Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
22/10/2019Cynnwys
Contents
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Galw'r Aelodau i drefn.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Mick Antoniw.
1. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU mewn perthynas â'i Chytundeb Fframwaith Capasiti Cludo Nwyddau arfaethedig? OAQ54604
Llywydd, mae trafodaethau wedi eu cynnal rhwng Llywodraeth Cymru a'r Adran Drafnidiaeth, ac adrannau eraill yn Llywodraeth y DU, ynghylch y cytundeb fframwaith capasiti cludo nwyddau, er bod y rhain yn aml yn hwyr yn y broses gaffael. Dim ond Adran Drafnidiaeth y DU wnaeth gymryd rhan yn y broses honno.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Bob blwyddyn, mae porthladdoedd Cymru, fel y gwyddoch, yn ymdrin â 48 miliwn tunnell o nwyddau. Maen nhw'n cario 2.5 miliwn o deithwyr. Maen nhw'n cyflogi 6,000 o bobl, gan gynnwys 1,000 o forwyr, ac mae'n werth £1 filiwn y flwyddyn i economi Cymru. Mae camreolaeth y Llywodraeth o Brexit yn debygol o droi'n drychineb i economi Cymru ac i swyddi yng Nghymru. Felly, os na fydd cytundeb, mae'r cytundeb fframwaith capasiti cludo nwyddau yn siarter bosibl i gamfanteisio ar weithwyr, ac enwyd cwmnïau fel Irish Ferries a Fastnet Line eisoes gan undebau llafur fel Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffordd, Morwrol a Thrafnidiaeth fel y 'llongau cywilydd', oherwydd eu diffyg cydnabyddiaeth o undebau llafur a chyfraddau cyflog camfanteisiol sy'n is nag isafswm cyflog y DU. Nawr, os bydd cytundeb, Prif Weinidog, bydd llinell Siegfried newydd y Torïaid a fydd yn gweithredu fel y ffin dollau i lawr canol Môr Iwerddon yn peri i gwmnïau osgoi porthladdoedd Cymru wrth iddyn nhw allu mynd yn ddi-dariff i'r Undeb Ewropeaidd. Felly, o dan drefniadau Brexit y Torïaid, Prif Weinidog, mae gweithwyr Cymru yn wynebu naill ai camfanteisio neu ddiweithdra. Felly, a wnewch chi, fel Prif Weinidog, gyfarfod â mi, a chydag RMT, i drafod y camau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i amddiffyn gweithwyr Cymru a phorthladdoedd Cymru?
Wel, Llywydd, mae Mick Antoniw yn iawn i gyfeirio at bwysigrwydd porthladdoedd Cymru. Yn aml, nid yw'n hawdd ei ddeall mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, ond mae Caergybi yn un o borthladdoedd prysuraf y DU gyfan. Nawr, os byddwn ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb—digwyddiad yr ydym ni wedi dweud yn gwbl rheolaidd a fyddai'n drychinebus o ran economi Cymru—yna bydd effeithiau uniongyrchol a niweidiol ym mhorthladdoedd Cymru. Ac er ein bod ni wedi gweithio gyda Llywodraeth y DU a chydag awdurdodau porthladdoedd i liniaru'r effeithiau hynny, byddan nhw'n rhai real a byddan nhw'n cael eu teimlo yng Nghymru, yn ogystal ag mewn mannau eraill.
Llywydd, aeth Mick Antoniw ymlaen i dynnu sylw at effaith y fargen y mae Prif Weinidog y DU wedi'i tharo erbyn hyn. Ac nid ydym wedi paratoi'n dda ar gyfer y cytundeb hwnnw, gan ein bod ni wedi bwrw ymlaen ar sail datganiadau blaenorol Prif Weinidog y DU ar y pwnc hwn. Ar 2 Gorffennaf, dywedodd wrth gynulleidfa yn Belfast,
'nid o dan unrhyw amgylchiadau', meddai
'beth bynnag sy'n digwydd, y gwnaf i ganiatáu i'r UE nac unrhyw un arall greu unrhyw fath o raniad i lawr Môr Iwerddon.'
Ar yr ail o Orffennaf, dyna'r hyn a ddywedodd—trefniant a ddisgrifiwyd gan Mrs May, gadewch i ni beidio ag anghofio, fel rhywbeth na allai unrhyw Brif Weinidog y DU byth gytuno iddo. A dyma ni, ychydig wythnosau yn ddiweddarach, a dyna'n union sy'n cael ei gynnig erbyn hyn. A hynny heb unrhyw gyfle i ni archwilio gyda'r weinyddiaeth hon yr effaith y bydd y penderfyniad hwnnw'n ei chael ar borthladdoedd yma yng Nghymru, a bydd yr effeithiau hynny yn gwbl real. Mae cytundeb Johnson yn gwneud Cymru, a phorthladdoedd Cymru, yn rheng flaen rhwng Prydain Fawr a'r Undeb Ewropeaidd.
Nawr, rwyf i wedi gweld gohebiaeth yr Aelod gyda fy nghyd-Weinidog Ken Skates ar y materion hyn, ac rwy'n hapus iawn i drafod cyfarfod gweinidogol sy'n cynnwys Mick Antoniw a'r undebau llafur.
Prif Weinidog, rwy'n credu ei bod hi'n hanfodol bod y cytundeb fframwaith capasiti cludo nwyddau yn gallu rhoi'r gallu i adrannau Llywodraeth sicrhau capasiti cludo nwyddau ar gyfer cadwyni cyflenwi rhwng y DU a'r UE. Ond mae hefyd yn bwysig gwella capasiti cludo nwyddau ar draws y ffin rhwng Cymru a Lloegr. A sylwais yn ystod y broses o gasglu tystiolaeth ar gyfer strategaeth cludo nwyddau y Gororau a chanolbarth Cymru, a gyhoeddwyd y llynedd, bod y gymuned fusnes yn amlinellu'r cyfleoedd i gynhyrchu mwy o fwyd yn ddomestig. Rwyf i hefyd yn dweud hynny yng nghyd-destun pwysigrwydd amaethyddiaeth i ardaloedd o Gymru fel fy etholaeth i. Fe wnaethon nhw bwysleisio hefyd bwysigrwydd ymyraethau a fyddai'n cynyddu capasiti'r rhwydwaith ffyrdd yn y canolbarth, i sicrhau llif gwell i ganolbarth Lloegr. Felly, a gaf i ofyn pa drafodaethau penodol yr ydych chi wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â llif gwell o ran cludo nwyddau rhwng Cymru a Lloegr, yng nghyd-destun y pwyntiau yr wyf i wedi eu codi?
Diolchaf i'r Aelod am y pwynt yna. Mae'n gwneud pwynt pwysig am gapasiti cludo nwyddau ar y tir mawr rhwng Cymru a Lloegr. Ond mae trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ar y pwynt hwn wedi canolbwyntio'n llwyr nid ar ba un a fydd digon o gapasiti ar y ffyrdd, ond a fydd cludwyr nwyddau sydd â'r trwyddedau angenrheidiol i redeg eu lorïau ar y ffyrdd hynny o gwbl. Oherwydd, os ceir Brexit 'dim cytundeb', rydym ni'n gwybod na fydd digon o drwyddedau i ganiatáu i gerbydau nwyddau trwm weithredu yn y ffordd y maen nhw wedi ei wneud tra'r ydym ni wedi bod yn aelodau o'r Undeb Ewropeaidd. Mae'r cytundeb fframwaith capasiti cludo nwyddau wedi canolbwyntio'n bennaf ar gapasiti ychwanegol ar draws y culforoedd byr, ond mae hefyd yn cael effaith yma yng Nghymru hefyd, rhwng porthladdoedd Cymru a Gweriniaeth Iwerddon. Bydd y porthladdoedd hynny, os ceir Brexit 'dim cytundeb', yn canfod eu hunain â chludwyr nwyddau nad ydyn nhw'n gallu gweithredu fel y maen nhw nawr, wedi eu hynysu o bosibl ar gyfandir Ewrop, ac yn methu â dychwelyd. A'n problem ni yn y cyd-destun hwnnw fydd nid pa un a yw'r ffyrdd eu hunain yn addas i'r diben; bydd yn golygu na fydd gennym ni'r capasiti sydd gennym ni heddiw i weithredu ar eu hyd.
2. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen ar ddiwygio cyfraith lesddaliad? OAQ54611
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn rhoi ystyriaeth ofalus i argymhellion y grŵp gorchwyl a gorffen ar hyn o bryd. Nid ydym ni'n disgwyl derbyn adroddiadau gan Gomisiwn y Gyfraith tan y gwanwyn bellach, ond bydd y Gweinidog yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yn ystod tymor yr hydref eleni, fel y nodwyd yn flaenorol.
Hoffwn bwysleisio pwysigrwydd yr adroddiad hwn i'm hetholwyr. Mae trigolion rhydd-ddaliad yng Nghwm Calon yn Ystrad Mynach yn talu dros £150 y flwyddyn am waith cynnal a chadw ar eu hystâd ar hyn o bryd, sy'n cael ei wneud gan gwmni rheoli ystadau. Nid oes cap ar hyn o bryd ar ba mor uchel y gallai'r ffioedd hynny godi, ac ni all preswylwyr werthu eu heiddo tan eu bod wedi talu'r ffioedd hynny, ac, os na fyddan nhw yn eu talu, maen nhw'n ddarostyngedig i ddyfarniadau llys sirol. Ac maen nhw'n ychwanegol at eu treth gyngor. Mae'r ffaith bod unrhyw waith cynnal a chadw yn cael ei wneud ar yr ystâd hon o gwbl yn dyst i waith grŵp cyswllt gwirfoddol Cwm Calon, sydd wedi ei leoli ar yr ystâd ac a sefydlwyd gan y trigolion i drafod â'r cwmni rheoli ystadau i'w cymell i wneud y gwaith. Nid oes unrhyw rym i'w gorfodi i wneud y gwaith, ond fe wnaethon nhw lwyddo i weithio gyda'r cwmni hwnnw i'w orfodi i wneud hynny. Ar hyn o bryd, rwy'n ceisio cael cyfarfod rhwng Redrow, cwmni rheoli'r ystâd, a'r Cyngor gyda'i gilydd, ac rwy'n cael hunllef ar hyn o bryd o ran cael Redrow i ymateb i mi. Mae angen taer arnom ni i drefnu'r cyfarfod hwn. Rydym ni angen rheoliadau i orfodi'r gwaith sy'n digwydd yn y fan yma, ac rydym ni angen rheoliadau i orfodi grym y trigolion o dan yr amgylchiadau hyn. Yn arbennig, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gefnogi awdurdodau lleol i fabwysiadu mannau gwyrdd, fel nad oes yn rhaid iddyn nhw dalu'r ffioedd hyn, ac, o safbwynt safonau masnach, mae'r trigolion yn teimlo bod eu heiddo wedi cael ei gam-werthu iddyn nhw. Felly, a all y Prif Weinidog roi ystyriaeth i'r sylwadau hyn? Y trigolion yn siarad â mi allan o anobaith yw hyn. A all y Prif Weinidog roi ystyriaeth i'r sylwadau hyn, ac a allwn ni fwrw ymlaen i reoleiddio cyn gynted â phosibl?
Llywydd, hoffwn ddiolch i'r Aelod am y pwyntiau pwysig iawn yna. Mae'n tynnu sylw at y ffaith, er bod y grŵp gorchwyl a gorffen wedi ei sefydlu i ymdrin â diwygio cyfraith lesddaliad, bod ffrwd waith benodol yn rhan ohono yn ymdrin â materion rhydd-ddaliad hefyd. Ac mae hwn yn faes cymhleth iawn o gyfraith a pholisi, Llywydd, a dyna pam, yn ogystal â'r tasglu sydd wedi adrodd i'm cyd-Weinidog Julie James, y mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth hefyd wedi sefydlu tasglu i edrych ar faterion yn ymwneud â ffyrdd nad ydyn nhw wedi eu mabwysiadu. Oherwydd mae ffyrdd nad ydyn nhw wedi eu mabwysiadu yn is-gyfres bwysig iawn o ffioedd rheoli ystadau o'r math y cyfeiriwyd atyn nhw gan Hefin David.
Mewn darlun cymhleth iawn, â llawer o wahanol gamau gweithredu, hoffwn dynnu sylw at dri pheth y prynhawn yma, os caf i. Yn gyntaf oll, o ganlyniad i'r adroddiad hwnnw, rydym ni wedi sefydlu cynllun achredu trawsgludwyr Cymru, gan fod yr adroddiad yn dweud mai un o'r pethau pwysig iawn oedd sicrhau bod pobl yn cael cyngor priodol ar adeg prynu. Fel arall, mae pobl yn canfod eu hunain yn y sefyllfa a amlinellodd Hefin, lle maen nhw'n canfod bod ffioedd yn cael ei codi arnynt nad oedden nhw wedi eu rhagweld, yn ei chael hi'n anodd iawn cael esboniad ynghylch o ble y mae'r ffioedd hynny'n deillio neu i gael unrhyw syniad o sut y bydd y ffioedd hynny'n cael eu rheoleiddio yn y dyfodol. Os ydych chi'n prynu tŷ o dan y cynllun Cymorth i Brynu nawr yng Nghymru, mae'n rhaid i chi ddefnyddio trawsgludwr sydd wedi ei achredu. Mae'r achrediad yn far uchel, lle mae'n rhaid i bobl allu dangos eu bod nhw wedi cael eu hyfforddi a'u bod yn meddu ar yr adnoddau priodol i sicrhau bod cwsmeriaid yn cael gwybodaeth briodol ar adeg prynu.
Yr ail beth yr ydym ni'n edrych arno yw hawliau cryfach. Mae gan lesddeiliaid hawliau ac amddiffyniadau cyfreithiol. Er enghraifft, cânt herio rhesymoldeb ffioedd gwasanaeth o dan y darpariaethau yn Neddf Landlord a Thenant 1985. Nid oes gan rydd-ddeiliaid yr amddiffyniadau hynny, a dyna sut y maen nhw'n canfod eu hunain yn sefyllfa'r trigolion yn etholaeth Hefin David yn y pen draw. Disgwylir adroddiad Comisiwn y Gyfraith, y cyfeiriais ato yn fy ateb, yn 2020 erbyn hyn, ac nid ydym ni'n dal yn ôl o gwbl o'r posibilrwydd y byddwn ni eisiau deddfu, ond bydd angen i ni ddeddfu yng ngoleuni'r argymhellion ehangach y bydd yr adroddiad hwnnw'n eu gwneud.
Ac, yn olaf ac yn drydydd, i barhau â'r pwynt o ffyrdd heb eu mabwysiadu a'r ffioedd y mae pobl yn canfod eu hunain yn gorfod eu talu yn hynny o beth, o ganlyniad i'r tasglu y mae Ken Skates wedi ei sefydlu, mae pob plaid wedi cytuno ar safonau cenedlaethol cyffredin erbyn hyn. Lluniwyd canllaw arfer da ac fe'i dosbarthwyd i bob awdurdod lleol, ac mae cronfa ddata yn cael ei datblygu o ffyrdd hanesyddol nad ydyn nhw wedi eu mabwysiadu ledled Cymru, felly mae gennym ni well syniad o'r her sydd yno. Argymhellion y tasglu oedd pob un o'r rheini. Mae pob un o'r tri wedi ei weithredu ac rwy'n credu y bydd pob un ohonyn nhw yn berthnasol i etholwyr Hefin David.
Prif Weinidog, a ydych chi'n ymuno â mi i groesawu penderfyniad Persimmon Homes i setlo y tu allan i'r llys yn ystod yr haf a rhoi eu prydles i 55 o ddeiliaid tai ar ystâd yng Nghaerdydd—Saint Edeyrn—yn rhad ac am ddim? Roedden nhw ar yr ystâd honno er gwaethaf y ffaith fod y 1,100 o dai eraill wedi eu gwerthu fel rhydd-ddaliadau, ac mae wir yn bryd i ddatblygwyr roi'r gorau i ddefnyddio lesddaliad dim ond fel ffordd arall o gynhyrchu incwm. Dylid ond ei ddefnyddio pan fydd y math o ddeiliadaeth yn gofyn am brydles, a cheir adegau pan fydd hynny'n digwydd, ond rhydd-ddaliad yw'r hyn y dylid ei roi ar yr ystadau preswyl hyn fel rheol.
Wel, rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod yn hynny o beth, a bydd yn falch, mi wn, o weld bod y ffigurau a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos, yng Nghymru, bod cyfran y gwerthiannau tai newydd a oedd yn lesddeiliadaeth wedi gostwng o 18 y cant yn 2017 i 2.6 y cant yn 2018,FootnoteLink ac rydym ni'n rhagweld gostyngiad pellach pan fydd y ffigurau ar gyfer 2019 yn cael eu cyhoeddi. Ac mae hynny oherwydd cytundeb gyda'r adeiladwyr tai cyfradd uchel na fydd unrhyw dai Cymorth i Brynu neu gronfa datblygu eiddo Cymru yn cael eu hadeiladu yn y dyfodol fel cartrefi ar brydles, ac mae hwnnw'n ddatblygiad pwysig iawn yr ydym ni wedi gallu ei wneud yng Nghymru.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies.
Prif Weinidog, pam mae eich Llywodraeth wedi cynyddu'r cyfleuster benthyg i Faes Awyr Caerdydd gan £21.2 miliwn?
Wel, rydym ni wedi cynyddu taliad y benthyciad oherwydd y llwyddiant y mae Maes Awyr Caerdydd wedi ei gael yn ystod y cyfnod y mae wedi bod yn eiddo cyhoeddus ac oherwydd ein bod ni eisiau i'r llwyddiant hwnnw barhau a thyfu.
Wel, gadewch i ni fod yn eglur, Prif Weinidog—ers i Lywodraeth Cymru brynu Maes Awyr Caerdydd yn ôl yn 2013, mae eisoes wedi buddsoddi dros £90 miliwn o arian cyhoeddus. Nawr, gyda'r £21 miliwn ychwanegol hwn, mae hynny'n ddwywaith y swm a dalodd y Llywodraeth amdano, a beth fu'r canlyniadau? Ydy, mae nifer y teithwyr yn cynyddu, ond nid yn uwch na lefelau 2007. Fodd bynnag, hyd yn oed gyda'r cynnydd i nifer y teithwyr, mae'r maes awyr yn parhau i wneud colled. Yn ei ddatganiad ariannol diweddaraf, datgelodd y maes awyr bod ei golledion wedi cynyddu i £5.71 miliwn. Nawr, yn fy nghyn-broffesiwn, Prif Weinidog, pe byddai achos busnes yn dod ataf i gyda'r ffigurau hyn, byddwn i eisiau gweld cynllun eglur yn dangos sut y gallai ddychwelyd i elw yn ogystal â hyfywedd y busnes cyn darparu rhagor o gyfleusterau benthyg. Mae gan y maes awyr ddyledion o £38.2 miliwn ar hyn o bryd, ac eto mae eich Llywodraeth yn ymestyn hyn gan £21.2 miliwn pan fo'r maes awyr yn amlwg yn colli miliynau o bunnoedd. Pa gynllun busnes—pa gynllun busnes—y mae eich Llywodraeth wedi ei dderbyn i'ch argyhoeddi bod y cyfleuster benthyg hwn yn briodol ac mai dyma'r ffordd orau o ddefnyddio arian trethdalwyr? Ac a allwch chi roi sicrwydd i bobl Cymru nad mater o gynnig siec wag i'r maes awyr yw hyn ac y bydd yr arian hwn yn cael ei ad-dalu i drethdalwyr Cymru yn y pen draw?
Wel, Llywydd, mae gan y maes awyr, fel y mae'r Aelod yn gwybod, uwchgynllun drafft, sy'n darparu'n union yr hyn y mae'n gofyn amdano, ac mae hwnnw'n gynllun y mae Llywodraeth Cymru yn ei gymeradwyo. Rydym ni'n buddsoddi yn y maes awyr er mwyn sicrhau bod gan Gymru ased bywiog, y mae ei angen arnom ni ar gyfer ein heconomi yn ne Cymru gyfan. Rydym ni'n ffyddiog iawn ynglŷn â'r hyn y gall y maes awyr ei gyflawni. Bydd yr Aelod wedi gweld, heddiw ddiwethaf, bod TUI, y cwmni mwyaf o'i fath yn y Deyrnas Unedig, wedi cyhoeddi y bydd 15,000 o wyliau newydd yn cael eu gwerthu o faes awyr Cymru Caerdydd y flwyddyn nesaf, gan ddod â rhagor o deithwyr a rhagor o fusnes newydd i'r maes awyr hwnnw.
Yr hyn a fyddai'n helpu'r maes awyr, Llywydd, yw pe byddai ei Lywodraeth ef yn caniatáu i dollau teithwyr awyr gael eu datganoli i Gymru. Yr hyn a fyddai'n helpu fyddai pe byddai ei Lywodraeth ef yn caniatáu i'n maes awyr gael yr un manteision ag y mae meysydd awyr mawr dros ein ffin yn eu cael. Mae meysydd awyr rhanbarthol llai yn cael eu gwasgu yn y Deyrnas Unedig gan bolisïau rhanbarthol y Deyrnas Unedig a'u hymagwedd at y meysydd awyr hynny. Mae llawer iawn o bethau y gallai Llywodraeth y DU ei wneud i gynorthwyo Maes Awyr Caerdydd ac mae'n gwrthod yn lân â gwneud yr un ohonynt.
Wel, gadewch i mi atgoffa'r Prif Weinidog nad fi yw'r unig un sy'n credu bod angen newid y sefyllfa hon a bod yn rhaid i chi ystyried bellach cyflwyno gwahanol fodel busnes i wneud y maes awyr hwn yn llwyddiannus ar ôl chwe blynedd o wladoli. Fe'i gwnaed yn eglur yn ddiweddar gan eich cyfarwyddwr cyffredinol eich hun dros yr economi, sgiliau ac adnoddau naturiol y byddai angen i'w fodel busnes fod yn wahanol iawn, er mwyn iddo fod, neu ddychwelyd i fod, yn fenter gwbl fasnachol. Ond mae'n ymddangos i mi—[Torri ar draws.]—mae'n ymddangos i mi eich bod chi'n parhau i wneud yr un pethau gan obeithio am wahanol ganlyniad trwy gynnig siec wag.
Nawr, Prif Weinidog, bydd pobl yn dadlau y gellid bod wedi gwario'r benthyciad ychwanegol hwn ar gyfer y maes awyr ar ariannu ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol. Gallai £21 miliwn fynd ymhell yn wir—gallai £21 miliwn helpu i dalu am gyflogau mwy na 400 o feddygon teulu, neu bron i 900 o nyrsys, neu 700 o athrawon yn wir. Mae cynllun eich Llywodraeth ar gyfer y maes awyr yn dibynnu'n llwyr ar gynyddu nifer y teithwyr, ac eto, er bod nifer y teithwyr yn cynyddu'n araf, mae colledion y maes awyr yn parhau i dyfu'n gyflymach. Nid yw hynny'n gwneud unrhyw synnwyr. Dylai mwy o deithwyr olygu mwy o incwm i'r maes awyr. Pam mae'n mynd o chwith felly, Prif Weinidog, ac a yw eich Llywodraeth yn dal i fwriadu dychwelyd y maes awyr hwn i berchnogaeth breifat, ac, os felly, pa ddyddiad targed ydych chi wedi ei bennu i gyflawni hyn?
Wel, Llywydd, mae lefel y byrder golwg a fynegwyd yn y cwestiwn yna yn syfrdanol, yn ogystal â lefel yr anwybodaeth am fodelau busnes sylfaenol. Allwch chi ddim talu nyrsys allan o fenthyciadau cyfalaf, allwch chi? Mae'r syniad y gallwch chi yn hurt. Mae'n amlwg na allech chi fyth wneud hynny. Mae'r arian yr ydym ni wedi ei ddarparu i Faes Awyr Caerdydd, pe byddech chi'n cyfrif y cwbl, pe byddech chi'n cyfrif pob un ceiniog ohono, yn llai nag y mae ei Lywodraeth ef yn ei wario ar ymgyrch hysbysebu ar gyfer Brexit. Ble mae'r arian ar gyfer nyrsys a meddygon yn dod allan o'r £100 miliwn hwnnw, tybed?
Llywydd, mae 4,300 o feysydd awyr yn y byd y mae teithiau rheolaidd ohonynt yn rhan o'u gweithrediad—4,300. O'r rheini, mae 14 y cant mewn perchnogaeth breifat. Felly, mae Maes Awyr Caerdydd yn yr un sefyllfa â maes awyr JFK yn Efrog Newydd, maes awyr Schiphol yn Amsterdam, maes awyr Charles de Gaulle ym Mharis. Y model sydd gennym ni yng Nghymru yw'r model sy'n cael ei efelychu ledled y byd. Mae'n sicrhau bod gan y cyhoedd yng Nghymru faes awyr sydd ei angen arnynt, y mae'r economi ei angen, a byddwn yn buddsoddi i sicrhau ei fod yn llwyddo, pan fyddai ef wedi ei gau.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Prif Weinidog, rydym ni i gyd eisiau cyrraedd diwedd ein taith yn gynt ac yn fwy cyfforddus, a dylai addewidion a wnaed i deithwyr trên Cymru yn hyn o beth fod yn addewidion a gedwir. Dywedodd Trafnidiaeth Cymru y byddai trenau Pacer hen ffasiwn yn cael eu tynnu allan o wasanaeth erbyn diwedd y flwyddyn hon, ond gwyddom erbyn hyn, fel y cadarnhawyd gennych chi yr wythnos diwethaf, na fydd yr ymrwymiad hwn yn cael ei fodloni. Bydd trenau Pacer hefyd yn parhau i fod yn weithredol ar y llwybrau prysuraf yng ngogledd Lloegr y flwyddyn nesaf, er gwaethaf yr un ymrwymiad i gael gwared arnyn nhw yn raddol yno. Mae arweinwyr Llafur Manceinion fwyaf, dinas-ranbarth Sheffield a Leeds wedi cyhuddo'r cwmni trenau yno o drin teithwyr fel dinasyddion eilradd. Yng Nghymru, mae teithwyr yn cael eu digolledu am oediadau o 15 munud neu fwy; a wnaiff Trafnidiaeth Cymru ddigolledu teithwyr, yn yr un modd ag y mae Llafur yn galw amdano yn Lloegr, am drenau newydd a fydd yn cael eu gohirio am fisoedd?
Wel, y rhesymau pam mae'n rhaid i drenau Pacer gael eu cadw i mewn i 2020 yma yng Nghymru yw'r un rhesymau pam mae'n rhaid eu cadw ar fasnachfraint gogledd Lloegr hefyd, oherwydd methiant cwmnïau gweithgynhyrchu trenau i anrhydeddu'r contract a lofnodwyd gyda nhw, lle byddem ni wedi cael y trenau newydd hynny eisoes yma yng Nghymru ac yn barod i fynd ar y rhwydwaith. Dydyn nhw ddim wedi cyrraedd, er iddyn nhw lofnodi contractau i ddweud y gellid eu cyflenwi, a bydd angen i drenau Pacer barhau am gyfnod ychydig bach yn hwy, tan i'r capasiti hwnnw gyrraedd.
Yr hyn y mae Trafnidiaeth Cymru ar fin ei wneud yw cyhoeddi cynlluniau i wella prisiau tocynnau ar draws eu rhwydwaith cyfan o fis Ionawr 2020. Mae rhannau o'r rheini wedi eu cyhoeddi eisoes, Llywydd, fel y gwyddoch—ymestyn teithio am ddim i gynnwys pobl ifanc dan 11 oed, pobl ifanc dan 16 yn cael teithio am ddim ar adegau nad ydynt yn adegau brig pan eu bod yng nghwmni oedolyn, ac ymestyn tocynnau hanner pris i bobl ifanc 18 oed i lawr i bobl ifanc 16 a 17 oed hefyd. Ond bydd hynny'n dod gyda gostyngiadau ychwanegol i brisiau mewn rhannau o'r rhwydwaith pan fydd Trafnidiaeth Cymru yn gwneud ei gyhoeddiad ym mis Ionawr, a bydd hynny'n rhywfaint o iawndal i bobl yr addawyd iddyn nhw gan ddarparwyr preifat y byddai'r trenau hynny'n cyrraedd a phan nad yw'r addewidion hynny wedi eu cadw ganddyn nhw.
Felly, os wyf i'n dilyn y Prif Weinidog, yr hyn yr wyf i'n meddwl y mae'n ei ddweud yw mai'r rheswm am ymestyn y defnydd o drenau Pacer—nid etifeddiaeth y fasnachfraint ddiwethaf yn unig yw hynny, mae'n ganlyniad i rai o'r penderfyniadau caffael a'r problemau a wnaed o dan yr un yma. Nawr, a allwch chi gadarnhau bod Arriva wedi archebu trenau Flex, fel y'u gelwir rwy'n credu, pedwar i bum cerbyd, a bod Trafnidiaeth Cymru wedi ymestyn yr archeb honno i naw trên? A allwch chi gadarnhau a yw'r trenau trydan hyn â pheiriant diesel sydd wedi eu harchebu yn gweithio ai peidio? Ac, os nad ydynt nhw a yw Trafnidiaeth Cymru wedi cynnwys unrhyw gymalau cosb yn y cytundeb gyda'r cyflenwr, trenau Porterbrook, ac a oes pwynt canslo sy'n rhoi'r dewis i Trafnidiaeth Cymru dynnu'r plwg ar y cytundeb hwnnw? Ac a yw Trafnidiaeth Cymru a'r Llywodraeth wedi gwneud unrhyw ddadansoddiad o'r goblygiadau o ran cost o orfod cadw'r trenau Pacer hŷn hyn yn weithredol o ran y costau cynnal a chadw?
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn. Mae rhai manylion yn y fan yna y bydd ef yn deall nad ydyn nhw'n debygol o fod ar gael i mi ar unwaith. Gwnaeth bwynt pwysig ar y cychwyn, sef bod rhywfaint o hyn yn stwff etifeddiaeth o'r blynyddoedd hynny o Arriva a'u tanfuddsoddi a'r penderfyniadau a wnaed ganddyn nhw am gerbydau. Mae fy nghydweithiwr, y Gweinidog trafnidiaeth, yn dweud wrthyf bod camau diogelu wedi eu cynnwys yn y contractau a lofnodwyd gan Trafnidiaeth Cymru o ran y cerbydau newydd yr ydym ni'n mynd i'w cael yma yng Nghymru. Dywedais wrth y Siambr yr wythnos diwethaf yn fy nghyfarfod â CAF, sydd wedi sefydlu eu canolfan gweithgynhyrchu trenau yng Nghasnewydd, a sut y bydd y trenau hynny, sy'n cael eu gwneud yng Nghymru gan weithwyr Cymru, yn rhedeg ar reilffyrdd Cymru cyn diwedd y flwyddyn nesaf. Byddaf yn edrych ar fanylion cwestiwn yr Aelod, wrth gwrs, ac yn sicrhau ei fod yn cael ateb i'r pwyntiau penodol y mae wedi eu codi gyda mi.
Yr hyn a ddywedais mewn gwirionedd oedd nad yw'n ymddangos mai problem etifeddiaeth yw hon. Os ydych chi—trwy Trafnidiaeth Cymru, os yw'r Llywodraeth wedi caffael technoleg nad yw'n gweithio mewn gwirionedd, yna chi ddylai fod wedi gwneud y diwydrwydd dyladwy, a chi sy'n gyfrifol.
Nawr, mae gweddnewid ein seilwaith rheilffyrdd ugeinfed ganrif yn galw am ddull radical yn gyffredinol. Pe byddwn i eisiau gwneud y daith 36 milltir o Bont-y-pŵl i Dreherbert heb fynd mewn car, byddai bron yn well i mi fynd ar feic nag ar drên ar hyn o bryd. Ar yr adeg hon, ar brynhawn dydd Mawrth, mae'r daith drên yn cymryd dros ddwy awr. Nawr, mae teithio o'r dwyrain i'r gorllewin yng Nghymoedd y De mor anodd â theithio o'r gogledd i'r de yng Nghymru gyfan, ac am yr un rhesymau—Beeching ac etifeddiaeth economi echdynnol a roddodd flaenoriaeth i symud cynnyrch dros bobl. Onid nawr yw'r amser, Prif Weinidog, i weddnewid hynny'n llwyr ac, fel y mae Mark Barry a'm plaid i wedi ei gynnig, cysylltu Blaenau'r Cymoedd nid yn unig trwy ffyrdd ond drwy reilffyrdd, gan greu coridor newydd o ddatblygiad gyda chroes-reilffordd cludiant cyflym 50 cilomedr i'r Cymoedd?
Wel, yn gyntaf oll, Llywydd, mae'r Aelod yn hollol anghywir os yw'n credu nad yw etifeddiaeth Arriva, a'r blynyddoedd o esgeulustod a orfodwyd ar Gymru gan y fasnachfraint honno, a chan y methiant i fod yn gyfrifol am unrhyw dwf i nifer y teithwyr yn ei hystod—os yw'n credu nad oes problem etifeddiaeth yn y fan yna y mae'n rhaid ymdrin â hi, yna mae arnaf ofn bod angen iddo ddarllen ychydig am hanes hynny.
Nid wyf i'n derbyn nad yw'r dechnoleg yn gweithio. Rwyf i wedi dweud y byddaf yn ymchwilio i'w gwestiynau. Nid yw hynny'n golygu am funud fy mod i'n derbyn bod problem dim ond am ei fod ef yn honni y gallai fod un. Ac mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi symiau enfawr o arian i gwblhau ffordd Blaenau'r Cymoedd fel bod cyswllt o'r dwyrain i'r gorllewin yn y rhan honno o Gymru. Mae hynny'n dangos yn llwyr ymrwymiad y Llywodraeth hon i gymunedau'r Cymoedd ac i gysylltedd rhyngddynt.
Arweinydd Plaid Brexit, Mark Reckless.
Prif Weinidog, mae eich comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, Sophie Howe, wedi cyhoeddi nad yw cymwysterau TGAU yn addas i'w diben ac y dylid eu diddymu. Mae'n honni bod hyn yn angenrheidiol gan fod y cwricwlwm newydd yn disodli'r hyn a briodolwyd ganddi fel 'seilos' pynciau traddodiadol gyda chwe maes dysgu a phrofiad. Mae cyd-awdur ei Phapur Gwyn, yr Athro Calvin Jones, yn dweud eu bod yn cael trafferth gyda'r syniad o arholiad safonedig cyhoeddus sy'n rhoi gradd i ddisgyblion. Yn hytrach, maen nhw eisiau i ysgolion ganolbwyntio ar addysgu sgiliau empathi, deallusrwydd emosiynol, artistiaeth, creadigrwydd, rhoi gofal a thorri carbon. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â'u gweledigaeth ar gyfer dyfodol addysg yng Nghymru?
Wel, rwy'n cytuno bod cyflwyno'r cwricwlwm newydd yn gofyn am fframwaith cymwysterau newydd i gyd-fynd ag ef—dyna pam mae Cymwysterau Cymru yn gwneud yn union hynny. Roeddwn i'n meddwl bod y cyfraniad gan gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, fel arfer, yn gyfraniad pwysig at y ddadl, gan fy mod i'n meddwl bod yr adroddiad heddiw gan Senedd Ieuenctid Cymru ar yr un pwnc yn arbennig o ddiddorol a defnyddiol. Mae'n disgrifio'r perygl y bydd ysgolion Cymru yn cynhyrchu 'robotiaid A*', sy'n golygu eu bod nhw'n addysgu eu disgyblion yn dda iawn i lwyddo mewn arholiadau, ond nad yw'r plant hynny o reidrwydd yn meddu ar y math o sgiliau meddwl, y math o allu beirniadol, yr ydym ni'n gwybod bod cyflogwyr yn dweud wrthym ni y maen nhw'n chwilio amdanynt ymhlith pobl ifanc sy'n dechrau yn y gweithle. Roeddwn i'n meddwl ei bod yn arbennig o ddiddorol bod y safbwynt hwnnw'n dod gan bobl ifanc eu hunain. Mae'r Gweinidog yn cyfarfod â'r Senedd Ieuenctid ddydd Gwener i drafod eu hadroddiad. Gan ystyried hynny a gwaith y comisiynydd gyda'i gilydd, byddan nhw'n gyfraniadau pwysig at feddwl am y ffordd y mae gennym ni ddull cymwysterau sy'n cyd-fynd â'r cwricwlwm newydd radical yr ydym ni'n ei gyflwyno yng Nghymru.
Ond a yw ein hysgolion yn addysgu disgyblion yn dda iawn i lwyddo mewn arholiadau—neu o leiaf yn ddigonol—ar sail y canlyniadau presennol? Un newid yr ydym ni'n ei gael, y dylwn i ei groesawu, a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd addysg y bore yma, yw ein bod ni'n gweld cynnydd o 2.75 y cant i gyflogau athrawon a 5 y cant i'r rhai sydd newydd gymhwyso, ac, rwy'n credu, £12.8 yn y flwyddyn gyfredol i gefnogi hynny. Fodd bynnag, a yw'r Prif Weinidog yn cytuno y gallai hyn fod yn rhy ychydig, yn rhy hwyr i fynd i'r afael â'r argyfwng dwys yr ydym ni'n ei weld o ran recriwtio athrawon ar hyn o bryd?
A wnaiff ef hefyd ystyried a yw safonau addysg is yng Nghymru o'u cymharu â Lloegr, o leiaf ar sail y canlyniadau y gallwn ni eu cymharu a sgoriau'r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr, yn adlewyrchu mwy na dim ond blaenoriaethau gwario cymharol? Onid ydyn nhw hefyd yn adlewyrchu polisi blaengar a diffyg cymhariaeth lem o gyflawniad ymhlith disgyblion, ysgolion a chenhedloedd y DU? Mae adroddiadau Estyn wedi cael gwared ar eu cymariaethau cyfnod allweddol 2 ymhlith ysgolion; mae Llywodraeth Cymru wedi cael gwared ar ei tharged ar gyfer pum TGAU da, gan gynnwys Mathemateg a Chymraeg neu Saesneg; ac rydym ni wedi gweld ein graddau TGAU A i G yn ymwahanu oddi wrth yr 1 i 9 sydd ganddyn nhw yn Lloegr erbyn hyn. Ai'r cam olaf o ran rhoi terfyn ar atebolrwydd am fethiant y Llywodraeth hon ym maes addysg yw cymryd y cam syml o ddiddymu cymwysterau TGAU?
Wel, yn sicr, nid wyf yn cytuno â hynny, wrth gwrs, Llywydd. Roedd y graddau A* mewn cyrsiau Safon Uwch yng Nghymru yn yr haf y gorau o unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig—y gorau oll, yn well nag unrhyw ran o Loegr, yn well na'r Alban. Pobl ifanc Cymru yn ennill y graddau uchaf oll mewn arholiadau ac yn gwneud yn well na neb arall—nid wyf i'n ystyried hynny'n fethiant yn ein system. Ac mae ei agwedd Gradgrind tuag at addysg, ei bod yn bodoli’n syml i ffactoreiddio plant drwy system fel eu bod yn dod allan ar ei diwedd, nid fel pobl ifanc sydd wedi cael addysg eang, nid fel pobl ifanc sy'n cael eu haddysgu i feddwl yn feirniadol, nid fel pobl ifanc sy'n gallu deall, dadlau a chymryd rhan yn y ffordd ehangach honno, ond dim ond i gael cyfres o gymwysterau, nid dyna fy syniad i o addysg, oherwydd rwyf i eisiau i'n plant gael y ddau. Rwyf i eisiau iddyn nhw gael cymwysterau llwyddiannus, ond rwyf i eisiau iddyn nhw gael profiad o addysg a fydd yn eu paratoi ar gyfer bywyd yn yr unfed ganrif ar hugain, a dyna fydd ein cwricwlwm ni yn ei ddarparu.
3. Pa fesurau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno i wella hyfforddiant sgiliau yng Nghymru dros y deuddeg mis nesaf? OAQ54565
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Dros y 12 mis nesaf, bydd ein hyfforddiant sgiliau yn arwain at gyflwyno Cymorth Swyddi Cymru, gan symleiddio a chyfnerthu'r gyfres bresennol o raglenni cyflogadwyedd. Bydd hynny'n digwydd yng nghyd-destun yr effaith y mae Brexit wedi ei chael ar anghenion sgiliau cyflogwyr Cymru.
Diolch yn fawr iawn, Prif Weinidog, am yr ateb. Mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi cyhoeddi y bydd yn buddsoddi £120 miliwn i sefydlu wyth o sefydliadau technoleg newydd yn Lloegr. Mae hyn yn ychwanegol at y 12 o sefydliadau sydd eisoes yn weithredol yno. Partneriaeth rhwng colegau addysg bellach, prifysgolion a chyflogwyr yw'r sefydliadau hyn, ac maen nhw'n cynnig cymwysterau technegol addysg uwch i fyfyrwyr mewn meysydd fel digidol, adeiladu, gweithgynhyrchu a pheirianneg. Prif Weinidog, o gofio bod Cydffederasiwn Diwydiant Prydain yng Nghymru wedi galw am fwy o bwyslais ar gymwysterau galwedigaethol, pa ystyriaeth ydych chi wedi ei rhoi i agor sefydliadau technoleg i wella'r sail sgiliau i weithwyr yng Nghymru, os gwelwch yn dda?
Llywydd, mae'n braf gweld y system yn Lloegr yn dal i fyny â'r hyn yr ydym ni wedi bod yn ei wneud yma yng Nghymru. Nid oes angen i ni ddyfeisio canolfannau newydd yng Nghymru, gan fod gennym ni ganolfannau eisoes sy'n gwneud yr hyn y mae'r canolfannau technoleg newydd yn honni eu bod yn ei wneud dros y ffin. Dyna pam yr ydym ni wedi bod yn cynyddu prentisiaethau lefel uwch yn ein colegau addysg bellach. Dyma pam mae gennym ni brentisiaethau gradd, prentisiaethau lefel 6, am y tro cyntaf yn dechrau gweithio ym mis Medi eleni gyda gwerth £20 miliwn o fuddsoddiad newydd. Rydym ni o ddifrif yma yng Nghymru ynglŷn â chymwysterau galwedigaethol, a'u pwysigrwydd yn economi Cymru. Fel rwy'n dweud, maen nhw'n dal i fyny dros y ffin, ac mae'n braf eu gweld nhw'n gwneud hynny.
Mae yna lot o ffocws ar sgiliau athrawon yn y sector statudol o ran dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, ond does dim cymaint o ffocws ar sgiliau y rheini sy'n dysgu yn addysg bellach o ran sut maen nhw'n medru'r Gymraeg. Yn ystod y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau yn ddiweddar, daeth Comisiynydd y Gymraeg i mewn atom i ddweud bod yna ddiffyg data yn bodoli ynglŷn â faint o sgiliau sydd yn bodoli yn y sector o ran y tiwtoriaid, a bod yna ddiffyg tiwtoriaid sydd â'r capasiti i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Beth mae'ch Llywodraeth chi wedi'i wneud i geisio newid hynny, a pha gynlluniau sydd ar waith i sicrhau bod y rheini sydd yn dysgu ym maes addysg bellach yn gallu meddu ar y sgiliau hynny?
Diolch yn fawr am y cwestiwn. Wrth gwrs, dwi'n cytuno am y gwaith rydym ni'n ei wneud i fuddsoddi mewn sgiliau pobl yn y dosbarth, mae hwnnw'n hollbwysig i helpu pobl gyda'u hyder i ddefnyddio'r iaith ac i greu awyrgylch ble maen nhw'n gallu defnyddio y sgiliau sydd ganddyn nhw yn barod i helpu pobl ifanc. Dyna pam rydym ni'n buddsoddi y swm mwyaf yn ein hanes ni yn y gweithlu mewn ysgolion, ac rydym ni eisiau gwneud mwy yn addysg bellach hefyd i ddefnyddio'r gwersi rydym wedi eu gweld yn y dosbarth yn ein hysgolion ni, ac i wneud mwy gyda'r colegau addysg bellach hefyd.
Mae'n rhaid i ni gydnabod yn briodol y gwaith helaeth a wnaeth Llywodraeth Cymru yn ddiweddar wrth sefydlu'r seilwaith a fydd yn creu gweithlu mwy medrus ar gyfer y dyfodol. A gaf i ofyn, fodd bynnag, pa gynnydd sydd wedi ei wneud gan awdurdodau lleol o ran datblygu llwybrau sgiliau trwy integreiddio hyfforddiant galwedigaethol i'r system addysg ehangach?
Wel, Llywydd, rydym ni'n gweithio gyda'n cydweithwyr mewn awdurdodau lleol, wrth gwrs, i sicrhau bod y cyfraniad y gallan nhw ei wneud drwy eu cynrychiolaeth mewn addysg bellach, ac yn yr ysgolion y maen nhw eu hunain yn eu rhedeg, i sicrhau bod yr agenda sgiliau yn cael ei deall a'i gweithredu yno.
Mae'n un o'r pethau allweddol y mae Llywodraeth yn ei wneud, Llywydd, i fuddsoddi mewn pobl ac i roi iddyn nhw y sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer y dyfodol. Rydym ni'n disgwyl i bob awdurdod lleol weithio gyda chyflogwyr lleol yn ogystal â gwrando ar lais y dysgwyr eu hunain. Pan gomisiynodd fy nghyd-Weinidog Ken Skates adolygiad annibynnol o bartneriaethau sgiliau rhanbarthol, un o'r pethau yr oedd yr adroddiad hwnnw'n ei ddweud oedd bod angen i ni ddysgu gan y dysgwyr yn ogystal â gwrando ar lais gweithwyr proffesiynol. Oherwydd byddan nhw'n aml yn dweud pethau pwysig wrthym ni am ansawdd y profiad yn yr ystafell ddosbarth, ansawdd y profiad y maen nhw'n ei gael pan fyddan nhw allan yn gweithio, a thrwy ddysgu o'u profiad, gallwn wella'r profiad i eraill sy'n dod ar eu holau.
4. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisi Llywodraeth Cymru ar waredu gwastraff niwclear yng Nghymru? OAQ54582
Llywydd, nid yw Llywodraeth Cymru wedi nodi unrhyw safleoedd na chymunedau yng Nghymru lle y gellid lleoli cyfleuster gwaredu daearegol, ac ni fyddwn yn ceisio gwneud hynny ychwaith. Mae polisi Llywodraeth Cymru yn eglur: gellir adeiladu GDF yng Nghymru dim ond os oes cymuned sy'n fodlon ei gynnal, ac awdurdod lleol yn fodlon rhoi ei ganiatâd.
Prif Weinidog, cafwyd protest enfawr yma y llynedd yn erbyn dympio mwd yn nyfroedd Cymru a oedd wedi cael ei garthu o'r tu allan i adweithydd niwclear Hinkley C heb yr ystod lawn o brofion y gellid ac y dylid bod wedi eu gwneud. Arweiniodd yr ymgyrch at gyhoeddusrwydd rhyngwladol, gyda darllediadau ar Al Jazeera, Russia Today, y BBC, newyddion yr Almaen, newyddion Pacistan, a llawer o allfeydd newyddion eraill. [Torri ar draws.] Ond anwybyddodd eich Plaid Lafur chi a'r ACau yn y fan yma y protestiadau a'r dicter cyhoeddus eglur gan bleidleisio i'r dympio ddigwydd. Mae eich Dirprwy Weinidog eich hun—
Gadewch i'r Aelod gael ei glywed, os gwelwch yn dda.
—wedi bod ar Twitter i ddadlau yn erbyn adeiladu Hinkley C, yn gofyn beth y gellid ei gyflawni gyda'r biliynau ar filiynau o bunnoedd a wariwyd yno. Felly, pan fydd EDF Energy yn dychwelyd i Lywodraeth Cymru i ofyn am ganiatâd i ddympio ail rownd o fwd a garthwyd o'r tu allan i adweithydd niwclear nad yw hyd yn oed yng Nghymru, a wnewch chi dri pheth? Dyma'r cwestiwn. Yn gyntaf, a wnewch chi fynnu bod asesiad llawn o'r effaith ar yr amgylchedd yn cael ei gynnal y tro hwn? Yn ail, a wnewch chi fynnu bod yr ystod lawn o brofion ymbelydredd yn cael ei chynnal, gan gynnwys alffa, gama a sbectrometreg dorfol? Ac yn drydydd, a wnewch chi roi pleidlais rydd i'ch ACau Llafur y tro nesaf yn lle eu chwipio i bleidleisio dros ganiatáu i'r dympio ddigwydd?
Llywydd, nid oes cais o'r fath wedi dod i law.
Yn ystod toriad yr haf, cefais y pleser o ymweld â safle adeiladu Hinkley Point a chanfod bod y cyfle hwnnw'n golygu bod 25 y cant o'r gweithlu wedi eu lleoli yng Nghymru, ac mae'n bwysig iawn bod manteision y gwariant hwnnw—cyfanswm o £19 biliwn—yn cael eu teimlo yn economi Cymru hefyd. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod cwmnïau yng Nghymru ar flaen y gad pan ddaw i ddyfarnu contractau ar y gwaith adeiladu hwnnw, ac yn arbennig, hyrwyddo'r sgiliau sydd ar gael i gyflogeion ddod o hyd i waith yn y prosiect penodol hwnnw?
Llywydd, rwy'n cytuno â'r Aelod bod angen manteisio ar y cyfleoedd economaidd a sicrhau eu bod ar gael i weithwyr Cymru. Mae camau a gymerwyd gan fy nghyd-Weinidog Ken Skates wedi gwneud yn siŵr bod y cyfleoedd hynny'n cael eu hysbysebu'n dda i weithwyr yng Nghymru.
Yn ddiweddar, roeddwn i'n bresennol mewn galwad gynadledda gan Unite: yr Undeb, pryd y tynnwyd sylw ganddyn nhw at y camau y maen nhw wedi eu cymryd i wneud yn siŵr bod sgiliau gweithwyr Cymru yn hysbys i'r cyflogwyr yn y prosiect hwnnw, a bod gweithwyr Cymru, pan fydd cyfleoedd yn codi, yn gallu manteisio arnyn nhw.
