlon, yn ogystal â chefnogi proses wacáu ddiogel a sydyn. Yn ffodus, fel y dywedais, er bod colli eiddo personol bob amser yn ddinistriol, prin iawn oedd yr anafiadau.

Yr hyn sy'n bwysig ei ddeall—rydym wedi ysgrifennu at bawb i ddweud hyn—yw fod angen cael systemau tân deinamig ar waith. Nid wyf yn arbenigwr personol ar hyn, wrth gwrs, felly mae ein penaethiaid diogelwch tân yn edrych ar hyn ac yn ysgrifennu ac yn sicrhau bod rheolwyr a pherchnogion adeiladau yn ddeinamig yn eu hymateb i ddiogelwch tân. Felly, yn ôl yr hyn rwy'n ei ddeall, lle mae adrannu wedi gweithio, y peth iawn i'w wneud o hyd yw aros, ond mae angen archwilio adeiladau yn rheolaidd iawn er mwyn gwneud yn siŵr mai dyna'r cyngor iawn o hyd, ac os nad dyna'r cyngor iawn, beth y dylid ei wneud os yw adrannu wedi methu neu'n cael ei ystyried yn annigonol mewn unrhyw ffordd.

Hoffwn ailadrodd y pwynt fod cyfyngu tân a'i ddiffodd yn y fflat lle mae'n digwydd yn fwy diogel na threfnu proses wacáu fawr, yn enwedig mewn adeiladau uchel iawn, lle gall y broses o ddiffodd tân fod yn arbennig o heriol, a lle gall niferoedd mawr o bobl sy'n gadael adeilad ar hyd grisiau sengl rwystro ymdrechion y diffoddwyr tân i ddod i fyny, yn ogystal â chreu peryglon eraill fel gwasgu a sathru. Ers tro byd, caiff yr holl flociau o fflatiau a adeiladir o'r newydd neu a addasir eu hadeiladu gyda mwy nag un allanfa, fel bod gennym lwybr i'r diffoddwyr tân i mewn i'r adeilad yn ogystal â llwybr i'r preswylwyr adael yr adeilad.

Ond mae 'arhoswch lle rydych chi' yn adlewyrchiad o wead cynhenid pob adeilad preswyl uchel iawn; nid yw'n bolisi gan y gwasanaethau tân ac achub, y Llywodraeth na neb arall. Mae wedi cadw preswylwyr fflatiau dirifedi yn ddiogel dros y blynyddoedd. Nid oes unrhyw dystiolaeth o gwbl hyd yn hyn o ymchwiliad Tŵr Grenfell a fyddai'n cyfiawnhau newid i'r ymagwedd gyffredinol honno heblaw dweud bod angen ymateb deinamig i hynny, ac os oes tystiolaeth bod adrannu adeilad yn beryglus, efallai y bydd angen i'r ymateb newid yn gyflym iawn o 'arhoswch lle rydych chi' i 'gadewch yr adeilad'.

15:20

Codwyd y mater hwn gyda mi, fel llefarydd addysg uwch dros Blaid Cymru, gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, sy'n poeni pa mor gyflym y mae rhai o'r fflatiau hyn yn cael eu hadeiladu, a'r ymchwydd sy'n digwydd yma yng Nghymru hefyd, a sut y mae hynny'n effeithio ar fyfyrwyr. Maent wedi dweud wrthyf fod myfyrwyr, weithiau, yn cael eu rhoi mewn fflatiau pan nad yw'r llety cyfan wedi'i orffen, ac felly nid yw prosesau diogelwch tân yn cael eu hesbonio'n briodol i'r myfyrwyr hynny pan fyddant yn symud i mewn am y tro cyntaf. Felly, hoffwn ddeall, os yw hynny'n digwydd, pa sgyrsiau rydych wedi'u cael gyda phrifysgolion, sy'n gyfrifol, yn y pen draw, am les y myfyrwyr hynny a allai fod yn symud i adeiladau sydd heb eu gorffen. Mae rhai o'r landlordiaid hyn yn barod iawn i gymryd arian gan fyfyrwyr ond yn amharod iawn i wneud unrhyw fath o newidiadau os oes cwynion, felly hoffwn gael sicrwydd, lle mae landlordiaid preifat yn gweithredu a lle ceir y math hwn o gladin, ynglŷn â beth yw natur y sgyrsiau gyda hwy, oherwydd fy nealltwriaeth i yw fod safonau ar gyfer llety myfyrwyr yn dal yn is na mathau eraill o lety, ac mae'n ymddangos yn hurt i mi y byddai myfyrwyr yn cael eu rhoi mewn llety mwy anniogel na'r boblogaeth yn gyffredinol. Felly, hoffwn gael mwy o eglurder ar hynny.

Hefyd, fe fyddwch chi a minnau'n gwybod o faterion lleol fod hyn wedi digwydd yn nes adref yn Abertawe, lle bu tân ym mloc llety Omnia yn natblygiad Oldway, felly hoffwn ddeall pa sgyrsiau a gafwyd ers hynny fel y gallwn ddysgu oddi wrtho, ac fel na fydd yn cael ei ailadrodd eto. Mae'n dod yn ôl at fater taliadau hefyd—rwy'n gwybod, roeddwn ar y pwyllgor yn flaenorol o dan gadeiryddiaeth John Griffiths—a'r ffaith bod rhai o'r bobl hyn sy'n byw yn y fflatiau preifat hyn yn cael eu gorfodi i dalu £39,000 mewn sawl achos i wneud eu fflatiau'n ddiogel, pan na allant fforddio gwneud hynny. Onid oes ffordd y gall Llywodraeth Cymru gynorthwyo perchnogion y fflatiau hynny, drwy fenthyciad neu grant gan y Llywodraeth, i'w helpu i allu fforddio'r addasiadau hyn i'w fflatiau fel nad ydynt yn cael eu gadael mewn dyled sylweddol oherwydd eu bod wedi gorfod ymdrin â phroblem lle nad oedd bai arnynt hwy?

I ymdrin â'r pwynt olaf hwnnw yn gyntaf, rwy'n awyddus iawn i ddod o hyd i fecanwaith nad yw'n cosbi'r bobl sy'n byw yn y fflatiau, lle mae'n amlwg mai bai'r cwmni adeiladu neu ryw achos amlwg arall ydyw. Bydd Bethan Sayed yn gwybod nad yw sefydlu hynny bob amser mor hawdd ag y mae'n ymddangos, ac mae gennym enghraifft yn Abertawe, y mae pob un ohonom o Abertawe yn ymwybodol ohoni, lle mae wedi bod yn hynod o anodd penderfynu pwy'n union sy'n gyfrifol am ba ran. Rydym yn gweithio'n galed iawn i sefydlu system sy'n caniatáu i ni wneud hynny, ond rwy'n gyndyn iawn o weld pobl yn gorfod talu am gamgymeriadau rhywun sydd wedi gwneud llawer iawn o arian o godi adeilad sy'n annigonol. Felly, rydym yn dal i geisio dod o hyd i ffordd o gael benthyciadau a grantiau i bobl mewn amgylchiadau lle nad ydym, i bob pwrpas, yn gwobrwyo ymddygiad gwael. Felly, rwy'n hapus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am ein sgwrs ynglŷn â'r hyn y gallwn ei wneud yn union, oherwydd mae pobl eisiau bod yn ddiogel, ond ar y llaw arall, maent hefyd eisiau cael rhywfaint o ecwiti yn yr eiddo y maent wedi'i brynu, felly rwy'n ceisio cadw'r hawl honno. Rydym yn gweithio'n galed iawn i geisio dilyn y trywydd cymhleth o geisio cael hynny'n iawn.

Nid oes gennym set gyflawn o ddata am ffasâd allanol pob adeilad uchel iawn—sef adeiladau dros 18 metr yng Nghymru—ond gwyddom fod cladin laminedig pwysedd uchel ar o leiaf 10 adeilad uchel iawn. Fel y crybwyllodd David Melding, nid yw hynny o reidrwydd yn golygu eu bod yn fflamadwy. Mewn gwirionedd, mae'n system gymhleth iawn, ac mae sut y gosodwyd y deunydd inswleiddio, a oes brics tân yno, beth yw adeiladwaith gweddill yr adeilad, yn gwneud gwahaniaeth mawr o ran p'un a yw'n cael ei ystyried yn risg tân ai peidio. Felly, rydym yn gweithio gyda phartneriaid i geisio gwella'r wybodaeth sydd gennym, ac rydym yn bwriadu deddfu ar gyfer hyn beth bynnag. Rydym eisoes wedi bod yn edrych ar hyn, fel y gwyddoch, drwy adolygiad o'n Bil a'n rheoliadau a nifer o bethau rydym yn edrych arnynt ar gyfer hwnnw.

Rydym wedi ysgrifennu at bob sefydliad addysg uwch yn gofyn iddynt roi gwybodaeth i ni ar gyfer eu holl fyfyrwyr, ac nid y rhai sydd mewn llety myfyrwyr a gyflenwir gan y sefydliad addysg uwch yn unig, ac rydym hefyd yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol i gadw ein gwybodaeth yn gyfredol fel y gallwn ddeall yn union lle rydym arni gyda hynny. Rydym wedi bod yn gwneud hyn ers cryn amser, nid mewn ymateb i dân Bolton yn unig; rydym wedi ysgrifennu sawl gwaith at awdurdodau lleol ac ati i adolygu hyn yn barhaus. Unwaith eto, mae gennym enghraifft o ba mor bwysig yw sicrhau ein bod yn cael hyn yn iawn ar gyfer y dyfodol.

Hoffwn dalu teyrnged i'r gwasanaeth tân yn Bolton, a wnaeth y peth iawn ar y noson, yn amlwg, a rhoi'r trefniadau achub cywir ar waith—nid yn unig i ymladd tân, ond i gael y myfyrwyr allan o'r adeilad heb ddim ond mân anafiadau'n unig. Ond rydym yn cydymdeimlo â'r bobl sydd wedi colli eu holl eiddo personol ac sydd yn y sefyllfa honno.

Ond mae'n bwysig deall, ac rwy'n wirioneddol awyddus i bwysleisio hyn, y dylid darparu'r drefn ar gyfer gwacáu'r adeilad i denantiaid a pherchnogion pan fyddant yn mynd i adeilad uchel iawn gyda nifer o feddianwyr, ac rydym ar fin ysgrifennu at bawb, drwy Rhentu Doeth Cymru a'r holl gysylltiadau eraill sydd gennym, i sicrhau bod pobl yn adnewyddu hynny. Felly, os ydych wedi byw yn rhywle am bedair blynedd, mae'n bosibl iawn eich bod wedi anghofio'r wybodaeth a gawsoch, os cawsoch yr wybodaeth honno yn y lle cyntaf. Felly, rydym yn gofyn i bobl ei adnewyddu—adnewyddu'r wybodaeth. A Bethan, os oes gennych enghreifftiau o bobl yn cael eu symud i adeiladau nad ydynt wedi'u gorffen, lle nad ydynt yn cael yr wybodaeth gywir am ddiogelwch tân a gwacáu'r adeilad, os caf y manylion hynny gennych, gallaf ymchwilio i'r mater ymhellach.

15:25
5. Datganiadau 90 Eiliad

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Cafodd fy swyddfa alwad ddydd Llun gan ddyn—tad sy'n poeni'n ofnadwy am ei ferch. Gadawodd berthynas gamdriniol ychydig flynyddoedd yn ôl, ond mae ei chyn-bartner yn dal i aflonyddu arni. Mae yna blant yn y darlun a phroblemau tai hefyd. Cysylltodd y tad â mi ar ôl darllen fy ngholofn bapur newydd am ddigwyddiad Rhuban Gwyn rwy'n ei drefnu ym Machynlleth ddydd Sadwrn. Mae'n stori sy'n dorcalonnus o gyffredin. Mae pawb ohonom wedi ymdrin ag achosion fel Aelodau Cynulliad, ond mae pob un yr un mor dorcalonnus i'r teuluoedd dan sylw. I 163 o fenywod yn y DU y llynedd, daeth y stori i ben gyda marwolaeth. Talodd saith menyw yng Nghymru y pris eithaf—yng Nghimla, Talacharn, y Mwmbwls, Trefyclo, Bedlinog, Treffynnon a Thonypandy.

Ar 25 Tachwedd, mae ymgyrch y Rhuban Gwyn yn gofyn i bobl beidio byth â chyflawni, esgusodi neu aros yn ddistaw am drais yn erbyn menywod dan law dynion. Boed yn siarad â rhywun annwyl, gweithiwr cymorth, llinell gymorth neu unrhyw un arall, mae rhoi terfyn ar gam-drin yn dechrau gyda sgwrs. Felly, ar Ddiwrnod y Rhuban Gwyn eleni, rwy'n annog pawb i siarad ar ran y menywod sydd wedi colli eu bywydau a'r menywod sy'n brwydro bob dydd i fyw eu bywydau.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn ddiweddar, dathlodd ColegauCymru 10 mlynedd yn eu hadeilad presennol, ac i nodi'r achlysur, cynhaliwyd seminar, a chafwyd trafodaethau ynglŷn â gorffennol, presennol a dyfodol sgiliau yng Nghymru.

Rhaid peidio â thanbrisio gwerth addysg a hyfforddiant. Yn 2017, roedd ychydig dros 350,000 o bobl 16 i 25 oed yng Nghymru, ac roedd 50 y cant o'r rhain mewn addysg neu hyfforddiant amser llawn neu ran-amser. Mae colegau addysg bellach yn darparu addysg academaidd a galwedigaethol i lawer ohonynt. Ond yn 2017-18, roedd y rhan fwyaf o ddysgwyr addysg bellach dros 25 oed mewn gwirionedd, ac mae cynnydd yn nifer y prentisiaethau yn yr ystod oedran hon wedi cyfrannu at newid proffil oedran dysgwyr. Ac wrth gwrs, yn gyffredinol, mae colegau'n gweithio'n agos iawn gyda chyflogwyr lleol i ddeall eu hanghenion sgiliau ar hyn o bryd ac ar gyfer y dyfodol. Mewn adroddiad a gomisiynwyd gan ColegauCymru, dangoswyd bod effaith economaidd colegau addysg bellach ar y gymuned fusnes leol yng Nghymru yn £4 biliwn bob blwyddyn. Ac mae ColegauCymru wedi helpu colegau ac ysgolion ar draws y sector addysg bellach i chwilio am atebion arloesol a darparu gwasanaethau'n fwy effeithlon yn ystod y cyfnod hwn o newid mawr a her. Edrychaf ymlaen at barhau i gydweithio â ColegauCymru yn y grŵp trawsbleidiol ar addysg bellach a sgiliau'r dyfodol yma yn y Cynulliad, er mwyn sicrhau bod Cymru'n parhau i fod yn wlad o ddysgu gydol oes ac addysg ail gyfle.

15:30

Dwi eisiau sôn heddiw am addewid aelodau'r Guides yn Amlwch i ddod yn amddiffynwyr y blaned, ac maen nhw'n gofyn i ninnau eu helpu nhw. Fel rhan o'u hymgyrch, Merched y Dyfodol, mi ofynnodd Girlguiding i filoedd o ferched beth ydy'r materion sy'n bwysig iddyn nhw. A doedd hi'n ddim syndod gweld bod yr amgylchedd o ran atal newid hinsawdd a gwarchod bioamrywiaeth yn flaenoriaeth amlwg. Ac maen nhw eisiau gweithredu yn syth. Mi gysyllton nhw efo fi, i rannu eu haddewidion plastig.

Ar y toriadau poteli di-blastig hyn, mae aelodau o Geidiaid Amlwch wedi ysgrifennu ataf i rannu eu haddewidion plastig. Maent yn cynnwys addewidion i ddefnyddio gwellt metel neu bapur, i ailddefnyddio poteli plastig, ac i ddal eu gafael ar blastig nes iddynt ddod o hyd i fin ailgylchu. Bydd eraill yn prynu bwyd mewn cynwysyddion di-blastig, yn rhoi'r gorau i ddefnyddio haenen lynu, neu, ac rwy'n dyfynnu, 'Dweud wrth mam am beidio â phrynu bagiau plastig.' Maent yn gofyn i ni fel Aelodau Cynulliad i ymuno â hwy a bod yn amddiffynwyr y blaned, drwy wneud addewidion plastig ein hunain.

Heddiw, byddaf yn rhannu fy addewidion ar gyfryngau cymdeithasol. Byddaf yn addo ceisio ailgylchu'n dda bob amser a pharhau i gefnogi ymgyrchwyr dros gynllun dychwelyd blaendal—rhywbeth y mae'r Geidiaid yn cytuno sy'n syniad da iawn. Ac rwyf fi a Geidiaid Amlwch yn gwahodd pob un ohonoch i wneud eich addewidion plastig eich hunain drwy ddefnyddio'r hashnod #AddewidPlastig.

Drwy weithio efo'n gilydd, mi allwn ni wneud gwahaniaeth go iawn. A gadewch inni gymryd arweiniad gan ein pobl ifanc, achos eu dyfodol nhw ydy o.

6. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Ardoll ar Barcio yn y Gweithle

Eitem 6 yw dadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod ar ardoll ar barcio yn y gweithle. A gaf fi atgoffa'r Aelodau mai dyma'r slot 30 munud, lle mae gan Aelodau ategol dair munud i siarad, a lle bydd gan y Gweinidog chwe munud i ymateb? Felly, symudwn yn awr at y cynnig ar ardoll ar barcio yn y gweithle, a galwaf ar Jenny Rathbone i gyflwyno'r cynnig.

Cynnig NDM7188 Jenny Rathbone

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i alluogi rhoi ardoll ar barcio yn y gweithle.

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:

a) galluogi awdurdodau lleol i weithredu ardoll ar barcio yn y gweithle, yn dibynnu ar nifer y lleoedd parcio a neilltuir i gyflogeion;

b) galluogi awdurdodau lleol i ddefnyddio'r refeniw i gryfhau trafnidiaeth gyhoeddus a llwybrau teithio llesol;

c) lleihau tagfeydd traffig mewn canolfannau poblogaeth mawr;

d) annog cyflogwyr i hyrwyddo cynlluniau teithio llesol ar gyfer eu staff ac eiriol ar gyfer gwell trafnidiaeth gyhoeddus;

e) cymell Llywodraeth Cymru i annog awdurdodau lleol yng Nghymru i roi'r ardoll hon ar waith, fel rhan o gyfres o fesurau i fynd i'r afael â'r allyriadau carbon sy'n achosi argyfwng yn yr hinsawdd.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. I ddilyn yn dwt o'r addewidion plastig, os ydym o ddifrif am newid hinsawdd, mae angen inni ddefnyddio'r holl arfau sydd ar gael i ni i gael y newid ymddygiad sydd ei angen arnom. Yn unol â'r ardoll o 5c ar fagiau siopa, byddai ardoll gymedrol ar barcio yn y gweithle yn gwneud i gyflogwyr a gweithwyr feddwl am gost amgylcheddol defnyddio'r car i gyrraedd y gwaith, a gwella cynaliadwyedd eu gweithrediadau busnes.

Faint o fusnesau sy'n ystyried hyn mewn gwirionedd a faint ohonynt sydd â chynllun teithio llesol i'w rannu â'u gweithwyr? Mae un gan rai ohonynt, yn amlwg. Mae Cyllid a Thollau ei Mawrhydi yn adleoli o Lanisien i ganol dinas Caerdydd, lle na fydd fawr neb o'u staff yn defnyddio ceir preifat i gyrraedd y gwaith. Mae'r BBC yn gorfod meddwl am hyn hefyd, wrth iddynt symud o Landaf i'r Sgwâr Canolog. Gallai ardoll ar barcio yn y gweithle ganolbwyntio meddyliau'r BBC ar faint o gerbydau sydd eu hangen arnynt mewn gwirionedd ar gyfer ymateb yn gyflym i newyddion sy'n torri, a chludo cyfarpar recordio drud, a thrwm weithiau, y cytunaf fod angen ei wneud, a siarad yn ymarferol, yn un o'u cerbydau pwrpasol.

Byddai'r tâl hwn yn cael ei godi ar y defnydd o leoedd parcio i gymudwyr a byddai'n ategu Deddf aer glân yn y dyfodol, yn ogystal â'r fframwaith datblygu cenedlaethol drafft. Mae wedi'i gynllunio i annog cyflogwyr i reoli, ac o bosibl i leihau nifer y lleoedd parcio a ddarparant yn y gweithle, neu i weld a ellid defnyddio'r adnodd hwnnw'n fwy effeithiol ar gyfer rhyw weithgarwch arall. Byddai'n rhoi chwistrelliad o arian i gyrff cyhoeddus ar gyfer rhoi hwb i drafnidiaeth gyhoeddus a llwybrau teithio llesol, lle mae'r rhain yn annigonol, sydd, yn anffodus, yn wir yn y rhan fwyaf o rannau o Gymru. Nid oes unman yng Nghymru yn mwynhau'r seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus sydd gan wledydd eraill tebyg yn Ewrop.

Cyflwynodd Nottingham ardoll ar barcio yn y gweithle yn 2012. Mae hon yn llawer haws i'w gweithredu na thâl tagfeydd safonol, ac roeddent yn amlwg yn nodi bod y 10 lle parcio cyntaf am ddim. Nid yw'n berthnasol ar gyfer lleoedd parcio i'r anabl, gwasanaethau brys rheng flaen neu gerbydau sy'n cael eu defnyddio i gludo nwyddau fel rhan o'u busnes. Mae parcio staff mewn ysbytai ac mewn safleoedd eraill hefyd wedi'u heithrio. Mae'r effaith wedi bod yn wych. Mae ansawdd yr aer wedi gwella, mae allyriadau nitrogen ocsid wedi gostwng ac mae wedi cynhyrchu £44 miliwn dros y saith mlynedd ddiwethaf, arian sydd wedi'i glustnodi ar gyfer prosiectau trafnidiaeth. Mae'r defnydd y pen o fysiau a thramiau yn Nottingham yn uwch nag unman arall yn y wlad y tu allan i Lundain. Cyflogwyr yn hytrach na chyflogeion sy'n gyfrifol am dalu'r ardoll ar barcio yn y gweithle, er bod wyth o bob 10 cwmni yn Nottingham yn trosglwyddo'r tâl i'w gweithwyr, ac eleni, mae'n £415 y flwyddyn neu'n £8 yr wythnos. Felly, o leiaf mae'n annog gyrwyr i ystyried mathau eraill o drafnidiaeth, neu rannu ceir fan lleiaf.

Rhoddwyd y pŵer i osod ardoll ar barcio yn y gweithle i awdurdodau trafnidiaeth yng Nghymru a Lloegr o dan Ddeddf Trafnidiaeth 2000, ond nid oes unrhyw un o awdurdodau lleol Cymru wedi manteisio ar hyn eto. Ai'r rheswm am hyn yw nad ydynt yn ymwybodol o'u pwerau newydd neu a ydynt wedi'i osgoi'n fwriadol?

Fe wnaeth Caerdydd gynnwys ardoll ar barcio yn y gweithle mewn papur gwyrdd yn ddiweddar a dweud eu bod yn dal i'w ystyried. Ac ar ben hyn i gyd mae dyfarniad yr Uchel Lys y llynedd yn erbyn Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, gan gynnwys Caerdydd, i leihau allyriadau nitrogen ocsid yn yr amser byrraf posibl. Mae'n rhaid inni ein hatgoffa ein hunain fod llygredd aer yng Nghaerdydd bellach yn waeth na Manceinion neu Birmingham, sy'n ddinasoedd llawer mwy o faint.

Nid Caerdydd yn unig sydd wedi methu dilyn esiampl Nottingham. Nid oes gan Gasnewydd nac Abertawe unrhyw gynlluniau chwaith ac mae Wrecsam yn cadw golwg ar sut y bydd hyn yn datblygu mewn awdurdodau lleol eraill i gydnabod y cyfraniad posibl tuag at fynd i'r afael â thagfeydd yng nghanol trefi. Yn ddiweddar maent wedi gosod mesurau rheoli parcio ar eu cynghorwyr a'u staff eu hunain sy'n defnyddio adeiladau'r cyngor yng nghanol y dref.

Mae problem gyda gadael hyn i awdurdodau lleol. Gallai'r ardoll ar barcio yn y gweithle yn yr Alban, a basiwyd yn ddiweddar gan Senedd yr Alban, arwain at gynnydd mawr mewn incwm ar gyfer, dyweder, Caeredin, a byddant yn sicr o'i wario ar gynigion trafnidiaeth lleol, ond ni fydd yn datrys y tagfeydd a achosir gan gymudwyr yn dod o fannau pellach, fel ardaloedd y ffin er enghraifft, lle mae'r ddarpariaeth drafnidiaeth mor drychinebus fel bod pobl yn gorfod teithio yn eu ceir.

