Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

23/10/2019

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Addysg, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Alun Davies. 

Darpariaeth Iechyd Meddwl mewn Ysgolion

1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi darpariaeth iechyd meddwl mewn ysgolion? OAQ54591

Diolch, Alun. Heddiw, lansiais yr ymgynghoriad ffurfiol ar ddrafft wedi'i ddiweddaru o'r pecyn cymorth gweithredu cwnsela mewn ysgolion a chymunedau. Mae hyn yn rhan annatod o'n gwaith i ymgorffori dull ysgol gyfan o ymdrin â lles emosiynol, o dan arweiniad y Gweinidog iechyd a minnau ar y cyd.

Rwy'n ddiolchgar i chi am hynny, Weinidog. Fe fyddwch yn cofio, ychydig wythnosau yn ôl, fy mod yn ddiolchgar iawn i chi am dreulio amser yn fy hen ysgol, sef Ysgol Gyfun Tredegar, wrth gwrs. Yn ystod yr ymweliad hwnnw, fe dreulioch chi beth amser yn siarad â chyngor yr ysgol, a byddwch yn cofio bod llawer o’u cwestiynau i chi yn ymwneud â materion iechyd meddwl a lles. Ac roeddwn yn credu bod y sgwrs a gawsoch gyda'r cyngor ysgol yn sgwrs dda, gref a phwerus iawn, a byddant hwythau, rwy'n siŵr, yn croesawu'r datganiad a wnaethoch yn gynharach heddiw. Ond sut y gallwch adeiladu ar hyn a gwneud dull mwy cyfannol, creu dull mwy cyfannol, o sicrhau bod lles ac iechyd meddwl pobl ifanc a phlant mewn ysgolion yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ysgolion ac i'r Llywodraeth hon?

Wel, diolch, Alun. Roeddwn yn falch iawn o ymweld ag Ysgol Gyfun Tredegar gyda chi, er fy mod ychydig yn siomedig na welais eich ffotograff ar y wal, ymhlith cyn-ddisgyblion nodedig eraill yr ysgol. [Chwerthin.] Ond mae'n rhaid i mi ddweud bod y sgyrsiau a gefais gyda'r disgyblion yn Nhredegar yn sgyrsiau a gaf gyda disgyblion ysgol yn gyson. Nid wyf wedi bod mewn cyfarfod o gyngor ysgol eto lle nad yw mater lles ac iechyd meddwl ar frig yr agenda. Ac rydym yn ymwybodol, wrth gwrs, fod y Senedd Ieuenctid yn ystyried lles ac iechyd meddwl yn un o'i blaenoriaethau ar gyfer ei thymor. Yr hyn sy'n bwysig yw bod y Llywodraeth hon yn buddsoddi £2.5 miliwn eleni er mwyn ymgorffori gweithgaredd ar draws ystod gyfan o ddulliau ysgolion cyfan, gan gynnwys adnoddau ychwanegol i gwtogi amseroedd aros ar gyfer apwyntiadau cwnsela mewn ysgolion. Ac fel Llywodraeth, rydym yn benderfynol o weithio gydag ysgolion, a'r rheini yn yr haen ganol sy'n cefnogi ein hysgolion, i sicrhau bod lles ac iechyd meddwl yn cael eu hystyried o ddifrif ac nid fel elfen o'r cwricwlwm yn unig, ond yn sail i ddiwylliant o sut y mae addysg yn gweithredu yn ein gwlad.

Weinidog, canfu arolwg gan yr elusen iechyd meddwl Mind Cymru o dros 3,000 o bobl ifanc rhwng 11 a 19 oed fod un o bob saith o bobl ifanc yn dweud bod eu hiechyd meddwl naill ai'n wael neu'n wael iawn. Dywedodd bron i hanner y bobl ifanc a holwyd na fyddent yn gwybod ble i fynd i gael cymorth yn eu hysgolion, ac nid oedd mwy na'u hanner yn teimlo'n ddigon hyderus hyd yn oed i fynd at athro neu aelod arall o staff yr ysgol arall pe bai angen help arnynt. Weinidog, beth yw eich ymateb i alwad Mind Cymru y dylid gwneud lles ac iechyd meddwl yn rhan statudol o'r cwricwlwm cenedlaethol ar gyfer pob dysgwr mewn ysgolion yng Nghymru?

Wel, Oscar, mae'n siomedig clywed yr ystadegau hynny, oherwydd ar gyfer y flwyddyn academaidd 2017-2018, fe wnaeth dros 11,000 o bobl ifanc elwa o'r gwasanaeth cwnsela mewn ysgolion. Ond gwyddom fod rhai pobl ifanc yn wynebu rhwystrau rhag cael mynediad at y gwasanaeth hwnnw. Dyna pam rydym ni, fel y dywedais, yn darparu adnoddau newydd i awdurdodau lleol fel y gallwn edrych ar ffyrdd y gallwn ystyried trefniadau mwy cydweithredol gyda darparwyr cwnsela eraill yn hytrach na gwasanaethau traddodiadol yn unig, er enghraifft, gwasanaethau ar-lein, a allai ei gwneud yn haws i rai plant fynd i'r afael â’u problemau.

O ran y cwricwlwm newydd, un o'r chwe maes dysgu a phrofiad fydd iechyd a lles, a bydd digon o gyfle, ac yn wir, disgwyliad, y bydd y maes dysgu a phrofiad hwnnw'n sicrhau y gall athrawon a gweithwyr proffesiynol eraill sy'n gweithio gyda'n hysgolion ddarparu gwersi effeithiol iawn mewn perthynas â lles ac iechyd meddwl, gan gynnwys annog arfer o ofyn am gymorth os yw pobl yn teimlo bod angen iddynt ofyn am gymorth.

Fel y gwyddoch efallai, rwyf wedi bod yn edrych yn ddiweddar ar fater cyflyrau niwroddatblygiadol, ac rwy'n darganfod bod llawer o blant â chyflyrau niwroddatblygiadol sydd ar y sbectrwm awtistiaeth hefyd yn cael eu hatgyfeirio at wasanaethau iechyd meddwl—at wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed. Weithiau, mae ganddynt broblem iechyd meddwl hefyd, ond yn aml, mae angen gwasanaethau arbenigol eraill. Felly, a oes gennych bolisi ar sgrinio am gyflyrau niwroddatblygiadol mewn ysgolion? A ydych yn credu y byddai'n gwneud synnwyr sgrinio disgyblion sydd â chyflyrau iechyd meddwl difrifol, neu broblemau camddefnyddio sylweddau, plant sydd wedi'u gwahardd, neu sydd mewn perygl o gael eu gwahardd, eu sgrinio am gyflyrau niwroddatblygiadol? Oherwydd mae triniaethau ar gael, ac i rai pobl, maent yn effeithiol tu hwnt. Ond nid yw'r angen hwn yn cael ei ddiwallu i lawer o'n plant sydd â'r angen hwn. Nid ydynt yn cael eu sgrinio, nid ydynt yn cael y diagnosis cywir, ac felly nid ydynt yn cael y driniaeth. A oes rhywbeth y gallwch ei wneud ynglŷn â hyn?

13:35

Wel, credaf mai'r agwedd gyntaf er mwyn ymateb yn briodol i anghenion y plant hynny yw sicrhau bod eu hanghenion dysgu penodol yn cael eu nodi’n gynnar yn eu gyrfa ysgol. A dyna pam fod y Llywodraeth hon yn gwario adnoddau ar sicrhau bod mwy a mwy o'n gweithwyr proffesiynol yn cael hyfforddiant fel y gallant nodi arwyddion o ystod o wahanol ffactorau a allai effeithio ar les plant a’u gallu i ddysgu, ac i allu ceisio cymorth gan weithwyr proffesiynol eraill, os yn briodol, i ddiwallu anghenion dysgu unigol y plant hynny. Ond rwy'n fwy na pharod i gyfarfod â'r Aelod i drafod y defnydd o offer sgrinio, ac i weld a oes sylfaen dystiolaeth gref y bydd hynny'n gwneud gwahaniaeth.

Cyllidebau Ysgolion Uwchradd yn Sir Benfro

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllidebau ysgolion uwchradd yn Sir Benfro? OAQ54562

Ar 31 Mawrth 2019, cafodd gwarged o £455,000 ei gario ymlaen gan naw ysgol uwchradd yn Sir Benfro, a chafodd diffyg o £120,000 ei gario ymlaen gan un ysgol uwchradd. Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am gyllid ysgolion, a dylent fonitro cyllidebau ysgolion unigol yn agos.

Weinidog, yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod, mae pob un o ysgolion uwchradd Sir Benfro yn rhagamcanu diffyg yn eu cyllidebau, ac mae cymdeithas penaethiaid uwchradd Sir Benfro wedi dweud yn glir y bydd hyn yn arwain at leihau nifer y staff addysgu, lleihau ehangder y cwricwlwm a gynigir, ac angen i gynyddu nifer y disgyblion mewn dosbarthiadau er mwyn galluogi llai o athrawon i addysgu'n unol â’r cwricwlwm. Gan fod rhan fawr o'r cyllid ar gyfer ysgolion yn dod o'r cyllid heb ei neilltuo y mae awdurdodau lleol yn ei gael gan Lywodraeth Cymru yn y setliad llywodraeth leol, mae'n hanfodol felly fod unrhyw arian a drosglwyddir i awdurdodau lleol yn cael ei ddefnyddio at y diben a nodir ar ei gyfer ac yn cyrraedd gwasanaethau rheng flaen. O ystyried pwysigrwydd sicrhau bod unrhyw arian ychwanegol a'r holl arian ychwanegol yn cyrraedd gwasanaethau rheng flaen yn Sir Benfro—ac yn wir, ledled Cymru—a allwch ddweud wrthym sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod unrhyw gyllid ar gyfer addysg sy'n cael ei drosglwyddo i awdurdodau lleol yn cael ei ddefnyddio at y diben penodol hwnnw?

Wel, mae'r Aelod yn llygad ei le yn nodi'r ffordd y mae'r mwyafrif llethol o'r adnoddau sy'n ariannu ein hysgolion yn fater i awdurdodau lleol. Yn ddiweddar, cyfarfûm â’r is-grŵp dosbarthu cyllid i drafod y materion hyn, yn ogystal â’r cyfarwyddwyr addysg a’r portffolios addysg, ar draws y 22 awdurdod lleol, ynglŷn â fy awydd i weld cymaint o arian â phosibl yn cyrraedd y rheng flaen er mwyn cefnogi cyllidebau ysgolion unigol. Mae gennym ran i'w chwarae yn hyn wrth gwrs, a dyna pam y cyhoeddasom £12.8 miliwn yn ychwanegol ddoe, a fydd ar gael yn ystod y flwyddyn i gynorthwyo gyda chost codiad cyflog athrawon eleni. A'n disgwyliad yw y bydd yr holl arian hwnnw'n mynd yn uniongyrchol i gyllidebau rheng flaen ysgolion.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch. Weinidog, mawr oedd yr angen am y £2 filiwn a gyhoeddodd eich Llywodraeth yn gynharach eleni ar gyfer mentrau iechyd meddwl mewn prifysgolion, a mawr oedd y croeso iddo. Ac fe ddywedoch wrthyf ym mis Gorffennaf mai bwriad y cyllid hwn oedd datblygu dull ysgol gyfan a fyddai'n cefnogi staff yn ogystal â myfyrwyr. Ond ar yr un pryd, credaf mai £175,000 yn unig a roesoch i ColegauCymru at yr un diben, o ran rhoi hyn ar waith mewn colegau addysg bellach, er bod mwy o fyfyrwyr mewn addysg bellach nag mewn addysg uwch yng Nghymru. Sut rydych yn sicrhau y gall myfyrwyr sy'n ymgymryd ag addysg bellach gael yr un lefel o gefnogaeth mewn perthynas â'r fenter iechyd meddwl benodol hon?

Mae'r Aelod yn llygad ei lle—yr hyn rydym yn ceisio'i ddatblygu yn Llywodraeth Cymru yw dull system gyfan o ymdrin â lles ac iechyd meddwl. Yn yr atebion i'r cwestiynau cyntaf, clywsoch am y gwaith a wnawn mewn ysgolion. Ond yn amlwg, mae angen i ni barhau â'r gefnogaeth honno wrth i unigolion gyflawni eu taith drwy'r system addysg. Er y cyfyngiadau ar y gyllideb, rwy'n falch ein bod wedi gallu sicrhau dyraniad, i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ac i ColegauCymru. Yr wythnos diwethaf, cyfarfûm ag aelodau o ColegauCymru i drafod yr angen am gefnogaeth barhaus i fyfyrwyr addysg bellach mewn perthynas ag iechyd meddwl, ac mae'r trafodaethau hynny hefyd yn mynd rhagddynt yn y Llywodraeth.

13:40

Iawn, a diolch am y diweddariad hwnnw. Pan fydd gennych fwy o wybodaeth, byddai'n ddefnyddiol ei rhannu, oherwydd wrth gwrs, gwn fod myfyrwyr addysg bellach a'u staff yn wynebu'r un heriau â myfyrwyr a staff addysg uwch.

Yn amlwg, un o'r rhesymau pam fod prifysgolion wedi ymgeisio neu ymgyrchu am arian ar gyfer mentrau iechyd meddwl oedd y gwaith a wnaeth Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yn rhan o'r broses honno, gan weithio gyda'r Llywodraeth. A chredaf fod undebau myfyrwyr yn rhan annatod o fywyd prifysgol. Rwy'n gyn-swyddog sabothol fy hun ym Mhrifysgol Aberystwyth, felly rwy'n gyfarwydd â'r polisïau penodol hynny ac wedi eu gweld a'u rhoi ar waith. Ond mae llawer o fyfyrwyr addysg bellach yn dal i deimlo nad oes llais ganddynt fel myfyrwyr, neu nad yw llais y myfyriwr mor hygyrch iddynt ag i'w cyfoedion mewn addysg uwch. Ac er y byddwn yn gostwng yr oedran pleidleisio i 16—rydym yn cytuno ar hyn—bydd angen iddynt gael mynediad at wasanaethau cymorth i fyfyrwyr yn union yn yr un modd â'r rheini mewn addysg uwch. Felly, a allwch ddweud mwy wrthyf ynglŷn â'r hyn y gallech ei wneud o bosibl i sicrhau parch mwy cydradd lle gellir gwella llais y myfyriwr mewn sefydliadau addysg bellach?

Mae llais y myfyriwr yn bwysig ar bob lefel o addysg, a'r hyn rydym yn ceisio ei wneud yw cynyddu'r gallu i fyfyrwyr lywio eu sefydliadau, boed hynny mewn ysgolion, prifysgolion neu addysg bellach. Nid wyf mor besimistaidd â'r Aelod ynghylch cyfraniad aelodau Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr i'n haddysg bellach. Yn ddiweddar, roeddwn ar gampws y Graig yng Ngholeg Sir Gâr yn Llanelli, lle cawsom gyfarfod cynhyrchiol iawn gydag aelodau undeb y myfyrwyr yno, sy'n gweithio mewn partneriaeth ag uwch dîm rheoli'r coleg hwnnw i fynd i'r afael â materion sy'n peri pryder i'r corff myfyrwyr yn y coleg hwnnw, a lle, er enghraifft, y bu ymgyrch effeithiol iawn ar iechyd meddwl a lles ac ymgyrch effeithiol iawn ar dlodi mislif ac urddas mislif ar holl gampysau'r coleg hwnnw—. Yn amlwg, byddwn yn awyddus i fanteisio ar gyfle'r Bil addysg a hyfforddiant ôl-orfodol i atgyfnerthu pwysigrwydd llais y myfyriwr ym mhob agwedd ar addysg a hyfforddiant ôl-orfodol.

Diolch. Er eglurder, nid oeddwn yn dweud nad oeddent yn gwneud eu gwaith yn effeithiol; roeddwn yn dweud eu bod wedi cysylltu â mi gan ddweud, 'Edrychwch, rydym yn gwybod ein bod yn gwneud gwaith ym maes addysg bellach, ond rydym yn ei chael hi'n anodd gan fod hwnnw mor dameidiog', ac felly mae a wnelo hyn â sut y gellir eu helpu i fod yn fwy effeithiol pan fyddant yn mynd i'r sefydliadau hynny, ac nid yw hynny'n golygu nad ydynt yn gwneud ymdrech lle mae'n rhaid iddynt gael mynediad at reolwyr cyffredinol blaengar sy'n awyddus i geisio rhoi cymorth iddynt.

Mae fy nghwestiwn olaf yn ymwneud â mater arall mewn perthynas â—. Codais hiliaeth sefydliadol mewn addysg uwch gyda chi yn ôl ym mis Gorffennaf, a chyfarfûm â Phrifysgol Caerdydd yn ddiweddar—yr wythnos hon—a bu'n drafodaeth wirioneddol adeiladol, ynglŷn â'ch sicrwydd i mi y byddai cynlluniau cydraddoldeb strategol yn nodi sut y byddent yn gallu sicrhau cyfleoedd i fyfyrwyr â nodweddion gwarchodedig ac y byddai'r cynlluniau hyn yn gwneud newidiadau o ran sut y gall pobl fynd i'r afael ag achosion unigol o fwlio neu aflonyddu hiliol yn y sefydliadau hynny.

Heddiw, efallai eich bod wedi gweld bod adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi datgelu bod 13 y cant o'r myfyrwyr a holwyd wedi cael profiad o aflonyddu hiliol, gan godi i 24 y cant—bron i chwarter—y myfyrwyr o gefndiroedd lleiafrifol ethnig. Ond yn aml, nid yw prifysgolion yn ymwybodol o wir faint y broblem ar y campysau hyn, a cheir anghysonderau enfawr rhwng nifer y myfyrwyr sy'n cael profiad o ddigwyddiadau, yn ôl yr adroddiad, a'r nifer a gofnodir gan y prifysgolion. Pa sicrwydd y gallwch ei roi i mi heddiw y bydd y cynlluniau strategol hynny y mae disgwyl i'r prifysgolion eu llunio yn newid hyn? Beth rydych yn ei wneud i weithio gyda'r sector i sicrhau bod y lleisiau hynny'n cael eu clywed a'u bod yn teimlo bod rhywun yn gwrando arnynt mewn unrhyw strwythur? Efallai na fyddant yn cyrraedd pwynt lle byddant yn rhoi gwybod am y digwyddiad yn ffurfiol, ond maent yn awyddus i gyrraedd pwynt lle cânt eu credu a'u clywed a lle gallant fod yn rhan o broses adeiladol ar gyfer dyfodol y system brifysgolion.

Yn wir, rwyf wedi gweld yr adroddiad. Mae'n waith pwysig, er ei fod yn ddeunydd darllen digalon iawn. Unwaith eto, mae'n rhaid inni atgoffa'n hunain nad yw Cymru yn ddiogel rhag problemau hiliaeth. Yn ogystal â darllen yr adroddiad, cyfarfûm â'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn ddiweddar, cyn iddo gael ei gyhoeddi, i gael trafodaeth gynnar gyda hwy ynglŷn â'u disgwyliadau o ran beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud. Y bore yma, roeddwn ym Mhrifysgol Caerdydd, a manteisiais ar y cyfle i gyfarfod â chynrychiolwyr CCAUC a'r rhan fwyaf o is-gangellorion Cymru, a oedd hefyd yn yr un cyfarfod i drafod yr adroddiad hwn, a gallaf roi sicrwydd i'r Aelod, ac yn wir i'r holl Aelodau yma, y ​​bydd Prifysgolion Cymru, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a minnau yn awyddus i ystyried argymhellion yr adroddiad hwn yn ofalus iawn ac eisiau gweithredu arnynt. Un ffordd y gallaf wneud hynny yw cyfeirio yn fy llythyr cylch gwaith nesaf at fy nisgwyliadau y bydd y prifysgolion a CCAUC yn mynd i'r afael â'r pwynt hwn, ac rwy'n bwriadu gwneud hynny.

13:45

Diolch, Lywydd. Weinidog, y llynedd, honnodd panel annibynnol na fyddai mater llwyth gwaith athrawon ond yn cael sylw drwy edrych ar strwythur ehangach addysg ysgol. Tynnwyd sylw at y ffaith nad yw'r ffordd y mae ein hysgolion yn gweithio—eu harferion, eu patrymau a'u systemau—wedi newid o gwbl, fwy neu lai, ers dechrau rhoi addysg ysgol i bob plentyn yn oes Fictoria. Weinidog, a ydych wedi gweld yr adroddiad hwn, a beth yw eich ymateb i'w alwad i sefydlu comisiwn i ystyried a fyddai newid y system o ran dyddiau, tymhorau a gwyliau ysgolion yn arwain at newidiadau a fyddai'n lleddfu'r pwysau ar staff addysgu?

Mae'n rhaid imi ddweud, Lywydd, y byddai'n ddefnyddiol pe gallai'r Aelod ddal i fyny. Sefydlwyd y comisiwn hwnnw sawl mis yn ôl o dan gadeiryddiaeth Mick Waters. Mae'n cynnwys penaethiaid o Gymru a llywodraethwyr ysgolion o Gymru yn ogystal ag arbenigwyr annibynnol o'r tu allan i system addysg Cymru.

Dywed y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil i Addysg fod galw nad yw'n cael ei ddiwallu gan athrawon uwchradd neu athrawon ysgolion uwchradd sy'n awyddus i gwtogi neu newid eu horiau. Maent yn amcangyfrif yr hoffai un o bob chwe athro gwtogi eu horiau ac maent yn annog arweinwyr ysgolion uwchradd i wneud mwy i ddarparu ar gyfer athrawon sy'n awyddus i weithio'n rhan-amser neu'n hyblyg. Weinidog, a gaf fi ofyn pa sylwadau rydych wedi'u cael ar y mater hwn a pha ganllawiau a roesoch i ysgolion mewn perthynas â gweithio'n rhan-amser ac yn hyblyg, gan fod diffyg y math hwnnw o weithio yn ffactor pwysig ym mhenderfyniad rhai athrawon i adael y proffesiwn yng Nghymru?

Nid wyf wedi cael unrhyw sylwadau gan undebau'r athrawon am y manylion penodol y mae'r Aelod yn eu crybwyll ynghylch gweithio'n rhan-amser ac yn hyblyg, er bod materion llwyth gwaith yn gyffredinol yn eitem sefydlog ar yr agenda bob tro y byddaf yn cyfarfod ag undebau'r athrawon. Mae'r hyblygrwydd a nodwyd gan yr Aelod yn wir yn un o'r pethau y mae'r comisiwn i ailfeddwl y diwrnod ysgol yn eu hystyried ac i weld a oes awydd gwirioneddol am newid yn hyn o beth.

Diolch. Mae data o'r cyfrifiad ysgolion blynyddol yn dangos bod toriad o 7.5 y cant wedi bod i staff cymorth ysgolion cynradd ers 2014 a 2015. Mae dros 1,000 yn llai o gynorthwywyr addysgu safonol a 300 yn llai o staff cymorth anghenion arbennig yn gweithio yn ysgolion cynradd Cymru o gymharu â phedair blynedd yn ôl.

Yr wythnos diwethaf, adroddodd Wales Online fod y penaethiaid yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu mwy o arian yn uniongyrchol i ysgolion, gan fod y toriadau wedi cyrraedd lefelau anghynaliadwy ac mae ysgolion ar ben eu tennyn. Weinidog, pryd y byddwch yn gweithredu i fynd i'r afael â'r argyfwng cyllid ysgolion yng Nghymru? Fel rwyf newydd ei ddarllen y bore yma, mae'r toriadau cyllid mewn termau real rhwng 2010 a 2018 yn ostyngiad o bron i 8 y cant mewn cyllid i ysgolion cynradd, ac yn sicr, nid yw hynny'n rhoi'r gwasanaeth i ysgolion a'r athrawon ar yr un pryd.

Byddai fy ngallu i ymateb yn gadarnhaol i'r materion hynny, wrth gwrs, yn cael cryn dipyn o gymorth pe bai'r cyni sy'n tarddu o blaid yr Aelod ei hun a'u Llywodraeth yn San Steffan yn dod i ben. Yn ddiweddarach y prynhawn yma, byddwn yn cael dadl estynedig ar waith y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch mater cyllid ysgolion. Yn wyneb y cyfyngiadau ar yr arian sydd ar gael i Lywodraeth Cymru, rwy'n benderfynol o wneud popeth a allaf i sicrhau bod cymaint o arian â phosibl yn cyrraedd y rheng flaen.

Cyllid Addysgol Fesul Disgybl

3. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyllid addysgol fesul disgybl yng Nghymru? OAQ54583

Yn ôl dadansoddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, mae gwariant fesul disgybl yng Nghymru ychydig o dan £6,000 ar gyfartaledd. Fodd bynnag, mae hyn yn amrywio'n sylweddol rhwng awdurdodau lleol, gan adlewyrchu gwahaniaethau o ran amddifadedd a theneurwydd poblogaeth, yn ogystal â dewisiadau a wneir gan awdurdodau lleol unigol yn unol â'u cyfrifoldebau dros osod cyllidebau ysgolion.

Weinidog, dros y 10 mlynedd diwethaf, mae gwariant y pen ar ddisgyblion wedi gostwng £500, sef bron i 10 y cant. Mae ysgolion yn ei chael hi'n anodd iawn yn ariannol. Maent mewn sefyllfa lle bydd yn rhaid iddynt ddiswyddo staff. Felly, fel y Gweinidog Addysg yng Nghymru, gyda'r cefndir hwnnw a'r argyfwng hwnnw o ran cyllid, sut y gallwch gyfiawnhau safbwynt eich Llywodraeth a beth a wnewch ynglŷn â'r broblem?

13:50

Fel rwyf newydd egluro wrth Mohammad Asghar, yn ddiweddarach y prynhawn yma, byddwn yn cael cyfle i drafod canfyddiadau adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Nid wyf am achub y blaen ar y ddadl honno, ond bydd yr Aelod yn ymwybodol fy mod wedi derbyn holl argymhellion yr adroddiad hwnnw, gan gynnwys ei brif argymhelliad, sef sefydlu adolygiad annibynnol i gyllid addysg yng Nghymru, gan archwilio rôl Llywodraeth Cymru, yr haen ganol, yr awdurdodau lleol, sydd â'r prif gyfrifoldeb am ariannu ysgolion, a sut y gallwn sicrhau ein bod yn gwybod bod digon o arian yn dod i mewn i'n system addysg a'i fod, o ran y ffordd y gwerir yr arian hwnnw, yn cael ei ddefnyddio'n briodol.

Weinidog, wrth gwrs, mae'r swm fesul disgybl yn codi fymryn bob tro y ceir cyhoeddiad o gynnydd yng nghyflogau a phensiynau athrawon. Roeddwn yn ddiolchgar iawn i chi am eich datganiad ddoe. Tybed a allwch gadarnhau a yw'r £12.8 miliwn y sonioch amdano yn y datganiad hwnnw yn rhan o'r £14 miliwn a grybwyllwyd y llynedd, neu a yw'n dod o ffynhonnell hollol wahanol. Rwy'n siŵr eich bod yn cytuno y bydd y £195 miliwn a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yn y rownd wario'n gwneud hyn yn haws hefyd yn y dyfodol, yn enwedig gan fod cyflogau athrawon bellach wedi'u datganoli.

Hoffwn ddychwelyd at y cwestiwn a ofynnodd Paul Davies i chi. Wrth gwrs, nid oes gennych unrhyw reolaeth dros yr arian hwn pan fydd yn taro'r grant cynnal refeniw. Tybed pa gamau y byddwch yn eu cymryd yn erbyn cynghorau nad ydynt yn trosglwyddo'r arian hwn i ysgolion, yn enwedig gan fod perygl, os na fyddant yn gwneud hynny, y byddant yn parhau i golli athrawon, heb sôn am weld ysgolion yn cael eu heffeithio gan y pwyntiau ehangach a wnaed gan Neil McEvoy.

Iawn. Felly, mae'r arian a gyhoeddwyd ddoe, y £12.8 miliwn yn ystod y flwyddyn i gynorthwyo awdurdodau lleol gyda chostau gweithredu'r codiad yng nghyflogau athrawon, yn arian newydd ychwanegol, sy'n cael ei ddarparu gan fy nghyd-Aelod, y Gweinidog cyllid. Dylid nodi nad ydym wedi derbyn yr un geiniog o gyllid canlyniadol gan Lywodraeth San Steffan i dalu am y codiad yng nghyflogau athrawon, oherwydd yn Lloegr, fe'i talwyd o danwariant o £50 miliwn yn y gyllideb adrannol honno. Wrth symud ymlaen, mae'r Gweinidog llywodraeth leol a minnau wedi cael sgyrsiau gyda chydweithwyr mewn llywodraeth leol am yr angen i wario'r arian ychwanegol hwn ar y dibenion a fwriadwyd ar ei gyfer, h.y. cymorth tuag at gyflogau athrawon. Yn ôl fy nealltwriaeth i, mae'r ddwy ohonom wedi cael sicrwydd gan awdurdodau lleol y bydd yr arian hwnnw'n cael ei wario at y diben hwnnw.

Credaf fod angen gwario cyfran fwy o gyllideb Cymru ar addysg, ac mai gweithlu tra addysgedig yw'r offeryn gorau y gallwn ei gael at ddibenion datblygu economaidd. O ran yr arian ychwanegol a gyhoeddwyd ar gyfer dyfarniad cyflogau athrawon, a gyhoeddwyd gennych ddoe, a fydd yn cael ei ddosbarthu drwy'r fformiwla ariannu i awdurdodau lleol ac yna ymlaen i ysgolion, rhywbeth sy'n mynd i arwain at enillwyr a chollwyr, neu a fydd yn cael ei ddyrannu i ysgolion i ddiwallu'r costau uwch ar sail cost? Mae sut rydych yn gwneud hynny'n gwneud gwahaniaeth enfawr, oherwydd os gwnewch hynny drwy ei roi yn y fformiwla yn unig, bydd gennych enillwyr a chollwyr ymhlith awdurdodau lleol ac enillwyr a chollwyr ymhlith ysgolion.

Rwy'n cytuno â chi, Mike, o ran pwysigrwydd buddsoddi mewn addysg. Mae'n fuddsoddiad; nid yw'n gost. Os ydym am ddatblygu’r sgiliau uchel y bydd eu hangen arnom ar gyfer economi lwyddiannus yn y dyfodol, y peth gorau y gallwn ei wneud yw buddsoddi yn ein plant ac yn y rhai sy’n gweithio gyda hwy bob dydd. Cytunir ar y dyraniad rhyngom ni a'r awdurdodau lleol, a chaiff ei wneud ar sail eu cyfran deg o'r £12.8 miliwn ychwanegol hwnnw rydym wedi gallu ei ddarparu iddynt.

Addysgu Pobl Ifanc am Ddigartrefedd

4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hysbysu ac addysgu pobl ifanc am ddigartrefedd drwy'r system addysg? OAQ54595

Diolch yn fawr iawn. Mae angen ymagwedd gyfannol ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus er mwyn atal digartrefedd. Fodd bynnag, ym maes addysg, mae'r gwasanaeth ieuenctid yn chwarae rhan allweddol yn atal a mynd i'r afael â digartrefedd. Cefnogir hyn drwy ein gwaith ehangach ar ddiwygio addysg, gan gynnwys ein cwricwlwm newydd a chyflwyno dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl a llesiant.

Diolch am eich ateb calonogol. Rwy'n siŵr y bydd y ffaith bod y Senedd Ieuenctid hefyd yn galw am fwy o ffocws ar sgiliau yn ein system addysgol yn eich calonogi. Mae'r sgil o fyw, y sgil o gynnal tenantiaeth, a'r sgil o wybod ble i ofyn am gymorth pan fydd pethau'n mynd o chwith yn un hanfodol, yn fy marn i. Yn y dosbarthiadau sy'n hyrwyddo dinasyddiaeth, ymwybyddiaeth gymdeithasol ac iechyd a lles, fel y sonioch, rwy'n meddwl o ddifrif fod angen inni ganolbwyntio ar y broblem fawr hon, gan mai un o'r pethau gwaethaf a all ddigwydd i chi yw eich bod yn ddigartref, neu'n wir, yn cysgu allan ar y strydoedd. Credaf mai dyma lle mae angen i ni ddechrau mynd i'r afael â'r broblem, sicrhau bod pobl yn fwy ymwybodol o'r hyn y dylent ei wneud, ac mae gan ysgolion a cholegau ran hanfodol i'w chwarae yn hyn o beth.

13:55

Rwy'n cytuno'n llwyr â chi, David; rwy'n siŵr y bydd pob un ohonom sydd â diddordeb yn y materion hyn wedi ein calonogi gan gryfder yr alwad gan aelodau o'n Senedd Ieuenctid am ddiwygio'r system addysg, a'r angen i gydbwyso eu system addysg, ie, â gwybodaeth am bynciau a chymwysterau, ond hefyd â'r sgiliau hanfodol y teimlant fod eu hangen arnynt er mwyn bod yn oedolion llwyddiannus pan fyddant yn gadael yr ysgol. Ac edrychaf ymlaen at ymuno ag aelodau o’r Senedd Ieuenctid ddydd Gwener yr wythnos hon i drafod cynnwys yr adroddiad hwnnw, a sut y gall ein taith ddiwygio ymateb mewn ffordd mor gadarnhaol â phosibl i’r alwad gan ein pobl ifanc eu hunain am yr hyn y maent yn ei ystyried yn ddiffyg ar hyn o bryd yn y model addysg sydd gennym.

Gwyddom hefyd, David, fod yr arwyddion ynghylch y posibilrwydd o ddod yn NEET hefyd yn ddangosyddion da o arwydd fod unigolyn ifanc mewn perygl o fynd yn ddigartref. Felly, mae angen inni wneud gwaith mewn ysgolion ar sicrhau bod plant yn cymryd rhan yn yr ysgol, yn mynychu, ac nid mewn perygl o adael, gan fod hynny'n arwydd da iawn i ni y gallent fynd yn ddigartref o bosibl. Felly, fel y dywedais, mae llawer o bethau rydym yn eu gwneud ar hyn o bryd, gan gynnwys buddsoddiad ychwanegol, yn benodol yn y gwasanaeth ieuenctid, i weithio ochr yn ochr ag ysgolion a phobl ifanc ar agenda atal digartrefedd, a fydd, yn fy marn i, yn sicrhau manteision gwirioneddol i blant a phobl ifanc, yn ogystal â'n diwygiadau ehangach i'r cwricwlwm a'r cyfle y mae hynny'n ei roi i ni fynd i'r afael â materion yn ymwneud â sgiliau.

Fel cyni, mae digartrefedd yn ddewis gwleidyddol; mae'n ddewis gwleidyddol a wneir gan wleidyddion a chan y Llywodraeth, ac mae rhai pobl o'r farn fod pobl ddigartref eu hunain yn dewis bod yn y sefyllfa honno, sy'n amlwg yn rwtsh llwyr. Ond caiff y farn honno ei hatgyfnerthu gan awdurdodau sy'n symud pobl ddigartref allan o'r ffordd, yn cael gwared ar eu heiddo ar fympwy, ac yn trin pobl yn gyffredinol heb fawr ddim dealltwriaeth nac empathi. Yr unig ffordd o newid agweddau yw drwy addysg, ac un o'r ffyrdd gorau o addysgu yw drwy brofiad uniongyrchol. Felly, sut y gall profiadau uniongyrchol pobl ddigartref helpu i lywio pobl ifanc i ddysgu am y clefyd cymdeithasol hwn, ac a ydych yn credu y bydd cysylltiadau â phrofiad uniongyrchol yn helpu pobl i fod yn fwy sympathetig?

Yn gyntaf, Leanne, a gaf fi ddweud nad wyf erioed wedi bod o'r farn, ac ni fyddaf byth o'r farn, fod digartrefedd yn ddewis? Mae'n ganlyniad i gyfres o amgylchiadau na fydd llawer ohonom yn y Siambr hon yn eu hwynebu, gobeithio, ond fe allai ddigwydd i unrhyw un ohonom. Gall salwch difrifol, chwalfa perthynas, problemau camddefnyddio cyffuriau neu alcohol arwain at hyn, felly dylem fod yn ofalus iawn wrth wneud y mathau hynny o gyhuddiadau a honiadau ynghylch yr hyn sy'n arwain at ddigartrefedd. Gall ddigwydd i bawb, o ble bynnag y byddant yn cychwyn mewn bywyd, ond gwyddom fod rhai pobl a allai fod yn fwy agored i ddigartrefedd. Ac rydych yn iawn y gall addysg fod yn arf pwerus i atal digartrefedd, ond hefyd i ddatblygu dealltwriaeth o'r broblem i'r bobl sy'n ei hwynebu.

Mae rheswm pam ein bod yn siarad am feysydd dysgu a phrofiad yn ein cwricwlwm newydd, oherwydd fy nisgwyliad o ran y cwricwlwm yw y bydd yn darparu lle yn y diwrnod ysgol i blant brofi'r union beth y buoch yn sôn amdano—gallu cyfarfod â phobl a thrafod â phobl sydd â'r profiad uniongyrchol o fyw heb gartref diogel, o fyw ar y strydoedd. A chredaf fod ein cwricwlwm newydd yn creu'r lle hwnnw a'r disgwyliad y gallwn weithio gyda sefydliadau gwirfoddol, sefydliadau goroeswyr pob math o broblemau, y gallwn weithio gyda'n gilydd yn ein hysgolion i ddarparu'r addysg eang honno y mae ein Senedd Ieuenctid yn galw arnom i'w darparu.

Cyrff Addysg yng Nghymru

5. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd ynghylch sicrhau bod cyrff addysg yng Nghymru yn cael digon o arian, cyn cyhoeddi cyllideb Llywodraeth Cymru? OAQ54563

Andrew, rwy'n parhau i gael trafodaethau gyda'r Gweinidog cyllid i sicrhau bod y setliad cyllideb ar gyfer addysg yn ddigon i gefnogi'r gwaith o gyflawni ein blaenoriaethau. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod ein cyrff addysg yn derbyn cyllid digonol.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Rwyf wedi bod yn gohebu â phennaeth a chadeirydd llywodraethwyr Ysgol Gynradd Evenlode ym Mhenarth sydd wedi tynnu sylw at yr amgylchedd ariannol gwirioneddol anodd a heriol y maent hwy a llawer o ysgolion eraill ledled Cymru yn ei wynebu. Gobeithio y bydd cyllid canlyniadol yn deillio o'r cyhoeddiadau a wnaed yn San Steffan, ac mae peth o'r cyllid canlyniadol hwnnw, yn amlwg, yn rhan uniongyrchol o'ch maes chi, sef addysg. A ydych yn hyderus y bydd y cyllid canlyniadol hwnnw, pan fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud ei phenderfyniadau, yn cyrraedd y gyllideb addysg fel y bydd yr athrawon ar gael i lenwi llawer o'r swyddi allweddol y mae angen i ysgolion cynradd eu llenwi ac y bydd y cyllidebau yno i'w talu? Mae'r dystiolaeth a ddarparwyd ganddynt wedi dangos bod bron i 1,300 o ddisgyblion ychwanegol ledled Cymru, ond bod 278 yn llai o athrawon cyfwerth ag amser llawn a 533 yn llai o staff cymorth addysgu cyfwerth ag amser llawn. Felly, yn amlwg, os yw'r gyllideb yno, gall ysgolion, yn amlwg, wneud y dewisiadau hyn ynghylch cyflogaeth. Felly, a allwn gael sicrwydd y bydd y cyllid canlyniadol hwnnw'n cyrraedd eich llinellau cyllideb?

14:00

Fel y dywedais wrth ateb cwestiynau cynharach, Andrew, rydym yn gweithio ar draws y Llywodraeth i flaenoriaethu gwasanaethau rheng flaen, boed hynny'n addysg, gwasanaethau cymdeithasol neu'r ystod o wasanaethau cyhoeddus eraill y mae aelodau'r cyhoedd yn disgwyl i Lywodraeth Cymru eu darparu. Nid yw'r mwyafrif llethol o gyllid addysg yn dod o'r adran addysg. Mae'n dod, fel y nodwyd gan eich arweinydd yn gynharach mewn cwestiynau, drwy'r grant cynnal refeniw ar gyfer llywodraeth leol. Byddwn yn gwneud popeth a allwn i sicrhau bod addysg a llywodraeth leol yn cael yn dda yn y gyllideb hon.

Diolch am godi'r cwestiwn pwysig hwn, Andrew. Fel Andrew R.T. Davies, rwyf innau hefyd wedi cael llawer o sgyrsiau gydag ysgolion uwchradd lleol ac ysgolion cynradd ond hefyd gyda’r awdurdod lleol, a chroesawaf y cyhoeddiad a wnaed ddoe, ac roedd fy nghwestiynau'n ymwneud â hynny, mewn gwirionedd. Felly, rwy'n croesawu hynny a diolch, Weinidog, ond a allwch roi sicrwydd i'r Cynulliad y bydd y sgyrsiau traws-Gabinet hynny'n parhau dros yr ychydig flynyddoedd nesaf? Mae'n amlwg yn adeg ansicr a phryderus i awdurdodau lleol a darparwyr ysgolion.

Lywydd, a gaf fi ddiolch i Jack Sargeant am groesawu'r adnoddau ychwanegol rydym wedi gallu eu darparu i helpu i dalu am gostau'r codiadau yng nghyflogau athrawon? A gallaf, fe allaf gadarnhau’n bendant y bydd y trafodaethau hynny, ar sail draws-Gabinet, yn parhau a bod agwedd benderfynol ar draws Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu gwariant rheng flaen ar y gwasanaethau cyhoeddus sy’n golygu fwyaf i’n hetholwyr.

Y Canllawiau Newydd ar Siarad am Hunanladdiad

6. Sut y mae'r Gweinidog yn sicrhau bod y canllawiau newydd ar siarad am hunanladdiad yn cael eu rhoi ar waith ym mhob ysgol yng Nghymru? OAQ54602

Diolch yn fawr, Lynne. Fel y gwyddoch, fe wnaethom lansio'r canllawiau newydd gyda'n gilydd ar 10 Medi a byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid, gan gynnwys y grŵp cynghori cenedlaethol, i sicrhau eu bod yn cael ei hyrwyddo'n helaeth ymhlith gweithwyr proffesiynol, nid yn unig mewn ysgolion ond yn ehangach ar draws y system. Ac fel rhan o'n dull ysgol gyfan, byddwn yn ystyried y ffordd orau o fonitro'r broses o'u rhoi ar waith, eu defnydd a'u heffaith.

Diolch, Weinidog. Roeddwn yn falch iawn o ymuno â chi yn y lansiad a chroesawu'r canllawiau, ond fel y dywedais, wrth gwrs, cam cyntaf yw hwn. Maent yn ganllawiau rhagorol a luniwyd gan yr Athro Ann John, ond ni fyddant ond cystal â'r broses o'u gweithredu. Tybed hefyd a ydych yn ymwybodol o ganllawiau a gyhoeddwyd yr wythnos hon gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr, a nododd y dylid trin un achos o hunanladdiad mewn ysgol fel clwstwr posibl oherwydd y risg uwch i bobl ifanc. A fyddech yn cytuno â mi fod hynny'n pwysleisio pa mor bwysig yw hi, lle bu hunanladdiad mewn ysgol, fod yr ysgol honno'n croesawu mesurau ôl-ymyrraeth addas ar frys, fel rhaglen Cam wrth Gam, sydd mor llwyddiannus gyda'r Samariaid?

Buaswn. Rwy’n ymwybodol iawn o’r adroddiad y cyfeiria'r Aelod ato ond mae’r Aelod hefyd yn llygad ei lle wrth ddweud mai cam cyntaf y broses yn unig yw cyhoeddi ein canllawiau. Bydd angen i ni sicrhau, drwy'r grŵp gorchwyl a gorffen gweinidogol y mae Lynne Neagle yn aelod ohono, y caiff systemau gweithredu a monitro cadarn eu datblygu, ond rwyf hefyd yn bwriadu cydgynhyrchu adnoddau pellach gyda'r Athro Ann John a'r grŵp arbenigol o'i chwmpas, gyda phwyslais penodol ar sicrhau bod adnoddau ar gael i'r bobl ifanc eu hunain. Mae'r hyn rydym wedi'i ddarparu ym mis Medi eleni yn adnodd sydd wedi'i anelu at weithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phobl ifanc, ond fy mwriad bellach yw symud i'r cam nesaf i sicrhau bod mwy o adnoddau ar gael i'r bobl ifanc eu hunain.

14:05

Weinidog, credaf fod y ffaith ein bod yn gallu trafod y pwnc hwn, a arferai fod yn bwnc tabŵ, yn y ffordd agored a thryloyw hon yn dangos pa mor bell rydym wedi dod fel gwlad, a chredaf fod hynny i'w groesawu. Rydym ninnau, wrth gwrs, yn y Siambr hon wedi cael ein profiad uniongyrchol ein hunain o golli ein cyd-Aelod annwyl, Carl Sargeant, yn y ffordd drasig hon, felly credaf fod cyfrifoldeb ar bob un ohonom i wneud yr hyn a allwn i geisio cyfleu'r neges honno, i ddweud wrth bobl nad oes yn rhaid iddynt deimlo ar chwâl i'r fath raddau fel bod yn rhaid iddynt weithredu yn y fath fodd.

Mae wedi bod yn dda gweld yn ddiweddar fod rhaglenni teledu fel EastEnders wedi bod yn ymdrin â mater hunanladdiad gyda'r stori deimladwy am Bex Fowler a'r straen arni wrth iddi fynd i'r brifysgol. Gwyddom fod pobl ifanc yn arbennig o agored i niwed yn ystod cyfnod arholiadau, ac mewn ffordd, mae'n anodd osgoi'r holl straen hwnnw, ond mae'n bwysig fod y bobl ifanc hynny'n cael eu cyfeirio cyn gynted â phosibl, ac y manteisir ar y cyfle hwnnw—ac weithiau dim ond cyfle am gyfnod byr ydyw—i estyn allan atynt.

Felly, a allwch ddweud wrthym sut rydych yn sicrhau, gyda'r canllawiau hyn y cyfeiriodd Lynne Neagle atynt, ac y sonioch chi amdanynt, fod pobl ifanc yn cael eu cyfeirio cyn gynted ag y bydd problemau'n codi, a'u bod yn teimlo bod pobl y gallant droi atynt pan fyddant weithiau'n teimlo bod popeth wedi'i golli?

Wel, Nick, credaf ei bod yn wir dweud ein bod wedi gwneud rhywfaint o gynnydd wrth siarad am hunanladdiad, ond mae llawer iawn o stigma ynghlwm wrth hunanladdiad o hyd. Ac yn aml ceir cryn dipyn o nerfusrwydd ymhlith gweithwyr proffesiynol wrth siarad am faterion sy'n sensitif tu hwnt. Yn aml, maent yn ofni y gallai'r hyn y gallant ei ddweud waethygu'r sefyllfa, a dyna'r rheswm pam y gwnaethom gomisiynu'r adnoddau hyn yn y lle cyntaf er mwyn rhoi hyder i'n gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phobl ifanc ei bod yn wirioneddol bwysig cael y sgyrsiau hyn—ni allwch wneud pethau'n waeth—a'u sgilio a'u grymuso i gael y trafodaethau hyn. Ond wrth gwrs, mae angen gwasanaethau cymorth arnom pan fydd athrawon a phobl ifanc yn nodi problem. Dyna pam rydym yn darparu adnoddau ychwanegol ar gyfer ein gwasanaeth cwnsela. Dyna pam rydym wedi cyhoeddi penderfyniad yn ddiweddar i ymestyn ein cynllun peilot mewngymorth ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed a oedd i fod i ddod i ben ym mis Gorffennaf 2020; bydd hwnnw bellach yn parhau tan ddiwedd y flwyddyn. Ac mae adnoddau ychwanegol yn cael eu dyrannu i'r cynlluniau peilot hynny ar hyn o bryd.

Mae'n bwysig nad ydym yn meddygoliaethu'r broses o dyfu i fyny—mae hwnnw hefyd yn bwynt pwysig iawn. Ond gwyddom fod angen ymyriadau amserol ac effeithiol ar rai plant sydd o dan straen. Mae symud i addysg uwch yn sbardun posibl arall: llawer o bobl yn byw oddi cartref am y tro cyntaf, yn gorfod sefydlu grwpiau newydd o ffrindiau yn ogystal â'r pwysau academaidd. A dyna pam rydym wedi darparu £2 filiwn eleni i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i gefnogi prosiectau iechyd meddwl mewn prifysgolion.

Weinidog, mae un o fy aelodau staff newydd gwblhau cwrs Hyfforddiant Sgiliau Ymyriadau Hunanladdiad Cymwysedig. Roedd hyn yn golygu cael sgyrsiau anghyfforddus iawn am hunanladdiad, a'i nod yw cadw pobl yn ddiogel am nawr. A oes unrhyw gynlluniau i gyflwyno'r math hwn o gynllun gyda'ch rhaglenni eich hun i athrawon a'r staff priodol yn ysgolion Cymru?

Wel, mae llu o raglenni hyfforddi ac ymyriadau ar gael, ac mae hynny weithiau'n achosi problemau i'n hysgolion—gwybod pa un yw'r hyfforddiant gorau a'r dull mwyaf addas a seiliedig ar dystiolaeth i'w ddefnyddio. Ac fel rhan o'n dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl, dyna pam ein bod yn datblygu pecyn cymorth i ysgolion a sylfaen adnoddau i ysgolion er mwyn ceisio symleiddio'r broses honno, fel eu bod yn gwybod beth sydd ar gael, beth sy'n gweithio a'r hyn y mae sylfaen dystiolaeth gref ar ei gyfer. Ac wrth gwrs, rydym yn sicrhau bod adnoddau ychwanegol ar gael ar gyfer dysgu proffesiynol, a thrwy hynny, rydym yn creu lle i addysgwyr proffesiynol a phobl eraill sy'n gweithio yn ein hysgolion gyflawni'r hyfforddiant hwnnw.

Dinasyddiaeth Ryngwladol

7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddysgu dinasyddiaeth ryngwladol mewn ysgolion? OAQ54605

Diolch yn fawr, Rhun. Ar hyn o bryd, mae cyfleoedd ar gael i ddysgwyr astudio dinasyddiaeth ryngwladol drwy addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang, bagloriaeth Cymru, ac addysg bersonol a chymdeithasol. Mae sicrhau bod dysgwyr yn dod yn ddinasyddion moesegol, gwybodus, sy'n barod i fod yn ddinasyddion Cymru a'r byd, wrth gwrs, yn un o'n pedwar diben yn ein cwricwlwm newydd.

Diolch. Mae'r cwestiwn atodol dwi am ei ofyn ychydig yn wahanol i'r un roeddwn i wedi'i fwriadu yn wreiddiol. Dwi'n falch o weld y Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol wrth eich ymyl chi. Mi oedd y cwestiwn gwreiddiol yn deillio o gyfarfod y cawsom ni o'r grŵp trawsbleidiol dwi'n ei gadeirio, Cymru Ryngwladol, lle roedden ni'n trafod strategaeth ryngwladol drafft y Llywodraeth. A'r cwestiwn oedd: yng nghyd-destun Brexit a'r drafodaeth honno, sut allwn ni werthu strategaeth ryngwladol i bobl sydd, efallai, ddim eisiau bod yn rhyngwladol? Mae'r cwestiwn hwnnw yn sefyll, ond beth dwi am fynd ar ei ôl, yn hytrach—ac mae newid pwyslais oherwydd yr hyn rydyn ni wedi'i glywed heddiw, y newyddion erchyll am 39 o bobl yn cael eu canfod yn farw mewn lori a oedd wedi pasio drwy Gaergybi. Mae rhai o'r sylwadau dwi wedi'u darllen am y digwyddiad yn erchyll. Maen nhw'n nodweddu, dwi'n meddwl, y diffyg goddefgarwch sydd wedi bod yn nodwedd o'r disgẃrs cyhoeddus dros y blynyddoedd diwethaf.

Felly, sut allwn ni sicrhau bod y math o addysg ddinasyddiaeth sydd yn cael ei chyflwyno yn ysgolion Cymru yn gwneud llawer mwy i ddysgu pobl am le Cymru yn y byd—perthynas Cymru â'r byd? Sut mae pobl yn cyd-berthyn i'w gilydd, fel nad ydy pobl yn teimlo'i bod hi'n dderbyniol i fynd ar gyfryngau cymdeithasol a gwneud datganiadau cyhoeddus, cwbl erchyll, am ddigwyddiadau fel yr hyn rydyn ni wedi clywed amdano fo heddiw?

14:10

Rhun, nid oes geiriau a all fynegi pa mor arswydus yw'r newyddion am ddarganfod yr unigolion hynny yng nghefn y lori honno. Mae'n beth gwirioneddol frawychus, a chael hynny wedi'i atgyfnerthu gan y sylwadau y cyfeirioch chi atynt—nid wyf wedi eu gweld fy hun, ond gallaf ddychmygu'r hyn y maent wedi'i ddweud. Fel y dywedais wrth ateb eich cwestiwn gwreiddiol, rydym yn newid i gwricwlwm a arweinir gan ddiben sy'n diffinio'r math o ddinasyddion, y priodoleddau, y math o bobl rydym am eu gweld o ganlyniad i'w profiad yn system addysg Cymru, ac rwyf am iddynt fod yn bobl foesegol a gwybodus sy'n ddinasyddion Cymru a'r byd.

Daw eich sylwadau ar ôl y cwestiwn a ofynnwyd gan eich cyd-Aelod, Bethan Sayed, ynglŷn â'r adroddiad heddiw ar hiliaeth yn ein prifysgolion. Mae gennym broblem yma yng Nghymru ac mae'n rhaid i ni ddefnyddio pob agwedd ar bolisi cyhoeddus Llywodraeth Cymru i allu mynd i'r afael â hi. Mae cyfrifoldeb enfawr ar addysg i sicrhau bod y safbwyntiau hyn yn cael eu herio pan gânt eu mynegi, a gallwn roi cyfle i blant ddeall a datblygu empathi a pharch, a'r rhesymau pam roedd y 39 o bobl hynny'n teimlo'n ddigon anobeithiol i ddringo i gefn y lori yn y lle cyntaf.

Anghenion Dysgu Ychwanegol

8. Pa gymorth sydd ar gael ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru? OAQ54570

Diolch, Mark. Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am ddarparu addysg addas i bob plentyn a pherson ifanc, gan gynnwys y rheini ag anghenion dysgu ychwanegol. Bydd ein diwygiadau uchelgeisiol mewn perthynas ag anghenion dysgu ychwanegol yn ailwampio'r system ar gyfer cefnogi dysgwyr ag ADY yn llwyr, a bydd yn gyrru gwelliannau ac yn sicrhau bod pob dysgwr yn cyflawni eu potensial llawn, beth bynnag y bo.

Diolch. Ar ddechrau’r mis, derbyniodd yr holl Aelodau e-bost gan Goleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith a oedd yn tynnu sylw at y risgiau os yw cyfathrebu lleferydd ac iaith heb ddatblygu'n llawn. Rwyf am sôn am ychydig o bethau a wnaethant, ond er enghraifft, heb gymorth effeithiol, bydd angen triniaeth iechyd meddwl ar un o bob tri phlentyn ag anawsterau lleferydd, iaith a chyfathrebu; mae gan 88 y cant o ddynion ifanc sy'n ddi-waith yn hirdymor anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu; ac mae gan hyd at 60 y cant o bobl ifanc mewn sefydliadau cyfiawnder ieuenctid anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu tebyg.