5. A wnaiff y Prif Weinidog nodi blaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer Aberafan am weddill y Cynulliad hwn? OAQ54612
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae ein blaenoriaethau yn cynnwys diogelu economi Aberafan rhag effeithiau niweidiol Brexit trwy fuddsoddi mewn pobl, lleoedd a busnesau drwy sgiliau, seilwaith a chymorth busnes.
Diolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Nawr, Prif Weinidog, fel y gwyddoch, yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd cwmni Hi-Lex Cable System ei fod yn mynd i gau ei ffatri, gan golli 125 o swyddi crefftus â chyflogau da o ganlyniad i ragolwg o golli gwerthiant yn sgil Brexit, gan fod gwaith Honda Swindon yn mynd i gau o ganlyniad. Nawr, yr hyn sydd gennym ni yn y fan yma yw unigolion hynod fedrus, ar gyflogau da, sy'n gweithio yn yr ardal leol, a'r hyn yr ydym ni eisiau ei weld nawr yw sicrhau mewn gwirionedd ein bod ni'n denu mwy o fewnfuddsoddiad ac yn cynorthwyo busnesau lleol fel y gallwn ni ddefnyddio'r sgiliau hynny. Rydym ni eisiau sicrhau bod y sgiliau hynny'n aros yn lleol, oherwydd os ydym ni eisiau economi amrywiol ym Mhort Talbot, yna mae angen i ni gael yr atyniad hwnnw a chadw'r sgiliau hynny. A allwch chi roi sicrwydd i mi y byddwch chi'n gweithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i ddenu busnesau i sicrhau bod y gweithlu medrus yn aros, ac os oes angen mwy o sgiliau arnom ni, ein bod ni'n datblygu'r sgiliau hynny ym Mhort Talbot i sicrhau y gall y busnesau hynny weithio'n effeithiol yno?
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Yn wir, oherwydd yr ymdrechion a wnaed gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a busnesau yn ei etholaeth gweithwyr llawn amser yn Aberafan sydd â'r enillion wythnosol gros uchaf yng Nghymru gyfan. Rydym ni eisiau sicrhau ein bod ni'n gwneud popeth yn ein gallu i barhau i ddarparu amrywiaeth o gyfleoedd lle gall y bobl hynod fedrus hynny ddatblygu eu sgiliau ar gyfer cyfleoedd newydd a defnyddio eu sgiliau mewn ffyrdd sy'n bodoli eisoes.
Edrychaf ymlaen at weithio gyda chyngor Castell-nedd Port Talbot ar y rhaglenni y maen nhw'n gyfrifol amdanyn nhw o fewn bargen ddinesig Abertawe. Rydym ni ar y camau olaf o'u gweld nhw'n cyflwyno'r achos busnes ar gyfer y prosiect Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer. Bydd hynny'n werth £0.5 biliwn o fuddsoddiad yn ardal bargen ddinesig Bae Abertawe, o dan arweiniad cyngor Castell-nedd Port Talbot. Yn fuan ar ôl cyflwyno'r achos busnes hwnnw, edrychwn ymlaen at dderbyn cynigion manwl ar gyfer canolfan dechnoleg Bae Abertawe, i'w lleoli ym Mharc Ynni Baglan, unwaith eto dan arweiniad cyngor Castell-nedd Port Talbot ac â'r nod pendant o greu posibiliadau technolegol ar gyfer y dyfodol, lle bydd y bobl fedrus iawn sy'n ffurfio'r economi leol honno yn gallu edrych ymlaen at ddyfodol lle gellir datblygu eu sgiliau ymhellach a gwneud defnydd cynhyrchiol da ohonynt.
Diolch i chi am grybwyll bargen ddinesig Bae Abertawe yn y fan yna, ond mae un maes yn ein heconomi yn gyffredinol yng Nghymru lle'r ydym ni angen gweithwyr medrus iawn sydd yn faes lle na ystyrir bod lefelau uchel o sgiliau yn angenrheidiol, sef ein diwydiant twristiaeth. Gwn y bydd David Rees yn cytuno â mi am hyn, bod gennym ni yn Aberafan rai golygfeydd ac atyniadau gwych, ond hefyd annisgwyl. Rydym ni'n gwybod am Barc Gwledig Margam, ac yn y blaen, ond mae gennym ni hefyd yr Amgueddfa Rhagoriaeth Ffa Pob. Mae'r rhain i gyd yn bethau sy'n dipyn o bleser preifat i drigolion yn yr ardal honno, ond rwy'n siŵr y bydden nhw'n hapus iawn i'w rhannu'r gyda gweddill y byd. Felly, a allwch chi ddweud wrthyf i beth y mae eich Llywodraeth wedi ei wneud i fanteisio ar fargen sector twristiaeth Llywodraeth y DU i godi statws a phwysigrwydd strategol twristiaeth yng Nghymru, yn enwedig gydag ardaloedd fel Aberafan, lle mae llawer i'w gynnig, ond lle nad oes manteisio digonol ar y potensial hwnnw?
Llywydd, gadewch i mi gytuno â Suzy Davies ynghylch y potensial sydd gan Aberafan ar gyfer twristiaeth. Ac mae'r Aelod yn llygad ei lle i ddweud bod her wirioneddol i'r diwydiant hwnnw o ran ailsefydlu ei enw da ymhlith pobl sy'n mynd i weithio ynddo, a phwysleisio i bobl y cyfleoedd sy'n bodoli o fewn y diwydiant twristiaeth ac nad yw'n cael ei ystyried fel rhywbeth yr ydych chi'n ei wneud dim ond pan nad oes unrhyw beth arall ar gael i chi. Felly, mae honno'n her o ran enw da'r sector hwnnw. Cefais gyfarfod yn ddiweddar gyda chynrychiolwyr o'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru, ac maen nhw'n gwybod eu hunain, yn enwedig os na fydd cyflenwad o lafur y maen nhw wedi dibynnu arno yn dod o rannau eraill o'r Undeb Ewropeaidd ar gael iddyn nhw yn y dyfodol, eu bod nhw'n mynd i orfod gwneud mwy i wneud y diwydiant hwnnw'n ddeniadol i bobl sydd eisoes yma yng Nghymru.
Byddwn yn gweithio gyda nhw i wneud hynny, i ddod o hyd i gyfleoedd newydd, oherwydd mae'r diwydiant twristiaeth yn bwysig ym mhob rhan o Gymru, ond ceir her i'r diwydiant ei hun. Bydd yn rhaid iddyn nhw wneud pethau sy'n dangos bod y sgiliau'n bwysig, bod y llwybrau gyrfaol yn bodoli, bod y gwobrau ar gael, ac os gwnewch chi ymrwymo eich hun i hamdden a thwristiaeth yng Nghymru, yna bydd y cyfleoedd y mae fy nghyd-Weinidog Dafydd Elis-Thomas yn helpu i'w datblygu yn y diwydiant hwnnw, gan ei uwchraddio fel bod ganddo wahanol broffil yng Nghymru, a bod y proffil hwnnw'n cyfathrebu ei hun i ddarpar weithwyr hefyd.
6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â throseddau casineb? OAQ54609
Diolchaf i Joyce Watson am hynna. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n galed, gydag eraill, i atal troseddau casineb, i gynorthwyo dioddefwyr ac i hybu cydlyniant cymunedol. Er mwyn cydnabod y tensiynau a'r rhaniadau sydd wedi codi ers refferendwm yr UE, rydym ni wedi defnyddio cronfa bontio'r UE i atgyfnerthu ein gwaith yn sylweddol yn y maes hwn.
Diolchaf i chi am yr ateb yna, ond mae ffigurau diweddar a gafwyd gan y Swyddfa Gartref wedi dangos cynnydd o 29 y cant mewn troseddau casineb ledled Cymru a Lloegr, a gwelir y cynnydd mwyaf mewn troseddau casineb at bobl drawsrywiol ac anabl. Rydym ni hefyd wedi gweld y rhethreg a'r iaith a welwyd yn cael ei defnyddio gan ffigyrau gwleidyddol blaenllaw yn ddiweddar iawn, ac, yn fy marn i, y cwbl y mae hynny wedi ei wneud yw ychwanegu tanwydd at y tân, yn enwedig pan ddaw i droseddau casineb ar sail hiliol a chrefyddol. Troseddau casineb sy'n seiliedig ar hil unigolyn yw tri chwarter yr holl droseddau casineb yr adroddir amdanynt, a chefais fy nychryn, ac rwy'n siŵr y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn y Siambr hon, o weld y camdriniaeth hiliol a ddioddefwyd gan nifer o chwaraewyr pêl-droed Lloegr yn Bwlgaria yn ddiweddar, a hefyd ddydd Sadwrn pan boerwyd ar gôl-geidwad Haringey ac y taflwyd poteli ato, gan arwain, yn gwbl briodol, at y chwaraewyr hynny yn cerdded oddi ar y cae. Ond y pryder gwirioneddol yn y fan yma, pan fyddwch chi'n gweld rhai o'r lluniau hynny, yw mai pobl ifanc sy'n cyflawni'r gweithredoedd hyn, a'r broblem gyda hynny yw ein bod ni'n sôn am y genhedlaeth nesaf yn dod drwodd. Felly, Prif Weinidog, rwy'n gofyn pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o ran ystadegau diweddar y Swyddfa Gartref ynghylch y cynnydd sy'n peri pryder, a pha un a ydych chi wedi cael unrhyw sgyrsiau o gwbl gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru ac yn arbennig Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth?
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn ac am y gwaith y mae hi wedi ei wneud mor gyson dros y blynyddoedd yn y maes hwn, ac am y rhan y mae hi wedi ei chwarae i sicrhau y bydd y Cynulliad hwn yn trafod y mater hwn ar y llawr yn y fan yma brynhawn yfory. Wrth feddwl am ffigurau'r Swyddfa Gartref, yna rwy'n credu bod pedwar peth yr wyf i'n eu cymryd ohonynt yn syth, Llywydd. Y cyntaf yw nad yw Cymru yn rhydd o droseddau casineb a'r erchyllterau a ddaw yn eu sgil, ac ni ddylem byth feddwl, rywsut, nad yw'r pethau hyn yn digwydd yma—maen nhw—ac, yn ail, y ceir cyfuniad o well adrodd a chofnodi y tu ôl i'r ffigurau yn ogystal â chynnydd gwirioneddol i nifer yr achosion. Bu gennym ni bolisi yng Nghymru ers 2014 o annog adrodd yn y maes hwn, o berswadio pobl i fod â hyder i ddod ymlaen at yr heddlu, ac yna gweithio gyda'r heddlu i wneud yn siŵr bod yr adroddiadau hynny'n cael eu cofnodi a'u hadrodd yn gywir. Felly, mae rhywbeth, gobeithio, yn y ffigurau hyn sy'n dangos bod pobl yn fwy parod i ddod ymlaen ac yn fwy parod i gymryd y pethau hyn o ddifrif. Ond yn ogystal â hynny, mae cynnydd gwirioneddol i nifer y digwyddiadau yn y ffigurau hyn hefyd.
Rwy'n credu mai'r trydydd peth a ddysgais o'r ffigurau yw bod troseddau casineb yn digwydd ar draws yr ystod gyfan o dargedau; troseddau casineb hiliol yw 68 y cant o droseddau casineb, ond fel y dywedodd Joyce Watson, cofnodwyd dros 400 o droseddau casineb ar sail anabledd yng Nghymru y llynedd. Nid wyf i'n deall o gwbl—sut y gallai unrhyw un feddwl bod rhywun sydd eisoes yn gorfod ymdrin â phroblemau anabledd yn dod yn ddioddefwr trosedd oherwydd yr anabledd y mae'n ei ddioddef. A chynnydd o 88 y cant, y cynnydd mwyaf oll, fel y dywedodd Joyce Watson, i droseddau casineb trawsrywiol.
Rwy'n credu mai'r pedwerydd pwynt yr wyf i'n ei gymryd ohono, Llywydd, yw pwysigrwydd y buddsoddiad yr ydym ni'n ei wneud yng Nghymru i wrthsefyll troseddau casineb—yr arian ychwanegol yr ydym ni wedi ei roi i'r ganolfan adrodd a chymorth cenedlaethol ar gyfer troseddau casineb, y buddsoddiad ychwanegol yn y grant troseddau casineb cymunedau lleiafrifol, y grant cydlyniant cymunedol yr ydym ni'n ei ddarparu trwy Lywodraeth Cymru, a gefnogir ar draws y Siambr yn y fan yma, mi wn. Mae'r pethau hyn i gyd yn helpu i wneud gwahaniaeth, a thrwy weithio gydag eraill, boed hynny'n Dangos y Cerdyn coch i Hiliaeth neu gyrff ffurfiol fel Cymdeithas Bêl-droed Cymru, y gallwn wneud yr hyn a allwn i leihau presenoldeb atgas troseddau casineb yng Nghymru fel mewn mannau eraill.
7. A wnaiff y Prif Weinidog egluro beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer lleihau nifer y plant mewn gofal? OAQ54606
Diolch i Siân Gwenllian am y cwestiwn. Mae gormod o blant yn cael eu cymryd oddi wrth eu teuluoedd yng Nghymru. Mae pob awdurdod lleol bellach wedi cyflwyno cynlluniau i leihau nifer y plant sydd mewn gofal, y nifer sy’n cael eu lleoli y tu allan i’r sir, y tu allan i Gymru, a’r rheini sy’n cael eu cymryd oddi wrth rieni sydd ag anabledd dysgu.
Yn ogystal â gofyn i gynghorau sir gyflwyno cynlluniau i leihau’r nifer, mae eich Llywodraeth chi hefyd yn gofyn iddyn nhw osod targedau ar gyfer lleihau nifer y plant mewn gofal, ac mi fyddwch chi’n ymwybodol, efallai, fod Cyngor Gwynedd a nifer o gynghorau eraill yn gwrthod cydymffurfio â’r gofyniad hwn i osod targed, gan ei weld o fel cam gwag ac un peryglus hefyd. A dwi’n cytuno. Nid defnyddio ffigurau mympwyol ydy’r ffordd o daclo’r nifer cynyddol o blant mewn gofal, ond yn hytrach mae angen edrych ar pam fod y nifer yn codi a rhoi’r ffocws ar wella canlyniadau i blant mewn gofal. Ydych chi’n fodlon ailedrych ar eich polisi o osod targedau?
Wel, rwy'n anghytuno â'r Aelod, Llywydd, oherwydd rydym ni'n troi at dargedau yn anfoddog. Nid dyna oedd ein dewis cyntaf o wneud pethau yn sicr, ond rydym ni wedi rhoi cynnig—rydym ni wedi rhoi cynnig am bron i ddegawd ar yr holl fesurau eraill y mae'r Aelod yn cyfeirio atyn nhw. Mae'r Llywodraeth hon wedi ariannu, droeon, flwyddyn ar ôl blwyddyn, mentrau i leihau nifer y plant sy'n cael eu rhoi mewn gofal yma yng Nghymru. Rydym ni wedi darparu arian yn uniongyrchol i awdurdodau lleol, rydym ni wedi noddi, drwy awdurdodau lleol, cynhyrchiad adroddiadau, fel adroddiad Cordis Bright, a nododd dros bum mlynedd yn ôl ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru y camau ymarferol y gallen nhw eu cymryd i leihau nifer y plant y maen nhw'n eu cymryd i dderbyn gofal. Rydym ni wedi ariannu mentrau eraill i wneud yr un peth yn union, ac eto, flwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn, mae nifer y plant sy'n cael eu derbyn i ofal yng Nghymru yn codi. Mae wedi codi bob blwyddyn ers 20 mlynedd. Ac mae'r bwlch rhwng y gyfradd y cymerir plant oddi wrth eu teuluoedd yng Nghymru ac sy'n cael eu cymryd oddi wrth eu teuluoedd ar draws ein ffin wedi ehangu bob blwyddyn hefyd. Ac nid yw Gwynedd yn ddiogel rhag hyn. Mae nifer y plant sy'n cael eu cymryd i ofal yng Ngwynedd wedi cynyddu'n gyson o flwyddyn i flwyddyn dros y pedair blynedd diwethaf. Mae'r gyfradd y mae Gwynedd yn cymryd plant oddi wrth eu teuluoedd wedi codi o flwyddyn i flwyddyn yn ystod y pedair blynedd diwethaf. Os darllenodd yr Aelodau yn y fan yma yr adroddiad yr wythnos diwethaf am y gyfradd y mae plant yng Nghymru yn cael eu cymryd ar adeg eu geni oddi wrth eu teuluoedd, byddan nhw wedi gweld bod Gwynedd yn gwneud hynny ar gyfradd gyflymach nag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru. Nid yw'r syniad bod gan Wynedd ddim i'w ystyried a dim i'w ddysgu yn gwrthsefyll archwiliad.
Nawr, mae ein targedau yno'n syml i ganolbwyntio meddyliau awdurdodau lleol ar y broblem hon, ac mae 18 o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru wedi cytuno i wneud hynny. Felly, mae Gwynedd mewn lleiafrif bach o gynghorau sydd heb ddod gyda ni ar y daith hon. Yn sicr nid yw'r targedau yno i atal gweithwyr cymdeithasol rhag gwneud y penderfyniadau iawn, ond maen nhw yno i ganolbwyntio meddyliau awdurdodau lleol ar un o'r heriau mawr sydd gennym ni o ran polisi cyhoeddus yng Nghymru, a phroblem sy'n gwaethygu, ac sydd wedi gwaethygu bob blwyddyn ers 20 mlynedd. Dyna pam yr ydym ni'n gwneud hyn, a dyna pam mai dyma'r peth iawn i'w wneud, a dyna pam rwy'n ddiolchgar i'r 18 awdurdod lleol yng Nghymru sydd wedi cytuno mai dyma'r ffordd iawn i fynd i'r afael â'r broblem.
Ac yn olaf, cwestiwn 8, Neil Hamilton.
8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd ers iddi ddatgan yr argyfwng newid hinsawdd? OAQ54594
Llywydd, rydym ni wedi ariannu cenhedlaeth newydd o ambiwlansys â phaneli solar wedi eu gosod arnyn nhw. Rydym ni wedi buddsoddi miliynau o bunnoedd mewn prosiectau i fynd i'r afael â bioamrywiaeth. Rydym ni wedi cyhoeddi diwygiadau mawr o ran cymorth ariannol i amaethyddiaeth yn y dyfodol. Yr wythnos diwethaf, trafodwyd hyn i gyd, a mwy, yn ein cynhadledd newid yn yr hinsawdd flynyddol gyntaf.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Tybed a yw ef byth yn cael unrhyw nosweithiau di-gwsg ynghylch effaith polisïau newid yn yr hinsawdd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar fywydau pobl gyffredin. Cyhoeddwyd ffigurau ar dlodi tanwydd yng Nghymru yn ddiweddar—hynny yw, pobl sy'n gwario mwy na 10 y cant o'u hincwm ar gadw'n gynnes—mae 130,000 o aelwydydd agored i niwed yn gwario mwy na 10 y cant ar gadw'n gynnes; mae 32,000 o aelwydydd yn gwario mwy nag 20 y cant o'u hincwm ar gadw'n gynnes. Ac eto polisi Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yw gwneud tanwydd yn ddrutach er mwyn, yn ôl y sôn, achub y blaned. Amcangyfrifwyd y byddai'r ymrwymiad di-garbon erbyn 2050 a wnaed gan Theresa May wrth ffarwelio â ni i gyd, gan ei Changhellor ei hun, Philip Hammond, yn costio mwy nag £1 triliwn, ac mae Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd wedi amcangyfrif y bydd cyrraedd y targed hwn yn costio rhwng 1 a 2 y cant o'n cynnyrch mewnwladol gros i ni bob un blwyddyn rhwng nawr a 2050, sy'n cyfateb i rywbeth tebyg i £2.5 miliwn y flwyddyn yng Nghymru. Mae hynny tua un rhan o chwech o holl gyllideb Cymru. Os yw hyn yn mynd i gael ei ariannu drwy gyflwyno trethi ar bris trydan, bydd hynny'n effeithio'n uniongyrchol ar y tlotaf a'r mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas. Felly, ble mae hynny'n gadael rhaglen wrthdlodi'r Llywodraeth, ac yn wir ei hymrwymiad i ddileu tlodi tanwydd yng Nghymru, y mae wedi methu'n llwyr â'i wneud hyd yn hyn?
Llywydd, yr hyn sy'n fy nghadw i'n effro yn y nos yw effaith yr argyfwng newid yn yr hinsawdd ar y blaned hon, ac ar y rhai a fydd yn dod ar ein holau. Byddan nhw'n byw gyda chanlyniadau unrhyw fethiant ar ein rhan ni i gymryd y camau y gallwn ni eu cymryd yn ystod y cyfnod y mae'r cyfle hwnnw gennym ni, ac a fydd yn gwneud y gwahaniaethau hirdymor hynny a fydd yn caniatáu i'r blaned fregus hon barhau i gynnig cartref i genedlaethau'r dyfodol. A phob tro y bydd rhywun yn ceisio gosod rhwystrau ar lwybr y camau angenrheidiol, mae'n rhwystr ar lwybr uchelgais mawr y Llywodraeth hon. Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i fynd i'r afael â'r dirywiad i fioamrywiaeth, effaith newid yn yr hinsawdd yma yng Nghymru, ac weithiau bydd y rheini'n anodd ac weithiau byddan nhw'n amhoblogaidd, ond heb os nac oni bai, byddan nhw'n iawn.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes gan y Trefnydd. A dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad—Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd. Mae pedwar newid i fusnes yr wythnos hon. Cyn bo hir, byddaf yn gwneud cynnig i atal y Rheol Sefydlog berthnasol er mwyn caniatáu ar gyfer cynnal dadl ar Brexit fel yr eitem olaf o fusnes heddiw. O ganlyniad, mae'r datganiad llafar—y diweddaraf am Brexit —wedi'i dynnu'n ôl. Yn ogystal â hyn, bydd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yn gwneud datganiad ar y blaenoriaethau ar gyfer yr economi ymwelwyr 2020-25. Yn olaf, gohiriwyd y ddadl o dan Reol Sefydlog 25.15 ar Orchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2019. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf o gyfarfodydd wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfodydd sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.
Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd ar y mesurau gofal llygaid newydd? Mae Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion, RNIB Cymru, wedi mynegi ei bryder ynghylch canlyniadau'r tri mis cyntaf o ddata a gasglwyd ers cyflwyno mesurau gofal llygaid newydd. Yn y cyfnod hwnnw, nid oes yr un bwrdd iechyd wedi cyrraedd targed Llywodraeth Cymru. Yn ail, mae pob bwrdd iechyd wedi gweld cynnydd yn nifer y cleifion sy'n aros y tu hwnt i'w dyddiadau targed. Ac yn olaf, mae'r cleifion risg uchaf yn aros y tu hwnt i dargedau ac yn hwy na'r hyn sy'n ddiogel yn glinigol. Gweinidog, mae'r golwg yn synnwyr gwerthfawr. Mae'n anfaddeuol y dylai pobl fod mewn perygl o niwed na ellir ei wrthdroi oherwydd nad ydynt yn cael eu trin yn ddigon cyflym. A gawn ni ddatganiad ynghylch pa gamau sy'n cael eu cymryd i sicrhau bod pobl sydd wedi colli eu golwg yn gyflym yn cael y driniaeth sydd ei hangen arnynt o fewn yr amserlenni penodedig yng Nghymru?
Diolch yn fawr iawn ichi am godi mater y mesurau gofal llygaid newydd yn y Siambr y prynhawn yma. Pan gyflwynwyd y safonau gofal llygaid hynny, gwn iddynt gael croeso cynnes gan RNIB ac eraill a welai'r potensial y gallent ei gael o ran atal pobl rhag colli eu golwg yng Nghymru. Byddaf yn fwy na pharod i ofyn i'r Gweinidog ysgrifennu atoch gyda'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch sut y mae'r safonau a'r mesurau newydd hyn yn cael eu gweithredu o fewn y tri mis cyntaf, ond hefyd i amlinellu sut y mae'n rhagweld y bydd y gwelliannau'n cael eu dangos yn y cyfnod hirach sydd o'n blaenau.
Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddwyd datganiad gan y Gweinidog trafnidiaeth, ac yn y datganiad hwnnw dywedwyd wrthym y bydd y trenau Pacer bondigrybwyll gyda ni am lawer hwy nag a addawyd yn wreiddiol. Wedi eu hadeiladu o gorff bws ac wedi eu gosod ar olwynion trên gan greu profiad teithio anghyfforddus, dim ond dros dro y bwriadwyd y trenau hyn pan gawsant eu cyflwyno gyntaf yn yr 1980au. Daeth y datganiad sy'n cynnwys hyn yn fuan ar ôl cyhoeddi'r adroddiad blynyddol ar gyfer Trafnidiaeth Cymru, nad oedd yn cynnwys yr adduned o adroddiad blynyddol y flwyddyn flaenorol i gael gwared â'r Pacers cyn diwedd y flwyddyn. Mynegodd y datganiad hefyd y byddai trên sydd hyd yn oed yn hŷn, sef y trên dosbarth 37 Rheilffordd Prydeinig a adeiladwyd yn yr 1960au, yn aros ar y cledrau am gyfnod hwy hefyd. Nid oedd y model trên hwn yn cael sylw hyd yn oed yn adroddiad blynyddol cyntaf Trafnidiaeth Cymru, gan iddo gael ei ail gyflwyno ar ôl cyhoeddi'r adroddiad hwnnw oherwydd prinder cerbydau dwys.
Nid yw teithio ar yr hen drenau hyn yn brofiad teithio gwych. Rwy'n defnyddio'r trenau hyn drwy'r amser, a gallaf dystio i gwynion pobl eraill, sy'n cael eu gwneud yn rheolaidd gan lawer iawn o bobl am orlenwi, gwasanaethau coll a threnau wedi torri i lawr. Nawr, sylwaf fod eich cyd-aelodau yn y Blaid Lafur, maer Manceinion Fwyaf, Andy Burnham, maer rhanbarthol Dinas Sheffield, Dan Jarvis, ac arweinydd Cyngor Dinas Leeds, Judith Blake, i gyd wedi llofnodi llythyr yn galw ar weithredwr trenau'r Northern i ostwng prisiau tocynnau ar gyfer teithwyr sydd, fel ninnau yng Nghymru, yn gorfod teithio ar y trenau Pacer hyn. Rwy'n credu bod hwn yn syniad gwych. A fyddwch chi a'ch cyd-Aelod yn y Cabinet gyda'r brîff trafnidiaeth yn sefyll ochr yn ochr â'ch cyd-aelodau yn eich plaid i roi buddiannau teithwyr cyn elw? A gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog trafnidiaeth yn amlinellu faint o ostyngiad yn y prisiau y gall teithwyr ei ddisgwyl tra byddwn yn aros am y gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus sylfaenol yr ydym yn ei haeddu?
Llywydd, credaf fod y Prif Weinidog wedi ateb rhai o'r cwestiynau hyn yn ystod ei drafodaeth ag arweinydd Plaid Cymru y prynhawn yma. Ond, i ailadrodd, bydd y stoc y mae Leanne Wood yn cyfeirio ato yn cael ei ddileu'n raddol yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Maen nhw'n cael eu cadw ar y cledrau ar hyn o bryd er mwyn cynnal capasiti. Ac wrth gwrs, mae cerbydau ar draws y DU i gyd; nid yw hwn yn fater sydd wedi'i gyfyngu'n benodol i Gymru. A nododd y Prif Weinidog hefyd y cynigion ar gyfer y dyfodol o ran gostwng prisiau tocynnau ar draws Cymru hefyd.
Dau fater: yn gyntaf, mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi cyhoeddi adroddiad pwysig heddiw ar gyflwyno gofal sylfaenol gwell, sy'n tynnu sylw at y ffaith bod angen i newid ddigwydd yn gyflymach ac ar raddfa fwy er mwyn mynd i'r afael â'r holl heriau hir-sefydlog, a sicrhau bod gwasanaethau gofal sylfaenol yn addas at y diben. Yn sicr, mae canlyniadau anfwriadol i fuddsoddi mewn adeiladau newydd weithiau. Yn fy etholaeth i fy hun, dyfarnodd y Llywodraeth grant cyfalaf i bractis Dewi Sant ym Mhentwyn er mwyn ehangu Cangen Pontprennau i ddarparu ar gyfer y nifer cynyddol o ystadau newydd yng Ngogledd Caerdydd. Ond mae hyn wedi golygu bod meddygfa Pentwyn, lle mae'r boblogaeth fwyaf difreintiedig yn byw, yn cael ei hailddynodi fel meddygfa gangen. Felly, mae gofal sylfaenol wedi'i gryfhau'n arwynebol, ac mae hyn mewn gwirionedd wedi arwain at lai o wasanaeth i'r rhai nad oes ganddynt gerbyd a dim ond gwasanaeth bws anfynych sydd ganddynt. Felly, tybed a gawn ni ddadl yn amser y Llywodraeth i'n galluogi ni i archwilio'r heriau sy'n ein hwynebu ym maes gofal sylfaenol, a chlywed mwy am yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i gryfhau gofal sylfaenol, sydd mor hanfodol er mwyn gwireddu 'Cymru Iachach'.
Yn ail, roeddwn am godi mater y canlyniadau yn sgil tranc Tomlinsons Dairies yn Wrecsam. Rydym wedi cael ar ddeall yn y 36 awr ddiwethaf fod ffermwyr wedi cael eu hannog i drosglwyddo i Tomlinsons gan Sainsbury's ar y sail os nad oeddent yn trosglwyddo i Tomlinsons, y byddent yn colli eu cytundebau i gyflenwi llaeth i'r archfarchnad honno. Ond o ganlyniad i hynny nid ydynt wedi cael eu talu yn ystod y pythefnos diwethaf. Deallaf fod Marks and Spencer wedi talu cyflenwyr am laeth y maent wedi'i werthu, ond nid yw Sainsbury's wedi gwneud hynny eto. Tybed beth all y Llywodraeth ei wneud ynglŷn â hyn ac a ydynt wedi cynnal unrhyw drafodaethau gyda Sainsbury's ynghylch y mater hwn o gyfiawnder.
Diolch i Jenny Rathbone am godi'r materion hyn y prynhawn yma. Rydym yn croesawu'r adroddiad ar wasanaethau gofal sylfaenol, a gynhyrchwyd gan swyddfa Cymru, a bydd hynny'n sicr yn helpu i lywio'r gwaith ehangach sy'n cael ei wneud i wireddu'r weledigaeth a nodwyd gennym yn 'Cymru Iachach', lle mae gan bobl fynediad at ofal a chymorth sydd ei angen arnynt, ac yn parhau'n annibynnol gyhyd ag y bo modd. Mae cyfarwyddwr cenedlaethol gofal sylfaenol wedi sefydlu rhaglen strategol, gyda'r nod o gefnogi'r broses o roi'r model gofal sylfaenol ar waith yn lleol. A gwn fod y Gweinidog, Vaughan Gething, wedi gwneud datganiad heb fod yn rhy bell yn ôl ar wasanaethau gofal sylfaenol yma yng Nghymru. Ond rwy'n gwybod y bydd diddordeb ganddo i glywed yn benodol am brofiadau eich etholwyr ym meddygfa Pentwyn, felly byddai'n wych pe gallech ysgrifennu ato a nodi'r materion penodol hynny.
Ar fater Tomlinsons Dairies, rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda Tomlinsons Dairies dros y 18 mis diwethaf i geisio'u helpu i ddatrys y problemau busnes sy'n parhau i'w hwynebu. Rydym bellach wedi sefydlu tasglu i weithio'n uniongyrchol gyda'r staff a effeithir, ac rydym mewn trafodaethau gydag undebau'r ffermwyr a rhanddeiliaid eraill i ystyried pa gymorth sydd ei angen ar hyn o bryd. Rwy'n credu ei bod yn gadarnhaol iawn bod M&S wedi talu'r cyflenwyr, a byddwn yn gobeithio, yn sicr, y bydd Sainsbury's yn mynd ati mewn ffordd debyg.
A gaf i uniaethu â'r sylwadau, yn arbennig am Tomlinsons Dairies, lle cawsom y cwestiwn brys yr wythnos diwethaf? Ac rwy'n gwerthfawrogi bod y Llywodraeth wedi bod mewn cysylltiad ers cryn amser gyda'r llaethdy. Ond mae'n hanfodol ac yn ddyletswydd, byddwn yn awgrymu, ar Sainsbury's i gadw at eu haddewid. Cafodd cynhyrchwyr eu cyfeirio at y llaethdy hwn ganddynt. Nid wyf yn beio Llywodraeth Cymru am hyn. Ond, drwy gyfraniad cynhwysfawr Llywodraeth Cymru, roedd llawer o ffermwyr yn cymryd hynny fel golau gwyrdd, os mynnwch chi, i roi eu cyflenwadau gyda'r llaethdy penodol hwnnw. Ac oherwydd amgylchiadau economaidd, mae nifer ohonynt yn wynebu wythnosau llwm iawn erbyn hyn, gan geisio deall sut y maent yn mynd i lenwi'r llif arian hwnnw. Felly, os yw Llywodraeth Cymru yn teimlo y gall, mewn unrhyw ffordd, ddefnyddio'i chysylltiadau yn Sainsbury's, byddai hynny'n cael ei werthfawrogi'n fawr. Rwy'n gwerthfawrogi ei fod yn benderfyniad masnachol, ond byddai unrhyw weithgaredd a chamau y gallai Llywodraeth Cymru eu cyflwyno yn cael eu croesawu'n fawr—rwy'n eich sicrhau chi o hynny.
A gaf i hefyd ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog tai, os gwelwch yn dda, mewn cysylltiad â Chartrefi Celestia, sydd i fyny'r ffordd o'r adeilad hwn? Mae llawer o Aelodau wedi cael eu lobïo a'u hysbysu am y sefyllfa fregus iawn y mae'r holl drigolion yn eu cael eu hunain ynddi yn y bloc penodol hwnnw. Mae dros 400 o dai wedi cael gorchymyn atal tân a gyflwynwyd iddynt, ac yn benodol, mae llawer o'r gwaith yn edrych fel pe bai'n is na'r safon pan gafodd ei adeiladu yn 2006-07. Gwerthfawrogaf, unwaith eto, fod hyn ym maes gweithgarwch masnachol a'i fod yn anghydfod rhwng Redrow ac unigolion eraill sy'n ymwneud ag adeiladu'r bloc penodol hwnnw. Ond byddai'n werth chweil pe bai'r Gweinidog yn rhoi datganiad i'r Aelodau fel y gallwn ddeall a yw Llywodraeth Cymru yn gweld bod ganddi rôl o gwbl i fod yn frocer gonest yn yr anghydfod hwn. Ac yn bwysig, gorfodi rheoliadau adeiladu—. Cyfarfûm â thrigolion ddydd Gwener, ac mae'n amlwg bod rhai o'r lluniau a oedd ganddynt yn y cyfnod adeiladu, a'r diffyg goruchwylio o ran gweithredu gwaith plymio, nad oedd mesurau atal tân wedi'u gosod yn gywir—. Ac mae'n anghredadwy meddwl eu bod wedi cael eu cymeradwyo gan swyddogion rheoliadau adeiladu o'r awdurdod lleol. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn—[Torri ar draws.] Dwi'n gallu clywed digon o bobl yn chwerthin. Rwyf wedi adeiladu tri neu bedwar eiddo fy hun, felly rwy'n deall ychydig am reoliadau adeiladu, ac mae'r rheoliadau adeiladu yn caniatáu i berson diduedd ddod i mewn a llofnodi, ar bob cam, fod yr adeilad yn gweithio'n iawn, fel eu bod yn cyrraedd lefel foddhaol. Fel y dywedais, mae mwy na 400 o drigolion, dim ond tafliad carreg i ffwrdd o'r adeilad hwn, sydd ar ben eu tennyn. A byddwn yn ddiolchgar pe byddai modd i'r Gweinidog gyflwyno datganiad, i ddangos a all y Llywodraeth weithredu fel brocer gonest mewn unrhyw ffordd. Nid wyf yn beio'r Llywodraeth o gwbl, ond mae rôl i'r Llywodraeth gynorthwyo, byddwn yn awgrymu, ynghyd â'r awdurdod lleol —yn yr achos hwn, Cyngor Caerdydd.
A'r ail bwynt yr hoffwn ei wneud, os oes modd, os gwelwch yn dda, yw deall pam y rhoddwyd datganiad ddoe ar ffurf ysgrifenedig ar y benthyciad newydd i Faes Awyr Caerdydd. Dim ond tair wythnos yn ôl, codais y mater gyda chi am i'r Gweinidog gyflwyno datganiad ar ôl y dystiolaeth a roddwyd i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ynglŷn â chyfraniad parhaus Llywodraeth Cymru. Ac mae cael benthyciad arall wedi'i roi ar y bwrdd, heb archwiliad llafar gan Aelodau yn y Siambr hon, yn wirioneddol amharchus, byddwn i'n awgrymu. Mae hwn yn swm sylweddol o arian, sydd bellach yn fwy na £50 miliwn wedi ei fenthyg i'r maes awyr. A gall y Llywodraeth siarad hyd ddydd y Farn ynglŷn â bod hyn ar delerau masnachol, ac ardrethi; ni ŵyr neb ohonom beth yw'r telerau masnachol hynny oherwydd, bob tro y byddwn yn holi am y meysydd hyn, dywedir wrthym mai cyfrinachedd masnachol yw hyn ac nad oes modd rhyddhau'r wybodaeth honno. Wel, os ydych chi'n teimlo'n ddigon cryf am hyn a'ch bod yn teimlo'n barod i lynu wrtho, dylech allu cymryd cwestiynau yn y Siambr hon. Ac wrth edrych ar yr agenda heddiw, mae mwy na digon o amser ar gael i'r Llywodraeth gyflwyno datganiad. Felly, byddwn yn ddiolchgar o gael deall pam y cyflwynwyd datganiad ysgrifenedig ac nid datganiad llafar, pan gafodd y swm sylweddol hwn o arian ei roi i'r maes awyr.
Wel, sylwaf, wrth gwrs, eich bod wedi dechrau drwy gysylltu eich hun â'r sylwadau a wnaeth Jenny Rathbone ar Tomlinsons, ac mae'r Gweinidog amgylchedd a materion gwledig wedi cadarnhau bod ei swyddogion yn gwneud llawer iawn o waith i geisio cefnogi'r gweithlu yno, ac i sicrhau—. Rwy'n credu ei fod o gwmpas 40 o ffermwyr yn y gadwyn gyflenwi sydd ar gontractau wedi'u halinio ac sydd yn parhau i aros am daliad gan Sainsbury's. Ac rwy'n gwybod bod swyddogion yn ymwneud i raddau helaeth â chefnogi'r darn penodol hwnnw o waith.
Mae gennym ddatganiad y prynhawn yma ar ddiogelwch adeiladu gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, ac mae hynny'n benllanw ar rywfaint o'r gwaith a ddechreuodd yn sgil trychineb Grenfell. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n galed iawn gyda phartneriaid ar raglen o ddiogelwch adeiladu er mwyn sicrhau bod y cartrefi yr ydym yn eu hadeiladu o'r newydd, ond hefyd y cartrefi sydd gennym yma yng Nghymru, yn ddiogel. Wrth gwrs, bydd gan Aelodau enghreifftiau penodol o adeiladau y gallai fod ganddynt ddiddordeb ynddynt yn eu hetholaethau eu hunain, a byddwn yn eu hannog i ysgrifennu at y Gweinidog am yr achosion penodol hynny, yn ogystal â gwrando ar yr hyn sydd gan y Gweinidog i'w ddweud ar ddiogelwch adeiladu yn y cylch y prynhawn yma.
Ac, wrth gwrs, mae digon o gyfleoedd i graffu ar benderfyniadau Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â'r maes awyr. Cyfeiriasoch at yr ymchwiliad a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Gofynnodd eich arweinydd gwestiynau am y mater penodol hwn y prynhawn yma yn ystod cwestiynau arweinwyr. Felly, nid yw fel pe na bai'r Llywodraeth yn sicrhau ei bod ar gael ar gyfer craffu ar y mater hwn neu unrhyw fater arall.
Trefnydd, fel AC yr etholaeth, byddwch yn ymwybodol o'r penderfyniad diweddar gan Lywodraeth y DU i roi caniatâd datblygu ar gyfer 300 gorsaf bŵer llosgi nwy MW ar dir yn Abergelli, i'r gogledd o Abertawe. Nawr, yn amlwg, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud nifer o gyhoeddiadau polisi dros y misoedd diwethaf sy'n berthnasol i'r cais hwn, dim mwy felly na bod y Senedd gyntaf yn y byd i bleidleisio o blaid datgan argyfwng hinsawdd. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymrwymo'n benodol i weithredu traws-lywodraethol ar ddatgarboneiddio i gyrraedd sero net erbyn 2050. Nawr, mae penderfyniad Llywodraeth y DU i roi caniatâd datblygu ar gyfer yr orsaf bŵer nwy yn Abergelli, felly, yn mynd yn groes i bolisi Llywodraeth Cymru yn y maes hwn.
Rydym yn gwybod bod Llywodraeth y DU eisoes wedi gwneud nifer o benderfyniadau seilwaith mawr sydd wedi arwain at leoli llawer iawn o danwydd ffosil ychwanegol yng Nghymru, tra ar yr un pryd yn gwrthod prosiectau ynni adnewyddadwy fel y morlyn llanw Bae Abertawe. Er gwaethaf datblygu polisi sy'n benodol i Gymru yn y cyswllt hwn, mae'r diffyg presennol yn y setliad datganoli'n golygu y gall Llywodraeth y DU blesio ei hun a'n hanwybyddu ni, fel sy'n wir yma yn Abergelli. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru gyflwyno datganiad ar y mater bod Llywodraeth y DU yn anwybyddu amcanion Llywodraeth Cymru yn y ffordd hon a sut y mae'n bwriadu herio'r math hwn o ymddygiad wrth symud ymlaen?
Fel y dywed Dai Lloyd, rwy'n gyfarwydd â'r achos penodol sydd ar y gweill drwy fy swyddogaeth yn yr etholaeth, a deallaf fod y cyfleuster ynni a yrrir gan nwy yn gyfleuster a fydd yn ymdrin ag ymchwydd mewn ynni, yn hytrach na bod yn waith ynni llawn amser, fel petai. Byddaf yn sicr yn gofyn i'r Gweinidog sy'n gyfrifol am ynni roi rhywfaint o ystyriaeth i'r achos penodol hwn, ac archwilio pa drafodaethau sydd wedi'u cynnal gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod gennym fynediad at ynni dibynadwy ond hefyd gymaint o ynni adnewyddadwy â phosibl.
A gaf i alw am ddatganiad unigol ar blant sy'n cael eu haddysgu gartref? Os caiff plentyn ei arestio ni ellir ei orfodi i roi tystiolaeth. Felly, pan fo plentyn mewn perygl difrifol o gael ei niweidio, mae angen gorchymyn llys os yw'r rhiant yn gwrthod rhoi caniatâd i'r plentyn gael ei gyfweld. Fodd bynnag, codwyd pryder gyda mi y byddai canllawiau statudol drafft Llywodraeth Cymru ar gyfer awdurdodau lleol ar addysg yn y cartref yn golygu bod plant sy'n cael eu haddysgu gartref yn cael eu trin yn llai ffafriol na phlant sy'n troseddu neu blant sydd mewn perygl, dim ond ar sail yr addysg gartref honno, pe bai'r canllawiau'n cael eu gweithredu. Rwyf wedi cael caniatâd i weld cyngor gan CF ym Matrix Chambers, Gray's Inn, sy'n dweud bod y canllawiau drafft ar y strategaeth yn anghyfreithlon, ac rwy'n dosbarthu hwnnw i bob Aelod drwy'r system bost mewnol. Mae'r canllawiau'n egluro mai egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn sy'n llywio'r modd y diogelir hawliau'r plentyn, ond nid yw canllawiau Llywodraeth Cymru yn cynnwys nac yn cydnabod y rhwymedigaethau sy'n codi o dan erthygl 14, hawliau a dyletswyddau rhieni, neu erthygl 16, gwahardd ymyrraeth â phreifatrwydd a chartref. Dywed fod y canllawiau'n anghyfreithlon gan awgrymu y gall yr awdurdod lleol fynnu trafodaethau gyda rhieni a/neu blant ac yn anghyfreithlon wrth awgrymu bod gan awdurdod lleol unrhyw swyddogaeth o ran cwestiynu'r dewis sydd gan rieni i'w haddysgu gartref mewn amgylchiadau lle mae hynny wedi ei gytuno a'r addysg yn addas. Ac mae'n dod i'r casgliad, yn gyffredinol, os caiff y materion a nodir eu mabwysiadu yn y canllawiau terfynol ar ôl ymgynghori, y bydd y canllawiau terfynol hynny'n cam-ddatgan neu'n camddeall y gyfraith ac felly'n anghyfreithlon a/neu'n arwain at anghyfreithlondeb gan awdurdodau lleol fydd yn gweithredu yng ngoleuni hynny. Galwaf am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn unol â hynny i sicrhau nad yw materion yn mynd rhagddynt hyd nes y bydd y pryderon cyfreithiol difrifol hyn wedi cael sylw.
Wel, dechreuwyd ymgynghori ar y canllawiau statudol newydd ar addysg yn y cartref ddiwedd Gorffennaf gan ddod i ben ddoe. Ond rwy'n siŵr, os ysgrifennwch at y Gweinidog gyda'r pryderon penodol yr ydych wedi eu codi yn y Siambr y prynhawn yma y byddai'n falch o edrych arnynt fel rhan o'r broses o ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad.
Yn gyntaf oll, Trefnydd, gwerthfawrogaf fod gennym ddatganiad gan y Gweinidog tai y prynhawn yma, a gobeithiaf y bydd yn cael cyfle i fynd i'r afael â'r cwestiynau hynny a godwyd gan Andrew R.T. Davies ynghylch rheoliadau adeiladu—cyfrifoldeb yr adeiladwr yn bennaf wrth gwrs, ond hefyd mae cwestiwn i'r awdurdodau lleol fod yn agored i niwed ar eu harolygiaethau adeiladu. Mae yna broblem, wrth gwrs, fod achosion o dorri rheoliadau adeiladu yn peidio â bod yn weithredol ar ôl cyfnod penodol o amser, a byddwn yn ddiolchgar pe gallai o leiaf wneud rhai sylwadau rhagarweiniol ar hynny.
Yr ail—cododd Mark Reckless y pwynt hwn yn gynharach—clywsom yn ddiweddar, yr wythnos hon, gan gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol gyda'r adroddiad 'Addysg yn addas i'r Dyfodol', ac wrth gwrs, soniodd y Prif Weinidog am adroddiad y Senedd Ieuenctid ar sgiliau bywyd. O gofio bod gennym Fil drafft ar fin cael ei gyflwyno nawr ar y cwricwlwm a hefyd ganlyniadau PISA erbyn diwedd y flwyddyn, tybed a gaf i ofyn i'r Gweinidog Addysg, a eglurodd ei bod yn gweld y Senedd Ieuenctid a Chomisiwn Cenedlaethau'r Dyfodol yr wythnos hon, gyflwyno ymateb brys i'r ddau adroddiad hynny, a fydd yn ein helpu i graffu ar ei chynlluniau yn y flwyddyn newydd. Diolch.
Mae diogelwch adeiladau yn sicr yn faes cymhleth iawn. Rwy'n credu ein bod eisoes wedi clywed hynny'n glir yn y cyfraniadau gennych chi ac Andrew R.T. Davies. Mae llawer iawn o bartneriaid sydd â gwahanol gyfrifoldebau, a chredaf fod hynny'n un o'r pethau y mae'r Gweinidog wedi bod yn ceisio mynd i'r afael ag ef o ran cael golwg fwy cydlynol ar ddiogelwch adeiladau, ac wrth gwrs byddwn yn clywed mwy am hynny'r prynhawn yma. Ond, eto, os oes achosion penodol, efallai y byddai llythyr at y Gweinidog yn ddefnyddiol iawn o ran nodi pryderon penodol.
Ac mae'r Gweinidog Addysg, wrth gwrs, yma i glywed eich cais am ddatganiad neu ryw ymateb arall i'r adroddiadau a'r syniadau diweddar sydd wedi cael eu cyflwyno i ni.
Trefnydd, yn ddiweddar, cynhaliais noson gwis elusennol—yn gwisgo un o'm hetiau eraill—i godi arian ar gyfer ymchwil i ganser yr ofari yng Nghymru. Digwyddodd hyn ar ôl achos etholaeth, etholwr y bu farw ei wraig ar yr union ddiwrnod yr oedd i fod dechrau triniaeth ar gyfer canser. Roedd eisoes yng Nghyfnod 4, oherwydd sawl camddiagnosis yn gynharach yng nghyfnodau canser, dros fisoedd lawer. Cefais gyfarfod â'm hetholwr gyda'm cydweithiwr Angela Burns hefyd. Cafodd ddiagnosis anghywir ar adegau amrywiol gyda syndrom coluddyn llidus, cyflyrau eraill. Y pwynt a wnaeth fy etholwr oedd bod hwn yn ganser eithriadol o anodd ei ddiagnosio—un o'r rhai anoddaf, mi gredaf, gan ei fod yn ffugio cynifer o gyflyrau eraill gwahanol yn gynharach yn y cylch. Mae fy etholwr yn galw am fwy o ymchwil, mwy o fuddsoddi, i ffyrdd gwell o gael diagnosis o hyn. Felly tybed a oes modd cael datganiad gan Lywodraeth Cymru ar ymdrechion Llywodraeth Cymru, gyda'r GIG, i geisio gwella'r diagnosis o ganser yr ofari. A hefyd a allech ddweud wrthym pa gefnogaeth yr ydych yn ei rhoi i ddioddefwyr y cyflwr hwn a hefyd i'r teuluoedd, oherwydd mae'n glefyd creulon iawn sy'n cymryd pobl, a hynny'n aml yn ifanc a heb fawr o rybudd, yn sicr yn yr achos hwn. Yn bendant, aeth fy nghalon allan at yr etholwr hwn. Felly, tybed a oes modd cael yr wybodaeth ddiweddaraf gan y Llywodraeth am yr hyn y gellir ei wneud yn y maes hwn?