Felly, byddai'r Bil hwn yn galluogi Cymru gyfan i ganolbwyntio ar ble mae angen ardoll ar barcio yn y gweithle yn unol â nodweddion penodol pob awdurdod lleol a lle gallent ei haddasu ar gyfer eu hamgylchiadau lleol eu hunain. Byddai angen i Trafnidiaeth Cymru a'r bargeinion dinesig chwarae rôl yn pennu'r modd y cymhwysir yr arian ar gyfer mesurau a fydd yn lleihau cymaint â phosibl y nifer sy'n defnyddio car i gymudo i'r gwaith.

15:35

Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl hon. Mae'n rhaid imi ddweud bod gennyf rai pryderon ynglŷn â'r cynnig hwn. Wedi dweud hynny, credaf fod Jenny Rathbone wedi gwneud rhai pwyntiau da iawn. Credaf ein bod yn cydnabod bod yna rai syniadau da y tu ôl i'r cynigion hyn. Ac wrth gwrs, rydym i gyd eisiau gweld trafnidiaeth gyhoeddus yn cael ei chryfhau a llwybrau teithio llesol yn cael eu mabwysiadu. Rydym yn cytuno â hynny i gyd. Ac mae angen lleihau tagfeydd traffig yn ein prif ganolfannau trefol a helpu i wrthsefyll yr argyfwng hinsawdd.  

Mae gennyf rai problemau gyda'r cynnig. Drwy osod y baich ar y busnesau, a allai ei drosglwyddo i'r gweithwyr wedyn, fel y dywedoch chi, Jenny, mae'n fy nharo i y gallai hon fod yn ardoll a allai niweidio rhai o'r bobl sy'n gallu ei fforddio leiaf, ac nid wyf yn credu mai dyna yw'r bwriad gwreiddiol y tu ôl i hyn.

Rydym yn siarad am y metro ac mae hwnnw'n syniad gwych, ond rydym yn dal i fod ymhell o weld hynny'n cael ei wireddu'n llawn yng Nghaerdydd. Rydych yn sôn am Nottingham, a byddai'n wych cael mwy o lwybrau tram, mwy o lwybrau bysiau a mwy o drafnidiaeth gynaliadwy, ond lle nad ydych eto wedi cyrraedd y lefel honno, rwy'n ofni y byddai pobl yn gorfod talu'r tâl hwn heb gael y dewis amgen hwnnw a grybwyllwyd gennych, Jenny.

Yn fy ardal i, Sir Fynwy, mewn ardaloedd gwledig, mae problem diffyg dewisiadau amgen yn lle'r car yn fwy amlwg fyth. Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn aml yn llai na digonol; mae pobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig yn aml yn teimlo nad oes ganddynt ddewis ond dibynnu ar y car. Mae'n rhaid i mi ddweud, fodd bynnag, fy mod yn falch, ers cyflwyno'r argyfwng hinsawdd a Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, fod rhagdybiaeth wedi bod yn fwy diweddar yn erbyn adeiladu a rhoi caniatâd cynllunio i ddatblygiadau tai nad ydynt yn cael eu gwasanaethu'n ddigonol gan drafnidiaeth gyhoeddus, felly rwy'n credu bod y sefyllfa'n newid yn raddol. Ond tybed a yw hi ychydig yn rhy gynnar i'r mathau hyn o fesurau treth a fyddai'n effeithio'n uniongyrchol ar bobl sy'n teithio i'r gwaith, fel rwy'n dweud.

Rwy'n credu y dylem geisio rhoi anogaeth gadarnhaol, ac rwy'n credu bod cyfres o fesurau yma rydych chi wedi sôn amdanynt, Jenny, y gallech, dros amser, eu gweithredu'n llawn pan fydd y dewisiadau amgen hynny yno. Wrth gwrs, rydym eisiau annog pobl i ddefnyddio ceir trydan ar hyn o bryd; mae'n ddyddiau cynnar ar y rheini o ran eu datblygiad a'r nifer sy'n eu defnyddio. A hyd y gwelaf i, byddai'r ardoll hon yn berthnasol i bob math o gerbydau, cerbydau trydan hefyd, felly tybed a ydym o ddifrif eisiau gwneud hynny ar hyn o bryd, a ninnau eisiau annog pobl i newid o gerbydau sy'n llosgi tanwydd ffosil i gerbydau trydan, neu gerbydau trydan ar y ffordd, a dylem wneud hynny drwy eu hannog yn hytrach na chyflwyno'r hyn a fyddai, gadewch i ni fod yn onest, yn dreth.

Mae'r cynnig yn cyfeirio at Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013. Mae nifer o flynyddoedd wedi bod bellach ers i'r ddeddfwriaeth honno fynd drwy'r lle hwn; rwy'n cofio craffu arni fel Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes. Roedd llawer o fwriadau da yn sail i'r Ddeddf honno, ond dyma ni nifer o flynyddoedd wedyn, ac mae llawer o amcanion y Ddeddf honno'n dal i fod heb eu gwireddu. Felly, o ran hynny, Jenny Rathbone, rwy'n credu eich bod wedi cyflwyno rhai syniadau da, ond rwy'n credu ein bod ychydig yn rhy—nid ydym wedi cyrraedd y pwynt eto lle gallaf ddweud y byddai'r tâl hwn yn cyflawni'r amcanion y byddem yn hoffi eu gweld, ac yn osgoi cosbi rhai o'r bobl sy'n gallu ei fforddio leiaf.

15:40

Rydw innau'n falch i gael cyfrannu i'r drafodaeth yma hefyd. Wrth gwrs, dyw'r cynnig yma ddim yn ateb ar ei ben ei hun, ond yn sicr mae e'n rhywbeth sydd â chyfraniad pwysig i'w wneud, yn y lle cyntaf, fel rydyn ni wedi ei glywed, i leihau lefelau traffig a thagfeydd wrth gwrs, a hynny â goblygiadau llesol o safbwynt lleihau llygredd awyr. Ac rydyn ni'n gwybod ein bod ni'n wynebu creisis iechyd cyhoeddus, gyda tua 2,000 o farwolaethau oherwydd llygredd awyr yng Nghymru bob blwyddyn, heb sôn, wrth gwrs, am y rheini sydd yn dioddef anhwylderau yn sgil hynny yn ogystal. Mi fyddai lleihau allyriadau yn helpu i daclo difrod amgylcheddol, llygredd dŵr, llygredd yn y pridd, a hynny'n dod â manteision i fioamrywiaeth hefyd. Ac mi fyddai fe hefyd yn helpu i annog teithio llesol ac hynny yn ei dro yn helpu i daclo gordewdra, a hefyd i daclo ffordd o fyw eisteddog—gair Cymraeg y dydd: eisteddog, sedentary lifestyle, ffordd o fyw eisteddog. A byddai hefyd, wrth gwrs, yn bwysig o safbwynt mynd i'r afael â phroblemau iechyd meddwl ac annog pobl i fabwysiadu teithio llesol yn ehangach.

Felly, rwy'n credu bod yna fanteision trawsbynciol i'r cynnig hwn. Ac wrth gwrs, mae Cymru ar ei hôl hi yn hyn o beth oherwydd rydym yn gweld yr Alban yn awr yn bwriadu cyflwyno'r ardoll hon drwy eu Bil trafnidiaeth. Ac fel y clywsom, mae eisoes yn cael ei weithredu gan rai cynghorau yn Lloegr—ac mae Nottingham a Birmingham yn ddau o'r rheini. Felly, nid cynnig breuddwyd gwrach yw hwn; mae'n digwydd eisoes.

Nawr, mae cwestiynau'n codi yn ei gylch, wrth gwrs, ac rydym wedi crybwyll rhai o'r rheini—y cyfeiriad yn gynharach at y baich yn cael ei drosglwyddo i gyflogeion a gweithwyr. Mewn wyth o bob 10 o'r achosion y cyfeirioch chi atynt wrth agor y drafodaeth hon rwy'n credu, felly mae angen ystyried pwy y gellid eu heithrio rhag gorfod talu'r ardoll. Yn amlwg, mae angen i ni feddwl am bobl ag anghenion penodol nad ydynt, efallai, yn gallu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus am wahanol resymau. Mae'n rhaid i ni ystyried rhieni â phlant yn ogystal, y bydd yn rhaid i lawer ohonynt ystyried y daith i'r ysgol—ac mae mynd i'r afael â'r daith ysgol yn ddadl arall ynddi ei hun—ond mae angen ystyried hynny hefyd. Ac wrth gwrs, gallai methu fforddio ardoll barcio fod yn rhwystr neu atal rhieni newydd rhag dychwelyd i'r gwaith o bosibl. Felly, mae angen ystyried hynny i gyd. Byddai angen i unrhyw ardoll fod yn gymesur â chyflog gweithiwr, wrth gwrs, yn ogystal â chost ac ymarferoldeb trafnidiaeth gyhoeddus. Ond gwyddom, wrth gwrs, fod 80 y cant o'r rhai sy'n cymudo yng Nghymru yn defnyddio car, 4 y cant yn unig sy'n defnyddio'r bws, mae 4 y cant yn defnyddio'r trên, ac mae 2 y cant yn defnyddio beic. Felly, gwyddom fod angen mynd i'r afael â hyn a chredaf y byddai hwn yn gam cadarnhaol yn hynny o beth.

15:45

Er y gallwn ddeall nod y cynnig hwn, sydd wedi'i gynllunio i annog pobl allan o'u ceir ac i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, mae unrhyw ddeddfwriaeth o'r fath yn debygol o niweidio gweithwyr llai cefnog yr awdurdod lleol. Mae'n ddigon posibl y gallai'r rhai ar gyflogau swyddogion gweithredol fforddio'r ardoll ac y byddent yn parhau fel o'r blaen, tra gallai orfodi rhai llai cefnog i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, a allai fod yn anghyfleus neu'n annigonol. Mae'n rhaid inni gydnabod—

Dyma'r pwynt yr hoffwn ei wneud: oni fyddai'n synhwyrol, felly, i'r rhai sy'n ennill mwy dalu ardoll uwch?

Ie, rwy'n cytuno—mae'n ddigon posibl fod hynny'n wir, ond efallai fod gweinyddu hynny'n eithaf anodd hefyd. Ond rwy'n cytuno, mae hwnnw'n bosibilrwydd, wrth gwrs.

Y tu allan i'r cytrefi mawr, fel Caerdydd, rhaid inni gydnabod y gall trafnidiaeth gyhoeddus fod yn afreolaidd ac yn brin, yn enwedig ar yr adegau y byddai angen i weithwyr llaw yr awdurdod lleol gael mynediad ati, yn hytrach na'r staff swyddfa a allai fod yn dechrau gwaith yn hwyrach neu sy'n mwynhau'r gallu i weithio oriau hyblyg.

Mae'n ffaith syml fod yr holl gynlluniau seilwaith yn y 40 mlynedd ddiwethaf a mwy wedi cael eu cynllunio o amgylch y car, sy'n golygu nad oes gan lawer o weithwyr, boed yn weithwyr cyhoeddus neu breifat, unrhyw ddewis ond defnyddio eu ceir eu hunain. Felly, mae'n rhaid inni dderbyn y bydd yn cymryd cryn dipyn o amser cyn y bydd deddfwriaeth fel yr un arfaethedig yn ymarferol mewn gwirionedd. Mae yna bosibilrwydd hefyd—na, tebygolrwydd—y byddai gweithwyr awdurdodau lleol yn rhoi'r gorau i ddefnyddio meysydd parcio i weithwyr yr awdurdod ac yn defnyddio meysydd parcio cyhoeddus am ddim yn lle hynny, gan gyfyngu ar argaeledd llefydd parcio i'r rheini sy'n dymuno defnyddio cyfleusterau'r dref leol i siopa ac ati.

Gan mai i'r sector cyhoeddus yn unig y byddai unrhyw ddeddfwriaeth yn gymwys, ni all y Llywodraeth orfodi cyflogwyr preifat i weinyddu ardoll o'r fath. Byddai gweithwyr cyhoeddus, i bob pwrpas, yn sybsideiddio'r seilwaith trafnidiaeth ar gyfer gweithwyr preifat. Byddai cyflogeion preifat hefyd yn elwa ar unrhyw fesurau lliniaru traffig a fyddai'n digwydd o ganlyniad i'r ardoll. Er mor dda yw'r bwriad, rwy'n ofni y byddai unrhyw ddeddfwriaeth o'r fath, i bob pwrpas, yn wrthgynhyrchiol o ran ei hamcanion.

Nid oes neb eisiau gorfod gyrru i'r gwaith, na chael y gost o redeg car sy'n mynd i dreulio'r rhan fwyaf o'r amser wedi'i barcio y tu allan i'w gweithle. Ond mae nifer o bobl yn gorfod gwneud hynny am nad yw'r Llywodraeth hon ac eraill wedi gallu darparu trafnidiaeth gyhoeddus ymarferol yn lle hynny, heb sôn am un sydd yr un mor gyfleus â char. Mae polisïau olynol Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol wedi arwain at osod parthau masnachol mewn lleoliadau nad oes modd eu cyrraedd ar drafnidiaeth gyhoeddus, ac mae'r un peth yn wir am dai. Felly, os gwelwch yn dda, rhowch y gorau i drin gyrwyr a busnesau fel pe bai'r tagfeydd a'r llygredd y maent yn eu hachosi yn fai arnynt hwy. Nid yw hynny'n wir. Bai pobl fel y Llywodraeth hon ac awdurdodau lleol ydyw am fethu cynllunio ar gyfer y dyfodol.

Mae ardrethi busnes yn gweithio oddi ar werth ardrethol y gweithle ac mae cyfleusterau parcio ar y safle eisoes yn cael eu cynnwys fel ffactor yn hynny. Felly, byddai'r cynnig deddfwriaethol hwn yn golygu bod busnesau'n gorfod talu ddwywaith am yr un peth. Bydd busnesau naill ai'n trosglwyddo'r ardoll i'w gweithwyr, fel y mae llawer yn amlwg yn ei wneud, neu bydd eu cwsmeriaid yn dioddef ergyd ariannol a fydd yn cyfyngu ar y gallu i ehangu a chreu swyddi. Ac i beth? Syniad cyfeiliornus, amwys, heb ei ystyried yn ddigonol y bydd cynghorau'n defnyddio'r dreth i wella trafnidiaeth gyhoeddus ac annog teithio llesol. Breuddwyd llwyr yw hynny. Ffordd yw hon o gael ychydig mwy o arian i gynghorau allu ariannu gwasanaethau craidd y mae'r Llywodraeth hon wedi methu rhoi cefnogaeth briodol iddynt hyd yma. Pe na bai hynny'n wir, byddai'r cynnig hwn yn gwneud mwy na galluogi cynghorau i ddefnyddio'r arian ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus, byddai'n eu gorfodi i wneud hynny. Ond nid yw'n gwneud hynny, a nodaf nad oes sôn am glustnodi unrhyw un o'r cronfeydd ardollau.

Drwy ychwanegu trethi ac ardollau newydd, bydd Cymru'n lle llai deniadol i gychwyn busnes neu i ddod â'ch busnes iddo. Ni fydd y cynnig hwn yn lleihau tagfeydd nac allyriadau carbon oni bai ei fod yn arwain at lai o gyflogaeth yng Nghymru, fel y gallai wneud. Felly, ni fyddaf yn cefnogi'r Bil hwn. Dylai'r Llywodraeth fuddsoddi mewn trafnidiaeth amgen i weithwyr a gwella cynllunio trefol, ond yn lle hynny maent yn cynnig treth newydd. Maent eisiau ymddangos fel pe baent yn gwneud rhywbeth, ond nid ydynt eisiau gwario unrhyw arian arno, felly maent wedi meddwl am ffordd o godi mwy o dreth ar Gymru. Rwy'n credu ei fod yn syniad ofnadwy. Diolch.

15:50

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i'r Aelod am gyflwyno'r cynnig deddfwriaethol hwn. Fodd bynnag, fel y dywedodd Jenny Rathbone, mae deddfwriaeth sylfaenol yn bodoli o dan Ddeddf Trafnidiaeth 2000 sydd eisoes yn caniatáu i awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr weithredu ardollau parcio yn y gweithle. Nid wyf am fanylu gormod ar y Ddeddf, ond hoffwn gadarnhau ei bod yn cynnwys darpariaeth fanwl ar y defnydd o'r enillion net o gynlluniau, ac yn darparu mai'r elw net yn unig sydd ar gael—yn unig. Roedd Michelle Brown yn hollol anghywir i wneud rhagdybiaethau yn deillio o ddiffyg tystiolaeth. Ni chaiff yr awdurdod eu defnyddio ac eithrio i hwyluso'r broses o gyflawni polisïau trafnidiaeth leol yr awdurdod traffig lleol yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol.

Fel y cyfryw, mater i awdurdodau lleol yw penderfynu a ddylid cyflwyno mesurau o'r fath yn eu hardal ai peidio, ond nid yw hynny'n golygu trosglwyddo'r cyfrifoldeb yn syml i awdurdodau lleol ymdopi â'r broblem. Fel Llywodraeth, rydym yn gwbl ymwybodol o'r problemau sy'n ein hwynebu, ac ar 29 Ebrill eleni, fe wnaethom ddatgan argyfwng hinsawdd. Rydym yn arwain ac yn ymateb i'r galwadau am gamau gweithredu gan bobl o bob oed sy'n pryderu am effeithiau newid hinsawdd. Fel y mae'r Aelodau wedi dweud, mae Cymru'n hynod ddibynnol ar y car ar hyn o bryd. Nid oes dadl o gwbl ynglŷn â hynny. Mae cyfaint y traffig wedi cynyddu dros draean ers datganoli, gan gyrraedd uchafbwynt o 29.4 biliwn cilomedr cerbyd yn 2018. Roedd y rhan helaethaf o'r traffig hwnnw, 94 y cant, yn geir, tacsis a faniau. Felly, mae'n bosibl iawn y bydd mynd i'r afael â'n gorddibyniaeth reddfol ar geir a'n galluogi i symud tuag at ffyrdd mwy cynaliadwy o deithio, megis cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus, yn heriol, ond mae'n gwbl angenrheidiol.

Gall pob math o newid ymddygiad fod yn heriol, boed yn atal ysmygu mewn mannau cyhoeddus neu ddod â'n perthynas â bwyd brys afiach i ben, ond mae'n gwbl angenrheidiol. A bydd cydnabod yr hierarchaeth drafnidiaeth gynaliadwy, sy'n rhoi blaenoriaeth i ddulliau teithio cynaliadwy, yn un o gonglfeini allweddol strategaeth drafnidiaeth newydd Cymru sydd i'w chyhoeddi yn 2020. Ein nod yw sicrhau bod pobl o bob oed a phob gallu yn hyderus y gallant wneud teithiau dyddiol drwy gerdded, drwy feicio neu drwy ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, a gwneud hynny'n ddiogel.

Yn ystod y ddwy flynedd ariannol ddiwethaf, Ddirprwy Lywydd, rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn yr arian sydd ar gael i greu a gwella seilwaith teithio llesol. Ac ers mis Rhagfyr 2017, mae gan bob awdurdod lleol gynlluniau ar waith ar gyfer rhwydweithiau teithio llesol integredig i 142 o'r aneddiadau mwyaf yng Nghymru. Ac yn 2018, sefydlwyd y gronfa teithio llesol i greu'r rhwydweithiau hyn.

Nododd Jenny Rathbone enghraifft ardderchog Nottingham, lle mae arweinwyr lleol wedi llwyddo i weithredu ardollau parcio sy'n codi refeniw yn y gweithle. Mae'r ardollau wedi bod yn drawsnewidiol, ac mae'n profi unwaith eto fod Michelle Brown yn gwbl anghywir i wneud rhagdybiaethau. Mae'r cynllun penodol hwnnw wedi codi £9 miliwn o refeniw. Mae'n costio tua £500,000 i'w weithredu, ac mae'r refeniw net wedi'i fuddsoddi mewn darpariaeth dramiau a bysiau drawsnewidiol yn y ddinas.

Yn sicr felly, buaswn yn annog awdurdodau lleol i ystyried defnyddio'r Ddeddf Trafnidiaeth i leihau tagfeydd mewn mannau trefol, a chodi arian i'w fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus a seilwaith teithio llesol drwy wneud hynny. Mae gwrthdroi'r dirywiad mewn nawdd ar gyfer bysiau yn hollbwysig er mwyn sicrhau y gallwn leihau dibyniaeth ar gerbydau preifat, a darparu dewisiadau amgen yn lle ceir preifat, fel yr amlygwyd gan Nick Ramsay yn ei gyfraniad. A dyna'n union yw bwriad y Bil bysiau. Ar yr un pryd, rwyf wedi darparu £1 filiwn ar gyfer pedwar cynllun peilot integredig ar drafnidiaeth seiliedig ar alw a fydd yn profi mathau arloesol o deithio ar fysiau seiliedig ar alw ledled Cymru.

Yn 2018 ymgynghorwyd ar fframwaith parth aer glân i Gymru, a chyhoeddwyd crynodeb o'r canlyniadau ym mis Ebrill eleni. Mae'r fframwaith yn darparu canllawiau i awdurdodau lleol, sy'n ystyried opsiynau i fynd i'r afael â materion ansawdd aer lleol, i gefnogi cyflawni terfynau'r UE, yn ogystal â chamau gweithredu i reoli ansawdd aer lleol, yn cynnwys rôl ardollau ar barcio.

Ddirprwy Lywydd, nid oes dim i atal awdurdodau lleol rhag gwneud yr hyn y mae Jenny Rathbone yn ei argymell, a hynny'n briodol, rwy'n teimlo. Mae'r pwerau yno, mae'r rhesymau dros eu gweithredu a'u defnyddio'n glir. Ac felly, Ddirprwy Lywydd, buaswn yn annog cefnogwyr y cynllun i bwyso ar eu hawdurdodau lleol i ystyried yr ymyrraeth brofedig hon.  

15:55

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Diolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau, oherwydd mae'n bwysig iawn, wrth fwrw ymlaen â'r mesur hwn, os caniatewch imi wneud hynny, ein bod yn craffu'n briodol ar rai o'r anfanteision a allai godi.

Rwy'n llwyr gydnabod cyfyng-gyngor pobl, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, sy'n cael anhawster i gadw car ar gyflogau isel, yn syml oherwydd nad oes unrhyw ffordd arall o gyrraedd yno, ac mae'n rhaid inni gydnabod hynny, ond ein lle ni, y wladwriaeth, yw ymyrryd i sicrhau bod gan bawb opsiynau. Mae'n wir fod cerbydau trydan yn lleihau allyriadau tanwydd ffosil, ond nid ydynt, ar eu pen eu hunain, yn lleihau allyriadau carbon. Felly, nid yw hynny'n datrys y broblem mewn gwirionedd.

Mae'r anabl wedi'u heithrio yng nghynllun Nottingham, ac yn amlwg, buaswn yn disgwyl y byddai llefydd parcio i'r anabl yn cael eu heithrio yn yr un newydd.

Nawr, crybwyllwyd y daith i'r ysgol, gan Llyr rwy'n credu. Ceir rhai ysgolion yn fy etholaeth lle maent yn defnyddio ardal chwarae gyfyngedig iawn fel maes parcio staff. Rydym wedi colli golwg ar yr hyn rydym yn ceisio ei wneud yma. Felly, os nad yw'n gwneud unrhyw beth arall, rwy'n credu y byddai'r ardoll ar barcio yn y gweithle yn gorfodi pobl i feddwl ynglŷn â pha ddefnydd a wnânt o ofod sydd ar hyn o bryd yn cael ei lenwi gan geir.

Ar bwynt David Rowlands, rhaid imi bwysleisio bod y gydymffurfiaeth yn Nottingham yn 100 y cant. Mae pob cyflogwr yn talu. Nid y sector cyhoeddus yn unig sy'n talu amdano, ond pob cyflogwr sy'n defnyddio mannau parcio yn eu busnes. Oes, mae yna rai pethau pwysig i'w hystyried, fel pobl sy'n gweithio oriau anghymdeithasol. Rhoddodd ASLEF dystiolaeth i Senedd yr Alban a nodi bod angen i yrrwr y trên cyntaf allan o'r depo ddefnyddio eu car i gyrraedd yno. Yn sicr. Yn yr un modd, byddai rhywun sy'n gweithio'r sifft nos eisiau dod adref am chwech o'r gloch y bore ar ôl wyth awr yn y gwaith pan na fydd cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus ar gael o bosibl.  