Mae bron i ddau ddegawd wedi bod ers i mi ymladd y frwydr hon ar ran un o fy mhlant er mwyn sicrhau ei fod yn cael yr ymyriadau a oedd yn cael eu gwrthod iddo fel arall, a ddau ddegawd yn ddiweddarach, rydym yn dal i dderbyn e-byst gyda'r ystadegau arswydus hyn. Y tu hwnt i'r Ddeddf ADY, pa gamau penodol y gallwch eu cymryd gyda'ch cyd-Aelodau—gan fod hwn yn fater trawsadrannol—i gydnabod yr angen hollbwysig am therapi lleferydd ac iaith ar gyfer ystod eang o blant yn amgylchedd yr ysgol, gan gydnabod data Cymreig hefyd ar werth economaidd therapi lleferydd ac iaith, fod pob £1 a fuddsoddir mewn gwell therapi lleferydd ac iaith yn cynhyrchu £6.43 drwy enillion uwch dros oes gyfan, gan ei fod yn galluogi mynediad at y cwricwlwm ac yn creu cyfleoedd i unigolion, a bod pob £1 a fuddsoddir mewn gwell therapi lleferydd ac iaith ar gyfer disgyblion awtistig yn cynhyrchu £1.46 drwy arbedion cost dros oes gyfan yn sgil gwell cyfathrebu?

14:15

Wel, Mark, nid wyf am ddadlau â chi o gwbl ynghylch pwysigrwydd datblygu sgiliau llafaredd ar yr oedran cynharaf posibl i'n plant. Gwyddom fod sylfaen dda mewn sgiliau siarad yn arwain at lwyddiant yn nes ymlaen yn eu taith addysgol.

Ar wahân i'r rhaglen ADY, rydych yn gofyn beth arall sy'n digwydd, ond mae'r rhaglen drawsnewid ADY yn gwbl hanfodol i hybu gwaith rhyngadrannol gwell rhwng addysgwyr proffesiynol a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, gan sicrhau bod anghenion dysgu ychwanegol ar gyfer pob plentyn yn cael eu nodi'n gynharach a chreu'r disgwyliad, a bodloni'r disgwyliad hwnnw, y bydd y gwasanaethau hynny ar gael. Rwy’n parhau i gael trafodaethau gyda chyd-Aelodau ym maes iechyd—ac mae’r Gweinidog iechyd yn ei sedd—ynglŷn â sut y gallwn sicrhau, pan fydd ysgol yn nodi bod gan blentyn penodol angen gofal iechyd, y bydd y gefnogaeth honno yno ar yr adeg briodol i sicrhau canlyniadau cadarnhaol i'r plentyn hwnnw mewn perthynas â dysgu.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd, ac a gaf fi ddatgan buddiant personol? Fe ddywedoch chi, Weinidog, mewn ateb i Mark Isherwood, fod gan bob awdurdod lleol gyfrifoldeb am gyflawni'r agenda hon. Fe wyddoch chi ac fe wn i, o'ch llwyth gwaith etholaethol chi ac o fy llwyth gwaith etholaethol innau, fod plant ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael cam bob dydd o'r wythnos mewn ysgolion yn y wlad hon. Fe wyddoch chi ac fe wn i nad yw awdurdodau lleol yn darparu'r gefnogaeth sydd ei hangen ar blant ag anghenion dysgu ychwanegol i gyflawni eu potensial. Fe fuoch chithau a minnau'n gweithio gyda'n gilydd yn y Llywodraeth i ddarparu proses newydd wedi'i thrawsnewid a'i hailstrwythuro ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Onid ydych yn credu bellach, Weinidog, ei bod yn bryd inni sicrhau bod adnoddau wedi'u clustnodi, ffrydiau cyllid penodol, ar gael i ysgolion fel y gallant ddarparu addysg anghenion dysgu ychwanegol? Oherwydd nid oes gennyf hyder—. Mae fy mhrofiad personol, a'ch profiad personol chithau, rwy'n credu, fel yr Aelod dros Frycheiniog a Sir Faesyfed, yn dweud wrthych chi ac yn dweud wrthyf finnau na fydd y system bresennol, hyd yn oed system ddiwygiedig, oni bai fod cyllid ychwanegol ynddi, cyllid wedi’i glustnodi'n benodol, yn llwyddo i wneud hynny.

Lywydd, mae'r Aelod yn cyfeirio at ddigwyddiadau penodol ym Mhowys. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol, os oes ganddynt ddiddordeb mewn addysg ym Mhowys, o ganfyddiadau adroddiad diweddar Estyn ar berfformiad yr awdurdod addysg lleol. Roedd yr adroddiad hwnnw gan Estyn yn cynnwys cyfeiriad penodol at gefnogaeth i anghenion dysgu ychwanegol ac anghenion addysgol arbennig a'r angen i Gyngor Sir Powys wneud yn well yn hyn o beth. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i drafod gydag Estyn a Phowys ynghylch y ffordd orau o ymateb i gynnwys yr adroddiad hwnnw gan Estyn, ac rwy'n rhagweld rôl fwy i Lywodraeth Cymru wrth geisio sicrwydd gan Powys ynghylch gwelliannau o ganlyniad i adroddiad Estyn. Rwy’n parhau i drafod gyda swyddogion beth arall y gallwn ei wneud ar yr ochr ariannol, yn ychwanegol at yr £20 miliwn sydd eisoes ar gael ar gyfer y rhaglen drawsnewid ADY, er mwyn mynd i’r afael â’r materion hyn.

Ond gadewch imi ddweud yn glir wrth bob awdurdod lleol yng Nghymru: wrth inni aros i Ddeddf ADY gael ei rhoi ar waith, mae ganddynt gyfrifoldebau cyfreithiol a statudol am blant yn eu hysgolion yn awr, a'n disgwyliad yw y byddant yn bodloni eu gofynion statudol a chyfreithiol i gefnogi pob plentyn sydd ag angen dysgu ychwanegol. Nid oes angen iddynt aros am y Ddeddf—mae ganddynt gyfrifoldebau cyfreithiol yn awr, ac rwy'n disgwyl iddynt eu cyflawni.

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Neil Hamilton.

Amseroedd Aros yn Adrannau Achosion Brys

1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am amseroedd aros yn adrannau achosion brys ysbytai Cymru? OAQ54596

Gwnaf. Eleni fu'r flwyddyn brysuraf erioed ar gyfer gwasanaethau gofal brys Cymru. Y mis diwethaf oedd y mis Medi prysuraf erioed o ran mynychu adrannau brys ac o ran galwadau brys am ambiwlans. Er y cynnydd o 7 y cant yn y nifer a fynychodd adrannau brys o gymharu â'r mis Medi diwethaf, cafodd mwy o bobl eu gweld, eu trin neu eu rhyddhau gennym o fewn pedair awr, a'r amser aros canolrifol oedd dwy awr a 35 munud.

14:20

Diolch i'r Gweinidog am ei ateb, ond a gaf fi ddarparu cyfieithiad er budd y Cynulliad o'r hyn a ddywedodd? Dangosodd y ffigurau a gyhoeddwyd ddydd Gwener diwethaf mai'r amseroedd aros yn adrannau damweiniau ac achosion brys Cymru yw'r rhai gwaethaf erioed. Hynny yw, mae mwy o bobl nag erioed o'r blaen yn aros yn hwy na'r amser aros targed a osodwyd gan GIG Cymru. Treuliodd 25 y cant o bobl a dderbyniwyd i adrannau damweiniau ac achosion brys fwy na phedair awr yn aros; y targed oedd 5 y cant. Treuliodd dros 6 y cant o bobl a dderbyniwyd fwy na 12 awr yn aros; y targed ar gyfer hynny yw sero. Ac roedd hynny ym mis Medi, wrth gwrs, ac nid hwnnw fydd mis mwyaf heriol y gaeaf. Mae’r Gweinidog wedi dweud o'r blaen fod pobl go iawn y tu ôl i’r ffigurau, ac awgrymodd fod hynny'n un o’r pethau sy’n ei gadw’n effro yn y nos. A gaf fi awgrymu mai un ffordd o wella ei batrwm cysgu, efallai, yw ymddiswyddo a gadael i rywun arall roi cynnig ar wella pethau?

Wel, mae honno'n ffordd eithaf rhagweladwy ac annefnyddiol o geisio mynd i'r afael â phroblem wirioneddol sy'n bodoli wrth inni wynebu'r gaeaf. Ceir heriau ar draws system gyfan y DU. Rwy'n gyfrifol am yr heriau yma yng Nghymru. Mae ystod o gamau eisoes yn cael eu cymryd—er enghraifft, y gwaith sy'n mynd rhagddo mewn ardaloedd dau fwrdd sy'n wynebu heriau penodol, sef Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, ac Abertawe, sy'n defnyddio gwasanaethau meddygon teulu i gynorthwyo gyda rhywfaint o waith brysbennu fel nad yw'r bobl nad oes angen iddynt fod mewn adran achosion brys yno, ac yn yr un modd, nad yw pobl yn aros yn hwy nag y byddent yn dymuno aros. Felly, mae gennyf ddealltwriaeth o'r heriau real iawn y mae ein staff yn eu hwynebu wrth i mi ymgysylltu'n rheolaidd â hwy, a dealltwriaeth o'r heriau real iawn y mae aelodau'r cyhoedd yn eu hwynebu wrth cael y gofal a'r driniaeth a'r urddas y maent yn haeddu eu cael. Rwy'n benderfynol o wneud popeth y gallaf ac y dylwn ei wneud fel Gweinidog iechyd i wella'r sefyllfa wrth inni wynebu'r hyn a fydd, heb os, yn aeaf anodd.

Wel, efallai, Weinidog, fod rhan o'r ateb i hyn yn ymwneud â beth sy'n digwydd yn yr unedau mân anafiadau, ac edrychaf ymlaen at ddatganiad ar hynny cyn bo hir. Ond yn y cyfamser, ymwelais yn ddiweddar ag Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr i ddarganfod mwy ynglŷn â pham fod yr amser y mae'n ei gymryd ar gyfartaledd i ambiwlans drosglwyddo claf yn sylweddol hirach nag mewn rhannau eraill o Gwm Taf, ac efallai y cofiwch i mi godi hyn gyda chi. Daeth dau beth i fy sylw—y cyntaf yw, er nad yw'r claf yn yr ambiwlans o bosibl, maent yn dal i fod yng ngofal parafeddygon, ac os felly, ni chaiff y cleifion hynny eu hychwanegu at gofnodion amseroedd aros adrannau damweiniau ac achosion brys, gan guddio'r ffigurau go iawn, a'r ail beth yw—ac rwy'n siŵr bod hyn yn wir am ysbytai eraill—weithiau mae'n amhosibl symud cleifion i ward yn rhywle arall am fod pobl sy'n ffit yn feddygol ac sy'n aros i gael eu rhyddhau yn gorwedd mewn gwelyau acíwt wrth aros am becyn gofal, a golyga hynny fod yr unigolion hynny'n aros yn yr adran damweiniau ac achosion brys am driniaeth feddygol ddilynol pan na ddylent fod yno. Mae hynny'n atal gwelyau adrannau damweiniau ac achosion brys rhag cael eu defnyddio, a golyga hynny fod yn rhaid i'r nifer cynyddol, fel y dywedwch, o bobl sy'n cerdded i mewn yn gorfod aros am fwy o amser. Ymddengys mai gwraidd y broblem o hyd yw oedi wrth drosglwyddo gofal. Rydych wedi buddsoddi mewn gwaith gwell rhwng iechyd a gofal cymdeithasol, felly pam nad ydym yn teimlo'r manteision mewn adrannau damweiniau ac achosion brys?

Mewn gwirionedd, o ran oedi wrth drosglwyddo gofal, rydym ar lefelau is nag erioed. Pan ddeuthum yn Ddirprwy Weinidog dros bum mlynedd yn ôl bellach, un o’r pynciau y cyfeiriais atynt bryd hynny oedd yr her a oedd yn ein hwynebu mewn perthynas ag oedi wrth drosglwyddo gofal, ac roedd hynny’n ymwneud â dod ag iechyd a gofal cymdeithasol ynghyd, a chydnabod bod yno her a rennir, yn hytrach na mynd i'r afael â'r ddau beth ar wahân, ac rydym wedi gweld rhywfaint o welliant parhaus. Rydym yn dechrau gweld hynny'n gwella, felly bydd y Dirprwy Weinidog a minnau'n gwneud gwaith gyda byrddau iechyd a'u partneriaid. Mae'n fater i'r system iechyd a gofal cymdeithasol gyfan. Dyna pam, o'r £30 miliwn a ddarperais ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol y gaeaf hwn, fod peth ohono wedi mynd yn uniongyrchol i fyrddau iechyd; fodd bynnag, aeth £17 miliwn ohono i fyrddau partneriaeth rhanbarthol i benderfynu gyda'i gilydd sut y dylid ei ddefnyddio ar draws y system. Oherwydd bob tro y byddaf yn ymweld ag ysbyty ac yn edrych ar y drws blaen, y gwir amdani yw fy mod yn gwybod—ac rwy'n codi hyn yn rheolaidd gyda phob un o gyfarwyddwyr yr ysbyty; rwy'n gofyn faint o gleifion yno sy'n ffit yn feddygol a'r her o'u symud yn eu blaenau. Weithiau, mae'n golygu eu symud i'r system gofal cymdeithasol. Mae hynny'n rhan fawr o'n her. Ond yn yr un modd, mae hynny weithiau'n golygu eu symud i ran arall o'r gwasanaeth iechyd gwladol. Felly, mae'n ymwneud ag edrych ar y system gyfan, a deall beth arall y gallwn ei wneud i sicrhau bod pobl yn cyrraedd y pwynt cywir ar gyfer cam nesaf eu gofal.

Yr her onest arall yw fod gennym fwy o bobl sy'n ddifrifol wael yn dod i'n hadrannau brys, a phe baech yn cael sgwrs gyda phob un o'r byrddau iechyd am y bobl sy'n dod i'w hadrannau brys, byddent hwythau'n dweud hynny. Byddent hwy hefyd yn dweud wrthych fod mwy o bobl yn gwneud eu ffordd eu hunain i adrannau brys; rydych yn cael pobl sâl iawn yn cerdded i mewn. Dyma'r her sy'n ein hwynebu a'n gallu i ddal ati i ehangu ein gallu i ddiwallu hynny ar draws y system gyfan sy'n bwysig mewn gwirionedd.

Weinidog, rwy’n derbyn eich atebion i Suzy Davies, yn enwedig ynghylch oedi wrth drosglwyddo gofal, ond hefyd yr ateb a roesoch i Neil Hamilton mewn perthynas â’r math o unigolion sy’n mynd yno. Ond mae gennym broblem, gan fod gennym bobl sy'n mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys gan nad yw'r gwasanaeth y tu allan i oriau yn cyflawni ar eu cyfer neu ni allant gael apwyntiad â'r meddyg teulu neu am eu bod yn teimlo bellach, mewn gwirionedd, fod hynny'n haws. Oherwydd rwyf innau wedi bod ar y ffôn am 45 munud yn aros i gael gafael ar feddyg teulu er mwyn trefnu apwyntiad i blentyn pump oed. Nawr, mae hyn yn achosi i bobl fynd i adrannau damweiniau ac achosion brys. Felly, mae'r agenda Dewis Doeth a oedd gennych o ran pwy y dylech fynd atynt yn wych, ond y broblem yw na allwch eu cyrraedd—nid ydynt ar gael. A allwch edrych felly ar y camau a gymerwyd i sicrhau, os ydym am wneud dewis doeth, eu bod ar gael i chi ddewis mynd atynt, gan mai dyna'r broblem fawr?

14:25

Mae gennym amrywiaeth o heriau i geisio mynd i'r afael â hwy, a rhywbeth rydym yn ei wneud yn fwriadol yw hynny'n union ar ein neges Dewis Doeth, ac arfogi'r tîm gofal sylfaenol ehangach yn well i wneud hynny, boed yn gamau rydym yn eu cymryd ar ofal llygaid, gyda'r gwasanaeth gofal llygaid brys sydd gennym, rhywbeth nad oes ganddynt dros y ffin—ac mae cryn dipyn o gydnabyddiaeth fod hwnnw'n beth cadarnhaol—boed yn wneud gwell defnydd o fferylliaeth, a chyflwyno Dewis Fferyllfa, ac mae'r gwasanaeth mân anhwylderau yn rhan bwysig o hynny. Rydym yn dargyfeirio mwy a mwy o bobl, nid yn unig oddi wrth y meddygon teulu ac oddi wrth adrannau achosion brys, ond i rywle sy'n briodol iddynt dderbyn y gofal a'r gefnogaeth gywir. A hefyd, wrth i ni barhau i gyflwyno 111, ym mhob un o'r ardaloedd lle mae'r gwasanaeth 111 wedi'i gyflwyno, ceir system gofal sylfaenol fwy cadarn yn ystod oriau arferol a'r tu allan i oriau o ganlyniad i hynny. Mae'n dal i ymwneud, fel y dywedaf, â'n gallu i ddal i fyny'n gyson. Felly, ydy, mae'n rhywbeth rwy'n edrych arno. Mae'n rhywbeth y byddaf yn edrych arno wrth i mi gyfarfod â nifer o adrannau'r bwrdd iechyd a llywodraeth leol sy'n wynebu'r pwysau mwyaf sylweddol yn eu systemau i ddeall yr hyn sy'n digwydd yn gynharach yn y system, a sut y mae'r arian ychwanegol rydym wedi'i ddarparu yn mynd i'r afael â'r heriau real iawn a nodwyd gennych.

Triniaethau Newydd ar gyfer Canser

2. Sut y mae'r Gweinidog yn sicrhau bod cleifion yng Nghymru yn gallu cael triniaethau newydd ar gyfer canser? OAQ54603

Diolch. Rydym wedi ymrwymo'n llwyr yng Nghymru i ddarparu triniaethau canser a argymhellir ac y profwyd eu bod yn effeithiol. Cyflawnir hyn drwy'r gronfa triniaethau newydd ar gyfer meddyginiaethau. Erbyn mis Awst eleni, roedd y gronfa triniaethau newydd wedi darparu mynediad cyflym at 205 o feddyginiaethau, gan gynnwys 86 ar gyfer canser, ac mae wedi cwtogi'r amser y mae'n ei gymryd i ddarparu meddyginiaethau a argymhellir o'r newydd o 90 diwrnod ar gyfartaledd i ddim ond 12. Er bod llawer o ffocws ar gyffuriau newydd, mae'n werth cofio hefyd y gall llawfeddygaeth fod yn wellhaol fel triniaeth ar gyfer canser. Yn aml, nid yw hynny'n cael ei nodi yn y Siambr hon. Dyna pam rydym yn parhau i fuddsoddi mewn gwelliannau mewn llawfeddygaeth, yn ogystal â darparu therapi wrth gwrs.

Weinidog, bûm yn lleisio pryderon wrthych am y broses gyllido cleifion unigol drwy gydol eich amser fel Gweinidog. Bûm yn gwneud yr un peth â'ch rhagflaenydd a'r un peth gyda'i ragflaenydd yntau hefyd. Mae gan fy etholwr, Gemma Williams, mam ifanc â dau o blant ifanc, ganser y fron cam 3. Mae ei honcolegydd yn awyddus i'w thrin gyda Kadcyla i atal y clefyd rhag gwaethygu. Fel y rhan fwyaf o gleifion sy'n clywed bod angen cyffur arnynt i drin salwch lle mae bywyd yn y fantol, roedd hi a'i honcolegydd, mae'n debyg, o dan yr argraff y byddai'n broses syml. Bellach, ar ôl cael ei gwrthod ddwywaith yn olynol gan y panel Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol yng Ngwent, mae'n rhaid i Gemma lansio ymgyrch i godi arian i dalu am ei thriniaeth. Nawr, er bod y gwahaniaeth yn y gost rhwng Kadcyla a'r cyffuriau y mae'n eu cymryd—sy'n annhebygol o'i helpu, yn ôl ei chlinigydd—yn wahaniaeth bach, bydd yn rhaid iddi hi, wrth gwrs, godi'r arian i dalu am gost lawn y driniaeth, tua £45,000. Weinidog, rwy'n dal i fod o'r farn nad yw proses y ceisiadau cyllido cleifion unigol yn gweithio i fy etholwyr, ac yn sicr, nid yw'n gweithio i Gemma Williams. A gaf fi ofyn i chi edrych eto ar hyn i sicrhau bod pob claf yng Nghymru, gan gynnwys fy etholwyr, yn cael mynediad at y triniaethau newydd y mae eu clinigwyr o'r farn sydd eu hangen arnynt?

Edrychwch, cawsom adolygiad ar ddechrau tymor y Cynulliad hwn oherwydd materion y mae Aelodau o bob rhan o'r Siambr wedi’u codi ynghylch yr anghydraddoldebau amlwg o ran mynediad, ac anallu pobl i ddeall y system. Ac a bod yn deg, nid oedd y system yn un hawdd i glinigwyr nac yn wir aelodau'r cyhoedd ei deall. Yn dilyn yr adolygiad, rydym wedi gweithredu pob un o'r 27 argymhelliad a nodwyd, ac mae'n amlwg iawn bellach fod yn rhaid i'r clinigydd gefnogi cais cyllido'r claf unigol er mwyn cael adolygiad.

Nawr, ni allaf wneud sylwadau ar yr amgylchiadau unigol y sonia'r Aelod amdanynt. Ar draws y system, mae mwy na saith cais o bob 10 am feddyginiaethau o dan broses y ceisiadau cyllido cleifion unigol yn cael eu derbyn. Credaf y byddai'n ddefnyddiol pe baem yn cael sgwrs arall gyda chi ynglŷn â'r hyn sydd wedi digwydd yn yr achos hwn ac ynglŷn â sut y mae proses ceisiadau cyllido cleifion unigol y bwrdd iechyd yn gweithio a ddim yn gweithio, ac ynglŷn â lefel yr eglurder o ran yr esboniad a ddarperir gan y bwrdd iechyd a'r clinigydd ynghylch unrhyw resymau dros wrthod a pham. Y gwir ofnadwy amdani yw, o safbwynt system gyfan, rydych yn deall y bydd yna adegau pan fydd y gwasanaeth iechyd gwladol yn gwrthod darparu triniaeth. Mae bob amser yn fater llawer anos i'r unigolyn sy'n cael gwybod gan un unigolyn yn ein system gofal iechyd, 'Rwy'n credu mai dyma sydd ei angen arnoch', a chael gwybod gan y system yn gyffredinol, 'Ni allwch ei gael'. Rwy'n fwy na pharod i geisio deall beth yw hynny gyda'ch etholwr, ond rwy'n credu o ddifrif fod angen i ni ddychwelyd at glinigwyr yn gwneud dewisiadau ar y cyd â'r bwrdd iechyd, a chael eglurder gwirioneddol yn y broses o wneud penderfyniadau.

14:30

Weinidog, yn y datganiad busnes ddoe, codais fater etholwr, Mr Jim Sweet, a gollodd ei wraig ar y diwrnod roedd hi'n mynd i ddechrau triniaeth ar gyfer canser yr ofari cam 4—yn amlwg, mater sensitif iawn. Mae llawer o bobl yn y sefyllfa hon, llawer o bobl yn dioddef o ganser yr ofari yng Nghymru, a rhan o'r broblem gyda'r canser hwn yw bod diagnosis cynnar cyn cam 4 yn anos am fod y clefyd yn edrych fel cyflyrau eraill, fel syndrom coluddyn llidus. Felly, tybed a allech ddweud wrthym pa gamau rydych yn eu cymryd i geisio cefnogi mwy o ymchwil i'r math penodol hwn o ganser, nad yw'n cael ei drafod mor aml â mathau eraill o ganser, ond mae'n un sy'n golygu bod dioddefwyr y clefyd a theuluoedd y dioddefwyr mewn sefyllfaoedd anodd iawn ar ôl cael diagnosis eithaf hwyr o'r canser hwn, a chredaf eu bod yn edrych at y Cynulliad a Llywodraeth Cymru i weld a ellir lliniaru eu sefyllfa i raddau. 

Mae ystod o grwpiau canser yn rhan o'r gynghrair canser, gan gynnwys y rhai sydd â diddordeb mewn canser yr ofari, ac mae'n rhan o'n hymchwil, ein diddordeb a'n gweithgarwch. Rwy'n fwy na pharod i ysgrifennu at yr Aelod gyda manylion penodol ynglŷn â'r hyn rydym yn ei wneud o ran gweithgarwch ymchwil yn y maes hwn, ond nid ydym yn rheoli'r holl weithgarwch ymchwil hwnnw, wrth gwrs; mae hynny'n dibynnu ar ble mae'r astudiaethau clinigol hynny'n digwydd a ddim yn digwydd, a'r cydweithredu sy'n digwydd ar draws sectorau gofal iechyd a phrifysgolion y DU hefyd. Ond rwy'n fwy na pharod i ddarparu mwy o fanylion defnyddiol, gobeithio, am natur y gwaith ymchwil hwnnw yma yng Nghymru i'r Aelod.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch, Lywydd. Weinidog, fe fyddwch yn gyfarwydd iawn ag egwyddorion craidd GIG Cymru, ac rwy'n siŵr eich bod chithau, fel finnau, wedi darllen y gwahanol ddatganiadau cenhadaeth ac wedi clywed y nodau sy'n cael eu hyrwyddo gan y byrddau iechyd. Uchelgeisiau fel sicrhau bod pobl wrth wraidd popeth a wnawn, a gofalu am bobl, cadw pobl yn iach, a fy ffefryn personol a'r mantra newydd a ddyfynnir yn aml wrthyf bellach yw 'bod yn garedig'. Ac mae'r egwyddorion eu hunain yn sôn llawer am roi cleifion a defnyddwyr gwasanaeth yn gyntaf, a dysgu o brofiad, ac ati.

Roedd llawdriniaeth asgwrn cefn frys wedi'i threfnu ar gyfer fy etholwr, Georgina, ym mis Ionawr eleni. Hebddi, byddai ei hasgwrn cefn yn dirywio i'r fath raddau fel y byddai ei pharlys dros dro yn dod yn barhaol. O fis Ionawr ymlaen, cafodd llawdriniaeth Georgina ei chanslo pum gwaith gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, tan inni gael canlyniad yr wythnos diwethaf, a hynny i raddau helaeth am fod aelodau o fy staff wedi gwersylla wrth ddrws yr ysbyty hwnnw. Nid yn unig fod ansawdd ei bywyd yn y dyfodol wedi'i gyfaddawdu, ond, a dyfynnaf yn uniongyrchol o lythyr gan feddyg ymgynghorol sy’n dweud,

Mae'n ddrwg gennyf roi gwybod i chi fod y sefyllfa o ran mynediad at lawdriniaeth asgwrn cefn yn Abertawe yn creu cymaint o oedi fel fy mod yn gweld pobl yn cael niwed. Adroddwyd yn briodol am yr achosion hyn wrth iddynt ddigwydd.

Mae hyn yn peri cryn bryder ynghylch diogelwch clinigol, Weinidog. Ni chredaf fod hwn yn wasanaeth sy'n cadw at yr egwyddorion a'r datganiadau cenhadaeth sy'n cael eu crybwyll yn aml gan GIG Cymru a'n byrddau iechyd. A ydych chi?

Wel, yn amlwg, nid wyf yn ymwybodol o'r amgylchiadau unigol y cyfeiria'r Aelod atynt, ond ni fuaswn yn ceisio amddiffyn achos o ganslo llawdriniaeth ddifrifol bum gwaith. Buaswn yn awyddus i ddeall beth sydd wedi digwydd a pham. Ac ym mhob un o'r achosion hyn lle nad yw ein system yn cyflawni'r canlyniadau y byddem yn dymuno'u cael mewn modd amserol, mae gwersi i'w dysgu bob amser ynglŷn â beth i'w wneud yn y dyfodol, yn ogystal ag angen i roi gwybod i'r unigolyn dan sylw a bod yn onest am y ffaith nad ydynt wedi cael y gofal na'r gefnogaeth y byddem am iddynt eu cael. Ond os dymuna'r Aelod ysgrifennu ataf gyda manylion mwy penodol, rwy'n fwy na pharod i ystyried hynny'n fwy manwl er mwyn deall beth sydd wedi digwydd yn yr achos hwn, yn ogystal â'r hyn y mae hynny'n ei ddweud wrthym yn y dyfodol. Ac wrth gwrs, rwy'n poeni bod un clinigydd yn dweud bod pobl yn cael niwed.

Weinidog, roedd fy etholwr, Mr Chell, yn 91 oed. Syrthiodd ar ward Santes Non, sydd gyferbyn â phrif adeilad ysbyty Llwynhelyg, ac i'r rhai ohonoch nad ydych yn gwybod, efallai, byddai'r pellter fwy neu lai yr un peth â'r pellter rhwng y Siambr hon a phumed llawr Tŷ Hywel. Bu Mr Chell druan, a oedd eisoes yn sâl ac yn fregus iawn, gyda chymhlethdodau ychwanegol tri thoriad i'w glun, yn aros ar lawr ward Santes Non am bum awr tan i ambiwlans ddod i'w gludo'r 380 llath i ysbyty Llwynhelyg. Yna, bu'n rhaid i Mr Chell aros yn yr ambiwlans am ddwy awr arall oherwydd oedi wrth drosglwyddo o ambiwlansys. Nawr, yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth, darganfûm, tra bu Mr Chell druan yn ceisio cyrraedd ysbyty Llwynhelyg, fod 13 ambiwlans yn aros i drosglwyddo cleifion yn ysbyty Llwynhelyg. Ni chredaf fod hwn yn wasanaeth sy'n glynu at yr egwyddorion a'r datganiadau cenhadaeth sy'n cael eu crybwyll yn aml gan y bwrdd iechyd penodol hwnnw, a GIG Cymru. Beth a ddywedwch wrth deulu Mr Chell, ac a ydych yn credu bod hwn yn wasanaeth derbyniol?

14:35

Unwaith eto, yn amlwg, ni allaf wneud sylwadau ar achos unigol nad wyf wedi clywed amdano o'r blaen. Ond unwaith eto, nid wyf yn mynd i geisio amddiffyn yr hyn nad yw'n swnio fel gofal priodol a'r hyn nad yw'n swnio fel y math o brofiad neu ganlyniad y byddai unrhyw un ohonom yn dymuno'i gael. Mae gennyf ddiddordeb mewn deall amgylchiadau'r unigolyn a beth y mae hynny'n ei ddweud wrthym am y system gyfan. Ac fel y gwyddoch, mae'n gwbl bosibl cael profiad gwael iawn, ac eto mae'r system yn gyffredinol yn darparu gofal o ansawdd uchel y rhan fwyaf o'r amser. Gwyddom o'r arolwg cenedlaethol fod profiad y rhan fwyaf o bobl o'r gwasanaeth iechyd, mewn ysbyty neu mewn gofal sylfaenol, yn un cadarnhaol iawn dros 90 y cant o'r amser. Nid yw hynny'n golygu ein bod yn anwybyddu'r achosion lle nad yw hynny'n digwydd, ac nid yw'n golygu ein bod yn anwybyddu'r pwysau yn ein system nac wrth gwrs ein cyfrifoldeb i wella hynny.

Weinidog, rwyf wedi bod yn Aelod Cynulliad ers 12 mlynedd a hanner, ac yn y 12 mlynedd a hanner hynny rwyf wedi cael bywyd eithaf da, mewn gwirionedd. Ond mae un o fy etholwyr—ac rydych yn ei hadnabod—Ayla Haines, mewn 12 mlynedd a hanner, wedi cael ei thrin yn debycach i garcharor na rhywun sydd angen gofal iechyd. Dynes ifanc oedd hi pan gyfarfûm â hi gyntaf—roedd hi'n 17 oed. Mae hi bellach yn 25. Mae hi mewn uned ddiogel yn Northampton. Fe’i hanfonwyd yno yn 2016 er mwyn iddi allu dod oddi ar ei meddyginiaethau. Ers iddi fod yno, mae ei hiechyd wedi dirywio. Mae hi'n hunan-niweidio, mae hi'n colli pwysau, mae rhywun wedi ymosod arni, felly mae hi'n ymladd yn ôl, ac mae hi bellach yn ymosodwr yn ogystal â rhywun yr ymosodwyd arni. Mae'r staff yn gwybod bod ganddi OCD, er enghraifft, ond maent yn dweud wrthi am frysio a cheisio ei hatal rhag cwblhau ei harferion, felly mae hi'n gwaethygu. Mae hi'n colli pwysau, mae hi ar feddyginiaeth waeth a meddyginiaeth gryfach na'r feddyginiaeth roedd hi arni pan aeth yno. Mae'n wynebu peryglon corfforol.

Ond yr hyn sy'n dân ar fy nghroen, a'r rheswm pam rwyf wedi tynnu eich sylw at hyn heddiw, yw oherwydd na allaf, ar ôl 12 mlynedd a hanner, gael unrhyw un i gyfaddef a dweud, 'Mae'r broblem hon, y ferch hon, ar fy nesg i ac rwy'n mynd i ddatrys ei phroblem.' Rwyf wedi ysgrifennu atoch chi, Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda—pob un ohonynt: 'Nid fy mhroblem i, nid fy mhroblem i, nid fy mhroblem i'. Rydych chi, diolch byth—diolch—wedi dweud o'r diwedd fod ei lleoliad yn Northampton o dan oruchwyliaeth uniongyrchol bwrdd iechyd Hywel Dda. Iawn. Mae cyfarfodydd yn cael eu cynnal; nid oes unrhyw un o Gymru yn eu mynychu, nid oes unrhyw un o'r bwrdd iechyd yn mynd, nid yw ei heiriolwr yn mynd, ni chaniateir i'w rhieni fynd—maent wedi eu hymyleiddio. Mae iechyd meddwl y ferch honno, a oedd yn fregus bryd hynny, yn waeth byth bellach, gan ei bod dros 200 milltir oddi wrth ei rhwydwaith cymorth. Nid yw ei theulu'n gyfoethog iawn, maent yn byw yn Llansteffan, ni allant fforddio mynd yno i'w gweld. Gyda llaw, nid ydynt yn cael gwneud hynny, gan fod Northampton yn dweud wrthynt fod ei galwadau ffôn yn cael eu monitro, maent yn cael eu canslo ar fyr rybudd, nid ydynt yn cael ymweld â hi, mae'n rhaid i'w hymweliadau gael eu goruchwylio. Mae'r ferch hon yn cael ei gyrru i mewn i dwll bach.

Nid wyf yn gwybod, yn glinigol, beth sy'n bod arni, ond yr hyn a wn yw nad oes unrhyw un yma yng Nghymru yn derbyn cyfrifoldeb am fonitro hynny, am oruchwylio, i sicrhau ei bod yn y lle iawn yn gyson, yn cael ei gweld, gyda'r driniaeth iawn, gan y bobl iawn. Mae pawb wedi golchi eu dwylo ohoni—mae hi gannoedd o filltiroedd i ffwrdd, nid oes ots amdani mwyach. Ond mae ots amdani—mae ots gennyf fi amdani, gan fy mod yn meddwl amdani y rhan fwyaf o wythnosau. Fe ddywedoch chi y diwrnod o'r blaen, ar y teledu, fod meddwl am yr amseroedd aros am rai pethau yn eich cadw'n effro'r nos. Wel, mae Ayla Haines yn fy nghadw innau'n effro'r nos. Mae hi'n 25; sawl blwyddyn arall mae hi'n mynd i'w treulio yno? A'r unig beth rwy'n dymuno'i weld yw un unigolyn yng Nghymru yn dweud, 'Fy nghyfrifoldeb i yw hi. Rwy'n mynd i wneud yn siŵr ei bod hi'n cael y driniaeth orau bosibl'. Mae'r diffyg atebolrwydd, y diffyg cyfrifoldeb—. Ac fe ddywedaf wrthych beth yw'r broblem: dyma ganlyniad bod yn un person. Os oes gennych broblem fawr, fel sydd gennym yng Nghwm Taf—grwpiau gorchwyl a gorffen hyd dragwyddoldeb. Ond fel un person tlawd, nid oes unrhyw un i ddadlau ar eu rhan mewn gwirionedd. Os gwelwch yn dda, Weinidog, a wnewch chi edrych ar hyn? Mae'r byrddau iechyd hyn yn treulio eu holl amser yn dweud wrthym eu bod yn rhoi pobl yn y canol yn yr hyn a wnânt. Ond eto, ac eto, ac eto, ac eto, maent yn methu. Dyna dair enghraifft o fethiant—gall pob un yma sôn wrthych am ragor. Ar ryw bwynt, mae'n rhaid inni ddwyn y bobl hyn i gyfrif. Dyna'ch swydd chi—gwnewch hynny.

14:40

Wel, credaf fod y cyfeiriad at Gwm Taf yn anffodus, gan ein bod yn ymdrin â methiant yn y system yno gyda'r niwed gwirioneddol y mae wedi'i achosi i unigolion, ac rydym yn ystyried y broblem ar lefel system. Nid oes digwyddiad wedi bod erioed lle rwyf wedi ceisio dweud nad oes gan y system gofal iechyd gyfrifoldeb am unigolion drwyddi draw, ac rwy'n disgwyl i'n system allu ymdrin â'r rheini.

Yn y ffigurau y cyfeiriais atynt yn gynharach, ynglŷn â boddhad â'r gwasanaeth iechyd, nid yw'r rheini ynddynt eu hunain yn dweud bod pob unigolyn yn dweud eu bod yn fodlon â phob un dim. Ceir gwersi i'w dysgu bob amser pan fo pethau'n mynd o chwith. Ac yn yr achos unigol y cyfeirioch chi ato, unwaith eto, fe wyddoch na allaf wneud sylwadau arno. Mae gennyf ddiddordeb, wrth gwrs, ym mhob unigolyn sydd â rheswm i gwyno a rheswm i bryderu am y gwasanaeth iechyd. Ond nid oes wahaniaeth a ydynt yn cael eu trin neu'n derbyn gofal yng Nghymru neu yn Lloegr. Rwy'n disgwyl i bobl sy'n comisiynu ac sy'n gyfrifol am y gofal hwnnw gynnal eu diddordeb yn ansawdd y gofal a ddarperir hefyd, gan fod nifer o'r datganiadau rydych wedi'u gwneud heddiw yn peri pryder gwirioneddol ynglŷn ag ansawdd y gofal ac ynglŷn â'r hyn a ddylai fod o ddiddordeb i'r arolygiaethau perthnasol yma ac yn Lloegr, o ystyried difrifoldeb yr hyn a ddisgrifiwyd gennych.

Drwy fy swyddfa, fe edrychaf i weld faint o sylw y mae'r bwrdd iechyd yn parhau i'w roi i hyn a'r ymatebion i'r pryderon a godwyd gan eich etholwr, ei theulu a'i heiriolwyr. Rwy'n cydnabod mai fi sy'n gyfrifol am y system gyfan, y rhannau da a'r rhannau y mae angen eu gwella. Nid wyf yn troi cefn ar hynny, a byddaf yn sicr yn mynd i'r afael â'r materion unigol. Buaswn yn ddiolchgar pe gallech ysgrifennu ataf gyda manylion am y tri mater, a byddaf yn sicrhau eu bod yn cael sylw.

Diolch yn fawr, Lywydd. Hoffwn holi'r Gweinidog eto am y sefyllfa yng Nghwm Taf. Rwy'n ymwybodol, wrth gwrs, fod datganiad pellach wedi'i wneud i'r Cynulliad hwn bythefnos yn ôl—credaf mai pythefnos yn ôl y'i gwnaed. Yn anffodus, nid oedd modd i mi fod yn bresennol bryd hynny, ond rwyf wedi cael cyfle i ddarllen y Cofnod. Ac rwy'n derbyn, fel y dywedodd y Gweinidog yn ei ymateb i sylwadau fy nghyd-Aelod, Dr Dai Lloyd, nad yw'n bosibl trawsnewid diwylliant yn llwyr mewn ychydig fisoedd, ond tybed a wnaiff y Gweinidog dderbyn ei bod yn anodd iawn i bobl ddeall pam na ellir gwneud gwasanaeth yn ddiogel o fewn chwe mis. Ac a all y Gweinidog ddweud wrthym heddiw pryd y mae'n disgwyl gallu rhoi sicrwydd i bobl Merthyr Tudful a'r cyffiniau fod y gwasanaeth hwnnw'n ddiogel?

Wel, rwyf wedi nodi proses o ymyrraeth i roi'r sicrwydd priodol y byddai pawb yn dymuno'i gael, p'un a'u bod yn byw yn ardal Cwm Taf ai peidio, ynghylch diogelwch y gwasanaeth hwnnw a'r rhagolygon ar gyfer ei ddyfodol, ac rwyf wedi nodi nid yn unig y panel trosolwg annibynnol, ond y gwaith sy'n mynd rhagddo o amgylch y bwrdd. A byddaf yn gwneud datganiadau pan fyddaf mewn sefyllfa i wneud hynny. Mae'n bwysig iawn nad wyf yn darparu amserlenni artiffisial sy'n gyfleus i mi, yn hytrach na darparu'r sicrwydd cadarn y byddai pobl yn ei ddisgwyl ac yn dymuno'i weld. Mae swyddogion a'r Llywodraeth a'r bwrdd iechyd a'r panel trosolwg yn parhau i ymgysylltu'n rheolaidd, a chyda'u hadroddiad chwarterol nesaf, bydd gennym syniad o'r hyn sydd wedi digwydd yn ystod y chwarter diwethaf hefyd. Dyna'r broses onest a gwrthrychol sydd wedi'i sefydlu a dyna'r un y byddaf yn cadw ati.

Rwy’n derbyn yr hyn a ddywed y Gweinidog, wrth gwrs, ynglŷn â pheidio â chreu amserlenni artiffisial, ond rwy’n sicr yn gwybod, pe bawn yn ddynes o oedran cael plant ac yn byw yn y rhanbarth hwnnw, buaswn yn awyddus i wybod bod amserlen ar waith ac y gallwn ddisgwyl i'r gwasanaeth hwnnw fod yn ddiogel ar ryw adeg.

Rwyf wedi derbyn sylwadau, a gwn fod cyd-Aelodau eraill wedi derbyn sylwadau, a oedd yn awgrymu i mi—wel, yn profi i mi—fod y problemau diwylliannol, ac rwy'n derbyn unwaith eto na ellir eu newid dros nos, yng Nghwm Taf yn ymestyn ymhell y tu hwnt i wasanaethau mamolaeth. Yn ddiweddar, cyfarfûm â theulu a roddodd dystiolaeth i mi ynghylch materion difrifol yn ymwneud â thriniaeth eu rhieni oedrannus ar wahân mewn gwahanol rannau o wasanaeth Cwm Taf dros gyfnod o ddwy flynedd. Nawr, mae'r materion hyn yn codi themâu tebyg i rai o'r problemau mewn perthynas â phrofiadau menywod yn y gwasanaeth mamolaeth—problemau sy'n ymwneud â diffyg parch, diffyg gwrando ar gleifion a'u teuluoedd, diffyg gofal sylfaenol, fel cynorthwyo pobl hŷn i fwyta ac yfed. Cafodd y teulu hwn brofiad anfoddhaol iawn, unwaith eto'n debyg i rai o'r bobl a oedd wedi defnyddio gwasanaethau mamolaeth, wrth ddefnyddio'r weithdrefn gwyno. A gaf fi ofyn i'r Gweinidog heddiw a fydd yr ymyriadau presennol a roddwyd ar waith ganddo yng Nghwm Taf yn nodi pryderon ehangach, fel y rhain, ynglŷn â'r diwylliant yn y sefydliad y tu hwnt i wasanaethau mamolaeth? Ac a yw'n derbyn y gallai fod angen iddo gynyddu ei ymyrraeth os daw pethau o'r fath yn gyhoeddus?

O ran y gwaith sy'n mynd rhagddo eisoes, mae'n siŵr y byddwch wedi darllen y sylwadau a wnaed nid yn unig gan y panel trosolwg annibynnol, ond maent yn ymestyn ac maent yn cydnabod y gwelliannau mwy eang sy'n cael eu gwneud o dan arweinyddiaeth y prif weithredwr dros dro, a bod newid mewn diwylliant yn digwydd ar lefel y bwrdd, o'r adroddiadau a ddarparwyd gan David Jenkins. Nid wyf yn siŵr a yw wedi rhoi tystiolaeth i'r pwyllgor iechyd eto. Os nad yw wedi gwneud hynny, gwn ei fod ar fin digwydd. Ac fe fyddwch yn deall bod cydnabyddiaeth wirioneddol fod angen iddynt edrych ar draws y gwasanaethau a ddarperir i dawelu eu meddyliau eu hunain ar lefel y bwrdd fod y gwaith y maent yn ei wneud i unioni, yn benodol, heriau yn y swyddogaeth gwyno yn mynd i'r afael hefyd â'r diwylliant a darpariaeth y gwasanaeth. Mae hynny ar gyfer staff yn y system yn ogystal â'r bobl y maent yn gofalu amdanynt.

Nawr, nid wyf am ddenu helynt drwy sôn am yr hyn a allai neu na allai ddigwydd yn y dyfodol. Wrth gwrs, rwy'n cael fy arwain ac yn ffurfio barn ar sail cyngor, cyngor a roddir gan swyddogion, ond hefyd y broses deirochrog, ynghyd â phrif weithredwr GIG Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru. Os daw materion newydd i'r amlwg sy'n gofyn am ymyrraeth bellach, byddaf yn gwneud hynny. Os nad oes angen ymyrraeth bellach ar y materion hynny, ond bod angen eu gwella o hyd, disgwyliaf i'r gwelliannau hynny ddigwydd heb yr angen am ymyrraeth uniongyrchol gan y Llywodraeth.

14:45

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ymateb ac rwy'n falch iddo sôn am y bwrdd iechyd. Nid wyf yn gwybod a yw'r Gweinidog wedi cael cyfle i adolygu trafodion y pwyllgor iechyd yr wythnos diwethaf, ond does bosibl mai fi oedd yr unig un a gafodd sioc wrth glywed yr hyn oedd gan David Jenkins, y cynghorydd annibynnol, i'w ddweud am gyflwr y bwrdd iechyd lleol. Dywedodd yn glir iawn fod y gwaith craffu yn dra annigonol, a phan gafodd ei holi ynglŷn â hynny, dywedodd mai pobl yw'r aelodau annibynnol wedi'r cyfan ac y gellid disgwyl dweud wrthynt beth roeddent yn ei gredu.

Cyflogir y bobl hyn i graffu ar y swyddogion gweithredol. Mae'r cadeirydd yn cael o leiaf £55,000 y flwyddyn; mae'r is-gadeirydd yn cael o leiaf £45,000; ac mae saith aelod annibynnol yn cael £10,000 y flwyddyn yr un. Ac eto, dywedodd David Jenkins yn glir iawn nad oeddent yn gymwys—nid ydynt yn gallu craffu'n effeithiol. Bellach, yn ôl yr hyn a ddeallaf—ac fel enghraifft o’u hanallu i graffu’n effeithiol—yr haf hwn, gwnaethant adael i’r prif weithredwr aflwyddiannus ddianc yn ddi-gosb heb unrhyw frycheuyn o gwbl ar ei chymeriad.

Deallaf bellach fod y bwrdd yn cael rhaglen ddatblygu 12 mis, a ddarperir gan Deloitte UK. Ni allaf ddychmygu bod hynny'n rhad a deallaf fod hynny'n dod allan o gyllideb y Gweinidog. Mae'n rhaid imi ddweud na allaf ddeall sut y caniatawyd i'r bobl hyn nad oeddent yn gallu craffu ar eu gweithrediaeth gael eu penodi yn y lle cyntaf. Unwaith eto, mewn ymateb i gwestiynau gan y pwyllgor, dywedodd David Jenkins ei fod yn teimlo bod problemau gwirioneddol gyda'r broses benodi. Ond Lywydd, mae'n rhaid i mi ddweud bod yn rhaid i'r Gweinidog dderbyn cyfrifoldeb am hyn. Ef a benododd yr holl bobl hynny. Ef sy'n pennu'r broses, ac eto, pobl ydynt wedi'r cyfan a gellid disgwyl iddynt gredu'r hyn a ddywedir wrthynt.

Nawr, mae gennym sefyllfa lle mae gennym bump o'r saith bwrdd iechyd lleol mewn rhyw fath o fesurau arbennig—

—mae gennym bobl yn cael eu penodi pan fo'n amlwg na allant wneud eu gwaith, ac yna mae'n rhaid iddynt gael ymyrraeth ddrud iawn i'w galluogi i'w wneud. Onid yw'n bryd i'r Gweinidog gydnabod nad yw system y byrddau iechyd lleol yn gweithio? Ei holl bwynt oedd galluogi gwaith craffu annibynnol ar y gweithwyr proffesiynol. Mae'n amlwg nad yw'n gweithio. Onid yw'n bryd ailfeddwl yn sylfaenol ynglŷn â sut y caiff ein gwasanaethau iechyd a gofal eu llywodraethu?

Wel, rwy'n gresynu at gywair a chynnwys cryn dipyn o'r hyn a ddywedodd yr Aelod.

Pan ddywed yr Aelod fod pum bwrdd iechyd mewn rhyw ffurf ar fesurau arbennig, nid yw hynny'n wir o gwbl—nid yw'n wir o gwbl—

Dylai'r Aelod ymdrin â ffeithiau'r mater a realiti'r ymrwymiad i wella, a realiti'r hyn a ddywedir. Nid wyf yn derbyn disgrifiad yr Aelod o union eiriau David Jenkins, ond yn y cyfarfodydd a gefais gydag ef yn uniongyrchol, gwn mai ei farn ef yw eu bod wedi gwneud popeth y gallech ddisgwyl iddynt ei wneud i sicrhau'r gwelliannau sy'n ofynnol. Maent wedi dangos mewnwelediad; maent wedi dangos ymrwymiad i ymddwyn yn wahanol ac maent yn ymddwyn yn wahanol o ran y lefel o graffu a throsolwg y byddech yn ei disgwyl ganddynt.

Rydym wedi gwneud newidiadau i'r broses sefydlu a sut y mae aelodau annibynnol yn deall natur eu rôl a'u swydd. Felly, rydym yn gwrando ar yr hyn sy'n digwydd yn ein system ac yn dysgu amdano. Nid wyf yn rhannu barn yr Aelod fod angen ad-drefnu'r ffordd rydym yn darparu gofal iechyd a throsolwg yn gyfan gwbl. Dyna'n union nad oes ei angen ar y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Ac mewn gwirionedd, mae'r holl adolygiadau annibynnol rydym wedi'u cael o'n system gofal iechyd, gan gynnwys yr adolygiad seneddol wrth gwrs, wedi nodi nad dyna sydd angen inni ei wneud i sicrhau gwelliannau yn ein gwasanaeth. Rwyf wedi ymrwymo i wella'r system gofal iechyd ar gyfer ein staff a'r cyhoedd y maent yn eu gwasanaethu ac edrychaf ymlaen at wneud hynny gyda'r holl bobl resymol ar draws y Siambr a'r tu allan iddi.

Diolch, Lywydd. Weinidog, unwaith eto, rydym yn brwydro yn erbyn achosion o'r frech goch a chlwy'r pennau ymhlith myfyrwyr prifysgol. Cafwyd oddeutu 30 o achosion tybiedig o glwy'r pennau ymhlith myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol De Cymru. Mae hyn yn dilyn colli statws heb frech goch y DU yn gynharach eleni, dair blynedd yn unig ar ôl i ni gael gwared ar un o afiechydon mwyaf heintus y byd. Gellir priodoli'r cynnydd yn y clefydau ofnadwy hyn i'r niferoedd rhy isel o bobl sy'n cael eu brechu. Rydym ar y blaen i weddill y DU o ran cyfraddau brechu, gyda 92 y cant o blant Cymru yn cael y brechlyn MMR, ond mae hyn yn dal i fod yn is na'r targed. Weinidog, pa fesurau newydd rydych yn eu hystyried i gynyddu cyfraddau brechu yng Nghymru, yn enwedig ymhlith myfyrwyr prifysgol?

14:50

Mewn gwirionedd, y dasg gyntaf yw edrych ar gyfraddau imiwneiddio plant yn ychwanegol at y potensial i ddal i fyny, oherwydd pe baem yn brechu cyfran hyd yn oed yn uwch o'r boblogaeth yn ddiogel, dyna fyddai'r amddiffyniad gorau i bob un ohonom. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan weithio gyda chydweithwyr a thimau iechyd y cyhoedd ym mhob un o'r byrddau iechyd, yn edrych eto ar beth y gellir ei wneud i godi'r lefel uchel o frechu sydd gennym eisoes er mwyn gwella hynny hyd yn oed ymhellach. Ond y rheswm pam y collodd y DU ei statws heb frech goch gan Sefydliad Iechyd y Byd oedd oherwydd y lefel arbennig o isel o frechlynnau a gafwyd dros gyfnod o amser yn Lloegr, lle maent wedi cwympo i tua 85 y cant. Ac mae'n dangos effaith buddsoddi yn rhan y blynyddoedd cynnar o'n system iechyd a gofal, ond mae hefyd yn dangos y niwed gwirioneddol a wnaed gan y mudiad gwrth-frechu, ac yn enwedig gan waddol Dr Wakefield, sydd bellach yn destun cywilydd ac wedi'i ddiswyddo, ond mae rhai pobl yn barod i gefnogi a hyrwyddo ei waith o hyd. Yr effaith wirioneddol yw'r perygl y mae hynny wedi'i achosi i iechyd y cyhoedd ledled y Deyrnas Unedig, yn enwedig yn Lloegr, ond ceir bylchau go iawn mewn rhannau o Gymru hefyd.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Wrth gwrs, un o'r rhwystrau mwyaf o ran cynyddu cyfraddau brechu yw cynnydd mewn gwybodaeth anghywir ar-lein, ac fel y dywedoch chi, y mudiad gwrth-frechu. Pan fo enwogion ac arbenigwyr honedig yn lledaenu mythau ac yn dweud celwyddau yn wir am frechu ar Facebook a Twitter, mae'n gwneud gwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru yn llawer anos. Weinidog, pa drafodaethau a gawsoch gyda'ch swyddogion cyfatebol yng ngweddill y DU i fynd i'r afael â gwybodaeth anghywir am frechlynnau, ac a ydych wedi ystyried ymgyrch wybodaeth gyhoeddus i sôn am ddiogelwch ac effeithiolrwydd brechlynnau?

Rydym yn gwneud datganiadau rheolaidd i dawelu meddwl y cyhoedd ynghylch diogelwch ac effeithiolrwydd yr holl frechlynnau a ddarperir a'r wyddoniaeth a'r sylfaen dystiolaeth sy'n sail iddynt, yn hytrach na'r amheuaeth a'r twf mewn newyddion ffug yn enwedig, gydag ystod o'i gefnogwyr sy'n ddylanwadol mewn gwahanol ffyrdd. Nid ydym mewn sefyllfa lle mae angen i ni ystyried yr hyn y mae Matt Hancock wedi sôn amdano o ran ceisio gwneud brechu'n orfodol. Credaf fod hynny'n anodd iawn i'w gyflawni a chredaf y gallai hynny achosi mwy o niwed nag o les i'r rhai nad ydynt eisoes yn brechu eu plant, gan y gallai eu gyrru hyd yn oed ymhellach i ffwrdd.

Credaf fod hyn yn ymwneud â sut rydym yn perswadio ac yn darparu tystiolaeth gan bobl y maent yn ymddiried ynddynt, a dyna pam, unwaith eto, fod buddsoddi yn ein blynyddoedd cynharaf ac mewn gwasanaethau pan fydd pobl yn feichiog yn wirioneddol bwysig, o ran lefel yr ymddiriedaeth a ddarperir a'r sicrwydd ynglŷn â beth y mae hynny'n ei olygu o ran gwneud y peth iawn iddynt hwy a'u plant. Byddwn yn parhau i wneud hynny. Credaf mai'r her gydag ymgyrchoedd gwybodaeth gyhoeddus ehangach yw na cheir fawr ddim enillion yn aml. Mae angen inni ddeall o ble y mae pobl yn cael eu gwybodaeth a chan bwy y maent yn debygol o gael eu perswadio er mwyn sicrhau'r enillion mwyaf ar unrhyw fuddsoddiad a wnawn.

Adroddiad 'Dilyn y Ddeddf'

3. Beth yw ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Carers Wales, 'Dilyn y Ddeddf'? OAQ54593

Mae'n hanfodol fod gwybodaeth dda i'w chael am brofiadau gofalwyr, a dyna pam rydym wedi ariannu Gofalwyr Cymru i gynhyrchu arolwg 'Dilyn y Ddeddf'. Mae'r argymhellion a'r data yn cael eu hystyried ac fe'u defnyddir i lunio polisi gofalwyr cenedlaethol a'n gwaith gyda darparwyr gwasanaethau a rhanddeiliaid.