Diolch i chi, Nick Ramsay. Roedd y Gweinidog iechyd yma yn gwrando ar yr hyn oedd gennych i'w ddweud, a byddai'n fwy na pharod i ysgrifennu at bob Aelod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gamau gweithredu Llywodraeth Cymru yn y maes penodol hwn.
Mae gennyf gais am ddatganiad a dadl. Hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar adeiladau a restrir gan Cadw. Yn Nwyrain Abertawe, sydd ddim yn anarferol, mae gennym adeiladau rhestredig mewn gwahanol raddau o ddadfeilio, sydd mewn perchnogaeth breifat ond heb eu meddiannu, megis Tŷ Danbert, sy'n troi'n adfail, Eglwys Sant Ioan ar Stryd Woodfield, lle mae llystyfiant yn tyfu allan ohoni, a hen ysgol Manselton, sy'n wag ar hyn o bryd. Mae'r rhain yn peri pryder difrifol i'm hetholwyr ac i mi.
Hoffwn hefyd ofyn am ddadl yn amser y Llywodraeth, a noddir gan y Llywodraeth, ar bolisi economaidd rhanbarthol, gan nodi cefnogaeth i bedwar rhanbarth Cymru a sut y gellir rhannu cyfoeth yn fwy cyfartal yng Nghymru nag y mae ar hyn o bryd, a sut y gall prifysgolion, er enghraifft, weithredu fel sbardunau economaidd rhanbarthol. Oherwydd mae pryderon difrifol mewn rhai rhannau o Gymru—rwyf i'n siarad ar ran Abertawe a'r Gorllewin, ond rwy'n siŵr y byddai rhai pobl o'r Gogledd a'r Canolbarth yn dweud yr un peth— nad yw cyfoeth yn cael ei rannu'n gyfartal ledled Cymru.
Diolch yn fawr iawn, Mike Hedges. Yn sicr, rydych chi wedi mynegi rhai o'r pryderon a fynegwyd gan Weinidog yr economi hefyd, o ran sicrhau bod y cyfoeth a'r cyfleoedd yno i dyfu ledled Cymru a sicrhau bod pob rhan o Gymru'n gallu ffynnu. Rwy'n gwybod y bydd yn ystyried pryd fydd y cyfle gorau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i gydweithwyr am ei ddull if o weithredu polisi economaidd rhanbarthol.
Diolch i'r Trefnydd.
Nesaf yw'r cynnig i atal Rheolau Sefydlog 12.20(i), 12.22(i) ac 11.16 dros dro er mwyn caniatáu i ddadl ar Brexit sydd wedi'i gosod gael ei hystyried fel yr eitem olaf o fusnes yn y Cyfarfod Llawn heddiw. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y cynnig.
Cynnig NNDM7169 Rebecca Evans
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i), 12.22(i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM7170 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn heddiw, 22 Hydref 2019.
Cynigiwyd y cynnig.
Yn ffurfiol.
Y cynnig yw, felly, i atal y Rheolau Sefydlog dros dro. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Felly, mae'r datganiad gan y Prif Weinidog ar ddiweddariad ar Brexit wedi ei dynnu yn ôl.
Felly, rydym ni'n cyrraedd eitem 4, sef y datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 'Pwysau Iach: Cymru Iach'. Dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad—Vaughan Gething.
Diolch, Llywydd. Yr wythnos diwethaf, pleser oedd cael lansio 'Pwysau Iach: Cymru Iach', sef ein strategaeth 10 mlynedd i helpu i atal a lleihau gordewdra. Mae'r strategaeth hon yn nodi llwybr clir ar gyfer dull hirdymor sy'n gwneud defnydd o'r pum ffordd o weithio a nodir yn Neddf cenedlaethau'r dyfodol fel elfennau allweddol i wireddu dull a fydd yn cael effeithiau pellgyrhaeddol ar iechyd y boblogaeth i'r dyfodol.
Mae gordewdra yn fater cymhleth, gyda llawer o ffactorau'n cyfrannu ar lefel ar unigolion, cymunedau ac yn fyd-eang. Rydym mewn cyfnod o amser yn y DU sy'n gweld y cyfraddau uchaf o ordewdra yng ngorllewin Ewrop. Rydym yn cychwyn o sefyllfa lle mae dros 60 y cant o'n poblogaeth oedolion naill ai dros bwysau neu'n ordew, ac mae hynny wedi mynd yn beth normal, gyda thua 27 y cant o'n plant pedair a phump oed yn dechrau'r ysgol bob blwyddyn eisoes yn rhy drwm neu'n ordew.
Caiff baich gordewdra ei deimlo fwyaf yn ein cymunedau lleiaf ariannog ni, a cheir effeithiau sylweddol ar ddisgwyliad oes gan ein bod ni'n gweld tueddiadau pryderus o ran y cysylltiadau â diabetes math 2, canserau, cyflyrau'r galon a llawer o gyflyrau eraill sy'n gysylltiedig â deiet a ffordd o fyw anactif. Rydym ni'n gwybod y gall gordewdra gael effaith sylweddol hefyd ar iechyd meddwl. Mewn llawer o achosion mae hynny'n cael ei gofnodi o oedran ifanc hyd at ganlyniadau gydol oes.
Mae'r strategaeth derfynol yn benllanw ar farn ein rhanddeiliaid, tystiolaeth ryngwladol ac ymchwil. Pan sefais i o'ch blaen chi i lansio'r ymgynghoriad, roeddwn i'n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth drawsbleidiol a'r ddealltwriaeth o arwyddocâd hyn fel mater o bwys. Ers hynny, cynhaliwyd ymgynghoriad pellgyrhaeddol, a oedd yn cynnwys sgyrsiau gyda dros 1,000 o bobl ledled Cymru. Ceir cefnogaeth gref i'r cynigion a nodwyd yn y strategaeth, ynghyd ag egni a chefnogaeth yn ein cymunedau i gefnogi newid cadarnhaol o ran ffordd o fyw. Rwy'n awyddus i sicrhau y bydd ein strategaeth ni'n datgloi'r potensial hwnnw.
Mae ein strategaeth yn nodi gweledigaeth 10 mlynedd i'n helpu ni i gyd i wneud y dewis iach yn ddewis hawdd. Ein nod ni yw cyflawni'r newidiadau hyn erbyn 2030. Rydym eisiau gweld cenedlaethau'r dyfodol yn byw mewn amgylcheddau lle mae'r dewis iach yn ddewis arferol, lle mae gweithgarwch corfforol yn rhan o fywyd bob dydd ac yn cael ei annog a'i gefnogi drwy weithio mewn partneriaeth â llywodraeth leol, addysg a thrafnidiaeth, lle mae elwa o harddwch naturiol Cymru a lle mae ein dewisiadau ni o fwydydd yn faethlon ac yn fforddiadwy. Rwy'n awyddus i gau bwlch anghydraddoldebau iechyd ac, yn benodol, rwy'n awyddus i ganolbwyntio a thargedu cymorth i blant a theuluoedd.
Daeth Suzy Davies i’r Gadair.
Gan gymryd agwedd 'Cymru Iachach', dyma'r tro cyntaf i Lywodraeth Cymru fabwysiadu dull cydgysylltiedig o fynd i'r afael â gordewdra. Mae'r ystod o gamau traws-lywodraethol yn dangos sut y gall rhaglenni a'r dulliau gweithredu presennol weithio ar y cyd i hyrwyddo a hwyluso newid cadarnhaol. Mae hyn yn cynnwys sut y gellir cyflwyno ymyriadau mewn meysydd fel trafnidiaeth, cynllunio, y blynyddoedd cynnar, addysg, cymunedau a gwasanaethau iechyd at ei gilydd i alluogi pobl i newid eu harferion yn fwy byth.
Pedair thema'r strategaeth yw: amgylcheddau iach, lleoliadau iach, pobl iach, ac arweinyddiaeth a galluogi newid. Mae'r rhain yn dangos y dull system-gyfan y bydd ei angen i fynd i'r afael â gordewdra, gan gydnabod bod yr amgylchedd yn dylanwadu ar ein dewisiadau bob dydd. Dros y cenedlaethau, rydym wedi datblygu'r amgylchedd i fod yn un sy'n canolbwyntio ar gyfleustra yn hytrach nag ar iechyd. Byddwn yn datblygu ac yn cynyddu dulliau o wrthdroi'r anghydbwysedd presennol a roddir ar ddewisiadau o fwyd gwael, ac yn sicrhau y gall ein hamgylchedd gweithredol ni helpu i wneud dewisiadau da o ran gweithgarwch corfforol.
Bydd y ffocws hwn ar yr amgylchedd yn cael ei gyplysu â dulliau o weithredu sy'n ymwneud ag ymddygiad. Bydd hyn yn datblygu ystod o gamau i alluogi cymorth ataliol ac ymyrraeth gynnar i bobl, a fydd yn canolbwyntio ar ddarparu'r wybodaeth, y cyngor neu'r ddarpariaeth gywir ar yr amser priodol. Fe fyddwn ni hefyd yn datblygu llwybr gordewdra clinigol teg a hygyrch ledled Cymru, a fydd yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau arbenigol i'r rheini sydd angen y cymorth mwyaf arbenigol
Ond ni all y Llywodraeth na'r GIG ddatrys gordewdra ar eu pennau eu hunain. Fe ddylai ein dull ni o weithredu ar sail systemau helpu i ddatblygu arweinyddiaeth ar bob lefel. Mae hyn yn seiliedig ar gydgyfrifoldeb, gan ddefnyddio cryfderau ac asedau cymuned benodol. Caiff hyn ei ategu drwy ddatblygu data deinamig, gwerthuso a chyfathrebu cadarn.
Nawr, rwyf wedi datgan o'r blaen na fyddwn ni'n pennu nodau arwynebol a bod y strategaeth yn canolbwyntio ar gyflawni canlyniadau. I ategu'r strategaeth, byddwn yn cyhoeddi fframwaith canlyniadau yn y flwyddyn newydd, a fydd yn ein helpu ni i fonitro a chofnodi newid. Rydym wedi dechrau archwilio ffynonellau newydd o ddata i ddatblygu'r gwaith hwn. Fe fydd hyn yn rhoi amrywiaeth o ddangosyddion inni sy'n gysylltiedig â newid ymddygiad.
I gyd-fynd â'r strategaeth, fe fydd yna gyfres o gynlluniau cyflawni bob dwy flynedd, a fydd yn cwmpasu cyfnod y strategaeth. Fe fydd y cynllun cyflawni cyntaf rhwng 2020 a 2022, ac fe fydd hwn yn rhoi manylion y meysydd blaenoriaeth cychwynnol y byddwn ni'n eu datblygu. Fe fyddaf i'n cadeirio bwrdd gweithredu newydd yn ddiweddarach eleni i gytuno ar y blaenoriaethau hyn ac i sefydlu sut i ddefnyddio a manteisio i'r eithaf ar yr adnoddau, y polisïau a'r rhaglenni presennol i sicrhau dull integredig o weithredu. Dros y ddwy flynedd nesaf, fe fyddwn ni'n dechrau datblygu polisi a deddfwriaeth, ac fe fyddaf i'n sicrhau bod cyllid ar gael i helpu i gyflawni ein nodau ni. Bydd hyn yn ein galluogi ni, ynghyd â phartneriaid, i ganolbwyntio mwy ar atal ac ymyrryd yn gynnar drwy bob system fel rhan o'n dull ni o adeiladu Cymru sy'n iachach. Fe fydd y strategaeth yn helpu i sicrhau y gallwn ysgogi a gwneud yn fawr o gyllid ychwanegol a chyfleoedd i hybu newidiadau ymysg partneriaid, i weld newid yn y ffordd yr ydym ni'n defnyddio'r gwariant i ganolbwyntio mwy ar atal.
Wrth gwrs, fe fydd yn rhaid inni ystyried effaith Brexit. Er fy mod i'n bwriadu cyhoeddi dulliau ariannu i ddylanwadu ar effeithiau cadarnhaol ar iechyd ar draws ein poblogaeth ni, nid oes modd osgoi'r ansicrwydd ynghylch cyllid yn yr hinsawdd sydd ohoni. Os byddwn ni'n ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, yn enwedig yn achos Brexit 'dim cytundeb', yna fe fydd gennym lawer o ddewisiadau anodd ac annymunol i'w gwneud. Nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu y bydd prinder bwyd yn gyffredinol. Serch hynny, mae Brexit 'dim cytundeb' yn debygol o arwain at leihad yn y dewis o fwyd a'r bwyd fydd ar gael, yn enwedig y ffrwythau a'r llysiau ffres yr ydym yn eu mewnforio'n rheolaidd o'r Undeb Ewropeaidd. O ganlyniad, mae'n debygol y bydd costau'r bwydydd hyn yn codi, ac fe fydd hynny'n effeithio'n anghymesur ar deuluoedd incwm isel. Fe fydd angen inni ystyried ac adlewyrchu'r effaith y byddai Brexit yn ei chael ar gyflawni'r strategaeth hon.
Rwy'n parhau i groesawu cefnogaeth a herio trawsbleidiol i sicrhau y gallwn ni gyflawni'r uchelgeisiau a'r nodau blaengar a rannwn. Rwy'n croesawu cefnogaeth ac ymgysylltiad parhaus â phleidiau eraill ac â'r cyhoedd i sicrhau y gallwn gyflwyno dull o weithredu a fydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i iechyd ein poblogaeth ni.
Diolch, Weinidog. Angela Burns.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd dros dro. Diolch yn fawr iawn am y datganiad heddiw, Gweinidog. Mae llawer ynddo i gytuno arno, er ei bod yn rhaid i mi ddweud fy mod i o'r farn fod eich paragraff olaf ynglŷn â Brexit yn gwbl chwerthinllyd yn y cyd-destun penodol hwn. Bydd, fe fydd yna heriau inni waeth beth fydd yn digwydd, wrth aros neu wrth ymadael, ond mae'r sefyllfa sydd gennym ni heddiw yn sefyllfa gyfredol sydd wedi bod yn esblygu dros y degawdau diwethaf, degawdau pan oedd eich Llywodraeth chi'n gyfrifol am geisio helpu i ddatrys y mater hwn. Mae gorffen eich datganiad drwy ddweud 'Gwae ni; Brexit sydd ar fai am bopeth', yn gwbl hurt, yn fy marn i.
Rydych chi'n gwneud rhai pwyntiau da iawn yn hyn o beth, ond fe hoffwn i wneud un neu ddau fy hun. Y cyntaf yw nad ydych chi mewn gwirionedd, ar unrhyw adeg yn y ddogfen hon, yn mynd ar drywydd y ffaith fod gan bobl gyfrifoldeb personol. Ac os caf i ddweud hyn fel un sydd wedi cael mwy na'i siâr o salwch dros y blynyddoedd diwethaf, ac nid wyf innau'n fain o gorff, ysywaeth, ond rwy'n gwbl ymwybodol fod yn rhaid imi gymryd y cyfrifoldeb am hynny fy hunan er mwyn bod yn wirioneddol iach. Mae pawb yn gwybod hynny. Nid ydym yn ysmygu, mae angen gwneud mwy o ymarfer corff, ac mae angen rheoli'r hyn yr ydym yn ei fwyta. Ac yn eich datganiad, ychydig iawn o gyfeirio a geir at hynny; mae'n ymwneud â'r hyn y gallwch chi ei wneud, y gall cymunedau ei wneud, ac y call meddygon teulu ei wneud. Ond yn fy marn i, yn rhywle fan hyn mae angen ychydig o alw ar y cyhoedd i weithredu, ein bod ninnau hefyd yn ceisio gwneud ein rhan i reoli ein pwysau a deall pa effaith y mae peidio â rheoli'r hyn yr ydym ni'n ei fwyta yn ei chael ar ganlyniadau iechyd hirdymor. Agenda gonestrwydd yw hon, ac mae arnom ofn mawr iawn weithiau, yn fy marn i, i siarad gyda phobl yn ddi-flewyn ar dafod.
Rydych chi'n sôn llawer am atal, ac rwy'n credu bod llawer iawn o waith da iawn yn digwydd o ran atal, ac yn enwedig mewn ysgolion drwy'r mentrau bwyta'n iach. Ond wrth gwrs, nid yw bod o bwysau iach yn ymwneud yn unig â'r hyn y byddwch chi'n ei roi yn eich ceg; mae'n ymwneud â'r ymarfer corff a wnewch chi a'ch agwedd chi tuag at y ffordd yr ydych chi'n mynd o gwmpas byw eich bywyd. Tybed a wnewch chi egluro inni pa drafodaethau yr ydych chi wedi eu cael gyda'r Gweinidog Addysg ynghylch cynyddu'r amser a gaiff plant yn ystod eu diwrnod ysgol i gymryd rhan mewn chwaraeon, oherwydd dros y degawd diwethaf, mae'r amser y mae plant yn ei gael ar yr iard yn chwarae—ac rwyf i wedi gwneud y ceisiadau rhyddid gwybodaeth, rwyf i wedi cael yr holl atebion yn ôl—wedi bod yn gostwng yn araf. Efallai fod newid sylweddol wedi bod yn y flwyddyn ddiwethaf, oherwydd nid wyf wedi edrych ar wybodaeth y flwyddyn ddiwethaf, ond mae angen mwy o amser na dim ond pum munud y dydd neu bum munud yr wythnos yn ychwanegol. Felly, pa drafodaethau a gawsoch chi, yn enwedig o ran yr oedran cynradd, ynghylch sicrhau bod plant yn cael y cyfle i ennyn yr awydd hwnnw i fynd allan a bod yn fwy heini a mwynhau'r cyfan? Nid ydyn nhw'n ystyried hynny fel ymarfer corff, ond chwarae y maen nhw, cael sbort y maen nhw. Mae addysg yn gwbl allweddol.
Rwy'n credu bod y sylwadau ar amgylchedd bwyd yn bwysig dros ben. Rwy'n credu bod yna ddadl wirioneddol dros ehangu'r parth gwahardd hysbysebion o amgylch ysgolion a chydweithio yn agos â Chwaraeon Cymru.
Yr enw sydd ar eich datganiad yn ei gyfanrwydd yw 'Pwysau Iach: Cymru Iach'. Rwy'n deall mai arwain ar agenda gordewdra y mae hyn, ond ni allaf i sefyll yn y fan hon heb grybwyll y ffaith, yn enwedig i bobl ifanc yn eu harddegau, fod bod dan bwysau yn broblem enfawr hefyd. Felly, fe hoffwn i ofyn ichi pa gamau yr ydych chi'n eu cymryd yn y Llywodraeth i sicrhau, wrth hyrwyddo'r agenda hon, mai'r hyn yr ydym ni'n ei ddweud mewn gwirionedd yw, 'Gadewch inni gael y pwysau'n iawn.' Oherwydd mae gennym ni, yn enwedig ein merched ifanc, lawer iawn ohonyn nhw nad ydyn nhw'n bwyta'n iawn gan eu bod yn arswydo rhag bod yn rhy dew neu'n teimlo y dylen nhw fod yn dilyn rhyw batrwm sydd wedi cael ei wthio gan rywun enwog. Ac ar Instagram, ni allaf i gytuno mwy â chi, Gweinidog Addysg; rwyf i o'r farn mai Instagram yw un o ddrygau mawr y byd.
O ran yr amgylchedd egnïol, rwy'n falch tu hwnt o weld bod y Gweinidog tai yma hefyd oherwydd, mewn gwirionedd, unwaith eto, yn y cynllunio, hoffwn i ofyn ichi restru pa drafodaethau yr ydych chi wedi eu cael ynglŷn â'r ffordd y gallwn ni ddefnyddio'r system gynllunio i gynyddu ein gweithgareddau hamdden a chwaraeon a'n gallu i chwarae yn y datblygiadau tai newydd. Oherwydd, unwaith eto, rydym wedi bod drwy hyn yn y gorffennol lle mae datblygwyr wedi dweud, 'O, wel, mae gennym ni hyn a hyn o fetrau o ofod gwyrdd', ond mewn gwirionedd y cyfan sydd yno yw'r clytiau o laswellt wrth ymyl palmentydd. Nid yw'n gyfleuster chwaraeon lle gall plant chwarae. A'r peth arall o ran y datblygwyr, maen nhw'n gwrthod cydnabod y ffaith bod rhieni mewn gwirionedd yn hoffi cael lle chwarae sydd o fewn eu golwg, fel eu bod nhw'n gwybod bod eu plant yn ddiogel. Felly, maen nhw'n rhoi'r cae chwarae ym mhen arall y pentref, ymhell oddi wrth y tai. Rydym ni eisiau eu gweld nhw yng nghanol y tai. Mae'n beth hen ffasiwn iawn, ond gallwch edrych allan trwy'r ffenestr, a gallwch weld eich plentyn y tu allan yn cael hwyl ac yn cael cyfle i chwarae. Mae'r pethau bychain hyn yn helpu i gyfrannu at fywyd iachach.
Ond fe hoffwn i sôn yn gyflym iawn am rai rhaglenni da iawn sydd wedi bod ar waith. Mae yna un rhaglen ragorol—ac rwy'n mynd i ddweud hyn yn anghywir; nac ydw, mae'n iawn, rwyf wedi ei ysgrifennu tua thair gwaith—Dyn yn Erbyn Braster. Rhaglen ar gyfer dynion sy'n ganol oed, ychydig yn rhy drwm, ac maen nhw'n mynd allan ac maen nhw'n chwarae pêl-droed. Mae yna raglen fawr, mae'n digwydd yn y Cynulliad Cenedlaethol, ac mae pobl ddi-ri yn colli pwysau. Dyna'r math o beth y mae eisiau inni fod yn annog pobl i'w wneud. I fenywod canol oed fel fi, nid wyf i'n awyddus i fynd i gampfa a chystadlu â geneth ifanc fain yn ei Lycra. Dim diolch. Byddai'n well gen i weld rhaglenni'n cael eu cyflwyno i ddenu oedolion allan yno—a byddan nhw'n magu ffitrwydd, bydd y plant yn magu ffitrwydd, mae'n ymwneud â thargedu.
Mae yna raglen benigamp ar waith yn Llundain. Fe'i gelwir yn 'Mind, Exercise, Nutrition...Do it!', MEND. Rhaglen yw hon sydd wedi ei hanelu'n benodol at blant 7 i 13 oed sy'n ordew iawn, ac unwaith eto, mae hon wedi bod yn llwyddianus iawn. Gweinidog, a wnewch chi ddweud wrthym ni beth ydych chi wedi ei wneud i edrych ar fentrau eraill sydd wedi cael eu profi eisoes? Fe welais i yn eich rhaglen, a ddarllenais heddiw, eich bod chi, unwaith eto, yn sôn am ddod o hyd i'r arfer gorau a gwneud i hynny ddigwydd drwy Gymru gyfan. Pe gallech chi roi ychydig o'r wybodaeth honno inni, byddai'n ddefnyddiol iawn.
A chyn imi gael fy nghicio oddi ar y llawr, a gaf i ychwanegu ychydig am y cyllid? Mae hyn yn mynd â ni yn ôl i'r pwynt a wnes i am Brexit. Yn wir, mae hwn yn fater difrifol ynglŷn â gwneud pob un ohonom ni'n fwy main, yn fwy heini ac yn fwy iach. Byddai'r arbediad i'r GIG yn yr hirdymor yn aruthrol ac, yn bwysicach, yr arbediad i'r unigolyn. Ac mae hyn o fewn eich gallu chi; rydych chi'n cael dros £16 biliwn y flwyddyn fel Llywodraeth. Nid ydym yn sôn am arian mawr, ond fe allech chi wario ychydig o hynny ar helpu awdurdodau lleol i gadw eu cyfleusterau ymarfer corff ar agor, eu pyllau nofio ar agor, i gynnal eu lawntiau bowlio, a chadw eu holl fannau gwyrdd a chaniatáu iddyn nhw gael cyfarpar chwarae y gellir ei gynnal a'i gadw fel y bydd gan bobl amgylchedd ardderchog i fynd allan iddo a cheisio cadw'n heini.
Diolch am yr amrywiaeth o sylwadau a chwestiynau. Fe fyddaf i'n ymdrin, i ddechrau, â'ch pwynt chi ynglŷn â Brexit. Ni ddywedais i erioed, naill ai wrth lansio'r ymgynghoriad nac yn y datganiad a wneuthum heddiw, mai o ganlyniad i Brexit yn unig y daw'r her sy'n ein hwynebu o ran gwrthsefyll a lleihau gordewdra yn y gymdeithas—ddim o gwbl. Mae'r pwynt a wnaf i'n un na ellir ei osgoi, sef bod maint ein her ni'n cynyddu yn sgil yr hyn y byddai Brexit yn ei wneud. A pheidiwch â chymryd fy ngair i am hynny; mae llawer o gynrychiolwyr o'ch plaid chi eich hun yn cydnabod effaith economaidd ymadael gyda'r fargen arfaethedig ar hyn o bryd. Fe fyddai hynny'n cael effaith. Gwyddom fod hynny'n wir. Os oes bydd llai o ffrwythau a llysiau ffres ar gael a'r rheini'n costio mwy, gwyddom y bydd hynny'n cael effaith hefyd. A rhan o fod yn onest yw hynny. Dyma rywfaint o'r gonestrwydd sydd ei angen, ond yn sicr nid wyf i'n gwadu, hyd yn oed pe na fyddai Brexit yn digwydd, y byddai angen inni edrych eto ar yr hyn a wnawn yn y maes hwn, Nid yw ein ffigurau poblogaeth a gwir effaith y mater hwn yn rhywbeth y gallem ni neu y dylem ni eu hosgoi. A dyna pam mae'r strategaeth hon gennym ni.
Rydym yn dechrau drwy edrych ar y ffordd yr ydym yn rhoi'r grym a'r gallu i bobl, gyda'r asedau sy'n bodoli ymhlith y bobl a'u cymunedau. Oherwydd, ar ddechrau'r ymgynghoriad hwn, fe geisiais i dynnu sylw at y ffaith fy mod i'n cydnabod y gall hon fod yn ddadl sy'n anodd ei chael weithiau. Os ydych yn dweud y drefn wrth bobl ac yn dweud, 'Mae'n rhaid ichi wneud yn well na hyn', nid yw'n hynny'n gweithio pob amser, yn aml mae'n codi gwrychyn pobl. Felly, mae rhywbeth ynglŷn â sut yr ydych chi'n rhoi grym ac anogaeth i bobl, oherwydd mae'r rhan fwyaf o bobl yn awyddus i weld newid, a'r her yw sut y gallwn ni eu cefnogi nhw i sefyllfa lle gallan nhw wneud y newid hwnnw'n un effeithiol. Ac mae hynny'n ymwneud yn rhannol â'r neges bod rhywfaint o gyfrifoldeb ar yr unigolyn. Ond mae'r modd y caiff hynny ei gyflwyno i'r unigolyn hwnnw'n bwysig iawn ac nid yw'n fater syml, oherwydd yn hawdd iawn gall honno droi'n ddadl filain ac annifyr iawn. Ac, yn y dyddiau sydd ohoni, rydym ni'n byw ar adeg pan mae'r sefyllfa'n aml yn un ddiofyn, ac weithiau mae'n anodd iawn cael gwrandawiad i'ch rhesymau. Ac mae'r strategaeth hon yn ceisio cymryd yr agwedd honno gan ddweud, 'Dyma'r hyn y gallwn ni ei wneud, ond mae'n rhaid inni weithio gyda phobl'. Oherwydd mae bob amser yn wir mai chi eich hun fel unigolyn all ddylanwadu fwyaf ar eich gofal iechyd a'ch canlyniadau iechyd. Ac mae hynny'n fy nghynnwys innau pan fyddaf i'n ystyried fy iechyd i.
Ynglŷn â'r pwynt a wnaethoch chi am weithgarwch corfforol, roeddech chi'n sôn am chwaraeon mewn ysgolion, ac ydym, rydym ni'n trafod hyn ac mae swyddogion ar draws y Llywodraeth wedi siarad am hyn. Ond cofiaf fod rhywun a oedd yn edrych yn debyg iawn i chi, wedi dweud, pan lansiwyd yr ymgynghoriad yn y Siambr hon, nad oedd yn dymuno siarad am chwaraeon yn unig, oherwydd nid yw pawb yn mwynhau chwaraeon. Ond mae gweithgarwch corfforol a chael cyfleoedd i wneud yr ystod o weithgarwch y mae pobl yn ymgymryd ag ef, nid yn unig mewn ysgolion, ond mewn cymunedau hefyd, yn rhywbeth sy'n cyffroi pobl ac mae hynny'n sicr yn rhan o'r hyn yr ydym ni'n edrych arno. Felly, nid yw hyn yn ymwneud â'r filltir ddyddiol mewn ysgolion yn unig, ond yn y strategaeth rydym yn sôn yn eglur iawn am gael mwy o weithgarwch corfforol mewn lleoliadau ysgolion fel rhan o'r hyn yr ydym ni'n awyddus i'w gyflawni.
O ran eich pwynt chi ynglŷn â'r hyn yw pwysau iach, a'r her i bobl sydd heb dan bwysau ac sydd ag anhwylderau bwyta, dyma un o rannau anodd yr ymgynghoriad oherwydd nid oedd pawb yn hoffi'r teitl 'Pwysau Iach: Cymru Iach', fel pe bai'n osgoi'n fwriadol y problemau sydd gan bobl ag anhwylderau bwyta, neu bobl dan bwysau. Nid oes byth deitl perffaith ar gyfer unrhyw beth yr ydym ni'n dewis ei wneud, ond rydym yn cymryd hynny o ddifrif, ac felly mae ffrwd wahanol o waith yn mynd rhagddo, ond dyna yw'r pwynt am yr hyn sydd yn 'iach'. Nid yw'n ymwneud yn unig â'ch pwysau chi o reidrwydd, mae'n ymwneud â 'Phwysau Iach: Cymru Iach', y ffordd yr ydych chi'n byw eich bywyd, y dewisiadau a wnewch chi, a deall yr hyn a wnewch chi i'ch corff chi eich hun gyda'r dewisiadau a wnewch ynglŷn â bwyta, yfed ac ymarfer corff yn benodol. Fe fyddwch chi'n sicr yn gweld y themâu hynny, wrth gwrs, yn y meysydd dysgu yn y cwricwlwm i ysgolion, ac fe fyddwch chi'n gweld cysondeb rhwng hynny a'r dull yr ydym ni'n ei ddilyn yn y strategaeth.
Wrth ystyried cynllunio amgylcheddau sy'n fwy iach gartref ac yn y gwaith fel ei gilydd, unwaith eto rwy'n derbyn y pwynt a wnewch chi, ac unwaith eto rwy'n ceisio egluro ein bod ni'n awyddus i ystyried hynny. Fe fydd yna bethau y byddwn ni'n dymuno ceisio eu profi nhw a'u cyflawni gyda deddfwriaeth yn y dyfodol. Er enghraifft, rwy'n awyddus iawn i brofi terfynau'r hyn y gallwn ni ei wneud o ran iechyd cyhoeddus a chynllunio, y safleoedd y caniateir allfeydd bwyd cyflym neu beidio, y niferoedd, a pha mor agos ydyn nhw at ganolfannau hamdden ac ysgolion. Dyna'r pethau yr ydym ni'n awyddus i'w profi a gweld i ba raddau y gallwn ni fynd gyda hynny, oherwydd gwyddom fel arall y bydd mwy o'r rhain mewn mannau lle rydym ni'n cydnabod y byddan nhw'n cael effaith andwyol ar iechyd y boblogaeth.
O ran yr hyn sy'n briodol o ran gweithgarwch corfforol, do, fe wnaethom ni edrych ar yr hyn sy'n bodoli yn y DU eisoes ac mewn rhannau eraill o Ewrop a'r Unol Daleithiau yn benodol, oherwydd rwy'n cydnabod nad oes un maint i ffitio pawb—nid chwarae ar eiriau yw hynny. I wahanol bobl, bydd gwahanol gyfleoedd yn gwneud gwahaniaeth iddyn nhw, cyfleoedd sy'n hygyrch ac yn bethau y byddan nhw'n eiddgar i'w gwneud. Efallai fod rhai pobl yn mwynhau mynd allan ac ymuno â chlwb pêl-droed, ac mae yna lawer o bobl, dynion a menywod, sy'n mwynhau gwneud pethau fel hynny. I eraill, dyna fyddai'r peth olaf y bydden nhw'n ei ddymuno. Felly, mae'n ymwneud â'r amrywiaeth o weithgarwch y gallwn ei ddarparu a deall y sylfaen dystiolaeth ar gyfer yr hyn fyddai'r ymyriad mwyaf effeithiol i helpu i gefnogi pobl. Fel y dywedais, mae'r rhan fwyaf o bobl yn dymuno gwneud y gwahaniaeth hwn, ac mae hyn yn ymwneud â'r ffordd y byddwn ni'n eu helpu nhw i wneud hynny.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad ar 'Pwysau Iach: Cymru Iach'? Mae'n amlwg ei fod yn gynhwysfawr iawn. Rwy'n awyddus i fynd i'r afael â'r hyn y gallwn ni ei wneud fel mater o frys gan fod hwn yn argyfwng. Rydym wedi bod yn siarad am epidemig gordewdra ers peth amser erbyn hyn ac mewn gwirionedd mae angen inni weld newid sylweddol, oherwydd fel y dywedwch chi yma, mae dros 60 y cant o'n poblogaeth ni o oedolion dros bwysau neu'n ordew, ac mae hynny wedi ei normaleiddio. Ydy, wir; felly y mae. Ac mae oddeutu 20 y cant o'n plant ni'n dechrau yn yr ysgol bob blwyddyn eisoes yn ordew neu dros bwysau.
Nawr, yn amlwg, ceir cydbwysedd rhwng yr hyn y gall y Llywodraeth ei wneud a'r hyn y gall yr unigolyn ei wneud. Fe all y Llywodraeth, fel yr ydych chi wedi cyfeirio ato, wneud pethau fel cyfyngu ar hyrwyddiadau pris o ran bwyd a diod sy'n uchel mewn braster, halen a siwgwr, fel hyrwyddo dau am un a phethau felly. Fe hoffem ni weld hynny'n cael ei orfodi'n llym mawr. Ac fel yr oeddech chi'n crybwyll hefyd, cyfyngiadau cynllunio ar gyfer siopau cludfwyd poeth ger ysgolion a chanolfannau hamdden a phethau felly. Mae gwir angen hefyd inni fynd i'r afael â hysbysebu bwydydd sothach a anelir at blant. Nawr, rwy'n gwybod nad yw rhywfaint o hynny wedi ei ddatganoli, ond a dweud y gwir rydym wedi siarad am hyn ers blynyddoedd ac mae grym hysbysebu yn golygu ei fod yn parhau i fod yn ddylanwad treiddiol iawn ar yr hyn y mae ein plant ni'n ei fwyta, a hefyd maint y prydau bwyd. Mae hynny hefyd yn gyfuniad o'r hyn y gellir deddfu yn ei erbyn neu ddewis yr unigolyn; fe adawaf i hynny i'r Gweinidog. Ond y peth pwysig yw hyn, ar ôl ysmygu, gordewdra yw'r achos mwyaf o ganser y gellir ei atal. Nid yw llawer o bobl yn sylweddoli bod gordewdra yn achos annibynnol o ganser, yn union fel ysmygu. Mae bod dros bwysau yn achosi canser. Mae'n achosi tua 13 math gwahanol o ganser. Hyd yn oed heb ysmygu, mae bod dros bwysau yn rhoi canser i chi fel carsinogen annibynnol.
Ond yn amlwg, fel y cyfeiriasoch ato, ac fel y cyfeiriodd Angela Burns eisoes ato, mae'n golygu mwy na deiet, mae'n golygu mwy na bwyta llai, bwyta llai o garbohydradau, llai o siwgwr, mwy o brotein, a hefyd ymestyn y cyfnod newynu yn ystod y dydd, gan geisio cyfyngu ar yr amser y byddwn yn cymryd calorïau i'r corff i slot o wyth neu 10 awr o'r 24—dyna'r cyngor meddygol diweddaraf. Felly, nid deiet yn unig sy'n gwneud hyn: mae hyn yn ymwneud â ffitrwydd corfforol a gweithgarwch corfforol hefyd. Nid yw mynd allan i gerdded yn gofyn am Lycra ffansi—wel, mae'n amlwg y gallech chi wisgo Lycra pe dymunech, ond ar y llwybr arfordirol nid oes angen Lycra arnoch chi mewn gwirionedd. Wrth ddringo'r mynydd—nid oes angen Lycra yn y fan honno ychwaith. Ond fe allech chi gyda 10,000 cam y dydd neu fwy na hynny o gamau y dydd, drwy gerdded yn gyflym, ddod yn gorfforol heini. Fel y dywedais yma o'r blaen, o fod yn gorfforol ffit, bydd eich siwgr gwaed chi 30 y cant yn is nag y byddai heb fod yn ffit yn gorfforol. Mae lefel y colesterol yn eich gwaed 30 y cant yn is nag y byddai heb fod yn gorfforol ffit. Ac os ydych chi'n gorfforol ffit, mae pwysedd eich gwaed chi 30 y cant yn is nag y byddai heb fod yn gorfforol ffit. Nawr, fel y dywedais o'r blaen, pe bai tabled yn cael ei dyfeisio i wneud hynny i gyd, byddem yn gweiddi'n groch am yr iachâd gwyrthiol hwnnw, ond ffitrwydd corfforol yw'r iachâd gwyrthiol. Ac, yn amlwg, bydd lleihâd cyffredinol yn y pwysau hefyd.
Felly, mae'n fater i'r unigolyn i raddau helaeth ond, fel y dywedais, mae gan y Llywodraeth waith i'w wneud yma hefyd, o ran y cyfyngiadau cynllunio, ac o ran cyfyngu ar hyrwyddiadau pris a phethau eraill. Ond yn ogystal â hynny, fel y gwnaethom ei ganfod, fe allwn ni addysgu pobl faint fynnom ni, ond mewn gwirionedd deddfwriaeth wrth-ysmygu wnaeth achosi'r gostyngiad mwyaf mewn cyfraddau ysmygu yn y wlad hon yn y blynyddoedd diwethaf. Y gwaharddiad hwnnw ar ysmygu—. Pan ddigwyddodd datganoli, roedd 32 y cant o boblogaeth oedolion Cymru yn ysmygu, ac roedd hynny wedi bod tua 32 i 35 y cant dros yr 20 mlynedd flaenorol, er gwaethaf yr holl raglenni addysg a phethau felly. Nawr, wedi'r gwaharddiad ar ysmygu, mae wedi gostwng i 16 y cant ac yn mynd yn is. Y ddeddfwriaeth a wnaeth y newid amlwg, ynghyd â'r addysg a'r cymorth i roi'r gorau iddi a phethau felly. A nawr rydym yn gweld gyda'r ddeddfwriaeth isafswm alcohol yn yr Alban, mae pobl yn yr Alban yn yfed llai o alcohol. Pwy fyddai wedi meddwl? Mae pobl yn yr Alban yn yfed llai o alcohol, ac mae hynny'n ymwneud â'r ddeddfwriaeth ar isafswm prisio alcohol.
Felly, rwy'n credu bod angen i'r Llywodraeth wynebu'r gwirionedd caled ynglŷn â deddfwriaeth bwyd a diod hefyd, a dechrau ystyried cwmnïau bwyd a diod—fel cwmnïau bwyd mawr, cwmnïau diod mawr—ychydig fel yr ydym ni'n ystyried cwmnïau tybaco mawr. Gadewch inni beidio â chael rhagor o wirfoddoli neu gytundebau gwirfoddol. Gadewch inni ddeddfu. O ran y dreth ar siwgwr a godir yn y wlad hon—gwn fod yna dreth ar siwgwr, ond ychydig iawn o reolaeth sydd gennym drosti. Mae angen inni gael rheolaeth drosti yma fel y gallwn ni wario'r hyn sy'n dod o'r dreth siwgwr yma yng Nghymru ar yr hyn yr ydym ni'n awyddus i'w wneud gydag agenda gordewdra.
Ac yn olaf, yn y gyfatebiaeth ataliol: addysg. Rwy'n edrych ar y Gweinidog Addysg o ran hyn o beth. Fel y gŵyr Angela Burns yn dda, fel y gŵyr y Gweinidog yn dda, yn y pwyllgor iechyd rydym wedi cyflawni adolygiad o ffitrwydd corfforol a gordewdra—yr union agenda hon. Un o'r argymhellion a gyflwynwyd gennym oedd, 'Beth am wneud 120 munud o weithgarwch corfforol yn orfodol bob wythnos yn ein hysgolion?' Roedd hwn yn argymhelliad cryf iawn. Dyna'r hyn yr oedd y dystiolaeth i gyd yn ei ddweud. Beth am wneud arolygiadau Estyn o'r gweithgarwch corfforol hwnnw yn orfodol hefyd? Mae hyn yn rhywbeth a allai ddigwydd nawr. Beth am symud yn radical gyda'r ddeddfwriaeth teithio llesol? Rydym wedi bod yn siarad am ddeddfwriaeth teithio llesol—ydy, mae'n beth gwych, ond beth am ei gwneud hi'n hawdd ac yn ddiogel i gerdded a beicio i bobman? Mae angen inni wneud rhywbeth yn hytrach na siarad am hyn drwy'r amser.
Felly, ydw, rwy'n croesawu llawer o'r hyn sy'n digwydd yma, ond nid oes gennym 10 mlynedd eto ac ati. Mae angen newid sylweddol mewn gweithgarwch, fel bod pobl Cymru â phwysau iach, ac yn wir er mwyn cael Cymru iachach. Diolch yn fawr.
Fe hoffwn i ddiolch i Dr Lloyd am ei bregeth a'i ddarlith ddiddorol. Rwy'n cytuno â'r rhan fwyaf o'r hyn a ddywedodd. Ceir cytundeb ynglŷn â'n sefyllfa bresennol ni a'r hyn yr ydym ni am geisio ei wneud. Yn hytrach na thrafod ffeithiau a ffigurau o ran yr hyn yr ydym ni'n ei wneud a buddsoddi mewn teithio llesol a hynny yn y strategaeth hefyd, rwy'n credu ei bod yn bwysig myfyrio a chydnabod bod y pwyntiau a wnewch chi am ysmygu o ddiddordeb gwirioneddol, oherwydd fe wnaeth y newid deddfwriaethol helpu i symud pethau ymlaen gyda newid ehangach yn digwydd ar wahanol lefelau mewn gwahanol rannau o'r wlad. Ond fe arweiniodd hyn at newid diwylliannol ehangach, yn enwedig o ran agweddau pobl tuag at ysmygu o amgylch plant, ac ysmygu o amgylch bwyd hefyd. Rydych chi'n gweld hynny'n parhau o hyd. Yn sydyn, rydych chi'n gweld newid mwy eang o ran agweddau, ac, fel y gwyddoch chi, rwy'n cytuno â chi o ran isafswm pris uned—dyna pam y gwnes i ddwyn y ddeddfwriaeth isafbris uned gerbron y lle hwn. Rwy'n credu y byddwn ni'n gweld effaith debyg yma, nid yn unig gostyngiad yn swm yr alcohol ond yn swm yr alcohol o gryfder uchel a rhad iawn sy'n cael ei yfed hefyd.
Felly, yn y strategaeth, rydym yn nodi ein bod ni, fel y dywedais wrth Angela, yn dymuno profi terfynau ein pwerau—y pwerau sydd gennym ni ar hyn o bryd, er enghraifft y pwerau sydd ar gael inni yn Neddf Iechyd Cyhoeddus (Cymru) 2017 a basiwyd yn y tymor Cynulliad diwethaf. Rydym hefyd yn y cynllun cyflawni hwnnw yn ceisio cael dewisiadau ar gyfer deddfwriaeth yn y dyfodol, a nodi sut y gallem ni ddefnyddio'r pwerau sydd ar gael i ni o ran ein cymhwysedd i sefydlu'r ddeddfwriaeth i ganiatáu inni wneud hynny hefyd. Oherwydd mae yna bethau i feddwl amdanyn nhw o ran hysbysebu a hyrwyddo. Ac yna mae rhywfaint o hynny'n anodd, oherwydd mae gennym rai pobl sy'n ennill incwm mewn gwahanol ffyrdd ar hyn o bryd. Os ystyriwch beiriannau gwerthu bwyd iach, mae'n rhan o'r hyn yr ydym yn ei weld o fewn y gwasanaeth iechyd, ond mewn canolfannau hamdden hefyd. Nid ydym yn rhedeg y rhain yn uniongyrchol, ac eto gallaf i ddweud wrthych, pan fydda i'n mynd â'r mab i nofio, fel y gwnaf i'n rheolaidd, ac mae ganddo ef lawer gormod o egni, fel sydd gan y rhan fwyaf o blant pump oed, ond mae'n hyfryd—onibai pan fyddwn yn gorffen gyda'r nofio ac yn eistedd i lawr i wisgo'n esgidiau, o'n blaenau mae yna beiriant gwerthu siocled. Pump oed yw fy mab, ac mae'n gweld bag llawn siocled ac yn gofyn, 'Dadi, a gaf i siocled?' Felly, mae'n rhaid imi ei wrthod, ac felly rwy'n mynd yn hen dad blin, ond rwy'n gwneud y peth iawn. Felly, mae rhywbeth ynglŷn â sut yr ydym ni'n newid yr amgylchedd fel na chewch chi'r negeseuon gwahanol a chymysg hynny. Oherwydd os bydda i'n dweud wrtho ef, 'Trît yw'r siocled', yna bob tro y bydd ef yn ceisio gwneud y peth iawn, dyna fydd o'i flaen ei lygaid. Mae angen gweld newid a symudiad oddi wrth hynny hefyd.
Yn olaf, o ran eich pwynt chi am gerdded, i'r rhain ohonom sydd â swyddi yn y fan hon, nid hon yw'r swydd orau ar gyfer gweithgarwch corfforol. Rwy'n cerdded yn rheolaidd o'r llawr isaf i'r pumed llawr, oherwydd yn aml dyna'r unig ymarfer corff y byddaf yn ei wneud yn ystod y dydd. Fel arall, rwy'n eistedd ar fy mhen-ôl ac yn siarad neu'n sefyll ar fy nhraed ac yn siarad—nid oes lawer iawn o ymarfer corff. Felly, mae her ynglŷn â'n hamgylchedd gwaith, ac nid dim ond y ni yn y lle hwn, ond i bobl sy'n gweithio mewn swyddfeydd. Mae amrywiaeth o swyddi yn cael eu gwneud bellach mewn economïau mwy modern nad ydynt yn gorfforol egnïol yn y ffordd y byddai llawer o bobl yn arfer mynd i'r gwaith a gorfod ennill bywoliaeth yn y gorffennol. Mae yna her o ran yr hyn y dewiswn ni ei wneud yn y gweithle i'w wneud yn fwy egnïol yn gorfforol ond hefyd, wedyn, o ran yr hyn y dewiswn ni ei wneud yn ein hamser y tu allan i'r gwaith. Felly, mae newid ymddygiad yn yr holl system yn rhan o'r hyn yr ydym ni'n dymuno ei weld, ac fel y dywedwch chi, ac rwy'n falch eich bod chi'n cydnabod hynny, nid yw hyn yn ymwneud â'r Llywodraeth yn unig, mae'n ymwneud â'r holl ddewisiadau a wnawn ni gyda'n gilydd.
Rwy'n cytuno â'r ddau siaradwr blaenorol : ni yw'r genedl fwyaf gordew yn Ewrop ac mae ein system fwyd ni'n hollol doredig. Felly, yr unig ddewis yw newid. Nid treth ar siwgwr yw'r unig beth sydd ei angen arnom ni, mae angen treth ar halen a threth ar fraster i reoli gweithgarwch y cwmnïau gweithgynhyrchu bwyd sy'n anelu'r stwff hwn sy'n cael ei alw'n fwyd at bobl. Yn ogystal â hynny, bu cynnydd cyflym iawn mewn diabetes math 2, sydd eisoes yn defnyddio 10 y cant o gyllideb y GIG. Felly, ni allwn aros am ddegawd arall cyn cael hyn i drefn.
Rwy'n cytuno â'r Gweinidog eich bod chi'n hollol gywir i nodi y bydd cost llysiau a ffrwythau yn codi o ganlyniad i Brexit. Felly, hoffwn i wybod beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud nawr i ennyn mwy o bobl i dyfu llysiau a ffrwythau yma yng Nghymru. Nid oes unrhyw sôn am hynny yn y ddogfen. Roeddem ni iachaf yn ystod yr ail ryfel byd pan oeddem ni'n palu am fuddugoliaeth. Mae angen inni balu i achub ein cenedl nawr, mewn gwirionedd, ac i achub ein GIG. Ac mae angen gwneud hynny nawr. Hyd yn oed os llwyddwn ni i osgoi trychineb Brexit heb gytundeb, mae llawer o dystiolaeth ar gael, os cewch chi blant i dyfu bwyd, y byddan nhw'n cael eu temtio wedyn i'w fwyta hefyd.
Yr hyn a fwytwn sy'n ein gwneud ni. A'r ystadegyn mwyaf brawychus a ddysgais i'n ddiweddar yw nad yw dwy ran o dair o bobl byth yn bwyta pryd o fwyd wedi ei baratoi â chynhwysion ffres—byth. Hyd yn oed pan fyddan nhw'n mynd allan, fe fyddan nhw'n mynd allan i fwyta bwyd gwael. Dyna faint yr her sy'n ein hwynebu ni.