O ran sut y gallai gael ei ddefnyddio i atgyfnerthu'r anghydraddoldeb rhwng ardaloedd siopa canol y dref lle codir tâl am barcio ac ardaloedd siopa ar gyrion y dref lle na chodir tâl am barcio, mae hynny'n sicr yn rhywbeth y byddai'n werth ei ystyried. Ond mae'r ardoll, fel y dywedodd y Gweinidog, wedi'i chlustnodi ar gyfer cynigion trafnidiaeth yn unig, ac ni ddylid ei defnyddio ar gyfer unrhyw beth arall. Ac rwy'n falch iawn o glywed y Gweinidog yn dweud y bydd cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus yn uwch na defnydd o'r car preifat yn yr hierarchaeth newydd o flaenoriaethau a gyhoeddir y flwyddyn nesaf. Felly rwy'n credu efallai mai'r peth mwyaf diddorol i ddod o hyn yw'r syniad o raddfa symudol ar gyfer gweithwyr, a fyddai, yn amlwg, yn gorfod bod yn addasiad o'r hyn a wneir yn Nottingham ar hyn o bryd.  

Diolch. Y cynnig yw nodi'r cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, fe gawn bleidlais ar yr eitem hon yn ystod y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Gofal Hosbis a Gofal Lliniarol

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Rebecca Evans, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Rhun ap Iorwerth. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.

Eitem 7 yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ofal hosbis a gofal lliniarol, a galwaf ar Mark Isherwood i gyflwyno'r cynnig. Mark.

Cynnig NDM7193 Darren Millar

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi adroddiad y Grŵp Trawsbleidiol ar Hosbisau a Gofal Lliniarol ar Anghydraddoldebau o ran Mynediad i Ofal Hosbis a Gofal Lliniarol.

2. Yn cydnabod bod gan tua 23,000 o bobl yng Nghymru angen gofal lliniarol ar unrhyw un adeg, gan gynnwys dros 1,000 o blant.

3. Yn cydnabod er bod rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud o ran ehangu mynediad i ofal hosbis a gofal lliniarol yng Nghymru, bod anghenion sylweddol sydd heb eu diwallu ac anghenion na fodlonwyd yn barhaus, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â hyn.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) amlinellu sut y bydd Cymru'n dod yn 'wlad dosturiol';

b) sicrhau bod cryfhau'r ddarpariaeth o wasanaethau gofal lliniarol yng Nghymru yn cael ei wneud yn ganolog i'r dull hwn o weithredu;

c) darparu meini prawf adrodd cyson, a mynd i'r afael â bylchau yn y data a gaiff eu casglu ar anghenion gofal lliniarol i oedolion a phediatrig;

d) diweddaru'r mecanwaith cyllido ar gyfer hosbisau elusennol fel ei fod yn seiliedig ar y data sydd ei angen ar y boblogaeth leol a nifer yr achosion;

e) cynyddu lefel y cyllid statudol a ddarperir i hosbisau oedolion a phlant yng Nghymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Mae ein cynnig heddiw yn nodi adroddiad y grŵp trawsbleidiol ar ofal hosbis a gofal lliniarol ar anghydraddoldebau o ran mynediad at ofal hosbis a gofal lliniarol ac mae wedi'i seilio'n llwyr ar yr adroddiad hwn sy'n seiliedig ar dystiolaeth a thystiolaeth fanwl bellach a gafwyd ers hynny gan sefydliadau a gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio yn y sector. Felly, mae'n destun gofid mawr fod Llywodraeth Cymru yn cynnig gwelliant sy'n dileu hyn bron i gyd ac felly rwy'n eu hannog i dynnu eu gwelliant yn ôl, i wrando ac i weithredu.

Mae gan oddeutu 23,000 o bobl yng Nghymru angen gofal lliniarol ar unrhyw adeg, gan gynnwys dros 1,000 o blant. Ond nid yw oddeutu un o bob pedwar, tua 6,000 o bobl, yn cael mynediad at y gofal diwedd oes sydd ei angen arnynt.

Mae hosbisau'n gweithio mewn partneriaeth â gwasanaethau presennol y GIG mewn ardaloedd lleol, ac yn ychwanegu atynt. Y llynedd yng Nghymru, rhoddodd 16 hosbis elusennol ofal uniongyrchol i dros 11,000 o bobl a'u teuluoedd, gan gyrraedd miloedd yn fwy drwy ymgysylltiad cymunedol a datblygu; cyfrannwyd 290,000 o oriau gan wirfoddolwyr hosbisau; gwelwyd 2,150 o oedolion mewn hosbisau dydd a gofal i gleifion allanol; bu 22,500 o arosiadau dros nos mewn gofal i gleifion mewnol; gwnaeth 3,500 o bobl waith gwirfoddol ar ran eu hosbisau lleol; gwelwyd 8,600 o oedolion gan ofal cymunedol a hosbis yn y cartref; cafodd 800 o blant eu helpu'n uniongyrchol gan ofal hosbisau elusennol; cafwyd 57,700 o ymweliadau cartref gan ofal cymunedol a hosbis yn y cartref; a chafodd 2,300 o deuluoedd gymorth profedigaeth drwy hosbisau.

Fel y canfu adroddiad y grŵp trawsbleidiol, er gwaethaf rhywfaint o gynnydd o ran ehangu mynediad at ofal hosbis a gofal lliniarol yng Nghymru, mae anghenion sylweddol sydd heb eu diwallu ac anghenion na fodlonwyd yn barhaus. Darperir cyfran sylweddol o gymorth profedigaeth gan ein hosbisau elusennol yng Nghymru. Fodd bynnag, mae teuluoedd y mae eu hanwyliaid yn marw mewn lleoliad acíwt ar ôl cael gofal dwys a chritigol yn aml yn colli'r cymorth profedigaeth sydd ei angen arnynt drwy ddiffyg cyfeirio neu argaeledd.

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd, Marie Curie a'r bwrdd gofal diwedd oes i adolygu gwasanaethau profedigaeth. Mae Cruse Cymru yn gobeithio y bydd yr adroddiad terfynol yn cynnwys ymrwymiad cadarn a manwl i ddull comisiynu strategol ar gyfer gwasanaethau profedigaeth ledled Cymru. Wrth groesawu'r adolygiad, dywed Marie Curie wrthyf fod sicrhau cymorth digonol i deuluoedd sy'n dioddef profedigaeth yn rhan bwysig o'r broses o farw a'i bod yn flaenoriaeth i lawer yn y sector gofal diwedd oes.  

Mae'r elusen 2 Wish Upon a Star hefyd yn croesawu'r adolygiad hwn ac yn pwysleisio'r gydberthynas rhwng y sefydliadau a ariennir gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol neu fyrddau iechyd, sy'n cyfeirio neu'n atgyfeirio'n bennaf at sefydliadau, a'r rhai sy'n darparu gwasanaethau profedigaeth ond yn derbyn fawr ddim cyllid, os o gwbl. Mae adroddiad y grŵp trawsbleidiol yn galw am wneud profedigaeth yn nodwedd allweddol o bob polisi perthnasol.

Ym mis Gorffennaf 2018, cyhoeddodd y Gweinidog ei uchelgais y dylai Cymru ddod yn wlad dosturiol gyntaf—gwlad lle rydym yn sicrhau bod anghenion llesiant cymuned gyfan yn flaenoriaeth. Mae ein cynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu sut y bydd yn cyflawni hyn. Mae Marie Curie yn nodi llawer o enghreifftiau o arferion gorau mewn dinasoedd, trefi a gwladwriaethau, gan ddefnyddio'r model cymunedau tosturiol i sicrhau profiad diwedd oes gwell, yn amrywio o Good Life, Good Death, Good Grief a phecyn cymorth Partneriaeth Gofal Lliniarol yr Alban, ac annog cymunedau lleol i greu rhwydweithiau cymorth, i brosiectau yn India ac Awstralia.

Mae hosbisau a'r sector gwirfoddol mewn sefyllfa dda i gynnull gwirfoddolwyr a chefnogi cymunedau i helpu i ffurfio cymunedau tosturiol, ac mae llawer ohonynt eisoes yn darparu rhaglenni sy'n canolbwyntio ar ehangu cyfranogiad ym maes gofal diwedd oes. Mae Marie Curie yn gweithredu cynllun cynorthwywyr, lle mae gwirfoddolwyr wedi'u hyfforddi'n arbennig yn helpu i ddarparu cefnogaeth reolaidd i'r rhai sy'n derbyn gofal lliniarol a'u teuluoedd. Sefydlodd Tŷ'r Eos yn Wrecsam grwpiau cymunedau tosturiol, ac er na allant reoli atebolrwydd yn nes i lawr y llinell, dywedant y gall hosbisau gyfrannu os bydd eu rôl yn canolbwyntio ar bobl ag anghenion gofal lliniarol, ac o'r herwydd gallai cymunedau tosturiol ddatblygu gyda hwy ar y sail hon. Er enghraifft, maent yn mynd â'u gwasanaethau dydd i'r Waun yn Sir Ddinbych a'r Wyddgrug yn Sir y Fflint.  

Mae hosbisau hefyd yn darparu gwasanaethau ychwanegol at y rhai a ddarperir gan y GIG, megis cymorth i ofalwyr a therapïau cyflenwol. Fodd bynnag, er gwaethaf eu pwysigrwydd yn narpariaeth ehangach y gwasanaeth gofal, mae hosbisau'n wynebu nifer o heriau, sy'n effeithio ar eu gallu i ddarparu digon o wasanaethau cymorth. Maent yn dweud bod y rhain yn cynnwys diffyg cyllid statudol gan Lywodraeth Cymru, sy'n arwain at bwysau ariannol sy'n cyfyngu ar allu hosbisau i ddarparu gwasanaethau; fformiwla ariannu sydd wedi dyddio ac sy'n arwain at loteri cod post ar gyfer gwasanaethau; ac angen heb ei ddiwallu a achosir gan ddiffyg staff gofal lliniarol arbenigol.

Roedd gan hosbisau Cymru refeniw cyfunol o £36 miliwn yn 2018 a chafodd oddeutu £28 miliwn o'r arian hwn ei godi ganddynt eu hunain. Mae cyllid statudol wedi aros yn ei unfan ers blynyddoedd lawer. Mae hosbisau plant yn dweud wrthyf, er eu bod yn gweithredu ar sail 'prynu un, cael saith neu wyth am ddim', fod eu cyllid statudol wedi aros yn ei unfan ers 10 mlynedd.

Mae cyllid y Llywodraeth i hosbisau plant yng Nghymru, fel canran o'i gwariant elusennol, yn is nag yn Lloegr a'r Alban. Yng Nghymru, cafodd hosbisau plant 12 y cant o'u gwariant o gyllid y Llywodraeth y llynedd, o'i gymharu â 21 y cant yn Lloegr a 53 y cant yn yr Alban. Mae Llywodraeth y DU yn dyblu'r cyllid i hosbisau plant i £25 miliwn yn flynyddol erbyn 2023-24, ac mae Llywodraeth yr Alban yn darparu £30 miliwn dros bum mlynedd i gefnogi hosbisau plant yno. Mae hosbisau plant Cymru yn galw am weithredu ar yr argymhellion a wnaed gan adroddiad y grŵp trawsbleidiol ac yn gofyn i Lywodraeth Cymru ariannu'r astudiaeth sy'n archwilio'r galw am ofal lliniarol i blant yng Nghymru ac i ba raddau y mae hynny'n cael ei gyflawni.

Dywed hosbisau oedolion wrthyf nad yw eu cyllid statudol wedi newid ers degawd a'i fod, felly, wedi bod yn gostwng mewn termau real bob blwyddyn. Mae cyllid y Llywodraeth i hosbisau oedolion, fel canran o wariant, yn is yng Nghymru nag yn unrhyw wlad arall yn y DU. Yng Nghymru, cafodd hosbisau oedolion 28 y cant o gyllid y Llywodraeth, fel canran o'u gwariant yn 2017, o'i gymharu â 33 y cant yn Lloegr, 34 y cant yng Ngogledd Iwerddon, a 38 y cant yn yr Alban.

Nawr, er bod y rhan fwyaf o bobl yn dweud y byddai'n well ganddynt gael gofal yn eu preswylfa arferol—gartref neu yn eu cartref gofal—mae 55 y cant o farwolaethau yng Nghymru'n digwydd mewn ysbytai. Fodd bynnag, efallai y bydd llawer o'r rhain yn cael rhywfaint o gymorth gan hosbis. O ystyried y pwysau presennol yng Nghymru o ran nifer y gwelyau sydd ar gael mewn ysbytai, mae hosbisau'n darparu cyfle i ganiatáu i bobl gael y cymorth sydd ei angen arnynt y tu allan i amgylchedd ysbyty ac yn unol â'u dewis personol. Gan hynny, dylai byrddau iechyd lleol ddatblygu perthynas waith agos gyda darparwyr hosbisau i ganiatáu i bobl gael pecyn gofal holistaidd, cynllunio gwasanaethau gyda'i gilydd a chomisiynu'n ddoethach er mwyn gwella bywydau a lleihau'r pwysau ar gyllidebau.

Dywedodd adroddiad y grŵp trawsbleidiol fod y rhai sydd â dementia, methiant y galon, a chyflyrau niwrolegol yn arbennig, yn wynebu amrywiaeth o rwystrau i ofal priodol a'u bod yn llai tebygol o gael eu hatgyfeirio na dioddefwyr canser, pan ddylai fod ganddynt hawl i gael gofal yn y cartref, mewn hosbisau a chartrefi gofal yn ogystal ag ysbytai. Dywedodd yr adroddiad fod pobl dros 85 oed sy'n byw mewn cartref gofal yn gallu ei chael hi'n anodd cael y cymorth cywir, rhywbeth y mae cyn Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi tynnu sylw ato yn y gorffennol. Mae'r farn draddodiadol am hosbis fel uned i gleifion mewnol lle gallai rhywun fynd dros wythnosau olaf eu bywyd yn rhy gul pan fydd dros 80 y cant o wasanaethau hosbis yng Nghymru'n cael eu darparu yn y gymuned mewn gwirionedd, neu yng nghartrefi pobl.

Gwnaeth adroddiad y pwyllgor 11 o argymhellion ar gyfer gwella, gan gynnwys y dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu cynllun gweithredu cadarn i fynd i'r afael â'r bylchau staffio mewn gofal lliniarol, gan flaenoriaethu nyrsys ardal a nyrsys pediatrig cymunedol. Mae angen i fyrddau iechyd sicrhau bod gwasanaeth cynhwysfawr y tu allan i oriau ar gael ledled Cymru gyfan. Dylai hosbisau a darparwyr gofal lliniarol addysgu cydweithwyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol am yr amrywiaeth o wasanaethau sydd ar gael—maent eisiau gwneud hynny. A dylai'r fformiwla ariannu fod yn seiliedig ar angen presennol y boblogaeth, a bydd gofyn egluro pa fesuriadau a ddefnyddir i bennu'r angen, gan nodi nad y bwrdd gofal diwedd oes sy'n meddu ar y dulliau bellach a bod y cyllid wedi'i ddatganoli'n llawn i fyrddau iechyd a bod yr arweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer gofal lliniarol a gofal diwedd oes wedi dweud wrth y grŵp trawsbleidiol, er bod y bwrdd yn ymrwymedig iawn i ddod o hyd i ffyrdd o fesur canlyniadau, profiad, a'r gwahaniaethau a wnaed, ei fod yn dechrau poeni braidd fod pobl yn dweud ei bod yn anodd mesur canlyniadau pan nad oeddent yn ceisio gwneud hynny.

Mae gan Gymru boblogaeth sy'n heneiddio'n gyflym, a rhagwelir y bydd nifer y bobl 65 a throsodd yn cynyddu 36.6 y cant rhwng 2016 a 2041. O'r 34,000 o bobl sy'n marw bob blwyddyn yng Nghymru, mae 75 y cant ohonynt angen rhyw ffurf ar ofal lliniarol a gofal diwedd oes. Fel y dywedodd arweinydd hosbis wrthyf yr wythnos hon, 'Mae'r anghenion yn tyfu ac yn tyfu ond nid oes rhagor o arian yn dod i mewn, felly ar ba gam rydym yn dechrau lleihau'r ddarpariaeth?' Roedd yn pwysleisio mai annibyniaeth hosbisau yw eu cryfder a'r rheswm pam y mae eu cymunedau'n eu cefnogi, ond ychwanegodd fod byrddau iechyd yn cael enillion enfawr ac anghyfartal gan hosbisau ac felly nad oes ganddynt unrhyw ddiddordeb mewn newid y mecanwaith ariannu. Mater i Lywodraeth Cymru gan hynny yw sicrhau bod hyn yn digwydd.

Mae cydweithio effeithiol rhwng y GIG a'r sector elusennol yn hanfodol os ydym am wella'n mynediad at ofal hosbis a gofal lliniarol i bawb ledled Cymru yn sylweddol—bûm yn dweud hyn yma ers 15 mlynedd—gyda byrddau iechyd yn gofyn i hosbisau sut y gallant eu helpu i gyflawni mwy. Gadewch i ni wrando, gadewch i ni sicrhau bod ein hosbisau yn cyflawni popeth a allant, gadewch inni wella bywydau a gadewch inni ddefnyddio cyllideb y GIG gryn dipyn yn fwy clyfar nag y gwnawn ar hyn o bryd.

16:10

Diolch. Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Felly, a gaf fi ofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans, yn ffurfiol?

Gwelliant 1—Rebecca Evans

Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod bod cynnydd wedi’i wneud o ran ehangu mynediad i ofal hosbis a gofal lliniarol yng Nghymru a bod angen gwneud rhagor o waith i nodi unrhyw angen sydd heb ei ddiwallu

Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru:

a) yn parhau i weithio gyda phartneriaid statudol a phartneriaid yn y trydydd sector i gyflawni’r uchelgais o sicrhau mai Cymru yw 'gwlad dosturiol' gyntaf y byd;

b) yn sicrhau bod cryfhau’r ddarpariaeth gwasanaethau gofal lliniarol yng Nghymru yn cael ei wneud yn ganolog i’r dull gweithredu hwn;

c) yn darparu meini prawf adrodd cyson, ac yn mynd i’r afael â bylchau yn y data a gaiff eu casglu am anghenion gofal lliniarol oedolion a gofal lliniarol pediatrig;

d) yn parhau i fonitro’r dull cyllido ar gyfer hosbisau elusennol gan weithio gyda’r bwrdd diwedd oes a’r byrddau iechyd;

e) yn parhau i fonitro ac adolygu’r cyllid a ddarperir i hosbisau oedolion a phlant yng Nghymru.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Helen Mary Jones i gynnig gwelliannau 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth? Helen.

Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:

sicrhau bod gofalwyr yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt yn ystod ac ar ôl iddynt ofalu am rywun sy'n cael gofal lliniarol.

Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:

sicrhau bod amrywiaeth o wasanaethau ar gael ym mhob rhan o Gymru fel bod modd parchu dewisiadau'r unigolyn o ran y math o ofal lliniarol a ddarperir, ynghyd â lleoliad y gofal hwnnw.

Cynigiwyd gwelliannau 2 a 3.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i grŵp y Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl hon ar y mater pwysig hwn, a diolch yn bersonol i Mark Isherwood am ei waith rhagorol ar y pwnc eithriadol o bwysig hwn sydd, fel y dywed, wedi bod yn nodwedd gyson o'i gyfraniad i'r Cynulliad ers iddo gael ei ethol. A gwn fod cydweithwyr yn y trydydd sector a'r mudiad hosbis yn ddiolchgar iawn i Mark Isherwood am bopeth y mae'n ei wneud, ac rwy'n siŵr y caiff y diolch hwnnw ei ategu ar draws y pleidiau yn y Siambr.

Hoffwn siarad yn fyr am ein dau welliant, os caf, Ddirprwy Lywydd, a gwneud un sylw cyffredinol pellach. Mae ein hail welliant, gwelliant 2, yn tynnu sylw at bwysigrwydd gofalwyr a chymorth i ofalwyr yn hyn o beth. Wrth gwrs, bydd Aelodau'r Cynulliad yn ymwybodol fod y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi bod yn gwneud gwaith mawr yn edrych ar gymorth i ofalwyr yn gyffredinol. Mae effaith gofalu am rywun yn y sefyllfa hon yn enfawr wrth gwrs, ac i lawer o bobl, mae'r effaith emosiynol yn ddifrifol iawn. Mae'r materion sydd ynghlwm wrth ofalu am unigolyn iau tuag at ddiwedd eu hoes—efallai y byddwch hefyd, efallai, fel taid neu nain, yn gofalu am blant yr unigolyn iau hwnnw. Mae'r patrwm, wrth gwrs—gwelwn yn aml iawn y bydd yr unigolyn iau, sydd â chanser dyweder, yn teimlo'n well am rai misoedd efallai, ond yn anhwylus iawn eto drachefn; nid yw'r patrwm yn gyson. Ac felly mae gan ofalwyr sy'n cynorthwyo pobl mewn sefyllfaoedd gofal lliniarol anghenion penodol ac mae angen y cymorth hwnnw arnynt hefyd ar ôl profedigaeth. Mae'r rôl honno'n cael ei cholli, yn ogystal, os ydych chi wedi bod yn gofalu am rywun ers peth amser ac yn sydyn, nid ydynt yno gyda chi mwyach. Rydych yn wynebu'r galar o'u colli a chwestiwn ynglŷn â sut yr ewch ymlaen â'ch bywyd eich hun, ac rwy'n siŵr bod llawer ohonom wedi gweld hyn yn ein teuluoedd ein hunain. Wrth gwrs, mae'r mudiad hosbis yn gwneud gwaith da iawn mewn perthynas â chymorth profedigaeth o'r fath, ond ni ddylem ddibynnu arnynt hwy yn unig. Felly, hoffwn argymell ein hail welliant i'r hyn sydd, yn gyffredinol, yn gynnig cryf iawn i'r Cynulliad.

Mae ein gwelliant 3 yn sôn am yr angen i ddarparu amrywiaeth o wasanaethau, a chredaf fod Mark Isherwood wedi cydnabod yn ei araith fod ar bobl eisiau pethau gwahanol tuag at ddiwedd eu hoes. Dyma'r un peth sy'n sicr o ddod i bawb ohonom, ond mae'n bosibl fod lle y teimlwn yn fwyaf cyfforddus i dreulio ein horiau a'n dyddiau olaf yn amrywio'n fawr o un person i'r llall. Mae llawer o bobl yn dewis cymorth yn y cartref, ac rwyf am gofnodi fy niolch unwaith eto i'r nyrsys Marie Curie a'n helpodd i ofalu am fy mam gartref. Ni fydd eraill eisiau hynny; nid ydynt am roi'r hyn a welant fel pwysau ar aelodau o'u teuluoedd a'u gofalwyr. Felly, rhaid inni sicrhau bod amrywiaeth o wasanaethau ar gael. Ac fel cynrychiolydd ar gyfer Canolbarth a Gorllewin Cymru, rwy'n arbennig o awyddus ein bod yn sicrhau bod y rheini ar gael ar draws cymunedau gwledig hefyd, a cheir rhai gwasanaethau hosbis yn y cartref rhagorol, sefydliad Paul Sartori, er enghraifft—

A wnewch chi dderbyn ymyriad? Rydych yn garedig iawn yn derbyn yr ymyriad, Helen Mary. Roeddwn am dynnu eich sylw at rywbeth, ac rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi mai un o'r rhwystrau mawr, mewn gwirionedd, yw'r loteri cod post a welwn ar draws ein byrddau iechyd, gyda llawer yn methu rhoi blaenoriaeth i hyn, fel bod—. Mae pobl eisiau marw a chael y gefnogaeth honno lle y dymunant fod, a 24 awr, saith niwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn, os yw pobl am fod gartref, dylent allu bod gartref, ond drwy loteri cod post byrddau iechyd lleol, nid ydynt yn cael y cyfle hwnnw.

Cytunaf â phopeth a ddywedodd Angela Burns. Rwy'n credu nad yw'n dderbyniol fod pobl mewn rhai cymunedau yn gallu cael gwasanaeth a phobl mewn cymunedau eraill yn methu ei gael. Nid wyf yn credu y byddai unrhyw un ohonom am weld un ateb ar gyfer pawb ym mhob rhan o Gymru, gan fod angen pethau gwahanol ar ein cymunedau a'n hunigolion, ond mae angen inni gynnig amrywiaeth o wasanaethau.