A gaf fi longyfarch Gofalwyr Cymru, a'r Llywodraeth yn wir, ar y dull o sicrhau mai elusen allweddol yn hytrach na ni sy'n gwneud y gwaith craffu ôl-ddeddfwriaethol? Mae'r canfyddiadau'n ddigon i'ch sobri, gan y dywedant nad yw rhannau o'r Ddeddf yn gweithio fel yr hoffem iddynt ei wneud hyd yma. Efallai fod y Gweinidog wedi gweld mai 45 y cant yn unig o'r rhai a ymatebodd a ddywedodd eu bod wedi gweld neu wedi cael gwybodaeth i'w helpu i ofalu, ac mae hynny'n fethiant go iawn, ac roedd yn ostyngiad o 8 y cant o gymharu â'r llynedd. Yn ogystal, dywedodd 57 y cant o'r gofalwyr a ymatebodd i'r arolwg nad oeddent yn cael unrhyw gefnogaeth, ac yn wir, 4 y cant yn unig a ddywedodd fod eu cefnogaeth eu hunain wedi dod o becyn o ganlyniad i asesiad gofalwyr.

Gwyddom fod gofalwyr di-dâl yn ganolog i'n system ofal, ac mae'n grŵp hanfodol i'w gefnogi. Mae gennym ddeddfwriaeth dda, ond mae'n rhaid inni sicrhau bod y gefnogaeth yn cael ei darparu. Rwy'n arbennig o bryderus o weld nad yw hyd yn oed pethau sylfaenol fel darparu gwybodaeth ar lefel y gallwn ei disgwyl o hyd. Felly, gobeithiaf y bydd y Llywodraeth yn ymateb yn drylwyr i adroddiad 'Dilyn y Ddeddf', ac y byddwn yn cael yr ymateb hwnnw a'r cyfle i'w drafod eto yma yn y Siambr.

14:55

Diolch yn fawr iawn i David Melding am ei gwestiwn. Mae'r wybodaeth a gafwyd o 'Dilyn y Ddeddf' yn amlwg yn gwbl hanfodol wrth ddatblygu ein polisïau. Rydym eisoes yn cyflawni neu wedi ymrwymo i rai o'r argymhellion a wnaed gan 'Dilyn y Ddeddf'. Er enghraifft, maent yn awyddus iawn inni sicrhau bod pobl yn fwy ymwybodol o'u hawliau fel gofalwyr, ac rydym yn cynllunio ymgyrch godi ymwybyddiaeth yr hydref hwn. Rydym hefyd yn gwella'r ffordd y gallwn gasglu data. Bydd fframwaith perfformiad a gwella newydd a fydd yn gwella'r broses o gasglu data yn weithredol o Ebrill 2020. Cawsom ymgynghoriad ar hynny yn yr haf. Felly, rydym yn rhoi llawer o'r argymhellion ar waith.

Yn amlwg, mae realiti bywyd gofalwyr o ddydd i ddydd yn gwbl hanfodol i ni, gan ein bod yn awyddus, fel Llywodraeth, i gydnabod ein dyled enfawr i gariad a gofal y gofalwyr sydd, wrth gwrs, yn gwneud cyfraniad enfawr i Gymru. Felly, mae hynny oll wedi'i gynnwys yn 'Dilyn y Ddeddf', a dyma'r trydydd tro i ni ariannu'r arolwg hwn, ac wrth gwrs, y mesuriadau eraill rydym eu gwneud, er enghraifft, Mesur y Mynydd, sydd eto'n datgelu profiadau gofalwyr o ddydd i ddydd. Mae'n rhaid i'r rhain oll lywio ein polisïau.

Wrth gwrs, mae rhai o'r ffigurau a rhai o'r materion yn siomedig iawn, a dweud y gwir. Rydym yn amlwg yn ystyried hynny. Mae ffigurau eraill gwell wedi dod i'r amlwg o adroddiadau eraill, er enghraifft, adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, a ddangosai, rwy'n credu, fod 70 y cant o'r rhai a oedd yn chwilio am wybodaeth, cyngor a chymorth yn teimlo bod mynd at yr awdurdod lleol yn beth hawdd i'w wneud. Felly, mae ystadegau eraill i'w cael hefyd, ond ni chredaf fod unrhyw amheuaeth fod yn rhaid i ni ystyried safbwyntiau gofalwyr.

Gofalwyr di-dâl yw ein harwyr di-glod. Mae grwpiau fel Fforwm Gofalwyr Casnewydd yn gwneud gwaith hynod bwysig yn cefnogi gofalwyr lleol a'u teuluoedd. Maent hefyd yn darparu llwyfan hynod werthfawr i ofalwyr gefnogi ei gilydd a rhannu eu profiadau. Roedd yn bleser mawr i mi groesawu’r Dirprwy Weinidog, gyda John Griffiths, i’r fforwm y mis diwethaf i glywed o lygad y ffynnon pa mor hanfodol yw’r grŵp i gynifer o bobl. Gwn fod y fforwm yn hynod ddiolchgar i chi am wrando ar eu pryderon ac am ystyried profiadau real y gofalwyr.

Un o'r materion a godwyd oedd pwysigrwydd sicrhau bod gofalwyr yn ymwybodol o'u hawliau. Rwy'n falch o glywed y bydd ymgyrch yn yr hydref, ond pa gamau pellach y bydd y Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau bod ein gofalwyr wedi'u harfogi ac y gallant gael mynediad at y wybodaeth sydd ei hangen arnynt pan fydd angen?

Diolch i Jayne Bryant am ei chwestiwn. Roedd ymweld â gofalwyr Casnewydd gyda Jayne a John Griffiths yn achlysur mor werthfawr. Mae'n debyg mai'r wybodaeth uniongyrchol am brofiadau gofalwyr yw'r peth mwyaf pwerus o ran llunio polisi'r Llywodraeth.

Fel y dywedodd Jayne, rydym yn bwriadu cael ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o hawliau gofalwyr. Ond rydym hefyd wedi adfywio ein grŵp cynghori gweinidogol, gyda'r bwriad o lunio cynllun gweithredu ar gyfer gofalwyr i'w lansio y flwyddyn nesaf. Un o'r pwyntiau allweddol a fydd gennym yn y cynllun gweithredu hwnnw, rwy'n gobeithio, yw siarter efallai, neu rywbeth o'r fath, fel y gall gofalwyr fod yn gwbl ymwybodol o'u holl hawliau. Credaf fod llawer o ofalwyr nad ydynt yn ymwybodol o'u hawliau, ac mae'n rhaid inni wneud popeth yn ein gallu.

Hoffwn ddiolch i Jayne a John am y gefnogaeth y maent yn amlwg yn ei rhoi i'r grŵp hwnnw a'r ffydd oedd gan aelodau'r grŵp ynddynt. Rwy'n gobeithio y bydd modd inni ddefnyddio'r argymhellion a luniwyd ganddynt wrth inni fwrw ymlaen gyda'n cynllun gweithredu.

Arloesi Digidol

4. A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi arloesi digidol o fewn gwasanaethau iechyd a gofal? OAQ54576

Iawn, diolch. Mae arloesi digidol yn allweddol i sbarduno newid. Mae 'Cymru Iachach' yn nodi ein hymrwymiad i gefnogi'r defnydd o dechnolegau digidol i wella gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys buddsoddiad ychwanegol sylweddol mewn blaenoriaethau digidol ac yn adeiladu ar y gefnogaeth sy'n bodoli eisoes i arloesi technolegol a mabwysiadu technoleg.

15:00

Diolch yn fawr, Weinidog. Roeddwn yn falch o ddarllen eich datganiad ysgrifenedig ar 30 Medi ar iechyd a gofal digidol a ddangosai fod cynnydd yn cael ei wneud, ac yn sicr mae'n rhywbeth y gwelaf ei fod yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ar y rheng flaen mewn ymweliadau â gwahanol brosiectau yn fy etholaeth. Rwyf wedi tynnu sylw o'r blaen at sut y gall iechyd a gofal digidol gefnogi fy etholwyr drwy bethau fel atgyfeiriadau electronig, ac enghreifftiau cyffrous hefyd a welais megis y model nyrsio cymdogaeth, gan ddefnyddio meddalwedd Malinko, sy'n cael ei dreialu yng nghlwstwr gogledd Cynon. Sylwaf yn eich datganiad ysgrifenedig ar eich sylwadau ynghylch sicrhau bod rhanddeiliaid yn ymrwymo'n llwyr i'r agenda hon, ac mae'n ymddangos i mi fod gennym lawer iawn o arferion da mewn rhai ardaloedd yng Nghymru. Felly, hoffwn ddysgu mwy ynglŷn â sut y bwriadwch sicrhau y gellir lledaenu'r arfer da hwn, ac y gall pob rhanddeiliad ymrwymo i'r agenda wirioneddol bwysig hon.

Mae rhywfaint ohono'n ymwneud ag ystyried sut y diwygiwn ein pensaernïaeth ddigidol yng Nghymru, y rôl sy'n olynu Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, fel rhan o awdurdod iechyd arbennig, ond yn fwy cyffredinol, unwaith eto, ynghylch y diwylliant, a'r rôl y credwn y gallai'r prif swyddog digidol ar gyfer iechyd a gofal ei chwarae i gynghori'r Llywodraeth ar strategaeth yn y dyfodol, ond hefyd i arwain y proffesiwn iechyd a gofal digidol yng Nghymru ac i hyrwyddo dyfodol iechyd a gofal digidol yma yng Nghymru. Mae hefyd yn ymwneud ag un o argymhellion ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i nyrsio cymunedol a nyrsys ardal—yr un a dderbyniwyd gennym ynglŷn â sicrhau buddsoddiad priodol i alluogi pobl i gael dyfeisiau llaw gyda thechnoleg briodol i'w galluogi i wneud eu gwaith yn fwy effeithiol. Felly, nid yw hyn o reidrwydd yn ymwneud ag arloesi sy'n hollol newydd a gwahanol; mewn gwirionedd, mae'n ymwneud â sut rydym yn eu helpu i fod hyd yn oed yn fwy effeithiol yn eu gwaith gyda'r ffordd yr awn ati i fyw ein bywydau bob dydd a defnyddio dyfeisiau llaw. Gallwch ddisgwyl gweld mwy o hynny a'i weld yn cael ei fabwysiadu'n fwy cyson drwy ein system. Yr her fydd peidio â thagu arloesedd, ond i allu gwneud dewisiadau mewn—[Anghlywadwy]—i wneud yn siŵr bod gennym hyblygrwydd go iawn rhwng pob un o'r gwahanol rannau o'n system iechyd a gofal.

Weinidog, rwy'n cydnabod y gwaith a wnaethoch ar ddigidoleiddio rhai cofnodion cleifion drwy system wybodaeth gofal cymunedol Cymru. Fodd bynnag, mae problemau difrifol yn parhau. Yn ystod cyfarfod diweddar rhwng Aelodau etholedig yng ngogledd Cymru a'r bwrdd iechyd, cafwyd cefnogaeth unfrydol i'r angen i weithredu er mwyn mynd i'r afael â'r ffaith nad yw ysbytai'n gallu cyfathrebu â'i gilydd. Er enghraifft, pe bawn i'n mynd i Ysbyty Gwynedd oherwydd problem, ac efallai i mi fod yn Ysbyty Glan Clwyd ychydig wythnosau yn ôl, ni fyddai'r nodiadau ym Mangor yn nodi'r ffaith honno. Mewn geiriau eraill, nid yw'r ysbytai'n siarad â'i gilydd. Mae prif weithredwr y bwrdd iechyd a chadeirydd y bwrdd wedi dweud ei bod yn broblem wirioneddol pan fo angen darparu gofal iechyd diogel ac ymarferol.

Ond ar wahân i'r ysbytai sy'n cael trafferth, gwn fod cartrefi gofal yn ei chael hi'n anodd cael gafael ar wybodaeth am gleifion hefyd, a chartrefi nyrsio. Mae hynny'n swnio'n rhyfedd iawn yn yr oes sydd ohoni, a gallai hyn gael effaith negyddol ar dros 15,000 o bobl 65 oed neu hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal. Felly, pa ystyriaeth a roesoch i sicrhau bod ein cartrefi gofal a'n cartrefi nyrsio yn gallu manteisio ar y systemau iechyd ar eu cleifion, a hefyd eu bod yn cael mynediad perthnasol at gofnodion digidol ar gyfer cleifion ac yn bwysicaf oll, fod gennym wybodaeth wedi'i digidoleiddio'n glir y gellir ei throsglwyddo i'n holl ysbytai.

Fe ddywedodd yr Aelod ddau beth cwbl wahanol yn y fan honno. Mae a wnelo un â sicrhau bod rhannau o'n system gofal iechyd yn gallu siarad â'i gilydd—yn benodol, yn y rhan o'r system sydd wedi'i lleoli yn yr ysbyty. Yn sicr, mae hwnnw'n waith sy'n mynd rhagddo gyda buddsoddiad a disgwyliadau pellach, a gwelais enghreifftiau o arloesi yn yr union faes hwn ar fy ymweliad â gogledd Cymru yn ddiweddar.

Rwy'n credu bod yr ail bwynt a wnaethoch yn fwy dryslyd ac mewn gwirionedd, er mwyn sicrhau ein bod yn cael ateb priodol, efallai y byddai'n ddefnyddiol bod yn glir iawn ynglŷn â'r hyn y mae'r Aelod yn gofyn amdano. Felly, rwyf am ofyn i chi fynd ar drywydd hyn yn ysgrifenedig, gan fod mynediad at gartrefi gofal, a phwy mewn cartref gofal sy'n cael mynediad at hynny—wel, mae angen i chi ddeall pwy a olygir mewn gwirionedd. A ydych yn sôn am weithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n darparu gofal uniongyrchol neu ofal iechyd, neu a ydych chi'n sôn am y lefel reoli? Mae'n bwysig iawn deall pwy sy'n berchen ar y data, os mai'r person, a sut y rhennir y data hwnnw, a'n systemau i ganiatáu i hynny gael ei wneud, a llywodraethu gwybodaeth yn briodol o gwmpas hynny. Efallai y byddai'n ddefnyddiol pe bai'r Aelod yn ysgrifennu ataf ynghylch y mater penodol y mae'n ei weld, ac yna fe roddaf ateb priodol i ymdrin â hynny.

15:05
Hygyrchedd Cyfleusterau

5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hygyrchedd cyfleusterau ar gyfer y rhai ag anableddau corfforol ym Mhowys? OAQ54571

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau mynediad cyfartal at gyfleusterau i bobl anabl yng Nghymru, yn unol â'n fframwaith gweithredu ar fyw'n annibynnol a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Rwy'n deall bod Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn gwneud gwaith cadarnhaol ar draws ei safleoedd i wella mynediad at gyfleusterau i bobl anabl.

Diolch am eich ateb, Ddirprwy Weinidog. Mae'n siwr y cytunwch â mi nad yw'r toiled hygyrch safonol yn diwallu anghenion pawb sydd ag anableddau corfforol, megis y rhai sy'n dioddef o anafiadau i'r cefn neu sglerosis ymledol er enghraifft, ac yn aml, mae angen cyfarpar a lle ychwanegol ar bobl i ganiatáu iddynt ddefnyddio toiled yn ddiogel ac yn gysurus. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mewn ymddiriedolaethau GIG yn Lloegr ceir cyllid penodol y gellir gwneud cais amdano i osod cyfleusterau toiled Changing Places. Tybed a allech amlinellu, Ddirprwy Weinidog, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella hygyrchedd cyfleusterau toiled Changing Places i bobl sydd ag anawsterau corfforol neu anawsterau dysgu lluosog, cyfleusterau sy'n sicr yn brin iawn ledled Cymru. Mae hynny'n bendant yn wir yn fy etholaeth i yn Sir Drefaldwyn.

Diolch i Russell George am y cwestiwn hwnnw. Mae'n amlwg yn bwysig iawn i ni sicrhau bod toiledau Changing Places ar gael yn eang i bobl sydd eu hangen ac rwy'n falch o ddweud bod gennym un yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru a bod gennym un yn ein hadeilad yn Aberystwyth. Credaf fod 45 ar draws Cymru, ac rwy'n gwybod bod toiled Changing Places yn eich bwrdd iechyd lleol, yn Ysbyty Aberhonddu, sef y cyfleuster cyntaf sy'n gwbl hygyrch ar draws safleoedd ysbyty Powys. Felly, mae hynny'n gynnydd, a hefyd fel rhan o waith adnewyddu mawr yn Llandrindod, rwy'n deall.

Ond mae'n amlwg yn bwysig iawn ein bod yn galluogi ac yn helpu hyn i ddigwydd. Mae rheoliadau adeiladu eisoes yn annog darparu toiledau neillryw mwy o faint mewn rhai adeiladau, sy'n cynnwys bwrdd newid i oedolion, ac mae fy nghyd-Aelod Julie James, y Gweinidog Tai ac Adfywio, wedi cyfarwyddo swyddogion i ystyried opsiynau i gynyddu'r ddarpariaeth o doiledau Changing Places lle mae'r rheoliadau adeiladu yn gymwys. Felly, mae'n bosibl defnyddio'r rheoliadau adeiladu i sicrhau bod toiledau Changing Places ar gael.

Clefyd Parkinson

6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i bobl yng Nghymru sydd wedi cael diagnosis o glefyd Parkinson? OAQ54592

Iawn. Rwy'n cydnabod yr heriau y mae pobl sy'n byw gyda chlefyd Parkinson yn eu hwynebu a'r effaith y mae'n ei chael ar ofalwyr, ffrindiau a theuluoedd. Dyna pam rydym yn gweithio gyda thimau Parkinson arbenigol ein byrddau iechyd i helpu pobl sy'n byw gyda chlefyd Parkinson a'u gofalwyr i gael y cymorth sydd ei angen arnynt ac y maent yn ei haeddu.

Cefais wybod yn ddiweddar am sefydliad o'r enw Cure Parkinson's Trust, sy'n ariannu ymchwil sylweddol yn ei genhadaeth i wella therapïau a chanfod gwellhad yn y pen draw i glefyd Parkinson. Bu farw fy nhad-cu o glefyd Parkinson flynyddoedd lawer yn ôl. Mae un o fy etholwyr, David Murray, sy'n gyn-aelod o Gyngor Dinas Casnewydd, yn un o ymddiriedolwyr y sefydliad. Mae'n byw gyda chlefyd Parkinson ei hun. Euthum i'w weld y diwrnod o'r blaen. Mae'n ymgyrchu'n ddiflino dros bobl sydd â'r cyflwr hwn. Mae'r ymddiriedolaeth yn cynnal cyfarfod diweddaru ymchwil pwysig yn Llundain ddydd Llun nesaf, 28 Hydref, ac mae'r sector gwyddorau bywyd yn rhan gynyddol bwysig o economi Cymru ac mae angen datblygu a chydgysylltu cydymdrechion ymchwil niwrolegol yn well â'r rhai sy'n digwydd dros y ffin er budd pobl Cymru, a dyna ran o bwrpas y cyfarfod sy'n digwydd. Rwy'n sylweddoli nad yw'n rhoi llawer o rybudd i'r Gweinidog, ond a fyddai'n fodlon mynychu'r cyfarfod ei hun neu anfon swyddogion i'r cyfarfod er mwyn cynnal trafodaethau ynglŷn â sut y gellir cydgysylltu agweddau ar ymchwil i glefyd Parkinson yn well?

Gallaf gadarnhau bod gennyf raglen lawn o fusnes gweinidogol sy'n golygu na fyddaf yn gallu mynychu fy hun. Fe holaf fy swyddogion am lefel ein hymgysylltiad â Cure Parkinson's Trust. Nid wyf yn credu bod unrhyw gysylltiad swyddogol â swyddogion ar hyn o bryd, ond rwyf am ddweud nad mater syml o allu neu fethu mynd i'r digwyddiad ar fyr-rybudd yr wythnos nesaf yw hyn, ond yr angen i ddeall y gwaith parhaus sydd eisoes yn mynd rhagddo yn y maes hwn a rôl bosibl, neu fel arall, i Cure Parkinson's Trust.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod, gyda'r ystod o gyflyrau sydd gennym heddiw, ei bod yn bosibl nid yn unig y bydd triniaethau ar gael i arafu datblygiad y clefyd ond hefyd y potensial ar gyfer triniaethau iachaol yn y dyfodol. Felly, byddaf yn parhau i fod â diddordeb a byddaf yn gofyn i fy swyddogion roi'r wybodaeth ddiweddaraf i mi. Ac rwy'n fwy na pharod i gyfarfod â'r Aelod wedyn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddo ynglŷn â ble rydym arni o ran ein cysylltiad â Cure Parkinson's Trust.FootnoteLink

15:10
Gwasanaethau Iechyd Meddwl

7. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ54585

Rydym yn darparu cymorth mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys cynyddu ein buddsoddiad mewn trefniadau clustnodi ar gyfer iechyd meddwl ledled Cymru i £679 miliwn yn 2019-20. Rydym hefyd yn buddsoddi mewn atal ac ymyrraeth gynnar yng nghanolbarth a gorllewin Cymru, er enghraifft drwy ein cynlluniau mewngymorth ysgolion a chynlluniau presgripsiynu cymdeithasol.

Diolch am eich ateb, ond y mis hwn mae'r gwasanaeth iechyd meddwl arloesol y tu allan i oriau arferol, The Twilight Sanctuary, yn cael ei lansio yn Llanelli, ac fe gomisiynwyd y gwasanaeth sy'n cael ei redeg gan Mind a Hafal gan fwrdd iechyd Hywel Dda, Heddlu Dyfed-Powys a Chyngor Sir Gaerfyrddin. Ac mae'n un o brosiectau cyntaf y rhaglen trawsnewid iechyd meddwl a'r cyntaf o'i fath yng Nghymru. Mae'n enghraifft wych o'r hyn y gellir ei gyflawni drwy weithio ar y cyd. Bydd yn galluogi pobl ag iechyd meddwl sy'n dirywio i gael help pan fydd gwasanaethau fel arfer ar gau, sef rhwng dydd Iau a dydd Sul, rhwng 6 p.m. a 2 a.m. yn y bore. Weinidog, rwy'n awyddus i weld a ydych yn gwybod, ar ôl i'r cynllun peilot hwn—os mai dyna ydyw—gael ei asesu, a fwriedir lansio rhaglenni tebyg ar draws canolbarth a gorllewin Cymru.

Bydd gennyf ddiddordeb yn y gwerthusiad o'r peilot, nid i weld a oes modd ei ddefnyddio yng nghanolbarth a gorllewin Cymru, ond i weld a yw'n cynnig gwersi cenedlaethol hefyd. Yn y gronfa drawsnewid a lansiwyd gennym ochr yn ochr â 'Cymru Iachach', roeddem yn glir iawn ynglŷn â'n hawydd i ddeall prosiectau a oedd nid yn unig yn gymwys i gymuned fach ond a oedd â photensial i gael eu gwneud ar raddfa fwy ar gyfer rhanbarth ac ar draws y wlad. Mae gennyf ddiddordeb bob amser mewn cefnogi a deall arloesedd, gan gynnwys deall pan na fydd arloesedd o'r fath yn arwain at ledaeniad ehangach o bosibl, ond i ddeall pa wersi y gallwn eu dysgu ohono a beth a wnawn am y system gyfan. Mae'n werth nodi bod y rhaglen trawsnewid gwasanaethau iechyd meddwl a ddechreuwyd ac a lansiwyd gan Hywel Dda ym mis Medi 2017 yn cyd-fynd â'r weledigaeth a'r gwerthoedd sy'n sail i 'Cymru Iachach'. Felly, byddaf yn parhau i fod â diddordeb ac ar ryw adeg, efallai y bydd yn bosibl ymweld â'r prosiect gyda'r Aelod etholaeth.

Ymgynghorwyr Allanol

8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y defnydd o ymgynghorwyr allanol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? OAQ54597

Mae'r bwrdd iechyd yn defnyddio ymgynghorwyr allanol i ddarparu arbenigedd ychwanegol mewn meysydd penodol. Yn ddiweddar, mae hyn wedi cynnwys arbenigedd datrys problemau i fynd i'r afael â'i sefyllfa ariannol ar frys a chyflawni'r argymhellion ac adborth gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a'r uned cyflenwi cyllid.

Wel, un o’r bobl hynny yw Philip Burns, sydd wedi cael ei gyflogi gan y bwrdd, mae’n debyg, i fod yn rhan o’r broses o geisio adnabod cyfleoedd i arbed pres. Nawr, yn ôl y sôn, mae e’n cael ei dalu £2,000 y dydd, ynghyd â chostau i deithio nôl ac ymlaen o Marbella. Dwi wedi gofyn i’r bwrdd iechyd i gadarnhau ydy hyn yn wir ers dros fis. Dwi ddim wedi cael ymateb, ac felly dwi wedi cael fy ngorfodi i gyflwyno cais rhyddid gwybodaeth.

Nawr, dyma’r gŵr, wrth gwrs, mae’n debyg, sydd y tu ôl i’r bwriad i newid rotas nyrsys—rhywbeth sydd wedi achosi cryn ofid ymhlith nyrsys yn y gogledd ac, yn wir, wedi tanseilio llawer o’r ewyllys da sydd rhwng nyrsys a’u cyflogwyr. Nawr, mae’n debyg bod ei gyflog e’n fwy sylweddol na’r arbedion fydd hynny’n yn eu cynhyrchu. Ond ta waith am hynny, fy nghwestiwn i yw: oni ddylai fod yna fwy o dryloywder o gwmpas y modd y mae’r bobl allanol yma yn cael eu cyflogi? Ac onid ydych chi’n cytuno â fi ei bod hi’n gwbl annerbyniol fy mod i wedi cysylltu ers dros fis â’r bwrdd i ofyn am y manylion hynny a fy mod i dal heb gael ateb?

Rwy'n credu bod yna un neu ddau o wahanol bwyntiau yn codi. Nid wyf yn ymwybodol o gwbl a yw'r cyfarwyddwr adfer dros dro yn gyfrifol am yr ymgynghoriad parhaus ag undebau llafur ynghylch rhestrau dyletswyddau nyrsys. Nid wyf yn credu bod hwnnw'n bwynt teg i'w wneud yn y ddadl hon.

Mae cwestiwn cwbl ddilys, serch hynny, yn codi ynghylch tryloywder gwybodaeth ynglŷn â thelerau cyflogi ymgynghorwyr a'u costau. Er bod y costau o ran y cynnydd blynyddol yn uwch yn y system yng Nghymru, dylwn nodi eu bod at ei gilydd yn debyg i'r disgwyl yn y system yn Lloegr. Mae angen i ni sicrhau bod problemau'n cael eu datrys ac adferiad sylweddol yn digwydd yn swyddogaeth gyllidol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac rydym ar bwynt lle nad yw'r ymyriadau blaenorol wedi gweithio i sicrhau'r newid gwirioneddol sydd ei angen. Disgwyliaf i'r bwrdd iechyd gyflawni hynny—nid yn unig i gynnig rhestr o gyfleoedd nad ydynt wedi'u cymryd, ond i wneud cynnydd mewn gwirionedd ar gyfleoedd sy'n bodoli i wella eu swyddogaeth gyllidol. Nid yw hynny'n golygu bod pob un o'r rheini'n ddieithriad yn peryglu'r gallu i ddarparu gofal iechyd o'r ansawdd rydych chi a phawb arall yn y Siambr hon yn ei ddisgwyl.

Er hynny, byddaf yn siarad â'r bwrdd iechyd ynglŷn â darparu gwybodaeth, oherwydd ni ddylech orfod gofyn dros gyfnod mor hir iddynt ddarparu gwybodaeth a ddylai fod ar gael i chi a chynrychiolwyr cyhoeddus eraill.

15:15
3. Cwestiynau Amserol

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau amserol ac mae'r cwestiwn cyntaf i'w ateb gan y Gweinidog Brexit ac i'w ofyn gan Andrew R.T. Davies.

Brexit

1. Yng ngoleuni Tŷ'r Cyffredin neithiwr yn cymeradwyo bargen Brexit am y tro cyntaf ers y refferendwm ar ffurf Bil Cytundeb Ymadael y Prif Weinidog, a wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad i'r Cynulliad? 356

Ni wnaeth y Senedd gymeradwyo'r cytundeb Brexit niweidiol. Dim ond pleidleisio o blaid y ddeddfwriaeth i symud ymlaen i'r cam nesaf a wnaeth, lle rwy'n llawn ddisgwyl i welliannau sylweddol gael eu gwneud. Rwy'n falch bod y Senedd wedi cytuno â'r Cynulliad Cenedlaethol hwn ein bod yn gwrthod yr ymgais i wthio'r ddeddfwriaeth hon drwodd i gyd-fynd â therfyn amser artiffisial a bennwyd gan y Prif Weinidog.

Roedd hi'n braf gweld y Prif Weinidog yn cydnabod neithiwr, yn ei sylwadau i gloi, fod y Senedd, am y tro cyntaf ers y refferendwm, wedi cytuno ar rywbeth drwy fod eisiau i'r cytundeb ymadael symud ymlaen i gyfnodau pellach. Nid yw'n gwbl glir pam yn union y mae Prif Weinidog Cymru mor benderfynol o rwystro unrhyw gynnydd ar y mater hwn. Heddiw, er enghraifft, mae wedi sefyll ysgwydd wrth ysgwydd â Nicola Sturgeon, Prif Weinidog yr Alban, ac wedi dweud bod y cytundeb ymadael 'ym mhurdan', ond 'nad yw'n farw eto'—dyna'r geiriau a ddefnyddiodd yn y gynhadledd i'r wasg. Oni chredwch mai disgrifiad mwy priodol o'r Bil yw:

Un ffordd neu'r llall byddwn yn gadael yr UE gyda'r cytundeb hwn y mae'r Tŷ newydd roi ei gydsyniad iddo,

sef yr hyn a ddywedodd Prif Weinidog y DU? Ac yn hytrach na rhwystro ewyllys pobl Cymru, fel y'i dangoswyd yn refferendwm 2016, dylai Prif Weinidog Cymru arwain y ffordd a gweithio gyda'r Prif Weinidog i gyflawni canlyniad y refferendwm hwnnw a chyflawni'r cytundeb ymadael hwn a gytunwyd gyda'r Undeb Ewropeaidd ac a gymeradwyir gan Weriniaeth Iwerddon hefyd?

A gaf fi yn gyntaf fentro croesawu'r ffaith bod yr Aelod yn dewis dod â mater sy'n ymwneud â Brexit i'r Siambr? Mae wedi treulio'r wythnosau diwethaf yn dilorni'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi chwilio am gyfleoedd i drafod Brexit yma, felly rwy'n croesawu ei dröedigaeth o blaid craffu a thryloywder yng nghyd-destun Brexit, ac efallai y gallai geisio—[Torri ar draws.]—efallai y gallai geisio perswadio ei gyd-Aelodau yn y Senedd ynglŷn â rhinweddau craffu a thryloywder yn yr un modd.

Nid wyf yn gwybod beth y mae'r Aelod yn credu sydd o fudd i Gymru mewn unrhyw fodd yn y cytundeb hwn. Hoffem allu trafod hyn ar sail tystiolaeth economaidd, ond wrth gwrs, nid yw Llywodraeth y DU wedi darparu hynny. Ond fe wyddom nad yw'r cytundeb yn cynnwys unrhyw warant ystyrlon o ymlyniad wrth y math o hawliau y mae gan bobl yng Nghymru hawl i'w disgwyl. Mae'n cynnwys trapddor 'dim cytundeb' ar ddiwedd 2020 a rhagolwg o 'dim cytundeb' wedi'i ohirio. Ac nid yw'n darparu'r math o lais terfynol ar y cytundeb hwn, na fyddai'r Prif Weinidog, pe bai ganddo unrhyw hyder yng nghryfder ei gytundeb, yn petruso dim cyn ei gyflwyno i'r bobl.

Weinidog, nid wyf yn gwybod a gawsoch gyfle i wylio'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog cyn y Cyfarfod Llawn heddiw. Os gwnaethoch, byddwch wedi gweld arweinydd yr SNP yn San Steffan yn gofyn i'r Prif Weinidog a oedd yn cyfaddef y byddai angen cydsyniad y Seneddau datganoledig er mwyn i'r Bil cytundeb ymadael fynd yn ei flaen. Nawr, byddem ni yn y Siambr hon fel arfer yn cymryd hynny yn ganiataol, gan eu bod wedi cysylltu â ni yn gofyn am ein cydsyniad penodol i'r Bil cytundeb ymadael fynd yn ei blaen, sef yr hyn y byddem yn ei ddisgwyl o dan gonfensiwn Sewel. Ond dywedodd Boris Johnson wrth Dŷ'r Cyffredin nad oes gan Senedd yr Alban, ac yn sgil hynny, y Senedd hon, unrhyw rôl yn cymeradwyo'r cytundeb.

Nawr, gadewch i ni fod yn glir beth y mae hyn yn ei olygu. Mae wedi gofyn i'r lle hwn roi ei gydsyniad penodol, ond mae eisoes wedi dweud yn awr na fydd yn gwrando ar yr hyn a ddywedwn cyn i ni hyd yn oed bleidleisio ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol sydd newydd ei gyhoeddi. Felly, mae hynny'n achos difrifol o dorri confensiwn Sewel. Mewn gwirionedd, buaswn yn mynd mor bell â dweud ei fod yn fandaliaeth gyfansoddiadol gan Brif Weinidog sy'n barod i ddinistrio egwyddorion datganoli er mwyn cael yr hyn y mae ei eisiau—y Brexit hwn i biliwnyddiwn. Felly, rwyf am ofyn i chi, Weinidog—yn ddiweddar, fe gyhoeddoch chi set o ddiwygiadau sylfaenol y dylid eu rhoi ar waith er mwyn achub yr undeb. Roedd y rhain yn cynnwys rhoi Sewel ar sail statudol, wedi'i chodeiddio hyd yn oed, fel na allai San Steffan ddeddfu mewn meysydd datganoledig heb ein caniatâd ni. A ydych yn cytuno â mi fod y modd mae Boris Johnson wedi diystyru Sewel heddiw yn golygu bod eich cynigion chi, waeth pa mor dda yw eu bwriad, nid yn unig wedi'u hanwybyddu, ond wedi'u tanseilio'n faleisus?

Nawr, mae ateb Plaid Cymru i hyn yn glir: rydym eisiau refferendwm annibyniaeth fel bod modd gwneud pob penderfyniad sy'n effeithio ar Gymru yng Nghymru, gan warantu na all unrhyw Lywodraeth San Steffan niweidio ein gwlad byth eto. Gwn nad ydych yn cytuno ag annibyniaeth, Weinidog, ond a allech ddweud wrthyf sut y byddwch yn ymateb i'r ymosodiad digywilydd hwn ar bwerau'r Senedd hon? Nid wyf yn sôn am eiriau, rwy'n sôn am weithredoedd: beth fyddwch chi'n ei wneud i ddiogelu ein huniondeb sefydliadol yn wyneb yr ymosodiadau parhaus hyn ar ddatganoli gan Lywodraeth anfoesol Boris Johnson?

15:20

Wel, mae Llywodraeth y DU, wrth gwrs, wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am gydsyniad y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â Bil y cytundeb ymadael, ac fel y bydd hi'n gwybod o'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol a gyflwynwyd gan y Llywodraeth, barn y Llywodraeth yw bod amryw o gydsyniadau eraill y tu hwnt i'r rhai y mae Llywodraeth y DU wedi'u ceisio gan y Cynulliad y mae gennym hawl i ddisgwyl iddynt gael eu hystyried. Yn hollol onest, nid wyf yn gwybod pa ddealltwriaeth sydd gan Brif Weinidog y DU o ddim o hyn. Mae'n ymddangos i mi nad yw'n malio rhyw lawer am nemor ddim o'r pethau y byddem wedi eu hystyried yn annadleuol yn gyfansoddiadol ar unrhyw adeg yn y ganrif ddiwethaf. Roedd ei ymgais i eithrio'r Senedd rhag ystyried y materion hyn ynddo'i hun yn anhygoel, ac nid yw'n syndod i mi nad yw'n deall y camau a gymerwyd gan rannau eraill o'i Lywodraeth i geisio cydsyniad y Cynulliad hwn.

Mae hi'n iawn i ddweud mai safbwynt Llywodraeth Cymru yw bod angen diwygio Sewel, ac rwy'n derbyn ei chyfeiriad at bapur Prif Weinidog Cymru a gyhoeddwyd bythefnos yn ôl. Rwy'n credu bod yr achos a wnaed yn y ddogfen honno wedi'i gryfhau gan y sylwadau y mae hi newydd eu hadrodd i'r Cynulliad hwn.

Er fy mod yn rhannu amheuon Llywodraeth Cymru ynghylch tynnu llinell yng nghanol môr Iwerddon, a gwneud Gogledd Iwerddon yn rhan o'r UE i bob pwrpas, yn hytrach na'r DU, at ddibenion masnach, onid y broblem go iawn yma yw y byddai'r Blaid Lafur, a phob un o'r pleidiau yn Nhŷ'r Cyffredin sy'n cefnogi aros yn wir, yn gwneud popeth yn eu gallu yn y bôn—byddant yn defnyddio pob esgus, waeth pa mor denau, gwan a thila—i geisio atal Brexit rhag digwydd mewn gwirionedd? Pleidleisiodd pobl y wlad hon, fel y gŵyr, yn 2016—17.5 miliwn ohonynt—yn y bleidlais ddemocrataidd fwyaf erioed ym Mhrydain, o blaid gadael yr UE. Mae gennym Seneddau yn San Steffan, yng Nghaeredin ac yma yng Nghymru sy'n ffafrio aros, a hwy yw'r rhai sy'n llesteirio pethau. Felly, rhaid gweld yr holl esgusodion a rydd dros wrthwynebu'r cytundeb hwn yng ngoleuni hynny. Beth bynnag a gyflwynir gan y Llywodraeth, byddant yn ei erbyn, oherwydd maent am i Brydain aros yn yr UE, yn wahanol i bobl y wlad, a bleidleisiodd dros adael.

Rwy'n credu bod rhywbeth digon rhyfeddol ynglŷn â chynrychiolwyr etholedig a seneddwyr sy'n barod i gydgynllwynio a cheisio gwadu cyfle i gynrychiolwyr etholedig graffu ar ddeddfwriaeth bwysig. Yn fy marn i, mae hynny'n dangos methiant i gyrraedd y safonau y mae'r cyhoedd yn eu disgwyl gennym. Fe atgoffaf yr Aelod, os oes angen ei atgoffa, na ofynnwyd i unrhyw aelod o'r cyhoedd bleidleisio ar y cytundeb y mae wedi ei gytuno gyda'r Undeb Ewropeaidd—ni chafodd yr un aelod o'r cyhoedd weld y cytundeb hwnnw wrth iddynt fwrw eu pleidlais yn 2016, ac os yw'r Prif Weinidog mor hyderus ag y mae'n honni ei fod ynghylch rhinweddau a gwerth y cytundeb i'r DU, mae'n hen bryd iddo ei roi gerbron y cyhoedd.

Diolch i'r Gweinidog Brexit.

Mae'r cwestiwn nesaf i'w ofyn i'r Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth, ac mae'r cwestiwn i'w ofyn gan Rhun ap Iorwerth.

Digwyddiad ynghylch Porthladd Caergybi

2. Pa drafodaethau fydd Llywodraeth Cymru yn eu cynnal gyda’r awdurdodau perthnasol yng ngoleuni’r newyddion trasig bod cyrff 39 o bobl wedi’u darganfod mewn cynhwysydd lori yn Essex ar ôl iddynt ddod i mewn i’r DU trwy Gaergybi? 357

Lywydd, hoffwn ddechrau drwy gofnodi fy meddyliau i a holl Lywodraeth Cymru—mae ein meddyliau gyda'r teuluoedd sy'n dioddef yn sgil y newyddion gwirioneddol erchyll heddiw. Fe fyddwch yn deall nad yw'r holl fanylion am y digwyddiad ofnadwy hwn gennyf, ac rwy'n credu ei bod hi'n iawn ac yn briodol fod ymchwiliad llawn yn cael ei gynnal gan yr heddlu i'r digwyddiad. Digon yw dweud wrth gwrs, fel Llywodraeth Cymru, y byddwn yn chwarae ein rhan lawn a chydweithredol yn yr ymchwiliad mewn perthynas â'n meysydd cyfrifoldeb, o ran unrhyw daith y gallai'r cerbyd dan sylw fod wedi'i wneud drwy Gymru.

Diolch am yr ymateb yna, Weinidog. Mae hwn yn achos sy'n torri calon, bod 39 o bobl wedi teimlo'r angen i roi eu bywydau mewn perig fel hyn, a bod y 39 wedi colli eu bywydau mewn ffordd mor erchyll. Mae fy nghydymdeimlad innau efo nhw a'u teuluoedd. Waeth pa mor bell o gartref mae rhywun yn colli bywyd, yr un ydy'r galar. Mae yna lawer o gwestiynau yn codi o'r hyn—cwestiynau dyngarol, yn sicr, am pam mae'r unigolion wedi cael eu gyrru i gymryd y cam yma, ond mae yna gwestiynau ymarferol yn codi hefyd, wrth gwrs. 

Yr hyn y mae angen i ni ei wneud ar unwaith, rwy'n meddwl, yw dechrau gofyn rhai o'r cwestiynau ymarferol ynghylch sut a pham. Mae angen gofyn y cwestiynau hyn ochr yn ochr ag ymchwiliadau'r heddlu a fydd yn amlwg yn dechrau ar unwaith. Sut y gallodd y lori hon fynd drwy Gaergybi heb ei darganfod fel hyn? Pam y penderfynai'r rheini a oedd ynddi, neu eraill a oedd yn gysylltiedig â'r drasiedi hon, mai Dulyn-Caergybi fyddai'r man croesi a ddewiswyd? Rwyf wedi clywed pobl yn cwyno rywsut mai aelodaeth o'r UE oedd ar fai am fod Caergybi yn ffin braidd yn rhy agored. Gadewch i mi ddweud nad oes a wnelo penderfyniadau i dorri swyddi dros y blynyddoedd yng Nghaergybi ddim byd â'r UE ac maent yn mynd yn ôl ymhellach o lawer nag unrhyw drafodaethau ar Brexit; maent wedi ymwneud â thoriadau a chyni a dim byd arall. Felly, pa sicrwydd rydych wedi'i geisio, Weinidog, ynghylch lefel staffio rheoli ffiniau yng Nghaergybi, gan gynnwys diffyg swyddogion gorfodi parhaol ar gyfer mewnfudo? Rwyf fi ac eraill, fel Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru, Arfon Jones, wedi mynegi pryderon ers tro byd ynglŷn ag ofnau ynghylch diffyg adnoddau ffiniau yng Nghaergybi. Cafodd y comisiynydd ymateb gan y Swyddfa Gartref pan aeth ar drywydd hyn, yn dweud bod y Llywodraeth yn ymwybodol o natur fregus yr ardal deithio gyffredin—yn ymwybodol, efallai, ond beth a wnaethant yn ei gylch o ran cynyddu adnoddau?

Roedd Alex Carlile QC, pan oedd yn adolygu deddfwriaeth wrth-derfysgaeth, yn cyfeirio at broblemau gyda phlismona ffiniau a mesurau gwrth-derfysgaeth yng Nghaergybi 20 mlynedd yn ôl. Mewn cymaint o ffyrdd, mae arnaf ofn fod Caergybi wedi cael ei ddiystyru fel porthladd. Er bod Dover yn gadarn ar yr agenda fel porthladd prysuraf y DU ar gyfer llongau fferi gyrru mewn ac allan, ymddengys bod Caergybi yn cael ei anwybyddu fel yr ail brysuraf, gyda thua 400,000 o lorïau yn pasio drwyddo bob blwyddyn. Nid yw hyn yn dderbyniol, yng nghyd-destun Brexit ac anwybyddu Caergybi yn nogfen Yellowhammer, er enghraifft, na nawr yng nghyd-destun mewnfudo a'r fath golli bywyd trasig. Fel y gwyddom, credir bod y lori wedi dod o Fwlgaria ac wedi cyrraedd Cymru ddydd Sadwrn yng Nghaergybi. Dyfynnir Seamus Leheny, rheolwr polisi Gogledd Iwerddon ar gyfer y Sefydliad Trafnidiaeth Cludo Nwyddau, gan Gymdeithas y Wasg heddiw yn dweud:

Pe bai'r lori wedi dod o Fwlgaria—

fel y credwn ei bod—

mae dod i mewn i Brydain drwy Gaergybi yn llwybr anarferol.

Aeth ymlaen i ddweud:

Mae pobl wedi bod yn dweud bod diogelwch ac archwiliadau wedi cynyddu mewn mannau fel Dover a Calais, felly efallai y gellid ei gweld fel ffordd haws i ddod i mewn drwy fynd o Cherbourg neu Roscoff draw i Rosslare, yna i fyny ar hyd y ffordd i Ddulyn.

Mae'n ffordd bell o gwmpas, meddai, ac fe fydd yn ychwanegu diwrnod ychwanegol at y daith. Rwy'n credu mai'r cwestiwn sydd angen i ni ei ofyn yw: a yw'r diffyg adnoddau gan y Swyddfa Gartref i Gaergybi wedi gwneud ein porthladdoedd yn fregus ac wedi ychwanegu at fregusrwydd sylweddol y 39 o bobl a ganfuwyd yn farw yn awr? Siaradais â chynghorydd o Gaergybi yn gynharach heddiw, y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes, ynglŷn â sut y bu yntau hefyd yn mynegi'r pryderon hyn ers cryn amser. A wnewch chi ymuno ag ef a minnau i wahodd Gweinidogion y Swyddfa Gartref i Gaergybi i weld drostynt eu hunain pam y mae angen buddsoddi'n iawn yn y porthladd hwn ac i bwysleisio wrth y Swyddfa Gartref fod Caergybi'n haeddu cael blaenoriaeth fel y porthladd llongau fferi gyrru mewn ac allan prysuraf yng Nghymru, a'r prysuraf ond un yn y DU?

15:25

A gaf fi ddiolch i Rhun ap Iorwerth am ei gwestiynau? Wrth gwrs, byddwn yn gwahodd Gweinidogion y Swyddfa Gartref i borthladd Caergybi. A yw'r porthladd yn fregus? Wel, gadewch i ni ganiatáu i'r ymchwilwyr ateb hynny yn dilyn ymchwiliad trylwyr i'r hyn sydd wedi digwydd. Ond o'm profiad i, gallaf ddweud nad oes diffyg proffesiynoldeb yng Nghaergybi o ran diogelwch y ffin. A oes cwestiwn ynglŷn â chapasiti, wel, gadewch i'r ymchwilwyr edrych yn fanwl ar hynny.

Rwy'n meddwl bod Rhun ap Iorwerth yn codi cwestiwn difrifol iawn ynglŷn â pham y mae'n ymddangos bod 39 o bobl wedi teimlo'r angen i beryglu eu bywydau. Rwy'n gobeithio ein bod yn mynd i roi amser i gydnabod y bywydau a gollwyd mor ofnadwy a'r drallod y mae hyn yn ei achosi i lawer o deuluoedd. Ni wyddom ymhle eto. Ni wyddom pwy oeddent, ni wyddom a oeddent yn dod o Fwlgaria yn wir. Ond hoffwn ddweud hyn: weithiau mae'n hawdd i ni siarad am ffiniau mewn ffyrdd haniaethol ac artiffisial, ond y realiti yw bod ffiniau a'r trefniadau wrthynt hefyd yn ymwneud â phobl; maent yn ymwneud â bywydau dynol. Ac ni chredaf y dylem fyth anghofio pa mor ddifrifol yw hyn a'r costau dynol trasig a all ddigwydd yn y mannau croesi hynny. Gwelsom nifer sylweddol o fywydau'n cael eu colli yn ôl yn 2000 pan gafodd mwy na 50 o bobl, rwy'n credu, eu mygu yng nghefn lori a'u darganfod yn Dover. Mae nifer o bobl wedi marw mewn lorïau ers hynny, a chredaf y dylem ystyried y rhesymau pam, gan amlaf oherwydd bod pobl yn dianc rhag amgylchiadau brawychus.  

Lywydd, nid wyf am ddyfalu'r rhesymau pam y mae'n ymddangos bod y lori wedi dod i mewn i'r DU drwy Gaergybi. Gwn fod rhai sylwadau'n cael eu gwneud gan arbenigwyr trafnidiaeth ei fod yn llwybr anarferol, os canfyddir bod y lori wedi mynd drwy Cherbourg i Rosslare ac yna i fyny i Ddulyn. Rwy'n teimlo o ddifrif ei bod hi'n iawn ac yn briodol i'r heddlu ymchwilio i'r amgylchiadau sy'n gysylltiedig â'r drasiedi enfawr hon.  

15:30

Wrth gwrs, rwy'n rhannu eich teimladau ac yn cydymdeimlo â theuluoedd y bobl hyn sydd wedi dioddef profiad erchyll, beth bynnag oedd eu cymhelliad i ddod yma. Mewn gwirionedd, mae sawl blwyddyn ers i mi fynegi pryder yn y Siambr hon gyntaf fod Caergybi yn fan gwan o ran smyglo pobl i mewn i'r DU. Ym mis Mai, dywedodd Hafan o Oleuni, sefydliad di-elw sy'n canolbwyntio ar atal, codi ymwybyddiaeth a chefnogaeth i oroeswyr caethwasiaeth fodern a masnachu pobl yng ngogledd Cymru, na fyddent byth wedi gallu dod o hyd i unrhyw atebion go iawn o ran pa mor ddiogel oedd y man croesi o Iwerddon i Gaergybi, a'r ffordd arall, er bod aelodau'r cyhoedd ac uwch glerigwyr yn dweud wrthynt fod amheuon yn codi'n aml fod pobl yn cael eu cludo i mewn i'r DU ar y fferïau yng Nghaergybi. Roeddent wedi dweud wrthyf o'r blaen fod y prif linellau smyglo drwy Gaergybi yn dod o ddwyrain Ewrop, yn enwedig Rwmania a Bwlgaria, ac o Fietnam, ac fe wnaethant ddweud wrthyf hefyd eu bod wedi cael gwybod fis Hydref diwethaf fod Caergybi bellach wedi'i ddatrys.

Dywedodd Kevin Hyland OBE, Comisiynydd Atal Caethwasiaeth annibynnol cyntaf y Deyrnas Unedig, a fu gynt yn bennaeth ar uned masnachu pobl Heddlu Metropolitanaidd Llundain, fod achosion a nodwyd yng Nghymru y llynedd yn cynnwys, yn benodol, 10 dioddefwr o Fietnam. Mae bellach yn gweithio i'r Sefydliad Diogelwch a Chydweithrediad Ewrop ar gymorth i ddioddefwyr a goroeswyr, ac mae'n cynrychioli Iwerddon yng ngrŵp arbenigwyr Cyngor Ewrop, ar weithredu yn erbyn masnachu pobl. Mae hefyd yn siarad yng Nghyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig ar y materion hyn. Ac unwaith eto, dywedodd wrthyf fod y broblem fod pobl yn gwadu, ledled y DU ac yn fyd-eang, fod masnachu pobl yn arddangos ei hun fel rhywbeth arall o'r pwys mwyaf. Dywedodd fod gormod o ganu clodydd, pan fo 99.6 i 99.7 y cant o ddioddefwyr ar draws y byd yn cael eu colli, a 0.35 y cant o droseddwyr yn unig a gafwyd yn euog ar draws y byd y llynedd.

Felly, mae gennyf ddau gwestiwn: un, a fyddech yn fodlon cyfarfod â Kevin Hyland, eich hun neu gyda chyd-Aelodau priodol, gan mai ef, o bosibl, yw'r prif arbenigwr byd-eang ar y mater hwn, ac mae'n awyddus iawn i ymgysylltu â'r Cymry—[Anghlywadwy.]—a Llywodraeth Cymru ar y mater hwn? Ac yn y tymor byrrach, efallai y gallech roi ateb cyflymach: pa sgwrs y mae cydgysylltydd atal caethwasiaeth Llywodraeth Cymru ei hun wedi'i chael gyda Stena Line ac Irish Ferries, nid heddiw neu ers y newyddion trasig hwn yn unig, ond dros y misoedd a'r blynyddoedd diwethaf ers i'r man gwan hwn gael ei amlygu gyntaf?

A gaf fi ddiolch i Mark Isherwood am ei gwestiynau? Byddwn yn fwy na pharod i gyfarfod â Kevin Hyland, ond credaf y byddai'n ddefnyddiol hefyd pe bai Gweinidog o'r Swyddfa Gartref yn cytuno i wneud hynny hefyd. Credaf ei bod yn bwysig pwysleisio ar hyn o bryd nad ydym eto wedi derbyn unrhyw wybodaeth gadarn a fyddai'n cadarnhau bod yr achos hwn yn gysylltiedig â smyglo pobl, caethwasiaeth fodern neu drosedd arall, ond yn amlwg, mae'r ffeithiau'n siarad drostynt eu hunain: mae 39 o bobl wedi cael eu canfod yn farw mewn lori a deithiodd o ddwyrain Ewrop.

Mewn achosion o gaethwasiaeth fodern, mae cydgysylltydd atal caethwasiaeth Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r asiantaethau allweddol i nodi unrhyw wersi a fydd yn ein helpu i fynd i'r afael â throseddau erchyll o'r fath. Rydym mewn cysylltiad â'r Swyddfa Gartref. Rydym mewn cysylltiad â'r ymchwilwyr i ddysgu cymaint ag y gallwn, ac i gymryd unrhyw wersi y gallwn eu dysgu o'r digwyddiad hwn, a'u cymhwyso cyn gynted ag y bo modd.

15:35
4. Datganiadau 90 Eiliad

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiadau 90 eiliad. Ac mae'r datganiad cyntaf gan Jayne Bryant.

Diolch, Lywydd. Mae mis Tachwedd yn nodi 180 o flynyddoedd ers terfysg Casnewydd, pan orymdeithiodd y Siartwyr o gymoedd Gwent i Gasnewydd. Mae saethu Siartwyr y tu allan i Westy'r Westgate yng nghanol Casnewydd, ar 4 Tachwedd 1839, yn nodi moment dyngedfennol yn ein hanes democrataidd. Rydym wedi bod yn coffáu digwyddiadau 1839 yng Nghasnewydd ers blynyddoedd lawer, ac mae'n wych gweld faint y mae hyn wedi tyfu. Disgwylir mai eleni fydd y digwyddiad gorau hyd yma, gyda gŵyl i'r bobl, a fydd yn cynnwys ffilm, barddoniaeth, darlleniadau, cerddoriaeth fyw, sgyrsiau a gorymdaith wrth gwrs. Un elfen arbennig iawn yw y bydd rhai o'r digwyddiadau hyn yn cael eu cynnal yng ngwesty hanesyddol y Westgate. Ym mis Gorffennaf eleni, cynhaliodd y gwesty y digwyddiad cyntaf o'r rhain, gyda lansiad nofel graffig newydd gan Josh Cranton, a gafodd ei hysbrydoli gan yr orymdaith honno.

Ar 14 Tachwedd, rwy'n edrych ymlaen at groesawu pobl ifanc o ysgolion ar draws Casnewydd i'r Senedd, i ddathlu aberth, cyflawniadau a gwaddol y Siartwyr, i sicrhau bod pobl, nid yn unig yng Nghasnewydd ond ledled Cymru, yn deall ein hanes a'i arwyddocâd. Wrth gwrs, rydym yn gwerthfawrogi ac yn diolch yn fawr i wirfoddolwyr ymroddedig treftadaeth y Siartwyr am y gwaith y maent yn ei wneud drwy gydol y flwyddyn, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau a'r cyhoedd yn ymuno â ni i sicrhau bod Terfysg Casnewydd 2019 mor llwyddiannus a phosibl.