Felly, rwy'n cael trafferth deall y gwahaniaeth rhwng cerrig milltir a chanlyniadau a thargedau. Rwy'n awyddus i weld targedau clir iawn fel y gwyddom ein bod yn gwneud cynnydd yn hyn o beth. Dyma rywbeth yr ydym ni wedi sôn amdano ers imi fod yma, ac mae angen gweithredu nawr. Fe hoffwn i wybod—y baban a gaiff ei eni'r wythnos nesaf: sut y caiff ei ddiogelu rhag marchnata cynhyrchion gwael sy'n cymryd arnyn nhw i fod yn fwyd maethlon? Gwyddom fod llai na thri chwarter y plant sy'n dechrau'r ysgol yn pwyso'n iach. Beth fydd y ffigur hwnnw yn 2022? Mae'n rhaid inni gael dull gweithredu system gyfan yn bendant; nid yw hyn yn ymwneud yn unig ag adran y Gweinidog iechyd. Fe hoffwn i weld beth yr ydym yn mynd i'w wneud o ran caffael cyhoeddus. Beth ydym ni'n ei wneud? Mae gennym yr holl gyfryngau yn y fan hon i wneud rhywbeth. Mae gennym ganllawiau 'Blas am Oes', rheoliadau, ond nid ydynt yn cael eu dilyn yn ein hysgolion oherwydd does neb yn eu monitro nhw.
Felly, gwyddom fod hyd at draean o'n plant ni'n dibynnu ar y brecwastau rhad ac am ddim a'r ciniawau ysgol, neu fel arall nid ydynt yn cael unrhyw beth arall y byddwn i'n ei alw'n fwyd. A gwyddom o'r ystadegau a'r ymchwil a wnaeth sefydliadau eraill nad yw hanner y plant sy'n mynd i'r gwely'n newynog hyd yn oed yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, oherwydd bod eu rhieni tlawd yn ennill mymryn o gyflog. Felly, mae gennym lawer o ddyheadau ond nid oes digon o weithredu. Ac un o'r pethau yr wyf i'n eiddgar i'w gweld yw system o oleuadau traffig, er mwyn sicrhau bod pobl yn glir a yw'r bwyd yn iach neu'n esgus bod yn iach yn unig.
Mae angen gweithredu i sicrhau nad oes siwgwr, braster a halen yn cael eu hychwanegu at yr holl fwyd wedi ei brosesu, gan gynnwys bwydydd babanod, er mwyn hwyluso gwneud elw. Sut mae'r Gweinidog yn bwriadu normaleiddio bwyta iach mewn ysgolion cynradd? Dyna'r hyn yr wyf i'n ei weld sy'n absennol o'ch dogfen chi. A wnewch chi ystyried gwahardd gwerthu diodydd mewn ysgolion uwchradd, sydd, ar hyn o bryd, yn annog disgyblion i ddefnyddio arian sydd i fod i gael ei wario ar fwyd yn hytrach na diodydd sy'n gyfyngedig o ran maeth?
Ceir llawer o gyfleoedd i wneud Cymru'n wlad o fwyd da, ac mae hyn yn rhywbeth y mae angen inni weithio ar y cyd arno, nid dim ond yn y gwasanaeth iechyd. Ond nid wyf yn sicr pa wahaniaethau y gallwn ddisgwyl eu gweld ymhen dwy flynedd fel y gallwn fesur a fu rhaglen y Llywodraeth yn llwyddiannus ai peidio.
Rwy'n diolch i'r Aelod am y sylwadau. Mae'n deg imi dynnu sylw at ail-fformiwleiddio halen a bod amrywiaeth o fusnesau bwyd wedi lleihau'r gyfradd o halen ac na chafodd hynny unrhyw effaith ar y blas wrth fwyta'r bwyd hwnnw yn ôl y cwsmeriaid. Yr her yw gwybod a yw dull gwirfoddol yn ddigonol. Ac, fel y nodais, rwyf i o'r farn y dylem roi prawf ar derfynau'r hyn sydd ar gael i wneud mwy o wahaniaeth eto. Mae hynny'n rhan o'r hyn a nodais, ac mae'n mynd i'r ysgolion a'r bwyd a sut mae plant yn deall y ffordd y cynhyrchir eu bwyd. Ac ym mhob ysgol gynradd bron yr ymwelais â nhw, gan gynnwys rhai yn y mannau llai ariannog sydd yn fy etholaeth i, rwy'n gweld dull cyson iawn o annog plant i dyfu bwyd a deall ble a sut y caiff hwnnw ei gynhyrchu ar lefel leol.
Rwyf i am ymdrin â'ch pwyntiau chi ynglŷn â thargedau, ac yna sut rydym yn defnyddio canlyniadau a rhai o'r cynigion sydd gennym ni. Fe gawsom ni sgwrs ynghylch a ddylid cael targedau yn y strategaeth hon, ac fe benderfynais i beidio â chael targedau. Edrychais ar yr hyn sy'n digwydd yn yr Alban ac yn Lloegr, lle mae ganddyn nhw dargedau i leihau gordewdra ymhlith plant, i haneru hynny erbyn 2030, ac nid wyf i'n credu bod unrhyw dystiolaeth bod hwnnw'n darged y gellir ei gyflawni mewn unrhyw ffordd. Oherwydd rhan o'r her i ni yw nad ydym yn deall eto faint o effaith a gaiff y mesurau yr ydym ni'n mynd i'w cyflwyno, ac nid wyf yn arbennig o awyddus i gael targed ar sail rhyw ddyhead bras. Nid wyf i o'r farn fod hynny'n ddoeth nac yn synhwyrol i neb. Fe fydd y fframwaith canlyniadau yr ydym yn mynd i geisio ei gynhyrchu yn caniatáu i bobl fesur yr effaith ar boblogaeth Cymru. Felly, os nad oes unrhyw newid, yna fe fydd y mesurau canlyniad yn cofnodi hynny. Os bydd yna newid gwirioneddol, fe fyddwn ni'n gweld hwnnw ac yna bydd angen inni geisio deall pa rai o'n hymyriadau ni sy'n cael yr effeithiau mwyaf sylweddol. Nid oes modd inni wybod bob amser pa ymyriad a gyflwynir gennym sy'n effeithio ar fywydau pobl a beth yw'r gydberthynas uniongyrchol o ran pa mor iach yw pwysau pobl ein gwlad.
O ran rhai o'r cynigion, efallai y byddai'n ddefnyddiol nodi ein bod yn edrych ar wahardd gwerthu diodydd egni i blant; cyfyngu ar hyrwyddo a marchnata bwyd a diod afiach yn yr amgylchedd manwerthu; gwahardd gwerthu diodydd llawn siwgwr y gellir eu hail-lenwi mewn lleoliadau y tu allan i'r cartref—ac rydym yn gweld y rhain yn rheolaidd, yr ail-lenwadau diddiwedd; cyfyngu ar faint diodydd ysgafn llawn siwgwr; a labelu calorïau yn orfodol mewn lleoliadau y tu allan i'r cartref; ac ystyried opsiynau i gyfyngu ar hyrwyddo bwyd a diod afiach yng ngŵydd plant ysgol. Felly, rydym yn ystyried ystod o fesurau penodol a byddaf yn cyflwyno cynigion mwy pendant yn y dyfodol.
Ac yn olaf, Lynne Neagle.
Diolch, Dirprwy Lywydd dros dro. Fel yr ydych chi wedi ei gydnabod heddiw, Gweinidog, ac fel y mae Aelodau eraill wedi cyfeirio ato, mae gennym ni sefyllfa lle mae un ym mhob pedwar o'n plant ni'n dechrau'r ysgol naill ai dros eu pwysau neu'n ordew. Ac, fel y gwyddoch chi, roedd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn awyddus iawn i ddylanwadu ar feddylfryd Llywodraeth Cymru yn y maes hwn a gwneud yn siŵr bod plant a phobl ifanc yn ganolog i'r strategaeth hon sydd ar gyfer pob oed. Ac er mwyn llywio ein cyfraniad ni i'r ymgynghoriad, cynhaliwyd cyfarfod bwrdd crwn gyda rhanddeiliaid allweddol ac fe gymerais i dystiolaeth gan y prif swyddog meddygol. Hoffwn i achub ar y cyfle hwn i fynegi ar goedd ein diolch ni iddyn nhw.
Fel y byddwch chi wedi gweld, ym mis Ebrill, fe gyhoeddwyd ein hymateb manwl ni i'r ymgynghoriad ac fe dynnwyd sylw at y materion yr ydym ni'n credu bod angen mynd i'r afael â nhw, ac rwy'n croesawu'r camau a gymerwyd i fynd i'r afael â rhai o'r materion hynny. Eto i gyd, rydym hefyd wedi nodi atebolrwydd yn faes allweddol y byddai angen mynd i'r afael ag ef os ydym yn dymuno gwarchod rhag sefyllfa lle mae'r strategaeth yn mynd yn waith i bawb ond yn gyfrifoldeb i neb. Roeddem hefyd yn galw am darged uchelgeisiol ar gyfer lleihau gordewdra, ac am eglurder ynghylch pwy fydd yn arwain ar y mater cymhleth a thrawsbynciol hwn yn y Llywodraeth.
Nawr, fe glywais i'r hyn a ddywedasoch wrth ymateb i Jenny Rathbone, ac rwy'n sylwi bod y strategaeth yn datgan y bydd gennym gerrig milltir annatod, yn hytrach na thargedau penodol, ar gyfer pob un o bedair thema'r strategaeth i roi prawf ar y cynnydd sy'n cael ei wneud. A wnewch chi roi rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut y bydd y gwaith o fesur y cerrig milltir yn gweithio, a dweud wrthym hefyd pa arweiniad ac atebolrwydd fydd ar waith ledled y Llywodraeth i sicrhau y caiff y strategaeth hon ei chyflawni? Oherwydd, yn amlwg, nid mater yn unig i chi fel Gweinidog iechyd yw hwn. Felly, pa sicrwydd y gallwch chi ei roi y ceir, ledled y Llywodraeth gyfan, arweinyddiaeth addas i ysgogi hyn?
Iawn. Rwy'n credu eu bod nhw'n gwestiynau teg. Rwyf i wedi ceisio ymdrin â'r pwynt yn ymwneud â thargedau, ac rwy'n credu bod gwahanol farn ar hyn, felly ni wnaf geisio esgus nad oes gwahaniaeth barn ynghylch a ddylem ni gael targedau ai peidio. O ran y canlyniadau a'r cerrig milltir, un o dasgau cyntaf y bwrdd gweithredu fydd nodi'r cerrig milltir a'r targedau hynny. Byddan nhw'n weladwy, byddan nhw'n cael eu cyhoeddi—ni fyddan nhw'n gyfrinachol ac yn cael eu cadw yn fy nesg. Ac yna byddwch chi'n gallu gweld sut yr ydym ni'n ceisio mesur y cynnydd yr ydym ni'n ei wneud. Ac rwy'n llwyr ddisgwyl y byddwn i'n cael y cyfle, pe bawn yn aros yn y swydd hon, i ddod i'r pwyllgor i egluro pa gynnydd sy'n cael ei wneud neu beidio.
Ac, o ran yr arweinyddiaeth o fewn y Llywodraeth, fi yw'r Gweinidog arweiniol, ond menter Llywodraeth gyfan yw hon. Os edrychwch chi ar yr holl feysydd gwahanol yr ydym ni'n ymdrin â nhw yn y strategaeth hon, yn sicr nid mater o un Gweinidog ac un adran yn unig ydyw. A bydd hynny eto'n dod yn ôl at y bwrdd gweithredu yn edrych yn onest ar nodi lle yr ydym ni a'r hyn sydd angen ei wneud gan bwy, oherwydd y gwir plaen yw, os nad ydym ni'n cael pob rhan o'r Llywodraeth yn wynebu i'r un cyfeiriad, ni fyddwn ni'n cael cefnogaeth ein partneriaid, ac ni chawn gefnogaeth y partner mwyaf oll yn hyn, sef y cyhoedd eu hunain. Felly, credaf y bydd yn rhaid i rywfaint o hyn ymwneud â'r Llywodraeth yn wirioneddol yn ceisio cydweithio ag eraill. Fi yw'r Gweinidog arweiniol, ond bydd angen i ni ddangos y cynnydd yr ydym ni'n ei wneud mewn gwirionedd, ac yna, rwy'n credu, dyna fydd yr ateb gorau i'ch her ynghylch a oes gwir atebolrwydd wrth weithredu'r hyn sy'n weledigaeth gyffredin. Ac rwy'n credu bod cefnogaeth eang i'r meysydd gweithgaredd yr ydym ni'n cydnabod bod angen eu cyflawni.
Diolch yn fawr, Weinidog.
Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol—y wybodaeth ddiweddaraf am ddiogelwch adeiladau. A galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i wneud y datganiad. Julie James.
Diolch. Mae diogelwch adeiladau, a diogelwch trigolion, yn flaenoriaeth uchel i'r Llywodraeth hon. Cartrefi diogel yw sylfaen ffyniant unrhyw gymdeithas fodern. Mae gan bobl hawl sylfaenol i deimlo'n ddiogel yn eu cartrefi. Yng Nghymru, mae gennym ni record dda o ran diogelwch tân. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod nifer y tanau damweiniol mewn cartrefi yng Nghymru yn is nag erioed. At hynny, rydym ni wedi gweld y nifer hwn yn gostwng yn gyflymach yma nag mewn mannau eraill ym Mhrydain Fawr. Mae'r siawns gyffredinol y bydd unrhyw gartref yn cael tân yn isel, tua un ym mhob 1,000 y flwyddyn. Er bod yr ystadegau'n gadarnhaol, mae'r niwed y mae tanau'n ei achosi, o ran anaf a cholli eiddo, yn ofnadwy. Mae'r data hefyd yn dangos bod dros dri chwarter o danau mewn cartrefi yn cael eu hachosi gan ymddygiad anniogel, nid nwyddau neu safleoedd anniogel. Ni all unrhyw system reoleiddio fynd i'r afael â hynny.
Mae gan Gymru hefyd y rhaglen fwyaf eang a mwyaf hael o wirio diogelwch tân yn y cartref ym Mhrydain fawr o bell ffordd. Mae'r gwaith ataliol a wnaed gan ein gwasanaethau tân ac achub wedi gwella diogelwch tân yn ein cartrefi yn sylweddol. Fodd bynnag, nid oes lle i laesu dwylo. Mae'n rhaid i ni barhau i wneud gwelliannau lle y gallwn ni, wrth weithio tuag at system diogelwch adeiladau well a chynhwysfawr, o ddylunio ac adeiladu adeiladau hyd at y cyfnod pan fydd pobl yn byw ynddyn nhw.
Yr wythnos nesaf bydd adroddiad cyntaf yr ymchwiliad cyhoeddus i dân Tŵr Grenfell yn cael ei gyhoeddi. Bydd yn ymdrin â'r digwyddiadau ar noson y tân ei hun a gweithredoedd y prif ymatebwyr, yn arbennig Brigâd Dân Llundain a'r Heddlu Metropolitan. Mater i'r sefydliadau hynny yn bennaf fydd unrhyw ganfyddiadau neu argymhellion y bydd yn eu gwneud, ond byddwn ni'n archwilio'r adroddiad yn fanwl i nodi unrhyw oblygiadau a gwersi i Gymru.
Ers fy natganiad llafar diwethaf ar ddiogelwch adeiladau ym mis Mai, mae bwrdd y rhaglen diogelwch adeiladau wedi'i sefydlu ac mae'n bwrw ymlaen â'r argymhellion o 'Map tuag at adeiladau mwy diogel yng Nghymru'. Mae llawer o'r diwygiadau hyn yn newidiadau hirdymor a fydd yn gofyn am deddfwriaeth sylfaenol newydd. Byddaf i'n cyhoeddi fy Mhapur Gwyn ar gynigion ar gyfer y system diogelwch adeiladau ddiwygiedig y flwyddyn nesaf. Fodd bynnag, mae llawer y gellir ei wneud yn y tymor byr a chanolig i wella diogelwch tân.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Rwyf i eisoes wedi ymrwymo i ymgynghori ar wneud y gwasanaeth tân ac achub yn ymgynghorai statudol ar geisiadau cynllunio perthnasol. Bydd hyn yn sicrhau bod materion diogelwch tân yn cael eu hystyried yn llawn ar y cam cynnar hwn, ac yn gwneud y gwasanaeth yn ymwybodol o newidiadau mewn risg o dân lleol cyn gynted â phosibl. Mae hyn yn mynd y tu hwnt i adeiladau uchel ac, yn amodol ar ymgynghoriad, gallai gynnwys fflatiau pwrpasol eraill. Gall datblygiadau helaeth o adeiladau isel hefyd godi materion yn ymwneud â mynediad i offer tân a chyflenwadau dŵr.
Mae diwygiadau i'r rheoliadau adeiladu presennol hefyd ar y gweill, er mwyn gwahardd defnyddio deunyddiau cladin hylosg, gan ei gwneud yn glir pa gladin sy'n dderbyniol ar adeiladau preswyl uchel. Byddwn i'n disgwyl i'r gwelliannau hyn gael eu gosod erbyn y Nadolig, ar ôl cael caniatâd. Ni fyddwn ni'n goddef cladin sy'n is na'r safonau derbyniol ac sy'n cynyddu'r risg i breswylwyr.
Er mwyn sicrhau gwelliannau ymarferol tymor byr i'r trefniadau gweithio presennol, mae fy swyddogion wedi ymgysylltu ymhellach â phartneriaid allweddol i wella cyfathrebu a deall swyddogaethau a dyletswyddau presennol yn well. Rydym ni'n gweithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chyfarwyddwyr Diogelu'r Cyhoedd (Cymru) i nodi rhagor o gymorth i awdurdodau lleol i sicrhau bod preswylwyr mewn adeiladau preswyl uchel yn cael y gwiriadau angenrheidiol. Bydd hyn yn cynnal amgylchedd byw diogel a dylai helpu i ailsefydlu hyder yn dilyn y drychineb yn Nhŵr Grenfell.
Bydd y rhaglen hon o ddiwygiadau cynhwysfawr yn rhoi mwy o bwyslais ar adeiladau sydd dros 18 metr, neu saith llawr, o uchder. Mae diogelwch tân mewn blociau o fflatiau'n dibynnu'n hanfodol ar gynnal compartmentau—gallu'r strwythur i ynysu'r tân yn yr ardal y mae'n dechrau. Os bydd hynny'n methu, fel y gwnaeth yn Grenfell, yna gall y canlyniadau, fel y gwyddom ni, fod yn enbyd iawn. Mae'r risgiau compartmentau annigonol yn arbennig o uchel mewn adeiladau talach, o ystyried heriau ychwanegol dianc neu achub. Felly, mae'n deg ac yn briodol bod mwy o ofynion ar sut y caiff yr adeiladau hyn eu dylunio a'u hadeiladu a sut y byddan nhw'n cael eu rheoli pan fydd pobl yn byw ynddyn nhw.
Fodd bynnag, nid yw fy ymrwymiad i wella diogelwch tân yn berthnasol i'r rhai sy'n byw mewn adeiladau preswyl uchel yn unig. Fy mwriad i yw y bydd deddfwriaeth yn ddigon hyblyg i gynnwys adeiladau eraill yn y dyfodol, os bydd y dystiolaeth yn ein harwain i ystyried bod hynny'n angenrheidiol. Nid yw un system i bawb yn adlewyrchu ystod a chymhlethdod y system yr ydym ni'n ceisio'i drwsio.
Fel rhan o'r diwygiadau, rwy'n bwriadu gwneud newidiadau sylweddol i'r Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân), a elwir yn gyffredin yn Orchymyn diogelwch tân, i ysgafnhau'r system ar gyfer pobl yn byw mewn adeiladau. Mae'n ddrwg gennyf, Llywydd—tynhau'r system, nid ei ysgafnhau; tynhau'r system ar gyfer meddiannu adeiladau. Rwy'n bwriadu ymestyn llawer o'r newidiadau hyn i adeiladau eraill sy'n cynnwys nifer o dai ac ardal gyffredin. Mae meysydd y byddaf yn mynd i'r afael â nhw wrth ddiwygio'r Gorchymyn diogelwch tân yn cynnwys gwneud y rhannau o adeiladau sy'n cael eu cwmpasu gan y gyfundrefn yn gliriach, gan gynnwys yn arbennig y ffiniau diogelwch-critigol rhwng ardaloedd cyffredin a chartrefi a waliau allanol adeiladau; gan egluro pwy ddylai'r person cyfrifol fod a'i swyddogaeth, gan gynnwys atebolrwydd cyfreithiol, ynghylch rheoli diogelwch tân yn barhaus; a gwneud asesiadau risg tân yn fwy cadarn. Gallai gofynion newydd gynnwys person cwbl gymwysedig a phrofiadol sy'n cynnal asesiadau ar gyfnodau penodol, a bod y canlyniadau yn cael eu cofnodi a'u bod ar gael ar gais i breswylwyr, rheoleiddwyr ac eraill.
Byddwn ni hefyd yn archwilio dyletswyddau penodol yn ymwneud â chadw compartmentau, sy'n hanfodol i ddiogelwch tân mewn unrhyw adeiladau aml-annedd. Gallai dyletswyddau o'r fath fod yn berthnasol i breswylwyr a chontractwyr, yn ogystal â landlordiaid ac asiantau rheoli. Byddwn ni hefyd yn ystyried dyletswyddau penodol yn ymwneud â seinio'r larwm, atal tân, dulliau dianc, a chyfleusterau ar gyfer diffoddwyr tân. Bydd y trefniadau presennol ar gyfer arolygu, gorfodi a chosbau hefyd yn cael eu hadolygu.
Yn ystod y cyfnod dylunio ac adeiladu adeiladau preswyl dros 18m, bydd trefn arolygu fwy dwys yn cael ei chyflwyno, gyda phwyntiau cyswllt caled. Pan nodir problemau, bydd symud ymlaen i'r cam adeiladu nesaf yn dod i ben hyd nes y rhoddir sylw i'r materion. Bydd gofynion ychwanegol o ran adeiladau i wella diogelwch tân hefyd. Bydd y mesurau hyn yn gwella tryloywder ac yn helpu i ailennyn hyder y cyhoedd yn y system.
Rwyf i hefyd yn edrych ar ffyrdd o sicrhau bod asiantau rheoli yn cael eu cofrestru i gefnogi arfer gorau, a chael gwared ar weithredwyr twyllodrus. Bydd cynllun achredu gwirfoddol cychwynnol ar gyfer asiantau rheoli yn cynhyrchu tystiolaeth i lywio'r broses o greu system orfodol. Yn y cyfnod meddiannaeth, bydd yn ofynnol bod deiliaid dyletswydd yn cael eu cofrestru ar gyfer cartrefi amlfeddiannaeth, a gosod gofynion newydd bod deiliaid dyletswydd ar gyfer adeiladau preswyl o fwy na 18 metr mewn uchder yn drwyddedig.
Wrth gwrs, bydd y newidiadau hyn yn gwella pethau ar gyfer y dyfodol. Ond, yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, tynnwyd fy sylw i at nifer o ddiffygion diogelwch adeiladu difrifol mewn adeiladau preswyl uchel sydd eisoes yn bodoli. Mae risgiau tân sydd newydd eu nodi yn dod i'r amlwg wrth i adeiladau gael arolygiadau manwl yn sgil y tân yn Nhŵr Grenfell ddwy flynedd yn ôl. Rwyf i wedi bod yn gyson yn fy neges na all y trethdalwr dalu'r bil am fethiannau yn nyluniad neu adeiladwaith adeiladau preswyl y sector preifat. Dylai perchnogion adeiladau a datblygwyr wynebu eu cyfrifoldeb moesol ac unioni'r diffygion hyn, neu beryglu eu henw da proffesiynol. Fodd bynnag, gwn fod llawer o lesddeiliaid wedi'u rhwystro gan y diffyg gweithredu ac mae'r biliau y mae llawer ohonyn nhw yn eu hwyneb i gywiro'r materion wedi peri trallod iddyn nhw.
Mae'r Llywodraeth hon wedi bod o'r farn ers tro mai systemau chwistrellu yw'r ffordd fwyaf effeithiol o helpu i amddiffyn pobl ac eiddo os bydd tân. Felly, rwy'n archwilio sut y gallem ni adeiladu ar y sylfaen a osodwyd gan ein deddfwriaeth 2016 arloesol, sy'n sicrhau bod system chwistrellu wedi'i gosod ym mhob cartref newydd a chartref sydd wedi'i haddasu yng Nghymru, ac yn hyrwyddo ôl-osod systemau chwistrellu mewn rhagor o adeiladau presennol. Rwyf i wedi gofyn i swyddogion ystyried y potensial i ddatblygu cynllun benthyciadau cost isel newydd i gefnogi ôl-osod systemau chwistrellu mewn blociau o fflatiau sy'n bodoli eisoes yn y sector preifat a chyhoeddus, a byddaf i'n cyhoeddi rhagor o fanylion am hynny maes o law.
Mae hwn yn waith cymhleth y bu'n rhaid rhoi amser iddo i fyfyrio ar yr amrywiaeth o safbwyntiau proffesiynol gwahanol a chynigion polisi posibl. Mae'n hanfodol ein bod yn cael hyn yn iawn gan y bydd y newidiadau deddfwriaethol yn gymhleth, gan gynnwys o leiaf dri darn allweddol o ddeddfwriaeth. Rwy'n hyderus y gallwn ni gyrraedd y targedau sydd wedi'u nodi yn yr amserlen a gyhoeddwyd gennyf i ac, yn bwysig iawn, y byddan nhw yn cyflawni ein hymrwymiad i ddiwygio'r system er gwell. Diolch
Er fy mod i'n cytuno â llawer o ddull gweithredu'r Gweinidog, rwy'n credu ei bod yn bryd symud yn gynt, ond rwy'n croesawu'r ffaith ein bod yn cael datganiadau rheolaidd ar y mater pwysig iawn hwn. Er enghraifft, rwy'n sylwi y byddwch yn cyhoeddi Papur Gwyn ar ddiogelwch adeiladau. Rwy'n credu bod hynny'n briodol. Ond rwy'n credu mai'r hyn y mae angen inni ei wybod hefyd yw a ydych chi'n bwriadu deddfu cyn etholiadau'r Cynulliad yn 2021, oherwydd, os na fyddwch yn gwneud hynny, bydd yn rhaid i unrhyw Lywodraeth a etholir yn yr etholiad hwnnw yn gorfod cyflwyno rhaglen ddeddfwriaethol, ac mae'n debyg na fydd hynny tan hydref 2021, a gallai fod yn 2022 neu 2023 cyn i ni weld unrhyw ddeddfwriaeth. Felly, rwy'n credu o ddifrif bod angen i ni wneud y ddeddfwriaeth yn y Cynulliad hwn, os yw hynny'n bosibl.
Mae gennyf i gwpl o gwestiynau penodol hefyd. Rwy'n nodi'r hyn y gwnaethoch chi ei ddweud am gompartmentau, ac nid yw'n hawdd dweud hynny, gan eu bod yn hanfodol i ddyluniad adeiladau uchel, a bod yn rhaid i unrhyw archwiliad diogelwch ystyried hynny, ac yna mae'n gorfod ystyried unrhyw waith adfer yn y dyfodol, a mannau cymunedol. Hyd yn oed drws ffrynt pob person—os nad yw hynny'n unol â'r diogelwch tân gofynnol, yna does dim ots pa mor gadarn yw'r fflat, yn amlwg mae gennych chi broblem. Ond rwy'n awyddus i wybod lle'r ydym ni arni gyda'r cyngor i aros lle'r ydych chi hefyd. Rwy'n sylwi yn Lloegr—mae'n ddrwg gen i, yn Llundain—maen nhw'n adolygu hynny'n benodol. Mae llawer o ddryswch o hyd ynglŷn â'r hyn y dylai preswylwyr ei wneud.
Ac yna cofrestru asiantau rheoli—er y gallwn i weld, o ran cynllun gwirfoddol, y gallwch chi fynd yn gyflymach ar hynny, hoffwn i wybod a oes gennym ni y pŵer i ddeddfu neu a yw hynny y tu hwnt i'n pwerau? Ac, os nad ydyw o fewn ein pwerau, pa drafodaethau yr ydym ni'n eu cael gyda Llywodraeth y DU i sicrhau—? Rwy'n credu y dylai fod yn system orfodol, ac os byddai modd i ni symud ymlaen ar hynny cyn gynted ag sy'n bosibl—.
Yn olaf, a gaf i ddweud fy mod ychydig yn siomedig am yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yn y sector preswyl preifat, lle y bu fwyfwy o ddatgelu adeiladau is-safonol, rhai ohonyn nhw nad ydynt yn hen iawn? Mae adeilad Celestia ym Mae Caerdydd wedi cael ei drafod, ac rwy'n credu ei fod yn enghraifft drafferthus: wedi'i ddatblygu gan Redrow, rydym yn gwybod erbyn hyn fod ganddyn nhw rwystrau tân rhwng fflatiau sydd naill ai'n wael iawn, neu nad ydyn nhw'n bodoli—mae gorchymyn gorfodi wedi cael ei gyhoeddi gan yr awdurdod tân—yn wael iawn neu fesurau compartmentau nad ydyn nhw'n bodoli; nodweddion dylunio nad ydyn nhw'n weithredol i atal tân rhag lledaenu'n fewnol; rhwystrau ceudod tân allanol ar goll neu'n ddiffygiol; ac nid yw peth o'r cladin coed ac inswleiddio yn cyrraedd y safonau gofynnol. Nawr, dim ond wrth ddarllen hynny allan, gallwch chi ddychmygu'r hyn y mae'r preswylwyr yn ei deimlo, ond mae'n ymddangos yn awr eu bod yn mynd i ysgwyddo'r holl risg a'r gost o unioni pethau, oni bai fod pwysau'n cael ei ddefnyddio. Rwy'n credu bod gan y datblygwyr a'r adeiladwyr gyfrifoldeb moesol, ond mae angen inni fynd ychydig ymhellach na hynny a gweld a oedd y rheoliadau a oedd mewn grym ar y pryd wedi cael eu dilyn yn gywir, ac, os nad oeddent, a bod methiant systematig, felly hyd yn oed os oedd y deunyddiau yn gywir, nid oedd y ffordd y cawsant eu gosod yn gywir, yna mae'n ymddangos i mi fod angen dull partneriaeth, o leiaf, rhwng y sector preifat, y sector gwladol ac, efallai, preswylwyr hefyd. Ond nid wyf yn credu y dylai'r preswylwyr fod yn ysgwyddo baich y gost—dim byd tebyg iddi.
Mae Llywodraeth y DU, er mwyn symud ymlaen, wedi cyhoeddi y byddai tua £200 miliwn ar gael i symud a disodli cladin anniogel o adeiladau preswyl preifat uchel. Bydd hyn yn galluogi gwaith adfer i ddigwydd a bydd yn rhaid ei wneud er budd y prydleswyr, ac mae'n debyg y bydd yn helpu i leihau'r costau y maen nhw'n eu hwynebu. Wn i ddim os ydy hynny'n gynllun y DU. Os ydyw, beth y gallwn ni ddisgwyl ei gael a sut y byddwch chi'n ei weinyddu? Os nad ydyw, a oes unrhyw swm canlyniadol dan fformiwla Barnett ac a fyddwch chi'n datblygu cynllun hefyd?
Ond, nid yw'n ddigon, yn fy marn i, a byddwn i'n dweud hyn am Lywodraeth y DU hefyd—nid wyf yn sôn amdanoch chi yn unig—i siarad ynghylch cyfrifoldeb moesol yr adeiladwyr a'r datblygwyr. Mae angen inni gael pawb o amgylch y bwrdd a dod o hyd i ateb, ac nid dim ond anfon biliau am £40,000, o bosibl, at rywun sy'n berchen ar fflat dwy lofft gymedrol yn un o'r datblygiadau hyn. Mae pobl yn wirioneddol bryderus—rwy'n siŵr bod llawer ohonyn nhw yn gwylio'r sesiwn hon. Byddwn i'n cydweithio â chi'n llawn, oherwydd rydym ni yn y fan lle'r ydym ni drwy gyfres o broblemau a chamgymeriadau a gyflawnwyd gan wahanol weinyddiaethau, mae'n siŵr, ond mae angen inni helpu'r bobl hyn sydd mewn angen gwirioneddol ar hyn o bryd, ac mewn sawl ffordd, sydd mewn sefyllfa waeth na'r rhai mewn tai cymdeithasol.
Dydw i ddim yn anghytuno, mewn gwirionedd, David, ag unrhyw beth yr ydych chi wedi'i nodi yno. Rydym ni'n teimlo'n rhwystredig iawn ynghylch y sefyllfa. Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth y DU yn ymchwilio i weld a ddylid dod â rhywbeth a elwir yn adran 38 o Ddeddf Adeiladu 1984 i rym, sef rhan o'r Ddeddf Adeiladu sy'n mynd i'r afael â'r atebolrwydd sifil a phwy sy'n gyfrifol am dorri'r ddyletswydd reoleiddio ac ati. Felly, mae'r ymgynghoriad hwnnw'n fyw. Nid oes gennym ni'r pŵer i'w wneud yma, fel rwyf i'n ei ddeall, er, os yw hynny'n anghywir, byddaf i'n ysgrifennu i ddweud, ond yn ôl yr hyn yr wyf i'n ei ddeall, nid oes gennym ni.
Os ydyn nhw'n dod â hynny i rym, mae'n rhoi hawl cyfreithiol i unigolion droi atyn nhw os ydyn nhw'n dioddef difrod, sy'n cynnwys anaf personol, marwolaeth ac yn y blaen, o ganlyniad i dorri'r ddyletswydd a osodir gan reoliadau adeiladu. Ond, ar hyn o bryd—. Mae gen i dudalennau a thudalennau yma o gymhlethdodau'r gyfraith sy'n ymwneud â phwy sy'n gyfrifol os oedd adeiladau wedi pasio trefn reoleiddio ar un adeg yna wedi'i fethu ar ôl hynny, ac mae'n hynod o gymhleth. Gofynnodd Andrew R.T. Davies gwestiwn yn y datganiad busnes yn gynharach am hyn, ac mae arnaf i ofn mai'r ateb yw ei fod yn hynod o gymhleth. Mae'n dibynnu pa bryd y cawson nhw eu harolygu, gan bwy, beth oedd y berthynas, beth yw eich sefyllfa o ran yswiriant ac a ydych yn lesddeiliad. Mae'n hynod o gymhleth ac yn unigol iawn.
Yr hyn sy'n amlwg, serch hynny, yw nad yw'r drefn bresennol yn rhoi'r cyfrifoldeb ar yr arolygydd adeiladu. Y cyfan maen nhw'n ei wneud yw hapwiriadau, felly gallai rhywbeth fod wedi mynd o'i le y diwrnod cyn hynny sydd nawr wedi'i guddio neu'n mynd o'i le y diwrnod wedyn, felly mae'n system sy'n seiliedig ar hapwiriadau—nid oes gwarant y bydd eich adeilad yn cydymffurfio. Yn wir, fel yr ydych chi wedi'i nodi'n briodol, rydym ni bellach yn ymwybodol nad yw llawer o adeiladau a lwyddodd i basio'r profion hynny ar sail hapwiriadau yn cydymffurfio, felly mae wir yn broblem.
Rydym ni'n sgwrsio—yn benodol, fe wnaethoch chi sôn am Celestia. Mae swyddogion wrthi'n sgwrsio â'r awdurdodau tân—Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi bod yn cwrdd ag asiantau rheoli Celestia a Chyngor Caerdydd, yn ogystal â thân ac achub, i ddeall y materion cymhleth sy'n achosi problemau yno. Cytunaf â chi na ddylid disgwyl i lesddeiliaid dalu'r rhain, ond, ar hyn o bryd, nid yw'n glir, oni bai fod ganddyn nhw hawliad dilys, pwy fyddai'n talu oni bai fod Llywodraeth y DU yn darparu rhywfaint o arian, ac ymunaf â chi i alw arnyn nhw i wneud hynny.
O ran y materion cladin ACM, mae'r rheini ychydig yn fwy cymhleth. Felly, cafodd 111 adeilad uchel eu nodi yng Nghymru a 12 o adeiladau preswyl preifat uchel gyda chladin ACM a fethodd y profion sgrinio cychwynnol, ac yr oedd pob un ohonyn nhw yng Nghaerdydd. Mae pob un o'r 12 adeilad naill ai wedi cael gwared ar y cladin neu wedi sefydlu system adfer. Felly, nid yw'r broblem benodol honno'n broblem yng Nghymru, er ei bod yn dal yn broblem mewn mannau eraill. O ran cartrefi cymdeithasol, fe wnaethom ni ddarparu'r arian i unioni'r sefyllfa. Felly, yng Nghymru nid yw'r broblem benodol honno'n bodoli, er ein bod yn parhau i brofi mathau eraill o gladin. Weithiau, nid y cladin ei hun yw hyn, ond y ffordd y cafodd ei osod, fel y dywedwch chi, a'r crefftwaith ac yn y blaen, felly mae'r rhain yn bethau cymhleth iawn.
O ran yr amseru, rwy'n derbyn yn llwyr yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud. Byddai'n hyfryd ei gyflawni, ond y peth arall i'w wneud yw ei gyflawni'n gywir. Ac felly, mae'r rhain yn wirioneddol gymhleth, a po fwyaf y byddwn ni'n mynd i mewn iddyn nhw, y mwyaf o farnau proffesiynol sydd ar gael. Felly, rwyf i am wneud pethau'n iawn. Rwy'n gobeithio y bydd y Papur Gwyn yn ein galluogi i wneud y dewisiadau polisi hynny, ac wedyn gan dybio nad ydyn nhw'n ddadleuol, efallai y byddwn ni'n gallu sicrhau bod y ddeddfwriaeth honno'n cael ei chyflwyno. Rwy'n rhannu eich dymuniad i wneud hynny, ond bydd yn rhaid inni weld beth fydd y Papur Gwyn yn ei gynhyrchu.
Diolch i'r Gweinidog am yr wybodaeth ddiweddaraf a ddarparwyd yn y datganiad. Os yw tân Grenfell wedi dangos un peth yn fwy na dim, y peth hwnnw yw gymaint y mae amodau tai llawer o bobl wedi cael eu hesgeuluso am rhy hir o lawer. Dylai hefyd dynnu sylw at beryglon rheoleiddio a chynllunio llac, yr ydym ni'n gweld eu canlyniadau yn y fan yma.
Mae gen i ychydig o gwestiynau i'w gofyn i ganolbwyntio ar agwedd benodol hon y datganiad. Yn gyntaf oll, nid oes unrhyw reoleiddio proffesiynol ar gyfer adeiladwyr; gall unrhyw un sefydlu ei hun fel adeiladwr a chael gwaith a allai, yn y pen draw, fod yn berygl tân. Rydym ni'n un o'r ychydig wledydd lle mae hyn yn wir. Felly, a fydd y Gweinidog yn barod i ystyried sefydlu rheoleiddio proffesiynol er mwyn codi safonau?
Yn ail, mae eich datganiad yn sôn am enw da proffesiynol perchnogion a datblygwyr adeiladau. Fodd bynnag, yn ymarferol, mae'n ymddangos nad yw'r enw da hwn yn golygu fawr ddim i lawer ohonyn nhw. Rhan o'r broblem hon yw nad oes modd i ddatblygwyr sy'n gwneud cais am waith cynllunio gael eu henw da wedi'i ystyried gan swyddogion cynllunio, sy'n gorfod derbyn eu gair y caiff addewidion eu cadw. Felly, beth fyddwch chi'n ei wneud i newid hyn, a sicrhau bod enw da datblygwr yn rhywbeth sy'n fwy o bwys iddyn nhw na'r gallu i dalu bonws mawr i'w rheolwyr?
Yn olaf, fe hoffwn i eich holi am ran olaf eich datganiad sy'n sôn am y problemau y mae lesddeiliaid yn yr un adeiladau yn eu hwynebu, mater sydd wedi cael sylw yn y cyfryngau'n ddiweddar, ac a grybwyllwyd ichi y prynhawn yma. Nawr, mae eich datganiad yn awgrymu gweithredu cynllun benthyca cost isel i ôl-osod systemau chwistrellu, ond nid wyf yn siŵr iawn y bydd hynny'n helpu. Mae un o'r datblygwyr eisoes wedi cynnig benthyciad fodd bynnag. Mae hyn yn fater o anghyfiawnder. Pam bod angen i drigolion a brynodd y fflatiau hynny'n ddiffuant orfod talu i unioni'r materion hynny y dylid bod wedi'u canfod yn y broses rheoli ansawdd y dylai fod datblygwr cyfrifol yn eu gweithredu? Yn lle hynny, a fyddech chi'n cytuno mai datblygwyr sydd wedi elwa ar gyfundrefn cynllunio a rheoleiddio ddifflach a ffwrdd-â-hi ddylai fod y rhai sy'n unioni hyn? Byddai treth ar hap ar ddatblygwyr mawr yn un ffordd o dalu am gywiro'r gwaith hwn ond, wrth gwrs, nid oes gennym ni'r gallu i wneud hynny yn y fan yma. Ond mae gennym ni'r gallu i greu trethi newydd. Felly, a wnewch chi gyfarwyddo'ch swyddogion i ymchwilio i weld pa fathau o drethi newydd y gellid eu codi i sicrhau na all y cwmnïau adeiladu preifat hynny sydd wedi elwa o ddiogelwch gwael barhau i wneud hynny?
Gwnaf. Felly, er mwyn bod yn glir o ran y benthyciad, nid wyf yn sôn am roi benthyg i'r trigolion; rwy'n sôn am roi benthyg i'r datblygwyr, gan fod rhai ohonynt yn dweud na allant ei fforddio. Felly, rwy'n cytuno â hynny, ond mae'n rhaid i ni weithio drwy'r system. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr â chi na ddylai'r preswylwyr fod yn talu amdano, dim ond i fod yn glir. Ond mae hynny'n hynod o gymhleth, oherwydd ni allwn ni eu holrhain i gyd, mae rhai ohonyn nhw wedi trosglwyddo'r cwmnïau rheoli drwy dri neu bedwar iteriad, ac mae un yn fy ardal i yn Abertawe lle mae pawb dan haul wedi mynd yn fethdalwyr. Maen nhw'n faterion cymhleth iawn i'w hymdrin â nhw. Ond i fod yn glir, rwy'n ceisio sicrhau nad y trigolion yw'r bobl sy'n gorfod talu'r bil yn y pen draw. Felly, cytunaf yn llwyr na ddylen nhw fod yn gorfod gwneud hynny, er mewn gwirionedd, mae'n bwysig iawn sicrhau bod pethau'n cael eu hunioni hefyd, felly byddwn ni'n cyflwyno hynny, ond yn sicr, rwyf yn ystyried yr egwyddor honno.
O ran y dreth ar hap, nid oes gennyf unrhyw syniad o gwbl, ond rwy'n fwy na pharod i ymrwymo i siarad â'm cyd-Aelod Rebecca Evans ynghylch a fyddai'r fath beth yn bosib yng Nghymru, ond rwyf yn sicr yn derbyn eich pwynt. Un o'r anawsterau yw bod pobl yn sefydlu cwmnïau cyfrwng un diben i adeiladu'r pethau hyn, ac felly, yn aml iawn, nid y cwmni daliannol—yr un sy'n gwneud yr elw i gyd—yw'r un sy'n atebol yn lleol. Wrth ymateb i David Melding, dylwn i fod wedi dweud bod hynny'n un o gymhlethdodau'r system gyfreithiol, oherwydd gall ceisio sefydlu contract rhyngoch chi a'r cwmni daliannol terfynol fod yn gymhleth iawn. Mae'n un o'r pethau y bydd yn rhaid i'n system ni ei oresgyn pan fyddwn ni'n ei sefydlu; mae'n hynod o gymhleth pwy sy'n gyfrifol am yr adeilad sy'n bodoli.
A dyna'r mater arall ynghylch y peth cynllunio; mae gennyf i lawer o gydymdeimlad â'r syniad y dylid caniatáu i enw da blaenorol gael ei ystyried, ond mae mor hawdd sefydlu cwmni cyfrwng un diben i wneud hynny. Felly, mae'n ymwneud ag olrhain unigolion drwy'r system yn ogystal ag enwau cwmnïau. Felly, er fy mod yn derbyn egwyddor hynny, yn ymarferol, mae hynny hefyd yn broblematig iawn i'w wneud. Ond rwyf yn derbyn y prif bwyntiau, ac yn sicr, byddwn ni'n edrych arnyn nhw.
Rheoliadau proffesiynol ar gyfer adeiladwyr: rwyf i eisoes wedi cael sawl sgwrs gyda chyrff proffesiynol ynghylch ein bod yn gwneud hynny. Maen nhw'n awyddus iawn i sefydlu cyfundrefn ledled Prydain gan fod llawer ohonyn nhw'n yn gweithio ar draws ffiniau ac yn y blaen. Rwy'n awyddus iawn i fynd ar drywydd hynny. Os na fydd Llywodraeth y DU yn bwrw ymlaen â'r gwaith, rydym ni'n awyddus iawn i edrych ar yr hyn y gellir ei wneud yma yng Nghymru. Ac mae hynny'n wir am y gadwyn gyfan: felly, gwerthwyr tai yn ogystal, asiantau rheoli, a'r cyrff proffesiynol ar gyfer adeiladwyr. Ond mae'r proffesiwn ei hun yn awyddus iawn nad ydym ni'n rhoi mwy o rwystrau o flaen pobl sydd eisoes yn aml ar gontractau gwael dim oriau a phethau felly. Felly, mae llawer o gymhlethdod o ran hynny. Ond maen nhw hefyd yn cydymdeimlo â'r syniad, wyddoch chi, y byddwn yn gallu cerdded allan o adeilad, galw fy hun yn saer coed a sefydlu fy hun, ac yn amlwg ni fyddai gennyf i'r syniad lleiaf o sut i wneud hynny, dim ond i fod yn glir.
Felly, mae gen i lawer o gydymdeimlad â'r hyn yr ydych chi'n ei ddweud. Yr hyn yr hoffwn ei wneud, Llywydd, yw cadw pobl mewn cysylltiad â'n syniadau wrth iddynt ddatblygu, a phan gyhoeddwn ni'r Papur Gwyn, i barhau i gael y sgwrs bolisi honno am oblygiadau ymarferol rhai o'r egwyddorion sydd yn fy nhyb i yn cael eu rhannu ar draws y Siambr ynghylch yr hyn yr hoffem ni ei weld.
Gweinidog, rwy'n cymryd rhan yn y ddadl hon, mewn gwirionedd, oherwydd rwyf eisiau cefnogi a chytuno â'r amrywiol sylwadau sydd wedi'u gwneud, ac yn sicr am gyflwr y diwydiant adeiladu tai a pheth o'r gwaddol sydd gennym ni.
Mae gennyf i etholwr sydd wedi gofyn imi godi'r mater Celestia yn benodol, ac yn amlwg mae'n un o blith llawer. Mae bellach yn byw yn fy etholaeth. Wrth gwrs, nid yw'n gallu gwerthu ei fflat oherwydd y malltod sydd wedi digwydd. A'r sgandal sylfaenol yw hyn: rydym ni'n ei weld ledled Cymru, rwy'n gwybod, ac rwy'n siŵr ledled y DU, o ran pam mae'n ymddangos bod y monopoli hwn ar adeiladu tai yn gweithredu ar hyn o bryd gyda safonau moesegol isel iawn. Rydych chi'n adeiladu tai sâl, yna'n troi cefn arnyn nhw ar ôl gwneud elw enfawr, ac yn gadael gwaddol enfawr o ran problemau ac atgyweiriadau ac yn y blaen. Rwy'n siŵr bod gan y rhan fwyaf o Aelodau'r Cynulliad lwythi achos enfawr o bobl sydd wedi symud i'r tai newydd hyn, weithiau gyda chymorth y Llywodraeth o ran y trefniadau ariannu, dim ond i gael, flwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn, y gwaddol o broblemau sy'n bodoli a'r problemau sydd yno pan fydd pobl eisiau ceisio gwerthu eu tai penodol. Mae'n ymddangos i mi mai gwir hanfod hyn, fel yr ydym ni i gyd wedi'i ddweud o bryd i'w gilydd, yw mai'r hyn y mae arnom ni ei angen yw polisi tai ac adeiladu tai cynhwysfawr, moesegol.
Rhan o'r broblem, wrth gwrs, yw inni golli'r gallu yn y sector cyhoeddus i adeiladu tai ein hunain, ac mae hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid inni ei adennill oherwydd yr hyn sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd yw monopoli drosom ni, ac nid ydyn nhw'n poeni. Rydym ni i gyd wedi cwrdd â nhw o bryd i'w gilydd. Rydym ni'n cael cyfarfodydd dibwrpas o'r fath sydd bron â bod fel cyfarfod â banciau i drafod cau banciau. Rydych chi'n cyfarfod â rhai o'r cwmnïau tai hyn i drafod y problemau tai sydd ganddyn nhw, ac rydych chi'n eistedd ac, ie, rydych chi'n cael llawer o amneidio cefnogol, ond nid oes dim byd yn newid. Mae'r ffaith bod gennym ni dai modern yn cael eu hadeiladu nad ydyn nhw hyd yn oed yn cael gwasanaethau rhyngrwyd sylfaenol wedi'u gwarantu—rhywbeth sy'n gwbl sylfaenol.
Felly, mae'n rhaid inni edrych, rwy'n meddwl, ar y gwendidau yn ein trefniadau cynllunio ein hunain: y ffaith ein bod yn rhoi caniatâd cynllunio i'r cwmnïau tai hyn i gael y budrelw hwn ac i flingo'r bobl sy'n prynu'r tai hyn, ac mae'n rhaid i ni edrych ar ddewisiadau eraill o ran adeiladu tai, boed hynny'n adeiladu tai cydweithredol, boed yn sefydlu ein cwmnïau ein hunain o ran hynny. Ac rwy'n gwybod, Gweinidog, eich bod yn gefnogol iawn o'r mathau hyn o bethau, ond rwy'n credu bod yr amser wedi dod nawr, yng Nghymru, pan rwy'n credu y gallwn ni ddweud, 'Digon yw digon; ni all hyn barhau mwyach.' Dim ond un enghraifft yw Celestia o'r cwmnïau hyn. Maen nhw'n adeiladu'r tai, maen nhw'n casglu'r elw, yna nid ydyn nhw'n derbyn unrhyw gyfrifoldeb amdanynt yn ddiweddarach, ac mae'r lesddaliad yn sgandal arall. Ac rwy'n dal i fod o'r farn y dylem ni wahardd unrhyw dai prydles pellach. Mae pethau eraill na allwn ni eu gwneud.