Hoffwn symud ymlaen yn fyr i wneud sylw ar bwynt 4(d) yn y cynnig gwreiddiol cynnig rwy'n ei gefnogi, ynghylch yr angen am amrywiaeth o fodelau ariannu, ac i dynnu sylw'r Cynulliad at y model a ddefnyddir gan Hosbis Tŷ Bryngwyn yn Llanelli yn fy rhanbarth i. Rwyf wedi cael y fraint o gefnogi gwaith yr hosbis honno ers blynyddoedd lawer. Yn wir, un o fy nyletswyddau cyntaf fel Aelod Cynulliad oedd mynychu ei hagoriad a rhoi rhywfaint o bwysau ar y bwrdd iechyd lleol wedyn i wneud yn siŵr eu bod yn ei hariannu'n briodol. Nawr, yn y model hwnnw, darperir ac ariennir y gofal sylfaenol, y gofal nyrsio, y gofal meddygol gan y bwrdd iechyd lleol. Adeiladwyd ac adnewyddwyd yr hosbis, a darparwyd yr holl bethau ychwanegol sy'n dod gyda gofal hosbis gan y sefydliad elusennol, sy'n cael cefnogaeth leol enfawr.

Mae'n fodel arloesol, ac rwy'n credu y gallai fod yn un y gellid ei ddatblygu ledled Cymru, ac efallai y gofynnaf i'r Gweinidog gytuno i edrych ar hynny, ac i gymeradwyo hynny i fyrddau iechyd lleol eraill. Ni fyddai'n gweithio i bob hosbis elusennol, oherwydd byddai rhai ohonynt yn teimlo bod hynny'n golygu colli gormod o'u hannibyniaeth eu hunain a'r ffordd y maent am ddarparu gwasanaethau, ond mae'n un ffordd a welais, lle caiff y gofal sylfaenol a fyddai fel arall yn cael ei ddarparu mewn ysbyty, efallai, yn cael ei ddarparu mewn lleoliad llawer gwell, ond lle mae'r model elusennol yn rhydd wedyn i ddarparu'r pethau ychwanegol, os mynnwch, ac nid y pethau sylfaenol.

Yn fyr iawn, i orffen fy nghyfraniad, os caf, Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddweud na allwn gefnogi gwelliant y Llywodraeth. Cafwyd rhywfaint o gynnydd, ond mae gormod ynddo am adolygu a monitro, a dim digon o weithredu. Mae'r grŵp trawsbleidiol wedi gwneud gwaith rhagorol. Mae gennym y dystiolaeth ynglŷn â'r hyn sydd angen ei wneud, ac mae angen inni fwrw ymlaen â hynny. Rwy'n siŵr y gallwn i gyd gytuno â'r dyhead i weld Cymru'n dod yn wlad dosturiol gyntaf yn hyn o beth, ond y cwestiwn yw sut y mae gwireddu'r dyhead hwnnw, ac i'r perwyl hwnnw, rwy'n argymell ein gwelliannau 2 a 3 a'r cynnig gwreiddiol i'r Siambr. Diolch.

16:15

Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl hon, gan wybod pa mor werthfawr yw ein mudiad hosbis, a hoffwn ategu sylwadau Helen Mary am y gwaith gwych y mae Mark Isherwood wedi'i wneud ar ran y mudiad hosbis. Ymhell cyn i mi ddod yn AC, gwyddwn am Mark oherwydd y gwaith a wnâi, felly diolch, Mark.

Daeth y gynghrair Dying Matters i'r casgliad canlynol:

Mae angen mynd i'r afael mewn cymunedau â'r tabŵ o siarad am farw a marwolaeth. Er mwyn bod yn effeithiol, mae angen inni gydweithio â phawb sydd â diddordeb mewn codi ymwybyddiaeth o faterion diwedd oes.

Mae hyn yn arbennig o wir am ofal hosbis a gofal lliniarol. Roedd Mark yn llygad ei le yn nodi bod 23,000 o bobl yng Nghymru angen gofal lliniarol ar unrhyw adeg, ac mae'n ofnadwy y gallai tua 6,000 o bobl â chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd fod yn cael eu hamddifadu o ddarpariaeth ofal a bod un o bob pedwar o bobl yn marw heb y cymorth a'r gofal y maent yn ei haeddu.

Yn dilyn cyhoeddi'r adroddiad 'anghydraddoldebau mewn mynediad at ofal hosbis a lliniarol', dywedodd eich Llywodraeth Cymru, Weinidog, y byddai'r argymhellion yn darparu ffocws ychwanegol yn 2018. Fodd bynnag, mae nifer o nodau heb eu cyflawni o hyd. Galwai argymhelliad 7 ar y bwrdd gweithredu gofal diwedd oes i

'ddatblygu cynllun gweithredu cadarn i fynd i'r afael â'r prinder ym maes nyrsio cymunedol'.

Rydym ymhell o gyflawni hyn. Mae darparwyr hosbisau wedi rhybuddio am brinder nyrsys pediatrig cymunedol a bod hyn wedi atal rhai plant rhag cael gofal hirdymor yn eu cartrefi. Mae nyrsys ardal wedi gweld newid yn y dull gwasanaeth o alw i mewn i fod yn seiliedig ar dasgau, sy'n golygu bod angen mwy o staff i ddiwallu'r anghenion holistaidd hyn. Mae hyd yn oed y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon wedi gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd ar ddatblygu cynllun gweithredu.

Rhaid i mi gydnabod bod rhai cynlluniau rhagorol ar y gweill, megis y gwasanaeth nyrsio diwedd oes y tu allan i oriau arferol yng ngogledd Cymru, sy'n gynllun arloesol, ond mae'r angen yn parhau i gryfhau'r gofynion staffio.

Mae cyllid yn peri rhwystredigaeth fawr hefyd. Er enghraifft, rydym ni—ac rwy'n dweud 'ni', rwy'n dweud hynny ar ran pob etholwr, ond fi hefyd fel Aelod Cynulliad—rydym yn ffodus mai Llandudno yw cartref Hosbis Dewi Sant, cyfleuster gofal lliniarol eithriadol i oedolion sy'n gwasanaethu gogledd-orllewin Cymru i gyd. Fodd bynnag, darperir llai na 14 y cant o'r cyllid sydd ei angen arno gan Lywodraeth Cymru a'r bwrdd iechyd lleol.

Hefyd, mae i Tŷ Gobaith yn fy etholaeth le arbennig yn ein calonnau. Un mis yn unig o incwm yr hosbis sy'n dod o ffynonellau statudol. Nid yw hyn yn ddigon da, ac yn ystod Wythnos Gofal Hosbis, gelwais am ddarparu mwy o gymorth statudol i Tŷ Gobaith. Mae'r elusen ar ei cholled hefyd o ganlyniad i broblem Cymru o ddarparu cymorth ariannol statudol gwael. Dim ond 12 y cant o'r swm y mae hosbisau plant yn ei wario ar ofalu am blant sy'n ddifrifol wael yng Nghymru a gyfrannwyd gan Lywodraeth Cymru a byrddau iechyd lleol. Yn Lloegr, 21 y cant yw'r ffigur; yn yr Alban, 47 y cant. Mae hosbisau Cymru'n haeddu mwy.

Yr un mor wael yw annhegwch y dosbarthiad, gydag un hosbis plant yn cael 8.1 y cant o'i wariant tra bo un arall yn cael 18.2 y cant. Un ffactor sy'n cyfrannu at hyn yw'r ffaith nad yw'r fformiwla ariannu wedi'i hadolygu ers degawd. Yn amlwg, mae angen gweithredu ar argymhelliad 11 o'r adroddiad fel y gallwn fod yn siŵr bod y dyraniadau'n seiliedig ar angen cyfredol y boblogaeth. Yn wir, mae gennym boblogaeth sy'n prysur newid a heneiddio. Gallai nifer y bobl 65 oed a throsodd godi bron i 40 y cant erbyn 2041. Mae angen i ddyraniadau ariannol barchu ac adlewyrchu hynny, ond nid mwy o arian yn unig yw'r ateb.

Mae gennym gyfle i greu gwlad dosturiol. Mae hyn yn ymwneud â llywodraeth leol a'r Llywodraeth ganolog yn annog, yn cefnogi ac yn hwyluso gweithredoedd gan eraill. Yn anffodus, nid yw Llywodraeth Cymru wedi gosod gweledigaeth na cherrig milltir clir, ond caf fy nghalonogi gan y ffaith bod hosbisau mewn sefyllfa dda i ymateb i gynllun cenedlaethol. Byddaf yn cefnogi'r ddadl hon yn llawn heddiw, gan fy mod yn hyderus, os gweithredir yn gadarnhaol ar y materion a godir, y byddai'r gwaith o ddarparu gwasanaethau gofal lliniarol yng Nghymru yn cael ei gryfhau. Nid yw ein pobl yng Nghymru yn haeddu dim llai.

16:20

Rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon heddiw, a chydnabod mor bwysig yw gofal diwedd oes a gofal lliniarol i gynifer o'n poblogaeth a'u teuluoedd. Mae wedi bod yn bwysig ers cryn dipyn o amser ac yn amlwg, fe fydd yn bwysig yn y dyfodol. Fel Aelodau eraill, rwy'n gyfarwydd iawn â gwaith hosbisau lleol ac ansawdd a phwysigrwydd y gwaith hwnnw, yn fy achos i, Hosbis Dewi Sant yn bennaf, sydd wedi bod yn darparu'r gofal diwedd oes a gofal lliniarol hwnnw ers tua 40 o flynyddoedd bellach, gan weithio gyda'r gwasanaeth iechyd gwladol.

Rwyf wedi dod ar draws y gwaith hwnnw mewn gwasanaethau Goleuo Bywyd, er enghraifft, ac rwy'n siŵr bod Aelodau eraill wedi mynychu'r gwasanaethau hynny o gwmpas adeg y Nadolig, pan fydd teuluoedd mewn gwasanaethau yn cofio eu hanwyliaid a elwodd o'r gofal a ddarperir gan yr hosbis, ac yn y gwasanaethau hynny mae'n amlwg iawn pa mor bwysig yw hynny i'r teuluoedd, pa mor emosiynol ydynt ynglŷn â'r gofal a gafwyd a'i werth, a'r ymrwymiad a deimlant i waith yr hosbis, nid yn unig am y gofal a brofodd eu teulu hwy, ond i bobl yn gyffredinol. Ac wrth gwrs, maent yn gwneud cymaint o waith codi arian preifat fel hosbisau. Rwy'n siŵr bod pob un ohonom yn gyfarwydd iawn â hynny. Yn wir, rwy'n rhedeg hanner marathon Casnewydd bob blwyddyn, sy'n codi arian ar gyfer Hosbis Dewi Sant, ac maent yn gwneud amrywiaeth anhygoel o waith codi arian. Dyna'r gronfa mewn gwirionedd; byddai eu gwasanaethau y tu allan i ddarpariaeth prif ffrwd y GIG.

Ond wrth gwrs, mae llawer o'r angen heb ei ddiwallu sy'n bodoli yn ymwneud â darpariaeth o fewn y brif ffrwd, a dyna lle rwy'n meddwl ein bod yn dod at gwestiynau dyrys am lefel cyllid Llywodraeth Cymru, ei ddigonolrwydd, a sut y gellid ei ddatblygu ar gyfer y dyfodol. Credaf fod angen inni fod yn adeiladol ac edrych ar y modelau sy'n bodoli a sut y gallwn gydnabod y boblogaeth sy'n heneiddio, yr angen heb ei ddiwallu sy'n bodoli, a sicrhau bod ein hosbisau wedi'u harfogi'n llawn i chwarae'r rôl y maent yn ei chwarae yn well nag unrhyw un arall yn y gwaith o ddarparu'r gofal a'r gwasanaeth hollbwysig hwn.

Un rhan o'r hafaliad yw'r 'Agenda ar gyfer Newid', oherwydd gwn fod hosbisau'n poeni nad ydynt wedi cael y codiad cyflog, y codiad cyflog 2018-19 sy'n parhau am dair blynedd, a gafodd ei basbortio iddynt gan fyrddau iechyd, ac yn amlwg mae hynny'n creu problemau gwirioneddol iddynt. Mae'n ymddangos bod yna ddiffyg eglurder, braidd. Rwy'n credu mai safbwynt y byrddau iechyd, yn rhannol o leiaf, yw eu bod yn gwneud cyfraniad cyffredinol i'r gwasanaethau prif ffrwd a ddarperir gan hosbisau, ac y byddai hynny wedyn yn talu am godiad cyflog yr 'Agenda ar gyfer Newid'. Nid yw honno'n farn a rennir gan hosbisau, ac rwy'n meddwl tybed a allai'r Gweinidog egluro'i ddealltwriaeth o'r materion hyn heddiw, materion sy'n bwysig iawn i hosbisau ledled Cymru, fel rwy'n dweud.

Ddirprwy Lywydd, nid wyf yn credu bod diffyg dealltwriaeth ynglŷn â gwerth y gwaith y mae'r hosbisau'n ei wneud. Fel y clywsom eisoes, byddai'n well gan gymaint o bobl ddiweddu eu hoes gartref gyda'u teuluoedd, gyda ffrindiau mewn amgylchedd cyfarwydd, ac mae llawer iawn o deuluoedd am i'w hanwyliaid ddod i ddiwedd eu hoes yn y ffordd honno. Mae hosbisau'n darparu'r cymorth, y cyngor a'r gwasanaeth hanfodol sy'n galluogi hynny i ddigwydd, yn ogystal â gofal o fewn yr hosbis. Felly, rwy'n credu bod pob un ohonom yn llawn sylweddoli gwerth y gofal hwn ac yn wir yr heriau a ddaw yn sgil poblogaeth sy'n heneiddio ac angen heb ei ddiwallu. Felly, mae'n rhaid i ni barhau, rwy'n credu, i weithio gyda'n gilydd—y GIG, hosbisau, Llywodraeth Cymru a phartneriaid allweddol eraill—os ydym yn mynd i barhau â'r gofal sydd mor bwysig a gwerthfawr, a'i ddatblygu ymhellach ar gyfer yr heriau hyn yn y dyfodol.

16:25

I lawer o bobl, mae 'hosbis' yn air brawychus am ei fod yn gysylltiedig â diwedd oes, ond mae hosbisau'n ffordd i bobl flaenoriaethu dymuniadau'r claf a'r teulu. Maent yn cynnig gofal a chymorth arbenigol sy'n gweithio i sicrhau rhwyddineb a chysur a chynnal ansawdd bywyd y claf. Yr allwedd i roi cysur yn y dyddiau olaf yw cynllun cynhwysfawr sy'n cynnwys tîm o weithwyr proffesiynol meddygol a gofal iechyd sy'n mynd i'r afael â phob agwedd ar salwch claf, er mwyn rheoli a lleihau poen ac anghysur. Mae gofal hosbis yn lleddfu pryder teuluoedd, yn darparu gwasanaeth cwnsela ac yn rhoi cyfle i gleifion farw gydag urddas a pharch. Mae tua 23,000 o bobl yng Nghymru yn cael gofal lliniarol, ac ar unrhyw un adeg mae'n cynnwys 1,000 o blant.

Fodd bynnag, er gwaethaf pwysigrwydd darparu'r gwasanaeth gofal hanfodol hwn, mae hosbisau ar hyn o bryd yn wynebu nifer o heriau sy'n effeithio ar eu gallu i ddarparu digon o gymorth. Canfu ymchwiliad diweddar a gynhaliwyd gan y grŵp trawsbleidiol ar hosbisau a gofal lliniarol fod yr hosbisau'n dioddef oherwydd diffyg cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru a'r byrddau iechyd lleol. Mae prinder staff gofal lliniarol arbenigol a nyrsys cymunedol wedi achosi oedi cyn i unigolion gael gofal, gan waethygu angen heb ei ddiwallu a chreu bylchau o fewn y gwasanaethau.

Mae hosbisau'n darparu amrywiaeth o wasanaethau i gleifion, eu teuluoedd a'u gofalwyr, ond ni ystyrir bod pob un o'r gwasanaethau hyn yn ddarpariaeth graidd gan y GIG. Nid yw'r cyfraniad statudol at ariannu hosbisau elusennol yn cyfrannu at yr ystod lawn o ofal a ddarperir gan hosbisau na'u rheolaeth a'u gorbenion. O ganlyniad, mae hosbisau'n aml yn dibynnu ar roddion elusennol i ddarparu gwasanaethau. Yn 2018, codwyd dros £28 miliwn gan hosbisau yng Nghymru. Mae ffigurau gan Hospice UK yn dangos mai Cymru sydd â'r lefel isaf o gyllid gan y Llywodraeth i hosbisau oedolion yn y Deyrnas Unedig. Mae hosbisau oedolion yng Nghymru'n cael tua 28 y cant o'u cyllid gan y Llywodraeth, o'i gymharu â 33 y cant yn Lloegr, 34 y cant yng Ngogledd Iwerddon, a 35 y cant yn yr Alban.

Mae darparu gwasanaethau gofal lliniarol hefyd yn amrywio'n sylweddol ledled Cymru, gan arwain at loteri cod post ar gyfer gwasanaethau fel y crybwyllwyd yn gynharach. Nododd astudiaeth Llywodraeth Cymru ei hun y dylai'r rhai sy'n cael gwasanaethau lliniarol allu cael gofal o safon uchel lle bynnag y maent yn byw. Canfu'r grŵp trawsbleidiol fod amrywiadau ac anghysonderau rhanbarthol yn bodoli y gellid mynd i'r afael â hwy ar lefel genedlaethol. Mae dull ad hoc o ddatblygu gwasanaethau yn cyfrannu at anghysonderau yn y gwasanaethau a ddarperir. Mae anawsterau wrth gasglu a chydlynu data ar ddefnydd o ofal lliniarol yn golygu efallai na fydd darparwyr gwasanaethau yn gallu cynllunio'n ddigonol i ddiwallu galw ac anghenion mewn ardaloedd lleol.

I ychwanegu at y pwysau staffio, ac yn benodol, y prinder meddygon teulu, nyrsys ardal a nyrsys pediatrig cymunedol, sy'n cydlynu ac yn darparu gofal beunyddiol i bobl ag anghenion gofal lliniarol, nodwyd yn ddiweddar fod prinder meddygon ymgynghorol mewn gofal lliniarol wedi cyfyngu ar ddefnydd gwelyau mewn uned i gleifion mewnol a weithredir gan Ofal Hosbis Dewi Sant yng Nghasnewydd. Gostyngodd defnydd gwelyau o 74 y cant i 53 y cant yn 2018. Ddirprwy Lywydd, mae Cymru'n llusgo ar ôl gwledydd datblygedig eraill ar ddarparu cyllid teg a digonol i'n hosbisau. Rhaid inni gydnabod gwir werth y gwasanaethau y mae hosbisau'n eu darparu i'r bobl sydd angen gofal diwedd oes a'u teuluoedd.

Mae gennyf brofiad personol. Cafodd fy nhad-yng-nghyfraith ddiagnosis flwyddyn neu ddwy yn ôl, a 12 mis yn gynharach, dywedodd ei feddyg teulu wrthym efallai na fyddai'n byw am 12 mis arall. Mae hynny'n newyddion brawychus pan gaiff teuluoedd wybod am y mathau hyn o—boed yn ganser, yn glefyd niwronau motor, neu'n ddementia. Mae'r rhain yn ddigwyddiadau pan fydd y larymau'n dechrau canu, ac mae meddygon bron yn gwybod pa bryd fydd bywyd yn dod i ben. Dyna'r adeg pan fo'n rhaid i'n meddygon teulu roi cefnogaeth lawn i'r teulu er mwyn sicrhau eu bod yn cael yr urddas a'r parch yn y teulu a'r gofal a'r awydd i ddiwedd eu hoes fod yn llawn heddwch, cytgord a chariad ynghanol aelodau'r teulu, yn hytrach na marw ar eu pen eu hunain yn rhywle. Diolch yn fawr iawn.

16:30

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Diolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl bwysig hon, ac rwy'n falch o gymryd rhan. Ni allwn roi diwedd ar farwolaeth a marw, ond un o'r pethau pwysicaf y gall y wladwriaeth ei wneud yw sicrhau y gall ein dinasyddion farw gydag urddas, heb boen a chyda pharch. Yn anffodus, mae gofal diwedd oes yng Nghymru yn ddiffygiol. Mae oddeutu 33,000 o bobl yn marw yng Nghymru bob blwyddyn, ac eto nid yw un o bob pedwar o'r rhai a allai gael budd o ofal lliniarol yn ei gael.

Fel yr amlygwyd gan y grŵp trawsbleidiol ar hosbisau a gofal lliniarol yn eu hadroddiad, mae nifer o ffactorau'n cyfrannu at fynediad anghyfartal at ofal lliniarol, gan gynnwys daearyddiaeth, lleoliad gofal, diagnosis, oedran a chefndir ethnig. Mae ymwybyddiaeth wael o hosbisau a gofal lliniarol yn cyfrannu naill ai at oedi mewn gofal neu at absenoldeb gofal diwedd oes addas. Ac nid yw hyn yn ddigon da. Sut y gallwn ni fel cenedl amddifadu ein dinasyddion o farwolaeth dda? Mae gennym ddyletswydd i bobl Cymru i sicrhau mynediad cyfartal at ofal diwedd oes i bawb.

Mae'n rhaid i ni weithredu gweledigaeth Marie Curie ar gyfer Cymru dosturiol. I fod yn genedl wirioneddol dosturiol, rhaid inni nid yn unig wella gofal diwedd oes, ond rhaid inni hefyd fynd i'r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd a chefnogi'r rhai sy'n dioddef yn sgil galar a phrofedigaeth. Er y gallai ac y dylai Llywodraeth Cymru wneud rhagor, gallwn ninnau hefyd wneud rhagor fel cymdeithas. Mae'n rhaid i ni roi diwedd ar y tabŵs sy'n ymwneud â marwolaeth. Ni ddylid sôn am farwolaeth a marw drwy sibrwd distaw'n unig. Rhaid inni fod yn agored am y rhan naturiol hon o fywyd, ac er y dylai pawb ohonom wneud popeth y gallwn i ohirio'r hyn sy'n anochel, rhaid inni baratoi ar gyfer marw.

Yn yr Alban, mae'r ymgyrch Good Life, Good Death, Good Grief wedi datblygu pecynnau cymorth wedi'u hanelu at greu Alban lle mae pawb yn gwybod sut i helpu pan fydd rhywun yn marw neu'n galaru. Mae ganddynt becynnau cymorth ar gyfer creu rhwydweithiau cymorth mewn cymunedau lleol a chreu lleoedd sy'n ystyriol o alar pobl. Mae hynny'n rhywbeth y gallwn ac y dylem ei efelychu yng Nghymru. Beth am weithio tuag at greu Cymru lle mae pobl yn helpu ei gilydd drwy'r cyfnod anodd sy'n dod gyda marwolaeth, marw a cholled. Beth am annog cyflogwyr Cymru i fynd ati i gefnogi pobl sydd â salwch angheuol neu bobl sy'n dioddef profedigaeth.

Mae gennym gynifer o rwystrau i'w goresgyn cyn y gall Cymru gael ei hystyried yn wlad dosturiol go iawn. Ac os ydym am wireddu Cymru dosturiol yn hytrach na'i bod yn freuddwyd gwrach, rhaid inni ddechrau drwy fabwysiadu'r argymhellion a amlinellir yn yr 'Anghydraddoldebau' mewn mynediad at ofal hosbis a gofal lliniarol. Rhaid inni sicrhau yn anad dim fod gan bawb fynediad at ofal diwedd oes o safon uchel, a sicrhau bod gennym strwythurau ar waith i helpu ein gilydd yn ystod cyfnodau o golled a galar, yn y gweithle ac yn y gymuned. Ac rwy'n annog fy nghyd-Aelodau i gefnogi'r cynnig hwn sydd ger ein bron heddiw. Diolch yn fawr.

16:35

Rwy'n falch dros ben o gael siarad o blaid y cynnig hwn heddiw ac ategu'r hyn a ddywedodd cyd-Aelodau i ganmol rôl hosbisau a'r gwasanaethau y maent yn eu darparu i'r rhai sy'n dioddef o gyflwr sy'n cyfyngu ar fywyd a'u teuluoedd. Yn fy etholaeth i, hoffwn dalu teyrnged i Gynghrair Cyfeillion Ysbyty Llanidloes. Cafodd eu hystafelloedd gofal lliniarol eu hagor yn swyddogol y llynedd, ac roedd yn bleser gennyf fod yn bresennol yn y lansiad.