Ar fore 21 Hydref, 53 o flynyddoedd yn ôl, syrthiodd cysgod dros Aber-fan. Cwympodd tomen rwbel, gan ladd 116 o blant a 28 o oedolion. Roedd fy nhad-cu, Ken, yn un o gannoedd lawer a aeth i helpu gyda'r gwaith achub, yr unig ddiwrnod i fy nain ei gofio'n crio erioed. Tra'u bod yn gweithio'n daer gyda rhawiau, gydag unrhyw beth y gallent ddod o hyd iddo, dywedodd y byddai sibrydion ar led fod bachgen ifanc wedi cael ei ddarganfod yn fyw, heb ei niweidio, wedi sychu'r llwch oddi arno, ac wedi rhedeg i lawr y stryd. Nid oedd yn wir, ond cadwai'r gweithwyr achub i fynd, cadwai eu gobaith yn fyw ar y diwrnod tywyllaf hwnnw. Roedd fy nhad-cu yn Gatholig, a dywedodd nad oedd erioed wedi credu yn y diafol tan y diwrnod hwnnw.

Roedd yna anghyfiawnder chwerw yn sgil y drychineb hon y gellid bod wedi ei hosgoi. Er i ymchwiliad cyhoeddus ddatgelu esgeulustod anfaddeuol, ni ddaethpwyd ag achos troseddol gerbron erioed, ni chollodd neb ei swydd ac ni dderbyniodd neb unrhyw gosb. Ond roedd straeon am obaith hefyd, am ddewrder anghredadwy; athrawon a roddodd eu bywydau wrth geisio achub y plant. Felly pan fyddwn yn cofio am Aber-fan, rydym yn cofio'r golled, y brad, ond rydym hefyd yn cofio'r dewrder a'r gwytnwch a ddangosodd y pentref y diwrnod hwnnw a phob diwrnod ers hynny. Cofiwn Aberfan—nid yw 53 mlynedd yn lleihau'r golled.

5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Mynd i'r Afael â Throseddau Casineb LHDT

Yr eitem nesaf yw'r ddadl gan Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) ar fynd i'r afael â throseddau casineb LHDT. Dwi'n galw ar Siân Gwenllian i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7144 Sian Gwenllian, Mick Antoniw, Leanne Wood

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu adroddiad o gynnydd am ei gwaith i fynd i'r afael â throseddau casineb LHDT yng Nghymru.

2. Yn galw am ddatganoli cyfiawnder er mwyn sicrhau dull integredig o fynd i'r afael â throseddau casineb LHDT ac amddiffyn pobl LHDT yng Nghymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu ei chynigion ar sut y gallai creu system gyfiawnder ddatganoledig i Gymru hybu diogelwch a llesiant pobl LHDT.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. A diolch i'm cyd-gyflwynwyr, Leanne Wood a Mick Antoniw, am ganiatáu i'r ddadl yma ddigwydd heddiw yma.

Mi ges i'm symbylu i ymchwilio i fater troseddau casineb yn erbyn y gymuned lesbiaidd, deurywiol, hoyw a thraws yng Nghymru yn sgil digwyddiadau mewn tref yn fy etholaeth i. Mae'r elusen GISDA wedi bod yn cefnogi pobl ifanc fregus yn Arfon ers degawdau, a dwi'n cofio gweithio efo Brian Thirsk a'r criw cyntaf o wirfoddolwyr, nôl yn yr 1980au, pan ddaeth hi'n amlwg bod rhai o bobl ifanc yr ardal angen cefnogaeth. Mae'r elusen erbyn hyn yn rhan bwysig ac adnabyddus o'n cymunedau ni, ac yn ddiweddar gwelwyd bod angen sefydlu man cyfarfod diogel ar gyfer rhai o bobl ifanc LHDT yr ardal. Sefydlwyd clwb ieuenctid a chrëwyd cyfle i bobl ifanc o'r gymuned honno i gymdeithasu a rhannu profiadau, a hynny yn yr iaith Gymraeg.

Ond, yn anffodus, mae rhai o aelodau'r grŵp a'r clwb ieuenctid wedi dioddef rhagfarn homoffobaidd. Yn wir, fe ymosodwyd ar un person ifanc tra'n aros am fws ar ôl bod yn y clwb. Ymosodiad homoffobaidd, ffiaidd. Bu aelodau eraill yn destun ymosodiadau geiriol hefyd. Yn sgil hynny, roedd rhai o'r bobl ifanc yn teimlo nad oedden nhw am fynd i'r clwb, ond fe dynnwyd yr asiantaethau ynghyd ac fe drafodwyd pa gamau a oedd angen eu cymryd er mwyn caniatáu i'r clwb gael parhau i'r dyfodol. 

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

15:40

Mae'r stori yma yn tanlinellu pam fod yn rhaid mynd i'r afael â'r cynnydd mewn troseddau casineb yn erbyn pobl lesbiaidd, deurywiol, hoyw a thraws yng Nghymru, a hynny ar frys. Dros y flwyddyn ddiwethaf, cofnodwyd bron i 4,000 o droseddau casineb yng Nghymru, yr uchaf eto ar gyfer troseddau casineb yn y wlad yma, a bron i ddwbl y ffigwr ers 2013. Siom yw gweld y lefelau yn codi unwaith eto, a hynny ar draws pob math o nodwedd warchodedig: hil, crefydd, anabledd, ac yn erbyn pobl LHDT. Mae troseddau casineb yn erbyn y gymuned yma yn benodol wedi cynyddu 12 y cant, o 670 i 751 dros y flwyddyn ddiwethaf, a'r nifer o droseddau casineb yn erbyn pobl traws wedi cynyddu o 64 i 120—bron i ddwbl. Ac mae'n debyg, wrth gwrs, fod yna nifer o resymau dros y cynnydd, yn cynnwys mwy o barodrwydd i ddod ymlaen i riportio troseddau a dulliau gwell o gasglu'r wybodaeth, ond rhaid inni dderbyn bod rhagfarn hefyd wrth wraidd y cynnydd mewn troseddau casineb, a rhaid mynd i'r afael â'r rhagfarn hwnnw os ydym ni am greu cymdeithas wâr yng Nghymru—un sy'n coleddu gwahaniaeth, un sy'n parchu hawliau unigolion o ran eu rhywedd. 

Mi ddywedwn i fod hyn oll yn ddadl deilwng dros ddatganoli cyfiawnder i Gymru, gan greu'r cyfle i adolygu'r holl broses o ddelio â throseddau casineb, ac mi fydd Leanne Wood yn sôn am hyn yn ei chyfraniad hi. Yn y cyfamser, cyn gallu datganoli cyfiawnder, mae angen mynd i'r afael â'r diffyg adnoddau. Mae yna bryder difrifol ynghylch y diffyg adnoddau sydd eu hangen i fynd i'r afael â throseddau casineb, ac mae yna anghydraddoldeb mewn cefnogaeth ledled Cymru, sy'n golygu bod yr adnoddau yn dameidiog ac yn destun i loteri cod post. Er enghraifft, y clwb ieuenctid roeddwn yn sôn amdano yn GISDA ydy'r unig un o'i fath yng Ngwynedd gyfan, a'r unig un, hyd y gwn i, sy'n darparu lle i aelodau Cymraeg eu hiaith. 

Mae yna waith da yn digwydd, a dwi yn falch bod ein comisiynydd heddlu a throseddau yn y gogledd, Arfon Jones, yn cyflawni gwaith clodwiw. Mae gan Heddlu Gogledd Cymru ddau swyddog amrywiaeth a throseddau casineb sy'n rhoi hyfforddiant i swyddogion newydd i adnabod troseddau casineb. Ac mae'r bwrdd cyfiawnder troseddau casineb hefyd wedi bod yn gwneud gwaith da ar draws Cymru. Ac felly, er mai torcalonnus ydy gweld cynnydd yn nifer y troseddau sydd yn cael eu recordio gan yr heddlu, efallai bod hyn yn golygu bod yna well ymwybyddiaeth a bod y cynnydd yn deillio o well ymwybyddiaeth gan yr heddlu a'r cyhoedd a hynny sydd wedi arwain at fwy o riportio. Ac, wrth gwrs, mae'n well i ddioddefwr ddefnyddio a chael cefnogaeth drwy'r gwasanaethau, yn hytrach na dioddef mewn tawelwch. 

Ond mae'n rhaid i fi ddweud dwi'n teimlo bod Llywodraeth Cymru wedi methu â gwir amgyffred yr angen i roi pwysigrwydd i'r mater yma, ac i fynd at wraidd y broblem wrth fynd i'r afael â throseddau casineb. Mae yna fframwaith wedi cael ei ddyfeisio ar gyfer mynd i'r afael â throseddau casineb, ond nid ydym wedi cael llawer o wybodaeth am hwnnw na dim diweddariad ers bron i ddwy flynedd. Ac, wrth gwrs, mae angen rhoi ystyriaeth tymor hir i'r mater yma, ac i weld lefelau troseddau casineb yn gostwng unwaith ac am byth. Ac mae hyn yn golygu bod yn rhaid inni roi sylw ar fesurau ataliol, gan ddechrau yn yr ysgol. 

Byddai gwersi mewn addysg perthynas a rhywioldeb yn golygu byddai plant yn ennill dealltwriaeth glir o amrywiaeth pobl a pherthynas iachus. Mi fydden nhw'n dysgu am wahanol fathau o deuluoedd, cyfeillgarwch, perthynas broffesiynol a pherthynas rywiol yn ogystal â goddefgarwch a bod yn gynhwysol ynglŷn â hunaniaeth. Mae'n hanfodol, yn fy marn i, a dwi'n gwybod bod y Gweinidog addysg yn cytuno, fod yr addysg hon yn cael ei roi i bob un plentyn yng Nghymru.

Mae Stonewall Cymru yn dweud yn glir iawn—maen nhw'n dweud fel hyn: mae addysg perthynas a rhywioldeb cynhwysol ac effeithiol yn sicrhau bod pob person ifanc yn derbyn y wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw i gadw'n ddiogel, i wneud penderfyniadau gwybodus, cael perthnasoedd iach a pharatoi ar gyfer bywyd yng Nghymru yn yr unfed ganrif ar hugain.

Mae'n hanfodol bod yr holl adnoddau a chefnogaeth posib yn trosglwyddo i'n hysgolion ni er mwyn sicrhau eu bod nhw'n hyderus i gyflwyno gwersi addysg perthynas a rhywioldeb yn effeithiol. Ac mae'n dda gweld bod cynnwys yr elfen yma—yr addysg perthynas a rhywioldeb—yn y cwricwlwm yn un sydd wedi derbyn cefnogaeth glir a chadarn ar draws y pleidiau yn y Siambr yma.

Dwi'n hapus ein bod ni fel Senedd heddiw yn gallu trafod y mater yma ac yn gallu gwneud safiad cryf ar y cyd ar faterion difrifol sy'n mynd i galon ein cymdeithas ni. Mae'n rhaid inni edrych ar ôl ein gilydd. Dwi'n edrych ymlaen at glywed cyfraniadau cyd-Aelodau i'r cynnig sydd gerbron.

15:45

Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl hon heddiw. Diolch yn fawr, Siân, am agor y ddadl. Rwy'n credu ei fod yn adlewyrchiad trist o'r cyfnod rydym yn byw ynddo fod adroddiadau am droseddau casineb yn erbyn pobl LHDT yng Nghymru a Lloegr wedi saethu i fyny yn ôl data newydd sydd newydd gael ei grybwyll, data a luniwyd gan y Swyddfa Gartref a sefydliadau eraill. Yn wir, o edrych ar yr ystadegau, credaf fy mod yn iawn i ddweud bod cynnydd o 25 y cant wedi bod yn nifer y troseddau casineb ar sail cyfeiriadedd rhywiol yn unig—25 y cant.

Mae hwn yn ystadegyn sy'n peri pryder mawr, ond wrth gwrs, y tu ôl i'r ystadegau, mae yna straeon unigol torcalonnus. A Siân, roeddech yn sôn am un o'r straeon diweddaraf, sydd wedi cael cyhoeddusrwydd, yng Ngwynedd, yn eich etholaeth chi, rwy'n credu, a roddodd fachgen yn ei arddegau yn yr ysbyty. Fel y dywedoch chi, aelod o glwb ieuenctid oedd hwnnw—dim ond 13 mlwydd oed. Ymosodwyd arno mewn safle bws lleol wrth iddo gael ei gam-drin yn eiriol. Deallaf fod y sylfaenydd, Aled Griffiths, mewn cyfarfod, wedi galw am aelodau—dywedodd y dylai cynghreiriaid sefyll gyda'i gilydd dros gydraddoldeb. Ac rwy'n credu y byddai pob un ohonom sy'n gynghreiriaid yn y Siambr hon ac yn y sefydliad hwn yn cytuno ac yn cefnogi'r safbwyntiau hynny—mae angen i bawb ohonom sefyll gyda'n gilydd, fel y dywedoch chi ar ddiwedd eich araith. Wrth gwrs, un enghraifft yw hon. Mae llawer mwy. Mewn achos arall, dyrnodd dyn ei gymydog a gweiddi geiriau homoffobig sarhaus arno—mae'n erchyll darllen y manylion hyn hyd yn oed. Mae'n anghredadwy bod hyn yn digwydd yng nghymdeithas heddiw, ond fe ddyrnodd ei gymydog a'i sarhau'n homoffobig mewn modd erchyll, a hynny ar ôl ymosod ar ei bartner yn ôl yr honiad. Felly, roedd nifer o bobl yn gysylltiedig â'r ymosodiad hwnnw.

Felly, diben y ddadl hon yw galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol, gydag ysgolion a'r heddlu i geisio dileu'r rhagfarn a'r trais y mae ein hetholwyr LHDT ledled Cymru yn ei wynebu o ddydd i ddydd.

Os astudiwch yr ystadegau, mae'n peri mwy fyth o ofid. Mae troseddau casineb gwrth-draws wedi cynyddu mwy na phedair gwaith yn y pum mlynedd diwethaf. Felly, mae'r rhain yn ystadegau syfrdanol na fyddech yn eu derbyn mewn unrhyw agwedd arall ar fywyd nac unrhyw linell arall o ystadegau troseddol. Felly, mae gwir angen mynd i'r afael â hyn cyn gynted ag y bo modd.

Rydych wedi sôn am ddatganoli cyfiawnder, ac rwy'n credu eich bod wedi dweud bod Leanne Wood yn bwriadu edrych ymhellach ar hynny. Ac yn sicr nid wyf yn gwrthwynebu datganoli rhagor o bwerau i'r lle hwn lle bo angen. Rwy'n credu ei bod yn eithaf dymunol, mewn sawl ffordd, fod gennym, fel y dywedodd yr Ysgrifennydd cyllid a'r cyn Brif Weinidog yn wir, yr offer priodol i ymdrin â'r materion hyn. Hoffwn eich annog i fod yn ofalus, oherwydd, wrth gwrs, nid pwerau pellach yw'r ateb bob tro. Fel y dywedoch chi, rwy'n credu, mae'n rhaid i ni wybod beth y bwriadwn ei wneud gyda'r pwerau hynny, a dyna pam rwy'n credu bod pwynt 3 yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno strategaeth sy'n dangos sut y gellir cysylltu pob un o'r meysydd gwahanol hyn er mwyn ceisio gwneud i bethau weithio'n well. Felly, buaswn yn pryderu pe bai'r ffocws yn cael ei dynnu oddi ar ddefnyddio'r pwerau sydd gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd a'i droi ar drafodaeth—er mor bwysig yw hi—ynglŷn â'r modd y caiff pwerau'r lle hwn eu cynllunio yn y dyfodol, oherwydd ar hyn o bryd, rwy'n credu bod angen i bobl LHDT ledled Cymru wybod ein bod yn gofalu amdanynt ac yn gwneud yr hyn a allwn ar hyn o bryd i'w cefnogi.

Fe sonioch chi am addysg, ac mae'r Gweinidog addysg yn y Siambr heddiw, ac mae'n ymddangos i mi na allwch ymdrin â throseddau casineb a homoffobia, a phob math o ffobiâu eraill, heb fynd i'r afael â'r rheini'n gynnar mewn gwirionedd. Yn aml, mae hadau troseddau sy'n cael eu cyflawni yn ddiweddarach mewn bywyd wedi'u hau'n gynnar iawn, ac mae'n ymwneud â'r dylanwadau niweidiol cynnar ar bobl ifanc nad ydynt yn cael sylw ac nid oes ganddynt enghraifft dda i'w dilyn bob amser, felly credaf fod gan ysgolion a'r byd addysg rôl bwysig i'w chwarae. A buaswn yn dweud bod camau breision wedi cael eu gwneud yn y maes hwnnw—mae materion na châi eu crybwyll o'r blaen bellach yn cael eu trafod mewn ysgolion, felly mae hwnnw'n gynnydd, ond mae angen inni fynd yn llawer pellach i fynd i'r afael â'r broblem er mwyn sicrhau, yn y dyfodol, fod pobl LHDT, pobl draws—yn wir, yr holl bobl rydym yn eu cynrychioli—yn gallu teimlo'n ddiogel a theimlo'n rhydd, mewn clybiau ieuenctid neu lle bynnag, i fynegi eu hunain a byw'r math o fywydau y maent eisiau eu byw ac y maent yn haeddu gallu eu byw yn rhydd a heb ragfarn yng Nghymru.

15:50

Er bod agweddau cymdeithasol a'r gyfraith wedi datblygu llawer dros y degawdau diwethaf, mae llawer o bobl ifanc yn dal i deimlo nad ydynt yn cael eu derbyn am bwy ydynt yn eu cymunedau eu hunain. Mae llawer o bobl yn dal i wynebu rhagfarn, camdriniaeth, aflonyddu a gelyniaeth bob dydd. Sut y gallwn sicrhau pobl ifanc y byddant yn cael eu derbyn pan fyddant yn dod allan pan na allwn eu hamddiffyn rhag troseddau casineb? Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig, mae bron i 4,000 o droseddau casineb wedi'u cofnodi yng Nghymru ar sail hil, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd a thrawsrywedd. Dyma ffigur uchaf erioed yng Nghymru, ac mae'n golygu bod y ffigurau wedi dyblu bron dros y chwe blynedd diwethaf.

Caiff pobl LHDT sydd hefyd yn bobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifol ethnig eu heffeithio gan wahaniaethu dwbl. Yn ôl Stonewall, mae hanner y bobl LHDT du, Asiaidd neu leiafrifol ethnig wedi dioddef camwahaniaethu neu driniaeth wael oherwydd eu hethnigrwydd dan law eraill yn eu cymuned LHDT leol eu hunain, ac mae'r nifer hwn yn codi i dri o bob pump o bobl dduon LHDT. Ac nid yw traean o bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol sy'n arddel ffydd yn agored gydag unrhyw un yn eu cymuned ffydd ynglŷn â'u cyfeiriadedd rhywiol.

Nid yw troseddau casineb yn bodoli mewn gwacter. Mae cymdeithas wedi mynd yn fwy pegynol ac mae trafodaeth wleidyddol wedi mynd yn fwy gwenwynig. A thra bo Prif Weinidog y DU yn galw menywod Mwslimaidd sy'n gwisgo'r bwrca yn 'flychau llythyrau', a thra gall gerdded yn rhydd heb unrhyw gerydd na chanlyniad, mae gennym waith i'w wneud.

Nid yw Cymru'n ddiogel rhag hyn na'r ystadegau diweddaraf, ac maent yn dangos nad yw ein cymdeithas yn derbyn pawb yn llwyr nac yn gwbl deg eto. Maent yn dangos bod rhagfarn yn broblem, ac maent yn dangos, er gwaethaf y llwyddiannau niferus y mae Cymru wedi'u sicrhau o ran cydraddoldeb LHDT, nad ydym cyrraedd eto. Mae'n bosibl fod agweddau cymdeithasol wedi newid llawer dros y degawdau diwethaf, ac er bod newidiadau yn y gyfraith yn golygu bod mwy o ysgolion a gwasanaethau cyhoeddus yn cymryd sylw o wahaniaethu gwrth-LHDT ac yn mynd i'r afael ag ef, mae'n rhaid i ni barhau i wthio ymhellach.

O'r llu o rwystrau i gydraddoldeb sy'n rhaid i ni eu goresgyn, mae'r drafodaeth bresennol am hawliau traws yn bwysig iawn i mi. Mae pobl draws yng Nghymru a ledled y byd yn wynebu rhagfarn a gwahaniaethu ar sail eu hunaniaeth ryweddol. Mae 59 y cant o fenywod traws a 56 o ddynion traws yn dweud eu bod yn osgoi mynegi eu hunaniaeth ryweddol oherwydd eu bod yn ofni ymateb negyddol gan eraill. Ar gyfer ymatebwyr anneuaidd, roedd y ffigur yn llawer uwch, sef 76 y cant. Mae pobl draws hefyd yn wynebu mwy o risg o ddigartrefedd a hunanladdiad, ac wedi gorfod teithio i Lundain i gael gofal iechyd sylfaenol. Dylai fod gan bobl draws hawl ddiymwad i fyw heb ragfarn, gwahaniaethu ac erledigaeth. Pam na allwn ni gael uchelgais i Gymru fod yn arweinydd byd o ran gofal iechyd traws o ansawdd uchel a mynediad at wasanaethau a chyfleusterau yn unol â'u hunaniaeth ryweddol?

Mae system gyfiawnder well hefyd yn gallu arwain at newid hirdymor real. Ar hyn o bryd, mae system cyfiawnder troseddol Cymru a Lloegr yn gwneud cam â'n cymunedau—nid yw'n gweithio i bobl yma. Mae angen newid arnom a phŵer a chyfrifoldeb llawn dros gyfiawnder troseddol i greu system a fydd o fudd i'n holl gymunedau, er mwyn mynd i'r afael â throseddau casineb LHDT a diogelu pobl LHDT yn briodol. Gallem adolygu deddfau troseddau casineb fel bod troseddau casineb sy'n seiliedig ar gyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth ryweddol neu anabledd a niwroamrywiaeth yn cael eu trin yn gyfartal â'r rhai sy'n seiliedig ar hil a ffydd, drwy eu gwneud yn droseddau gwaethygedig. Gallem ddarparu hyfforddiant troseddau casineb gwrth-LHDT gwell ar gyfer yr heddlu ac erlynyddion, ar-lein ac all-lein. Gallem olrhain erlyniadau'n llwyddiannus i ddatblygu arferion gorau, a darparu cymorth wedi'i dargedu i ddioddefwyr.

Mewn cyd-destun ehangach, mae'n rhaid inni fynd i'r afael â'r rhagfarn gynhenid sy'n arwain at gyfraddau carcharu llawer mwy anghymesur yng Nghymru nag yn Lloegr ymhlith cymunedau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, o'u cymharu â'r boblogaeth. Os ydych yn berson croendywyll yng Nghymru, rydych yn fwy tebygol o fod wedi'ch carcharu ac o gael dedfryd hirach. Nid yw hynny'n dderbyniol.

Diolch byth, rydym yn bell o ddyddiau adran 28 a'r lobi yn erbyn priodasau cyfartal, ond mae gennym gymaint mwy i'w wneud eto cyn y gall pobl LHDT deimlo'n ddiogel ac wedi'u derbyn yn ddieithriad yng Nghymru heddiw, ac i droseddau casineb fod yn rhywbeth sy'n perthyn i'r gorffennol.

15:55

Diolch yn fawr iawn i Leanne a Siân am gyflwyno'r ddadl hon, ynghyd â Mick Antoniw, oherwydd rwy'n credu ei bod yn ddadl ddiddorol iawn ac yn un nad ydym yn mynd i'r afael â hi'n aml. Hoffwn sôn am rai pethau cadarnhaol, oherwydd credaf y gallwn i gyd gytuno bod llawer o bethau ffiaidd yn digwydd yn ein cymdeithas.

Rwyf am dynnu sylw at Just a Ball Game?, sef elusen sy'n mynd i'r afael â'r ffobia LHDT+ ym myd chwaraeon, sy'n aml yn un o'r mannau lle mae pobl yn teimlo eu bod yn gallu bwrw eu swildod ac ymddwyn mewn ffordd benodol ar y terasau sy'n wahanol i'r ffordd y byddent yn ymddwyn ar y stryd. Rwy'n cofio cynnal cyfarfod cofiadwy y llynedd yn y Pierhead gyda Just a Ball Game?, a drefnwyd mewn cydweithrediad â fy niweddar etholwr Bob Woods, gweithiwr cymdeithasol blaenllaw ac ymgyrchydd hawliau LHDT. Ymhlith y rhai a oedd yn bresennol, er mawr foddhad i mi, roedd pum aelod o grŵp LHDT Teilo Sant, disgyblion sy'n cyfarfod yn fisol er mwyn trafod materion cyffredin sy'n peri pryder, a ddaeth yno, gyda chaniatâd eu rhieni, gydag aelod o staff. Ymhlith y siaradwyr roedd Neville Southall, un o 100 chwaraewr pêl-droed gorau'r ugeinfed ganrif—fel y gŵyr cefnogwyr pêl-droed, chwaraeodd i Everton a Chymru—a Gareth Thomas, y sgoriwr ceisiadau uchaf ond un y tu ôl i Shane Williams, ac un o chwaraewyr rygbi'r undeb a rygbi'r gynghrair enwocaf yng Nghymru a Phrydain. Mae'r ddau ohonynt yn eiconau yn eu gemau ac wedi chwarae rhannau amlwg yn y frwydr yn erbyn troseddau casineb homoffobig ym myd chwaraeon.

Yn gywilyddus, ychydig o dan flwyddyn yn ôl, profodd Gareth Thomas ymosodiad homoffobig tra oedd ar noson allan yn fy etholaeth i, yng Nghaerdydd. Er clod iddo, dewisodd Gareth Thomas ddilyn y llwybr cyfiawnder adferol, yn hytrach nag erlyn y bachgen 16 mlwydd oed a rhoi record droseddol iddo—ac roedd Neville Southall yn ei ganmol am wneud hynny. Rwy'n siŵr bod honno'n ffordd lawer mwy effeithiol o gael y person ifanc 16 oed hwn i ailfeddwl ynglŷn â'i syniadau rhagfarnllyd, a ddysgodd, mae'n siŵr, gan bobl eraill yn ei deulu.

Rwyf eisiau siarad hefyd am Glwb Pêl-droed Dreigiau Caerdydd, sef tîm pêl-droed LHDT+ cyntaf, a'r unig un, yng Nghymru. Fe'i sefydlwyd yn 2008 gan gefnogwyr pêl-droed a oedd eisiau creu tîm yn rhydd o homoffobia a chwarae pêl-droed mewn gofod diogel a chefnogol. Maent yn dal i gael anhawster i ddod o hyd i gaeau chwarae yn ystod misoedd y gaeaf, caeau sydd fel arfer yn cael eu cymryd gan glybiau eraill. Felly, os oes unrhyw un yn gwybod am gae pêl-droed addas yn y gaeaf y gallent eu cynnig iddynt, mae croeso i chi gysylltu â mi.

Eu datganiad cenhadaeth yw hyrwyddo cyfranogiad mewn pêl-droed ac ymwybyddiaeth o'r gêm, cydlyniant cymdeithasol a ffyrdd iach o fyw mewn cymuned LHDT+ yng Nghaerdydd, de Cymru a thu hwnt. Maent yn chwarae yng nghynghrair y Rhwydwaith Cefnogwyr Pêl-droed Hoyw yn erbyn timau o bob rhan o'r DU. Sefydlwyd y rhwydwaith cefnogwyr yn 1989 gan gefnogwyr y gêm, ac mae wedi ehangu o ddilyn y gêm yn unig i ymgyrchu dros hawliau LHDT+ a rhyddid rhag camdriniaeth tra byddant yn mynd i gemau yn ogystal â chwarae. Mae tîm Caerdydd hefyd yn chwarae mewn cynghreiriau heterorywiol, lle maent, o bryd i'w gilydd, yn wynebu sylwadau difrïol gan dimau sy'n chwarae yn eu herbyn. Er bod y gynghrair yn tueddu i ymdrin â'r cwynion hyn yn gyflym, mae'n rhaid inni ddeall bod gennym lawer o waith i'w wneud o hyd, yn anffodus, i fynd i'r afael â homoffobia, yn union fel hiliaeth, ym myd chwaraeon, yn enwedig mewn pêl-droed.

Felly, mae Dreigiau Caerdydd yn cynnal trafodaethau gyda Dinas Caerdydd i sefydlu rhwydwaith cefnogwyr LHDT Dinas Caerdydd ac maent yn gobeithio ei lansio ym mis Chwefror y flwyddyn nesaf i gyd-fynd â Mis Pêl-droed v Homoffobia, a byddaf wrth fy modd yn cefnogi hwnnw.

Nid oes gan dîm Cymru rwydwaith cefnogwyr LHDT ar hyn o bryd ychwaith, felly mae'r rhain yn fentrau pwysig i normaleiddio parch at wahaniaeth ym myd chwaraeon, sy'n un o'r meysydd lle mae pobl yn teimlo y gallant ddechrau lleisio eu rhagfarn.  

Mae'n rhaid i ni fod yn wyliadwrus ac yn anoddefgar o homoffobia a hiliaeth mewn chwaraeon drwy'r amser. Mae'n rhaid inni sicrhau y galluogir y genhedlaeth nesaf i wrthsefyll y rhagfarnau etifeddol a ymgorfforwyd mewn  cyfraith yn y gorffennol. Ac mae adran 28 eisoes wedi cael ei chrybwyll fel cyfnod gwirioneddol gywilyddus yn ein hanes. Gallaf gofio, dros ddegawd ar ôl dad-droseddoli, fod fy ewythr fy hun wedi bod mewn helynt gyda'r gyfraith sawl gwaith yn syml oherwydd nad oedd gan blismyn homoffobig unrhyw beth gwell i'w wneud nag aflonyddu ar bobl hoyw a oedd yn cyfarfod yn llechwraidd mewn mannau cyhoeddus yn hytrach na chael yr hyder i gyfarfod yn agored ar yr un telerau â phobl heterorywiol.

16:00

Mae Siân Gwenllian eisoes wedi sôn am bwysigrwydd y cwricwlwm cydberthynas a rhywioldeb, a gobeithiaf y bydd hyn yn arwain at newid sylfaenol o ran sicrhau bod y genhedlaeth nesaf yn deall parch at wahaniaeth a sicrhau nad yw pobl yn cael eu llethu gan eu rhagfarnau, sy'n gallu arwain at broblemau iechyd meddwl gydol oes.

A gaf fi longyfarch Siân Gwenllian am gyflwyno'r ddadl hon ac am ei harwain yn y ffordd y gwnaeth, ac ar ei gwaith yn ei hetholaeth? Roedd gennyf ddiddordeb arbennig yn y stori ynglŷn â'r clwb ieuenctid yno, GISDA.

Fe ddywedodd ar un adeg yn ei haraith mai rhagfarn oedd wrth wraidd y cynnydd. Dywedodd Leanne Wood, a hynny'n gwbl briodol rwy'n credu, fod agweddau cymdeithasol wedi datblygu gryn dipyn yn ystod y degawdau diwethaf. Nid wyf yn gwybod a yw'n iawn dweud mai rhagfarn sydd wrth wraidd y cynnydd, oherwydd mae hynny, i mi, yn awgrymu bod rhagfarn wedi gwaethygu. Nid wyf yn gwybod a yw hynny'n wir yn y tymor byr. Yn sicr, yn y tymor hwy, fy argraff i, fel Leanne, yw bod pethau wedi gwella—yn amlwg, nid yw'n ddigon da ac mae yna broblemau y mae angen inni fynd i'r afael â hwy.

Mae gennym yr ystadegau hyn, ac mae'r ffocws wedi bod ar y rhai yr adroddwyd wrth yr heddlu yn eu cylch a'r ffordd y maent wedi cofnodi'r troseddau, a'r cynnydd o 17 y cant yng Nghymru a'r 10 y cant ar draws Cymru a Lloegr dros y flwyddyn ddiwethaf. Pan fydd rhywun yn rhoi gwybod am drosedd casineb, mae'n bwysig iawn fod yr heddlu'n eu cofnodi mewn ffordd gyson. Tan yn ddiweddar, yn anffodus, dengys tystiolaeth nad yw hynny wedi digwydd, ac mae'n bwysig fod safonau cofnodi troseddau'n cael eu gosod yn ganolog.

Y ffordd y gwneir hyn yw fod rhywun yn rhoi gwybod am ddigwyddiad os yw'n honni bod trosedd wedi'i chyflawni, a chaiff ei gofnodi fel trosedd. Os yw'r person hwnnw, neu unrhyw un arall yn wir, yn dweud eu bod yn ystyried bod hil neu nodwedd warchodedig arall yn ffactor ysgogiadol, yna, unwaith eto, mae'n rhaid ei gofnodi fel trosedd casineb. Rwy'n credu bod hynny'n iawn ac yn briodol, ond mae hefyd yn iawn ein bod yn deall hynny ac yn deall nad oedd hynny'n digwydd mewn modd dibynadwy yn y gorffennol. Ac ni phrofwyd mai dyma oedd pob un o'r achosion hyn o reidrwydd, ac nid ydym wedi clywed gan bobl eraill a oedd yno, na diffynnydd yn arbennig, o ran yr hyn y gallent ei ddweud. Rwy'n credu bod 13 y cant o'r achosion hyn yn arwain at gyhuddiad neu wŷs, sy'n gyfran ychydig yn uwch nag ar gyfer troseddau'n gyffredinol.

Fodd bynnag, credaf mai un dull cywirol defnyddiol yw cymharu ystadegau troseddau a gofnodwyd gan yr heddlu â'r hyn a welwn yn arolwg troseddu Prydain. Mae'r duedd wedi bod yn wahanol yn hwnnw. Ar y materion hyn, mae gennym amrywiadau'r arolwg, ac mae'r cyntaf rwyf am gyfeirio ato yn arolwg 2007 i 2009, ac roedd hwnnw, o'i grosio i fyny o ffigur yr arolwg i'r boblogaeth gyfan, yn awgrymu bod 69,000 o droseddau casineb yn gysylltiedig â chyfeiriadedd rhywiol wedi'u cyflawni ledled y DU. Ac yna, yn 2010-12, disgynnodd y ffigur hwnnw o 69,000 i 42,000 yn arolwg troseddu Prydain, ac yn 2013-15 disgynnodd eto i 29,000. Ceir cynnydd bach yn 2016-18 o 29,000 i 30,000, ond nid yw'n ystadegol arwyddocaol ar sail y niferoedd yn yr arolwg. Ar y troseddau casineb trawsryweddol, nid oeddent yn gofyn y cwestiynau perthnasol yn y ddau arolwg cyntaf. Gwnaethant hynny yn y ddau olaf, ond mae ganddynt ryw fath o ymateb seren, drwy ddweud bod y niferoedd yn rhy fach iddynt allu grosio i fyny'n ddibynadwy a rhoi amcangyfrif ar gyfer y wlad yn ei chyfanrwydd. Mae un drosedd casineb yn ormod, ac mae'r troseddau casineb trawsryweddol hyn—. Yn amlwg, mae pobl drawsryweddol, a nifer y bobl sy'n arddel yr hunaniaeth honno wedi cynyddu, ac mae'n cael ei drafod mewn ffordd nad oedd yn digwydd oddeutu degawd yn ôl. Efallai y bydd pobl yn dadlau ynglŷn â'r trefniadau ar gyfer chwaraeon neu beth yw'r trefniadau ar gyfer tai bach, ond mae'n anfaddeuol pan fydd troseddau'n cael eu cyflawni, a throseddau treisgar yn aml, a hynny'n unig oherwydd, neu o leiaf yn cael eu hysgogi gan hunaniaeth rhywun.

Felly, cytunaf â llawer o'r hyn a ddywedwyd yn y ddadl hon, ond buaswn yn cynnwys yr elfen gywirol honno o edrych ar arolwg troseddu Prydain yn ogystal â'r ystadegau heddlu a gofnodwyd. Pan fyddwch yn cymharu ystadegau'r heddlu ar draws y DU, yn gyffredinol, buaswn yn dweud nad yw heddluoedd Cymru yn y 10 uchaf ar gyfer troseddau casineb, ond mae un eithriad i hynny, a chyfeiriadedd rhywiol yw'r maes hwnnw, lle mae dau o heddluoedd Cymru—Gwent, yn fy rhanbarth i, a de Cymru, sy'n cyffwrdd â rhan o fy rhanbarth—yn bedwerydd ac yn bumed o'r 43, gyda 26 trosedd casineb ar sail cyfeiriadedd rhywiol am bob 100,000. Felly, mae'n bosibl ei fod yn awgrymu bod problem benodol yno yng Nghymru, yn ne Cymru o leiaf, y dylem fod yn boenus yn ei chylch ac y dylem holi pam fod hynny'n digwydd, ac edrych i weld sut y gallwn ei wella, hyd yn oed os nad yw Cymru ar y blaen, yn gyffredinol, mewn perthynas â'r troseddau casineb eraill.

Fe ddywedaf yn syml nad wyf wedi cael fy argyhoeddi eto o'r cyswllt â phwyntiau 2 a 3 yn y cynnig, ac am y rheswm hwnnw nid wyf yn bwriadu cefnogi'r cynnig heddiw. Mae'n anffodus o ran amseru, oherwydd rwy'n edrych ymlaen yn fawr at glywed yr Arglwydd Thomas yfory; rwy'n credu ei fod yn lansio'i adroddiad comisiynydd ar y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru am 8:30 yfory yn y Pierhead. Rwy'n gobeithio gweld rhai o fy nghyd-Aelodau yno, ac rwy'n awyddus iawn i wrando, darllen ac ystyried yr adroddiad hwnnw cyn ystyried ein safbwynt ar ddatganoli cyfiawnder. Nid ydym wedi ein darbwyllo ynglŷn â hynny eto; yn benodol, buaswn yn poeni pe baem yn mynd o gomisiynwyr heddlu a throseddu sydd wedi'u hethol i heddlu ar gyfer Cymru gyfan yn sgil hynny. Gwn fod Llywodraeth Cymru yn gwneud rhai pethau da mewn rhai meysydd yma, ond nid yw hynny ynddo'i hun yn rheswm digonol dros ddatganoli cyfiawnder yn ei gyfanrwydd yn fy marn i, ond fe fyddaf yn darllen yr hyn a ddywed yr Arglwydd Thomas a'i dîm yfory yn ofalus iawn. Diolch.

16:05

Diolch, Lywydd, ac rwy'n falch iawn o gael siarad yn y ddadl hon. Mae llinell enwog yn y ffilm Network, a ddaeth allan yn 1976: 'I'm mad as hell and I'm not going to take it anymore'. Onid yw'n ddatganiad am ein cyfnod ni? Cymaint o ddicter, yn enwedig gan y rhyfelwyr bysellfwrdd ar-lein. Ond ar yr un pryd, nid yw pobl yn barod i'w ddioddef mwyach. Mae dioddefwyr camdriniaeth yn rhoi gwybod am droseddau, a'r nifer uchaf erioed yn adrodd am droliau a bwlis. Felly, dyna pam y mae'n rhaid i ni annog a chefnogi'r mecanweithiau adrodd, fel y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud drwy'r Ganolfan Genedlaethol Adrodd am Droseddau Casineb a Chymorth, yn ogystal â'r grant cymunedau lleiafrifol i fynd i'r afael â throseddau casineb.

Mae ystadegau'r heddlu ar gyfer y flwyddyn ddiwethaf yn dangos cynnydd o 17 y cant yn y troseddau casineb yr adroddwyd yn eu cylch yng Nghymru o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Heddiw, rydym yn canolbwyntio ar droseddau yn erbyn y gymuned LHDT ac fel y dywedwyd eisoes, dyna yw bron i chwarter yr holl droseddau a gofnodwyd. Mae elusen Stonewall yn dweud nad yw hyn ond yn crafu'r wyneb, ac yn ôl eu hymchwil, ni roddir gwybod am bedair o bob pum trosedd casineb gwrth-LHDT, ac mae pobl iau yn arbennig o gyndyn i fynd at yr heddlu. Felly, mae'n ymddangos ei bod yn amhosibl mynd i'r afael â'r broblem hollbresennol hon drwy'r system cyfiawnder troseddol yn unig. Problem cymdeithas yw hi ac mae'n mynnu atebion cymdeithasol.

Fis nesaf, byddaf yn trefnu cyfres o ddigwyddiadau ymgyrch y Rhuban Gwyn i godi ymwybyddiaeth o gam-drin domestig, a'r ffocws mawr i mi yw ymgysylltu â phobl ifanc drwy gysylltu hynny â chydberthynas iach sy'n cael ei addysgu yn yr ysgol. Yr unig ofnau y cawn ein geni â hwy yw ofn uchder ac ofn synau uchel. Mae popeth arall yn ymddygiad a ddysgir. Mewn geiriau eraill, mae plant yn gynhenid oddefgar. Ni, yr oedolion, yw'r broblem a bod yn onest. Gyda chyfryngau cymdeithasol mor ganolog i'w bywydau heddiw, efallai bod pobl ifanc yn fwy agored na neb i gael eu beirniadu am bwy ydynt, beth maent yn ei gredu a phwy maent yn eu caru. Dyna pam fod rhaid inni amddiffyn gwersi LHDT-gynhwysol yn awr yn fwy nag erioed. Gwelsom ar y newyddion sut yr ymosodwyd ar ysgolion yn Birmingham sy'n ceisio dysgu'r rhaglen No Outsiders, a hynny am resymau crefyddol honedig. Mae'n drist gweld oedolion yn pregethu rhagfarn y tu allan i gatiau ysgol. Mae'n fy atgoffa o'r lluniau hyll o Birmingham arall—Birmingham, Alabama yn y 1960au. Roedd hwnnw'n fath gwahanol o ragfarn, ond câi ei yrru gan yr un culni meddwl. Rwy'n gobeithio felly y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi ein hysgolion a'n hawdurdodau addysg i'r eithaf yn erbyn ymgyrchoedd o'r fath, pe baent yn digwydd yng Nghymru.

16:10

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Aelodau am gyflwyno'r ddadl hon heddiw, dadl a groesewir gan Lywodraeth Cymru. Mae'n cyfrannu at ein hymgyrch i sicrhau mwy o gydraddoldeb a chynhwysiant i holl bobl Cymru. Nid oes lle i anoddefgarwch, iaith casineb ac achosion o droseddau casineb yn ein cymdeithas. Rydym yn benderfynol o'u chwynnu, ac mae'r ddadl heddiw wedi dangos pa mor gryf yw'r teimladau ar y pwyntiau hynny ar draws y Siambr. Mae pob math o drosedd casineb yn annerbyniol. Rwyf wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref i annog Llywodraeth y DU i gydnabod bod troseddau casineb a ysgogir gan elyniaeth ar sail cyfeiriadedd rhywiol yn cael eu cydnabod fel troseddau gwaethygedig, yn unol â throseddau casineb ar sail hil a ffydd, ac yn ogystal, byddaf yn ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref i annog Llywodraeth y DU i gydnabod bod troseddau casineb a ysgogir gan elyniaeth ar sail hunaniaeth drawsryweddol ac anabledd yn droseddau gwaethygedig hefyd.

A wnaiff y Gweinidog dderbyn ymyriad? Rwy'n falch iawn o'ch clywed yn dweud y byddwch yn cyflwyno'r sylwadau hynny. Wrth gwrs, un o'r nodweddion gwarchodedig lle nad yw trais yn erbyn y rhai sydd â'r nodwedd warchodedig honno'n cael ei drin fel trosedd casineb yw trais yn erbyn menywod. A ydych yn credu y gall fod yna achos? Ni fuaswn yn gofyn i chi ohirio—buaswn yn gofyn i chi ystyried gweithredu ar y lleill—ond hoffwn ofyn i chi ystyried a yw'r amser wedi dod i drin trais yn erbyn menywod fel trosedd casineb yn ogystal, oherwydd, wedi'r cyfan, mae gwreig-gasineb yn un o'r rhagfarnau dyfnaf a mwyaf gwreiddiedig yn ein cymdeithas heddiw.

Ie. Wel, rwy'n ddiolchgar i Helen Mary Jones am godi'r pwynt hwnnw. Wrth gwrs, mae yna ryngweithiad, ac rwy'n credu bod y ffaith bod troseddau casineb—. Mae hyn wedi'i godi heddiw. Mae croestoriad wedi bod yn broblem arbennig hefyd. Er enghraifft, gallai person anabl fod wedi profi trosedd casineb a thrais hefyd, ac mae angen i bob un o'r nodweddion gwarchodedig fod yn gymwys o ran adnabod troseddau casineb a gyflawnir ar sail sawl nodwedd warchodedig.

Ond mae'n rhaid i ni gydnabod ein bod, yr wythnos ddiwethaf, wedi gweld cynnydd siomedig mewn troseddau casineb. Mae'r ystadegau a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref, fel y dywedodd Siân Gwenllian, yn dangos cynnydd o 17 y cant yn nifer y troseddau casineb a gofnodwyd ledled Cymru o'i gymharu â 2017-18, ac o'r 3,932 o droseddau casineb a gofnodwyd ar draws pedair ardal heddlu Cymru, roedd 19 y cant ohonynt yn droseddau casineb ar sail cyfeiriadedd rhywiol ac roedd 3 y cant ohonynt yn droseddau casineb ar sail trawsrywedd, ac er nad yw troseddau casineb sy'n gysylltiedig ag unigolion LHDT+ ond oddeutu 22 y cant o'r troseddau hyn, mae'n ymddangos bod y ffigur hwn yn cynyddu. Rydym wedi gwneud cryn dipyn o waith i gynyddu ymwybyddiaeth o droseddau casineb ac i annog dioddefwyr i roi gwybod amdanynt, felly mae'r cynnydd yn debygol o fod yn rhannol oherwydd bod cyfraddau adrodd wedi gwella, ond mae'r ystadegau hyn yn ein hatgoffa sut y mae angen feddwl beth arall y gellir ei wneud—ac mae'n rhaid sicrhau mai dyna yw canlyniad y ddadl hon—sicrhau nad oes neb yn cael eu targedu oherwydd eu hunaniaeth. Felly, mae'r heddluoedd ledled Cymru hefyd wedi gweithio'n galed i sicrhau eu bod yn nodi ysgogiadau i droseddau casineb yn gywir, ac mae'n bosibl fod hyn yn achosi rhywfaint o'r cynnydd ymddangosiadol yn nifer y troseddau casineb a gofnodwyd, ond mae angen inni gofio, fel y dywedodd Nick Ramsay, fod yna unigolyn â stori am elyniaeth neu drawma y tu ôl i bob ystadegyn. Gan weithio gyda'r pedwar heddlu yng Nghymru a'r bwrdd cyfiawnder troseddol ar gyfer troseddau casineb, mae gennym systemau cadarn ar waith i ymchwilio i droseddau casineb, cefnogi dioddefwyr a sicrhau bod troseddwyr yn cael eu dwyn i gyfrif. Ond mae'n rhaid i ni adolygu effeithiolrwydd y systemau hynny hefyd.

Drwy gronfa bontio'r UE, rydym yn darparu £360,000 ychwanegol dros y ddwy flynedd nesaf i'r ganolfan genedlaethol adrodd am droseddau casineb a chymorth, sy'n cael ei rhedeg gan Cymorth i Ddioddefwyr Cymru. Mae hynny'n bwysig, fel y dywedodd Joyce Watson, ac mae hefyd yn ymwneud â sut rydym yn mynd i'r afael â hyn, gan godi ymwybyddiaeth a chefnogi dioddefwyr. Bydd yr arian cael ei ddefnyddio i hyfforddi gwirfoddolwyr a chodi ymwybyddiaeth o sut i adrodd am droseddau casineb. Ymwelais â'r ganolfan yr wythnos ddiwethaf, ynghyd â sefydliadau megis Stonewall Cymru a Pride, pan fuom yn edrych ar sut y gallem sicrhau, cefnogi a chynghori'r ganolfan genedlaethol adrodd am droseddau casineb a chymorth mewn perthynas â'r materion dan sylw a bellach, gallwn ymestyn eu gwasanaethau gyda'r cyllid hwn.

Mae cefnogi dioddefwyr yn hanfodol, ond mae angen i ni atal agweddau cas rhag ffurfio yn y lle cyntaf. Felly, dyna pam rydym hefyd, drwy gyllid pontio'r UE, yn darparu £350,000 i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar gyfer y prosiect troseddau casineb mewn ysgolion. Mae'r prosiect hwn wedi'i gynllunio i annog plant i ddatblygu eu sgiliau meddwl beirniadol, i gwestiynu siarad ac ymddygiad cas, a'u darbwyllo i beidio â chyflawni troseddau casineb yn y dyfodol. Felly, bydd gweithgareddau'n arfogi staff â'r sgiliau i herio troseddau casineb a chefnogi dioddefwyr yn yr ysgol. A thrwy hyn a'r gwaith ehangach ar y cwricwlwm newydd, sydd eisoes wedi'i grybwyll, ein nod yw cefnogi staff addysgu i sicrhau bod ysgolion yn meithrin dinasyddion egwyddorol, gwybodus sy'n cyfrannu at gymdeithas fwy cydlynus.

Rydym yn datblygu ymgyrch gyfathrebu ar droseddau casineb drwy Gymru gyfan. Rydym yn casglu barn pobl yr effeithiwyd arnynt gan droseddau casineb i helpu i lunio'r ymgyrch. Ond rwyf hefyd yn falch ein bod wedi gweld cynnydd mewn grwpiau myfyrwyr LHDT+ mewn llawer o'n hysgolion. Fe sonioch chi am Ysgol Teilo Sant, Jenny Rathbone, y grŵp yn yr ysgol, ac mae yna gyrff a arweinir gan fyfyrwyr sy'n cael effaith gadarnhaol ar eu cymunedau ysgol ac ar agweddau a gwerthoedd cenedlaethau'r dyfodol o ddinasyddion Cymru.

Cyfarfûm â phrosiect GISDA yng ngogledd Cymru yn ddiweddar. Rwy'n arswydo wrth glywed am yr ymosodiadau a'r agweddau y mae'r bobl ifanc hynny wedi'u hwynebu'n ddyddiol. Codais hyn ar unwaith gyda Heddlu Gogledd Cymru ac asiantaethau diogelwch cymunedol, ac rwy'n credu bod cymorth ar gael bellach.

Ond mae angen i ni wneud popeth yn ein gallu i hybu hawliau pobl LHDT drwy bolisïau, cyllid a chefnogaeth weladwy. Gellid gwneud hyn hefyd drwy'r digwyddiadau rydym yn eu cynnal drwy gydol y flwyddyn—digwyddiadau Pride. Yn wir, ym mis Medi, cefais y fraint o agor digwyddiad Pride y Barri cyntaf erioed, ac mae digwyddiadau Pride yn digwydd mewn trefi ledled Cymru. Y Prif Weinidog a arweiniodd orymdaith Pride Cymru yng Nghaerdydd. Maent yn codi ymwybyddiaeth o gydraddoldeb ac amrywiaeth yn y ffordd fwyaf amlwg, ac fe wnaethom ddarparu £21,000 i Pride Cymru ar gyfer y digwyddiad eleni.

Credaf ei bod yn bwysig fod yr arian rydym yn ei roi i Stonewall Cymru, arian a roesom yn 2017 ar gyfer y grant cydraddoldeb a chynhwysiant, yn cynnwys penodi swyddog ieuenctid addysg newydd i weithio mewn ysgolion ledled Cymru, gan ddatblygu eu rhaglen modelau rôl mewn ysgolion. A bydd y modelau rôl hynny'n ymweld ag ysgolion ledled Cymru i adrodd eu straeon a chodi ymwybyddiaeth o brofiad pobl LHDT. Ond mae ganddynt hefyd gyllid penodol ar gyfer swyddog ymgysylltu traws.

Felly, drwy waith atal ymyrraeth gynnar, drwy ein rhaglen cydlyniant cymunedol—£1.52 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf—yn cefnogi timau bach ym mhob un o'r wyth rhanbarth cydlyniant cymunedol yng Nghymru y gallwn wella a dwysáu ein gwaith ataliol. Ac rwy'n gobeithio, hefyd, y gallwn weithio gyda'n gilydd, nid yn unig fel Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, y trydydd sector, gyda'r bwrdd cyfiawnder troseddol ar gyfer troseddau casineb, ond mae'n rhaid iddo fod gyda Llywodraeth y DU hefyd.

Felly, rydym yn edrych ymlaen at weld adroddiad comisiynydd yr Arglwydd Thomas pan gaiff ei gyhoeddi yfory. Byddwn yn edrych yn ofalus ar yr argymhellion hynny ac yn gweld beth arall y gallwn ei wneud i wella canlyniadau cyfiawnder. Ond rwy'n gobeithio y bydd yr ystyriaeth a roddwyd i faterion ehangach yn llywio ein hystyriaeth ynglŷn â sut y gallwn fynd i'r afael â throseddau casineb LHDT+ yn well. Rydym angen system gyfiawnder sy'n gweithio i Gymru, sy'n gyson â'n hysgogiadau polisi a'n hymrwymiad.  

Felly, i gloi, hoffwn ailadrodd ein bod wedi ymrwymo i greu cymdeithas lle caiff amrywiaeth ei gwerthfawrogi a'i pharchu a lle gall pawb ffynnu. Rwyf eisiau cael dadl ar droseddau casineb yn y Llywodraeth y flwyddyn nesaf i ddarparu'r adroddiad cynnydd hwnnw y galwasoch amdano a sicrhau y gallwn gael ein dwyn i gyfrif am y gwaith a wnawn i symud ymlaen ar hyn.

16:20

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf, rwyf am ddechrau drwy ddiolch i Siân Gwenllian am gyflwyno ac am agor y ddadl hon—rwy'n credu ei bod yn ddadl amserol iawn. Mae gan Siân, wrth gwrs, hanes hir o ymgyrchu ar y materion hyn, fel cryn dipyn o bobl yn y Siambr hon, felly roedd yn braf gweld y rhain yn dod at ei gilydd ar gyfer y ddadl hon heddiw.

Nid wyf yn bwriadu crynhoi'r hyn y mae pawb wedi'i ddweud, fel sydd weithiau'n draddodiadol gyda'r rhain, oherwydd mae'r pwyntiau wedi cael eu gwneud mor rymus; mae'r ystadegau yno. Felly, roeddwn yn meddwl y gallai fod yn gyfle i feddwl o ble rydym wedi dod mewn gwirionedd, oherwydd yn sicr bydd y rheini o fy nghenhedlaeth i, ac unrhyw un a fynychodd yr ysgol ar ddiwedd y 1950au a dechrau'r 1960au, yn gwybod fod hiliaeth, homoffobia a gwrthsemitiaeth yn rhan o ddiwylliant ysgolion. Mae'r newidiadau gwirioneddol sydd wedi digwydd drwy'r 1960au, yr 1970au, y 1980au hyd heddiw yn eithaf syfrdanol ac rwy'n credu ei bod yn bwysig eu cydnabod, oherwydd wrth gydnabod y rheini, rydym hefyd yn gallu nodi beth yw'r heriau sy'n dal i fodoli.

Cofiaf pan oeddwn yn fyfyriwr, pan ffurfiwyd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru, roeddent yn un o'r cyrff a aeth dros y baricedau gyntaf, mewn gwirionedd, er mwyn bwrw iddi â'r ymgyrch dros hawliau hoywon bryd hynny, rhywbeth nad oedd yn boblogaidd. Nid oedd yn ymgyrch gysurus y byddai pobl yn bwrw iddi gyda breichiau agored. Ond credaf fod pobl ifanc a oedd yn tyfu i fyny yn y 1970au yn teimlo ei bod yn ymgyrch angenrheidiol roedd yn rhaid ei hymladd; roedd yn rhan o'r newid yn y gymdeithas. Ac yng Nghymru, a dweud y gwir, y sefydliadau cenedlaethol Cymreig a gynhyrchodd, rwy'n credu, y cyfieithiad Cymraeg cyntaf o'r ymgyrch—'ymgyrch hawliau hoyw'—gan ddosbarthu bathodynnau yn Eisteddfod 1976 neu 1977. Ac roedd yn ddiddorol iawn gweld yr holl bobl hyn yn mynd o gwmpas yn credu eu bod yn cefnogi ymgyrch hapus, ond fe agorodd y drws ac roedd yn gam cyntaf i wynebu'r rhagfarn ddiwylliannol gynhenid a fodolai mewn cymaint o gymunedau ac yn y cenedlaethau hynny.