Felly, Gweinidog, y cyfan y byddwn i'n ei ofyn yw eich bod yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i bolisi tai moesegol, cynhwysfawr, ond hefyd i edrych ar hyn o bryd ar y bobl hynny, er enghraifft, yn Celestia sydd â'r problemau penodol hyn, i wneud yr hyn a allwch chi i ddod â'r cwmnïau tai hyn gyda'i gilydd, i guro eu pennau gyda'i gilydd a gwneud iddyn nhw dderbyn y cyfrifoldebau y dylen nhw fod yn ei chymryd. Mae'n un peth i'w ddweud, 'byddwn ni'n eu henwi ac yn eu cywilyddio', rwy'n credu eu bod wedi cael eu cywilyddio ac nid wyf yn credu eu bod yn poeni gymaint â hynny mwyach. Ond, yn sicr, pa bynnag bwysau—. Ac, a dweud y gwir, os na allan nhw gydymffurfio, os na allan nhw gyflawni'r safonau y dylen nhw, yna, yn sicr, a ddylem ni fod yn caniatáu iddyn nhw adeiladu tai yng Nghymru, a ddylai'r system gynllunio, rywsut, ddweud, 'Os na allwch chi ymrwymo i'r safonau moesegol hyn, yna nid ydym ni eisiau i chi adeiladu tai yma yng Nghymru.'
Wel, diolch yn fawr am hynny. Rwy'n cytuno yn gyffredinol â phopeth yr ydych chi wedi'i ddweud. Rydym ni'n gweithio, yn union fel y dywedwch chi, ar bolisi moesegol cynhwysfawr. Bydd y Papur Gwyn yn sicrhau rhai o'r agweddau diogelwch hynny o adeiladau. Mae agweddau eraill yn ymwneud â safonau a seilwaith gwyrdd a'r holl agweddau eraill yr ydym ni hefyd eisiau eu sefydlu.
Mae'n sefyllfa sydd bron yn fonopoli, ond mewn gwirionedd, dim ond ddoe fe wnaeth Lee Waters a minnau gwrdd â busnesau bach a chanolig y sector adeiladu yng Nghymru dim ond i drafod sut y gallem ni gefnogi'r sector busnesau bach a chanolig gymryd cyfrifoldeb, mewn gwirionedd, ynghylch hynny a'r hyn y gallai fod ei angen arnyn nhw o ran cymorth gan y Llywodraethu i wneud hynny. Hefyd, wrth gwrs, ar hyn o bryd, rydym ni'n gallu adeiladu tai cymdeithasol yn gyflymach ac ar raddfa na welsom ni o'r blaen, a bydd hynny'n esgor ar fath gwahanol o gystadleuaeth yn y farchnad. Rwy'n credu na ellir dweud yn ddigon aml fod y safonau yr ydym ni'n eu defnyddio i adeiladu tai cymdeithasol yn uwch, ar hyn o bryd, yn uwch na'r safonau a ddefnyddir i adeiladu tai'r sector preifat. Nid wyf yn siŵr bod hynny yn wybodaeth eang yng Nghymru, felly rwy'n dweud hynny'n glir iawn. Rydym ni'n edrych i ymestyn y safonau hynny yn gyffredinol cyn gynted ag y bo modd.
Mae hwn yn fater cyfan—. Rwy'n gwybod bod Mick Antoniw yn ymwybodol o rai o'r materion cyfreithiol sy'n ymwneud â phreifatrwydd cytundeb ac yn y blaen, fel cyfreithiwr, felly byddaf i'n troi at iaith y gyfraith mewn munud, ond mae rhai problemau gwirioneddol o ran preifatrwydd trefniadau contract a phwy sy'n gyfrifol. Mae'r mater a gododd David Melding—a gododd Leanne Wood, mewn gwirionedd—am yr hyn y bwriedir i'r system rheoli adeiladu ei wneud, gan nad yw wedi'i gynllunio, ar hyn o bryd, yn system reoleiddiol sy'n cael ei orfodi fel y mae pobl yn ceisio'i wneud—. Yr hyn y mae angen inni ei wneud yw ystyried system sydd yn gwneud hynny, gan fod system sy'n seiliedig ar ymddiriedaeth yn amlwg wedi methu, oherwydd, yn amlwg, mae system sy'n seiliedig ar ymddiriedaeth yn golygu bod pobl yn cyfyngu ar bethau. Felly, mae'n rhaid i ni ddod o hyd i system well na hynny ac mae'n bwysig cael hynny'n gywir fel nad ydym ni'n cael trasiedi arall oherwydd canlyniadau anfwriadol yn nes ymlaen.
Hoffwn dalu teyrnged, fodd bynnag, i'n gwasanaethau tân ac achub yng Nghymru. Fel y dywedais yn fy natganiad, rydym ni wedi gwneud yn dda iawn yng Nghymru. Yn wir, mae'r gwasanaeth tân wedi'i dileu'r angen am eu swydd, bron, oherwydd eu bod wedi gwneud gwaith mor dda. Mae gennym ni raglen gynhwysfawr iawn o ddiogelwch adeiladau a hyd yn oed yn yr adeiladau sydd bellach yn achosi problemau—ac rydym ni wedi sôn am Celestia heddiw, ond nid dyna'r unig un yng Nghymru; mae adeiladau eraill sydd â'r mathau hynny o broblemau—ond ym mhob un o'r achosion hynny, mae'r gwasanaethau tân ac achub ar gael i wneud yn siŵr bod y darpariaethau cywir ar waith i gadw pobl yn ddiogel yn eu cartrefi. Felly, hoffwn bwysleisio hynny, Llywydd—ein bod yn rhan o hynny. Felly, os oes unrhyw un yn gwybod am unrhyw sefyllfaoedd eraill y dylem ni fod yn rhan ohonyn nhw, rwy'n hapus i wneud hynny. Felly, rwy'n rhannu uchelgais Mick Antoniw a'i rwystredigaeth â'r system bresennol. Byddwn ni'n dwyn o leiaf rhan o'r hyn yr ydych chi'n sôn amdano ymlaen. Ac o ran y peth y mae'r llesddeiliaid yn ei ddweud, rwy'n meddwl bod y Prif Weinidog wedi dweud yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog—byddaf yn ymateb i'r adroddiad arbenigol cyn bo hir, gan ddweud yr hyn yr ydym ni'n bwriadu ei wneud yng Nghymru o ran hynny hefyd.
Mae arnaf i eisiau codi rhai materion a grybwyllwyd eisoes gennych chi, Gweinidog, ac, yn wir, cyfranwyr eraill, ac mae hynny'n ymwneud ag adeiladau preswyl uchel iawn yn y sector preifat. Dim ond yr wythnos diwethaf, derbyniodd y pwyllgor cydraddoldeb ohebiaeth gan lesddeiliad yn codi pryderon sylweddol iawn am fesurau ansawdd sylfaenol a diogelwch rhag tân a'u diffyg, ac roedd hyn yn dilyn arolwg lefel 4, a ddaeth o hyd i ddiffygion yn ymwneud â chompartmentau heb unrhyw rwystr tân effeithiol yn wal y compartment rhwng pob fflat a'r coridor cyffredin. Rwy'n gwybod bod y mater hwn wedi'i godi o'r blaen yn y cyfarfod llawn ac rydym ni'n ysgrifennu atoch chi ar hyn o bryd, mewn gwirionedd, ynghylch yr achos hwn, gyda mwy o fanylion am y cyfadeilad penodol dan sylw. Ond rwy'n credu ei fod hefyd yn gysylltiedig â phryderon ehangach am y sector preifat a'r blociau preswyl uchel iawn hyn. Rydym ni'n gwybod, er enghraifft, fod arolwg blaenorol ar lefel 4 wedi dod o hyd i broblemau tebyg gyda diogelwch tân mewn adeilad arall yn ne Cymru, ac roedd hyn yn rhywbeth roeddem ni wedi ymchwilio iddo yn ein hadroddiad ar ddiogelwch tân mewn adeiladau sector preifat uchel iawn ddiwedd y llynedd. Felly, rydym ni'n credu ei fod yn destun pryder mawr, mewn gwirionedd, o'r ddau adeilad a arolygwyd hyd at raddau lefel 4, roedd camau sylfaenol iawn ar goll o ran diogelwch tân. Ac rwy'n credu ei fod yn codi'r cwestiwn, mewn gwirionedd, i chi ac i bob un ohonom ni, o ran pa mor hyderus y gallwn fod ynghylch adeiladau preswyl uchel iawn eraill y sector preifat yng Nghymru o ran y materion hynny a diffyg y safonau sylfaenol hynny.
Yn ein hadroddiad ar ddiogelwch tân, Weinidog, fe wnaethom ni argymell y dylai Llywodraeth Cymru ymchwilio i ddichonoldeb sicrhau arolygon lefel 4 ar gyfer pob adeilad preswyl uchel iawn, ac fe wnaethom ni'r argymhelliad hwn am ein bod yn pryderu y gallai pobl fod yn byw yn ddiarwybod mewn adeiladau sydd â'r diffygion diogelwch tân sylfaenol hyn. Felly, roeddem ni'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad mewn egwyddor, gan nodi, fel rhan o'r ymateb i adolygiad Hackitt, y byddech chi'n mynd i'r afael â'r materion hyn ac y byddech chi'n ystyried yr angen am arolygon dwys o adeiladau a phwy sydd yn y sefyllfa orau i'w cynnal. Fodd bynnag, pan gyhoeddwyd y map ffyrdd, nid oedd yn mynd i'r afael â'r mater yn uniongyrchol, er bod y map ffyrdd yn nodi nad oedd llawer yn y gyfraith i fynnu gwelliannau ystyrlon i ddiogelwch tân yr adeiladau presennol yn ystod eu cylch bywyd. Dywedodd hefyd fod angen i Lywodraeth Cymru ystyried sut y bydd yn sicrhau y cai pob adeilad ei wella'n raddol i'r safonau uchaf a argymhellir erbyn hyn. Felly, byddwn i'n ddiolchgar, mewn gwirionedd, Gweinidog, pe gallech chi amlinellu pa ystyriaeth bellach sy'n cael ei rhoi i'w gwneud hi'n ofynnol defnyddio arolygon dwys lefel 4 ar gyfer yr holl adeiladau preswyl uchel iawn presennol yn y sector preifat yng Nghymru.
Diolch am hwnna, John. Cytunaf yn fras â hanfod hynny. Byddwch yn gwybod o wahanol sgyrsiau a gawsom ni ynglŷn â hyn fod y cynllun yn argymell bod angen gwneud rhagor o waith i ddeall beth yw'r problemau o ran capasiti a pha adnoddau fyddai eu hangen i gynnal profion o'r fath yng Nghymru, ac rydym ni'n trafod yr un mater yn barhaus â Llywodraeth y DU a'i grŵp llywio cymhwysedd, oherwydd mae'r materion capasiti hynny'n debyg ledled Cymru. Felly, mae cynllunio'r gweithlu ac ystyried materion capasiti ar hyn o bryd ac yn y dyfodol yn rhan allweddol o grŵp gorchwyl a gorffen dylunio ac adeiladu'r gweithgor cynllun, ac rydym ni eisoes wedi dechrau ar y gwaith o ran cynllunio gweithlu'r dyfodol.
Byddwn wrth fy modd yn gallu dweud wrthych chi, 'Gwnawn, fe wnawn ni hynny', ond rwy'n gwybod na fyddai awdurdodau lleol yn gallu gwneud hynny ar hyn o bryd. Felly, yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yw gweithio i weld pa mor gyflym y gallwn ni wneud hynny gyda'r capasiti sydd gennym ni, a pha mor gyflym y gallwn ni gynyddu'r capasiti, oherwydd nid yw datgan ein bod yn mynd i wneud hynny yn cynhyrchu drwy ryw hud a lledrith y bobl sy'n gallu gwneud hynny ac sy'n gymwys i wneud hynny, ac sy'n gallu cynnal archwiliad i'r safon briodol, ac ati. Felly, rwy'n dal i dderbyn mewn egwyddor yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud; rydym ni'n dal i weithio'n galed iawn ar gynyddu'r capasiti i allu cyflawni hynny.
Diolch i'r Gweinidog—
Mae'n ddrwg gennyf, Llywydd, a gaf fi ddweud un peth? Gyda'ch caniatâd. Mewn ymateb i rywbeth a grybwyllodd Rhun yn fy sesiwn gwestiynau yr wythnos diwethaf, fe ddywedais yn anfwriadol fod Llinos—roeddwn i'n canmol Llinos yn fawr, ac fe hoffwn i ailadrodd y sylwadau hynny, ond fe ddywedais yn anfwriadol ei bod hi'n aelod o is-grŵp cyllid y cyngor partneriaeth, a dim ond eisiau cywiro'r cofnod yr wyf i a dweud nad yw hi. Roeddwn i wedi drysu gyda nifer cyfarfodydd y cyngor partneriaeth yr wyf wedi bod ynddyn nhw. Nid yw hi'n aelod o'r is-grŵp penodol hwnnw. Dim ond eisiau cywiro'r cofnod yn hynny o beth oeddwn i. Mae'n ddrwg gen i.
O'r gorau. Cywirwyd y cofnod.
Felly, yr eitem nesaf yw'r datganiad gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth ar flaenoriaethau ar gyfer yr economi ymwelwyr 2020 i 2025, a dwi'n galw ar y Dirprwy Weinidog i wneud ei ddatganiad—Dafydd Elis-Thomas
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae'n arbennig o addas, yn fy marn i, fy mod i'n gwneud y datganiad yma ar yr adeg hon. Fuodd hi erioed yn fwy addas i ddathlu diwylliant, natur unigryw a hunaniaeth Cymru, ein tirwedd a'r anturiaethau rhyfeddol sydd i'w cael, nac yn wir i wahodd pobl i'r wlad yr ydym ni i gyd yn ei hystyried i fod yn arbennig o brydferth.
Dwi'n falch iawn, felly, o'r hyn sydd wedi cael ei wneud dros y pum mlynedd ddiwethaf i ddatblygu twristiaeth yng Nghymru. Dwi'n gobeithio bod Aelodau'r Cynulliad, fel dwi'n gwybod bod y rhelyw yn y diwydiant, yn frwd iawn dros y brand cadarn ac arobryn ac unigryw i Gymru sydd gyda ni, ac sydd yn ganolog i bopeth rydyn ni'n ei wneud. Ond nid yn unig y mae'r brand yma wedi cael ei ddefnyddio i ddenu ymwelwyr, mae wedi cael ei ddefnyddio gan fy nghyd-Weinidogion i hyrwyddo Cymru yn rhyngwladol, i ddangos bwyd a diod gwych Cymru, a hyd yn oed i recriwtio i'r gwasanaeth iechyd.
Daeth Suzy Davies i’r Gadair.
Sail y brand newydd ydy'r pwyslais yma ar 'flynyddoedd', ond nid mater o un flwyddyn ar y tro yn unig ydy hyn erbyn hyn. Rydyn ni'n ymestyn y blynyddoedd dros ddwy flynedd, fel bod y themâu yma yn gallu cyd-weu â'i gilydd—themâu fel 'chwedlau', 'antur', 'y môr', ac i ddod yn y flwyddyn nesaf, 'Blwyddyn Awyr Agored'. Mae'r rhain yn dod â sefydliadau gwahanol ledled Cymru at ei gilydd o dan faner i dynnu sylw at y gorau o ddiwylliant, tirwedd ac anturiaethau Cymru.
Dwi'n falch iawn hefyd o'r buddsoddiad sydd wedi cael ei wneud yn y cynnyrch gwych sydd wedi newid canfyddiadau pobl o Gymru. Fyddwch chi ddim yn synnu imi gyfeirio at Zip World, lle gall genhedlaeth newydd brofi ein hetifeddiaeth a'n treftadaeth ddiwydiannol—os ydyn nhw'n cael cyfle i weld yr hyn maen nhw'n ei basio mor gyflym, os ydyn nhw'n mynd i gyflymder o dros 90 milltir yr awr. Ond mae'r atyniadau yna—ac, wrth gwrs, Surf Snowdonia, y morlyn syrffio cyntaf yn y byd—wedi pwysleisio pwysigrwydd antur yn nhirwedd Cymru.
Dwi'n gwybod hefyd fod pobl drwy Gymru a thu hwnt wedi mwynhau y digwyddiadau rydyn ni wedi'u cefnogi fel Llywodraeth: rowndiau terfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA; Ras Cefnfor Volvo; digwyddiadau lleol fel Gŵyl y Gelli; ac yna lle y mae yna ddigwyddiadau rhyngwladol yn dod drwy Gymru, p'un ai rhai beicio a rhai'n ymwneud â moduro ac yn y blaen. Drwy ddod ag ymwelwyr i Gymru, mae'r cynnyrch newydd yma—digwyddiadau gwych a'r cymorth ar gyfer marchnata—yn dangos pa mor allweddol yw twristiaeth i economi Cymru.
Mae yna dros 11,500 o fusnesau twristiaeth yng Nghymru. Mae'r rhain yn dod â £6.3 biliwn i'r economi. Mae oddeutu 9 y cant o gyflogaeth actif yn yr economi mewn twristiaeth. A dyna pam fy mod i'n falch iawn ein bod ni fel Llywodraeth wedi cydnabod twristiaeth fel rhan o economi sylfaenol o fewn y cynllun gweithredu economaidd, ac o'r trywydd rydyn ni wedi'i osod ac rydyn ni bron â'i gyrraedd yn ein cynllun twristiaeth presennol, sef cynyddu ein hincwm o 10 y cant dros gyfnod.
Mae hyn yn fy arwain i, felly, at amlinellu rhai o'r blaenoriaethau newydd. Mae twristiaeth yn sbardun economaidd ar draws Cymru. Rydyn ni'n teimlo hefyd y gallwn ni wneud mwy drwy'r economi ymwelwyr er mwyn hyrwyddo'r economi gyffredinol. Nid yn unig rydyn ni wedi gallu sicrhau swyddi drwy dwristiaeth, cefnogi cymunedau drwy naws am le, cynnal brwdfrydedd dros ein treftadaeth a'n diwylliant, a chreu cyfleoedd i gynnal gweithgaredd corfforol, sydd mor bwysig ar gyfer iechyd y genedl a'n hymwelwyr ar draws Cymru—. Ac felly, uchelgais y cynllun gweithredu newydd, fel y gwelwch chi pan gyhoeddir o ym mis Rhagfyr, ydy datblygu twristiaeth er lles Cymru. Mae hynny'n golygu ei bod hi'n dal yn bwysig i ddatblygu twristiaeth, ond mewn ffordd sydd yn cynnig manteision ehangach i ddiwylliant, i gymunedau, gan wneud hynny drwy ddiogelu'r amgylchedd. Hynny yw, twristiaeth gynaliadwy yw twristiaeth Gymreig, ac mae'r weledigaeth yma'n ganolog i'r cynllun llywio, fel y gwelwch chi pan ddaw o allan.
Rydw i wedi ei gwneud hi'n glir nad gweledigaeth Llywodraeth yw hon na gweledigaeth un adran ohoni. Pan gychwynnon ni weithio ar y cynllun yma, fe wnaethon ni ohebu gyda Gweinidogion ac Aelodau'r Cynulliad i ofyn am gael gwybodaeth am eich gweledigaeth chi ar gyfer dyfodol twristiaeth. Mae'r gwahoddiad yna'n cael ei ailadrodd heddiw, cyn inni gwblhau'r cynllun yn derfynol.
Mi ddywedwyd wrthyf i, pan oeddwn i'n holi barn pobl, fod angen inni ddangos sut y gallai twristiaeth gyfrannu at ein hamcanion ehangach ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, ac, oherwydd hynny, rydyn ni wedi gosod yr uchelgais yna yn ganolog i'r cynllun. Rydyn ni hefyd wedi trafod hyn i gyd yn fanwl gyda'r diwydiant, gyda'r sector. O'r uwchgynhadledd dwristiaeth a gynhaliwyd ym mis Mawrth y llynedd, ac yn dilyn y cwestiynau a ofynnwyd yno, fe gafwyd oddeutu 386 o bobl yn ymateb gyda sylwadau a syniadau. Roeddent hwythau yn dweud bod angen i gynaliadwyedd fod yn ganolog i bopeth roedden ni am ei wneud.
Roedd y sector hefyd yn nodi heriau ymarferol—yr angen i fynd i'r afael â natur dymhorol twristiaeth a pharhau i greu swyddi gydol y flwyddyn, i greu mwy o elw a rheoli costau. Rydyn ni hefyd yn dechrau gweld gor-bwyslais ar dwristiaeth, yn ôl rhai, mewn rhai rhannau o Gymru ac ar rai adegau o'r flwyddyn. Felly, yn ogystal â'r uchelgais craidd i ddatblygu twristiaeth er lles Cymru, mae angen i gynllun gweithredu newydd nodi sut y byddwn ni'n mynd i'r afael â rhai o'r heriau ymarferol yma.
I guro yn y gystadleuaeth, rydyn ni angen cynnyrch sy'n unigryw ac yn uchelgeisiol, sy'n gyson â'n cryfderau ni, ac sy'n apelio at farchnadoedd newydd ar gyfer yfory. Dyna pam rydyn ni'n pwysleisio profiadau sy'n unigryw i Gymru, sy'n sicrhau pwyslais a chydbwysedd rhwng y lleol a'r byd-eang, rhwng yr hyn rydyn ni'n alw yn 'fro' a 'byd'. Mae hyn yn golygu gwneud pethau sy'n sicrhau manteision lleol, ond hefyd gan bwysleisio naws am le cryf Cymru, cefnogi busnesau cynhenid, a chyfrannu tuag at y brand ehangach a chyrraedd safonau byd-eang o ddarpariaeth.
Mae gyda ni felly bedwar maes o flaenoriaeth at y dyfodol. Yn gyntaf, 'cynnyrch a lleoedd gwych'—mi fyddwn ni'n parhau i fuddsoddi mewn cynnyrch arloesol sy'n dod â phobl i Gymru.
Ein prif flaenoriaeth ydy 'profiadau o ansawdd uchel i ymwelwyr'. Ond, yn arbennig ar sail ymweliadau rwyf wedi'u gwneud yn ddiweddar i safleoedd sydd yn darparu cyfle gwersylla i bobl sydd ag anghenion arbennig, sydd ag anabledd penodol a phroblemau symudedd, dwi'n awyddus iawn ein bod ni'n gosod cyfleoedd i bobl llai abl o ran symudedd gael eu denu yma i Gymru, fel bod gan Gymru enw uchel yn fyd eang o ran darpariaeth ar gyfer pawb sydd am ymweld â ni.
Blaenoriaeth pellach fydd parhau i ddatblygu brand arloesol Cymru, gyda phwyslais ar farchnata ac arloesi digidol.
Yna, yn bedwerydd, rydyn ni'n awyddus i ddangos bod gyda ni sector gyd-gysylltiedig o fewn yr economi a chymdeithas, ac sydd yn fywiog, sy'n cynnwys gwneud mwy i gysylltu twristiaeth gydag agendâu eraill o fewn y gymuned, megis trafnidiaeth ac, wrth gwrs, iechyd. Mi fyddwn ni'n cynnwys heriau fel sut y gall twristiaeth fynd i'r afael â rhai o'r effeithiau newid hinsawdd fel rhan o'n ffordd o feddwl.
Mi fyddwn ni hefyd yn ceisio gweithio yn llawer mwy masnachol, drwy ffyrdd newydd o greu cynnyrch y mae modd ei archebu, canolbwyntio mwy amlwg ar gynnyrch â diddordeb, a bod yn fwy doeth ynghylch y ffordd y byddwn yn cydweithio â phartneriaid i gyrraedd mwy o bobl. Hynny yw, nid ein bod ni yn cynnig arlwy yn unig, ond ein bod ni'n deall pa fath o arlwy mae pobl sydd yn dod yma yn ei wir ddymuno.
I grynhoi, yr holl uchelgais yw datblygu twristiaeth er lles Cymru, er lles i'r perfformiad economaidd, ond hefyd drwy sylweddoli bod twristiaeth yn ddiwydiant sydd yn cwmpasu'r genedl gyfan, yn yr ardaloedd gwledig yn ogystal ag yn yr ardaloedd trefol, yn y Cymoedd yn ogystal ag yn Eryri fynyddig. Ond mae angen hefyd inni fod yn realistig, fel ein bod ni yn gweld bod angen inni addasu'r hyn rydyn ni'n ei gynnig er mwyn gallu ymateb i'r hyn mae'n hymwelwyr ni am ei weld, ond hefyd i gyplysu hynny ag anghenion Cymru. Ac felly, ein blaenoriaeth gyson ni yw atgoffa'r byd fod Cymru ar agor ar gyfer busnes fel lle i fuddsoddi ynddo, i weithio ac i fyw. A diolch ichi i gyd fel Aelodau Cynulliad ac, yn arbennig, i'r diwydiant ac i'r sector y tu fas i'r Senedd hon am eu cefnogaeth dros y ddwy flynedd, bron, yr wyf i wedi cael y fraint o gael cyfrifoldeb dros y diwydiant hwn.
A gaf i ddechrau drwy groesawu'r ffaith bod y Dirprwy Weinidog yn ein gwahodd i wneud ein cyfraniadau ein hunain o ran sut yr ydym ni'n bwrw iddi ar hyn o bryd i ehangu'r sector twristiaeth a'i fod yn agored i syniadau? Credaf y bydd llawer o unfrydedd ynghylch yr uchelgeisiau sydd wedi'u hamlinellu. Felly, beth bynnag, dyma fy nghyfle i ddweud wrth y Cynulliad, a'r Gweinidog yn arbennig, am yr hyn y credaf sydd ei angen yn y cynllun ac yn y blaenoriaethau ar gyfer yr economi ymwelwyr yn hanner cyntaf y 2020au.
Rwy'n credu bod angen i ni gydnabod natur ddeuol y farchnad. Mae gennym ni farchnad fawr sy'n dod o weddill y DU, ac mae hynny'n bwysig iawn, iawn, ond mae marchnad ryngwladol hefyd, ac rwy'n credu, er mwyn codi'r safonau, ceisio sicrhau twristiaeth fwy safonol a thwristiaeth werdd, llawer o'r pethau sydd bellach yn bodoli ac y mae twristiaid yn eu mynnu, mae angen cofio hynny, oherwydd nid wyf yn credu bod y ddwy elfen o'r farchnad bob amser yn gweithio gyda'i gilydd. Felly, mae angen ymdrin â marchnad y DU a'r farchnad ryngwladol mewn ffyrdd gwahanol. Felly, dyna'r peth cyntaf, ac rwyf eisiau gweld cynllunio manwl iawn yn hynny o beth.
Rwy'n credu bod angen i ni hefyd geisio cael twf yn ein marchnad ryngwladol. Credaf fod gennym gynigion o'r radd flaenaf yn wir, a dylwn i ddweud y bu'r Gweinidog a minnau mewn seminar a gynhaliwyd gan yr Amgueddfa Genedlaethol yn gynharach heddiw, a soniodd un o'r rhai oedd yn bresennol am Gaerllion, a dweud ei fod yn safle Rhufeinig mor rhagorol, ond bod pobl yn mynd i'r safle ychydig llai diddorol—wel, nid ychydig, y safle llai diddorol—yng Nghaerfaddon, sydd â'r ymgyrch gyson wych hon, mae'n debyg, i ddenu ymwelwyr. Ac mae'n debyg mai Castell Conwy, er enghraifft, yw'r castell mwyaf—hynny yw, y castell mwyaf dychrynllyd—a adeiladwyd gan ddyn erioed. Mae'n rhan o'n treftadaeth ac mae pobl yn dod o bob cwr o'r byd, os ydyn nhw eisiau ymweld â chastell canoloesol, dylen nhw ymweld â Chymru. Ac, yn wir, os ydyn nhw'n dod i Gonwy, mae ganddi hefyd un o'r cynlluniau trefi canoloesol gorau a oroeswyd ac sy'n dal i fodoli yn unrhyw le yn Ewrop. Felly, rwyf eisiau gweld mwy o bwyslais ar y farchnad ryngwladol a hefyd ar y dwristiaeth werdd a fynnir yn aml yn y farchnad honno. Yr hyn rwy'n ei olygu yw, gwyliau heicio—mae Cymru wedi'i bendithio'n llwyr o ran gallu darparu'r ystod fwyaf bendigedig o gyrchfannau cerdded, a chyfuno hynny â diwylliant o safon a chredaf mewn gwirionedd fod yna gyfuniad llwyddiannus.
Rwy'n credu bod angen mwy o waith ar y brand, a dweud y gwir. Mae hyn yn anodd, am ei fod yn costio llawer. Ond os edrychwch chi ar Iwerddon—efallai nad Iwerddon yw'r wlad orau ar gyfer cymharu, o ystyried mor helaeth yw ei chyllideb ar gyfer marchnata, ond rwy'n credu y bu'r Alban yn gyrru ymlaen ac yn gwario mwy ar farchnata. Ac rwyf yn credu ei fod yn fethiant mawr yn y sector preifat, mewn gwirionedd, oherwydd ni all gyfuno a chynhyrchu'r gallu hwnnw i farchnata rhywbeth fel cenedl neu ei arlwy twristiaeth. Dyma ble mae angen i'r Llywodraeth ymyrryd oherwydd, mewn gwirionedd, os nad yw'r Llywodraeth yn gwneud hynny ac yn arwain hynny, caiff ei wneud mewn ffordd sydd ymhell o fod y ffordd orau bosib.
Croesawaf eich geiriau am ddull mwy masnachol, oherwydd credaf fod angen i rai o'r safonau fod yn uwch. Mae arnom ni angen mwy o westai boutique, mae arnom ni angen mwy o fwytai ym mhen ucha'r farchnad, ac mae hynny'n dda i farchnad y DU a'r farchnad ryngwladol, ac mae'n dda i'n heconomïau lleol ni ein hunain. Twristiaeth werdd wirioneddol dda, uwch-dechnoleg, gwestai boutique ac ati, gallant fod yn rhan o'r economi sylfaenol hefyd. Mae'r economi sylfaenol yn golygu ei fod yn rhywbeth sy'n gallu gweithio gydol y flwyddyn, yn lleol, ac yn aros yn lleol—yr arian sy'n cael ei gynhyrchu. Nid yw'n golygu ei fod yn lefel sylfaenol o'r economi, o reidrwydd, felly byddwn yn sôn am hynny.
Rwy'n credu bod ganddyn nhw strategaeth ddrafft uchelgeisiol iawn yn yr Alban. Maen nhw wedi gosod y targed bod yr Alban yn arwain y byd ym maes twristiaeth erbyn 2030. Rwy'n credu mai dyna'r math o uchelgais y dylem ei ddatgan hefyd. Ac, os dywedwch chi hynny, rwy'n gwybod y byddai pawb yn y Cynulliad yn gefnogol ichi wrth geisio cyflawni'r uchelgais hwnnw.
Rwy'n ddiolchgar iawn am y brwdfrydedd a ddangoswyd yn yr ymateb gan David Melding. Cytunaf mai Conwy mae'n siŵr yw un o'r cestyll mwyaf brawychus a godwyd erioed. Fel y gwyddoch chi, rwy'n un o ddinasyddion Sir Conwy, ond rhaid imi ddweud wrthych fod hwn, y mwyaf brawychus o gestyll bellach wedi'i fendithio â'r ymdrech ddiweddaraf mewn tapestri a ysbrydolwyd gan Cefyn Burgess a disgyblion ysgol o'r rhan honno o'r byd. Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud gyda'n safleoedd treftadaeth yw dangos i ymwelwyr eu bod hefyd yn lleoedd sy'n cael eu gwerthfawrogi gan y boblogaeth leol yn ogystal â chanddyn nhw.
Rwy'n sicr yn cytuno bod angen ymdrin â marchnad y DU a'r farchnad ryngwladol mewn ffyrdd gwahanol. Ceisiais wneud fy rhan ar gyfer y farchnad ryngwladol gyda'r ystafell gyrchfan newydd a agorwyd gennym ni yn ddiweddar yn nherfynfa 3 yn Heathrow. Yn sicr, mae cael llond ystafelloedd o ddelweddau ffotograffig maint-llawn o Gymru—er fod y rheini yn yr ardal ymadawiadau yn hytrach nag yn yr ardal gyrraedd, er bod gennym ni weithiau celf eraill mewn rhannau eraill o feysydd awyr, ym Manceinion a Chaerdydd, yn amlwg, yn ogystal â Heathrow—mae'n galluogi pobl i weld gwerth cyfuno tirwedd a diwylliant gyda hanes, ac mae hynny'n bwyslais parhaus sydd gennym ni. Felly, marchnad y DU a'r farchnad ryngwladol—rydym ni bob amser yn ymwybodol o hynny.
Mae marchnata yn ymarfer sydd angen dychymyg a pharhad, yn ogystal â gwariant sylweddol. Rwy'n credu bod yr hyn yr ydym ni wedi'i gyflawni nawr yn nyluniad graffig penodol y marchnata yn rhywbeth arbennig iawn, y gall pobl ei weld ac ymateb iddo.
Rwy'n amlwg yn cytuno â phwysigrwydd gwyliau cerdded, ac o gofio'r ardaloedd bendigedig hynny yn ein gwlad—llwybr yr arfordir, ond hefyd rhyfeddod Clawdd Offa, sy'n dangos yn glir—
Yr wyf wedi cerdded ar ei hyd.
Rwy'n siŵr eich bod wedi gwneud
Yn ei gyfanrwydd. [Chwerthin.]
Sy'n dangos yn glir bod gennym y cyfle ar gyfer cerdded pellteroedd hir o'r math a bwysleisiwyd gennych.
Rwyf hefyd yn cytuno â'r sylw o ran gwestai boutique. Mae gennym ni nifer sylweddol o westai ac rydym ni'n parhau i sicrhau bod ein harlwy twristiaeth wastad yn cynnwys—ym mhen eithaf yr arlwy hwnnw, rydym yn ceisio buddsoddi mewn cynyddu a datblygu ansawdd ein gwestai ledled Cymru.
Diolch am y datganiad a'r rhybudd ymlaen llaw hefyd. Mae yna lawer, mae'n rhaid dweud, dwi'n ei groesawu yn y datganiad. Rwy'n cytuno, wrth gwrs, â'r sylwadau am ba mor bwysig y gall twristiaeth fod i Gymru a bod yna, yn ein harddwch, ein diwylliant, ein bwyd, ein chwaraeon a'n hantur, fodd i ddenu twristiaid mewn ffordd all ddod ag elw mawr i ni yn economaidd. Mi allaf i dynnu sylw at bethau sydd ddim eto wedi cyrraedd eu potensial yn fy etholaeth i—hynny ydy, Mynydd Parys. Mae yna dal gymaint all gael ei wneud i dyfu'r atyniad hwnnw, ac mi fyddwn yn croesawu cefnogaeth o unrhyw fath i hynny ac i ddweud hanes y pontydd mewn amgueddfa arall, er enghraifft.
Ond dwi hefyd yn croesawu'r cyfeiriad yn y datganiad at y peryglon o fynd yn orddibynnol ar dwristiaeth, ac mi liciwn i glywed mwy am gynlluniau'r Gweinidog i geisio rheoli hynny. Hefyd, mae yna berig, wrth gwrs, fod hwn yn gallu bod yn sector lle mae cyflogau yn rhy isel, lle mae yna ormod o sylw ar greu swyddi tymhorol, a dim digon ar helpu pobl i greu bywoliaeth dda a chynaliadwy. Does yna ddim digon o sôn am hynny yn y datganiad hwn, ac mi fyddwn i'n gwerthfawrogi sylwadau gan y Gweinidog ynglŷn â hynny.
Y mater arall y buaswn i'n hoffi gwneud sylw arno fo ydy'r cwestiwn yma o wneud yn fawr o'r brand Cymreig. Mae'r datganiad yn frith o gyfeiriadau at,
'ein brand cryf, unigryw i Gymru',
at 'naws am le', sydd wastad i mi yn awgrymu rhywbeth neilltuol Gymreig. Mae yna gyfeiriadau at greu,
'cynnyrch sy'n unigryw ac yn uchelgeisiol',
at greu 'Brand Cymru Arloesol' neu 'Innovative Cymru Brand'. A gaf i awgrymu felly fod angen i'r Llywodraeth fod yn llawer mwy parod i ddod allan o dan gysgod brand Prydain yn hynny o beth? Rydym ni yn gwybod o brofiad, er enghraifft—er bod yna arwyddion fod pethau'n gwella rhywfaint—mor wan mae VisitBritain wedi bod yn rhoi sylw teg i Gymru dan eu brand nhw. Ond fel cenedlaetholwr, dwi'n gallu gweld manteision o weithio ar draws ffiniau Prydain ac Ewrop mewn bob mathau o ffyrdd gwahanol ond, wir, mi fyddwn i'n gwerthfawrogi sicrwydd gan y Gweinidog y gwnaiff Llywodraeth Cymru fod yn llawer mwy penderfynol i beidio â 'dilute-io' y brand Cymreig, yn enwedig mewn rhai amgylchiadau lle mae yna gryfder go iawn i'r brand hwnnw, drwy ganiatáu ei Brydeinio fo.
Rydym ni'n sôn am fwyd yn y fan hyn. Siawns y dylem ni yn ein sioe frenhinol genedlaethol ein hunain, ein prif sioe amaeth a bwyd, fod yn gallu dathlu ein bwyd ni. Unwaith eto, o dan y brand GREAT wrth giât y sioe eleni, 'For the finest food and drink, choose the UK'. Wel na, siawns na allwn ni ddweud, 'Choose Wales' yn ein sioe ein hunain.
Mae yna lawer wedi tynnu sylw at yr ymgyrch GREAT yn hawlio buddugoliaeth tîm Cymru yng Nghwpan Rygbi'r Byd. 'Rugby is GREAT', medden nhw. Na, dyma lwyfan lle mae bod yn neilltuol Gymreig yn wirioneddol werthfawr. Does dim angen Prydeinio brand Cymru yn y cyd-destun hwnnw. Ac ni wnaf i fyth anghofio y siom o fod ym Mharis yn ystod gemau pêl-droed Ewro 2016, a mynd i'r pentref bendigedig hwnnw ar lan y Seine lle roedd pob gwlad annibynnol bêl-droed Ewropeaidd yno yn gwerthu ei hun, ac yno yn stondin Cymru roedd baner yr undeb o dan label 'Britain is GREAT'. Cymru yn gwerthu'i hun yn y fan honno. Mi oedd o'n torri nghalon i, ac mi oedd o'n gwbl, gwbl ddiangen, ac yn dangos diffyg hyder.
Gallwn ni ddim llawn gredu yr hyn mae'r Llywodraeth yn ei ddweud ynglŷn â bod yn uchelgeisiol ac yn hyderus yn ein brand ein hunain, os nad ydy'r Llywodraeth yn gallu mynnu defnyddio'r brand hwnnw a dim ond y brand hwnnw, yn sicr yn y lleoedd lle mae'r brand Cymreig yn gweiddi i gael ei ddefnyddio. Mi groesawn i sicrwydd gan y Llywodraeth fod yna fwy o feiddgarwch yn mynd i fod gan y Llywodraeth yn hynny o beth.
Diolch yn fawr. Mi ddeliaf i yn gyntaf gyda chwestiwn y Grand-Bretagne o'i gyferbynnu â'r Bretagne lai, oherwydd fel y gŵyr pobl sydd yn gwybod eu hanes diwylliannol a hanes gwledydd, nid cyfeirio at ryw arddechogrwydd y mae'r ymadrodd 'Great Britain', ond bod y Brydain honno, Ynys y Cedyrn, a defnyddio term y Mabinogi, yn fwy na Llydaw, sef y Bretagne lai, a fanna mae'r gair yn cychwyn.
Baner yr undeb dwi'n ei gweld.
Wel, fanna mae'r gair yn cychwyn. Nawr te, dwi ddim yn gyfrifol am beth mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ei wneud i hyrwyddo yr hyn maen nhw'n ei alw yn 'Great Britain', na'u camddealltwriaeth hanesyddol nhw o beth mae'r gair yn ei feddwl. Ond fe ddywedaf i hyn: mae'n amlwg imi fod angen gwell dealltwriaeth o natur y Deyrnas Unedig fel gwladwriaeth aml-genhedlig ym mhob cyhoeddusrwydd sy'n cael ei roi ar gyfer yr uned hon—ynysoedd Prydain a Gogledd Iwerddon. Yn wir, y mae'r deunydd ar gyfer hyn i'w gael yn glir, os ydy rhywun yn deall yr hanes, a chyfleu’r hanes fel gwahoddiad i ddod i wladwriaeth amrywiol ei chenhedloedd ydy’r hyn sydd yn allweddol i ni wrth hyrwyddo. Mae hynny'n cael ei gynnal yn ein cysylltiad ni. Mae gyda ni gysylltiad, wrth gwrs, rhwng Croeso Cymru a VisitBritain, ac mae gennym ni gynrychiolaeth ar dwristiaeth y Deyrnas Unedig, ond ein bwriad ni bob amser ydy ein bod ni’n hyrwyddo Cymru fel gwlad ac fel gwlad unigryw.
Dwi’n gwerthfawrogi hefyd y ddealltwriaeth o bwysigrwydd peidio â chael gorddibyniaeth ar dwristiaeth yn yr economi. Ond wedi dweud hynna, y peth pwysig yw hyrwyddo gwahanol lefydd fydd yn apelio at wahanol fathau o ymwelwyr, gan gynnwys yr ymwelwyr sy’n dod o’r Deyrnas Unedig ac, wrth gwrs, pobl Cymru sydd am ymweld yn eu gwlad eu hunain. Dwi ddim wedi gallu dyfeisio gair digon da at fy meddwl fy hun i gyfieithu 'staycation', ond mi fuaswn i’n rhoi gwobr fechan, nid anferth, i rywun fuasai’n gallu dyfeisio'r term yna oherwydd mae’r ddau beth yna, fel y dywedwyd yn gynharach—y farchnad ryngwladol a hefyd y bobl sydd yn dewis gwyliau yn eu gwlad eu hunain—yr un mor bwysig i ni. Ac felly, mae hyrwyddo Cymru fel Cymru ac fel cenedl unigryw o fewn y Deyrnas Unedig yn ganolog i’r cyfan mae Croeso Cymru yn ei wneud oherwydd hwnna ydy ein pwynt gwerthu gwerthfawrogaf ni.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad a gwneud ambell sylw am ei ddatganiad? Rwy'n croesawu'r uchelgais sydd yn y datganiad hwnnw a'r awydd i ddewis strategaeth benodol nid yn unig i ddenu mwy o ymwelwyr ond i gynnig profiad gwahanol i ymwelwyr sy'n dod i Gymru, ac mae hynny'n hollbwysig.
Fy mhryder i, wrth edrych drwy'r datganiad, yw ein bod yn sôn yn aml am rai digwyddiadau megis y digwyddiadau pêl-droed hynny, beth bynnag, digwyddiadau untro ydyn nhw ac mae pobl yn dod iddyn nhw unwaith. Ac mae'n ymddangos i mi fod angen i ni edrych yn ofalus iawn ar yr ymwelwyr unigol sy'n dod unwaith a pheidio â dychwelyd. A'r hyn y bydd angen i ni edrych arno yw'r ymwelwyr sy'n dod yn ôl ar ymweliadau undydd, ar ymweliadau penwythnos, dro ar ôl tro oherwydd y profiad a gânt yma. Ac fel arfer mae hwnnw'n seiliedig ar brofiad o weithgaredd megis cerdded neu, yn fy ardal i, beicio mynydd a mathau eraill o brofiadau. Felly, hoffwn weld, yn y ddogfen derfynol, fwy o uchelgais i gael y rheini i ddychwelyd drwy'r amser, dro ar ôl tro ar ôl tro, a'n bod yn parhau i gynnig profiad iddyn nhw, nid yr un profiad yn unig, ond profiad amrywiol felly pan ddônt yn ôl, mae ganddyn nhw rywbeth gwahanol mewn gwirionedd.
Ac i sicrhau hynny, mae angen i Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a chyrff eraill weithio gyda'i gilydd mewn ffordd strategol er mwyn sicrhau pan fydd rhywun yn dod, nad yw'r profiad a gaiff mewn un ardal yn cael ei ailadrodd yn rhywle arall. Felly, bod rhywbeth gwahanol yn rhywle arall; nad yr un peth yn union mohono mewn lleoliad arall. Ond mae angen i ni hefyd wneud yn siŵr, gan gymryd beicio mynydd fel enghraifft, nad yw'r hyn sydd yng Nghwm Afan o reidrwydd yr un peth ag sydd ym Merthyr neu'r un peth ag sydd yn rhywle arall. Bod rhywbeth gwahanol; bod rheswm arall i fod yno. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig ac mae angen i ni sicrhau bod y cynllun yn tynnu sylw at hynny.
A allwch chi hefyd sicrhau ei fod yn cysylltu â strategaethau economaidd awdurdodau lleol a rhanbarthau a sicrhau bod yr awdurdodau lleol yn rhoi blaenoriaeth i dwristiaeth? Oherwydd cafodd fy awdurdod lleol fy hun, ar un adeg, wared ar ei swyddogion twristiaeth, maen nhw wedi eu cyflogi eto nawr, ond mae'r nifer yn fychan. Mae angen inni sicrhau bod awdurdodau lleol yn ystyried twristiaeth yn fater difrifol o ran adfywio eu cymunedau'n economaidd.
Y digwyddiadau, fel y dywedaf, mae angen inni ddenu'r rhai sy'n dychwelyd. Digwyddiadau ynghlwm â gweithgareddau yw'r rhain yn y bôn. Mae'r rhan fwyaf o'r hyn yr ydych chi wedi sôn amdano mewn gwirionedd yn ddigwyddiadau ac nid yn weithgareddau. Mae'r wifren wib yn weithgaredd, a phethau eraill—mae syrffio yn weithgaredd. Dyma beth sy'n dod â phobl yma atom ni. Nawr, p'un a yw'n dda ar gyfer gwyliau ar draeth Dinbych-y-pysgod neu ar gyfer cerdded y gwahanol rannau o Gymru, dyna'r hyn y mae angen i ni fynd i'r afael ag ef. Sut ydym ni'n canolbwyntio sylw ein cynulleidfa ar y pethau hynny? Felly, pan soniwch chi am eich cynllun a phan siaradwch am eich dull digidol o fynd ati gyda'r cyfryngau cymdeithasol, a allwch chi wneud yn siŵr eich bod yn mynd i'r afael â'r agweddau hynny, a lle y gall y gwahanol weithgareddau hynny ddigwydd, fel y gallwn ni ddenu pobl mewn gwahanol rannau o Gymru, yn dibynnu ar beth yw eu diddordebau a'u gweithgareddau?
Nawr, y pedwar maes blaenoriaeth—cynnyrch a lleoedd gwych; profiadau o ansawdd; brand arloesol; sector bywiog—dyma'r hyn sydd arnom ni ei eisiau. Rwy'n sylweddoli hynny. A'r profiad o ansawdd y gwnaethoch chi ei archwilio a'i amlygu, mae'r angen am doiledau, mewn gwirionedd, yn hynod bwysig, oherwydd os ewch chi drwy lawer o drefi, ceisiwch ddod o hyd i rai toiledau cyhoeddus weithiau ac ni allwch chi ddod o hyd iddyn nhw. Ond mae ar ymwelwyr angen hynny, oherwydd dydyn nhw ddim yn gwybod ble mae'r dafarn leol, dydyn nhw ddim yn gwybod ble mae'r McDonald's i fynd a defnyddio'r cyfleusterau, felly mae'n bwysig bod gennym ni'r rheini nid yn unig yno, ond bod arwyddion yn eu dynodi hefyd, fel bod pobl yn gwybod ble i ddod o hyd iddyn nhw. Felly, a allwch chi wneud yn siŵr eich bod yn edrych ar y materion hynny'n ofalus iawn?
A allwch chi hefyd sicrhau ein bod yn edrych ar agweddau ar ein cymunedau? Yn fy un i, boed yn Barc Margam, Cwm Afan, neu'n draeth Aberafan—gyda llaw, os nad ydych chi wedi bod yno erioed, mae'n draeth gwych, yn un o'r gorau yng Nghymru; ewch i gael golwg arno—gellir cysylltu'r gwahanol fannau. A hefyd y posibiliadau ar gyfer datblygu yn y dyfodol, mae angen i ni edrych ar yr hyn y gallant ei gynnig yn y dyfodol hefyd. Tynnaf sylw at dwnnel y Rhondda fel enghraifft o'r modd y gellir cysylltu hwnnw â llwybrau cerdded, llwybrau beicio'r Cwm a'r cyfleoedd ar gyfer adfywio—mae'r rhain yn bethau y mae angen inni edrych arnyn nhw hefyd. Dyna pam mae angen i ni fynd i'r afael â hyn a'i gyfuno â chynllun economaidd i sicrhau bod yr economi a thwristiaeth yn cydweithio i fynd i'r afael â'r pwyntiau hynny.