Cafodd yr ystafelloedd eu hariannu'n llawn gan Gynghrair Cyfeillion Llanidloes, a chan y gymuned leol drwy ei gwaith codi arian ei hun hefyd. Mae'r ystafelloedd gofal lliniarol wedi bod yn gwbl amhrisiadwy i gymuned Llanidloes a'r cyffiniau, gan alluogi pobl i gael gofal a chymorth y tu allan i leoliad ysbyty. Ac maent wedi'u cynllunio yn y fath fodd fel ei bod yr un mor briodol hefyd i deuluoedd a phlant iau ymweld ag aelodau o'r teulu sy'n defnyddio'r cyfleuster hwnnw. Er fy mod yn siŵr ein bod i gyd yn cydnabod y rôl bwysig sydd gan hosbisau a chanolfannau gofal lliniarol o fewn y ddarpariaeth gwasanaethau gofal ehangach, ni ddarparwyd arian—unrhyw arian—gan y bwrdd iechyd na Llywodraeth Cymru i gefnogi'r gwaith o sefydlu ystafelloedd gofal lliniarol Llanidloes. A dyna yw'r sefyllfa ar draws y wlad hefyd.

A chytunaf â fy nghyd-Aelod, Mark Isherwood, ynglŷn â'r diffyg cyllid statudol gan Lywodraeth Cymru, gan arwain at bwysau ariannol sy'n cyfyngu ar allu hosbisau i ddarparu gwasanaethau oherwydd prinder staff gofal lliniarol arbenigol. Felly, bellach mae'n bryd adolygu'r fformiwla ariannu rwy'n credu, fformiwla sy'n 10 mlwydd oed, er mwyn adlewyrchu'r newidiadau diweddar yn anghenion y boblogaeth ac i roi diwedd ar y loteri cod post sy'n bodoli, a'r orddibyniaeth ar y sectorau gwirfoddol ac elusennol. Ac rwy'n gofyn y cwestiwn hwn i'r Gweinidog: a yw'n iawn, fel yr amlinellais, mai mater i gymunedau a'r Gynghrair Cyfeillion yw codi arian eu hunain am gyfleuster gofal lliniarol? Heb y cyfleuster hwnnw, byddai pobl yn yr ardal yn gorfod teithio milltiroedd—milltiroedd—er mwyn ymweld â theulu ac anwyliaid. Felly, rwy'n credu bod angen i ni weld mwy o arweiniad gan fyrddau iechyd yn ogystal â Llywodraeth Cymru i gynnig dull mwy rhagweithiol o helpu hosbisau ac ystafelloedd gofal lliniarol i ateb heriau ariannol a gweithredol yn y dyfodol.

I gloi, Ddirprwy Lywydd, yn sicr, mae angen mwy o gefnogaeth statudol ar hosbisau a chanolfannau gofal lliniarol yng Nghymru i ganiatáu iddynt barhau i ddarparu'r lefel o wasanaeth a chymorth a roddant ar hyn o bryd i'r rhai sy'n dod tuag at ddiwedd eu hoes, fel nad ydym yn llusgo ar ôl y gwledydd datganoledig eraill o ran darparu cyllid teg a digonol i hosbisau.

Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol nawr—Vaughan Gething. 

Diolch ichi, Lywydd. Mae arnaf eisiau diolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r mater pwysig hwn i'r Siambr heddiw, a'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu. Rwyf wedi gwrando ar yr hyn a oedd gan y siaradwyr i'w ddweud, ac rwy'n cydnabod nifer o'r pwyntiau a wnaed. Ac yn gyffredinol, rydym yn cefnogi'r cynnig at ei gilydd. Cyflwynwyd gwelliant y Llywodraeth i ddwyn ynghyd yr ymrwymiadau a wnaed gennym, y cynnydd sydd ar y gweill, ac i nodi ein dull o weithredu ar gyfer y dyfodol. Rwy'n cydnabod na fydd pob Aelod yn cytuno ag ef, ond rwy'n cydnabod bod pobl yn anelu i'r un cyfeiriad yn fras.

Rwy'n cydnabod bod 33,000 o bobl yn marw yng Nghymru bob blwyddyn ac ar unrhyw un adeg, bydd 23,000 o bobl, gan gynnwys 1,000 o blant a phobl ifanc, angen gofal lliniarol. Gwyddom y gall gofal lliniarol da wneud gwahaniaeth enfawr i ansawdd bywyd pobl sy'n wynebu salwch sy'n cyfyngu ar fywyd, gan eu helpu i fyw cystal â phosibl a marw gydag urddas, ac i deulu ac anwyliaid, mae gofal lliniarol da yn darparu cryn dipyn o gymorth ac yn gwneud llawer iawn o wahaniaeth i'w dyfodol hwythau hefyd.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau'n ymrwymedig i sicrhau y dylai unrhyw un sydd angen gofal lliniarol yng Nghymru gael mynediad at y gofal gorau posibl. Felly, mae ein cynllun cyflawni ar gyfer gofal lliniarol a gofal diwedd oes yn nodi sut rydym a sut y byddwn yn gwella ein gwasanaethau, a goruchwylir y cynllun hwnnw, wrth gwrs, gan fwrdd gofal diwedd oes.

Rydym yn buddsoddi dros £8.4 miliwn bob blwyddyn i gefnogi gwasanaethau gofal lliniarol arbenigol ac i fwrw ymlaen â'r camau gweithredu yn y cynllun cyflawni. Rydym yn gwneud cynnydd gwirioneddol. Mae gennym adnoddau a chyfleusterau ar waith i gefnogi cynlluniau gofal ymlaen llaw er mwyn sicrhau bod oedolion a phlant yn ganolog i'r broses o gynllunio eu gofal; mae gennym un ffurflen 'Na cheisier dadebru cardio-anadlol' ar gyfer Cymru gyfan i sicrhau bod dymuniadau pobl yn cael eu parchu; ac mae gennym raglen hyfforddi ar sgwrs salwch difrifol i sicrhau bod ein staff wedi'u paratoi ar gyfer cynnal sgyrsiau a all fod yn anodd iawn gydag eglurder a thosturi.

Tynnwyd sylw at lawer o'r gwaith da hwn yn adroddiad y grŵp trawsbleidiol ar hosbisau a gofal lliniarol, a groesawyd at ei gilydd gan Lywodraeth Cymru. Mae argymhellion yr adroddiad wedi helpu i roi ffocws ychwanegol wrth i ni barhau i ymgyrraedd at ragoriaeth yn y maes gofal hwn.

Mae llawer o'r argymhellion naill ai wedi cael sylw neu yn cael sylw. Mae rhai yn dal heb eu cyflawni ac yn cael eu hystyried yn rhan o'r ymarfer pwyso a mesur ehangach y mae'r bwrdd gofal diwedd oes yn ei gyflawni. Mae hynny'n cynnwys y bylchau o ran casglu data ar anghenion gofal i oedolion a gofal pediatrig.

Rwy'n cydnabod rhai o'r sylwadau a wnaed am gymariaethau rhwng cyllid gwledydd y DU, ac maent yn anodd i'w gwneud—nid yw'n fformiwla llinell syth oherwydd y ffordd y mae gwahanol rannau o'n GIG ym mhob gwlad yn gweithio gyda hosbisau ym mhob gwlad. Fy uchelgais, a fy null i o weithredu, yw deall lefel yr angen yng Nghymru a nodi sut y byddwn yn mynd i'r afael â hi gan fod hosbisau yn ganolog i'n hymagwedd tuag at ofal diwedd oes a'r cymorth y maent yn ei roi i gleifion, teuluoedd a gofalwyr, ac nid wyf yn tanbrisio hwnnw.

Pan fydd y gwaith pwyso a mesur wedi'i gwblhau, byddwn yn gweithio gyda'r bwrdd gofal diwedd oes a'r byrddau iechyd i adolygu'r fformiwla a ddefnyddir i ddyrannu cyllid i hosbisau plant ac oedolion yng Nghymru. Ar y pwynt penodol a grybwyllwyd am yr 'Agenda ar gyfer Newid', gallaf gadarnhau fy mod wedi ysgrifennu at hosbisau ym mis Chwefror eleni yn cadarnhau y bydd byrddau iechyd lleol yn ariannu unrhyw bwysau ychwanegol yn sgil costau a grëir gan y contract newydd i hosbisau elusennol yng Nghymru sy'n cyflogi staff ar gontract 'Agenda ar gyfer Newid' i ddarparu gwasanaethau GIG.

16:40

Diolch am y sylw eich bod yn mynd i ysgrifennu at y byrddau iechyd—neu eich bod wedi ysgrifennu atynt. Ond a gaf fi dynnu eich sylw hefyd at y ffaith bod llawer o wasanaethau hosbis a ddarperir yn y gymuned yn cael eu hariannu drwy glystyrau ar hyn o bryd? Ac fel y gwyddoch chi a fi, un o'r egwyddorion sy'n sail i glwstwr yw bod y clystyrau'n defnyddio'u cyllid i dreialu a dechrau syniadau. Y sylwadau a gefais gan sefydliadau fel Paul Sartori yw nad yw'r byrddau iechyd lleol o reidrwydd, pan ddaw'r arian clwstwr i ben, yn gallu neu'n barod i barhau'r momentwm y tu ôl i fentrau sy'n gweithio'n llwyddiannus iawn, felly, yn gyson, mae'r olwyn yn gorfod cael ei hailddyfeisio, a tybed a allech roi sylwadau ar hynny.

Wel, rwy'n credu bod dau bwynt yno, onid oes? Mae un yn ymwneud â gofal diwedd oes, sy'n flaenoriaeth bwysig mewn gofal sylfaenol, ac nid yw hynny'n syndod o ystyried proffil ein poblogaeth a'r niferoedd dan sylw, ac mae llawer mwy o ymgysylltu ac ymwneud mewn gofal sylfaenol o ran darparu gofal diwedd oes da—mae'n rhan o'r gwaith arferol mewn gofal sylfaenol, felly nid ein nyrsys ardal a'n meddygon teulu yn unig. Mae rhywbeth yno ynglŷn â'n gwaith gofal diwedd oes sy'n bendant yn ymwneud â sut y darparwn hynny mewn gofal sylfaenol.

Mae'r ail bwynt, mae'n debyg, yn rhan o'r hyn y mae Paul Sartori hefyd—. Ymwelais â hwy, ac roedd yn ymweliad pleserus ac addysgiadol iawn hefyd. Mae rhywbeth ehangach ynglŷn â'r ffordd rydym yn ailgylchu arian o glystyrau gofal sylfaenol, a bydd gennyf fwy i'w ddweud am ariannu clystyrau gofal sylfaenol pan gawn rai o fanylion y gyllideb. Bydd yn rhaid i chi fod yn amyneddgar am gyfnod cymharol fyr o amser.

Gan ddychwelyd at rai o'r cymariaethau a wnaed â gwaith mewn rhannau eraill o'r DU, rydym yn ymwybodol o'r gwaith a gomisiynwyd yn yr Alban gan hosbisau plant ledled yr Alban i ddeall lefel eu hangen am ofal lliniarol pediatrig heb ei ddiwallu ac i nodi nodweddion eu poblogaeth a'u demograffeg. Mae Gwasanaethau Cenedlaethol GIG yr Alban, a wnaeth y gwaith hwnnw yn 2018, wedi'u gwahodd i'r bwrdd gofal diwedd oes nesaf ym mis Rhagfyr i weld beth y gallwn ni yng Nghymru ei ddysgu o'r gwaith hwnnw a'r ffordd orau o'i gymhwyso.

Ochr yn ochr â hyn, rydym yn gweithio gyda Tŷ Hafan a hosbisau eraill i ddeall faint o waith fydd ei angen ar ddatblygu gwasanaethau a'r gweithlu er mwyn diwallu anghenion gofal lliniarol yn y dyfodol yng Nghymru. Felly, rydym yn parhau i weithio'n agos gyda'r sector statudol a phartneriaid y trydydd sector i wireddu'r uchelgais a nodais i fod yn wlad dosturiol gyntaf y byd. I wneud hynny, mae'n rhaid i ni fod yn wlad sy'n hwyluso, cefnogi a dathlu gofal am ein gilydd yn gyhoeddus yn ystod cyfnodau anodd bywyd, yn enwedig y rhai sy'n ymwneud â salwch sy'n peryglu bywyd ac sy'n cyfyngu ar fywyd, anabledd cronig, heneiddio'n fregus, dementia, galar, a gofal hirdymor. Nawr, gyda chydweithrediad a thrwy gydweithio, byddwn yn cynorthwyo ein cymunedau i fod yn fwy gwydn i allu ymdopi â heriau bywyd. Ac rwy'n ddiolchgar iawn i Byw Nawr ac i'r bwrdd gofal diwedd oes am ddatblygu'r gwaith ar y wlad dosturiol yng Nghymru, a byddaf yn cyfarfod â Byw Nawr eto yn y flwyddyn newydd.

Fodd bynnag, wrth inni ryngweithio â sefydliadau sector cyhoeddus a sector preifat, gall pob un ohonom eu hannog i ymgorffori'r ymagwedd hon ym mhob dim a wnânt hwythau hefyd. Fel y gŵyr yr Aelodau, bu'r bwrdd gofal diwedd oes yn gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd, Marie Curie a Chanolfan Ymchwil Canser Cymru i adolygu lefel y gwasanaethau profedigaeth ledled Cymru, a daeth yr adroddiad terfynol hwnnw i law swyddogion a'r bwrdd gofal diwedd oes yr wythnos diwethaf. Maent yn ystyried y canfyddiadau ar hyn o bryd. Byddaf yn rhoi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau maes o law, ond rwy'n falch o gadarnhau y bydd yn cael ei gyhoeddi cyn cyfarfod mis Rhagfyr y bwrdd gofal diwedd oes, a byddaf yn gwneud yn siŵr ei fod yn cael ei ddarparu'n uniongyrchol i'r Aelodau, gan fy mod yn gwybod bod cryn ddiddordeb ar draws y pleidiau yng ngwaith yr adolygiad hwnnw. Rwyf hefyd yn falch o gadarnhau fy mod yn bwriadu gwneud datganiad gan y Llywodraeth yn y flwyddyn newydd ar ofal diwedd oes a sut y bydd yr wybodaeth yng ngwaith yr adolygiad ar gymorth profedigaeth yn cael ei datblygu.

Felly, i gloi, credaf y gallwn ymfalchïo fel gwlad yn y cynnydd sylweddol a wnaed gennym ar ehangu mynediad at ofal hosbis a gofal lliniarol yma yng Nghymru, ond gwyddom fod mwy i'w wneud. Felly, byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'r bwrdd gofal diwedd oes a'n holl bartneriaid statudol a thrydydd sector i sicrhau bod pawb yng Nghymru yn gallu cael gofal diwedd oes o safon uchel mewn lleoliad o'u dewis.

16:45

Diolch, Lywydd, a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon heddiw oherwydd, wrth gwrs, mae'n cyffwrdd â phwnc a fydd yn effeithio ar bob un ohonom ar ryw adeg neu'i gilydd yn ein bywydau, boed yn, wel, ni ein hunain, yn amlwg, ein hanwyliaid, ein teuluoedd, ein ffrindiau. Rwyf am dalu teyrnged i Mark Isherwood, oherwydd, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol hwnnw, mae wedi dangos ymrwymiad ac ymroddiad mawr i'r maes hwn, ac nid wyf yn meddwl, mewn gwirionedd, Mark, ein bod yn ymwybodol o beth o'r gwaith a wnewch ar rai o'r pynciau llai ffasiynol hyn. Rwy'n ddiolchgar iawn, a gwn fod y rhan fwyaf o'r Cynulliad yn ddiolchgar i chi hefyd.

Mae pawb sydd wedi siarad—nid wyf yn mynd i garlamu o'ch cwmpas chi i gyd, ond hoffwn ddweud bod llawer ohonoch wedi cyfeirio at enghreifftiau gwych yn eich etholaethau eich hun, a thrwoch chi, credaf y dylem ddiolch i'r holl sefydliadau hynny am y gwaith a wnânt i helpu pobl drwy'r hyn sydd o reidrwydd yn un o'r trawsnewidiadau mwyaf y bydd unrhyw un ohonom yn ei wneud, o'r bywyd hwn i ble bynnag y byddwn yn mynd wedyn.

Weinidog, fe wnaethoch—. Mewn gwirionedd, cyn imi ddod atoch chi, Weinidog, Helen Mary Jones, roedd eich cyfraniad yn llygad ei le. Rydym yn derbyn eich gwelliannau i'n cynnig. Fe gyfeirioch chi at bwyntiau pwysig iawn—y pwynt am gefnogi gofalwyr drwy hyn ac wrth gwrs, y ffaith bod amrywiaeth o angen yn bodoli ac y bydd pobl am farw mewn ysbyty, byddant am farw yn eu cartref, byddant am farw mewn hosbis. Mae a wnelo â'r unigolyn. Mae ganddynt hawl ar ddiwedd eu hoes i ddewis, ac rydych chi'n llygad eich lle. Diolch ichi am y ddau welliant.

Weinidog, cefais fy ngwylltio fymryn pan welais welliant y Llywodraeth yn gyntaf, oherwydd fel Llywodraeth, credaf eich bod yn tueddu i estyn am y feiro 'dileu popeth' a pheidio ag edrych y tu ôl i'r wleidyddiaeth. Ond fe leddfoch chi fy nicter drwy esbonio pam y gwnaethoch hynny a'ch bod yn ceisio ei dynnu i gyd at ei gilydd mewn ffordd a oedd yn adlewyrchu'r hyn roeddech yn ei wneud yma hyd yn hyn, ac nid oes neb yn dadlau nad oes ymdrechion wedi'u gwneud, camau wedi'u cymryd, a chynlluniau ar waith mewn mannau. Roeddwn yn pryderu, fodd bynnag, fod y Llywodraeth wedi dileu'r rhan a oedd yn cydnabod bod 23,000 o bobl yng Nghymru angen gofal lliniarol, gan gynnwys 1,000 o blant. Nawr, gwn ichi sôn amdano yn eich araith, ond credaf mai'r rheswm pam ei bod yn bwysig iawn fod hynny ar wyneb y cynnig yw, oni bai ein bod yn gwybod mai dyna yw'r angen, ac ni soniodd neb yma am y ffaith nad oes gennym yr adnoddau—. Wyddoch chi, fel rhannau eraill o'r gwasanaeth iechyd, nid oes gennym ddigon o nyrsys gofal lliniarol, nid oes gennym ddigon o bobl â'r sgiliau arbenigol i helpu pobl drwy gyfnod anodd iawn. Oherwydd mae angen i chi feddu ar allu penodol, ar empathi, dealltwriaeth—wyddoch chi, mae'n weddol debyg i gael nyrsys arbenigol fel Macmillan ar gyfer dioddefwyr canser; mae angen ichi gael yr adnodd hwnnw yn ei le. A phe gallem gael barn ynglŷn â faint yn rhagor o bobl arbenigol y byddem eu hangen gyda'r sgiliau a'r wybodaeth a'r profiad i ddarparu gofal lliniarol, rwy'n credu bod hynny'n allweddol. Ac mae cydnabod faint o bobl sydd angen gofal lliniarol yn fan cychwyn mewn gwirionedd.

16:50

Ie, ond fy mhwynt oedd eich bod wedi'i ddileu o'r cynnig ac eto credaf fod gwybod y ffigur hwnnw'n allweddol iawn.

Yn gyflym iawn, yr hyn y chwiliwn amdano yw'r camau gweithredu ar yr argymhellion a wnaed gan y grŵp trawsbleidiol; ymdrech ar y cyd i fynd i'r afael â'r bylchau o ran casglu data, fod y data a gesglir yn cael ei adrodd yn gyson ac yn dryloyw—rydych wedi sôn am yr adolygiad o gyllid.

Credaf y buaswn yn hoffi dod i ben drwy ddweud bod angen inni gofio beth yw diben hyn oll. Mae'n ymwneud â helpu rhywun i farw'n dda, ac mae'n ymwneud â helpu eu teulu i fyw drwy'r profiad hwnnw a gallu symud ymlaen gan wybod eu bod wedi gwneud popeth yn eu gallu dros eu hanwyliaid. Felly, os ydym o ddifrif am fod yn wlad dosturiol—ac nid oes gennyf amheuaeth o gwbl nad ydym eisiau hynny—credaf ei bod yn ddyletswydd arnom i weithredu gydag arweiniad, gyda chyfrifoldeb gwirioneddol a charedigrwydd go iawn, a dyma pam ein bod wedi cyflwyno'r cynnig hwn. Mae'n ddrwg gennyf fod y Llywodraeth wedi gorfod ei ddiwygio yn y ffordd y gwnaeth, ond hoffwn ofyn i Aelodau'r tŷ hwn ddarllen ein cynnig, edrych ar welliannau Plaid Cymru a phleidleisio o blaid y cynnig ac o blaid y gwelliannau hynny.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Dwi'n gohirio'r bleidlais, felly, tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Dadl Plaid Cymru: Strategaeth Cerbydau

Yr eitem nesaf yw dadl Plaid Cymru ar strategaeth gerbydau rheilffyrdd, a dwi'n galw ar Rhun ap Iorwerth i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7195 Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi argymhelliad Pwyllgor Menter a Busnes y Pedwerydd Cynulliad yn 2013 y dylai Llywodraeth Cymru: 'Ddatblygu a chyhoeddi strategaeth cerbydau fel mater o frys, nid dim ond i sicrhau bod penderfyniadau pwysig ynglŷn â chydweddiad cerbydau ar gyfer trydaneiddio a deddfwriaeth hygyrchedd yn cael eu cymryd mewn da bryd i osgoi’r costau uwch a’r tarfu sy’n deillio o oedi, ond hefyd i gynyddu capasiti ac ansawdd trenau ar gyfer y tymor hir'.

2. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru:

(a) i gymryd camau priodol i fynd i'r afael â'r materion y tynnwyd sylw atynt mor bell yn ôl â 2013 mewn perthynas â cherbydau;

(b) i gyrraedd y dyddiad cau ar gyfer cydymffurfio â rheoliadau pobl â chyfyngiadau symudedd (PRM) mewn perthynas â'i gerbydau;

(c) i wneud cais amserol i'r Adran Drafnidiaeth am y rhyddhad angenrheidiol i gadw trenau nad ydynt yn cydymffurfio â rheoliadau pobl â chyfyngiadau symudedd (PRM) mewn gwasanaeth o fis Ionawr 2020.

3. Yn mynegi pryder am yr aflonyddwch parhaus y mae llawer o deithwyr rheilffordd Trafnidiaeth Cymru yn ei wynebu bob dydd.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi sicrwydd bod ganddi gynlluniau wrth gefn ar waith i liniaru'r posibilrwydd o golli cyfran fawr o'i fflyd.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi'n falch o gael y cyfle i gyflwyno'r cynnig yma heddiw, sy'n ymwneud yn uniongyrchol â bywydau pob dydd miloedd ar filoedd o bobl. Mae sut dŷn ni'n teithio ar gyfer gwaith neu hamdden yn cael effaith go iawn ar ein safon byw ni. Mae o'n cael effaith ar ein cyfleon economaidd ni fel unigolion, ac fel cymunedau. Mae safon ac argaeledd a'n dewisiadau ni o ran trafnidiaeth yn gallu dylanwadu ar ein hiechyd ni hefyd, ac, wrth gwrs, mae'n effeithio ar yr amgylchedd. Dyna pam, yng nghyd-destun rheilffyrdd—dyna pam roedd cyfnod y fasnachfraint reilffordd ddiwethaf yn un mor, mor boenus i ni yma yng Nghymru. Roeddwn i'n teimlo dros y rhai oedd yn gweithio i Arriva yn aml iawn, achos mi oedd methiannau hysbys iawn y fasnachfraint honno'n seiliedig, i raddau helaeth, ar y ffordd gwbl ddi-hid y cafodd hi ei chreu gan Lywodraeth Prydain nôl ym mlynyddoedd cyntaf, neu flynyddoedd cynnar, datganoli.

Dyna pam dwi wedi bod yn barod iawn i roi cefnogaeth ofalus i'r model newydd sydd gennym ni erbyn hyn, yn rhoi mwy o atebolrwydd, yn caniatáu symud i gyfnod o dwf o ran rheilffyrdd yng Nghymru, ac yn caniatáu i ni allu bod yn fwy uchelgeisiol drwy fodel Trafnidiaeth Cymru. Efallai oherwydd y gobaith yna mae pobl wedi bod mor siomedig i weld rhai o'r problemau ofnadwy, y problemau dwys, sydd wedi bod yn gysgod dros fisoedd cyntaf rheilffordd Trafnidiaeth Cymru. Pan ydym ni'n gweld trenau'n cael eu canslo, trenau'n orlawn, delivery o drenau newydd yn cael ei ohirio dro ar ôl tro, dyna'r union beth oedd angen peidio â'i weld wrth i Lywodraeth Cymru drio adennill hyder pobl Cymru yn ei gwasanaethau trenau.