Wrth gwrs, mae hefyd yn bwysig cydnabod o ble rydym wedi dod o ran nifer y bobl a gafodd eu herlyn a'u carcharu mewn gwirionedd, oherwydd eu cyfeiriadedd rhywiol cyn i'r cyfreithiau gael eu newid. Yn 1945, erlynwyd 800 o ddynion, oherwydd câi ei ystyried yn drosedd wrywaidd. Yn 1955, erlynwyd 2,500, ac fe gafodd 700 eu carcharu. Felly, arwyddocâd gwirioneddol yr hyn a gâi ei wneud yn y 1950au gan arweinwyr fel Bertrand Russell, Clem Attlee ac Isaiah Berlin i gyflwyno'r cysyniad o ddiwygio'r gyfraith, mewn gwirionedd, ac i herio'r rheini—. Mae'n eithaf trist ein bod weithiau'n gorfod gwneud iawn am gynifer o anghyfiawnderau yn ein cymdeithas ar ôl marw'r rhai a gafodd gam. Felly yn achos Alan Turing, pan wnaeth Gordon Brown ymddiheuro am hynny, gyda chefnogaeth David Cameron ar y pryd. Mae cynifer o'r materion hyn yn rhai y mae'n rhaid inni ymdrin â hwy yn y ffordd honno, ar ôl i bobl farw. A byddai'r syniad o sbaddu cemegol fel triniaeth arferol ar gyfer trosedd yn rhywbeth y byddem yn ei ystyried yn ffasgaidd.

Wrth gwrs, rydym wedi byw drwy ymgyrch yr 1980au, ymgyrch adran 28, lle cafodd grymoedd Ceidwadol eu cynnull i ailsefydlu'r normau o gyfyngu ar hawliau hoyw, ac ymgyrch i frwydro yn erbyn y rheini mewn gwirionedd. Ac yna'r camau i ostwng yr oedran cydsynio o 21 i 18, sef, mewn gwirionedd, yr ymgyrch i'w ostwng i 16, ond wrth gwrs, oherwydd y gwrthwynebiadau, 18 oed yn unig ydoedd ar y pryd. Rwy'n credu bod pawb wedi rhyfeddu bryd hynny, eto, at y cam mawr ymlaen o ran deddfwriaeth, sef Deddf Partneriaeth Sifil 2004, a agorodd y drws go iawn yn fy marn i.

Ond ni allwn anwybyddu'r ffaith bod rhagfarn a chasineb yn cynyddu'n sylweddol, rhagfarn a oedd efallai o dan yr wyneb ac sydd bellach yn ailymddangos gyda'r gwenwyn sy'n bodoli yn ein gwleidyddiaeth, nid yn unig yng Nghymru neu'r DU, ond ar draws Ewrop ac yn rhyngwladol. Caiff ei hybu'n rhannol gan dwf yr asgell dde eithafol, ac yn rhannol gan anghydraddoldeb. Os edrychwch ar y sefyllfa y mae pobl hoyw yn ei hwynebu yn Rwsia Putin yn awr, yr erledigaeth gorfforol go iawn sy'n dal i fodoli, ac fel Llywodraethau, rydym yn ymdrin â'r bobl hyn, felly mae angen i'n moeseg ryngwladol newid i fynd i'r afael â hyn o ddifrif, yn hytrach na'r hyn sy'n digwydd yn rhyngwladol i bob pwrpas, sef troi llygad dall i'r digwyddiadau anfoesegol hynny.

Cefais fy nghalonogi—gwn mai anaml y gallaf wneud araith heb sôn am Ukrain oherwydd fy nghefndir—wrth weld eu bod wedi cynnal gorymdaith Pride am y tro cyntaf yn Kyiv, lle na chafwyd unrhyw ddigwyddiadau ac ymunodd gwleidyddion â hi. Credaf ei bod yn bwysig cymharu'r hyn sy'n digwydd yno â'r hyn sy'n digwydd ym Moscow, oherwydd rydym yn byw yn y byd global hwn, ond eto ceir 73 o wledydd lle mae bod yn hoyw yn anghyfreithlon o hyd. Felly, ni fyddaf yn mynd drwy'r datganiadau ar hynny, ond mae'n amlwg fod problemau mawr yn ein cymunedau o ran addysg rhyw, hyfforddiant a'r rôl y mae hynny'n ei chwarae mewn gwirionedd. Ac rwy'n credu ein bod i gyd yn dal i wybod bod yna ffordd eithriadol o bell i fynd, ac isgerrynt.

Ychydig yn ôl, yn ystod un o'r ymgyrchoedd etholiadol, cefais alwad ffôn gan rywun yn fy lobïo i ofyn beth oeddem yn bwriadu ei wneud am anlladrwydd cyfunrhywiaeth a oedd yn cael ei ddysgu yn ein hysgolion. Yr unig ffordd y credwn y gallwn ymateb oedd drwy ddweud, 'Wel, mae fy mab yn hoyw, beth ydych chi'n awgrymu y dylwn ei ddweud wrtho?' a rhoddodd y ffôn i lawr. Ond mae yna isgerrynt sy'n gwneud i bobl deimlo'n fwy parod i siarad yn y ffordd honno, ac rwy'n credu bod cysylltiadau rhwng y mathau o ragfarn a hiliaeth a chasineb sydd wedi dod i'r amlwg.

A gaf fi ddweud hefyd—? Yn fy hen swydd, yn gweithio fel cyfreithiwr i undeb llafur, gwnaeth cynrychiolwyr undebau llafur a chynrychiolwyr pobl hoyw yn ein hundebau llafur lawer o waith i roi llais a chynrychiolaeth. Ni wnaf byth anghofio un cynrychiolydd roeddwn yn siarad ag ef ac yn rhoi cyngor iddo ar rywbeth yn dweud wrthyf yn rhinwedd ei swydd fel cynrychiolydd nad oedd ei rieni wedi siarad ag ef ers iddo ddatgan ei fod yn hoyw, ac mae yna bobl felly yn bodoli o hyd, pobl nad oes ganddynt y mathau hynny o gysylltiadau teuluol mwyach.

Yn ddiweddar, clywsom am yr ymosodiad ar Owen Jones, y newyddiadurwr, a oedd yn amlwg yn ymosodiad heb ei gymell arno am ei fod yn hoyw, ac oherwydd ei safbwyntiau agored. Felly, rwy'n croesawu'n fawr pa mor bell rydym wedi dod, ond mae'n bwysig deall pa mor bell sydd gennym i fynd o hyd. Felly, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at yr hyn y bydd yr Arglwydd Thomas yn ei ddweud yfory, oherwydd y peth allweddol am ddatganoli a'r system gyfreithiol—nid yw'n ymwneud â chyfraith er mwyn y gyfraith, mae'n ymwneud â sicrhau bod cyfreithiau yno i alluogi polisi i weithio, i gael ei weithredu a'i orfodi, ac mae'n ymwneud â chreu'r fframwaith hwnnw.

Rwy'n croesawu'r holl areithiau a wnaed heddiw. Rwyf am ganolbwyntio ar gwpl ohonynt, oherwydd roeddwn yn credu bod Joyce—

16:25

Fe ddof i ben yn awr. Mae Joyce Watson wedi gwneud cwpl o bwyntiau pwysig iawn: effaith y cyfryngau cymdeithasol, pwysigrwydd mecanweithiau adrodd, y pwyntiau a wnaed gan Stonewall ynglŷn â'r ffaith nad yw hyn ond yn crafu'r wyneb ac er enghraifft, yr hyn sydd wedi bod yn digwydd yn Birmingham a'r gwersi y mae'n rhaid inni fod yn ymwybodol ohonynt a dysgu oddi wrth hynny. Ac i groesawu'n fawr iawn yr hyn y mae'r Gweinidog wedi'i ddweud o ran ariannu, yr adroddiadau a'r ymgyrchoedd. Ond fel y mae hen Undeb Cenedlaethol y Glowyr wedi'i ddweud erioed, pris rhyddid yw gwyliadwriaeth dragwyddol, ac mae angen inni fod yn wyliadwrus yn y maes hwn fel mewn cynifer o feysydd eraill yn ystod yr adeg a'r sefyllfa wleidyddol wenwynig ac anodd iawn rydym yn byw ynddi. Diolch.

Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Cyllido Ysgolion yng Nghymru

Symudwn ymlaen yn awr at y ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 'Cyllido Ysgolion yng Nghymru', a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i gyflwyno'r cynnig. Lynne Neagle.

Cynnig NDM7166 Lynne Neagle

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg—Cyllido Ysgolion yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Gorffennaf 2019.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gael agor y ddadl hon heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyllido ysgolion yng Nghymru. Mae mynediad at addysg o ansawdd uchel yn hawl sylfaenol i'n plant a'n pobl ifanc i gyd. Ni ddylai ddibynnu ar ble rydych yn byw, eich cefndir cymdeithasol na'r iaith rydych yn dysgu ynddi.

16:30

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Addysg dda yw un o'r blociau adeiladu pwysicaf y gall plentyn ei gael. Fodd bynnag, yn llawer rhy aml clywn am y pwysau enfawr y mae ysgolion yn ei wynebu wrth geisio rheoli eu cyllidebau lle nad yw'r cyllid a gânt yn ddigonol. Mae hyn yn amlwg yn cael effaith negyddol ar ddarpariaeth addysg, gan gynnwys ysgolion yn gorfod cwtogi ar nifer y staff er mwyn mantoli eu cyllidebau.

Roedd cwestiynau wedi codi hefyd ynghylch lefel y tryloywder a'r amrywiad o ran dosbarthiad cyllid i ysgolion a bu dadlau ynghylch y cydbwysedd rhwng cyllid heb ei neilltuo ar gyfer llywodraeth leol a'r arian sydd wedi'i dargedu'n fwy penodol tuag at flaenoriaethau addysg Llywodraeth Cymru. Yn fwy diweddar, clywsom fod pryder cyffredinol y byddai cyllidebau annigonol i ysgolion yn llesteirio'r gwaith o gyflawni agenda diwygio addysg Llywodraeth Cymru.

Mae lefel enfawr a digynsail o ddiwygio'n digwydd ym maes addysg. Mae gennym gwricwlwm newydd radical ar gyfer Cymru, Deddf anghenion dysgu ychwanegol bwysig newydd, cyflwyno dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl a diwygiadau pellgyrhaeddol i ddysgu proffesiynol yn sail i'r cyfan. Ni allwn ddisgwyl i'r diwygiadau pwysig hyn lwyddo heb gyllid digonol.

Yng ngoleuni hyn, cytunodd y pwyllgor i gynnal yr ymchwiliad er mwyn edrych yn benodol ar ddigonolrwydd cyllid ysgolion yng Nghymru a'r ffordd y caiff cyllidebau ysgolion eu pennu a'u dyrannu. Wrth fwrw ymlaen â'r ymchwiliad, clywsom dystiolaeth gan amrywiaeth eang o randdeiliaid ar draws y sector. Aethom ati hefyd i gynnal astudiaethau achos manwl gyda thair ysgol, lle cyfarfuom â phobl ar bob lefel—disgyblion a rhieni, athrawon ac arweinwyr ysgol, awdurdodau lleol a llywodraethwyr ysgol. Roedd yr hyn a glywsom yn y tair ysgol yn ddidostur iawn, ac ar brydiau, yn frawychus. Roedd gweld effaith cyfyngiadau cyllidebol ar y rhai ar y rheng flaen yn uniongyrchol yn dangos pa mor bwysig yw hi i fynd i'r afael â'r sefyllfa hon. Hoffwn ddiolch i bawb a roddodd o'u hamser i gyfarfod â ni yn ystod yr astudiaethau achos, ac am eu barn onest am y problemau a wynebir.

Gwnaeth y pwyllgor gyfanswm o 21 o argymhellion, yn cwmpasu ystod eang o faterion. Yn yr amser sydd ar gael heddiw, ni allaf ymdrin â'n holl argymhellion. Fodd bynnag, fe amlinellaf rai o'r prif bryderon a godwyd. Rydym yn falch bod y Gweinidog Addysg wedi derbyn yr holl argymhellion yn ein hadroddiad a'r croeso cyffredinol y mae wedi'i roi i waith y pwyllgor yn y maes allweddol hwn. Mae'n peri pryder, serch hynny, nad yw ymateb y Gweinidog yn cynnwys manylion clir ynglŷn â sut y gweithredir nifer o'r argymhellion. Ac rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gallu ymhelaethu ar ei hymateb yn ystod y ddadl heddiw ar nifer o'r argymhellion allweddol hynny.

Wrth amlinellu canfyddiadau'r ymchwiliad, hoffwn ddechrau gyda'r casgliad mwyaf pryderus y daethom iddo fel pwyllgor, a lle roedd y dystiolaeth a gafwyd yn ysgubol. Yn syml iawn, nid oes digon o arian yn mynd i mewn i'r system addysg yng Nghymru ac nid oes digon yn cyrraedd yr ysgolion. Gwelsom hyn yn uniongyrchol yn ystod ein hymweliadau ag ysgolion. Fel rydym wedi'i amlinellu yn yr adroddiad, casgliad syml yw hwn nad oes iddo ateb syml, gwaetha'r modd. Mae'r system ar gyfer ariannu ysgolion yn hynod gymhleth, yn amlhaenog ac yn ddibynnol ar lawer o ffactorau, nid yn lleiaf wrth gwrs y swm o arian sydd ar gael i Lywodraeth Cymru o San Steffan. Rhaid cydnabod hefyd fod y cyfrifoldeb am ddarparu cyllid digonol ar gyfer ein hysgolion yn torri ar draws portffolios Gweinidogion. O ystyried cymhlethdod y fformiwlâu ariannu, rhaid i Weinidogion ar draws Llywodraeth Cymru weithio gyda'i gilydd i sicrhau bod ysgolion yn cael yr arian sydd ei angen arnynt.

Mae cyllid ychwanegol ar gyfer addysg yn hanfodol—a dychwelaf at y pwynt hwn yn fuan—ond er y byddai wedi bod yn hawdd argymell cyllid ychwanegol, credwn nad cynyddu lefel y cyllid yn unig yw'r ateb. Hefyd, rhaid defnyddio'r cyllid yn effeithiol ac yn y mannau cywir. Er mwyn deall y problemau y mae ein hysgolion yn eu hwynebu yn llawn, mae'n hanfodol inni wybod yn gyntaf beth yw graddau'r bwlch cyllido sy'n wynebu'r system addysg yng Nghymru, yn enwedig ar yr adeg hon o ddiwygio sylweddol. Mae angen inni ddeall faint y mae'n costio i redeg ysgol ac addysgu plentyn, fel isafswm sylfaenol, cyn ystyried yr holl ffactorau angenrheidiol megis amddifadedd a theneurwydd poblogaeth, yn ogystal â'r agenda ddiwygio enfawr.

Mae argymhelliad 1 yn ein hadroddiad yn galw'n glir felly ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad brys i sefydlu hyn. Mae ymateb y Gweinidog wedi bod yn gadarnhaol iawn, gan gadarnhau bod Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol eisoes wedi dechrau ar y gwaith o ystyried cwmpas yr adolygiad. Edrychaf ymlaen at gael y wybodaeth ddiweddaraf am gamau gweithredu gan y Gweinidog maes o law. A gaf fi ddweud er hynny, beth bynnag fydd canlyniad yr ymchwiliad hwnnw, na ellir ei roi yn y blwch 'rhy anodd', fel sydd wedi digwydd gydag adolygiadau blaenorol ar ariannu ysgolion, megis adolygiad Bramley yn 2007 a'r blynyddoedd dilynol?

I ddychwelyd at fater cyllid ychwanegol, rwy'n siŵr bod yr Aelodau'n ymwybodol fod cyhoeddiadau diweddar am gyllid ar gyfer addysg yn Lloegr wedi arwain at swm canlyniadol o bron £200 miliwn i Gymru. O ystyried bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn holl argymhellion adroddiad y pwyllgor, buaswn yn gobeithio y bydd y rhan fwyaf, os nad y cyfan, o hwn yn cael ei glustnodi ar gyfer addysg yng Nghymru.

Fel y nodir yn ein hadroddiad, nid yw'r problemau a wynebir yn ymwneud yn unig â lefel y cyllid i ysgolion, maent yn ymwneud hefyd â'r ffordd y mae'n gwneud ei ffordd i reng flaen yr ysgol a'r modd y'i defnyddir. Mae hyn yn amlwg yn dibynnu ar nifer o ffactorau, gan gynnwys blaenoriaethu'r gyllideb ar lefel Llywodraeth Cymru, sut y caiff adnoddau ar gyfer llywodraeth leol eu rhannu rhwng awdurdodau, a yw awdurdodau lleol yn blaenoriaethu ysgolion o fewn eu proses gyllidebu eu hunain, i ba raddau y maent yn dirprwyo cyllid i'r ysgolion eu hunain, a sut y maent yn dosbarthu'r cyllid hwnnw rhwng ysgolion.

O ystyried cymhlethdod y system, roeddem yn pryderu wrth glywed nad yw Llywodraeth Cymru yn monitro lefel y flaenoriaeth y mae awdurdodau lleol yn ei rhoi i ysgolion wrth ddosbarthu eu cyllid. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir iawn drwy gydol yr ymchwiliad mai awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am ddyrannu adnoddau i addysg, ac maent yn atebol yn ddemocrataidd am hyn. Er ein bod yn derbyn y safbwynt hwn, o ystyried cyfrifoldeb cyffredinol Llywodraeth Cymru dros addysg, credwn fod rhaid iddi allu bodloni ei hun fod awdurdodau lleol yn rhoi digon o flaenoriaeth i addysg.

Mae argymhelliad 5 yr adroddiad, felly, yn galw ar Lywodraeth Cymru i fonitro'r gwariant hwn yn fwy manwl, er mwyn sicrhau ei hun fod digon o arian yn cael ei ddarparu i alluogi ysgolion i gyflawni'n effeithiol yr hyn sy'n ofynnol ganddynt: addysg o ansawdd uchel, yn ogystal â gwella a chyflawni'r agenda ddiwygio. Er bod y Gweinidog wedi derbyn yr argymhelliad hwn, nid yw'r manylion yn ei hymateb yn rhoi unrhyw arwydd o sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflawni'r rôl fonitro ehangach y galwasom amdani. Felly, byddwn yn gofyn am eglurhad pellach gan y Gweinidog ar y mater hwn.

Yn y dystiolaeth a gawsom, roedd dryswch ynglŷn â diben asesiadau wedi'u seilio ar ddangosyddion o fewn y setliad llywodraeth leol. Safbwynt clir Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru oedd nad oes gan asesiadau wedi'u seilio ar ddangosyddion fawr o ddylanwad ar faint a werir ar addysg. Fodd bynnag, dadleuodd undebau'r prifathrawon nad oes fawr o bwynt sefydlu asesiadau wedi'u seilio ar ddangosyddion os nad yw awdurdodau lleol yn eu hystyried. Er ein bod yn derbyn nad yw cyllid ar gyfer Llywodraeth Leol wedi'i glustnodi, credwn fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddarparu mwy o eglurder ynglŷn â diben asesiadau wedi'u seilio ar ddangosyddion. Er nad ydynt yn rhagnodi faint sy'n rhaid i awdurdod lleol ei wario, onid ydynt o leiaf cymaint ag amcangyfrif Llywodraeth Cymru o faint y dylai fod angen i awdurdod lleol ei wario er mwyn cynnal lefel safonol o wasanaeth? Nid yw hynny'n gwbl glir o ymateb Llywodraeth Cymru i argymhelliad 6.

Lywydd, codwyd llawer o faterion eraill pwysig yn ystod yr ymchwiliad yr hoffwn eu trafod ond ni allaf ymdrin â hwy heddiw. Hoffwn gloi drwy ddweud fy mod yn credu'n wirioneddol mai diffyg cyllid digonol i'n hysgolion yw un o'r problemau mwyaf sy'n wynebu ein gwasanaethau cyhoeddus. I ailadrodd, rwy'n falch iawn fod y Gweinidog wedi cytuno i gomisiynu adolygiad i nodi faint o arian y mae'r system ysgolion yng Nghymru ei angen ac edrychaf ymlaen at wybodaeth bellach am hynny.

Buddsoddi mewn addysg yw'r buddsoddiad ataliol pwysicaf y gall unrhyw Lywodraeth ei wneud. Daeth yn bryd i bawb ohonom weithio gyda'n gilydd, ar draws y pleidiau, ar draws Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol, i sicrhau bod ein hysgolion yn cael yr arian sydd ei angen arnynt i ddarparu'r addysg o safon uchel y mae ein holl blant a'n pobl ifanc yn ei haeddu. Diolch yn fawr.

16:35

A gaf fi ddiolch i chi, Lynne? Nid wyf yn credu y dylai Llywodraeth Cymru fod wedi synnu'n arbennig at gynnwys yr adroddiad hwn. Mae'r cyllid fesul disgybl ar gyfer ysgolion wedi bod yn wael yn hanesyddol o'i gymharu â gweddill y DU, ac mae'r canlyniadau i'w gweld bellach. Mae athrawon, arweinwyr ysgolion, undebau fel Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon ac arweinwyr cynghorau wedi bod yn wirioneddol ofnus ynglŷn â pha mor agored yw ysgolion i gwtogi ariannol, a diolch i bob un ohonynt am ddod gerbron y pwyllgor i roi eu tystiolaeth. Ac yn ogystal â'u pryderon am y swm cyffredinol sydd ar gael i ysgolion, mae athrawon ac arweinwyr ysgolion wedi bod yn effro iawn i'r gwahaniaeth gweladwy rhwng cynghorau a pha mor annelwig yw'r rhesymau pam y mae'r gwahaniaethau hynny'n bodoli.

Er gwaethaf y bwlch ariannu hirsefydlog rhwng disgyblion, ymrwymodd y Ceidwadwyr Cymreig i'r adroddiad hwn oherwydd ein bod yn credu bod problem mewn perthynas â chyllid Llywodraeth y DU. Er y gallem fod wedi gwthio'r pwynt amlwg fod Llywodraeth Cymru yn dewis sut y mae'n blaenoriaethu ei gwariant, a'r arian ychwanegol y pen a ddarperir gan y cyllid gwaelodol, mae rhai o'r pryderon hyn yn rhai i'r DU gyfan, felly roedd yn rhaid bod Llundain yn rhannol gyfrifol am ddatrys y broblem. Ond mae Llundain wedi ymateb. O ganlyniad i'r diffyg cenedlaethol sy'n lleihau, mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo £7.1 biliwn i ysgolion dros y tair blynedd nesaf. Dywed y Sefydliad Astudiaethau Cyllid y bydd hyn yn adfer gwerth y pot o arian i ysgolion i lle roedd cyn i effeithiau'r cwymp ariannol ddechrau gadael eu hôl. Mae hyn yn golygu bod tua £355 miliwn yn ychwanegol yn dod i Gymru o gyllideb ysgolion y DU—a'r gyllideb ysgolion yw honno, nid y gyllideb addysg—dros y tair blynedd nesaf. Mae gan y Gweinidog yr eglurder yn awr i ganiatáu ar gyfer ymrwymiad amlflwyddyn, fel y gofynnodd amdano wrth dderbyn argymhelliad 15.

Y £195 miliwn sy'n dod i Gymru o gyllideb ysgolion y DU ar gyfer 2020-1 o ganlyniad i'r adolygiad o wariant eleni—clywsom gan y Trefnydd ychydig wythnosau'n ôl nad yw'r penderfyniad wedi'i wneud ynglŷn â sut y gwerir yr arian hwnnw. Rwy'n gobeithio y cawn wybod ei fod wedi'i ddyrannu'n fuan, oherwydd yn y tair blynedd diwethaf mae'r bwlch ariannu disgyblion rhwng Cymru a Lloegr wedi culhau'n amlwg—dywed Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau ei fod yn £645; mae Llywodraeth Cymru yn dweud fel arall. Ond mae wedi culhau, oherwydd mae nifer y disgyblion yn Lloegr wedi tyfu'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf ac nid yw cyllid yno wedi dal i fyny. Yng Nghymru, dim ond 29 o ddisgyblion ychwanegol a gawsom yn ystod y 10 mlynedd, ond mae'r bwlch cyllido hirsefydlog—a gadewch i ni gofio ei fod wedi bod cymaint ag £800—yn dal i fod yno, er gwaethaf y cyllid gwaelodol.

Mae'r bwlch wedi deillio o benderfyniadau cyllidebol hirdymor a wnaed gan Lywodraeth Cymru, nid Llywodraeth y DU. Mae'n rhagflaenu ac yn codi o resymau gwahanol i'r rhai sy'n effeithio ar ysgolion yn Lloegr, ac yn wahanol i Lywodraeth Cymru, mae Llywodraeth y DU wedi gweithredu'n gymharol gyflym, gan wrthdroi'r toriadau mewn termau real sydd wedi effeithio ar werth y gacen ariannu ysgolion honno. Felly, gan fod yr arian ychwanegol hwn yn dod bellach, y cwestiwn yn awr yw a welwn y bwlch cyllid y pen i ddisgyblion yn agor eto. Oherwydd os gwnaiff, bydd yn gwbl glir mai dewis a wneir ym Mae Caerdydd ydyw, nid un yn Llundain.

16:40

Yn gyflym iawn. Efallai y byddaf yn symud ymlaen i ateb eich cwestiwn a dweud y gwir.

Mae'n rhaid i mi ddweud, rwy'n synnu eich bod chi, Suzy Davies, yn mabwysiadu ymagwedd 'swyddfa ganolog' o'r fath. Roeddech yn rhan o'r pwyllgor, ac mae'n adroddiad adeiladol. Nid yw wedi'i fwriadu i fod yn y ffordd rydych chi'n ei gyflwyno, fel rhaniad rhwng y DU a Bae Caerdydd. A fyddech cystal â bod yn fwy adeiladol ac adlewyrchu barn y pwyllgor?

Gadewch i mi barhau, oherwydd, wrth gwrs, fel y crybwyllodd Lynne Neagle yn ei sylwadau agoriadol, cyfeiriwyd at San Steffan yn hyn, a chredaf ei bod yn werth inni nodi bod San Steffan bellach wedi ymateb i bryderon a wnaed yn amlwg iddynt yn ystod y pedair neu bum mlynedd diwethaf yn unig. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi ymateb i'r bwlch ariannu fesul disgybl a amlygwyd iddynt ers i mi fod yma a chyn hynny. Felly, yr hyn rwyf am ei ddweud yw, hyd yn oed os yw Llywodraeth Cymru yn ymrwymo'r £355 miliwn cyfan i ysgolion—nid i addysg, i ysgolion—yna, fel y dywed adroddiad y pwyllgor, rydym yn taro 'niwl cyllido' llywodraeth leol, a dyma rwyf am ganolbwyntio arno yn awr. Oherwydd, mewn rhai ffyrdd, hoffwn yn fawr pe bai'r Gweinidog llywodraeth leol yma i ymateb i'r ddadl hon, oherwydd credaf mai ar lefel llywodraeth leol y mae angen gweithredu ar frys.

Nawr, rwy'n derbyn bod pwysau ehangach ar y grant cynnal refeniw, ond mae'r adroddiad hwn wedi amlygu'r hyn sy'n edrych fel mympwy o ran sut y cyllidir ysgolion. Mae'r gwahaniaeth enfawr yng nghronfeydd wrth gefn a diffyg ysgolion yn dangos bod rhywbeth yn mynd o'i le'n wael. Nid oes unrhyw gysondeb rhwng awdurdodau lleol o ran y modd y maent yn blaenoriaethu gwariant craidd ar ysgolion a dim llinell atebolrwydd i Lywodraeth Cymru sy'n cysylltu ei phenderfyniadau ar faint y mae ysgolion ei angen, ei chyfraniad o ganlyniad i hynny i'r grant cynnal refeniw, a faint y mae cynghorau'n ei wario ar ysgolion mewn gwirionedd.

Rhaid i mi ofyn a ddylai awdurdodau lleol fod yn gwbl rydd i ddefnyddio arian a ganfuwyd gan y Llywodraeth i fynd i'r afael â phroblem benodol a nodwyd ar rywbeth arall yn gyfan gwbl. Fel y dywedodd Lynne Neagle, mae gwariant ar brofiad ysgol da yn ymgorfforiad o wariant ataliol ac felly, dylai digon o gyllid i ysgolion fod yn flaenoriaeth i bob cyngor. Ond fel y mae'r Llywodraeth yn cyfaddef, ni fydd yn dylanwadu ar y blaenoriaethu, er ei bod yn derbyn argymhelliad 2.

Mewn tystiolaeth i ni, soniodd y ddau Weinidog am bwysigrwydd ymddiriedaeth broffesiynol rhwng Llywodraeth a chynghorau o ran eu penderfyniadau. Ond beth am yr ymddiriedaeth broffesiynol rhwng staff ysgolion a chynghorau, ac ysgolion a'r Llywodraeth? Hyd yn oed wrth dderbyn ein holl argymhellion, mae'r Gweinidog wedi osgoi ateb rhai o'r cwestiynau a gafwyd yn yr argymhellion. Ceir cwestiwn anghysurus ynglŷn â phwy y mae'n ymddiried ynddynt fwyaf i gyflawni ei dyheadau ar gyfer rhai oedran ysgol, gan ei bod yn ymddangos i mi ei bod yn fwy na pharod i ymddiried mewn arweinwyr ysgolion sydd â chyfrifoldeb enfawr am gynllunio cwricwlwm newydd, ond pan ddaw'n fater o ariannu'r ysgol er mwyn ei gyflwyno, mae hynny'n rhywbeth i rywun arall ac nid yw'n glir i mi pwy, eto i gyd arweinwyr ysgolion fydd yn atebol os bydd y cwricwlwm yn methu oherwydd diffyg arian i ysgolion.

Bydd eich gwaddol, Weinidog, yn dibynnu ar y modd y byddwch yn datrys y broblem ariannu ysgolion a nodir mor glir yn ein hadroddiad. Rwy'n mawr obeithio y bydd yr adroddiad hwn yn eich helpu chi, a'r Gweinidog llywodraeth leol, i gael yr arian sydd ei angen arnoch ar gyfer ysgolion. Diolch.

16:45

Mi oeddwn i'n falch iawn o fod yn rhan o'r ymchwiliad pwysig yma, ac mae yna argymhellion pwysig iawn yn cael eu cyflwyno yn yr adroddiad. Mi ddylai hi fod yn gyfnod cyffrous ar gyfer addysg yn ein hysgolion yng Nghymru. Mae cyflwyno cwricwlwm newydd sy'n parchu doniau ein hathrawon yn gysyniad y mae Plaid Cymru wedi'i gefnogi ar hyd y blynyddoedd.

Ond, yn anffodus, os nad ydy'r newid anferth yma'n cael ei gefnogi gan gyllid ac adnoddau digonol, mae perig gwirioneddol inni golli'r cyfle euraidd yma, ac y bydd cyflwyno'r cwricwlwm newydd ar y gorau yn anghyson ar draws Cymru ac ar y gwaethaf yn llanast llwyr. Yng nghanol hyn oll, ein plant a'n pobl ifanc fydd yn dioddef.

Mae'r papur a gyhoeddwyd yr wythnos hon, o'r enw 'Addysg Addas ar gyfer y Dyfodol yng Nghymru', yn tynnu sylw at yr union broblem yma, gan ddweud am y gofid am y lefel o adnoddau fydd ar gael i athrawon ddatblygu a darparu'r cwricwlwm newydd, ac mae prin yw'r arwyddion fod chwistrelliad sylweddol o adnoddau yn mynd i ddigwydd ar lefel ysgolion ac ar draws y system cyn y lansiad yn 2022.

Mae undeb yr NAHT yn dyfynnu ffigurau cyfrifiad ysgolion o Ionawr eleni o'u cymharu â'r flwyddyn flaenorol er mwyn darlunio'r broblem fel mae hi ar hyn o bryd, a dwi yn meddwl ei bod hi'n bwysig i ni ddarlunio'r argyfwng sydd angen ei sortio allan. 

Felly, ddechrau eleni, roedd 1,286 yn fwy o ddisgyblion, ond 278 yn llai o athrawon a 533 yn llai o staff cymorth. Felly, o'r ffigurau yna, mae'n dod yn hollol amlwg fod y toriadau cyllidol sy'n cael eu disgrifio'n fanwl yn yr adroddiad—fod y toriadau yma'n golygu nad oes yna ddim athrawon yn cael eu penodi i lawer iawn o'r swyddi sy'n dod yn wag, fod toriadau yn golygu bod llai o athrawon yn gweithio'n llawn amser a mwy'n gweithio'n rhan amser, ac mai'r staff cymorth ydy'r cyntaf i gael eu taro drwy golli eu swyddi, gweithio llai o oriau neu wrth i ysgolion fethu adnewyddu cytundebau penodol.

Meddai un pennaeth ysgol gynradd wrthyf i, 'Rydym ni ar ein gliniau'. Mae hyn yn bryder gwirioneddol, ac mae camau wedi cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i leihau baich gwaith athrawon, ond mae'r diffyg mewn cyllidebau ysgolion yn ychwanegu at lwyth gwaith, ac mae hyn oll, wrth gwrs, yn cael effaith gwbl andwyol ar addysg ein plant a'n pobl ifanc ni.

Felly, dwi'n croesawu argymhelliad 2 y pwyllgor yn fwy na'r lleill—mae'r lleill yn bwysig, ond argymhelliad 2, yn fy marn i, yw'r un sydd yn mynd i gyflwyno'r newid mwyaf sydd ei angen. Mi fyddai gweithredu argymhelliad 2 yn golygu y byddai yna feintiau dosbarth rhesymol er mwyn sicrhau y gall athrawon roi sylw priodol a digonol i bob plentyn. Mi fyddai fo'n golygu niferoedd digonol o staff cymorth dysgu a digon o gapasiti yn y system anghenion dysgu ychwanegol ar bob lefel i adnabod problemau mor gynnar â phosib, a sicrhau cefnogaeth gref i faterion lles ac iechyd meddwl ledled y system addysg.

Er fy mod i yn croesawu argymhelliad 1 am yr adolygiad, dwi yn meddwl ei bod hi'n bwysig peidio â disgwyl am ganlyniadau'r adolygiad. Mi fyddai disgwyl am hynny yn gallu arafu'r broses, ac mae angen i arian lifo i mewn i'n hysgolion ni rŵan. Mae'n bwysig, efo'r adolygiad, i fod yn glir am y tybiaethau cychwynnol hefyd, a sicrhau bod yna ystod o fodelau ysgol a modelau cost yn cael eu cymryd i ystyriaeth. Er enghraifft, mae yna wahaniaethau, onid oes, mewn modelau cost ysgolion mawr o'i gymharu efo ysgolion bach, gwledig/trefol, ac yn y blaen, ac yn y blaen.

Mae yna nifer o argymhellion synhwyrol yn yr adroddiad ynglŷn â gwahanol agweddau. Dwi'n credu bod argymhelliad 15 yn un i dynnu sylw ato fo ac yn fater o flaenoriaeth uchel, sef creu setliadau cyllido tair blynedd. Rŵan, dwi'n gwybod bod yna anawsterau yn sgil dibynnu ar amserlenni San Steffan, ond mae'n rhaid, dwi'n credu, dod o hyd i ffordd o wneud hyn. Mae yna grŵp arall o argymhellion yn ymwneud â'r haen ganol, a dwi yn edrych ymlaen at weld gwaith yr Athro Dylan Jones. Mae yna broblem fan hyn. Mae yna ddiffyg ymddiriedaeth rhwng ysgolion a'r consortia rhanbarthol, a theimlad cryf fod yna symiau mawr yn cael eu gwario ar y lefel yna.

Beth sydd yn bwysig, dwi'n credu, ydy cydnabod beth sydd yn argymhelliad 2. Pe baem ni'n gwneud hynny, mi fuasai'r drafodaeth yn gallu symud yn eu blaen, a dwi'n credu bod angen inni droi rŵan, fel roedd Cadeirydd y pwyllgor yn ei ddweud. Mae angen y drafodaeth aeddfed honno ar draws y Siambr, ar draws y dyletswyddau, i feddwl yn wahanol am gyllideb Cymru, ac i feddwl am gyllideb Cymru mewn termau ataliol. 

16:50

A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i'r rhai a gymerodd ran yn yr ymchwiliad, a diolch i Lywodraeth Cymru am ei hymateb cadarnhaol iawn i argymhellion y pwyllgor? Yn anochel, rwy'n credu y byddwn i gyd, mae'n debyg, yn trafod nifer o'r un meysydd, felly byddwch yn amyneddgar. Ond i mi, roedd yr ymchwiliad hwn yn dangos yn glir nad yw ariannu ysgolion mor syml ag yr hoffai rhai ei awgrymu. Felly, hyd yn oed os dechreuwn o'r cynsail ein bod i gyd yn derbyn bod ysgolion angen mwy o arian, ac rydym i gyd yn derbyn hynny, yn sicr nid oes ateb syml i'r cwestiwn faint sydd ei angen ar ysgolion mewn gwirionedd, faint ddylai hynny fod. Fel y dywedodd y Gweinidog yn ei hymateb, mae hyn yn hynod gymhleth ac amlhaenog, ac mae'n dibynnu ar lawer o ffactorau.

Credaf felly fod argymhelliad 1 y mae Siân newydd gyfeirio ato o'r adroddiad wedi'i fframio'n bendant iawn i ddarparu'r dystiolaeth i'n helpu i ateb y cwestiwn hwnnw ac i roi sail gadarnach i'r drafodaeth am addysg ysgolion a chyllid ar ei chyfer yng Nghymru. Dyna a wnaethom mewn perthynas â chyllid y GIG drwy adroddiad Nuffield, ac rwy'n credu y gall astudiaeth debyg ar gyfer addysg fod o gymorth mawr.

Yn ystod yr ymchwiliad, teimlwn fod cryn gamddealltwriaeth ynglŷn ag addysg ac ysgolion, mewn gwirionedd, y system ysgolion yng Nghymru, neu o leiaf roeddwn yn teimlo bod yna bobl a oedd yn defnyddio'r system i gyflwyno haenau o ddirgelwch yn seiliedig ar gymhlethdod. Roedd hynny'n cynnwys dadleuon ynglŷn â gwariant gros, gwariant fesul disgybl, diben asesiadau wedi'u seilio ar ddangosyddion. Ac mae rhai o'r dadleuon hynny'n dechnegol iawn, a chlywsom ddadleuon a oedd yn gwrthdaro ynglŷn â phwysigrwydd y data a gafwyd. Felly, rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i geisio darparu dealltwriaeth fwy eglur a mwy o gysondeb yn y broses o gasglu ystadegau a llunio adroddiadau.

Nawr, fel y gŵyr pawb ohonom, ceir o leiaf bedair lefel o benderfyniadau ariannol yn y system. Dechreuwn gyda chyllid y DU i Gymru. Mae'n rhaid i mi gefnogi fy nghyd-Aelod Hefin David yma wrth herio'r hyn a ddywedodd Suzy Davies, oherwydd mae hyn wedi'i osod yn erbyn cefndir o ddegawd o gyni dan law'r Torïaid. Felly, i bob llais ar ran y Ceidwadwyr Cymreig yn y ddadl hon sy'n gofyn am fwy o arian i ysgolion, ystyriwch y maniffestos roeddech yn sefyll arnynt—

—a'r toriadau i wariant rydych wedi eu gorfodi ar Gymru. Fe gymeraf eich ymyriad.

Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am gymryd yr ymyriad. Y gwir amdani yw bod cyfuniad o ffactorau ynghlwm wrth ariannu ysgolion, nid yn unig yr arian sy'n dod o San Steffan, y clywsoch eisoes ei fod yn cynyddu gannoedd o filiynau o bunnoedd o'r flwyddyn nesaf, ond hefyd effeithir arno gan y ffordd y rhannwch yr arian hwnnw yma fel Llywodraeth Cymru, a'r modd y dosbarthwch yr arian hwnnw ledled Cymru. Nawr, yn fy etholaeth i yng ngogledd Cymru, y realiti yw bod y ddau awdurdod lleol wedi cael eu taro gan wasgfa enfawr ar eu cyllid o ganlyniad i'r cynnydd yn y cyllid i'r cynghorau sy'n dod i leoedd yn ne Cymru, megis Caerdydd, Casnewydd, Abertawe, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful ac eraill, ar yr un pryd ag y gwneir toriadau yng Nghonwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd ac Ynys Môn. Pam y mae hynny'n digwydd? Mae'n annerbyniol.

16:55

Wel, rwy'n rhagdybio y bydd y Llywydd yn rhoi rhywfaint o amser ychwanegol i mi yn awr yn fy nghyfraniad oherwydd fy mod wedi cael llond bol ar sefyll yn y Siambr hon wythnos ar ôl wythnos yn clywed y Torïaid yn galw am fwy o wariant ar ein holl wasanaethau cyhoeddus a chithau wedi llywodraethu dros 10 mlynedd o gyni. Ni chymerwn unrhyw wersi gan y Ceidwadwyr ar wariant.

Yn ail, penderfyniadau cyllidebol Llywodraeth Cymru, y byddaf yn eu trafod yn awr, gan gynnwys y dyraniad i awdurdodau lleol a'r cyllid tuag at gyflawni blaenoriaethau addysg cenedlaethol. Yn drydydd, penderfyniad awdurdodau lleol yn eu blaenoriaethau lleol, sy'n cynnwys gwariant ar addysg ysgolion a fformiwla ariannu ysgolion lleol, ac wrth gwrs, yn olaf, blaenoriaethau a osodir gan arweinwyr ysgolion lleol eu hunain ar gyfer yr anghenion unigol o fewn yr ysgolion.

Felly, fel y gwyddom, y ffordd y mae ein system addysg yn gweithio yng Nghymru yw trwy bolisi cenedlaethol a rhai grantiau cenedlaethol fel y grant amddifadedd disgyblion—y soniodd Suzy amdano’n gynharach, polisi sy'n helpu i oresgyn anfantais—y consortia rhanbarthol, sy'n helpu i herio a chodi safonau, a chydwasanaethau hefyd, sy'n helpu i'w gwneud yn fwy costeffeithiol i awdurdodau lleol ac ysgolion, a blaenoriaethau awdurdodau lleol, sy'n cynnwys y fformiwla ariannu ar gyfer cyllido ysgolion. Ac mae hyn i gyd wedi'i grynhoi yn dda iawn, mewn gwirionedd, yn y diagram ar dudalen 22 yr adroddiad, ac rwy'n ei ganmol fel rhan o’r broses o ddeall yr ymchwiliad hwn. Mae'n dangos yn daclus i ni sut y mae arian yn llifo o amgylch y system. Ond mae’r ffeithiau hynny yn fy arwain at fy mhwynt nesaf, sef bod angen i’r cyllid a ddyrennir gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol gefnogi’r system addysg ysgolion honno yn ei chyfanrwydd, ac ar adegau o gyfyngiadau ariannol, er mwyn cynyddu cyllid mewn unrhyw ran benodol o'r system, y gwir amdani yw fod angen gwneud penderfyniadau ynghylch pwy sy'n cael mwy, ac felly, pwy sy'n cael llai, ac mae honno'n her allweddol i'r system gyfan ymateb i'r anghenion yn ein cymunedau.

Felly, mae'n iawn bod argymhelliad 2 yr adroddiad yn pwysleisio'r angen am wariant ataliol a'r cysylltiad ag argymhelliad 4 ynghylch pwysigrwydd dull sy'n seiliedig ar anghenion o ddyrannu cyllid. I mi, mae hynny'n cynnwys blaenoriaeth uchel i’r angen i ganolbwyntio ar fynd i'r afael ag effaith tlodi ar ragolygon a chyflawniadau ein plant. Ond rwyf hefyd am adleisio'r hyn a ddywedodd Lynne Neagle ar ddechrau'r ddadl hon am raddfa'r agenda addysg rydym yn ei dilyn yng Nghymru ar hyn o bryd, a chredaf ei bod yn werth atgoffa ein hunain ein bod yn siarad am y cwricwlwm newydd, rydym yn siarad am y trawsnewid drwodd i ADY, rydym yn siarad am annog agwedd ysgol gyfan tuag at iechyd meddwl, ynghyd â chefnogi a datblygu staff addysgu. Felly, mae addysg a chyllid ysgolion, o fewn fframwaith o wariant ataliol, yn fater cyllido pwysig i Lywodraeth Cymru yn y degawd sydd i ddod, ac o ganlyniad, gobeithio ein bod yn gweld rhywfaint o newid ar ôl blynyddoedd o doriadau Torïaidd—arhoswn i weld a ddaw'r arian i ni—fel y gallwn ddechrau gwella'r sefyllfa ariannu ar gyfer awdurdodau lleol ac ar gyfer ysgolion, a bod Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn gallu darparu gwell dealltwriaeth o anghenion cyllido ein hysgolion, ond rhaid inni gydnabod hefyd, hyd yn oed os yw cynghorau'n cael mwy o arian, fod faint o'r arian hwnnw sy'n cyrraedd ysgolion yn dal i ddibynnu ar flaenoriaeth pob ysgol—pob awdurdod lleol, mae'n ddrwg gennyf.

Yn olaf, Lywydd, dylem gofio hefyd nad yw'r canlyniadau a gyflawnir yn ein hysgolion yn gysylltiedig yn unig â'r swm o arian y maent yn ei dderbyn. Hyd yn oed yn yr ysgolion sy'n gwario'r symiau uchaf o arian, mae llawer o dystiolaeth yn dangos bod y lefelau cyrhaeddiad yn aml yn is nag mewn rhai ysgolion sy’n gwario llawer llai, ac nid wyf yn siŵr ein bod wedi deall yn iawn pam fod hynny’n digwydd.

Ac er fy mod yn cytuno ag argymhelliad 21, sy'n ein hatgoffa bod angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod yr arian yn cyrraedd y rheng flaen at y dibenion a fwriadwyd, ni ddylai'r ddadl am gyllid ysgolion dynnu ein sylw oddi ar y trafodaethau ynghylch gwella perfformiad, lle nad yw cyllid ysgolion ond yn un ffactor yn unig.

A gaf fi ddiolch i'r pwyllgor am yr adroddiad hwn ac a gaf fi ddweud y byddwn yn cefnogi'r cynnig? Mae ariannu ein hysgolion, fel gyda'n GIG, bob amser wedi bod yn fater dadleuol, ond fel gyda'r GIG, ni allwn fethu sicrhau bod ein system addysg yn derbyn cyllid digonol. Ni waeth pa bwysau ariannol sydd ar ein hawdurdodau lleol, nid cyllidebau ysgolion yw'r lle i wneud toriadau. Dim ond trwy ariannu ein hysgolion ar lefel sy'n sicrhau bod ein plant yn cael yr addysg orau bosibl ac felly, y dechrau gorau mewn bywyd, y gallwn sicrhau nid yn unig eu dyfodol hwy ond ffyniant y wlad gyfan yn y dyfodol. Addysg yw sylfaen ein heconomi a gwead cymdeithasol ein cymdeithas.

Weinidog, mae'r byd yn newid. Nid yw dal i fyny’n ddigon da bellach; mae angen i ni fod ar y blaen ac mae hynny, mewn economi ddiwydiannol fodern, yn golygu system addysg o'r ansawdd gorau posibl. Bydd y newidiadau a ddaw yn sgil deallusrwydd artiffisial yn ogystal â llawer o ddatblygiadau eraill mewn gwyddoniaeth a systemau cyfathrebu yn rhoi mwy a mwy o bwysau ar bawb sy'n ymwneud â'r sector addysg. Ni allwn eu siomi drwy beidio â darparu cyllid digonol.

Mewn byd technolegol, mae ein system addysg yn agored i bwysau eithafol, ac mae hyn yn golygu y bydd angen i'r proffesiwn addysgu fod yn hyfforddi'n barhaus i fynd i’r afael â phwysau o'r fath. Y cwestiwn felly yw sut y gallwn oresgyn yr heriau sydd o'n blaenau a darparu'r lefelau cyllid a ddylai olygu mai ein plant ni sy’n cael yr addysg orau yn y DU, os nad y byd?

Rydym yn gwybod am y problemau a wynebwn ac mae'n rhaid i ni dderbyn bod adnoddau'n gyfyngedig. Gan hynny, efallai fod yn rhaid inni edrych ar rai atebion radical. Yr hyn rwy'n ei olygu yw ei bod hi'n hen bryd i arian a ddyrennir drwy grantiau addysg Llywodraeth Cymru fynd yn uniongyrchol i ysgolion yn hytrach nag i awdurdodau lleol sy'n tocio'r arian er mwyn cyllido adrannau addysg lleol. Yr ysgolion a'r addysgu—[Torri ar draws.] Iawn, wrth gwrs.

17:00

A ydych chi'n sylweddoli bod rhan helaeth o wariant awdurdodau addysg lleol yn ganolog yn mynd ar gludiant cyn-ysgol?

Fe ellir ei wneud gan yr awdurdod ei hun yn uniongyrchol wrth gwrs, os yw hynny'n wir ar hyn o bryd.

Yr ysgolion a'r addysgwyr proffesiynol sy'n eu rhedeg sy'n gwybod orau ble i wario'r arian sydd ar gael; dyna’r bobl sydd yn y sefyllfa orau i benderfynu ar flaenoriaethau. Gadewch i ni ymddiried yn y gweithwyr proffesiynol hyn.

Cefais wybod gan brifathro rai blynyddoedd yn ôl am y costau mawr a wynebai i gael atgyweiriadau wedi’u gwneud i'w ysgol—£500 i atgyweirio dau dwll maint platiau cinio ar fuarth ei ysgol, y gallai fod wedi talu £100 am eu gwneud yn broffesiynol. A £1,100 i ailosod ffenestr lithro, y dywedodd tad disgybl, saer proffesiynol, y gallai fod wedi’i gosod am £90. Dwy enghraifft yn unig o ble y gwastreffir cyllideb ysgol. Dyma arian a ddylai fod yn mynd tuag at addysgu disgyblion. Os oes rhaid i ni dderbyn bod cronfeydd yn gyfyngedig, ni ddylem wastraffu'r cronfeydd sydd ar gael.

Hoffwn ddiolch i Lynne Neagle AC am ei harweiniad fel cadeirydd ein Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, am baratoi'r adroddiad hwn a hefyd am ei gyflwyno yma heddiw. Mae hi wedi taro'r hoelen ar ei phen: yn syml iawn, nid oes digon o arian yn mynd i mewn i system addysg Cymru, ac yn sicr nid oes digon yn cyrraedd ein hysgolion.

Nawr, wrth gwrs, ers cyhoeddi'r adroddiad hwn—[Torri ar draws.] Nid wyf hyd yn oed wedi dechrau. Ni allaf, mae’n ddrwg gennyf.

Ers cyhoeddi’r adroddiad hwn, a diolch byth, mae ein Prif Weinidog, y Gwir Anrhydeddus Boris Johnson AS, wedi cyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn £1.24 biliwn o wariant ychwanegol yn uniongyrchol ar gyfer ysgolion. Bydd yr arian yn rhoi cyfle i'r Gweinidog addysg roi camau pendant ar waith i gau, os nad dileu’r bwlch cyllido o £645 y disgybl rhwng Cymru a Lloegr. Yn gynharach eleni, dywedodd cynrychiolydd ar ran Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau wrthym mai hon oedd y flwyddyn waethaf ar gyllidebau ysgolion Cymru ers 1995, ac yn anffodus, mae pethau’n mynd i waethygu am fod y Gweinidog ei hun yn gwadu hyn mewn gwirionedd.

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi rhagweld y bydd y bwlch yng nghyllideb ysgolion yn codi ymhellach i £319 miliwn yn 2022-23, ac mae'r toriadau y mae hyn yn eu hachosi yn creu anawsterau mawr. Er enghraifft, mae nifer yr athrawon wedi gostwng 1,500 rhwng 2010 a 2018, er mai dim ond 29 yn llai o ddisgyblion a geir. Mae angen cyllid digonol ar ysgolion, felly rwy'n falch bod argymhelliad 1 wedi'i dderbyn. Byddaf yn dilyn yr adolygiad brys gyda diddordeb mawr gan fy mod yn credu bod angen inni wybod, fodd bynnag, beth yw’r amserlen ar hyn ac erbyn pa bryd y gallwn obeithio cael ffigur sylfaen ar gyfer rhedeg ysgol ac addysgu plentyn yma yng Nghymru.

Nawr, mae'r adroddiad hefyd yn mynd i'r afael â monitro lefel y flaenoriaeth y mae awdurdodau lleol yn ei rhoi i ysgolion wrth iddynt ddosbarthu cyllid ac yn ein rhoi ar y trywydd iawn i gael gwell dealltwriaeth a mynd i'r afael â'r anghysondeb y gwyddom amdano wrth i'r 22 awdurdod lleol osod cyllidebau ysgolion. Er enghraifft, daw’r sefyllfa anghyfartal yn amlwg wrth ystyried y gall y swm a werir gan awdurdodau ar ysgolion amrywio o £5,107 i £6,456 y disgybl. Felly, rydym mewn sefyllfa ryfedd lle roedd 501 o ysgolion yn cadw cronfeydd wrth gefn sydd uwchlaw'r trothwyon statudol tra bod 225 ohonynt mewn diffyg ym mis Mawrth 2018. Yn frawychus, mae 70 y cant o ysgolion uwchradd Cymru mewn diffyg ar hyn o bryd. Mae hon yn broblem sy'n ymwneud â blaenoriaeth.

Tybed felly pam nad yw'r ymateb i'r argymhelliad ynghylch diffygion yn egluro sut rydych chi'n gweithio gydag awdurdodau lleol i archwilio rheolaeth effeithiol. Rwy’n croesawu eich ymrwymiad parhaus i herio consortia rhanbarthol ynghylch arian yn cyrraedd y rheng flaen. Mae'r Undeb Addysg Cenedlaethol wedi dweud wrthym eu bod wedi cael problemau gyda'r consortia ers iddynt gael eu sefydlu. Mae'r dystiolaeth a gawsom yn dangos diffyg dealltwriaeth o rolau llywodraeth leol a chonsortia rhanbarthol. Ni allaf feirniadu'r dryswch gan eich bod chi hyd yn oed yn dal i weithio ar ddarparu eglurder. Ac rwy’n cofio, Weinidog, yn ystod fy ngwaith craffu arnoch yn ystod un o'ch cyflwyniadau gweinidogol i ni yn y pwyllgor, eich bod wedi dweud, 'Janet, ni allaf fi hyd yn oed ddilyn yr arian o'r Llywodraeth i'r ysgolion', felly mae’n ofid, os na allwch chi ei ddilyn, sut y gall ein penaethiaid a’n rhieni ei ddilyn?

Nid oes unrhyw faes yn galw am fwy o eglurder na'r gwariant ar wella ysgolion. Yn 2018-19, er bod £11 miliwn wedi’i wario ar brynu gwasanaethau gwella ysgolion gan gonsortia, gwariodd awdurdodau lleol £10.9 miliwn yn ogystal ar welliannau i ysgolion. Felly, rwy’n cefnogi’n gryf y galwadau am gymharu’r ddau wariant ar frys. Nid oes lle i ddyblygu gwaith ac ysgafalwch ariannol. Rhaid gwneud i’r cyllid yn y system weithio mor effeithiol â phosibl gan fod sefyllfa'r ysgolion yn anghynaladwy ar hyn o bryd. Er enghraifft, cysylltodd pennaeth yng ngogledd Cymru â mi ddoe i egluro bod athrawon yn gadael y proffesiwn ac nad oes neb yn dod yn eu lle, mae athrawon yn lleihau eu horiau oherwydd pwysau cyllidebol, ac mae staff cymorth yn cael eu taro gan ddiswyddiadau a llai o oriau. Byddaf yn pleidleisio er budd gorau pobl ifanc a'n hathrawon gweithgar, ac felly rwy'n cefnogi'r holl argymhellion.