Diolch yn fawr iawn, David. Pan ddaethom ni i edrych ar ymagwedd ranbarthol y Llywodraeth ac edrych arni yng nghyswllt anghenion twristiaeth, roeddwn yn awyddus iawn, fel rhywun a oedd wedi byw yng nghanolbarth Cymru ers dros 20 mlynedd ac sy'n dal i gynrychioli rhan bwysig iawn ohono ym Meirionnydd—. Canolbarth Cymru, gyda llaw, yw Meirionnydd, Ceredigion a Phowys, rhag ofn, er mwyn osgoi amheuaeth. Ac roeddwn i wrth fy modd yr wythnos diwethaf gyda'r nifer a oedd yn seremoni wobrwyo gyntaf Twristiaeth Canolbarth Cymru, ac rwy'n gobeithio ymuno â Go North Wales, fel y maen nhw, unwaith eto, yn ei ddisgrifio yn y fan yna, ar gyfer seremoni arall cyn bo hir. Soniais am hynny oherwydd mae'n enghraifft o hynodrwydd y cynnig yn y gwahanol rannau o Gymru. Rwyf yn gwerthfawrogi'r hynodrwydd sydd gennym ni i'w gynnig yn Aberafan, ym mharc Margam yn wir, neu yn y rhannau gwahanol iawn hynny o Gymru sydd yn dal i fod ag adeiladau traddodiadol penodol iawn a thrawiadol iawn, fel abatai ac eglwysi mawr ac ati, sydd, unwaith eto, yn rhan o gynnig twristiaeth ysbrydol yr wyf, yn amlwg, yn awyddus i'w hyrwyddo. Felly, mae profiad yr ymwelydd ym mhobman yn bwysig.
Ond, rwyf hefyd yn cytuno'n llwyr fod yn rhaid i feithrin pobl i ddychwelyd i'r ardal fod yn rhan allweddol o'n strategaeth—yn bobl sy'n dymuno dychwelyd eto am brofiad gwahanol o feicio mynydd mewn gwahanol rannau o Gymru. Roeddwn mewn cyfarfod sefydlu yn Nant yr Arian dros y penwythnos—ardal dwristiaeth arall sy'n elwa ar lwybr beicio mynydd newydd. Y gweithgareddau hyn, wrth gwrs, nid beicio mynydd yn unig mohono, ond y cerdded hefyd, y canolfannau sy'n cael eu sefydlu yno sy'n gwerthu cynnyrch lleol. Rwy'n dal i edrych ymlaen at flasu potel fach iawn, yn amlwg, o fedd lleol, a brynais yn ystod ymweliad diweddar. Felly, mae ynglŷn â'r pethau hyn i gyd gyda'i gilydd—[Torri ar draws.] Na, rwy'n aros i'w yfed, dywedais; nid yw wedi diflannu eto. Felly, mae'r profiad amrywiol yn beth allweddol.
Rwy'n credu mai'r pwynt pwysig arall yw fy mod yn deall y gwahaniaeth rhwng digwyddiad a gweithgaredd, ac rwy'n gwybod nad yw'n ymwneud â hyrwyddo digwyddiadau i wylwyr; mae hefyd yn ymwneud â chymryd rhan mewn digwyddiadau, ac mae'r pwyslais hwnnw yr un mor bwysig mewn strategaeth dwristiaeth eang a deniadol.
Mae'n rhaid inni gydnabod y bu rhai llwyddiannau rhyfeddol i'w dathlu o ran hyrwyddo twristiaeth yng Nghymru dros y pum mlynedd diwethaf. Roedd y dull thematig yn ysbrydoledig ac yn ysbrydoli ac, rwy'n credu y byddem i gyd yn cytuno, roedd pob un, yn ei ffordd ei hun, yn rhoi hwb sylweddol i economi twristiaeth Cymru. Mae gan yr holl gynlluniau ar gyfer y dyfodol, ac yn wir y rhai sy'n cael eu gweithredu ar hyn o bryd, rinweddau a dylent allu adeiladu ar lwyddiannau'r gorffennol. Roeddech yn gywir i nodi, Dirprwy Weinidog, fod gan Gymru lawer iawn i'w gynnig—cefn gwlad godidog, arfordir o harddwch digyffelyb, yn ogystal â'n hanes, yn chwedlonol ac yn ddiwydiannol. Os ydym yn sôn am frandiau, yn ein baner mae'n debyg mae gennym ni un o'r brandiau mwyaf trawiadol ar wyneb y ddaear. Pan soniodd Rhun am fusnes rygbi, mae gweld ein baner yn yr holl gemau rygbi rhyngwladol yn golygu, ymhell ar ôl i groes San Siôr, croes Sant Andreas yr Alban neu faner drilliw Iwerddon gael eu hanghofio, y bydd baner Cymru yn dal ym meddyliau'r holl bobl hynny o bedwar ban byd sydd wedi bod yn gwylio'r gemau rygbi. Felly, mae'n bwysig iawn ein bod yn defnyddio'r faner honno ac yn ei rhoi ar bob darn o bropaganda twristiaid neu wybodaeth y byddwn yn ei chyhoeddi.
Rwy'n wirioneddol gredu ei bod hi'n bosib i'r cynlluniau a amlinellir yn eich datganiad ryddhau gwir botensial yr hyn sydd gan Gymru i'w gynnig a hefyd ymdrin yn synhwyrol â'r posibilrwydd o or-ecsbloetio, y gwelir arwyddion ohono efallai ar ein mynydd uchaf, yr Wyddfa, a'i chyffiniau. Ond, Dirprwy Weinidog, gair o rybudd: mae symudiadau ar droed yng Nghymru a allai gael effaith andwyol iawn ar yr holl ymdrechion gwych hyn. Cyfeiriaf yma at gyfyngiadau a gynlluniwyd a chyfyngiadau cyflymder presennol ar gyfrannau enfawr o'n seilwaith ffyrdd. Yn fuan, gallem fod y wlad gyntaf yn Ewrop gyfan, efallai'r byd, i gael terfyn cyflymder o 50 mya ar ein holl rwydwaith traffyrdd, er lleied y gyfran fach sydd gennym ni. Credaf y bydd hyn, ynghyd â therfyn o 20 mya ar gyfrannau enfawr o'n rhwydwaith trefol, yn gwneud Cymru'n llai deniadol na gwledydd eraill sydd â threfniadau cerbydau llai cyfyngol. Oni fyddai'r Dirprwy Weinidog yn cytuno â mi mai'r peth olaf y dymunwn ei bortreadu i'r byd y tu allan yw'r slogan, ac rwy'n dweud hyn o ddifrif, 'Welcome to Wales / Croeso i Gymru, ond gadewch eich car wrth y ffin'?
Roeddwn yn credu ein bod yn dod ymlaen yn dda iawn, David, tan ddiwedd eich cyfraniad, felly dof at hynny'n fyr. Diolch am eich croeso i'r dull gweithredu thematig a'r ddealltwriaeth o hynny. Rwy'n talu teyrnged yma i'r bobl feddylgar sy'n breuddwydio am y dulliau hyn. Pan welais y gair 'epig' ar grib Pen y Gwryd am y tro cyntaf meddyliais, 'Mae hyn yn gam yn rhy bell', yn rhannol oherwydd ei fod yn yr hyn a arferai fod yn fy etholaeth i, ac rwy'n dal i fyw yno, ac roeddwn yn meddwl, 'Wel, mae hyn dros ben llestri.' Ond y gwir amdani yw, er mwyn gallu cyflwyno cefn gwlad mewn ffordd ddramatig, mae angen rhywfaint o or-ddweud arnoch chi, a dyma ble y credaf ei bod hi'n bosib denu pobl i fynd i ardaloedd nad oedden nhw wedi bwriadu mynd iddyn nhw, neu yr hoffen nhw fynd iddyn nhw hefyd, ac mae hynny'n rhan o dynnu'r pwysau oddi ar Eryri, neu oddi ar Ben y Fan, y gwelaf yn aml iawn, wrth gwrs, eu bod o dan bwysau.
Diolch am y deyrnged i'r Ddraig Goch. Rwyf hefyd yn credu ei bod hi'n faner go dda, ond rwyf hefyd yn eithaf hoff o Groes Dewi Sant, os ydych chi eisiau ychydig o amrywiad.
Dof yn awr at eich pwynt olaf. Nid wyf yn gyfrifol am bolisi trafnidiaeth, ond rwy'n credu ei bod hi'n hanfodol cael system draffordd ddiogel, a system ffyrdd ddiogel, ac y gall hynny fod yn atyniad i dwristiaid ynddo'i hun. Ond yr hyn yr wyf eisiau ei weld hefyd yw system drafnidiaeth integredig lawer mwy effeithiol yng Nghymru a ledled Cymru. Rwyf wedi fy mendithio lle rwy'n byw diolch i drenau y mae modd teithio arnyn nhw heb orfod newid—. Gallaf eistedd ar drên ym Mhwllheli a gallaf fod yn Birmingham International cyn i mi orffen fy mrechdanau. Mae hynny'n bosib. Yn yr un modd, yn amlwg, ledled y de, ond hefyd ar draws y gogledd ac i mewn i faes awyr Manceinion—mae gennym ni gysylltiadau gwirioneddol effeithiol. A phan fydd datblygiad pellach ar y Great Western, bydd cysylltiad newydd yn dod tua'r gorllewin o Heathrow, a drafodais pan oeddwn yno ynglŷn â digwyddiad marchnata yr wythnos diwethaf. Felly, mae'n rhaid inni ganolbwyntio ar Gymru fel gwlad sydd â thrafnidiaeth gyhoeddus fwy effeithiol pan fydd gennym ni hynny.
Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r datganiad hwn heddiw. Mae'r economi twristiaeth ac ymwelwyr yn sicr wedi bod yn rhaglen greadigol ac yn llwyddiant ysgubol hyd yma, ond mae'n fwy na thwristiaeth, fel y dywedwyd eisoes. Gan greu brand unigryw, mae Cymru wedi bod yn rhan bwysig o'r llwyddiant hwn, ond rhaid iddi hefyd fod yn gyfrwng i ryngweithredu'n gynaliadwy ac yn strategol gyda Cymru Greadigol. Rydym ni i gyd yn gyfarwydd iawn â thirweddau godidog Cymru, sy'n denu cannoedd o filoedd o dwristiaid bob blwyddyn, ac rydym ni'n dweud hynny'n ystrydebol, ond mae hynny'n hynod o bwysig. Ac er bod rhaid i'n harfordir, ein mynyddoedd a'n dyffrynnoedd eiconig wrth gwrs fod yn gonglfaen i'n harlwy twristiaeth, credaf yn gryf fod yn rhaid i'n harlwy twristiaeth fod yn arlwy diwylliannol cryf hefyd. Yn benodol, hoffwn ofyn i'r Gweinidog beth yn rhagor y gellir ei wneud i ddefnyddio enw da Cymru fel gwlad y gân fel ffordd o ddenu ymwelwyr.
Mae gennym ni draddodiad cerddorol balch iawn, diolch i'n corau a'n bandiau pres, eisteddfodau a cherddorfeydd, ond mae gennym ni hefyd sîn bop ryngwladol lewyrchus a llwyddiannus yn ein dwy iaith, a mwy, sydd yn parhau i roi cerddoriaeth Cymru a doniau Cymru ar y map—llawer gormod i mi restru heddiw. Nid enw da cerddorol Ewropeaidd yn unig sydd gennym ni, ond un rhyngwladol hefyd. Ac rwy'n gwybod ein bod eisoes wedi gwneud llawer iawn i ddathlu ein diwylliant o ran denu ymwelwyr, ond credaf y dylai cerddoriaeth fod wrth galon ein harlwy twristiaeth ryngwladol. A gallwn fod yn gwneud mwy i ddenu gwyliau cerddoriaeth ochr yn ochr â'n gwyliau rhyngwladol llenyddol. Ac rwy'n siŵr y bydd llawer ohonom a wyliodd ein buddugoliaeth yn rownd yr wyth olaf dros Ffrainc ddydd Sul diwethaf wedi sylwi ar y mascot ifanc o Japan yn canu gyda'n hanthem, ac os oes arnom ni angen unrhyw brawf o apêl ryngwladol gerddorol Cymru, credaf fod hynny'n enghraifft wych iawn o hynny.
Felly, Gweinidog, beth yn rhagor allwn ni ei wneud i wneud Cymru gwlad y gân yn flaenoriaeth i'n heconomi ymwelwyr, boed hynny drwy ddathlu ein cantorion byd-enwog, ein bandiau, neu gerddorfeydd, neu ar lawr gwlad yn cefnogi lleoliadau a pherfformwyr, fel bod mwy o'n hymwelwyr yn gallu clywed cerddoriaeth Gymreig pan fônt yma, gan gefnogi ein heconomi ddiwylliannol yn y broses, ynghyd â gweithio'n gydlynol gyda strategaeth gerddoriaeth genedlaethol fywiog—cynllun i Gymru ar gyfer creu Cymru gynaliadwy a chreadigol a rhyngwladol y dyfodol?
Wel, diolch yn fawr am hwnna, Rhianon, ac rwy'n gwerthfawrogi eich angerdd dros osod cerddoriaeth Cymru wrth galon atyniad y wlad. Ac, ar un ystyr, rydych chi wedi rhagweld datganiad yn y dyfodol rwy'n gobeithio ei wneud ar sefydlu Cymru Greadigol. Gan fy mod yn credu, pan fydd Cymru Greadigol yn ategu Cyngor Celfyddydau Cymru, ac yn ategu'r cyfraniad arbennig a wneir i fywyd Cymru drwy'r gefnogaeth yr ydym ni'n ei rhoi ar hyn o bryd i'r diwydiant ffilm a theledu, a'r diwydiant digidol yn gyffredinol—mae hynny'n ganolbwynt i Cymru Greadigol—gallwn weld y gwahanol sefydliadau cenedlaethol hyn yn gweithio'n agosach fyth gyda'i gilydd.
Rwy'n edrych ar ffordd o sefydlu Cymru Greadigol ar fodel tebyg i Cadw. Felly, mae hynny'n ddechrau da. Rydym yn cymryd ffordd o weithio sydd, yn fy marn i, yn gweithio yng nghyd-destun y dreftadaeth adeiledig, gyda bwrdd cymharol annibynnol, ond o fewn Llywodraeth Cymru, a dyna'r model a fydd gennym ni ar gyfer Cymru Greadigol. Mae angen dathlu creadigrwydd mewn ffordd sy'n cydnabod sgiliau gweithwyr creadigol, ond mae'n rhaid ei ddathlu hefyd mewn ffordd sy'n ceisio trin creadigrwydd fel lles cyhoeddus a lles economaidd. A dyna pam ei bod hi'n bwysig bod pwyslais Cymru Greadigol yn dilyn y math o bwyslais yr ydym ni wedi'i ddefnyddio ar gyfer Croeso Cymru. Mewn geiriau eraill, mae'n rhaid iddo fod yn sefydliad sydd â chymhelliant masnachol, yn ogystal â chymhelliant mewn dirnadaeth fwy traddodiadol o ddiwylliant. Gobeithio y bydd hynny'n rhoi sicrwydd rhannol i chi cyn y byddwn yn parhau â thrafodaeth bellach ar yr agwedd honno.
Ond mae'r rhain i gyd—nid sefydliadau ydyn nhw, maen nhw'n gyrff galluogi. Mae'r holl gyrff galluogi hyn yn rhan o'r hyn sy'n creu atyniad y wlad. Dyna pam mae gwaith rwy'n aros amdano ar hyn o bryd, lle bu Chwaraeon Cymru a hybu iechyd Cymru yn gweithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru—mae hwn yn fodel a fydd, gobeithio, yn datblygu ar gyfer y dyfodol, fel nad ydym ni'n gweithio ar sail cyrff Llywodraeth nad ydynt yn edrych ar y Llywodraeth gyfan o ran gweithredu.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Nid oes gennym amser ar ôl ar gyfer y datganiad hwn, ond yn fyr iawn i orffen, Nick Ramsay.
Diolch, Llywydd, ac—
diolch am y datganiad, Gweinidog.
Rwy'n dal i bendroni ynghylch eich sylw ynglŷn â gwyliau gartref yng Nghymru yn gynharach, gan eich bod wedi rhoi cystadleuaeth. Y gorau y gallwn i ei gynnig oedd 'Cymrucation', ond mae hynny'n uniad rhyfedd, onid yw e, o ddwy iaith, ac mae'n debyg nad yw'n gweithio? Beth bynnag, a gaf i ofyn i chi am eich datganiad a dau fater yn fy ardal yr ydych yn gwybod yn iawn amdanyn nhw gan fy mod wedi eu crybwyll droeon: Gŵyl Fwyd y Fenni a hefyd castell Rhaglan a materion ynghylch mynediad i henebion Cymru fel yr un yna? Fe wnaethoch chi sôn yn gynharach am yr angen i gael neges ar gyfer Cymru gyfan, os hoffech chi, ar gyfer diwydiant twristiaeth Cymru. Ond, wrth gwrs, mae hynny'n seiliedig ar ardaloedd lleol, economïau lleol, twristiaeth leol. Felly, sut ydych chi'n ymgorffori materion fel yr ŵyl fwyd, materion fel castell Rhaglan a henebion hanesyddol eraill ledled Cymru, ac ardaloedd lleol i'r neges gyffredinol honno ar gyfer Cymru? Oherwydd rydym ni'n gwybod y bydd neges gyffredinol Prydain yn gweithio dim ond os bydd Cymru a'r Alban yn chwarae eu rhan. Felly, yng Nghymru, sut mae hynny'n dibynnu ar yr ardaloedd lleol yn chwarae eu rhan?
Diolch yn fawr iawn am hynny, Nick. Mae castell Rhaglan, fel y gwyddoch, yn un o'm hoff gestyll. Rwy'n credu ei fod mewn lleoliad trawiadol iawn, ac mae ei bensaernïaeth yn drawiadol iawn. Credaf mai'r hyn y mae angen inni ei wneud ym mhob un o'r achosion hyn, yn gyntaf oll, yw gwella'r mynediad i'r lleoliadau hyn, yn enwedig, fel yn achos y castell hwnnw, ei fod yn agos at briffordd gyflym iawn, lle mae pobl yn gyrru heibio ac yn gallu gweld y castell ond heb unrhyw syniad, a dweud y gwir—mae yna arwydd Cadw, ond nid oes ganddyn nhw unrhyw syniad sut i fynd i'r safle. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n hanfodol bod gennym ni strategaeth drafnidiaeth a mynediad fwy integredig i'n holl gestyll.
Yn sicr rwy'n cytuno hefyd ei bod hi'n hanfodol mai amrywiaeth y wlad sy'n denu pobl, ond wedyn mae gennych y fraint eich hun o gynrychioli un o'r etholaethau gwledig mwyaf deniadol yng Nghymru. Mae pobl yn anghofio bod sir Fynwy bron mor wledig â'r math o ardal yr wyf i'n ei chynrychioli.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog.
Yr eitem nesaf, felly, yw y Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2019. Dwi'n galw ar y Gweinidog Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i wneud y cynnig—Lesley Griffiths.
Cynnig NDM7163 Rebecca Evans
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Hydref 2019.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd. Mae'r rheoliadau hyn yn rhan o raglen ehangach o waith a wnaed i baratoi ar gyfer ein hymadawiad ni â'r Undeb Ewropeaidd, er mwyn sicrhau bod llyfr statud Cymru yn gweithio fel y'i bwriadwyd wrth ymadael. Mae'r rheoliadau'n diwygio Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014. Ar hyn o bryd, mae Rheoliadau 2014 yn caniatáu cyflwyno hysbysiad gwella pan nad yw rhywun yn cydymffurfio â gofynion yr UE o ran labelu bwyd i ddefnyddwyr. O ganlyniad i adael yr UE, mae cynllun labelu bwyd newydd yn y DU, a fydd yn cydnabod dynodiadau daearyddol ac enwau bwyd wedi'u diogelu yn y DU, yn cael ei ddatblygu'n barod ar gyfer y diwrnod ymadael. O ganlyniad i'r newid hwn yn y system labelu bwyd, mae'r rheoliadau yn ceisio caniatáu cyfnod pontio er mwyn caniatáu i fusnesau bwyd barhau i fodloni gofynion labelu cyn gadael yr UE, wrth addasu i gynllun enwau bwyd gwarchodedig dynodiad daearyddol newydd y DU. Yn ystod y cyfnod hwn, ni chaiff hysbysiadau gwella eu cyflwyno os bydd cynhyrchion penodol yn cydymffurfio â'r gofynion labelu cyn gadael yr UE. Y cyfnodau pontio perthnasol yw: ar gyfer cynhyrchion penodedig a roddir ar y farchnad yn y cyfnod cyn y diwrnod ymadael nes bod stociau presennol y cyfryw gynhyrchion wedi dod i ben; ar gyfer cynhyrchion gwin penodol sydd gan rywun ar y diwrnod ymadael nes bod y stociau wedi dod i ben; ac ar gyfer cynhyrchion di-win penodedig a osodir ar y farchnad o fewn cyfnod sy'n dechrau ar y diwrnod ymadael; tair blynedd gan ddechrau ar y diwrnod ar ôl y diwrnod ymadael. Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus mewn cysylltiad â'r newidiadau hyn rhwng 20 Mai a 28 Mehefin 2019. Cafwyd un ymateb i'r ymgynghoriad, a oedd yn llwyr gefnogi telerau'r cynnig.
Nid oes siaradwyr yn y ddadl hon, felly mae'n debyg nad yw'r Gweinidog yn dymuno ymateb i'r ddadl.
Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Yr eitem nesaf yw'r Rheoliadau Hadau (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2019. Galwaf eto ar yr un Gweinidog i wneud y cyflwyniad—Lesley Griffiths.
Cynnig NDM7164 Rebecca Evans
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Hadau (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Hydref 2019.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd. Cynigiaf y cynnig. Mae'r rheoliadau hyn yn diwygio dau ddarn o ddeddfwriaeth ddomestig: Rheoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Cymru) 2017 a Rheoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2019. Mae rhan 2 o'r rheoliadau hyn yn galluogi Gweinidogion Cymru i awdurdodi marchnata planhigion ffrwythau a deunydd lluosogi o unrhyw wlad y tu allan i'r UE, os ydynt wedi'u bodloni bod deunydd wedi'i gynhyrchu o dan amodau sy'n cyfateb i'r rhai sy'n ofynnol mewn deddfwriaeth ddomestig. Mae rhan 3 o'r rheoliadau hyn yn sicrhau bod y diwygiad a wnaed gan ran 2 yn parhau i weithredu'n effeithiol ar ôl i'r DU ymadael â'r UE.
Rydym yn trafod y rheoliadau heddiw yn dilyn ystyriaeth y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a'r argymhelliad dilynol iddynt gael eu cymeradwyo drwy benderfyniad gan y Cynulliad Cenedlaethol. Mae hyn yn dilyn pwynt technegol a godwyd yn adroddiad y pwyllgor sy'n ymwneud â'u barn, sef drwy beidio â datgan yn rhy agored y terfyn amser newydd o 31 Rhagfyr 2022 ar gyfer awdurdodi'r cyfryw farchnata, ni fyddai'r rheoliadau yn gweithredu cyfraith Ewropeaidd yn briodol ar y dyddiad y gwneir y ddeddfwriaeth weithredu. Fe'm hysbyswyd y bydd y dull gweithredu a fabwysiedir gan y rheoliadau hyn yn sicrhau y byddant yn gweithredu cyfraith Ewropeaidd yn briodol pan gânt eu gwneud, ac, a phopeth arall yn gyfartal, byddant yn parhau i wneud hynny'n briodol tan 1 Ionawr 2023.
Mae'r dull gweithredu a fabwysiedir gan y rheoliadau hyn yn rhesymol yng ngoleuni'r ansicrwydd presennol ynghylch ymadael â'r UE a chysondeb yr adolygiad Ewropeaidd a domestig o ddeddfwriaeth blanhigion. Hefyd, mae'n cyd-fynd â'r dull gweithredu a ddilynir yn Lloegr yr ydym yn rhannu gwasanaethau'r asiantaeth iechyd anifeiliaid a phlanhigion â hi, sy'n cyflawni swyddogaethau gweithredol mewn cysylltiad ag amrywiadau a hadau planhigion ar ran Gweinidogion Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol.
Does dim siaradwyr eraill yn y ddadl, felly dwi'n cymryd nad yw'r Gweinidog eisiau ymateb. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. [Torri ar draws.]
Ydy, mae eich enw chi yma, mae'n ddrwg gennyf. Neidiais yn rhy gyflym o lawer er fy lles fy hun. Felly, galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i gyfrannu at y ddadl—Mick Antoniw.
Diolch, Llywydd. Byddaf yn gryno ar y rhain. Cafodd y rheoliadau eu cyflwyno at ddibenion dadansoddi, o dan Ddeddf ymadael â'r UE 2018 yn unol â Rheol Sefydlog 27.9 A, a bu'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn craffu ar yr offeryn fel offeryn negyddol arfaethedig yn ei gyfarfod ar 16 Medi 2019.
Ystyriwyd y meini prawf a nodir yn Rheol Sefydlog 21.3 C ac yn ein hadroddiad a gyflwynwyd ar 17 Medi, ac fe wnaethom ni argymell dyrchafu'r weithdrefn ar gyfer y rheoliadau i'r weithdrefn gadarnhaol. Deilliodd ein hargymhelliad o gwestiwn yn ymwneud ag amseru'r rheoliadau. Yn benodol, roedd hi'n ymddangos bod gwrthdaro rhwng cyfraith yr UE a oedd yn pennu terfyn amser ar ddefnyddio'r pŵer hwn i awdurdodi marchnata deunydd planhigion ffrwythau o wledydd y tu allan i'r UE, a'r ffaith nad yw'r rheoliadau'n pennu unrhyw derfyn amser, fel y crybwyllodd y Gweinidog. Felly, rydym yn falch o ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein hargymhelliad i ddyrchafu'r weithdrefn. Fe wnaethom ni ystyried yr offeryn eto fel offeryn cadarnhaol yn ein cyfarfod ar 14 Hydref, ac nid oedd unrhyw bwyntiau eraill i adrodd yn eu cylch.
Diolch. Ydy'r Gweinidog eisiau ymateb? Nac ydy. Felly, rwy'n gofyn y cwestiwn: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yn cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Mae'r eitem nesaf, sef eitem 9, wedi ei gohirio.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar, a gwelliant 2 yn enw Neil McEvoy.
Daw hynny â ni at y ddadl ar Brexit. Dwi'n galw ar y Prif Weinidog i wneud y cynnig—Mark Drakeford.
Cynnig NNDM7170 Rebecca Evans, Rhun ap Iorwerth
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn peidio â chytuno i Fil y Cytundeb Ymadael, fel y’i cyflwynwyd yn Nhŷ’r Cyffredin, gael ei wneud yn ddeddf gan Senedd y DU.
2. Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn gosod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29 i gynorthwyo’r Cynulliad i roi ystyriaeth ffurfiol i gydsyniad maes o law.
Cynigiwyd y cynnig.
Llywydd, i ddechrau, hoffwn ddiolch i chi ac i'r Aelodau am gytuno i gynnal y ddadl hon yn y Cynulliad y prynhawn yma. Wrth ei chyflwyno, hoffwn esbonio pam rydyn ni'n credu na ddylai'r Senedd hon gefnogi'r cytundeb a gytunwyd yn amodol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a'r Cyngor Ewropeaidd ddydd Iau diwethaf fel y mae ar hyn o bryd. Hoffwn i hefyd esbonio ein dull o ystyried cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer Bil y cytundeb ymadael. Gadewch imi ddechrau gyda'r cytundeb sy'n cael ei gynnig. Mae'n cynnwys dwy elfen: yn gyntaf, y cytundeb ymadael, a fydd yn ymrwymo'r Deyrnas Unedig o dan gyfraith ryngwladol, ac, yn ail, y datganiad gwleidyddol, sef datganiad fframwaith rhagarweiniol, yn ei hanfod, sy'n nodi bwriad y ddwy ochr o ran perthynas yn y tymor hir.
Yn achos y cytundeb ymadael, yr unig elfen sydd wedi newid ers y fersiwn flaenorol a gytunwyd gyda Theresa May yw'r protocol ar Ogledd Iwerddon. Mae hyn yn ddiddorol ynddo'i hun, gan fod llawer o Aelodau Seneddol Ceidwadol, gan gynnwys sawl aelod o'r Cabinet, wedi cael tröedigaeth, fel petai nhw ar y ffordd i Ddamascus. Mae eu gwrthwynebiad i sawl elfen o'r cytundeb yn ymddangos fel petai wedi diflannu. Fel dwy enghraifft, gallwn restru eu hanghytundeb â rôl barhaus i Lys Cyfiawnder Ewrop o ran hawliau dinasyddion, ac, yn ail, y taliad o ran ymrwymiadau heb eu cwblhau.
Mae'r datganiad gwleidyddol wedi newid yn fwy sylweddol, ond mae wedi newid mewn ffordd gwbl groes i'r hyn y byddem ni eisiau, gan wanhau'r berthynas rhyngom yn y dyfodol i fod yn un fyddai'n seiliedig ar gytundeb masnach rydd yn unig.
Llywydd, mae hwn yn gytundeb gwael i Gymru ac yn gytundeb gwael i'r Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd. Mae'n gytundeb gwael i Gymru oherwydd y byddai'n amlwg yn niweidio ein heconomi, yn fwy na dim ein sectorau gweithgynhyrchu a bwyd-amaeth. Byddai'n creu rhwystrau masnach newydd a sylweddol nad ydynt yn dariffau, hyd yn oed pe osgowyd y tariffau eu hunain yn y pen draw. Nawr, nid ydym ni wedi gweld dadansoddiad Llywodraeth y DU o'r effaith economaidd, ond awgrymodd eu modelu blaenorol, yn unol â llawer o ddadansoddiadau economaidd difrifol eraill, y byddai canlyniad o'r fath yn arwain at ddiffyg o tua 6.7 y cant mewn cynnyrch domestig gros dros gyfnod o 15 mlynedd o'i gymharu â'r hyn a fyddai'n digwydd pe baem yn aros yn yr Undeb Ewropeaidd—canlyniad, mewn geiriau eraill, Llywydd, sy'n fwy na dwywaith cynddrwg na chytundeb Theresa May, a chanlyniad a fyddai'n ein gwneud ni i gyd yn dlotach ac yn bygwth swyddi a buddsoddiad ledled Cymru. Mae'n gytundeb gwael i Gymru, Llywydd, oherwydd nad oes ymrwymiadau sydd wedi'u rhwymo mewn cyfraith i gynnal hawliau a diogelwch cyflogaeth, defnyddwyr a'r amgylchedd, dim ond dyhead yn y datganiad gwleidyddol y gallai Llywodraeth y DU droi ei chefn arno.
Mae'n gytundeb gwael gan na fyddai'n rhoi diwedd ar ansicrwydd—y ffwlbri sy'n cael ei lefaru am 'gyflawni Brexit' fel petai'r cytundeb hwn rywsut yn ddiwedd y ffordd yn hytrach na dim ond y dechrau. Fel y mae rhai o'r Grŵp Ymchwil Ewropeaidd, sydd wedi'u hudo i ildio eu hegwyddorion a chefnogi'r cytundeb hwn, wedi honni eu hunain, mae'n eithaf posib, ar ddiwedd y cyfnod pontio, dim ond 14 mis byr i ffwrdd, y gallem ddal i adael heb gytundeb o gwbl, neu, yn hytrach, gallai Prydain Fawr yn y pen draw adael heb ddim cytundeb, oherwydd mae perthynas hirdymor Gogledd Iwerddon â'r UE wedi'i gosod yn gadarn, o leiaf tan 2024, ac yn ymarferol, bron yn sicr, yn amhenodol.
Nawr, Llywydd, nid wyf yn dod yma y prynhawn yma i feirniadu protocol Gogledd Iwerddon. Mae'n cyflawni ei ddiben—y llinell goch a nodwyd ar ddechrau'r negodiadau gan yr Undeb Ewropeaidd i sicrhau nad oes ffin galed ar Ynys Iwerddon. I ni, mae atal trais rhag dychwelyd i Ogledd Iwerddon yn flaenoriaeth bob amser, ond ni allwn ni esgeuluso effaith y cynigion hyn ar ein porthladdoedd yma yng Nghymru, cynigion yr ydym yn eu hystyried yn rhai difrifol, na'r modd y mae'r cytundeb hwn yn llyffetheirio busnesau Cymru. Ac mae hynny ddwywaith mor wir, Llywydd, oherwydd tra roedd y protocol o'r blaen yn backstop yr oedd 27 aelod yr UE a'r DU wedi ymrwymo i geisio ei osgoi, yr hyn a gynigir nawr yw trefniant parhaol sydd yn rhoi Gogledd Iwerddon mewn parth economaidd gwahanol i Brydain Fawr, gyda ffin galed ym Môr Iwerddon—yr hyn yr honnodd y Prif Weinidog mor ddiweddar â 2 Gorffennaf na fyddai unrhyw Brif Weinidog Ceidwadol yn cytuno iddo byth.
A wnewch chi dderbyn ymyriad? Diolch am dderbyn yr ymyriad. Dim ond ar y pwynt penodol yna. Nid yw hwn yn drefniant parhaol, nac ydyw? Caiff ei ddisodli pe bai cytundeb masnach rydd gyda'r Undeb Ewropeaidd ac, yn wir, mae cyfle i Gynulliad Gogledd Iwerddon bleidleisio ar y mater hwn yn rheolaidd er mwyn dod ag ef i ben. Felly, pam ydych chi'n dweud bod hwn yn drefniant parhaol, pan nad dyna'r gwir yn amlwg?
Wel, Llywydd, o ran y pwynt cyntaf, mae'r Aelod wedi camgymryd. Nid yw'n deall beth fyddai'r cytundeb masnach rydd yn ei wneud a pham nad yw'n sicr yn gwneud yr hyn yr oedd yn ei honni. Bu i'w Lywodraeth ef, ar ôl cychwyn yn wreiddiol, ar ôl addo i'r DUP y byddai ganddyn nhw feto ar y cytundeb hwn, wedyn fradychu'r DUP. Yn y dyfodol ni fydd ond angen mwyafrif bychan ar Gynulliad Gogledd Iwerddon, a bydd y mwyafrif bychan hwnnw bob amser yno i ymestyn y trefniant y mae'r cytundeb hwn yn ei amlinellu. Dyna pam fy mod i'n dweud ei fod yn barhaol, a dyna pam fy mod i'n dweud bod eich Prif Weinidog, a aeth i Belfast ac a ddywedodd, fel y dyfynnais yn gynharach y prynhawn yma, 'byth', meddai, 'ni fyddaf byth mewn unrhyw amgylchiadau, o ble bynnag y daw'r awgrym, yn cytuno i ffin ym Môr Iwerddon', a dyna, ychydig wythnosau'n ddiweddarach, yn union yr hyn y mae wedi'i wneud.
Nawr, os yw safonau Prydeinig yn gwyro oddi wrth safonau'r UE, yna ni fydd busnesau Cymru yn gallu allforio nwyddau sy'n cyrraedd safonau'r DU i Ogledd Iwerddon. Yn fwy cyffredinol, o ran nwyddau o drydydd gwledydd y bydd modd eu rhoi ar y farchnad yng Nghymru, Lloegr a'r Alban o ganlyniad i unrhyw gytundebau masnach newydd, ni fydd modd mewnforio'r nwyddau hynny i Ogledd Iwerddon os nad ydyn nhw hefyd yn bodloni safonau'r UE. Gosodir unrhyw dariffau'r UE sy'n berthnasol ar nwyddau o'r fath hefyd, a dim ond os gellir profi na chânt eu gwerthu i'r Weriniaeth, gan gynnwys fel cydrannau neu gynhwysion cynhyrchion eraill, y gellir hawlio'r tariffau yn ôl. A ddoe, fel y darganfuom, bydd yn rhaid i hyd yn oed nwyddau o Ogledd Iwerddon gael tystysgrifau allforio i deithio i Brydain Fawr, hyd yn oed os oedd y newyddion hynny yn syndod i'r Ysgrifennydd Gwladol yn yr Adran dros Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, sydd i fod yn gyfrifol am hyn i gyd.
Gadewch i ni fod yn gwbl sicr, Llywydd, fod hyn yn doriad enfawr yn uniondeb economaidd y Deyrnas Unedig, ac yn dor-ymddiriedaeth aruthrol ar ran y Prif Weinidog. Am yr holl resymau hyn, credwn na all ac na ddylai'r Cynulliad Cenedlaethol gefnogi'r cytundeb hwn, ac y dylem ni ddangos nawr mewn termau diamwys na fyddwn ni, yn niffyg newid sylfaenol, yn rhoi cydsyniad deddfwriaethol i ddeddfwriaeth i weithredu'r cytundeb gwael hwn. Nawr, efallai nad yw cydsyniad deddfwriaethol yn derm a ddefnyddir yn eang y tu hwnt i'r Siambr hon, ond y mae'r hyn y mae'n ei olygu yn bwysig. Mae'n golygu mai dim ond os ydym ni wedi cytuno i'r newidiadau hynny y dylai Senedd y DU wneud newidiadau i'n pwerau a'n cyfrifoldebau. Mae'n gonglfaen sylfaenol i'r system sy'n galluogi'r Llywodraeth hon a'r Senedd hon i wneud penderfyniadau sy'n diwallu anghenion Cymru. Ac yn sicr, bydd angen cynnig cydsyniad deddfwriaethol yma yn y Senedd ar gyfer y ddeddfwriaeth hon, y Bil cytundeb ymadael, sef deddfwriaeth hynod gymhleth o dros 100 o dudalennau, nad oedd y Senedd wedi'i gweld tan ddoe. Yn wir, rydym ni wedi cael llythyr gan yr Adran Dros Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yn gofyn am ein caniatâd.
Nawr, pam hynny? Wel, bydd y Bil, er enghraifft, yn ein cyfyngu am o leiaf flwyddyn rhag pasio unrhyw ddeddfwriaeth sy'n anghydnaws â chyfraith yr UE. Bydd yn sefydlu awdurdod monitro annibynnol i ddiogelu hawliau dinasyddion yr UE, a fydd yn effeithio ar bwerau deddfwriaethol y Cynulliad hwn. Ac mae'n rhoi pwerau ysgubol i Weinidogion y DU i weithredu protocol Gogledd Iwerddon a allai hyd yn oed eu caniatáu ar eu pen eu hunain i newid Deddf Llywodraeth Cymru ei hun.
Llywydd, dyma'r ddeddfwriaeth bwysicaf a mwyaf pellgyrhaeddol i ddod gerbron y Senedd ers degawdau, a'r darn pwysicaf erioed sydd wedi gofyn am ein cydsyniad deddfwriaethol, ac eto mae'r Llywodraeth am ei hyrddio drwy ei holl gyfnodau yn San Steffan mewn llai na 10 diwrnod. Ac mae eisiau i'r Senedd hon a Senedd yr Alban roi cydsyniad deddfwriaethol hyd yn oed yn gyflymach. Mae'n eithaf afresymol. Fel deddfwrfeydd, rhaid inni gael amser i wneud ein gwaith craffu sylfaenol ac i wneud hynny'n gydwybodol ac yn briodol. I'r perwyl hwn, rwyf wedi ysgrifennu, ynghyd â Phrif Weinidog yr Alban, at Brif Weinidog y DU a Llywydd y Cyngor Ewropeaidd, gan ei gwneud hi'n glir ei bod hi'n hanfodol cael estyniad i gyfnod erthygl 50 er mwyn inni gyflawni ein dyletswydd gyfansoddiadol.
Wrth gwrs, mae'r Prif Weinidog wedi ceisio gwthio pethau yn y Senedd drwy fygwth y trychineb o Brexit heb gytundeb, ac mae wedi bod wrthi eto yn Nhŷ'r Cyffredin heddiw—'fy ffordd i neu ddim o gwbl'—ac nid yw hynny'n ffordd o weithredu mewn democratiaeth. Tactegau 'bwli', i ddyfynnu Dominic Grieve, y Twrnai Cyffredinol Ceidwadol yn ystod y degawd hwn.
Nawr, rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y Senedd yn gwrthod cytuno ar amserlen sydd â'r unig bwrpas o arbed embaras i Brif Weinidog a fynnodd y byddai'n cyflawni Brexit erbyn 31 Hydref, 'ei gyflawni neu farw', gyda'r haerllugrwydd yr ydym wedi dod i arfer ag e. Dyna un rheswm pam, wrth inni gynhyrchu memorandwm cydsyniad deddfwriaethol yn ddiweddarach heddiw, fod arnom ni hefyd angen amser priodol i'r Senedd wneud ei gwaith. Dim ond os gwrthodir y cyfle hwn inni y byddaf yn gofyn ichi, Llywydd, ystyried caniatáu i'r Senedd gael cynnig o'r fath ger ei bron yn ystod y naw diwrnod nesaf.
Yn y cyfamser, rhaid i neges y Cynulliad Cenedlaethol hwn i Brif Weinidog y DU fod yn glir: rhaid i'r Senedd hon gael yr amser sydd ei angen i gyflawni'r cyfrifoldebau y mae'r gyfraith yn ei gwneud hi'n ofynnol i ni eu cyflawni. Mae arnom ni angen estyniad i erthygl 50 ac, fel sy'n ofynnol o dan y gyfraith, rhaid i'r Prif Weinidog geisio cyflawni hyn yn ddidwyll. Yna mae angen i ni roi'r mater yn ôl i'r bobl mewn refferendwm gydag 'aros' ar y papur pleidleisio. Os credwch chi fod y cytundeb hwn er budd y wlad hon mewn gwirionedd, ni fydd arnoch chi ofn caniatáu i hynny ddigwydd.
Yn y cyfamser, mae'r cytundeb hwn yn gytundeb gwael i Gymru ac yn gytundeb gwael i'r Deyrnas Unedig. Ni fyddwn yn ei gefnogi fel y mae ac, o'n rhan ni, gwyddom ei bod hi'n well i Gymru aros yn yr Undeb Ewropeaidd.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig, a dwi'n galw ar Paul Davies i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Paul Davies.
Gwelliant 1—Darren Millar
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod bod pobl Cymru wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd ym mis Mehefin 2016.
2. Yn nodi bod Llywodraeth Ei Mawrhydi wedi sicrhau bargen gyda'r Undeb Ewropeaidd a fydd yn galluogi Cymru, a gweddill y Deyrnas Unedig, i adael ar 31 Hydref 2019.
3. Yn gresynu at yr effaith andwyol y bydd oedi ac ansicrwydd pellach yn ei chael ar fusnesau Cymru, y sector cyhoeddus a sefydliadau anllywodraethol eraill.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi Llywodraeth y DU wrth iddi geisio deddfu i sicrhau bod y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd erbyn 31 Hydref 2019.
5. Yn credu, pe na bai'r Cytundeb Ymadael yn cael cefnogaeth Senedd y DU, y dylid cynnal etholiad cyffredinol yn y DU.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Diolch, Llywydd, a chodaf i siarad am y gwelliant, a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod Darren Millar ar ran y Ceidwadwyr Cymreig.
Ni waeth a yw Llywodraeth Cymru yn derbyn y cytundeb newydd a gytunwyd rhwng Llywodraeth y DU a'r Undeb Ewropeaidd ai peidio, mae'n rhaid cofio bod y cytundeb hwn wedi'i dderbyn gan y ddau bartner a'i fod, o leiaf, yn ymgais i gyflawni canlyniad refferendwm 2016—canlyniad a ddangosodd fod pobl Cymru eisiau gadael yr Undeb Ewropeaidd. Ac felly mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn parhau i fod yn rhwystredig wrth glywed y Prif Weinidog yn arddel safbwynt sy'n gwbl groes i ewyllys pobl Cymru, yn enwedig gan nad oes unrhyw beth yn ei sylwadau sy'n parchu canlyniad y refferendwm nac yn dangos unrhyw ymrwymiad i gyflawni canlyniad y refferendwm hwnnw. Nid wyf wedi gweld dim yn y datganiadau diddiwedd y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cyflwyno yn ystod y misoedd diwethaf sy'n dangos unrhyw rithyn o barch tuag at ganlyniad y refferendwm. Yn lle hynny, rydym ni wedi clywed esgusodion dros oedi Brexit, sgorio pwyntiau gwleidyddol cyson a diystyru barn pobl Cymru yn gyfffredinol—[Torri ar draws.] Ddim ar hyn o bryd. Nawr, roedd Jean-Claude Juncker yn gywir i ddweud bod hwn yn gytundeb teg a chytbwys, ac, yn anad dim, mae'n dangos, gydag ymrwymiad i ganfod atebion a chydag agwedd lle mae parodrwydd i gyfaddawdu, y gellir sicrhau cytundeb. Pe bai Llywodraeth Cymru wedi bod yn fwy parod i gyfaddawdu a gweithio gyda Llywodraeth y DU, efallai y gallai Cymru fod wedi cael mwy o ran yn y trafodaethau. Ac rwy'n ildio i'r Aelod dros Flaenau Gwent.
Rwy'n ddiolchgar i arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig. Dywed y dylem fod yn parchu canlyniad y refferendwm, ond, wrth gwrs, y Blaid Geidwadol a bleidleisiodd, dri mis ar ôl refferendwm Cymru ar ddatganoli, yn erbyn Ail Ddarlleniad o'r Bil i wireddu'r refferendwm hwnnw. Felly, o ran parchu ewyllys y bobl, nid oes gan y Ceidwadwyr hanes da iawn, nac oes?
Gwyddoch yn iawn—mae'r Aelod yn gwybod yn iawn—fy mod wedi parchu canlyniad y refferendwm a dylai yntau barchu canlyniad y refferendwm hwn. A gadewch imi atgoffa'r Aelod dros Flaenau Gwent fod 62 y cant o'i etholwyr wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd ac y dylech fod yn sefyll dros y bobl hynny.
Wrth gwrs, y dewis arall—[Torri ar draws.] Wrth gwrs, y dewis arall yn lle'r Cytundeb sydd ger ein bron yw bwrw ymlaen heb gytundeb. Am fisoedd a misoedd, rydym ni wedi clywed am yr effaith y byddai Brexit 'dim cytundeb' yn ei chael ar Gymru, a dyma un maes lle rwy'n rhannu pryderon y Prif Weinidog. Mae busnesau ac arweinwyr diwydiant ledled Cymru wedi ei gwneud hi'n glir y bydd Cymru'n dioddef os bydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb. Pan fo'n rhaid dewis rhwng un sefyllfa neu'r llall, byddech yn credu bod gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd foesol i osgoi Brexit heb gytundeb, felly mae'n fwy siomedig fyth bod y Prif Weinidog a'i gydweithwyr yn San Steffan yn parhau i lesteirio'r broses hyd yn oed mor hwyr â hyn yn y dydd.
Ac mae'n rhaid i mi ddweud—mae'n rhaid i mi ddweud—[Torri ar draws.] Byddaf mewn munud. Rhaid imi ddweud bod yr AS dros Don Valley, Caroline Flint, yn llygad ei lle ddydd Sadwrn i ddweud nad oedd gan rai o'i chyd-Aelodau, a dyfynnaf:
ddim syniad na hyder y byddai cytundeb ger ein bron heddiw a fyddai'n caniatáu i'r rhai ohonom ni yn y Tŷ hwn sydd eisiau cael cytundeb i symud ymlaen a gadael yr Undeb Ewropeaidd erbyn 31 Hydref? O ganlyniad, os bydd y Tŷ yn pleidleisio o blaid gwelliant (a) heddiw, cawn ein gorfodi—hyd yn oed os cymeradwyir cytundeb—i ofyn am estyniad tan 31 Ionawr, gan danlinellu mai dim ond un cymhelliant a oedd gan noddwyr Deddf Benn: gohirio Brexit a'i atal.
Wel, mae'n rhaid i mi ddweud ei bod hi'n hollol gywir. Mae'n ymwneud â gohirio Brexit ac atal Brexit. Yn wir, mae'r llythyr ar y cyd a lofnodwyd gan Brif Weinidogion Cymru a'r Alban yn cadarnhau bod Caroline Flint yn iawn wedi'r cyfan.
Nawr, dywed adroddiad ar ôl adroddiad wrthym fod yr ansicrwydd presennol ynghylch sut y byddai Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd wedi bod yn niweidiol i fusnesau Cymru, a dywedaf wrth y Prif Weinidog: rydym ni bellach mewn sefyllfa i roi terfyn ar yr ansicrwydd presennol hwnnw gyda chytundeb cynhwysfawr, ac felly ni allaf ddeall pam y byddai Llywodraeth Cymru eisiau ymestyn y cyfnod hwnnw o ansicrwydd yn hwy nag sy'n gwbl angenrheidiol. Fodd bynnag, yn lle cydnabod diwedd yr ansicrwydd hwnnw, ymateb y Prif Weinidog i'r cytundeb y cytunwyd arno oedd ei gwneud hi'n glir y byddai cytundeb yn arwain at niwed enfawr i economi Cymru ac i swyddi yng Nghymru, gan fod y Llywodraeth hon mor ymrwymedig i aros yn yr Undeb Ewropeaidd ei bod yn fodlon mynd yn groes i ewyllys pobl Cymru. A dyna yw safbwynt Brexit Llywodraeth Cymru drwyddi draw, onid e? Dim datrysiad, dim strategaeth ac yn sicr dim cefnogaeth i ganlyniad y refferendwm.
Dylai'r Prif Weinidog fod yn onest unwaith ac am byth a chyfaddef nad oes ganddo ef na'i Lywodraeth unrhyw fwriad i gefnogi unrhyw gytundeb sy'n golygu bod Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac felly mae'n codi'r cwestiwn: pam nad yw Llywodraeth Cymru yn cyfaddef ar goedd ei bod eisiau dirymu erthygl 50? O leiaf mae Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi datgan yn glir eu bod eisiau atal Brexit. Gadewch imi atgoffa'r Aelodau fod y gwir ddifrod i economi a swyddi Cymru wedi'i wneud gan Lywodraethau llwyddiannus Llafur Cymru a'r rhai a arweinir gan Lafur, sydd wedi methu â chyflawni ar gyfer busnesau Cymru a diwydiannau Cymru. A gadewch i ni ystyried adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, a oedd yn dangos nad yw Cymru wedi manteisio ar y cyllid a oedd ar gael yn y gorffennol a oedd yn gysylltiedig â'r rhwydwaith trafnidiaeth traws-Ewropeaidd. Felly, mae'n amlwg bod Llywodraeth Cymru wedi methu â chydweithio â llywodraethau'r DU a'r UE i gefnogi seilwaith Cymru yn well yn y gorffennol. Ac, os bydd gennyf amser, byddaf yn ildio i'r Aelod dros Gaerffili.