Un o'r problemau hynny, rŵan, ydy dyfodol y Pacers, sydd yn drenau sy'n cael eu defnyddio gan filoedd ar filoedd o bobl. Mae yna bryderon gwirioneddol bod arafwch gan y Llywodraeth i gynllunio ymlaen o ran rolling stock yn ein harwain ni, rŵan, i mewn i gyfnod gwirioneddol ansicr i deithwyr. A beth rydyn ni'n trio'i wneud drwy'r cynnig yma heddiw ydy chwilio am y sicrwydd yna nad ydyn ni wedi'i gael hyd yma, er codi'r mater ar sawl achlysur—fi ac Aelodau eraill ar y meinciau yma yn y Senedd hon.

Rwyf wedi dysgu llawer am drenau ers cael fy ethol yn AC. Roeddwn i'n arfer gwneud yr hyn y mae'r rhan fwyaf o bobl yn ei wneud—jest mynd ar drên. Byddai’n mynd â mi i ble y byddwn i eisiau mynd, ar amser fwy neu lai, gobeithio, a dyna ni a dweud y gwir. Ond rwyf wedi dysgu bod gwneud i hynny ddigwydd yn fater eithaf cymhleth. 

Un o'r pethau a ddysgais yn gynnar fel aelod o'r Pwyllgor Menter a Busnes yn y Cynulliad diwethaf yw fod cael hyd i drên yn broblem ynddi'i hun. Mae'n anodd dod o hyd i drenau, yn aml iawn—problem sydd wedi bod yn arbennig o ddifrifol yng Nghymru, a llawer o hynny, unwaith eto, oherwydd manyleb drychinebus y fasnachfraint ddiwethaf. Mae 'rhaeadru' yn swnio bron yn rhamantus—y syniad o raeadru trenau o un defnyddiwr i'r llall. Mae'n golygu trosglwyddo'ch hen stoc i ddefnyddiwr arall, gan ei ailwampio rywfaint yn y broses efallai, a'i drosglwyddo o un i’r llall, ei drosglwyddo o un i’r llall—dylwn ddweud ei 'raeadru' o un i’r llall. Roedd Cymru, yn amlach na pheidio, ar waelod y rhaeadr, gyda threnau ail, trydydd, pedwerydd llaw, degawdau oed yn aml iawn. 

Mae'n gyffrous fod yna raglen ar gyfer cyflenwi cerbydau newydd mewn blynyddoedd i ddod, er ei bod hi ymhell ar ei hôl hi wrth gwrs. Cafodd y cwmnïau cerbydau trên, gyda llaw, y ROSCOs, eu sefydlu gan y Torïaid i gymryd meddiant ar y cerbydau a oedd gynt yn eiddo cyhoeddus. Darganfuwyd y gallent wneud llawer mwy o arian, nid trwy adnewyddu cerbydau, ond trwy godi gormod am stoc a oedd yn heneiddio, stoc a raeadrir. Felly, rydym wedi dioddef canlyniadau gwaethaf hynny yma yng Nghymru. 

Ond wrth i ni symud tuag at ddiwedd y flwyddyn hon, mae’n rhaid i’r hen stoc o drenau wedi’u rhaeadru sydd gennym yn awr, mae’n rhaid i lawer ohono fynd oherwydd problemau ynghylch cydymffurfio â rheoliadau pobl â chyfyngiadau symudedd (PRM), yr angen am hygyrchedd ar bob un o'n trenau. Nawr, rydym yn gwybod bod hyn yn dod ers peth amser, ac rydym hefyd yn gwybod bod gennym broblem gyda chaffael cerbydau. Fel pwyllgor yn y Cynulliad diwethaf, fe wnaethom rybuddio Llywodraeth Cymru, 'Er bod blynyddoedd i fynd tan ddiwedd y fasnachfraint, rhaid i chi gynllunio ar gyfer cerbydau newydd i fynd â ni i mewn i'r fasnachfraint nesaf.' Nawr, gyda mater cydymffurfio â rheoliadau pobl â chyfyngiadau symudedd yn arbennig, gwyddom bellach na weithredodd Llywodraeth Cymru yn ddigon cyflym i wneud cais am ryddhad i barhau i ddefnyddio trenau nad oeddent yn cydymffurfio ar ôl diwedd y flwyddyn hon, pan ddaeth yn amlwg na fyddai trenau newydd ar gael mewn pryd. 

Mae yna ganlyniadau difrifol i beidio â chael y rhyddhad hwnnw. Byddai tynnu trenau Pacer nad ydynt yn cydymffurfio oddi ar y rheilffyrdd yn arwain at golli bron i hanner y cerbydau a ddefnyddir ar reilffyrdd y Cymoedd. Ceir sawl trên arall hefyd nad ydynt yn cydymffurfio â rheoliadau pobl â chyfyngiadau symudedd a fyddai'n cael eu tynnu oddi ar y rheilffyrdd gyda'r trenau Pacer os nad yw'r rhyddhad angenrheidiol ar waith erbyn 1 Ionawr 2020, gan gynnwys—nid trenau'r Cymoedd yn unig—rhai trenau a ddefnyddir ar hyn o bryd ar gyfer gwasanaeth Caergybi. Gellid diddymu gwasanaethau ar rannau eraill o'r rhwydwaith—er enghraifft, Abergwaun, Wrecsam, Caergybi—er mwyn sicrhau bod cymaint â phosibl o gerbydau ar gael i'w defnyddio ar reilffyrdd y Cymoedd, y rheilffyrdd cymudo prysur iawn hynny. 

Nawr, mewn sesiwn galw heibio yn y Cynulliad yn ddiweddar, dywedodd Trafnidiaeth Cymru y byddent yn defnyddio trên Pacer dau gerbyd ynghyd â thrên Sprinter sy'n cydymffurfio â rheoliadau pobl â chyfyngiadau symudedd i sicrhau bod y trenau'n cydymffurfio, hyd yn oed os nad yw rhannau o'r trên yn cydymffurfio, a chredaf fod Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn dweud hynny ar Twitter hefyd. Er hynny, mae'n ymddangos bod datganiad i'r wasg diweddar, a nodai y byddant yn defnyddio'r trenau Pacer yn bennaf fel setiau pedwar cerbyd ar reilffordd Rhymni, yn gwrth-ddweud yr wybodaeth sy'n dod o ffynonellau Trafnidiaeth Cymru eraill. Ond byddai data'r fflyd yn awgrymu nad oes digon o setiau sy'n cydymffurfio, nid oes digon o drenau Sprinter, i alluogi’r cynllun hwnnw hyd yn oed, a byddai'n rhaid i Trafnidiaeth Cymru redeg rhai trenau fel trenau Pacer yn unig. 

Nawr, nid Cymru'n unig sydd wedi methu cael trenau newydd mewn pryd. Roedd Northern Rail hefyd mewn sefyllfa debyg, ond cawsant y rhyddhad, a'n pryder yma yw fod Llywodraeth Cymru, er iddi gael rhybudd flynyddoedd yn ôl, fel y dywed ein cynnig, am yr angen i gynllunio ar gyfer newid cerbydau, i gynllunio ar gyfer y dyfodol yn y cyd-destun hwnnw lle gwyddom ei bod yn anodd dod o hyd i gerbydau, ond lle ceir problemau caffael difrifol. Ni weithredodd Llywodraeth Cymru nes ei bod yn rhy hwyr, ac nid wyf eto wedi cael sicrwydd gan Lywodraeth Cymru heblaw eu bod mewn trafodaethau ar hyn o bryd gyda’r Adran Drafnidiaeth a Llywodraeth y DU, a bod y trafodaethau hyn yn parhau. 

17:00

Fe sonioch chi am reilffordd Rhymni. Rwyf wedi mynegi'r pryderon hyn fy hun yn uniongyrchol wrth Trafnidiaeth Cymru, a dywedodd y cyswllt a oedd gennyf yn Trafnidiaeth Cymru ein bod yn disgwyl i’r Adran Drafnidiaeth ddarparu'r hyn rydym ei angen mewn digon o amser. Dyna a ddywedwyd wrthyf. 

‘Yn disgwyl iddo ddigwydd’, ond nid wyf wedi clywed eto yr hyn sydd angen i deithwyr sy'n defnyddio'r trenau hyn o ddydd i ddydd ei glywed, sef y bydd yn digwydd, oherwydd nid yw cael sicrwydd fod trafodaethau'n parhau, eu bod yn gobeithio y bydd pethau'n iawn, fod ganddynt hyder y gall pobl ddod at ei gilydd i ddatrys y broblem yn ddigon da, oherwydd os ychwanegwch yr etholiad cyffredinol at y gymysgedd, toriad y Nadolig sydd ar y ffordd, mae yna bryder, hyd yn oed os caniateir rhyddhad yn awr, a hyd yn oed os gallant ddod i ryw gytundeb, efallai na fydd digon o amser ar ôl cyn 31 Rhagfyr i gwblhau'r holl waith papur angenrheidiol. 

Wel, gwych, ond mae angen i ni weld hynny yn awr, ac nid yw'n tynnu oddi wrth y broblem fod hyn eisoes wedi'i ddatrys. Mewn ardaloedd eraill, Northern Rail yn enwedig, lle gwnaethant weithredu ar amser, fe wnaethant lwyddo i gael y rhyddhad. Nawr, p'un a oedd Llywodraeth Cymru yn mentro na fyddai etholiad yn y DU, na fyddai pethau eraill yn tynnu sylw gweision sifil, nid wyf yn siŵr, ond mae angen y cyhoeddiad hwnnw arnom gan Lywodraeth Cymru yma heddiw fod hyn yn digwydd ac nid bod trafodaethau’n parhau, fel arall bydd cymudwyr, defnyddwyr rheilffyrdd sy'n defnyddio'r trenau hyn, sy’n ddibynnol ar y trenau hyn am eu llesiant, am eu gwaith, yn bryderus tu hwnt wrth i ni anelu tuag at ddiwrnod olaf 2019. 

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig, a dwi'n galw ar Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i gynnig yn ffurfiol welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans.

Gwelliant 1—Rebecca Evans

Dileu popeth ar ôl 'Cynulliad Cenedlaethol Cymru' a rhoi yn ei le:

1. Yn croesawu’r buddsoddiad o £5 biliwn yn rhwydwaith rheilffyrdd Cymru dros y 15 mlynedd nesaf, gan gynnwys dros £800 miliwn mewn cerbydau.

2. Yn nodi’r heriau y mae’r diwydiant rheilffyrdd yn eu hwynebu ar draws y DU o safbwynt cydymffurfiaeth â’r gofynion o ran teithwyr â symudedd cyfyngedig sy’n effeithio ar fasnachfreintiau ar draws y DU.

3. Yn cydnabod mai un o’r prif resymau dros brinder cerbydau yw’r ffaith nad yw Llywodraeth y DU wedi edrych i’r dyfodol wrth gwtogi ei rhaglen drydaneiddio, gan effeithio ar Abertawe ac arwain at oedi o safbwynt darpariaeth cerbydau.

4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau nad yw’r etholiad cyffredinol yn amharu ar geisiadau am randdirymiadau o safbwynt teithwyr â symudedd cyfyngedig er mwyn sicrhau capasiti ychwanegol ar y rhwydwaith am gyfnod byr hyd 2020.

5. Yn nodi nad yw’r system gerbydau ar draws y DU yn gweithio ac yn galw ar Lywodraeth y DU i gydweithio â’r gweinyddiaethau datganoledig er mwyn datblygu model newydd.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Dwi'n galw nawr ar Russell George i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Russell George.

Gwelliant 2—Darren Millar

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi mai mater i Lywodraeth Cymru oedd y cyfrifoldeb dros ddarparu capasiti cerbydau ar gyfer gwasanaethau Cymru a gwasanaethau i Gymru yn unig o dan y fasnachfraint reilffyrdd a weithredwyd gan Drenau Arriva Cymru ers 2006.  

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch, Lywydd. Rwy'n cynnig gwelliant 2 yn ffurfiol yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar. A gaf fi longyfarch Plaid Cymru ar gynnig wedi'i saernïo’n dda a nodi ein cefnogaeth lawn heddiw? Nid oedd gwelliant y Llywodraeth heddiw wedi'i saernïo’n dda, gan ei fod yn methu cydnabod y cyfrifoldeb am ddarparu capasiti ar gyfer gwasanaethau Cymru a gwasanaethau Cymru’n unig o dan y fasnachfraint reilffyrdd a weithredwyd gan Trenau Arriva Cymru. Mater i Lywodraeth Cymru oedd hynny a dyna a fu ers 2006, a dyma sail fy ngwelliant heddiw yn enw Darren Millar a’r pwynt rwyf am siarad yn ei gylch yn fy nghyfraniad. 

Mae gwelliant y Llywodraeth yn tynnu sylw at fuddsoddiad mewn cerbydau dros y 15 mlynedd nesaf. Mae croeso mawr i hynny, ond hoffwn ofyn beth ar y ddaear sydd wedi digwydd yn y 13 blynedd diwethaf, sef y pwynt sydd angen inni ei drafod heddiw. Dyma destun y ddadl heddiw. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gwerthu myth. Myth yw dweud mai mater i Lywodraeth y DU yw’r cerbydau. Nid yw hynny'n wir. Mater i Lywodraeth Cymru ydynt ers y degawd diwethaf a mwy. Y gwir yw fod cyfrifoldebau wedi'u trosglwyddo o'r Adran Drafnidiaeth i Lywodraeth Cynulliad Cymru, fel yr oedd bryd hynny, mewn cytundebau cyd-bartïon a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2006. Felly mae cynnig Plaid Cymru yn hollol gywir yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi methu ysgwyddo cyfrifoldeb na chymryd camau priodol i fynd i'r afael â'r problemau capasiti ar wasanaethau rheilffyrdd Cymru'n unig nid yn unig ers 2013, fel mae'n digwydd, ond mor bell yn ôl â 2006.

Mae gwelliant y Llywodraeth hefyd yn mynnu y dylai Llywodraeth y DU weithio gyda gweinyddiaethau datganoledig i ddatblygu model gwahanol ar gyfer y system gerbydau, ond rhaid cofio bod gan Lywodraeth Cymru ddisgresiwn llawn o dan y trefniadau datganoli ers cytuno’r cytundeb cyd-bartïon, a bod cyllid a briodolwyd i wasanaethau Cymru'n unig a gwasanaethau Cymru wedi ei drosglwyddo i Lywodraeth Cymru o dan gytundeb ar wahân ers Ebrill 2006, ac mae wedi bod yn rhan o'r grant bloc llinell sylfaen gan y Trysorlys er mis Ebrill 2008. Ond wrth gwrs, mae'r Llywodraeth yn gwybod hyn, oherwydd mae'r Llywodraeth yn ymwybodol o hyn ac fe ryddhaodd y Llywodraeth ei chyllid ei hun ar gyfer cerbydau ychwanegol yn ôl yn 2007.  

Ac fel y soniodd Rhun, rhybuddiwyd Llywodraeth Cymru yn 2013 gan y Pwyllgor Menter a Busnes fod yn rhaid iddi fynd i’r afael â phroblemau’n ymwneud â cherbydau ar frys, a methodd wrando ar y rhybuddion hynny. Rwy'n credu i'r Gweinidog fod yn aelod o'r pwyllgor hwnnw am gryn dipyn o amser. Nid wyf yn siŵr a oedd yn aelod pan wnaed yr argymhellion a wrthodwyd wedyn gan y Llywodraeth yn anffodus. Caiff geiriau eu taflu o gwmpas gan y Llywodraeth mewn perthynas â deiliad blaenorol y fasnachfraint am drosglwyddo trenau echrydus, ac awgrymiadau bod Trafnidiaeth Cymru wedi etifeddu cerbydau tebyg i Ford Escort 30 oed heb glytsh na breciau sy’n gweithio, a dywedwyd bod peth o'r offer a drosglwyddwyd wedi'i heintio â llygod mawr marw. Ond y gwir amdani yw mai Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol yn y pen draw am gyflwr trenau yng Nghymru a chynlluniau ar gyfer cerbydau trenau. Ni weithredodd Llywodraeth Cymru pan ddylent fod wedi gwneud yn ôl yn 2013, os nad yn gynt na hynny. 

Mae'r gwasanaeth presennol hefyd, fel y nodwyd yn y cyfraniad agoriadol, yn dal i fod yn gwbl annerbyniol. Dros y misoedd diwethaf rydym yn parhau i weld trenau wedi'u canslo, trenau hwyr, prinder staff, problemau gyda’r signalau, problemau capasiti, diffyg gwybodaeth o ansawdd i deithwyr, a gorlenwi, ac mae hyn yn annerbyniol yn ôl safonau unrhyw un a go brin mai dyma’r trawsnewidiad uniongyrchol a addawyd gan y Llywodraeth. 

Rwy’n credu bod cynnig Plaid Cymru heddiw wedi taro'r hoelen ar ei phen o ran y sefyllfa bresennol, ac yn siomedig, mae'r Llywodraeth wedi cynnig 'dileu popeth' fwy neu lai o'r cynnig a gyflwynwyd heddiw. Felly, edrychaf ymlaen at gyfraniadau pellach i'r ddadl hon y prynhawn yma, Lywydd. 

17:05

Nid oes amheuaeth fod pobl yn rhwystredig oherwydd cyflwr y rhwydwaith rheilffyrdd, ac mewn sawl achos, yr un mor rwystredig ag yr oeddent o dan Arriva. Ond nid oes amheuaeth chwaith fod y Llywodraeth yn mynd i ddarparu gwasanaeth trafnidiaeth wedi'i ddiwygio'n radical dros y tair blynedd nesaf. Nid wyf yn credu bod unrhyw ddadl ynglŷn â hynny, a dyna'n amlwg y mae'r Gweinidog yn ei fwriadu a dyna fydd yn cael ei gyflawni. Fodd bynnag, yn ystod y chwe wythnos ddiwethaf yn unig, hoffwn gydnabod bod pobl wedi cysylltu â mi ar dri achlysur gwahanol ynglŷn â chanslo trenau, gorlenwi a'r problemau iechyd a diogelwch sy’n gysylltiedig â hynny; am fwy o orlenwi, cerbydau’n gollwng, a phris tocynnau tymor; ac am fwy o ganslo trenau a threnau hwyr. Felly, cafwyd amrywiaeth o gwynion dros y chwe wythnos ddiwethaf sydd wedi bod yn annerbyniol i ddefnyddwyr rheilffyrdd, a chredaf fod hynny'n bendant yn wir. 

Rwy'n credu mai'r broblem sydd gennym, efallai, yw fod peth o’r iaith a ddefnyddiwyd gan y Gweinidog pan drosglwyddwyd y gwasanaeth rheilffyrdd i Trafnidiaeth Cymru yn gorwerthu'r hyn a oedd yn debygol o ddigwydd ar unwaith. Felly, er enghraifft, pan holwyd y Gweinidog yn y Siambr, soniodd am ddadlapio anrhegion, a gwnaeth lawer o'r ffaith bod adroddiad y pwyllgor yn dweud bod gan y Gweinidog uchelgais arwrol. Ac rwy'n credu bod ganddo uchelgais arwrol, a chredaf y bydd yn ei gyflawni, ond rwy'n credu mai'r hyn na wnaethom, a'r hyn na wnaeth y Llywodraeth oedd egluro na fyddai'r trawsnewidiad yn digwydd dros nos, ac rwy'n credu bod ychydig gormod o ddisgwyliad ynglŷn â’r hyn y gellid ei gyflawni. Rwy'n credu bod hwnnw'n ddadansoddiad teg o'r hyn sydd wedi digwydd. 

Nid wyf yn credu bod rhai o’r pethau y dywedodd Rhun ap Iorwerth a Russell George eu bod wedi digwydd yn ddadansoddiad teg, yn enwedig gan fod yr wybodaeth a gefais gan Trafnidiaeth Cymru heddiw—a dyma ddyfynnu Trafnidiaeth Cymru—yn dweud, 

Rydym yn disgwyl cael cymeradwyaeth ysgrifenedig ynglŷn â'r rhanddirymiad cyn diwedd mis Tachwedd. 

Dyma beth y mae Trafnidiaeth Cymru wedi dweud wrthyf yn uniongyrchol. Os yw hynny'n wir, mae'n tanseilio ysbryd y cynnig yn llwyr. 

A fyddech chi hefyd yn cytuno bod y trenau Pacer i fod wedi diflannu erbyn diwedd 2019, ac roedd hynny'n addewid hefyd? Caiff addewidion eu torri. 

Yn wir, ac mae problem gyda cherbydau trenau ar draws y Deyrnas Unedig, a chredaf y byddai'n ffôl cael gwared ar drenau Pacer pan fo pobl eisiau sedd ar y trên. Byddai'n ffôl cael gwared ar drenau Pacer pan nad oes unrhyw beth i ddod yn eu lle. Fel aelod o'r pwyllgor, bûm yn y depo yn Nhreganna dair gwaith a gwelais y gwaith arwrol sy'n digwydd yno ar gynnal y stoc o gerbydau. Yn syml, nid oes unrhyw gerbydau eraill ar gael yn y wlad hon i'w rhoi ar y rheilffordd yn uniongyrchol yn lle’r trenau Pacer ar unwaith. [Torri ar draws.] Nid wyf yn mynd i dderbyn ymyriad arall gan na fydd gennyf lawer o amser.  

Y peth arall yr hoffwn ei ddweud yw fod Russell George yn gwybod yn iawn, oherwydd roedd yn Gadeirydd y pwyllgor a glywodd y dystiolaeth pan ddywedodd Llywodraeth Cymru wrthym—dywedodd y Gweinidog wrthym—fod Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Lywodraeth y DU yn 2011 am gymorth i gyflwyno capasiti diesel ar reilffyrdd Cymru, a dywedodd Llywodraeth y DU wrth Lywodraeth Cymru, 'Ni ddylech gael rhagor o stoc diesel ar y rheilffordd ar unrhyw gyfrif gan na fydd diesel yn cael ei ddefnyddio yn fuan iawn am ein bod yn mynd i drydaneiddio'r rheilffyrdd.' Ni ddigwyddodd hynny, ni chaniatawyd i'r stoc diesel gael ei phrynu. Ac mae Cadeirydd y pwyllgor—rhywun rwy’n ei hoffi, rwy'n hoff iawn o Russell George fel Cadeirydd y pwyllgor; rwy'n llai hoff ohono yn ei swydd fel llefarydd ar ran y Blaid Geidwadol—yn gwybod yn iawn mai dyna'n union a ddywedwyd.  

17:10

Y pwynt rwyf am ei wneud—ac roeddech yn dweud eich bod yn anghytuno â rhai o fy mhwyntiau, ond nid wyf yn hollol siŵr pa bwyntiau roeddech chi'n anghytuno â hwy—yw fy mod yn ategu’r hyn a ddywedais, Hefin. Ysgrifennodd yr Adran Drafnidiaeth yn ôl at y pwyllgor, mewn gwirionedd, yn egluro'r safbwynt a amlinellais heddiw, fod y cerbydau wedi bod yn gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru ers y cytundeb y daethpwyd iddo yn 2006. Dyna'r pwynt roeddwn yn ei wneud. 

Ac ni roddodd Llywodraeth y DU unrhyw gefnogaeth o gwbl i Lywodraeth Cymru ac aeth ati i'w hatal rhag dod â stoc diesel newydd ar y rheilffyrdd. Rhwystrwyd hynny. Rwy'n siŵr y gall y Gweinidog ymhelaethu ar hynny, gan fy mod yn hollol siŵr na wnaeth gamarwain ein pwyllgor.