Fodd bynnag, credaf y gallwch chi, Weinidog, fynd ymhellach trwy fynd i'r afael â'r cwestiynau a ofynnais i helpu i roi hwb i ysgolion o'r fan hon, Llywodraeth Lafur Cymru, fel y mae ein Prif Weinidog wedi'i wneud o Lywodraeth y DU.

17:05

Fel eraill y prynhawn yma rwy'n credu, hoffwn fynegi fy niolch i'r pwyllgor am yr adroddiad hwn. Rwy'n credu ei fod yn tystio i waith ac ymrwymiad y pwyllgor cyfan ac arweiniad Lynne Neagle fod y pwyllgor hwn yn cyflwyno adroddiadau’n gyson sydd nid yn unig yn herio'r Llywodraeth ac yn dwyn y Llywodraeth i gyfrif, ond hefyd yn herio pob un ohonom i ymateb i'r materion hyn mewn ffordd resymol ac ystyriol.

Ar y pwynt hwnnw, a ydych chi’n gresynu at y cywair gwleidyddiaeth plaid sydd wedi dod yn unig heddiw oddi ar feinciau’r Blaid Geidwadol?

Wel, nid ydych wedi clywed fy araith i eto [Chwerthin.]. Rwyf bob amser yn ofni pan geisiwn dynnu gwleidyddiaeth allan o wleidyddiaeth. Mae’r modd y dyrannwn ein cronfeydd a'r hyn a wnawn—[Torri ar draws.] Rydych chi'n ceisio bod yn adeiladol, ac nid oes angen i chi drydar; clywais yr hyn a ddywedoch chi—[Chwerthin.]—ac rwy'n cydnabod pwysigrwydd y pwynt rydych am ei wneud.

Ond y prynhawn yma, rwyf am fynd i’r afael â thri mater yn y ddadl hon. Y cyntaf yw'r swm o arian sydd ar gael i'r gyllideb addysg ac i ysgolion. Bydd pob un ohonom yn dadlau’r achos—ac rwyf wedi dadlau yn y Llywodraeth—dros gael arian i’n meysydd portffolio ein hunain, ac rwyf wedi dioddef y boen enfawr o anghytuno â Kirsty Williams yn y Llywodraeth wrth iddi ddadlau’r achos dros gyllid addysg. Rwy'n tystio i arweiniad Lynne Neagle fel Cadeirydd y pwyllgor, ond gallwn wneud hynny hefyd mewn perthynas â'r Gweinidog addysg ei hun. Yn rhy aml o lawer, rydym yn cael y dadleuon hyn ac rydym yn cael y trafodaethau hyn, ond gwn o fy mhrofiad yn y Llywodraeth fod y Gweinidog sydd gennym heddiw hefyd yn rhywun sydd wedi dadlau dros gyllid o fewn y Llywodraeth ac wedi dadlau drosto o fewn y gyllideb yn y Cabinet. Fe ildiaf.

17:10

Diolch yn fawr. Wrth gwrs, er bod yna gyllideb addysg o dan oruchwyliaeth y Gweinidog addysg, un o'r pethau a ganfuwyd yn ystod ein gwaith pwyllgor yw mai pen llywodraeth leol i bethau sydd wedi bod yn achosi'r broblem, ac rwy'n tybio ​​efallai fod gennych chi rywbeth i'w ddweud am hynny.

Oes, a byddaf yn mynd i’r afael â hynny yn yr araith hon. Ond rhaid gwneud y pwynt mai cyllideb y Llywodraeth yw hi yn y pen draw, ac mae angen i'r Llywodraeth wneud penderfyniadau ar y materion hyn, ac mae'r rhain yn faterion hynod o wleidyddol, mae'n rhaid i mi ddweud. Mae arwain yn galw am benderfynu, a dywedaf hyn wrth bob Gweinidog yn y lle hwn y prynhawn yma: rydym yn disgwyl i gyllideb gael ei chyflwyno yn ddiweddarach y tymor hwn sy'n cydnabod pwysigrwydd addysg ac yn cydnabod lle canolog ysgolion yn yr hyn y ceisiwn ei wneud. Rwy'n gweld bod y prif chwip yn ei lle, ac mae hi wedi bod yn garedig iawn wrthyf yn ddiweddar, felly nid wyf am sathru ar yr haelioni hwnnw, ond rwy'n ofni efallai y gwnaf, pan ddywedaf wrthi fod cyllideb a gyhoeddir nad yw'n rhoi chwarae teg i addysg ac i ysgolion yn gyllideb a fydd yn mwynhau cefnogaeth y meinciau cefn hyn. Mae angen i ni sicrhau bod y gyllideb, pan gaiff ei chyflwyno, yn un sy'n cydnabod pwysigrwydd system addysg wedi'i hariannu'n ddigonol.

Mae'r ail bwynt yr hoffwn ei wneud yn ymwneud â chymhlethdod y system, ac mae Suzy Davies, mewn sawl ffordd, wedi mynd i'r afael â hyn. Gadewch i mi ddweud hyn—yn ystod y trafodaethau ar y gyllideb a gynhaliwyd y llynedd, fel y bydd pobl yn cofio, fi oedd y Gweinidog llywodraeth leol. Cefnogais yr arian ychwanegol a gâi ei ddarparu i addysg bryd hynny, ac fe'i cefnogais ar ffurf grant i geisio sicrhau bod y cyllid hwn yn cyrraedd yr ystafell ddosbarth mewn gwirionedd ac nad yw'n gorffen ei daith yn y neuadd sir leol.

Rwy'n ddiolchgar i'r pwyllgor am ddangos yn glir fod llawer gormod o gymhlethdod yn y system, ac o’r herwydd, nad yw ysgolion yn derbyn yr arian y byddem yn disgwyl iddynt ei gael. Pe bai'r system yn cael ei diwygio, ni fyddai angen gwneud y pethau hyn yn y fath fodd, ond mewn system heb ei diwygio, rwy’n ofni na fydd blaenoriaeth glir i sicrhau bod staff addysgu, plant a phobl ifanc, sydd â hawl i ddisgwyl gwell gennym, yn gweld y budd, hyd yn oed pan wneir y penderfyniadau anodd hynny ar gyllid.

Buaswn yn gofyn i'r Gweinidog ystyried nid yn unig y dadleuon dros gyllid ychwanegol, ond hefyd yr hyn a geir yn yr adroddiad hwn am gymhlethdod y system. Buaswn yn hollol glir yn fy meddwl ei bod yn iawn ac yn briodol ein bod yn dadlau ac yn trafod neilltuo cyllid addysg, ein bod yn clustnodi arian ar gyfer ysgolion er mwyn sicrhau bod pob awdurdod lleol yn cael eu gorfodi i wario'r arian sy'n ddyledus ar gyfer addysg trwy'r lle hwn a'i fod yn cyrraedd yr ystafell ddosbarth.

Buaswn yn gofyn hefyd i'r Gweinidog ystyried ariannu ysgolion trwy'r consortia neu system arall o gyllido rhanbarthol. Byddai hyn yn cyfyngu ar gymhlethdod a biwrocratiaeth, ac yn cynyddu capasiti sefydliadau lleol i ddarparu system addysg. Ond mae'n rhaid i ni sicrhau, unwaith eto, ein bod yn mynd i'r afael â'r cymhlethdod a'r fiwrocratiaeth o fewn y system. Os na allwn wneud hyn, ofnaf y bydd yn rhaid inni ystyried cyllido ysgolion yn uniongyrchol. Nid yw hyn yn rhywbeth y dadleuais drosto yn y gorffennol, ond mae bellach yn rhywbeth y credaf efallai y bydd yn rhaid inni ei ystyried os na allwn ddiwygio'r system mewn unrhyw ffordd arall. Mae'n bwysicach i mi fod athrawon, fod pobl ifanc, fod plant y wlad hon yn cael yr addysg y maent yn ei haeddu na'n bod yn aberthu eu haddysg ar allor ein hegwyddorion, ac mae'n rhaid i ni wneud y penderfyniad hwnnw. Ni allwn ddymuno arian i mewn i'r ystafell ddosbarth heb wneud dim arall, mae'n rhaid i ni ei bleidleisio i mewn i'r ystafell ddosbarth, ac mae'n rhaid i ni bleidleisio o blaid newidiadau sy'n gwneud i’r arian hwnnw gyrraedd yr ystafell ddosbarth. Ni allwn ddweud ein bod am weld hynny, a gwneud araith hawdd, boblogaidd ar brynhawn Mercher os nad ydym yn barod i wneud y penderfyniadau anodd fore Llun nesaf i sicrhau bod cyllid yn cyrraedd yr athro, y disgybl, y myfyriwr yn yr ystafell ddosbarth. Ac felly, rwy’n dweud wrth bobl, 'Peidiwch â derbyn yr adroddiad hwn y prynhawn yma oni bai eich bod yn ddigon dewr i sefyll dros eich argyhoeddiad i ddadlau dros wneud i’r arian gyrraedd yr ystafell ddosbarth.'

Fe ddof i ben, Lywydd—rwy'n gwybod fy mod yn profi eich amynedd eto y prynhawn yma—gyda'r pwynt a wneuthum mewn cwestiynau yn gynharach. Mae gennyf ymrwymiad personol y gwn fod y Gweinidog yn ei rannu tuag at anghenion dysgu ychwanegol, a phan fuom yn gweithio gyda'n gilydd yn yr adran addysg i ddarparu system ddiwygiedig ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol, gwnaethom sicrhau hefyd fod yr adnoddau yno i gyflawni hynny. Ond gwyddom fod angen clustnodi'r adnoddau hynny yn ogystal, ac rwy’n gobeithio, pan gyflwynir y gyllideb, y bydd gennym le ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol wedi'i glustnodi o fewn y gyllideb honno, fel ein bod yn gwneud mwy na diwygio'r system yn unig, ac yn darparu’r addysg y maent yn ei haeddu i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol ym mhob rhan o’r wlad hon. Diolch.

17:15

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. A gaf fi ddechrau trwy ddiolch i'r pwyllgor am eu hadroddiad a'r ystyriaeth a roesant i'r maes hollbwysig hwn? Rwy'n ddiolchgar iawn i'r pwyllgor am wneud y penderfyniad i edrych ar y pwnc hwn, ac fel bob amser, fel y dywed Alun Davies, mae ystyriaeth y pwyllgor wedi bod yn fanwl, yn feddylgar ac yn ddefnyddiol i mi fel Gweinidog Addysg. Fel y dywedais yn fy ymateb ysgrifenedig i'r pwyllgor, mae cryfder y dystiolaeth a ddarparwyd yn tynnu sylw at ba mor hanfodol yw hi fod ein hysgolion yn derbyn y lefelau priodol o gyllid.

Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at ba mor gymhleth yw'r system ariannu ysgolion. Mae hynny'n rhywbeth rwy'n ei gydnabod hefyd. Mae'n amlhaenog ac mae'n dibynnu ar lawer o ffactorau, sy'n ei gwneud yn anhygoel o anodd darparu un ateb syml. Rwyf wedi derbyn holl argymhellion y pwyllgor, ac mae fy swyddogion eisoes wedi dechrau bwrw ymlaen â'r rhain, ond rwy'n clywed y pwyntiau a godwyd gan Gadeirydd y pwyllgor ac rwy'n hapus i ddarparu ymatebion ysgrifenedig pellach i'r pwyntiau a gododd oherwydd ni fydd gennyf amser yn fy nghyfraniad y prynhawn yma i fynd i’r afael â phob un ohonynt.

Fodd bynnag, er bod cylch gwariant Llywodraeth y DU yn dangos rhywfaint o lacio ar linynnau'r pwrs, mae’n rhaid i ni gydnabod nad yw'n darparu'r sail hirdymor gynaliadwy i gynllunio arni sydd ei hangen yn ddybryd ar ein gwasanaethau cyhoeddus ac y cyfeirir ati yn argymhelliad 15 o adroddiad y pwyllgor. Rhaid imi ddweud wrth Suzy Davies, gyda'r parch mwyaf, dyfynnodd ffigur cyllid tair blynedd sydd ar gael i'r Adran Addysg. Buaswn wedi dwli bod yn y sefyllfa honno. Y gwir amdani yw nad yw'r Llywodraeth hon yn gwybod beth yw ei dyraniad gwariant am fwy na blwyddyn. Mae'n hawdd iawn rhoi'r sicrwydd hwnnw i gydweithwyr yn Lloegr a pheidio â darparu'r un sicrwydd i ni yma yng Nghymru, ac mae angen i bobl wybod hynny. Mae’r Ceidwadwyr Cymreig—

Na wnaf. Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn siarad yn annidwyll am lefel y cyllid a dderbyniodd Cymru trwy'r cylch gwario ar gyfer y flwyddyn nesaf. Fel y dylent wybod, oherwydd materion yn ymwneud â’r modd o drin ardrethi annomestig, mae hynny wedi arwain at ostyngiad o £178 miliwn yng nghyllideb Cymru, ac ni allwch gymharu tebyg a thebyg wrth edrych ar gyllidebau adrannol. Yn y bôn, mae cyllideb gyffredinol Cymru wedi codi, mae wedi codi, tua 2.3 y cant mewn termau real y flwyddyn nesaf—dyna ffaith rwy’n gwbl hapus i'w chydnabod—tra bod yr adrannau allweddol yn Lloegr wedi gweld codiadau o fwy na 3 y cant mewn termau real. Dyna realiti'r sefyllfa rydym yn ymdrin â hi.

Rwyf hefyd yn parhau i weld bod y Ceidwadwyr Cymreig yn cyfeirio at fwlch gwariant honedig o £600 y disgybl o'i gymharu â Lloegr. Maent yn gwybod, Lywydd, eu bod yn dyfynnu hen ffigur o 2011, ac maent yn gwybod ei fod yn anghywir. Maent yn gwybod bod y ffigurau diweddaraf yn dangos bod y bwlch wedi'i ddileu fwy neu lai. Os ydym am wneud cynnydd ar y mater hwn, mae’n hen bryd ein bod yn onest am y sefyllfa rydym i gyd yn ei hwynebu a’n bod yn rhoi'r gorau i geisio camarwain pobl.

Bydd yr Aelodau’n ymwybodol o’r alwad ddoe, Lywydd, gan Senedd Ieuenctid Cymru am fwy o bwyslais ar sgiliau bywyd gan gynnwys addysg ariannol yn y cwricwlwm. Wel, ar ôl y perfformiad y prynhawn yma, y cyfan y gallaf ei ddweud yw efallai y gallwn drefnu dosbarth addysg i oedolion ar yr un pwnc i rai o'r Aelodau yn y Siambr hon. Gallai fod yn ddechrau da.

Lywydd, nid wyf yn bwriadu mynd trwy bob un o argymhellion yr adroddiad. Bûm yn glir yn fy ymateb i'r pwyllgor, ac os yw'r Cadeirydd eisiau eglurder pellach, rwy'n hapus i ddarparu hynny. Ond hoffwn ddarparu ychydig mwy o fanylion ynghylch prif argymhelliad yr adroddiad, argymhelliad 1. Rydym wedi ymgysylltu â rhanddeiliaid a alwodd am yr adolygiad yn ogystal â'r rhai sydd wedi ymchwilio i gyllid addysg. Felly, rydym wedi gofyn am gyngor gan yr Undeb Addysg Cenedlaethol, gan Gymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon, gan Gymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau, gan Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru—ein gwahanol randdeiliaid undeb.

Bydd y pwyllgor yn ymwybodol, fel y mae Siân Gwenllian, o'r cymhlethdodau wrth nodi cost sylfaenol rhedeg ysgol ac addysgu disgybl. Mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn dweud bod gwariant cyfartalog y disgybl yng Nghymru ychydig o dan £6,000 y pen, ond mae gwariant y disgybl yn amrywio. Mae'n amrywio ar draws awdurdodau lleol. Mae'r amrywiaeth hon yn adlewyrchu cyfuniad o wahaniaethau o ran amddifadedd, teneurwydd poblogaeth, defnydd o staff mewn sefydliadau unigol, union strwythur system ysgolion mewn awdurdod addysg lleol, yn ogystal â'r dewisiadau a wneir gan awdurdodau lleol yn unol â’u cyfrifoldeb dros bennu cyllidebau ysgolion. Ac o ganlyniad, buaswn yn dadlau nad oes ysgol gyfartalog yng Nghymru.

Mae angen i ni gael dealltwriaeth glir o sut y mae gwahanol ysgolion a gwahanol awdurdodau yn gwario eu harian ar hyn o bryd, ac mae angen i ni wneud hynny i helpu i ddylanwadu ar lunio polisïau yn y dyfodol. Rwy’n falch felly o gyhoeddi y prynhawn yma fod yr addysgwr-economegydd blaenllaw, Luke Sibieta, wedi cytuno i ymgymryd â’r gwaith hwn yn annibynnol ar y Llywodraeth. Rwy’n siŵr y bydd yr Aelodau’n cydnabod arbenigedd a gwaith Luke yn y maes hwn, gan gynnwys ei waith i’r Sefydliad Astudiaethau Cyllid, a byddaf yn gwneud cyhoeddiadau pellach ar gylch gorchwyl yr adolygiad ac amserlenni adolygiad Luke yn y dyddiau nesaf.

17:20

Ar yr adolygiad, beth yw'r amserlen ar ei gyfer, os gwelwch yn dda? Yr hyn rwy'n ei ofni yw fod—mae'n gymhleth, mae'r maes cyfan yn gymhleth. Onid yw’n mynd i fod yn esgus ar gyfer gwthio'r holl drafodaeth naill ochr, oherwydd mae angen yr arian ar yr ysgolion cyn gynted â phosibl, nid 12 mis yn nes ymlaen?

Caf fy arwain gan arbenigedd Luke yn y mater hwn, ac rwy'n siŵr y byddem i gyd eisiau i'r gwaith fod yn gynhwysfawr, ond buaswn yn gobeithio y byddai wedi’i gwblhau cyn toriad haf 2020, a felly mae'n gyfle i ddylanwadu ar y set nesaf o drafodaethau'r cyllideb.

Yn ei dro, hoffwn ganolbwyntio ar argymhelliad 4, sy'n gofyn i ni ystyried sut y gellir pennu dyraniad adnoddau i awdurdodau lleol trwy ddull sy'n seiliedig ar anghenion, a beth y dylai'r dull hwn ei ystyried mewn perthynas â’r elfen addysg o gyllid awdurdod lleol. Rwy’n croesawu’r ffaith bod y rhan addysg o'r is-grŵp dosbarthu llywodraeth leol eisoes yn ystyried y potensial ar gyfer datblygu dull amgen yn lle’r fformiwla addysg o fewn y model setliad llywodraeth leol. Yn ei hanfod, mae'r gwaith ar elfen addysg y fformiwla yn beilot y bydd angen ei brofi'n drylwyr iawn cyn y gellir ystyried cyflwyno’r fethodoleg hon ymhellach, a byddaf yn ystyried sut y mae'r gwaith hwn yn cyd-fynd â'r gwaith a ddatblygir o dan argymhelliad 1. Ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Thai am gytuno i weithio mewn partneriaeth â mi ar yr argymhelliad penodol hwn. Ac wrth gwrs, byddwn yn hapus iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i gyd-Aelodau am y gwaith hwnnw.

Er mwyn parhau i godi safonau, rwy'n cydnabod bod angen cefnogaeth ar ein hysgolion trwy gyllid craidd. Fodd bynnag, fel rydym wedi trafod yn helaeth y prynhawn yma, gan fod y setliad llywodraeth leol heb ei neilltuo, mater i awdurdodau lleol yw penderfynu ar eu blaenoriaethau. A hoffwn ddweud wrth Suzy Davies ac wrth Alun Davies yn wir: efallai fod gennych farn ynghylch ariannu ysgolion yn uniongyrchol, ond mae'n rhaid i mi ddweud bod barn wahanol gan arweinwyr Llafur awdurdodau lleol yng Nghymru, ac yn wir y rheini yn y Blaid Geidwadol sydd mewn swyddi â chyfrifoldeb mewn awdurdodau lleol yng Nghymru, sy'n teimlo'n wahanol iawn. Efallai y dylech gael sgyrsiau gyda hwy.

A Darren, o ran y rhagosodiad ffug hwn o raniad rhwng gogledd a de, rhoddais amser yn ddiweddar i fynd i’r is-grŵp dosbarthu. Gofynnais yn benodol i arweinwyr y cynghorau a gynrychiolwyd yno y prynhawn hwnnw a fyddent yn cynnal adolygiad o'r data a'r fformiwla ariannu. Ac mae'n rhaid i mi ddweud, fe wnaeth arweinydd Wrecsam, y credaf ei fod yng ngogledd Cymru, ac arweinydd Gwynedd y credaf ei fod yng ngogledd Cymru hefyd, wrthod yn bendant y cynnig i drafod newid y fformiwla ariannu.

Felly, os caf fynd yn ôl at fy sgript, ac rwy'n ymwybodol o'r amser, Lywydd, hoffwn gydnabod fy mod yn parhau, o fewn yr adran addysg, i ddarparu grantiau sylweddol, yn ychwanegol at y dyraniadau yn y grant cynnal refeniw i ariannu ysgolion lleol, awdurdodau lleol a chonsortia addysg rhanbarthol. Fel rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau'n cydnabod, mae gennym agenda ddiwygio hynod uchelgeisiol wedi'i nodi yng nghynllun gweithredu cenhadaeth ein cenedl, ac er y pwysau parhaus ar ein cyllidebau, roeddwn yn falch y llynedd o allu cyhoeddi'r buddsoddiad unigol mwyaf yn addysg broffesiynol y proffesiwn addysgu ers dechrau datganoli. Ac wrth bennu cyflogau athrawon am y tro cyntaf yng Nghymru eleni, rydym wedi gwyro oddi wrth yr argymhellion yn Lloegr trwy sicrhau bod y cyflog cychwynnol i athrawon sy'n dechrau gweithio yng Nghymru yn uwch nag y mae dros y ffin. Bydd hyn yn helpu i hyrwyddo addysgu fel proffesiwn dewisol ar gyfer graddedigion a rhai sy’n newid gyrfa.

I gloi, i'r holl Aelodau sy'n gwneud yr achos dros ariannu ysgolion, rwy’n dweud, 'Wrth gwrs fy mod yn cefnogi cynyddu cyllid i addysg', a chredaf fod fy record hyd yn oed cyn i mi ddod yn rhan o'r Llywodraeth yn brawf o hynny. Ond nid wyf eto wedi gweld cyfrifiad gwariant dilys a chynhwysfawr wedi'i ystyried yn dda gan unrhyw un yn yr wrthblaid sy'n dangos lle byddant yn torri cyllid er mwyn rhoi mwy o arian i fy nghyllideb. Nid oes prawf fod unrhyw wrthblaid yma'n gwneud cyllid i ysgolion yn flaenoriaeth. Ond fel erioed, rwy'n hapus iawn i drafod argymhellion ac awgrymiadau wrth iddynt ddod drwodd. A hoffwn ailadrodd unwaith eto fy mod yn croesawu adroddiad y pwyllgor ac rwy’n gobeithio bod cefnogaeth ar draws y Siambr i'r argymhellion y mae'n eu cynnwys.

17:25

Diolch i chi, Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl y prynhawn yma a diolch i'r Gweinidog am ei chyfraniadau? Fe geisiaf ymateb i rai o'r pwyntiau a wnaeth yr Aelodau yn y ddadl.

Suzy Davies, yn amlwg, fe gefnogoch chi ragosodiad yr adroddiad. Bu ychydig o anghydweld ynghylch faint o arian sydd gennym yn dod i ni yng Nghymru. Fy nealltwriaeth i yw ei fod yn llai nag y dywedoch chi, ond rwyf wedi bod yn glir iawn yn yr hyn a ddywedais wrth Lywodraeth Cymru fy mod am weld y rhan fwyaf ohono'n mynd tuag at addysg, ac rwy’n gobeithio y bydd hynny'n digwydd yn y gyllideb sydd ar y ffordd.

A gaf fi ddiolch i Siân Gwenllian am ei chyfraniad, yn enwedig y ffocws cryf iawn ar wariant ataliol? Fel y dywedais yn fy araith, buddsoddi mewn addysg yw’r buddsoddiad ataliol pwysicaf y gallwn ei wneud o ran mynd i’r afael â thlodi plant a chynyddu cyfleoedd bywyd. Mae wedi bod yn ffocws rheolaidd i’n gwaith craffu ar y gyllideb lle rydym wedi codi pryderon yn gyson, fel yn wir y mae’r pwyllgor iechyd wedi’i wneud, fod angen canolbwyntio mwy ar atal. Felly, rwy'n croesawu'n fawr y pwyslais rydych wedi'i roi ar hynny, a hefyd—

Rydym wedi clywed y prynhawn yma na fydd yr adolygiad sydd gennym yn argymhelliad 1 yn cael ei gwblhau tan yr haf nesaf. Felly, a ydych chi'n credu bod angen i Lywodraeth Cymru ail-gydbwyso’r gyllideb o blaid gwasanaethau ataliol, gan gynnwys addysg, yn y gyllideb nesaf, heb aros am ganlyniadau'r adolygiad?

Diolch, Siân. Roeddwn yn mynd i barhau i ddweud eich bod wedi gwneud y pwynt yn eich araith nad oeddech yn credu y dylai'r adolygiad fod yn rheswm dros aros cyn rhoi mwy o adnoddau tuag at addysg, ac rwy'n cytuno'n llwyr â hynny, ac rwy'n siŵr bod y Gweinidog hefyd yn cytuno â hynny. Nid oes unrhyw reswm dros aros. Pwrpas yr adolygiad, a amlygwyd hefyd gan Dawn Bowden, yw fod y pwyllgor yn awyddus i addysg fod ar sail debyg i iechyd, lle cawsom adolygiad Nuffield a edrychodd yn fanwl ar yr angen i wario ym maes iechyd ac sydd wedi wedi'i ddefnyddio fel sail ar gyfer gosod cyllideb. Felly, byddai hynny'n werthfawr iawn, ond yn sicr nid wyf yn credu bod angen aros, ac mae angen i ni weld y buddsoddiad ychwanegol hwnnw yn awr, oherwydd fe wyddom am y pwysau sydd yn y system yn awr.

A gaf fi ddiolch i Dawn Bowden am ei chyfraniad ac am y rôl a chwaraeodd yn y pwyllgor yn helpu i ddatrys y cymhlethdod? Mae'n wir ei fod yn hynod gymhleth. Mewn gwirionedd, ceir pennod gyfan yn yr adroddiad ar sut y mae cyllid ysgolion yn gweithio. Rwy'n ei argymell, mae'n ddeunydd darllen hynod ddiddorol. Ond mae'n arwydd o ba mor anodd yw olrhain yr arian. Cawsom drafodaeth faith yn y pwyllgor am gyni hefyd, ac rydym wedi ceisio llunio adroddiad sy'n cydnabod yr heriau sy'n wynebu Llywodraeth Cymru o ran yr hyn a ddaw i Lywodraeth Cymru o San Steffan, ond mae'n ceisio targedu lle mae angen i ni wella.

17:30

Diolch yn fawr iawn, Lynne. Pwynt o eglurhad yn unig am yr adolygiad ydoedd yn fwy na dim. Roedd ein hargymhelliad yn ymwneud â chyllid ysgolion—digonolrwydd cyllid ysgolion—nid addysg yn gyffredinol. Ac o gofio'r rhaniad rhwng llywodraeth leol a'r pot addysg yn ganolog, rwy'n credu bod hwnnw'n wahaniaeth pwysig y mae angen ei gofnodi.

Yn hollol. Rwy'n credu bod hynny wedi'i dderbyn—ei fod yn ymwneud â chyllido ysgolion, cost rhedeg ysgol, cost addysgu disgyblion unigol a chost y diwygiadau hefyd.

A gaf fi ddiolch i David Rowlands am ei gefnogaeth i adroddiad y pwyllgor? Cododd David fater cyllid uniongyrchol i ysgolion, fel y gwnaeth Alun Davies. Fel y nododd y Gweinidog, ceir safbwyntiau amrywiol iawn ar hynny. Cawsom rywfaint o dystiolaeth gan undebau fel y Gymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau a ddywedodd y byddent yn croesawu fformiwla ariannu genedlaethol ar gyfer Cymru, ond wrth gwrs, roedd llywodraeth leol yn wrthwynebus iawn i hynny yn yr ymchwiliad. Yr hyn y mae'r pwyllgor wedi anelu i'w wneud yw ceisio sicrhau bod gennym agwedd gyson at gyllid, a dyna'n sicr yw ein ffocws.

A gaf fi ddiolch i Alun Davies am ei gyfraniad, ac rwyf wedi nodi peth ohono—hefyd ei gefnogaeth gref iawn i'r angen am gyllid priodol ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol? Rwy'n gwybod bod hynny'n rhywbeth rydych chi'n ymrwymedig iawn iddo. Roedd honno'n thema gref iawn yn ymchwiliad y pwyllgor, ond hefyd yn ein gwaith craffu ar y Bil pan oedd yn mynd drwodd. Roedd rhanddeiliaid yn dweud wrthym, 'Ni fydd yn gweithio oni chaiff ei ariannu'n iawn', felly rydym yn glir iawn ar hynny.

Fe wnaethoch chi alw hefyd am gyllid wedi'i glustnodi ar gyfer ysgolion. Roeddwn yn aelod o'r pwyllgor cyllido ysgolion a gyfarfu yn 2005, tua 15 mlynedd yn ôl, a galwasom yno am ddiogelu cyllid ysgolion. Lleiafswm o gyllid fyddai—yr asesiad wedi’i seilio ar ddangosyddion fyddai'r lleiafswm y byddai'n rhaid ei wario yn ein hysgolion. Aeth yr adroddiad hwnnw a'r adroddiad a'i dilynodd—adolygiad Bramley—i'r blwch 'rhy anodd'. Dyna pam y gwnaf y pwynt na allwn ganiatáu i'r adolygiad sydd ar y ffordd fynd i'r blwch hwnnw hefyd.

A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei hymateb ac am ei hymwneud parhaus â'r pwyllgor, ac am yr agwedd gadarnhaol y mae wedi'i dangos tuag at argymhellion y pwyllgor? Rwy'n falch iawn fod Luke Sibieta wedi'i benodi. Bydd yr Aelodau'n cofio iddo ymgysylltu â'r pwyllgor—fe wnaeth sesiwn gyda ni—ac mae'n arbenigwr cydnabyddedig. Byddwn yn parhau i ddilyn y gwaith hwnnw gyda diddordeb mawr ac yn gobeithio y bydd yn arwain at ganfyddiadau arwyddocaol iawn.

A gaf fi gloi trwy ddiolch i bawb a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor ac a'n cefnogodd? I ailadrodd y pwynt a wneuthum, bydd yn rhaid i ni gael sgwrs aeddfed am hyn ar draws y pleidiau, ar draws y Llywodraeth ac ar draws llywodraeth leol, oherwydd mae angen i'r arian ddod o rywle. Ac rwy'n gobeithio y gallwn flaenoriaethu ein plant a'n pobl ifanc.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Mynd i'r Afael â Digartrefedd

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Rebecca Evans, gwelliannau 2, 3, 4, 13, 14 ac 15 yn enw Neil McEvoy, a gwelliannau 5, 6, 8, 9, 10, 11 a 12 yn enw Rhun ap Iorwerth. Ni ddetholwyd gwelliant 7. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3, 4, 5, 6 a 7 eu dad-ddethol.

Daw hynny â ni at y ddadl nesaf—dadl y Ceidwadwyr Cymreig yw honno—ar fynd i'r afael â digartrefedd. A dwi'n galw ar David Melding i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7167 Darren Millar

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod nad yw polisïau cyfredol i fynd i'r afael â digartrefedd a chysgu ar y stryd yn cyflawni'r hyn sy'n ofynnol.

2. Yn cymeradwyo'r arferion da sydd i'w gweld yn y sector ac yn croesawu sefydlu Grŵp Gweithredu Digartrefedd Llywodraeth Cymru.

3. Yn nodi:

a) bod 25 o farwolaethau wedi'u nodi ymhlith pobl ddigartref yng Nghymru yn 2018, sy'n gynnydd nodedig o'r 11 o farwolaethau a nodwyd yn 2017;

b) bod 25,937 o bobl wedi profi digartrefedd ledled Cymru yn 2017/18, yn ôl ffigurau gan Shelter Cymru;

c) bod nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd wedi cynyddu 75 y cant rhwng 2012 a 2017, a bod y nifer sy'n cysgu mewn ceir, pebyll ac ar gludiant cyhoeddus wedi cynyddu 50 y cant yn ôl ymchwil gan Crisis a Phrifysgol Heriot-Watt;

4. Yn nodi ymhellach gynllun gweithredu 10 pwynt y Ceidwadwyr Cymreig i fynd i'r afael â digartrefedd: 'Mwy na Lloches yn Unig'.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i benodi tsar digartrefedd, yn ddelfrydol rhywun sydd â phrofiad o fyw yn ddigartref ac sy'n gallu craffu ar gynnydd tuag at roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig yn enw Darren Millar.

Wrth wraidd y cynnig hwn mae'r farn y gellir dod â chysgu ar y stryd i ben fel problem systematig sy'n effeithio ar y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas ac y bydd adeiladu 40,000 yn fwy o gartrefi cymdeithasol yn y 2020au yn mynd yn bell i ddod â digartrefedd i ben yn gyffredinol. Credwn fod y rhain bellach yn flaenoriaethau hollbwysig, a dyna pam y credwn y dylai Llywodraeth Cymru ddeddfu i wneud tai yn hawl ddynol sylfaenol yng Nghymru.

I mi, pwrpas y ddadl heddiw yw y gallwn roi'r mater hwn ar frig ein hagenda, ac yn yr ysbryd hwnnw y gofynnaf i'r Aelodau gefnogi ein cynnig, ynghyd â gwelliannau 5, 11 a 12 gan Blaid Cymru a gwelliant 13 yn enw Neil McEvoy.

Fel y dywed ein cynnig, yn gynharach y mis hwn, lansiodd y Ceidwadwyr Cymreig gynllun 10 pwynt, 'Mwy na Lloches yn Unig', ac rwy'n falch o sicrhau ei fod ar gael i unrhyw Aelod sy'n gofyn am gopi. Pe baent yn cael eu rhoi ar waith, byddai’r 10 pwynt yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i'r argyfwng tai yng Nghymru.

17:35

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Mae hwn yn faes heriol, Ddirprwy Lywydd, a dyna pam y credaf fod angen dull trawsbleidiol o weithredu os gallwn gyflawni hynny. Nid oes a wnelo'r maes hwn—tai yn gyffredinol, rwy'n credu, ond yn enwedig pan fyddwn yn edrych ar ddigartrefedd a chysgu ar y stryd—â gwleidyddiaeth gystadleuol; mae'n ymwneud â'r mesurau ymarferol a all gyflawni'r amcanion y mae pawb ohonom yn sicr yn eu dymuno. A dyna pam y ceisiais ddrafftio’r cynnig fel nad oedd yn rhy bleidiol a gwleidyddol, ond yn hytrach, ceisiais newid y cywair ac yn wir, hyd yn oed wrth gyfeirio at 'Mwy na Lloches yn Unig', rydym yn dweud 'yn nodi'r cynllun gweithredu', fel nad oes angen i'r Aelodau yma a fyddai'n teimlo ei fod gam yn rhy bell i gymeradwyo polisi Ceidwadol yn llawn orfod gwneud hynny. [Chwerthin.]

Fe wyddom y bydd gwahaniaeth o ran sut yr awn i'r afael â'r materion hyn yn y Siambr, oherwydd mae gan bob un ohonom syniadau amrywiol ynglŷn â digartrefedd, tai a chysgu ar y stryd. Ond yn gyffredinol, rwy'n credu ein bod i gyd yn mynd i'r un cyfeiriad ac rydym am wneud hyn yn flaenoriaeth uwch ac o gwmpas hynny, a pholisïau allweddol eraill y credaf eu bod yn rhai cydsyniol iawn yn awr, gallwn gyflymu'r camau gweithredu lawer mwy yn ein hymdrechion i fynd i'r afael â'r flaenoriaeth hollbwysig hon.

Rydym yn gwbl ymwybodol yn wir, Ddirprwy Lywydd, nad yw'r broblem hon wedi'i chyfyngu i Gymru yn unig, a byddwn yn cefnogi un o welliannau Plaid Cymru sy'n tynnu sylw at y cynnydd ym marwolaethau pobl ddigartref yn Lloegr. Mae hynny'n beth hollol deg a chytbwys i'w wneud, ac yn sicr nid fy mwriad oedd wrth ddrafftio'r cynnig gwreiddiol oedd peidio â rhoi sylw dyledus i hynny, ond roeddwn eisiau dyfynnu’r ffigur ar gyfer Cymru.

Ond fel y dywedais, yn anffodus rydym yn methu annog consensws eang ar yr achlysur hwn. Mewn gwirionedd, mae gennym un o erchyllterau'r Siambr hon: gwelliant gan y Llywodraeth sy'n dileu popeth. Rwy'n credu y gellid bod wedi cynnig ychydig mwy o garedigrwydd, oherwydd credaf y gellid bod wedi llunio cynnig diwygiedig roeddem i gyd yn cytuno arno o amgylch ein cynnig ni. Ond rwy'n cynnig y dull hwn ar gyfer y dyfodol, y dylem uno a cheisio cytuno ar ddulliau cyffredin, a dyna’n sicr yw’r ysbryd y byddaf yn gweithio ynddo yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd i ddod. Rwy'n gobeithio, fodd bynnag, y bydd y ddadl heddiw yn adeiladol, oherwydd rwy'n credu bod y sector yn rhwystredig ynglŷn â’r diffyg newid ac yn sicr, ynglŷn â pha mor gyflym rydym yn mynd. Mae gennym lawer gormod o bobl o hyd yn cwympo rhwng y craciau yn y system, ac mae rhai ohonynt yn cwympo'n bell iawn wir.

Os caf siarad yn fyr am y cynllun gweithredu, Ddirprwy Lywydd, fel y dywedais, nid oes atebion hawdd i'r broblem hon, ac rydym i gyd yn gwybod hynny. Ond rydym ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn cydnabod yr angen i ddechrau meddwl yn radical oherwydd, mewn sawl ffordd, ers y rhaglen ddogfen honno yn y 1960au, a ddegawd ar ôl degawd ers hynny o dan yr holl weinyddiaethau, mae’n rhaid dweud, rydym wedi wynebu problem barhaus gyda'r rhai ar y pen gwaethaf i’r argyfwng digartrefedd, ac mae angen i ni ail-werthuso yn radical ein dull o lunio polisi a'r blaenoriaethau a roddwn i’r maes hwn o bolisi cyhoeddus. Ac mae'n wir ledled y Deyrnas Unedig, mae Llywodraethau a gweinyddiaethau yn yr ardaloedd datganoledig, ond yn y dinasoedd o gwmpas Lloegr yn ogystal, o bob cyfansoddiad gwleidyddol, yn ei chael hi'n anodd goresgyn problem digartrefedd ar ei wahanol weddau.

Mae ein strategaeth wedi bod yn gynnyrch misoedd o waith o gyfarfodydd gyda'r sector i drafod ffyrdd y gallai ein penderfyniadau polisi ddechrau trawsnewid pethau i'r rhai mwyaf anghenus. Rwy'n croesawu'r cyfraniad a roddwyd mor frwd gan ein partneriaid yn y gymdeithas ddinesig ac maent wedi helpu o ddifrif i lunio ein ffordd o feddwl, a gwn eu bod yn effeithio’n fawr ar feddylfryd y Llywodraeth ac yn ddiau, ar bleidiau eraill hefyd, a dylem dalu teyrnged i’r holl waith polisi y mae'r gwahanol elusennau yn ei wneud yn y meysydd hyn.

Ddydd Llun, roeddwn yn falch iawn o ymweld â Cartrefi i Gyn-filwyr ym Mhontypridd, sy'n cael ei redeg gan elusen Alabaré, a dyna un enghraifft yn unig o sefydliad sy'n ymddangos fel pe bai'n cynnig model diddorol iawn o ran y gofal y maent yn ei ddarparu yno i gyn-filwyr sydd wedi wynebu amser caled iawn ac fe gânt hyd at ddwy flynedd o help yn y cartref hwnnw, ac yna cânt gefnogaeth yn y denantiaeth sy’n dilyn gan weithwyr allgymorth o'r elusen, fel bod y cyfnod allweddol hwnnw'n cael ei ystyried hefyd a rhoddir y cymorth hwnnw iddynt i’w helpu i’w cynnal yn eu cynnydd.

Hefyd, rwy'n credu bod llawer ohonom wedi mynd i lawr ac o leiaf wedi edrych ar y beiciau a oedd gan y Lleng Brydeinig Frenhinol yn y Senedd i hyrwyddo ymgyrch y pabi, ac rwy'n canmol y rhai a aeth ar y beic a cheisio beicio'r 2 km neu beth bynnag ar daith rithwir, ond yr hyn a wnaeth fy niddori fwyaf y prynhawn yma oedd y ffaith bod y Lleng Brydeinig Frenhinol yn rhoi cyhoeddusrwydd i'w canllawiau arferion gorau ar gyfer awdurdodau lleol o ran cefnogi cymuned y lluoedd arfog gyda thai yng Nghymru, ac mae'n ddogfen ragorol, ac rwy'n ei chymeradwyo i’r Aelodau ond hefyd i awdurdodau lleol—y canllawiau arferion gorau, y pecyn cymorth y mae'n ei ddarparu, ac unwaith eto, enghraifft o ymarfer gorau yn y sector gwirfoddol.

Nawr, yn y cynllun gweithredu, fel y dywedais, rydym wedi siarad am yr angen am fwy o uchelgais yn ein rhaglen tai cymdeithasol a'r angen i gasglu data'n well ac yn fwy cynhwysfawr. Dyna fater allweddol arall fel y gallwn fynd ati o ddifrif i fapio graddau'r broblem. Rydym hefyd yn cyffwrdd â'r angen i newid barn ein cymdeithas am ddigartrefedd trwy fwy o addysg am y symptomau a'r achosion ac rydym hefyd yn ymrwymo i weithio gyda'n partneriaid yn San Steffan i gael gwared ar Ddeddf Crwydradaeth 1824, sydd wedi dyddio, yn anymarferol, ac i bob pwrpas yn hunandrechol o ran yr union fater y cafodd ei chynllunio’n wreiddiol i'w atal—ym Mhrydain yr oes Sioraidd, gadewch inni beidio ag anghofio.

Un o brif ganlyniadau'r gwaith a wnaethom—a daeth y trafodaethau a gawsom gyda'r sector gan rai fel Crisis a Shelter Cymru—oedd fod angen dull mwy cyfannol arnom, ac wrth gwrs, mae'n debyg mai tai yn gyntaf yw'r enghraifft fawr orau bellach o ddull cyfannol, a dyna un enghraifft rydym yn ei chymeradwyo'n fawr. Nid yw'n ddigon da dweud mai tai yn syml yw'r ateb i ddigartrefedd oherwydd mae'n broblem sy'n rhychwantu asiantaethau, o iechyd i addysg, tai i gyflogaeth. Felly, mae gwir angen dull gweithredu trawsasiantaethol cyfannol arnom, a dyna pam y gwnaethom ddewis 'Mwy na Lloches yn Unig' yn deitl i’n polisi. Ystyriwyd achosion digartrefedd, sy'n gymhleth ac yn gorgyffwrdd, a gwnaeth dadansoddiad yr archwilydd cyffredinol yn ei adroddiad yn gynharach eleni argraff arnaf. Meddai, ac rwy'n dyfynnu,

Mae'n llawer mwy na rhoi to dros bennau pobl yn unig.

Ac rwy'n credu bod hynny'n bendant yn mynd i wraidd y broblem.

A gaf fi gloi trwy ddweud—? Yn gynharach, nodais ein bod yn gyfarwydd â’r pla modern hwn yn ein cymdeithas ers 40 i 50 mlynedd ac nid ydym erioed wedi cyrraedd y lefel o ymateb polisi rydym yn dyheu amdano, ac y mae pob plaid yn y Siambr yn dyheu amdano rwy'n credu. A dyna pam mai un o'r pethau y galwn amdano yw tsar tai—rhywun a fydd yn mesur ac yn monitro ein cynnydd ac yn ein dwyn i gyfrif am yr hyn a wnawn, a chredaf, yn ddelfrydol, y dylai tsar digartrefedd fod yn rhywun sydd wedi cael profiad byw o fod yn ddigartref. Rydym i gyd wedi cyfarfod â phobl sydd wedi bod yn y sefyllfa honno. Maent yn dod o bob cefndir ac mae eu setiau sgiliau a'u potensial wedi creu argraff fawr arnom ar ôl iddynt ddychwelyd i lety sefydlog, ac rwy'n siŵr bod rhywun yng Nghymru a allai fod yn bartner inni a bod yn tsar tai rhagorol i ni allu dechrau mesur cynnydd go iawn a chynnal y cyflymder. Gallai'r cyfryw unigolyn, y tsar, ddadlau ar ran y bobl agored i niwed ac annog y Llywodraeth drwy gydol y 2020au i gyflawni'r targedau y cyfeiriais atynt.

Felly, rwy’n gorffen trwy ddweud wrth y Llywodraeth, er gwaethaf yr hyn a wnaethoch drwy gynnig gwelliant 'dileu popeth', rydym am fod yn rhan go iawn o'r sgwrs genedlaethol sydd ei hangen yn awr, fel y gallwn arwain, efallai, ym Mhrydain, a rhoi diwedd ar bla digartrefedd yn ein gwlad. Diolch.

17:40

Diolch yn fawr. Rwyf wedi dethol 14 gwelliant i'r cynnig. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23, nid wyf wedi dethol gwelliant 7. Os cytunir ar welliant 1, bydd gwelliannau 2 i 6 yn cael eu dad-ddethol, a galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn ffurfiol yn enw Rebecca Evans.

17:45

Gwelliant 1—Rebecca Evans

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn cydnabod bod yna fwy y gellir ei wneud bob amser i fynd i'r afael â digartrefedd.

2. Yn cymeradwyo'r arfer da a welir yn y sector tai mewn perthynas â digartrefedd, gan gynnwys y trefniadau partneriaeth sy'n cefnogi gwaith Tai yn Gyntaf Llywodraeth Cymru.

3. Yn croesawu sefydlu Grŵp Gweithredu Llywodraeth Cymru ar Ddigartrefedd a ddatblygwyd mewn partneriaeth â'r sector, gan gynnwys elusennau digartrefedd, ac yn croesawu ei adroddiad cyntaf.

4. Yn nodi:

a) Bod un person digartref sy'n marw yn drasiedi.

b) Yr effaith y mae cyni a diwygiadau i'r system les wedi'i chael ar y niferoedd sy'n ddigartref.

5. Yn nodi ymhellach Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Atal a Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd ac ymgyrch adduned y sector cyhoeddus.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Yn ffurfiol. Diolch. A gaf fi alw ar Neil McEvoy i gynnig gwelliannau 2, 3, 4, 13, 14 a 15, a gyflwynwyd yn ei enw?

Gwelliant 2—Neil McEvoy

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn credu bod methiant holl Lywodraethau Cymru dros yr 20 mlynedd diwethaf i ddatrys digartrefedd yng Nghymru yn warth cenedlaethol.

Gwelliant 3—Neil McEvoy

Dileu pwynt 2.

Gwelliant 4—Neil McEvoy

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn credu bod dyblygu gwasanaethau, cyflogau uchel uwch reolwyr yn y trydydd sector, ynghyd â thoriadau i lywodraeth leol yng Nghymru yn gwneud sefyllfa lle mae digartrefedd eisoes yn wael yn waeth.

Gwelliant 13—Neil McEvoy

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatgan argyfwng digartrefedd ac i gyflwyno polisïau tai yn gyntaf i dynnu pobl oddi ar y strydoedd.

Gwelliant 14—Neil McEvoy

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu anghenion lleol wrth ymdrin â digartrefedd.

Gwelliant 15—Neil McEvoy

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gychwyn adolygiad bon a brig o'r holl arian cyhoeddus a gaiff ei wario yn y sector tai er mwyn mynd i'r afael â digartrefedd.

Cynigiwyd gwelliannau 2, 3, 4, 13, 14 a 15.

Ie. Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae tai yn bendant yn un o heriau ein hoes, ac mae'n her y mae Llywodraeth Cymru yn methu mynd i’r afael â hi—yn methu’n wael â mynd i’r afael â hi. Rwy’n dal yn gadarn o’r farn fod perchentyaeth yn hanfodol ar gyfer cyfoeth. Mae'n anodd iawn dianc rhag tlodi os nad ydych yn berchen ar eiddo. Felly, mae'n siomedig fod Aelodau Cynulliad yma—gyda rhai ohonynt yn berchen ar hyd at dri eiddo gyda'u partneriaid—wedi pleidleisio dros atal pobl ddosbarth gweithiol rhag bod yn berchen ar un hyd yn oed. A dyna'r union fath o agwedd 'gwneud fel rwy'n dweud ac nid fel rwy’n gwneud' a geir gan y chwith plastig, ac mae'n gwbl ragrithiol.

Hefyd, mae yna nifer gynyddol o bobl yng Nghymru heb do uwch eu pennau o gwbl, ac os nad yw pobl yn credu bod yna argyfwng digartrefedd, cerddwch trwy strydoedd Caerdydd, Pontypridd a bron unrhyw dref neu ddinas yng Nghymru, ac fe ddangosaf i chi ble mae’r argyfwng hwnnw. Dyna pam y cyflwynais nifer o welliannau heddiw.

Mae gwelliant 2 yn nodi methiant Llywodraethau Cymru i ymdrin â digartrefedd dros yr 20 mlynedd diwethaf, ac mae'n warth cenedlaethol. Mae gwelliant 4 yn cydnabod bod dyblygu gwasanaethau, cyflogau uchel uwch reolwyr yn y trydydd sector, ynghyd â thoriadau i lywodraeth leol, yn gwaethygu sefyllfa sydd eisoes yn wael.

Mae gwelliant 13 yn mynnu y dylai Llywodraeth Cymru ddatgan argyfwng digartrefedd a chyflwyno polisïau tai yn gyntaf i dynnu pobl oddi ar y strydoedd oherwydd yng Nghaerdydd, er enghraifft, nid yw hynny'n digwydd. Ac mae'r opsiwn o ddarn o lawr mewn hostel yn anneniadol iawn i'r mwyafrif o bobl ddigartref y byddaf yn siarad â hwy.

Mae gwelliant 14 yn gydnabyddiaeth y dylid blaenoriaethu angen lleol wrth ymdrin â digartrefedd. Mae gwelliant 15 yn galw ar Lywodraeth Cymru i gychwyn adolygiad bôn a brig o’r holl arian cyhoeddus a werir yn y sector tai ac a werir yn ymdrin â digartrefedd oherwydd, gadewch inni fod yn onest, mae cyflogau gwarthus ac enfawr prif weithredwyr yn y trydydd sector—. Mae yna amrywiaeth syfrdanol o sefydliadau lle mae pobl yn ennill symiau enfawr o arian nad wyf yn credu y byddent yn eu cael yn y sector preifat. Ac i fod yn berffaith onest, nid yw o fudd i’r bobl hynny ddatrys yr argyfwng tai a digartrefedd oherwydd eu bod yn gwneud yn rhy dda gyda'r sefyllfa fel y mae.

Gobeithio y gallwch gefnogi’r gwelliannau hyn heddiw a gobeithio y gall y sefydliad hwn, yn ddelfrydol trwy Lywodraeth, roi diwedd ar argyfwng digartrefedd a’r argyfwng tai sydd gennym yng Nghymru, oherwydd dyna yw gwaith y rheini ohonom a etholwyd i’r lle hwn. Diolch yn fawr.

Diolch. A gaf fi alw ar Leanne Wood i gynnig gwelliannau 5, 6, 8, 9, 10, 11 a 12, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth?

Gwelliant 5—Rhun ap Iorwerth

Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:

'Mae'r tueddiadau hyn wedi'u nodi yn Lloegr, lle mae hefyd gynnydd wedi bod yn nifer y marwolaethau ymysg y rhai sy'n cysgu ar y stryd. '

Gwelliant 6—Rhun ap Iorwerth

Dileu pwyntiau 4 a 5.

Gwelliant 8—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod bod toriadau Llywodraeth y DU i nawdd cymdeithasol wedi cyfrannu at y cynnydd mewn digartrefedd, fel y rhagwelodd y sector fyddai'n digwydd.

Gwelliant 9—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu na chafodd angen blaenoriaethol ei ddileu'n raddol er mwyn gwneud lle i ddyletswydd gyffredinol i sicrhau llety diogel yn ystod Deddf Tai (Cymru) 2014, ac yn credu bod hwn yn gyfle a gollwyd.

Gwelliant 10—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth y DU i fabwysiadu argymhellion yr adroddiad Crisis ar roi terfyn ar ddigartrefedd sy'n berthnasol i feysydd polisi sydd heb eu datganoli, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu argymhellion yr adroddiad argyfwng sy'n berthnasol i'w feysydd cyfrifoldeb. 

Gwelliant 11—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Sicrhau bod Deddf Crwydradaeth 1824 yn cael ei datgymhwyso'n weithredol ym mhob un o ardaloedd yr heddlu yng Nghymru er mwyn osgoi gwneud pobl ddigartref yn droseddwyr am gysgu allan a chardota.

Gwelliant 12—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn ogystal â darparu tai, yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu'n briodol i bobl sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, fel pobl â phroblemau iechyd meddwl, anableddau dysgu, defnyddwyr sylweddau problematig, pobl ag ADHD ac anhwylderau niwroddatblygiadol, carcharorion, cyn-filwyr, goroeswyr cam-drin rhywiol yn ystod plentyndod a goroeswyr cam-drin domestig a'r rhai sydd wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod.  

Cynigiwyd gwelliannau 5, 6, 8, 9, 10, 11 a 12.

Diolch, Lywydd. Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon, sydd, mae'n rhaid i mi ddweud, yn un anghyffredin i'r blaid sydd wedi'i chyflwyno, ac rwy’n meddwl tybed a fyddant yn cyhoeddi pamffled polisi yn nodi sut i ddatrys problemau credyd cynhwysol y mis nesaf.

Rydym wedi cyflwyno nifer o welliannau i'r cynnig hwn, ac mae rhai ohonynt yn ceisio gosod argyfwng digartrefedd yn y cyd-destun cywir—toriadau nawdd cymdeithasol a chyni ehangach sydd wedi dileu llawer o'r gwasanaethau a arferai ddarparu rhwyd ​​ddiogelwch. Ond hoffwn ganolbwyntio'n bennaf ar ddau o'r gwelliannau a gyflwynwyd gennym y prynhawn yma. Y cyntaf yw gwelliant 12, sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau gwasanaeth priodol i'r bobl sydd fwyaf mewn perygl o fod yn ddigartref. A hoffwn dynnu sylw’r Aelodau at yr ymchwiliad diweddar gan y Biwro Newyddiaduraeth Ymchwiliol a ddarganfu fod awdurdodau lleol wedi troi cefn ar 32,000 o aelwydydd yng Nghymru a Lloegr oherwydd mân gamgymeriadau, yn aml, yn y broses ymgeisio—camgymeriadau mor fach â cholli e-bost, neu fethu ymateb i lythyr na chafodd ei ddosbarthu. Caiff ymgeiswyr yn y sefyllfa hon eu categoreiddio fel rhai anghydweithredol, ac felly, bydd unrhyw gymorth a gânt yn cael ei dynnu'n ôl neu ni chaiff ei ddarparu. Nawr, bydd unrhyw un sydd wedi gweithio yn y sector yn gwybod sut y gall porthgadw fod yn broblem enfawr—er gwaethaf yr holl ddeddfau a chyllid ar gyfer gwasanaethau, gall swyddog awdurdod lleol anwybyddu'r rhain a gwadu cymorth i berson am resymau sy'n cynnwys rhagfarn a diffyg dealltwriaeth. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog yn mynd i dynnu sylw at ganllawiau diweddar a roddwyd i weithwyr tai proffesiynol ar helpu pobl ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth, sy'n nodi sut y mae pobl ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth wedi cael eu labelu fel rhai anghydweithredol. Ond mae angen gwneud mwy na hyn, ac i ddechrau, mae'n rhaid i ni sicrhau bod y gwasanaethau cynghori'n cael eu hariannu'n iawn.