Rwy'n credu mai un o'r pethau y mae arweinydd y Ceidwadwyr yn dda yn ei wneud yw craffu. Oni fyddai'n cytuno—a gadewch inni geisio tynnu rhywfaint o'r gwres pleidiol allan o hyn—oni fyddai'n cytuno fod tri diwrnod ar gyfer Bil mor swmpus â hwn yn annigonol i graffu arno'n briodol? Oni fyddai'n cytuno â hynny'n unig?
Wel, Llywydd, ni all y pleidiau gyferbyn ei chael hi bob ffordd. Maen nhw'n honni bod y ddeddfwriaeth hon yn cael ei brysio, ond roedden nhw'n fwy na pharod i wthio Deddf Benn yn gyflymach nag erioed yn San Steffan. Felly, allwch chi ddim ei chael hi bob ffordd. [Torri ar draws.] Allwch chi ddim ei chael hi bob ffordd. Ni allwch ddweud ar y naill law—[Torri ar draws.] Ni allwch ddweud ar y naill law—[Torri ar draws.] Ni allwch ddweud ar y naill law fod hwn wedi cael ei ruthro ac yna rhuthro deddfwriaeth.
Llywydd—[Torri ar draws.] Llywydd—[Torri ar draws.] Llywydd—[Torri ar draws.]
Yr Aelod i orffen mewn tawelwch, os gwelwch yn dda.
Llywydd, mae Llywodraeth y DU yn cyflawni canlyniad y refferendwm yn 2016 ac yn rhoi i bobl Cymru yr hyn y maen nhw ei eisiau: ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Rydym yn clywed galwadau am ail refferendwm tra bod Llywodraeth Cymru yn achub ar bob cyfle i'n hatgoffa mor gynhennus oedd yr un diwethaf. Fodd bynnag, ymddengys nad yw'r gwrthbleidiau yn San Steffan yn gwybod beth y maen nhw ei eisiau. Maen nhw'n creu rhwystredigaeth yn y broses ac yn symud y pyst. Yn amlwg, doedden nhw ddim yn disgwyl i gytundeb gael ei sicrhau ac eto dydyn nhw ddim eisiau cyflwyno pleidlais o ddiffyg hyder a mynd â'r mater hwn yn ôl at y bobl. Siawns nad yw pobl Cymru'n haeddu gwell. Os yw Llywodraeth Cymru eisiau mynd â hyn yn ôl at y bobl, yna mae'n bryd galw am etholiad cyffredinol, a Llywydd, gall y Prif Weinidog a'i gyd-Aelodau gyflwyno eu safbwynt i bobl Cymru a gall y bobl ddweud eu dweud unwaith ac am byth.
Galwaf ar Neil McEvoy i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn ei enw. Neil McEvoy.
Gwelliant 2—Neil McEvoy
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu, os bydd Bil y Cytundeb Ymadael yn arwain at Brexit heb gytundeb, y dylid cynnal refferendwm ar sofraniaeth genedlaethol Cymru.
Cynigiwyd gwelliant 2.
Mae'r Blaid Lafur a Phlaid Cymru wedi cyflwyno cynnig i Senedd Cymru yn galw am Fil cytundeb ymadael a fydd yn paratoi'r ffordd i wrthod Brexit fel y mae ar hyn o bryd. Ond nid ydynt wedi rhoi unrhyw fanylder yn eu cynnig ynghylch yr hyn yr hoffent ei weld yn lle hynny. Esgeuluso dyletswydd yw hynny, heb unrhyw fath o arweiniad. O ganlyniad, rwyf wedi cyflwyno gwelliant i roi dewis clir i Gymru a ffordd glir ymlaen. Am y tro cyntaf yn hanes ein cenedl, bydd Senedd Cymru'n pleidleisio'n awr ynghylch a ddylid cynnal refferendwm ar sofraniaeth genedlaethol i Gymru pe bai Brexit 'dim cytundeb' yn digwydd. Dyna'r refferendwm y mae Cymru ei angen. Dyna'r refferendwm fu ei angen arnom ni erioed, a gofynnaf ichi beidio â gwarafun y dewis a'r hawl ddemocrataidd i bleidleisio ar ddyfodol ein cenedl i bobl Cymru.
Gall ein gwlad symud ymlaen, ac y mae'n rhaid iddi symud ymlaen o'r llanast a grëwyd gan San Steffan a bwrw ymlaen i sefyll ar ein traed ein hunain fel cenedl falch. Mae'n hen gysyniad, o'r enw democratiaeth. Gofynnaf ichi gefnogi fy ngwelliant heddiw a chefnogi pleidlais ar sofraniaeth genedlaethol i Gymru. Diolch yn fawr.
Unwaith eto, mae gwleidyddiaeth, ein Senedd, gwledydd yr ynysoedd hyn, wedi cael eu gorfodi i ymyl dibyn gan un o'r llywodraethau mwyaf anghyfrifol a di-hid a welsom erioed. Caiff penderfyniad, sydd, rwy'n credu ein bod i gyd yn derbyn, yn un o'r mwyaf tyngedfennol y bydd unrhyw Senedd wedi'i wneud mewn cenedlaethau, ei wthio a'i orfodi ymhen ychydig ddyddiau. Bil, sydd â dros 100 o dudalennau, a gyhoeddwyd dros nos, dim asesiad effaith—ac yn hytrach na gwleidyddiaeth yn mynd rhagddi drwy fyfyrio'n bwyllog, craffu'n effeithiol, yr hyn yr ydym ni'n ei gael yw gwleidyddiaeth yn gweithio drwy ddadlau chwerw a thrwy fygythiadau.
Y bygythiad diweddaraf, wrth gwrs, yw, 'os na fyddwch yn pleidleisio dros ein hamserlen yna byddwn yn tynnu'r Bil cyfan yn ôl a byddwn yn eich dynodi'n elynion y bobl.' Yn yr ysbryd hwnnw, yn anffodus, y mae'r Llywodraeth Geidwadol hon wedi mynd i'r afael â'r mater hwn, yn sicr ers i'r Prif Weinidog presennol gymryd yr awenau. Mae'n gwbl annerbyniol. Sut daethom ni i'r sefyllfa hon? Yn y bôn, mae adain dde eithafol y blaid Dorïaidd nawr yn rheoli'r blaid. A siawns—. Paul Davies, rydych yn gwybod yn well na hyn yng ngwaelod eich calon. Rydych chi wedi ildio. Sut mae'n—[Torri ar draws.] Rydym ni wedi cyrraedd sefyllfa—[Torri ar draws.] Rydym ni wedi cyrraedd sefyllfa lle cymerwyd mandad refferendwm 2016 fel mandad ar gyfer y Brexit mwyaf eithafol ac anodd posib. Maen nhw hyd yn oed yn galw eu hunain yn 'Spartiaid' heb awgrym o eironi—llu o bobl sy'n credu bod gwleidyddiaeth yn rhyfel sy'n cael ei gynnal drwy ddulliau eraill. Gadewch i ni gofio hyn, nid oedd diwedd da i stori'r Spartiaid, gyda llaw—yn y diwedd cawsant eu polareiddio'n fewnol, eu heithrio'n allanol, ac yn y pen draw roedd yn rhaid iddyn nhw ailymuno â'r gynghrair Achaiaidd yr oedden nhw wedi ei gadael. Mae gwers foesol yna i chi, edrychwch.
Gallai fod wedi bod a dylai fod wedi bod yn wahanol, oni ddylai? Roedd cyfle i gyfaddawdu yma. Er gwaetha'r ffaith ein bod yn blaid sy'n angerddol dros aros, roeddem yn barod i gyfaddawdu. Roeddem yn cefnogi'r dewis gwell o lawer o fod yn aelod o'r farchnad sengl a'r undeb tollau. Yn wir, byddwn yn cefnogi gwelliant heddiw yn San Steffan ar y sail honno. Ond, na, yr hyn a ddigwyddodd yw bod y Llywodraeth Geidwadol wedi ein tywys ymhellach ac ymhellach at ymylon asgell dde eithafol y ddadl hon, ac yn wir, ei phlaid.
Rhaid imi gyfaddef, cefais fy synnu pan ddaeth Mr Johnson yn ôl gyda chytundeb, oherwydd nid oeddwn yn disgwyl iddo yntau hyd yn oed fod yn euog mewn gwirionedd o un o'r gweithredoedd mwyaf o frad ac anonestrwydd gwleidyddol a welais erioed—a defnyddiaf fy ngeiriau'n bwyllog. Fel y mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud, dyma ddyn a aeth i gynhadledd y DUP ac a ddywedodd na allai ac na ddylai unrhyw Lywodraeth Geidwadol Brydeinig gytuno i ffin reoleiddio a thollau ym Môr Iwerddon, a dyna'n union a wnaeth. Mae yna adlais yma, onid oes, o daid undebwriaeth Ulster, Edward Carson, ym 1921 yn dweud:
Am ffŵl oeddwn i! Dim ond pyped oeddwn i, ac felly hefyd Ulster, ac felly hefyd Iwerddon, yn y gêm wleidyddol i gael y Blaid Geidwadol i rym.
Bu felly erioed. Ac mae gwers yma i ni yng Nghymru hefyd: nid dyn y gellir ymddiried ynddo yw'r dyn hwn. Bydd yn gwneud yr hyn a wnaeth i'r DUP i ni hefyd. Peidiwch ag ymddiried yn ei eiriau.
Edrychwch ar y datganiad gwleidyddol—y fersiwn ddiweddaraf ohono—mae'n llawn iaith amodol: 'dylai' nid 'bydd'. Yno y gorwedd y—. Nid oes unrhyw ymrwymiadau rhwymol yno o gwbl. Mae adran 79 yn sôn am 'drin yn yr un modd'. Yr ymadrodd mwyaf amwys posib: 'adeiladu ar'. Rydym i gyd yn gwybod bod 'adeiladu ar'—nid yw'n sail i gredu dim, mewn gwirionedd. Byddwn yn y diwedd yn cael Brexit caled eithafol. Mae'r cyfeiriad yr ydym ni'n symud iddo yn gwbl glir.
Allwn ni ddim derbyn hyn. Nid dyma'r ffordd i redeg gwlad. Yn sicr, nid dyma'r ffordd i ddifetha ein gwlad ni. Mae'n rhaid inni wneud ein gwaith a sefyll yn erbyn y Blaid Geidwadol. Mae'n drueni nad yw'r Blaid Geidwadol yn barod i wneud hynny eu hunain. Sut allwn ni asesu hyn mewn gwirionedd heb hyd yn oed dryloywder effaith economaidd? Yn y pen draw, byddwn mewn sefyllfa lle bydd gan Walwnia fwy o bŵer dros gyfeiriad ein heconomi yn y dyfodol na fydd gennym ni yng Nghymru. Dyna beth sy'n cael ei gynnig i ni. Mae'n rhaid imi ddweud, edrychwch, yr unig ffordd i ddatrys hyn, oherwydd y gwactod arweinyddiaeth sydd yn y Blaid Geidwadol nawr, yw mynd â'r mater yn ôl i'r bobl fel y gallan nhw gael y gair olaf.
Rwy'n codi heddiw gyda siom fawr gan fod y Siambr hon, unwaith eto, yn gwastraffu amser ac arian cyhoeddus Cymru. Mae'r cynnig hwn yn—[Torri ar draws.]—anghyson. Os caiff pwynt 1 o'r cynnig ei basio ac os na fydd Senedd y DU yn gweithredu'r Bil cytundeb ymadael, yna nid yw pwynt 2 yn berthnasol, gan na fyddai angen memorandwm cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29. Mae'n gwbl hurt ac nid swyddogaeth y lle hwn yw penderfynu, nage? Mae'n cael ei drafod yn y Senedd ar hyn o bryd, felly pam ar y ddaear ydym ni yn achub y blaen ar unrhyw benderfyniad? Nid yw'r cynnig hwn heddiw yn ddim mwy na sbloets cysylltiadau cyhoeddus i Lywodraeth Cymru a'i helpwyr bach, a bydd fy ngrŵp yn pleidleisio yn ei erbyn.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Na wnaf. Dadl Llafur yw na all bleidleisio dros y cytundeb hwn oherwydd—
[Anghlywadwy.]—ddim yn ei sgript. Mae'n ddrwg gennyf.
Mae hi yn eich caru chi hefyd, Alun.
Ydw, rwy'n eich caru chi hefyd, Alun. Dadl Llafur yw na all bleidleisio dros y cytundeb hwn oherwydd nad yw'n amddiffyn—[Torri ar draws.] Dechreuaf eto. Dadl Llafur yw na all bleidleisio dros y cytundeb hwn oherwydd nad yw'n diogelu hawliau gweithwyr a'r amgylchedd. Am rwtsh.
Yr hyn a wnaiff, fel yr ydym ni wedi ei drafod yn ddiddiwedd, yw trosglwyddo'r cyfrifoldeb dros wneud hynny o'r UE i Lywodraeth y DU. Pam mae Llafur yn credu na fydd unrhyw Lywodraeth y DU yn diogelu'r hawliau hynny?
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Na wnaf. Mae'r rhan fwyaf o hawliau gweithwyr yr ydym ni'n eu mwynhau heddiw mewn gwirionedd yn dod drwy Senedd y DU, yn aml yn dilyn ymgyrchoedd gan eich undebau llafur. Mae llawer o hawliau o'r fath yn y DU yn llawer gwell na'r lleiafswm y mae'r UE yn darparu ar eu cyfer. Er enghraifft, gwyliau â thâl: pedair wythnos yw deddfwriaeth yr UE, mae'n 5.6 wythnos yn y DU. Absenoldeb mamolaeth: 14 wythnos yn yr UE a 52 wythnos yn y DU. Yn y DU, mae'n 90 y cant o'r cyflog am chwe wythnos ac yna £140 am 33 wythnos ar gyflog cyfartal. Roedd hyn yn gyfraith ym 1970, ymhell cyn i'r DU ymuno â'r UE hyd yn oed. O ran cyflogau, nid oes gan yr UE isafswm cyflog, yn wahanol i'r DU, ac mae gennym ni un o'r isafsymiau uchaf yn y byd. O ran gwahaniaethu, roedd gan y DU gyfreithiau ar wahaniaethu ar sail rhyw yn 1975 a gwahaniaethu ar sail hil ym 1965—ymhell cyn yr UE. Iechyd a diogelwch: mae gennym ni yn y DU rai o'r rheolau iechyd a diogelwch yn y gwaith gorau a hynny ers 1974.
Llywydd, yn hytrach na thrafod canlyniad anhysbys pleidlais yn San Steffan, dylai'r Siambr hon fod yn trafod pethau y mae ganddi ddylanwad a grym drostynt: y GIG yng Nghymru, Betsi yn dal i fod yn destun mesurau arbennig; dyfodol ffermio yng Nghymru wedi inni adael yr UE i roi sicrwydd i ffermwyr Cymru; neu'r ffaith bod Maes Awyr Caerdydd—[Torri ar draws.] Llywydd?
Mae hyn yn warthus.
Neu'r ffaith bod Maes Awyr Caerdydd—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Na wnaf. Neu'r ffaith bod Maes Awyr Caerdydd wedi cael chwistrelliad ariannol arall eto, a'r gogledd unwaith eto ar ei golled o dan y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru.
Ble oeddech chi pan oeddem ni'n trafod y pethau hyn? Doeddech chi ddim yma.
Y Blaid Lafur yn San Steffan—
Nid oeddech chi yn y Siambr pan oeddem yn trafod y pethau hyn. Byddwch yn bresennol.
Ataliodd y Blaid Lafur yn San Steffan bleidlais ystyrlon, ac eto mae'r Blaid Lafur yng Nghymru eisiau dadl ddiystyr arall a phleidlais ddiystyr arall. Diolch.
Carwyn Jones—[Torri ar draws.] Carwyn Jones.
Diolch, Llywydd. Rwy’n mynd i geisio tawelu pethau ychydig, os caf i. Mae'n berffaith gywir y dylai hwn, Cynulliad Cenedlaethol etholedig pobl Cymru, drafod y materion hyn. Mater cyfreithiol yw'r hyn yr ydym yn ei drafod yma sef cwestiwn ynglŷn â memorandwm cydsyniad deddfwriaethol. Felly, nid yw'n wastraff amser mewn rhyw ffordd neu'i gilydd; rydym ni'n gwneud hyn oherwydd ein bod wedi cael cais gan un o adrannau Whitehall ac mae'n gais na fydd, rwy'n amau, yn cael croeso yma. Dydw i ddim yn derbyn y dylem ni, mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, wybod ein lle yma a pheidio â thrafod materion sy'n effeithio'n uniongyrchol ar bobl Cymru.
A gaf i atgoffa'r Aelodau hynny sy'n honni, ar feinciau'r Ceidwadwyr, nad oes gan Lywodraeth Cymru strategaeth a'i bod bob amser wedi gwrthwynebu Brexit, y bu inni, yn 2016, ynghyd â Phlaid Cymru, gyhoeddi Papur Gwyn a oedd yn cynnig Brexit? Ac roedd yn Brexit a oedd yn cynnwys, ie, aelodaeth o'r undeb tollau ac roedd yn cynnwys, ie, gymaint o fynediad â phosib i'r farchnad sengl. Nawr, bydd rhai yn dweud, 'Wel, nid Brexit yw hynny.' Nid oes tystiolaeth o hynny o gwbl. A dyma'r broblem. Yn 2016, ni chafwyd dadl ynghylch beth yn union oedd ystyr Brexit heblaw'r ffaith bod yn rhaid i Brydain adael yr UE. Wel, yn fy marn i y byddech chi, yr holl Frecsitwyr allan yna, wedi cael Brexit erbyn hyn pe byddech chi mewn gwirionedd wedi gwrando ar Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn ôl yn 2016, ac ni fyddai Prydain mwyach yn aelod o'r UE. Yn lle hynny, rydym wedi cael tair blynedd a hanner o anhrefn llwyr yn San Steffan.
A, pha synnwyr sydd mewn rhuthro, dros ychydig ddyddiau, y ddeddfwriaeth bwysicaf a osodwyd gerbron y Senedd, byddwn yn dadlau ers o leiaf 50 mlynedd? A ninnau'n mynd i'w thrafod dros ddyddiau? Nid yw hynny'n iawn does bosib. Oll i fodloni terfyn amser artiffisial a gyflwynwyd gan Brif Weinidog y DU. Nid oes unrhyw reswm pam fod yn rhaid gwneud hynny erbyn 31 Hydref. Nawr clywn y Prif Weinidog yn dweud, 'Wel, efallai y byddaf yn tynnu'r bleidlais yn ôl.' Wel, beth sydd ganddo i'w guddio, os yw hynny'n wir? Yn sicr, ni all fod yn iawn fod Llywodraeth na all gael ei ffordd ei hun yn dweud, 'os na allwn ni gael ein ffordd, byddwn yn diddymu'r bleidlais.' Nid dyna'r ffordd i lywodraethu ac nid dyna'r ffordd i estyn allan at eraill, chwaith. Y cyfan oherwydd amserlen artiffisial. Fel y mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud, gofynnir inni roi ein cydsyniad heddiw, bron, neu yfory, efallai yr wythnos nesaf, ond mewn cyn lleied o amser nad yw'n bosib cael dadl wybodus, waeth beth fo barn Aelodau amrywiol yn y Siambr hon.
Nid wyf yn derbyn bod y cytundeb hwn yn rhoi sicrwydd. Byddai'n dda gennyf pe bai, ond nid wyf yn derbyn hynny. Mae'n golygu gohirio hyd at ddiwedd 2020, felly bydd trafodaethau dros y flwyddyn nesaf ac os daw'r trafodaethau hynny i ddim yna bydd y Llywodraeth yn penderfynu a yw'r DU yn gadael heb unrhyw gytundeb ai peidio. Nid democratiaeth mo hynny, does bosib. Mae'n flwyddyn arall o ansicrwydd wrth gwrs.
Yn anffodus, dyna sut y penderfynodd yr UE ei fod eisiau cynnal y broses o ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Fe wnaethon nhw ddweud fod yn rhaid gwneud hyn drwy gytundeb ymadael ac yna, ar ôl cytuno ar y cytundeb ymadael hwnnw, y gallai'r trafodaethau ar y berthynas fasnachu â'r UE yn y dyfodol ddigwydd. Felly a ydych chi'n derbyn nad yw hynny mewn gwirionedd yn broblem a achoswyd gan Lywodraeth y DU, ei fod yn broblem a achoswyd gan yr UE?
Beth oeddech chi'n credu fyddai'n digwydd? Mae'r diffyg crebwyll ymhlith Brecsitwyr yn fy syfrdanu i. A byddai, byddai gennym ni sicrwydd pe byddem wedi dweud, 'byddwn yn aros yn yr undeb tollau.' Byddai hynny'n sicrwydd. Byddai problem Iwerddon wedi diflannu. Byddai mater Iwerddon wedi diflannu. Ni fyddai hynny wedi bod yn fater y byddem yn ei drafod heddiw.
Dof yn ôl at Iwerddon. Nid yw'n rhoi unrhyw bleser imi ddweud, 'fe ddywedais wrthych chi dair blynedd yn ôl'—
Dyma ni eto.
Ie, dyma ni eto, dyma ni eto. Ie, 3,000 o bobl wedi marw yng Ngogledd Iwerddon; 'dyma ni eto', medd meinciau'r Torïaid. Mae hynny'n dangos yn union beth yw eu barn am Ogledd Iwerddon a pha mor ddall ydynt i fater Iwerddon ei hun. Gadewch imi atgoffa'r Aelodau nad mater o fasnachu yw hyn; cwestiwn o heddwch yw hwn. Mae'n gwestiwn o heddwch. Ers 1998, yn y ddinas y mae fy ngwraig yn hanu ohoni, nid yw pobl yn cael eu lladd yn ddyddiol oherwydd eu crefydd a'u credoau gwleidyddol. Wrth wneud hyn yn wael mae peryg i'r dyddiau hynny ddychwelyd, ac nid oes angen hynny.
Gadewch i ni edrych ar y materion masnach yma. Mae un o'r materion a godais am Ogledd Iwerddon yn effeithio ar Gymru, a dof at hynny mewn eiliad. Pe bai gennych chi nwyddau yn dod o Ogledd Iwerddon, roedd yn ymddangos y gallech fynd i mewn i farchnad Prydain neu i'r farchnad sengl Ewropeaidd heb fod angen unrhyw waith papur ychwanegol. Roedd honno'n fantais gystadleuol a fyddai wedi sicrhau y byddai cwmnïau wedi gadael Cymru ac wedi mynd i Ogledd Iwerddon. Pam fyddech chi'n aros yma pryd y gallech fynd i rywle lle'r oedd gennych chi fynediad agored i'r ddwy farchnad? Nawr, nid wyf i'n gwybod, ac nid yw Steve Barclay, yr Ysgrifennydd Brexit yn gwybod chwaith. Ddoe dywedodd ddau beth hollol wahanol. Dywedodd na fyddai busnesau Gogledd Iwerddon angen tystysgrifau allforio yna dywedodd y byddai eu hangen. Felly beth mae hynny'n ei olygu nawr? Mae angen tystysgrifau allforio arnyn nhw nawr i fynd i'r ddwy farchnad, sy'n ei wneud yn lle llawer gwaeth i wneud busnes mewn gwirionedd. A dyma'r broblem: mae'r ansicrwydd yn anghredadwy, ac nid yw'r rhain yn fanylion bach, mae'r rhain yn fanylion sy'n hynod o bwysig ar gyfer y dyfodol.
Gallaf weld yr amser, Llywydd. Nid oes unrhyw asesiadau effaith. Ni fyddwn i'n prynu tŷ heb arolwg. Ni fyddwn i'n prynu car heb ei yrru i'w brofi. Pam ar y ddaear y dylwn i dderbyn cytundeb Brexit sydd heb ei asesu'n iawn hyd yn oed? Siawns nad yw hynny'n gwneud dim synnwyr o gwbl. Ac mae'n effeithio ar Gymru, yn y diwedd. Bydd hyn yn effeithio ar borthladdoedd Cymru. Bydd y tollau'n cael eu gwirio ym mhorthladdoedd Cymru, ac nid oes amheuaeth am hynny.
A'r pwynt olaf a wnaf yw hyn: rwyf yn cytuno y dylai Cynulliad Gogledd Iwerddon allu mynegi ei farn am y berthynas economaidd rhwng Gogledd Iwerddon a'r Weriniaeth, ond mae hwnnw'n fater sydd wedi'i ddatganoli. Mae hwnnw'n fater sydd wedi'i ddatganoli. Cyn gynted ag y bydd Llywodraeth y DU yn cyfaddef bod gan Lywodraeth a Chynulliad datganoledig lais dros fater sydd heb ei ddatganoli mewn gwirionedd, rhaid i'r un peth fod yn berthnasol yma, a rhaid i'r un peth fod yn wir am yr Alban. Nid yw'r ddadl bod Cymru'n cael ei chynrychioli yn Senedd y DU yn dal dŵr, oherwydd felly hefyd Gogledd Iwerddon, ac mae'n dod yn ôl at y pwynt yr wyf wedi'i wneud lawer, lawer gwaith yn y gorffennol, a hynny yw ni fydd y DU yn dal wrth ei gilydd oni bai y byddwn yn craffu'n briodol ar bethau fel hyn, ac ni fydd yn dal wrth ei gilydd nes inni gael newid cyfansoddiadol. Dyna'r her i bawb yn y Siambr hon, ond, Llywydd, mae'n rhaid imi ddweud bod mynd â'r ddeddfwriaeth hon drwy'r Senedd mewn ychydig ddyddiau yn warth cyfansoddiadol.
Mae'r cyn-Brif Weinidog bob amser yn siarad ag angerdd mawr am y materion hyn drwy ei gysylltiadau teuluol ac rydym yn parchu hynny. Fodd bynnag, hoffwn ei atgoffa fod cytundeb Mrs May a'r cytundeb presennol yn cael cefnogaeth ac wedi cael cefnogaeth Llywodraeth Gweriniaeth Iwerddon, felly rwy'n gresynu at y rhethreg flodeuog a gawsom gennych chi ar adegau wrth ichi ei thaflu at ein meinciau ni. Rwy'n credu bod hynny'n annheg iawn, a dweud y gwir.
Chi ddywedodd hynny. 'Dyma ni eto', meddech chi.
Ni ddywedais i unrhyw beth. Dim ond eistedd yma yn gwrando roeddwn i.
Credaf mai'r hyn y mae'n rhaid inni ei sylweddoli mewn argyfwng fel hyn yw ein bod wedi cyrraedd yr adeg pan fydd yn rhaid inni benderfynu. Mae ein partneriaid yn yr UE wedi bod yn amyneddgar iawn. Mae angen iddyn nhw symud ymlaen, yn union fel y mae angen i ni symud ymlaen. Byddai'n llawer gwell gennyf i gytundeb Mrs May. Roedd yn ymddangos i mi ei fod yn parchu canlyniad y refferendwm, a oedd yn glir, fod y bobl—yn annisgwyl, o bosib—eisiau ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, ond roedd y bleidlais yn agos iawn. A hefyd, nid wyf yn credu bod pawb wedi trafod a deall yr holl faterion masnach yn llawn. Nid wyf yn eu deall yn iawn hyd heddiw, ac rwyf wedi eu hastudio'n eithaf manwl. Ac felly roedd elfen o waith ar y gweill, ac roeddwn i'n credu fod gan Mrs May ffordd resymol i ni allu symud ymlaen.
Mae'r cynnig presennol yn ffurf galetach ar Brexit, os yw'n arwain at gyfnod pontio ac yna cytundeb masnach rydd ar ddiwedd 2020. Ond cytundeb ysgariad yn unig yw ei ffurf bresennol i fynd â ni i'r cyfnod pontio. Ac nid wyf yn hoffi'r ffaith y byddai'n rhaid cyflymu'r ddeddfwriaeth. Rwyf o'r farn bod angen archwilio materion cyfansoddiadol yn llawn, ond atgoffaf yr Aelodau ar y meinciau gyferbyn y pasiwyd Deddf parhad Cymru yn gyflym iawn gennych, dan y mesur brys, flwyddyn neu 18 mis yn ôl. Felly, yr hyn sy'n iawn i'r ŵydd sydd iawn i'r ceiliagwydd, mae'n debyg, yn y materion hyn.
Yr hyn sy'n ein hwynebu yw telerau cyfalaf cytundeb, mewn gwirionedd. Bydd y trefniadau ar gyfer Iwerddon a pha fath o ddyfodol allai fod gennym ni pe bai gennym ni gytundeb masnach rydd—caiff hynny i gyd, o ran y berthynas yn y dyfodol, ei bennu yn ystod y cyfnod pontio. Nid yw wedi'i wreiddio yn y ddeddfwriaeth bresennol, a thri chwarter ohono yw'r hyn a gynigiodd Mrs May, wrth gwrs. Felly, rwy'n credu bod angen i ni fod yn hollol o ddifrif ac yn ofalus iawn ynghylch y pwynt yr ydym ni wedi'i gyrraedd. Fy hun, rwy'n credu, oherwydd yr angen i ruthro'r ddeddfwriaeth, y gall pobl ddweud yn rhesymol bod angen ei harchwilo ymhellach ac, efallai, y dylid ymestyn y dyddiad terfyn o 31 Hydref ychydig. Pe gallai'r sianeli arferol gytuno ar bythefnos neu dair wythnos, neu hyd yn oed bedair wythnos, i adolygu'r cytundeb ysgaru yn drwyadl, credaf y gellid fy mherswadio i gytuno i hynny. Ond y peth yw, rydym ni i gyd yn gwybod bod y rhai nad ydynt eisiau gadael yr UE ac yn parchu canlyniad y refferendwm eisiau naill ai atodi refferendwm at y Bil hwn neu ei gwneud hi'n ofynnol i ni wneud cytundeb tollau gyda'r UE. A byddai hynny, rwy'n meddwl, yn glastwreiddio Brexit, cyn belled ag y mae'r rhai sy'n cefnogi Brexit yn y cwestiwn. A rhaid inni fod yn onest â'r etholwyr y bydd yn gwneud hynny.
A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?
Ildiaf.
Diolch i'r Aelod am dderbyn yr ymyriad. Rwyf newydd eich clywed ac, yn amlwg, rydych yn poeni cymaint â mi am y brys, yn enwedig o ran sicrhau amser i edrych ar y dogfennau hyn. Ond rydych chi newydd grybwyll fod pobl eisiau edrych ar y farchnad gyffredin, bod yr undeb tollau yn fater cynhenus i lawer o bobl. Roeddwn yn wynebu llawer o gwestiynau—nad oedden nhw eisiau'r UE ond, pan wnaethon nhw bleidleisio ym 1970, roedd hynny ar gyfer marchnad gyffredin, sydd i bob pwrpas yn undeb tollau. Felly, roedd cyfran fawr o'r bobl yn teimlo mewn gwirionedd nad oedd yr undeb tollau yn broblem, oherwydd eu bod eisiau'r agenda economaidd, ddim eisiau'r agenda wleidyddol oedden nhw.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
Wel, wyddoch chi, efallai ein bod wedi cyrraedd adeg lle gallech chi argyhoeddi pobl o hynny, ond, a dweud y gwir, ni fyddai unrhyw beth wedi fy mhlesio yn y blynyddoedd diwethaf yn fwy na newid mawr yn y farn gyhoeddus a thystiolaeth amlwg bod y cyhoedd eisiau pleidlais arall. Y broblem yw, pe byddem ni'n cael pleidlais arall, mae'n ddigon posib mai'r un fyddai'r canlyniad. Ac mae'r dadleuon hyn wedi cael eu gwyntyllu dros y ddwy neu dair blynedd diwethaf, ac nid ydyn nhw wedi newid barn y cyhoedd.
Ond dyma'r sefyllfa y credaf yr ydym ni ynddi nawr: mae gennym ni Lywodraeth wantan na all bellach reoli ei hagenda ei hun ac, a bod yn onest, mae'r syniad y byddai unrhyw Lywodraeth, ar ôl colli'r cynnig ynghylch yr amserlen, yn bwrw ymlaen â deddfwriaeth sylweddol rwy'n credu yn hollol ffansïol. Rydym ni wedi dod i'r diwedd. Mae arnom ni angen Llywodraeth nawr sydd â mandad i weithredu. Mae arnom ni angen etholiad cyffredinol. Mae'n eithaf clir mai dyna'r sefyllfa erbyn hyn. Ac mae'n rhaid i mi ddweud, dywedodd Prif Weinidog Cymru ein bod yn ofni refferendwm—rwy'n credu ei fod yn golygu Brecsitwyr. Wel, dydw i ddim yn Frecsitwr. Dydw i ddim yn gwybod os ydyn nhw'n ofni refferendwm, neu beidio, ond rwyf yn credu eich bod yn ofni etholiad cyffredinol, ac rwy'n credu mai dyna sydd wrth wraidd eich araith—er yn rymus—y prynhawn yma. Ond a gaf i orffen—?
A wnewch chi ildio?
O, a oes amser imi ildio eto?
Ildiaf.
Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelod am ganiatáu imi. Yr anhawster yw hyn: yn 2017, roedd llawer yn y Siambr hon a gredai fod un canlyniad i'r etholiad; yn wir, cyflawnodd rywbeth aneglur. Beth petai'r etholiad yn arwain at Senedd grog arall? Yna byddem mewn sefyllfa lle nad oes mandad ar gyfer unrhyw beth. Yn yr amgylchiadau hynny, yr unig ffordd allan ohoni, siawns, yw cael refferendwm arall.
Ni all neb ragweld yn sicr beth fydd yn digwydd mewn etholiad cyffredinol, ond ni allaf weld unrhyw ffordd arall heblaw adnewyddu'r Senedd bresennol a cheisio ffurfio Llywodraeth sydd â mandad i weithredu. Efallai mai Llywodraeth glymblaid fydd honno—pwy a ŵyr? Ond dyna'r sefyllfa bob amser, ar adegau peryglus, mewn etholiad cyffredinol. Rhaid ichi wynebu'r etholwyr ac ymdrin â'r canlyniad y maen nhw'n ei roi ichi.
Ond a gaf i wneud yr apêl hon? Y bydd pa Lywodraeth bynnag a etholir yn yr etholiad cyffredinol sy'n rhwym o fod ar y gorwel—rwy'n sicr yn gobeithio ei fod—yn gyntaf ac yn bennaf yn dilyn cwrs unoliaethol, oherwydd yr hyn nad ydym ni eisiau ar ddiwedd 2020 yw ymadael heb gytundeb.
A gaf i ddweud yn gyntaf fy mod i'n cytuno efo David Melding pan ddywedodd o ein bod ni wedi dod i'r diwedd? Dwi ddim yn meddwl bod yna gytundeb gwell, bod yna rhyw ateb euraid all ddatrys y sefyllfa yma yn wleidyddol yn San Steffan. Dyna pam dwi'n credu, ac wedi credu ers tro, mai yr ateb ydy rhoi hyn yn ôl yn nwylo y bobl mewn refferendwm arall. Mae'n bosibl bod yna ddadleuon wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf—'Peidiwch â chael refferendwm fel opsiwn achos mi fydd hynny yn gwanhau ein llaw ni mewn trafodaethau.' Mae'n bosib bod yna wirionedd yn hynny, ond os ydyn ni wedi dod i'r pen draw, rŵan ydy'r amser i roi hyn yn ôl yn nwylo'r bobl. Ac mi ddywedaf i hyn: mae'r ffaith bod gen i ferch sy'n 19 oed, ac mae yna gannoedd o filoedd o bobl ifanc fel hi chafodd mo'r hawl i bleidleisio yn y refferendwm yn 2016 oherwydd eu bod nhw’n rhy ifanc, a'u bod nhw rŵan yn ddigon hen i bleidleisio, mae hynny yn ddigon o reswm ynddo'i hun i fynd yn ôl a gofyn iddyn nhw, achos eu dyfodol nhw rydyn ni'n siarad amdano fo. Os ydyn ni am sicrhau bod democratiaeth mor gyfoes ag y gall o fod, mor sensitif ag y gall o fod i wirionedd barn pobl Prydain, nid snapshot dair blynedd a hanner yn ôl, yna gadewch inni fynd yn ôl a chael pleidlais arall.
Ond nid dyna reswm—[Torri ar draws.] Os oes yna rywun eisiau dod i mewn yn fanna, dwi'n hapus iawn i ildio.
Gwnaf. Yn gyntaf oll, oni fyddech yn cytuno eich bod wedi cael deugain mlynedd i brofi i bobl Prydain mai'r Undeb Ewropeaidd yw eu dewis gorau? Ac ar ôl deugain mlynedd o fod yn yr Undeb Ewropeaidd, dywedodd pobl Prydain, 'Nid dyna'r dewis sydd arnom ni ei eisiau. Rydym ni eisiau ymadael â'r Undeb Ewropeaidd oherwydd ein bod yn credu y byddai Prydain yn well ei byd y tu allan i'r undeb hwnnw.'
Gadewch i mi ddweud hyn: yn y refferendwm hwn yr wyf eisiau iddo ddigwydd, os dywed pobl, 'Rydym yn gadael'—fe wnawn ni adael. [Torri ar draws.] [Anghlywadwy.]—o feinciau'r Ceidwadwyr, 'Sawl refferendwm ydych chi eisiau?' Os bydd refferendwm, fel yr ydym yn dymuno nawr—dyna ni, os 'gadael' fydd y canlyniad. Dyma ein dadl ni: nid oedd gennym yr wybodaeth i allu gwneud penderfyniad gwybodus. Nawr, mae honno gennym ni.
Yn gyflym iawn, iawn—pe bai'r refferendwm hwnnw, y refferendwm nesaf, yn dweud, 'Rydym yn gadael yr Undeb Ewropeaidd', a fyddech chi wedyn yn derbyn hynny?
Rwyf newydd ddweud hynny.
Ond pam fyddech chi'n derbyn hwnnw ac nid yr un blaenorol?
Rwyf newydd ateb y cwestiwn hwnnw.
A ydych chi'n cymryd un arall?
Nac ydw, rhaid imi fwrw ymlaen, oherwydd rwyf eisiau siarad am borthladd Caergybi, oherwydd rydym yn sôn heddiw am y cytundeb sydd ar y bwrdd a'r hyn y mae'n ei olygu mewn gwirionedd yn ymarferol. Gallwn siarad ynghylch yr hyn y byddai gadael ar y telerau a gynigir nawr drwy'r cytundeb ymadael hwn yn ei olygu o ran traffig yng Nghaergybi, o ran tagfeydd yng Nghaergybi, o ran cadw lorïau ar yr A55 ac yn y blaen, a'r anghyfleustra a achosir, ond nid wyf yn mynd i siarad am hynny. Rwy'n mynd i siarad am fy mhryder gwirioneddol ynghylch beth fydd yn digwydd i borthladd Caergybi, sy'n borthladd strategol hynod bwysig, yn sgil yr hyn sy'n cael ei gynnig nawr. Gallwn sôn am frad gwleidyddol yr hyn y mae Boris Johnson wedi'i wneud wrth gynnig gosod ffin ym Môr Iwerddon. Siaradaf, os caf, am ganlyniadau ymarferol hynny.
Mae masnach drwy borthladd Caergybi wedi tyfu tua 700 y cant ers creu'r farchnad sengl. Mae Caergybi yn borthladd hynod bwysig, nid yn unig oherwydd y caiff ei redeg yn dda, mae ganddo staff gwych, ac mae'n borthladd effeithiol ac effeithlon, ond mae'n llwyddiannus oherwydd dyma'r ffordd hawsaf i fasnach lifo o Ewrop drwy Brydain i Iwerddon. Felly, mae llawer o'r hyn sy'n cael ei gynnig nawr yn bygwth y statws hwnnw sydd gan Gaergybi—y statws breintiedig hwnnw o fod y llwybr gorau ar gyfer masnachu. Mae 50 y cant o'r fasnach drwy Ddulyn a Chaergybi yn dod o Ogledd Iwerddon. Nawr, o dan delerau'r hyn sy'n cael ei gynnig nawr, byddai elfennau o'r traffig masnach hwnnw yn ddi-dariff, a byddai'n haws iddyn nhw gael mynediad uniongyrchol i borthladdoedd yn yr Alban a Lloegr. Byddai hynny'n rhoi porthladd Caergybi dan anfantais yn uniongyrchol. Gwyddom beth sy'n digwydd o ran cynllunio ar gyfer traffig uniongyrchol ar gyfer masnach o Iwerddon i gyfandir Ewrop. Mae tua 40 y cant o'r fasnach a ddaw drwy borthladd Caergybi yn mynd yn syth dros y bont dir, sef yr hyn yw Prydain, ac ymlaen i gyfandir Ewrop. Gwyddom eisoes fod buddsoddiad yn cael ei wneud i osgoi'r bont dir honno'n gyfan gwbl, fel y dywedodd Andrew Potter o Brifysgol Caerdydd:
Yn hytrach na mynd i'r drafferth o fynd drwy ddau borthladd yn y DU—byddech yn gallu cadw eich lori ar fferi a hwylio o amgylch y DU heb adael yr Undeb Ewropeaidd mewn gwirionedd.
Ac mae trafferth yn wir, yn wirioneddol bwysig yma, oherwydd bod gennym ni rwystrau tariff ac mae gennym ni rwystrau nad ydynt yn dariffau, a'r rhwystrau hynny nad ydynt yn dariffau yw'r pethau sy'n gwneud i fasnach lifo'n gyflym neu'n araf, ac mae'r hyn sydd gennym yn y cynnig hwn, yn y cytundeb ymadael, yn gynnig i wneud Caergybi a thraffig trwy Gymru, sy'n rhoi hwb i economi Cymru, yn drafferthus. A byddwn ar ein colled, oherwydd, yn y pen draw, bydd masnach yn dod o hyd i'r llwybr hawsaf a ni fydd y rhai fydd ar ein colled. A phan ddywedaf 'ni fydd y rhai', rwy'n cyfeirio yn anad dim at y teuluoedd hynny sy'n gweithio'n galed yng Nghaergybi, ar Ynys Môn, a fydd yn gweld y bydd y porthladd hwnnw—a fu mor hanfodol i economi fy etholaeth i, fy nghymuned i—o dan anfantais, ac ni fyddaf byth yn cefnogi cytundeb sy'n rhoi fy nghymuned i o dan anfantais.
Dirprwy Lywydd, mae yna dri phwynt yr oeddwn i eisiau eu cyfrannu yn y ddadl arbennig hon. Mae'r pwynt cyntaf yn ymwneud mewn gwirionedd â'r amserlen ar gyfer ystyried hyn. Dechreuais ddarllen y 450 tudalen yma y bore 'ma. Dydw i ddim yn credu bod yna un person yn y Siambr hon sydd eto wedi cael yr amser neu sydd â'r gallu i ddeall y cynnwys hynod dechnegol hwn.
Nawr, dywedodd Prif Weinidog y DU, os na all gyflawni ei amserlen, y bydd yn diddymu'r Bil. Wel, gwrandewch, rwy'n credu, gyda rhywbeth mor bwysig â hyn, yn gyfansoddiadol, petai'n well ganddo ddiddymu ei Fil Brexit na'i fod yn destun craffu priodol, yna ni ddylai fod wedi ei gyflwyno gerbron y Senedd yn y lle cyntaf. Ac mae hefyd yn gwneud ein gweithdrefnau Seneddol yn gyff gwawd yn rhyngwladol.
Rwy'n gweld y sylw hwn gan y Sefydliad Llywodraethu, sydd wedi rhoi cymaint o gyngor yn ystod y broses hon. Yr hyn a ddywedant yw:
byddai gan y Bil Brexit lai o amser yn Nhŷ'r cyffredin na'r Ddeddf Anifeiliaid Gwyllt mewn Syrcasau.
Maen nhw'n dweud, bod Deddf, sy'n effeithio,
dim ond 19 o anifeiliaid gwyllt ar ôl mewn syrcasau yn y DU—yn eu plith; sebra, dau gamel, tri racŵn a sebw.
Dydw i ddim yn gwybod beth yw sebw.
Pob un ohonynt bellach â'r anrhydedd o fod yn destun mwy o ddadl yn Nhŷ'r Cyffredin na...y cytuniad cyfreithiol hanesyddol sy'n sicrhau ymadawiad y D.U. o'r Undeb Ewropeaidd.
Nid dyma'r ffordd i gyflawni diwygio cyfansoddiadol yn briodol.
Dyna'r pwynt cyntaf a wnaf. Mae'r ail bwynt a wnaf yn ymwneud â hawliau gweithwyr, a fu'n fater mor sylfaenol i lawer ohonom ni. Mae'n fater a oedd yn addewid mor bwysig yn ystod refferendwm Brexit—y byddai gwarantau o ran hawliau gweithwyr. Rwy'n cofio mor galed y buom yn ymladd i gael llofnodi'r benod gymdeithasol, a pha mor falch oeddem ni pan gafodd ei llofnodi yn 1997. Ac rwy'n dweud wrthych chi, roedd hi yn frwydr—roedd hi'n frwydr ar ein hochr ni, oherwydd roedd Blair eisiau dewis a dethol darnau, a'r undebau llafur mewn gwirionedd a ddywedodd, 'na, rydym ni'n cymryd y benod gymdeithasol gyfan, oherwydd rydym ni wedi ymrwymo i Ewrop gymdeithasol.' Rwy'n meddwl am sgwrs gyda Phrif Weinidog Cymru y diwrnod o'r blaen, a ddywedodd, 'ydw, rwy'n cofio'r dadleuon hynny'n dda. Beth oedd safbwynt y Torïaid? 'Naw wfft ichi, Delors.' A dweud y gwir, bu hynny'n rhan o safbwynt y Torïaid fyth ers hynny.
Roedd pwynt a wnaethpwyd yn ddeheuig iawn, mi gredaf, gan Keir Starmer yn ystod y ddadl yn San Steffan, a dyma oedd hwnnw—oherwydd fe glywsom ni heddiw gan UKIP/Brexit; beth bynnag y'u gelwir nhw y dyddiau hyn—os ydych chi'n mynd i wneud y pwynt bod gennym ni delerau ac amodau penodol a deddfwriaeth gyflogaeth sy'n well na safonau'r UE, wel wrth gwrs y pwynt yw bod safonau'r UE wedi bod yn llinell sylfaen erioed. Ni fu unrhyw gyfyngiad erioed ar ddarparu safonau gwell ac uwch, ac os yw'n wir nad ydych chi eisiau cwtogi ar ddeddfwriaeth gyflogaeth, yna pam diddymu'r llinell sylfaen? Yr ateb, fel y gwyddom yn ddigon clir, yw mai'r bwriad yw cael gwared ar y gallu i ddiogelu hawliau cyflogaeth—yr hawliau hynny a gawsom ni o'r bennod gymdeithasol. Ac os darllenwch y ddogfen hon—a darllenais y darnau penodol hynny—nid oes sicrwydd yno y caiff y llinell sylfaen honno ei diogelu mewn unrhyw ffordd, ac ni ellid ei hamddiffyn chwaith, oherwydd er mwyn cael cytundeb masnach â'r Unol Daleithiau, er mwyn inni sicrhau'r cytundeb masnach hwnnw, mae'n rhaid inni gytuno i ddiddymu a gostwng safonau er mwyn cydymffurfio a chael chwarae teg â'r Unol Daleithiau. Felly, dylai'r blaid Dorïaidd fod yn onest mai dyna yw eu bwriad mewn gwirionedd a dyna fu un o'r prif feini tramgwydd erioed o ran aelodaeth o'r UE yn y lle cyntaf beth bynnag—y ffaith iddo gyflwyno'r bennod gymdeithasol honno a bod ganddo'r agenda gymdeithasol benodol honno.
Rwy'n credu mai'r pwynt olaf yr hoffwn ei wneud yw hyn: os edrychwch chi ar adran 36 o'r Bil drafft, ceir y datganiad mwyaf rhyfedd yn y fan honno o ran sofraniaeth, a sofraniaeth ar adeg, mewn gwirionedd, pan fo adran 20 o'r Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol a Llywodraethu 2010 yn cael ei diddymu hefyd, sef y corff sydd mewn gwirionedd yn rhoi amser i'r Senedd graffu ar gytuniadau rhyngwladol. Caiff hynny ei ddileu yn y Bil, ac nid wyf wedi clywed dim trafodaeth ar hynny eto. Gan roi'r rhan benodol honno o'r neilltu, os edrychwn ni ar y rhan honno o'r Bil sy'n ymwneud â sofraniaeth ac ati, os mai bwriad y Senedd yw dibynnu ar adran 36 a mynd ymlaen yn y fath fodd fel ei bod hi yn y bôn yn rhoi'r farwol i Gonfensiwn Sewel, yna mae hynny unwaith eto'n symudiad arall tuag at chwalu'r Deyrnas Unedig. Cyfeiriaf at yr adran hon yn y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol a aeth gerbron Senedd yr Alban, a chyfeiriant at ein papur ein hunain a drafodwyd ac a gefnogwyd gennym yn y Siambr hon dim ond yr wythnos o'r blaen:
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynigion a ategodd y syniad o'r Deyrnas Unedig fel cymdeithas wedi'i seilio ar gydnabyddiaeth o sofraniaeth boblogaidd ym mhob rhan o'r DU, a daeth i'r casgliad nad yw'r athrawiaeth draddodiadol o sofraniaeth y Senedd bellach yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer cyfansoddiad y DU.
Dyna'r safbwynt a fabwysiadwyd gan y Siambr hon, a gydnabuwyd gan Senedd yr Alban, ond na chafodd ei gydnabod yn unman yn unrhyw un o'r dogfennau hyn. Ac os byddwn ni'n cyrraedd sefyllfa lle mae Llywodraeth y DU yn bwrw ymlaen, dyna ddiwedd confensiwn Sewel a dyna ddiwedd goruchafiaeth y statudau datganoli o fewn strwythur cyfansoddiadol y DU, ac mae'n gam ar y ffordd i chwalu'r Deyrnas Unedig.