Hoffwn dalu teyrnged hefyd i Trafnidiaeth Cymru, sydd wedi bod yn agored iawn. Pan gefais fy ethol yn 2016, cyfarfûm ag Ian Bullock, a oedd yn brif weithredwr Trenau Arriva Cymru ar y pryd, a chyfarfûm â Tom Joyner, ac yn sgil hynny, yn arwain at gyfnod James Price yn Trafnidiaeth Cymru, rydym wedi cael cerbydau ychwanegol wedi'u darparu ar reilffordd Rhymni. Er enghraifft, gwelais Trafnidiaeth Cymru yn cyflwyno'r stoc dosbarth 37 poblogaidd sy'n cael ei dynnu gan injan ar linell Rhymni. Pan fydd hwnnw'n mynd, rwy'n poeni na fydd pobl yn hapus. O 15 Rhagfyr, bydd rheilffyrdd y Cymoedd yn gweld mwy o drenau pedwar cerbyd ar wasanaethau brig, 6,500 o seddi ychwanegol. Rydym yn gweld gwelliant. A'r hyn rwyf wedi'i weld yn bersonol fel Aelod Cynulliad dros Gaerffili yw seddi ychwanegol ar yr oriau brig, yn y bore a gyda'r nos, ar reilffordd Rhymni i Gaerdydd. Mae'r rhain wedi cael eu cyflwyno'n uniongyrchol o ganlyniad i'r pwysau a roddais ar Arriva a Trafnidiaeth Cymru, a chan weithio gyda hwy a'u staff—gadewch i ni ddefnyddio'r gair—arwrol i ddarparu'r seddi ychwanegol hyn. Nid yw'r stoc yn cyrraedd y safon, ond mae'r staff yn cyrraedd y safon ac maent yn darparu gwasanaeth o ansawdd. Rwy'n hyderus y gwelwn wasanaeth wedi'i drawsnewid yn y tair blynedd, ond yn y cyfamser, yr hyn sydd gennym yw staff arwrol Trafnidiaeth Cymru yn cadw'r stoc ar y rheilffordd.

Mae rheilffyrdd y Cymoedd yn wynebu problemau difrifol bob dydd, fel y mae rheilffyrdd ledled de-ddwyrain Cymru. Rwy'n gwybod hyn o fy mhrofiad fy hun ac o'r cwynion rwy'n eu gweld gan etholwyr. Y bore yma, defnyddiwyd trên dau gerbyd yn ystod yr oriau brig rhwng Glynebwy a Chaerdydd, gyda phobl yn cwyno ar y cyfryngau cymdeithasol eu bod wedi'u gwasgu i mewn fel sardîns ac yn teimlo'n anniogel. Roedd fy nhrên i mewn y bore yma o Abercynon yn orlawn cyn iddo gyrraedd ein gorsaf fel bod pobl yn sefyll yr holl ffordd i lawr. Nid oedd pobl yn gallu dod ar y trên a chyraeddasom Stryd y Frenhines bron i 15 munud yn hwyr. Mae'n rhywbeth sy'n digwydd ddydd ar ôl dydd, ac mae'n wir ar reilffyrdd Merthyr, Aberdâr a Rhymni. Bore ar ôl bore o fod yn hwyr, ddim ond i wynebu'r un problemau yn teithio adref ar ôl gwaith. Pan fyddwn yn cwyno, cawn wybod bod yr holl gerbydau sydd ar gael yn cael eu defnyddio. Mewn geiriau eraill, nid oes gan Trafnidiaeth Cymru ddigon o gerbydau ar gael i ddarparu lefel dderbyniol o wasanaeth ar ormod o ddiwrnodau.

Fel y dywedwyd, mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo i gyflwyno pedwar trên yr awr ar reilffordd Rhymni yn 2022. Wel, mae angen y trenau ychwanegol hyn yn awr, felly rwy'n arbennig o bryderus i glywed nad yw'r terfyn amser hwn wedi'i adlewyrchu yn adroddiad blynyddol Trafnidiaeth Cymru, sy'n dweud 2023 yn lle hynny. Ac maent wedi dweud wrthym eu bod yn edrych ar Ragfyr 2023, sy'n golygu na fydd teithwyr yn teimlo'r fantais am bron i bedair blynedd. Felly, buaswn yn gwerthfawrogi pe gallai'r Gweinidog gadarnhau pryd y mae'n disgwyl y bydd gennym bedwar trên yr awr ar reilffordd Rhymni. Mae'n werth tynnu sylw hefyd at y ffaith bod pedwar gwasanaeth yr awr yn arfer bod ar y rheilffordd hon heibio Bargoed pan drosglwyddwyd y gwasanaeth i Trafnidiaeth Cymru y llynedd. Felly, ar hyn o bryd mae'n edrych fel pe bai'n mynd i gymryd pum mlynedd i ddod â ni nôl i lle roeddem.

Rwyf hefyd yn bryderus am y lleihad arfaethedig yn y capasiti ar y trenau hyn pan ddaw trenau newydd yn lle'r trenau 769 yn 2023. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, rydym yn disgwyl lleihad yn y capasiti cyffredinol o 24 y cant yn ystod yr oriau brig, a gostyngiad o 35 y cant yn y capasiti eistedd rhwng Caerffili a Bargoed. Mae'r ffigurau hyn wedi'u cadarnhau gan Trafnidiaeth Cymru mewn cais rhyddid gwybodaeth. O ystyried bod y trenau'n orlawn yn awr, mae'n annirnadwy ein bod yn edrych ar leihau capasiti yn y dyfodol. Rwy'n disgwyl i'r Gweinidog roi sicrwydd y bydd yn edrych ar y mater hwn ac yn gweithredu i atal y gostyngiad hwn yn y capasiti rhag digwydd.  

Nawr, gan edrych ymhellach i'r dwyrain yn fy rhanbarth, mae teithwyr ar y rheilffyrdd yn wynebu eu problemau eu hunain oherwydd prinder trenau. Cafodd y gwaith o ddeuoli'r rheilffordd rhwng Glynebwy a Chaerdydd ei atal nes i Lywodraeth Cymru gyhoeddi astudiaeth ddichonoldeb newydd. Nawr, roedd hon i fod i gael ei chyhoeddi erbyn yr haf, ond nid wyf yn ymwybodol fod hynny wedi digwydd, felly buaswn yn ddiolchgar am y newyddion diweddaraf am y cynlluniau hyn. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, oni wneir y gwaith hwn, ni fydd yn bosibl cynyddu nifer y trenau yr awr rhwng Casnewydd a Glynebwy o un i ddau, ac mae galw enfawr am weld hyn yn digwydd.  

Gan aros yn y rhan hon o fy rhanbarth, hoffwn ofyn hefyd beth sy'n digwydd gyda chynlluniau i ailagor gorsafoedd yng Nghrymlyn a Magwyr. Mae yna ymgyrchwyr ymroddedig yn fy rhanbarth sy'n frwd dros ailagor y gorsafoedd hyn, a buaswn yn croesawu cyfarfod gyda'r Gweinidog i drafod eu hachos. Mae cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol 2017 yn cyfeirio at ailagor gorsaf Crymlyn fel rhan o gam 3 y gwaith ar y metro, ond nid yw'r ymrwymiad hwn yn yr adroddiad cyfatebol ar gyfer 2018. Ac mewn perthynas â Magwyr, cyfeirir ato yn nogfen y metro, ond mae'n absennol o'r cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol ers 2015. Felly, buaswn yn croesawu rhywfaint o eglurder gan y Gweinidog am ei gynlluniau ar gyfer y gorsafoedd hyn.  

Yn olaf, rhywbeth y bydd pawb sy'n cymudo ar drenau'n anhapus yn ei gylch yw'r cynnydd yng nghost teithio ar drên ar yr un pryd yn union ag argyfwng hinsawdd pan ddylem fod yn ceisio cymell pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Mae pobl yn teimlo eu bod yn talu mwy am wasanaeth annigonol. Hoffwn holi a fydd y gostyngiad yn y pris a addawyd gan y Prif Weinidog ar 12 Tachwedd yn cael ei roi ar waith ym mis Ionawr, fel y dywedodd. Ar hyn o bryd, nid yw gwefan Trafnidiaeth Cymru yn dangos unrhyw ostyngiad o'r fath ym mhrisiau tocynnau ym mis Ionawr, felly buaswn yn ddiolchgar am rywfaint o eglurder ar y pwynt hwnnw.

Os yw'r Llywydd yn caniatáu, credaf fod yr amser yn caniatáu imi nodi un pwynt olaf yn gyflym. Mae'n rhaid i ddiogelwch teithwyr fod o'r pwys mwyaf. Rydym wedi clywed cyfeiriadau, ac rwy'n cytuno'n llwyr, at y staff arwrol sydd gennym yn Trafnidiaeth Cymru, ond roeddwn ar drên yn ddiweddar a stopiodd yn Nhrefforest oherwydd bod gan deithiwr gyllell a'i fod yn ymddwyn yn fygythiol. Gweithredodd y staff a'r heddlu yn gyflym ac yn effeithlon iawn yn yr achos hwnnw, ond mae'n dangos pa mor bwysig yw cael nifer ddigonol o archwilwyr tocynnau ar y trenau, yn enwedig yn hwyr y nos, pan fo pobl wedi bod yn yfed a lle ceir pryderon ynglŷn â diogelwch. Felly, buaswn yn croesawu unrhyw beth y gallai'r Gweinidog ei ddweud i dawelu ein meddyliau ar y pwynt hwnnw.

17:15

Er bod nifer o elfennau yn nadl Plaid Cymru y gallwn eu cefnogi, rydym hefyd yn cydnabod ac yn cefnogi nifer o welliannau Llafur. O dan eitem 1 a 2(a), mae Plaid Cymru yn iawn i nodi, mor bell yn ôl â 2013, fod y Pwyllgor Menter a Busnes ar y pryd wedi cynnig y dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu strategaeth ar gyfer cerbydau, ond rhaid inni gydnabod bod hyn yn anodd i Lywodraeth Cymru ei weithredu o dan y fasnachfraint reilffyrdd flaenorol, a feirniadwyd yn briodol gan Rhun.  

O dan eitem 2(b), er ei bod yn drueni mawr na ellir gwneud i'r holl drenau gydymffurfio â rheoliadau pobl â chyfyngiadau symudedd erbyn 2020, ac er gwaethaf y dadleuon ynghylch rhyddhad, rhaid inni gofio bod anawsterau mawr wedi bod gydag asesu cerbydau addas, ac mae hynny wedi effeithio'n ddifrifol ar allu'r Llywodraeth i gydymffurfio.  

Cefnogwn yn llwyr yr alwad a amlinellir yn eitem 2(c) a byddem yn cymeradwyo'r dull o weithredu a argymhellir i Lywodraeth y DU.

Hoffwn fynegi pryder hefyd ynglŷn â'r tarfu parhaus i deithwyr rheilffyrdd yn y cyfnod o newid o'r hen fasnachfraint i'r drefn gydweithredol newydd rhwng Trafnidiaeth Cymru a KeolisAmey, ond rhaid inni dderbyn y bydd yn cymryd amser i wreiddio'r trefniadau gweithio newydd hyn.  

Er na allwn dderbyn yr elfen 'dileu popeth' yng ngwelliant y Llywodraeth, rydym yn cydnabod ac yn derbyn yr holl bwyntiau eraill yn eu gwelliannau. Byddem yn ychwanegu at y trydydd gwelliant nad canslo trydaneiddio rheilffordd Abertawe yn unig ydoedd, ond roedd nifer o brosiectau trydaneiddio eraill ledled Lloegr a oedd hefyd yn cyfyngu ar y cerbydau a allai fod wedi—ac nid wyf yn dweud hyn yn ddifrïol, Rhun—eu rhaeadru ac ar gael i Lywodraeth Cymru pe bai'r prosiectau hyn wedi mynd rhagddynt. Rydym yn llwyr gefnogi honiadau'r Llywodraeth yn eitemau 4 a 5 a byddem hefyd yn annog Llywodraeth y DU i roi sylw i'r gofynion hyn.

Rydym yn cydnabod cywirdeb y gwelliant a gyflwynwyd gan Darren Millar, ond yn tynnu sylw at y ffaith bod amodau sefydlu'r fasnachfraint yn ei gwneud yn anodd i Lywodraeth Cymru weithredu mewn ffordd y gallai'r cyhoedd yng Nghymru ei chymeradwyo—hynny yw, gwario arian i sybsideiddio cwmni preifat proffidiol.

Yn dilyn y ddadl hon, wrth gwrs, byddem yn annog Llywodraeth Cymru i barhau â'i hymdrechion i sicrhau'r opsiynau gorau posibl mewn perthynas â cherbydau trenau cyn gynted ag y gall, ond gadewch inni gydnabod na ellir gwneud hyn dros nos.

17:20

Weinidog, rwy'n falch iawn ein bod yn cael y cyfle hwn heddiw, oherwydd mae'n fy ngalluogi i dynnu sylw eto at yr achos dros orsaf gerdded newydd ym Magwyr, y gwn eich bod yn gyfarwydd iawn ag ef, ac y soniodd Delyth amdano'n gynharach yn wir. Mae cefnogaeth gymunedol wych i orsaf newydd yno fel rhan o gronfa gorsafoedd newydd y DU. Mae gwaith wedi'i wneud, mae camau wedi'u cymryd ac mae camau pellach eto i'w gweithredu. Mae Cyngor Sir Fynwy wedi ymrwymo i ddarparu cyllid, a gofynnir i Lywodraeth Cymru ddarparu arian cyfatebol er mwyn galluogi'r gwaith pellach hwnnw, fel rhan o broses gorsafoedd newydd y DU. Gwn eich bod yn ymwybodol iawn o'r holl faterion hyn, Weinidog, ond tybed a oes unrhyw beth y gallech ei ddweud heddiw fel diweddariad, o ystyried bod y gymuned leol yn awyddus iawn i ddysgu am unrhyw ddatblygiadau neu gynnydd newydd.

A wnewch chi dderbyn ymyriad byr iawn—? A gaf fi ategu'n llwyr yr hyn y mae John yn ei ddweud am orsaf Magwyr? Rwy'n credu bellach fod yn rhaid i chi gydnabod yn union y gwaith sydd wedi'i wneud er mwyn cael yr orsaf honno. Rwy'n teimlo'n wirioneddol y dylech ddarparu'r arian, Weinidog, er mwyn i'r cynllun hwnnw fynd yn ei flaen.

Diolch ichi am y gefnogaeth honno, David, ar fater sy'n sicr yn uno'r gymuned leol, a gwn fod llawer o Aelodau Cynulliad wedi bod yn rhan o'r gwaith hwnnw.  

Hoffwn innau hefyd adleisio'r hyn a ddywedodd Delyth am y cyswllt rheilffordd i deithwyr o Lynebwy i Gasnewydd, oherwydd mae'n fater a fu ar y gweill ers amser maith, ac mae bwlch mor amlwg yn y gwasanaethau lleol fel bod cymunedau, unwaith eto, yn teimlo'n gryf iawn fod angen gwneud cynnydd—cynnydd amserol a chynnydd digonol. Unwaith eto, tybed a oes unrhyw ddiweddariad y gallech ei ddarparu, Weinidog.  

Y mater arall yr hoffwn sôn amdano yw cyfleuster gweithgynhyrchu trenau CAF yn fy etholaeth. Fel rhan o weithgynhyrchu a diwydiant yng Nghymru, rwy'n falch iawn o ddweud bod gennym y gwneuthurwr trenau hwn yma yn awr, ac mae hynny'n werthfawr iawn yn fy marn i—mae'n llwyddiannus iawn eisoes. Mae'n olygfa wych i weld y trenau hynny'n cael eu hadeiladu yn y ffatri, ac mae trafod pethau gyda'r staff a'r rheolwyr yno yn werthfawr iawn. Maent yn ymfalchïo'n amlwg yn yr hyn sy'n digwydd yng Nghymru erbyn hyn, ac rwy'n siŵr y byddai pawb yma yn teimlo yr un fath.

Ond fel arfer, mae yna broblemau sy'n rhaid eu datrys, ac un ohonynt yw'r rheilffordd liniaru sy'n rhaid ei hadeiladu i'w gwneud hi'n bosibl cynnal profion ar drenau trydan ac sy'n bwysig iawn ar gyfer digwyddiadau mawr yng Nghaerdydd, drwy ganiatáu i drenau fod ar y rheilffordd honno yn aros i gael eu galw i ddarparu gwasanaethau ychwanegol ac atal ciwio ac anhrefn yn ein prifddinas. Felly, unwaith eto, os oes unrhyw ddiweddariad ynglŷn â phryd y caiff honno ei hadeiladu, Weinidog, buaswn yn ddiolchgar iawn, oherwydd, yn amlwg, gorau po gyntaf.

Mater arall yw fforwm ar gyfer cwmnïau rheilffyrdd yng Nghymru. Rwy'n credu ein bod yn lwcus iawn i gael y datblygiad yn CAF yng Nghasnewydd yn awr. Pe bai'r holl rai sy'n chwarae rhan yn y diwydiant rheilffyrdd yng Nghymru yn dod ynghyd mewn fforwm i rannu profiad, i rannu syniadau, i gydweithio ac i gydweithredu er budd pawb, ac i fod yn llais cryf dros y diwydiant yng Nghymru, teimlir y byddai hynny'n werthfawr, a tybed beth y gallai'r Gweinidog ei wneud i hwyluso hynny.

Un mater olaf, mewn gwirionedd, yw'r gweithlu medrus y mae CAF ei angen. Mae'n amlwg iawn pan fyddwch chi'n cerdded o amgylch y ffatri fod yno lawer iawn o ddynion, ac mae hyn yn cyferbynnu'n fawr â'r sefyllfa yng Ngwlad y Basg, lle mae pencadlys CAF, lle mae oddeutu hanner eu peirianwyr yn fenywod. Felly, fe wyddom, rwy'n gwybod eisoes, ond mae hyn o ddifrif yn dangos yr angen i newid diwylliant, i newid meddylfryd. Rwy'n gwybod mai mater i ysgolion a cholegau ydyw, ond i Lywodraeth Cymru ac i bob un ohonom hefyd, mewn gwirionedd. Oherwydd mae yna yrfaoedd gwerth chweil nad yw menywod yn mynd iddynt i'r graddau y dylent fod, yn CAF ac yn gyffredinol, ac wrth gwrs, mae cwmnïau fel CAF yn colli hanner ein poblogaeth o ran y gweithlu medrus sydd ei angen arnynt ac y byddent yn elwa ohono. Felly, mae gwaith i'w wneud ar nifer o faterion, ond rwy'n credu ei fod yn ased gwych i Gymru gael y ffatri honno yn fy etholaeth. Rwy'n lwcus iawn i'w chael yno, ac rwy'n meddwl bod Cymru fel gwlad yn lwcus iawn i'w chael hi.

17:25

Weithiau byddaf yn cydymdeimlo'n fawr â'r Gweinidog oherwydd mae John, Hefin, Aelodau eraill yma, a minnau, yn codi ac rydym yn parablu'n ddiddiwedd am fuddiannau penodol ein cymunedau ein hunain. Ond nid ydym yn gwneud unrhyw esgus am hyn oherwydd rwy'n teimlo weithiau fy mod yn cynnal cymorthfeydd wrth fynd pan fyddaf yn teithio yn ôl ac ymlaen bob dydd o Faesteg i Gaerdydd. Rwy'n eistedd yno yn siarad â phobl am bopeth dan haul, ond gwasanaethau rheilffordd yw'r testun yn aml iawn. Ac mae'n rhaid i mi ddweud bod pobl yn gyffrous ynglŷn â'r newidiadau, gyda rhai ohonynt ar fin digwydd—ac fe drof at y rheini sydd ar fy rhan i o'r trac ar hyn o bryd—ond mae rhwystredigaeth hefyd ynglŷn â'r pethau sydd wedi cael eu dweud.

Mae'n wych gweld bod mwy a mwy o bobl yn teithio ar drenau. Mae hynny'n dyst i'r ffaith bod pobl bellach yn troi at y dulliau hynny o deithio; maent yn gweld tagfeydd ar y ffyrdd ac yn y blaen. Ond mae'n rhaid i mi ddweud, rwy'n ffodus fy mod yn gallu mynd ar y trên ym Maesteg neu Heol Ewenni neu Garth, ac rwyf bob amser yn sicr o gael sedd; hyd yn oed ar ddiwrnodau gêm, rwy'n sicr o gael sedd. Ond mewn gwirionedd, hyd yn oed ar ddiwrnod arferol yn ystod oriau brig, erbyn i chi gyrraedd Pen-y-bont ar Ogwr, mae'n llenwi; Llanharan, mae'n llawn; Pont-y-clun, lle i sefyll yn unig. Ond mae yna ffyrdd drwy hyn. Felly, rwy'n croesawu'r ffaith—. Rwy'n mynd allan yfory i edrych ar y cerbydau dosbarth 170 wedi'u hadnewyddu a'u moderneiddio'n llwyr sy'n cael eu cyflwyno—capasiti mwy, mwy o seddi, mwy o le, mwy o gysur, gyda gwybodaeth i deithwyr ar y trên, rhywbeth nad ydym yn ei gael ar y trenau presennol, gyda Wi-Fi sy'n gweithio'n iawn hefyd, gobeithio. Gyda thoiledau cwbl hygyrch hefyd, ac ati, ac ati. Rwy'n edrych ymlaen at weld y rheini oherwydd ar fy rheilffordd i, byddant yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ar yr adegau pan fyddwn yn cyrraedd llefydd fel Llanharan a Phont-y-clun, er mwyn cael mwy o gapasiti, mwy o le i eistedd, ac nid yn unig fod arnom angen hynny ond rydym yn bendant eu hangen am resymau iechyd a diogelwch, oherwydd rwyf wedi teithio digon ar y tiwb yn Llundain i wybod sut beth yw hynny, ac o Bont-y-clun i mewn, mae'n edrych fwyfwy felly erbyn hyn ar adegau prysur. Ond bydd y cerbydau hyn yn helpu oherwydd byddant yn cynyddu capasiti. Felly, rwy'n edrych ymlaen at weld y rheini yfory.

Rwy'n edrych ymlaen, hefyd, at eu gweld yn cael eu cyflwyno nid yn unig ar y llwybrau rheolaidd ond ar y gwasanaeth ar y Sul, sy'n dod ar 15 Rhagfyr i Faesteg. Mae ein rheilffordd wedi bod heb wasanaeth ar y Sul ers amser maith. Mae pobl sy'n fyw yn awr, sy'n 50 mlwydd oed, erioed wedi gweld gwasanaeth ar y Sul, a minnau yn eu plith. Hwn fydd y tro cyntaf i ni ei weld. Mae'r syniad hwn o greu rhwydwaith saith diwrnod yr wythnos, lle gall pobl deithio i sêls mis Ionawr neu i weithio ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Chaerdydd ar y rheilffordd, a gallu dod i'n gweld ninnau hefyd, a gweld yr ŵyl flynyddol o leisiau corawl ac yn y blaen. Gallant ddod i ymweld â ni ar y trên, neu gallant fynd i gerdded neu feicio ar ein bryniau drwy ddod ar y trên gyda hynny. Mae hyn yn hollbwysig.

Ond rwy'n credu ein bod yn mynd drwy gyfnod anodd, a'r amser anodd yw'r pontio rhwng y disgwyliadau uchel sydd gan bawb, y buddsoddiad enfawr a digynsail yn y rhain, a gwireddu hynny pan fo pobl yn dal i'w chael hi'n anodd o hyd, o ddydd i ddydd. Ond rwy'n fwy o berson hanner gwydr llawn na hanner gwydr gwag, ac rwy'n cydymdeimlo â phobl, ond nid wyf yn cydymdeimlo â hwy drwy eistedd y tu ôl i ddesg yn meddwl, 'O, onid yw'n ofnadwy?' Rwy'n ei wneud bob dydd hefyd. Rwy'n ei weld.

Felly, mae angen inni gadw ein troed ar y pedal yma, a gwn y bydd y Gweinidog yn gwneud hynny. Byddaf yn pregethu wrtho am bethau fel sut y gallwn ryddhau mwy o gapasiti ar y rheilffordd drwy ymdrin â chroesfan Pencoed a phont Pencoed. Mae hynny'n allweddol i rai o'r pethau y soniwyd amdanynt, oherwydd os gallwn gael gwasanaethau amlach drwy ymdrin â mater y groesfan yno, ar hyd y brif reilffordd honno, gallwn gael mwy o gerbydau, a mwy o drenau yn mynd i fyny ac i lawr yn amlach.

Mae'r buddsoddiad ar hyd rhan Maesteg o linell Maesteg i Ben-y-bont ar Ogwr, er mwyn mynd ar reilffordd un trac, dau yr awr, efallai tri yr awr yn y dyfodol neu beth bynnag, wel, rwy'n edrych ymlaen at weld canlyniadau'r astudiaeth y mae'r Gweinidog wedi'i chomisiynu ar hyn oherwydd rwy'n obeithiol iawn y byddwn, mewn ychydig iawn o amser, yn gallu rhoi gwybod i bobl fod yna ffordd ymlaen. Rwy'n siŵr y bydd yn golygu gwario rhywfaint o arian, ond i weld, ar fore dydd Llun prysur rhwng 7 a.m. a 9 a.m., nad dau drên yn unig sydd gennym—un am 6.50 a.m. ac un am 8.04 a.m., ond y bydd gennym bedwar trên yn mynd â ni i mewn i Ben-y-bont ar Ogwr a Chaerdydd. Mae hynny'n cyd-fynd â'r hyn rydych yn ceisio ei wneud gyda'r rhwydwaith ehangach, felly hoffem gael rhan o hynny hefyd, ond rydym yn gwybod y bydd angen buddsoddiad sylweddol.