Ond mae'n rhaid i ni fod yn onest. Mae angen mwy o ddealltwriaeth gan swyddogion ac mae'n rhaid ystyried y math hwn o borthgadw negyddol, beirniadol a chosbol yn gamymddwyn difrifol. Tybed a oedd gan Boris Johnson y rheolau credyd cynhwysol mewn golwg pan wrthododd lofnodi'r llythyr yn gofyn am estyniad i ddyddiad cau Brexit; tybed a oedd yn rhagdybio y byddai'r UE yn ei ystyried yn yr un modd ag y mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn ystyried cais am gredyd cynhwysol ac yn ei wrthod ar y sail na chafodd ei lofnodi.

Mae gwelliant 11 yn gofyn i Lywodraeth Cymru ymuno â ni i ymgyrchu dros ddileu’r Ddeddf Crwydradaeth. Ni ellir cyfiawnhau ein bod yn troseddoli tlodi, ac yn lle defnyddio’r system cyfiawnder troseddol yn y modd hwn, byddai’n well gan Blaid Cymru gefnogi pobl. Felly, hoffwn ofyn i'r Gweinidog, a fyddech chi'n barod i gyfarwyddo eich comisiynwyr heddlu a throseddu eich hun i wneud yr hyn y mae comisiynwyr heddlu a throseddu Plaid Cymru wedi'i wneud a chefnogi dirymu Deddf Crwydradaeth ac i'r heddlu beidio â defnyddio'r pwerau hynny? Buaswn yn dychmygu bod yna rai Torïaid a allai fod yn difaru creu swyddi gwleidyddol y comisiynwyr heddlu a throseddu gan eu bod bellach yn tanseilio polisïau Torïaidd.

Nawr, i gloi, Ddirprwy Lywydd, mae'n bwysig ein bod yn sylweddoli bod rhoi diwedd ar ddigartrefedd yn rhywbeth sydd o fewn ein gallu a bod peidio â'i wneud yn ddewis gwleidyddol. Cynhyrchodd Crisis adroddiad cynhwysfawr yn dangos i ni sut i ddod â digartrefedd i ben y llynedd, ac mae'n cynnwys argymhellion clir ar gyfer Llywodraeth Cymru, sy'n cynnwys newidiadau deddfwriaethol. Felly, fy neges yw fod yn rhaid i ni roi'r gorau i siarad yn awr a bwrw ymlaen â gweithredu'r argymhellion hynny'n llawn. Diolch.

17:50

Credaf yn wirioneddol ei bod yn ddiddorol clywed gan Leanne am brofiadau unigolion y gwrthodir eu ceisiadau llwyddiannus ar sail mân newidiadau. Dyma'r mathau o bethau sydd o ddifrif yn effeithio ar bolisi yn ehangach, a phan geisiwn wahaniaethu rhwng syniadau da—ar draws y pleidiau gobeithio—a chyflwyno syniadau da yn wael.

Cefais fy nghalonogi mewn gwirionedd wrth glywed gan y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf ei fod wedi darllen ein cynllun 10 pwynt ac ni theimlais o gwbl nad oedd yn barod i gymryd syniadau da o ble bynnag y dônt a’i fod yn teimlo bod tai yn broblem a rennir i raddau helaeth ar draws y Cynulliad hwn fel blaenoriaeth i'r bobl a gynrychiolwn. Ac mewn gwirionedd, rwy'n credu bod hynny'n wir. Nid yw'n golygu na allwn graffu ar fethiannau polisi ymddangosiadol. Rwy'n credu bod y ffigurau yn y cynnig yn awgrymu nad yw Deddf tai 2014 wedi cael yr effaith y gellid bod wedi gobeithio amdani. Ond heb hawl statudol i dai, fel y gofynnwn amdani, rwy'n credu bod disgwyl i ddeddfwriaeth ddatrys problemau digartrefedd yn gofyn llawer, yn anad dim oherwydd y problemau gweithredol y siaradoch chi amdanynt, Leanne.

Rwy'n eich canmol yn fawr am geisio cynnig syniadau polisi da ar hyn, ond a ydych chi'n derbyn bod yn rhaid i ni fynd i'r afael ag achosion digartrefedd? Ac un o achosion allweddol digartrefedd yw'r system fudd-daliadau. Beth a wnewch i gael sgyrsiau gyda'ch cymheiriaid yn Llywodraeth San Steffan i newid rhai o'r polisïau cosbol, gwirioneddol greulon hynny sy'n arwain at bobl yn byw ar y strydoedd?

Iawn, wel, fe ddof ymlaen at hynny mewn ychydig bach, ond fel y cofiwch—credaf i chi glywed gan fy nghyd-Aelod, Angela Burns, heb fod yn bell iawn yn ôl am rai o'r safbwyntiau sydd gennym ar gredyd cynhwysol, ei amseriad a phryderon ynghylch yr oedi am bum wythnos ar ei ddechrau. Ond wrth gwrs, nid yw wedi'i ddatganoli ac ni allwn wneud mwy na hyn a hyn o waith ar hynny'n uniongyrchol ein hunain.

A gaf fi fynd yn ôl i ble y dechreuais, ynglŷn â deddfwriaeth a phroblem digartrefedd? Oherwydd os ydym am gyflwyno hawl statudol i hyn, yn bersonol nid oes gennyf lawer o amynedd gyda statud yn cael ei ddefnyddio’n symbolaidd yn unig, ac os gellir perswadio'r Gweinidog i ddilyn y llwybr hwn—ac rwy’n gobeithio y gwnaiff hi—y bydd hi’n annog ystyriaeth o'r mecanweithiau ar gyfer rhoi unrhyw hawliau mewn grym a chynnig camau unioni ar gyfer methiant i wneud hynny.

Rwy'n credu y byddai adolygiad ôl-ddeddfwriaethol o'r Ddeddf i'w groesawu'n fawr yn awr. Rydym yn cytuno, fel y clywsoch, gyda Tai yn Gynraf yn blaenoriaethu dod o hyd i lety, ond nid wyf yn berffaith siŵr bod y gefnogaeth gofleidiol yn dilyn, a gobeithio y byddwch yn nodi ein hymrwymiad i'r cyllid Cefnogi Pobl.

Weinidog—rwy'n credu fy mod wedi codi hyn gyda chi o'r blaen—mae pobl fregus o Gastell-nedd Port Talbot wedi cael eu cartrefu yn Abertawe yn ddiweddar, ac mae'r heddlu a thrigolion wedi dweud wrthyf fod yna broblemau ynghlwm wrth hynny. Mae gan y ddinas ei llinellau cyffuriau a'i phroblemau cyffuriau eisoes, gan gynnwys cogio, a hynny yn y sector cymdeithasol yn ogystal â'r sector rhentu preifat.

Nid dyna yw ffocws y cynnig hwn, ond rwy'n credu y gall ac y dylai'r sector rhentu preifat gyfrannu at leddfu digartrefedd. Efallai y bydd angen 40,000 o gartrefi sector cymdeithasol newydd arnom, ond byddai hynny'n cymryd 10 mlynedd, hyd yn oed o dan Lywodraeth Geidwadol Gymreig, felly rwy'n credu y dylai'r sector preifat hefyd fod yn asiant gweithredol i ddarparu tai o ansawdd da yn ogystal â bod yn bartneriaid da. Yn Abertawe, mae’r gwerthwyr tai Wallich a Dawsons wedi helpu cleientiaid a oedd wedi profi digartrefedd i ddod o hyd i lety cynaliadwy trwy gynnig gwarantau yn lle bondiau arian parod i landlordiaid, ynghyd â chymorth gydag oedi budd-daliadau ac ôl-ddyledion rhent, er enghraifft.

Mae'n werth nodi nad ansicrwydd deiliadaeth yw’r prif reswm pam y mae pobl yn gadael llety rhent preifat. Y tenant sy’n dod â’r rhan fwyaf o denantiaethau i ben, ond er hynny, pan fydd y landlord yn dirwyn y denantiaeth i ben, y prif reswm yw ôl-ddyledion rhent, ac yn aml, newidiadau yn y system fudd-daliadau sy’n sail i hynny. Nid wyf yn ceisio osgoi hynny, fel rwy’n gobeithio fy mod wedi dangos yn glir, ond os dywedwn fod a wnelo hyn â budd-daliadau yn unig, neu gyflog isel hyd yn oed, rydym yn colli golwg ar gamddefnyddio diod a chyffuriau a phroblemau iechyd meddwl cynifer a fyddai, heb yr heriau hynny, Leanne, yn gallu rheoli eu cyllid yn well, ni waeth pa mor anodd fyddai hynny. Rydym yn colli golwg ar y rhai sy'n dianc rhag trais a chael eu taflu allan o'u cartref teuluol, y rhai sy'n mynd ar goll o ofal, a hyd yn oed rhywbeth, fel y clywsom gan Jack Sergeant, sydd mor syml, ond mor ddinistriol yn bersonol, â methu cadw eich anifeiliaid anwes gyda chi.

Ac felly trof at bwynt 6 yn ein cynllun gweithredu, sef addysg. Roedd Llywodraeth Cymru yn anghywir i beidio â chefnogi Bil meinciau cefn Bethan Sayed ar gynhwysiant ariannol. Fel rwy'n siŵr y byddwn yn clywed eto yn y ddadl hon, nid yw digartrefedd bob amser yr hyn y credwn ydyw, a gallai ddigwydd i unrhyw un. Mae rheoli arian a datblygu gwytnwch yn erbyn sioc yn bethau a ddysgwn, ac mae hynny'n ymwneud lawn cymaint â phrofiad personol ac iechyd meddwl ag â deallusrwydd neu dlodi cymharol. Mae lle i hyn ym meysydd dysgu a phrofiad y cwricwlwm newydd. Mae digartrefedd yn bodoli ym mhobman, fel y dywedodd Neil, ac ni fydd prinder deunydd Cynefin i ddarparu'r cynnwys lleol hwn. Mewn gwirionedd, mae cyngor Abertawe eisoes wedi ymrwymo i ddatblygu rhaglen addysg gyda phobl ifanc, wedi'i chydgynhyrchu, i wella eu gwaith ar atal digartrefedd.

Felly, casglu data—os caniatewch hyn i mi, Ddirprwy Lywydd—nid yw hyn yn ymwneud â digartrefedd yn unig yn fy marn i. Beth sy'n ddefnyddiol i'w gasglu trwy ddata? Gadewch i ni gymryd y gymuned sefydlog o bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig fel un enghraifft. Ar un adeg, roeddent wedi’u gorgynrychioli mewn ceisiadau tai cymdeithasol, ond bellach, y gwrthwyneb sy’n wir. Ac nid wyf yn siarad am ffoaduriaid a cheiswyr lloches yma, ond teuluoedd sydd wedi ymsefydlu yng Nghymru, teuluoedd Cymreig y mae eu ffactorau risg o ddigartrefedd yn gyfarwydd—chwalfa perthynas, anghenion cymorth heb eu diwallu, methu byw'n annibynnol—ond gall fod ffactorau ychwanegol fel gorlenwi, cael eich cartrefu mewn ardal lle rydych yn wynebu gwahaniaethu neu gam-drin hiliol, lle nad oes unrhyw breswylwyr eraill yn siarad iaith eich cartref, efallai eich bod yn rhy bell o'ch man addoli, eich system gymorth, a lle bydd diffyg gwelededd cymorth tai yn eich gyrru tuag at dai preifat o ansawdd gwael, felly nid ydych yn ymddangos yn yr ystadegau tai.

Yn olaf, mae Noddfa Digartref Abertawe yn wynebu cau oherwydd ei fod £900 yn y coch: swm mor fach am rywbeth a all wneud gwahaniaeth mor fawr, ac mae'r un peth yn wir am gyllid Cefnogi Pobl. Cadwch hwn a’i glustnodi am dair blynedd, Weinidog, neu byddwn yn gofyn i bobl Cymru ofyn i ni ei wneud. Diolch.

17:55

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n croesawu’n fawr y cyfle i drafod y mater pwysig hwn a’r ysbryd y cafodd ei drafod ynddo hyd yma. Mae digartrefedd yn gymhleth ac fe’i hachosir gan nifer o wahanol ddigwyddiadau. Er bod pobl yn aml yn meddwl bod digartrefedd yn golygu cysgu ar y stryd, un math yn unig o ddigartrefedd yw cysgu ar y stryd, er mai dyna'r math mwyaf gweladwy a'r mwyaf peryglus yn ôl pob tebyg. Rydym yn gwybod bod llawer mwy o bobl ddigartref yn cysgu ar soffas a lloriau ffrindiau a theulu neu mewn llety dros dro, neu'n byw mewn amodau gorlawn, weithiau gyda dau deulu'n byw mewn tŷ dwy ystafell wely. Pan fydd y dewis rhwng byw mewn llety gorlawn neu fyw ar y strydoedd, mae'n hawdd gweld pam y mae pobl yn dewis y llety gorlawn iddynt eu hunain mewn perthynas â ffrind, a gallwch ddeall pam y mae pobl yn gwneud lle i bobl pan nad oes ganddynt le mewn gwirionedd, fel nad ydynt yn gorfod cysgu ar y stryd.

Mae digartrefedd yn ddinistriol. Caiff ei yrru gan renti uchel ac incwm isel, diffyg tai fforddiadwy, pobl ddim yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt pan fo’i angen arnynt, ac mae hyn yn cynnwys budd-daliadau. Y peth pwysicaf yw atal pobl rhag mynd yn ddigartref yn y lle cyntaf trwy ymyrraeth gynnar, ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i hynny, a phasiwyd Deddf ychydig flynyddoedd yn ôl yn siarad am ymyrraeth gynnar. Bydd atal yn rhwystro pobl rhag mynd yn ddigartref yn y lle cyntaf. Mae angen i bobl ymyrryd pan geir bygythiad o ddigartrefedd, nid aros am y diwrnod cyn iddynt gael eu symud allan, neu mewn rhai achosion y diwrnod y cânt eu symud allan. Nawr, mae gan awdurdodau lleol bŵer a dyletswydd i'w wneud, ond mae angen i ni sicrhau bod pob awdurdod lleol yn defnyddio'r pŵer hwnnw a'r ddyletswydd honno er mwyn sicrhau nad yw pobl yn mynd yn ddigartref. Weithiau gall ymyrraeth gynnar gadw pobl yn y cartref y maent ynddo ar hyn o bryd, gan ddarparu cefnogaeth ar y cam hwn yn hytrach nag aros i bobl fynd yn ddigartref, ymateb mewn argyfwng, darparu cymorth brys fel lloches, bwyd a rhaglenni dydd tra bo rhywun yn ddigartref.

Mae angen tai, llety a chymorth—darparu tai a chymorth parhaus fel ffordd o symud pobl allan o ddigartrefedd. I rai pobl ddigartref, ni fydd darparu tŷ neu fflat yn datrys eu problemau. Mae ganddynt broblemau eraill. Maent angen y cymorth sy’n gysylltiedig â thai a'r gwasanaethau byw â chymorth sy'n helpu pobl i fyw mor annibynnol ag y gallant, neu symud ymlaen i fyw'n annibynnol. Mae llawer o wahanol grwpiau o bobl yn elwa o'r gwasanaethau hyn.

Ceir llawer o ddarparwyr yng Nghymru sy'n darparu cymorth sy'n gysylltiedig â thai a gwasanaethau byw â chymorth, ond nid fi fuaswn i pe na bawn i’n sôn am y rhai yn Abertawe. Gwneir gwaith da gan The Wallich hefyd, gan gynnwys eu prosiect menywod trawsffiniol yn Birchgrove, Abertawe, ac rwy'n annog pobl i ymweld ag ef os ydynt yn yr ardal, a Dinas Fechan hefyd, hostel 15 ystafell wely sy'n darparu lloches a chymorth i bobl ddigartref sengl. Mae'r hostel yn darparu llety a chefnogaeth i bobl ag amrywiaeth o anghenion cymorth, gan gynnwys problemau iechyd meddwl, anawsterau dysgu, ymddygiad troseddol neu gamddefnyddio sylweddau. Mae'r holl breswylwyr yn cyfarfod yn rheolaidd â'u gweithiwr cymorth a fydd yn cynnig gwaith datblygu personol, mynediad at wasanaethau priodol a chyngor ar chwilio am lety parhaol. Mae gan bob preswylydd ei le byw ei hun ac ystafelloedd byw cymunedol a rennir. Mae'r holl waith da yn bwysig, ond rydym yn dymuno i bawb gael cartref digonol. Ni fydd penodi tsar digartrefedd, yn ddelfrydol rhywun sydd wedi cael profiad o fyw'n ddigartref ac sy'n gallu craffu ar y cynnydd tuag at roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru, yn dod â digartrefedd i ben.

Mae angen i ni adeiladu mwy o dai cyngor. Rwy'n gwybod fy mod yn rhygnu ymlaen am hyn drwy'r amser, ond yr unig amser ers yr ail ryfel byd nad oedd gennym argyfwng tai oedd pan oeddem yn adeiladu tai cyngor ar raddfa fawr. Dyna beth sydd angen i ni ei wneud—mynd yn ôl i adeiladu tai cyngor ar raddfa fawr. Mae gennym alw nad yw'n cael ei ddiwallu. Gallwn newid pwy sy’n cael blaenoriaeth gennym a sut i'w symud o gwmpas, ond y gwir amdani yw oni bai fod gennym dai digonol, rydym ond yn penderfynu bod gwahanol bobl yn mynd i gael cartref. Mae'n bwysig ein bod yn sicrhau bod digon o dai ar gael, ac mae gennym broblem enfawr oherwydd prinder tai cyngor, ac mae'n rhaid eu hadeiladu. Mae angen i ni fynd yn ôl i adeiladu ar raddfa fawr. Os edrychwn yn ôl ar y 50au a’r 60au, pan oedd gennym Lywodraethau Llafur a Cheidwadol yn San Steffan a oedd, ar adeg etholiad, yn ymgyrchu i weld pwy oedd yn mynd i adeiladu’r nifer fwyaf o dai cyngor. Mae’n debyg y byddai pobl fel Harold Macmillan yn ei chael hi’n anodd iawn bod yn rhan o Lywodraeth Boris Johnson. Roedd ganddynt ddiddordeb mawr mewn cael tai cyngor. Mae angen hynny arnom.

Mae angen i ni hefyd ddefnyddio tai a fflatiau gwag unwaith eto. Gall pob un ohonom grwydro o amgylch ein hetholaethau ein hunain a gweld tai, llawer ohonynt mewn ardaloedd poblogaidd, sydd wedi'u gadael yn wag, ac mae angen inni ddefnyddio’r rheini unwaith eto. Rwy'n gwybod bod Manselton yn fy etholaeth yn ardal boblogaidd o dai teras o ansawdd da, ond gallwch grwydro o amgylch y mwyafrif o strydoedd a dod o hyd i un neu fwy o dai sydd wedi'u gadael yn wag. Gwastraff adnoddau yw hyn, ac anfantais i bobl ddigartref mewn gwirionedd. Mae angen i ni gael mwy o dai cyngor a defnyddio tai a fflatiau gwag unwaith eto fel nad yw pobl yn ddigartref mwyach.

18:00

Fel y dywed ein cynnig, nid yw polisïau cyfredol i fynd i'r afael â digartrefedd a chysgu ar y stryd yn cyflawni'r hyn sy'n ofynnol. Ond nid oes dim o hyn yn newydd. Dyblodd ffigurau digartrefedd yn ystod tymor cyntaf y Cynulliad rhwng 1999 a 2003. Cyflwynodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ar y pryd fesurau atal digartrefedd anstatudol yn ystod ail dymor y Cynulliad i fynd i'r afael â hyn. Disgynnodd niferoedd y digartref, ond nododd y sector fod digartrefedd cudd wedi dyblu. Fel y dywedais yma yn 2007 yn ystod y ddadl ar adroddiad y pwyllgor cyfiawnder cymdeithasol ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc yng Nghymru,

Mae sefydliadau gwirfoddol yn nodi y gallai digartrefedd cudd ddyblu ffigurau digartrefedd Llywodraeth y Cynulliad. Pan gyfarfuom â grŵp o bobl ifanc ddigartref yn Hen Golwyn, fe wnaethant ddweud wrthym fod prinder enfawr o lety fforddiadwy, a gofyn, “I ble'r awn ni?”

Yn 2007 oedd hynny. Fel y dywedodd y bobl ifanc yng ngogledd Cymru wrthym bryd hynny, mae angen cyfryngu ac ymyrraeth gynnar ar gam mwy buan—mae angen inni fynd i mewn i ysgolion a gweithio gyda theuluoedd cyn i bobl fynd yn ddigartref.

Mynegwyd pryder bryd hynny gan sawl sefydliad gwirfoddol, gan gynnwys Shelter Cymru, nad oedd llawer o bobl ddigartref neu bobl a allai fynd yn ddigartref yn cael eu cynnwys yn yr ystadegau digartrefedd. Dysgodd y pwyllgor wedyn fod niferoedd cynyddol o ymgeiswyr digartref yn cael eu hystyried yn ddigartref yn fwriadol ar y pryd. Wrth orffen yr araith honno, dywedais

Rhaid i Lywodraeth y Cynulliad adolygu ei pholisi ar gyfer pobl sy'n gadael gofal, mynd i'r afael â phroblemau digartrefedd mewn ardaloedd gwledig, a gweithio gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau i fynd i'r afael â'r anghysonderau yn y system fudd-daliadau sy'n cosbi pobl ddigartref,

yn 2007.

Er na fydd brics a morter yn datrys y broblem ar eu pen eu hunain, ni chaiff ei datrys heb raglen adeiladu tai uchelgeisiol. Yn 1999, pan ddaeth Llafur i rym yma gyntaf, nid oedd yn argyfwng ar y cyflenwad tai yng Nghymru, ond fe wnaethant dorri'r grant tai cymdeithasol a thorri'r cyflenwad o dai fforddiadwy newydd 71 y cant yn ystod eu tri thymor cyntaf. Yn ystod yr ail Gynulliad, daeth y sector tai at ei gilydd i rybuddio Llywodraeth Cymru y byddai argyfwng tai pe na baent yn gwrando—ond ni wnaethant wrando.

Neidiwch ymlaen, mae'r ffigurau blynyddol diweddaraf sydd ar gael ar gyfer Cymru yn dangos gostyngiad yn nifer yr anheddau newydd a ddechreuwyd, nifer y tai a gwblhawyd yn y sector preifat, nifer y tai a gwblhawyd gydag awdurdodau lleol ac unedau tai fforddiadwy newydd. Er bod y ffigurau chwarterol diweddaraf a gyhoeddwyd gan y Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai yn dangos bod y nifer uchaf o gartrefi newydd ers 12 mlynedd wedi’u cofrestru yn y DU, cynnydd o 12 y cant ers yr un cyfnod y llynedd a chynnydd o 14 y cant yn Lloegr, dim ond 3 y cant o gynnydd a welwyd yng Nghymru. Dim ond 3 y cant o'r cartrefi newydd hyn a gofrestrwyd oedd yng Nghymru, er bod ganddynt 5 y cant o boblogaeth y DU ac er gwaethaf maint argyfwng tai Llafur yma.

Roedd tystiolaeth ar gysgu allan i’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yr wythnos diwethaf gan Dr Helen Taylor, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, yn dyfynnu tystiolaeth gan ymatebwyr,

na fyddai gwneud rhywun yn flaenoriaeth yn unig yn datrys y problemau y maent yn eu profi.

Nododd un,

Ni fydd yn datrys y problemau drwy roi rhywle iddynt fyw, drwy roi help iddynt; mae’n rhaid iddynt fod eisiau ei wneud.

Nododd ymatebwyr y berthynas rhwng deddfwriaeth ddigartrefedd a darparu gwasanaethau eraill, megis gwasanaethau camddefnyddio sylweddau. Ac eto mae Llywodraethau olynol yng Nghymru wedi anwybyddu'r angen am wasanaethau dadwenwyno ac adfer preswyl yng Nghymru fel y nodwyd mewn adroddiadau annibynnol olynol yn rhybuddio bod hyn yn cyfrannu, er enghraifft, at y boblogaeth ddigartref a phoblogaeth y carchardai .

Fel y nododd y canllaw a gyhoeddwyd ddydd Llun i helpu gweithwyr tai proffesiynol i gefnogi pobl awtistig, mae pobl awtistig wedi nodi heriau yn gyson wrth ddod o hyd i wasanaethau tai, cefnogaeth a chymorth priodol oherwydd diffyg dealltwriaeth o'r cyflwr a'u hanghenion unigol. Rwy'n dal i gael gwaith achos o’r fath bob dydd.

Argymhellodd adroddiad End Youth Homelessness fis Awst ar ddigartrefedd ymhlith ieuenctid LHDT+,

y dylai Llywodraeth Cymru gefnogi treialu gwasanaeth ar ffurf Upstream, lle mae ysgolion yn gweithio gydag arbenigwyr ar ddigartrefedd ieuenctid i nodi pobl ifanc sydd mewn perygl o fynd yn ddigartref.

Déjà vu—a ydych chi'n cofio hynny o 2007? Yn y cyfarfod ar y cyd yr wythnos diwethaf o’r grwpiau trawsbleidiol ar dai ac ar drais yn erbyn menywod a phlant, clywsom fod gwasanaethau tai a digartrefedd yn ganolog i oroeswyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, ac y dylai angen blaenoriaethol gynnwys pob ffurf ar y rhain. Déjà vu unwaith eto.

Yng ngogledd Cymru, mae pobl ifanc wedi creu Youth Shedz. Pan ymwelais â'r prosiect Grŵp Cynefin hwn yn Ninbych, dywedodd y bobl ifanc wrthyf ei fod yn darparu gofod diogel iddynt ddatblygu ac ymbaratoi ar gyfer byw'n annibynnol. Yn nigwyddiad Digartref Ynys Môn a Phrifysgol Bangor yma ym mis Medi 2017, clywsom bobl ifanc ddigartref eu hunain yn dweud y gallai pobl ifanc sy'n byw mewn llety â chymorth fod â llu o broblemau i ymdrin â hwy ac y gallent ei chael hi'n anodd gwneud hynny ochr yn ochr ag astudio.

Felly, rwy’n eich annog i gefnogi ein cynnig, sy’n canmol yn briodol yr arferion da sydd i’w canfod yn y sector tai ac sy'n nodi cynllun 10 pwynt y Ceidwadwyr Cymreig i fynd i’r afael â digartrefedd, ‘Mwy na Lloches yn Unig’. Rydym wedi aros yn rhy hir yn barod.

18:10

Diolch i David Melding am gyflwyno'r ddadl hon, ac am gyhoeddi ei gynllun 10 pwynt ar gyfer mynd i'r afael â digartrefedd. Rwy'n cefnogi unrhyw gamau i wella'r ffordd yr awn i'r afael â digartrefedd a byddaf yn gweithio'n gadarnhaol gydag unrhyw Lywodraeth i sicrhau nad oes unrhyw berson yn cael ei adael heb yr hawl ddynol fwyaf sylfaenol: yr hawl i do dros ben pob person, ac un addas ar hynny.

Mae'n hawl na lwyddwyd i'w datrys gan 20 mlynedd o Lywodraeth Lafur Cymru. Mae'r ateb yn gymhleth ac yn galw am flaengynllunio sylweddol. Ac eto, nid yw Llywodraethau'r DU ychwaith wedi gallu cynnig ateb. Ac er y gall pob un ohonom feio’n gilydd a chwarae pêl-droed gwleidyddol, ni fyddai unrhyw bwrpas i hynny. Mae hwn yn fater rhy ddifrifol ac mae angen newid cadarnhaol. Mae angen i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru weithio'n gadarnhaol gyda'i gilydd i sicrhau'r newid hwn a dileu digartrefedd yn yr unfed ganrif ar hugain.

O edrych ar yr argyfwng tai, mae'r newid i gredyd cynhwysol wedi chwarae rhan negyddol mewn digartrefedd. Ceir nifer uchel o gyn-filwyr a chyn-droseddwyr yn cysgu ar y stryd am y gall gymryd hyd at bum wythnos neu fwy i gael talaidau budd-dal. Er bod Llywodraeth y DU yn iawn i fynd i'r afael â phobl sy’n twyllo'r system, roedd y modd y gweithredwyd hynny’n ddiffygiol ac fe niweidiodd y rhai oedd mewn gwir angen. Mae anghenion pobl sy'n ddigartref yn niferus, yn gymhleth ac yn amrywiol. Nid yw’n fater syml o gael cartref a dyna ddiwedd arni. Unwaith eto, rwy’n annog Llywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod taliadau budd-dal yn dechau ar y diwrnod y caiff rhywun ei ryddhau o'r lluoedd arfog neu o'r carchar.

Rhaid mynd i’r afael â’r cynnydd enfawr a welsom mewn digartrefedd yn uniongyrchol, ac felly rwy’n cymeradwyo’r Ceidwadwyr Cymreig am eu cynllun gweithredu, yn y gobaith y bydd yn helpu Llywodraeth Cymru i fabwysiadu cynlluniau mwy uchelgeisiol eu hunain. Mae dyblu nifer y tai cymdeithasol sy'n cael eu hadeiladu yn ddechrau da.

Rwyf hefyd yn croesawu’r argymhelliad i benodi rhywun sydd wedi bod yn ddigartref i gynghori Gweinidogion ar bolisi tai. Rhaid i Lywodraeth Cymru gyfaddef nad yw eu dull o weithredu’n gweithio, a byddai cael person digartrefedd i'w helpu yn cynorthwyo i adfywio eu hymdrechion i ddod â digartrefedd i ben, fel y byddai mabwysiadu llawer o'r cynigion a gyflwynwyd iddynt heddiw. Felly, rwy’n annog yr Aelodau i wrthod gwelliant Llywodraeth Cymru. Oes, mae yna arferion da, ond maent yn bodoli mewn pocedi bach ledled y wlad ac nid ydynt yn genedlaethol.

Byddwn yn cefnogi'r rhan fwyaf o'r gwelliannau eraill y teimlwn eu bod yn ychwanegu at gynnig y Ceidwadwyr, ond byddwn yn gwrthwynebu gwelliannau 3, 6 a 9. O ran gwelliant 11, cytunaf yn llwyr y dylid diddymu'r Ddeddf Crwydradaeth. Ni ddylid ei defnyddio i gael gwared ar bobl sy'n cysgu allan, fel a ddigwyddodd yng Nghastell-nedd pan geisiodd y cyngor Llafur gael gwared ar arwyddion gweladwy o ddigartrefedd. Ond wedi dweud hynny, mae angen i ni fynd i'r afael â chardota problemus. Mae angen i’r Senedd basio deddfwriaeth newydd—sydd, o ystyried ei chyflwr camweithredol presennol, yn annhebygol yn y dyfodol agos—i fynd i’r afael â chardota problemus. Mae'n ffaith drist fod llai nag un o bob pump o'r bobl yr aethpwyd i'r afael â hwy oherwydd eu bod yn cardota yn ddigartref. Yn anffodus, mae grwpiau troseddau cyfundrefnol yn cymryd mantais ar garedigrwydd pobl ac yn mynd ag arian prin oddi wrth bobl sydd mewn gwir angen.

Mae yna awydd trawsbleidiol i roi diwedd ar gysgu ar y stryd, ac rwy'n gofyn a oes gan Lywodraeth Cymru weledigaeth ac uchelgais i gyrraedd y nod, oherwydd mae'n galw am weithio gyda'n gilydd. A phan fyddwn yn gweithio gyda'n gilydd, gall pawb ohonom roi diwedd ar y gwarth cenedlaethol hwn, fel y mae Neil McEvoy yn ei ddisgrifio mor gryno.

Mae gan bawb hawl sylfaenol i dŷ. Mae gan bobl yr hawl i gartref diogel a gweddus sy'n fforddiadwy gyda'r rhyddid rhag cael eu gorfodi i adael. Mae'n ddyletswydd ar Lywodraeth i warantu y gall pawb arfer eu hawl i fyw mewn lle diogel, heddychlon ac urddasol. Mae'n fater o bryder, felly, fod ystadegau tai diweddar yn dangos gostyngiad yn y lefelau adeiladu tai yng Nghymru. Mae nifer yr anheddau newydd a ddechreuwyd yn ail chwarter y flwyddyn hon 7 y cant yn is na flwyddyn yn gynharach. Yn ogystal, mae nifer yr aelwydydd yng Nghymru sydd dan fygythiad o ddigartrefedd wedi cynyddu.

Cysgu ar y stryd yw'r math mwyaf gweladwy o ddigartrefedd. Rydym yn byw yn un o'r gwledydd mwyaf datblygedig a llwyddiannus yn y byd—y bumed gyfoethocaf fel mae'n digwydd—ac edrychwch ar hyn, pobl yn dal i fyw ar y strydoedd ac o dan draffyrdd, mae'n gwbl annerbyniol. Mae'r ffaith bod gennym bobl o hyd heb gartref ac yn cysgu ar ein strydoedd yn destun cywilydd i bawb ohonom. Yn ein trefi a'n dinasoedd, mae gweld pebyll yn ymddangos ar gylchfannau a chloddiau glaswellt ac ochrau ffyrdd yn digwydd yn rhy gyffredin y dyddiau hyn. Y llynedd, cyfrifodd awdurdodau lleol yng Nghymru 158 o bobl yn cysgu ar y stryd ledled Cymru. Fodd bynnag, mae'r dull a ddefnyddiwyd i wneud y cyfrifiad wedi cael ei feirniadu'n eang. Cafodd ei alw'n hen ffasiwn gan Shelter Cymru, gyda Chyngor Sir Ddinbych yn adrodd mai dim ond un person yn unig oedd yn cysgu ar y stryd.

Yn hanesyddol, mae gwasanaethau digartrefedd ar gyfer rhai sy'n cysgu ar y stryd wedi cael eu darparu gan hosteli, ond mae llawer o bobl sy'n cysgu ar y stryd yn dewis peidio â defnyddio hosteli. Mae'r rhesymau a roddant yn cynnwys problemau cyffuriau, alcohol a thrais dwys. Mae pobl ddigartref yn aml wedi datblygu problemau caethiwed ac iechyd meddwl difrifol tra'u bod yn byw ar y strydoedd. Mae'r holl ffactorau hyn yn cyfuno i wneud hosteli yn ddewis anneniadol. Gelwais yn y Siambr hon yn y gorffennol am atebion arloesol i gael pobl ddigartref oddi ar y strydoedd. Yng Nghasnewydd, agorodd yr elusen Amazing Grace Spaces bodiau cysgu i ddarparu llochesi dros dro diogel. Mewn ymateb i fy nghwestiwn yn croesawu hyn, dywedodd y Prif Weinidog:

'er y gall atebion arloesol fod o gymorth yn y presennol, yr ateb hirdymor i fynd i'r afael â'r problemau tai yr ydym ni'n eu hwynebu ar draws y wlad yw mwy o gartrefi parhaol'.

Rwy'n cytuno â'r dyfyniad, Lywydd. Mae angen i ni ddiwallu anghenion cymhleth pobl sy'n cysgu ar ein strydoedd. Mae angen gweithredu beiddgar ar frys. Mae angen strategaeth sy'n atal cysgu ar y stryd cyn iddo ddigwydd, strategaeth sy'n ymyrryd ar bob pwynt argyfwng ac yn helpu pobl i wella'u sefyllfa, gyda chymorth hyblyg sy'n diwallu eu hanghenion. Dyna pam rwy'n croesawu dogfen strategaeth fy nghyd-Aelod, David Melding, 'Mwy na Lloches yn Unig'. Diolch yn fawr, David; da iawn. Mae'r ddogfen hon yn rhoi lle blaenllaw i ddigartrefedd a chysgu ar y stryd yn ein blaenoriaethau gwleidyddol. Mae'n ein hymrwymo i'r targedau uchelgeisiol ar gyfer dod â chysgu ar y stryd i ben yng Nghymru erbyn 2026. Bydd tasglu cenedlaethol yn ymgymryd â rhaglen helaeth i ddatgelu'r holl ddigartrefedd yng Nghymru. Byddai'r problemau sy'n gysylltiedig â hosteli'n cael eu datrys drwy adolygu llety argyfwng a llety dros dro. Byddai hyn yn arwain at osod targed ar gyfer darparu atebion hirdymor o ran tai. Mae'r Lleng Brydeinig Frenhinol yn amcangyfrif bod 6,000 o gyn-filwyr digartref yn y Deyrnas Unedig. Mae'r strategaeth hon yn galw am ailgyflwyno 150 o dai cymdeithasol gwag, rhywbeth a grybwyllwyd gan ein cyd-Aelod, yn benodol ar gyfer cyn-filwyr sydd mewn perygl o fynd yn ddigartref, ac mae'n galw am benodi tsar digartrefedd i gydlynu'r gwaith o ddatblygu a chyflawni polisïau.

Ddirprwy Lywydd, mae'r adroddiad hwn wedi cael ei groesawu gan lawer o elusennau a sefydliadau tai. Os gweithiwn gyda'n gilydd ar draws y Cynulliad, gallwn ddileu cysgu ar y stryd ac atal digartrefedd yng Nghymru; gallwn roi cyfle i bobl gael cartrefi saff a diogel a darparu sylfaen gadarn i wella ansawdd eu bywydau. Cyfarfûm yn bersonol â rhai o'r bobl ddigartref yng Nghasnewydd ac roedd gan bawb stori wahanol i'w hadrodd. Rwy'n credu bod angen hanner awr arall arnaf i ddweud wrth fy nghyd-Aelodau, ond dim ond ychydig eiliadau sydd gennyf. Ond credwch fi, nid oes neb—neb—eisiau byw ar y strydoedd geirwon hynny, maent angen cartrefi diogel a saff lle gallant fyw eu bywydau mewn heddwch a chyfrannu at y gymuned, oherwydd mae stori drist i'w hadrodd am bob un o'r 158 o bobl ddigartref yn y wlad hon ac fel y dywedais yn gynharach, mae'n destun cywilydd i ni. Rhaid inni wneud rhywbeth ac mae'n hen bryd; rhaid inni ei wneud yn awr. Diolch.

18:15

Rhaid imi ddweud, yn fy mhrofiad i, mae'r cyhoedd yn credu, yn y bumed neu'r chweched economi fwyaf yn y byd, ei fod yn gyhuddiad ofnadwy yn erbyn y DU fod cynifer o bobl yn cysgu ar y stryd ac mewn perygl o fod yn ddigartref. Mae pobl yn ei ystyried yn anamddiffynadwy'n foesol, ac mae hynny'n wir. Nid wyf yn credu y gallwn osgoi cefndir o gyni Llywodraeth y DU dros gyfnod tebyg i 10 mlynedd o ran y cefndir i'r sefyllfa honno, oherwydd mae'r toriadau i wasanaethau cyhoeddus o flwyddyn i flwyddyn a'r effaith gronnol wedi rhoi'r gwasanaethau hynny mewn sefyllfa lle mae'n gynyddol anodd iddynt, yn fwyfwy anodd iddynt ddarparu'r cymorth angenrheidiol. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni gydnabod hynny, a chydnabod effaith credyd cynhwysol hefyd. Yn y gwaith y mae'r pwyllgor cydraddoldeb wedi'i wneud ar ddigartrefedd a chysgu ar y stryd clywsom am effaith uniongyrchol ac ymarferol iawn credyd cynhwysol a sut y mae wedi gwaethygu'r problemau hyn. Mae'r cyfnodau aros cychwynnol ar gyfer hawlio budd-daliadau, anallu i dalu'r elfen budd-dal tai yn uniongyrchol i'r tenant, a llawer o agweddau eraill wedi cynyddu problemau digartrefedd a chysgu ar y stryd.

Fe gymeraf ymyriad.

18:20

Diolch yn fawr iawn am dderbyn yr ymyriad, John Griffiths. Nid wyf yn anghytuno â llawer o'ch dadansoddiad, ond hoffwn wneud y pwynt, pan oeddwn yn byw yn Llundain 40 mlynedd yn ôl, roeddwn yn arfer mynd allan nos Fercher a nos Sadwrn am oddeutu tair blynedd gyda sefydliadau amrywiol a oedd yn gweithio gyda phobl ddigartref ar strydoedd Llundain. Roeddent yno bryd hynny, maent yno yn awr, a dyna'r trueni mawr. Nid yw'n ganlyniad i'r degawd diwethaf; mae'n ganlyniad i'r ffaith nad yw ein cymdeithas yn ymdrin â phroblem anodd sydd wedi bodoli er pan oeddwn yn arfer gweithio gyda hwy 40 mlynedd yn ôl.

Ni fyddai neb ohonom yn dweud nad yw'r problemau wedi bodoli dros—[Torri ar draws.]

Diolch. Nid oes angen hynny. Rydym yn ceisio cynnal hyn mewn ysbryd o gonsensws trawsbleidiol ar draws y meinciau. Rwyf am ddweud hyn: a gawn ni barhau yn yr un cywair â'r hyn a gafwyd? Mae bai ar bob ochr weithiau, felly beth am i ni feddwl am hynny.

O'r gorau. Nid wyf yn credu y byddai unrhyw un ohonom yn gwadu bod problemau hirsefydlog yn bodoli. Byddai llawer ohonom yn ystyried profiad Llywodraethau Thatcher dros gyfnod o amser—wyddoch chi, gwerthu tai cyngor heb y gallu i ddefnyddio'r enillion i adeiladu tai cyngor newydd, y canolbwyntio ar brynu preifat. Gwyddom yn awr, er enghraifft, fod pwysau cyson cyflogau isel a rhenti uchel yn y sector rhentu preifat—a hynny drwy rywfaint o'r gwaith y mae Crisis wedi ei gomisiynu ar y sefyllfa yng Nghymru ar hyn o bryd—wedi arwain at sefyllfa lle mae 82 y cant o'r ardaloedd yng Nghymru â llai nag un o bob pum person sengl neu gyplau neu deuluoedd gydag un neu ddau o blant yn gallu fforddio eiddo yn y sector rhentu preifat. Dyna 82 y cant o'r ardaloedd yng Nghymru, lle mae llai nag un o bob pump yn gallu fforddio eiddo yn y sector rhentu preifat os ydynt yn y categorïau hynny. Dyna'r math o sefyllfa rydym ynddi ar hyn o bryd. Rwy'n credu bod angen mynd i'r afael â chredyd cynhwysol, ac yn wir mae'r pwyllgor rwy'n ei gadeirio, y pwyllgor cydraddoldeb, yn gwneud gwaith ar hynny, ac rwy'n gobeithio y gallwn gyrraedd sefyllfa well yng Nghymru, a hynny'n fuan.

Ddirprwy Lywydd, rwyf wedi dweud yr hyn a ddywedais yn fy sylwadau agoriadol, ond er hynny rwy'n croesawu'r fenter gan y Ceidwadwyr Cymreig gyda'r cynllun gweithredu a chyflwyno'r ddadl hon i'r Cynulliad heddiw. Rwy'n credu bod yr elfen hawliau dynol yn ddiddorol iawn, a'r gydnabyddiaeth i lefel y cymorth sy'n angenrheidiol, ac wrth gwrs mae angen i ni adeiladu llawer mwy o dai cymdeithasol, ac rwy'n credu bod hynny wedi cael ei gydnabod yn eang hefyd. Ond mae'n rhaid i ni edrych ar y darlun ehangach yn ogystal, ac mae llawer o ffactorau eraill yn dod yn weithredol.

Mae'r pwyllgor a gadeiriaf wedi gwneud llawer o waith ar gysgu ar y stryd a digartrefedd. Gwyddom fod Tai yn Gyntaf yn eithriadol o bwysig ac rwy'n croesawu cynlluniau peilot Llywodraeth Cymru. Mae'n ymwneud â chael lefel uchel o gymorth i bobl ag anghenion cymhleth a sicrhau bod hynny ar waith a bod y tai a ddarperir yn briodol ac yn ddigonol. Gwyddom fod rhaid i allgymorth grymusol fod yn nodwedd gryfach o'r hyn a ddarperir ar ein strydoedd. Rwyf wedi bod allan gyda Wallich; soniodd eraill am Wallich hefyd. Maent yn gwneud gwaith anhygoel, ac mae angen cryfhau hynny a'i ddatblygu ymhellach.

Rwy'n credu bod yna feysydd lle mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud newidiadau sydd wedi bod yn wrthgynhyrchiol, a buaswn yn cyfeirio at garcharorion yn hynny o beth. Rwy'n credu bod newid deddfwriaethol mewn perthynas â thai wedi creu anawsterau, ac nid yw'r llwybr a sefydlwyd yn lle angen blaenoriaethol i garcharorion wedi gweithio'n effeithiol. Mae angen ei newid. Rwy'n gwybod bod newid wedi digwydd, ond mae angen rhagor o newid. Oes, mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb yma, ac mae angen i ni wneud yn siŵr bod y gwasanaethau iechyd meddwl yn cysylltu â'r gwasanaethau camddefnyddio sylweddau yn llawer mwy effeithiol. Ceir rhwystrau gwirioneddol y mae angen eu goresgyn.

Rwy'n croesawu adroddiad Crisis yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Credaf ei fod yn cyd-fynd yn dda â'r gwaith y mae fy mhwyllgor wedi'i wneud. Felly, rwy'n croesawu'r rhan y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi i Crisis yn y gwaith a wnaethant ac yn y grŵp gweithredu.

Ac yn olaf, mae arnom angen dull gweithredu hirdymor, a chredaf fod pawb wedi siarad am hynny. Mae angen inni fod yn llawer mwy ataliol. Fodd bynnag, rwy'n croesawu ffocws grŵp gweithredu Llywodraeth Cymru a Crisis wrth sôn am y gaeaf hwn. Bob gaeaf ceir marwolaethau ymhlith pobl sy'n cysgu ar y stryd. Mae'n argyfwng llwyr yn ystod y gaeaf. Ceir ymateb cydgysylltiedig gan y trydydd sector, gan eglwysi, gan lywodraeth leol, gan asiantaethau, ond mae'n her enfawr a rhaid inni fod yn effro i'r her honno y gaeaf hwn, cyn inni gyrraedd ateb hirdymor gwell.

18:25

Rwy'n croesawu'r ddadl hon. Mae'n anodd pan nad oes gennych neb. Rwy'n sefyll yma heddiw fel mam i filwr sy'n gwasanaethu yn y fyddin Brydeinig ac fel rhywun a oedd yn ddigartref am gyfnod byr yn berson ifanc 15 oed. Oherwydd bywyd cartref gwirioneddol wael, roeddwn angen rhywle i aros, felly roeddwn yn byw mewn carafán gyda ffrindiau yn gyfnewid am wneud gwaith achlysurol gyda ffair deithiol. Chwe wythnos yn ddiweddarach, ymosodwyd arnaf a bu bron i mi gael fy nhreisio, ac nid oedd gennyf ddewis ond dychwelyd adref i ddioddef ymosodiadau pellach gan fy llysfam. Aeth hynny ymlaen ac ymlaen. Roeddwn i'n mynd rownd mewn cylchoedd am flynyddoedd. Ni wyddwn ble i droi, felly rwy'n credu fy mod yr hyn rydym yn ei alw heddiw'n 'syrffiwr soffas'. Roeddwn yn teimlo o dan bwysau, heb sylfaen, yn ansicr iawn ac yn gwbl ddiwerth. Ond oherwydd y sefyllfa gartref, ymddangosai mai dyma'r dewis gorau a oedd ar gael i mi ar y pwynt hwnnw.

Mae'r profiad hwnnw wedi llywio llawer o fy mhenderfyniadau mewn bywyd: i weithio'n galed, cynnal fy hun, a chadw to dros fy mhen a dros bennau fy mhlant, heb fod arnaf ddim i neb. Mae fy mab yn dal i wasanaethu fel milwr ac wedi bod ar wasanaeth gweithredol, gan gynnwys teithiau amrywiol yn Irac ac Affganistan, a meddwl am gyn-filwyr yn arbennig sydd wedi fy nghymell i siarad heddiw.

Gwn fod achosion digartrefedd yn niferus, yn amrywiol ac yn gymhleth, ac y bydd gan bob person stori wahanol. Fodd bynnag, gwlad fach iawn yw Cymru a chanddi haenau cymhleth iawn o wasanaethau cyhoeddus a chymorth. Ble mae mynd? Ble mae dechrau? Gwn fod pocedi o arferion da. Soniwyd am Tai yn Gyntaf, er enghraifft, fel ymarfer gorau rai blynyddoedd yn ôl rwy'n credu ac mae'n gwneud synnwyr perffaith i roi cymorth go iawn i rywun allu rheoli eu tenantiaeth, yn hytrach na dim ond rhoi'r allweddi iddynt a'u gadael iddi. Mae hynny'n sicr o fethu. Felly, nid wyf yn deall pam nad yw Tai yn Gyntaf nac unrhyw faes arall o ymarfer da yn cael ei gyflwyno ar draws Cymru gyfan erbyn hyn. Mae'n ymddangos bod podiau cysgu wedi cael eu hanwybyddu a'u diystyru, ac nid yw'n ymddangos bod cartrefi cynwysyddion—hyblyg a symudol—wedi bod yn llwyddiant mawr. Nid wyf yn gwybod pam.  

Gwn fod grŵp gweithredu'n cynghori'r Gweinidog. Rwy'n croesawu hyn, ond mae Llafur Cymru wedi cael 20 mlynedd a mwy i wneud rhywbeth, i gyflawni rhywbeth, i sganio'r gorwel ac i astudio demograffeg a newid yn y boblogaeth. Rwy'n bryderus iawn ei bod yn ymddangos fel pe baem wedi cerdded yn ein cwsg i mewn i'r argyfwng presennol lle mae ein pobl yn llythrennol yn marw ar ein strydoedd. Mae cynlluniau gweithredu, grwpiau gweithredu, strategaethau yn hyfryd, ond nid ydym yn gweld y canlyniadau y byddem yn gobeithio amdanynt i'r person ifanc neu'r cyn-filwr sydd angen y cymorth mewn gwirionedd. Ac mae'n edrych fel pe na bai neb yn gwrando, oherwydd maent i gyd yn edrych i lawr ar y cyfrifiaduron ac nid ydynt yn gwrando. Dyma'r realiti, ac nid oes yr un ohonoch wedi bod drwy'r math hwnnw o beth, felly fe ddylech wrando. [Torri ar draws.]

Fy marn i yw nad oes gan yr un blaid fonopoli ar syniadau da ac rwy'n croesawu'r adroddiad meddylgar hwn gan y Ceidwadwyr. Ond buaswn yn dweud nad yw 'prysur' yn golygu effeithiol, ac mae'n bryd gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y maes hwn. Mae pobl angen gobaith, mae pobl angen diogelwch, maent angen sefydlogrwydd. Ac mae pawb angen cartref.

18:30

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwyf am ddechrau drwy groesawu sylwadau cyntaf David Melding am weithio ar draws y Siambr, ac adleisio croeso'r Prif Weinidog i syniadau da o unrhyw ffynhonnell, a'u hadleisio. Felly, rwy'n credu bod llawer i'w ganmol yng nghynllun y Ceidwadwyr, a hefyd, mewn gwirionedd, yng nghynllun Plaid Cymru. Ac rwy'n meddwl bod gennym ni rai agendâu a rennir ar draws y Siambr, ac rwy'n awyddus iawn i weithio gyda phobl i ddarganfod sut y gallwn fwrw ymlaen â'n hagenda ar y cyd. Ond rwyf am ddweud hefyd fy mod bob amser yn rhyfeddu at ddiffyg dealltwriaeth lwyr pobl o'r problemau a grëir gan dlodi ac yn arbennig, gan gyflwyno credyd cynhwysol a phethau eraill.

Felly, gadewch i mi ddweud un ohonynt wrthych, felly os ydych chi'n wirioneddol bryderus, gallwch ymuno ag ymgyrch Crisis ar hyn. Mae'r lwfans tai lleol wedi bod yn ddim ers 2016—ers pedair blynedd. Felly, canlyniad hynny, os ydych yn y sector rhentu preifat a'ch bod ar gredyd cynhwysol, yw eich bod yn talu'r gwahaniaeth rhwng y lwfans tai lleol a'r rhent yn y sector hwnnw. Mae hynny'n hybu digartrefedd. Mae'n bolisi uniongyrchol gan y Blaid Geidwadol. Nid wyf yn gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd y flwyddyn nesaf, ond os oes gennych unrhyw ddylanwad ar hynny, ceisiwch wneud, gan ein bod wedi ysgrifennu dro ar ôl tro i ddweud bod hyn, yn amlwg, yn gyrru pobl allan o'r sector rhentu preifat—ac rydych chi'n gywir, mae angen i ni adeiladu mwy o dai cymdeithasol ac rydych chi'n gywir, rydym yn mynd mor gyflym â phosibl ers i'r Llywodraeth Geidwadol weld synnwyr a thynnu'r capiau, ddiwedd y llynedd. Mae'r holl sôn am 20 mlynedd—nid ydym wedi cael gwneud hynny tan y llynedd. Rydym yn cael gwneud hynny yn awr, rydym yn ei wneud yn gyflym ac ar raddfa fawr. Rydych yn ein helpu gyda hynny—rydych yn rhannu'r agenda honno, rwy'n gwybod. Ond mae angen i ni hefyd sicrhau bod pobl yn y sector rhentu preifat yn gallu fforddio eu rhenti, ac ar hyn o bryd ni allant wneud hynny. Felly, os ydych am wneud rhywbeth, gwnewch hynny.

Oes gennych chi unrhyw beth i'w ddweud am niferoedd? Gwn fod yna—wrth gwrs, fod digartrefedd yn bodoli 40 mlynedd yn ôl, a byddai wedi bod yn fwy cyffredin yn Llundain—wrth gwrs. Ond mae'r niferoedd gwirioneddol o bobl y gallwch eu gweld yn cysgu ar y strydoedd yn awr yn llawer uwch nag unrhyw beth a welais erioed o'r blaen, ac rwy'n credu ei fod yn ymwneud â'r rhesymau rydych wedi'u disgrifio. A oes gennych unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod nifer y digartref yn broblem fwy o lawer nag oedd hi, dyweder, 40 mlynedd yn ôl?

Oes, mae gennym rywfaint o dystiolaeth. Mae'r niferoedd yn broblemus, oherwydd rydym yn eu gwneud mewn hapwiriadau ac rydym yn eu gwneud mewn cyfrifiadau o bobl sy'n cysgu ar y stryd. Ac rydym yn gwybod, er enghraifft, ei bod yn anodd iawn cyrraedd menywod mewn cyfrifiadau o bobl sy'n cysgu ar y stryd. Rydym yn gwybod hynny oherwydd eu bod yn tueddu i gerdded drwy'r nos a chysgu yn ystod y dydd oherwydd ei bod yn fwy diogel ac yn y blaen. Felly, mae'r niferoedd yn broblemus. Mae gennym ddata. Mae gennym fesurau ataliol yma yng Nghymru y credaf eu bod wedi atal ychydig ar y llif, ond rydych yn ymladd llanw cynyddol.

Ddirprwy Lywydd, nid dyma'r tro cyntaf i mi siarad am ddigartrefedd yn y Siambr yn ystod y tymor hwn. Pythefnos yn unig sydd yna ers i mi wneud datganiad, felly nid wyf am ailadrodd rhai o'r pethau hynny. Ond mae'n rhaid i ni atal y llanw yn ogystal â mynd i'r afael â'r problemau yn y pen gwaethaf. Ac mae'n rhaid i ni wneud y ddau beth neu byddwn yn parhau i weld y pwysau wrth i bobl adael llety addas. Ond yr un peth hwnnw, os ydych am wneud rhywbeth go iawn—newidiwch yr elfen lwfans tai lleol yn y credyd cynhwysol a byddwch yn sicr o gau un o'r tapiau hynny.