Wel, dyma ysgarmes arall eto fyth yn y frwydr ddiddiwedd rhwng Seneddau sydd eisiau aros yn yr Undeb Ewropeaidd a phobl y wlad hon. Dechreuaf drwy atgoffa pobl fod 486 o Aelodau Seneddol o blith 650 wedi pleidleisio i aros, a 49 o Aelodau'r Cynulliad hwn o blith 60 wedi pleidleisio i aros. Bu i'r holl brif bleidiau a ymladdodd yn yr etholiad cyffredinol diwethaf ei ymladd ar yr un geiriad ag a ymddangosodd ym maniffesto'r Blaid Lafur: 'Mae Llafur yn derbyn canlyniad y refferendwm.' Ac maen nhw wedi treulio'r tair blynedd a hanner diwethaf yn gwneud popeth o fewn eu gallu i danseilio'r datganiad hwnnw. Gwyddom nad oedd y Prif Weinidog na'i gyd-Aelodau, nac, yn wir, arweinydd Plaid Cymru a'i gyd-Aelodau, wedi derbyn canlyniad y refferendwm mewn gwirionedd —
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Wel, prin fy mod i wedi dechrau eto, ond, ewch ymlaen.
Felly, 'Diogelu Dyfodol Cymru', o ran y ddogfen a basiwyd gan y Siambr hon, nid ydych chi'n teimlo bod hynny'n ymyriad difrifol iawn.
Mae'n ddrwg gennyf, nid wyf yn deall.
Roeddwn yn meddwl ei fod yn eithaf clir—'Diogelu Dyfodol Cymru'.
Mae gennym ni Seneddau sydd eisiau parhau'n aelod o'r Undeb Ewropeaidd, sy'n benderfynol, ac a fu wastad yn benderfynol, i herio ewyllys y bobl. Cyn ymgyrch y refferendwm, cafodd pob arswyd dychmygol ei ddyfeisio gan yr un bobl yn union ynghylch yr hyn a fyddai'n digwydd petaem yn gadael yr undeb tollau a'r farchnad sengl. Byddai pla o gornwyd a brogaod ac ati ac ati. Felly, mae'r syniad nad oedd y dadleuon hyn, yr ydym ni wedi eu hailadrodd yn ddiddiwedd yn ystod y tair blynedd a hanner diwethaf, yn rhan o ymgyrch y refferendwm yn ailbobiad hurt o hanes. Dim ond yr wythnos diwethaf roeddem yn siarad am Gatalwnia yn y fan yma, ac roedd arweinydd Plaid Cymru yn traethu'n huawdl am hawl pobl Catalonia i benderfynu ar eu dyfodol eu hunain drwy gyfrwng refferendwm. Mae Llywodraeth Sbaen, wrth gwrs, yn cymryd golwg hollol wahanol. Cyn belled ag y mae Plaid Cymru yn y cwestiwn, yn y dadleuon hyn, maen nhw wedi cymryd swyddogaeth Llywodraeth Sbaen oherwydd eu bod yn benderfynol o'n cadw ni yn undod yr ymerodraeth uwchgenedlaethol, sef disgriafiad Guy Verhofstadt ohono, yr Undeb Ewropeaidd. Ni ddylid byth caniatáu i Brydain a Chymru sicrhau eu rhyddid o'r corff uwchgenedlaethol hwn. Mae Plaid Cymru yn ddigon hapus i ni fod yn wladfa yn ymerodraeth Gwlad Belg; dydyn nhw ddim eisiau i ni fod yn rhan o'r Deyrnas Unedig. A hurtrwydd y sefyllfa honno, er mor annigonol y gallai fod—ar hyn o bryd mae gennym ni 40 o Aelodau Seneddol yn San Steffan—pe bai Cymru'n annibynnol yn yr Undeb Ewropeaidd, byddai ganddi lond dwrn o aelodau o Senedd Ewrop, byddai gennych chi ganran bitw iawn o'r pleidleisiau yng Nghyngor y Gweinidogion, a byddai gennych chi un Comisiynydd Ewropeaidd, a fyddai dan rwymedigaeth i fod yn annibynnol. Rwy'n ildio.
Mae dau o'r 11 carcharor gwleidyddol Catalaneg yn gyfeillion personol i mi. Euthum i garchar VI Madrid i ymweld â nhw, a gofynnais iddyn nhw, 'beth ddywedech chi wrth bobl fel y rhai a fyddai'n dweud, "Wel, edrychwch, yr Undeb Ewropeaidd—"'. Ac rwy'n gresynu at ymateb yr Undeb Ewropeaidd, a rhai o'r aelod-wladwriaethau—nid pob un—gan gynnwys Llywodraeth y DU, sydd wedi bod yn ofnadwy yn hyn o beth. 'Ond beth ddywedech chi?' Dywedodd, 'Edrychwch, mae arnon ni eisiau i Gymru fod yno gyda Chatalonia yn Ewrop y bobol yr ydym ni'n ceisio ei chreu.' Dyna'r dyfodol i ni fel cenhedloedd bach. Mae arnom ni angen y teulu hwnnw o genhedloedd Ewropeaidd lle, yn wahanol i'r undeb hwn, y byddwn yn bartner cyfartal, yn cael ein parchu. Dyna'r weledigaeth yr ydym ni'n ymladd amdani—rhywbeth na fyddech chi byth yn ei ddeall.
Nid oes angen tanseilio mwy ar hurtrwydd yr honiad y byddai Cymru'n gyfartal â'r Almaen yn yr Undeb Ewropeaidd. Rydym ni i gyd yn gwybod am ddeinameg fewnol y ffordd y mae'r Undeb Ewropeaidd yn gweithio. [Torri ar draws.] Rwy'n credu bod yn rhaid i mi symud ymlaen gyda fy araith. [Torri ar draws.] Rhaid imi symud ymlaen gyda'm haraith.
Dewch yn eich blaen, ildiwch.
Gall y bonheddwr anrhydeddus, yr wyf yn ei barchu'n fawr, wneud ei araith ei hun, ond rwy'n mynd i fwrw ymlaen â'm un i.
Yn y bôn, mater o ddemocratiaeth yw hyn yn y pen draw, ac ni allwn ni gael ail refferendwm ar aelodaeth Prydain o'r Undeb Ewropeaidd hyd nes y byddwn wedi cyflawni'r cyntaf. Dyna holl ddiben y broses hon. Dyna pam, fel y dywedodd David Melding, fel un sy'n frwd o blaid Ewrop, fod yn rhaid inni barchu dymuniadau'r bobl neu fel arall danseilio'r ffydd mewn democratiaeth yn ein gwlad ein hunain. Ac rydym ni i gyd yn gwybod bod y ddadl ynglŷn â'r amserlen yn San Steffan—rwy'n cytuno, mewn gwirionedd, nad yw tri diwrnod yn ddigon i ymdrin â chymhlethdodau Bil o'r math hwn—ond gwyddom oll fod y dadleuon ynglŷn ag amserlenni yn sylfaenol yn ymwneud ag ymestyn yr oedi am gyfnod amhenodol fel nad yw Prydain byth yn gadael yr UE. Mae fel Hotel California—rydych chi'n llofnodi i adael, ond ni allwch chi fyth fynd. Wel, bydd pobl Prydain yn cael eu ffordd yn y pen draw, waeth pa mor hir y mae'n ei gymryd. Pleidleisiodd 53 y cant o'r cyhoedd yng Nghymru ac ym Mhrydain i adael yr UE, ac ni allwn ni barhau fel hyn am gyfnod amhenodol, gan wadu iddynt yr hyn y gwnaethant bleidleisio drosto. Rwy'n credu, fel y dywedodd David Melding, mai etholiad cyffredinol yw'r ffordd ymlaen.
Mae'r hyn yr ydyn ni'n ei wneud heddiw, rwy'n meddwl, yn tanseilio'r ffydd yn y lle hwn—does dim ots gennyf i am hynny, nid oes llawer o ffydd ynddo beth bynnag y tu allan i'r adeilad hwn. Ond rydym ni'n tanseilio mwy na hynny—ffydd mewn democratiaeth ei hun, ac am hynny rwy'n poeni amdano o ddifrif. Os bu erioed Wobr Nobel am ragrith, rydym yn gwybod y byddai digon o ymgeiswyr ar gyfer honno yn arweinyddiaeth Plaid Cymru ac arweinyddiaeth y Blaid Lafur a holl sefydliad gwleidyddol y wlad hon.
Felly, rwy'n dweud nad yw'n bwysig beth yr ydym yn ei wneud yma heddiw. Nid ydym ni hyd yn oed yn gwybod eto a yw'r Tŷ'r Cyffredin yn mynd i ganiatáu i Boris Johnson gael ei gytundeb. Yn bersonol, nid wyf yn credu hynny, ac felly bydd hynny'n gwneud yr holl broses hon yn ofer. Felly, yr hyn y dylem ni ei wneud, fel gwleidyddion, yw cyflawni'r hyn y pleidleisiodd pobl Prydain, sef ein meistri, drosto.
Byddaf yn ceisio cadw hyn yn gryno, ond rwyf newydd glywed y sylwadau gan yr Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru yn tynnu sylw at ffigurau ffug mewn gwirionedd—nid 53 y cant mohono ond 52 y cant, dim ond i'w gywiro. Rwy'n gwybod ei fod yn hoffi gorliwio, hyd yn oed o un.
Mae'n bwysig ein bod yn deall democratiaeth, a'r hyn y mae democratiaeth yn ei olygu yw cymryd ein hamser i ymdrin â materion a chraffu arnyn nhw. Nawr, dau beth. O ran y Bil—nid ydym yn trafod y cynnig cydsyniad deddfwriaethol am nad yw wedi'i gyflwyno eto—ond, o ran y Bil, mae Llywodraeth sy'n ceisio cyflawni rhywbeth mewn tri diwrnod yn cuddio rhag craffu, oherwydd mae'r ddogfen hon, fel y dywedodd Mick Antoniw—120 tudalen o Fil, 126 tudalen o femorandwm esboniadol, hyd yn hyn wyth tudalen o welliannau, ynghyd â 500 tudalen a mwy y cytundeb ymadael ei hun, a'r datganiad gwleidyddol sydd ynghlwm wrth hynny—os gall unrhyw un ddarllen hynny i gyd a'i ddeall, nid ei dreulio'n unig, ond deall yr hyn y mae'n ei olygu yn y cyfnod o dri diwrnod, wel, maen nhw'n dweud anwireddau, oherwydd mae'n amhosib. Rwy'n edrych drwy hyn, rwy'n ceisio ei ddarllen, ond mae wedi cymryd amser hir i mi fynd i'r afael ag ef gan fod gennych chi lawer o groesgyfeirio yn y Bil hwn at agweddau eraill ac at ddatganiadau gwleidyddol eraill. Mae'r Bil hefyd yn dweud, drwy gyfrwng y datganiad gwleidyddol, na allwch ei newid—na allwch chi newid y datganiad gwleidyddol. Mae paragraff 31 (3) yn dweud eich bod yn cadw at hyn yn y dyfodol—mae'n raid i unrhyw un gadw at y datganiad gwleidyddol hwn yn y dyfodol. Mae hynny'n bwysig.
Felly, mae'n rhaid i chi weithio drwy'r Bil hwn. Mae'n rhaid i chi graffu ar y Bil hwn yn ofalus iawn, ac mae tri diwrnod yn jôc. Nawr, soniodd pobl nad oes angen iddo fod yn dri diwrnod mewn gwirionedd. Yna dywedwch wrth eich Llywodraeth, 'Cymerwch amser; cymerwch yr amser sydd ei angen arnoch chi i wneud hynny, craffwch arno fel y mae angen ichi ei wneud.' Does dim brys. Nid yw Senedd Ewrop yn mynd i gadarnhau hyn erbyn 31 Hydref, gan eu bod eisoes wedi dweud nad ydynt yn mynd i wneud hynny yr wythnos hon. Nid oes cyfarfod llawn yn eistedd yr wythnos nesaf. Dydyn nhw ddim yn mynd i'w wneud tan ar ôl 31 Hydref. Nid oes brys ac eithrio ego Boris Johnson i ddweud, 'Cefais hwn drwy Dŷ'r Cyffredin erbyn 31 Hydref', fel datganiad gwleidyddol mewn etholiad cyffredinol.
Pe baem ni dim ond yn sôn am yr unig fater o sut i drafod Bil mor fawr â hyn yn briodol, byddwn yn cytuno â chi; mae'n gofyn am amser ac mae'n amlwg na chaiff hynny. Fodd bynnag, mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud y prynhawn yma, yn y termau mwyaf pendant—ac mae'n angerddol drosto ac mae ganddo hawl i'w farn—nad oes arno eisiau unrhyw gytundeb; mae eisiau aros yn yr UE. A dyna'r broblem, ynte? Mae hyn i gyd yn ymgais i lesteirio'r broses a gwrthod penderfyniad ar hyn o bryd ar hanfodion y cytundeb hwn a gytunwyd rhwng Llywodraeth y DU a'r UE.
Yn amlwg, ni fyddwch chi na minnau'n cytuno ar y safbwynt hwnnw. Af yn ôl at y cynnig ei hun mewn munud, ond mae'r ddadl ar y Bil, yr ydych chi eisoes wedi cytuno, a chredaf fod pawb yn eu calonnau yn y Siambr hon yn cytuno, na allwch chi wneud y gwaith yr ydych chi i fod i'w wneud mewn tri diwrnod. Mae'n amhosib, yn enwedig ar fater cyfansoddiadol mor bwysig, sydd, fel y dywedodd Rhun, yn effeithio ar ddyfodol ein cenhedlaeth iau. Mae angen inni wneud hynny'n iawn.
Nawr, pan ddown at y cytundeb ei hun, ie, efallai nad oes gennym ni'r un farn am y cytundeb hwnnw. Ac mae agweddau pwysig. Ble mae'r dadansoddiad o'r effaith economaidd fel y gallwn ni gloriannu sut mae'r cytundeb hwn yn mynd i'r afael â rhai o'r pryderon a oedd gennym ni yn y cytundebau blaenorol? Rydym ni wedi gwneud llawer o waith yn y Siambr hon, ac mewn gwahanol bwyllgorau, i edrych ar effaith cytundebau blaenorol, boed yn ymadael heb gytundeb, cytundeb Theresa May, neu agweddau eraill, a gwyddom fod pob un yn effeithio arnom ni mewn modd negyddol, nid cadarnhaol. Felly, beth fydd effaith y cytundeb penodol hwn? Nid ydym ni wedi ei weld. Gwyddom fod y cyfnod pontio, mewn gwirionedd, yn 14 mis ar gyfer cytundeb masnach rydd. Nid oes neb wedi dweud wrthyf eto y gallant wneud cytundeb masnach rydd mewn 14 mis. Cawsom Lysgennad y Ffindir yn y pwyllgor ddoe—mae David yn gwybod hyn—a oedd yn amlwg yn pryderu'n ddirfawr am gwblhau cytundeb o'r fath ymhen 14 mis. Ac os ydych chi eisiau estyniad, mae'n rhaid i chi wneud y penderfyniad hwnnw erbyn mis Gorffennaf y flwyddyn nesaf, nid mis Rhagfyr y flwyddyn nesaf. Felly, mewn gwirionedd, mae gennych chi wyth mis i benderfynu a oes angen estyniad i'r cyfnod pontio, ac nid yw'r Llywodraeth bresennol yn rhoi'r hyder imi y bydd hyd yn oed yn ceisio'r estyniad hwnnw, felly gallem adael heb gytundeb ym mis Rhagfyr y flwyddyn nesaf.
Nawr, rydym ni'n siarad am agweddau ar y cytundeb, gyda'r rheolau tarddiad yn dal i gael eu hamau, ac, mewn gwirionedd, mae'r cytundeb hwn yn gwneud y rheolau tarddiad yn fwy anodd. Mae hynny'n peri pryder i fusnesau a'u cludiant a'u hallforio. Rydym yn dal i fod â'r mater o'r penderfyniad i neidio dros ddibyn os nad ydym yn ofalus. Mae hynny'n dal yno. Mae angen inni edrych yn ofalus iawn ar yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ceisio'i wneud. Nid yw, fel y mae Aelodau ar y fainc hon a gyferbyn yn ei ddweud, yn ceisio cyflawni'r refferendwm; mewn gwirionedd, mae'n ceisio cadw addewidion rhywun a geisiodd am arweinyddiaeth ei blaid. Dyna beth yw hyn. Nid yw'n ymwneud â beth sy'n dda i'r wlad hon—mae'n ymwneud â beth sy'n dda i Boris Johnson. Dyna wir fyrdwn y Bil hwn, a gwir fyrdwn y cytundeb hwn. Dewch—trodd ei gefn ar y DUP cyn gynted ag y gallai, oherwydd gwyddai mai dyna'r ffordd orau iddo gael rhywbeth erbyn 31 Hydref. Felly, pwy arall fydd yn cefnu arnynt, a phryd fydd yn cefnu arnom ni? Ar 31 Rhagfyr 2020, oherwydd dyna a wnaiff—ni allwch chi ymddiried ynddo i ddweud neu wneud unrhyw beth yn wahanol. Felly, mae holl bwyslais y ddadl hon mewn gwirionedd ynghylch: a yw hyn yn gwneud mwy o les, ac a yw'n cyflawni'r hyn a eglurwyd gan Brif Weinidog Cymru a chyn-Brif Weinidog Cymru oedd safbwynt Llywodraeth Cymru, oedd y safbwynt erioed—parchu'r refferendwm, ond diogelu swyddi a'r economi? A yw'r cytundeb hwn yn gwneud hynny? Yr ateb yw 'nac ydy', oherwydd ei fod mewn gwirionedd yn waeth na chytundeb Theresa May, yr oeddem yn gwybod a fyddai'n niweidio ein heconomi. Yna mae'n rhaid i chi gwestiynu: pam y mae'n rhuthro hyn? Am nad yw eisiau ei wneud yn destun craffu, oherwydd, mewn gwirionedd, mae eisiau mynd i mewn i etholiad cyffredinol gydag un neges: 'Fe wnes i gyflawni hyn i chi'. Dyna beth yw diben hyn. Nid yw'n ymwneud â chyflawni ewyllys y bobl—mae'n ymwneud â chyflawni ar ran y blaid Dorïaidd. Mae angen i ni wneud yn siŵr mai'r neges o'r fan yma yw: nid yw hynny'n ddigon da i bobl Cymru. Mae pobl Cymru'n haeddu gwell na hynny, ac mae angen inni sicrhau ein bod yn cynrychioli fy etholwyr i, eich etholwyr chi, a'r hyn sydd orau iddyn nhw.
Hoffwn ddweud ychydig eiriau am y mater o gydsynio. Mae nifer o fethiannau yn y Bil cytundeb ymadael sydd wedi'u hamlinellu y prynhawn yma, ond y prif beth ymhlith y diffygion hyn yw'r modd y mae Llywodraeth Boris Johnson yn ceisio ei orfodi gyda'r amserlen hurt hon yn San Steffan, heb roi digon o amser i San Steffan neu'r gweinyddiaethau datganoledig graffu arno'n briodol. Nawr byddai'r Bil hwn, pe bai'n cael ei basio, yn methu â rhoi'r amser i'r lle hwn graffu ar gytundebau masnach rydd yn y dyfodol, ac ni fyddai ychwaith yn cynnig cyfle i'r bobl gael dweud eu dweud yn derfynol drwy ail refferendwm. Nawr, rwy'n gwybod fod Aelodau ledled y Siambr wedi dweud droeon yn y ddadl hon, a sawl gwaith mewn dadleuon eraill, fod y bobl eisoes wedi cael cyfle i bleidleisio. Wel, do, fe wnaethon nhw bleidleisio; fe wnaethon nhw bleidleisio pan ddywedwyd wrthyn nhw y caem ni'r cytundeb hawsaf mewn hanes, ac y byddem yn cael £350 miliwn yn ychwanegol bob wythnos i'r GIG—celwyddau sydd wedi cael eu hamlygu yn ystod y tair blynedd ers hynny. Nawr, rhaid i gydsyniad fod yn wybodus; rhaid ei geisio eto pan fydd pethau'n newid. Pan fydd yr amgylchiadau'n newid, ni allwch chi ragdybio bod y cydsyniad wedi aros yr un fath. Ymddengys i mi fod hynny'n bwynt sylfaenol. Fe wnaf i dderbyn yr ymyriad.
Wel, o ystyried y 53 y cant a bleidleisiodd yn 2016, a datblygiad eich dadleuon—rhagdybiaeth bod pobl yn gwybod mwy erbyn y blynyddoedd dilynol, ac yn arbennig hyd at 2019—gwelodd 19 allan o 22 o ardaloedd cyngor fwyafrif yn pleidleisio dros y Blaid Brexit yn yr etholiad Ewropeaidd. Yn etholiad Brycheiniog a sir Faesyfed, pleidleisiodd dros hanner y rhai a bleidleisiodd dros ymgeiswyr oedd yn gadarn o blaid Brexit. Dydy'r farn ddim wedi newid. Ac mae pobl lle yr wyf i'n byw—cefnogwyr Llafur lle yr wyf i'n byw—yn mynegi eu llid cynyddol yn y ffordd y cânt eu trin gan y lle hwn a phobl yn San Steffan.
[Torri ar draws.] Ie, yn union. Diolch am yr ymyriad, ond byddwn yn dweud, gyda phob parch, yn hytrach na chael trafodaethau dirprwyol am etholiadau dirprwyol ynghylch yr hyn y gallwn ei ddarllen am yr hyn y gallai hyn ei olygu, pam na chawn ni gwestiwn syml mewn gwirionedd? Rwy'n derbyn y pwynt, ond credaf fod angen gwneud hyn yn iawn, a gofyn y cwestiwn uniongyrchol yn hytrach na chael etholiad cyffredinol dirprwyol yn lle hynny.
Nawr, yn y pen draw, mae cydsyniad yn ymwneud â phŵer. Mae'n golygu bod dwy ochr yn dod i gytundeb pan fydd un ochr mewn sefyllfa o bŵer neu awdurdod ac mae'r llall yn rhoi caniatâd i rywbeth ddigwydd. Mae'n seiliedig ar ymddiriedaeth. Nawr, byddwn i'n dweud yn y fan yma yr enillwyd ymddiriedaeth ein hetholwyr yn anonest yn 2016, tra bo cydsyniad ar gyfer y cytundeb arbennig hwn heb ei ennill o gwbl. A, Llywydd—Dirprwy Lywydd—mae'n rhaid ceisio cydsyniad. Mae angen i Aelodau Seneddol hefyd ac Aelodau Cynulliad, Aelodau Senedd yr Alban ac Aelodau o’r Cynulliad Deddfwriaethol ddeall yr hyn yr ydym ni'n pleidleisio arno cyn i ni gydsynio. Mae hi'n anffodus tu hwnt na fydd unrhyw asesiadau effaith yn cael eu darparu. Sut allwn ni gydsynio i rywbeth heb wybod beth fydd ei effaith ar ein hetholwyr? Ni ellir cadw lles ein hetholwyr yn y dyfodol yn wystl i haerllugrwydd Boris Johnson a'i benderfyniad i gyflawni rhywbeth mewn pryd i fodloni terfyn amser mympwyol.
Llywydd, mae'n rhaid cael—. Dirprwy Lywydd, mae'n rhaid cael chwarae teg. Bydd gofyn i Gynulliad Gogledd Iwerddon, o dan y cytundeb hwn, roi ei gydsyniad gweithredol bob pedair blynedd i'r drefn barhau. Ni chaiff ein Senedd yr un cyfle, na Senedd yr Alban chwaith. Mae'n debyg nad oes angen ein cydsyniad ni. [Torri ar draws.] Gwnaf, fe wnaf i dderbyn ymyriad.
Rwy'n ddiolchgar iawn i chi. Mewn sefyllfa absenoldeb cydsyniad ar gyfer natur y datblygiadau hyn, a yw hi'n cytuno â mi y bydd symudiad carlam—? Os cawn ni Brexit 'dim cytundeb' mewn 11 diwrnod neu 11 mis, bydd yn cyflymu'r symudiad tuag at refferendwm ar undod yng Ngogledd Iwerddon, i refferendwm ar annibyniaeth yn yr Alban, ac, fel yr ydym ni wedi'i ddweud, mae achos cryf bryd hynny, a byddem ni eisiau gweld refferendwm annibyniaeth yma yng Nghymru. Er y byddwn ni'n cefnogi'r gwelliant, mae'n bwysig iawn, os bydd cydsyniad ar sail gwybodaeth, ein bod yn defnyddio iaith glir, felly dylem ni siarad am refferendwm annibyniaeth, nid cysyniad annelwig fel sofraniaeth.
Ie, diolch. Byddwn i'n cytuno, ac fel yr wyf wedi'i ddweud yn ddiweddar yn yr Alban, gallai digwyddiadau ein goddiweddyd yn gyflym iawn. Mae angen inni roi marcwyr gweithredol ar waith a chynllunio ar gyfer refferendwm annibyniaeth, a gallai hynny ddigwydd yn fwy ar frys o lawer nag y credwn ni, felly byddwn i yn sicr yn cytuno â'r pwynt hwnnw.
Ond, Dirprwy Llywydd, nid oes hierarchaeth o gydsyniad, oni bai bod hierarchaeth rywsut neu'i gilydd o fewn yr undeb hwn a bod rhai rhannau cyfansoddol yn cael eu ffafrio'n fwy nag eraill. Nawr, gan fynd yn ôl at y pwynt yr oeddwn i'n ei wneud am Ogledd Iwerddon, nid wyf yn gwarafun Stormont y cyfle hwnnw i roi eu cydsyniad gweithredol. Rwyf i ond yn gofyn bod yr un cyfle yn cael ei roi i holl genhedloedd y Deyrnas Unedig. Mae cydsyniad yn ddeuaidd: rydych chi naill ai'n rhoi cydsyniad ar sail gwybodaeth, gweithredol neu beidio. Nid oes unrhyw beth yn y canol. Mae angen i bobl ddeall yr hyn y maen nhw'n pleidleisio drosto—methiant democratiaeth yw unrhyw beth arall. Yn aml, defnyddir yr ymadrodd, 'Deddfu ar frys, cewch ddigon o amser i ddifaru'. Mae angen amser arnom ni i graffu ar y Bil yn effeithiol. Dyn a ŵyr beth fydd yr effaith os na wnawn ni hynny, oherwydd yn sicr ni allwn wybod hynny heb yr asesiadau.
Rwy'n ymwybodol o'r amser. Mae sinigiaeth Llywodraeth y DU wrth geisio cyfyngu'r holl ddadleuon am y newid economaidd a chyfansoddiadol mwyaf mewn cenhedlaeth i dri diwrnod pitw yn San Steffan yn ddirmygus. Mae angen rhagor o amser cyn y gellir ystyried cydsyniad hyd yn oed ar ddeddfwriaeth bellgyrhaeddol a fydd yn ein rhwygo ni o'r farchnad sengl, yn newid ein trefniadau masnachu ni yn sylweddol gyda'n partner masnachu mwyaf, ac yn cyfyngu ar dwf cynnyrch domestig gros am genedlaethau, a dylai ein Senedd peidio â chael ei rhuthro na'i gwthio o'r neilltu yn y broses; dylid dangos parch i ni, oherwydd mae'n rhaid cael cydsyniad.
Ac, yn olaf, Alun Davies.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Yr eironi llethol, wrth gwrs, o'r Bil hwn yw mai'r peth cyntaf y mae'n ei wneud yw ailosod cyfraith Ewrop ar y wlad hon. Yn gyntaf, erthygl 1, cymal 1, mae'n ailosod cyfraith Ewrop ar y Deyrnas Unedig gyfan, ond mae'n gwneud hynny heb unrhyw gyfle inni wedyn ddylanwadu ar y ffordd y caiff y gyfraith honno ei ffurfio. A dyna y dywedir wrthym ni ei fod yn gytundeb da. Y cytundeb da, wrth gwrs, yw'r hyn sydd gennym ni ar hyn o bryd, lle'r ydym ni'n arwain datblygiad cyfraith Ewrop, lle'r ydym ni'n llunio datblygiad cyfraith Ewrop, lle'r ydym ni'n arwain y meddylfryd ar draws y cyfandir cyfan, lle mae gan y Deyrnas Unedig swyddogaeth uchel ei pharch a lle pwysig yn creu polisïau Ewropeaidd. O un sy'n gwneud penderfyniadau i un sy'n cymryd penderfyniadau—Prydain ddrylliedig, yn destun sbort ledled cynghorau'r byd. Dyna y mae'r Bil hwn yn ei gyflawni. Ond mae hefyd yn dirymu ein Bil democratiaeth, yn dirymu ein sefydliadau democrataidd.
Nid un o rannau mwyaf pryderus y ddadl yr ydym ni'n ei chlywed, yr ydym yn ei gweld yn digwydd ar hyn o bryd, yw'r ddadl sy'n dweud, 'a ydych chi'n gywir neu a yw rhywun arall yn gywir?', nid dadl a thrafodaeth am y ffeithiau, ond y sarhad y mae llawer ohonom ni'n ei gael, ac yr wyf i'n ei chael ar y cyfryngau cymdeithasol ar hyn o bryd—nad oes gennyf hawl bellach i farn, nad oes gennyf gyfle mwyach i ddadlau dros yr achos y cefais fy ethol i ddadlau drosto, nad oes gennyf y cyfle mwyach i sefyll yma neu rywle arall a dadlau dros hynny yr wyf yn ei gredu. Nid democratiaeth yw hynny—nid democratiaeth yw hynny. Ac nid yw hunan-lywodraeth yn golygu dweud, 'Dyma Fil—mae gennych chi dri diwrnod, a dyna fe'. Nid democratiaeth yw hynny ychwaith. Nid dyna'r ddemocratiaeth y mae llawer ohonom ni'n ei deall. Mae ewyllys y bobl wedi troi'n sofran, ond pwy sy'n cymrodeddu'r ewyllys honno? Dywedir wrthym ni nad y bobl sy'n cael eu hethol gan y bobl hynny ydyn nhw, wrth gwrs; y rheolwyr cronfeydd rhagfantoli, y cyfoethog a'r pwerus, perchenogion papurau newydd, y bancwyr alltraeth. Mae un peth yn gyffredin i bob un ohonyn nhw, maen nhw'n ceisio osgoi talu treth y DU, ac yna maen nhw'n dweud wrthym ni mai nhw sy'n gwybod beth yw ewyllys y bobl, nid y bobl sy'n cael eu hethol gan boblogaeth y wlad hon, ac nid y rhai sy'n gwasanaethu pobl yn wlad hon—mae barnwyr yn 'elynion i'r bobl'; mae gennym ni 'y Senedd yn erbyn y bobl'. Nid democratiaeth yw hyn. Mae hyn yn dirymu democratiaeth Brydeinig.
Ac i ddweud wrth Senedd y DU bod gennych chi dri diwrnod i ddarllen drwy Fil o 122 o dudalennau—ac mae David Melding yn gwneud ei orau i ddadlau'r achos dros yr hen Lywodraeth bwdr hon, ond mae'n rhaid imi ddweud wrtho, bod y bwndel o bapurau sydd ar gael, y byddai'n rhaid ichi eu deall i graffu ar y Bil hwn, yn fwy na 1,000 o dudalennau, ac nid yw hynny'n cynnwys, wrth gwrs, y dadansoddiad o'r effaith economaidd, sydd heb ei wneud, ac nid yw ychwaith yn cynnwys Deddf y llynedd, y Ddeddf ymadael, y mae'r Bil hwn yn ceisio ei diwygio. Nawr, nid oedd cyn arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig hyd yn oed yn sylweddoli bod y Ddeddf honno'n bodoli, felly, o ran dadlau'r achos bod angen mwy o amser arnom ni ar gyfer craffu, nid wyf yn argyhoeddedig bod y Ceidwadwyr ar dir cadarn iawn.
Ond mae hyd yn oed y cyfle i ddarllen drwyddo ar unwaith yn dweud wrthym ni fod peryglon gwirioneddol gyda'r Bil hwn. Mae cymal 30 yn glir iawn—dim ond Gweinidog y Goron all wneud cais am estyniad i gyfnod pontio. A yw'r Llywodraeth wedi dysgu dim o'r ychydig fisoedd diwethaf? Mae'n creu'r cyfle i gyflwyno Brexit caled drwy'r drws cefn. Mae'n atal pobl rhag dadlau dros fath gwahanol o Brexit. Mae'n atal pobl rhag dadlau dros estyniad pellach, os oes angen hynny. Yr hyn y mae'n ei wneud yw cyflwyno rhywbeth drwy'r drws cefn—mae'n nodweddiadol o Boris Johnson. Ac mae'n gwneud hynny heb roi cyfle i ni ddweud ein dweud yn iawn dros gysylltiadau yn y dyfodol. Ychydig iawn o drosolwg o drafodaethau dyfodol gan Senedd y DU a dim o gwbl gan y Senedd hon y mae cymal 31 yn ei roi. Ar ôl datganiad cychwynnol o amcanion caiff Gweinidog y Goron wneud datganiad ar unrhyw adeg yn y dyfodol. Caiff, ar unrhyw adeg—nid oes unrhyw gyfle yn y Bil hwn i ddwyn y Llywodraeth i gyfrif. Dim o gwbl. Bydd y lle hwn, y Senedd hon, ond yn derbyn adroddiad ar ôl y digwyddiad. Mae'r rhai hynny ohonom ni sy'n eistedd ar y pwyllgor materion allanol yn gwybod—ac rydym ni wedi gweld hyn yn ein dadleuon a'n trafodaethau ar gytuniadau rhyngwladol—os ydych am ddylanwadu ar ba ffurf y bydd gan y negodi, rydych yn gwneud hynny ar ddechrau'r negodi hwnnw ac nid ar ei ddiwedd, eto, nid yw'r Senedd hon wedi cael unrhyw gyfle i ddylanwadu ar ffurf y negodiadau hynny—dim swyddogaeth i Gymru, dim swyddogaeth i'r Senedd hon, dim swyddogaeth i Lywodraeth Cymru, ac yna cawn bregeth ar ddemocratiaeth. Rydym ni eisoes wedi clywed am y sefyllfa yng Ngogledd Iwerddon, a dywedaf o ddifrif i'r ASau Llafur hynny sydd heno yn ymddiried yn Boris Johnson ar hawliau gweithwyr, efallai fod angen iddyn nhw fynd i Strangers' a chael sgwrs â'r DUP a gweld pa mor bell yr oedd addewidion Boris Johnson mewn gwirionedd yn cyrraedd, a gweld faint y gellir ymddiried yn Boris Johnson, oherwydd, pan safodd y prynhawn yma yn Nhŷ'r Cyffredin a dweud 'ie' dro ar ôl tro wrth i ASau Llafur ofyn am sicrwydd, gallech chi weld y DUP yn eistedd yno yn dweud, 'Ie, clywsom ni yr un addewidion ein hunain'.
Yn olaf, mae cymal 22 yn galluogi Gweinidogion i wneud unrhyw reoliadau y maen nhw'n eu dewis—unrhyw rai y maen nhw'n eu dewis—ar fater Gogledd Iwerddon, eto drwy reoliadau, eto y tu hwnt i graffu gan y Senedd. Mae hynny'n codi cwestiwn am le Cymru. Mae cymal 36 yn gymal ecsentrig i'w ganfod mewn unrhyw ddarn o ddeddfwriaeth, ac wedi'i ddrafftio, mae'n debyg, gan Bill Cash er mwyn rhoi pleser amheus iddo. Ond gadewch i mi ddweud hyn—gadewch i mi ddweud hyn—rydym ni wedi newid y modd y caiff yr ynysoedd hyn eu llywodraethu'n sylweddol, ac rydym ni wedi gwneud hynny gyda chydsyniad y bobl. Rydym ni wedi gwneud hynny ar bob adeg yn unol â chyfansoddiad sy'n datblygu. Mae gan gymal 36 y pŵer i roi terfyn ar y Deyrnas Unedig oherwydd, pan fydd Senedd y DU yn ceisio chwalu democratiaethau newydd Prydain yn llwyr, bydd pobl Prydain yn dweud, 'Nid dyna'r ydym ni eisiau', ac yna ein lle ni, cynrychiolwyr etholedig pobl Cymru, yw penderfynu beth yr ydym ni eisiau ei wneud ynglŷn â hynny. Yr wythnos diwethaf—
A allwn ni ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
—rydym ni wedi bod yn dadlau ac yn trafod—. Fe wnaf ddod â'm sylwadau i ben. Amlinellodd y Prif Weinidog farn cyffrous a radical ar ddyfodol Prydain. Fy ngwir ofn yw y cawn Fil sy'n cychwyn fel Bil dirymu democratiaeth a fydd yn dod i ben gyda diddymu Deddf y Deyrnas Unedig.
A gaf i alw ar y Prif Weinidog nawr i ymateb i'r ddadl?
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Ni wnaf geisio ymateb yn unigol i'r holl bwyntiau niferus sydd wedi cael eu gwneud, ond ceisiaf fynd i'r afael â nifer o'r themâu allweddol y credaf i ni eu clywed yn y ddadl. Felly, thema sydd wedi dod o gyfraniad cychwynnol Paul Davies drwy gydol y prynhawn yw amseru. Beth sydd mor hynod am 31 Hydref? Pam mae rhaid i'r Bil hwn gael ei gwblhau mor hynod o gyflym? Wel, rwyf i wedi clywed pobl yn dweud, 'Wel, mae darnau eraill o ddeddfwriaeth wedi cael eu gwneud yn gyflym hefyd.' Mae'n wir. Cafodd Deddf Cŵn Peryglus 1991 ei rhuthro drwy'r Senedd mewn dim ond ychydig ddyddiau, ac ystyriwch chi pa mor llwyddiannus mae honno wedi bod. Ond siawns—siawns—bod yna fater o helaethdra yma. Un peth yw mynd â Bil bach drwy'r ddeddfwrfa hon neu'r llall ar hast, rhywbeth arall yn llwyr yw gosod perthynas ddigyfnewid yn ei lle a fydd yn para am genedlaethau yn erbyn terfyn amser hollol artiffisial y mae Prif Weinidog y DU wedi'i ddyfeisio iddo'i hun.
Y prynhawn yma, yn Nhŷ'r Cyffredin, dywedodd Rory Stewart y bydd y Bil hwn yn cael ei halogi gan staen anghyfreithlondeb, gan na fydd wedi cael yr ystyriaeth, y cyfle priodol i bobl gael dweud yr hyn y maen nhw eisiau ei ddweud, i'w ddarllen yn y manylder y mae'n ei haeddu, oherwydd yr amserlen hon. Mae chwipiaid Llafur yn Nhŷ'r Cyffredin wedi ysgrifennu y prynhawn yma, mewn cam anarferol, lythyr cyhoeddus at reolwyr busnes y Llywodraeth sy'n cynnig trafod amserlen—amserlen a fyddai'n caniatáu i'r Bil fynd yn ei flaen, ond a fyddai'n caniatáu iddo ddigwydd mewn modd trefnus, lle y gellir parchu hawliau'r lle hwn a Senedd yr Alban, yn ogystal â hawliau Senedd y DU. Ac o bob dadl yr wyf wedi'i chlywed y prynhawn yma ar ochr honno'r ddadl, mae'n ymddangos i mi mai hon yw'r ddadl sy'n argyhoeddi.
Rydym ni wedi clywed cryn dipyn y prynhawn yma, Dirprwy Lywydd, ynglŷn â mandad di-ddiwedd 2016—mandad mymiedig, y mandad na ellir byth ei ddad-wneud. Ac eto, fel y dywedwyd gan gyfres o bobl o amgylch y Siambr—a gwnaeth Rhun ap Iorwerth, yn fy marn i, ei gyfleu yn dda iawn—mae cymaint wedi digwydd ers hynny, cymaint o bobl y mae eu dyfodol yn y fantol yn awr eisiau cael y cyfle i ddweud eu dweud ar y cytundeb hwn. Yn ôl yn 2016, ni wyddai neb â pha gytundeb y byddem ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd. Nawr, mae pobl yn haeddu cyfle i ddweud ai dyma'r hyn yr oedden nhw'n meddwl y bydden nhw'n pleidleisio drosto. Ac os felly, ac os dyna y mae pobl yn ei benderfynu, yna rydw i'n cytuno â phobl eraill: os dyna mae pobl yn ei benderfynu, dyna fydd hi. Dyna fydd diwedd y ddadl hon, oherwydd y tro hwn, mae pobl yn gwybod yr hyn y maen nhw'n ei brynu. Y tro diwethaf, nid oedden nhw'n gwybod unrhyw beth. Gwelwyd bws wedi'i blastro gan gelwyddau a oedd yn ddull arferol yr ymgyrch 'gadael'. Y tro hwn, ni fyddan nhw'n gallu gwneud hynny, oherwydd bod yna gytundeb. Mae yna gytundeb y bydd pobl yn gallu ei weld, os cawn nhw ddigon o amser i allu ei ddarllen. A dyna pam nad yw'r ddadl hon ynglŷn â 'fe wnaethom ni bleidleisio unwaith a dyna ddiwedd ar ddemocratiaeth' yn syml, yn dal dŵr.
Ac un o'r rhesymau pam nad yw'n dal dŵr yw oherwydd y thema—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gen i.
Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n ddiolchgar i chi am gymryd ymyriad. A ydych chi'n credu mai'r rheswm pam mae cynifer o gefnogwyr Brexit yn y Siambr hon yn gwrthwynebu'r syniad o gael ail refferendwm a galluogi pobl i ddweud eu dweud yw y byddai'r canlyniad yn un gwahanol y tro hwn, a dyna y maen nhw'n ei ofni?
Wel, byddwn i'n ei roi yn wahanol, gan gytuno â'r pwynt y mae Carwyn Jones wedi'i wneud. Byddwn i'n ei roi fel hyn: beth maen nhw'n ei ofni? Beth maen nhw'n ei ofni? Dro ar ôl tro maen nhw'n ymddangos o amgylch y Siambr hon yn dweud wrthym ni mai dyma'r cytundeb gorau a welwn ni byth. Ac os felly, beth sydd i'w hofni—
Andrew R.T. Davies a gododd—
A allwn ni wrando ar y Prif Weinidog, os gwelwch yn dda?
—wrth ofyn i'r etholwyr a ydyn nhw'n cytuno â nhw? Byddaf i'n cymryd y risg o fynd allan yno a dadlau dros yr hyn yr wyf i'n ei gredu ynddo; dydyn nhw ddim yn barod i fentro gwneud hynny eu hunain. Ac un o'r rhesymau—[Torri ar draws.] Na, rwy'n ceisio gwneud ychydig o gynnydd.
Un o'r rhesymau pam nad yw hyn yn gweithio yw oherwydd thema fawr arall yn y ddadl hon, sef ymddiriedaeth. Nododd Adam Price yn gynharach ei fod yn hanfodol i'r ffordd y cynhaliwyd y ddadl Brexit. Daeth David Rees yn ôl ato yn ddiweddarach yn y ddadl. Ni allech ymddiried yn y Prif Weinidog hwn. Ni allech ymddiried ynddo. Edrychwch ar ei record.
Gofynnodd Mandy Jones, mewn cyfraniad a oedd yn herio parodi, i Gynulliad Cymru, 'Beth am ymddiried yn y Torïaid? Pam na ddylid ymddiried yn y Torïaid yma yng Nghymru? Ar ôl ein holl flynyddoedd o brofiad. Wel, nid ydym ni'n ymddiried yn y Torïaid, ac nid ydym ni'n mynd i ymddiried ynddyn nhw am bob rheswm da na ellir ymddiried ynddynt. Rydym ni'n ymwybodol o hynny o'n hanes ac rydym ni'n ymwybodol o hynny eto heddiw.
Gadewch imi fynd ymlaen, Dirprwy Lywydd, i ymdrin â nifer o faterion yn ymwneud â sylwedd, sef sylwedd y cytundeb ei hun. Fel y dywedodd Adam Price, mae'n gytundeb Brexit caled. Ni fydd ei sylwedd yn gweithio i Gymru. Roeddem ni'n barod—ein plaid ni, Plaid Cymru—i roi ffurf o adael yr Undeb Ewropeaidd a fyddai wedi gadael trefniadau gwleidyddol yr Undeb Ewropeaidd gan ddiogelu economi Cymru, ac fe wnaethom geisio—bobl bach, fe wnaethom ni geisio—perswadio Llywodraeth y DU i gymryd y syniad hwnnw o ddifrif. Caiff Mrs May—
Diolch am dderbyn yr ymyriad. I ddangos ein bod yn ceisio cael cytundeb da i Gymru, a fyddech chi'n cytuno pan ddywedodd Dominic Raab ychydig ddyddiau'n ôl fod hon yn gytundeb gwych i Ogledd Iwerddon gan ei fod yn cadw mynediad di-dor at y farchnad sengl, sy'n bradychu'r hyn sy'n digwydd yma rhywfaint?
Wel, rwy'n credu bod hwnnw'n sylw craff iawn. Mae'n fy atgoffa i y byddai cytundeb Papur Gwyn Chequers Mrs May wedi cael aliniad rheoliadol deinamig ar gyfer nwyddau a chynhyrchion bwyd-amaeth, felly byddem ni wedi cael mynediad i'r farchnad sengl, ac roedd ganddo drefniant tollau ynddo. Nid ni a gerddodd i ffwrdd o gytundeb Mrs May; yr Ysgrifennydd Tramor ar y pryd a gerddodd i ffwrdd o'r cytundeb hwnnw. Dominic Raab a wnaeth wrthod cefnogi'r cytundeb hwnnw. Nid pobl ar ochr hon i'r Siambr a drechodd Mrs May. Pobl y tu ôl iddi hi ac ar ei hochr hi ei hun yr oeddynt. O ganlyniad, mae gennym ni'r Brexit caled hwn. Ni fyddwn ni'n ei gefnogi am yr holl resymau yr ydych chi wedi'u clywed: yr effaith ar Gaergybi, yr effaith ar y broses heddwch, yr effaith ar hawliau gweithwyr, y ffaith bod trap-ddôr Brexit wedi'i folltio i'r cytundeb y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud.
Dywedodd Darren Millar, gan gamddeall hyn, yn debyg i bwyntiau eraill, fod trap-ddôr Brexit yno gan fod yr Undeb Ewropeaidd wedi mynnu hynny. Nid yw hynny'n wir o gwbl. Mae Prif Weinidog y DU yn gwbl abl i roi cymal yn ei Fil sy'n dweud, 'Ar ddiwedd y cyfnod pontio, y Senedd fydd yn penderfynu a yw'n'—nid y Llywodraeth yn rhydd o unrhyw oruchwyliaeth Seneddol. Wedi'r cyfan, bydd gan Seneddau Ewrop i gyd bleidlais ar hyn, ond mae'n debyg nad yw'n ddigon da i bobl y Blaid Geidwadol sy'n mynnu 'adennill rheolaeth'.
Ac yn y fantol yma hefyd y mae dyfodol y Deyrnas Unedig, fel yr ydym ni wedi'i glywed. Os yw'r Cynulliad hwn yn penderfynu peidio â rhoi ei gydsyniad, gobeithiaf y bydd Aelodau ar feinciau'r Ceidwadwyr yma yn dweud wrth eu Llywodraeth pa mor ddifrifol y bydd os ydyn nhw'n penderfynu ddefnyddio confensiwn Sewel i ddiystyru barn y Cynulliad Cenedlaethol hwn. Rwy'n credu weithiau nad oes gan Aelodau'r Llywodraeth Geidwadol unrhyw diddordeb o gwbl yn nyfodol y Deyrnas Unedig, eu bod yn barod i weithredu mewn ffyrdd sy'n gwbl ddiofal o'i huniondeb. Ac mae rhywbeth sylfaenol bwysig yn y fantol yma, a dylen nhw ddefnyddio'r dylanwad sydd ganddyn nhw, y cysylltiadau sydd ganddyn nhw, i wneud yn siŵr eu bod nhw'n deall hynny.
I gloi, Dirprwy Lywydd, gadewch imi orffen gyda phwynt a wnaeth Delyth Jewell tua diwedd y ddadl, oherwydd mae hyn hyn i gyd yn ymwneud â chydsynio. Mae hyn yn ymwneud â chydsynio. Ac mae'r ddogfen a drafodwyd gennym ni yma yr wythnos diwethaf—yr 20 pwynt—yn ei gwneud yn glir bod hon, yn ein barn ni, yn Deyrnas Unedig sydd ond yn gallu gweithredu ar sail cydsyniad, undeb gwirfoddol o bedair gwlad lle'r ydym ni'n dewis gweithredu gyda'n gilydd, a chydsynio yw ystyr y broses honno. Dyna pam mae gennym ni broses cydsynio deddfwriaethol, ac mae angen rhoi'r amser sydd ei angen ar y broses cydsynio deddfwriaethol honno, mae angen iddi gael ei thrin â'r parch y mae'n ei haeddu, a dadl heddiw yw dechrau, nid diwedd, y broses honno.
Diolch. Y cynnig yw derbyn gwelliant 1. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y bleidlais ar yr eitem hon tan yr amser pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Rwyf i nawr wedi penderfynu mai nawr yw'r amser pleidleisio, ac felly oni bai fod tri aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, awn ni ymlaen at y bleidlais gyntaf.
Felly, rydym ni'n pleidleisio ar y ddadl ar Brexit, ac rwy'n galw am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 10, pump yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, ni dderbyniwyd gwelliant 1.
NNDM7170 - Gwelliant 1: O blaid: 10, Yn erbyn: 38, Ymatal: 5
Gwrthodwyd y gwelliant
A galwaf yn awr am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Neil McEvoy. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. Ar gyfer gwelliant 8, un yn ymatal, 43 yn erbyn. Felly, ni dderbyniwyd gwelliant 2.
NNDM7170 - Gwelliant 2: O blaid: 8, Yn erbyn: 43, Ymatal: 1
Gwrthodwyd y gwelliant
Galwn yn awr am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 37, neb yn ymatal, 16 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn.
NNDM7170 Cynnig - Dadl: Brexit: O blaid: 37, Yn erbyn: 16, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Ac mae hynny'n dod â thrafodion heddiw i ben. Diolch.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:41.