A dyna fy rhwystredigaeth gyda hyn hefyd, mae'n rhaid i mi ddweud, gan edrych ar ffeithiau caled a ffigurau'r diffyg buddsoddiad yn seilwaith caled y rheilffyrdd dros lawer o flynyddoedd gan Lywodraeth y DU. Ac nid pwynt gwleidyddol yw hwn, mae'n fater o rwystredigaeth pur y gallem fod wedi unioni pethau yn ein hardal a symud at ddolen ddigidol, gyda dolen Ton-du er enghraifft, a chynyddu ei amledd—gallem fod wedi gwneud hynny 20 mlynedd yn ôl pe na bai'r arian wedi cael ei sugno i lawr i dde-ddwyrain Lloegr. Nawr, mae'n dal i fod gennym ddyn yn cerdded i fyny ac i lawr y grisiau o'r blwch signalau i estyn allwedd i'r cerbyd sy'n dod heibio. Trenau Fictoraidd yw'r rhain. Mae'n bert iawn, ond er mwyn popeth—.

Felly, Weinidog, daliwch ati i bwyso'n galed ar hyn. Mae pobl yn rhwystredig, ond bob tro y gwelwn gynnydd gyda'r trenau 170 ar fy rheilffordd i, wedi'i ddilyn gan gerbydau newydd sbon ymhen ychydig flynyddoedd, gwasanaeth ar y Sul ar 15 Rhagfyr—credaf y bydd pob un o'r pethau hynny'n rhoi hyder i bobl ein bod yn teithio i'r cyfeiriad iawn.

17:30

Diolch, Lywydd. Dechreuaf drwy ddweud eto—ac mae'n rhywbeth rwyf wedi'i ddweud o'r blaen—ein bod wedi gwneud penderfyniad bwriadol iawn ar ddechrau'r broses o gaffael y fasnachfraint i beidio â chlymu dwylo cynigwyr drwy baratoi strategaeth gerbydau, yn unol â'r cyngor a gawsom gan arweinwyr y diwydiant a sylwedyddion ar y pryd, penderfyniad y cydnabuwyd yn eang ers hynny ei fod yn sail i'n dull newydd o ymdrin â'r rheilffyrdd. Roeddem am ganiatáu cymaint â phosibl o hyblygrwydd i gynigwyr allu arloesi.

Nawr, chwe blynedd yn ôl, pe baem wedi dewis pa fath o drenau roeddem am eu rhedeg ledled Cymru, byddai'r cyfle i feddwl o'r newydd wedi cael ei lesteirio'n ddifrifol. Er enghraifft, sut y byddem wedi sicrhau bod hanner y trenau newydd yn cael eu hadeiladu yng Nghymru, o ystyried nad oedd CAF—Costrucciones y Auxiliar de Ferrocarriles—wedi dechrau edrych ar Gymru ar y pryd hyd yn oed? A fyddem wedi datblygu dull newydd, cost isel o drydaneiddio? A fyddai'r Aelodau wedi derbyn strategaeth a oedd yn dibynnu ar drenau hybrid batri, llinell uwchben a diesel? Sut y byddem wedi cydbwyso'r uchelgeisiau ar gyfer metro hyblyg gyda rhedeg ar y stryd o fewn cyllideb sefydlog?

Roeddwn yn aelod o'r pwyllgor hwnnw a theimlaf fod argymell strategaeth gerbydau ar y pryd yn ffôl, oherwydd ni fyddai'r un strategaeth a ysgrifennwyd yn 2013 neu wedi hynny wedi ymdrin â'r materion rwyf eisoes wedi eu hamlinellu, nac wedi manteisio'n llawn ar dechnoleg sydd ond wedi dod ar gael inni yn ystod ail hanner y degawd hwn. Roeddem yn fwriadol yn awyddus i harneisio meddylfryd cyfunol ein pedwar cynigydd cystadleuol i ddatblygu'r ateb mwyaf priodol—ateb a oedd yn uchafu'r canlyniadau a nodwyd gennym ar ddechrau'r ymarfer caffael, ond a oedd yn sefydlog o fewn cwmpas y gyllideb.

Nawr, er nad wyf am ganolbwyntio ar y gorffennol, mae hefyd yn bwysig egluro'r sefyllfa ynglŷn â pha reolaeth a dylanwad a oedd gan Lywodraeth Cymru yn ôl yn 2013 mewn perthynas â'r fasnachfraint reilffyrdd flaenorol a gâi ei rheoli gan Lywodraeth y DU. Yn 2013 roedd y dirwedd yn dra gwahanol. Byddai cynlluniau trydaneiddio eang ledled y DU wedi arwain at drydaneiddio llawn ar lawer o lwybrau ar draws canolbarth Lloegr, gogledd Lloegr, ac yna'n nes at adref ar brif lein y Great Western i Rydychen, Bryste ac Abertawe. Byddai hyn wedi rhyddhau, fel y mae Rhun ap Iorwerth wedi'i ddisgrifio, neu wedi rhaeadru nifer o drenau diesel modern a allai fod wedi cryfhau fflyd Cymru a'r gororau, yn ogystal â darparu adnoddau wrth gefn i ryddhau unedau i'w haddasu ar gyfer pobl anabl. Ond fel y dywedodd David Rowlands a Hefin David, aeth Llywodraeth flaenorol y DU ati i gyfyngu'n ddramatig ar y cynlluniau hyn, ac yn ogystal, mae oedi wedi bod ar brosiectau eraill fel Crossrail. O ganlyniad, byddai unrhyw strategaeth gerbydau yn 2013 yn gwbl amherthnasol erbyn hyn.

Rwy'n credu ei bod yn ffuantus i rai Aelodau honni na weithredwyd i geisio lleihau risgiau cerbydau sy'n heneiddio a'r gofynion o dan ddeddfwriaeth rheoliadau pobl â chyfyngiadau symudedd. Ar gyfer gwaith Cymru a'r gororau, nodwyd y prinder unedau yn 2017, ac o ganlyniad, archebwyd trenau ar y pryd gan Porterbrook i'w cyflwyno ym mis Mai 2018. Ond nid yw'r trenau hynny wedi cael eu darparu fel yr addawodd Porterbrook, ac mae'r rhaglen bron ddwy flynedd yn hwyr erbyn hyn, felly mae angen y mesurau lliniaru, gan gynnwys parhau i weithredu rhai o'r trenau presennol. Felly, yr unig opsiwn a oedd ar gael oedd gwneud cais am ryddhad i barhau i weithredu unedau trên nad oeddent yn cydymffurfio â rheoliadau pobl â chyfyngiadau symudedd nes y byddai'r addasiadau wedi'u cwblhau a'r trenau a raeadrir wedi'u cyflwyno. Fel y mae Aelodau eisoes wedi nodi, mae hon yn dod yn broblem gyfarwydd ar draws y Deyrnas Unedig, lle mae problemau capasiti'n gwasgu oherwydd prinder trenau diesel. Mae'n anghywir dweud ein bod wedi cymryd gormod o amser i wneud cais am ryddhad, oherwydd mae'n gwbl gywir a phriodol ein bod wedi dihysbyddu pob cyfle i gydymffurfio, a'n bod wedi pwyso cymaint ag y gallem ar Porterbrook i ddarparu'r trenau fel roeddent wedi addo.

Mater i Lywodraeth y DU yn awr yw caniatáu'r rhyddhad, ac rwy'n disgwyl y gwneir hynny'n fuan iawn. Ond os yw Aelodau sy'n mynegi pryder heddiw yn awyddus i fod yn adeiladol, dylent gefnogi ein cais am ryddhad. Nid ydym ar ein pen ein hunain—fel y nododd yr Aelodau eisoes, mae Northern Rail wedi gofyn am ryddhad, ond deallwn hefyd fod tri gweithredwr trenau arall wedi gwneud cais am ryddhad erbyn hyn.

At hynny, Lywydd, gallai pob Aelod helpu i gyflwyno gorsafoedd newydd a seilwaith newydd, fel y nododd John Griffiths a David Rowlands gyda gorsaf Magwyr, gan alw unwaith eto am i'n hargymhellion i adolygiad Williams gael eu derbyn, yn union fel y nododd Huw Irranca-Davies.

Felly, er nad wyf yn hapus ein bod wedi gorfod mynd i lawr y llwybr o wneud cais am ryddhad, rydym wedi cael ein gorfodi i wneud hynny, oherwydd byddai gwneud fel arall yn llawer iawn gwaeth i bobl Cymru. Byddai cael gwared ar drenau oddi ar y rheilffyrdd wedi arwain at ganslo eang a hirdymor ledled Cymru, gan gynnwys arfordir gogledd Cymru, gwasanaethau cymudo gogledd-ddwyrain Cymru, gwasanaethau gwledig gorllewin Cymru a gwasanaethau cymudo de Cymru hefyd. Yn gryno, ni fyddai modd darparu gwasanaeth rheilffyrdd y gellid ei ddefnyddio yng Nghymru.

Nawr, hyd at fis Hydref 2018, roedd rhaglenni addasu rheoliadau pobl â chyfyngiadau symudedd yn gyfrifoldeb i weithredwr blaenorol y fasnachfraint, nad oedd yn ofynnol iddynt gyflawni addasiadau mewn gwirionedd, ac roedd y rhaglenni hynny o dan reolaeth yr Adran Drafnidiaeth. Felly, er bod gweithredwyr trenau eraill yn Lloegr wedi cael oddeutu pum mlynedd i gydymffurfio â rheoliadau pobl â chyfyngiadau symudedd, dim ond 14 mis a gafodd Trafnidiaeth Cymru. Gan hynny, rwy'n gobeithio y bydd y Siambr heddiw'n cydnabod gwaith caled Trafnidiaeth Cymru dros y cyfnod hynod o fyr hwn i sicrhau bod cymaint o unedau ag sy'n bosibl yn cydymffurfio â'r rheoliadau ar 1 Ionawr y flwyddyn nesaf. Yn wir, amcangyfrifwn y bydd tua dwy ran o dair o'r fflyd o 134 o drenau'n cydymffurfio â'r rheoliadau bryd hynny.

Nawr, pe baem wedi gwneud, fel y mae rhai Aelodau yn galw amdano—ac o ystyried anallu ymddangosiadol y diwydiant cerbydau trenau i ymateb yn gyflym, rwy'n argyhoeddedig y byddai unrhyw strategaeth gerbydau y byddem wedi'i datblygu wedi methu am resymau y tu hwnt i'n rheolaeth ac y byddem wedi tanseilio ein dull arloesol o gaffael y fasnachfraint.

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud mewn gwirionedd? Wel, rydym yn buddsoddi £738 miliwn ym metro de-ddwyrain Cymru, rydym yn rhyddhau £800 miliwn o fuddsoddiad i sicrhau y bydd cerbydau newydd ar gael o 2023 ar lwybr Cymru a'r gororau, gydag oddeutu hanner y trenau hyn yn cael eu hadeiladu yma yng Nghymru. Rydym hefyd yn buddsoddi tua £40 miliwn i wella'r gwasanaeth i gwsmeriaid a gwytnwch ein trenau presennol.

17:35

Roedd awgrym a glywais yn y Siambr yn gynharach gan Aelod arall yn dweud y bydd gan y stoc newydd lai o gapasiti mewn gwirionedd—

—ar reilffordd Rhymni nag mewn mannau eraill. A allwch roi sicrwydd i ni nad yw hynny'n mynd i ddigwydd?

Rydym yn cynyddu capasiti ar bob un o'r rheilffyrdd hynny yn unol â'n gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau metro, felly bydd mwy o seddi ar gael i gymudwyr ar adegau allweddol, bydd mwy o wasanaethau, bydd pedwar trên yr awr ar reilffyrdd metro. Mae hwn yn gyflawniad enfawr, yn ymarfer hynod o uchelgeisiol, ac o fewn misoedd i ddechrau'r fasnachfraint newydd roeddem hefyd yn gallu rhoi gwasanaethau newydd yn y gogledd drwy ailagor Halton Curve. O fis Rhagfyr eleni, byddwn yn cyflwyno cynnydd enfawr yn nifer y gwasanaethau ar y Sul ledled Cymru, ac rydym hefyd yn buddsoddi £194 miliwn i wella gorsafoedd ar draws rhwydwaith Cymru a'r gororau. Rwy'n falch y bydd o leiaf pum gorsaf newydd yn cael eu creu, ac mae gwaith adeiladu ar un o'r rheini, Bow Street, yn dechrau yr wythnos hon.

Yn olaf, ar ddiogelwch, daethom i gytundeb ag undebau'r rheilffyrdd i sicrhau ein bod yn cadw gard ar bob trên. Felly, gallwn ddewis—gallwn ddewis edrych wysg ein cefnau neu gallwn ddewis edrych tua'r dyfodol. Gallwn edrych ar ddyfodol mwy disglair pan fydd rhagor o wasanaethau o safon uwch yn cael eu darparu i bobl Cymru.

17:40

Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl yma heddiw yma. Dwi'n gwybod bod yna deimlad, o bosib, nad yw rhai o'r cwestiynau sydd wedi cael eu codi wedi cael eu hateb gan y Gweinidog. Dwi'n siŵr y gwnaiff Delyth Jewell roi'r cwestiynau mewn llythyr eto i'r Gweinidog er mwyn mynd ar ôl rhai o'r materion eto.

Mi oedd hi'n ddadl ynglŷn ag un mater penodol, ond, wrth gwrs, fel roeddwn i'n disgwyl, mi agorwyd y drafodaeth allan i nifer o Aelodau ar draws y pleidiau gwleidyddol yn sôn am y materion sydd o bryder iddyn nhw yn eu hetholaethau eu hunain. Roeddwn i'n croesawu'r cyfaddefiad gan Hefin David bod Llywodraeth ar ôl Llywodraeth, Llafur a Cheidwadol, ar lefel Brydeinig wedi methu â gwneud y buddsoddiad a oedd ei angen yn rheilffyrdd Cymru dros ddegawdau, sydd wedi ein gadael ni mewn sefyllfa lle rydym ni'n wynebu—

Fe wnaethoch chi feio Llywodraethau blaenorol am beidio â buddsoddi mewn rheilffyrdd yng Nghymru, sy'n golygu bod gennym fynydd eithaf serth i'w ddringo, ffaith sy'n amlwg yn wir.

Felly, mae pwyntiau wedi cael eu gwneud ynglŷn â'r de-ddwyrain yn arbennig. Mae yna eraill wedi cysylltu efo fi o'r tu allan i'r Siambr yma yn sôn am yr angen i edrych ar Gymoedd y gorllewin hefyd—ardal Castell-nedd, Abertawe, Cwm Dulais, lle mae angen gwneud llawer mwy i gryfhau rheilffyrdd er mwyn tynnu pobl allan o'u ceir. Mae yna bryderon yn y gogledd ac yn y canolbarth hefyd, wrth gwrs.

Ond rydym ni'n sôn yn fan hyn am un mater penodol, sef pam ydym ni yn y sefyllfa yma lle dydyn ni yn dal ddim wedi cael y caniatâd i ddefnyddio'r trenau yma ar ôl diwedd y flwyddyn? Dwi yn clywed beth mae'r Gweinidog yn ei ddweud, ynghyd ag Aelodau ar ei feinciau cefn o, eu bod nhw'n disgwyl cael cyhoeddiad gan adran drafnidiaeth Llywodraeth Prydain yn fuan, ond dydyn ni ddim wedi cael hynny eto. Atebolrwydd ydy hyn—dal traed Llywodraeth Cymru at y tân, fel petai, er mwyn gwneud yn siŵr bod popeth yn cael ei wneud i ddelifro ar hyn. A'r cwestiwn sylfaenol sydd ddim wedi cael ei ateb i fi ydy: pam nad oedd yna gynllun arall? Pam nad oedd yna plan B rhag ofn y byddai yna broblem efo delivery y trenau newydd? Achos dyna'r sefyllfa yn fan hyn. Does yna neb yn awgrymu, i fi ei glywed, ein bod ni yn tynnu'r trenau yma allan o wasanaeth, fel y mae rhai wedi'i awgrymu. Na—eisiau cael, yn anffodus, ganiatâd i gario ymlaen i'w defnyddio nhw ar ôl diwedd y flwyddyn yr ydyn ni, ac yn bryderus iawn, iawn nad ydy'r caniatâd hwnnw wedi cael ei roi hyd yma, a'r broblem fel dwi yn ei gweld hi ydy bod Llywodraeth Cymru wedi methu â gofyn am y caniatâd hwnnw mewn pryd, a dyna pam yr ansicrwydd o hyd.

Rydyn ni'n gwybod bod addewidion wedi cael eu torri. Dwi yn siŵr fy mod i yn eich dyfynnu chi yn iawn unwaith eto, Hefin David, pan ddywedaf i fy mod i'n cytuno efo chi fod y Gweinidog wedi addo gormod, ac mae'n beth difrifol. Mae goraddo a than-ddelifro yn rhywbeth difrifol, achos mae o'n tanseilio hyder pobl yn yr hyn mae'r Llywodraeth yn ei wneud. Dwi'n gwybod bod y Gweinidog yn frwdfrydig iawn dros ei gynlluniau newydd ar gyfer y rheilffyrdd, ond mae goraddo, a pheidio â delifro fel sydd wedi cael ei addo, yn tanseilio hyder pobl.

Rwy'n ceisio bod yn adeiladol yn y ddadl hon a ffurfio dadl ynghylch pam ein bod yn mynd i weld trawsnewidiad. Ni ddefnyddiais y gair 'goraddo'. Yr hyn a ddywedais oedd bod y disgwyliadau cychwynnol ar gyfer y gwasanaeth yn uchel iawn, fel bod pobl yn disgwyl trawsnewidiad ar unwaith. Yn amlwg, nid dyna oedd y cynllun. Felly, ni chafwyd goraddewid, ond roedd disgwyliadau ar gyfer y gwasanaeth yn uwch na'r hyn a allai fod yn realistig, ac rwy'n credu mai dyna beth rydych chi'n chwarae arno'n wleidyddol heddiw.

Iawn, wel rwy'n cymryd y ddau ddisgrifiad—roedd yna oraddo, cafodd ei orwerthu. Rwy'n cytuno, roedd yna oraddo ynghylch yr hyn y gellid ei gyflawni ac fe ddywedoch chi na fu digon o gyflawni ar hynny. Fe ddown at ein gilydd ac awn drwy'r Cofnod gyda'n gilydd ac adolygu'r hyn a ddywedoch chi yn eich araith, ond mae gennyf ffydd yn y nodiadau a ysgrifennais yma.

Ond mae hyn yn ymwneud ag atebolrwydd. Mae'n ymwneud â dwyn y Llywodraeth i gyfrif a sicrhau yn awr ei bod yn rhoi camau ar waith i sicrhau nad oes yn rhaid inni dynnu'r trenau Pacer oddi ar y rheilffyrdd ar ddiwedd y flwyddyn, a fyddai, fel y gwyddom, yn golygu anhrefn trafnidiaeth, yn enwedig yn ne-ddwyrain Cymru, ond mewn rhannau eraill o Gymru hefyd.

17:45

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, dwi'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. Cyfnod Pleidleisio

Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac mae'r bleidlais gyntaf ar y cynnig deddfwriaethol gan Aelod ar ardoll parcio yn y gweithle. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Jenny Rathbone. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, 20 yn ymatal, 14 yn erbyn. Felly mae'r cynnig wedi ei wrthod.  

NDM7188 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Ardoll ar Barcio yn y Gweithle: O blaid: 12, Yn erbyn: 14, Ymatal: 20

Gwrthodwyd y cynnig

Y bleidlais nesaf ar ddadl y Ceidwadwyr ar ofal hosbis a gofal lliniarol, a dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 33 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei wrthod. 

NDM7193 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 14, Yn erbyn: 33, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Gwelliant 1 yw'r bleidlais nesaf. Os dderbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Dwi'n galw am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, neb yn ymatal, 19 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi ei dderbyn—gwelliannau 2 a 3 wedi eu dad-ddethol.

NDM7193 - Gwelliant 1: O blaid: 28, Yn erbyn: 19, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cafodd gwelliant 2 a 3 eu dad-ddethol.

Cynnig NDM7193 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi adroddiad y Grŵp Trawsbleidiol ar Hosbisau a Gofal Lliniarol ar Anghydraddoldebau o ran Mynediad i Ofal Hosbis a Gofal Lliniarol.

2. Yn cydnabod bod gan tua 23,000 o bobl yng Nghymru angen gofal lliniarol ar unrhyw un adeg, gan gynnwys dros 1,000 o blant.

3. Yn cydnabod bod cynnydd wedi’i wneud o ran ehangu mynediad i ofal hosbis a gofal lliniarol yng Nghymru a bod angen gwneud rhagor o waith i nodi unrhyw angen sydd heb ei ddiwallu

4. Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru:

a) yn parhau i weithio gyda phartneriaid statudol a phartneriaid yn y trydydd sector i gyflawni’r uchelgais o sicrhau mai Cymru yw 'gwlad dosturiol' gyntaf y byd;

b) yn sicrhau bod cryfhau’r ddarpariaeth gwasanaethau gofal lliniarol yng Nghymru yn cael ei wneud yn ganolog i’r dull gweithredu hwn;

c) yn darparu meini prawf adrodd cyson, ac yn mynd i’r afael â bylchau yn y data a gaiff eu casglu am anghenion gofal lliniarol oedolion a gofal lliniarol pediatrig;

d) yn parhau i fonitro’r dull cyllido ar gyfer hosbisau elusennol gan weithio gyda’r bwrdd diwedd oes a’r byrddau iechyd;

e) yn parhau i fonitro ac adolygu’r cyllid a ddarperir i hosbisau oedolion a phlant yng Nghymru.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, 11 yn ymatal, naw yn erbyn. Ac felly derbyniwyd y cynnig wedi ei ddiwygio. 

NDM7193 - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 27, Yn erbyn: 9, Ymatal: 11

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Y bleidlais nesaf ar ddadl Plaid Cymru ar strategaeth gerbydau rheilffyrdd. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Ac felly mae'r cynnig wedi ei wrthod. 

NDM7195 - Dadl Plaid Cymru - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 11, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Gwelliant 1 yw'r bleidlais gyntaf. Dwi'n galw am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 31, neb yn ymatal, 16 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 1 wedi ei dderbyn. 

NDM7195 - Gwelliant 1: O blaid: 31, Yn erbyn: 16, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Gwelliant 2 yw'r bleidlais nesaf, a dwi'n galw am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 16, pedwar yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 2 wedi ei wrthod. 

NDM7195 - Gwelliant 2: O blaid: 16, Yn erbyn: 27, Ymatal: 4

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynnig NDM7195 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu’r buddsoddiad o £5 biliwn yn rhwydwaith rheilffyrdd Cymru dros y 15 mlynedd nesaf, gan gynnwys dros £800 miliwn mewn cerbydau.

2. Yn nodi’r heriau y mae’r diwydiant rheilffyrdd yn eu hwynebu ar draws y DU o safbwynt cydymffurfiaeth â’r gofynion o ran teithwyr â symudedd cyfyngedig sy’n effeithio ar fasnachfreintiau ar draws y DU.

3. Yn cydnabod mai un o’r prif resymau dros brinder cerbydau yw’r ffaith nad yw Llywodraeth y DU wedi edrych i’r dyfodol wrth gwtogi ei rhaglen drydaneiddio, gan effeithio ar Abertawe ac arwain at oedi o safbwynt darpariaeth cerbydau.

4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau nad yw’r etholiad cyffredinol yn amharu ar geisiadau am randdirymiadau o safbwynt teithwyr â symudedd cyfyngedig er mwyn sicrhau capasiti ychwanegol ar y rhwydwaith am gyfnod byr hyd 2020.

5. Yn nodi nad yw’r system gerbydau ar draws y DU yn gweithio ac yn galw ar Lywodraeth y DU i gydweithio â’r gweinyddiaethau datganoledig er mwyn datblygu model newydd.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 31, neb yn ymatal, 16 yn erbyn. Felly mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn. 

NDM7195 - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 31, Yn erbyn: 16, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

A dyna ddiwedd ar ein trafodion am y dydd, gan fod y ddadl fer wedi ei gohirio. 

Daeth y cyfarfod i ben am 17:49.