Felly, rydym yn gweithio'n galed iawn gyda'r ysgogiadau sydd gennym o fewn ein rheolaeth. Rydym yn buddsoddi dros £20 miliwn eleni'n unig i gynyddu ein cyflenwad tai. Ac yn wahanol i Lywodraeth y DU, nid ydym erioed wedi cilio rhag cefnogi'r gwaith o ddarparu tai cymdeithasol. Rwy'n cytuno'n llwyr â fy nghyd-Aelod, Mike Hedges: adeiladu tai cyngor yw'r unig ffordd ymlaen. Felly, rydym wedi cymryd camau breision ymlaen o ran gwreiddio'r dull ataliol hwnnw a chynyddu ein cyflenwadau. [Torri ar draws.] Yn sicr, Mark.

Rydych yn dweud nad ydych erioed wedi torri tai cymdeithasol, ac rwy'n cymryd eich bod yn cyfeirio at y Llywodraeth hon, oherwydd bydd ystadegau eich Llywodraeth eich hun yn profi iddynt gael eu torri'n aruthrol yn nhri thymor cyntaf y Cynulliad a'u bod wedi gwastatáu wedi hynny. Roedd y grant tai cymdeithasol yn dal i adeiladu tai cymdeithasol drwy landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, ac erbyn i'r Llywodraeth Geidwadol golli grym yn 1997 yn Llundain, roedd y gyfradd adnewyddu yn lle'r rhai a werthwyd bron yn gyfartal—fe gwympodd ar ôl 1997 a chwympo hyd yn oed ymhellach ar ôl 1999. Edrychwch ar y ffigurau.

Rwyf wedi edrych ar y ffigurau, ac rydych chi, yn daclus iawn, yn osgoi'r pwynt fod eich Llywodraeth wedi gwrthod caniatáu dro ar ôl tro i dai cyngor gael eu hadeiladu gan ddefnyddio'r elw o werthiant tai cyngor. [Torri ar draws.] Fe wnaethoch leihau'r cyflenwad. Roeddwn innau yn Llundain 40 mlynedd yn ôl hefyd—40 mlynedd yn ôl oedd hi pan ddaeth Llywodraeth Thatcher i mewn a dinistrio'r cyflenwad o dai cymdeithasol. Felly, mae llawer y gallwn gytuno arno yn y Siambr hon, ond mae rhai hanfodion na fyddwn byth yn cytuno arnynt, ac un ohonynt yw y byddwch yn cael digartrefedd os ydych yn dinistrio'r cyflenwad o dai cymdeithasol. A dyna a welwn ar hyn o bryd.

Gwnaethom gyhoeddi datganiad polisi strategol gwta bythefnos yn ôl, i gydnabod yr angen i edrych o'r newydd ar ein dull o weithredu. Mae'r strategaeth yn canolbwyntio'n llwyr ar atal digartrefedd ac yn yr amgylchiadau prin hynny lle na ellir ei atal, ar leihau'r niwed y mae'n ei achosi, canolbwyntio ar ailgartrefu'n gyflym, sicrhau bod digartrefedd yn ddigwyddiad prin, byr ac nad yw'n cael ei ailadrodd. Mae'r dull yn ceisio cynorthwyo'r rheini sy'n wynebu digartrefedd ar hyn o bryd i gael llety hirdymor diogel, gan leihau'r llif i ddigartrefedd ar yr un pryd. Mae llawer o Aelodau yn y Siambr hon wedi gwneud y pwynt: maent wedi gwneud y pwynt am Tai yn Gyntaf, cynllun a groesewir gennym. Rydym yn buddsoddi £1.6 miliwn eleni yn ein prosiectau peilot. I fod yn glir: nid yw Tai yn Gyntaf yn ateb i bob dim; mae'n un agwedd ar ddull ailgartrefu cyflym. Mae angen inni weithredu ar draws y system gyfan os ydym am newid ein model darparu gwasanaeth. A rhaid ystyried deddfwriaeth fel y llinell amddiffynol olaf i atal digartrefedd, nid y gyntaf.

Ddirprwy Lywydd, rwyf am ddweud hyn hefyd wrth ein cydweithwyr yn yr awdurdodau lleol: nid targed yw'r pwynt 56 diwrnod, ond cynllun wrth gefn. Nid wyf am weld awdurdodau lleol yn dweud wrthyf eu bod wedi llwyddo i gyflawni eu rhwymedigaethau am fod pobl wedi cael eu gweld cyn pen 56 o ddiwrnodau pan allent fod wedi cael eu gweld cyn pen 63 diwrnod, 110 diwrnod, neu beth bynnag y bo. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr â Leanne Wood. Mae hyn yn ymwneud â newid calonnau a meddyliau o fewn gweinyddiaeth y system. Ac er mwyn gwneud hynny, ac mewn ymateb i adroddiad y grŵp gweithredu, rwyf wedi siarad, neu mae fy swyddogion wedi siarad, â holl arweinwyr y cynghorau a phrif weithredwyr y pedair dinas fawr yng Nghymru lle mae'r pwyntiau cyfyng—mae'n ddrwg gennyf ddefnyddio'r term hwnnw, ond lle daw'r rhan fwyaf o bobl ddigartref iddynt. Oherwydd dyna lle mae gwasanaethau a dyna'n aml lle gallant gael rhywfaint o'r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt. Ac rydym wedi siarad â hwy am symud y model yn y dinasoedd hynny y gaeaf hwn, mewn ymateb i argymhellion y grŵp gweithredu a dderbyniwyd gennym yn llawn. Ac mae pob un ohonynt, rwy'n falch iawn o ddweud, wedi croesawu hynny'n gyfan gwbl. Erbyn hyn mae hyfforddiant allgymorth grymusol ar waith ym mhob un o'r ardaloedd hynny ac ar draws y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ynghyd â chydweithwyr ym maes iechyd, gofal cymdeithasol ac yn y blaen. A byddwn yn gweithio tuag at gael polisi lle nad oes unrhyw droi allan na rhyddhau pobl i ddigartrefedd gan unrhyw wasanaeth cyhoeddus yng Nghymru, cyn gynted ag y gallwn symud y gwasanaeth i'r llwybr hwnnw. Felly, nid wyf yn gwneud unrhyw esgus dros symud hynny yn ei flaen. Rhaid inni wneud rhywbeth yn gyflym iawn.

Mae'r grŵp gweithredu wedi argymell y dylem edrych o'r newydd ar ein dull o weithredu, a dylwn ddweud hefyd, oherwydd mae llawer o bobl wedi sôn amdanynt, fod gennym lwybrau penodol ar gyfer cyn-filwyr a phobl sy'n gadael y carchar. Rydym yn gweithio'n benodol gyda grwpiau gorchwyl a gorffen ar y llwybrau hynny i weld ble maent yn gweithio, pam eu bod yn gweithio, neu ble nad ydynt yn gweithio, pam nad ydynt yn gweithio, ac yn mynd ar drywydd hynny. Ac yn benodol, mae gennyf grŵp gorchwyl a gorffen yn gweithio gyda charchar Caerdydd, Cyngor Caerdydd a fy swyddogion, i wneud yn siŵr nad ydym yn cylchdroi pobl sy'n dod allan o garchar Caerdydd ar strydoedd Caerdydd. Pan fydd hynny wedi'i wneud, byddwn yn ei gyflwyno ledled Cymru. Felly, rwy'n credu ein bod yn mynd ati'n gyflym i geisio datrys hyn.

Rwyf hefyd yn cytuno'n llwyr â datgymhwyso'r Ddeddf Crwydradaeth. Rwyf wedi dweud hyn mewn nifer o gyfraniadau yn y Siambr y tymor hwn, Ddirprwy Lywydd, felly nid af drwyddo eto, gan fy mod wedi gwneud ein safbwynt yn glir iawn. Rydym hefyd yn cymryd cyngor cyfreithiol i weld a allwn ddatgymhwyso unrhyw adrannau ohoni'n gyfreithiol, ond rydym hefyd yn gweithio ar gytundebau gwirfoddol ledled Cymru i wneud yn siŵr bod cynghorau a heddluoedd yn cyflawni ar hynny. Rwyf hefyd yn cydweithio â fy nghyd-Aelod Lee Waters ar nifer o fentrau sy'n ymwneud â sicrhau bod eiddo gwag yn cael ei ddefnyddio unwaith eto ar draws nifer o ardaloedd cyngor, a bydd Mike Hedges yn falch iawn o wybod bod Abertawe yn un ohonynt. Felly, rwy'n hapus iawn i wneud hynny.

Felly, rwy'n mynd i orffen drwy ddweud hyn: edrychwch, rwy'n cytuno'n llwyr fod angen inni groesawu'r mannau y gallwn gytuno arnynt ar draws y Siambr, ac mae llawer rydym yn cytuno yn ei gylch. Felly, rwy'n credu y gallwn wneud hynny. Gallwn osod y pethau na allwn gytuno arnynt i'r naill ochr. Rwy'n fwy na pharod i glywed syniadau da o bob rhan o'r Siambr, ond hefyd o bob rhan o'r gwasanaethau cyhoeddus a'r sectorau. Felly, rwy'n mynd i orffen gyda hyn, Ddirprwy Lywydd: galwaf ar bawb yma a'r holl arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru i addo gweithio'n unol â'n hegwyddorion polisi i roi diwedd ar ddigartrefedd. Fe fyddwch wedi cael cyfle i ddarllen y datganiad polisi strategol, yr adroddiad gan y grŵp gweithredu a'n hymateb iddo. Cawsom lawer o gyfleoedd yn y Cyfarfod Llawn a'r pwyllgorau hefyd yn ystod yr wythnosau diwethaf i drafod y mater hwn. Nawr gallwn droi'r geiriau hynny'n weithredoedd. Rydym yn cychwyn ar adeg dyngedfennol o'r flwyddyn o ran marwolaethau ar y stryd. Nid wyf yn credu bod y ffigurau'n gywir, ond mae unrhyw farwolaeth yn farwolaeth yn ormod—gadewch inni fod yn glir. Mae pobl ddigartref yn marw yn eu 40au, ac ychydig yn iau i fenywod nag i ddynion—ond yn eu 40au. Mae'n warthus. Felly, rhaid inni wneud rhywbeth am y peth oherwydd, yma yng Nghymru, gyda'n gilydd, fe allwn ac fe wnawn roi diwedd ar ddigartrefedd. Diolch.

18:35

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd rhan mewn dadl rymus iawn, ac adeiladol ar y cyfan, rwy'n credu—gyda rhai ymylon miniog; o ystyried natur y pwnc, mae'n debyg fod hynny'n gwbl briodol. Gadewch i mi fynd drwy rai o'r cyfraniadau.

Dechreuodd Neil gyda thaith ar hyd strydoedd Caerdydd, ac rwy'n meddwl bod honno'n ffordd deimladwy a phriodol iawn i ddechrau. Rwy'n credu bod y trydydd sector yn bartneriaid hanfodol sy'n cynnig atebion da. Nid oes gennyf gydymdeimlad mawr â'ch sylwadau ar yr ochr honno i bethau, ond roeddwn yn meddwl bod ein hatgoffa, mewn gwirionedd, am ein prifddinas ein hunain yn bwysig.

Leanne, ni soniais am fod yn anghydweithredol yn fy araith, ac fe ddylwn fod wedi gwneud mewn gwirionedd. Felly, rwy'n meddwl eich bod wedi rhoi eich bys ar her polisi go iawn a gwendid yn y ddeddfwriaeth dai gyfredol, ac mae'r holl grwpiau'n dweud hynny wrthym. Rwy'n cytuno mai'r prinder tai, sut bynnag y mae hynny wedi digwydd, sydd wedi sbarduno llawer o'r heriau sy'n ein hwynebu o ran digartrefedd. Yna gwnaethoch sylwadau miniog iawn am y system fudd-daliadau; gwnaeth nifer o'r Aelodau eraill yr un fath, gan gynnwys y Gweinidog, a gyfeiriodd yn benodol at y lwfans tai lleol. Nawr, rwy'n credu y byddem yn elwa o ddadl gyfan ar hyn a sut y mae wedi effeithio ar y maes hanfodol rydym yn gyfrifol amdano—polisi tai a digartrefedd. Yn amlwg, nid ydym yn gosod polisi budd-daliadau, ond mae'n amlwg fod rhaid ei asesu o ran y modd y mae wedi effeithio ar y rhai mwyaf agored i niwed, a chredaf fod angen inni ei archwilio'n dda iawn, a chredaf efallai nad oedd rhai o'r pwyntiau a wnaethpwyd wedi'u seilio'n llwyr ar ddadansoddiad cywir ar hyn o bryd. Ond dylem fod yn agored iddo; dyna'n bendant yw'r meini prawf ar gyfer barnu unrhyw ddiwygio.

Soniodd Suzy fod angen i unrhyw ddull yn seiliedig ar hawliau ganolbwyntio ar y gallu i orfodi hawliau, ac roeddwn o'r farn fod hwnnw'n bwynt diddorol—rwy'n cytuno'n llwyr—a soniodd wedyn am yr angen i graffu ar ôl deddfu ar Ddeddf 2014, a fyddai wedyn yn arwain at gynnwys pethau fel bod yn anghydweithredol. Felly, roeddwn yn meddwl bod hwnnw'n gyfraniad pwysig.

Mike, mae bob amser yn bleser gwrando arnoch yn siarad am dai a materion cysylltiedig gan fod gennych gyfoeth o brofiad, a chalon garedig, os caf ddweud, o ran croesawu syniadau lle bynnag y dowch o hyd iddynt, a'r holl ystod o ddigartrefedd—y gwahanol fathau o ddigartrefedd, o dai anaddas i gysgu ar y strydoedd, a diffyg tai fforddiadwy, rhywbeth y mae gennych ddiddordeb angerddol ynddo. Mae hynny'n bendant yn rhywbeth y mae angen i ni ddod at ein gilydd yn ei gylch a'i ddatrys.

Rhoddodd Mark ddadansoddiad hanesyddol iawn i ni, gan gynnwys y dull gweithredu yn y Cynulliad cynnar a'i gyfraniadau, a soniodd am ddigartrefedd cudd yn benodol, a chredwn fod hynny'n allweddol iawn. Mae'r broblem hon wedi bod gennym yn hir iawn—rwy'n credu mai'r ateb gonest yw ei bod hi'n broblem sy'n eiddo i bawb ohonom.

Soniodd Caroline am yr hawl i gael to dros eich pen—dyna'r ffordd rwyf am ei roi hefyd—ac roedd yn croesawu ein cynllun gweithredu a'r rôl y gallai tsar ei chwarae. 

Mohammad wedyn: ni yw'r pumed grŵp cyfoethocaf, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth i'w gofio bob amser pan nad oes gan lawer o'n dinasyddion hawl mor sylfaenol â thai. Fe wnaethoch y pwynt—nid wyf yn credu bod neb arall wedi dweud hyn—nad yw'r rhai sy'n cysgu ar y stryd eisiau mynd i hostel argyfwng bob amser, a hynny am wahanol resymau rwy'n eu deall yn iawn.

Roeddwn yn credu bod John wedi gwneud cyfraniad rhagorol fel Cadeirydd y pwyllgor llywodraeth leol a thai, ac roedd yn ddigon hael i gydbwyso ei sylwadau gyda beirniadaeth eithaf miniog, ond hefyd gyda lle credai ein bod yn gwneud cyfraniad gwerthfawr. Roedd yn croesawu'r elfen hawliau dynol ac yna siaradodd am bethau fel allgymorth grymusol, nad ydym bob amser yn gyfforddus yn ei gylch, ond mae'n rhywbeth sy'n cael ei godi gyda ni ac mae'n bwysig.

Wedyn, roeddwn yn credu bod Mandy wedi rhoi araith bwerus iawn mewn sawl ffordd, oherwydd roeddech yn hael eto wrth fyfyrio ar eich profiad eich hun fel person 15 mlwydd oed, a phwy all wybod beth sydd ym meddwl rhywun 15 oed yn y sefyllfa honno—tai annigonol, rhoi eich hun ar drugaredd ffrindiau neu fynd yn ôl i sefyllfa deuluol a oedd yn wirioneddol enbyd i chi. Rwy'n siŵr bod llawer o bobl a fyddai wedi clywed hynny sydd wedi bod yn y sefyllfa honno, neu hyd yn oed yn mynd drwyddi yn awr, ac a fyddai'n cael cryn dipyn o gymorth o wybod o leiaf fod rhywun yn ein Siambr wedi cael profiad uniongyrchol o'r broblem hon. Credaf fod sefyllfa cyn-filwyr yn allweddol iawn ac fel y dywedais, yn gynharach yr wythnos hon roeddwn yn edrych ar hynny ym Mhontypridd. Ac unwaith eto, rydych yn cefnogi'r dull tai yn gyntaf. Ac rwy'n croesawu ymateb y Gweinidog pan ddywedodd y dylem wneud hon yn agenda ar y cyd. Dylem goleddu pob syniad da a'u defnyddio. Ac unwaith eto, roeddech yn ddigon caredig i gydbwyso'ch sylwadau â'r meysydd lle teimlwch fod gan ein hochr ni fwy i ateb drosto nag y teimlwch iddo gael ei godi y prynhawn yma efallai. Ond rwy'n credu bod y natur adeiladol yn gyffredinol yn sylfaen dda inni sicrhau ein bod yn trafod y pwnc yn aml yn ei holl gymhlethdodau. Diolch i chi am eich amynedd, Ddirprwy Lywydd.

18:45

Diolch. Y cwestiwn yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad. Felly, gohiriwn y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, rwy'n bwriadu symud ymlaen i'r bleidlais gyntaf.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Cyfnod Pleidleisio

Symudwn yn awr at bleidlais ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig, 'Mynd i'r Afael â Digartrefedd', a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Os na dderbynnir y cynnig hwn, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Felly, agorwch y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 11, un yn ymatal, 35 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig a symudwn ymlaen i bleidleisio ar y gwelliannau.

NDM7167 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 11, Yn erbyn: 35, Ymatal: 1

Gwrthodwyd y cynnig

Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 i 6 eu dad-ddethol. Felly, galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid gwelliant 1, 26, neb yn ymatal, 22 yn erbyn. Felly, derbynnir gwelliant 1, a chaiff gwelliannau 2 i 6 eu dad-ddethol.

NDM7167 - Gwelliant 1: O blaid: 26, Yn erbyn: 22, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cafodd gwelliannau 2 i 6 eu dad-ddethol.       

Ni ddetholwyd gwelliant 7.

Symudwn ymlaen i bleidleisio ar welliant 8. Galwaf am bleidlais ar welliant 8, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 37, roedd tri yn ymatal, wyth yn erbyn. Felly, derbynnir gwelliant 8.

NDM7167 - Gwelliant 8: O blaid: 37, Yn erbyn: 8, Ymatal: 3

Derbyniwyd y gwelliant

A galwaf am bleidlais ar welliant 9, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid gwelliant 9, 11, neb yn ymatal, 37 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 9.

NDM7167 - Gwelliant 9: O blaid: 11, Yn erbyn: 37, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Galw am bleidlais ar welliant 10, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 40, wyth yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbynnir gwelliant 10.

NDM7167 - Gwelliant 10: O blaid: 40, Yn erbyn: 0, Ymatal: 8

Derbyniwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais ar welliant 11, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 46, roedd dau yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbynnir gwelliant 11.

NDM7167 - Gwelliant 11: O blaid: 46, Yn erbyn: 0, Ymatal: 2

Derbyniwyd y gwelliant

Galw am bleidlais ar welliant 12, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 48, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbynnir gwelliant 12.

NDM7167 - Gwelliant 12: O blaid: 48, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Galw am bleidlais ar welliant 13, a gyflwynwyd yn enw Neil McEvoy. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 14, neb yn ymatal, 34 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 13.

NDM7167 - Gwelliant 13: O blaid: 14, Yn erbyn: 34, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Galw am bleidlais ar welliant 14, a gyflwynwyd yn enw Neil McEvoy. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant chwech, neb yn ymatal, 42 yn erbyn. Gan hynny, gwrthodwyd gwelliant 14.

NDM7167 - Gwelliant 14: O blaid: 6, Yn erbyn: 42, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais ar welliant 15, a gyflwynwyd yn enw Neil McEvoy. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant chwech, neb yn ymatal, 42 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 15.

18:50

NDM7167 - Gwelliant 15: O blaid: 6, Yn erbyn: 42, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynnig NDM7167 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod bod yna fwy y gellir ei wneud bob amser i fynd i'r afael â digartrefedd.

2. Yn cymeradwyo'r arfer da a welir yn y sector tai mewn perthynas â digartrefedd, gan gynnwys y trefniadau partneriaeth sy'n cefnogi gwaith Tai yn Gyntaf Llywodraeth Cymru.

3. Yn croesawu sefydlu Grŵp Gweithredu Llywodraeth Cymru ar Ddigartrefedd a ddatblygwyd mewn partneriaeth â'r sector, gan gynnwys elusennau digartrefedd, ac yn croesawu ei adroddiad cyntaf.

4. Yn nodi:

a) Bod un person digartref sy'n marw yn drasiedi.

b) Yr effaith y mae cyni a diwygiadau i'r system les wedi'i chael ar y niferoedd sy'n ddigartref.

5. Yn nodi ymhellach Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Atal a Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd ac ymgyrch adduned y sector cyhoeddus.

6. Yn cydnabod bod toriadau Llywodraeth y DU i nawdd cymdeithasol wedi cyfrannu at y cynnydd mewn digartrefedd, fel y rhagwelodd y sector fyddai'n digwydd.

7. Yn galw ar Lywodraeth y DU i fabwysiadu argymhellion yr adroddiad Crisis ar roi terfyn ar ddigartrefedd sy'n berthnasol i feysydd polisi sydd heb eu datganoli, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu argymhellion yr adroddiad argyfwng sy'n berthnasol i'w feysydd cyfrifoldeb. 

8. Sicrhau bod Deddf Crwydradaeth 1824 yn cael ei datgymhwyso'n weithredol ym mhob un o ardaloedd yr heddlu yng Nghymru er mwyn osgoi gwneud pobl ddigartref yn droseddwyr am gysgu allan a chardota. 

9. Yn ogystal â darparu tai, yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu'n briodol i bobl sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, fel pobl â phroblemau iechyd meddwl, anableddau dysgu, defnyddwyr sylweddau problematig, pobl ag ADHD ac anhwylderau niwroddatblygiadol, carcharorion, cyn-filwyr, goroeswyr cam-drin rhywiol yn ystod plentyndod a goroeswyr cam-drin domestig a'r rhai sydd wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig fel y'i diwygiwyd 29, wyth yn ymatal, 11 yn erbyn. Felly, derbynnir y cynnig fel y'i diwygiwyd.

NDM7167 - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 29, Yn erbyn: 11, Ymatal: 8

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Symudwn ymlaen yn awr at eitem 9, sef y ddadl fer. Os oes Aelodau'n gadael y Siambr, a allant wneud hynny'n gyflym?

9. Dadl Fer: Grym tai cydweithredol fel modd o helpu i ddiwallu anghenion tai mewn cymunedau ledled Cymru

Trown yn awr at y ddadl fer a galwaf ar Dawn Bowden i siarad ar y pwnc y mae wedi'i ddewis—Dawn.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Mae'n ymddangos mai heddiw yw'r diwrnod ar gyfer dadleuon ar dai. Mae'n ddrwg gennyf nad oeddwn o gwmpas i gymryd rhan yn llawer o ddadl y Ceidwadwyr yn gynharach, oherwydd rwy'n cefnogi llawer o'r hyn a gyflwynwyd yn y ddadl honno, a chredaf ein bod yn y broses o ddod i ryw fath o gonsensws ynghylch rhai o'r materion y mae angen inni roi sylw iddynt ym maes tai. Felly, fy mhwnc ar gyfer y ddadl fer hon yw pŵer atebion tai cydweithredol i helpu i ddiwallu anghenion tai mewn cymunedau ledled Cymru, a hoffwn roi munud o fy amser i Mike Hedges.  

Felly, fe ddechreuaf fy nadl gyda dadansoddiad cyd-destunol byr o'r angen am dai, a byddaf yn edrych wedyn ar enghreifftiau o atebion tai cydweithredol yn fy etholaeth i a thu hwnt, ac yn olaf byddaf yn egluro pam y credaf fod cydweithredu'n offeryn pwerus i helpu i ddatrys problemau tai yn ogystal â helpu i adeiladu cymunedau mwy cydlynus.

Rwyf bob amser yn credu bod tai'n dal i fod yn ddewis gwleidyddol iawn, yn ddewis ynghylch blaenoriaethau ac yn adlewyrchiad o werthoedd gwleidyddol, ond rwy'n cydnabod hefyd y tir cyffredin a welwn yn y lle hwn, fel y nodwyd yn y ddadl gynharach, rwy'n credu—tir cyffredin y credaf ei fod yn seiliedig ar raddfa ac ystod y problemau tai a welwn yn ein gwaith achos ac mewn tystiolaeth arbenigol a gawn ym mhwyllgorau'r Cynulliad. Yn wir, yr wythnos diwethaf, clywodd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau dystiolaeth gymhellol ynghylch problemau cysgu ar y stryd a'r heriau sy'n wynebu'r bobl sy'n cael profiad o hynny a sefydliadau sy'n ceisio helpu i fynd i'r afael â'r broblem.

Felly, yn gyntaf, ychydig o gyd-destun ar anghenion tai. Gwn o fy mhrofiad fy hun ym Merthyr Tudful a Rhymni, lle gwelaf angen sylweddol am gartrefi i bobl ifanc a phobl sengl, fod angen mwy o dai o faint a all helpu pobl i osgoi dyled bersonol yn sgil gorfod talu treth ystafell wely, a'r angen am gartrefi rhent preifat i fod ar gael ar lefelau rhent y gall pobl eu fforddio, yn ogystal â'r angen i adeiladu mwy o dai preifat newydd ar gyfer y bobl a all ddefnyddio'r farchnad i brynu cartref, naill ai gyda chymorth Llywodraeth Cymru neu hebddo, fel Cymorth i Brynu. A hynny i gyd cyn inni hyd yn oed gyrraedd problem digartrefedd a sut i gael to dros ben pobl yn y lle cyntaf—sef y mwyaf sylfaenol o anghenion dynol.

Felly, gellir dangos tystiolaeth o'r achos dros atebion radical i dai gydag ychydig ffeithiau—a chyfeiriodd y Gweinidog at hyn yn ei hymateb i'r ddadl gynharach—lwfans tai lleol o lai na £280 y mis ar gyfer unedau un gwely, tra bo rhenti'r sector preifat yn amrywio rhwng tua £370 a £500 y mis ar gyfer uned o'r maint hwnnw; lefelau cyflog isel a chontractau dim oriau yn arwain at broblem tlodi mewn gwaith, sy'n arwydd o'r her sylweddol o ran fforddiadwyedd mewn llawer o'n cymunedau; ac adeiladu tai newydd nad yw'n cymryd lle ein stoc dai hŷn ar gyfradd ddigon cyflym. Felly, mae cynlluniau fel Cymorth i Brynu, mewn gwirionedd, er eu bod i'w croesawu, yn llai buddiol yn fy etholaeth i nag mewn rhai ardaloedd eraill.

Gadewch i mi fod yn glir: rwy'n croesawu ymateb Llywodraeth Cymru i lawer o'r heriau hyn ym maes tai. Rhoddwyd camau ar waith, hyd yn oed yn wyneb degawd o gyni, er enghraifft rhoi diwedd ar yr hawl i brynu er mwyn diogelu ein tai cyhoeddus gwerthfawr ar gyfer pobl sydd eu hangen; ariannu mwy o gartrefi fforddiadwy; dychwelyd at raglen adeiladu tai cyngor; mwy o ddiogelwch i denantiaid a rheoleiddio landlordiaid yn gadarnach; cynyddu gweithredu yn erbyn digartrefedd; a chroesawu dull system gyfan o ymdrin â'r problemau hyn. Mae mwy i'w wneud wrth gwrs, ac mae'r cyfan yn dynodi cyflawniad cadarn gan ein Llywodraeth yma yng Nghymru.

Ond yn y ddadl hon, ac o blith y llu o atebion, rwyf am dynnu sylw at y cyfleoedd ar gyfer atebion cydweithredol er mwyn helpu i ddiwallu'r anghenion tai yn ein cymunedau. A byddaf yn canolbwyntio ar hynny yn awr yn ail ran fy nadl. Oherwydd rwy'n ffodus o gael sefydliad o'r enw Cartrefi Cymoedd Merthyr yn fy etholaeth. A deilliodd y Gymdeithas hon o'r ddadl ynghylch trosglwyddo stoc mewn tymhorau Cynulliad cynharach, ac mae wedi dod yn gwmni cydfuddiannol mwyaf y wlad i denantiaid a chyflogeion.

Sefydlwyd Cartrefi Cymoedd Merthyr ym 2009 wedi i denantiaid bleidleisio o blaid trosglwyddo eu cartrefi i sefydliad newydd dielw. Maent yn berchen ar, ac yn rheoli dros 4,200 o gartrefi ar draws bwrdeistref sirol Merthyr Tudful. Yn y pum mlynedd cyntaf, ymrwymodd Cartrefi Cymoedd Merthyr i gyflawni'r addewidion a wnaed i denantiaid ar adeg y trosglwyddiad, a chyflawni ein targedau safon ansawdd tai Cymru hefyd. Ond erbyn 2014, roeddent wedi dechrau edrych ar ddyfodol y sefydliad a sut roeddent am i'r sefydliad ddatblygu yn y blynyddoedd i ddod. Roedd y bwrdd am gymryd cam arall, a dewisodd ddatblygu model llywodraethu a fyddai'n grymuso tenantiaid a chyflogeion drwy ganiatáu iddynt ddod yn aelodau. Yn ei dro, byddai hyn yn rhoi gwir lais iddynt, a gallent chwarae rhan bwysig yn y broses o wneud penderfyniadau a gosod eu cyfeiriad eu hunain ar gyfer Cartrefi Cymoedd Merthyr. O ganlyniad, ar 1 Mai 2016, trawsnewidiwyd Cartrefi Cymoedd Merthyr yn gymdeithas dai gydfuddiannol, a dyma'r gyntaf yng Nghymru i roi cyfle i denantiaid a chyflogeion fod yn aelodau a bod yn berchen ar gyfran yn y sefydliad. Felly, mae Cartrefi Cymoedd Merthyr bellach yn gymdeithas gofrestredig, o dan Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014. Eu diben yw parhau busnes er budd y gymuned, a gwnânt hynny drwy eu gweledigaeth, sef 'Yfory', ac rwy'n credu y byddwn yn gweld fersiwn wedi'i diweddaru yn fuan, sef 'Yfory 2'. [Chwerthin.]

Mae eu gwerthoedd craidd fel sefydliad cydfuddiannol bob amser wedi creu argraff arnaf yn ogystal â'u strwythur fel corff democrataidd, bwrdd ac aelodau. Maent yn chwilio'n barhaus am gyfleoedd i adeiladu economi leol gylchol—er enghraifft, buddsoddi mewn busnesau a chrefftau lleol, gan ddarparu sgiliau a chyfleoedd ar gyfer prentisiaethau. Mae hyn yn rhoi gwerthoedd ar waith. Felly, yn y gwaith hwn i gyd, a gaf fi gydnabod cyn brif weithredwr Cartrefi Cymoedd Merthyr, Mike Owen—mae'n sicr ei fod bellach yn mwynhau ei hun yn gwylio cwpan rygbi'r byd, neu'n eistedd mewn tafarn yng Nghernyw—ei olynydd, Michelle Reid a'i thîm, ac yn enwedig Katie Howells, sydd wedi bod yn allweddol yn cefnogi'r cynnydd a wnaed gan fy enghraifft nesaf, sef Tai Cydweithredol Taf Fechan yn yr etholaeth?

O ystyried yr hanes a ddisgrifiais, efallai nad yw'n syndod fod Cartrefi Cymoedd Merthyr hefyd wedi helpu i feithrin a helpu i ddatblygu Tai Cydweithredol Taf Fechan. I'r rhai nad ydynt yn adnabod yr ardal, roedd fflatiau Taf Fechan wedi mynd yn unedau annymunol, anodd eu gosod, ymhell o fod ar eu gorau ac wedi'u fandaleiddio, ac yn dioddef ymddygiad gwrthgymdeithasol. Diolch byth, drwy weledigaeth Cartrefi Cymoedd Merthyr, a chymorth cyllid rhad gan yr awdurdod lleol, nodwyd yr opsiwn o gael cwmni cydweithredol yn rhan o ddyfodol mwy disglair ar gyfer y 12 fflat sydd bellach yn y cwmni cydweithredol ar ystâd Gellideg.

Felly, wrth i ystâd Gellideg gael ei hailddatblygu, cafodd y fflatiau hyn eu cadw, eu hailwampio, ac mae'r trigolion wedi ffurfio cwmni cydweithredol i redeg y bloc o fflatiau. Rhaid i'r bobl sydd bellach yn breswylwyr yn y fflatiau fod yn aelodau o'r cwmni cydweithredol, ac felly maent yn rhannu cyfrifoldeb am redeg eu cartrefi. Caiff y fflatiau eu gosod ar brydles i Taf Fechan gan Cartrefi Cymoedd Merthyr, ac mae aelodau'r cwmni cydweithredol yn rhedeg eu cartrefi. Yn allweddol, golyga hyn fod y preswylwyr yn cymryd perchnogaeth ar eu dyfodol, gan wneud penderfyniadau cymunedol am lefelau rhent, cynnal a chadw eu heiddo, a rheoli pwy sy'n symud i mewn i'r fflatiau. Ymwelais â'r fflatiau yn ddiweddar, a gwelais drosof fy hun y balchder sydd ganddynt yn eu heiddo a'r ffordd y maent yn gweithredu ar y cyd i'w cynnal. Yn wir, roeddent yn cwblhau gwelliannau i'w gardd gymunedol, ac roeddent wedi cytuno, o fewn y cwmni cydweithredol, ar y cydbwysedd rhwng y gofod hamdden a'r aelodau oedd am gael cyfle i dyfu eu llysiau a'u planhigion eu hunain. Ond mae'r dull cydweithredol hwn hefyd wedi golygu eu bod yn datblygu mwy o glymau cymdeithasol. Felly, mae cartrefi gwell, cymuned fwy cydlynus, a chlymau cymdeithasol cryfach yn sefyllfa lle mae pawb ar eu hennill mewn unrhyw broses adfywio—pobl yn cael mwy o reolaeth dros eu bywydau a'u cymunedau, ac yn yr achos hwn, yn cael budd o'r profiad o Cartrefi Cymoedd Merthyr ei hun.

Mae'r enghreifftiau lleol hyn, wrth gwrs, yn digwydd mewn cyd-destun ehangach o weithredu cydweithredol. Fel Aelod Cynulliad Llafur a Chydweithredol, rwy'n falch bod ein Llywodraeth yn cefnogi atebion cydfuddiannol a chydweithredol i rai o'r problemau sy'n ein hwynebu. Yn wir, roedd gweithredu o'r fath yn rhan o'r addewidion a wnaethom yn etholiadau'r Cynulliad yn 2016, a gobeithio y byddwn yn adeiladu ar hyn yn y dyfodol. Rwy'n gweld cysylltiadau cryf rhwng polisïau cydweithredol a chydfuddiannol, a'n polisïau i yrru'r economi sylfaenol yn ei blaen yng Nghymru. Sylwaf fod y Cydffederasiwn Tai Cydweithredol, er enghraifft, wedi cyhoeddi eu canfyddiadau yn ddiweddar am '1,001 o gartrefi cydweithredol a chartrefi dan arweiniad y gymuned' yn y DU, ac maent yn cyfeirio at y dystiolaeth fod pobl a chymunedau, ledled y wlad, yn creu eu hatebion tai a chymdogaeth eu hunain, yn gwneud cartrefi cynaliadwy a pharhaol, yn adeiladu cymunedau lleol gwydn a hyderus, yn datblygu sgiliau nad oeddent erioed yn gwybod eu bod ganddynt. Wel, dyna fy mhrofiad lleol innau hefyd.  

Felly, rhan olaf fy nadl yw gofyn y cwestiwn: ai dyma'r ateb i bob dim o ran anghenion tai yn ein cymunedau? Wel, yr ateb i'r cwestiwn hwnnw, wrth gwrs, yw 'na'. Ond rwy'n dadlau y gall cefnogi a datblygu ymagwedd gydfuddiannol a chydweithredol fod yn rhan o'r ateb—rhan bwysig oherwydd rhai o'r ffactorau a nodais yn y ddadl. Fodd bynnag, mae iddo le yn y gyfres o gamau gweithredu sy'n helpu i ddiwallu'r angen am dai yn ein cymunedau. Mae'n golygu bod pobl yn cymryd rheolaeth dros reoli eu cartrefi, heb y bwgan na'r baich o fodloni angen cyfranddalwyr am elw. Yn fy mhrofiad i, mae wedi arwain at gryfhau'r gymuned, gyda gwerthoedd cynaliadwy a gofalgar yn symud i'r canol mewn atebion tai. A dyna pam y byddaf yn cymeradwyo modelau o'r fath i Lywodraeth Cymru, i'r Cynulliad hwn, ac rwy'n gobeithio gweld atebion tai cydfuddiannol a chydweithredol yn cael eu cefnogi yn y degawd i ddod.  

19:00

Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i Dawn Bowden am roi munud i mi yn y ddadl hon, ac yn bwysicach, am ddod â'r ddadl hon gerbron y Siambr heddiw. Bydd pobl yn gwybod fy mod wedi bod yn hyrwyddo tai cydweithredol dros gyfnod hir ac yn cefnogi ei dwf yn fawr. Ceir tri math o dai cydweithredol: y cwmnïau adeiladu cydweithredol—Twrci, Ffrainc, Toronto yng Nghanada; perchnogion cydweithredol—yr Eidal, de a dwyrain Ewrop, yr Almaen, Sweden, Norwy, Awstria, UDA, yn enwedig yn Efrog Newydd, ac Israel—ac yn Efrog Newydd mewn gwirionedd, ceir cwmni cydweithredol lle gallwch fyw mewn peth o'r eiddo y mae mwyaf o alw amdano yn Efrog Newydd; a chwmnïau cydweithredol ar gyfer rhentwyr yn Nenmarc, yr Almaen, Gwlad Belg, yr Eidal, y Swistir, Iwerddon, Awstralia, Awstria, UDA a Chanada.

Pa fath o niferoedd rydym yn sôn amdanynt? Twrci: 25 y cant o gyfanswm y stoc dai, bron 1.5 miliwn o unedau; Sweden: 18 y cant o'r stoc, bron i 0.75 miliwn o unedau. Ac yna gallwn edrych ar wledydd eraill. Norwy: 15 y cant, 320,000 o unedau; Yr Almaen: 10 y cant o'r stoc rhentu, dros 2 filiwn o unedau; Awstria: 8 y cant o gyfanswm y stoc, bron i 0.33 miliwn. Rydym yn sôn am niferoedd mawr iawn yma ac mae modd gwneud hyn yng ngweddill y byd. Nid safbwynt asgell chwith neu asgell dde ydyw. Yn Efrog Newydd, pe baech yn dweud wrthynt eu bod yn byw mewn tai asgell chwith yn y cwmnïau cydweithredol drud iawn hynny, byddent yn benwan. Byddent wedi'u cythruddo'n fawr, oni fyddent? Ond mae'n rhaid i chi ddeall ei fod yn ddull o ddarparu nifer fawr o dai, nad ydym yn ei ddefnyddio yng Nghymru ar hyn o bryd, ac er fy mod, fel y dywedais yn gynharach, yn cefnogi tai cyngor yn fawr iawn, mae angen mwy o dai arnom, ac mae cwmnïau cydweithredol yn fath arall o system dai. Pam na allwn wneud yr un peth yng Nghymru ag y maent yn ei wneud ym mhob rhan o weddill y byd?

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i ymateb i'r ddadl? Julie James.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac mae'n bleser gwirioneddol cael y cyfle i siarad am y rôl y gall tai cydweithredol a thai dan arweiniad y gymuned ei chael yn diwallu anghenion tai ein cymunedau yma yng Nghymru. Gall pob math o dai dan arweiniad y gymuned, gan gynnwys tai cydweithredol, rymuso dinasyddion Cymru a darparu atebion tai a yrrir yn lleol ar gyfer cymunedau lleol. Cefais y pleser gwirioneddol o ymweld â Cartrefi Cymoedd Merthyr. Mae ganddynt bethau hynod o arloesol yn digwydd, a chefais gyfle i siarad ag unrhyw breswylydd y dymunwn sgwrsio â hwy dros y cacennau a'r te mwyaf blasus, ac roeddent i gyd yn unfryd eu bod wrth eu bodd â'r drefn. Felly, ni allwch gael canmoliaeth sy'n llawer gwell na hynny mewn gwirionedd.

Ein prif flaenoriaeth yw tai cymdeithasol, ac rwyf wedi dweud yn glir iawn yma yn y Siambr am fy ymrwymiad i adeiladu mwy o gartrefi cymdeithasol yng Nghymru. Rwy'n gwybod ei fod yn ddyhead a rannwn ar draws y Siambr, ac fe wyddom ei fod yn darparu nid yn unig cartrefi o safon, ond y cymorth sydd ei angen i sicrhau y gall pobl gynnal eu tenantiaethau a ffynnu. Mae'n effeithio'n gadarnhaol ar iechyd, iechyd meddwl ac addysg. Ond gwyddom o'r ystadegau diweddaraf am yr angen am dai nad ydym yn adeiladu digon o gartrefi cymdeithasol. Gall tai dan arweiniad y gymuned fod yn rhan o'r ateb felly. Rydym yn gwybod nad yw'r diddordeb yn y sector yn tyfu gymaint ag y byddem yn hoffi yma yng Nghymru, ac rwy'n wirioneddol agored i glywed syniadau gan yr Aelodau ynglŷn â sut y gallwn gynhyrchu twf yn well yn y sector.

Ac rwy'n credu bod Mike Hedges wedi taro'r hoelen ar ei phen, mewn gwirionedd: mae yna ryw fath o gamsyniad ynglŷn â'r hyn y mae'n ei olygu. Ond rwyf wedi ymweld â fflat yn ardal orllewinol Efrog Newydd sy'n rhan o gwmni cydweithredol, ac roedd yn edrych fel pentws i mi, dyna'r cyfan y gallaf ei ddweud. Felly, rwy'n credu bod camsyniad—mae'n llygad ei le ynglŷn â hynny. Yr hyn y mae'n ei wneud hefyd yw caniatáu inni hyrwyddo gwahanol fodelau a mathau o ddeiliadaeth yn ein sector tai ledled Cymru, ac mae'r math hwnnw o ddeiliadaeth gymysg yn bwysig iawn. Felly, nid wyf yn credu bod unrhyw set o dai un math o ddeiliadaeth yn arbennig o ddefnyddiol mewn gwirionedd. Felly, mae'n ffordd dda o ysgogi gwahanol fodelau o berchnogaeth i wahanol rannau o Gymru a gall fod yn fuddiol iawn.

Mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn modelau sy'n caniatáu i bobl gael perchnogaeth rhannu ecwiti—rhan o gwmni cydweithredol—mewn mannau a ddisgrifiwyd fel 'cymunedau difreintiedig', mewn dyfynodau. Bydd yr Aelodau wedi fy nghlywed yn dweud o'r blaen mor flin wyf fi fod y fan lle cefais fy magu'n cael ei ddisgrifio fel 'cymuned ddifreintiedig', sy'n newyddion i mi a fy rhieni, ond dyna ni. Ond gall hyrwyddo gwahanol fodelau o berchnogaeth mewn lleoedd lle nad oes ond deiliadaeth tai cymdeithasol, er enghraifft, fod yn fodel defnyddiol iawn hefyd, gan ei fod yn caniatáu i wahanol fathau o bobl fyw'n gytûn gyda'i gilydd mewn cymuned, sef yr hyn y chwiliwn amdano.

Felly, rydym wedi bod yn buddsoddi mewn tai dan arweiniad y gymuned ers 2012. Rydym wedi rhoi cynnig ar sawl gwahanol ddull, gan gynnwys darparu gwerth £1.9 miliwn o arian cyfalaf i gefnogi tri chynllun arloesi o'r brig i lawr a arweinir gan Weinidogion. Mae'r dull hwnnw wedi cael rhywfaint o lwyddiant. Er enghraifft, mae'r cwmni cydweithredol yng Ngardd Loftus yng Nghasnewydd gan Pobl wedi bod yn wych; mae wedi helpu'r rheini yn y cwmni cydweithredol i ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb am eu cartrefi a'u cymuned ac wedi arwain at feithrin mwy o ysbryd cymunedol yn y datblygiad ehangach. Yn anffodus, nid yw hynny wedi digwydd gyda'r holl gynlluniau, a dyna pam ein bod wedi pwyso a mesur ein dull o weithredu ar gyfer y dyfodol.

Rwy'n credu bod cynllun Taf Fechan y soniodd Dawn Bowden amdano yn enghraifft dda iawn o sut y gall weithio, lle rydych yn cymryd rhywle nad oedd neb eisiau byw ynddo mewn gwirionedd, gadewch i ni fod yn onest, a'i droi'n lle dymunol iawn i fyw ynddo, oherwydd, yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae rhestr hir o bobl a fyddai wrth eu bodd yn byw yno pe baent yn cael. Felly, yn allweddol, gall arwain at drawsnewid y mathau hynny o ddatblygiadau hefyd. Rwy'n wirioneddol ymrwymedig i hynny, rwy'n wirioneddol ymrwymedig i sicrhau bod yr enghreifftiau da sydd gennym yng Nghymru—ac maent yn bodoli—yn cael eu lledaenu ar draws Cymru, ond mae angen i ni gael cymorth gan awdurdodau lleol i fod yn rhan o hynny hefyd.

Soniodd Dawn Bowden am y cymorth a roddodd y cyngor lleol yno i gefnogi'r cwmni cydweithredol, a gwn fod Cyngor Dinas Abertawe wedi pleidleisio i fabwysiadu polisi tai cydweithredol yn ddiweddar hefyd. Felly, rwy'n credu y gall pob awdurdod lleol ddysgu o hynny, a buaswn yn awyddus iawn i gael hynny'n rhan o ledaeniad arferion rhagorol ledled Cymru. Felly, rwy'n awyddus iawn i wneud hynny. Fodd bynnag, rhywbeth arall rwy'n awyddus i'w wneud yw peidio â'i gael o'r brig i lawr. Rydym am iddo alluogi cymunedau i ddod ynghyd a ffurfio cwmni cydweithredol er mwyn cymryd rheolaeth ar eu bywydau. Felly, rwy'n credu ei fod yn gweithio'n dda iawn, fel gwnaethoch ddisgrifio, Dawn, pan fydd pobl yn cymryd rhan go iawn a gallant gael rhan yn gwneud penderfyniadau yn hynny. Felly, rwy'n awyddus iawn i allu galluogi hynny yn hytrach na cheisio ei wthio ar gymunedau, gan nad yw hynny wedi bod mor llwyddiannus ag yr hoffem bob amser, hyd yn oed gyda'r bwriadau gorau.

Felly, un o'r ffyrdd gorau o gynyddu'r ddarpariaeth yw darparu cymorth o'r math hwnnw. Mae ein cyllid drwy Ganolfan Cydweithredol Cymru wedi'i gynllunio i ddarparu'r cymorth hwnnw ac rwy'n falch ein bod wedi ehangu ein cefnogaeth i raglen ar raddfa fwy ar gyfer tai dan arweiniad y gymuned ar y cyd â'r Nationwide Foundation yn ogystal, i ddarparu'r lefel sylfaenol honno o gymorth.

Defnyddir yr arbenigedd sydd ar gael drwy'r rhaglen Cymunedau'n Creu Cartrefi i gefnogi grwpiau tai newydd a rhai sy'n bodoli eisoes dan arweiniad y gymuned ledled Cymru. Pecyn cymorth ydyw ar gyfer datblygu cynlluniau tai cydweithredol ac mae'n amlinellu'r camau y gall cymdeithasau tai eu cymryd i gefnogi tai dan arweiniad y gymuned, ac rwy'n falch o weld bod y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau wedi cydnabod y rôl bwysig y gall y pecyn cymorth ei chael yn ei adroddiad diweddar ar eiddo gwag. Y peth arall rwy'n awyddus i fod yn glir iawn yn ei gylch wrth ehangu'r gefnogaeth i sicrhau ffocws ar wreiddio'r egwyddorion cydweithredol craidd, yw ein bod am sicrhau bod y saith egwyddor graidd yn hanfodol ac wedi'u gwreiddio i gyd ar unwaith. Felly, ni allwch ddewis a dethol, rydych am gynnwys yr holl egwyddorion, fel rydych wedi disgrifio, er mwyn cael y rhaglen lwyddiannus yn weithredol. Felly, mae mwyfwy o ddiddordeb yn hyn, ac mae'r ddadl hon yn ffordd ragorol o gyfleu'r neges hefyd. Felly, rwy'n ddiolchgar iawn i Dawn am roi sylw iddi.

Nid wyf yn ystyried cyflwyno ymddiriedolaethau tir cymunedol ar hyn o bryd. Un o'r rhesymau am hynny yw nad wyf wedi fy narbwyllo y byddai hynny'n gweithio, ond hoffwn ddweud yn y Siambr, pe bai prosiect yn cael ei gyflwyno sy'n dibynnu ar gyllideb o'r fath, byddem yn fodlon ei ystyried. Yn fras, rwy'n dweud y byddem yn barod i edrych ar unrhyw brosiect dan arweiniad y gymuned a allai ddatblygu cartrefi i bobl ar hyd y llinellau cydweithredol hynny yn ein barn ni. Felly, rwy'n hapus iawn i edrych ar hynny, er nad wyf yn bwriadu cyflwyno'r gronfa fel y cyfryw ar hyn o bryd.

Cafodd adroddiad yr adolygiad o'r cyflenwad tai fforddiadwy ei gyflwyno yn ôl ym mis Mai. Yn seiliedig ar eu hargymhellion, rydym yn ceisio cydgrynhoi'r nifer o gynlluniau pwrpasol a photiau ariannu sydd ar gael gennym.

19:10

Mae'n ddrwg gennyf, ni siaradais yn uchel iawn. Roeddwn yn arfer gweithio i gymdeithas adeiladu sydd bellach yn rhan o'r Nationwide y sonioch chi amdano, ac fel aelod gwirfoddol o fwrdd cymdeithas dai. Rwyf wrth fy modd eich bod wedi cyflwyno hyn gan bwysleisio mai cwmnïau cydfuddiannol cydweithredol yw'r rhain, ac mae aelodau'n talu £1 ac yn cael pleidlais yn eu trefniadaeth.

At ei gilydd, mae'r cymdeithasau trosglwyddo y sonioch chi amdanynt wedi mabwysiadu model safon ansawdd tai Cymru a mwy, sy'n ymwneud â sicrhau bod pobl yn datgloi'r cryfderau ac yn datblygu cynaliadwyedd mewn cymunedau, a chafodd hynny ei gyflwyno gan y Sefydliad Tai Siartredig ymhell yn ôl mewn Cynulliad blaenorol. Yng ngogledd Cymru, mae Cartrefi Conwy a Cartrefi Cymunedol Gwynedd wedi ei fabwysiadu. Ond Weinidog, sut y gallwn sicrhau bod llais y tenant, llais y preswylydd yn cael ei glywed hefyd, a bod model safon ansawdd tai Cymru yn cael ei ddefnyddio fel un cadarnhaol yn yr 11 o gynghorau a gadwodd eu stoc, ond lle mae'r un materion yn berthnasol?

Rwy'n croesawu'r ymyriad. Rwyf am orffen y pwynt oedd yn fy meddwl, sef fy mod yn awyddus yn y bôn i sicrhau bod grwpiau tai dan arweiniad y gymuned yn gallu cael gafael ar gyllid cyfalaf o ba fath bynnag. Felly, os ydych chi'n ymwybodol o grwpiau sydd eisiau cyllid cyfalaf o'r math hwnnw, hyd yn oed os nad oes gennym gronfa bwrpasol, mae'n werth cysylltu, oherwydd rwy'n awyddus iawn i'w cefnogi mewn partneriaeth â landlord cymdeithasol cofrestredig neu beidio, neu'r awdurdod lleol neu beth bynnag.

Ar y pwynt penodol hwnnw, rwy'n edrych ar reoliadau parth. Felly, rwyf wedi dweud yn ddiweddar yn y Siambr hon fy mod yn edrych ar adolygu'r drefn reoleiddio ar gyfer landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, ac un o'r pethau rwyf hefyd yn bwriadu eu gwneud yn y fan honno yw cael yr hyn a elwir yn 'reoliadau parth', sef rheoleiddio cyfranogiad a llais tenantiaid ar draws y sector tai cymdeithasol. Nid y drefn lywodraethu a'r rheolaethau ariannol, oherwydd mae'n amlwg eu bod hwy'n wahanol iawn mewn awdurdod lleol, ond llais y tenant, i bob pwrpas. Felly, rwy'n ailadrodd ein bod yn edrych ar hynny.

Hefyd, rydym wedi cael y rhaglen Cymunedau'n Creu Cartrefi yn gwneud ymchwil annibynnol i fanteision ehangach byw mewn tai cydweithredol neu dai dan arweiniad y gymuned, ac rwyf i fod i lansio canfyddiadau'r adroddiad hwnnw ar 7 Tachwedd. Edrychaf ymlaen at glywed am y manteision ehangach y mae unigolion yn teimlo y byddant yn eu hennill o fyw mewn cymdeithasau tai dan arweiniad y gymuned. Rwyf wedi eu clywed fy hun hefyd, mewn gwirionedd, yn un o'r enghreifftiau y siaradodd Dawn amdanynt. Felly, nid oes gennyf amheuaeth fod rhaid i dai dan arweiniad y gymuned fod yn rhan o'r ateb i'r argyfwng tai sy'n ein hwynebu yng Nghymru.

Rwy'n credu mewn cymunedau gwirioneddol gynaliadwy sy'n cynnwys deiliadaeth gymysg, lle defnyddir safleoedd tir sy'n eiddo cyhoeddus a phreifat i adeiladu'r cartrefi iawn i ateb yr angen sy'n bodoli. Golyga hynny y dylai safleoedd gael cyfran fwy o dai fforddiadwy nag sy'n digwydd yn aml ar hyn o bryd, ac mae hefyd yn golygu na ddylai fod yn amlwg ar unwaith pa gartrefi sydd mewn perchnogaeth breifat a pha rai sy'n dai fforddiadwy ar un datblygiad tai. Ni allaf ddweud yn ddigon aml nad wyf am weld y math o raniad rhwng cymunedau sy'n ddiangen a di-fudd fel sy'n digwydd pan fyddwch yn corlannu tai cymdeithasol mewn un rhan o ddatblygiad.

Gall pob math o dai dan arweiniad y gymuned ein helpu i sicrhau cymunedau cynaliadwy. Gallwn archwilio atebion amgen ar gyfer blaenoriaethau ehangach y Llywodraeth. Er enghraifft, pan gyfarfûm â Chanolfan Cydweithredol Cymru yn ôl ym mis Mawrth, fe'u heriais i archwilio sut y gall tai dan arweiniad y gymuned fod yn rhan o ddull cymunedol arloesol o ymdrin â ffioedd rheoli lesddeiliaid. Rydych wedi sôn am ran fach o hynny yn yr enghraifft a nodoch—mae wedi mynd o fy mhen. Taf Fechan, onid e? Ac rwy'n credu y gall tai dan arweiniad y gymuned fod yn rhan o ddull adfywio canol trefi hefyd i gynnwys eiddo defnydd cymysg. Felly, gellir gwneud y mater hwn ynglŷn â sut i reoli pwy sydd â pha ran o'r brydles ar sail gydweithredol. Ac rwy'n credu mai dyna un o'r atebion yr hoffem edrych arnynt.

Felly rwyf am orffen drwy ailadrodd fy ngalwad i'r Aelodau fod llawer ohonom yn rhannu'r un dyheadau ar gyfer tai yn gyffredinol, a cheir cefnogaeth eang i'r mudiad tai cydweithredol a dan arweiniad y gymuned yng Nghymru, ac rwy'n agored iawn i weithio gyda phob Aelod ar yr agenda hon i gefnogi'r atebion hynny'n well. Diolch.

Daeth y cyfarfod i ben am 19:14.